ddigon ystwyth i'r gwaith. O ddyfalbarhau a mynd o gam i gam cyrhaeddais ben fy siwrnai."
Gwelais yr hen ŵr led cae cyn mynd ato, a sefyll ydoedd yn ffrynt y tŷ. Amneidiodd arnaf i ddilyn y llwybr trwy ganol y cae yn hytrach na'i amgylchu. Prysurais yn ôl ei gyfarwyddyd, a heb fod yn hir cydeisteddwn ag ef ar fainc yn ffrynt y tŷ, a thŷ ydoedd o gynllun tai y ddeunawfed ganrif. Gorchuddid ffrynt y tŷ â dwy goeden rosod yn tyfu o bobtu i'r drws, ac yn ymledu gan blethu eu canghennau yn rhwydwaith ysblennydd trwy'i gilydd. Brithid hwynt gan glwstwr ar glwstwr o rosod cochion a gwynion. Yn gymysg â hwynt yr oedd canghennau coeden winwydd, a'r gwenyn yn ymwáu trwy'i gilydd yn brysur gasglu'r nectar, diod yr hen dduwiau gynt. Yno yr oedd siffrwd fel siffrwd y môr ar hwyrnos haf, neu'r sŵn a glywir ym mrig y morwydd, a hi yn bygwth storm.
Eisteddem gyda'n gilydd ar fainc yn ffrynt y tŷ a'n cefnau ar y pared a sŵn y gwenyn yn ein clustiau. Cyfeirai ef â'i fys at Amwythig; gwelir weithiau drumwydd o'r pinaglau, ac yn enwedig pinagl Eglwys Sant Mair. Heb fod ymhell y mae Hodnet, a chofiais mai yno y bu'r Esgob Heber, yn cyhoeddi a byw yr Efengyl, ac oddi yno yr aeth ef i'r India a glannau Caferi, ac yno y rhoddwyd ei gorff i orffwys cyn i benwynni ymdaenu drosto. Dywedai fy nghydymaith ar y fainc y cofiai ef hen bobl yn Hodnet yn sôn am Heber. Deellais ar unwaith y gwyddai ef am Heber ac am ficerdy Wrecsam, lle y cyfansoddodd yr emyn From Greenland's icy mountains, i'w ganu fore Sul drannoeth yn hen eglwys y plwyf, a'r Esgob yn dadlau dros baganiaid y byd. Ac fe wyddai fy nghydymaith fwy nag a dybiwn, ac fe ychwanegodd hyn fy niddordeb ynddo. Oedd, yr oedd Ceinion Alun ar ei silff lyfrau, ac fe adroddodd ddarnau helaeth o farwnad Alun i'r Esgob Heber.
Cyfeiriai at Uppington a Donnington, meysydd gweinidogaeth Goronwy Owen fel curad unwaith, ac yr oedd ganddo lawer i'w ddywedyd am y ddau le, a llawer iawn am Oronwy. Treuliodd ef rai blynyddoedd yn yr ardaloedd hynny. Dywedai i'r Gymraeg adael ei hôl yn ddwfn ar enwau tai a thiroedd, ac yn wir ar arferion y bobl. Cofiai glywed llawer iawn o Gymraeg hyd yn oed yn Amwythig. Yn amser ei dad, Henry Rees oedd gweinidog y capel Cymraeg yno. Ac i