Ysgrifau (Dewi Emrys)/Dau Filwr

Oddi ar Wicidestun
Y Stori Dal Ysgrifau (Dewi Emrys)

gan Dewi Emrys

Jack
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Ysgrifau (Dewi Emrys testun cyfansawdd)



DAU FILWR

FEL eraill, bûm yn ddigon byrbwyll i gredu. mai rhyfel i roi terfyn ar ryfel oedd y gyflafan fawr a ddechreuodd ym mis Awst, 1914; ac ar ôl gweld erchylltra ymosodiadau llongau awyr yr Almaen, mi a deflais ymaith ddiwyg y pulpud a gwisgo am danaf arfogaeth Byddin Prydain Fawr. Tybiwn fy mod yn troi i ymgyrch santaidd, i grwsâd marchogion Y Grog.

I Berkhampstead yr euthum gyntaf i'm hyfforddi yng nghrefft y triniwr arfau. Yn y dref honno, gyda llaw, y ganed William Cowper y bardd Seisnig. Yr oeddwn yn gynefin â'i weithiau cyn hynny; a darllenaswn ei lythyrau coeth a chryn lawer o'i hanes. Druan o Cowper, a'i helbulon a'i ddioddef parhaus, a nos amwyll yn disgyn arno o bryd i bryd, rhwng ysbeidiau o ddydd toreithiog, a'i amgylchu'n llwyr yn y diwedd. Eto ef, yn ei iaith gyfoethog ei hun, a emynodd fel hyn:

Trwy ddirgel ffyrdd y mae yr Iôr
Yn dwyn Ei waith i ben;
Mae'n plannu Ei gamre yn y môr,
Mae'n marchog storm y nen.


Yn Berkhampstead hefyd y trigiannai W. W. Jacobs, yr awdur ffraethbert sydd wedi peri cymaint digrifwch â'i ddarluniau o hen longwyr a gwehelyth y porthfeydd. Lletyai dau o'm cydfilwyr dan ei gronglwyd ef, oblegid dofreithwyr oeddym oll yr adeg honno, a phob dosbarth o drigolion y dref yn ddigon parod i'n derbyn a'n gwneud mor gysurus ag y medrent.

Diangof fy more cyntaf ar faes y parêd, mewn sgwad o ryw ugain, a hen ringyll profiadol, wedi ei biclo'n dda dan haul y Dwyrain, yn ein cyfarwyddo. Dysgais wedi hynny fod i'r cyfarwyddwr gerwin hwnnw gryn lawer o natur dda, ond ei fod, yng nghwrs ei ddyletswyddau swyddogol, fel pob hen filwr, yn arfer yr un hen foddion ag a arferwyd ato ef ei hun, a dilyn yr un hen draddodiadau digyfnewid. Er enghraifft, creaduriaid a dorrodd galonnau eu mamau oedd pawb ohonom yn ei olwg ef; ond her inni oll gyda'n gilydd, myn diawl, dorri ei galon ef! Wrth reswm, creaduriaid felly a ymunai â'r fyddin pan dderbyniodd ef swllt y brenin. Yr oedd anallu prennaidd yr hen ringyll i ymddeol oddi wrth amgylchiadau ei ddisgyblaeth ei hun yn broblem ddiddorol i mi mewn meddyleg. Gofynnodd imi unwaith beth oedd fy ngalwedigaeth cyn imi ymuno â'r fyddin. Pan atebais mai pregethwr oeddwn, dywedodd wrthyf am fynd i uffern gyda'r fath stori geiliog a tharw! Wrth reswm, fe gofir nad oedd raid i weinidogion a phersoniaid ddwyn arfau rhyfel hyd yn oed dan Fesur gorfodaeth. filwrol.

