Ysgrifau (Dewi Emrys)/Jack

Oddi ar Wicidestun
Dau Filwr Ysgrifau (Dewi Emrys)

gan Dewi Emrys

I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Ysgrifau (Dewi Emrys testun cyfansawdd)



JACK

CYFEILLGARWCH nad oedd y byd yn deilwng ohono oedd ei gyfeillgarwch ef. Un math o gariad yn unig a adwaenai, sef y cariad hwnnw sydd yn ffyddlon hyd angau (hyd at drengi) heb feddwl am na choron y bywyd nac unrhyw wobr arall dan haul. Caru o wynfyd caru a wnâi ef, a'i dâl i gyd yn y gwynfyd hwnnw.

Wrth edrych yn ôl heddiw ar ddyddiau fy ienctid, a gweld ei lygaid siaradus a'i glustiau deallgar, a'i gynffon huodl yn curo "Clywch! Clywch!" ar y llawr pan lefarwn y dwli mwyaf, sylweddolaf na phylodd ymdaith y blynyddoedd ddim ar ryfeddod ei serch—y serch, fel yr awgrymais eisoes, na haeddais mono erioed.

Mi garwn allu maddau fel y maddeuai Jack-maddau'r cam a'i anghofio'n llwyr y funud nesaf. Ni wiw i mi sôn wrtho i mi golli fy nhymer a'i ddolurio, ac yntau'n diolch, tan lyfu fy llygaid a'm clustiau, am gyfle i faddau, a'r gynffon huodl yna yn canu Haleliwia yr un pryd.

Rhy anodd yw credu nad yw ef o hyd yn gwanu'r perthi ac yn llamu'r cloddiau o gwmpas Tŷ Newydd-hen annedd fy mebyd wrth odre Garn Gowil.

Yr oedd Jack a Garn Gowil yn un rywfodd, a'i fynd hoenus drwy'r eithin a'r grug a'r rhedyn fel cwthwm o wynt chwerthinog, a rhialtwch ei gyfarth fel eco rhywbeth a gollwyd pan gysgodd y graig.

Yr ydych wedi casglu, erbyn hyn, mi wrantaf, mai ci oedd Jack. Ond fe'i cyfrifid yn gi, yn hytrach na brawd, yn unig oherwydd ei debygrwydd i gi mewn pethau yr edrych y llygad arnynt. Mi welais ystyried creadur arall yn ddyn am yr un rheswm arwynebol.

Dyledus i goffadwriaeth fy hen gydymaith annwyl yw tystio na chlywais i nemor neb yn ei alw yn gi wedi iddo dyfu i fyny a gwneud ei gallineb a'i lewder yn hysbys drwy'r ardal. Fel "Jack" a "Jack Tŷ Newydd" y sonid amdano ymhell ac agos, fel petai'r gymdogaeth wedi gorfod ei dderbyn i mewn i gylch y frawdoliaeth ddynol. Nid wyf yn tybio iddo ef ei hun werthfawrogi hynny; ond yr wyf yn hollol sicr iddo ryfeddu lawer gwaith at hurt- rwydd creaduriaid a ddiolchai'n barhaus na pherthynent i'r anifeiliaid direswm.

Ofer gofyn pa rywogaeth o gi ydoedd Jack. Cyfarfu ynddo genedlaethau o gŵn gwahanol. Nid oedd na spaniel na therier na chorgi na chi adar na chi gwartheg na chi defaid nac unrhyw gi arall y gellid olrhain ei achau a'i ddeffinio. Mae'n wir iddynt oll gyfarfod ynddo ef; ond her i neb ddynodi lle y dechreuai un ac y gorffennai'r llall gan mor gywrain y cymysgwyd y rhywogaethau amrywiol yn y telpyn byw, caruaidd a adwaenwn mor dda.

