Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Infanta o Sbaen. Yr oedd ei glod yn fawr fel ysgolor a phregethwr, ond nid oedd o'r un daliadau gwleidyddol a chrefyddol â theulu'r Stuart, a Laid. Nid un oedd Lewis Bayly i aberthu ei egwyddorion er mantais dymhorol. Gymaint oedd parch Iago I iddo fel y penododd ef yn Esgob Bangor ar farw'r Esgob Henry Rowland. Fe aeth y Practice of Piety trwy 50 o argraffiadau erbyn blwyddyn marw Ellis Wynne yn 1734. Bu'r Esgob Bayly farw Hydref 23, 1631, ac fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Llyfr a hanes iddo yw'r Practice of Piety. Dyma un o'r ddau lyfr a ddug gwraig gyntaf John Bunyan yn waddol gyda hi, a'r llall oedd Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd, nad yw o'r un teilyngdod â'r Ymarfer. Pwy fyth a all fesur dyled y byd i'r eneth a briododd John Bunyan yn ei wylltineb a'i rialtwch mwyaf. Dyma rai o'r dylanwadau cudd a ddechreuodd foldio cymeriad prif freuddwydiwr y byd.

Cyfieithiwyd yr Ymarfer i'r Gymraeg gan Rowland Vaughan, Caergai, ym mhlwyf Llanuwchllyn; ac un o hen uchelwyr Cymru ydoedd ef, yn caru ei wlad a'i defion, a'r Eglwys a'i defion hithau. Ar ôl treulio cwrs o addysg ym Mhrifysgol Rhydychen ymsefydlodd ar ei stad i wasanaethu ei wlad, ac yn enwedig ei llenyddiaeth. Gymaint oedd llid Olifer a'i blaid ato fel y llosgwyd Caergai bron i'r llawr. Yr oedd Rowland Vaughan yn deip o'r diwylliant Cymreig, ond o ran hynny yr oedd yr hen foneddwyr Cymreig yn ddieithriad yn enghreifftiau o'r diwylliant Cymreig, a achleswyd gan yr Eglwys dros fil o flynyddoedd. A'r diwylliant Cymreig oedd, Gonestrwydd, Geirwiredd, a Lletygarwch, a dyna yw'r diwylliant Cymreig hyd y dydd heddiw.

Bu i'r Esgob Lewis Bayly bedwar o feibion, Nicolas, John, Theodore, a Thomas. Thomas a'i enwogodd ei hun fwyaf. Bu [1]William Bayly a John Bayly yn rheithoriaid Penstrowed. Cyffrôdd hyn fi i chwilio hanes y plwyf bychan hwn, a hefyd y personiaid a fu'n gweinidogaethu yma. Yn hen lyfrau cofnodion geni, priodi, a marw'r plwyfolion y ceir hanes bob dydd cenedl y Cymry. Pan oedd Cymru'n wenfflam gan

  1. Nid mab i'r Esgob Bayly oedd William canys beth am John, ond y mae'n amlwg bod y ddau o'i deulu. Ysgrifennir yr enw yn Baily a Bailey.