Y Cychwyn/Pennod 3

Oddi ar Wicidestun
Pennod 2 Y Cychwyn

gan T Rowland Hughes

Pennod 4


𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 3

WYRODD yr hen weinidog ymlaen, cydiodd yn y procer, a daliodd ef yn ei law yn freuddwydiol. Yna, wedi iddo bwnio'r tân, eisteddodd yn ôl i wylio dawns fflam a chysgod ar y silffoedd llyfrau gyferbyn ac ar y darluniau o'i blant ar y mur uwchlaw iddynt . . . Olwen . . . Dôi hi adre nos Wener i fwrw'r Sul, yn athrawes bob mymryn ohoni ac yn edrych dros ei sbectol yn aml ar Feurig-ac arno yntau hefyd weithiau . . . Glyn.. Oedd, yr oedd Glyn yn fachgen da ac yn well pregethwr o lawer na'i dad . . . Arthur, a aeth i'r Llynges Fasnach ac i'w dranc a'i farddoniaeth orau heb ei hysgrifennu a'i blentyn, Meurig, ond pedair oed heb brin adnabod ei dad . . . Arthur druan . . .

Hm, yr oedd yn hen bryd iddo droi'r golau ymlaen a chau llenni'r ffenestr. Ond ni syflodd o'i gadair yr oedd y gwyll. mor llariaidd, mor dirion, mor ddigynnwrf, i henwr yn synfyfyrio wrth y tân.

Cofiodd mai ychydig a wyddai ef ar y pryd am ing meddwl a chorff ei dad, a phan gafodd yr hanes, ymhen amser, gan ei fam a Dafydd a'r nyrs ac eraill, synnai iddo fod mor ddifater ac ansylwgar. Ond, a chyffro a newydd-deb bywyd y chwarel yn llond ei feddwl, ni phoenai ryw lawer am y peth, gan gredu haeriad Dafydd y cryfhâi golwg ei dad wedi i effeithiau'r ddamwain gilio. Bob gyda'r nos wedi iddo gyrraedd adref o'r chwarel, gwelai'r bachgen fod ei dad yn mynd yn fwy ffwndrus ac ansicr hwyr ar ôl hwyr, yr oedd ei chwerthin hefyd wedi'i ddiffodd bron yn llwyr, a phan siaradai, dim ond darn o'i feddwl a oedd yn yr hyn a ddywedai. Rhywfodd, nid yr un dyn a ddaeth o'r ysbyty ag a gludwyd i mewn yno: yr oedd hwn yn ŵr syn a thawel a dwys, yn gwenu'n beiriannol, a hyd yn oed yn torri allan i grio wrth wrando ar hanesion am y bonc. Ond fe ddechreuai wella cyn hir wedi ychydig mwy o orffwys. Yna, y nos Sadwrn ar ddiwedd ei wythnos gyntaf o waith, gwyddai Owen hyd sicrwydd fod ei dad ar fynd yn ddall. Fel y syllai i mewn drwy ffenestr Tyddyn Cerrig y noson honno, deallodd pam y cawsai ef adael yr ysgol.

Aethai ef a Huw Rób a Wil Cochyn i Gaer Heli y prynhawn hwnnw, ac yno, mewn Syrcas ac yn gwylio'r gwerthwyr ar faes y dref ac yn crwydro'r heolydd yn ddynion i gyd, y buont tan amser y brêc a gyrhaeddai Lan Feurig hanner awr wedi un ar ddeg. Yn ofnus y nesaodd Owen at Dyddyn Cerrig, gan wybod y cãi dafod gan ei fam am fod allan mor hwyr. Gobeithiai y byddai hi wedi mynd i'w gwely a gadael Enid neu Ddafydd i lawr i aros amdano. Oedodd ennyd wrth ffenestr y gegin a gwrando. Nid oedd yno sŵn. Camodd o'r llwybr at y mur ac edrychodd i mewn heibio i ymyl y bleind.

Dim ond ei dad a oedd yn y gegin, yn sefyll a'i ddwylo'n cydio ym min y bwrdd. Gwyrai ymlaen at y lamp, rhythai ar ei golau, yna tynnai'n ôl a chau ei lygaid ennyd cyn pwyso ymlaen drachefn. Yn sydyn, fel petai'n clywed sŵn, ymsythodd ac eisteddodd yn frysiog yn ei gadair. Gwelai Owen ei fam yn dod i mewn, a channwyll olau yn ei llaw. Cododd ei dad a chymryd ei llaw arall, a syllodd Owen yn hurt arni'n ei arwain yn araf o'r ystafell.

Camodd y bachgen yn ôl i'r llwybr a safodd yno a'i feddwl yn dryblith niwlog a morthwyl ei galon yn curo'n wyllt o'i fewn. Gerllaw, ar y lôn, canai amryw o feddwon ar eu ffordd adref o'r Crown, a chaeodd ei ddannedd yn chwyrn wrth wrando arnynt. Troes i mewn i'r tŷ yn araf, gan agor a chau'r drws yn dawel, ac eisteddodd wrth y bwrdd i fwyta'r bara a chaws a adawsai'i fam. Yr oedd wrthi'n tywallt glasaid o laeth enwyn iddo'i hun pan ddaeth hi i mewn. Sylwodd fod ei llygaid yn goch gan ôl crio.

"Lle buost ti mor hwyr, hogyn?" oedd ei chyfarchiad.

"Colli brêc wyth ddaru ni ac 'roedd un naw yn rhy lawn inni gael lle ynddi hi."

"'Gest ti fwyd yn y dre 'na?"

"Do, yn y tŷ-bwyta wrth y Cei. Platiad iawn o datws a phys am rôt . . . Lle mae Dafydd, 'Mam?"

"Yn 'i wely, debyg iawn. Ac Enid. A'th dad. Yno dyliet titha' fod ers awr. Tyd, styria." "O'r gora', 'Mam. Dew, dyna i chi Syrcas sy yng Nghaer Heli! Ac mi gafodd Huw a Wil a finna' fynd i mewn am ddim."

"Am ddim?"

"Ia. Pwy ddaeth heibio pan oeddan ni wrth y cae ond George Hobley, ac mi fynnodd gael talu drostan ni." "Hm. 'Oedd o wedi bod yn yfad?"

"Wel, 'roedd o'n . . . " A gwenodd Owen. "Dydi hynny ddim yn beth i wenu yn 'i gylch o . . . Rhyw greadur fel'na'n cael 'i iechyd i jolihowtio hyd y dre 'na . . . "

"A 'wyddoch chi pwy welsom ni ar y cae?"

"Pwy?"

"Harri Ellis, brawd 'nhad." "Brawd 'nhad," nid "f'ewyrth," oedd y gŵr hwnnw i Owen: ni wnâi teulu Tyddyn Cerrig ddim ag epil yr hen Ddafydd Ellis.

"O? 'Ron i'n meddwl 'i fod o a Wil 'i frawd efo'r soldiwrs."

"A finna'. Ond efo'r Syrcas 'na y mae Harri, yn edrach ar ôl y ponis. 'Dydi o ddim yn perfformio yno, dim ond yn 'u bwydo nhw a llnau'r stabla', ond mi fasach yn meddwl arno fo mai fo ydi Bertram Mills 'i hun. 'Roedd o'n swagro o gwmpas . . .

