Yr Ogof/Pennod XI

Oddi ar Wicidestun
Pennod X Yr Ogof

gan T Rowland Hughes

Pennod XII


XI



YR oedd Longinus yn falch o gael troi ei farch ymaith oddi wrth ei filwyr ac o sŵn yr anfadwaith ar y codiad tir. Gwyddai ei fod yn ganwriad llwfr ac na fendithiai'r Llywydd Proclus ei ymddygiad, ond ymgiliwr ofnus neu beidio, gwell dianc na drysu yng nghlyw'r dioddef erchyll. Yr oedd yn bryd i rywun fel ei dad godi yn Senedd Rhufain i felltithio'r barbareiddiwch, i gymryd gam ymhellach haeriad yr hanesydd a'r llenor Cicero fod y gair "croes" yn un rhy ofnadwy i ddod yn agos i feddwl a chlust dinesydd Rhufeinig. Os gwir hynny, onid oedd yn rhy erchyll hefyd i feddwl a chlust Iddewig? Os dychwelai ef fyth i Rufain, fe ymladdai i geisio dileu'r creulondeb anhydraeth hwn.

Tawelodd y bobl erbyn hyn, er bod y gwylltaf ohonynt yn dal i ysgrechian "Hosanna!" Ond gweiddi er mwyn gweiddi yr oeddynt, gan ymdrechu i argyhoeddi ei gilydd nad oedd y cyffro drosodd. Tawsant pan aeth Longinus tuag atynt, a chiliodd dau lanc, yr uchaf eu lleisiau, tu ôl i dwr o wragedd: gwŷr eofn.

Chwythai'r Khamsin poeth gymylau o lwch a thywod dros y ddinas, a sychodd Longinus y chwys oddi ar ei dalcen. Crwydrodd ei feddwl eto i Arimathea at Othniel a'r ffrwd fechan ym mhen pellaf y berllan. Rhoddai rywbeth am gael bod wrth su esmwyth yr afonig honno yn gwrando ar lais tawel ei gyfaill yn darllen un o'i gerddi iddo. Un o'i gerddi? Byddai'r hanes am y Nasaread yn ddigon i ladd pob barddoniaeth yn ei natur, i chwerwi'i unigrwydd a'i freuddwydion oll. Dychmygai am Alys yn dychwelyd â'r newydd fod y Proffwyd yn ei fedd—na, ei gorff wedi'i losgi yn un o'r tomenni ysgarthion yn nyffryn Gehenna gerllaw—a gwelai lygaid dwys Othniel yn anghrediniol ac yna'n dywyll gan ing. Rhaid iddo gael gair ag Alys cyn iddi droi'n ôl i Arimathea: efallai y gallai ef leddfu rhyw gymaint ar y boen. Beth fyddai'r cysylltiad rhwng Othniel a'i dad yn awr, tybed? Daethai'r breuddwyd am yr ogof yn wir, yn ddieflig o wir.

Wedi i'r Rhufeinwr fynd heibio ar ei farch, mentrodd y ddau lanc eto o'u cuddfan tu ôl i'r gwragedd, gan ysgrechian "Hosanna!" eilwaith. Troes Longinus yn ôl tuag atynt, a dihangodd y ddau nerth eu traed tua'r ddinas. Sylwodd y canwriad fod tair o'r gwragedd yn sefyll ar wahân i'r lleill yng nghwmni gŵr ifanc tal, a bod un ohonynt yn beichio wylo. Ciliasant gam yn ôl mewn braw pan nesaodd ef.

Ond er hynny, aeth ymlaen atynt.

"Am bwy yr wylwch?" gofynnodd mewn Groeg.

"Am Iesu o Nasareth, Syr," atebodd yr hynaf yn dawel. "Yr ydych yn perthyn iddo, efallai?"

"Myfi yw ei . . . fam." Yr oedd tynerwch tu hwnt i ddagrau yn y llais.

"O, y mae'n . . . y mae'n ddrwg gennyf."

Gododd y ferch a wylai ei phen, gan daflu'r gorchudd o sidan du yn ôl oddi ar ei hwyneb. Sylwodd Longinus ei bod hi'n eneth dlos a dyfnderoedd disglair yn ei llygaid mawr duon. "Ydyw, y mae'n debyg!" meddai'n wyllt. "Ydyw, yn ddrwg iawn gennych ""

"Ydyw."

Nodiodd y canwriad yn araf, gan adael iddi edrych i fyw ei lygaid. Syllodd hithau'n syn arno.

"Ydyw," meddai drachefn, gan droi at y fam. Daeth gwên drist i'w hwyneb.

"A gawn ni fynd ato ef, Syr?" gofynnodd.

"Os credwch chwi fod hynny'n ddoeth." Apeliodd ei lygaid at y dyn ifanc a oedd gyda hwy. Nodiodd hwnnw.

"O'r gorau."

Canfu wrth droi'n ôl at y milwyr fod y tair croes i fyny, yn wynebu'r ddinas. Gestas a oedd ar y chwith, y Nasaread yn y canol, a Dysmas ar y dde. Byddai'n rhaid aros yn awr am oriau, efallai am ddeuddydd neu dri, aros i'r ing losgi'r bywyd ymaith. Clir, a'u cyrff bron yn noeth, oedd olion y fflangell arnynt.

