William Jones (Nofel)/Pennod 3 - Amynedd

Oddi ar Wicidestun
Pennod 2 - Diwrnod i'r Brenin William Jones (Nofel)

gan T Rowland Hughes

Pennod 4 - Golden Streak

PENNOD III

AMYNEDD

UN o hanfodion nofelydd gwir fawr, meddant hwy, yw'r gallu i ddarlunio cymeriad. Gyda braw, ddarllenydd hynaws, y sylweddolaf imi anghofio tynnu darlun o William Jones, arwr y nofel hon. Brysiaf i gywiro'r diffyg.

Wrth imi geisio dwyn i gof a ysgrifennais eisoes, ofnaf imi gamarwain y darllenydd. Dangosais y gwron yn fyr ei dymer ac yn dweud pethau cas wrth ei wraig ac yn bygwth ei gadael am y Sowth. Rhuthraf i'w amddiffyn. Cwynasai William Jones wrtho'i hun filwaith drwy'r blynyddoedd, gan ddioddef yn dawel a thrist. Pe cawn i fy ffordd, newidiwn y frawddeg "amynedd Job" yn "amynedd Job a William Jones." Neu— a gwell fyth—yn "amynedd William Jones" yn syml ac yn blaen. Wedi'r cwbl, bu raid i Job gael edliw a dadlau a Ena ei ddyrnau, ond pur anaml y gwnâi William Jones bethau felly.

Pam y priodasai ddynes fel yna, ynteu? Wel, y mae'r stori honno yn un go faith ac nid oes gennym le i fanylu arni yma. Wedi dwy flynedd o ymladd yn Ffrainc, dychwelodd William Jones i Lan-y-graig yn dipyn o arwr. Preifat bach fuasai yn y Fyddin, wrth gwrs, un cydwybodol a gweithgar iawn, ond ni feddyliodd neb am daro streipen ar ei fraich. Yna, yn wythnos olaf y rhyfel, syfrdanwyd ardal gyfan gan y newydd i William Jones ennill medal. Cafodd ef a'i fam weddw siwrnai i Lundain ac i blas y Brenin, a gofalai'r hen wraig ddangos y fedal i bwy bynnag a alwai yn y tŷ.

Un nos Sadwrn tua'r amser hwn y dechreuodd gymryd diddordeb yn y ferch siaradus, Leusa Davies. Digwyddai hi deithio wrth ei ochr yn y bws o Gaernarfon, ac yr oedd hi'n sâl—wedi bwyta gormod o hen geriach yn y dref, y mae'n debyg. Gofalodd William. Jones yn dyner iawn amdani a'i hebrwng adref y noson honno. Ac ar waethaf cynghorion dwys ei fam ac awgrymiadau pigog Meri ei chwaer, gofynnodd iddi ei briodi. Ac, wedi hen flino ar gybydd-dod ei thad, yr hen Isaac Davies, cytunodd hithau.

Go gyffrous fu'r cyfnod hwnnw ym mywyd William Jones. Daeth Leusa i fyw ato ef a'i fam, a threuliai ein gwron ei oriau hamdden yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y ddwy. Ac yn union tros y ffordd iddynt yr oedd cartref Meri a Chrad a'u dau blentyn, Arfon ac Eleri—Meri'n casáu'r Leusa Davies 'na â chas perffaith, a Chrad yn un go fyr ei dymer a diofal ei dafod. Cannwyll llygaid y teulu oedd y babi, Eleri, a manteisiai Leusa ar bob cyfle i'w sarhau trwy ofidio trosti. Dyna biti fod ei choesau braidd yn gam, onid e? A'i gwallt mor syth? A'i thrwyn mor fawr? A'i bod mor araf yn dod i siarad yn eglur? Ac i sylwi ar bethau? Yn wir, pe gwrandawai'r teulu ar Leusa, credent y tyfai Eleri yn rhyw anghenfil. A phrin y gwelai Arfon, y bachgen dwyflwydd, aeaf arall.