"Oedd, mae'n debyg." Yr oedd yn amlwg nad oedd ei fam eisiau clywed rhagor am un o ymladdwyr a rhegwyr galluocaf yr ardal. "Lle buoch chi wedyn?" gofynnodd.

"Ar y Maes y rhan fwya' o'r amsar." Aeth i'w boced a thynnodd allan gwpan a phatrwm o ddail a blodau arno.

"Lle cest ti hwn'na?"

"Rhyw hen ddyn oedd yn gwerthu llestri ar y Maes, a neb yn prynu gynno fo. Mi wylltiodd yn gacwn. 'Hwdiwch, y tacla'!" medda' fo. 'Isio rhwbath am ddim yr ydach chi yntê? A dyma fo'n dechra' taflu cwpana' a soseri a phlatia' i'n canol ni. Mi gafodd Wil Cochyn ddwy sosar a thair plât. Un ar y naw ydi Wil."

Ond nid oedd ei fam fel petai hi'n gwrando. "'Gest ti ddigon?" gofynnodd.

"Do, diolch, 'Mam."

Goleuodd hi gannwyll a'i tharo ar gongl y bwrdd. Yna, ond heb edrych ar Owen, meddai: "Rwyt ti i gysgu yn y llofft ffrynt heno."

"O?"

"Yno y mae Dafydd.

Rydw' i wedi newid dillad y gwlâu.

Mae dy dad yn y siambar. Newydd fynd i'w wely. Haws iddo fo na dringo'r hen risia' 'na." Brawddegau cwta, cyflym, anniddig.

"'Mam?" Cododd Owen.

"Ia?"

"Be' ydi'r matar ar 'Nhad?"

"I olwg o. Effaith y ddamwain Ond . . . "

"Ond be', 'Mam?" Camodd yn nes ati a dywedai'r olwg yn ei lygaid na ellid ei dwyllo ddim rhagor. Yr oedd ei llais yn floesg pan atebodd.

"Mae'n rhaid iti wybod yn hwyr neu'n hwyrach, Owen bach. Mae dy dad yn . . . yn mynd yn ddall."

Eisteddodd hi mewn cadair wrth y bwrdd a'i dwylo ar ei harffed, gan edrych heibio iddo tua'r lle tân. Bu tawelwch llwm rhyngddynt. Aeth cyffro drwy ymysgaroedd yr hen gloc wyth niwrnod yng nghongl y gegin ac yna, yn araf a thrwm fel cnul, trawodd hanner nos.

"'Oes 'na ddim fedar y Doctor 'i wneud, 'Mam?"

Ysgydwodd ei phen mewn anobaith, yna, "Ron i wedi meddwl i ti gael rhwbath gwell na'r chwaral," meddai.

"Rargian, peidiwch â phoeni dim am hynny. Yr ydw' i wrth fy modd yn y chwaral, ac mae Lias Tomos a Huw Jones yn ffeind ofnadwy wrtha' i. 'Ydi . . . 'ydi 'Nhad yn gwbod?"

"Mae o'n ama', mae arna' i ofn. Ac mae'r peth fel hunlla' ar 'i feddwl o. Diar, pwy fasa'n meddwl y medrai un fel fo, mor llawn o fywyd bob amsar, hogyn ym mhopath bron, fynd mor dawal, mor drist, mor hen, mewn 'chydig wythnosa'? Mae Taid a finna' a Dafydd yn deud wrtho fo y daw o'n well yn fuan, ond . . . ond mae swnio'n glonnog yn mynd yn anos bob tro."

Cododd mewn braw: clywai sŵn rhywun tu allan i'r gegin ac ofnai mai ei gŵr a ocdd yno ac iddo glywed ei geiriau. Agorodd y drws a daeth Dafydd i mewn, wedi hanner-wisgo amdano.

"Hylô, be' ydi peth fel hyn?" meddai. "Mae'n hen bryd i chi, Mrs. Ellis, fod yn y gwely 'na."

"Yr ydw' i'n mynd 'rŵan, Dafydd, ar ôl imi glirio'r 'chydig lestri 'ma."

"Mi ofala Now a finna' am y llestri, ac am y drysa', ac am ddiffodd y lamp. 'Rwan, i'r lle 'sgwâr 'na â chi." Ac, yn dyner ond yn benderfynol, gwthiodd ei fam tua'r drws.

"Mae 'Mam wedi deud wrtha' i, Dafydd," meddai Owen wedi iddi fynd.

"Ydi hi, Now bach? Wel, 'roedd yn well iti gael gwbod, ond oedd? A thitha'n ddyn 'rŵan, yntê, yn gweithio yn y chwaral?"

"Be' fedrwn ni 'i wneud, Dafydd?"

"Dim llawar, fachgan. Gwneud ein gora' i ennill cyflog, yntê? A thrio helpu tipyn ar 'Mam gyda'r nos—torri pricia' a gofalu am yr ardd a phetha' felly."

Nodiodd Owen, ond gan gofio'n euog iddo ef ruthro allan ar ôl ei swper—chwarel bob hwyr yr wythnos honno i sgwario hyd y pentref efo Huw a Wil, ac iddo edrych ar Ddafydd fel tipyn o hen Fetsi, yn piltran o gwmpas y tŷ. Ond, erbyn meddwl, ychydig a wnâi Dafydd yn yr ardd a'r tŷ tan yn ddiweddar iawn. Y nos Fercher wedyn, galwodd Robert Ellis Ddafydd ato: erbyn hynny yr oedd y tad yn gwbl ddall.

"Dafydd?"

"Ia, "Nhad?"

"Mae arna' i isio iti alw yn Offis y chwaral i weld Jones-Parry, y Manijar."

"O'r . . . o'r gora'."

"Gofyn iddo fo gei di fy hen fargen i. Mae 'na gerrig da ynddi a lle iawn i wneud cyflog."

"Ond mi fyddwch chi'n ôl wrth eich gwaith . . . "

"Pryd?"

"Wel, ar ôl i effeithia'r ddamwain . . . "

"Effeithia'r ddamwain,'" 'effeithia'r ddamwain'—yr ydach chi fel parrots yma, dy fam a'th daid a chditha'. Pam goblyn na ddeudwch chi'r gwir wrtha' i, yn lle fy nhrin i fel plentyn dwyflwydd? Be' ddeudodd y Syr hwnnw o Lundain wrth Doctor Williams?"

"Deud bod yn bwysig i chi orffwys a chryfhau . . ."

"Cryfhau! Cryfhau!" Cododd o'i gadair, gan daro'i law chwith ar y silff ben tân. Estynnodd y llall tuag at Ddafydd.

"'Fasat ti'n licio ysgwyd llaw efo mi?"

"Dim diolch, 'Nhad."

"Na fasat, mi wn. Na'r Syr hwnnw o Lundain chwaith.

Mi fedrwn wasgu'i fysedd o nes byddai'r gwaed yn sboncio allan ohonyn' nhw. Cryfhau, wir!"

"Ia, ond nid cryfhau felly oedd o'n feddwl, ond . . ."

"Ond be'?"

"Rhoi . . . rhoi siawns i nerfa'r llygaid ddŵad atyn' 'u hunain ar ôl sioc y ddamwain."

