Ysgrifau (Dewi Emrys)/Y Stori Dal

Oddi ar Wicidestun
Y Nhw Ysgrifau (Dewi Emrys)

gan Dewi Emrys

Dau Filwr
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Ysgrifau (Dewi Emrys testun cyfansawdd)



Y STORI DAL

CREDIR yn lled gyffredinol, mi dybiaf, nad llawer o bechod, os dim, yw dweud celwyddau y gwêl pawb mai celwyddau ydynt. "Celwyddau golau" y gelwir anwireddau felly. Yn wir, mi gofiaf yn dda am lwffyn gwledig a elwid yn "Shanco Gelwydd Golau," nid oherwydd ei fod yn greadur celwyddog, ond am fod digon o ffenestri i'w gelwyddau i'ch galluogi i weld trwyddynt.

Y mae yna fath arall ar gelwydd diniwed, sef y math a gymerth ffurf y Stori Dal—tall story y Sais. Ni welaf i achos dros ymwrthod â'r term yn Gymraeg, oblegid o'r Saesneg y daeth y Stori Fer—peth cymharol ddiweddar yn llenyddiaeth y Cymro. Y gwir yw mai i rywogaeth y stori dal y perthyn ein chwedlau a'n rhamantau a'n Mabinogion ni'r Cymry, er bod i rai ohonynt elfennau nad ffrwyth dychymyg monynt yn gyfangwbl.

Yn fy marn i, meistr y stori dal yng Nghymru, yn y blynyddoedd diwethaf hyn, oedd yr hen Shemi Wâd. Mae'n wir na ŵyr nemor neb ddim amdano o'r tu allan i fro fy mebyd; a thlawd y bu ei ddiwedd yn ei ardal ei hun. Cyfraniadau gwirfoddol cyfeillion a ddiddorwyd ganddo a roes iddo gladdedigaeth weddus a charreg i nodi "man fechan ei fedd "; a'r perygl yw i'w straeon carlamus hefyd fynd i ddifancoll y llwch oni chronicler ambell un ohonynt ar gof a chadw mewn argraff.

Mi glywais lawer, ar ôl gado ardal fy mebyd, am y milgi rhyfedd hwnnw a redodd yn erbyn pladur yn y bwlch wrth erlid dwy ysgyfarnog, a'i hollti ei hun yn ddau hanner unffurf o'i drwyn i'w gynffon, y naill hanner yn dal un pryf, a'r hanner arall yn dal y llall! Ond o ben Shemi Wâd, mi gredaf, y daeth y stori honno ar y cychwyn, fel stori'r "daten fowr" y bu raid "ei blasto hi a mynd gatre â hi ar gart llusg yn bedwar pishyn!"

Mi glywais Shemi, â'm clustiau fy hun, yn adrodd y chwedlau hyn, a llawer o bethau cyffelyb nas clywais byth wedyn, ac yntau'n eu lleoli, wrth reswm, i'r diwrnod— yn y fan a'r lle!

Nid Shemi Wâd oedd ei enw bedydd; a chlywais hen grwt o glapgi yn yr ysgol yn syrthio i amryfusedd ofnadwy wrth geisio rhoi ffurf Saesneg i'r enw cynefin. Dweud yr oedd wrth y meistr am grytiaid a fu'n dwyn fale."

"Where did you see them?" holai'r meistr.

"In the garden of James Blood, sir," oedd ateb y clapgi.

James Wade oedd enw cywir yr hen frawd. Aeth James yn "Jim," a Wade yn "Wâd " yn gynnar yn ei hanes. Ond wedi iddo heneiddio a thyfu barf y troes Jim yn "Shemi." Barf gadwynog, yn cylchu ei wyneb o glust i glust, oedd ganddo, a'i ddwy foch yn lân loyw, fel dwy ynys binc yng nghanol ewynlliw tonnau. Dyna'r unig fannau glân ar ei holl gorff, mi dybiaf; a hynny oherwydd ei awydd hunanol i ymgadw at ffasiwn hen benaethiaid y môr yr adeg honno.

Hen longwr oedd yntau hefyd, er nad hwyliasai erioed o olwg tir ond yn y niwl. Mynnai, er hynny, i'r dô ifanc gredu nad oedd gwlad dan haul nad ymwelsai ef â hi yn ystod ei fordeithiau. Ffrwyth y balchder mentrus hwnnw oedd gosod Indiaid Cochion yn Ynysoedd Fiji ac Escimoiaid yn Neheubarth Affrica, a llawer anghaffael arall yng nghwrs y chwedlau annichon y mynnai ef i ni goelio eu bod " yn wir bob gair."

