Ysgrifau (Dewi Emrys testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Ysgrifau (Dewi Emrys testun cyfansawdd)

gan Dewi Emrys

I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Ysgrifau (Dewi Emrys testun cyfansawdd)

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dewi Emrys
ar Wicipedia





YSGRIFAU

GAN DEWI EMRYS





HUGHES A'I FAB

WRECSAM

1937




MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN

RHAGAIR

DIOLCHAF i Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol am ganiatâd, drwy law'r Ysgrifennydd, Mr. D. R. Hughes (Myfyr Eifion), i gyhoeddi tair ysgrif fuddugol Eisteddfod Abergwaun (1936), sef "Y Falen," "Y Nhw," "Y Stori Dal." Cystal egluro mai yn nhafodiaith Dyfed y sieryd Shemi Wâd, yr hen gychwr dawnus a doniol a ddarlunir yn ysgrif "Y Stori Dal"; a diddorol yw'r ffurfiau llafar, cesum" (am "cefais "), "esum" (am "euthum "), "nesum" (am "gwneuthum"), "termo" (am "dwrdio"), "coden" (am llogell"), "mynd i natur" (am "colli tymer "), ac ymadroddion pert eraill sydd mor nodweddiadol o dafodiaith Gogledd Penfro hyd y dydd heddiw. Fe welir nad ydys wedi cadw ysgrifau Abergwaun gyda'i gilydd. Fe'u trefnwyd ar wahân rhag i'r darllenydd dybio fy mod yn bwriadu arbenigrwydd iddynt yn y casgliad hwn.

DEWI EMRYS.
LLUNDAIN,
Mehefin, 1937

CYNNWYS


Y FALEN

Y FALEN

GORCHWYL anodd yw ceisio penderfynu pa un ai rhyw chwiw neu fympwy yw'r Falen, neu ynteu glefyd gwirioneddol y gellir trefn a dosbarth arno ymysg doluriau anochel y ddynoliaeth. Os clefyd, ni chlybûm i erioed am feddyg a allodd ei ddadansoddi ac olrhain ei achos.

Beth ynteu am y driniaeth gymwys er iachâd neu esmwythyd y trueiniaid ddioddef oddi wrtho? Clywais ofyn am foddion at boenedigaethau fel y ddannodd, cryd cymalau, gwayw a doluriau diamwys eraill y gellir eu lleoli; ond ni chlywais erioed geisio ffisig at Y Falen. Yr wyf yn dra sicr hefyd na fedd na fferyllydd na doctor dail foddion a gymysgwyd yn un swydd ar gyfer yr anhwylder annirnad hwn. Cyflwr meddwl neu ysbryd ydyw, gallem dybio, a'i sylfaen ar ddiddim, a'i waelodod oes gwaelod iddo—yn ddirgelwch anchwiliadwy. Eithr yn fwy anesboniadwy na'r cwbl, pobl yw caethion Y Falen y mae'r syniad am wella yn peri iddynt deimlo'n waeth. Y maent yn rhy ddychrynllyd o ffrind â'u salwch i fynnu ymwared oddi wrtho. Ant yn dostach ddengwaith gyda'r awgrym lleiaf am adferiad.

Dyna'r rheswm pennaf, fe ddichon, paham na fentrodd na meddyg na fferyllydd gyhoeddi bod modd erlid y dolur hwn o'r wlad. Rhan o ddoethineb pob doctor gwerth ei halen yw peidio ag ymyrryd â thruan a fyddo'n sâl o'i wirfodd.

'Waeth i neb ohonom na cheisio cydymdeimlo â chyfaill y bo'r Falen arno. Tuedd tosturi yw ennyn ei anfodd, os nad ei ddirmyg. Gwaeth fyth yw gwenu yn ei wyddfod neu daro pwt o gân yn y cywair llon. Yn wir, fe â'n gynddeiriog bron lle bo ysgafnder neu sôn am bethau gwell i ddyfod. O'r braidd, er hynny, y mae angen pryderu yn ei gylch. Y mae wrth ei fodd yn ei boeni ei hun.

Yn afresymol fel yna, i'n golwg ni—y bobl gytbwys ac ymarferol—yr ymddûg pawb dan ddylanwad Y Falen. Gwnânt inni feddwl am hurtyn a dynno i lawr len y ffenestr, ac achwyn wedyn ei bod hi'n dywyll; ond bod hwnnw yn medru dweud beth sydd allan o'i le, a hwythau'n methu. Cânt flas rhyfeddol ar fod yn ddiflas. gwynfyd yw bod yn anniddig. Gwasgant ryw bigyn anwel i'r fynwes, a mwynhau'r anghysur tan siglo'u pennau'n ôl a blaen, ac anghredu'r stori ddwl am yr eos yn canu a draenen yn ei bron; a gwae'r neb a ddêl atynt i gynnig meddyginiaeth neu ddiddanwch!

Shakespeare, os da y cofiaf, a haerodd fod llwfriaid yn marw lawer gwaith cyn eu tranc. Gan nad beth am hynny, fe dry deiliaid Y Falen i nos y bedd yn fynych iawn cyn eu claddu. Eithr nid llwfrdra mo'r Falen chwaith. Prin y gellir galw dyn yn llwfr ac yntau'n mynnu cilio i'r fynwent cyn ei amser, a mynd yn grac chwilboeth pan edliwier iddo ei fod mor iach â ninnau.

Dyna'r hen Fali Siars y cofiaf mor dda amdani yn pendwmpian uwch ei thân mawn, a'i llygaid breuddwydiol yn gweld rhyfeddodau ym mhyllau cochion y marwor —rhyfeddodau dieithr ac annaearol, a barnu wrth ei hocheneidiau. Perygl bywyd oedd cydymddwyn â hi yr adeg honno. Ond dyma sy'n rhyfedd: Trannoeth hi oedd y fenyw hapusaf yn yr holl wlad, a'i hemyn gorfoleddus—a'i slyrs cwmpasog fel hen lwybrau'r mynydd—yn wledd i glust a chalon.

Rhai eithafol iawn yw'r bobl sy'n chwannog i'r Falen; ar gopa'r bryn heddiw; i lawr yfory ym mhanylau dyfnaf glyn y cysgod, a siarad yn ffigurol. Cydbwysedd ni feddant; a chymedroldeb tymer ni rodded iddynt. Dieithr y gwastadedd iddynt hwy. O chwerthin i ocheneidio yr ânt, ac o ocheneidio i chwerthin, heb aros ennyd awr rhwng y ddeupen i dynnu anadl a sobri. Yn wir, dim ond wrth groesi o un ochr i'r llall y cyffyrddant o gwbl â chanol y ffordd. Yn yr eithafion y trigant— L'allégro heddiw; Il Penseroso yfory. Ymysg trigolion y ddaear, y Celt, ond odid, yw'r mwyaf esgud i groesawu'r Falen.

O leiaf, dyna'r enw a gaiff o'r tu arall i Glawdd Offa. Ef yw'r ymfudwr mwyaf hiraethus dan haul; ac nid bob amser y gŵyr hiraeth am beth sydd arno. Y mae'n greadur mor amhenodol. "Llwybrai heb wybod lle bwriai babell" meddai Machreth amdano wrth ddisgrifio'i bererindod bore. Y mae'n greadur mor angerddol hefyd- angerddol yn ei orfoledd, angerddol yn ei ddwyster.

Wrth reswm, anwadalwch y geilw y Sais deimladrwydd cymhleth felly. Sylwaf innau fod afonydd cynhyrfus Cymru yn mynd yn ddof a difywyd odiaeth ar ôl cyrraedd gwastadeddau Lloegr. Dyna'r ffatrwydd tragwyddol a gymhellir arnom ni'r Cymry, mae'n debyg, yn enw pwyll cynnil ac ymatal artistig.

Mab y mynydd yw'r Cymro wrth natur. Ym myd yr ysbryd hefyd, dyna ydyw. Cyferfydd y talfeydd a'r iselderau yn ei enaid ef ei hun. Yn wir, ceir darlun lled gyflawn ohono gan y Parch. J. J. Williams mewn ffrâm bychan iawn:

Fel ei wlad, anwastad yw.

Ffordd Pope-yn ôl ei eiriau ef ei hun o gael llonydd gan Y Falen oedd troi i gyfansoddi darn o rigwm. Mae'n amlwg nad oedd ef ddim yn cael y dwymyn honno'n ddrwg iawn, neu ni fuasai mor ymwybodol ohoni. Teimlai wedyn—ar ôl barddoni—fel gŵr y treiglwyd maen anferth oddi ar ei enaid, chwedl yntau.

Ond y mae peth felly yn rhy beiriannol, neu ffurfiol, i fod yn Falen o'r iawn ryw. Wrth raid, neu heb yn wybod iddynt, yr ymollyngir i brydyddu gan etholedigion Y Falen Wir; a'r peth diwethaf a chwen— ychant yw cael llonydd ganddi. Yn hytrach, eu dymuniad yw:

O am aros yn ei chwmni ddydd a nos!

Y gwir yw mai hi ei hunan sy'n eu cymell i farddoni, fel y mae gosod llen dros gell ambell aderyn yn ei hudo yntau i byncio; a chlywais am beth mor greulon â phigo llygaid ehedydd caeth er mwyn ei annog, druan bach, i ganu yng nghwmwl ei ddallineb ei hun.

Cofiaf, ar yr un pryd, mai'r pruddglwyf yw consêt pob llipryn o grwt a fynno'i ystyried ei hun yn fardd. Eithr difrifoldeb "gwneud," fel dannedd gosod, yw peth felly—troi'r Falen yn rhith dwyster a gwadu ei grym hi! Mi welais ddigon o'r meddalwch hirwalltog hwnnw, hyd yn oed yn y Coleg, i beri imi erfyn droeon am benfoelni rhyddieithol weddill fy oes. Digiais hefyd wrth Gylch yr Orsedd wedi gweld bod modd i beth felly fynd iddo.

Na thwyller neb gan wep a fo'n hongian yn llaes gan sobrwydd digyfnewid nos a dydd. Gellir gadael pob gŵr tragwyddol- athrist o'r tu allan i gylch pendefigaeth Celfyddyd. I'r bendefigaeth bendefigaeth honno y perthyn yr awenydd; a dyfnder ei ddwyster ef un awr yw uchder ei ddigrifwch awr arall. Nodau'r un galon yw L'allégro ac Il Penseroso.

Wedi dweud hyn, mentraf dybio hefyd mai'r Falen yw mam yr awen. O leiaf, y mae barddoniaeth pob oes yn ddyledus iawn iddi. Wedi i ddyn ryfeddu, aeth i athronyddu. Wedi iddo dristâu, aeth i farddoni; a pho ddwysaf y galon, melysaf y beroriaeth. Dyna hanes pob perchen anadl y bo miwsig yn reddf iddo.

Onid yr eos, ganiedydd y nos, yw seraff cethlyddion y maes? Cofier hefyd mai gŵr a fu "mewn hanner cariad ag angau lleddfus" a ganodd un o delynegion mwyaf cyfareddol y byd. Delw Keats sydd arni, bid sicr; a thelyneg i'r eos yw honno. Mentrais led-gredu mai'r Falen yw mam yr awen. Hynny, fe ddichon, sy'n gwneud ei gormes yn faich mor dderbyniol i'w chaeth- ion hapus-luddedig. Gwrandawer ar Milton yn ei chyfarch:

Hail, thou goddess sage and holy!
Hail, divinest Melancholy!

Rhyfedd clywed croesawu rhywbeth a bair i ddyn gredu mai bod yn athrist yw uchder gorfoledd. Onid meddw neu hurt y gŵr hwnnw a yfo wermod tan daeru mai gwin ydyw? Eithr dyna effaith anghyson Y Falen ar y goreugwyr a darewir â'i hud. Syllant i'w hwyneb dichwerthin, a'i galw yn wynfydedig. Trônt gyda hi i'r encilion, a chyfrif ei chwmni yn gyfaredd cyfeillach. Ant yn sâl o gariad ati—yn rhy fendigedig o sâl i ddymuno gwella byth.

"Dedwydd i'm gell a'm didol," ebr Goronwy o Fôn. Ar rai o'r un aren ag ef, wrth reswm, y disgyn yr amwyll hwnnw. Addefant hwythau mai o wallgofrwydd yr ymddygant; eithr mynnu hefyd, fel Elfyn,— yn ei awdl i'r Awen,—mai "gwallgofrwydd dwyfol" ydyw.

Addefaf innau mai gwallgofrwydd fuasai trefnu meddyginiaeth ar gyfer clefyd sy'n gymaint hoffter i'r neb a'i dwg.

Af ymhellach. Gwallgofrwydd mwy fuasai erlid o'r wlad y pruddglwyf ysbrydoledig a roddes fod i Il Penseroso, heb sôn am gerddi melysaf awen y Cymro—ffrwyth y dwyster breuddwydiol hwnnw a elwir yn chwithdod atgofus" gan awdur cyfrol fach dreiddgar odiaeth ar "Elfennau Barddoniaeth."

Bod yn brudd tan ganu? Wel, braint yr anfarwolion yw honno.

FY MHIB

WRTH annerch cymhares y ceir hyd yn oed hen lanciau yn ei choledd a dotio arni, cystal imi addef ar unwaith fod "Fy Mhib" yn swnio'n fwy annwyl i mi na "Fy Nghetyn." Bid sicr, methu ag anghofio yr wyf yr ystyr bychanus sydd i'r gair "Cetyn" yn y Deheudir. Fy anffawd yw hynny, minnau'n gwybod bod iddo felyster odiaeth i lawer o Gymry gwych na fedrant, fwy na minnau, edrych ar bren ceirios na draenen ddu na gwreiddyn miaren, na thelpyn o glai chwaith, heb fawrygu deunydd yr eilun a addolant.

Nid ni'r ysmygwyr sy'n gyfrifol am y dynged dafodieithol a bair inni gyfarch ein heilun wrth wahanol enwau; a mwyn yw sylweddoli ein bod oll yn gyfrannog o'r un gwynfyd yn ein perthynas â'r eilun ei hun, a chofio mai ein dull o dalu gwrogaeth iddi, a hwnnw'n unig, sy'n amrywio.