"Mi liciwn i fedru gweld dy wynab di, Dafydd, dim ond am funud. Yr argian fawr, 'Bob Llygaid Cath', chwadal Ned Tŷ Crwn, fel twrch daear yn fan hyn!" Chwarddodd yn chwerw wrth eistedd eto yn ei gadair.

"Roeddach chi'n sôn am yr Offis, 'Nhad."

"Ôn. Dywad wrth Jones-Parry 'mod i wedi colli 'ngolwg yn 'i chwaral o ac y bydd hi'n o dena' arno' ni fel teulu os na chei di fy hen fargen i. Mi wn i nad ydi o ddim yn hoff ohonat ti, ond . . . "

"Hoff! Gin' i mae'r clogwyn sala' yn y Twll. Dwybunt a chweugian ges i y mis dwytha' er i mi a Dic fy mhartnar slafio i drio gwneud cyflog. A'r cwbwl am inni'n dau gario banar y Rhyddfrydwyr drwy'r lle 'ma amsar y Lecsiwn. 'Dydi Jones-Parry ddim yn madda', 'Nhad. 'Tawn i wedi cario banar y Toris, fel y gwnaeth Wil Sam a Robin Ifans a rhai tebyg, mi faswn mewn bargen heb 'i hail. A 'dydi bod yn Ysgrifennydd yr Undab yn y bonc ddim yn fy ngwneud i'n Sant yn 'i olwg o."

"Dos di i'r offis ato fo a dywad wrtho fo fel y mae petha' arno' ni."

"O'r gora". Mi bicia' i yno bora 'fory."

"Gofyn iddo fo am fy margen i. Mae hi'n werth i'w chael 'rŵan, ar ôl y tunelli o faw gawson ni ohoni y mis cynta' hwnnw."

"Wel . . . "

"Gofyn di iddo fo am fy margen i. 'Wnei di, Dafydd?"

Aeth Dafydd yn wyliadwrus. Tu ôl i'r llygaid dall, fe deimlai, yr oedd meddwl ei dad fel petai'n rhythu arno, yn ceisio crafu'r gwir oddi arno.

"Ia, dyna fydd ora', efalla'," meddai. "Pe cawn i'r fargen. efo George Hobley tra byddwch chi gartra', mi fydd yn ddigon hawdd iddyn' nhw fy symud i wedyn. 'Fydda' i ddim gwaeth, mi wn i hynny: mi gân' nhw waith i ddŵad o hyd i le salach na'r un sy gin' i 'rŵan, myn diagan i."

Ond drannoeth, pan ddychwelodd adref o'r gwaith, nid oedd gan Ddafydd newydd da.

"Roedd o'n hel pob math o esgusion," meddai. "John Hwmphras y Stiward Gosod am aildrefnu'r bonc, medda' fo, ac fe fydd yn rhaid iddo fo gofio am yr hen weithwyr, ac felly 'mlaen. Mi ga' i wbod gynno fo ddiwadd y mis."

Ond ni ddywedodd ef nac Owen wrth eu tad fod Robin Ifans, a gariodd faner Oswald Meyricke, yn gweithio yn y fargen ers dyddiau ac yn brolio'r cerrig breision a gâi ohoni.

Ni hoffai'r Parch. Owen Ellis fyth edrych yn ôl ar y misoedd rhwng dallineb a marwolaeth ei dad. Yr oedd y teulu'n dlawd iawn, a thros bobman a phopeth yn Nhyddyn Cerrig gorweddai cysgod yr afiechyd a ymosododd yn araf ond yn ystyfnig ar y cawr o chwarelwr.

Tlodi gellid ei ymladd ef, a dewr y brwydrai pob un o'r teulu—Enid, morwyn yn nhŷ Richard Davies, y Stiward; Dafydd ac Owen yn y chwarel; y fam fechan, ddiwyd, yn ei chartref; a hyd yn oed Myrddin, a fodlonai heb ei ddimai ar brynhawn Sadwrn. Tlodi: yr oedd pob llaw yn ddwrn i'w erbyn ef. Ond afiechyd: ni thyciai'r dyrnau caletaf ddim: yr oedd ei ymgyrch ef mor llechwraidd, mor ddidostur, mor sbeitlyd.

"Sut ydach chi'n teimlo hiddiw, 'Nhad?" oedd y cwestiwn a ofynnai Dafydd neu Owen bob hwyr pan gyrhaeddent adref o'r chwarel, a chlywent, fel yr âi'r wythnosau heibio, dristwch y "Symol" yn newid i anobaith y "Go dila, fachgan." A gwelent nad colli'i olwg yn unig a wnaethai'u tad wedi'r ddamwain. Cwynai fod ei galon yn curo'n wyllt, rhedai cryndod annifyr drwy'i gyhyrau, chwysai a blinai'n fuan fuan, ac yr oedd yn teneuo'n gyflym ac yn mynd mor nerfus ag aderyn. Ond gwrthodai'n lân adael i'r meddyg ei weld. Pan awgrymai rhywun hynny, gwylltiai a gwaeddai: "Be' fedrodd y locsyn. bwch gafr hwnnw wneud i 'ngolwg i? Dim! Dim coblyn o ddim! A 'dydw' i ddim yn mynd i dalu am 'i gwrw fo am ddŵad yma i balu clwydda' wrtha' i." Yna, wedi ymdrech y gweiddi, suddai'n ôl i'w gadair yn llipa gan grynu a griddfan, a'i lygaid dall yn ymwthio'n annaturiol o'i ben, a'i wddf chwyddedig fel petai ar dorri. Ildiodd un noson yn niwedd y flwyddyn, er hynny, pan yrrai gordd ei galon eco, fel morthwylion ffyrnig, drwy bob gwythïen o'i gorff. "Y nefoedd fawr, Doctor," meddai pan soniodd y meddyg am "orffwys a pheidio â phryderu," "be' ydach chi'n feddwl ydw' i—yr hen gi 'na sy gan Rhys Bwtsiar?" Yr oedd yr hen gi yn ddall, ond ymddangosai'n ddibryder iawn, y mwyaf cyfeillgar a'r hapusaf o holl gŵn y pentref.

Rhywfodd, wrth edrych yn ôl—a hyd yn oed o bellter blynyddoedd fel hen ddyn y gwelai'r Parch. Owen Ellis ei dad, er nad oedd ond wyth a deugain pan fu farw. Gŵr yn anterth ei nerth ydoedd, ond i hogyn deuddeg oed ymddangosai, a barf frithgoch ar ei wyneb tenau, curiedig, a'i symudiadau mor ffwndrus, yn hen iawn. Ganwaith fel y llithrai'r blynyddoedd heibio y gresynodd y gweinidog i'w dad gael ei dorri ymaith ym mlodau'i ddyddiau; a phan soniai eraill am y chwarelwr dall, gofidio i'r ddamwain ddigwydd ac yntau mor ieuanc a wnaent yn ddieithriad bron. Er hynny, er gwaethaf rheswm a ffaith, arhosai argraffiadau'r bachgen yn nyfnder ei feddwl—y gloywder arian cynamserol yn y farf a'r gwallt, y llinellau yn yr wyneb llwyd, y llais ofnus, goraddfwyn, yr anallu tosturus. Ni fedrai Owen Ellis yn ei fyw gysylltu'r gair 'ieuanc' â'r darlun hwnnw.

