Wat Emwnt/Edrych tuag Adre'
← Y Wiwer Lwyd | Wat Emwnt gan Lewis Davies, y Cymer |
Y Rhufeiniaid yng Ngwent → |
PENNOD XXV.
Edrych tuag Adre'.
UN bore heulog yng ngwanwyn 1785, mawr oedd y cyffro yn Staten Island ar ymadael o un o longau'r brenin George am yr hen wlad gan ddwyn gyda hi rai ugeiniau o'r milwyr a fu'n ymladd brwydrau'r teyrn hwnnw yn y trefedigaethau coll.
Wedi'r "ysgydwad llaw" olaf cliriwyd y planciau a'r canllawiau, taflwyd y rhaffau i'r bwrdd, a dechreuodd y llestr symud ymaith oddiwrth y lan.
Wrth y gynwel safai Wat, ac wrth ei ochr y briodferch a enillasai ef mewn ffordd mor hynod yn nhir y rhyfel. Yn ol arfer mordeithwyr yn gyffredin daliasant i syllu ar y lan hyd nes yr ymsoddodd honno o dan yr orwel, gan chwifio eu cadachau cyhyd ag yr atebid hwynt gan y bobl a adawyd ar ol.
"On'd yw'r byd yn un bach wedi'r cwbwl, Watkin?" ebe'r Gymraes wrth ei chymar, er ei fod mor fawr o sylwi arno o'r llong yma? Dyna chi bwy ddydd, yn cwrdd â Major Moore yn New Jersey, ar ol ei weld yn Aberhonddu a'r Plough cyn hynny. A dyma ninna'n dou wedi tynnu at ein gilydd yma ddwywaith, heb wedi gweld 'n giddyl o gwbwl yn yr hen wlad, er ich'i fod droion yn y Lamb and Flag a'r Banwen, a finna'r un peth ym Mhenderyn a Hirwa'n. Hylo! Beth ma'r dyn'on yco'n tyrru at fôn y mast?"
"P'id'wch hit'o am danyn' nhw Marged, dewch am dro round i'r dec gyda fi. Fe fydd yn well i ni fwynhau'r môr tra gallwn ni."
Hyn a ddywedodd Wat am y gwyddai ef mai casglu at ei gilydd i hapchwarae oedd rhai o'r teithwyr. "Hyn a fu rhai ohonoch chwithau, ebe fe wrtho'i hun mewn hunan gondemniad, ond "Diolch i'r nefoedd am oleuni gwell."
Ac felly dygodd ei wraig i ben blaen y llong, ac wedi eistedd i lawr yno, buont drwy y prynhawn yn syllu ar brydferthwch natur o'u cylch, y morgesig yn ymlid ei gilydd gan ysgwyd eu myngau gwynion, a'r gwylanod cyn wynned a hynny yn galw y naill ar y llall wrth farchog yr awel.
Yn y man canodd y gloch yn alwad ar i bawb fynd i'w hwyrbryd yn y prif gaban, ymwasgarodd y cynhulliad wrth fôn yr hwylbren, ac aeth Wat, gyda'i briod yn pwyso ar ei fraich, heibio iddynt er cyrraedd eu lle priodol.
Drannoeth a thrennydd, rhwystrodd y tywydd tymhestlog y teithwyr i fyned i'r bwrdd, a dyna'r rhan anhyfrytaf o'r daith, y llestr yn rholio yng ngafael yr hyrddwynt, a'r bobl, lawer ohonynt, yn sâl gan glefyd y môr, ac yn gaeth yn eu cabanau cyfyng.
Ar y pedwerydd dydd peidiodd y gwynt mawr, ac er ei bod eto yn oer iawn mentrodd nifer i'r bwrdd.
"Otych chi'n meddwl, Marged, y gellwch chi dd'od i'r dec ar 'y mraich i?" ebe Wat wrth ei briod. Mae yno rwpath gwerth i' weld. Dotwch 'ch clocyn yn dyn am 'ch ysgwydda' a dewch lan!"
Wedi cyrraedd y bwrdd synnwyd Marged o weld nifer o rewfryniau arddunol o fewn ychydig bellter iddynt.
"Ond y'n nhw'n bert?" ebe hi, ac mor lân!"
"Ie," ebe Wat, gan wasgu ei chlôg yn dynnach am dani, "ac mor oer hefyd. 'Rwy'n siwr fod yn well gan y capten fod hebddy' nhw, wa'th ma' nhw'n beryclus os do'n nhw'n rhy acos. Ond y maent yn werth idd 'u gweld am unwaith. 'Drychwch ar y twr gwyn mawr yco, mae e' fel clochty eclw's."
Ag ef eto yn siarad syrthiodd y twr pigfain yn deilchion, ac atseiniodd twrf ei gwymp o'r un rhewfryn i'r llall fel pe bai grechwen taran Awst.
