Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
67
yr amcan mawr.
2
holl
Fel y soniwyd eisoes nid oedd
neb yn mwynhau bywyd yn fwy na hi-yr oedd yn
hynod o ddedwydd yn ei theulu; yn mwynhau
natur i berffeithrwydd. Yr oedd rhoddi tro allan
i blith rhyfeddodau y greadigaeth yn hyfrydwch
dros ben iddi. Yr oedd hefyd yn naturiol yn un
hynod o annibynol ei meddwl; ni fynai roddi
y drafferth leiaf i neb; yr oedd yn llawn o gynllun-
iau, ac yn frwdfrydig iawn am eu gweithio allan, a
hyny yn ddioed; ond yr oedd yn y bwriadau mawr
ei harwain ar hyd ffordd arall, ffordd unionaf er
mor arw;" ffordd a fyddai yn sicr o groesi
dueddiadau hyn er mor gryf oeddynt, a hyny yn
y pen draw i'w dysgu yn yr hen wers, "Rhoddwch
eich serch ar y pethau sydd uchod, nid ar y
pethau sydd ar y ddaear." Y llwybr rhyfedd a
gymerodd yr Arglwydd i'r pwrpas hwnw oedd, ei
gadael i oedi yn nychlyd am bedair blynedd, tan
afiechyd a elwir clefyd y galon (disease of the
heart). Nid yw y clefyd hwn yn lladd dim ar
fywiogrwydd y cyfansoddiad, não yn tueddu i
farweiddio un gradd ar egni y gewynau, ond yn
gosod y corff mewn cyffion fel nad all, ac na faidd
y cyfryw braidd ysgogi i osod amcanion brwdfrydig
y meddwl mewn gweithrediad; ac y mae hyd yn
nod pryder y meddwl yn wrtaith cryf i'r afiechyd;
felly y mae yr afiechyd yn creu pryder, a'r pryder
yn cynyddu yr afiechyd.
Rhaid i'r llwybr o
hyn allan fod yn
llwybr cwbl groes i natur."
Er nad oes ond ychydig o boen i'w deimlo, rhaid
eistedd, neu yn hytrach orwedd, yn berffaith lon-
ydd. Mynych y clywid hi yn dywedyd, ei bod yn
teimlo ei meddwl mor fywiog ag erioed, ac yn
llawn awydd i gyflawni gwahanol ddyledswyddau
mewn cysylltiad a'r bywyd hwn, yn gystal a chre-
fydd; ac er yn aml ormesu ar y rhyddid a ganiateid
iddi gan y meddyg, a dyoddef llawer o'r herwydd,
o'r diwedd dechreuodd ildio a boddloni i'r drefn,