Yna penderfynodd Crad adael y chwarel am y gwaith glo. Gwnaeth William Jones—gan hanner-credu mai dianc oddi wrth Leusa yr oedd ei chwaer a'i frawd yng nghyfraith—ei orau glas i'w ddarbwyllo, ond ni wrandawai Crad ar ei ddadleuon. "Gwynt teg ar 'u hola' nhw," oedd sylw Leusa, gan ymroi i fwynhau ei bywyd fel boneddiges. "Fel boneddiges," gan mai'r hen wraig a ofalai am lanhau'r tŷ a gwneud bwyd; beth a wnâi Leusa heblaw crwydro a chlebran, ni wyddai neb. Ac felly y bu pethau am ddeng mlynedd, hyd at farwolaeth Ann Jones. Go chwithig y teimlai Leusa hi ar ôl claddu'r hen wraig: yr oedd yn rhaid iddi wneud rhyw gymaint o waith wedyn. Mwy chwithig y teimlai William Jones hi : ni wybuasai fod y fath duniau o fwyd a ffrwythau i'w cael mewn siop. Yr oedd y bwced-ludw yn hanner-llawn o'r taclau bob wythnos, a phur anaml y câi ef bryd o fwyd a fwynhâi mewn gwirionedd. Yn 1929 y bu farw Ann Jones, ac aethai chwe blynedd go annifyr heibio er hynny, chwe blynedd o fyw di-hîd a diog ar un llaw ac o amynedd arwrol ar y llall. Teg â'r gwron yw croniclo'r ffeithiau hyn.

Ond yn ôl at y darlun o William Jones. Uwchlaw coesau disylw iawn, corff cymharol lydan a graenus ar waethaf ymdrechion Leusa i'w newynu. Pen bychan ar wddf byr; gên go grwn, heb fawr o benderfyniad ynddi; gwefusau llawn, rhadlon; trwyn braidd yn smwt; llygaid mawr, breuddwydiol dan aeliau trwchus; talcen llydan yn ymestyn i ddwy fodfedd o foelni y ceisiai'r perchennog ei guddio trwy gribo'i wallt tenau, brith, i lawr arno; corun moel. Dyna William Jones, yn ŵr tros ei hanner cant. Manylais gan fwriadu cael fy nghyfrif ymhlith y nofelwyr mawr.

Ei ddillad? Fel rheol, het galed ddu am ei ben; siwt nefi blŵ bob gafael; coler las a thei du; esgidiau duon a 'sanau tywyll. Gwnâi Leusa ymdrech deg weithiau i'w gael i brynu dillad golau ac esgidiau brown, ond methiant fu pob dadl a phob her.

Dyn bychan oedd William Jones. Ni chofiaf yn iawn beth a ysgrifennais wrth ei ddilyn ef a Now Portar. Os dywedais ei fod yn brasgamu wrth ochr Now, yna gwneuthum gamgymeriad dybryd. Ni frasgamodd William Jones erioed, ac ni frasgama byth. Am y rheswm syml fod ei goesau'n rhy fyrion i wneud y fath beth. Ni wisgodd erioed siwt redi-mêd, er iddo chwilio'n ddyfal yn siopau'r dref am ddillad felly. Y gôt a'r wasgod yn ei ffitio i'r dim bob tro, ond y llodrau fodfeddi'n rhy hir. Nid oedd dim amdani ond mynd at Williams y teiliwr i gael ei fesur ac i glywed yr un ffraethineb barfog am adael i'r pentref dynnu ei goes yn amlach. Sut y camodd William Jones mewn rheng o filwyr a oedd yn ddryswch mawr, a bu'n destun trafodaeth adeiladol iawn yn y Bwl un noswaith. Rhoi dau gam am bob un i'r lleill oedd barn bendant Twm Bocsar ar ôl ei bumed peint, ac ni feiddiai neb o'r cwmni anghytuno â Thwm.

Gadawsom ein gwron ar ei ffordd i fyny'r grisiau i newid ei ddillad. Sylweddolodd, ac yntau ar y chweched gris, fod ei esgidiau hoelion mawr am ei draed o hyd. Yr argian fawr, beth a ddywedai ei fam druan, petai hi'n fyw? Camodd i lawr yn ysgafn ac aeth i eistedd yn y gadair freichiau wrth aelwyd y gegin. Tynnodd yr esgidiau, ac yna syllodd yn chwyrn ar y botel bicyls. Wrth gwrs, rhyw greadur go ryfedd oedd Now John, yn yfed yn wastadol, ond cydymdeimlai William Jones ag ef y tro hwn. Diawch, yr oedd yntau hefyd wedi bygwth mynd i'r Sowth. Dydd Sadwrn, os âi Leusa i'r pictiwrs heno. Ond ni fyddai hi mor ffôl â hynny. Dim perygl!

