William Jones (Nofel)/Pennod 14 - Awyr Iach

Oddi ar Wicidestun
Pennod 13 - Eleri William Jones (Nofel)

gan T Rowland Hughes

Pennod 15 - Un Garw

PENNOD XIV

AWYR IACH

Nid oedd fawr ym mhen Wili John. Dyna, o leiaf, oedd barn y teulu yn Nelson Street, a theimlent yn falch iddo adael yr ysgol pan wnaeth hynny a chael lle yn siop Mr. Lewis y cigydd. Nid oedd ef na cherddor na llenor nac actor nac adroddwr, a phan geisiai ddysgu adnod ar gyfer Cwrdd Chwarter yr Ysgol Sul, byddai'n ei dweud wrtho'i hun bob dydd am wythnos ac yn sicr o'i hanghofio wedyn yn y cyfarfod. Y mae'n wir ei fod yn aelod selog o Uwch—Adran yr Urdd ac o Glwb y Bechgyn, ond pur anaml y gwelid ef ar y llwyfan yn y cyngherddau a drefnid ynddynt. Bu'n un o dyrfa'n gweiddi "Bw!" mewn rhyw ddrama, a manteisiodd unwaith ar ddyfais o'r enw "cydadrodd" i fwmian rhywbeth tu ôl i ddyrnaid o barotiaid eiddgar.

Er hynny, yr oedd pawb yn hoff o Wili John ac o'r wên fawr a ddatguddiai ei ddannedd amlwg ac anwastad i'r byd o fore hyd hwyr. Dyna'r gwas mwyaf gweithgar a gawsai ef erioed, meddai Mr. Lewis, ac yr oedd ganddo ddwylo medrus a pharod iawn. Ei haelioni oedd ei brif ddiffyg. Gan fod rhywun di—waith ym mhob tŷ ymron ym Mryn Glo, anghywir braidd oedd syniadau Wili John am y pwysau ar y glorian. Edrych i ffwrdd a wnâi Mr. Lewis pan bwysai Wili John frôn neu ddarn o gig i wraig go dlawd, neu pan wthiai "scrag-end" i mewn i'r parsel. Yn ffodus iawn, adar o'r unlliw oedd y ddau, ac ni chraffai'r gwas yntau ar glorianwaith esgeulus ei feistr.

Er yr ymddangosai mor llon a di-hîd, poenai Wili John gymaint â neb ynghylch afiechyd ei dad, ac un noson yn y gwely, pan droes ei ewythr ar ei ochr dde i gysgu, meddai,

"Wncwl William?"

"Ia, Wili John?"

"Mynd yn wath ma' Dada, ontefa?"

"O, faswn i ddim yn deud hynny, 'ngwas i. Mae o wedi cael pylia' fel hyn o'r blaen ac wedi dŵad trostyn nhw'n iawn."

"Dyw a ddim yn dod lan i'r 'lotment 'da chi 'nawr."

"Nac ydi, a 'dydw' i ddim yn gweld bai arno fo. Hen laddfa ydi dringo i fyny i fan 'no, ac mi fydda' inna'n teimlo fel rhoi'r gora' i fynd yna. Ddoe ddwytha' yr oeddwn i'n deud wrth Shinc—wrth dad Gomer—fy mod i'n colli fy ngwynt yn lân ...'

"Ond 'dyw a ddim yn mynd lawr i'r Workmen's 'nawr, Wncwl."

"O, mi fedra' fo fynd i lawr yno bob bora 'tasa' fo isio, ond, fel y gwyddost ti, mae'r papura' newydd 'na fel pe'n trio dychryn pobol y dyddia' yma ac mae'n well iddo fo beidio â'u darllan nhw. Mae'r rhyfel 'na yn Sbaen yn ddigon i godi ofn ar ddyn."

"Digon o awyr iach a gorffws 'wedodd y Doctor, ontefa?"

"Ia. Paid ti â phoeni amdano fo, 'ngwas i.... Nos dawch rwan."

"Wncwl William?"

"Ia?"

"Ma' sgîm 'da fi."

"O?"

"Ôs, i fynd â fa mas i'r wlad. Ma' tandem 'da Mr. Lewis a ma' fa 'di addo'i fencid a i fi."

"I be', dywad?"

"Fe all Dada ishta arno fa, dim ond ishta'n dawal fach, a fe wna' i bopath arall. Fe fydd a'n cal digon o awyr iach weti 'ny, on' fydd? Beth ych chi'n feddwl o'r sgîm, Wncwl?" "Dim llawar, mae arna' i ofn."

"Pam?"

"Tasa' pob gallt yn rhedag i lawr a byth yn mynd i fyny, mi fasa'r cynllun yn un go lew, wsti. Ond be' wnei di wrth orfod dringo?"

"O, 'i bwsho fa. 'Fydd dim rhaid i Dada ddod lawr, 'ych chi'n gweld. 'Odi'r sgîm yn O.K., Wncwl?"

"Mae 'na ddau wrthwynebiad yn dwad i'm meddwl i, fachgan."

"Beth nhw?" "Yn y lle cynta', 'fedrat ti mo'i wthio fo i fyny gallt serth."

"Na allwn i!"

"Na fedrat. Mae dy dad yn ddyn go fawr, wel 'di."

"Pwy sy'n gweud na allwn i ddim mo'i bwsho fa?"

"Dos i gysgu 'rŵan, 'ngwas i. Mi wyddost un mor sâl wyt ti am godi yn y bora."

"Pwy sy'n gweud na allwn i ddim mo'i bwsho fa? 'Odych chi'n barod i mi drio'ch pwsho chi?"

"Ac yn yr ail le, 'fydda' dy dad ddim yn fodlon iti 'i wthio fo drwy ganol pobol—i fyny'r allt ym Mryn Glo 'ma, er enghraifft. Mae dyn sâl yn groen—dena', wsti."