Yn hynny o beth, yr oedd fel teisen orau fy mam-yn flawd, yn wyau, yn hufen, yn fenyn, yn siwgr ac elfennau eraill, a'r cwbl yn ymdoddi i'w gilydd yn un saig o hyfrydwch anneffiniol. Ond gan nad sawl math o gi a gyfrannodd tuag at wneuthuriad Jack, sicr ydwyf mai rhagoriaeth pob un ohonynt a gyfarfu yn ei gorpws ef.

Wrth feddwl amdano heddiw, yr wyf yn argyhoeddedig bod brithgi da i'w ddewis o flaen rhyw frenhingi diledryw y perthyn. iddo elfennau gwaethaf ei linach. Wedi'r cwbl, beth yw bonedd a gwaedoliaeth onid amlygont deithi sy'n ennyn edmygedd a chyfiawnhau galw eu hil yn hil o uchel dras? Ai enwau gweigion ydynt yn dynodi gwas— eidd—dra tud yn hytrach na'u rhiniau cynhenid eu hunain?

Mi welais rhwng mynyddoedd fy ngwlad werinwyr bucheddol yn moesymgrymu i ryw greadur o yswain oedd yn fynych yn rhy feddw yn ei gerbyd i gydnabod eu cyfarchiad. Yn wir, canfûm hen saint— druain ohonynt!—ar eu ffordd i'r cysegr yn tynnu eu cudynnau i'r "gŵr mawr" hwnnw, ac yntau ar ei ffordd i'r gyfeddach.

Peth felly a fu'n dolurio santeiddrwydd ardaloedd gwledig Cymru am yn hir; gwerin dlawd a'i hymarweddiad yn y nefoedd, a'i bywoliaeth yn rhwym wrth bendefigaeth ddaearol—daearol iawn. Mi wn y gellir dadlau nad gwerin a'i hymarweddiad yn y nefoedd oedd honno a fedrai amlygu'r fath waseidd—dra a rhoi mwy o barch yn fynych i'w meistri anfoesol nag i'w phroffwydi. Gellir edliw hefyd nad sylwedd crefydd oedd iddi, eithr teimladrwydd crefyddol, a chymaint o wahaniaeth rhwng y ddau ag sydd rhwng yr ewyn a'r graig.

Ond am Jack yr oeddwn yn sôn. Os creadur cymysgryw ydoedd, yr oedd ei fwngreliaeth fonheddig yn waradwydd ar bendefigaeth anrasol cŵn y plas. Sant ei wehelyth oedd ef. Yn y capel y mynnai fod ar y Sul, a chŵn eraill yn ofera ar hyd y mynyddoedd, a'u cyfarth digywilydd yn sŵn rhyfygus iawn mewn bro a ystyriai chwiban yn halogi'r Sabath.

Fel cenau bach boliog, ychydig dros ddeufis oed, y cofiaf amdano gyntaf. Ymddangosai'n rhy drwm i'w goesau; a'i duedd oedd mynd ar ei ben i bob dodrefnyn fel petai holl gynnwys y tŷ ar ei ffordd. Gan ei fod mor simsan ar ei draed, mi a'i codwn i'r whilber (berfa) gyda'r ystenau bob tro y dôi gyda mi i gyrchu dwfr o'r ffynnon yng ngwaelod y weirglodd; a chyn hir ei hoffter oedd ei gludo'n ôl a blaen ar y daith feunyddiol honno.

Clybûm am ddyn a fedrai ddwyn tarw ar ei gefn am iddo ei gario beunydd ar ei ysgwyddau o'r dydd y ganed y creadur. Mor gyson y cludwn innau Jack yn y whilber fel na sylwn ei fod yn prifio a thrym- hau. Ond wedi iddo dyfu i fyny, cefais achos i edifarhau droeon i mi arbed cymaint ar ei goesau. Bob tro yr awn allan â'r whilber, ystyriai Jack mai ei hawl annileadwy ef oedd reidio ynddi. Ni chawn garthu'r ystabl na neidiai ef hyd yn oed i ben y llwyth tail i'w gludo cyn belled â'r domen; i'r cerbyd gwag drachefn i'w gludo'n ôl i'r ystabl, er ei fod erbyn hyn, cofier, yn rhedwr grymus.

