Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

14 COFIANT fel eynifer o ddrain i ni ar wely angeu. Gall fod y weddi, "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr un- iawn," yn weddi dyn annuwiol, ond bydded i mi fyw bywyd yr uniawn, fel y byddo fy niwedd fel yr eiddo yntau.

Mai 5.

Y mae mis ar ol mis yn treiglo ymaith bron yn ddisylw, ac y mae lle i ofni heb iawn ddefnyddiad. Mor ddiolchgar y dylwn fod i'r Duw hwnw sydd wedi cyd-ddwyn ag un mor anystyriol ac anniolchgar. Y mae yr holl greadig- aeth yn gwenu-yr adar, y coed, a'r blodau, yn eu hiaith yn ymdrechu dangos eu diolchgarwch i'w Creawdwr, pa faint mwy y dylwn I, sydd wedi derbyn eymaint yn ychwaneg, ac wedi fy mreintio a phob eysur a ddichon y byd gyfranu? ""Pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi? Phiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf." Dymunwn gyda'r bardd Saesonaeg, ddywedyd,

"I'll praise my Maker while I've breath,

And when my voice is lost in death,

Praise shall employ my nobler powers;

My days of praise shall ne'er be past

While youth and health and being last,

Or immortality endures."

Mi a lefaf arno o hyn allan, "Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctyd." Y mae ar yr ieuaino angen am un i'w tywys, ac yr wyt wedi dywedyd yn dy air dy fod yn barod i fod yn dywysog i mi; am hyny, O Dduw! tywys fi yn ddiberygl trwy y byd sydd yn llawn o faglau a themtasiynau, nes dyfod i'r wlad lle nad oes na phechod na phoen.

Mai 6. "Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw, a'r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef." Mor fawr, mor annychymygawl fawr, y rhaid ei fod Ef sydd yn cynal cynifer o fyd- oedd, a'u galwodd hwynt yn y dechreuad o ddim, Dig sized by by Google