On i ddim wedi meddwl 'i bwsho fa lan trw' Fryn Glo. Meddwl mynd ar yr hewl dop 'on i a lawr drw' Alfred Street a Stub Street i hewl Ynys-y-gog."

"Fedrat ti byth mo'i wthio fo'n ôl i fyny Alfred Street, Wili bach. Dos i gysgu 'rwan, 'machgan i."

"Odych chi'n ddigon o sbort i drio, 'ta'?"

"Trio be'?"

"Ma' half-day 'da 'fory. 'Odych chi'n gêm i ddod 'da fi ar y tandem i Ynys-y-gog?"

"Ond 'fedra' i ddim reidio beic, Wili John. Dos i gysgu, 'r hen ddyn."

"S dim ots am 'ynny. Fi fydd yn reido a dim ond ishta arno fa fyddwch chi, Wncwl. 'Odych chi'n gêm?"

"O, o'r gora', ond dos i gysgu, da chdi."

"Nos da, Wncwl."

"Nos dawch, 'ngwas i."

Trannoeth, pan ddaeth Wili John adref i'w ginio, gwthiodd dandem i orffwys yn erbyn mur y tŷ. Cofiodd William Jones yn sydyn fod arno eisiau dychwelyd rhyw bapur Comiwnyddol i dŷ Shinc. "I b'le 'ych chi'n mynd, Wncwl?"

"Isio rhedag â hwn i dŷ tad Gomer. 'Fydda'i ddim dau funud."

"Ma' fa mas."

"Ymh'le?"

"Yn Nhre Glo. 'Odd a'n mynd i ddala'r bws pan on i'n dod sha thre. Gomer!"

Daeth Gomer Rees i mewn atynt o'r stryd; ef oedd gwar—chodwr y tandem.

"Cer â'r papur 'ma i'r tŷ. A gwed taw o' wrth Wncwl William ma' fa."

"O.K."

Estynnodd William Jones y papur i Gomer.

"Diolcha di i'th dad drosta' i pan ddaw o adra o Dre Glo, a dywad wrtho fo ..."

"Tre Glo?" Edrychodd Gomer braidd yn syn, ond gwelodd y winc a roes Wili John arno.

"Mi bicia' i i lawr i'r Post 'rŵan, tra bydda' i'n cofio, Meri."

A thynnodd William Jones o'i boced lythyr a ysgrifenasai at Fob Gruffydd.

"Post 'di cau," meddai Wili John â'i geg yn llawn o fwyd.

"O, mi werthith David Morgan stamp imi, yr ydw i'n siŵr.

"Mae gin i stamp yn y jwg 'na," meddai Meri, ac ni ddeallai o gwbl pam y tremiai ei brawd mor hyll arni.

"Reit. Fe'i postiwn ni fa yn y pillar—box yng ngwaelod Stub Street, Wncwl."

Nid oedd modd dianc, ac wedi iddo draflyncu'i ginio, arweiniodd Wili John ei ewythr allan i edmygu'r tandem. Daeth Mot gyda hwy, gan brancio a chyfarth mewn llawenydd mawr fel petai yntau am gael marchogaeth y peiriant. Llwyddodd Gomer Rees i gydio yn ei goler a'i dynnu i mewn i'r tŷ, ac yna i ffwrdd â hwy ar hyd y ffordd ddibreswyl a redai uwchlaw'r pentref i ben Alfred Street. Ceisiai William Jones ymddangos yn ddifater, ond pan roed y beic i bwyso yn erbyn y clawdd uwch serthni Alfred Street, llyncai ei boer mewn ofn.

"Reit, Wncwl?"

"Ond 'fedra' i ddim reidio'r peth, Wili John."

"S dim isha i chi, dim ond ishta arno fa, w."

"Ia, ond 'fedra' i ddim cadw fy nghydbwysedd."

"Fe ofala' i am 'ynny, Wncwl, dim ond i chi ishta'n stedi. 'Odych chi'n moyn y dop côt 'na?"

"Wel, nac ydw', am wn i, fachgan. Mi reda' i â hi'n ôl i'r tŷ. 'Fydda'i ddim chwinciad."

"Gomer!"

Dilynasai bachgen Shinc hwy o hirbell. Rhedodd tuag atynt yn awr.

"Cer â thopcôt Wncwl William yn ôl i'r tŷ, Gomer. A beth am y fowlar 'na, Wncwl, rhag ofn i'r gwynt 'i hwthu hi i goll."

Tynnodd William Jones ei gôt fawr a'i het galed, a cheisiodd Gomer edrych mor ddifrifol â sant wrth eu cymryd oddi arno. Yna safodd gerllaw i wylio'r ymadawiad.

"Dos â nhw 'rŵan, Gomer, 'ngwas i," meddai William Jones, gan deimlo braidd yn yswil mewn cwmni.

"O.K." Ac ymaith â Gomer yn araf deg yn wysg ei gefn. Rhoes y chwarelwr droed pryderus ar y droedlath, a chydiodd â'i law chwith ym mraich y peiriant. Gafaelodd â'i law arall mewn clwmp o redyn a dyfai uwchben y clawdd, ond yn lle ei godi ei hun yn bwyllog a gofalus, ceisiodd roi naid wyllt ar gefn y tandem. Yn anffodus, rhyw redyn wedi hen flino ar bridd caregog pen y clawdd oedd hwnnw ac yn falch o ryw esgus i'w ddiwreiddio ei hun. Aeth William Jones ar ei wyneb tros freichiau'r beic.

Bu'r ail gynnig yn fwy llwyddiannus. Cydiodd yn un o gerrig y clawdd y tro hwnnw, a llwyddodd i eistedd ar y tandem o'r diwedd.

"Aros, Wili John, aros, hogyn!"