Galwyd y plant o'u gwelyau yn oriau mân un bore oer yn niwedd Ionawr. Arweiniodd Dafydd hwy i lawr y grisiau i'r "siambar ffrynt", ac yno safodd y tri ohonynt mewn ofn anesmwyth wrth droed y gwely. Er bod y tân yn ddisglair a'r ystafell yn gynnes, cofiai Owen yn hir wedyn iddo afael â'i law chwith yn rheilen y gwely ac i ias o oerni redeg drwy'i holl gorff.

"Dyma Enid, 'Nhad," meddai Dafydd gan ei harwain tuag ato a chymryd ei llaw a'i hestyn tuag at ei ddwylo ef. Gwasgodd Robert Ellis law ei ferch, ond ni ddywedodd ddim er bod geiriau'n ceisio ymffurfio ar gryndod ei fin.

"A dyma Now, 'Nhad."

"Ia, fi sy 'ma, 'Nhad, ac mi anghofis i ddeud wrthach chi fod Lias Tomos wedi rhoi lot o gerrig imi bora ddoe."

"'Wnaeth o, 'ngwas i?" Nid oedd y llais o'r gwely yn fawr fwy na sibrwd.

"Do, ac mae o a Huw Jones wedi addo y ca' i fynd yn jermon atyn' nhw tua diwadd yr haf. Hen ddyn iawn ydi Lias Tomos yntê, 'Nhad?" Parablai Owen mewn ymdrech wyllt i anghofio rhythu tywyll y llygaid ymwthiol. "Hen Gristion, yntê, 'Nhad?"

Nodiodd y claf, ond yn ffwndrus, fel petai'i feddwl hefyd yn ddall.

"A dyma Myrddin, 'Nhad."

Gwasgodd y tad law ei fachgen ieuangaf, a wylai mewn dychryn, ac yna cododd ei ben yn daer i gyfeiriad Dafydd.

"Dafydd?"

"Ia, 'Nhad?"

"Cofia di fynd at Jones-Parry y cyfla cynta', 'rŵan."

"O'r gora', 'Nhad."

"Mae o, mae o'n siŵr o wrando arnat ti y tro yma. Os cei di fy hen fargen i, Dafydd, os cei di fy hen fargen i . . . Emily?

'Ydach chi yna, Emily bach?"

"Ydw', Robat, ydw'."

"Os caiff Dafydd fy hen fargen i, mi fydd petha'n iawn arnach chi. On' fyddan', Emily?"

"Peidiwch chi â siarad gormod, 'rŵan, Robat bach."

"Mi wrthododd Jones—Parry y tro o'r blaen, ond . . . Dafydd?" "Ia, "Nhad?"

"Dywad wrtho fo . . . dywad wrtho fo, Dafydd, mai fy nymuniad ola' i oedd am i ti gael y fargen. 'Wnaiff o, 'wnaiff o ddim gwrthod y tro yma. 'Fedar o ddim gwrthod y tro yma . . . "

Ond ni chafodd Dafydd y fargen. Brysiodd i Swyddfa'r Chwarel y bore ar ôl yr angladd, ac wedi iddo ffwndro â'i gap am ugain munud yn y swyddfa allanol, galwyd ef i mewn i'r cysegr sancteiddiolaf. "Wel?" Cyfarthiad oedd y gair, a cheisiai Mr. Jones—Parry roi'r argraff ei fod yn brysur iawn. "'Roeddan ni'n claddu 'Nhad ddoe, a fo ddaru ofyn imi ddŵad i'ch gweld chi." Gwyddai wedi iddo orffen y frawddeg y dylasai ddweud "Mr. Jones-Parry, Syr" a llefaru'n fwy taeog, ond yr oedd cynffonna'n groes i holl natur Dafydd. Gwrthryfelai hefyd yn erbyn tôn ac agwedd anghwrtais y Rheolwr.

"Hm, mae'n ddrwg gen' i, ddrwg gen' i." Yna edrychodd. fel petai'n disgwyl i Ddafydd fynd ymlaen â'i stori.

"Mi fu farw tua dau o'r gloch bora Sadwrn, ond cyn iddo fo fynd mi erfyniodd arna' i ddŵad atach chi i ofyn am 'i hen fargen o yn Nhwll Britannia."

"Hm."

"Dyna oedd 'i ddymuniad ola' fo cyn marw."

"Hm. Ond mae'r peth yn anodd os nad yn amhosib', mae arna' i ofn."

"Pam Mr. Jones-Parry?" Unwaith eto gwyddai Dafydd y talai iddo swnio'n fwy taeog.

Cymerodd y Rheolwr lyfr—ysgrifennu trwchus oddi ar silff a throi ei ddalennau nes dod o hyd i'r un a geisiai.

"Britannia . . . Britannia. Ond mae Robert Evans yn hen le dy dad." Ceisiai ymddangos fel petai hynny'n newydd iddo. "Ydi, mi wn, ond mae'r lle yr oedd o ynddo o'r blaen yn wag o hyd. Os na fedrwch chi fy rhoi i yn hen fargen fy nhad, 'oes 'na siawns imi gael mynd i fan'no?"

"Lle gwael sy gen' ti 'rŵan?"

"Y graig yn gefnau i gyd a dim deunydd llechi ynddi. Gorfod malu'r plygion yn faw i'r wagan ar ôl wastio powdwr. Tair ceiniog y dunnall am y baw. 'Fedra' i yn fy myw wneud cyflog. A go dena' ydi hi arno' ni fel teulu ar ôl i 'Nhad fod yn sål cyhyd."

"Hm. "Wnaiff hynny mo'r tro o gwbwl, ddim o gwbwl.

O'r gora', Ellis, mi ga' i air efo'r Stiward Gosod. Mi gawn ni weld be' fedrwn ni 'i wneud."

"Diolch, Mr. Jones-Parry, diolch yn fawr."

Aeth Dafydd allan o'r Swyddfa yn llawen. Efallai wedi'r cwbl iddo gamfarnu'r dyn: efallai ei fod wedi maddau ac anghofio erbyn hyn. Sylweddolodd fel y cerddai ymaith nad oedd ei gap am ei ben a brysiodd yn ôl i'r Swyddfa i'w ymofyn. "Anghofio 'nghap," meddai wrth Rowlands Bach, y clarc. Fel y plygai i'w gymryd oddi ar gadair, clywai lais y Rheolwr yn y swyddfa fewnol: "Hm, a maen' nhw'n dechra' meddwl mai dymuniada' dynion wrth farw sy'n rheoli'r chwaral 'ma, 'ydyn' nhw?"

Nid oedd Dafydd mor llawen pan frysiodd allan yr eiltro. Ei unig gysur oedd bod Jones-Parry ar fin ymddeol o'i swydd fel Rheolwr y chwarel.