Yn y fintai fechan y bore cyntaf, Partington oedd enw'r milwr ar fy llaw ddehau—gŵr diwylliedig ac urddasol y caf yr hyfrydwch o'i weled heddiw yn awr ac eilwaith. Tomas—William Tomas—oedd enw'r milwr ar fy llaw aswy—rhyw lefnyn ysgyrnog yn onglau i gyd, a'i gyfansoddiad, a barnu wrth ei ddifrifoldeb a'i anorffwystra, yn storm o nerfau. Edrychai'n debyg i fardd; a phan ofynnais iddo, dan fy nannedd, ai Cymro ydoedd, edrychiad surllyd a gefais. Yr oedd ei fryd mor llwyr ar ddal pob sillaf a ddylifai o enau'r hen ringyll. Os aeth rhywun i'r fyddin i anghofio popeth ond milwria, Tomas oedd hwnnw. O leiaf, felly yr ymddangosai i mi y bore hwnnw.

Ein gwers gyntaf oedd dysgu ymffurfio'n llinell union y gallech redeg incil mesur yn gyfochrog â hi heb ei blygu. "Right dress" yw'r gorchymyn a ragflaena'r syllu i'r dde dros ysgwyddau eich gilydd, a'r gwingo a'r ymnyddu sy'n angenrheidiol cyn sicrhau'r uniondra hwnnw. Gan nad oes i'r gŵr

cyntaf yn y rheng gymar ar ei ochr ddehau, ei ddyletswydd ef yw sefyll yn stond, a'i lygaid digyffro'n edrych i'r gorwel pell, a'r ail ŵr yn ymysgwyd a sgriwio'i lygaid dros ei ysgwydd ddehau i syllu arno, y trydydd ar yr ail, y pedwerydd ar y trydydd; a'r un modd i lawr hyd waelod y rheng. Ar ôl i chwi ymwthio digon yn erbyn eich gilydd a syllu'n ddigon taer ar yr ysgwydd nesaf atoch i deimlo'n siŵr nad ydych yn gŵyro drwch y blewyn, fe ddaw'r gorchymyn "Eyes front" fel crac chwip; a dyna chwi'n rheng union o ymladdwyr smart rhagor na bod yn rheffyn igam-ogam fel cŵys gyntaf y glaslanc hwnnw a anelodd ei gwlltwr at fuwch ar ben y dalar heb ystyried bod y fuwch yn dal i symud!

Ar ôl iddo ddarlithio ar y pwnc holl-bwysig hwn am beth amser, dyma'r hen ringyll yn camu'n ôl a chyfarth: "Squad! Right dress! Jump to it!"

Neidio ati? Fe dreiodd Tomas neidio dros fy mhen. Wedi iddo fethu, disgynnodd, yn faglau i gyd, ar flaen fy nhroed chwith, a honno eisoes yn llosgi fel Gehenna gan bwys a gwasgfa esgidiau newydd y fyddin. Ar ôl dawnsio a gweiddi ennyd, plennais fy mhenelin yn ais fy nghymydog gorhoenus a dweud wrtho fy marn amdano ef a'i deulu oll hyd y nawfed ach.

Ar hyn, dyma'r hen ringyll ymlaen atom, a golwg ofnadwy arno. Gosododd flaen ei drwyn yn erbyn trwyn Tomas a syllu'n felltennog i eigion ei lygaid; a chefais innau, am y tro cyntaf, y fraint o wrando ar enghraifft nodedig o areithyddiaeth frwmstanaidd is-swyddogion y fyddin; a mynnaf dystio nad yw'r lled-gyfieithiad a ganlyn yn deilwng ohoni:

"Wyddost di ble mae Awstralia ? Fe wyddost. Wel, yno mae'r Kangaroo yn byw. Ac yno, myn diawl, mae dy le dithau. Pwy uffern a ofynnodd iti lamu i'r awyr fel yna? Myn Crist! 'Dyw'r fuwch a neidiodd dros y lloer ddim ynddi. A thithau, Napoleon! (Myfi oedd hwnnw.) Pwy uffern wyt ti'n feddwl wyt ti? Pwy a'th anfonodd yma i dynnu wynebau a llefain gorchmynion? Mae dy draed yn dost? Wel, fe fyddai dy ben di'n dost petait ti'n gorfod sefyll allan fan yma ac edrych ar y bwbachod a elwir yn filwyr heddiw. Mi welais frain yn tomi ar bethau tebyg mewn cae tatws. Milwyr!"