Daeth y ddau filwr Marcus a Fflaminius tuag ato: yr oedd rhyw ymrafael rhyngddynt. Safodd y ddau gan saliwtio, er bod Fflaminius yn bur ansad ar ei draed: rhaid bod y posca'n gryfach nag y tybiasai Longinus.

"Beth sydd, Marcus?"

"Hon, Syr." Daliai wisg yn ei law chwith. "Yr oedd hi'n perthyn i'r carcharor. Y mae Fflaminius eisiau ei rhannu hi rhyngom ni."

"Ei difetha hi fyddai hynny."

"Dyna wyf finnau'n ddweud, Syr. Y mae hi'n un darn, heb wnïad yn unman."

"Rhannu tipyn o wisg rhwng pedwar ohonoch!" meddai Longinus, gan gymryd arno synnu'n fawr gwelai fod Fflaminius yn feddw a gwyddai fod yn rhaid iddo'i drin yn ofalus neu fe droai'r dyn yn gas.

"Dyw'r lleill ddim eisiau'r wisg, Syr," meddai'r milwr yn ystyfnig. "Felly, hanner bob un i mi a Marcus."

"Fflaminius?"

"Ie, Syr?"

"Neithiwr ddiwethaf y digwyddais i glywed rhyw filwr yn Antonia yn canmol ei lwc â'r disiau. A chredwn mai eich llais chwi a glywn."

"Ie, fi oedd yn canmol fy lwc, Syr. Pymtheg dernyn neithiwr. Ugain y noson gynt."

"Wel, wir, y gŵr mwyaf lwcus ym myddin Rhufain! Trueni na fyddai gennym ddisiau i dorri'r ddadl fach hon, onid e?" Ac ysgydwodd Longinus ei ben yn ddwys.

"Disiau! Disiau!" Chwiliodd y dyn yn ffwndrus ym mhwrs ei wregys a chilwenodd fel y deuai'i fysedd meddw of hyd i ddau ddis. "Hwde, Marcus," meddai, gan eu rhoi i'w gyd-filwr.

Ysgydwodd Marcus hwy yng nghwpan ei ddwylo, ac yna taflodd hwy ar y ddaear. Edrychai'n siomedig pan ŵyrodd i syllu arnynt.

"He, he, he, dau dri!" rhuodd y llall. Ysgydwodd a thaflodd yntau'r disiau.

"He, he, he, pump a chwech! Pump a chwech! Fflam yn lwcus bob gafael! Bob gafael!"

A chrafangodd y wisg oddi ar fraich Marcus.

"Da iawn, Fflaminius," meddai'r canwriad. "Da iawn, wir. Ond beth am roi cyfle i minnau?"

"He, he, he, y canwriad eisiau cynnig! O'r gorau, Syr. Fflaminius yn barod i roi cynnig i rywun."

Estynnodd y disiau i Longinus a chymerodd yntau hwy a'u hysgwyd a'u taflu.

"He, he, he, dau a thri! Dau a thri! Neb yn gallu curo'r hen Fflam!"

Yna, â rhyw haelioni sydyn yn gafael ynddo, taflodd y wisg i fyny tros liniau'r canwriad.

"Fflaminius yn sbort, Syr," meddai'n floesg. "Fflaminius yn rêl sbort."

Nid oedd ar Longinus eisiau'r wisg, ond teimlai fel y cyffyrddai â hi yr hoffai i rywun gwell na'r milwr hwn ei chael. Gwyddai y cymerai'r hen Farcus ofal ohoni.

"Yr ydych chwi'n garedig iawn, Fflaminius. Yn rêl sbort! Gweld Marcus 'ma'n edrych yn siomedig yr oeddwn i, a meddwl petawn i'n ennill . . .

"Ie, Marcus ei chael hi, Syr!"

Tynnodd y wisg i lawr a'i rhoi'n ffwdanus ar fraich ei gyd—filwr. Yna saliwtiodd yn ddigrif o simsan cyn troi'n ôl at y milwyr eraill. Eisteddent hwy gerllaw ar ddarn o graig, yn prysur wagio'r ddwy gostrel enfawr a ddygasent gyda hwy.

Yr oedd golwg ddwys ar yr hen Farcus.

"Diolch, Syr," meddai. "Gofalaf am y wisg hon fel petai hi'n un ar ôl fy nhad neu fy mrawd. Y gŵr yna, Syr, yw'r dewraf a welais i erioed. Y dewraf un—a gwelais ddynion dewr mewn llawer gwlad." Troes i edrych yn freuddwydiol tua'r groes ganol cyn dweud eilwaith, "Y dewraf un, Syr."

"Fe ddioddefodd yn dawel, Marcus?"

"Do, yn hynod dawel, Syr. Ond fe wnaeth fwy na hynny. Fe wrthododd yfed y gwin meddwol cyn inni ei roi ar y groes, ac wedyn, pan oeddem ni'n gyrru'r hoelion i'w ddwylo, Syr. Yr oedd dagrau yn llygaid yr hen filwr.

"Ie, Marcus?"

