Neidio i'r cynnwys

Wat Emwnt/Ar y Dwfn

Oddi ar Wicidestun
Ysgwâr y Wharf Wat Emwnt

gan Lewis Davies, y Cymer

Ergyd i Bwrpas



PENNOD XVIII.
Ar y Dwfn.

EDRYCHODD y ddau Gymro i lygaid ei gilydd, ac o unfryd dilynasant y foneddiges i ystafell fechan y tu ol i'r llwyfan. Ac a hwy wedi eistedd am ychydig, clywsant y dorf yn canu emyn ac yna'n ymwasgaru. Ymhen ennyd wele'r pregethwr a dyn arall, sef gŵr y foneddiges yn dyfod atynt.

"My wife has just told me," ebe'r olaf, "that you are Welshmen from her native county and that you attended our meeting. I am very pleased to greet you."

Yna fe a'u cyflwynodd i'w frawd, sef oedd hwnnw y dyn, mawr John Wesley. Yntau a ddatganodd yr un teimladau atynt, a dywedyd ei fod yn falch fod rhai o filwyr y Brenin George yn ymofyn am wasgu at filwyr y Crist, ac mai eithaf posibl ydoedd bod yn filwyr da i'r ddau. Dywedodd ymhellach fod cwmwl du uwchben Lloegr Newydd ar y pryd, a'i bod yn ddyletswydd ar bob dyn teyrngar i ddal breichiau'r brenin yn wyneb ystyfnigrwydd yr Americaniaid.

Rhoddodd yr ymgom argraff ddofn ar feddwl Wat, a theimlodd yn euog 'mron ym mhresenoldeb y gŵr urddasol am y mynnai atgof ddwyn yn ol iddo yr holl eiriau sen a daflasai ef am y Ranters at Dai bach gynt.

"Os byth y gwelaf ef eto," ebe fe, "mi a'u tynnaf yn ol bob un." Ma' mwy na feddyla's i yrio'd yn y bobl hyn wedi'r cwbwl."

Effaith arall a wnaeth yr ysgwrs â Wesley arno oedd ymlid i ffwrdd pob meddwl am ffoi o'r fyddin. Rhaid bellach oedd ei hymladd hi i'r pen, er nad oedd ganddo y ddirnadaeth leiaf pa fath ben a brofai yn y diwedd. Siaradodd y ddau gyfaill a'i gilydd gyda difrifoldeb mawr drwy y prynhawn melys, a chytunent fod rhywbeth tuallan i'w deall hwy wedi eu dwyn at ei gilydd ar y dydd hwnnw, ac i ennill sylw y fath foneddiges barchus a Sarah Wesley a'u geiriau Cymraeg.

Dychwelodd Jim i Bath (canys yno oedd ei gatrawd ar y pryd) cyn hwyrhau o'r dydd, ac aeth Wat i'w hebrwng i'r bad a'i dygai'n ol. Ond cyn ymadael cytunasant i ddal sylw ar symudiadau catrodau ei gilydd, a cheisio, pe fodd yn y byd, ymweld y naill y llall yn y gwahanol orsafoedd. Ond ni ddaeth hynny fyth i ben er gwybod ohonynt droion, eu bod, yn yr ymgyrchoedd yng ngwlad y gorllewin yn gymydogion i'w gilydd.

Y 60th Foot a aeth yno gyntaf, a chyn pen tair wythnos dilynwyd hwy oddiar y Wharf anfarwol gan y 24th yr un modd.

Tyrrodd y dinasyddion i ymyl y dŵr i ddymuno "Lwc Dda i'r gatrawd Gymreig; a'r milwyr hwythau a safodd yn rhengoedd wrth y gynwel, ac ar y dec uchaf i ysgwyd eu dwylo a'u cadachau mewn ateb i'r dymuniadau da.

Ymlithrodd y llestr i lawr yr afon yn rhwysgus dros ben, ac un o'r darluniau mwyaf tarawiadol a welodd Wat erioed ydoedd ei mynediad araf rhwng creigiau'r gorge i ennill afon Hafren yn is i lawr.

Pe bai ef yn gwybod hanes, fe ddeuai i'w feddwl ymgyrch y Cabot i'r gorllewin a llawer argosi arall a aeth i'r un cyfeiriad yn ddiweddarach. Fe ddeuai hefyd, ysywaeth, i'w gof am lawer llestr a nofiai'r adwy brydferth hon gynt ar ei thaith i ddwyn dynion i gaethiwed. Ond ni wybu mo Wat y pethau hyn, ac felly byw yn rhamant y presennol yn unig a wnai ef.

Erbyn y prynhawn yr oedd y llong wedi mynd heibio i'r ddwy ynys y Steep Holm a'r Flat Holm, ac yr oedd hi weithian gyferbyn â Bro Morgannwg. Collwyd golwg ar y tir am beth amser wedyn, ond cyn myned i gysgu eu hun cyntaf ar y dwfn, gweiddodd rhywun allan, "Last sight of Wales," a rhuthrodd y mwyafrif o'r cwmni i'r bwrdd i weld pelydrau ola'r dydd yn goreuro creigiau Gŵyr, Llawer llanc na fu erioed allan, odid o'i blwy' ei hun cyn ei wasgu i wasanaeth y brenin, a deimlodd rywbeth yn cyfyngu ar ei anadl, yn yr olaf olwg hon ar dir ei febyd; a llawer un arall, a fu'n siaradus iawn ddwyawr yn ol, a oedd yn awr yn dawedog dros ben, ac a ddaliai i syllu'n ol at Gymru hyd nes y diflannodd ei glannau yn niwl y gorwelion.

Swper i'r ychydig a'i chwenychai, diffoddi pob goleu ar arch yr utgorn crâs, a gwely cul gydag ambell glustog laith—dyna bennod yr hwyr cyntaf ar y don.

Pwy, a pha sawl un o'r cwmni tybed a ga'i weld traeth Gŵyr yn ei groesawu'n ol? Llawer maes gwaed, a mwy o feddau unig, a allai ateb am lu niferus ar na ddeuent i ddaear Cymru mwy. A gwaeth fyth, Prydeiniwr yn brathu Prydeiniwr, brawd gledd yng ngledd a'i frawd—dyna'r anghlod! —dyna'r drychineb!

Nodiadau

[golygu]