Gofynnais a oedd modd ysgar Tomas a minnau.

"Dim o gwbl, Napoleon! Gyda'ch gilydd yr ydych heddiw. Gyda'ch gilydd y byddwch bob dydd yn y sgwad yma; ac mi gadwaf fy llygad arnoch hefyd. Wyt ti'n clywed, Kangaroo?"

Nodiodd y Kangaroo ei ben yn ddigon dafadaidd, a rhyw sŵn od yng nghorn ei wddf.


Dechrau rhyfedd i mi yn y fyddin— gwneud gelyn anghymodlawn o gymydog y bore cyntaf, a'm chwerwder tuag at yr Almaenwr wedi troi'n chwerwder gwaeth tuag at gyd-filwr.

Yn y sied fwyta, ymborthai'r gatrawd yn adrannau bychain sefydlog, a'r milwyr eu hunain ym mhob adran, am yn ail â'i gilydd, yn gwasanaethu'n wythnosol, ddau ar y tro, fel heilyddion. Tomas oedd un o'r ddau yn fy adran i yr wythnos gyntaf; ac fe ddylech weld y modd sarhaus y lluchiai ataf y cyllyll, y ffyrc, y llwyau a'r llestri oll. Aent weithiau dros ymyl y bwrdd i'r llawr, ac yntau, fel llamhidydd, yn gorfod eu dilyn a'u dychwelyd yn fwy pwyllog, a phawb yn chwerthin ac edmygu ei ystwythder. Eisteddwn fel sant heb gymryd arnaf sylwi ar ei derfysg a'i ddial; ond pan ddôi fy nhro i gyflawni'r un ddyletswydd, anghofiwn dalu da am ddrwg. "Llygad am lygad, a dant am ddant," oedd fy egwyddor; a'r egwyddor honno, gwaetha'r modd, a lywodraethai bob ymwneud rhwng Tomas a minnau.

Er fy ngorfodi i sefyll nesaf ato ar ei law ddehau yn y sgwad, fe wnawn fy ngorau glas ar bob achlysur arall i gadw o'i ffordd. Ond cyn hir, dechreuais dybio bod yr hen ringyll (a soniai gymaint am India a'i dewiniaeth) wedi ein rhibo, chwedl brodorion Dyfed, fel na allem ddianc o ffordd ein gilydd. Gan nad beth am hynny, po fwyaf yr ymdrechwn i osgoi'r creadur, amlaf i gyd. y rhedwn i mewn iddo.

Awn i ddarlith fin nos i glywed sut i ollwng bom o'm llaw heb chwythu fy mhen fy hunan i ffwrdd, sut i dynnu bidog o ymysgaroedd gwrthwynebydd ar ôl ei wanu trwy'i ddillad a'i harnais, a phethau buddiol o'r fath, a rhywun neu'i gilydd yn llewygu bob tro—crytiaid ifeinc o'r Ysgolion Cyhoeddus, fel rheol. Eisteddwn yn y mannau mwyaf annhebyg gan ddweud wrthyf fy hun: "Ddaw e' ddim fan hyn, ta beth." Ond cyn wired â phader, fe fyddai Tomas naill ai wrth fy ochr, neu o'r tu ôl i mi, neu ynteu'n uniongyrchol o'm blaen, fel corff y farwolaeth. Nid eisteddwn wrth fwrdd mewn sied goffi, nac ar fainc mewn cyngerdd i wrando cerddorfa'r gatrawd, na fflopiai ef i lawr wrth fy ymyl, yn llawn mor anfoddog â minnau, a llawn mor derfysglyd hefyd, o'n gyrru fel hyn i ddannedd ein gilydd, beunydd beunos, gan ryw dynghedfen anochel. Yn wir, yn y diwedd, ni synnwn ronyn pe deffrown yn y bore a'i gael wrth fy ochr yn y gwely. Yr oedd bron cyn ffyddloned imi, o'i anfodd, a'm cysgod fy hun! Peth ofnadwy yw'r hyn a eilw'r meddylegwr yn weithred anwirfoddol, sef dyn, megis wrth raid, yn gwneud rhywbeth sydd yn groes i'w ewyllys. Yr oedd y ddeddf honno'n cael amser da gyda Tomas a mi!