"Fe weddïodd ar ei Dduw drwy'r boen i gyd. Trosom ni, Syr."

"Beth oedd ei eiriau, Marcus?"

"O Dad,' meddai, 'maddau iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.' Yr oedd hyd yn oed Fflaminius yn syllu'n syn arno. Ni fûm i erioed yn gwneud gwaith mor atgas, Syr. Naddo, erioed, er imi helpu i groeshoelio ugeiniau—cannoedd, am a wn i—o dro i dro. Pymtheg yr un bore unwaith yng Ngâl, Syr. Ond y mae hwn yn wahânol." Gwlychodd ei fin ac edrychodd yn erfyniol ar y canwriad.

"Sut, Marcus?"

"Wn i ddim yn iawn, Syr. Fel petaech chwi'n meddwl bod hon'na". a nodiodd tua'r groes—"bod hon'na'n rhan o'i fywyd. Bod yr hyn a bregethai—beth bynnag oedd—yn rhywbeth yr oedd yn rhaid iddo farw trosto.

"Yn werth marw trosto?"

"Ie, Syr, yn werth marw trosto, ond . . . ond yn fwy na hynny. Yn rhywbeth y mae'n rhaid marw trosto. Rhywbeth—sut y gallaf fi egluro, Syr?—rhywbeth mor fawr, mor dda nes . . . nes.

Chwiliai'r hen filwr yn galed ond yn ofer am eiriau. Bodlonodd ar deimlo gwead y wisg yn ei ddwylo, gan syllu'n ffwndrus ar yr ystaen waedlyd o dan ei fysedd.

"Pan weddïodd trosom, Syr," chwanegodd, gan ddal i edrych ar y wisg, "fe aeth y nerth allan o'm braich i. Mi rois i'r morthwyl i Leo. Efallai fy mod i'n meddalu wrth fynd yn hŷn"—a chwarddodd yn nerfus i geisio cuddio'i deimladau"ond 'fedrwn i ddim curo'r hoelion i ddwylo'r carcharor yna, Syr." Taflodd ei ben, gan wenu, ond â'i wefusau'n unig y gwenai, fel petai'n methu ymlid y dwyster o'i lygaid. Yna crafodd ei foch, a sylwodd Longinus fod ei law yn crynu.

Rhyfeddodd y canwriad wrth wrando ac edrych arno. Prydain, Gâl, Ysbaen, Gogledd Affrig, yr Aifft, Palestina caledwyd hwn gan frwydro ac ysbeilio a lladd ar hyd a lled yr Ymerodraeth: is cleddyf gorchfygol Rhufain, chwarddodd a rhegodd ffordd drwy ing llawer gwlad, a gallai, yn sicr, adrodd storïau a fferrai waed rhywun. Ond dyma ef yn awr, wrth groeshoelio'r Iddew dinod hwn, a'i law yn crynu a rhyw ddryswch mawr yn llond ei lygaid.

Troes ymaith i ymuno â'r lleill, gan gerdded yn araf a breuddwydiol. Dilynodd Longinus ef.

Chwarae disiau yr oedd y rheini, gan aros yn aml i yfed iechyd ei gilydd. Yr uchaf ei gloch oedd Fflaminius, a gwelai'r canwriad ef yn stryffaglio codi oddi ar y graig â chostrel yn ei law.

"Fechgyn!" gwaeddodd. "Iechyd da i'r Brenin! Iechyd da i Frenin yr Iddewon!"

"Iechyd da i Frenin yr Iddewon!" llefodd ei gyd-filwr Leo, gan chwifio'i forthwyl yn un llaw a chwpan yn y llall.

"Hwde, Marcus," meddai Fflaminius. "Ti yfed iechyd da Brenin yr Iddewon."

Ond ysgwyd ei ben a wnaeth yr hen filwr a gwthio'r gostrel ymaith yn ddiamynedd.

"Hei, was!" Yr oedd Fflaminius yn gas. "Pwy ti'n feddwl wyt ti? Y?" Gŵyrodd ymlaen i rythu yn wyneb y llall. "Y?" gwaeddodd eilwaith.

Troes Marcus ymaith i daflu'r disiau a ysgydwai yn ei ddwylo. Cydiodd Fflaminius yn ddig yn ei ysgwydd.

"Fi'n siarad â thi, was! Fi'n gofyn cwestiwn i ti, was! A'r cwestiwn oedd . . . Y cwestiwn oedd . . . " Ond aethai'r cwestiwn ar goll yn niwl ei feddwl.

Yr oedd Marcus ar ei draed yn awr a'i waywffon yn ei law, ac anadlai'n drwm. Sobrodd y llall wrth ei weld.

"Fi a Marcus, yr hen Farcus, yn ffrindiau calon," meddai'n ffôl, "yn rêl sborts. He, he, he! Marcus ddim am yfed iechyd da i'r Brenin. O'r gorau, Fflam yn yfed yn lle

"Marcus!"

Cymerodd y cwpan oddi ar Leo a llwyddodd i dywallt gwin iddo. Dechreuodd yfed, ond arhosodd ei law yn yr awyr fel y deuai syniad newydd i'w feddwl. Troes ei ben tua'r groes ganol.