Heddiw, er hynny, a mi—yn enw brawdoliaeth gyffredinol yr arogldarthwyr—yn ceisio cynnwys y gair "Cetyn," cydymdeimler â mi am fy anallu i dynnu diddanwch ohono. Wedi'r cwbl, y mae i air ei arwyddocâd darluniadol a'i effaith arbennig ei hun ar y synhwyrau.

Mae'n wir y pery'r rhosyn i ddyhidlo'i aroglau pêr gan nad pa enw a roddir arno. Eithr a fydd hyfrydwch i enw arall arno oni alwo'r enw hwnnw lun rhosyn i'r meddwl? Gorchwyl hawdd i benboethyn addolgar fyddai rhedeg ar hyd yr heol tan weiddi:

Mwca! Mwca! Hardd yw Mwca,

a’i fryd ar riain, neu berl, neu flodeuyn, neu ryw wrthrych arall a anwylid ganddo. Ond ef yn unig a fyddai yn y goleuni mewn bro lle ni chlybuwyd y gair "Mwca" erioed o'r blaen. Dolen gymdeithasol yw gair; a lle bo'i ystyr yn dywyll, yn amwys, neu ynteu'n amlochrog, y mae'n bosibl iddo achosi cryn benbleth yng ngwersyll y bobl. Lle dwg gair arliw anrhydedd mewn un cwmwd, fe ddichon iddo beri tramgwydd mewn cwmwd arall.

Yn China, er enghraifft, dibynna ystyr gair yn fynych ar yr ynganiad a roddir iddo yng ngenau'r llefarwr. Gall rhoddi sŵn trwynol iddo ennyn cymeradwyaeth a llawenydd lle'r achosai sŵn gyddfol derfysg a chyflafan. Fe gollodd llawer estron ei ben yn llythrennol yn y wlad honno am i air a fuasai'n "Hawddamor!" yn ei ffroen droi'n "Drato, chwi'r moch!" yng nghorn ei wddf. Peth ofnadwy yw gorfod marw am athrodi pobl, a chwithau'n bwriadu bendith iddynt.

Yn y fro lle'm ganed, erys eto liaws o ysmygwyr nad yw'r gair "Cetyn" yn golygu dim iddynt oddieithr dernyn neu dameidyn. Heblaw hynny, gair ydyw a ddwg gysgod anfri o'i gymhwyso at gyd- ddyn. Lle cyfeirir at frodor fel "cetyn bardd," neu "rhyw getyn o fardd," nid bardd ifanc a olygir, ond un-ar waethaf ei chwŷs rhigymllyd—wedi methu'n lân â thyfu'n fardd. Trymach fyth y gwarthrudd pan sonier am gennad y pulpud fel "cetyn pregethwr." Nid dechreuwr a feddylir, ond un a ddaliodd ati ar hyd ei oes heb erioed gyfiawnhau'r ymadrodd, "llenwi'r pulpud."

Fe welir, felly, mai ystyr diramant iawn sydd i'r gair "Cetyn" yn fy meddwl i. Diau, bydd egluro hyn yn foddion i ennyn cydymdeimlad fy mrodyr yn y Gogledd. Gwell gennyf ennyn eu tosturi na deffro'u dicter.

"Y Cetyn!" Pa fodd y dichon i mi gysylltu'r enw hwn â chymhares a ddwg imi'r fath gyflawnder o ddiddanwch a mwynhad?

Y mae gennyf wrthwynebiad arall hefyd i'r gair "Cetyn" fel enw ar fy anwylyd bersawrus, a hwnnw'n gryfach, os rhywbeth, na'r llall. Amlwg yw nad i'r "rhyw deg " y perthyn fy anwylyd yn y Gogledd; oblegid "Y Cetyn" a ddywedir, nid "Y Getyn." Dyna ddigon i warafun i mi glodfori fy eilun fel y dylwn dan yr enw hwnnw. Y mae'n anodd iawn gennyf synied am fab yn medru dotio'n llwyr ar wrthrych y rhoddir iddo enw gwrywaidd. "Hi" yw fy anwylyd i mi, nid "Ef." Pa ryfedd, a'm gwefus yn glynu wrthi mor fynych ac mor ddiollwng?

Mae'n ddrwg gennyf fod yn rhaid i arogldarthwyr y Deheudir droi i fyd y Sais cyn darganfod yr un cynhesrwydd ymadrodd ynglŷn â'r bibell ysmygu. "Lady Nicotine" yw'r anwylyd hyd yn oed yn y byd claear hwnnw. Meddylier, o ddifrif, am ei galw yn "Sir Nicotine!" Chwarae teg i'r Sais hefyd. Medr yntau amlygu gwresogrwydd defosiwn yn nheml ei eilunod.

Mae'n anodd dirnad paham y gomedd y Gogleddwr i'r Bibell swyn a rhagorfraint pendefiges, ac yntau'n honni'r fath gariad tuag ati. Clywais ddadlau bod mwy o sefydlogrwydd i edmygedd diffwdan y Gogledd nag i benboethni stwrllyd y De; nad mewn coelcerth rwysgfawr, fel lliwiau'r enfys, yr amlygir y ffyddlondeb a bery hyd y diwedd:

Ni phara bwa'n y byd.

Tuedd traserch tanllyd yw llosgi allan yn fuan, fel mai perygl edau a fo'n rhy dynn yw torri'n fuan. Dichon y gwelir y Gogleddwr yn eistedd yn wynfydedig ar ei bentwr myglys, a'i getyn hoff rhwng ei ddannedd, wedi i'r Deheuwr losgi ei stoc i'r ddaear a throi ymaith i gasglu cnau.

Wel, y mae rhywbeth yn hynny hefyd. Eithr, a'r dyfodol yn guddiedig oddi wrthyf, maddeuer imi am dystio mai heddiw sydd yn cyfrif yn fy ngolwg i. Rhaid dweud, er hynny, fod craig o ddyn yn well na rhyw berth o greadur y gellir ei roi ar dân mewn ennyd awr heb ado dim ar ôl namyn lludw oer y geill gwynt ei wasgar fel y mynno.

Cyn belled ag y gwn i, yr hen englynwr gwych Gwydderig yw'r unig fardd o'r De a gysylltodd ddiddanwch myglys â'r gair "Cetyn." Ofnaf hefyd mai gorthrwm y Gynghanedd, yn hytrach na gormes serch, a'i llywodraethai ar y pryd. Cysuro brawd trallodus y mae:

Dwg atat safn dy Getyn;—gad y byd
Gyda'i boen am dipyn;
'E ddaw rhyw lwydd ar ôl hyn,
Arfoga, cymer fygyn!

Ond nid yw yntau'n caniatáu i neb haeru nad safn cariadferch sydd i'r anwylyd yn y Deheubarth. Mae'n wir, er hynny, nad yw ef yn bendant ar y pwynt. Felly, gwell yw troi at englynwr arall sydd yn hollol ddiamwys ar y pen hwnnw.

Lle cyfyd aroglau'r safwyrdan pêr, rhyw Forfudd ddiddanus a wêl yr englynwr hwn, a hithau'n dwyn gofidiau ei phrydydd ar ei hallor ei hunan. Gwrandawer ar ei folawd iddi:

Hi a rydd dangnef i'm bron;—gyda'i mwg
Daw i'm heirdd freuddwydion.
Yn lludw y try trallodion
Llawer awr ar allor hon.

"Fy Mhibell" yw testun yr englyn hwn; ac y mae'n rhaid i bob ieithydd gydnabod na ellid molawd felly i wrthrych a elwir yn Getyn.

"Fy Mhib," ffurf anwylach ar "Fy Mhibell," yw fy eilun i mi, fel y geilw cariadfab ei Sali yn Sal, a'i Olwen yn Ol; a'r un modd y'i cyferchir gan bawb yn y Deheudir.

Gan nad beth a awgrymir i'r Gogleddwr gan Fy Mhib, melyster cynghanedd sydd yn yr enw i mi. Cofier yr ymadrodd, "Pibau aur y gwanwyn." Onid sŵn ffliwtiau sydd ynddo i bob clust a adnebydd beroriaeth?

"Fy Mhib!" Nid ar unwaith yr enillir serch yr anwylyd hon. Y mae hi'n hawlio taer ymofyn a gwytnwch yn ei charwr ifanc. Yn wir, rhaid mynd yn sâl erddi ar y cychwyn cyn profi ei melyster maes o law. Hi a achosodd i mi welwi'n aruthr yn ystod ymdrechion cyntaf fy ngharwriaeth. Yn ôl tystiolaeth fy nghyfoedion ar y pryd, yr oedd fy wyneb fel y galchen, a'm clustiau fel dwy lili wen. Eithr digon fy nhâl fel concwerwr am bob anghaffael a ddioddefais fel ymgeisydd. Am iddynt fethu a dal y praw ar y dechrau—y tipyn cno yn yr ymysgaroedd a'r tipyn diflastod uwchben platiad o fwyd bras ar ôl ei chusanu'n rhy chwannog—y troes cynifer o edlychod gorsantaidd i bwnio ar yr anwylyd a'i melltithio, yn enwedig ym mhresenoldeb hen ysmygwr hamddenol a bair iddynt garthu eu gyddfau ac agor y ffenestri. Pobl ydynt a gred fod modd cyrraedd gwlad yr addewid heb fynd trwy'r anialwch.

Y mae i fab lawer o "gydnabyddion " ymysg merched. Ond yr hon a bair iddo glafychu—methu â bwyta, a methu â chysgu—yw brenhines ei galon. Euthum trwy hyn oll er yr anwylyd a dry gymaint trallod yn llwch heddiw. Fy nghysur yr adeg honno oedd credu na fedrwn fod yn ddyn heb ddyfod i gymod â hon. Annheilwng o'i het bowler oedd pob llanc a gerddai allan hebddi; canys gogoniant mab ifanc, y pryd hwnnw, oedd gwisgo het galed ar ŵyr a chynhyrchu digon o fwg i brofi nad plentyn mono mwyach.

Wrth reswm, darfu mursendod ienctid. Eithr na thybied yr anghyfarwydd i'm brwdfrydedd leihau. Lle'r hoffwn gynt roddi amlygrwydd cyhoeddus i'r anwylyd, yn unig fel praw o'm concwest, fy hyfrydwch heddiw yw ymdawelu'n ei chwmni a sugno o rïn ei balm dihafal. Yn lle byr-bwylltra'r carwr balch, daeth arafwch yr addolwr defosiynol. Yn wir, y gŵr a ymddûg yn ddefosiynol tuag ati a gaiff y gorau allan ohoni.

Meddylier, er enghraifft, am y rhagbaratoad a elwir yn "llenwi'r bibell." Nid gorchwyl mono, ond defod; eithr defod sydd yn hawlio manyldeb a gofal. Yn wir, llaw offeiriadol sy'n gweddu i'r ddefod honno—llaw a ŵyr sut i drin a threfnu'r ffrwyth a'i gyflwyno'n boethoffrwm addas i dduwies mor hoff.

Rhaid cofio hefyd fod i'r dduwies anadl a ofyn am rwyddineb, ac y geill gorlwytho, neu wasgu trwsgl, effeithio'n niweidiol ar yr anadl honno. Mi glywais hen ysmygwr yn tystio nad oedd fawr o bleser iddo mewn "baco cardod," sef myglys a roddid iddo'n rhad ac am ddim. Tuedd dyn, ebr ef, oedd stwffio'r bibell â hwnnw nes atal ei gwynt a'i thagu. Wrth reswm, anghofio ysbryd parch a gweddusder yw peth felly; barusrwydd yn cael yr afael drechaf. Canlyniad hynny yw tramgwyddo'r dduwies a cholli'r fendith. Cymhares yr awr dawel yw'r Bibell—awr myfyr a breuddwyd, awr geni telyneg ac englyn. Hi'n unig sydd yn cael dilyn bardd i bellter cyfaredd. Nawf ei dolennau mwg yr adeg honno yn fiwsig na ellir ei ddal.

Mae'n wir y gwelir gwefusau ambell weithiwr yn glynu wrthi pan fyddo'i law ar ebill, neu fwyell, neu ordd. Eithr lle bo eisiau poeri ar ddwylo a defnyddio holl rym yr ysgyfaint, anghyflawn yr offrwm i'r eilun hoff. Gormod camp yw gwasanaethu dau arglwydd yr un pryd.

Y smôc gyntaf ar ôl brecwast yw fy smôc felysafi. Rhyw ymchwil am honno yw pob mygyn a'i dilyn, a phob un ohonynt yn syrthio'n fyr o'i hyfrydwch hi. Mi glywais nodi rheswm da am hynny: Nid wrth erlid pleser y mae ei ddal.

Y dydd o'r blaen, mi welais lun tarawiadol: nifer o Indiaid Cochion, ynghyd â milwyr Americanaidd, yn swatio ar lawr fel cylch o deilwriaid. Mewn cynghrair yr oeddynt, a'r pennaeth coch yn estyn pibell ysmygu hir i arweinydd y fintai Americanaidd. Teitl y darlun oedd, "Pibell Tangnefedd." Eithr pibell tangnefedd yw pob pibell ysmygu i mi. Mi welais ddyn yn ymladd a het silc ar ei ben. Ond pwy all gwffio a chetyn yn ei geg? A fu i ysbryd heddwch well cynrychiolydd? Gellir mynd i ymrafael â dyn arall â baich ar gefn; ond y mae pibell rhwng dwy wefus yn glo ar ymryson ac yn atalfa ar dafod athrodus.

Merch tangnefedd yw fy anwylyd i trwy'r byd mawr achlân. Dyna reswm da dros ei charu; a hyfryd gennyf yw sôn am Ogleddwr a'm hargyhoeddodd heno (ar ôl i mi ddechrau'r ysgrif hon) nad oedd ef yn ail i'r Deheuwr yng ngwres ei serch tuag ati. Yn wir, aeth cyn belled â phrofi bod "Cetyn" y Gogledd yn uwch teyrnged i anwylyd yr ysmygwr na "Phibell" y De. Pa un oedd gwrthrych godidocaf y galon—merch a gerid, ynteu duw a addolid? Y Bibell! Dyna gariadferch y De. Y Cetyn! Dyna eilun y Gogledd!

