Neidio i'r cynnwys

Wat Emwnt/Ysgwâr y Wharf

Oddi ar Wicidestun
Amser Pryderus Wat Emwnt

gan Lewis Davies, y Cymer

Ar y Dwfn



PENNOD XVII.
Ysgwâr y Wharf.

Bu Sergeant Wilkins gystal â'i air i'r swyddog yr addawsai ef wella iddo ei recruits o fewn tri niwrnod, oblegid ymhen yr amser hwnnw, casglwyd at ei gilydd i gwr o feili'r Barracks yn Henffordd un ar ddeg o fechgyn digalon iawn yr olwg. Mud iawn oeddynt hefyd ar y cyntaf, er iddynt ddyfod yn ddigon llafar cyn diwedd y dydd.

"Now then, wake up there!" ebe'r rhingyll a ofalai am danynt. "Show you have a little of the smart sojer in you, will you? Stand at-ease! Stand easy "

A barnu wrth fynegiant yr wyneb pell oedd pob un ohonynt o chwennych ymddangos yn "sojer" o gwbl, heb son am y "smart sojer." Deallodd Wat heb fod yn hir mai y grŵm o Aberhonddu, heblaw ef ei hun, oedd yr unig Gymro yn eu mysg. Gweision ffermydd o ardaloedd Llanandras a Leominster oedd y gweddill—ac er fod Jim Prydderch, sef y grŵm, lawer yn iau nag ef, gwasgodd y ddau at ei gilydd, ac oherwydd eu mynych a helaeth ddefnydd o'r hen iaith buan y llysenwyd hwynt yn Father Taffy a Taffy Junior.

"Paid a hidio, Jim bach," ebe'r Father Taffy un diwrnod wrth ei gyfaill, "os na cha' nhw rwpath gwa'th na'n hiaith yn 'n herbyn fe 'nawn o'r gora'. Ond fe fydd yn rhaid i fi roi bonclust i un o'r Lemsters yna cyn bo hir, mae e'n rhy haerllug. 'Rwy'n ei gweld hi'n d'od, ac fe'i caiff hi hefyd ar f'ened i. Dyw mishtir y Beauty bach ddim i ga'l 'i ddamshal mwy na cha's y Beauty ei hun. On'd o'dd e'n dderyn pert, Jim?"

Ond er cryfed penderfyniad Wat o beidio â chael ei ddamsang gan y recruit Seisnig o Leominster ni ddaeth dim o hynny, oblegid cyn pen nemor o ddyddiau gwasgarwyd y newyddiaid rhai i'r gatrawd hon, ac eraill i orsaf arall.

Ni byddai gwasgaru o'r squad yn blino llawer ar Wat onibai colli ohono Jim o'i fynd i'r 60th Foot. Gofidiodd lawer am hynny, canys heblaw colli ffrind da, collodd ef y modd y trefnasai ef, trwy gymorth Jim, iddynt ill dau ddangos eu gwadnau i'r fyddin am byth. Ef ei hun, bellach, allan o'r un ar ddeg, a arhosodd yn y 24th, a byddai yntau hefyd wedi gadael y gatrawd enwog honno pe daliasai ef ar y cynnyg a roed iddo o ymuno â'r llynges.

"Me no go on the water," ebe fe, gan wybod mai llai a fyddai ei obaith o ddianc o long ryfel nag o unrhyw gatrawd bynnag.

Wedi bod oddeutu deufis yn Henffordd, ag ef yn teimlo'n unig iawn heb Jim, daeth y newydd fod y 24th i'w symud i Fryste. Balch ydoedd Wat o'r newydd oblegid casheai Henffordd a châs perffaith, a thybiai y byddai unrhyw symudiad oddiyno fod er gwell.

Wedi pabellu yn ninas fawr y gorllewin dechreuodd Wat i fwynhau ei hun yn well.