Aeth i fyny'r grisiau eilwaith, ac wedi iddo newid a chychwyn i lawr yn ei ôl, tybiodd y clywai besychiad yn y gegin. Pan gyrhaeddodd yno, dyna lle'r oedd Bob Gruffydd, ei bartner, yn eistedd yn y gadair freichiau.

"Wyt ti'n dŵad i'r Seiat, William?" gofynnodd.

"Ydw’, fachgan. Ond mae hi'n ddigon buan, ond ydi?"

"Ydi. Lle mae Leusa gin ti?"

"Wedi rhedag i dŷ Ifan, 'i brawd. Rhywun wedi deud wrthi nad ydi o ddim hannar da."

"Taw, fachgan!"

"Ia. 'I...'i... 'i 'stumog o."

"O. 'Ydi o yn 'i wely?"

"Y... ydi, ers oria'. Mi fuo'n rhaid i Leusa fynd ar frys —heb glirio'r bwrdd na dim."

Aeth William Jones i'r gegin fach i nôl ei esgidiau ysgeifn. Daria unwaith, heb eu glanhau! Rhwbiodd gadach yn frysiog trostynt a dychwelodd i'r gegin i'w taro am ei draed. Syllodd yn eiddigus ar y gloywder ar esgidiau ei bartner. "Wel, mi awn ni'n ara' deg, Bob," meddai. Nifer bach a oedd yn y Seiat—rhyw ddwsin o wŷr, hanner dwsin o ferched, a phedwar neu bump o blant anfoddog eu trem. Y mae'n debyg y cytunai'r plant â barn Robert Gruffydd ei bod hi'n hen bryd "gwneud i ffwrdd' â'r Seiat.

Daeth Ifan Davies dal a phwysig i mewn ar ganol yr emyn cyntaf, a theimlai William Jones yn bur anghysurus. Taflodd olwg slei i gyfeiriad ei bartner, ond ymddangosai ef fel petai wedi anghofio bod Ifan Siwrin yn ei wely'n sâl. Un anghofus iawn oedd Robert Gruffydd, meddai William Jones wrtho'i hun.

Wmffra Roberts oedd prif areithiwr y Seiat. Gan na weithiai'r hen frawd bellach yn y chwarel, treuliai ei ddyddiau'n traddodi areithiau seiatyddol wrtho'i hun hyd y lle, gan ymbaratoi'n gydwybodol iawn ar gyfer y brodyr a'r chwiorydd yn Siloh. Gallai Mr. Lloyd y Gweinidog fod yn berffaith sicr y llanwai Wmffra Roberts chwarter awr o amser y Seiat, a bendith fawr oedd hynny a'r cwmni'n un mor dawedog. Yn wir, pan oedd Wmffra'n wael yn ystod y gaeaf, gwaith anodd iawn fu cadw'r cyfarfod ymlaen, gan mai gwŷr wedi eu breintio â'r ddawn o ysgwyd eu pennau oedd y mwyafrif. Ni roddid i William Jones gyfle hyd yn oed i hynny: gwyddai'r gweinidog na themtiai holl aur Periw a pherlau'r India bell y gŵr bach i godi ar ei draed a "dweud gair." Ond yr oedd ganddo galon heb ei hail, meddai Mr. Lloyd wrtho'i hun yn ystod yr ail emyn, a gwnâi byth a hefyd gymwynas â rhywun a oedd yn sâl neu mewn trallod. Trueni bod ei wraig yn un mor ... Ond dyna, hawdd iawn oedd beirniadu ein cyd-ddynion, onid e? Gwenu ar y cyfiawn a'r anghyfiawn, gwenu'n batriarchaidd a maddeugar, oedd polisi Edward Lloyd. "Parhaed brawdgarwch" oedd arwyddair ei fywyd, a gallai ymffrostio na chwythasai i'w eglwys erioed un awel groes. Yr oedd hyd yn oed y cythraul canu'n addfwyn a brawdol yn Siloh.

"Y brawd Ifan Davies, 'gawn ni air bach gynnoch chi? ... Dowch, frawd, dowch, gair bach."