"He, he, he, Fflam yn yfed yn lle Marcus!"

Ymlwybrodd yn feddw tua'r groes, gan honcian a baglu tros y tir anwastad, creigiog. Wrth ei throed ymsythodd ac edrychodd i fyny ar y Nasaread.

"Os tydi yw Brenin yr Iddewon," gwaeddodd mewn Groeg, "gwared dy hun!"

Yfodd yn swnllyd ac yna cymerodd arno gynnig y cwpan i'r croeshoeliedig. Chwarddodd y carcharor Gestas yn ffyrnig o ganol ei boenau.

"Ie," rhuodd, "os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau." Tawodd griddfan y trydydd carcharor, Dysmas. Er bod y symudiad lleiaf yn wayw annioddefol iddo, gŵyrodd ymlaen i edrych heibio i'r Nasaread.

"Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddedfryd?" meddai wrth Gestas. Griddfannodd fel y tynnai pwysau'i gorff yn erbyn yr hoelion yn ei ddwylo, yna caeodd ei ddannedd yn dynn ennyd cyn chwanegu, "A nyni yn wir yn gyfiawn, yn derbyn ein haeddiant eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le."

Ag ymdrech fawr y daethai'r geiriau o'i enau; anadlai'n drwm rhwng pob gair a gwlychai'i wefusau'n aml. Yr oedd yn dda ganddo gael ymlacio'n llipa yn erbyn pren y groes unwaith eto a'i ben ar ei fynwes a'i dafod yn hongian allan fel un ci mewn gwres. Ond cododd ei ben eto ymhen ennyd a throi at y Nasaread.

"Arglwydd," meddai, "cofia fi pan ddelych i'th deyrnas." Chwarddodd Fflaminius ac yna cododd y cwpan i yfed. Ond nid yfodd. Daeth llais y Nasaread yn dawel o'r groes uwchben:

"Yn wir meddaf i ti, heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.

Er gwaethaf pob artaith, yr oedd y llais yn gryf a chadarn, yn llawn sicrwydd. Gostyngodd Fflaminius ei law yn ffwndrus a syllodd yn hir ar y carcharor cyn troi i ymlwybro'n ôl at ei gyd-filwyr. Eisteddodd ar y graig wrth ochr Marcus, ond heb ddywedyd gair. Ymddangosai fel dyn mewn breuddwyd. "Beth sy Fflam?" gwaeddodd Leo. "Wedi gweld ysbryd, was?"

Nid atebodd Fflaminius, dim ond syllu'n syn ar y groes o'i flaen. Ond troes ei ben yn ffyrnig fel y deuai gweiddi eto o blith yr edrychwyr gerllaw, a hylldremiodd tuag at y llefwyr.

"Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun!"

"Ie, os hwn yw Crist etholedig Duw!"

"Gwared dy hun a disgyn oddi ar y groes!"

Nid crochlefain oedd hwn yr oedd ôl diwylliant' ar y lleisiau a'r ynganiad. Rhai o wŷr y Deml, efallai, meddai Longinus wrtho'i hun, rhai o gynllwynwyr y breuddwyd a gawsai Othniel. Llwyddodd Fflaminius i godi ar ei draed, a chymerodd gam bygythiol i gyfeiriad y gweiddi.

"Mi liciwn i groeshoelio'r cnafon yna," meddai rhwng ei ddannedd, gan gydio'n ffyrnig yn ei waywffon.

Gafaelodd Marcus yn ei siaced a'i dynnu'n ôl i'w le ar y graig.

"Dy dro di, Fflam," meddai, gan estyn y disiau iddo.

"Dim, diolch." A gwthiodd law'r hen filwr ymaith. "Hwde, Fflam!" gwaeddodd Leo. "Gorffen hwn inni," gan ddal y gostrel tuag ato.

"Dim, diolch, Leo.'

"Dyma ti, Fflam," meddai'r pedwerydd milwr, Lucius, gan dynnu cylffau o fara a physgod wedi'u halltu o'i ysgrepan.

"Dim, diolch, Lucius."

Pwysodd Fflaminius ymlaen i syllu'n freuddwydiol ar y ganol o'r tair croes. Edrychodd y tri arall ar ei gilydd heb ddywedyd gair a sylwai Longinus fod rhyw bryder syn yn eu llygaid, ac yn arbennig yng ngwedd yr hen Farcus. Gerllaw, ar ddarn arall o graig, eisteddai milwyr y Canwriad Sextus yn bwyta ac yfed a chlebran a chwerthin. Rhythodd Fflaminius yn ddig arnynt, fel petai'r sŵn a wnaent yn beth aflednais yn y lle hwn; yna gŵyrodd ymlaen drachefn i wylio'r groes yn fud a ffwndrus.