Fy ngobaith oedd pasio i mewn i'r Cwmni (Cwmni B) a chael fy ngosod i ymarfer ar y Sgwâr, dan gyfarwyddyd is- gapten, mewn platŵn na ddoi Tomas iddi; ac edrychwn ymlaen yn chwannog at y bore Sadwrn y cawn sefyll, yn filwr hywedd, ym mharêd y Cyrnol, a'r hen fachgen ei hun, o gefn ei geffyl, yn drilio'r bataliwn, sef y Cwmnïau oll ynghyd yn yn un fintai ddisgyblaidd. Rhaid oedd pasio i mewn i'r Cwmni cyn mwynhau'r fraint honno. Ond fe ddaeth hynny; a da y cofiaf y glanhau a'r ysgleinio nos Wener-llathru'r stropiau a'r byclau, a gloywi'r dryll a'r fidog, cyn ymddangos, am y tro cyntaf, ym mharêd y Cyrnol. Gwir yw'r gair, amheued a amheuo, mai Tomas, o bawb, oedd ar fy llaw aswy, yn rheng olaf y gatrawd, y bore hwnnw! Daeth llais y Cyrnol megis llais o hirbell, cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen":

"Talion! 'Shun!"

Wedyn, ar ôl ysgogiad sydyn, cydamserol, megis ysgytiad un gŵr, mil a mwy o ddynion. yn sefyll yn unionsyth a digyffro, fel fforest o binwydd, a'u bidogau gloywon yn fflam wen goruwch y cynnull distaw. Ond yr oedd blaen bidog Tomas wedi brathu fy nghlust aswy; a'r funud honno, yn erbyn corun fy nghap y gorffwysai, a minnau'n gorfod aros mor llonydd â phost llidiart.

Y fath ollyngdod oedd y "Stand easy," pryd y caniateir i'r rhengoedd ymollwng a chydgyfathrachu! Y peth cyntaf a wneuthum oedd dangos fy nghlust waedlyd i Tomas. Wedi hynny, rhegi fy rheg gyntaf yn y fyddin, a'i daro yn ei fol â chefn fy llaw.

"Fighting in the ranks, eh?" ebr llais awdurdodol o'r tu ôl i mi. "On orders Monday morning, you two!" A dyna'n henwau i lawr ar lyfr y rhingyll ar gyfer ymddangos, fore Llun, fel drwgweithredwyr o flaen Capten y Cwmni y perthynem. ein dau iddo, sef Cwmni B.

Yn union ar ôl y parêd, a'r milwyr yn loitran o gwmpas yn y cae, eglurodd yr hen ringyll y buasai wedi ein gadael yn ddisylw oni bai bod llygaid swyddog uwch arnom yr un pryd.

"Wel, gadewch i mi gael siarad â'r Capten yn awr tra bo'r glust yma'n friw." Gan mai "preifat" oeddwn yr adeg honno, ni fedrwn ymgynghori â'r Capten ond trwy ringyll. Cydymffurfiodd y rhingyll â'm cais; a chyn hir yr oedd Tomas a minnau yn sefyll o flaen y Capten ar y cae, a minnau'n egluro'r amgylchiadau.

"Tybiaf mai'r peth gorau i chwi'ch dau," ebr y Capten, "fydd mynd dros y clawdd ac ymladd y peth yma allan i'r pen. Ond, arhoswch! Ymhen rhyw fis, fe ddechreua'r gwahanol ymrysonfeydd rhwng y Cwmnïau. Dyna'r ymryson bocsio. Mi garwn i Gwmni B wneud yn dda, a byddaf yn dewis paffwyr gorau'r Cwmni ymhen tair wythnos. A ydych chwi'ch dau yn fodlon ymladd, â'r menyg arnoch, o flaen y Cwmni ar y dydd penodedig?"