Dywedodd Ifan Davies ei bod hi'n fraint fawr i'r saint gael cyfarfod yn y deml fel hyn. Lle bynnag yr oedd dau neu dri o'r ffyddloniaid ... Yr oedd bywyd yn beth ansicr iawn: fe welai ef hynny yn ei waith bob dydd. Ond diolch am Ras, onid e? Diolch am y drefn i achub holl drueiniaid y byd. Meddiannu darfodedig bethau'r llawr oedd uchelgais llawer un, heb gofio bod y gwyfyn a'r rhwd yn llygru cyfoeth a bod pleserau'r byd yn diflannu fel y mân us a chwâl y gwynt ymaith. Nid oedd ond rhyw ugain ohonynt yn y Seiat, ond diolch fod ugain â'u traed ar y llwybr cul, yn chwilio am y manna yn yr anialwch ... Teimlai William Jones y rhoddai lawer am fedru siarad fel ei frawd yng nghyfraith. Cawsai yrfa ddisglair yn y Band of Hope ac yn y Penny Reading—fel canwr ac adroddwr a storïwr—ond ni fedrai yn ei fyw ymwroli digon i areithio yn y Seiat. Cadwodd ei gannwyll dan lestr, er iddo lunio llawer araith ysgubol yn ddistaw bach wrtho'i hun. Y drwg oedd fod meddwl William Jones yn anniddig os nad oedd ystyr geiriau'n berffaith glir iddo. Yr oedd llu o eiriau na fedrai ef yn ei fyw eu deall. Y gair "gras," er enghraifft. Deuai hwnnw i mewn yn aml i'w areithiau ysgubol, ond petai rhywun yn dechrau ei holi'n fanwl yn ei gylch, gwyddai y deuại atal-dweud i'w leferydd. A bu William Jones o'r herwydd yn rhy onest i stwnsian yn y Seiat.

I'r un perwyl ag Ifan Davies y siaradodd dau arall, a theimlai Mr. Lloyd yn ddiolchgar iddynt am lenwi'r chwarter awr cyntaf o brofiadau : neilltuasai ef yr ail chwarter awr ar gyfer huodledd parod Wmffra Roberts.

Pan gyrhaeddodd William Jones y tŷ, taflodd olwg eiddgar drwy ffenestr y gegin, ond caledodd ei wyneb ar unwaith. Aeth i eistedd eto yn y gadair freichiau, gan syllu'n ddicllon ar y botel bicyls a deyrnasai o hyd ar ganol y bwrdd. Hylô, yr oedd y plât lle buasai'r brôn yn wag, ac edrychai'r gath yn bur euog pan droes ei meistr ati. "Mi wnest yn iawn, yr hen gariad," meddai wrth ei harwain i'r gegin fach am lymaid o lefrith. Ymh'le yr oedd Leusa, tybed? Os aeth hi i'r sinema 'na heno, yna ... Yna beth? Mewn tymer wyllt peth go hawdd oedd bygwth mynd i'r Sowth, ond yn awr, a'i feddwl yn dawelach, ni theimlai fod gwrhydri Now John Ifans ganddo ef.

Clywodd sŵn traed ar lechi'r cefn, ac yna rhoes Robert Gruffydd ei ben i mewn.

"Bron imi ag anghofio'n lân, fachgan."

"Anghofio be', Bob?"

"'Isio dy help di, os byddi di mor garedig. Alun 'cw yn tyfu, fel y gwyddost ti, a dim lle gynno fo yn y llofft i gadw'i ddillad. Finna’n meddwl symud y jest o drôrs i'w lofft o. Os ca' i dy help di, William."

"Â chroeso, Bob. Mi ddo'i hefo chdi ar unwaith." Ac i ffwrdd â'r ddau.

Pan glywodd hi sŵn tuchan a stryffaglio yn y llofft, rhuthrodd Jane Gruffydd i fyny'r grisiau.

"Neno'r dyn, be' ydach chi'n drio'i wneud?" gofynnodd i'w gŵr.

"Symud y jest o drôrs ’ma, Jane."

"Felly yr ydw i'n gweld." A phlannodd ddau lygad aruthr arno.

"Meddwl 'i rhoi hi yn llofft Alun. Ond prin y medrwn ni 'i symud hi."