"Nid fi sy'n 'i bwsho fa, Wncwl. Chi sy'n gwasgu ar y pedal."

Coesau William Jones a oedd yn rhy fyr, ac felly rhoddai ei bwysau ar yr uchaf o'r ddwy droedlath, gan ddechrau gyrru'r peiriant i lawr yr allt. Ond llwyddodd Wili John i'w arafu a'i ddal yn wastad. Erbyn hynny daethai'r droedlath arall yn uwch a gallai traed y marchog fod yn gytbwys ar y ddwy wedyn.

"Odych chi'n reit 'nawr, Wncwl?"

"Ydw', am wn i, wir, fachgan. Ond yr ydan ni'n siŵr o dorri'n coesa', wsti."

"Na, ma' brêcs da ar hwn. Citshwch chi yn y clawdd tra fydda' i'n neido arno fa."

Yn y pellter, cuddiodd Gomer Rees gôt a het William Jones tu ôl i lwyn o ddrain, a brysiodd yn ei ôl tua phen y rhiw y i fod yn dyst o'r hunanladdiad. Erbyn iddo gyrraedd yno, yr oedd y tandem ar hynt ansicr a throellog i lawr yr allt a chột agored William Jones fel adanedd yn y gwynt.

"Cymar bwyll, Wili John! Y brêc, y brêc!"

Arafodd y gyrrwr, ond gan y teimlai hi'n haws i reoli'r peiriant pan âi'n weddol gyflym, rhoes ei ben iddo eto cyn hir. Cododd adanedd William Jones eilwaith, ond gan y gwyddai na fedrai hedfan, cydiodd yn dynnach ym mreichiau'r beic a chaeodd ei ddannedd. Aent heibio i dai a rhai o bobl Alfred Street, ond ni sylwodd ef yn fanwl ar un ohonynt. Ni chlywodd chwaith ryw ddyn anfoesgar yn gweiddi, "Oi, Dai, Carnifal Cwm Sgwt, myn yffarn i!"

Ar William Jones yr oedd y bai am y ddamwain, nid oes dim dwywaith am hynny. Dadleuai ef nad oedd Wili John yn hanner call, neu ni fuasai wedi meddwl am y fath anturiaeth; yn wir, aeth mor bell â mwmian rhywbeth am feipen ar ys—gwyddau rhywun. Ond hel esgusion yr oedd wrth ddefnyddio geiriau felly, a'r gwir plaen yw mai ei draed ef a lithrodd ac iddo gydio'n wyllt yng nghôt ei gydymaith. Beth bynnag, crwydrodd y tandem yn feddw gaib ar draws Stub Street a thros y palmant ac ar wib i mewn drwy'r drws agored i'r tŷ y galwasai William Jones ynddo i chwilio am Fot un diwrnod yn nechrau'r flwyddyn. Yn ffodus iawn, ni chwaraeai'r plentyn budr a charpiog yng ngwaelod y grisiau'r tro hwn, neu dyn a ŵyr beth a ddaethai ohono yn y traffic annisgwyl. Adnabu'r chwarelwr y tŷ ar unwaith oddi wrth y papur lliw—iog a oedd yn hongian yn rhimynnau ar fur y grisiau digarped, ac ymhen ennyd daeth y cawr blêr a digoler o'r gegin, wedi'i wisgo'n hollol yr un fath ag yr oedd o'r blaen. Yr oedd golwg chwyrn a bygythiol arno; credasai ef mai rhai o blant y stryd a aflonyddai ar ei heddwch, a daethai yno i roi diwedd ar un neu ddau ohonynt. Syrthiodd ei geg fawr yn agored pan welodd ddau ŵr ar dandem fel pe'n bwriadu dringo'r grisiau ar y peiriant.

"B'le ddiawl ych chi'n trio mynd?" gofynnodd.

"D...d... damwain," eglurodd William Jones. "M. mae'n wir ... wir ddrwg gynno' ni. Ond ydi, Wili John?"

"Odi. Dewch lawr o arno fa, Wncwl."

"Ia, yntê?" Yr oedd William Jones ar gefn y peth o hyd.

Wedi i'w ewythr lwyddo i gamu o'r neilltu yn y cyntedd cul, gwthiodd Wili John y beic yn ôl i'r stryd. Crafodd dipyn ar y drws wrth fynd allan.

"Fe fydd isha peinto hwn 'nawr," meddai'r dyn blêr yn drisi "Fe gostith 'weigen i fi."

"Alwch y bil i'r offis 'co," oedd sylw parod Wili John wrth droi ymaith.

Tawedog iawn oedd y ddau wrth ddringo'r allt tuag adref. Chwibanai Wili John bob tro yr âi heibio i bobl ar y stryd, ond tawai wedyn nes dyfod at y rhai nesaf. Ceisio cymryd arno nad oedd ganddo ef un cysylltiad agos â'r peiriant a wnâi William Jones, gan ddatblygu diddordeb eithriadol yn nrysau a ffenestri'r tai.

Tynnent at ben Alfred Street pan gofiodd am y perygl enbyd yr oedd Crad ynddo.

"Wili John?" "Ia?"

"Wyt ti'n cofio'r ddadl gawsom ni ynglŷn â gwthio dy dad i fyny gallt go serth?"

"Odw'."

"Beth petawn i'n ista ar y peth 'ma 'rŵan a thitha'n drio fy ngwthio i? Mi gei di weld mor anodd fydd hi."

"Odych chi'n credu na alla' i ddim?"

"Ydw'."

"Reit. Lan â chi."

Dringodd William Jones i'r sedd ôl, a gwyrodd yn beryglus a bwriadol i un ochr. Yr oedd dal y peiriant yn wastad yn fwy nag a allai Wili John ei wneud.

"Dych chi ddim yn balanso, w."

