Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

RHAGDRAETH .

xiii

yn anhawdd iawn parchu y dyn hwnw na'i grefydd, yr hwn y mae ei fywyd yn peri i'w deulu feddwl o angenrheidrwydd ei fod yn ddyn twyllodrus. Ni ddygwyddodd y brofedigaeth bou, na dim yn debyg , i ran Mrs. Edmunds ; oblegid cafodd ei dwyn i fynu dan ofal rhieni y rhai yr oedd yn hawdd i bawb eu parchu .

Yn y teulu caredig hwn yr oedd croesaw cyphes bob amser i weinidogion yr efengyl; ac i minnau yn eu plith , am fy mod, os caniateir i mi fenthyca yr ymadrodd arferedig, " yn rhyw enw o bregethwr.” Yn sicr, un o rinweddau penaf y Meth odistiaid yw eu lletygarwch diragrith a dirodres, yr hwn sydd wedi ei feithrin ganddynt hwyrach yn fwy na chan un corff arall o bobl, fel canlyniad naturiol y drefn deithiol o bregethu : ac nid wyf yn gwybod fod neb yn ein plith yn dymuno i hyn gael ei golli; oblegid er fod rhai yn barnu yn gydwybodol y dylai pob eglwys fod dan ofal rhyw weinidog , y maent yn llawn mor awyddus i gynal anrhydedd ac effeithiolrwydd y pregethu teithiol. Un o'r manteision cydfynedol â'r drefn hon yw y duedd sydd ynddi i gadw undeb a brawdgarwch rhyngoma'n gilydd, ac i ddylanwadu yn ddaionus ar deulu oedd . Pa bryd bynag y galwai pregethwr yn nhớ Mr. Jones, byddai y tad a'r fam yn ei dderbyn gyda gwên serchoglawn, a'r plant yn ymgasglu o'i amgylch i'w holi yn ddiarbed : a'r fath oedd hynawsedd a sirioldeb pawb fel y byddai y gŵr dieithr yn teimlo ei hun yn fuan megis yn un o'r teulu . Pwnc y rhieni yn benaf fyddai ansawdd crefydd yn y lle yr oedd y pregethwr yn cartrefu, neu mewn manau eraill lle yr oedd wedi bod yn ddiweddar: ond byddai holiadau y bobl ieuainc yn dwyn perthyuas gan mwyaf â phersonau, yn enwedig y personau hyny a gyfrifid ganddynt hwy yn fawr fel pregeth wyr: ond nid â phersonau yn unig ; gan y byddai ganddynt yn fynych ryw fater dyrys dan sylw, yr hwn oedd wedi bod yn destun ymdrafodaeth yn yr Ysgol Sabbothol, neu ryw ddarn anhawdd yn ngwaith rhyw awdwr, yn Gymraeg neu yn Saesoneg.

Yr oedd Mrs. Edmunds o'i hieuenctid yn hoff o ddarllen : ac nid rhyw gyfansoddiadau gwagsaw a ddarllenid ganddi, ond llyfrau sylweddol, y rhai oedd yn tueddu i oleuo y deali ac i buro y galon. Dichon ei bod yn rhagori ar y cyffredin mewn cyneddfau naturiol: ond yr achos penaf o'i llwyddiant oedd ei diwydrwydd a'i dyfal-barhad. Gorchwyl anfuddiol fyddai holi i ba raddau yr oedd hi, o ran cyfansoddiad ei meddwl, yn cyfranogi o'r athrylith wreiddiol oedd yn y wraig ryfedd hono, Anne Griffiths ; neu o'r teimlad seraffaidd oedd yn y ferch ieuanc hynodhono, yr hon sydd yn adnabyddus trwy Gymru, ac a fydd felly, dan yr enw, “ Fy Chwaer ." Ni fuasent hwy yn dyfod i feddiart o'r lle uchel oeddynt wedi ei