"Dim rhyfadd, a phob drôr yn llawn o ddillad a blancedi a phetha’!"

"Ia, yntê! 'Wnes i ddim meddwl am wagio'r drôrs, hogan."

"A 'dydach chi ddim yn mynd i wagio'r drôrs chwaith, mi ofala' i am hynny. Be ydach chi'n feddwl ydw' i yn fy nhŷ fy hun? Ornament? Beth petaswn i'n dwad i'r chwaral i ddangos i chi sut mae rhedag y lle?"

Troes Robert Gruffydd ei gefn ar ei bartner a thynnu ystumiau ar ei wraig. Ond ni chymerodd hi yr un sylw ohonynt. "Dŵad i mewn o'r cefn a chlywad sŵn rhwbath yn cal 'i lusgo yn y llofft 'ma. 'Ydach chi'n dechra' drysu, ddyn?"

"Alun yn tyfu ac isio lle i gadw'i betha'." A cheisiodd Robert Gruffydd eto daflu winc anferth ar ei wraig.

"Cadw'i betha', wir! Beth petaswn i'n deud wrthach chi fod gynno fo dressing-table yn 'i lofft a bod un drôr ynddo fo'n hollol wag?"

"Y?" Yr oedd y ffaith anhygoel hon yn ddigon i Robert Gruffydd agor ei geg a'i dal hi'n agored am funud cyfan. "Dowch i gal eich swpar, ddyn," meddai ei wraig, "rhag ofn i chi gymryd yn eich pen i ddechra' symud y gwely 'ma i lawr i'r parlwr."

Wedi iddynt gyrraedd y gegin, cychwynnodd William Jones am y drws yn o frysiog. Teimlai iddo yntau hefyd bechu, er na wnaethai ond rhoi help llaw i'w bartner.

"Paid â mynd, William, ne mi fydda' i yn cal coblyn row, wsti. Cymar smôc yn y gadair ’na am funud. Mi a' i i olchi ’nwylo."

Brysiodd Robert Gruffydd allan i'r cefn, ond arhosodd yn y gegin fach ar ei ffordd.

"Yr wyt yn un ddwl, hefyd!" sibrydodd wrth ei wraig.

"Isio rhyw esgus i'w gal o yma yr oeddwn i."

"I be?"

"Iddo fo gal tamad o swpar hefo ni. Dim ond tipyn o frôn. gafodd o pan ddath o o'r chwaral. Ac mae'r bwrdd heb 'i glirio o hyd."

Wedi golchi ei ddwylo, dychwelodd i'r gegin, a dilynodd Jane Gruffydd ef a dechrau gosod y bwrdd.

"Gymwch chi damad o swpar hefo ni, William Jones?" gofynnodd. "Dim, diolch, mae'n rhaid imi fynd. Mi fydd Leusa yn fy nisgwyl i."

"Ond mae gin i rwbath arbennig heno. Ffa wedi'u berwi fel y bydda' 'mam yn 'u berwi nhw. Un o Sir Fôn oedd 'mam, ac mi fydda’n berwi ffa hefo tamad o gig moch bob amsar. Mae'n rhaid i chi drio platiad bach."

Mwynhaodd William Jones y ffa'n fawr iawn; yn wir, bwytaodd ddau blatiad ohonynt gyda blas, a throes tuag adref yn teimlo'n llawer hapusach. Pan gyrhaeddodd y Stryd Fawr, llifai tyrfa'r sinema hyd y ffordd. Byddai Leusa gartref erbyn hyn, y mae'n debyg, a châi hi glywed un neu ddau o wirioneddau pwysig ganddo. Yr oedd yn hen bryd iddo ddangos ei awdurdod a phrofi ei fod yn frenin yn ei dŷ ei hun.

Ond nid oedd hi yn y tŷ. Dechreuodd glirio'r bwrdd, ond cofiodd y byddai angen swper ar Leusa. Ysmygodd yn fyfyriol wrth yr aelwyd, gan syllu’n freuddwydiol o amgylch y gegin. Ia, hawdd iawn oedd bygwth mynd i'r Sowth. Yma, yn y gegin hon, y chwaraesai wrth draed ei fam, ef a Meri ei chwaer; yma yr oedd ei atgofion, ei fywyd oll. Yma ... Clywodd gamau cyflym Leusa yn y cefn. "Lot yn yr hen siop chips ’na," meddai. "Ac mi fu'n rhaid imi aros.