Parhaodd y tlodi yn Nhyddyn Cerrig, ond teimlai Owen yn llawer hapusach wedi marw ei dad. Ni feiddiai gyfaddef hynny wrth neb, dim hyd yn oed wrtho ef ei hun, ond gwnâi'r band du am ei fraich a chlywed brawddegau fel "Wedi colli'ch tad, yntê, 'machgan i?" iddo deimlo'n llawer hŷn—a thipyn bach yn bwysig. Yn enwedig pan fyddai yng nghwmni Huw Rôb neu rywun arall o'r un oed ag ef: nodiai'n ddwys, yn ddyn o'i gymharu â hwy. Ac yr oedd Tyddyn Cerrig yn awr yn lle y gallai chwerthin a chanu a chlebran ynddo. Wedi misoedd o orfod mygu'i asbri, melys oedd cymryd arno ymladd â Dafydd, neu dynnu gwallt Enid, neu Elin pan ddigwyddai hi ddod adref am dro o Lŷn, neu chwarae â Myrddin. Bellach, wrth fwrdd y Swper-chwarel, câi Owen siarad yn hy ac uchel, gan ddynwared Huw Jones neu Robin Ifans, a digwyddiadau bychain y dydd yn fawr yn ei feddwl a brawddegau fel "y tebot gwirion iddo fo" neu "yr hen snisyn bach" yn ei wneud yn gawr o chwarelwr. O'r blaen, pan ddywedai hanes y chwarel, âi hiraeth ei dad yn drech nag ef a thorrai i wylo a chwynfan—yn blentynnaidd, meddai llais bach anhydrin yng ngwaelod meddwl Owen. Ond yn awr nodiai a gwenai'i fam, chwarddai Enid os digwyddai hi fod yn y tŷ, ac yr oedd Myrddin wrth ei fodd yn gwrando ar straeon ei frawd. A chwarae teg i Taid, yr oedd yntau i'w weld yn mwynhau'r sgwrs.

Agwedd Dafydd a wnâi Owen yn anesmwyth. Ar y ffordd o'r chwarel yr oedd yn glustiau i gyd a tha flai "Taw, fachgan!" neu "Go dda, 'r hen ddyn!" i lif huodledd Owen. Ond yn y tŷ, dim ond nodio a gwenu a wnâi, a'i lygaid mawr fel pe'n ceisio denu mwynhad i rai trist-freuddwydiol ei fam ac yn goleuo a thywyllu fel y llithrai cysgodion tros ei hwyneb hi. Pam na chwarddai Dafydd wrth y bwrdd fel y gwnâi ar y ffordd, yn lle ei wneud yn annifyr, bron yn euog, pan ddechreuai ddynwared rhai o ddynion y bonc? Wedi'r cwbl, onid Dafydd ei hun a ddywedodd, "Efalla' mai hyn sy ora', wsti," y bore hwnnw pan fu farw'u tad? A thebyg oedd geiriau Taid ac Elias Thomas a Mr. Morris y Gweinidog ac amryw eraill. 'Roedd modd deall 'Mam yn 'i hiraeth, ond 'doedd dim eisiau i Ddafydd ymddwyn fel petai'u tad dall a chlaf yn y tŷ o hyd. Ni ddeallai Owen ei frawd Dafydd o gwbl, a theimlai'n ddig tuag ato.

Ond gwyddai yn ei galon mai Dafydd oedd ei gyfaill gorau, a pha bryd bynnag, ymhen blynyddoedd, yr edrychai'r Parch. Owen Ellis yn ôl ar ei ieuenctid, am gadernid tawel, di—hunan, ei frawd y meddyliai fwyaf. Diolchai'n ddwys am dynerwch a phenderfyniad ei fam, am ysbrydiaeth hyrddiog ei daid, am ddylanwad mwyn yr hen sant Elias Thomas, ond sylweddolai mai i Ddafydd yr oedd ei ddyled drymaf. "Chafodd neb erioed well brawd," oedd ei sylw'n aml pan gofiai am ymdrech y dyddiau gynt.

Yn y chwarel i ddechrau. Rhedai Dafydd i lawr i Bonc Britannia bron bob awr ginio i weld sut y deuai'i frawd ymlaen ac i'w hyfforddi yn ei grefft, gan ddysgu iddo bopeth a wyddai ef. Ac fel y sylwai Owen ar fechgyn eraill o 'rybelwyr', sylweddolai mor hynod ffodus ydoedd. Pigo'u crefft i fyny orau y gallent a wnâi amryw ohonynt, heb neb arbennig i'w cynghori a chan ddibynnu ar garedigrwydd oriog hwn a'r llall am glwt o garreg i'w hollti a'i naddu'n llechi i'w cyfrif ar ddiwedd mis. Hynny fu hanes Wil Cochyn ym Mhonc Nelson, ac âi Wil druan adref ar nos Wener Cyfrif, wedi mis o waith, heb ddim ond rhyw ddeuswllt neu hanner-coron i'w roi i'w fam weddw. Efallai fod peth bai arno ef am hynny, gan ei fod yn ddynwaredwr medrus, a phan âi ar neges i ennill clwt, oedai yma ac acw i ymarfer ei ddawn, tra holai'r chwarelwr a'i gyrasai lle'r oedd "y Cochyn diawl 'na" cyhyd. Er ei fod dan adain ei dad yn yr un bonc, dim ond triswllt a oedd gan Huw Rôb ar ddiwedd ei fis cyntaf a thri a grot ar derfyn yr ail, ond nid oedd ei ddwylo ef, yn ôl a glywai Owen, yn rhai deheuig iawn, a châi'r enw o gam-drin yn lle trin ei gerrig. Ond, ac Elias Thomas a Dafydd yn ei hyfforddi'n eiddgar a'r "George Hobley 'na" er ei holl ffaeleddau yn ŵr hynod hael, rhoes Owen goron i'w fam ar ei nos Wener Cyfrif gyntaf a chweswllt ar yr ail. Ac yn awr, yn y gwanwyn cynnar, enillai tuag wyth swllt y mis yn rheolaidd, a hynny heb orfod 'begera' fawr ddim. Y gŵr y siomwyd ef fwyaf ynddo yn y bonc oedd yr hen Ifan Ifans y blaenor. Cawsai ddau neu dri o glytiau ganddo am redeg ar negesau trosto, ond pan âi ati i'w trin ni châi lechi o faint na gwerth ohonynt. Un ai yr oeddynt "fel coed" chwedl George Hobley, heb ddim hollti ynddynt, neu yr oedd y crawennau'n malurio o dan y gyllell-naddu. "Mae'n rhaid fod yr hen Ifan Ifans mewn lle sâl ofnatsan," meddai Owen wrth Elias Thomas un prynhawn ar ôl methu'n lân â hollti un o'r clytiau anhydrin. Ni ddywedodd yr hen flaenor ddim ac edrychodd yn geryddgar ar Huw Jones am gecian chwerthin. Yna un prynhawn, "Hylô, pwy roth y clwt yna iti, Now?" gofynnodd George Hobley. "Yr Hen Phar, mae'n debyg?" "Naci," atebodd Owen yn ei anwybodaeth, "Ifan Ifans." Troes Huw Jones ei gefn arno'n sydyn a dywedai ymyl crynedig ei het fod plwc o chwerthin yn ysgwyd ei pherchennog. Deallodd Owen cyn diwedd y dydd mai cwtogiad o 'Pharisead' oedd 'Phar'. Yn chwerw braidd y gwrandawodd ar huodledd Ifan Ifans yn y Cyfarfod Gweddi y noson honno ac ar ei 'brofiadau' dwys yn y Seiat yr hwyr canlynol.

Gyda'r nos hefyd, cadwai Dafydd olwg dadol ar ei frawd. Nid oedd raid iddo'i dywys i'r capel, i'r Cyfarfod Gweddi nos Lun, i'r Seiat nos Fawrth, i'r Band of Hope nos Fercher, i'r Cwrdd Darllen nos Iau, i'r Gymdeithas Lenyddol nos Wener—gofalai'r plisman defosiynol Owen Gruffydd am hynny—ond, gan gredu barn Mr. Roberts Standard V a Jones y Sgŵl fod Owen yn "hogyn peniog iawn", aeth ati, yn ddiarwybod iddo, i feithrin ei chwaeth mewn llenyddiaeth. Yr oedd Dafydd ers blynyddoedd yn ddarllenwr eiddgar, a phob tro yr âi i Gaer Heli ar brynhawn Sadwrn, yn chwilota ymhlith y llyfrau ail—law yn y Farchnad y treuliai'r rhan fwyaf o'i amser yno. Er hynny, er ei fod mor wahanol i'r mwyafrif o'i gydweithwyr, na phrynent lyfr tros eu crogi, yr oedd yn fodlon ar ei fyd fel chwarelwr, heb chwennych dim yn wahanol. Ni feddyliai am adael y chwarel a cheisio mynd i'r Weinidogaeth, ac nid awgrymai neb hynny iddo chwaith, efallai mai am ei fod mor yswil a thawedog a'i leferydd braidd yn sydyn ac aneglur. Yn awr, a chyfrifoldeb y pen-teulu ar ei ysgwyddau, aethai'n fwy tawedog fyth, ond ni chysgai'r fam weddw un nos heb ddiolch i Dduw am gadernid tawel, diymhongar, ei mab hynaf.

Ac yntau'n tynnu at ei ugain oed ac Owen yn ddim ond deuddeg, gwyddai Dafydd nad oedd y llyfrau yr ymddiddorai ef ynddynt yn debyg o ddenu'i frawd. Cofiodd fod yn yr Ysgol gwpwrdd enfawr a'i lond o lyfrau i rai ieuainc, ac un noson wrth deithio yn y brêc o Gaer Heli yng nghwmni Mr. Roberts yr athro, gofynnodd a gâi fenthyg un neu ddau ohonynt. Câi â chroeso, a daeth Dafydd adref o'r ysgol un hwyr yr wythnos wedyn â dwy gyfrol dan ei fraich—Robinson Crusoe a Mr. Midshipman Easy. Yr oedd y ddwy, meddyliodd â gwên, yn blentynnaidd iddo ef, ond cymerai arno fwynhau pob gair ohonynt, gan ofalu gadael un ar y seld yn y gegin pan welai Owen yn anniddig o segur ar ôl swper. Ond ni fu raid i Ddafydd gymryd arno. Unwaith y dechreuodd ddarllen Robinson Crusoe, ni fedrai yn ei fyw ei roi o'r neilltu, a phan agorai Owen sgwrs am y chwarel neu'r capel neu rywbeth arall, tawedog iawn oedd ei frawd, a'i drwyn byth a beunydd yn lyfr. "Hy," meddai Owen y noson y gorffennodd Dafydd y nofel, "stori i hogyn-ysgol, myn diagan i!" "Efalla', wir, fachgan, ond mae hi'n un dda gynddeiriog ac yr ydw' i am fynd drwyddi hi eto—hynny ydi, os nad wyt ti 'i heisio hi." "Fi? Hy!" "Wel, mi ddarllena' i'r llall 'ma gynta', rhag ofn." A'r un fu profiad Dafydd yng nghwmni Midshipman Easy a Mr. Chucks ac Equality Jack a'r lleill ag wrth ddilyn anturiaethau Crusoe a Friday. Camodd ef ei hun i'r fagl a luniasai ar gyfer ei frawd, a safai Owen draw yn ddidaro, onid yn ddirmygus. Ond un noson, a Dafydd yn dychwelyd yn hwyr iawn o dŷ ei bartner i fyny ar ochr y Fron, synnodd weld bod golau yng nghegin Tyddyn Cerrig er iddo siarsio pawb i fynd i'w gwelyau a pheidio ag aros amdano. 'Mam i'r dim, meddai wrtho'i hun: yr oedd hi mor benderfynol â... â Thaid. Sleifiodd i mewn i'r gegin yn dawel, ac yno, wedi ymgolli'n llwyr yn ei lyfr, a'i ddau benelin ar y bwrdd a'i ddwylo ar ei glustiau, eisteddai Owen. Yr oedd y tân wedi hen ddiffodd a'r lamp yn mygu'n ddrwg, ond ni theimlai'r darllenwr yr oerni, ni chlywai'r aroglau, ni welai anwadalrwydd y fflam.

"Be' sy gin' ti, Now?" gofynnodd Dafydd wedi iddo drin y lamp.

"Midshipman Easy."

"Taw! Dew, stori dda ydi hi, yntê?"

"Go lew, wir," atebodd Owen, gan geisio swnio'n ddifater, ond a'i lygaid yn awchus ar y llyfr o'i flaen. "Wel, tyd i'r gwely 'na, 'r hen ddyn. Bora 'fory ddaw." "Dos di i dy wely. Yr ydw' i am orffan y bennod 'ma."

"'Wyddost ti faint ydi hi o'r gloch, 'ngwas i?"

"Un ar ddeg?"

"Mae hi wedi hannar nos."

"Dim ond tair tudalen sy gin' i eto. Mi ddo' i ar dy ôl di."

"Lwc nad ydi Taid ddim yn gwbod dy hanas di. Mi ddeuda' i wrth 'Mam am beidio â sôn gair wrtho fo."

"Fy hanas i, be'?"

"Yn darllan rhyw sothach pechadurus fel'na tan oria' mân y bora. Celwydd ydi pob nofal, medda' fo, ac mae celwydd yn bechod."

"Hy, 'roedd o'n darllan un y noson o'r blaen pan on i yn Nhŷ Pella'. Ac yn chwerthin fel ffŵl."

"Oedd, mi wn. Ond mae 'Rhys Lewis' yn wahanol."

"Pam?"

"Mae hi'n delio â phregethwr yn un peth, ac yn fwy o ddameg na stori, medda' fo, ac yn . . . yn Gymraeg."

"Mae gin' ti hawl i ddeud celwydd yn Gymraeg, mae'n debyg, ond ddim yn Saesnag?"

"Gofyn di hynny i Taid, Now bach . . . Wel mi osoda' i'r tân i 'Mam at y bora tra byddi di'n gorffan y bennod 'na. Ond fi pia' hwn'na nos 'fory, cofia di 'rŵan. Mi gei di'r llall os lici di."

"Croeso iti ohono fo. Dim ond isio gweld sut stori oedd hi yr on i." Y nos, drannoeth, er hynny, yn lle mynd i'r Gymdeithas Lenyddol, ar fwrdd yr Aurora yr aeth Owen, ac yr oedd yn falch i ddarlith y Parch. Ebenezer Morris ar Ddirwest barhau am awr a hanner ac i Ddafydd orfod oedi yn y Festri am hanner awr arall ym mhwyllgor y Gymdeithas. Gorffennodd y llyfr y noson honno.

Yr oedd eraill o storïau'r Captain Marryat—Masterman Ready, Peter Simple, Jacob Faithful, a Poor John—ymhlith y llyfrau yng nghwpwrdd mawr yr Ysgol, a thrwy'r gwanwyn a'r haf llosgai'r lamp yn hwyr yn aml yng nghegin Tyddyn Cerrig. Owen oedd y pechadur pennaf, a phan ddarganfu nofelau Scott a Dickens, gorfu i'w fam, a ddeffroesai ambell noson yn oriau mân y bore i ganfod golau o'r gegin ar lwybr yr ardd, godi droeon i yrru'r darllenwr i'w wely. A bellach, ar ei ffordd o'r Ysgol â llyfr dan ei fraich, ni faliai pan welai Will Cochyn yn taflu'i ben i fyny ac yn poeri'n ddirmygus i'r lôn. Na phan ddaliai Huw Rôb ef yn sgwrsio'n frwdfrydig efo Mr. Roberts Standard V.

Ffarweliodd Jones-Parry â Chwarel y Fron yn nechrau Awst a daeth Rheolwr newydd, dyn o ardal Llanarfon, i gymryd ei le. Penderfynodd ei gi bach, y Stiward Gosod John Humphreys, hefyd ymddeol yr un pryd, a chytunai gwŷr gorau'r chwarel fod cyfnod heulog o chwarae—teg yn ymagor, yn enwedig pan ddaeth y si fod Richard Davies, er nad oedd nac Eglwyswr na Thori, wedi'i ddyrchafu'n Stiward Gosod.

"Dyn da, er mai fi sy'n deud hynny, a finna'n ista' yn y sêt tu ôl iddo fo yn y capal," meddai Huw Jones wrth Owen. "Gŵr bneddig i'r carn. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Mae 'na wŷr bonheddig hyd yn oed ymhlith y Batus, wsti," eglurodd Elias Thomas yn ddwys. Pur anaml y ceisiai ef fod yn ddigrif, ac yn ddieithriad bron, ar draul enwad Huw Jones y dôi'r ffraethineb.

Yn lle chwilio am ateb, troes y dyn bach at Owen. "Ydi Dafydd yn gwbod?" gofynnodd.

"'Wn i ddim. 'Doedd o ddim bora 'ma, Huw Jones."

"'Tasa' Richard Davies yn Stiward Gosod pan fu dy dad. farw, mi fasa' Dafydd wedi cael y fargen. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Efalla', wir," meddai Elias Thomas.

"Efalla'? Yr on i'n cerddad adra' o'r Seiat efo fo un noson tua'r amsar hwnnw, ac mi feiddis sôn am y peth wrtho fo. 'Ia, piti,' medda' fo, 'piti garw.' Mi ddaru droi'r stori wedyn, ond yr oedd o wedi deud digon. Ne' dyna ydw' i'n feddwl, beth bynnag. Unwaith y byddai rhywun yn pechu yn erbyn Jones-Parry . . . "

Ond tawodd âi Robin Ifans heibio i'r wal. "Yr argian fawr, Huw! Trowsus newydd?" meddai hwnnw, gan aros i'w edmygu.

"Lle cest ti o?"

"Ar y Maes yn y dre. Gan yr Iddew bach tew hwnnw."

"Un da ydi o hefyd. Ond piti fod 'na dylla' ynddo fo, yntê."

"T . . . tylla'?" Archwiliodd Huw Jones ei drowsus mewn dychryn.

"Rhai ciwt ydi'r Jiws 'ma, wchi. Yntê, Now?"

"Tylla'? Lle wyt ti'n gweld tylla', ddyn?"

"Mae dy goesa' di'n dwad drwyddyn' nhw, Huw."

Ni wnaeth Owen ond gwenu, ac aeth Robin ymaith tua'r

Twll yn siomedig. Fe'i mwynhâi ef ei hun fel gŵr digrif y bonc, ond yn ddiweddar ni chwarddai'r dynion gymaint am ben ei ddywediadau ysmala. Byth er pan gafodd ei symud i fargen Robert Ellis, meddai wrtho'i hun fel y deuai i wastad y Twll. Hy, eiddigedd, eiddigedd a dim arall.

"Fyddi di ddim yn y fargen 'na'n hir iawn, 'ngwas i," meddai Huw Jones wedi iddo fynd. "Ne' dyna ydw' i'n feddwl, beth bynnag."

Dyna hefyd a feddyliai Owen y noson honno, pan ddaeth ei chwaer Enid adref o dŷ Richard Davies.

"Lle mae Dafydd?" gofynnodd pan gyrhaeddodd y gegin.

"Yn twtio tipyn yn yr ardd gefn. Pam?"

"Dim byd. 'Dydw' i ddim i fod i sôn gair wrth neb."

"Am be'?"

"Dim byd."

"Am y chwaral?"

"Ddeudis i mo hynny, naddo?"

"Hy, mi wn i."

"Be'?"

"Mae Richard Davies wedi'i wneud yn Stiward Gosod."

"Mae pawb yn gwbod hynny, ond nid dyna oedd gen' i."

"Be' 'ta'?" "Rhwbath am Ddafydd, ond 'ddeuda' i ddim."

"I be' oeddat ti isio Dafydd 'ta'?"

"'Wnes i ddim ond gofyn lle'r oedd o. 'Oes 'na rwbath o'i le yn hynny?"

"Enid?"

"Ia?"

"'Ddeuda' i ddim gair o 'mhen. 'Ddaru o sôn am y fargen?"

"Ar dy lw?"

"Cris—cros, tân poeth, chwadal Myrddin."

"Cofia di, 'rwan. Mrs. Davies ddaru siarad efo fi. Deud bod Dafydd wedi cael cam byth ar ôl y Lecsiwn a bod Mr. Davies am ofalu y ceiff o chwara' teg 'rŵan. Mae o'n meddwl lot o Dafydd, medda' hi, ac os medar o, mae o am roi hen le Tada iddo fo. Ond 'doedd hi ddim i fod i sôn dim am y peth wrtha' i. 'Wnei di ddim cymryd arnat, na wnei?”

"Dim peryg'."

Deallodd Robin Ifans ddiwedd yr wythnos honno ei fod i ailgychwyn yn ei hen fargen fore Llun, a dathlodd George Hobley'r amgylchiad yn y Crown yn lle mynd adref i fwrw'r Sul. Dywedodd droeon wrth y dynion a'i hebryngai i fyny'r Lôn Serth, ymhell wedi un ar ddeg nos Sadwrn, ei fod wedi cael gwared o'r "Robin Ifans diawl 'na" o'r diwedd. Ac yntau mor feddw, ni sylweddolai fod Robin yn un o'r cwmni. Bore Llun ar y ffordd i'r chwarel, yr oedd Owen yn un o bump—ef a Dafydd, Elias Thomas a Huw Jones, ac Ifan Rowlands, tad Cecil. Yr oedd y bore'n loyw a'r awyr yn denau, a chofiai Owen am fore tebyg, flwyddyn ynghynt, pan oedd ei dad yn eu plith. Ai hynny a oedd ym meddwl ei gymdeithion hefyd? Yr oeddynt oll yn dawedog iawn. Rhedai eco'r traed hyd doau'r tai, llusgai Huw Jones ei glocsiau, cliriai Ifan Rowlands ei wddf fel petai'n Farnwr ar fin cyhoeddi dedfryd, anadlai Elias Thomas yn drwm, ond ni ddywedai neb ddim. Yna, o'r diwedd, fel y gadawent y pentref o'u holau, "Mae'r hogyn acw yn dechra' yn y dre hiddiw," meddai tad Cecil.

