Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

20
COFIANT
yw." Nis gallwn gyrhaeddyd y gradd hwn mewn
crefydd, heb fod yn dyfalbarhau mewn gweddi a
myfyrdodau; rhaid i ni fwrw allan y byd o'n
calonau a'n meddyliau; rhaid hefyd darllen y gair
sydd yn dangos i ni y ffordd i'r nefoedd. Y mae
hyn yn anhawdd iawn i'r rhai sydd yn nghanol
dwndwr a therfysg y byd, ond nid yw yn an-
mhosibl, gyda chymorth Duw, i roddi y dwylaw i
fasnach a'r galon i Dduw; yna y cawn lawenydd a
thangnefedd
"Tangnefedd pur i dreulio 'n hoes i ben,
A bythol fwyniant y tu draw i'r llen."
Mehefin 13. Y mae dydd ar ol dydd yn prysuro
ymaith, ac eto yn fy nghael yn ngwlad trugaredd.
0! y fath fendith yw nad wyf yn y lle poenus hwnw.
Pa fodd y dylwn ryfeddu ac addoli y Bod hwnw
sydd wedi ymddwyn mor ymarhous, a bod mor hel-
aeth ei drugaredd tuag ataf. Bydded i deimlad o'i
ddaioni gynhesu fy nghalon oer a dideimlad, fel y
byddo fy ngenau yn ei foli â gwefusau llafar; canys
y mae yn anfeidrol deilwng o hyny. Hyn ddylai
fod yn bwne blaenaf o flaen fy meddwl, gogoneddu
Awdwr fy mod. Nis gall y byd roddi mi i gysur,
pe bawn yn feddianol arno. Nid yw y byd ond
chwareufwrdd i Dduw ddangos ei drugaredd i'w
greaduriaid syrthiedig. O! mor anniolchgar y
rhaid bod y rhai hyny sydd yn gwneuthur eilun-
dduw o'r hyn a roes Duw iddynt er mwyn ei glod
a'i ogoniant ei hun; yr wyf yn rhy dueddol i
addoli pob peth ond Efe. O Arglwydd, yr hwn yn
unig ydwyt deilwng o'm hamser, fy anadl, a'm
meddyliau, cynorthwya fi i'w cyflwyno i ti; i roddi
fy nghalon yn llwyr at dy waith; dangos i mi dy
ogoniant, O Arglwydd, fel y byddo i mi ymwadu
a phob peth a'th ddilyn di, gan gymeryd i fyny y
groes bob awr, fe, bob mynyd. Os gweli yn dy