Wat Emwnt/Ergyd i Bwrpas
← Ar y Dwfn | Wat Emwnt gan Lewis Davies, y Cymer |
Ystryw Mileinig → |
PENNOD XIX.
Ergyd i Bwrpas.
PAN laniodd y 24th yn Staten Island wedi mordaith eithriadol deg, cawsant y lle mewn cyffro mawr. Braidd na edrychid arnynt fel gwaredwyr, a'u dyfodiad fel pe o anfoniad arbennig er achub y trigolion. Hyn ydoedd am fod yr Americaniaid, mewn canlyniad i fuddugoliaeth neu ddwy, wedi ymeofni'n fawr, ac wedi gwasgu ar y gwersyll ei hun.
Mae'n wir eu bod yn ddiweddarach wedi tynnu yn ol rywfaint, a bod yn y dre arsiwn yn barod. Ond milwyr wedi eu profi eisoes a'u cael yn brin oedd llawer o'r rheiny. Mewn gair, Hessiaid, wedi eu cyflogi yn yr Almaen, sef oedd hynny, gwlad gysefin y brenin George ei hun, oeddynt, ac yng ngwasanaeth y famwlad, i'w chywilydd bythol, i osod i lawr Brydeinwyr ieuainc y Trefedigaethau.
Dyma'r milwyr a oedd wedi eu profi y dyddiau cyn glaniad y 24th, ac wedi llanw'r cymeriad a rydd yr Hen Air i weision cyflog yn gyffredin, pan ffoisant oddiwrth ddyrnaid o amddiffynwyr penderfynol y tir.
Er hynny i gyd, dyma'r milwyr a ymagweddent gerbron pobl yr ardal fel concwerwyr, gan hawlio iddynt eu hunain y lle blaenaf ymhopeth. Nid rhyfedd felly eu bod yn ffiaidd gan bawb, a chan neb yn fwy na'u cydfilwyr a ddygent arfau Prydain fel hwythau. Yn wir dim ond disgyblaeth filwrol o'r llymaf a rwystrodd derfysg peryglus rhwng y milwyr o'r hen wlad a'r tramoriaid haerllug hyn.
Dyna gyflwr Staten Island ar brynhawn neilltuol pan aeth allan o wersyll y 24th Wat Emwnt a dau o'i gydfilwyr gydag ef. Eu bwriad oedd rhoddi tro i weld y prif aneddau y sonnid cymaint am danynt gan bawb.
Hyn wedi ei wneud, ac a hwynthwy yn teimlo'n sychedig troisant i mewn i westy bychan am lasiad o'r New England Ale, cyn dychwelyd ohonynt at eu dyletswyddau drachefn.
Wedi eu bod hwy yno am beth amser, daeth ar eu holau i'r ty ddau Gorporal o'r Hessiaid ar yr un neges. Yr oedd y tri Phrydeiniwr eisoes wedi yfed hanner eu llestriaid eu hunain pan rodd yr Hessiaid eu harcheb hwythau. Dygodd y weinyddes y ddiod i mewn i'r ddau Almaenwr ac a'i gosododd o'u blaen yn foesgar, gan sefyll wedyn i aros am y tâl.
Dipyn yn hwyrfrydig oedd yr Almaenwr i roddi ei arian, a phan wnaeth y weinyddes arwydd fod brys arni i ymadael gafaelodd y gŵr ynddi fel pe am ei chusanu. Hithau yn anfoddog iawn a geisiodd ddianc oddiwrtho, ond ef ni ollyngai ei afael ynddi er dywedyd o'i gydwladwr wrtho,—"Lasz sie doch frei gehen! Du Narr!"
Ond y funud nesaf yr oedd wedi gorfod ei gollwng yn rhydd, oblegid â digofaint yn melltennu yn ei lygaid, cododd Wat ar ei draed, ac a darawodd y gŵr difoes ar ei arlais nes cwympo o hwnnw ar draws yr Hessiad arall. Ar yr eiliad neidiodd y gŵr a darewsid ar ei draed drachefn, ond yn ei wynebu ac yn barod i ychwaneg o ddyrnu pa bai raid, yr oedd Wat. Ac o weld hynny, ac yn neilltuol o weld ohono ddau Brydeiniwr arall y tu cefn i'w d'rewydd, ymfoddlonodd ar arllwys allan ffrwd o fygythion na wyddai Wat a'i gyfeillion ddim o'u hystyr. Yna gan godi i fyned allan heb yfed ei ddiod ymadawodd y troseddwr yng nghwmni ei gyfaill gan bwyntio, ar ei fyned dros y rhiniog, at y streipiau ar ei fraich.