Yr wyf yn dra sicr ei fod ef ei hun—o'u mynych adrodd—yn eu coledd ar y diwedd fel ffeithiau; oblegid âi'n lled sarrug pan amlygid amheuaeth ynghylch geirwiredd ei straeon. Ei ffordd arferol o ddial oedd saethu bwled o sudd dybaco o'i enau yn syth i lygad yr amheuwr; ac ni welais i neb erioed a fedrai anelu poeryn gyda'r fath gywirdeb digamsyniol. Hen lanc ydoedd. Felly, cafodd ddigon o ryddid i ymarfer â'r grefft hyd yn oed yn ei fwthyn. Yr oedd lloriau'r ddau ben—y gegin a'r "pen ucha," fel y gelwir yr ystafell orau ym mythynnod Dyfed—yn batrymau poer myg— lys drostynt; a gellid tybio wrth y parwyd— ydd hefyd, yma ac acw, iddo fod wrthi'n o ddyfal yn ymgyrraedd at berffeithrwydd. Fodd bynnag, yr oedd yn "saethwr" sicr odiaeth pan fynnai; a dim ond ynfytyn neu wrandawr dieithr-druan ohono!-a fentrai fradychu anghrediniaeth o fewn teirllath neu bedair i'w geg.

Mynnai inni hefyd ei ystyried yn gapten. Ond ni chododd yn uwch erioed ar y dŵr na bod yn berchen hen gwch pysgota y dibynnai ei fywoliaeth arno yn ystod ei flynyddoedd olaf ym mhentref ei febyd. Rhyw stwlcyn byr ydoedd yn ymwisgo beunydd mewn siersi las a het Souwester, a sbwt o bibell glai, mor ddu â'i hen gwch tarrog, yn hongian, bowlen i waered, o gornel ei wefl.

Safai, fel rheol, ar ben Rhiw'r Post, a'i gefn at wal y pistyll, a'i ddwylo yng ngwaelodion llogellau ei lodrau hael; ac yno yr adlonnid y minteioedd â'i chwedlau am- rywiol. Pan chwarddai, gwasgai lafnau ei ysgwyddau at ei gilydd a'u dirwyn o gwmpas ei wegil, malpai holl chwain y cread yn cnoi ei feingefn. Yn wir, yr oedd codi ei ysgwyddau at ei glustiau, yn enwedig wrth siarad, yn arfer ganddo; a chystal cydnabod mai'r chwain a gâi'r bai am yr anorffwystra hwnnw.

Un llyfr yn unig a welais i yn ei hofel gawliog; a hen esboniad melynlliw ar Lyfr y Datguddiad oedd hwnnw. Pan fentrais ei agor a throi ei ddalennau llaith, lliprynnaidd, cododd digon o dawch afiach ohono i roi'r fogfa i sgrâd-digon o brawf, fedd- yliwn i, nad o Ynys Batmos y caffai Shemi ei weledigaethau, er mor hedegog ei ffansi. Ei unig ddiddordeb yn y gyfrol oedd ei chloriau lledr. Arnynt yr hogai'r hen greadur ei raser bob-yn-ail fore.

Ol ei gŷn ei hunan oedd ar ei greadigaethau oll; a'i hoffter pennaf oedd llunio rhamantau felly er diddori'r cwmni a gasglai o'i gwmpas wrth bistyll y pentref.

Cofiaf rai o'i straeon yn dda, yn enwedig stori "Canan Milffwrt," a medraf ei sgrif- ennu'n weddol agos at ei arddull ef. Ond ei glywed ef ei hun yn ei hadrodd-dan bwffian mwg a phoeri a chrechwen a dirwyn ei ysgwyddau; dyna'r ddrama fawr.

Wele'r stori, mor agos ag y gallaf, yn ei eiriau ef ei hun, gyda'r eglurhad mai yn nhafodiaith Dyfed y llefarai:

"'Rown i'n fferst mêt ar y Royal Duke, llong fowr bedwar mast, a'i ffiger-hed hi gwmint beder gwaith-wel, gwmint dair gwaith, minno,-â'r Frenni Fowr. Fe landes un dwarnod yn Milffwrt. Wedd digon o arian 'da fi-'y nghiflog, bid shŵr; ond yr own i wedi câl lot o berle hifid gida. brenin y Fiji Islands am safio'i wraig e' oddi wrth y Red Indians. Fe ath i natur fowr ata' i ar ôl hinni-gweud 'mod i'n leico'i wraig e'. Ond y gwir am dani yw taw hi wedd yn in' leico i. Fe allwn weud lot; ond 'sdim ots am hinni'n awr. Ar ôl i'r hen frenin ddechre termo, fe redes bant o'r inis honno-nid am fod arna' i ofon yr hen sgirmwgin; ond yr own i am stico at y perle. Fe'u gwerthes i nhw yn Falpareiso; ac fe gesum drigen punt am denyn nhw . . .

"Wel, gan nad beth i fo, fe landes yn Milffwrt. 'Nawr ma' 'na ganans mowron yn Milffwrt oddi ar yr hen rifelodd rhwng yr Eifftied a'r Cimri; a ma'u trwyne nhw'n pwynto mâs i'r môr i gadw gelinion bant; nid fel ni ffor' hon-yn gadel y bae'n agwred i bob hen fforiner sy' ishe dwad miwn 'ma . . .