Uwchben, hongiai cymylau trymion yn y nef a lithiwyd ymaith bob llewych oddi ar dyrau a chromennau hardd Jerwsalem. Aethai'r ddinas o eira'n llwm a llwyd a gŵyrai caddug anferthol trosti. Codai'r milwyr a'r bobl olygon brawychus i fyny, fel petaent yn ofni gweld y dûwch yn ymagor ac yn tywallt gwae ar y ddaear. Taflai march Longinus ei ben yn wyllt, gan weryru mewn dychryn, ac wrth droed craig gerllaw yr oedd ceffyl Sextus, a barnu oddi wrth regfeydd ei feistr, yn fwy aflonydd fyth. Troesai'r dydd, er nad oedd hi ond tua'r chweched awr, yn nos. Nos drom, ormesol, a'i thywyllwch yn rhywbeth y teimlai Longinus y gallai ei dorri â'i chwip. Tawsai pob aderyn.

"Syr?"

Yr hen Farcus a ddaethai ato. "Ie, Marcus?"

"Ydych chwi . . . 'ydych chwi'n meddwl fod rhyw gysylltiad rhwng hyn"—a nodiodd tua chroes y Nasaread "a'r . a'r tywyllwch yma?"

Chwarddodd Longinus i'w gysuro. "Y mae hyn yn digwydd yn y wlad hon weithiau yn y gwanwyn," meddai. "Ni welais i mohono o'r blaen, ond mi glywais amdano."

"Do, Syr?"

Yr oedd rhyddhad yn ei lais fel y troai'n ôl i ymuno â'r lleill, ond daliai i edrych yn ofnus tua'r nef.

Aethai rhyw deirawr o dywyllwch heibio yr oedd hi tua'r nawfed awr. Troesai rhuadau Gestas yn riddfan isel, dwfn, a pharablai bymtheg y dwsin hefyd ar adegau, fel petai'r loes yn gwanhau ei feddwl. Hongiai Dysmas yn anymwybodol ar y groes, ond hyd yn oed o dir angof, daliai i lefain weithiau am ei fam. Dioddefai'r Nasaread yn dawel a dewr.

"Y gŵr dewraf a welais i erioed." Eisteddai'r canwriad ar ei farch a geiriau syn yr hen Farcus yn troi a throi yn ei feddwl. Oedd, yr oedd hwn yn ddewr. Nid yfasai ef o'r vinum languidum, 'gwin trymder', cyn ei groeshoelio; yr oedd fel petasai'n mynnu cadw'i feddwl a'i synhwyrau'n glir hyd y diwedd. Rhaid bod y boen yn enbyd iddo ef, ac eto ni fygythiai fel Gestas ac nid wylai fel Dysmas. Yr oedd urddas rhyfeddol yn ei dawelwch ef.

Beth oedd ei feddyliau, tybed? gofynnodd Longinus i'r tywyllwch. Ychydig a ddywedasai—y weddi ar ei Dad am iddo faddau i'r rhai a'i croeshoeliai; gair wrth y gwragedd a'r gŵr ifanc pan aethant ato; y frawddeg am Baradwys wrth Dysmas; cri yn Aramaeg, ei iaith ei hun, gan godi'i lygaid i'r nef fel petai'n erfyn, o ganol ei unigrwydd, am arwydd oddi wrth ei Dduw; ac "Y mae arnaf syched," pan frysiodd Marcus i ddal, ar flaen corsen, ysbwng yn llawn o'r posca wrth ei enau. Ond yr oedd ei fudandod yn huotlach na geiriau. Ymddangosai fel un a ddewisai farw, yn eofn a dwys a thawel. Yr oedd hwn, yn wir, yn Frenin.

Duai'r tywyllwch yn fwy fyth ac yn y dwyrain, draw uwch bryniau Moab, ac yna'n nes, nes o hyd, crwydrai taranau hirion drwy'r nef. Ni welai Longinus mo'r bobl a safai wrth y marc yn y pridd, ac aneglur iawn oedd wynebau'r milwyr iddo. Pwysai'r caddug i lawr fel rhyw drymder anferth ar fin ymollwng ar y ddaear a gwasgu pawb a phopeth yn ddiddim. Aeth y canwriad ychydig yn nes at y croesau, a gwelai nad oedd diwedd y Nasaread ymhell. Gŵyrai'i ben ar ei fynwes ac yr oedd ei lygaid ynghau. Safai Marcus gerllaw iddo â'r gorsen a'r ysbwng o hyd yn un llaw a'i waywffon yn y llall, fel delw o filwr yn y gwyll. Daeth at ei ganwriad.

"Ein dyletswydd a wnaethom ni, onid e, Syr?"

"Wrth gwrs, Marcus."

"Ie, Syr, a rhaid i filwr ufuddhau, onid rhaid?"

"Rhaid, Marcus."

"Rhaid, Syr." A nodiodd yn araf a dwys wrth droi'n ôl at y groes.

Gododd y carcharor ei ben yn awr, gan edrych i fyny i dywyllwch y nef. Yr oedd rhyw oleuni yn ei wedd, fel un a wyddai iddo ennill brwydr fawr. Dywedodd rywbeth, eto yn ei iaith ei hun, ac yna gŵyrodd ei ben gan lefaru un gair yn dawel, fel anadliad o ryddhad.

Safai Marcus yn berffaith lonydd, fel petai wedi'i wreiddio yn y graig oddi tano.

"Marcus?"

Troes yr hen filwr yn freuddwydiol a cherddodd araf at y canwriad. Safodd, ond anghofiodd saliwtio.

"Syr, yr oedd hwn . . . Ond ni allai ddweud ychwaneg.