Peth arall. Cymaint oedd anwyldeb y Gogleddwr o'i eilun nes peri iddo gynhyrchu deunydd y poethoffrwm yn ei ranbarth ei hun. Yr oedd iddo air clodforus na feddai'r Deheuwr ei hafal ym myd myglys; a hwnnw oedd "Amlwch." Onid am fod iddi gymaint o lwch baco y rhodded i'r dref enwog yr enw hwnnw? Onid gwir ystyr y gair oedd "aml lwch "? Ffwlbri noeth, ebr fy nghyfaill, wedi munud o saib, a'i ben o'r golwg mewn cwmwl o fwg, oedd cymharu'r Cetyn i gariadferch. Nid wrth draed yr un ferch y plygai meibion dynion yn rhwymyn tangnefedd, eithr wrth draed yr un eilun. Priodol y rhoed yr enw "Pibell tangnefedd " i'r gwrthrych a gymodai'r Americanwr a'r Indiad Coch, nid am fod y gwrthrych hwnnw yn atal anghydfod, ond am ei fod yn dileu'r ffin genedlaethol rhyngddynt, a pheri eu bod mwyach yn un frawdoliaeth gytûn.

Ymhell cyn i'r Gogleddwr galluog hwn orffen ei ddadl, yr oeddwn wedi syrthio ar ei wddf tan gydnabod grymuster ei resymeg a'i fyglys, ac ymbil am "lond fy nghetyn " (ie, Fy Nghetyn) o faco Amlwch. Sylweddolais o'r newydd nad ni'r arogldarthwyr sy'n gyfrifol am y dynged dafodieithol a bair inni gyfarch ein heulun wrth enwau gwahanol. Ein cysur yw y medrwn oll gladdu ein gwahaniaethau pan fo dylanwad yr un hudoliaeth yn gweithio arnom.

A aroglderthir yng nghafell y llosgwyr myglys na dderfydd Gogledd a De, Dwyrain a Gorllewin? Nid erys onid talaith uniaith

y galon.

FFENESTRI

EISTEDDAF yr awron o flaen fy ffenestr, a'm dyled yn fawr i Ragluniaeth am annedd ynghanol y wlad ar ôl fy nhrafferthion rhwng muriau caethiwus y dref. Y mae hi'n wanwyn hefyd, a'r coed yn ymddilladu o'r newydd, ac addewidion haf yn glasu'r meysydd a ddisgwyliodd gyhyd am orfoledd blagur a chân.

Fy hyfrydwch yw cael ymddihatru o'm dillad gwaith ac ymgolli'n freuddwydiol yn yr eangderau tawel a ymestyn o'm blaen. Am ysbaid, o leiaf, darfu'r caethiwed a warafun imi olud a phendefigaeth yr enaid. rhydd. Caf gyfle heddiw i gymuno â natur heb ofni nac awdurdod meistr nac ymyrraeth pobl ffwdanus y mae arnaf ddyled iddynt. am bethau'r farchnad.

Rhaid wrth hamdden dilyffethair i fwynhau sacrament y ffenestr glir. Beth a dâl cipolwg frysiog ar ogoniant na ddygymydd â dadwrdd y palmant a rhuthr heolydd y ddinas? Tlawd yn wir y neb a syllo drwy ei ffenestr heddiw heb deimlo dyfnder yn galw ar ddyfnder, a'i ysbryd yn dianc o afaelion y Cystudd Mawr. Gwaethaf gorthrwm yr anghenion materol yw atal y rhyddid gogoneddus hwn, taflu cysgod Ý Blaidd ar ein drysau, a pheri inni feddwl am fywyd fel carchardy nad yw'n caniatáu cipolwg ar y Tir Dymunol—

Lle mae'r awel fyth yn dyner,
Lle mae'r wybren fyth yn glir.

Byd heb ffenestr yw byd felly. Canys ei swyddogaeth bennaf hi—o leiaf lle bo alltud hiraethus—yw awgrymu bod i ddyn ffiniau'r etifeddiaeth nas diddymir gan cnawd—rhyw Jerusalem Nefol o'r tu allan i'r babell glai y lletya'r enaid ynddi megis o'i anfodd. Pwy a droes i Old Curiosity Shop Dickens nad yw'n cofio'r geiriau hyn? —

Outward things and inward thoughts teem with assurances of immortality.

Ar eich taith heibio i swyddfeydd y ddinas, da fydd i chwi godi eich golygon at y ffenestri, os ydych am ddarllen stori'r amseroedd. Cyflwr y ffenestri, yn anad dim, a ddengys i chwi'r gwahaniaeth rhwng yr Hen oruchwyliaeth a'r Newydd. Y mae'r Oruchwyliaeth Newydd yn croesawu'r goleuni; yr Hen yn ei gau allan hyd yn oed a'i chwareli gwydr, nes peri i chwi ofyn i ba ddiben y defnyddiwyd gwydr o gwbl rhagor pren neu blwm.

Mi wn am ddau hen gyfreithiwr crwm a phenfoel a'ch cablai pe ceisiech lanhau tipyn ar ffenestri'r swyddfa. Wrth lewych llusernau nwy y plygant, o fore glas hyd hwyr, uwchben eu memrynau cymhleth, er bod ffenestr eu hystafell yn ddigon helaeth i ollwng y dydd i mewn pe tynnid oddi arni y gramen anhydraidd a lŷn wrthi, er cyn co, fel pruddglwyf henaint. Wrth yr un llewych nychlyd yr ymbalfala'u gwasanaethyddion ynghanol cofnodion ac ystadegau diddiwedd, a chruglwyth papurau—gweithredoedd a chytundebau—yn byramidiau llychlyd o'u hamgylch. Tebyg yw hil y swyddfa honno i dyrchod daear a gâr y tywyllwch yn fwy na'r goleuni am mai ym myd y tywyllwch y daliant eu hysglyfaeth; a gellid tybio bod croeso mawr yno i bob corryn a deifl gywreinwaith rhwydi niwlog dros y ffenestri. Yn wir, clywais alw'r gwehyddion baglog hyn yn bartneriaid y ffyrm. Y mae'r ffenestri budr yn talu—felly y dadleua'r hen gyfreithwyr—am eu bod yn cadw llygaid y clercod rhag crwydro i fyd nad yw'n perthyn i'w dyletswyddau. Dwy ferch sydd yn yr ystafell nesaf i'r stryd; a lle bo chwilfrydedd yn dreth ar ddiwydrwydd, dichon y gellir cyfrif ffenestr gymylog yn ddisgyblaeth fuddiol; canys ni pherthyn "y rhyw deg," bid sicr, i'r blodeuyn gweddw "a aned i wrido'n anwel a gwastraffu ei bersawr ar awel y diffeithwch."

Y mae ffenestri llydain "Yr oes Olau Hon" yn nodweddiadol iawn o fawr-frydigrwydd ei meddwl, ei chroeso i ddiwylliant, a'i dirmyg o'r hen bethau a anwylid gan y tadau. Ond ynghanol y cwbl, gellir enwi tri math ar ddyn a fedr hepgor ffenestr a goddef y tywyllwch heb deimlo baich ei enbydrwydd. Dichon nad goddef;; y tywyllwch y dylwn ei ddweud, ond dileu'r tywyllwch; oblegid hynny a wneir gan bob dyn a fyddo dan lywodraeth rhyw ysfa ysgubol a bair iddo anghofio pob dim ond yr ysfa honno. Y tri y cyfeiriaf atynt yw'r Cybydd, y Sant, a'r Bardd.

Dengys hanes fel y medrodd y tri hyn ddygymod â'u cau mewn celloedd anolau heb golli anterth eu nwyd; eithr yn hytrach ffynnu yno fel yr ymegyr Blodyn yr Eira ynghanol gerwinder y gaeaf. Yr eglurhad. yw hyn: Y mae i bob un o'r tri ffenestr heblaw ffenestr ystafell; ond nid gwydr mo'i deunydd. Lle tybir yn gyffredin eu bod yn goddef amddifadrwydd mawr, fe welant, drwy'r ffenestr gyfrin honno, olud nad yw'n amlwg i'r sawl a edrycho ar allanolion eu bywyd. Hynny sy'n peri eu bod yn methu â chydymddwyn â'r tosturi a wastreffir arnynt mor fynych. Os yw'r Cybydd, er enghraifft, yn cael mwy o bleser wrth feddwl am ei gyfoeth nag wrth ei ddefnyddio, oferedd hollol yw cydymdeimlo ag ef yn ei newyn a'i anghymhendod.

Nid ar unwaith y sylweddolir nad ansawdd eu nwyd yw'r gwahaniaeth hanfodol rhwng y tri hyn. Ym mesur eu hymlyniad wrth yr hyn a garant, safant oll yn ogyfuwch. Perthyn i'r naill a'r llall ohonynt yr un grymuster serch, yr un ysfa, yr un dyfalwch.

Nid yw'r Sant yn rhagori ronyn ar y Cybydd fel addolwr. Medr y naill fel y llall fynd i'r gwyll heb golli hyfrydwch y trysor a anwylir. Y mae deunydd merthyr i ddefosiwn y ddau. Yr un gynghanedd sydd ar eu gwefusau:

Awn i wae'r tân erot ti.

Y gwrthrychau a ennyn eu nwyd sy'n wahanol, nid y nwyd ei hun. Cyfranogant ill dau o'r un nwyd addolgar; eithr nid at yr un allor y tynnant; nid wrth draed yr un duw y plygant.

Mi glywais ddadlau cyn hyn fod hunan-ymwadiad y Cybydd yn llwyrach, os rhywbeth, na goddefgarwch y Sant; mai o'i wirfodd y dwg y cybydd cyfoethog ei welwder a'i garpiau, a thrigo mewn hofel ddilewych o serch at ei lo aur, tra mai croesau a orfodir arno sydd i'r Sant; ond ei fod yntau, yr un modd a'r Cybydd, yn medru dirymu. chwerwder ei orthrymderau, fel y gellir dweud nad gorthrymderau monynt mwy:

Cario'r groes, a'i chyfri'n goron.

Yr ateb yw bod llawer o saint hefyd yn ymwadu â'u golud materol o'u gwirfodd ac yn dewis adfyd am i wrthrych arall fynd. â'u bryd. Try mab y plas i ogof y meudwy; etifedd y faenor i gell y mynach. Ac nid trwy ffenestr risial y gwelant eu cyfoeth mwy.

Felly hefyd am y Bardd yntau yn ei berthynas â'r eilun a elwir yn Awen. Dywedir mai rhagorfraint y Bardd yw ei allu i fwynhau mewn myfyr olygfeydd nas gwerthfawrogir gan ddynion yn gyffredin ond trwy gymorth y llygad noeth. Gall ef, hyd yn oed yn nhŷ'r caethiwed, gydymdeimlo â'r bobl hynny y rhaid iddynt wrth oleuni cyn medru dal godidowgrwydd llun a lliw. Iddo ef, gwir ddeillion y byd yw'r deillion llygeidiog hyn—pobl ddigrebwyll. Lle'r edrychant, ni welant ogoniant pethau am mai pobl un ffenestr ydynt. Eithr pa dreth ar olygon y Bardd yw peri i'r llenni ddisgyn dros y chwareli gwydr? Pa atalfa ar ei ddarfelydd yw dwyn oddi arno'r llygaid cnawd y dywedir mai ffenestri'r enaid ydynt? Pwy a dyn lygad ei ddychymyg? Pwy a deifl amdano ef fur o dywyllwch a fedr ddal ei enaid yn garcharor? Pwy a ddichon lesteirio fflam ei weledigaeth ef a chau allan brydferthwch ei freuddwyd effro? Bwrier Homer i ddaeargell, heb iddo ffenestr namyn ffenestr ei grebwyll hedegog, na phwyntil ond darn o asglodyn llosg, fe a dynn lun ei freuddwyd ar y pared diaddurn ac oer a rhoddi huodledd awen anosteg i'r meini mudion.

Pobl ddiamgyffred a alwai Milton yn ddall am iddo golli ei olygon naturiol. Ar ôl i'r nos ddi-symud ddisgyn arno y canfu ef ogoniant ei Baradwys Goll.

Pan oeddwn yn filwr, cefais gydymaith cydnaws iawn, am ysbaid, mewn brawd a ddaeth trosodd o Awstralia. Ffermwr defaid ydoedd yn ei wlad ei hun; ond buan y darganfûm fod iddo rodfeydd na ddring diadell iddynt. Yr oedd yn fardd a medd- ylegwr; a phêr oedd ein cymun derfyn dydd wedi i gorn y gwyliwr ganu'n iach i'r haul. Soniodd lawer wrthyf am ehangder ei famwlad a'i hunigeddau maith, diarffordd. Ond yr hyn a'm diddorai fwyaf oedd hanes ambell wladychwr newydd a drigai wrtho'i. hun mewn diffeithle pell, heb iddo na chymar na châr yn agos, a dim ond hen gaban garw o goed yn lloches iddo ddydd a nos. Gwelsai fy nghyfaill ddwyn alltudion felly yn ôl i dir gwareiddiad yn greaduriaid gwallgof, tawedog,—yr unigrwydd mawr wedi eu hurtio a'u trechu'n llwyr.

Fe'm synnwyd braidd gan ateb fy ffrind wedi imi ofyn iddo sut ddynion oedd y rheini a amhwyllai yn yr unigeddau.

"Dynion," meddai, "heb iddynt fawr o adnoddau meddwl. Mewn gair, dynion. diddychymyg. Gwŷr y cynheddfau byw, ag iddynt awen a darfelydd, sy'n medru dal yr unigeddau. Sylwch, er enghraifft, mor hoff o fiwsig yw'r hen arloeswyr yn Canada a'm gwlad innau."