"Rhaid iti gofio 'i fod o'n waith go anodd, 'ngwas i, a'r peth ddim yn mynd. Mi driwn ni eto."

Yr un fu eu profiad yr ail a'r trydydd tro, ac ar y pedwerydd syrthiodd William Jones a'r tandem yn llipa i'r ffordd.

"Un waith eto, Wili John."

"No ffiar. Nid fi sy bia'r tandem."

Pan ddaethant i Nelson Street, yr oedd y gôt fawr a'r het galed newydd gyrraedd o'u blaen, meddai Meri. Newydd gyrraedd? Ni ddeallai William Jones hynny o gwbl. Os nad oedd y Gomer Rees bach 'na wedi aros ym mhen y rhiw a'u dilyn wedyn i weld y ras. Ac wrth iddo feddwl am y peth, gwelsai rywun go debyg iddo'n sleifio drwy'r lôn fach yng nghefn Stub Street. Ond efallai mai gwneud cam â'r bachgen Cafodd Wili John dafod gan ei dad pan glywodd ef hanes yr helynt, ac yna brysiodd Crad i'r parlwr i nộl rhywbeth. Gan iddi ei glywed yn pesychu'n o ddrwg yno, aeth Meri ato cyn hir, a dychrynodd wrth weld y dagrau yn ei lygaid.

"Be' sy, Crad bach?" gofynnodd.

"Mi rown i bumpunt am weld William ar gefn y tandem 'na pnawn 'ma. Ond ydyn nhw'n ddau o rai da!" A bu bron i Grad â thagu wrth chwerthin.

Ar y dydd Mercher cyntaf ym Medi y digwyddodd hyn, a buasai'r pentref yn ferw drwyddo ers rhai wythnosau. Dole neu beidio, yr oedd yn rhaid i Fryn Glo gael cynnal Carnifal yr Ysbyty y prynhawn Mercher wedyn. Hoffwn iti ailddarllen y frawddeg uchod, ddarllenydd hynaws, ac yna eistedd yn ôl i weld ei llawn ystyr mewn darluniau lliwgar. Efallai iti deithio yn Llydaw neu Iwerddon, ond oni welaist ti Garnifal yr Ysbyty ym Mryn Glo, ni welaist ti ddim byd erioed. Rhoddai'r paratoi ar ei gyfer waith i'r di—waith am ddeufis cyfan, a mawr oedd y cyffro a'r prysurdeb fel y nesâi'r Dydd. Mentrodd rhyw ddyn crefyddol, â hysbyslen enfawr ar ei gefn, ddadlau nad oedd gan drueiniaid gwael y llawr, yn arbennig rhai a oedd yn byw ar elusen, hawl i ymhyfrydu mewn gwag beth fel carnifal; aed ag ef yn syth i'r Ysbyty pan lwyddodd Sam Pierce ac eraill i'w lusgo ef a'i hysbyslen o'r afon.

Rhannau pwysicaf y Carnifal, wrth gwrs, oedd y bandiau gasŵc (sut goblyn y mae sbelio'r gair, ni wn i ddim, ond gwyddost beth yw gasŵc—yr offeryn—ceg bychan hwnnw sy'n gwneud sŵn fel canu drwy grib â phapur amdani), ond ceid hefyd, ymhlith pethau eraill, gystadleuthau i geisio darganfod merch brydferthaf a babanod brafiaf yr ardal. A chyda'r nos, wedi i'r band buddugol ddianc i'r Miner's Arms ac i'r Frenhines fynd i grwydro'r pentref yn falch—ddifater ac i'r babanod dychrynedig syrthio i gwsg anesmwyth yn eu gwelyau, cynhelid mabolgampau.

Er ei fod ef yn rhy brysur yn y siop i gymryd rhan flaenllaw yn y trefniadau, diwrnod mawr i Wili John oedd dydd y Carnifal, ond poenid ef yn arw gan y newydd na allai ei dad fentro i lawr i'r pentref i wylio'r orymdaith.

"Wncwl William?"

"Ia, 'ngwas i?" Yn y gwely yr oeddynt.

"Ma' sgîm 'da fi."

"Oes, mi wn, ond cer i gysgu rŵan, 'r hen ddyn."

"Ond ma' hi'n sgîm grêt, w."

"Ydi, mae'n siŵr, ond mae hi wedi un ar ddeg, Wili John."

"Ma' Mr. Lewis yn siŵr o roi bencid y cart a'r gasag i fi ddydd Mercher."

"I benthyg nhw i be?"

"I fynd â Dada lawr i weld y Carnifal."

"Wyt ti wedi gofyn iddo fo?"

"Nagwi."

"O, mae'n well iti beidio, fachgan. Yr ydw i bron yn sicir na ddôi dy dad ynddo fo hefo chdi. Mae o'n swil iawn, fel y gwyddost ti."

"Fe ddaw e os dewch chi, Wncwl, a fe allwn ni fynd lawr yn gynnar a throi miwn wrth y Workmen's i weld y prosesion.

'Odych chi'n gêm?"

"Dos i gysgu 'rŵan, Wili John."

"Odych chi'n gêm?"

"Mi fydd pobol yn meddwl ein bod ni'n rhan o'r Carnifal, weldi."

"Dim ffiar, os ewn ni lawr sha thri a throi miwn i'r gwli wrth yr Hall. 'Odych chi'n gêm?"

"O, o'r gora'. Nos dawch, 'rwan."

"Nos da, Wncwl ... Ac ar ôl i'r prosesion fynd i'r cae, fe awn ninna' ar 'i ôl a, 'chi'n gweld. A ma' Queen, y gasag, fel ôn bach, w."

"Ddaw dy dad byth hefo ni, mi gei di weld."

"Fe gewch chitha' weld, 'êd. Gw—neit."

"Paid ti â sôn gair wrtho fo tan ddydd Merchar. Mae gin inna' sgîm."