Adloniant mawr i gyfeillion a ymwelai â ni oedd gweld fel y medrai Jack sefyll yn y whilber er i mi ei gyrru ar garlam gwyllt i lawr dros oledd y weirglodd. Gellid tybio bod ei bawennau wedi eu gludio wrth ei gwaelod; a her i neb ei gael allan ohoni heb ddymchwel y cerbyd. Dyna un o'i hynod- ion cyntaf. Ychwanegodd yn ddirfawr atynt yng nghwrs ei fywyd.


Yr oeddwn yn hoff iawn o ffuredu cwningod. Fel y gŵyr y cyfarwydd, rhaid taenu rhwydi (os rhai bychain a arferir) ar y tyllau o bobtu'r clawdd a'u gwylio gan ddau heliwr, un bob ochr i'r gwrych. Gan nad oedd gennyf frawd, Jack, fel rheol, oedd fy unig gydymaith. Daeth yn ddigon hyddysg cyn hir i ofalu am un ochr i'r clawdd ar ei ben ei hun a rhoi imi'r arwyddion gofynnol. Fe laddai'r gwningen yn y rhwyd ag un brathiad effeithiol; wedyn sefyll o'r neilltu i warchod y rhwydi eraill a dwyn. y ffured yn ôl gerfydd ei gwddf, heb anafu dim arni, pe digwyddai iddi grwydro allan i'r cae.

Lletywn y ffured mewn cut yn yr ysgubor; a da y cofiaf y noson y mynnai Jack fod llygoden fawr dan y bwrdd dyrnu isel— rhy isel iddo ef fynd dano-ar ganol y llawr. Wedi rhedeg gylch ogylch am beth amser, aeth i'r gornel a gosod ei ddwy bawen flaen ar gut y ffured; wedyn syllu i fyny ataf tan siarad yn erfyniol yn ei ffordd ei hun, a minnau'n ei ddeall i'r dim: "Defi bach! Yr wyt yn gweld fy mhenbleth—llygoden dan y bwrdd dyrnu, a minnau'n rhy fawr i fynd i mewn ar ei hôl. Gad i'r ffured yrru'r satanes allan. Mi ofalaf fi am y gweddill!" Awgrymodd gynllun na ddychmygais i amdano, er fy mod mor chwannog ag yntau i ddal y satanes, yn enwedig o gofio'r hwyaid bach a'r cywion a leddid mor aml gan ei gwehelyth front.

Nodaf y digwyddiad hwnnw fel enghraifft o'i gallineb a'i ddeall; a da gennyf ychwanegu i'r cynllun lwyddo. Gyrrwyd y llygoden o'i lloches; ac yng ngenau Jack y darfu ei heinioes.

Awgrymais mai ffyddlondeb na chyfrifai'r gost oedd ei ffyddlondeb ef. Cyfyd lwmp o hiraeth i'm gwddf wrth alw i gof y diwrnod hwnnw yr euthum allan mewn cwch o draeth Wdig gyda'm cyfaill John James— llanc a ddaeth yn gapten llong ar ôl hynny. Wedi inni rwyfo allan tua milltir, dyna John yn gweiddi'n arswydus: "Jiw! Jiw! Dyna forlo!" Yn nhrywydd y cwch, ryw gan- llath i ffwrdd, gwelwn ben du ar frig gwaneg las, a'r creadur yn gwneud am danom! Dyma afael yn dynnach yn y rhwyfau a thynnu am ein bywyd i gyfeiriad y cei dan Graig y Cw yn hytrach na throi'n ôl am draeth Wdig. Ar hyn, dyma gyfarth bach gweddigar yn codi o'r tonnau. Creadur dieithr oedd morlo i mi; ond yr oeddwn yn ddigon cyfarwydd â'r cyfarth hwnnw i wybod mai fy hen ffrind Jack oedd yn gwneud am danom, nid gelyn. Yr oedd ar foddi, druan, pan godwyd ef i'r bad, a mwy o halen yn ei fol nag a lyncodd mewn blwyddyn gyda'i gawl—cawl enwog Sir Benfro. Gorweddodd yn sopyn lluddedig wrth fy nhraed, ei weflau'n glafoerio, a'i ochrau'n megino'n echrydus; ond nid cyn iddo lyfu fy llaw a churo diolch bach gorfoleddus â'i gynffon ar waelod y cwch.

