Yny lhyvyr hwnn/Almanak dros ugainc mlyneð

Oddi ar Wicidestun
Kalandyr Yny lhyvyr hwnn

gan John Prys


golygwyd gan John H. Davies
Rhif

Almanak dros ugainc mlyneð.

Dedian ys argwlydd, ney rif y blynyddeu. Duw Basc. Rhif y prif a elwir y rhif auraid. lhythyryn y Sul. Lhythyren y Bisext.
M. D. xivii. x. Ebrilh. ix B
M. D. xiviii. i. Ebrilh. x A G
M. D. xlix. xxi. Ebrilh. xi F
M. D. l. vi. Ebrilh. xii E
M. D. li. xxix. o vawrth. xiii D
M. D. lii. xvii. Ebrilh. xiiii C B
M. D. liii. ii. Ebrilh. xv A
M. D. liiii xxv. Mawrth. xvi G
M. D. lv. xiiii. Ebrilh. xvil F
M. D. lvi. v. o Ebr. xviil E D
M. D. lvii. xviii. o Ebr. xix C
M. D. lviii. x. o Ebrilh. i B
M. D. lix. xxvi. o Vawr. ii A
M. D. lx. xiiii. Ebrilh. iii G [...]
M. D. lxi. vi. o Ebr. iiii E
M. D. lxii. xxix. Mawrth. v D
M. D. lxiii. xi. Ebrilh. vi C
M. D. lxiiii. ii.o Ebrilh. vii. B A
M. D. lxv xxii. o Ebrilh. viii G
M. D. lxvj. xiiii.o Ebrilh. ix. F

Rheol y aðnabod y Pasg dragwyðol.

Edrych y prif nessaf yn ol y lythyren. L. kyntaf or mis mawrth a rhif dri sul wedy, ar trydyd sul vyð duw pasc, a phe vai yr prif ar y sul, rhiver hwnnw yn vn or tri sul. Val y mae yti y synied y vlwyðyn honn, nyd amgen M. D. xlvii. lhe mae yr B. yn lythyren y Sul, a.ir. yn rif y prif, y ðiskyn ar yr ynved dyð ar ugaint o vawrth. ar try­dyð sul ar ol hynny y ðyskyn ar y degved dyð o Ebrilh, sef yw hwnuw dyw pasc. y vlwyðyn honn

BLwyðyn yr haul y syd drichant a thri­gain a phymp diwarnod a whech awr, a deuðeg wythnos a deugain tac vn diwarnod, ac yn hynny o amser y mae yr haul yn kerðed dros y deudeg arwyð or zodiak.

Y vlwyðyn bisext y ðiskyn vnwaith, bob pedair blyneð o achaws y whechawr y sy dros benn yr haul yr hwnn a wna vn diwarnot rhagor mewn pedair blyneð. lhythyren y sul y newidia bob blwyðyn o achos y dyð dros benn y sy yny vlwyðyn a hi newidia dwywaith mewn blwyðyn bissext.

Blwyðyn y lheyad y sy o. xxvii. nywarnod ac. viii. awr.

Eythyr rhwng pob lheyad newyð ay gylyð y mae naw niwarnod ar ugaint a hanner diwarnod. ka­nys o gyfnewid yr haul ar lheyad yny gywhyr­ðon ailwaith, ve ðervyð yr haul gerðed ðros vn or deuðeg arwyðon agos, or maun lhe y ymma­dawsei ar lheyað, ac ym penn deu ðiwarnod a han­ner y gorðiweda yr lheyad yr haul, ac yno y byð kyfnewid y lheyad.

Ac y kerða yr lheuad thwng pob kyfnewid ae gy­lið dros holh arwyðon y zodiak, sef yw hynny ky­maint ac a gerðo yr haul yn y vlwyðyn.

Rhif y prif a elwir hevyd y rhif auraid. y ðychym­mygoð Iwl kesar gyntaf ac ae kaskloeð or dyðieu ar orieu aghyniver o bob kyfnewid, er gwy­bot y dyð y kyfnewidio yr lheyad yndaw, heb Al­manak yn y byd, onyd kalandyr y bo y rhif hynny yndaw, ac ef a bara y rhif hwnnw o vn hyd bed­wararbymtheg, kyn dyvod yðy gwrs ellwaith A. ix. ydiw y rhif hwnnw y vlwyðyn honn, sef yw hynny o oedran yr Arglwyð mil a phympcant a saith a deugain.

Nodiadau[golygu]