Nodiais fy mhen i'r ochr gadarnhaol; a dyna ên Tomas, yr un modd, yn cyffwrdd â'i frest.

"O'r gorau, ynteu," ebr y Capten. "I'r ymarferle mor fynych ag y gellwch i'ch cyfarwyddo gan ddau ringyll gwahanol, perthynol i Gwmni B."

Dewisais fy hyfforddwr, sef y Rhingyll Sanders; ac wedi i mi fod wrthi'n ddyfal yn ymbaratoi, a phwyntiau'r ymarferle yn aros fel adnodau yn fy nghof, heb sôn am y tipyn salwch yn fy ngholuddion, dyma'r dydd mawr yn gwawrio. Yr oedd Tomas a minnau, o'r diwedd, i setlo'r elyniaeth rhyngom unwaith am byth!

Wrth wylio deuoedd eraill yn brwydro cyn dyfod ein tro ni, ac ambell un ohonynt yn bwrw'r llall i ebargofiant, dyfelais lawer a oedd Tomas wedi datblygu'r fath ddwrn. A barnu wrth ei olwg, i'r un cyfeiriad y rhedai ei freuddwydion yntau yn ei berthynas â mi. Ond fe ddarfu'r synfyfyrio pan alwyd am "Tomas and James" i'r cylch.

Gan mai dwy rownd yn unig a ymladdwyd rhyngom, nid gorchwyl anodd fydd disgrifio'r ysgarmes fythgofiadwy honno.

Nid hir y bûm yn y cylch nad oeddwn wedi anghofio pob cyfarwyddyd a gefais gan fy hyfforddwr. Fy iechydwriaeth oedd y ffaith bod yr un peth yn wir am fy ngwrthwynebydd. Fe dduliwn ei ên fel y mynnwn. bron. Yntau'n fy nghyrraedd innau gyda'r un rhwyddineb anochel. Hwyl ddychrynllyd bob ochr, ond dim celfyddyd, a'r clapio'n fyddarol o'n cwmpas, er bod gormod o chwerthin yn gymysg â'r gymeradwyaeth i'm plesio i. Ond dichon mai myfi oedd yn meddwl hynny. Fodd bynnag, dechreu- ais gynddeiriogi. Chwyrnellais fy mraich dde gylch ogylch fel asgell melin wynt gan herio Tomas i ddynesu. Bu yntau'n ddigon. dwl i ddyfod ymlaen. Mi a'i deliais dan ei ên a'i godi o'r llawr a'i weld yn dyblu i fyny ac ymdaflu ymlaen ar ei ben fel y gwelais eog yn llamu'r crych yn afon Teifi.

Dyna ddiwedd arno!" meddwn wrthyf fy hun. Yr oeddwn yn edrych o'm cwmpas â gwên foddhaus ar fy wyneb, pan deimlais y llawr yn codi o'r tu ôl imi ac yn taro fy ngwegil. Yr oedd y peth yn ddirgelwch poenus i mi; o leiaf am ennyd.

Pan oeddwn yn y gongl yn cael fy nhylino a'm hanner boddi, eglurodd Sanders fod Tomas wedi manteisio ar fy ngwenu anochelgar a'm llorio cyn i mi ei weld yn dynesu. "Ond y tro hwn am dani, meddai fy nghyfarwyddwr.

"Ie'r tro hwn am dani," atebais, yn ffyrnig ofnadwy.