Y bore Mercher canlynol, aeth William Jones i fyny i'r alotment, a phan ddychwelodd i'r tŷ tuag amser cinio, yr oedd yn gloff iawn.

"Yn eno'r annwyl, be' sy wedi digwydd, William?" gofyn—nodd Meri.

"Troi fy nhroed ddaru mi, hogan, ar waelod yr hen lwybyr 'na. Ond mi ddaw o ato'i hun mewn munud."

"Wyt ti'n meddwl y medri di ddiodda' dal dy ffêr mewn dŵr oer am dipyn? Mae hynny'n beth reit dda, meddan' nhw."

"O'r gora'. 'Dydi o ddim yn boenus iawn."

Pan ddaeth Wili John i mewn, yr oedd ei ewythr yn tynnu wynebau wrth ostwng ei droed dde i badellaid o ddŵr oer. "Wncwl William wedi troi 'i droed yn o ddrwg," eglurodd ei dad wrtho.

"Ond beth am y Carnifal, Wncwl?" oedd cwestiwn pryderus Wili John.

"Fedra' i ddim mynd yno, mae arna' i ofn, os na cha' i rwbath i 'nghario. Piti hefyd, a finna' wedi edrach ymlaen at weld yr orymdaith." Prin yr oedd angen y winc a daflodd ar ei nai.

"Os galla' i gal bencid cart a chasag Mr. Lewis, 'odych chi'n barod i ddod lawr yn 'wnnw?"

"Ydw', am wn i. A mi ddaw dy dad i gadw cwmni imi, yr ydw i'n siŵr."

"Ddaw o? 'Dydi'r bôi yma ddim yn mynd mewn cart bwtsiar i ganol un prosesion, William."

"Na finna'. 'Wnes i ddim meddwl am hynny, Crad."

"Ma'n rhaid i chi ddod, Wncwl William. As os ewn ni lawr yn gynnar a throi miwn i'r gwli wrth ochor y Workmen's ..." "Na." Ysgydwodd William Jones ei ben. "Ond mi liciwn i ddŵad hefyd, fachgan. Be' wyt ti'n feddwl wrth 'gynnar?"

"Sha thri. 'Fydd neb obothdu pryd 'ynny."

"Ond be' wnawn ni wrth y Workmen's yr holl amsar tan bedwar pan fydd y carnifal yn dechra'?"

"Fe ellwch chi fynd miwn i'r Hall i ishta. Fe 'rosa' i tu fas, 'da'r gasag. 'Ddewch chi?"

"Wel, wir, yr wyt ti'n ffeind iawn, fachgan. Ond ydi o, Crad? Ond 'falla' y medra' i lusgo i lawr yno, wedi'r cwbwl, wsti." Yr oedd William Jones wrthi'n sychu'i droed, a gwthiodd hi i mewn i'w esgid. Gwingodd pan geisiodd roi pwysau arni. "Na fedra', wir, mae arna' i ofn. Ac eto, mi rown i rwbath am gael gweld yr orymdaith 'na. Mi gollis i un y llynadd ac un Gŵyl Lafur, a 'rwan dyma'r hen droed goblyn 'ma ..."

"Dos i ofyn i Mr. Lewis ar ôl cinio, Wili John," meddai Crad. "Mi gawn ni'n tri reid yn y cart, er mwyn i Wncwl William gael gweld Carnifal am unwaith."

Wedi iddynt gau Mot yn y cefn, tywysodd Wili John y gaseg yn araf a phwyllog i lawr y pentref, a dau ŵr yn y cart a dynnai yn gwenu a nodio ar bawb ar fin yr heol. Medrodd yr un cloff lusgo gyda'r llall i mewn i Neuadd y Gweithwyr am ryw hanner awr, ac yna dringodd y ddau eilwaith i'r cart i gael golwg ar yr orymdaith a ddeuai heibio cyn hir. Gan fod tipyn o godiad tir wrth ochr y Neuadd, yr oeddynt mewn lle pur fanteisiol i fwynhau'r olygfa. Yn ffodus, nid oedd ond ychydig o bobl ar ochr y ffordd yn y fan honno; tyrrai'r rhan fwyaf yn is i lawr, i gyfeiriad siop yr Eidalwr a'r tro heibio i'r orsaf ac i'r cae.

"Dal di ben y gasag 'na'n llonydd, cofia, ne' ar ein penna' dros ochor y cart 'ma y bydd Wncwl William a finna'," meddai Crad pan glywodd sŵn y bandiau yn y pellter.

Cerddodd Sam Pierce a dau blisman o Dre Glo ar flaen yr orymdaith, a dilynwyd hwy gan y band cyntaf. Yn benderfynol o gipio'r decpunt o wobr, o'r cwm nesaf y daethant hwy, ac edrychai pawb arnynt gydag edmygedd oherwydd iddynt ennill mor aml o'r blaen mewn gwahanol leoedd. Goliwogiaid oedd yr aelodau, pob un wedi clymu ei drowsus yn dynn am ei fferau ac yn gwisgo côt fer a'i chotwm yn streipiau glas a gwyn. Am eu gyddfau yr oedd coler fawr wen a bwa an—ferth o ruban coch. Wynebau duon a oedd iddynt, wrth gwrs, a pheintiasai pob un gylch gwyn o amgylch ceg a llygaid. Ar eu pennau, gwallt trwchus o wlân du. Cerddent yn urdd—asol, a sicrwydd buddugoliaeth ym mhob cam, yr unig fand a chanddynt wisg barod. Ond chwarae teg i bobl Bryn Glo, rhoesant "Hwrê!" cynnes i'r dieithriaid ffyddiog hyn.

