Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

88
COFIANT
meddyliais mor addas oedd y geiriau canlynol i'w amgylchiad
"The chamber where the good man meets his fate,
Is priviledged beyond the common walk,
Of virtuous life it is the verge of heaven."
Felly y teimlais wrth wrandaw ar y geiriau grasol a charusidd
a ddiferasant o enau fy nhad, yr oeddynt yn dyfod oddiwrth
un a wyddai ei fod ar fin tragywyddoldeb. Yr oeddynt yn
cael eu llefaru gyda dwysder a difrifwch; eto, yr oedd efe
braidd bob amser yn gwenu wrth eu llefaru, fel pe bae yn
dyweyd wrthym gydag Addison, "Gwelwch gyda pha fath
sirioideo y gall Cristion farw."
Nid oedd dim drymder,
tywyllwch ac iasau oeraidd y bedd yno, ond pob peth i'r
gwrthwyneb. Mynych y byddwn yn darllen pennodau o'r
Beibl iddo, yn enwedig y 43ain o Esaiah, yr hon oedd yn
hoff bennod ganddo. Nid oedd braidd un amser yn darllen
hono heb wylo, yn enwedig y 2baiu adnod, gan mai trwyddi
bi cafodd wawr ar ei gyflwr yn nechreuad ei
grefydd.
Canai emynau hoff yr hen Williams, a phan na fedrwn I ei
ddylyn gan deimladau drylliog, ai yn mlaen ei hun, a
chlywn
ei lais, yr hwn oedd wedi ei wanhau gan gystudd, fel yn
myned wanach, wanach, ac fel ya esgyn o'm clyw i'r nefoedd.
Emyn a fyddai hotf iawn o'i gwrando oedd, The Pilgrim's
Song," allan o Sabbath Meditation y Parch. J. EAST, o Bristol,
yn enwedig y ddau benill olaf, y rhai, y mae yn debyg oedd
yn ddesgrifiad cywir o ansawdd ei feddwl.
THE PILGRIM'S SONG.
"Chill the evening breezes blow,
Cautious are his steps and slow;
Yet his voice is full and strong:
Mark 1 he treads the vale of death
Soft he yields his final breath,
Yields it in the Pilgrim's Song.
Now his feet no longer roam,
He has reached his blood-bought home;
Hark! yon shining hosts among:
Louder than Arohangela sing,
While the pillared beavens ring
Rolls the ransomed Pilgrim's Song."
Ar ol yr adroddiad, dywedai yn fynych, "Byddaf yno eyn
bir-gartref, ac yna ni ohrwydraf mwy oddiwrth fy Mugail ou."
Ymwelai aml un o'i gyfeillion crefyddol ag ef, yntau a'u derbyniai a gwên ar ei wyneb. Un o honynt ag oedd yn myned
o'r dref i briodi-y dyfodol yn ymagor o'i flaen, ac yn addaw
iddo bob mwyniant; ond pan ya ffarwelio am byth, dywedai
wrth gyfaill-"mi roddwn y cwbl yr ydwyf yn ddisgwyl o'r