"Ewch i mewn ar ras y tro yma," meddai Sanders wedi i'r gloch ganu. “Bydd hynny'n ddychryn iddo." Cymerais ei gyngor. Ond y mae'n rhaid bod Tomas wedi cael yr un cyngor; oblegid ar ras y daeth yntau i mewn i'r cylch. A chan fod y naill a'r llall ohonom yn cyrchu at gyffelyb nod, beth oedd i'w ddisgwyl ond yr hyn a ddigwyddodd ? Daeth ein talcen- nau i wrthdarawiad annisgwyliadwy, a'r sŵn fel ergyd o lawddryll, yn union fel y gwelais bennau dau hwrdd mynydd yn gwrthdaro mewn ysgarmes ar Garn Jack Rees. Y peth nesaf a welais oedd breichiau Tomas yn ymollwng yn llaes i'w ochrau, ei lygaid yn rholio'n wynion, a'i gorff yn gŵyro'n ôl a syrthio fel hen golfen grin. Nid cynt y dechreuais orfoleddu nag y daeth i minnau ryw awydd anwrthwynebol i wneud yr un peth. Teimlwn ddeddf Isaac Newton yn fy nhynnu o'r tu ôl; a dyna fi i lawr yn rhondyn ar asgwrn fy nghefn a gorwedd yn serfyll a diymadferth ar lawr, a synnu mai Lloyd George a glywn yn awr yn annerch torf ym mhafiliwn yr Eisteddfod . . .

"Pwy enillodd, Sanders?" Wrth ofyn y cwestiwn, sylwais nad yn y cylch yr oeddwn bellach, nac yn agos ato chwaith. "Cyfartal," oedd ei ateb.

"Cyfartal?" Wedi'r holl ymbaratoi yn yr ymarferle, a'r holl glatsio ar ein gilydd. yn y cylch, dyna ni'n union yn y fan lle'r oeddem cyn dechrau! Yr oedd y cyflwr yma, os rhywbeth, yn waeth na'r cyntaf.

Ymhen rhyw dridiau ar ôl hynny, cefais orchymyn i symud fy nhaclau i lety newydd. —annedd-dy prydferth a gardd o'i flaen dan gob y gamlas a ddirwyn am un cwr i'r dref. Cefais groeso cynnes gan wraig y tŷ. Eglurodd y cawn ystafell i mi fy hun ar y llofft-lle i eistedd a chysgu. Neidiodd fy nghalon i'm gwddf gyda'r geiriau nesaf o'i genau:

"Gobeithio y byddwch mor gysurus yma â Mr. Tomas. Dyn neis iawn yw ef, a'r plant yma—yr hogyn a Beti fach-yn hoff iawn ohono."

Ni allai mai Tomas, fy ngelyn i, oedd hwn! Yr oedd peth fel hyn yn annichon-disgyn i'r un llety ag ef ar fy symudiad cyntaf, a channoedd o filwyr yn aros yn y dref! Ond wedi i mi ofyn sut un ydoedd, ac i'r wraig garedig ei ddisgrifio, diflannodd pob amheuaeth. Tomas fy ngelyn oedd fy nghyd- letywr yn awr; a chan fod Ffawd wedi penderfynu ein taflu yn y diwedd dan yr un gronglwyd, mae'n syndod iddi ganiatáu inni ddwy ystafell ar wahân a pheri nad oedd raid inni gyfathrachu â'n gilydd.

Buom yno am rai wythnosau yn pasio'n gilydd yn dawedog a swrth, a'r naill yn brasgamu am gae'r parêd bob bore heb air o rybudd i'r llall, cyn i gyd-ddigwyddiad arall rhyngom roi coron ar y lleill i gyd.

Yr oeddwn yn fy ystafell un nos Wener yn glanhau a sgleinio, fel arfer, ar gyfer parêd y Cyrnol fore trannoeth. Yn sydyn, dyna gnoc nerfus ar y drws o'r tu allan. Gwrandewais yn astud. Dwy gnoc wedyn ychydig yn uwch. Wedi i mi weiddi "Dewch i mewn," dyna'r drws yn agor yn araf; a gwelwn Tomas yn sefyll rhwng gwyll a golau, a ffrâm y drws am dano fel ffram am ddrychiolaeth.

"Dewch i mewn os ydych yn chwennych fy ngweld," ebr fi. Dynesodd at y bwrdd a rhoi ei law ddehau i bwyso arni.