"Oedd," meddai Longinus yn ddwys, "yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn."

Prin yr oedd y geiriau o'i enau pan ysgydwodd daeargryn y ddaear ac y cododd ei farch ar ei bedrain mewn dychryn. Gerllaw, rhusiodd ceffyl y Canwriad Sextus, gan daflu'i feistr meddw yn swp i'r llawr. Gwaeddodd amryw o'r milwyr mewn braw, a chlywid twrf ofnus llu o bobl o gyfeiriad y ffordd a Phorth Effraim. Wedi i'w farch lonyddu, edrychodd Longinus yn bryderus tua'r ddinas, gan ofni gweld drwy'r gwyll fod cromen y Deml a thyrau Antonia hefyd yn sarn. Ond safent yn awr yn eu holl wychder, heb dywyllwch trostynt mwyach. Ciliai'r caddug mor gyflym ag y daethai, a gwelai'r canwriad yr wynebau llwyd a syn o'i gwmpas.

Syrthiasai tawelwch hyd yn oed dros filwyr swnllyd y Canwriad Sextus. Gwenai rhai ohonynt wrth wylio ymdrechion eu meistr i godi ar ei draed, ond edrychai'r lleill ar ei gilydd yn syn, a braw diddeall yn eu hwynebau. Gwelai Longinus fod ei dri milwr ef yn sefyll ar eu darn o graig ac yn syllu tua'r groes ganol. Camodd Fflaminius ymlaen tuag ato, ac yna arhosodd i daro blaen ei waywffon wrth ei dalcen mewn saliwt. Gwnaeth yr hen Farcus hefyd yr un peth.

"Y dewraf a welais i erioed, Syr," meddai wrth Longinus, fel petai'n ymddiheuro am ei weithred. "Y dewraf un.'

"Yr oedd rhywbeth mwy na dewrder yma, Marcus," sylwodd y canwriad yn dawel.

"Oedd, Syr, rhywbeth. rhywbeth mwy na dewrder." Nesâi tramp pedwar o filwyr.

"Rhai o garsiwn y Rhaglaw, Syr," meddai Marcus, gan eu gwylio'n gadael Porth Effraim ac yn anelu'n syth atynt hwy. "Hy, pwy mae'r rhai yna'n feddwl ydynt hwy?"

Saliwtiodd y pedwar o flaen Longinus pan ddaethant ato. "Gorchymyn oddi wrth y Rhaglaw, Syr," meddai'u harweinydd.

"Wel?"

"Gorchymyn i ladd y tri charcharor a thaflu'u cyrff i'r domen yng Nghwm Gehenna."

Nodiodd y canwriad, yn bur anfodlon ei wedd.

"Ond pam?" gofynnodd.

"Bu rhai o'r offeiriaid at y Rhaglaw, Syr," eglurodd y milwr.

"Offeiriaid? Nid â'r cais hwn?"

"Ie, Syr. Y mae Sabath yr Iddewon yn dechrau gyda'r hwyr heno. A'u Pasg. Bydd y rhai hyn"—a nodiodd tua'r croesau "yn halogi'r Ŵyl."

Credai Longinus y clywai watwareg yn ei dôn, yn arbennig ar y gair "halogi." Ond nid oedd cysgod gwên ar ei wyneb: milwr dan orchymyn ydoedd.

"Gellwch dynnu'r groes ganol i lawr pan fynnoch." Edrychodd y milwr yn syn arno.

"Nid ydyw wedi marw eisoes, Syr?"

"Ydyw."

Rhoes y dyn orchymyn i'w gyd-filwyr a throesant ymaith at eu gorchwyl. Gwelai Longinus fod y tair o wragedd a'r dyn ifanc yn penlinio wrth droed y groes ganol. Yr oedd y llances yn beichio wylo a'i holl gorff yn cael ei ysgwyd gan ei galar.

Symudodd ychydig i ffwrdd rhag bod yn dyst o boenau'r ddau garcharor arall. Yr oedd llid yn ei galon wrth iddo feddwl am "sancteiddrwydd" y Deml fawr a'i hoffeiriaid duwiol. "Halogi!" meddai rhwng ei ddannedd. Yna fe'i hatgofiodd ei hun mai milwr, a milwr Rhufeinig, oedd ef ac nad oedd a wnelai â'r bobl hyn a'u crefydd a'u rhagrith. Ond y bore hwnnw, yn Antonia, onid edmygai ef eu ffydd mewn un Duw yn hytrach nag mewn llu aneirif o dduwiau? Gwnâi, ond yr oedd ffieidd-dod yn ei galon yn awr. Pob parch iddynt hwy a'u Teml orwych a'i byddin o offeiriaid, pob parch i'w defosiynau a'u gwyliau crefyddol ac i'w synagogau ym mhob tref a phentref drwy'r wlad; ond ar y groes gerllaw yr oedd breuddwydiwr a phroffwyd ifanc a'i obeithion wedi'u diffodd ganddynt. Hwy, nid Rhufain, a'i gyrrodd ef i'r groes.