Fel arall yr arferwn dybio. Ond wedi ail-ystyried pethau, sylweddolais mai ar feddwl gŵr digrebwyll, o angenrheidrwydd, y pwysir drymaf gan weddwdod ac unigedd. Erys yn yr unfan gan mor fyr ei gyraeddiadau. Ef yw'r gŵr sy'n methu â dianc o garchar y foment. Pan ddêl nos, nos yn unig sydd iddo. Y mae'n rhwym wrth brofiad yr awr. A lle bo'i gorff dan glo, y mae'r muriau'n ymwasgu amdano a'i lethu. Ni fedd na chwmni na chyfeillach ond yn ôl agosrwydd cymheiriaid y medr ef eu gweld â'i lygaid, eu clywed â'i glustiau, a'u cyffwrdd â blaenion ei fysedd. Gŵr ydyw heb ffenestr i'w feddwl.

Mor wahanol y gŵr sydd mewn cymundeb â sylweddau cyfrin, hyd yn oed yng ngwacter byd! Y gwir yw nad gan garcharor yn ei gell y cyfansoddwyd "Taith y Pererin," ond gan freuddwydiwr rhydd na allai na mur na gefyn ei ddal yn gaeth.

Nid unigrwydd sydd i ŵr a fedd ddarfel- ydd, er ei yrru i'r anialwch, neu ei daflu i ddaeargell, ond cwmnïaeth fendigedig. Yn wir, y "gell a'i didol" yw cysegr santeidd- iolaf pob perchen awen. A pha gymunwr a ofyn am ffenestr iddi pan fyddo storm o oleuni yn torri ar olygon ei enaid?

Wrth syllu allan heddiw drwy fy ffenestr glir, diolchaf am gyfrwng cyfathrach uniongyrchol rhyngof â phrydferthwch. Heb hynny, ofnaf mai pell iawn a fyddwn o fedru synied amdano a'i werthfawrogi. Tybiaf mai dyna'r gwir plaen am y mwyafrif o'm cyd—fforddolion hefyd. Lle bo gardd yn weladwy o flaen eu llygaid, medrant edmygu ei choelcerth liwiau a dwyn mesur helaeth o'i diddanwch. Eithr dieithr iddynt y gynneddf honno a fedr beri "i'r anghyfaneddle lawenychu" ac "i'r diffeithwch orfoleddu a blodeuo fel rhosyn." Mwy dieithr fyth iddynt ysbryd y carcharor na fedr ond Angau'i hun ddwyn oddi arno etifeddiaeth plant y goleuni.

Syndod meddwl bod dirgelwch mwy eto'n aros, a'i ddadrys yn ormod camp hyd yn oed i'r dall a gafodd gipolwg ar wyrthiau'r haul. Sut yr adnabu Hellen Keller dlysni perth a thegwch gwedd, a hithau heb syllu erioed drwy ffenestr fel hon?

Lle'r edrychir allan ar ehangder gwlad. brydferth,—ei fforestydd, ei dolydd a'i mynyddoedd,—diddorol yw peri i'r llygaid fanylu ar ffurf y ffenestr ei hun a gwylio'i heffaith ar banorama'r byd. Sylwer ar ei rhwyllwaith, fel y pair hwn i'r olygfa fawr ymrannu'n gyfres nodedig o fân ddarluniau. Ceir pictiwr bach perffaith ym mhob chwarel, a hwnnw wedi ei fframio'n barod. I symudiadau'r edrychydd ei hun y perthyn sicrhau i'r pictiwr bach gyfartaledd effeithiol, a rhoddi iddo fesur cytbwys o gefndir ac wybren. Ac i'r neb a garo frws yr arlun- ydd, bydd paentio'r darluniau bychain hyn. yn ddisgyblaeth ardderchog ac yn dâl dymunol am lafur gofalus. Gan i mi fy hun weithredu arno gyda chryn lwyddiant, son- iais am y cynllun hwn wrth gyfaill a rydd hyfforddiant i blant mewn arluniaeth. Ei ateb oedd iddo'i fabwysiadu flynyddoedd yn ôl! Gwir yw'r gair nad oes dim newydd dan haul.

Da yw cofio, er hynny, nad wrth gwmpasu ehangder natur ag un edrychiad crwydr y mae ei hamgyffred a dysgu cynghanedd ei lliw a'i llun, eithr wrth graffu'n fanwl ac agos ar ei gwahanol agweddau. Dyna'r fantais o syllu arni drwy chwareli'r ffenestr. Tebyg yw'r plan hwnnw i gynllun y gwyddon. Ei ffordd yntau, yn ei ymdrech i ddwyn oddi arni gyfrinion ei bywyd a'i datblygiad, yw ei dosrannu ac edrych arni drwy'r chwyddwydr. Ymesyd ar ei chelloedd bychain, nid ar ei chestyll aruthr. Yr hedyn cau yw ei thrysordy hi, nid y maes agored. Pe cipid cyfrinach llychyn, buan y darfyddai dirgelwch y mynydd mawr.

Clywsom yn ddiweddar am y nerthoedd anghyffred a weithia mewn temigyn. Pes ffrwynid, hwy a yrrent long dros y môr, neu gerbyd dros y tir, yn ôl arch y gyriedydd. Cafwyd yr un gwirionedd ar wefus y Dysg- awdwr o Nasareth. Tystiai Ef y gellid symud mynydd gan ffydd gymaint â gronyn o had mwstard. Synnai'r torfeydd, a syllu arno'n anghrediniol. Gan mai ar y mynydd. y gorffwysai eu golygon, methent a sylwedd- oli nad symud hwnnw oedd y gamp, ond meddu'r gronyn ffydd. Yr un yw anneall llawer o'i ddilynwyr Ef hyd y dydd heddiw.

Mae hen fythynnod Cymru'n prysur ddi- flannu. Rhyfeddais lawer gwaith fod eu ffenestri mor fychain. A oedd ofn y goleuni ar ein tadau? Eglurwyd wrthyf mai yn ôl maint y ffenestri y trethid eu tai. Diolch bod iawn am gyfyngder felly; gellir gweld gwlad fawr trwy ffenestr fechan.

Gwir yw hyn am ddynion hefyd. Ceir cyfandir o feddwl ym mrawddeg ambell un. Digon i'r llall yw agor ei geg unwaith i'n argyhoeddi nad doethineb yw ei rym.

Dwy ffenestr na fedraf eu hedmygu yw'r Ffenestr Siop a'r Ffenestr Ystaen-y naill oherwydd ei rhagrith, a'r llall oherwydd ei harwynebedd. Mae'n wir yr ystyrir "gwisgo'r ffenestr " yn gelfyddyd heddiw. Tecach fyddai ei alw yn gyfrwystra. Anaml y gellir pwrcasu wrth y cownter yr hyn a amlygir yn y ffenestr. Rhywbeth salach a gynigir. Hen ystryw ffals yr edwicwr yw gosod y ffrwythau breision ar wyneb y pentwr, a rhoi i'r cwsmer y siom o ddar- ganfod pethau pwdr yn y cwdyn ar ôl iddo gyrraedd y tŷ, a'r gwerthwr, erbyn hynny, yn ddigon pell!

Perthyn yr un cyfrwystra i'r ymhonnwr ym myd meddwl a buchedd-ffenestr ardderchog oddi allan, ond stwff gwael oddi mewn. "Beddau wedi eu gwyngalchu " y galwai'r Athro Mawr ddynion felly; ac ni bu cymhariaeth effeithiolach erioed. Anffawd cymdeithas yw ei hanallu parhaus i wahaniaethu rhwng marsiandïaeth yr enaid a'r ffug allanol sy'n gymaint twyll i'r llygad. Felly, yn fynych, y ceir celfyddyd "gwisgo'r ffenestr " yn trechu barn deg ac yn drysu'r safonau.

A dyna'r Ffenestr Ystaen. Pwy a edrych arni'n ystyrgar heb deimlo mai gwrthrych llygad ydyw, a'r cwbl yn y golwg? Ffenestr ddiawgrym ydyw. Am hynny, gwrthodaf ei chyfrif yn ddeiliad teilwng o deyrnas celfyddyd. Nid yr hyn a welir ar len neu ar wydr yw goreugwaith darlun, eithr yr hyn a awgrymir ganddo. Lle try fy enaid ar bererindod pell, gan faint cyfaredd gwyrth awen, mi wn fy mod yng nghysegr santeiddiolaf y celfau cain. Eithr lle'r oedaf gyda'r ffurf a'r lliw, ar glai y safaf o hyd. Nid angel a'm tywys yr adeg honno, ond creadur meidrol fel myfi ei hun. Ol llaw hwnnw a welaf fi ar bob ffenestr ystaen.

Yr hen amser gynt, a'i ffenestri bychain! Da yw ei gofio hefyd. Rhodres a berthyn i'r genhedlaeth hon—nid i'r oes o'r blaen— yw'r cyfrwystra a elwir yn wisgo'r ffenestr. Dyna siop yr hen Barsi ym mhentref fy mebyd. Ar len y cof yn unig yr erys heddiw. Yr oedd i'w ffenestri hi gant a mwy o chwareli mân, a rhyw foglyn disglair, fel marblen fawr, ynghanol pob chwarel. Amhosibl bron oedd edrych i mewn trwyddynt. Rheswm da paham. Nid yn y ffenestr yr amlygid gogoniant y siop honno, ond yn y nwyddau a bwrcesid o'r tu mewn iddi. Yr Awen yn unig a alwai sylw atynt— pob papur pacio yn frith gan rigymau clodforus am y te a'r siwgr a'r pethau eraill, heb odl gelwyddog i'r un pennill. Ar drothwy'r drws y safai'r hen Barsi gan amlaf, a losin yn ei law i bob plentyn da." Amlwg ydoedd mai i ryw bentref arall y perthynai'r plant drwg i gyd!

Er syndod i mi, euthum heibio i siop gyffelyb y dydd o'r blaen mewn modur. "Siop yr Hen Greiriau" y gelwid honno, ac i'r amser gynt y perthynai. Mi wnawn fy llw i mi weld yr hen Barsi ar garreg y drws, a'i gap-smocio crwn, tebyg i damborîn, ar ei ben, a'r tasel aur yn hongian a gwegian uwch ei glust aswy, fel arfer; yntau'n galw'r plant ato, a'i dafod allan yn erbyn cornel ei enau, a'i wên fawr yn gymaint gwledd â'i losin . . .

Heddiw, a mi ymhell o'r hen fyd annwyl hwnnw, diolch am un ffenestr siop y medrais, o'i chanfod, ail-brofi melysion mebyd ac

ail-fyw breuddwydion bore oes.

Y NHW

PAN ddigwyddo anffawd, y mae cofio'r ddrychiolaeth dragwyddol honno, Y Nhw, yn fwy o bryder yn fynych na'r anffawd ei hun.

Barner wrth yr ymddiddan a fu rhyngof â'r hen frawd annwyl, William y Felin, wedi imi ddyfod arno'n dra sydyn mewn lôn unig, a'i gael yno yn curo blawd oddi ar berth y clawdd, a'i gart-asyn gerllaw. Ef ei hun a ddechreuodd siarad, dan ddwyswenu a chrafu ei wegil:

"Fe foiles, chi! Ys gwn i beth wedan' Nhw 'nawr. Fe wedan', sownd, 'mod i wedi câl ar y mwya' o dablen." "Pwy i chi'n feddwl, William? Nid fi, gobeithio."

"Na, na, nid chi; na neb arall neilltuol chwaith; ond y boblach fusneslyd ar hyd y lle 'ma."

"Wel, dim ond fi sy'n gwybod, ar wahân i chi, William; a ddweda' i ddim gair wrth neb. Gellwch fod yn dawel eich meddwl ar y pen hwnnw."

"Mae'n rhyfedd fel ma' Nhw'n dwad i wbod pethe," meddai William.

Y Nhw, fel rhyw dynghedfen dywyll, neu ddydd barn anochel, a bwysai ar ei feddwl- yn drymach o lawer na'r ddamwain. Yn wir, yn wyneb yr ofn hwnnw, pethau dibwys yn ei olwg oedd dymchwel y cart, colli hanner sach o flawd a'i anafu ei hun.

Y blawd ar y berth! Y fath gyfle i Deulu'r Glep! Ond am y chwŷs a'r gwaed —ffrwyth codi'r asyn bach ar ei draed a rhoi'r cart ar ei olwynion drachefn-faint fyddai'r sôn? Mi welais ddameg cam- farnu'r oesoedd yn y feidr y diwrnod hwnnw.

Erbyn holi William, wrth gwrs, nid gelyn cyfarwydd a ofnai, ond rhyw ledrith anghyffwrdd: Y Nhw-yr anferthrwydd hwnnw nad yw na gwryw na menyw, nac unigolyn na mintai, na dim yn y byd y gellir ei leoli a'i amgylchu; "Y Boblach," sef Y Werin, eithr nid y gaethferch leol a adwaenai, ond yr hen glebren gwmpasog nad yw'n neb am ei bod yn bawb; hyhi yr ymbiliodd Pantycelyn am i Dduw'r nef guddio'i feiau rhagddi oherwydd gwybod ei bod yn fwy manwl na'r bendefigaeth, yn fwy ansefydlog na'r môr, yn fwy gorth- rymus na theyrn ac yn fwy ofnadwy yn ei digofaint (fel y profodd y Chwyldro Ffrengig) na Jesebel waedlyd; Y Cyhoedd, yr anghen- fil annelwig hwnnw nad yw yn yr unlle am ei fod ym mhobman; yr ymyrrwr mawr holl-bresennol a gâr dynnu ysgerbwd o gwpwrdd a hau drewdod i'r pedwar gwynt; y barnwr mympwyol a ethol un i anrhydedd ac arall i golledigaeth yn ôl ei chwim a'i ragfarn; y gwyntyllwr tafodrydd nad yw na brawd na chwaer, na thad na mam, eithr rhyw dramwywr cymysgryw a oglais bob clust a hoffo fiwsig clec; y mathrwr annynol a gladd ddaioni gŵr gyda'i esgyrn, chwedl Shakespeare, a rhoddi hoedl i bob anghaffael a ddigwyddodd iddo.

