Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddeffroad y ddeunawfed ganrif, ac yn diystyru pob dyletswydd a gorchwyl, y pryd hwnnw yr oedd yr hen Eglwys fel mam yn ei chartref yn gofalu am y plwyfolion, yn enwedig y tlawd, y bachgen neu'r eneth wirion, y digartref, a'r afradlon. Yn yr hen festrïoedd y mae'r gyfrinach iach yma.

Hawdd y gallasai yr hen Eglwys ganu:—

Myfi sy'n magu'r baban,
Myfi sy'n siglo'i grud.

Ond nid oedd neb yn ei gweld, ac ni ddyrchafai hithau ei llef i dynnu sylw'r cyhoedd ati.

Plwyf bychan yw Penstrowed a'i boblogaeth o dan gant, a nifer y tai yn 23, ac un ohonynt a'i ben iddo. Yn y cyfnod y soniwn amdano'n awr ni allai nifer y tai fod yn fwy na hanner dwsin neu ddwsin. Perthynai i'r fywoliaeth dyddyn o dir brasaf Powys ar lan Hafren. Ac nid oedd dim yn fwy naturiol nag i'r Esgob Bayly roddi'r fywoliaeth i un o'i deulu a chawn William Bayly a John Bayly yn rheithoriaid y plwyf. Bu farw John Bayly yn 1706, a cheir cofnodiad o'i farw yn y Register. Yn y flwyddyn 1703 y cyhoeddwyd Gweledigaethau'r Bardd Cwsg. Yng ngwaelod y plwyf y mae Glan Hafren, plasty o nod y dwthwn hwnnw, ac eto o ran hynny, er ei fod yn fwy o amaethdy yn awr. Bu George Herbert o Bemberton yma droeon pan oedd yn ficer segur yn Llandinam. A cheir weithiau gyfeiriad at Penstrowed fel "Capella de Llandinam". Un o'r eglwysi clas oedd Llandinam.

Nid wyf ond dyfalu, ond a oedd rhyw gydnabyddiaeth rhwng Ellis Wynne a John Bayly y soniasom amdano? Ac a oedd John Bayly yn preswylio yng Nglan Hafren, ac yn gosod y rheithordy i denant? Bron nad yw'r tŷ a'r tai allan yn awgrymu hynny. Yng Nglan Hafren y preswyliai Canon John Arthur Herbert a fu'n rheithor y plwyf am 41 mlynedd. A yw Elis Wyn yn awgrymu mai yma yr ydoedd pan ddywedai mai rhodio glannau Hafren ydoedd yn darllen Yr Ymarfer o Dduwioldeb?

Wrth chwilota fel hyn i borthi ysbryd dyfalu a'm meddiannodd mor llwyr, ac a roddai gymaint o fwynhad, fe ddeuthum ar draws ffaith ddiddorol iawn. A dyma hi yn yr iaith yr ysgrifennwyd hi: