Neidio i'r cynnwys

Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (testun cyfansawdd)/Cyf 1 Rhan 2

Oddi ar Wicidestun
Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (testun cyfansawdd) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (testun cyfansawdd)

gan John Morgan Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

PENOD XII.

HOWELL HARRIS

(1745)

Pregeth Williams, Pantycelyn, yn Nghymdeithasfa Watford—Ymdrin a phynciau athrawiaethol dyfnion—Harris, yn Erwd, yn galw gwaed Crist yn "waed Duw"—Cymdeithasfa Abergorlech—Howell Harris mewn dyfroedd dyfnion yn Sir Benfro—Daniel Rowland yn rhybuddio Harris i fod yn fwy gofalus parthed yr athrawiaethau a bregethai—Sefyllfa gyffrous Methodistiaid Lloegr—Cymdeithasfa Bryste—Cymdeithasfa Cayo—Llythyr cynghorwyr y Groeswen—Price Davies yn caniatau y sacrament i'r Methodistiaid yn Nhalgarth —Datganiad Howell Harris yn Nghymdeithasfa Watford—Howell Harris yn Llundain eto—Pressio i'r fyddyn H. Harris ar daith yn Sir Forganwg—H. Harris yn arolygwr y Methodistiaid Saesneg—Dadl a Griffith Jones, Llanddowror—Ymweled a Llundain eto.

CYCHWYNODD y Methodistiaid ar y flwyddyn 1745 trwy gynal Cymdeithasfa Chwarterol yn Watford, ar yr ail ddydd o Ionawr, at ba un, yn syn iawn, nid oes unrhyw gyfeiriad yn nghofnodau Trefecca. Cyrhaeddodd Howell Harris y lle y noson cynt. Cymysglyd oedd ei brofiad. Ar y cychwyn llenwid ei feddwl a llawenydd ac a rhyddid wrth weled yn Nghrist ei holl hawl a'i deitl i fywyd tragywyddol. Eithr yn Watford clywodd, fel yr ymddengys, am ryw gyfeiliornadau oedd ar led, a dadleuon, a chyffrodd hyny ei yspryd yn ddirfawr. "Gwelais," meddai, "ddarfod i'r gelyn gael ei ollwng yn rhydd yn ein mysg, ac megys y trigai yn ein llygredigaethau yn flaenorol, ei fod yn awr ynom yn yspryd cyfeiliornad a thwyll. Yna, wrth edrych ar ein dadleuon, cefais ryddid i lefain: O Arglwydd, os wyt yn bwriadu ein huno oll yn un, a'n dwyn yma oll, a pheidio caniatau i ni gael ein gwasgar na'n rhanu yma, yna dyro i mi gael y fath olwg arnynt (y brodyr cynulledig), ac ar y gwaith, ag a bâr i mi fuddugoliaethu mewn llawenydd, ac hefyd i alaru.' Wedi dysgwyl am beth amser, cefais y fath olwg ar fawredd a mawrhydi Duw, y cartref gogoneddus sydd fry, ei waith, pa mor ogoneddus yw yr eglwys, yn nghyd â'r gwaith sydd genym mewn llaw, fel y cefais yspryd i alaru trosof fy hun a'r lleill."

Y mae yn amlwg ei fod yn gythryblus ei feddwl rhag i'r Gymdeithasfa fod yn faes rhyfel, ac iddi derfynu mewn ymraniad. Yna aeth i wrando Williams, Pantycelyn, yn pregethu, yr hyn a wnaeth gyda nerth mawr, oddiar Can. iii. 8. "Agorodd yr holl lyfr hyd y fan hon," meddai Harris, yna dangosodd natur y nos y cyfeirir ati yma, fel (1) nos yspryd deddfol; (2) nos erledigaeth; ac yn (3) nos profedigaethau a thrallodion. Olrheiniai hyn yn hanes yr eglwys yn yr Aipht, yn Nghanaan, yn Jerusalem, ac hyd yn awr, gan gyfeirio yn neillduol at Job, a Joseph, &c. Dangosodd er mor lliosog oedd gelynion yr eglwys, fod Duw yn ei hamddiffyn. Yr oedd yn anghyffredin o bwerus wrth ddangos fod erledigaeth, efallai, wrth y drws. Yr oedd yn cyrhaedd i'r byw wrth gyffroi pawb i fod yn ddiwyd, yn awr tra y mae ein rhyddid genym."

Y mae yn amlwg i Williams gael odfa anghyffredin. Yna eisteddodd y Gymdeithasfa hyd o gwmpas wyth yn yr hwyr, ac yn groes i ofnau llawer, ffynai undeb a chydgordiad hyfryd yn y cyfarfod. Eithr trowyd un brawd o gynghorwr o'i swydd oblegyd ei esgeulusdra. "Yna," meddai Harris, "ymdriniasom â rhai dadleuon a gymerasai le yn mysg y brodyr. Gwelais werth yr Ysgrythyrau, a'r drugaredd fawr eu bod genym, a bod yn rhaid i ni gredu y gwirioneddau a gynwysant heb ymresymu yn eu cylch. Dywedais fod chwech of ddirgeledigaethau i'w credu, nas gellir eu hamgyffred. Yn (1) y Drindod; (2) yr ymgnawdoliad; (3) cyfrifiad o bechodau Adda i ni, a'n cyfranogiad o honynt wrth natur; (4) cyfrifiad o Grist trwy ras i ni, a'n cyfranogiad o hono; (5) fod Duw wedi caru ei bobl a chariad tragywyddol, ac eto, hyd nes eu hargyhoeddir, eu bod yn blant digofaint, a than y felldith; (6) fod gan Dduw etholedigaeth, ond dim gwrthodedigaeth." Y mae yn amlwg nid yn unig fod Harris yn iach yn y ffydd, ac yn dduwinydd rhagorol, ond hefyd y meddai syniad cywir am derfynau y rheswm dynol, gan ddeall fod rhai dirgeledigaethau yn perthyn i'n crefydd nad gwiw ceisio llygadrythu yn ymchwilgar iddynt, ond yn hytrach ymostwng yn addolgar gerbron y mawr ragorol ogoniant a gynwysant. "Yna," meddai, "ymdriniasom a Supralapsariaeth, a Sublapsariaeth, ddarfod i Dduw ein caru yn rhad, ac mai Crist yw y ffordd ar hyd pa un y rhed ei gariad atom; y modd y mae yn ewyllysio pechod, sef trwy ei oddef; ac wrth ymdrin â'r pethau mawrion hyn gwelais ein hanwybodaeth." Nid rhyfedd; yr oedd y brodyr yn gwthio eu cychod i ddyfroedd dyfnion. Ond y mae yn ddyddorol sylwi nad dynion bychain, yn cael eu dylanwadu gan zêl benboeth, oedd y Tadau Methodistaidd, ond fod dirgeledigaethau yr efengyl, y rhai nad yw yn debyg y medr y rheswm dynol byth eu cwmpasu, yn meddu attyniad mawr iddynt. Fel na byddo i'r darllenydd gael ei ddychrynu gan y termau mawrion a dyeithr, Supralapsariaeth a Sublapsariaeth, gallwn ei hysbysu fod a fynont a threfn y bwriadau yn y cynghor dwyfol; y cyntaf yn dal fod y bwriad i achub dyn yn Nghrist yn blaenori y bwriad i oddef iddo gwympo; tra y mae yr olaf yn dal y gwrthwyneb.

Eithr rhaid i ni fyned yn mlaen gyda desgrifiad Howell Harris o'r Gymdeithasfa. "Cefais ryddid wrth ganu i ofyn i'r Arglwydd a oedd yr hyn a wnaethom yn foddlawn iddo. Pan yn gweddïo, tynwyd fi allan mewn dwfn ostyngeiddrwydd, cariad, a drylliog galon. Wrth glywed newyddion da am y modd yr oedd yr Arglwydd yn arddel y brodyr, llawenychais yn fawr, gan weled fy hun y gwaelaf o honynt oll. Yna, gwedi bwyta, eisteddasom i lawr hyd o gwmpas deuddeg." Dranoeth, eisteddodd y Gymdeithasfa drachefn hyd o gwmpas un—ar—ddeg, a chlowyd y cwbl i fynu gyda phregeth gan Daniel Rowland, oddiar y geiriau yn Nehemiah: "O fy Nuw, cofia hwynt." Ymddengys fod yr odfa yn un arbenig, hyd yn nod i Rowland. Meddai Harris: "Wrth weddio teimlwn fy yspryd yn cael ei dynu allan yn y deisyfiadau gydag ef; yn neillduol pan y gweddïai dros y brenhin a'r genedl; a chefais brawf yr ai y gwaith yn ei flaen, ac nad ai yr erledigaeth yn mlaen. Yn sicr, yr oedd yn llawn o Dduw. Cefais nerth i gydymdrechu ag ef yn ei bregeth. Y fath ddylanwad, yr wyf yn meddwl, ni welais erioed, fel yr oeddwn dan orfodaeth i anrhydeddu yr anwyl frawd Rowland. Yn sicr, yr oedd y nerthoedd yn rhyfeddol y tro hwn. Cafodd ddoethineb rhyfedd, yn fewnol ac yn allanol, i ddangos fel y mae pob aelod yn meddu ei le a'i ddefnydd yn y corph, felly hefyd yn yr eglwys. Os wyt wrthgiliwr,' meddai, darllen yr Hebreaid; os wyt ddefosiynol, darllen y Salmau; os wyt o dueddfryd ryfelgar, darllen Joshua a'r Barnwyr; ond os wyt am gyflawni pethau mawr, darllen Nehemiah; aeth efe tuhwnt i bawb yn mawredd ei ymgymeriadau, a hyny heb offerynau cymhwys.' Nis gallwn fyned yn mlaen gyda difynu pregeth Rowland, er cymaint y brofedigaeth. Meddai Harris: "Y mae nerth rhyfedd wedi ei roddi iddo i dynu eneidiau at Dduw, ac i dynu Duw atynt hwy. Yr oedd fel pe nas gallai roddi i fynu ymdrechu. Bendigedig a fyddo yr Arglwydd, ei fod eto yn ein mysg yn y fath fodd. Gwelaf fod graddau helaethach o allu wedi ei roddi iddo na neb o fewn fy adnabyddiaeth. Am danaf fy hun, ychydig o allu feddaf, ac ychydig ddylanwad." Nid rhyfedd i'r brodyr, gwedi y fath amlygiad o bresenoldeb y Goruchaf yn eu mysg, ymadael yn llawen.

Cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, Ionawr 16. A ganlyn yw ei chofnodau:—

"Gwedi treulio amryw oriau yn nghyd, yn gweddïo ac yn canu, mewn cariadwledd, trwy yr hyn y taniwyd ein calonau mewn modd anarferol, pob un yn teimlo presenoldeb yr Arglwydd mewn modd tra anghyffredin, wrth fod pob un o'r brodyr yn darllen ei adroddiad am y seiadau oedd dan ei ofal, penderfynwyd :——

"Ein bod yn trefnu rhyw foddion i ysgafnhau y brawd James yn ei amgylchiadau allanol, fel y byddo yn fwy rhydd i fyned o gwmpas.

"Ymroddi i weddi gyda golwg ar fwriad y brawd Thomas Jones parthed priodas, gan gyduno ei fod i adael ei ysgol yn gyfangwbl.

"Fod y brawd Thomas Jones i chwilio i mewn i amgylchiadau y brawd Edward Bowen, ac i geisio deall a ydyw yr Arglwydd am iddo symud o'r lle y mae.

"Fod y brawd Lewis Evan i fyned mor bell ag y gall i'r Gogledd, i Sir Feirionydd, mewn ufudd—dod i alwadau allanol.

Anerchwyd y cyfarfod gan y brawd Harris gyda golwg ar ostyngeiddrwydd, ffydd, a zèl, ac am chwilio yr Ysgrythyrau, ynghyd a gofal na byddo ein zel a'n cynhesrwydd yn myned y tu hwnt i'n gwybodaeth, a'n golwg ar Dduw trwy ffydd.

"Fod y brawd Harris i siarad â brawd yn Merthyr sydd yn myned i briodi gwraig heb ganiatad ei thad, er ceisio cael ganddo oedi.

"Fod y brawd Harris i benderfynu rhyw anghyd—ddealltwriaeth yn seiat Llanafan, yn codi oddiar fod yr Ymneillduwyr yn dyfod (i bregethu) i'r tŷ lle y cyfarfyddent, yn amser eu cyfarfodydd, hwythau yn cwyno nad ydynt yn cael un budd wrth eu gwrando.

"Wedi bod yn fwy dedwydd, hyfryd, a llawnach o'r cariad dwyfol nag arfer, a chwedi penderfynu pob peth, pob un yn dwyn tystiolaeth i bresenoldeb amlwg yr Arglwydd yn ein mysg, ymadawsom o gwmpas deuddeg, wedi bod yn nghyd yn y pregethu, y gariad—wledd, a'r Gymdeithasfa, am o gwmpas deuddeg awr. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw!

Y mae yn sicr iddynt gael Cymdeithasfa lewyrchus anarferol. Meddai Harris: "Wrth ganu a gweddio llanwyd ein calonau a'n heneidiau fel â gwin newydd. Cefais ddoethineb wedi ei roddi i mi i drefnu ein hamgylchiadau, wedi chwilio i stâd yr holl gymdeithasau a'r cynghorwyr. Anogais i ostyngeiddrwydd, doethineb, chwilio yr Ysgrythyrau, gan eu rhybuddio gyda golwg ar dân a zêl. Ond wedi cael mwy o dân nag y gallai ffydd ei ddwyn, y cnawd a'i derbyniodd, a minau a syrthiais. Ond O, dynerwch yr Arglwydd tuag atom. Cefais ychydig olwg i weled fod Duw o'n plaid." Nid hawdd deall beth a feddylia wrth ddarfod iddo gael mwy o dân nag y gallai ffydd ei ddwyn. Ai nid yw yn awgrymu tuedd, yn ymylu ar fod yn afiach, i ddadansoddi yn ormodol ystâd ei galon, a natur ei deimladau? Modd bynag, tebygol yr ystyriai nad oedd ei zêl yn y cyfarfod yn gyfangwbl yn ol gwybodaeth, a bod yr hwyl i raddau yn fwy na'r argyhoeddiad. Dengys y nodiad dynerwch cydwybod na cheir yn gyffredin ei gyffelyb.

Tranoeth, y mae yn parotoi i gychwyn i daith fawr, o dros fis o amser, trwy ranau helaeth o Ddê a Gogledd Cymru. Dengys y nodiad canlynol ei deimlad ar yr achlysur : "Heddyw, ysgrifenais lythyr Cymraeg i Sir Feirionydd, wedi cael fy llanw o gariad neillduol atynt, a deall fod ewyllys yr Arglwydd i mi ymweled â hwynt, ac efallai i farw yn eu mysg." Ai y gorlafur yn debyg o brofi yn ormod i'w gyfansoddiad eiddil, a olyga, ynte y posiblrwydd iddo gael ei osod i farwolaeth gan yr erlidwyr, nis gwyddom. Dydd Gwener, aeth mor bell ag Erwd, lle y pregethodd gyda nerth anarferol. Dywedais wrthynt," meddai, "am edrych at waed Duw. Ni chefais gymaint erioed o'r blaen o'r goleuni hwn, i ganfod y gwaed, ac i weled yr angenrheidrwydd am iddo fod yn waed Duw. Felly, ni chefais erioed o'r blaen gymaint o nerth ac awdurdod wrth bregethu." Y mae y bregeth hon yn Erwd yn drobwynt yn ei hanes, fel y pryd y defnyddiodd gyntaf yr ymadrodd gwaed Duw," yr hwn ddywediad a brofodd yn dramgwydd mawr i'r brodyr, ac a fu yn un o brif achosion yr ymraniad. Ond dilynwn y daith trwy gyfrwng y dydd—lyfr : "Aethum yn fy mlaen yn hyfryd tua Llanfairmuallt, ac ar y ffordd yr oedd gwaed Crist fel gwaed Duw wedi ei osod yn rhyfedd gerbron fy ngolwg. A'r goleuni hwn a'm cadwai yn ddedwydd. Ni welais yn flaenorol ddirgelwch y gwaed hwn fel gwaed Duw. Daethum i Lanfair. Wrth weled y plant yn chwareu, drylliwyd fy nghalon gan alar duwiol; prin y gallwn ei oddef." Pregethodd yno gyda chryn. arddeliad. Aeth i Dolyfelin, lle y cyfarfyddodd â Mr. Gwynn, presenoldeb yr hwn yn wastad a daniai ei enaid. Pregethodd oddiar Gal. iv. 1. Lletyai yn nhŷ Mr. Gwynn y noswaith hono, lle y darllenodd lyfr o waith Mr. Griffith Jones ar dragywyddol gariad Duw. "Wrth ddarllen," meddai, "rhwygodd Duw y gorchudd; cefais y fath oleuni na chefais ei gyffelyb o'r blaen, i weied ddarfod iddo fy ngharu â chariad tragywyddol, ac y bwriadai yn nhragywyddoldeb fy nwyn i ogoniant. Yn y goleuni hwn gwelwn bob peth yn diflanu i ffwrdd, a fy hun yn wrthddrych cariad tragywyddol y Drindod, fel y ffieiddiwn fy hun oblegyd pechod, ac y deallwn natur pechod, wreiddyn a changen, yn fwy nag erioed." Aeth i Langamarch, lle y pregethodd oddiar eiriau yn Hosea, ac y cafodd odfa nerthol. Pasiodd

trwy Merthyr Cynog, lle y pregethodd oddiar Phil. iv. 4; oddiyno i Landdewi, lle y derbyniodd y sacrament; ac yn ei flaen i'r Glyn, lle y pregethodd oddiar Esaiah lxxx. 1. "Cefais yma fwy o nerth. i bregethu y gwaed nag erioed," meddai; "dangosais nad hwn sydd yn cael ei bregethu, ond rhesymau, ac mai dyna paham yr ydym wedi colli y nerth o'n mysg; a bod rhai yn ei ddirmygu. Cyfeiriais at allu yr Arglwydd; mai gwaed Duw ydyw, ac am adnabod Crist yn unig." Gwelir fod yr un syniad yn oruchaf yn ei feddwl trwy y daith. Aeth yn mlaen trwy Blaenllywel, gan ddyfod i Landdeusant y diwrnod o flaen y Gymdeithasfa Fisol yn Abergorlech. Y mae ei brofiad yma yn haeddu ei groniclo. Meddai: "Heddyw a ddoe toddwyd fi yn llwyr, a darostyngwyd fi wrth draed yr Arglwydd, wrth gael goleuni gan yr Yspryd Glân i ganfod y trugareddau allanol sydd yn fy nghylchynu. Ac felly, tan ddylanwadau dwyfol, mi a syrthiais ar y llawr, ac a addolais, gan gyfaddef fel y canlyn: O Arglwydd, tydi ydwyt oll yn gariad; y mae yn llifo yn rhydd i mi. Minau ydwyf oll yn bechod, a hunan, ac anwybodaeth, a gelyniaeth ; ac yn arbenig yn annghrediniol ac anniolchgar. Ond eto, yr wyt ti yn maddeu y cwbl. O gariad digyffelyb!' Yna tynwyd fi allan mewn dymuniad ar iddo egluro ei ogoniant yn Nghrist. Yno cefais ryddid i ddymuno ar iddo fod yn ein mysg, a dylanwadu ar y brawd Rowland i fyned yn fwy o gwmpas yr wyn, i'w porthi

a'u tanio."

Gwelwn fod Harris dan yr argyhoeddiad eto nad oedd Daniel Rowland mor ymdrechgar gyda theithio ag y dylasai. Nis gallwn benderfynu a oedd gradd o wirionedd yn hyn; ai ynte nad oedd Harris yn cymeryd yn ddigonol i ystyriaeth amgylchiadau ei gyfaill, yr hwn oedd yn guwrad tair o eglwysydd pwysig. Ion. 22 y cynhelid y Gymdeithasfa Fisol yn Abergorlech; yr oedd Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn bresenol, a'r cyntaf oedd yn y gadair. Agorwyd y gweithrediadau gyda phregeth gan Rowland oddiar Jeremiah vi. 5. Meddai Harris: "Wrth ymuno yn y weddi fwyaf nerthol, feddyliaf, a wrandewais erioed, teimlwn fy

hun yn cael fy narostwng; gwelwn fy hun y creadur gwaethaf a greodd Duw; fod mwy o bechod yn dylifo allan o honof na neb o fewn y byd. Fy enaid a ddarostyngwyd ynof; canfyddwn fy hun y diweddaf yn ngwinllan Duw; gwelwn y brawd Rowland fel fy mrawd hynaf, ac eto fod Duw wedi fy anfon inau." Wedi y bregeth gweinyddid y sacrament. gwmpas pump ymgynullwyd i drin gwahanol faterion, a buwyd wrth hyny hyd o gwmpas deg. Nid yw Harris yn son dim am y penderfyniadau; yn unig crybwylla ei fod ef a Rowland yn cydletya. Y mae cofnodau y Gymdeithasfa fel hyn:

"Wedi gwrando am ystad y seiadau, a chael fod clauarineb yn ffynu yn Sir Forganwg, a lleoedd eraill, penderfynwyd cadw dydd o ymostyngiad rhwng hyn a Chwef

ror 21ain.

"Cydunwyd fod y brawd John Morgan i fyned o gwmpas ar unwaith, i gasglu yr arian am y llyfrau, i dalu Mr. Farley, cyhoeddwr y Weekly History.

"Fod y brawd David Williams i fyned i ymddiddan à Mr. Griffith Jones, dydd Sadwrn nesaf, ac i gynorthwyo y brawd John Richard pan y gall, gyda gofalu am yr ysgol."

Dyna yr holl o'r cofnodau, a gwelwn mai cymharol ddibwys ydynt. Gwelwn fod y Parch. D. Williams, Llysyfronydd, wedi symud i Forganwg erbyn 1745. Aeth Harris a Rowland yn nghyd tua Chilycwm, lle y pregethodd y diweddaf. Teithiodd Harris trwy Glanyrafonddu, lle y pregethodd ac y bu yn anerch y seiat, a Llanarthney, Llanon, a St. Clears, gan gyrhaedd y Parke, cartref Howell Davies, erbyn y Sul. Bu mewn dyfroedd dyfnion y Sul hwn, a chaiff ef ei hun adrodd yr hanes: "Gwelwn fy hun," meddai, “heb ddim gofal am ogoniant Duw, heb ddim cariad at y brodyr, heb dosturi, nac ystyriaeth o'r canlyniadau. Canfyddwn fy mod yn pechu yn erbyn cariad a gras; yn erbyn trugaredd, moddion, perthynasau, a bendithion. Gwelaf fy mod yn suddo yn ddyfnach, ddyfnach. O ddyfnder drwg pechod ! Yr oeddwn yn y fath drueni a dyryswch, fel nas gallaswn ddyfod allan o hono. Ond er fy mod wedi fy ngwanhau a'm dryllio, teimlwn gariad pur at y brodyr, a gwelwn fy hun yn annheilwng i fod yn eu mysg, gan eu bod oll yn cael eu ffafrio yn fwy na mi mewn gras a sancteiddrwydd. O gwmpas tri aethum i lawr, ond ni theimlwn yn rhydd i fyned at y brodyr; gwelwn yr un pryd ganlyniadau niweidiol peidio myned; ond nis gallwn help. Yn unig cefais nerth i lefain ar i'r Arglwydd gyflawni ei ewyllys, bydded y peth a fyddo. Eithr fel yr oeddwn yn dychwelyd tua Llanddowror, a chwedi dyfod i'r fan lle yr oedd yn rhaid i mi benderfynu, tosturiodd yr Arglwydd wrthyf, a rhoddodd yn sydyn y fath gariad i mi at y brodyr, fel nas gallwn lai na llefain yn fy yspryd am fod gyda hwynt, a chael byw a marw gyda hwynt. Yr oeddwn yn un â hwy mewn modd neillduol. Cefais y fath undeb â'r brawd (Howell) Davies, na chefais ei gyffelyb o'r blaen, gan deimlo ffrwd o serch at ei enaid a'i gorph fel teml Duw, fel un yn ffafr Duw, ac fel cenad Duw." Amlwg yw iddo fod mewn ystorm ofnadwy o ran ei feddwl; ac y mae yn bur sicr iddi godi oddiar ryw dramgwydd a gawsai yn y brodyr. Nid annhebyg iddo glywed rhyw chwedl, naill ai ar ei ffordd i Sir Benfro, neu ynte yn nhŷ Howell Davies y nos o'r blaen, a barodd iddo ymddigio. Efallai iddo glywed ei bregethau yn cael eu beirniadu, neu fod rhai o'i hoff gynlluniau yn cael eu gwrthwynebu. Ffromodd yn aruthr o herwydd hyn; poethodd ei dymherau nes y collodd pob llywodraeth arnynt am yspaid; a chwedi ymlonyddu i raddau, er y teimlai gywilydd o hono ei hun, ni fedrai gael rhyddid i fyned i fysg ei gyfeillion, oeddent wedi cydymgynull y dydd cyn y Gymdeithasfa, ac yn treulio y prydnhawn mewn gweddi a mawl. Bu mewn cyfynggynghor pa beth a wnelai, ai tori pob cysylltiad â hwy, a dychwelyd adref, ynte myned i'w mysg. Trwy drugaredd, Ílanwyd ei fynwes a chariad, fel y trodd y rhod. o blaid y diweddaf; ond yr oedd yr amgylchiad yn flaenbrawf o'r dymhest a gludodd Harris allan o'r cylch Methodistaidd yn mhen pum mlynedd ar ol hyn.

Ar ol tymhestl y daw hindda; ac ymddengys fod yr haul yn llewyrchu ar y frawdoliaeth oedd wedi ymgynull yn Hwlffordd, yn y Gymdeithasfa, prydnhawn dydd Llun. Meddai Harris: "Yr oeddwn yn agos at Dduw, a galluogwyd ni i drefnu ein cynlluniau tuhwnt i bob disgwyliad, fel y synwn ddarfod i'r gelyn geisio fy rhwystro i ddyfod yma. Yn sicr, gwnaed llawer o waith; a threfnasom amryw bethau a ymddangosent yn dra dyrus; megys am arolygwr newydd, trefnu y cynghorwyr anghyoedd, symud rhagfarnau am y tŷ newydd yn y lle hwn, agor ein calonau i'n gilydd gyda golwg ar gyfiawnhad, a pha mor bell y geill eneidiau fyned heb ras achubol, Saul yn enghraifft, yn nghyd â Judas, Balaam, Demas, y morwynion ffol, a'r rhai y crybwyllir am danynt yn Heb. vi. Cawsom lawer o serch at ein gilydd, ac undeb, a chydweithrediad. Yna aethum i bregethu." Gyda golwg ar ei bregeth, dywed: "Eangwyd fy nghalon, fy ngenau a agorwyd, teimlai y bobl, a disgynodd yr Arglwydd mewn modd anghyffredin i lawr ; yn enwedig pan y dangosais mor ardderchog y byddai gyda hwynt yn angau, pan fyddai eu llygaid yn pylu, a'r galon yn pallu; yna,' meddwn, y cewch chwi, ïe, chwi bechaduriaid tlawd a dirmygedig sydd yn credu, weled gogoniant tŷ ein Tad, uno. â'r llu nefol, a sefyll o gylch yr orsedd i orfoleddu ac addoli.' Cafodd odfa nerthol iawn, ac wrth ymadael yr oedd ei galon yn gynhes at ei Waredwr ac at y brodyr. A ganlyn yw y prif benderfyniadau a gafodd eu pasio:

"Fod y brawd William Edward i fod ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac i ymweled yn wythnosol a seiadau Tyddewi, Penrhos, a Mounton; a'i fod ef, yn nghyd â'r holl gynghorwyr anghyoedd eraill, i beidio ymweled a lleoedd eraill, ond fel y bydd eu hamgylchiadau, a'u gofal penodol yn caniatau, a than gyfarwyddid eu harolygwyr.

"Fod y brawd Cristopher Mendus i ymweled yn wythnosol a seiadau WaltonWest, a Studder, gyda y rhyddid a'r rhwymau y cyfeiriwyd atynt.

"Fod y brawd John Sparks i gynghori ar brawf fel cynt yn nghymydogaeth Hwlffordd, dan arolygiaeth y brawd Davies.

"Fod y brawd George Gambold i fyned o gwmpas yn gyfangwbl, ac i adael yr ysgol, er llefaru yn gyhoeddus fel arolygwr, ar brawf hyd ein Cymdeithasfa Chwarterol nesaf yn Cayo."

Wedi y Gymdeithasfa aeth Howell Harris trwy ranau helaeth o Benfro, gan basio trwy Dyddewi, Trefin, lle y cafodd odfa anarferol iawn, Bwlchygroes, Llwynygrawys, ac Eglwyswrw. Testun ei weinidogaeth yn mhob lle oedd y gwaed, a'r clwyfau. Yna teithiodd Sir Aberteifi ar ei hyd, gan ymweled a Llechryd, Cwmcynon, Cilrhedyn, Llanbedr-pont-Stephan, Capel Bettws, a Llanddewi-brefi, lle y lletyai mewn hen balasdy yn nghesail y mynydd, o'r enw Foelallt. Yn mhob man rhoddai bwys mawr ar rinwedd y gwaed, oblegyd ei fod yn waed Duw. "Yr wyf yn gweled fy mod yn pregethu'r gwirionedd," meddai. Aeth y Suli Langeitho, i wrando Rowland; ac oddiyno i eglwys Llancwnlle, a phregethodd ei hun yn yr hwyr yn mhentref Gwynfil, ger Llangeitho, i gynulleidfa o rhwng dwy a thair mil. Rhwystrwyd ef i fyned i Ogledd Cymru, fel y bwriadesai, a dychwelodd adref trwy Gayo a Llwynyberllan. Rhydd y crynodeb canlynol o'r daith: "Mis i heddyw yr aethum o gartref i ymweled à Siroedd Caerfyrddin, Penfro, ac Aberteifi, taith O tua thri chant o filltiroedd, a galluogwyd fi i bregethu o gwmpas haner cant o weithiau, gan brofi bendithion diderfyn, yn nghyd â nerth meddwl a chorph anarferol i gyhoeddi Crist."

Yn

mhen ychydig ddyddiau wedi ei ddychweliad yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Dibwys oedd y trefniadau a wnaed; ond yn nglyn à hi cynhaliwyd cariad-wledd, yn mha un y cafwyd arwydd ion arbenig o bresenoldeb y Goruchaf. "Yr oedd yn gariad-wledd yn wir; buom yno yn canu, yn gweddio, ac yn cynghori, hyd nes yr oedd gwedi deg. Ond beth wyf fi wrth lawer o honynt? Yr oedd y brodyr wedi eu tanio i'r fath raddau fel y buont yn canu ac yn gweddïo hyd yn agos i ddau. Gogoniant i Dduw, yr hwn sydd eto yn ein mysg! Yn y gariadYn y gariad wledd cefais nerth i geisio, ac i guro; teimlwn ryw gymaint o agosrwydd at Dduw ; ond ni ddaeth yn y modd fflamllyd hwnw y daethai gynt, i gymeryd ymaith y gorchudd, gan ddangos ei ogoniant, nes toddi fy enaid, a rhoddi i mi fynediad i mewn agos. Ond parhausom i ymdrechu gyda Duw, ac yn mhen ychydig cefais nerth i ofyn i'r Arglwydd a oedd yn bwriadu ymweled a'r genedl yn ei ras, a dychwelyd atom? A oedd yn bwriadu sefyll wrth gefn y Methodistiaid tlodion, gan eu harwain a'u hamddiffyn? ganlynol, cefais foddlonrwydd yn fy enaid fy hun ei fod yn dyfod atom mewn cariad. Gwedi hyny, cefais ryddid i ofyn yr un peth yn y weddi gyhoeddus, a'r Arglwydd a ymddangosodd yn nghydwybod y brodyr, a boddlonodd hwy yn yr un dull ag y boddlonwyd fi. Yna, cefais ryddid mawr i'w hanog i ymdrech, i fywyd, a zêl, a gweithgarwch."

Dengys y difyniadau hyn ddyn yn byw yn agos iawn at yr Arglwydd. A oedd ei waith yn cwestiyno y Duw mawr, ac yn gofyn ateb pendant ganddo gyda golwg ar y dyfodol, ac yna yn cymeryd ei deimladau boddlongar ei hun a'i frodyr fel atebiad cadarnhaol i'r hyn a ofynwyd, yn dangos ystad meddwl hollol iachus, ni chymerwn arnom benderfynu. Ymddengys fel blaguryn o'r dueddfryd gyfriniol a ymddadblygodd ynddo i raddau gormodol wedi hyn. Yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca drachefn ar yr ail ddydd o Fawrth, a daeth Daniel Rowland i bregethu i'r ardaloedd cylchynol amryw ddyddiau yn flaenorol. Aeth Harris i'w wrando i Erwd. Pregethodd yntau yn rhyfedd oddiar Phil. iii. 1: "Ië, yn ddiameu. yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled, o herwydd ardderchawgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd." O'r cofnodau llawn o'r bregeth a rydd Harris, nis gallwn ddifynu ond ychydig. "Dangosodd," meddai, "fel yr oedd ein cyflwr yn Nghrist yn rhagori ar eiddo. Adda. Yn (1) Pe y parhäi Adda heb bechu, nid ydym yn cael y cawsai ei symud oddiar y ddaear; ond yr ydym ni i gael ein symud i'r nefoedd at Dduw. (2) Nid oedd efe ond mewn paradwys i ba un yr oedd Satan yn gallu cael mynediad, ond yr ydym ni i gael ein symud i fan lle nas gall ddyfod. (3) Er ei fod mewn ystyr yn llawn O ras, eto nid oedd ganddo ddigonedd y tu cefn; felly, er y medrai sefyll, yr oedd yn bosibl iddo syrthio; ond y mae genym ni drysorau dihysbydd y tu cefn i ni, faint bynag a wariom. Yma yr oedd (Rowland) hyd adref ar barhad mewn gras, gan ddangos os oedd Satan wedi ein dinystrio trwy bechod fel nas gallwn achub. ein hunain, eto fod Crist yn well gweithiwr nag efe; felly, ai ni fydd iddo ein hachub mor effeithiol fel nas gallwn ddamnio ein hunain? Dangosodd fod y rhai a gamddefnyddiant yr athrawiaeth hon yn gnawdol. Yn nesaf, eglurodd ardderchawgrwydd gwybodaeth Crist, gan ddangos mawredd y wybodaeth hon, a'i defnyddioldeb, ei bod yn dwyn pardwn, gras, a dedwyddwch. Yr oedd yn llawn addysg, ac o ddoethineb ddwyfol," meddai. "Yna aethum gydag ef tua Threfecca, i wrando arno, ac i gael fy nghryfhau wrth wrando. Dywedai fod yr Arglwydd yn fy rhoddi i iddo gyda hwy i gryfhau ei ddwylaw, ac i lefaru yr un peth ag yntau, a rhybuddiai fi i fod yn fwy gofalus yn fy athrawiaeth." Y mae yr ymadrodd olaf hwn yn dra arwyddocaol, ac yn dangos fod y Diwygiwr o Drefecca, yn marn ei frodyr, yn tueddu i fod yn anochelgar yn ei ymadroddion pan yn egluro athrawiaethau mawrion yr efengyl. Derbyniodd ef y rhybudd, modd bynag, yn yr yspryd yr oedd yn cael ei roddi. "Cawsom gariad ac undeb," meddai, "a chefais ryw gymaint o ostyngeiddrwydd wrth weled fy hun yn cael sylwi arnaf gan unrhyw un. Wrth ei wrando yn pregethu (yn Nhrefecca) oddiar y geiriau: Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun,' nid oeddwn yn meddwl i mi erioed glywed y fath ddoethineb." Teimlai Harris yspryd milwr yn deffro ynddo wrth wrando.

A ganlyn yw cofnodau y Gymdeithasfa Fisol: "Yr oeddym wedi cyfarfod o'r blaen (Chwef. 16), gan dreulio cryn amser yn dra buddiol i ystyried cyflwr y genedl, a'r eglwys, a sylwi ar arwyddion yr amserau, pob un yn gofyn i'r llall pa oleuni, yn ei dyb ef, oedd yr Arglwydd yn roddi y pryd hwn gyda golwg ar y gwaith, pan y mae cymaint o bethau yn dygwydd i fygwth dinystr. Meddai pob un ffydd, yn fwy clir neu wan, yr a'i y gwaith yn ei flaen yn wir nad oedd eto ond dechreu, er fod rhai yn tybio y gallai treialon ddygwydd yn gyntaf. Yr oedd yr Arglwydd gyda ni mewn modd arbenig iawn; cadwyd y brodyr i fynu, i ganu ac i weddïo, hyd gwedi deuddeg.

Wedi agor ein calonau i'n gilydd, a gofyn cwestiynau y naill i'r llall gyda golwg ar y gwaith, cydunwyd i gyfarfod drachefn dydd Gwener, Mawrth 29, am ddeg yn y boreu, a phob pedwerydd dydd Gwener, o Mawrth y cyntaf, fel y byddai i bob dydd perthynol i'n Cymdeithasfa breifat fod yn ddydd o ymostyngiad a gweddi yn nghyd.

Cydunwyd fod amgylchiadau y brawd Thomas Jones i gael eu gosod gerbron y seiadau preifat.

"Fod y dydd Mawrth yn mhen y pythefnos i fod yn ddydd o ymostyngiad personol yn mhlith y ffyddloniaid, o herwydd yr ymraniadau yn Lloegr, a'r clauarineb a phechodau eraill yn Lloegr a Chymru."

Dengys y cofnod diweddaf fod sefyllfa y Methodistiaid yn Lloegr yn dra chyffrous; fod ymbleidio a rhaniadau yn eu mysg; ac yr oedd eu llywydd, Whitefield, yn yr America er y flwyddyn flaenorol; o ganlyniad, ar ysgwyddau Howell Harris, yn benaf, y disgynai y gofal. Dechreu Mawrth, cynelid Cymdeithasfa yn Mryste, ac aeth Harris yno yn nghwmni Beaumont. Yr oedd ei yspryd yn brudd ynddo oblegyd yr amrafaelion rhwng y cynghorwyr. Yn y cwch, wrth groesi yr Hafren, rhoddwyd iddo agosrwydd mawr at Dduw, a nerth i ofyn iddo am ei gadw rhag ei yspryd ei hun yn nydd y demtasiwn oedd yn agoshau, rhag iddo ei dramgwyddo ef, na thramgwyddo y brodyr, yr hyn a ofnai uwchlaw pob peth. Boddlonodd Duw ef y gwnai ei gadw. Wedi cyrhaedd Bryste galwodd y frawdoliaeth yn nghyd; cynaliwyd cyfarfod i ymostwng gerbron y Goruchaf Dduw, ac i ofyn am arweiniad; yna anerchodd Harris hwy, gan ddweyd fod gan yr Arglwydd gweryl â hwy. Boreu dydd y Gymdeithasfa bu mewn ymdrech angerddol â'r Arglwydd cyn myned allan o'r tŷ; gwelai y diwrnod yn ddydd o dreial, yn ddydd galar, ac yn ddydd o ymostyngiad. Cododd chwant myned adref arno, ac eto llefai ei fod yn foddlon aros yno ond iddo weled bod hyny er gogoniant i Dduw. "Y fath nifer," meddai, "hyd yn nod o'r rhai a broffesant eu bod yn adnabod yr Arglwydd, sydd yn llawenychu yn ein hymraniadau; rhai a gondemniant y gwirioneddau ydym yn draethu; eraill a gondemniant yr yspryd a'r zêl. Arglwydd, pa hyd y gadewi ni i fod yn watwargerdd? Ai nid dy blant di ydym, a'th genadon tlawd, wedi eu hanfon genyt? O tosturia wrthym!" Yn yr yspryd hwn yr aeth i fysg y brodyr. Daeth rhyw deimlad drylliedig dros y brodyr wrth ddarllen cofnodau y Gymdeithasfa o'r blaen. Yna," meddai, "bum yn ymresymu â'r brawd Bishop, yr hwn sydd yn myned i ymneillduo, ac i uno â'r Bedyddwyr. Wedi siarad rhydd daethom i ddealltwriaeth ag ef, gyda golwg ar y rhai sydd heb eu bedyddio, ond wedi eu hargyhoeddi. Tybiai ef y dylem godi trwydded i bregethu, mai dyfais ddynol yw bedydd babanod; fod ganddo hawli weinyddu y sacramentau heb ordeiniad nac arddodiad dwylaw. A hyn darfu i ni oll anghytuno. Nid oedd rhai o honom, a minau yn eu mysg, yn rhydd i godi trwydded. Yr oedd pawb o honom yn anmharod i weinyddu yr ordinhadau heb ordeiniad, ac yn anmharod hefyd iordeinio yn ein mysg ein hunain. Yr oeddym yn unfarn hefyd parthed bedydd babanod, ond cytunasom y gallai efe ddyfod i'n mysg, os dymunai. Wedi cael fy nghymhell, aethum i bregethu i'r neuadd, i dorf fawr.” Cafodd odfa dda, ac agosrwydd mawr at yr Arglwydd ar weddi, wrth ddechreu a diweddu.

Parhai y Gymdeithasfa dros ddydd Iau a dydd Gwener, a ffynai heddwch yn yr holl gyfarfodydd. "Yn sicr, gwrandawodd yr Arglwydd ein gweddi," meddai Harris, "ac unodd yn hyfryd ein calonau a'n heneidiau. Teimlwn fod yr Arglwydd yn rhoddi i mi symlrwydd, cariad, a rhyddid, a buddugoliaeth ar ragfarn, i siarad yn syml, ac i beidio ymryson parthed geiriau. Gwelwn ein bod yn meddwl yr un peth (1) gyda golwg ar Grist ein cyfiawnder; yr oeddynt hwy yn golygu yr un peth wrth ei alw ein sancteiddrwydd, ag a olygwn ni wrth ei alw yn gyfiawnder cyfranedig; neu sancteiddrwydd personol. (2) Eu bod hwy yn golygu yr un peth wrth ffrwythau ffydd, neu ffrwythau yr Yspryd, ag a olygwn ni wrth y creadur newydd, sef egwyddor o ras oddifewn yn yr enaid. (3) Eu bod hwy yn golygu yr un peth wrth y gair ffydd mewn ymarferiad ag a olygwn ni wrth ffydd, neu gymundeb â Duw. (4) Eu bod hwy yn meddwl yr un peth wrth ffydd allan o ymarferiad ag a olygwn ni wrth y gair anghredu, neu wrthgilio yn y galon. (5) Pan y siaradent yn erbyn profiad, golygent yn unig peidio ei osod allan o'i le, sef yn gyfnewid am Grist. Yna, cydunasom, os byddem yn defnyddio rhyw derm nad yw yn yr Ysgrythyr, i'w egluro mewn geiriau Ysgrythyrol; ac, hyd y mae yn bosibl, i gyfyngu ein hunain i ymadroddion Beiblaidd." Drachefn, “Cydunasom am gyfiawnhad a sancteiddhad; mai Crist, ac nid ffydd, yw y sylfaen ar ba un y dylem bwyso; a chawsom oleuni a rhyddid anghyffredin wrth ymdrin parthed angenrheidrwydd a lle ffrwyth, sef sancteiddrwydd calon a buchedd; yn nghyd â lle y gyfraith neu y gorchymyn mewn crefydd. Golygem yr un peth yn flaenorol, pan yr ymddangosem fel yn gwrthddweyd ein gilydd. Cydunasom hefyd am y modd i ddelio a'r rhai sydd yn tori y ddeddf yn eu bucheddau nad ydynt yn gredinwyr, am fod Crist yn ysgrifenu ei gyfraith ar galon y credadyn. Mynegasom ein holl galonau i'n gilydd ar bob pwynt; ysgrifenasom hefyd i lawr y pethau y cydunem arnynt. Cydunasom hefyd gyda golwg ar wahanol raddau ffydd-ffydd wan a ffydd gref, ffydd ddamcaniaethol, ffydd grediniol, a ffydd achubol. Cydunwyd hefyd gyda golwg ar y brawd Cudworth; nid oeddwn i yn tueddu ato fel cydlafurwr; ond pan y mynegodd ei fod yn syml, heb dwyll na hoced, yn cyduno a'r hyn a ysgrifenasid i lawr, cefais ryddid i'w dderbyn. Trefnwyd cylchdeithiau pob un; a chwedi trefnu y pregethwyr ieuainc yn eu gwahanol leoedd, ymadawsom yn hyfryd a dedwydd, wedi offrymu mawl a gweddi i Dduw, yr hwn a roddodd i ni y fuddugoliaeth."

Felly y terfynodd Cymdeithasfa Bryste, ac y mae yn sicr fod ei dylanwad yn fawr ar Fethodistiaeth Cymru yn gystal ag eiddo Lloegr. Am y waith gyntaf, tynwyd i fynu fath o Gyffes Ffydd, a Rheolau Disgyblaethol, a gosodwyd y cyfryw i lawr mewn ysgrifen, fel y gellid apelio atynt yn ol llaw. Hawdd gweled fod yr adeg yma yn un o gyffro mawr, a bod y cyffro hwnw yn peri fod holl athrawiaethau crefydd yn cael eu chwilio a'u dadleu. Yr oedd anuniongrededd yn cael yr un driniaeth ag anfoesoldeb, a hawdd iawn i frodyr oedd myned i ymryson yn nghylch geiriau, pan y golygent yr un peth. Doeth iawn yn y frawdoliaeth oedd cyduno i arfer geiriau Ysgrythyrol, hyd byth ag oedd yn bosibl, wrth egluro pob athrawiaeth; ac nid rhyfedd fod Harris yn galw y Gymdeithasfa yn "Gymdeithasfa fendigedig." Y mae yn ddiau fod perygl ymraniad ar y pryd. Felly, o leiaf, y golygai Howell Harris ; a chredwn mai ei ddoethineb a'i arafwch ef fel llywydd y gynadledd a fu yn offerynol i ailsefydlu heddwch, ac i gadw y brodyr rhag ymwahanu. Fel hyn yr ysgrifena gyda golwg ar yr ymdrafodaeth at Mr. Erskine, Ebrill 12, 1745: "Ni fedraf byth anghofio eich gofal pan y cyfarfyddem yn Mryste. Yr oedd, yn wir, yn amser enbyd; ond y Duw sydd yn wrandawr gweddi a agorodd ei glustiau i lefau ei liaws plant a afaelent ynddo. Yr oedd pethau wedi myned mor bell fel na allai unrhyw foddion dynol leshau, ond Duw a dosturiodd wrthym, ac ni oddefai i'w ogoniant, ei waith, a'i blant, a'i genhadau tlawd a drygionus gael eu sathru dan draed, nac i'w gelynion orfoleddu. Gwnaeth ryfeddodau erddom. Ni ddynoethwyd ei fraich yn fwy o'n plaid erioed. Cynlluniau Satan a ddarganfyddwyd, a'i fwriad uffernol a wnaed yn ddim. Gan y gwn eich bod wedi cael y manylion gan y brawd Edwards, nid rhaid i mi ond nodi mai y moddion a ddefnyddiodd i'n huno oedd a ganlyn. Yn gyntaf, datguddiodd i ni, o leiaf i rai honom, y canlyniadau arswydus a fyddant yn debyg o ddilyn ymraniad; y dianrhydedd a dderbyniai ein hanwyl Arglwydd, y tramgwydd a deflid ar ffordd yr annychweledig, a'r annhrefn a ddeuai i'n mysg ninau, a phawb sydd yn ein caru. Yn nesaf, wedi creu ynom, o leiaf yn rhai o honom, ddymuniad am fod yn un, a than ddylanwad y dymuniad hwn i dywallt ein calonau gerbron yr Arglwydd, efe a symudodd ein rhagfarnau allan o'n hysprydoedd, gan roddi i ni ffydd y byddai iddo eto drugarhau wrthym, a'n huno yn ei wirionedd, er mor annhebyg yr ymddangosai hyny. Yna, wrth agor ein calonau i'n gilydd, y gorchudd a'n cadwai rhag deall ein gilydd o'r blaen a gymerwyd ymaith, a chawsom fod ein camddealltwriaethau a'n gwahaniaethau yn cyfodi o gamgymeryd geiriau ein gilydd. Óblegyd gyda golwg ar gyfiawnhad a sancteiddhad, a ffydd achubol, golygem yr un peth, er y gwahaniaethem yn ein dull o egluro yr un gwirionedd. Fel y gwelwch, yr wyf yn credu, yn nghofnodau ein cytundeb, yr oedd y brawd Cennick wedi bod yn anwyliadwrus yn rhai o'i ymadroddion, yn ngwres ei zêl, ac oddiar ddymuniad difrifol am ddyrchafu y Duw-ddyn, yr Emmanuel gogoneddus; ac wrth ddifodi y gau noddfeydd sydd yn cadw cynifer heb ddyfod i fyw mewn ffydd wirioneddol ar y gwaed a'r clwyfau, darfu i'r gelyn ei wthio fel y llithrodd ryw gymaint wrth lefaru, ac y dyrysodd rai o'r bobl a wrandawent, fel ag i'w gamgymeryd yn y ddau eithafion. Yr oedd rhai o'r dynion ieuainc, mi a gredaf, yn fwy beius fyth. Ond ar bob llaw, yr wyf yn gobeithio ein bod wedi cael ein darostwng, a'n dwyn yn agosach at ein Meistr tyner a thosturiol."

Nis gallwn fanylu ar gynwys y llythyr, er fod ynddo amryw bethau yn haeddu sylw. Treuliodd Howell Harris ei Sabbath yn Bath, a dychwelodd adref erbyn dydd Iau, Mawrth 29, fel ag i fod yn bresenol yn y Gymdeithasfa Fisol, yn Nhrefecca. Cyfarfyddai ei frodyr gyda chalon lawen, oblegyd fod pethau wedi troi allan gystal yn Mryste; ac eto yr oedd pob llwyddiant gyda'r gwaith yn ei ddarostwng, ac yn ei lenwi a gostyngeiddrwydd. Fel hyn yr ysgrifena: "Yr oedd ein cyfarfod yn llwythog o newyddion da. Wrth weddi tynwyd fi allan yn hynod, a llewyrchodd yr Arglwydd ei wyneb arnom, gan wresogi ein calonau. Wrth fy mod yn gosod o'u blaen y cynygiad o Scotland, am gadw diwrnod bob tri mis, a phob boreu Sul, i ddiolch i'r Arglwydd am yr adfywiad diweddar yn Lloegr, a Chymru, ac America; cynygiad a pha un y darfu i'r brodyr gyduno, cefais nerth i weled nad oedd hyn yn perthyn i neb yn fwy na mi. Yn (1) Nid oes neb wedi cael ei ffafrio yn gymaint a mi, y gwaethaf a'r annheilyngaf o bawb. (2) Nid oes neb wedi digio a themtio yr Arglwydd fel myfi, ac felly nid oes ar neb gymaint o rwymau i'w ganmol, ac i ymostwng ger ei fron. (3) Nid oes ar neb gymaint o rwymedigaeth i ddymuno am lwyddiant y gwaith. Llefais am gael fy ngwneyd yn gydwybodol yn hyn. Gwedi ymholi am ansawdd y cymdeithasau, ac am y dull y cedwid y dyddiau o ymostyngiad, ymadawsom yn hyfryd ein hysprydoedd."

Yn nghofnodau Trefecca ceir yr adroddiad a ganlyn:

"Cymdeithasfa Trefecca, Mawrth 29'; Howell Harris, cymedrolwr Wedi adrodd ddarfod i'r Arglwydd wrando ein gweddïau parthed uno y brodyr yn Lloegr, trefnwyd ein Cymdeithasfa Fisol nesaf i fod yn nhŷ Thomas James, dydd Gwener, Ebrill 26.

"Gan fod cynygiad wedi dyfod o Scotland i gadw diwrnod bob tri mis, gan ddechreu gyda Thachwedd 1, yn ddydd o weddiau, am ddwy flynedd, ac hefyd i gyfarfod bob boreu Sul, oblegyd y gwaith diweddar yn Lloegr, Cymru, Scotland, ac America, i ddiolch i Dduw am dano, i weddïo am iddo fyned yn mlaen, ac i ymostwng oblegyd y pechod oedd yn cydfyned ag ef; cydunasom â'r cynygiad i gadw y dydd cyntaf o Fai nesaf, a phob boreu Sul, gyda chynifer ag a allwn gael. Ac hefyd yn breifat, i roddi i hyn gymaint o le ag a allwn yn ein calonau, a'n hamser, bob nos Sadwrn, ac i gymhell hyn ar eraill."

Y dydd Mercher a Iau canlynol, sef yr wythnos gyntaf yn Ebrill, cynelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Nghayo; Cymdeithasfa bwysig ar amryw gyfrifon, ond nid yw ei hanes yn ysgrifenedig yn nghofnodau Trefecca. Agorwyd y gynhadledd gyda phregeth gan John Powell, yr offeiriad o Sir Fynwy. Meddai Harris: "Yr oeddwn yn ddifrifol ac yn drymaidd, ond nid yn yr Yspryd, wrth wrando. Eithr cefais nerth i ymdrechu drosto, ar i Dduw lewyrchu arno, a daeth yr Arglwydd i lawr. Yna ciniawasom; a phregethodd y brawd G. oddiar Ioan i. 1, 2. Yr oedd ganddo gyflawnder o eiriau, ond yr oedd wedi ei adael yn hollol, a ninau yn sych yn ymddangosiadol. Yr oedd yr Arglwydd fel pe yn mhell oddiwrthym. Trywanwyd fi wrth glywed y brawd Rowland yn dweyd fod yr Arglwydd fel pe yn gadael y cynghorwyr. Gwelwn hyn fy hunan, mewn cysylltiad â mi ac eraill. Bendithiwyd yr ymadrodd; rhoddwyd i ni ryw gymaint o wyliadwriaeth, a zêl, a galar am ein gwrthgiliad parhaus oddiwrth yr Arglwydd, a'n heilunaddoliaeth, a'n puteindra ysprydol. Ond, yn sicr, nid oedd ein cyfarfod eto yn llawn o Dduw. Wrth ddarllen llythyr oddiwrth y brawd Howell Davies, yn datgan y fath anrhydedd oedd cael pregethu gwaed Crist, cefais oleuni ac argyhoeddiad i weled nad yw gogoniant y gwaed hwn ond prin dechreu dyfod i'r golwg. Darllenasom ddau lythyr o Fynwy a Morganwg gyda golwg ar ymadael oddiwrthym." Pa gymdeithas yn Sir Fynwy a anfonodd y cyfryw lythyr sydd anhysbys, ond yr oedd y llythyr o Sir Forganwg oddiwrth gynghorwyr y Groeswen, ac y mae mor bwysig, ac mor nodweddiadol o deimlad llawer o'r cynghorwyr ar y pryd, fel yr haedda gael ei gofnodi oll. Fel hyn y darllena:—

"At yr anwyl frodyr yn gyffredinol, a'r gweinidogion yn neillduol, cynulledig yn Nghayo, anfon anerch.

"Gras fyddo gyda chwi oll. Amen. Yr ydym yn credu am danoch mai rhai ydych sydd anwyl gan Dduw, a bod Duw yn anwyl genych chwithau, a'ch bod mewn modd neillduol wedi cael eich galw gan Dduw i waith y weinidogaeth, a bod achos Duw yn agos atoch, ac yn pwyso ar eich ysprydoedd; a'ch bod wedi cael adnabyddiaeth helaeth o'i ewyllys, ac o herwydd hyny angenrhaid a osodwyd arnom i ddanfon atoch fel rhai a dderbyniodd y gras o gydymdeimlad â ni, ac amryw eraill sydd yr amser hwn mewn llawer o gaethiwed, o herwydd yr annhrefn sydd yn ein plith. Mae ein cydwybodau wedi eu rhwymo gan Air Duw, fel nas gallwn barhau fel hyn allan o drefn Duw; canys gweled yr ydym fod Duw wedi gosod trefn yn ei eglwys, er y dechreuad, yr hon sydd i barhau hyd y diwedd. Ni a dybygem mai eich dyledswydd chwi yw cydymdeimlo â ni yn yr achos mawr hwn; canys chwi a fuoch yn anogaeth i ni fyned dros Dduw allan o drefn ; ac er dim a wyddom ni fe'n llwyddodd Duw ni mewn mesur, ac a fydd i chwi, fel goruchwylwyr da yn nhŷ Dduw, ymegnio i ddwyn y gwaith da hwn yn mlaen i drefn? Mae yn annhebygol iawn i un corph o bobl barhau fel hyn dros ei holl amser. Yr y'm ni yn disgwyl am gael eich meddyliau chwi yn yr achos hwn, yn agos er ys dwy flynedd, ac nid y'm yn gweled dim argoel eich bod chwi wedi pwyso y mater hwn fel y dylasai gael; ond yr y'm yn ofni fod gormod o ragfarnau yn eich dygiad i fynu yn nglyn wrthych. Ein meddwl yw, eich bod yn ormod yn nglyn wrth yr Eglwys Sefydledig. Yr ydym ni yn gweled pe bai chwi yn cael eich ordeinio yn Eglwys Loegr, fel ag yr ydych yn disgwyl, na byddai hyny yn ddigon i wneuthur yn esmwyth amrywiol o frodyr a chwiorydd yn y wlad; canys eisiau sydd arnynt gael rhai i weinidogaethu y Gair a'r ordinhadau iddynt yn ei bryd, ac i edrych drostynt fel bugail dros y praidd, ac y byddai raid i ni gael ein hatal, neu fod fel ag yr ydym, yr hyn beth nis gallwn feddwl ar ei wneuthur.

"Yr ydym wedi rhoddi ein hachos yn llaw Duw, gan obeithio, os na fydd i chwi dosturio wrthym, y bydd i Dduw agor ffordd i ni gael gwell trefn. O frodyr, y mae yn dost genym glywed nad oes genych ddim rhyddid i ni gynghori, o herwydd nad ydym wedi ein hordeinio; ac nad ydych, can belled ag y gallwn ni weled, yn gofalu pa un a gaffom ni ein hordeinio a'i peidio. Os na fydd i chwi gydymdeimlo â ni, yr ydym yn gweled fod galwad i ni droi ein golygon ffordd arall, a Duw fyddo yn gyf arwyddwr i ni. Yr ydym yn cyfaddef mai eich llafur chwi ydym, ac y mae yn dost genym orfod ymadael â chwi, a rhoi lle i eraill ddyfod i mewn i'ch llafur chwi; eto, yr ydym yn rhwym i dori trwy bob anhawsdra, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu, a chydwybod dda. Ac nid ydym yn gwneuthur hyn mewn byrbwylldra. ond gan ei ystyried yn ddwys ac yn ddifrifol; ac fel y mae yn cael ei ystyried y mae yn dyfod yn nes atom, fel ag y mae yn anhawdd ei ddyoddef. Un achos paham y mae ein cydwybodau mor gaethiwus yw, o herwydd fod trefn o arddodiad dwylaw yn cael ei arfer yr amser gynt, sef amser yr apostolion, ar bob math ag oedd yn gweinidogaethu y Gair, nid yn unig yr esgobion a'r henuriaid, ond hefyd y diaconiaid, fel y gallwch weled yn Actau vi. 6: Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo hwy a osodasant eu dwylaw arnynt hwy.' Wedi hyn yr ydym yn cael hanes am yr effaith ragorol a ganlynodd, fel y gellwch weled yn y wers ganlynol. Mae yn debygol fod y rhai hyn, fel ninau, wedi bod lawer gwaith yn llefaru, a bod Duw yn eu llwyddo; eto, feallai, nad oedd gan yr esgobion a'r henuriaid hollol ryddid iddynt, mwy nag sydd genych chwi, yr offeiriaid, atom ni yn bresenol; am hyny ni a ddymunem arnoch wneuthur yr un peth; ac wrth wneuthur felly ni ellwch dramgwyddo neb dynion a gymero Air Duw fel rheol benaf i rodio wrthi, ac ni a allwn ddisgwyl yr un effeithiau, sef chwanegu at ein rhifedi, a bod yn gadernid i'r rhai sydd eisoes wedi eu galw. Ni a ddymunem na fyddo i'r brodyr edrych arnom fel pobl wedi syrthio i glauarwch, o herwydd ein bod fel hyn yn anfon ein meddyliau atoch, na'n bod yn disgwyl am gael enwau mawrion yma; nage, canys os rhoddwch chwi le iddo yn eich rheswm, nid ydym yn actio yn y cyfryw fodd. O herwydd hyn, ni allasem fyned ymaith yn ddystaw, ac felly cael ein hordeinio, a chymeryd cynulleidfaoedd dan ein golygiad. Nage, frodyr; yr ydym yn foddlawn i gydlafurio gyda chwi, fel yr ydym hyd eto, ac i gymeryd ein llywodraethu genych chwi fel o'r blaen, eto yn yr Arglwydd, ac yn ol ei Air. Yr ydym wedi bod yn ceisio dodi ein hachosion o'ch blaen chwi er ys talm o amser, ond ni chawsom ryddid i wneuthur felly. Duw a dosturio wrthyın mewn amser O gyfyngder, pan y mae ein tadau yn Nghrist, a'n brodyr yn yr Arglwydd, yn ein gadael yn amddifaid. Hyn, yn bresenol, oddiwrth eich caredicaf frodyr,

"THOMAS Price,
"WILLIAM EDWARD,
"THOMAS WILLIAM,
"JOHN BELSHER,
"EVAN THOMAS."

Rhaid addef fod hwn yn lythyr cryf, er y cynwysa rai cyfeiriadau personol nad ydynt yn gwbl barchus. Prin yr oedd yn weddus ar ran y cynghorwyr hyn i awgrymu, pe y caffai rhai o ddynion blaenaf y Gymdeithasfa eu hordeinio yn ol trefn Eglwys Loegr, nad gwaeth ganddi beth a ddeuai o'r lleill. Hawdd darllen rhwng y llinellau awydd mawr am ordeiniad; yr oeddynt yn barod i aros gyda'r Methodistiaid, ond iddynt gael eu hordeinio; yr oeddynt yn benderfynol i ymadael oni chaent. Diau genym fod y cyffelyb ysprydiaeth yn ymweithio fel lefain yn mysg y cynghorwyr trwy lawer o'r cynulleidfaoedd. Dyddorol fyddai gwybod pa ateb a roddwyd i'r llythyr, os atebwyd ef o gwbl; nid yw y wybodaeth hono genym; ond teifl dydd—lyfr Howell Harris lawer o oleuni ar stad meddwl y frawdoliaeth cynulledig yn Nghayo, yn nglyn a'r mater hwn. Meddai: "Cawsom hir ymchwiliad i natur ac arwyddion balchder, sydd yn awr yn dechreu ymddangos yn y cynghorwyr. Agorasom ein calonau i'n gilydd, gan weled fod yn rhaid i ni ddatgan yn erbyn yr Ymneillduwyr, eu bod yn cysgu, ac yn gadael yr Arglwydd. Rhoddodd yr Arglwydd i mi genadwri i'w chyhoeddi i'r brodyr ; cenadwri ofnadwy, yn tori i'r byw, gyda golwg ar ostyngeiddrwydd, a thlodi yspryd. Yr oedd yr Arglwydd yno yn wir. Datganai amryw fod y geiriau yn trywanu eu heneidiau fel cleddyfau. Cyfeiriais at berygl balchder; mor ffiaidd oedd ein gweled ni (y cynghorwyr) yn falch, gan na feddwn ond ychydig ddoniau, ac ychydig wybodaeth mewn unrhyw beth; a'n bod heb ddysg na medr, yn wael, ac yn ddirmygus yn ngolwg pawb, ac felly hefyd mewn gwirionedd. Dangosais y dylem gywilyddio, ac ymostwng gerbron Duw, wrth weled cynifer yn ymgynull i wrando ar greaduriaid mor wael; a'r modd y mae balchder yn ymddangos mewn anallu i oddef cerydd." Prawf y difyniadau hyn mai fel balchder yspryd ar ran y cynghorwyr, yr edrychai Howell Harris, a'r brodyr yn Nghayo, ar y dymuniad angerddol am urddiad oedd yn dechreu dangos ei ben, ac yn peri dadleuaeth frwd ac ymraniad. Ymddengys y pethau canlynol yn bur glir: (1) Fod arweinwyr y Methodistiaid yr adeg hon, ac yn arbenig Howell Harris, yn dra ymlyngar wrth yr Eglwys Sefydledig, ac yn rhy anmharod i gydnabod hawliau y cynghorwyr mwyaf galluog gyda golwg ar ordeiniad i gyflawn. waith y weinidogaeth. Awyddent am i amryw gael urddau esgobol; eithr oni chaent y fraint hono, nid oeddynt yn barod i ymgymeryd a'r cyfrifoldeb o ordeinio yn eu mysg eu hunain. Gwell ganddynt, yn hytrach, oedd i'r cymdeithasau ddyoddef amddifadrwydd, ac i'r cynghorwyr galluocaf gefnu. (2) Tra yr oedd rhai cynghorwyr wedi eu cynysgaethu â doniau helaeth, ac yn meddu gwybodaeth ddofn o'r Ysgrythyr, fod lliaws o rai eraill yn weiniaid eu galluoedd, yn brin eu dirnadaeth, ac yn amddifad o chwaeth a barn; ac eto, nid annhebyg fod yr awydd am ordeiniad, er mwyn cael safle uwch yn yr eglwys, yn gryfach yn y dosbarth olaf hwn na neb. Felly, pe y dechreuid ordeinio y cynghorwyr, nid annhebyg y byddai hyny fel pe yr agorid argae, y llifai cenfigen ac eiddigedd i fewn i fysg y brodyr fel afon. (3) Y mae yn bur sicr fod amryw, a'r rhai hyny, efallai, y dosparth_mwyaf parchus, o'r rhai a ganlynent y Diwygwyr, ac a ymgyfenwent yn Fethodistiaid, yn fwy ymlyngar wrth yr Eglwys na'r arweinwyr; a phe y gwelent y duedd leiaf yn y Cyfundeb i ymffurfio yn blaid Ymneillduol, y troent eu cefnau arno ar unwaith. Rhwng pob peth, ni welai Rowland a Harris eu ffordd i symud; disgwylient yn awyddus am oleuni mwy pendant a chlir. Ar yr un pryd, tueddwn i feddwl iddynt fod yn rhy amddifad o feiddgarwch yn y cyfnod hwn, a'u bod yn disgwyl arwydd eglurach nag oedd ganddynt hawl i wneyd, a thrwy hyny iddynt golli canoedd o'u canlynwyr, y rhai a ymunasant â phleidiau eraill. Ni fu hyn, modd bynag, yn golled i grefydd, oblegyd bu yn foddion i greu yspryd llawer mwy efengylaidd, a mwy ymosodol, yn y cyfryw bleidiau, ac efallai yn atalfa effeithiol ar yr yspryd cyfeiliorni a ffynai yn eu mysg.

Y peth cyntaf a wnaeth Howell Harris ar ol cyrhaedd adref oedd myned at Price Davies, offeiriad Talgarth, er cael ganddo ganiatau i'r Methodistiaid gymuno yn yr eglwys, yr hon fraint a ataliasai oddiwrthynt am agos i ddwy flynedd a haner. Gwrthwynebai yntau," meddai Harris, "yn (1) Am fy mod yn pregethu gartref ar adeg y gwasanaeth dwyfol. Atebais inau na wnaethum y fath beth, yn fwriadol, erioed. (2) Fy mod yn pregethu yn erbyn canonau yr Eglwys. Atebais nad oedd y canonau yn gyfraith, am na chawsent erioed eu cadarnhau gan Weithred Seneddol. (3) Fy mod wedi dolurio Esgob Llundain. Dywedais fy mod yn meddwl na wnaethum hyny, ond nad oedd yr Esgob yn glir gyda golwg ar gyfiawnhad, a phe y cawn fy ngalw o'i flaen y teimlwn yn ddyledswydd arnaf i ddweyd hyny wrtho; ond os oeddwn wedi camddifynu ei eiriau yn fy llythyr at Mr. Glyde, mai y rheswm oedd, nad oedd llythyr yr Esgob genyf wrth law pan yn ysgrifenu, ac y gwnawn gyfaddef fy mai mewn llythyr arall. (4) Nad oeddwn yn dyfod i wrando i eglwys fy mhlwyf. Atebais mai anaml yr oeddwn. gartref; fy mod weithiau yn myned i'r capel, a'm bod wedi clywed llawer o bregethu da yno; ac weithiau i eglwys Talarchddu, lle y clywn yr hyn a gytunai a'm chwaeth yn well (nag yn eglwys Talgarth); ond nad oeddwn yn cadw i ffwrdd oddiar unrhyw ddrwgfwriad, ac yr awn i Dalgarth oni bai am Mr. Edwards, y cuwrad. (5) Fy mod yn ymosod ar yr offeiriaid yn eu cefnau; ac os oeddynt yn feius, mai fy nyledswydd oedd tosturio wrthynt. Atebais na oddefwn ynof y fath deimlad at neb, ond ei bod yn rhwymedig arnaf i sefyll yn gyhoeddus yn erbyn eu pechodau, am eu bod yn foddion i galedu eraill mewn pechod trwy eu hesiampl, gan fod llawer o honynt yn feddwon, ac yn cael eu canfod yn feddw. Dangosais iddo fel yr oeddwn wedi llafurio i gadw llawer yn yr Eglwys, oeddynt yn annhueddol i hyny oblegyd annuwioldeb ac anwybodaeth y clerigwyr, y rhai a bregethent weithredoedd yn lle Crist. Pan y gwrthwynebai hyn, cydnabyddais y dylent gael eu pregethu yn eu lle, fel ffrwythau ffydd. Dywedai fod y bobl, ar ol gwrando arnaf fi, yn edrych yn watwarus arno ef, ac yn ei ddirmygu. Dywedais fy mod yn gobeithio na wnaethum i hyny erioed. Cydnabyddodd na wnaethum. Dywedais, yn mhellach, pa bryd bynag y gwelwn y cyfryw yspryd ynof fy hun, neu mewn eraill, fy mod yn ei geryddu. Yr oedd yn chwerw yn erbyn y brawd Rowland, gan ei fygwth a gwys os byth y deuai yno drachefn. Pan yr honai nas gallwn ddwyn cosp arno ef am wrthod y sacrament i mi, fel yr oeddwn wedi bygwth yn fy llythyr, cyfeiriais ef at y prawf rhwng Esgob Manaw a'r llywodraeth, pan yr oedd wedi gwrthod y sacrament, ac y cafodd ei wysio o'r herwydd." Felly y terfynodd yr ymddiddan rhwng Harris a'r hen Price Davies, ac y mae yn dra dyddorol fel engrhaifft o'r teimlad o'r ddau tu. Nid yw yn ymddangos i'r offeiriad roddi ateb penderfynol ar y pryd; ond ildio a wnaeth, oblegyd ar gyfer Sul y Pasg cawn y nodiad a ganlyn yn y dydd—lyfr: "Aethum i eglwys Talgarth, a chefais ganiatad i gyfranogi o'r sacrament. Yr oeddwn yn isel fy meddwl yn ystod y canu, eithr yn y bregeth, ar Col. iii. 1, synwyd fi at ei huniongrededd a'i hysprydolrwydd; yna aethum at y bwrdd, wedi bod yn agos at yr Arglwydd trwy ystod y bregeth, a gwnaed fi yn ddiolchgar o herwydd clywed y fath bregeth yma." Fel y trefnasid yn flaenorol, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn nhŷ Thomas James, Cerigcadarn, ar y 26ain o Ebrill. Ni cheir ei phenderfyniadau yn y cofnodau; tebyg mai dibwys oeddynt; ond rhydd Howell Harris ryw gymaint o'i hanes yn y dydd—lyfr. "Eisteddasom yn nghyd," meddai, hyd gwedi pedwar, a'r Arglwydd a'm gwnaeth yn finiog, ac yn dra llym i'r brodyr. Dangosais y rhaid i ni gael ein dysgu gan Dduw yn yr ol ag a geisiwn ddysgu i'r bobl, onide nas gallwn lefaru gydag awdurdod, a bywyd, a hyfdra; y dylem ddeall ein perthynas a holl greaduriaid Duw, â phawb dynion, ac â phawb credinwyr, gan weled ein bod wedi ein geni i'r byd cynddrwg a'r diaflaid; pan fyddom yn myned gerbron y bobl, ein bod yn wynebu ar greaduriaid sydd yn farw mewn pechod, y rhai na effeithia geiriau na rhesymau fwy arnynt na phe y ceisiem dyllu careg â bys, oddieithr i Dduw lefaru wrthynt a'u dwysbigo; y dylem benderfynu peidio myned at y bobl heb Dduw, a gofalu, gwedi myned, am gadw ein llygaid yn sefydlog ar Dduw; oblegyd pan fyddom yn myned yn y cnawd, os canfyddwn yn y gynulleidfa ŵr doeth a phrofiadol, ni a anghofiwn y bobl, gan gyfeirio ein holl ymadroddion ato ef, a cheisio gosod ein hunain yn iawn yn ei syniad ef, ac felly anghofio yr Arglwydd. Yna dangosais fel yr oedd y bobl wedi syrthio i drwmgwsg, fel, er eu bod yn teimlo tan weinidogaeth y Gair, nad ydynt yn eu bywydau yn cydnabod yr Arglwydd, ac na dderbyniant gerydd. Sylwais y byddai yn well i ni beidio pregethu, oni wneir ni yn effeithiol i ddwysbigo ac argyhoeddi. Cyfeiriais at falchder—balchder mewn dillad—ein dull o geisio ei guddio, ac fel yr ydym yn gaethion iddo. Yr oedd nerth mawr yn ein mysg. Yr wyf yn credu y caiff hyn ei fendithio iddynt, ac i'r wyn. Gwelais ddarfod i'r Arglwydd fy anfon gyda'r genadwri hon atynt. Yna, gwedi trefnu dydd o ymostyngiad, a phenderfynu ein cylchdeithiau, aethum, o gwmpas wyth, tua Llangamarch." Pregethodd yno gyda nerth mawr, ac aeth i dŷ Mr. Gwynn i gysgu.

Yr wythnos ganlynol aeth ar daith i ranau o Fynwy a Morganwg, er mwyn, yn un peth, bod yn bresenol yn Nghymdeithasfa Watford; ac, fel y dengys y dydd—lyfr, er mwyn cadarnhau y cynghorwyr. Yr oedd y cyffro a'r anesmwythder a ffynai yn eu mysg yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl. Meddai: "Yr wyf yn teimlo fy enaid yn crynu oblegyd y cynghorwr; y mae hunangais yn cynyddu yn eu mysg, a thlodi yspryd yn darfod, a gwybodaeth y pen yn dyfod yn mlaen. O fy Nuw, dwg ni i'th ddysgeidiaeth di, fel y gwelom ac y gogoneddom di, ac y deuwn yn debyg i ti. Byddai yn beth arswydus i'r Methodistiaid adael yr Arglwydd ar ol cymaint a wnaeth efe iddynt. Eithr y mae fy Arglwydd yn dyner wrthyf yn y dydd hwn o brawf. Yr wyf yn cael mai yr hyn yn unig a geisiant yw, ordeiniad, disgyblaeth, a chynulleidfaoedd. O, ai nid ydynt yn hyn yn debyg i'r Israeliaid a geisient frenin er mwyn bod fel y cenhedloedd eraill?" Wedi pregethu yn Cantref, Dolygaer, Llanheiddel, a New Inn, cyrhaeddodd Watford y nos cyn y Gymdeithasfa. Yr oedd yma o fewn dwy filltir i'r Groeswen, canolbwynt y cyffro am ordeiniad, o'r hwn le hefyd yr anfonasid y llythyr i Gymdeithasfa Cayo. O angenrheidrwydd, felly, rhaid fod awydd y cynghorwyr am gael eu hordeinio, a'r cynhwrf yn nglyn â hyny, yn uchaf ar feddwl pawb a ddaethai yn nghyd; a rhaid i'r mater gael ei drafod. Cymerodd Harris fantais ar bresenoldeb llawer o'r brodyr i drin y pwnc yn flaenorol i gynulliad ffurfiol y Gymdeithasfa, gan draethu yn helaeth ei syniadau ei hun, ac ateb rhesymau a gwrthddadleuon. Caiff y dydd—lyfr adrodd yr hanes "Wrth ymddiddan a'r brodyr, dywedais fy mod yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn tri pheth. Yn mlaenaf, nad oeddwn erioed wedi edrych ar y seiadau fel eglwysi, ond fel canghenau bychain o Eglwys. Yn nesaf, nad oeddwn wedi edrych ar y cynghorwyr fel gweinidogion i weini yr ordinhadau, na, gyda golwg ar lawer o honynt, fel rhai i gyfranu y Gair yn y ffordd o bregethu, ond mewn ffordd o gynghori. Yn drydydd, nad oeddwn wedi edrych arnom erioed fel sect, ond fel pobl o fewn i'r Eglwys, wedi ein galw er mwyn diwygiad, hyd nes naill y gwrandewir ni neu y troir ni allan. Dangosais y rhaid i bwy bynag a elwir i lafurio fel diwygiwr gael cariad cryf i ddyoddef llawer. Dywedais fod yr holl anesmwythder hwn, yn ol fy marn i, yn codi yn—

"I. Oddiwrth Satan yn gweithio yn ddirgel i geisio ein rhanu. Fy rhesymau ydynt y rhai canlynol: (1) Nis gallaf gredu fod y petrusder (gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys) wedi cael ei gynyrchu gan Dduw, gan na ddaeth yr amser eto i'w symud, na gweithredu yn ei ol. (2) Amy rhai ddarfu ildio i'r petrusder hwn, fel pe yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd, nid ydynt wedi llwyddo. (3) Nis gallem gyduno â'r Ymneillduwyr pe yr ymumem â hwy, oblegyd eu Baxteriaeth mewn athrawiaeth, a'u clauarineb fel proffeswyr, tra y byddent hwy yn edrych arnom ni fel rhai urddasol, ac na chaem awdurdod yn eu mysg i fyned yn mlaen â gwaith y diwygiad. (4) Fod y syniad am fyned allan fel sect wahaniaethol yn arswydus i mi.

"II. Yr wyf yn meddwl fod y petrusder hwn yn codi hefyd oddiar hunan. Rhesymau: (1) Y maent yn meddu cryn grediniaeth yn eu gallu i ddeall yr Ysgrythyr. (2) Nid ydynt yn teimlo pwysfawredd y gwaith yn dyfod yn ddigon dwys ar eu heneidiau. (3) Nid ydynt yn gweled canlyniadau yr hyn a geisiant.

"III. Yr wyf yn credu y dangosai yr Arglwydd y dymunoldeb o hyn i'r rhai y mae wedi egluro mwyaf o'i feddwl, ac y dechreuai yr ymraniad (oddiwrth yr Eglwys) trwy y rhai y mae wedi, ac yn, rhoddi mwyaf o amlygrwydd o hono ei hun. Mewn atebiad i wrthddadleuon, dywedais: (1) Nad oedd neb wedi gadael eglwys sefydledig hyd nes y caent eu gwthio allan, megys yr apostolion oddiwrth yr Iuddewon, a'r Protestaniaid oddiwrth y Pabyddion; a bod y diweddaf wedi derbyn yr ordeiniad a'r ordinhadau oddiwrth y Pabyddion am gan' mlynedd cyn ymffurfio yn eglwys. (2) Pan y gwrthddadleuid nad oedd yn debyg y byddai i lawer o'r cynghorwyr gael eu hordeinio gan yr Eglwys Sefydledig, oblegyd diffyg gwybod aeth o'r ieithoedd, atebais, pan yr agorid y drws i ni y rhaid i hyny gymeryd lle trwy i'r Arglwydd agoryd calon (yr Esgobion) i ordeinio o herwydd cydwybod, ac nid glynu wrth ffurfiau; neu ynte rhaid iddynt ein gwthio o'u mysg. (3) Dangosais, gyda golwg ar ordeiniad, er fod llawer yn ein mysg yn ei ddymuno, na ystyrid ef yn beth o bwys mawr yn nyddiau yr apostolion. Pan y pregethai Apolos, na anghymeradwyir ef am fyned o gwmpas heb ei ordeinio, ond am ddiffyg goleuni i adnabod Crist. (Ni roddid pwys ar ordeiniad) ychwaith yn nghlyn â'r rhai a elent o gwmpas pan laddwyd Stephan. Gwrthddadl Ond adeg erledigaeth oedd hyny. Ateb Felly y mae yn awr, pan yr ydym ni yn ceisio cael ein hordeinio.

"Lleferais fy meddwl, a meddwl y brawd Rowland, gyda golwg ar y cynghorwyr, fy mod wrth weled y fath falchder, a'r fath ansefydlogrwydd yn rhwym wrth lawer o honynt, yn crynu drostynt; ac hefyd gyda golwg ar y bobl gyffredin, eu bod yn syrthio i gwsg, o ddiffyg rhai i bregethu iddynt fywyd ffydd, ac i ddangos mai yr hyn sydd o bwys ydyw, nid beth y maent. yn ei deimlo, ond beth y maent yn ei wneyd. Yr wyf yn credu i'r Arglwydd fendithio ein dyfodiad yn nghyd yn rhyfeddol, a thuhwnt i'm dysgwyliad. Cafodd y brodyr fwy o gariad, gostyngeiddrwydd, ac ymddarostyngiad nag a ddysgwyliwn, gan ei gymeryd yn garedig fy mod yn dweyd fy marn am danynt, ac yn dangos na lwyddent os aent yn mlaen (gyda mater yr ordeiniad); ond y profai hyny, yn fy marn i, yn fwy o rwystr i'r gwaith na dim a ddigwyddasai hyd yn hyn. Dywedais fy meddwl hefyd gyda golwg ar ffurf o addoliad, y buasai yn dda genyf pe bae un yr Eglwys yn cael ei ddiwygio, a'i ddefnyddiad yn cael ei adael at farn y gweinidog. Atebais wrthddadl arall hefyd, gan ddangos nas gallai ordeiniad gadw dynion cnawdol rhag ymaflyd yn y gwaith."

Yr oedd hwn tuhwnt i ddadl yn gyfarfod pwysig; ac ymddengys i Howell Harris ei hunan, heb gymhorth neb o'i frodyr, orchfygu y wanc am ordeiniad a ffynai yn mysg y cynghorwyr. Ei brif resymau dros beidio ymneillduo oeddynt yn (1) Ofni nad oedd Yspryd yr Arglwydd yn arwain hyn, ac felly y profai y peth yn rhwystr mawr ar ffordd y diwygiad. (2) Gobaith yr etholid esgobion llawn cydymdeimlad a'r diwygiad, y rhai a ordeinient y rhai mwyaf galluog a chymhwys o'r cynghorwyr, heb roddi gormod o bwys ar ddysgeidiaeth ddynol. Nid rhyfedd ei fod ar ei ben ei hun yn ymostwng gerbron Duw am yr anrhydedd a rodded arno, a'i fod yn gweled teyrnas Satan yn cwympo i'r llawr. Yn y Gymdeithasfa, dranoeth, yr oedd pob peth yn gysurus. Anerchodd Harris y cynghorwyr gyda grym; penderfynasant hwythau i adael i'r mater mewn dadl syrthio, a myned yn mlaen fel cynt. Eithr cydunwyd i dynu i fynu bapyr yn egluro eu holl achos, i'w gyflwyno i'r esgobion. Y noson hono aeth Harris i bregethu i'r Groeswen, at y rhai oeddent wedi ymneillduo. Ei destun oedd yr ymadrodd yn Llyfr y Datguddiad: "Nac ofna; myfi yw y cyntaf a'r diweddaf;" a chafodd odfa anghyffredin. A defnyddio ei eiriau ef ei hun, daeth yr Arglwydd i lawr. "Holl ddymuniad fy enaid,” meddai, "oedd am i'r Arglwydd ddod yno, ac aros yn mysg y bobl, gan nad yw geiriau, na mater, na dyrchafu y llais, nac wylo, yn ddim heb Dduw. Cefais ryddid mawr i ddangos sut y mae Iesu Grist y cyntaf, a'r nerth sydd yn hyn i orchfygu ofn; ei fod y cyntaf o flaen dynion, os oes arnom ofn dyn; y cyntaf o flaen y diaflaid; a'r cyntaf o flaen pechod. Y gallai yr Iesu ddweyd: 'Mi a wn ddechreu dyn, a dechreu Satan, a dechreu pechod; mi a wn eithaf eu gallu,

PHOTOGRAPH O LYTHYR RICHARD TIBBOT AT HOWELL HARRIS, AR YR ACHLYSUR O FARWOLAETH EI BRIOD

a'u cyfrwysdra; mi a allaf blymio eu gwaelodion.' Yna, dangosais y modd yr oedd y diweddaf, a'i fod yn cyhoeddi: Mi a fyddaf y diweddaf gwedi pechod, a dynion, a diaflaid; mi a arosaf ar y maes hyd nes y byddont oll wedi eu concro; mi a arosaf yn dy enaid i'w lanhau hyd nes y byddo yn berffaith. Yr wyf yn dy enaid, i dy olchi hyd nes y byddot yn lan ac yn bur, heb na brycheuyn na chrychni. Yr wyf ynot i ymladd dy frwydrau, hyd nes y byddo yr holl elynion sydd yn dy amgylchu wedi eu concro. Nac ofna, yn y dydd olaf, pan y bydd y cyfan yn cael ei losgi gan dân; mi a fyddaf y diweddaf. Myfi, yr hwn sydd wedi dy garu, a'r hwn wyt tithau yn garu; myfi, yr hwn wyt yn ddymuno uwchlaw y cwbl, a'r hwn yr wyt wedi gadael pob peth er ei fwyn; myfi a fyddaf yno, y diweddaf. Yr wyf wedi bod yn farw, mae yn wir; mi a orphenais dy iachawdwriaeth ar y groes; disgynais i'r dyfnder i orchfygu angau a Satan; ond er i mi farw, yr wyf yn fyw.'" Erbyn hyn, yr oedd yn lle ofnadwy yn y cyfarfod, a'r bobl wedi cyfodi fel gallt o goed ar eu traed. Ond y mae y pregethwr yn myned yn mlaen i gymhwyso'r athrawiaeth. "Dyma ddigon," gwaeddai: "Y mae'r Iesu yn fyw! Dowch yn awr, dyrchafwch eich llygaid at y gwaed! Edrychwch, a chwi a welwch gastell marwolaeth wedi ei ddymchwelyd, y llew wedi ei gadwyno a'i goncro, uffern wedi ei gorchfygu; chwi a gewch weled goleuni yr ochr hwnt i angau." Yr oedd y pregethwr yn awr yn feistr y gynulleidfa; yr oedd yn llawn of ffydd ac o'r Yspryd Glân, a phob gair a lefarai yn cyrhaedd hyd adref. Yna, aeth yn mlaen i daranu yn erbyn gelynion Crist, y Sosiniaid, yr Ariaid, y Deistiaid, y Pab, ac uffern, a gorphenodd y bregeth trwy eu hanog oll i ymostwng i'r Gwaredwr. "Cefais nerth rhyfedd," meddai; "yr oedd fy enaid yn rhydd, ac yn llawn o ffydd, o oleuni, ac o Yspryd yr Íesu. O mor ogoneddus yw y goleu hwn!" Nid annhebyg fod a fynai y nerthoedd a deimlid yn yr odfa yn dwyn gwell yspryd i mewn i fysg y cynghorwyr, lawn cymaint ag ymresymiadau Howell Harris yn y Gymdeithasfa.

O Watford, aeth Harris tua'r Aberthyn, yn dra dedwydd ei feddwl, gan adael y cynghorwyr, a gawsent eu ceryddu ganddo, yn iselfrydig o yspryd. Ei destun yma oedd Es. xx. 2, 3, a chafodd gryn nerth i ddangos beth a wnaethai yr Arglwydd erddynt, ac fel yr oeddynt hwythau yn myned yn mlaen i buteinio oddiwrthi. Yn y seiat a ddilynai, bu y pwnc o ymadael a'r Eglwys dan sylw, ac yr oeddynt oll yn unfryd i beidio ymwahanu. Dydd Sadwrn, aeth i St. Nicholas. Clywodd yma fod y press gang allan, a llawenychai ei enaid o'i fewn wrth feddwl am y peryglon ar ba rai yr oedd ei wyneb. Yn eglwys Wenfo, yr oedd clerigwr tra efengylaidd, ac yn ol ei arfer, pan fyddai yn y gymydogaeth, aeth Harris yno y Sul i wrando y Gair, ac i gyfranogi o'r sacrament. Yna, cyfeiriodd ei wyneb tua chartref, gan basio trwy Watford, a phregethu, gydag arddeliad, yn Mynyddislwyn, Gelligaer, a Pontsticyll, a chyrhaeddodd adref erbyn y cyntaf o Fai, yr hwn oedd yn ddydd o ymostyngiad ac ympryd, yn ol trefniad y Gymdeithasfa. Yn mhen ychydig ddyddiau derbyniodd lythyr o Lundain, yn ei alw i fynu, gan fod llawer o faterion pwysig yn galw am eu trefnu, a Whitefield o hyd yn America. Lledodd yntau y llythyr gerbron yr Arglwydd ; teimlai ei fod yn gyfangwbl at ei wasanaeth ef, fel clai yn llaw y lluniwr ; a theimlai yn anrhydedd i fyned, os oedd Duw yn ei alw. Cyn cychwyn tua'r brifddinas, modd bynag, cymerodd daith faith trwy Orllewin Morganwg, gan ymweled â Llansamlet, a gwlad Browyr; trwy ranau o Sir Gaerfyrddin, ac aeth mor bell a'r Parke, yn Sir Benfro. Yr hyn a'i dygodd yma oedd cydymdeimlad a'i anwyl gyfaill, Howell Davies, yr hwn oedd mewn dyfroedd dyfnion oblegyd colli ei briod. Wedi treulio Sabbath yn Llanddowror, gyda yr Hybarch Griffith Jones, dychwelodd Harris i Abergorlech, lle y cynhelid Cymdeithasfa Fisol. Yno pregethai Daniel Rowland. Cafodd afael ryfedd ar weddi ar y dechreu. Meddai y dydd-lyfr : "Yr anwyl frawd Rowland a weddïodd yn rhyfeddol. Pan aeth i ddeisyf ar ran y genedl, ac i alw Duw yn ol i breswylio yn ein mysg, llanwyd y lle gan bresenoldeb yr Arglwydd. Yr wyf yn teimlo yn sicr i'r weddi hon fyned ar ei hunion i'r nef." Testun Rowland oedd, 2 Cor. vii. 1; a'i fater ydoedd, fod athrawiaeth rhad ras yn ddinystriol i bechod. Yr oedd yr Arglwydd yn y lle mewn modd anarferol iawn. Nid oes unrhyw gofnod o'r Gymdeithasfa ar gael, ond yr hyn a gronicla Howell Harris 66 Meddai : yn ei ddydd-lyfr. Eisteddais gyda'r brodyr yn hwyr, am fod gwarant i bressio allan. Holasom ein gilydd gyda golwg ar ein parodrwydd i fyned i'r rhyfel; yr oedd pob un yn foddlawn, os cai ei alw; ond penderfynasom fod yn synwyrol a chall. Cydunasom i fod yn fwy trefnus. yn ein teithiau, fel y caffai yr wyn well porthiant. Cawsom lawer o gariad, a chymundeb yspryd.". Dychwelodd adref trwy Glanyrafonddu, a Llanddeusant. Ymddengys nad oedd meddwl Harris ei hun ddim yn hollol esmwyth gyda golwg ar y penderfyniad i aros yn yr Eglwys Sefydledig; cyfeiria ato amryw droiau yn ystod y daith; ac wedi dychwelyd i Drefecca, y mae nodiad pur hynod yn y dydd-lyfr "Gweddïais yn daer ar i'r Arglwydd ddychwelyd i'n mysg ; ond pan y cefais atebiad ffafriol gyda golwg ar y gwaith, ni chefais ddim yn ffafr y Sefydliad, yr esgobion, a'r clerigwyr, er fy mod yn dadleu llawer o'u plaid." Yn sicr, y mae y geiriau yn arwyddo cryn anesmwythder yspryd.

Tua chanol Mai, cawn ef a Mrs. Harris yn cychwyn am Lundain. Nid oedd yn ddibryder gyda golwg ar yr achos yn Nghymru yn ystod ei absenoldeb; "ond," meddai, cefais ffydd i gyflwyno yr holl lafurwyr i'w ofal ef, gan fy mod i yn myned i'w gadael am ychydig, a llefais ar i'r Arglwydd fod yn ddoethineb, ac yn nerth iddynt, a'u galluogi i sathru Satan dan eu traed." Erbyn cyrhaedd y brifddinas, cafodd fod y cymdeithasau yno mewn stâd dra annhrefnus; ymraniadau a dadleuon wedi dod i mewn i'w mysg, a chwestiynau wedi codi parthed purdeb buchedd rhai o'r aelodau. "Yr wyf yn clywed y fath bethau yma, ac yn gweled y fath ymraniadau, fel nas gwn beth i'w wneyd nac i'w ddweyd," meddai. "Y mae yn dda i mi mai Crist yw fy holl ddoethineb a'm nerth; yr wyf yn gweled fy mywyd a'm hiechyd yn ei law. O, pa fodd yr ymddygaf yn y dydd hwn o brawf." Un Mr. Cudworth oedd wrth wraidd y drwg, sef yr un ag a fuasai yn cynhyrfu yn flaenorol yn Mryste. Nid yn unig yr oedd wedi dwyn dadleuon i mewn am natur cyfranogiad yr enaid o gyfiawnder Crist, ond yr oedd rhyw helynt flin wedi codi gyda golwg ar ei gymeriad personol, a chyhuddid ef o ryw anfoesoldeb na enwir. Credai Harris am dano na chawsai erioed ei aileni, a'r diwedd a fu tori pob cysyllt iad ag ef. Tua phythefnos y bu Mr. a Mrs. Harris yn Llundain, ac ymddengys iddo fod yn nodedig o lwyddianus yn mysg y brodyr Saesnig i wastadhau eu hymrafaelion, a'u dwyn at eu gilydd. Nis gallwn ddifynu y dydd-lyfr am yr yspaid hwn, er y cynwysa hanes manwl a dyddorol, ond y mae ynddo un nodiad tra arwyddocaol. "Neithiwr," meddai, "datgenais mai un gofal yn unig a arferai fod arnaf pan yn esgyn i'r pwlpud, sef ar i bawb yn y cyfarfod gael lles trwy fy ngeiriau, ac ar i Grist gael ei ddatguddio i bawb; ond yn awr fod arnaf bryder gyda golwg ar beth arall, sef ofn rhag i mi dramgwyddo rhyw rai. Ac os gwelaf amryw o blant Duw yn dyfod i wrando gyda chlustiau gochelgar, yn unig er mwyn gweled a ffaelaf, y mae yn brawf dolurus fy mod yn methu credu eu bod yn ceisio fy nghynorthwyo, a dal fy mreichiau i fyny â'u gweddïau. O mor boenus yw dadleuaeth! Mor falch ar bob cyfrif a fyddwn i gael myned i neillduaeth, oni bai mai yr Arglwydd ddarfu fy ngalw yma." Awgryma y nodiad fod rhai o'r frawdoliaeth, yn Llundain, yn dechreu amheu a oedd Harris yn iach yn y ffydd, ac yn myned i'w wrando gyda y bwriad o'i ddal yn tripio. Bu ef a'i briod am gryn amser tua Bath a Bryste ar eu ffordd adref, ac yr oedd yn Fehefin 26, pan y cyrhaeddasant Drefecca.

Llonwyd calon Howell Harris yn fawr wrth ddeall fod y gwaith da wedi myned rhagddo yn Nghymru yn ystod ei absenoldeb. Clywai yn arbenig am y nerth oedd yn cydfyned a gweinidogaeth Howell Davies, ac enynodd ei enaid yn fflam ynddo o'r herwydd. "Llonwyd fy yspryd," meddai, "â diolchgarwch, ac hefyd â chariad ato, ac at bob tyst sydd gan Ďduw yn y byd. O ddaioni fy Arglwydd, yn fy mendithio fel pe na byddwn un amser yn pechu yn ei erbyn! Tynwyd fy enaid allan mewn llawenydd oblegyd y doniau, y grasau, y llwyddiant, y doethineb, a'r nerth y mae yn roddi i eraill." Yn sicr, ceir yma ryddfrydigrwydd yspryd na welir yn aml ei gyffelyb. Yn fuan clywodd fod dyn yn dyfod y dydd hwnw o Aberhonddu, er ei gymeryd, a gwneyd milwr o hono. Teimlai nerth ei natur lygredig fel y gwelwodd wrth glywed y newydd. Ond aeth i'r dirgel; yno cafodd olwg ar ogoniant yr Arglwydd Iesu Grist, fel un a phob awdurdod yn ei law. Gwelai fod y diaflaid, a phob math o ddrwgddynion, ac yn eu mysg y dyn â'r warant, o Aberhonddu, mewn cadwyn ganddo ef. Llanwodd hyn ei yspryd a thangnefedd. Gwelai werth yr addewidion, yn neillduol yr addewid, "Pan elych trwy y dyfroedd myfi a fyddaf gyda thi," fel y galluogwyd ef, nid yn unig i fod yn dawel o ran ei feddwl, ond hefyd i gysuro ei deulu. Eithr ystori gelwyddog oedd y chwedl yn y diwedd; neu, os oedd y cyfryw ddrwgfwriad yn mryd y gwrthwynebwyr, ni roddwyd mo hono mewn grym.

Ar y 3ydd dydd o Orphenaf cynelid Cymdeithasfa Chwarterol, yn Blaenyglyn. Nid oedd Daniel Rowland yno, eithr daethai Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, i'r cyfarfod, yn nghyd â'r Parch. John Powell, yr offeiriad, o Fynwy. Fely gellid disgwyl, yr oedd Howell Harris hefyd yn bresenol. A ganlyn yw y cofnodau:—

"Wedi derbyn llythyr oddiwrth y brawd George Gambold, gyda golwg ar ei alwad, pa un ai (cynghorwr) cyhoedd neu breifat fyddai, a chwedi deall fod ei ddoniau yn hytrach at adeiladu y saint nag at argyhoeddi, a'i fod wedi cael ei fendithio mewn amryw leoedd yn gyhoeddus, ni a ledasom. y mater gerbron yr Arglwydd, ac yna ni a'i cyflwynasom i'r brawd Howell Davies, gan adael iddo benderfynu yn mha leoedd y caffai lefaru yn gyhoeddus, ac yn mha leoedd yn breifat, a hyny ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf.

"Gwedi derbyn dau lythyr, un oddiwrth y brawd John Richards, a'r llall oddiwrth. y brawd Richard Tibbot, y rhai oeddynt mewn cryn betrusder pa fodd i ymddwyn ar hyn o bryd, gan y byddent yn sicr o gael eu pressio pe yr aent i rai lleoedd yr arferent fyned iddynt, ac yn gofyn am gyfarwyddyd, ai nid gwell iddynt roi eu hunain y tuhwnt i gyrhaedd gelynion, trwy gymeryd trwydded, cydunasom oll y byddai cymeryd trwydded, yn bresenol, yn ddianrhydedd i'r Arglwydd, yr un fath ag y byddai gadael y gwaith. Meddyliem, felly, mai gwell i'r rhai sydd allan o afael y gelyn fyned i'r lleoedd mwyaf peryglus, a'r lleill fyned yn fwy preifat, gan arfer pob doethineb diniwed, am mai prawf am amser ydyw hwn, ac na ddylai gael edrych arno fel erledigaeth. Ond am y brawd William Richard, yr oedd efe a'i feddwl mor llawn o amgylchiad Daniel fel y teimlai ei hun dan rwymau i fyned fel cynt. Cydunasom hefyd, os deuai yr erledigaeth yn gyffredinol, a'r efengyl yn cael ei rhwystro yn hollol, i apelio at y llywodraeth. Os gwrthodir ni yno, i ddeisebu yr esgobion; yna, os cymerir ein rhyddid ymaith yn gyfangwbl, bydd y ffordd yn rhydd i ymwahanu.

Darllenwyd adroddiadau y brodyr, y rhai a ddygent newyddion da am lwyddiant yr efengyl yn y rhan fwyaf o leoedd; y brodyr Thomas James a Thomas. Williams, heb ysgrifenu adroddiad.

"Cydunwyd fod i'r brodyr dderbyn tanysgrifiadau er argraffu llyfr Elizeus Cole, ar Benarglwyddiaeth Duw,' yn Gymraeg, hyd y Gymdeithasfa nesaf."

Rhaid fod gwrthwynebiad y brodyr i ymneillduo, ac i ymffurfio yn blaid, yn gryf, pan y dewisent gymeryd eu llusgo o fynwes eu teuluoedd, a'u rhwygo oddiwrth y cymdeithasau oedd mor anwyl ganddynt a'u llygaid, yn hytrach na gosod eu hunain allan o gyrhaedd y perygl, trwy gymeryd trwydded i bregethu, a thrwy hyny gyf addef eu hunain yn Anghydffurfwyr. Gweddus cadw mewn cof hefyd fod y rhai a basient y penderfyniad uchod yn agored i'r ddryc-hin eu hunain. Disgwyliai hyd yn nod Howell Harris bob dydd i'r awdurdodau anfon gwarant i'w gymeryd. Yn ychwanegol, yr oedd amryw o'r cynghorwyr a gawsent eu pressio yn barod yn bresenol yn y cyfarfod, wedi cael caniatad i ymweled â'u brodyr; ac am beth amser buont hwy a'r lleill yn cydgymysgu eu dagrau, ac yn cyd-ddyrchafu eu hocheneidiau at Dduw. Y rhai y cyfeirir atynt, fel allan o berygl, oedd y rhai a gawsant eu hordeinio, naill ai yn yr Eglwys Sefydledig, neu yn ol trefn yr Ymneillduwyr. Tybiai Howell Harris mai y dull goreu i ddwyn y cyfarfod i deimlad o . ymddiriedaeth tawel oedd cyfeirio at wirioneddau tragywyddol yr iachawdwriaeth. "Cyfeiriais," meddai, "gyda grym at berygl ein synwyr ein hunain, ac at ddirgelwch y Duwdod, nad yw yn bosibl ei ddirnad ond trwy ffydd yn ngoleuni yr Yspryd. Dangosais fel y mae fy llygaid yn dechreu cael eu hagor i ganfod mawr ddirgelion y Duwdod. Yn (1) Y Gair yn cael ei wneuthur yn gnawd. (2) Y Trindod mewn undod. (3) Gwirioneddolrwydd yr undeb rhyngom a Christ. Credaf i hyn brofi yn foddion i gyffroi y brodyr allan o'u doethineb eu hunain, i dremio ar y dirgeledigaethau dwyfol; ac yn arbenig cynhyrfwyd hwy wrth edrych ar y gwaed. Yno yr ydym yn gweled y Tad, y Mab, a'r Yspryd. Yno yr ydym yn canfod cariad tragywyddol Duw. A daeth yr Arglwydd i lawr, ac yr oeddym yn ddedwydd yn nghyd." Byddai yn anhawdd cael gwell engrhaifft nag a geir yma o saint yn ymddiried yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef, nes yr oedd ofn perygl yn cael ei lyncu o'r golwg gan fawredd y tra-ragorol ogoniant sydd yn Nuw.

Ar y 16eg o Orphenaf, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Erwd, ac a ganlyn yw ei chofnod: "Yn y Gymdeithasfa hon, ni phenderfynwyd dim neillduol, ond treuliwyd yr amser mewn canu, a gweddïo, ac agor ein calonau i'n gilydd gyda golwg ar ansawdd y gwaith, ac ystâd yr Eglwys a'r genedl. Buom yno am rai oriau, a daeth Duw i'n mysg, gan ein dal i fynu."

Tua diwedd y mis, aeth Harris am daith i Sir Forganwg, hanes pa un a ddifynwn allan o'i ddydd-lyfr:—

"TREFECCA, Sul, 28 Gorphenaf, 1745. Gan mai heddyw yr wyf yn dechreu fy nhaith trwy Sir Forganwg, syrthiais gerbron yr Arglwydd, a chefais agoshad nodedig ato wrth ofyn ar ran fy anwyl wraig, a'm teulu. Atebodd fi y cawn ei gweled drachefn, a'i derbyn o law marwolaeth, fel y gwnaethwn y boreu hwn wrth ddihuno. Čefais ryddid i ddeisyf gyda golwg ar fy nhaith, am i mi gael fy mendithio, a chael fy ngwneyd yn fendith i bawb, pa le bynag yr af. Wedi gweddïo gyda'r teulu, cychwynais. Pan gyrhaeddais Cantref, yr oedd y brodyr yn dyfod allan o'r eglwys. Siriolwyd fi yn fawr wrth eu cyfarfod; a fflamiwyd fy enaid ynof wrth glywed pa mor dda yw efe i'r brodyr sydd wedi cael ei pressio. Ar y ffordd tua Watford, cefais gryn agosrwydd at Dduw. wrth ganu, ac wrth folianu ei enw am y trugareddau a roddasai i eraill. Daethum yno o gwmpas saith, gwedi trafaelu oddeutu deugain milltir mewn wyth awr. Yno, mi a lewygais gerbron y bobl ar derfyn y weddi; gwedi dyfod ataf fy hun, lleferais oddiar yr ymadrodd: 'A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd.' Cefais ryddid mawr wrth gyfeirio at undeb y naturiaethau, ac at waed y Duwdod. Daeth y nerth i lawr yn benaf wrth fy mod yn cymhwyso yr athrawiaeth, gan ddangos fel y mae y ddynoliaeth yn Nghrist wedi ei huno â Duw, felly yr ydym ninau ynddo wedi ein huno â Duw. Cefais gymorth i Cefais gymorth i egluro yr undeb hwn, fel y mae yr enaid a'r corph yn un â Christ, ein henaid ni yn un a'i eiddo ef, a'n corph ni a'i gorph ef. Yna, cyfeiriais ataf fy hun, er i dân losgi fy nghorph, ac i bryfed ei fwyta, eto y cawn ef drachefn yn ogoneddus. Cefais ryddid mawr i'w cyffroi i fyw yn ngolwg Crist, ac i gadw yn agos ato."

Bwriedid cynal Cymdeithasfa yn Watford, am yr hyn y ceir y nodiad canlynol yn Nghofnodau Trefecca: "Bwriadem gynal Cymdeithasfa, ond yr oedd y brawd Price wedi myned i Sir Gaerfyrddin, ac nis gallem gael cyfarfod a'r brawd Richard Jones, yr hwn yr oedd pob moddion wedi eu defnyddio tuag ato, er ei ddiwygio oddiwrth ei ddiofalwch, a'i esgeulusdra gyda'r gwaith. Dymunwyd arno drachefn i beidio llefaru yn gyhoeddus hyd nes y caffai ei adnewyddu drachefn trwy edifeirwch, a phenderfynodd y brodyr i beidio anfon am dano hyd nes y byddo achos Duw yn pwyso mwy ar ei galon."

Ond i ddychwelyd at y dydd-lyfr : "WATFORD, dydd Llun. Heddyw, gwelais ddirgelwch y gwaed yn fwy nag erioed; yr oedd gerbron fy llygaid trwy y dydd. Gwelwn fy holl iachawdwriaeth, a'm nerth, a'm ffynon i ymolchi, fel môr yn llifo allan oddiwrth Dduw, yn rhinwedd yr undeb dirgeledig; ac felly fod ei gwraidd yn Nuw. Llefwn am i ogoniant y gwaed a'r cyfiawnder yma gael ei amlygu trwy yr holl fyd, gan fod pob gwirionedd yn cyfarfod ac yn canolbwyntio yn y gwirionedd hwn---y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd. Cefais ryddid i ddangos i'r brawd Thomas William mai Duw yw y pen saer celfydd; mai efe sydd yn gwybod i ba le yn yr adeiladaeth y mae pob un yn gymhwys; ac hyd nes y byddo pawb yn y lle a fwriada efe iddynt, mai gwanhau, ac nid cryfhau, yr adeilad a wnant." Tebygol fod cyfeiriad y sylwadau hyn at awydd cynghorwyr y Groeswen am ordeiniad, fel y byddai ganddynt hawl i weini yr ordinhadau, ac felly sefyll ar yr un tir a gweinidogion Ymneillduol. Datgenais fy syniad fy mod yn gweled rhyw gymaint o Dduw yn mhob ffurf ar addoliad - Esgobyddiaeth, Presbyteriaeth, ac Annibyniaeth-a rhyw gymaint o'r dyn hefyd, efallai. Geill pob un o honynt fod yn iawn ar ambell adeg, mewn rhai lleoedd, a than ryw amgylchiadau; ond nis gall un o honynt fod mor gyffredinol iawn, fel ag i beidio goddef y lleill. Y mae gwahaniaeth mawr hefyd rhwng pan fyddo y brenin a'r llywodraethwyr yn Gristionogion, a phan fyddant yn elynion Crist.

"Daethum yn fy mlaen i Dinas Powis. Cefais lawer o ryddid wrth weddïo, ac wrth lefaru ar Matt. i. 21. Yr oeddwn wedi cael awdurdod i drywanu, i ddeffroi, ac i argyhoeddi. Dangoswn fel yr oedd Duw yn cashau pechod, ei fod wedi dyfod i'w ddinystrio, wreiddyn a changen; a pha le bynag y byddo Yspryd yr Arglwydd, yno y bydd rhyfel, hyd nes y byddo pechod wedi ei orchfygu. Dangosais sut y mae yn ei ddinystrio, trwy ddatguddio y gwaed. Yma yr oeddwn yn cyrhaedd i'r byw. Llefarais mewn modd argyhoeddiadol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ddatgan mai fy ngwobr i am fy llafur oedd eu gweled hwy yn rhodio gyda Duw. Er fy mod yn wan, yn sâl, mewn poen, ac yn mron llewygu, siaradais yn breifat hyd adref am rodio yn sanctaidd, am gadw dysgyblaeth, am dori allan pwy bynag sydd yn rhodio yn anweddaidd, a rhwystro pawb i gynghori oni fydd arwyddion fod y gwaith ar eu calonau. Cefais ryddid mawr gyda y rhan hon hefyd. Deallais fod y gelyn. yn ceisio fy nuo, a gwanhau fy mreichiau, trwy daenu ar led fy mod wedi syrthio i gyfeiliornadau. Yn hyn hefyd cefais fy nghadw yn dawel a diolchgar, er yn nghanol poen.

"DINAS POWIS (dydd Mawrth). Neithiwr cadwyd fi yn agos at yr Arglwydd, yn mhell uwchlaw'r cnawd, yn fy mhoenau i gyd. Yr wyf yn cael fod y brawd Wesley, yn nghyd â'r brodyr, yn fy narlunio fel wedi syrthio i gyfeiliornadau. Yn hyn yr wyf yn llawenychu, eu bod yn fy ngwneyd i yn ddim, gan fy yspeilio o fy enwogrwydd, ac o'r eneidiau (a argyhoeddwyd drwof), fel y byddo i'r Person rhyfeddol sydd fry gael ei ddyrchafu. Llefais: 'O Arglwydd, na chofier fi, ond i'r graddau y byddot yn defnyddio y cof am danaf, er ledu dy foliant di. Dysg bawb i dy adnabod; galluoga ni oll i feddwl ac i lefaru yn iawn am danat ti.' Aethum tua St. Nicholas, rhyw bum' milltir o bellder, mewn poen mawr o herwydd y ddanodd. Gelwais gyda Mr. Hodge, a chefais ef yn llawn cariad. ddaeth yr amser i lefaru, rhoddodd yr Arglwydd nerth ynof i wynebu ar y gwaith, a chefais lawer o awdurdod a goleuni. Yr oeddwn yn llym yn erbyn y rhai a esgusodent bechod, neu a geisient dadogi y bai ar bai ar Dduw; dangosais fod gwraidd pob drwg ynom ni, ac yn y diafol. Yr oeddwn yn cyrhaedd i'r byw wrth ddynodi y gwirionedd yn cynyddu yn y pen, ac nid yn y galon. Yn breifat, drachefn, yr oeddwn yn agos iawn parthed chwynu y seiat, a pheidio goddef drygioni ynom ein hunain, nac yn neb arall, onide y byddai i'r Arglwydd ein gadael. Datgenais na wnawn arbed neb, ond y trown allan bawb a rodiai yn anweddaidd, pwy bynag fyddent. Gwrthddadl : Yna, ni a awn yn ychydig. Ateb: Pe na baem ond dau, bydded i ni fod yn nghyd yn yr Arglwydd. Gwrthddadl: Fe â y seiadau i lawr. Ateb: Gadawer iddynt fyned; oni chawn seiadau yn yr Arglwydd, bydded iddynt oll fyned yn ddarnau mân. Yna, gosodais o'u blaen achos Richard Jones; ei fod wedi cael ei ddystewi oblegyd ei ddifaterwch, ac eto, fod rhai yn ei alw i lefaru. Datgenais ei fod wedi tristhau yr Arglwydd, a'i fod yn dangos nad yw achos Duw yn agos at ei galon; ac hyd nes y rhoddir edifeirwch iddo, nas gallaf gydlafurio ag ef, ac na ddeuaf ychwaith i'r seiadau sydd yn ei alw. Yr wyf yn gwneyd hyn o gydwybod tuag at Dduw. Pan ddatgenais felly, llewyrchodd yr Arglwydd yn fy enaid; toddodd fy nghalon ynof yn felus, gan ddwyn tystiolaeth ddarfod i mi ryngu ei fodd ef. Aethum ymaith yn llawn cariad.

Cyfeiriais fy nhraed tuag Aberddawen erbyn chwech. Yr oedd poen y ddanodd yn mron bod yn annyoddefol, ond gwnaed i fy enaid fendigo a moli Duw o'r herwydd; gwelwn mai gwialen ydoedd, oblegyd fy mod yn crwydro oddiwrth yr Arglwydd, ac yr oeddwn yn caru Duw am dani. Gelwais yn Ffonmon, ond gan mor fawr oedd y boen, nis gallwn aros yma ond ychydig fynydau. Pan ddaethum i Aberddawen, cefais lonydd gan y boen i lefaru i dorf fawr ar, i dorf fawr ar, Byddwch lawen yn wastadol;' ond trowyd fy ymadrodd i fod yn finiog a llym. Daethum i Pentrythyn, rhyw chwech milltir o ffordd; yr oedd y boen yn dyfod yn mlaen drachefn; teimlwn fy mod wedi cael fy ngwaredu oddiwrth angau, ond O, mor wan a fyddwn mewn poenau oni bai fod genyf Dduw! Cefais ddyoddefgarwch wrth dynu y dant allan; pan yr oedd y boen yn aros drachefn, gofynais feddwl yr Arglwydd gyda golwg ar dynu dant arall; gwedi tynu hwnw allan darfyddodd y poenau.

"PENTRYTHYN (dydd Mercher). Neithiwr, yn Aberddawen, yr oedd llawer o bobl Mr. Wesley yn gwrando, a dywedais ein bod ni a hwythau yn cyduno gyda golwg ar hyn, y rhaid i ni gael ein gwaredu oddiwrth bechod yn y pen draw, a bod y Cristion yn llawenychu yn yr olwg ar hyn; ei fod yn llawenychu hyd yn nod yn nghanol ei alar oblegyd llygredigaethau ei natur, gan fod Duw yn ei garu, yn maddeu iddo, ac yn edrych arno fel yn berffaith yn Nghrist. Y boreu hwn, yn y dirgel, cefais olwg bellach yn fy yspryd, y rhaid i mi fod ar fynydd Seion, yn nghymdeithas myrddiwn o rai sanctaidd, ac felly, gwelwn fy hun yn estron yma. Aethum o gwmpas un i lefaru yn yr Aberthyn, a chefais odfa anghyffredinol o nerthol wrth bregethu ar, Aroswch yn fy nghariad.' Yr oeddwn yn llym wrth y rhai nad oedd a'u holl hyfrydwch yn Nuw. O mor felus yw cael pregethu yn yr Arglwydd! Yr oedd y cynulleidfaoedd yn lliosocach nag arferol yn y rhan fwyaf o fanau. Yna aethum i'r seiat breifat, ac eisteddasom i fynu yr holl nos, hyd yn agos i chwech; a rhyfedd fel y cryfhaodd yr Arglwydd fi yn fy enaid a'm corph. Daeth efe yno; gwnaeth ni fel fflam o dàn â'i gariad; cynysgaethodd ni â bywyd, a nerth, a gwres. Yr oeddwn yn llym atynt, na oddefent bechod yn eu mysg, na dim tebyg iddo. Yna cadarnheais eu ffydd yn y gwaith, gan ddangos fod pob arwydd ei fod o Dduw, a'i fod wedi ymledu trwy yr holl wlad, eu hochr hwy a'r ochr arall i'r môr. Am yr wrthddadl fod yr offerynau yn wael, atebais fod hyn yr un fath ag yn amser yr apostolion; ac, yn llaw Duw, fod yr offerynau gwaelaf gystal a'r goreu. Cyfeiriais at ataliad Richard Jones oddiwrth bregethu, oblegyd ei ddifaterwch, ac na oddefai gerydd, gan ddangos y rhaid i ni fod yn un mewn gwrthod ei fath, onide na fydd dim awdurdod yn ein mysg. Yna dangosais, gyda grym, yr anghenrheidrwydd am i bawb gael eu dysgu gan Dduw, a'u llanw o hono, ar gyfer eu lleoedd. Yna, wrth ganu a gweddio, taniwyd ein hysprydoedd; yr oedd yr Arglwydd gyda ni yn wir. Cadwyd fy llygaid yn sefydlog ar y Jerusalem newydd, yr oeddwn yn llawn o deimlad, ac yn awyddu bod yno. Cynhyrfais y brodyr yn erbyn y diafol, gan ddangos fel y darfu iddo ein dinystrio ar y cyntaf, ac fel y mae yn parhau i'n rhanu, ac i'n gwneyd yn annedwydd. Erbyn hyn yr oedd y brodyr yn llawn bywyd. O, gogoniant i Dduw am ddychwelyd atom eto! Cyfeiriais at y dirgelwch mawr; y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd, a'r modd y llewyrchodd arnaf gyntaf. Gwedi hyn, cliriwyd amryw achwyniadau oedd ganddynt yn erbyn eu gilydd, ac yr oeddynt yn awr yn hollol rydd oddiwrth y demtasiwn i ymneillduo."

Er mor ddyddorol yw y dydd-lyfr, rhaid i ni frysio yn mlaen. Aeth o'r Aberthyn i Penprysc, ffermdy, nid yn nepell o Lantrisant, lle y pregethodd gyda nerth anarferol iawn, oddiar Matt. xxviii. 18. Toddai y gynulleidfa fel llyn dwfr tan ddylanwad y Gair. Yr un diwrnod (dydd Iau) llefarodd mewn lle o'r enw Hafod, oddiar y geiriau: "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." Tybia na chafodd y fath nerth i bregethu erioed o'r blaen. Yr oedd yr Arglwydd yn wir yn y lle. Wylai llawer yn hidl; bloeddiai eraill dan rym argyhoeddiad; cafodd Satan ei glwyfo, a dynoethwyd angau yn ogoneddus gerbron y credinwyr, fel yr wylai Harris ei hun ddagrau melus o lawenydd. Gwaeddai: "Nid wyf yn gofalu pa un a fydd trefn ar fy mhregethu a'i peidio; nid trefn sydd arnaf eisiau, ond gallu." Aeth yn ei flaen i gyfeiriad Castellnedd, a chlywai fod y werinos yno wedi penderfynu ei fobio. Gwingai y cnawd o'r herwydd am ychydig, ond tawelodd Duw ei yspryd yn fuan. Cyn cyrhaedd yno pregethodd mewn lle o'r enw Cwrt Herbert, ar "Byddwch lawen yn wastadol." Cafodd dynerwch mawr yma wrth wahodd yr holl gynulleidfa at Grist. Cafodd lonydd gan werinos Castellnedd. Yn Llansamlet, darfu i oruchwyliwr y tir ar ba un y safai wrth bregethu, gydio yn ei geffyl ef, a cheffylau y cynghorwyr eraill, at y rhent oedd yn ddyledus ar yr amaethwr. Aeth Harris i siarad ag ef; dangosodd yr a'i gwaith Duw yn mlaen er pob gwrthwynebiad. Cynygiodd y goruchwyliwr ei geffyl yn ol iddo, ond iddo addaw na ddeuai yno i bregethu drachefn. Atebai yntau, nas gallai addaw y fath beth am fil o geffylau, nac am ei fywyd. Yr oedd ganddo ddigon o gariad i ddymuno gweled y dyn anghyfiawn yn y nefoedd; nid yn unig boddlonai i'r ceffyl gael ei gymeryd, ond bendithiai Dduw am hyny, am y tueddai yn flaenorol i fod yn falch o'r anifail. Oddiyno brysia yn mlaen i ffermdy, o'r enw Perllan-Robert, yn Nghymydogaeth Abertawe, yn yr hwn le yr oedd Howell Davies yn pregethu. Pa beth oedd yn dwyn Efengylydd Penfro i Forganwg, nis gwyddom. Pregethodd, gyda dylanwad, oddiar Zech. xii. 8; dywed Harris ei fod yn marchog ar adenydd yr Hollalluog; a bod yr odfa yn un nerthol anarferol. Yr oedd cydgyfarfyddiad y ddau gyfaill, a ymdreulient yn ngwasanaeth eu Harglwydd, yn adnewyddiad yspryd i'r ddau. Hysbysai Mr. Davies fod llwyddiant rhyfedd ar y gwaith yn Sir Benfro, yn y rhanau Saesnig a'r rhai Cymreig. Aeth Howell Harris yn ei flaen trwy Abergorlech, Glanyrafonddu, Llanddeusant, a Llywel, gan gyrhaedd Trefecca, gwedi absenoldeb o bythefnos. Trwy yr holl daith yr oedd ei gorph yn wan; llewygai weithiau gan lymder y poen a ddyoddefai; ond nerthai yr Arglwydd ef yn rhyfedd pan godai i lefaru, a chafodd odfaeon mor nerthol ag a gafodd yn ei fywyd. Yr oedd cyflwr yr eglwysi yn Lloegr hefyd yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl; dywed iddo gael llythyrau o Lundain, yn dangos fod yr annhrefn yn y seiadau yno yn parhau; ei gysur yn ngwyneb yr oll ydoedd mai yr Arglwydd sydd Dduw.

Awst 8, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, yn yr hon y llywyddai Howell Harris. Y mae ei chofnodau fel y canlyn:—

"Agorodd y brawd Harris, trwy ddangos ansawdd gwaith yr Arglwydd yn Lloegr, Scotland, Cymru, America, a Ffrainc; ac yna agorodd pob un ei galon gyda golwg ar ystâd y gwaith yn ein mysg ni, a chyflwr y genedl. Dymunai y brawd Morgan John Lewis i ddeiseb at yr esgobion gael ei thynu i fynu, ac i un neu ddau o bersonau priodol gael eu hanfon o bob seiat at yr offeiriaid plwyfol, i geisio mewn modd tyner dyfod i gydddealltwriaeth â hwy, er gweled pa effaith a gaffai hyn, dan fendith Duw, i hyrwyddo y diwygiad. Tybiai eraill na ddaethai yr amser eto, a bod y gwaith yn sicr o fyned yn ei flaen.

"Cymerwyd i ystyriaeth anwiredd y wlad, cyflwr y proffeswyr, ein pechodau a'n gwaeleddau ein hunain; a chawsom adnewyddiad dirfawr wrth glywed am y moddion a ddefnyddiodd yr Arglwydd yn Ngogledd Cymru, lle yr oedd y drws wedi ei gau yn erbyn y Gair, i ddwyn yr efengyl i'r trefi; sef trwy ddyn ieuanc a gawsai ei bressio i'r fyddin, yr hwn a galonogwyd, ac yn wir a gymhellwyd, i bregethu gan y cadben, yr hwn a safai wrth ei ochr, gyda ei gleddyf noeth yn ei law, i'w amddiffyn tra y pregethai.

"Rhai o'n rhesymau paham na wnai Duw roddi i fynu y genedl hon ydynt y canlynol: (1) Anchwiliadwy olud ei ras. (2) Fod ganddo eglwys yma, oddiar adeg y Diwygiad Protestanaidd. (3) Y diwygiad diweddar, yr hwn a ddechreuwyd ganddo mewn modd mor nodedig, trwy foddion anarferol. (4) Ei waith yn dwyn y diwygiad yn mlaen er gwaethaf pob gwrthwynebiadau, y rhai ydynt eto yn parhau. (5) Ei fod yn cadw meddyliau y llafurwyr mor rhydd, a chatholig, heb duedd at ymwahanu. (6) Ei waith yn dyogelu ein rhyddid i ni, fel nad oes cyfreithiau erlidgar wedi cael eu pasio. Cynghorodd y brawd Harris yn wresog; a chwedi canu a gweddio, a thywallt ein calonau y naill i'r llall, yr oeddym yn dra hapus a gwynfydedig. Yr oedd yr Arglwydd yn wir yn ein mysg, a rhoddodd i ni lawer o fendithion."

Awgryma y cofnodion amryw gwestiynau, ond rhaid i ni basio. Ymddengys fod cynygiad Morgan John Lewis, parthed deisebu yr esgobion, a nesu at offeiriaid y gwahanol blwyfydd, wrth fodd calon Howell Harris, a dywed yn ei ddydd-lyfr y canfyddai M. J. Lewis a James Ingram fel colofnau o nerth i'r achos. Dywed yn mhellach, iddo egluro i'r cyfarfod yr anghydfod a gyfodasai rhyngddo ef a John Cennick. Am tranoeth, ysgrifena ei fod yn ddydd o brawf iddo. Daeth i'w law bapyryn o waith Archesgob Caergaint, wedi ei gyfeirio at y Methodistiaid. Wedi darllen hwnw, yn ol pob tebygolrwydd dynol, nad oedd dim gobaith i'r gwaith fyned yn y blaen (yn yr Eglwys); a gwnaed iddo edrych at Dduw yn unig, gan adael y mater i orphwys gydag efe.

Ar y 22ain o Awst, yr oedd Cymdeithasfa yn y Tyddyn. Llywyddai Daniel Rowland, ac yr oedd Williams, Pantycelyn, hefyd yn bresenol. Cyn cychwyn tuag yno clywodd Harris fod dau o'r brodyr Saesnig wedi troi eu cefnau, ac aeth y newydd i'w galon fel dagr. Pregethai Williams, Pantycelyn, ar yr adnodau blaenaf yn Ioan xv. Marwaidd oedd yr odfa; ond pan aeth Rowland i weddïo daeth awel dyner dros y cyfarfod. Gymdeithasfa hon yw yr olaf y croniclir ei gweithrediadau yn nghofnodau Trefecca; o hyn allan rhaid i ni ddifynu am yr hanes ar y dydd-lyfr, ac ar y llythyrau. A ganlyn yw ei chofnodau:—

"Cydunwyd fod y brawd Evan David i fyned yn mlaen fel cynt; felly hefyd Andrew Whitaker.

"Wedi ymddiddan maith a'r brawd Benjamin Cadman, gan nad yw yn benderfynol yn ei feddwl pa un a'i uno â ni, neu ynte â'r Ymneillduwyr, a wna, cydunwyd ei fod i ymatal oddiwrth gynghori hyd y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf; a bod ei benderfyniad ef, a barn y seiadau, gyda golwg arno, i gael eu dwyn yno gan y brawd Richard Tibbot."

Yn y dydd-lyfr, dywed Howell Harris ddarfod i ymgeisydd oddiwrth yr Ymneillduwyr ddyfod i'w mysg; bu y frawdoliaeth yn ymresymu ag ef, gan ddangos fod cryn wahaniaeth rhwng yr Ymneillduwyr a hwythau, ac nas gallai gyduno a'r ddau, a'u bod yn gweled y rhai a ymunent a'r Ymneillduwyr yn dilyn rheswm cnawdol, ac yn myned yn glauar; eu bod yn dymuno llwyddiant a nerth iddo; ond os byddai yn ffyddlon fel hwy mewn cysylltiad ag Eglwys Loegr, ac ar yr un pryd ddatgan yn erbyn ei llygredigaethau, y byddai yn sicr o gael ei nerthu. Cydunodd pawb ar hyn. Yn yr hwyr, wedi y Gymdeithasfa, aethant tua thỷ Thomas James, tua deng milltir-ar-hugain o bellder, ac ar y ffordd, testun y siarad oedd, ysprydion a bwganod. Clywodd Harris y fath hanesion am danynt, ac am y pethau a wnaent, nes y treiddiai iasau trwy ei gnawd.

Tua chanol Medi, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol y brodyr Saesnig yn cael ei chynal yn Caerloyw, ac oblegyd yr anghydfod a fodolai yn eu mysg, teimlai Howell Harris ei hun dan rwymau i fyned yno. Mor fuan ag y cyrhaeddodd, daeth John Cennick ato, gan agor ei galon, a dangos fel yr oedd achos Duw yn pwyso ar ei feddwl, ac fel yr oedd ymddygiadau rhai o'r brodyr wedi blino ei enaid, a pheri iddo wylo ffrydiau o ddagrau wrth draed y Gwaredwr. Mynegai, yn mhellach, ddarfod iddo ymgynghori ag amryw y teimlai ymddiried yn eu barn, a'u bod yn cyduno y rhaid iddynt hwy eu dau, Cennick a Harris, ymgymeryd a holl ofal yr achos, a rhoddi y brodyr ieuangaf tan ddysgyblaeth. "Pan y dywedodd," meddai Harris, "fod arno eisiau rhywun a ai gydag ef at yr ystanc, teimlais agosrwydd mawr ato; ond yr oedd fy mhechadurusrwydd a fy ngwendid yn rhythu arnaf." Ei benderfyniad oedd cyflwyno yr holl fater i'r Arglwydd, a dyma ei eiriau gerbron yr orsedd: (1) "Nis gallaf ymwrthod â'r anrhydedd hon, a sefyll yn erbyn yr alwad am fil o fydoedd. (2) Nid oes genyf unrhyw ateb i'w roddi, ond lledu ger dy fron di fy holl bechodau, a'm hannheilyngdod, a'm hammurdeb, a'm balchder, a'm tymher, a'm hanghymhwysder. (3) Os wyt ti yn fy ngalw, yna gwn y derbyniaf o'th drysor ras i lanw fy lle, ac argyhoeddiad llawnach gyda golwg ar beth yw dy ewyllys. (4) Dyro i mi olwg newydd ar dy eglwys, ac ar dy achos; gâd i mi ei deimlo wedi ei osod yn fy nghalon; (ac felly y cefais. Rhoddwyd i mi ddatguddiad helaethach o ogoniant a dirgelwch yr eglwys, fel priod i Dduw, ac wedi ei dyrchafu allan o bechod ac uffern i ogoniant. Yn y goleu hwn, er nad oedd ond gwan, gwelwn bob rhwystr fel dim o flaen yr eglwys ogoneddus.) (5) Yna dyro i mi lygad eryr, er doethineb a dealltwriaeth; nerth ych, er amynedd, diwydrwydd, a sefydlogrwydd; a chalon llew, er dewrder, beiddgarwch, a phenderfyniad, fel y gallwyf dy ogoneddu a llanw y lle hwn. (6) Cwyd fi uwchlaw y bywyd hwn, gan nad yw yr holl a berthyn iddo ond tarth a gwagedd."

Nid oedd unrhyw swm o waith yn ormod i'r Diwygiwr o Drefecça ymgymeryd ag ef. Ar ei ysgwydd ef yn benaf, er fod ganddo gydweithwyr galluog, y gorweddai pwys y trefniadau yn nglyn â gwaith y diwygiad yn Nghymru. Braidd nad oedd y llafur a'r cyfrifoldeb perthynol i hyn yn mron llethu ei natur; ac yn awr dyma ef eto, mewn undeb a John Čennick, yn ymgymeryd a holl gyfrifoldeb yr achos yn mysg y brodyr Saesnig. Ymdeimlad â phresenoldeb Duw yn unig a allasai ei gynysgaethu a'r fath wroldeb. Aed i'r Gymdeithasfa gwedi ciniaw, ac eisteddwyd i lawr trwy y nos hyd chwech o'r gloch dranoeth, gyda'r trefniadau. "Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd yn ein mysg, ac yn ein goruwch-lywodraethu," meddai Harris. Gwnaeth Cennick araeth hyawdl, yn dangos sut y dylent fod a'u holl enaid yn ngwaith yr Arglwydd hyd oni ddelo. Wedi gorphen gyda'r allanolion aed i siarad am wahanol athrawiaethau, ac yn eu mysg am iachawdwriaeth gyffredinol. Dywedai Cennick ei fod yn credu yr athrawiaeth, ond nad oedd yn athrawiaeth i'w phregethu, oddigerth gan angel, tua mil o flynyddoedd gwedi yr adgyfodiad. Ymddiddanwyd am y Duwdod, ac yr oedd pawb yn gweled lygad yn llygad. Wrth ganu yr emyn, cafodd Harris olwg ar ddirgelwch y Duwdod yn y dyn, a darostyngwyd ei enaid ynddo. Wrth gadarnhau penderfyniad Cymdeithasfa Llundain, gyda golwg ar ddiarddel Mr. Cudworth, yr hwn oedd yn myned bellach, bellach, teimlai Howell Harris agosrwydd mawr at y brodyr, a dywedodd ei feddwl wrthynt yn bur groyw.

Cyn diwedd mis Medi cynelid Cymdeithasfa Chwarterol y Cymry, yn Erwd, Daeth pump o gynghorwyr, ac un offeiriad i letya i dŷ Mr. Harris y noson cynt; diolchai yntau am y fraint o'u cael. Pregethodd William Richards, y cynghorwr o Aberteifi, ar ras, ei natur a'i ragoriaeth, a chafodd odfa felus. Dranoeth, yn Erwd, pregethodd Daniel Rowland i gychwyn, oddiar y geiriau: "O na bai i mi adenydd fel colomen," a chafodd, fel arfer, odfa nerthol. Ar ei ol, pregethai John Sparks, yn Saesneg, oddiar y genadwri at eglwys Laodicea. Teimlai Harris yn ddirfawr drosto, am ei fod yn ieuanc, a gweddïai am i'r Arglwydd ei arddel; yr hon weddi a atebwyd yn helaeth. Yn y cyfarfod preifat, rhoddodd Rowland anerchiad llym, yn cyrhaedd i'r byw, gyda golwg ar drefn, yn nghyd a gwagedd rhai o'r cynghorwyr. Eithr yn raddol teimlai Harris fod yspryd rhy ysgafn wedi dod i'r cyfarfod, o ba un yr oedd efe ei hun wedi cyfranogi. "Ceryddais y brawd Price," meddai, "gan ddatgan mai efe oedd yn fy llygru i. Digiodd yntau, ac aeth allan. Yn ganlynol, drylliwyd fy nghalon ynof; yna llewyrchodd yr Arglwydd arnaf, a gwelais y deuai y cwbl yn iawn, am mai efe sydd Dduw. Ac felly y bu." Y mae darllen am yr amgylchiad hwn, a'r cyffelyb, yn dra dydd orol, pe na bai ond er dangos nad oedd y Methodistiaid cyntaf ond dynion, a'u bod yn agored, weithiau, i fyned yn blentynaidd, ac i ddigio wrth eu gilydd am y nesaf peth i ddim. Dengys hefyd dynerwch cydwybod dirfawr; fod y gradd lleiaf o ysgafnder yn annyoddefol yn eu mysg. Boreu dranoeth, codwyd yn foreu, er gorphen gwaith y Gymdeithasfa. Gwedi agor eu calonau y naill i'r llall, cafwyd eu bod oll yn deyrngar i'r brenin, a datganai Harris mai y brenin George oedd yr unig deyrn cyfreithlawn. Yna, aeth y brodyr William Richards, Rice, Llanwrtyd; James Ingram, a Morgan John Lewis, i weddi yn olynol, gan ymostwng o herwydd eu pechodau eu hunain, a phechodau y genedl. Daeth yr Arglwydd i'w mysg yn amlwg. Datganent i'w gilydd, yn gystal ag ar eu gliniau, nad oedd eu cyrph yn eiddo eu hunain. Anogent y naill y llall i ganlyn Crist yn fwy agos, ac i bregethu ychwaneg ar ffrwyth yr Yspryd. Taer gymhellai Harris hefyd yr offeiriaid urddedig i ymweled â Morganwg a Mynwy, fod mawr angen am danynt, a bod eu doniau yn tra rhagori ar yr eiddo ef. Ymadawyd yn felus, wedi cael Cymdeithasfa ddedwydd.

Ar ddydd Mercher, yn nechreu mis Hydref, cawn Howell Harris yn cychwyn am daith faith i Sir Benfro. Aeth yn nghyntaf i'r Glyn; oddiyno yn ei flaen i Crai, lle nad oedd y bobl wedi ymgasglu, am, yn ol pob tebyg, na chlywsent am ei ddyfodiad. Pregethodd y noswaith hono yn gyfagos i Trecastell, a chafodd odfa nerthol. Dranoeth y mae yn Llanddeusant, a Glanyrafonddu; dydd Sadwrn yn Glancothi; ac wedi pregethu y Gair mewn amryw fanau yn Sir Gaerfyrddin, cyrhaeddodd Landdowror prydnhawn dydd Sul, mewn pryd i wrando yr Hybarch Griffith Jones. Pwnc pregeth Mr. Jones oedd y sarff bres. Diolchai Harris Dduw am fod y fath oleuni yn mysg y Cymry. Aeth i dŷ Mr. Jones i letya, a deallodd yn fuan fod y gŵr da wedi clywed llawer o chwedlau parthed annhrefn y Methodistiaid. "Dywedai Mr. Jones,' meddai, "fod gormod o honom yn agored i gael ein cyhuddo o falchder, a barn ehud, yn nghyd â chwerwder yspryd; a'n bod yn ddiffygiol mewn gostyngeiddrwydd a chariad, ac yn galw eraill yn erlidwyr. Yr oedd wedi clywed am ein troion anghall yn Lloegr a Chymru; am ein hymraniad yn Lloegr; ac yr oedd yn dramgwyddedig oblegyd y bloeddio a'r gwaeddi allan dan y Gair. Cyfeiriai at ein gwaith yn cateceisio, yr arweiniai mewn amser i annhrefn, ac y deuai yn y diwedd i'r dim. Atebais, nas gallai hyny ddigwydd; pa beth bynag a ddeuai o honom ni fel Corph, fy mod yn credu fod canoedd wedi cael eu hargyhoeddi a'u hachub. Dywedais fy mod yn credu yr oll a ddywedasai oddiar wybodaeth bersonol; ond ei fod yn faich arnaf ddarfod iddo wrando ar ein cyhuddwyr, a'u credu, heb ein dwyn ni wyneb yn wyneb â hwy; a phe y gwnaethai hyny y cawsai fod y gwaith hwn o Dduw. Meddyliwn y dylasem gael rhagor o le yn ei serchiadau. Lleferais wrth Madam Bevan ac yntau, gan gael rhyddid oddiwrth Dduw i ddweyd yr oll a wyddwn; y modd yr oeddynt oll (yr Eglwyswyr) wedi gwanhau ein dwylaw, a'n diarddel, a chreu rhagfarn yn meddyliau rhai yn Bath yn ein herbyn. Pan y cyfeiriodd at ei lyfr ar yr Articlau, gan fy nghyhuddo i o rwystro ei werthiant, dywedais nad oeddwn cyduno a'r llyfr, a pha beth bynag a ddywedais neu a ysgrifenais, ei fod yn codi o gydwybod. Gofynai ai nid oeddwn yn teimlo dymuniad am i bawb gael eu hachub? Atebais fy mod yn cael fy nhemtio yn gryf weithiau i weddïo dros y cythraul; ond nad oeddwn yn gweled un lle canol rhwng achubiaeth yr etholedigion. yn unig, ac achubiaeth pawb. Pan y gwasgai arnaf am fy marn, dywedais fy mod yn meddwl mai yr etholedigion yn unig a gedwir; am y lleill, fod yna anmhosiblrwydd ar y ffordd, a hwnw yn tarddu nid o Dduw, ond o honynt eu hunain, a'm bod yn credu ei fod yn gyfeiliornus wrth bleidio y posiblrwydd i bawb gael eu hachub. Cyfeiriodd at waith. Tillotson, Holl Ddyledswydd Dyn, gan ganmawl Tillotson fel y dyn goreu a eisteddodd erioed yn y gadair archesgobol, a dadleu fod ei lyfr yn un o'r rhai galluocaf ar y pwnc; a bod y llyfr mor llawn o garedigrwydd Cristionogol, fel mai prin yr oedd yn gadael neb yn golledig yn y pen draw. Atebais yn ol y gallai gael y fath syniadau yn ngweithiau athronwyr, ond nad dyna athrawiaeth Paul na Christ. Yna, mynegais iddo am ei draethodau Saesnig (Welsh Piety, Griffith Jones), yn y rhai y fflangellai ni fel Corph, fy mod yn tybio am yr ymosodiad cyntaf, er yr aroglai yn ormodol o ddoethineb y byd hwn, fod ei lygad yn syml wrth ei wneyd, gan mai cael rhagor o ryddid gan yr esgobion a fwriadai; ond pan y gwelais ef yn ailadrodd yr unrhyw, gan grybwyll am ein gwendidau, heb gyfeirio at ddim arall, nas gallai y fath ymddygiad fod yn garedig, ac y gwnai gryfhau y rhagfarn yn ein herbyn, yn arbenig gan ei fod mewn argraff, ac hefyd yn dyfod oddiwrtho ef, gwaith yr hwn a ddarllenid, efallai, yn mhen mil o flynyddoedd. Addefai ei fod yn rhagfarnllyd yn erbyn ein Corph ni, gan ei alw yn wrthYsgrythyrol, ac yn ordeiniad. Ésboniais iddo ein hamcan, sef cael gwybodaeth of stâd ysprydol y dychweledigion, ac nid sefydlu ordeiniad. Mewn cysylltiad â chateceisio, tybiwn ei fod yn ei ddyrchafu yn rhy uchel, mai ei wir ddefnydd oedd nid cymeryd lle pregethu, ond bod yn is-ddarostyngedig i hyny; ar yr un pryd, yr hoffwn ei weled yn cael ei osod i fynu mewn teuluoedd lle y byddai personau cymhwys at hyny, a'm bod i wedi gwneyd fy ngoreu i'w osod i fynu. Yr oedd yn ymosod yn drwm ar y cynghorwyr anghyoedd, gan ddweyd eu bod yn anwybodus, ac yn anghymwys i'r gwaith, a bod ganddynt gopi o'n seiadau, a'r lleoedd eu cedwid. Gwedais inau ein bod yn anfon y cyfryw allan ond i wylio dros eneidiau eu gilydd, a phan y caem fod neb yn ymddwyn yn anweddaidd, ein bod yn peri iddo beidio. Gofynai ai nid oeddym yn tueddu i ymffurfio yn sect? Atebais ein bod yn dysgwyl, naill ai cael ein himpio i mewn yn gyfangwbl i'r Eglwys Sefydledig, neu gael ein troi allan; ac yna, naill ai i ymuno a rhyw blaid arall, neu ymffurfio yn blaid ar wahan. Mynegais yn mhellach fy mod wedi clywed y brawd Rowland yn ceryddu y rhai a floeddient yn y cyfarfodydd, ond fy mod yn credu am lawer o honynt nas gallent ymatal, a bod yn well genyf eu gweled yn gwaeddi nac yn dylyfu gên. Addefai yntau ei fod yn hoffi gweled pobl yn wylo yn yr odfaeon, ac hyd yn nod yn gruddfan. Siaredais ag ef yn breifat am wneyd rhywbeth i fynu rhyngddo a Mr. Rowland, fel na chaffo y gelyn ddyfod rhwng y rhai sydd yn caru yr Arglwydd; a dymunais arno, gan fy mod yn gwybod ei fod yn myned a'n hachos yn feunyddiol at yr orsedd, ar iddo beidio. myned yn rhagfarnllyd yn ein herbyn, oblegyd ein camsyniadau a'n hafreolaeth ymddangosiadol; mai gyda phob gostyngeiddrwydd y dymunwn ei ddweyd, ond fod Duw yn wir yn ein mysg. Ymadawsom yn ddrylliog, ac yn gariadlawn; ac wrth ymadael, dywedais fy mod yn ei anrhydeddu yn fawr; felly hefyd y gwna pawb o'r brodyr, hyd y gwyddwn i. Dymunais arno ddyfod i'n mysg; dywedais fy mod yn credu y buasai yn nes atom oni bai am eraill, a'm bod inau i'm beio am na fyddwn yn ymweled ag ef yn fwy mynych. Ymddangosent (Griffith Jones a

Madam

Bevan) yn fwy cyfeillgar atom nag o'r blaen, ond yr oeddynt wedi clustymwrando ar adroddiadau annyoddefol. Dywedai ein bod yn cael ein cyhuddo o gofleidio Cwaceriaeth, a phob math o gyfeiliornadau, ac o adael y Beibl, gan ddilyn y teimlad tufewnol. Atebais nad oedd hyn yn wir; eithr nad oedd y Beibl ond llythyren farw i ni hyd nes y profom waith yr Yspryd ar ein calonau; mai nid y naill na'r llall ar wahan, ond y ddau yn nghyd raid i ni gael."

Felly y terfyna yr ymddiddan rhwng Howell Harris ar y naill law, a Griffith Jones a Madam Bevan ar y llaw arall. Hawdd gweled fod y ddadleuaeth yn fynych yn frwd; yr arferai y ddwy ochr lawer iawn o blaendra; ond y mae yn hyfryd sylwi iddynt gael eu llywodraethu gan yspryd cariad trwy y cyfan, a phan y llefarent y caswir eu bod yn nes at golli dagrau nag at golli eu tymherau. Nid yn unig y mae y ddadleuaeth yn ddyddorol, ond yn ogystal yn taflu ffrwd o oleuni ar amryw bethau cysylltiedig â Methodistiaeth. Gwelwn (1) Fod Griffith Jones, tra ar y dechreu yn cydymdeimlo yn ddwfn a'r diwygiad Methodistaidd, erbyn hyn wedi troi yn feirniad, ac wedi roddi gormod o goel i'r chwedlau anwireddus a daenid am y Diwygwyr. Efallai fod a fynai awydd rhai o'r cynghorwyr am gael eu hordeinio yn ol dull yr Ymneillduwyr â hyn. (2) Fod Howell Harris yn fwy o Galfin, a braidd na ddywedem, yn alluocach duwinydd na Griffith Jones. Yr oedd yr olaf, yn bur amlwg, yn ormod tan ddylanwad Archesgob Tillotson, yr hwn a gyfeiliornasai yn bur bell i dir Arminiaeth. (3) Fod Howell Harris, tra yn synio yn uchel am Griffith Jones, ac yn ei anrhydeddu yn fawr, yn rhy annibynol i'w ganlyn yn wasaidd, a'i fod yn meiddio. gwahaniaethu oddiwrtho gyda golwg ar rai o wirioneddau trefn yr iachawdwriaeth.

Ond rhaid i ni ganlyn Howell Harris ar ei daith. "Yr oeddwn yn ddiolchgar am Griffith Jones," meddai, "ac am ei holl geryddon; llefwn am i mi beidio cael fy ngadael heb ryw un i'm rhybuddio." Dydd Llun, pregethodd yn y Pale i gynulleidfa anferth, oddiar y geiriau: "Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi, er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddyoddef erddo ef." Yr oedd yr Arglwydd yma yn amlwg; torai llawer allan i folianu, ac arferai yntau ei ddylanwad i gymedroli yr hyn a dybiai allan o le. Yn y prydnhawn, yr oedd yn Carew, lle y pregethodd oddiar y Salm gyntaf. Odfa ofnadwy oedd hon. "Ar y cychwyn," meddai, yr oeddwn yn dra arswydlawn i'r annuwiol. Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd yn y lle mewn modd rhyfeddol iawn." Bu hefyd yn cynghori yr ŵyn, y rhai, yn angerdd eu zêl, oeddynt yn rhy barod i fyned allan o'r llwybr. Boreu dydd Mawrth, yn Carew, cafodd rhyw frawd afael rhyfedd ar weddi, nes peri i Harris deimlo fod yr Arglwydd yn amlwg yn Sir Benfro. Mewn lle o'r enw Lampha, ger tref Penfro, cynhelid Cwrt Leet, i ba un y cyrchasai amryw o'r mawrion; cymerodd yntau fantais ar yr amgylchiad i bregethu. Ei destun oedd, Ex. xx. 1: Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw;" a chyda llawer o serchawgrwydd ceryddodd y boneddigion, y clerigwyr, a'r bobl oll, am eu bywydau afreolus. Cymerai fantais yr adegau hyn i weddïo tros yr Eglwys, y brenin, a'r deyrnas, yr hon oedd yn llawn berw, ac i daranu yn erbyn y rhai a bleidient yr Ymhonwr (Pretender). Nos Fawrth, yr oedd yn Nerth, ger Aberdaugleddyf; dydd Mercher, yn Menfro a Walton, lle y pregethodd gyda chryn hwylusdod, oddiar Rhuf. viii. 15. Dydd Iau, cafodd odfa anghyffredin yn Hwlffordd. Yna aeth i Hay's Castle; yr oedd Duw yma yn amlwg; gwedi hyn i Lanilow a Longhouse; a boreu y Sulaethieglwys Morfil, nid yn nepell o Woodstock, i wrando Howell Davies. Dydd Llun, yr oedd Cymdeithasfa Fisol mewn lle o'r enw Ffynon Gaino. "Yma,' meddai, "agorodd yr Arglwydd fy ngenau i lefaru am y tân, ac am allu Duw, a'i fod ef yn y Gair oll yn oll. Cydunai yr holl frodyr fod y tân o Dduw. Y brawd Gambold a sylwai y rhaid i ni fod yn farw i ni ein hunain, heb ddysgwyl dim wrth fyned o gwmpas ond oerni, a noethni, a newyn, a thlodi, a chael ein difenwi, at hyny gan Gristionogion; ond y dylem fyned dros Grist pe baem yn garpiog, ac yn droednoeth, gan roddi ein dillad a'n hymborth y naill i'r llall, a bod heb y cyfryw ein hunain, os rhaid. Cydunai pawb. Cyfeiriais, gyda nerth, am beidio rhoddi tramgwydd i'r clerigwyr, hyd ag y mae yn bosibl; mai yn yr Eglwys Sefydledig yr ydym ni. Dangosais eu rhagfarn yn Ysgotland ac America. Cyfeiriais at le pob un; mai fy mhlant ysprydol i yw y brodyr Davies a Williams; ond gan eu bod wedi eu hordeinio, fy mod yn dal fy hun mewn darostyngiad iddynt, ac y dylem oll ddyfod i'w cynorthwyo. Siaradais am Griffith Jones, y dylem nesu ato, hyd byth ag y mae yn bosibl, a'i garu. Y dylem osod cateceisio i fynu hyd byth ag sydd yn bosibl, a chadw at y Gair ysgrifenedig, gan ddwyn pawb dynion ato, oblegyd efe yw ein rheol. Cydunai pawb. Cydunwyd hefyd i gadw y dydd cyntaf o Dachwedd yn ddydd o ymostyngiad."

Y mae un peth newydd hollol i ni yn yr hanes hwn, sef, mai Howell Harris oedd tad ysprydol Howell Davies, yn gystal a Williams, Pantycelyn. Eithr felly y dywedir yn bendant. Aeth Harris, yn yr hwyr, yn mlaen at Lwynygrawys; taranodd yn erbyn yr Ymhonwr, a chanmolodd y brenin George, a chafodd nerth anarferol. Yna cyfeiriodd ei gamrau trwy Eglwyswrw, Cerig Ioan, gan groesi i Aberteifi, ac ymweled a Blaenporth, Cwmcynon, a lleoedd eraill. Nos Wener, daeth i Langeitho; boreu dranoeth, croesodd y mynydd, gan basio trwy Abergwesyn, a chyrhaeddodd

PHOTOGRAPH O LYTHYR CERYDDOL Y PARCH. PRICE DAVIES, TALGARTH, I HOWELL HARRIS.

Drefecca y noswaith hono. Eithr dros y Sabbath yn unig y cafodd fod gyda ei deulu. Boreu dydd Llun, ar lasiad y wawr, y mae ymaith drachefn, ac yn cyrhaedd Cayo tua chanol dydd, lle y pregethodd gyda nerth oddiar y Salm gyntaf. Yn gynar yn y prydnhawn yr oedd yn Llwyn yberllan, yn yr hwn le y cedwid Cymdeithasfa Fisol. Daniel Rowland a lywyddai. Nid yw yn ymddangos ddarfod i benderfyniadau o bwys gael eu pasio; ond bu Howell Harris yn anerch y cynghorwyr gyda difrifwch mawr. Meddai: "Datgenais mai perffeithrwydd oedd y nod o fy mlaen; os syrthiaf, fod yn rhaid i mi gyfodi, ac mai hunanymwadiad sydd yn gosod gwerth ar waith. Anogais ar i'r seiadau gael eu cyffroi i ddarllen yr Ysgrythyr, a dwyn eu holl brofiadau at faen prawf yr Ysgrythyr; ac oni fyddant yn gyson â'r Beibl nad ydynt i gael eu derbyn. Dywedais y rhaid i'r bobl gael pregethu iddynt mor gyson ag sydd bosibl, a'u cynghori i beidio gwneyd sŵn yn yr odfaeon cyhoeddus." Gwelir fod anghymeradwyaeth Griffith Jones o waith y rhai mwyaf tanbaid eu tymherau, yn tori allan i waeddi dan y Gair, yn cael ei gludo trwy Harris i'r cymdeithasau. Dranoeth, pregethodd Daniel Rowland yn nghapel Abergorlech, oddiar Hosea ix. 12. Gwedi y bregeth yr oedd cymundeb, a daeth Harris allan yn hyfryd a dedwydd ei deimlad, ac yn ddyn rhydd. Aeth y ddau gyfaill yn nghyd i Glanyrafonddu. Melus odiaeth oedd y gyfeillach rhyngddynt; y naill yn agor ei galon i'r llall. Yno gorfodwyd Harris i bregethu, yr hyn a wnaeth yn effeithiol, am ddirgelwch duwioldeb. Pregethodd Daniel Rowland boreu dranoeth, yna aethant i Dygoedydd, a chafodd Rowland odfa i'w chofio byth. Yma ymadawsant, a dychwelodd Howell Harris drwy Ceincoed, Llangamarch, a Wernddyfwg, gan gyrhaedd gartref yn hwyr nos Sadwrn.

Yr wythnos ganlynol yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Watford, a chawn Harris a Rowland yno eto. Rhaid fod eu llafur yn ddiderfyn. Dychwelodd Harris adref nos Iau, a boreu dydd Sadwrn cychwyna am daith i Sir Drefaldwyn, gan bregethu yn Tyddyn, Trefeglwys, Llanbrynmair, Blaencarno, Llanllugan, a Mochdref. Yn y lle olaf datganodd ei farn yn bur rhydd. wrth Richard Tibbot am yr Ymneillduwyr, nad oeddynt yn ymddangos iddo ef yn gosod ceisio Duw fel eu prif amcan, eithr yn hytrach uniongrededd, trefn, swn, a moesoldeb; am dano ei hun, na ofalai pe na lefarai air wrth y bobl, oddigerth fod yr Arglwydd yn defnyddio y cyfryw air i glwyfo rhai, ac i feddyginiaethu eraill; mai ei holl amcan oedd delio a chalonau. Ei fod yn bleidiol i uniongrededd, ac hyd yn nod i efrydu llyfrau ac ieithoedd, fel pethau is-ddarostyngedig i'r Yspryd, ond ei fod am i Dduw gael cymhwyso y pregethwyr at y gwaith, trwy ddatguddio ei hun iddynt. Fod ei galon ef yn gatholig, a'i fod yn erbyn rhagfarn o bob tu, ac am gynydd mewn pob math o wybodaeth, ond nid trwy nac yn y llythyren yn unig, ond yn yr Yspryd, trwy weithrediad ffydd, ac mai hanfod ffydd yw adnabyddiaeth o Dduw, fel y mae yn datguddio ei hun yn Iesu Grist. Pa beth a achlysurodd yr ymddiddan hwn, nis gwyddom; nid annhebyg fod Tibbot yn gwasgu ar Harris am gymeryd dalen allan o lyfr yr Ymneillduwyr, a sefydlu math o athrofa i addysgu y cynghorwyr, fel yr awgrymasai yn ei lythyr at y Gymdeithasfa. Ond i fyned yn mlaen, ymadawodd Harris yma, gyda serchawgrwydd mawr, a nifer o wyn anwyl yr Iesu, o Siroedd Caernarfon a Meirionydd, ac aeth yn ol trwy Lwynethel a Llandrindod.

Yr wythnos olaf yn Tachwedd, cawn ef a Mrs. Harris yn cychwyn am Lundain. Parhau yn gymysglyd yr oedd pethau yn mysg y brodyr Saesnig, ac yn ben ar y cwbl, bygythiai Cennick eu gadael, gan ymuno a'r Morafiaid. Yn y Gymdeithasfa Chwarterol, a gynhelid yn y Tabernacl, Rhagfyr 4, daeth y mater yn mlaen. "Agorodd y brawd Cennick," meddai Harris, "ei galon gyda golwg ar y Morafiaid, a'r rheidrwydd a deimlai i ymuno â hwy ar unwaith. Dywedais inau fy mod yn eu hadwaen, ac yn eu parchu, ond nas gallwn gydweled â hwy, am (1) Eu bod yn gwrthod cyhoeddi y gyfraith i bechaduriaid, i ddangos iddynt eu hangen o Grist. (2) Am nad oedd ganddynt ond un mater yn eu gweinidogaeth, sef person yr Arglwydd Iesu, ac felly eu bod yn gwrthod addef graddau mewn ffydd. (3) Am eu bod yn dal y caiff pawb eu hachub yn y pen draw. Dywedais yn mhellach, pan y cyflwynai efe ofal y Tabernacl i mi, nas gallwn wrthod ymgymeryd a'r baich, hyd nes y dychwelai Mr. Whitefield, neu y trefnid rhyw gynllun arall. Yr oeddwn yn barod wedi lledu y mater gerbron yr Arglwydd, ac yr oedd yntau wedi eu gosod (y brodyr Saesnig) ar fy nghalon, fel yr oeddynt yn asgwrn o'm hasgwrn, ac yn gnawd o'm cnawd." Y mae yn anhawdd peidio synu at ei feiddgarwch. Ar ei ysgwyddau ef yn benaf y gorphwysai gofal achos y Methodistiaid yn Nghymru; yr oedd ei lafur yn eu plith hwy bron bod yn ormod i'w natur; a dyma ef yn awr, ac wedi colli John Cennick, ar ei ben ei hun yn ymgymeryd â holl ofal yr achos yn Llundain ac yn Lloegr. Y noswaith hono aeth Harris i'r Tŵr at ei frawd. Dranoeth, y mae Cennick yn ffarwelio a'r Gymdeithasfa, ac, yn nghanol dagrau, yn cyflwyno yr holl ofal i Howell Harris." Siaradodd," meddai y dydd-lyfr, "am ddirgelwch person Crist yn ogoneddus; cyfeiriodd lygaid y bobl at y gwaed, gan erchi iddynt addoli'r clwyfau. Wylai y bobl yn hidl; cefais inau ryddid i wylo. Ar y diwedd, gweddiodd yn afaelgar trosof fi, a llewyrchodd goleuni i mewn ify enaid." Yn sicr, nid dyma y modd y bydd dynion yn gyffredin yn cefnu ar eu cyfeillion crefyddol, ac yn ymuno â phlaid arall. Os oedd Cennick yn cyfeiliorni o ran ei farn, nis gellir peidio edmygu ei gydwybodolrwydd. Ond nid oedd y diwedd eto. Tranoeth, sef dydd olaf y Gymdeithasfa, y mae nifer o'r brodyr blaenaf, sef Hammond, Heatly, Solivan, a Thorn, yn datgan eu penderfyniad i ganlyn Cennick, ac ymuno a'r Morafiaid. Datganai un arall, Goodwin, ei fwriad i ymadael, ond yr arosai am oleuni pellach cyn penderfynu a wnai uno a'r Morafiaid. O'r rhai a ystyrid yn arweinwyr, nid oedd yn aros bellach i sefyll wrth ochr Howell Harris, ond Herbert Jenkins, ac Adams. Ni lwfrhaodd ei enaid ynddo yn yr argyfwng difrifol hwn; ymnerthodd yn y gras sydd yn yr Arglwydd; ysgrifenodd at Whitefield, i'w hysbysu o'r holl amgylchiadau, a llifodd cysur i'w yspryd oddiwrth y geiriau: "A bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef." Wedi trefnu pethau cystal ag y gellid yn y Tabernacl, ac yn Lloegr oll, ar ol yr argyfwng difrifol yr aethid trwyddo, dychwelodd Howell Harris a'i briod i Gymru ychydig cyn y Nadolig. Eithr ni ddychwelodd i orphwys. Ail tranoeth i'r Nadolig, y mae yn cychwyn am daith faith drachefn i Siroedd Mynwy a Morganwg; ac yn Dinas Powis, o fewn rhyw dair milltir i Gaerdydd, y torodd gwawr 1746 arno.

PENOD XIII.

HOWELL HARRIS
(1746).

Taith Howell Harris yn Sir Forganwg—Gwrthwynebiad i'w athrawiaeth yn dechreu codi—Thomas Williams, y Groeswen, yn dychwelyd at y Methodistiaid—Cymdeithasfa y Glyn—Llythyr at Mr. Thomas Adams—Cymdeithasfa Glancothi—Y Cyfarfod Chwechwythnosol-Howell Harris yn Llundain-Cymdeithasfa ystormus yn Watford—Ymosodiad y Morafiaid ar Gymru—Howell Harris yn Hwlffordd—Yr anghytundeb rhwng Rowland a Harris yn cychwyn yn Nghymdeithasfa Trefecca—Rowland a Harris yn ail-heddychu— Cymdeithasfa gyffrous yn Castellnedd—Cymdeithasfa ddymunol yn Watford.

FEL y dywedasom, yn Dinas Powis y torodd gwawr y flwyddyn 1746 ar Howell Harris, ac y mae ei sylwadau yn y dydd-lyfr yn haeddu eu difynu: "DINAS POWIS, dydd Calan. Y boreu hwn cefais galenig, yn wir, gan fy anwyl Arglwydd. Dangosodd i mi ei fod uwchlaw fy nghalon, ac uwchlaw fy llygredigaethau, er cymaint eu cryfdwr, a'i fod uwchlaw yr holl ddiaflaid, uwchlaw dynion, ac uwchlaw fy ofnau a'm treialon. Wrth ganfod hyn mewn ffydd darfu i fy enaid ei addoli a'i folianu yn ogoneddus. Aethum i Aberddawen erbyn un. Yno pregethais ar Rhuf. vii., am gorph pechod. Cefais ddirfawr ryddid i egluro y pechod gwreidd iol; fod y plant yn bechaduriaid; a'u bod mewn gwirionedd wedi eu damnio a'u colli yn Adda. Dangosais fel y mae yr Yspryd yn argyhoeddi yr enaid o hyn, ac yn peri iddo i alaru o'i herwydd, fel gwrthryfel yn erbyn Duw. Cefais nerth i gyhoeddi gogoniant a dirgelwch Crist, a'r fraint o gael addoli y dyn Crist; ac am y rhai sydd yn esgeuluso un cyfleustra, na chaent byth gyfle drachefn oni bai am dragywyddol gariad Duw, ac y byddent yn anghredinwyr yn oes oesoedd. Dangosais am y doethion, y dysgyblion, Thomas, a Stephan, yn ei weled ac yn ei addoli, ac fel y mae efe a'r Tad yn un, megys y dywedodd wrth Phylip. Yn sicr, cawsom galenig yma, a bendithiwyd ef hefyd.

"Aethum erbyn chwech i'r Aberthyn. Yma anrhydeddodd yr Arglwydd fi yn fwy nag erioed wrth weddio a phregethu. Er fod Satan wedi arfogi meddyliau yr aelodau yn erbyn dirgelwch Crist, trwy resymeg, eto yr Arglwydd, fel yr addefent eu hunain, a dynodd i lawr eu holl resymeg trwy ei Air a'i Yspryd; ar yr un pryd, dalient yn gryf yn erbyn addoli ei ddyndod ar y cyntaf. Cawsom galenig ardderchog o gariad, yn sicr. Pregethais oddiar y geiriau yn Esaiah: Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni.' Yr oeddwn yn agos at yr Arglwydd; teimlwn fy hun yn farw ify hunan; yn sicr, yr oedd yr Yspryd Glân yn bresenol. Dangosais mai y Duw mawr oedd baban Bethlehem; felly yr addolai y doethion ef; felly hefyd yr addolai Stephan y dyn Iesu, sef oblegyd ei weled ef yn Dduw; felly hefyd y cyfaddefai Petr wrth y dyn (Iesu) ei fod yn Dduw; dyna fel y dywedai wrth yr Iuddewon ddarfod iddynt groeshoelio Arglwydd y gogoniant, sef Duw; dyna y modd y galwai Paul ei waed, yn waed Duw ei hun; felly y galwai Thomas y dyn (Iesu) ei Dduw. Yn sict, y mae yn Dduw, a phwy bynag sydd yn ei weled ef, y mae yn gweled y Tad, megys y dywedodd wrth Phylip. Er fod tri Pherson yn y Drindod, nid oes ond un Duw. Dangosais y modd y rhwygwyd y gorchudd, amryw flynyddoedd yn ol, ar y ffordd i Sir Drefaldwyn, ac y tywynodd Duw arnaf trwy y gair hwnw Mawr yw dirgelwch duwioldeb,' ac mai hyn yn awr yw fy mwyd a'm bywyd. Darostyngwyd fi wrth weled yr anrhydedd a osodid arnaf fy mod yn cael cario y genadwri hon i'r ŵyn."

Yr ydym yn difynu ei eiriau yn helaeth, er dangos mor llwyr oedd ei fyfyrdodau wedi cael eu llyncu gan ddirgelwch undeb y ddwy natur yn mherson Crist. Dyna fater mawr ei weinidogaeth yn bresenol. Prin yr ydym yn tybio fod ei syniadau, ar y cyfan, yn gyfeiliornus, ond y mae ei ddull o eirio yn anhapus; a theimlwn fod gormod o duedd ynddo i fanylu, ac i gario ei gasgliadau yn rhy bell. Hawdd gweled hefyd fod gwrthwynebiad yn dechreu codi i'w olygiadau yn y cymdeithasau, ond fod ei bresenoldeb ef, yn nghyd â grym ei hyawdledd, a'i frwdfrydedd, yn darostwng pob gwrthwynebiad a ddeuai iddynt. Ond i fyned yn mlaen â'r dyddlyfr: "ABERTHYN, dydd Iau. Neithiwr, cawsom seiat hyd gwedi deg. Cefais ryddid i ddatgan fy ofnau am y seiadau, eu bod yn gorphwys ar rywbeth, heb ddyfod at waed Crist i weled eu cwbl oll. Dyma y rheswm am eu cwerylon a'u dadleuon, ac ni chawn byth ein huno heb ddyfod at y gwaed hwn. Dangosais, yn gyhoeddus ac yn breifat, fel yr oeddwn yn gweled yn yr Iesu dosturiaethau, tynerwch, a chydymdeimlad dyn, ac anfeidroldeb y Duwdod wedi ei uno â hyn. Pa fodd, nas gallwn ddweyd, as nas gallai yr angelion. Dangosais y modd y mae rheswm cnawdol yn gwahanu y Duw a'r dyn, am na fedr ddirnad y dirgelwch. Yn y dirgel, drachefn, clywais fel y mae yr Arglwydd yn dwyn y brawd Thomas Williams yn ei ol, ac yn eu rhwystro i gael eu rhanu a'u gwasgar yn Llantrisant. Porthwyd fi wrth weled mai yr Arglwydd sydd Dduw. Cafodd un brawd a fuasai mewn profedigaeth gref, parthed duwdod Crist, ei ollwng yn rhydd henɔ. Dangosais iddynt y modd yr oedd yr Arglwydd wedi eu galw i ddangos ei ogoniant ynddynt. Peidiwch gorphwys ynte mewn ffurfiau, a gwybod aeth, a threfniadau ac allanolion.

"Yna aethum i St. Nicholas, lle y cefais ryddid a nerth mawr i lefaru oddiar eiriau yn llyfr Datguddiad. Gwedi hyn aethum tua Llantrisant. Ar y ffordd, clywais fod rhai yno yn wrthwynebol i mi, yr hyn a brofodd yn fendith i mi, i'm darostwng i'r llwch, a'm gwneyd yn dlawd yn yr yspryd. Plygais i weddio yn ngwydd cynulleidfa fawr, yn y llwch, gan deimlo fy anghymhwysder, eithr yr Arglwydd a'm dyrchafodd, gan roddi i mi yspryd llew, fel yr oeddwn yn cario pob peth o'm blaen. Yr oeddwn yn flaenorol wedi profi dwyfoldeb Crist allan o'r Ysgrythyr, gan ddangos fod y dyn hwn yn Dduw. Ni chefais erioed o'r blaen y fath awdurdod. Cyhoeddais i bawb a allai glywed mai y Duw-ddyn yw fy mywyd, a'm pob peth, i dragywyddoldeb.

Os nad yw ef yn Dduw, nad yw ei waed yn meddu unrhyw rinwedd; ein bod oll yn golledig yn oes oesoedd. Pregethwn am y doethion yn dyfod i addoli y sanctaidd faban, sef Íesu. Rhyfedd fel y mae rheswm cnawdol a natur yn gwingo yn erbyn y gwirionedd hwn; yr wyf yn ei deimlo fy hun. Ond galluogwyd fi i frawychu, i bledio, ac i agor yr Ysgrythyr, fel y cafodd rheswm ei ddystewi, gan ddangos ei dywyllwch, ei anwybodaeth, a'i elyniaeth at Dduw. elyniaeth at Dduw. Dangosais fel yr oedd marwolaeth a chlauarineb wedi ymdaenu tros Eglwys Loegr, a thros yr Ymneillduwyr yn ogystal, er pan beidiwyd pregethu y gwaed hwn. Yn flaenorol, fod yr athrawiaeth yma yn adsain trwy yr holl eglwysydd, a bod nerth a bywyd ynddynt y pryd hwnw. Atebais resymau a ddefnyddir yn ein herbyn (fel Methodistiaid), sef fod ein pregethu yn annysgedig. Profais fod hyn yn ddadl o'n plaid. Oblegyd o ba le y gallwn gael y doniau hyn, os nad oddiwrth Dduw ? Y mae eraill lawn mor ddoniol, ac yn fwy dysgedig, eithr na fedrant bregethu, pe y caent y byd am hyny. Yr wyf fi yn cyhoeddi, nid trwy fy ngwybodaeth, oblegyd ychydig wybodaeth a feddaf, na thrwy fy nysgeidiaeth, eithr yr wyf yn llefaru yr hyn a gaf gan yr Arglwydd; pan fyddwyf yn myned gerbron y bobl nas gwn beth a ddywedaf, ond fy mod yn rhoi fy hun i Dduw. Cefais lawer o awdurdod i gymhwyso y gwirionedd, ac i ddangos, os nad oedd y baban hwn, y dyn hwn, yn Dduw, sut nad oedd y doethion yn pechu wrth ei addoli, at Stephan ddim yn pechu wrth weddïo arno, a Thomas, wrth ei alw, Fy Arglwydd a'm Duw;' a Phetr wrth ei alw yn Arglwydd, ac yn Fab Duw?

Yn y seiat breifat agorodd y brawd Thomas Williams ei holl galon, gan ddangos y modd y daeth y demtasiwn i ymneillduo gyntaf arno, o gwmpas pedair blynedd yn ol; i gychwyn, trwy ddymuniad am gael ordeinio; yna, trwy fwyhau mân bethau, nes eu gweled yn fawr; a phan na ildiem i'w betrusder, iddo fyned i edrych arnom fel rhai rhagfarnllyd, ac i'w galon fyned oddiwrthym. Yn ganlynol, aeth i'n dirmygu, gan ganfod ein gwaeleddau, ac edrych arnom fel rhai ieuainc, dibrofiad, a hunangeisiol. A'i fod o hyd yn tybio mai canlyn ei gydwybod yr ydoedd hyd bron yn awr; pan gwedi iddo ymneillduo yr agorodd yr Arglwydd ei lygaid i weled, mor glir ag sydd bosibl, mai gwaith y diafol oedd y cwbl, a magl, a'i fod yn meddwl hyny am bawb oedd wedi ein gadael. Dywedai yn mhellach ei fod yn rhydd yn awr i gymuno yn yr Eglwys, yr hyn na fedrai o'r blaen. Llewyrchasai yr un goleuni hefyd ar feddwl y brawd a ymneillduasai y Sul o'r blaen, ac y mae yntau yn dyfod yn ei ol. O Arglwydd, dy waith di yw hyn! Darostwng fi! Yr wyt yn ein harddel, am dy fod yn ewyllysio, ac am mai Duw ydwyt. Eglurais inau holl hanes y Diwygiad Protestanaidd, fel yr oedd Duw wedi anrhydeddu Eglwys Loegr, am mai ynddi y tywynasai y goleuni gyntaf trwy Wycliffe; cyfeiriais at Huss, Jerome, o Prague; oddiwrthynt hwy aethum at Luther, Calvin, sefydliad yr Eglwys Brotestanaidd; yna at Harry, Edward, Mary, ac Elizabeth, yn y wlad yma; fel yr oedd yr Eglwys yn wrthglawdd yn erbyn Pabyddiaeth tu hwnt i bawb arall; y modd na chaem y fath oddefiad gan unrhyw eglwys arall o fewn y byd. Dangosais y modd y maent yn rhoddi i lawr bregethu lleygol yn Ysgotland, ac yn awr yn yr America; eu bod yn carcharu y cenhadon Morafaidd yn unig am bregethu gwaed Crist, fel y gwnawn ni. Agorais yr holl gwestiwn gyda golwg ar yr Ymneillduwyr, a'r Parch. Edmund Jones; eu hystad pan yr adnabyddais hwy gyntaf, a'u hystâd yn awr; y modd yr wyf yn gweled y sawl sydd yn ymuno â hwy yn suddo yn raddol i'r un ffurfioldeb a hwythau, ac fel y maent yn ceisio tynu pawb a fedrant oddiwrthym ni; a'r fath wahaniaeth sydd rhyngddynt, parthed yspryd, athrawiaeth, a chynllun, a'r eiddom ni, fel y mae unrhyw gysylltiad agos rhyngom yn anmhosibl."

Y mae amryw bethau yn ein taro wrth ddarllen y difyniadau hyn: (1) Mai prif destun, a braidd unig destun, gweinidogaeth Howell Harris yn awr oedd dirgelwch undeb y ddwy natur yn Mherson yr Arglwydd Iesu; teimlai ei fod wedi cael datguddiad ar y mater o'r nefoedd; ymddangosai holl rinwedd y dyoddefaint a'r gwaed iddo yn dibynu ar fod yr undeb mor agos, fel, mewn ystyr, fod y natur ddynol yn cael ei dwyfoli, ac yn dyfod yn wrthddrych addoliad. Gallwn ni yn bresenol weled fod cryn gymysgedd yn ei syniadau, er, hefyd, fod ganddo gymal pwysig o'r gwirionedd; a'i fod yn gwahanu mewn athrawiaeth yr hyn na fuasai erioed ar wahan mewn ffaith, sef natur ddynol y Gwaredwr oddiwrth ei berson dwyfol.

Wrth ymresymu y pwnc yma, defnyddia ymadroddion an-Ysgrythyrol, ymadroddion nas gallent lai na rhoddi tramgwydd, erbyn eu hystyried yn bwyllog, er fod ei wresawgrwydd ef yn cuddio eu hanmhrydferthwch ar y pryd. Ac yr oedd yn gwthio ei syniadau i eithafion, gan anghofio y gwirioneddau cyferbyniol. (2) Y mae yn dra sicr mai Thomas Williams, y Groeswen, a gawsai ei ordeinio yn. weinidog yno yn ol duli yr Ymneillduwyr, oedd y brawd a gyfaddefai ei edifeirwch oblegyd gadael y Methodistiaid. Efallai na ddylem wasgu ei gyffes yn rhy bell, a thybio ei fod am beidio gweini yr ordinhadau mwy. Ond amlwg yw ei fod wedi cael ei siomi yn yr Ymneillduwyr, ac am wasgu yn glosach at y Methodistiaid; gan gyfaddef fod mwy o'r dylanwadau dwyfol yn cael eu teimlo yn eu mysg; ac mai fel Methodist y dymunai gael edrych arno mwy. (3) Canfyddwn resymau Howell Harris dros lynu wrth Eglwys Loegr, nad oedd yn cael ei lywodraethu gan ragfarn ddall yn y mater. Tybiai, fel y gwnai John Elias ar ol hyny, mai hi oedd yr unig wrthglawdd effeithiol yn erbyn Pabyddiaeth; nad oedd yn gweled y cai pregethu lleygol, yr hyn a gawsai ei fendithio mor amlwg i Gymru, ei oddef mewn unrhyw gyfundeb crefyddol arall; ac yr oedd ffurfioldeb, clauarineb, a chyfeiliornadau athrawiaethol nifer mawr o'r Ymneillduwyr yn dramgwydd iddo.

O Lantrisant, aeth i dŷ William Powell; yna i'r Graigwen, yn mhlwyf Eglwys Ilan, yn egwan o gorph, ond yn gadarn mewn ffydd. Cafodd odfa nerthol yma, er fod llawer o wrthwynebwyr undeb y ddwy natur yn bresenol. Ni chymerodd destun, eithr dangosodd allan o'r Ysgrythyr fawredd y dirgelwch; llawer a doddwyd wrth wrando, ond darfu i rai aros yn sych. Gwedi y bregeth, yn y seiat a ddilynai, agorodd yr holl helynt gyda golwg ar Thomas Williams; dywedodd Thomas Williams ei hun yr un peth ag a gyfaddefasai yn Llantrisant; gofynodd Harris i bawb o honynt, a oeddynt yn argyhoeddedig eu bod yn awr yn ffordd Duw, ac a oeddynt heb unrhyw awyddfryd am ymuno a'r Ymneillduwyr? Dywedasant oll yn un llais eu bod. Ymhelaethodd yntau ar y gwahaniaeth rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr; fod yr Ymneillduwyr yn gorphwys mewn ffurf a chynllun; tra yr ymwthiai y Methodistiaid yn mlaen yn Ilawn yspryd a goleuni; nad yw yr Ymneillduwyr ychwaith yn canfod drygedd lliaws o bechodau, fel yr ymddangosant i'r Methodistiaid. Gwedi hyny, dywedodd rhywun nas gallai gyduno a'r hyn oedd Harris wedi draethu; datganodd cynghorwr perthynol i'r seiat hefyd, os rhaid iddo draethu ei farn, fod y farn hono yn groes i'r hyn oedd wedi cael ei bregethu y noson hono. Y mae yn amlwg mai syniad Howell Harris parthed person Crist oedd yn cael ei wrthwynebu. Cafodd yntau awdurdod i ateb nad oedd ganddo ddim i'w ychwanegu at yr hyn a draethasai allan o'r pwlpud; os oedd y cynghorwr yn gwrthwynebu hyny, mai heretic ydoedd, ac nas gallasai efe, Harris, ddal unrhyw gymundeb ag ef. Yna gofynodd i aelodau y seiat, a oeddynt yn credu yr athrawiaeth a bregethai efe? Atebasant hwythau eu bod. "Troes inau at y cynghorwr," meddai Harris, yn ei ddydd-lyfr, "a dywedais nas gallwn gymdeithasu ag ef (y cynghorwr) hyd nes y byddai iddo ymddarostwng am dywyllu gogoniant Crist, tramgwyddo ei wyn, a gwrthwynebu yr hyn na ddeallai. Dywedais, yn mhellach, mai dyma y genadwri oeddwn wedi dderbyn oddiwrth Dduw; nas gallwn ildio un iota o honi, mai hi oedd fy mywyd; a thrwy ras, fy mod yn foddlawn marw drosti. Os nad yw Crist yn wir Dduw ac yn wir ddyn, ac fel y cyfryw wedi byw a dyoddef; yna, yr wyf fi wedi fy ngholli yn oes oesoedd. Dangosais nad digon dweyd fod Duw yn y dyn hwn; fod Duw yn y credinwyr; mai cyfeiliornad oedd galw y Gwaredwr yn Dduw ac yn ddyn; fod undeb tragywyddol rhyngom ni sydd yn credu â Duw; ond ddarfod i'r Gair gael ei wneuthur yn gnawd. Pa fodd, nis gwn. Os oedd ef, y cynghorwr, yn gwadu ddarfod i Dduw ddyoddef, a bod Crist yn gweddïo ar y Tad, na ddylwn ymresymu ag ef, am mai dirgelwch ydoedd, ac nas gellid ei dderbyn ond trwy. yr Yspryd Glân. Cyfeiriais at Grist yn galw ei hun yn Dduw weithiau, a phryd arall yn ddyn weithiau yn honi fod ganddo awdurdod i roddi ei einioes i lawr, ac i'w chymeryd hi drachefn, a phryd arall yn gweddio ar y Tad, ac yn cyfaddef nas gallai wneyd dim hebddo, mai yr un person a wnelai y ddau beth. Dyma y gwirionedd, ond nis gallwn ei amgyffred. Yn ganlynol, pan y dymunai wrthwynebu, gorchymynais iddo fod yn ddystaw, am ei fod wedi tori ei hun i ffwrdd o fod yn perthyn i ni. Yr oedd yntau yn gyndyn, a gwadai fy awdurdod i'w droi ef allan; mai yn y seiat yr oedd yr awdurdod hono, ac nid ynof fi. Atebais nad oeddwn yn ei ddiarddel ond mewn undeb a'm cydweithwyr; nad oeddwn i na hwythau yn gwneyd hyny onid yw y seiat hon yn ein dewis yn ewyllysgar i'w rheoli ac i wylio drosti; ac os oedd yn gwneyd hyny fy mod yn barnu fod genyf awdurdod i dderbyn i mewn ac i droi allan. Yna mi a genais Salm. Yr oeddwn yn flaenorol, wrth siarad, wedi cael fy nhoddi, ond wrth ganu llanwodd yr Yspryd fi â dymuniad ar i Dduw gymeryd ymaith fy holl ddoniau, a'i wisgo ef, y cynghorwr, à hwy. Llefais, yn dufewnol, ar i mi gael y fraint o'i weled yn llewyrchu yn ddysgleiriach na mi mewn gogoniant. Wrth gydweddïo, daeth yr Arglwydd i lawr mewn modd anghyffredin, gan ddryllio ein calonau. Yr oedd yma wylo mawr, a'r fath gariad, a gostyngeiddrwydd, ac ysprydoedd drylliedig, na welais y cyffelyb o'r blaen. Gofynais i'r Arglwydd, pa hyd y cawn gnoi a thraflyncu ein gilydd, ac ymranu? Ar y terfyn, dysgwyliwn y deuai efe, y cynghorwr, ataf, gan gyfaddef mai temtasiwn oedd wedi ei orddiwes; ond gan na ddaeth, aethum i ato ef, gan ei alw yn frawd, a syrthio ar ei wddf. Yr oll a ddywedodd ef ydoedd, nad oedd yn cael undeb â ni. Atebais fy mod yn gwneyd y cyfan er mwyn yr Arglwydd, a'i wirionedd, ac o gydwybod; ac er fod ei ddiarddel fel rhwygo fy nghroen oddiam fy esgyrn, fy mod yn rhwym o'i wneyd. Gwrthodais ddadleu yn hwy, gan ei bod yn un-ar-ddeg o'r gloch; felly, cusenais ef, a gweddïais gydag ef a'r brodyr, ac felly aethum i ffwrdd, yn drymach fy nghalon nag erioed."

Y mae yn amlwg fod Howell Harris wedi cael syniadau dyrchafedig am berson. yr Arglwydd Iesu, ac am agosrwydd undeb y ddwy natur ynddo, a hyny y tuhwnt it neb o'i frodyr. Yr oedd gwirionedd gogoneddus wedi gwawrio ar ei feddwl; gwirionedd nad oedd y Diwygwyr eraill, efallai, yn talu sylw digonol iddo. Er hyny, cawn yn brithio ei ddydd-lyfr ymadroddion an-Ysgrythyrol, y rhai a brofant fod ei syniadau i raddau yn gymysglyd, a'i ddull o eirio yn fynych yn anhapus. dyma ef yn awr, am y tro cyntaf, yn diarddel, allan o'r seiat, gynghorwr nad oedd yn gallu syrthio i mewn a'i olygiadau neillduol ef. Hawdd gweled fod defnyddiau ystorm yn dechreu cael eu cynyrchu. Aeth Howell Harris yn ei flaen tua Watford, yn glaf, ac yn barod i lewygu o ran ei gorph. Wrth feddwl am y genadwri neillduol a roddasid iddo, a'r gwrthwynebiad a welai yn dechreu codi, llefai: "O Arglwydd, ti a wyddost, fy unig amcan yw dwyn pawb atat ti, i'th weled di, fel yr wyt wedi datguddio dy hun yn dy Air." "Yna," meddai, "cefais yspryd i alaru am bob gair a ddywedaswn allan o le, ac i ddymuno am iddo ddangos ei ogoniant. Dychrynwn rhag myned i'r Gymdeithasfa, rhag ofn iddynt wrthwynebu y genadwri. Eto, ymddiriedwn yn yr Arglwydd, gan lefain: O Arglwydd, nis gallaf wadu dy wirionedd di, ac nis gallaf anghytuno a'm brodyr.' Yna, aethum tua Gelligaer, lle y cefais dystiolaeth fod Duw wedi fy anfon, ac wedi maddeu fy holl bechodau hyd yn awr. Cefais ryddid i lefaru oddiar: Fy ngeiriau i, yspryd ydynt a bywyd ydynt.' Tybia i'r gynulleidfa gael bendith; yna, aeth i Mynyddislwyn; yr oedd yn glaf, ac yn wan, yn mron llewygu, ond yr hwn a'i danfonasai yno a'i nerthodd, gorph a meddwl. Ei destun oedd: "Mab a roddwyd i ni." Teimlai ei fod wedi cael ei alw yma i lefaru am y dirgelwch, yr hyn na chawsai yn Gelligaer. Galluogwyd fi," meddai, "i lefaru am ardderchawgrwydd gwybodaeth y Mab hwn; y modd y rhaid i bawb ddod i'w adnabod; truenusrwydd y rhai nad ydynt yn ei adnabod; y modd y mae yr Ysgrythyrau yn dwyn tystiolaeth iddo; mai hwy yw y meusydd, ac efe yw y perl sydd wedi ei guddio ynddynt. Dangosais am y datguddiad o Grist sydd yn cael ei roddi yn unig gan yr Yspryd. Cefais ryddid i ddangos am ddirgelwch Crist; fod y dyn hwn yn Dduw; yr oedd yr Yspryd yn cydfyned a'r Gair, yr oedd llawer yn teimlo, a llawer yn wylo."

Cyrhaeddodd le o'r enw Pen-heol-y-badd nos Sadwrn. Aeth filltir yn mhellach, i Tonsawndwr, boreu y Sul, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "A hyn yw y bywyd tragywyddol." Yr oedd yr Arglwydd yn bresenol, ac wylai Ilawer. Dangosai fod dydd gogoneddus ar wawrio, gan fod y ceiliogod, sef gwenidogion Duw, yn canu trwy yr holl wlad. Cyfeiriodd yma hefyd at y dirgelwch. Oddiyno aeth yn ei flaen i'r New Inn. "Mab a roddwyd i ni" oedd y testun yma eto, a dirgelwch Crist oedd y mater. Yr oedd gras mawr ar y bobl, a gobeithiai fod gogoniant y Gwaredwr ar lewyrchu ar yr eglwys. Cyhoeddasid Howell Davies i bregethu yn Tonsawndwr dydd Llun; methodd gyrhaedd yno oblegyd afiechyd, a dychwelodd Howell Harris i gymeryd ei le. Cafodd odfa anghyffredin wrth lefaru am gorph pechod. Eithr cafodd lwybr rywsut i fyned at y pwnc oedd yn awr wedi llyncu ei fryd, sef dirgelwch y ddwy natur yn Nghrist. "Yn sicr," meddai, "bendithiodd yr Arglwydd y bobl a mi, ac ymddangosodd ynof, yn gystal a throsof, tra yr oeddwn yn ei bregethu ef a'i ddirgelwch. Dangosodd y cawn yn fuan, trwy ei wirionedd a'i waed, gyfarfod y bobl eto mewn gogoniant, allan o gyrhaedd pechod." Cychwyna am Lanheiddel yn nesaf. Cafodd odfa ryfedd iawn yma, gan deimlo fod yr addewidion iddo yn fwyd, ac yn ddiod, ac yn nerth. Ni chefais y fath wyliau erioed o'r blaen," meddai; "cadwodd y gwin goreu yn olaf. Dywedais, hyd yn nod pe bawn yn Ymneillduwr (dangoswn nad oeddwn yn eu herbyn, ond o'u plaid, gan fy mod yn eu caru), y deuwn at y Methodistiaid, oblegyd gyda hwy y mae yr Arglwydd." Eithr y mae y chwerw yma yn gymysg a'r melus yn barhaus, a chafodd Harris brofi hyny yn Llanheiddel. Fel hyn yr ysgrifena:—

Boreu dydd Mawrth. Cefais ergyd wrth glywed fod y brodyr yn Watford wedi suddo yn ddyfnach i'w cyfeiliornad o wrthod addoli dynoliaeth Crist, a'u bod wedi tynu atynt Mr. Davies, a'r dyn ieuanc oedd gydag ef; a bod rhyw un o honynt wedi galw corph marw ein Harglwydd yn gelain farw. Gyda y baich hwn cefais ffydd i lefain ar i'r Arglwydd ei sancteiddio i mi, i'm darostwng. Cefais ryddid mawr hefyd i weddio dros y brodyr, y rhai ydynt yn llefaru am yr hyn na wyddant eto; yna, daliwyd gogoniant Crist ger fy mron, ei ogoniant o'r cryd i'r bedd, ac yr oedd Duw yn agos ataf."

Pwy oedd y Mr. Davies a gawsai ei hudo gan y brodyr yn Watford, nis gwyddom. Y mae yn amlwg fod pregethu Howell Harris am ddirgelwch person Crist yn dechreu berwi y seiadau; fod yr ymadroddion eithafol ac anwyliadwrus, efallai, a ddefnyddiai ef, yn cynyrchu yr eithafion cyferbyniol; a bod yn rhai yn tueddu i ddefnyddio ymadroddion carlamus. Ychwanega Harris yn ei ddydd-lyfr: "Y mae genyf i fyned i'r Gymdeithasfa; ac mi a awn dan ofn y brodyr, rhag i'r cyfeiliornad hwn gael ei goledd yn eu mysg, oni bai am ffydd. Yr wyf yn meddu goleuni, tynerwch, gwroldeb, ac awdurdod mewn cysylltiad â rhai o honynt, fel brodyr ieuangach wedi eu hymddiried i'm gofal, at bod yn rhaid i hyn weithio er daioni, fel y mae pob gwrthwynebiad wedi gwneyd hyd yma." Yn y Glyn yr oedd y Gymdeithasfa i'w chynal, Ionawr 9, 1746; y dydd cyn hyny, wrth deithio tua Thaf-Fawr; ceisiai ddyfalu pa wrthwynebiad iddo ef a'i athrawiaeth a gyfodid gan y brodyr. Cafodd olwg newydd ar ogoniant a duwdod Crist, wrth weled fod y llywodraeth ar ei ysgwydd. Yn Taf-Fawr, cafodd gryn nerth wrth bregethu y gwaed. Cyfeiriodd yn llym hefyd at yr Ymneillduwyr cnawdol, y rhai a siaradent yn ddidaw. am drefn, a ffurf-lywodraeth eglwysig, ac a alwent eu hunain yn eglwys, ond oeddynt yn hollol amddifad o fywyd. Oddiyma aeth i'r Glyn, lle y cynhelid y Gymdeithasfa; yr oedd ganddo daith o ddeg awr ar gefn ceffyl, a chyrhaeddodd yno yn hwyr y nos flaenorol i'r cyfarfod.

Y mae yn sicr fod Howell Harris yn dychrynu wrth feddwl am y Gymdeithasfa; dysgwyliai yn sicr y byddai i ymosodiad enbyd gael ei wneyd arno, ac ar yr athrawiaeth neillduol a bregethai, a cheisiai ymgadarnhau ar ei gyfer. "Teimlwn," meddai, "fod arnaf awydd cyfarfod a'r brodyr er cael fy sathru dan draed, fy nghondemnio, a'm gwrthwynebu; ni welwn ddim arall o'm blaen; llawenychwn ynddo, gan ei weled yn foddion i dynu i lawr fy malchder. Ond cefais olwg hefyd ar y dianrhydedd a gaffai ein Harglwydd wrth ein bod yn gwrthwynebu ein gilydd, ac ar yr ŵyn yn cael eu gwasgaru, a'u rhanu; yr oedd hyn yn dra dolurus i mi. Cefais nerth i weddïo ar i Dduw ein cadw yn nghyd." Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn, oddiar Eph. vi. 11; ac ymddengys ei bod yn odfa nodedig o lewyrchus." Daeth awel nerthol i lawr arnom," meddai Harris; "fflamiwyd fy enaid o'm mewn, a darostyngwyd fi i'r llwch; yr oeddwn yn ddiolchgar am y dawn, a'r gras, a'r nerth oedd yn cael ei roddi." Gwedi y bregeth, cydginiawodd y brodyr, a dechreuwyd trin y gwahanol faterion, ar ol gweddi felus gan y brawd Morgan Jones. Yn ystod y weddi, yr oedd yr amenau mor uchel a chyffrous, fel y tramgwyddodd rhai; eithr dadleuodd Harris fod y tân o Dduw. Darllenwyd nifer o lythyrau, ac yr oedd ffydd y frawdoliaeth yn cynyddu fel y cynyddai eu treialon. "Y mae Satan yn ein profi bob cyfeiriad," meddai Harris, "ond yr Arglwydd a ymddangosodd yn rhyfedd yn ein mysg ni heddyw, gan wneyd i fynu y rhwyg erchyll a ofnwn o Sir Forganwg. O dynerwch Duw! Yr hyn a ofnwn a symudwyd, a'n hysprydoedd a unwyd; eithr dengys hyn y fath blant ydym, mor lleied o gydymdeimlad a'n gilydd a feddwn; mor barod ydym i ymranu, ac i osod yr esboniad gwaethaf ar eiriau ein gilydd. Addefodd y brodyr iddynt fy nghamgymeryd, a'u pechod, yn cychwyn cwestiynau cnawdol parthed addoli dynoliaeth. Crist, a'u gwaith yn rhoddi bod i syniadau cnawdol am ddyndod y Gwaredwr, fel pe y byddai ei ddyndod ar wahan oddiwrth ei dduwdod yn ei ddyoddefiadau, ac felly nad yw i'w addoli; a'u gwaith yn honi mai ei ddyndod yw y ffordd, y drws, a'r offrwm, ac felly, nad ydoedd i'w addoli o gwbl. Ar eu gwaith yn cydnabod eu bai, cefais ryddid i lefaru am ddirgelwch Crist, a'r modd y datguddiwyd ef i mi gyntaf. Dywedodd y brawd Rowland fod Ainsworth yn sylwi ddarfod i Dduw farw fel yr oedd yn Dduw-ddyn; ac fel pe bai yr un yn physigwr ac yn gyfreithiwr, y byddai yn briodol dweyd i'r physigwr farw, neu ynte y cyfreithiwr. Ai fod ef ei hun wedi pregethu, dydd Nadolig, am ddirgelwch Crist, oddiar y geiriau: 'A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd.' O Dad tyner! Dangosais fel yr oedd y duwdod yn nglyn a'r enaid a'r corph (yn Nghrist) pan yr oeddynt wedi eu hysgar oddiwrth eu gilydd; y modd yr oedd hyn yn llewyrchu arnaf; fy mod yn credu nad oeddynt hwy yn eu weled ond yn ngoleu rheswm, ac felly y dylent fod yn ddystaw. Dywedais fy mod yn credu fod y Morafiaid yn iawn yn y mater yma, ac nad oeddwn i wedi newid fy meddwl gyda golwg ar unrhyw wirionedd, ond wedi tyfu ac wedi ymgryfhau yn y goleuni. Yr wyf yn cael fod y gelyn yn ceisio ein gwahanu yn Sir Benfro, a bod yr yspryd Morafaidd yn ymledu yno; ceisiais inau dawelu pethau. Y mae yn dda mai yr Arglwydd sydd Dduw. Dywedais wrth John Belsher fy mod yn tybio fy mod yn gweled ynddo anghymwysder i ddelio ag eneidiau gweiniaid. Cefais ryddid mawr ar weddi ar y terfyn."

Felly y terfynodd y Gymdeithasfa bwysig hon. Nid ydym yn teimlo y rhaid i ni wrth esgusawd am ddifynu ei hanes mor helaeth allan o'r dydd-lyfr, yn nghyd a hanes y daith. Y pryd hwn y rhoddwyd lefain yr ymraniad yn y blawd. Yr oedd yr hyn a eilw yn ddirgelwch Crist wedi llyncu bryd Harris i'r fath raddau fel mai prin y cyfeiriai at un pwnc arall wrth bregethu; yr oedd mor argyhoeddiadol o'i wirionedd, ac o'i bwysigrwydd fel gwirionedd, fel yr oedd yn barod i farw yn hytrach nag ildio modfedd ar y mater. Y mae yn amlwg mai yn mhlith y cynghorwyr y cododd gwrthwynebiad gyntaf i'r athrawiaeth. Diau yr ofnai Harris y buasai Rowland, a Williams, yn y Gymdeithasfa, yn cymeryd eu plaid, ac yn cyduno â hwy i ymosod arno; yn hyny cafodd ei siomi yr ochr oreu; yr hyn a wnaethant hwy oedd darbwyllo y rhai a wrthwynebent i gyfaddef eu bod wedi camddeall ei eiriau, a'u bod wedi cyfodi cwestiynau cnawdol yn nglyn â pherson ein Harglwydd; ac mewn canlyniad i ymostwng wrth ei draed. Os oedd Rowland yn canfod gwrthyni rhai o ymadroddion Harris y pryd hwnw, ni awgrymodd hyny mewn un modd; gosodai hyny i lawr i ddull o eirio, gan gredu eu bod ill dau yr un yn y gwraidd. Nid rhyfedd fod Harris mewn tymher fuddugoliaethus, a'i draed ar yr uchelfanau.

Pa mor orfoleddus y teimlai a ddangosir yn y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd ganddo o Drefecca, dranoeth i'r Gymdeithasfa, at Mr. Thomas Adams, un o gynghorwyr Whitefield, yn y Tabernacl:—

Fy anwyl gyd-weithiwr, a'm hanwylaf frawd,—Yr wyf wedi bod am bythefnos o daith; neithiwr y daethum adref o'r Gymdeithasfa; ac ni fu genyf erioed y fath adroddiad i'w anfon i chwi. Ni ddarfu i'n Harglwydd erioed, yr wyf yn meddwl, ddyrysu cynllwynion y gelyn, a bendithio ei ddrudfawr ŵyn a brynwyd ganddo, ac agor ei gariadlawn fynwes, i'r fath raddau ag yn awr. Er pan ddychwelais, gwnaed fi yn dyst o'i ogoniant a'i fawrhydi. Nis geill tafod fynegu y fath weithredoedd nerthol sydd yn cael eu cyflawni ganddo trwy ddwylaw ei weinidogion yma. mae yr offeiriaid fel seraphiaid fflamllyd; a llawer o'r brodyr lleyg ydynt yn nodedig o lwyddianus. Y mae tair sir-Penfro, Caerfyrddin, ac Aberteifi-yn ymddangos fel preswylfeydd arbenig yr Arglwydd, ac yn ganolbwynt y gwaith, fel pe bae. Mewn amryw fanau yn Siroedd Morganwg, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, y maent yn tyfu yn ardderchog, ac er fod y gelyn yn barhaus yn hau ei efrau, eto y mae cariad brawdol a symlrwydd yn ffynu. Y fath yw yr arddangosiad o ogoniant Duw yn ngras Iesu Grist fel, mewn amryw leoedd, y mae yn llwyr orchfygu natur. Y mae amryw yn cael eu bedyddio ag addawedig dân y Glân Yspryd i'r fath raddau, fel y maent yn methu bod yn ddystaw; eu huchel amenau, a'u haleliwia o fawl i'r hwn a'u prynodd, yn fynych sydd yn boddi llais y pregethwr. Treulir llawer o oriau, ïe, nosweithiau cyfain, mewn canu a gweddïo. O ddyddiau gogoneddus! Y mae y ceiliogod yn canu, ac y mae gwawr boreu clir yn tori. Yn sicr, y mae y Cadben ar y maes; yr Arglwydd a ymwelodd a'i deml. Y deillion (ysprydol) ydynt yn cael eu golwg yn ddyddiol; clustiau y byddariaid sydd yn cael eu hagor; y cloffion sydd yn rhodio, a'r meirw yn cael eu cyfodi. Y mae teyrnas ein Duw a'n Crist wedi dyfod i'n mysg; gwae y rhai a wrthwynebant, yn gyhoedd neu yn ddirgel. Yn ein Cymdeithasfa yr oeddym yn fwy hapus nag erioed. Cawsom adroddiadau ardderchog gan y gwahanol arolygwyr am yr eneidiau oeddynt dan eu gofal. Satan sydd mewn dyryswch. Anwyl frawd, ewch yn mlaen yn hyf, sethrir ef yn gyfangwbl heb fod yn hir. Ein Duw a'n bendithia ac a'n llwydda; bydded i ninau bob amser olchi ei draed. Y fory, yr wyf yn pregethu gartref; dydd Llun, yr wyf yn cychwyn ar daith arall. Yn union gwedi fy nychweliad bwriadaf, os Duw a'i myn, fyned i Lundain. Y mae eich ceffyl yn gryf. Ar y daith hon bwriadaf fenthyca ceffyl i'm hanfon o le i le. Una fy ngwraig mewn cofion serchog atoch chwi a'ch priod. Yr eiddoch, yn ein hanwyl Waredwr, How. HARRIS."

Fel yr arfaethasai, cawn ef yn cychwyn i'w daith dydd Llun, Ionawr 13. Ceir ei brofiad wrth fyned yn ei ddydd-lyfr: "Heddyw, cyn cychwyn i daith i Siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, dyrchafwyd fy enaid uwchlaw pechod, ofn, a Satan, a gwnaed fi yn orchfygwr trwy ffydd. Aethum tua Chwmcamlais, pellder o ddeg neu bymtheg milltir; ar y ffordd, fy enaid a adfywiwyd ynof, wrth weled nad oedd genyf yr un Duw ond y dyn Crist Iesu, a'i fod yn Dduw maddeugar, a chariadlawn, yn fy nghyfiawnhau, yn fy mendithio, ac yn fy arwain. Gwelais fod rhyw gyfoeth dihysbydd yn y dirgelwch—Duw wedi ei wneuthur yn gnawd. Cefais ryddid mawr wrth weddio a phregethu oddiar 1 Ioan v. 7; cyfeiriwyd fi yn fwyaf neillduol at y clauar a'r cnawdol, y cyfryw oeddynt wedi ein gadael, ac ymuno a'r Ymneillduwyr; dangosais eu bod wedi myned allan o ffordd Duw; pa nifer sydd yn feddw beunyddiol ar win newydd Duw, a bod y gwaith yn ddwyfol, fel y profa yr arwyddion." Nid hawdd deall y cyfeiriad at y rhai oeddynt yn feddw ar win newydd Duw; geill olygu yn y cysylltiad, naill ai mai ychydig o'r Ymneillduwyr, neu ynte fod llawer o'r Methodistiaid felly. Pregethodd yma hefyd am y dirgelwch. Aeth yn ei flaen i Landdeusant, lle y pregethodd oddiar Ioan xvii. 3. Cafodd lawer o nerth; llefarai weithiau yn erbyn proffeswyr erbyn proffeswyr cnawdol, bryd arall yn erbyn y rhai oeddynt yn gyhoeddus annuwiol. Gwelai ei fod yn cael ei arwain mewn gwahanol ffyrdd; weithiau i daranu; bryd arall yn fwy i gysuro ac iachau. Yma eto, cyn gorphen, cyhoeddai y dirgelwch sydd yn Nghrist. "Agorais y cyfan gydag awdurdod," meddai, "gan ddangos fod y dyn hwn yn Dduw, ac mai efe oedd yr unig Dduw." Dydd Mercher, aeth tua Thygwyn. Ei destun yma oedd: "A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen." Yr oedd yn agos at yr Arglwydd wrth lefaru, ac yn ddedwydd; ymddangosai y bobl hefyd yn gariadlawn. Ond ni ddaeth y nerth mawr hyd nes y dechreuodd son am fuddugoliaeth y dyn duwiol trwy Grist ar bechod. Dydd Iau, cawn ef yn Gell-y-dorch-leithe, ac fel hyn yr ysgrifena: "Neithiwr, llamai a neidiai yr wyn, ar ol cael eu porthi ar ddirgelwch Crist; yn awr y mae y goleuni yn dechreu tywynu arnynt." Yn Llangadog, llefarodd gyda chryn nerth a goleuni oddiar 1 Ioan v. 7, ac wrth ei fod yn dangos y gwahaniaeth rhwng canlynwyr Crist a phechaduriaid, llewyrchodd goleuni o dragywyddoldeb ar ei enaid, dysgleiriach na dim a welsai o'r blaen; gwelai y byd hwn fel cysgod gwanaidd o'r un i ddod. Efengylu a wnelai yno, a gwahodd pawb at Grist yn felus; ond ni ddaeth y nerth hyd nes y dechreuodd ymdrin â dirgelwch Crist. "Dangoswn," meddai, "fod ofn yn cilio pan fyddo gogoniant Grist yn ymddangos. Agorais y cwbl, fel arfer, am Grist, yn arbenig am dano yn sefyll yn fud gerbon Pilat, a'i waith yn cymeryd ein pechod a'n heuogrwydd ni arno ei hun, trwy yr hyn y mae Duw yn gallu ymddwyn at y rhai sydd yn credu, fel pe byddent heb bechu. Dangosais, os bu Crist farw dros bawb, yna y rhaid i bawb gael eu rhyddhau, nas gellir eu cospi hwy drachefn. Yr oeddwn yn nerthol wrth ymdrin à genedigaeth, bywyd, dyoddefiadau, a marwolaeth yr Iesu, ac wrth egluro cyffes Petr, Paul, a Thomas. Yma hefyd yr ŵyn a borthwyd.”

Cawn ef yn nesaf yn Llansamlet. Tebygol mai rhyw blwyf yn Sir Forganwg oedd y Llangadog blaenorol. Teimlai yn egwan, ac yn barod i lewygu, ar y ffordd; ond pan y dechreuodd bregethu, daeth nerth corphorol iddo yn ddisymwth. Gwybodaeth benarglwyddiaethol Duw yn Nghrist oedd y mater y llefarai arno, a chafodd ei arwain i roddi arbenigrwydd ar ddirgelwch y gwaed, gan ddangos mai dyma sylfaen yr oll oeddynt yn fwynhau, a llefain ei fod yn barod i fentro tragywyddoldeb ar bwys y gwaed hwn. Yr oedd yn odfa nerthol iawn. Ar y diwedd, cadwyd seiat breifat, ac meddai: "Arosasom yn nghyd hyd ddeg; yr oedd y nerth a'r bywyd yn peri ein bod fel fflam; daeth adref ataf mor agored ydym i ddichellion Satan; eithr cefais lonyddwch wrth gyflwyno y cwbl i law Duw." Amlwg yw fod rhyw arwyddion annymunol yn y cynulliad yn nghanol y gwresawgrwydd, y rhai oeddynt yn eglur i lygad y Diwygiwr. Cawn ef yn nesaf yn Mherllan-Robert. Pregethodd yma yn Gymraeg ac yn Saesneg; odfa doddedig ydoedd; ond nid oedd ynddi gymaint o dân, a nerth, a gwaeddi allan, ag a geid dan weinidogaeth yr offeiriaid. "Cefais dynerwch mawr," medd, "wrth gyflwyno fy nghenadwri arferol am ddirgelwch Crist; ymddangosai llawer fel be byddent yn teimlo; ac yr oedd nerth yn cydfyned a'r Gair wrth fy mod yn pregethu am ddirgelwch y Gwaredwr, a dirgelwch y Drindod, ac yn dynoethi rheswm cnawdol." Nos Wener, aeth yn ei flaen i Casilwchwr, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd." Yma clywodd am y boneddwr a gymerasai ei geffyl oddiarno yn agos i Gastellnedd, pan ar ei daith trwy y rhanbarth hwn yn flaenorol, ei fod wedi colli dau o'i geffylau; a'i fod yntau wedi cael ei gymeryd yn sal mewn clefyd, o ba un yr oedd eto heb gael ei adfer. "Llawer ac amrywiol yw y gwersi a ddysgir i mi, gan bob math o bobl wyf yn gyfarfod," meddai Harris; "ond nid wyf yn gweled neb cynddrwg a mi fy hun, na neb yn cael y fath ffafr." Cyfarfyddodd yma hefyd y boneddwr ieuanc, Mr. Dawkins, wrth ei enw, yr hwn a ymddangosai dan gryn deimlad, a chafodd lawer o bleser wrth ymddiddan ag ef am bethau ysprydol. "Y mae gwaith mawr yn cael ei gario yn mlaen," meddai; "ordeiniwyd offeiriad ieuanc yma yn ddiweddar, yr hwn sydd yn Gristion. O Arglwydd, ymwel â dy eglwys!" Rhaid fod cyflwr offeiriaid Eglwys Loegr yn ddifrifol yr adeg hon, pan y mae ordeiniad offeiriad oedd yn Gristion yn ffaith i alw sylw arbenig ati, ac i ddiolch am dani.

Dydd Sadwrn, aeth i Pembre erbyn dau; yr oedd y bobl wedi bod yn dysgwyl am dano am bedair awr; syna yntau fel y mae yn colli ei amser yn barhaus, ond dywed nas gallai help. Cafodd ryddid i lefaru yma, ond nid oedd y dylanwad yn fawr. Bwriadai gyrhaedd Llanddowror nos Sadwrn, ond methodd groesi y culfor yn Llanstephan, nes yr oedd yn rhy hwyr i fyned yn mhellach. Modd bynag, ni threuliodd ei amser yn ofer; clywodd y bobl ei fod yn y lle; daeth torf yn nghyd, a chafodd yntau gyfle i lefaru. Yr oedd ei bregeth ar ffurf ei bregethau cyntaf, sef dynoethi cnawdolrwydd a dallineb offeiriaid yr Eglwys, drygioni y boneddigion, ac arferion isel y bobl gyffredin. Ymddengys ei bod yn odfa iw chofio byth. Yr oedd y dylanwad ar deimlad Harris ei hun yn mron yn llethol. Wrth weled fel yr oedd yr Arglwydd yn cario ei waith yn mlaen, gwaeddai: "Haleliwia! Amen! O felus dragywyddoldeb! Gwelaf yn awr paham y darfu i'r Arglwydd fy nghadw mor hir mewn caethiwed gan ofn angau, sef er mwyn i mi ymgydnabyddu â chelloedd tywyll marwolaeth, ac felly allu cysuro eraill pan fyddont yn croesi." Cyrhaedd odd Landdowror o gwmpas un y Sul; yr oedd yn mhell oddiwrth yr Arglwydd ar y ffordd. Testun y Parch. Griffith Jones ydoedd: "A hon yw y ddamnedigaeth.' Cafodd Howell Harris fendith wrth wrando, ac yn neillduol yn y cymundeb at ddilynai. Eithr pan y soniai yr hen offeiriad am "amodau iachawdwriaeth," teimlai Harris mai Crist oedd ei amod ef, a'i deitl i holl fendithion y cyfamod. Aeth i Merthyr, yn Sir Gaerfyrddin, erbyn y nos, lle y cafodd odfa felus.

Dydd Llun, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Glancothi, a a chyrhaeddodd Howell Harris yno o gwmpas dau. Yr oedd Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn bresenol, yn nghyd a Benjamin. Thomas, y gweinidog Ymneillduol; ond nid yw Harris yn croniclo unrhyw ymdriniaeth ar faterion, na dim a ddywedwyd gan neb ond efe ei hun. Fel hyn yr ysgrifena: "Cefais agosrwydd mawr at yr Arglwydd yn y weddi; gostyngwyd fy nghalon, a daeth yr Arglwydd i lawr pan y dangoswn fel yr oedd llygaid pawb arnom, ac yr anogwn i wyliadwriaeth, a pheidio rhoddi tramgwydd i neb mewn dim. Eglurais fod ymddwyn yn wahanol yn profi diffyg cariad at eneidiau. Yr oeddwn yn rymus wrth ddangos yr angenrheidrwydd am ostyngeiddrwydd, a thra y caem ein cadw yn y llwch y byddai i'r Arglwydd ein hanrydeddu. Disgynodd Duw i'n plith; toddwyd llawer, ac wylent yn hidl. Eisteddasom am o bedair i bum' awr; yr oedd yr Arglwydd yn ein mysg mewn modd neillduol, gan roddi i ni gariad a doethineb i ddyoddef ein gilydd, tra yr ymdriniem a materion o'r pwysigrwydd mwyaf, ac am y rhwyg a geisiai Satan ei wneyd yn ein plith. Yr oeddem oll yma. yn ostyngedig, ac mewn undeb." Yna, cronicla anerchiad a draddodwyd ganddo; dywed iddo gyfeirio at ddirgelwch Crist; fel yr oedd angau Crist wedi dinystrio marwolaeth; fel yr oedd corph ac enaid ein Hiachawdwr mewn undeb a'i dduwdod tra ar wahan oddiwrth eu gilydd; fel y cawsai y dirgelwch hwn ei ddatguddio iddo ef gyntaf, ac fel na bu yntau yn anufudd i'r weledigaeth nefol. Dangosai hefyd fel yr oedd Satan yn ceisio peri i rai gyfeiliorni, trwy wrthwynebu yr ymadrodd, cymhwysiad o'r gwaed," gan ddewis yn hytrach y term, "derbyniad o Grist," a thrwy hyny ddynesu at athrawiaeth yr Antinomiad, sef cyfiawnhad er tragywyddoldeb mewn sylwedd, a chyfiawnhad gweithredol pan fu Crist farw. Cydunai y brodyr a phob gwirionedd a draethai. Yr oedd yn nerthol ac yn agos wrth ddangos fod Duw wedi caru yr etholedigion er tragywyddoldeb, a Christ, fel eu pen, wedi marw dros eu pechodau oll, ac yn eu lle; ac eto eu bod yn farw, ac yn wrthrychau digofaint Duw, hyd nes y caffont eu geni drachefn, ac y credont, ac y caffo Crist ei gymhwyso atynt. Yr oedd pawb yn gweled lygad yn llygad, ac ymadawyd yn hyfryd o gwmpas naw.

Er hwyred ydoedd, aeth Rowland, Williams, Pantycelyn, a Harris, i Glanyrafonddu i letya, ac yr oedd yn ddeuddeg o'r gloch arnynt yn cyrhaedd. Wrth ochr Williams y marchogai Harris, a chafodd fendith hyfryd yn y gymdeithas. Dydd Mawrth, pregethai Rowland yn nghapel Abergorlech. Meddai Harris: " Clywais y bregeth fwyaf ardderchog, gan ŵr mawr Duw, oddiar Salm cv. 14, 15." Ymddengys fod yr Arglwydd yn agos hefyd yn y sacrament. Gwelai Howell Harris dri dirgelwch mawr, Duw, Crist, a'r eglwys; am y diweddaf, canfyddai ei bod yn ogoneddus yn wir. Wrth ei fod yn siarad am y dirgeledigaethau hyn, tramgwyddodd rhai; ceryddodd yntau hwy am yr hyn a welai allan o le ynddynt; ond yr oedd undeb anwyl rhyngddo a'r brawd Rowland. Wedi dychwelyd i Glanyrafonddu, pregethodd Rowland drachefn, oddiar Joel iii. 13; odfa anghyffredin oedd hon eto; yr oedd enaid Harris yn fflam o'i fewn; gwelai yn Rowland yr un yspryd ag oedd ynddo ef ei hun. Ymddengys fod gorfoleddu mawr yn y cyfarfod hwn. Cynghorodd Harris mewn modd brawdol y rhai oeddynt ar dân gan gariad, a theimlad o fuddugoliaeth, ac yr oeddynt hwythau yn ddigon gostyngedig i dderbyn y cynghor. Aeth y cyfeillion yn nghyd dydd Mercher i Lwynyberllan; pregethodd Rowland yma eto ar Jer. xxxiii. 6; cafwyd yma arwyddion amlwg o bresenoldeb yr Arglwydd. Llefarodd Harris yma hefyd, a dywed fod ei dafod fel pin ysgrifenydd buan. Yna, wedi bod yn ddedwydd tu hwnt yn nghymdeithas y brawd Rowland, cyfeiriodd Howell Harris ei wyneb tuag adref. Yr oedd yn Bronydd dydd Iau, yn Nolyfelin dydd Gwener, a chyrhaeddodd Drefecca y noson hono, wedi taith o yn agos i bythefnos. Dengys y cofnodau fod dirgelwch person Crist yn parhau i fod yn brif wrthddrych myfyrdod Harris; mai dyna a bregethai braidd yn mhob lle; ac ar y cyfan, nad oedd fawr gwrthwynebiad i'r athrawiaeth a gyhoeddai yn cael ei ddangos. Yn arbenig, yr oedd Daniel Rowland ag yntau mewn undeb perffaith.

Y peth cyntaf a wnaeth wedi myned adref oedd sefydlu math o gyfarfod chwechwythnosol, agored i bawb oedd yn llefaru. Trefn y cyfarfod oedd pregethu am ddeg; yna, seiat breifat a chariad-wledd i'r holl aelodau allent ddyfod, o bob cyfeiriad; a chwedi hyny, Cymdeithasfa i'r cynghorwyr, nid yn gymaint er trefnu materion, ag er gweled gwynebau eu gilydd yn yr Arglwydd. Y tro hwn pregethodd Harris; ei destun oedd: "Mawr yw dirgelwch duwioldeb;" a llanwodd Duw y lle a'i bresenoldeb. Yn y seiat, drachefn, deuai y dylanwadau nefol i lawr yn ddidor. Amddiffynai Harris y gorfoleddu yn yr odfaeon, gan gyfeirio at Dafydd yn dawnsio o flaen yr arch, a Christ yn marchog mewn buddugoliaeth i Jerusalem, fel profion. Wedi ciniawa, cyfarfyddasant yn y Gymdeithasfa; yr oedd yr Arglwydd yn eu mysg fel fflam dân; nis gallant ddweyd yr un gair am amser, ond llefain, “Gogoniant! Gogoniant! Haleliwia !" Wedi cael seibiant, siaradodd Harris am falchder, diogi, a difaterwch, a'u bod trwy y peth hyn yn gofidio y rhai oedd yn agos at Dduw. "Agorasom ein holl galonau i'n gilydd," meddai; "rhai o faglau Satan a ddrylliwyd, a'r Arglwydd a ymddangosodd drachefn i rwystro y rhwyg oedd Satan wedi arfaethu. Siaradais a'r brawd Beaumont gyda golwg ar rai ymadroddion tywyll a arferai. Daeth yr Arglwydd arnom eto fel fflamau tân; yr oeddem yn llawn cariad, a llawenydd, a chanem fuddugoliaeth. Gwedi swpera, a siarad yn breifat, ymadawsom, yn feddw gan win newydd Duw." Y mae yn sicr fod y cyfarfodydd yn llawn bywyd a hwyl, ac fod y dylanwadau yn dra nerthol.

Ddechreu Chwefror, aeth Howell Harris i Lundain, i gyflawni dyledswyddau ei swydd fel arolygwr cyffredinol yr eglwysi Saesneg. Er fod y cyfrifoldeb yn fawr, nid oedd heb ymdeimlo a'r anrhydedd a rodded arno; pan yn synu at ddaioni Duw tuag ato, cyfeiria drosodd a throsodd at y ffaith ei fod wedi cael ei osod yn ben yr achos yn Lloegr. Nid oedd yn amddifad o uchelgais; ac yr oedd ei safle uchel a phwysig yn foddhad i'r cyfryw deimlad. Bu yn Llundain am dros fis, ac yr oedd llywodraethu y brodyr bron yn ormod o dasg iddo. Nis gallwn fanylu ar yr hanes, er ei fod wedi ei ysgrifenu yn llawn, am nad yw yn perthyn yn hanfodol i Fethodistiaeth Cymru. Ar ei ffordd adref, daeth Harris i Gymdeithasfa Bryste, a gynhelid Mawrth 7fed a'r 8fed. Heblaw helyntion mewnol, yr oedd perthynas y seiadau a'r Morafiaid yn peri trafferth, at phenderfynodd y Gymdeithasfa anfon llythyr at y cyfundeb llythyr at y cyfundeb Morafaidd, fod galwad arni i sefydlu achosion yn Swydd Wilts. Dywed y cofnodau fod cryn lawer o annhrefn a chyffro yn y Gymdeithasfa, oblegyd yr annhueddrwydd a ddangosai Herbert Jenkins i gydweithredu a'i frodyr. Dychwelodd Harris adref, gan bregethu mewn amryw leoedd yn Sir Fynwy ar y ffordd, megys Llanfaches, Goetre, a'r New Inn. Yn y lle diweddaf, cynhaliwyd math o Gymdeithasfa, a chafodd gysur dirfawr o herwydd agwedd ymostyngar, a

LLEOEDD O DDYDDORDEB YN SIR GAERFYRDDIN.

1. CAPEL LLANFYNYDD 2. PENTREF ABERGORLECH.

3. CARTREF MRS. GRIFFITHS, GLANYRAFONDDU-GANOL.4.-CARTREF MRS. LLOYD, PANT-YR-ESGAIR.

phrofiad crefyddol, y brawd Morgan Jones. Wrth gymharu eu golygiadau, yr oedd y ddau yn cyduno yn hollol. Cydolygent na ddylent geisio caethiwo yr Yspryd o ran ei weithrediadau trwy unrhyw gynlluniau, na thrwy unrhyw drefn wrth bregethu; fod yn rhaid wrth yr Yspryd a'r Gair; mai y ddau yn nghyd oedd goleuni a rheol yr eglwys.

Ychydig o orphwys oedd i Howell Harris gwedi dychwelyd adref. Diwedd Mawrth, a dechreu Ebrill, cawn ef ar daith yn Siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, gan ymweled a'r Tyddyn, Bwlchyrhaidd, Mochdref, Llanllugan, a Llansantffraid. Caffai gyfarfodydd nerthol tu hwnt yn mhob man, braidd; y bobl a dorent allan mewn sain cân a moliant; byddai eu hamenau a'u haleliwia yn aml yn boddi ei lais, ac arosent yn nghyd i orfoleddu am oriau gwedi i'r odfa orphen. Ar y dechreu, bu Harris yn wrthwynebol i'r cyfryw dori allan; dylanwad Grffith Jones, Llanddowror, arno a gyfrifai am hyny yn benaf; ond yn awr, y mae yn gefnogol i'r peth, ac yn ei amddiffyn â gorchymynion ac esiamplau allan o'r Beibl. Tua diwedd mis Ebrill, cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Watford. Y nos Fawrth cyn y Gymdeithasfa, pregethai Daniel Rowland yn nghapel y Groeswen, ac aeth Harris yno. Mater y bregeth oedd, ymdrech gydag achos yr Arglwydd. Pregethodd Harris hefyd, a dywed i'r Arglwydd lanw y lle a'i bresenoldeb. Y mae yn ymddangos fod y seiat yn y Groeswen erbyn hyn, ar ol ychydig o ymddyeithrwch, lawn mor Fethodistaidd ag unrhyw un o'r seiadau. Pregethodd Harris gyda'r fath yni nes yr oedd ei gorph yn ddolurus. Atebai wrthddadleuon y rhai a ofynent, ai Arminiaid, ynte Antinomiaid ydych? "Nid wyf wedi dod i ymdrin a phethau felly," meddai y pregethwr, "ond i ofyn pwy sydd ar du yr Arglwydd. Y mae Duw wedi myned allan yn erbyn Satan ac yn erbyn pechod; os yw dy galon o blaid yr Arglwydd, rho dy law i mi?

Bu i raddau yn ystormus yn y Gymdeithasfa. Yr oedd y Morafiaid am sefydlu achosion yn Nghymru, ac yn ceisio denu atynt y rhai a gawsent eu hargyhoeddi trwy weinidogaeth y Methodistiaid. Y lle y ceisient osod eu traed i lawr gyntaf arno oedd Hwlffordd, yn Sir Benfro. Efallai fod dylanwad John Gambold, gwedi hyn, yr Esgob Gambold, yn cyfrif am eu dewisiad o Hwlffordd; gan fod amryw o'r Methodistiaid yn y dref, a'i chwmpasoedd, yn berthynasau agos iddo yn ol y cnawd. Naturiol oedd i'r peth ddyfod yn destun ymdriniaeth yn y Gymdeithasfa. Tueddai rhai i gondemnio y Morafiaid yn llym. "Eithr," meddai Harris, "datgenais fy marn fod gormod o gulni a rhagfarn ynom ni a hwythau, ac y rhoddem fantais i'r diafol oni fyddem yn fwy gostyngedig; fy mod gymaint a neb yn erbyn cyfeiliornadau y Morafiaid, ac yn erbyn eu gwaith yn dyfod i Gymru i greu ymraniad; ond nas gallwn gyduno ag ymadroddion y brodyr yn y Gymdeithasfa, a'm bod yn gweled ynddynt ddiffyg ffydd i adael y gwaith yn llaw yr Arglwydd." Yr oedd Howell Harris yn fwy cydnabyddus a'r Morafiaid; arferai fynychu eu cyfeillachau pan yn Llundain; gwyddai mai trwy eu hofferynoliaeth hwy yn benaf y cawsai John Wesley ei arwain at grefydd efengylaidd; a chredai fod gwreiddyn y mater ganddynt, er nad oedd yn cydweled â llawer o'u syniadau; felly, naturiol oedd iddo deimlo yn dynerach atynt. Modd bynag, aeth y ddadleuaeth yn Watford yn boeth; ac wrth fod Harris yn dadleu dros roddi yr eglurhad tyneraf ar olygiadau y Morafiaid, cyhuddodd rhywun ef o fod yn Antinomiad. Teimlodd yntau y sarhad i'r byw. Yr oedd yn dra dolurus ei deimlad wrth ymadael; meddyliai fod y brodyr yn edrych arno fel peth gwael. Felly y teimlai boreu dranoeth. Ond daeth Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, ato yn dra llariaidd a gostyngedig; adroddodd yntau ei helynt a'i dywydd wrthynt, a chawsant gyfeillach nodedig o felus. Y rheswm nad oedd Rowland gyda y ddau offeiriad arall oedd ddarfod iddo gael ei gyhoeddi i bregethu y boreu hwnw. Gwedi yr ymddiddan, brysiasant i glywed Rowland; ond erbyn iddynt gyrhaedd, yr iddynt gyrhaedd, yr oedd yr odfa trosodd. Yn breifat, galarai Harris wrth weled y brodyr o wahanol syniadau mor chwerw yn erbyn eu gilydd, ac wrth weled Daniel Rowland mor ystyfnig yn erbyn y Morafiaid. Yr oedd ei feddwl yn dra chymysglyd. Ail-agorodd y mater yn y Gymdeithasfa, gan ddatgan ei fod yn erbyn pob peth beius yn y Morafiaid, ac yn wrthwynebol i'w gwaith yn dyfod i Gymru, i beri ymraniad; nas gallai eu condemnio, am y credai eu bod yn rhan o gorph Crist; ac er fod eu penau i raddau yn gyfeiliornus, eto, fod llawer o honynt yn eu calonau yn meddu adnabyddiaeth agosach o'r Iesu na rhai o'r Methodistiaid. Dywedai, yn mhellach, nad oedd teyrnas ein Harglwydd yn dibynu ar ragfarn, ac ar zêl boeth dros yr hyn a ystyrir yn wirionedd, ond ar addfwynder, a chariad; nad oedd ef ei hun ond gwas, ac nad oedd ganddo awdurdod i rwystro eraill. Datganai mai nid trwy wrthwynebiad agored y buasent debycaf o rwystro y Morafiaid, ond trwy yspryd cymhedrol a chariadlawn, ac ymresymu â hwy yn arafaidd. Ofnai rhag i'r helynt rwystro y gwaith, at gwneyd i ffwrdd a symlrwydd y weinidogaeth yn eu mysg. Ni ddywed yn bendant pa fodd y terfynodd yr ymdrafodaeth, ond gallwn feddwl mai penderfyniad y brodyr oedd fod Howell Harris i ymweled â Hwlffordd. Cychwynodd yntau ddiwrnod y Gymdeithasfa; cyrhaeddodd Hafod, pellder o bum'-milldir-ar-hugain, nos Iau. Erbyn nos Sadwrn, yr oedd yn Llanddowror; bu y Sul yn ymgynghori â Griffith Jones, ac yn gwrando arno yn pregethu; a daeth nos Sul i dŷ Howell Davies, sef y Parke. Nos Lun, aeth i Hwlffordd, ac yn y seiat breifat cafodd lawer o ryddid i egluro dichellion Satan, ac i gyfeirio at ragfarn, balchder, a hunanymddiried. Boreu dranoeth, gwnaeth ef a John Sparks eu goreu i rwystro ymraniad. Pregethai Harris oddiar Rhuf. vii. 24; ac yn y bregeth llwyddodd i roddi yr ergyd olaf ar ddyfais y diafol, am y pryd, modd bynag. Eglurodd gyfeiliornadau y Morafiaid; yr angenrheidrwydd am bregethu y ddeddf; y pwys o chwilio yr Ysgrythyrau, a gwreiddio y dychweledigion ynddynt. Teimlai ei fod wedi llwyddo yn ei neges, ac aeth ymaith yn hapus at dedwydd tua Wolf's Castle. Oddiyno tramwyodd trwy Laneilw, Tyddewi, Longhouse, Abergwaen, Ty'r Yet, Cerig Ioan, Cwm Cynon, a Llangeitho, lle y treuliodd y Sul. Boreu y Sabbath, cafodd Rowland odfa ryfedd yn Llancwnlle; ei fater oedd, ymdrechu yn erbyn y diafol; yr oedd y dylanwad ar Howell Harris bron yn fwy nag y medrai ymgynal o dano; dywed mai unwaith o'r blaen yn unig y clywsai Rowland yn y fath yspryd. Hawdd darllen rhwng y llinellau y teimlai Harris ddarfod iddo boethi gormod yn Watford; ac nad oedd ei yspryd yn y Gymdeithasfa y peth y dylasai fod; dywed ei fod wedi dyfod i Langeitho mewn yspryd hunanymwadol. Meddai: "Yr oeddwn yn teimlo undeb agos at y brawd Rowland; gwelwn mai fy mraint a'm dedwyddwch oedd cael cadarnhau ei ddwylaw, byw a marw mewn undeb ag ef, a threulio tragywyddoldeb yn ei gymdeithas. Yr oeddwn yn ei garu fel fy enaid fy hun. Gwedi y sacrament, aethom i Langeitho; am chwech, sefais i fynu i bregethu; ac wedi dechreu y cyfarfod, llonwyd fi yn fawr wrth weled y brawd Rowland yn dyfod i mewn." Ymddengys mai odfa galed a gafodd. "Teimlwn gywilydd," meddai, "nad oedd dylanwad yn cydfyned a'm geiriau; ni wylai neb, ac nid oedd neb yn teimlo." Efallai fod rhyw gymaint o blentyneiddiwch yn y teimlad a ddatgana, ond y mae yn dra naturiol. "Eithr," meddai, "gwnaed fi yn ostyngedig; ac yr oeddwn yn foddlon bod yn wael yn eu golwg."

Boreu dydd Llun, cronicla fod ei galon yn llifo drosodd gan serch at Daniel Rowland. Dywedais wrtho," meddai, "y teimlwn yn anrhydedd i gael golchi ei draed, ac i gyflawni erddo y swyddau gwaelaf; fy mod yn llawen ac yn ddiolchgar am y talentau a dderbyniasai, a'r llwyddiant a goronai ei ymdrechion, ac am gael fy rhifo yn mysg ei gyfeillion. Cefais ffydd i weled y byddai i mi a Rowland orchfygu pob rhwystrau." Hyfryd gweled fel yr ymglymai enaid y ddau gyfaill wrth eu gilydd, er fod cymylau yn codi rhyngddynt weithiau. Pregethodd Harris yn Llangeitho dydd Llun drachefn, cyn ymadael, a chafodd odfa nerthol. Yna cyfeiriodd ei gamrau yn ei ol, gan ymweled a Glanyrafonddu, Llandilo Fawr, Gellydorch-leithe, Tref-Feurig, ger Llantrisant, lle y rhoddwyd ceffyl yn rhodd iddo gan y frawdoliaeth; Aberthyn, St. Nicholas, a Dinas Powis. Y Sul, yr oedd yn y Groeswen, ac wrth bregethu ar y geiriau, "A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen," yr oedd yn ofnadwy i annuwiolion, ac yn cario pob peth o'i flaen. Cawn ef yn Watford, y Llun, ac ymddengys fod rhyw ddadleuon poenus yn parhau yma yn mysg y frawdoliaeth. Rhybuddiodd hwy fod Satan wedi ei ollwng yn rhydd yn eu mysg, a'i fod am eu rhanu, fel y rhanasai y brodyr yn Lloegr trwy ei ddichellion. Archodd iddynt hefyd holi eu hunain, a oedd pob gras ganddynt mewn gweithrediad, yn arbenig edifeirwch efengylaidd, hunanymholiad, a thynerwch cydwybod. "Hynod," meddai, "fel y mae yr Arglwydd yn ein cadw rhag cyfeiliornadau, er ein bod fel pe ar y dibyn yn aml. Hyderaf ddarfod i Arminiaeth ac Antinomiaeth gael ergyd effeithiol." Nos Lun, ymwelodd â Mynyddislwyn. Ei destun oedd: "Byddwch lawen yn wastadol;" ond yn lle dyddanu y saint, fel yr arferai wrth lefaru ar y geiriau hyn, arweiniwyd ef yn ddiarwybod iddo ei hun i daranu yn ofnadwy. "Yr oeddwn yn trywanu i'r byw y rhai ydynt yn llawen," ysgrifena, "ond sydd heb eu geni drachefn, ac heb ras Duw yn eu calonau. Yn arbenig, yr oeddwn yn ddychrynllyd i'r arweinwyr mewn rhysedd, ac i'r erlidwyr. Nis gallwn mo'r help. Yr Arglwydd a'm harweiniai; nid oedd genyf feddyliau o'r eiddof fy hun. Condemniwn y rhai oeddynt yn llawen am fod y byd ganddynt, ac am eu bod yn iach, ac yn debyg o fod yn hirhoedlog. Cefais fy arwain i daranu yn ofnadwy iawn yn erbyn yr offeiriaid cnawdol, y rhai ydynt yn rhegu, ac yn meddwi, ac yn anwybodus am Dduw. Dangosais nad rhyfedd fod y cyfryw i'w cael pan nad oes neb yn y plwyf yn gweddïo am gael dyn da yn offeiriad. A diweddais trwy ddangos mai o gariad at eu heneidiau yr oeddwn yn llefaru fel hyn." Pregeth ryfedd yn ddiau, oddiar y fath destun; ond teimlai Harris mai dyna y cyfeiriad y gofynai yr Arglwydd iddo ei gymeryd. Dydd Iau, y mae yn Llanfihangel, yn Sir Fynwy. Oddiyno â yn ei flaen i'r New Inn, eithr ychydig o nerth sydd yn cydfyned a'r llefaru. Yna, tramwya trwy Coedca-mawr, a Llanheiddel, gan ddychwelyd adref dranoeth, gwedi taith faith a phwysig.

Ddechreu Mai, y mae yn cychwyn eto am Lundain. Y mae nodiad yn ei ddyddlyfr sydd yn bwysig: "Aethum i Fair Oak erbyn yr hwyr. Ar y ffordd, cefais olwg ar ogoniant person Crist; eithr hysbyswyd fi fod y brawd Rowland yn benderfynol o wrthwynebu pregethu y gwaed. Daeth y newydd yn drwm ar fy enaid; ond gwnaeth Duw fi yn ostyngedig, a chefais nerth i lefain ar iddo anfon gyda'r hwn yr anfonai. Yr oeddwn yn foddlawn cael fy nyosg o'm holl ddoniau, ond i'r gwirionedd, a'r holl wirionedd, gael ei fynegu." Arosodd yn Llundain hyd gwedi y Gymdeithasfa, yr hon a gynhelid Mehefin 18, ac yna dychwelodd yn ei ol i Drefecca.

Ar y 27ain o Fehefin, cynhaliwyd Cymdeithasfa Chwarterol yn Nhrefecca, a medd y Gymdeithasfa ddyddordeb a phwysigrwydd pruddglwyfus, oblegyd mai ynddi y dechreuodd yr anghydwelediad rhwng Howell Harris ag arweinwyr eraill y diwygiad yn Nghymru, a derfynodd yn y pen draw mewn ymraniad hollol. Caiff Harris adrodd yr hanes, oddiar ei safbwynt ef. "Teimlwn neithiwr a heddyw," meddai, "lwythi o feichiau ar fy enaid; yr oedd i mi agosrwydd yspryd mawr at y brawd Rowland; ond yr oedd fy nghalon yn ofidus oblegyd fy mhechodau fy hun, a phechodau y brodyr. Pan y gofynodd y brawd Rowland am lyfr i mi, teimlwn barodrwydd i roddi gwaed fy nghalon iddo. Teimlais fy hun dan angenrheidrwydd i siarad ag ef. Wrth ymddiddan ag ef yn breifat, yn lle cael fy maich wedi ei ysgafnhau, trymhawyd ef, fel y gallaf ddweyd fy mod yn dechreu dyoddef gyda Christ. Gwelais ychydig o'r baich y mae Crist yn orfod gario, oddiwrth gyndynrwydd a gwrthnysigrwydd ei blant; a phan yr wyf fi yn teimlo cymaint oblegyd ymosodiad arnaf o un cyfeiriad, pa faint a deimlai ef pan yr oedd holl bechodau ei bobl yn pwyso arno? Pan y cwynai Rowland ar y cynghorwyr, ac y dirmygai eu gweinidogaeth, dywedais nad oedd yn anrhydeddu y rhai oedd yr Arglwydd wedi anfon; a dyrchefais fy llef at Dduw, ar iddo eu gwisgo â gostyngeiddrwydd, ac os oedd rhai o honynt heb gael eu hanfon ganddo ef, ar iddo chwynu y cyfryw allan. Dymunwn hefyd ar iddo ddangos eu hanfoniad i'r anwyl frawd Rowland, yr hwn sydd yn credu eu bod yn dwyn gwaradwydd ar yr efengyl, ac nad ydynt yn gwneyd dim da. Yn fy ymddiddan a'r brawd Rowland, cefais ryddid i bwyntio allan yr oll a welwn yn feius ynddo, sef ysgafnder, a diffyg yspryd tadol, gan ddangos y dylem ni fyned o flaen y brodyr mewn ffydd, gostyngeiddrwydd, cariad, a hirymaros. Cyfaddefai yntau hyn, ond dywedai nad oedd yr Arglwydd wedi ei osod ef yn dad i'r saint, ac na feddai gymhwysder ar gyfer y lle. Atebais fy mod i yn ei anrhydeddu ef fel y cyfryw, ond fy mod yn gofidio wrth ei weled mor ddiofal yn gosod beichiau ar ysgwyddau ei frodyr. Dywedais ddarfod i mi lefaru yn Llundain, yn gyhoeddus ac yn breifat, yn erbyn y Morafiaid; yn erbyn eu balchder, a'u cyfeiliornadau; fy mod yn awr o'r un farn gyda golwg ar bob pwynt o athrawiaeth ag oeddwn ddeng mlynedd yn ol; nad oeddwn wedi cyfnewid o gwbl, na thuag at y brodyr a'm galwent yn gyfnewidiol. Pan y cyhuddai fi o Forafiaeth, am fy mod yn rhoddi arbenigrwydd ar waed Crist, a'm bod yn addoli y Dyn (Crist), ac yn defnyddio y term 'Oen,' dywedais ddarfod i mi gael cipolwg ar ogoniant person Crist cyn i mi wybod fod y fath bobl a Morafiaid; ac mor bell ag y maent yn pregethu y dirgelwch, fy mod yn cyduno â hwynt; ond nad oeddwn wedi derbyn dim oddiwrthynt, ond oddiwrth yr Arglwydd. Pan y defnyddiwn y gair 'Oen,' ei fod yn felus i mi, ond fod genyf ryddid i arfer holl enwau yr Iesu; fod un enw yn cael ei wneyd yn felus i mi yn awr, ac un arall bryd arall, ond nad oeddwn i yn digio oblegyd eu bod hwy yn defnyddio unrhyw un o'r teitlau, ac na ddylem ymyraeth â rhyddid ein gilydd yn hyn. Dywedais, yn mhellach, nad oeddwn yn adwaen un Duw allan o Grist; fy mod yn gweled yr oll o'r Duwdod yn y Dyn hwn, gan fod y Tad a'r Mab yn un; a phan yr edrychaf ar Dduw yn fy rheswm, fy mod yn ei weled yn Dduw mawr, ond yn Nghrist fy mod yn gweled ei anfeidroldeb. Grwgnachai (Rowland) am fy mod yn defnyddio y term dirgelwch, ond atebais fod Paul yn cyfeirio at ddirgelwch Crist yn fynych. Yr oedd yn dra anystwyth pan y datganwn mai am heddwch, a chariad, a thynerwch yr oeddwn i, a'u bod hwy (y Morafiaid) yn blant megys ninau, a'n bod ni yn ffaeledig fel hwythau; a'n bod o'r ddwy ochr yn cael ein hanrheithio gan yr unrhyw falchder, yr hyn yw ein pechod. Dywedodd ddarfod iddo fy nghlywed yn pregethu Antinomiaeth; atebais nas gwyddwn pa ymadroddion anwyliadwrus a allwn fod wedi ddefnyddio, ond os nad oeddwn yn camddeall beth a feddylir wrth Antinomiaeth, nad oeddwn yn dal cymaint a brigyn o'r fath athrawiaeth. Ar yr un pryd, fy mod yn gweled rhyddid gogoneddus yn yr efengyl, a'm bod wedi cael fy arwain i wahaniaethu rhwng goruchwyliaeth y ddeddf a goruchwyliaeth yr efengyl, am fod y cyntaf yn pwyso ar y llythyren, tra yr oedd y diweddaf yn gynyrch Yspryd yr Arglwydd. Hysbysais ef fy mod wedi ei glywed ef yn pregethu y cyfryw athrawiaeth yn llawer mwy nag yn awr, sef am gyfiawnhad, a chyfiawnder Crist, yr hwn sydd wedi ei orphen; a chan mor ychydig a glywn ganddo am y gwirioneddau gogoneddus hyn yn awr, fy mod yn cael. fy nhueddu i feddwl eu bod ganddo yn ei ddeall, ond nid yn ei galon. Dymunais arno gyfeirio at yr ymadroddion an-Ysgrythyrol a ddefnyddiaswn, fel y gallem fyned yn y blaen megys brodyr, heb eiddigeddu wrth ein gilydd; eithr atebodd nad oedd yn eu cofio. Hysbysais ef, yn mhellach, yr awn yn mlaen heb ofni unrhyw frawd, gan mai oddiwrth yr Arglwydd y derbyniaswn fy nghenadwri a'm gweinidogaeth; fy mod yn cychwyn wrthyf fy hun, ac yr awn yn mlaen wrthyf fy hun. Ond mai dolurus fyddai myned yn mlaen fel yn awr, ac yr ymneillduwn i Loegr hyd nes y byddai yr ystorm drosodd. Gofynais iddo, a oedd yn tybio ei fod yn gweled mor ddwfn i ddirgelwch Crist yn awr ag y gwnai yn mhen deng mlynedd eto? Ond gyda golwg ar y dull o gyflwyno y gwirioneddau ysprydol hyn y dylem fod yn dyner, a chyd-ddwyn a'n gilydd, fel na byddom yn peri i'r naill y llall ddweyd yr hyn a ewyllysiwn ni. Ond yr oedd yn dra ystyfnig; er fy mod yn gobeithio y bendithia yr Arglwydd rywbeth iddo. Nid oes ond Duw a all rwystro ymraniad yn awr. Cyfeiriais at falchder y bobl oedd gyda hwy (yr offeiriaid); hefyd at eu hyspryd beirniadol, nad ffrwyth yr Yspryd oedd hwnw. Yna, wedi ymddiddan ag ef, mi a gludais fy maich, ac a'i teflais gerbron yr Arglwydd; yna, ysgrifenais fy nydd-lyfr hyd ddeuddeg o'r gloch."

Y mae cofnodi yr anghydfod hwn rhwng y ddau, ag y gellir edrych arnynt yn allanol fel dwy golofn y diwygiad, yn orchwyl blin. Rhaid cofio mai un tu i'r ddalen yn unig a gawn yma, a phe y byddai yn bosibl cael adroddiad Daniel Rowland o'r helynt, y mae yn sicr y caem hanes tra gwahanol. Gwelwn, hefyd, ddarfod i Howell Harris ysgrifenu yr adroddiad yn nghanol teimladau cyffrous, pan yr oedd digllonedd chwerw yn berwi ei yspryd; ac y buasai ef ei hun yn mhen amser gwedi, ar ol i'r ystorm basio, yn debyg o gymedroli llawer o'i eiriau. Ond i fyned yn mlaen a'r dyddlyfr: "Aethum i lawr i wrando Williams, Pantycelyn, yn pregethu; cawsom bregeth ragorol iawn, ar undeb y credinwyr; a saethodd i fy meddwl mai yr Arglwydd a roddasai y mater iddo. Gwelwn y fath wrthwynebiad i'r undeb hwn, fel nas gallai neb ond yr Arglwydd eu symud. Gwedi hyny pregethodd y brawd Howell Davies yn Saesneg, oddiar Joshua i. 9. Yr oedd yr ymadroddion yn gymhwys i mi; yr oeddwn yn eu credu mewn ffydd; ond yr hyn y teimlwn ei eisiau oedd cymhwysiad uniongyrchol o honynt ataf. . . . Gwedi hyn aethum i'r Gymdeithasfa, yr hon a ofnwn mor fawr, oblegyd y rhagfarnau oeddynt wedi cripio i feddyliau y brodyr yn erbyn eu gilydd. Yr oeddwn yn Ilwythog; a dangosodd yr Arglwydd ragfarn y brawd Rowland yn erbyn y brodyr. Addefai nad oedd yn teimlo yn rhydd at lawer; ei fod yn dirmygu anwybodaeth y brodyr. Pan ofynwyd syniad y frawdoliaeth am danaf fi, dywedodd rhai eu bod yn ofnus am danaf, fy mod yn gwyro at Antinomiaeth a Morafiaeth. Atebais nad oeddwn wedi cyfnewid mewn unrhyw bwnc o ffydd er pan y cawswn fy ngwreiddio yn athrawiaeth etholedigaeth; yn unig ddarfod i mi arfer rhai ymadroddion tywyll gyda golwg ar berffeithrwydd, ryw chwech mlynedd yn ol, ond hyd yn nod y pryd hwnw na olygwn berffeithrwydd dibechod, a phan y deallais fod y brawd Wesley yn golygu hyny, i mi ddatgan yn ei erbyn. Ymdrechodd y brawd Rowland brofi fy mod yn gyfnewidiol, yn gwrthddweyd fy hun, yn dra anwireddus, ac yn Antinomiad. Dywedais fel y synwyd fi pan yr hysbysodd fi gyntaf fod llawer yn edrych arnaf fel un cyfnewidiol, hyd nes y cofiais fy mod wedi gweddïo yn daer am i'r Arglwydd fy narostwng yn marn y brodyr, rhag iddynt feddwl yn rhy uchel am danaf, ac y saethodd i fy meddwl mai dyma y ffordd oedd Duw yn gymeryd i ateb fy ngweddi. Am fy ngweinidogaeth, dywedais fy mod wedi ei derbyn gan yr Arglwydd a'm bod yn sefyll neu yn syrthio i fy Meistr fy hun. Gyda golwg ar y brodyr, fy mod yn eu caru ac yn eu hanrhydeddu yn yr Arglwydd, nas gallwn oddef iddo (Rowland) eu dirmygu; ond am eu ffaeleddau, fy mod yn gobeithio y byddai i'r Arglwydd a'u hanfonodd eu symud, a'u cymhwyso hwythau i'w gwaith fwy fwy. Dywedais wrtho fy mod yn caru ac yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth, a'm bod yn ei anrhydeddu yntau yn y pwlpud; ond am dano allan o'r pwlpud, fod yn ddrwg genyf drosto; ac os oedd yr hyn a glywswn am dano yn wir, fod yn anhawdd genyf feddwl fod y fath swm o hunan a balchder yn perthyn iddo. Oni bai fy mod yn credu ddarfod iddo gael ei anfon gan Dduw, nas gallwn aros gydag ef; ond yn awr y caffai wneyd yr hyn a fynai, a dweyd yr hyn a fynai. Gan ei fod yn credu yn y Gair fel rheol, y buasai yn dda genyf pe bai y cyfryw yn cael ei ddwyn adref at ei gydwybod; ac nad oedd yr ymadroddion llymion, ffraeth, a chnawdol a ddefnyddiai yn dyfod oddiwrth yr Ysryd. Cawsom ymddiddan am sancteiddhad, a phan y cyfeiriasant at gyfaddasder i ddyfod at Grist, sef argyhoeddiad, sefais i fynu i wrthdystio, a dywedais fy mod yn dyst yn erbyn; fy mod i, a llawer eraill, wedi cael ein tynu gan gariad; ac nad oes dim yn angenrheidiol er iachawdwriaeth, ond cymhwysiad o gyfiawnder Crist. Darfu iddo ef (Rowland) a llawer o rai eraill ddatgan yn erbyn fy ngwaith yn pregethu y gwaed, am (1) nas gallent dderbyn yr athrawiaeth; (2) am gallasai Duw farw; (3) am na ddylid pregethu dirgelwch nas gellir ei esbonio. Dywedais fy mod wedi derbyn hyn gan Dduw, ac nid oddiwrth ddyn, ac y gwnawn ei bregethu; y gwnai Duw dori ffordd i mi trwy ddiaflaid a dynion; a phe y baent oll yn sefyll yn erbyn, nad oeddwn yn edrych. arnynt yn fwy na gwybed. Nad oeddwn yn gofidio am ddim ond oblegyd eu hanwybodaeth hwy am y dirgelwch, yr hwn yw fy mwyd i. Dangosais na ddarfu i Dduw ddyoddef, ac nas gallasai; ond i'r Duw-ddyn ddyoddef; nid y Dyn na'r Duw ar wahan, ond y ddwy natur yn nghyd; ac na welais i erioed mo hono yn Ddyn, ond yn Dduw yn ogystal. Pe y buaswn wedi ei weled yn y preseb, y gwnaethwn ei addoli; ac yr addolaswn ei gorph marw cysegredig ar waelod y bedd, am fod y corph mewn undeb a'r Duwdod, yn gystal a'i enaid yn mharadwys. Am yr athrawiaeth hon, dywedais fy mod yn foddlon ei selio â fy ngwaed; ac hyd nes y darfu i mi ei chredu, nad oeddwn wedi fy rhyddhau rhag ofn angau. Datgenais fy mod yn caru y Morafiaid, am fy mod yn credu eu bod yn perthyn i'r Arglwydd; ond oddiar fy adnabyddiaeth gyntaf o honynt, nad oeddwn wedi cyduno a'r oll o'u daliadau, a'm bod wedi pregethu yn erbyn eu cyfeiliornadau yn Llundain ac yn Hwlffordd, gan rybuddio y brodyr yn erbyn y cyfryw gyfeiliornadau. Pan y dywedent (yn y Gymdeithasfa) fy mod yn addoli gwaed Crist, dywedais fy mod, fel rhan o Grist, gan nad oedd un rhan o hono ar wahan oddiwrth ei Dduwdod. Pan y dywedasant fy mod wedi cyfnewid yn fy null o bregethu, fy mod ar y cyntaf yn taranu, a chwedi hyny yn cyhoeddi rhad ras, ac yn ganlynol ffrwythau ffydd, atebais fod yr oll trwy yr un Yspryd; fy mod yn cael fy arwain i daranu yn awr weithiau, ond fod yn rhaid i mi bregethu fel ei rhoddir i mi. Addefais nad oeddwn, oblegyd fy nghnawdolrwydd a'm pechod, yn chwilio digon ar yr Ysgrythyrau, ond y gwyddent oll fel yr oeddwn wedi llafurio i osod i fynu gateceisio, a darlleniad cyson o'r Beibl. Pan y llefarodd y brawd Rowland. yn awdurdodol, datgenais fy mod yn gwadu ei awdurdod, fy mod yn edrych ar ei swydd fel dim; fy mod yn barod i'w dderbyn fel brawd, ond nid mewn modd arall. Gwedi darllen yr adroddiadau, gweddïodd un brawd; gweddïais inau, a daeth yr Arglwydd i lawr. Cefais ryddid i lefaru yn hyf wrth y brodyr-yr oedd efe (Rowland) a'r offeiriaid wedi myned allan-gan ddangos fod gan yr Arglwydd lais tuag atom yn hyn; cyffröais hwy i fwy o ddiwydrwydd mewn darllen yr Ysgrythyrau, a llyfrau da eraill; am fod yn ddifrifol yn y gwaith, a mynu gweled eu bod yn gwneyd pob peth dros Dduw. Gwedi i ni swpera, ac i'r offeiriaid fyned i'w gwelyau, daeth yr Arglwydd i lawr mewn modd rhyfedd; teimlwn fy nghalon yn fflam, a'm henaid yn llawn goleuni a ffydd. Arosodd cwmni da ar y llawr trwy y nos hyd bedwar o'r gloch y boreu, yn canu, ac yn gorfoleddu; yr oeddym yn debyg i Dafydd o flaen yr arch. Cynghorais i fwy o wyliadwriaeth, gostyngeiddrwydd, ac ofn duwiol. Ond goddiweddwyd fi gan y gelyn, a syrthiais am ryw gymaint o amser; ond cyfodwyd fi drachefn wrth fy mod yn gofyn yn syml gan yr Arglwydd. Yna, trefnais fy nheithiau."

Felly y terfyna hanes y Gymdeithasfa ofidus hon. Boreu tranoeth, yr oedd Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies yn ymadael am gartref; ond cyn eu myned, mynodd Howell Harris gyfle i ddweyd gair wrth Rowland. "Dywedais wrtho," meddai, "am ofalu pregethu llai allan o lyfrau, a mwy allan o'i galon, yr hyn a dderbyniai oddiwrth Dduw; fy mod yn gofidio wrth weled mor lleied o ffrwyth yr Yspryd yn ei ymddygiad; a'm bod yn falch gweled yr offeiriaid yn unol, er fy mod i yn ddafad ddu yn eu mysg." Cofnoda yn mhellach fod Rowland dyner wrth ymadael. Gwedi iddynt gefnu, pregethodd gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr gyda llawer o hwyl; dywedai nad oedd neb i feddu awdurdod ar y pregethwyr ond Crist, ac anogai y bobl i beidio myned i wrando offeiriaid cnawdol. Y tri offeiriad oedd wedi myned i ffwrdd a olygai, yn ddiau. Y mae teimlad Howell Harris ar derfyn y Gymdeithasfa yn anesboniadwy. "I'r Gymdeithasfa flaenorol," meddai, "mi a aethum yn llawn hyfrydwch, a sirioldeb, ac ymadawais dan feichiau trymion; daethum i'r Gymdeithasfa hon yn llwythog ac yn flin, ac aethum o honi yn llawn gorfoledd." Gorfoledd yn wir, pan yr oedd Methodistiaeth wedi cael dyrnod a barlysodd ei holl symudiadau am amser, ac oddiwrth ba un y teimla hyd y dydd hwn! Ond rhaid i ni gofio mai ysgrifenu hanes dynion anmherffaith yr ydym.

Rhaid i ni adael hyd yn nes yn mlaen unrhyw ymchwiliad i uniongrededd golygiadau duwinyddol Howell Harris, ond y mae yr hanes a rydd yn ei ddydd-lyfr yn awgrymu i'r meddwl amryw bethau. (1) Y mae yn dra sicr ddarfod iddo gamgymeryd geiriau Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall. Rhy brin y gallwn dybio iddynt ddweyd wrtho eu bod yn dirmygu ei weinidogaeth; cawsai ei eiriau eu bendithio er iachawdwriaeth i ddau o'r tri, a naturiol meddwl eu bod yn synio ac yn siarad yn barchus am ei bregethu. Anhawdd meddwl, ychwaith, eu bod yn ei gondemnio am alw Crist yn "Oen;" heblaw fod y term yn Ysgrythyrol, ceir ef yn britho pregethau Rowland, a hymnau Williams, Pantycelyn, a chydnebydd Harris ei hun fod y tri yn ymostwng i awdurdod y Beibl. Rhydd efe yr hyn a ddywedent fel yr ymddangosai iddo ef ar y pryd, pan yr oedd ei dymher wedi ei chyffroi i'r pwynt eithaf, ac felly yn analluog i ddirnad yn glir ystyr ymadroddion ei wrthwynebwyr. (2) Hawdd gweled ei fod yn y Gymdeithasfa yn cario pethau yn mlaen gyda llaw uchel. Ni wnai ymresymu a'r brodyr gyda golwg ar yr hyn a bregethai, am y tybiai ddarfod iddo dderbyn cynwys ei genadwri fel datguddiad oddiwrth Dduw; bygythiai, os gwrthwynebid ef, yru yn mlaen trwy ddynion a diaflaid; a dywedai nad oedd ei wrthwynebwyr ond fel gwybed yn ei olwg. Hawdd gweled hefyd iddo ddefnyddio ymadroddion chwerw a brathog. Cyhudda Rowland o fod yn meddu crefydd y pen, ac nid crefydd y galon; ac o fod yn cael ei lywodraethu gan falchder. Mor bell ag y gallwn gasglu, nid oedd yr offeiriaid agos mor chwerw eu hyspryd; ystyfnigrwydd yw y prif fai a rydd yn eu herbyn. (3) Rhaid cydnabod fod teimlad eiddigus wedi dyfod i mewn i fysg yr arweinwyr. Diau nad oedd y tri offeiriad, yn arbenig Daniel Rowland, yn rhydd oddiwrtho. Gwelent Howell Harris, er heb ei ordeinio, ac heb feddu doniau gweinidogaethol rhai o honynt, o herwydd ei yni, a thanbeidrwydd ei zèl, yn fwy ei ddylanwad na hwy ar y cymdeithasau, ac wedi cael ei ddyrchafu i fod yn ben ar Fethodistiaid Calfinaidd Lloegr. Gan mai dynion anmherffaith oeddynt, a'u bod, efallai, yn berchen uchelgais, naturiol iddynt oedd teimlo yn eiddigus, a thalu sylw gormodol i golliadau yr hwn oedd wedi ei ddyrchafu mor uchel. O'r tu arall, nid annhebyg fod ei ddyrchafiad wedi peri i Harris ymchwyddo, ac i fyned i edrych i lawr ar yr offeiriaid, y rhai a berchid gan yr adran fwyaf Eglwysig o'r Methodistiaid yn fwy nag efe, oblegyd eu hordeiniad. Ofnwn fod yr hen gwestiwn, "Pwy fydd fwyaf?" wedi cael gormod o le yn mynwesau y naill a'r llall. (4) Ymddengys yn bur amlwg fod Howell Harris yn y Gymdeithasfa, os nad yn flaenorol i hyny, yn gwneyd ymgais effeithiol i ffurfio y cynghorwyr yn blaid yn erbyn yr offeiriaid. Cawn efe a hwythau yn aros ar ol mewn ymgynghoriad gwedi i'r tri offeiriad fyned allan. Buont i lawr hefyd hyd wawr y boreu yn canu, ac yn gweddïo, ac yn ymddiddan, pan yr oedd y tri arall wedi myned i orphwys i'w gwelyau. Yn flaenorol, yr ydym yn cael Harris yn pwysleisio ar anwybodaeth y cynghorwyr; yn awr, y mae yn eu dyrchafu fel rhai wedi eu hanfon gan Dduw. Amcan amlwg yr oll yw eu cylymu wrtho ei hun. Hawdd iddo oedd dylanwadu ar y cynghorwyr. Efe oedd tad ysprydol llawer o honynt. Yn ychwanegol, yr oedd efe a hwythau mewn ystyr ar yr un tir, sef heb urddau, ac felly nid anhawdd eu cael i gyduno mewn eiddigedd at y rhai oeddynt wedi derbyn ordeiniad esgobol. (5) Ofnwn mai ei gred ei fod wedi llwyddo i ffurfio plaid gref, trwy gymhorth pa un y gallai ysgwyd ymaith Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall, oedd gwreiddyn y teimlad llawen a lanwai ei fynwes ar derfyn y Gymdeithasfa. Ni ddychymygodd y gallai yr offeiriaid ei drechu. Gwelai ei hun yn y dy. fodol agos yn ben ar Fethodistiaid Cymru, fel yr oedd yn barod ar Fethodistiaid Calfinaidd Lloegr, ac felly heb neb i'w wrthwynebu. Nid ydym am dybio mai balchder calon oedd wrth wraidd yr awyddfryd hwn; yr ydym yn credu gwell pethau am dano; diau y perswadiai ei hun y gallai, yn ei sefyllfa newydd a dyrchafedig, wasanaethu yr Arglwydd Iesu a'r efengyl yn fwy effeithiol. Pe y gwelsai y trychineb a achosid gan yr anghydfod rhyngddo ef a'i frodyr, diau y buasai ei galon yn chwerw ynddo, a'i obenydd yn foddfa o ddagrau.

Dranoeth i'r Gymdeithasfa, cawn deimlad arall yn ei feddianu; teimlad o alar am fod y brodyr wedi gwrthod y genadwri parthed dirgelwch Crist, a gogoniant ei waed; a'u bod yn ei ddirmygu yntau oblegyd ei symlrwydd a'i anwybodaeth. Ddechreu yr wythnos ganlynol cychwynodd ar daith i Sir Fynwy, a diau fod sefydlu ei awdurdod ei hun dros y seiadau yn un o'i amcanion. Cawn ef, i gychwyn, yn Fairmeadow, rhwng Talgarth a Chrughywel; ei destun oedd: "Gwir yw y gair;" ac ymosodai yn enbyd ar falchder. Y noswaith hono yr oedd yn Cilonwy, a dywed iddo gael yma yr hen nerth a nodweddai ei bregethu ar y cyntaf, wrth lefaru oddiar: "Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear." Dydd Mercher, aeth i le yn mhlwyf Grismond, lle y gwelodd lawer o ddrwgdeimlad ar ran yr Ymneillduwyr. Dywed iddo gael cenadwri ar y ffordd oddiwrth yr Arglwydd nad oedd i fyned i Sir Aberteifi, ond y cai awdurdod a nerth wrth bregethu y gwaed, a dirgelwch Crist, yr hon genadwri ni dderbyniai ei wrthwynebwyr. Pasiodd yn ei flaen trwy y Fenni, lle y cafodd odfa dda, ac y deallodd fod y newydd wedi rhedeg fel tân gwyllt trwy y wlad fod Rowland yn erbyn y cynghorwyr; ac ymwelodd a'r Goetre, Llanfihangel, Tonsawndwr, a New Inn, lle yr anerchodd y cynghorwyr gyda nerth. Dychwelodd yn ei ol i Drefecca erbyn y Sul. Er ei holl wroldeb, ceir arwyddion ei fod yn teimlo cryn unigrwydd ar ol colli cyfeillgarwch y brodyr; a chawn ef yn troi at Grist, gan ddweyd: "Ti yw fy mrawd! Fy mrawd oeddyt gerbron Pilat; fy mrawd oeddyt ar y groes; a'm brawd ydwyt yn awr yn y nefoedd; ac ynot ti yr wyf yn ogoneddus ac yn orchfygwr." Dywed ddarfod i'r Arglwydd ei arddel yn rhyfedd yn y daith hon, gan ei anrhydeddu i'r un graddau ag yr oedd y brawd Rowland yn ei ddirmygu. "Y mae y cymeriadau gwaethaf," meddai, "yn dwyn tystiolaeth i mi fy mod yn ddyn gonest."

Ddechreu yr wythnos ganlynol cychwyna am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Trefaldwyn, a Maesyfed. Aeth i Drecastell-yn-Llywel y noson gyntaf, lle y cafodd nerth i ddangos anfeidrol rinwedd gwaed Crist; ac yn y seiat breifat a ddilynai dangosodd glauarineb, rhagfarn, a doethineb pen yr Ymneillduwyr, gan ddweyd ei fod yn eu caru, ond y dymunai eu gweled yn gwasgu yn nes at Dduw. Y mae yn nesaf yn Llanddeusant, ac yn cael odfa rymus. Gofynai iddo ei hun a wnai barhau i dalu dwy bunt yn y flwyddyn. tuag at gael y brawd Rowland i bregethu yn y sir hono yn fisol? Tebyg fod Daniel Rowland yn dyfod yn fisol yn awr i Abergorlech, a bod Harris yn ei gynorthwyo i dalu y person a gymerai ei le yn Llangeitho. A ganlyn yw profiad Howell Harris yn Llanddeusant: "Cefais barodrwydd neithiwr i ddyoddef pob peth, o bob cyfeiriad; oddiwrth y rhai cnawdol a'r rhai ysprydol, ac hyd yn nod oddiwrth y brawd Rowland, yr hwn sydd wedi cael caniatad i fy nirmygu, a'm gwarthruddo, ac i sathru arnaf, gan fy nghyhuddo o gyfeiliorni, ac o Antinomiaeth. Y boreu hwn breuddwydiais fod fy nghalon wedi ymddryllio o gariad (at Rowland); ei fod yntau hefyd felly, ac i ni syrthio ar yddfau ein gilydd." Ymddengys i'w freuddwyd Ymddengys i'w freuddwyd effeithio yn ddwys ar ei feddwl, am y credai mewn breuddwydion fel cenadwriaethau oddiwrth Dduw. Yr oedd Daniel Rowland yn pregethu yn Abergorlech; tebygol fod Cymdeithasfa Fisol yno; ac wedi cryn betrusder, ac ymladd ag ystyfnigrwydd ei yspryd, penderfynodd Harris fyned i'w wrando. Testun Rowland oedd, Dat. ii. 17: "I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwyta o'r manna cuddiedig," &c. "Agorodd yn ardderchog," meddai Harris, "trwy ddangos fod pob gras yn ras gweithgar; dadlenodd gyfeiliornad yr Antinomiaid, y rhai a briodolant haeddiant i ras, ac a ddywedant eu bod yn caru Crist, tra yn byw mewn pechod." Wrth wrando, y mae Harris yn toddi; cyfid cri yn ei enaid ar iddynt allu caru eu gilydd, a deall eu gilydd yn well; a gofynai i Dduw: "Pa hyd y goddefir i mi ddwyn ffrwythau balchder, cyndynrwydd, a chnawd? Yr wyf yn clywed yr un iaith gan dy holl ffyddlon genhadau, tra y maent yn gwrthwynebu eu gilydd, a'r naill yn credu am y llall ei fod yn elyn i'r gwirionedd." Dymunai ar i'r ystorm chwythu trosodd. "Yr oedd goleuni ac efengyl yn mhregeth y brawd Rowland," meddai; "dangosai fod y rhyfel Cristionogol yn rhyfel sanctaidd; mai y Sanctaidd yw y Cadben; fod y tir ar ba un yr ymleddir, sef yr eglwys, yn sanctaidd; a'i fod i gael ei ddwyn yn mlaen trwy foddion sanctaidd. Pwy all osod allan mewn ysgrifen y bywyd a'r nerth oedd yma ?’ Sicr yw ei bod yn odfa rymus, a chafodd Harris ei orchfygu. Aeth y ddau yn nghyd i Talyllychau. "Ar y ffordd, cyflawnwyd fy mreuddwyd," meddai Harris; agorais iddo fy holl enaid; llawer o waith y gelyn a olchwyd ymaith, a daethom yn nes at ein gilydd. Dywedais wrtho fel yr oeddwn yn cyduno a'i bregeth heddyw. Dywedodd yntau ei fod yn anrhydeddu fy ngweinidogaeth, ac y rhaid i bawb gydnabod ddarfod i'r Arglwydd fy anfon, a'm harddel. Dywedais wrtho fy maich; fy mod yn teimlo nad oedd yn anrhydeddu y Morafiaid yn ddigonol, ac felly ei fod yn pechu yn erbyn yr Arglwydd. Dywedodd yn ol nad oedd yn teimlo yn gas atynt, ac y caent bregethu yn ei eglwys, ond iddynt beidio cyhoeddi eu hopyniynau neillduol. Dywedais inau, os deuent i Gymru, y gwrthwynebwn eu cyfeiliornadau; ond y gwnawn hyny yn nghariad Duw, am y tybiwn y gwyddant fwy am yr Arglwydd na myfi. Achwynai fy mod yn gwasgu yn rhy glos at y brawd Beaumont; addefais inau hyny, ond fy mod yn gwneyd er ei gymedroli, ac fel na byddai iddo gael ei droi allan oddiwrthym." Dyma y ddau Ddiwygiwr wedi ymheddychu i raddau mawr.

Pregethodd Howell Harris yn Nhalyllychau; ond pregethodd Rowland gyda nerth ac angerddoldeb neillduol, ar Dat. xii. 9. Teimlai Harris fod yr Arglwydd yn llawer amlycach yn ngweinidogaeth Rowland nag yn ei eiddo ef. "Hynod y goleuni a'r nerth sydd ganddo," meddai; trwy yr holl amser yr oedd yn llefaru, teimlwn undeb enaid ag ef, a'm bod yn nglyn wrtho. Wedin, aethum gydag ef i Gwmygwlaw. Yr wyf yn gobeithio fod yr ystorm hon trosodd. Ar y ffordd, yr oeddym yn gorfoleddu, yn neidio, ac yn canu, ac yr oeddym yn debyg i bersonau gwedi meddwi." Yr oedd y fath orfoledd yn llenwi eu mynwesau, o herwydd cael eu dwyn yn nghyd, fel nas gwyddent beth i wneyd â hwy eu hunain. Braidd nad ydynt yn ymddangos yn debyg i blant, yn eu cwerylon, ac yn eu cymod drachefn. Dywedai Harris wrth Rowland iddo bregethu yn Llundain yn erbyn y Morafiaid, ac yn Nghymru yn erbyn yr Antinomiaid, a hyny bron yn yr un geiriau ag y pregethai Rowland y dydd cynt. Meddai Harris, yn mhellach: "Cyfaddefai nad dim a glywodd genyf fi oedd wedi peri iddo ymddigio, ond fy ngwaith yn glynu wrth y brawd Beaumont, a thrwy hyny gyfiawnhau yr hyn nad yw yn iawn. Yr wyf yn gobeithio ddarfod ein huno eto yn y gwirionedd. Dywedais wrth Rowland ei fod wedi pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth. Gwadodd hyn, a maentymiai ei fod yn edrych arnaf fel cenad Duw, ond addefai ei fod yn edrych i lawr ar y cynghorwyr. Arglwydd, dinystria y teimlad hwn ynddo. Creda hyd yn nod yn awr fy mod yn rhy dyner at y Morafiaid; ond am heddwch yr wyf fi, a chariad, a thawelwch yn nhŷ yr Arglwydd."

Aeth y ddau i Lwynyberllan. Pregethodd Howell Harris ar ogoniant yr eglwys; yna llefarodd Daniel Rowland oddiar Mat. ix. 49, a chafodd odfa nerthol tu hwnt. Yma ymadawent; aeth Harris i Bronydd, lle yr oedd nerth a dylanwad yn cydfyned a'r genadwri; oddiyno i Merthyr, Erwd, Llanfair-muallt, a Llangamarch. Yr oedd goleuni a nerth anarferol yn cydfyned a'i eiriau yn y lle diweddaf. Boreu y Sul dilynol yr oedd yn Dolyfelin; oddiyno aeth yn ei flaen i Rhaiadr, lle yr oedd mewn cadwyn wrth geisio llefaru, a chyrhaeddodd Tyddyn y noswaith hono. Yr oedd. cynulleidfa anferth wedi dod yn nghyd yma, a chafodd yntau odfa dda. Gwedi y bregeth buwyd mewn seiat breifat hyd ddeuddeg o'r gloch. Am waed Crist, ei Dduwdod, ei ogoniant, a'i ddirgelwch, y llefarai Harris yn y seiat; dywedai mai dyma y sail, a bod Duw a ninau yn un yn y fan yma. Dywedai, yn mhellach, fod pump peth yn cael eu priodoli yn yr Ysgrythyr i waed Crist (1) Anfeidrol rinwedd, (2) Gallu i ddofi anfeidrol lid, (3) Ei fod wedi diddymu angau i'r credadyn, (4) Wedi diffodd y tân tragywyddol iddo, (5) Ac wedi dwyn i mewn fendithion annherfynol. "Nid oes un Duw ond Crist," meddai; "ac os wyt wedi dy uno â Christ, yr wyt wedi dy uno a'r oll sydd Dduw." Er hwyred ydoedd pan y gorphenwyd y seiat, nid aeth Howell Harris i'w wely, eithr arosodd i lawr trwy gydol y nos, yn anerch ac yn rhybuddio y cynghorwyr. Tranoeth, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yma. Nid yw yn ymddangos fod yr un o'r offeiriaid yn bresenol, ond daeth lliaws o'r cynghorwyr yn nghyd; dechreuent hwy edrych ar Harris fel eu cadben. Athrawiaethodd yntau ar y dirgelwch, gan ddangos fel yr oedd ei enaid mewn undeb ag enaid Crist, a'i gorph â chorph Crist am dragywyddoldeb,

Eglurodd yn nesaf y modd yr oedd rhaniadau yn dyfod i'w mysg, sef trwy fod rhai yn rhoddi arbenigrwydd ar un gwirionedd, megys cyfiawnhad, gan alw y rhai sydd yn pwysleisio ar sancteiddhad yn rhai deddfol; tra yr oedd eraill yn rhoddi arbenigrwydd ar sancteiddhad, ac yn galw y rhai a bwysleisient ar gyfiawnhad yn Antinomiaid. Ymdriniwyd yno ag athrawiaeth y Drindod, ac am undod y Duwdod. Cronicla ei fod mor lluddedig gan feithder ei daith, a'r nifer o weithiau yr oedd wedi pregethu, fel nas gallasai fwyta. Ymadawodd o gwmpas pedwar dydd Llun, a chafodd gerydd am rywbeth gan ryw gyfaill anwyl, yr hyn oedd yn dra dolurus i gnawd, ac hyd yn nod i ras.

St. Harmon, ar derfyn Sir Faesyfed, yw y lle y mae yn ymweled ag ef yn nesaf; gwedi hyny y mae yn nhŷ un Hugh Edwards. Yma cafodd ei gymeryd i fynu yn anarferol gan ogoniant corph yr Arglwydd Iesu, a rhed yr ymadrodd, "Bwyta ei gorph, ac yfed ei waed," yn barhaus trwy ei feddwl. Gwedi hyny cawn ef yn cyfeirio ei gamrau tua thŷ William Evans, Nantmel. Ar y ffordd, fel yr oedd dylanwad personol Daniel Rowland yn gwanhau ar ei deimlad, ymddengys fod yr hen gweryl yn cael lle mwy yn ei feddwl. "Gwelais yn glir," meddai, "fel yr oedd Duw wedi fy nghadw yn y canol rhwng pob cyfeiliornadau, ac fel y darfu i'r brawd Rowland, trwy fy ngwrthwynebu, leddfu fy ngwroldeb, a a gwanhau fy mreichiau. Gwelais fod gogoniant Duw wedi cilio allan o'i galon, a hunan wedi cripio i fewn. Gwelais y cyfodai Duw fi i fynu, ac y safai o'm plaid." Y mae yn syn darllen fod y fath deimladau annheilwng yn cael lle yn ei feddwl am ei gyfaill, yr un y dawnsiai mewn gorfoledd ychydig ddyddiau cyn hyny, oblegyd cael heddwch ag ef. Nid yw yr ymdoriad hwn yn un clod i ben na chalon Howell Harris. Ond nid croniclo hanes dynion perffaith yr ydym. Yr oedd yn bur ddolurus ei galon wrth fyned i dy William Evans; ymddengys fod yr hen gynghorwr o Nantmel yn un o bleidwyr Daniel Rowland yn Nhrefecca. Ond cafodd undeb yspryd a'r brawd, ac ymadawsant wedi deall eu gilydd yn well. Yn nesaf, aeth i dŷ y brawd Buffton, lle y pregethodd ar waed Crist, gan, ar yr un pryd, anog y brodyr i gyd-ddwyn a'u gilydd. Yr oedd James Beaumont wedi pregethu yn flaenorol ar ddirgelwch Duw. Eisteddasant yn nghyd yn breifat hyd yr hwyr, gan agor eu calonau i'w gilydd, a symud rhagfarnau. Yr oedd Beaumont yn myned gryn lawer yn mhellach na Harris yn ei ymadroddion; ac amddiffyn Beaumont oedd un o'r cyhuddiadau a roddid yn erbyn Harris. Buy Diwygiwr yma ar ei oreu yn ceisio cymedroli rhai o syniadau Beaumont, yn arbenig ei esboniad ar yr ymadrodd, "Bwyta corph ac yfed gwaed" ein Harglwydd. Dywedai wrtho, hyd yn nod os oedd y gwirionedd ganddo, nad oedd yr amser i'w gyhoeddi wedi dyfod eto. Yna, aeth trwy Dolyberthog, Llansantffraid, Ty'ncwm, a Dolywilod, dychwelodd i Drefecca, ar ol taith o yn agos i dair wythnos. Y mae un nodiad am ei helynt yn Llansantffraid yn haeddu ei gofnodi. "Cefais lawer o ryddid," meddai, "i siarad ag offeiriad y plwyf, Mr. Williams. Ceisiais hefyd ei dyneru at y brawd Beaumont, yr hwn oedd wedi ei dramgwyddo, fel y mae wedi tramgwyddo llawer o rai eraill." Profa y difyniad fod athrawiaeth Beaumont yn dyfod yn gyffredinol anghymeradwy, a da fuasai i Harris beidio gwneyd cymaint cyfaill o hono.

Tranoeth i'w ddychweliad, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca; nid oedd un o'r offeiriaid ynddi, a Howell Harris a lywyddai. Llefarodd yn helaeth am waed Crist, a rhoddodd gyfarwyddiadau i'r cynghorwyr pa fodd i ymddwyn, gan ei fod ef ar fyned i Lundain. Bu priodas y cynghorwr Thomas Jones hefyd dan sylw, a'r hyn y cytunwyd. Derbyniodd Howell Harris Grynwr i'w dŷ, yn Nhrefecca, i letya, fel y gallai fwynhau breintiau y lle. Ai nid dyma flaenffrwyth "teulu" Trefecca? Trefecca? Dywed iddo hefyd gael ei gyfarwyddo gan yr Arglwydd i anfon ei geffyl i'r cynghorwr Thomas James. Tua chanol Awst, y mae yn cychwyn am Lundain, ac ar ei ffordd yno yn tramwyo rhanau helaeth o Siroedd Morganwg a Mynwy, gan bresenoli ei hun yn y Gymdeithasfa Fisol yn y Groeswen. Nid oedd yr un o'r offeiriaid yno; felly, efe a lywyddai. Nid yw yn ymddangos ei bod yn Gymdeithasfa hollol hapus. Yr oedd cryn wrthwynebiad yn Watford a'r Groeswen i arddull ei weinidogaeth; yn wir, oddiyma y cychwynasai y gwrthwynebiad. "Aethum i fysg y brodyr, sef y pregethwyr," meddai; "dywedais wrthynt nad oeddwn yn eu clywed yn cwyno digon am eu hanwybodaeth o Dduw a Christ, a'u tuedd at Antinomiaeth; a'm bod yn ofni am danynt nad oeddynt yn argyhoeddedig o'u hanwybodaeth, neu ynte, eu bod yn rhy hunanol i'w addef. Cyfaddefent ychydig o hyn, ond yr oeddynt yn dramgwyddedig am nad oeddwn yn gwahaniaethu yn ddigon clir (yn fy ngweinidogaeth). Yna, agorais iddynt y geiriau, Bwyta cnawd Mab y Dyn,' fel y gwnaethum yn Aberthyn. Čeisiais hefyd symud ymaith eu maen tramgwydd. Ceryddais eu balchder, ond ni dderbyniwyd ef. Agorais fy nghalon iddynt, fel yr egyr tad ei galon i'w blant, fy mod yn credu yn y Drindod, ond fod fy ffydd yn rhy wan i ymborthi ar yr athrawiaeth, nac i'w phregethu; ond fy mod yn cael fy ngalw i bregethu undeb person Crist, ac mai dyma fy ymborth. Perswadiais hwy nad oeddwn am ymuno a'r Morafiaid. Yna, aethum ymaith tua Watford a'm calon yn drom." Ar y ffordd yno, teimlai bwysigrwydd y lle a lanwai; ei fod wedi cael ei osod yn mysg y tadau yn nhŷ Dduw, ochr yn ochr a'r offeiriaid ordeiniedig.

Gellid meddwl fod y Gymdeithasfa yn cael ei chynal yn rhanol yn Watford, yn gystal a'r Groeswen. A boreu tranoeth, cyfarfyddodd Harris a'r cynghorwyr drachefn yn Watford, gan eu hanerch gyda golwg ar ei berthynas ef â hwy. "Dangosais i'r brodyr ieuainc eu lle," meddai, "a'm lle inau; a'r modd yr oeddwn yn teimlo fod yr Yspryd Glân wedi fy ngosod fel tad dros y cynghorwyr; mai fy nghynorthwywyr i ydynt; ond nad oeddynt yn caniatau i mi awdurdod tad i'w ceryddu; ond fy mod yn cael fy nghateceisio ganddynt, a'm dwylaw yn cael eu gwanhau, a'm gweinidogaeth ei rhwystro, ac yr ymddangosent i mi fel wedi ymgolli mewn balchder. Dywedais fy mod yn argyhoeddedig ddarfod i mi fyned yn rhy bell wrth geisio eu boddloni, ac egluro fy hun, a darostwng fy hun iddynt. Ceryddais hwynt am eu balchder, a'u diffyg gofal am ogoniant Duw. Toddodd un o honynt wrth fy mod yn gweddïo; dywedodd un arall fy mod yn dwyn cyfeiliornadau i'r eglwys. Gofynais gan Dduw faddeu iddo, ac aethum i ffwrdd." Na, nid oedd yn Gymdeithasfa hapus. Ceir awgrymiadau fod Howell Harris yn trin y cynghorwyr gyda llaw uchel, a'i fod yn dysgwyl ymostyngiad personol a gwarogaeth iddo ef oddiwrthynt; a'i fod yn ystyried ei hunan yn ben arnynt, rhagor Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall.

Bu yn Llundain am ddau fis. A'i helynt yno nid oes a fynom, gan nad yw yn dal cysylltiad uniongyrchol à Methodistiaeth Cymru. Daeth yn ei ol tua diwedd mis Medi. Dranoeth i'w ddych. weliad pregethai yn Nhrefecca, ac achwyna ddarfod i'w frawd--ni ddywed pa un ai Joseph ai Thomas-wrthod dyfod i'w wrando, er ei fod yn aros gydag ef ar y pryd. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol i gael ei chynal yn Castellnedd, ac aeth Harris tuag yno. Yn y Glyn, ar ei ffordd tua'r Gymdeithasfa, clywodd ei fod; mewn ystyr, wedi cael ei fwrw i ffwrdd gan y brodyr, a'i fod yn cael ei bortreadu mewn lliwiau duon. Gwnaeth hyn ei yspryd yn chwerw ynddo. Yn Gelly-dorch-leithe, clywodd bregeth ryfedd gan Morgan John Lewis, ar fab yr addewid, y ryfeddaf a glywsai yn ei oes. Diolchai Harris am fod y fath oleuni yn eu mysg, ac nas gallai lai na'i anrhydeddu. Eithr yr oedd gweled fod y brodyr wedi cydymuno yn ei erbyn ef (Harris) yn pwyso yn drwm ar ei feddwl; a gofynai i'r Arglwydd ai cerydd arno am ryw bechod ydoedd hyn, ynte, ai anrhydedd a osodid arno, ac y troai eto i fod yn berl yn ei goron?

Cyfarfyddodd y Gymdeithasfa o gwmpas saith nos Fercher, a bu yn gyfarfod tra chyffrous. Caiff Howell Harris adrodd ei hanes. "Dywedais wrth y brodyr," meddai, "eu bod yn anwyl genyf fi, y gallwn olchi eu traed; a'm bod yn fodd lawn bod heb ddoniau, na llwyddiant, na gallu, er mwyn iddynt hwy gael y cwbl. Yma yr oeddwn yn ddrylliog, a thorais allan i wylo. Cyn hyn, yr oeddwn yn fy yspryd fy hun, am fy mod wedi cael fy nhemtio. Yr oeddwn wedi clywed iddynt gynal Cymdeithasfa, ryw bythefnos yn flaenorol, ac yn hono iddynt drefnu fod y brawd Rowland i gymeryd fy lle, gan roddi hawl iddo i benderfynu pwy oedd i gael ei ddanfon i bregethu, ac i ba le. Am danaf fi, trefnent fy mod i fyned i Sir Gaerfyrddin, ac na chawn fyned i Forganwg, am nad oedd derbyniad i mi yno, ac y tybiai y cymdeithasau fy mod yn pregethu cyfeiliornadau. Yna, mi a eglurais fy syniadau am berson Crist, gan ddangos nad oeddwn yn gwahaniaethu oddiwrthynt hwy, ond fod y gelyn wedi dyfod i'n mysg. Agorais yr holl fater am fy mhenodiad ar y cyntaf, y modd yr oeddynt hwy, mewn undeb â Mr. Whitefield, wedi fy newis, ond yn awr fy mod yn cael fy nhroi allan, ac nas gwn am beth, ond yn sicr fod rhyw bechod yn cael ei ffeindio ynof. Eglurais fy mod yn cael fy ngalw yn ddyn deddfol yn Lloegr, am fy mod yn pregethu yn erbyn yr Antinomiaid, a'r Morafiaid, a darfod i mi droi Mr. Cudworth allan; tra yn Nghymru, y gelwir fi yn Antinomiad, ac yn Forafiad. Pan y dywedent hwy fy mod gynt, os codai rhyw anghydwelediad rhyngof a'r brawd Rowland, yn crio, yn syrthio ar ei wddf, ac yn derbyn ei air, ond yn awr fy mod yn fwy anystwyth, dywedais nad oeddwn yn gwybod i mi ei geryddu am ddim, oddigerth ysgafnder, a'm bod yn gwybod mai myfi oedd y gwaethaf o honynt oll, ond fy mod yn cael fy nyrchafu trwy edifeirwch; ac nad oeddwn yn gwybod fy mod yn ystyfnig gyda golwg ar ddim, oddigerth eu bod am geisio fy yspeilio o'r gwirionedd yma, sef fod y Dyn hwn yn Dduw. Os oeddynt am geisio hyny, y caent fi yn ystyfnig, ond fy mod yn gobeithio nad oeddynt. Efallai ddarfod i mi yn flaenorol fyned yn rhy bell mewn darostwng fy hun (i Rowland); os do, ei bechod ef a chwithau yw eich bod yn duo fy nghymeriad, yn gwanhau fy nwylaw, ac yn pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth, gan fy ngalw yn Antinomiad. Dangosais fel yr oeddwn i yn cyduno â phob gair a bregethent hwy, ond eu bod hwy, heb gael un achos o'r cychwyn, yn troi yn fy erbyn i. Am fy lle, nas gallaf ei roddi i fynu; fod yr Arglwydd wedi gosod o fy mlaen ddrws agored, yr hwn nis dichon neb ei gau; na feiddiwn ei roddi i fynu, am mai Duw a'm gosododd ynddo; a chan mai yr Arglwydd a'm gosododd ynddo, bydded iddynt hwy edrych ati am geisio fy nhroi ymaith. Yr wyf yn gweled yn wyf yn gweled yn awr i Satan gael caniatad i ddallu llygaid, ac i frashau calon y brodyr, gan osod y naill yn erbyn y llall. O'r fath ystorm ydyw ! Agorais drachefn am ddirgelwch Crist, a'i ddyoddefiadau; nad ydym yn gwybod pa fodd i lefaru am danynt. Pan y cyhuddent fi o addoli y gwaed, dywedais nad oeddwn yn gwahanu gwaed Crist oddiwrth ei berson, ond yn edrych arno fel rhan o hono; nas gallaf weled un rhan o hono heb weled yr oll o hono, a bod perffeithiau y naill natur yn aml yn cael eu priodoli i'r llal!. Ddarfod i Dduw farw am i'r Dyn oedd yn Dduw farw. Yna, datgenais yn erbyn John Belsher, ei fod yn ymddangos i mi yn ymchwyddo, ac nas gallwn gydweithio ag ef. Enwais leoedd yn mha rai y cyhuddent fi o Antinomiaeth; cyfeiriais at y modd yr oeddynt wedi cadw Cymdeithasfaoedd yn fy absenoldeb, a'r modd y meddyliwn eu bod wedi pechu yn fy erbyn, er mai fi oedd tad y nifer fwyaf o honynt.

"O gwmpas deg aeth y brodyr i swpera, minau a aethum i ysgrifenu fy nydd-lyfr, pawb yn llawn o honom ein hunain, ac heb ond ychydig o'r Arglwydd yn ein mysg. Yr oedd ganddynt hwy gynygiad i'w osod gerbron y frawdoliaeth parthed gosod y brawd Rowland yn fy lle, i dderbyn ac i fwrw allan y cynghorwyr, ac i drefnu i bob un ei gylchdaith. Datgenais fy mod yn rhydd i roddi fy lle i fynu fel arolygwr cyffredinol, ond nas gallwn osod fy hun dan ei awdurdod ef (Rowland), i gael fy anfon yma a thraw, fel y gwelai efe yn dda. Yr oeddwn wedi derbyn hawl oddiwrth yr Arglwydd i fyned i'r lleoedd at dybiwn yn briodol, ac nas gallwn roddi hyn i fynu heb bechu yn erbyn Duw. Meddyliwn na ddeuai pethau i'w lle hyd nes yr ymddarostyngent gerbron yr Arglwydd am eu pechod yn fy erbyn, ac yn erbyn fy ngweinidogaeth.

"CASTELLNEDD, dydd Iau. Y Gymdeithasfa yn parhau. Neithiwr, cefais ryddid i fyned at yr Arglwydd, ac i bledio ar ran y brodyr, gan lefain: O Arglwydd, ti a wyddost ddarfod i ti fy narostwng gerbron y brawd Rowland, gan wneyd i mi lafurio am heddwch ac undeb; ti a wyddost hefyd eu bod wedi pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth, gan wanhau fy nwylaw. Bydded i ti faddeu iddynt.' Yn y Gymdeithasfa, cyhuddid fi o ohebu a'r Morafiaid; dywedais nad oedd un ohebiaeth rhyngom, ond fy mod yn awyddus. am hyny, gan yr anrhydeddwn hwynt yn fawr, oblegyd eu bod yn adnabod Iesu Grist. Mr. Powell (yr offeiriad) a geryddodd y cynghorwyr a'm gwrthwynebent; brawd arall a siaradodd i'r byw, fod eu geiriau yn fy erbyn i yn ei wanu ef; ac un arall drachefn a ddywedodd mai myfi oedd tad ysprydol y nifer amlaf o honynt, os nad eu tad oll. . . . Dywedais, drachefn, fy mod yn barod i roddi fy lle i fynu i'r brawd Rowland, ond nas gallwn, heb bechu yn erbyn yr Arglwydd, roddi iddo. awdurdod ar fy ngweinidogaeth, i'm trefnu i ba leoedd i fyned, a pha beth i bregethu. Yna, gwedi i mi ddatgan fy mod yn edrych arnaf fy hun fel wedi cael fy symud o fy lle hyd nes yr ail-benodid fi, y brawd Morgan Jones a safodd i fynu, ac a ddywedodd, mi a feddyliwn yn yr Arglwydd, ei fod, gerbron Duw a dynion, yn fy newis i fod yn olygwr drosto yn yr Arglwydd, gan ddarfod i'r Arglwydd fy nghymhwyso tuag at y cyfryw le tuhwnt i neb. Yr oedd y brawd Powell wedi dweyd felly o'r blaen. Dywedai amryw yr un peth yn awr. Gwelais fod yr Arglwydd yn fy ail-sefydlu yn fy lle. Dangosais, gyda golwg ar y brawd John Belsher, ei fod wedi ceisio gwneyd rhwyg, trwy gamddarlunio pethau i'r brawd Rowland, a'i fod wedi ymchwyddo i'r fath raddau, fel nas gallwn gydweithio ag ef, nes iddo ymddarostwng. Am y brawd Benjamin Thomas, yr oedd ef wedi condemnio fy athrawiaeth, ac wedi llefaru yn fy erbyn; dygaswn ei faich er ys amser, gan ddysgwyl i'r Arglwydd ei argyhoeddi, nas gallwn lafurio gydag yntau heb iddo. gael ei ddarostwng. Achosodd hyn gyffro adnewyddol. Eithr glynais wrth fy mhenderfyniad, am ei fod ar fy nghydwybod. Yna, darllenwyd yr adroddiadau, aethum i weddi, a daeth yr Arglwydd i lawr. Cefais ryddid i gynghori y brodyr; boddlonais hwy gyda golwg ar bob peth. Y mae yn rhyfedd fel yr oeddynt wedi derbyn camachwyn am danaf. Clywsent fy mod am uno a'r Morafiaid; fy mod yn duo eu cymeriadau wrth bregethu, a bod genyf ryw ddull newydd o bregethu; ond cawsant gymhorth i fy nghredu yn awr. Anerchais hwynt, gan ddangos fod y prawf hwn wedi dyfod arnom am nad oeddym yn treulio digon o amser mewn hunanymholiad, a dywedais nad oeddwn yn clywed digon o swn edifeirwch yn eu gweddïau. Gwedi terfynu, syrthiasant ar fy ngwddf; a'r brodyr tramgwyddus a ddaethant ataf, gan ofyn i mi faddeu iddynt, yr hyn a wnaethum yn hawdd. Dywedais nas gallwn wrthsefyll dynion ymostyngar a drylliog. Yna, ni oll a ollyngwyd yn rhydd; mwynasom lawenydd cyffredinol, a syrthiodd ein beichiau i ffwrdd. Cefais ryddid i addaw cyfarfod yma yn mhen. pythefnos a'r brawd Rowland."

Ysgrifenodd Howell Harris y nodiadau hyn yn ei ddydd-lyfr yn nghanol cyffro yr helynt, pan yr oedd ei yspryd yn ferw o'i fewn; ac i ba raddau y darfu i'w deimladau daflu eu lliw ar yr hyn a ddywed, sydd anhawdd ei benderfynu. Yn anffodus, ei ymadroddion ei hun, yn mron yn gyfangwbl, a gronicla; prin y dengys â pha eiriau ei hatebwyd. Gallwn dybio ddarfod iddo gael ei gynhyrfu yn enbyd ar y ffordd i'r Gymdeithasfa gan y chwedlau a glywodd; iddo, wedi cyrhaedd y cyfarfod, ymosod yn uniongyrchol ar y brodyr cynulledig, gan eu cyhuddo o geisio ei ddisodli yn ei absenoldeb, o bechu yn erbyn ei weinidogaeth, a phardduo ei gymeriad; iddo ddatgan na wnai ymostwng i gymeryd ei lywodraethu gan Daniel Rowland, a'i anfon o le i le i bregethu fel ei trefnid; ac na chymerai ychwaith ei gyfarwyddo gyda golwg ar gynwys ei weinidogaeth gan neb. Yr oedd yn ddyn o deimladau cryfion, a rhaid fod ei ruad ar lawr y Gymdeithasfa yn dra brawychus i'r frawdoliaeth. Yn ol pob tebyg, prin y caent wneyd unrhyw hunan-amddiffyniad ganddo; ac yn sicr, ni chaent gyfeirio at unrhyw fai a welent ynddo, er ei fod ef yn dynoethi eu beiau. hwy yn gwbl ddibetrus. O'r diwedd, llwyddwyd i'w dawelu, wrth fod nifer o'r cynghorwyr yn datgan o'r newydd eu hymddiried ynddo; ac, yn ol pob tebyg, wrth fod Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall, yn ei sicrhau nad oedd y chwedlau a gawsant eu cludo iddo yn wirionedd. Ar yr un pryd, nid annhebyg fod rhyw gymaint o sail i'r ystorïau yma. Gan fod nifer o gynghorwyr Sir Forganwg yn dra gwrthwynebol i syniadau athrawiaethol Harris, a bod yr odfaeon a gynhaliai yno yn aml yn gorphen mewn dadleuon brwd, a theimlad chwerw, nid annaturiol tybio ddarfod i'r Gymdeithasfa farnu mai gwell, dan yr amgylchiadau, fyddai iddo beidio ymweled à Morganwg can amled ag yr arferai, a gwneyd Sir Gaerfyrddin yn fwy o faes ei lafur. Ceir arwyddion annghamsyniol fod eiddigedd wedi dyfod i mewn rhwng Harris a Rowland erbyn hyn; yr oedd y ddau yn ddynion o dymherau cryfion, a'r naill fel y llall, efallai, yn hoffi llywodraeth, ac y mae yn fwy na thebyg fod eu canlynwyr yn chwythu'r tân o'r ddau tu. Nid yw papyrau Rowland, yn anffodus, ar gael; felly, nis gallwn roddi yr hanes fel. yr edrychai ef arno. Ond naturiol ddigon. tybio fod dylanwad mawr Harris ar y cynghorwyr, yn nghyd a'r dyrchafiad a gawsai i fod yn brif olygwr y seiadau Saesnig, wedi cynyrchu rhyw gymaint of eiddigedd yn mynwes y Diwygiwr hyawdl o Langeitho, yn arbenig gan ei fod yn ymwybodol y meddai ar ddoniau gweinidogaethol rhagorach na'i gyfaill. ochr arall, credwn y ceir arwyddion annghamsyniol, hyd yn nod yn ei adroddiad ei hun o Gymdeithasfa Castellnedd, fod Howell Harris yn hawlio arglwyddiaeth ac uchafiaeth yn mysg y Methodistiaidiaid. Cyhudda y brodyr o gynal Cymdeithasfa pan yr oedd ef yn absenol, fel pe byddai ei bresenoldeb yn angenrheidrwydd anhebgor mewn cynulliad o'r fath. Cyfeiria at ei "le" fel arolygwr cyffredinol, fel pe byddai uwchlaw eiddo Rowland, a Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, tra yn y blynyddoedd cyntaf y daliai ei hun mewn darostyngiad iddynt, am eu bod hwy yn offeiriaid urddedig, tra nad oedd ef ond lleygwr. Ymddengys ei fod yn tybio, pan y datganai na wnai gydweithio â gwahanol frodyr, y gallai ysgwyd ymaith o'r frawdoliaeth y neb a ewyllysiai, hyd yn nod Rowland ei hun. Cryfheid ef yn yr ysprydiaeth hon, am y tybiai ei fod mewn cymundeb uniongyrchol a'r nefoedd, ac felly yn rhwym o fod yn iawn mewn pob dim, a'r rhai a'i gwrthwynebant yn gyfeiliornus. Ni wnai ymresymu gyda golwg ar ei syniadau duwinyddol; edrychai arnynt fel datguddiad a gawsai oddiwrth yr Arglwydd. Yn y cnawd yr oedd pawb a feiddiai olygu yn wahanol iddo. Tybiai, yn mhellach, ei fod yn cael llais yr Arglwydd gyda golwg ar luniad ei deithiau, trefniad amgylchiadau ei dŷ, ac amgylchiadau y seiadau, yn nghyd a'r moddion y dylid eu harfer i gario gwaith y diwygiad yn mlaen. O ganlyniad, nid oedd arno eisiau ymgynghori â neb am ddim; credai y dylai pawb ymostwng i'w drefniadau, am eu bod yn ddwyfol. Ond teg dweyd fod ei gydwybodolrwydd yn yr ol yn ddiamheuol; ei fod i raddau mawr yn anhunangar; os yr awyddai am y brif gadair, y gwnai hyny nid er mwyn porthiant i'w wagedd, ond er mantais i gario yn mlaen waith yr Arglwydd yn fwy effeithiol; a'i fod mewn yni, ac ymdrech, a pharodrwydd i dreulio ei hun allan yn ngwaith yr Iesu, yn rhagori ar ei frodyr oll.

Dychwelodd Howell Harris o'r Gymdeithasfa trwy Lansamlet a Blaenllywel, gan bregethu mewn amryw leoedd ar y ffordd. Ceir ei brofiad yn y difyniad canlynol allan o'i ddydd-lyfr: "O Arglwydd," meddai, "bydded i'r brodyr gael eu darostwng ger dy fron di. O anwyl Dad, nis gallaf foddloni rhoddi i fynu y goron a gyflwynaist i mi yn y gwaith hwn. Ond yr wyf yn dwyn y brodyr atat ti; pâr iddynt adnabod eu lle, ac i blygu i'th Yspryd." Wedi bod gartref yn Nhrefecca o gwmpas pythefnos, cawn ef yn cychwyn tua Watford, i'r Gymdeithasfa, er ymgynghoriad pellach à Daniel Rowland. Yn Gelligaer, ar y ffordd yno, ysgrifena: "Yr oeddwn yn caru y brawd Rowland; teimlwn nas gallwn ymadael ag ef, er ei fod ef yn foddlon ymadael â mi; ond am frawd arall-Benjamin Thomas—y mae yn gorwedd yn bwysau arnaf, a gweddïais ar i'r Arglwydd ei ddarostwng." Cyrhaeddodd y Gymdeithasfa yn y prydnhawn. Ar y cyntaf, yr oedd pawb yn dra dystaw, fel pe byddent arnynt ofn eu gilydd; yna, dechreuodd Harris agor ei fynwes, gan ddatgan fod y brodyr wedi pechu yn ei erbyn, trwy goleddu drwgdybiau am dano, ac eiddigedd at yr athrawiaethau a bregethai, a'i wresawgrwydd wrth draddodi. Cyfaddefodd Rowland ei fod ar fai wrth ddarllen gormod ar lythyrau yn achwyn arno, ac y teimlai yn hollol rydd at Harris a'i weinidogaeth, ond iddo wadu pwyntiau neillduol y Morafiaid. Atebodd yntau na fu yn eu coledd erioed; ei fod wedi pregethu yn eu herbyn yn Llundain, ac yn erbyn yr Antinomiaid wrth eu henwau. Yna, agorasant eu calonau i'w gilydd, a chawsant eu bod yn cydweled yn hollol. Yn ganlynol, pregethodd Daniel Rowland, a chafodd odfa nerthol. Teimlai Harris fod yr athrawiaeth wrth ei fodd. "Cefais heddwch yn fy enaid," meddai; "gwelais fod y brawd Rowland wedi cael un ddawn, a minau ddawn arall." Gellir meddwl mai yn y Groeswen y cynhelid y cyfarfod, gan y sonir am danynt yn myned yn nghyd i Watford wedi i'r odfa orphen. Cydgerddai Harris gyda Morgan John Lewis; yr oedd y gymdeithas rhyngddynt yn dra melus; a dywedai ei holl feddwl wrtho. Buont i lawr yn rhydd-ymddiddan hyd bump o'r gloch y boreu. "Yr ydym yn deall ein gilydd," meddai Harris, "ein hundeb diweddaf yw yr egluraf a'r goreu ydym wedi gael." Boreu dranoeth, agorodd Howell Harris ei feddwl drachefn, gan ddangos y modd yr oeddynt oll wedi syrthio i bechod; fel yr oedd yn cashau Antinomiaeth, a'i fod yn un a'i frodyr yn ei olygiadau. Cyfeiriai at yr hyn y beuid ef o'i herwydd, sef ei fod yn llefaru yn barchus am y Morafiaid, a dywedai y rhaid fod hyny yn codi o'i ras, oblegyd ei fod yn wrthwynebol iddynt ar lawer pwynt. Yna, ymadawodd am Rhywderyn, lle y pregethodd am ogoniant Crist. Yn St. Bride, ei destun ydoedd: "Ac efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." Cyrhaeddodd dŷ un Robert Evans, yn agos i Gaerlleon-ar-Wysg, nos Sadwrn, a phregethodd gyda gwresawgrwydd a nerth oddiar y geiriau: "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol." Dengys ei fyfyrdodau boreu y Sul canlynol nad oedd wedi llwyr wella oddiwrth y teimlad a gawsai. "Yr wyf yn gweled,' meddai, "fod ein profedigaeth ddiweddar wedi arwain pob un i adnabod ei le yn well, ac i astudio mwy ar ffurf-lywodraeth eglwysig. Yr wyf yn gweled mai fy lle i yw bod yn rhydd, i edrych ar ol y seiadau a gesglais yn nghyd, oni fydd iddynt fy ngwrthod. Gwelaf fod llawer o'r brodyr yn fy nirmygu, ac yn ddolurus o herwydd fy ngwendidau; ond yr wyf yn cael nerth i gyflwyno yr oll i'r Arglwydd, ac i ofyn iddo ar iddo fy nghadw yn fy lle." Yn nesaf, yr ydym yn ei gael yn teithio trwy Lanfaches a'r New Inn. Yn y lle diweddaf, mewn seiat breifat, cymerodd fantais. i ddangos y gwahaniaeth rhwng yr Ymneillduwyr a'r Methodistiaid. "Yr ydym ni," meddai, (1) yn pregethu yn benaf i'r galon a'r yspryd, ac yr ydym yn eu cyrhaedd, gan glwyfo y cnawd, a'i wneyd yn ddolurus. Pwysleisiwn am gael ffydd yn y galon, yn hytrach na goleu yn y pen. mae eu goleuni hwythau (yr Ymneillduwyr) yn dyfod o'r pen, yn gwneyd yr enaid yn esmwyth, ac nid yw yn cryfhau ffydd. (2) Yr ydym ni yn cyffroi yr enaid i'w ddyfnder, gan gario yr argyhoeddiad i'r gwaelodion, gan roddi gwybodaeth helaethach trwy yr Yspryd o Grist; y maent hwythau yn gadael yr enaid yn dawel a digyffro. (3) Nid ydynt yn chwilio y galon, ac yn dangos eu ffydd mewn ymarferiad, fel y mae ganddynt mewn athrawiaeth. (4) Nid ydynt yn rhydd o duedd i dynu eneidiau atynt (oddiwrth y Methodistiaid). Dywedodd un fod y seiadau yn honi hawl i ofyn i'r sawl a fynent ddod i bregethu i'w mysg. Atebais inau fy mod yn erbyn eu gorfodi i dderbyn unrhyw un yn groes i'w hewyllys; ond os oeddynt yn edrych arnaf fel un a fu yn offeryn i'w casglu yn nghyd ar y cyntaf, ac os oeddynt wedi syrthio i mewn a'r drefn a sefydlwyd gan Mr. Whitefield, mewn cydymgynghoriad a'r brodyr, y rhaid i mi fel tad wylio drostynt, ac y rhaid i mi hefyd wybod, a rhoddi fy nghydsyniad parthed pwy fydd yn cydlafurio â mi. Gyda golwg ar y cynghorwyr hefyd, fy mod am wylio trostynt, eu galw yn nghyd i'w cynghori a'u cadarnhau, eu ceryddu, ac hefyd am eu cael i bregethu ar brawf." Gwelir na wnai ganiatau penrhyddid i'r seiadau.

Dranoeth, yn y Goetre, drachefn, y mae ffurf briodol ar lywodraeth eglwysig y Methodistiaid yn Nghymru, a'i le ei hun yn eu mysg, yn dyfod yn destun ei fyfyrdod. Fel hyn yr ysgrifena: "Y mae arnaf eisiau gwybod natur a helaethrwydd y lle yn mha un y cefais fy ngosod gan yr Arglwydd, fel na phechwyf rhagllaw, trwy ofn fy hun, na'r gwrthwyneb, ond ei lanw fel y dymunai y Gwaredwr i mi, er adeiladaeth i'r wyn. Gwelaf ein bod yn cael ein harwain i fod i raddau yn gyffelyb i Esgobiaeth a Henaduriaeth, gyda y brawd Whitefield fel archesgob; myfi, er fy mod heb ordeiniad, fel y bu Paul am beth amser, wedi cael fy addysgu i fod yn arolygwr cyffredinol dros y gweithwyr a'r praidd; a'r offeiriaid ordeiniedig fel efengylwyr, i bregethu yn mhob man. Ond y mae un peth yn aneglur i mi; efallai ei fod yn aros yn dywyll am na wyddom yn mha le y terfyna y symudiad; ac o bosibl y cawn ein himpio i mewn i'r Eglwys, ac y daw goleuni ar y mater fel y byddo amgylchiadau yn cyfnewid. Yr hyn sydd yn aneglur i mi yw, a ydyw yr offeiriaid a minau i fod yn unol yn ein gofal am y seiadau, ac yn y pregethu? neu ynte, a ydyw y gwaith preifat yn perthyn i mi yn briodol, a hwythau yn cynorthwyo? neu ynte, a ddylai adran o wlad gael ei rhoddi i bob un? neu ynte, drachefn, a ydym i fyned yn y blaen fel hyn hyd nes y gwthir ni allan, neu y cawn ein derbyn i mewn i'r Eglwys? Modd bynag, yr wyf yn teimlo gofal y seiadau y bum yn foddion i'w foddion i'w casglu yn nghyd, a'r rhai sydd wedi fy newis i fod yn olygwr arnynt, yn gwasgu arnaf yn y fath fodd fel nas gallaf eu rhoddi i fynu. Arglwydd, nid wyf yn gwybod dim; dangos i mi yr hyn sydd yn angenrheidiol dros yr amser presenol, fel na chyfeiliornaf ar y naill law na'r llall. Hyd yn hyn, y mae y gwaith yn Nghymru wedi bod trwyddo draw i bawb; ond amlwg fod eisiau dod i ryw ffurf; da fod y llywodraeth ar dy ysgwydd di, Arglwydd. Eisiau gwybod ewyllys fy Arglwydd sydd arnaf, fel na phechwyf. Gallwn feddwl ein bod yn cael ein harwain i ryw fath o ddysgyblaeth. Arglwydd, dos di o'n blaen. Gallwn feddwl mai gwaith yr offeiriaid. fyddai myned o gwmpas i bregethu, ac i weinyddu y sacramentau, bod yn bresenol yn y Cymdeithasfaoedd, a gweini y cymundeb ynddynt; fy ngwaith inau, myned i'r Cymdeithasfaoedd, a siarad yno, pregethu pan fedraf, ymweled a'r holl seiadau. preifat ac a'r Cymdeithasfaoedd Misol hyd byth ag y medraf, yn Nghymru ac yn Lloegr, er fod gofal Llundain wedi ei osod arnaf hefyd. Beth hefyd (a berthyn i mi) nis gwn eto. Gyda golwg ar berthynas y naill o honom a'r llall, Arglwydd, arwain a goleua fi." Gwelir fod cynllun o ffurflywodraeth eglwysig yn dechreu cael ei ffurfio yn meddwl Howell Harris. Yn y cynllun hwn, ymddengys yn bur glir ei fod am gau yr offeiriaid allan o bob llywodraeth uniongyrchol ar y seiadau a'r cynghorwyr; yr ystyriai hyny yn hawlfraint yn perthyn iddo ei hun; a'i fod am eu cyfyngu hwy, o leiaf yn benaf, i weinidogaeth y Gair, a gweinyddiad o'r sacramentau. Y Goetre oedd y lle diweddaf y bu ynddo ar y daith hon cyn dychwelyd adref.

Y peth cyntaf a glywodd wedi cyrhaedd Trefecca oedd, fod Rowland yn parhau i'w gyhuddo o gyfeiliorni oddiwrth y wir athrawiaeth. Un o'r cynghorwyr a gludodd y chwedl iddo. Nid annhebyg ei fod yn rhy barod i dderbyn chwedlau disail. Penderfynodd oddef, modd bynag, fel na chymerai ymraniad le. Ar y dydd cyntaf o Dachwedd, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, eithr nid oedd un o'r offeiriaid yno. Cafwyd anerchiad gan y brawd Beaumont, yn mha un y datganai nad oedd y ddeddf i gael ei phregethu fel moddion i argyhoeddi a deffro pechadur, mai yr hyn a ddylid bregethu oedd ffydd; nad oedd y ddeddf yn rheol bywyd i gredinwyr; a gwadai hefyd dragywyddol genhedliad Crist. Ymddengys fod Beaumont erbyn hyn wedi myned yn Antinomiad rhonc. Buont i lawr am y rhan fwyaf o'r nos yn ceisio ymresymu ag ef, ond yn ofer. Gwedi iddo ef ymadael, bu Harris, a thua haner cant o gynghorwyr, ar lawr hyd y boreu yn gweddïo, yn canu, ac yn molianu, a theimlent fod yr Arglwydd yn wir yn eu mysg. Tua chanol Tachwedd, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Tyddyn, ac aeth Harris yno, gan bregethu mewn amryw leoedd yn Siroedd Brycheiniog a Maesyfed ar y ffordd. Yr oedd Williams, Pantycelyn, yn bresenol, a phregethodd gyda nerth mawr. Daethai dyn o'r Bala yno i ofyn cynghor, am fod y brawd Lewis Evan wedi cael ei fwrw i garchar Dolgellau. Cafodd gyfarwyddyd pa fodd i weithredu, a gwnaed casgliad o bedwar gini yn y man i'w gynorthwyo, er mai deg-ar-hugain oedd rhif y rhai oeddynt yn bresenol. Teimlent yn ddiolchgar am ei garchariad, oblegyd ei fod yn gyfleustra iddynt ddangos iddo ryw arwydd o'u serch. Dywedai Harris y rhaid iddynt oll wneyd ymdrech yn erbyn y diafol yn Ngogledd Cymru. Cyfeiriodd at ei safle ei hun; nad oedd yn ddyledus i unrhyw ddyn o fewn y byd, ond yn unig i'r Arglwydd; ei fod yn aml yn gwrthod arian fel cydnabyddiaeth am ei waith, oblegyd nad oedd yn rhydd i'w derbyn, oddigerth eu bod yn cael eu roddi mewn ffydd, gan ei theimlo yn anrhydedd i gael rhoddi i'r Arglwydd. Ymddiddanwyd hefyd a brawd a wrthodai athrawiaeth y gwaed. Dywedai Harris ei fod yn derbyn ac yn teimlo yr athrawiaeth; a'i bod i'w chael yn y Beibl, ac nid yn ffugrol, ond yn sylweddol ac ysprydol.

Yn ystod mis Rhagfyr, bu Howell Harris ar daith ddwy waith drwy ranau o Siroedd Morganwg a Chaerfyrddin. Y dydd. olaf o'r flwyddyn yr ydym yn ei gael yn Llanddowror, mewn ymgynghoriad a'r Parch. Griffith Jones. Llonwyd ef yn fawr wrth ddeall fod bwriad i osod i fynu ysgolion cateceisio yn mhob rhan o'r wlad, os byddai yr Archesgob, yn nghyd a'r esgobion a'r clerigwyr, yn foddlawn. Dywedai fod y Methodistiaid yn barod i gynorthwyo gyda hyn, ac i ymostwng i'r Esgob; eu bod yn benderfynol i beidio gadael Eglwys Loegr; a dangosai y graddau yr oedd cateceisio wedi cael ei ddwyn i mewn i'r seiadau preifat. Taer ddymunai ar Griffith Jones i ymuno â hwy, fel na fyddai dynion ystrywgar yn gallu eu rhanu, trwy gario chwedlau anwireddus am y naill i'r llall. Yr oedd y gymdeithas ag offeiriad duwiol Llanddowror yn falm i'w enaid.

PENOD XIV.

HOWELL HARRIS
(1747-48)

Gwaredigaeth hynod yn Llansantffraid—Amryw Gymdeithasfaoedd—Harris yn cyhuddo Williams, Pantycelyn, o bregethu yn ddeddfol—Dealltwriaeth a'r Wesleyaid—Howell Harris yn ymweled a Mon, Arfon, Dinbych, a Meirionydd—Llythyr cryf at y Parch. Edmund Jones—Taith i Orllewin Lloegr—Syr Watkin Williams Wynne yn erlid y Methodistiaid—Cymdeithasfa Llanbedr—Adroddiad am gasgliad—Cymdeithasfa Caerfyrddin—Y myfyrwyr yn rhuthro i'r Gymdeithasfa—Howell Harris yn Sir Benfro—Dadl a dau weinidog Ymneillduol.

YR ydym yn cael Howell Harris, y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd, yn Hwlffordd, yn Sir Benfro. Gwedi pregethu, bu mewn ymgynghoriad a'r gweinidogion Morafaidd, y rhai erbyn hyn oeddynt wedi sefydlu achos yn y dref. Tybiai mai gwell fyddai cael cynhadledd o'r Morafiaid a'r Methodistiaid, er symud rhyw feini tramgwydd. Nid oedd am undeb â hwy, ychwaith, ond am i'r ddwy blaid synio am eu gilydd mewn cariad. Tranoeth, y mae yn Longhouse, a'r noswaith hono yn Nhyddewi, lle yr oedd cynulleidfa anferth wedi ymgynull. Aeth yn ei flaen trwy Felindre, Llechryd, a Thy'r Yet, gan gyrhaedd Castellnewyddyn-Emlyn dydd Mercher, lle y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn; yr oedd yn hynod felus. Yna, pregethodd Harris, yn benaf ar gyflwr y deyrnas, yn wleidyddol a chrefyddol. Bu yn Gymdeithasfa hapus drwy ddi; teimlai Harris fod ei yspryd wedi ei uno ag eiddo y brodyr am byth. Ymdriniwyd ag amryw faterion, megys cateceisio, dyledswydd y seiadau i ymgynghori a'r arweinwyr cyn derbyn neb i'w mysg i bregethu, a pheidio goddef neb i fod yn bresenol yn y seiadau ond yr aelodau. Gwedi darllen yr adroddiadau, yn mysg y rhai yr oedd cyfeiriad at y tŷ seiat a gawsai ei adeiladu yn Llansawel, a chwedi trefnu. y Gymdeithasfa ddilynol, ymadawyd yn felus. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn cael ei wneyd at Daniel Rowland na Howell Davies; y mae yn debyg nad oeddynt yn bresenol. "Tybiaf," meddai Harris, "fy mod yn gweled pethau mawrion yn agoshau, gwedi yr ystorm a'r brofedigaeth ddiweddar, yr hon, mi a hyderaf, sydd yn agos trosodd." Dychwelodd trwy Maesnoni, Llangamarch, a Llansantffraid. Yn y lle diweddaf cafwyd gwaredigaeth ryfedd. "Yn y seiat breifat," meddai Harris, "yr oeddym i fynu y grisiau, tua dau gant o honom, a thorodd y trawst canol, fel y syrthiasom oll. Eithr ni thorwyd asgwrn i neb. Yr oedd plentyn bach yn y cryd o dan y cyfan; ond aeth estyllen ar draws y cryd, fel na chyffyrddodd dim a'r baban; yn wir, ni ddeffrodd o'i gwsg. Pe y digwyddasai bum' mynyd yn gynt cawsai llawer eu clwyfo." Aeth gyda Mr. Williams, offeiriad Llansantffraid, i'r eglwys, lle y gwrandawodd bregeth dra rhagorol. Gwedi pregethu ei hun, yn ofnadwy o ddifrifol, dychwelodd adref.

Yr wythnos ganlynol yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Agorwyd hi gyda phregeth gan Howell Harris, oddiar y geiriau: "Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i," &c. "Cefais yr Yspryd gyda mi yn wir," meddai, "i egluro iddynt natur cyfiawnhad; y modd yr ydym yn gyfiawn yn nghyfiawnder Crist; yn addfwyn yn ei addfwynder, ac yn ufudd yn ei ufudd-dod. Dangosais nad oes genym ddim cyfiawnder ynom ein hunain; a pha mor bell y gallwn fyned mewn gras, ac eto bod yn dra anwybodus am farwolaeth a chyfiawnder yr Iesu. Yn sicr, rhwygwyd y llen heddyw, a gwelodd llawer eu hunain yn gyflawn yn y wisg hon." Y mae yn amlwg nad oedd Harris yn glynu yn glos wrth ei destun, ond ei fod yn cymeryd rhyddid i fyned oddiwrtho at unrhyw wirionedd y tybiai mai buddiol fyddai ei draethu. Gwedi y bregeth yr oedd seiat gyffredinol i'r holl aelodau. Ac ymddengys ei bod yn gyfarfod rhyfedd; y dylanwadau dwyfol a lanwent y lle. Yn ngwres y cynhyrfiad, gwaeddai Harris: "Y chwi a fedr fyned ymaith, ewch; ni fynwn neb yma ond y rhai sydd a gorfodaeth. arnynt i ddyfod. Os nad ydych wedi eich geni oddi uchod; os nad ydych o rif y rhai y rhaid iddynt weddio, a bod yn ddiwyd gyda eu hiachawdwriaeth, cedwch draw. Ond nis gallwch gadw draw; y mae yn rhaid i chwi ddyfod, oblegyd yr Arglwydd sydd Dduw, a rhaid i bob peth roddi ffordd. O, gynifer o bethau sydd yn eich tynu yn y blaen! Y mae y cyfamod yn dweyd, Y mae yn rhaid iddynt ddyfod!' Y gwaed sydd yn dywedyd, Rhaid iddynt ddyfod! Felly hefyd y dywed gras, a'r addewidion." Hawdd deall fod tân Duw wedi disgyn i'r lle, a bod calon Harris yn llosgi yn ei fynwes. Yn y Gymdeithasfa, nid yw yn ymddangos i benderfyniadau o bwys gael eu pasio, ond cymhellai y Diwygiwr y cynghorwyr gyda phob difrifwch i osod i fynu gateceisio yn mhob man, ac i anog yr aelodau i ymgydnabyddu a'r Ysgrythyr.

Diwedd yr wythnos, cychwyna am daith o rai wythnosau trwy Wlad yr Haf, Devon, a Chornwall, ond ar ei ffordd y mae yn pregethu mewn amryw leoedd yn Siroedd Morganwg a Mynwy. Aeth y noson gyntaf tua Blaentawe, ac wrth groesi y mynyddoedd, yr oedd ei fyfyrdodau yn sefydlog ar yr Ysgrythyr, a theimlai fod Duw yn gydymaith iddo. Yr oedd y myfyrdod tawel hwn wedi nawseiddio ei yspryd ar gyfer yr odfa. Yr efengyl yn allu Duw er iachawdwriaeth oedd ei fater, a chafodd lawer o ryddid i lefaru. Boreu dranoeth, pregethodd yn Gelly-dorch-leithe, a'r nos yn Castellnedd. Ymddengys fod y seiat yn y lle diweddaf mewn cryn derfysg, fod ynddi rai o olygiadau Arminaidd, yr hon gyfundraeth nas gallai Harris ei goddef. Anerchodd yr aelodau yn gryf, aelodau yn gryf, dywedodd y rhaid iddynt ddewis y naill blaid neu y llall, nas gallent berthyn i'r ddwy. Yna, eglurodd athrawiaeth etholedigaeth, ac atebodd wrthddadleuon. "Paham y geilw Duw arnom i droi, oni feddwn allu i droi?" meddai y gwrthddadleuydd. Atebai yntau: "Os ydym ni wedi colli y gallu i gyflawni, nid yw yr Arglwydd wedi colli ei hawl i ofyn." Eglurodd, yn mhellach, ddarfod i Dduw roddi y gyfraith i ddyn er argyhoeddiad, dangos iddo ei fod yn golledig, a'i gau dan gondemniad. Gwedi hyn, esboniodd iddynt ei safle ei hun, y modd yr oedd yr Arglwydd a'r brodyr wedi ei osod yn ei le, fel Arolygydd cyffredinol dros y seiadau a'r cynghorwyr; ond rhag ofn hunangais nad oedd wedi defnyddio ei awdurdod; a gorchymynodd iddynt na oddefent i neb ddyfod i'w mysg i gynghori ond rhai wedi eu hawdurdodi i hyny. Tybia iddo fod yma, dan fendith Duw, yn foddion i rwystro rhwyg. Gwedi hyn ymwela a'r Hafod, a Nottage. Yn y lle diweddaf, datgana ei farn y byddai i'r Methodistiaid, y Wesleyaid, a'r Morafiaid, gael eu huno a'r Eglwys Sefydledig. Yn sicr, y dymuniad oedd tad y meddylddrych. Dranoeth, y mae mewn lle o'r enw Ffwrnes-newyddar-Daf. Yn y seiat breifat yma cododd Satan wrthwynebiad i athrawiaeth dirgelwch y gwaed, yn mherson rhyw gynghorwr anghyoedd. Ceryddodd Harris ef, a chan ei fod yn parhau yn gyndyn bu raid iddo ei ddiarddel. Y dydd canlynol, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn New Inn, Sir Fynwy. Llefarodd yntau yn helaeth ar ei le ei hun fel Arolygwr cyffredinol; ar ei benderfyniad i beidio gadael Eglwys Loegr, er ei fod yn caru yr Ymneillduwyr; anogodd i ddysgyblaeth mewn teuluoedd, ac ar i bob un adnabod ei le. "Gwedi i mi orphen," meddai, "cefais brofedigaeth oddiwrth y brawd Morgan John Lewis. Dywedai fy mod yn tra awdurdodi arnynt, ac yn eu cadw mewn caethiwed. Nad iawn i mi ddweyd fod pawb a'm gwrthwynebai i yn dywyll, yn gnawdol, a than lywodraeth y diafol. Nad oedd genyf awdurdod Gair Duw dros yr hyn a wnawn, a thros i bawb roddi i fynu eu cred i Grist a'i eglwys, ond fy mod wedi ei gael oddiwrth y Morafiaid. Dywedai ei fod ef yn bleidiol i Rowland, a bod genyf ragfarn at y Parch. Edmund Jones. Canlynwyd hyn gan derfysg dirfawr." A pha eiriau y darfu iddo ateb Morgan John Lewis nid yw yn dweyd; ond ymddengys i'r Gymdeithasfa fod yn dra anhapus. "Yr oedd llawer o frwdaniaeth yno," meddai, "a daeth Satan i lawr." Eithr ymddengys i bethau dawelu cyn y diwedd, ac iddynt drefnu amryw bethau yn heddychol.

Aeth yn ei flaen trwy Bryste, lle y cynhelid Cymdeithasfa, Bath, Wellington, Exeter, Kingsbridge, Plymouth, a St. Gennis, yn Cornwall. Parhaodd y daith hon am bum' wythnos, ac am ran fawr o honi yr oedd John Wesley yn gydymaith iddo. Tri diwrnod y bu gartref ar ol dychwelyd cyn cychwyn i Gymdeithasfa Fisol Llanfair-muallt. Yr oedd nifer o'r cynghorwyr wedi ymgasglu yma, yn nghyd â dau offeiriad, a'r boneddwr duwiolfrydig, Mr. Gwynn. Galarai Harris o herwydd fod Antinomiaeth ar gynydd yn y parthau hyn. "Arholais bregethwr," meddai, "a daethom i benderfyniad gyda golwg ar dŷ yma." Y "tŷ" hwn oedd Capel Alpha, yr hwn yn fynych, ond yn annghywir, a elwir yn gapel cyntaf y Methodistiaid yn Nghymru. Eu capel cyntaf yn Mrycheiniog ydoedd. Ymwelodd yn ganlynol a'r Tyddyn, lle y treuliodd y Sabbath. A oedd yma fath o Gymdeithasfa, nis gwydd om; ond penderfynodd ef a'r brodyr i wneyd y dydd Mercher canlynol yn ddydd gweddi dros Lewis Evan, yr hwn o hyd oedd yn y carchar. Gweddïodd yn daer dros Ogledd Cymru, ar i Air yr Arglwydd redeg; gwelai mai yn erbyn Duw yr oedd yr holl wrthwynebiad. Y dydd dilynol, yr oedd yn Penybont, Sir Faesyfed, a bu yn dra ĺlym yn y seiat breifat wrth y proffeswyr clauar. "Dangosais y ddyledswydd," meddai, "o roddi y cwbl a feddem. i'r Arglwydd, a chael pob peth yn gyffredin; a'r modd yr oedd yr Arglwydd wedi ymddwyn atynt hwy, a hwythau ato ef.

CAPEL ALPHA, LLANFAIR-MUALLT, SIR FRYCHEINIOG.

[Adeiladwyd gyntaf yn y flwyddyn 1747. Darlun yr ail Gapel ydyw hwn.]

Adroddais iddynt fy hanes; fy mod am amser wedi bod yn teithio haner can' milltir y dydd, ond na wnaent hwy ddyfod ychydig filltiroedd i'r cyfarfodydd, rhag ofn cael anwyd. Datgenais y trown allan bawb a absenolai eu hunain o ddwy seiat, pwy bynag a fyddent; na chaffai tŷ Dduw ei ddirmygu ganddynt, y caent deimlo awdurdod y weinidogaeth." "Yr ydym wedi derbyn cenadwri gan Dduw," meddai; "ac er nad ydym yn galw ein hunain yn esgobion, offeiriaid, na diaconiaid; eto, yr ydym yn weinidogion yr Arglwydd. Y mae Duw yn ein hadwaen. Yma yr oeddwn yn llym, oblegyd nad oedd ganddynt dŷ cwrdd, gan ddangos y gallai amryw o honynt gyfranu pum' neu ddeg punt. Llawer a ddarostyngwyd, ac a oeddynt yn ddrylliog, gan waeddi: 'Myfi yw y gŵr. A darfu i rai o honynt gyduno i gyfarfod, i adeiladu tŷ." Gwelwn ddau beth yn y difyniadau hyn. Sef (1) Fod capelau wedi cael eu hadeiladu mewn cryn nifer o leoedd yn mysg y Methodistiaid, fel y mae Harris yn ei theimlo yn ddyledswydd arno i geryddu seiat Penybont-lle gwledig, yn Sir Faesyfed-am na buasent hwythau wedi gwneyd yn gyffelyb. (2) Cawn yma, am y tro cyntaf, awgrym, ar ba un y gweithredodd Howell Harris ar ol hyn yn Nhrefecca, sef na ddylai Cristionogion ddal eiddo personol, ond bod a phob peth yn gyffredin rhyngddynt. Dranoeth, brysiodd Howell Harris i Drefecca, lle yr oedd Cymdeithasfa Fisol i gael ei chynal. Agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth ar y geiriau: "Pan wyf wan, yna yr wyf gadarn." Dywed ei fod yma mewn lle ofnadwy, yn sefyll megys rhwng y byw a'r meirw. "Yr oeddwn yn llym at yr Ymneillduwyr," meddai, "a'r holl broffeswyr cnawdol, gan ddangos eu bod oll yn ddigllawn wrthyf am fy mod yn eu ceryddu, ond mai mewn cariad yr oeddwn yn gwneyd hyny, a phe bai yn fy ngallu, y dyrchafwn hwy i fynu o'r llwch. Dangosais ein bod yn gyflawn yn Nghrist, yn ddyogel yn Nghrist, ac yn fwy na choncwerwyr ynddo ef." Yn y seiat breifat a ddilynai, daeth yr Arglwydd i lawr, a rhoddodd i Harris bethau newydd a hen i'w dweyd. Dangosodd nas gallent fyned yn ol, y rhaid iddynt fyned yn mlaen. Yn y Gymdeithasfa, nid yw yn ymddangos i unrhyw benderfyniadau gael eu pasio; treuliwyd yr amser trwy fod Harris yn adrodd am lwyddiant y gwaith yn Lloegr.

Ddechreu mis Mawrth, aeth i Lundain, lle yr arhosodd hyd y Pasg. Prin yr oedd wedi dychwelyd na chawn ef yn cychwyn drachefn i Gymdeithasfa Chwarterol Watford. Y dydd Gwener blaenorol i'r Gymdeithasfa, pregetha yn y Goetre, Sir Fynwy; ac yn y seiat breifat trinia yr aelodau yno yn llym. "Dangosais iddynt,' meddai, "y fath yspryd gwrthwynebol i'm gweinidogaeth oedd yma o'r cychwyn; mor ddiog oeddynt, fel na ddeuent dair milltir o ffordd, i'r New Inn, i'n cyfarfod cyffredinol; ac felly, eu bod yn gwneyd yr oll a allent i rwystro y gwaith. Eu bod yn absenoli eu hunain o'r Eglwys, ac yn gadael ei chymundeb, tra y mae yn amlwg ddarfod i'r Arglwydd ein galw yn y dull hwn; a'u bod yn gwanhau fy nwylaw yn fwy na neb. Dywedais, oni symudent yn mlaen, na ddeuwn i'w mysg; nas gallwn fyned lle nad oedd athrawiaeth y gwaed, a'r gwaed ei hun, trwy yr Yspryd, yn cael rhedeg yn rhydd. Os yw yr athrawiaeth yn faich arnoch, meddwn, y mae, mewn ystyr, felly i mi, oblegyd yr wyf yn appelio at Dduw nas gallaf beidio ei phregethu; nid gan ddyn na dynes ei derbyniais, ond gan Dduw; y mae genyf er ys saith mlynedd. Datgenais mai dyma fy ymweliad olaf, oddigerth i mi weled cyfnewidiad; yna, lleferais yn felus am y gwaed, a'r Yspryd a ddaeth i lawr, ac yr oeddym yn dra thyner." Yr oedd seiat y Goetre yn gyfagos i'r New Inn, lle y gweinidogaethai Morgan John Lewis, yr hwn oedd yn wrthwynebwr cryf i athrawiaethau neillduol Howell Harris, a rhydd hyn gyfrif am y gwrthwynebiad a deimlid yno at y Diwygiwr o Drefecca. Y mae yn ffaith awgrymiadol na ymwelodd Harris. y tro yma a'r New Inn. Aeth i Lanheiddel y Sadwrn; treuliodd y Sul yn nhy Robert Evans, ger Caerleon-arWysg; pregethodd yn Llanfaches dydd. Llun, ac yr oedd yn bur llym at yr aelodau. Daeth i Watford y nos cyn y Gymdeithasfa, a chlywodd y fath chwedlau, fel y gofidiwyd ei enaid ynddo. Nis gwyddai pa fodd i weithredu, gan fod rhyw gynghorwr wedi ei ddwyn yno a droisai efe allan, am nad oedd ei yspryd mewn cydymdeimlad a'r Methodistiaid. Yr oedd yno, hefyd, weinidog perthynol i'r Ymneillduwyr, yr hwn, yn groes i ddymuniad Harris, a elai o gwmpas y seiadau. Yn ei drallod, ymneillduodd i weddïo. Llewyrchodd yr Arglwydd arno pan ar ei liniau; dychwelodd at y brodyr, ac wrth gydymddiddan symudwyd rhan fawr o'i faich. Yna, aeth i'r Groeswen i wrando Daniel Rowland yn pregethu. Y testun oedd, Heb. vi. 7, a chafwyd odfa ryfedd; teimlai Harris ei serchiadau yn ymglymu am ei anwyl frawd wrth wrando, a hyny braidd yn dynach nag erioed.

Y peth cyntaf a wnaed yn y Gymdeithasfa oedd appwyntio tri brawd i gynorthwyo Howell Harris yn ei waith fel arolygydd, sef Benjamin Thomas, y gweinidog Ymneillduol, Thomas a Thomas Williams, o'r Groeswen, oedd y diweddaf, yn ddiau, a phrofa ei appwyntiad ei fod wedi ail-gysylltu ei hun yn llwyr a'r Methodistiaid. Daeth cryn gyffro ac anghydwelediad i fysg y brodyr wrth ymdrin ag achos y cynghorwr yr oedd Harris wedi ei ddiarddel. Er na ddywedir hyny yn bendant, awgryma y dydd-lyfr na chadarnhawyd y ddedfryd. Yn y cyfwng rhwng y cyfarfodydd cafodd Harris ymddiddan preifat pur faith â Rowland, ac ymddengys fod teimladau da yn ffynu rhyngddynt. "Yr Arglwydd a gymerodd ymaith y beichiau annyoddefol oedd yn gwasgu arnaf," meddai Harris; "cefais ryddid i ddweyd wrth y brodyr oll yr hyn a dybiwn oedd allan o le ynddynt, a'r modd y dylem gryfhau breichiau ein gilydd. Y dylai yr offeiriaid a minau ddweyd wrth ein gilydd y pethau a glywn, fel y gallwn ymdrin â hwy cyn dyfod i fysg y brodyr, onide y collwn bob awdurdod. Cefais nerth i geryddu balchder y brodyr, gan ddangos y dylai gwroldeb, callineb, ffyddlondeb, a thynerwch fod yn ein mysg yn wastad, ac y dylai pob un adnabod ei le. Cefais lef ynof am i'r Arglwydd ddyfod i'n mysg. Gwedi penderfynu amryw bethau, a threfnu cylchdeithiau y brodyr, ymadawsom yn hyfryd, wedi ein dwyn unwaith i fin ymraniad. Ar y terfyn, pregethodd Daniel Rowland oddiar y geiriau: "Onid oes balm yn Gilead?" Ar y cychwyn, yr oedd Harris yn sych; ond pan ddaeth y pregethwr at waed Crist, er mai ychydig eiriau a ddywedodd am dano, cyffrodd ei yspryd ynddo; gwelai ynddo ei hun fynydd o hunan, a byd o falchder; ond gwelai, hefyd, y cai ei waredu oddiwrth y cwbl, gan mai yr Arglwydd sydd Dduw. "Yr wyf yn cael," meddai," nad yw pregethu profiad yn fy mhorthi; eithr pan leferir am y Dyn Crist, yna yr wyf yn cael ymborth." Y mae yr ymadrodd nesaf yn anhawdd ei ddeall. "Crybwyllais wrth y brawd Williams," meddai, "ei fod yn ddeddfol, a'i fod ar ol mewn athrawiaeth, gyda gorchudd ar ei lygaid. Ond wrth ganfod yr Arglwydd gydag ef, ac yntau mor syml, gwnaed fi yn ddiolchgar am yr holl ddoniau a rodded i'r naill a'r llall o honom." Williams, Pantycelyn, ar ol mewn athrawiaeth! Yr ydym ni wedi arfer edrych arno fel y penaf, braidd, o'r duwinyddion; fel un, yn rhinwedd rhyw reddf ysprydol a drigai ynddo, yn dyfod i gydnabyddiaeth â gwirioneddau dwyfol, y methai y duwinyddion athronaidd, gyda eu holl resymeg, ymddyrchafu atynt. Tybiem mai efe oedd y nesaf yn ei syniadau o'r Diwygwyr Methodistaidd at olygiadau neillduol Harris, parthed agosrwydd perthynas y ddwy natur yn mherson ein Harglwydd. Cawn yn ei emynau lawer o'r ymadroddion ag y beïd ar y Diwygiwr o Drefecca am eu defnyddio. Ac eto, cawn yma Harris yn ei gyhuddo o fod yn ddiffygiol mewn duwinyddiaeth, ac o fod â gorchudd ar ei lygaid. Nid oes genym un esboniad i'w roddi ar hyn; rhaid i ni gymeryd y dydd-lyfr fel y mae.

Dydd Sadwrn, aeth i St. Nicholas, lle y cafodd odfa felus. Ar y terfyn, cafodd ymddiddan a'r cynghorwr anghyoedd, William Harry, am gryfhau yr undeb rhyngddo ef a'r brawd Rowland. Gwelai y cynghorwr y byddai rhwyg rhwng y ddau arweinydd yn ddinystr i'r seiadau. Ymwelodd, yn nesaf, a'r Aberthyn, lle y llefarodd yn llym, gan ddangos y byddai y rhai nad ydynt yn ufuddhau i'r efengyl yn waeth eu cyflwr na'r paganiaid. Nos Sadwrn, daeth i Lantrisant, a phregethodd yn gyffelyb i'r modd y gwnaethai yn Aberthyn. Yn y seiat breifat a ddilynai gwnaeth ei oreu i uno yr aelodau; cymhellodd hwynt i osod i fynu gateceisio. Boreu y Sul, aeth i'r eglwys, lle y cafodd ei loni gan bregeth dda; a chwedi hyny, yn y sacrament, profodd ddirfawr felusder. Dydd Llun, y mae yn yr Hafod, lle y llefara am natur y gwaith a gerid yn mlaen gan Dduw yn Nghymru er ys deng mlynedd bellach. Cynghora y rhai a gymunent yn y capelau Ymneillduol i barhau i wneyd hyny, a'r rhai a arferent gymuno yn yr Eglwys i barhau yr un modd. Dengys y modd yr arosodd yr Apostolion yn yr Eglwys Iuddewig, er fod yr un rhesymau ganddynt dros droi eu cefnau arni, ag sydd gan y Methodistiaid dros gefnu ar yr Eglwys Sefydledig. Yna, aeth tua Chastellnedd. Ar y ffordd yno gwelai fod Duw yn anfeidrol; yn anfeidrol yn ei berffeithiau, yn anfeidrol yn ei wirionedd, ac yn anfeidrol yn ei gariad, fel nad oes un gwrthddrych mewn un man i'w gymharu iddo. Yn Nghastellnedd, cyfarfyddodd â chwaer grefyddol, a fwriadai ail-briodi, yr hon a honai ei bod wedi cael ateb oddiwrth yr Arglwydd gwahanol i'r hyn a gawsai Harris; daeth hyn yn drwm arno, gan beri iddo lefain ar yr Arglwydd : "Paham y gosodaist fi yn y safle hon?" Eithr gwnaed ef yn dawel yn ei feddwl, gan weled mai yr Arglwydd a drefnasai y lle iddo, ac a roddasai iddo gymhwysderau ar ei gyfer, a hyny er mwyn ei ogoniant ei hun. Pregethodd gyda rhyddid mawr, oddiar Gal. vi. 1. Dangosai y fraint o gael canlyn Crist; taranai yn erbyn anwiredd, gan ddangos fod y cyfamod tragywyddol yn erbyn pechod o bob math. Yn y seiat breifat, gosododd ryw gasgliadau ger eu bron, ac anogodd hwynt i ddysgyblaeth. Dydd Mawrth, cawn ef yn myned i wrando Daniel Rowland, i rywle cyfagos i Gastellnedd. Pregethodd y brawd Rowland yn ogoneddus heddyw," meddai, "ar undeb y credinwyr; dangosodd yr angenrheidrwydd ar iddynt oll gyduno mewn cariad, ac ar i bob un adnabod ei le, ac aros ynddo, fel na bydd y frwynen yn tybio ei hun yn gedrwydden, a'r falwoden yn meddwl ei hun yn gawrfil. Mwynheais ef yn ddirfawr; gwnaed i mi lawenychu o'i herwydd; a theimlwn yr undeb agosaf ag ef, gan ddymuno cael byw a marw gydag ef. Yr oedd nerth anarferol yn cydfyned a'r Gair; llanwyd eneidiau o'r Arglwydd, a chwythodd awelon balmaidd drosom." Wedi y cyfarfod, aeth Harris i ymweled â brawd claf, oedd yn llawn o ffydd; yna, teithiodd Rowland ag yntau yn nghyd i Glanyrafonddu, pellder o bum'-milltir-ar-hugain, ac ymddengys fod Williams, Pantycelyn, yn y cwmni. "Cefais lawer o ryddid i ddweyd wrth y brawd Rowland am fy undeb ag ef," meddai Harris; "am i ni fod yn un i gadarnhau dwylaw ein gilydd, ac er meddu awdurdod, gan geisio ganddo ef gynorthwyo. Cyfeiriais, hefyd, at yr Cyfeiriais, hefyd, at yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth. Yr oedd ef yn gryf yn erbyn yr athrawiaeth am dystiolaeth yr Yspryd, ac yn ddolurus. ar Mr. Griffith Jones. Llwyddais i'w gymedroli yn y ddau beth. Bu pethau Bu pethau eraill yn destunau ymddiddan, megys fy ngalwad i bregethu; yr Urim a'r Thumim, &c." Dranoeth, wedi cyrhaedd Glanyrafonddu, ysgrifena drachefn: "Y ddoe, wrth drafaelu gyda y brawd Rowland, cefais lawer o ryddid, ond gwelaf fod cryn waith i'w wneyd eto gan yr Arglwydd. Siaredais am sancteiddrwydd y gwaith; am ein hannrhefn, ein diffyg dysgyblaeth, a'n pleidgarwch; ac am i ni gydweled yn breifat gyda golwg ar bob peth, fel y byddom yn myned i fysg yr eneidiau gan lefaru ag un llais. Dangosais am y modd y mae y gwaith i'w gario yn y blaen yn y canol, megys rhwng Esgobyddiaeth a Henaduriaeth; am y brawd Wesley yn dyfod i fysg ein llafur; ac am benderfynu i bob un ei le. Ymddiddanasom am y rhyfel; ac am y cri oedd yn fy enaid ar i mi adael bendith ar fy ol pa le bynag yr awn. Llefarais i'r byw wrtho ef, a'r brawd Williams, gyda golwg ar ysgafnder, am iddynt fod yn ofalus, fel y gallwyf geryddu y brodyr eraill, onide y byddai iddynt redeg am loches at eu hesiampl hwy; ac am iddynt oddef fy lle i yn y gwaith preifat, yr hwn sydd yn perthyn i'm lle a'm swyddogaeth."

Nid oes genym hamdden i sylwi ond ar un peth yn y difyniadau dyddorol hyn, sef yr ysgafnder y rhybuddir Rowland, a Williams, Pantycelyn, rhagddo. Nid oes genym sail o gwbl dros feddwl eu bod yn ddynion ysgeifn yn ystyr arferol y gair; yr oeddynt yn byw gormod yn nghymdeithas gwirioneddau dwysion yr efengyl i arfer ysgafnder; ond ymddengys eu bod yn naturiol yn siriol o dymher, ac yn medru mwynhau chwerthiniad iachus, gan weled yr ochr ddigrif i ambell ddigwyddiad; tra yr oedd Howell Harris, o'r ochr arall, mor eithafol o sobr a dwys, fel yr ymddangosai pob digrifwch iddo, pa mor ddiniwed bynag y gallai fod, fel yn agoshau i gymydogaeth yr hyn sydd bechadurus. Ymwahanodd y cyfeillion yn Glanyrafonddu, ac aeth Harris tua chyfeiriad cartref, gan bregethu ar y ffordd yn Llanddeusant, a Chefnyfedw. Dau ddiwrnod y bu yn Nhrefecca cyn cychwyn drachefn am daith i Sir Drefaldwyn. Ymddengys fod y cynghorwr William Richard yn myned gydag ef, fel cyfaill iddo. cyfaill iddo. Aethant trwy Ty'nycwm, a Llansantffraid, yn Sir Faesyfed, i Mochdref. Pregethodd yma yn Gymraeg ac yn Saesneg i nifer o bobl syml, yn dechreu dyfod i wrando yr efengyl. Ei destun oedd, Mat. xi. 28. "Cefais ryddid mawr," meddai, a llawer o nerth i'w gwahodd at Grist. Dangosais nas gallent gael eu hachub trwy eu gweithredoedd; ac os oeddynt yn ymddiried yn eu gweithredoedd, mai eilunaddolwyr ydynt, ac nad yw cariad Duw ynddynt." Gwedi y bregeth, cynhaliwyd seiat breifat; llefarodd y Diwygiwr ar waed Crist; aeth yn lle rhyfedd yno; a buont yn nghyd hyd dri o'r gloch y boreu, yn canu, yn gweddïo, ac yn cynghori. Bloeddiai Harris yn ddiymatal: "Y Gwaed! Y GWAED! Y GWAED!” ac yn y diwedd boddid ei lais gan floeddiadau y cynghorwyr oeddynt yn bresenol. Oddiyma aeth i Lanfair, lle y cafodd odfa rymus, wrth ymosod ar falchder. Yn nesaf, cawn ef yn Llanbrynmair, ac wrth ei fod yn llefaru am waed Crist, daeth yr Yspryd Glân i lawr yn rhyfedd. Dangosodd mai gwaed Duw ydoedd, a bod angenrheidrwydd anorfod am dano; yna, ymhelaethodd ar dduwdod Crist; ac nid oedd neb yn bresenol i wrthwynebu yr athrawiaeth. Yn y seiat breifat a ddilynai, gan fod llawer wedi ymgasglu yno o Môn, a Sir Gaernarfon, eglurodd natur y seiadau, dysgyblaeth y Methodistiaid, ei le ei hun yn mysg y Methodistiaid, yn nghyd a'r modd y dechreuasai fyned o gwmpas i bregethu. Ymhelaethodd, yn mhellach, ar y gwahaniaeth rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr, ei fod yn (1) Yn wahaniaeth mewn athrawiaeth, gan fod llawer o honynt hwy (yr Ymneillduwyr) yn Baxteriaid. (2) Yn wahaniaeth mewn dysgyblaeth, gan fod y Methodistiaid oddifewn i'r Eglwys Sefydledig. Ac yn (3) Yn wahaniaeth mewn yspryd. Yn nesaf, aeth i Blaen-Trefeglwys, lle y pregethodd oddiar 1 Ioan v. 4: "Oblegyd beth bynag a aned o Dduw y mae yn gorchfygu y byd." Cafodd odfa nerthol anghyffredin; daeth yr Arglwydd i lawr mor amlwg, fel y bu raid i'r pregethwr roddi i fynu, am y boddid ei lais gan floeddiadau y dyrfa. Oddiyno teithiodd i'r Tyddyn, a chlywodd am ryw frawd anwyl o gynghorwr a syrthiasai i amryfusedd, fel yr oedd yn rhaid ei dori allan. Aeth calon Harris yn ddrylliau wrth glywed; neshaodd at orsedd gras er gwybod meddwl yr Arglwydd ar y mater; a'r ateb a gafodd oedd fod gogoniant Duw a phurdeb y ddysgyblaeth yn galw am i'r cerydd gael ei weinyddu, ac y byddai yn foddion i gadw i lawr Satan a phechod. Yr oedd nifer o Siroedd Môn, Caernarfon, a Meirionydd yn y Tyddyn eto; yn wir, ymddengys eu bod yn ei ganlyn trwy ystod y daith; ac yn y seiat breifat a ddilynai y bregeth, cymerodd fantais ar eu presenoldeb i osod gerbron amryw faterion amgylchiadol. "Gosodais o'u blaen," meddai, "achos y tŷ yn Sir Gaerfyrddin; y cynghaws cyfreithiol; a dwyn ffrwyth i'r Yspryd, sef yn benaf, gostyngeiddrwydd. Dywedais y rhaid i ni enill, pa un a gariwn y gyfraith a'i peidio, am fod Duw gyda ni. Anogais hefyd i ddysgyblaeth; gan ddangos pe na byddai ond chwech yn y seiat, fod hyny yn ddigon i fyned yn mlaen yn yr Arglwydd, ac y gwnai efe ychwanegu atynt. Wedi gorphen pregethu, yr oeddwn gyda yr holl bregethwyr; gwelwn fy lle, a bod yr Arglwydd wedi rhoddi goleuni a doniau i mi i'w lanw. Yna, wedi gweddïo, ymadawsom yn felus a'r wyn o'r tair sir bellenig." Tebygol mai capel Llansawel a feddylia wrth y tŷ yn Sir Gaerfyrddin." At ba gynghaws cyfreithiol y cyfeiria sydd anhysbys; yr oedd y Methodistiaid, druain, yn cael eu herlyn mewn rhyw lys neu gilydd yn barhaus yr adeg hon. Tramwyodd oddiyma i Ddolyfelin, a Llanfair-muallt, gan gyrhaedd adref wedi absenoldeb o ryw naw diwrnod. Cronicla fod dylanwadau anarferol yn cydfyned a'i weinidogaeth yn ystod y daith hon. Dylasem grybwyll fod Cymdeithasfa Fisol yn Llanfair-muallt, ac, yn ol cyfrif Harris, yr oedd o bedwar i bum' cant o aelodau yn bresenol.

Yr wythnos ganlynol, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Merthyr Cynog. Daeth y cynghorwr Beaumont i Drefecca y dydd blaenorol; dywedodd Howell Harris wrtho am y pethau a welai allan o le yn y seiadau dan ei ofal, a chyfeiriodd at y dadleuon a'r eiddigedd oedd yn eu mysg. Cydunasant ar ddau beth, sef fod pob un at ei ryddid i draethu y genadwri yn ei ffordd ei hun, ond iddo wneyd hyny mewn symlrwydd; ac yn nesaf, mae yr hyn sydd yn oll-bwysig mewn pregeth yw fod yr Arglwydd ynddi. Aethant yn nghyd tua'r Gymdeithasfa. Ar y ffordd, dadleuai Beaumont mai unig. ddefnydd y ddeddf yw egluro trueni pechadur; na ddylid anog neb i rinwedd, oblegyd fod y ddeddf yn ei orchymyn, ond mai cyfeirio y pechadur at Grist a ddylid. Atebai Harris fod yr athrawiaeth hon yn sawru o Antinomiaeth. Yn Merthyr, ceisiodd Harris ddwyn rhai aelodau crefyddol, oeddynt wedi cwympo allan, i gymod; ond ofer a fu ei ymdrech. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn, ar y morwynion ffol. Gofidiai Harris yn ddirfawr wrth glywed mor lleied o Grist ynddi; tybiai ei bod yn ddeddfol; ac eto, ymdawelai, gan gredu fod y pregethwr yn llaw Duw, ac y byddai iddo ef ei dywys i'r iawn. Gwedi darfod yr odfa, ceryddodd Harris y pregethwr am ryw ymadroddion deddfol a ddefnyddiasai; ond ni dderbyniodd Williams y cerydd mewn yspryd gostyngedig, eithr gwresogodd ei dymher. Dywedai ei fod yn caru pawb, ac na ofalai pa foddion a ddefnyddiai i yru pobl oddiwrth eu pechodau. Eithr cafodd Harris wledd i'w enaid wrth wrando ar Morgan John Lewis yn pregethu ddirgelwch yr iachawdwriaeth yn Nghrist. Dangosai na wnaeth yr Iesu ddim fel Duw, na dim fel dyn, ond pob peth fel Emmanuel; eglurai y modd y dywedasai Crist yn y tragywyddoldeb pell: "Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys, o fy Nuw; a'r modd yr oedd yr Oen wedi ei ladd er dechreuad y byd; dywedai fod nid yn unig ein heuogrwydd wedi ei roddi arno, ond hefyd ein hanwireddau. "Cefais fwy o undeb ag ef nag erioed," meddai Harris; "nis gallwn beidio ei garu." Aeth y ddau yn nghyd yn gariadus i Drefecca, ac agorodd Harris ei holl fynwes i'w gyfaill, gan bwysleisio ar yr angenrheidrwydd am ragor o undeb rhyngddynt, a mynu deall eu gilydd cyn myned gerbron y bobl.

Yr ydym wedi cael aml gyfeiriad yn y dydd-lyfr gyda golwg ar y ddau Wesley yn dyfod i mewn i lafur y Methodistiaid yn Nghymru. Ymddengys fod John Wesley wedi pregethu yn Nghaerdydd, ac hefyd yn Nghastellnedd, a rhyw leoedd eraill, efallai, yn y Dywysogaeth, yn ystod y flwyddyn 1746, ac ofnai y brodyr Cymreig y ceid dau enwad o Fethodistiaid yn Nghymru, a'r naill yn tynu dan sail y llall. Er cael cyd-ddealltwriaeth ar hyn, gwahoddwyd John Wesley i Gymdeithasfa, a gynhelid yn Mryste, diwedd Ionawr, 1747, ac y mae y penderfyniad y cydunwyd arno yn bwysig a dyddorol. Fel hyn ei ceir yn nghofnodau y Gymdeithasfa: "Ofnid, oblegyd ddarfod i Mr. Wesley bregethu yn Nghastellnedd, mai y canlyniad a fyddai ymraniad yn y seiat. Atebodd Mr. Wesley: Nid wyf yn bwriadu gosod i fynu seiat yn Ngastellnedd, nac mewn unrhyw dref arall yn Nghymru, lle y mae seiat yn barod; ond i wneyd yr oll a allaf i rwystro ymraniad.' Ac yr ydym yn cyduno oll, pa bryd bynag y bydd i ni bregethu yn achlysurol yn mysg pobl ein gilydd, y bydd i ni wneyd ein goreu, nid i wanhau, ond i gryfhau dwylaw ein gilydd, a hyny yn arbenig trwy lafurio i rwystro ymraniad. A chan fod ymraniad wedi cymeryd lle yn Ngorllewin Lloegr, cydunwyd fod brawd oddiwrth Mr. Wesley i fyned yno, gyda y brawd Harris, i geisio iachau y clwyf, ac i anog y bobl i gariad. Cydunwyd, yn mhellach, i amddiffyn yn ofalus gymeriad y naill y llall." A'r adran berthynol i Gymru o'r penderfyniad y mae a fynom ni.

Y mae yn sicr i John Wesley gadw at y cytundeb yn deyrngar, ac mai hyn sydd yn cyfrif am y ffaith na wnaeth Wesleyaeth ei hymddangosiad yn y Dywysogaeth hyd ddechreu y ganrif ddilynol. Teimlai y ddwy adran o'r fyddyn Fethodistaidd, er eu bod wedi ymwahanu, a'u bod yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd. ar rai athrawiaethau o bwys; eto, eu bod wedi cychwyn o'r un ffynhonell, ac yn cael eu llywodraethu gan y cyffelyb yspryd, a'u bod yn rhy agos gyfathrach i ymosod ar eu gilydd trwy osod i fynu seiadau gwrthwynebol.

Ganol mis Mai, cychwynodd Howell Harris am Lundain, a bu yno am agos i ddau fis o amser. Prin y cafodd fod gartref dri diwrnod wedi dychwelyd, nad oedd galw arno i fyned i Gymdeithasfa Chwarterol Cilycwm. Dywed y dydd-lyfr fod y Gymdeithasfa yn cael ei chynal yn y "Tŷ Newydd," yr hyn a brawf fod yma gapel Methodistaidd wedi ei adeiladu.

Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Peter Williams, y tro cyntaf y darllenwn am dano yn pregethu mewn Sassiwn. Ei destun oedd: "Mor gu genyf dy gyfraith di," a phregethodd yn rhagorol, meddai Harris. Ar ei ol, pregethodd Daniel Rowland yn ardderchog. Teimlai Harris fod yma genadwri oddiwrth yr Arglwydd ato ef; toddwyd ei enaid o'i fewn; ac er fod yn y bregeth rai ymadroddion deddfol, teimlai yn ddiolchgar fod gan Dduw y fath ddyn i sefyll i fynu drosto. "Cefais dystiolaeth ynof," meddai, "fod Duw wedi dyfod i'r gwersyll yn erbyn Satan a phechod, ac felly ein bod yn sicr o'r fuddugoliaeth." Gwedi llawer o gymhell, ufuddhaodd Howell Harris i bregethu, a chafodd odfa hapus iawn. Ymddengys ei bod yn Gymdeithasfa ddedwydd drwyddi. "Yr oeddym yn ddedwydd ac yn gariadlawn," meddai y dydd-lyfr; "a phenderfynasom amryw bethau, yn tueddu at well dysgyblaeth, yn hollol unol, y rhai y methem eu penderfynu yn flaenorol. Darfu i ni gadarnhau dwylaw ein gilydd, a threfnu rheolau parthed priodas. Cawsom hyfrydwch' dirfawr wrth ganu a gweddïo; ac yr oedd yn felus fod yr Arglwydd wedi rhoddi i ni seibiant oddiwrth ystorm enbyd." O'r Gymdeithasfa, aeth Howell Harris i'r Ceincoed, lle y preswyliai Peraidd Ganiedydd Cymru ar y pryd. Boreu dranoeth, pregethodd Thomas Williams, y Groeswen, a Harris ar ei ol. Gwaed Crist, yn ei rinwedd, ei ogoniant, a'i anfeidroldeb, oedd mater Harris; ac ychwanega fod y brawd Williams, Pantycelyn, yn gwrando. Wedi yr odfa, aeth Howell Harris a Thomas Williams yn nghyd i Drefecca, a chawsant gyfeillach felus ar y ffordd.

Tua dechreu Awst, cawn y Diwygiwr yn cychwyn am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Pregethodd yn nghyntaf yn Llanfair-muallt, ar yr heol, i gynulleidfa anferth o bobl. Ffynon wedi ei hagor i dŷ Dafydd ac i breswylwyr Jerusalem oedd ei fater; ac efengylai yn felus, gan wahodd pawb i'r ffynon. Yn y seiat breifat, bu yn ymdrin a'r tŷ cwrdd y bwriedid ei godi yn y dref. O Lanfair, aeth Mr. Gwynn ag yntau i Glanirfon, ger Llanwrtyd; cyfrifa fod y gynulleidfa yma yn ddwy fil o bobl. Dirgelwch ein cyfiawnhad a'n sancteiddhad yn Nghrist, trwy ei fod ef yn cael ei wneyd yn bechod trosom, oedd ei fater, ac ymddengys iddo gael odfa rymus. Yr oedd ganddo daith o ugain milltir i Gayo, ac yr oedd yn hwyr arno yn cyrhaedd yno; felly, yr oedd y gynulleidfa a ddaethai i wrando arno wedi gwasgaru. Pregethodd boreu dranoeth, modd bynag. Sylwa yma, nad oedd mewn angen am drefnusrwydd, na chanlyn testun, wrth bregethu: "Yr Arglwydd sydd yn siarad," meddai; "yr wyf finau yn argyhoeddi, yn taranu, yn cymhell, neu ynte yn cyhoeddi fod Duw wedi caru y byd, yn union fel y byddaf yn cael fy nghyfarwyddo." Awgryma y sylw mai pregeth ddidestun a roddodd yn Nghayo. Y lle nesaf y pregetha ynddo yw y tŷ cwrdd newydd yn Llansawel; ffynon wedi ei hagor yw y testun; a dywed ei fod yn enbyd o lym at y rhai a broffesent grefydd, ond a aent at yr Ysgrythyr gyda goleuni natur. "Yr oedd yr Arglwydd yn amlwg yn mysg y bobl," meddai; "llawer oeddynt yn ddrylliog, ac a fendithiwyd." Trafaelu yn fras y mae, a chawn ef y noson hono wedi croesi y gadwyn fynyddoedd sydd ar derfyn gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin, ac wedi cyrhaedd Maesnoni. Cyd-deithiai ag ef yno ryw glerigwr ieuanc, newydd gychwyn gyda chrefydd, a chynghorai Harris ef yn ddifrifol iawn i fod yn ffyddlawn i Dduw, ac i'r eneidiau dan ei ofal, a pheidio ymgynghori â chig a gwaed. Ei destun yn Maesnoni oedd, Rhuf. vii. 21. Yr oedd dau offeiriad a chynghorwr yn gwrando arno, a chafodd awdurdod a nerth i'w rhybuddio, fel y byddai iddynt. ateb i Dduw, ar iddynt bregethu y gwaed i'r bobl. Yna, aeth at ei hoff bwnc, dirgelwch y Duwdod, a dirgelwch Crist. "Y Dyn hwn yw Duw," meddai, “nid oes un Duw arall. Dangosais fod rhai Cristionogion yn gwneyd tri Duw, ac yn edrych ar y Tad fel uwchlaw Crist." Dranoeth, sylwa drachefn: "Neithiwr, dangosais nad oes yr un Duw ond Crist; nad yw y Tad a'r Yspryd yn Dduwiau eraill, onide na fyddai yr un o honynt yn Dduw; eto, mai y Gair, ac nid y Tad na'r Yspryd, a wnaed yn gnawd. Dangosais y modd y daeth Duw yn ddyn, ac y bu farw, a bod ei waed yn waed Duw." Y lle nesaf y pregetha ynddo yw Cwmcynon, a dirgelwch y gwaed yw y mater. Oddiyno, teithiai trwy Pengwenallt, Llwynygrawys, lle y teimlai yn wael ei iechyd, ac Abergwaun. Odfa ddilewyrch a gafodd yn y lle diweddaf. Dydd Sul, wythnos wedi ei gychwyniad o gartref, cawn ef yn Nghastellyblaidd. Aeth yn y boreu i eglwys Hay's Castle, "lle y mae yr Arglwydd yn casglu ei braidd yn nghyd i'w porthi trwy y brawd Howell Davies," ac efe a weinyddai yn yr eglwys y boreu hwnw. "Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd," oedd ei destun; eithr teimlo yn galed a chnawdol a wnelai Harris wrth wrando. Eithr ar y cymundeb a ddilynai, daeth yr Arglwydd i lawr, a gwnaed pen Calfaria yn hynod felus, wrth fod yr Yspryd yn ei ddangos. "Cefais olwg fwy ardderchog nag erioed ar fendithion a chyfoeth Calfaria," meddai; "yr wyf yn myned it fynu ato ef yno, lle y mae pechod a marwolaeth yn cael eu concro. O, Calfaria! Calfaria! Dyma lle y mae pardwn a phob bendith i'w cael." Gwedi hyny, pregethodd yntau, oddiar Eph. iii. 18, a chafodd odfa rymus anarferol. Y noson hono, aeth i Longhouse, lle y cadwodd seiat breifat, gan ymdrin â nifer o faterion, megys y pleser o gyfarfod Paul, Petr, a Dafydd, yn y nefoedd, gwobrau ffyddlondeb, a'r angenrheidrwydd am oddefgarwch. Ac yna aeth at ei hoff fater, sef dirgelwch Crist.

Dydd Mercher, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Hwlffordd, ac aeth yntau yno. Ar y ffordd, gweddïai yn daer dros y brodyr, ar i hunan gael ei ddinystrio ynddynt, ar i Dduw fod oll yn oll, ac ar i bob un weled ei le ei hun, a lle eraill. Pwy oedd yn y Gymdeithasfa, ni ddywed, ac ni chronicla ymadroddion neb, oddigerth ei eiddo ei hun. Agorodd y gynhadledd gydag anerchiad, yn yr hwn yr aeth dros nifer mawr o wahanol faterion ; dangosodd y modd y tywynodd goleuni yr addewidion amodol arno gyntaf; y modd y dylai ffydd, gras, a gwaith, gael eu pregethu yn eu lleoedd priodol, a'r angenrheidrwydd am dlodi yspryd. Yr oedd yn dra llym wrth gyfeirio at falchder a difaterwch, ac at y rheidrwydd i bob un adwaen ei le, ei berthynas a'r corph, ac a'r Pen. Ymddengys fod rhywrai yn euog o dori eu cyhoeddiadau y pryd hwnw, a dywedai Harris y dylent gael eu hatal i bregethu am flwyddyn. Yna," meddai, "cyfeiriais at waith rhai o'r offeiriaid yn fy nghyhuddo o fod wedi cyfnewid mewn athrawiaeth, ac yn fy ngalw yn Antinomiad. Ymgyngorasom am y modd i dderbyn i'r seiat, ac i dori allan. Gwelwn nad oedd yr un dull ddim yn gweddu pob man, ac y rhaid i ni ymwadu a'n rheswm ein hunain. Yr oeddwn yn finiog wrth. gyfeirio at dderbyn wyneb, ac am yr angenrheidrwydd i ni gryfhau dwylaw ein gilydd, a dywedais fy mod wedi dod yno i gryfhau dwylaw yr offeiriaid. Yna, aethum i'r ystafell, lle y lleferais oddiar Mat. viii. 26." Gwedi y bregeth, bu seiat drachefn; eisteddodd y cynghorwyr a Harris i fynu hyd ddau o'r gloch y boreu, a dywed ei bod yn noswaith fendigedig. Ymddengys ei bod yn Gymdeithasfa hapus, a phawb yn cydweled; ond y mae yn dra thebyg nad oedd neb o'r offeiriaid yno, a bod Howell Harris yn cael pob peth yn ei ffordd ei hun. Oddiyma, pasia trwy Walton-West, Llangwm, a Mounton, ac yna dychwel i Drefecca, wedi taith o un diwrnod-ar-bymtheg. Y mae yn deilwng o sylw na alwodd y tro hwn yn y Parke, cartref Howell Davies, er ei fod yn pasio yn agos, nac ychwaith yn Llangeitho. Er ei fod yn cydweithio a'i frodyr hyd yn hyn, hawdd gweled fod ei deimladau atynt wedi oeri, ac nad oedd, fel cynt, yn dyheu am eu cymdeithas. Gyda golwg ar y cyhuddiad o Antinomiaeth, y cyfeiria ato fel wedi cael ei ddwyn yn ei erbyn gan un o'r offeiriaid, efallai fod rhyw gymaint of sail iddo. Cymdeithasai ormod a Beaumont, yr hwn a gyfeiliornasai yn bur bell i gyfeiriad Antinomiaeth; wedi bod yn nghyfeillach y brawd hwnw, a chael ei ddylanwadu i raddau ganddo, byddai yn defnyddio ymadroddion nas gellid eu cyfiawnhau, ac yn galw pregethu dyledswydd yn ddeddfol; ond wedi ymryddhau oddiwrth ddylanwad Beaumont, deuai yn ei ol drachefn.

Y mae yn ddrwg genym fod y dyddlyfr, o ganol Awst hyd ddiwedd mis Hydref, ar goll, ac y mae ein gofid yn fwy oblegyd iddo gymeryd taith i'r Gogledd yn mis Hydref. Cawn ef yn ysgrifenu at ei wraig o Lanbrynmair, Hydref 21; ac y mae olysgrif i'r llythyr o'r Bala, y dydd Gwener canlynol. Fel hyn y dywed: "Daethom yn ddiogel yma, a hynod fel y mae yr Arglwydd wedi bod gyda ni. Y mae Duw wedi cymeryd y lle hwn; ni chawsom ddim gwrthwynebiad; ond yr oedd pob peth yn dawel. Nid yw yn debyg y cawn ein rhwystro mwy. mhen deuddeg diwrnod yr wyf yn gobeithio eich gweled eto. Yr ydym yn myned i Sir Gaernarfon, a Môn, ac yna trwy Siroedd Dinbych, a Meirionydd." Tebygol fod James Beaumont gydag ef fel cydymaith. Cawn ef yn yr Amwythig, Hydref 31, yn dychwelyd adref, ac yn ei ddydd-lyfr ysgrifena fel y canlyn: "Daethum yma neithiwr, gwedi taith yn Ngogledd Cymru, lle y dysgwyliaswn y cawn fy llofruddio, a'r lle yr oedd y drws wedi cael ei gau yn fy erbyn am rai blynyddoedd, gan lid y werinos, a chwerwder y clerigwyr, y rhai a gawsent eu cynhyrfu yn waeth am fod y bobl yn gadael yr Eglwys yn hollol ar ol fy ngwrando. Yn awr y mae y drws yn agored, ac er i mi fod yn y Bala, a Sir Gaernarfon, lle y buaswn mewn perygl am fy mywyd, yr oedd y gelyn wedi ei gadwyno, ac yr wyf yn gobeithio i lawer o dda gael ei wneyd. Sefydlwyd seiadau; llawer o'r rhai a adawsent yr Eglwys a arweiniwyd i ddyfod yn eu hol, ac i aros ynddi. Cefais fy nerthu yn oruwchnaturiol i drafaelu o gwmpas deg-milltir-ar-hugain y dydd; it aros i lawr hyd ddeuddeg, a thri, a chwech o'r gloch y boreu; i drefnu seiadau, i holi eneidiau, ac i bregethu. O Arglwydd, ti a glywaist ein gweddïau, ac a roddaist i mi i ddychwelyd. Ti a roddaist i mi i weled dy iachawdwriaeth yn dyfod i Ogledd Cymru, druenus a thywyll. Ymwelaist a'r bobl a eisteddent mewn tywyllwch Aiphtaidd tew. Tebygol y gwneir gwaith mawr yn Siroedd Meirionydd, Caernarfon, Môn, a Dinbych; gellid meddwl fod tueddfryd at wrando yn y bobl; O na chyfrifid fi yn deilwng i ddwyn cenadwri y Brenhin." Felly yr ysgrifena y Diwygiwr yn yr Amwythig, ar ei ffordd adref. Hyfryd fuasai genym ei ganlyn trwy yr holl daith, gan ddeall â pha leoedd yr ymwelai, a pha fath odfa a gaffai yn mhob lle; ond o'r pleser hwn yr ydym wedi cael ein hamddifadu. O'r Amwythig, tramwyodd trwy Berriw, y Tyddyn, a Llanfairmuallt, gan bregethu yn mhob lle ar ei ffordd i Drefecca.

Cyn myned i'r Gogledd, ysgrifenodd lythyr pwysig at y Parch. Edmund Jones; ac er meithed y llythyr, teimlwn y dylai gael ei osod i mewn yn llawn, ar gyfrif ei eglurder, ei yspryd Cristionogol, a'r goleu a deif ar amryw gwestiynau. Fel hyn y darllena: "Anwyl frawd,-Yr wyf yn cael, oddiwrth lythyr o'r eiddoch at Mr. Price, fy mod yn cael fy nghyhuddo o haeru pethau croes i Air Duw, a chroes i'm hymadroddion fy hun ar adegau eraill. Ac nid hyny yn unig, ond hefyd o haeru. mai Duw sydd yn rhoddi hyn i mi yn ddigyfrwng, ac felly, fy mod yn gwneyd Duw yn gelwyddog. Yr ydych yn meddwl fod hyn yn beth enbyd; yr wyf finau yn meddwl yr un peth; ac oddiar pan ei clywais yr wyf wedi bod yn holi fy hun, gan wysio fy nghydwybod i gyflawni ei swydd, ond yr wyf yn methu cael fy hun Ar ba seiliau y gwneir y yn euog. cyhuddiad, nis gwn; a pheth a allaswn ddweyd, oddiwrth yr hyn y gallai rhai pobl dda, trwy gamddeall, trwy demtasiwn Satan, neu trwy fy mod yn llefaru yn aneglur, rywbryd neu gilydd, gasglu y cyfryw syniad, nis gallaf gofio; gan nad wyf wedi cael clywed pwy yw y cyhuddwyr, na pheth yw y geiriau a ddefnyddiais. Ond os defnyddiais y cyfryw ymadroddion, neu rywbeth yn ymylu arnynt, yr wyf yn datgan fy mod yn ofidus am danynt. Ond synwn fy mod yn cael fy nghyhuddo, fy mhrofi yn euog, a chael ymddwyn ataf felly, a minau heb glywed dim am y peth. Yr oeddwn yn tybio na wnelai Mr. Jones ymddwyn felly at neb. Efallai eich bod yn meddwl wrth ysgrifenu at arall, heb fy hysbysu i, y cymerwn y cerydd yn fwy tirion gan arall. Ond beth bynag am hyny, nid oedd hyn yn ganlyn y rheol wrth ba un yr ydym i rodio. Ar yr un pryd, gallaf ddweyd fy mod yn ddiolchgar i ddyfod i wybodaeth am fy ffaeleddau rywfodd, oblegyd gwn fy mod yn llawn o honynt. Os gellwch edrych arnaf mewn unrhyw ystyr fel yn cael fy nefnyddio gan Dduw, er fy mod, yn ol y goleu sydd genych chwi, yn cael fy nghamarwain; os gellwch edrych arnaf fodd yn y byd fel brawd, neu gydweithiwr, byddai yn dda pe na baech yn rhoddi coel i adroddiadau sydd yn rhwystro cariad brawdol, yr hwn, y gallaf ddweyd, fy mod yn ei gael yn fy enaid atoch chwi. Er fy mod wedi meddwl fod eich zêl dros Annibyniaeth wedi eich cario weithiau yn rhy bell, i geisio rhwystro y gwaith ag y mae yr Arglwydd, yr wyf yn gostyngedig dybio, wedi ei ymddiried i mi; ac er fy mod wedi ei chael yn ddyled swydd i wrthdystio yn erbyn rhai mesurau a gymerasoch; oni wnaethum hyn mewn gostyngeiddrwydd, a chyda chariad a phwyll, yr wyf yn edrych arno fel un o'r pethau ag y mae yn rhaid i mi alaru o'u herwydd bob dydd.

Bid sicr, y mae rhyw bethau yn ein golygiadau a'n barnau yn ein cadw i raddau yn mhell oddiwrth ein gilydd. Yr wyf wedi, a throsof fy hun yn, dymuno ar i bawb a arddelir i unrhyw fesur gan yr Arglwydd gael cyfleusderau cyffredinol i gyfarfod, i gydymddiddan, ac i benderfynu ar ryw reolau i rwystro oerfelgarwch, rhagfarn, celwydd, a gwanhau dwylaw ein gilydd. Gyda golwg ar y profion a ddygwch yn mlaen y byddai yn well i ni adael yr Eglwys Sefydledig, a'r haeriad ei fod yn ein bwriad i osod ein hunain i fynu fel eglwys; nid wyf yn foddhaol gyda golwg ar y naill na'r llall. Am y diweddaf, ni chlywais gymaint a son am dano o'r blaen. Am y cyntaf, buasai yn dda genyf pe baech yn fy hysbysu parthed defnyddioldeb y brodyr sydd wedi ein gadael. Yr ydych chwi yn addef fod crynswth y bobl ydynt yn marw o eisiau gwybodaeth yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig; ac y mae drysau newyddion yn agor iddynt yn barhaus o fewn cylch eu Heglwys eu hun. Am y brodyr a'n gadawodd, y maent eu hunain yn cyffesu eu bod yn cael mwyaf o'r Arglwydd pan y cyfarfyddant a'u hen gyfeillion. Nid wyf yn cael eu bod yn cael eu bendithio i ail-ddeffro y proffeswyr cysglyd, yn mysg pa rai y maent. A chan fod arnom eisiau cymhorth i fyned allan yn erbyn byd tywyll a drwgdybus, nis gallaf lai na chredu ddarfod i gylch eu defnyddioldeb gael ei gyfyngu yn ddirfawr, o herwydd eu bod yn gadael y gwaith cyhoeddus am un llai cyhoeddus. Gyda golwg ar ein bod yn rhwystro pobl i uno â rhyw frodyr Ymneillduol, nis gallaf lai nag edrych ar y cyhuddiad fel un hollol annheg, gan ei fod yn gwbl wybyddus i'r nifer amlaf o'r cynulleidfaoedd (Ymneillduol), y darfu i ni sefydlu yn eu cymydogaeth, gael eu cynyddu a'u bywhau trwy ein hofferynoliaeth. Yn ol y goleuni a feddem, ymddangosai i ni nad oedd yr eneidiau yn llwyddo (yn mysg yr Ymneillduwyr), ac addefent hwy eu hunain mai yn ein mysg ni yr oeddynt yn cael eu porthi. Am eraill, oeddynt yn fywiog, ac yn taflu eu heneidiau i'r gwaith, tra gyda ni, gwedi iddynt ymneillduo, hwy a aethant yn glauar a difater. Felly, yn lle cynyddu mewn bywyd ysprydol, hwy a aethant yn ol. Eraill a gawsant eu tramgwyddo, a'u cadw rhag dyfod i wrando arnom, trwy dybio ein bod mewn cyfrwysdra yn honi perthynas ag Eglwys Loegr. Yr oedd rhagfarn y rhai hyn yn annyoddefol, a gwnaent eu goreu i dynu pobl o'r lleoedd, yn mha rhai y darfu i'r Yspryd Glân eu cadw, a'u porthi am amser maith. Os ar yr ystyriaethau hyn y darfu i mi lefaru yn erbyn ymddygiadau rhai o honoch, ond i chwi gadw mewn cof y rheol am wneyd i eraill fel yr ewyllysiech i eraill wneyd i chwithau, bydd i'ch digofaint gael ei leddfu i raddau mawr. Pe y deuai rhywrai i fysg y bobl y buoch chwi yn offerynol i'w galw, a'u casglu allan o'r byd, gan eu harwain ar gyfeiliorn; yn enwedig os oeddynt yn hollol dawel pe y cawsent lonydd; a phe y caech eu bod mewn canlyniad yn myned i wrando pregethwyr nad oeddych yn hollol foddhaus ar eu hathrawiaeth, oni theimlech hi yn galed fod y rhai hyn (sef y rhai a arweinient eich pobl ar gyfeiliorn) yn cwyno am eich bod yn ceisio cadw eich cynulleidfaoedd yn nghyd, tra mewn gwirionedd mai hwy oedd yr ymosodwyr, ac a ruthrasent i mewn i lafur rhai eraill?

Y mae ein rhesymau dros aros yn yr Eglwys Sefydledig yn ymddangos i ni yn drymach o lawer na'r rhesymau dros ei gadael. Felly, credem y pechem yn erbyn yr Arglwydd a'i waith pe y troem ein cefnau arni; a rhoddem gyfle i'r gelyn i rwystro y diwygiad gogoneddus, yr hwn sydd yn helaethu ei derfynau bob dydd. Yn fy nhyb ostyngedig i, pe y codasai rhyw ddiwygiwr yn mysg yr eglwysi Ymneillduol, heb osod i fynu gynulleidfaoedd ar wahan, buasai yn gwneyd mwy o wasanaeth i eglwys Dduw, ac yn rhoddi llai o dramgwydd i eraill. Yr wyf yn dweyd hyn yn unig fel fy syniad i ar y mater; nid wyf yn barnu; gwn fod gan Dduw amrywiol fwriadau, felly, yr wyf yn ddystaw. . . . Fy marn i ydyw, a dyna oedd eich barn chwithau unwaith, fod yr Arglwydd yn gadael yr Ymneillduwyr, ac yn myned i fywhau ei waith yn yr Eglwys Sefydledig. Pe y deuech i'n mysg fel cynt, ac mewn dull na fyddai genym le i feddwl eich bod yn dyfod i geisio ein rhanu, yr wyf yn credu y gwelech ein bod yn y ffurf y mynai Duw i ni fod; a'i fod ef yn ein mysg, er ein llygredigaethau, ein gwendidau, a'n cymysgedd. Pe y deuech felly, cryfhaech ein dwylaw, yn lle eu gwanhau, gan weled ein bod yn dwyn pwys y dydd a'r gwres, a bod yr holl fyd ac uffern yn ein herbyn. Wrth ganfod yr anhawsderau à pha rai yr ydym yn ymladd, cynhyrfid eich calon ddewr ynoch eto, a llosgai eich yspryd mewn cydymdeimlad a'r dynion ieuainc sydd yn myned allan, a'u bywydau yn eu dwylaw, yn erbyn y Philistiaid. Deuwch. Na fydded cynhen rhyngom mwyach. Bydded i ni gytuno yn hyn, sef na byddo i ni wanhau dwylaw ein gilydd; ac os na ellwch gredu ein bod ni yn iawn wrth aros yn yr Eglwys Sefydledig, peidiwch a'n condemnio, pan y sicrhawn chwi mai mater o gydwybod yn hollol ydyw genym. Yr ydym yn gweled y fath waith wedi ei ddechreu; rhai clerigwyr o enwogrwydd wedi cael eu deffro; nifer o bersonau o'r safle fwyaf anrhydeddus yn dyfod i wrando, a rhai o honom wedi cael ein galw i bregethu yn breifat o flaen pendefigion, yn mysg pa rai y mae un ardalydd, un iarll, dwy arglwyddes, a dwy foneddiges o deitl. Yr ydym yn gweled rhagfarn yn syrthio, a drysau yn agor trwy yr oll o Loegr, yn mron, ac, o'r diwedd, yn Ngogledd Cymru, a hyd yn nod yn yr Iwerddon. Felly, peidiwch ein condemnio, os oes arnom ofn rhedeg o flaen yr Arglwydd. . . . Ni frysia yr hwn a gredo. Bydded i ni gymeryd ein dysgu gan Dduw, a bod yn amyneddgar, ac yn ddyoddefus, ac yn ffyddlawn iddo ef; yna, gwelwn y bydd i'r gwirionedd lwyddo yn amser da Ďuw, gan yru cyfeiliornad a phenrhyddid allan o'r Eglwys; neu ynte, caiff Satan y fath allu i greu erledigaeth o fewn i'r Eglwys, fel ag i yru allan yr holl ffyddloniaid. . . . Os ydyw yr hen Eglwys i gael ei gadael i wrthod y goleuni, a chynulleidfaoedd ar wahan iddi i gael eu ffurfio, yr hyn yr wyf yn gobeithio na fydd byth, yna, rhaid i Ragluniaeth drefnu yr amser a'r offerynau. O, gan Dduw, na allech chwi ddyoddef mwy gyda'r hen Ymneillduwyr, a llafurio yn eu mysg mewn amynedd, a cheisio cael dynion ieuainc llawn cariad i ddilyn yr hen weinidogion, a pheidio sefydlu cynulleidfaoedd ar wahan, gan geisio tynu pobl oddiwrthym ni; eithr ein gadael yn yr Eglwys Sefydledig. Yna, mi a allwn eich cyfarfod yn breifat, neu mewn Cymdeithasfa, i'r pwrpas o sefydlu pethau, a'ch anrhydeddu fel un nad wyf yn deilwng i olchi ei draed. Yna, mi a allwn agor fy holl galon i chwi gymaint ag erioed. Yr wyf yn gobeithio fy mod yn ysgrifenu yn symlrwydd yr efengyl. A gallaf yn ddiragrith alw fy hun mor gariadus ag erioed : Eich annheilyngaf Frawd, a chyd-bechadur, eithr wedi ei achub trwy ras, ac yn wir awyddus am eich cyfarfod fry, i gydfoli yn dragywyddol; ac i ymddwyn yma fel eich cyd-ddinesydd, a'ch cyd-lafurwr,-H. HARRIS."

Llythyr cryf, eto boneddigaidd, wedi ei ysgrifenu mewn yspryd Cristionogol, ac yn llawn o natur dda. Y mae rhai pethau sydd i raddau yn dywyll ynddo, megys yr anogaeth i Edmund Jones i lafurio mewn cydweithrediad a'r hen Ymneillduwyr. A oes yma awgrym fod y prophwyd o Bontypwl, er ei holl dduwioldeb, nid yn unig yn erlid y Methodistiaid, ac yn ceisio Iladrata eu pobl, ond hefyd yn ddraen yn ystlys ei frodyr ei hun, ac yn methu cydweithio â hwynt? Modd bynag, gwneir rhai pethau yn hollol glir yn y llythyr: (1) Dengys nad oes sail o gwbl i'r hyn a haerir gan Dr. Rees, Abertawe, a haneswyr eraill a'i canlynant, sef mai proselytiaid o fysg yr Ymneillduwyr oedd aelodau cyntaf y Methodistiaid. Dywed Harris yn bendant, fel ffaith oedd yn gyffredinol wybyddus, na ddarfu i'r Methodistiaid adeiladu ar sail yr Ymneillduwyr, na thynu pobl oddiwrthynt; ond, yn hytrach, i sefydliad seiadau yn nghymydogaeth hen eglwysi Ymneillduol, fod o fantais i'r eglwysi hyny, trwy ychwanegu eu rhif, a chynyddu eu gweithgarwch. (2) Er yr ymlynai Harris wrth yr Eglwys Sefydledig, nid oedd yn erlidgar o gwbl at y rhai a'i gadawsent. Ar yr un pryd, ofnai ddarfod iddynt gyfyngu ar gylch eu gweithgarwch trwy gefnu arni, a lleihau eu cyfleusterau i wneyd daioni. (3) Breuddwydiai fod yr Eglwys Sefydledig i gael ei lefeinio trwyddi gan y diwygiad; y deuai y pendefigion yn bleidiol i bregethu efengylaidd, ac efallai yn aelodau gweithgar o'r seiadau Methodistaidd. Nid rhyfedd, felly, ei fod yn wrthwynebol i ymneillduo oddiwrthi. Tra y byddai gobaith i'w freuddwyd gael ei sylweddoli, ystyriai mai rhedeg o flaen yr Arglwydd fyddai ei gadael.

Yr wythnos wedi iddo ddychwelyd of Ogledd Cymru, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Nid oedd yr un o'r offeiriaid yno; felly, Howell Harris a lywyddai. Agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth, ac ymddengys iddo gael cyfarfod annghyffredin. Yn y seiat a ddilynai, anerchodd yr aelodau ar amryw faterion, ac yn arbenig cyfeiriodd eu golygon at waed Crist. "Y gwaed!" meddai; "y mae yn waed hollalluog, yn waed anfeidrol; pwy a fedr ei blymio? Y gwaed hwn a unodd fy enaid â Duw. Os oes arnoch awydd am fod yn sanctaidd, ymolchwch yn hwn. Os ydych am goncwerio pechod a Satan, dewch at y gwaed. Os ydych am fyned i'r nefoedd, cymerwch y gwaed gyda chwi." Ac wrth ei fod yn ymhelaethu ar rinwedd y gwaed, aeth yn floedd trwy y lle, nes y boddwyd ei lais yn gyfangwbl gan lefau y rhai a wrandawent. Teimlai ei fod wedi cael y fath awdurdod na chafodd yn fynych ei gyffelyb. Yr ail wythnos yn Tachwedd, cychwynodd am Lundain; pasiodd trwy Henffordd; bu mewn Cymdeithasfa berthynol i'r brodyr Saesnig yn Ross; ac ni chyrhaeddodd Drefecca yn ei ol, gwedi ei ymdaith yn y Brif-ddinas, hyd y Llun olaf o'r flwyddyn.

Tri diwrnod y cafodd fod gartref cyn ei fod yn cychwyn am daith faith i Orllewin Lloegr, yr hon oedd i barhau am fis. Torodd gwawr y flwyddyn newydd arno yn Cwmdu, lle rhwng Talgarth a Chrughywel. Dranoeth, cawn ef yn y New Inn, Sir Fynwy. Heblaw pregethu, yr oedd yn casglu at y capel newydd oedd wedi ei adeiladu yn Llanfair-muallt, ond yn groes i arfer casglwyr yn gyffredin, ni wnai dderbyn nac arian nac addewidion ar y pryd, rhag i'r rhoddion gael eu cyfranu o gariad ato ef, ac nid mewn ffydd. Yr un prydnhawn, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn y lle; gorchwyl penaf yr hon oedd adferu y brawd William Edward, o'r Groeswen, yr hwn a gawsai ei osod tan ddysgyblaeth, oblegyd cyfeiliornad mewn athrawiaeth. Dau gwestiwn a ofynodd Howell Harris iddo, ac y mae ffurf arbenig y cwestiynau yn dynodi syniadau neillduol yr holwr. (1) A oedd yn galonog yn medru addoli y baban Iesu? (2) A oedd yn credu fod datguddiad ysprydol o Grist i'w gael uwchlaw y wybodaeth am dano a geir yn y llythyren? Atebodd William Edward y ddau ofyniad yn foddhaol, a chafodd ei ail-sefydlu fel cynghorwr. Yn y Gymdeithasfa, hefyd, bu ymddiddan parthed priodas, am ofalu am ystafell (capel) New Inn, a derbyniwyd dau i ddechreu pregethu. Eithr derbyniodd lythyr oddiwrth ddau frawd yn ei gyhuddo o wneyd rhywbeth allan o le. Yr oedd y Gymdeithasfa yn hapus trwyddi; cydwelai ef a'r brodyr yn hollol ar bob peth. Yn Ngorllewin Lloegr ymwelodd ag Exon, Plymouth, Kingsbridge, a lleoedd eraill, ac ni ddychwelodd yn ei ol hyd ddechreu Chwefror.

Dranoeth i'w ddychweliad, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, ac agorodd hi gyda phregeth oddiar y geiriau: "Du ydwyf fi, ond hawddgar." Cymerodd achlysur ar ei bregeth i gyfeirio at y chwedlau anwireddus a daenid am dano gan yr Ymneillduwyr, sef ei fod yn elynol iddynt. "Yr unig reswm sydd ganddynt dros ddweyd hyn," meddai, "yw fy mod yn llefaru yn erbyn eu pechodau; ac ar yr un tir yn union gellid haeru fy mod yn elynol i Eglwys Loegr, gan fy mod yn ymddwyn yr un modd ati hithau. Ond

BYR-HANES O ERLEDIGAETH PETER WILLIAMS YN ADWY'R CLAWDD, FEL YR YSGRIFENWYD EF GANDDO EF EI HUN.

[Ceir copi gwreiddiol yn Athrofa Trefecca.]

dywedais fy mod bob amser yn gwahaniaethu rhwng y dieuog a'r euog; a'm bod yn adnabod llawer o ddynion da a grasol, yn bregethwyr ac yn bobl, yn mysg yr Ymneillduwyr, y rhai wyf yn garu; a phe bai yn fy ngallu, na wnawn roddi terfyn ar nac eglwys na chapel, eithr yn hytrach eu llanw o Dduw." Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa, bu ef a'r pregethwyr yn ymdrin â gwahanol faterion, ac yn trefnu eu teithiau, a gorphenwyd y cyfan yn hynod hapus. Ar y dydd olaf o Ionawr, y mae yn cychwyn am daith i Siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Y mae nodiad yn ei ddydd-lyfr ar gyfer Llangamarch sydd yn haeddu ei groniclo.Ymgynghorais a'r Arglwydd am lawer o bethau," meddai, "a chefais nerth mawr i ymdrechu â Duw gyda golwg ar Syr Watkin Williams Wynne; gelwais arno yn lew, ar iddo amlygu ei allu. Na ad i'r ymgais yma o eiddo Satan lwyddo,' meddwn; achub enaid y boneddwr, ond dymchwel ei gynlluniau."" Yr oedd Syr Watkin yr adeg yma yn erlid saint Duw gyda llaw uchel. Teil y difyniad canlynol o lythyr, a ysgrifenwyd gan Howell Harris at chwaer grefyddol yn Llundain, oleuni ar ymddygiadau y barwnig of Wynnestay: "Yr ydych wedi clywed rhyw gymaint am y driniaeth a dderbynia ein brodyr a'n chwiorydd ar law Syr Watkin Williams Wynne. Darfu iddo osod dirwy o bedwar ugain punt ar y bobl dlawd am dderbyn a gwrando ein brodyr, fel y mae amryw trwy hyn wedi cael eu dinystrio yn hollol, a'r efengyl wedi cael ei rhwystro am amser. Yr wyf yn dymuno ar y brawd Jenkins, os yw yna, i alw yr eneidiau yn nghyd ar ryw amser penodol i weddio, ac i ysgrifenu parthed hyn at yr holl seiadau. Byddwch wrol, fy chwaer, newydd da ydyw; y mae yr Arglwydd yn dyfod, ac y mae Satan yn rhuo. Bydded i bob un edrych at ei arfogaeth, y mae amseroedd ardderchog a gogoneddus gerllaw." Yr ydym yn gweled oddiwrth lythyr Peter Williams i'r gŵr da hwnw orfod teimlo llid Syr Watkin. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd yn bygwth troi ymaith oddiar ei ystâd bawb a feiddiai ymgysylltu a'r Methodistiaid, a chan mai efe a berchenogai yr holl wlad, yn mron, golygai ei fygythiad, pe y cai ei gario allan, ddiwreiddiad crefydd agos yn llwyr allan o'r fro. Felly, yr oedd ugeiniau heblaw Howell Harris yn agoshau at yr Arglwydd i geisio ganddo gyfryngu. Atebwyd eu gweddïau mewn ffordd ofnadwy. Un prydnhawn, tua blwyddyn ar ol hyn, marchogai Syr Watkin ar gefn ei farch yn mharc Wynnestay; ac ar ddaear wastad tripiodd yr anifail rywsut, nes y cwympodd ei farchogwr, gan ddisgyn ar ei ben ar y llawr, fel y bu farw yn y fan. Yn ddiau, y mae Duw a farna y ddaear. Ceir traddodiad arall am yr helynt yn y Gogledd, sef fod nifer o bobl druain dlodion wedi cydymgynull mewn cyfarfod gweddi, yn nghymydogaeth y Bala, a darfod i un o'r gweddïwyr gael y fath afael wrth grefu ar i'r Arglwydd. gyfryngu i atal yr erledigaeth, fel y teimlai yn sicr wrth gyfodi oddiar ei liniau fod ei ddymuniadau wedi cyrhaedd y nefoedd. A rhoddodd benill allan i'w ganu, o'i gyfansoddiad ei hun, yn cofnodi ei deimlad:

"Mae Esther wedi cychwyn
I mewn i lys y Brenhin,
Caiff pardwn iddi ei estyn,
Ac ofer waith Syr Watkin."

Ar yr adeg benodol hon, meddir, tra y cenid y penil yn y cyfarfod gweddi, y cyfarfyddodd y barwnig a'i angau yn mharc Wynnestay.

O Langamarch, aeth Harris i Lanwrda, ac oddiyno i Lanbedr-Pont-Stephan, trwy oerni dirfawr, lle yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol i gael ei chynal. Clywodd chwedlau anhapus ar y ffordd, parthed teimlad ei frodyr tuag ato, fel yr oedd ei yspryd ynddo yn llwythog wrth nesu at y dref. Wedi llawer o gymhell, cafwyd ganddo bregethu yn Llanbedr, boreu y Gymdeithasfa. Teifl brawddeg neu ddwy o'i eiddo oleuni ar y syniadau neillduol a goleddai. goleddai. "Dangosais nad oes ond un Duw," meddai; "nad oes un Duw i fynu nac i lawr, ond Iesu Grist. Eglurais y modd yr oedd rhai yn gwneuthur eilun, gan ei alw y Tad, a'i osod uwchlaw Iesu Grist, a'u bod yn addoli yr eilun hwn. yn lle yr unig wir a'r bywiol Dduw. Dangosais fel yr oeddynt gystal a bod yn Ariaid, wrth osod Crist i roddi boddlonrwydd i'r Tad; ac os gwnaeth efe hyny, pwy a roddes foddlonrwydd i'r Mab, a'r Yspryd. Gwrthddadl Eithr yr ydych chwi yn addoli yr Iesu? Ateb: Yr ydym yn addoli y Tad, y Mab, a'r Yspryd ynddo (sef yn yr Iesu); tri yn un, ac un yn dri." Dengys y difyniad hwn fod Harris yn dra chymysglyd o ran ei olygiadau ar y Drindod, a'i fod yn nesu yn bur agos at Sabeliaeth.

Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa bu dadleu brwd, a rhyw gymaint o deimlad anhapus. "Tra y mynwn i roddi i fynu y gyfraith mewn ffydd, yn Ngogledd Cymru," meddai, "ac y ceryddwn hunan ac yspryd cnawdol, un a ddaethai oddiyno. i ofyn am gyfarwyddyd, daeth Satan i lawr. Cyhuddodd rhywun fi o falchder. Gwrthodais inau weithredu heb i'r brodyr gydnabod eu bai, a datgan gofid, gan fy ngosod yn fy lle priodol; a dywedais nad oedd genyf un amcan wrth ddyfod yno heblaw gwasanaethu Crist, ac y rhaid i bob un sefyll yn ei le ei hun. Daeth yr Cefais Arglwydd i'n mysg drachefn. Cefais gyfleustra i egluro ein rhesymau dros aros yn yr Eglwys. Yr wyf yn cael fod yr Arglwydd, trwy amrywiol ffyrdd, yn dwyn y brodyr i ymsefydlu o'i mewn. Cydunasom i gasglu i ddwyn yn mlaen y gyfraith yn erbyn Syr Watkin Williams Wynne. Trefnodd y brodyr eu teithiau. Yn breifat, cefais ateb oddiwrth yr Arglwydd gyda golwg ar y gyfraith, a chyda golwg ar gyflogi Mr. Williams, Caerlleon, i'w chario yn mlaen. Yr wyf yn cael Yspryd Duw ynof yn gwaeddi yn gryf yn erbyn Syr Watkin." Byddai yn ddyddorol gwybod sut y terfynodd helynt y gyfraith, ac ai marwolaeth ddisymwth y boneddwr a roddodd ben arni. Dranoeth, aeth pethau yn mlaen yn bur hwylus; eithr bu Harris yn rhoddi gwers lem i rai brodyr am eu hysgafnder a'u cnawdolrwydd, ac aeth yn ddadl rhyngddo a Rowland, a Williams, Pantycelyn, am reolau i droi proffeswyr cnawdol allan. Dadleuent hwy fod hyn yn anhawdd ac yn beryglus. "Ond," meddai Harris, "deliais i yn gryf fod yna lygad, neu oleuni ysprydol, yn y Cristion, yr hwn sydd yn barnu ac yn mesur pob peth." Mynai ef osod y rhai difraw oll dan ddysgyblaeth. Sut y terfynodd y ddadl, nis gwyddom, ond gwnaed llawer o drefniadau, ac ymwahanodd y brodyr mewn teimlad hapus at eu gilydd. Eithr y mae yn anmhosibl darllen adroddiad Howell Harris ei hun am y Gymdeithasfa, heb deimlo ei fod yn dra arglwyddaidd, ac yn honi llywodraeth; a'i fod yn cyfeirio yn rhy fynych at "ei le" yn y Gymdeithasfa, fel pe buasai wedi cael ei osod yn oruchaf ar ei frodyr. Y mae yn ofidus gweled un mor llawn o natur dda, a mor gynhes ei yspryd, wedi cael ei feddianu gan y fath deimlad.

O Lanbedr, aeth Harris ar daith bur fanwl trwy ranau isaf Sir Aberteifi, rhanau o Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg. Heblaw pregethu, a threfnu materion yn y seiadau, yr oedd hefyd yn casglu at Dŷ yr Amddifaid, a sefydlasid gan Whitefield yn Georgia. Ar amlen y dydd-lyfr, ceir y swm a gasglwyd yn mhob lle, a chan mai dyma yr adroddiad cyntaf o gasgliad cyffredinol yn mysg Methodistiaid Cymru, yr ydym yn ei groniclo. Heblaw ei fod yn ddyddorol, teifl ryw gymaint o oleuni ar nerth cymharol y gwahanol seiadau. "Derbyniais," meddai, "at Dŷ yr Amddifaid yn—

Teithiai Howell Harris yn ddiorphwys yn ystod y Gwanwyn hwn; nid oedd ball ar ei ymdrechion: cawn ef weithiau yn Morganwg a Mynwy; bryd arall yn Sir Drefaldwyn, neu Sir Gaerfyrddin; a phan na fyddai yn mhell o gartref, ymwelai a'r lleoedd cyfagos yn Mrycheiniog a Maesyfed. Ofer i ni geisio ei ganlyn i bob man, a phrin y byddai yn fuddiol i'r darllenydd. Yr wythnos gyntaf yn mis Mai, cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Nghaerfyrddin. Dywed Harris iddo fyned i'r ystafell, a phregethu yno i dorf anferth. Awgryma hyn fod y Methodistiaid wedi adeiladu capel yn y dref. Ei destun ydoedd: "Trwy ras yr ydych yn gadwedig," a chafodd nerth a goleuni anarferol i ganmol gras Duw. Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa, daeth rhyw awel dyner wrth ganu ar y cychwyn. Yna, darllenwyd cofnodau y Gymdeithasfa flaenorol; derbyniwyd arian o wahanol leoedd at y gyfraith; ymgynghorwyd am y modd i'w chario yn mlaen; a phenderfynwyd fod Harris, a Price, o Watford, i ymweled a'r cyfreithiwr. Trefnwyd brodyr, hefyd, i ymweled â Gogledd Cymru. Boreu yr ail ddiwrnod, darllenwyd yr adroddiadau, ac yr oeddynt yn dra melus. "Ond," meddai Harris, "yr oedd y brawd Rowland yn eiddigus o honof fi gyda golwg ar y Drindod. Yr oedd wedi digio oblegyd rhywbeth a ddywedais gyda golwg ar ein bod yn rhanu y Duwdod yn gnawdol, ac yn gosod y Tad uwchlaw y Mab. Dywedais wrtho fy mod yn ofni nad oedd yn adnabod yr Arglwydd, a bloeddiais gydag awdurdod: Nid oes ond un Duw, ac fe ymleda y goleuni hwn dros y byd, er gwaethaf pob gwrthwynebiad! Pan y darllenaf y Puritaniaid, nid wyf yn cael fy mod yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn un dim. Dirmygodd (Rowland) fi, a dywedodd nad oeddwn yn darllen nac yn pregethu yr Ysgrythyr. Syrthiais dan hyn, a dywedais: Y mae yn wir nad wyf yn astudio nac yn myfyrio digon ar yr Ysgrythyrau; hoffwn fyfyrio ynddynt bob moment, a'm gofid yw fy mod yn methu !' Gwrthwynebai dystiolaeth yr Yspryd. Atebais, er fod llawer yn twyllo eu hunain, eto, rhoddir ateb i weddi. Yna, yr ystorm a chwythodd drosodd, a phan oedd pob peth yn dawel, gwahoddodd fi yn galonog i Sir Aberteifi." Amlwg yw fod y naill a'r llall yn meddu tymherau poethlyd, ac yn eu cyffro yn dweyd pethau caledion am eu gilydd. Prin yr oedd heddwch wedi ei adfer, pan y daeth llythyr i'r Gymdeithasfa, yn anuniongyrchol oddiwrth fyfyrwyr athrofa y dref, yn cynwys hèr i ddadl, gyda golwg ar rywbeth a ddywedasai Harris yn ei bregeth. Yn ganlynol, rhuthrodd y myfyrwyr i'r cyfarfod, ac etholasant un o'u mysg i fod yn enau drostynt mewn dadl. Yr oedd hyn yn ymddygiad tra anweddus; a chan mai pregethwyr ieuainc yr athrofa Ymneillduol oedd y nifer amlaf o honynt, yr oedd yr hyn a wnaethant yn fwy annheilwng fyth. Dywed Harris fod llawer o dymher ddrwg wedi cael ei hamlygu o'r ddwy ochr; yn neillduol o'i du ef, pan y ceryddai hwy am eu balchder. Maentymient hwy, igychwyn, fod Harris yn dinystrio rheswm. Atebai yntau fod teimlad dwfn yn rhwym o ymddangos. "Beth," meddai, "pe bai drwgweithredwr ar y ffordd i'r crogbren yn derbyn pardwn o law'r brenhin; a mwy, yn cael sicrwydd ei fod i gael ei fabwysiadu i deulu y brenhin, ai ni floeddiai dros y lle?" Addefodd yr efrydwyr fod ei gymhariaeth yn anwrthwynebol. Yn ganlynol, dechreuodd wneyd gwawd o honynt, gan ddweyd eu bod wedi dysgu ymresymu wrth reol, a holai iddynt paham na ddygasent eu meistr gyda hwynt. Pan yr achwynent oblegyd y wawdiaeth, dywedai ei fod yn dilyn y cyfarwyddyd Ysgrythyrol, sef ateb y ffol yn ol ei ffolineb. Dywedodd, yn mhellach, ei fod yn synu at eu balchder, a'u gwaith yn ymosod ar gorph o bobl lafurus gyda chrefydd, ac mai hyn oedd yr ymosodiad agored cyntaf a wnaed ar y Gymdeithasfa. Cyhuddai un o honynt ef o ddweyd y gosodai yr Ymneillduwyr ef, pe y medrent, yn uffern. Gwadodd Harris i'r fath ymadrodd ddisgyn erioed dros ei wefusau. "Dywedais," meddai, nas gallwn oddef i neb fychanu y gweinidogion Ymneillduol, fy mod yn meddwl yn uchel am lawer o honynt, a'm bod am heddwch. Ceryddais y dyn ieuanc, Evan William, a ddychwelasai o Ogledd Cymru, am mai efe oedd wedi cyffroi yr Ymneillduwyr yn erbyn gwaith Duw." Yn sicr, yr oedd yn syn gweled Evan William, a fuasai yn gynghorwr yn mysg y Methodistiaid, yn awr yn mysg y terfysgwyr a ruthrent i'r Gymdeithasfa. Ceryddodd ŵr ieuanc arall, yr hwn a daenasai y chwedl trwy y dref fod yr offeiriaid yn dyfod i wrthwynebu Harris a'i ganlynwyr, a bod rhagolygon golygus am derfysg. "Yr wyf yn gobeithio," meddai, "y bendithir hyn iddynt, i ddarostwng eu balchder, oblegyd teimlwn gariad at eu heneidiau."

Ar y nawfed o Fai, agorodd ysgol yn Nhrefecca, ac aeth o gwmpas y rhieni i'w cymhell i anfon eu plant yno. Yr oedd er ys rhai blynyddoedd yn adeiladu tŷ yn Nhrefecca; a oedd casglu teulu mawr yno, o wahanol gymydogaethau, er rhoddi iddynt fanteision crefyddol, yn fwriad ganddo ar hyn o bryd, sydd anhawdd ei benderfynu. Yr wythnos ganlynol, cawn ef mewn Cyfarfod Misol yn Dyserth. Adroddodd wrth y brodyr hanes y Gymdeithasfa yn Nghaerfyrddin; y gwrthwynebiad a gawsid oddiwrth yr efrydwyr; eglurodd ei ymddygiad tuag at yr Ymneillduwyr; trefnodd gyda golwg ar gael ysgol yno; a phenderfynodd fod y dydd Iau canlynol i gael ei dreulio mewn gweddi. Yr oedd yno gynghorwyr o Sir Drefaldwyn, a gawsent eu gosod dan gerydd gan Howell Harris oblegyd eu balchder; gobeithiai allu eu derbyn yn awr; ond nid oedd eu pechod wedi ei ddarostwng; a rhaid ydoedd parhau y ddysgyblaeth. Bu gyda hwy drachefn a thrachefn yn ceisio eu perswadio; yr oedd y boreu yn gwawrio pan y rhodd y gorchwyl i fynu; a phan y methodd ei hun, anfonodd y cynghorwr Thomas James atynt. Eithr ofer a fu ymgais y ddau. Eu gwir drosedd oedd cyfeiliorni mewn athrawiaeth. Ganol mis Mai, aeth i Lundain, ac arosodd yno hyd ddechreu Gorphenaf. Yn ystod yr amser hwn, disgynodd i'w ran y gorchwyl annymunol o droi Herbert Jenkins allan o'r Cyfundeb.

Y mae y dydd-lyfr, o ddechreu Gorphenaf hyd ganol Awst, ar goll. Yr ydym yn cael Daniel Rowland a Howell Harris, Awst 19, yn teithio yn nghyd i Drefynwy, ac yn hynod gyfeillgar. Agorodd Harris ei holl fynwes iddo, gan egluro y rheswm am ddiarddeliad Herbert Jenkins, ac hefyd esbonio rhai ymadroddion o'i eiddo yn Ngogledd Cymru. Tueddwn i feddwl mai dychwelyd yr oeddynt, wedi bod yn hebrwng yr Iarlles Huntington yn ei hol i Loegr, ar ol treulio rhai wythnosau yn Nghymru. Yr oeddynt hwy eu dau, yn nghyd â Griffith Jones, a Howell Davies, wedi cyfarfod yr Iarlles yn Mryste; teithiasant trwy y rhan fwyaf o Ddeheudir Cymru yn araf; byddai rhai o'r offeiriaid yn pregethu yn y pentrefydd, trwy ba rai yr oeddynt yn myned, neu ynte, rai o'r prif gynghorwyr, a chafwyd odfaeon y cofiodd y foneddiges dduwiol am danynt hyd ei bedd. Buont yn aros am rai dyddiau yn Nhrefecca, a chafodd Griffith Jones odfa ryfedd yno ar y maes. Yn The Life and Times of Selina, Countess of Huntington, dywedir i'r daith hon gymeryd lle ddiwedd Mai a dechreu Mehefin. Ond yn ol dydd-lyfr Howell Harris, nis gell hyn fod yn gywir, oblegyd bu ef yn Llundain yn gweinidogaethu trwy y rhan fwyaf of Fai, a thrwy yr oll o Fehefin. Tebygol, mai diwedd Gorphenaf, a dechreu Awst, "rhwng y ddau gynhauaf," fel y dywedir, y cymerodd yr Iarlles y daith hon.

Yn ganlynol, yr ydym yn ei gael ar daith trwy Siroedd Aberteifi a Phenfro. Nis gallwn ei ddilyn o le i le, ond hyfryd gweled fod Howell Davies yn gyfaill ac yn gydymaith iddo ar ei ymweliad a Phenfro. Ac yr oedd cynulleidfaoedd aruthrol yn dyfod i'w wrando yn mhob man. Yn y Parke yr oedd mewn cyfyng gyngor gyda golwg ar beth i bregethu, gan fod nifer mawr o offeiriaid yn bresenol, "a llawer o Ymneillduwyr rhagfarnllyd. Ymddengys ei fod ef a'r Ymneillduwyr yn pellhau yn gyflym oddiwrth eu gilydd. Wedi ymgynghori â Duw, cymerodd yn destun, 1 Cor. ii. 2: "Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." "Dangosais" meddai, "y modd yr oeddynt wedi blino Paul a'u dadleuon; ond yn awr ei fod wedi penderfynu na chaent ei flino mwy; na fyddai a fynai ychwaneg ag unrhyw wybodaeth ond Crist croeshoeliedig. Yna, arweiniwyd fi i lefaru ar ddirgelwch duwioldeb. Pwysleisiais mai dirgelwch ydyw, ai fod tu hwnt i ddadl. Yn unol a'm harfer, llefarais yn gryf parthed Duwdod Crist, ei fod yn Dduw yn y preseb, ac yn Dduw ar y groes; ac er mai y natur ddynol a ddyoddefodd, eto fod ei ddyoddefiadau yn Ddwyfol. Eglurais ei eiriau gyda golwg ar ei fod yn israddol i'r Tad, ac yn gydraddol ag ef. Cyfeiriais at y lleidr yn gweddio ar y Dyn hwn, iddo fentro ei enaid arno, gan ei weled yn Oruchaf Lywodraethwr, ac yn Dduw ar y tragywyddoldeb i ba un yr oedd ar gymeryd naid. Ni ddarfu iddo yntau wrthod y weddi, ond atebodd hi gyda mawrhydi teilwng o Dduw. Cyfeiriais at Stephan yn gweddïo arno. Dangosais, nid yn unig ei fod ef—y Dyn hwn-y Person hwn—yn Dduw, ond ei fod yn Dduw tragywyddol; mai efe yw yr unig Dduw, mai efe a wnaeth y bydoedd, ac nad oes yr un Duw arall ar wahan nac uwchlaw iddo; ein bod yn credu yn y Duwdod, yn ol credoau Athanasius, Nicene, a'r Apostolion, fod tri o gyd-dragywyddol Bersonau, ond nad oes ond un Duw; ac mai yr un Duw hwn yn mherson y Mab a ddaeth yn ddyn, ac a roddodd ei fywyd i lawr. Yna, troais atynt, a gofynais ai nid oeddynt yn gwneyd tri Duw? Ac ai nid oeddynt yn myned heibio iddo at Dad, yr hwn a ystyrient yn fwy nag ef? Dangosais nad oedd y fath Dad, oddiwrth ei ymadrodd ef ei hun wrth Phylip; ac nad oes na mwy na llai, na chynt na chwedin, yn y Duwdod; a bod yr hwn sydd yn gweled y Mab yn gweled yr oll o'r Duwdod, yr hwn a leinw bob lle, a phob peth ar unwaith. Yn awr, os mai efe yw yr unig Dduw, ac os nad oes ond efe, ai nid oes rhai o honoch wedi bod yn addoli Duw dyeithr, ïe, yn addoli llun a delw yn eich deall? Yr ydych yn pasio heibio y Duw byw, i addoli hwn, y duw ac nad oes yr un Duw arall ar wahan nac uwchlaw iddo ; ein bod yn credu yn y Duwdod, yn ol credoau Athanasius, Nicene, a'r Apostohon, fod tri o gyd-dra- gywyddol Bersonau, ond nad oes ond un Duw ; ac mai yr un Duw hwn yn mherson y Mab a ddaeth yn ddyn, ac a roddodd ei fywyd i lawr. Yna, troais atynt, a gofyn- ais ai nid oeddynt yn gwneyd tri Duw ? Ac ai nid oeddynt yn myned heibio iddo at Dad, yr hwn a ystyrient yn fwy nag ef ? Dangosais nad oedd y fath Dad, oddiwrth ei ymadrodd ef ei hun wrth Phyhp ; ac nad oes na mwy na llai, na chynt na chwedin, yn y Duwdod ; a bod yr hwn sydd yn gweled y Mab yn gweled yr oU o'r Duwdod, yr hwn a leinw bob lle, a phob peth ar unwaith. Yn awr, os mai efe yw yr unig Dduw, ac os nad oes ond efe, ai nid oes rhai o honoch wedi bod yn addoh Duw dyeithr, íe, yn addoh Ihm a delw yn eich deall ? Yr ydych yn pasio heibio y Duw byw, i addoh hwn, y duw dychymygol yma a elwch yn Dad. Yr oeddwn yn gryf ar hyn, er y rhaid i mi arfer pob tynerwch at bawb, eto fod yn rhaid i mi sefyll wrth y gwaed hwn." Yr ydym yn cofnodi ei sylwadau yn helaeth, er dangos natur ei olygiadau. Yna aeth yn mlaen i ddangos ei berthynas a'r Ymneillduwyr, ei fod yn eu parchu, ac yn pregethu yn eu capelau; mai ei holl amcan oedd eu dyrchafu at Dduw; nad oedd y Methodistiaid yn bwriadu gosod i fyny blaid, mai yn yr Eglwys Sefydledig yr oeddynt wedi eu galw. Cyfeiriodd hefyd at ryw lythyr a daenid trwy Gymru a Lloegr gyda golwg arno, yr hwn a gynwysai gyhuddiadau hollol anwireddus.

Yr oedd y wasg Saesnig yn tywallt allan bob math o lysnafedd ar y Methodistiaid yr adeg hon. Mewn un pamphledyn, dywedid eu bod yn gwneyd eu canlynwyr yn wallgof; ddarfod i amryw o honynt yn Nghymru gyflawni mwrddradau, a'u bod yn hongian mewn gefynau ar y pryd. Desgrifid Whitefield fel un a melin wynt yn ei ben, ac fel yn myned o gwmpas y byd i geisio rhywun y gallai daro ei ymenydd allan. Ond Griffith Jones, Llanddowror, a enllibid waethaf o bawb. Honai ysgrifenydd arall, yr hwn, fel y mae'r gwaethaf, oedd ŵr dysgedig, fod Methodistiaid Cymru yn arfer godineb, ac na ystyrid puteindra yn bechod ganddynt o gwbl. Dywedai, yn mhellach, fod y pregethwyr Methodistaidd yn peri i'r aelodau gyffesu eu pechodau iddynt, a bod un o honynt, Will Richard, wrth ei enw, a chobler wrth ei gelfyddyd, pan fyddai yn maddeu pechodau un, yn estyn iddo ddarn o bapyr, gan sicrhau y cyfryw y gwnelai y papyr agor drws y nefoedd iddo. Nid annhebyg y cyfeiriai Harris at un o'r rhai hyn.

Boreu dranoeth, derbyniodd lythyr oddiwrth ddau weinidog Ymneillduol, gyda golwg ar ei bregeth y noson cynt. Gwelai y rhaid iddo ddyoddef oblegyd ei weinidogaeth. Aeth i lawr i ymddiddan â hwynt. Dywedodd un o honynt, Thomas Morgan, wrth ei enw, nad oedd y Dyn a ddyoddefodd yn Dduw tragywyddol. Oblegyd yr ymadrodd hwn galwodd Harris ef yn heretic, a dywedodd y gwnai bregethu yn ei erbyn hyd at waed, ond os galwai ei eiriau yn ol, neu yr addefai ei fod yn ddall, y gwnelai yntau fod yn ddystaw hyd nes y caffai ef (Thomas Morgan) oleuni pellach oddiwrth Dduw. "Dywedais ei fod yn fater cydwybod genyf," meddai, "ac y rhaid i mi ymdrechu drosto hyd at waed, mai efe yw y Duw tragywyddol. Dangosais iddynt eu hanwybodaeth, ac na all neb adnabod Crist ond yn ngoleu yr Yspryd Glân; fod yr undeb rhwng y ddwy natur yn Nghrist yn dragywyddol, ac felly mai y cabledd a'r digywilydd-dra mwyaf yn fy ngolwg i, oedd dweyd ei fod yn cyflawni unrhyw beth, neu yn dyoddef fel dyn, ac nid fel y tragywyddol Dduw." Datganai ei obaith y llewyrchai gogoniant y Person hwn yn mysg yr Ymneillduwyr. Ymadawsant yn y diwedd yn hapus; gair diweddaf Howell Harris wrthynt ydoedd: "Peidiwch gwneyd mân wahaniaethau deillion; fflamiwch ar led ogoniant y Dyn hwn, ac yna mi a ddymunaf i chwi ffawd dda." Oddiyma dychwelodd trwy Lacharn, Caerfyrddin, Pontargothi, Capel Llanlluan, Llandremore, Abertawe, Gelly-dorch-leithe, a'r Hafod, gan gyrhaedd Trefecca ar y 24ain o Fedi. Cafodd gynulleidfaoedd. anferth yn mhob man, ac ymddengys fod cryn arddeliad ar ei weinidogaeth. Dirgelwch Crist, ac agosrwydd undeb y ddwy natur ynddo, fel yr oedd y ddynoliaeth yn cael ei dwyfoli fel rhan o'r Person; dyna oedd y mater y pregethai arno yn mhob man, er y byddai yn amrywio ei destynau.

O Medi 25 hyd Rhagfyr 18, y mae y dydd-lyfr ar goll, felly nis gallwn gael unrhyw wybodaeth am ei lafur yn ystod y cyfnod hwn. Dranoeth i'r Nadolig, cynhelid Cyfarfod Cyffredinol—felly y geilw Harris ef yn Nhrefecca. A ydoedd yn Gymdeithasfa reolaidd, nis gwyddom; ond nid oes grybwylliad fod yr un o'r offeiriaid yn bresenol. Agorwyd y cyfarfod gyda phregeth gan Harris, ar yr angelion yn ymweled a'r bugeiliaid pan anwyd Crist. Nid yw yn ymddangos fod llawer o drefn ar y bregeth; aeth ar draws liaws o faterion; dywed iddo lefaru am dair awr, a bod cryn lawer o nerth yn cydfyned a'r genadwri. Fel arfer, ymhelaethodd ar ddirgelwch Crist, gan brofi mai efe oedd y gwir a'r tragywyddol Dduw; nad oes yr un Duw uwchlaw iddo, a bod y Drindod trwy yr undeb sydd yn y Duwdod yn preswylio ynddo. Dangosodd ei Ddwyfol ymostyngiad yn preswylio yn mru y wyryf, ac yn cymeryd ein natur ni, a thrwy hyn, ffurfio y fath Berson na welwyd ei gyffelyb erioed o'r blaen. Yna cyfeiriodd at yr Ymhonwr, gan ddatgan nad oedd arnynt awydd am un brenin i lywodraethu dros eu cyrph ond y brenhin George; ond fod y Brenhin Iesu uwchlaw iddo ef. "Awn lle y mynwn," meddai, "ni a fyddwn yn nheyrnas yr Iesu. Pan yr oedd y gwaith hwn yn cychwyn, creodd Satan wrthwynebiad iddo; eithr daeth i'r dim. P'le mae Satan yn awr?" Yn y seiat a ddilynai, bu yn dra llym wrth y proffeswyr am nad oeddynt yn dwyn ffrwyth. Dywedai ei fod wedi talu ardreth yr ystafell yn Nhrefecca ei hun am gryn amser; na ddaeth neb ato i ofyn sut yr oedd yn gallu fforddio; ei bod yn ddigon iddo ef bregethu y Gair iddynt heb roddi ystafell yn ogystal; ai fod wedi cynhal ysgol yn y lle am amser ar ei draul ei hun. Condemniodd hwy am beidio cydymdeimlo a'u brodyr, gan ddweyd fod rhai o'r cynghorwyr yn dlodion, ac mewn perygl o gael eu hanfon i'r carchar. "Beth a fyddai i gynifer o seiadau eu cynorthwyo?" meddai. Gallwn feddwl fod ei eiriau yn cyrhaedd i'r asgwrn. Buont yno hyd ddau o'r gloch y boreu, a Harris yn dangos i'r brodyr eu diffygion. Yna, trefnwyd amryw faterion. Bu achos James Beaumont dan sylw, yn yr hwn yr oedd yspryd cyfeiliorni wedi ymaflyd. Dadleuai Harris yn erbyn ei droi allan, eithr ymddwyn ato mewn modd efengylaidd, yn y gobaith y byddai i Dduw ei ddwyn i'r iawn. Cyn diweddu, daeth y dylanwadau nefol i lawr yn helaeth; llamai y brodyr gan faint eu llawenydd; a chwedi bod yn canu ac yn bloeddio concwest, yr oedd yn bump o'r gloch y boreu ar Howell Harris yn myned i'w wely.

Y mae yn debygol fod Harris yn fwy rhydd i'r gwaith yn Nghymru yr haner olaf o'r flwyddyn 1748 nag y buasai am gryn amser yn flaenorol, gan i Whitefield, ar ol bod yn yr Amerig am bedair blynedd a haner, ddychwelyd i Lundain ddechreu Gorphenaf. Yn y Gymdeithasfa a gynhelid yn Llundain, Gorphenaf 20, 1748, Whitefield a lywyddai. Fel math o isgadben dan Whitefield, yr edrychai Harris arno ei hun yn ei berthynas a'r brodyr Saesnig. Nid oedd Whitefield, modd bynag, yn hollol barod i gymeryd ei le fel cynt yn eu mysg. Dywedai fod y fath annhrefn wedi dod i mewn i'w plith, trwy fod y pregethwyr ieuainc yn myned tu hwnt i'w terfynau priodol, fel nas gwyddai beth i'w wneyd. Y mynai glywed o wahanol gyfeiriadau cyn gwneyd ei feddwl i fynu, ond ei fod yn benderfynol o beidio cydlafurio â neb na ddangosai barodrwydd i gymeryd ei ddysgu, ac i fod tan ddysgyblaeth. Nid oedd, meddai, yn awyddu am fod yn ben, ond y rhaid iddynt (y pregethwyr ieuainc) adnabod eu lle, ac edrych arnynt eu hunain fel ymgeiswyr ar brawf, ac arno yntau fel tad arnynt, onide na ddaliai gysylltiad â hwynt. Mewn canlyniad i'r araeth hon, plygodd y brodyr, a dywedasant eu bod am ymostwng yn gyfangwbl iddo, a defnyddio pob moddion i gynyddu mewn defnyddioldeb. Cymerodd dyfodiad Whitefield ran o faich Harris oddiar ei war; a diau fod cynghor a chydymdeimlad cyfaill mor ddiffuant, yn falm i'w enaid yn y treialon trwy ba rai yr oedd yn pasio.

PENOD XV.

HOWELL HARRIS
(1749-50).

Harris yn amddiffyn James Beaumont—Dyledswyddau y goruchwylwyr—Harris yn beio seiat y Groeswen am ordeinio brodyr i weinyddu yr ordinhadau—Ei syniad am athrofa—Taith i Sir Drefaldwyn—Ymweliad arall a Llangeitho—Ymheddychu a'r Parch. Price Davies—Taith arall trwy Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg—Parotoi at ymraniad—Harris yn ymosod ar yr offeiriaid—Pregeth nerthol yn y Groeswen—Howell Harris a Price, o'r Watford—Ffrwgwd parthed troi y goruchwylwyr allan yn yr Aberthyn—Cymdeithasfa Llanidloes—Dim yn bosibl bellach ond ymraniad.

BOREU y dydd cyntaf o'r flwyddyn 1749, cawn Howell Harris yn deffro yn Aberedw, lle y cyrhaeddasai o gwmpas un-ar-ddeg y nos flaenorol, ar ei ffordd i Gymdeithasfa Fisol Llanfair-muallt. Y mae ei brofiad wrth fyned o Aberedw i Lanfair yn haeddu ei gofnodi. "Cefais ddychryn yn fy nghalon," meddai, "rhag colli gwedd wyneb Duw; llefais yn fwy nag y gwnaethum erioed O Arglwydd, yr wyf yn ofni dy ŵg yn fwy nag uffern! Y mae arnaf fwy o ofn colli gwedd dy wyneb, rhwystro dy waith, a thristhau dy Yspryd, nag unrhyw erledigaeth. Os gwgi di, pwy all fy nghysuro?' Teimlwn yn fy enaid ofn cael doniau, llwyddiant, a nerth, rhag na roddwn yr holl ogoniant i'r Arglwydd." Yn Llanfair, pregethodd ar Luc ii. 5. Gwedi y bregeth, yr oedd seiat i'r holl aelodau. Yma yr oedd yn dra llym wrth y rhai oeddynt yn byw mewn pechod, gan ddangos iddynt fod Duw yn eu canfod, ac y gwnai eu datguddio, oni edifarhäent. Ceryddai y rhai oeddynt yn ddifater am gymdeithas a'r Arglwydd, ac yn edrych ar bechod yn fach, gan fod eu cydwybodau wedi eu halogi; ond cysurai y rhai oeddynt yn ddrylliog o herwydd eu beiau, gan fod yn barod i'w gadael. Dywedodd wrthynt mai plant y wraig rydd, sef Sarah, oeddynt, a'u bod yn perthyn i'r Jerusalem newydd. Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa, daeth achos Beaumont i fynu drachefn; yr oedd llawer o'r cynghorwyr am ei droi allan, oblegyd heresi; ond nis gallai Harris gyduno; credai na fyddai Duw yn foddlon i hyn ar y pryd, a bod yr awydd yn codi oddiar rhagfarn y cynghorwyr. Dywedai wrthynt y gwyddai fod Beaumont yn blentyn Duw, a'i fod yn fwy ei ddawn na hwy, ac mai eu balchder oedd y rheswm am eu parodrwydd i'w ddysgyblu. Llwyddodd yn y diwedd i'w gadw i mewn. Yr oedd Howell Harris yn gyfaill diffuant. Yna, ymhelaethodd ar natur y gwaith; y modd yr oedd yn teimlo y treialon a'r beichiau perthynol iddo yn anrhydedd. Yn nesaf, aeth i Glanirfon, ffermdy yn nghymydogaeth Llanwrtyd. Pregethodd yma am y nefoedd, ac am y farn. Nis gwyr pa sut y llefarodd, ond daeth yr Arglwydd i lawr, a boddwyd ei lais yn Hosanah y gwrandawyr.

Ionawr 3, y mae yn Llwynyberllan, ac yn y seiat breifat, cynghora yr aelodau i sefydlu ysgol Gristionogol—ysgol Griffith Jones, yn ddiau ar unwaith. Ymddengys fod hyn yn genhadaeth arbenig ganddo y pryd presenol. Anoga hwy hefyd i gyfranu rhyw gymaint i'r Arglwydd yn wythnosol. Yn Llansawel, cyfarfyddodd a dyn ieuanc o ysgolfeistr, i'r hwn yr eglurodd y modd priodol o addysgu, sef cyfeirio llygaid y plant yn mlaenaf oll at Dduw, plygu eu hysprydoedd dan iau Crist, a'u hyfforddi yn ngwahanol ganghenau moesoldeb, yn gystal ag yn egwyddorion y grefydd Gristionogol. Wedi pregethu ar enedigaeth Crist, cadwyd seiat breifat. Yma ymdriniodd ag addysg plant, yr angenrheidrwydd am sefydlu ysgol Gristionogol, y pwys i'r aelodau i fod yn ddarostyngedig i'w hathrawon, a cheryddodd hwy yn llym am na pharchent James Williams, eu harolygwr, fel yr oeddynt yn ei barchu ef, a Daniel Rowland. Cyn terfynu, modd bynag, trodd at bethau mwy cysurlawn, ac aeth yn ganu ac yn folianu dros y lle. Oddiyma aeth i Glanyrafonddu, a dywed iddo. lefaru y dydd hwnw saith o weithiau, rhwng pregethu ac anerch seiadau. Teithiodd trwy Langathen, Llanegwad, a Glancothi, gan gyrhaedd Caerfyrddin erbyn y Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid yno Ionawr 5. Ofnai fod treialon dirfawr i'w gyfarfod yma, ac aeth at yr Arglwydd am gymborth. Ymweliad yr angelion a'r bugeiliaid ar feusydd Bethlehem, oedd pwnc y bregeth agoriadol yn Nghaerfyrddin; ond nid yw yn ymddangos ei fod yn cadw yn glos gyda ei destun. "Cefais lawer o awdurdod," meddai, "i geryddu pechod, i ddangos yr angenrheidrwydd am edifeirwch, ac i rybuddio y rhai a ymdroent mewn anwiredd. Yr oeddwn yn arswydlawn wrth draethu am hollwybodaeth Duw, ac am ei fygythion, a'i wiail." Gyda ei fod yn gorphen pregethu, a chyn i gyfarfod neillduol y Gymdeithasfa ddechreu, deallodd fod ei was wrth y drws, yn dwyn y newydd galarus fod ei ferch fechan -yr anwylaf, y brydferthaf, a'r ffelaf o fewn y byd, yn marn ei thad-wedi marw. Aeth at yr Arglwydd ar ei union i ofyn am gyfarwyddyd; datganai ei barodrwydd i fyned yn y blaen ar ei daith, a gadael i'w wraig gladdu y marw, os mai hyny oedd yr ewyllys ddwyfol. Cafodd ateb, am iddo drefnu y materion perthynol i'r Gymdeithasfa, a dychwelyd tranoeth. Hyny a wnaeth. Dangosodd le y brodyr, a'i le ei hun; fod rhyw Moses neu gilydd, llawn o awdurdod, yn barhaus yn yr eglwys; fod ei fantell yn disgyn oddiar ei ysgwyddau wrth fyned i'r nefoedd; eithr fod rhywun arall yn barhaus yn ei chael, a bod dawn ac awdurdod yr apostolion yn perthyn i rywun yn awr, oblegyd fod yr un angenrheidrwydd am danynt. Braidd nad oes yma fwy nag awgrym mai Harris a wisgai y fantell ar hyn o bryd. Anogodd y cynghorwyr i ymwadu a hwy eu hunain, ac i feddu undeb yspryd a chalon. Bu yma lawer o ganu a molianu. Cychwynodd tua Threfecca am dri o'r gloch boreu dranoeth, a chyrhaeddodd yno, pellder o driugain milltir, erbyn yr hwyr.

Dydd Mercher, Ionawr 12, cychwyna i daith arall. Yr oedd yn nos, ac yn enbyd o dywyll arno, cyn cyrhaedd Cantref, wrth draed Bannau Brycheiniog; rhuai y gwynt yn ofnadwy, y gwlaw a ddisgynai fel rhaiadr, ac yr oedd y teithiwr blin yn oer, ac yn wlyb. Ond ni theimlai y gronyn lleiaf o anghysur. "Gwnaeth yr Arglwydd y tywyllwch a'r dymhestl yn felus i mi," meddai, "gwelwn fy hun y dyn hapusaf o fewn y byd; ni newidiwn sefyllfa a'r mwyaf cyfoethog." Tranoeth, pasiodd trwy y Glyn, a Blaen-Glyn-Tawe, gan gyrhaedd Gelly-dorch-leithe, ffermdy pur fawr yn nghymydogaeth Castellnedd, erbyn yr hwyr. Ar y ffordd, myfyriai ar fawredd ei ragorfreintiau, ac ar ogoniant Duw, y Tri yn Un wedi ymgnawdoli. Dydd Gwener, pregethodd yn Llangattwg, oddiar 1 Ioan iii. 8; dangosodd fawredd y prynedigaeth, i Dduw greu y byd mewn chwe' diwrnod, ond iddo fod bedair mil o flynyddoedd yn parotoi ar gyfer gwaith yr iachawdwriaeth. Yna, aeth at ei hoff bwnc, dirgelwch y ddwy natur yn Nghrist. Cynhelid Cymdeithasfa Fisol yma, eithr cyn iddi ddechreu, clywodd Harris newyddion tra anghysurus, sef fod rhywrai a adwaenai mewn dyled, a bod gŵr o ddylanwad wedi bod yn rhedeg y Methodistiaid i lawr, gan ddweyd eu bod yn dyfod i'r dim; a'i fod ef, Harris, wedi cyfnewid. Disgynodd hyn yn drwm arno; ond, fel arfer, aeth a'i faich at yr Arglwydd ar ei union. Yn y cyfarfod neillduol, anerchodd y cynghorwyr a'r aelodau yn ddwys, parthed darllen yr Ysgrythyrau, a'u gwneyd yn rheol yn mhob dim; am wneyd casgliadau yn fwy cyson; am aberthu hunan, a dywedai ei fod ef yn ddiweddar wedi ymwrthod a chan' punt yn y flwyddyn. Anogodd hwy i fod yn ffyddlawn i'r goleuni oedd ganddynt. "Nid wyf yn eich gweled ond dim o flaen y diafol," meddai, "os pechwch Dduw ymaith." Teimlodd undeb anarferol a'r holl frawdoliaeth. Pasiodd trwy Nottage, lle y pregethodd ar Grist wedi dyfod i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid; a'r Hafod, lle y bu yn dra llym wrth y proffeswyr cnawdol; a Chefncribwr, lle y cafodd nerth na chawsai ei gyffelyb o'r blaen, i anog am roddi iau Crist yn drom ar yddfau y Cristionogion ieuainc. Dydd Llun, yr oedd yn Llantrisant. Dywed ei fod yn gwisgo y dillad gwaelaf o'i holl frodyr, ac yn marchog y ceffyl salaf, ond ei fod yn hollol foddlawn. Yna, cadwai seiat breifat, ac anogai yr aelodau i beidio ymgyfathrachu gormod a'r Ymneillduwyr, y rhai oeddynt yn farw i Dduw, i raddau mawr, ac wedi ymroddi i ffurfioldeb, ond heb ddim awdurdod i gadw y byd a hunan allan. Yna, eglurodd drefn y Methodistiaid, a'i le ei hun.

Gwelai fod yr Arglwydd yn ei gymhwyso fwy fwy ar gyfer ei le, gan fyned gydag ef, a gwneyd pob peth erddo. Dydd Mawrth, ymwelodd a St. Nicholas. Yma, anogai hwy i ranu eu heiddo yn dair rhan; un i dalu eu dyledion cyfiawn, y rhan arall i gynal eu rhieni a'u teuluoedd, a'r rhan arall mewn gwneuthur daioni, yn nghylch yr hyn y dylent ymgynghori a'r Arglwydd. Wrth weddio ar y terfyn, daeth Duw i lawr mor amlwg, fel y boddid llais y pregethwr gan floeddiadau y dorf. Cyn ymadael, bu mewn ymgynghoriad a'r pregethwyr a'r goruchwylwyr. Dangosodd y cymhwysderau angenrheidiol yn y goruchwylwyr, sef eu bod yn adnabod Duw, ac yn cael cymdeithas ag ef, er gwybod ei ewyllys; a'u bod yn gynefin a themtasiynau, er mwyn bod yn feddianol ar amynedd. Eu gwaith ydoedd: (1) Derbyn yr holl gasgliadau, cadw cyfrif o honynt, a dwyn y swm i'r Gymdeithasfa Fisol. (2) Gofalu am y drws yn y gynulleidfa, arwain dyeithriaid i'w lleoedd, a chadw y plant a'r cŵn yn ddystaw. (3) Edrych ar ol y cleifion a'r tlodion. (4) Sylwi ar y rhai ydynt yn mynychu y moddion, a thori atynt i siarad â hwynt. (5) Edrych am y rhai absenol, a gweled a ydynt wedi syrthio, neu yn tueddu at ysgafnder. Yna, eglurodd nad oedd y Methodistiaid ond rhan o gorph Crist; fod y Wesleyaid, y Morafiaid, a'r Ymneillduwyr yn perthyn iddo yn ogystal. Cadwer mewn cof, mai y rhai a alwn ni yn flaenoriaid, a adwaenid yn amser Harris fel goruchwylwyr, neu stewardiaid seiat.

Yn nesaf, aeth i Aberddawen; ei destun yma ydoedd: "Dysgwch genyf." Oddiyno i Dinas Powis, lle y pregethodd oddiar: "Cymerwch fy iau arnoch." Yn y Groeswen, pregethodd am dair awr; dechreuai am wyth, a pharhaodd hyd un-ar-ddeg. Ar derfyn yr odfa, cadwodd seiat breifat am chwech awr yn mhellach, sef hyd bump. Felly y dywed ef ei hun. Ymddengys fod nifer mawr o'r gwahanol seiadau wedi ymgasglu i'r Groeswen, er na chynhelid yno Gymdeithasfa reolaidd, a chymerodd yntau fantais i osod mewn trefn y pethau a ystyriai allan o le yn mhob un. Dechreuodd gyda Llantrisant, gan alw yr aelodau yn mlaen, a'u trin yn ilym am yr annrhefn oedd yn eu mysg, yr annghariad, a'r diffyg gofal am ogoniant Duw. Dywedai fod yr Arglwydd yn eu bendithio tra y byddent yn unol, ond pan y byddent yn cweryla, eu bod yn tori ei galon. Yna, aeth i weddi ar eu rhan, a chafodd afael ryfedd; daeth Duw i lawr, gan eu darostwng yn isel, ac yn y diwedd cawsant oruchafiaeth. Gwedi hyn, gosododd ddwy seiat arall mewn trefn, ni ddywed beth oedd allan o le ynddynt. Yn ganlynol, rhoddodd gynghorion cyffredinol, gan eu hanog i ddyfod i'r Cyfarfodydd Misol, y rhai a esgeulusid yn mron yn gyfangwbl ganddynt. Dywedodd fod yn rhaid iddynt adael pob peth, fel yntau, a'i fod yn benderfynol o wasanaethu y rhai a feddent yr un ffydd ag efe, gan fod yn farw iddynt eu hunain, heb ofalu beth a fwytaent, na pheth a wisgent, na phwy fyddai yn uchaf, na phwy yn isaf. Ei fod yn ei theimlo yn anrhydedd cael bod yn wlyb hyd ei groen, cael ymdreulio, a bod ar ei eithaf, a chael ei gashau gan bawb oblegyd yr efengyl; yr ai i ddaeargelloedd am flynyddoedd, ïe, y dyoddefai angau er eu mwyn. Dywedai, yn mhellach, ei fod yn gwneyd yr oll a wnelai bron yn ddidâl, y gallai deithio can' milltir heb fod neb yn holi pa fodd yr oedd ei amgylchiadau; ond fod llawer yn dyfod ato am gymorth mewn cyfyngder, gan gredu ei fod yn gyfoethog, am y llanwai y fath le yn mysg y Methodistiaid, a bod cynifer o seiadau dan ei ofal. Gwasgoddd arnynt am gymeryd achos Crist at eu calonau; rhoddodd ger eu bron achos y capel newydd yn Llanfair-muallt, ac anogodd hwy i gasglu at achos Duw yn wythnosol. Atebodd rhywun nas gallent gyfranu, eithr rhoddodd Harris wers iddo nad anghofiai am dro. Dywedodd fod pawb i gyfranu, hyd yn nod y tlodion, gan gyfeirio at ddwy hatling y wraig weddw; eu bod oll yn rhan o'r Corph; eu bod yn pechu wrth feddu, oddigerth eu bod yn meddianu yn Nuw, ac nad oes dim ffrwyth yn gymeradwy, hyd yn nod pe y caffai ei olchi yn ngwaed Crist, oni fydd yn ffrwyth Yspryd Duw. Wedi gorphen y seiat, bu yn anerch y cynghorwyr a'r goruchwylwyr yn gyffelyb i fel y gwnaeth yn St. Nicholas, gan ddangos iddynt eu gwahanol ddyledswyddau."Gelwais hwy oll yma i gyfrif am gyfranu y sacrament yn y tŷ hwn (Groeswen), gan ei fod yn dal cysylltiad a'r holl Gorph, heb ymgynghori â ni oll. Dy. wedais, os aent yn y blaen fel hyn, y dyoddefai y gwaith, ac y gwnawn i eu gadael. Dangosais fy mod wedi dyfod i symud yr hyn oedd rhy drwm iddynt, ac i'w cadarnhau. Rhoddais gynghorion iddynt parthed dysgyblaeth, ac eisteddasom yn nghyd hyd wyth; yr oeddwn wedi bod yn y gwaith am ddeuddeg awr, heb gael dim i fwyta nac i yfed."

Cyfarfod rhyfedd oedd hwn, yn ddiau. Ceir yma gryn gadarnhad i'r traddodiad mai ar anogaeth Daniel Rowland yr ordeiniwyd rhai i weinyddu y sacramentau gyntaf yn y Groeswen; y mae cwyn Harris, na ddylasent gymeryd y fath ryddid heb ymgynghori â hwy oll, yn awgrymu yn bur gryf ddarfod iddynt ymgynghori a rhywun, neu rywrai. Ac â phwy y gwnaethent, ond â Daniel Rowland? Dengys yn amlwg, hefyd, fod y peth yn gwbl groes i farn a theimlad Howell Harris; efe a lynai dynaf wrth yr Eglwys o bawb. Y mae ei fod yn cael rhyddid i ddyfod yno, i bwyntio allan iddynt eu dyledswyddau, ac hyd yn nod i'w ceryddu am yr hyn a dybiai oedd allan o le ynddynt, yn brawf diymwad fod cynulleidfa y Groeswen lawn mor Fethodistaidd gwedi yr ordeiniad a chyn hyny. Dranoeth, yn Watford, cafodd ymddiddan nodedig o ddyddorol a'r brawd Thomas Price. "Dangosais iddo natur ein lle," meddai, "fod y fath gorph o bobl yn dibynu arnom, ac yn dal perthynas plant â ni; y dylem, er eu mwyn, fod yn rhyw gymaint o gyfreithwyr, ac o feddygon, yn gystal ag o dduwinyddion, ac o dadau; ac y dylem ddarllen llyfrau cyfreithiol a


meddygol, yn ogystal a duwinyddiaeth, hanesiaeth eglwysig, a dadleuon athrawiaethol. Siaredais yn rhydd ag ef am natur y gwaith, y modd y mae yn myned yn ei flaen gyda nerth, a'r modd y dylem ddefnyddio rhyw foddion er diwyllio y pregethwyr, a chael coleg, er dwyn i fynu ddynion ieuainc blaenllaw i'r weinidogaeth. Yr oeddwn hefyd yn credu fod Mr. Whitefield yn rhy benderfynol, pan yr honai fod gwybodaeth o Ladin yn hanfodol." Dyma yr hedyn a blanodd Richard Tibbot, yn ei lythyr at y Gymdeithasfa, parthed addysgu y cynghorwyr, yn awr yn ffrwytho yn meddwl Howell Harris. Gwelir y fath goleg a fwriadai, sef sefydliad lle y byddai elfenau meddyginiaeth, ac egwyddorion y gyfraith wladol, yn ogystal a gwahanol adranau duwinyddiaeth, yn cael eu dysgu. Rhoddai bwys ar y pethau blaenaf, am fod llawer o'r dychweledigion yn dra anwybodus ynddynt, ac yn dibynu yn gyfangwbl am oleuni ac arweiniad ar y rhai a ystyrient yn dadau crefyddol. Teithiodd trwy Fair Oak a Redwick; daeth galwad sydyn arno i ddychwelyd i Drefecca; eithr yr oedd yn ei ol yn y Goetre, dydd Mawrth, Ionawr y 24, wedi teithio trwy gydol y nos. "Cyrhaeddais yma am dri o'r gloch y boreu," meddai, "gorphwysais am ddwy awr yn fy nillad; yr oedd yn rhaid i mi fyned yn y blaen i gyfarfod Mr. Whitefield yn Nghaerloyw; gan fod gwaith y Brenhin yn galw am frys a phenderfyniad."

Nid oes genym hamdden i adrodd hanes Cymdeithasfa y brodyr Saesnig yn Nghaerloyw; ond y mae yn amlwg fod Harris yn edmygydd diderfyn o Whitefield, ac yn ei garu yn angerddol. "Cefais y fath olwg ar Mr. Whitefield," meddai, "ag a wresogodd fy nghalon ato yn fawr, gan fod yr Arglwydd, a'i gariad, yn trigo ynddo. Yr oeddwn yn ei garu yn ddirfawr, ac yn llawenychu fod y fath ddyn wedi ei eni.' Ar y chwechfed o Chwefror, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, yr hon a agorwyd gan Howell Harris gyda phregeth rymus, oddiar y geiriau: "Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd a fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir." Nid yw yn cofio ddarfod iddo gael y fath odfa o'r blaen, yr oedd yr Arglwydd mewn gwirionedd yn eu mysg. Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa trefnwyd teithiau y brodyr, lleoedd y Cyfarfod Misol, a goruchwylwyr ar y gwahanol seiadau. Anogodd y brodyr ieuainc, hefyd, i ddod unwaith yr wythnos, yn awr ac yn y man, i Drefecca, i gael gwersi. Pwy oedd i'w haddysgu, ni ddywedir, ac nid ydym yn gwybod i ba raddau y rhoddwyd yr anogaeth mewn gweithrediad. Cofnoda, hefyd, fod y brawd William Griffiths, o Sir Gaernarfon, yn bresenol.

Dydd Llun, Chwefror 14, cawn ef yn cychwyn am daith i Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn. Pregethodd yn Erwd y nos gyntaf ar natur ffydd. Dranoeth, yn Llanfair-muallt, ei destun ydoedd: "Ys truan o ddyn ydwyf fi." Yn y seiat breifat a ddilynai, yr oedd amryw gynghorwyr yn bresenol, a chymerodd yntau fantais ar y cyfleustra i ddangos y fath anrhydedd iddynt oedd cael gwasanaethu yr Arglwydd. "Dywedais wrthynt," meddai, "am y cynyg a gefais ar le gwerth can' punt yn y flwyddyn, lle y gallaswn wisgo coler hardd, gyda lace aur; nad oedd dim yn fy rhwystro ond cydwybod. Gyda gwaith yr efengyl yr wyf yn aml yn wlyb hyd y croen, ac yn oer. A ydwyf yn grwgnach? A ydwyf yn ei theimlo yn galed? Na, na; yr wyf yn synu fy mod yn cael fy anrhydeddu mor fawr." Yna, cyfeiriodd at y casgliad wythnosol, y dylent roddi, nid pob un geiniog, ond pob un yn ol ei allu; ac anogodd y gweithwyr, pan yn gwneyd cytundeb a'u meistriaid, ar iddynt gadw amser at waith Duw. Yn Llansantffraid, ei destun ydoedd:

"Byddwch lawen yn wastadol." Yn y seiat breifat, dangosodd fod rheol Gair Duw, ac esiampl yr Arglwydd Iesu, yr un. Fod dadleu am y gwahaniaeth rhyngddynt yn debyg i ddadleu ar y gwahaniaeth rhwng fod un a dau yn gwneyd tri; neu ynte fod dau ac un yn gwneyd tri. Anogodd hwy i fod yn rhydd oddiwrth bartïaeth, ac am dderbyn yr holl bregethwyr, beth bynag a fyddai eu doniau, yr un fath. Yn Dolswydd, yr oedd Beaumont yn gwrando arno, ac aeth y ddau yn nghyd i Lwynhelyth. Ei destun yn Mochdref oedd: "O Israel, ti a'th ddinystriaist dy hun," a chafodd odfa dyner. Mynegodd ei fod wedi gadael dau cant o bunoedd y flwyddyn er mwyn y gwaith; ac y gwnelai hyny eto. Dangosodd y fath waith oedd Duw yn gario yn mlaen, ac nad oedd ond dechreu yn awr; mai yr hyn a wnelai yn benaf yn bresenol oedd symud y drain a'r mieri o'r ffordd; fod uffern wedi ymgynhyrfu yn ofnadwy yn erbyn y gwaith hwn ar ei gychwyniad, ond nas gallai ei ddinystrio; mai eiddo yr Arglwydd oedd yr oll a feddent; pan y rhoisant eu hunain i Dduw iddynt roddi eu meddianau yn ogystal; nas gallent ei alw yn ol mwy, ac nad oeddynt am hyny. Cawn ef yn Berriw dydd Gwener; pwnc y bregeth oedd, y mab afradlon. Yn Llanllugan, pregethai yn nhŷ un Richard Thomas; "Gwir yw y gair," oedd ei destun; ac ar y terfyn cafodd ymddiddan tra dyddorol â Lewis Evan, yr hwn a gawsai ei ollwng yn rhydd o garchar Dolgellau, am natur balchder. Dydd Sadwrn, cawn ef yn Llanfair-careinion; Eph. ii. 8, oedd ei destun; a chyhoeddai i'r bobl nad oedd un gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r damnedigion ond a wnelai gras Duw, ac eto, mor anniolchgar ac anffrwythlawn oeddynt hwy wedi bod. Yr oedd awdurdod a nerth yn cydfyned a'i genadwri. Yn Blaen Carno, pregethai ar : "Chwi a ddaethoch i fynydd Seion;" odfa sych, braidd, ac eto cafodd fesur o oleuni wrth gymhwyso y gwirionedd.

Yn Llanbrynmair yr oedd nos Sadwrn, a phregethodd oddiar y geiriau: "Adda, pa le yr wyt ti?" Boreu y Sul, cafodd seiat breifat yn yr un lle; deuddeg oedd yn bresenol. Dangosodd, i gychwyn, fod y seiadau yn debyg i glafdai, lle yr oedd pawb yn sâl, ac yn rhaid iddynt wrth gymhwysiad beunyddiol o waed Crist hyd ddyfnder y galon; fod yn bosibl i'r deall gael ei oleuo, a'r teimladau eu cyffwrdd, ac eto i bechod, rhagfarn, ac ofn angau fod yn aros yn nyfnder yr enaid. Fod y seiadau yn debyg i ysgolion, lle yr oedd pawb yn cael eu dysgu gan Dduw. Aeth yn mlaen i ganmol yr Eglwys Sefydledig, gan alw y Methodistiaid yn Ddiwygwyr o'i mewn; dangosodd ei le ei hun, fod gofal yr holl bregethwyr a'r seiadau trwy Gymru yn gorphwys arno; cyfeiriodd at y brawd Richard Tibbot, ac at y gwahaniaeth rhyngddynt a'r Ymneillduwyr. Wedi y seiat, cynhaliwyd odfa gyhoeddus; pregethai Lewis Evan yn mlaenaf; taranu y gyfraith yn ofnadwy a wnelai efe, ac arweiniwyd Harris ar ei ol i efengylu. Yn y prydnhawn, aeth tua Llwydcoed, pellder o ryw un-milltir-ar-ddeg. Ar y ffordd, gofynodd dri chwestiwn i'r Arglwydd. (1) A oedd rhywbeth yn ei yspryd oedd yn gwrthod plygu, ac ymostwng i Dduw? Cafodd ateb, nad oedd. (2) Mewn atebiad i ofyniad sicrhawyd ef fod athrawiaeth, dysgyblaeth, a threfn y Methodistiaid yn gymeradwy gan yr Arglwydd, ac y gwnai ei breswyl yn eu mysg. (3) Gofynai ai buddiol fyddai iddo ddyfod y ffordd hono drachefn, yn mhen ychydig ddyddiau, i addysgu y cynghorwyr? a chafodd ateb yn gadarnhaol, yn mhen enyd. Gwelai y İles a allai ddeilliaw oddiwrth hyn; eithr mai. gwaith newydd ydoedd, ac ofnai ei gymeryd heb i'r Arglwydd ei roddi iddo, a'r angenrheidrwydd anorfod am i Dduw fod wrth ei gefn, os oedd i ymaflyd ynddo. Llawenhäi wrth feddwl fod yr Arglwydd am ddefnyddio ei holl alluoedd ef (Harris), hyd yn nod y ddysgeidiaeth a gafodd yn y gwahanol ysgolion. Prawf hyn fod Howell Harris am ychwanegu at ei orchwylion blaenorol, y swydd o fod yn fath o athraw symudol, er cyfranu i'r cynghorwyr addysg gyffelyb i'r hyn a gawsent mewn coleg duwinyddol. Cafodd ymddiddan maith hefyd a Richard Tibbot am yr Ymneillduwyr. Dywedai fod ei galon yn uniawn tuag atynt; ei fod yn eu caru, ac yn galaru am yr hyn oedd allan o le ynddynt; mai ei amcan wrth lefaru yn eu herbyn oedd eu symud o'u marweidd-dra a'u ffurfioldeb. Dangosodd, yn mhellach, y modd y dechreuasant oeri ato, pan y gwelodd oleuni yr efengyl yn glir gyntaf, ac y dechreuodd wahodd pechaduriaid at Grist fel yr oeddynt. Tybiai fod llawer o'r Ymneillduwyr yn blant dynion da, ac wedi derbyn addysg dda, mewn canlyniad i'r hyn y daethent i broffesu; ond nad oeddynt wedi cael eu symud allan o honynt hwy eu hunain, nac wedi derbyn yr efengyl mewn gwirionedd, er y credai fod llawer o'u pregethwyr a'u pobl yn perthyn i'r Arglwydd. Cydunai Tibbot, a dywedai y gwnai gymuno yn yr Eglwys, er fod hyny, o herwydd ei addysg a'i ddygiad i fynu, braidd yn chwith ganddo; mai yn achlysurol yn unig yr oedd wedi derbyn gan yr Ymneillduwyr; ond gan ei fod yn llafurio yn awr yn eu canol, tybiai y gwnai eu tramgwyddo wrth gymuno yn eglwys ei blwyf, ac y gallai fyned i ryw eglwys blwyfol arall i dderbyn. A hyn cydwelai Howell Harris.

Yr oedd torf anferth wedi ymgasglu yn Llwydcoed; Rhuf. vii. 24, oedd testun Harris, a chafodd odfa nerthol. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat gyffredinol breifat, sef seiat i'r aelodau a'r cynghorwyr o wahanol fanau oedd yn digwydd bod yn bresenol, a bu yno, a chyda'r cynghorwyr, hyd un o'r gloch y boreu. Anogodd hwy i brynu yr amser, ac i addysgu y plant; penderfynodd ryw faterion dyrys i'r brodyr; a threfnodd oruchwylwyr yn y gwahanol seiadau, i ddarllen y Beibl a'i egluro, a chyfeiriodd at ei fwriad i ddyfod yno yn mhen ychydig ddyddiau i addysgu y cynghorwyr. Wrth wasgu arnynt i ymroddi i wasanaeth Duw, dywedai: "Nid wyf yn cynyg unrhyw ddysglaid i chwi, heb fy mod wedi profi o honi fy hun; rhaid i ni gael ein dysgu ein hunain, a hyny yn aml trwy demtasiwn boeth, cyn y gallwn eich dysgu chwi." Dywedai, yn mhellach: "Y mae yr Arglwydd yn myned i gymeryd meddiant o'r wlad rhag blaen. Nid wyf yn gofyn dim llai yn bresenol na Phrydain Fawr. Ar y dechreu, ni ofynwn am fwy na fy mherthynasau, fy nghymydogion, a'r plwyf; ond yn awr, ni wna dim llai na'r holl wlad fy nhro." Cafwyd seiat ryfedd iawn. "Yr oedd yn amser gogoneddus o ryddid," meddai. Dydd Llun, yr oedd yn Ty-mawr, Trefeglwys. Oddiyno aeth i Lanidloes, lle y pregethodd yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond y rhan fwyaf yn Gymraeg. Yn y Tyddyn y mae dydd Mawrth, ac ymdrinia yma ag achos y cynghorwr Thomas Bowen, yr hwn oedd wedi colli yspryd crefydd i raddau mawr. Bu Harris yn ymddiddan ag ef am rai oriau, yn ateb ei wrthddadleuon, ac yn ymresymu; cafodd ddoethineb mawr yn nglyn â hyn, ond parhau yn ystyfnig a wnaeth Thomas Bowen. Boreu dranoeth, gwnaeth gynyg arno drachefn; galwodd yn ei dŷ, gan ateb ei resymau, a chau ei enau, fel nad oedd ganddo air i'w ddweyd; ond ofer a fu yr ymgais, yr oedd calon y cynghorwr wedi suddo i'r byd. Oddiyma pasiodd trwy Rhaiadr, Dolyfelin, ac Erwd, gan ddychwelyd adref dydd Gwener, gwedi taith lafurus o yn agos i bythefnos.

Yn ystod yr ychydig amser y bu gartref, cronicla ddarfod iddo dderbyn pedwar gwrthgiliwr i'r seiat yn Nhrefecca; gwrthododd dderbyn un wraig oddiwrth yr Ymneillduwyr, nes iddi, yn gyntaf, gael hamdden i ystyried y mater mewn difrifwch. Cyfarfyddodd ddwy waith a'r cynghorwyr, er eu haddysgu a'u cymhwyso at y gwaith. Dywed iddynt fod yn ymwneyd am beth amser ag egwyddorion sylfaenol sillebiaeth, darlleniaeth, rhifyddiaeth, a gramadeg. Gyda y gwaith hwn teimlai bleser dirfawr. Daeth y newydd i'w glustiau fod ei frawd-yn-nghyfraith wedi cael swydd dan y brenhin, gwerth pum' cant o bunoedd yn y flwyddyn. "Yr oeddwn yn ddiolchgar am y swydd sydd genyf fi," meddai; "yr wyf finau yn was y Brenhin, sef gwas Brenhin brenhinoedd, ac y mae genyf le anrhydeddus yn ei gyfrin-gynghor."

Tua diwedd Chwefror, cawn ef yn cychwyn am daith faith yn Siroedd Aberteifi a Phenfro. Yn Bolgoed, ffermdy tua dwy filltir o Aberhonddu, llefarodd oddiar y geiriau: "Du ydwyf fi, ond hawddgar.' Yn Bronwydd, yn y seiat breifat ar ol y bregeth, arweiniwyd ef i adrodd cychwyniad a chynydd y diwygiad, y modd y cawsai ef ei benodi yn Watford yn arolygwr cyffredinol; yna, dangosai nad oedd y seiadau yn eglwysi, ond canghenau diwygiedig o'r Eglwys Sefydledig, yn mha un yr oeddynt i aros hyd nes y llyncid y tywyllwch oedd yn y Sefydliad yn y goleuni claer, neu ynte y caent eu gwthio allan o honi. Dywedai, yn mhellach, ei fod yn caru yr Ymneillduwyr, ac nas gallai oddef i neb eu dirmygu na'u hamarchu. Oddiyma aeth i Gilycwm, lle y pregethodd ar y ddyledswydd o aros yn Nghrist. Cafwyd seiat ryfedd ar ol y bregeth. Wrth ei fod yn egluro gymaint a wnaeth yr Arglwydd erddynt, torodd y fath orfoledd allan, a chanmol Duw, fel y bu raid iddo roddi i fynu am amser. Tramwyodd yn ganlynol trwy Lwynyberllan, Llansadwrn, Cayo, a Llancrwys; ac ar y ffordd cafodd sicrwydd i'w feddwl y rhoddai yr Arglwydd —yr ieithoedd Lladin, Groeg, a Hebraeg— iddo, fel y byddai yn fwy defnyddiol i'r praidd. Cawsai ffydd i weddïo am hyn; ni chymerai ball mewn un modd, am y gwelai y tueddai at ogoniant Duw. Yr oedd yn foreu Sabbath arno pan y croesai ar draws y mynyddoedd, a thrwy ddyffryn ffrwythlawn Teifi, nes dod i Capel Bettws, tua dwy filltir islaw Llangeitho. Yma arosodd hyd nes y deuai Rowland o Lancwnlle i weinyddu y sacrament. Diau fod ei yspryd i raddau yn gythryblus ynddo, oblegyd ni fuasai yn Llangeitho er ys dwy flynedd bellach, o herwydd yr oerfelgarwch a gyfodasai rhwng Rowland ag yntau. Cafodd arwydd arbenig o ffafr Duw yn yr ordinhad. Y prydnawn hwnw, yn Nghapel Gwynfil, yr enw wrth ba un yr adnabyddir pentref Llangeitho yn y cymydogaethau cyfagos, pregethodd i dyrfa anferth yn yr awyr agored. Ei destun. ydoedd : ydoedd: "Du ydwyf fi, ond hawddgar." Yr oedd wedi gwlawio yn drwm trwy y dydd, ond nid cynt y gorphenodd Harris ei weddi, nag y gwasgarwyd y cymylau, ac y daeth yr haul i'r golwg, a chafwyd hîn ddymunol i gynal y cyfarfod. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat breifat am dair awr. Llefarai am amryw bethau; am ganlyn esiampl Crist, ac nad oedd yn gweled ei hun yn ddiafol mewn cnawd ond pan yn myfyrio ar ymddarostyngiad y Gwaredwr; am dynerwch Crist at Petr yn peidio danod ei gwymp iddo, ac am ddarllen yr Ysgrythyrau, gan ddangos y byddai hyn yn aros wedi i'w teimladau oeri. Rhoddodd reolau i'r gwŷr a'r gwragedd yn y seiadau, ar iddynt ddarllen penod, a gweddïo, ac oni fyddai i Dduw agor eu genau i siarad er adeiladaeth, ar iddynt beidio siarad o gwbl. Yr oedd y presenoldeb dwyfol mor amlwg yn y cyfarfod, fel y methai Harris fyned yn ei flaen. "Bloeddiwn i fy hun," meddai, "nis gallwn ymatal; dydd o ymgymodi ydoedd. Cefais nerth ychwanegol at y gwaith. Gweddïai llawer, ac nis gall tafod fynegu y gorfoleddu oedd yno." Y noswaith hono teimlai ei gorph yn dra lluddedig. Cyn ymadael, taer ddymunai ar Daniel Rowland i ymweled a Sir Frycheiniog. Y mae yn sicr fod gwell dealltwriaeth yn ffynu rhwng y ddau nag a fuasai.

Nos Lun, pregethai yn Abermeurig; pregeth lem, a llawn bygythion, a deddf, a tharanau. Deallodd yn ganlynol fod y lle yn dra annuwiol a llygredig, ac mai dyna oedd eisiau yno. Dydd Mawrth, cawn ef yn Cwm Cynon; ac yn y seiat ar ol y bregeth, dywedai na ddylai hunan a diafol gael trigo yn nhŷ Dduw; fod ganddo ond ofer a fu yr ymgais, yr oedd calon y cynghorwr wedi suddo i'r byd. Oddiyma pasiodd trwy Rhaiadr, Dolyfelin, ac Erwd, gan ddychwelyd adref dydd Gwener, gwedi taith lafurus o yn agos i bythefnos.

Yn ystod yr ychydig amser y bu gartref, cronicla ddarfod iddo dderbyn pedwar gwrthgiliwr i'r seiat yn Nhrefecca; gwrthododd dderbyn un wraig oddiwrth yr Ymneillduwyr, nes iddi, yn gyntaf, gael hamdden i ystyried y mater mewn difrifwch. Cyfarfyddodd ddwy waith a'r cynghorwyr, er eu haddysgu a'u cymhwyso at y gwaith. Dywed iddynt fod yn ymwneyd am beth amser ag egwyddorion sylfaenol sillebiaeth, darlleniaeth, rhifyddiaeth, a gramadeg. Gyda y gwaith hwn teimlai bleser dirfawr. Daeth y newydd i'w glustiau fod ei frawd-yn-nghyfraith wedi cael swydd dan y brenhin, gwerth pum' cant o bunoedd yn y flwyddyn. "Yr oeddwn yn ddiolchgar am y swydd sydd genyf fi," meddai; "yr wyf finau yn was y Brenhin, sef gwas Brenhin brenhinoedd, ac y mae genyf le anrhydeddus yn ei gyfrin-gynghor."

Tua diwedd Chwefror, cawn ef yn cychwyn am daith faith yn Siroedd Aberteifi a Phenfro. Yn Bolgoed, ffermdy tua dwy filltir o Aberhonddu, llefarodd oddiar y geiriau: "Du ydwyf fi, ond hawddgar.' Yn Bronwydd, yn y seiat breifat ar ol y bregeth, arweiniwyd ef i adrodd cychwyniad a chynydd y diwygiad, y modd y cawsai ef ei benodi yn Watford yn arolygwr cyffredinol; yna, dangosai nad oedd y seiadau yn eglwysi, ond canghenau diwygiedig o'r Eglwys Sefydledig, yn mha un yr oeddynt i aros hyd nes y llyncid y tywyllwch oedd yn y Sefydliad yn y goleuni claer, neu ynte y caent eu gwthio allan o honi. Dywedai, yn mhellach, ei fod yn caru yr Ymneillduwyr, ac nas gallai oddef i neb eu dirmygu na'u hamarchu. Oddiyma aeth i Gilycwm, lle y pregethodd ar y ddyledswydd o aros yn Nghrist. Cafwyd seiat ryfedd ar ol y bregeth. Wrth ei fod yn egluro gymaint a wnaeth yr Arglwydd erddynt, torodd y fath orfoledd allan, a chanmol Duw, fel y bu raid iddo roddi i fynu am amser. Tramwyodd yn ganlynol trwy Lwynyberllan, Llansadwrn, Cayo, a Llancrwys; ac ar y ffordd cafodd sicrwydd i'w feddwl y rhoddai yr Arglwydd —yr ieithoedd Lladin, Groeg, a Hebraeg— iddo, fel y byddai yn fwy defnyddiol i'r praidd. Cawsai ffydd i weddïo am hyn; ni chymerai ball mewn un modd, am y gwelai y tueddai at ogoniant Duw. Yr oedd yn foreu Sabbath arno pan y croesai ar draws y mynyddoedd, a thrwy ddyffryn ffrwythlawn Teifi, nes dod i Capel Bettws, tua dwy filltir islaw Llangeitho. Yma arosodd hyd nes y deuai Rowland o Lancwnlle i weinyddu y sacrament. Diau fod ei yspryd i raddau yn gythryblus ynddo, oblegyd ni fuasai yn Llangeitho er ys dwy flynedd bellach, o herwydd yr oerfelgarwch a gyfodasai rhwng Rowland ag yntau. Cafodd arwydd arbenig o ffafr Duw yn yr ordinhad. Y prydnawn hwnw, yn Nghapel Gwynfil, yr enw wrth ba un yr adnabyddir pentref Llangeitho yn y cymydogaethau cyfagos, pregethodd i dyrfa anferth yn yr awyr agored. Ei destun. ydoedd : ydoedd: "Du ydwyf fi, ond hawddgar." Yr oedd wedi gwlawio yn drwm trwy y dydd, ond nid cynt y gorphenodd Harris ei weddi, nag y gwasgarwyd y cymylau, ac y daeth yr haul i'r golwg, a chafwyd hîn ddymunol i gynal y cyfarfod. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat breifat am dair awr. Llefarai am amryw bethau; am ganlyn esiampl Crist, ac nad oedd yn gweled ei hun yn ddiafol mewn cnawd ond pan yn myfyrio ar ymddarostyngiad y Gwaredwr; am dynerwch Crist at Petr yn peidio danod ei gwymp iddo, ac am ddarllen yr Ysgrythyrau, gan ddangos y byddai hyn yn aros wedi i'w teimladau oeri. Rhoddodd reolau i'r gwŷr a'r gwragedd yn y seiadau, ar iddynt ddarllen penod, a gweddïo, ac oni fyddai i Dduw agor eu genau i siarad er adeiladaeth, ar iddynt beidio siarad o gwbl. Yr oedd y presenoldeb dwyfol mor amlwg yn y cyfarfod, fel y methai Harris fyned yn ei flaen. "Bloeddiwn i fy hun," meddai, "nis gallwn ymatal; dydd o ymgymodi ydoedd. Cefais nerth ychwanegol at y gwaith. Gweddïai llawer, ac nis gall tafod fynegu y gorfoleddu oedd yno." Y noswaith hono teimlai ei gorph yn dra lluddedig. Cyn ymadael, taer ddymunai ar Daniel Rowland i ymweled a Sir Frycheiniog. Y mae yn sicr fod gwell dealltwriaeth yn ffynu rhwng y ddau nag a fuasai.

Nos Lun, pregethai yn Abermeurig; pregeth lem, a llawn bygythion, a deddf, a tharanau. Deallodd yn ganlynol fod y lle yn dra annuwiol a llygredig, ac mai dyna oedd eisiau yno. Dydd Mawrth, cawn ef yn Cwm Cynon; ac yn y seiat ar ol y bregeth, dywedai na ddylai hunan a diafol gael trigo yn nhŷ Dduw; fod ganddo ond ofer a fu yr ymgais, yr oedd calon y cynghorwr wedi suddo i'r byd. Oddiyma pasiodd trwy Rhaiadr, Dolyfelin, ac Erwd, gan ddychwelyd adref dydd Gwener, gwedi taith lafurus o yn agos i bythefnos.

Yn ystod yr ychydig amser y bu gartref, cronicla ddarfod iddo dderbyn pedwar gwrthgiliwr i'r seiat yn Nhrefecca; gwrthododd dderbyn un wraig oddiwrth yr Ymneillduwyr, nes iddi, yn gyntaf, gael hamdden i ystyried y mater mewn difrifwch. Cyfarfyddodd ddwy waith a'r cynghorwyr, er eu haddysgu a'u cymhwyso at y gwaith. Dywed iddynt fod yn ymwneyd am beth amser ag egwyddorion sylfaenol sillebiaeth, darlleniaeth, rhifyddiaeth, a gramadeg. Gyda y gwaith hwn teimlai bleser dirfawr. Daeth y newydd i'w glustiau fod ei frawd-yn-nghyfraith wedi cael swydd dan y brenhin, gwerth pum' cant o bunoedd yn y flwyddyn. "Yr oeddwn yn ddiolchgar am y swydd sydd genyf fi," meddai; "yr wyf finau yn was y Brenhin, sef gwas Brenhin brenhinoedd, ac y mae genyf le anrhydeddus yn ei gyfrin-gynghor."

Tua diwedd Chwefror, cawn ef yn cychwyn am daith faith yn Siroedd Aberteifi a Phenfro. Yn Bolgoed, ffermdy tua dwy filltir o Aberhonddu, llefarodd oddiar y geiriau: "Du ydwyf fi, ond hawddgar.' Yn Bronwydd, yn y seiat breifat ar ol y bregeth, arweiniwyd ef i adrodd cychwyniad a chynydd y diwygiad, y modd y cawsai ef ei benodi yn Watford yn arolygwr cyffredinol; yna, dangosai nad oedd y seiadau yn eglwysi, ond canghenau diwygiedig o'r Eglwys Sefydledig, yn mha un yr oeddynt i aros hyd nes y llyncid y tywyllwch oedd yn y Sefydliad yn y goleuni claer, neu ynte y caent eu gwthio allan o honi. Dywedai, yn mhellach, ei fod yn caru yr Ymneillduwyr, ac nas gallai oddef i neb eu dirmygu na'u hamarchu. Oddiyma aeth i Gilycwm, lle y pregethodd ar y ddyledswydd o aros yn Nghrist. Cafwyd seiat ryfedd ar ol y bregeth. Wrth ei fod yn egluro gymaint a wnaeth yr Arglwydd erddynt, torodd y fath orfoledd allan, a chanmol Duw, fel y bu raid iddo roddi i fynu am amser. Tramwyodd yn ganlynol trwy Lwynyberllan, Llansadwrn, Cayo, a Llancrwys; ac ar y ffordd cafodd sicrwydd i'w feddwl y rhoddai yr Arglwydd —yr ieithoedd Lladin, Groeg, a Hebraeg— iddo, fel y byddai yn fwy defnyddiol i'r praidd. Cawsai ffydd i weddïo am hyn; ni chymerai ball mewn un modd, am y gwelai y tueddai at ogoniant Duw. Yr oedd yn foreu Sabbath arno pan y croesai ar draws y mynyddoedd, a thrwy ddyffryn ffrwythlawn Teifi, nes dod i Capel Bettws, tua dwy filltir islaw Llangeitho. Yma arosodd hyd nes y deuai Rowland o Lancwnlle i weinyddu y sacrament. Diau fod ei yspryd i raddau yn gythryblus ynddo, oblegyd ni fuasai yn Llangeitho er ys dwy flynedd bellach, o herwydd yr oerfelgarwch a gyfodasai rhwng Rowland ag yntau. Cafodd arwydd arbenig o ffafr Duw yn yr ordinhad. Y prydnawn hwnw, yn Nghapel Gwynfil, yr enw wrth ba un yr adnabyddir pentref Llangeitho yn y cymydogaethau cyfagos, pregethodd i dyrfa anferth yn yr awyr agored. Ei destun. ydoedd : ydoedd: "Du ydwyf fi, ond hawddgar." Yr oedd wedi gwlawio yn drwm trwy y dydd, ond nid cynt y gorphenodd Harris ei weddi, nag y gwasgarwyd y cymylau, ac y daeth yr haul i'r golwg, a chafwyd hîn ddymunol i gynal y cyfarfod. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat breifat am dair awr. Llefarai am amryw bethau; am ganlyn esiampl Crist, ac nad oedd yn gweled ei hun yn ddiafol mewn cnawd ond pan yn myfyrio ar ymddarostyngiad y Gwaredwr; am dynerwch Crist at Petr yn peidio danod ei gwymp iddo, ac am ddarllen yr Ysgrythyrau, gan ddangos y byddai hyn yn aros wedi i'w teimladau oeri. Rhoddodd reolau i'r gwŷr a'r gwragedd yn y seiadau, ar iddynt ddarllen penod, a gweddïo, ac oni fyddai i Dduw agor eu genau i siarad er adeiladaeth, ar iddynt beidio siarad o gwbl. Yr oedd y presenoldeb dwyfol mor amlwg yn y cyfarfod, fel y methai Harris fyned yn ei flaen. "Bloeddiwn i fy hun," meddai, "nis gallwn ymatal; dydd o ymgymodi ydoedd. Cefais nerth ychwanegol at y gwaith. Gweddïai llawer, ac nis gall tafod fynegu y gorfoleddu oedd yno." Y noswaith hono teimlai ei gorph yn dra lluddedig. Cyn ymadael, taer ddymunai ar Daniel Rowland i ymweled a Sir Frycheiniog. Y mae yn sicr fod gwell dealltwriaeth yn ffynu rhwng y ddau nag a fuasai.

Nos Lun, pregethai yn Abermeurig; pregeth lem, a llawn bygythion, a deddf, a tharanau. Deallodd yn ganlynol fod y lle yn dra annuwiol a llygredig, ac mai dyna oedd eisiau yno. Dydd Mawrth, cawn ef yn Cwm Cynon; ac yn y seiat ar ol y bregeth, dywedai na ddylai hunan a diafol gael trigo yn nhŷ Dduw; fod ganddo ef gomissiwn yn erbyn y diaflaid, ac yn erbyn pob peth a ddeilliai o uffern yn y proffeswyr. Taranodd hefyd yn erbyn y dull cnawdol o garu oedd yn y wlad, a holai hwynt a oeddynt yn myned i'r eglwys bob Sul, i wrando Rowland neu Howell Davies. Yn Dyffryn Saith, pregethai ar: "A hyn yw y bywyd tragywyddol," ac yn Nghastell-newydd-Emlyn, ar: "Ys truan o ddyn ydwyf fi." Pasiodd yn mlaen trwy Pen-y-wenallt, Dygoed, i Ty'r Yet. Yn y lle diweddaf, yr oedd nifer o gynghorwyr wedi ymgynull, a bu yntau yn eu cymhell i sefydlu casgliad wythnosol yn mhob man. Dangosodd iddynt ei amgylchiadau ei hun, nad oedd ganddo ddim ond yr addewid i syrthio yn ol arni, ac y buasai wedi rhoddi ei waith i fynu er ys llawer dydd oni bai y tyst oedd o'i fewn fod Duw wedi ei alw ato. Ymwelodd yn nesaf â Longhouse, ac a Hay's Castle, lle y bu yn gwrando Howell Davies yn eglwys y plwyf, ac yn cyfranogi o'r sacrament.

Y dydd Llun canlynol, brysiodd i Hwlffordd, lle y cynhelid Cymdeithasfa Fisol. Cafodd fod yr Arglwydd yno o'i flaen. Pan y trefnent parthed casgliad wythnosol, gwrthwynebai rhai; a chynghorai Harris hwy i fod yn araf gyda hyn, rhag nad oedd. Duw ynddo, a phe y gwthient y peth yn mlaen trwy y tew a'r tenau, efallai y collent eu dylanwad yn yr efengyl, yr hwn ddylanwad yr oedd Crist wedi ei bwrcasu a'i briod waed. Dangosai mai y ffordd oreu i orchfygu cyndynrwydd oedd trwy gariad ac amynedd. Cyfeiriodd at ei amgylchiadau, nad oedd wedi derbyn pum' punt mewn chwe' mis; ei fod wedi gwrthod can' punt y flwyddyn, yr hyn a fuasai yn ddau cant yn bur fuan; ond ei fod yn İlawenychu wrth fod mewn tlodi ac anghysur, gan ei chyfrif yn anrhydedd. Wedi trefnu amryw bethau, aeth i'r ystafell i bregethu; ei destun oedd, Eph. v. 20, a moesoldeb Cristionogol ei fater. Cyfarfyddai y Gymdeithasfa ar ddiwedd yr odfa, a bu Howell Harris yn dangos iddynt yr addysg a hoffai i'r cynghorwyr gael, sef sillebiaeth, gramadeg Saesneg, rheitheg, rhesymeg, daearyddiaeth, hanesiaeth, athroniaeth, ac ieithoedd. Mynegodd fel y buasai yn rhoddi gwersi yn Nhrefecca; yr oedd yr holl gynghorwyr yn ymddangos yn foddlon, a chydunwyd fod John Sparks i barotoi llyfrau sillebu, a chopïau, erbyn y Gymdeithasfa nesaf. Dysgwylid i'r goruchwylwyr hefyd gymeryd gwersi. "Yna," meddai, "dangosais fod eisiau addysg yn mhob peth, onide nis gallent fod yn ddefnyddiol, ac fel tadau; y dylent ddysgu pa fodd i ymddwyn wrth y bwrdd, ac mewn cwmni, yn ol eu cymeriadau, nid fel fops, ac nid fel ynfydion; a pha fodd i gyfarch. Dysgais yr hyn a allwn, ac ar iddynt fod yn farw iddynt eu hunain, ac i'r byd, ac i'w ffasiynau, fel na byddai o bwys ganddynt beth a wisgent. Dangosais anrhydedd ein swydd, ein bod yn cael agoshau at berson y Brenhin." Gwelir fod cynllun Howell Harris o addysg athrofaol yn un tra eang. Canfyddai y rhaid dechreu yn isel. Yr oedd rhai o'r cynghorwyr heb gael ond ychydig o addysg foreuol, ac felly rhaid eu hyfforddi mewn sillebiaeth ac ysgrifenu; ond bwriadai i'r cwrs ymeangu ac ymddyrchafu, fel na fyddai y rhai a elent trwyddo yn ol mewn diwylliant i glerigwyr yr Eglwys Sefydledig. Dengys y cyfeiriad at hyfforddi y dynion ieuainc mewn cyfarch, ac mewn iawn ymddygiad wrth y bwrdd, mor ymarferol ydoedd Harris yn ei holl gynlluniau. Yr oedd llawer o'r pregethwyr ieuainc yn hanu o deuluoedd tlodion; gwyddent gryn lawer am athrawiaethau yr efengyl, ond ychydig am reolau moesgarwch, ac arferion cymdeithasol, fel eu dysgid gan Arglwydd Chesterfield; a chan y byddent yn cael eu gwahodd, nid yn anfynych y pryd hwnw, i dai boneddigion y wlad, amryw o ba rai a dueddent at Fethodistiaeth, yr oedd perygl iddynt fyned yn wrthddrychau gwawd i'r rhai anianol yn y cyfryw leoedd. Eithr yr oedd y Diwygiwr yn dra awyddus am iddynt beidio myned yn falch, pa anrhydedd bynag a roddid arnynt; a phwyntiai allan fod cael agoshau at berson y Brenhin yn fwy o urddas na chael myned i dŷ unrhyw bendefig.

O Hwlffordd, aeth Harris i dref Penfro, lle y pregethodd i gynulleidfa fawr, ar Mat. i. 21. Enw yr Iesu oedd ei fater; dangosai ei fod yn Frenhin, yn Offeiriad, ac yn Brophwyd; ac yr oedd nerth a goleuni dirfawr yn cydfyned a'r sylwadau. Cawn ef yn nesaf mewn lle o'r enw Caino. Dywed ei fod yn lluddedig o ran corph, a'i fod yn llefaru mewn cryn gaethiwed, ond hydera i rywrai dderbyn bendith. "Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd a fyddant fel mynydd Seion," oedd ei destun. Yn y seiat breifat, cafodd ryddid mawr wrth gynghori yr aelodau i fyw trwy ffydd. Dywedai am y cynghorwyr eu bod yn benderfynol i fyned yn eu blaen i bregethu, hyd yn nod pe raid iddynt fod heb ddillad, a myned o gwmpas yn droednoeth. Dangosodd ddyledswydd meistri a gweision, y dylent hunan-ymwadu mwy; mai Iesu Grist yw yr esiampl yn hyn, ac mai buddiol iddynt fyddai byw yn is na'u sefyllfa, fel y byddai ganddynt rywbeth i'w gyfranu i'r Arglwydd. Am dano ei hun dywedai, yr ystyriai hi yn anrhydedd cael bod yn wlyb, a thrafaelu can' milltir yr wythnos, gan bregethu ddwy neu dair gwaith y dydd, heb gael dim fel tâl am ei lafur, ond yr hyn a dderbyniai gan yr Arglwydd. Ei le nesaf oedd Jefferson. Wrth deithio tuag yno, cythruddwyd ef yn ddirfawr gan ryw chwedl a ddaeth i'w glustiau, sef ddarfod i Daniel Rowland ddweyd fod dylanwad Mr. Whitefield arno wedi peri iddo newid ei farn gyda golwg ar athrawiaeth y Drindod; a darfod i Howell Davies awgrymu i rywun nad oedd efe (Harris) yr un yn awr ag a oedd gynt. Ar y dechreu, teimlai y rhaid iddo gael iawn am y sarhad; ond yn mhen ychydig llonyddodd ei dymher, a phenderfynodd ddyoddef yr oll. Y mae yn sicr fod cludwyr chwedlau yn gwneyd llawer o niwed i'w yspryd. Yn Jefferson, ei destun ydoedd: "Mawr yw dirgelwch duwioldeb." Dangosais," meddai, "yn mha ystyr y mae yn ddirgelwch. Yn (1) am ei fod wedi ei guddio yn gyfangwbl oddiwrth y dyn anianol; ni wyr efe ddim yn ei gylch. (2) Am mai trwy ffydd, a thrwy ddysgeidiaeth yr Yspryd Glân yn unig y gellir ei wybod, ac nid trwy foddion naturiol, megys darllen, efrydu, a myfyrio, er fod yr Yspryd yn aml yn dyfod trwy y cyfryngau hyn, ac felly y dylem eu defnyddio. (3) Y mae yn ddirgelwch am nas gellir plymio i'w waelodion, hyd yn nod gan y rhai sydd yn canfod ddyfnaf iddo." Dywed, yn mhellach, iddo gymhwyso yr athrawiaeth gyda nerth at bechaduriaid difater. "Yr oeddwn yn ofnadwy o lym," meddai, "hyrddiais ddychrynfeydd Duw arnynt, gan ddangos eu bod yn pechu yn erbyn deddf ac efengyl. Dangosais pa fodd y mae yr hen a'r ieuainc, y cyfoethog a'r tlawd, yn cydbechu ar y ffordd lydan, ac eto yn taeru nad oes un rheidrwydd am fyned o gwmpas i gynghori y bobl. Dangosais sefyllfa y sir; taranais yn arswydus, a rhybuddiais hwy." Diau ei bod yn lle ofnadwy yno, a bod y dylanwad yn ormod i gnawd. Yn y seiat a ddilynai, yn yr hon yr oedd John Harris yn bresenol, anogodd hwy yn gryf i gariad brawdol, ac i beidio esgeuluso y moddion. "Ni wyddoch faint eich colled wrth esgeuluso un cyfleustra," meddai. Pregethodd gyda nerth yn St. Kennox; ac wrth fyned oddiyno i Maenclochog, rhaid oedd iddo ef a John Sparks, yr hwn oedd yn dra anwyl ganddo, ymadael. Eithr aeth John Harris yn mhellach gydag ef, ac anogai yntau ef i gyffroi yr aelodau i fod ar eu goreu dros yr Arglwydd. "Am danaf fy hun," meddai, "dywedais nas gallwn orphwys, a'm bod yn benderfynol, trwy ras, o farw yn y gwaith anrhydeddus hwn."

O Maenclochog, cawn ef yn myned yn nghwmni ei hen gyfaill, Howell Davies, i'r Parke. Cyffelyba hwy i deithwyr wedi cael eu dwyn yn nghyd, ar ol bod yn tramwy trwy ystormydd enbyd. Agorodd Harris ei holl galon i'w frawd, gan ddangos mawredd y gwaith, y modd yr oedd yn llwyddo, ac fel y credai fod y tymhestloedd y buont ynddynt, yn tueddu i'w cadw rhag ymfalchio. Ei destun yma oedd: "Gwir yw y gair." Yna, teithia trwy Gilfach, Mounton, Lacharn, Merthyr, a Llanpumsant. Yn y rhan fwyaf o'r lleoedd hyn, pregethai heb un testun, ac yr oedd nerth mawr yn cydfyned a'i weinidogaeth. Yn Nghaerfyrddin, gwrandawodd ar John Richard yn pregethu ar ymddarostyngiad y Gwaredwr; yn ganlynol, pregethodd yntau ar ddirgelwch. Crist. Ymddengys fod yma Gymdeithasfa Fisol, a gwasgai Harris yn ddwys ar y pregethwyr y dymunoldeb iddynt i ymdrechu am ragor o addysg. Gorphenodd ei daith yn Llanddeusant; yr oedd yn ddyfnder nos arno yn cyrhaedd y lle, a dywed ei fod yn wlyb hyd ei groen, ac yn oer, wrth groesi y Mynydd Du. Er hwyred ydoedd, yr oedd yn rhaid iddo. bregethu; dechreuai yr odfa am ddeuddeg o'r gloch y nos, a'r mater oedd: "Iachawdwriaeth orphenedig;" a daeth yr Arglwydd i lawr. Oddiyma, aeth ar ei union tua Threfecca, yr hwn le a gyrhaeddodd am bedwar o'r gloch y boreu, y dydd o flaen y Pasg. Fel hyn yr ysgrifena wedi dychwelyd: "Y boreu hwn daethum adref, ar ol taith o dros dair wythnos yn Siroedd Penfro, Aberteifi, a Chaerfyrddin, a chwedi tramwy dros un-cant-ar-ddeg o filltiroedd. Ffafriodd yr Arglwydd fi yn rhyfedd yn mhob man, wrth bregethu, cynghori yn y seiadau preifat, a threfnu pethau cysylltiedig a theyrnas dragywyddol ein Hachubwr. Er ein holl bechadurusrwydd, y mae yr Arglwydd yn cario ei waith yn mlaen yn mhob man. Yr wyf yn credu fy mod yn cael yr anrhydedd o adael bendith ar fy ol, pa le bynag yr af, i'r eglwys, i'r byd, ac i'r cynghorwyr. Llawer o ddarganfyddiadau melus o'i ogoniant a roddwyd i mi gan yr Arglwydd."

Ar y 25ain o Fawrth y dychwelodd Howell Harris. Y dydd Mawrth canlynol, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. "Yn y seiat gyffredinol," meddai, "cefais y fath deimlad o'r cariad a'r presenoldeb Dwyfol, fel na allwn lefaru. Yr oedd. pawb yn llawn o Dduw. Yna, fy ngenau a agorwyd dros ddwy awr, mewn tynerwch a chariad; dangosais iddynt am gariad Duw, am yr anrhydedd o gael bod yn ngwasanaeth Duw, ac am fywyd ffydd." Yn y cyfarfod neillduol, holodd y cynghorwyr yn fanwl, a threfnwyd teithiau pob un. Ar y dydd cyntaf o Ebrill, cychwynodd am Lundain, ac ni ddychwelodd yn ei ol hyd y nawfed o Fai. Un hwyr, yn bur fuan wedi ei ddychweliad, daeth y Parch. Price Davies, Ficer Talgarth, i ymweled ag ef, ac yr oedd yn fwy isel a serchog nag y gwelsai Harris ef erioed o'r blaen. Adroddodd ei holl hanes wrth Price Davies, y modd y cawsai ei ddeffro trwy ei waith ef yn galw y bobl at y sacrament, a'r modd y dechreuasai fyned o gwmpas i bregethu. Nad oedd ganddo unrhyw gynllun ar y cychwyn; nad oedd wedi clywed am Whitefield na Wesley, ac nad oedd ganddo unrhyw ddychymyg y buasai y gwaith yn cynyddu fel y gwnaethai. Datganai, yn mhellach, ei benderfyniad i lynu wrth yr Eglwys Sefydledig. "Dywedais," meddai, "y dylai y rhai a ddygasid i fynu yn yr Eglwys aros ynddi; os codai rhyw betrusder yn eu meddwl y dylent fyned ag ef at yr offeiriad; os na wnai ef ddangos amynedd a rhoddi boddlonrwydd. iddynt, y dylent fyned at ryw offeiriad arall; os na chaent eu boddloni gan unrhyw offeiriad, y dylent ddyfod ataf fi, neu ryw un o honom (y Methodistiaid); ac os methent gael boddlonrwydd yn neb o honom, yna, eu bod at eu rhyddid i ganlyn eu goleuni, a'u cydwybod." Datganodd, yn mhellach, am elyniaeth yr offeiriaid ato, eu bod wedi arfer pregethu yn ei erbyn, a darfod iddo fod mewn perygl am ei fywyd oddiwrthynt; ond mai am ddiwygiad oedd efe, a gwneyd cymaint o dda ag a oedd bosibl, a phe y gadawai y Methodistiaid. yr Eglwys, y gadawai yntau hwythau. Addefai Mr. Davies fod eisiau diwygiad yn fawr. "Yna," meddai Harris, "dangosais i Mr. Price Davies, fod rhagfarnau (yr offeiriaid at y Methodistiaid) wedi lleihau yn ddirfawr, am fod llawer o bethau oedd yn feius ynom wedi cael eu cywiro, a'u bod yn gweled ein bod yn glynu wrth yr Eglwys. Addefais hefyd ddarfod i mi ac eraill fod yn rhy wresog yn ein zêl. Dywedai yntau mai hyn a aethai i glustiau y clerigwyr a'r esgobion; eto, addefai fod llawer o honynt yn ddynion drwg, a'i fod ef ei hun yn eithaf drwg." Wrth glywed yr addefiad hwn, torodd y Diwygiwr i folianu: "Rhyfedd, Arglwydd," meddai; "beth na elli di wneyd? Yna, aeth yn mlaen i ganmol yr Eglwys, fod ei gwasanaeth o'r fath felusaf. Yr ydym yn croniclo yr hanes hwn er mwyn tegwch hanesyddol, yn gystal ag o herwydd ei ddyddordeb. Profa fod yspryd Howell Harris, oedd yn wastad yn gynhes at yr Eglwys Sefydledig, ac yn ymlyngar wrthi, er cymaint o feiau a ganfyddai o'i mewn, erbyn hyn yn ymgordeddu am dani yn dynach, a'i fod yn benderfynol o beidio ei gadael, hyd yn nod pe bai raid cefnu ar y Methodistiaid, oblegyd ei ymlyniad. Nid annhebyg mai adnewyddu ei gymdeithas â Whitefield a ddygodd oddiamgylch y cyfnewidiad hwn yn ei deimlad.

Yn mis Mai, pasiodd Daniel Rowland. trwy Drefecca, a bu Harris yn ei wrando yn pregethu. Ei destun ydoedd, Rhuf. viii. 13, a'i fater, gras mewn ymdrech â phechod. Dywedai na ildiai gras i lygredd hyd nes y byddai y drwg wedi ei lwyr orchfygu; fod y Cristion yn marweiddio gweithredoedd y cnawd, ac a'i holl galon yn eu cashau; fod llawer o Phariseaid i'w cael, oeddynt yn foesol yn unig oddiallan, ac na wna dim foddloni Duw na gras ond llwyr ddinystr pechod. Yr oedd yr athrawiaeth wrth fodd calon Howell Harris. "Gwelwn," meddai, "fod yr Arglwydd yn myned allan yn erbyn pechod; canfyddwn hyn wrth ei fod yn rhoi y fath gomissiwn i'w was, a gwnaed i'm henaid lawenychu ynof o'r herwydd."

O ganol Mai hyd ddiwedd Gorphenaf, y mae y dydd-lyfr ar goll. Ddechreu mis Awst, aeth Howell Harris i Lundain, ac arosodd yno hyd ganol Medi. Prif ddigwyddiad y cyfnod hwn oedd gwaith Whitefield, mewn Cymdeithasfa a gynhaliwyd yn y Tabernacl, Medi 1-7, yn ymneillduo yn gyfangwbl oddiwrth arolygiaeth y Cyfundeb Saesnig, ac yn trosglwyddo yr holl ymddiriedaeth i Howell Harris. Cydunai amryw bethau i beri i Whitefield gymeryd y cwrs hwn. (1) Er ei fod yn meddu cymhwysder at drefniadaeth, a llawer o fedr at lywodraethu ac arwain, eto, nid dyma ei brif allu, na'i hoff waith. Uwchlaw pob peth, pregethwr oedd Whitefield, a galw pechaduriaid at Grist oedd y gorchwyl yn mha un yr ymhyfrydai. Ac er cael rhyddid i fyned o gwmpas i ba le bynag y byddai galwad, a phregethu yr Arglwydd Iesu yn mhob man lle y caffai ddrws agored, teimlai fod yn rhaid iddo roddi i fynu bob cyfrifoldeb a gofal am allanolion. (2) Yr oedd yr anghydfod a'r dadleuon parhaus a anrheithiai y Cyfundeb yn Lloegr, wedi blino ei yspryd; teimlai nas gallai gyd-ddwyn a'r brodyr gwrthnysig yn hwy; ac er nad oedd am dori ei gysylltiad â hwy, eto, nid oedd am gymeryd ei flino yn hwy gan eu hymrysonau. (3) Y mae yn bur sicr fod ei deimlad at yr Eglwys Sefydledig wedi newid. Ar y dechreu, credai fod diwygiad ynddi yn anmhosibl; barnai y byddai raid i'r Methodistiaid, fel corph o bobl, ei gadael yn bur fuan; ond yn awr, trwy gymdeithasu a llawer o fonedd y tir, ac yn arbenig a'r Iarlles Huntington, daethai i dybio mai trwy ddiwygio yr Eglwys, y gellid diwygio y deyrnas. Tybiai y cai ef ei wneyd yn esgob, ac y caffai clerigwyr efengylaidd eu dyrchafu i safleoedd o awdurdod, a thrwy hyn, y deuai yr Eglwys drwyddi yn efengylaidd. Felly, nid oedd yn awyddus am liosogi seiadau Methodistaidd, nac am fod yn arweinydd iddynt. Y mae yn bur sicr ddarfod iddo ddylanwadu ar Howell Harris, a'i wneyd yntau hefyd yn fwy ymlyngar wrth Eglwys Loegr.

Cawn Howell Harris, tua diwedd mis Medi, yn ymweled a rhanau o Sir Gaerfyrddin. Mewn seiat yn Llwynyberllan, dywedai ei fod yn foddlon bod o'r golwg mewn cysylltiad a'r gwaith; i Whitefield fod yn ben ar y Cyfundeb yn Lloegr, a Rowland yn Nghymru; ac os boddlonent, fod John Wesley drostynt hwythau drachefn. Y gwnai y lle isaf ei dro ef (Harris); fod cario y gwirionedd o gwmpas, heb neb yn ei weled, yn ddigon o anrhydedd iddo; ac nad gwaeth ganddo i eraill gael yr holl barch a'r poblogrwydd. Diau. ei fod yn hollol onest yn yr hyn a ddywed, ac mai dyna ei deimlad y foment hono. Eithr y mae un frawddeg yn dilyn, a awgryma ryw gymaint o chwerwder yspryd, sef: "Dymunaf na fyddo i'r brawd Rowland gael cwymp, fel yr ymddengys yn debyg yn awr. Yn bur fuan, cawn ef yn cychwyn am daith i Forganwg. Dywed ei fod yn wanllyd o gorph, a bod ei enaid yn flin ynddo o herwydd yr annhrefn oedd yn mhlith y Methodistiaid. Pregethodd y noson gyntaf yn Cantref; boreu dranoeth yn Taf-Fawr, ac achwyna yn enbyd ar erwinder y ffordd; y nos, yr oedd yn Llanfabon. Ar ei ffordd i'r Groeswen, clywodd am rhyw helynt a ddigwyddasai yn y Goetre. Teimlai faich annyoddefol yn pwyso arno mewn canlyniad; gwelai fod serch partïol yn debyg o wneyd byd o niwed yn eu mysg, ac ocheneidiai wrth weled Satan yn cael caniatad i'w rhwygo. Eithr wrth bregethu, ar Mat. xi. 28, 29, daeth yr Arglwydd i lawr, a chafwyd odfa rymus. Yn y seiat breifat, agorodd ei galon; dywedai ei fod yn gweled ei hun y gwaethaf o bawb; ond yn Nghrist ei fod fel pe byddai heb bechu, ac fel pe bai pechod heb ddyfod i'r byd. "Daeth awelon nerthol o'r Yspryd i lawr," meddai, pan y dangoswn ein hundeb â Christ. Gofynais iddynt, A ydych chwi yn teithio ffordd hyn? Dyma fy mywyd i. Nid wyf yn ddyledus i'r cnawd, ond i'r Arglwydd, am fyw iddo." Gwedi y seiat, bu gyda y pregethwyr a'r goruchwylwyr hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Daeth awel gryf i lawr yma eto. "Dangosais iddynt," meddai, "y Duw tragywyddol yn y preseb. Cwestiynais hwynt hyd adref am Dduwdod y Gwaredwr; dangosais y modd y datguddiwyd y gwirionedd hwn i mi; ac eglurais am fy undeb a'r Morafiaid, am ddirgelwch y Drindod, a'r modd y mae y Drindod sanctaidd yn preswylio yn Nghrist; am beidio gwneyd dim heb ymgynghori a'r Arglwydd, gan ei gydnabod ef fel Meistr. Daeth chwythwm cryf i lawr, a phenderfynasom lawer o bethau."

Dranoeth, aeth ef, a Thomas Price, o'r Watford, i Gaerdydd. Wrth glywed crochfloedd y werinos yma tueddai i grynu; ni fedrai feddianu ei hun am dipyn; ond yn y man nerthwyd ef i efengylu yn felus, oddiar y geiriau: "O angau, pa le y mae dy golyn?" Gwenodd yr Arglwydd arno ef ac ar y bobl. Cafodd ymddiddan maith. a'r brawd Price, yr hwn sydd yn haeddu ei gofnodi. "Cynygiais," meddai Harris, "roddi fy lle i fynu o ran yr enw o hono; i Rowland gael bod yn ben yn Nghymru, Whitefield yn Lloegr, a Wesley drostynt hwythau ill dau. Dywedais y gwnawn yr un gwasanaeth wedin ag yn awr, ac nad oes genyf fawr ymddiried yn neb; fy mod yn gweled diffyg arfer rheol cariad at ein gilydd, a bod eiddigedd wedi dyfod i'n mysg. Dangosais y modd y mae y brawd Rowland yn gwanhau fy nwylaw; fy mod yn Lloegr yn cael fy meio am gadw y Morafiaid a'r Wesleyaid allan o Gymru, ac yn Nghymru fy mod yn cael fy nghyhuddo o'u bradychu (sef i'r Morafiaid). Cyfeiriais at falchder, at gariad at y byd, ac nad oedd ef (Price) mor syml ag y buasai. Agorodd yntau ei holl galon a'i ofnau. Dywedodd na wnai y brawd Rowland gymeryd fy lle, yr unai â hwy i fy anrhydeddu am fy nhalentau a'm gwasanaeth; ond ei fod (Rowland) yn meddwl nad wyf yn arfer fy rheswm yn wastad, ond yn gweithredu oddiar deimlad y foment. Dywedodd, yn mhellach, na wnai ef (Price) a'r brodyr, gymeryd y brawd Rowland yn fy lle. Ymadawsom yn felus." Y mae yn bur sicr fod Thomas Price yn dweyd yn eglur beth oedd teimlad Daniel Rowland at y Diwygiwr o Drefecca, sef ei fod yn ei anrhydeddu am ei yni, a'i wasanaeth, ac nad awyddai mewn un modd am gymeryd ei le; ond ei fod yn beio arno am fyrbwylldra a diffyg barn.

Cawn Harris yn nesaf yn Dinas Powis, lle y pregethodd ar ateb yr Iesu i ddysgyblion Ioan Fedyddiwr. Duwdod Crist oedd y mater. Yn St. Andrew's, cyfarfyddodd a'r brawd Morgan Jones, gan yr hwn y clywodd am y gyfraith yn Ngogledd Cymru. Ni ddywed ddim am natur y newyddion. Ymddengys fod Morgan John Lewis yma hefyd, a thorodd Harris ato, parthed sefyllfa pethau yn eu mysg. "Dywedais," meddai, "fod y gwaith yn rhy drwm i mi, oni chawn gymorth gan eneidiau ydynt yn feirw iddynt eu hunain, ac yn ei gweled yn anrhydedd i ymdreulio yn ngwasanaeth yr Arglwydd, gan fod a'r achos ar eu calonau. Dangosais fod fy ngwaith mor fawr fel mai da fyddai i rywun ddilyn fy ergyd, gan fagu y cynghorwyr a'r goruchwylwyr ieuainc, a myned o gwmpas teuluoedd, i'w deffro, fel y byddo yr Arglwydd yn ben ar y cwbl. Cynygiais osod yr offeiriaid yn ben yn Lloegr ac yn Ngymru, ac i minau fod o'r golwg." Gwelir fod ei deimlad yn parhau i raddau yn chwerw at yr offeiriaid, a bod y cwestiwn, pwy a fydd ben? yn cael gormod o le yn ei feddwl. Aeth yn nesaf i St. Nicholas, a chafodd gyfleustra yma i wrando Howell Davies. Gwedi yr odfa, dywedodd Mr. Davies wrtho, fod y diafol yn rhuo yn ei erbyn yn ofnadwy yn Nghaerfyrddin, ac yn Dygoed, a'i fod yn cael ei gyhuddo o ryw anfoesoldeb, a bod caneuon gwawdlyd wedi eu cyfansoddi iddo. Aeth y peth trwy ei galon fel brath cleddyf. Wrth fyned tua'r Aberthyn nis gallai lefaru gan faint ei ofid. Yno, modd bynag, cafodd lawer o nerth wrth lefaru ar y geiriau: "Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw." Yn y seiat a ddilynai, dywedodd lawer am berson Crist, a'i waed, a'i haeddiant; ei fod yn Anfeidrol yn y groth, yn Anfeidrol yn ei enedigaeth, ac yn Anfeidrol yn ei fywyd, yn ei ufudd-dod, ac yn ei angau. Ceryddodd yr aelodau yn llym am eu balchder, eu cybydd-dod, a'r modd y gwarient eu harian, a rhybuddiodd hwy rhag barnu y cynghorwyr, onide, y gallent syrthio i'r un pechod a Corah. Wedi y seiat i'r aelodau, yr oedd seiat drachefn i'r cynghorwyr a'r goruchwylwyr, ac ymddengys fod Harris yn y seiadau yma yn trefnu pethau, fel pe y byddent yn meddu awdurdod Cyfarfod Misol. Pasiodd trwy Penprysc, gan bregethu efengyl y deyrnas, a daeth i Nottage. Yma, clywodd y bwriedid ei osod yn ymddiriedolwr ar y capel oedd agos a chael ei orphen yn Aberthyn. Taflodd hyn ef i beth petrusder; ofnai rhag i'r offeiriaid Methodistaidd deimlo, o herwydd fod ei enw ef yn y weithred, a'u henwau hwythau allan; ac na ddeuent i bregethu i'r capel o'r herwydd. "Yr wyf yn foddlon," meddai, "cymeryd fy rhan yn holl drafferthion tŷ Dduw, ond nid yn ei anrhydedd." Pasiodd trwy yr Hafod o Langattwg, gan ddyfod i Lansamlet, lle yr oedd torf anferth wedi ymgasglu. Cafodd odfa rymus, wrth ddangos gogoniant yr Iesu, ac anfeidroldeb yr iachawdwriaeth. Ei destun yn Abertawe oedd: "Canys efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau;" a bu ar ei oreu yn cyhoeddi dirgelwch y Drindod. Yn y seiat breifat, ceryddodd yr aelodau yn llym am eu balchder trefol, am eu gwrthwynebiad i frodyr o dalentau bychain i ddyfod i'w mysg i gynghori, ac am rwystro y gwaith trwy y cyfryw ymddygiad. "Nid yw hyn," meddai, "ond eich balchder, a'ch diffyg o farn addfed; yr hyn sydd arnom eisiau, yw cael gallu Duw gyda phwy bynag sydd yn dyfod." Oddiyma aeth yn bur fanwl trwy wlad Gower, a rhanau o Sir Gaerfyrddin, gan ddychwelyd i Drefecca tua chanol mis Hydref.

Gyda ei grefyddolder dwfn, a'i synwyr cyffredin cryf, yr oedd Howell Harris yn dra hygoelus, ac yn ymylu ar fod yn goelgrefyddol. Tybiai ei fod yn derbyn cenadwri bendant oddiwrth Dduw, trwy adael i'r Beibl agor o hono ei hun, a darllen yr adnod gyntaf a ddeuai o flaen ei lygaid. Holai gwestiynau i'r Anfeidrol ar bob mater, fychan a mawr, a chredai fod ystâd ei feddwl mewn canlyniad yn atebiad oddiwrth yr Arglwydd i'w ofyniadau. chawn ef yn awr, o herwydd y dueddfryd hon ynddo, yn cyfarfod a phrofedigaeth bur chwerw. Daeth dynes a ymunasai â chrefydd tan ddylanwad ei weinidogaeth ef, i Drefecca. Ei henw oedd Mrs. Griffiths, neu fel ei gelwir yn y cofnodau, "Madam Griffiths." Yr oedd ei gŵr, ar ol ei chamdrin yn enbyd, wedi ei gadael. Honai hon ei bod wedi ei Ilanw a'r ddawn brophwydol, a'i bod yn alluog i brofi yr ysprydion. Yn syn iawn, credodd yntau ei honiadau, ac yn ei ddiniweidrwydd, tybiodd fod Pen yr Eglwys wedi anrhydeddu y Methodistiaid ag un o ddoniau arbenig yr oes Apostolaidd. Meddyliodd y gallai fod o wasanaeth dirfawr i'r diwygiad, trwy fod yn lle llygaid iddo ef, gan ei gyfarwyddo pa fodd i ymddwyn mewn achosion o anhawsder, a'i alluogi i wahaniaethu y rhagrithwyr oddiwrth y gwir gredinwyr. Penderfynodd ar unwaith ei chymeryd gydag ef ar ei deithiau, er y gwelai y gwnai rhywrai dynu cam-gasgliad oddiwrth y cyfryw ymddygiad. Ond nid oedd ei briod yn credu ynddi. A phan aeth i osod y mater gerbron rhai o'r brodyr, yn y rhai yr oedd ganddo ymddiried, dang osasent hwythau anfoddlonrwydd. Ond fel arfer, ni wnai gwrthwynebiad leddfu dim ar ei syniadau; yn hytrach, gwnelai ef yn fwy penderfynol yn ei farn. "Rhaid i'r gwrthwynebiad hwn ddarfod," meddai," fel y mae pawb a'm gwrthwynebodd o'r dechreu wedi dyfod i'r dim. Diau genyf fod Mrs. Griffiths yn golofn yn nhŷ Dduw." Nid oes y sail leiaf dros amheu purdeb bywyd Howell Harris; yr oedd ei holl syniadau mor ddihalog a gwawr y boreu; yn wir, cyfodai ei berygl o'i ddiniweidrwydd, ac o'i anhawsder i ganfod achlysur i ddrwg. dybiaeth mewn pethau a ystyrid yn amheus gan bobl eraill. Ar yr un pryd, ymddengys rhywbeth tebyg iawn i fel pe byddai gorphwylledd crefyddol wedi ei feddianu. Yn bur rhyfedd, yr ydym yn cael i John Wesley, un o'r dynion craffaf ei farn, fod mewn profedigaeth gyffelyb. Modd bynag, y mae yn bur sicr ddarfod i hygoeledd Harris yn y mater roddi achlysur, am dymhor, i elynion yr Arglwydd gablu.

Ddechreu mis Tachwedd, cychwynodd ar daith trwy ranau o Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn. Nid awn i fanylu ar ei hanes, ond cawn yn nglyn â hi, ddau beth o ryw gymaint o bwysigrwydd. Un oedd, ei waith yn ymwasgu yn nes at James Beaumont, yr hwn a goleddai syniadau pur hynod am y Drindod, ac a aethai yn mhell i gyfeiriad Antinomiaeth. Meddai Harris ryw dynerwch rhyfedd at Beaumont; efe, mewn ystyr, oedd ei Absalom. Y mae yn awr yn ei gymeryd yn gydymaith iddo, yn ei ganmol yn pregethu, ac yn dweyd ei fod o yspryd mor ostyngedig, ac mor barod i gymeryd ei ddysgu. Sut y gallai ddweyd hyn sydd yn syn, pan yr oedd ef a'r cynghorwyr wedi treulio noswaith yn Nhrefecca i geisio darbwyllo Beaumont i adael rhyw ymadroddion an-Ysgrythyrol a ddefnyddiai, ac wedi methu. Gwyddai Harris ei fod, trwy wneyd cyfaill o Beaumont, yn tramgwyddo ei frodyr yn enbyd. Peth arall a nodweddai y daith oedd, ei waith yn hysbysu y cynghorwyr, nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt a John Wesley yn rhyw fawr iawn. Cefais ymddiddan â Mr. Wesley," meddai, "a gwelwn nad oeddym yn gwahaniaethu rhyw lawer gyda golwg ar berffeithrwydd, ond yn unig gyda golwg ar ei natur, am mai Crist yw ein perffeithrwydd ni, a'n bod yn tyfu i fynu yn raddol hyd ato trwy ffydd. Hefyd, am syrthiad oddiwrth ras, a pharhad mewn gras, yr ydym yn gwahaniaethu gyda golwg ar y pwynt lle y dylid ei osod. A chyda golwg ar brynedigaeth gyffredinol, ein bod ni yn credu ddarfod i Grist farw dros bawb, ond nad yw rhinwedd ei farwolaeth yn cael ei gymhwyso at neb, ond yr etholedigion. Cydunem hefyd gyda golwg ar gyfiawnhad; fod bywyd, yn gystal a marwolaeth Crist, yn cael ei gyfrif i ni." Tueddwn i feddwl fod Harris yn agored i gael dylanwadu arno i raddau gan ei gyfeillion, a bod eu syniadau hwy, am dymhor, yn cael lliwio ei syniadau ef, oni fyddai iddynt fyned i ddadleu yn ei erbyn, ac i'w wrthwynebu. Gwthiai Beaumont arno hefyd y syniad y cai, yn bur fuan, fod yn ben gwirioneddol ar yr holl seiadau yn Nghymru.

Ddiwedd mis Tachwedd, cychwynodd am Lundain, ac ni ddaeth yn ei ol hyd Ionawr 27, y flwyddyn ganlynol, sef 1750. Cyn ymadael, torodd ei gysylltiad yn llwyr a'r brodyr Saesnig. Y rheswm am hyn oedd anghydwelediad rhyngddo a Whitefield. Mynai y diweddaf iddo beidio ymgymysgu a'r Wesleyaid a'r Morafiaid, a mynychu eu cymdeithasau, fel yr arferai wneyd. A hyn ni chydsyniai yntau: "Fy awydd mawr i," meddai wrth Whitefield, "yw undeb, ar i'r eglwys weledig fod yn un, fel yr eglwys ddirgeledig, ac ar i Grist gael ei bregethu yn ol dysgeidiaeth yr Ysgrythyr." Ychwanegai: "Dywedais wrtho nad oedd ganddo awdurdod arnaf fi, mwy nag sydd genyf fi arno ef, sef yn unig dweyd wrth ein gilydd beth a welwn allan o le, y naill yn y llall." Y mae ymddygiad Whitefield yn y mater yma yn dra hynod, yn arbenig gan ei fod ef wedi ail-ddechreu newid pwlpud â John Wesley, a'u bod yn cyduno i ddwyn yn mlaen wasanaeth crefyddol, un yn darllen y gweddïau, a'r llall yn pregethu. Modd bynag, oerodd hyn deimlad Harris at Whitefield, a phenderfynodd na wnai lafurio mwyach yn yr un cyfundeb ag ef.

Ar y dydd olaf o Ionawr, cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol yn y New Inn, Sir Fynwy, ac aeth Harris yno. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Daniel Rowland. Ar y dechreu, hoffai Harris yr athrawiaeth; pan y dywedai y pregethwr fod yr iachawdwriaeth wedi ei gorphen, chwythodd awel dyner dros y cyfarfod. "Ond," meddai, "tywyllodd bethau trwy ymadroddion cnawdol am y Drindod; gellid meddwl wrtho fod y Tad ar ei ben ei hun pan yn creu; fod y Mab wrtho ei hun pan yn prynu; a'r Yspryd Glan wrtho ei hun pan yn sancteiddio. Dywedai hefyd, fod y dynion goreu yn amheu weithiau, oblegyd eu llygredigaethau, a'u gwaith yn peidio edrych at yr Arglwydd." Awgryma ei gondemniad o'r dywediad hwn gan Rowland, ei fod wedi cael ei ddylanwadu, i ryw fesur, gan syniadau Wesley, parthed perffeithrwydd. Dywed, yn mhellach, na ddaeth gogoniant Crist i'r amlwg, ac iddo gael ei feddwl yn ymwneyd a'r pwnc o brynu coed ieuainc, i'w planu yn Nhrefecca. Dengys hyn gyfnewidiad dirfawr yn ei yspryd; nid dyma y modd yr arferai wrando ar Daniel Rowland. Yn nghyfarfod neillduol Gymdeithasfa, cyhuddodd Rowland ef o fod yn barhaus yn newid ei syniadau, ac o dra-arglwyddiaethu ar bawb na wnai ymostwng iddo, gan wneyd ei arch yn mhob dim. Atebodd yntau ei fod yn ddieuog o'r ddau gyhuddiad. Am y cyntaf, bod yn bwhwman mewn athrawiaeth, nad oedd wedi cyfnewid o gwbl, er pan ddechreuodd fyned allan yn gyhoeddus. Am yr olaf, sef arfer tra-awdurdod, mai dyna y pechod â pha un yr oedd wedi halogi ei hun leiaf; mai ei brif ddyben yn wastad oedd dyrchafu Crist. "Dywedais yn mhellach," meddai, "y gwnawn eu hargyhoeddi of gywirdeb fy amcanion, trwy ymneillduo, a rhoddi i fynu fy lle yn mysg y pregethwyr, ac yn mysg y bobl. Fy mod wedi gweithredu ynddo mor hir ag yr oeddent hwy yn barod i'm derbyn mewn ffydd; ond os oedd pethau fel y dywedai efe (Rowland), a'u bod yn ofni dweyd eu meddyliau wrthyf, y gwnawn ymadael, gan fyned o gwmpas yn unig i'r lleoedd y cawn ddrws agored gan Dduw. Yr awn at y pregethwyr a'r bobl a roddai dderbyniad i mi, nas gallai neb fy rhwystro i wneyd hyny." Ychwanega, fod yr ystorm yma wedi codi oddiwrth Mr. Whitefield, ac oddiwrth eu rhagfarn at y brawd Beaumont. Tebyg y tybiai ddarfod i Whitefield anfon at Rowland, fod syniadau arbenig John Wesley yn nawseiddio ei bregethu i ryw raddau. Gyda hyn, cododd Howell Harris i fyned allan. Atebodd Rowland mai gwell i Harris aros, ac yr ai ef (Rowland) allan. Tawelodd pethau am ychydig. "Cododd ystorm drachefn," meddai," gyda golwg ar y brawd Beaumont. Dywedais fy mod yn foddlawn iddynt ei geryddu am unrhyw beth oedd allan o le ynddo, mewn athrawiaeth neu ymddygiad ; ond na wnawn gyduno i'w droi ef i ffwrdd, yn unig oblegyd rhagfarn, ac heb achos cyfiawn. Dywedais fy mod yn gwybod ei fod yn iach yn y ffydd, ac yn cael ei arddel gan Dduw, a fy mod yn anfoddlawn i'w rwymo, megys â chadwyn, gyda golwg ar y lleoedd i bregethu ynddynt, rhag fod gan yr Arglwydd ryw genadwri i'w hanfon trwyddo. Gwelwn eu bod (yr offeiriaid) yn cam-ddefnyddio eu hawdurdod. Gwelwn, a dywedais hyny, ein bod yn wynfydedig nad oedd neb yn ein mysg mewn awdurdod, a'r fath farn fyddai i rywun gael ei osod." Aeth yn ei flaen i siarad am Grist, anwybodaeth llawer o honynt am dano, anfeidroldeb ei ddyoddefaint, ei glwyfau, a'i waed, ac anfeidroldeb pechod. "Pan y siaradai y brawd Rowland yn gnawdol," meddai, " dywedais wrtho am weddïo rhag i'w holl wybodaeth fod allan o lyfrau. Yr oedd yn ystorm enbyd, a'r brawd Rowland a fygythiai ymadael, oni throem Beaumont allan." Aeth Harris a'r achos at yr Arglwydd; gwelai yn glir mai cadw Beaumont i mewn oedd achos yr holl gyffro yn Lloegr, ac yn Nghymru. Ond gadael pethau fel yr oeddynt am y chwarter hwnw a fu y diwedd, a thynerodd Phillips gryn lawer ar y frawdoliaeth, trwy ddweyd fod Beaumont yn credu yn y Drindod. Gwedi hyny, trefnwyd nifer o faterion, a cheryddwyd rhyw frawd am ysgrifenu yn erbyn Griffith Jones, ac ymyraeth mewn mater nad oedd yn perthyn iddo. Y mae y brawddegau nesaf yn y dydd-lyfr yn haeddu eu croniclo: "Ar hyn, aeth y brawd Rowland, a'r brawd Price i ffwrdd, ac yn uniongyrchol daeth yr Arglwydd i lawr. Dangosais iddynt, i bwrpas, anfeidroldeb a gogoniant y gwaith; eglurais fel y mae yn ymledu, ac os byddai i'r cynghorwyr fod yn ffyddlawn ar ychydig, y caent eu dyrchafu i fod yn dadau. Cyhoeddais, yn ngwydd pawb, anfeidroldeb a gogoniant Crist; mai ofer fyddai ceisio ei wrthwynebu; bum yn llym at un a'i gwrthwynebai, ac a edrychai arno yn gnawdol. Gwelwn, a dangosais hyny i'r brodyr, nad oedd Duw yn dyfod i lawr atom, hyd nes i Rowland a Price, &c., ymadael, ac mai eu hanghrediniaeth a'u hunanoldeb yn y mater hwn oedd yn cadw Duw i ffwrdd." Yn sicr, yr oedd y sylw hwn yn un tra angharedig, ac yn dangos yspryd wedi myned yn mhell allan o'i le.

Cyn ymadael o'r New Inn, cafodd Howell Harris ymddiddan maith drachefn â Rowland, Price, a Howell Davies. Dywedasant wrtho fod Whitefield wedi anfon atynt gyda golwg arno, ac am ei syniadau; a'i fod ef (Whitefield) am yru y pregethwyr atynt hwy. Dadleuai Harris o blaid Beaumont, ond ni fynent wrando arno yn y pwnc hwn. Eithr, wrth ymddiddan, daethant gryn lawer yn nes at eu gilydd, a thynerodd y naill at y llall. Rhybuddiai Harris hwy am gadw yn nes at Dduw; ceisiai ganddynt gael cyfarfod yn breifat, ac i'r naill agor ei galon i'r llall, a dweyd beth a welent allan o le yn eu gilydd. Achwynai fod Daniel Rowland yn erbyn y Morafiaid, ac yn erbyn y Wesleyaid; ei fod ef (Harris) yn gweled canlynwyr Whitefield a Wesley fel dwy gangen o'r eglwys ddiwygiedig. Wedi dangos y dylent deimlo beiau eu gilydd fel eu beiau eu hunain, a bod eu gwaith yn duo eu gilydd yr un peth a phe y duent eu hunain, chwythodd yr ystorm heibio, ac wrth ganu emyn, teimlent fod yr Arglwydd yn eu mysg.

Yr oedd dau ddylanwad tra niweidiol ar Howell Harris yr adeg hon, y rhai ni fynai, er pob cynghori a rhybuddio, eu hysgwyd i ffwrdd. Un oedd dylanwad James Beaumont. Ymddengys fod Beaumont yn bresenol, nid yn unig wedi cyfeiliorni yn mhell oddiwrth y ffydd, ond ei fod yn ogystal wedi ymlenwi o falchder, a'i fod, hyd y medrai, yn ceisio troi calon Harris oddiwrth y rhai y buasai yn cydweithio â hwy o'r cychwyn. Pe y buasai yn cydsynio i daflu Beaumont dros y bwrdd yn Nghymdeithasfa y New Inn, fel y dylasai, yn ddiau, buasai yr ystorm yn tawelu ar unwaith. Ond ni fynai; yr oedd yn benderfynol o gadw Jonah yn y llong. Y dylanwad niweidiol arall arno oedd eiddo y wraig a honai yspryd prophwydoliaeth. Credai am hon, ei bod wedi ymddyrchafu yn uwch i'r goleuni dwyfol na neb ar y ddaear, ond efe ei hun; fod gan yr Arglwydd waith dirfawr i'w gyflawni yn Nghymru, trwyddo ef a hithau, a bod pob gwrthwynebiad iddi, yn wrthwynebiad yn erbyn ewyllys Duw. Yr oedd hithau yn ddichellgar, yn llanw ei fynwes â rhagfarn yn erbyn ei frodyr. Yr oedd wedi prophwydo, meddai Harris, y byddai iddo ymwahanu oddiwrth Mr. Whitefield; ac hefyd, y darfyddai pob undeb rhyngddo â Daniel Rowland. Cymerai arni yn awr, ei bod wedi cael datguddiad, y byddai efe yn fuan yn ben ar yr holl bregethwyr a'r seiadau yn Nghymru. Ysgrifenai ato o Lundain, i'w rybuddio i fod yn ffyddlon i bregethu y Dyn Iesu; ac edrychai yntau ar y rhybudd fel cenadwri uniongyrchol oddiwrth yr Arglwydd. Gwnaeth dylanwad y ddynes gyfrwys a rhagrithiol hon niwed dirfawr iddo; parodd anghysur yn ei deulu; a rhoddodd achlysur i'w wrthwynebwyr i daenu chwedlau anwireddus ar led gyda golwg ar burdeb ei fuchedd. I'r chwedlau hyn nid oedd rhith o sail; ni fu dyn ar wyneb y ddaear yn fwy rhydd oddiwrth lywodraeth nwydau anifeilaidd; y mae tôn ysprydol ei gyfeiriadau at y ddynes, yn ei ddydd-lyfr, yn brawf o'r goleu yn mha un yr edrychai arni. Ni fuasem yn cyfeirio at ei dylanwad arno yn awr, oni bai ei fod yn hollol sicr fod ganddi law fawr yn nygiad oddiamgylch y rhwyg rhyngddo ef a'i gymdeithion, a'i gyd-lafurwyr.

Ychydig o ddyddiau y bu Howell Harris gartref cyn cychwyn ar daith i Sir Benfro. Nis gallwn fanylu ar y daith hon, eithr cyfeirio yn unig at rai pethau o ddyddordeb cysylltiedig â hi. Yn Llandilo Fawr, cyfarfyddodd â Daniel Rowland, eithr ychydig o'r hen gyfeillgarwch a ffynai rhyngddynt. "Nid wyf yn cael nemawr o gariad brawdol, a chymundeb Cristionogol ag ef yn awr," meddai Harris, "ond yn hytrach, y mae fy yspryd yn cael ei gau. Dywedais wrtho mai ychydig o natur pechod a welem, onide y byddai arnom fwy o'i ofn; ac nad oeddwn yn gweled y gwaith yn pwyso ar neb, o ganlyniad, yr awn allan wrthyf fy hun. Ymddiddanasom, hefyd, am gael tŷ i bregethu ynddo yma. Yn Longhouse, yn Sir Benfro, cyfarfyddodd â Benjamin Thomas, yr hwn a ystyriai yn nesaf at Daniel Rowland, fel un o'i brif wrthwynebwyr. Fel hyn y dywed yn ei ddydd-lyfr: "Lleferais yn rhydd wrth Benjamin Thomas, gan ddangos y fath blant ydym oll, a'r modd yr ydym, bawb o honom, allan o drefn, heb neb yn adnabod ei le, ac mor anwybodus ydym oll o Grist. Cymerodd yntau y cwbl genyf. Gwelais, a theimlais, mor fawr yw y gorchwyl o ddwyn Crist gerbron y bobl; nad oeddwn yn ei wneyd yn iawn, a llefwn am gael bod gerbron yr Arglwydd, gan nad wyf yn goddef unrhyw bechod (yn y seiadau), ac nad wyf yn caniatau lle i hunan. O ganlyniad, y mae y gwrthwynebiad, nid yn fy erbyn i, ond yn erbyn Duw." Teifl y difyniad diweddaf gryn oleuni ar ystâd ei feddwl, sef, yr ystyriai fod yr Arglwydd wedi ei benodi yn llywodraethwr ar y cymdeithasau, a chan ddarfod iddo yntau, hyd eithaf ei allu, fod yn ffyddlawn i'r ymddiriedaeth, fod codi yn ei erbyn yn wrthryfel yn erbyn y trefniadau dwyfol. Cawn ef, yn nesaf, mewn Cymdeithasfa Fisol yn Hwlffordd, yn mha un yr oedd Howell Davies yn bresenol. Nid yw yn ymddangos i ddim o bwys gael ei benderfynu ynddi, ond y mae ei ymddiddan wrth ffarwelio â Howell Davies yn haeddu ei gofnodi. "Dywedais wrtho," meddai, "fod gogoniant Crist yn dechreu. cael ei amlygu, ac y cai pawb a wrthwynebai eu dinystrio. Dangosais iddo am gnawdolrwydd a deddfoldeb y brawd Rowland, nad yw yn cynyddu mewn gwybodaeth o Grist, a'i fod yn ymddangos fel yn tyfu mewn hunanoldeb. Cyfeiriais at falchder y brawd Beaumont, a'r modd yr oeddwn, hyd y gallwn gael cyfleustra, er pan gafodd gogoniant Crist ei amlygu gyntaf yn ein mysg, yn ymdrechu chwilio y Beibl, a gweithiau dynion da. Ac yn awr, y dinystrai Duw yr holl wrthwyneb Dywedais, fy mod yn tybio mai y brawd Rowland a fyddai y diweddaf i ddod i mewn." Y diweddaf i ddod i gydnabyddiaeth â gogoniant yr Arglwydd Iesu a olyga, yn ddiau. Pa ateb a wnaeth Howell Davies i hyn oll, nis gwyddom; efallai y gwelai nad gwiw iddo ar y pryd wneyd unrhyw amddiffyniad i Daniel Rowland.

Cynhelid Cymdeithasfa Fisol, hefyd, yn Nghaerfyrddin, a bu Harris yn anerch y cynghorwyr a'r goruchwylwyr gyda difrifwch mawr. "Y mae hyn," meddai, “yn rhan o fy swydd bwysig, i'r hon, yn wir, y perthyn llawer o ganghenau, y rhai na welais yn y goleu priodol o'r blaen. Gwelaf fod mwy o ganghenau wedi eu rhoddi i mi nag i neb o'r pregethwyr, yr offeiriaid, na'r cynghorwyr, oddigerth Mr. Jones (Griffith Jones, Llanddowror). Arweiniwyd fi yma i geryddu am ysgafnder, ac yfed, ac am fod yn un â Christ; a dangosais fel y mae llawer wedi syrthio trwy falchder. Yr oeddwn yn llym am gynyddu mewn tlodi yspryd. Dangosais fel y mae y gwaith, er pob peth, yn myned yn y blaen yn rhyfedd, a'r modd y mae fy mwa yn arhoi yn gryf. Gwrthodais un a syrthiasai, oedd yn cynyg dyfod atom, ac a ymddangosai yn dra gostyngedig, am nad oedd ei yspryd yn ddigon drylliedig, ac am nad oeddwn yn teimlo yspryd yn ei eiriau." Wedi teithio trwy gryn lawer o Sir Gaerfyrddin, a rhan o Forganwg, cawn ef yn Llangattwg, ger Castellnedd, ac y mae yr adroddiad a rydd am ei helynt yn y lle hwn yn dra phwysig. "Neithiwr,' meddai, "gwedi i mi bregethu yn gyhoeddus gyda chryn arddeliad, darfu i Mr. Peter Williams fy ngwrthwynebu yn bendant, gan ddweyd fy mod yn cyhoeddi fy hun; gwnaeth hyny yn fwy ar ol y seiat breifat; yna, aeth i ffwrdd. Yr oeddwn yn llym ac yn geryddol yma, fel yn Hwlffordd; ond yma, yn benaf, oblegyd eu difaterwch am waith Duw, ac am eu pleidgarwch a'u cnawdolrwydd tuag at Mr. Rowland. Dywedais, nad oeddwn yn gweled neb yn adwaen ei le, ac felly, fy mod yn benderfynol o fyned o gwmpas fy hun, gan weled pwy a unai yr Arglwydd â mi, gan osod ei waith arnynt, fel yr aent trwy bob peth. Dangosais, fy mod yn gweled yspryd slafaidd a sismaidd yn meddianu y bobl; mai gweinidogaeth y Gair yn unig a gawsai ei roddi i ni, a'r ordinhadau i fod yn yr eglwysydd plwyfol. Rhoddais gynghorion gyda golwg ar amryw achosion. Gwedi hyn, cynghorais yn llym, am fod yn un â Christ yn mhob peth. Daeth yr Arglwydd i lawr ar hyn. Llawer o'r cynghorwyr a'r stiwardiaid a gyffesasant fawredd eu pechodau, eu dyledswyddau, a'u breintiau. Datgenais Datgenais fy serch atynt, a'm bod yn eu ceryddu mewn cariad. Clywais gymaint am lygredigaethau a sismau yn tori allan yn ein mysg, fel mai braidd y gallwn ddal, ac am frodyr yn esgeuluso eu lleoedd wedi iddynt gael eu cyhoeddi. Gymaint o bethau sydd genyf i fyned trwyddynt. Y mae yn dda mai yr Arglwydd sydd Dduw." Yr ydym yn cael yma, am y tro cyntaf, y cytunai Peter Williams a'r offeiriaid, sef Rowland, Williams, a Davies, mewn gwrthwynebiad i Howell Harris. A oedd yn wrthwynebol i'w athrawiaeth, nis gwyddom; y prif gyhuddiad a rydd yn ei erbyn yw, ei fod yn pregethu ei hun. Braidd na awgryma hyn fod ei safle yn mysg y Methodistiaid, a'i gwerylon a'i frodyr, yn cael cryn le yn mhregethu Harris yn ystod y daith hon. Yr ydym yn cael, hefyd, fod Harris erbyn hyn, wedi gwneyd ei feddwl i fynu i ymranu, ac i ffurfio plaid ei hun, gan obeithio y byddai i'r nifer fwyaf o'r cynghorwyr, ac o'r bobl, ei ganlyn. Yr oedd hyn yn ei fryd er ys tipyn, a chawn ef yn awgrymu y peth wrth Daniel Rowland, yn Llandilo Fawr.

Yn Rhosfawr, lle yn ngorllewin Morganwg, cafodd ymddiddan maith â dau gynghorwr, sef John Richard, Llansamlet, a William James. Ei amcan yn amlwg oedd eu henill i fod o'i du ef, yn yr ymraniad ag yr oedd wedi penderfynu arno. Fel hyn y dywed: "Dangosais iddynt ein cwymp oddiwrth Dduw i yspryd y byd, a gwelent nad yw yr Arglwydd Iesu yn awr yn cael ei garu, ond fod llygredigaethau yn dyfod i mewn fel afon. Dangosais mai gwybodaeth pen a bregethai yr offeiriaid; mai y pen a'r teimlad y maent yn gyfarch; ond fod yspryd y bobl yn myned yn fwy daearol, hunangar, cellweirus, nwydus, a chnawdol; fod y bobl yn diystyru pawb ond yr offeiriaid, gan barchu y gŵn, a'r enw. Eglurais yr angenrheidrwydd am edrych ar yr oll yn Nuw, a chanfod pob peth yn awr yn ngoleu y dydd diweddaf. Dymunwn arnynt ymgasglu yn nghyd, nid er mwyn plaid, ond i gadarnhau y naill y llall yn y goleu a roddasid iddynt gan Dduw; ar iddynt fyned i fysg y bobl, i'w hachub rhag y plâ sydd yn ein hanrheithio, sef ysgafnder, ac edrych yn y cnawd am bob peth; ar iddynt geisio dyrchafu y bobl i fynu hyd at y goleuni; ac ar iddynt adael i mi wybod sut yr oedd pethau yn myned yn mlaen. Dangosais nad oedd genyf neb yn awr i'm cynorthwyo; fod llawer yn cyfarwyddo y cynulleidfaoedd, ond nad oeddynt yn cynyddu yn nghariad Crist, nac yn gofalu am ei orchymynion; nad oedd Gair yr Arglwydd yn cynyddu mewn dylanwad, am nad oeddent yn gweled Crist yn ei fygythion, yn ei addewidion, ac yn ei orchymynion; nad ydynt yn ei weled ef a'i Air yn un, a'u bod yn edrych ar y Gair yn y cnawd, fel y gwna y byd. Gwelwn ei bod yn bryd, bellach, i sefyll, ac i wrthwynebu parchu y pen, a pharchu y cnawd. Dywedais fy meddwl am yr offeiriaid, ac yn arbenig Rowland, fy mod yn tybio mai efe a fyddai y diweddaf i ddyfod i'r goleuni; a'i fod yn elynol i bob bygwth, ac yn ddifater am wybod meddwl Duw." A yn ei flaen i gyhuddo yr offeiriaid o ariangarwch, ac i ddweyd nad oedd eu gweinidogaeth yn effeithiol i ddwyn oddiamgylch fywyd ysprydol. "Gwelwn ei bod yn bryd i mi," meddai, “i ddyfod o Loegr i Gymru i wrthsefyll yr hunan sydd yn dyfod i mewn. Rhaid i mi ddysgwyl cael fy marnu yn llym, a'm camdrin gan bobl, y rhai, fel plant drygionus, a ymwrthodant a'r iau." Yna, datgana ei ffydd yn ei swydd, ac y rhaid i'r gwaith fyned yn y blaen, er cymaint y gwrthwynebiad. Nid yw yr hanes hwn mewn un modd yn ddymunol i'w adrodd; nid melus gweled hen gyfeillion wedi ymranu, ac wedi myned i gamddeall eu gilydd mor drylwyr; a rhaid fod yspryd Harris ei hun yn cael ei glwyfo, pan yn cyhuddo ei gymdeithion. a'i gyd-lafurwyr gynt, o fod yn meddu ar oleu pen yn unig, ac o edrych ar wirioneddau gogoneddus yr efengyl yn gyfangwbl yn y cnawd. Eithr yn hyn oll, tybiai ei fod yn cario allan y comissiwn dwyfol.

Yn Cefngleision, cynghora y goruchwylwyr perthynol i'r seiadau i gyfarfod unwaith y mis o leiaf, ar eu penau eu hunain, i gydweddïo, i agor eu calonau i'w gilydd, ac i drefnu y gwahanol achosion a fyddai yn codi. Nid oedd am i'r trefniadau fyned o flaen yr holl gymdeithas, gan fod perygl felly iddynt gael eu mynegu i'r byd. "Dangosais," meddai, "am fabanod a phlant, na ddylid ymddiried cyfrinach iddynt; mai bara yn unig sydd yn angenrheidiol i'r cyntaf, ac ymborth, dillad, dysgyblaeth, a gwaith, i'r ail; ac oni chedwir hwy danodd, y gwnant ddinystrio eu hunain, a phawb cysylltiedig â hwynt." Gwelir ei fod yn credu mewn llywodraethu y cymdeithasau â gwialen haiarn, braidd, ac nad oedd am ganiatau llais o gwbl mewn ymdriniaeth ag achosion i'r aelodau cyffredin. Eithr ychwanega: "Lleferais i'r byw am wneyd eilunod o'r gwn, a'r enw, a phethau eraill perthynol i'r offeiriaid. Dangosais yr angenrheidrwydd am edrych. ar y cwbl fel y gwna yr Arglwydd. Nad yw yr enwau a'r pethau yma (o eiddo yr offeiriaid) ond cnawdol, ac ar gyfer rhai cnawdol; ond fod llawer o Gristionogion (Methodistaidd) na wnant edrych ar unrhyw weinidogion ond offeiriaid, ac felly hefyd yr offeiriaid eu hunain; ond fod doniau yr Yspryd a gwaith Crist yn gyfartal ogoneddus yn mhawb. Cyfeiriais at waith lleygwyr yn addysgu, megys Paul, Apolos, a'r brodyr gwasgaredig o Jerusalem; fod Calvin, a hyd yn nod yr esgobion, yn cyfaddef y gallai lleygwyr bregethu mewn achosion o angenrheidrwydd ac erledigaeth. Eglurais pwy oedd yn fawr yn fy ngolwg i, sef y rhai ydynt yn ofni, yn caru, ac yn anrhydeddu Duw mewn gwirionedd, y rhai sydd a'i achos ar eu calon, sydd yn rhodio yn ostyngedig gerbron Duw, ac a ydynt yn wyliadwrus. Gwelwn bethau yn fwy yn yr Yspryd nag erioed, a bod yr Arglwydd wedi myned allan, gan ddechreu gosod meini yn nghyd." Ystyr y frawddeg olaf, feddyliem, yw, ei fod yn canfod addfedrwydd yn bresenol i ffurfio plaid ar wahan i'r Methodistiaid. Meddai eto: "Dangosais y modd yr oeddynt hwy hyd yn nod yn parchu y clerigwr am fod yr enw offeiriad arno; ond y dylem eu parchu i'r graddau ag y mae yr Arglwydd yn eu harddel, a dim yn mhellach." Diau ei fod yn hollol yn ei le yn hyn, ond gwelir fod ei yspryd wedi newid yn ddirfawr er y Gymdeithasfa gynt yn Watford, pan y gweinyddai gerydd ar ryw gynghorwr anffodus, oedd wedi dweyd rhywbeth yn anmharchus am y gŵn. Ychwanega: "Cefais ffydd i gyflwyno yr oll a ddywedais am yr offeiriaid, sef Rowland a Williams, i Dduw, gan mai am ddyrchafu yr Arglwydd yr wyf fi, ac am i bob un aros, a chael ei weled, yn y lle y gosododd yr Arglwydd ef ynddo. Cefais lythyr o Gilycwm, i gymeryd gofal y seiat yno; lledais yr achos gerbron yr Arglwydd, a chefais ganiatad i'w chymeryd yn Nuw, a thros Dduw." Y mae y frawddeg olaf yn bwysig tuhwnt. Dengys fod y cweryl rhwng Rowland a Harris yn rhedeg i mewn yn gryf i'r seiadau, a'u bod hwythau yn dechreu rhesu eu hunain gydag un neu y llall. Syn, braidd, yw gweled seiat Cilycwm yn anfon y fath genadwri at Howell Harris; yn Nghilycwm yr oedd Williams, Pantycelyn, ar yr hwn yr edrychai Harris yn awr fel gwrthwynebwr, yn aelod, a rhaid fod dylanwad y bardd yn ei gartref ei hunan yn gryf. Deallwn ar ol hyn nad oedd y llythyr wedi cael ei anfon gan y seiat yn ei chyfanswm, ond gan ryw bersonau ynddi.

Ar y pumed o Fawrth, cyrhaeddodd Drefecca, ar ol taith fwy manwl trwy Ddeheudir Cymru nag a wnaethai erioed o'r blaen. Yno yr oedd llythyr oddiwrth John Cennick yn ei aros. Teimlai y fath anwyldeb at y brawd hwn, fel y gallai rhedeg yn ei gwmni dros y byd, a llefai am ei gael yn gydymaith yn y gwaith drachefn. Y mae yn sicr y teimlai Howell Harris yn dra unig yn awr. Yr oedd wedi anghytuno â Whitefield, ar yr hwn yr edrychai unwaith fel tywysog Duw; ac yr oedd wedi ymddyeithrio oddiwrth ei hen gydweithwyr yn Nghymru. Enwa Cennick, Beaumont, John Sparks, John Harry, John Richard, a Thomas Williams, Groeswen, fel rhai oeddynt yn cydymdeimlo ag ef. Yr oedd yn awr yn pregethu yn gyhoeddus yn erbyn yr offeiriaid Methodistaidd, fel y dengys y difyniad canlynol o'i ddydd-lyfr : "Mawrth 10. Arweiniwyd fi i lefaru yn llym am falchder a hunan ein proffeswyr ieuainc, nad yw crefydd Crist i'w gweled ynddynt. Dangosais y modd y mae offeiriaid a phobl y Methodistiaid yn syrthio fwy fwy i hunan a balchder. Pa nifer o honynt a ddaw yn mlaen, Duw yn unig a ŵyr. Am y nifer fwyaf, dangosais eu bod o'r gwraidd yn Iuddewon, yn Phariseaid, ac yn elynion i'n Hiachawdwr ; nad yw eu crefydd ond ychydig o oleuni pen, a chyffyrddiadau ysgafn ar y dymher, tra y mae hunan o dan y cwbl, a'u bod yn tyfu yn y cnawd, gan ddwyn ffrwyth i'r cnawd ac i'r byd." Buasai yn anhawdd dweyd dim mwy miniog, a rhaid ei fod yn peri i'r bobl edrych ar Daniel Rowland a'i blaid mewn goleu tra anffafriol. "Byddai cystal genyf," meddai, "fyned i uffern yn gyhoeddus, a myned yno yn nghymdeithas proffeswr cnawdol."

Ychydig o ddyddiau y bu gartref; cawn. ef yn fuan yn cychwyn am daith i Sir Drefaldwyn. Yn mhob pregeth o'i eiddo. yn mron y cyfeiriai at yr offeiriaid, nad oeddynt yn adnabod eu lle, a'u bod yn byw yn y cnawd. Yn y Tyddyn, Mawrth 14, ysgrifena fel y canlyn: "Y brawd Richard Tibbot a ofynodd i mi pa beth i wneyd, gan fod y tadau, sef Rowland a minau, yn anghytuno? Agorais iddo yr oll o'n hanghydwelediad; y modd yr oedd yr Arglwydd wedi peri i mi ddechreu y gwaith hwn wrthyf fy hun, ac i fyned allan o flaen Whitefield, Wesley, a Rowland; ddarfod iddo fy ngosod yn dad yn y Gymdeithasfa, a'u bod yn arfer ymostwng i'm ceryddon, hyd nes, rai blynyddoedd yn ol, y dechreuodd Rowland eu gwrthod, a gwrthwynebu pregethu y gwaed o ragfarn at y Morafiaid. Dangosais y modd yr oeddwn wedi derbyn gogoniant a marwolaeth ein Hiachawdwr bedair blynedd cyn dyfod i gydnabyddiaeth â hwy, ac i mi ffurfio undeb â hwynt pan ddeallais eu bod yn adnabod ei Dduwdod a'i farwolaeth. Eglurais y modd yr oeddwn wedi rhoddi i fynu Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, lle y mae ganddo ef (Rowland) ddylanwad, am fod ein goleuni yn anghytuno wrth drefnu materion allanol, ac am nad yw wrth bregethu yn cynyddu, oddigerth mewn deddfoldeb, ac efrydiau a gyffyrddant a'r deall ac a'r teimlad. Ond yn awr fy mod wedi cael anfon am danaf i Sir Gaerfyrddin, ond na weithredaf (ar y gwahoddiad) oni ddewisant fi yn hollol i drefnu materion preifat, ac yntau (Rowland) yn unig i bregethu; neu ynte, efe yn unig i drefnu, a minau i bregethu. Felly yr wyf wedi cynyg i'r cynghorwyr yn mhob man, ac felly yma." Nid annhebyg mai at y llythyr o Gilycwm y cyfeiria wrth son am yr alwad o Sir Gaerfyrddin. Gwelwn nad yw yn gryf yn ei amseryddiaeth; nid oedd pedair blynedd rhwng ei argyhoeddiad a'i gydnabyddiaeth â Daniel Rowland, eithr ychydig gyda dwy flynedd. Gwedi ymweled â Mochdref, Llanbrynmair, Llwydcoed, Dolyfelin, a Llangamarch, dychwelodd trwy Aberhonddu i Drefecca, Mawrth 24. Gwelai fod holl Gymru wedi ei rhoddi gan yr Arglwydd iddo, ei fod wedi cael ei osod ar binacl y deml, ond teimlai ei annigonoldeb i'w sefyllfa a'i gyfrifoldeb.

Ar y dydd olaf o Fawrth, cawn ef yn nhŷ un William Powell yn pregethu, a hyny i dyrfa anferth. Ei destun ydoedd: "Trwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni." Tebygol fod tŷ Mr. Powell rywle yn Sir Forganwg. Ond yr oedd meddwl Harris yn llawn o sefydlu plaid ar wahan oddiwrth y Methodistiaid. Fel hyn y dywed yn ei ddydd-lyfr : "Cefais ymddiddan a'r brawd Thomas Williams am gael cyfarfod preifat arall gydag ef, W. Powell, Thomas Jones, John Richard, a Beaumont, &c., a rhai cyffelyb ydynt yn tyfu i fynu hyd at ein goleuni, i gyfnewid syniadau a'n gilydd, ac i ymgynghori parthed casglu yn nghyd yr eneidiau, ac i weled pwy yn mysg y bobl sydd yn cynyddu mewn gwybodaeth o Grist croeshoeliedig, ac mewn bywyd ffydd, gan fyw ar Grist, a marw i hunan ac i'r byd." Y lle nesaf y cawn ef yw Llantrisant, a Thomas Williams yn gydymaith iddo, a dywed iddo bregethu gyda nerth, a gwroldeb, a beiddgarwch, i gynulleidfa anferth o fawr. Yn y seiat breifat, gorchymynai gydag awdurdod ar iddynt ufuddhau i Grist, ac yr oedd yn llym i bawb a unai ag unrhyw un i bechu yn ei erbyn. Yr oedd cynulleidfa fawr hefyd yn yr Aberthyn; gwelai fod llawer yn dyfod i'r goleuni, a'i fod yntau yn myned i fuddugoliaethu, a gweddïai mewn hwyl: "Gogoniant am waed yr Oen!" Gwedi y bregeth, cynhaliodd seiat breifat o'r holl seiadau. Dywedai wrthynt y parchent ef yn fwy pe buasai yn werth mil o bunau yn y flwyddyn, ac yn gwisgo gwn offeiriadol. "Dangosais," meddai, "fod Paul yn ddirmygus yn ngolwg llawer; nad oedd Calvin ond lleygwr; y modd yr oedd Duw wedi fy ngwneyd yn dad ac yn ddechreuydd y diwygiad hwn, a'm bod wedi myned allan (i bregethu) bedair blynedd o flaen Whitefield, Wesley, na Rowland." Gwelwn ei fod yn hollol gyfeiliornus yn ei amseryddiaeth. "Efallai," meddai, yn mhellach, "i Dduw beri hyn er tynu i lawr falchder yr offeiriaid, ac i ddangos y gwna efe weithio yn ei ffordd ei hun, ac mai efe ei hunan sydd yn gwneyd y gwaith. Mynegais iddynt oni ddeuent yn ol y Beibl at draed Crist, y drylliwn y seiadau yn ddarnau, na chai Crist ei watwar gyda rhith o ufudd-dod." Wrth ddyfod at draed Crist y golygai, yn ddiau, credu yr athrawiaeth a ddysgai efe am berson Crist. Gwedi y seiat gyffredinol, bu ganddo gyfarfod i'r cynghorwyr a'r goruchwylwyr, ac ymddengys i bethau fyned yn dra annymunol. Achwynai rhai ar William Powell; dywedai Harris mai ei ffyddlondeb i Dduw oedd y rheswm am hyny. "Daeth Satan i'n mysg," meddai; "troais ddau allan, a cherddodd tri arall allan." Dywed fod ei enaid yn ofidus o'i fewn wrth geryddu a dysgyblu, ond mai yr Arglwydd a osodasai y peth arno.

Wedi teithio trwy Nottage ac Aberddawen, daeth i gastell Ffonmon, lle y cafodd odfa dda, wrth bregethu am y dyn a gafodd ei ollwng i lawr trwy y tô at Grist. Yr oedd William Powell a Thomas Williams gydag ef yn mhob man, ac yr oedd yntau yn eu cyfarwyddo gyda golwg ar gasglu yn nghyd y rhai oedd o gyffelyb olygiadau. Cafwyd seiat ystormus braidd yn Dinas Powis; "troais un cynghorwr allan," meddai, "a derbyniais un arall i mewn." Yn Nghaerdydd, pregethai ar ddyoddefaint Crist. Yr oedd Thomas Price, o'r Watford, yno, ac aeth y ddau yn nghyd i'r Groeswen. Ar y ffordd, dywedai Harris nad oedd Daniel Rowland yn caru Crist, ac mai anaml y byddai yn ei bregethu; nad oedd y dylanwadau a ddeuent trwy Rowland ond awelon ysgeifn allanol yn disgyn ar y bobl, y rhai a ddiflanent yn fuan; ac mai y rhai a gadwent fwyaf o swn yn y cyfarfodydd oeddynt yn aml y mwyaf difater. Yr ydym yn teimlo yn ofidus wrth ddarllen ei sylwadau; nis gellir eu hesbonio ond ar y tir fod teimlad chwerw yn peri iddo weled pob peth o chwith. "Dywedais hefyd wrth y brawd Price," meddai, "ei fod wedi suddo i'r byd, ei fod yn caru y byd, a'i fod wedi gadael yr Arglwydd. Yna, cododd ystorm enbyd, a dangosodd elyniaeth at ddirgelwch Crist. Aethum ymaith yn llwythog fy yspryd; daeth ar fy ol; ymddiddanasom am bob. peth yn dawel, a dywedodd ei fod yn derbyn fy athrawiaeth fel y pregethais hi yn Nghaerdydd, a'i fod yn benderfynol o ddechreu o'r newydd. Yna, cynygiais iddo i ni fyned yn nghyd i Ogledd Cymru, ond nid oedd yn rhydd i hyny." Credwn mail amcan y mynediad i'r Gogledd oedd cymeryd meddiant o'r seiadau.

Y mae ei bregeth yn y Groeswen mor gyffrous, fel yr haedda ei difynu. Ei destun ydoedd, 1 Ioan iii. I: "Gwelwch pa fath gariad a roddes y Tad arnom, fel y'n gelwid yn blant i Dduw." Meddai: "Dangosais, gyda llawer o ryddid, mor agos y mae Duw at y credinwyr, a'r modd y mae yn eu rhyddhau oddiwrth eu pechod. Eglurir y gwirionedd hwn yn y Beibl fel peidio cyfrif, peidio cofio, peidio gweled, maddeu, cuddio, a rhoddi ar y bwch dihangol. Dangosais fod rhai yn y byd yn awr ag y mae Duw yn edrych arnynt, yn Nghrist, fel pe byddent heb bechu. Meddwn: Trwy ddatguddio ei ogoniant y mae yr Arglwydd wedi agor y nefoedd i chwi; trwy eich uno ag efe ei hun y mae wedi eich gosod yn y nefolion leoedd, gan eich gwneyd fel pe byddech heb bechu.

Yr wyf yn gofyn i chwi, pwy o honoch, wedi peryglu ei fywyd i achub cyfaill, ac wedi gorchfygu pob rhwystr, a adawai y cyfaill yn y diwedd i'r gelyn? Y chwi sydd dadau, a fedrwch chwi aros mewn tŷ cynhes, llawn o bob math o luniaeth, a gadael eich plentyn i farw o'r tu allan, o eisiau ymborth a thân, yn arbenig pe y llefai efe arnoch, hyd yn nod pe baech wedi digio wrtho? O deuwch, a dychwelwch at yr Arglwydd. Efe a faddeua eich holl bechodau, ond i chwi beidio byw ynddynt. Teifl sothach, megys deng mil o bunoedd yn y flwyddyn, i'w elynion, ïe, i gŵn; beth sydd ganddo, ynte, yn stôr ar eich cyfer chwi, ei blant?" Dangosais y rhaid i ni gael darlun o'r credadyn a'r anghredadyn yn y ddau fyd cyn y bydd ein syniad yn gyflawn. Eglurais, yn mhellach, fod y credinwyr, mewn gwirionedd, yn byw ar ymborth angelion, sef bara y bywyd, a'u bod yn yfed gwaed Crist, fel y byddant byw yn dragywyddol. Ni a fyddwn byw byth!' meddwn. Ni byddwn farw yn dragywydd; cysgu yn unig a wnawn; cau ein llygaid ar y byd, a'u hagor drachefn yn Nuw, a'n holl bechodau, a'n profedigaethau, a'n maglau o'r tu ol i ni. A phan yr ymddangoswn yn ngogoniant yr Iesu, ni fydd yno na hen ŵr na baban, na neb yn gloff, na neb yn llesg. Y mae ein cyrph a'n heneidiau yn awr mewn undeb â Christ, ac a fedr efe drigo mewn purdeb a gogoniant, uwchlaw pechod, uwchlaw angau, ac uwchlaw Satan, a'ch gadael chwi, ei blant, o danynt? Na fedr byth. Deffrowch, ynte! Cyfodwch o'r llwch!' Yna, dangosais fawredd y Cristion wrth y wisg sydd am dano, yr un wisg a Duw y Tad ei hun, yr un wisg ag a wisgir gan yr holl deulu yn y nefoedd, ac ar y ddaear; a bod Iesu Grist yn frawd iddynt, ac nad oedd arno gywilydd eu harddel." Cofnoda ddarfod iddo gael odfa fendigedig, fod nerth y dyddiau gynt yn cydfyned a'r genadwri. Yn y seiat breifat a ddilynai, yr oedd yr un teimlad hyfryd yn ffynu.

Pan yr oedd Howell Harris yn gallu anghofio ei dramgwyddiadau, a'i le ei hun yn y seiadau, ac yn cael ei lanw ag yspryd yr efengyl, fel yn y Groeswen, yr oedd yn ofnadwy o nerthol, ac yn cario pob peth o'i flaen. Rhyferthwy cryf ydoedd, yn dadwreiddio y coedydd talgryfion, ac yn ysgubo ymaith bob rhwystr a allai fod ar ei ffordd. Yr oedd llewyrch nefol ar ei yspryd yr odfa hon, ond tywyniad haul rhwng cymylau ydoedd, a chawn y tywyllwch yn dychwelyd yn fuan. Gwedi y seiat, bu mewn ymgynghoriad a'r cynghorwyr a'r stiwardiaid; cydiodd yr un yspryd ag a amlygasid yn yr Aberthyn, yn un o'r stiwardiaid; trodd Harris ef allan; dywedai yntau ei fod yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw. Ymhelaethodd Harris, gan ddangos fod y pregethwyr ag yntau yn meddu yr un weinidogaeth a Moses, a'r prophwydi, a'r apostolion; eu bod yn ymladd yn erbyn yr un diaflaid, ac wedi cael eu llanw a'r un yspryd; ac er eu bod, o ran eu teimlad, yn barod i fyned dan draed pawb, eto, fod yn rhaid iddynt fawrhau eu swydd, onide y cai Iesu Grist ei ddarostwng.

Chwythwm bychan oedd yr helynt gyda'r stiwardiaid yn y Groeswen, eithr daeth ystorm enbyd yn Watford dranoeth. Caiff Harris ei hun adrodd yr hanes. "Y boreu hwn," meddai, "cefais frwydr ofnadwy iawn â Satan, yn y brawd Price, a'r brawd David Williams, am y stiwardiaid y darfu i mi eu troi allan yn Aberthyn. Pan ddaw Satan i mewn, anhawdd iawn ei gael allan. O'r diwedd, dywedais wrthynt y gwnawn eu gadael, a myned allan wrthyf fy hun, fel cynt. Dywedais mai Iuddewon ydynt, nad ydynt yn adnabod yr Iesu, nac yn ei garu, ac eto, eu bod yn tybio eu bod yn dadau. Eu bod wedi tyfu yn y cnawd, a bod yr Arglwydd wedi cyd-ddwyn â hwy hyd yn awr; ond na wna oddef yn hwy, a'i fod wedi myned allan yn erbyn cnawdolrwydd. 'Os ydych chwi,' meddwn, yn gaeth i ddyn ac i gnawd, nid ydwyf fi.' Yr oeddynt hwy yn eiriol dros y goruchwylwyr, ac yn dweyd y perai eu troi allan annhrefn mawr. Dywedais fy mod yn gweled y gwaith yn pwyso ar yr Arglwydd, ac nid ar ysgwyddau y fath ddynion, a'm bod yn barod i adael y canlyniadau iddo ef. Dangosais eu bod, trwy eu hymddygiad, yn sathru fy lle o dan eu traed, ac yn cyfansoddi eu hunain yn fath o lys uwchlaw; ond fy mod yn benderfynol o fynu y rhyddid a brynodd Crist i mi. Nid oes yr un o honoch ag awdurdod arnaf fi,' meddwn; nid ydych wedi cael awdurdod o'r fath gan Dduw na dyn. Pe bai yr holl Gymdeithasfa gnawdol, fel yr ydych yn ei galw, yn fy esgymuno, gwnawn yr un peth eto. Nid wyf yn talu un sylw i neb, ond i'r Arglwydd." Yna, ymneillduodd i weddio; ac yr oedd yn flaenorol wedi derbyn llythyr oddiwrth Madam Griffiths, y ddynes a hònai yspryd prophwydoliaeth, yn rhagfynegu am annhrefn mawr oedd wrth y drws, ac yn debyg o gynyddu. David Williams, gweinidog yr Aberthyn, yn ddiau, oedd y brawd oedd gyda Thomas Price yn y ffrwgwd. Dengys y difyniad hwn fod tymher Harris weithiau yn aflywodraethus; ei fod yn hòni awdurdod unbenaethol ar yr holl seiadau, ac na oddefai i neb ymyraeth a'i waith, hyd yn nod mewn ffordd o gynghor ac eiriolaeth. Braidd na theimlwn fod gradd o wallgofrwydd wedi ei feddianu. Yn y dirgel, dywed iddo weled i ddyfnderoedd pethau ysprydol yn mhellach nag erioed. "Yna," meddai, "gan fy mod yn gweled fod y gwrthwynebiad yn erbyn yr Arglwydd, ac nid yn fy erbyn i, mi a aethum yn ol at y brodyr, a dangosais iddynt fel y maent wedi suddo i'r cnawd, a'u bod wedi gadael i'r cythraul ddyfod i mewn i dŷ Dduw, ac yn awr, nad oeddynt yn foddlawn ei droi allan; ond fy mod i yn benderfynol o fyned yn y blaen, ac y safwn fy hunan. Dywedais y cydsyniwn a'u cais (sef i adferu y stiwardiaid) oni bai fod arnaf ofn digio yr Arglwydd. Meddwn Nis gallwn barhau i fyned yn mlaen yn nghyd, gan nad ydych yn gweled yr un fath a mi, ac na feddwch ffydd i ymddarostwng i'm goleuni i, a'm gadael i i'r Arglwydd. Dyn rhydd Duw wyf fi, ni thalaf sylw i neb ond efe.' Dangosais y modd yr oedd y stiwardiaid wedi ymddwyn, gan farnu y pregethwr yn ei gefn, heb ddweyd yr un gair wrtho ef, nac wrthyf fi. Erchais i Thomas Williams fynu gweled a oedd y bobl yn yr yspryd hwn; os oeddynt yn galw am danaf fi, am iddo anfon ataf, onide na ddeuwn i'w mysg byth." Amlwg yw nad oedd mewn tymher y gellid ymresymu ag ef. Edrychai arno ei hun fel mewn cymundeb cyson a'r nefoedd, ac yn cael ei arwain yn uniongyrchol gan yspryd Duw yn yr oll a wnelai; ac felly, fod ei wrthwynebu ef yr un peth yn hollol a gwrthwynebu Duw. Modd bynag, lleddfodd y dymhestl i raddau; aeth Thomas Price a David Williams gydag ef, i'w wrando yn Machen; a siriolodd hyny lawer ar ei yspryd. Teithiodd trwy Sir Fynwy, yn arbenig y rhanau nesaf at Loegr o honi, yn fanwl, ac ni ddychwelodd adref hyd y 15fed o Ebrill.

Mai y 5ed, cawn ef yn cychwyn i Gymdeithasfa Llanidloes, gyda Beaumont yn gydymaith iddo. Yr oedd yn myned mewn tymher orfoleddus; gwaeddai yn barhaus: "Gogoniant am waed yr Oen!" Yn Llanfair-muallt, cymerodd Beaumont y naill du, a cheryddodd ef yn llym am. ddefnyddio geiriau Groeg wrth bregethu. "Gŵyr pawb," meddai, "nad ydych chwi yn gwybod Groeg. Balchder yspryd sydd yn eich cyffroi. A phe baech yn ei wybod, mor ffol fyddai dangos hyny wrth bregethu? Y mae arnaf ofn ei fod yn myned o flaen cwymp. Yr ydych wedi llygru yr holl bregethwyr, ac er fod goleuni yr efengyl genych, Iuddew ydych o ran yspryd, ac yr ydych yn annheilwng o'r wyn, ac o Grist.' Medrai Harris geryddu Beaumont ei hun, ond ni oddefai i neb arall wneyd. Eithr wrth glywed ei gyfaill yn pregethu yn Llansantffraid am ddyndod Crist, gwelai ei fod yn mhellach yn mlaen nag efe yn ngwybodaeth ffydd, a daeth awel nerthol dros ei yspryd, a thros y cyfarfod. Oddiyno aeth i Lanidloes. "Mor fuan ag y daethum i'r dref," meddai, teimlwn y diafol yn bwysau anferth ar fy yspryd, fel yr oedd yn rhaid i mi floeddio am fy mywyd: 'Gogoniant am waed yr Oen!' er cadw fy nhymer yn ei lle." O fewn ei yspryd, y mae yn debyg, y gwaeddai. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Peter Williams, ar drueni dyn. Dywedai ei fod yn gyfreithiol farw, tan ddedfryd tragywyddol ddamnedigaeth, ac yn elyn i Dduw; fod y drws o gymundeb rhyngddo â Duw wedi cael ei gau; ond fod Crist wedi dyfod er ein llwyr brynu. Ymddengys ei bod yn odfa nerthol, ond ofnai Harris mai ychydig oedd efe, a'r gwrandawyr eraill, yn deimlo o fin y gwirionedd. "Yna," meddai, "aethum i giniaw, ond yr oedd Mr. Rowland, a Williams, mor Ilawn o elyniaeth, ac, fel yr wyf yn meddwl, o falchder, ac o hunan, fel y bu raid i mi ddweyd wrtho, y gallwn rodio gydag ef fel brawd, ond nad oedd wedi cael ei osod fel archesgob drosof fi, nad oedd ganddo un awdurdod oddiwrth Dduw na dyn arnaf, ac na wnawn blygu iddo mewn un modd. Dywedais yr un fath am Williams." Pa beth a atebasant, nis gwyddom. Yna, aeth Harris i bregethu; ei destun oedd, I Cor. ii. 2: "Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." Cafodd afael anghyffredin ar weddi. Yna, dangosodd fod llawer o bethau yn dda yn eu lle, ond fod yr apostol yn troi ei lygaid oddiwrthynt i gyd at Grist croeshoeliedig, fel at ganolbwynt; fod y wybodaeth sydd yn Nghrist yn egluro natur y cwymp, anfeidroldeb yr angen cysylltiedig, anfeidrol ddrwg-haeddiant pechod, a gwirioneddolrwydd uffern; a bod y perygl o wrthod Crist yn fawr. "Yna," meddai, "cyhoeddais athrawiaeth y gwaed, a daeth Duw i lawr, tra y dangoswn mai trwy y gwaed y cawsem ein prynu, a'n dwyn yn agos at Dduw. Gwedi hyn, aethom yn nghyd (i gyfarfod neillduol y Gymdeithasfa), a'r Arglwydd a gadwodd y diafol yn rhwym mewn cadwyn; cawsom lonyddwch; teimlwn yn fy yspryd ein bod yn cael buddugoliaeth trwy ffydd; penderfynasom y teithiau yn Ngogledd Cymru, ac amryw faterion eraill, a gosodasom ddau bregethwr i'r Gogledd. Mor fuan ag yr aeth Mr. Rowland allan, daeth Duw i lawr yn ogoneddus; gosodwyd fy yspryd yn rhydd, a dangosais iddynt ogoniant yr Iachawdwr, gan eu hanog i edrych arno, i fod yn un ag ef, ac i adeiladu eu heneidiau arno." Yr oedd y Gymdeithasfa yn parhau dranoeth, ond ymadawodd y ddau bregethwr o Ogledd Cymru, a siarsai Harris hwy i wylio yn erbyn hunan, a balchder, ac i arwain y bobl at Grist. Yn y cyfarfod neillduol, ymosododd Howell Harris yn enbyd ar Morgan John Lewis, gan ei gyhuddo of feddu gwybodaeth pen yn unig; "cyfodwyd fy llais a'm hyspryd," meddai, “yn erbyn y diafol oedd yn ei yspryd ef; a chwedi i dri dystiolaethu yn ei erbyn, dywedais wrtho na chaffai bregethu gyda mi, oni ddeuai i lawr, ac addef ei fai." Yna, dywed iddo drefnu nifer o faterion, ac anerch y cynghorwyr, gan ddangos ei fod wedi cael ei osod gan Dduw yn dad y Gymdeithasfa.

Felly y terfynodd Cymdeithasfa Llanidloes, yr olaf i Harris a Rowland fod ynddi yn nghyd. Dengys yr adroddiad fod Howell Harris yn cario pob peth o'i flaen. Yn Siroedd Trefaldwyn, Maesyfed, a Brycheiniog, efe oedd y mwyaf ei ddylanwad o lawer; mewn Cymdeithasfa, lle yr oedd y nifer amlaf o'r cynghorwyr yn dyfod o'r siroedd hyn, gallai wneyd fel y mynai; nid gwiw i'r offeiriaid ei wrthwynebu, ac ymddengys i Daniel Rowland ymadael, gan roddi y maes iddo. Gwedi i'r offeiriaid fyned yr oedd fel brenhin yn mysg llu; yr oedd y pregethwyr yn ufudd iddo, ac yntau yn cael trefnu pob materion yn ol ei ddoethineb a'i farn. Nid rhyfedd, felly, ei fod ar uchel fanau y maes. siarad yn fanwl, ni chymerodd ymraniad ffurfiol le yn Llanidloes; nid yw yn ymddangos i ddadleuon poethion iawn gymeryd lle yn y Gymdeithasfa ychwaith; ond yr oedd y teimlad yn dra annymunol, ac ymddengys i'r ddwy ochr ymadael, gan benderfynu yn ddirgel na wnaent gydgyfarfod mewn Cymdeithasfa drachefn. Gyda yr yni a'r cyflymder a'i nodweddai, gweithredodd Harris ar y teimlad hwn ar unwaith. Ar y ffordd adref, yn Erwd, eisteddodd ef, a'r cynghorwyr cynghorwyr John Richard, Thomas Williams, Williams, Thomas James, a Thomas Bowen, i fynu hyd yn hwyr y nos, i drefnu gyda golwg ar y gwaith, ac ar ddyfod i undeb agosach a'u gilydd. Dywedai wrthynt fod hyn yn anhebgorol angenrheidiol, a chydunent hwythau. "Gwedi dangos," meddai, "y modd y dylem ystyried ein gilydd yn Nuw, a pha beth i wneyd mewn cysylltiad a'r pregethwyr, a'r modd y dylem eu harwain at y goleuni, fel yr arferai ein Harglwydd wneyd, dywedais wrthynt am wylio dros y seiadau, a rhoddi gwybod am eu hystâd i mi. Ac yna y caem gyfarfod drachefn mewn mis o amser i weddïo, ac i gydymgynghori." Gwelir penderfyniad i gasglu y seiadau yn nghyd, a gosod Harris yn ben arnynt, yn amlwg yn y difyniad hwn.

Am y gweddill o fis Mai, bu Harris yn teithio Sir Frycheiniog, ac yn trefnu pethau gartref. Ar y dydd cyntaf o Fehefin, cychwynodd am daith faith i Forganwg a Mynwy. Y Sul, yr oedd yn Aberthyn, a dywed iddo gael cynulleidfa anferth, y fwyaf a gafodd yn y sir erioed, ac yr oedd awdurdod yn y weinidogaeth. Ond yn y seiat breifat yr oedd pethau yn dra therfysglyd; dywedai Harris fod y diafol yn y lle, a throdd allan y stiwardiaid a ddaethent yno heb ymgynghoriad blaenorol ag ef. Aethant hwythau. Parhaodd i geryddu; dywedai eu bod yn llawn o falchder a hunan, ac yn y diwedd cofnoda i lawer dori allan i wylo. Wedi pregethu yn St. Nicholas, a Chaerdydd, daeth i Watford. Yr oedd yn nerthol wrth bregethu; gwaeddai yn ddiymatal: Y GWAED! Y GWAED! Y GWAED! Oni yfwch ef, fe'ch demnir byth!" Yn y seiat, dywedai eu bod oll yn y cnawd, nad oeddynt yn argyhoeddedig o'u pechod yn erbyn Crist, eu bod yn ddeillion, a chyffelybai hwy i Judas. "Dywedais wrth Price," meddai, "yr awn allan wrthyf fy hun, ac y mynwn weled pwy a anfonai yr Arglwydd gyda mi. Agorais iddo am yr oll sydd wedi pasio, ac am Rowland; y modd y mae (Rowland) wedi syrthio er ys blynyddoedd, fod ei syniadau yn ddeddfol, a bod y diafol ynddo mor gryf, fel na fedr ei wrthsefyll." Aeth oddiyma i Lanheiddel, a'r New Inn, a bu yn amser enbyd rhyngddo a Morgan John Lewis a David Williams. Gorphenodd ei daith yn y Goetre, lle yr ysgrifena: "Cefais allan fod cydfwriad wedi cael ei ffurfio yma yn fy erbyn, ac yn erbyn athrawiaeth y gwaed; ni wyddwn ddim am dano, ond yn awr daeth i'r goleu." Ymddengys i agwedd pethau yma, yn nghyd a'r yspryd a welai trwy ei holl daith, beri iddo benderfynu dychwelyd i Drefecca ar unwaith.

Prin y dychwelasai pan y cafodd lythyr o Sir Fynwy yn ei hysbysu fod yr holl bregethwyr wedi troi yn ei erbyn, a'u bod yn ei feio yn enbyd am gymeryd o gwmpas Madam Griffiths, y ddynes a honai yspryd prophwydoliaeth. Yr ydym wedi cyfeirio at y wraig hon droiau o'r blaen. Credai efe ei bod yn meddu ar ddawn prophwydoliaeth, a'i bod wedi cael ei rhoddi gan Dduw i fod yn llygad iddo, i farnu a phrofi yr ysprydion, fel y gallai adnabod pob math o gymeriadau ac athrawiaethau. Y mae yn syn fod dyn mor ysprydol ac mor graff mor hygoelus. Sicr yw ddarfod i'r ddynes ragrithiol hon wneyd niwed dirfawr i'w yspryd ac i'w achos. Yn Nhrefecca, galwodd y frawdoliaeth yn nghyd; nid annhebyg hefyd fod yno gynghorwyr wedi ymgasglu o'r seiadau cymydogaethol; eglurodd iddynt sefyllfa pethau, a phwysigrwydd ymraniad. “Ond,” meddai, "y mae y brodyr wedi ymranu oddiwrthym ni yn barod." Aethant a'r achos at yr Arglwydd. "Cefais ateb gan yr Arglwydd," meddai, "mai ni yw corph a chanolbwynt gwaith y Methodistiaid; ac mai yn y corph hwn y mae meddwl, gwirionedd, gwaed, a gogoniant Duw; a bod Duw yn ein mysg, gyda yr holl rasau a'r doniau sydd yn cydfyned a'i bresenoldeb." Wedi ymgynghori drachefn, cydwelwyd fod yn rhaid iddynt ymranu cyn y gallent byth fod yn un, gan fod Rowland a'i blaid yn pregethu gras yn lle Crist, a'u bod yn ymddyrchafu fwy fwy yn erbyn athrawiaeth y gwaed.

PENOD XVI.

YR YMRANIAD.

Syniadau athrawiaethol Howell Harris—"Ymddiddan rhwng Uniawngred a Chamsyniol”– Achosion i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn parthed athrawiaeth—Harris yn petruso cyn ymranu—Plaid Rowland yn cyfarfod yn Llantrisant, ac yn ymwrthod a Harris—Yntau yn cynal pwyllgor yn Llansamlet—Cymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yn St. Nicholas— Cymdeithasfa Llanfair-muallt—Llythyr Harris at Rowland—Harris yn Sir Benfro—Harris yn Ngogledd Cymru—Cymdeithasfa Llwynyberllan a Dyserth.

EFALLAI mai dyma y lle mwyaf priodol i wneyd ychydig sylwadau ar syniadau athrawiaethol Howell Harris. Nis gall neb sydd wedi ymgydnabyddu mewn un gradd a'i bregethau, ei lythyrau, a'i ddadleuon â gwahanol bersonau ar wahanol bynciau, amheu ei fod yn dduwinydd gwych. Meddai lygad eryr i adnabod y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt; ac mewn cysylltiad ag un gwirionedd pwysig, ymddengys ei fod wedi plymio yn ddyfnach na neb o'i gydoeswyr yn Nghymru, oddigerth, o bosibl, Williams, Pantycelyn. Y gwirionedd hwn oedd, agosrwydd undeb y ddwy natur yn mherson ein Harglwydd. Ymdeimlai a'r gwrthyni o wahanu y naturiaethau, ac o ddweyd fod y Gwaredwr yn gwneyd un peth fel Duw, a pheth arall fel dyn; a beiddiodd gyhoeddi fod yr oll o berson Crist yn mhob peth a wnelai, ac yn mhob peth a ddyoddefai. Tra nad cywir nac Ysgrythyrol dweyd ddarfod i Dduw farw, yr oedd Howell Harris yn ei le pan yn dadleu fod perthynas agosach rhwng duwdod y Gwaredwr a'r angau, na nerthu a dal y natur ddynol i fyned trwy y dyoddefaint; i Fab Duw farw; a bod y Person Anfeidrol yn yr iawn. Nid ydym yn meddwl ychwaith ei fod yn dal, pan yr eglurai ei syniadau, ddarfod i Dduw farw; oblegyd cawn ef yn dangos amryw weithiau, fod natur ddwyfol yr Arglwydd Iesu yn dal gafael ddiollwng yn ei gorph pan yn gorwedd yn farw ar waelod bedd, ac yn ei enaid, pan am ychydig amser y preswyliai ar wahan i'r corph yn mharadwys. Nid ydym yn hoffi yr ymadrodd, "gwaed Duw;' tuedda yn ormodol i fateroli y Duwdod; ond nid oedd y geiriau yn ngenau y Diwygiwr ond ffordd gref o osod allan y gwirionedd pwysig, oedd wedi llanw ei enaid a'i ogoniant, sef fod holl berson y Duw-ddyn yn ei angau, ac yn cyfansoddi ei aberth. Credai ef iddo ddarganfod y gwirionedd hwn trwy ddatguddiad o'r nef; a darfu i fawr ddysgleirdeb y datguddiad ddallu ei feddwl am beth. amser, fel nas gallai weled unrhyw wirionedd arall. Yn nglyn a'r athrawiaeth hon, yr oedd wedi gwthio yn fwy i'r dwfn na'r un o'i gydlafurwyr.

Ond nid oedd ganddo weledigaeth eglur, a rhaid addef fod cryn gymysgedd yn ei syniadau, neu ynte ei fod yn anffodus yn ei ddull o eirio. Ymddengys fel pe yn tybio ddarfod i natur ddynol ein Harglwydd, wrth ddyfod i undeb a'i berson dwyfol, gael ei thrawsnewid a'i gogoneddu rywsut, nes dyfod i gyfranogi o briodoleddau arbenig y ddwyfoliaeth. Pan y dywed fod y gwaed yn anfeidrol, a'i fod yn llanw tragywyddoldeb, gorfodir ni i gredu y golyga rywbeth heblaw anfeidroldeb haeddiant. Yr oedd gan bob peth cyfriniol ddylanwad mawr arno. Nid hawdd ychwaith deall ei syniadau am y Drindod. Weithiau, gellir meddwl ei fod yn hollol uniongred; dywed yn groew ei fod yn credu mewn tri pherson; mai y Mab, neu y Gair, a ddarfu ymgnawdoli, ac nid y Tad na'r Yspryd, a'i fod yn wrthwynebol i Sabeliaeth. Ond yn ymyl hyn, yr ydym yn dyfod ar draws cymysgedd. Dywed fod y Drindod Sanctaidd wedi ymgnawdoli yn yr lesu; nad oes yr un Duw y tu allan i'r Iesu; fod y Drindod ynddo ef; a bod y rhai a gredant fod y Tad mewn unrhyw ystyr uwchlaw yr Iesu yn gosod i fynu eilun ddychymygol, gerbron yr hwn y syrthient i lawr ac yr addolent. Gwadai felly ddarfod i'r Gwaredwr ddyhuddo digofaint y Tad; a gofynai yn wawdlyd, pwy a ddyhuddodd lid y Mab, a'r Yspryd Glân? Rhaid i bob dyn meddylgar gydymdeimlo ag ef pan y dywed fod y Drindod yn ddirgelwch iddo, a bod yr athrawiaeth yn ormod o ddirgelwch iddo allu ymborthi arni, ac efallai, yn y diwedd, fod y cymysgedd yn fwy yn ngosodiad y syniadau allan, nag yn y syniadau eu hunain.

Fel hyn yr ysgrifena Mr. Charles, o'r Bala, ar fater yr ymraniad: "Tebygol fod Mr. Harris yn ŵr o dymher go wresog, a pha beth bynag a gymerai le yn ei feddwl, yr oedd yn ei dderbyn, ac yn ei ddilyn gyda bywiogrwydd poethlyd. Tebygol fod y bobl heb eu haddysgu yn fanwl yn y pynciau mawrion hyn, gan fod yr athrawiaeth, gan mwyaf, yn cerdded llwybr cwbl wahanol. Dywedodd un o'r hen broffeswyr wrthyf, ei fod ef, ac amryw frodyr, gyda eu gilydd mewn cymdeithas neillduol dros bum' mlynedd, heb wybod dim am Grist, hyd yn nod yn hanesiol, a phan glywsant ryw bregethwr yn son yn neillduol am dano, nid oeddynt yn ei ddeall, nac yn gwybod am bwy yr oedd yn pregethu. Gofynais i'r hen ŵr duwiol, beth oedd yn cael ei bregethu iddynt ? Atebodd nad oeddynt yn clywed am ddim ond am ddrwg pechod, tân uffern, a damnedigaeth, nes y byddent yn crynu gan ofnau mawrion, a dychryn calon."

Y mae yn bur sicr fod yr hen ŵr yma yn camddarlunio pethau, neu ynte nad oedd wedi clywed neb yn ystod y pum' mlynedd y cyfeiriai atynt, ond y mwyaf anwybodus o'r cynghorwyr, oblegyd yr oedd pregethau Rowland a Harris yn llawn o Grist, a phan y byddent yn dangos drygedd pechod, aent i Galfaria er ei weled yn ei liwiau duaf. Ond i fyned yn mlaen gyda geiriau Mr. Charles: "Cafodd Harris ei wrthwynebu gan rai brodyr oedd yn cael eu blino gan ei ddull yn llefaru am berson a marwolaeth Crist, sef fod Duw wedi marw, &c., &c. Barnent fod y dywediad yn an-Ysgrythyrol, ac yn tueddu at Sabeliaeth. Yr oedd gwrthwynebiad oddiwrth ei frodyr crefyddol yn beth hollol anadnabyddus i Mr. Harris; hyd yn hyn yr oeddent yn gwrando arno fel tad, a phen-athraw, fel yr oedd yn wirioneddol i'r rhan fwyaf o honynt. Yn lle arafu, a phwyllo, ac ystyried yn ddiduedd a oedd ei ymadroddion yn addas am y pynciau uchod, chwerwodd ei yspryd tuag atynt, a phellhasant yn raddol oddiwrth eu gilydd, hyd nes y diweddodd mewn ymraniad gofidus."

Er mwyn deall golygiadau Daniel Rowland, yr ydym yn cofnodi traethawd byr a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1749, pan yr oedd y ddadl rhyngddo ef a Harris yn ei phoethder mwyaf. Ei enw yw, "YMDDIDDAN RHWNG UNIAWNGRED A CHAMSYNIOL." Prin y rhaid dweyd mai Rowland ei hun yw "Uniawngred," ac mai Howell Harris yw "Camsyniol":

"Uniawngred. Henffych well, fy mrawd; y mae yn dda genyf eich gweled, a chael yr odfa hon i ymddiddan â chwi. Yr wyf yn clywed eich bod chwi, ac eraill, yn camachwyn arnom; yr ydych yn dweyd ein bod ni yn Ariaid.

"Camsyniol. Gwir iawn; mi a ddywedais felly, ac yr wyf eto

"Uniawn. Yr ydych! Pa fodd y beiddiwch chwi haeru y fath anwiredd? Yr ydym ni yn credu fod Iesu Grist yn wir Dduw, a'i fod ef yn gyd-dragywyddol, gogyfuwch, a chydsylweddol a'i Dad.

Cam. Yr wyf fi yn dweyd mai Ariaid ydych; ac yr ydym yn cyhoeddi hyn i'r byd.

"Uniawn. Dyma ffordd ofnadwy o ymddwyn. Ystyriwch, atolwg, pwy yw tad y celwydd. Yr ydych, nid yn unig wedi eich rhoddi i fyny i gredu anwiredd, ond yn ddigywilydd i'w gyhoeddi; ac nid hyn yw yr unig beth ag yr ydych yn camachwyn arnom. Maddeued yr Arglwydd i chwi am eich holl ddrwg enllib. Atolwg, dysgwch o hyn allan, i gadw o fewn terfynau gwirionedd. Yr ydys yn dywedyd wrthyf, eich bod chwi yn gwadu fod tri pherson yn y Duwdod.

"Cam. Tri pherson! Yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai gair cnawdol yw person; nid allaf ei arferyd.

"Uniawn. Pam? Y mae yn cael ei arferyd yn yr Ysgrythyr, Heb. i. 3; ac y mae yn cael ei arferyd er y dechreuad. Yr wyf fi yn barnu ei fod yn air priodol, ddigon. Ond yr ydych chwi yn ddoethach na'ch hynafiaid. Bod tri pherson yn y Duwdod sydd eglur, oddiwrth amryw fanau yn yr Ysgrythyr. Y mae ein Harglwydd yn gorchymyn i'w ddysgyblion i fedyddio yr holl genhedloedd yn enw y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan. Ac y mae St. Ioan yn dweyd wrthym fod tri yn tystiolaethu yn y nef, y Tad, y Gair, a'r Yspryd Glan; a'r tri hyn, un ydynt. Y mae Athanasius, ac Eglwys Loegr, yn rhagorol yn gosod allan y gwirionedd mawr hwn; un person sydd i'r Tad, arall i'r Mab, ac arall i'r Yspryd Glan. Y gogoned, lan, fendigaid Drindod, tri pherson, ac un Duw, &c. Ond yr wyf fi yn clywed eich bod chwi yn maentymio heresi y Patripassiaid; yr ydych yn dweyd fod y Tad wedi cael ei wneuthur yn gnawd, yn gystal a'r Mab.

"Cam. Yr ydwyf; fe a'i datguddiwyd felly i mi.

"Uniawn. Datguddiwyd? Pa ddatguddiadau yw y rhai hyn genych? Y mae hyn yn wrthwyneb i ddatguddiedig Air Duw, yr hwn sydd yn dweyd wrthym mai y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Yr ydych, mae'n debygol, yn maentymio heresi y Patripassiaid, yn gystal a'r Sabeliaid.

"Cam. Chwi a ellwch alw enwau. Dyma'r peth yr wyf fi yn ei gredu, fod y Tad, yn gystal a'r Mab, wedi cael ei wneuthur yn gnawd, dyoddef, a marw. Ond, atolwg, a ydych chwi yn credu i Dduw farw?

"Uniawn. Yspryd yw Duw, heb gorph, rhanau, na dyoddefiadau; ac felly, ni all ddyoddef, na marw. Fe ei gelwir ef yn anfarwol Dduw, ac am hyny, ni ddichon farw.

"Cam. Yr wyf fi yn dweyd i Dduw ddyoddef, a marw.

"Uniawn. Yr wyf fi yn credu i'r ail berson yn y Drindod fendigaid, Duw y Mab, gymeryd arno natur ddynol, yr hwn a ddaeth i fod yn un person yn y Duwddyn; ond yr oedd y ddwy natur mor bell yn wahanol, y naill oddiwrth y llall, fel mai y natur ddynol a ddyoddefodd, ac a fu farw. Ond, fel ag yr oedd wedi ei huno â'r Duwdod, yr hyn a wnaeth, ac a ddyoddefodd, oedd o'r cyfryw werth, a haeddiant anfeidrol, ag a foddlonodd gyfiawnder Duw am bechod dyn. Yr Ysgrythyrau canlynol ydynt yn dangos yn oleu, mai yn ei natur ddynol yn unig y bu Crist farw. 1 Petr iii. 18: Wedi ei farwolaethu, neu a fu farw, yn y cnawd. 2 Cor. xiii. 4: Ei groeshoelio ef o ran gwendid, neu megys yr oedd ef yn ddyn. 1 Petr ii. 24 Yr hwn, ei hun, a ddug ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren.

"Cam. Yr wyf fi yn credu fod y fath undeb rhwng y ddwy natur, fel y darfu i Dduw, yn gystal a dyn, farw.

"Uniawn. Felly, chwi a chwanegasoch heresi yr Eutychiaid at y ddwy arall. Ond yr wyf fi yn credu y gwirionedd, yr hyn y mae Athanasius yn ei ddal, sef fod ein Harglwydd Iesu Grist yn berffaith Dduw, a pherffaith ddyn, ond un person, a hyny nid wrth gymysgu y sylwedd, ond trwy undeb person; Un, nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd, megys ag yr wyf fi yn deall eich bod chwi yn ei osod ef allan, ond gan gymeryd y dyndod at Dduw.

"Cam. Onid yw yr Ysgrythyr yn dywedyd fod y Gair wedi cael ei wneuthur yn gnawd?

"Uniawn. Mae yr esgob duwiol Beveridge, yr wyf yn meddwl, yn gosod y gwirionedd hyn mewn goleuni eglur: Pan gymerodd ein Harglwydd,' medd ef, 'ein natur ni arno, fe ddaeth yn ddyn, yn gystal ag yn Dduw. Y natur ddynol ynddo ef, nid oedd yn cael ei chymysgu, fel pe buasai y ddwy natur yn awr wedi eu gwneuthur yn un. Yr oeddynt eill dwy yn aros yn wahanol oddiwrth eu gilydd ynddynt eu hunain, er eu bod wedi eu huno yn y cyfryw fodd, ag yr oeddynt yn gwneuthur ond un person.' Yn fy marn i, dweyd fod Duw yn marw, a Duw yn dyoddef, sydd gabledd ofnadwy. Heresi y Sabeliaid sydd yn eich arwain i osod heibio arferyd yr Arglwydd Iesu fel cyfryngwr, a dadleuwr gyda ei Dad; a heresi yr Eutychiaid sydd yn eich arwain i haeru fod corph Crist, yn mhob man, yn gystal a'i dduwdod.

"Cam. Yr ydwyf fi yn dywedyd fod y fath undeb rhwng y ddwy natur, fel lle y byddo un, y bydd y llall hefyd.

"Uniawn. Mae fy Meibl i yn dywedyd wrthyf, fod corph yr Arglwydd Iesu wedi esgyn i'r nefoedd, a'i fod ef i aros yno, hyd amseroedd adferiad pob peth. Nid yw credo yr Apostolion a'ch credo chwi yn cytuno. Rhyfedd y fath gynwysiad o heresiau ydych wedi bentyru yn nghyd. Heblaw eich bod chwi yn Antinomiad, yr ydych yn Sabeliad,[1] Patripassiad,[2] Eutychiad,[3] ac Ubicwitariad.[4]

"Cam. Dyma fy marn i, beth bynag a wnaeth Crist yn un natur, fe a'i gwnaeth yn y ddwy; ni wnaeth efe ddim mewn un natur yn wahanol oddiwrth y llall.

"Uniawn. Os felly y mae, fe fu chwant bwyd ar y Duwdod; fe gysgodd, ac a fu ddarostyngedig i'r cyfryw wendidau, yr hyn yw cabledd erchyll, yn wir. Ac os yw'r peth yr ydych chwi yn ei haeru yn wir, sef, beth bynag a wnaeth Crist mewn un natur, fe a'i gwnaeth yn y ddwy; ni wyddai Crist, fel yr oedd ef yn Dduw, pa bryd y byddai dydd y farn; ac wrth hyny, nid oedd efe ddim yn wir Dduw, yn eich barn chwi, gan nad oedd efe ddim yn hollwybodol. Gwelwch yn awr pwy yw yr Ariad.

"Cam. Yr wyf fi yn dywedyd wrthych, fod y pethau yma, ag yr ydych chwi yn eu gwrthwynebu, wedi eu datguddio i ni. Pe buasech chwithau wedi eich gwir oleuo, ac heb gael eich arwain gan eich rheswm cnawdol, chwi a welech y dirgeledigaethau hyn fel ninau. Ond yn awr, gan eich bod chwi yn dywyll, nid ellwch amgyffred y pethau gogoneddus ag sydd wedi eu datguddio i ni.

"Uniawn. Gadewch fod y peth felly, ein bod ni yn dywyll ac yn anwybodus; ond, atolwg, peidiwch a barnu yr holl henafiaid, cyfansoddwyr gwasanaeth ein Heglwys ni, yr hen ŵr da hyny, Athanasius; ïe, yn wir, yn fyr, yr holl gorph o ddefinyddion uniawngred.

"Cam. Felly, yr ydych chwi yn crynhoi eich gwybodaeth wrth ddarllen llyfrau. Mi a ddymunwn pe bai yr holl lyfrau wedi eu llosgi. Ond, atolwg, a ydych chwi yn maentymio fod y Duwdod yn gadael ein Harglwydd yn ei groeshoeliad?

"Uniawn. Mi a glywais eich bod yn dweyd i mi ddywedyd felly, pan nad yw hyn ond un arall o'ch anwireddau. Yr wyf fi yn dywedyd, i Dduw guddio ei wyneb yn y cyfryw fodd, fel ag yr oedd y natur ddynol heb deimlo cysur y Duwdod, yr hyn a barodd i Grist waeddi allan: Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist? Dyma yr ymadawiad ag yr wyf fi yn ei feddwl. Ond yr wyf fi yn credu fod undeb personol y ddwy natur yn aros o hyd, fel ag yr oedd ein Harglwydd yn Dduw-ddyn yn y groth, yn Dduw-ddyn ar y groes, ac yn Dduw-ddyn yn y bedd. "DANIEL ROWLAND.

"Mi a ail-ddymunaf arnoch, unwaith yn ychwaneg, i gadw o fewn terfynau gwirionedd. Mi a gynghorwn i chwi, yn enwedig y goreu o lle llosgi llyfrau da, eu darllen hwy, yn enwedig y goreu o lyfrau, y Beibl. A chwanegwch lawer o weddi at hyn; a chwedi'n, yr wyf yn ymddiried, y bydd it chwi gael eich gwaredu oddiwrth eich hunan-dyb, a rhoddi heibio duo a diystyru. eraill, ac heb gael eich arwain gan yr yspryd gwyllt ag sydd yn awr yn eich meddianu; ac fe fydd i chwi gael eich adferyd i'r hen lwybrau gwirionedd; ac ni bydd eich barn yn hwy gael ei llygru gan yr heresiau yr ydych yn awr yn eu maentymio. A Duw a roddo i chwi ddeall da yn mhob peth. Amen."

Cyhoeddwyd trydydd argraffiad o'r Ymddiddan yn y flwyddyn 1792, dros y Gymdeithasfa, a chafodd ei argraffu yn swyddfa John Daniel, Caerfyrddin. I'r argraffiad hwn, ceir y rhagymadrodd a ganlyn: "Ddarllenydd diduedd, nid oedd meddyliau cydsyniol yr Association, wrth roi anogaeth i ail-argraffu yr Ymddiddan rhwng yr Uniawngred a'r Camsyniol, yn tueddu i ddianrhydeddu, diystyru, nac enllibio un person penodol, nac un gangen eglwysig sydd yn proffesu ffydd yn enw tragywyddol Fab Duw, a brawdgarwch. Ond yn gymaint a bod aneirif o bobl newydd yn awr yn weithwyr yn y winllan; rhai yn dadau, yn athrawon, a chynorthwywyr; y dyben ydyw hysbysu yn eirwir beth oedd barn uniawngred tadau, cenadon, a chynorthwywyr, yn nechreuad yr Association, yn enwedig y Parchedig Mr. D. Rowland. I Ioan ii. 24: ''Arosed, gan hyny, ynoch chwi yr hyn a glywsoch o'r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab, ac yn y Tad." Wrth y rhagymadrodd yma cawn enwau J. E. a J. T. Dywed Mr. Morris Davies, Bangor, ar sail tystiolaeth a ystyria yn ddigonol, mai yr Hybarch John Evans, o'r Bala, oedd J. E.; a thybia mai yr hen bregethwr ffyddlawn, John Thomas, o Lancwnlle, ond a orphenodd ei yrfa yn Ninbych, oedd J. T. Y mae argraffiad 1792, hefyd, yn cynwys yr emyn ganlynol; ni wyddis a ydoedd yn yr argraffiadau blaenorol; felly, nid oes sicrwydd mai Daniel. Rowland yw eu hawdwr:

"Y Tri yn Un mewn undeb,
Yn nhragywyddoldeb draw,
Ymrwymodd mewn cyfamod,
Fel rhoddi llaw mewn llaw,
I godi f'enaid euog,
O ryw ddyfnderoedd mawr,
A'm cànu fel yr eira,
Ffieiddiaf lwch y llawr.

Pan oedd cyfiawnder difrif
Yn llosgi megys tân,
A swn taranau Sinai
Yn gyru'r gwres yn mlaen,
Gwaed Iesu croeshoeliedig
A wraeth foddlonrwydd llawn;
Myrdd o fyrddiynau heddy'
Sy'n canu am yr iawn.

Yr Yspryd Glân sancteiddiol,
Y ffynon o lanhad,
Sydd yn cymhwyso'n helaeth
Yr iachawdwriaeth rad,
Nes byddo f'enaid ofnus,
Crynedig, ar y llawr,
Yn dechreu hwylio'i danau,
Yn y cystuddiau mawr.

Fe'm dysg, fe'm cyfarwydda,
I gerdded ar fy nhaith;
Fel colofn dân fe'm harwain
Trwy'r dyrys anial maith;
Nes delwy' i Sion dawel,
Sy' heb ryfel byth, na phoen,
Ond cydsain Haleluwiah!
Hosana i Dduw a'r Oen.

Fe dderfydd peraidd bynciau
Yr hediaid mân y sydd
Yn chwareu 'u llaes adenydd,
Ar doriad gwawr y dydd;
Ond gwaredigion Sïon,
A ddaeth o'r cystudd mawr;
Par eu caniadau 'n newydd,
A newydd fydd eu gwawr."

Dengys yr Ymddiddan hwn fod syniadau Daniel Rowland ar y pynciau mewn dadl, yn gyffelyb i eiddo y rhai a ystyrir yn gyffredin yn dduwinyddion uniawngred, a'i fod yn dra chydnabyddus a hanesiaeth eglwysig. Dengys, hefyd, ysywaeth, ei fod wedi ymddigio trwyddo, ac i chwerwder ei yspryd ei arwain i ddefnyddio geiriau llymion, fel brath cleddyf. Nid ydym yn sicr, ychwaith, ei fod yn cyflwyno golygiadau Howell Harris gyda hollol degwch; prin, efallai, y gellid dysgwyl hyny wrtho mewn dadleuaeth mor gyffrous. Nid cywir dweyd fod Harris yn ymwrthod, o leiaf yn gyfangwbl, a'r gair person, pan yn cyfeirio at y Drindod; yr ydym wedi dod ar draws y term droiau, yn y difyniadau a rydd o'i bregethau. Nid ydym ychwaith wedi cael ei fod yn dal ddarfod i'r Tad ymgnawdoli, ond efallai yr ystyriai Rowland hyn yn gasgliad anocheladwy oddiwrth y dywediad fod y Drindod yn preswylio yn Iesu Grist. Nid annhebyg, hefyd, fod Harris, yn ngwres ei areithyddiaeth wrth bregethu, yn defnyddio ymadroddion mwy eithafol nag a gofnoda pan yn ysgrifenu yr hyn a ddywedodd, gwedi i'r gwres gilio. Eithr am y pethau eraill, sef ei fod yn condemnio gwybodaeth llyfrau, yn galw ei wrthwynebwyr yn Ariaid, ac yn Ddeistiaid, ei fod yn dal fod corph yr Arglwydd Iesu yn holl-bresenol, a'i fod, pan y gwesgid yn galed arno, yn syrthio yn ol ar y datguddiad y tybiai ei fod wedi ei dderbyn, y mae sail iddynt oll yn nydd-lyfr Harris ei hun. Hyd yn nod pe na byddai ei olygiadau ar y Drindod a dirgelwch person Crist yn annghywir, yr oedd yn pwysleisio yn ormodol ar hyn, ac yn rhoddi iddo fwy o le nag oedd briodol, yn ol cysondeb y ffydd. Yn mlynyddoedd olaf ei gysylltiad a'r Methodistiaid, prin y cai dim arall sylw yn ei weinidogaeth; beth bynag a fyddai ei destun, troai at y pwnc hwn fel y nodwydd. at begwn y gogledd; ac un o'r achwyniadau a ddygid yn ei erbyn ydoedd, fod cyfnewidiad hollol wedi cymeryd lle yn nhôn ei bregethu. Diau mai un rheswm am hyn oedd y gwrthwynebiad a gyfododd i'w athrawiaeth. Ymgyndynu, a myned yn fwy penderfynol, a wnelai, yn ddieithriad, pan y caffai ei wrthwynebu. A gosodai allan ei syniadau mewn ymadroddion a dull tra chyffrous. Meddai unwaith: "Nid wyf yn adnabod yr un Duw ond Iesu Grist; cymerwch chwi y lleill i gyd; yr wyf yn eu herio oll." Yr oedd ymadroddion o'r natur yma, yn nghyd a'r haeriad fod ei wrthwynebwyr yn addoli eilunod o greadigaeth eu dychymyg eu hunain, ac yn gwadu priodol dduwdod yr Arglwydd Iesu, yn annyoddefol i deimlad Daniel Rowland a'i gyfeillion, ac yn gwneyd aros mewn cydgymundeb ag ef yn anmhosibl.

Rhaid cofio, hefyd, fod achosion eraill i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn. parthed athrawiaeth. Honai Harris awdurdod unbenaethol dros y seiadau a'r cynghorwyr. Geilw ei hun drosodd a throsodd yn dad y Gymdeithasfa; cyffelyba ei swydd i eiddo Moses, yr hwn a osodasid yn farnwr ar Israel, ac ystyria ei fod wedi cael ei osod ynddi gan Dduw lawn mor uniongyrchol. Nid ymgynghorai â barn ei frodyr; ac ystyriai fod dywedyd yn ei erbyn yn wrthwynebu Duw. Diarddelai o'r seiat, a thorai y cynghorwyr allan, wrth ei ewyllys; nid ymostyngai i ymgynghori â na Chyfarfod Misol na Chymdeithasfa yn y mater hwn. Gwaith yr offeiriaid, fel y tybiai, oedd myned o gwmpas i bregethu a gweinyddu yr ordinhadau; a gwaith y cynghorwyr a'r stiwardiaid oedd cario allan y trefniadau a wnelai efe ar eu cyfer. A chan ei fod yn hawdd ei gyffroi, ac yn meddu tymherau cryfion, yn wir, bron aflywodraethus, gweithredai yn fynych oddiar deimlad y foment. Cyhudda Rowland ef yn ei wyneb o droi y cynghorwyr allan mewn nwyd. Nid gwiw ymresymu ag ef; barnai fod llywodraethu y seiadau yn perthyn i'w swyddogaeth ef, ac y dylai pawb arall fod yn ddystaw; a chredai ei fod yn gweithredu yn uniongyrchol dan arweiniad dwyfol. Nid rhyfedd, gan hyny, i wrthryfel dori allan. A hawdd gweled fod ei dra-awdurdod yn boenus i Daniel Rowland, a Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, y rhai oeddynt yn offeiriaid urddedig, tra nad oedd efe ond lleygwr. Naturiol iddynt hwy fuasai edrych ar eu safle, a gwrthod ei gydnabod fel cydradd, chwaithach fel un wedi ei osod mewn awdurdod drostynt. Ni theimlent felly; ond yr oeddynt yn anfoddlawn iddo gael yr holl awenau i'w ddwylaw.

Cynyddodd yr anfoddlonrwydd yn erbyn Howell Harris yn enbyd trwy ei waith yn cymeryd Madam Griffiths, y ddynes a hònai yspryd prophwydoliaeth, o gwmpas. Dygai hi i'r seiadau, ac i'r Cymdeithasfaoedd Misol; galwai hi yn "Llygad," a chredai ei bod yn rhodd Duw iddo i'w alluogi i adnabod y rhagrithwyr, ac i'w gynorthwyo mewn barn. Fel y darfu i ni sylwi, nid oes rhith o sail dros amheu ei burdeb. Nid ydym yn tybio fod unrhyw amheuaeth. gwirioneddol am hyny ar y pryd. Ond eto, cynyrchodd ei ymddygiad deimlad blin. Credai y nifer amlaf, hyd yn nod o'i ganlynwyr, mai dynes ragrithiol ydoedd, ac yr oeddynt yn hollol iawn. Wrth ei fod yn dychwelyd adref o Lundain, trwy Erwd, dywedai un o'i brif gyfeillion wrtho, fod pethau wedi dyfod i stád ryfedd, pan yr oedd dynes yn ben ar y Gymdeithasfa. Ysgrifenodd Thomas James, y cynghorwr o Cerigcadarn, ato gan ei feio. Ei ateb iddynt oll oedd, nad oedd ganddo ef un ewyllys yn y mater; ddarfod iddo ef ymladd yn erbyn y peth ar y dechreu, ond i'r Arglwydd ei drechu; ac erbyn hyn fod llawer o'r pregethwyr yn credu mor ddiysgog ei bod hi yn "Llygad," fel na safent i mewn yn y Cyfundeb, oddigerth ei bod hi yn cael ei lle. Yr oedd ei ymddygiad yn nodedig o blentynaidd, ac yn dangos hygoeledd na cheir yn fynych ei gyffelyb; ond eto, yr oedd yn hollol unol â chymeriad Howell Harris, yr hwn, er ei holl nerth a'i graffder, oedd mewn rhyw bethau yn dra choelgrefyddol. Yr ydym yn tybio ddarfod i hyn, yn gymaint a dim, gyflymu dyfodiad yr ymraniad.

Gwedi y Gymdeithasfa yn Llanidloes, teimlai y ddwy ochr nas gallent gydfyw; ac eto, wedi dyfod i ymyl y dibyn, yr oedd Harris yn petruso cymeryd naid i'r tywyllwch; ond cymerwyd y mater o'i ddwylaw gan y blaid arall.. Ar ddydd Sadwrn, Gorph. 4, 1750, cyfarfyddodd Daniel Rowland, Howell Davies, Williams, Pantycelyn, yn nghyd à rhyw offeiriad arall nas gwyddom ei enw, mewn Cymdeithasfa yn Llantrisant; yr oedd yno yn ychwanegol un-ar-ddeg o gynghorwyr cyhoedd, a phedwar o rai anghyoedd; ac yn y cyfarfod hwn penderfynwyd tori pob cysylltiad à Howell Harris. Yr oedd efe ar daith yn Nghapel Evan, Sir Gaerfyrddin, ar y pryd. Cyffrowyd ei yspryd pan y clywodd, ond dywedodd yn y seiat ei fod yn benderfynol o fyned yn ei flaen; ddarfod iddo yn flaenorol weled y diafol yn codi yn ei erbyn yn y werinos, yr offeiriaid, a'r boneddigion, ac i'r cwbl ddod i'r dim; y gwelai y gwrthwynebiad yma yn diflanu eto, a'i fod yn teimlo yspryd o'i fewn oedd yn anorchfygol. Dywedai, yn mhellach, fod yr ymraniad gwirioneddol wedi cymeryd lle bedair blynedd yn flaenorol. Yn awr, cawn yntau yn dechreu trefnu ei blaid. Y dydd Llun canlynol, Gorph. 6, casglodd wyth o bregethwyr yn nghyd i Lansamlet, i Wern Llestr, yn ol pob tebyg, lle y cedwid y seiadau, i wneyd yr hyn a eilw ef yn "osod i lawr sylfaen ty Dduw." Dywed iddynt gael cyfarfod bendigedig; eu bod yn bwyta yr un bara, ac yn cael eu bywiocau gan yr un yspryd. Galwyd Harris ganddynt i fod yn ben ar yr holl seiadau; llawenychai y brodyr yn y rhwyg; a dywedai Harris. fod Rowland a'i blaid yn codi yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn ei Yspryd, ac yn erbyn ei wirionedd. "Yn y dirgel," meddai, "gwelais y mynai Duw i ni ymwrthod a'r brodyr, ac a'u Cymdeithasfa, am (1) Eu bod o ran eu hyspryd wedi cefnu ar yr Arglwydd. (2) Am eu bod mewn gwirionedd yn elynion iddo. (3) Am eu bod yn cashau llywodraeth ei Yspryd. (4) Am eu bod yn dirmygu yr Urim a'r Thumim. (5) Am na feddant fywyd i ymborthi ar Grist. (6) Am eu (6) Am eu bod yn dirmygu athrawiaeth y cnawd a'r gwaed hwn; ac yr wyf finau yn caru y cnawd a'r gwaed anfeidrol ac anwyl hwn mewn gwirionedd." Pa beth a olyga wrth yr "Urim a'r Thumim," nis gwyddom, os nad y ffug-brophwydes. Ar y nawfed o Orphenaf, cawn ef yn cadw seiat yn Llwynyberllan, a chwyna yn enbyd fod y seiadau wedi myned yn ffurfiol, yn gnawdol, ac yn fagwrfa i falchder; ond dywed ei fod ef yn foddlon ymweled â hwy cyhyd ag y byddai ei ymweliadau yn dderbyniol, ac o fendith. Dranoeth, yn Cefnygweision, cofnoda iddo ddyfod allan yn fuddugoliaethus o'r rhyfel poethaf y buasai ynddo erioed. Ymddengys i Daniel Rowland ag yntau gyfarfod, efallai yn Llwynyberllan, ac iddi fyned yn ymrafael chwerw rhyngddynt. Cyhuddai Rowland ef o fod wedi syrthio oddiwrth ras, o gyfnewid yn barhaus, o dalu sylw yn unig i ranau o'r Ysgrythyr, ac o'r gwirionedd am berson Crist, ac nid i'r oll, o droi pobl allan o'r seiadau mewn nwyd, o ymranu oddiwrthynt, ac o ddweyd nad oes dros chwech yn Nghymru yn adnabod yr Arglwydd. Atebai Harris ei fod yn ofni nad oedd

LLANTRISANT, SIR FORGANWG.
Lle y cynhaliwyd Cymdeithasfa gyntaf plaid Rowland.]


Rowland a'i blaid yn adnabod yr Arglwydd, a'u bod yn elynol i'r gwaed; eu bod yn wrthwynebol i bob peth oedd o Dduw; ac nad oeddynt yn eu pregethau yn myned i ddyfnder yspryd y bobl, ond eu bod yn appelio yn benaf at y pen a'r teimlad, ac felly fod y gwrandawyr yn myned yn ysgafn ac yn gnawdol. Dywedai, yn mhellach, ddarfod iddynt trwy gydgyfarfod, ac ymwrthod ag ef, ei gau allan o'r tŷ (y capel) yn Nghilycwm. Dengys y nodiad hwn nad oedd y seiat yn Nghilycwm, fel y cyfryw, wedi ei wahodd yn flaenorol i gymeryd ei gofal, eithr rhyw bersonau ynddi. Poenus tu hwnt yw gweled y ddau hen gydlafurwr wedi myned mor chwerw yn erbyn eu gilydd, yn benaf trwy annealltwriaeth; ond dengys yr ymddiddan o ba bethau y cyhuddent eu gilydd.

Yn mhen wythnos gwedi, sef Gorph. 17, clywodd am farwolaeth James Beaumont. Ymddengys iddo farw yn sydyn, ond awgryma y cofnodiad iddo farw yn ei gartref, yn Sir Faesyfed; ac nid oes unrhyw awgrym yn cael ei roddi iddo gael ei osod i farwolaeth gan elynion yr efengyl. Ei eiriau diweddaf, medd y dydd-lyfr, cyn i'w yspryd ddianc at ei Waredwr, pan y cynygid ychydig win iddo gan ei briod, oedd: "Nid yfaf o ffrwyth hwn y winwydden hyd onid yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas fy Nhad." Teimlodd Harris yn enbyd ar ol ei gyfaill; yr oedd i Beaumont le cynhes yn ei galon, a dywed fod ei enaid yntau yn hiraethu am fyned adref. Yr ydym ninau yn meddwl fod gwreiddyn y mater yn y cynghorwr o Sir Faesyfed; llafuriodd yn galed, a dyoddefodd lawer gyda'r efengyl; ond yr oedd iddo lawer o ffaeleddau, a chyfeiliornasai yn bur bell oddiwrth y ffydd sydd yn Nghrist. Ac yr ydym yn teimlo yn sicr ddarfod iddo ddylanwadu er niwed ar yspryd Howell Harris.

Gwnelai Harris bob ymdrech posibl yr adeg hon i sicrhau cydymdeimlad y seiadau gydag ef, ac i gael y cynghorwyr o'i blaid. Teithiai yn ddiorphwys; ac anfonai lythyrau at y rhai y tybiai y medrai ddylanwadu arnynt. Yn bur fuan wedi cyfarfod yr offeiriaid yn Llantrisant, anfonodd lythyr yn llaw cenad at John Sparks, y cynghorwr o Hwlffordd, o ba un y difynwn a ganlyn: "Y mae yr offeiriaid, ac amryw o'r cynghorwyr, wedi datgan yn fy erbyn, oblegyd fy egwydd orion, fy ymarferiad, a'm hyspryd. Nid wyf yn ysgrifenu atoch i'ch sicrhau o'm plaid i yn y rhyfel hwn, oblegyd gwyr yr Arglwydd Iesu, yr unig ddoeth Dduw, yr hwn yw fy oll, nad oes genyf blaid, ond fy mod ar fy mhen fy hun, fel yr aethum allan ar y cyntaf, gyda'r eithriad fod ychydig o'r rhai a garant y cnawd, y clwyfau, a'r gwaed, yn crogi wrthyf. Ni fedrant adael y penaf pechadur (Harris). Tybiais yn ddyledswydd arnaf i ysgrifenu atoch yn fyr; cewch y manylion gan y dygiedydd. Os yw ein Hiachawdwr yn eich tueddu i ddymuno rhagor o wybodaeth, cyn penderfynu gyda pha blaid y gwnewch uno i lafurio, gwnaf gyfarfod â chwi yn Lacharn, dydd Iau pythefnos i'r nesaf. Os medrwch chwi, a'r brawd Gambold, a'r brawd John Harris ddyfod i'm cyfarfod i Lacharn, anfonwch air. Neu ynte, mi a ymdrechwn. ddyfod i St. Kennox, i'ch cyfarfod oll, neu rai o honoch, fel y byddo i chwi gael gwybod yr holl wirionedd. Y mae Mr. (Howell) Davies, a Benjamin Thomas, &c., wedi cyduno oll i'm gwrthod; a chan ei fod ef (Howell Davies), a'r bobl, o bosibl, yn edrych ar Sir Benfro fel ei faes neillduol ef, ni wnaf ddyfod, oni chaf fy ngalw gan y bobl, neu y pregethwyr, neu y ddau. Ydwyf, gyda'r serch cryfaf yn nghorph darniedig ein Duw a'n Hiachawdwr, yr eiddoch i bob tragywyddoldeb,-How. HARRIS." Y mae yn anmhosibl darllen y llythyr hwn, gyda'r teimlad dwfn o unigrwydd a red trwyddo, heb fod deigryn yn dyfod i'r llygad, pwy bynag a gondemniwn fel yn fwyaf cyfrifol am yr ymraniad.

Ar y 26ain o Orphenaf, 1750, cynhaliodd Harris a'i blaid eu Cymdeithasfa gyntaf yn St. Nicholas, pentref gwledig bychan yn Mro Morganwg, tua chwech milltir o Gaerdydd. Paham y dewiswyd y llecyn hwn, nis gwyddom; nid oedd mewn un modd yn ganolog i'r oll o Gymru; efallai fod y seiadau o gwmpas yn fwy lliosog, ac mewn mwy o gydymdeimlad ag ef. Yr oedd y rhai canlynol yn bresenol: Howell Harris, Thomas Williams (Groeswen), John Richard (Llansamlet), Henry Thomas, William Jones, Roger Williams, Thomas Bowen (yr hynaf), Thomas Bowen (yr ieuangaf), Richard Tibbot, Thomas Sheen, Thomas Meredith, Lewis Evan, Edward Davies, John Lewis, David William Thomas, Stephen Jones, Richard David, John Davies, a George Phillips. Gwelir eu bod yn namyn un ugain. Sut yr oedd cynghorwyr Sir Benfro yn absenol, nis gwyddom; yr oedd yno amryw mewn dwfn gydymdeimlad à Howell Harris; efallai eu bod heb lwyr benderfynu gyda pha blaid i uno. Aeth Harris tuag yno yn nghwmni offeiriad, o'r enw Henry Lloyd, eithr nid ydym yn cael yr offeiriad hwn yn bresenol yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa. Ymddengys fod rhai o bleidwyr Rowland wedi dyfod i'r lle o ran cywreinrwydd. "Pan welais elynion croes Crist yno," meddai Harris, anwyl Arglwydd a'm cyfarfyddodd, ac a'm dyrchafodd uwchlaw pawb, wrth ganu yn fuddugoliaethus, ac wrth weddïo a phregethu oddiar, Ni a welsom ei ogoniant ef.' Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd fy Nuw yma fel rhyfelwr, yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Ariaid, y Deistiaid, a'u Duw. Datgenais (wrth ganlynwyr Rowland) fy mod yn benderfynol o fyned yn mlaen, gan ganlyn yr un yspryd ag oedd genyf o'r dechreuad; ac os mai o'r diafol y mae yr yspryd, ei fod yn fy ngwneyd yn dra dedwydd, ac yn fy arwain at Grist. Dywedais: Yr ydym ni yn benderfynol o fyned yn mlaen; y mae amryw ugeiniau o honom wedi cyduno; a thra nad ydych chwi yn credu dim ond a ddeallwch, yr ydym ni yn derbyn Duw ar ei Air, ac yn ymwrthod a'n deall ein hunain.' Ychwanegodd ei fod yn foddlon mentro ei dragywyddoldeb ar yr yspryd oedd yn gweithio ynddo, a chyffelybai hwythau i Cora, Dathan, ac Abiram.

Dywed y cofnodau: "Dyma y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd wedi i'r pedwar offeiriad a'r un-pregethwr-ar-ddeg gyfarfod, i ddatgan yn erbyn athrawiaeth ac yspryd y brawd Harris. Cyfarfyddasom ninau i ddysgwyl wrth yr Arglwydd, i gael gweled beth a ellid wneyd, gan fod yr holl waith agos wedi sefyll. Teimlodd pawb rywbeth na chawsent mewn Cymdeithasfa erioed o'r blaen, a gwelsant fod ein Hiachawdwr wedi gosod i lawr sail gwaith pwysig. Yr oedd cymaint a hyn drachefn wedi uno, ond ni fedrent fod yn bresenol oblegyd amgylchiadau. Gellid meddwl fod gwedd newydd ar bethau. Yr ydym yn awr mewn gobaith o weled gogoniant yr Iachawdwr, dysgyblaeth ei Yspryd, a bywyd ffydd yn cael ei ddwyn i mewn i'r diwygiad, ac yspryd mwy catholig at bawb; ac o weled doethineb a balchder dyn yn cael eu halltudio unwaith eto, ac enw Crist yn cael ei ddyrchafu yn ein mysg. Wedi y bregeth ar, Ni a welsom ei ogoniant ef,' wrth ein bod yn canu mewn modd buddugoliaethus, daeth yr Arglwydd i lawr i ddatgan rhyfel yn erbyn y pregethwyr eraill oeddynt wedi ymgynghori yn erbyn Duw, ei angau, a'i Yspryd. Rhoddodd yr Arglwydd i ni un galon; ond pan y cawsom nad oedd yr Yspryd yn rhedeg mor rhydd yn mysg y brodyr ieuangaf, rhag iddynt gymeryd tramgwydd oddiwrth Madam Griffiths, archasom i bawb agor eu calonau gyda golwg arni." "Madam Griffiths" oedd y ffug-brophwydes, ac yr oedd wedi dyfod i St. Nicholas i'r Gymdeithasfa. Agorodd Harris ei holl hanes, y modd yr oedd wedi cael ei gwneyd yn fam yn Israel, nad oedd wedi cael cymaint ffydd yn neb arall, ddarfod iddi brophwydo am yr ymraniad hwn cyn ei ddyfod, a'i bod wedi bod o ddirfawr gymhorth iddo ef i wasanaethu mewn ffydd yn yr Arglwydd. Dywedai fod tri math o oleuni, sef goleuni natur, goleuni prophwydoliaeth, a goleuni ffydd, yn gweddnewid ac yn cymeryd meddiant o'r hyn a ganfyddwn. Mewn canlyniad i eglurhad Harris, dywedodd y naw brawd y ceir eu henwau yn mlaenaf ar y rhestr, ddarfod iddynt gael eu temtio; ond eu bod wedi cael eu hargyhoeddi yn yr Arglwydd ddarfod i Madam Griffiths gael ei chyfodi i fod yn Llygad iddynt, i'w bendithio yn yr hyn yr oeddynt yn ddiffygiol ynddo, ac hefyd i ddarganfod yr ysprydion, ac i gael meddwl Crist yn eu plith. Mewn canlyniad, cydunwyd i anfon am dani i'r Gymdeithasfa, i'w cynorthwyo yn eu hymdriniaeth â gwahanol achosion.

Yn nesaf, cafwyd helynt gyda rhyw frawd, a elwir yn "Old Adams." Dywed y cofnodau ei fod wedi cael ei dwyllo gan ddiafol, a darfod iddo ddyfod i'r Gymdeithasfa i'w dolurio a'u rhwystro. "Dywedais wrtho," meddai Harris, "os oedd John Wesley a George Whitefield yn cynyg eu seiadau, yr awn a'r mater at yr Arglwydd. Eithr pan orchymynwyd iddo fyned allan, dechreuodd ruo; fy yspryd inau a ddyrchafwyd, a gelwais ef yn dwyllwr, yn elyn Duw, ac yn aubrophwyd; ac yn enw yr holl frawdoliaeth mi a'i hesgymunais ef." Y mae y geiriau nesaf yn y cofnodau o'r dyddordeb mwyaf: Yna, daeth Mr. Peter Williams i'r cyfarfod; yr oedd am aros i mewn, ond ni wnai uno." Anhawdd dweyd beth oedd amcan ei ddyfodiad, ai ceisio cyfryngu rhwng y ddwy blaid cyn i bethau fyned yn rhy bell, ynte ceisio gwybodaeth ychwanegol am y materion mewn dadl. "Datganasom ein penderfyniad i beidio uno (a phlaid Rowland) hyd nes y byddai i'r brodyr ymranedig edifarhau, a chael eu dwyn at yr Arglwydd. Dangosais y tri pheth yn mha rai yr ydym yn gwahaniaethu. Y maent hwy yn pregethu Crist yn benaf i'r pen, ac y maent yn erbyn gogoniant ein Hiachawdwr, yr hwn a geisiwn ni ei osod gerbron y bobl. (2) Y maent hwy yn adeiladu ar hen syniadau, ac ar brofiad; yr ydym ninau yn cyffroi yr eneidiau i grediniaeth barhaus yn yr Arglwydd. (3) Yr ydym ni am ddysgyblaeth wirioneddol yr Yspryd, tra y maent hwy wedi cilio oddiwrth yr Arglwydd, a geill eneidiau wrando arnynt yn barhaus, heb gael eu deffro i ganfod pechadurusrwydd angrhediniaeth, hunangyfiawnder, deddfoldeb, a pheidio ymborthi ar yr Arglwydd. Mynegasom, yn mhellach, mai ein pwynt yw nid pwy a fydd fwyaf, ond pwy a fydd leiaf. Dywedodd y brawd Harris ei fod yn gweled ei hun y gwaelaf o'r brodyr, ond fod gwahaniaeth rhwng gweithwyr (yn yr eglwys) ag aelodau preifat; fod rhai yn fabanod, eraill yn ieuainc, ac eraill yn dadau; a bod gwahanol ddoniau, a graddau o ffydd, a gwahaniaeth yn yspryd y pregethwyr; a'n bod yn syrthio gerbron yr Arglwydd i weled lle pob un. Dywed odd, hefyd, ein bod yn cymeryd esiampl, yspryd, a gorchymyn ein Harglwydd fel ein rheol. Yn hyn ol yr oeddym yn cyduno fel un. Gwedi hyn, efe (Peter Williams) a aeth allan." Efallai iddo deimlo fod pob gobaith am gymod wedi darfod.

Yn canlyn ceir y penderfyniadau: "Cydunwyd fod y pregethwyr i gyfarfod mewn Cymdeithasfaoedd fel cynt; fod y Gymdeithasfa nesaf i fod yn Llanfair-muallt, Medi 26, ac yn y cyfamser ein bod i gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o gynal Cymdeithasfa i holl Gymru unwaith yn y flwyddyn, a Chymdeithasfa bob chwech mis yn Neheudir ac yn Ngogledd Cymru ar wahan.

"Cymerwyd i ystyriaeth y priodoldeb o gynal seiadau preifat, a chytunasom oll i'w cynal, gwedi i'r brawd Harris egluro natur y seiadau allan o'r Hen Destament a'r Testament Newydd. Penderfynasom, hefyd fagu yr eneidiau sydd wedi eu deffro i weled eu hangen am Iachawdwr, mewn corlanau bychain iddo ef; ond na wnawn gymeryd neb i fod yn rhan o'r Corph hwn, nac i gael ei alw ar ein henw, ond y rhai sydd naill ai yn gweled gogoniant yr Achubwr, neu ynte eu hanwybodaeth o hono, ac yn byw mewn ffydd arno. Cydunwyd, hefyd, fod y rhai sydd yn canfod y gogoniant gyfarfod ar wahan i edrych ar Grist, ymborthi arno, siarad am dano, a gweddïo arno; a bod y lleill i gael eu cyfarfod gan berson priodol i gael eu meithrin, mor hir ag y byddant yn barod i gymeryd eu dysgu, ac y parhant yn ostyngedig, yn ddiwyd, ac yn parhau i ymarfer â moddion.

"Cydunasom fod ein holl aelodau i gyduno yn addoliad ac yn ordinhadau yr Eglwys Sefydledig; mai Gair y cymod yn unig a ymddiriedwyd i ni; a'n bod i fyned yn y blaen fel Diwygwyr yn yr Eglwys, fel y gwnaethom o'r dechreu, ac yn yr un goleuni a'r un yspryd.

"Cydunwyd, hefyd, fod y brawd W. Powell a'r brawd Thomas Williams i ddwyn adroddiad am ansawdd yr achos yn Mynwy a Morganwg i'r Gymdeithasfa nesaf; y brawd John Richard a'r brawd Rue Thomas i wneyd yr un peth am Orllewin Morganwg, Caerfyrddin, a Phenfro; Thomas Jones i wneyd hyny am ran o Frycheiniog a Henffordd; Charles Bowen am y gweddill o Frycheiniog at Maesyfed, a Richard Tibbot am Drefaldwyn. Yr oeddynt, yn mhellach, i weled pa le yr oedd drysau yn cael eu hagor, a pha le y gallai y brawd Harris sefydlu seiadau o'r newydd, neu yn mysg y rhai oedd wedi cael eu gwasgar.'

Dywedir ddarfod i un Stephen Jones gael ei droi allan gan blaid Rowland, am iddo ddatgan fod gwaed Crist mor fawr, fel nas gallai ei ddirnad na'i egluro; a chyhuddir Rowland a'i bleidwyr o haeru nad oeddynt yn credu dim ond a ddeallent. Wrth reswm, yr oedd i'r Stephen Jones yma dderbyniad croesawus yn Nghymdeithasfa St. Nicholas. Siaradwyd am ein Hiachawdwr, ei fod yn Llew yn gystal ac yn Oen; fod yspryd cerydd yn deilliaw oddiwrtho, yn ogystal ag yspryd addfwynder. Penderfynwyd, hefyd, anfon cenhadau i Ogledd Cymru, gan fod y brodyr oedd wedi ymwahanu yn rhwystro yr eneidiau i ddyfod at Grist; yr oedd y cenhadau yma, hefyd, i geisio perswadio pawb i beidio myned i wrando ar neb perthynol i blaid Rowland, hyd nes y dychwelai y blaid hono at yr Arglwydd. Y cyntaf a drefnwyd i fyned i'r Gogledd oedd Roger Williams; yr oedd ef i gychwyn ar unwaith; yr oedd Rue Thomas i fyned yn mhen pythefnos gwedi; Richard William Dafydd i fyned yn ganlynol; ac yr oedd Lewis Evan i gyfarfod â phob un, ac i fod yn gydymaith iddo hyd nes y dychwelai. Ac yn olaf, fis cyn y Gymdeithasfa nesaf, yr oedd Thomas Williams a David Thomas i fyned, i benderfynu ar gyfarfodydd, ac i alw y pregethwyr oeddynt am uno â Harris i ddyfod i'r Gymdeithasfa yn Llanfair. Dywedir, yn mhellach, ddarfod i'r Arglwydd agor genau Madam Griffiths, y Llygad, i lefaru i'r byw. Dywedai, pe y byddent yn ddigon ysprydol, y gallent weled ysprydoedd pobl mor glir ag yr oeddynt yn gweled eu gwynebau.

Felly y terfynodd Cymdeithasfa gyntaf plaid Harris. Yr ydym yn teimlo fod cryn lawer o gymysgedd i'w ganfod ynddi. Nid oes amheuaeth fod Harris a'i bleidwyr yn hollol gydwybodol; eu bod yn credu. mai gyda hwy yr oedd y gwirionedd, a bod yr offeiriaid wedi gadael Crist. Tybient fod parhad gwir grefydd yn Nghymru yn dibynu ar iddynt hwy gael goruchafiaeth. O'r ochr arall, anhawdd credu fod yr holl frwdaniaeth o'r nefoedd; tra y condemnient gnawdolrwydd, nid oeddynt hwy eu hunain yn rhydd oddiwrth y cnawd. Gyda danfoniad allan y cenhadau hyn, dechreuodd cyffro enbyd yn ngwersyll y Methodistiaid. Gwedi pregethu, byddai y cenhadau yn casglu y proffeswyr yn nghyd; rhybuddient hwy rhag yr offeiriaid, y rhai, meddent, oedd wedi colli Duw; ac yn yspryd y gorchymyn a gawsent wrth fyned allan, anogent hwy i beidio gwrando ar Rowland a'i blaid. Mewn canlyniad, Mewn canlyniad, aeth y seiadau yn rhanedig, ac hyd yn nod aelodau yr un teulu. Ni roddid derbyniad i Daniel Rowland mewn lliaws o fanau ag yr edrychid ar ei ddyfodiad yn flaenorol fel eiddo angel Duw. Nid anmhosibl fod cryn lawer o chwerwder ac yspryd erledigaeth, hefyd, o du yr offeiriaid a'u pleidwyr, ond nad yw eu gweithrediadau hwy wedi eu croniclo. O'r Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd gan blaid Rowland, anfonasid gorchymyn i Harris i anfon cyfrif, a hyny, o bellaf, cyn pen tair wythnos, am yr arian oedd wedi gasglu at y gyfraith yn erbyn Syr Watkin Williams Wynne. Ateba yntau mai yr oll a dderbyniasai oddiwrth bleidwyr Rowland, oedd pum' punt oddiwrth Rowland ei hun, pum' punt oddiwrth Benjamin Thomas, a gini oddiwrth Williams, Pantycelyn. Am y gweddill o'r arian, nad oedd yn gyfrifol iddynt hwy. Yn ganlynol, dengys sut yr oedd yr arian wedi cael eu talu allan. Eithr fel prawf nad oedd serch Harris at Daniel Rowland wedi llwyr oeri, a bod

WERN-LLESTR.
[Lle y pregethodd H. Harris gyntaf yn Llansamlet, a lle y mae yn debygol y cynhaliodd ei bwyllgor cyntaf wedi yr ymraniad.]



yna ryw dybiaeth yn nyfnder ei yspryd eu bod yn un yn eu golygiadau am y gwirioneddau hanfodol, yr ydym am gofnodi llythyr a ysgrifenwyd ganddo: "Fy anwyl frawd Rowland. Pa le yr ydych yn awr? Pa yspryd sydd wedi eich meddianu? Pa frwydrau ydych yn ymladd, ac yn erbyn pwy? Deuwch yn awr, a dychwelwch. Os ydych yn edrych arnaf fi yn waeth na chwi eich hun, fel y mae genych hawl i wneyd, rhydd hyny hawl i mi i waeddi yn uwch, Gras! Gras! Beth bynag, y mae arnoch chwithau eisiau eich golchi fel finau; gadewch i ni ein dau, ynte, fyned i'r ffynon ar ein cyfer. Peidiwch tramgwyddo am y grisiau. A ydych yn tybio ei fod yn bosibl fy mod i yn caru pechod, ac wedi gadael anwyl gariad Duw? Yr wyf yn fwy pechadur na phawb; ond yr wyf yn gadael iddo ef ddangos yr ochr arall i'r ddalen i chwi, pa un a ydwyf yn goddef i mi fy hun ei ddolurio, ac ai wnawn farw er mwyn dangos ei ogoniant i chwi. Deuwch; peidiwch ymladd yn hwy; yn hytrach, ymdrechwch i fynu gafael. Daniel! Fy anwyl frawd, Daniel! ymaith a'r rhai sydd yn ei groeshoelio ef. Dyro heibio dy ragfarn, rhag i eraill fesur i chwi yr hyn. ydych chwi yn fesur i eraill." Ar gefn y llythyr hwn ceir y nodiad canlynol: "Ysgrifenwyd hwn at Rowland yn yr Hen Fynachlog, yn Sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1750, ond ni chafodd ei ddanfon." Trueni na fuasai y llythyr yn cael myned; os na fuasai yn foddion i ail-uno, gallasai fod yn foddion i rwystro llawer o chwerwder yspryd. Dengys ei ysgrifeniad, modd bynag, fod llawer o'r hen serchawgrwydd yn aros yn mynwes Harris, ond ei fod yn orchuddiedig am amser gan haen drwchus o chwerwder.

Medi 26 a 27, cynhaliodd plaid Harris eu hail Gymdeithasfa, fel y trefnasid yn flaenorol, yn Llanfair-muallt. Yr oedd hon yn lliosocach na'r un yn St. Nicholas. Cyn dechreu y cyfarfod rheolaidd, bu Howell Harris yn ymgynghori a'r Arglwydd, ac â John Richard, "am y priodoldeb o oddef i'r rhai a ddaethent i'r goleuni, ac a ddangosent yspryd ufudd mewn peidio myned i wrando y lleill, pan y ceisiem hyny ganddynt, ac hefyd a ddeuent i'r cyfarfodydd ar y Sabbath i gael eu cynghori, ac i gael siarad yn bersonol â hwy," i fyned i wrando pleidwyr Rowland. Y penderfyniad oedd gadael iddynt fyned, gan fod pleidwyr Rowland yn awr wedi gwneyd datganiad o'u huniongrededd parthed marwolaeth Crist. Pa bryd, ac yn mha ffurf, y gwnaethent y datganiad hwn, ni ddywedir.

CAPEL PRESENOL LLANSAMLET.



Eithr cyfiawnha Harris y gwaharddiad a wnaethid yn flaenorol, am fod lle i gredu pan y gwnaed ef fod y blaid hono, o herwydd eu tuedd i wadu y dirgeledigaethau, ac i ddal fod y ddwy natur wedi eu rhanu, yn tueddu at Ariaeth. Dengys hyn fod Howell Harris yn dechreu dyfod i weled nad oedd pellder mawr wedi'r cwbl, parthed athrawiaeth, rhyngddo ef à Daniel Rowland. "Ond," meddai y dydd-lyfr, "yr ydym yn argyhoeddedig nad oes yr un cyfnewidiad yn eu hyspryd; a geill y datganiad hwn am dduwdod ein Harglwydd fod yn unig yn argyhoeddiad y pen, neu ynte yn tarddu oddiar ystryw, ac nid yn gynnyrch unrhyw olwg newydd y maent wedi gael ar berson yr Iachawdwr." Ychwanega ei fod yn iawn yn awr i rybuddio yr eneidiau sydd ar hyn o bryd yn tyfu rhag myned i'w gwrando, oblegyd deddfoldeb eu hyspryd. Agorwyd y Gymdeithasfa trwy bregethu. I gychwyn, traddododd y brawd Relly "bregeth fawr a gogoneddus," oddiar Phil. ii. 8: "A'i gael mewn dull fel dyn," &c. "Y fath fendith yw cael yr efengyl," meddai Harris, wrth wrando. Ychwanega i'r gogoniant lanw y cyfarfod, ac y bu raid i'r pregethwr aros am gryn amser cyn myned yn mlaen. Ar ei ol pregethodd y brawd John Richard, oddiar y geiriau: "Y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear." Daeth y gogoniant yn amlwg yn ystod ei bregeth yntau. Yr oedd Harris wedi siarsio y rhai a ymgynullasent, cyn dechreu y cyfarfod, nad oeddynt i guddio nac i roddi atalfa ar eu teimladau. "Dangosais," meddai, "mai ni yw corph Crist, ein bod wedi cael ein galw y tufewn i'r llen allan o'r cnawd, ac oni wnawn lawenychu yn yr Arglwydd, a dangos ein harwydd oddiar benau tai, ein bod yn gnawdol, ac nad ydym yn farw gyda golwg ar ein henwau yn y byd." Tueddai hyn i roddi rhaff yn y cyfarfod i'r teimladau a enynid.

Gwaith cyntaf y cyfarfod neillduol oedd cwestiyno yr holl gynghorwyr oedd yn bresenol. (1) Holid hwy am eu gwybodaeth o'n Harglwydd. Cafwyd fod llawer yn anwybodus am dano, ond ymddangosent yn syml, ac o un yspryd; yr oedd eraill wedi cael cipolwg arno; tra yr oedd eraill yn dyfod i fynu i'r goleuni. (2) Holid hwy am yr ymraniad. Cydunai pawb ei fod o Dduw, a bod yspryd y rhai a'u gadawsent hwy wedi gadael yr Arglwydd, a'u bod yn adeiladu ar dywod hunan-ddoethineb, tra yr oedd pleidwyr Harris yn adeiladu ar y graig, trwy grediniaeth wastadol. (3) Holid hwy am Madam Griffiths, a oeddent yn ei gweled yn iawn ac yn Ysgrythyrol, ac yn teimlo yn rhydd yn eu calonau, iddi ddyfod i'r Cymdeithasfaoedd, a bod yn un o'r frawdoliaeth. Datganodd amryw ddarfod iddynt fod yn rhwym yn ngefynau rheswm, ond yn awr eu bod wedi cael eu cadarnhau yn yr Arglwydd, ac yn ei Air, a'i Yspryd; fod Madam Griffiths wedi bod o ddirfawr fendith iddynt, i brofi calonau ac ysprydoedd y rhai oeddynt yn aros, a thrwy yru ymaith y rhai cnawdol. Canlyniad yr arholiad oedd cael fod y cynghorwyr yn rhanedig i dri dosparth. Cynwysai y dosparth cyntaf ddeuddeg. Yr oedd y rhai hyn yn y goleuni, ac yn canfod gogoniant yr Iachawdwr. Rhenid y dosparth i ddwy adran. Cynwysai yr adran flaenaf y rhai oeddynt yn gymhwys i fod yn dadau, sef John Sparks, Relly, Thomas Williams, John Richards, a William Powell, yn nghyd ag un arall na roddir ei enw. Cynwysai yr ail adran chwech o ddynion. ieuainc oeddynt wedi dyfod at y gwaed, sef Roger Williams, Stephen Jones, Thomas Jones, Edward Jones, Edward Bowen, a Thomas Davies. Yr oedd yr ail ddosparth hefyd yn rhifo deuddeg; a gwnelid ef i fynu o rai cryfion, oedd yn gweled eu cwbl yn Nghrist, ac yn tynu at y goleuni a'u holl egni. Y rhai hyn oeddent Rue Thomas, Henry Thomas, Richard Edwards, Richard Tibbot, Richard Watkins, Rue Morgan, John Williams, Thomas Meredith, ac Evan Thomas. Ni roddir enwau y tri arall. Yr oedd y trydydd dosparth yn gynwysedig o bedwar-arhugain, y rhai oeddynt yn weiniaid, ond yn meddu yr un syniadau athrawiaethol, a'r un yspryd. Ychwanegir fod rhai o'r dosparth hwn mewn amheuaeth am Madam Griffiths.

Ceir y penderfyniadau a ganlyn yn mysg y cofnodau: “Gan ein bod yn gweled y fath amryfusedd cadarn yn gweithio yn y brodyr eraill (plaid Rowland), a'r fath yspryd drwg yn dangos ei hun ynddynt mewn amrywiol ffyrdd, a'r moddion a ddefnyddiant i hudo y gwan, cafwyd cryn ddadl ar y priodoldeb o fyned i wrando arnynt, ac ymddiddan â hwynt. Cydunodd yr holl frodyr i roddi rhyddid i'r rhai a ddewisent fyned, fel y gallent farnu drostynt eu hunain, hyd nes y byddent wedi gwneyd eu meddyliau i fynu i ymadael atynt hwy, neu ynte i ymuno â ni; ond gwedi hyny nad oeddynt i fyned i'w gwrando hyd nes y byddai i'r holl Gymdeithasfa gael ei boddloni ynddynt.

Cafwyd dad ar y rhai a wahoddent atynt y blaid arall a ninau. Cydunasom yn (1) Gyda golwg ar y rhai ydynt mewn amheuaeth gyda golwg ar dderbyn y ddwy blaid i'w tai i bregethu, ein bod yn pregethu yn eu mysg hyd y Gymdeithasfa nesaf, neu hyd nes y gwnelont eu meddyliau i fynu i uno â ni, neu â hwy. (2) Ein bod i bregethu yn mysg y rhai cnawdol sydd yn eu galw hwy a ninau, ar yr amod eu bod yn cadw y lle yn agored i ni, yn ddifwlch, pa bryd bynag y deuwn."

Trefnwyd hefyd fath o gyfeisteddfod gweithiol, cynwysedig o ugain o bersonau, gyda Howell Harris yn ben arno, i benderfynu pob peth amgylchiadol. Neillduwyd brodyr i gymeryd gofal y seiadau, ac i ymweled â gwahanol ranau y wlad. Eithr nid oedd y Gymdeithasfa i derfynu heb ryw gymaint o ddiflasdod. Daeth un Joseph Saunders ag achwyniadau yn erbyn Madam Griffiths. Trodd Harris ef allan ar unwaith. Trodd Thomas Seen allan yn ogystal, am nad oedd yn gweled gwaith yr Arglwydd yn Madam Griffiths, ac yn William Powell. Parodd hyn i'r priodoldeb o gael Madam Griffiths yn y Cymdeithasfaoedd a'r seiadau gael ei ddadleu drachefn. Amheuai Richard Tibbot hawl benywod i lefaru yn gyhoeddus. Dygodd hyn Howell Harris i fynu; dywedai y dylent nid yn unig ei goddef, ond teimlo yn fraint ei chael; ei bod yn golofn o oleuni, a bod y dystiolaeth wedi ei selio yn ei chalon. Boddlonodd Tibbot. Teimla Harris iddynt gael Cymdeithasfa fendigedig, mai yn awr yr oedd y gwaith yn dechreu mewn gwirionedd, fod y brodyr eraill yn yr anialwch, eu bod fel Saul, wedi colli y deyrnas, a'u bod yn defnyddio moddion cnawdol i dynu pobl atynt. Ychwanega ddarfod i James Relly, George Gambold, John Harry, a John Harris, y tri diweddaf o Sir Benfro, ymuno â phlaid Harris dair wythnos gwedi y Gymdeithasfa; a bod llawer yn Siroedd Fflint, Dinbych, Meirionydd, Môn, a Chaernarfon, wedi uno, ond nad oeddynt eto wedi eu gosod mewn trefn.

Ar y dydd cyntaf o Hydref, cychwynodd am Sir Benfro, gan alw ar ei daith yn Llwynyberllan, a Chaerfyrddin, a rhai lleoedd eraill, ac yr oedd John Sparks, a Madam Griffiths yn gymdeithion iddo. Ar y ffordd, eglurodd iddynt y cynllun o ffurf-lywodraeth oedd wedi dynu allan i'r seiadau a lynent wrtho. Yn mlaenaf, yr oedd Cymdeithasfa Gyffredinol i gael ei chynal, cynwysedig o efengylwyr, cynghorwyr, ac henuriaid, tua haner cant mewn rhif, o wahanol ranau y wlad. Ei gwaith fyddai rhoddi math o gymeradwyaeth gyffredinol i'r hyn oedd wedi ei benderfynu yn flaenorol mewn cylch mwy mewnol; ac yr oedd pob aelod o honi i gael cyfleustra i ddangos y goleuni oedd ynddo. Yn mhellach, ynddi yr oedd ceryddon cyhoeddus, a dysgyblaeth gyhoeddus i gael eu gweinyddu, a phob mater a ddaliai gysylltiad a'r holl Gorph i gael ei drafod. Yn nesaf, yr oedd Cymdeithasfa fwy mewnol i fod, cynwysedig o tua phump-ar-hugain o efengylwyr a henuriaid. I hon dysgwylid i bob aelod i ddyfod a holl gynyrch ei sylwadaeth, gyda golwg ar achosion tymhorol ac ysprydol, i'w lledu gerbron yr Arglwydd; ynddi yr oedd materion i gael eu penderfynu cyn eu dwyn i'r Gymdeithasfa Gyffredinol; ynddi hefyd yr oedd y pregethwyr i gael eu harholi a'u derbyn, gwahanol achosion i gael eu gwrandaw a'u penderfynu, a chyfarwyddiadau i gael eu rhoddi parthed priodas a dysgyblaeth. Yn drydydd, yr oedd corph mwy mewnol drachefn i fod, cynwysedig o'r efengylwyr oeddynt dadau, y rhai yr oedd meddwl Crist ganddynt, ac a oeddynt yn byw gydag ef, ac felly a feddent synwyrau ysprydol wedi cael eu hawchlymu, fel y gallent wahaniaethu rhwng gwirionedd a thwyll. I'r corph mwyaf mewnol hwn yr oedd achosion o anhawsder i gael eu dwyn, ynddo y profid yr ysprydion, yr amlygid y pethau mwyaf dirgel, ac y penodid i bob un y lle yn mha un y mynai yr Arglwydd ei osod. Meddai Harris: "Y corph hwn yw bywyd a chalon y Gymdeithasfa fewnol, ac hefyd y Gymdeithasfa Gyffredinol, yn nghyd â holl gyfanswm yr eneidiau sydd wedi cael eu gosod dan ein gofal." Gwelir fod y cynllun hwn o ffurf-lywodraeth eglwysig yn ei feddwl yn y Gymdeithasfa yn Llanfair-muallt, er mai yn awr y gwna ei datguddio, ac mai er mwyn ei roddi mewn gweithrediad y cynhaliwyd arholiad ar y cynghorwyr yno, ac y cawsent eu rhanu yn dri o wahanol ddosparthiadau. Bu yn Sir Benfro am bythefnos, gan wneyd ei oreu i ddwyn seiadau y sir i berthyn i'w blaid, yn yr hyn y cynorthwyid ef yn zêlog gan John Sparks. Gwnelai ei gar. tref yn Hwlffordd, ac oddiyno elai ar wibdeithiau i'r holl wlad o gwmpas. Mynega iddo gael ei siomi yn enbyd na ddaeth John Harry, y cynghorwr, ato yn St. Kennox; i'w absenoldeb ei wanu fel brath cleddyf. Gwelir felly nad cywir y nodiad yn nghofnodau Cymdeithasfa Llanfairmuallt am y cynghorwr hwn. Un noson, yn y seiat breifat yn Hwlffordd, daeth y diafol i mewn. Dangosodd ei bresenoldeb trwy beri i rywun holi parthed y priodoldeb o fyned i wrando Howell Davies yn pregethu. Nid oedd Harris yn barod i ateb, felly ceryddodd y dyn am ofyn y fath gwestiwn. Dywedai ei bod yn rhy hwyr i ymdrin a'r mater y noson hono; nad oedd neb i lefaru ond efe, ac mai efe, am y pryd, oedd genau Duw. Dywedodd, yn mhellach, fod y mwyafrif o'r cynghorwyr a'r aelodau perthynol i dŷ cwrdd Hwlffordd yn cydweled ag ef; ond yn hytrach. nag ymladd, os byddai y blaid arall yn ei hawlio, yr ai efe a'i ganlynwyr allan i'r heol. Yr un seiat cyfododd anghydwelediad rhyngddo à John Sparks, a Madam Griffiths, am fod y ddau yn sibrwd wrth eu gilydd pan fyddai ef yn siarad yn y Gymdeithasfa. Mor ddolurus oedd ei deimlad fel y gadawodd y cyfarfod a'r dref yn ddisymwth, gan fyned tua St. Kennox. Yno, holai ei hun ai nid oedd gwaith Madam Griffiths ar ben, neu ynte, ai nid ewyllys yr Arglwydd oedd tori y Cyfundeb Methodistaidd i fynu yn hollol? Ynraddol, modd bynag, llonyddodd ei deimlad, ac aeth yn ei ol i Hwlffordd, at y brodyr a'r chwiorydd, gan gyfaddef ei edifeirwch.

O Sir Benfro teithiodd trwy ranau isaf Sir Aberteifi, a'r rhanau agosaf iddi o Sir Gaerfyrddin, ond cafodd fod y rhan fwyaf o'r seiadau yn cydymdeimlo à Rowland. Bu yntau yn dra llym wrthynt o'r herwydd, gan ddweyd nad oedd am ymweled â hwy drachefn, oddigerth iddynt roddi iddo y lle a gawsai gan Dduw. Wedi cyrhaedd Llwynyberllan yn ei ol, croesodd dros y mynyddoedd i'r Hen Fynachlog, lle o fewn rhyw filltir i Bontrhydfendigaid, ac heb fod dros ddeg milltir o Langeitho. Ymddengys fod y ddeadell yma yn wrthwynebol i Rowland, a'u bod wedi anfon gwahoddiad i Harris ymweled â hwy. Wrth ei fod yn pasio trwy Dregaron, llanwyd ei yspryd â chariad dirfawr at Rowland. "Yr wyf yn gweled mai fy mrawd ydyw," meddai; "yr wyf yn llawen am mai efe sydd yn ben (ar y brodyr oedd wedi ymwrthod â Harris); ac y mae yn flin genyf weled cynifer o wiberod o'i gwmpas, yn ei frathu ac yn ei wenwyno." Gwelir fod Harris, yn nyfnder ei yspryd, yn gorfod anwylo Rowland, a'i fod yn beio rhywrai oedd o'i gwmpas yn fwy nag efe. Cafodd gynulleidfa

EGLWYS ST. NICHOLAS, SIR FORGANWG.


fawr yn yr Hen Fynachlog, a chwedi pregethu, cadwodd seiat breifat. Dywedodd yno drachefn am ei anwyldeb at Rowland, ond fod yn rhaid iddo yn awr ymladd yn ei erbyn. Ymddengys, modd bynag, iddo ddeall mai nid oddiar ddybenion crefyddol yr oeddynt wedi anfon am dano, a dywedodd na ddeuai yno drachefn, hyd nes y byddent wedi ymffurfio yn rheolaidd, ac wedi anfon am dano, nid oddiar ragfarn at y brawd Rowland, ond oddiar ofn Duw, ac yspryd cariad. Tranoeth, croesodd y Mynydd Mawr, ac wedi ymweled ag amryw leoedd yn Sir Faesyfed a Brycheiniog, dychwelodd i Drefecca. Ar y dydd olaf yn Hydref, cyfarfyddodd corph mewnol y Gymdeithasfa yn Nhrefecca. Llefarodd Harris yn helaeth am ddyfod i feddu yr un goleuni, onide na fyddai yr undeb rhwng yr aelodau yn ysprydol o gwbl, eithr yn undeb cnawdol, fel eiddo y blaid oedd wedi ymranu. Trowyd dau gynghorwr, sef William James, a Rue Thomas, allan o'r cyfarfod, i weddïo, am nad oeddynt yn tyfu, ac nad oedd pwys y gwaith yn gorphwys ar eu hysprydoedd, ac hefyd am nad oeddynt yn gallu ymwthio yn mlaen oddifewn i'r llen. Ychydig o wahaniaeth a welai Harris rhwng eu hysprydoedd ag eiddo y blaid arall. Amlwg fod ei safon o'r hyn a ystyriai yn ysprydolrwydd yn ymddyrchafu yn gyflym, a'i bod ar gyrhaedd pwynt uwchlaw yr hyn sydd yn bosibl i'r cyffredin o dduwiolion.

Cawn ef ar y 4edd o Dachwedd yn cychwyn ar daith i'r Gogledd. Gwedi ymweled ar ei ffordd ag amryw leoedd yn Sir Faesyfed, y mae, dydd Gwener, Tachwedd 9, yn cyrhaedd Llwydcoed, yn Sir Drefaldwyn. Nid oedd pall ar ei wroldeb wrth wrthwynebu yr anhawsderau a welai o'i flaen. "Y mae fy yspryd," meddai, "uwchlaw holl ddiaflaid y Gogledd; yr wyf yn edrych arnynt fel gwybed." Yn Llanrhaiadr Mochnant, un awr yr arhosodd, i gael ymborth iddo ei hun a'i anifail, ac yna, trafaelodd trwy y nos, gan gyrhaedd Mwnglawdd, lle heb fod yn nepell o Wrexham, boreu y Sadwrn. Pregethodd yma gyda dylanwad mawr ar y Drindod, bwyta cnawd ac yfed gwaed Mab y Dyn, a dangosai am farwolaeth Duw, ei fod uwchlaw dirnadaeth y cnawd. Yn Mwnglawdd yr arosodd dros y Sul, a

CAPEL TREHIL, ST. NICHOLAS, SIR FORGANWG.


phregethodd yno drachefn ar y geiriau: "A ydych chwi yn awr yn credu?" Ymddengys iddo gael odfa nerthol iawn. Dangosai dri nod yr etholedigion, sef eu bod yn cael eu dysgu gan Dduw; eu bod yn adnabod llais Crist, ac yn gwrando arno; a'u bod yn edrych ar yr hwn a wanasant. Taranai yn ofnadwy yn erbyn yr yspryd hunanol a balch oedd wedi dyfod i fewn i fysg y rhai a fuasent unwaith yn syml, ac yn barod i gymeryd eu dysgu. Rhybuddiais y bobl," meddai, "rhag gwrando ar reswm, ac anogais hwynt i wrando ar yr Arglwydd yn unig; am iddynt ein gadael ni i'r Arglwydd. Dywedwn fy mod wedi dyfod i droi eu calonau at yr Arglwydd; nad oedd genyf un gwaith arall, ac oni chlywch lais Crist ynom ni,' meddwn, yn cyrhaedd. eich calonau, gadewch ni. Nid yw o un pwys beth a fuoch, beth ydych yn awr yw y pwnc. Bu Saul yn mysg y prophwydi, a'r morwynion ffol yn mysg y morwynion. call, ond nid ydynt gyda hwy yn awr. Gwrthddadl Felly, yr ydych yn dal syrthiad oddiwrth ras? Nac ydym; nis geill y rhai sydd ar y graig syrthio, ond pwy ydynt? Yr ydym yn galw llawer yn frodyr na wna Duw arddel. Rhaid i mi siarad yn blaen wrthych; nid yw o un pwys genyf beth a ddywedir am danaf, oblegyd nid trosof fy hun yr ydwyf wedi dod, eithr dros yr Arglwydd.' Dywedais, yn mhellach, mai Diwygwyr yn yr Eglwys ydym, ac nad oeddym yn eglwys nac yn sect ar wahan."

Diau fod y bregeth hon yn esiampl bur deg o'i genadwri yr adeg yma at seiadau Gogledd Cymru. Prydnhawn y Sul, aeth i dref Wrexham, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "A thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni." "Odfa gyda llawer o ryddid mewn modd syml," y geilw hon. Aeth yn ei ol i Mwnglawdd nos Sul, lle y pregethodd drachefn. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat breifat, a siaradodd yn hir ar enedigaeth, dyoddefiadau, a gwaed Duw. "Llefais," meddai, "ychydig, yn ol pob tebyg, a gaiff Duw yma yn foddlon i gymeryd eu dysgu ganddo, tra y bydd eraill, ar ol iddynt ei brofi am lawer blwyddyn, a'i gael ef yn ffyddlon, yn ei adael, gan ymddiried yn eu doethineb eu hunain, ac yn eu cof, ac mewn llyfrau. Yr oedd y gogoniant yma, a daeth yr Arglwydd i lawr mewn gwirionedd, i gadarnhau yr eneidiau. Gwedi hyn, bum gyda'r pregethwyr hyd ddau o'r gloch y boreu, agorwyd fy ngenau yn wir i roddi gofal yr eneidiau yn y lle yma iddynt, yn yr un geiriau ag y gwnaeth Paul i henuriaid Ephesus. Eto, nid myfi a lefarai, eithr yr Arglwydd ynof fi." Dydd Llun, cawn ef yn Llansanan, a phregethodd, gyda chryn ryddid, i ychydig o eneidiau syml oeddynt yn barod i wrando yr efengyl. Nos Lun, y Nos Lun, y mae yn yr Hen Blas, ac yn pregethu oddiar y geiriau: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad." Ei destun yn y Plasbach, boreu dydd Mawrth, oedd: "Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo.' Dywed fod awdurdod rhyfedd yn cydfyned a'i eiriau. "Dangosais i bwrpas," meddai, "fel y mae yr Ysgrythyr yn dwyn tystiolaeth i ogoniant y Dyn hwn; nad digon credu fod Duw ynddo, neu gydag ef, ond mai efe yw y Perffaith, a bod ei waed yn waed Duw." Ychwanega: "Y fath us sydd i'w gael yn awr yn mhob man! Y mae llawer yn cael eu taflu o gwmpas, ac yn cael eu profi, gan yr ymraniad hwn.

Ychydig yn y rhanau hyn o'r wlad sydd. wedi cael eu deffro, er fod yma lawer o bregethu." Ai ychydig wedi eu deffro fel ag i ymuno â chrefydd a olyga, ynte wedi eu deffro i ganfod pethau yn yr un goleuni ag ef, sydd ansicr.

Dydd Iau, y mae yn Waunfawr, ger Caernarfon, ac yma y cenfydd, am y tro cyntaf, bamphledyn Daniel Rowland. "Neithiwr," meddai, "gwelais gyhuddiad yr anwyl frawd Rowland yn fy erbyn, sef fy mod yn dal pedair o heresiau; gwadu y term Person,' dal i'r Tad ddyoddef ac i Dduw farw, fod corph Crist yn hollbresenol, a'm bod wedi ymchwyddo. Pwysais y cyhuddiadau hyn gerbron yr Arglwydd, a chefais fy mod yn ddieuog." Nid ydym yn sicr beth a olyga wrth "ddieuog." Prin y gallai wadu ei fod yn dal rhai o'r athrawiaethau a dadogir arno gan Daniel Rowland; defnyddiai yr ymadrodd am farwolaeth Duw yn fynych wrth bregethu yn ystod y daith hon; efallai mai ei feddwl yw nad oedd y golygiadau y dywedir ei fod yn eu coleddu yn heresiau. Ond y mae yn amlwg fod ei deimlad at Rowland yn dyfod yn llai dolurus. "Yr oeddwn yn ofidus," meddai, "ddarfod i'r brawd Rowland ysgrifenu fel hyn; byddai yn dda genyf pe bai yn cymeryd y papyr, ac yn ei olchi yn y gwaed, a'i gyflwyno i'r Arglwydd." Dydd Gwener, aeth i Leyn, i Brynengan, yn ol pob tebyg, a phregethodd oddiar Zecharias xii. 10. Yn y seiat breifat, dangosai fod yr Arglwydd wedi dyfod i'w mysg a'i wyntyll, ac aeth fanwl ac yn yn helaeth dros ei hanes ei hun o'r cychwyn, yn nghyd ag achos yr ymraniad rhyngddo a phlaid Rowland. Dydd Sadwrn, mae mewn lle yn Sir Fôn, o'r enw Ysgubor Fawr; ei destun yw: "Yn y byd gorthrymder a gewch." Yma, cafodd ei daro yn glaf, fel y methodd fyned yn ei flaen i Lanfihangel, fel yr arfaethasai; dywed, hefyd, ei fod yn isel ei yspryd. Medrodd fyned yno y Sul, modd bynag, a phregethodd am anfeidroldeb dyoddefiadau Crist. Dydd Mawrth, cawn ef eto yn Waunfawr, yn troi ei wyneb tuag yn ol. "Yn awr," meddai, "yr wyf yn troi fy wyneb o'r Gogledd am gartref, gwedi cyflawni gwaith fy Arglwydd, yr wyf yn gobeithio, ac wedi gosod yn nghyd ychydig feini, gan wahanu rhwng y credinwyr a'r annghredinwyr, a'i gwneyd yn hawdd i'r rhai sydd yn y ffordd i dyfu." Y mae y frawddeg nesaf yn cyfeirio at rywbeth a'i cyfarfyddodd, nas gwyddom ei natur na pha le y digwyddodd: "Fy mywyd yn brin a achubwyd o safn y llew; atebodd y pwrpas o drywanu fy nghnawd, a dinystrio y sothach oedd ynof, gystal a phe buaswn wedi cael fy nwyn i brawf. Y maent hwy yn erlid, nid gyda cherig a phastynau, ond â geiriau gwenwynig."

Nos tranoeth, cyrhaeddodd y Bala. Ei destun ydoedd: "Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegyd dodi o hono ef ei einioes drosom ni.' "Cadwyd fi rhag suddo," meddai, "cefais awdurdod, a rhyddid, a nerth, y fath na chefais erioed o'r blaen yma. Dangosais yr angenrheidrwydd am yr Yspryd, ac eiddilwch pob moddion hebddo; yr oeddwn yn llym at annghrediniaeth, ac at anwybodaeth am Grist. Dywedais y rhaid i mi fod yn ffyddlon, a lefaru y gwirionedd i'r amcan hwn; fy mod yn gadael pob peth er myned oddiamgylch. Yna, llefarais yn llym wrth y credinwyr am iddynt aros ynddo, trwy barhau i gredu; mai hyn yw ein dyledswydd, ac nad yw pob gras ydym wedi dderbyn o un gwerth i ni yn ymyl hyn." Beth a fu ei ddylanwad yn y Bala, nis gwyddom; nid yw yn dweyd pa un a lwyddodd i droi y seiat o'i blaid. Y dydd Sul canlynol, yr ydym yn ei gael yn Llanfair-Careinion, lle y pregetha oddiar yr un testun ag yn y Bala. Pregethodd yno nos Sul, yn ogystal; ei destun ydoedd "Gwir yw y gair;" eithr dywed na chafodd fawr ryddid hyd nes y dechreuodd lefaru am ddirgelwch Crist. "Dyma y genadwri a roddir i mi yn mhob man," meddai. Y dydd Mawrth canlynol, yr oedd yn y Fedw, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid." Dywed: "Wrth weddio, a chanu, a phregethu, dyrchafwyd fi uwchlaw y diafol yn mhawb, a chefais ryddid dirfawr i ddangos gogoniant y Dyn hwn. Dangosais mai efe yw y Duw tragywyddol; y bydd i bob cnawd addef ei Dduwdod yn y man; ei fod yn Dduw yn mhob man, ond na fu Duw farw. Eglurais i'r Anfarwol farw, ei fod yn byw pan yn angau, ac yn ogoneddus a mawr. Ni addefent hwy (plaid Rowland) ei fod yn Dduw, eithr fod Duw gydag ef, ac ynddo, a'i fod yn berffaith." Yn sicr, nid yw hyn yn ddarnodiad cywir o syniadau Rowland, credai efe yn nuwdod y Gwaredwr lawn mor ddiysgog a Harris ei hun. Ychwanega: "Gelwais seiat breifat ar ol, ond yr oedd cymaint o'r diafol yn eu mysg, fel yr aethum allan, ac y gadewais hwynt." Yna, aeth i gyfeiriad Sir Aberteifi, ac ymwelodd a'r Hen Fynachlog eto. Hawdd gweled ei fod yn awyddus am gael gafael yn rhai o seiadau Sir Aberteifi, yr hon a ystyrid fel yn perthyn yn arbenig i Daniel Rowland. Dywed iddo glywed am ryw wraig yn Northampton, oedd wedi prophwydo y byddai un yspryd, un athrawiaeth, ac un eglwys trwy yr holl deyrnas. Credai efe mewn prophwydoliaeth, a chafodd y dywediad le mawr yn ei feddwl. "Oni wrthid y genedl yr efengyl," meddai, bydd heddwch a gogoniant mawr; ond os fel arall, nid oedd y ddaeargryn ond arwydd o farn." Oddiyma, aeth adref trwy Lwynyberllan.

Yr oedd ei weithgarwch yr adeg yma yn ddiderfyn: ac y mae yn sicr fod cyffro enbyd yn y seiadau trwy yr holl wlad. Yn wir, ymledai y cyffro i'r Eglwys Sefydledig, ac i fysg yr enwadau Ymneillduol; a chymerai yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr blaid Rowland. Ar y ddeunawfed o Rhagfyr, 1750, cawn ef yn St. Andrew's, ger Caerdydd, ac fel hyn yr ysgrifena: "Dyma ddyddiau ardderchog mewn gwirionedd. Y mae pawb yn cael eu profi, eu hysgwyd, a'u gwyntyllu. Yr holl weinidogion Ymneillduol, a'r holl offeiriaid, ein brodyr ein hunain, ydynt mewn arfau yn fy erbyn. Yma, yr wyf yn cael Mr. Lewis Jones wedi aros, yn fy ngwrthwynebu, a dynoethodd fi neithiwr wrth bregethu. Aeth un o'r brodyr gau at yr offeiriad yma i'm dynoethi, ac yr oedd yntau am anfon am y cwnstabli ar unwaith i'm cymeryd. Pan glywais y pethau hyn, llawenychodd fy yspryd ynof. Teimlwn y groes yn dra melus, ac yr oedd y syniad am gael fy nghymeryd yn foddhaol iawn genyf." Nid oes amheuaeth nad oedd yspryd erledigaeth yn rhedeg yn uchel o'r ddau tu, fod plaid Harris a phlaid Rowland yn camddarlunio geiriau a gweithredoedd eu gilydd, a bod llawer o fustl chwerwder o'r ddwy ochr. Ar y 22ain Rhagfyr, pregethai yn Mhontypridd, a thra yr oedd wedi hoelio sylw'r gynulleidfa, darfu i ryw Ymneillduwr, llawn o'r diafol, ei wrthwynebu yn gyhoeddus. Trodd Harris arno; aeth yntau allan o'r cyfarfod, a rhywun arall, llawn o'r diafol, fel ei hun, gydag ef, ac yna daeth yr Arglwydd i lawr.

Ar y dydd olaf o'r flwyddyn 1750, a'r dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd, cynhelid math o gyfarfod rhagbarotoawl i'r Gymdeithasfa gan Howell Harris a'i blaid yn Llwynyberllan. Ymddengys mai cyfarfod y Corph mewnol" ydoedd; ac yr oedd tua phump-ar-hugain yn bresenol, yn mysg pa rai, heblaw Harris ei hun a Madam Griffiths, y cawn Richard Tibbot, John Sparks, John Richard, ac eraill o ryw gymaint o enwogrwydd. Yr oedd yr hunanymwadiad a ofynai Harris gan y cynghorwyr, a'r ddysgyblaeth a gadwai arnynt, yn dechreu dyfod yn annyoddefol o lym; ac un o brif orchwylion y gwahanol Gymdeithasfaoedd oedd gwyntyllu y pregethwyr, er cael gweled pwy a ddeuai i fynu a'r safon. Rhoddwyd hwy dan arholiad caled yn Llwynyberllan. Gofynid tri chwestiwn iddynt (1) A oedd eu gwybodaeth o Grist yn yr yspryd, ynte yn y pen yn unig? (2) A oeddynt yn meddu Ilawn sicrwydd eu bod wedi cael eu galw ganddo i bregethu? Ac os felly, a oeddynt yn feirw i bob math o amcanion personol, ac yn barod i ddyoddef pob math o galedi, oerfel, newyn, noethni, a phob cyffelyb groesau? (3) A oeddynt yn ymlynu wrth waith hwn y diwygiad, fel y mae yn cael ei gario yn mlaen oddifewn i'r Eglwys Sefydledig? Braidd nad yw yn gofyn ganddynt ganddynt i hunanymwadu a'u hewyllys ac a'u barn, a bod yn gwbl ddibris o'u hamgylchiadau, gan fod yn fath o beirianau yn ei law ef, i fyned o gwmpas, ac i weithredu fel eu gorchymynid. Er caleted y prawf, atebodd y cynghorwyr y gofyniadau yn foddlonol, rhai gyda mwy a rhai gyda llai o ffydd. Eithr yr oedd un cwestiwn llosgawl yn aflonyddu meddyliau y cynghorwyr, sef presenoldeb a swyddogaeth Madam Griffiths, "y Llygad," yn y Gymdeithasfa. Mewn gwirionedd, hi a lywodraethai i raddau mawr, gan y credai Harris fod meddwl Duw ganddi; a phan y gweithredai mewn rhyw amgylchiad heb ymgynghori â hi, nid esgeulusai hithau ei geryddu yn llym. Yr oedd ei llywodraeth yn pwyso fel hunllef ar y pregethwyr, a dyma y mater yn dyfod i'r bwrdd. "Gwedi hyn," meddai Harris, "pan nad oedd Madam Griffiths yn cael rhyddid i siarad, mi a aethum allan, a thorwyd y cwbl i fynu mewn annhrefn." Ai y cynghorwyr a'i rhwystrent i lefaru, gan wrthod gwrando; ynte hi a deimlai nas gallai siarad fel arfer, am nad oedd y cyfarfod mewn cydymdeimlad à hi, nis gwyddom. Yr olaf sydd fwyaf tebyg. Parhaodd yr annhrefn a'r dyryswch am bum' awr; Madam Griffiths yn bygwth ymadael, a Harris a rhai o'r cynghorwyr yn crefu arni beidio; " a'r Arglwydd a'i cadwodd rhag myned," meddai y dydd-lyfr. gwmpas deuddeg, cyfarfyddwyd drachefn, buwyd wrthi yn dadleu hyd dri o'r gloch y boreu, ac yna trodd y fuddugoliaeth of blaid Harris. "Gwedi brwydr enbyd a maith â Satan," meddai, "o gwmpas tri o'r gloch y boreu, daeth yr Arglwydd i lawr, ac unodd hi a minau â hwy." Diau genym mai parch, yn ymylu ar fod yn addoliad, i Howell Harris a barodd i'r brodyr roddi ffordd. Cyfodasai Harris yn y canol, gan ofyn pwy oedd yn teimlo ar ei galon i roddi ei hun, enaid a chorph, i'r Arglwydd, ac i'w gilydd dros byth? cyntaf i ateb yr alwad oedd Thomas Jones; y nesaf oedd Thomas Williams, yn dra difrifol; gwedi hyny, amryw eraill, ac yn eu mysg Richard Tibbot. "Yna," medd y cofnodau, "mor fuan ag yr oedd pob un yn ildio, yr oedd gogoniant gweledig yn gorphwys arno, a theimlai pawb berthynas a'u gilydd na wyddent am ei chyffelyb o'r blaen, a theimlent bob peth yn gyffredin." Yn awr y gwelai Harris sylfaen teml Dduw yn Nghymru yn cael ei gosod i lawr. Hawdd gweled eu bod wedi colli pwyll a barn, gan ymgladdu yn y cyfriniol a'r dychymygol. Ond yr oedd amryw o'r brodyr yn petruso, wedi y cwbl, a gwrthodasant ateb ar y pryd.

Ar yr ail o Ionawr, yr oedd y Gymdeithasfa yn Dyserth. Yn Llanfairmuallt, ar y ffordd tuag yno, pregethodd Thomas Williams a John Relly. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth rymus gan John Sparks. Yna, dechreuodd Harris lefaru, am yr angenrheidrwydd anorfod i bawb roddi eu hunain i fynu i'r Arglwydd, i'w waith, ac i'w gilydd; fod yr amser wedi dyfod yn awr i osod i lawr y sylfaen, ac i ymuno yn nghyd. Yna, gofynai, megys y gwnaethai yn Llwynyberllan: "Pwy sydd yn awr yn barod i adael pob peth er mwyn Duw a'r gwaith hwn? Pwy a fedr roddi ei enaid, ei gorph, a'i yspryd, yn nghyd a'r oll ag ydyw, a'r oll sydd ynddo, i'r Arglwydd, ac i ni, ei frodyr a'i weision?" Crybwyllodd fod deg o honynt wedi cydymrwymo i wneyd hyny yn Llwynyberllan. Cododd nifer mawr i ddangos eu parodrwydd, ac wrth eu gweled ar eu traed, sibrydai y cynghorwr William Powell wrth Harris: "Y mae yr Arglwydd yn gwneyd gwaith mawr."

Eithr aeth nifer allan heb ateb, ac yn eu mysg rai oeddynt wedi rhoddi i mewn yn Llwynyberllan, sef John Richard, Llansamlet, Thomas Bowen, Llanfair-muallt, Stephen Jones, William Jones, a Rue Thomas. &c. Nifer y rhai ddarfu ymrwymo oedd saith-ar-hugain, ac ymgyfamodent eu bod hwy, a'r hyn oll a feddent, i gael eu llywodraethu a'u trefnu gan y corph cyffredin; y gwnaent bregethu neu beidio pregethu, rhoddi eu holl amser i fyned o gwmpas, yn union fel y trefnid iddynt; y rhoddent eu gwasanaeth oll iddo ef ac i'w gilydd, gan gymeryd y naill y llall, er gwell ac er gwaeth. "Dangosais iddynt fawredd y gwaith," meddai Harris, "ei fod tu hwnt i'r hyn yr oeddym yn ymwneyd ag ef yn flaenorol; fod hwnw yn gofyn am i ni fod yn farw i'n hewyllys a'n doethineb ein hunain; eithr fod hwn yn gofyn doethineb arbenig, i weled pwy sydd wedi cael ei anfon gan yr Yspryd Glân." Gwelir fod y cynghorwyr a ganlynent Harris yn ymffurfio yn fath o urdd, ac yn cymeryd arnynt fath o adduned, nid annhebyg o ran llymder dysgyblaeth, a llwyrder ufudd-dod, i'r urddau arbenig yn yr Eglwys Babaidd. Cofnodir nad oedd Richard Tibbot yn Dyserth, am y cawsai ei anfon ar daith i'r Gogledd, a Lewis Evan gydag ef.

Y dydd Llun canlynol, yn Gore, clywodd fod ei fam wedi marw. Brysiodd tuag adref, ac wrth edrych ar y corph, yr oedd natur yn derfysglyd ynddo, ond pan y clywodd mai ei geiriau diweddaf oeddynt: "Arglwydd Iesu, derbyn fy yspryd," ymdawelodd, ond hiraethai yntau am fyned adref. Pregethodd yn ei hangladd oddiar y geiriau: "O angau, pa le mae dy golyn?" Erbyn hyn, y mae yn cael sail i ofni fod y llanw yn dechreu troi yn ei erbyn yn ngwahanol ranau y wlad. Yn Erwd, cafodd lythyr o Dyserth, lle y cadwai ei Gymdeithasfa yr wythnos cyn hyny, fod y seiat wedi ymwrthod ag ef, ac wedi rhoddi ei hun dan ofal Thomas Bowen. Yn Cwmcynon, ar ei ffordd i Sir Benfro, cofnoda fod pawb a wrandawsent arno yno, naill ai wedi cael eu hargyhoeddi, neu eu dystewi; na wnaeth neb ei wrthwynebu, ond iddynt fyned allan. Mewn amryw fanau yn Sir Gaerfyrddin, dywed iddo adael y seiat heb gymeryd ei gofal, am y teimlai yno bresenoldeb y diafol. Trafaelodd Benfro yn bur fanwl; dywed iddo gael odfaeon da, "ond," meddai, "yr wyf yn cael fy nuo gymaint oblegyd fy athrawiaeth, a'm canlynwyr, a Madam Griffiths, fel y mae yn gofyn cryn lawer o ffydd i'm derbyn i dŷ." Yn nesaf, cawn ef ar daith yn Sir Forganwg, a thra cymysglyd y mae yn cael pethau. Ar y ddegfed o Chwefror, ysgrifena fel y canlyn yn y Dyffryn, ger Taibach: "Neithiwr, daethum yma, ar ol pregethu yn yr Hafod, ac wedi gwrthod aros yno, am nad oedd yr Arglwydd yn eu mysg. Pan y pregethwn iddynt, yr oedd y cyfan yn eu condemnio, am iddynt adael yr Arglwydd." Prydnhawn yr un dydd, pregethai yn Castellnedd, ac aeth yr hwyr hono i dŷ John Richard, Llansamlet, i letya. Eithr yno cafodd fod John Richard wedi sefyll ar ol, ac wedi methu dyfod i'r goleuni, gan gymeryd ei berswadio gan ei wraig, a chan ei reswm cnawdol, a'i ddiffyg ffydd. Yr oedd, hefyd, wedi troi yn erbyn Madam Griffiths. Ymadawodd Harris ar unwaith, gan deithio trwy y nos, nes cyrhaedd Llandilo Fach. Ar y ffordd, amheuai ai ni wnai yr Arglwydd godi rhyw gorph arall o bobl i gario yn mlaen ei waith? Ac ai ni fyddai iddo ef a Madam Griffiths gael eu gadael wrthynt eu hunain yn y diwedd, a'r bobl wedi myned i wrando y blaid arall? Yn Gelly-dorch-leithe, dranoeth, cyfeiria at dŷ y cynghorwr George Phillips, fel tŷ ychwanegol y darfu iddo wrthod aros o'i fewn, am nad oedd yr Arglwydd yn ben yno.

Ar y 14eg o Chwefror, 1751, cynhelid cyfarfod yn Nhrefecca i drefnu teithiau y cynghorwyr i wahanol leoedd. Penderfynwyd fod pump i fod ar daith yn gyson yn y Dê, a phedwar yn y Gogledd; trwy y trefniant yma, tybid y byddai pob seiat yn cael ymweliad unwaith yr wythnos. Cydunwyd, yn mhellach, fod y cynghorwyr i ymweled ag aelodau preifat, y rhai y tybid eu bod yn gymhwys i uno, gan roddi gwybod am danynt i Harris a Madam Griffiths, fel y gallent hwy eu sefydlu yn eu lle. Nid oedd neb i gael eu hystyried yn aelodau ond a feddent y ffydd, ac a roddasent eu hunain i'r Arglwydd, ond yr oedd y rhai a ddifrifol geisient, ac a ymdrechent ddyfod i fynu, i gael ymweled â hwy. Cafwyd yma, hefyd, fod amryw frodyr yn weiniaid, a rhai yn tueddu i droi yn ol. Yr ydym yn cael cyfarfod cyffelyb yn Nghastellnedd, Ebrill 10 a 11, yn mha un, heblaw Howell Harris a Madam Griffiths, yr oedd yn bresenol John Sparks, Richard Tibbot, Lewis Evan, ac amryw eraill. Y nesaf at Harris ei hun, John Sparks oedd prif ddyn y Gymdeithasfa yn awr, ac efe, fel rheol, a agorai y gwahanol gyfarfodydd gyda phregeth. Traethodd Harris yn helaeth ar y nodweddion gofynol yny "tadau," y "gwŷrieuainc," a'r "plant." Gan y "tadau," gofynid am galon ac yspryd tadol, eu bod wedi tyfu mewn ffydd a phrofiad, nes meddu sefydlogrwydd ysprydol; eu bod yn barod i flaenori y lleill mewn wynebu pob math o berygl at gwrthwynebiad. Dysgwylid iddynt feddu, yn mhellach, fywiogrwydd o ran eu holl synwyrau ysprydol, fel y gallent adnabod yr ysprydion, a deall holl ddirgel ddyfeisiau. Satan; yn eu mysg, hefyd, rhaid cael dirgelwch yr Arglwydd, cariad pur, a marweidd-dra i hunan. Yr oeddynt i fod yn llygaid, yn enau, ac yn glustiau i'r praidd, ac i wylio dros y pregethwyr eraill. Nid rhyfedd, gwedi arholiad manwl, iddynt fethu cael neb yn dyfod i fynu yn hollol a'r safon uchod; ond gobeithid fod yr Arglwydd yn parotoi rhai. Cawn ddarfod i John Richard, Llansamlet, ofyn caniatad i ddyfod i mewn i'r Gymdeithasfa; y caniatad a roddwyd iddo; ond ni thaflodd ei goelbren i'w mysg, am ei fod yn gaeth gan ei reswm.

Rhaid i ni basio amryw o fân gyfarfodydd, a dyfod at Gymdeithasfa bwysig a gynhaliwyd gan Harris a'i blaid yn Llwynbongam, Gorphenaf 2, 3, 1751. Yr oedd safon Harris, fel y mae yn amlwg, yn myned yn uwch yn barhaus, a'i ddysg yblaeth yn fwy llym, ac felly, yr oedd y cynghorwyr, y naill ar ol y llall, yn cwympo i ffwrdd oddiwrtho. Hefyd, cofnodir ddarfod i Whitefield, yr haf hwn, ddyfod i lawr i Gymru, gan bregethu yn gefnogol i Rowland a'i blaid, ac yn erbyn gwaith Harris yn cymeryd Madam Griffiths o gwmpas, a sicr yw ddarfod i'w ymweliad ef ddylanwadu ar lawer. Methodd John Sparks ddyfod i'r Gymdeithasfa, oblegyd afiechyd; anfonodd eraill air nas gallent ddyfod, ac yr oedd eraill, drachefn, wedi tramgwyddo. Ond daethai Richard Tibbot, Lewis Evan, ac amryw eraill. Cynygiodd Harris ar y dechreu fod pawb yn agor ei calonau, fel y gwelent pwy oedd yn meddu ffydd i fyned a chymeryd y wlad, ac i sefyll o blaid yr Arglwydd wrtho ei hun, heb neb gydag ef? Mewn canlyniad, trowyd amryw allan, am na feddent y ffydd ofynol. Yr oedd Richard Tibbot erbyn hyn yn dechreu petruso, ac yn teimlo annhueddrwydd i fyned o gwmpas, a dymunai gael myned i ymddiddan a'r brodyr eraill (plaid Rowland). Yn ngwyneb hyn, cododd Harris ar ei draed, gan ymhelaethu ar yr angenrheidrwydd bob un i fod yn sefydlog yn yr Arglwydd, ac yn y gwaith, na ddylai neb gloffi o herwydd y rhai oedd wedi ymadael, oblegyd fod y cyfryw oll wedi tramgwyddo wrth y gwirionedd, a bod pob moddion wedi cael eu defnyddio tuag at eu hadfer. Dangosai, yn mhellach, am y gwahaniaeth rhwng pregethwyr; fod rhai wedi cael eu galw i fod yn dadau, eraill yn wŷr ieuainc, yn blant, yn efengylwyr, ac yn brophwydi; a bod rhai yn meddu yspryd Moses a Phaul i drefnu ac i orchymyn. Yna, cyfeiriodd at blaid Rowland, nas gellid, o gydwybod, eu derbyn yn ol, hyd nes y cydnabyddent bechadurusrwydd eu hyspryd, ac annghrediniaeth eu calonau. Am Madam Griffiths, dywedodd ei bod yn parhau i fod yn fendith iddo, trwy fod yn Llygad, ac yn brofydd yr ysprydion. Ar ddiwedd y cyfarfod, y nos gyntaf, rhoddodd amryw eu henwau, fel yn barod i ddyfod tan y ddysgyblaeth fanwl y cyfeiriasid ati; ac yn eu mysg cawn Thomas Williams, a Lewis Evan. Y penderfyniad cyntaf a geir boreu dranoeth yw a ganlyn: "Trowyd Richard Tibbot i ffwrdd am wrthod cymeryd taith, ac am fyned i ymweled a'r brodyr eraill, gan fod pob moddion wedi cael eu harfer atynt, ac nad oes genym ffydd mai yr Arglwydd sydd yn ei anfon atynt." Terfynwyd y Gymdeithasfa, wedi gwneyd amryw drefniadau, trwy i Lewis Evan bregethu ar ddyoddefiadau Crist, a Thomas Williams ar adeiladiad y deml.

Hydref 2, 1751, cynhelid Cymdeithasfal yn Nhrefecca. Nid oedd yn un liosog, eithr yr oedd Lewis Evan yn bresenol, a Thomas Williams, ac amryw eraill, heblaw Howell Harris a Madam Griffiths. Eithr yr oedd John Sparks yn absenol, a Richard Tibbot. Dywedir am yr olaf ei fod wedi suddo oddiwrth yr Arglwydd, eithr ei fod wedi ysgrifenu llythyr i'r Gymdeithasfa. Cafodd un Thomas Roberts, o Sir Fôn, ei arholi, a'i dderbyn fel pregethwr, a chafodd bregethu yn y Gymdeithasfa. Ymddengys fod llawer o'r tai anedd, yn mha rai yr arferai Harris bregethu, yn awr wedi eu cau iddo, ac yn enwedig i'w gynghorwyr; ac felly, y mae yn gorchymyn i'r pregethwyr lefaru yn yr awyr agored. Rhydd y rhesymau canlynol dros ei ymddygiad: (1) Dyma y comisiwn cyffredin, "Ewch, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." (2) Hyd nes y byddent yn cymeryd y prif-ffyrdd a'r caeau, na fyddent yn cymeryd mantais ar y rhyddid ardderchog oedd yn eu dwylaw trwy ganiatad caredig y llywodraeth. (3) Am fod llawer o bobl gnawdol a ddeuent i wrando i'r maes agored, neu i'r heol, ond na ddeuent i dŷ. (4) Am mai trwy bregethu allan y dechreuodd y gwaith, a'i fod yn ymddangos yn rhesymol iddo gael ei ddwyn yn mlaen yn yspryd ei gych wyniad. (5) Hyd oni fyddent wedi cymeryd y prif-ffyrdd a'r caeau, nas gallent deimlo yn hyderus eu bod wedi gwneyd yr oll o fewn eu gallu dros iachawdwriaeth y wlad. Y Gymdeithasfa hon yw y diweddaf y ceir ei hanes yn nghofnodau Harris.

Ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1752, cawn Gymdeithasfa Gyffredinol yn Lanllugan, Sir Drefaldwyn. Tua phump-ar-hugain oedd yn bresenol. Nid ydym yn meddwl fod Lewis Evan yn eu mysg, oblegyd yn fuan ar ol hyn yr ydym yn cael Harris yn gweinyddu cerydd llym arno fel un oedd wedi methu dyfod i fynu i'r goleuni, act wedi dangos gelyniaeth at yr Arglwydd. Gwaith cyntaf y Gymdeithasfa oedd ym. wrthod a'r enw 66 Methodistiaid," gan fod yr enw wedi cael ei halogi yn enbyd trwy au athrawiaeth, hunanoldeb, a gelyniaeth at y gwaed. O hyn allan yr oedd pobl Howell Harris i gael eu hadnabod wrth yr enw Cynghorwyr," yr hwn enw nid oedd neb yn ei ddefnyddio, ac yr oedd eu prif gyfarfodydd i gael eu galw yn Gynghorau, ac nid yn Gymdeithas faoedd. Tebygol fod y rhai a elent o gwmpas i rybuddio pechaduriaid yn dechreu cael eu hadnabod fel llefarwyr, neu bregethwyr, a bod cynghorwr, fel enw swyddol, yn myned allan o arferiad. Yr oedd Harris yn y "Cynghor" hwn yn enbyd o lym; dywedai wrth y brodyr, nad oeddynt yn tyfu, na feddent yspryd y diwygiad, nad oedd cariad Duw yn llosgi yn eu heneidiau, ac mai dyna y rheswm paham yr oedd mor lleied yn dyfod i'w gwrando. Dywedai, yn mhellach, nad oedd ar y diafol ddim o'u hofn, eithr yn hytrach fod arnynt hwy ofn y diafol. Achwyna, hefyd, fod pawb fel pe byddent yn ei erbyn ef a'r rhai a lynent wrtho, a bod rhai o'r brodyr mewn perygl o gael eu lladd yn Siroedd Môn a Dinbych. Un o benderfyniadau y Cynghor oedd peidio adeiladu rhagor o gapelau, a pheidio defnyddio capel o gwbl, ond pregethu yn yr awyr agored, mewn ffeiriau, a marchnadoedd, ac yn y pentrefydd. Ar y ffordd adref o Gynghor Llanllugan, y mae yn galw yn y Fedw, ac yma cawn y syniad "deulu yn Nhrefecca yn cymeryd ffurf. Ymddiddenais," meddai, "â dwy chwaer, Sarah a Hannah Bowen, y rhai ydynt yn teimlo eu hunain dan rwymau i gyflwyno eu hunain i'r Arglwydd, ac i mi. Cymhellais hwynt i ddyfod i fyw i Drefecca, gan ei fod yn debygol fod yr Arglwydd yn myned i osod i lawr sail ty yno, ac efallai mai hwy fyddai y meini cyntaf. Yr wyf fi yn awr i fod yn fwy cartrefol, er ysgrifenu, &c." Merched Mr. Bowen, o'r Tyddyn, oedd y ddwy hyn, ac aethant i Drefecca, fel y cymhellai hwynt. Miss Sarah Bowen a ddaeth gwedi hyn yn wraig i Simon Lloyd, o'r Bala.

Cynhaliwyd y Cynghor nesaf yn Nhrefecca, Chwefror II, 1752. Erbyn hyn, yr oedd amryw o'r prif gynghorwyr, a safasent o blaid Howell Harris yn ddewr ar y cyntaf, wedi ei adael. Yn mysg y cyfryw yr oedd John Sparks, John Harris, St. Kennox, a Thomas Williams, o'r Groeswen. Yr oedd yntau yn llym iawn wrth y pregethwyr oedd ar ol. Dywedai wrthynt nad oeddynt i gadw seiadau o gwbl; nad oedd neb o honynt wedi dyfod yn ddigon o dad i hyny, ond myned allan i Lregethu yn unig. Ac y mae yn sicr fod y pregethwyr a lynent wrtho yn fwy anwybodus, yn fwy anniwylledig eu moes, ac yn llawnach o ryw fath o zêl benboeth, na'r rhai oeddynt wedi cefnu. Yn uniongyrchol wedi y Cynghor, aeth am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Penfro, rhan o Sir Aberteifi, a Sir Forganwg. Cafodd gynulleidfaoedd anferth yn mhob man, yn arbenig yn ngodreu Sir Aberteifi, ac yn Sir Benfro. Yn yr awyr agored y pregethai yn mhob lle; dywed fod y cynulleidfaoedd yn rhy fawr i unrhyw dy; ond y mae lle i gasglu fod llawer o'r tai, yn mha rai yr arferid ei dderbyn fel angel Duw, wedi cael eu cau iddo yn awr. Yn Cilgeran, sylwa fod ei gynulleidfa yn cael ei gwneyd i fynu yn gyfangwbl yn mron o ddynion digrefydd, y ddynion digrefydd, y rhai na arferent fyned i wrando i un man; ond fod y proffeswyr yn absenol, ac mai felly yr oedd yn y nifer amlaf o'i gyfarfodydd. Yn Hwlffordd, pregethai ar yr ystryd, a dywed fod Howell Davies, John Sparks, a John Harris, St. Kennox, yn mysg ei wrandawyr. Pregethu yn enbyd o lym at wnelai; ac nid yw yn ymddangos iddo gael unrhyw gymdeithas a'i hen gyd lafurwyr. Rhaid fod mesur o brudd-der yn mynwes y naill blaid a'r llall. O Sir Gaerfyrddin, croesodd dros y mynyddoedd i Landdewi-brefi, a dywed i gynulleidfa o amryw filoedd ddyfod yn nghyd. Beth a'i cymhellai i fyned gymaint allan o'i ffordd er pregethu yno, y mae yn anhawdd dweyd, os nad oedd am daflu i lawr fath o her i Daniel Rowland, yr hwn a wasanaethai yn yr eglwys yno fel cuwrad. Eithr llawn rhagfarn y cafodd bobl Llanddewi-brefi; nid oedd neb fel pe am ymddyrchafu at y goleuni. Oddiyma, wedi ymweled â nifer o leoedd yn Siroedd Caerfyrddin a Maesyfed, dychwelodd i Drefecca. Dyma y daith ddiweddaf, o unrhyw bwys, am faith flynyddoedd it Howell Harris gydag achos yr efengyl yn Nghymru. Teimlai fod ei achos yn gwanhau dros y wlad. Yr oedd y safon a osodosai i fynu yn rhy uchel, ei ddysgyblaeth yn rhy lem, a'i ymddygiad yn rhy dra-awdurdodol, i'r cynghorwyr a'r seiadau allu glynu wrtho. Ac y mae yn amlwg fod plaid Rowland yn enill tir. Gyda hwy yr oedd cydymdeimlad yr enwadau eraill, yn Eglwyswyr, ac yn Ymneillduwyr. Cawn ddarfod i Whitefield, yr haf hwn drachefn, ddyfod i lawr i Gymru, a phregethu tros ddeugain o weithiau gyda phobl Rowland, a bu yn bresenol mewn un Gymdeithasfa. Er y teimlai Harris fod y llif yn myned yn ei erbyn, ni lwfrhaodd ei galon mewn un modd, ond y mae yn dechreu ar ffurf newydd o weithredu, sef casglu teulu i Drefecca, a dysgyblu pregethwyr ac eraill yno, fel y gallai y lle ddyfod yn ganolbwynt gweithrediadau crefyddol, a ymledent dros holl Gymru, a rhanau o Loegr.

PENOD XVII
HOWELL HARRIS–GWEDI YR YMRANIAD

Howell Harris yn gosod i lawr sylfaen yr adeilad newydd yn Nhrefccca–Ei afiechyd difrifol–Anerchiad pwysig yn y "Cynghor"— Anfon milwyr i'r fyddin– Harris yn gadben yn y milisia–Ei lafur yn Yarmouth a manau eraill. Gostegu y terfysgwyr yn Nghymdeithasfa Llanymddyfri–Blwyddyn ei Jiwbili–Anfon at Rowland, yn Llangeitho, i ofyn am undeb–Y ddau yn cyfarfod yn Nhrecastell– Harris yn teithio yn mysg y Methodistiaid Cymdeithasfa eto yn Nhrcfecca, gwedi tair blynedd–ar–ddeg–Cymdeithasfa Woodstock–Amryw Gymdeithasfaoedd eraill Coleg yr Iarlles Huntington yn Nhrefccca—Isaf–Ymweliadau y Methodistiaid a Threfccca–Terfyn oes Howell Harris.

YMDDENGYS fod gwneyd Trefecca yn rhyw sefydliad crefyddol pwysig yn syniad oedd wedi cael lle yn meddwl Harris er ys blynyddoedd, er nad oedd ganddo weledigaeth eglur, mewn modd yn y byd, parthed ei natur, a'i ffurf. Yr oedd yn adeiladu yno er ys cryn amser, a hyny heb wybod yn iawn i ba bwrpas. Yn awr, gwedi yr ymraniad, dyma y meddylddrych yn cymeryd ffurf bendant. Dywed yn ei ddydd-lyfr fod Trefecca y lle mwyaf canolog a ellid gael; ei fod yn gorwedd yn y canol rhwng Caerfyrddin a Chaerloyw; a rhwng Bryste a LlanfairCareinion; ac mai agos yr un faint o ffordd oedd oddiyno i Dregaron, Llanidloes, Casnewydd, Caerdydd, Llantrisant, Castellnedd, ac Abertawe. Ar y 13eg o Ebrill, 1752, gosododd i lawr sylfaen darn newydd o adeilad, eangach, a mwy golygus, na'r adeilad blaenorol. Nid oedd ganddo arian o gwbl at y gwaith, na dim i syrthio yn ol arno, wrth wynebu ar yr anturiaeth, ond addewidion y digelwyddog Dduw. Er holl lafur Howell Harris, a'i ymdrechion difesur, nid oedd wedi cael fel ffrwyth i'w lafur, mor bell ag y mae aur ac arian yn myned, ond prin digon i gynal ei hun a'i deulu. Cawn ef yn dweyd droiau, er nad mewn ffordd o achwyniad, ei fod ef yn llymach ei wisg na neb, a bod ei geffyl yn waelach. Yn bur fynych yr ydym yn ei gael mewn dyled, ac mewn pryder mawr am gael swm o arian i gyfarfod â rhyw ofyn oedd arno. Er hyn oll, y mae yn anturio ar waith a gostiai filoedd o bunoedd, heb geiniog y tu cefn. Tranoeth, wedi gosod i lawr y sylfaen, cychwynodd am Lundain, a dywed iddo adael ar ol yn Nhrefecca un-ar-bymtheg o weithwyr, tair o fenywod, a phedair yn rhagor i ddyfod yn fuan. Gorchymynodd hwy i'r Arglwydd wrth ymadael, gan ddweyd ei fod yn ei adael ef yn ben arnynt.

Yn haf 1752, cymerodd dau amgylchiad pwysig yn nglyn à Howell Harris le. Un oedd marwolaeth Madam Griffiths, yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain, ar y dydd olaf o Fai. Galarodd ef yn fawr ar ei hol, meddyliodd fod ei hymadawiad yn golled. anadferadwy i'r gwaith; ond y mae yn sicr ddarfod i'w marwolaeth brofi yn fendith iddo, gan ei bod, tra y bu mewn cysylltiad ag ef, yn un o'r elfenau a ddylanwadodd gryfaf i wenwyno ei yspryd. Y llall oedd iddo gael ei daro i lawr gan afiechyd difrifol, y tybiai ef a fyddai yn angeuol iddo. Ffrwyth gorlafur oedd hwn. Er cadarned cyfansoddiad Harris, ac er gwydnwch ei natur, nis gallasai cnawd ddal yr holl lafur, y lludded, a'r teithio yr aethai trwyddynt, heb dori i lawr. Yn arbenig, y ddwy flynedd ddiweddaf, gwedi yr ymraniad, nid oedd ganddo neb o gyffelyb feddwl iddo ei hun i fod yn gynorthwy iddo, ac felly, yr oedd yr holl faich yn dod i bwyso arno ef. Mordeithiau Whitefield, yn y rhai y caffai seibiant oddiwrth ei lafurwaith dibaid, a gadwodd y gŵr enwog hwnw cyhyd yn iach ac yn gryf. Erbyn Gorph. 28, 1752, yr oedd un adran o'r adeilad yn barod, ac yr oedd Cynghor wedi cael ei drefnu i gyfarfod y pryd hwnw yn Nhrefecca, er gwneyd math o agoriad ar y lle, yn gystal ag er trefnu materion. Sal enbyd oedd Howell Harris; tybiai ef ei fod ar groesi yr Iorddonen; eto, mynai ymlusgo i'r Cynghor y naill ddiwrnod ar ol y llall, er anerch y pregethwyr cynulledig. Cyfranogai ei anerchiadau o ddifrifwch byd arall. "Yr wyf yn ffarwelio â chwi am dragywyddoldeb," meddai; "nid wyf yn dysgwyl gweled eich wynebau mwy. Yn ngwaed y Duwdod yn unig y mae fy mae fy hyder, ac eto yr wyf wedi eich galw, gan ddatgan fy serch angerddol at bawb sydd yn dyfod ato. Y chwi, sydd wedi myned yn ol, gadewch i mi yn fy marwolaeth wneyd yr hyn y methais ei gyflawni yn ystod fy mywyd, sef eich cyffroi i ddyfod yn mlaen, gyda phalmwydd yn eich dwylaw, fel y dysgleirioch am byth gerbron yr orsedd. Y mae gwaed Crist yn golchi oddiwrth bob pechod. Er fod Satan wedi eich dallu ac wedi eich caledu, dewch at y ffynhon hon, a chwi a orchfygwch, ac a gyfarfyddwch â Duw. O na allwn beri i'r holl greadigaeth fy nghlywed! Mi a'u hanfonwn oll at y ffynhon. Gadewch i mi eich cyfarch o ymyl tragywyddoldeb. Deuwch at y groes; chwi a welwch yno bob rhyfeddod, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan, y Tri yn Un, yn llewyrchu arnoch. Gadewch i mi ymadael mewn gobaith cryf y caf eich cyfarfod gerbron yr orsedd." Wrth draddodi yr anerchiad hwn bu agos iddo lewygu, a'i gario a gafodd yn ei ol i'w ystafell. Rhaid ei bod yn olygfa i'w chofio byth. Cofnodir fod rhai yn bresenol ar yr achlysur o bob sir yn Nghymru, oddigerth Aberteifi a Fflint.

Ond yn wrthwyneb i'w ddysgwyliadau, gwellhaodd yn raddol. Mor fuan ag y daeth yn abl, dechreuodd bregethu i'r gweithwyr, ac i'r rhai oedd wedi dyfod i Drefecca i fyw, dair gwaith yn y dydd. Canlyniad hyn ydoedd i ddynion ymgynull yno o bob parth o'r wlad; rhai teuluoedd cyfain; ond yn benaf dynion dibriod, yn feibion ac yn ferched, y rhai a dybient ei bod yn ddyledswydd arnynt i ymroddi i wasanaeth yr Arglwydd. Nid oedd ef wedi dysgwyl am ddim o'r fath. Lle i ryw haner dwsin o deuluoedd, a nifer o bregethwyr sengl, yn nghyd ag ychydig ferched i weini arnynt, oedd ef yn olygu wrth osod i lawr sylfaen yr adeilad. Eithr yr oedd bob amser yn ymddyrchafu goruwch ei anhawsderau, a chawn ef yn awr yn prysuro i helaethu ei dŷ, ac yn codi tai o gwmpas, nes ffurfio yno bentref. Daeth amaethwyr crefyddol, hefyd, i'r gymydogaeth, gan gymeryd y tiroedd o gwmpas ar ardreth, neu eu prynu, er mwyn bod yn ddigon agos i fwynhau y breintiau. crefyddol oedd i'w cael yno. Cyn pen blwyddyn a haner, yr oedd "teulu" Trefecca yn rhifo dros gant, y rhai a ddaethent yno o bob sir yn Nghymru braidd. Cyn ymuno a'r "teulu," yr oedd yn rhaid i bawb gyflwyno yr oll a feddent i'r drysorfa gyffredin. Ac yr oedd rhai yn dra chyfoethog; ond diau fod y rhan fwyaf yn dlodion, ac felly, disgynodd y baich o gynal y teulu mawr hwn ar ysgwyddau Howell Harris yn gyfangwbl. Cymerodd yntau dir i'w amaethu, mynodd wlan i'r merched i'w nyddu a'i wau, a daeth Trefecca yn ganolbwynt amryw fathau o ddiwydrwydd. A gofalodd Duw am danynt, fel na welsant eisiau dim. "Bum yn fynych mewn pryder," meddai, "ac eisiau ugain neu gant punt o arian arnaf, heb wybod pa le i droi am danynt, a'r Arglwydd heb estyn ymwared hyd y pwynt diweddaf; ond bob amser daeth ymwared, a hyny fynychaf o gyfeiriad nad oeddwn yn ddysgwyl. Anfonid deg, ugain, ac weithiau gan' punt i mi, gan bersonau yn byw ugeiniau o filltiroedd o bellder, heb un rheswm, ond fod rhyw orfodaeth arnynt nas gwyddent ei natur. Digwyddodd hyn i mi lawer gwaith." Nid oedd. dim i attynu y diog na'r mursenaidd i Drefecca. Yr oedd yr holl deulu tan ddysgyblaeth lem, ac yn gorfod byw ac ymarweddu yn mhob dim wrth reolau manwl. Caled oedd yr ymborth, a garw oedd y gwisgoedd, a gofynai dysgyblaeth y lle am hunanymwadiad mawr. Nid Howell Harris oedd y dyn i hulio bwrdd â danteithion, ac i roddi achles i segurdod a diofalwch; nid oedd erioed wedi ymroddi i'r cyfryw bethau ei hun, ac nid oedd am eu darpar i eraill. Ond yr oedd un peth yn y lle, mwy ei werth na phob peth daear yn ngolwg y bobl ddysyml oedd wedi ymgynull yno, gwerth aberthu cysuron naturiol er ei fwyn; yr oedd efengyl Crist yn cael ei phregethu yno yn ei phurdeb; yr oedd bara y bywyd yn cael ei ranu yn dafellau mawrion gyda chysondeb difwlch. Meddai Williams, yn ei farwnad:

"Ti fuost ffyddlon yn dy deulu,
Llym yn dy adeilad mawr,
Ac a dynaist flys ac enw,
A gogoniant dyn i lawr.

Ac ti wnest dy blant yn ufudd
At eu galwad bob yr un,
Byw i'th reol, byw i'th gyfraith,
Byw i'th oleu di dy hun;


Fel na fedr neb yn Nghymru,
Trwy na chleddyf fyth na ffon,
Ddod â thy, o'r un rhifedi,
Tan y dymher hyfryd hon.

Y mae gweddi cyn y wawrddydd
Yn Nhrefecca ganddo fe,
'R amser bo trwm gwsg breuddwydlyd
Yn teyrnasu yn llawer lle;

A chyn llanw'r bol o fwydydd,
Fe geir yno gynghor prudd,
A chyn swper, gweddi a darllen—
Tri addoliad yn y dydd."

Parodd cyfodiad yr adeilad, a sefydliad y teulu, yn Nhrefecca, i liaws o chwedlau anwireddus gael eu taenu ar led yn Nghymru. Awgrymid mai amcan y Diwygiwr oedd ymgyfoethogi ar drau y bobl oludog a hudai i'r lle, a gwneyd arian trwy eu llafur a'u diwydrwydd. Nid oedd un sail i'r chwedlau hyn. Pa beth bynag oedd ffaeleddau Howell Harris, nid oedd gwanc am gyfoeth, nac anrhydedd daearol, yn un o honynt. Ar yr un pryd, nid oedd yn gwbl rydd o roddi achlysur i ddrwgdybiaeth. Pan fyddai pobl gyfoethog, yn arbenig os mai merched ieuainc a fyddent, yn bwrw yr oll a feddent i'r drysorfa gyffredin yn Nhrefecca, yr oedd yn naturiol i'r perthynasau a ddysgwylient elwa oddiwrth eu meddianau mewn rhyw ffordd neu gilydd, fyned yn chwerw eu teimlad, a hau eu drwgdybiau ar led. A chwedi i'r meddiant gael ei fwrw i mewn, nid heb anhawsder dirfawr y gellid ei gael allan drachefn, hyd yn nod pan fyddai yr amgylchiadau yn cyfreithloni hyny. Fel esiampl, gallwn gyfeirio at helynt Miss Sarah Bowen, un o'r ddwy chwaer o'r Tyddyn, yr hon oedd yn meddu cryn gyfoeth, ac fel pawb a ddeuent i Drefecca a'i rhoddasai oll i'r sefydlaid. Un diwrnod, daeth Mr. Simon Lloyd, o Plasyndref, Bala, i'r lle, mewn rhan, feallai, o gywreinrwydd, ac mewn rhan er cael budd ysprydol i'w enaid. Wedi iddo guro, pwy agorodd y drws iddo ond Miss Bowen. Rhedodd serch y boneddwr ar y ferch ieuanc ar unwaith; a chan iddo allu ei denu hithau i gyfranogi o'r unrhyw deimlad, gwnaeth y ddau drefniadau i briodi. Ond sut i gael meddianau y foneddiges yn ol oedd yr anhawsder. Bu yn gryn helynt yn nghylch y peth; daeth John Evans, y pregethwr adnabyddus o'r Bala, yn ei un swydd i Drefecca, i gyfryngu, ac wedi tipyn o ddadleuaeth, llwyddwyd i wneyd gweithred briodas foddhaol, yr hon sydd ar gael hyd y dydd hwn.

Tua'r flwyddyn 1756, yr oedd y deyrnas yn llawn cyffro o ben bwy gilydd iddi gan ofn y byddai i'r Ffrancod geisio croesi trosodd i ddarostwng Prydain. Yr oedd Howell Harris yn deyrngar hyd ddyfnder ei yspryd; credai fod crefydd, yn ogystal a gwleidlywiaeth, yn galw arno i bleidio y Brenhin Sior; ac nid oedd mewn un modd yn amddifad o yspryd rhyfelgar. Dan ddylanwad y cyffro, darfu i Gymdeithas Amaethyddol Brycheiniog gyflwyno anerchiad i'r brenhin, yn cynyg ymffurfio yn gatrawd o feirch-filwyr ysgeifn, a myned ar eu traul eu hunain i unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol y gelwid am eu gwasanaeth. Pan glywodd Harris am y peth, anfonodd at y gymdeithas, y gwnai efe, os derbynid eu cais, godi deg o feirch-filwyr mewn llawn arfogaeth, ar ei draul ei hun, i fod yn ychwanegiad at y gatrawd. O herwydd rhyw resymau, ni dderbyniwyd cynygiad gwladgarwyr Brycheiniog, ond darfu i'r gymdeithas gydnabod ei rhwymedigaeth i Harris trwy ei ethol yn aelod anrhydeddus o honi. Yn fuan gwedi hyn rhoes fater y rhyfel gerbron y teulu yn Nhrefecca, ac mewn canlyniad, ymrestrodd pump o wyr ieuainc crefyddol i'r fyddin. Buont mewn amryw frwydrau poethion; cymerasant. ran yn enilliad Quebec oddiar y Ffrancod, pan laddwyd y Cadfridog Wolf. Tra y syrthiai eu cydfilwyr yn feirwon o'u cwmpas, yr oedd rhyw amddiffyn dros filwyr Harris, ac ni laddwyd cymaint ag un o'r pump. Bu pedwar o honynt feirw o farwolaeth naturiol mewn gwledydd tramor, a dychwelodd y pumed yn ei ol i Drefecca, ar ol cael ei gymeryd yn garcharor gan y Ffrancod, lle yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth.

Tua gwanwyn y flwyddyn 1760, yr ydym yn cael Howell Harris, tan ddylanwad cymhellion ei frawd, Joseph, ac aelodau Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog, yn ymuno a'r milisia, ac yn dwyn gydag ef o deulu Trefecca bedwar-ar-hugain o wŷr. Yn bur fuan, rhoddwyd iddo gomisiwn fel cadben. Ar un olwg, peth syn oedd canfod efengylwr, fel Harris, yn troi yn filwr; ond ystyriai efe fod Protestaniaeth yn y chwareu; credai, os yr enillai y Ffrancod y dydd, y deuai Pabyddiaeth yn oruchaf, ac y cai y Beiblau eu halltudio o'r wlad mewn canlyniad. Teimlai ei fod yn gwasanaethu ei Dduw lawn mor wirioneddol wrth afaelu yn y cledd, ag y gwnelai gynt wrth deithio o gwmpas i bregethu yr efengyl. Cyn myned, gosododd y sefydliad yn Nhrefecca yn nwylaw ymddiriedolwyr hyd oni ddychwelai, a phenododd Evan Moses i fod yn llywodraethwr yn ystod ei absenoldeb. Brodor o Aberdar oedd Evan Moses, a dyn annysgedig, ond tra difrifol, ac yr oedd ei barchedigaeth i Howell Harris yn ddiderfyn. Y lle cyntaf yr anfonwyd y milisia iddo oedd Yarmouth, ac ar ei ffordd yno, pregethai Harris yn mhob man. Wedi cyrhaedd y dref, holodd ai nid oedd Methodistiaid yno? Hysbyswyd ef ddarfod i amryw wneyd ymgais i bregethu yno, ond iddynt gael eu rhwyso gan gynddaredd y werinos, ac mai yn brin y dihangasant a'u bywyd ganddynt. Yn ddiegwan o ffydd, anfonodd griwr y dref allan i roddi rhybudd y byddai pregethwr Methodistaidd yn llefaru yn y farchnadfa ar awr benodol. Yno yr ymgasglodd tyrfa anferth, gyda cherig, a darnau o briddfeini, a llaid, i'w hyrddio at y pregethwr, pan ddeuai, a thyngent y gosodent derfyn ar ei hoedl. Yr oedd Harris ar y pryd yn peri i'w ddynion fyned trwy ryw ymarferiadau milwraidd, ar lecyn oedd yn ymyl. Pan ddaeth awr y cyhoeddiad i fynu, aeth at y dyrfa, a gofynodd beth oedd y mater. Atebasant eu bod yn dysgwyl pregethwr Methodistaidd, a bod yn dda iddo na ddaeth. Dywedodd yntau yn ol fod yn drueni iddynt gael eu siomi, ac y gwnai ef ganu emyn gyda hwy, a myned i weddi, ac hefyd roddi gair o gyfarchiad. Aeth i ben bwrdd oedd wedi ei osod yn ymyl; ymgasglodd ei wŷr o'i gwmpas; canwyd nes adseinio y farchnadfa, a gweddïodd yntau yn ganlynol gyda nerth dirfawr. Yr oedd newydd-deb yr olygfa, y gwŷr arfog oedd o gwmpas i amddiffyn eu cadben, y rhai a ddywedent Amen yn uchel, yn nghyd â rhyw ddylanwad dwyfol oedd yn y lle, wedi trechu y dorf, fel cafodd Harris bob llonyddwch i bregethu. A chafodd odfa nerthol iawn; disgynodd y fath ddylanwadau ar y werin fel yr argyhoeddwyd amryw ar y pryd. Bob prydnhawn, braidd yn ddieithriad, pregethai yn y farchnadfa i dorf anferth, yn ei wisgoedd milwraidd. Yn raddol, daeth pregethwyr eraill yno, ffurfiwyd seiat gref a lliosog, a daeth Yarmouth mor enwog am ei chrefyddolder ag oedd yn flaenorol am ei hannuwioldeb.

Y gauaf canlynol, cafodd y milisia eu gorchymyn i Aberhonddu, ac aeth Cadben Harris i bregethu i amryw leoedd, fel yr arferai gynt. Ymddengys, hefyd, fod teimladau llawer caredicach yn ffynu yn awr rhyngddo ef a Rowland a'i blaid; yr oedd y ddwy ochr wedi dyfod i deimlo ddarfod iddynt gamddeall eu gilydd, mai ymryson yn nghylch geiriau oedd y cweryl a fuasai rhyngddynt, i raddau mawr; a bod y naill a'r llall wedi cyfeiliorni oddiwrth frawdgarwch yr efengyl. Teimlai y Methodistiaid eisiau gwroldeb a medr trefniadol y Diwygiwr o Drefecca yn eu cyfarfodydd. Yn y flwyddyn 1759, yr oeddynt wedi myned mor bell ag anfon cenadwri ato i geisio ganddo ddychwelyd; a chariwyd y genadwri i Drefecca mewn llythyr gan Daniel Rowland yn bersonol. Ni welai efe ei ffordd yn rhydd ar y pryd i gydsynio, ond diau i'r cais effeithio yn ddirfawr ar ei yspryd. Tybir mai yr adeg hon, pan yr oedd y milisia yn Aberhonddu, y digwyddodd yr helynt yn nglyn à Chymdeithasfa Llanymddyfri. Y traddodiad yw iddo unwaith, wrth fyned tua thref Llanymddyfri, gyfarfod a Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a nifer o gynghorwyr, yn dianc oddiyno am eu bywyd, wedi methu cynal Cymdeithasfa oblegyd terfysg ac erledigaeth y werinos. Ceisiodd yntau ganddynt ddychwelyd gydag ef. Wedi cyrhaedd y dref, esgynodd i ben y gareg farch, a wasanaethai fel pwlpud, a chan edrych fel llew ar y terfysgwyr, gwaeddodd: "Gosteg, yn enw Brenhin y nefoedd!" Ni effeithiodd ei floedd ddim ar y dorf, rhegent a bygythient fel cynt. Ar hyny, diosgodd ei wisg uchaf, nes yr ymddangosai ei ddillad milwraidd, a bloeddiodd: "Gosteg, yn enw y Brenhin Sior!" Dychrynwyd y dorf gan y gwisgoedd swyddogol; aethant yn fud ac yn welw; teyrnasodd dystawrwydd hollol trwy y lle, a chymerodd yntau fantais ar y cyfleustra i ddanod iddynt fod arnynt. fwy o ofn brenhin Lloegr nag oedd arnynt o ofn Duw. Wedi hyn, cafodd y Methodistiaid berffaith lonyddwch i gynal eu Cymdeithasfa.

Yn mis Rhagfyr, 1762, ymwasgarodd y milisia yn Aberhonddu, a rhoddodd Harris ei gomisiwn fel cadben i fynu. Yr oedd wedi enill iddo ei hun ganmoliaeth nid bychan trwy ei wladgarwch a'i ddewrder; teimlid parch diffuant ato gan fonedd Brycheiniog, a chawn yn awr yr efengylydd distadl, a fygythid gynt â dirwy ac â charchar, a'r hwn yr oedd uchel reithwyr y sir wedi dwyn achwyn yn ei erbyn gerbron un farnwyr ei Fawrhydi, yn uchel yn ffafr y rhai a'i herlidient. Yr oedd ei wŷr wedi ymddwyn yn y modd mwyaf canmoladwy. Ysgrifenai Syr Edward Williams, milwriad y gatrawd, ato fel y canlyn: "Cadben Harris—Nid oes genyf hamdden i wneyd tegwch ag ymddygiad eich gwŷr, ond gallaf eich sicrhau, ar fyr eiriau, fod eu buchedd yn adlewyrchu anrhydedd ar yr egwyddorion crefyddol y darfu i chwi gymeryd cymaint o drafferth i'w hyfforddi ynddynt."

Ar y 23ain o Ionawr, 1763, yr oedd Howell Harris yn dechreu ar ei haner canfed flwyddyn, yr hon a eilw yn flwyddyn ei Jiwbili. Erbyn hyn, yr oedd ei yspryd yn dyheu o'i fewn am undeb a'i hen gyfeillion; ac anfonasai Evan Moses, ei ben gwas, bedwar diwrnod cynt, gyda llythyr at Daniel Rowland, Llangeitho, yn gofyn am ail uno. diaufod Rowland ac yntau wedi trin y pwnc yn flaenorol, pan alwodd y blaenaf arno gyda llythyr y brodyr, a'i fod yn gwybod fod y Diwygiwr o Langeitho yn coleddu y cyffelyb deimlad ag yntau, onide ni fuasai yn anfon ei was gyda'r fath genadwri. Yr oedd yn amser braf ar Gymru yr adeg hon. Ar ol blynyddoedd o falldod ac o sychder dirfawr, torasai diwygiad allan yn Llangeitho yn y flwyddyn 1762, gyda dyfodiad hymnau Williams, Pantycelyn, yr hwn a ymledodd dros yr holl wlad, nes yr oedd y pentrefydd a'r cymoedd yn adsain gan foliant; a diau i'r gwres nawsaidd doddi ysprydoedd y Diwygwyr, a'u dwyn i deimlo yn gynhes at eu gilydd. Ar y 30ain o Ionawr, cafodd lythyr oddiwrth Evan Moses, yn ceisio ganddo gyfarfod â Daniel Rowland, yn Nhrecastell-yn-Llywel y dydd Mercher canlynol. Ymddengys fod Rowland yn myned y pryd hwnw i Gyfarfod Misol a gynhelid yn Llansawel. "Pan y darllenais," meddai Harris, "teimlwn yn llawen tu hwnt fod yr Arglwydd yn agor drws o ddefnyddioldeb i mi. Yr oeddwn wedi clywed am y bywyd oedd yn eu mysg, ac am eu llwyddiant; a'm hunig ofn ydoedd rhag i mi, trwy fy hunanoldeb a'm pechod, ddwyn melldith arnynt. Darostyngwyd fi; yr oeddwn mor rhydd oddiwrth eiddigedd fel y bendithiwn Dduw am eu cyfodi, ac y dymunwn ar iddynt beidio cyfranogi o angau gyda mi, ond i mi gael cyfranogi o'u bywyd hwy. Gwnaed fi yn llawen yn y gobaith o gael myned i'w mysg eto." Gwelir fod ei syniadau am Rowland a'i ganlynwyr wedi newid yn hollol, a bod yspryd newydd wedi ei feddianu. Cychwynodd i Drecastell i gyfarfod Rowland, ond yr oedd dirfawr bryder yn llanw ei fynwes, rhag iddo fod yn anffyddlawn i'w Dduw y naill ffordd neu y llall. Am y dull y cyfarfyddodd Rowland ac yntau, ni ddywed air; ond sicr yw yno wasgu dwylaw cynhes, os nad oedd yno gofleidio a thywallt dagrau. Gwasgodd Rowland arno am fyned gydag ef i'r Cyfarfod Misol i Lansawel, dywedai mai dyna ddymuniad y bobl gyffredin, yn gystal a'r eiddo yntau. Yr oedd Harris, yn y rhagolwg y gwnelid y fath gais ato, wedi penderfynu gwrthod; ond aeth cymhellion ei gyfaill yn drech nag ef, ac ar ol gwneyd y peth yn fater gweddi, cafodd fod yr Arglwydd yn foddlawn. Boreu dranoeth,. cychwynodd y ddau yn nghyd, a chyrhaeddasant Lansawel o gwmpas chwech. Yno cyfarfyddasant à Williams, Pantycelyn, Peter Williams, a llu o gynghorwyr. "Yr oeddwn wedi clywed," meddai, “am yr yspryd canu oedd wedi disgyn yn ngwahanol ranau Sir Aberteifi, a Sir Gaerfyrddin, ac am y canoedd oedd yn ymgynu i wrando. Agorodd yr Árglwydd fy ngenau i lefaru, na ddylem dderbyn na gwrthod yr arwyddion allanol hyn, ond y dylem eu barnu wrth eu dylanwad ar y galon, a'r bywyd, ac yn arbenig wrth chwilio a oeddent yn cynyrchu tlodi yspryd." Cyfeiriodd yn ei anerchiad, hefyd, at lyfr Williams, Pantycelyn, sef, Pantheologia, neu hanes holl grefyddau y byd, a chanmolodd ef fel llyfr tra buddiol. Y noswaith hono, lletyai Williams ac yntau yn yr un tŷ, a buont i lawr hyd ddeuddeg o'r gloch. "Addefai Williams," medd Harris, "ei ofid o herwydd iddo fy ngwrthwynebu gynt, ac eglurodd y modd yr arweiniwyd ef yn ganlynol i bregethu ac i argraffu yr athrawiaeth a wrthwynebasai. Dywedai, yn mhellach, mai myfi oedd ei dad." Diau fod y gymdeithas yn felus odiaeth. Y nos hono, wedi myned i'w wely, cymerwyd Harris yn glaf gan boen enbyd yn ei goluddion; nid annhebyg mai cyffro ei deimladau, a'i orlawenydd o herwydd cael ei hun unwaith drachefn yn mysg ei frodyr, oedd achos y selni. Yr oedd yn dra eiddil dranoeth, ond aeth i fysg y cynghorwyr, a siaradodd wrthynt yn faith ac yn ddifrifol. Yn mysg pethau eraill, dywedodd wrthynt am iddynt wylio yr yspryd canu oedd yn ffynu, rhag iddo ddiflanu, neu ynte roddi achlysur i'r cnawd. Cynghorai hwy, yn mhellach, i beidio ymgymysgu gormod a'u gwrandawyr, ond ar iddynt, wedi pregethu, ymneiliduo. Yna, gwnaed iddo bregethu yn y capel, yr addoldy y buasai ef yn benaf yn offerynol i'w godi, ac y casglasai trwy Gymru tuag ato. Ei destun oedd, Zechariah xii. 10: "A thywalltaf ar dŷ "A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem, yspryd gras a gweddïau." Nis gallwn gofnodi y bregeth, ond cafodd odfa wrth ei fodd. Y noswaith hono, dychwelodd i Lanymddyfri, ac y mae ei brofiad boreu dranoeth yn haeddu ei groniclo: "Dychwelais yma neithiwr, wedi cael y gwahoddiadau taeraf i fyned i Gastellnedd, Cilycwm, Sir Aberteifi, a Sir Gaerfyrddin, gan Rowland, William Williams, Thomas Davies, John Williams, ac eraill. Yr wyf yn cael fod y cynghorwyr wedi cael eu gosod ar fy nghalon fel fy mhlant. Yn sier, dyma flwyddyn y Jiwbili! Y mae yr amser wedi dyfod; cysgodau rhagfarn ydynt yn cilio; yr hen gariad a'r symlrwydd ydynt yn dychwelyd, ac ymddengys fod y pethau a rwystrent gynt wedi cael eu symud. Y mae yr yspryd canu yma sydd wedi disgyn yn ymddangos yn hollol rydd oddiwrth yr ysgafnder, a'r hunan, a welid yn nglyn a'r diweddaf. Ac wrth weled cynifer o leoedd newydd wedi cael eu cychwyn ganddynt hwy, a dim un genyf fi, teimlwn ei fod yn anrhydedd cael myned i'w mysg, a chysur i mi yw gweled fod fy lle, a'm gwaith, a'm pobl gynt, yn cael eu cynyg i mi eto, gwedi ymraniad o dair-blynedd-ar-ddeg."

Ni phasiwyd unrhyw benderfyniad ffurfiol yn Llansawel gyda golwg ar ailuniad Howell Harris a'r Methodistiaid, ond cawsai ei wahodd yn y modd mwyaf caredig i ddyfod i'w mysg fel cynt, a theflid pob drws yn agored iddo. Ar y 18fed o Fawrth, 1763, cychwynodd am daith fer i ranau o Sir Gaerfyrddin, a Sir Aberteifi. Y lle cyntaf y pregethodd ynddo oedd Cilycwm, cartref crefyddol Williams, Pantycelyn. Ar y maes y cedwid yr odfa, oblegyd lliosogrwydd y dorf; y testun oedd: "Chwiliwch yr Ysgrythyrau;" pregethodd am ddwy awr a haner, gyda nerth a dylanwad arbenig; ac yr oedd yn ofnadwy o lym yn erbyn y rhai a ddirmygent neu a esgeulusent Air Duw. Wedi yr odfa, aeth drachefn i'r capel i gadw seiat; yr oedd rhai canoedd yno, ac anogodd hwynt oll i weddi. Ciniawodd gyda chuwrad yr eglwys, Williams, Pantycelyn, ac amryw o'i hen gyfeillion, nad oedd wedi eu gweled er adeg yr ymraniad, ac yna aeth i'w hen lety, Llwynyberllan, i gysgu. Ar y ffordd yno, cafodd lawer o wybodaeth gan ei arweinydd am y diwygiad oedd yn ymledu dros y wlad. Meddai: "Llefwn am i beth o'r tân hwn gydio yn fy yspryd inau; oblegyd deallwn fod llawer wedi cael eu deffro yn y rhanau hyn, trwy yr yspryd canu a bendithio yr Arglwydd sydd wedi tori allan, yr hwn a barha weithiau trwy gydol y nos.' "Dengys ei sylwadau, nad oes genym yn awr un syniad priodol am y dylanwad a fu gan emynau Williams, er ail enyn tân Duw yn Nghymru, pan yr oedd agos wedi cael ei ddiffodd trwy ymrafaelion ac ymraniadau. Yn nesaf, cawn ef yn nghapel Llansawel yn pregethu ar ol un Mr. Gray. Diau mai y Parch. Thomas Gray, olynydd yr hen Mr. Pugh yn Llwynpiod, Abermeurig, a Ffosyffin, ydoedd hwn, yr hwn, gwedi hyn, a lwyr ymunodd a'r Methodistiaid. Ac ymddengys iddo wneyd hyny yn bur fuan. Hysbysa cyfaill ni ei fod wedi chwilio yn fanwl gofnodau hen gymanfaoedd yr Annibynwyr, fel eu ceir yn yr Evangelical Magazine, a chyhoeddiadau eraill, ac nad oes ynddynt gymaint a chyfeiriad at Gray; tra y ceir ef yn pregethu yn barhaus yn Nghymdeithasfaoedd y Methodistiaid yn y Dê a'r Gogledd. Daethai cynulleidfa anferth yn nghyd yr oedd capel Llansawel y pryd hwn wedi dyfod yn fath o ganolbwynt i'r Methodistiaid yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd odfa nerthol, ac yr oedd yn llym wrth y rhai oedd mewn rhyddid heb fod yn gyntaf mewn caethiwed. Wedi iddo orphen, nid ai y bobl i ffwrdd; eithr tyrent i'r capel, a bu raid iddo lefaru yno drachefn. Yr angenrheidrwydd am hunanymholiad oedd ei fater. Oddiyno aeth i Gaerfyrddin, ac am ddau o'r gloch pregethodd ar Castle Green i'r gynulleidfa fwyaf a gafodd erioed yn ei fywyd; cyfrifa ei bod yn ddeng mil. Llefarai yn Gymraeg ac yn Saesneg oddiar: "Ni a welsom ei ogoniant ef; a dangosai mai y ffordd i gynyrchu moesoldeb uchel oedd trwy bregethu Iesu Grist. Nid ymfoddlonodd ychwaith ar athrawiaethu; taranodd yn ofnadwy yn erbyn rhegu, meddwdod, a phuteindra, a phechodau cyffelyb; a llefodd gyda nerth: "Gyda y rhai sydd yn ei adwaen ac yn ei garu ef bydded fy nghartref yn dragywydd!" Aeth y noson hono i Bant Howell; yr un oedd ei destun yma eto, eithr gwahaniaethai y bregeth it gryn raddau. Yr oedd ei yspryd yn bresenol wrth ei fodd. "Yr wyf yn gweled," meddai, "yr anrhydedd dirfawr a osodir arnaf, fy mod yn cael fy ngalw gan fy Arglwydd anwyl i'w waith, a'i fod wedi rhoddi lle i mi eto yn ei dŷ." Ar ddydd Gwener Croglith, y mae yn nhref Aberteifi, a gwelai wrth deithio tuag yno fod pawb wedi myned o'i flaen ef mewn goleuni, ffydd, a chymundeb â Duw. Bu yn yr eglwys yn y boreu; yn y prydnhawn pregethodd ei hun, ac er mai y nos flaenorol y cawsai y bobl wybod am ei ddyfodiad, daeth torf anferth yn nghyd. Dyoddefiadau y Gwaredwr oedd ei fater. Yn yr hwyr yr oedd yn Twrgwyn, lle yr oedd capel erbyn hyn wedi cael ei adeiladu. Mat. xi. 28, oedd ei destun; cofnoda fod torf fawr wedi ymgynull, ac meddai: Y fath ganu, a'r fath orfoleddu, ni chlywais erioed." Gwelsom ei fod ar y cychwyn yn ddrwgdybus o'r canu, ac yn erchi i'r crefyddwyr ei wylio; yn awr, modd bynag, y mae wedi cael ei lwyr orchfygu ganddo. "Arweiniwyd fi," meddai, "i gyfiawnhau y canu sydd yn awr yn y sir, lle y mae llawer yn canu clodydd Duw ac yn ei folianu trwy gydol y nos. Dangosais i'r cnawdol, y rhai ydynt yn tramgwyddo oblegyd fod y crefyddwyr yn canmol Duw yn ormodol, y dylent ystyried nad ydynt hwy (y cnawdol) yn caninol Duw o gwbl, ac felly y rhaid i'r crefyddol ei ganmol, nid yn unig drostynt eu hunain, eithr drostynt hwy yn ogystal. Wedi yr odfa, aeth i letya i dŷ Mr. Bowen, ynad heddwch, Gwaunifor, ac yr oedd yn ddeuddeg o'r gloch y nos arno yn cyrhaedd. Boreu dranoeth, am naw o'r gloch, pregethodd gerllaw y capel, yr hwn a adeiladasai Mr. Bowen ar ei draul ei hun, i dorf fawr. Yma ymadawodd â Mr. Gray, a Mr. Popkin, y rhai a fuasent yn gymdeithion iddo o Gilycwm hyd yn awr, a dychwelodd ar ei union i Drefесса. Gwelir mai brasgamu a wnaeth, a phaham y dewisodd yr ychydig leoedd a nodwyd i ymweled â hwynt, nis gwyddom.

Dydd Mawrth, gwedi y Pasg, aeth i Lanfair-muallt, lle na fuasai ynddo ond unwaith er ys deuddeg mlynedd. Pregethodd gyda nerth mawr. Cyfarfyddodd yno â John Richard, Llansamlet, a chynghorwr arall o'r enw Evan Roberts; aeth y ddau gydag ef i Drefecca, a boreu dranoeth yr oedd John Richard yn cychwyn am daith i'r Gogledd. Ychydig ddyddiau ar ol hyn, dywed ei fod yn darllen gweithiau Rowland, ac eiddo Williams, Pantycelyn; ac iddo gael ei ddarostwng yn enbyd wrth weled mor ddiddefnydd ydoedd o'i gymharu a'i frodyr. "Nid oedd genyf ddim i'w ddweyd trosof fy hun," meddai, "ond fy mod yn segur, diddefnydd, a llygredig." Yn sicr, yr oedd yn rhy galed arno ei hun; oblegyd gallai ddweyd lawn mor wirioneddol a'r apostol Paul: "Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll." Ond tebygol mai meddwl am ei ymneillduad yr ydoedd. Ebrill 21, 1763, cychwyna am daith faith trwy Siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin. Y lle cyntaf yr ymwelodd ag ef oedd Llangamarch, lle y pregethodd, heb gymeryd unrhyw destun, i dorf liosog. "Cyfarwyddais y dychweledigion ieuainc," meddai, ac adeiledais y ffyddloniaid." "ac Profa hyn fod nifer lliosog yn y cymydogaethau yma wedi ymuno â chrefydd yn ddiweddar. Cymerodd un o'r diwygiadau mwyaf nerthol a welodd Cymru erioed le y flwyddyn yma; ymledodd yn dân anorchfygol dros yr holl wlad, nes oedd y cymoedd mynyddig, yn ogystal a'r gwastadedd, fel pe yn llawn o foliant Duw. A ydoedd wedi tori allan mor gynar a hyn yn y flwyddyn, nis gwyddom; ond boed a fo, yr oedd "dychweledigion newydd" yn Llangamarch. Dranoeth, sef dydd Mawrth, croesodd y Mynydd Mawr, a daeth i Dregaron. Yma yr oedd Daniel Rowland yn ei gyfarfod, ac meddai: "Gwnaed fi yn ostyngedig wrth weled fod yr Arglwydd yn agor y drysau i mi, i fyned o gwmpas gyda fy hen gydlafurwyr, yr hon safle oeddwn wedi fforffetio trwy fy mhechod." Cafodd ryddid dirfawr ar weddi, ac wrth bregethu yr oedd yn ofnadwy o lym yn erbyn y rhai a farnent, ac a wrthwynebent Dduw a'i waith, a dangosai ysprydolrwydd y gyfraith, ac mor fewnol a manwl oedd ei gofynion. Cofnoda fod tri offeiriad heblaw Daniel Rowland yn gwrando. O Dregaron, aeth i Lwyniorwerth, nid yn nepell o Aberystwyth. Dilynai y bobl ef, gan ganu a molianu yr holl ffordd. Wrth weled a chlywed, teimlodd fod yr Arglwydd wedi dwyn yn mlaen ei waith hebddo ef, a'i fod wedi anrhydeddu Rowland a'r cynghorwyr yn fwy; eithr yr oedd yn mhell o fod yn eiddigus, ac yr oedd yn barod i ymroddi i'w cynorthwyo, gan obeithio y caffai fendith yn eu plith. Aeth i ymddiddan a'r bobl, a chafodd eu bod yn syml, yn barod i gymeryd eu dysgu, yn addfwyn, a hunan ymwadol. "Iesu Grist wedi dyfod i gadw pechaduriaid" oedd ei fater yma, ac efengylu yn felus a wnelai. Y noswaith hono yr oedd yn Lledrod; yr oedd yr holl wlad wedi ymgynull i'r odfa, a chafodd yntau nerth rhyfedd i bregethu oddiar y geiriau: "Canys efe. a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." Dranoeth, yr oedd yn ddydd. o ddiolchgarwch cyffredinol am yr heddwch gwladol a gawsid, ac aeth yntau i'r eglwys yn Lledrod i uno.

Yn nesaf, yr ydym yn ei gael yn Llangeitho, lle na fuasai ynddo er ys pedairblynedd-ar-ddeg; deng mil o bobl o leiaf oedd ei gynulleidfa; a chwedi cael gafael ryfedd ar weddi, pregethodd gyda rhyddid mawr oddiar y geiriau: "Canys yr ydym ni y rhai a gredasom yn myned i mewn i'w orphwysfa ef." Dangosai mai ffydd sydd yn puro y galon, ac yn gorchfygu y byd, ac yr oedd yn dra llym wrth y rhai a geisient wneyd ffydd a phenboethni yr un. Cafodd fod tros ddau cant o ddynion, a thros ddeugain o blant cymharol ieuainc wedi ymuno a'r seiat yma. Wedi yr odfa, gwnaed iddo gadw seiat breifat, yn yr hon y llefarodd ar amryw faterion, ac ar y terfyn gweddïodd yn daer dros Mr. Rowland. Gwelaf," meddai, "fod yr Arglwydd wedi ei ddyrchafu ef yn uwch na mi; ei fod wedi rhoddi iddo yr holl waith a'r anrhydedd hwn, ac hefyd yr holl seiadau, a'r holl gynghorwyr." Os oedd Harris, wrth ganfod y pethau hyn, yn gwbl rydd oddiwrth eiddigedd, fel y dywed ei fod, rhaid fod gras Duw wedi ei dywallt yn helaeth yn ei yspryd. Dydd Gwener, cawn ef yn Abermeurig; yna, gadawa ddyffryn prydferth Aeron, gan groesi y bryniau i Lanbedr, yn nyffryn Teifi. Ei destun yma oedd: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad;" yr oedd amryw o'r dosparth uchaf yn gwrando, felly, pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyfeiria at ddwy foneddiges yn benodol, sef Miss H. Lloyd, a Miss Evans. Wedi galw yn Dolgwm, ffermdy pur fawr islaw Llanbedrpont-Stephan, daeth, nos Wener, i Waunifor. Yr oedd Rowland yn cyd-deithio ag ef o hyd, ac ar y ffordd agorai ei fynwes wrth ei gyfaill am gael John Wesley, ac un o'r Morafiaid, i fyned o gwmpas Cymru gydag ef; ac am ffurfio undeb cyffredinol rhwng y gwahanol bleidiau yma, oddifewn i Eglwys Loegr. Beth a atebodd Rowland iddo, nis gwyddom. Yn Waunifor, pregethodd gydag awdurdod ar waed Crist yn glanhau oddiwrth bob pechod.

Yn y seiat breifat a ddilynai, gwasgai ar y crefyddwyr yr angenrheidrwydd am alaru yn ogystal a molianu. Wedi pregethu yn Twrgwyn, ac yn Nghwmcynon, daeth i Lechryd, nos Sul, lle y cafodd y gynulleidfa fwyaf a gafodd erioed yn ei fywyd, a chyfrifa ei bod yn ddeuddeg mil. "Mawr yw dirgelwch duwioldeb," oedd ei destun. Pregethais ei glwyfau a'i waed," meddai; "mai dyma yr unig noddfa; gelwais a gwahoddais bawb ato, gan ddangos fod Duw ynddo, fel yn ei deml. Yr oeddwn yn llym wrth y rhai a wrthwynebent y gwaith hwn, ac a ddymunent ar iddo ddyfod i'r dim, gan ddangos eu bod o'r un yspryd â Chain." Cafodd ymddiddan yma ag un Mr. Enoch, arolygwr ysgolion Madam Bevan yn y tair sir, a gwelai ei fod yn ddyn syml a gostyngedig.

Ymddengys i Daniel Rowland ddychwelyd oddiyma, a darfod i Mr. Popkins gael ei osod i fod yn gydymaith i Harris yn ystod ei daith yn Sir Benfro. Dyn o yspryd balchaidd oedd Popkins; yn tueddu yn gryf at Antinomiaeth, a chofir i Daniel Rowland gael trafferth ddirfawr gydag ef ar ol hyn, ac yn y diwedd iddo orfod ei ddiarddel. Dechreuodd Popkins ddanod i Harris ei ymadawiad a'r Methodistiaid, a'i fod wedi gwastraffu llawer o'i amser yn ofer; a chanmolai Daniel Rowland i'r cymylau. Dyoddefodd y Diwygiwr yn amyneddgar am dipyn; eithr yn y diwedd. trodd arno, a dywedodd na chai efe (Popkins) fod yn esgob arno ef. Wedi pasio drwy Lwynygrawys, daeth i Drefdraeth; Fy nghnawd i sydd fwyd yn wir," oedd ei destun, ac arweiniwyd ef yn gyntaf i daranu yn enbyd, gan gyfeirio gyda difrifwch at angau a thragywyddoldeb. Ond cyn gorphen, efengylodd yn felus, a chyhoeddai fod yr Arglwydd Iesu yn ddigyfnewid. Yr oedd cynulleidfa fawr, yn rhifo amryw filoedd, yn Abergwaun; "Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid," oedd y testun; ac yr oedd yn dra lym wrth y rhai na theimlent eu pechadurusrwydd. Am y tro cyntaf yn ystod y daith, cafodd fod cryn ragfarn ato yn meddyliau y bobl. Nid oedd y diwygiad wedi cyrhaedd yma eto; nid oeddynt yn canu, fel y gwnaent yn Sir Aberteifi. Y noswaith hono yr oedd yn Nhyddewi, a dywed fod yno gynulleidfa o amryw filoedd. Wedi pasio trwy y rhan Saesnig o Sir Benfro, daeth i Hwlffordd, a phregethodd yn y capel; yr oedd yno gynulleidfa dda, ond nid cynifer ag a fuasai oni bai fod rhyw gamddealltwriaeth wedi bod am y cyhoeddiad. Wrth bregethu, cyfeiriodd am y dymunoldeb o gael undeb rhwng y gwahanol bleidiau crefyddol, mai brodyr oeddynt, a'u bod i dreulio tragywyddoldeb yn nghwmni eu gilydd. Wrth ymddiddan â Mr. Howell Davies, yr hwn yntau oedd wedi dyfod i'w wrando, am y priodoldeb o gael John Wesley ac un o'r Morafiaid i fyned trwy y wlad gydag ef (Harris), deallodd fod meddwl Mr. Davies yn rhagfarnllyd yn erbyn. Dranoeth, aeth i Woodstock, lle yr oedd capel wedi ei adeiladu, a phregethodd gyda nerth oddiar y geiriau: "Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber." Yn nghwmni y cynghorwr John Harry, aeth i Mounton, ac yna i Lacharn, ac achwyna ei fod yn dra egwan o ran ei gorph. Yma yr oedd yn nghymydogaeth Llanddowror, ond yr oedd ei hen gyfaill, yr Hybarch. Griffith Jones, wedi noswylio er ys dwy flynedd. Eithr galwodd i weled Madam Bevan; ceisiodd siarad â hi am amryw bethau perthynol i grefydd, ond nid oedd yn barod i gofleidio ei syniad ef parthed cael undeb rhwng yr oll o bobl yr Arglwydd, ac yr oedd yn gryf yn erbyn pregethu lleygol. Gwrthododd giniawa gyda Madam Bevan, a brysiodd i Gaerfyrddin, lle y pregethodd am ddwy awr glir, gydag awdurdod, a bywyd, ac effeithioldeb, i dorf o amryw filoedd, oddiar y geiriau: "A thi a elwi ei enw ef lesu." Yn hwyr yr un dydd, pregethodd yn Brechfa, Sir Gaerfyrddin, ar gyfiawnhad a sancteiddhad. Dranoeth, cawn ef yn Llansawel, lle y mae Williams, Pantycelyn, yn cyfarfod ag ef. Anghrediniaeth oedd mater Williams; darluniai ef fel y gwaethaf o'r holl bechodau, a dywedai pan y cawn ffydd i weled y byd hwn a'i deganau fel dim, yr awn i ddibrisio ei wŷr mawr, ac y gallwn lawenhau yn wastadol. "Yr oeddwn yn caru yr yspryd a'r llais," meddai Harris. Pregethodd yntau yn ganlynol; "Trwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," oedd ei destun; yr oedd myn'd ar y bregeth hon yn wastad, a chafodd hwyl arni yn Llansawel. Wedi pregethu Wedi pregethu yn Llanymddyfri ar yr heol, i gynulleidfa yn rhifo dros dair mil, dychwelodd i Drefecca yn hapus ei yspryd. Cawsai ei sirioli yn ddirfawr gan gymdeithas cyfeillion na welsai wynebau llawer o honynt er ys tair-blynedd-ar-ddeg.

Yn ystod y daith flaenorol, gwahoddasai y Gymdeithasfa ganlynol i Drefecca, lle nad oedd cynulliad o'r fath wedi bod oddiar yr ymraniad, a chydsyniai y brodyr gyda phob parodrwydd. Yr oedd ei galon yn dychlamu ynddo wrth feddwl am gael y fraint o groesawu gweision Duw; dywed fod ugain o welyau at eu gwasanaeth ganddo ef yn Nhrefecca, heblaw cyflawnder o letyau yn y ffermdai o gwmpas. Fel hyn yr ysgrifena: Trefecca, Mai 18. Y Gymdeithasfa unedig gyffredinol gyntaf. O! Jiwbili! Neithiwr, am saith, daeth Mr. Rowland yma, a'i fab, Mr. Edward Rowland, yn nghyd â William Richard, William Richard, yr ail, David William Rees, John Thomas, Thomas Gray, y gweinidog Ymneillduol, cuwrad o'r enw Lewis, yn nghyd â Popkins a William John, dau gynghorwr. Daeth wyth o fenywod a saith o ddynion yn ychwanegol. Wedi cael taer anogaeth, pregethais ar dlodi ein Hiachawdwr. Cefais nerth ac awdurdod anarferol. Derbyniais hwynt oll gydag yspryd gostyngedig, ac yn yr Arglwydd, llefwn am i'r Arglwydd ddyfod in mysg i'n bendithio, yr hyn hefyd a wnaeth yn ehelaeth. Y boreu hwn yr oeddwn i fynu am chwech, boreufwyd am saith, ac am wyth eisteddasom yn nghyd. Erbyn hyn, yr oedd amryw yn ychwanegol wedi cyrhaedd, sef Mr. Peter Williams, John Williams, Jeffrey, Stephen Jones, a David Williams. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Howell Davies, William Williams, John Richard, a John Harry, yn esbonio eu habsenoldeb. Eglurais iddynt y modd y danfonasent am danaf bedair blynedd yn ol, ac y daethwn i gyfarfod Llansawel; nas gallwn uno â hwy, oddigerth fy mod yn cael sicrwydd eu bod oll yn yr Eglwys Sefydledig; ac oni unant yn addoliad a chymundeb eglwys y plwyf, eu bod yn sect newydd; a phan y bydd Mr. Rowland farw, y rhaid iddynt gael gweinidogion Ymneillduol drostynt oll. Dywedais nad oeddwn yn wrthwynebol iddynt fyned i gapelau, a derbyn y cymundeb o law Mr. Rowland, tan ddysgyblaeth ac arholiad priodol. Cydunodd pawb i aros i mewn (yn yr Eglwys), os gallent berswadio y bobl i foddloni. Yna, dangosais yr angenrheidrwydd anorfod am ddysgyblaeth, a dechreu yn y Gymdeithasfa gyda y cynghorwyr, y rhai y dylid eu harholi yn fanwl; yna, yn y seiadau, a chael trefniant priodol gyda golwg ar deuluoedd; heb hyn, yr ai y cyfan i annhrefn. Cydunodd pawb, ac unasant i geisio fy nghymorth gyda hyn, am fod fy lle yn wag er pan yr ymadewais. Wedi penderfynu cyfarfod yn mhen pythefnos eto, torwyd y cyfarfod i fynu."

Yn y difyniadau uchod gwelir athrylith arbenig Howell Harris yn amlwg; ei hoffder o drefn, ei ofal am ddysgyblaeth; ac hefyd ei ymlyniad cryf wrth Eglwys Loegr. Wedi y cyfarfod preifat, yr oedd yr odfa gyhoeddus yn yr awyr agored yn y pentref; daethai cynulleidfa anferth yn nghyd, nid yn unig o'r cymydogaethau cyfagos, ond hefyd o gyrau pellenig y sir, ac o Sir Forganwg. Diau fod son am Drefecca, a'r sefydliad hynod a gynwysai, wedi ymledu dros y wlad; a thueddai hyn, yn nghyd a'r swyn oedd yn nychweliad Harris at ei hen gyfeillion, i dynu pobl yn nghyd. Popkins a bregethai yn mlaenaf; ei destun oedd: "Dy briod yw yr hwn a'th wnaeth;" dynoda Harris hi fel un dra Chalfinaidd; gellir darllen rhwng y llinellau y golygai hi yn tueddu at Antinomiaeth. "Ond," meddai, "pan y cododd Rowland ar ei ol, ac yr agorodd ei enau, teimlais yr Arglwydd yn llanw fy yspryd, a fy holl rasau yn cael eu cyffroi. Teimlwn mai fy mrawd ydoedd, fy mod yn ei garu, a llawenychwn wrth ei glywed y dydd hwn. Ei destun ydoedd; Cysurwch, cysurwch fy mhobl;' yr oedd yn dra argyhoeddiadol, gan ddangos nad oes eisiau cysur ar y rhai sydd yn hapus yn y cnawd. Yr oedd awelon melus yn chwythu dros y cyfarfod; daeth y mawr ragorol ogoniant i lawr; ysgydwid y cwbl; yn wir, y mae yr Arglwydd wedi ymweled â ni yn ei gariad." Pan yr oedd yspryd Howell Harris yn ei le, byddai gweinidogaeth Daniel Rowland yn wastad yn ei orchfygu, ac y mae yn amlwg ei fod yn awr wedi toddi yn swp tan ei dylanwad. Tranoeth, ysgrifena: "Y ddoe, cefais ryddid i ofyn i'r Arglwydd ddyfod i lawr a'n bendithio, gan fy mod yn gweled mai peth anarferol yw gwneyd i fynu rwyg yn nhŷ Dduw, a dwyn Israel a Judah yn nghyd drachefn. Llefwn y gwyddai mai er ei fwyn ef yr oeddwn wedi eu gwahodd yma, ac fel y gallwn inau gyfranogi o'u bywyd a'u bendith. Yr oeddwn yn ddedwydd wrth eu gwrando. Am dri, aethom i giniaw; ac yr oeddym yn hapus. Datgenais fy serch atynt; gwelwn mai Rowland yw eu tywysog, a'u bod yn plygu iddo, ac yr oeddwn yn llawen am hyny." Hawdd darllen serch angerddol at Daniel Rowland yn treiddio trwy bob brawddeg. Am bedwar, pregethodd Peter Williams, am yr afon bur o ddwfr y bywyd, a phren y bywyd yn tyfu o'r ddau tu. Cafodd ddylanwad mawr. "Yr oedd yma lawer," meddai Harris, “o Sir Aberteifi a lleoedd eraill, yn canu ac yn molianu; yn sicr, y mae Duw wedi ateb ein gweddi, ac wedi tynu ymaith ein gwaradwydd." adwydd." Aeth pawb ymaith yn hapus, ac yn llawn o gariad. Yr unig beth anhyfryd yn y Gymdeithasfa oedd gwaith Popkins, yr hwn a feddai yspryd pigog a chwerw, yn ceisio rhoddi sèn i'r Diwygiwr o Drefecca.

Yn sicr, gyda yr eithriad o'r dydd y cafodd ollyngdod oddiwrth ei faich bechod, adeg ei argyhoeddiad, y diwrnod hwn, pan y teimlai ei fod yn cael ei dderbyn yn ol i fynwes ei frodyr, oedd yr hapusaf a gafodd Howell Harris ar y ddaear. "O'r Arglwydd y mae hyn," meddai. Bellach, y mae galwadau yn gwlawio arno o bob cyfeiriad. Yr wythnos ganlynol i'r Gymdeithasfa, cawn ef yn cofnodi ei fod wedi derbyn gwahoddiadau o Blaen Crai, Trecastell-yn-Llywel, Merthyr, Tir Abbad, Hay, a lleoedd eraill. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn Mryste, aeth i Bath; a chawn ef ar y dydd cyntaf o Fehefin yn Nghaerdydd. Llandaf, cyfarfyddodd â Mrs. Jones, Ffonmon, "dynes syml, ddiragfarn," yr hon a'i hysbysodd am erledigaeth yn tori allan, a bod y barnwyr ar y fainc yn datgan yn erbyn y diwygiad, a'i bod yn cael ei rhybuddio i godi trwydded ar ei thy. I hyn yr oedd Harris yn anfoddlawn; sawrai yn ormodol o Ymneillduaeth, a chynghorodd hi i ymddiddan a'r esgob. Aeth i'r Aberthyn, lle yr addawsai gyfarfod Rowland mewn Cymdeithasfa Fisol; eithr cyn iddo gyrhaedd, yr oedd y cyfarfod drosodd, a'r bobl wedi ymwasgaru. Eithr casglwyd cynulleidfa drachefn, a phregethodd yntau ar: "A hwy a edrychant arnaf fi, yr hwn a wanasant." Oddiyma, teithia i'r Pil, ac Abertawe, lle yr oedd tua phedair mil yn gwrando, a Llansamlet, a Phontneddfechan, o'r hwn le dychwela i Drefecca yn llesg o gorph. Yn mis Gorphenaf, yr ydym yn ei gael yn Llundain, er mwyn bod yn bresenol yn nghynhadledd y Wesleyaid. Yno ceisiwyd ganddo gan Mr. Charles Wesley i anerch y pregethwyr, yr hyn a wnaeth yntau. Dywedodd wrthynt fod yn dda ganddo weled y fath gariad a'r fath symlrwydd yn eu mysg, a bod y gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr yspryd y cafodd ei ddechreu; lle yn wag er pan yr ymadewais. Wedi penderfynu cyfarfod yn mhen pythefnos eto, torwyd y cyfarfod i fynu."

Yn y difyniadau uchod gwelir athrylith arbenig Howell Harris yn amlwg; ei hoffder o drefn, ei ofal am ddysgyblaeth; ac hefyd ei ymlyniad cryf wrth Eglwys Loegr. Wedi y cyfarfod preifat, yr oedd yr odfa gyhoeddus yn yr awyr agored yn y pentref; daethai cynulleidfa anferth yn nghyd, nid yn unig o'r cymydogaethau cyfagos, ond hefyd o gyrau pellenig y sir, ac o Sir Forganwg. Diau fod son am Drefecca, a'r sefydliad hynod a gynwysai, wedi ymledu dros y wlad; a thueddai hyn, yn nghyd a'r swyn oedd yn nychweliad Harris at ei hen gyfeillion, i dynu pobl yn nghyd. Popkins a bregethai yn mlaenaf; ei destun oedd: "Dy briod yw yr hwn a'th wnaeth;" dynoda Harris hi fel un dra Chalfinaidd; gellir darllen rhwng y llinellau y golygai hi yn tueddu at Antinomiaeth. "Ond," meddai, "pan y cododd Rowland ar ei ol, ac yr agorodd ei enau, teimlais yr Arglwydd yn llanw fy yspryd, a fy holl rasau yn cael eu cyffroi. Teimlwn mai fy mrawd ydoedd, fy mod yn ei garu, a llawenychwn wrth ei glywed y dydd hwn. Ei destun ydoedd; Cysurwch, cysurwch fy mhobl;' yr oedd yn dra argyhoeddiadol, gan ddangos nad oes eisiau cysur ar y rhai sydd yn hapus yn y cnawd. Yr oedd awelon melus yn chwythu dros y cyfarfod; daeth y mawr ragorol ogoniant i lawr; ysgydwid y cwbl; yn wir, y mae yr Arglwydd wedi ymweled â ni yn ei gariad." Pan yr oedd yspryd Howell Harris yn ei le, byddai gweinidogaeth Daniel Rowland yn wastad yn ei orchfygu, ac y mae yn amlwg ei fod yn awr wedi toddi yn swp tan ei dylanwad. Tranoeth, ysgrifena: "Y ddoe, cefais ryddid i ofyn i'r Arglwydd ddyfod i lawr a'n bendithio, gan fy mod yn gweled mai peth anarferol yw gwneyd i fynu rwyg yn nhŷ Dduw, a dwyn Israel a Judah yn nghyd drachefn. Llefwn y gwyddai mai er ei fwyn ef yr oeddwn wedi eu gwahodd yma, ac fel y gallwn inau gyfranogi o'u bywyd a'u bendith. Yr oeddwn yn ddedwydd wrth eu gwrando. Am dri, aethom i giniaw; ac yr oeddym yn hapus. Datgenais fy serch atynt; gwelwn mai Rowland yw eu tywysog, a'u bod yn plygu iddo, ac yr oeddwn yn llawen am hyny." Hawdd darllen serch angerddol at Daniel Rowland yn treiddio trwy bob brawddeg. Am bedwar, pregethodd Peter Williams, am yr afon bur o ddwfr y bywyd, a phren y bywyd yn tyfu o'r ddau tu. Cafodd ddylanwad mawr. "Yr oedd yma lawer," meddai Harris, “o Sir Aberteifi a lleoedd eraill, yn canu ac yn molianu; yn sicr, y mae Duw wedi ateb ein gweddi, ac wedi tynu ymaith ein gwaradwydd." adwydd." Aeth pawb ymaith yn hapus, ac yn llawn o gariad. Yr unig beth anhyfryd yn y Gymdeithasfa oedd gwaith Popkins, yr hwn a feddai yspryd pigog a chwerw, yn ceisio rhoddi sèn i'r Diwygiwr o Drefecca.

Yn sicr, gyda yr eithriad o'r dydd y cafodd ollyngdod oddiwrth ei faich bechod, adeg ei argyhoeddiad, y diwrnod hwn, pan y teimlai ei fod yn cael ei dderbyn yn ol i fynwes ei frodyr, oedd yr hapusaf a gafodd Howell Harris ar y ddaear. "O'r Arglwydd y mae hyn," meddai. Bellach, y mae galwadau yn gwlawio arno o bob cyfeiriad. Yr wythnos ganlynol i'r Gymdeithasfa, cawn ef yn cofnodi ei fod wedi derbyn gwahoddiadau o Blaen Crai, Trecastell-yn-Llywel, Merthyr, Tir Abbad, Hay, a lleoedd eraill. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn Mryste, aeth i Bath; a chawn ef ar y dydd cyntaf o Fehefin yn Nghaerdydd. Llandaf, cyfarfyddodd â Mrs. Jones, Ffonmon, "dynes syml, ddiragfarn," yr hon a'i hysbysodd am erledigaeth yn tori allan, a bod y barnwyr ar y fainc yn datgan yn erbyn y diwygiad, a'i bod yn cael ei rhybuddio i godi trwydded ar ei thy. I hyn yr oedd Harris yn anfoddlawn; sawrai yn ormodol o Ymneillduaeth, a chynghorodd hi i ymddiddan a'r esgob. Aeth i'r Aberthyn, lle yr addawsai gyfarfod Rowland mewn Cymdeithasfa Fisol; eithr cyn iddo gyrhaedd, yr oedd y cyfarfod drosodd, a'r bobl wedi ymwasgaru. Eithr casglwyd cynulleidfa drachefn, a phregethodd yntau ar: "A hwy a edrychant arnaf fi, yr hwn a wanasant." Oddiyma, teithia i'r Pil, ac Abertawe, lle yr oedd tua phedair mil yn gwrando, a Llansamlet, a Phontneddfechan, o'r hwn le dychwela i Drefecca yn llesg o gorph. Yn mis Gorphenaf, yr ydym yn ei gael yn Llundain, er mwyn bod yn bresenol yn nghynhadledd y Wesleyaid. Yno ceisiwyd ganddo gan Mr. Charles Wesley i anerch y pregethwyr, yr hyn a wnaeth yntau. Dywedodd wrthynt fod yn dda ganddo weled y fath gariad a'r fath symlrwydd yn eu mysg, a bod y gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr yspryd y cafodd ei ddechreu; mai efe a gawsai yr anrhydedd o fod y lleygwr cyntaf a aeth o gwmpas i bregethu, a darfod iddo fyned at yr esgob bedair gwaith i geisio cael ei urddo, a chael ei wrthod bob tro. Terfynodd ei anerchiad trwy waeddi am undeb cyffredinol, yr hwn a gynwysai y Morafiaid, y Wesleyaid, a'r Methodistiaid. Cafodd bregethu, hefyd, yn nghapel Spittalfields, lle yr oedd cynulleidfa fawr. Yr oedd y syniad am undeb wedi llyncu bryd Harris y pryd hwn; dyna yn benaf a'i dygasai i Lundain; er ei gael, yr oedd yn barod i wneyd pob aberth, oddigerth aberth o wirionedd.

EGLWYS LLANDDEWI-BREFI
Fel ydoedd yn amser Daniel Rowland


Ar y trydydd o Awst, cychwynai i Gymdeithasfa Llangeitho, gan basio trwy Abergwesyn, a Llanddewi-brefi. Teimlai fod Rowland wedi myned yn mhell yn mlaen arno; heblaw ei fod yn offeiriad urddedig, yr oedd y diwygiad presenol wedi cael ei gychwyn trwyddo, ac iddo ef y plygai yr holl gynghorwyr; "ond," meddai, "nid wyf yn eiddigeddu wrtho; yn gyflawn o ogoniant yr ydoedd pan y gwelais ef gyntaf yn y pwlpud yn Defynog." Pan gyrhaeddodd Langeitho yr oedd y Gymdeithasfa wedi dechreu, a Thomas Davies (Hwlffordd?) yn gweddïo; a phregethodd yr un gŵr yn ganlynol, ar y Cristion fel milwr, a Popkins ar ei ol, ar Dduwdod Crist. Wedi ciniaw, pregethodd Howell Harris. Y mae yn amlwg oddiwrth y dydd-lyfr fod Daniel Rowland yn gwneyd yn fawr o hono, ac yn ei anrhydeddu yn mhob modd. Yr oedd y cynghorwyr yn pwyso ar feddwl Harris, a chasglodd Rowland hwy yn nghyd er mwyn iddo eu cyfarch. Ei fater oedd, yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth, onide, nas gallent byth sefyll. Ymddengys mai yr hyn y cwynai yn benaf arno oedd fod y cynghorwyr yn cael myned o gwmpas gwlad fel yr ewyllysient, heb neb yn trefnu eu cyhoeddiadau, na neb yn eu llywodraethu, a'u bod yn gwneyd casgliadau yn y cynulleidfaoedd. Cydunai Williams, Pantycelyn, yn y cwyn; dywedai fod Rowland yn dysgleirio yn y pwlpud, ond nad oedd yn alluog i ddwyn y cynghorwyr i drefn; a chyn i'r diwygiad diweddar dori allan, fod pethau wedi myned i stâd isel yn y seiadau. "Cydunodd pawb i gael dysgyblaeth," meddai Harris. "Dywedodd Mr. Rowland eu bod ol yn gwybod iddo ef o'r dechreu wrthod bod yn ben, pan y cynygiwyd hyny iddo; ei fod wedi dweyd wrthynt bob amser fod fy lle i yn wag er pan yr ymadewais; a'i fod yn parhau yn yr un meddwl, ac yn fy ngalw i i'm lle, yn yr hwn yr oeddwn o'r blaen." Golygai hyn osod Harris, fel cynt, yn arolygwr cyffredinol, gydag awdurdod helaeth dros y cynghorwyr. Rhaid fod Rowland o feddwl tra ardderchog pan y gwnelai y fath gynygiad, a rhaid fod ganddo syniad uchel am ddoethineb ei gyfaill fel trefnydd. Tueddai Howell Davies, modd bynag, i wrthwynebu, am fod Harris yn ceisio undeb rhyngddynt a'r Wesleyaid, a'r Morafiaid; dywedai nad oedd hyny yn bosibl, ac achwynai ar waith John Wesley yn dyfod i Sir Benfro. Modd bynag, daeth yn foddlawn. Yna, cynygiodd Harris fod y tri offeiriad yn unol yn gweithredu fel arolygwyr; gwrthododd pob un; ac yn unfrydol darfu iddynt alw arno ef i gymeryd y lle. Yr oedd arno yntau eisiau amser i ystyried pwnc mor bwysig, eithr addawodd wneyd a allai i gyfarfod y seiadau. Yr oedd Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn gafaelu yn dyn yn Harris, a Howell Davies i raddau; ond yr oedd amryw o'r cynghorwyr, y penaf o ba rai oedd Popkins, yn tueddu i wrthwynebu yn ddystaw; a sibrydent wrth eu gilydd ddarfod iddo gael ei dderbyn yn ei ol fel y mab afradlon.

Y mae un frawddeg o bwysigrwydd hanesyddol yn y dydd-lyfr yn y fan hon, sef: "Y mae Mr. Rowland newydd gael ei fwrw allan o'r eglwysydd." Ceir rhai haneswyr Eglwysyddol am wadu i Rowland gael ei droi allan, am nad oes gofnod am y peth ar lyfrau yr esgobaeth, heb gofio na raid wrth gofnod na phenderfyniad ffurfiol gyda golwg ar guwrad; eithr pe byddai eisiau prawf ychwanegol am beth ag y mae genym dystiolaeth llygad-dystion arno, ceir ef yn y crybwylliad hwn o eiddo Harris, yr hwn sydd yn cael ei ysgrifenu yn Llangeitho, ac yn ol pob tebyg yn nhŷ Daniel Rowland ei hun. O Langeitho aeth Harris, yn nghwmni Howell Davies, i Abermeurig, lle y pregethodd ar barhad. mewn gras. Yna, croesodd trwy Lanymddyfri i Drefecca. Treuliodd ddarn mawr o fis Awst yn Bath ac yn Mryste. Ar yr ugeinfed o Fedi, cychwyna i Lanymddyfri, i ymgynghori â Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn nghyd â William Richards, ar amryw bethau o bwys i'r Cyfundeb. Cyfeiria yma yn fwy manwl at dröad Rowland allan. Fel hyn y dywed: "Y mae Mr. Rowland wedi cael ei droi allan, ac nid yw yn cael ei dderbyn yn ei eglwysydd. Teimlwn ei bod yn galed arno, ei fod ef y cyntaf i gael ei droi ymaith, oddigerth Mr. Harris, Exon; ac efallai fod hyn yn ddechreu erledigaeth gyffredinol. Crefais arnynt am berswadio y bobl, yn (1) I beidio troi at Ddeddf Goddefiad, mai braich o gnawd ydyw hono, ac y gallai gael ei symud. (2) Ar iddynt beidio meddwl am adael yr Eglwys ar gyfrif hyn, rhag i hyny fod yn ddialedd, neu ymddangos felly, ac yn llid at yr esgob oblegyd ei lymder. (3) Ar iddynt beidio siarad yn chwerw am waith yr esgob, rhag i hyny fod yn hedyn drwg, a pheri i ni godi yn erbyn y llywodraeth.' Nis geill dim fod yn fwy clir gyda golwg ar gysylltiad Esgob Tyddewi a thröad Daniel Rowland allan na hyn; ac y mae yn gryfach am ei fod yn dyfod oddiwrth Howell Harris, yr hwn yn awr a lynai wrth Eglwys Loegr trwy y tew a'r tenau. Am y cynghorion a roddai, yr oedd yn rhaid wrth lawer o ras i'w cario allan, ac y mae peth amheuaeth am ddoethineb y ddau gyntaf, o leiaf; dylasai ofyn, ai nid oedd hyn yn awgrym oddiwrth ragluniaeth, yn eu cyfarwyddo i ymffurfio yn blaid ar wahan iddi? Dyma yr awgrym y dysgwyliai ef am dano ugain mlynedd cyn hyn. Yr unig beth a benderfynwyd rhwng y cyfeillion yn Llanymddyfri oedd gohirio dysgyblaeth y cynghorwyr hyd y Gymdeithasfa ddyfodol yn yr un lle.

Treuliodd Howell Harris yr oll o fisoedd Medi a Hydref ar daith yn Lloegr. Ymwelodd â Swyddi Caerloyw, York, Bedford, Lincoln, a Rutland, a threuliodd ryw gymaint o amser yn Llundain. Pregethai yn mysg y Morafiaid, y Wesleyaid, yn nghyd a'r rhai perthynol i Eglwys Loegr a'i derbyniai. Ei brif genadaeth, heblaw cyhoeddi yr efengyl, oedd ceisio uno yr holl seiadau y gellid edrych arnynt fel cynyrch y diwygiad, yn un sefydliad cryf, a'r oll yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig. Y dydd olaf o Dachwedd, y mae yn cychwyn o Drefecca, wedi aros yno yn brin wythnos, i Gymdeithasfa Llanymddyfri. Nid oedd Daniel Rowland yn bresenol; eithr yr oedd Williams, Pantycelyn, wedi dyfod, a William Richards, John Thomas, William Harry, a Peter Williams. Daeth yma i benderfyniad i ail-gymeryd a bod yn arolygwr cyffredinol dros yr holl seiadau, fel y cawsai ei anog yn Nghymdeithasfa Llangeitho; gwelai ei fod nid yn unig yn cael ei garu, ond hefyd ei anrhydeddu. Ymddengys fod William Richard ac yntau yn arbenig yn ymglymu am eu gilydd; ac aethant yn nghyd i Drefecca. Ond yr oedd Popkins ar ei eithaf yn ceisio cynyrchu rhwyg. Dau beth o bwys a grybwyllir ganddo oddiyma i ddiwedd y flwyddyn, sef iddo bwrcasu fferm Trefecca Isaf, gan ei frawd Thomas; ac hefyd iddo, ar anogaeth Evan Roberts, un o'i brif ddynion yn Nhrefecca, brynu chaise. Daeth Evan Roberts a'r chaise ganddo i lawr o Lundain. Ond braidd nad oedd Harris yn rhy yswil i ddefnyddio y cerbyd. wedi ei gael. "O rhyfedd," meddai, "cerbyd yn dyfod i'r lle hwn! Dy waith di, Arglwydd, ydyw hyn."

Gyda dechreu y flwyddyn 1764, rhaid i ni ymfoddloni ar ychydig ddifyniadau o'r dydd-lyfr draw ac yma, y rhai a daflant fwyaf o oleuni ar yr hanes.

Ionawr 3. Price Davies, ficer Talgarth, yn caniatau cymundeb bob mis yn yr cglwys; y newydd yn cael ei gludo i Harris gan John Morgan, y cuwrad, a'i enaid yntau yn llawenychu ynddo o'r herwydd.

Ionawr 22. Harris yn cychwyn i Sir Aberteifi i sefydlu y seiadau, ac am y tro cyntaf yn myned yn ei chaise. Pregethu i dorf o amryw filoedd yn Nghilycwm; yr oedd yn foddlon cadw seiat breifat, ond ni ofynwyd hyn ganddo. Ymweled â Chayo, Llanâ bedr-pont-Stephan, Abermeurig, a chyrhaedd Llangeitho ar y 25ain. Pregethu yno ar y maes i amryw filoedd; yna, cyfarch canoedd yn y capel mewn seiat breifat. Clywed gan Rowland beth oedd ateb Esgob Tyddewi pan yr appeliwyd ato parthed ei wrthwynebiad i'r diwygiad, sef fod y bobl wedi gadael yr Eglwys, ac yn gwarthruddo y clerigwyr; mai dyna y rheswm am droi y cuwradiaid allan, ac na ordeinid neb eto yn dal cysylltiad a'r Methodistiaid. Ymweled â Lledrod; pregethu i dorf anferth, a gosod pob un yn ei le yn y seiat breifat. Ymweled a'r Morfa, Gwndwn, Gwaunifor, Dolgwm, Talyllychau, a Llanymddyfri. Ar y daith hon, Harris yn cynal seiadau preifat am y tro cyntaf gwedi yr ymraniad, yspaid o bedair-blynedd-ar-ddeg; ac yn cael ei argyhoeddi fwy fwy mai Rowland oedd tad y cynghorwyr, a'r prif ddyn mewn cysylltiad â gwaith y diwygiad yn Nghymru.

Cwefror 19. Teulu Trefecca yn eistedd am y tro cyntaf ar yr oriel yn eglwys Talgarth, ac yn canu yn fendigedig, nes yr oedd yr holl eglwys yn llawn o ogoniant. Chwefror 27. Harris yn myned am daith i Blaen Crai, Blaenglyntawe, Castellnedd, Abertawe, a gwlad Gower; dych welyd trwy Gelly-dorch-leithe, a chyrhaedd Trefecca, Mawrth 4.

Ebrill 1. Harris yn myned eto i daith; yn pregethu ar yr heol tua phum' milltir o Lanymddyfri i dorf liosog; cyrhaedd Cross Inn yn hwyr. Pregethu dranoeth yn Nghaerfyrddin, ar Castle Green, i dorf fawr, a chael awdurdod anarferol; wedi ei gymhell, yn pregethu yn y capel drachefn; ac yr oedd Williams, Pantycelyn, Thomas Davies, William John, Evan Richard, a phregethwyr eraill yn gwrando. Y dydd nesaf yn myned i'r Capel Newydd, yn Sir Benfro; yna i Trefdraeth; Abergwaun, lle yr oedd yn curo yn drwm ar y pechod o angrhediniaeth; ac Woodstock, lle y dysgwyliai glywed Howell Davies, a chyfranogi o'r sacrament, gan mai y Sabbath ydoedd, ond y cyfarfod drosodd cyn iddo gyrhaedd. Trwy wlaw dirfawr y daethai yma. Ymweled â Chastellyblaidd, Solfach, a Hwlffordd. Yn y lle diweddaf, cyfarfod â Mr. Nyberg, gweinidog yr eglwys Forafaidd, a theithio yn nghyd i dref Penfro. Yn Mhenfro, Harris yn pregethu yn y capel i dorf fawr, ar, "Gwir yw y gair," Mr. Nyberg yn y pwlpud gydag ef. Dychwelyd trwy Lacharn, Llandilo Fawr, a Llangadog; yn y lle diweddaf, pregethu ar y maes i dorf o amryw filoedd; Rhaiadr, y Tyddyn, a Llanfair-muallt. Cofnoda i'r daith barhau am ddau-ddiwrnod-arbymtheg; iddo bregethu ddeunaw gwaith; teithio dros dri chant o filltiroedd ar hyd ffordd ddrwg, a phe y rhoddid ei holl gynulleidfaoedd yn nghyd, y byddai eu rhif dros haner can' mil.

Mai 9. Harris yn cychwyn i Gymdeithasfa Woodstock, gan basio trwy Drecastell, Caerfyrddin, St. Clears, a Hwlffordd, a phregethu yn mhob un o'r lleoedd hyn, ac yn cyrhaedd Woodstock ar y 15fed. Yn y Gymdeithasfa, y mae Harris yn gwasgu ar Daniel Rowland y dylai ymgymeryd a bod yn ben; yntau yn gwrthod drachefn a thrachefn. Williams, Pantycelyn, yn dweyd fod gan Harris y ddawn oedd eisiau arnynt; mai prif ddawn Rowland, Howell Davies, ac yntau, oedd appelio at y teimladau, a bod Duw gyda hwy felly; ond er pan ymadawsai Harris, nad oedd neb wedi gallu llanw ei le, ei fod yn pregethu yn rhagorol, gan osod Crist uwchlaw pob peth, a'i fod yn gosod pwys ar ddwyn ffrwyth; ond mai dyn ydoedd, ei fod yn boethlyd o dymher, y credai y cynghorwyr ei fod yn amcanu at fod yn ben, ac mai da fyddai pe y llefarai lai am fyned i'r Eglwys. Atebai Harris ei fod am i'r gwaith fyned rhagddo yn yr yspryd y cawsai ei ddechreu, ei fod yn gobeithio y peidiai y gwrthwynebiad (ar ran yr esgob) yn fuan, ac y ceid esgobion efengylaidd. Achwynai fod y bobl yn gadael cymundeb yr Eglwys, ac yn cael cymundeb yn eu tai; a thrwy hyn, fod pellder yn cael ei greu. Gwedi hyn, Popkins yn darllen papyr, ac yn condemnio llun Crist oedd i'w ganfod yn rhai o'r eglwysydd; Harris yn teimlo yn enbyd, ac yn bygwth ymaflyd yn ei het, a myned allan; eithr Rowland a Williams yn llwyddo i'w dawelu. Condemniodd Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, Popkins yn enbyd. Dywedai y diweddaf am dano ei fod mor gyfnewidiol a'r gwynt; amser yn ol, mai Eliseus Cole oedd ei hoff awdwr; gwedi hyny, Erskine, ac ar ol hyny, Hervey; ond yn awr, mai Robert Sandeman oedd ei bob peth. Y Gymdeithasfa yn hapus drwyddi o hyny allan. Ar y maes, y mae Rowland yn pregethu ar Mair yn golchi traed ein Harglwydd, a Harris ar ei ol gyda dirfawr awdurdod. Harris yn dychwelyd yn hapus ei yspryd trwy Hwlffordd, St. Clears, Cross Inn, Llansawel, Llanfihangelfach, a Llangadog. Ni chafodd erioed liosocach cynulleidfaoedd, na mwy o awdurdod wrth draddodi.

Gorphenaf 20. Harris yn myned i Aberhonddu i gyrchu yr Iarlles Huntington i Drefecca. Yno, clywed Daniel Rowland yn pregethu ar yr heol, am bob rhodd ddaionus a pherffaith yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd; a Pheter Williams, ar ei ol, yn Saesneg; yr Arglwydd yn amlwg gyda y ddau. Yr Iarlles yn aros amryw ddyddiau yn Nhrefecca, yn mawr hoffi y lle a'r ddysgyblaeth, ac yn hysbysu Harris fod arni awydd sefydlu coleg i'r pregethwyr yno, fel yr elent allan yn yspryd Trefecca i gyhoeddi Crist; y gallent bregethu yn mysg y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr, a byw yn nhŷ Harris, a bod dan ei ofal. Wrth hebrwng yr Iarlles i Fryste, yn cael ei holi ganddi am Trefecca Isaf, fel y gellid adeiladu y coleg, yr hwn a alwai yn ysgol y prophwydi, yno, gyda Mr. Jordan, oedd ar y pryd yn cadw ysgol ramadegol yn y Fenni, yn brif athraw. Y syniad am gael ysgol y prophwydi i Drefecca yn mawr gymeradwyo ei hun i feddwl Harris.

Aros yn Bath, a Bryste, yn nghyd a'r amgylchoedd, hyd Awst 14. Ar yr 21ain, cychwyn i Gymdeithasfa Llangeitho. Yno, cael rhyw gymaint o deimlad gan y cynghorwyr, ac oblegyd y gwelai duedd i ymadael ag Eglwys Loegr. Williams, Pantycelyn, yn pregethu ar Grist fel cyflawniad o'r holl gysgodau; ar ei ol, Peter Williams yn pregethu; awelon cryfion yn chwythu ar y dorf, llawer yn canu ac yn gorfoleddu, yn arbenig pan y cyfeiriai at yr aberth ar y groes. Wedi ciniaw, Harris yn cyfarch y seiadau preifat, gan ddangos y fath fraint iddynt oedd eu bod allan o uffern, ac yn ngwlad efengyl, a darfod i Dduw mewn un gradd gyffwrdd a'u calonau. Pwysleisiai hefyd ar yr angenrheidrwydd iddynt ddyfod dan ddysgyblaeth. Cael llawer o ryddid wrth eu cyfarch. Popkins yn poenu rhyw gymaint ar Harris eto, trwy ddweyd nas gallai gydweddio â neb a wnelai bictiwr o Grist; eithr Harris yn gallu gweddïo drosto. Penderfynu cyfarfod yn Nghaerfyrddin yn mis Medi i arholi y cynghorwyr, a chynal y Gymdeithasfa nesaf yn Nghastellnewydd-yn-Emlyn. Harris yn dychwelyd trwy Abermeurig, Llanbedr, Llanymddyfri, ac Aberhonddu.

Medi 12, 1764. Harris yn cyfarfod â Williams, Pantycelyn, Daniel Rowland, Howell Davies, a John Sparks, yn nhref Caerfyrddin, i'r pwrpas o arholi y cynghorwyr, a gweled i ba le yr oedd pob un yn gymhwys. Dweyd wrthynt am fwriad yr Iarlles Huntington i gael coleg yn Nhrefecca; ac anog John Sparks i ymryddhau oddiwrth ei fasnach, fel y gallai lwyr ymroddi i'r efengyl. Harris mewn cyfyng gynghor dirfawr parthed a oedd Duw yn ei alw i fyned i blith y bobl, a bod yn dad i'r cynghorwyr; gweled ei anghymwysder oblegyd ei bechodau mewnol ac allanol; o'r diwedd, yr Iachawdwr yn rhoddi boddlonrwydd iddo. Gweled ei fod yn gwahaniaethu i raddau oddiwrth ei frodyr mewn ymlyniad wrth yr Eglwys, a chyda golwg ar gymuno ynddi; nid oedd ef am ffurfio nac eglwys na sect, eithr diwygio Eglwys Loegr. Gwelai hwy, hefyd, yn fwy poblogaidd nag ef, ac yn fwy llwyddianus; a medrai eu hanrhydeddu fel y cyfryw. Arholi y cynghorwyr am ddiwrnod cyfan; Harris yn tori allan i lefain: "O fy mhlant, fel yr wyf yn eich teimlo wedi eich gosod ar fy nghalon! Mor gyfoethog ydwyf, ac mor ddedwydd wrth eich cael yn eiddo i mi eto!" Ychwanega: "Pwy bynag oedd yn y bai yn yr ymraniad, y mae hyny drosodd. O, y fath ymysgaroedd o dosturi a deimlaf atynt. Teimlwn fy mod yn eiddo iddynt i'w gwasanaethu. Y mae ein Hiachawdwr wedi dwyn pethau o gwmpas tu hwnt i ddysgwyliadau neb. Cefais eu bod oll yn un â mi yn y goleuni." Harris yn teimlo fod hwn yn ddiwrnod mawr; dweyd wrth y cynghorwyr ei fod yn eu mysg er ys blwyddyn a haner, ond mai yn awr yr oedd yn dechreu gwneyd gwaith. Yn pregethu ar Castle Green i gynulleidfa liosog, a chael dirfawr ryddid; dychwelyd trwy Cross Inn, a Llanymddyfri, a phregethu i gynulleidfaoedd mawrion yn y ddau le.

Hydref 19. Harris yn cychwyn am Lundain. Yn dychwelyd i Drefecca, Tachwedd 16. Ail tranoeth, y mae yn cychwyn am y Gymdeithasfa yn Nghastellnewydd-yn-Emlyn. Cyfarfod yma â Danâ iel Rowland, Enoch, Benjamin Thomas, William John, Popkins, a Howell Davies. Cael ar ddeall fod rhyw gymaint o ragfarn yn meddyliau y brodyr at y sefydliad yn Nhrefecca; teimlo, hefyd, o herwydd fod Daniel Rowland wedi cael ei gyhoeddi i bregethu ar yr adeg yr oedd Harris i arholi y cynghorwyr; clywed sî fod y cynghorwyr yn edrych arno fel yn tueddu i dra-awdurdodi arnynt. Daniel Rowland, gwedi pregethu, yn brysio at Harris, act yntau yn cwyno nad oedd arnynt eisiau ei ddawn ef (Harris), a bod yn rhaid iddynt ei gymeryd fel yr ydoedd. Yn mhen ychydig, Thomas Davies, Hwlffordd, a John Harry yn dyfod yno, mewn yspryd hyfryd, ac yn gwahodd Harris i Sir Benfro. Myned i fysg y cynghorwyr, tua chant o honynt yn nghyd, a dweyd wrthynt am eu rhagfarn at Drefecca. Hwythau yn cynyg fod y mater yn cael ei gyflwyno i ystyriaeth H. Edwards, a John Evans, y Bala. Yntau yn gwrthod. Clywed ei hun yn cael ei alw yr Yswain Harris," a phryd arall, "Cadben Harris;" teimlo yn anfoddlawn i'r enw cyntaf, ond boddloni i gael ei gyhoeddi fel cadben, os byddai hyny o fantais i'r efengyl. Siarad yn breifat â John Evans, a Humphrey Edwards, o'r Bala, ac addaw myned i'w cynorthwyo. Pregethu am un-ar-ddeg i gynulleidfa fawr, gyda llawer o ryddid a nerth. Rowland yn yn dweyd wrtho ar derfyn yr odfa ei fod meddu yr un llais, a'r un ergyd, ag a feddai ddeng-mlynedd-ar-hugain yn flaenorol; yntau yn ateb na ddymunai gael dim amgenach gan Rowland na'r hyn a glywodd ganddo y tro cyntaf, pan y cyfarfyddasant yn eglwys Defynog. Harris yn myned. am daith i Sir Benfro, gan ymweled ag Eglwyswrw, Dinas, Woodstock, Castellyblaidd, Tyddewi, Tygwyn, Narberth, Hwlffordd, Lacharn, a Chaerfyrddin. A chwedi pregethu yn Llangadog, a Threcastell, cyrhaeddodd Drefecca y dydd cyntaf o Rhagfyr.

Rhagfyr 11, 1764. Harris yn cychwyn. am daith i Sir Drefaldwyn. Pregethu yn mlaenaf yn Llanfair-muallt gyda dylanwad mawr. Pregethu yn y Rhaiadr yn y farchnadfa, i dorf liosog, ar Dduw wedi ymddangos yn y cnawd, a chael llawer o nerth. Croesi y mynydd i Lanidloes, disgyn wrth y Red Lion, ond methu cael drws agored i bregethu; o'r diwedd, y tafarnwr yn caniatau ei dŷ, ond tyrfa mor fawr yn ymgasglu, a swyddogion yr excise yn dyfod yn mhlith y dorf, fel yr aeth yn annhrefn hollol yn y lle. Neuadd y dref yn cael ei gwrthod iddo. Ceisio llefaru mewn tŷ allan bychan, ond methu, am fod y lle yn rhy gyfyng. Cychwyn tua'r Tyddyn; yr un dorf, gyda yr un arweinydd, yn ei ganlyn; neb yn gosod ei law arno, nac ar y cerbyd, eithr ymfoddloni ar floeddio: "Pwy a glywodd son i'n Hiachawdwr erioed eistedd mewn chaise? Pregethu yn y Tyddyn oddiar y geiriau: "A thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," a chael nerth dirfawr i egluro natur dyoddefiadau ein Harglwydd. Yn y Drefnewydd, "Gwir yw y gair" yw y testun. Ymweled â Pool, yr Amwythig, Wenlock, Madeley, Ludlow, Leominster, a Hay, gan ddychwelyd i Drefecca, Rhagfyr 22.

Ionawr 1, 1765. Cychwyn i Gymdeithasfa Llansawel. William Richard yn agor y Gymdeithasfa trwy weddi, a Harris yn traddodi anerchiad miniog i'r cynghorwyr, ac yn cyfeirio gyda chymeradwyaeth mawr at emynau Williams, Pantycelyn. Arholi deuddeg o gynghorwyr. Harris yn y Gymdeithasfa yn anog cael undeb a'r Wesleyaid a'r Morafiaid, ac yn dweyd fod John a Charles Wesley wedi cael cyfarfod i'r pwrpas â Mr. Nyberg, gweinidog y Morafiaid yn Hwlffordd. Daniel Rowland yn dangos rhyw gymaint o wrthwynebiad. Cael bendith wrth glywed Popkins yn pregethu ar: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn?" Dychwelyd i Drefecca, Ionawr 5.

Ionawr 20. Cychwyn i ranau o Forganwg nad oedd wedi bod ynddynt er ys pedair-blynedd-ar-ddeg. Pregethu yn Glascoed i gynulleidfa fechan, ar ddwfn drueni dyn. Yinweled â Maesaleg, ger Casnewydd, ac â Chaerdydd. Llonaid capel o gynulleidfa yn y lle diweddaf yn y boreu, a Harris yn cael nerth dirfawr wrth bregethu. Myned i giniaw gyda Mrs. Jones, Ffonmon; yna, ymweled â Llantrisant, lle y câ fawr ryddid i gyffroi a tharanu oddiar y geiriau: "Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg." Yna, pregethu yn Mhontfaen, Pil, Castellnedd, Abertawe, Gower, Llanelli, a Chaerfyrddin, gan ddychwelyd i Drefecca erbyn Chwefror 2.

Y mae y dydd-lyfr am y gweddill o 1765 ar goll. Erbyn dechreu y flwyddyn ganlynol, yr oedd Howell Harris wedi cael ei argyhoeddi yn drylwyr fod cymeryd ei le cyntefig, fel arolygydd cyffredinol y Cyfundeb Methodistaidd yn Nghymru, yn anmhosibl iddo. Cydgyfarfyddai amryw achosion i effeithio hyn. Gadawer i ni daflu byr olwg ar rai o honynt. (1) Yr oedd neillduaeth, ac absenoldeb o fysg ei frodyr, am dair-blynedd-ar-ddeg, ar ran Harris, yn gyfryw nas gellid dileu ei effeithiau. Er fod Daniel Rowland yn barod, yn wir, yn awyddus i drosglwyddo y llywodraeth iddo; ac er y cyfranogai Williams, Pantycelyn, a Peter Williams, yn yr unrhyw deimlad, yr oedd dosparth o gynghorwyr wedi cyfodi yn ystod y cyfnod hwn, y rhai na adwaenent mo Harris, ac nad oeddynt yn barod i ymddarostwng iddo. Y mae genym sail i gredu fod cryn nifer o honynt, a Popkins oedd eu genau. I Daniel Rowland y tyngent, ac ni oddefent i neb gymeryd y deyrnwialen o'i law.

(2) Yr oedd llywodraeth Harris yn tueddu at fod yn drom. Cawn ef yn datgan drosodd a throsodd yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth yn mysg y cynghorwyr; wrth hyn y golygai ymholi yn fanwl i gymhwysder pob un, trefnu cylch cydweddol a'i allu a'i ddawn i bob cynghorwr i lafurio ynddo; a'i warafun i fyned y tu allan i'r cylch hwnw, pa beth bynag a fyddai y cymhelliad, dan berygl cerydd cyhoedd. Yr ydym yn cofio am John Richard, ac eraill, yn gwingo yn erbyn trefniant manwl, peirianyddol, fel hyn ar y cychwyn cyntaf, a chafwyd peth anhawsder i osod y gwrthwynebiad i lawr y pryd hwnw. Yn awr, pan y mae Harris wedi bod am rai blynyddoedd yn swyddog milwraidd, hawdd meddwl fod ei syniad am ddysgyblaeth ac isddarostyngiad yn gryfach. Dysgwyliai am ufudd-dod ar ran y cynghorwyr i'r arolygwr, cyffelyb i eiddo y milwyr i'w cadben, yr hwn ufudd-dod nid oeddynt hwythau yn barod i'w roddi. O'r ochr arall, y mae yn bur sicr fod llywodraeth Rowland wedi bod i raddau yn llac; caffai y cynghorwyr fyned i bregethu lle y mynent, o leiaf, lle bynag y caent rywfath o wahoddiad, heb fod neb yn ceisio gosod unrhyw rwystr ar eu ffordd. Y tebygolrwydd yw fod cryn annhrefn wedi dyfod i mewn gyda hyn, os nad oedd y rhyddid wedi cael ei arfer weithiau yn achlysur i'r cnawd. Cyfodai holl natur Howell Harris yn erbyn y penrhyddid hwn, ond ni fynai y cynghorwyr, ar ol cael eu ffordd mor hir, gymeryd eu dwyn drachefn dan yr hyn a ystyrient hwy yn iau caethiwed.

(3) Yn ystod amser ei neillduaeth yn Nhrefecca yr oedd Howell Harris wedi ymwasgu yn glosach fyth at Eglwys Loegr. Gwnaethai heddwch a'r hen Brice Davies, ficer Talgarth; llwyddasai i gael cymundeb misol yn yr eglwys yno, a chael yr oriel wedi ei neillduo i gantorion Trefecca; yr oedd Mr. Morgan, y cuwrad, yn gyfaill mynwesol iddo, ac yn ymweled ag ef yn aml. Pan y dechreuasai y clerigwyr a'r esgobion erlid y Methodistiaid, a nacau y cymundeb iddynt, dywedai Harris mai glynu wrth y bobl a wnelai efe, a dysgwyliai eu gweled yn cael eu bwrw allan, fel prawf y bwriadai yr Arglwydd iddynt fyned yn gyfundeb ar wahan. Yn awr, y mae yn benderfynol o lynu wrth yr Eglwys, hyd yn nod pe y gorfyddai iddo gefnu ar ei hen gyfeillion; pan y gwel yr eglwysydd yn cael eu cau yn erbyn Rowland, ei ofal mawr yw na fyddo neb yn dweyd gair chwerw am yr esgob; a pharha i freuddwydio am benodiad esgobion efengylaidd, y rhai osodent y clerigwyr Methodistaidd yn eu holau, ac a ordeinient y penaf o'r pregethwyr lleygol. Yr oedd y Methodistiaid, o'r tu arall, yn ystod cyfnod neillduaeth Harris, wedi ymddyeithrio yn ddirfawr oddiwrth yr Eglwys yn eu teimlad; yr oedd blynyddoedd lawer o erlid, a difrio, a bygwth, wedi gwneyd eu gwaith; ac yn awr yr oedd eu hyspryd yn chwerw ynddynt am fod Daniel Rowland, yr hwn a ystyrid yn dywysog Duw yn eu plith, wedi cael ei fwrw allan o'i eglwysydd. Mewn canlyniad, ni aent i gymuno i eglwys y plwyf; eithr cyfranogent o'r elfenau yn y gwahanol gapelau a benodasid i hyny. Dywed Harris y gweinyddent swper yr Arglwydd mewn tai anedd, yr hyn oedd yn groes iawn i'w deimlad. Yr unig linyn a gysylltai y Methodistiaid a'r Eglwys y pryd hwn oedd, mai gan glerigwyr yn unig y derbyniai y rhan fwyaf o honynt y cymun, ac nad oeddynt wedi ymsymud yn gyffredinol i ordeinio yn eu mysg eu hunain. Yr oedd rhyw arwyddion fod hyd yn nod hyn ar gymeryd lle. Ordeiniasid Morgan John Lewis yn weinidog y New Inn; David Williams yn weinidog yr Aberthyn; a Thomas William, a William Edward yn weinidogion y Groeswen, yn barod; a thybiai Howell Harris y cymerai symudiad mwy cyffredinol gyda golwg ar ordeinio le yn fuan. Ac â hyn ni fyddai iddo na rhan na chyfran.

(4) Nid oedd y Methodistiaid, o ran y cyffredinolrwydd o honynt, wedi cymeryd o gwbl at y sefydliad yn Nhrefecca. Tra yr addefent fod Harris yn bur yn ei fwriad, ac yn gweithredu tan ddylanwad cymhellion anhunangar, credent mai camgymeriad difrifol oedd yr adeilad a'r teulu.

Yr oedd hyd yn nod cyfaill mor drylwyr i Harris a Williams, Pantycelyn, yn ei feio am hyn, fel y dengys y difyniadau canlynol o'i farwnad iddo:

"Pa'm y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn?
Ac anghofiaist dy ddeadell,
Argyhoeddaist ti dy hun?
Y mae plant it' ar hyd Cymru,
Yn bymtheg-mlwydd-ar-hugain oed,
A ddymunasai genyt glywed
Y pregethau cynta' erioed.

Eisiau parch, neu eisiau elw?
Neu ryw fendith is y ne'?
Rhoist ffarwel i'r fyntai ddefaid,
Ac arosaist yn dy le?
Yr oedd canoedd gynnau'n gruddfan,
Ac yn gofyn beth yw hynt
Yr hen udgorn fu'n Nhrefecca,
Ac yn uchel seiniodd gynt?

Ai bugeilio cant o ddefaid,
O rai oerion, hesbion, sych,
Ac adeilo iddynt balas,
A chorlanau trefnus gwych,
Etyb seinio pur efengyl,
Bloeddio'r iachawdwriaeth rydd,
O Gaerlleon bell i Benfro,
O Gaergybi i Gaerdydd?

Pa'm y treuliaist dy holl ddyddiau
I wneyd rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynodd Harri frenhin
Fwy na mil o'r rhai'n i lawr?
Diau buaset hwy dy ddyddiau,
A melusach fuasai 'nghân,
Pe treuliasit dy holl amser
Yn nghwmpeini'r defaid mân.

*****
Trist yw'r ffrwythau a ddigwyddodd
O it' beidio rowndio'r byd;
Mwy fuasai dy ogoniant
Hyn pe buasai'th waith o hyd."


Os mai fel hyn y teimlai cyfaill mor anwyl a Williams ar y mater, diau fod y cyffelyb yn deimlad cyffredinol. Ar yr un pryd, fel y bardd, y mae yn sicr eu bod yn maddeu iddo ei gamgymeriad:-

"Ond mae pawb yn maddeu heddyw;
Mae rhyw arfaeth faith uwchben,
Ag sy'n trefnu pob materion
A ddychmygo dyn is nen."


Ond ni chaniatäi yntau fod arno angen am faddeuant yn nglyn a'r mater hwn, ac yr oedd canfod ei frodyr a'i gyfeillion yn edrych ar y sefydliad yn Nhrefecca gyda llygad drwgdybus yn dra dolurus iddo.

(5) Yr oedd rhyw syniad am undeb cyffredinol rhwng pawb ag feddai ysprydolrwydd crefydd wedi ei feddianu. Breuddwydiai am grynhoi yn nghyd ganlynwyr Whitefield, y Wesleyaid, y Morafiaid, a Methodistiaid Cymru, mewn un undeb mawr. Bu unwaith yn meddwl am osod John Wesley, at yr hwn y meddai anwyldeb diderfyn, fel pen ar yr undeb, ac nid ydym yn sicr nad oedd hyny yn ei feddwl yn bresenol. Tra yr oedd y breuddwyd yma yn llefaru yn uchel am gatholigrwydd yspryd Howell Harris, breuddwyd ydoedd yr oedd yn gwbl anymarferol. Y cyntaf i ddatgan yn erbyn oedd Howell Davies; hwyrach ei fod ef yn teimlo yn ddolurus wrth waith y Morafiaid yn ymsefydlu yn Hwlffordd, fel y teimlai Harris ei hun ar y cyntaf. Nid oedd yr un o'r Methodistiaid yn edrych yn ffafriol ar y syniad; edrychent ar y. peth fel dwyn. estroniaid i mewn, i fedi ffrwyth eu llafur hwy. Awgryma yntau mewn canlyniad eu bod yn gul; mai Iesu Grist a biau yr eneidiau, ac nid hwy.

O herwydd y rhesymau a nodwyd, ac efallai rai eraill, yr oedd Harris yn gwbl argyhoeddedig ddechreu y flwyddyn 1766, nas gallai weithredu fel arolygwr cyffredinol yn mysg y Methodistiaid. Chwefror 19, 1766, cynhelid Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, ac yn hono datganodd ei benderfyniad i beidio ymgymeryd a'r arolygiaeth; eithr y deuai i fysg y Methodistiaid fel cyfaill a char, ac y pregethai yn eu capelau a'u Cymdeithasfaoedd pa bryd bynag y caffai gyfleustra a gwahoddiad, er nad allai ystyried ei hun yn hollol fel un o honynt. Y mae yn deilwng o sylw fod y teimlad goreu yn ffynu rhyngddo â phrif ddynion y Methodistiaid, ac yn arbenig â Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, yr adeg yma; ac i'r brawdgarwch cryfaf fodoli rhyngddynt hyd ddydd ei farwolaeth. Yn y Gymdeithasfa, pregethai John Harry ar eiriau Crist wrth y wraig o Samaria; ar ei ol yr oedd Mr. Gray, olynydd Mr. Pugh yn Llwynpiod, ac Ábermeurig. Ei fater ef oedd, Crist yn esgyn i'r uchelder, yn caethiwo caethiwed, ac yn derbyn rhoddion i ddynion. Am dri, pregethai Daniel Rowland; ei destun ydoedd: "Fy anwylyd sydd eiddof fi; " a chafodd odfa i'w chofio byth. Meddai Harris: "Gwelwn y fath ogoniant digymhar arno rhagor i mi; galluogwyd fi i'w anrhydeddu, ac i lefain ar i'r Arglwydd estyn ei einioes, a'i ddefnyddioldeb. O, fel y dangosodd ddirgelwch yr undeb rhwng Crist a'i eglwys! Dangosodd fod y nefoedd yn. dechreu yma mewn cariad; nad yw angau yn gwneyd unrhyw gyfnewidiad ar y credadyn, oddigerth cynyddu ei rasau. Gwaeddai: Y mae gan bob math o greaduriaid eu cân; ac y mae gan yr eglwys ei chân; a dyma hi: Fy anwylyd sydd eiddof fi! Cenwch hi, gredinwyr! Yr wyf yn dweyd wrthych, cenwch yn mlaen!' Yr oedd yn ogoneddus, mewn gwirionedd." Dyma adroddiad Howell Harris am bregeth ei gyfaill, ac y mae yn amlwg fod yr effaith arno yn orchfygol. Nid oes un hanes genym iddo ef bregethu yn ystod y Gymdeithasfa, eithr bu yn anerch y cynghorwyr gyda difrifwch mawr. Trefnodd, hefyd, daith o dair wythnos of amser trwy ranau o Benfro, a Chaerfyrddin. Yn unol a'r trefniant hwn cawn ef yn ymweled â Narberth, Penfro, Redford, Hwlffordd, Tenant, Llandegege, Abergwaun, Woodstock, Machendre, Capel Newydd, Felindre, Gwaunifor, Glanrhyd, Caerfyrddin, lle y gwrandawai amryw filoedd ar Castle Green, Llanddarog, Llandilo Fawr, a Llangadog; a chyrhaeddodd Drefecca ar y 12fed o Fawrth. Cofnoda mai pregethu yn unig a wnelai ar y daith hon, a chynghori y seiadau a'r pregethwyr ar faterion ysprydol; nad ymyrai bellach ag unrhyw drefniadau, am y teimlai nad oedd ganddo hawl i wneyd hyny.

Ar y trydydd o Ebrill, 1766, yr ydym yn ei gael mewn lle o'r enw Petty France, nid yn nepell o Fryste, mewn cyfarfod perthynol i'r Morafiaid. Wedi cael ei gymhell, llefarodd yn gryf yn erbyn Sandemaniaeth; mynegodd hefyd wrth y pregethwyr Morafaidd fod perygl yn eu mysg i'r Beibl beidio a chael ei wneyd yn rheol i brofi pob peth wrtho. Darllenodd yma hefyd bregeth John Wesley ar gyfiawnder cyfrifedig; hoffai hi yn ddirfawr, ac wrth ei darllen cryfhäi ei obaith gyda golwg ar undeb. Y Sul yr oedd yn Bath. Aeth i'r Eglwys yn y boreu, a chyfranog odd o'r sacrament. Yn y prydnhawn pregethodd yn nghapel y Wesleyaid, ac yn yr hwyr aeth i gapel yr Iarlles Huntington, lle y pregethai Howell Davies. Testun Mr. Davies oedd: "Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfryd lais," a chafodd odfa nerthol. Bu Harris yn ei gymdeithas hyd ddeg o'r gloch. Yn mhen rhyw dair wythnos wedi dychwelyd adref, Harris yn cychwyn am daith i Sir Forganwg a rhanau O Sir Gaerfyrddin. Pregetha gyntaf yn Llanbradach, ffermdy tua phum' milldir o Gaerphili. Tranoeth cawn ef yn Watford, ac yn pregethu yn y capel Ymneillduol; eithr y mae yn pasio y Groeswen heb alw. Cafodd odfa rymus yn Nghaerdydd, wrth lefaru am Dduw yn ymddangos yn y cnawd. Pregethai yn dra argyhoeddiadol hefyd yn St. Nicholas. Ymddengys na chymerodd destun, eithr ei faterion oeddynt, credu, caru, ac edifarhau. Yn Llantrisant taranai yn erbyn hunangyfiawnder. Ei destun yn Mhontfaen ydoedd: "O Israel, ti a'th ddinystriaist dy hun." Yn nesaf cawn ef yn Mhenybont-ar-Ogwr, a phregethodd yn y capel Methodistaidd, a chafodd ryddid dirfawr i ymdrin a'r athrawiaeth am berson ein Harglwydd. Yn Margam, wrth ddrws tafarndy y pregethai; rhifai ei gynulleidfa amryw ganoedd. Ei destun oedd: "Gwir yw y gair;" a thaer gymhellai bechaduriaid hunan-gondemniedig i ddyfod at y Ceidwad. Yn yr Hen Fynachlog, ger Castellnedd, rhifai ei wrandawyr amryw filoedd. Cafodd gynulleidfa dda hefyd yn Abertawe. Wedi tramwy trwy Gower, ac ymweled a Llanelli, Llanedi, Llanon, Golden Grove, a Llangadog, dychwelodd i Drefecca erbyn y 18fed o Fai.

Treuliodd ran fawr o fisoedd Gorphenaf ac Awst, 1766, yn Ngogledd Lloegr, yn mysg y Wesleyaid. Gwnelai ei gartref yn benaf yn Huddersfield, ac elai i'r wlad o gwmpas i bregethu. Bu yn bresenol yn. nghynadledd y Wesleyaid, yn Leeds, ganol Awst. Yn mis Medi cawn ef yn ymweled ag amryw leoedd yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd gynulleidfa anferth yn Llanymddyfri, yn rhifo amryw filoedd. Porthi praidd Duw oedd ei fater; llefarai yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan fod amryw fawrion yn bresenol, ac yr oedd cryn ddylanwad yn cydfyned a'r weinidog aeth. Cafodd odfa rymus hefyd yn Llangadog; eithr bu bron a digio wrth ŵr y tafarndy, lle y lletyai, am na chaffai dalu am ei le, a lle ei geffyl. Yr oedd gan y Methodistiaid gapel newydd yn Nhrecastell. Yno cyfarfyddodd Harris a thuag ugain o aelodau y seiat, a rhoddodd lawer o gynghorion buddiol iddynt. Dau ddiwrnod y bu gartref cyn cychwyn am Orllewin Lloegr. Yn mis Tachwedd, bu am daith faith yn Sir Forganwg. A diwedd y flwyddyn cawn ef yn Llundain. Yr ydym yn cyfeirio at y teithiau cyson hyn, er dangos anghywirdeb y dyb gyffredin ddarfod i Howell Harris gau ei hun i fynu yn Nhrefecca flynyddoedd olaf ei fywyd, gyda'r eithriad o ambell i ymweliad achlysurol a wnelai i fanau lle y caffai wahoddiad. Yn wrthwyneb i hyny, cawn fod ei deithiau yn fynych a meithion, a'i ymroddiad i gyhoeddi yr efengyl yn ddiderfyn.

Treuliodd Howell Harris y ddau fis cyntaf o'r flwyddyn 1767 yn Brighton, gan bregethu yn mysg y Morafiaid, a'r Wesleyaid, ac ymweled â Llundain yn awr ac yn y man. Y mae y dydd-lyfr oddiyno hyd ddiwedd y flwyddyn ar goll. Ond yr ydym yn cael ei fod yn bresenol yn nghynadledd y Wesleyaid, a gynhaliwyd yn Llundain, mis Awst. Y peth cyntaf a gawn am dano yn 1768 yw, ei fod yn myned i Gymdeithasfa y Methodistiaid, a gynhelid yn Nghayo, Chwefror 17. Ar y ffordd yno, teimlai fod yn rhaid wrth ryw gymaint o ffydd i fyned fel ymwelydd i gyfarfod lle yr arferai fod yn rheolwr. Cyfarfyddodd â Rowland, a gofynai iddo a oedd pawb yn foddlon i'w bresenoldeb. Wedi cael atebiad cadarnhaol, aeth i'r cyfarfod neillduol, ac ar gais Williams, Pantycelyn, traddododd anerchiad i'r cynghorwyr. Cafodd ryddid mawr gyda hyn. Gwahoddai y Gymdeithasfa ef yn unfrydol i ddyfod i'w mysg; atebai yntau ei fod yn foddlawn ymweled â hwy pa bryd bynag y byddai arnynt ei angen. Mynegodd am y coleg a y coleg a fwriadai Iarlles Huntington sefydlu yn Nhrefecca, ond cafodd fod cryn ragfarn yn ei erbyn. Yna, ymollyngodd i lefaru am ffydd, hunanymholiad, a darllen y Beibl. Wedi iddo orphen, cyfododd Williams ar ei draed i gefnogi ei sylwadau. Yn yr odfal gyhoeddus, pregethai Daniel Rowland ar y geiriau: "Glanha fi ag isop, a mi a lanheir; golch fi, a byddaf wynach na'r eira." Meddai Harris: "Wrth ei glywed yn pregethu mor effeithiol am waed Crist, a'r angenrheidrwydd am daenelliad o hono ar y gydwybod, ac yn gwrthwynebu golygiadau Sandeman, gan wahodd pawb yn daer at yr Iesu, a hyny mewn modd na chlywais ef yn gwneyd erioed o'r blaen, teimlwn gariad mawr ato ac at y bobl. Wedi gofyn genyf, llefarais inau, am edrych ar ein Hiachawdwr a'i ddyoddefiadau. Fel yr oedd Rowland wedi dangos am waed Crist, ei fod yn sancteiddio ac yn gogoneddu, cadarnheais inau ei ymadroddion. Cefais ryddid dirfawr i bregethu yr Iesu." Y mae yn amlwg iddo gael odfa dda, ac ymadawodd a'i hen frodyr a'i galon yn gynhes tuag atynt, ac felly yr oeddynt hwy ato yntau. Y noson hono pregethai yn Llanymddyfri; yr oedd Williams wedi dychwelyd gydag ef. Aflonyddwyd ar y cyfarfod gan glerigwr meddw, a bu Harris yn dra llym wrtho.

Er fod yr Iarlles Huntington wedi hir goleddu y syniad am gael coleg yn Nhrefecca, ni chyflawnwyd y bwriad hyd Awst 24, 1768, dydd pen blwydd yr Iarlles. Agorwyd y colegdy, yr hwn oedd ar dir Harris yn Nhrefecca Isaf, gyda phregeth gan Whitefield, oddiar Ex. xx. 24: Yn mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf." Y Sul canlynol, pregethodd yr un gŵr drachefn, yn yr awyr agored o flaen y colegdy, i gynulleidfa o amryw filoedd. Ymddengys mai yr hyn at barodd i'r Iarlles roddi ei bwriad mewn grym yn awr, oedd gwaith Prifysgol Rhydychain yn esgymuno allan o honi chwech o ddynion ieuainc, oblegyd eu tuedd at Fethodistiaeth. Bu hyn yn achlysur cyffro dirfawr, a rhoddodd friw i deimladau y rhai a garent grefydd efengylaidd. Y chwech hyn, gellid meddwl, a ffurfient flaenffrwyth efrydwyr Trefecca, ac ychwanegwyd atynt o bob rhan o Gymru a Lloegr, nes y chwyddodd y rhif i fod tua deg-ar-hugain. Wedi bod yn ddyfal wrth eu gwersi ar yr wythnos, cychwynai yr efrydwyr i wahanol gyfeiriadau ar y Sadwrn i bregethu yr efengyl; ac i'r rhai a elent i deithiau pell yr oedd yr Iarlles wedi parotoi ceffylau. Pregethent yn mysg pob enwad yn ddiwahaniaeth, ond yn benaf yn mhlith y Methodistiaid. Y mae yn deilwng o sylw mai coleg i bregethwyr ydoedd; ni chaffai neb fyned iddo oddigerth iddo roddi prawf boddhaol ei fod wedi cael ei argyhoeddi i fywyd, a datgan ei benderfyniad i lwyr ymgyflwyno i wasanaeth yr Iesu. Llywydd cyntaf y sefydliad oedd y Parch. John Fletcher, ficer Madeley, yn Sir Amwythig, gŵr a haedda fwy o sylw nag a allwn roddi iddo. Brodor o Switzerland ydoedd, ac ymddengys ei fod yn disgyn o un o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd. Braidd na ellir dweyd ei fod yn dduwiol o'r groth, a'i brif ddymuniad pan yn llanc oedd cael gwasanaethu Crist yn yr efengyl. Yn y flwyddyn 1752, pan yn bedair-blwydd-ar-hugain oed, daeth i Loegr er dysgu yr iaith Saesneg. Yma daeth i gyffyrddiad â John Wesley, ac ymrestrodd yn aelod o'r seiat Fethodistaidd yn Llundain. Yn y flwyddyn 1757, cafodd ei ordeinio yn ddiacon gan Esgob Henffordd; ac yn bur fuan cafodd, ar lythyrau cymeradwyol Esgob Bangor, ei ordeinio yn offeiriad gan Esgob Llundain. Ddiwrnod ei ordeiniad, cynorthwyodd John Wesley i weinyddu sacrament swper yr Arglwydd yn ei gapel yn Llundain. Yn y flwyddyn 1760, penodwyd ef i ficeriaeth Madeley. Ymddengys ei fod yn ysgolor gwych, ac yn dduwinydd da, a'r fath oedd ymddiried John Wesley ynddo, fel y bwriadai iddo fod yn olynydd iddo fel pen y cyfundeb Wesleyaidd. Hyn, modd bynag, a rwystrodd angau. Nid ymddengys y gwnelai Fletcher ragor, fel llywydd yr athrofa yn Nhrefecca, nag ymweled a'r sefydliad yn awr ac yn y man, fel y caffai hamdden.

Pwy oedd athraw cyntaf yr athrofa sydd fater a rhyw gymaint o dywyllwch o'i gwmpas. Gwnaethai un John Jones, pregethwr teithiol yn mysg y Wesleyaid, a gwr o haniad Cymreig, yn ddiau, gais am y swydd. Yr oedd John Jones yn ysgolhaig clasurol gwych, ac yn awdwr gramadeg Lladin o fri; dywedasai Charles Wesley am dano, mai efe oedd y cymhwysaf o bawb a adwaenai i addysgu dynion ieuainc. Ond oblegyd rhyw ffolinebau oedd yn nglyn ag ef, ac yn arbenig oblegyd iddo gymeryd ei urddo gan esgob perthynol i Eglwys Groeg, nid yw yn ymddangos iddo gael yr appwyntiad. Yn hanes bywyd yr Iarlles Huntington, dywedir mai un Joseph Easterbrook, mab i grïwr yn Mryste, ac un a gawsai ei ddwyn i fynu yn ysgol y Wesleyaid yn Kingswood, oedd athraw y coleg. Y mae Tyerman, modd bynag, yn tybio yn wahanol. Dywed mai yn ysgolfeistr plwyf Madeley y penodwyd Easterbrook; ac felly, er ei fod dan Fletcher, nad oedd un cysylltiad rhyngddo a Threfecca. Ar awdurdod pregeth angladdol o eiddo y Parch W. Agutter, maentymia mai unig athraw Trefecca am y flwyddyn gyntaf, oedd plentyn deuddeg mlwydd oed, o'r enw John Henderson. Fel hyn y dywed Mr. Agutter am Henderson: "Pan nad oedd ond bachgen, cawsai ei gyflogi i weini addysg yn yr ieithoedd clasurol. Pan nad oedd ond deuddeg oed, addysgai mewn Groeg a Lladin yn athrofa Trefecca. Llywydd y coleg ar y pryd oedd Mr. Fletcher, ficer Madeley." mae yn ddiau fod y llanc John Henderson yn mron yn wyrth am ei wybodaeth; a phrawf y difyniad uchod ei fod yn athraw yn Nhrefecca mewn oedran rhyfedd o ieuanc; ond ni phrawf mai efe oedd yr unig athraw. Yr ydym yn credu yn gryf fod Tyerman wedi syrthio i gamgymeriad. Heblaw y gwrthyni o osod plentyn yn unig athraw ar sefydliad a gynwysai ddynion mewn oed, yr ydym yn cael amryw gyfeiriadau yn nydd-lyfr Howell Harris at Easterbrook yn Nhrefecca, er na ddywedir yn bendant ei fod yno yn y cymeriad o athraw. Pwy bynag oedd yr athraw, sicr yw fod cryn lawer o'r gofal yn disgyn ar ysgwyddau Harris. Modd bynag, dechreu y flwyddyn 1770, appwyntiwyd Joseph Benson, hen daid Archesgob presenol Caergaint, yn brif-athraw. Yn Nhrefecca Isaf y bu yr athrofa hyd y flwyddyn 1792. Y flwyddyn hono, gan fod Howell Harris wedi marw er ys amser, a bod prydles Trefecca Isaf wedi rhedeg allan, symudwyd yr athrofa i Cheshunt. Trwy ystod ei fywyd, y mae yn sicr fod cysylltiad agos rhwng Harris a'r athrofa; tan ei ddysgyblaeth ef yr ystyrid y myfyrwyr; byddai yn aml yn traddodi anerchiadau iddynt, ac yn pregethu yn nghapel y coleg. Rhaid fod ei ddylanwad arnynt yn fawr.

Ar yr ail-ar-hugain o Dachwedd, 1768, yr ydym yn ei gael yn cychwyn ar daith faith i Siroedd Caerfyrddin a Phenfro. Ymwelodd â Threcastell-yn-Llywel, Llanymddyfri, Llangadog, Llandilo Fawr, Caerfyrddin, Narberth, Hwlffordd, Woodstock, Eglwyswrw, a Chapel Newydd. Pregethodd drachefn wrth ddychwelyd yn Nghaerfyrddin, a Llanymddyfri, ac yr oedd yn ei ol yn Nhrefecca, Rhagfyr 4. Yr wythnos olaf o'r flwyddyn cawn ef mewn Cyfarfod Misol yn mysg y Methodistiaid yn Llanfrynach, Sir Frycheiniog. Cafodd dderbyniad o'r serchocaf. Llefarodd yntau yn helaeth am ddechreuad y gwaith, addawai ddyfod i'r Cyfarfodydd Misol pa bryd bynag y gelwid am dano, ac anogodd hwy i bwysleisio ar waed ac angau y Gwaredwr. Pregethodd gyda nerth oddiar y geiriau: "Ac ni ddwg neb hwynt allan o law fy Nhad i." Y mae ei eiriau nesaf yn haeddu eu cofnodi, am y cynwysant gryn wybodaeth am sefyllfa yr achos yn Nghymru. "Clywais gan Benjamin Thomas," meddai, "fod pedwarar-hugain o gynghorwyr yn Ngogledd Cymru yn cyfarfod yn fisol ac yn gwarterol i drefnu eu teithiau; fod saith-ugain o aelodau yn y Bala; a bod y gwaith yn llwyddo yn rhyfedd yn Sir Aberteifi. Yn Llangeitho, cyferfydd saith-ugain o blant (y diwygiad) bob wythnos, i weddïo, i ganu, ac i agor eu calonau i'w gilydd; a llawer o rai cnawdol sydd yn cael eu dwysbigo wrth eu gweled a'u clywed. Cyfarfyddant, hefyd, yn Llanddewi-brefi, a lleoedd eraill. Yn Llanddewi-aberarth, Yn Llanddewi-aberarth, lle yr oedd y bobl oll yn gnawdol, y maent wedi adeiladu capel iddynt eu hunain, ac yr oedd Benjamin Thomas yn pregethu ynddo bythefnos yn ol, a chwedi iddo ef orphen, buont yno yn canu ac yn gweddio hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Gwelaf yn amlwg fod yr Arglwydd yn eu mysg, ac yn eu hanrhydeddu. Llawenychwn yn ddirfawr o'r herwydd, a chefais nerth i lefain ar yr Arglwydd dros Rowland, ar iddo gael ei gadw rhag ymchwyddo gan ei lwyddiant, a'i boblogrwydd, ac ar i'r llwyddiant fod yn yr Yspryd." Dengys y difyniad fod diwygiadau nerthol yn ysgwyd Cymru yr adeg hon, a bod y gwaith yn myned rhagddo gyda nerth. Dengys, hefyd, fod yspryd Howell Harris mewn cydymdeimlad llwyr a'i frodyr, y Methodistiaid, a bod eu llwyddiant yn peri i'w galon ddychlamu o'i fewn.

Tua dechreu y flwyddyn 1769 yr ydym yn cael fod llesgedd wedi ei orddiwes, ac ychydig a deithiodd allan o Drefecca. Yn mis Mawrth, y flwyddyn hon, cyfarfyddodd a phrofedigaeth lem trwy farwolaeth ei anwyl wraig. Yr oedd yn ddynes. nodedig o dduwiol, a meddai yn ychwanegol lawer o nerth cymeriad; gallai sefyll hyd yn nod yn erbyn ei phriod, pan y tueddai i fyned i eithafion. Gwaelu yn raddol a wnaeth; deallai ei bod yn tynu at y diwedd, a dywedai wrth Harris am beidio wylo pan ddiangai yr yspryd o'r corph, gan y byddai hi gyda ei Gwaredwr. Eithr wedi y cyfan daeth y diwedd yn sydyn. Yn yr hwyr, pan yr oedd efe mewn cyfarfod crefyddol gyda'r teulu, ac un Mr. Cook yn eu hanerch, dyma floedd Miss Harris allan o ystafell ei mam yn adsain trwy y lle. Rhoddodd yntau i fynu ar unwaith, ac yr oedd yn brin mewn pryd i'w gweled yn anadlu yr anadl olaf. Cafodd ergyd a'i syfrdanodd am amser, oblegyd yr oedd ei serch ati yn angerddol. Meddai: "Cefais ergyd na chefais ei gyffelyb o'r blaen; daeth y llifeiriant dros fy enaid; yr oeddwn yn gyfangwbl o dan y dwfr; cyffyrddasant â gwraidd fy mywyd. Bum am amser dan draed, fel nas gallwn sylwi ar ddim, eithr yn unig galw ar yr Arglwydd; a'r meddwl cyntaf a gefais oedd, ai ergyd mewn cariad ydoedd ei waith yn ei chymeryd ymaith, a gwrthod gwrando ar fy ngweddi am gael ei chadw." Bu mewn pangfeydd enaid enbyd yr adeg hon; dywed mai o ymladdfa i ymladdfa yr yd oedd, a'i fod ef yn dyst o fodolaeth y diafol. Eithr yn y diwedd cafodd oruchafiaeth drwyadl ar y cnawd a'r diafol. Am Mawrth 13, ysgrifena: "Dyma ddydd i'w gofio byth genyf fi, pan y rhoddwyd corph fy anwylaf wraig, yr hon a roddasai yr Arglwydd i mi, i orwedd yn eglwys Talgarth.' Diwrnod ystormus a gwlyb oedd dydd claddedigaeth Mrs. Harris. Yn y tŷ, cyn cychwyn, pregethodd Mr. White, ac yna llefarodd Harris ei hun yn Gymraeg, gan adrodd hanes ei bywyd, a nerth ei chrefydd. Cariwyd y corph gan aelodau teulu Trefecca. Heblaw llawer eraill, yr oedd holl efrydwyr coleg yr Iarlles Huntington yn yr angladd, a chanasant wrth y tŷ, a braidd yr holl ffordd i Dalgarth, er cymaint y gwlaw. Yn yr eglwys, gwasanaethodd y Parch. John Morgan, y cuwrad, a dychwelodd Harris yn ei ol i'r tŷ gwag, er cynifer oedd ynddo, gan deimlo ei fod wedi gosod darn o hono ei hun yn y ddaear. Cofnoda ddarfod iddo roddi menyg duon i'r holl fyfyrwyr, a galarwisgoedd i'r holl wragedd a'r merched yn y teulu, y rhai a rifent un-ar-bymtheg-a-deugain.

Ar y dydd olafo Fawrth y mae yn myned i Lundain, a Brighton, yn benaf ar ymweliad â'r Iarlles Huntington, a'r dydd. cyn y Sulgwyn y dychwelodd i Drefecca. Ar yr wythfed o Orphenaf, cychwynodd am daith i Siroedd Morganwg a Mynwy. Y lle cyntaf a pha un yr ymwelodd oedd Llanbradach; cafodd gynulleidfa fawr, mil o leiaf, ac yr oedd nerth mawr yn cydfyned a'i eiriau pan y rhybuddiai y dorf i ddianc am eu bywyd. Erbyn myned i Gaerphili yr oedd y gynulleidfa yn fwy fyth. Pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg; a chwedi taranu am beth amser arweiniwyd ef i efengylu yn felus. Wedi pregethu yn Llysfaen daeth i Gaerdydd, ac achwyna ei fod yn wael, ac mewn poen dirfawr, a'i fod yn fynych yn colli ei lais wrth lefaru. Yn Baduchaf, yr oedd y gynulleidfa yn fawr, eithr y pregethwr yn gryg; modd bynag, nerthwyd ef o wendid. i lefaru am yr Iesu yn agoryd llygaid y deillion, ac yn gollwng y carcharorion yn rhydd. Y dwfr a rydd ein Harglwydd yn tarddu i fywyd tragywyddol oedd ei fater yn Llantrisant, lle y daethai torf i wrando, ac y cafodd yntau, mewn cryn lesgedd, gymhorth i bregethu. Wedi llefaru yn Mhontfaen, ciniawodd yn Nghastell Ffonmon, a phregethodd y noswaith hono yn Aberddawen gyda mwy o ryddid nac arfer. Yn nesaf, cofnoda ei fod yn pregethu yn Llangana, "plwyf Mr. Jones," meddai; a phan gofir mai yr Hybarch Jones, Llangan, oedd y Mr. Jones hwn, y mae y crybwylliad o ddyddordeb. Nid yw yn ymddangos fod Mr. Jones yn gwrando. Wedi ymweled a Phenybont, aeth i'r Pîl; achwyna ar y gwres, a'i lesgedd yntau, eithr, fel arfer, pan aeth i lefaru nerthwyd ef yn rhyfedd. Yn eglwys Llanilltyd, ger Castellnedd, clywodd bregeth ardderchog, ar berson Crist, gan offeiriad o'r enw Mr. Jones. Tybed mai Jones, Llangan, ydoedd? Pregethodd yntau yn nghyntedd y Fynachlog i ddeng mil o bobl, o leiaf. Cafodd gynulleidfa lawn mor liosog yn Abertawe, lle y llefarai oddiar lidiart y turnpike. Ni phregethodd drachefn nes cyrhaedd Llandilo Fawr; nerthwyd ef yn ddirfawr yma i son am Dduw yn tynu ymaith y galon gareg. Yn y capel newydd, ger Pontargothi, ei destun ydoedd: "Du wyf fi, ond hawddgar." Llym enbyd ydoedd yn y bregeth hon. Yr ydym yn ei gael yn nesaf yn Nghaerfyrddin, yn ymyl y castell; Duw yn darostwng ucheldrem dynion yw ei fater. Wedi ymweled a Llansawel, daeth i Gilycwm; yn nghanol y pentref y pregethai, oblegyd mawredd y gynulleidfa; ei destun ydoedd: "Os dyoddefwn gyda Christ, ni a deyrnaswn gydag ef." Syna fel y mae yn cael ei gynorthwyo yn y gwaith, ac at y derbyniad a roddir iddo, a'r cariad a ddangosir ato gan bobl Rowland. Cyfeiria hefyd at y tan oedd yn eu mysg. Wedi pregethu yn Nhrecastell i dorf fawr, cyrhaeddodd Drefecca, Gorph. 22ain. Meddai: "Daethum yma neithiwr o gwmpas naw; clywais fawl yr Arglwydd yn cael ei ganu, a dywedais wrth fy mhobl y pethau mawrion a welais, fod yr holl wlad yn addfed i'r cynhauaf; na chefais erioed o'r blaen y fath gynulleidfaoedd, na'r fath ryddid i lefaru, na'r fath wrandawiad. Dywedais, yn mhellach, fy mod wedi dychwelyd i godi eu hysprydoedd, i'w gosod ar dân, ac i dystiolaethu am yr Iachawdwr wrthynt.' Hawdd gweled fod ei daith wedi bod o ddirfawr fendith iddo.

Awst 16eg, 1769, daeth Iarlles Huntington i Drefecca i gadw cylchwyl gyntaf ei choleg, gan ddwyn gyda hi Iarlles Buchan, yr Arglwyddes Anne Erskine, Miss Orton, yn nghyd â'r Parch. Walter Shirley, brawd Iarll Ferrers. I'w chyfarfod daeth Fletcher, llywydd y coleg, Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, Howell Davies, Peter Williams, a John Wesley, yn nghyd â llu o ser llai. Mewn canlyniad i'w dyfodiad cadwyd wythnos o gyfarfodydd pregethu. Boreu dydd Sadwrn, Awst 19, pregethodd Rowland yn nghapel y coleg i gynulleidfa fawr, ar y geiriau: "Ai ychydig yw y rhai cadwedig?" Y prydnhawn gweinyddwyd sacrament swper yr Arglwydd; Fletcher yn anerch y cymunwyr, Williams yn rhoddi allan yr emyn, a'r gynulleidfa yn canu nes yr oedd y lle ar dori gan fawl. Erbyn y nos yr oedd y gynulleidfa yn rhy liosog i'r capel, a phregethodd Howell Harris allan oddiar y geiriau: "Canys daeth yr amser i'r farn ddechreu o du Dduw." Y Sul, yn y cyntedd oddiallan, darllenodd Fletcher y gwasanaeth, a phregethodd Shirley. Am un, gweinyddwyd y cymundeb drachefn, Rowland, Fletcher, a Williams, yn cymeryd rhan. Yn y prydnhawn, pregethodd Fletcher i dorf anferth oddiar y geiriau: "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist;" a Rowland, yn Gymraeg, ar ei ol, oddiar: "Gosodwyd i ddynion farw unwaith." Ymddengys mai dydd Llun y daeth John Wesley, Howell Davies, a Peter Williams i'r lle; a'r dydd hwnw, a'r dyddiau canlynol, cymerasant hwythau ran yn y gwaith. Fel hyn yr ysgrifena John Wesley am ddydd Iau, diwrnod olaf yr wyl: Gweinyddais swper yr Arglwydd i'r teulu. Am ddeg, pregethodd Fletcher bregeth nodedig o fywiog yn y cyntedd o flaen y capel, am fod y capel yn llawer rhy fach. Ar ei ol pregethodd William Williams, yn Gymraeg, hyd nes yr oedd rhwng un a dau. Am ddau ciniawsom. Ar yr un pryd yr oedd torf oddiallan yn cael eu porthi â basgedeidiau o fara a chig. Am dri, cymerais i fy nhro, yna Mr. Fletcher, ac o gwmpas pump gollyngwyd y dyrfa ymaith. Rhwng saith ac wyth, dechreuodd y gariad-wledd, pan y cysurwyd llawer, yr wyf yn meddwl.' Ychwanega fod tŷ Howell Harris, yn nghyd â'r gerddi, a'r perllanau, a'r rhodfeydd o gwmpas, yn baradwys fechan. Sicr fod y cynulliad yn ardderchog; ac wrth ddarllen enwau y rhai oedd yn bresenol, y mae yn anhawdd peidio meddwl am eiriau yr Ysgrythyr: "Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd."

Yn fuan gwedi hyn cymerwyd Howell Harris yn bur glaf, ac nid aeth nemawr allan o Drefecca hyd fis Hydref, pan yr ydym yn ei gael yn cychwyn am daith it Sir Benfro. Yn nghapel Hwlffordd yr ydym yn ei gael yn pregethu gyntaf; yna aeth i Woodstock. Wedi hyny ymwelodd ag Abergwaun, Solfach, Tyddewi, a Gwaunifor. Wrth ddychwelyd pregethodd yn Nghaerfyrddin, Llandilo Fawr, a Llangadog. Cafodd flas mawr ar ei daith. "Yr wyf yn teimlo fel pe bai y wlad yn cael ei rhoddi i mi o'r newydd," meddai. Dyma y daith olaf iddo yn y flwyddyn 1769.

Ar y Sul cyntaf yn Chwefror, 1770, cawn ef yn Nghaerfyrddin, ar ei ffordd drachefn i Sir Benfro. Wedi pregethu yn Narberth, aeth i Hwlffordd, lle y cynhelid Cyfarfod Misol, y cyntaf wedi marwolaeth Howell Davies. Yr oedd yno gynulliad mawr o bregethwyr, cynghorwyr, a stiwardiaid. Wedi i John Harry geisio ganddo, anerchodd y cyfarfod am agos i dair awr. Dywedai iddo ddyfod mewn canlyniad it lythyr oddiwrth Mr. Thomas Davies; pwysleisiai ar yr angenrheidrwydd iddynt. oll adnabod Crist. "Nid oes genym ddim i'w ddweyd trosom ein hunain, ein bod yn myned o gwmpas i bregethu, heb ordeiniad," meddai, “onid ydym yn cael ein hanfon gan yr Yspryd Glân." Cafodd ymddiddan preifat a John Harry, yr hwn a ddywedai fod ganddo fab yn bwriadu myned i Athrofa Trefecca. Y mab hwn, yn ddiau, oedd y Parch. Evan Harris, yr hwn a gafodd ei ordeinio ar y neillduad cyntaf yn 1811, yn Llandilo Fawr. Yn y capel, pregethodd am agos i ddwy awr heb un testun. Pregethodd yn yr un lle nos dranoeth, gyda llawer o ryddid, ar dduwdod y Gwaredwr. Wedi ymweled â nifer o leoedd yn Mhenfro, yn benaf yn y rhan Saesneg, aeth i Woodstock, i gyfarfod Daniel Rowland, ac y mae ei deimlad ar y ffordd yno yn haeddu ei groniclo. "Yr wyf yn myned i Woodstock," meddai, "i gyfarfod Mr. Rowland, er gofyn iddo ef a'r Gymdeithasfa i ddyfod i Drefecca, ac yr wyf yn gadael y canlyniadau i'r Arglwydd. Yr wyf yn cael fod llwyddiant anarferol gydag ef; tros ddwy fil o bobl yn dyfod i'r sacrament yn Llangeitho bob dydd Sadwrn, a hyny dros ddeugain milltir o bellder. O, beth wyfi fi?" Eto dywed:

"Cefais gariad mawr heddyw at Rowland, wrth weled ei fod yn cael ei garu yn fwy nag y cefais i erioed, a'i fod wedi cael mwy o ras na mi i'w gadw yn ostyngedig, ac i fod yn ffyddlawn i'r Arglwydd. Y mae yn fwy ei ddawn a'i awdurdod, ac y mae ei lwyddiant wedi bod yn fwy. A'm holl galon dymunwn ar i'w lwyddiant barhau, ac iddo gael oes hir, a nefoedd yn y diwedd." Hyfryd meddwl fel yr oedd y ddau hen gyfaill, ar ol ymranu am yspaid, wedi dyfod i ddeall eu gilydd, ac fel yr oedd calon y naill wedi ymglymu drachefn am y llall. Testun Rowland ydoedd: "Edrychwch na byddo yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, yn ymado â Duw byw." Cafodd odfa hynod; a gweddïai Harris am iddo gael yr eneiniad yn helaeth yn barhaus. Wedi y bregeth yr oedd y sacrament. "Daeth yr Arglwydd ataf," meddai Harris, "gan ddwyn tystiolaeth i'w gorph a'i waed sanctaidd."

Tranoeth, sef Chwefror 14, 1770, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol yn Abergwaun. Nid yw yn ymddangos fod Harris. yn bwriadu myned yno; ond ar gais unfrydol cyfeillion Sir Benfro efe a aeth. Nid aeth ar ei union i'r cyfarfod neillduol, eithr dywedodd yr elai os gelwid am dano. Yn fuan daeth y gwahoddiad iddo. Y mater tan sylw pan aeth i mewn oedd cynygiad i osod William Davies, Castellnedd, yn arolygwr ar y seiadau yn Sir Benfro, yn lle Howell Davies. Erfyniodd Harris arnynt ymbwyllo, a'i glywed yn gyntaf, a mynu deall a oedd yr Yspryd Glân wedi ei gymhwyso i fod yn dad. Siarsodd hwy hefyd i gymuno hyd y gallent yn eglwys eu plwyf. Yna rhoddwyd gerbron ddymuniad Harris, ar i'r Gymdeithasfa Chwarterol ganlynol gael ei chynal yn Nhrefecca. Gwrthwynebai John Evans, y Bala, yr hwn a ofynai am dani i'r dref hono. Atebai Harris, mai dyma y cais cyntaf a wnaethai atynt er ys ugain mlynedd, ac na fyddent yn dangos llawer o gariad drwy wrthod. Dywedai John Evans yn ol fod


Tranoeth, sef Chwefror 14, 1770, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol yn Aber- gwaun. Nid yw yn ymddangos fod Harris yn bwriadu myned yno ; ond ar gais un- frydol cyfeillion Sir Benfro efe a aeth. Nid aeth ar ei union i'r cyfarfod neillduol, eithr dywedodd yr elai os gelwid am dano. Yn fuan daeth y gwahoddiad iddo. Y mater tan sylw pan aeth i mewn oedd cynygiad i osod William Davies, Castellnedd, yn arolygwr ar y seiadau yn Sir Benfro, yn lle Howell Davies. Erfyniodd Harris arnynt ymbwyllo, a'i glywed yn gyntaf, a mynu deall a oedd yr Yspryd Glân wedi ei gymhwyso i fod yn dad. Siarsodd hwy hefyd i gymuno hyd y gallent yn eglwys eu plwyf. Yna rhoddwyd gerbron ddymun- iad Harris, ar i'r Gymdeithasfa Chwarterol ganlynol gael ei chynal yn Nhrefecca. Gwrthwynebai John Evans, y Bala, yr hwn a ofynai am dani i'r dref hono. Atebai Harris, mai dyma y cais cyntaf a wnaethai atynt er ys ugain mlynedd, ac na fyddent yn dangos Ilawer o gariad drwy wrthod. Dywedai John Evans yn ol fod Harris yn gosod ffafr bersonol iddo ef o flaen daioni y Gogledd. Sut y penderfynwyd y mater ni ddywedir, ond ymddengys mai John Evans a enillodd. Am un-arddeg, gweddïodd Mr. Gray, a phregethodd Mr. Rowland oddiar y geiriau: "Gosod fi fel sêl ar dy galon." Byr iawn y bu, ac nid aeth yn dori allan o dano. Ar ei ol pregethodd Howell Harris. Ni ddywed beth oedd ei destun, ond cafodd nerth dirfawr.

Wedi trefnu ei daith yn Abergwaun, aeth Harris i Bontfaen; yna ymwelodd ag Eglwyswrw, lle yr ymadawodd â John Harry a Thomas Davies; Capel Newydd, Machendref, Caerfyrddin, Llanddarog, Llandilo Fawr, a Llanymddyfri, a chyrhaeddodd Drefecca, Chwefror 24. Yn mis Mai, yn yr un flwyddyn, yr ydym yn ei gael ar daith yn Sir Benfro, ac yn ymweled a'r un lleoedd. Yn Mehefin y mae yn ymweled ag amryw o seiadau Sir Faesyfed, megys Claerwy, Caebach, Dolswydd,. a Phenygorig. Yn Dolswydd bu yn hallt wrthynt, oblegyd eu bod yn taflu eu Cymraeg dros y bwrdd, a phriodolai hyny i falchder Lloegr. Yn Caebach, ger Llandrindod, daeth offeiriad ato ar derfyn y cyfarfod i ddiolch iddo am ei bregeth, gan ddymuno arno fyned trwy yr holl sir a'r athrawiaeth hono. Er na lwyddasai yn Abergwaun i gael y Gymdeithasfa i Drefecca, ac mai y Bala a enillodd, oblegyd mawr daerni John Evans, y mae Howell Harris, yn lle dal dig, yn cychwyn i Gymdeithasfa Llangeitho, Awst 20, gan deimlo mai hyny oedd ewyllys yr Arglwydd. Diau ei fod wedi cael ei wahodd gan Rowland. Ar y ffordd pregethodd yn Llanfair-muallt, Cribat, a Llanwrtyd, Île yr oedd capel erbyn hyn wedi ei adeiladu. Y nos cyn y Gymdeithasfa cyrhaeddodd Dregaron. Nid yw yn ymddangos iddo. gymeryd testun yma, ond llefarodd ar ymbriodi â Christ. Aeth i Langeitho erbyn Aeth i Langeitho erbyn deuddeg dranoeth. Yr oedd rhai canoedd o bregethwyr a stiwardiaid yn y capel newydd. Ni ddywed ddim am yr ymdriniaeth yn y cyfarfod neillduol, ond yn yr odfa gyhoeddus, y prydnhawn cyntaf, pregethodd rhyw frawd o gymydogaeth Wrexham, na roddir ei enw, ar y geiriau: "Canys ni appwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth, trwy ein Harglwydd Iesu Grist." Pregethodd am etholedigaeth, am farwolaeth ein Harglwydd yn boddloni cyfiawnder, ac am fod y pechadur yn cael myned yn rhydd, gan ddarfod i'n Hiachawdwr dalu yr oll a fedrai y ddeddf ofyn. Ymddengys ei bod yn odfa dda. Ar ei ol cyfododd Davies, Castellnedd, gan gymeryd yn destun: "Oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw." Ymddangosai i Harris fod dawn y pregethwr hwn yn fwy, ei oleuni yn gryfach, a'i wybodaeth o'r Ysgrythyr yn fanylach na'r cyntaf, a bod mwy o arddeliad ar ei weinidogaeth. Torai mawl allan drachefn a thrachefn yn mysg y dyrfa, tra y bloeddiai cenad Duw fod Crist wedi cymeryd ein lle, ddarfod ein pechodau ni fyned yn eiddo iddo, a bod ei gyfiawnder ef wedi dyfod yn feddiant i ni.

Yr oedd y dylanwad mor fawr fel braidd nad oedd Harris wedi ei syfrdanu. "Arosais mewn dystawrwydd," meddai, "wrth feddwl fel yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel; gwelwn mai dyma lle y mae Jerusalem, a bod yma ryw fywyd, a nerth, a gogoniant rhyfedd, a'i fod yn ymledu yn mhell ac yn agos." Cafodd Harris y lle mwyaf anrhydeddus, sef deg o'r gloch yr ail ddiwrnod. Ni ddywed beth oedd ei destun, ond yr oedd Duw gydag ef. Dychwelodd y noswaith hono i Dregaron, a phregethodd i dorf fawr. Tranoeth aeth ar ei union dros y mynyddoedd i Drefecca. Dyma y tro olaf iddo i ymweled â Llangeitho; yn wir, dyma ei daith ddiweddaf allan o Drefecca.

Gyda ei fod yn dychwelyd yr oedd ail gylchwyl sefydliad coleg Iarlles Huntington, yn Nhrefecca, yn dechreu. Y mae yr adroddiad a roddir yn Life and Times of Selina, Countess of Huntington, am y rhai oedd yn bresenol, a'r sawl a gymerodd ran yn y cyfarfodydd, yn mhell o fod yn gyson a'r adroddiad a geir yn y dydd-lyfr; a'r tebygolrwydd yw mai y dydd-lyfr sydd yn gywir. Dechreuwyd y cyfarfodydd gyda gweinyddiad o'r cymundeb yn nghapel y coleg, am wyth yn y boreu; cyfarfyddwyd a'r Arglwydd yn y cyfarfod hwn. Yn y prydnawn pregethai Mr. Fletcher, llywydd yr athrofa, ar ddirgelwch Crist. Ar ei ol cyfododd Peter Williams, gan lefaru yn Gymraeg ac yn Saesneg; ei bwnc oedd gwagedd y byd; a phan y dechreuodd son am ogoniant yr Iesu, a bod nefoedd yn ei gariad, aeth yn gyffro mawr yn mysg y bobl, ac yr oedd y lle yn llawn bywyd a gogoniant. Y noswaith hono cynaliwyd cariad-wledd. Tranoeth, pregethodd Harris, ar Daniel yn galaru am anwiredd y bobl; a chofnoda fod y Parch. J. Walters, yr offeiriad, awdwr y Geirlyfr Saesneg a Chymraeg, yn bresenol. Y noswaith hono pregethodd Mr. Walters bregeth bwysig. Yn ychwanegol, cawn fod Simon Llwyd, o'r Bala, yn bresenol, yn nghyd ag un Mr. Hammer, yr hwn hefyd a gymerodd ran yn y gwaith cyhoeddus. Daethai yno hefyd lu o ddyeithriaid, a dywed Harris fod ugain o welyau yn llawn yn ei dŷ ef.

Eithr yr oedd ystorm ar dori uwchben athrofa yr Iarlles yn Nhrefecca. Ddechreu mis Awst, tua phythefnos cyn cylchwyl y coleg yn Nhrefecca, cyfarfu cynhadledd y Wesleyaid yn Llundain. Yno, datganodd John Wesley eu bod fel corph o bobl wedi tueddu yn ormodol at Galfiniaeth, a rhoddodd fynegiant i syniadau llawer mwy Arminaidd. Yn mysg pethau eraill, dywedodd y dylai y Wesleyaid gael eu dysgu i ymdrechu am, ac i ddysgwyl sancteiddhad, nid yn raddol, trwy fywyd o ymdrech, ond yn uniongyrchol. Pan ddaeth cofnodau y gynhadledd i law yr Iarlles, ymofidiodd ei henaid ynddi; nis gallai ymatal rhag tywallt dagrau yn lli, a theimlai fod agendor nas gellid ei chroesi wedi cael ei hagor rhyngddi a chanlynwyr John Wesley. Yr oedd wedi llawn fwriadu. ei gymeryd gyda hi i Drefecca y flwyddyn hon eto; ond yn awr, nis gallai feddwl am hyny. Gan fod Benson, yr athraw clasurol yn yr athrofa, yn Wesleyad zêlog, rhoddwyd rhybudd iddo ymadael, yr hyn a wnaeth yntau ddiwedd y flwyddyn. Gan ddarfod i'r Iarlles ddatgan ar gyhoedd na chelai yr un Armin fod mewn cysylltiad a'r coleg, taflodd Fletcher ei swydd fel llywydd i fynu. Rhaid ddarfod i'r helynt gynyrchu cryn ferw yn y coleg; ac, fel yr oedd yn naturiol, rhedai cydymdeimlad y myfyrwyr yn gryf gyda'r Iarlles, bara yr hon y fwytaent. Aeth rhai o honynt hwy i'r eithafion cyferbyniol, gan bregethu Uchel Galfiniaeth, os nad rhywbeth yn ffinio ar Antinomiaeth. Modd bynag, er fod Harris yn Galfin cryf, credai fod yr Iarlles yn gweithredu yn rhy fyrbwyll, a theimlai yn ddirfawr dros Benson. Yr oedd i John Wesley le cynhes yn ei fynwes; a chan fod ei gyfaill yn glynu yn sefydlog wrth yr athrawiaeth efengylaidd am gyfiawnhad trwy ffydd, nid oedd Harris am ei gondemnio am ei olygiadau eraill. Ac oblegyd hyn, bu rhyw gymaint o oerfelgarwch rhwng Harris a'r larlles am dymhor. Ymddengys mai y Parch. Mr. Shirley a gymerodd le Benson am ryw gymaint o amser.

Treuliai yr Iarlles lawer o'i hamser y pryd hwn yn Nhrefecca, ac mewn canlyniad ymwelai llawer o bregethwyr Cymreig a'r lle. Ddechreu Medi, daeth Daniel Rowland yno, a phregethodd yn y coleg oddiar y geiriau: "Oblegyd rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef." Dywed Harris iddo gael llawer o oleuni, a bod y gynulleidfa yn anferth. "Tra y pregethai Rowland," meddai, "fy yspryd a'i carai; teimlwn ei fod yn asgwrn o'm hasgwrn, ac yn gnawd. o'm cnawd." Yr un wythnos, daeth un Mr. Owen, o Meidrim, yno, a phregethodd yn rhagorol iawn, yn Gymraeg ac yn Saesneg, oddiar: "Rhosyn Saron, a lili y dyffrynoedd, ydwyf fi." Ar y dydd olaf, cawn Peter Williams, a Williams, Pantycelyn, yn Nhrefecca. Pregethodd y cyntaf yn nghapel y coleg, ar, "Myfi yw y ffordd;" ar ei ol, pregethodd Williams, ar, y tŷ ar y graig. Dranoeth, pregethai Peter Williams drachefn, ar, yr Arglwydd yn gwneyd cyfamod newydd â thŷ Israel; dangosai fod y cyfamod yn ddiamodol, fod y galon newydd yn rhan o hono, a safai yn gryf dros barhad mewn gras. Yr oedd y dylanwad yn fawr; y fath oedd ei allu a'i ddoniau, fel y teimlai Harris gywilydd. agor ei enau. Cofnodir yn y dydd-lyfr am Hydref 22: "Heddyw, o gwmpas pedwar, daeth Edmund Jones yma, yn y cerbyd a anfonaswn i'w gyrchu; am chwech, pregethodd i'r efrydwyr, ar, yr hwrdd a ddaliesid yn rhwym mewn dyrysni." Hoff gweled rhai, a fuasent unwaith yn methu deall eu gilydd, yn dyfod yn gyfeillion drachefn. Arosodd Edmund Jones yn Nhrefecca rai dyddiau, a phregethodd drachefn ar: "Nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig."

Ar y 10fed o Dachwedd, clywodd am farwolaeth Mr. Whitefield yn America, ac yr oedd ei alar ef, a'r Iarlles, ar ol y gwas enwog hwn i Grist, yn fawr. Er fod rhyw gymaint o bellder wedi myned rhwng Harris ac yntau, yr oedd y ddau yn gyfeillion calon yn y gwraidd, a theimlai Harris, pan y daeth y newydd am ei angau, ergyd cyffelyb i'r un a gafodd pan y collodd ei briod. Ar gais yr Iarlles, pregethodd ar ei farwolaeth y noswaith hono. "Dangosais," meddai, "fod colofn wedi cael ei symud; fy mod wedi bod yn gydnabyddus ag ef am ddeuddeg-mlyneddar-hugain; cyfeiriais at y lle mawr a lanwai, y gwagle dirfawr oedd ar ei ol yn y tair teyrnas, a'r fath nifer sydd yn galaru o herwydd ei golli, ac y byddai dros fil o eneidiau yn y dydd hwnw yn ei gydnabod fel eu tad. Dygais ar gof ei zêl, ei ddiwydrwydd, ei ffyddlondeb, a'i wroldeb yn cario y gwirionedd am rad ras yn mhell ac yn agos. Yr oeddwn yn daer am i'w fantell syrthio ar y rhai sydd yn ol, a dangosais fawredd gras Duw yn ei gynal yn nghanol y fath glod a phoblogrwydd." Y mae yn ddiau fod y pregethwr tan deimladau dwysion, ac anhawdd meddwl nad oedd y dagrau yn llifo dros ruddiau ei wrandawyr.

Y mae y dydd-lyfr am ran o'r flwyddyn 1771 ar goll; ond y mae yn mron yn sicr nad aeth Howell Harris o cartref i bregethu yn ei hystod, nac yn wir hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd llesgedd wedi ei orddiwes, a'i gyfansoddiad, er cadarned ydoedd, yn prysur dori i fynu. Y syndod ydyw, pan feddylir am fawredd ei lafur, iddo barhau cyhyd. Dywed iddo orphen yr adeilad yn Nhrefecca yr haf hwn; a thybiai fod hyny yn arwyddo ei fod ar orphen ei waith. Ar yr un pryd, pregethai yn ddyddiol, os nad yn amlach na hyny, i'r teulu yn Nhrefecca; ac yn fynychaf, anerchai yr efrydwyr yn y coleg. Gofalai, hefyd, am achosion tymhorol y tŷ yn Nhrefecca, er fod ganddo gynorthwywyr ffyddlon yn Evan Moses ac Evan Roberts. Yn mis Awst, cynhelid cyfarfod blynyddol yr athrofa fel arfer; ond nid oedd Daniel Rowland, na Williams, Pantycelyn, yn mysg yr ymwelwyr. Y rhai y cawn eu henwau ydynt, John Harry, a Benjamin Thomas, a phregethodd y cyntaf ar y geiriau: "Crea galon lan ynof, O Dduw.' Terfyna y dydd-lyfr yn Chwefror, 1772, ac am ei hanes o hyny allan, rhaid i ni ddibynu ar dystiolaeth aelodau y teulu a gasglodd o gwmpas.

Efallai mai dyma y lle mwyaf priodol i holi parthed maint y niwed a gafodd crefydd Cymru, ac yn arbenig Methodistiaeth Cymru, trwy yr ymraniad gofidus a gymerodd le rhwng Harris a'i frodyr. Sicr yw fod y niwed yn fawr iawn. Nid colli gwasanaeth y Diwygiwr ei hun, at throi yr yni a arferai redeg tros holl Gymru i gylch cyfyng sefydliad teuluaidd yn Nhrefecca, oedd y peth mwyaf. Yr ydym yn addef fod y golled hon yn fawr; ond dylid cofio fod Howell Harris yn barod, trwy ei lafur blaenorol, wedi gwanychu ei gyfansoddiad yn ddirfawr, ac nas gallasai barhau yn hir i deithio gyda yr un ymroddiad ag y gwnaethai. Y niwed pwysig a effeithiodd yr ymraniad oedd y dylanwad difaol a gafodd ar y seiadau, llawer o ba rai oeddynt newydd eu sefydlu, ac yn gyfansoddedig o grefyddwyr cymharol ieuainc. Pan feddylir fod pregethwyr Harris yn cyniwair trwy holl Gymru, gan gyhoeddi yn groch fod yr offeiriaid. wedi colli Duw; ac yna, fod y pregethwyr a ganlynent Rowland yn dilyn ar eu hol, gan alw Harris yn Sabeliad, yn Batripasiad, a llawer o enwau eraill, rhaid fod y seiadau yn cael eu syfrdanu, a bod y rhai a'u mynychent yn y benbleth fwyaf. Chwalwyd llawer o honynt mewn canlyniad, ac ni ail-sefydlwyd rhai byth. Yn arbenig, pan yr ymneillduodd Harris i Drefecca, ceisiodd rhai o'i ddilynwyr osod i fynu fân bleidiau, gyda hwy eu hunain. yn ben arnynt. Yn mysg y rhai hyn, gallwn gyfeirio yn neillduol at Thomas Meredith, a Thomas Seen, y cyntaf o gymydogaeth Llanfair-muallt, a'r ail o Sir Drefaldwyn, y rhai oeddynt i dau yn bresenol yn Nghymdeithasfaoedd cyntaf Harris, ond yn raddol a aethant i bregethu rhyw gymysgedd o Antinomiaeth a Sandemaniaeth, nas gwyddai neb beth ydoedd. Bu i'r naill a'r llall nifer o ganlynwyr am ychydig, eithr buan y darfuant.

Ni theimlodd Gwynedd lawn cymaint oddiwrth yr ystorm, am eu bod yn mhellach oddiwrth ganolbwynt yr ymdrech, er, hefyd, i'r corwynt difaol gyrhaedd yno. Yn y Dê, Sir Aberteifi a deimlodd leiaf; yma yr oedd dylanwad Rowland yn orchfygol; a seiat yr Hen Fynachlog, ger Pontrhydfendigaid, yw yr unig un y darllenwn am dani ei bod yn gwahodd plaid Harris. Nid cymaint, ychwaith, a fu y niwed yn Sir Gaerfyrddin, am fod Williams, Pantycelyn, yn y pen uchaf, a Rowland, trwy ei bregethu misol yn ngapel Abergorlech, yn y rhan isaf, yn medducryn ddylanwad ar y seiadau. Bu y rhwyg yn fwy yn Sir Benfro. Yr oedd Howell Davies yn cael edrych i fynu ato fel tad gan ganoedd; ond yr oedd John Sparks, a John Harris, St. Kennox, yn fawr eu dylanwad, ac yn pleidio Howell Harris yn gryf, a phan y darfu i'r Diwygiwr ymneillduo i Drefecca, aethant hwy drosodd at y Morafiaid. Rhaid iddynt hwy ddylanwadu ar gryn nifer. Diau i seiadau Sir Forganwg gael eu hysgwyd yn enbyd, ac i rai o honynt ddiflanu. Ar ol hyn, nid ydym yn darllen am seiadau Gelligaer, Llysfaen, y Cymmer, Dolygaer, ac eraill. Am Sir Fynwy, chwalwyd y nifer amlaf o'r seiadau a gynwysai; ac o'r oll a sefydlwyd gan Howell Harris, yr unig un sydd wedi glynu wrth Fethodistiaeth yw seiat y Goetre, ger Pontypŵl. Am yr eglwysi eraill a fedd y Cyfundeb yn Mynwy, ffrwyth llafur diweddarach ydynt. Gwir i'r New Inn, a Mynyddislwyn, barhau am rai degau o flynyddoedd i ystyried eu hunain yn Fethodistaidd; ond gan eu bod mor bell o ganolbwynt y diwygiad, ac na chododd yr un pregethwr o ddylanwad pwysig ynddynt, darfu iddynt yn raddol ymgyfathrachu a'r Annibynwyr, a chollwyd hwy i'r Cyfundeb. Ond yn Sir Faesyfed y bu y canlyniadau fwyaf alaethus. Collwyd yr holl seiadau perthynol iddi. Gellir rhoddi amryw resymau am hyn. Yn un peth, ni adeiladasid capelau yma; yr unig un y cawn hanes am dano yn y sir yw capel Maesgwyn; cyfarfyddai y seiadau mewn tai anedd, ac felly yr oeddynt yn fwy hawdd eu chwalu. Peth arall, o gwmpas adeg yr ymraniad, daeth yr iaith Saesneg fel diluw dros y sir; ac nid yw yn ymddangos fod gan y Methodistiaid bregethwyr Saesneg i ymweled a'r cynulleidfaoedd gyda chysondeb; felly, aeth llawer o'r dychweledigion i'r Eglwys Sefydledig, ac ymunodd eraill a'r Annibynwyr, a'r Bedyddwyr.

Ac yn ddiweddaf, aeth amryw o'r crefyddwyr mwyaf blaenllaw i Drefecca, gan ymuno a'r teulu yno; felly, yr oedd y rhai a weddillasid yn amddifad o arweinwyr, ac heb ddynion profiadol yn eu mysg i fod yn fywyd ac yn nerth. Rhwng y cwbl, collwyd Maesyfed yn gwbl i Fethodistiaeth. Ymddengys fod y seiadau wedi diflanu, gan mwyaf, yn ystod bywyd Howell Harris; yr unig rai y cawn ef yn ymweled â hwy wedi ei ymheddychiad a'r Methodistiaid yw Penybont, Claerwy, a Llandrindod. Os oedd rhagor yn haner dadfyw, ac os cawsant ryw gymaint o adnewyddiad trwy sefydliad coleg yr Iarlles Huntington yn Nhrefecca, am y caent yno rai â fedrent eu hanerch yn yr iaith Saesneg, diflanasant yn llwyr pan y symudwyd y coleg hwnw o Drefecca i Cheshunt. Ffrwyth ymdrechion cenhadol cymharol ddiweddar yw yr eglwysi Methodistaidd a geir yn Sir Faesyfed yn bresenol. Eithr ni ddylid tybio i'r dychweledig ion oll, nac yn wir y nifer amlaf o honynt, gael eu colli i grefydd. Ymunodd canoedd o honynt ag enwadau eraill. Diau fod rhai degau o eglwysi cymharol gryfion, perthynol i'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr, i'w cael yn Siroedd Morganwg, Mynwy, a Maesyfed, ag y gellir olrhain eu sefydliad i lafur Howell Harris, neu i eiddo rhai o'r Diwygwyr Methodistaidd eraill.

Trwy ystod y flwyddyn 1772, gwaelu a wnaeth iechyd Howell Harris, ac yr oedd ei babell yn prysur ymddatod. Hyd y medrodd, elai i goleg yr Iarlles i anerch y myfyrwyr. Ond yn fuan aeth hyn yn ormod o dasg iddo. "Y tro diweddaf y pregethodd yno," meddai yr Iarlles, "yr oedd yno dorf liosog, fel arfer, ac yr oedd ei weinidogaeth yntau mor gyrhaeddgar a chyffrous ag erioed. Llefarodd gyda theimlad dwfn am Dduw, a thragywyddoldeb, ac am anfarwoldeb a gwerthfawredd eneidiau ei wrandawyr; am eu llygredigaeth wrth natur, perygl y sefyllfa o fod yn ddiailenedig, yr angenrheidrwydd anorfod am ailenedigaeth trwy yr Yspryd Glân, ac am gredu yn Nghrist mewn trefn i dderbyn pardwn. Llefarai fel oracl Duw, yn eglurhad yr Yspryd ac mewn nerth, a phan ddaeth at y cymhwysiad, cyfeiriodd at y gwrandawyr gyda y fath dynerwch, a'r fath ddifrifwch, gan anog pawb o honom i ddyfod i gydnabyddiaeth a'r anwyl Waredwr, fel y toddodd y gynulleidfa i ddagrau." Sicr yw ei bod yn odfa o'r fath fwyaf effeithiol.

Er methu myned allan o'r tŷ, ymlusgai i'r llawr i anerch y teulu lliosog a gasglasai yn Nhrefecca, yn mron hyd y diwedd. Gadawodd ei anerchiadau yr adegau yma argraff annileadwy ar feddyliau y rhai a'u clywent, a darfu iddynt, yn angherddoldeb eu serch ato, groniclo llawer o'i ddywediadau. Ni fedrwn ddifynu ond ychydig o honynt. "Yr wyf yn caru pawb sydd yn dyfod at y Gwaredwr," meddai un tro, "ac yn ymborthi ar ei gnawd a'i waed ef; yr wyf yn teimlo mai efe, ac nid dim yma, yw fy ngorphwysfa a'm dedwyddwch. Yr wyf yn caru tragywyddoldeb am ei fod ef yno. Yr wyf yn llefaru wrtho, ac yn İlefain arno. O, dywyllwch y cnawd hwn sydd yn ei guddio oddiwrthyf! O, tydi, yr hwn a fuost yn gwaedu i farwolaeth, a'r hwn wyt yn awr yn fyw, tyred a dwg fi adref. Am y ffordd, mi a orchymynais. hono i ti, i ofalu am danaf. Dy eiddo di ydwyf, yma a byth; un o'th waredigion ydwyf, gwerth dy waed a'th chwys gwaedlyd; a'th ewyllys di yw fy nefoedd." Yn y diwedd aeth yn gaeth i'w wely, ac ni fedrai ysgrifenu, eithr medrai glodfori yr Arglwydd. "Bendigedig fyddo Duw," meddai, "y mae fy ngwaith wedi ei orphen, ac mi a wn fy mod yn myned at fy anwyl Dduw, a'm Tad, canys efe a gafodd fy nghalon, ïe, fy holl galon."

Ar yr 21ain o Orphenaf, 1773, pan yn y driugeinfed flwyddyn o'i oedran, ehedodd ei enaid pur at ei Dad a'i Dduw. Gwnaethpwyd galar mawr am dano, nid yn unig gan deulu Trefecca, ond trwy holl Gymru. Ymgasglodd miloedd i'r angladd. Cyfrifa yr Iarlles Huntington fod ugain mil wedi dyfod yn nghyd, ac yn eu mysg bymtheg o glerigwyr. Anerchwyd y dorf anferth oddiar dair o esgynloriau gwahanol, gan chwech clerigwr. Yr offeiriad a weinyddai wrth y bedd oedd y Parch. John Morgan, cuwrad Talgarth, a'r hwn yr oedd yr ymadawedig ar delerau o gyfeillgarwch agos er ys blynyddoedd. Camgymeriad yw y dybiaeth fod y Parch. Price Davies, y ficer, gwedi marw, a bod ei swydd wedi ei rhoddi i un o'r enw William Davies. Cafodd Price Davies oes hirfaith; bu fyw am beth amser gwedi marwolaeth y Diwygiwr o Drefecca, ond yr oedd yn rhy lesg i gymeryd rhan yn ngwasanaeth y claddu; ac yn wir nid yw yn ymddangos ei fod yn bresenol. Y mae traddodiad, cyffelyb i'r un am angladd Howell Davies, i John Morgan dori lawr wrth ddarllen ar lan y bedd, ac iddo estyn y llyfr i un arall, a darfod i hwnw, ac eraill i'w ganlyn, dagu gan ddagrau, ac mai yn nghanol ocheneidiau, a wylofain uchel, y rhoddwyd gweddillion marwol Howell Harris i orwedd yn y ddaear. Hawdd genym gredu hyn, oblegyd yr oedd yn cael ei anwylo y tuhwnt i neb ar y ddaear, gan ganoedd. Yn eglwys Talgarth, yn agos i fwrdd yr allor, y cafodd fedd.

Nid oedd casglu cyfoeth yn un amcan gan y Diwygiwr. Tra y bu yn trafaelu o gwmpas gwlad, ac yn ysgwyd Cymru a'i weinidogaeth, ychydig a dderbyniodd o ran rhoddi a derbyn, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun. Gydag anhawsder y gallai gadw ei ben uwchlaw'r dwfr mewn cysylltiad a'i amgylchiadau. Ond y rhan olaf o'i oes, trwy ei ddiwydrwydd, ac ymdrechion y bobl oedd wedi ymgasglu ato, a thrwy ei fawr fedr i drin amgylchiadau pan yr ymroddai at hyny, yr oedd y tŷ yn Nhrefecca, a rhyw gymaint o diroedd a thai o gwmpas, yn eiddo rhydd-ddaliadol iddo. Gadawodd y cwbl mewn ewyllys, nid i neb a berthynai iddo yn ol y cnawd, ond i'r Sefydliad, tan ofal ymddiriedolwyr. Un plentyn a feddai; i'r ferch hono disgynodd cyfoeth ei mam; a chyn ei farw ef yr ydoedd wedi priodi a meddyg yn Aberhonddu, ac uwchlaw angen; felly yr oedd at ei ryddid i wneyd a'i feddianau fel yr ewyllysiai. Wedi marw y Sylfaenydd, dyhoeni a wnaeth y teulu yn Nhrefecca; nid oedd neb wedi ei adael ar ol o gyffelyb feddwl i gario y gwaith yn mlaen; ac erbyn dechreu y ganrif hon yr oedd y Sefydliad wedi ymddirywio i fod yn siop fechan mewn gwlad. Tua'r flwyddyn 1840, cyflwynodd aelodau y teulu a weddillasid y cyfan i fynu i Gyfarfod Misol Brycheiniog, ar yr amod eu bod hwy i gael rhyw gymaint o flwydd-dal tra y byddent byw. Cyflwynodd y Cyfarfod Misol y cyfan i Gymdeithasfa y Deheudir; ac oddiar y flwyddyn 1842, y mae athrofa y Cyfundeb yn Neheudir Cymru yn cael ei chynal yno.

Cymeriad ardderchog oedd Howell Harris. Mewn ymroddiad i lafur, mewn beiddgarwch i wynebu rwystrau a pheryglon; ac mewn dibrisdod o gysuron corphorol, nid oes yr un o'r Tadau Methodistaidd a ddeil eu cymharu ag ef. Yr unig rai ag y gellir eu dwyn o'r tu fewn i gylch cymhariaeth yw Wesley a Whitefield yn Lloegr; ond pan feddylir am agwedd Cymru ar y pryd, pa mor anhygyrch oedd y ffyrdd, pa mor wael oedd yr ymborth a'r llety, a pha mor enbyd. oedd llid y clerigwyr a'r werinos, y mae y glorian yn troi, ac yn troi yn drwm, o blaid y Diwygiwr o Drefecca. Braidd nad yw yn anmhosibl cyflwyno i drigolion yr oes hon unrhyw syniad am ei yni, a'i ymroddiad. Teithiai dros fynyddoedd geirwon, heb braidd lun o ffordd; delid ef yn fynych gan ystormydd enbyd ar ei hynt; byddai raid iddo yn aml fyned trwy ganol y nentydd chwyrn oeddent wedi gorlifo dros eu ceulanau, ac nid anfynych y byddai ei anifail ac yntau mewn perygl o gael eu cario i ffwrdd gan ruthr y llifeiriant; ac yn aml pregethai i dyrfaoedd. mawrion yn wlyb hyd ei groen, a'i gylla yn wag. Nid oedd unrhyw rwystr a'i hataliai. Yr ydym yn darllen droiau am Rowland a'r lleill yn methu myned i Gymdeithasfa oblegyd afrywiogrwydd yr hin; ni chawn hyny am Howell Harris gymaint ag unwaith. Wedi teithio trwy afonydd, ac wedi bod yn y lluwchfeydd eira hyd ei ên, byddai yn pregethu fel cenad o dragywyddoldeb, a'i enaid yn fflamio o'i fewn. Efallai y treuliai y nos drachefn yn gorwedd ar gadeiriau o flaen y tân yn ei ddillad gwlybion, er mwyn cychwyn i'w daith dranoeth gyda glasiad y wawr. Nid rhyfedd ei fod weithiau, rhwng cellwair a difrif, yn cyhuddo ei frodyr o ddiogi, ac o ormod gofal am gysuron corphorol. Efe oedd yr arloesydd yn Nghymru; ganddo ef y torwyd y garw. Nid bychan a fu llafur Rowland, Williams, a Howell Davies, ac nid ychydig a ddyoddefasant; ond ni ddeil eu teithiau a'u blinderau eu cymharu â'r eiddo ef.

Efe hefyd oedd y mwyaf amlochrog ei athrylith. Yn y pwlpud y dysgleiriai Rowland; yno, nid oedd neb a allai ddal cystadleuaeth ag ef. Mewn cadw seiat, ac yn arbenig mewn prydyddu a chyfansoddi emynau, y rhagorai Williams; yn y cylch hwn y mae heb ei gyffelyb. Ond am Howell Harris, rhagorai yn mhob peth yr ymgymerai ag ef. O ran nerth gwefreiddiol ei areithyddiaeth, ychydig yn is ydoedd na Rowland ei hun; ac fel duwinydd, yn arbenig mewn dirnadaeth ddofn o'r gwirionedd am berson Crist, er y graddau o gymysgedd oedd yn ei syniadau, credwn ei fod yn fwy na'i frodyr oll. Ac ni allai yr un o honynt ddal canwyll iddo fel trefnydd. Meddai grebwyll i roddi bod i gynllun; ac er y dylanwad oedd gan y cyfriniol arno, yr oedd ei gynlluniau braidd oll yn rhai ymarferol. Yn y cyfuniad o'r cyfriniol a'r ymarferol dygai fawr debygolrwydd i Oliver Cromwell. Harris, yn ddiau, yw tad ffurf-lywodraeth eglwysig y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru; ei saerniaeth ef yn benaf yw y trefniadau presenol gyda golwg ar Gymdeithasfaoedd, a Chyfarfodydd Misol. A phe y cawsai aros dros ei oes mewn cysylltiad â'r Methodistiaid, fel arolygydd cyffredinol, y mae yn sicr y buasai y trefniant yn fwy pendant a manwl, gyda mwy o awdurdod yn y Gymdeithasfa fel canolbwynt. Ai mantais ynte anfantais i'r Cyfundeb a fuasai hyn yn y pen draw, ni chymerwn arnom benderfynu. Ond yr oedd ochrau eraill eto i athrylith y Diwygiwr. Rhaid fod yr hwn a fedrai nid yn unig lywodraethu teulu o chwech ugain o ddynion, o bob math o dymheredd, ac wedi eu casglu yn nghyd o bob rhan o'r wlad, ond hefyd at fedrai ddarpar tuag at eu cynhaliaeth, trwy gynllunio gwahanol fathau o ddiwydrwydd ar eu cyfer, yn meddu nerth meddyliol o'r radd flaenaf, hyd yn nod pe na byddai ganddo unrhyw orchwyl arall i'w gyflawni. Er rhoddi gwaith i'r rhai oedd dan ei gronglwyd, a chyfarfod a'u hanghenion, cawn Harris yn ymgymeryd a bron bob math ar waith. Amaethai dir, lluniai ffyrdd; yr oedd ganddo weithfaoedd gwlan a choed; mewn gair, prin yr oedd dim y tu allan i gylch ei athrylith. Ychwaneger at hyn oll mai efe, am flynyddoedd, a fu bywyd Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog, a darfod iddo brofi ei hun yn swyddog milwraidd effeithiol; a bydd yn rhaid cydnabod ei fod yn un o'r dynion mwyaf amlochrog ei feddwl a welodd y byd.

Nid oedd heb ei ffaeleddau, ac y mae y rhai hyny, fel yn gyffredin mewn dynion o deimladau cryfion, ar y wyneb, ac yn hawdd eu canfod. A gellir dweyd am danynt oll eu bod yn gogwyddo i gyfeiriad rhinwedd. Os oedd yn boeth ei dymher, ac yn tueddu at dra-awdurdod, cyfodai hyn oddiar ddyfnder ei argyhoeddiadau, a'i fawr zêl dros yr hyn a ystyriai yn wirionedd. Yr oedd mor agored a'r dydd, ac yn gwbl rydd oddiwrth bob math o ystryw. Oblegyd hyn syrthiai weithiau i'r rhwyd a daenid iddo gan ddynion diegwyddor. Nis gwyddom ychwaith i ba raddau yr oedd gwendid corph, yn cyfodi oddiar or-lafur, yn gyfrifol am gyffröadau ei nwyd. Eithr yn nglyn â hyn meddai lonaid calon o serchawgrwydd; medrai garu yn angerddol; ac yr oedd ei afael yn ei gyfeillion yn ddiollwng fel y bedd. Os caffai ei dramgwyddo, byddai gair caredig oddiwrth yr hwn a roddasai y tramgwydd iddo yn ddigon i'w ddwyn i'w le ar unwaith. Rhaid ei ddal ef yn benaf yn gyfrifol am yr ymraniad. Aethai i ryw ystad meddwl ar y pryd fel na dderbyniai na chynghor na cherydd; edrychai ar ei wrthwynebu ef fel yr un peth a gwrthwynebu Duw. Y mae yn anhawdd cyfrif am yr ystad meddwl hwn, ond ar y tir fod rhyw fath o orphwylledd wedi dyfod drosto. Ar yr un pryd, credwn y dylasai ei frodyr ddangos mwy o dynerwch tuag ato, at chymeryd i ystyriaeth ei lafur a'i ymroddiad. Eithr pan y gwnaeth y Methodistiaid estyn llaw tuag at gymod, estynodd yntau ei law i'w cyfarfod ar unwaith. A llawenydd digymysg i ni oedd darganfod, trwy gyfrwng ei ddydd-lyfr, fod deng mlynedd olaf ei fywyd yn llawer dysgleiriach nag yr oedd neb wedi breuddwydio, a'i fod wedi eu treulio mewn undeb agos a'i frodyr gynt. Daethai ef a Daniel Rowland i ddeall eu gilydd yn drwyadl, ac wedi iddynt ymheddychu, ni chyfododd cwmwl cymaint a chledr llaw gwr rhyngddynt tra y buont fyw. Yn ystod y blynyddoedd hyn, ac hyd ei fedd, yr oedd Howell Harris yn un o'r Methodistiaid mewn pob peth ond enw. Teithiai yn eu mysg, pregethai yn eu capelau, ymwelai a'u Cyfarfodydd Misol ac a'u Cymdeithasfaoedd, a chaffai ganddynt y lle mwyaf anrhydeddus a fedrent roddi iddo. Teg cadw mewn cof mai taith i Gymdeithasfa Llangeitho oedd y diweddaf a gymerodd cyn cael ei gyfyngu gan lesgedd i Drefecca; a darfod i'r hyn a welodd ac a glywodd yno sirioli ei yspryd i'r fath raddau, fel y datganai ei argyhoeddiad fod Duw yn amlwg yn y lle, ac mai dyna Jerusalem Cymru. Aeth yn ei ol, tros y mynyddoedd, i Drefecca, fel un wedi cael ysglyfaeth lawer; ac er na fedrodd deithio o gwmpas mwy, deuai Rowland, a Williams, a Peter Williams, i ymweled ag ef yn fynych.

Bu Howell Harris farw yn ddyn cymharol ieuanc; nid oedd yn llawn triugain oed pan y galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr. Ond yn ystod yr adeg fer hon gwnaeth waith anhygoel, gwaith y bydd cofio am dano gwedi i amser ddarfod. A bu fyw yn ddigon hir i weled chwildroad moesol a chymdeithasol wedi cymeryd lle yn Nghymru. Os ar ei darawiad allan yr edrychai y byd arno gyda chilwg, gan ei ystyried yn freuddwydiwr llawn penboethni, cyn ei farw amgylchynid ef ag anrhydedd, ac heddyw edrychir arno fel un o brif gedyrn Cymru. Nid oes seren ddysgleiriach nag efe yn llewyrchu yn ffurfafen hanesyddiaeth ein gwlad. Pa bryd bynag y cawn fel cenedl ein bendithio â hanes a fyddo i ryw raddau yn deilwng o honom, yn yr hanes hwnw rhaid i Howell Harris, y teithiwr diorphwys, yr arloesydd beiddgar, y pregethwr hyawdl, y seraph tanllyd, a'r gwladgarwr pur, gael lle amlwg. Yr ydym yn teimlo anhawsder i ffarwelio ag ef, gan fel y mae ei swyn yn enill arnom. Y mae Williams, Pantycelyn, yn y farwnad ardderchog a gyfansoddodd iddo, wedi arddangos ei gymeriad a'i nodweddion mor oleu, fel yr ydym yn rhwym. o ddifynu ychwaneg o'r penillion:

"Mae'n cryfhau y breichiau gweinion,
Ac yn dala'r llesg i'r lan;
Yn ei athrawiaeth y mae ymborth,
Bwyd i'r ofnus, bwyd i'r gwan;
Geiriau dwys, sylweddol, gloew,
Wedi eu tempru yn y tân,
Lamp i arwain pererinion
Trwy'r anialwch mawr ymlaen.

Y mae'r iachawdwriaeth rasol
Yn cael ei rhoddi i maes ar led,
Ag sy'n cymhell mil i'w charu,
Ac i roddi ynddi eu cred;
Haeddiant Iesu yw ei araeth,
Cysur enaid a'i iachad,
Ac euogrwydd dua pechod
Wedi ei ganu yn y gwaed.

Byth na chofier am ei bechod,
Na 'sgrifener dim o'i fai,
Blotiwyd llyfrau'r nef yn hollol,
Pa'm caiff rhagfarn dyn barhau?
Ni chaiff pen, nac inc, na thafod,
'Rwy'n eu gwa'rdd o hyn i maes,
Sôn am ddim ond y Diwygiad
Trwyddo lanwodd Gymru las.

'Nawr mae'n gorwedd yn y graian,
Mewn lle tywyll, dystaw iawn,
Harris, gynt, a'i waedd ddihunodd
Weinidogion lawer iawn;
Can's trwm gwsg oddiwrth yr Arglwydd
Oedd fel diluw'n llanw'n lân,
Yn y dydd cyhoeddodd Howell
I fod Nini'n myn'd ar dân.

Griffith Jones, pryd hyn, oedd ddeffro,
Yn cyhoeddi efengyl gras,
Hyd cyrhaeddai'r swn o'r pwlpud,
Neu, os rhaid, o'r fynwent las;
Ond am fod ei foreu'n dywyll,
Ac nad oedd ei ffydd ond gwan,
Fe arswydodd fyn'd i'r meusydd,
Ac i'r lleoedd nad oedd llan.

Yntau, Howell, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cenad gan un esgob
Ag sy'n llawer llai na Duw,
Fe gyhoeddodd yr efengyl,
Anfeidroldeb dwyfol 'stor,
O derfynau'r Hafren dawel
Obry i'r gorllewin fôr.

Nid oes heddyw ond rhyw 'chydig,
Duw o'r nef estyno eu hoes,
A ddihunodd yn y plygain,
Pan yr oedd hi yn dywyll nos,
Ac a chwythodd a'u holl egni
Yn yr udgorn gloew, las,
Nes dihuno eirth a llewod,
A bwystfilod gwaetha'r maes.

*****
Os oedd eisiau ffrynd ffyddlonaf,
Harris unig oedd efe,
Gwell na'r ceraint goreu anwyd
Mewn un ardal is y ne';
Maddeu bai, a chadw cwnsel,
Yspryd cydymdeimlo yn un,
A gwneyd holl ofidiau ei gyfaill,
Megys ei ofidiau ei hun.

*****
Cwsg i lawr yn Eglwys Talgarth,
Lle nad oes na phoen na gwae,
Ti gai godi i'r lan i fywyd
Sy'n dragywyddol yn parhau;
Gwell i ti gael gorphwys yna
Blith dra phlith a'r pryfed mân,
Na chael mil o demtasiynau
At y dengmil ge'st o'r blaen.

*****
Ffarwel, Harris, darfu heddyw
A chwenychu bod yn ben,
Ce'st ddyrchafiad mwy godidog,
Canu yn y nefoedd wen;
Ac 'rym ninau yn dy ganlyn
'Rhyd y grisiau yma lawr,
Ac nid oes ond rhyw fynydau
Rhwng y gloch a tharo ei hawr."


Y PARCH. PETER WILLIAMS, O GAERFYRDDIN

PENOD XVIII.
PETER WILLIAMS.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Peter Williams
ar Wicipedia

Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei fam yn ei fwriadu i'r weinidogaeth—Colli ei rieni yn foreu—Rhagluniaeth yn gofalu am yr amddifad—Peter Williams yn myned i athrofa Thomas Einion—Yn cael ei argyhoeddi trwg bregeth Whitefield—Cael ei urddo yn guwrad eglwys Gymmun—Colli ei le oblegyd ei Fethodistiaeth—Colli dwy guwradiaeth arall am yr un rheswm—Yn ymuno a'r Methodistiaid—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Cacl ei erlid oblegyd yr efengyl yn y Dê a'r Gogledd—Cael lle amlwg yn fuan yn y Gymdeithasfa—Yn ymuno a phlaid Rowland adeg yr ymraniad Ysgrythyroldeb ei bregethau—Dwyn allan y Beibl mawr, gyda sylwadau ar bob penod Cyhoeddi y "Mynegair," yn nghyd a "Thrysorfa Gwybodaeth," sef y cylchgrawn Cymreig cyntaf—Anfoddlonrwydd i'w sylwadau gyda golwg ar y Drindod—Yr anfoddlonrwydd yn cynyddu oblegyd iddo newid rhai geiriau yn Meibl Caune Dadleu brwd yn y Gymdeithasfa—Peter Williams yn cael ei ddiarddel gan y Methodistiaid—Yn gwneyd amryw geisiadau am ail brawf, ond yn glynu wrth ei olygiadau—Canlyniadau ei ddiarddeliad—Diwedd ei oes—Purdeb ei amcanion, a mawredd ei ddefnyddioldeb.

NID oes yn Nghymru enw mwy adnabyddus, na mwy parchedig, nag eiddo Peter Williams, y pregethwr efengylaidd, a'r esboniwr duwiolfrydig. Efallai mai yn brin y gellir ei rifo yn mysg sylfeinwyr y Cyfundeb Methodistaidd yr oedd tuag wyth mlynedd o'r diwygiad wedi pasio, ac amryw Gymdeithasfaoedd, chwarterol, a misol, wedi eu cynal, cyn iddo ef gael ei argyhoeddi. A bu am rai blynyddoedd drachefn cyn cael ei arwain gan Ragluniaeth i fwrw ei goelbren yn mysg y Methodistiaid. Ond, oblegyd dysgleirder ei dalentau, duwiol frydedd ei yspryd, eangder ei wybodaeth, a llwyredd ei ymroddiad, ni bu fawr amser gwedi ymuno cyn cael ei gydnabod fel yn perthyn i'r rhestr flaenaf oll, ac edrychid arno fel un o'r arweinwyr. "Peter Williams, Caerfyrddin," ei gelwir ar lafar gwlad; eithr ymddengys mai am ychydig amser y bu yn drigianydd yn y dref hono, ac y rhaid deall "Caerfyrddin" fel yn dynodi y sir yn hytrach na'r dref.

Ganwyd ef Ionawr 7, 1722, yn agos i Lacharn, mewn amaethdy, o'r enw Morfa, yr hwn, fel yr awgryma yr enw, oedd yn ymyl y môr. Saesneg ydoedd, ac ydyw, yr iaith arferedig yn Lacharn; y rheswm am hyny, meddir, ydyw ddarfod i drefedigaeth o Saeson ymsefydlu yno rywbryd yn yr hen amser. Y mae yr iaith wedi glynu yno hyd heddyw, er mai Cymraeg a siaredir trwy yr holl wlad o gwmpas. Ac am y rheswm hwn, yr oedd Peter Williams, pan yn blentyn, yn fwy o Sais nag o Gymro. Yr oedd ei rieni yn bobl barchus, yn dda arnynt o ran pethau y byd, ac yn hanu o deuluoedd anrhydeddus. Ei fam, yn arbenig, oedd yn ddynes dra chrefyddol. Arferai fyned ar y Suliau ar gefn ei cheffyl i Landdowror, i wrando yr offeiriad enwog, Griffith Jones, ac nid anfynych cymerai y plentyn, Peter, gyda hi. plentyn. Er fod ganddi blant eraill, mab a merch, ymddengys mai am Peter yr oedd ei serchiadau wedi ymglymu yn benaf. Gwelai ynddo arwyddion annghamsyniol o dalent; parai ei feddwl bywiog, a'i gof cyflym, iddi ddysgwyl pethau mawr oddiwrtho; phenderfynodd roddi iddo bob manteision. addysg posibl. Ei dymuniad ydoedd ei gysegru i'r weinidogaeth, a diau iddi amlygu ei hawyddfryd i Peter ieuanc lawer gwaith wrth dramwyo rhwng Lacharn a Llanddowror, ac ar adegau eraill.

Eithr pan nad oedd Peter ond unmlwydd-ar-ddeg oed, bu farw ei fam yn ddisymwth mewn twymyn. Y flwyddyn ganlynol bu farw ei dad. A dyma y tri phlentyn amddifad yn cael eu gadael mewn oedran tyner i wynebu ar ystormydd bywyd. Ond, fel arfer, cyfryngodd Rhagluniaeth ar eu rhan, a dangosodd yr Arglwydd mewn modd annghamsyniol ei fod yn Dad yr amddifad. Rhyw foneddiges o Fryste a gymerodd ofal y ferch; daeth ewythr o du y tad yn mlaen i ymgymeryd â gofal y mab ieuangaf; ac ewythr o du y fam a dderbyniodd Peter i'w dŷ. Ymddengys i'r ferch farw yn gynar. Am Dafydd, y bachgen ieuangaf, cafodd ysgol dda gan ei ewythr, ac yn nghymydogaeth Bryste y preswyliodd hyd ddydd ei farwolaeth. A ddarfu iddo briodi, a chael plant, ni wyddom. Cawsai Peter ei gadw yn yr ysgol tra y bu ei rieni byw, a gwnaethai gynydd mawr mewn dysgeidiaeth. Darfu i'r ewythr ganlyn ar yr un llwybr, gan ei osod mewn ysgol ar unwaith, a than addysg y bu hyd nes yr oedd yn un-mlwydd-ar-bymtheg oed. Yr oedd ei wanc am wybodaeth yn angerddol. Pan fyddai plant yr ysgol allan yn chwareu, myfyrio uwchben ei lyfrau a wnelai ef; nis gallai eistedd wrth y bwrdd i fwyta heb fod rhyw lyfr yn agored ger ei fron. Wedi iddo ddechreu ymgydnabyddu a'r ieithoedd Lladin a Groeg, daeth ei gynydd yn fwy amlwg, a'i ymroddiad yntau yn llwyrach. Ni chymerai seibiant adeg y gwyliau, fel y gwnelai y llanciau eraill, eithr parhäi i ddarllen a meddwl o ddifrif. Oddiwrth yr hyn a ddywed am dano ei hun, gallwn dybio ei fod yn yr oedran hwn o duedd feudwyol, yn ddibris o bob chwareuon, yn ddifater am gwmniaeth llanciau o gyffelyb oed, ac yn llwyr ymroddedig i'w efrydiau.

Yr oedd ei fuchedd yn foesol, braidd o'r dechreuad. Am hyn, yr oedd yn ddyledus mewn rhan i dueddfryd ei natur, ac hefyd mewn rhan i ofal a chynghorion ei fam. Mynega ddarfod iddo, yn ystod adeg ei blentyndod, glywed rhywrai yn tyngu ac yn rhegu, ac iddo yntau ddysgu eu hymadroddion; ond pan y clybu ei fam ef, hi a'i ceryddodd yn llym, ac ni bu yn euog o'r cyfryw bechod mwy. A chwedi iddi hi gael ei phriddo, glynai ei chynghorion yn ei feddwl, fel na fu gan rysedd afael arno o gwbl. Dywed i Dduw ei gynal yn nyddiau ei ieuenctyd, a blynyddoedd ei ynfydrwydd, fel na fu yn euog o bechodau rhyfygus, nac o unrhyw fai a ystyrir yn waradwyddus yn mysg dynion. Nid ydoedd ychwaith yn amddifad o argraffiadau crefyddol. Llenwid ei gydwybod yn fynych gan ofn marw, a dychryn y farn. Meddai: "Y cwestiwn mwyaf genyf ydoedd, Pa fodd yr ymddangoswn gerbron Duw? Pa fodd y dysgwyliaf am ollyngdod a maddeuant gan y Duw pur a sanctaidd hwnw, o wydd yr hwn, yn ei ymddangosiad, y diflana'r byd, a'r cwbl sydd ynddo?" Ceisiai gysuro ei hun nad ydoedd yn waeth na dynion eraill, a bod miloedd o bechaduriaid, cynddrwg ag yntau, rhai o'r cyfryw a adwaenai, wedi marw mewn gobaith o adgyfodiad i fywyd tragywyddol. Ond nid oedd yr esgusodion gwagsaw hyn yn foddlonol i'w gydwybod. Ffurfiasai yr arferiad o hunanymholiad; arferai droi ei olygon i mewn i ystafelloedd ei galon; a gwelai yno hadau pob llygredigaeth. Eithr, er hyn oll, nid adwaenai yr Arglwydd, ac ni wyddai nemawr am drefn yr efengyl i faddeu.

Pan yr oedd o gwmpas un-mlwydd-ar bymtheg oed, ceisiodd ei ewythr ganddo ddewis rhyw alwedigaeth. Teimlai yntau anhawsder dirfawr i wneyd; neu, yn hytrach, teimlai anhawsder i wneyd ei ddewisiad yn hysbys. Yn nirgelwch ei galon, yr oedd wedi rhoddi ei fryd ar fyned yn offeiriad. Fel y darfu i ni sylwi, cawsai yr awyddfryd hwn ei blanu ynddo gan ei fam. A thua blwyddyn cyn ei marwolaeth, cawsai Peter ieuanc freuddwyd hynod, yn yr hwn, yn mysg pethau eraill, y gwelsai ddau ŵr dyeithr, mor hardd eu gwedd ag angelion, yn dyfod ato, ac yn ymddiddan ag ef. Dehonglai y fam y freuddwyd fel prophwydoliaeth y byddai hi farw yn fuan, ond y deuai Iesu Grist i gymeryd ei lle, ac y gwnelai yr Iesu ei hoff blentyn yn weinidog enwog yn ei deyrnas. Sicr ydyw i'r breuddwyd a'r dehongliad adael argraff ddofn ar feddwl Peter, a thebygol fod a fynai hyn a thueddu ei feddwl yn awr at y weinidogaeth. Y mae mor sicr a hyny mai nid o herwydd ei fod wedi cael gras, ac nid o herwydd fod ei enaid yn llosgi ynddo gan awydd am achub eneidiau, y chwenychai y swydd. Yn ol ei syniad ef ei hun, yr ydoedd eto heb gael troedigaeth. Ond oblegyd yr argraff a dderbyniodd oddiwrth ei fam, yn nghyd a'i hoffder yntau o lyfrau, a gwybodaeth, nid oedd dim a'i boddlonai ond yr offeiriadaeth. Eithr teimlai anhawsder dirfawr i ddatgan ei awyddfryd i'w ewythr. Nid yw yn ymddangos mai ofn ei ewythr oedd arno, ychwaith; yn hytrach, yr hyn a ofnai oedd fod y draul yn ormod. Eithr dweyd a fu raid, a throdd pethau allan yn well na'i ofnau. Gwelai yr ewythr, na wnelai ei nai amaethwr, ac felly yr oedd yn dda ganddo ei weled yn ymaflyd mewn rhywbeth mwy cydnaws a'i dueddiadau; a chafodd y llanc myfyrgar ei anfon i ysgol ramadegol dda, a gedwid yn Nghaerfyrddin, gan un Thomas Einion. Yno y bu am dair blynedd, yn ymroddgar i'w efrydiau. Yn ystod yr amser hwn gwnaeth y fath gynydd mewn gwybodaeth o'r ieithoedd. clasurol, fel, ar ei ymadawiad, yr oedd yn alluog i ysgrifenu llythyr o ddiolchgarwch i'w athraw yn yr iaith Ladin, yr hwn lythyr, fel y cawn weled eto, a fu yn foddion i ddwyn oddiamgylch ei ordeiniad.

Y mae genym bob sail i gredu ei fod, tra yn yr athrofa, yn foesol ei rodiad, ac yn foneddigaidd o ran ymddygiad; nid annhebyg yr edrychai ei athraw arno fel y penaf o'i efrydwyr. Ond nid oedd eto wedi cael ei ddwyn i gydnabyddiaeth â threfn yr iachawdwriaeth trwy Grist. Ar yr un pryd, yr oedd ei gydwybod yn anesmwyth o'i fewn; nid oedd dychrynfeydd y farn, a gorfod rhoddi cyfrif i Dduw, wedi ei adael; gwnelai lawer o addunedau, y rhai, yn ganlynol, a dorai. Eithr yn y flwyddyn 1743, yn mis Ebrill, cymerodd amgylchiad le, a newidiodd holl gyfeiriad ei fywyd, ac a'i gwnaeth yn ddyn newydd. Yr amgylchiad hwn oedd dyfodiad George Whitefield i dref Caerfyrddin i bregethu. Mawr oedd y son am dano cyn ei ddyfod. Yr oedd hyawdledd llifeiriol ei areithyddiaeth, yn nghyd a'r ffaith ei fod, ac yntau yn offeiriad, yn pregethu ar y maes agored, ac mewn lleoedd annghysegredig, yn cynyrchu dirfawr siarad; ond yr hynod rwydd mwyaf cysylltiedig ag ef oedd ei fod yn cyhoeddi y pechod gwreiddiol, yr angenrheidrwydd am ail—enedigaeth, ac am gyfiawnhad trwy ffydd heb weithredoedd. Heresi ronc y golygai y mwyafrif o glerigwyr Eglwys Loegr yr athrawiaethau hyn; felly hefyd yr ymddangosent i Mr. Thomas Einion, athraw yr ysgol ramadegol. Am un—ar—ddeg o'r gloch, arferai y meistr ollwng y plant allan; ond am y dosparth blaenaf, y rhai yr oedd eu llygad ar y weinidogaeth, arferai eu cadw yn ol am beth amser, er eu cyfarwyddo gyda golwg ar eu hefrydiau, a pha lyfrau y byddai mwyaf buddiol iddynt eu darllen. Ond y diwrnod y dysgwylid Mr. Whitefield, pwnc Mr. Einion oedd y pregethwr peryglus oedd i ymweled a'r dref, a rhybuddiai y dynion ieuainc yn ddifrifol ar iddynt beidio myned i'w wrando. Er gwaethaf y rhybudd, cydunodd pedwar o'r efrydwyr, un o ba rai oedd Peter Williams, yr aent i wrando yn ddirgelaidd, er cael gweled a chlywed drostynt eu hunain. O gwmpas deuddeg o'r gloch, safodd Mr. Whitefield yn mhen heol Awst. Ei destun ydoedd, Esaiah liv. 5: "Canys dy briod yw yr hwn a'th wnaeth, Arglwydd y lluoedd yw ei enw, dy waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef." Dechreuodd trwy ddangos rhagoriaethau yr Arglwydd Iesu fel priod, ac anog y gynulleidfa i'w ddewis. "A oes rhywun," meddai, "am gael priod yn meddu doethineb? Crist ydyw hwnw. A oes rhywun yn dymuno priod cyfoethog: priod a dâl ei holl ddyled, fel y rhaid i ni bechaduriaid gael? Y cyfryw un yw yr Iesu; y mae yn berchen ar holl drysorau nefoedd a daear, y mae yn meddianu pob peth ag sydd yn meddiant y Tad tragywyddol. O fy nghyd—bechaduriaid tlodion, yr ydym oll yn ddyledwyr i gyfraith Duw; yr ydym mewn perygl bob awr o gael ein dal gan ei gyfiawnder, a chael ein tori i lawr yn ein pechodau, a chael ein rhan yn y lle hwnw nad oes obaith. Nid rhyfedd gan hyny i Ffelix grynu pan oedd Paul yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd. Er hyn i gyd, y mae dynion i'w cael a chanddynt feddyliau da am eu rhinweddau, a'u cyfiawnderau eu hunain; a haerant eu dieuogrwydd yn ngwyneb deddf ac efengyl. Pe y buasent ddieuog, yna bu Crist farw yn ofer, yr hyn sydd yn ynfydrwydd ac yn gabledd ei feddwl. Geill y goreu o honom ddweyd fel yr Apostol: Ynof fi, hyny yw yn fy nghnawd, nid oes dim da yn trigo.' Pe bai y goreu o honom yn cael ei alw i'r farn, a gwneuthur â ni yn ol ein haeddiant, fe'n bwrid i uffern yn dragywydd." Teimlai Peter Williams yn enbyd o dan y bregeth; ac eto, y mae lle i feddwl ei fod yn ceisio gwneyd noddfa o'i hunan—gyfiawnderau, gan lechu yn eu cysgod rhag y saethau ofnadwy a deflid oddiar fwa y pregethwr. Meddai ef ei hun: 66 Myfi a gefais fy nghlwyfo, ond nid fy nychwelyd; yr oeddwn fel yn teimlo blaen ei gleddyf, ond ni syrthiais i lawr." Eithr nid oedd Whitefield wedi gorphen eto, ac nid oedd Yspryd yr Arglwydd wedi darfod â Peter Williams. Y mae y pregethwr yn dyrchafu ei lais fel udgorn, a chyda bloedd ofnadwy o effeithiol, sydd yn cyrhaedd cyrau eithaf y dorf, dywed: "Fy mhobl anwyl! Mi a fum am flynyddoedd mor ddiwyd a gofalus a neb sydd yn bresenol. Bum yn gweddïo saith gwaith yn y dydd; yn ymprydio ddwy waith yn yr wythnos; yn myned i'r eglwys bob dydd, ac yn derbyn y cymun bob Sabbath; ac eto, yr holl amser hwnw, nid oeddwn yn Gristion." Gyda yr ergyd hwn dyma noddfa hunan—gyfiawnder Peter Williams yn garnedd; nid oes ganddo loches mwy i ymguddio ynddi. Meddai: "Y geiriau uchod, yn cael eu llefaru gydag awdurdod, a aethant megys saeth at fy nghalon; cefais fy nharo yn y fath fodd, fel yr oeddwn yn crynu trwy bob aelod. Bellach, nid oeddwn yn debyg i mi fy hun; yr oeddwn fel y clai yn llaw y crochenydd." Y pwnc yr awyddai y llanc ei ddeall yn awr oedd, beth oedd bod yn Gristion. Ar y mater yma, ni adawodd y pregethwr ef mewn tywyllwch. "Bod yn Gristion," meddai, "yw derbyn Yspryd Crist.

LACHARN, SIR GAERFYRDDIN
[Golygfa ar y Castell a'r Morfa.]


'Od oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef.' Bod yn Gristion yw bod yn brofiadol o'ch trueni wrth natur; gweled eisiau Iachawdwr; credu fod y dyn Crist Iesu yn Fab Duw, ei fod wedi dyfod i'r byd i achub pechaduriaid, a'i fod yn alluog i gyflawni y gwaith y daeth ef i'r byd i'w wneuthur. Yn mhellach, bod yn Gristion yw adnabod llais Crist, codi ei groes, a'i ganlyn; bod yn un ag ef, yn asgwrn o'i asgwrn, ac yn gnawd o'i gnawd; aros ynddo; bod yn deml iddo; ymddiddan ag ef; adnabod ei ewyllys, a byw i'w glod."

Nis gallwn ddilyn y pregethwr yn hwy, ond cafodd Peter Williams ei achub yn y cyfarfod. Wrth ymadael, canmolai ei gymdeithion y pregethwr; mawr edmygent ei hyawdledd, ei ddifrifwch, a'i ddoniau; "ychydig a wyddent," meddai Peter Williams, "am yr adeilad a gododd efe ynof, neu'r creadur newydd oedd wedi ei ffurfio o'm mewn, a hyn oll mewn yspaid awr." Nid yw yn ymddangos, er hyn, ei fod wedi meddianu rhyddid yr efengyl. Gweinidogaeth Sinai a lanwai ei yspryd; yn nganol y taranau a'r mellt y preswyliai; nid oedd Calfaria eto wedi dyfod i'r golwg yn amlwg, ac nid oedd y mellt wedi diffodd yn y gwaed. Meddai: "Angelion yr uchelderau a ymwelasant â mi; amser fy niwygiad a ddaeth; a'm holl bechodau, mewn meddwl, gair, a gweithred, a ddaethant i'm cof, fel pe buasai llifddorau yn cael eu hagor, a'r llifeiriant yn myned droswyf, nes yr oedd fy enaid yn soddi mewn ofn a dychryn." Yr oedd pob peth wedi newid i'r llanc erbyn hyn. Aeth y llyfrau clasurol, gweithiau yr awdwyr paganaidd, Homer, Horace, Virgil, ac Ovid, yn ddiflas iddo; nis gallai osod ei feddwl arnynt o gwbl. Ceisiai gelu ystâd ei feddwl; ond deallai ei athraw yn dda fod pregeth Whitefield wedi dylanwadu arno; eithr ni ddywedodd air wrtho. Cefnodd ei gyfeill ion arno; ni chymerent arnynt ei weled ar yr heol. Cwynai eraill o'i blegyd, fod arwyddion unwaith y deuai yn ysgolhaig gwych, yn gystal a chyfaill dyddan; ond yn awr, ei fod wedi myned yn Fethodist. Meddai: "Câr a chyfaill a'm gadawsant." Ni wyddai am neb i adrodd ei dywydd wrtho, nac i ofyn gair o gyfarwyddyd, oddigerth un ddynes ieuanc, aelod o'r teulu yn mha un y lletyai; yr hon a gawsai ei hargyhoeddi dan yr un bregeth ag yntau. Pa hyd y bu cyn cael rhyddhad i'w enaid, a pha foddion a fendithiwyd i gymeryd ei faich i ffwrdd, sydd anhysbys; ond sicr ydyw i'r maglau gael eu tori, ac iddo yntau ddianc fel aderyn o law yr adarwr. Bellach, yr oedd Peter Williams yn ddyn newydd, a'r cwbl yn newydd iddo yntau. Cyn ei droedigaeth, yr ydoedd, mewn undeb â rhai o'i gyfeillion ieuainc, wedi gwneyd parotoadau i gynal cyfarfodydd llawen, a dawnsio, yn ystod gwyliau y Pasg a'r Sulgwyn; i'r pwrpas hwn, cyflogasent delynwr; ond bellach, nid oedd swyn iddo yn y cyfryw bethau. Nid ydym yn gwybod a gynhaliwyd y cyfarfodydd, ond y mae yn sicr nad aeth efe iddynt, os do. Ar yr un pryd, nid yw yn ymddangos iddo ymuno a'r seiat Fethodistaidd yn Nghaerfyrddin.

Yn fuan gwedi hyn gadawodd yr athrofa, ac aeth i gadw ysgol i Cynwil Elfed, plwyf gwledig tua phum' milltir o Gaerfyrddin. Nid yw yn ymddangos iddo geisio urddau esgobol yn uniongyrchol. Yr oedd arno eisiau hamdden i astudio duwinyddiaeth, a hwyrach fod ei argy. hoeddiad wedi dyrysu ei feddwl am dymhor, fel nas gallai dori allan gynllun i'w fywyd. Bu yn dra ymdrechgar yn Nghynwil, nid yn unig fel ysgolfeistr, a chyda ei efrydiau, eithr i atal llygredigaethau, ac i ddwyn y trigolion i feddwl am grefydd. Yr oedd gwneyd rhywbeth dros yr Iesu wedi dyfod yn awyddfryd ang herddol ynddo. Ail—gyneuodd yr awydd yn ei yspryd am ymgyflwyno i'r weinidog aeth; teimlai fel Paul, mai gwae ef oni phregethai yr efengyl. Eithr nid y cymhellion gynt, sef cydymdeimlad ag addysg, a hoffder o lyfrau, a ddylanwadai arno yn awr, ond dymuniad am gyhoeddi ar led drysorau gras, fel y gallai pawb gyfranogi o honynt fel yntau. Gwnaeth gais at yr esgob am ordeiniad, a chafodd gymeradwyaeth Mr. Einion, ei hen athraw, yr hwn a fu yn ddigon caredig i beidio a dweyd gair am ei duedd Fethodistaidd.

Ymddengys i Mr. Einion hefyd amgau i'r esgob y llythyr Lladin o ddiolchgarwch a anfonasai y gŵr ieuanc iddo. Profodd hwn yn allwedd effeithiol i agor iddo ddrws yr offeiriadaeth, a chafodd ei ordeinio i guwradiaeth eglwys Gymmun, plwyf ar gyffiniau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Nid yw dyddiad yr ordeiniad genym, ond y mae yn sicr iddo gymeryd lle tua diwedd y flwyddyn 1743, neu ddechreu y flwyddyn 1744.

Yn eglwys Gymmun yr oedd holl ofal y plwyf arno. Preswyliai y periglor yn Lloegr, lle y meddai swyddogaeth uchel, ac y caffai gyflog dda; ni ofalai am ei blwyfolion tlodion yn Nghymru o gwbl, oddigerth dyfod unwaith y flwyddyn i'w mysg i dderbyn y degwm. Bychan oedd cyflog Peter Williams; gofalai y periglor am gadw y brasder iddo ei hun, ond nid oedd hyn yn poeni y cuwrad ieuanc o gwbl, oblegyd ychydig oedd yn eisiau arno, a chadwai ysgol ddyddiol, fel na byddai mewn petrusder gyda golwg am gynhaliaeth. Ymdaflodd ar unwaith i'w waith. Pregethai gyda nerth, er mai darllen ei bregethau a wnelai. Yn fuan sefydlodd gyfarfod gweddi yn y plwyf, yr hwn at gedwid mewn gwahanol dai yn gylchynol. Yn y cyfarfodydd hyn, nid yn unig gweddïai, eithr rhoddai air o gynghor i'r rhai oedd yn bresenol, gan eu hanog i fywyd rhinweddol a duwiol. Y mae yn anmhosibl darllen ei hanes heb weled fod ei ddechreuad yn hollol yr un fath ag eiddo Howell Harris; yr unig wahaniaeth o bwys ydoedd fod Peter Williams yn ŵr mewn urddau, tra yr oedd Harris yn amddifad o'r cyfryw fraint. Ymddengys fod rhyw gymaint o gallineb y sarph yn y cuwrad ieuanc. Llenwid y wlad y pryd hwn gan ofn, rhag y byddai i'r Ymhonwr (Pretender) enill gorsedd Prydain; crynai Llundain ei hun. Parodd hyn i lawer weddio am ddwyfol amddiffyn dros y brenhin nad arferent blygu ar eu gliniau. Cymerodd Peter Williams yr helynt yn gochl i guddio yr hyn a ystyrid yn afreolaeth, yn ei waith yn cynal cyfarfodydd gweddio. Eithr er ei ofal, drwgdybid ef o fod yn tueddu yn ormodol at Fethodistiaeth. Yr oedd purdeb ei fuchedd, gwresawgrwydd ei weddïau, ei waith yn gweddio heb lyfr, a thôn ei gyfarchiadau, yn peri i'r bobl ledamheu mai Methodist ydoedd. Ac yr oedd tueddu at hyn yn cael ei ystyried yn bechod enbyd yn mysg yr Eglwyswyr yr adeg yma. Perai peth arall iddynt amheu y cuwrad. Pan fyddai un o'r plwyfolion farw, anghefnogai yn gyfangwbl y defodau Pabaidd oedd mewn arferiad yn yr ardal ar y cyfryw achlysur, eithr anogai y bobl i ddifrifwch, darllen y Beibl, gweddio, a chanu salmau.

Eithr dygwyddodd amgylchiad yn fuan a benderfynodd y mater tuhwnt i ddadl. Un boreu Sabbath aethai y cuwrad i'r eglwys fel arfer. Yr oedd ei bregeth ganddo wedi ei hysgrifenu yn ofalus ar bapyr. Gwedi myned trwy y gweddïau dechreuodd ddarllen yr hyn a ysgrifenasai gyda dwysder; eithr wrth godi ei ben, at thaflu golwg frysiog ar y gynulleidfa, gwelai ryw bobl ieuainc anystyriol, yn lle talu sylw i'w ymadroddion, yn cellwair, ac yn taflu blodeuglwm, mewn chwareu, y naill at y llall. Cyffrodd enaid gweinidog Crist o'i fewn. Arosodd am enyd, i edrych a wnelai ei ddystawrwydd eu cywilyddio. Pan welodd nad oedd hyn yn peri iddynt gywilydd, dechreuodd lefaru wrthynt am sancteiddrwydd tŷ Dduw, a'r parch dyladwy i ordinhadau y tŷ; dywedai fod eu hymddygiad yn gyfryw na oddefid mewn chwareudy, chwaethach yn nghysegr yr Arglwydd, a'u bod yn euog o daflu yr anfri mwyaf ar fawrhydi y Jehofah. Gwedi llefaru fel hyn nes esmwythhau ei gydwybod, ceisiodd ail ddechreu darllen, ond methai a chael o hyd i'r man y gadawsai, ac oddiyno i'r diwedd bu raid iddo ymdaflu ar ei adnoddau, a llefaru fel y rhoddai yr Arglwydd iddo ymadrodd. Teimlai ef ei hun ar y pryd fod hyn yn gryn drosedd, a gofynai yn gyhoeddus am faddeuant y gynulleidfa. Eithr yr oedd maddeu pechod mor ysgeler yn beth hollol anmhosibl i'r bobl foneddigaidd oedd yn bresenol. Dibwys ganddynt oedd fod yr ieuenctyd yn chwareu ac yn cellwair yn ystod yr addoliad cyhoeddus; bychan yn eu golwg oedd fod y werin yn marw o eisiau gwybodaeth; ond am lefaru yn y pwlpud, dan ddylanwad eiddigedd sanctaidd dros ogoniant Duw, heb fod y sylwadau wedi cael eu hysgrifenu yn flaenorol, yr oedd hyn yn bechod mor waradwyddus fel yr ystyrient ef y tu allan i derfynau maddeuant. Wrth fyned allan clywai Peter Williams y gwŷr mawr yn sibrwd wrth eu gilydd: "Yr oeddym yn ei ddrwgdybio yn flaenorol," meddent, "mai Methodist ydoedd; eithr dyma y peth yn amlwg o'r diwedd, y mae wedi tynu ymaith y llen-gudd." Dygwyddai gwraig y periglor fod yn bresenol, yr hon a anfonodd adroddiad o'r hyn a ddygwyddasai i'w gŵr. Gyda throad y post dyma lythyr i'r cuwrad yn cymeryd ei swydd oddiarno. Sail yr ymddygiad hwn, yn ol geiriau y llythyr, oedd a ganlyn: "Y mae y Parch. Peter Williams, cuwrad eglwys Gymmun, yn cael ei gyhuddo o bregethu y pechod gwreiddiol, cyfiawnhad trwy ffydd, a'r angenrheidrwydd anorfod am ail-enedigaeth." Pechodau difrifol, onide, mewn gweinidog? Atebodd Peter Williams, mai yr athrawiaethau, am bregethu pa rai yr oedd yn cael ei gondemnio, yn ol ei farn ef, oedd sylfaen erthyglau Eglwys Loegr; a dymunodd ar y periglor i ddatgan ei olygiadau gyda golwg arnynt, ac addawai, os medrai wneyd hyny gyda chydwybod rydd, i ddilyn y cyfarwyddiadau a gaffai. I'r llythyr hwn nid atebodd y periglor air; eithr yn mis Awst daeth i lawr, gan wasanaethu ei hun hyd nes gorphen blwyddyn y cuwrad. Aeth y gŵr ieuanc ato, gan ddymuno cael pregethu yn ei glyw, fel y gallai farnu parthed ei gymhwysder i'r offeiriadaeth. Yr unig ateb a roddai y periglor iddo oedd, ei fod yn credu mai Methodist ydoedd, ac na fyddai a fynai ag ef mwy. Dadleuai y cuwrad fod ganddo drwydded i bregethu oddiwrth Esgob Tyddewi. Atebai yr offeiriad y gwnai ei roddi yn Nghwrt yr Esgob, ac y cymerid ei drwydded oddiarno yn fuan. Erbyn hyn canfyddai Peter Williams ei bod yn tywyllu arno o bob tu, a brysiodd at yr Esgob, i ragflaenu y cyhuddiad a welai oedd yn dyfod. Eithr derbyniad hynod o oeraidd a gafodd. Yr oedd rhywrai wedi bod yn ddiwyd yn cludo chwedlau am dano i'r Esgob. "Yr wyf wedi clywed eich hanes," meddai, " yr ydych wedi bod yn pregethu yn Llanlluan a Chapel Ifan." Capelau Eglwysig oedd y rhai hyn, a gawsent eu gadael i fyned yn adfeilion; eithr yr oedd y Methodistiaid wedi cymeryd meddiant o honynt, gan eu hadgyweirio i raddau, a'u defnyddio i bregethu yr efengyl ynddynt. Awgryma cyhuddiad yr Esgob fod cryn gyfathrach wedi bod rhwng Peter Williams a'r Methodistiaid yn barod, er nad ydoedd wedi ymuno â hwy yn ffurfiol. Dadleuai yntau, yn ngwyneb y cyhuddiad, mai lleoedd cysegredig perthynol i Eglwys Loegr oeddynt. Yr unig atebiad a gaffai gan ei arglwyddiaeth ydoedd, os gwnai beidio pregethu am dair blynedd, ac ymddwyn yn weddus, sef, yn ddiau, peidio ymgymysgu â'r Methodistiaid, y rhoddai efe iddo ar ben y tymhor hwn gyflawn urddau. "Sut y gallaf fyw cyhyd heb na gwaith na chyflog?" gofynai y cuwrad. "Gwnewch fel y medroch," meddai yr Esgob yn ol. Felly y terfynodd yr ymddiddan, a chafodd Peter Williams ei ollwng o'r palas esgobol heb gael cynyg ar fwyd na diod.

Dyma Peter Williams, druan, heb le, na golwg am dano, oblegyd pregethu yr hyn a ystyriai efe yn wirionedd Duw. Eithr yr oedd ganddo gyfaill calon yn yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror. Pan glywodd efe am y tro, anfonodd am dano, a hysbysodd ef fod eisiau cuwrad yn nhref Abertawe. Brysiodd yntau yno, a'r guwradiaeth a gafodd. Eithr am fis yn unig y cafodd wasanaethu. Yr achos a barodd iddo gael ei yru i ffwrdd oedd a ganlyn: Daeth y Sabboth i'r maer, yn nghyd â chorphoraeth Abertawe, ac hefyd yr aelod seneddol dros y fwrdeisdref, i fyned i'r eglwys. Gwedi i Peter Williams ddarllen yr holl wasanaeth, cyfododd y boneddigion i fyned allan; nid yw yn ymddangos yr arferent gael pregeth ar y cyfryw achlysur. Eithr rhoddodd ef salm allan i'w chanu; eisteddodd y boneddigion yn eu holau, a thraddododd yntau bregeth effeithiol iddynt oddiar 2 Cron. xix. 67: "Canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd," &c. Taranodd yn erbyn derbyn gwobrau wrth farnu; a dywedodd wrthynt, oni ymddygent yn gydwybodol yn ol cyfraith Duw, y byddai holl bechodau y bobl yn gorwedd wrth eu drysau. Anfoddlonodd rhai o'r boneddwyr yn enbyd, a'r maer yn eu mysg. Ystyrient fod y cuwrad wedi gwneyd yn rhy hyf arnynt, a thalasant y pwyth iddo, trwy beidio ei wahodd i'r wledd arferol. Yn mhen y mis aeth Peter Williams i'r eglwys, a gwelai ŵr yn y pwlpud yn barod, ac wedi ymddiddan ag ef, deallodd ei fod wedi cael ei anfon i gymeryd ei le. Yr esgus a roddwyd i'r cuwrad ydoedd, fod y plwyfolion wedi anfoddloni wrtho. Er byred yr amser y bu yn Abertawe, ymddengys i'w lafur gael ei fendithio yn ddirfawr. Dywedai amryw o'r rhai a garent yr Arglwydd Iesu iddo fod yn offeryn i'w cadarnhau yn ngwirionedd Crist.

Wedi dychwelyd i Gaerfyrddin clywodd fod eisiau cuwrad yn Llangranog a Llandysilio, yn Sir Aberteifi, a chwedi appelio, cafodd y lle. Gwnaethai gytundeb pendant am chwarter blwyddyn, eithr am ddau fis yn unig y cafodd aros yno oedd yn dra derbyniol gan y plwyfolion, eithr rhoddodd ei Fethodistiaeth dramgwydd i'w noddwr, ac i ffwrdd y gorfu iddo fyned. Gyda hyn y mae ei gysylltiad â'r Eglwys Sefydledig yn darfod. Yr oedd yn dra ymlyngar wrthi; o fewn ei chymundeb, ac yn gwasanaethu wrth ei hallor, y treuliasai ei fywyd, pe y cawsai ganiatad; ond yr oedd duwioldeb, ac awydd am gyhoeddi yr efengyl yn ei phurdeb i bechaduriaid, yn bethau na oddefid o fewn terfynau yr Eglwys yr adeg hono, ac allan y bu rhaid i Peter Williams droi. Aeth allan fel Abram gynt, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Eithr clywodd am ryw gynghorwr enwog yn Sir Benfro, yr hwn, yn ol pob tebyg, nid oedd yn neb amgen na'r gwas enwog hwnw i Grist, y Parch. Howell Davies, a chafodd ar ddeall ei fod yn pregethu yr efengyl gyda nerth ac arddeliad mawr. Penderfynodd fyned i'w wrando. Mewn lle o'r enw Castell-y-Gwair, yn y flwyddyn 1746, y cymerodd hyn le, pan yr oedd Peter Williams tua phedair—mlwydd-ar-hugain oed. Cafodd y fath flas ar bregeth Howell Davies, fel y torodd allan i weddio yn gyhoeddus ar y diwedd; a gwnaeth hyny gyda'r fath wres ac eneiniad nefol, nes gwefreiddio pawb, ac aeth yn orfoledd cyffredinol trwy yr holl gynulleidfa. Penderfynodd fwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid yn ddiymdroi. Cymerodd y pregethwr ef i Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid rywle yn nghyffiniau Sir Benfro; cyflwynodd ef i sylw y frawdoliaeth, ac ysgrifenwyd ei enw yn mysg y brodyr.

O hyn allan, pregethwr teithiol yw Peter Peter Williams, ac ymddengys iddo ddechreu ar ei orchwyl ar unwaith. Yn bur fuan, aeth i gapel Abergorlech, er mwyn clywed Daniel Rowland; eithr gwnaeth Rowland iddo ef bregethu. Cafodd odfa nerthol; bu ei bregeth yn effeithiol, dan fendith Duw, er achubiaeth i amryw. Cymerodd Rowland ef i Langeitho, lle y pregethodd gyda chryn ddylanwad. Cyfaddefa na wyddai nemawr y pryd hwn am olygiadau gwahaniaethol yr amrywiol bleidiau; diau y clywsai am Arminiaid, Baxteriaid, a Morafiaid; eithr ni wyddai fwy am danynt na'u henwau; yr oedd eu golygiadau ar wahanol athrawiaethau crefydd yn hollol ddyeithr iddo. Eithr pregethai efe Iesu Grist wedi ei groeshoelio, fel Ceidwad holl-ddigonol i bechaduriaid, ac yr oedd yr Arglwydd yn arddel ei genadwri syml. O Langeitho, aeth am daith i Ogledd Cymru. Y lle cyntaf yr ymwelodd ag ef oedd Llanidloes, a chawsai ei gyfarwyddo i alw yn nhŷ crydd, o'r enw Evan Morgan, yr hwn a breswyliai yn heol y Gogledd. Yr oedd yspryd erlid yn gryf yn Llanidloes yr adeg hon; nid diberygl i Fethodist oedd ymweled a'r dref; bu yn gryn helbul ar Peter Williams cyn dod o hyd i dŷ y crydd, eithr wedi iddo lwyddo, cafodd garedigrwydd mawr yno. Nid yw yn ymddangos iddo bregethu yn y dref, namyn cynghori yr ychydig bobl druain, dlodion, a ymgynullent yn nhŷ Evan Morgan. Oddiyma, aeth i gyfeiriad y Drefnewydd; pregethai pa le bynag y caffai gyfleustra; ac weithiau, byddai ganddo gyfaill crefyddol yn ei hebrwng o'r naill le i'r llall. Bu yn galed arno yn y Drefnewydd; galwasai gyda gôf i bedoli ei geffyl, ond yn fuan clywai y bobl yn sibrwd mai Cradog ydoedd, a dyma hwy yn dechreu lluchio cerig ato. Dywed fod y cerig yn dyfod gyda y fath ruthr, fel y tarawent dân allan o'r palmant. Ffodd am ei fywyd i gyfeiriad Llanfair-Careinion. Yn y gymydogaeth hono daeth o hyd i foneddwr lletygar oedd wedi gyfarfod yn flaenorol yn Llandrindod; gan hwn, cafodd garedigrwydd mawr, a gwahoddodd ef i bregethu y dydd canlynol yn nhŷ un o'i amaethwyr. Sylwa mai dyma y tro cyntaf iddo ganfod ychydig o haul er dechreuad ei brofedigaethau. Y lle nesaf iddo ymweled ag ef oedd y Bala, lle y clywsai fod ychydig o garedigion yr efengyl yn arfer cyfarfod. Yn nhy Ysgotiad duwiol yr arosai, ac ymddengys, hefyd, mai yma y darfu iddo bregethu. Ni wnaed ei ddyfodiad yn gyhoedd, eithr gwahoddwyd ychydig gyfeillion a pherthynasau i wrando. Daeth mwy nag a wahoddasid, ac er mwyn symud ymaith ragfarn, gwisgai y pregethwr ei dorchwddf (neck band) offeiriadol wrth lefaru. Gwrandawai rhai yn ystyriol; yr oedd eraill yn ddifater, ac hyd yn nod yn anfoesgar. Er mwyn enill eu sylw, cymerodd yn destun, nid adnod o'r Beibl, ond adran o'r gyffes a arferir yn y Llyfr Gweddi Cyffredin: "Aethom o'th ffyrdd di fel defaid ar gyfrgoll." Rhai yn unig a roddent glust; am y lleill, yr oeddynt yn llawn of yspryd erlid, a thaflent gerig mawrion, rhai yn dri phwys yn y man lleiaf, at y man y tybient ei fod yn cysgu. Eithr yr Arglwydd a'i cadwodd rhag derbyn niwed.

Clywsai fod ychydig yn gwrando yr efengyl yn Lleyn, ac yno yr aeth, eithr ni ddywed i ba leoedd. Cafodd gynulleidfaoedd lliosog, nid am fod y mwyafrif yn rhoddi gwerth ar Air yr Arglwydd, ond am eu bod yn awyddus am weled cyfarfod crefyddol yn cael ei gynal yn yr awyr agored, gan un o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig. Eithr cafodd amryw eu hargyhoeddi, ac yn eu mysg un foneddiges ieuanc, yr hon a ddywedai mai efe a gydnabyddai yn dad ysprydol tra y byddai byw. Oddiyma wynebodd ar Sir Fôn. Clywsai bethau enbyd am wŷr Môn, a'u hatgasedd at bregethu teithiol, ac am y dull ofnadwy yr ymosodent ar y pregethwyr, yn nghyd â'r rhai a'u canlynent. Yn arbenig, adroddid iddo hanes un odfa yn ddiweddar, pan yr oedd y gynulleidfa wedi ymranu, un blaid am glywed beth oedd gan y cablwr (dyna fel y galwent y pregethwyr tlawd) i'w ddweyd, a'r lleill am ei yru o'r wlad. Terfynodd y ffrwgwd mewn ymladdfa waedlyd, a bu raid i'r pregethwr ddianc am ei hoedl. Er y chwedlau yma ni chymerodd Peter Williams ei ddychrynu; wynebodd ar yr ynys yn nerth Duw. Ar y dechreu, cadwai o'r trefydd a'r lleoedd poblog, gan deithio ar hyd y rhan fwyaf bryniog o'r ynys, lle yr oedd y trigolion yn deneu. Gwyddai y byddai cynulleidfa fawr yn sicr o'i rwystro i siarad. Llefarai pa le bynag y cai bump neu chwech o wrandawyr; eithr pan elai y si ar led fod un o'r Pengryniaid wedi dyfod i bregethu yno, nes peri i'r lliaws ddyfod yn nghyd, byddai yntau yn dianc. Yn araf fel hyn daeth yn alluog i enill clustiau llawer o bobl, ac yn raddol eu calonau, nes medru bod yn fwy cyhoedd. Cyfarfyddodd hefyd a mab i ryw foneddwr, yr hwn a gawsai ei argyhoeddi trwy offerynoliaeth Howell Harris; bu hwn yn arweinydd iddo am beth amser, gan ei gymeryd i fanau lle yr oedd rhai mewn cydymdeimlad â'r efengyl. Nid oedd i gael ymadael o Fôn, modd bynag, heb brofi rhyw gymaint o lid y gelyn. Mewn tref, na rydd ei henw, yr oedd yr erlidwyr wedi ymgasglu yn llu; gwawdient a chrochlefent, a cheisient ddychrynu ceffylau Peter Williams a'i gyfaill, trwy ysgwyd cwd llawn o gerig, wedi ei rwymo ar ben pastwn hir; eithr nid rhyw lawer o luchio cerig oedd yno. Pan y tybiai y pregethwyr y caent basio heb gael dim gwaeth na gwatwaredd daeth rhyw grydd allan o'i weithdy, yr hwn a gymerodd lonaid ei law o fudreddi yr heol, ac a'i taflodd i wyneb Peter Williams, nes yr oedd am ychydig yn hollol ddall o'r ddau lygad. Modd bynag, wedi ei rwbio ymaith, cafodd nad oedd yr un o'i lygaid wedi eu niweidio. "Yna gorfoleddais," meddai, "a bu dda genyf fy mod yn cael fy nghyfrif yn deilwng i'm herlid er mwyn Crist, a'i efengyl bur."

LACHARN.


O Sir Fôn aeth i Drefriw. Yma yr oedd ei ddyfodiad wedi cael ei hysbysu yn rhy gyhoeddus, ac felly yr oedd yr erlidwyr wedi cael cyfleustra i'w dderbyn, yn eu dull neillduol hwy. Daethai torf lawn o ffyrnigrwydd yn nghyd, y rhai a gyflogasid gan ddau foneddwr oedd ar y pryd wedi yfed i ormodedd. Ymddengys na ddarfu iddynt guro y pregethwr, eithr rhoisant ef yn garcharor yn y tafarndy, ac yno y cadwasant ef o chwech o'r gloch y nos, hyd ddau yn y boreu, a cheisient ei wneyd yn destun difyrwch, fel y Philistiaid â Samson gynt. Meddai Peter Williams: "Gwnaethant i mi yfed; rhyddhasant fy nillad, trwy ddatod fy motymau oddi fynu hyd i waered; rhoddasant ferch i eistedd ar fy nglin, a gofynent lawer o gwestiynau am fy nysgeidiaeth, fy athrawiaeth, a'm canlynwyr, a beth oedd fy nhestun y boreu hwnw. Atebais: Os gwelwch yn dda, foneddigion, adroddaf i chwi'r testun, a'r bregeth hefyd.' Ar hyn, galwodd un o honynt am ddystawrwydd; 'y mae o yn myned i bregethu i'n diwygio ni,' ebai efe, ac yna, chwerthin mawr drachefn a thrachefn. Gofynais am fwyd a gwely, pryd y chwarddasant eilwaith, a dywedasnt gyda dirmyg: Cewch fwyd a gwely yn y man.' Dysgwyliais gael fy nhroi allan, a'm curo â cherig i farwolaeth, ac felly, mai yn y tywyllwch y gwneid pen ar fy einioes. Rhoddais fy hun i'r Arglwydd, gan barhau mewn gweddi ar ran fy ngwatwarwyr rhagrithiol. Ni chaniateid i mi weddïo na phregethu mewn llais uchel; ac yr oeddwn yn gruddfan am y gorfodid fi i wrando ar eu maswedd, eu rhegfeydd, a'u hymadroddion llygredig." Diau mai noswaith anfelus iawn a dreuliodd yn nghanol y fath haid annuwiol, ac eto, cysurai ei hun trwy adgofio fod gwell triniaeth yn cael ei hestyn iddo nag i'w Arglwydd. Cyn caniad y ceiliog cafodd ei ryddhau. Pa ddylanwadau a fu yn effeithiol i ddwyn hyn oddiamgylch, nis gwyddom. Cyn ymadael, gorchymynodd y boneddwyr i'r tafarnwr roddi bwyd a diod iddo; talasant hefyd ei holl gostau, ond siarsiasant ef na phregethai yn y pentref. Yr oedd efe, modd bynag, erbyn hyn yn y cyfryw stad fel nas gallai na bwyta nac yfed. Aeth i'r gwely, a chysgodd, yr hyn na fedrai ei gyfaill. Eithr yr oedd ei urdd—lythyrau wedi cael eu lladrata trwy dwyll. Ond yn ystod y dydd, daeth merch y gŵr a'u cymerasai, ar ei ol, a dychwelodd hwynt, rhag ofn cyfraith. Teimlai efe, a'r cyfaill oedd yn gydymaith iddo, eu bod wedi cael cymaint gwaredigaeth a Daniel o ffau y llewod. Yn sicr, yr oedd y pethau hyn yn brawf tanllyd i ŵr ieuanc, heb gyrhaedd ei bump-ar-hugain mlwydd oed, i fyned trwyddynt.

Pa le yr ymgartrefodd Peter Williams pan yr ymunodd a'r Methodistiaid gyntaf, ni wyddis i sicrwydd; eithr cyn i lawer o flynyddoedd basio, cawn ef yn byw yn Llandyfeilog, gerllaw y ffordd fawr sydd yn arwain o Gydweli i Gaerfyrddin. Enw yr amaethdy a wnaeth yn breswyl oedd. Gellilednais, ac y mae yn gorwedd tua phum' milldir o dref Caerfyrddin. Yno y bu byw hyd derfyn ei oes, ac yn mynwent Llandyfeilog y rhoddwyd ei gorph i orwedd gwedi iddo farw. Fel yr arfera plant dynion, priododd yntau, a bu iddo deulu cymharol liosog. Enw ei briod oedd Mary Jenkins, merch i foneddwr o gymydogaeth Llanlluan. Ychydig a wyddis am dani, ond yn ol pob hanes yr oedd yn ddynes rinweddol, ddystaw, a nodedig o dduwiolfrydig. Bu fyw am chwech mlynedd-ar-hugain ar ol ei phriod, ac yr oedd yn nghymydogaeth cant pan y bu farw. Parhaodd i fyned i'r addoliad hyd y diwedd, a dywedir iddi farchogaeth i'r capel o fewn pythefnos i ddydd ei marwolaeth. Fel pob gwraig dda, yr oedd ei ffydd yn ei phriod yn ddiderfyn. Yn ei henaint, gwedi i'w golygon ballu, gwnelai i'w hwyrion ddarllen penod o'r Beibl iddi yn aml, a rhaid oedd darllen sylwadau eglurhaol ei phriod ar y benod yn ogystal, a braidd nad ystyriai y sylwadau mor ysprydoledig a'r benod ei hun. Cawsant y fraint o ddwyn i fynu chwech o blant, sef tri o feibion, a thair o ferched. Cyrhaeddodd dau o'r meibion, sef Ebenezer a Peter Bayley, fesur helaeth o enwogrwydd yn yr Eglwys Sefydledig fel offeiriaid dysgedig ac ymroddgar; eithr bu y mab arall, John, farw yn gymharol ieuanc. Enwau y merched oeddynt Deborah, Margaret, a Betti. Ymddengys i'r tair ymsefydlu yn y byd, a chael teuluoedd. Mab i un o honynt oedd y Parch. David Humphreys, Llandyfeilog, gweinidog o gryn enwogrwydd yn mysg y Methodistiaid, doniau yr hwn a gyffelybid gan lawer o'r hen bobl i eiddo Ebenezer Morris. Merch iddo ef, ac felly orwyres i Peter Williams, yw Mrs. Davies, gweddw R. J. Davies, Ysw., Cwrtmawr. Y mae nifer mawr o hiliogaeth Peter Williams, trwy y merched, i'w cael ar hyd a lled gwlad Myrddin, a siroedd eraill, hyd heddyw, a chan mwyaf y maent mewn cysylltiad a'r Cyfundeb Methodistaidd.

Ond i ddychwelyd at hanes Peter Williams. Y mae yn sicr iddo gael lle amlwg yn mysg y Methodistiaid ar unwaith. Un rheswm am hyn oedd ei fod yn offeiriad urddedig, yr hyn a ystyrid ar y pryd yn beth tra phwysig; ond y mae yn sicr fod a fynai helaethrwydd ei ddysgeidiaeth, a dysgleirder ei ddoniau, â hyn. Yn mis Mai, 1747, sef yn mhen tua blwyddyn gwedi ei ymuniad a'r Methodistiaid, yr ydym yn darllen am dano yn pregethu yn Nghymdeithasfa Chwarterol Cilycwm, o flaen Daniel Rowland. Ei destun ydoedd: "Mor gu genyf dy gyfraith di," a chanmolai Howell Harris y bregeth yn ddirfawr fel un dra Ysgrythyrol. O hyn allan, cawn ef yn cymeryd lle blaenllaw yn mysg yr arweinwyr. Os nad ystyrid ef ysgwydd yn ysgwydd yn hollol â Rowland, Harris, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yr oedd yn agos iawn atynt, ac yn mhell uwchlaw neb arall. Nodwedd fawr ei bregethau oedd Ysgrythyroldeb. Ni ryfygai un amser esgyn i'r pwlpud heb barotoi, ac felly, tra y dibynai eraill lawer ar hwyl, byddai ef braidd bob amser yn gyffelyb, sef yn sylweddol, a Beiblaidd, ac athrawiaethol. Hyn a barodd i Williams, Pantycelyn, ddweyd wrtho mewn tipyn o gellwair: "Gelli di, Peter, bregethu lawn cystal pe byddai yr Yspryd Glân yn Ffrainc; ond am danaf fi, nis gallaf wneyd dim o honi, heb ei gael wrth fy mhenelin.' Meddai John Evans, o'r Bala, am dano: "Gŵr cryf o gorph a meddwl oedd Peter Williams, a phregethwr da. Llafuriodd yn ddiwyd a ffyddlawn; bu ei weinidogaeth yn dra bendithiol, a chafodd llawer eu galw trwyddo." Clywsom sylw am dano mai fel "Gŵr y ddau bwnc" yr adwaenid ef; a'r ddwy linell yn cael eu cymhwyso ato:

"Y ddau iawn bwnc ganddo'n bod,
Y camwedd a threfn y cymod."


Prin y gellir meddwl fod gŵr o alluoedd Peter Williams yn cyfyngu ei hun at "y ddau bwnc" hyn; ac eto, diau eu bod yn cael arbenigrwydd yn ei weinidogaeth, gan fod holl wirioneddau trefn iachawdwriaeth yn dal cysylltiad hanfodol a'r naill neu y llall o'r pynciau hyn. Os mai byr oedd ei wybodaeth dduwinyddol ar y cyntaf, gwnaeth gynydd dirfawr yn fuan, a chyn pen nemawr amser, braidd y rhagorai neb arno yn mysg y Methodistiaid o ran dirnadaeth o egwyddorion crefydd.

Ymunodd Peter Williams a'r Methodistiaid ar adeg bwysig, sef pan yr oedd y ddadl rhwng Howell Harris a'r arweinwyr eraill ar dori allan. Cawn ef yn bresenol mewn amrai Gymdeithasfaoedd y bu dadleu brwd ynddynt, a theimladau cyffrous yn cael en henyn; yr ydoedd yn Nghymdeithasfa Llanidloes, ac yn pregethu, sef yr olaf i Harris a Rowland fod yn nghyd ynddi cyn yr ymraniad. Nid yw yn ymddangos iddo ef gymeryd rhan yn y ddadl o gwbl. Efallai yr ystyriai ei hun yn ormod o newyddian yn y ffydd i ddweyd dim, y naill ochr neu y llall. Gallesid dysgwyl, oddiwrth y golygiadau a gyhoeddwyd ganddo ar ol hyn, mai cymeryd plaid Harris a wnelai. Gellid meddwl fod cryn debygolrwydd yn syniadau y ddau gyda golwg ar y Drindod. Eithr wrth Daniel Rowland y glynodd. Ai efe oedd y pedwerydd offeiriad, oedd yn bresenol gyda Rowland, Williams, a Howell Davies, yn Nghymdeithasfa Llantrisant yn y flwyddyn 1750, pan y penderfynwyd tori pob cysylltiad â Harris, nis gwyddom. Ar y naill law, nid ydym yn adnabod unrhyw offeiriad arall oedd yn fyw ar y pryd, a fuasai yn debyg o gael ei alw i'r cyfryw gyfarfod. Ar y llaw arall, prin y mae y dybiaeth yn gyson â phresenoldeb Peter Williams yn Nghymdeithasfa gyntaf plaid Harris yn St. Nicholas. pha beth oedd ei neges yn St. Nicholas, sydd ddirgelwch. Amlwg yw nad aeth yno gyda'r bwriad i ymuno; gwrthododd hyny yn bendant. Braidd na ellid tybio mai ei amcan oedd ceisio rhwystro rhwyg, cyn i bethau fyned yn rhy bell; oblegyd pan y gwnaeth Harris araeth, yn gosod allan ddrygedd ymddygiad Rowland a'i ganlynwyr, a'r anmhosiblrwydd i uno â hwynt heb iddynt edifarhau mewn sachlian a ludw, aeth Peter Williams allan, ac ni fu unrhyw gyfathrach rhyngddo, mor bell ag y gwyddom, â "phobl Harris tra y buont yn blaid ar wahan. Pan y gwnaed heddwch rhwng Harris a'r Methodistiaid, yn mhen tair-blynedd-ar-ddeg gwedi, yr oedd Peter Williams yn un o brif ddynion y Gymdeithasfa. Braidd nad ystyrid ef y nesaf at Rowland. Ac yr ydym yn cael ei fod, yn ogystal a'r arweinwyr eraill, yn derbyn y Diwygiwr o Drefecca yn ol gyda breichiau agored. Eithr nid ydym yn cael fod cyfeillgarwch arbenig yn ffynu rhyngddo ef â Harris; dau brif gyfaill y diweddaf, hyd ei fedd, er y cymylau a godai rhyngddynt weithiau, oedd Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn. Yr oedd ei enaid wedi ymglymu am y ddau hyn, fel eiddo Jonathan wrth Dafydd.

Derfydd yr Hunangofiant a gyfansoddwyd gan Peter Williams gyda hanes ei daith gyntaf i Ogledd Cymru. Ychydig o hanes manwl a feddwn am dano o hyny allan. Y mae yn amlwg, modd bynag, mai fel pregethwr teithiol y treuliodd ei oes, ac iddo drafaelu holl Gymru, o Gaergybi i Gaerdydd, ddegau o weithiau. Meddai gymhwysderau arbenig tuag at deithio y wlad yr adeg hon. Yr oedd ei gorph yn gadarn a gwydn, fel y gallai ddal pob math o dywydd; ei yspryd oedd wrol a hyf, ac ni ddychrynai rhag lid yr erlidwyr; yr oedd ei ddoniau gweinidogaethol mor enillgar, fel yn aml y byddai yn swyno ei wrthwynebwyr heb yn wybod iddynt; ac yr oedd ei ddyoddefgarwch a'i ymroddiad yn ddiderfyn. A dylid cofio, mai nid myned yn ol cyhoeddiad, wedi cael ei drefnu yn fanwl, y byddai, o leiaf yn nechreuad ei lafur, a chyfeillion caredig yn dysgwyl am dano ac yn barod i'w groesawi yn mhob lle; ond byddai raid. iddo weithio ei ffordd yn mlaen goreu y medrai, gan anfon rywsut a rhyw ffordd i hysbysu ei fod yn dyfod; ac efallai mai yr unig dderbyniad a gaffai, fyddai lu o erlidwyr yn ei aros, gyda cherig a phastynau yn eu dwylaw, a llidiowgrwydd lonaid eu hyspryd. Nis gallwn ddychymygu am fawredd ei ddyoddefaint. Mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo [5]Ionawr 3, 1747, adrodda iddo ef ac eraill gael eu dal yn eu gwely yn Rhosllanerchgrugog, trwy warant wedi cael ei harwyddo gan Syr Watkin Williams Wynne; iddynt fod tan arholiad gan Syr Watkin, yn ei balas, hyd yr hwyr, heb gael tamaid i'w fwyta na thracht i yfed; ac i'r prawf orphen trwy iddo ef gael ei ddirwyo o ugain punt, a phob un o'i wrandawyr o bum' swllt yr un. Wedi cyhoeddi y ddedfryd gollyngwyd hwy yn rhydd. Eithr o gwmpas deg o'r gloch y nos dyma y cwnstabli, a'r churchwarden, yn llety Peter Williams, gan hawlio y ddirwy. Gomeddodd yntau dalu. Yna, y prif gwnstab a afaelodd yn ei fraich, a'r churchwarden a wthiodd ei law i'w logell, gan gymeryd yr holl arian oedd ganddo ar y pryd, sef punt a dwy geiniog. Ac felly y terfynodd yr helynt.

Ei brif elynion oeddynt offeiriaid Eglwys Loegr. Deuai rhai o honynt yn aml i'w gyfarfodydd i derfysgu; a phan na fyddent yn bresenol, yr oeddynt wedi gofalu cyflogi dihyrod i gyflawni y gwaith. Pregethai unwaith yn y Garnedd Fawr, yn Môn, a daeth clerigwr yn mlaen, a fuasai yn gydysgolor ag ef yn athrofa Caerfyrddin. "Ffei, Peter," meddai yr offeiriad; "pa fodd y meiddi bregethu mewn lle anghysegredig?" Ebai yntau yn ol: "Maddeuwch fy anwybodaeth; yr oeddwn i yn. tybio fod y byd oll, er pan y sangodd Mab Duw arno, yn gysegredig i efengyl Crist." Dro arall, pan ar un o'i deithiau yn Sir Fôn, safai i bregethu yn ymyl tafarndy yn Rhosllugwy. Eithr ymgasglasai torf o greaduriaid diriaid, y rhai a benderfynasent ei rwystro i lefaru. Ni chaniateid i'r pregethwr fyned i'r tŷ, ac ni chaffai ei anifail le. Ar hyn, yn hollol foneddigaidd, ond yn ddiegwan o ffydd, rhoddodd yr emyn ganlynol allan i'w chanu:

"Yr Arglwydd bia'r ddaear lawr, A'i llawnder mawr sydd eiddo; Yr Arglwydd bia yr holl fyd, A'r bobl i gyd sydd ynddo."

Cymaint oedd y dylanwad cydfynedol at rhoddiad allan yr emyn, fel y darfu i'r terfysgwyr daflu y pastynau, yn nghyd a'r cyrn, a holl daclau yr aflonyddwch o'u dwylaw; cafodd y pregethwr dawelwch hollol i draethu cenadwri ei Dduw; ac yn yr odfa hono achubwyd amryw a fuont gwedi hyny yn golofnau cedyrn dan achos y Gwaredwr yn Sir Fôn.

Nid yn y Gogledd yn unig y bu Peter Williams dan erledigaeth, cafodd ei gamdrin aml i dro yn y Dê, ac hyd yn nod yn ei sir ei hun. [6]Pregethai un prydnhawn Sabbath mewn lle a elwir Cwmbach, yn gyfagos i eglwys y plwyf. Safai y pregethwr ar gareg farch yn yr awyr agored, a daethai torf yn nghyd i wrando. Gyda ei fod wedi dechreu pregethu, dyma heliwr Mr. Pryse, Plasnewydd, yr hwn foneddwr oedd yn ynad heddwch, yn dyfod i'r lle. Gwelid fod yn mwriad yr heliwr i greu terfysg, a'i fod, trwy yfed cyflawnder o wirodydd, wedi parotoi ei hun i'r gwaith. Nesaodd at y gynulleidfa, gan fytheirio llwon a rhegfeydd, a chrochlefain yn erbyn cynal cyfarfod o'r fath. Ymataliodd Mr. Williams dros enyd, a gofynai ai nid oedd. yno neb a allai berswadio yr aflonyddwr i fyned allan. Aeth dau ŵr ato, un o ba rai ydoedd Henry Pugh, y rhai a'i hataliasant i ruthro ar Mr. Williams, eithr a'i harweiniasant ef ymaith. Wrth ei fod yn myned, galwodd Peter Williams sylw y gynulleidfa ato, ac mewn modd ofnadwy o ddifrifol, dywedodd: "Os wyf fi yn genad dros Dduw wrth lefaru yma heddyw, chwi a gewch weled mai nid fel dyn arall y bydd y dyn yna farw." Gwir oedd ei eiriau. Yn mhen naw diwrnod gwedi, syrthiodd i bwll glo dwfn, fel y bu farw gwedi ei ddryllio yn arswydus. "Diau fod Duw a farna ar y ddaear."

[7]Yn Nghydweli, tref fechan heb fod yn nepell o'i gartref, cafodd driniaeth mor arw a dim a dderbyniodd yn ystod ei oes. Ymddengys fod y lle yn enbyd o annuwiol. Ceir traddodiad ddarfod i Howell Harris gael ei gamdrin yn dost yno pan yn gwneyd ymgais am bregethu yr efengyl. Aeth Peter Williams yno un prydnhawn Sabbath, gan sefyll ar gareg farch yn ymyl tŷ gwr o'r enw John Rees. Ar hyny, dyma haid o oferwyr yn dyfod i aflonyddu arno, y rhai a flaenorid gan ddyn mawr, garw yr olwg arno, a elwid Deio Goch, a rhywun arall. Yr oedd Mr. Williams wedi darllen penod o'r Beibl, ac ar fyned i weddi, pan y neidiodd Deio Goch ato, gan gipio y Beibl o'i law, a'i dynu i lawr oddiar y gareg ar ba un y safai. Yr oedd y dihyrwyr, meddir, wedi cael eu gosod ar waith gan offeiriad y plwyf; ac yr oeddynt wedi ymgymhwyso at y gorchwyl oedd ganddynt mewn llaw trwy ymlenwi â diod gref. Yr oedd y pregethwr, bellach, yn ei gafael. Curasant ef yn ddidrugaredd a'u ffyn; yn ganlynol, gosodasant ef ar ei geffyl, a gyrasant hwnw ar hyd y morfa, gan ei symbylu i neidio dros ffosydd mawrion; a rhyfedd ydoedd na fuasai yr anifail wedi tori ei goesau, a'r hwn a'i marchogai wedi tori ei wddf. Yn nesaf, cymerasant y pregethwr i'r tafarn, gan benderfynu ei feddwi, a thrwy hyny ei wneuthur yn destun gwawd. Gofynent iddo: "A wnewch chwi yfed?" "Gwnaf, fel ych," oedd yr ateb. Estynwyd y ddiod iddo; yntau, yn ddirgel, a'i tywalltai, nid i'w enau, ond i'w fotasau, nes yr oedd y rhai hyny yn llawnion. Wrth ei weled mor hwyr yn dychwelyd, anfonodd ei briod y gweision i edrych am dano, a thrwy eu cymhorth amserol hwy y cafwyd ef yn rhydd o grafangau yr anwariaid.

Ofer fyddai ceisio adrodd yr oll a ddyoddefodd Peter Williams, yn ei lafur o blaid yr efengyl yn Nghymru. Adroddir iddo, yn y flwyddyn 1766, fyned i Lanrwst, gan amcanu pregethu wrth neuadd y dref. Gyda ei fod yn dechreu, dyma lances o forwyn yn dyfod allan o dŷ oedd gerllaw, ac yn ymosod arno a'i holl egni, trwy luchio wyau gorllyd ato, nes yr oedd ei ddillad mewn cyflwr enbyd. Yn mhen amser, gwelodd y ferch fod perthynas agos iddi, o'r enw Gabriel Jones, yn sefyll yn ymyl y pregethwr, a bod yr wyau weithiau yn ei daro ef. Mewn canlyniad, hi a ymataliodd. Eithr wedi iddi hi beidio, dyma haid o oferwyr yn gafaelu ynddo, ac yn ei lusgo at yr afon. Yno, rhai a ddalient ei freichiau i fynu; eraill a godent ddwfr o'r afon, ac a'i harllwysent i'w lawes; a chan fod yr hin yn rhewllyd ac yn oer, yr oedd ei fywyd mewn perygl. Anhawdd gwybod beth a fuasai y canlyniad, oni bai i Richard Roberts, Tymawr, gŵr cyfrifol, o gymeriad da, ac yn meddu corph cryf, ddyfod heibio megys ar ddamwain. Cyffrodd yspryd hwn ynddo pan ddeallodd beth oedd yn myned yn mlaen; ym osododd ar y dihyrwyr, gan eu chwalu yn chwimwth ar bob llaw, ac achubodd y diniwed o'u dwylaw. Cymerodd y pregethwr adref i'w dŷ yn ganlynol, a chwedi gweini iddo bob ymgeledd angenrheidiol, aeth i'w ddanfon, dranoeth, dair milltir o ffordd, rhag iddo syrthio drachefn i ddwylaw yr erlidwyr. Ni chymerai Richard Roberts arno ei fod yn bleidiwr i'r Methodistiaid. Eglwyswr ydoedd, ac felly y parhaodd trwy ystod ei oes; ond prydferthid ei gymeriad â llawer o rinweddau dynol a Christionogol, ac nis gallai oddef gweled gweinidog yr efengyl yn cael ei anmharchu.

GELLILEDNAIS, GER LLANDYFEILOG.
[Preswylfod Peter Williams.]


Dyoddef yn gyffredin a wnelai Peter Williams, heb wneyd unrhyw ymgais i amddiffyn ei hun; dyna, hefyd, arferiad cyffredinol y Methodistiaid cyntaf, ond ambell i dro rhedai eu hamynedd i'r pen, ac appelient at gyfraith y wlad.[8] Un waith yr ydym yn cael ddarfod i Mr. Williams gael ei gamdrin yn enbyd yn Ninbych; ac nid digon gan yr erlidwyr oedd ei guro, eithr yspeiliasant ef o'r oll a feddai. Wedi iddo ddychwelyd adref i'r Deheudir, adroddodd yr hanes wrth ei gyfeillion. Cyffrodd y rhai hyny, a chasglasant arian i'w amddiffyn. Rhoddwyd yr achos yn llaw cyfreithiwr a breswyliai yn Aberhonddu. Mewn canlyniad, gwysiwyd wyth o'r prif faeddwyr i Lundain, i sefyll eu prawf, ac yn eu mysg yr oedd dyn ieuanc yn perthyn i un o'r teuluoedd mwyaf cyfrifol. Meddai hwn ddigon o gyfoeth i gyflogi y dadleuwyr goreu o'i blaid; ond methodd, er pob ymdrech, yn ei amddiffyniad, a chafwyd y rhai a gyhuddid oll yn euog. Y gosp a roddid arnynt oedd eu dihatru o nodded y gyfraith (outlawry). Trodd y teimlad, bellach, yn eu herbyn. Dywedai pawb mai cyfiawn oedd eu cosp. Gan hyny, yr oeddynt yn esgymunedig, ac ni allent aros yn y wlad. Bu farw rhai o honynt yn fuan o ymollyngiad meddwl; eraill a giliasant o'r golwg, ac ni chlybuwyd am danynt mwy. Am y gŵr ieuanc cyfoethog, bu yn nghudd ac yn alltud hyd nes y darfu i'w rieni allu prynu ei ryddid iddo, a'i ddwyn drachefn dan nawdd y gyfraith. Dywedir i'r ddedfryd hon ddwyn dirfawr ymwared i'r crefyddwyr, ac i arswyd eu herlid ddisgyn ar y gwŷr mawr.

Fel y darfu i ni sylwi, pregethwr athrawiaethol oedd Peter Williams yn benaf. Y deall a'r gydwybod a gyfarchai fel rheol, ac nid yn aml yr appeliai at y teimlad. Y mae lle i gasglu nad oedd yn gefnogol iawn i'r tori allan, a'r molianu, a fyddai yn cydfyned a'r diwygiadau. Ac eto, torai y cynulleidfaoedd allan mewn clodforedd a mawl, nid yn anaml, tan ei weinidogaeth ef ei hun. Pan yr ymwelai Howell Harris â Llangeitho un tro, wedi iddo ymgymodi a'r Methodistiaid, Peter Williams oedd yn pregethu yn y Gymdeithasfa, ac aeth yr holl gynulleidfa yn fflam, nes yr oedd enaid y Diwygiwr o Drefecca yn llawenychu ynddo. Ceir cofnod tra dyddorol am dano yn nydd-lyfr un o "deulu" Trefecca. Daeth ar daith i Frycheiniog, gwedi marw Harris, gan bregethu efengyl y deyrnas, ac nid oedd am ddychwelyd heb ymweled â Threfecca. Evan Moses a lywodraethai yno ar y pryd, ac ymddengys ei fod yntau yn anghefnogol i bob arddangosiad o deimlad mewn cyfarfod crefyddol. A ganlyn yw y cofnod: "Dydd Mercher, 6 Gorphenaf, 1774. Pregethodd Peter Williams yma. Aeth Gwen Vaughan i neidio. Yr oedd Evan Moses yn dra anfoddlawn, a mynai beri iddi fod yn llonydd. Eithr yr efrydwyr (yn athrofa yr Iarlles Huntington) a gymerent ei phlaid. Eithr efe (Evan Moses) a ddygodd dystiolaeth yn ei herbyn gyda brwdfrydedd priodol, ac a ddywedodd wrth Mr. Williams y byddai raid iddo roddi cyfrif am gefnogi y fath deimladau anmhriodol. Honai nad oedd hyn ond nwyd, a bod gwahaniaeth mawr rhwng calon ddrylliog ac yspryd cystuddiedig, ag yspryd cyfan a balch, fel ei heiddo hi, y rhai a wrthwynebent. Aeth Mr. Williams o'r pwlpud ar unwaith, pan ddywedodd Evan Moses wrtho y byddai raid iddo roddi cyfrif, gan ateb, y byddai raid iddo, yn ddiamheu." Felly y terfyna y cofnod, ac awgryma fod Peter Williams yn tueddu at fod o'r un syniad ag Evan Moses gyda golwg ar neidio a molianu.

Y mae yn bur sicr ddarfod i Peter Williams, heblaw teithio Cymru ar hyd ac ar led lawer gwaith, fod yn foddion i gychwyn llawer o achosion crefyddol yn ei sir ei hun. Efe, fel y cawn weled eto, a adeiladodd gapel Heol-y-dwr, Caerfyrddin, a hyny, gan mwyaf, os nad yn gyfangwbl, ar ei draul ei hun. Pe na buasai ond am ei lafur fel efengylydd, haeddai goffadwriaeth barchus, a lle uchel, yn mysg y Tadau Methodistaidd; eithr nid gormod dweyd mai mewn cylch arall y cyflawnodd waith pwysicaf ei fywyd, ac y gosododd ei gydgenedl tan y rhwymedigaeth fwyaf iddo. Yr ydym yn cyfeirio at ei lafur fel esboniwr. Darfu i'w waith yn dwyn allan y Beibl mawr, yn nghyd a sylwadau ar bob penod, yn y flwyddyn 1770, greu cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth grefyddol Cymru. Ychydig iawn a wnaethid yn y cyfeiriad yma o'r blaen. Ymddengys ddarfod i'r Parch. Evan Evans, "bardd ac offeiriad," fel ei gelwir weithiau, eithr sydd yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddonol, Ieuan Brydydd Hir, ddechreu ysgrifenu sylwadau ar y Beibl, ar gynllun nid annhebyg i eiddo Peter Williams. Eithr dros nifer fechan o lyfrau cyntaf yr Hen Destament yn unig yr aeth efe, ac ni chafodd yr hyn a ysgrifenodd erioed ei argraffu. Yr unig lyfr Cymreig o natur esboniadol, a gawsai ei gyhoeddi yn flaenorol i Feibl Peter Williams, mor bell ag y gwyddom, oedd Cysondeb y Pedair Efengyl, gydag agoriad byr a nodau athrawus, ar yr hyn a dybid yn dywyll ac anhawsaf ynddynt, gan y Parch. John Evans, A.C. Cawsai John Evans ei ddwyn i fynu yn y Meini Gwynion, ger Llanarth, ond gwasanaethai yn Plymouth, ac felly, fel "Offeiriad Plymouth" yr adwaenid ef yn ei sir enedigol. Er ddarfod i'r Cysondeb ymddangos yn y flwyddyn 1765, sef tua phum' mlynedd o flaen y Beibl mawr, rhaid i Mr. Williams ddechreu ar ei waith lawn mor gynar a John Evans, os nad yn gynarach, gan fod ei faes yn llawer helaethach. Felly, nid gormod dweyd mai i Peter Williams y perthyn yr anrhydedd o fod yn dad esboniadaeth Gymreig.

Nis gellir dirnad y dylanwad a gafodd Beibl Peter Williams ar fywyd ysprydol y genedl. Prynwyd ef gydag awch; nid oedd teulu crefyddol o fewn y Dywysogaeth yn foddlon bod hebddo, os gallent rywlun hebgor yr arian i'w bwrcasu. Cynilai gweithwyr o'u henillion bychain, a braidd nad aent heb eu beunyddiol ymborth, er mwyn ei feddu. Yn y ddyledswydd deuluaidd, darllenid nid yn unig y benod allan o'r Ysgrythyr, eithr sylwadau Peter Williams yn ogystal, a phrin y deallai llawer o ddynion da a duwiol nad oedd y sylwadau mor ddwyfol a'r Beibl ei hun. Ofer fyddai i neb feiddio dweyd gair yn ei erbyn; yr oedd sylw y Beibl mawr ar unrhyw fater yn derfyn ar bob ymryson. Edrychid arno gyda y parchedigaeth mwyaf, fel rhan anhebgor o addoliad Duw yn y teulu; coffaid y sylwadau yn y seiadau, a buont yn ymborth ac yn faeth i bererinion Seion o'r adeg yr ymddangosasant hyd y dydd hwn. Ceir rhai yn bresenol yn dibrisio sylwadau Peter Williams, gan ddweyd na ddaliant eu cymharu ag amryw o'r esboniadau sydd erbyn hyn wedi eu cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Dywedwn ninau na ddylid eu cymharu. Cyn cael syniad priodol am werth y sylwadau, rhaid galw i gof sefyllfa Cymru o ran manteision addysg pan yr ysgrifenwyd hwynt. Ychydig o lyfrau oedd yn y wlad, a'r ychydig hyny, gan mwyaf, allan o gyrhaedd y werin. Yr oedd yr Ysgol Sabbothol heb ei sefydlu, ac yr oedd yr hen Efengylydd o Gaerfyrddin yn tynu at derfyn ei yrfa, pan yr oedd Mr. Charles yn anterth ei nerth yn llafurio i'w chychwyn. Ychydig, mewn cymhariaeth, a fedrent ddarllen, er fod ysgolion cylchynol Griffith Jones wedi gwneyd llawer o les yn y cyfeiriad hwnw. Felly, braidd nad unig gyfrwng gwybodaeth grefyddol o fewn cyrhaedd y lliaws oedd yr hyn a geid yn ngweinidogaeth yr efengyl, ac yn y seiadau. I'r werin bobl, yn y sefyllfa yr oeddynt ynddi ar y pryd, nis gellid cael dim gwell na sylwadau Peter Williams. Ac erbyn cymeryd pob peth i ystyriaeth, y syndod yw eu eu bod mor sylweddol, cyfoethog, a chyflawn. Ei gynllun ei hun a gymerodd, ac y mae ei ddelw ei hunan ar yr holl sylwadau yn amlwg, er, ar yr un pryd, nad oedd yn amddifad o lyfrau cynorthwyol, yn mysg pa rai, y penaf, efallai, oedd sylwadau Osterwald, yr Allmaenwr, y rhai a gawsent eu cyfieithu ychydig yn flaenorol. Cadwai Mr. Williams ddau amcan o'i flaen wrth ysgrifenu ei sylwadau, sef, ar y naill law, gosod ynddynt ddigon o fater, fel ag i fod yn gymhorth sylweddol i'w gyd-genedl mewn ystyr grefyddol; ac ar y llaw arall, peidio esgyn uwchlaw cyrhaeddiadau gwerin ei oes, rhag i'w lafur brofi yn ddifudd. Yn y ddau beth hyn bu yn dra llwyddianus.

Nid bychan y llafur oedd yn angenrheidiol tuag at barotoi y gwaith, ac y mae yn syn iddo allu ei gyflawni, pan feddyliom ei fod yn teithio cymaint o gwmpas gyda phregethiad yr efengyl. Nid bychan oedd yr anturiaeth, ychwaith, o ddwyn allan argraffiad yn cynwys 8,600 o gopïau, yn arbenig pan y cofir nad oedd poblogaeth y Dywysogaeth y pryd hwnw fawr mwy nag un rhan o dair o'r hyn ydyw yn awr. Llawer o'i frodyr, â pha rai yr ymgynghorasai, a gredent mai ffolineb oedd meddwl am y fath beth, ac a geisient ei berswadio i roddi i fynu y syniad. Ond mor angerddol oedd ei zêl, a chymaint ei ffydd, fel y gosododd ei wyneb fel callestr. Profodd y canlyniad mai efe oedd yn ei le, a choronwyd yr anturiaeth â llwyddiant. Gwerthwyd yr argraffiad cyntaf allan yn llwyr yn mhen ychydig flynyddoedd, a daeth galw am ail argraffiad.

Heblaw y Beibl mawr, gyda sylwadau ar bob penod, dygodd Peter Williams allan y Mynegair Ysgrythyrol, yr hwn lyfr, er nad ellir ei ystyried yn hollol wreiddiol, a fu o wasanaeth dirfawr i'r genedl. Siaradai Mr. Charles yn uchel iawn am dano, a chafodd gylchrediad helaeth. Iddo ef, hefyd, y perthyn yr anrhydedd o ddwyn allan y cyhoeddiad cyfnodol cyntaf yn yr iaith Gymraeg, yr hwn a alwai, Trysorfa Gwybodaeth, neu, Yr Eurgrawn Cymraeg. Cyhoeddiad pythefnosol ydoedd, pris tair ceiniog; pymtheg rhifyn o hono a ddaeth allan. Cyhoeddwyd ef yn y flwyddyn 1770. Erbyn hyn y mae cyfnodolion Cymru yn llu mawr iawn, ond Trysorfa Gwybodaeth Peter Williams oedd ysgub y blaenffrwyth. Yn ychwanegol at y Beibl Teuluaidd, Y Mynegair, yn nghyd â Beibl John Canne, at yr hwn y cawn gyfeirio eto, cyhoeddodd nifer mawr o fân lyfrau, ar wahanol faterion, rhai yn wreiddiol iddo ei hun, ac eraill yn gyfieithiadau o'r Saesneg, ond oll yn tueddu i lesoli ei gydwladwyr, yn foesol a chrefyddol. Ysgrifenodd gryn lawer o farddoniaeth o bryd i bryd, a thebyg fod y ddawn brydyddol yn bur gryf ynddo, ond gan fod Williams, Pantycelyn, yn cydoesi ag ef, ac yn seren mor ddysglaer, ni ddaeth ef i lawer o amlygrwydd fel bardd. Modd bynag, gellir gweled oddiwrth hyn oll fod ei lafur yn ddiderfyn, ac nad oedd ball ar ei yni.

Yr ydym wedi cyfeirio at y Beibl mawr, yn nghyd a'r sylwadau ynddo ar bob penod, fel prif waith Peter Williams, ac fel colofn benaf ei anrhydedd; ond yn nglyn â hyn, hefyd, y cychwynodd ei brofedigaethau, a dyma, yn y diwedd, a fu yn achos iddo gael ei ddiarddel gan Gymdeithasfa y Methodistiaid. Buasai yn dda genym allu pasio heibio hyn, ond y mae yr helynt yn un mor gyhoeddus, fel y rhaid i ni gyfeirio ati. Yn yr argraffiad cyntaf o'i Feibl, ceir y sylw canlynol ar y benod gyntaf yn Efengyl Ioan: "Yr un yw meddwl Duw a'i ewyllys, a'r un yw ei ewyllys a'i air (o herwydd nid yw yn cyfnewid), ac efe a ewyllysiodd cyn bod byd nac angel, roddi Crist yn ben ar y byd; felly, y mae Duw yn Dad, Mab, ac Yspryd Glân, o dragywyddoldeb, yn ei ewyllys dragywyddol ei hun; nid 'mewn dull angenrheidiol o fod, pe na buasai rhaid achub un dyn, na sancteiddio un enaid,' fel y mae rhai mewn annoethineb yn dywedyd; eithr am ei fod yn ewyllysio achub a sancteiddio; canys Crist (yn yr hwn y mae doethineb Duw yn ymddangos yn benaf) oedd hyfrydwch y Tad yn nechreuad ei ffyrdd; ac yn Alpha ac Omega ei holl weithredoedd; yn gytunol a'r hwn ewyllys, Y Gair (yn nghyflawnder yr amser) a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni,—ac fe welodd rhai ei ogoniant, ac a gredasant fod Iesu yn Dduw! Nid yn Dduw trwy ordeiniad,' fel y mae rhai yn ofer siarad, eithr mai efe yw yr unig wir a'r bywiol Dduw; canys y mae yr ysgrythyr yn tystio mae'r Dyn Iesu yw'r Tad tragywyddol; a phwy Gristion a ddichon ddyoddef cabledd y rhai a wadant Dduwdod Crist?"

Nid yw yn hollol glir pa beth a olyga yn y sylwad hwn. Efallai nad yw y

geiriau yn gwbl annghyson a'r syniad fod y Duwdod yn hanfodi erioed, ac o angenrheidrwydd natur yn Dri Pherson; ond am y berthynas hanfodol hon, nad oes genym unrhyw wybodaeth, am nad ydyw wedi ei ddatguddio i ni; ac mai perthynas y Personau Dwyfol a'u gilydd yn nhrefn iachawdwriaeth pechadur yn unig sydd yn cael ei dynodi yn yr enwau Tad, Mab, ac Yspryd Glân. Os mai hyn a feddyliai, bu yn dra anffortunus yn ei ddull o eirio, a dweyd y lleiaf. Pa mor fuan y craffodd yr arweinwyr yn mysg y Methodistiaid ar y sylwad, ac y dygwyd achos yr awdwr ganddynt i'r Gymdeithasfa, gan ei gyhuddo o Sabeliaeth, sydd yn anhysbys. Y tebygolrwydd yw na ddigwyddodd hyn cyn yr ail argraffiad o'r Beibl mawr, a ddygwyd allan yn y flwyddyn 1781, gan ddarfod i'r un sylwad yn hollol ymddangos yn hwnw. Eithr yn fuan ar ol hyn, daeth y pwnc yn destun dadleuaeth frwd a phoenus mewn gwahanol Gymdeithasfaoedd. Nid yw hanes y ddadl genym, eithr cyfeiria Peter Williams ati yn un o'i lythyrau, a ysgrifenwyd ganddo tua diwedd ei oes. Fel hyn y dywed: "Ond amheu yr wyf fod rhyw rai yn cyffroi cynhen, trwy adgoffa yr hen ddadl, yn nghylch Maboliaeth ein Hiachawdwr, Iesu Grist; sef, pa un ai trwy genhedliad tragywyddol o sylwedd y Tad, fel y dywed rhai, neu o herwydd y natur ddynol a genhedlwyd trwy yr Yspryd Glân, fel yr wyf fi, yn ostyngedig yn meddwl, y cafodd ei alw yn Fab. Salm ii. 7." Profa y difyniad i ddadl boenus gymeryd lle ar y mater yn y Gymdeithasfa. Y mae yn sicr fod y Gymdeithasfa yn gyffredinol yn annghymeradwyo y sylwad; yr oedd yn anmhosibl i Daniel Rowland yn arbenig beidio, gwedi y safle a gymerodd yn y ddadl â Howell Harris; a diau fod Williams, Pantycelyn, yn cydweled ag ef. Ar yr un pryd, tra yr oedd plaid am ddiarddel yr esboniwr fel un oedd yn euog o heresi, safai Rowland a Williams yn gryf yn erbyn defnyddio mesurau mor eithafol. Nid annhebyg fod. yn edifar gan y ddau na fuasent wedi cyd-ddwyn mwy â Harris; yr oedd canlyniadau alaethus yr ymraniad yn fyw yn eu cof; ac erbyn hyn, yr oedd addfedrwydd oedran a dechreuad henaint wedi dysgu goddefgarwch iddynt. Felly, ni fynai y naill na'r llall glywed am ddiarddel Peter Williams, eithr ymfoddlonasant ar annghymeradwyo ei olygiad, a gweini cerydd iddo. Nid annhebyg fod cerydd Rowland

David Jones, Llan-gan

yn dra llym, ond gwyddai yr Esboniwr ei fod yn cyfodi gariad, ac felly gallai ei oddef. Hyn arodd iddo ganu yn ei farwnad i Daniel Rowland:

"O, mrawd Rowland, ni'th anghofiaf,
Ti roddaist i mi lawer sen;
Ymhob tywydd, ymhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai 'mhen?"


Tawelodd yr ystorm am beth amser, a chafodd Peter Williams ryddid i fyned o gwmpas fel arfer, i bregethu yr efengyl, ac i werthu ei lyfrau. Eithr tua'r flwydd yn 1790, dyma y dymhest! yn ail gyfodi, a hyny gyda mwy o gynddeiriogrwydd. A ganlyn oedd yr achos: Yn y flwyddyn a nodwyd, dygodd Peter Williams allan argraffiad o Feibl bychan, gyda chyfeiriadau John Canne ar ymyl y dail, a nodiadau eglurhaol o'i eiddo ei hun ar y godre. Y tebygolrwydd yw ddarfod iddo ymgymeryd a'r anturiaeth o gyhoeddi y Beibl hwn oddiar gymeradwyaeth ei frodyr yn y Gymdeithasfa, a chydag addewid am eu cynorthwy tuag at ei ledaeniad.

Yr oedd y nodiadau eglurhaol yn cynwys sylwadau ar y Drindod, a Mabolaeth Crist, nid annhebyg i'r sylwad a ymddangosasai yn y Beibl Teuluaidd; yn wir, braidd na ddefnyddiai yr Esboniwr ymadroddion cryfach wrth egluro ei olygiadau neillduol ei hun. O angenrheidrwydd, tueddai hyn i ail enyn y tân. Er mwyn cael gwybodaeth helaethach am olygiadau. Peter Williams parthed y Drindod, ni a ddifynwn ychydig ymadroddion allan o draethawd a ysgrifenwyd ganddo yn fuan gwedi ei dori allan, yr hwn a eilw yn Dirgelwch Duwioldeb. Meddai: "Y mae yn angenrheidiol credu fod yn undod y Duwdod Drindod, sef Tri Pherson yn un Duw, ac a eilw yr Ysgrythyr, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân. Ond na feddylied Ond na feddylied y darllenydd fod tri hanfod gwahanol, canys fe fyddai hyny yn wrthwyneb i undod y Duwdod. Nage, eithr y maent yn Dri Pherson mewn un hanfod." Beth a allai fod yn fwy uniongred? Yn nes yn mlaen, cawn: "Y Tad yw ffynhon y Duwdod, canys Duw trwy yr Yspryd a genhedlodd y Mab o Fair y Forwyn. Ac, fel y dywed y Credo, y mae yr Yspryd yn deilliaw oddiwrth y Tad a'r Mab." Eithr yn fuan yr ydym yn dyfod ar draws cymysgedd; cymysgedd syniadau, yn gystal ac aneglurder geiriad: "Y sawl a ddysgir gan Dduw i weled y fendigedig Drindod yn nghnawd y dyn Crist Iesu (pa mor ddiffygiol bynag fyddont mewn dysgeidiaeth ddynol), hwy a fedrant dystiolaethu trwy brofiad fod yr olwg arno yn adfywio eu heneidiau." Eto: "Ni feiddiaf fi ddweyd fod Trindod yn angenrheidiol i hanfod Duw, fel y mae rhai yn rhyfygus haeru; eithr mi a ddywedaf, ac yr wyf yn credu, fod y Drindod yn gwbl angenrheidiol i ddatguddio Duw i etifeddion bywyd tragywyddol." Eto: "Un yw Duw, a'r Mab ynddo fel brigwydd (misletoe) yn y pren, yn byw ar nodd y pren, heb un gwreiddyn gwahanol." Eto: "Ail Berson," meddynt (sef gwrthwynebwyr Peter Williams), "wedi ei genhedlu gyda Duw! Y mae yn anmhosibl i Dduw genhedlu Duw arall; os darfu Duw genhedlu Duw, rhaid fod yr un a genhedlwyd yn llai na'r hwn a'i cenhedlodd. Onid yw y cyfryw athrawiaeth ddisail yn waradwydd i Gristionogrwydd?" Eto: "Nid yw yr Ail Berson a genhedlodd Duw yn nhragywyddoldeb, allan o hono ei hun, ar ei ddelw ei hun, ond person dychymygol, nad oes son am dano yn y Beibl." Eto: "Fel y mae'r Tri Pherson wedi ymbarotoi i waith iachawdwriaeth; neu, fe ellir dweyd, y mae Duw wedi addasu ei hun dan y tri enw, Tad, Mab ac Yspryd." Rhaid addef y cynwysa y difyniadau uchod ymadroddion dyeithriol, a dweyd y lleiaf, am y Drindod, ac am berson ein Harglwydd; ac oni thybir eu bod yn cael eu hachosi gan gymysgedd iaith a syniad, a chan anfedrusrwydd i gyflwyno ei olygiadau i'r cyhoedd mewn iaith glir, nis gellir rhyddhau yr Esboniwr oddiwrth y cyhuddiad ei fod yn tueddu yn gryf i gyfeiriad Sabeliaeth.

Darfu i beth arall yn nglyn â dygiad allan ei argraffiad o Feibl John Canne chwerwi y teimlad yn erbyn Peter Williams yn ddirfawr, sef ei waith yn newid y cyfieithiad mewn amrywiol fanau. Yng ngholwg llawer o'r Methodistiaid, yr oedd y cyfieithiad Cymraeg o'r Ysgrythyr lân agos mor ysprydoledig a'r Ysgrythyr ei hun; rhyfyg enbyd yn eu golwg fyddai i neb, pa mor ddysgedig bynag y gallai fod, geisio newid gair neu ymadrodd ynddo; a phwy bynag feiddiai, caffai deimlo pwys hanfoddlonrwydd. Pan ddeallwyd ddarfod i Peter Williams ryfygu newid y cyfieithiad, cododd cri cyffredinol yn ei erbyn. Cyhuddwyd ef o wneyd hyny er naddu yr adnodau i ffitio ei gyfundraeth. Nid yw yn ymddangos fod y cyfnewidiadau yn bwysig iawn, a thueddwn i feddwl na amcanai efe, wrth eu gwneyd, gefnogi unrhyw gyfundraeth benodol o'i eiddo ei hun; ar yr un pryd, rhaid addef fod rhai o honynt yn tueddu i greu drwgdybiaeth. Yn Diar. viii. 25, lle y gosodir yn ngenau Crist y geiriau: "Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau, y'm cenhedlwyd," cyfieithai Peter Williams, "O flaen y bryniau y'm hesgorwyd." A chan ei fod yn gwadu ddarfod i'r Mab gael ei genhedlu er tragywyddoldeb, oddigerth yn arfaethol, yr oedd y newidiad a wnaeth yn peri i bobl dda fyned yn ddrwgdybus o burdeb ei amcan. Ei reswm ef oedd fod y gair yn yr iaith wreiddiol yn cael ei arfer yn yr ystyr a roddai efe iddo. Yn Esaiah liii. 10, yn lle "pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod," darllenai, "pan osodo efe ei hun yn aberth dros bechod." Dros hyn, rhydd ddau rheswm, sef fod y gair yn y gwreiddiol yn arwyddo yr holl ddyn, a'i fod yntau am ragflaenu cyfeiliornad, gan fod rhai yn tybio mai enaid dyn yn unig sydd yn pechu, ac felly mai enaid y Gwaredwr yn unig a ddylai ddyoddef. Ond, yn sicr, nid oes gan gyfieithydd un hawl i roddi darlleniad penodol er rhagflaenu cyfeiliornad. Yn y 12fed adnod o'r un benod: "Efe a rana yr yspail gyd â'r cedyrn," darllenai, "Efe a feddiana yspail y cedyrn." Yn Hebreaid v. 9, yn lle "Efe a wnaethpwyd yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol," darllenai, "Efe a ddaeth yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol," Mewn llawer o'r cyfnewidiadau, nid oedd unrhyw newidiad ar y synwyr; ond rhwng ysgelerder y trosedd, yn ngolwg llawer, o gyffwrdd mewn un modd a'r cyfieithiad o'r Beibl, a'i fod yn dyfod ar gefn geiriadaeth gymysglyd, os nad rhywbeth gwaeth, am athrawiaeth y Drindod, cododd y llif yn uchel yn erbyn yr Esboniwr o Gaerfyrddin.

CAPEL HEOL-Y-DWR, CAERFYRDDIN.


Cyn canlyn y ddadl i'w therfyn, gweddus nodi fod Peter Williams mewn llafur dirfawr gyda gweinidogaeth yr efengyl yn ystod yr holl amser y dygai ei argraffiad o Feibl Canne allan, megys cyn hyny. Ceir prawf nodedig o hyn mewn llythyr o'i eiddo, yn ei lawysgrif ef ei hun, sydd ar gael yn Nhrefecca, yr hwn na argraffwyd erioed. Yr ydym yn ei gyhoeddi air am air, a llythyren am lythyren, fel yr ysgrif enwyd ef, gan fod cryn ddyddordeb yn perthyn iddo ar amryw gyfrifon: "Caerfyrddin, Awst 22, 1789. Fy nghyfeillion, Yr wyf yn gobeithio eich bod yn iach, fel, trwy drugaredd, yr wyf finau. Dyma Gig 4 X yn dyfod i'ch dwylaw; atolwg, a gawsoch chwi bob papurlen a ddylasech ei chael? Dywedodd Mr. Wosencroft wrthyf i'w gyfaill adael yr un a ymddiriedais iddo ef, naill ai gyda Longfellow yn Aberhonddu, neu yn y postdy. Os ydych heb ei chael, mi a ymofynaf yn fanylach. Yr wyf yn rhyfygu diwygio ambell air yn y cyfieithiad beunydd; ac yr wyf yn hyderu ynoch, yn yr Arglwydd, y bernwch yn ddiduedd; ac os gwelwch fi yn cyfeiliorni, dilynwch yr hen ffordd! Yr wy'n meddwl eich bod yn fy nyled o brawflen, ond nid ydych yn ofni y diangaf yn rhy bell arnoch! Yr wyf yn gweled Beibl Mr. Canne yn fwy buddiol pa fwyaf y trafodwyf arno; ac oni chaiff e' gam yn y wasg, e' fydd yn odidog. Chwi anfonasoch i mi ddwy brawflen y tro diweddaf. Pa un ai'n fwriadol, neu'n ddamweiniol, nis gwn; ond yr oedd un yn rhy ddu! ac mi taflais hi heibio. Yr wyf yn myned y Sabbath nesaf i Gapel Colby, neu'r Capel newydd, ar gyffyniau tref Aberteifi, ac yn bwriadu dychwelyd dydd Mawrth, i yru'r gwaith ymlaen drachefn. Llwydded yr efengyl fwy fwy er gwaethaf holl gryfder y gelyn. A bendith yr Arglwydd fo' ar bob duwiol amcan a lles i Sion ac adeiladaeth y Jerusalem newydd! yw dymuniad eich cydbererin a'ch cyfaill yn y cariad a bery byth,——PETER WILLIAMS." Ymddengys i'r llythyr yma gael ei anfon at y gŵr a arolygai yr argraffwasg yn Nhrefесса, lle yr oedd y Beibl hwn yn cael ei argraffu. Gwelir fod Peter Williams, er yn dynesu at ei nawfed-flwydd-a-thriugain, yn llawn llafur gyda phregethu yr efengyl, ac yn myned o gwmpas, a hyny i gryn bellder, yn feunyddiol. Gweddus hefyd hysbysu fod y Parch. David Jones, gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, yn gyfranog ag ef yn nygiad allan Beibl Canne, ond dywedir mai ar ysgwyddau Mr. Williams y disgynodd pwys y gorchwyl.

Y mae yn sicr ddarfod i'r dymhestl ruthro ar Peter Williams yn ei holl rym yn y flwyddyn 1790, ac i'w olygiadau fod yn destun dadleuaeth chwerw yn amryw o Gymdeithasfaoedd y flwyddyn hono, yn y De a'r Gogledd. Ei brif wrthwynebydd, fel y dywed traddodiad, oedd y Parch. Nathaniel Rowland, mab yr hen Efengylydd o Langeitho. Yr oedd ef yn llawn uchelgais, yn ddyn nodedig o falch, ac yn awyddu am lywodraethu yn y Gymdeithasfa, a diau diau y tybiai, ond iddo allu symud Peter Williams o'r ffordd, fod y llwybr i'r gadair uchaf yn rhydd iddo. Yr oedd Daniel Rowland yn llesg, ac yn analluog i fyned oddicartref, a bu farw, fel y gwelsom, Hydref, 1790. Yr oedd gwendidau henaint wedi cael goruchafiaeth ar Williams, Pantycelyn, yn ogystal, a bu yntau farw yr Ionawr canlynol. Felly, nid oedd neb o hen gyfeillion yr Esboniwr yn gallu dyfod i'r Gymdeithasfa i'w amddiffyn. Eithr dy wedir fod Rowland, tra yn annghymeradwyo golygiadau ei gyfaill, yn anfoddlawn i weithredu yn llym tuag ato; a phan y daeth ei fab, Nathaniel, adref o ryw gyfarfod, gan ymffrostio ei fod wedi llwyddo i gael pleidlais o gondemniad ar Peter Williams, iddo dori allan, a dweyd: "Nat, Nat, ti a gondemniaist dy well." Yn cynorthwyo Nathaniel Rowland yr oedd. Griffiths, Nevern, offeiriad arall; a phrin yr oedd neb yn y Gymdeithasfa yn meddu digon o nerth i wrthwynebu y ddau. Rhaid addef, hefyd, fod Peter Williams ei hun yn gyndyn a gwrthnysig; amddiffynai ei hun mewn tôn chwerw; ni wnai leddfu ei ymadroddion, na newid ei ddull o eirio, i gyfarfod â syniadau ei frodyr. Mor wir y dywediad, fod grym a gwendid gŵr yn tarddu o'r un ffynhonell! Yn awr, y mae ewyllys gref, anhyblyg, yr hen weinidog o Gaerfyrddin, yr hon a'i daliai yn ngwyneb llid ac erlid ei elynion, yn peri ei fod yn ystyfnig pan y ceisiai ei gyfeillion ei ddarbwyllo.

