Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII

ABRAM JONES Y FEDWEN

HEN ŵr 88 oed oedd Abram Jones, a'i breswylfod oedd y Fedwen, tyddyn ar randir o fynydd bedair milltir o'r ffordd fawr, a ffordd blwyf is fynd ato. Serth oedd y ffordd a'r llwybrau at y tŷ, ond wedi cyrraedd yno yr oedd y golygfeydd o ffrynt y tŷ yn ad-daliad da am y dringo a'r chwysu i'w gyrraedd.

Yno y trigai Abram Jones ar ei ben ei hun, ac ef ei hun a gyflawna bob goruchwyliaeth yn y tŷ, ac allan o'r tŷ. Am chwarter canrif ni fu llaw merch na neb arall yn cwrdd â'r un dodrefnyn. Pobai ei fara ei hun ar dân mawn, a'r mawn a gâi o'r gors gyfagos: golchai ei ddillad yn y ffrwd fechan a basiai heibio i'w ddrws. Nid ymwelai â thŷ neb yn y gymdogaeth, ac nid ymwelai neb â'i dŷ yntau er y perchid ef yn fawr. Yr ychydig dir ac meddai o amgylch ei breswylfod a osodai i eraill. Yr ardd yn unig a gadwai, a chodai ddigon at ei gynhaliaeth ohoni. Ychydig iawn oedd ei eisiau, ac ychydig iawn a dyr eisiau dyn, ond iddo roddi heibio borthi ei foethau. Yr unig dro y gwelid ef allan o'i diriogaeth ei hun oedd pan âi i siop neu farchnad i brynu'r ychydig yr oedd arno eisiau.

Edrychid arno yn yr ardal fel meudwy, ac weithiau gelwid ef wrth yr enw hwnnw, ond nid o deimlad drwg a chenfigen ato. Mawr oedd y dyfalu sut y gallai basio heibio'r amser.

Hirddydd haf a hwyrnos gaeaf nid oedd neb i dorri ar ei heddwch, ac nid oedd croeso i neb i aros yn hwy nag oedd eu neges yn gofyn. Yn hyn ni welais i neb yn debycach i Fyrddin Fardd. Gorfu i Fyrddin lawer tro ddweud wrth lawer un, "Fe ellwch chi fynd yn awr".

Clywed yn ddamweiniol fod Abram Jones yn cwyno a barodd imi fynd i ymweld ag ef. Yr ydoedd yn gynnar yn y prynhawn, a hwnnw yn un o'r prynhawnau na allech lai na theimlo ei bod yn werth byw. Ar ôl cerdded milltir neu ddwy ar y ffordd fawr fe dreiais ddringo hen ffordd ceffyl â phwn. Nid oedd yr un ffordd arall y gallwn fynd heb amgylchu rhai milltiroedd. Gwelais amser pan allwn ddringo'r ffordd gan chwiban tôn neu ddwy, ond yn awr nid oedd y fegin yn