Wedi iddo ddadebru, mi a'i cyferchais yn y dull sarrug hwnnw sydd mor debyg i wylo: "Y ffŵl dwl! Serfio di'n reit petait ti wedi boddi! Yr oedd yn dda iti gyfarth, cofia! Nid lle i gi yw canol bae Wdig, y ffŵl! Fe gredodd John a mi taw morlo oit ti. Glywaist ti? Morlo!"

Cododd ar ei eistedd gan syllu i'm llygaid a gofyn beth oedd morlo. Ate bais: "Nid cadno (wow!), nid draenog (wow!), nid mochyn daear (wow!), nid gwenci (wow!), nid ffwlbart (wow!), ond morlo (?)... Yr oedd yr anghenfil hwnnw y tu allan i'w eiriadur; ond yr oedd yr ymofyn mud yn ei lygaid yn llawn mor huodl a'r "wow" a amlygai ei adnabyddiaeth o'r creaduriaid eraill a enwais. Mwy na hynny, yr oedd ei wrychyn i fyny gan awydd dychrynllyd i'w gyflwyno i'r creadur anghyfeillgar hwnnw. cyn gynted ag y medrwn. Ond-y nefoedd fawr!-rhyfedd oedd teimlo mor sychedig ar ôl llyncu cymaint o ddŵr. Yn ben- difaddau, nid llyn y felin oedd bae Wdig!

Yr oedd yn hoff iawn o Bess y gaseg; a'i wledd fawr oedd cael carlamu wrth ei hochr i dref Abergwaun; ond ni ddilynai bob. cam o'r ffordd. Yr oedd Jack yn gallach na hynny. Wedi cyrraedd gwaelod Rhiw Drefwrgi, fe groesai'r waun heibio i fferm Y Drum, ac aros am danom wrth odre Rhiw Windi Hal yn hytrach na'n canlyn heibio i'r Dyffryn a thros y Barrog. Wrth ein cyfarfod drachefn, fe noethai ei ddannedd mewn chwerthin mawr gan neidio i fyny at drwyn y gaseg ac edliw: "Yr wyt ti'n gyflym, Bess! Ond yr wyf fi'n gyflymach na thi mewn rhai pethau!

Yn ystabl yr un gwesty y lletywn y gaseg bob tro y marchogwn i'r dref. Ai yntau, Jack, ar grwydr am dipyn o garu, a dychwelyd yn awr ac eilchwyl i'r ystabl er cael allan a oedd Bess yno, a minnau heb gychwyn ar y daith tua thre; ond gorfu iddo ymladd yn galed am yr hawl i fynd trwy ddrws yr ystabl i wneud yr ymholiadau hyn. Bob, ci John y gwastrodwr, oedd yr anhawster; hwnnw, ar y dechrau, yn mynnu ei atal, a dadlau mai ef oedd gwyliwr y porth.

"Edrych yma," meddai Jack wrtho un noswaith, "a bydd yn rhesymol. Eisiau gweld yr wyf a yw Bess i mewn yn y stabl yna. Os ydyw, popeth yn dda; mi af am dipyn o garu eto. Os yw wedi mynd, mae'n rhaid i mi frasgamu ar ei hôl nerth fy maglau. Yn awr, gad imi gael un pip bach!"

"Dim un pip!" heriai Bob, a'i wrych i fyny yn storm o afresymoldeb.

"Yr wyt yn gofyn am drwbwl, cofia!" dadleuai Jack. "Yr wyf yn penderfynu setlo'r fusnes hyn heno, unwaith am byth. A wyt ti am roi ffordd?"