Dywed Owen Williams, yr hwn a ysgrifenodd gofiant iddo, i'r ddadl gael ei chychwyn yn Nghymdeithasfa y Bala, yn yr hon yr oedd Daniel Rowland yn bresenol, ac i Peter Williams amddiffyn ei hun mor gadarn, a rhesymol, ac Ysgrythyrol, nes taro ei wrthwynebwyr â mudandod; a phan y gofynwyd i Daniel Rowland a wnai ef ateb, dywedodd na wnai, fod y mater yn rhy bwysfawr, ac nad oedd ganddo ddigon o ddeall i wybod a ydoedd Peter Williams yn cyfeiliorni, ai nad oedd. Yr unig un, meddir, a feiddiodd wrthwynebu yn y Gymdeithasfa hono oedd Richard Tibbot, yr hwn, er ei fod wedi ymuno a'r Annibynwyr, a ddeuai i gymanfaoedd y Methodistiaid, ac a gymerai ran yn y dadleuon. Trueni mawr na fuasai yr Esboniwr wedi cael gwell cofiantydd; yr oedd Owen Williams, heblaw pob annghymhwysder arall, yn llawn rhagfarn at y Methodistiaid. Daeth y mater yn destun sylw drachefn yn Nghymdeithasfa Aberystwyth; nid oedd Daniel Rowland yn bresenol yn hon, ac yma tybir ddarfod i Nathaniel Rowland gymeryd rhan flaenllaw yn y ddadl. Yn Nghymdeithasfa Llanidloes, a gynhaliwyd yn y flwyddyn 1791, gwedi ymdriniaeth faith, ymddengys i'r frawdoliaeth ddyfod i'r penderfyniad fod yn rhaid diarddel Peter Williams, oddigerth iddo ymwrthod a'r syniadau a gyhoeddasai, ac addaw peidio eu cyhoeddi rhagllaw. Nid oedd ef yn bresenol, eithr anfonwyd llythyr ato yn ei hysbysu o'r penderfyniad. Mewn canlyniad, cawn ef yn ysgrifenu at ei gyfaill: "Mi a gefais lythyr anngharuaidd oddiwrth y brodyr yn Llanidloes, yr hwn a barodd i mi fawr ofid calon.' Eithr tynu ei eiriau yn ol ni fynai, nac addaw peidio eu cyhoeddi yn ol llaw; yn y peth hyn, nid oedd darbwyllo arno, a'r diwedd fu iddo gael ei lwyr ddiarddel yn Nghymdeithasfa Llandilo, yn y flwyddyn 1791. Nid yw hanes y drafodaeth genym, felly, ni wyddom pwy a gymerodd ran yn y ddadl. Nid oes amheuaeth mai prif wrthwynebydd Peter Williams yma eto oedd Nathaniel Rowland, i'r hwn y telid llawer o barch ar gyfrif ei dad enwog. Efe yn unig a ddelir yn gyfrifol am y weithred gan draddodiad, a chredir mai goddefol a fu corph y Gymdeithasfa. Gwir fod y Parch. Thomas Charles, o'r Bala, a'i frawd, y pryd hwnw, Mr. David Charles, Caerfyrddin, yn bresenol; ond ymddengys iddynt fod yn hollol ddystaw yn ystod yr ymdrafodaeth. Nid oedd gan y Parch. Thomas Charles un drwgdeimlad at yr hen Esboniwr; yr oedd yn gyfoed, a buasai yn gydefrydydd, a'i fab, sef y Parch. Eliezer Williams, a dywedir ei fod ar delerau cyfeillgar, os nad rhywbeth mwy, ag un o'i ferched. Gwyddis am dano, hefyd, mai un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd. Eithr yr oedd yn gymharol ieuanc, ac nid oedd blynyddoedd lawer er pan yr ymunasai a'r Methodistiaid, felly, prin yr oedd yn briodol iddo gymeryd rhan mewn dadl mor bwysig, ac yr oedd yn rhy yswil i wrthwynebu dau offeiriad o safle. Am Mr. David Charles, nid oedd yntau ond dyn ieuanc, a phrin y gellir tybio iddo agor ei enau. Gwyddom y ffyna traddodiad yn mhlith disgynyddion Peter Williams, hyd y dydd hwn, ddarfod i'r ddau Charles brofi yn anffyddlon iddo yn y Gymdeithasfa, a'u bod i raddau mwy neu lai yn gyfrifol am ei ddiarddeliad; ac oblegyd hyn, na fu y teimladau goreu yn ffynu rhwng y ddau deulu am beth amser. Os oes rhyw sail i'r traddodiad, y tebygolrwydd yw mai bod yn ddystaw a wnaethant, pan, yn ol barn cyfeillion Peter Williams, y dylent lefaru.

Y mae llawer iawn o feio wedi bod ar y Methodistiaid oblegyd eu hymddygiad at Peter Williams; awgrymir fod a fynai cenfigen a'r peth, a'u bod yn gul, yn anfrawdol, ac yn honi anffaeledigrwydd. Am Nathaniel Rowland, ac eraill o'i wrthwynebwyr, gallent fod yn cael eu dylanwadu gan deimladau personol, ond y mae yn anmhosibl credu hyny, am gorph y Gymdeithasfa. Pe y cawsai teimlad personol le, diau y buasai yn troi o blaid cadw yr hen Esboniwr i mewn, ar gyfrif ei oedran, ei barchusrwydd, a'i ddefnyddioldeb. Ac y mae yn anmhosibl pwysleisio gormod ar y ffaith mai goddefol yn benaf a fu y Gymdeithasfa ar y mater. Dylid cofio hefyd fod pwys mawr yn cael ei roddi y pryd hwnw ar uniongrededd, fod cyfeiliornad mewn barn. ar brif bynciau yr efengyl yn cael ei ystyried yn waeth na chyfeiliornad mewn buchedd. Talai ein tadau warogaeth i wirionedd; credent fod y ffydd a rodded unwaith i'r saint yn werth dyoddef o'i phlegyd, ac yn teilyngu aberthu cyfeillgarwch, a theimlad personol er ei mwyn. Pwy a faidd ddweyd nad hwy oedd yn eu lle? Ai nid yw llawer o'r rhyddfrydigrwydd, a'r goddefgarwch, am yr hyn bethau y molir yr oes bresenol, pan fyddo syniadau amheus yn cael eu traethu, yn codi o ddifaterwch, ac o ddiffyg teyrngarwch dwfn o'r gwirionedd? Anhawdd peidio tosturio wrth Peter Williams, pan y gwelwn ef yn ei henaint yn cael ei alltudio o fysg ei frodyr a'i gyfeillion, a hyny am amddiffyn yr hyn a ystyriai ef yn wir athrawiaeth. Yr oedd y Gymdeithasfa hefyd yn wrthddrych tosturi, oblegyd yr oedd llygaid llawer o'r aelodau yn llawn dagrau wrth ei weled yn cael ei fwrw allan. Meddai Methodistiaeth Cymru: "Os gwnaed cam ag ef, o gamsynied y bu hyny, ac nid o fwriad; os bwriwyd ef allan gyda gormod ffrwst a haerllugrwydd, fe wnaed hyny mewn poethder dadl, ac oddiar syfrdandod yr ymryson." Y mae yn dra sicr genym, oddiar ein hadnabyddiaeth o brif ddynion y Methodistiaid ar y pryd, mai goddefol a fuont yn y cam, os cam hefyd; ac na fuasent yn oddefol oni bai fod cymysgedd syniadau yr Esboniwr yn peri iddynt. betruso.

Trychinebus iawn i Peter Williams a fu ei ddiarddeliad gan y Methodistiaid, oblegyd nid yn unig cauwyd capelau yr enwad rhag iddo gael pregethu ynddynt, ac anghefnogwyd yr aelodau i fyned i'w wrando; eithr trwy hyny, rhwystrwyd gwerthiant y Beibl bychan a ddygodd allan, neu Feibl Canne. Ymosoda ei fywgraffydd, Owen Williams, Waunfawr, yn enbyd ar y Methodistiaid o'r herwydd, gan eu cyhuddo o dori amod ag ef. Yn y mater yma hefyd, y mae yn sicr ei fod yn gwneyd cam â hwynt. Nid oeddynt wedi amodi cefnogi gwerthiant llyfr a gynwysai sylwadau oeddynt, yn ei barn hwy, yn gyfeiliornus a pheryglus. Os bu tori amod yn y mater, Peter Williams wnaeth hyny, trwy osod i mewn yn nglyn a'r Beibl nodiadau ag yr oedd y Methodistiaid yn flaenorol wedi dangos annghymeradwyaeth hollol o honynt. Mewn canlyniad, arosodd y Beiblau yn llu ar law Peter Williams a David Jones, a throdd yr anturiaeth allan yn dra cholledus. Gwedi ei ddiarddel, elai yr hen Esboniwr o gwmpas i bregethu fel cynt, eithr cadwai ei hen gyfeillion i ffwrdd oddiwrtho. Agorai yr enwadau eraill eu capelau iddo, ond y mae lle i ofni nad tosturi at ei gyflwr, na chydymdeimlad a'i olygiadau, oedd y rheswm am hyny, yn mhob amgylchiad; yn hytrach, hoffent gael cyfle i dderbyn un ag yr oedd y Methodistiaid wedi ei wrthod. Eithr os tybiai y naill blaid neu y llall y gwnai yr hen Esboniwr ymuno â hi, gwnaeth gamgymeriad; ni ddangosodd efe yr awydd lleiaf am ymuno â chyfundeb crefyddol arall; yn wir, nid yw yn ymddangos i'r syniad ddyfod i'w feddwl. Eithr gwnaeth apel drosodd a throsodd at ei frodyr yn y Gymdeithasfa am ail driniaeth ar ei achos; y mae y llythyrau a ysgrifenodd ar gael, ac y maent yn dangos dysgeidiaeth, cydnabyddiaeth a'r Ysgrythyr, a gallu ymresymu o radd uchel; ond dangosant hefyd lawer o chwerwder yspryd. Eithr gan na ddangosai yr awydd lleiaf ei fod am dynu dim yn ol, na rhoddi i fynu amddiffyn ei olygiadau neillduol, ni wnai y Gymdeithasfa dderbyn ei apêl. Y mae ei ymlyniad ef o un tu, a'r Gymdeithasfa o'r tu arall, wrth yr hyn a ystyrid yn wirionedd ganddynt, er cryfed y cymhellion i roddi ffordd, yn ddangoseg o gydwybod olrwydd dwfn yn y naill a'r llall. Eithr nis gallwn lai na gofidio iddo gael ei demtio i fyned i Gymdeithasfa y Bala, a gosod ei hun a'i hen gyfeillion mewn profedigaeth chwerw. Dywed ei fywgraffydd iddo gael ei wahardd i bregethu ar y platform. Yr ydym yn amheus iddo geisio hyny; os do, gwnaeth y cais, gan wybod mai ei wrthod a gaffai. Nid oedd rhith o reswm dros osod un a gawsai ei ddiarddel am gyfeiliornad, i bregethu yn y lle mwyaf cyhoeddus, a hyny gan y blaid a'i diarddelodd. Modd bynag, rhwng yr odfaeon, pan oedd yr heolydd yn llawn dynion, safodd Peter Williams ar gongl heol i bregethu. Rhaid mai enyn tosturi, a thaflu gwaradwydd ar y Methodistiaid, oedd ei amcan. Ar yr un pryd, gweddus hysbysu na ddywedodd air yn anmharchus am neb; ond iddo yn aml yn ystod ei bregeth gyfeirio gyda chymeradwyaeth at y pregethau blaenorol. Ond yr oedd yn flin gan y rhai a'i hadwaenent ei weled wedi gosod ei hun yn y cyfryw sefyllfa.

Nid ymddibynai Peter Williams am wrandawyr, a chyfleustra i bregethu, ar deithio o gwmpas; efe, fel y darfu i ni sylwi, a adeiladasai gapel Heol-y-dwr, Caerfyrddin, a hyny yn benaf ar ei draul ei hun; nid yw yn ymddangos fod ymddiriedolwyr wedi cael ei gosod ar y capel, nac unrhyw drosglwyddiad o hono i'r Methodistiaid wedi ei wneuthur; felly, yn gyfreithiol, ei eiddo personol ef ydoedd. Ac yma, yn benaf, y darfu iddo bregethu yr efengyl yn mlynyddoedd olaf ei oes, heb fod mewn undeb ag unrhyw blaid. Rhyw bum' mlynedd y bu byw wedi Cymdeithasfa Llandilo; gwanhaodd ei iechyd yn raddol, ac ymollyngodd ei gyfansoddiad cryf, eithr daliodd i bregethu ac i efrydu tra y medrai. Er dangos ansawdd ei yspryd, difynwn ranau lythyr a ysgrifenwyd Awst 5, 1796, sef tri diwrnod cyn ei farw, gan ei fab, y Parch. Peter Bailey Williams, Llanrug: "Fy anwyl Frawd,—Yn ol pob ymddangosiad, bydd y post nesaf yn dwyn i chwi hanes marwolaeth fy anwyl dad. . . . . Pregethodd yn Nghaerfyrddin bythefnos i'r Sul diweddaf, ac yn Llanlluan y Sabbath dilynol. Yn y lle cyntaf, pregethodd yn rymus ac effeithiol i gynulleidfa fawr; ac yn y diweddaf, yr oedd yn anmhosibl i'r mwyaf anystyriol ddal dan ei appeliadau difrifol. Ond yr hyn a chwanegai at bruddder yr olygfa oedd, ei fod yn siarad ac yn edrych fel dyn yn marw; ac yr oedd yr holl gynulleidfa yn wylo yn hid wrth feddwl na chaent ei weled byth mwy. Y mae yn parhau i godi yn foreu; neu, gwnai hyny hyd o fewn ychydig ddyddiau yn ol; ac yn dilyn ei efrydiau arferol. Mae yn hynod dduwiolfrydig ei yspryd, ac yn hollol dawel dan ei flinderau. Parhaodd y weddi deuluaidd tra y gallodd dori geiriau. Y Sabbath diweddaf, gofynodd i Bowen, yr hwn oedd yn bresenol, fyned i weddi, gyda dweyd ei fod ef yn analluog, o herwydd diffyg anadl. Tra yr oeddwn yn gallu,' meddai, fy hyfryd waith oedd neshau at orseddfainc y gras.' Ddoe, pan ddygodd fy mam iddo ychydig o lymru a gwin, safodd i fynu i ofyn bendith, er yn gwegian gan wendid, ac heb fod yn ddealladwy iawn cyn hyny, a dywedodd y geiriau canlynol mor eglur ag y clywais ef erioed: Anwyl Arglwydd, gaf fi y fraint o neshau o dy flaen unwaith yn ychwaneg, a llefaru wrthyt, a deisyf dy fendith? Beth a ddywedaf? Rhyfedd wyt ti yn mhob peth, tu yma i golledigaeth ac uffern. Dysg i ni ymostwng i dy ewyllys, a dywedyd gyda'r hen Eli, Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg.' Mae fy mam yn drallodedig iawn, ac yn mhell o fod yn iach; ofnaf na bydd iddi fod yn hir ar ei ol. Yr wyf wedi cynyg gwerthu y capel yn Heol-y-dwr, mewn trefn i dalu ei ddyledion. A oes genych ryw wrthwynebiad? Mae y Methodistiaid wedi cynyg £250 am dano. Bydd yr elw oddiwrth y Beiblau mawr yn ddigon i gyfarfod y draul yn nglyn a'r Beiblau bychain; a bydd £200 arall, feallai, yn ddigon i glirio yr oll. Mae wedi gwneyd ei ewyllys yn ffafr fy mam, wrth gwrs; ac wedi gadael y cwbl iddi hi tra y bydd byw, a'r gweddill, ar ei marwolaeth hi, i fyned i David Humphreys a'i blant. Yr wyf wedi gwylio fy nhad nos a dydd er pan ddaethum adref, ac ni chanfyddais erioed agwedd meddwl mwy nefolaidd. Aethum ar fy ngliniau i weddïo ar fy anwyl Iachawdwr,' meddai un diwrnod, ' ond yr oeddwn mor wan, fel mai prin y gallwn godi oddiar fy ngliniau.' Ddiwrnod neu ddau yn ol ymwelodd offeiriad o'r gymydogaeth ag ef, a'r unig ran ddifrifol oedd cyngor i fy nhad i beidio bod yn isel ei feddwl; neu, fel y dywedai ef (yr offeiriad), peidio gadael i'w galon fyn'd i lawr.' Nis gall fyn'd yn mhell, Syr, canys y mae craig o dani,' oedd ateb cyrhaeddgar ac effeithiol fy nhad. Mae fy mhapyr yn fy ngorfodi i derfynu; bydd fy llythyr nesaf, yr wyf yn ofni, yn dwyn newydd drwg."

EGLWYS A MYNWENT LLANDYFEILOG.
[Lle claddedigaeth Peter Williams.]


Nis gallwn sylwi ond ar un neu ddau o bethau yn y llythyr tra dyddorol hwn. Y "David Humphreys" y cyfeirir ato, oedd mab-yn-nghyfraith Peter Williams, a thad y Parch. David Humphreys, Llandyfeilog. Gallem feddwl, gan mai y Methodistiaid a feddianent gapel Llanlluan, ac i Peter Williams draddodi yno ei bregeth ddiweddaf ar y ddaear, ei fod yn ei amser olaf yn cael ei oddef i bregethu yn rhai o gapelau y Cyfundeb. Nis gwyddom yn hollol pa fodd i gysoni yr hyn a geir yn y llythyr parthed capel Heol-y-dwr, a'r adroddiad a roddwyd i'r diweddar Barch. J. Wyndham Lewis gan un o flaenoriaid y lle, sef ddarfod i Peter Williams osod adran i mewn yn ei ewyllys, fod y Methodistiaid i gael y capel, ar yr amod iddynt dalu tri chant o bunau i'w ymddiriedolwyr ef. Modd bynag, naill ai yn ol yr ewyllys, neu ynte trwy gytundeb a'r meibion, cafodd y capel ei werthu i'r Methodistiaid am dri chant o bunau, yn y flwyddyn 1797. Yr oedd yr ymddiriedolwyr cyntaf yn gynwysedig o dri offeiriad, sef y Parchn. Jones, Llangan, Griffiths, Nevern, Davies, Abernant; a thri lleygwr, sef Mri. D. Charles, W. Lloyd, Henllan, a J. Bowen, Tygwyn, Llangunnor.

Dydd Llun, Awst 8, 1796, bu farw Peter Williams, yn 76 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Llandyfeilog. A ganlyn yw ei feddargraff: "Yma y gorwedd gweddillion y Parchedig Peter Williams, yn ddiweddar o'r Gellilednais, yn y plwyf hwn. Cysegrodd ei holl fywyd er dyrchafu ei gydwladwyr, yn dymhorol ac yn ysprydol. I'r amcan hwn, cyhoeddodd dri argraffiad o'r Beibl pedwar plyg yn Gymraeg, gyda sylwadau ar bob penod. Cyhoeddodd hefyd argraffiad o Feibl wyth-plyg, a Mynegair Cymraeg, yn nghyd â nifer o draethodau bychain, gan mwyaf yn Gymraeg; am hyn oll, gellir dywedyd yn gywir na dderbyniodd ond anniolchgarwch ac erledigaeth. Parhaodd i lafurio gyda ffyddlondeb a diwydrwydd fel gweinidog yr efengyl am 53 mlynedd; a bu farw, yn gorfoleddu yn Nuw ei Iachawdwr, Awst 8, 1796, yn 76 mlwydd oed. Canys nid gelyn a'm difenwodd; yna y dyoddefaswn; nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i'm herbyn; eithr chwi, y rhai oedd felus genym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dy Dduw yn nghyd.'" Diau mai y meibion oedd yn gyfrifol am y beddargraff, a naturiol iddynt oedd cydymdeimlo a'u tad; ond trueni iddynt wneyd mynwent a chareg bedd yn gyfleustra i arllwys allan chwerwder eu hyspryd.

Dywedir yn Methodistiaeth Cymru na ddarfu i fwriad allan Peter Williams effeithio cymaint ar y Cyfundeb ag a allesid ddysgwyl; ac na fu nemawr ymadawiad oddiwrth y Corph o'r herwydd yn un man, er fod teimlad o dosturi ato, a pharch iddo yn gryf yn meddyliau pawb a'i hadwaenai. Diau fod hyn, ar y cyfan, yn gywir. Ac eto, mor bell ag y gallwn ddeall, teimlai y werin, nad oedd yn alluog i ddeall manylion yr ymdrafodaeth, ddarfod i'r hen Esboniwr gael ei drin yn galed. Dyna fel y teimlai llu o'r Methodistiaid, er na ddarfu iddynt fyned mor bell a gadael y Cyfundeb o'r herwydd. Eithr bu un ymadawiad cymharol bwysig yn Mro Morganwg, dan arweiniad Thomas Williams, gwedi hyny, y Parch. Thomas Williams, Bethesda-y-Fro.[9]

Haedda y gŵr hwn air o sylw. Cafodd ei enw[10] mewn amaethdy, o'r enw Trerhedin, yn mhlwyf Pendeulwyn, nid yn nepell o'r Bontfaen, Morganwg. Amaethwr oedd ei dad, ac yr oedd yn gefnog o ran ei amgylchiadau. Yr oedd yn feddylgar a dwys er yn blentyn, a phan yn ddeg oed, ymunodd a'r seiat Fethodistaidd yn Nhrehill. Bu bron cael ei ddigaloni wrth ymuno a'r seiat, am, pan y methai ateb rhyw ofyniad, i arweinydd y cyfarfod, meddir, gynyg ei fod i gael ei anfon allan hyd nes y dysgai ei wers yn well. Eithr ar gynydd yr aeth Thomas Williams. Dechreuodd fynychu y cyfarfodydd gweddi, a'r seiadau, ac ni ystyrid fod unrhyw gyfarfod o'r fath yn Mro Morganwg yn llawn heb ei fod ef yno. Nid annhebyg yr ystyrid ef yn fath o gynghorwr, er nad oes genym wybodaeth ddarfod iddo gael ei gydnabod felly gan Gyfarfod Misol. Yn y flwyddyn 1790, mewn canlyniad i'w briodas, aeth i fyw i Ffonmon, yn mhlwyf Penmarc, a thebygol mai yn Aberddawen yr oedd yn aelod. Cydymdeimlai yn ddwfn â golygiadau Peter Williams; a oedd amryw o'r un syniadau yn seiat Aberddawen, nis gwyddom; ond, bron o'r dechreuad, yr oedd plaid gref yn yr Aberthyn yn tueddu at Sabeliaeth. Pan ddiarddelwyd Peter Williams, darfu i Thomas Williams, a'r rhai yn seiadau y Fro a ymsynient yn gyffelyb, droi eu cefnau ar y Methodistiaid, ac ymffurfio yn blaid ar wahan. Cyfarfyddent i addoli mewn tri o wahanol leoedd, sef tỷ Thomas Williams, yn Penmarc; tỷ ardrethol yn yr Aberthyn, a thŷ arall yn y Brittwn. Buont am rai blynyddoedd heb neb i weinyddu yr ordinhadau iddynt; eithr yn y flwyddyn 1789, dewisasant Thomas Williams yn weinidog, gan ei neillduo i'r gwaith trwy gyfodiad dwylaw yr henuriaid, yn nghyd ag ympryd a gweddi. Ysgrifenydd yr eglwysi oedd John Williams, St. Athan, bardd o radd uchel, ac awdwr y penillion adnabyddus:

"Pwy welaf o Edom yn dod?"

Fel y darfu i ni sylwi, yr oedd Thomas Williams yn edmygydd diderfyn o'r hen Esboniwr; llosgai ei galon ynddo wrth weled y gamwri, yn ei dyb ef, a gaffai gan y Methodistiaid, a phan y bu Peter Williams farw, cyfansoddodd alarnad iddo, yn yr hon y fflangella ei wrthwynebwyr yn llym. Cymerer y penillion a ganlyn yn engrhaifft:

"Dacw ych o lawr y dyrnu,
Wedi myned eto i'r lan;
Hir ddydd gwresog iawn y gweithiodd,
Heddyw safodd yn ei ran;
Fe fu'n nod i saethau lawer,
Darfu hyny, fe aeth trwy,
Ni ddaw rhagfarn nac anghariad
Byth i'r lle mae'n aros mwy.

Peter, mae llyth'renau d'enw
Yn creu hiraeth dan fy mron;
Dyn a gerais, dyn a'm carodd,
Meddwl dy fod dan y don;
Anwyl oeddem yn ein bywyd,
Cu iawn genyf oeddit ti,
A thu hwnt i gariad gwragedd
Oedd dy gariad ataf fi.

Fe chwedleuodd yn dy erbyn
Ddynion rai o ddoniau mawr,
Dynion eraill isel raddau
Geisiodd dynu d'enw lawr;
Ti ge'st wawd oddiwrth bob enw,
Ti ge'st wawd oddiwrth bob dawn,
Plant dy fam edrychent arnat
Megys estron dyeithr iawn.

Ca'dd ei guro, nid mewn cariad,
Gan y cyfiawn is y nen;
Waith eu holew penaf dorodd
Glwyfau dyfnion ar ei ben;
Ond mae'r clwyfau dyfnion hyny,
Heddyw'n holliach yn y nef,
Ga'dd e'n nhy ei garedigion,
Yn mhrydnawn ei fywyd ef.

Cymryd og i ddyrnu ffacbys
Wnaeth dy frodyr (gwyro 'mhell),
Troisant olwyn men ar gwmin,
Pan oedd gwiail lawer gwell;
Geiriau llym fel brath cleddyfau,
Leflwyd atat heb un rhi',
Saethau tân ac arfau marwol
Gym'rwyd i'th geryddu di.

Am wrthod credo Athanasius,
Fel gwnaeth gwyr o ddoniau maith:
Fe siglwyd urn yr hen Sabelius
Yn dy wyneb lawer gwaith;
Cyffes ffydd, a llunio credo,
Gwneyd articlau mawr eu clod,
Magu 'mryson, rhanu eglwysi,
Fu effeithiau rhai'n erioed.

Tithau gym'raist aden c'lomen,
Est o'u swn yn ddigon pell,
Draw i'r dymhestl a'r gwynt 'stormus,
I ardaloedd llawer gwell;
Lle mae myrdd o rai lluddedig,
Fu mewn carchar, fu mewn tân,
Yno'n gorphwys wedi gorphen
Eu cystuddiau mawr yn lân."


Teimlir serch yn treiddio trwy bob llinell o'r alargan, a bu am beth amser yn dra phoblogaidd. Nis gwyddai a amcanai Thomas Williams, a'r rhai a gydymdeimlent ag ef, ffurfio yn blaid wahaniaethol; os gwnaent, trodd yr ymgais allan yn fethiant. Yn mhen amser, ymgydnabyddodd a'r Annibynwyr; ac yn y flwyddyn 1814, derbyniwyd ef, a'r rhai a lynent wrtho, i'r undeb Annibynol holwyd rhywbeth iddynt am eu golygiadau athrawiaethol, nis gwyddom. Yr oeddynt cyn hyn wedi gadael y Brittwn, ac ymsefydlu yn Bethesda-y-Fro. Yr oedd Thomas Williams yn bregethwr o'r melusaf; tuag ugain mynyd, meddir, oedd hyd ei bregeth; ac am y pum' mynyd olaf, byddai yr holl gynulleidfa ar ei thraed fel gallt o goed, gan faint y dylanwad. Ond ni fu yn llwyddianus o gwbl, fel y profa y penillion canlynol, a gyfansoddwyd ganddo gwedi llafur gweinidogaethol o dros ddeng-mlynedd-ar-hugain:

"Deg-ar-hugain o flynyddau,
Bum yn hau trwy hyd y rhai'n,
Syrthio wnaeth yr had gan mwyaf,
Wrth y ffordd, y graig, a'r drain;
Mewn tir da ni syrthiodd nemawr,
Nemawr iawn—fe syrthiodd peth,
Gwlith y nef aroso arno,
Fel nad elo byth ar feth.

O Bethesda anniolchgar,
Ac anghofus iawn o Dduw,
Wedi hau, a hau drachefn,
Braidd eginyn sydd yn fyw;
Mae'r hen frodyr, ond rhyw 'chydig,
Wedi myned draw i dre,
Ac nid oes arwyddion nemawr
Am rai eraill yn eu lle.

O na ddoi rhyw un o'r Gogledd,
Neu o'r Dwyrain, ynte'r Dê,
O'r Gorllewin, neu o rywle,
Ni waeth genyf ddim o b'le;
Ond i'r nefoedd fawr ei anfon,
Heb ei anfon, thal ef ddim,
I Bethesda i bregethu
Gair y bywyd yn ei rym."


Cwestiwn dyddorol ydyw; ydyw; sut y bu gweinidogaeth gŵr, a feddai y fath dalentau dysglaer, mor aflwyddianus? Priodola Dr. Thomas Rees yr aflwyddiant i waith Thomas Williams yn gweinidogaethu i bobl ei ofal yn rhad; a dywed fod eglwys heb gyfranu yn gymaint rhwystr. Diau i lwyddiant ag eglwys ddi weddi. fod rhyw gymaint o wirionedd yn hyn; efallai hefyd fod rhesymau eraill, nas gwyddom ni yn awr am danynt. Bydded y rheswm y peth y bo, aflwyddianus a fu Thomas Williams. Cafodd oes faith; a bu farw Tachwedd 23, 1844, yn 84 mlwydd oed.

Yr ydym wedi aros cyhyd gyda Thomas Williams, oblegyd mai efe oedd yr unig un y gwyddom am dano, o unrhyw enwogrwydd, gyda yr eithriad o'i gyfaill, ac ysgrifenydd ei eglwys, sef John Williams, St. Athan, a ymadawodd a'r Methodistiaid oblegyd diarddeliad Peter Williams, ac a geisiodd ffurfio eglwysi ar wahan. Eithr i ddychwelyd at Peter Williams. Dywedir ei fod o ymddangosiad boneddigaidd ac urddasol, yn tueddu at fod yn dal, ei wynebpryd braidd yn hir, ac liw gwelw; a'i fod bob amser yn drefnus a glanwaith yn ei wisg a'i berson. Meddai gorph cryf, ac yspryd eofn a phenderfynol, ac yr oedd fel pe wedi ei gyfaddasu o ran corph a meddwl ar gyfer sefyllfa Cymru. yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Nid oes amheuaeth am ei dduwioldeb, a'i gydwybodolrwydd dwfn. Pa gamgymeriadau bynag a wnaeth, yr oedd ei amcanion yn bur, a'i olwg yn wastad yn syml ar ogoniant Duw, a lles eneidiau. Perarogla ei goffadwriaeth hyd y dydd hwn. Ac er i'r Methodistiaid deimlo ei bod yn ddyledswydd arnynt i dori pob cysylltiad ag ef, teimlent barchedigaeth dwfn iddo, ac i'w goffadwriaeth, ar ol iddo huno. Yn y rhifyn cyntaf o'r Drysorfa Ysprydol, ceir ysgrif arno, o gyfansoddiad y Parch. Thomas Charles, yn ol pob tebyg, yn yr hon nid oes cymaint a gair yn tueddu i'w iselu; eithr yn hytrach, dyrchefir ef fel gwr a fu yn dra defnyddiol. "Yr oedd Mr. Peter Williams," meddai Mr. Charles, "yn rhagori mewn cynheddfau cryfion, corph a meddwl; yspryd gwrol, er hyny, addfwyn a thirion tuag at ei gyfeillion a'i deulu; ac yn ymroddi gyda phob dyfalwch, diwydrwydd, ac egni parhaus yn ngwaith yr Arglwydd. Bu o fendith, y mae lle i obeithio, i lawer o eneidiau, ac yn offeryn i'w troi o'r tywyllwch i'r goleuni, ac o feddiant Satan at Dduw." Dywedai y Parch. John Elias unwaith, pan yn anerch efrydwyr y Bala, iddo ef fod yn pregethu am flynyddoedd, heb feddu un esboniad ar y Beibl, ond eiddo Peter Williams. Ac ychwanegai:[11] Esboniad byr a da ydyw; a dyn da a defnyddiol yn ei oes a fu efe." A gwyddis nad oedd gan Mr. Elias fawr cydymdeimlad a'r rhai a gyfeiliornent oddiwrth y wir athrawiaeth. Ffaith dra arwyddocaol ydyw, fod mwy o hiliogaeth Peter Williams wedi parhau yn aelodau crefyddol yn mysg y Methodistiaid, nag ef eiddo un o'r tadau eraill. Awgryma hyn eu bod i raddau yn argyhoeddedig mai goddefol yn benaf a fu y Cyfundeb yn yr helynt. Nis gallwn orphen ein hysgrif ar yr hen Esboniwr enwog yn well na thrwy ddifynu penil arall o'i farwnad gan Thomas Williams:

"'Nawr yn mynwent Llandyfeilog,
'Nol ei flin siwrneion pell,
Gorphwys mae ei gnawd mewn gobaith
Am yr adgyfodiad gwell.
Y corph gwael ar ddelw Adda,
'R Adda cyntaf aeth i lawr,
A ddihun ar ddelw ei Arglwydd,
Gyda rhyw ogoniant mawr."




HANES Y DARLUNIAU.

Mae y darlun o Peter Williams a gyhoeddir genym yn gopi o'r un a ymddangosodd yn y Beibl Teuluaidd, a wnaed yn Nghaernarfon, ac a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Evan Jones, yn y flwyddyn 1822. Yr oedd cynifer ag wyth argraffiad o Feibl Teuluaidd Peter Williams wedi eu cyhoeddi ganddo ef ei hun, ac o dan nawdd y teulu, cyn yr argraffiad hwn, ond nid oedd darlun o'r awdwr yn yr un o honynt. Nid dan nawdd teulu Peter Williams y cyhoeddwyd argraffiad Caernarfon; ond yn erbyn eu hewyllys, ac yn ddiystyr o wrthdystiad a wnaed ganddynt. Cyhoddwyd amryw argraffiadau o'r Beibl hwn wedi hyny, ond nis gwyddom fod darlun o'r awdwr ynddynt, hyd yr argraffiad a gyhoeddwyd gan William Mackenzie, Glasgow, yn 1868. Darfu iddo ef wneyd darlun mawr o Peter Williams, i'w gyflwyno i'w dderbynwyr fel presentation plate. Darlun i'w fframio ydoedd hwn; a gwelir copiau o hono ar furiau ein haneddau. Gwnawd ef oddiwrth gopi Caernarfon.

Gwelir fod y ddalen ar ba un y mae y darlun yn mynegu fel yma: "From an engraving in the Gospel Magazine, 1777." Ond y mae yn debygol nad oes darlun o Peter Williams i'w gael yn y misolyn hwnw am y flwyddyn hono, nac ychwaith yn y blynyddoedd cyfagos. Nid oes ond un copi o'r misolyn o fewn ein cyrhaedd, sef yr un sydd yn Llyfrgell yr Amgueddfa Frytanaidd (British Museum), felly, nid ydym mewn ffordd i sicrhau na chyhoeddwyd ef yn y Gospel Magazine o gwbl. Gall y copi a welsom ni fod yn annghyflawn, a bod y darlun wedi ei gymeryd o hono i ryw bwrpas neu gilydd, ond y mae hyn i fesur yn annhebygol, am nad oes grybwylliad am ddarlun o Peter Williams i'w gael o gwbl yn y Gospel Magazine, mor belled ag y gallasom graffu wrth chwilio. Nid ydym yn alluog i roddi unrhyw eglurhad ar y ffaith hon; y mae hyd yma yn hollol anesboniadwy. Gellir dyfalu llawer, ond nis gellir penderfynu dim.

Gwelir fod y darlun o wneuthuriad celfydd, er nas gellir sicrhau ei fod yn ddarluniad cywir o Peter Williams. Y mae llythyr, a ysgrifenodd ei fab, y Parch. Peter Bailey Williams, i'r Gwyliedydd, yn mhen blynyddau ar ol cyhoeddiad y darlun, yn taflu amheuaeth ar hyn. Dywed fel yma: Nid yw y darlun (portrait) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Beibl Cymraeg, a argraffwyd yn Nghaernarfon, yn debyg i fy mharchedig dad, mewn pryd, na gwedd, na lliw, na llun, na chorpholaeth. Gwelais gynt ddarlun o hono wedi ei dynu yn Nghaerodor (Bristol), yr hwn oedd yn hollol annhebyg i'r un blaenorol; ac yno, yr oedd yn ymddangos mewn gown du a band, a'i wallt yn rhanedig, yn lled debyg i lun Mr. John Wesley, a'i law ddebeu ar y pwlpud, a'i aswy ar ochr ei wyneb, fel y byddai yn arferol wrth bregethu, ac o danodd yr oedd y geiriau hyn: The Rev. Peter Williams, of Carmarthen, Chaplain to the Countess of Huntington." Ac nid yw disgynyddion Peter Williams drwy y blynyddoedd yn credu yn nghywirdeb darlun Caernarfon.

Yn y flwyddyn 1823, blwyddyn ar ol ymddangosiad argraffiad Caernarfon, yn nghyd â darlun Peter Williams, ymddangosodd argraffiad o'r Beibl Teuluaidd gan Henry Fisher, o Lundain. Yn hwnw, ceid darlun o'r Parch. Peter Bailey Williams, Rector of Llanrug and Llanberis, sef un o feibion Peter Williams, gyda nodiad fel yma: "Gan nad oedd yn ddichonadwy gan y cyhoeddwyr gael darlun o'r awdwr, y maent yn deisyf cenad i anrhegu eu tanysgrifwyr ag un o'i fab, y Parch. Peter Bailey Williams, o Lanrug, swydd Gaernarfon, yr hwn, fel yr ydym wedi clywed, sydd yn dwyn tebygolrwydd agos i'w ddiweddar dad parchus." Cyhoeddwyd yr argraffiad hwn, y mae'n ymddangos, dan nawdd teulu Peter Williams, a gwneir i ddarlun Peter Bailey i wasanaethu yn lle darlun Peter Williams, naill am nad oedd ganddynt ddarlun o hono o gwbl, neu ynte, am nad oedd ganddynt ddarlun o hono ag yr oeddynt hwy yn eu hoffi.

Y mae tebygrwydd neillduol rhwng y darlun o Peter Williams, a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Evan Jones, Caernarfon, a'r un a gyhoeddwyd o'i fab, Mr. Peter Bailey Williams, gan Mr. Henry Fisher, yn Llundain. Pe buasai darlun Peter Bailey wedi ymddangos flwyddyn o flaen ei dad, ac nid ar ei ol, buasem yn cael ein tueddu i feddwl fod Mr. Lewis Evan Jones wedi gwneyd darlun o Peter Williams trwy gymeryd ei fab yn gynllun, a'i ddiosg o'i ddillad clerygol—y gown a'r band; ond gan mae fel arall y bu, yr oedd gwneyd felly yn anmhosibl.

Gwnaethom bob ymchwiliad dichonadwy i gael copi o'r darlun a wnaed o Peter Williams yn Mhristol, fel y tystiolaethir gan ei fab, ond nid ydym wedi llwyddo.

Dichon, gyda threigliad amser, y deuir i fwy o sicrwydd nag sydd genym yn bresenol o barth i hanes ag awduraeth darlun Peter Williams; hyd hyny, rhaid ymfoddloni ar y darlun a gyflwynwyd i ni gan Mr. Lewis Evan Jones, o Gaernarfon.

Y mae y darluniau eraill sydd yn y benod hon yn egluro eu hunain.

PENOD XIX.
DAVID JONES, LLANGAN.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Jones, Llan-gan
ar Wicipedia

Sylfaenwyr ac arweinyddion cyntaf y Methodistiaid–Jones heb fod yn un o honynt–Ei gydoeswyr a'i gyfoedion–Hanes ei enedigaeth a'i ieuenctyd Yn cyfarfod a damwain–Ei addysg a'i urddiad i Lanafan-fawr–Symud i Dydweiliog –Dyfod i gyffyrddiad a Dr. Read yn Trefethin, ac yn cael ei gyfnewid trwy ras– yn cael bywioliaeth Llangan, drwy ddylanwad Iarlles Huntington, Sefyllfa foesol a chrefyddol y plwyf–Ei gydweithwyr yn Morganwg–Desgrifiad o Sul y Cymun yn Llangan–Yn pregethu mewn lleoedd annghysegredig–Yn adeiladu Capel Salem–Marwolaeth a chladdedigaeth ei wraig–Yn gosod i lawr ddrwg arferion yr ardal–Achwyn arno with yr esgob–Ei lafur yn mysg y Saeson–Ei allu i gasglu arian at gapelau–Ei lafur yn mysg y Cymru–Yn cyfarfod ag erledigaethau ac yn eu gorchfygu–Ei boblogrwydd fel pregethwr–Annas yn dyfod o Sir Fôn i geisio cyhoeddiad ganddo–Yn efengylydd yn hytrach nag yn arweinydd–Penillion Thomas Williams, Bethesda-y-Fro–Desgrifiad Williams, Pantycelyn; Robert Jones, Rhoslan: a Christmas Evans, o hono–Ei ail briodas, a'i symudiad i Manorowen–Yn dyfod o fewn cylch mwy eglwysig–Yn heneiddio ac yn llesghau—Diwedd ei oes.

ARWEINYDDION cyntaf y Methodistiaid yn Nghymru oeddynt Daniel Rowland, Howell Harris, Howell Davies, William Williams, a Peter Williams. Ffurfiant ddosbarth ar eu penau eu hunain. Gwir mai i'r tri cyntaf yn unig y perthyn yr anrhydedd of osod y sylfaen i lawr; ond darfu i'r ddau Williams ymuno â hwy mor foreu, fel mai o'r braidd y gellir edrych arnynt ar wahan i'r sylfaenwyr. Ymunodd y Bardd â hwy o fewn pum' mlynedd i'r dechreuad, a gwnaeth yr Esboniwr ei ddilyn o fewn pum' mlynedd arall. Ac yr oedd doniau y ddau mor nodedig, a'u hymroddiad i waith y diwygiad mor llwyr, fel y daethant i'r cyfryw agosrwydd i'r sylfaenwyr, ag sydd yn gwneuthur y gorchwyl diraid. o'i gwahanu, yn bur anhawdd. Ni raid petruso ystyried y pump gwŷr enwog hyn fel yn ffurfio arweinyddion cyntaf y Methodistiaid Cymreig. Llanwyd hwy oll a'r un yspryd gweithgar a hunan-aberthol, ac yr oedd pob un o honynt yn meddu ar alluoedd a doniau ag a esid arbenigrwydd arno hyd y dydd hwn.

Nid ydoedd David Jones, o Langan, o fewn y cylch cysegredig yma, ac nid oedd yn ddichonadwy iddo fod. Yn y flwyddyn. 1735, blwyddyn dechreuad Methodistiaeth Cymru, y ganed ef. Yn wir, nid yw ei lafur ef yn nglyn a'r diwygiad Cymreig yn dechreu hyd ei ddyfodiad i Langan, yn 1768, pan yr oedd efe yn 33 mlwydd oed.

Darfu i'r diwygiad ymdaenu dros yr holl wlad, ac ymwreiddio yn y tir, yn mhell cyn iddo ef ymddangos ar y maes. Aethai cenhedlaeth gyfan heibio, ac yr oedd dyddiau dau o'r tri Sylfaenydd yn prysur ddirwyn i ben, pan y dechreuodd efe ar ei yrfa weinidogaethol gyda'r Methodistiaid. Canys bu farw Howell Davies yn mhen dwy flynedd wedi dyfod David Jones i Langan; ac yn mhen tair blynedd eilwaith, yr oedd yr hynodol Howell Harris. wedi croesi yr Iorddonen. Gwelir felly fod David Jones yn un ag oedd yn ffurfio megys ail ddosbarth o bregethwyr ac arweinyddion y diwygiad―ail o ran amseriad a feddyliwn, ac yn perthyn i'r ail dô o'n gweinidogion. Cafodd y fraint o gydoesi a chydlafurio â Daniel Rowland, a'r ddau Williams am flynyddau meithion, ond nid oedd efe yn gyfoed a hwynt hwy. Pan y goddiweddwyd hwy gan henaint, yr oedd efe yn gymharol ieuanc; a bu yn llafurio yn y winllan am o gylch ugain o flynyddoedd wedi iddynt hwy oll fyned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Cyfoedion David. Jones oeddynt John Evans, o'r Bala; William Davies, Castellnedd; David Griffith, Nevern, David Morris, Twrgwyn; a William Llwyd, o Gaio; er fod cryn wahaniaeth oedran rhwng yr hynaf a'r ieuangaf o'r rhai hyn. Yr oedd y ddau gyntaf a enwyd yn hyn na David Jones; a'r lleill yn ieuangach nag efe. O ran amseriad, gellir ystyried David Jones yn ddolen gydiol rhwng Daniel Rowland, Llangeitho, a Thomas Charles, o'r Bala; canys yr oedd efe ugain mlynedd yn ieuangach na'r naill, a chynifer o flynyddoedd yn hŷn na'r llall.

Cyfleus ddigon fyddai fod genym raniad ar hanes y Cyfundeb i gyfnodau, fel y gallem weled ar darawiad safle amseryddol bywyd ein prif weinidogion, yn nghyd â phrif symudiadau y Methodistiaid. Yinestyna ein hanes, bellach, dros fwy na chant-a-haner o flynyddau, amser rhy faith i fanylu arno, heb ei ddosparthu i gyfnodau. Dichon mai anhawdd fyddai cael rhaniad boddhaol arno. Hwyrach, er hyny, fod yr hyn a wnaed gan y Cyfundeb yn y flwyddyn 1893, sef dathliad Juwbili, eisioes wedi gwneyd bras-raniad arno. Os gwneir yn y dyfodol, fel y gwnaed yn y flwyddyn hono, bydd y Juwbili ei hun yn dosparthu ein hanes i gyfnodau o haner cant o flynyddoedd bob un, gan ddechreu cyfrif gyda chorphoriad y Cyfundeb yn Nghymdeithasfa Watford, yn 1743, ac ystyried yr wyth mlynedd cyn hyny fel cyfnod byr o gychwyn a pharotoad, er mai blynyddoedd deheulaw y Goruchaf oeddynt, ac i waith mawr gael ei wneyd ynddynt. Arweinir ni i wneyd y sylwadau hyn yn y fan hon gan y ffaith fod, efallai, mwy o gamgymeriad yn nghylch amseriad gweinidogaeth Jones, o Langan, na nemawr un o'n prif weinidogion. O bosibl fod rheswm, heblaw diffyg rhaniad ar ein hanes, am hyn. Y mae ysgrifenwyr, yn ddieithriad, mor bell ag y gwyddom, pan yn traethu ar enwogion y pwlpud Cymreig, yn y cyfnod Methodistaidd, yn cysylltu enw David Jones â Daniel Rowland a Howell Harris. Fynychaf, os nad bob amser, efe yw y cyntaf a enwir ar eu holau hwy. Felly y gwna y diweddar Barch. Dr. Owen Thomas, pan yn traethu arnynt yn ei gofiant ardderchog i'r Parch. John Jones, o Dalysarn; ond dylid cadw mewn cof, y rhoddir y lle parchus yma iddo am ei enwogrwydd fel pregethwr, ac nid oddiar ystyriaeth amseryddol. Gwedi ceisio cywiro y syniad cyfeiliornus hwn, awn bellach at brif ffeithiau ei fywyd.

Y mae hanes boreuol David Jones yn anhysbys. Yn wahanol i Howell Harris Peter Williams, ni ddarfu iddo ef ysgrifenu dim o'i hanes ei hun; ac yn anffodus, oedwyd ysgrifenu cofiant iddo am 31 o flynyddau wedi iddo farw. Erbyn hyny, yr oedd llawer o hysbysrwydd yn ei gylch wedi ei golli yn anadferadwy. Yn y flwyddyn 1841 y cyhoeddwyd y cofiant hwnw iddo gan y Parch. E. Morgan, M.A., Syston, gŵr a ysgrifenodd goffadwriaeth i amryw o'r enwogion Methodistaidd. Yr oedd Mr. Morgan yn enedigol o'r Pil, lle heb fod yn nepell o Langan, ac yr oedd yn adwaen y gweinidog yn y cnawd, ac mewn perffaith gydymdeimlad ag efe, ac felly yn meddu cymhwysder at y gwaith â pha un yr ymgymerodd.

Ganwyd David Jones mewn amaethdy, o'r enw Aberceiliog, yn mhlwyf Llanllueni, yn Sir Gaerfyrddin, ar lan yr afon Teifi. Cymerodd hyn le yn 1735. Ni chofnodir enwau ei rieni, ond y mae yn amlwg eu bod yn bobl gysurus eu hamgylchiadau, gan y bwriadent ddwyn un o'u plant i fynu yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd iddynt ddau fab ac un ferch. Bwriad y tad oedd gosod y mab hynaf yn offeiriad, ac i Dafydd fod, fel ei dad, yn ffarmwr. Ond nid hyn oedd trefniad y nefoedd, ac amlygwyd hyny mewn ffordd bur ryfedd a blin. Pan yr oedd Dafydd yn blentyn ieuanc iawn, syrthiodd i bair llawn o laeth berwedig, a bu agos iddo gael ei ysgaldio i farwolaeth. Bu yn hir heb wellhau, a pharhaodd am amser maith yn wanaidd ac afiach. Yn mhen enyd, daeth y tad i weled fod ei gynllun wedi ei ddyrysu, fod Dafydd bellach wedi ei anghymwyso at waith y tyddyn, er, hwyrach y gellid gwneyd offeiriad o hono. Penderfynodd wneyd y goreu dan yr amgylchiadau, a chafodd Dafydd fyned i'r Eglwys, a'r mab hynaf i drin y tir. Arferai David Jones ddweyd mewn blynyddoedd gwedi hyn, mewn cyfeiriad at yr amgylchiad hwn: "Yr wyf yn cario nodau ac achos fy ngalwedigaeth ar fy nghefn; oblegyd dygodd greithiau y ddamwain enbyd ar ei gefn i'w fedd. Y mae dywediad o'i eiddo pan yn ieuanc, ag sydd yn lled arwyddo fod rhyw gymaint o addysg grefyddol yn y teulu; digon, beth bynag, i alluogi Dafydd i wneyd defnydd tra tharawiadol o'r Ysgrythyr lân. Un diwrnod, yn hir ar ol y ddamwain, ond cyn i'r plentyn wellhau oddi wrth ei heffeithiau, efe a ymwthiai yn llesg at ei fam. Hithau a'i gwthiodd i ffwrdd, gan ddweyd, o bosibl, yn chwareus: "Druan o honot, yr wyf wedi blino ar dy fagu di." Edrychodd yntau gyda thynerwch yn ei hwyneb, a dywedodd: "Pan y mae fy nhad a'm mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Ar hyn, cipiodd y fam ei bachgen ffraethbert i'w mynwes, a dywedodd: "Am y gair hwn, mi a'th fagaf yn llawen tra y byddot byw ar y ddaear.' Hynodid ef pan y daeth i addfedrwydd oedran gan ei ffraethineb, parodrwydd a phriodoldeb ei atebion, ac yn yr amgylchiad hwn, cawn olwg ar y ddawn hon yn ei blagur.

Derbyniodd ei addysg athrofaol yn Ngolegdy Caerfyrddin, a dywed ef ei hun na ddarfu iddo dreulio term erioed yn y prif ysgolion. Urddwyd ef i guwradiaeth Llanafan-fawr, yn Sir Frycheiniog, tua'r flwyddyn 1758; ond symudodd yn bur fuan oddi yno i Dydweilog, yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Ac nid hir fu ei arhosiad yno ychwaith; oherwydd cawn ef yn gwasanaethu plwyfau Trefethin a Chaldicot, yn Sir Fynwy, yn y flwyddyn 1760. Beth oedd yn achlysuro y symudiadau parhaus hyn, nid yw yn wybyddus, ond gallwn ddweyd yn ddiogel mai nid ei grefydd oedd yr achos. Yr oedd hyd yn hyn yn ddigon difater am ei gyflwr ysprydol ei hun, a chyfrifoldeb ei swydd, i foddio personiaid oferwag yr oes hono. Dywedir ei fod y pryd hwn yn bregethwr enillgar a phoblogaidd, a dichon fod hyny yn ddigon o fai ynddo, yn ngolwg y personiaid ag yr oedd efe danynt. Modd bynag, daeth yn guwrad i Drefethin a Chaldicot, yn Swydd Fynwy. Y mae Trefethin yn ymyl tref Pontypŵl, ac yr oedd yn byw yn Mhontymoel, yn ymyl y dref hono, ar y pryd y daethai David Jones yno, feddyg enwog yn ei alwad, a thra enwog hefyd am ei rinweddau a'i dduwioldeb. Ei enw oedd Dr. William Read. Yr oedd clod y meddyg hwn wedi lledu dros Gymru oll, a chleifion yn tyru ato o'i chyrau pellaf. Ymgyfathrachai efe a'r Methodistiaid, ac yr oedd y Bardd o Bantycelyn ac yntau yn arbenig yn gyfeillion mynwesol. Pan fu y meddyg farw, yr hyn a gymerodd le yn 1769, ysgrifenodd Williams farwnad iddo, un o'r goreuon a gyfansoddwyd ganddo. Ceir hi yn mysg ei weithiau argraffedig. Gellir lled dybio oddiwrth awgrym sydd yn y farwnad, fod y bardd yn bresenol yn yr angladd, o herwydd y mae yr awdwr, ar ol datgan ei anghrediniaeth o'r hanes am farwolaeth y doctor, mewn tri o benillionprydferth, yn troi ac yn dywedyd:— Mae'n wirionedd, fe ddiangodd O fyd gwag i deyrnas nefoedd, Mae ei gorph ef heddyw'n llechu, Mewn cist o bren yn isel obry; Fe rowd arno yn ddiffafar, Bedair troedfedd lawn o ddaear; Hoeliwyd y gist, 'r wyf yn dyst, estyllod durfin, READ sy'n gorwedd gyda'r werin, Cwsg o fewn i eglwys Trefddyn.

Yr oedd Dr. Read yn fyw, ac yn nghanol ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb, pan ddaeth y cuwrad ieuanc i Drefethin. Trigent yn ymyl eu gilydd, a daethant yn hynod o gyfeillgar. Nid yw yn hollol eglur, pa un ai crefydd y meddyg a achlysurodd droedigaeth y cuwrad, neu ynte troedigaeth y cuwrad a'i dygodd ef i gydnabyddiaeth a'r meddyg. Yr hyn a ddywed Mr. Morgan, Syston, am hyn yw, mai trwy ddarlleniad llyfr o waith yr enwog Flavel yr effeithiwyd ei droedigaeth, pan yr oedd yn gwasanaethu yn y lle hwn. Dywed, yn mhellach, ddarfod i'r gwr ieuanc, wedi iddo gael ei gyfnewid i fywyd, dderbyn anngharedigrwydd a chreulondeb ar law y gŵr eglwysig ag yr oedd efe yn gwasanaethu' dano; ac nad oedd gan David Jones na châr na chyfaill yn agos ato i ddweyd ei gwyn wrtho, na chael cyfarwyddyd ganddo, ond Dr. William Read. Hwyrach mai ar ol i'r cyfnewidiad mawr gymeryd lle, trwy ddarlleniad llyfrau Flavel, y dechreuodd ei gyfeillgarwch a'r meddyg duwiol o Bontymoel; ond y mae yn llawn mor debygol, mai y meddyg a osododd weithiau Flavel o fewn ei gyrhaedd. Sut bynag y bu, daeth David Jones i gysylltiad a'r Methodistiaid yn Trefethin, a pharhaodd ei gyfeillgarwch â Dr. Read hyd ei farwolaeth; ac nid bai David Jones ydoedd na ddaeth un o'i ferched yn wraig iddo, yn mhen blynyddau lawer wedi hyn.

Am ba gyhyd o amser y darfu rheithor Trefethin gydymddwyn a'i guwrad ar ol yr anffawd o iddo gael crefydd, ni fynegir i ni. Diau fod y dygwyddiad, yn ei dyb ef, wedi ei anghymhwyso yn fawr at wasanaeth yr Eglwys. Cawn fod y cuwrad, ar ol hyn, yn peri cyffro yn yr ardal; fod tyrfaoedd yn tyru i'w wrando; fod mîn ac arddeliad ar ei weinidogaeth; ei fod yn holi ac yn dysgu y bobl ieuainc yn ngwirioneddau crefydd; ac yn eu dysgu i ganu mawl i Dduw; a'i fod ef ei hun yn hynod hoff o gerddoriaeth. Nid oedd dim i'w wneyd â gwr ieuanc mor ddireol a hyn ond ei yru i ffwrdd; ac ymaith y cafodd fyned. Y rheswm dros ei symudiad o Drefethin, yn ddiau, oedd ei arferion Methodistaidd, a hwyrach ei gyfeillgarwch gormodol â Dr. Read a'i deulu. I le yn agos i Fryste yr aeth nesaf, ond ni fu nemawr o amser yn y fan hono; symudodd yn fuan i le yn Swydd Wilts. Yr oedd erbyn hyn fel colomen Noah, yn methu braidd a chael lle i roddi ei droed i lawr, canys nid oedd llonyddwch i guwrad, o'i yspryd ef, i'w gael y pryd hwnw yn yr Eglwys Wladol yn Lloegr, nac yn Nghymru. Yr oedd tân y weinidogaeth yn llosgi o'i fewn; ond ni fynai perchenogion bywioliaethau wasanaeth ei fath. Aflonyddai y wlad, gwnai anesmwytho cydwybodau y bobl, ac yr oedd y gweithredoedd ysgeler hyn yn bechodau nas gellid eu maddeu. Ymddengys iddo, tra yn aros yn Wilts, ddyfod i gyffyrddiad â rhai o Fethodistiaid Lloegr, ac yn eu plith daeth i gydnabyddiaeth a'r enwog Iarlles Huntington, gwraig o fendigaid goffadwr iaeth. Chwiliai hon am ffyddloniaid yr Iesu, i'w noddi a'u cynorthwyo yn ngwasanaeth crefydd. Yr oedd yr Iarlles wedi bod yn foddion i ddwyn pendefiges arall at draed y Gwaredwr, sef yr Arglwyddes Charlotte Edwin, perchenog etifeddiaeth eang yn Sir Forganwg. Ac yn fuan daeth personoliaeth Llangan yn wag, pa un oedd yn rhoddiad yr Arglwyddes hono, ac ar gais yr Iarlles cyflwynodd hi i David Jones. Cymerodd hyn le, fel y dywedwyd yn flaenorol, yn y flwyddyn 1768, pan yr oedd efe yn 33 mlwydd oed.

EGLWYS LLANGAN, GER PONTFAEN, SIR FORGANWG.


Plwyf bychan ydyw Llangan, yn gorwedd rhwng Pontfaen a Phenybont—arOgwr, yn Sir Forganwg, ac y mae ynddo bentref bychan, gwasgaredig, a elwir ar enw y plwyf. Y mae yr eglwys yn adeilad hynafol, er nad ydyw yn un o'r rhai mwyaf o faintioli. Adgyweiriwyd hi yn drwyadl yn y flwyddyn 1856. Mae croes nodedig iawn ar y fynwent, un o hen olion yr oesoedd Pabaidd. Dywedir mai adeiladwaith y 12fed ganrif ydyw. Eir o bellder ffordd i'w gweled gan hynafiaethwyr, ar gyfrif ei maint, destlusrwydd ei cherfiadaeth, yn nghyd a'i bod mewn cadwraeth mor dda. Cyfrifir yn gyffredin mai ar adeg dyfodiad David Jones i Langan y mae ei gysylltiad ef a'r Methodistiaid yn dechreu. Gwelir oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisioes, nad yw hyn yn gywir. Tra sicr ydyw iddo ef ddyfod o fewn cylch dylanwad y Methodistiaid tra yn gwasanaethu yn Nhrefethin a Chaldicot. Yma y gwnaed ef yn gristion, ac yma yr ymddangosodd yr arwyddion cyntaf ei fod ef yn Fethodist. Pa reswm bynag ddichon gael ei roddi am symudiadau aml David Jones, cyn iddo ddyfod i'r lle hwn, nid oes le i amheuaeth, mai ei arferion Methodistaidd barodd ei holl symudiadau ar ol hyn. Dygodd hyn arno erledigaeth a dial. Ond os mai ei yspryd Methodistaidd, a'i weithgarwch efengylaidd, a dynodd arno ddialedd y clerigwyr cnawdol, dyna hefyd a enillodd iddo ffafr yr Iarlles Huntington, y foneddiges fwyaf Fethodistaidd ag y mae hanes am dani. Ond pe na bai genym lawn sicrwydd yn nghylch yr adeg y daeth yn Fethodist, y mae ei weithredoedd a'i eiriau yn profi iddo ddyfod yn fore i arddel yr enw, fel y gwelir yn y difyniad canlynol, a ysgrifenwyd ganddo yn y cofiant a wnaeth efe i Christopher Basset. Fel yma y dywed:—Galwyd fy ardderchog frawd (Basset) yn Fethodist; enw o bwys, yn ddiamheu, o bwys, yn ddiamheu, canys o le dysgedig iawn y tarddodd ar y dechreu, nid llai lle na Rhydychain fawr ei hun, ac fel y bydd y lle, felly y bydd y ffrwyth. Ni chedwais dymhor (term) yno erioed, eto, er hyn, fe welwyd fy nghymhwysiadau mor fawr fel y sefydlwyd y radd yma, doed fel y dêl, arnaf finau, er fy mod yn amddifad o eraill. Fy meddwl yw hyn am y gair, mai siart (charter) gogoneddus ydyw, a lithrodd yn ddiarwybod o blith y doctoriaid yno, i bob offeiriad ag sydd yn sefyll yn gydwybodol at burdeb articlau Eglwys Loegr. Enw mor fawr, gan y rhai sydd yn caru y rhoddwyr, fel yr wyf yn barod i'w ddymuno ar fy arch (coffin), ac os pydra yno, gadewch iddo, fe gymer y diafol ofal i anrhydeddu pobl Dduw â rhyw enw newydd eto, fel y mae yr enw Methodist yn awr yn barod i foddi y Pengryniaid a'r Cradogiaid hefyd." Dyma arddeliad diamwys o Fethodistiaeth yn ymadroddion David Jones ei hun, ac y mae yn cydgordio yn hollol a'r bywyd a dreuliodd efe.

MYNWENT EGLWYS LLANGAN.
[Yn dangos y Groes a adeiladwyd ynddi yn y ddeuddegfed ganrif.]


Er hyn oll, yr oedd ei ddyfodiad i Langan yn dechreu cyfnod newydd yn ei hanes, canys yno y cafodd ei hun gyntaf yn wr rhydd. Yr oedd bellach wedi dianc oddi tan orthrwm y personiaid, ac wedi cael llywodraeth eglwysig plwyf bychan mewn sir boblog iawn; ac yn awr, yn arbenig, y dechreuodd ei lafur y tuallan i'w blwyf ei hun.

Ceisiwn, yn awr, gymeryd bras-olwg ar ystad crefydd yn mhlith y Methodistiaid, yn Sir Forganwg, pan y daeth David Jones i Langan. Yr ydym yn y penodau blaenorol, yn enwedig yn nglyn â hanes Howell Harris, wedi dangos fod llawer o lafur wedi ei gymeryd i efengyleiddio Sir Forganwg yn dra bore, a bod llwyddiant mawr wedi canlyn y llafur a wnaed. Nis bwriadwn helaethu ar hyn yn bresenol, dim ond braidd ddigon i gael golwg glir ar gysylltiadau yr hanes. Yr oedd seiadau wedi eu sefydlu yn Morganwg, yn gystal a siroedd eraill y Deheudir, o fewn wyth mlynedd gyntaf y diwygiad, ac erbyn Cymdeithasfa Watford yr oedd eglwys y Groeswen wrth y gorchwyl o adeiladu. capel, y cyntaf yn y sir. Cynyddodd y seiadau yn fawr yn ystod y blynyddoedd canlynol, ond yr oedd y bobl yn hwyrfrydig i godi capelau. Adeiladwyd un arall yn mhen chwe' mlynedd ar ol y cyntaf, sef capel Aberthyn. Dyma yr unig addoldai oedd gan y Methodistiaid yn Morganwg pan ddaeth David Jones i Langan. Y mae Aberthyn o fewn pedair milltir i Langan, a'r Groeswen o fewn ugain milltir i'r lle. Yr oedd eglwysi cryfion yn y ddau le yma y pryd hwnw, ac yr oedd arnynt weinidogion ordeiniedig a sefydlog. William Edward, yr adeiladydd, ydoedd gweinidog y Groeswen; a Dafydd Williams, o Lysyfronydd, ydoedd gweinidog Aberthyn. Yr oedd y ddau, erbyn amser dyfodiad Mr. Jones i Langan, mewn addfedrwydd oedran, eill dau yn eu haner-canfed flwyddyn; ac yr oeddynt yn ddynion o fedr a dylanwad mawr. oedd hefyd amryw o gynghorwyr yn llafurio yn y sir ar y pryd hwn, y rhai penaf o honynt oeddynt William Thomas, o'r Pil, a Jenkin Thomas, yr hwn a adwaenir yn well wrth yr enw Siencyn Penhydd. Yr oedd y cyntaf yn bump-a-deugain oed, a'r olaf yn un-ar-ddeg-ar-hugain. Glaslanciau rhwng deg a phymtheg oed ydoedd Christopher Basset, a Howell Howells, Trehill, yr adeg hon, dau ag a ddaethant ar ol hyn yn offeiriaid Methodistaidd o enwogrwydd a defnyddioldeb. Yn ychwanegol at y gweinidogion a'r cynghorwyr yr ydym yn awr wedi crybwyll eu henwau, pa rai oeddynt er ys blynyddau wedi bod yn llafurio yn Morganwg, daeth clerigwr i'r sir tua'r un adeg a David Jones, sef yr enwog a'r anwyl William Davies, Castellnedd. Daeth y ddau i gydnabyddiaeth buan a'u gilydd, os nad oeddynt felly o'r blaen, a buont yn cydlafurio, ac yn cyd-deithio Cymru oll yn ngwasanaeth yr efengyl, am yspaid ugain mlynedd, sef hyd farwolaeth William Davies. Cuwrad oedd William Davies, yn Nghastellnedd, o dan Mr. Pinkey, yr hwn oedd yn meddu personoliaeth dau blwyf, Castellnedd a Llanilltyd, ac nid ymddyrchafodd i safle uwch na chuwrad. yn ei fywyd. Bendith anmhrisiadwy i grefydd ydoedd dyfodiad cyfamserol y ddau weinidog ffyddlawn hyn i Grist i Sir Forganwg. Hyd yn hyn nid oedd yr un o ser dysgleiriaf y pwlpud wedi ymddangos yn Morganwg, yn frodorion nac yn ddyfodiaid. At Howell Harris, yn benaf, yr edrychai pobl Morganwg fel eu tad, a phan ymneillduodd efe, ac y peidiodd dalu ei ymweliadau mynych yno, nis gadawodd ar ei ol neb ag y gellid am foment ei gymharu ag efe. Cymerasai yr ymraniad le ddeunaw mlynedd cyn dyfodiad yr enwogion hyn i Forganwg, ac yr oedd eu dyfodiad hwy yno fel codiad haul o'r uchelder i'r holl sir, ac i Gymru oll. Blynyddoedd maith o drallod i bobl yr Arglwydd fu y blynyddoedd hyny; cyfnod o gyndynddadleu, a thymhor o ddirywiad crefyddol. Dilynwyd hwy a dyddiau gwell, dyddiau o adfywiad ac adferiad, a chydnabyddir yn gyffredinol mai trwy offerynoliaeth David Jones, Llangan, a W. Davies, Castellnedd, yn Morganwg; y ddau Williams, a William Llwyd, o Gaio, yn Nghaerfyrddin; a Daniel Rowland a Dafydd Morris, yn nghyd â Dafydd Jones, o'r Derlwyn, yn Aberteifi, yr ail-feddianwyd y Deheudir i Fethodistiaeth.

Y mae hanes David Jones yn Llangan yn bur gyffelyb i hanes Rowland yn Llangeitho, ond ei fod ar raddfa lai. Daeth y lle yn gyrchfa pobloedd, yn ganolbwynt gweithrediadau crefyddol rhan fawr a phwysig o'r wlad. Ymddengys i David Jones ymdaflu i weithgarwch yn union y daeth i Langan, ac y mae hanes fod sefyllfa crefydd o fewn y plwyf yn resynus. Dywed hyd yn nod Mr. Morgan, Syston, fod ei ragflaenydd wedi esgeuluso ei ddyledswyddau, a dichon y gallasai ychwanegu ei fod wedi camarwain ei bobl, ar air a gweithred. gweithred. Tebygol ei fod yn gyffelyb i'r person yr oedd gofal y plwyf nesaf i Langan arno, am yr hwn y canodd Shanco Shôn fel yma:—

Y 'ffeiriad ffol uffernol,
Shwd achub hwn ei bobl,
Sy'n methu cadw dydd o saith,
Heb ddilyn gwaith y diafol."


Yr oedd yr offeiriaid, gydag ychydig eithriadau, yn parhau yn ddifraw a difater; a llawer o honynt yn blaenori mewn annuwioldeb, a rhysedd. Ni pherchid hwy. hyd yn nod gan yr oferwyr yr ymgyfath rachent â hwy. Dirmygid hwy gan bob dyn bucheddol, a hwy oedd prif destun gwawd a chân y beirdd a'r prydyddion. Temtid hyd yn nod Iolo Morganwg i ogan-ganu iddynt. Cyfansoddodd efe gån, a alwai yn "Drioedd yr offeiriaid," cân faith, o bedwar-ar-hugain o benillion. Gosodwn yma y penill cyntaf a'r olaf o honi fel enghraifft, ac fel dangoseg o'r dirmyg a deimlai yr hen fardd dichlynaidd hwnw tuag at bobl oedd yn byw yn


CAPEL SALEM, PENCOED.

[A adeiladwyd y tro cyntaf gan D. Jones, Llangan, yn y flwyddyn 1775.]



EGLWYS A MYNWENT MANOROWEN, SIR BENFRO.

[Lle y claddwyd D. Jones, Llangan.]

annghyson a'u swydd a'u gwaith. Dyma hwy:

"Tri pheth sydd gas gan brydydd,
Bost uchel gŵr annghelfydd,
Awen ddiflas, heb ddim hwyl,
A 'ffeiriad plwyf di'menydd.

Tri pheth a gâr fy nghalon,
Heddychu rhwng cym'dogion;
Cadw'r iawn heb fyn'd ar goll,
A chrogi'r holl 'ffeiriadon."


Amlwg yw nad oedd y mwyafrif mawr o bersoniaid y wlad ronyn yn well eu moes, a'u buchedd, y pryd hwn, nag yr oeddynt gan' mlynedd cyn hyny; ac yr oedd plant y diwygiad hefyd wedi myned yn ol, ac nid yn mlaen, yn ystod yr ugain mlynedd hyn. Fel y darfu i ni sylwi, daethai dadleuon i mewn i'r eglwysi Methodistaidd, ac ymraniadau o bob math; y rhai a droisant ardd yr Arglwydd yn anialwch. Nid hawdd desgrifio y dirywiad a gymerodd le yn mhlith crefyddwyr mewn amser mor fyr ag ugain mlynedd. Mae darllen hanes eglwys Fethodistaidd yr Aberthyn yn y tymhor hwn, yn dwyn i gôf hanes eglwysi Annibynol Cefnarthen a Chwmyglo, ger Merthyr, mewn adeg foreuach.

Gan hyny, rhaid fod dyfodiad gŵr o yspryd a thalentau Mr. Jones i ardal fel yma, fel bywyd o feirw. Cafodd Llangan y fraint oruchel hon, canys nid hir y bu cyn teimlo grym ei weinidogaeth. Llosgai ei enaid ynddo o gariad at y Gwaredwr, ac o dosturi tuag at ei blwyfolion, pa rai a lusgid i angau. Yn fuan, dechreuodd y bobl ddeffroi, a'r eglwys lenwi.

Aeth y gair ar led am rym ei weinidogaeth, a thyrai y bobl i'w wrando o'r plwyfi cyfagos, a daeth Llangan yn gyffelyb i Langeitho, fel cyrchfa pobloedd o bell ac agos.

Er mwyn rhoddi rhyw syniad am fawredd y gwaith a wnaed yn Llangan, rhoddwn yma, gyda chaniatad yr Awdwr, ddesgrifiad campus yr Hybarch W. Williams, Abertawe, o Sul y cymundeb yn Llangan yn amser David Jones:—[12] "Tyred gyda ni, ddarllenydd hoff, ni a eisteddwn yn nghyd ar ben y maen mawr yma ar gopa cribog mynydd Eglwysfair. Y mae yn foreu Sabboth hyfryd. A weli di ar dy law aswy rhyngot a'r deheu-ddwyrain, hen adeilad fawreddog, braidd yn ganfyddadwy, o herwydd y coed a'i hamgylchant? Dyna gastell Penllin. Edrych eto ar dy law ddeheu, ryw bedair milltir i'r gorllewin, ti a weli dref fechan ar wastadedd pur hyfryd. Dyna Benybont-ar-Ogwr. Edrych yn awr rhag dy flaen. Yn union rhyngom a'r deheu, ar waelod y gwastad oddi tanom, ti a weli y pentref bychan annyben gwasgaredig yna; a braidd rhyngom ag ef, ond yn hytrach yn fwy i'r gorllewin, eglwys fechan ddigon gwael yr olwg, heb fod iddi yr un clochdy, ond rhywbeth tebyg i simnai, a thwll yn hono, a chloch yn hwn, yr hon na chlywem hyd y fan hon, tincied ei heithaf. Dyna Llangan. Dyna y fan y bydd Mr. Jones yn pregethu ac yn cyfranu heddyw, a dyna lle bydd yn ei gyfarfod dyrfa fawr. Aros enyd; ti gei eu gweled yn ymgasglu. Ust! dacw rai o honynt yn dechreu dyfod. Edrych ar dy gyfer, ti a weli lonaid yr heol serth acw o gopa y Filldir Aur, tua Llangan, llawer ar feirch, a mwy ar draed. Pobl y Wig, Llanffa, Ty'rcroes, a Thregolwyn ydynt, yn ymdywallt tua Llangan. Edrych eto rhyngom a chastell Penllin, dacw dyrfa yn ymarllwys oddiar y croesheolydd tua dyffryn Llangan. Edrych eto ar dy ddeheulaw, y mae yr heol fain wastad yna o Dyle-y-rôd, heibio i Langrallo a Melin-y-mur, i Dreoes, yn frith o fywiolion; ffordd yna y daw pobl Penybont, Trelalas, Pil, Llangynwyd, Margam, ac Aberafon. Y mae rhai o honynt yn dyfod o Gastellnedd, ac o'r Cwm uwchlaw, ac hyd yn nod o Langyfelach, y Goppa, ac Abertawe. Ond bellach, gad i ni ddisgyn i'r gwastadedd-awn rhagom i Langan. Bydd rhyw gynghorwr' yn anerch y gynulleidfa, yn ysgubor y persondy, am naw o'r gloch. Ni bydd Mr. Jones yn yr eglwys dan haner awr wedi deg. Dacw ŵr teneu, trwynllym, llygadgraff, yn sefyll ar yr ystôl. Y mae yr olwg arno yn dy argyhoeddi ar unwaith nad yw wedi bod yn yr athrofa, ac y mae ei ddull o ymadroddi yn dangos nad yw erioed wedi astudio na gramadeg na rheithioreg. Ond y mae rhyw nerth yn ei eiriau—mae rhyw wreiddiolder yn ei ddrychfeddyliau—mae rhyw swyn yn ei lais, yn dangos ei fod ef yn rhywbeth tuhwnt i'r cyffredin. Dyna Edward Coslett, gôf wrth ei alwedigaeth, ond pregethwr wrth ei swydd, a'r pregethwr Methodistaidd goreu yn Sir Fynwy, meddai ef ei hun. Ei reswm dros ddweyd hyny ydoedd, nad oedd yr un pregethwr Methodistaidd, ar hyny o bryd, yn Sir Fynwy, ond ei hunan. Gofynodd Mr. Jones iddo, wedi ei wrandaw yn pregethu mewn rhyw fan, pa le yr oedd wedi astudio y bregeth hono. Lle na ddarfu i chwi astudio yr un erioed, Syr,' meddai yntau. Ond pa le, Ned?' ychwanegai Mr. Jones: Rhwng y tân a'r eingion,' oedd yr ateb. Barnai rhai dynion mai dyna paham yr oedd pregethau Edward Coslett mor wresog, neu mor danllyd, fel y dywedent. Ond wedi'r cwbl, nid yw efe namyn 'cynghori ticyn,' Mr. Jones sydd i bregethu yn yr eglwys. Gan hyny, i'r eglwys â ni. Dacw Mr. Jones yn esgyn y pwlpud bychan. Edrychwch arno am fynud. Nid yn fynych y ceir cyfle i weled dyn mor brydferth. Y mae yn rhy dal i'w alw yn fychan; ac y mae yn rhy fyr i'w alw yn dal; llydain ei ysgwyddau, praff ei fraich, goleu ei wallt, llawn ei fochgernau. Y mae ei aeliau bwäog, ei lygaid mawrion duon dysglaer, ei drwyn mawr cam, a'i wefusau serchog, yn dangos eu bod yn preswylio yn nghymydogaeth cyfoeth o synwyr cyffredin, a byd o natur dda. Ond wele, y mae yn dechreu darllen: 'Pan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni, &c.' Ymddengys fel pe byddai mewn brys i ddybenu. Llithra y geiriau, y gweddïau, a'r llithiau ar ol eu gilydd dros ei wefusau, fel y cenllif gwyllt. Cyn ein bod yn dysgwyl, dyma Amen y gwasanaeth gosodedig. Yn awr, am y weddi ddifyfyr, y canu, a'r bregeth. Y mae y cyntaf yn dangos cydnabyddiaeth y gweddiwr a'r hyn sydd o fewn y llen. Gellir bod yn sicr ei fod wedi bod yn y nef neithiwr, gan mor hawdd y mae yn myned yno heddyw. Y mae y canu fel swn dyfroedd lawer; 'dyfroedd yn rhuthro dros greigiau Lodor.' Nid oes arno ryw drefn ardderchog; ond y mae yr yspryd yn ardderchog, a'r hwyl yn hyfryd; am yr effaith, y mae yn annesgrifiadwy. Roddem rywbeth am gael clywed canu o'r fath unwaith eto.

"Ond dyna y canu yn dybenu, a'r bregeth yn dechreu. Y mae dystawrwydd, fel eiddo y bedd, yn teyrnasu trwy yr adeilad gorlawn. Y mae pob dyn fel pe byddai wedi anghofio fod un rhan yn perthyn i'w gyfansoddiad ond llygad, a chlust, a chalon. Y mae y pregethwr yn dechreu fel pe byddai yn penderfynu rhoddi llawn waith i'r tri. Y mae meddyliau ei galon yn ymdywallt yn ffrydlif gyson, mor gyflym ac mor ddidrafferth, nes peri i ti dybied fod cartrefle ei feddwl yn nhaflod ei enau. Y mae ei eiriau yn ddetholedig, ei lais yn soniarus; y bobl yn credu ei fod yn bregethwr heb ei ail. Y mae y pethau hyn yn fanteisiol i gynyrchu y teimlad a weli, ac a glywi, yn ymdaenu trwy y dyrfa. Ond nid hyn yw y cwbl; nid yna y mae cuddiad ei gryfder. Y mae bywyd yn mhob gair; y mae nerthoedd yn mhob brawddeg; y mae yn gwaeddi, ond y mae yr Yspryd tragywyddol wedi dweyd wrtho eisioes pa beth i waeddi. Y mae y pregethwr yn credu fod pob gair a ddywed yn wirionedd tragywyddol. Y mae yn teimlo pwys anrhaethol pob brawddeg a lithra dros ei wefus; eu pwys anrhaethol iddo ef ei hunan; eu pwys anrhaethol i bob enaid byw o'i flaen! Dyn newydd ei gipio o'r dwfr; newydd ei waredu rhag boddi; newydd ei osod yn y cwch; yn gwaeddi, 'Bad! bâd!' ar y soddedigion o'i amgylch, yw efe. Wrth ddweyd ei bregeth y mae yn dweyd ei galon. Dywed am ddagrau, a chwys a gwaed, a chroes ac angau ein Gwaredwr, a'i gariad anfeidrol yn berwi ei enaid. Sieryd am adgyfodiad y meirw a'r farn dragywyddol; a thra yn siarad teimla ei hun ar derfynau y byd anweledig, ac y mae ei wrandawyr yn teimlo yr un modd. Y mae y chwys a'r dagrau fel yn rhedeg gyrfa tros ei ruddiau glandeg, ac y mae cawod o ddagrau yn gwlychu llawr yr hen eglwys. Ond dyna y bregeth yn dybenu. Rhyfedd mor fyr; ond hynod mor felus. Dyna y pregethwr yn eistedd yn foddedig mewn chwys. Dyna y gwrandawyr, am y waith gyntaf oddiar pan ddechreuodd, yn edrych ar eu gilydd, ac yn gweled afonydd o ddagrau.

"Ond nid yw y cwbl drosodd eto. Y mae y bwrdd wedi ei ledu; y mae y dyrfa cyn ymadael yn bwriadu gwneyd cof am farwolaeth eu Hiachawdwr mawr. Aros i weled y diwedd. Darllena y gweinidog y gwasanaeth arferol, ond nid yw yn gorphwys ar hyny. Ni welir un argoel ei fod am arbed ei gorph; y mae nerthoedd yr aberth yn llenwi ei enaid. Nid yw y geiriau arferol, Corph ein Harglwydd Iesu Grist,' &c., yn ymddangos fel wedi pylu dim wrth eu hadrodd trosodd a throsodd; mwyhau y mae eu nerth, dyfnhau y mae eu hargraff ar y pregethwr ei hunan pa fynychaf eu dywed. Ymwthia drwy y dorf, ireiddia hwynt â'i ddagrau; gwlych hwynt â'i chwys; cynhyrfa hwynt drwyddynt draw â'i eiriau melusion. Yn awr, dyna ddernyn o hymn; yn awr dyna bwnc o athrawiaeth; yn awr dyna waeddolef annynwaredol am angau'r groes; yn awr y mae

'Jones fel angel yn Llangana,
Yn udganu'r udgorn mawr.'

A thyna.

'Dorf, mewn twymn serchiadau,
Yn dyrchafu uwch y llawr.'


Dyna wreichionen y bregeth wedi myned yn fflam angerddol. Rhaid i ti bellach ymdaro trosot dy hun, gyfaill. Nis gallwn ddesgrifio ychwaneg. Y mae y pwyntil wedi syrthio. Y mae y dyrfa wedi myned i'r hwyl; yr ydym ninau wedi myned i'r hwyl hefyd. Pwy ddichon beidio? Bendigedig! Bendigedig byth!

"Ond wele, nid yn Llangan yr ydym ni yn y diwedd, ond yma, yn y fan hon; haner can' mlynedd yn rhy ddiweddar i weled y lle hwnw yn ei ogoniant; rhyw eilun anmherffaith o'r peth a welsom ni ar ein hynt! O! na chawsem weled y peth ei hunan. O ddiffyg hyny, fe allai fod y brasddarlun uchod mor debyg iddo a dim a elli daro wrtho am enyd o amser."

Ni chyfyngodd efe ei hun mewn un modd i'w eglwys, ac i'w blwyf; ystyriai hyny yn drefniad dynol, ond yn hytrach ufuddhaodd i'r gorchymyn dwyfol: "Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Pregethai mewn amser ac allan o amser, ac yn mhob math o leoedd. Weithiau mewn ysgubor, neu ar y ffordd fawr, neu mewn tŷ anedd, dan gysgod pren, neu ar lechwedd mynydd; mewn gair, yn mhob lle y cai gyfleusdra i bregethu Crist a'i groes. Dichon ei fod yn Eglwyswr anghyson a direol, ond yr oedd, er hyny, yn gristion hardd a diargyhoedd, ac yr oedd yn prisio cymeradwyaeth Duw yn fwy na gwenau pendefigion y tir; at gwell oedd ganddo ddychwelyd pechaduriaid o'u ffyrdd drygionus, na chyfyngu ei hun i unrhyw sect neu blaid grefyddol.

Yn y flwyddyn 1775, sef yn mhen saith. mlynedd ar ol ei fynediad i Langan, cododd Mr. Jones, mewn undeb â'r Methodistiaid, gapel Salem, Pencoed, mewn lle cyfleus ar y brif-ffordd sydd yn arwain of Benybont-ar-Ogwr i Lantrisant. Cymerwyd llawn ddau erw o dir at y pwrpas hwn, a dyogelwyd ef mewn gweithred i'r Cyfundeb. Cyfrifid capel Salem, y pryd hwnw, yn adeilad helaeth fel addoldy. Dangosai Mr. Jones fawr serch at y lle, ac arolygai ei hun y gwaith pan yn ei adeiladu. Codwyd tŷ anedd at wasanaeth yr achos wrth y naill ben i'r capel, a gwnaed mynwent at gladdu yr aelodau wrth y pen arall. Ac y mae yn hynodol, mai yr hen weinidog ffyddlawn, Dafydd Williams, of Lysyfronydd, a gladdwyd ynddi gyntaf; ac yn fuan wedi hyny y bu farw priod Mr. Jones, a dewisiodd yntau idd ei anwyl "Sina" gael ei chladdu yn ymyl yr hen bregethwr; a mynych y dywedodd mai yn y fynwent hon y dymunai i'w weddillion ei hun orphwys; ond nis cafodd hyn o fraint, gan iddo ail briodi, a diweddu ei ddydd yn Sir Benfro.

Ffaith hynod iawn ydoedd i David Jones, offeiriad eglwys Llangan, ddewis claddu ei hoff briod mewn tir annghysegr edig yn ymyl Salem, capel y Methodistiaid yn Mhencoed, yn hytrach nag yn mynwent gyfleus Llangan, y plwyf yr oedd efe yn ei wasanaethu. Dengys y weithred hon o'i eiddo ei fod yn bur eang ei syniadau am gysegredigrwydd daear; ac yn rhyfeddol ymlyngar wrth y Methodistiaid.

Nid oedd capel Salem ond tua thair milldir o bellder oddiwrth eglwys Llangan. Arferai Mr. Jones bregethu yn ei eglwys ei hun am haner awr wedi deg ar fore Sabbath, ac yn Salem am ddau o'r gloch. yn y prydnawn. Ni chynhaliwyd cyfarfodydd eglwysig erioed yn Llangan, ond yn Salem, Pencoed, y cynhelid hwy. Yr oedd yno seiat bob wythnos, a chyfarfod parotöad unwaith yn y mis, ar ddydd Sadwrn, am un o'r gloch, o flaen Sul y cymundeb yn Llangan. Byddai Mr. Jones yn bresenol bob amser, os byddai gartref, ac yr oedd ei wraig hawddgar a duwiol yn mynychu y cyfarfodydd hyn gyda chysondeb mawr.

Capel Salem oedd y cyntaf a adeiladwyd gan Mr. Jones, ond nid hwn oedd y diweddaf a adeiladwyd ganddo. Hwyrach iddo ef fod yn offerynol i adeiladu mwy o gapelau Methodistaidd yn ei ddydd na neb o'i gydoeswyr. Yr oedd yn ymddiriedolwr ar y nifer amlaf o gapelau y Deheudir a adeiladwyd yn ei amser ef, ac yr oedd yn dra ymdrechgar i'w diddyledu ar ol eu codi. Bu yn foddion i adeiladu rhai capelau yn y Gogledd hefyd, yn enwedigol capel cyntaf Dolgellau.

Dywedir nad llawer a alwyd trwy weinidogaeth Mr. Jones o blwyfolion Llangan. Bu ei lafur yn fwy bendithiol yn mhob man nag yn ei blwyf ei hun. Cafodd y ddiareb Ysgrythyrol ei gwirio yn ei hanes ef. Methodistiaid yr ardaloedd cylchynol oedd ei wrandawyr, gan mwyaf, rhai a sychedent am y Duw byw, ac a hiraethent am gynteddau yr Arglwydd.

Er holl lafur y Diwygwyr yn y sir cyn amser David Jones, nis gallasent hwy lwyr osod i lawr ofer arferion y werin bobl yn nghymydogaeth Llangan. Yr ydym yn cael fod gwylmabsantau yn y wlad mor ddiweddar a'i amser ef. Yn mhlith manau eraill, cynhelid un bob blwyddyn yn Llanbedr-ar-fynydd, lle oddeutu pum' milltir i'r gogledd o Langan. Hwn ydoedd prif "fabsant" y wlad. Yma yr ymgynullai canoedd o ieuenctyd Morganwg i yfed, meddwi, dawnsio, ymladd, a phob annuwioldeb. A dydd yr Arglwydd ydoedd prif ddiwrnod yr wyl felldigedig hon. Penderfynodd Mr. Jones wneyd ymdrech i osod terfyn ar y cynulliad pechadurus. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn ei herbyn yn Llangan, ond nid oedd hyny ynddo ei hun yn ddigon. Ar un Sabbath, aeth yno ei hun, a phregethodd Grist croeshoeliedig iddynt. Llwyddodd yn ei amcan, a bu yn myned i'r un lle i gynal math o gymanfa ar ddyddiau y mabsant am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Gwthiodd Duw y gelyn o flaen y pregethwr ar y cynyg cyntaf, a mynodd yntau ei lwyr ddifetha ef.

CAREG FEDD GWRAIG GYNTAF Y PARCH.
DAVID JONES, LLANGAN

Cawn iddo unwaith wrth ddychwelyd adref, wedi bod yn pregethu, daro wrth haid o oferwyr oeddynt wedi ymgynull er mwyn y difyrwch creulawn o ymladd ceiliogod. Trodd atynt, a chyfarchodd hwy yn garedig, gan ddweyd: "Y mae genyf fi newyddion da rhyfeddol i chwi, bobl fach, os byddwch mor fwyned a gwrandaw; cewch fyned yn y blaen a'ch gwaith wedi hyny, os byddwch yn dewis." Wedi eu gorchfygu gan diriondeb, dywedasant y cai wneyd fel y carai. Ar hyn, dechreuodd ddweyd wrthynt am fater eu heneidiau, am gariad y Gwaredwr, a disgynodd nerth Duw gyda'r siarad. Tarawyd yr ofer-ddynion â syndod, ac aethant i'w cartrefleoedd heb gyflawni yr hyn a fwriadent wneyd.

Gŵr boneddigaidd o ymddygiad, addfwyn o yspryd, a rhyfeddol dirion yn ei ymwneyd â dynion oedd efe, ac eto cafodd ei ran o erlidiau. Cawn ddarfod i rywun daro y Beibl o'i law pan yn pregethu mewn man yn Ngogledd Cymru. Yr unig sylw a wnaeth ar y weithred anfoneddigaidd ydoedd: "Och! druan, ti a darewaist dy farnwr!" Pan yn pregethu yn Machynlleth, ymgasglodd torf o elynion o'i gwmpas, gan gipio y Gair sanctaidd o'i ddwylaw, a'i anmharchu. Dywedasant wrtho na wnaent iddo niwed, os gwnai addaw peidio dyfod yno i bregethu byth mwyach. "O na,' ebai yntau, "nis gallaf wneyd hyny, nid oes yr un addewid yn perthyn i chwi nac i'ch tad." Dyoddefodd erledigaeth oddi ar law boneddwyr a phersoniaid y gymydogaeth yr oedd yn byw ynddi. Anfonwyd achwyniadau at yr esgob, ei fod yn pregethu heb lyfr, ei fod yn tynu pobl o blwyfau eraill i'w wrandaw yn Llangan a lleoedd eraill, a'i fod yn euog o bob math o afreolaeth. Darfu i'r esgob gau ei glustiau i'r cwynion hyn hyd y gallai, ond gorfodwyd ef o'r diwedd i'w alw i gyfrif. Cyfarchodd ef, gan ddweyd: "Y mae yn ddrwg genyf, Mr. Jones, fod achwyniadau yn eich erbyn; cyhuddir chwi o bregethu mewn lleoedd annghysegredig." "Naddo, erioed, fy arglwydd," meddai yntau; "pan y rhoddes Mab Mair ei droed ar y ddaear, darfu iddo gysegru pob modfedd o honi; oni buasai hyny, yr wyf yn ofni na wnai unrhyw gysegriad o eiddo eich arglwyddiaeth ddaioni yn y byd." Ar ol ychydig eiriau cariadus, ymadawsant, ac aeth Mr. Jones yn mlaen fel cynt. Dr. Barrington oedd yr esgob y pryd hwn, ac yr oedd efe yn gefnogol, neu o leiaf, nid oedd yn annghefnogol i arferion afreolaidd Person Llangan. Adnewyddwyd yr achwyniadau pan wnaed y Dr. Watson yn Esgob Llandaf. Penderfynodd yr esgob newydd ei orfodi i aros yn ei blwyf ei hun. Galwodd ef o'r neilldu ar ddydd ymweliad yn Mhontfaen, a dywedodd nad oedd iddo ryddid i fyned i blwyfau eraill, hyd y byddai pob enaid yn ei blwyf ei hun wedi ei achub. Atebodd Mr. Jones yn ostyngedig, ei fod yn teimlo ei hun dan rwymedigaeth i gydsynio â chymhellion y bobl oeddynt yn byw mewn plwyfau ag yr oedd offeiriaid yn esgeuluso eu dyledswydd. "Os felly," ebe yr esgob, "rhaid i mi gymeryd mesurau i'ch atal." "Gellwch wneyd hyny, fy arglwydd," atebai Mr. Jones, "ond nis gallaf fi newid fy mhenderfyniad." Yr esgob, yn synu wrth weled y fath wroldeb digyffro, yn gysylltiedig a'r fath ostyngeiddrwydd boneddigaidd, a ofynodd, a oedd ganddo deulu. "Oes, fy arglwydd," meddai yntau," "y mae genyf wraig a thri o blant." "Wel," ebe ei arglwyddiaeth, wedi ei orchfygu gan deimlad," Mr. Jones bach, nis gallaf mewn modd yn y byd feddwl am eich niweidio, ond y mae offeiriaid plwyfau P—— a Ffyn—— yn wrthwynebol iawn i chwi, gwnewch hyn ar fy nghais, peidiwch a myned i'w plwyfau hwy.' "Gwnaf yr hyn a geisiwch genyf," ebe yntau, a chadwodd ei air.

Gorchwyl hollol anmhosibl ydyw cofnodi llafur Mr. Jones am fwy na deugain mlynedd, sef o'i ddyfodiad i Langan hyd ei farwolaeth yn Manorowen. Nid oes ddefnyddiau ar gael at orchwyl o'r fath. Ond y mae yn dra amlwg iddo ef lanw ei fywyd â gwaith, ac i'r Arglwydd mewn modd neillduol goroni ei lafur â llwyddiant. Heblaw ei ymdrechion yn Nghymru, llafuriodd yn gyson drwy ei oes yn nglyn â chyfundeb yr Iarlles Huntington yn Lloegr, ac yr oedd ei weinidogaeth mor gymeradwy gan y Saeson, ag yr oedd gan ei genedl ei hun. Cafodd

"Llundain boblog, falch, derfysglyd,
Glywed llais ei bibell ef;
Cafodd wybod fod yn Nghymru
Ddyn oedd lawn o ddoniau'r Nef."


Nid gŵr o gyrhaeddiadau cyffredin a wnai y tro yr adeg hono i bregethu i gynulleidfaoedd cyfundeb yr Iarlles; yr oedd llawer o honynt yn hufen cymdeithas, yn bobl o ddysg a chwaeth. Casglwyd hwy yn nghyd drwy hyawdledd yr anghymarol Whitefield, ac yr oeddynt wedi cynefino â doniau uchaf y pwlpud. Ymwelai Mr. Jones yn aml â phrif eglwysi y prif drefydd, ac yn amlach fyth a'r brif-ddinas. Cynullai y Saeson wrth y miloedd i'w wrando, a dilynent ef o gapel i gapel tra fyddai o fewn eu cyrhaedd. Yr oedd yn meddu ar y fath helaethrwydd dawn, y fath barodrwydd ymadrodd, a'r fath wresogrwydd yspryd, fel y llwyr orchfygid pob math o bobl gan ei weinidogaeth. Yn ddiau, efe oedd un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn ei ddydd. Byddai yn ymweled yn aml â Bryste, a phan fyddai yno, yr oedd Dr. Rylands yn wastad yn gofalu am gael odfa neu ddwy ganddo, a bron yn ddieithriad byddent yn odfaeon tra llewyrchus. Arferai y Dr. parchedig ddweyd wrtho yn chwareus ar ddiwedd y gwasanaeth: Dyma chwi eto, Jones, o Langan, wedi lladrata calon fy mhobl i, ac wedi difetha fy ngwrandawyr am fis cyfan; ni cheir ganddynt wrando ar neb arall am amser maith ar ol hyn." Pregethai am wythnosau yn olynol yn Spa Fields Chapel, Llundain, un o gapelau mwyaf y brifddinas y pryd hwnw, ac yr oedd yn rhyfeddol o boblog. Gosodid ef i bregethu yn mysg y Saeson ar yr uchel—wyliau, ac ar amgylchiadau neillduol; a phob amser llanwai ddysgwyliadau y tyrfaoedd a dyrent i'w wrando. Efe oedd y gŵr a gafodd yr anrhydedd o bregethu pregeth angladdol yr Iarlles Huntington, ac y mae yn ymddangos mai efe oedd yr unig weinidog a weinyddai ar y bendefiges urddasol hono yn ei chystudd diweddaf. Yr ydym hefyd yn cael i Gymdeithas Genhadol Llundain, yn ei hail gyfarfod blynyddol, ei osod i bregethu ar ei rhan, yn un o gapelau mwyaf y brif-ddinas. Cymerodd hyn le, Mai 13eg, 1796, dau fis cyn i'r fintai gyntaf o genhadau hedd gael eu hanfon i Ynysoedd Môr y Dê. Ceir yn yr adroddiad o'r cyfarfod hwnw gyfeiriad fel yma at bregeth Mr. Jones: "Ar ddydd Gwener, gorphenwyd ein cyfarfodydd cyhoeddus, gyda phregeth ragorol gan y Parchedig Mr. Jones, o Langan. Y mae ei ddull a'i yspryd ef yn rhy adnabyddus i wneuthur unrhyw ganmoliaeth oddiwrthym ni yn angenrheidiol." Cyhoeddwyd y bregeth hon yn y gyfrol gyntaf o'r Missionary Sermons; ac y mae yn engrhaifft dda o'i ddullwedd ef. Darfu i Mr. T. Chapman, Fleet Street, Llundain, gyhoeddi y bregeth hon ar bregeth hon ar ei phen ei hun; chyhoeddodd Mr. E. Griffiths, Abertawe, gyfieithiad Cymreig o honi yn y flwyddyn 1797.[13]

Ond os oedd y Saeson yn awyddu am ei wrando, yr oedd yntau yn llawn mor barod i dalu ymweliadau â hwy, o herwydd yr oedd yn gofalu i'r ymweliadau hyny â chyfoethogion Lloegr fod o ryw fantais i Gymru dlawd. Byddai ganddo fynychaf achos rhyw gapel neu ysgoldy yn Nghymru, ag yr oedd eisiau ei adeiladu, neu eisiau talu am dano; a daeth â llawer swm da o arian y Saeson yn ol gydag ef. Yr oedd ei olwg foneddigaidd, ei ddull deniadol, a'i ddawn parod, yn meddu y fath ddylanwad ar ei wrandawyr, fel nas gallent atal eu rhoddion oddi wrtho. Adroddai yr hen bobl lawer o hanesion difyr am dano yn nglyn â chasglu arian. Rhoddwn yma esiampl neu ddwy. Dygwyddodd fod Cymro un tro ar ymweliad â Llundain, ac aeth i'w wrando yn pregethu yn un o'r capelau Saesnig. Wrth siarad ar y casgliad ar ddiwedd y gwasanaeth, gollyngai y pregethwr holl ffrwd ei hyawdledd ar draws y bobl, er mwyn eu cynhyrfu i roddi. Teimlai y Cymro y cwlwm rhyngddo a'i arian yn datod yn gyflym, ac yn y man, nis gallodd ymatal rhag gwaeddi allan yn iaith ei fam: "Mr. Jones anwyl, ymataliwch, da chwi! peidiwch a gwasgu yn dynach eto, onide bydd raid i mi roddi y cwbl a feddaf, heb adael ffyrling i'm cario adref." Dywedir iddo dro arall, yn yr un ddinas, ddefnyddio hanes Petr yn bwrw ei fâch i'r môr, ac yn cael o hyd i bysgodyn a darn o arian yn ei enau, yn dra effeithiol. Boreu dranoeth, curai gwas boneddiges wrth ddrws y llety, lle yr oedd yn aros, gan adael basged yno gyda'r cyfeiriad: "To the Rev. Mr. Jones, Wales." Erbyn ei hagor, wele bysgodyn ynddi a llythyr yn ei enau, yn cynwys archeb am ddeg punt. Yr oedd Mr. Jones yn gweled llaw yr Arglwydd yn yr amgylchiad hwn mor amlwg ag y gwelai Petr hyny yn ei amgylchiad ef.

Ond er ei ymweliadau mynych â threfydd Lloegr, Cymru er hyny ydoedd prif faes ei lafur. Yr oedd yr yspryd Cymreig yn berwi yn ei wythienau, a chysegrodd ei fywyd i wasanaeth ei genedl. Nid oes modd gosod trefn ar y teithiau am a meithion a gymerodd ar hyd a lled Cymru, mwy nag y gellid gwneyd y cyffelyb â theithiau Williams, o Bantycelyn. Braidd nad yw yr oll o'r hanes sydd genym am Mr. Jones, o Langan, yn gynwysedig mewn byr hanesion a geir am dano yn nglyn â hanes boreuol ein heglwysi; rhywbeth a wnaed iddo, neu ganddo; neu ynte, rhyw ymadrodd tarawiadol a ddyferodd oddiar ei wefusau. Hwyrach fod yr adgofion hyn yn gystal allwedd i'w gymeriad a dim a ellid ei gael.

Yr ydym eisioes wedi dangos y modd y darfu iddo orchfygu erledigaeth yr offeiriaid drwy ei ymddygiad gostyngedig a pharchus o flaen yr esgob; ac y mae genym engrheifftiau lawer mai dyna oedd ei ffordd arferol ef o gyfarfod anhawsderau o'r fath. [14]Cawn ei fod un tro yn pregethu yn Nolgellau, ac ar ganol yr odfa, daeth rhyw un o'r dref, gan yru berfa olwyn (wheel-barrow), yn ol ac yn mlaen trwy ganol y gynulleidfa, a pheri llawer o rwystr i'r gwasanaeth. Y tro nesaf y daeth Mr. Jones yno, yr oedd y gŵr hwnw wedi cael ei draddodi, oblegyd rhyw drosedd, i'r carchar, yr hwn oedd yn ymyl y lle y safai y pregethwr arno. Mewn canlyniad, yr oedd teulu y dyn wedi eu darostwng i iselder a thlodi. Mynegwyd hyn i Mr. Jones, yr hwn oedd yn wastad yn barod i wneuthur cymwynas i'r trallodedig. Eglurodd yntau yr achos i'r gynulleidfa, dadleuodd dros y teulu tlawd yn daer, gan ddeisyf ar rai o'r cyfeillion fyned â het o amgylch, i dderbyn ewyllys da y bobl tuag at ddiwallu eu hangen. Effeithiodd yr ymddygiad caredig hwn o eiddo Mr. Jones yn fawr i ddarostwng yr erledigaeth a ffynai yn y dref hono yn erbyn y Methodistiaid.

Cofnodir yn Methodistiaeth Cymru y modd y darfu iddo ragflaenu erledigaeth yn nhref Caernarfon. Yr oedd y Diwygwyr boreuaf wedi derbyn triniaeth arw yno, ac nid oedd sicrwydd y cai yr Efengylydd. o Langan wrandawiad. Modd bynag, meiddiodd ef ac ychydig gyfeillion fyned i'r heol, ac i gyfeiriad porth y castell. Esgynodd Mr. Jones i drol oedd gerllaw, ac ymgasglodd pobl ynghyd, rhai gyda'r bwriad o derfysgu, rhai o gywreinrwydd, a rhai, feallai, gydag amcanion gwell. Diosgodd y pregethwr ei gôb uchaf oddiam dano, a gwelai y bobl fwy o foneddigeiddrwydd ynddo nag oeddynt wedi ddysgwyl gael yn neb o'r pengryniaid. Yn awr, yr oedd y gown du, y napcyn gwyn, a'r lapedau ysgwar a ddisgynent ar ei fynwes, wedi dyfod i'r golwg. Yr oedd peth fel hyn yn ynu y bobl gweled gŵr eglwysig yn ei wisg glerigawl yn cyfarch dynion ar ymyl y ffordd fawr! Rhyw gynghorwr gwladaidd, mewn dillad cyffredin, heb na phryd na thegwch ynddo, oeddynt hwy wedi ddysgwyl; ond yn lle hyny, dyma foneddwr, o wisgiad ac o ymddygiad, ger eu bronau. Yr oedd yno un o leiaf a cherig yn ei logellau, er clwyfo ac anafu, os nad Iladd y llefarwr; ond llwfrhaodd pan welodd mai offeiriad urddasol oedd yno, a gollyngodd y cerig i lawr mewn cywilydd o un i un. Yr oedd yn ysgafn wlawio ar y pryd. Dechreuodd Mr. Jones gyfarch y dyrfa mewn ymadroddion serchog, a chyda thôn hollol hyderus, fel gŵr yn teimlo ei hun yn nghanol ei gyfeillion. Yn fuan gofynodd, a wnai rhyw foneddwr roddi benthyg gwlawlen iddo i gysgodi ei ben rhag y gawod? Ymddygiad lled eofn ydoedd hwn, gan ŵr a wyddai ei fod mewn perygl o dderbyn niwaid, ac nid cymwynas, gan y rhai oedd o'i flaen. Ond gwnaeth ef yr apêl yn ei ffordd serchog ei hun. Ar darawiad, dyma un Mr. Howard, cyfreithiwr o ddylanwad mawr yn y dref, yn ymadael i gyrchu gwlawlen iddo; a phan ddaeth yn ei ol, estynodd hi i'r pregethwr parchus. Derbyniodd yntau hi o'i law gydag ystum foesgar, a chyda'r wên fwyaf nefolaidd ar ei wynebpryd, a dechreuodd ar ei bregeth trwy ddywedyd ei fod yn teimlo mor gysurus dan y wlawlen a phe buasai yn St. Paul, yn Llundain. Cafodd berffaith lonyddwch i bregethu, yr hyn ni chafwyd yno cyn hyny. Fel yma y gwnai efe orchfygu drygioni â daioni; ac y pentyrai farwor tanllyd ar ben ei elyn.

Y mae yn ddiamheu ei fod yn bregethwr rhyfeddol o enillgar a phoblogaidd. Yr oedd ei draddodiad yn ddifai; yr oedd pob goslef ar ei lais, pob symudiad ar ei law, pob ystum ar ei gorph, yn hoelio llygaid pawb arno, fel yr oedd y gwrandawyr mwyaf difater yn rhwym o sylwi, a gwrando yr hyn a draethid. Yr oedd yn ardderchog o urddasol pan y byddai y deigryn gloew yn treiglo dros ei ruddiau hardd, ac yntau yn tywallt allan gynwys ei galon fawr gynes. Ni welid dim gwrthun un amser yn ei berson na'i ymddygiad, dim i dynu oddiwrth effaith yr ymadroddion grasol a ddisgynai dros ei wefus. Yr oedd yn ymadroddwr wrth natur. Byddai pob gair yn disgyn i'w le ei hun fel wrth reddf. Ei ymadroddion oeddynt ddetholedig, a'i chwaeth yn bur. Byddai pob math o bobl yn cael eu swyno gan neillduolrwydd ei ddawn, a melusder ei weinidogaeth. Gorchfygai y coeth a'r dysgedig, fel yr anwybodus a'r anwrteithiedig; ac yr oedd pawb fel eu gilydd yn teimlo nerth ei weinidogaeth. [15] Cawn fod dynion, fel Jack Jones, y cigydd, yn deall rhagor rhwng Mr. Jones, o Langan, a phregethwyr cyffredin. Dywedir i ni fod Mr. Jones yn pregethu yn Rhuthyn ar y geiriau: "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn," o flaen tyrfa derfysglyd. Darllenodd ei destun gyda llais cryf a gwyneb siriol, fel arfer. Yr oedd rhywbeth tarawiadol yn ei ymadroddion dechreuol. "Llefarodd hwn lygaid i'r deillion," meddai, "llefarodd hwn glustiau i fyddariaid, llefarodd draed i gloffion, llefarodd iechyd i gleifion, llefarodd gythreuliaid allan o ddynion, ïe, llefarodd fywyd i feirwon; gall wneyd yr un peth eto," &c. Jack Jones, y cigydd, ydoedd blaenor yr erlidwyr yn y cyfarfod, ond cafodd ei swyno gan rym y bregeth, fel y dywedodd: "Ni lefarodd dyn erioed fel tithau ychwaith, a myn dl, mi dfynaf chwareu têg i ti lefaru, a phwy bynag wnelo dim i ti, mi dalaf i'w groen o. [16]Cawn ddarfod i hen wreigan dduwiol yn Niwbwrch, yn Môn, ddangos awyddfryd am weinidogaeth Mr. Jones, Llangan, ag sydd bron yn annghredadwy. Yr oedd efe wedi bod yn pregethu mewn cymanfa yn y lle hwnw. Pan oedd ar ddychwelyd, aeth hen wraig, Annas wrth ei henw, i ofyn addewid ganddo i ddyfod yno drachefn. "Pa bryd, Mr. Jones bach, y deuwch chwi yma eto?" "Pan y deui di, Annas, i Langan, i ymofyn am danaf," oedd yr ateb, gan dybied, hwyrach, ei fod yn gosod telerau anmhosibl iddi. Ond cydiodd yr hen wraig yn yr addewid, a phenderfynodd fyned i Langan. oedd ganddi gant a haner o filldiroedd i'w cerdded, ac er nad oedd ganddi am ei thraed ond clocs, nac yn ei llogell ond a gardotai, nag at ei chynhaliaeth ond a roddid iddi ar y ffordd, eto, cyn hir, cychwynodd ar ei thaith. Dyddorol fuasai hanes y daith hon o eiddo Annas, a chael gwybod yn mha leoedd y lletyai ar y ffordd, pa anhawsderau a'i cyfarfyddodd, pa sarugrwydd a gafodd oddiwrth rai, a pha dosturi oddiwrth eraill; ond nid oes genym am y cwbl ond dychymyg. Ond cyrhaedd Llangan a wnaeth, er mawr syndod i Mr. Jones. Ryw ddiwrnod, wrth edrych drwy ffenestr ei dŷ, fe ganfu yr hen wreigan, a'i ffon yn un llaw, a'r cwd yn y llall, yn dyfod at y tŷ. Aeth i'w chyfarfod, gan ddweyd: "Och fi! Annas; a ddeuaist ti eisioes?" Y canlyniad a fu iddi gael ei llawn wobrwyo am ei llafur, canys cafodd addewid i gael tri o Efengylwyr penaf eu hoes i Sir Fôn, sef Jones, Llangan, Rowland, Llangeitho, at Llwyd, o Henllan. Bu y gwŷr hyn yn ffyddlon i'w haddewidion, a chafodd Môn cyn hir fedi ffrwyth oddi ar y maes a hauodd Annas dlawd.

Gellir nodi yn y fan hon y ffaith mai dan weinidogaeth Mr. Jones yr argyhoeddwyd i fywyd y seraph bregethwr, Robert Roberts, o Glynog. Dengys hyn mor orchfygol oedd ei weinidogaeth ar feddyliau a chalonau gwahanol. Cymerodd hyn le mewn odfa a gynhaliwyd yn Mryn yr odyn, yn agos i Gaernarfon. Ei destun oedd y geiriau: "Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol," &c. Hysbys yw i Mr. Roberts ddyfod ar ol hyn yn un o addurniadau penaf y pwlpud Cymreig; yn un ag oedd yn anhawdd cael neb a ymgymerai i gydbregethu ag ef mewn Cymdeithasfaoedd. Yn bur fuan wedi i Robert Roberts ddechreu pregethu, yr ydym yn cael ddarfod iddo gael ei enwi i gyd-bregethu â Mr. Jones mewn Cymdeithasfa a gynhaliwyd yn rhywle yn y Deheudir. Pregethodd Robert Roberts gyda grym anarferol, nes gorchfygu y gynulleidfa. Ar ei ol cyfododd Mr. Jones, a dygwyddodd fel y dygwydd yn fynych ar ol effeithiau grymus gyda'r bregeth gyntaf fod yr ail bregeth braidd yn drymaidd a dieffaith. Boreu dranoeth, cynhelid cyfarfod neillduol—cyfarfod y pregethwyr wrthynt eu hunain, y mae'n debyg. Mater y cyfarfod hwn oedd "Hunan.' Tra yr oedd amryw yn traethu ar y drwg, a'r perygl o fod egwyddor hunanol yn ein llywodraethu gyda gwaith yr Arglwydd, sylwid fod Mr. Jones yn aflonydd, fel dan ryw gynhyrfiadau mewnol, yn codi ac yn eistedd, ac weithiau yn cerdded yn ol ac yn mlaen hyd lawr y capel. O'r diwedd, gofynodd y llywydd: "Yn awr, Mr. Jones, dywedwch chwithau dipyn ar yr hunan yma." Atebai yntau yn gyffrous: "Na 'wedaf fi ddim 'nawr; ond ewch chwi 'mlân, frodyr anwyl! Ewch yn 'mlân, daliwch ati, ymosodwch arno, peidiwch a'i arbed, waith fe fu agos iddo'm lladd i neithiwr, wrth weled Robin bach o'r North' wedi myn'd gymaint tu hwnt i fi." Cofnodir yn Methodistiaeth Cymru hanes pur gyffelyb i'r un uchod am Mr. Jones, pan yn cydbregethu â Hugh Pritchard, clochydd Llanhir-yn-Rhôs, o Sir Faesyfed. Yr oedd y gŵr hwnw yn glochydd yn yr Eglwys Sefydledig, ac yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid. Dygwyddodd fod Hugh Pritchard y tro yma hefyd yn pregethu o flaen Mr. Jones mewn Cymdeithasfa yn y Deheudir, ac i'r cyntaf gael mwy o hwyl i bregethu na'r olaf. Craffodd Mr. Jones ar hyn, ac mewn llythyr at gyfaill cyfeiriai at y tro yn y dull ffraeth ag oedd mor briodol iddo: "A wyddoch chwi pwy ddarfu 'nhwy gyplysu yn y gymanfa a'r hen offeiriad penllwyd?—clochydd Llanhir, os gwelwch yn dda. Ac os dywedir y cyfan, y mae yn rhaid addef i'r clochydd guro y 'ffeirad o ddigon!"

Nid ydym yn cael i Mr. Jones lanw lle mor fawr yn nghynadleddau y Cyfundeb ag a allasem ddysgwyl. Gwnaeth wasanaeth i'r Cyfundeb nas gellir byth ei fynegu; ond yn y pwlpud y cyflawnodd efe y gwasanaeth hwnw, yn hytrach nag yn nghynadleddau y Cymdeithasfaoedd, a'r Cyfarfodydd Misol. Bu yn gadeirydd y Gymanfa lawer gwaith, yn enwedig gwedi marwolaeth Daniel Rowland; ond prin y gellir dweyd ei fod wedi profi ei hun yn arweinydd medrus mewn amseroedd o derfysg ac anghydfod. Mab tangnefedd oedd efe, ac yr oedd yn rhy dyner ei deimlad i fod yn arweinydd dyogel mewn amseroedd cyffrous ac enbyd. Eto, meddai ar lawer o gymhwysderau arweinydd. Yr oedd yn ŵr amyneddgar a phwyllog, o farn addfed, yn gyflawn o synwyr cyffredin, ac yn garedig tuag at bawb; ond yr oedd hytrach yn ddiffygiol mewn gwroldeb. Pe buasai yn fwy uchelgeisiol nag ydoedd, ac o feddwl mwy penderfynol, gallasai yn hawdd ddyfod yn brif arweinydd y Cyfundeb ar ol marwolaeth Daniel Rowland, a W. Williams, Pantycelyn; o herwydd prin y mae lle i amheuaeth mai efe ar y pryd oedd y mwyaf ei barch a'i boblogrwydd. Ond yr oedd yn rhy lwfr ei yspryd, ac yn rhy dyner ei deimlad i arwain. Nid ymddengys iddo gymeryd rhan gyhoeddus yn y ddadl yn nglyn â golygiadau athrawiaethol Peter Williams; a dangosodd gryn wendid yn adeg diarddeliad Nathaniel Rowland, a hefyd yn y ddadl ar ordeiniad gweinidogion yn niwedd ei oes. Yn sicr, nid gŵr o ryfel oedd efe, ond mab tangnefedd yn hytrach.

Pregethwr yn ddiau ydoedd Mr. Jones, o Langan, a braidd na ddywedem mai pregethwr yn unig ydoedd, gan mor fawr oedd ei ddoniau gweinidogaethol. Yr oedd ei allu i bregethu Crist yn cysgodi pob dawn arall a feddai, ac yn cuddio pob gwendid a diffyg a berthynai iddo. Os mai prin y cymerodd efe y rhan ddyladwy yn nadleuon y Methodistiaid yn ei ddydd, gwnaeth anrhaethol fwy o wasanaeth i grefydd ein gwlad, yn y rhan flaenllaw a gymerodd yn y diwygiadau mawrion a ymwelasant â Chymru. Cawn i gynifer a phump o ddiwygiadau grymus gymeryd lle yn ystod ei fywyd cyhoeddus ef. Torodd y cyntaf allan yn 1773, tua phum' mlynedd wedi i Mr. Jones ymsefydlu yn Llangan, a'r olaf o honynt yn 1805, bum' mlynedd cyn ei farw. Pwy all fesur y gwasanaeth a gyflawnodd efe yn nglyn a'r diwygiadau hyn? Gwell oedd gan yr Efengylydd o Langan bregethu Crist i bobl wresog yn yr yspryd ar adeg o ddiwygiad, na chyndyn ddadleu yn ngylch athrawiaethau crefydd. Hyfryd y desgrifiad a rydd Thomas Williams, Bethesda-y-Fro, o hono, onide?:

"Iachawdwriaeth i bechadur,
Trwy rinweddau angau'r groes,
Oedd o hyd ei destun hyfryd,
Cy'd y parodd hyd ei oes;
Fe ymdrechodd, fe ymdreuliodd,
Fe lafuriodd tra fu byw,
Nes cyflawni'r weinidogaeth
A ro'w'd iddo gan ei Dduw.

Un o'r manau, byth mi gofia',
Gwelais i ef gynta' gyd,
Yn cyhoeddi gair y cymod
I golledig anwir fyd;
Iesu'n marw, Iesu'n eiriol,
Diwedd byd a boreu'r farn,
Oedd ei araeth o flaen canoedd
Wrth hen gapel Talygarn.

Dyddiau hyfryd oedd y rhei'ny,
Pan oedd Rowland uchel ddysg,
Peter ffyddlon, William Williams,
Llwyd a Morris yn eu mysg;
Jones fel angel yn Llangana
Yn udganu'r udgorn mawr,
Nes bai'r dorf mewn twymn serchiadau
Yn dyrchafu uwch y llawr.

Minau yno'n un o'r werin
(Er mai'r annheilynga'i gyd),
Tan y bwrdd yn bwyta'r briwsion,
(O mor hyfryd oedd fy myd!)
Torf yn bwyta'r bwydydd brasa',
Gwin a manna, nefol faeth,
Wrth y fron ro'wn inau'n chwerthin,
Tra'n ymborthi ar y llaeth.

Beth sy' fater, nid oes ronyn,
Ond i ni gael blasus fwyd,
Beth fo gwisg y gŵr a'i rhano,
Brethyn glas, neu brethyn llwyd;
Neu ynte frethyn du, a'i guddio
Drosto gyda llian gwyn;
Byddwn gallach o hyn allan,
 :Nag ymryson yn nghylch hyn.

Ni gymunwn yn yr eglwys,
Lle sancteiddia' sydd yn bod,
Neu mewn teiau na thywalltwyd
Olew sanctaidd yno erioed;
Ac na ddigied meibion Levi,
Plant yr offeiriadaeth wèn,
I ni dderbyn gan rai na fu
Llaw un esgob ar eu pen."


Gresyn na chawsem farwnad i Mr. Jones, o Langan, gan y prif Farwnadwr. Ond yr oedd hyny yn anmhosibl, gan i Williams ei ragflaenu i'r byd tragywyddol o gylch ugain mlynedd. Er hyny, y mae gan y Bardd o Bantycelyn gyfeiriad neu ddau ato yn y marwnadau a ysgrifenodd efe i bobl eraill, sydd yn werth eu coffhau. Yn ei farwnad i Mrs. Grace Price, o'r Watford, dywed:

"Yn Llangan, o dan y pwlpud,
'R oedd ei hyspryd, 'r oedd ei thre',
Tra f'ai Dafydd yno'n chwareu
'N beraidd ar delynau'r ne';
Iesu'r Text, a Iesu'r Bregeth,
Iesu'r Ddeddf, a Iesu'r Ffydd,
Meddai Jones, a hithau'n ateb—
Felly mae, a Felly bydd!"


Yn gyffelyb y mae yn ei farwnad i Daniel Rowland, yn cyfarch ei fab, Nathaniel, fel yma:—

"Bydd yn dad i'r Assosiasiwn,
Ac os teimli'th fod yn wan,
Ti gai help gwir efengylwr,
Dafydd onest o Langan;
Dodd y cerig a'i ireidd-dra,
A thrwy rym ei 'fengyl fwyn,
Wna i'r derw mwyaf caled
Blygu'n ystwyth fel y brwyn."


Y mae pob cyfeiriad ato, a wneir gan ysgrifenwyr yr amseroedd hyny, yn gwbl gydfynedol. Wrth son am dano, dywed Robert Jones, Rhoslan, yn Nhrych yr Amseroedd, eiriau fel yma: "Byddai yn hyfryd chwareu tanau telyn auraidd yr efengyl, nes y byddai llawer credadyn llwfr yn barod i lamu o lawenydd." Ac y mae tystiolaeth y galluog Christmas Evans fel hyn: "Bu gwrando Dafydd Morris, Jones, o Langan, Davies, o Gastellnedd, a Peter Williams, o ddefnydd mawr i mi tuag at fy nwyn i ddeall gras Duw trwy gyfryngdod, heb ddim haeddiant dynol." Ceir crybwylliad parchus iawn o hono yn Nghofiant John Jones, Talysarn, gan y diweddar Dr. Owen Thomas. Dywed: "Fel pregethwr, y mae yn ddiamheuol ei fod yn un hynod iawn. Cyfrifid ef y mwyaf toddedig o'r holl hen dadau. Nid oedd neb yn gyffelyb iddo yn hyny, ond Mr. Evan Richardson, o Gaernarfon. Efengylwr yn arbenig ydoedd. Nid oedd dim o'r gwynt nerthol yn rhuthro' yn ei weinidogaeth ef; ond y deheuwynt' tyner 'yn chwythu ar yr ardd,' ac yn peri iddi 'wasgar ei pheraroglau.' Yr ydym yn cofio clywed ein hanwyl hen fam yn dywedyd am dano, ei fod yr un fath yn gwbl a'r adnod hono: Fy athrawiaeth a ddefnyna fel gwlaw; fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.' ydym yn cofio clywed y diweddar Mr. Michael Roberts, o Bwllheli, yn dywedyd wrthym am y tro cyntaf iddo ef, pan yn fachgen pedair-ar-ddeg oed, fyned i Gymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1794, fod Mr. Jones yn pregethu yno gyda'r fath hwyl ac effeithiau, nes oedd yr holl gynulleidfa yn foddfa o ddagrau; a lliaws, yn methu ymatal, wedi tori i orfoledd mawr.

'Yr oeddwn yn edrych arno,' meddai, 'fel pe buasai yn angel Duw. Yr oedd yn ymadael ar ol odfa y boreu, ac yr oeddwn i wedi myned at dŷ Mr. Charles i'w weled yn myned ymaith; ac yr wyf yn cofio yn dda fod Mr. Charles yn dyfod allan o'r tŷ gydag ef; a phan yn ysgwyd llaw wrth ffarwelio, a'r dagrau yn treiglo dros ei ruddiau, yn dywedyd wrtho: Brysiwch yma eto, da chwi, Mr. Jones bach, gael i ni gael ein bedyddio a'ch gweinidogaeth.'"

Treuliodd Mr. Jones yr un-mlynedd-ar-bymtheg diweddaf o'i fywyd yn Manorowen, lle o fewn dwy filltir i Abergwaun, yn Sir Benfro. Achlysurwyd y symudiad hwn gan briodas a gymerodd le rhyngddo ef a Mrs. Parry, gweddw gyfrifol a pharchus a drigianai yno. Yr oedd y foneddiges hon yn chwaer i Mr. Gwynne, o Kilkifeth, gŵr cyfoethog, yn hânu o deulu cyfrifol yn yr ardal, yr hwn oedd yn berchenog amryw o ffermydd, ac yn trin y tir lle yr oedd yn byw arno. Ystyrid fod ei chwaer, Mrs. Parry, hefyd, mewn amgylchiadau tra chysurus. Teulu caredig a chymwynasgar i'r Methodistiaid a fu teulu Kilkifeth drwy y blynyddoedd, at buont yn dal côr yn nghapel Abergwaun am flynyddau lawer. Wedi marwolaeth ei gwr, yr oedd Mrs. Parry yn cyfaneddu yn mhalasdy Manorowen, ac yn amser ei hunigrwydd, yr oedd Miss Gwynne, merch

ei brawd, yn byw gyda hi. Y foneddiges ieuanc hon a ddaeth mewn amser ar ol hyn yn wraig i'r Parch. Thomas Richards, Abergwaun. Mae pob lle i gredu i briodas Mr. Jones â Mrs. Parry, o Manorowen, fod yn fanteisiol iawn iddo yn niwedd ei ddydd, ac yn ychwanegiad mawr at ei gysuron. [17]Adrodda Mr. Morgan, Syston, hanesyn difyr iawn am dano a ddygwyddodd yn fuan wedi ei ail briodas. Pan yr oedd ar gychwyn ar daith bregethwrol, cafodd Mr. Jones fod ceffyl golygus iawn yn ei aros. Aeth ar gefn yr anifail, ac wedi marchogaeth am beth amser, trodd i edrych o'i gwmpas, a gwelodd fod gwas mewn dillad smart iawn yn marchogaeth y tu ol iddo, yn ol arfer boneddigion. Dychwelodd yn union, gan orchymyn i'r gwas i aros. Pan gyrhaeddodd y tŷ, disgynodd, a gofynodd i Mrs. Jones: "Mary, paham y darfu i chwi ddanfon y bachgen acw i fy nganlyn i?" Yr ateb a gafodd oedd: "Am ei fod yn edrych yn respectable, Mr. Jones." "O!" ebe yntau, " y mae yn well i chwi adael hyny i mi. Yr wyf wedi teithio miloedd o filltiroedd ar wasanaeth fy Nhad Nefol, heb fod neb yn fy nghanlyn." " Yna, gofynodd iddi gyda gwên serchog: "Beth a ddywed fy nghyfeillion am beth fel hyn? Hwy gredant yn sicr ddigon fod yr hen Jones, o Langan, wedi myned yn falch. Na, gwell peidio bod yn rhodresgar. Mi ddanfonaf y bachgen yn ol i weithio ar y ffarm." Ac felly y bu. Parhaodd i ddal bywioliaeth Llangan hyd ddiwedd ei oes, er ei fod yn cartrefu yn Manorowen. Arferai dreulio tua thri mis yn yr haf yn Llangan, a phresenoli ei hun yn yr eglwys ar Sul y cymundeb, bob mis o'r flwyddyn, nes y daeth henaint a llesgedd i wasgu yn rhy drwm arno. Ac yr oedd Llangan yn agos at ei galon hyd y diwedd. Ysgrifena ar y 19eg o Ebrill, 1808, o fewn dwy flynedd i'w farwolaeth: "O'r diwedd, yr wyf wedi cyrhaedd y sir hon, yn yr hon y mae fy mhrif hyfrydwch. O Langan! Bendigedig yr Arglwydd! Cafodd fy enaid yn aml wledda o'th fewn di! Mae fy nghyfeillion yn parhau yn eu caredigrwydd arferol tuag ataf, ac yr wyf yn berffaith ddedwydd yn eu cymdeithas hwy. Bellach, yr wyf yma er ys pump wythnos, ar ol gauaf cystuddiol iawn, yn Manorowen."

Bendith fawr i Benfro fu symudiad Mr. Jones yno. Yr oedd Nathaniel Rowland erbyn hyn wedi cymeryd gofal yr eglwysi a blanwyd gan Howell Davies; ac yr oedd yn eu llywodraethu â gwialen haiarn. Ni wnai efe bregethu yn nghapel Abergwaun; yn y llan y pregethai yn wastad; a gweinyddai y sacramentau mewn tŷ anedd. Gorphwysai gwneyd felly yn fwy esmwyth ar ei gydwybod ef na gweinyddu y cymun sanctaidd yn y capel. Pan y ceisiwyd ganddo bregethu yn y capel, yn hytrach nag yn y llan, dywedodd yn bendant na wnai hyny byth, a chadwodd ei air. Ond yn mhen amser, dygodd Mr. Jones gyfnewidiad o amgylch. Cafodd ganiatad mewn Cymdeithasfa yn Llangeitho, yn y flwyddyn 1802, i weini yr ordinhadau yn nghapel Abergwaun, fel y gwnelid mewn capelau eraill yn flaenorol. Bu yn offerynol i estyn yr un fraint i eglwys Caerfyrddin, dan amgylchiadau pur neillduol a chyffrous. Darfu i Mr. David Charles, mewn Cymdeithasfa yn nhref Caerfyrddin, anturio gofyn am y fraint o gael gweinyddiad o Swper yr Arglwydd yn yr eglwys hono.

"Mae yr eglwys yn y lle hwn," ebe fe, "wedi gosod arnaf i ofyn drostynt, a gânt hwy y fraint o wneyd coffa am farwolaeth eu Prynwr?" I hyn yr atebodd Nathaniel Rowland yn dra awdurdodol: "Na chewch!—mae capel Llanlluan yn ddigon agos." Yr oedd tua deng milldir o ffordd i hwnw. Ond ni chymerodd David Charles yr ateb byr a thrahaus hwn fel un terfynol. "Unwaith eto," ebe fe, "yr wyf yn gofyn a gawn ni y fraint hon?" Yr ydym yn cael pregethu Crist, yn cael ei broffesu, yn cael credu ynddo—a gawn ni gofio iddo farw drosom?" "Na chewch, yn y lle hwn," atebai Nathaniel Rowland, yr ail waith. "Nid i chwi yr archwyd i mi ofyn," ebe David Charles, "ond i'r Gymanfa." Ar hyn, methodd Jones, o Langan, ag ymatal, a gwaeddodd allan: "Cewch!" Yna, cyfarchodd Mr. Charles mewn ymadroddion cyfeillgar ac agos: "Pa bryd wyt ti am gael hyny, Deio bach? Mi ddof fi i'ch helpio chwi i gofio am dano." Ac felly y bu.

Nid oes lle i amheu fod Mr. Jones yn rhyfeddol o ymlyngar wrth y Methodistiaid hyd derfyn ei ddydd. Parhaodd yn offeiriad yn yr Eglwys hyd y diwedd, mae yn wir, ond yr oedd yn fwy o Fethodist nag ydoedd o Eglwyswr, a'i farnu yn deg wrth y bywyd a dreuliodd. Pan symudodd i Manorowen, daeth o fewn cylch dylanwad clerigwyr, ag oeddynt yn llawer mwy ymlyngar wrth yr Eglwys nag ydoedd efe ei

hun. Yr oedd David Griffiths, Nevern, a Nathaniel Rowland, yn llawer mwy cul nag efe. Tra yr oeddynt hwy yn ceisio gosod y Methodistiaid dan lawer o anghyfleusderau, yr oedd yntau wedi gweithredu yn wahanol dros ystod ei fywyd maith. Ond pobl o benderfyniad anhyblyg, ac o ewyllys gref, oedd offeiriaid Methodistaidd Sir Benfro, ac y mae yn ddigon posibl iddynt ddylanwadu yn niweidiol ar feddwl Mr. Jones. Nid ydym yn golygu yn y fan hon, i ddwyn i sylw y rhan a gymerodd efe yn nglyn ag ordeiniad gweinidogion; cawn gyfeirio at hyny eto.

Nis gellir dweyd fod Mr. Jones wedi cyfoethogi llawer ar lenyddiaeth ei wlad. Nid ystyriai efe ei hun yn llenor, ond yn yr ystyr ag y mae pob gweinidog ag sydd yn cyfansoddi ei bregethau ei hun felly. [18]Cyhoeddwyd ganddo, yn y flwyddyn 1784, gofiant i Mr. Christopher Basset, dan y teit: "Llythyr oddiwrth Dafydd ab Ioan, y Pererin, at Ioan ab Gwilym, y Prydydd, yn rhoddi byr hanes o fywyd a marwolaeth y Parchedig Mr. Christopher Basset, Athraw yn y Celfyddydau, o Aberddawen, Sir Forganwg. Argraffwyd yn Nhrefecca." Nid oes le i amheuaeth mai Jones, o Langan, oedd Dafydd ab Joan, y Pererin, ac mai Mr. John Williams, St. Athan, awdwr yr emyn adnabyddus:

'Pwy welaf o Edom yn dod," &c.

,

ydoedd Ioan ab Gwilym, y Prydydd. Cyhoeddwyd ei bregeth angladdol i'r Iarlles Huntington yn y flwyddyn 1791, a'r bregeth a draddododd yn Spa Fields Chapel ar ran y Gymdeithas Genhadol yn 1797. Y mae amryw dalfyriadau o'i bregethau wedi eu cyhoeddi yn y cyfnodolion mewn amseroedd diweddarach.

Yr ydym, bellach, yn dyfod at derfyn bywyd y gweinidog ffyddlawn hwn. Gallai arfer geiriau yr apostol: "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy nghyrfa, mi a gedwais y ffydd." Yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, yr oedd ei iechyd wedi dirywio yn fawr, y babell bridd yn ymollwng, ond ai o gylch i bregethu cyhyd ag y medrai. Ymwelodd â Llundain o fewn dwy flynedd i'w farwolaeth. Yn ystod ei afiechyd olaf, carai dreulio ychydig wythnosau yn ardaloedd Llangan, ei hen gartref. Y mae yn ysgrifenu oddi yno dri mis cyn ei farw: "Yr wyf yn gobeithio aros yma hyd y Sulgwyn; ac os oes rhywbeth ag y gallaf wneyd erddoch, mi a'i gwnaf, hyd eithaf fy ngallu. Y mae genyf lawer o bethau ag y carwn eu dweyd wrthych, pe bai genyf amser i ysgrifenu, ond yr wyf o hyd yn brysio o fan i fan. Yr wyf yn awyddus am eich gweled, ond, fy anwyl gyfaill, chwi ryfeddech fel yr wyf wedi cael fy nhori i lawr. Bu y gauaf diweddaf yn brofedigaethus iawn i mi. Cefais fy mlino gan y gout, nes fy nwyn i ymyl y bedd. Cefais ymosodiadau enbyd o'r anhwylder yn fy ngylla, ond dyma fi yn golofn o drugaredd yr Hollalluog, ac yn cael codi fy mhen i fynu eto! Y fath ddyledwr wyf i ras y nefoedd. Yr wyf yn awr yn ceisio gwasgu fy nghrefydd i un pwynt yn unig—Crist yn oll. Felly, yr wyf yn myned yn mlaen i orphen fy nhaith ar y ddaear, yr hon sydd yn fyr ac yn ddrwg. Crediniaeth yn yr Iesu ydyw mêr ffydd. Nis gallwn byth ymddiried gormod ynddo ef. Gall achub hyd yr eithaf. Anwyl Iesu! gwna ni yn eiddo i ti byth!" Pregethodd Jones yn Llangan y Sulgwyn hwnw, a gweinyddodd y cymun am y tro diweddaf.

O Langan y cychwynodd efe ar ei daith ddiweddaf. Ymadawodd a'r lle, fel y bwriadai, ddydd Mawrth ar ol y Sulgwyn, ac aeth ar hyd linell union tua Llangeitho, lle yr oedd Cymdeithasfa i gael ei chynal, taith o tua deg-a-thriugain o filltiroedd, gan bregethu ar y ffordd, fel yr arferai wneyd. Cyrhaeddodd Langeitho yn nechreu mis Awst. Pregethodd yn y Gymdeithasfa yn ogoneddus o flaen y miloedd oddiar y geiriau: Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a'm gwaed i sydd ddiod yn wir." Pan oedd y cynulliad drosodd, cychwynodd Mr. Jones, a'i was oedd yn gofalu am dano, tua Manorowen, ond torodd y siwrnai ar y ffordd, a phregethodd eilwaith yn y Capel Newydd, Sir Benfro, ar y geiriau: "Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd; pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wyned a'r eira, pe cochent fel porphor, byddant fel gwlan." Hon oedd ei bregeth olaf. Cyrhaeddodd ei gartref, yn lluddedig, dydd Gwener, y 10fed o Awst. Teimlai fod ei ymadawiad bellach gerllaw. Ymwelwyd ag ef dydd Sadwrn gan y Parch. Thomas Harris, o Wotton-under-Edge, gynt o Benfro. Yn ystod yr ymddiddan ag ef, tynodd allan ei logell-lyfr, a darllenodd Esay xlv. 24: "Diau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth." Yr oedd wedi ysgrifenu yr adnod felus hon ar ei lyfr y dydd Iau blaenorol. "Hon sydd genyf, anwyl Harris," ebe fe, "ac y mae yn ddigon i fy nerthu i wynebu y byd arall wrth fy modd." Yn y prydnawn, dywedwyd wrtho fod y cyfeillion wedi ei gyhoeddi i bregethu yn Woodstock y dydd canlynol. "Y maent yn ëofn iawn arnaf," meddai yntau, "ond nid yn fwy felly na'r groesaw; os byddaf yma, amcanaf fyned tuag yno." Nos Sadwrn, dywedai wrth un o'r morwynion: "Lettice fach, mae yma loned y tŷ o weision lifrau y nef wedi dyfod i gyrchu fy enaid tuag adref. Os tarewi wrth rai o'u hesgyll, paid a chymeryd ofn, da merch i.' Cyn toriad y wawr, boreu Sabbath, y 12fed o Awst, 1810, yn bymtheg-a-thriugain mlwydd oed, hunodd yn yr Iesu, a chladdwyd ef yn mynwent Manorowen. Ac ysywaeth, canlynwyd ef yn mywioliaeth Llangan gan ŵr o yspryd hollol wahanol, heb ddim cydymdeimlad â Methodistiaeth; a rhoddodd hyn ben ar unwaith ar y cyrchu i'r eglwys. Meddai Thomas Williams eto:

"'Nawr mae eglwys fach Llangana
Wedi newid oll yn lân,
Porfa las yn awr sy'n tyfu
Ar y ffordd oedd goch o'r blaen;
Muriau'r llan oedd oll yn echo,
Yn ateb bloedd y werin fawr,
'D oes na llef, na llais, nac adsain,
Idd ei glywed yno'n awr."






HANES Y DARLUNIAU.

Mae hanes darlun David Jones, o Langan, yn ddigon syml. Copi o'r darlun cyntaf a ymddangosodd o hono ef yw yr un sydd yn addurno y gwaith hwn. Y mae y darlun ei hun yn mynegu ei hanes. Paentiwyd ef gan Mr. R. Bowyer, Miniature Painter i'r Brenhin Sior y III. oedd Mr. Bowyer yn gristion hardd, yn gystal ag yn gelfyddgar yn ei alwedigaeth, ac yr oedd ar delerau cyfeillgar iawn â Mr. Jones. Darlun wedi ei fwriadu i'w fframio ydoedd hwn, ond nid oedd nemawr yn fwy o faintioli na'r copi a geir yn nhechreu y benod hon. Gwelir fod arfbais (Coat of Arms) Mr. Jones, wedi ei gosod o dan y darlun, sef oen yn cario croes, ac yn sathru'r sarph dan ei draed, a'r gair GORPHENWYD oddi tanodd. Uwch ben, y mae darlun o golomen Noah, a'r ddeilen olewydden yn ei chilfyn. Cyhoeddwyd y darlun hwn yn y flwyddyn 1790, pan yr oedd efe yn 55 mlwydd oed.

Yn mhen wyth mlynedd wedi cyhoeddiad y darlun uchod, ymddangosodd un o Mr. Jones yn y Gospel Magazine. Y mae yn sicr mai yr un darlun yn hollol ydyw hwn a'r un blaenorol. Yr unig wahaniaeth rhyngddynt ydyw, fod y Coat of Arms wedi ei gadael allan yn y Gospel Magazine. Ymddangosodd darlun eto o hono yn yr Evangelical Magazine, am Chwefror, 1807, tua phedair blynedd cyn marwolaeth Mr. Jones. Nid yr un darlun ydyw hwn. Gwnaed y ddau gyntaf oddi ar ddarlun Mr. Bowyer, a cherfiwyd ef ar ddur gan Mr. Fittler; ond cerfiwyd yr olaf hwn gan Meistri Ridley & Blood. Gadawyd allan y Coat of Arms yn y darlun hwn hefyd. Mae tebygolrwydd mawr rhwng y darluniau hyn, ac y mae yn amlwg mai darlun Mr. Bowyer ydoedd cynllun pob un o honynt. Y mae pob lle i gredu fod darluniau Mr. Jones, o Langan, yn bortead cywir o hono ef. Nid yw y darluniau eraill yn y benod hon yn galw am unrhyw eglurhad.

PENOD XX
WILLIAM DAVIES, CASTELLNEDD; DAFYDD MORRIS, TWRGWYN; A WILLIAM LLWYD, O GAYO.

William Davies yn hanu o Sir Gaerfyrddin—Ei ddyfodiad i Gastellnedd—Ei boblogrwyddYn colli ei guwradiaeth—Adnewyddu capel y Gyfylchi iddo—Barn Howell Harris am dano —Odfa ryfedd yn Llangeitho—Y tair chwaer—Ei farwolaeth—Boreu oes Dafydd MorrisDechreu pregethu yn ieuanc—Meddwl uchel Rowland am dano—Swyn ei lais—Yn symud i Dwrgwyn—Yn teithio Cymru—Pregeth y golled fawr—Ceryddu blaenor sarug—Amddiffyn Llewelyn John—Dafydd Morris fel emynydd—Marwolaeth ei wraig—Ei farwolaeth yntau —Haniad William Llwyd, o Gayo—Ei argyhoeddiad—Ei ymuniad a'r Methodistiaid—Yn dechreu pregethu—Hynodrwydd William Llwyd—Nodwedd ei weinidogaeth—Ei farwolaeth.

NIS gallwn lai na datgan ein gofid of herwydd fod amryw o brif bregethwyr y cyfnod Methodistaidd. cyntaf, dynion o ddoniau dysglaer, a phoblogrwydd mawr, nad oes ond y nesaf peth i ddim o'u hanes yn wybyddus. Llafuriasant yn galed, dyoddefasant erlidiau, a diau fod eu gweithredoedd wedi eu cofnodi yn ofalus ar lyfrau y nefoedd, ond ychydig o'r pethau a ddygwyddodd iddynt. sydd wedi eu croniclo ar lyfrau y ddaear. Yn mysg y rhai hyn, ac yn mhlith y penaf o honynt, rhaid gosod William Davies, Castellnedd. Yn ol y farwnad a gyfansoddwyd iddo gan Williams, Pantycelyn, cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1727; felly, nid oedd ond rhyw ddeng mlwydd yn ieuangach na'r Emynydd enwog, tair-ar-ddeg yn ieuangach na Howell Harris, a phedair-ar-ddeg yn ieuangach na Daniel Rowland. Gan hyny, perthynai i'r rheng flaenaf o'r ail do o bregethwyr. Ymddengys mai brodor o Sir Gaerfyrddin ydoedd. Yr oedd ei rieni yn amaethwyr parchus, ac yn byw mewn tŷ o'r enw Stangrach, lle sydd o fewn haner milltir i gapel y Methodistiaid yn Llanfynydd. Cynhaliai y Methodistiaid gyfarfodydd crefyddol yn y Stangrach, felly nid annhebyg fod rhieni William Davies yn perthyn i'r Cyfundeb. Gallwn gasglu eu bod mewn amgylchiadau cysurus, gan iddynt ddwyn. eu mab i fynu yn offeiriad. Buasai yn dda genym wybod rhywbeth am helyntion boreu oes William Davies, ac yn enwedig pa bryd y deffrowyd ef i ystyriaeth o'i gyflwr, a than ba ddylanwadau y cafodd ei ddychwelyd; ond y mae yr oll o'r pethau hyn wedi eu cuddio yn anobeithiol oddiwrthym, ac nid ydym yn gydnabyddus â dim o hanes ei fywyd, nes yr ydym yn ei gael yn gristion gloyw, yn bregethwr aiddgar a phoblogaidd, ac yn Fethodist zêlog, yn Castellnedd, yn gwasanaethu fel cuwrad i Mr. Pinkney, tua'r flwyddyn 1757. Ein hawdurdod dros hyn eto ydyw Williams, yr hwn, uwchben y farwnad, a gofnoda am dano iddo farw "yn y flwyddyn 1787, yn y driugeinfed flwyddyn o'i oedran, wedi treulio dros ddeg-ar-hugain o flynyddoedd i bregethu efengyl Crist yn mysg y Methodistiaid." Ar yr un pryd, gweddus nodi fod cryn amheuaeth am gywirdeb hyn. Yr ydym wedi chwilio llyfrau cofrestru eglwysydd Castellnedd a Llanilltyd yn fanwl; a'r nodiad cyntaf a geir ynddynt wedi ei arwyddo gan William Davies yw Rhagfyr 24, 1762; ac y mae yn hollol annhebyg iddo wasanaethu yno am bum' mlynedd cyn gweinyddu mewn bedydd na phriodas, yn arbenig gan nad oedd Mr. Pinkney yn byw yn un o'i blwyfydd. Ond gallasai William Davies fod wedi gwasanaethu fel cuwrad mewn rhyw le, neu leoedd, cyn dyfod i Gastellnedd. Modd bynag, y mae yn amlwg ddarfod iddo ddyfod i Forganwg tua chwech mlynedd o flaen Jones, Llangan.

STANGRACH, GER LLANFYNYDD, SIR GAERFYRDDIN.
[Preswylfod rhieni William Davies, Castellnedd.]


Yr oedd Mr. Pinkney yn meddu personoliaeth Castellnedd a Llanilltyd; ymddengys hefyd nad oedd yn byw yn y naill na'r llall o'i blwyfydd, ac felly fod y llafur a'r gofal yn disgyn yn gyfangwbl ar y cuwrad. Pan y daeth William Davies i Gastellnedd, yr oedd crefydd mewn cyflwr tra isel. Ni feddai yr Eglwys Wladol gynulleidfa yno o gwbl; darllenid y gwasanaeth ar y Sul i furiau moelion, tra yr ymroddai y werin i oferedd. Llwydaidd anarferol hefyd oedd y seiadau Methodistaidd o gwmpas; nid ydym yn sicr nad oedd rhai o honynt wedi darfod yn hollol. Yr oedd yr ymraniad rhwng Harris a Rowland wedi dygwydd er ys dros ddeng mlynedd; mewn canlyniad, yr oedd gwedd wywedig ar yr achos crefyddol dros y wlad; ac yr oedd yr adfywiad a gymerodd le gyda dyfodiad cyntaf emynau Williams, Pantycelyn, heb dori allan. Eithr yr oedd yspryd gwaith yn y cuwrad ieuanc, a chariad Crist yn berwi yn ei enaid. Gan na ddeuai y bobl i'r eglwys, penderfynodd yr ai efe i'w tai. Yno cynghorai hwy yn ddifrifol, ac weithiau pregethai iddynt, a rhyw ychydig gymydogion a fyddai wedi ymgynull gyda hwynt, o ben cadair ddiaddurn. Mentrodd hefyd fyned allan i'r awyr agored, ac i ganol y chwareu, gan bregethu Crist wedi ei groeshoelio i'r cymeriadau gwaethaf. Yn bur fuan, dyma gynhwrf yn mysg yr esgyrn sychion. Deallodd y bobl fod bywyd a nerth yn y gŵr a weinyddai yn y llan, a dechreuasant dyru tuag yno, fel na ddaliai yr adeiladau y gynulleidfa. Daeth Castellnedd a Llanilltyd yn fath o Langeitho ar raddfa fechan; cyrchai torfeydd yno o bob cyfeiriad; gwelid gwŷr Llansamlet yn eu dillad gwladaidd, a'u benywod yn eu bedgynau a'u shawls cochion, yn britho y ffyrdd tuag yno ar foreu y Sul. Deuent yno yn llu o Gwm Tawe, ac o'r Creunant, a blaen Cwmnedd, os nad o Hirwaun Wrgant, ac Aberdar. Am blwyfi Castellnedd a Llanilltyd, dywedir fod haner y trigolion, o leiaf, yn wrandawyr rheolaidd. Achubwyd canoedd yn ddiau i fywyd tragywyddol. Dywedir mai tan ei weinidogaeth ef y cafodd yr hynod Jenkin Thomas, neu Siencyn Penhydd, olwg ar drefn gras fel yn ddigonol i'r penaf o bechaduriaid, ar ol iddo fod am dymhor ar lewygu gwedi pregeth daranllyd Iefan Tyclai.

Yn ol tystiolaeth unfrydol yr hen bobl, pregethwr melus oedd Davies, Castellnedd. Nid ar fynydd Ebal yr hoffai sefyll, ac nid cyhoeddi melldithion a wnelai; gwell ganddo, yn hytrach, oedd sefyll ar gopa Gerizim, gan roddi datganiad hyfryd i fendithion yr efengyl. Nid clwyfo oedd ei hoff orchwyl, ond iachau; cymhwyso y balm o Gilead at archollion dyfnion pechaduriaid. Dwg Howell Harris, tua diwedd ei oes, dystiolaeth amryw weithiau i felusder ei ddoniau, a'i allu i egluro gwirioneddau cysurlawn yr efengyl. Awgrymir yr un peth gan Williams, Pantycelyn, yn y farwnad. Mewn un penill darlunia yr Arglwydd Iesu yn ei groesawu ar ei fynediad i'r nefoedd yn y modd a ganlyn:—

"Cariad oedd dy fwyd a'th ddiod,
Serchog oedd dy eiriau i gyd,
Dy addfwynder sugnodd yspryd
Rhai o oerion blant y byd;
Treuliaist d' amser mewn ffyddlondeb,
Trwy dy yrfa is y nen,
Mae dy goron geny'n nghadw,
Heddyw gwisg hi ar dy ben."


Tra yr oedd y bobl yn tyru i wrando Mr. Davies, ac yn derbyn maeth i'w heneidiau trwy ei weinidogaeth efengylaidd, yr oedd dosparth arall yn llawn bustl chwerwder, ac yn awyddus am ei yru allan o'r plwyf. Y dosparth hwn a wnelid i fynu yn benaf o grach-foneddigion y dref, a'i hamgylchoedd; a diau fod clerigwyr annuwiol a diddawn y plwyfydd o gwmpas yn cynhyrfu eu goreu. Nis gallent gael dim i achwyn arno parthed buchedd ac ymarweddiad; ond yr oedd sancteiddrwydd ei fywyd, ei zêl angerddol dros ogoniant Duw, ac efengylaidd-dra ei bregethau yn annyoddefol iddynt. Ac uwchlaw y cwbl, yr oedd yn Fethodist. Felly, anfonasant gofeb at Mr. Pinkney, yr hon a gynwysai grynodeb llawn o bechodau y cuwrad, yn erfyn arno ei yru i ffwrdd. A oedd Mr. Pinkney yn meddu llawer o gydymdeimlad a'r diwygiad, nis gwyddom; ond yr oedd yn credu yn Mr. Davies, ac yn gweled ei deilyngdod; a thra y bu y Rheithor fyw, ni chafodd neb aflonyddu arno. Eithr bu Mr. Pinkney farw yn y flwyddyn 1768, ac yn mhen dwy flynedd gwedi hyn cafodd y cuwrad ei droi ymaith. Ceir y nodiad olaf o'i eiddo ar lyfrau yr eglwys Ebrill 5, 1770. Dygwyddai bywioliaeth Llangiwc, plwyf tuag wyth milltir o bellder o Gastellnedd, fod yn wag ar y pryd, a gwnaed cais taer am i William Davies ei chael. Ond yr oedd gwŷr mawr y plwyf yn estroniaid i'r efengyl, a safasant yn benderfynol yn erbyn. Nid oedd dyrchafiad yn yr Eglwys

Wladol yr adeg hono, oddigerth o ddamwain, i neb a bregethai wirionedd Duw yn ffyddlon; yn arbenig os byddai yn tueddu at y Methodistiaid. Gan na oddefid iddo weinidogaethu yn y llan, penderfynodd Mr. Davies wneyd a allai y tu allan i'w chymundeb; casglodd y rhai a lynent wrtho yn seiat ar wahan; aeth allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau; teithiodd Gymru, Ddê a Gogledd, lawer gwaith, a diau iddo fod yn foddion i droi llawer o gyfeiliorni eu ffyrdd. Ymddengys mai yn nhŷ un Edward Morgan, Penbwchlyd, gerllaw i'r fan y bu Daniel Rowland yn pregethu dan y sycamorwydden, y cadwai Mr. Davies y cyfarfod eglwysig yn Nghastellnedd. Ond o herwydd llwyddiant ei weinidogaeth aeth y lle yn rhy gyfyng, a gwnaed math o le cyfarfod o ddau dy anedd, yn y pen dwyreiniol i'r dref. Am beth amser gwedi ei ymadawiad o'r Eglwys, nid didrafferth iddo oedd cael moddion cynhaliaeth; bu am ryw hyd yn cadw ysgol ddyddiol; a chyfranai rhai o'r Methodistiaid mwyaf cefnog o'u heiddo iddo. Dywedir i amaethwr cyfrifol o blwyf Llangiwc, ar ol cael ei siomi yn ngwrthodiad y fywioliaeth iddo, barhau i'w gynorthwyo mewn arian hyd ddydd ei farwolaeth. Tua'r flwyddyn 1776, adeiladwyd, neu yn hytrach, efallai, adgyweiriwyd, hen gapel y Gyfylchi iddo. Medd y capel hwn gryn hynodrwydd. Saif ar fynydd tra uchel rhwng dau gwm dwfn, yn mhlwyf Mihangel, ryw gymaint i'r dwyrain o Gastellnedd. O ran ei ffurf, y mae yn Eglwysig; a chan yr arferai yr offeiriaid Methodistaidd weinyddu Swper yr Arglwydd ynddo, nid annhebyg ei fod wedi ei gysegru. Ymddengys mai hen gapel Eglwysig wedi myned yn adfeilion ydoedd, ac i'r Methodistiaid gymeryd meddiant o hono, fel y gwnaethant a chapel Llanlluan.[19] Rhenid yr adeilad megys yn ddau gysegr; y sancteiddiolaf a'r cyffredin. I'r sancteiddiolaf yr ai yr offeiriaid yn unig; ond yn y llall yr arferai holl bregethwyr y Cyfundeb weinyddu. Fel rheol, byddai rhyw gynghorwr yn traddodi ei genadwri yn y lle cyffredin am naw o'r gloch y boreu; ac wedi iddo ef ddarfod, ymddangosai yr offeiriad yn ei le yntau, a'r holl gynulleidfa a droent eu hwynebau ato. Fel hyn y bu am flynyddoedd lawer, heb fod yr un pregethwr di-urddau yn anturio croesi y wahanlen; ond o'r diwedd diflanodd y swyn, a chymerodd y pregethwyr

1. GOLYGFA TUFEWNOL AR ADFEILION HEN GAPEL Y GYFYLCHI, 1776.
2. GOLYGFA ALLANOL AR YR ADFEILION.
3. PWLPUD YR HEN GAPEL
4. EGLWYS CASTELLNEDD.
5. EGLWYS LLANILLTYD, GER CASTELLNEDD.
DARLUNIAU YN DAL PERTHYNAS A CHOFFADWRIAETH
WILLIAM DAVIES, CASTELLNEDD.


wyr druain galondid i fyned i mewn i'r lle sanctaidd. Er na chawsai yr hen adeilad ei gysegru yn ffurfiol gan esgob, cysegrwyd ef yn effeithiol ddegau o weithiau trwy ymweliadau y Pen Esgob, sef yr Arglwydd Iesu. Cafwyd odfaeon yn y Gyfylchi i'w cofio byth. Heblaw William Davies, bu nifer mawr o'r offeiriaid Methodistaidd yn gweinyddu ynddo, megys Jones, Llangan; Howells, Trehill; Howells, Llwynhelyg, yr hwn sydd yn fwy adnabyddus fel "Howells, Longacre; a Phillips, Llangrallo. Yn mysg y cynghorwyr a fu yn y capel yn llefaru, un o'r rhai hynotaf yn ddiau oedd Siencyn Penhydd, at yr hwn y cawn gyfeirio eto. Nid yn y sancteiddiolaf y llefarai efe; er hyny, yr oedd dan y gronglwyd; a sicr yw iddo gael aml i odfa ryfedd. Yr oedd yr hen grefyddwyr a ymgynullent i'r Gyfylchi yn nodedig am wresawgrwydd eu hyspryd, a thanbeidrwydd eu teimladau; os ceid ychydig lewyrch mewn cyfarfod, byddent yn tori allan mewn clodforedd; ganoedd o weithiau buont yn dawnsio mewn hwyl sanctaidd ar lawr yr hen gapel, ac yn peri i'w furiau adsain gan swn eu moliant. Y mae coffadwriaeth yr odfaeon bendigedig hyny yn aros yn gynes yn mysg y trigolion o gwmpas hyd y dydd hwn. Yma y bu y Methodistiaid yn addoli hyd y flwyddyn 1827, pan yr adeiladwyd capel Pontrhydyfen. Mewn cysylltiad a'r Gyfylchi hefyd yr oedd Richard James, pan y dechreuodd bregethu, ac yma y gorphenodd ei daith.

[20]Er prawf pa mor uchel y syniai y Methodistiaid am William Davies, parthed doniau gweinidogaethol, a medr i gyfranu Gair y Bywyd i'r dychweledigion, gallwn gyfeirio at yr hyn a gymerodd le yn Nghymdeithasfa Abergwaun, Chwefror 14, 1770. Yno cynygid ei osod yn arolygwr ar holl seiadau Sir Benfro, fel olynydd i'r Parch. Howell Davies, yr hwn oedd newydd ei gymeryd i ogoniant. Pan gofiom mor seraphaidd oedd doniau Howell Davies, ac mor uchel y safai yn ngolwg ei frodyr, rhaid y chwilid am ddyn o alluoedd nodedig i gymeryd ei le. A thaerni Howell Harris, yn crefu arnynt ymbwyllo, yn unig a rwystrodd y brodyr i wneyd y penodiad. Nid oedd gan Harris ddim ychwaith i'w roddi yn erbyn William Davies; yn unig hoffai gael rhagor o brawf arno, er deall a oedd yr Yspryd Glan wedi ei gymhwyso i fod yn dad.

Yn ystod amser enciliad Harris y daethai William Davies i amlygrwydd; dyna y rheswm paham y gwyddai y Diwygiwr o Drefecca can lleied yn ei gylch, ac y dadleuai dros ymbwyllo cyn gwneyd penodiad mor bwysig. Eithr wrth roddi hanes Cymdeithasfa Llangeitho, a gynhaliwyd yn Awst, yr un flwyddyn, cawn Howell Harris ei hun yn dwyn tystiolaeth i ragoriaeth yr Efengylydd o Gastellnedd. Pregethai Davies y diwrnod cyntaf, ar ol rhyw frawd o gymydogaeth Wrexham. Ymddengys y cawsai hwnw odfa dda, a bod cryn ddylanwad yn cydfyned a'i eiriau pan y darluniai yr Iesu yn talu holl ofynion y ddeddf, ac yn prynu ei ryddid i bechadur. Dyoddefiadau Crist oedd mater William Davies yn ogystal; cymerasai yn destun y geiriau: "Oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr annghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw." Meddai Harris: "Ymddangosai dawn y pregethwr hwn yn fwy, ei oleuni yn gryfach, a'i wybodaeth o'r Ysgrythyr yn helaethach na'r cyntaf, ac yr oedd mwy o arddeliad yn cydfyned a'i weinidogaeth." Mewn gwirionedd, yr oedd yr Efengylydd o Gastellnedd wedi llwyr feistroli y dorf anferth oedd ger ei fron; pan y bloeddiai, nes yr oedd y bryniau o'r ddau tu i ddyffryn prydferth Aeron yn diaspedain, fod Crist wedi cymeryd ein lle, ddarfod i'n holl bechodau fyned yn eiddo iddo, a bod ei gyfiawnder yntau wedi dyfod yn eiddo i ni, torai y gynulleidfa allan mewn bloeddiadau gorfoleddus. Y fath oedd y dylanwad, fel yr oedd Howell Harris agos wedi ei syfrdanu. "Arosais mewn dystawrwydd," meddai, "wrth feddwl fel yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel; gwelwn mai dyma lle y mae Jerusalem, a bod yma ryw fywyd, a nerth, a gogoniant rhyfedd.' Dyma y Gymdeithasfa ddiweddaf i Howell Harris ar y ddaear. Yn fuan gwedi hyn yr ydym yn darllen am William Davies yn pregethu yn Nhrefecca, a chafodd Harris flas anarferol ar yr odfa. Yn ei ddydd-lyfr, canmola y pregethwr yn ddirfawr, gan gyfeirio gydag edmygedd at ei ddirnadaeth o wirioneddau yr efengyl, dysgleirder ei ddoniau, naws hyfryd ei yspryd, a'r difrifwch ai nodweddai wrth gymhell pechaduriaid at Fab Duw.

Nid oes hanes manwl i'w gael am William Davies, fel y darfu i ni nodi, felly rhaid i ni foddloni ar groniclo ychydig of hanesion sydd i'w cael am dano. Cyhoeddasid ef unwaith i bregethu yn eglwys Cenarth. Pan y clywodd y Cadben Lewis, a breswyliai yn y Gellidywyll, hyny, anfonodd ei was yno gyda dryll, gan orchymyn iddo saethu y pregethwr. Hysbyswyd y bwriad i Mr. Davies. "Gadewch i mi fyned i'r pwlpud," meddai, "ac yna byddaf yn foddlon iddo fy saethu." I'r pwlpud yr aeth, a phregethodd gyda'r fath felusder a dylanwad, nes yr oedd yr holl gynulleidfa, ac yn eu mysg gwas y Cadben, yn foddfa o ddagrau. Nid oedd gan y gwas, wrth ddychwelyd at ei feistr, ond yr un esgusawd ag a roddid gan swyddogion y Sanhedrim gynt, a anfonasid i ddal yr Iesu "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Yn mhen ychydig flynyddoedd gwedi hyny bu y boneddwr hwnw farw dan arwyddion amlwg o farn Duw. Mor druenus ydoedd, ac mor ofnadwy oedd cnofeydd ei gydwybod, fel y methai y rhai caletaf mewn annuwioldeb aros yn yr un ystafell ag ef. Eithr nid bob amser y llwyddai y pregethwr melus o Gastellnedd i orchfygu y rhwystrau a deflid ar ei ffordd. Unwaith, pan ar daith yn y Gogledd, pregethai yn y Bettws, ger Abergele, a chyfodasid pwlpud iddo wrth das uchel o frigau coed, eiddo hen ŵr a hen wraig oeddynt yn dra gelyniaethol i grefydd. Tra yr ydoedd yn llefaru daeth perchenogion y dâs, gyda rhyw greaduriaid anystyriol yn eu cynorthwyo, ac er mwyn dial eu llid ar y crefyddwyr, ceisient wthio y dâs frigau gyda phygffyrch o'r tu cefn iddi, fel ag i'w dymchwelyd ar ben y pregethwr. Clywai yntau y brigau yn rhugldrystio, deallodd beth a fwriedid, a dyrysodd hyn ef i'r fath raddau fel y methodd fyned yn ei flaen yn mhellach.