Ni ddywedodd William Jones air, dim ond syllu'n ddig arni'n gwagio cydaid o chips i bowlen. Swper go wahanol i'r un a gawsai Bob Gruffydd, meddai wrtho'i hun.

"Lle buost ti, Leusa?"

"Yn y pictiwrs, debyg iawn. Any objection?"

"Mi wyddost be' ddeudis i cyn iti fynd yno."

"Gwn." A chwarddodd Leusa'n uchel.

"Be' sy?"

"Mi ddeudis i wrth Ifan, ac 'roeddan ni'n dau yn chwerthin nes oeddan ni'n sâl. 'Roedd Ifan yn 'i ddybla'."

Soniais mai gŵr mwyn a thawel oedd William Jones a phwysleisiaf hynny yn awr, yn yr argyfwng hwn yn ei hanes. Nid oedd yn ei galon na malais na chenfigen tuag at undyn byw. Na, y mae'n rhaid imi dynnu'r geiriau yna'n ôl ar unwaith : ni allai ei gariad brawdol gofleidio'i frawd yng nghyfraith, Ifan Davies. Yn wir, a bod yn onest, yr oedd yn ei gasáu. Y mae gan bob un ohonom ei feddyliau cudd, y rhai hynny y gwnawn ymdrech deg i'w cuddio â gwên — wneud wrth sôn am rywun neu rywbeth diflas. Corddai teimladau a meddyliau annifyr yn ymysgaroedd William Jones bob tro y deuai Ifan Siwrin i'w olwg neu i'w sgwrs, er iddo wneud ei orau glas i fod yn gyfeillgar tuag ato. Dywedasai ganwaith mai arno ef ei hun yr oedd y bai, a phenderfynasai droi wyneb hoffus at ei frawd yng nghyfraith y tro nesaf y gwelai ef. Ond methiant fu pob ymdrech—ei wyneb yn teimlo fel darn o does ar ei waethaf a'i lais yn swnio'n wan ac ymhell. Ac yr oedd clywed am Ifan Davies yn ei ddyblau'n chwerthin am ei ben yn gwneud iddo gau ei ddyrnau a llyncu ei boer.

"Tyd at dy swpar," meddai Leusa, yn rhannu'r chips rhyngddynt.

Y mae'n rhaid imi, i fod yn eirwir, groniclo ateb William Jones.

"Cadw dy blydi chips," meddai. A thynnodd ei esgidiau'n ffyrnig a'u taflu o dan gadair cyn brysio o'r gegin ac i fyny'r grisiau.

Dyma ddiwedd y bennod hon. Ond ni allaf ei gollwng o'm dwylo heb wneud un ymgais arall i amddiffyn William Jones. Gwn, ddarllenydd hynaws, dy fod yn codi dy ddwylo mewn braw a ffieidd-dod, gan benderfynu llosgi'r llyfr rhag ofn iddo lygru moesau dy geraint a'th gyfeillion. Yn gyntaf, hoffwn gyhoeddi'r ffaith mai dyma'r unig dro yn ei fywyd i William Jones ddefnyddio'r gair anfelys a ysgrifennais uchod. Ymh'le y daethai o hyd i'r gair, ni wn, oni chlywsai ryw feddwyn yn ei adrodd yn ddifeddwl ryw nos Sadwrn. Y mae'n rhaid bod y gair yn ymguddio'n slei yn un o gilfachau ei feddwl ac, ar ôl hen flino ar anghofrwydd anhyglod, wedi penderfynu ennill amlygrwydd sydyn a beiddgar. Yn ail, cawsai ein gwron ddiwrnod anniddig iawn, ac yr oedd pall hyd yn oed ar amynedd William Jones. Sut y teimlet ti, gyfaill mwyn, yn yr un sefyllfa? Mi wn y buaswn i—ond dadl go wan yw'r gymhariaeth honno, gan na'm bendithiwyd i ag amynedd o gwbl.

Dywedodd rhyw ddyn mawr—nid wyf yn sicr nad myfi oedd y gŵr hwnnw—fod gan bawb ei deimlad. A gawn ni gofio'r gwirionedd sylfaenol hwnnw wrth farnu William Jones?