Am hwnnw y meddyliai William, druan; ac ofni hwnnw a achosodd i bob dyfeisiwr a phob dau y bo cyfrinach ddrud rhyngddynt. gredu bod clustiau i'r parwydydd a llygaid i brennau'r maes.

Cyfyd hyn gwestiwn diddorol o safbwynt. meddyleg. Paham yr ymdeimlad hwn o fraw lle na bo na rhywun pendant i'w ofni na rhywbeth sylweddol i arswydo rhagddo? Wel, y mae hi yn natur pethau, rywsut, fod ar bobl yn gyffredin fwy o ofn rhyw bresenoldeb dirgel—rhyw fynas amhenodol—na gelyn y gellir ei weld a rhoddi bys arno, fel y mae teithiwr yn ofni dieithrwch cae anghynefin yn y nos yn fwy na thywyllwch hen gwm dryslyd y mae pob modfedd ohono yn hysbys iddo. Ond odid, yr ymdeimlad. o ddiymadferthedd, neu unigrwydd digymorth, sydd wrth wraidd yr ofn hwnnw; ac o'r ofn hwnnw, yn ddiamau, y tardd cred mewn ysbrydion a drychiolaethau a rhyw dynghedfen ddisyfyd a ddilyn gamre gŵr fel ei gysgod ei hun.

Y Nhw! Pwy ydynt? Pa le y maent ? Ai yn agos ai ymhell? Ofer holi. Os rhithiau ydynt, pwy—yn enw rheswm— sy'n cychwyn y murmuron diwarafun a ddaw i'n clustiau beunydd, beunos, megis of bedwar ban y byd?


Dichon mai creaduriaid ydynt a fedr eu difodi eu hunain y funud y rhoddant ollyng— dod i gyfrinach, yn enwedig cyfrinach a fo'n sen ac athrod ar ryw frawd neu chwaer anffodus. Efallai eu bod o'r un anian â'r pysgodyn cyfrwys hwnnw sy'n mynd o'r golwg, o'i erlid, yng nghwmwl brwnt ei drywydd ei hun. Y mae'n weddol hysbys y medrant fod mewn lle a pheidio â bod yno ar yr un pryd, fel y Scarlet Pimpernel yn stori'r Chwyldro Ffrengig. Fe all mai taflu eu lleisiau y maent a'n camarwain—" gyrru'r ffŵl ymhellach”—fel y gwnâi Valentine Vox.

Da y cofiaf y consuriwr crwydrad hwnnw. a ddaeth i'n diddori ni, blant yr ysgol, 'slawer dydd. Dechreuodd sôn am elffod ac ellyllon; wedyn peri inni eu clywed yn gwichial a chrechwen yn nhrawstiau'r to. Cyn hir, dyna'r "diawl bach du," chwedl yntau, yn galw enwau cas arnom o dwll y simnai. Aeth dau grwt mawr allan, rhwng chwilfrydedd a hanner ofn, a syllu i fyny i gorn y mwg. Mentrodd un ohonynt—a'i enw Tomos, gyda llaw—gyhoeddi'n watwarus nad oedd yno neb. Ond ar y gair, dyna sgrech annaearol o nos y parddu, a'r ddau hogyn yn ffoi trwy'r drws, a phedolau eu clocs" yn taro mellt ar y main." Aeth yn drad moch" yn yr ysgol hefyd—penbleth ac anhrefn a chrïo—a'r meistr yn gweiddi nad oedd yr un ellyll yn y simnai, nac yn y trawstiau, nac yn unman arall ond yn nhwll gwddf yr hen ddewin ei hunan. Ond waeth iddo heb. Yr oeddem oll, â'n clustiau ein hunain, wedi clywed ein trin a'n trafod gan leisiwr anwel a allai fod mewn lle a pheidio â bod yno ar yr un pryd.

Y mae'r Sgrâd—yr hen aderyn afrosgo hwnnw, o bawb,—wedi dysgu'r un tric. O leiaf, y mae'n medru taflu ei lais, a chaniatáu mai llais yw'r hen sgrafell ddanheddog a rygnir ganddo mor ddyfal wedi i'r cae gwair dywyllu. Rhydd lonydd i'ch teimladau. personol; ond fe ewch yn grac ar eich gwaethaf o fethu'n lân a lleoli ei hen grafu sychlyd, aflafar. Gellwch wneud yr un sŵn ag yntau wrth osod nifer o geiniogau un uwchben y llall, yn null grisiau, a thynnu ymyl ceiniog arall i lawr dros eu hymylau hwy. Ond ar waethaf tipyn o "lenladrad" felly, y mae gwybod lle y mae ef ei hunan wrthi yn gofyn am hollwybodolrwydd neu ynteu allu i fod mewn cant o leoedd ar yr un pryd. Yn y gongl acw wrth y ddraenen wen! Fe gerddwch yn chwannog i'r cyfeiriad hwnnw a mynd ar eich llw taw yno y mae. Wedi cyrraedd y fan honno fe'i clywch yn rhygnu ar ei hen styrmant cras yn union yn y gongl y daethoch ohoni ym mhen arall y cae!

Un o'u hadar hwy, Y Nhw, yw'r Sgrâd of ran ei dalent; ond ei fod ef, druan anwydog, yn ein poeni mewn modd digon amhersonol. Arnom ni y mae'r bai am fynd mor ddwl o dymherus o achos ei hen sgrafell holl- bresennol. Y mae rhywbeth allan o'i le arnom ein bod yn malio cymaint am y sgrafellwyr eraill hefyd. Da fyddai medru lluchio arnynt dipyn o ddirmyg deifiol Joseph Chamberlain gynt:

They say? What say they? Let them say!

Gwn am fferm sydd yn enwog am ei theirw cas o dymor i dymor. Yr eglurhad yw, mae'n debyg, fod ar y cyffiniau graig ateb na âd i deyrn corniog frefu'n ddi- ymyrryd ar ei diriogaeth ei hun. Bob tro y cyfyd sŵn o'i wddf, y mae'n fater o raid ar y tarw anwel, busneslyd yna ei ateb yn ôl a'i watwar. A dyna'r floneg yn y tân, ag arfer iaith y mae'n dda i deirw na ddeallant moni; yntau'n carthu'r tyweirch a beichio'n uwch, uwch, ei ffroenau'n megino mwg, a'i lygaid yn saethu fflamau, a'r tarw pell yn ei ddynwared i'r dim nes gwneuthur chwalu rhywbeth nad yw'n fuwch yn fater o raid iddo.

Peth ynfyd mewn tarw yw ei herio ei hun fel yna. Ond doethineb mewn dyn yw rhoddi sialens iddo'i hunan. Wrth reswm, nid dawnsio o gwmpas, chwyrnellu ei ddyrnau, fel esgyll melin wynt, a gweiddi: Dere mlân, te! Bwra fi! Bwra fi!" a neb byw bedyddiol gerllaw. Na, nid hynny; ond mynd i mewn i'w ystafell ddirgel, cau'r drws a dechrau ei holi ei hunan o ddifrif. Dyna'r unig ffordd y medr dyn roddi praw effeithiol ar ei anrhyd- edd, heb sôn am ddarganfod maint ei gynnydd mewn gwybodaeth a gras.

Y mae'r hyn a ddywaid dyn amdano'i hunan yn nirgelfa'r enaid yn bwysicach filwaith na'r hyn a ddywaid eraill amdano ar goedd gwlad. Ymchwil personol felly a gymhellir arnom gan yr hen athronydd Groegaidd a anogodd bob gŵr i'w adnabod ei hun. Wedi i ddyn roddi sialens iddo ef ei hun, a chael ateb boddhaol, nid yw'n debyg o falio gronyn beth a ddywaid Y Nhw. Gŵr yn dyfod i gymod tangnef— eddus ag ef ei hun yw coronwaith cydwybod dda.

Fe welir, felly, nad Y Nhw yw'r beirniaid terfynol. Geiriau hoff iawn i mi, garwr Dickens, yw geiriau Mr. Marton yn Old Curiosity Shop:

It is not on earth that Heaven's justice ends. Nid ar y ddaear y derfydd cyfiawnder y Nef.

Diddanwch i bob dyn hefyd yw gwybod y gwêl rhywun rinwedd yno—yn enwedig y sawl a'i caro—heb gymorth chwyddwydr. Cofier yr hen ddihareb: hen ddihareb: "Gwyn y gwêl y frân ei chyw." A'r gwir yw nad aeth rhagoriaeth erioed i fegian am edmygedd, er iddi weld gwaethaf Y Nhw Fawr.

Eithr beth am oreugwyr y ddaear? Grym gwirionedd a rydd iddynt hwy eu buddugoliaeth yn y diwedd. A ymesyd Y Giwed ar broffwyd na chyfyd. ei genadwri eilwaith? A deflir ei lusern o'i law na bydd disgybl annwyl a'i goleua drachefn?

"Cyfaill publicanod a phechaduriaid!' Y Nhw a ddywedodd hynny am ddiwair Fab y Dyn. Y Nhw hefyd a'i croeshoel- iodd. Na synner nad hysbys eu henwau. Tynged ddisyfyd Y Giwed-sef Y Nhw ar eu gwaethaf yw darfod yn ddienw.

Y mae enwau Ei gyfeillion, fel ei enw Ef

ei Hun, ar gof a chadw hyd y dydd heddiw.

Y STORI DAL

CREDIR yn lled gyffredinol, mi dybiaf, nad llawer o bechod, os dim, yw dweud celwyddau y gwêl pawb mai celwyddau ydynt. "Celwyddau golau" y gelwir anwireddau felly. Yn wir, mi gofiaf yn dda am lwffyn gwledig a elwid yn "Shanco Gelwydd Golau," nid oherwydd ei fod yn greadur celwyddog, ond am fod digon o ffenestri i'w gelwyddau i'ch galluogi i weld trwyddynt.

Y mae yna fath arall ar gelwydd diniwed, sef y math a gymerth ffurf y Stori Dal—tall story y Sais. Ni welaf i achos dros ymwrthod â'r term yn Gymraeg, oblegid o'r Saesneg y daeth y Stori Fer—peth cymharol ddiweddar yn llenyddiaeth y Cymro. Y gwir yw mai i rywogaeth y stori dal y perthyn ein chwedlau a'n rhamantau a'n Mabinogion ni'r Cymry, er bod i rai ohonynt elfennau nad ffrwyth dychymyg monynt yn gyfangwbl.

Yn fy marn i, meistr y stori dal yng Nghymru, yn y blynyddoedd diwethaf hyn, oedd yr hen Shemi Wâd. Mae'n wir na ŵyr nemor neb ddim amdano o'r tu allan i fro fy mebyd; a thlawd y bu ei ddiwedd yn ei ardal ei hun. Cyfraniadau gwirfoddol cyfeillion a ddiddorwyd ganddo a roes iddo gladdedigaeth weddus a charreg i nodi "man fechan ei fedd "; a'r perygl yw i'w straeon carlamus hefyd fynd i ddifancoll y llwch oni chronicler ambell un ohonynt ar gof a chadw mewn argraff.

Mi glywais lawer, ar ôl gado ardal fy mebyd, am y milgi rhyfedd hwnnw a redodd yn erbyn pladur yn y bwlch wrth erlid dwy ysgyfarnog, a'i hollti ei hun yn ddau hanner unffurf o'i drwyn i'w gynffon, y naill hanner yn dal un pryf, a'r hanner arall yn dal y llall! Ond o ben Shemi Wâd, mi gredaf, y daeth y stori honno ar y cychwyn, fel stori'r "daten fowr" y bu raid "ei blasto hi a mynd gatre â hi ar gart llusg yn bedwar pishyn!"

Mi glywais Shemi, â'm clustiau fy hun, yn adrodd y chwedlau hyn, a llawer o bethau cyffelyb nas clywais byth wedyn, ac yntau'n eu lleoli, wrth reswm, i'r diwrnod— yn y fan a'r lle!

Nid Shemi Wâd oedd ei enw bedydd; a chlywais hen grwt o glapgi yn yr ysgol yn syrthio i amryfusedd ofnadwy wrth geisio rhoi ffurf Saesneg i'r enw cynefin. Dweud yr oedd wrth y meistr am grytiaid a fu'n dwyn fale."

"Where did you see them?" holai'r meistr.

"In the garden of James Blood, sir," oedd ateb y clapgi.

James Wade oedd enw cywir yr hen frawd. Aeth James yn "Jim," a Wade yn "Wâd " yn gynnar yn ei hanes. Ond wedi iddo heneiddio a thyfu barf y troes Jim yn "Shemi." Barf gadwynog, yn cylchu ei wyneb o glust i glust, oedd ganddo, a'i ddwy foch yn lân loyw, fel dwy ynys binc yng nghanol ewynlliw tonnau. Dyna'r unig fannau glân ar ei holl gorff, mi dybiaf; a hynny oherwydd ei awydd hunanol i ymgadw at ffasiwn hen benaethiaid y môr yr adeg honno.

Hen longwr oedd yntau hefyd, er nad hwyliasai erioed o olwg tir ond yn y niwl. Mynnai, er hynny, i'r dô ifanc gredu nad oedd gwlad dan haul nad ymwelsai ef â hi yn ystod ei fordeithiau. Ffrwyth y balchder mentrus hwnnw oedd gosod Indiaid Cochion yn Ynysoedd Fiji ac Escimoiaid yn Neheubarth Affrica, a llawer anghaffael arall yng nghwrs y chwedlau annichon y mynnai ef i ni goelio eu bod " yn wir bob gair."