"Stripe or no stripe," ebe Wat, "he deserved what he have, and more should he get if he brave enough to stand up." Ar hyn daeth y weinyddes yn ol a chan ddiolch yn wresog i'r milwr a'i hamddiffynnodd "there's no living with the disreputable lot these days," ebe hi," thank you ever so much!"
Credai Wat, gan i'r Hessiad gyfeirio at ei streipiau y byddai court martial ar ol hynny, a'r weinyddes o dan yr un argraff, a gynygiodd, pe b'ai galwad arni, i ddyfod i'r gwersyll i fynegi y modd y bu. Ofnai ei ddau gyfaill hefyd y byddai cosb yn sicr o ddilyn, yn enwedig am fod y cadfridog ddeuddydd yn ol wedi gorchymyn yn gaeth nad oedd y King's Units i ymrafeilio â'i gilydd o dan unrhyw amgylchiadau.
Bore trannoeth, fodd bynnag, yr oedd y gwersyll mewn cyffro llawer mwy na threial milwr cyffredin am daro corporal, a hwnnw'n Hessiad, oblegid brysneges a ddaethai fod y Milwriad Clinton mewn cyfyngder mawr ym mherfeddion y wlad, a bod rhaid i'w adgyfnerthu costied a gostiai. Yn y Flying Column a wnaed er ei achub yr oedd y 24th, ac o'r awr y derbyniwyd y newydd hyd amser eu myned allan i'r wlad, ymdaflai'r milwyr, bawb fel ei gilydd, at y gwaith o baratoi.
Pan ddaeth yr awr i gychwyn troediwyd i'r ymgyrch yn lled galonnog, ond po bellaf y cerddent ymlaen, mwyaf i gyd oedd anghyfeillgarwch y trigolion, a chyn nos teimlent er mai'r iaith Seisnig oedd o'u cylch mai yn nhir y gelyn yr oeddynt. Am yr un rheswm, pan arhoswyd i wersyllu dros oriau'r tywyllwch, gosodwyd gwyliadwriaeth ddwbl i ofalu am ddiogelwch y cwbl.
Perthynai catrawd o'r Hessiaid i'r golofn, a chan i rai o'r brodorion glywed y rheiny yn siarad yr Ellmyneg ar y daith, rhedodd y newydd fel tan mewn sofl mai Hessiaid atgas oeddynt oll. Credwyd unwaith yn wir, er nad oedd gwŷr arfog yn y golwg, y byddai i'r bobl gyffredin ymosod arnynt â cherrig, mor ffyrnig oedd eu hosgo at y lobsters, fel y galwent y cotiau cochion.
Wedi deng niwrnod o deithio caled cyrhaeddwyd Trenton, lle yr oedd amryw o gatrodau mewn mawr gynni yn ceisio dal y gelyn yn ol. Ac er mor resynus oedd gwedd y golofn a frysiodd i'r ymwared gwaeth fyth oedd cyflwr yr arsiwn wan a amddiffynnai'r lle pwysig hwnnw. Fel y gallesid disgwyl yr oedd y croesaw i'r dyfodiaid newydd yn fawr, a'r holl wersyll fel pe wedi cael cryfhad calon. A daeth i Wat galondid dyblyg, oblegid i'w lawenydd, clybu fod gwŷr y 60th Foot yn rhan o'r adran fechan a ddaliodd y gwarchae gyhyd. Byddaf yn sicr o weld Jim cyn bo hir," ebe fe, ac wedyn fe fydd genn' i gyfaill eto, a gwd-bei i'r hen unicrw'dd yma wetyn.
Ond er chwilio'r gwersyll i fyny ac i waered, ni chwrddodd â'i hen gyfaill o gwbl, er dywedyd o rai o fechgyn y 60th ei fod yn y dre'n sicr ddigon.
Ha, Wat! ychydig a wybuet ti fod cwpan chwerw yn dy aros, a bod angau yn llygadrythu ar dy gyfaill i'w daro i lawr cyn gafaelyd ohonot yn y llaw Gymreig a ysgydwai dy un di mor onest ar y Wharf ym Mryste.