2
COFIANT
lawer gwynt croes yn gorfod troi pen y llestr i amryw gyfeiriadau ; nid o herwydd fod ei amcan i
ymgyraedd atynt, ond oblegyd mai felly o dan yr amgylchiadaupresenol y gellir yn oreu gyraedd ei amcan dechreuol. Caniateir fod rhwystrau mynych yn cyfodi i ddyrysu amcanion y doethaf; ond yn Île llwfrhau a rhoddi heibio o'u herwydd, y mae y
synwyrol yn hwylio ei ffordd mor agos ag y gali, gan ddysgwyl y bydd yr amgylchiadau anfanteisiol, naill aiyncilio o'r ffordd, neu yn cael eugorchfygu. Wrth olrhain ychydig o hanes un o'r dosparth
defnyddiol a ymroddai ynewyllysgar gydag achos addysg yn Nghymru, fe'n tueddir i briodoli y
llwyddianta ganlynodd ei llafur, i'r dull gwirfoddol a thrwyadl yr ymroddodd gyda'r gwaith hwn. Yr oedd tuedd a chyfeiriad ei meddwl pan yn
bur ieuanc at lenyddiaeth; ac mor fuan ag y
daeth
iwybod sefyllfa ei chyd -genedl, ac i deimlo drostynt,
gorphwysodd yr achos yn bwysig ar ei meddwl, ac amcanodd unwaith ac eilwaith i godi chwaeth at addysg yn y cymydogaethau lle y bu yn aros,
ac yn y cylchoedd y daeth i gyfarfyddiad a hwy : ond yma cyfarfu a rhwystrau lawer; nid oedd nemawr o neb yn gwerthfawrogi ei llafur. Ond er
hyny parhaodd wrth y gwaith nes y daeth teimlad cryfach a gwell o blaid achos addysg yn y dywys ogaeth.
Tueddodd amgylchiadau yn mhen ychydig amser i gefnogi ei llafur ; er bod difaterwch yn meddyliau y
werin yn nghylch yr angenrheidrwydd am addysg, a'u bod i raddau helaeth yn ddyeithr i werth y
rhagorfraint eu hunain ; ac felly yn ymdawelu gyda golwg ar gael moddion i'w chyflwyno i ereill : eto, yr oedd yr Ysgolion Sabbothol wedi tynu y llen
oddiar feddyliau llawer am werth Addysg Ysgryth yrol, er yr ymfoddlonai
у lluaws yn
dawel mewn
anwybodaeth am egwyddorion dysgeidiaeth gyff redinol, nes i'r ysgogiad diweddar a achoswyd i