Yr wyf yn dra sicr ei fod ef ei hun—o'u mynych adrodd—yn eu coledd ar y diwedd fel ffeithiau; oblegid âi'n lled sarrug pan amlygid amheuaeth ynghylch geirwiredd ei straeon. Ei ffordd arferol o ddial oedd saethu bwled o sudd dybaco o'i enau yn syth i lygad yr amheuwr; ac ni welais i neb erioed a fedrai anelu poeryn gyda'r fath gywirdeb digamsyniol. Hen lanc ydoedd. Felly, cafodd ddigon o ryddid i ymarfer â'r grefft hyd yn oed yn ei fwthyn. Yr oedd lloriau'r ddau ben—y gegin a'r "pen ucha," fel y gelwir yr ystafell orau ym mythynnod Dyfed—yn batrymau poer myg— lys drostynt; a gellid tybio wrth y parwyd— ydd hefyd, yma ac acw, iddo fod wrthi'n o ddyfal yn ymgyrraedd at berffeithrwydd. Fodd bynnag, yr oedd yn "saethwr" sicr odiaeth pan fynnai; a dim ond ynfytyn neu wrandawr dieithr-druan ohono!-a fentrai fradychu anghrediniaeth o fewn teirllath neu bedair i'w geg.

Mynnai inni hefyd ei ystyried yn gapten. Ond ni chododd yn uwch erioed ar y dŵr na bod yn berchen hen gwch pysgota y dibynnai ei fywoliaeth arno yn ystod ei flynyddoedd olaf ym mhentref ei febyd. Rhyw stwlcyn byr ydoedd yn ymwisgo beunydd mewn siersi las a het Souwester, a sbwt o bibell glai, mor ddu â'i hen gwch tarrog, yn hongian, bowlen i waered, o gornel ei wefl.

Safai, fel rheol, ar ben Rhiw'r Post, a'i gefn at wal y pistyll, a'i ddwylo yng ngwaelodion llogellau ei lodrau hael; ac yno yr adlonnid y minteioedd â'i chwedlau am- rywiol. Pan chwarddai, gwasgai lafnau ei ysgwyddau at ei gilydd a'u dirwyn o gwmpas ei wegil, malpai holl chwain y cread yn cnoi ei feingefn. Yn wir, yr oedd codi ei ysgwyddau at ei glustiau, yn enwedig wrth siarad, yn arfer ganddo; a chystal cydnabod mai'r chwain a gâi'r bai am yr anorffwystra hwnnw.

Un llyfr yn unig a welais i yn ei hofel gawliog; a hen esboniad melynlliw ar Lyfr y Datguddiad oedd hwnnw. Pan fentrais ei agor a throi ei ddalennau llaith, lliprynnaidd, cododd digon o dawch afiach ohono i roi'r fogfa i sgrâd-digon o brawf, fedd- yliwn i, nad o Ynys Batmos y caffai Shemi ei weledigaethau, er mor hedegog ei ffansi. Ei unig ddiddordeb yn y gyfrol oedd ei chloriau lledr. Arnynt yr hogai'r hen greadur ei raser bob-yn-ail fore.

Ol ei gŷn ei hunan oedd ar ei greadigaethau oll; a'i hoffter pennaf oedd llunio rhamantau felly er diddori'r cwmni a gasglai o'i gwmpas wrth bistyll y pentref.

Cofiaf rai o'i straeon yn dda, yn enwedig stori "Canan Milffwrt," a medraf ei sgrif- ennu'n weddol agos at ei arddull ef. Ond ei glywed ef ei hun yn ei hadrodd-dan bwffian mwg a phoeri a chrechwen a dirwyn ei ysgwyddau; dyna'r ddrama fawr.

Wele'r stori, mor agos ag y gallaf, yn ei eiriau ef ei hun, gyda'r eglurhad mai yn nhafodiaith Dyfed y llefarai:

"'Rown i'n fferst mêt ar y Royal Duke, llong fowr bedwar mast, a'i ffiger-hed hi gwmint beder gwaith-wel, gwmint dair gwaith, minno,-â'r Frenni Fowr. Fe landes un dwarnod yn Milffwrt. Wedd digon o arian 'da fi-'y nghiflog, bid shŵr; ond yr own i wedi câl lot o berle hifid gida. brenin y Fiji Islands am safio'i wraig e' oddi wrth y Red Indians. Fe ath i natur fowr ata' i ar ôl hinni-gweud 'mod i'n leico'i wraig e'. Ond y gwir am dani yw taw hi wedd yn in' leico i. Fe allwn weud lot; ond 'sdim ots am hinni'n awr. Ar ôl i'r hen frenin ddechre termo, fe redes bant o'r inis honno-nid am fod arna' i ofon yr hen sgirmwgin; ond yr own i am stico at y perle. Fe'u gwerthes i nhw yn Falpareiso; ac fe gesum drigen punt am denyn nhw . . .

"Wel, gan nad beth i fo, fe landes yn Milffwrt. 'Nawr ma' 'na ganans mowron yn Milffwrt oddi ar yr hen rifelodd rhwng yr Eifftied a'r Cimri; a ma'u trwyne nhw'n pwynto mâs i'r môr i gadw gelinion bant; nid fel ni ffor' hon-yn gadel y bae'n agwred i bob hen fforiner sy' ishe dwad miwn 'ma . . .

A gweud y gwir yn blain, fe esum ar y sbri fowr yn Milffwrt-cwrdd â hen ship- mets a hwn a'r llall; a chyn pen wsnoth, wedd 'da fi ddim ffirling goch yn 'y nghoden. Wel, cered o bwti'n awr, a meddwl am gatre 'ma, a chisho difalu shwt drafeilwn i'n ôl, a finne heb arian i dalu am y côtsh. Fe dda'th i'r glaw mowr hifid y nosweth honno, a dim gwely, wrth gwrs, i hen forwr heb senten yn 'i goden e' . . . Jawch! Fe gofies, chi, am hen ganan mowr y gallwn i gwsgu indo. A dima fi ato, wedi iddi ddechre tiwillu, a saco 'nhrâd miwn ginta i'r mwswl, a gadel dim ond blân 'y nhrwyn i mâs. Fe gwsges fel mochyn deiar . . .

"Ond dima fi'n câl hen freuddwd cas— gweld brenin y Fijis wedi 'nala i a'n rhoi i i sefyll reit o'i flân e', a milodd o ddinion duon rownd abowt iddo, a drwm mowr ofnadwi 'da bob un. Dima'r hen frenin yn codi'i law'n sudan. Sgrwsh!' minte fe, felse fe'n rhoi rhyw snwshanad fowr. Gida hinni, dima'r milodd dinion—bob jac wan gyda'i gili—yn rhoi clatshen i'r tabirdde, a'r hen frenin, gida hinni, yn cirradd cic ar 'y nghrwper i. Cic? Meddiliwch am bedwar cant o geffile yn gillwng mâs atoch chi'r un pryd. Wel, tina shwt gic gesum i, nes own i'n hedfan trw'r awyr fel sgithan flwydd, a mynd a mynd a mynd heb argol stopo. Trwy drigaredd, wedd 'y mhen i mlân; ac fe allwn wrio taw deifo own i...

"Dima fi miwn i haid o frain, a'r rheini'n crowcan bwti 'mhen i ac yn cwmpo wrth y milodd gida shwt gered o'dd arna i. Miwn wedyn—head on—i gwmwl mowr o ddridws. Yr own i'n bluf ac yn stecs i gyd bwti 'mhen a 'nghluste, felse gwibed yn stico wrtho i. Ac wrth 'mod i'n crafu'r stecs o'm wmed, fe agores i'n lliged. Wel, jawch!' minte fi, Nid breuddwydo wdw i, ond mynd yn iawn trw'r awyr!' . . .

"Fe gofies wedyn, chi, 'u bod nhw'n seithu'r hen ganan mowr 'na bob bore i roi'r Greenwich time i'r coast guards. Wedd yr hen ganan hwnnw yn gallid towlu trigen milltir pan o'dd rhwbeth indo. A fi o'dd indo'r tro hyn! . . .

"'Shwt dwa i'n ôl yr holl ffordd 'ma wedi i fi ddishgin,' minte fi, 'a dim in 'y nghoden i? A shwt stopa i o gwbl os na fwra i yn erbyn rhwbeth? Dim ond gwagle mowr sy fini fan hyn.' . . .

"Dima fi'n gweld tŵr eglws o' mlân i. 'Os bwra i in erbyn hwn,' mintwn i, ' bydd hi'n dominô arna' i am weld gatre byth.' Dim ond 'i scapo fe nesum i; ond fe ddalodd blân 'y nhrŵed i yn yr hen geilog gwynt ar 'i ben e; a dima fe i lawr, dwmbwr— dambar, gida lot o gerrig a morter, ar ben 'y ffeirad, chi; a hwnnw'n gweiddi blw mwrder. Ond wedd 'da fi ddim amser i stopo i ecspleino dim. Sail on, wedd hi. Dim riffo'r hwyle tro hyn. Wedd e' wedi meddwl taw eryr own i; achos cliwes i e'n gweiddi wrth rywun: 'Look! look! There's an eagle!' Gâs e' eagle! . . .

"Trwy drigaredd, dima 'mhen i miwn i dwmpyn o gwmwle o'dd wedi'u gwasgu at 'i gili fel sache gwlân. Fe iawnes, chi,—' y nhrâd i lawr a 'mhen i fini. Ond gida hinni, dina’n anal i mâs trw dop 'y mhen i! Yr own i wedi cwmpo lawr yn sudan bwti dwy filltir, a dim byd 'da fi i ddala wrtho! . . .

"Beth nesum i'n awr ond agor 'y nghot fowr a dala 'mreiche mâs fel pâr o adenydd. Fe dorro' hinni 'nghwdwm i ... A lle i chi'n meddwl dishginnes i? Ar slip y leiffbot dan Ben Cw! Os nad i chi'n 'nghredu i, cerwch lawr 'na. Ma' ôl 'y nghlocs i yn y siment y finid hon. Newy simento'r slip o'n nhw'r pryd hinni."

Dyna'r stori. Mor argyhoeddiadol ei diwedd fel y bu chwilio dyfal am ôl clocs Shemi wrth "dŷ'r leiffbot," a'r plant yn darganfod y dystiolaeth mewn mannau lawer yr un pryd!

DAU FILWR

FEL eraill, bûm yn ddigon byrbwyll i gredu. mai rhyfel i roi terfyn ar ryfel oedd y gyflafan fawr a ddechreuodd ym mis Awst, 1914; ac ar ôl gweld erchylltra ymosodiadau llongau awyr yr Almaen, mi a deflais ymaith ddiwyg y pulpud a gwisgo am danaf arfogaeth Byddin Prydain Fawr. Tybiwn fy mod yn troi i ymgyrch santaidd, i grwsâd marchogion Y Grog.

I Berkhampstead yr euthum gyntaf i'm hyfforddi yng nghrefft y triniwr arfau. Yn y dref honno, gyda llaw, y ganed William Cowper y bardd Seisnig. Yr oeddwn yn gynefin â'i weithiau cyn hynny; a darllenaswn ei lythyrau coeth a chryn lawer o'i hanes. Druan o Cowper, a'i helbulon a'i ddioddef parhaus, a nos amwyll yn disgyn arno o bryd i bryd, rhwng ysbeidiau o ddydd toreithiog, a'i amgylchu'n llwyr yn y diwedd. Eto ef, yn ei iaith gyfoethog ei hun, a emynodd fel hyn:

Trwy ddirgel ffyrdd y mae yr Iôr
Yn dwyn Ei waith i ben;
Mae'n plannu Ei gamre yn y môr,
Mae'n marchog storm y nen.


Yn Berkhampstead hefyd y trigiannai W. W. Jacobs, yr awdur ffraethbert sydd wedi peri cymaint digrifwch â'i ddarluniau o hen longwyr a gwehelyth y porthfeydd. Lletyai dau o'm cydfilwyr dan ei gronglwyd ef, oblegid dofreithwyr oeddym oll yr adeg honno, a phob dosbarth o drigolion y dref yn ddigon parod i'n derbyn a'n gwneud mor gysurus ag y medrent.

Diangof fy more cyntaf ar faes y parêd, mewn sgwad o ryw ugain, a hen ringyll profiadol, wedi ei biclo'n dda dan haul y Dwyrain, yn ein cyfarwyddo. Dysgais wedi hynny fod i'r cyfarwyddwr gerwin hwnnw gryn lawer o natur dda, ond ei fod, yng nghwrs ei ddyletswyddau swyddogol, fel pob hen filwr, yn arfer yr un hen foddion ag a arferwyd ato ef ei hun, a dilyn yr un hen draddodiadau digyfnewid. Er enghraifft, creaduriaid a dorrodd galonnau eu mamau oedd pawb ohonom yn ei olwg ef; ond her inni oll gyda'n gilydd, myn diawl, dorri ei galon ef! Wrth reswm, creaduriaid felly a ymunai â'r fyddin pan dderbyniodd ef swllt y brenin. Yr oedd anallu prennaidd yr hen ringyll i ymddeol oddi wrth amgylchiadau ei ddisgyblaeth ei hun yn broblem ddiddorol i mi mewn meddyleg. Gofynnodd imi unwaith beth oedd fy ngalwedigaeth cyn imi ymuno â'r fyddin. Pan atebais mai pregethwr oeddwn, dywedodd wrthyf am fynd i uffern gyda'r fath stori geiliog a tharw! Wrth reswm, fe gofir nad oedd raid i weinidogion a phersoniaid ddwyn arfau rhyfel hyd yn oed dan Fesur gorfodaeth. filwrol.

Yn y fintai fechan y bore cyntaf, Partington oedd enw'r milwr ar fy llaw ddehau—gŵr diwylliedig ac urddasol y caf yr hyfrydwch o'i weled heddiw yn awr ac eilwaith. Tomas—William Tomas—oedd enw'r milwr ar fy llaw aswy—rhyw lefnyn ysgyrnog yn onglau i gyd, a'i gyfansoddiad, a barnu wrth ei ddifrifoldeb a'i anorffwystra, yn storm o nerfau. Edrychai'n debyg i fardd; a phan ofynnais iddo, dan fy nannedd, ai Cymro ydoedd, edrychiad surllyd a gefais. Yr oedd ei fryd mor llwyr ar ddal pob sillaf a ddylifai o enau'r hen ringyll. Os aeth rhywun i'r fyddin i anghofio popeth ond milwria, Tomas oedd hwnnw. O leiaf, felly yr ymddangosai i mi y bore hwnnw.

Ein gwers gyntaf oedd dysgu ymffurfio'n llinell union y gallech redeg incil mesur yn gyfochrog â hi heb ei blygu. "Right dress" yw'r gorchymyn a ragflaena'r syllu i'r dde dros ysgwyddau eich gilydd, a'r gwingo a'r ymnyddu sy'n angenrheidiol cyn sicrhau'r uniondra hwnnw. Gan nad oes i'r gŵr

cyntaf yn y rheng gymar ar ei ochr ddehau, ei ddyletswydd ef yw sefyll yn stond, a'i lygaid digyffro'n edrych i'r gorwel pell, a'r ail ŵr yn ymysgwyd a sgriwio'i lygaid dros ei ysgwydd ddehau i syllu arno, y trydydd ar yr ail, y pedwerydd ar y trydydd; a'r un modd i lawr hyd waelod y rheng. Ar ôl i chwi ymwthio digon yn erbyn eich gilydd a syllu'n ddigon taer ar yr ysgwydd nesaf atoch i deimlo'n siŵr nad ydych yn gŵyro drwch y blewyn, fe ddaw'r gorchymyn "Eyes front" fel crac chwip; a dyna chwi'n rheng union o ymladdwyr smart rhagor na bod yn rheffyn igam-ogam fel cŵys gyntaf y glaslanc hwnnw a anelodd ei gwlltwr at fuwch ar ben y dalar heb ystyried bod y fuwch yn dal i symud!

Ar ôl iddo ddarlithio ar y pwnc holl-bwysig hwn am beth amser, dyma'r hen ringyll yn camu'n ôl a chyfarth: "Squad! Right dress! Jump to it!"

Neidio ati? Fe dreiodd Tomas neidio dros fy mhen. Wedi iddo fethu, disgynnodd, yn faglau i gyd, ar flaen fy nhroed chwith, a honno eisoes yn llosgi fel Gehenna gan bwys a gwasgfa esgidiau newydd y fyddin. Ar ôl dawnsio a gweiddi ennyd, plennais fy mhenelin yn ais fy nghymydog gorhoenus a dweud wrtho fy marn amdano ef a'i deulu oll hyd y nawfed ach.

Ar hyn, dyma'r hen ringyll ymlaen atom, a golwg ofnadwy arno. Gosododd flaen ei drwyn yn erbyn trwyn Tomas a syllu'n felltennog i eigion ei lygaid; a chefais innau, am y tro cyntaf, y fraint o wrando ar enghraifft nodedig o areithyddiaeth frwmstanaidd is-swyddogion y fyddin; a mynnaf dystio nad yw'r lled-gyfieithiad a ganlyn yn deilwng ohoni:

"Wyddost di ble mae Awstralia ? Fe wyddost. Wel, yno mae'r Kangaroo yn byw. Ac yno, myn diawl, mae dy le dithau. Pwy uffern a ofynnodd iti lamu i'r awyr fel yna? Myn Crist! 'Dyw'r fuwch a neidiodd dros y lloer ddim ynddi. A thithau, Napoleon! (Myfi oedd hwnnw.) Pwy uffern wyt ti'n feddwl wyt ti? Pwy a'th anfonodd yma i dynnu wynebau a llefain gorchmynion? Mae dy draed yn dost? Wel, fe fyddai dy ben di'n dost petait ti'n gorfod sefyll allan fan yma ac edrych ar y bwbachod a elwir yn filwyr heddiw. Mi welais frain yn tomi ar bethau tebyg mewn cae tatws. Milwyr!"

Gofynnais a oedd modd ysgar Tomas a minnau.

"Dim o gwbl, Napoleon! Gyda'ch gilydd yr ydych heddiw. Gyda'ch gilydd y byddwch bob dydd yn y sgwad yma; ac mi gadwaf fy llygad arnoch hefyd. Wyt ti'n clywed, Kangaroo?"

Nodiodd y Kangaroo ei ben yn ddigon dafadaidd, a rhyw sŵn od yng nghorn ei wddf.


Dechrau rhyfedd i mi yn y fyddin— gwneud gelyn anghymodlawn o gymydog y bore cyntaf, a'm chwerwder tuag at yr Almaenwr wedi troi'n chwerwder gwaeth tuag at gyd-filwr.

Yn y sied fwyta, ymborthai'r gatrawd yn adrannau bychain sefydlog, a'r milwyr eu hunain ym mhob adran, am yn ail â'i gilydd, yn gwasanaethu'n wythnosol, ddau ar y tro, fel heilyddion. Tomas oedd un o'r ddau yn fy adran i yr wythnos gyntaf; ac fe ddylech weld y modd sarhaus y lluchiai ataf y cyllyll, y ffyrc, y llwyau a'r llestri oll. Aent weithiau dros ymyl y bwrdd i'r llawr, ac yntau, fel llamhidydd, yn gorfod eu dilyn a'u dychwelyd yn fwy pwyllog, a phawb yn chwerthin ac edmygu ei ystwythder. Eisteddwn fel sant heb gymryd arnaf sylwi ar ei derfysg a'i ddial; ond pan ddôi fy nhro i gyflawni'r un ddyletswydd, anghofiwn dalu da am ddrwg. "Llygad am lygad, a dant am ddant," oedd fy egwyddor; a'r egwyddor honno, gwaetha'r modd, a lywodraethai bob ymwneud rhwng Tomas a minnau.

Er fy ngorfodi i sefyll nesaf ato ar ei law ddehau yn y sgwad, fe wnawn fy ngorau glas ar bob achlysur arall i gadw o'i ffordd. Ond cyn hir, dechreuais dybio bod yr hen ringyll (a soniai gymaint am India a'i dewiniaeth) wedi ein rhibo, chwedl brodorion Dyfed, fel na allem ddianc o ffordd ein gilydd. Gan nad beth am hynny, po fwyaf yr ymdrechwn i osgoi'r creadur, amlaf i gyd. y rhedwn i mewn iddo.

Awn i ddarlith fin nos i glywed sut i ollwng bom o'm llaw heb chwythu fy mhen fy hunan i ffwrdd, sut i dynnu bidog o ymysgaroedd gwrthwynebydd ar ôl ei wanu trwy'i ddillad a'i harnais, a phethau buddiol o'r fath, a rhywun neu'i gilydd yn llewygu bob tro—crytiaid ifeinc o'r Ysgolion Cyhoeddus, fel rheol. Eisteddwn yn y mannau mwyaf annhebyg gan ddweud wrthyf fy hun: "Ddaw e' ddim fan hyn, ta beth." Ond cyn wired â phader, fe fyddai Tomas naill ai wrth fy ochr, neu o'r tu ôl i mi, neu ynteu'n uniongyrchol o'm blaen, fel corff y farwolaeth. Nid eisteddwn wrth fwrdd mewn sied goffi, nac ar fainc mewn cyngerdd i wrando cerddorfa'r gatrawd, na fflopiai ef i lawr wrth fy ymyl, yn llawn mor anfoddog â minnau, a llawn mor derfysglyd hefyd, o'n gyrru fel hyn i ddannedd ein gilydd, beunydd beunos, gan ryw dynghedfen anochel. Yn wir, yn y diwedd, ni synnwn ronyn pe deffrown yn y bore a'i gael wrth fy ochr yn y gwely. Yr oedd bron cyn ffyddloned imi, o'i anfodd, a'm cysgod fy hun! Peth ofnadwy yw'r hyn a eilw'r meddylegwr yn weithred anwirfoddol, sef dyn, megis wrth raid, yn gwneud rhywbeth sydd yn groes i'w ewyllys. Yr oedd y ddeddf honno'n cael amser da gyda Tomas a mi!

Fy ngobaith oedd pasio i mewn i'r Cwmni (Cwmni B) a chael fy ngosod i ymarfer ar y Sgwâr, dan gyfarwyddyd is- gapten, mewn platŵn na ddoi Tomas iddi; ac edrychwn ymlaen yn chwannog at y bore Sadwrn y cawn sefyll, yn filwr hywedd, ym mharêd y Cyrnol, a'r hen fachgen ei hun, o gefn ei geffyl, yn drilio'r bataliwn, sef y Cwmnïau oll ynghyd yn yn un fintai ddisgyblaidd. Rhaid oedd pasio i mewn i'r Cwmni cyn mwynhau'r fraint honno. Ond fe ddaeth hynny; a da y cofiaf y glanhau a'r ysgleinio nos Wener-llathru'r stropiau a'r byclau, a gloywi'r dryll a'r fidog, cyn ymddangos, am y tro cyntaf, ym mharêd y Cyrnol. Gwir yw'r gair, amheued a amheuo, mai Tomas, o bawb, oedd ar fy llaw aswy, yn rheng olaf y gatrawd, y bore hwnnw! Daeth llais y Cyrnol megis llais o hirbell, cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen":

"Talion! 'Shun!"

Wedyn, ar ôl ysgogiad sydyn, cydamserol, megis ysgytiad un gŵr, mil a mwy o ddynion. yn sefyll yn unionsyth a digyffro, fel fforest o binwydd, a'u bidogau gloywon yn fflam wen goruwch y cynnull distaw. Ond yr oedd blaen bidog Tomas wedi brathu fy nghlust aswy; a'r funud honno, yn erbyn corun fy nghap y gorffwysai, a minnau'n gorfod aros mor llonydd â phost llidiart.

Y fath ollyngdod oedd y "Stand easy," pryd y caniateir i'r rhengoedd ymollwng a chydgyfathrachu! Y peth cyntaf a wneuthum oedd dangos fy nghlust waedlyd i Tomas. Wedi hynny, rhegi fy rheg gyntaf yn y fyddin, a'i daro yn ei fol â chefn fy llaw.

"Fighting in the ranks, eh?" ebr llais awdurdodol o'r tu ôl i mi. "On orders Monday morning, you two!" A dyna'n henwau i lawr ar lyfr y rhingyll ar gyfer ymddangos, fore Llun, fel drwgweithredwyr o flaen Capten y Cwmni y perthynem. ein dau iddo, sef Cwmni B.

Yn union ar ôl y parêd, a'r milwyr yn loitran o gwmpas yn y cae, eglurodd yr hen ringyll y buasai wedi ein gadael yn ddisylw oni bai bod llygaid swyddog uwch arnom yr un pryd.

"Wel, gadewch i mi gael siarad â'r Capten yn awr tra bo'r glust yma'n friw." Gan mai "preifat" oeddwn yr adeg honno, ni fedrwn ymgynghori â'r Capten ond trwy ringyll. Cydymffurfiodd y rhingyll â'm cais; a chyn hir yr oedd Tomas a minnau yn sefyll o flaen y Capten ar y cae, a minnau'n egluro'r amgylchiadau.

"Tybiaf mai'r peth gorau i chwi'ch dau," ebr y Capten, "fydd mynd dros y clawdd ac ymladd y peth yma allan i'r pen. Ond, arhoswch! Ymhen rhyw fis, fe ddechreua'r gwahanol ymrysonfeydd rhwng y Cwmnïau. Dyna'r ymryson bocsio. Mi garwn i Gwmni B wneud yn dda, a byddaf yn dewis paffwyr gorau'r Cwmni ymhen tair wythnos. A ydych chwi'ch dau yn fodlon ymladd, â'r menyg arnoch, o flaen y Cwmni ar y dydd penodedig?"

Nodiais fy mhen i'r ochr gadarnhaol; a dyna ên Tomas, yr un modd, yn cyffwrdd â'i frest.

"O'r gorau, ynteu," ebr y Capten. "I'r ymarferle mor fynych ag y gellwch i'ch cyfarwyddo gan ddau ringyll gwahanol, perthynol i Gwmni B."

Dewisais fy hyfforddwr, sef y Rhingyll Sanders; ac wedi i mi fod wrthi'n ddyfal yn ymbaratoi, a phwyntiau'r ymarferle yn aros fel adnodau yn fy nghof, heb sôn am y tipyn salwch yn fy ngholuddion, dyma'r dydd mawr yn gwawrio. Yr oedd Tomas a minnau, o'r diwedd, i setlo'r elyniaeth rhyngom unwaith am byth!

Wrth wylio deuoedd eraill yn brwydro cyn dyfod ein tro ni, ac ambell un ohonynt yn bwrw'r llall i ebargofiant, dyfelais lawer a oedd Tomas wedi datblygu'r fath ddwrn. A barnu wrth ei olwg, i'r un cyfeiriad y rhedai ei freuddwydion yntau yn ei berthynas â mi. Ond fe ddarfu'r synfyfyrio pan alwyd am "Tomas and James" i'r cylch.

Gan mai dwy rownd yn unig a ymladdwyd rhyngom, nid gorchwyl anodd fydd disgrifio'r ysgarmes fythgofiadwy honno.

Nid hir y bûm yn y cylch nad oeddwn wedi anghofio pob cyfarwyddyd a gefais gan fy hyfforddwr. Fy iechydwriaeth oedd y ffaith bod yr un peth yn wir am fy ngwrthwynebydd. Fe dduliwn ei ên fel y mynnwn. bron. Yntau'n fy nghyrraedd innau gyda'r un rhwyddineb anochel. Hwyl ddychrynllyd bob ochr, ond dim celfyddyd, a'r clapio'n fyddarol o'n cwmpas, er bod gormod o chwerthin yn gymysg â'r gymeradwyaeth i'm plesio i. Ond dichon mai myfi oedd yn meddwl hynny. Fodd bynnag, dechreu- ais gynddeiriogi. Chwyrnellais fy mraich dde gylch ogylch fel asgell melin wynt gan herio Tomas i ddynesu. Bu yntau'n ddigon. dwl i ddyfod ymlaen. Mi a'i deliais dan ei ên a'i godi o'r llawr a'i weld yn dyblu i fyny ac ymdaflu ymlaen ar ei ben fel y gwelais eog yn llamu'r crych yn afon Teifi.

Dyna ddiwedd arno!" meddwn wrthyf fy hun. Yr oeddwn yn edrych o'm cwmpas â gwên foddhaus ar fy wyneb, pan deimlais y llawr yn codi o'r tu ôl imi ac yn taro fy ngwegil. Yr oedd y peth yn ddirgelwch poenus i mi; o leiaf am ennyd.