O'u hôl hwy, deuai lorri ac arni'r geiriau "THE EMPORIUM—CLOTHES FOR ALL AGES." Ynddi eisteddai hen hen wraig â phlentyn ar ei glin, ac o'i chwmpas hi safai pedair o rai eraill—geneth fach fel petai ar gychwyn i'r ysgol, merch tua deunaw, gwraig a oedd i gynrychioli rhywun deu—gain oed, ac un arall y dywedai ei gwisg ei bod tua thrigain. Cawsai Jenkins yr Emporium fenthyg y baban am ddwy awr ar yr amod bod ei chwaer, Barbara Amelia, yn cael ymddangos fel y ferch-ysgol yn y darlun. Prin yr oedd gan Jenkins hawl i ddadlau bod llygaid croes gan Barbara Amelia, ac wedi'r cwbl, gwisg y ferch a oedd yn bwysig. Yr eneth ddeunaw oed oedd honno a werthasai'r anrhegion Nadolig i William Jones, ond yn lle'r ffrog ddu a wisgai yn y siop, yr oedd amdani ddillad a dynnai sylw hyd yn oed yn Ascot. Mrs. Jenkins oedd y wraig tua deugain. Na, nid dweud yr wyf fod Mrs. Jenkins yr Emporium tua deugain oed—yr oedd ei merch, Sally, dros ei deg ar hugain—ond gwnâi ymdrech deg, er ei bod hi mor dew, i berthyn i'r dosbarth hwnnw. Wrth ei hochr hi, gan geisio dangos i'r byd sut i heneiddio'n hardd, safai mam esgyrniog Jack Bowen. Nid oedd hi na hen na hardd, ond gan ei bod hi mor gyfeillgar â'i wraig ac wedi ei chynnig ei hun i'r swydd, beth a allai Jenkins druan ei wneud, onid e?

Tu ôl i'r lorri, gwthiai Dai Llaeth goits babi. Ynddi, yn edrych yn bur anghysurus â'i liniau bron â chyffwrdd ei ên, eisteddai Eic Hopkins yn sugno potel fabi ac yn wên o glust i glust. Eic oedd gŵr tewaf y pentref a chwsmer gorau'r Miner's Arms. Sut y llwyddasai i ddringo i mewn i'r goits a oedd yn ddryswch mawr, ond câi am ei drafferth, ac am chwifio filag ac arni'r cyngor DRINK MORE MILK, bris pedwar peint o lefrith go dywyll ei liw. Taflai Dai Llaeth olwg pryderus ar olwynion y goits bob rhyw bum llath, ond er bod un ohonynt yn gwegian yn o beryglus, yr oedd ynddo lawn hyder ffydd y cyrhaeddai'r cae'n ddiogel. A phe digwyddai rhyw anffawd—wel, ei goits ef oedd hi, a gallai Eic gerdded. Dilynwyd hwy gan Ardd Eden ar olwynion. Anogai Adda ac Efa, â matiau o groen amdanynt a dail a blodau o bob math o'u hamgylch, bawb i fwyta mwy o ffrwythau. "Oi, Jim, shwd ma' hi'n dishgwl am un o'r bananas 'na, bachan?" gwaeddodd un o'r edrychwyr, a bu Jim yn ddigon annoeth i ddilyn yr awgrym. Lle go gyffrous fu Gardd Eden wedyn, gan i amryw o'r dyrfa, a'r plant yn arbennig, gredu bod yr haelioni hwn yn rhan hanfodol o'r darlun. "Shgwlwch, 'Mam, 'cw mat parlwr ni!" meddai'r ferch fach a gododd William Jones yn ei freichiau i gael gwell golwg ar yr orymdaith.

Yna, gan edrych yn ffyrnig a ffroenuchel, camodd band yr Indiaid Cochion heibio. Collasai llawer hen geiliog ei gynffon y bore hwnnw, ac addurnai'r plu yn awr benwisg y gwŷr urddasol hyn. Lliwiasent eu croen yn goch o'u talcen i'w gwasg, ond yr oedd hi'n amlwg na pherthynai pob un ohonynt i'r un llwyth, gan fod gwahaniaeth dirfawr rhwng ambell goch a'i gilydd. Sachau oedd deunydd eu llodrau, ac i lawr yr ochrau allanol rhedai ymylon anwastad fel crib ceiliog; gwelid arnynt hefyd ystaeniau cochion lle sychasai'r Indiaid eu dwylo cyn ailgydio yn eu hofferynnau cerdd. Nid edrychai'r gwŷr hyn i dde nac aswy, dim ond camu ymlaen yn filain eu trem; eu prif gamgymeriad oedd dewis darn cerddorol nad oedd yn debyg o fod yn boblogaidd ymhlith Indiaid Cochion o unrhyw lwyth—"Gwŷr Harlech."

THE BEAUTY OF BRYN GLO a oedd ar y lorri nesaf, ac addurnwyd hi â brigau gwyrddion a blodau amryliw. Ynddi safai rhyw ddwsin o rianedd teg, o bob lliw a llun—wel, o bob llun, beth bynnag. Ymgeiswyr am yr anrhydedd o fod yn Frenhines Harddwch oeddynt, a châi'r un a goronid ddwy gini a chymeradwyaeth fawr. Yr oedd rhai ohonynt fel duwiesau balch yng nghanol y dail a'r blodau, ac ymddangosai eraill yn ddifater, fel pe'n synnu eu darganfod eu hunain yno o gwbl. Safai'r gweddill yn yswil ac ofnus, gan edifarhau iddynt fentro wynebu'r dyrfa ar y strydoedd. Yr hogan fach nerfus 'na yn y ffrog las a ddewisai William Jones petai ef yn feirniad; yr oedd hi braidd yn debyg i gariad Arfon. Nid yr eneth yna a oedd wedi lliwio'i gwallt bron yn wyn, yr oedd ef yn sicr o hynny. Y gnawes fach bowld iddi hi!

