Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
49
mor gryno y medrai ddangos ei meddwl, a hyny
mewn ieithwedd dda, ar ychydig eiriau:
"Fy nghyfeilles hoff:
"Er fy mod yn ufuddhaz i gymhelliad cyntaf fy
nheimlad pau glywais am eich colled annysgwyliadwy, ond
beth i ysgrifenu nis gwn; eithr fel un wedi myned trwy am-
gylchiad cyffelyb fy hun, chwi a'm credwch pan y dywedaf,
fy mod yn cydymdeimlo yn wirioneddol à phob un o honoch.
Eich tad, y mae yn wir, a'ch gadawodd, ac nid ydych heb
deimlo prudd-der a thristwch tan ddylanwad y cwmwl tywyll
sydd wedi myned tros eich pen; ond hyderaf hefyd, eich bod
wedi clywed y llef ddystaw o'r nefoedd yn tawelu pob tuedd i
rwgnach, no yn eich galluogi i ddyweyd, "Y ewpan a roddes
fy Nhad i mi i'w yfed, onid yfaf ef?" Rhaid i ni gael galaru,
y mae yn wir, ac ni omeddir i ni wylo. Yn hyn, ni a gawn
esiampl yr Iesu; ond ni ddylem alaru fel rhai heb obaith,
am y rhai a hunasant yn yr Iesu. Yr ydym wedi colli y gair
tyner, y wen siriol, a'r meddwl penderfynol a'n cyfarwyddai;
eto, nid galar a ddylai fod y teimlad uchaf. Pan y daw gobaith
y Cristion, yr hwn sydd yn llawn o anfarwoldeb, i'r golwg,
nid ydym yn teimlo ein bod yn cael ein gwahanu oddiwrth y
rhai oedd yn anwyl genym, hyd yn nod yn angeu. Y mae y
nefoedd fel yn cael ei dwyn yn nes atom, ae yr ydym yn
mwynhau y dynesiad i'w chymundeb gyda mwy o byfrydwch,
wrth deimlo fod perthynasau i ni yn mhlith ei thrigolion, as
Dis gallwn lai na llawenhau, weithiau, wrth feddwl fod ein
hanwyliaid wedi díane o stormydd a thymhestloedd y fuchedd
hon, fr trigfanau tawel sydd fry wedi eu parotoi iddynt, lle
nad ydyw ofn na gobaith yn medru ymwthio.
"Hyderaf fod y naill a'r llall o honoch yn mwynhau cysuron
yr Efengyl, ac yn derbyn nerth yn ol y dydd, a bod y gwir-
foneddau mawr a fu eich tad yn bregethu i ereill am gynifer
o flynyddoedd, wedi bod yn ddyddanwoh iddo ei hun yn ei
fynydau olaí, ac i chwi gael eich galluogi o ystafell gwely
angeu, i roddi eich bun i'r Arglwydd yn fwy llwyr nag erioed
o'r blaen.
"Y mae arnoch, yn awr, rwymedigaethau newyddion, y rhai
erbyn hyn, mi wn, eich bod yn eu teimlo, sef gofal ychwanegol
am eich mam a'ch chwaer, y rhai a fyddant, o hyn allan, yn
glynu wrthych yn fwy nag erioed; ni feddant ar y ddaear an,
bellach, y gallant edrych i fyny ato ond ohwi.
"Ffarwel, fy anwyl gyfeilles. Y mae fy nghalon yn llawn,
a'm teimladau yn rhedeg yn ol at yr amser y collais inau dad.
Bydded i'r Duw a'n cynaliodd ni tan yr unrhyw brofedigaeth,