Yn unpeth yr oedd ei Saesneg yn gloywi i raddau, fel y gallai fynegi ei feddwl yn rhwyddach yn yr iaith honno nag y bu. Peth arall, ac un a'i diddorai'n fawr ydoedd bywyd masnachol y lle, y rholiau tybaco, y casgenni siwgr, a'r barilau rum, yn cael eu symud i'r ystordai eang, morwyr clustdlysog yn llwytho a dadlwytho'r llongau, tramorwyr o bob iaith a lliw yn cerdded ochrau'r llongbyrth, a'r ysgwâr mawr wrth ben y porthladd yn llawn o bobl yn prysuro'n ol a blaen beunydd.

Ar yr ysgwâr hwn hefyd yr ymgynhullai torfeydd i wrando ar ddynion yn siarad ar bynciau cyhoeddus, oblegid amser cythryblus ydoedd hi, y famwlad yn mynnu ceryddu ei phlant hwnt yr Iwerydd, a'r plant hwythau yn bygwth torri pob cysylltiad â hyhithau am hynny.

I'r ysgwâr hefyd deuai pobl ddefosiynol i siarad am bethau ysbrydol, am fuchedd dda yn y byd hwn, a choron anniflan mewn byd a ddaw. Ac er nad oedd Wat wedi talu fawr sylw erioed i siarad o'r fath, gymaint oedd sel y siaradwyr ar ysgwar Bryste dros y gwaith, a'u pryder am eu cyd-ddynion, fel y cafodd Wat ei hun ynghanol y tyrfaoedd heb allu nag awydd i ymadael â'r fan.

Un dyn yn neilltuol a brofai'n atyniad iddo. Gŵr syth, gyda gwallt hirllaes dros ei ysgwyddau, a threm gorchfygwr yn ei lygaid, ydoedd hwnnw. Siaradai'n syml a deniadol dros ben, ac amlwg oedd ei fod yn ffefryn y dorf. "There he comes!" ebe pawb ar ei esgyn i'r fen a wasanaethai fel llwyfan, gan ddangos yn y frawddeg eu dyhead am ei glywed. Clywsai Wat ef droion, ac yn y diwedd gymaint oedd awydd y Cymro am ei wrando'n rhagor fel y dygai ei gamau ef i'r Upper Wharf ar bob rhyw dro ag y byddai ef yn rhydd o'r Barracks.

Ag ef ymhlith tyrfa'r Wharf un prynhawn Saboth, mewn gwasanaeth crefyddol yno, a'r dorf yn canu'n hwylus Guide me, O Thou great Jehovah, yr emyn newydd a oedd wedi dechreu tanio cynulleidfaoedd y bobl hyn, credai Wat iddo weld mewn côt goch ar gyrrau pellaf y dorf, un a adwaenai.

"Ia!" ebe fe," yr hen Jim yw e', 'rwy'n siwr," a chyda hynny cerddodd yn dawel ar gylch y tu allan i'r dorf er mwyn dyfod ato. Nid oedd Jim wedi ei weled ef hyd hynny, ac o wasgu o Wat ei fraich, gwaeddodd yn sydyn, "Wat Emwnt, yr hen Father Taffy, byth na chyffro i! Shwd mae hi fachgen?"

"Hush! Hush!" ebe rhai o'r gwrandawyr yn ymyl, ac yna y cofiodd Jim mai mewn gwasanaeth crefyddol yr oedd, a chan ostegu ei lais, arweiniodd ei gyfaill ychydig o ffordd oddiwrth y cylch er cael ymgom pellach.

Nid oeddynt wedi bod gyda'i gilydd ond prin munud, cyn daeth atynt foneddiges ganol oed o osgo urddasol iawn, a chan eu cyfarch, ebe hi,

"Two Cymry, I presume. I am sorry I cannot speak Welsh so well as I ought to, but I recognised it in a moment when you said,Shwd mae hi fachgen?' What part of Wales do you come from, may I ask?"

"We are both from Brecknock, madam," atebodd Jim, "I, from Brecon town and my friend from Penderyn."

"Brecknock! dear old Brecknock! You must come with me please, I want Charles (i.e., my husband) and his brother John, who is preaching now, to talk to you. Don't say me Nay.' I am so delighted to meet you, and serving your country too. Please follow me!

Nodiadau

[golygu]