Tudalen:Yn y Wlad.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar y ffordd ati y mae'r Wtra Ddu, a'r Ffynnon Ddu, ar ei min, ond nid oes traddodiad am danynt, ebai'r rheithor caredig wrthyf. Ond am Ffynnon Tydecho cludid pinnau iddi tan yn gymharol ddiweddar, olion addoli rhyw hen dduw paganaidd y cymerodd un o seintiau oesau cred ei le. Lle iawn am wair rhos, awel y mynydd, iechyd, a phrydyddiaeth yw'r Garthbeibio. Dringais beth o'r bryn rhwng dyffryn Twrch a dyffryn Banw, ac anadlai awel o'r mynydd ar fy nhalcen, gan ysgafnhau fy ysbryd, a gwneud i mi deimlo fod Duw wedi gwneud byd wrth ei fodd.

Rhaid ail gychwyn. Mae'r ffordd a Banw'n cadw'n glos at ei gilydd fel mae'r cwm yn culhau. Pasiwn garreg sy'n dweyd ein bod hanner y ffordd rhwng y Trallwm a Machynlleth, pedair milltir ar bymtheg o bob un. Yr ydym yn dringo i fyny'n gyflym, a'r awel deneu adfywiol fel y gwin. Mor gain yw'r griafolen, mor dyner yw gwyrdd y caeau, —un peth prudd yn unig a welwn, sef amlder murddynod. Gadawn Nant Ysguthan ar y chwith, a thoc wele ni wrth amaethdy Dol y Maen. Ger yr amaethdy mynyddig hwn, y lle uchaf yn y dyffryn, disgyn dyfroedd Nant Cerrig y Groes i afon Banw. Cartref heddwch yw hwn; pe doi seguryd a gorffwys i'm rhan i, dyma'r man y dymunwn fod ynddo.

Wedi ei adael, ni welwn o'n blaenau ond eangder mynyddoedd. A thoc dyma ni yn y mynydd. Rhed y ffordd yn weddol wastad, ar y dde y mae bronnydd serth, ar y chwith, islaw'r ffordd, y mae mawnogydd corsiog. Ac yma, ar fin y ffordd, mewn brwyn glân, y genir Banw fach. Gwelsom hi pan ar ei lleiaf, yn ychydig ddiferynau.