Adroddir hanesyn tra dyddorol am dano yn Methodistiaeth Cymru, yr hwn a ddengys natur yr hunan-ymwadiad oedd yn ofynol yr adeg hono, hyd yn nod ar ran y pregethwyr penaf. Trefnasid iddo fyned i lefaru. i ardal fynyddig, mewn rhyw fan yn y Deheudir, lle yr oedd yr achos yn bur isel, a'r bobl yn dlodion. Wrth fyned tuag yno, a chael y ffordd yn mhell, ac yn dra anhygyrch, ymresymai ynddo ei hun fel yma: "Paham y gwnaed a fi fel hyn? Paham y trefnwyd fi i fyned i le mor anghysbell, ar hyd ffordd mor erwin?" Erbyn cyrhaedd yno, drachefn, yr oedd yr olwg ar y fangre, y tai, a'r bobl, yn ychwanegu at ei anfoddogrwydd. Nid oedd yn y golwg ond ychydig o dai tlodion, yn nghanol mynydd-dir gwyllt ac anial. Ac adeilad gwael, mewn llawn gydweddiad â'r tlodi o gwmpas, oedd y capel yn mha un yr oedd i bregethu. Ar ei ddyfodiad i'r fan, arweiniwyd ef i fwthyn gwael ei wedd, lle y preswyliai tair o chwiorydd, hen ferched heb briodi. Cymerwyd ei geffyl i'r ystabl gan un; y llall a arweiniai y pregethwr i'r bwthyn, a'r drydedd a agorai ddrws y capel, gan wneyd y parotoadau angenrheidiol ar gyfer yr odfa. Erbyn hyn yr oedd mynwes y pregethwr wedi cythruddo yn fwy fyth. Dan ruthr y brofedigaeth, meddyliai ei bod yn ormod darostyngiad ar ŵr o'i safle ef i'w anfon i'r fath le. Yn y teimlad hwn yr ydoedd pan ddaeth yr amser i ddechreu yr odfa. Daeth rhyw nifer yn nghyd; eithr nid oedd y pregethwr yn gwerthfawrogi y cyfleusdra i'w cyfarch. Ond wrth fyned rhagddo gyda'r gwasanaeth, teimlai yr awyrgylch yn nodedig o ysgafn; caffai flas rhyfeddol wrth ddarllen y benod; yr oedd rhyw naws nefolaidd yn y canu; ac yn y weddi teimlai fod ei enaid yn cael dyfodfa at Dduw. Wrth bregethu yr ydoedd mewn hwyl; yr oedd siarad iddo mor hawdd ag anadlu. Cafodd odfa fendigedig; ac ar y terfyn meddyliai nid am dlodi yr hen ferched, ond am eu llwyr ymroddiad i grefydd. Gwedi iddo ddychwelyd gosododd un o'r chwiorydd ger ei fron fwrdd bychan, prin cyfuwch a'i ben glin. Ar y bwrdd gosododd lian bras, ond can wyned a'r cambric; yna cyfododd ychydig bytatws o'r lludw mawn ar yr aelwyd, y rhai a roddasid yno i'w rhostio, a chwedi eu sychu yn lân, a thynu ymaith y croen, gosododd hwynt ar y bwrdd, gan geisio gan y boneddwr ofyn bendith yr Arglwydd ar yr ymborth. Nid yw yn ymddangos fod yno ddim ychwaneg, oddigerth ychydig fara ac ymenyn. Synai Mr. Davies yn fawr iawn arno; gwelai yno ddirfawr dlodi a charedigrwydd wedi cydgyfarfod. Teimlai erbyn hyn mai braint oedd cael dyfod yno, a gofynai i'r un a wasanaethai wrth y bwrdd pa nifer o aelodau a berthynai i'r seiat yno.

Nid oes o honom ond nyni ill tair," meddai hithau.

"Pa fodd, gan hyny," meddai Mr. Davies, "yr ydych yn gallu dwyn yr achos yn ei flaen?"

Ebe hithau: "Y mae i bob un o honom ei gorchwyl. Un chwaer a ofala am y tŷ cwrdd, y llall am yr ystafell a cheffyl y pregethwr, a minau sydd yn cael y fraint o weini wrth y bwrdd. Yr ydym ein tair yn cyfarfod yn y tŷ cwrdd unwaith yn yr wythnos, i gadw seiat, gan adael y drws yn agored i bwy bynag a ewyllysio ddyfod atom, ac ymuno â ni." Wrth ymadael, cynygid iddo chwe' cheiniog yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth; mynai yntau wrthod; eithr ni chymerent eu nacau. Dywedent fod y darn arian wedi ei gysegru at wasanaeth yr Arglwydd, ac na feiddient ei ddefnyddio at ddim arall. Yna gofynent iddo, pa bryd y caffai y fraint o ddyfod yno drachefn. Erbyn hyn yr oedd ei galon wedi ei gorlenwi. Wrth deithio yn ei flaen galwai ei hun, "Y cythraul balch," am iddo edrych yn isel ar waith Duw, oblegyd y wedd dlawd oedd arno. Yn mhen ychydig flynyddoedd cafodd y fraint of fyned i'r lle drachefn; ac erbyn hyn yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i naw ugain o rifedi.

Fel y nodwyd, teithiodd y Parch. William Davies Gymru oll, ar ei hyd a'i lled, lawer gwaith. Yn ei farwnad iddo y mae Williams, Pantycelyn, yn crybwyll enwau amryw o'i gydnabod, o bob parth o'r Dywysogaeth, oeddynt wedi myned i'r nefoedd o'i flaen, ac yn ei groesawu i mewn. Tua'r flwyddyn 1780, cynhaliwyd Cymdeithasfa yn Nghastellnedd, a daethai yno. y Parchn. Daniel Rowland, ei fab Nathaniel, Peter Williams, Williams, Pantycelyn, ac amryw eraill heb fod lawn mor enwog. Yr oedd y Gymdeithasfa dan arddeliad mawr; y nefoedd a ddyferai y gwlith grasol i lawr yn helaeth, a bu cofio hir am dani. Lletyai y pregethwyr yn nhai Mr. Leyshon, o'r Hill, ger Llanilltyd, gwr nodedig am ei dduwioldeb, a Mr. Thomas Smith, tad Mr. Smith, Aberafan. Tua saith mlynedd gwedi y Gymdeithasfa hon y bu William Davies byw. Yn y flwyddyn 1787 efe a hunodd yn yr Iesu, yn y driugeinfed flwydd o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent Castellnedd. Pregethodd Mr. Jones, Llangan, yn ei angladd; ac wrth weinyddu ar lan y bedd yr oedd ei deimladau wedi ei orchfygu yn hollol. "O Davies anwyl!" meddai, "O Davies, gwas yr Arglwydd! Ti fuost farw. Do; disgynaist i'r bedd a'th goron ar dy ben." Nis gallwn wrthsefyll y demtasiwn o ddifynu ychydig o benillion o'r farwnad nodedig a gyfansoddwyd iddo gan Beraidd. Ganiedydd Cymru:

Pam y tynodd angau diried
Ddavies fwyn oddiwrth ei waith?
Pwy sy' i gario 'mlaen ei ystod
Addfed ar y meusydd maith?
Pwy heb flino, megys yntau,
Ac heb orphwys, gasgla 'nghyd,
Yn ddiachwyn, yn ddiduchan,
Feichiau mawrion, trymion yd?

Yn ei rym ac yn ei hoewder,
Galwyd ffrynd y nef i'r lan,
Tru'gain mlynedd ar y ddaear
Drefnodd arfaeth idd ei ran;
Yna rhaid oedd iddo newid
Ei berth'nasau, ei ffryns, a'i le,
A rboi ei gorph i'r ddae'r i gadw
Nes glanhau 'i fudreddi e'.

Castellnedd, mewn mynwent eang,
'R oedd raid iddo lechu lawr,
Lle mae deng mil, neu fyrddiynau,
Yn ei gwmni ef yn awr;
Ond fe gwyd wrth lais yr angel,
Bloedd yr udgorn gryna'r byd,
A'i holl lwch, b'le bynag taenir,
Gesglir yno'n gryno 'nghyd.


*****
Deugain agos o bregethwyr
Oedd e'n 'nabod yn y nef,
Ac fu'n seinio'r jubil hyfryd
Yn ei ddyddiau byrion ef,
Oll a'u t'lynau aur yn canu
Yr un mesur, a'r un gân,
Ag a ganodd y cor nefol
A'r bugeiliaid gwych o'r blaen.

Na alerwch mwy am Davies,
Ond dihatrwch at eich gwaith;
Y mae'r meusydd mawr yn wynion,
Mae llafurwaith Duw yn faith;
Pob un bellach at ei arfau,
Aml yw talentau'r nef;
Sawl sy'n ffyddlon gaiff ei dalu
Ar ei ganfed ganddo ef.

Doed i waered i'r Deheudir
Ddoniau Gwynedd fel yn lli,
Aed torfeydd o dir y Dehau
Trwy Feirionydd fynu fry;
Fel bo cymysg ddoniau nefol
Yn rhoi'r gwleddoedd yn fwy llawn,
'Falau a photelau llawnion,
O lâs foreu hyd bryduhawn."


Yr ail bregethwr, ag y mae ei enw uwchben ein hysgrif, yw Dafydd Morris, un o'r pregethwyr mwyaf nerthol a welodd Cymru. Gelwir ef yn gyffredin yn "Dafydd Morris, Twrgwyn;" ond fel Dafydd Morris, Lledrod," y caffai ei adwaen gan yr hen bobl, am mai yn Lledrod y cafodd ei eni, ei ddwyn i fynu, y dechreuodd bregethu, ac y gwnaeth iddo ei hun enw fel pregethwr. Ardal amaethyddol ydyw Lledrod, yn tueddu at fod yn fynyddig, yn rhan uchaf Sir Aberteifi, a thuag wyth milltir o Langeitho. Ymddengys i Dafydd Morris gael ei eni rywbryd tua'r Tua naw mlynedd cyn flwyddyn 1744. hyny y dechreuasai Daniel Rowland ei weinidogaeth danllyd yn Llangeitho. Nid annhebyg ddarfod i Dafydd Morris, ac efe yn llanc ieuanc, fyned i Langeitho gyda llanciau eraill yr ardal i wrando y "Ffeirad crac," ac mai rhyw saeth oddiar fwa Rowland ddarfu ei glwyfo. Modd bynag, cafodd grefydd yn gynar, a dechreuodd bregethu pan yn un-mlwydd-ar-hugain oed. Ychydig o fanteision addysg a gawsai yn moreu ei oes; tebygol mai tlodion oedd ei rieni; ond ymroddodd i lafurio am wybodaeth a dysg, a llwyddodd i gyrhaedd mesur helaeth o honi. Daeth yn alluog i ysgrifenu yn dda; yr oedd yn dra chydnabyddus â gweithiau y prif dduwinyddion, a medrai wneyd y defnydd angenrheidiol o awduron Saesnig. Fel y rhan fwyaf o bregethwyr y Methodistiaid yn y cyfnod hwnw, bu yn efrydydd caled a chyson ar hyd ei oes; o herwydd nodwedd deithiol y weinidogaeth, gorfodid ef, yr un fath a'r pregethwyr eraill, i dreulio llawer o'i amser ar gefn ei geffyl; ond gofalai na fyddai y cyfryw amser yn cael ei wastraffu; byddai wrthi yn gyson, naill ai yn darllen. llyfr, neu ynte yn cyfansoddi pregeth.

Daeth Dafydd Morris yn boblogaidd ar gychwyniad ei weinidogaeth, ac ymddengys fod gan Daniel Rowland feddwl uchel am dano, ac am ei ddoniau. Gwahoddai ef i Langeitho, ar Sul pen mis, fel ei gelwid, i bregethu i'r miloedd a fyddent yno wedi ymgynull o bob parth o Gymru. Yn nyddiau ei ieuenctyd yr oedd yn nodedig o ran prydferthwch ymddangosiad; yr oedd yn llyfndeg ei wedd, ei wallt oedd yn wineu-felyn, ac yn disgyn yn deneu ar ei dalcen; ei lygaid oeddynt yn fawrion a bywiog, a'i lais yn gryf a soniarus. Pan yn gymharol ieuanc daliwyd ef gan dewychder dirfawr, yr hwn a gynyddodd fel yr elai yn mlaen mewn dyddiau; yn ei amser olaf ni feiddiai farchogaeth, eithr teithiai mewn cerbyd. Gwelsom yn amryw o dai capelau Sir Aberteifi gadair lydan hen ffasiwn, a digon o le i ddau i eistedd ynddi yn gysurus; gelwid hi yn "gadair Dafydd Morris," a dywedid mai er ei fwyn ef y cawsai ei gwneuthur. Oblegyd y tewychder hwn y darfu i Dafydd Ddu o'r Eryri, ac efe yn fachgenyn ieuanc llawn direidi a dígrifwch, gyfansoddi iddo y penill a ganlyn:

"Am Dafydd Morris, 'r wyf fi'n syn, Nid oes, mae hyn yn rhyfedd, Berffeithiach cristion mewn un plwy', Yn cario mwy o lygredd. Ar fyr eheda'i enaid ef, Yn iach i'r nef fendigaid; A'r gorph a fydd, yn ngwaelod bedd, Ddanteithiol wledd i bryfaid."

Fel pregethwr, meddai ddirnadaeth ddofn o brif wirioneddau trefn yr iachawdwriaeth; yr oedd pob pregeth o'i eiddo yn dangos craffder sylw, a meddylgarwch. Ond ei brif nodwedd oedd angerddolrwydd teimlad. Byddai y gwirioneddau a lefarai yn tanio ei enaid ei hun, ac yn cyneu y cyffelyb dân yn ysprydoedd y rhai a'i gwrandawent. Meddai Christmas Evans am dano: "Yr oedd Dafydd Morris yn bwysig, a thra deffrous, yn ei anerchiadau at gydwybodau, a serchiadau ei wrandawyr. Nid hawdd darlunio yr effeithiau oedd yn canlyn ei ddawn yn y dyddiau cyffrous hyny." Desgrifiai rhai o'r hen bobl ei ymweliad a'r gwahanol ardaloedd. fel ymdoriad ystorm o fellt a tharanau. Wrth ei wrando, safai dynion anystyriol yn syn, wedi eu dal gan ddychrynfeydd, fel pe buasai y Barnwr yn ymddangos; ac elai y rhuthr heibio gyda chawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn. Fel cyfrwng i gludo angerdd ei deimlad, rhoddasid iddo lais cryf a soniarus, yr hwn oedd ar unwaith yn dreiddgar a llawn o fiwsig. Meddai ei fab, Eben Morris, lais perseiniol ac o gwmpas dirfawr. Gofynai Hiraethog unwaith i Dr. Owen Thomas: "A ydych chwi yn cofio Ebenezer Morris?" Atebai yntau nad oedd. "Wel," meddai Hiraethog, "ni chlywsoch chwi ddim llais, ynte." Ond mynai yr hen bobl, oeddynt yn gydnabyddus a'r ddau, fod llais Dafydd Morris yn rhagori o ddigon ar eiddo ei fab.

Yn y flwyddyn 1774, symudodd o Ledrod i Dwrgwyn i drigianu. Gwnaeth hyny ar gais eglwysi dyffryn Troedyraur, y rhai a alwent arno i roddi heibio bob llafur bydol, ac ymroddi yn gyfangwbl i'r weinidogaeth, gan gadw cyfarfodydd eglwysig, a phregethu yn yr wythnos fel y byddai cyfleustra yn rhoi, ac addawent ei gydnabod am ei lafur. Yn nhafodiaeth yr oes hon, galwad i fod yn fugail a gafodd, ac ufuddhaodd yntau iddi. Isel oedd agwedd crefydd yn rhanau isaf Sir Aberteifi yr adeg yma, ar ol bod yn lled flodeuog unwaith; yr oedd yr ymraniad â Harris wedi taflu ei ddylanwad gwenwynig dros y seiadau, ac ymddangosai yr achos yn ei holl ranau yn dra gwywedig. Eithr yn fuan gwedi ei symudiad ef, newidiodd gwedd pethau er gwell; teimlwyd effeithiau grymus yn cydfyned a'r weinidogaeth, a chwanegwyd llawer iawn at y gwahanol eglwysi. Darostyngwyd y rhagfarn oedd yn meddyliau llawer o'r trigolion at y Methodistiaid, a lliosogodd y gwrandawyr i'r fath raddau, fel yn mhen pedair blynedd, sef yn 1778, yr oedd yr addoldy yn Twrgwyn wedi myned yn rhy fychan, a bu raid cael adeilad helaethach. Yn mhen tua chwech mlynedd gwedi agoriad y capel newydd, torodd adfywiad grymus allan. Dechreuodd foreu Sabbath, pan oedd Dafydd Morris yn pregethu, ac ymledodd dros y wlad, gan ddwyn canoedd i broffesu crefydd. Ac er i rai wrthgilio, parhaodd y nifer fwyaf yn ffyddlawn, gan roddi profion annghamsyniol eu bod wedi cael eu dychwelyd at Dduw. Dywedir ddarfod i'r diwygiad hwn barhau am amser maith.

Nis gallwn roddi hanes bywyd Dafydd Morris yn gyflawn; nid oes ar gael ddefnyddiau at hyny; rhaid ymfoddloni ar hanesion sydd wedi aros mewn gwahanol ardaloedd; ond prawf y rhai hyny ei fod yn bregethwr anghyffredin. Er dangos tuedd athronaidd ei feddwl adrodda Dr. Owen Thomas, yr hanesyn a ganlyn: Rhyw Sabbath yn y flwyddyn 1834, elai Dr. Thomas o Lanllyfni, gwedi odfa'r boreu, i Dalsarn, at ddau yn y prydnhawn. Yn cydgerdded âg ef yr oedd un o hen frodyr Llanllyfni. Er byrhau y ffordd croesent gae; ac yn y man, meddai hen ŵr, "A welwch chwi y gareg hon? Wyddoch chwi beth? Mi glywais i Dafydd Morris yn pregethu yn y fan yma, ac ar y gareg yna yr oedd yn sefyll." Cyffrowyd Dr. Thomas: "Aie," meddai, "a ydych yn cofio y testun?" "O, ydwyf, yn eithaf da; y geiriau yna yn y Salm: O drugaredd yr Arglwydd y mae'r ddaear yn gyflawn.'" "A ydych yn cofio rhywbeth o'r bregeth?" "Ydwyf, yr wyf yn cofio fod ganddo drugaredd mewn creadigaeth, trugaredd mewn rhagluniaeth, a thrugaredd mewn iachawdwriaeth. Ac wrth sôn am drugaredd mewn creadigaeth, yr wyf yn cofio ei fod yn tybio rhyw rai yn codi gwrthddadleuon yn erbyn hyny, am fod cymaint o'r ddaear yma yn anialwch diffaeth, cymaint o honi yn foroedd diffrwyth, a chymaint o honi yn fynyddoedd gwylltion." "Wel, sut yr oedd o yn ateb y gwrthddadleuon?" "Nid wyf yn cofio," meddai yr hen flaenor, "sut yr oedd o yn ateb gwrthddadl yr anialwch a'r môr, ond yr wyf yn cofio yn dda sut yr atebai wrthddadl y mynyddoedd: 'Cistiau Duw ydyw y mynyddoedd yma, bobl,' meddai, yn llawn o'i drysorau; ac fel y bydd o yn gweled ar ei blant eu heisiau, fe deifl ef yr allwedd i ryw un i'w hagor hwy.'" Byddai yn anhawdd cael prawf cryfach o feddylgarwch, yn enwedig pan feddylir fod gwyddoniaeth y pryd hwnw yn ei mabandod, ac mai prin yr oedd gwerth cynwys y mynyddoedd wedi cael ei ddatguddio.

Nid yn anfynych byddai rhyw nerth digyffelyb yn cydfyned â'i weinidogaeth, fel nas gallai y caletaf sefyll o'i blaen. Sonir yn Sir Fôn, hyd y dydd hwn, am bregeth ryfedd a draddodwyd ganddo yn Pont Rippont, o fewn rhyw bedair milltir i Gaergybi, yr hon a elwir, "Pregeth y golled fawr." Y testun ydoedd: "Pa leshad i ddyn os ynill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?" Wrth feddwl am enaid wedi ei golli, yr oedd yspryd Dafydd Morris wedi ei gyffroi i'w ddyfnderoedd, a bloeddiai ar y gynulleidfa oedd ger ei fron: "Ow! Ow! Plant y golled fawr." Yna darluniai fawredd y golled, ac fel byrdwn ar derfyn pob sylw deuai y floedd galon-rwygol, "Y golled fawr!" Gan mor uchel a threiddgar oedd ei lais, a'r fath effeithiolrwydd oedd yn cydfyned â'r traddodiad, rhedai y bobl yno o bob cyfeiriad; a gyda eu bod yn cyrhaedd y lle, yr oedd difrifwch annaearol y pregethwr, a nerth y floedd am y golled fawr," yn eu sobri ar unwaith, ac yn eu cyffroi i fin gwallgofrwydd. Bernir i bawb a wrandawent y noson hono gael eu hachub. Ceir yn Nghofiant John Jones, Talsarn, gan Dr. Owen Thomas, hanesyn tra dyddorol, yn dal cysylltiad â'r odfa hon. Un nos Sabbath, pregethai y diweddar Barch. David Roberts, Bangor, yn Llanerchy. medd; gwedi y bregeth cynhelid seiat, ac aeth y gweinidog o gwmpas i holi rhai o'r aelodau am eu profiadau. Aeth at un hen chwaer, gan feddwl y caffai rywbeth ganddi, a gofynodd, er ys pa faint o amser yr oedd gyda chrefydd. Nid oedd yr hen chwaer yn gallu dweyd. Ond," meddai, "yr oeddwn yn hogen go fechan, yn agos i Bont Rippont; a rhyw ddiwrnod, wrth fyned i rywle, mi gollais fy marclod (ffedog). Yr oeddwn wedi myned i chwilio am dano, ac yn teimlo yn fawr, bron a chrio, os nad oeddwn yn crio, am fy mod i wedi ei golli. Pan yr oeddwn i felly yn chwilio am dano, mi a glywn ryw lais uchel, cryf, yn swnio yn fy nghlustiau: 'Y golled fawr! Y golled fawr!' Mi a feddyliais mai sôn am fy marclod yr ydoedd o. Ond mi a ddilynais y swn, nes yr oeddwn yn y lle. Erbyn dyfod yno, yr oedd yno lawer o bobl wedi ymgasglu, a dyn yn pregethu ar yr adnod: Pa leshad i ddyn, os ynill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun ?' Ac mi ddois i toc i ddeall fy mod mewn perygl i golli peth anhraethol fwy gwerthfawr na fy marclod. Dyna yr amser y dechreuais i gyda chrefydd. A Dafydd Morris oedd y pregethwr hwnw." Diau fod y bregeth hono, a wnaeth y fath argraff ar feddwl genethig ieuanc, yn gystal ag ar bobl wedi tyfu i fynu, gan beri iddi hi a hwythau anghofio pob colled, yn mhresenoldeb "y golled fawr," yn rymus, tuhwnt i bob peth.

Coffeir am bregeth ryfedd arall, nid yn annhebyg o ran dylanwad i'r un yn Pont Rippont, a draddodwyd ganddo yn Llanarmon, Dyffrynceiriog. Pregethai dan goeden frigog, yn muarth Sarphle, ar y gair: "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth, canys ni elli mwy fod yn oruchwyliwr?" Tan y bregeth hon dywedir fod pawb yn gwaeddi neu yn wylo, yn molianu neu yn gweddio. Llefai y pregethwr, ag awdurdod o dragywyddoldeb yn ei lef, "Dyro "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth;" ac yn mhresenoldeb y cyfrif ofnadwy, crynai y caletaf, a churai ei liniau yn nghyd; toddai calonau creiglyd fel y tawdd cwyr o flaen tân. Golygfa ydoedd na welsid ei chyffelyb yn wlad hono; ac nid oedd gan baganiaid fro un cyfrif i'w roi am y fath beth, ond fod rhyw gyffroad o wallgofrwydd wedi wallgofrwydd wedi syrthio yn ddisymwth ar y gwrandawyr. Yr ydym yn barod wedi nodi ei fod yn deithiwr mawr. Am flynyddoedd cymerai Am flynyddoedd cymerai bedair o deithiau bob blwyddyn i Siroedd Môn ac Arfon, ac eraill o siroedd y Gogledd. Yr oedd mor adnabyddus yn y Gogledd ag oedd yn y Dê; a mawr fyddai y dysgwyliad am dano, a'r syched am ei glywed. Anaml y cynhelid Cymdeithasfa heb ei fod yn pregethu ynddi. Ar ei deithiau cyfarfyddai, o angenrheidrwydd, â llawer math o helynt, a chaffai mewn gwahanol leoedd bob math o dderbyniad. Pan ar daith yn Sir Ddinbych unwaith, ac yn myned o'r Bont Uchel i Adwy'r Clawdd, cafodd nad oedd ei gyhoeddiad, o herwydd rhyw anffawd neu gilydd, wedi cyrhaedd yr Adwy. Gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn y wlad, nid oedd yno neb a'i hadwaenai. Modd bynag, daeth o hyd i nifer o wragedd yn proffesu crefydd, i ba rai yr hysbysodd mai pregethwr o'r Deheudir ydoedd, a gofynai, ai nid oedd modd anfon gair ar led trwy y gymydog aeth a chasglu Ar hyn aeth, a chasglu pobl i wrando? cyrhaeddodd y blaenor, a gofynai, gyda chryn sarugrwydd, "Pwy ydych? ydych yn werth anfon am wrandawyr i a chasglu pobl i wrando? Ar hyn cyrhaeddodd y blaenor, a gofynai, gyda chryn sarugrwydd, "Pwy ydych? ydych yn werth anfon am wrandawyr i chwi?" Ymddangosai y gŵr yn afrywiog ei dymher, a bustlaidd ei yspryd. Eithr rywfodd cafwyd cynulleidfa; dechreuodd Dafydd Morris bregethu, ac ar unwaith deallwyd mai nid dyn cyffredin ydoedd. Yn fuan dyma ryw nerth anorchfygol yn cael ei deimlo; cynhyrfid y bobl fel y cyffroir coedwig gan gorwynt; dyma deimladau dyfnion y galon yn ymdywallt allan, yn ocheneidiau uchel, ac yn afonydd o ddagrau, y rhai a redent i lawr yn llifogydd dros bob wyneb. Yr oedd yr hen flaenor sarug wedi cael ei orchfygu, fel pawb arall. Ar derfyn yr odfa aeth at y pregethwr, gan ymesgusodi, a dywedyd: "Dafydd Morris bach, gobeithio y gwnewch faddeu fy ymddygiad atoch cyn dechreu y cyfarfod." Meddai yntau yn ol: Y dyn, mi a welaf mai ci ydwyt; cyn i'r odfa ddechreu yr oeddit yn dangos dy ddanedd; yn awr yr wyt yn ysgwyd dy gynffon Profodd Dafydd Morris fod ganddo fedr arbenig i ddeall cymeriad, oblegyd yn fuan wedi hyn trodd y blaenor ei gefn ar yr achos, a gorphenodd ei yrfa mewn anfuchedd gyhoeddus, ac yn wrthwynebwr i'r efengyl.

Dyoddefodd lawer o erlidiau, ac nid yn' anfynych y gwaredodd yr Arglwydd ef yn rhyfedd. Un tro pregethai yn y Berthengron, a daethai cynulleidfa fawr yn nghyd i wrando. Ar ddechreu yr odfa gwelid haid o ddynion cryfion, a dibris, yn dynesu at y fan, wedi ymbarotoi i aflonyddu yr addoliad, ac o bosibl i niweidio y neb a feiddiai ddweyd gair yn eu herbyn. Ond pan yr oeddynt yn nesu at y tŷ, syrthiodd. eu blaenor, a thorodd ei goes, a hyny ar dir gwastad a thêg. Cafodd y fyntai ddigon o orchwyl i ymgeleddu y clwyfedig, a chafodd Dafydd Morris bob llonyddwch i gyhoeddi yr efengyl. Dro arall, yr oedd ar daith yn Arfon, ac aeth i'r Gwastadnant, lle yr arferid cynal pregethu. Yn anffodus, yr oedd gŵr y tŷ oddicartref, ac yr oedd y wraig yn wrthwynebol i'r efengyl. Pan y daeth y pregethwr at y drws, gan ofyn a oeddynt yn dysgwyl gŵr dyeithr yno, atebodd yn sarug: "Nac ydym; nid oes yma ond swp o boblach dlodion, ar eu heithaf yn ceisio magu eu plant." Dywedodd hyn mewn tymher mor chwerw fel y barnodd Dafydd Morris mai doethineb ynddo fyddai troi ymaith; a hyn a wnaeth heb iddo ef na'i anifail gael lluniaeth na llety; ac allan ar y mynydd, rhwng Llanberis a Llanrug, y buont, meddir, trwy ystod y nos. Tybir mai efe oedd y pregethwr yr adroddir hanes tra chyffrous am dano yn Llangynog, Sir Drefaldwyn. Safai i draddodi y Gair wrth ddrws tŷ tafarn; a gyferbyn ag ef, yr ochr arall i'r ffordd, yr oedd tair coeden yn tyfu gyda glan yr afon. Yn fuan wedi dechreu y bregeth daeth dyn meddw heibio, yr hwn a waeddai allan, ar derfyn pob sylw o eiddo y pregethwr: "Celwydd a ddywedi." Goddefodd Dafydd Morris am enyd, ond wrth fod y dyn yn parhau i grochlefain a bytheirio, cyffrowyd ei yspryd, a dywedodd wrth y gynulleidfa: "Gwrandewch! bydd y tair coeden yna yn dwyn tystiolaeth yn erbyn y dyn hwn yn y farn, oni oddiwedda dialedd ef cyn hyny." Sylwodd y bobl ar y dywediad; ac yn fuan dygwyd ef yn fyw i'w cof drachefn, gan i'r dyn yn ei feddwdod, ryw noson dywell, syrthio dros y mur i'r afon, a boddi. Ac yr oedd hyn o fewn ychydig latheni i'r man y safai y pregethwr arno. Meddai y Beibl: "Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffol; paham y byddit farw cyn dy amser ?"

Cawn hanes am dano yn pregethu yn Amlwch, Sir Fôn, cyn adeiladu y capel cyntaf yno. Pregethai yn yr awyr agored, am fod y gynulleidfa, yn ddiau, yn rhy fawr i unrhyw dy. Safai wrth dalcen tŷ yr hen bregethwr, William Roberts, y crydd. Yr oedd llyn o ddwfr, meddir, yn gyfagos i dŷ William Roberts; llyn lled fawr, a lled fudr ei ddwfr yn gyffredin. Yr oedd yn byw yn y gymydogaeth ar y pryd amaethwr, yr hwn oedd yn dra dig llawn at y Methodistiaid. Penderfynodd y gŵr hwn, wedi deall fod cyfarfod crefyddol i gael ei gynal yn y dref, fyned yno i wneuthur gwawd o hono, ac i'w aflonyddu. Daeth i'r dref ar ei geffyl, gan fwriadu marchogaeth trwy y gynulleidfa, a thrwy hyny ei dyrysu a'i chwalu. Tybiai y caffai ddifyrwch wrth weled penbleth y bobl druain oedd wedi ymgynull i wrando. Eithr pan ddaeth yn gyfagos, mynai y ceffyl, er gwaethaf ei berchenog, droi i'r llyn; ac wedi cyrhaedd yno, taflodd ei farchog oddiar ei gefn i'r dwfr, gan orwedd ar ryw ran o hono fel nas gallai symud. Ofnai yr edrychwyr iddo foddi yn y llyn, a gwaeddent ar i rywun ei achub ef. "O, na," ebai rhyw hen wraig, mwy ei nwyd, debygyd, na'i gras, "gadewch iddo; gan i'r Llywydd mawr weled yn dda fyned ag ef yna, yna y dylai fod." Tybiai rhai fod llygaid yr hen wraig ar Diar. xxviii. 17: "Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffŷ i'r pwll; nac atalied neb ef." Modd bynag, rhuthrodd rhywrai i'r llyn, a llusgasant y dyn druan allan o'i wely peryglus, heb fod fawr gwaeth, ond fod ei ddiwyg yn llawer butrach. Felly, siomwyd yr erlidiwr. Nid difyrwch, ond poen, a fu y tro iddo; ac yn lle medru dyrysu y moddion, cafodd y gynulleidfa bob hamdden i wrando heb i neb feiddio gwrthddywedyd.

Ymddengys mai Dafydd Morris oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yn nhref Beaumaris. Ar yr heol y safai, ond ychydig o lonyddwch a gafodd; ymosodwyd arno gyda cherig a thom; a chodwyd y fath dwrf a therfysg, fel nas gallai fyned yn mlaen. Yr oedd llais Dafydd Morris yn gryf a chlochaidd, a'i galon ynddo yn wrol; ond ymddengys fod yno yn perthyn i'r Methodistiaid ddyn, William Lewis wrth ei enw, a feddai lais cryfach fyth. Safodd hwn i fynu yn ddiofn, wedi i'r terfysgwyr orchfygu y pregethwr o'r Dê, ac ymliwiodd a'r bobl am eu hymddygiad at ŵr dyeithr, a ddaethai o bell i geisio gwneyd daioni iddynt. Gostegodd hyn i raddau ar y terfysg, a chafwyd peth llonyddwch i orphen y cyfarfod. Pe buasai Dafydd Morris wedi ysgrifenu ei hanes yn fanwl, fel y gwnaeth Howell Harris, gan gadw cofnod manwl o bob peth a ddygwyddodd iddo, yr erlidiau a ddyoddefodd, a'r gwaredigaethau a estynwyd iddo, buasai yn ffurfio penod debycach i ramant nag i ddarn o hanesiaeth.

Ceir yn Methodistiaeth Cymru gynllun o'i gyhoeddiad yn Sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1771, yr hwn sydd yn meddu cryn ddyddordeb :-

Tachwedd 23, 1771, am 12, Waunfawr; nos, Llwyncelyn.
Dydd Mawrth, Llanllyfni, 2; a chadw yn breifat (seiat).
Dydd Mercher, am 10, Tynewydd; y nos, Brynygadfa.
Dydd Iau, am 12, Nefyn; nos, Tydweiliog.
Dydd Gwener, am 10, Tymawr; prydnhawn, am 3, Lon-fudr.
Dydd Sadwrn, am 12, Saethonbach.
Boreu Sul, Pwllheli; Cricieth, am 2.
Dydd Llun, am 10, Brynengan: a chadw yn breifat yn y Garn, am 5.

Nid annhebyg mai cynifer a hyn o leoedd pregethu oedd gan y Methodistiaid yn Sir Gaernarfon ar y pryd; ac os felly, pur araf y cynyddodd yr achos ynddi.

Ceir yn yr un llyfr fraslun o daith a wnaeth yn Sir Aberteifi, tua'r flwyddyn 1789, sef ryw ddwy flynedd cyn ei farw; ac yn y braslun hwn rhoddir y testunau oddiar ba rai y pregethodd yn ogystal:—

GORPHENAF 18, 1789.

Capel Twrgwyn. . . . . . Esaiah lv. 3.
Glynyrhedyn . . . . . Luc i. 74.
Aberteifi . . . . . Can. vii. 1.
Llandudoch . . . . . Luc
Llechryd . . . . . 1 Cor. iii. 21, 22.
Tremain . . . . . Luc i. 47.
Morfa Uchaf . . . . . 1 Cor. iii. 21, 22, mewn angladd.

TRO I SASIWN

Yn y Sasiwn yn gyntaf . . . . . Can. vii. 1.
Llanddewi-brefi . . . . . 1 Cor. iii. 21, 22.
Tregaron. . . . . . Actau xvi. 30, 31.
Swyddffynon . . . . . Heb. vi. 7, 8.
Lledrod . . . . . 1 Cor. iii. 21, 22.
Llangwyryfon . . . . . Luc i. 74.
Llanbadarn Fawr . . . . . Heb. iv. 3.
Aberystwyth . . . . . Actau xvi. 30, 31.
Rhyd-y-felin-fach . . . . . Zech. xii. 10.
Llanrhystyd . . . . . Phil. iii. 20, 21.
Llannon . . . . . Heb. ii. 3.
Penant . . . . . Actau xvi. 30, 31.
Llanarth . . . . . Heb. ii. 3.
Geuffos . . . . . Zcch. xii. 10.

Un ffaith ddyddorol a geir yn y braslun hwn ydyw, fod Dafydd Morris yn pregethu yn Nghymdeithasfa ei sir ei hun. Yr oedd hyn flwyddyn cyn i Daniel Rowland farw, ac y mae yn sicr fod a fynai efe â'r trefniant. Dywedir fod ganddo gynifer a saith o wahanol bregethau ar Actau xvi. 30, 31. Parhai Dafydd Morris i gyfansoddi pregethau newyddion trwy ystod ei oes, ac ymddengys fod hyn yn orchwyl hawdd iddo. Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru iddo weled saith o bregethau o'i eiddo, wedi eu cyfansoddi mewn chwech wythnos o amser, yn y flwyddyn 1789, sef dwy flynedd cyn ei farw. Nid oes dim yn awgrymu fod hyn yn beth anarferol iddo. Dywedai Mr. John Jones, Castellnewydd, ddarfod iddo ef ei wrando saith-ar-hugain o weithiau mewn un flwyddyn, a bod ganddo bregeth newydd bob tro. Yn y brasluniau o'i bregethau sydd ar gael, ymddengys nad oes dim anarferol o ran cynllun na chyfansoddiant; eu prif nodwedd yw Ysgrythyroldeb; ond diau ei fod yn cael llawer o'i syniadau dysgleiriaf ar y pryd, pan y byddai ei yspryd yn poethi wrth ymdrin â'r gwirionedd.

Yr ydym wedi dangos yn barod fod Dafydd Morris yn meddu craffder arbenig i adnabod cymeriad. Ceir hanes am dano yn Llansamlet a brawf yr un peth, ac a ddengys fod ganddo awdurdod nodedig i lywodraethu, a gweinyddu dysgyblaeth, pan fyddai galw. Yr oedd yn Llansamlet wr o'r enw Llewelyn John, cristion gloyw, a chymeriad pur. Yn ychwanegol, meddai ddawn gweddi helaeth, ac arferai fyned o gwmpas gyda phregethwyr i ddechreu y cyfarfodydd iddynt. Bu unwaith yn y Gogledd gyda Jones, Llangan. Yn mhen amser maith aeth Llewelyn John yn hen ac yn dlawd. Penderfynodd y seiat gyfranu ryw gymaint yn wythnosol at ei gynaliaeth; ond bu hyn yn foddion i beri cenfigen a therfysg. Yr arweinydd yn yr helynt oedd "Beni y crydd." Wedi cryn gyffro, penderfynwyd anfon cenhadau yno, er ceisio adfer trefn. Yn y cyfamser, daeth Dafydd Morris heibio; ac ar ol yr odfa, mewn cyfarfod eglwysig, gosododd y brodyr y mater ger ei fron. Ar ddechreu y drafodaeth rhoddes "Beni" amnaid i Dafydd Morris ddarllen y drydedd benod o 2 Thes., lle y ceir y geiriau: "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta ychwaith." "Na wnaf fi," ebai yntau, "darllen hi dy hunan, os myni." Gwnaeth Beni hyny; ac yn ganlynol, wrth drafod y mater, coffaodd hi drachefn, fel un benderfynol ar y pwnc. Bellach, yr oedd yspryd Dafydd Morris wedi cyffroi ynddo, ac nis gallai ymatal, a dyma ef yn arllwys ei dynghed ar Beni, druan. "Clyw, y cythraul," ebai, "a wyt ti yn cymhwyso yr adnod yna at yr hen ŵr duwiol? Rhwygwr wyt ti, a rhwygwyr yw y rhai sydd yn dy gynghrair, ac allan a thi a hwythau." Yr oedd y Parch. Hopkin Bevan yn y cyfarfod ar y pryd, ac arferai ddweyd na fu mewn lle mor ofnadwy erioed; ei fod yn teimlo fel pe byddai llawr y capel yn crynu gan yr awdurdod oedd yn y geiriau. Gwedi hyn ymrestrodd y terfysgwr yn filwr, ac adferwyd tangnefedd i'r eglwys.

Yr oedd Dafydd Morris, heblaw bod yn bregethwr gwych, yn emynydd o fri, a cheir amryw o'i emynau yn y llyfr a arferir yn bresenol gan y Methodistiaid. Cyhoeddodd lyfr bychan o'i gyfansoddiadau cyn iddo adael Lledrod, a dywed y wyneb-ddalen iddo gael ei argraffu yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1773. Felly, nid oedd yr awdwr ar y pryd ond naw-mlwydd-ar-hugain oed. Enw y llyfr yw, Can y Pererinion Cystuddiedig. Yn y rhagymadrodd ceir a ganlyn: "Gwybydded pwy bynag y dygwyddo hyn o emynau ddyfod i'w ddwylaw, na fwriedais i erioed wrth eu canu eu rhoddi mewn print; ac mai afreidiol oedd i mi osod fy enw yn gyhoeddus trwy eu hargraffu. Ond wrth gofio am y gwŷr goludog oedd yn bwrw i'r drysorfa o'r hyn oedd yn ngweddill ganddynt, mi glywais beth cymhelliad


CAPEL TWRGWYN, SIR ABERTEIFI.
[Mae y geiriau hyn yn argraffedig ar ffrynt y capel:—" Y Ty hwn a adeiladwyd i'r Parch. Dan. Rowlands, O.C. 1750, a ail adeiladwyd O.C. 1816, a adnewyddwyd O.C. 1846,"]



PENTREF PENFFOS, GER TWRGWYN.
[Preswyliai yr enwog bregethwr yn y prif dy ar y darlun,]


DARLUNIAU YN DAL PERTHYNAS A CHOFFADWRIAETH
DAVID MORRIS, TWRGWYN (LLEDROD).

ynof i daflu fy nwy hatling i mewn yn eu mysg. Heblaw hyny, wrth roddi ambell air maes o honynt weithiau mewn cynulleidfaoedd cristionogol, a gweled ambell blentyn newynog yn adfywio trwy yr ymborth gwael hwn, a'r Arglwydd yn dysgleirio arnynt trwy y moddion, mi a feddyliais ei bod yn bechod i gadw bara haidd oddiwrth eneidiau newynllyd; hyn a'm cwbl gymhellodd idd eu gosod o'th flaen yn y drych y gweli hwynt. Os bendith a gei oddiwrthynt trwy eu darllen, neu eu canu, rho'r clod i Dduw, a gweddïa drosof finau, yr hwn wyf dy gydymaith mewn cystudd,—DAFYDD MORRIS.' gryma y geiriau sydd mewn llythyrenau. Italaidd fod yr awdwr ar y pryd yn wael ei iechyd. Yn sicr, nid oedd raid iddo ymesgusodi o herwydd cyhoeddi y llyfr, na galw ei Emynau yn "ymborth gwael" nac yn "fara haidd;" y mae yspryd y peth byw yn amryw o honynt, a byddant yn debyg o gael eu canu tra y parhao y Cymry i offrymu mawl i Dduw yn eu hiaith eu hunain. Yn mysg eraill, perthyn yr emynau canlynol i Dafydd Morris:

"Mae brodyr imi aeth ymlaen."
"Os rhaid yfed dyfroedd Mara."
"Arglwydd grasol, dyro gymhorth."
"A ddaw gwawr ar ol y plygain?"


Os nad oedd ei awen mor hedegog ag eiddo Williams, gwelir fod ei emynau yn nodedig am eu Hysgrythyroldeb a'u dwysder.

Yr oedd Dafydd Morris hefyd yn ddyn nodedig o garuaidd, a thyner ei deimlad; ac arferai letygarwch ar raddfa eang, fel y ceid aml gyfleustra y dyddiau hyny. A braidd nad oedd ei wraig, Mary, un o'r benywod serchocaf ar y ddaear, yn rhagori arno yn y rhinwedd hwn. Ni byddai wythnos yn pasio na byddai ryw "lefarwr " yn ymweled a Twrgwyn; ac ambell wythnos byddai pedwar neu bump; oblegyd cyfnod y teithio oedd hwnw, ac yn nhŷ Dafydd Morris y lletyent gan amlaf, a byddai Mrs. Morris wrth ei bodd yn gweini arnynt. Parchai hwynt oll, y sychlyd ei ddawn fel y talentog; yr anwybodus fel y galluog; anrhydeddai y gwaelaf fel cenad Duw. Bu farw yn y flwyddyn 1788, yn gymharol ieuanc, ac ysgrifenwyd marwnad iddi gan Williams, Pantycelyn. Braidd nad yw y farwnad yn awgrymu na pherchenogai dalent ddysglaer, ond mai mewn duwiol frydedd a charedigrwydd y rhagorai. Wele ychydig o'r penillion:

"O galared y gyn'lleidfa
Fawr, liosog, faith, am hyn,
Sydd yn bwyta bara'r bywyd
O fewn capel y Twrgwyn;
Collwyd mam, a chwaer, a mamaeth,
Collwyd gwraig garuaidd wiw;
Ac nid oes all lanw'r golled,
Ond yr Hollalluog Dduw.

Os rhagluniaeth drefna imi—
F'allai fyth fydd hyny'n bod—
Wrth gyhoeddi'r 'fengyl oleu,
I dŷ Dafydd Morris ddod;
A gwel'd Mary'n eisiau yno,
Gwn y tyn afonydd hallt
O fy llygaid, fel o greigydd,
Er mor wyned yw fy ngwallt.

Mwy yw Dafydd yn mhob ystyr,
Uwch na Mary raddau heb ri',
Mwy talentau, mwy arddeliad,
Godidocach swydd na hi;
Ond am garu, ymgeleddu,
Gwneyd y rheidus oer yn glyd,
Yr oedd Mary'n abl ateb,
Neb rhyw wraig o fewn y byd.

Doed pregethwyr fan y deuant,
Gogledd, de, neu ddwyrain bell,
I'r Twrgwyn, gyhoeddi allan
Bur newyddion Juwbil well;
O ba ddwg, o ba dalentau,
O ba raddau, o ba ddawn,
Hwy gaen' ffeindio Mary Morris,
O garueiddiwch pur yn llawn."


Bu i Dafydd Morris a Mary dri o blant, sef Theophilus, Eleazer, ac Ebenezer. Cymerodd angau y ddau flaenaf ymaith yn nyddiau eu hieuenctyd, a chyn cael cyfleustra i wneyd dim yn haeddu ei goffa; ond am yr olaf, Ebenezer, daeth yn un o ser dysgleiriaf y pwlpud, ac y mae enw "Eben Morris" yn anwyl gan y genedl hyd y dydd hwn. Daw efe dan ein sylw eto. Oes fer a gafodd Dafydd Morris; canwyll yn llosgi yn ddysglaer ydoedd, a llosgodd i'r soced yn bur fuan. Ar yr ail-ar-bymtheg o fis Medi, 1791, galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr, ac efe ond saith-a-deugain mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu am ryw chwech-mlynedd-ar-hugain. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn mynwent Troedyraur, yn nghanol dagrau lawer. Ond i ni gadw mewn côf ei fod yn cydfyw, yn mron trwy ystod ei oes, â'r Tadau Methodistaidd cyntaf; mai tua blwyddyn o'i flaen y bu farw Daniel Rowland; mai tuag wyth mis o'i flaen y croesodd Williams, Pantycelyn, yr lorddonen; ddarfod i Peter Williams, ei oroesi; ac iddo fod yn gydlafurwr â Howell Davies a Howell Harris; ac eto i gyd iddo, yn mysg yr enwogion hyn, enill iddo ei hun safle fel pregethwr o'r radd flaenaf, fel y daeth ei enw yn air teuluaidd yn Nghymru, o Fôn i Fynwy, rhaid fod Dafydd Morris yn bregethwr anghyffredin. A chan iddo droi llawer i gyfiawnder, rhaid ei fod heddyw, yn ol geiriau yr Ysgrythyr, yn seren o'r mwyaf dysglaer yn ffurfafen y nefoedd. Cyfansoddwyd marwnad iddo gan y Parch. Thomas Jones, o'r Maes, yn Sir Gaerfyrddin, wedi hyny o Peckham, Surrey, o ba un y difynwn ychydig benillion:

"Seren ddysglaer yn goleuo
Yn neheulaw Iesu gwiw,
Gariodd athrawiaethau grymus,
Pur wirionedd geiriau Duw;
Chwiliai ddyfnion droion calon,
Troion gwrthgiliadau cas,
Yn ngoleuni ei athrawiaeth
Fe'i datguddiai hwynt i maes.

Nid ymryson gwag a dadleu
Ydoedd ei bregethau ef,
Ond canolbwynt ei athrawiaeth,
Oedd gogoniant Brenin nef;
Dyn yn ddyn, a Christ yn bobpeth,
Fyddai e'n gyhoeddi maes,
Mewn rhyw ddysglaer oleu, hyfryd,
A rhyw ddwyfol nefol flas.

Y mae rhai o'i ddwys gynghorion
Ar fy meddwl hyd yn awr;
'Rwy'n hyderu caf eu cofio
Tra b'wyf ar y ddaear lawr;
Wrth drafaelu dyffryn Baca,
Sych ac anial, llawn o wres,
Mewn tywyllwch anghysurus,
Gwnaethant i fy enaid les."


Y trydydd enw sydd uwchben y benod yw eiddo William Llwyd, o Gayo. Fel amrai o bregethwyr cyntaf y Methodistiaid, yr oedd Mr. Llwyd yn hânu o deulu parchus, yn meddu eiddo rhydd-ddaliadol, a pherthynai yn agos i Lwydiaid y Briwnant, yr hwn deulu breswylia yn y Briwnant, ar y naill du rhwng Cayo a Phumsaint, hyd y dydd hwn, ac a ystyrir yn mysg bonedd Sir Gaerfyrddin. Enw ei dad oedd Dafydd Llwyd, a phreswyliai yn Blaenclawdd, ger Cayo.[21] Cafodd William ei eni yn y flwyddyn 1741, sef tua chwe' blynedd wedi cychwyniad y diwygiad Methodistaidd, a rhyw ddwy flynedd cyn Cymdeithasfa gyntaf Watford. Pan yr oedd efe yn blentyn bychan, yn chwareu o gwmpas gliniau ei fam, yr oedd Rowland a Harris yn tanio Cymru, a than fendith Duw yn cynyrchu chwildroad hollol yn nghyflwr moesol y trigolion. Ymddengys i rai o'r gwreichion gydio yn William pan yn ei fabandod, oblegyd dywed ei fod dan fesur o argyhoeddiad, ac mewn pryder oblegyd ei gyflwr, er pan o gwmpas saith mlwydd oed. Diau mai rhyw ddylanwad, mwy neu lai uniongyrchol, oddiwrth weinidogaeth y Diwygwyr cyntaf a fu y moddion i gynyrchu hyn. Am helynt dyddiau ei ieuenctyd ychydig a wyddom; eithr cafodd addysg well na'r cyffredin, a bu am beth amser yn ysgol y Parch. Owen Davies, gweinidog perthynol i'r Ymneillduwyr. Pan oedd tua deunaw mlwydd oed cafodd gyfleustra i wrando Peter Williams, a than y weinidogaeth dyfnhawyd ei argyhoeddiadau yn ddirfawr, fel y darfu i fater enaid lyncu pob peth iddo ei hun yn ei deimlad. "O'r blaen," meddai Mr. Charles, "nid oedd ei argyhoeddiadau, mewn ystyr, ond meirwon a dieffaith, yn ei ddangos ac yn ei farnu yn euog; eithr heb fawr o ymgais i ffoi rhag y llid a fydd, ac heb y waedd yn ei yspryd: Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf cadwedig? Ond effeithiodd gweinidogaeth y gweinidog llafurus hwnw, y Parch. P. Williams, yn fywiog ac yn danllyd arno, nes yr oedd dyfnder ei bechadurusrwydd, a'i drueni yn ganlynol, heb un llen yn ei olwg, a chadw enaid y peth mwyaf ei bwys a'i ganlyniad o ddim yn y byd." Ymddengys ddarfod i'r llanc, William Llwyd, fod mewn gwasgfa meddwl am gryn yspaid; dan Sinai yn swn y taranau y preswyliai; am agos i flwyddyn llanwai dychrynfeydd y ddeddf ei enaid, heb gael tawelwch yn un man. Y gwr a ddefnyddiwyd i agor drws gobaith o'i flaen oedd Evan Jones, cynghorwr o Ledrod, yn Sir Aberteifi. Ychydig neu ddim o hanes yr Evan Jones yma sydd ar gael; yn unig ceir ei enw yn mysg cynghorwyr Rowland; ai byr ei ddawn ydoedd, ynte a feddai dalent naturiol gref, ni wyddom; ond efe a fendithiwyd i dywallt balm yr efengyl i glwyfau dyfnion William Llwyd, ac eiddo Grist a fu y gŵr ieuanc o hyny allan.

Brysiodd i ymuno âg eglwys Crist, ac yn ol Mr. Charles, gyda chynulleidfa yr Ymneillduwyr yn y gymydogaeth, sef, yn ddiau, cynulleidfa Crugybar, y bwriodd ei goelbren. Awgryma Mr. Charles, yn mhellach, mai y rheswm paham y gwnaeth felly oedd, am nad oedd seiat Fethodistaidd o fewn cyrhaedd iddo; a dywed mai yn y flwyddyn 1760 y ffurfiwyd cymdeithas neillduol gan y Methodistiaid yn Nghayo. Prin y geil hyn fod yn gywir, oblegyd dengys cofnodau Trefecca fod yno seiat gref, yn rhifo 44 o aelodau, yr hon oedd dan arolygiaeth James Williams, mor foreu a 1743. Tybia Mr. Hughes, awdwr Methodistiaeth Cymru, i'r seiat yn Nghayo ddiflanu o fod, neu ynte wanhau yn ddirfawr, yn ystod enciliad Harris, a'r terfysg a ddilynodd. "Y pryd hwnw," meddai, "y llaesodd dwylaw llawer o'r cynghorwyr cyntefig, y dyrysodd ysgogiad y peiriant crefyddol a osodid i fynu gan y Diwygwyr, ac y chwalwyd lliaws o'r mân eglwysi a gasglesid at eu gilydd y blynyddoedd blaenorol." Digon tebyg mai felly y dygwyddodd yn Nghayo, a darfod i'r achos gael math o ail gychwyniad tua'r flwyddyn 1760.

Nid hir y bu William Llwyd gydag Annibynwyr Crugybar; trwy offerynoliaeth y Methodistiaid y cawsai ei ddwyn i adnabyddiaeth o'r Gwaredwr, a chyda hwy yr oedd am gyfaneddu. Felly, pan yr ail gychwynwyd yn Nghayo, er mai tua. deunaw oedd rhif yr aelodau yno, ymunodd a'r gymdeithas ar unwaith. Ar yr un pryd, ni fu unrhyw deimlad anngharedig rhyngddo a'r eglwys Annibynol; parhaodd mewn cyfeillgarwch â hi, ac a'i gweinidog, tra fu byw. Er yn ddyn newydd, yr oedd arno angen am fagwraeth ysprydol, ac ymddengys mai tan weinidogaeth Daniel Rowland yn benaf y caffai hyny. Cyrchai yn fisol i Langeitho tros ei holl ddyddiau, oni fyddai amgylchiadau yn ei luddias; ac fel y lliaws a ymgasglai yno, cyfranogai yn helaeth o'r danteithion ysprydol a arlwyid mor ddibrin. Pan oedd tua dwy-ar-hugain oed, penderfynodd ymroddi i waith yr efengyl, a daeth yn bur fuan yn nodedig o boblogaidd. Ei brif nodwedd fel pregethwr oedd tân, yn nghyd â llais soniarus a nerthol. Yr oedd ei hun o deimladau cyffrous, ac yn nodedig o danbaid; a thuedd ei weinidogaeth oedd cyffroi eraill. Nid oedd dim a safai o'i flaen pan gaffai y gwynt o'i du. Lledai ei hwyliau i'r awelon; a byddai ei lestr yn morio yn ogoneddus. Nid oedd yn amcanu goleuo y deall yn gymaint; at y galon yr anelai yn benaf. Nid oedd i'w gymharu â Rowland a Harris o ran dirnadaeth o ddyfnion bethau Duw; ac yr oedd yn mhell o fod i fynu â hwy mewn mater a meddwl; ond meddai yntau ddawn arbenig, hollol annhebyg i eiddo pawb arall, a bendithiwyd ef i ddychwelyd canoedd at Grist. Meddai Mr. Charles: "Yr oedd ucheledd a phob rhagoriaethau yn noniau Mr. Daniel Rowland, dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau Duw, er syndod a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr. Yr oedd Mr. Llwyd yn fwy arwynebol, ond yn efengylaidd, yn wlithog, yn hyfryd, ac yn doddedig iawn; a pheth sydd fwy, ac yn coroni y cwbl, yr oedd Duw yn ei arddel ac yn mawr lwyddo ei lafur."

Priododd ferch i un Mr. John Jones, o'r Black Lion, Llansawel, ac aethant i gyfaneddu i Henllan, fferm yn ymyl Cayo oedd yn eiddo iddynt. Yr oedd Mrs. Llwyd yn ddynes o dduwioldeb amlwg, ac o yspryd tanbaid; yn ei ffordd ei hun, yr oedd lawn mor hynod a'i phriod. Teithiai Mr. Llwyd lawer: ymwelai yn fynych â phob ran o Gymru; a chan fynychaf byddai Mrs. Llwyd yn ei ganlyn fel cyfaill," a dywedir y byddai yn arfer dechreu yr odfaeon iddo. Yn ngwres ei deimlad, byddai Mr. Llwyd ei hun yn tori allan yn aml i folianu yr Iesu ar ganol ei bregeth; a chyfranogai ei wraig yn yr hwyl nefol, a byddai yn fynych yn neidio ac yn molianu ar lawr y capel. Clywsom am dano unwaith wedi myned allan i dŷ'r capel, gan adael y dorf ar ol yn gorfoleddu yn hyfryd, ac yn mysg y llu, ei briod. Yn mhen ychydig dilynwyd ef gan un o'r blaenoriaid, yr hwn a ddywedai wrtho:—"Y mae Mrs. Llwyd yn molianu yn ogoneddus yn y tŷ cwrdd." Meddai yntau yn ol: "Gadewch iddi; un gyfrwys iawn yw hi; nid yw byth yn gwthio ei llestr i'r môr, nac yn codi hwyl, ond pan fyddo yr awel o'i thu; ond am danaf fi, rhaid i mi forio yn aml yn erbyn y gwynt a'r tonau." Yn mhen amser gwedi hyn, os nad ydym yn camgymeryd, dangosodd y Gymdeithasfa ryw gymaint o anfoddlonrwydd i bregethwyr gymeryd eu gwragedd o gwmpas ar eu teithiau, oblegyd y teimlid anhawsder yn fynych i gael llety priodol iddynt.

Diau fod "Llwyd, o Gayo," yn meddu cymhwysder arbenig ar gyfer yr oes yr oedd yn byw ynddi. Daeth yn fuan yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd. Dywed Mr. Charles am dano yn mhellach: "Yr oedd yn mhob ystyr yn enillgar, ei berson yn hardd, ei ystymiau yn addas, ei lais yn beraidd, a'i areithyddiaeth yn barod, yn fywiog, yn hysain, ac yn weddus." Ac meddai Christmas Evans:—

{{nop}

"William Llwyd a'i ddalen wyrdd."

Rhaid ei fod yn areithiwr wrth natur; a phan y cysylltir hyn â chyffro ei yspryd, nid rhyfedd iddo enill enwogrwydd dirfawr fel pregethwr, a bod y wlad yn tyru i'w wrando. Er y pregethai weithiau yn argyhoeddiadol, prif destun ei weinidogaeth oedd Crist a'i iachawdwriaeth, golud gras, eangder yr addewidion, a pharodrwydd trugaredd ddwyfol i ymgeleddu y pechadur gwaelaf a thruenusaf.

Tangnefeddwr, carwr heddwch,
Meddyg mwyn at glwyfau'r gwan;
Ond dwrn o blwi ar ben rhagrithiwr,
I'w guro i lawr, i'w gael i'r lan."


Yn ei amser bendithiwyd Cymru a nifer o ddiwygiadau grymus. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod, yn hanes Howell Harris, at yr un a gymerodd le tua'r flwyddyn 1763, pan ddaeth hymnau Williams, Pantycelyn, allan gyntaf, ac y llanwyd y wlad a'r hyn a eilw Harris yn yspryd canu. Ymddengys iddo weled chwech o rai ychwanegol. Cymerodd un le yn 1773, yr ail yn 1780, y trydydd yn 1789, y pedwerydd yn mhen blwyddyn gwedi, sef yn 1790, y pumed yn 1894, a'r chwechfed yn 1805. Mewn cysylltiad â'r diwygiadau hyn yr oedd Mr. Llwyd yn dra gweithgar. Porthai yr ieuenctyd â didwyll laeth y Gair; fel bugail ffyddlawn gwyliai drostynt, a chadwai ddysgyblaeth fanwl arnynt. Meddai Mr. Charles: "Ei bwyll, ei arafwch, a'i ddoethineb, yn nghyd â'i ffyddlondeb yn ymdrin â chyflyrau dynion, oedd yn nodedig o werthfawr." Nid oedd neb mwy cymeradwy nag ef yn ei sir ei hun; a phrawf o'r lle uchel a feddai yn syniad ei frodyr yw y ffaith mai efe a gafodd yr anrhydedd o bregethu pregeth angladdol y Prif-fardd o Bantycelyn.

Bu yn y weinidogaeth am tua phum'mlynedd-a-deugain. Yn ystod y cyfnod maith hwn pregethodd lawer yn yr ardaloedd o gwmpas ei gartref, heblaw, fel y darfu i ni sylwi, deithio holl Gymru lawer gwaith ar ei hyd a'i lled. Parhaodd yn boblogaidd hyd derfyn ei oes, ac ni fu ystaen ar ei gymeriad. Yn ei ddyddiau diweddaf, ystyrid ef, a hyny yn hollol deilwng, yn un o dadau y Cyfundeb. Sul olaf y bu byw, pregethodd yn Llanddeusant a Llansadwrn. Daeth adref yn glaf, a chwedi pum' niwrnod o gystudd gorphenodd ei yrfa, Ebrill 17, 1808, yn 67 mlwydd oed. Caniataodd yr Arglwydd iddo ei ddymuniad, sef cael marw heb fod yn hir yn sâl. Drwy ystod ei gystudd byr yr oedd ei feddwl yn hollol dawel, gan bwyso yn gyfangwbl ar haeddiant a ffyddlondeb Iesu Grist. Pan y gofynodd un o'r brodyr iddo, beth oedd yn feddwl am yr athrawiaeth y bu yn ei phregethu am gynifer o flynyddoedd. Atebai: "Yr wyf yn mentro fy mywyd arni i dragywyddoldeb."

"Yn foreu, foreu, aeth i'r winllan,
Yn lân fe weithiodd hyd brydnhawn."


Dygwyd yr hyn oedd farwol o hono, o Henllan, lle y treuliasai y rhan fwyaf o'i oes, i fynwent Cayo, ac yno rhoddwyd ef i orwedd hyd ganiad yr udgorn.

Y mae yr un sylw ag a wnaethom am Dafydd Morris yn wir hefyd am William Llwyd, sef iddo enill poblogrwydd cyffredinol yn nyddiau Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Jones, Llangan, ac y mae hyn yn brawf o dalentau llawer rhagorach na'r cyffredin, a medr arbenig i draddodi yr efengyl.

Gyda golwg ar y tri phregethwr hyn, William Davies, Castellnedd, Dafydd Morris, a William Llwyd, y mae pob lle i gasglu na chymerwyd darluniau o honynt; o leiaf, er dyfal chwilio, yr ydym ni wedi methu darganfod yr un; ond gan y meddent y fath enwogrwydd, ac felly fod pob peth cysylltiedig a hwy o'r fath ddyddordeb, yr ydym wedi gosod i mewn amryw ddarluniau o leoedd y dalient gysylltiad â hwynt.

ATTODIAD I'R GYFROL GYNTAF.
Y TADAU METHODISTAIDD A'U CYHUDDWYR.

FEL y dysgwyliem, darfu i'r benod gyntaf yn Y Tadau Methodistaidd, ar sefyllfa foesol Cymru adeg cyfodiad Methodistiaeth, yn nghyd a'r dadleniad a wnaethom ynddi o'r modd y darfu i'r diweddar Dr. Rees, Abertawe, gam ddifynu taflen Dr. John Evans, beri cryn gyffro mewn rhai cylchoedd. Daeth cyfeillion Dr. Rees allan i'w amddiffyn; ysgrifenwyd erthyglau ar y mater yn y newyddiaduron, a phasiwyd penderfyniadau yn ein condemnio mewn cynadleddau. Teimlwn fod hyn yn galw arnom i ail gerdded y tir mewn dadl, ac ymdrechwn wneyd hyny gyda phob boneddigeiddrwydd. Ar yr un pryd, teimlwn ei fod yn gorphwys arnom i wneyd cyfiawnder a chofadwriaeth Sylfaenwyr y Cyfundeb, y rhai sydd wedi huno er ys ugeiniau o flynyddoedd bellach, ac wedi gadael eu cymeriadau dysglaer, yn ogystal â ffrwyth eu llafur, ar ol i ni, eu holynwyr, yn etifeddiaeth werthfawr.

Nid anfuddiol adgofio ein darllenwyr o'r modd y cychwynodd y ddadl. Dechreuodd trwy i Dr. Rees, yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales, gyhuddo y Tadau Methodistaidd o gamddarlunio yn wirfoddol sefyllfa foesol y Dywysogaeth, naill ai o ragfarn at yr Ymneillduwyr, neu ynte o awydd am gael iddynt eu hunain yr holl glod o efengyleiddio Cymru. Fel na byddo unrhyw amheuaeth ar y pen hwn difynwn ei eiriau: It seems that the early Methodists, either from prejudice against their Nonconforming brethren, or a desire to claim to themselves the undivided honour of having evangelized the Principality, designedly mispresented or ignored the labours of all other sects. Mr. W. Williams, of Pantycelyn, in his elegy on the death of Mr. Howell Harris, printed in 1773, asserts, without any qualifying remark, that all Wales was enveloped in thick darkness" (tudal. 279, ail argraffiad). Cyhuddiad mwy difrifol na hwn nis gellid ei ddwyn yn erbyn unrhyw ddosparth o bobl. Gesyd y Tadau Methodistaidd allan fel dynion dibarch i wirionedd, llawn o ymffrost ac o awydd am wag-ogoniant, gan fod wedi ymlenwi o genfigen a rhagfarn yn erbyn eu brodyr Ymneillduol. Gyda golwg ar hyn, meddai un Ysgrifenydd, "Temtiwyd y Doctor i ysgrifenu eu bod wedi camgyfleu pethau yn fwriadol." Temtio dyn, yn ol ystyr gyffredin yr ymadrodd, yw ei fod yn cael ei orddiwes gan brofedigaeth sydyn, yr hon yn aml a'i gorchfyga, ac a bar iddo, mewn byrbwylldra, gyflawni gweithred y bydd yn edifar ganddo am dani yn ol law. Ond, yn sicr, nid dan amgylchiadau felly y dygodd Dr. Rees ei gyhuddiad yn erbyn y Methodistiaid. Daeth yr argraffiad cyntaf o'i lyfr allan yn y flwyddyn 1861; ni ddygwyd yr ail argraffiad allan hyd y flwyddyn 1883; felly, cafodd y Doctor ddwy-flynedd-ar-hugain i feddwl uwchben yr hyn oedd wedi ysgrifenu, a phe y teimlai ei fod wedi gwneyd unrhyw gamwri, i wella ei eiriau. Dywed, yn ei ragymadrodd i'r ail argraffiad, ei fod wedi ceisio peidio ysgrifenu brawddeg i ddolurio teimlad neb; ond y mae y cyhuddiad gwaradwyddus yn erbyn y Tadiu Methodistaidd yn cael ei gadw i mewn; parheir i'w dal ger bron y byd fel pobl ymffrostgar, trachwantus am glod, ac yn ddigon diegwyddor i bardduo cymeriad eu cenedl eu hun er mwyn gwag-ogoniant; ac aeth Dr. Rees i'w fedd gan adael yr ystaen ddu hon ar gymeriad Sylfaenwyr y Cyfundeb. Pa ryfedd fod Methodistiaid y dyddiau presenol yn teimlo yn ddolurus, ac, i raddau, yn ddigllawn? Os oes unrhyw chwerwder wedi cael ei ddwyn i mewn i'r ddadl, ac os oes geiriau caledion wedi cael eu llefaru a'u hysgrifenu, ceir y rheswm am hyny yn yr ymadroddion celyd ydym wedi ddifynu.

Er mwyn edrych ar y pwnc yn gymharol gyflawn, cymerwn i fynu o un i un y gwahanol ddadleuon, pha rai y ceisir cyfiawnhau ymosodiadau Dr. Thomas Rees ar y Methodistiaid. I gychwyn, honir na ddywedodd erioed fod Cymru wedi cael agos ei chwbl grefyddoli cyn i'r Methodistiaid gyfodi, a honir fod ddadl hon yn tynu y tir yn hollol odditan ein traed. Ein geiriau ni, yn Y Tadau Methodistaidd, ydynt fod Dr. Rees yn honi fod rhanau helaeth o'r Deheudir wedi cael agos eu llwyr feddianu gan yr Ymneillduwyr cyn cyfodiad y Cyfundeb Methodistaidd (gwel tudal. 10 a 14). Dyna a ddywedasom, "yn ei hyd, a'i led, a'i drwch," ac yr ydym yn glynu wrtho. Y mae yn wir nad yw Dr. Rees yn defnyddio y cyfryw eiriau, ond dyna y casgliad anocheladwy y rhaid dod iddo oddiwrth yr hyn a ysgrifena. Gwna rif yr Ymneillduwyr yn Nghymru yn y flwyddyn 1715, yn ol taflen Dr. John Evans, yn haner can' mil (History of Nonconformity, tudal. 266); dywed yn mhellach (tudal. 279), nad oedd Ymneillduwyr Gogledd Cymru, ar y pryd, ond prin un ran o ugain o holl Ymneillduwyr y Dywysogaeth; felly, rhaid fod rhif Ymneillduwyr y Deheudir, o leiaf, yn saith-mil-a-deugain a phum' cant. Ac yn ol cyfrifiad Dr. Rees, rhif holl drigolion y Dywysogaeth yr adeg hono oedd pedwar can' mil, o ba rai yr oedd dwy ran o dair yn perthyn i'r Dê. ydym yn teimlo yn gwbl sicr fod ei ffigyrau yn anghywir; fod poblogaeth Cymru yr adeg hono yn nes i dri chan' mil nac i bedwar can' mil; a chan nad oedd y fath wahaniaeth y pryd hwnw ag sydd yn awr rhwng poblogaeth y Deheudir ag eiddo Gwynedd, mae yn amheus genym a oedd dau can' mil o drigolion yn Neheudir Cymru yr adeg hono. Ond hyd yn nod pe y cymerem gyfrif y Doctor o boblogaeth Cymru fel un cywir, ni a welwn ei fod yn gwneyd Ymneillduwyr y Dalaeth Ddeheuol yn agos i un ran o bump o'r holl boblogaeth. Nis gallai hyn fod, heb i ranau helaeth o'r Deheudir fod wedi cael eu meddianu gan Ymneilleuaeth. yn bur llwyr

Ond daw ein hymresymiad yn fwy eglur os cymerwn rai o'r gwahanol leoedd ar wahan. Yn ol taflen Dr. John Evans, yr oedd cynulleidfa Llanafan a Llanwrtyd yn rhifo wyth cant. Yr ydym yn barod wedi datgan ein barn fod y rhif hwn yn ormod; ond mae Dr. Rees, trwy y cyfnewidiad a wnaeth yn y daflen, yn dyblu y rhif yma, ac yn gwneyd cynulleidfa Llanafan a Llanwrtyd yn un-cant-ar-bymtheg. Cymerer yn ganiataol fod Llanafan a Llanwrtyd yn golygu holl Gantref Buallt, o fynydd Abergwesyn yn y gorllewin, hyd Llanfair-muallt a Rhaiadr-ar-Wy yn y dwyrain, ai tybed fod un-cant-ar-bymtheg o drigolion i'w cael yn yr holl fro fynyddig hono ar hyny o bryd? Pa faint yn ychwaneg nag un-cant-ar-bymtheg sydd yn mynychu moddion gras yn Nghantref Buallt yn bresenol, pan y mae y fath gynydd wedi cymeryd lle yn y boblogaeth tuag ardaloedd Llanwrtyd, a Llangamarch, a'r cyffiniau? Ond i adael hyn, nid ydym yn gweled y posiblrwydd i neb ysgoi y casgliad, os oedd un-cant-ar-bymtheg o Ymneillduwyr yn Nghantref Buallt yn y flwyddyn 1715, y rhaid fod y darn hwnw o'r wlad, beth bynag, wedi cael ei lwyr feddianu gan Anghydffurfiaeth. Ac eto, tuag ardaloedd Llanfair-muallt a Rhaiadr yr erlidiwyd Howell Harris waethaf, ac y cafodd ei gamdrin fwyaf. Pa le yr oedd yr un-cant-ar-bymtheg Ymneillduwyr y pryd hwnw? Cymerer eto y cyfrifon a roddir i Sir Gaerfyrddin. Rhifai Ymneillduwyr Caerfyrddin a Bwlchnewydd, yn ol Dr. John Evans, 600; yn ol Dr. Rees, 1,200; Ymneillduwyr Henllan, yn ol Dr. John Evans, 700; yn ol Dr. Rees, 1,400; Ymneillduwyr Rhydyceisiaid, Moor, ac Aberelwyn, yn ol Dr. John Evans, 800; yn ol Dr. Rees, 1,600; Ymneillduwyr Llanedi, Crugybar, a Chrugymaen, yn ol Dr. John Evans, 600; yn ol Dr. Rees, 1,200; Ymneillduwyr Capel Seion a Llety hawddgar, yn ol Dr. John Evans, 500; yn ol Dr. Rees, 1,000; ac Ymneillduwyr Llanybri, yn ol Dr. John Evans, 400; ac yn ol Dr. Rees, 800. Os cymerir cyfrif Dr. Rees o Ymneillduwyr y lleoedd uchod, yn y flwyddyn 1715, fel un cywir, a chofier eu bod yn ardaloedd amaethyddol, heb ond un dref o bwys rhyngddynt oll, ai tybed nad rhaid casglu fod Ymneillduaeth wedi eu meddianu yn bur llwyr? Yn Sir Aberteifi drachefn, rhoddir rhif Ymneillduwyr y Cilgwyn, a phump neu chwech o leoedd eraill, yn 1,000 gan Dr. John Evans; ac yn 2,000 gan Dr. Rees; ac ystyried fod hyn yn golygu yr holl randir o Llwynpiod i Llanbedr-pont-Stephan, rhaid fod Ymneillduaeth wedi ei meddianu i raddau mawr, pe y byddai cyfrifiad Dr. Rees yn gywir. Ac ychwaneg, yn ol Dr. Rees, bu y cyfnod cydrhwng adeg cyfrif Dr. John Evans yn 1715 a chyfodiad Methodistiaeth, yn adeg o lwyddiant anarferol yn nglyn âg Ymneillduaeth yn ardaloedd Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin. Dywedir i gant gael eu hychwanegu at gymunwyr Capel Isaac yn ystod yr amser hwn; fod eglwysi Crugybar a Chrofftycyff wedi cynyddu yn ol yr un raddeg; ac i dros ddau cant gael eu hychwanegu at gymunwyr Llwynpiod a'r Cilgwyn. Nis gallai yr ychwanegiadau mawrion hyn at rif yr aelodau cyflawn gymeryd lle, heb fod cynydd mawr wedi cymeryd lle yn rhif y gwrandawyr. Ychwaneger y cynydd hwn at y rhif a roddir gan Dr. Rees yn y flwyddyn 1715, a rhaid ei fod yn edrych ar ranau helaeth o'r Dê agos wedi cael eu llwyr feddianu gan Ymneillduaeth cyn i'r Methodistiaid wneyd eu hymddangosiad.

Credwn yn sicr ein bod wedi profi yr hona Dr. Rees yn ei lyfr yr hyn a briodolwn iddo parthed agwedd Cymru adeg cyfodiad Methodistiaeth. Pa fodd bynag, nid oes neb yn amheu ei fod yn honi fod y wlad wedi cael ei hefengyleiddio i raddau llawer helaethach nag a ddarlunia y Tadau Methodistaidd. Oni bai am hyn, ni buasai anghytundeb rhyngom âg ef. Dywed yn bendant iddynt gamddarlunio agwedd y Dywysogaeth, a gwneyd hyny yn wirfoddol. Am y rhan olaf o'r cyhuddiad, ni ddylasai gael ei ddwyn ond tan ar- gyhoeddiad difrifol o wirionedd, a dylasai gael ei brofi hyd y carn. Ond nid yw y Doctor yn gweled yn dda gyflwyno i ni rith o brawf. Dysgwylia i ni ei dderbyn ar ei air noeth ef; "It seems" yw yr oll a ddywed gyda golwg arno. Da genym weled yr Annibynwyr yn bresenol yn taflu y rhan hon o'r cyhuddiad dros y bwrdd yn ddiseremoni, gan ddatgan eu gofid iddi gael eu hysgrifenu, a'i galw yn "fryntwaith." A bryntwaith yn ddiau ydyw; nis gallesid ysgrifenu dim mwy annheilwng. " Ond cyduna Dr. Rees, a'i amddiffynwyr, i ddadleu ddarfod i'r Tadau Methodistaidd gamddarlunio sefyllfa foesol ac ysprydol y wlad, a gwnant hyn yn gyfangwbl ar sail damcaniaethau a thybiau nas gellir eu profi. Y mae damcaniaethau a dychymygion yn werth rhywbeth weithiau, yn absenoldeb tystiolaeth bendant ac uniongyrchol; ond pan y ceir y cyfryw dystiolaeth, nid ydynt yn werth dim. Y mae owns o dystiolaeth gan lygad-dyst, yn pwyso yn drymach na thunell o ddamcaniaeth. Ac ar sail tystiolaeth felly, tystiolaeth dynion yn adrodd yn syml yr hyn a welent ac a glywent, yr ydym yn dadleu fod sefyllfa foesol y Dywysogaeth yn ddifrifol o druenus pan y cododd Duw y Methodistiaid i fynu. Goddefer i ni alw sylw at y tystiolaethau sydd genym. Y gyntaf ydyw Dydd-lyfr Howell Harris. Ysgrifenai efe yn fanwl bob nos ddygwyddiadau y diwrnod; cofnodai y golygfeydd llygredig a ganfyddai, y ffeiriau annuwiol oeddynt yn cael eu cynal, tywyllwch ysprydol dudew y bobl a gyfarfyddai, a'r ymosodiadau ffyrnig a wnelid arno gan greaduriaid meddw a rheglyd, y rhai a geisient ei fywyd. Yn sicr, nid croniclo dychymygion yr ydoedd, na chyfansoddi ffughanes, ond adrodd yn syml yr hyn a welodd â'i lygaid, a glywodd â'i glustiau, ie, ac a deimlodd â'i gorph mewn gwaed. Pe y credem am dano, ar ol bod yn gyfrwng dylanwadau ysprydol cryfion, na theimlwyd eu cyffelyb hyd yn nod yn Nghymru ond yn anaml, y rhai a barent i oferwyr annuwiol grynu fel dail y coed yn ei bresenoldeb, y gallai fyned yn uniongyrchol i'w ystafell, ac ysgrifenu anwiredd pendant ar ei Ddydd-lyfr, byddem wedi darfod ag ef am byth. Cofier na fwriedid y Dydd-lyfr hwn i'w ddarllen gan neb ond efe ei hun; yn wir, ni ddarllenwyd mo hono gan neb arall am ugeiniau o flynyddoedd wedi ei farw. Y mae llythyr ar gael yn awr yn Nhrefecca oddiwrth berson yn Lloegr, yn ceisio gan Harris ysgrifenu hanes y Diwygiad. Gwrthoda yntau yn bendant, gan roddi fel rheswm am hyny y byddai y cyfryw hanes, o'i du ef, yn rhy debyg i wag ymffrost.

Y dystiolaeth nesaf yw eiddo Williams Pant-y- celyn. Darlunia ef gyflwr gresynus y wlad mewn lliwiau cryfion. Yr ydym yn methu deall paham y mae yr Annibynwyr mor llawdrwm ar y Bardd o Bantycelyn, ac mor ddrwgdybus o hono, gan dybio na chaent chwareu teg ar ei law. Yn eu mysg hwy y cafodd ei ddwyn i fynu; diacon parchus yn eglwys Annibynol Cefnarthen oedd ei dad, ac yn ol pob tebyg Annibynwraig zêlog a fu ei fam hyd ddydd ei marwolaeth, er i'w mab droi yn Fethodist. Iddo ef byddai diraddio yr Ymneillduwyr yn debyg i aderyn yn aflanhau ei nyth ei hun. Ac y mae yn anmhosibl credu y byddai yr awen hono, a esgynai mor uchel i'r ysprydol, nes bron cyhaedd y goleuni pur lle y mae Duw yn cartrefu, yn ymostwng i gamddarluniad ac anwiredd.

Y drydedd dystiolaeth yw eiddo Charles o'r Bala, tad Cymdeithas y Beiblau, a thad Ysgol Sabbothol Cymru. Y mae y darluniad a rydd ef yn y Drysorfa Ysprydol o gyflwr moesol y Dywysogaeth pan yr ymddangosodd Methodistiaeth yn nodedig o ddu. Yr oedd Mr. Charles yn ŵr mor bwyllog, mor gymedrol ei eiriau, ac mor rhydd oddiwrth bob math o eithafion, fel nad yw hyd yn nod Dr. Rees yn meiddio ei gyhuddo ef o gamddarlunio. Ond dywed mai Gogledd Cymru a ddarluniai. Nage, yn gyfangwbl, yn sicr. Cawsai Mr. Charles ei ddwyn i fynu hyd nes yr aeth i Rydychain yn y Dê, a hyny o fewn ychydig filltiroedd i Gaerfyrddin, lle yr oedd athrofa gan yr Ymneillduwyr, ac yn yr hwn le mewn undeb & Bwlchnewydd, yr oedd cynulleidfa o Ymneillduwyr, yn rhifo 1,200, yn ol Dr. Rees, yn y flwyddyn 1715. Rhaid felly y gwyddai Mr. Charles yn dda am ansawdd grefyddol y De yn ogystal a'r Gogledd. Tystiolaeth arall y gallem gyfeirio ati ydyw eiddo Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, yr hwn lyfr sydd yn nodedig o ddyddorol, ac yn rhoddi lle mawr i waith y Tadau Ymneillduol oeddynt yn byw cyn i'r Methodistiaid ymddangos.

Os dadleuir mai Methodistiaid yw yr oll o'r tystion hyn, ac felly nad ydynt i'w credu, gallwn ddwyn yn mlaen gwmwl o dystion yn sicrhau yr un peth, heb fod yn Fethodistiaid. Dyna un, Griffith Jones, Llanddowror. Cawsai yntau ei ddwyn i fynu gyda'r Ymneillduwyr; i gapel Annibynol Henllan yr arferai fyned i wrandaw gyda ei rieni pan yn ieuanc, ac y mae yn anhawdd credu y gwnelai gam a'r enwad mewn modd yn y byd. Dywedai efe fod anwybodaeth y wlad yn gyfryw, fel pan y caffai gynulleidfa o driugain neu bedwar ugain yn nghyd, na fyddai ond ryw dri neu bedwar yn medru Gweddi yr Arglwydd, nac yn deall pwy oedd eu Tad yr hwn oedd yn y nefoedd. A ellir dychymygu am anwybodaeth mwy dybryd? Faint o grefydd allasai fod yn mysg gwerin felly? Tyst arall yw y Parch. John Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn y Rhaiadr. Y mae y darluniad a rydd ef o gyflwr Cymru lawn mor ddu ag eiddo Williams, Pantycelyn. Ac yn sicr, ni fwriadai leihau clod yr enwad i'r hwn y perthynai efe ei hun. Yr ydym yn Y Tadau Methodistaidd hefyd wedi difynu tystiolaethau Dr. Erasmus Saunders, ac eiddo Mr. Pratt, y rhai ydynt yn hollol i'r un perwyl. Yn awr, yr ydym yn dadleu fod y cyfangorph yma o dystiolaethau yn gyfryw nas gellir eu troi yn ol. Nis gellir dychymygu am brawf cryfach; y mae can gadarned ag unrhyw brawf yn Euclid. Y mae nifer mawr o dystion yn dwyn tystiolaeth i'r hyn ydoedd o fewn cylch eu sylwadaeth, a hyny i raddau mawr yn annibynol ar eu gilydd, ac eto y cyfryw dystiolaeth yn cydredeg mewn cysondeb; y mae hyn, meddwn, yn ffurfio y math uchaf o brawf. Ofer ceisio ei wrthbrofi â damcaniaethau. Cyn y gellir ysgubo i ffwrdd y prawf ydym wedi ei ddwyn yn mlaen, rhaid cael nifer mwy o dystion, gyda mwy o sicrwydd o'u geirwiredd, i dystiolaethu i'r gwrthwyneb. Ond nid yw Dr. Rees na neb o'i amddiffynwyr wedi dwyn yn mlaen gymaint ag un tyst felly.

Teimla Dr. Rees ei hun fod y tystiolaethau am gyflwr gresynus Cymru, adeg cyfodiad Methodistiaeth, yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, ac felly, darpara loches arall i ddianc iddi, trwy ddweyd iddynt adael rhanau helaeth o'r wlad yn hollol yn yr un cyflwr. Defnyddia un o'i amddiffynwyr ymadrodd cryfach fyth, a dywed y buasai y tystiolaethau uchod ydym wedi ddifynu yn wir agos oll yn mhen can' mlynedd wedi i Fethodistiaeth gychwyn. Y mae yn anhawdd genym dybio iddo feddwl y frawddeg hon cyn ei hysgrifenu. Os oes ystyr i eiriau, golyga ddarfod i'r diwygiad Methodistaidd basio heb adael nemawr ddim o'i ôl ar y wlad. Wedi i Howell Harris daranu, ac i Daniel Rowland gynhyrfu, ac i Williams, Pantycelyn, ganu ei emynau bendigedig, dywedir iddynt farw gan adael Cymru agos yn hollol fel yr oedd! Dianc o loches i loches yw peth fel hyn. I gychwyn, honir nad oedd y nos mor dywyll ag y myn y Methodistiaid; wedi gorfod cydnabod fod y nos yn ddu dros ben, dywedir nad oedd nemawr ddim goleuach wedi i'r Methodistiaid lafurio yn galed am haner cant o flynyddau. Tybed fod hyn yn wir? A ellid cael cynulleidfa o bedwar ugain mewn unrhyw ardal, wedi i'r Methodistiaid fod yn cynhyrfu am haner can' mlynedd, ac yn pregethu y gwirionedd i'r bobl, yn mysg pa rai na fyddai ond pedwar yn gwybod pwy oedd eu Tad yr hwn sydd yn y nefoedd? Tybed fod y llygredigaethau mor uchel eu pen, y drygfoes mor amlwg, y cynulliadau annuwiol mor lliosog, a'r wlad mor ddifater gyda golwg ar grefydd? Beth mewn difrif a wnaeth y Methodistiaid yn ystod yr haner can' mlynedd hyn? A pheth a wnaeth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, y rhai oeddent ill dau wedi cyfranogi yn helaeth o dân y diwygiad, yn ystod y tymhor hwn? Ai y nesaf peth i ddim? Os felly, cyfyd y gofyniad yn naturiol, Gan bwy y newidiwyd moesau y trigolion? Pwy gondemniodd y cyfarfodydd llygredig, yr halogi Sabbathau, y difrawder gyda golwg ar wrando yr efengyl, a'r holl ddrygfoes, gyda'r fath nerth ac angerddoldeb, nes eu gwneyd yn anghymeradwy yn ngolwg y werin? Canmolir Howell Harris a Daniel Rowland fel dynion anghyffredin; cyfeirir atynt fel dynion o ysprydolrwydd a brwdfrydedd eithriadol; cydunir fod pellder mawr rhyngddynt fel Diwygwyr â bron bawb o'u cydoeswyr yn Nghymru, a'u bod wedi eu tanio yn llwyrach; ac eto, dywedir y buasai y desgrifiad a roddwyd am ddrygfoes y werin Gymreig cyn i'r dynion anghyffredin hyn ddechreu llafurio yn wir agos oll wedi iddynt fol ar y maes am haner can' mlynedd! Os felly, cyfododd dynion cryfach na hwy ar eu hol, ac anrhaethol mwy llwyddianus. Y mae genym hawl i ofyn pwy oedd yr enwogion hyn? Beth oedd eu henwau? Ac yn mha le yr oeddynt yn preswylio? Nid ydym yn gwybod ddarfod i neb yn Nghymru, heblaw Daniel Rowland, dynu tair mil o gymunwyr i bentref anhygyrch bob Sul pen mis, o eithaf Môn yn y Gogledd hyd eithaf Morganwg yn y De, a hyny am haner can' mlynedd! Ac eto dywedir iddo adael wlad agos mor annuwiol ag y cafodd hi. Rhaid i ni addef nad ydym yn credu yr honiad hwn. Y mae yn rhedeg yn ngwddf pob tystiolaeth sydd genym, ac yn groes i farn gyffredinol y Bedyddwyr, yr Eglwyswyr, a'r Annibynwyr eu hunain, heblaw y Methodistiaid. Ni wnawn ei dderbyn ond ar sail y profion cadarnaf, ac nid oes rhith o brawf wedi cael ei roddi eto.

Y gwir yw, i gyfodiad Methodistiaeth ddwyn oddiamgylch chwyldroad yn Nghymru. Yr oedd y cyffro ddarfu iddynt gynyrchu yn aruthrol. Pa le bynag yr aent, gosodent y wlad yn fflam. Addefa Dr. Rees ei hun hyn; meddai (tudal. 354): Before the close of the year 1742, the population of almost every district of South Wales, and of many parts of the North, had been aroused to be either earnestly religious, or enraged persecutors." A chan i'r erledigaeth yn y Dê beidio yn fuan, ac i'r elfen grefyddol orchfygu, rhaid fod y cyfnewidiad a gymerodd le yn sefyllfa crefydd yn y wlad yn un sydyn a chyflym iawn. Dwg Williams, Pantycelyn, dystiolaeth i ddysgleirder y goleuni yn ogystal a dwysder y tywyllwch blaenorol. Meddai yn Marwnad Daniel Rowland:

"Mae'r torfeydd yn dychwel adref
Mewn rhyw yspryd llawen fryd,
Wedi taflu 'lawr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd;
Y ffyrdd mawr yn frith o werin,
Swn caniadau'r nefol Oen,
Nes yw'r creigydd oer a'r cymydd
Yn adseinio'r hyfryd dôn."


Pan y dechreuodd Rowland ar ei waith adseiniai y creigiau gan grechwen ffyliaid, a chan swn rhegfeydd yr oferddyn; pan y bu farw, adseinient gan "swn caniadau'r nefol Oen."

II. Yn nesaf, dadleuir ddarfod i'r Tadau Ymneillduol wneyd gwaith mawr yn Nghymru cyn cyfodiad Methodistiaeth. Nid oes i ni unrhyw ddadleuaeth â Dr. Rees, nac a neb o'i amddiffynwyr, ar y pen hwn. Y mae awdwr parchus Methodistiaeth Cymru wedi talu parch dirfawr i W. Wroth, Walter Cradoc, John Williams, Llanddwrog, a Hugh Owen, o Fronyclydwr, ac eraill.

Yr ydym ninau, yn ein Llyfr, wedi dihysbyddu ein geiriadaeth wrth edmygu eu coffadwriaeth, a dangos pa mor dra rhagorol oedd eu hymdrechion, ac mor fawr oedd eu dyoddefiadau a'u hamynedd. Ffurfia eu gwaith benod ardderchog yn hanes eglwys Crist. Ac y mae yn sicr, a chymeryd eu hanfanteision i ystyriaeth, y cyflwr paganaidd yn mha un y cawsant y wlad, y deddfau seneddol erlidgar â pha rai y rhwystrid eu gweithrediadau, a'r gorthrwm a arferid atynt gan y pendefigion, i'w llwyddiant fod yn fawr. Ar yr un pryd, rhaid cofio mai yn mysg y dosparth canol y buont fwyaf llwyddianus; dynion cefnog ac yn dda arnynt yn y byd oedd eu gwrandawyr a'u haelodau gan mwyaf; i raddau bychan y buont yn alluog i ddylanwadu ar y bobl gyffredin. Diau fod rhai tlodion yn perthyn i'w cynulleidfaoedd; ceir nifer yn cael eu dynodi fel labrwyr yn nhaflen Dr. John Evans, a dywedir am rai lleoedd fod y gwrandawyr gan mwyaf yn dlodion; ond wedi y cyfan, perthyn i'r dosparth canol yr oedd eu haelodau gan mwyaf; ychydig a deimlodd y werin bobl oddiwrth eu pregethau. Cyfaddefa y Parch. John Thomas, D.D., Liverpool, hyn yn rhydd ac yn agored, ac, yn sicr, nid oes neb a amheua ei fod ef yn Annibynwr zelog, yn gystal ag yn hanesydd gwych. Fel hyn y dywed efe: "Yr oeddynt gan mwyaf" (yr Ymneillduwyr a flaenorent y Methodistiaid) "mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac uwchlaw lliaws y bobl o'u cylch mewn gwybodaeth. Nid oeddynt eto wedi cyffwrdd ond âg ymylon cymdeithas. Yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac annuwioldeb. Nid oedd y Sabbath ond dydd i chwareu ac ymddifyru, i ddilyn ofergoeledd ac anghymedroldeb. Cynelid ffeiriau gwagedd a gwylmabsantau, a'r Sabbath oedd dydd mawr yr wyl." Dyna yn hollol fel y darlunia haneswyr y Methodistiaid agwedd pethau yn flaenorol i'r diwygiad. Yr oedd y Tadau Ymneillduol cyntaf yn ddynion tra rhagorol; buont yn hynod lwyddianus, a chymeryd i ystyriaeth eu hanfanteision a'r rhwystrau oedd ar eu ffordd. Ond nid oeddynt eto wedi cyffwrdd ond âg ymylon cymdeithas; yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac annuwioldeb." Ni ddarfu i'r un Methodist ddefnyddio ymadroddion cryfach wrth ddesgrifio sefyllfa druenus Cymru cyn i Rowland a Harris ddechreu cynhyrfu.

III. Y mae Dr. Rees a'i amddiffynwyr yn gwadu fod Ymneillduaeth wedi dirywio i'r fath raddau fel ag i fod mewn perygl o farw pan gyfododd Methodistiaeth. Dywed awdwr fel Mr. Johnes ei bod. "Till the breaking out of Methodism their cause continued to decline," meddai efe. Ofer ceisio gosod Mr. Johnes allan fel dyn anwybodus yn hanesiaeth ei wlad; nid yw camsynied parthed enw, neu gamgyfleu dyddiad, yn profi nad oes ganddo syniad cywir ar y cyfan am gwrs amgylchiadau. Cadarnheir yr hyn a ddywed hefyd yn llyfr Syr Thomas Phillips. Y gwir yw, fod rhai o'r eglwysi Ymneillduol wedi dirywio i'r fath raddau, fel y methodd y diwygiad a rhoddi bywyd newydd ynddynt. Fel esiampl o'r cyfryw, gallwn gyfeirio at yr eglwys ar yr hon y gweinidogaethai Hugh Owen, o Fronyclydwr. Yr oedd wedi llwyr ddarfod pan y dechreuodd y Methodistiaid lafurio yn y lle. Yn hytrach nag ymroddi i ddadleu, caiff y Parch. John Thomas, D.D., Liverpool, ddarlunio cyflwr yr Ymneillduwyr yn Nghymru pan yr ymddangosodd y Methodistiaid. Meddai, yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru (cyf. v., tudal. 462): "Ond wedi y cwbl, nid oedd eu nerth ysprydol (sef yr Ymneillduwyr), i gario dylanwad ar y genedl, yr hyn a allesid ei ddysgwyl, yn ol eu nifer, eu gwybodaeth, eu cymeriad, a'u safle gymdeithasol. Yr oedd oerni a ffurfioldeb yn eu holl wasanaeth, at yr hyn yr ychwanegid yn fawr gan ei hirfeithder. Ymdrinient â phob gwirionedd, yn bynciol ac yn ddadleugar, heb ei ddwyn adref gyda difrifwch at eu gwrandawyr. Cadwent ddrysau eu capeli yn agored bob Sabbath, fel bugail yn cadw drws y gorlan yn agored, modd y gallai y ddafad golledig ddychwelyd, ond nid anfonid y bugail allan i'r anialwch i chwilio am dani. Nid elent allan i'r prif ffyrdd a'r caeau i gymhell yr esgeuluswyr i mewn fel y llenwid y tŷ. . . Erbyn yr ychwanegir at hyn yr ymadawiad mawr oddiwrth y ffydd oedd mewn nifer o eglwysi, nid yw yn rhyfedd o gwbl fod nerth yr eglwysi wedi gwanychu, ac nad oedd ynddynt y gallu hwnw y mae yn rhaid ei gael i ddarostwng gwlad i'r efengyl. Nid oeddynt eto ond wedi cyffwrdd ag ymylon cymdeithas." Felly yr ysgrifena Dr. John Thomas, ac y mae y darlun a dynir ganddo o gyflwr yr hen Ymneillduwyr yn dra gresynus. Gwelwn hwynt wedi llwyr golli yr yspryd ymosodol y rhaid ei gael i efengyleiddio gwlad; nid ydynt yn myned ar ol y colledig; caiff y werin bobl redeg tua'r trueni heb unrhyw ymdrech i'w hachub o'u tu hwy, rhagor na chadw drysau eu capelau yn agored. Eu haddoliad sydd yn ffurfiol ac yn oer; y pregethau ydynt yn bynciol ac yn ddadleugar, ac yn hollol amddifad o ymdrech i wasgu y gwirionedd adref at y gydwybod. Yn ychwanegol, y mae ymadawiad mawr oddiwrth y ffydd mewn amryw leoedd, a nerth yr eglwysi wedi gwanychu yn ddirfawr o'r

PEDWAR O DDARLUNIAU YN DAL PERTHYNAS A CHOFFADWRIAETH WILLIAM LLWYD, O GAYO.
1. AMAETHDY BLAENCLAWDD Lle y ganwyd ef.
2. AMAETHDY HENLLAN. Lle y preswyliai.
3. CAPEL CAYO. Lle yr ymaelodai.
4. EGLWYS A MYNWENT CAYO Lle y claddwyd ef.
DAU O GAPELAU MWYAF HYNAFOL SIR GAERFYRDDIN.
5. CEFNBYRACH, 1747.
6. LLANLLUAN, 1745.


herwydd. Nid yw y Parch. John Hughes, yn Methodistiaeth Cymru, ac nid ydym ninau yn ein Llyfr wedi ysgrifenu gair am gyflwr Ymneillduwyr Cymru yn flaenorol i'r diwygiad, nad yw yn cael ei gydnabod yn llawn yn y difyniad uchod. Y mae darlun Dr. Thomas o'u cyflwr mor ddu a'r un a dynwyd. Os nad yw egwyddorion marwolaeth i'w gweled yn amlwg yn y pethau a noda efe, rhaid i ni gyfaddef nad ydym yn adnabod arwyddion angau. Y peth cyntaf sydd gan amddiffynwyr Dr. Rees i'w wneyd, os ydynt am lynu wrth eu dadl, yw cywiro Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, a rhoddi Dr. John Thomas, Liverpool, ar yr iawn.

Yn awr, deuwn at daflen Dr. John Evans, ac yn y fan hon y gorwedd cnewullyn y ddadl. Rhoddasom ein rhesymau dros dybio nad yw y daflen yn un y gellir rhoddi ymddiried llwyr ynddi; ac os yw yn cyfeiliorni, ei bod yn gwneyd hyny yn ffafr Ymneillduaeth. Nid oes neb wedi cyffwrdd a'r un o'r rhesymau hyny; felly, rhaid i ni eu hail-adrodd.

(1) Caria yr ystadegau ar eu gwyneb amddifadrwydd o fanylwch; crynhoir amryw eglwysi yn nghyd; wedi enwi dwy neu dair, cawn yn fynych "&c." yn dynodi fod cyfrif eglwysi eraill, na roddir eu henwau, yn cael ei osod i fewn. Ceir un eglwys a chynulleidfa yn cael eu harddangos fel yn wasgaredig dros wlad ddeugain milldir o hyd wrth ugain o led. Efallai y gofynir pa wahaniaeth a wna hyn? Y mae yn gwneyd yr holl wahaniaeth; dengys yr amddifadrwydd manylwch mai cyfrifon ar antur ydynt; a thuedd pob cyfrif felly yw chwyddo y rhif yn ormodol. Er prawf o hyn, difynwn gyfran o erthygl olygyddol y Tyst am Medi 29ain, 1882, ac yn sicr fe gymer yr Annibynwr mwyaf zêlog yr hyn a ddywed y Tyst ar bwnc o'r fath fel gwirionedd. Y mae cyfeiriad cyntaf y sylwadau at y cyfrifon a gasglai Dr. Rees ar y pryd; ond y maent lawn mor gymhwysiadol at gyfrifon Dr. John Evans. Drwg genym weled Dr. Rees yn dywedyd," medd y Tyst, "na fwriada gyhoeddi cyfrifon pob eglwys ar wahan, ond cyfanswm pob sir. Nis gwyddom a ydyw yn tybied y bydd yn debycach o gael cyfrifon pob lle wrth ddweyd na fwriedir cyhoeddi cyfrifon pob eglwys ar wahan. Buasem ni yn tybied yn amgen, ac ychydig o bwys a roddem ar gyfrifon na ellir eu cyhoeddi yn y manylion. Ychydig iawn o werth a osodwn ar ystadegaeth yn y cyfanswm, oblegyd heb y manylion nis gellir profi eu cywirdeb; ac nid yn meddiant un dyn y dylai y manylion hyny fod, ond dylent fod yn gyfryw ag y gallo y rhai a'u hamheuo eu profi. . . . Y mae pob ystadegaeth a gymerir ar antur yn agored i fyned yn mhell iawn oddiwrth nod, ac, fel y dywedasom eisioes, nid oes dim y mae dynion yn camgymeryd yn fwy ynddynt na rhif eu cynulleidfaoedd. Byddwn yn tynu 25 y cant oddiwrth gyfrifon a gymerir felly, a gellir yn aml gymeryd 50 y cant, a bod ar yr ochr ddyogelaf." Drachefn cawn: " Nid oes dim mor gamarweiniol a'r cyfrif o eglwysi a chynulleidfaoedd a gymerir ar antur." Felly y dywed y Tyst, ac yr ydym yn cyduno yn hollol. Ychydig o werth sydd mewn ystadegaeth yn y cyfanswm; cyn y gellir ymddiried ynddi, rhaid cael y manylion. Nid yw taflen Dr. John Evans yn rhoddi manylion; ac yn ol y Tyst, dyogel, o leiaf, fyddai cymeryd 25 y cant oddiwrth y cyfrif a roddir.

(2) Amcan yr ystadegaeth a gymerodd Dr. John Evans oedd dangos pa mor gryf oedd Ymneillduaeth yn y deyrnas ar y pryd, er mwyn cynyrchu ofn yn yr erlidwyr. Ac er mwyn gwneyd hyn, yr oedd yn rhaid dangos y cynulleidfaoedd mor lliosog ac mor barchus ag oedd bosibl. Pe y rhoddid y cyfrif yn llai nag ydoedd, ni fuasai yn ateb y pwrpas; yn wir, buasai yn gwrthweithio y cyfryw bwrpas, ac yn rhoddi arf peryglus yn llaw y gwrthwynebwyr. Am y rheswm yma y dywedir fod nifer penodol o ynadon, ac o rai yn meddu pleidlais yn y sir ac yn y dref, yn perthyn i'r gwahanol gynulleidfaoedd. Oni bai fod yr amcan hwn mewn golwg, buasai y fath ddynodiad yn brawf o falchder dirmygus. Ymddengys i ni felly yn hollol sicr na chyfrifwyd y cynulleidfaoedd yn llai nag oeddynt; ac os oes rhyw gymaint o wyro yn bod, fod y gwyriad o'r tu arall.

Addefir ddarfod i Dr. Rees gyfnewid penawd prif golofn taflen Dr. John Evans, gan osod yn lle number of hearers," "average attendance." Cyfaddefwn yn rhydd," meddai un Annibynwr galluog, "fod y penawd wedi ei gyfnewid." Nis gellid gwadu hyn, oblegyd y mae y daflen ar glawr a chadw yn llyfrgell Dr. Williams, yn Llundain, ac wedi ei photographio yn Y Tadau Methodistaidd. Y mae y cyfnewidiad a wnaed yn un mor bwysig, fel y mae yn newid holl ystyr y golofn; trwy rinwedd y sleight of hand yma y mae cynulleidfa Dyffryn Honddu yn chwyddo o 150 i 300; cynulleidfa Tredwstan o 250 i 500; ac felly trwy y golofn o'r pen i'r gwaelod. I'n bryd ni y mae hyn yn drosedd llenyddol enbyd; nis gallwn ddychymygu am amryfusedd gwaeth. Dysgwyliem yn sicr y byddai ein brodyr parchus, yr Annibynwyr, er eu mwyn eu hunain, yn datgan eu gofid oblegyd i Dr. Rees ymostwng i gyflawni gweithred o'r fath. Ond cawsom ddysgwyl yn ofer. Cydnabyddant y buasai yn dda ganddynt pe buasai y Doctor wedi egluro paham y gwnaeth y cyfnewidiad; ond nid oes air na sillaf yn dynodi galar oblegyd y weithred. Yn wir, ceisir ei gyfiawnhau a'i wyngalchu; ond y mae hyny yn anmhosibl heb allu profi ar yr un pryd nad oes gwahaniaeth hanfodol rhwng gwirionedd a ffalsder.

Goddefer i ni edrych ar y rhesymau a roddir paham y darfu i Dr. Rees, yn lle rhoddi penawd Dr. John Evans, "amcanu dyfeisio penawd" o'i eiddo ei hun, a fuasai yn fynegiad tecach o gynwys y golofn. Nid ydym yn meddwl ei fod wedi llwyddo," meddai un o'i amddiffynwyr, "ond yn hytrach wedi methu." Rhaid mai ystyr hyn yw fod cyfnewidiad Dr. Rees yn gamarweiniol. Y mae yr Ysgrifenydd dywededig am gynyg cyfnewidiad arall yn y penawd, sef rhoddi known adult adherents," yn lle "number of hearers." Yn enw pob synwyr, paham y ceisir gwthio tybiaethau disail i fewn i'r daflen? Ai ni wyddai Dr. John Evans, a'r rhai a gydlafurient âg ef yn y gorchwyl o gasglu y cyfrifon, pa benawd i roddi uwchben gwahanol golofnau eu taflen, yn well na phobl sydd yn byw agos i ddau cant o flynyddoedd ar eu holau? Ond yn awr at y rhesymau dros "ddyfeisio penawd." (1) Y buasai "number of hearers" yn sicr o greu camargraff i feddyliau darllenwyr Cymreig, yn gymaint ag mai rhai heb fod yn aelodau a feddylia y Cymry fynychaf wrth wrandawyr. Nid oes rhith o brawf fod y Cymry yn edrych ar y term "gwrandawyr" mewn goleu gwahanol i'r Saeson. A phe mai hyna oedd amcan Dr. Rees, ni fuasai raid llurgunio y daflen er mwyn ei gyrhaedd; gallesid rhoddi nodiad ar y terfyn fod "hearers Dr. John Evans yn cynwys y gwrandawyr oeddynt yn aelodau, a'r rhai nad oeddynt yn aelodau. Buasai hyn yn syml ac yn onest. (2) Nad yw colofn Dr. John Evans yn rhoddi holl nerth Ymneillduaeth yn Nghymru ar y pryd. Dychymygol hollol yw y rheswm hwn eto; ymddengys i ni, fel yr ydym wedi dangos yn barod, ei bod yn debycach o fod yn gorgyfrif nag yn rhoddi cyfrif rhy fychan. Honir i Dr. John Evans adael allan lu o weision a morwynion a phlant. Yr unig sail o blaid y dybiaeth yw, fod dyblu y rhai a ddesgrifir fel boneddwyr, rhydd-ddeiliaid, crefftwyr, a llafurwyr, yn rhoddi mwy na'r cyfanswm mewn dwy o'r eglwysi, ac mewn pedair o rai eraill fod eu dyblu yn dyfod yn agos iawn at y cyfanswm. Ond yr eglurhad ar hyn yw, nid fod y gweision a'r morwynion wedi cael eu gadael allan, ond nad oeddynt, fel rheol, yn cydymdeimlo âg Ymneillduaeth; yr oeddynt fel dosparth heb eu crefyddoli. Fel y dywed Dr. Thomas, Liverpool, rhai "mewn amgylchiadau bydol cysurus," oedd yr Ymneillduwyr; "yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd." Buasai Dr. John Evans yn cyfrif y gwas a'r forwyn yn o gystal a'r boneddwr a'i foneddiges, pe buasai y cyfryw yn arfer gwrandaw gyda'r Ymneillduwyr, ond nid oeddynt. Gwraidd camgymeriad amddiffynwyr Dr. Rees yn y fan yma yw cymeryd yn ganiataol fod Ymneillduwyr yr adeg hono yn gyffelyb o ran sefyllfa fydol i Ymneillduwyr ein dyddiau ni. Y mae mor amlwg a'r haul i ni y cyfrifid y plant. Dyna y rheswm dros ddyblu, ac weithiau treblu, y rhai y rhoddir desgrifiad o'u sefyllfa yn y cyfanswm. Ie, hyd yn nod pe y gellid dangos nad yw taflen Dr. John Evans yn rhoddi holl nerth yr Ymneillduwyr ar y pryd, ni fuasai gan Dr. Rees yr hawl leiaf i ddyblu y rhif. Addefir fod ei average attendance yn gamarweiniol, yn gystal ag yn anghywir. Y mae ei sail yn bwdr. Os eir i gyfnewid, gellir treblu lawn cystal a dyblu. Yr un sail fyddai i'r naill a'r llall. Yn wir, y mae Dr. John Thomas, Liverpool, yn taflu dyfaliaeth Dr. Rees dros y bwrdd yn ddiseremoni. Y mae Dr. Recs," meddai, 'yn dyblu y nifer, ac yn gosod rhifedi Ymneillduwyr Cymru yn 50,000; ond yn absenoldeb unrhyw reol ddyogel i gyfrif, gwell genym beidio dyfalu" (Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf v., tudal. 456). Hollol wir; unwaith yr ymwrthodir a'r daflen, gan ychwanegu ati, neu dynu oddiwrthi, yr ydym yn yr anialwch, yn nghanol y niwl. Gallem feddwl mai tua 30,000 y cyfrifai Dr. Thomas Ymneillduwyr y dyddiau hyny. Y mae yn sicr pe y gwybuasai mai nid average attendance sydd yn y golofn, ond number of hearers, y buasai yn gosod y rhif gryn lawer yn is. Eithr, a chaniatau y tybiai Dr. Rees fod taflen Dr. John Evans yn cyfrif Ymneillduwyr y Dywysogaeth yn is nag oeddynt, nid oedd ganddo hawl i wau ei dybiaethau a'i ddychymygion i mewn iddi, gan gyflwyno falsified copy o honi i'r byd yn lle copi gwirioneddol. Ei ddyledswydd ddiamheuol fuasai gosod y document i mewn yn ei lyfr fel yr ydoedd, air am air, a ffugr am ffugr, heb ychwanegu at, na thynu oddiwrth; ac os meddyliai ei bod yn ddiffygiol mewn unrhyw gyfeiriad, ei chyflenwi ar y diwedd, gan ddangos yn glir i'r darllenydd mai cyflenwad ydoedd, a nodi ei resymau dros geisio ei diwygio. I hanesydd cywir nid oedd unrhyw gwrs arall yn agored. Yr oedd llurgunio document o'r fath bwysigrwydd, a'i chyhoeddi felly i'r byd, heb gymaint ag awgrymu ei fod wedi ei chyfnewid, yn drosedd nas gellir ei ddarlunio mewn lliwiau rhy ddu. Trwy drugaredd, Dr. Rees yw yr unig hanesydd y gwyddom am dano a fu yn euog o'r fath beth. Gellir maddeu i hanesydd am dynu casgliadau unochrog; gellir maddeu iddo am edrych ar ffeithiau mewn goleu anghywir; ac, yn wir, am adael yn ddisylw ffeithiau anghydnaws a'i syniadau; y mae yr holl ffaeleddau hyn yn faddeuadwy, er nad ydynt mewn un modd i'w canmol, a'u bod yn tynu yn fawr oddiwrth werth safonol llyfr; ond am lurgunio tafleni pwysig mewn gwaed oer, a'u hanfon allan felly i'r byd yn eu holl anghywirder, y mae yn drosedd llenyddol nas gellir, ac na ddylid ei faddeu. Addefir hyn gan ysgrifenydd perthynol i'r Annibynwyr, yr hwn sydd wedi gwneyd hanesiaeth yn faes arbenig ei efrydiaeth; a dywed mai anfedrusrwydd Dr. Rees a'i harweiniodd i'r pwll. Fel hyn y dywed efe am Dr. Rees mewn newyddiadur dyddiol sydd yn cael cylchrediad mawr yn y Deheudir: "Unfortunately for his reputation, and for the success of his object, he, it seems clear, tampered with a return which Dr. J. Evans, of London, made in 1715, of the number of Nonconformists. His motives were pure, and his deductions were undoubtedly right. But no historian should take upon himself to alter in any degree an original document, from which he is quoting, without apprising the reader of the fact, and, unfortunately, Dr. Rees must be held guilty of doing this. In quoting Dr. J. Evans' return he changed the heading number of hearers' into 'average attendance.' We believe he was perfectly justified in concluding that Dr. Evans' hearers would in our days be reckoned as the average attendance; but it was an unwarranted liberty, excusable only in a man who had received no special training for the work of a historian, to embody his own convictions in Dr. Evans' returns without a word of warning or explanation." Yn mhob cymal o'r difyniad uchod, teimlir awyddfryd i geisio taflu clogyn dros ymddygiad Dr. Rees; priodolir purdeb amcan iddo, a chredir fod ei dyb yn gywir, ond y mae greddf hanesyddol yr Ysgrifenydd yn ei orfodi i gyfaddef fod ymddygiad y Doctor yn hyn o fater yn unwarranted liberty. Dyna yn ddiau ydoedd, ac y mae yn syn genym na chyfaddefid hyny yn ddigel.

Rhydd i ni yw cyfaddef ddarfod i ni gamgymeryd wrth dybio fod ail-argraffiad llyfr y Parch. W. Williams, Abertawe, allan o flaen ail-argraffiad History of Protestant Nonconformity in Wales, gan Dr. Rees, ac yr ydym yn ofidus am y camsynied. Ond nid yw yn gwneyd y gwahaniaeth lleiaf i'r pwnc mewn dadl. Yr hyn sydd yn bwysig i'w gadw mewn cof ydyw, ddarfod i Dr. Rees gael ei gyhuddo yn ystod ei fywyd o ymyraeth yn anghyfreithlon â thaflen Dr. John Evans; i'r cyhuddiad hwn gael ei ddwyn yn ei erbyn, nid mewn llythyr dan ffugenw mewn newyddiadur, ond mewn llyfr safonol gan weinidog Ymneillduol a breswyliai yn yr un dref ag ef, ac o safle barchus fel yntau; ond na ysgrifenodd y Doctor gymaint a llinell i'r wasg i amddiffyn ei hun, nac i egluro ei resymau dros yr hyn a gyflawnodd. Y mae genym awdurdod dros ddweyd ddarfod i Mr. Williams a'r Doctor gael aml i awr o ymgom ar ol hyn, ond na wnaeth Dr. Rees y cyfeiriad leiaf at y cyhuddiad pwysig a ddygasai Mr. Williams yn ei erbyn. Pe buasai ganddo amddiffyniad digonol, amddiffyniad a fuasai yn cymeradwyo ei hun i gydwybod y cyhoedd, tybed na fuasai yn dal ar y cyfle cyntaf i'w gyflwyno i'r wlad? Ni fuasai raid iddo fod yn amddifad o gyfryngau, oblegyd yr oedd gwasg Cymru yn agored iddo.

Y mae llawer o ymdrech wedi cael ei wneyd i ddangos fod Ymneillduaeth wedi cynyddu yn Nghymru, rhwng y blynyddoedd 1715 a 1735, sef rhwng cyfrif Dr. John Evans a chyfodiad Methodistiaeth. Gwelsom daflen wedi cael ei thynu allan, yn desgrifio sefyllfa y gwahanol eglwysi yn ystod y cyfnod hwn; ond y mae y daflen mor awyrol, ac mor anmhenodol, fel nas gellir gwneyd dim o honi i bwrpas ymresymiad. Dywedir am ambell eglwys ei bod yn cynyddu." Byddai hyn yn wir pe bai eglwys o ddau yn enill aelod ychwanegol, fel ag i fyned yn dri; nid yw yn profi dim gyda golwg ar ei rhif mewn cyfartaledd i faint poblogaeth y wlad. Tuag at gael rhyw wybodaeth am rifedi yr Ymneillduwyr yn 1735, rhaid cael rhywbeth llawer mwy pendant na geiriau yn llwyddianus," "ar gynydd," &c. Byddai yn dda genym hefyd wybod ar ba seiliau y dywedir fod rhai o'r eglwysi sydd ar y rhestr yn llwyddo o gwbl. Cymerer y gyntaf ar y llechres, sef Penmaen. Ar ba sail y dywedir ei bod yn llwyddianus? Addefa y Parch. Edmund Jones iddi syrthio i gyflwr isel tua dechreuad y ddeunawfed ganrif; elai rhif yr aelodau i lawr yn gyson, gan fod y gweinidog yn anmhoblogaidd. Ond dywed iddi gynyddu yn fawr rhwng 1720 a 1739, ac i o gwmpas cant i ymuno â'r gynulleidfa. Ai nid trwy ymweliadau Howell Harris yn y flwyddyn 1738 y cafwyd y cynydd hwn gan mwyaf? Cyrhaeddai eglwys Penmaen dros y wlad, o Goedduon hyd Gwm Tileri, gan gymeryd i fewn Gwm Ebwy Fawr. Cynyrchodd ymweliad Howell Harris â'r rhan hono o'r wlad, Pasg, 1738, gyffro mawr; ysgydwyd yr holl gymydogaethau, gan eu dwyn dan ddylanwad yr efengyl; ymunodd degau â'r eglwys, ac ychydig o deuluoedd oeddynt trwy yr holl fro na ddeuent i wrando. Cymera y cynydd y cyfeiria Edmund Jones ato i mewn y dychweledigion hyn. Ond yn y flwyddyn 1739, bu terfysg ac ymraniad yn Penmaen; ymadawodd un blaid o'r eglwys dan arweiniad Edmund Jones, gan ymsefydlu yn Mhontypwl, tra y glynai eraill wrth yr hen achos. A bu Ymneillduwyr Cwm Ebwy a Chwm Tileri am flynyddoedd lawer yn rhanedig, ac yn chwerw eu teimladau at eu gilydd. Ceir barn Edmund Jones am eglwys Penmaen yn y flwyddyn 1741, wedi ei chofnodi mewn llythyr at Howell Harris. Meddai: "I wish some of the sound Dissenting ministers separated from the loose and erroneous Dissenters; but perhaps it will come to that. Both the ministers at Penmaen deny that there is any need of discipline among them, and call my attempts of discipline by the approbious names of rigid, punctilious, and novel customs. Thus these men refuse to be reformed, the more is the pity." Dyna ddesgrifiad y Parch. Edmund Jones, yr hwn oedd yn Annibynwr o'r Annibynwyr, o gyflwr yr eglwys y dywedir ei bod yn llwyddo. Ystyriai efe hi yn eglwys ddiddysgyblaeth a chyfeiliornus, a'i gweinidogion ill dau yn gwrthod diwygiad, fel ag i wneyd ymwahanu oddiwrthynt yn beth i'w ddymuno.

Dyna eglwys Maesyronen eto, dywedir ei bod yn cynyddu dan ofal David Price. A ellir profi hyn Yn fuan wedi cyfodiad Methodistiaeth, darfyddodd yr achos yn llwyr yma. Ai nid oedd elfenau marwolaeth yn gweithio yn ei chyfansoddiad er's blynyddoedd? Nid mewn amser byr y mae eglwys lwyddianus yn suddo i ddifodiant.

Cymerer eto eglwys Pwllheli, am yr hon y dywed yr Ysgrifenydd ei bod yn dechreu adfywio trwy ymweliadau Lewis Rees." Faint oedd yr adfywiad? Pa brawf sydd o adfywiad o gwbl? Yn ol Drych yr Amseroedd (tudal. 55), pan aeth Lewis Rees yno, cwynai y cyfeillion fod yr achos yn isel, ac yn ddigalon, neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r gwrandawyr yn lleihau. Anogai yntau hwynt i beidio ymollwng. Y mae y wawr nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir," meddai. "Y mae acw ryw ddyn rhyfedd iawn wedi codi yn ddiweddar, a elwir Mr. Howell Harris; y mae yn myned oddiamgylch i'r trefydd a'r pentrefydd, y prif-ffyrdd a'r caeau; ac fel og fawr, y mae yn rhwygo y ffordd y cerdda." "O!" meddent, "na chaem ni ef yma." Atebodd Mr. Rees, ei fod yn bosibl y deuai. Soniodd wrthynt hefyd am Jenkin Morgan, a gadwai ysgol dan Griffith Jones. Felly, os bu adfywiad yn eglwys Ymneillduol Pwllheli, son am waith Duw trwy Howell Harris a'i hachosodd.

Drachefn, dywedir am Bentretygwyn a Chefnarthen: " Er ychydig o annealltwriaeth, yn llwyddo a chynyddu." Ychydig annealltwriaeth, yn wir! Am saith mlynedd o amser buasai tri o weinidogion ar eglwys Cefnarthen yr un pryd, dau yn Arminiaid ac un yn Galfiniad, a phregethent yn erbyn eu gilydd o'r un pwlpud. Wedi dadleuaeth chwerw, a rhyfeloedd poethion, ymranodd yr eglwys, ac aeth y Calfiniaid allan, yn cael eu harwain gan dad Williams, Pantycelyn, a sefydlasant achos mewn amaethdy o'r enw Clinypentan. Dygwyddodd hyn tua'r amser yr oedd Howell Harris yn dechreu cyffroi. Y rhwyg yma a elwir yn "ychydig annealltwriaeth!" Beth ŵys a fyddai annealltwriaeth mawr? Os yw terfysg, ymddadleu, ac yn y diwedd ymranu, yn brawf o lwyddiant, cyfaddefwn fod eglwys Cefnarthen, adeg cyfodiad Methodistiaeth, mewn sefyllfa nodedig o lwyddianus. Trachefn, cymerer Wrexham. Dywedir ei bod yn cryfhau, yn iachau o'i chlwyfau ar ol ymraniadau, a darfod i J. Kenrick lafurio yma gyda pharch mawr am agos i ddeugain mlynedd. Ond, fel amryw o'r hen weinidogion Presbyteraidd, tueddai J. Kenrick at Ariaeth; aeth ei ddisgynyddion yn Sociniaid rhonc; Ariad hefyd oedd ei olynydd, Mr. Boult; derbyniai ei olynydd yntau, y Parch. William Brown, Undodiaid i gymundeb eglwysig yr un fath a Thrindodiaid. Yr oedd yr eglwys Bresbyteraidd yn Wrexham yn gymysgedd o Undodiaeth, Ariaeth, a Chynulleidfaolwyr efengylaidd hyd nes yr oedd chwarter cyntaf y ganrif bresenol wedi myned heibio. Y pryd hwnw gorchfygodd y blaid efengylaidd, a llwyddasant i gael y Parch. John Pearce yn weinidog. (Gweler A History of the Older Nonconformity of Wrexham and its Neighbourhood, by Alfred Neobard Palmer, F.C.S.). Rhy brin y gellir dynodi cyflwr eglwys a wnelid i fynu o'r fath gymysgedd fel un llwyddianus.

Nid oes genym hamdden i fyned trwy y gweddill o'r daflen. Y mae i raddau mawr yn ddychymygol ac yn ddisail, ac yn wir yn gamarweiniol. Nis gellir rhoddi dim pwys o gwbl arni fel sail ymresymiad. Ac eto, dywedir y rhaid i bob dyn têg gydnabod fod y rhestr hon yn wadiad effeithiol ar y dybiaeth fod crefydd efengylaidd yn marw allan yn Nghymru yn nechreu y ganrif ddiweddaf. Tueddwn i feddwl mai yr hyn a wnai y "dyn têg," cyn rhoddi barn o gwbl ar y mater, fyddai gofyn am brofion dros y nodiadau a roddir mewn cysylltiad a'r gwahanol eglwysi; byddai yn debyg o ofyn paham y gelwid terfysg hyd at ymraniad mewn eglwys yn "ychydig annealltwriaeth?" A phaham y dynodid eglwys arall, oedd yn amddifad o ddysgyblaeth, ac a feddai weinidogion na chymerent eu diwygio, fel mewn cyflwr llwyddianus? Teimlwn yn sicr y gofynai y "dyn tèg "liaws o gwestiynau mewn perthynas i wahanol items y rhestr hon, y byddai yn anhawdd iawn cael atebiad iddynt.


Nonconformity of WrcxJiam and its NeigJiboiirJiood, by Alfred Neobard Palmer, F.C.S.). Rhy brin y gellir dynodi cyflwr eglwys a wneHd i fynu o'r fath gymysgedd fel un llwyddianus.

Nid oes genym liamdden i fyned trwy y gweddiU o'r daflen. Y mae i raddau mawr yn ddychymygol ac yn ddisail, ac yn wir yn gamarwciniol. Nis geliir rlioddi dim pwys o gwbl arni fel sail ymresymiad. Ac eto, dywedir y rbaid i bob dyn têg gydnabod fod y rhestr bon yn wadiad effcitliiol ar y dybiaeth fod crefydd efengylaidd yn marw allan yn Ngbymru yn nechreu y ganrif ddiweddaf . Tucddwn i feddwl mai yr liyn a wnai y " dyn têg," cyn rhoddi barn o gwbl ar y mater, fyddai gofyn am brofion dros y nodiadau a roddir mewn cysylltiad a'r gwabanol eglwysi ; byddai yn debj-g o ofyn pabam y gelwid terfysg byd at ymraniad mewn cglwys yn " ych- ydig anncalltwriacth ? " A pbaliam y dynodid eglwys arall, oedd yn amddifad o ddysgyblaeth, ac a feddai weinidogion na cbymerent eu diwygio, fel mewn cyflwr llwyddianus ? Teimlwn yn sicr y gofynai y " dyn tèg " liaws o gwestiynau mewn perthynas i wahanol items y rhestr hon, y byddai yn anhawdd iawn cael atebiad iddynt. Ceisir amheu ein gosodiad fod y gogwydd mor gryf at Ariaeth, yn y ganrif ddiweddaf, fel y mae lle i ofni y buasai Cymru oll yn Undodaidd heddyw oni buasai i'r diwygiad Methodistaidd dori allan. Mater o opiniwn ydyw hyn; ond dyna ein barn ni, wedi edrych mor ddiragfarn ag y medrwn ar ffeithiau. Yr oedd Ariaeth yn yr awyr yn y ganrif ddiweddaf; ymledai syniadau anffyddol neu Ariaidd gyda chyflymdra dirfawr, a deuent i mewn i eglwysi Ymneillduol Cymru gyda rhuthr, fel llanw y môr. Nid oedd dim gyda golwg ar athrawiaeth yn trust deeds y capelau. Yr oedd Athrofa Caerfyrddin, lle yr addysgid ymgeiswyr am y weinidogaeth, wedi cael ei tharo yn drwm gan yr haint; anfonai allan flwyddyn ar ol blwyddyn weinidogion i gymeryd gofal eglwysi a goleddent syniadau anefengylaidd, ac yn raddol aeth yr athrofa i raddau mawr yn Undodol. Beth oedd y dylanwad a drodd y llanw hwn yn ol, OS nad y diwygiad gychwynodd yn gyntaf gyda'r Methodistiaid? Rhydd amddiffynwyr Dr. Rees ddau reswm dros amheu hyn; yn

(1) Fod Dr. Rees yn tystio nad oedd ond un eglwys yn proffesu Arminiaeth cyn 1735. Ра eglwys oedd hono, ni ddywedir. Ond y mae yn sicr fod cryn nifer o eglwysi wedi ymlygru yn ddirfawr. Yn eglwys Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, yr oedd yr adran Arminaidd yn ddigon cref yn y flwyddyn 1732 i fynu ordeinio Richard Rees yno yn gydweinidog a'r Parch. James Davies, a bu y ddau yno am bymtheg mlynedd yn pregethu yn erbyn eu gilydd o'r un pwlpud. O'r eglwys hon yr aeth Undodiaid Cefncoedcymmer allan, a chwedi hyny Undodiaid Aberdar. Yn 1750, cawn fab Parch. James Davies yn cael ei ordeinio yn gydweinidog a'i dad yn yr Ynysgau; yr oedd y tad yn Galfin da, ond y mab yn Armin rhonc, ac yno y bu y ddau am amser yn pregethu athrawiaethau croes. Bu eglwys Ynysgau yn llygredig gan yr haint Arminaidd oedd yn ymylu ar Ariaeth hyd yn nghof rhai sydd yn fyw. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at eglwys Cefnarthen fel lle yr oedd yr Arminiaid yn gryfach na'r Calfiniaid ynddo, ac ar adeg yr ymraniad llwyddasant i gadw y capel, a'r Calfiniaid a fu raid ymadael. Mewn llythyr at Howell Harris, dyddiedig Awst 7fed, 1741, dywed Edmund Jones: "There are more of our Dissenting ministers who are friends to the Methodists than you mention. And I cannot but observe that they are our best men who are favourable to you: and that they are for the most part dry and inexperienced, or Arminians, that are against you-at least who are bitter." Prawf y difyniad hwn fod nifer o weinidogion Arminaidd ar eglwysi Ymneillduol yr adeg hono, a'u bod yn chwerw yn erbyn y diwygiad.

(2) Fod amddiffyniad galluog i'r ffydd Galfinaidd wedi cael ei wneyd ar wahan i'r Methodistiaid. Efallai hyny, ond ychydig o allu a fedd dadleuaeth i wrthsefyll cyfeiliornad. Rhaid cael rhywbeth cryfach na rhesymau i droi yn eu holau syniadau anefengylaidd. Er gwaethaf "yr amddiffyniad galluog," ymlygru fwyfwy a wnaeth yr eglwysi Ymneillduol na chyfranogodd o yspryd y diwygiad, ac erbyn heddyw y maent yn gyfangwbl Undodaidd. Nid â rhesymau, ac nid trwy ddadleuaeth, y trowyd yn ol y llanw Arminaidd, ond trwy fod dynion fel Howell Harris, a Daniel Rowland, wedi eu gwisgo â'r Presenoldeb Dwyfol, ac yn ymddangos mor ofnadwy a phe y baent yn genhadau yn dyfod o dragywyddoldeb, yn cyhoeddi llygredd dyn, a'r anmhosiblrwydd i ddynion achub eu hunain, nes cario argyhoeddiad i feddyliau pawb, ac nes peri i bechaduriaid yswatio a gwladeiddio yn eu presenoldeb. Fel y dywedasom, nid ydym am honi yr holl glod am hyn i'r Methodistiaid; ymaflodd y tân nefol hefyd yn yr Ymneillduwyr oedd ar y maes yn barod, ac yr oedd angerddolrwydd y gwres mor ofnadwy fel y gorfu i Arminiaeth anefengylaidd gilio.

Yr unig beth ychwanegol y galwn sylw ato yn yr ysgrif hon yw llythyr y Parch. Edmund Jones, dyddiedig Hydref 26ain, 1742, yn mha un y rhydd gipdrem ar sefyllfa crefydd yn Nghymru. Gwna efe rif eglwysi yr Ymneillduwyr yn y Dywysogaeth yr adeg hono yn gant a saith. Ond nid yw yn ymddangos i ni fod y llythyr hwn yn y gradd lleiaf yn profi honiadau Dr. Rees. Yn

(1) Yr oedd y Methodistiaid wedi bod ar y maes am dros saith mlynedd, yn cyffroi, ac yn cynhyrfu, ac yn chwyddo eglwysi yr Ymneillduwyr â dychweledigion, yn gystal ag yn eu galluogi i blanu eglwysi newyddion, pan ysgrifenwyd y llythyr hwn. Nid teg cymeryd cynyrch llafur y Methodistiaid i ddangos mor grefyddol oedd y wlad cyn i'r Methodistiaid godi. Gellir dadleu nad yw saith mlynedd ond cyfnod cymharol fyr. Ond ar adeg o gyffro fel a fodolai ar y pryd, cyffro na welwyd ei gyffelyb yn Nghymru, pan yr oedd yr holl wlad yn cael ei hysgwyd gan nerthoedd Dwyfol, gwneid gwaith mawr mewn ychydig fisoedd, chwaethach mewn saith mlynedd. Fod llafur y Methodistiaid, a'r llwyddiant a ddilynai eu pregethu, yn cael ei ddwyn i mewn i'r cyfrif sydd eglur oddiwrth y llythyr ei hun. Am Sir Faesyfed dywed: "One of our six congregations there was gathered lately, partly by the labours of the Methodists." Eto am Brycheiniog dywed: "There are eight congregations of our Dissenters, two of whom I had the favour, upon the late reformation, to gather and set up." Y diwygiad a gynyrchwyd trwy Howell Harris oedd y "late reformation," ac am ladrata ei ddychweledigion yn y lleoedd yma, a ffurfio eglwysi Annibynol o honynt y cwynai Howell Harris arno, mewn llythyr tra christionogol a anfonodd ato. Yn ystod y saith mlynedd yma manteisiodd Ymneillduwyr yn fawr ar lafur y Methodistiaid. Yr ychwanegiadau trwy weinidogaeth Howell Harris a alluogodd Edmund Jones i adeiladu capel Annibynol Pontypwl yn y flwyddyn 1739; dychweledigion yr un Diwygiwr nerthol a alluogodd David Williams i adeiladu capel Watford. Meddai David Williams mewn llythyr at Howell Harris, Mehefin 12fed, 1738: "L The two days' service with us has been attended with marvellous success. The churches and meetings are crowded, Sabbath breaking goes down." Eto, llythyr dyddiedig Tachwedd 17eg, 1738; Things have a comfortable aspect here at present. Praying societies go up everywhere. Seventeen have been admitted to communion last time; more have been proposed." Eto, llythyr dyddiedig Chwefror 7fed, 1739: "The society in Cardiff present their love and service. We have received nine to our communion since you were here, and about so many more to propose." Tebyg y cyfeiria y llythyr diweddaf at ail neu drydydd ymweliad o eiddo Howell Harris, a bod y naw a dderbyniwyd i gymundeb yn ychwanegol at y dau-ar-bymtheg y cyfeirid atynt yn y llythyr blaenorol. Yn ngwyneb ffeithiau fel hyn, nid oes rhith o reswm dros wneyd agwedd crefydd yn Nghymru, ddiwedd y flwyddyn 1742, wedi dros saith mlynedd o lafur digyffelyb o lwyddianus gan y Methodistiaid, yn brawf o sefyllfa crefydd yn y wlad cyn i'r Methodistiaid godi.

(2) Nis gall cant a saith o eglwysi roddi syniad cywir am nerth Ymneillduaeth yn Nghymru, oddigerth ein bod yn gwybod rhif yr aelodau, a'r gwrandawyr perthynol iddynt. Pe y gwnaem bob eglwys yn haner cant o aelodau, ni fyddai rhif cyfanswm yr aelodau ond ychydig dros bum mil. Eithr ofer dyfalu; gallai y rhif ar gyfartaledd fod yn fwy; ond y mae yn ymddangos yn llawn mor debyg ei fod yn llai. Dywedir yn y llythyr fod y rhan fwyaf o gynulleidfaoedd Sir Aberteifi yn rhai mawrion. Geiriau cymharol yw mawr a bach; a rhaid i ni beidio tybio fod cynulleidfa fawr Edmund Jones yn gyffelyb mewn rhif i gynulleidfa fawr yn ein dyddiau ni. Adwaenem amryw o hen gapelau yr Ymneillduwyr yn Sir Aberteifi; rhai bychain, culion, diolwg oeddynt, wedi eu gosod mewn cymydogaethau gwledig, gan mwyaf, heb bentref, chwaethach tref, yn gyfagos, a chredwn mai cryn gamp a fuasai gwthio cynulleidfa o gant a haner o ddynion i un o honynt.

Yn wir, i'r Methodistiaid y priodola Edmund Jones efengyleidd—dra y wlad yn y llythyr hwn. Meddai am Sir Aberteifi: "Here were lately two eminent clergymen—Mr. David Jenkins, a young man lately dead, and Mr. Daniel Rowland, who had at his church some time ago above two thousand communicants. Almost all the lower part of the county is become religious since Mr. Howell Harris and the Methodists laboured there." Eto: "Pembrokeshire hath been lately mightily roused up, and abundance of people convinced, reformed, and converted by means of the exhortations of Mr. Howell Harris, and other Methodist exhorters." "The upper part of Pembrokeshire hath been roused and reformed, and that almost universally, to a concern about religion. Certainly, a very great work has been done here." Pe buasai rhyw hanesydd Methodistaidd yn ysgrifenu fel uchod, gan briodoli y cyfnewidiad yn y wlad i ymdrechion y Methodistiaid, a pheidio son o gwbl am lafur yr Ymneillduwyr, buasai yn sicr o gael ei gyhuddo o bleidgarwch a rhagfarn. Ond Annibynwr oedd Edmund Jones, ac ni fu neb erioed mwy zêlog dros ei enwad.

IV. Haerir yn nesaf fod gwaith yr Ymneillduwyr wedi cael ei anwybyddu yn ormodol gan y y diwygwyr G. Jones, Harris, a Rowlands. Cyn ateb hyn, goddefer i ni ddangos fel y mae cyhuddiad Dr. Rees yn erbyn y Tadau Methodistaidd wedi ei leddfu i lawr, ac wedi newid ei ffurf, nes y mae yn anmhosibl ei adwaen. Nid anwybyddu yn ormodol lafur yr Ymneillduwyr oedd y cyhuddiad a ddygai efe i'w herbyn; ond camddarlunio yn fwriadol agwedd foesol ac ysprydol y wlad, dan ddylanwad gwanc am wag-ogoniant. Y mae lled y nefoedd o wahaniaeth rhwng y ddau beth hyn. Am anwybyddu yn ormodol lafur eraill, gallai dynion da fod yn euog o hono yn anymwybodol; gallent wrth sylwi yn ddwys ar un dosparth o ffeithiau anghofio fod ffeithiau cyferbyniol i'w cael; ac. fel y sylwa un, gallai eu hysprydolrwydd a'u brwdfrydedd eithriadol fod yn achlysur o'r cyfryw esgeulusdod. Ond am gyhuddiad Dr. Rees, sef ddarfod iddynt yn fwriadol gamddarlunio sefyllfa Cymru er mwyn hunan-ogoniant, y mae yn hollol anghydweddol â chrefydd o ddim grym; nis gallai y cyfryw deimlad fodoli ond mewn dynion cnawdol, dan lywodraeth teimladau daearol isel a gwael; ac y mae yn anmhosibl peidio dirmygu y personau yn mynwesau pa rai y caiff y cyfryw deimlad lety am foment. Ymddengys i ni fod yr Annibynwyr yn taflu cyhuddiad Dr. Rees dros y bwrdd, ac yn dwyn un arall, llawer tynerach, yn mlaen yn ei le.

Ond pa faint o sail sydd i'r cyhuddiad tynerach? Pa resymau a ddygir yn mlaen i brofi ddarfod i'r Tadau Methodistaidd anwybyddu yn ormodol lafur yr Ymneillduwyr? Un prawf yn unig sydd yn cael ei gynyg, sef prinder cyfeiriadau yn eu hysgrifeniadau at yr Ymneillduwyr. Sail gul iawn, yn sicr, i adeiladu y fath gastell golygus arni. Nid ysgrifenu hanes Cymru a wnelai Harris a Rowland; ni ddaeth i'w meddyliau i holi pa fodd y syrthiasai y wlad i'r cyflwr truenus yn mha un yr oedd yn gorwedd; ac nid eu pwnc hwy oedd ymchwilio pa ymdrechion aneffeithiol a wnelsid yn flaenorol i efengyleiddio y werin. Y cwestiwn a losgai fel tân yn eu hysprydoedd oedd, Sut i achub y rhai a lusgid i angau? Nid ysgrifenu hanesiaeth yr oeddynt hwy, ond gwneyd hanesiaeth. Gwelent gorph y werin, fel y sylwa Dr. John Thomas, Liverpool, yn gorwedd mewn anwybodaeth a thrueni dybryd; gwelent hefyd nad oedd unrhyw ymdrech effeithiol a llwyddianus yn cael ei gwneyd gan neb i geisio eu hachub; fod yr offeiriaid yn yr Eglwys Sefydledig yn ddifater, a'r gweinidogion Ymneillduol yn ymfoddloni i fugeilio yr ychydig ddefaid oedd ganddynt yn eu corlanau, heb fod neb yn eu mysg yn myned i'r anialwch ar ol y colledig. Yn y cyfwng hwn rhuthrodd Harris a Rowland i'r adwy; ymdaflasant gyda brwdfrydedd diderfyn i'r gorchwyl o achub gwerin Cymru, a gyru o'r wlad yr arferion annuwiol a'i gwarthruddent; ac yn hyn llwyddodd yr Arglwydd hwynt tu hwnt i fesur; ac yn raddol cawsant yr hyfrydwch mawr o weled y gweinidogion Ymneillduol yn cael eu meddianu â'r un a'r unrhyw yspryd, gan ddyfod allan yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn. Beirniadaeth fitw a distadl yr ymddengys i ni yw holi a ddarfu iddynt ranu y clod am y gwaith a gyflawnwyd yn deg. Clod yn wir! Ni ddaeth i'w meddwl i gymeryd dim o hono; nid oedd hunan a gwag-ogoniant yn cael lle yn eu mynwesau, ac ni ddarfu iddynt ddychymygu am ranu yr anrhydedd, gan gymeryd rhan eu hunain, a rhoddi rhan i eraill.

Honir fod Dr. Rees yn ei le, wrth briodoli i'r Tadau Methodistaidd gulni dirfawr at yr Ymneillduwyr a'i blaenorai. Dywedir iddynt fod yn angharedig o ddystaw am yr hyn a wnaethant, a rhoddir dau reswm am hyny, sef rhagfarn Eglwysig, ac ysprydolrwydd eithriadol. Ymddengys y ddau reswm hyn yn ddinystriol i'w gilydd. Nis geill rhagfarn ac ysprydolrwydd meddwl gyd-drigo yn yr un galon; y mae y naill yn sicr o ddisodli y Ilall. Os mai ysprydolrwydd fydd yn oruchaf, derfydd am ragfarn o angenrheidrwydd. Y mae dynion ysprydol yn byw mewn agosrwydd mawr at Dduw; o lewyrch ei wyneb Ef y sugnant eu hysprydoliaeth; nis geill ond agosrwydd at y Dwyfol roddi iddynt y cyfryw nodwedd. Ac yn y presenoldeb rhyfedd hwn nis geil rhagfarn enwadol fodoli; y mae y mân wahaniaethau a'r mân ffiniau sydd yn gwahanu y naill sect oddiwrth y llall yn myned yn ddim. Yn sicr, wrth ddarlunio y Tadau Methodistaidd fel dynion o ysprydolrwydd meddwl eithriadol, gwneir y cyhuddiad eu bod yn llawn o ragfarn Eglwysig yn anmhosibl.

Ni fu dynion mwy diragfarn yn rhodio daear na Rowland, a Harris, a'u cydweithwyr. Yr ydym yn cyfaddef eu bod yn Eglwyswyr cydwybodol; dyna y goleuni oedd ganddynt hwy ar y pryd; ond nid yw yn canlyn eu bod yn rhagfarnllyd at enwadau eraill. Nid yw ymlyniad gonest wrth blaid grefyddol yn profi dyn yn gul ac yn llawn rhagfarn at bob cyfundeb crefyddol arall. Y mae aml un, ni a gredwn, yn Annibynwr cryf, ac yn dra ymlyngar wrth ei blaid a'i bobl; ond gallwn ni edrych arno fel dyn diragfarn, eang ei gydymdeimlad, a rhyddfrydig ei olygiadau. Yn y goleu hwn yr hoffem ni ein hunain gael ein barnu. Tra yn credu yn gryf mewn Methodistiaeth, nid ydym yn ddall o gwbl i rinweddau a rhagoriaethau y cyfundebau crefyddol sydd o'n cwmpas. Paham na chaniateir yr un egwyddor gyda golwg ar y Tadau Methodistaidd? Ac nid oeddynt mor ymlyngar wrth yr Eglwys ag y tybir. Nid hoffder ati oedd yr unig, na'r prif reswm dros eu gwaith yn aros o'i mewn, ond y ffaith mai mewn undeb a hi yr oedd yr Arglwydd wedi eu llwyddo, ac yr oedd arnynt ofn symud allan, a bwrw eu coelbren gyda'r Ymneillduwyr, am nad oeddynt yn gweled fod y golofn yn myned i'r cyfeiriad hwn. Y maent drosodd a throsodd yn datgan parodrwydd i adael cymundeb yr Eglwys pe y gwelent yn glir mai hyny oedd ewyllys yr Arglwydd.

Y mae llawer iawn wedi cael ei wneyd o benderfyniad Cymdeithasfa Watford gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys. Fel hyn y ceir y penderfyniad yn nghofnodau Trefecca: "Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent betrusder gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys, oblegyd annuwioldeb yr offeiriaid; a chyda'r Ymneillduwyr oblegyd eu claearineb, barhau i dderbyn yn yr Eglwys hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymundeb." Geilw Dr. Rees hyn yn ymlyniad dall wrth yr Eglwys, a chyfeirir ato gan ei amddiffynwyr fel prawf o ragfarn Eglwysyddol. Nid yw yn ymddangos i ni fod y penderfyniad yn haeddu y condemniad diarbed a deflir arno. Gellir dwyn y rhesymau canlynol drosto: Yn (1) Anogaeth ydoedd i'r rhai oeddynt hyd hyny wedi arfer cymuno yn yr Eglwys; profir hyn gan y gair "parhau;" nid oes yma gymaint ag awgrym i'r Ymnneillduwyr adael cymundeb eu henwad. (2) Yn mryd y Methodistiaid yr oedd yr oerni a feddianasai yr Ymneillduwyr yn gymaint rhwystr ar ffordd crefydd, a buchedd anfoesol yr offeiriaid. Yn eu golwg hwy, nis gallai oerni ysprydol a duwioldeb gyddrigo. Nis gallai dyn wedi ei ferwi gan y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo o gariad at y Gwaredwr, lai na theimlo gwrthnaws o'i fewn wrth weled gwasanaeth y cymundeb yn cael ei gyflawni gan weinidog a'i yspryd ynddo mor oer a'r rhew. Ac yn aml yr oedd yr oerni yn gynyrch syniadau anefengylaidd am berson Crist, a natur yr Iawn. Yn yr eglwys, pa mor anfucheddol bynag y gallai yr offeiriad fod, yr oedd y gwasanaeth a ddarllenid ganddo yn ardderchog, ac yn llawn maeth i dduwioldeb. (3) "Hyd nes y rhoddai yr Arglwydd ddrws agored i adael cymundeb yr Eglwys" yr oedd yr anogaeth. Felly y darllena y penderfyniad. Ac ymddangosasai yr adeg i'w gadael yn ymyl iddynt. Yr oedd yr offeiriaid yn dechreu gwrthod y sacrament i'r Methodistiaid, a thrwy hyn yr oedd eu sefyllfa mewn argyfwng difrifol. Ac os dymunent i'r rhai a argyhoeddwyd ganddynt, eu plant ysprydol, barhau yn nghyd, heb fod rhai yn ymuno â phlaid arall, pwy a fedr eu beio?

Howell Harris oedd y mwyaf ymlyngar wrth yr Eglwys, ond yr oedd yn hollol ddiragfarn at yr Ymneillduwyr. Cyfeiria gyda pharch a thynerwch mawr at amryw o'u gweinidogion yn ei lythyrau, ac yn ei Ddydd-lyfr. "Yr anwyl Edmund Jones," meddai drosodd a throsodd. "Fy mrawd, Lewis Rees," meddai drachefn. Gohebai yn y modd mwyaf cyfeillgar â gweinidogion efengylaidd yr Ymneillduwyr yn Nghymru a Lloegr; gofynai gyfarwyddyd ganddynt mewn gwahanol amgylchiadau, ac adroddai ei helynt, a'i lwyddiant, a'i brofiad ysprydol iddynt yn y modd mwyaf dysyml. Byddai yn anhawdd cael syniadau mwy catholig na'r rhai a draethir ganddo. Meddai mewn llythyr at Mr. Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllieni: "Anhawdd i ni oll ddyfod i gydweled gyda golwg ar y rhanau hyny o'r Beibl a gyfeiriant at ffurflywodraeth eglwysig, adeg, a dull bedydd, a rhyw allanolion felly ydynt yn fuan i ddarfod. Y mae undeb yn anmhosibl hyd nes y cydunwn i beidio gwneyd dim yn amod aelodaeth ond adnabyddiaeth achubol o'r Arglwydd Iesu, a ffydd fywiol yn cynyrchu sancteiddrwydd buchedd. Pe bawn i a gofal cynulleidfa arnaf, ystyriwn ei bod yn ddyledswydd arnaf i dderbyn pawb yn aelodau y gallwn obeithio am danynt eu bod wedi eu geni o Dduw, er na fyddent yn cydweled â mi ar ychydig o bethau allanol." Y dyn hwn, sydd mor ddiragfarn a chatholig ei syniadau, a gyhuddir o gulni at yr Ymneillduwyr. Mor bell o fod yn gul, apeliai Edmund Jones a gweinidogion Ymneillduol eraill ato am iddo gasglu yn ei gynulleidfaoedd mawrion er eu cynorthwyo i adeiladu eu capelau, ac y mae yn fwy na thebyg ei fod yn cydsynio.

Meddai un Ysgrifenydd am Howell Harris: "Credai nad oedd gan neb hawl i weinyddu yr ordinhadau ond a fyddai wedi cael ei urddo gan Esgob." Nid oes rhith o sail i'r haeriad hwn. Y mae yn hollol groes i don gyffredin ei weinidogaeth a'i ddysgeidiaeth. Yr ydym wedi myned yn fanwl trwy ei lythyrau a'i Ddydd-lyfr, ac nid oes tebyg i hyn i'w gael ynddynt. Yr oedd gweinidogion yr Ymneillduwyr a gydymdeimlent a'r diwygiad yn cael croesaw i Gymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Misol y Methodistiaid, caent gymeryd rhan yn yr ymdrafodaeth, a phleidleisio ar wahanol faterion, fel pe byddent yn Fethodistiaid. Yr oedd y Parchn. Henry Davies, Bryngwrach, a Benjamin Thomas, mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd cyntaf, a chroniclir eu henwau yn mysg y Parchedigion oeddynt wedi derbyn urdd esgobol, ac o flaen eiddo Howell Harris, a'r cynghorwyr; yr hyn a brawf yr ystyrid gweinidog Ymneillduol fel yn meddu yr un safle yn hollol ag offeiriad. Ni wnelid gwahaniaeth o gwbl rhwng y ddau. A thrachefn pan yr ymadawai un o'r cynghorwyr, gan gymeryd gofal eglwys Ymneillduol, nid oedd yn llai ei barch yn mysg y Methodistiaid o'r herwydd. Gwedi i Richard Tibbot ymadael, ac ymsefydlu yn Llanbrynmair, deuai i Gymdeithasfaoedd Llangeitho a'r Bala yn flynyddol, ac er nad oedd ei ddoniau gweinidogaethol yn ddysglaer, cai bregethu mewn lle anrhydeddus. Y mae y Parch. John Thomas, o'r Rhaiadr, wedi gadael tystiolaeth ar ei ol am garedigrwydd a thynerwch mawr Daniel Rowland ato, wedi iddo ymuno â'r Annibynwyr, pan yr oedd ar rynu oblegyd yr oerni ysprydol oedd wedi eu meddianu. Pa le y mae y culni a'r rhagfarn dychymygol? Arfer ddieithriad pobl ragfarnllyd yw erlid y rhai fyddo yn encilio oddiwrthynt. Ond ni wnelai y Methodistiaid ddim o'r fath, ond parhaent i'w hystyried fel brodyr.

Yn wir, gallwn droi y byrddau ar ein gwrthwynebwyr, a phrofi mai perthyn i Ymneillduwyr y dyddiau hyny yr oedd y culni a'r rhagfarn, a'u bod yn llawn o'r cyfryw deimlad. Dyna a allesid ddysgwyl oddiwrth ddynion ffurfiol ac oer, pan welent bobl llawn tân a zel yn ymroddi i gyflawni gwaith ag yr oeddynt hwy wedi ei esgeuluso. Dywed Howell Harris ei fod yn boblogaidd iawn yn eu mysg ar y cyntaf, pan yr oedd nerth ei bregethu yn chwyddo eu cynulleidfaoedd ac yn gorlenwi eu capelau; ond pan welsant na ymadawai a'r Eglwys, ai fod yn ffurfio ei ddychweledigion yu seiadau, aethant i deimlo yn ddiflas ato, ac i'w gashau. Fel hyn," meddai, "yr oedd y Methodistiaid yn cael eu cashau gan Eglwyswyr ac Ym- neillduwyr." Aeth cyfeillachu a'r Methodistiaid yn drosedd i'w gospi âg esgymundod yn ngolwg yr Ymneillduwyr. Mewn llythyr o eiddo William Richards, arolygydd y cymdeithasau yn rhan isaf o Sir Aberteifi, dyddiedig Medi 12fed, 1742, ceir a ganlyn: "Y mae y diafol wedi cyffroi y Dissenters yn ein herbyn fel y cyffroa y gwynt y coed. Y maent yn gwyrdroi ein geiriau a'n hymddygiadau, gan dynu y casgliadau mwyaf dychrynllyd oddiwrthynt. Y mae ein hanwyl chwaer Betti Thomas yn cael ei blino yn fawr ganddynt; bygythiant ei hesgymuno, os nad ydynt wedi gwneyd hyny yn barod, am ei bod yn derbyn y Methodistiaid i'w thy. Y mae yn dyfod i'r seiat breifat, ac nis gwyddant beth i'w wneyd o honi (y seiat). Dywedant mai drws agored i Babyddiaeth ydyw, a llawer o bethau cableddus ereill." Os yw geiriau yr hen gynghorwyr yn wir, ac nid oes genyn un rheswm dros eu hanghredu, yr oedd yr Ymneillduwyr yn erlid y rhai a gyfeillachent a'r Methodistiaid, ac yn camddarlunio y seiat brofiad, trwy awgrymu weithiau ei bod yn dwyn cyffelybrwydd i gyffesu pechodau yn yr Eglwys Babaidd; ac weithiau, fel yr awgryma y gair "cableddus," trwy honi fod gweithredoedd pechadurus yn cael eu cyflawni ynddi, ac mai dymna y rheswm paham ei dygid yn mlaen yn breifat. Yn nghofnodau Cyfarfod Misol Glanyrafonddu, a gynaliwyd Ebrill 17eg 1744, ceir a ganlyn: "Yn gymaint a bod Thomas David wedi cael ei droi allan gan yr Ymneillduwyr am ymgyfeillachu â ni, ei fod i gael ei uno â seiat Erwd." Yr oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Benjamin Thomas, gweinidog Ymneillduol, yn bresenol pan y pasiwyd y penderfyniad hwn, a sicr yw fod ganddynt ffeithiau diymwad i syrthio yn ol arnynt. Ceir prawf o'r un ragfarn ddall yn nglyn ag ordeiniad Morgan John Lewis yn weinidog ar eglwys y New Inn. Gan na alwyd gweinidogion Ymneillduol i gyfarfod yr ordeiniad, ond i'r neillduad gael ei wneyd gan yr eglwys mewn modd difrifol wedi gweddi ddwys, sorodd yr Ymneillduwyr; ni fynent gydnabod Morgan John Lewis yn weinidog o gwbl; ac ymddygent ato, ac at yr eglwys a'i neillduasai, fel yr ymddygai yr Iuddewon gynt at y gwahanglwyfion. Mewn canlyniad i hyn, cyhoeddodd y gweinidog grynodeb o'r egwyddorion a gredai, ac yn y rhagymadrodd achwynai yn enbyd ar y driniaeth oedd yn gael. Yr oedd yr Ymneillduwyr yn credu mewn olyniaeth Apostolaidd gnawdol mor gryf a'r Eglwyswyr. Yr unig rai a gydnabyddent Morgan John Lewis a'i eglwys oedd y Methodistiaid. Ymwelent hwy ag ef, ac a'r gynulleidfa, gan loni eu hysprydoedd. Ni raid ond darllen Hanes Crefydd yn Nghymru, gan y Parch. D. Peter, er gweled y cyffro a achosodd gwaith y Parch. S. Hughes yn beiddio myned i'r Eglwys Wladol i wrando offeiriad yn pregethu, yr hwn gyffro a derfynodd mewn ymraniad, am na addawai y gŵr parchedig beidio cyflawni peth o'r fath eilwaith. Nid melus genym yw cofnodi y pethau hyn; buasai yn well genym eu claddu mewn hebargofiant; ond pan y gwarthruddir y Tadau Methodistaidd ar gam, angenrhaid a osodwyd arnom.

Cyn terfynu, rhaid i ni wneyd sylw neu ddau o natur fwy personol. Cyhuddir ni yn fynych o ddweyd pethau gwaradwyddus am y marw. Ai tybio yr ydis y dylasai camwri Dr. Rees gael ei adael yn ddisylw am ei fod ef yn ei fedd? I hyn atebwn, (1) Na weithredai Dr. Rees ei hun ar yr egwyddor yma. Yr oedd Williams, Pantycelyn, yn ei fedd er's ugeiniau o flynyddoedd pan y gwaradwyddid ef gan Dr. Rees, ac y dygid i'w erbyn gyhuddiadau nad oedd iddynt rith o sail. Sut na chododd yr Annibynwyr eu llef yn erbyn gwaith y Doctor yn ymosod ar y marw? A ydyw coffadwriaeth Dr. Rees yn fwy cysegredig nag eiddo yr "hen Williams?" (2) Dygwyd y cyhuddiad a wnaethom yn erbyn Dr. Rees yn ystod ei fywyd, a chafodd gyfleustra teg i'w ateb pe buasai ganddo ateb i'w gael. Hyn ni chafodd Williams, Pantycelyn. (3) Y mae ymddygiadau cyhoeddus dynion cyhoeddus yn eiddo cyhoeddus, ac i'w beirniadu pan fydd y rhai a'u cyflawnodd wedi marw, yn hollol ar yr un egwyddorion a phe buasent yn fyw. Oni chaniateir hyn, bydd hanesyddiaeth deg yn anmhosibl ni chaem gyfeirio at droseddau Mari Waedlyd, nac at ffolinebau Charles yr Ail. A'r troseddwr mwyaf yn Nghymru fyddai Dr. Rees, oblegyd yr oedd yr erlidwyr y cyfeiria atynt yn ei lyfr yn eu beddau oll pan yr oedd efe yn ysgrifenu. Yn mhellach, goddefer i ni ddweyd nad oes ynom y gradd lleiaf o deimlad eiddigeddus at yr Annibynwyr. Y mae i ni gyfeillion anwyl yn eu mysg. Yr ydym yn mawr lawenhau yn eu llwyddiant, ac yn dymuno iddynt Dduw yn rhwydd. Da genym weled eu pwlpudau yn cael eu llenwi gan ddynion mor alluog, mor efengylaidd, ac mor ymroddgar. A maddeuer i ni am ddweyd, yr ymddangosant i ni yn cyfranogi yn helaethach o yspryd Daniel Rowland a Howell Harris nag o yspryd y gweinidogion Yneillduol, y dywedai Dr. John Thomas am danynt, nad aent i'r anialwch i chwilio am y colledig. Nid oes i ni gweryl â Dr. Rees ychwaith, ond fel hanesydd. Yr ydym yn parchu ac yn mawrhau llawer o'i nodweddion. Nid ydynt yn ddall o gwbl i'r amryfal rinweddau a harddent ei gymeriad. Bu yn felus genym lawer gwaith ei wrando yn efengylu. Ond yr oedd a fynem ag ef yn Y Tadau Methodistaidd fel hanesydd; ac, yn y cymeriad hwn, rhaid i ni lynu wrth y darnodiad a roddasom o hono, er mor llym ydyw. A phan y pasia y ddadl, ac y caffo ein cyfeillion hamdden i feddwl, credwn y bydd iddynt ymwrthod a'i ddull anheg o ymwneyd a documents hanesyddol pwysig.


DIWEDD CYFROL I.

—————————————

ABERTAWE:

ARGRAFFWYD GAN LEWIS EVANS,

CASTLE STREET.

—————————————

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 

Nodiadau

[golygu]
  1. Y Sabeliaid oeddent hereticiaid, canlynwyr un Sabelius (esgob neu henadur yn Affrica, yn y drydedd ganrif), yr hwn a ddysgodd nad oedd dim gwahaniaeth rhwng y tri Pherson yn y Drindod, ond eu bod hwy i gyd yn un; ac o herwydd hyny fe ddarfu i'r Tad a'r Yspryd Glân ddyoddef marwolaeth yn gystal a'r Mab.
  2. "Y Patripassiaid oeddent hereticiaid (tua diwedd yr ail ganrif), y rhai a ddywedent i'r Tad ddyoddef yn gystal a'r Mab. (O'r Lladin, pater a passio―tadoddefiad).
  3. "Yr Eutychiaid oeddent hereticiaid, y rhai oeddent yn maentymio bod y ddwy natur felly wedi eu cydgymysgu yn Nghrist, fel y darfu i'r Duwdod ddyoddef a marw. (Oddiwrth Eutychus, abad o Gaercystenyn, o.c. 448.) "
  4. Yr Ubicwitariaid sydd yn dywedyd bod corph ein Hiachawdwr yn mhob man yn gystal a'i Dduwdod. (O'r Lladin, ubique-yn mhob lle. Plaid yn mysg y Lutheriaid oeddent, a gododd tua'r flwyddyn 1560.)"
  5. Gwel |Y Tadau Methodistaidd, tudal. 350.
  6. Methodistiaeth Cymru.
  7. Ibid.
  8. Methodistiaeth Cymru
  9. Traethodydd, Mai, 1894, tudal. 145
  10. sic. ?eni?
  11. Llythyr oddiwrth yr Hybarch John Jones, Ceinewydd.
  12. Traethodydd, 1850.
  13. Llyfryddiaeth y Cymry, 703.
  14. Methodistiaeth Cymru, cyf. i. 5—11.
  15. Methodistiaeth Cymru, cyf. iii., tudal. 167.
  16. Methodistiaeth Cymru, cyf ii., tudal. 508.
  17. Ministerial Records, iii. 154.
  18. Llyfryddiaeth y Cymry, tudal. 618.
  19. Methodistiaeth Cymru.
  20. Y Tadau Methodistaidd, tudal. 426.
  21. Trysorfa Ysprydol.