"Mi gymeraf un o'ch sigarennau," meddai. Bydd yn haws siarad."

"Gyda phleser," meddwn, tan estyn golau iddo. Pwffiodd ychydig fodrwyau o fwg i'r awyr cyn siarad drachefn.

Yr ydym wedi gweithredu fel dau ffŵl; a hynny o'r dechrau," meddai. "Nid i ddweud hynny y mynnwn eich gweld chwaith, ond i ofyn cwestiwn."

"Wel, os medraf ei ateb, mi a wnaf heb gelu dim. Felly, allan ag ef, Tomas!"

"Mi glywais beth amhosibl heddiw," meddai. "Mi wn mai tynnu fy nghoes y maent. Er hynny, mi garwn wneud yn siŵr, a chael y sicrwydd hwnnw o'ch genau chwi eich hunan. A all fod gwir i'r hyn a glywais, dywedwch, mai pregethwr ydych?"

"Paham amhosibl, Tomas? Dyna air go fawr, yn enwedig i filwr."

"Wel, James, 'does dim o'ch cwmpas, rywsut, yn awgrymu'r pregethwr."

Codais ar fy nhraed, a'i ateb gyda chryn deimlad: "Pa beth o gwmpas neb ohonom yn y fyddin sydd yn amlygiad o'r hyn ydym, a'r hen ddiwyg unffurf yma yn diddymu pob personoliaeth a'n troi i gyd gyda'n gilydd yn beiriannau rhyfel?

Goleuodd ei wyneb. "Yn wir," meddai, "dyna dipyn o'r pulpud yn awr . . . Ai pregethwr ydych, yn wir?"

Nodiais fy mhen yn wylaidd, a lwmp mawr, fel cwd o ddagrau, yn fy ngwddf. Cyn i mi gael amser i ddadebru, yr oedd Tomas wedi syrthio am fy ngwddf a'm cofleidio.

"James annwyl! Pregethwr wyf innau hefyd!" ebychai fy hen elyn, a minnau'n gafael yn dynn amdano yntau, a'r torchau mwg yn troi'n enfysau lawer o ogoniant. Nid dyn cas oedd Tomas, wrth gwrs, ond dyn rhy ofnadwy o ddifrif, a'i orawydd i ymgadw rhag gwneud camgymeriadau yn ei wneud yn greadur nerfus yn y rhengoedd anghynefin. Peth arall, gan ei fod wedi penderfynu ymladd yn erbyn Yr Almaen, ymladdwr y mynnai fod, nid Efengylwr; o leiaf am ychydig. Pwy fedrai afael yn y fidog a chadw ei law, yr un pryd, ar lun y Groes?

Offeiriad oedd Tomas yn yr Eglwys Wladol, a'i bobl yn ei anwylo. Yn ben ar y cwbl, rhai o Sir Benfro—hen sir fy mebyd innau—oedd teulu ei fam, ac yntau wedi chwarae cryn lawer ar draethau Dyfed. "James," meddai, " y mae gennyf bregeth. newydd y carwn i chwi ei chlywed. Ond arhoswch funud!"

Aeth allan o'r ystafell. Dychwelodd â photel o win yn ei law, a dau wydryn. Wedi egluro mai gwin ffrwyth yr ysgaw ydoedd. oddi wrth ei wraig,—" yr orau yn y byd,"— llanwodd y ddau lestr i'w hymylon. "Yn awr, James!" meddai, a'r ddau wydryn erbyn hyn yn ein dwylo. "Dyma i Sir Benfro, i'n cyfeillgarwch tragwyddol a therfyn bythol ar y peth erchyll yma a elwir rhyfel!"

Felly y cydyfasom yn nhref y bardd a ganodd:

Trwy ddirgel ffyrdd y mae yr Iôr
Yn dwyn Ei waith i ben;
Mae'n plannu Ei gamre yn y môr,
Mae'n marchog storm y nen.


Nodiadau[golygu]