"Dim un pip!" taerai Bob drachefn, gan chwyrnu'n gas. Ond cyn iddo gael ei anadl ato'n iawn, yr oedd Jack i mewn iddo, yn lloerig gan gynddaredd cyfiawn.

Ymglymodd y ddau ymladdwr yn ei gilydd ac ymdreiglo'n belen o ffyrnigrwydd brathog i ganol llawr yr ystabl; a dyna'r ceffylau hefyd yn ymuno yn nherfysg yr ysgarmes gan wichial a thaflu eu pedolau ôl i'r entrych yn gylchau gloywon o fellt. Yng nghanol y randibŵ fawr dyma John i mewn ac yn ysgubo'r ddau ymladdwr allan i'r heol. Canlyniad eu brwydr y noson honno oedd cymodi a dyfod yn ffrindiau anghyffredin. Yn wir, anaml, wedi hynny, y cychwynnai Jack tuag adref na fynnai Bob ei hebrwng allan o'r dref a chymryd ei ran yn erbyn pob llechgi a ruthrai allan ato ar y ffordd. Canent yn iach i'w gilydd ar ben Rhiw Windi Hal, a Jack yn mwmian wrthyf wedyn: "Hen fachan reit ffein yw Bob yn y gwaelod, ond ei fod yn credu taw fe piau'r stabl yna."

Tro rhyfedd oedd hwnnw yn Wdig pan farchogodd fy nhad trwy'r pentref a Jack yn trotian wrth ei ochr â dysgl yn llawn baeddgig yn ei geg, a gosgordd o gŵn gobeithiol wrth ei gynffon-pob un ohonynt yn ei adnabod yn rhy dda i ddechrau ymrafael. Yn gelfydd iawn y cariai Jack y ddysgl-ei hymyl isaf rhwng ei ddannedd, a'i chantel uchaf yn gorffwys ar ei dalcen. Yr oedd Jack, fel y cewch glywed, yn hoff iawn o bregethu fy nhad; ond rhaid cyd- nabod iddo ymyrryd yn ofnadwy ag urddas y weinidogaeth y diwrnod hwnnw. Unig ffordd fy nhad o ddianc rhag cywilydd oedd gado'r pentref ar garlam. Cefais allan wedi hynny mai eiddo dwy hen ferch y llythyrdy oedd y danteithfwyd y methodd Jack ymatal rhag ei ladrata. Gadawsent y saig ar y llawr i oeri a chaledu, nid i ddiflannu fel breuddwyd, a'u hamddifadu o swper blasus. Credaf i'r lleidr bach edifaru llawer am ei drosedd; oblegid yn euog iawn wedi hynny y cripiai heibio i hen ferched y llythyrdy; ac er iddynt hwythau—chwarae teg iddynt! —addef bod cydwybod yn aros yn rhagoriaeth iddo fel ci pregethwr, nid aethant mor bell â chyfrif hynny'n ddiogelwch rhag temtasiwn gyffelyb maes o law! Ystorm a ysgydwodd gedyrn yw'r gwrthryfel rhwng cydwybod a thrachwant.

Costiodd ei hoffter o bregethu—pregethu fy nhad, wrth gwrs—yn ddrud iawn iddo un bore Sul. Yr oeddwn, yn ôl fy arfer, wedi ei gloi yn y gegin cyn cychwyn am y capel. Ond, er fy syndod, a ninnau'n canu'r emyn o flaen y bregeth, dyma Jack yn cripian i mewn i'm sedd, a golwg euog ofnadwy arno. Sylwais, yn ychwanegol, fod ei ben yn friw a gwaedlyd.