"Ydi o, wir?" ebe Huw Jones, ond heb frwdfrydedd. Er na wnâi ef fawr fwy yn y capel na chadw trefn ar seddau ôl y Band of Hope, gofalu bod bysedd y cloc yn dangos yr amser iawn ar ddechrau gwasanaeth, a rhedeg dŵr i'r seston ar gyfer bedydd, gwelai ddigon ar Cecil i beidio â'i hoffi, yn arbennig ar ôl clywed barn hogiau fel Owen a Huw Rôb a Wil Cochyn amdano. "Mewn siop, yntê?"

"Y?"

Dyn llariaidd oedd Ifan Rowlands, ond swniai'n gas yn awr.

"O, meddwl imi glywad be'-ydi-i-henw-hi yn deud 'i fod o'n mynd i siop be'-ydach-chi'n-'i-alw-fo. Honno sy ar y Maes ddeudodd hi, dwch? Ne' honno sy yn Stryd y Cei? 'Fedra' i ddim bod yn siŵr, wir."

"Dydi o ddim yn mynd ar gyfyl yr un siop, ar y Maes nac wrth y Cei. Mae o'n dechra' yn offis Roberts y Twrna' bora 'ma."

"O, deudwch chi. Wel, gobeithio y bydd o'n fwy gonast na'i fistar, yntê? Un garw ydi'r Robaits 'na, meddan' nhw i mi. Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim deud, na fedrwch? Ne' dyna ydw i'n feddwl, beth bynnag. 'Fydda' i ddim yn gwrando ar chwartar y petha' fydda' i'n glywad."

"'Roedd Jones y Sgŵl yn deud 'i fod o'n siŵr o ddŵad yn 'i flaen yn iawn yno. Mae'n blesar gweld 'i gopi-bwc o, medda' fo wrth y wraig 'cw. Dim blot ar 'i gyfyl o. Wel, 'roeddan ni'n benderfynol o'i gadw fo o'r hen chwaral 'na."

Yr oedd tipyn o gryndod yn llais Huw Jones pan atebodd. "Dydi'r chwaral ddim yn lle drwg i hogyn cydwybodol a gweithgar," meddai. "Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. I hogyn fel Now 'ma. Dim ond blwyddyn sy er pan ddaeth o i'r bonc acw, a hiddiw dyma fo'n dechra' fel jermon fesul dydd. efo Lias Tomos a finna'. Swllt y dydd, ar ôl blwyddyn o rybela."

"Yr argian fawr!" meddai tad Cecil, gan gofio am yr arian a dalai ef i'r cyfreithiwr yn y dref.

Dyna hefyd a ddywedai'r lleill—wrthynt eu hunain. Edrychodd Dafydd ac Owen ar ei gilydd yn syn hwnnw oedd y tro cyntaf iddynt hwy glywed dim am y peth.

Daethant i waelod Lôn Serth cyn hir a dringodd Owen hi wrth ochr Elias Thomas.

"Un byrbwyll ofnatsan ydi Huw Jones," meddai'r hen flaenor ymhen ennyd. "'Roeddwn i ac ynta' wedi bod yn sôn am dy gymryd di fel jermon, Owen—ond ymhen rhai wythnosa', ar ôl iti gael tros flwyddyn fel rhybelwr. A 'rŵan, mae 'na fatar arall i'w ystyriad. Efalla' y bydd yn well gen' ti fynd yn jermon. at Dafydd a George Hobley. Chdi sydd i benderfynu hynny, Owen, 'machgan i. Fel y gwyddost ti, mi fedrwn ni fforddio talu i jermon, a'r graig wedi gwella cymaint yn ddiweddar."

Wedi iddynt groesi'r bont haearn ar ben Lôn Serth, aeth Ifan Rowlands i'r chwith tua Phonc Rowler a throes y lleill i'r dde drwy'r coed a heibio i'r Barics. Fel y gwnaethai'i dad flwyddyn ynghynt, rhoes Dafydd ei fysedd yn ei geg a chwiban dros y lle, ac ymhen ennyd ymddangosodd George Hobley yn nrws ei lety yn llewys ei grys. Chwifiodd law arnynt, diflan— nodd, rhuthrodd allan wedyn gan wisgo'i gôt ac â brechdan fawr rhwng ei ddannedd. Pan gyrhaeddodd y cwmni ysgwydd y domen a godai rhyngddynt a'r bonc, oedodd Owen wrth ochr Elias Thomas i syllu ar yr olygfa, ac yna dilynodd y ddau y lleill yn araf heb ddywedyd gair. "Ia, Ia, wir, fachgan," meddai'r hen flaenor yn ddwys ymhen ennyd, a gwyddai Owen fod ei feddyliau yntau'n crwydro'n ôl i'r bore Llun arall hwnnw, flwyddyn ynghynt.

Troes Owen i mewn i hen wal ei dad ar ei ffordd drwy'r bonc. Yr oedd Dafydd yn newid ei gôt cyn cychwyn i lawr i'r Twll.

"Wel, sut mae'r jermon yn teimlo?" gofynnodd.

"Jermon?" meddai George Hobley'n herfeiddiol. "I bwy?"

"Mae Huw Jones a Lias Tomos am 'i gymryd o."

"Ond damia . . . "

"Be', George?" Dim ond dau air, ond gwnâi'r dôn i Owen feddwl mai llais ei fam ac nid un Dafydd a glywai. "Be' sy o'i le ar y wal yma? Os medar Huw Jones a Lias Tomos 'i gymryd o fel jermon . . . "

"O, mae o a'r hen Lias yn dipyn o lawia', wsti. A Huw Jones o ran hynny. Ac efo nhw mae o wedi bod ers misoedd, yntê? Ond dyna fo, matar i Now ydi o. Mi geiff o benderfynu, ar ôl meddwl dros y peth hiddiw."

Ond gwyddai Owen mai at Elias Thomas yr hoffai Dafydd iddo fynd. Ac fel o'r blaen yng nghwmni'i dad, cofiodd am ddyn meddw yn honcian allan o'r Crown ac am "y George Hobley 'na" y soniai'i fam amdano. Eto, hen foi iawn oedd. George, y caredicaf dan haul, heb ddichell yn y byd, mor ddiniwed â phlentyn. Ond ped âi ato ef a Dafydd, ni wnâi'i fam ond pryderu yn ei gylch, ac wedi'r cwbl, yng ngofal Elias Thomas a Huw Jones y dysgodd ei grefft. "Faint maen nhw am roi iddo fo?" gofynnodd George Hobley yn awr.

"Swllt y dydd."

"O ... Damnia, mi rown ni ddeunaw iddo fo 'ta'. Mi fedrwn fforddio hynny, a ninnau'n cael cerrig mor freision, Dafydd."

Canodd y corn. "Chawn ni ddim cerrig o fath yn y byd fel hyn," ebe Dafydd, gan droi ymaith. "Ron i wedi bwriadu saethu pnawn 'ma. Tyd, Now." Yna, ar ei ffordd tua wal Elias Thomas, "Mi gei di benderfynu, yntê, 'r hen ddyn?" meddai wrth ei frawd.

"Yr ydw' i wedi penderfynu," atebodd Owen.

"O?"

"Ydw'. At yr hen Lias a Huw Jones yr ydw' i am fynd. Hen ddyn iawn ydi Lias Tomos, yntê, Dafydd?"