Mingamodd Longinus wrth syllu ar wychder y ddinas o'i. flaen. Tywynnai'r haul arni yn awr, gan daro'n ddisglair ar ei muriau a'i thyrau ac yn arbennig ar do euraid y Deml fawr. Dinas o eira a'i tho o aur! Beth a ddywedodd rhywun oedd ystyr 'Jerwsalem', hefyd? O, ie, Trigfan Heddwch'. Edrychodd yn hir ar lonyddwch gwyn y ddinas, gan edmygu, er gwaethaf ei chwerwder, ei harddwch a'i llonyddwch hi. Pa un a oedd wynnaf, ai ei meini hi ai'r cymylau gwynion acw yn yr awyr las uwch ei phen? Fflachiai ambell helm a tharian ar Dŵr Antonia uwchlaw'r Deml, fel pe i atgoffa'r ddinas sanctaidd fod cleddyf a gwaywffon yr Ymerawdwr yn gwylio'i bywyd hi.

Fel y llithrai'r geiriau "y ddinas sanctaidd" i'w feddwl, troes edmygedd Longinus yn atgasedd eilwaith. Yr ennyd hwnnw, o ffair ei Theml enfawr, deuai criau gyrwyr a gwerthwyr anifeiliaid a lleisiau cyfnewidwyr arian. Gwelai'r canwriad eto Gyntedd y Cenhedloedd a'r Nasaread ifanc yn gyrru'r ' lladron' ymaith mewn braw. Ond yn awr tawelwyd ei lais ef ac âi'r elwa ymlaen yn wylltach nag erioed. A thu fewn i'r Deml yr oedd yr offeiriaid wrthi'n aberthu ŵyn ar eu hallor sanctaidd, a'r bobl a grochlefai ar y ffordd tua Golgotha erbyn hyn yn eu tai yn paratoi ar gyfer "bwyta'r Pasg" a chanu mawl i'w Duw. Yr oedd yma, meddai'r canwriad wrtho'i hun yn chwerw, destun newydd i awen Othniel. Oen y Pasg ar allor y groes! Na, ceisiai guddio pob cysgod o chwerwder fel hyn rhag ei gyfaill claf: byddai'r newydd am farw'r Proffwyd o Nasareth yn siom ofnadwy iddo, heb ei liwio â gwawdiaeth felly. A thyfai yn awr, yn fwy na thebyg, elyniaeth chwyrn rhwng Othniel a'i dad, y Cynghorwr a oedd yn un o'r rhai a gondemniodd y Nasaread i'r groes.

Gwelai ryw ddyn yn brysio tuag ato. Oni bai am ei wisg dlodaidd, yr oedd yr un ffunud â thad Othniel a Rwth. Yr un cerddediad, a'r ysgwydd dde'n ymddangos ychydig yn uwch na'r llall. Sylwasai o'r blaen mor debyg oedd yr Iddewon 'ma i'w gilydd, ond yn wir, yr oedd y tebygrwydd y tro hwn yn rhyfeddol.

"Longinus?"

"Syr! Nid oeddwn i'n eich adnabod chwi—yn y lle yma, ac yn y wisg yna."

"Longinus?" Yr oedd taerineb

Yr oedd taerineb yn y llais.

"Ie, Syr?"

"A ydyw'r Nasaread wedi marw?"

"Ydyw, Syr."

"A'i gorff ef?"

"Ei gorff, Syr?"

"Ie. Beth yw neges y milwyr 'na?"

"Tynnu'r tair croes i lawr rhag iddynt halogi'r Ŵyl a'r Sabath."

Er ei waethaf llithrodd y watwareg a glywsai yn llais y milwr i lais Longinus hefyd.

"Ac yna?"

"Ant â'r cyrff i'r tanau sy'n llosgi ysbwriel y ddinas.' "Yr wyf yn mynd yn syth at y Rhaglaw, Longinus. Y mae gennych awdurdod tros y milwyr hyn?"

"Oes, wrth gwrs."

"Cedwch hwy yma nes imi ddychwelyd, 'wnewch chwi? Ni fyddaf yn hir. Y mae gennyf fedd yn un o'r gerddi 'na wrth droed Bryn Gareb, ac os caf ganiatâd y Rhaglaw, cymeraf gorff y Nasaread a'i roddi ynddo. Cedwch y milwyr yma, erfyniaf arnoch."

"O'r. . . o'r gorau, Syr."

Gwyliodd Longinus ef yn brysio ymaith ac yn ymuno â rhyw ddyn a arhosai amdano. Yna i ffwrdd â'r ddau tua'r ddinas. Syllodd y canwriad mewn dryswch ar eu holau. Ni ddeallai'r peth o gwbl: onid oedd tad Othniel yn un o'r Cyngor Iddewig a gawsai'r carcharor yn euog ac yn haeddu marwolaeth? Ai'n edifar yr oedd? Neu efallai na chydsyniodd ef â'r ddedfryd ac yr heriai yn awr holl awdurdod yr Archoffeiriad a'r Cynghorwyr drwy fynnu claddu'r Proffwyd yn ei fedd ei hun? Os oedd hynny'n wir, byddai Othniel a'i dad yn gyfeillion mawr yn hytrach nag yn elynion.

"Longinush? Longinush?"