Tynnai'r lorri nesaf lawer o sylw, yn arbennig ymhlith yr ifainc. KEEP FIGHTING FIT ON PRICE'S PILLS oedd y geiriau arni, a rhwymwyd rhaffau o bolyn i bolyn i gynrychioli llwyfan bocsio. Yr oedd dau focsiwr ar y llwyfan hwn, un yn swp wrth y rhaffau wedi hen 'laru ar yr ornest, a'r buddugwr, Gomer Rees, yn ysgwyd dwylo ag ef ei hun ac yn gwenu a nodio ar bawb. Pan gychwynasai'r orymdaith, yr oedd y ddau focsiwr yn gyfeillion mawr ac yn ddiolchgar i Price, y fferyllydd, am roddi iddynt hanner coron yr un. Ni fwriadwyd o gwbl i Gomer gymryd y peth o ddifrif. Daeth y trydydd band heibio, dynion duon o ddyfnder yr Affrig, pob un yn 'sgleinio ar ôl triniaeth y brwsh blacléd. Yr oedd cylchoedd pres, a fuasai'n cynorthwyo i ddal llenni'r parlwr, yn hongian wrth eu clustiau, ac am eu gyddfau gwisgent bob math o bethau—gleiniau, aeron, a hyd yn oed afalau bach-coch-cynnar. Ychydig arall a wisgent ar wahân i'r trons cwta am eu canol a'r esgidiau amryfal am eu traed. Digon yw dywedyd bod ambell un yn rhy dew ac arall yn rhy denau i fedru fforddio gadael eu dillad gartref. Ond ni churwyd drwm erioed yng nghanolbarth yr Affrig â mwy o frwdfrydedd nag y chwythai pob un o'r rhai hyn ei gasŵc.

Beiciau wedi'u haddurno a ddilynai'r dynion duonon—un fel llong hwyliau, yr ail fel awyrblan, eraill yn rhubanau lliwgar i gyd. Pan ddaeth yr hen Foses Isaac heibio ar ei "geiniog a ffyrling," rhoes pawb "Hwrê!" fawr iddo. Cadwai'r hen Foses y beic yn barchus yn y cwt yn y cefn, a dim ond rhyw unwaith y flwyddyn fel hyn y dygai ef i olau dydd. Ef a enillai'r wobr bob gafael. Tu ôl iddo ef, y cerddwyr—pâr tua saith mlwydd oed newydd briodi, a'r priodfab mewn dagrau am fod ei het silc yn gwrthod sefyll ar ei glustiau ar waethaf cymorth y Person; Charlie Chaplin yn tynnu ystumiau; dyn tebyg iawn iddo, brodor o'r Almaen, yntau'n tynnu ystumiau ac yn dal ei law i fyny i gyfarch pawb; un arall o'r Eidal, gŵr tew a oedd yn ên ac yn fedalau i gyd; Dai Loshin yn ei het fowler a'i jersi goch, yn cario pêl a bwyta cenhinen; a hen fenyw fach Cydweli yn ei gwisg Gymreig yn rhifo'i loshin du. Ac yn gynffon i'r orymdaith daeth peiriant newydd y Brigad Tân, ac edrychai'r gwŷr yn hardd yn eu helmau gloyw a'u hesgidiau uchel. Canai'r Capten y gloch yn ffyrnig, a chredodd amryw fod tân yn y pentref o'r diwedd.

Trosglwyddodd William Jones y ferch fach a ddaliai yn ei freichiau i'w mam, ac yna dechreuodd Wili John wthio pen y gaseg yn ôl tua'r stryd.

"Hannar munud, was!" gwaeddodd Crad. "I b'le'r wyt ti'n mynd?"

"Ar ôl y prosesion, Dada."

"O'n wir! Os wyt ti'n meddwl fy mod i'n mynd i ddilyn y crowd 'na, yr wyt ti'n gwneud coblyn o gamgymeriad."

"Ond pam, w?"

"Am y rheswm syml y bydd pobol yn credu ein bod ni'n rhan o'r Carnifal, 'ngwas i. Mi arhoswn ni yma nes bydd y ffordd yn glir."

Wedi i ryw bum munud fynd heibio, ac nid cynt, cytunodd Crad ei bod hi'n bryd iddynt gychwyn am y cae. Nid oedd fawr neb ar yr heol, ond pan droesant o'r ffordd bost tua'r Orsaf, fe'u cawsant eu hunain wrth gynffon yr orymdaith—yr oedd y clwydi mawr pren ar y groesffordd tu draw i'r stesion ynghau nes i'r trên pump fynd heibio i Gaerdydd. Penderfynodd tyrfa o fechgyn anystyriol roi banllef o groeso iddynt, a rhuthrodd llu o bobl yn ôl i ddarganfod achos y cynnwrf. Canodd Capten y Brigad Tân hefyd ei gloch, a chredodd y gaseg mai gwahoddiad iddi hi i ymladd y rownd nesaf oedd y Sŵn. Cododd ei phen yn wyllt a chamodd ymlaen, gan roi plwc sydyn i'r cart a gyrru Crad a William Jones yn bendramwnwgl. Ond llwyddodd Wili John i'w darbwyllo, gan egluro iddi mai gan Gomer Rees, ac nid ganddi hi, yr oedd yr hawl i focsio. Ailgychwynnodd yr orymdaith ymhen ennyd, ac yn y cae, ymunodd Crad a William Jones â'r hanner cylch a wyliai'r beirniaid yn ceisio dewis y tawelaf o'r babanod gwichlyd. Gadawsent Wili John i ofalu am Queen a'r cart, gan addo dychwelyd cyn gynted ag y byddai'r cystadleuthau drosodd, er mwyn i'r bachgen gael brysio adref i hebrwng y claf a'r cloff ac yna ruthro'n ôl i ennill y ras-rwystrau yn y mabolgampau.

