Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII

ELLIS WYNNE A GLAN HAFREN

DYWAID Ellis Wynne mai rhodio Glan Hafren ydoedd pan gipiwyd ef i'w drydedd weledigaeth,—Gweledigaeth Uffern. Rhodiannai ei glennydd teg ym mis Ebrill, yn gwrando ar yr adar mân yn pyncio yn y llwyni, ac ar yr un pryd yn darllen Yr Ymarfer o Dduwioldeb. Nid ydyw yn rhoddi'r awgrym lleiaf o'r achosion a'i dug i lannau Hafren, ac nid oes un o'i fywgraffwyr, i'm gwybod i, yn rhoddi yr un gair o eglurhad. Fe allai mai dibwys oedd y lle yn eu golwg hwy o'i gyferbynnu â'r weledigaeth. Ac eto y mae'n rhaid bod rhyw reswm dros iddo gyfeirio at "Glan Hafren".

Pan ddeuthum i dario ar lannau Hafren methwn â chael llonydd i'm meddwl nes mynnu gwybod y cwbl a oedd yn bosibl amdano yma. Ac fe arweiniodd fy ymchwil fi i feysydd tra diddorol na wyddwn fawr amdanynt o'r blaen. Y ddau gwestiwn a'm cymhellai i'r ymchwil oedd, beth a ddug Ellis Wynne i lannau Hafren? a pha rannau o Hafren? oblegid y mae hi yn afon hir, a'r hwyaf yn ynys Prydain. Tardd ar Bumlumon yn ffrwd fechan a phan gyrhaedda Fôr Hafren y mae'n afon fawr, ac wedi llyncu mil a mwy o aberoedd bychain ar ei thaith. Fy nhasg ydoedd chwilio pa rannau o'r afon a rodiai, a pham y rhodiai'r rhannau hynny.

Pa fodd ac ym mha le yr oedd cael gafael ar ben y llinyn i'r ymchwil ? Dechreuais gyda'r Ymarfer o Dduwioldeb y dywedai Ellis Wynne ei fod yn ei ddarllen ar lan Hafren. Gwyddwn mai awdur y llyfr hwnnw oedd Lewis Bayly. Brodor ydoedd ef o Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn Lloegr a daeth ymhen amser yn weinidog Evesham, yng Nghaerwrangon. Yr ydoedd yn gaplan i'r Tywysog Henry, aer Iago I. Ac ar farw'r Tywysog Henry penodwyd ef yn gaplan i'r Tywysog Siarl. Gweinyddai hefyd fel gweinidog Eglwys St. Mathew, yn Friday Street, Llundain. Yn ddilynol gwnaeth Iago I ef yn gaplan iddo ef ei hun. Yng Ngorffennaf, 1621, bwriwyd ef i garchar y Fleet, am ba achos nid oes wybod mwy na'r dyb mai rhywbeth oedd ynglŷn â phriodas y Tywysog Henry a'r