A gweud y gwir yn blain, fe esum ar y sbri fowr yn Milffwrt-cwrdd â hen ship- mets a hwn a'r llall; a chyn pen wsnoth, wedd 'da fi ddim ffirling goch yn 'y nghoden. Wel, cered o bwti'n awr, a meddwl am gatre 'ma, a chisho difalu shwt drafeilwn i'n ôl, a finne heb arian i dalu am y côtsh. Fe dda'th i'r glaw mowr hifid y nosweth honno, a dim gwely, wrth gwrs, i hen forwr heb senten yn 'i goden e' . . . Jawch! Fe gofies, chi, am hen ganan mowr y gallwn i gwsgu indo. A dima fi ato, wedi iddi ddechre tiwillu, a saco 'nhrâd miwn ginta i'r mwswl, a gadel dim ond blân 'y nhrwyn i mâs. Fe gwsges fel mochyn deiar . . .

"Ond dima fi'n câl hen freuddwd cas— gweld brenin y Fijis wedi 'nala i a'n rhoi i i sefyll reit o'i flân e', a milodd o ddinion duon rownd abowt iddo, a drwm mowr ofnadwi 'da bob un. Dima'r hen frenin yn codi'i law'n sudan. Sgrwsh!' minte fe, felse fe'n rhoi rhyw snwshanad fowr. Gida hinni, dima'r milodd dinion—bob jac wan gyda'i gili—yn rhoi clatshen i'r tabirdde, a'r hen frenin, gida hinni, yn cirradd cic ar 'y nghrwper i. Cic? Meddiliwch am bedwar cant o geffile yn gillwng mâs atoch chi'r un pryd. Wel, tina shwt gic gesum i, nes own i'n hedfan trw'r awyr fel sgithan flwydd, a mynd a mynd a mynd heb argol stopo. Trwy drigaredd, wedd 'y mhen i mlân; ac fe allwn wrio taw deifo own i...

"Dima fi miwn i haid o frain, a'r rheini'n crowcan bwti 'mhen i ac yn cwmpo wrth y milodd gida shwt gered o'dd arna i. Miwn wedyn—head on—i gwmwl mowr o ddridws. Yr own i'n bluf ac yn stecs i gyd bwti 'mhen a 'nghluste, felse gwibed yn stico wrtho i. Ac wrth 'mod i'n crafu'r stecs o'm wmed, fe agores i'n lliged. Wel, jawch!' minte fi, Nid breuddwydo wdw i, ond mynd yn iawn trw'r awyr!' . . .

"Fe gofies wedyn, chi, 'u bod nhw'n seithu'r hen ganan mowr 'na bob bore i roi'r Greenwich time i'r coast guards. Wedd yr hen ganan hwnnw yn gallid towlu trigen milltir pan o'dd rhwbeth indo. A fi o'dd indo'r tro hyn! . . .

"'Shwt dwa i'n ôl yr holl ffordd 'ma wedi i fi ddishgin,' minte fi, 'a dim in 'y nghoden i? A shwt stopa i o gwbl os na fwra i yn erbyn rhwbeth? Dim ond gwagle mowr sy fini fan hyn.' . . .

"Dima fi'n gweld tŵr eglws o' mlân i. 'Os bwra i in erbyn hwn,' mintwn i, ' bydd hi'n dominô arna' i am weld gatre byth.' Dim ond 'i scapo fe nesum i; ond fe ddalodd blân 'y nhrŵed i yn yr hen geilog gwynt ar 'i ben e; a dima fe i lawr, dwmbwr— dambar, gida lot o gerrig a morter, ar ben 'y ffeirad, chi; a hwnnw'n gweiddi blw mwrder. Ond wedd 'da fi ddim amser i stopo i ecspleino dim. Sail on, wedd hi. Dim riffo'r hwyle tro hyn. Wedd e' wedi meddwl taw eryr own i; achos cliwes i e'n gweiddi wrth rywun: 'Look! look! There's an eagle!' Gâs e' eagle! . . .

"Trwy drigaredd, dima 'mhen i miwn i dwmpyn o gwmwle o'dd wedi'u gwasgu at 'i gili fel sache gwlân. Fe iawnes, chi,—' y nhrâd i lawr a 'mhen i fini. Ond gida hinni, dina’n anal i mâs trw dop 'y mhen i! Yr own i wedi cwmpo lawr yn sudan bwti dwy filltir, a dim byd 'da fi i ddala wrtho! . . .

"Beth nesum i'n awr ond agor 'y nghot fowr a dala 'mreiche mâs fel pâr o adenydd. Fe dorro' hinni 'nghwdwm i ... A lle i chi'n meddwl dishginnes i? Ar slip y leiffbot dan Ben Cw! Os nad i chi'n 'nghredu i, cerwch lawr 'na. Ma' ôl 'y nghlocs i yn y siment y finid hon. Newy simento'r slip o'n nhw'r pryd hinni."

Dyna'r stori. Mor argyhoeddiadol ei diwedd fel y bu chwilio dyfal am ôl clocs Shemi wrth "dŷ'r leiffbot," a'r plant yn darganfod y dystiolaeth mewn mannau lawer yr un pryd!

Nodiadau[golygu]