Y rhianedd teg a ddringodd i'r llwyfan yn nesaf, ac yr oedd William Jones yn falch iawn pan enillodd y ferch fach nerfus yn y ffrog las. Beirniaid doeth, meddai wrth Crad. Rhoed i'r hen Foses Isaac ei gini flynyddol am ddwyn ei "geiniog—a—ffyrling" allan o'r cwt yn y cefn i lawr i'r cae, a chafodd Hitler wobr am dynnu ystumiau. Yna safodd pob lorri yn ei thro o flaen llwyfan y beirniaid. Erbyn hyn, codasai gwrth—wynebydd Gomer Rees, gan benderfynu dangos i'r byd na phallai'r nerth a oedd yn PRICE'S PILLS. Dawnsiai ef a Gomer Rees ar y lorri, ond eto unwaith, anghofiodd dwrn de Gomer mai cymryd arno daro oedd ei ddyletswydd ac, am yr ail dro mewn prynhawn byr, lloriwyd y llanc arall a syrthiodd yn llipa i hongian tros y rhaffau. Chwarddodd y beirniaida rhoi'r wobr iddynt.

Yna'r bandiau. Yr oedd hi'n dechrau glawio, a gwelai pawb na fwriadwyd inc coch yr Indiaid na blacléd y dynion duon ar gyfer tywydd gwlyb. Er hynny, canodd y ddau gôr hyn yn dda iawn, er bod blas go anfelys yng ngheg pob gŵr fel y rhedai'r glaw i lawr ei wyneb ac i'w safn, ac uchel oedd cymeradwyaeth y dorf pan ddyfarnodd y beirniaid y dynion duon yn orau. Edrychai'r Goliwogiaid yn ddig, ac anfodlon braidd oedd camau'r Prif Oliwog tuag at y Prif Ddyn Du i'w longyfarch. Ond pan dynnodd hwnnw wig y llall a'i gwisgo o ran hwyl, anghofiwyd pob gelyniaeth mewn chwerthin. Gwelodd William Jones fod Crad yn llwyd ac oer.

"Rhaid inni 'i throi hi adra 'rŵan, Crad," meddai. "Mae fy ffêr i'n boenus iawn ers meitin, fachgan. Tyd."

Porai Queen yn hamddenol yng nghongl y cae, a safai rhyw fachgen bach gerllaw'n ei gwylio hi a'r cart. Eglurodd i "Wili Bwtsiwr" roi ceiniog iddo am ei lafur.

"Lle mae o wedi mynd?" gofynnodd Crad.

"Smo fi'n gwbod."

Aeth William Jones yn ôl at y dyrfa i chwilio amdano, ond nid oedd golwg ar Wili John. Credodd unwaith iddo'i weld yn cuddio tu ôl i goits—babi Dai Llaeth, ond wedi iddo ymwthio drwy'r dyrfa ati, sylweddolodd mai camgymryd yr oedd. Dychwelodd at Grad, gan fod y glaw'n drymach yn awr.

"Mi awn ni, Crad. Mi ddreifia' i."

Aethant yn araf drwy'r pentref a William Jones yn "rêl dreifar," chwedl Crad. Ond yng ngwaelod yr allt a ddringai tua Nelson Street, pwy a oedd ar y stryd ond Meri a Mot. Llawenydd mawr i Fot oedd eu gweld, a cheisiodd ei fynegi trwy gyfarth a phrancio o amgylch coesau'r gaseg. Ceisiodd Meri ei alw'n ôl, a rhag ofn iddo ddychrynu'r gaseg, rhuthrodd Sarah Bowen, a oedd ar ei ffordd adref o'r Carnifal, ymlaen i'w yrru ymaith a'i hambarél. Defnyddiai ei llais angherddorol hefyd, a daeth Eic Hopkins o rywle i gynghori'r "ci gythral 'na" i gau 'i ben. A lle'r oedd Eic, yr oedd dau neu dri o'i gymdeithion sychedig, pob un ohonynt wedi'i fendithio â llais go gras. Rhwng popeth, yr oedd yno alanas o sơn, ac wedi ystyriaeth ddwys ond cyflym, penderfynodd Queen ddianc oddi wrtho. Ond daliodd William Jones ei afael yn dynn yn yr awenau, ac er ei fod ef a Chrad ar lawr y cart erbyn hyn, llwyddodd i berswadio'r gaseg fod dawnsio yn ei hunfan yn fwy diddorol na charlamu i fyny'r rhiw. Cydiodd un o gyfeillion Eic Hopkins yn ei phen, a thawelodd yn llwyr pan alwodd ef hi yn "gwd gel fach." Wedi i Feri afael yng ngholer Mot a'i arwain i ochr y stryd, ac i William Jones ddringo i lawr o'r cart i dywys y gaseg, aethant adref yn araf deg.

Syllodd Crad mewn penbleth ar sioncrwydd y gŵr cloff wrth ben y gaseg. Yr oedd troed yr hen William wedi mendio'n o gyflym, onid oedd? Tybed a oedd o a'r Wili John bach 'na, yn eu gwely'r nos, wedi ...? Ac wrth i rywun feddwl am y peth, nid oedd un synnwyr mewn rhoi'r ddau walch yna i gysgu hefo'i gilydd. Rhaid i Feri drio gwneud rhyw drefniant arall, neu dyn a ŵyr pa gynllwynion eraill a ddyfeisient yno. Os oedd y ddau yna'n meddwl cael hwyl am 'i ben o, yr oeddan' nhw'n gwneud coblyn o gamgymeriad. Ond daria unwaith, yr oeddan nhw wedi llwyddo'r tro yma, yr oedd hi'n rhaid iddo gyfaddef. Oeddan'.

A phob cam i'r tŷ, ar droed William Jones yr oedd llygaid ffyrnig Crad.