MBS. EDMUNDS.
97
cyn ei chredu, gael ei phrofi trwy ffydd drosto
ei hun, ac fe gaiff ar unwaith dystiolaeth dumewnol
o'i dwyfoldeb, mor sicr nad all unrhyw gywrain-
ddadlen (sophistry) byth ei siglo." Felly hithau,
parhaodd yn gryf yn ei barn hyd y diwedd ;-"Crist
yn fy lle yr hyn a wnaeth Crist yn dyfod yn
eiddo iddi hi, oedd yn ei dal yn gryf yn y cyfyng-
der olaf. Hen athrawiaeth y Cyfrifiad! a hwyrach
na chyfeiliornid llawer pe dywedid, mai dyma ath-
rawiaeth yr hen ddiwygiadau crefyddol yn Nghym-
ru, Lloegr, Scotland, ac America. Y mae yn wir
y cymylwyd ychydig arni mewn rhan o'r diwygiad
yn Lloegr, yn amser Whitfield a Wesley; ond y
mae yn amheus hefyd na chymylwyd y diwygiad
fesur mawr ar yr un pryd, pan y dygwyd i fewn
y. pyngciau newyddion hyn. Galwodd Mrs. J. H.
arni un boreu Sabboth, wedi bod yn gwrando y
Parch. J. P. yn y Tabernacle, a dywedai-"Wel,
yn wir, y mae pregeth Mr. P. wedi fy ngwneyd heb
ddim heddyw." "Heb ddim!" meddai hithau,
mewn atebiad, "'does dim busnes i chwi gael dim;
cael y cwbl o fan arall-dyna sydd yn braf. 'Myf
yn llwm, a'r Iesu yn llawn'; dyna fel yr wyf fi yn
ei cheisio hi."
1113
PEN. XV.
AWYDD BOD YN DDEFNYDDIOL.
"Blodeuant, tyfant tua'r nen
Fel y winwydden firwythlon,
A bydd eu harogi wrth eu trin,
Mor bêr a gwin Lebanon."
UN o nodau arbenig y Cristion, yw ei fod yn teimlo
ei hun yn fyw i wneyd yr hyn a allo gydag achos
yr Arglwydd yn y cylch y mae yn troi ynddo. A
Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/119
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