Eisteddodd o'm blaen a syllu i fyw fy llygaid. Heb wneud sŵn o gwbl, ond siarad yn angerddol â'i olygon, a llyfu fy llaw, dechreuodd ymddiddan a begian fy mhardwn gyda'r peth taeraf a glywsoch chwi erioed. Jack, bid sicr, oedd y pechadur mwyaf edifeiriol yn y cwrdd y bore hwnnw; ac fel hyn y llefarai, yn ei ffordd ei hun: "Defi bach! Y mae'n ofidus iawn gennyf dy drwblu fel hyn. Y doluriau yma ar fy mhen? O, twt, twt, paid â sôn am danynt. Digon o wynfyd am y rheini yw cael gafael ynot a chlywed llais meistr yn y pulpud. Dim ond un peth sy'n fy ngofidio'n awr— y twll melltigedig yna yn ffenestr y gegin, a gwydr y chwarel yn deilchion ar hyd y lle. Ond dyna hen Bitar y Saer, fe ddaw ef, fel arfer, i drwsio pethau. Gwell imi dewi hefyd neu mi gollaf y bregeth. Y mae meistr wedi codi ei destun yn barod. Ond gad imi lyo dy law, Defi bach annwyl, unwaith eto—dim ond unwaith! Mi orweddaf i lawr wedyn yn dawel bach dan y sedd yma. O! 'r nefoedd fawr! Dyna dda yw cael bod yma—pen tost neu beidio!"

Wedi hynny, yr ysgubor oedd ei garchardy bob bore Sul, a chadwyn gref yn atalfa ychwanegol ar ei bererindodau. Ond nid hir y bu'r cynllun hwnnw cyn troi'n fethiant. Trwy ryw gyfrin ddeall nas rhodded hyd yn oed i ddewin, fe ddechreuodd Jack ddiflannu nos Sadwrn. Nis gwelais yn edrych ar yr almanac; ond fe wyddai, heb gymorth amseroni, mai nos Sadwrn ydoedd. Nid oedd sôn amdano ar y buarth fore Sul; a chawn innau alw a chwibanu fy mherfedd allan cyn yr ymddangosai, er fy mod yn dra sicr ei fod yn llercian yn y cyffiniau. Gallwn fentro fy mhen y cawn ei weld yn y capel—yn disgwyl wrthyf yn y sedd neu ynteu'n ymlusgo i mewn yn llechwraidd wrth gynffon rhyw addolwr amhrydlon.

Nid ffordd y saint a ddilynai ef wrth gyrchu'r addoldy, ond dringo ffordd arall fel ysbeiliwr—croesi'r waun a'r mynydd, ymwthio trwy'r perthi a llamu'r cloddiau ar ei ben ei hun—rhag i mi ddigwydd ei weld a'i yrru'n ôl.

Os aeth creadur erioed i foddion gras dan anawsterau, a mynnu bod yno hefyd, Jack oedd hwnnw.

Dan gysgod y Garn Fawr y gorwedd heddiw, ei glustiau astud yn rhy fyddar i glywed dwndwr y môr yn ogofeydd Pwll Deri, a chadwyn na allodd neb ei thorri yn ei ddal rhag crwydro mwy. Fe'i claddwyd yn barchus gan hen ffrind i mi sydd yn aros hyd y dydd heddiw, yn hynafgwr penllwyd bellach, yn ei fwthyn ar lannau arfordir creigiog Penfro.

Mynnwn innau hefyd orffwys yn y diwedd dan gysgodion hen gernydd Pencaer; ac o gael fy newis, yng nghesail Garn Gowil, yng nghanol y grug a'r eithin, y carwn gysgu fy nghwsg olaf, ag un o feini digabol y fro-hen fro'r derwydd a'r marchog- yn sefyll uwch fy mhen.

Yno y llamodd Jack a minnau yn gyfoedion diofid cyn dyfod cwmwl trallod; yno yr agorwyd i mi byrth fy mreuddwydion cyntaf; ac o orwedd eilwaith gerllaw fy hen ffrind, cawn yno dangnefedd llwyr, a dweud y lleiaf:

Ni'm brath na phig eiddigedd
Na min fy mai yn fy medd.




ARGRAFFWYD

YNG NGWASG HUGHES A'I FAB

WRECSAM

Nodiadau[golygu]