Y Canwriad Sextus a ymlwybrai'n feddw tuag ato. "Y milwyr 'na—pwy a'u gyrrodd hwy yma?"

"Y Rhaglaw ei hun."

"O." Sobrodd hynny ychydig arno.

"I beth?"

"I dorri'u coesau a dwyn eu cyrff ymaith. Y mae gan yr Iddewon ofn iddynt halogi'r Ŵyl."

"He, he, he, pobl grefyddol, Longinush, pobl dduwiol drosh ben, onid e? Y cnafon yna a oedd yn shgrechian bob cam o'r ffordd i lawr yma! Y taclau! Y diawliaid! Y . . . " Ond nid oedd geirfa Sextus yn un gyfoethog iawn, a bodlonodd ar boeri'n huawdl ar y llawr a rhythu'n ddicllon tua'r ddinas. "Ond cewch chwi a'ch milwyr fynd yn ôl i'r gwersyll yn awr, Sextus.

"Cawn. Cawn, wrth gwrsh. Yn ôl i Antonia am lymaid. Shychedig, shychedig ofnadwy. Hei!" gwaeddodd ar y milwyr, a oedd yn ffraeo am rywbeth, "Heddiw, nid yfory!"

Ond gwelai Longinus mai ymhlith ei filwyr ef yr oedd y cynnwrf a brysiodd tuag atynt. A'i bicell yn fygythiol yn ei law, ceisiai Fflaminius fynd heibio i'r hen Farcus i ymladd ag un o filwyr y Rhaglaw. Gyrrodd y canwriad ei geffyl rhwng ei ddau filwr a'r lleill.

"Fflaminius!"

Rhoes Fflaminius y gorau i'r ymrafael a chododd ei bicell i'w dalcen mewn saliwt. Ond yn beiriannol y gwnâi hynny, gan ddal i hylldremio i gyfeiriad y llall, er bod y march rhyngddo a'r dyn yn awr.

"Beth sy'n bod, Marcus?"

"Fe yrrodd y milwr 'ma ei bicell i fynwes y carcharor, Syr. Rhag ofn bod bywyd ynddo. A phan welodd Fflaminius hynny . . ."

"Mi fedrwn i wneud yr un peth iddo yntau, Syr," meddai Fflaminius rhwng ei ddannedd.

Cymerodd Longinus arno edrych yn geryddgar arno, ond mewn gwirionedd, edmygai'r dicter a fflachiai yn llygaid ei filwr hanner-meddw.

"Y mae'r dyn yn gwneud ei ddyletswydd, Fflaminius," meddai. "Cawsant orchymyn i dynnu'r cyrff i lawr a'u dwyn ymaith."

"Do, Syr, ond yr oeddwn i wedi dweud wrthynt fod ein carcharor ni . . .

Daeth y Canwriad Sextus ymlaen atynt.

"Gadewch y bushnesh i'r rhain, Longinush," meddai, gan nodio tua milwyr y Rhaglaw. "Shychedig, shychedig ofnadwy."

"O'r gorau, Sextus. Ewch chwi'n ôl i Antonia. Dilynwn ninnau ymhen ennyd.

Aeth Sextus a'i filwyr ymaith. Yr oedd Longinus yn falch o'u gweld yn mynd, rhag ofn i'r canwriad meddw gael i'w ben y dylid llosgi corff y Nasaread hefyd.

"Syr?"

Un o filwyr y Rhaglaw a saliwtiai o'i flaen.

"Ie?"

"Y mae'r tri'n farw, Syr. Awn â hwy i Gehenna.'

"Ewch â Dysmas a Gestas. Ond gadewch gorff Brenin yr Iddewon yma yn fy ngofal i."

"Syr?" Ni ddeallai'r milwr.

"Gadewch groes Iesu o Nasareth yma. Gofalaf fi a'm milwyr amdani."

"Ond, Syr, cawsom orchymyn . . . "

"Do, mi wn, ond yr wyf yn rhoi gorchymyn arall i chwi yn awr. Arnaf fi y bydd y cyfrifoldeb."

Yr oedd gwedd a chamau'r milwr yn bur ansicr fel y troai ymaith at y lleill. Dywedodd rywbeth yn dawel wrthynt ac edrychent oll ar ei gilydd yn anfoddog. Yna aethant â'r ddau gorff arall ymaith.

Gwelai Longinus negesydd yn rhedeg tuag ato o gyfeiriad Porth Effraim. Adnabu ef fel un o negeswyr y Rhaglaw.

"Ganwriad?"

"Ie?"

"Y mae'r Rhaglaw am eich gweld."

"O'r gorau. Dof ar unwaith. . . Marcus! Fflaminius! "Leo! Lucius!"

Daeth y pedwar ato.

"Ie, Syr?"

"Cefais fy ngalw at y Rhaglaw. Rhywbeth ynglŷn â'r carcharor, y mae'n debyg. Gadawaf ei gorff yn eich gofal chwi, nes imi ddychwelyd. Nid oes neb i'w symud oddi yma. Neb. A ydyw hynny'n glir?"

"Neb, Syr."

Dywedai wynebau'r pedwar y byddai angen byddin i gymryd y corff oddi arnynt.

Nodiadau[golygu]