"Mae hi'n mynd yn oerach, Marged. Gadewch inni fynd 'nol," ebe'r Cymro, a disgynasant i gyrchu eu caban unwaith eto.
Tecau a wnai'r tywydd y dyddiau wedyn, yn gymaint felly ag i wneud rhodio'r bwrdd yn hyfrydwaith i bawb. Yr oedd pobl bôn yr hwylbren hefyd wedi dyfod at ei gilydd eto, ac yr oedd twr arall o ddynion wrth yr un gwaith yng nghysgod y bâd gyferbyn â hwynt.
"Beth sydd gan y dyn'on yna i'w catw am oria' yn gylch i sylwi ar yr un peth o hyd? 'Does dim un o hon' nhw'n cwnnu'i ben."
O, gamblo, Marged fach. Tawlu disha' am arian y ma' nhw, a'r sharpers yn gofalu i ble ma'r arian yn mynd yn y pen draw. Fe fuo i mor ffol a cholli'm harian wrth yr un peth gynt. 'Ro'dd ennill ne' golli yn y pit er cyn'rwg o'dd hwnnw, yn fil gwell na llawio'r disha', o'dd wir. 'Roech chi'n son am y Banwen gynne'. Wn i a weta's i wrthoch chi am y peth a a'th a fi yno? Na, 'dwy' i ddim yn meddwl i fi 'neud. Wel, dyma fe!"
Yna adroddodd Wat wrth wraig ei fynwes yr holl hanes am Beauty, am ennill ohono y mochyn ar y Banwen, ac am ei ufuddhau i'w gydwybod trwy ddwyn y gini yn ol i wraig y collwr.
Wel, ma' unpeth yn well yn Lloegr Newydd nag yn yr hen wlad, 'do's dim cymaint o gamblo yno o gryn dipyn. Mewn tafarn 'row'n i'n gwasnaethu, fel gwyddoch chi, ond wela's i ddim tawlu disha' cyn d'od i'r llong 'ma. Un strict o'dd Mr. Van Hart mae'n wir, ond ni wela's i neb yn 'nelu at y gamblo 'chwaith. Ond o ran hynny fe glywa's Mr. Van Hart yn dweyd lawer tro fod 'i dad a'i dadcu ef yn strictach hyd 'n o'd nag o'dd e'i hunan, a'u bod wedi d'od ma's o Loegar o achos 'u crefydd, ac fe greta' i hynny'n rhwydd, taw ddim ond am
"Land Ahead!" Neidiodd pawb ar eu traed, —Wat, Marged, a'r hapchwaraewyr oll, i syllu i gyfeiriad blaen y llong, er gweld y tir yr oedd pawb mewn cymaint awydd am ei gyrraedd.
Yn rhyfedd iawn rhyddhaodd y waedd dafod pob teithiwr, a siaradai pobl â'i gilydd yn awr na ynganasant air y naill i'r llall cyn hynny.
"We'll make Gower in an hour," ebe un. "Bristol tomorrow morning if this breeze 'll hold," ebe arall. Ac o ddechreu siarad fel hyn, bu siarad am bethau eraill, eu cynlluniau, a'u gobeithion ar ol glanio.
Fe ddaliodd y brisyn yn eithaf ffafriol, a chyn troi o'r Cymry i fynd i'w caban am y nos, yr oedd Wat wedi adnabod ffurf y mynyddoedd a safent yn yr asur y tu ol i gyffiniau Margam a Chastellnedd.
"Dyco Farch Hywel, ar f'encos i, Marged!" ebe fe yn wyllt wrth ei briod, ac er fod y briod honno ond y bore hwnnw wedi ei geryddu am ddywedyd ei "Ar f'encos i, ei fyn asgwrn i, a'i ar f'ened i," gwenodd hithau yn awr mewn boddhad. Oblegid onid oedd March Hywel yn golygu hefyd Gwm Nedd, y Banwen, a'r bwthyn bach wrth y Lamb and Flag?
Deffrodd y teithwyr fore trannoeth o glywed llawer o gerdded yn ol a blaen uwch eu pennau, o glywed llwbian y rhaffau ar eu taflu yn sypynnau yma a thraw, ac o glywed aml glonc y cadwyni yn taro ar y bwrdd.
"Cwnnwch, Marged! Dyma ni yn Bryste, s' dim dowt. Diolch i'r nefo'dd am ddaear Duw unwa'th yto!"
"Ia," ebe hithau, "a diolch am Ei ofal am dano'n ni drwy'r cwbwl i gyd, ond iefa, Watkin?"
"Ia, 'merch i, ia'n wir!" ac am na wyddai yr hen ymladdwr ceiliogod am well ffordd i ddatgan ei ddiolchgarwch ymhellach, fe a ymblygodd at ei wraig, ac a'i cusanodd.