Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
77
us fel at yr ethnig a'r publican, er mwyn codi y
teimlad cyffredin i ddylanwadu o blaid moosoldeb.
Ond nid anmhriodol yw coffhau iddi golli y culni
hwn tuag at ereill, i fesur helaeth, pan ireiddiwyd
ei hyspryd ei hun. Ni fynai wedi hyny eistedd i
farnu dybenion neb, ac ni chai neb arall wneyd
hyny yn ei chlyw, heb gael clywed nad oedd
ganddo hawl i farnu dybenion ereill. Coleddai yn
awr y meddylian tyneraf am bob dyn; ac mewn
atebiad i Mr. W. H., yr hwn a ofynodd iddi, "Beth
oedd hi yn ei dybied a ddeuai o honom ni a'r
grefydd fwydaidd yma, a oedd hi yn tybied y
cyrhaeddai rhai o honom y nefoedd?" dywedai,
"O gwnaiff, lawer mwy nag ydych erioed wedi ei
feddwl." Gallwn gymeryd hyny o addysg beth
bynag, nad y dyn sydd a'i yspryd yn agosaf i'w le
sydd fwyaf parod i feio a chondemnio, ond y byddai
hwnw yn fwy parod i dosturio a chynghori-
"Cariad a guddia luaws o bechodau." Ond eto, yr
oedd yn mhell oddiwrth feddwl na ddylai fod llinell
derfyn rhwng byd ac eglwys. Nis gallai ddirmad pa
fodd y medrai Cristion cywir wneyd cyfeillion o, na
chael pleser yn nghyfeillach, dynion o'r byd.
Gadawodd bapur yn dangos ei syniad ar y mater
hwn, yn nghyda'r seiliau Ysgrythyrol ar ba rai y
sylfaenai ei barn. Rhag chwyddo y llyfr yn or-
modol ni roddwn yma ond y rhagymadrodd :-
"Wrth ddarllen gair yr Arglwydd cefais fy nharo yn
aml gan ei orchymynion pendant ac annghymmodol
(uncompromising), am yr angenrheidrwydd am
linell wahaniaethol rhwng y Cristion a'r rhai a ad-
nabyddir wrth yr enw "y byd." Os mynwn fyned
yn fanwl yn ol gorchymynion y Beibl, gan nad pa
faint all fod ein rhagdueddiadau i'r gwrthwyneb,
rhaid i ni gredu oddiwrth rybuddion mor bendant
fod yn hollol anmhosibl i ddefnyddiau mor wahanol
byth gydgymysgu," &c. Amcana ddangos hyny yn
neddfau penodol eglwys yr Hen Destament,