Pan oeddwn yn y gongl yn cael fy nhylino a'm hanner boddi, eglurodd Sanders fod Tomas wedi manteisio ar fy ngwenu anochelgar a'm llorio cyn i mi ei weld yn dynesu. "Ond y tro hwn am dani, meddai fy nghyfarwyddwr.

"Ie'r tro hwn am dani," atebais, yn ffyrnig ofnadwy.

"Ewch i mewn ar ras y tro yma," meddai Sanders wedi i'r gloch ganu. “Bydd hynny'n ddychryn iddo." Cymerais ei gyngor. Ond y mae'n rhaid bod Tomas wedi cael yr un cyngor; oblegid ar ras y daeth yntau i mewn i'r cylch. A chan fod y naill a'r llall ohonom yn cyrchu at gyffelyb nod, beth oedd i'w ddisgwyl ond yr hyn a ddigwyddodd ? Daeth ein talcen- nau i wrthdarawiad annisgwyliadwy, a'r sŵn fel ergyd o lawddryll, yn union fel y gwelais bennau dau hwrdd mynydd yn gwrthdaro mewn ysgarmes ar Garn Jack Rees. Y peth nesaf a welais oedd breichiau Tomas yn ymollwng yn llaes i'w ochrau, ei lygaid yn rholio'n wynion, a'i gorff yn gŵyro'n ôl a syrthio fel hen golfen grin. Nid cynt y dechreuais orfoleddu nag y daeth i minnau ryw awydd anwrthwynebol i wneud yr un peth. Teimlwn ddeddf Isaac Newton yn fy nhynnu o'r tu ôl; a dyna fi i lawr yn rhondyn ar asgwrn fy nghefn a gorwedd yn serfyll a diymadferth ar lawr, a synnu mai Lloyd George a glywn yn awr yn annerch torf ym mhafiliwn yr Eisteddfod . . .

"Pwy enillodd, Sanders?" Wrth ofyn y cwestiwn, sylwais nad yn y cylch yr oeddwn bellach, nac yn agos ato chwaith. "Cyfartal," oedd ei ateb.

"Cyfartal?" Wedi'r holl ymbaratoi yn yr ymarferle, a'r holl glatsio ar ein gilydd. yn y cylch, dyna ni'n union yn y fan lle'r oeddem cyn dechrau! Yr oedd y cyflwr yma, os rhywbeth, yn waeth na'r cyntaf.

Ymhen rhyw dridiau ar ôl hynny, cefais orchymyn i symud fy nhaclau i lety newydd. —annedd-dy prydferth a gardd o'i flaen dan gob y gamlas a ddirwyn am un cwr i'r dref. Cefais groeso cynnes gan wraig y tŷ. Eglurodd y cawn ystafell i mi fy hun ar y llofft-lle i eistedd a chysgu. Neidiodd fy nghalon i'm gwddf gyda'r geiriau nesaf o'i genau:

"Gobeithio y byddwch mor gysurus yma â Mr. Tomas. Dyn neis iawn yw ef, a'r plant yma—yr hogyn a Beti fach-yn hoff iawn ohono."

Ni allai mai Tomas, fy ngelyn i, oedd hwn! Yr oedd peth fel hyn yn annichon-disgyn i'r un llety ag ef ar fy symudiad cyntaf, a channoedd o filwyr yn aros yn y dref! Ond wedi i mi ofyn sut un ydoedd, ac i'r wraig garedig ei ddisgrifio, diflannodd pob amheuaeth. Tomas fy ngelyn oedd fy nghyd- letywr yn awr; a chan fod Ffawd wedi penderfynu ein taflu yn y diwedd dan yr un gronglwyd, mae'n syndod iddi ganiatáu inni ddwy ystafell ar wahân a pheri nad oedd raid inni gyfathrachu â'n gilydd.

Buom yno am rai wythnosau yn pasio'n gilydd yn dawedog a swrth, a'r naill yn brasgamu am gae'r parêd bob bore heb air o rybudd i'r llall, cyn i gyd-ddigwyddiad arall rhyngom roi coron ar y lleill i gyd.

Yr oeddwn yn fy ystafell un nos Wener yn glanhau a sgleinio, fel arfer, ar gyfer parêd y Cyrnol fore trannoeth. Yn sydyn, dyna gnoc nerfus ar y drws o'r tu allan. Gwrandewais yn astud. Dwy gnoc wedyn ychydig yn uwch. Wedi i mi weiddi "Dewch i mewn," dyna'r drws yn agor yn araf; a gwelwn Tomas yn sefyll rhwng gwyll a golau, a ffrâm y drws am dano fel ffram am ddrychiolaeth.

"Dewch i mewn os ydych yn chwennych fy ngweld," ebr fi. Dynesodd at y bwrdd a rhoi ei law ddehau i bwyso arni.

"Mi gymeraf un o'ch sigarennau," meddai. Bydd yn haws siarad."

"Gyda phleser," meddwn, tan estyn golau iddo. Pwffiodd ychydig fodrwyau o fwg i'r awyr cyn siarad drachefn.

Yr ydym wedi gweithredu fel dau ffŵl; a hynny o'r dechrau," meddai. "Nid i ddweud hynny y mynnwn eich gweld chwaith, ond i ofyn cwestiwn."

"Wel, os medraf ei ateb, mi a wnaf heb gelu dim. Felly, allan ag ef, Tomas!"

"Mi glywais beth amhosibl heddiw," meddai. "Mi wn mai tynnu fy nghoes y maent. Er hynny, mi garwn wneud yn siŵr, a chael y sicrwydd hwnnw o'ch genau chwi eich hunan. A all fod gwir i'r hyn a glywais, dywedwch, mai pregethwr ydych?"

"Paham amhosibl, Tomas? Dyna air go fawr, yn enwedig i filwr."

"Wel, James, 'does dim o'ch cwmpas, rywsut, yn awgrymu'r pregethwr."

Codais ar fy nhraed, a'i ateb gyda chryn deimlad: "Pa beth o gwmpas neb ohonom yn y fyddin sydd yn amlygiad o'r hyn ydym, a'r hen ddiwyg unffurf yma yn diddymu pob personoliaeth a'n troi i gyd gyda'n gilydd yn beiriannau rhyfel?

Goleuodd ei wyneb. "Yn wir," meddai, "dyna dipyn o'r pulpud yn awr . . . Ai pregethwr ydych, yn wir?"

Nodiais fy mhen yn wylaidd, a lwmp mawr, fel cwd o ddagrau, yn fy ngwddf. Cyn i mi gael amser i ddadebru, yr oedd Tomas wedi syrthio am fy ngwddf a'm cofleidio.

"James annwyl! Pregethwr wyf innau hefyd!" ebychai fy hen elyn, a minnau'n gafael yn dynn amdano yntau, a'r torchau mwg yn troi'n enfysau lawer o ogoniant. Nid dyn cas oedd Tomas, wrth gwrs, ond dyn rhy ofnadwy o ddifrif, a'i orawydd i ymgadw rhag gwneud camgymeriadau yn ei wneud yn greadur nerfus yn y rhengoedd anghynefin. Peth arall, gan ei fod wedi penderfynu ymladd yn erbyn Yr Almaen, ymladdwr y mynnai fod, nid Efengylwr; o leiaf am ychydig. Pwy fedrai afael yn y fidog a chadw ei law, yr un pryd, ar lun y Groes?

Offeiriad oedd Tomas yn yr Eglwys Wladol, a'i bobl yn ei anwylo. Yn ben ar y cwbl, rhai o Sir Benfro—hen sir fy mebyd innau—oedd teulu ei fam, ac yntau wedi chwarae cryn lawer ar draethau Dyfed. "James," meddai, " y mae gennyf bregeth. newydd y carwn i chwi ei chlywed. Ond arhoswch funud!"

Aeth allan o'r ystafell. Dychwelodd â photel o win yn ei law, a dau wydryn. Wedi egluro mai gwin ffrwyth yr ysgaw ydoedd. oddi wrth ei wraig,—" yr orau yn y byd,"— llanwodd y ddau lestr i'w hymylon. "Yn awr, James!" meddai, a'r ddau wydryn erbyn hyn yn ein dwylo. "Dyma i Sir Benfro, i'n cyfeillgarwch tragwyddol a therfyn bythol ar y peth erchyll yma a elwir rhyfel!"

Felly y cydyfasom yn nhref y bardd a ganodd:

Trwy ddirgel ffyrdd y mae yr Iôr
Yn dwyn Ei waith i ben;
Mae'n plannu Ei gamre yn y môr,
Mae'n marchog storm y nen.


JACK

CYFEILLGARWCH nad oedd y byd yn deilwng ohono oedd ei gyfeillgarwch ef. Un math o gariad yn unig a adwaenai, sef y cariad hwnnw sydd yn ffyddlon hyd angau (hyd at drengi) heb feddwl am na choron y bywyd nac unrhyw wobr arall dan haul. Caru o wynfyd caru a wnâi ef, a'i dâl i gyd yn y gwynfyd hwnnw.

Wrth edrych yn ôl heddiw ar ddyddiau fy ienctid, a gweld ei lygaid siaradus a'i glustiau deallgar, a'i gynffon huodl yn curo "Clywch! Clywch!" ar y llawr pan lefarwn y dwli mwyaf, sylweddolaf na phylodd ymdaith y blynyddoedd ddim ar ryfeddod ei serch—y serch, fel yr awgrymais eisoes, na haeddais mono erioed.

Mi garwn allu maddau fel y maddeuai Jack-maddau'r cam a'i anghofio'n llwyr y funud nesaf. Ni wiw i mi sôn wrtho i mi golli fy nhymer a'i ddolurio, ac yntau'n diolch, tan lyfu fy llygaid a'm clustiau, am gyfle i faddau, a'r gynffon huodl yna yn canu Haleliwia yr un pryd.

Rhy anodd yw credu nad yw ef o hyd yn gwanu'r perthi ac yn llamu'r cloddiau o gwmpas Tŷ Newydd-hen annedd fy mebyd wrth odre Garn Gowil.

Yr oedd Jack a Garn Gowil yn un rywfodd, a'i fynd hoenus drwy'r eithin a'r grug a'r rhedyn fel cwthwm o wynt chwerthinog, a rhialtwch ei gyfarth fel eco rhywbeth a gollwyd pan gysgodd y graig.

Yr ydych wedi casglu, erbyn hyn, mi wrantaf, mai ci oedd Jack. Ond fe'i cyfrifid yn gi, yn hytrach na brawd, yn unig oherwydd ei debygrwydd i gi mewn pethau yr edrych y llygad arnynt. Mi welais ystyried creadur arall yn ddyn am yr un rheswm arwynebol.

Dyledus i goffadwriaeth fy hen gydymaith annwyl yw tystio na chlywais i nemor neb yn ei alw yn gi wedi iddo dyfu i fyny a gwneud ei gallineb a'i lewder yn hysbys drwy'r ardal. Fel "Jack" a "Jack Tŷ Newydd" y sonid amdano ymhell ac agos, fel petai'r gymdogaeth wedi gorfod ei dderbyn i mewn i gylch y frawdoliaeth ddynol. Nid wyf yn tybio iddo ef ei hun werthfawrogi hynny; ond yr wyf yn hollol sicr iddo ryfeddu lawer gwaith at hurt- rwydd creaduriaid a ddiolchai'n barhaus na pherthynent i'r anifeiliaid direswm.

Ofer gofyn pa rywogaeth o gi ydoedd Jack. Cyfarfu ynddo genedlaethau o gŵn gwahanol. Nid oedd na spaniel na therier na chorgi na chi adar na chi gwartheg na chi defaid nac unrhyw gi arall y gellid olrhain ei achau a'i ddeffinio. Mae'n wir iddynt oll gyfarfod ynddo ef; ond her i neb ddynodi lle y dechreuai un ac y gorffennai'r llall gan mor gywrain y cymysgwyd y rhywogaethau amrywiol yn y telpyn byw, caruaidd a adwaenwn mor dda.

Yn hynny o beth, yr oedd fel teisen orau fy mam-yn flawd, yn wyau, yn hufen, yn fenyn, yn siwgr ac elfennau eraill, a'r cwbl yn ymdoddi i'w gilydd yn un saig o hyfrydwch anneffiniol. Ond gan nad sawl math o gi a gyfrannodd tuag at wneuthuriad Jack, sicr ydwyf mai rhagoriaeth pob un ohonynt a gyfarfu yn ei gorpws ef.

Wrth feddwl amdano heddiw, yr wyf yn argyhoeddedig bod brithgi da i'w ddewis o flaen rhyw frenhingi diledryw y perthyn. iddo elfennau gwaethaf ei linach. Wedi'r cwbl, beth yw bonedd a gwaedoliaeth onid amlygont deithi sy'n ennyn edmygedd a chyfiawnhau galw eu hil yn hil o uchel dras? Ai enwau gweigion ydynt yn dynodi gwas— eidd—dra tud yn hytrach na'u rhiniau cynhenid eu hunain?

Mi welais rhwng mynyddoedd fy ngwlad werinwyr bucheddol yn moesymgrymu i ryw greadur o yswain oedd yn fynych yn rhy feddw yn ei gerbyd i gydnabod eu cyfarchiad. Yn wir, canfûm hen saint— druain ohonynt!—ar eu ffordd i'r cysegr yn tynnu eu cudynnau i'r "gŵr mawr" hwnnw, ac yntau ar ei ffordd i'r gyfeddach.

Peth felly a fu'n dolurio santeiddrwydd ardaloedd gwledig Cymru am yn hir; gwerin dlawd a'i hymarweddiad yn y nefoedd, a'i bywoliaeth yn rhwym wrth bendefigaeth ddaearol—daearol iawn. Mi wn y gellir dadlau nad gwerin a'i hymarweddiad yn y nefoedd oedd honno a fedrai amlygu'r fath waseidd—dra a rhoi mwy o barch yn fynych i'w meistri anfoesol nag i'w phroffwydi. Gellir edliw hefyd nad sylwedd crefydd oedd iddi, eithr teimladrwydd crefyddol, a chymaint o wahaniaeth rhwng y ddau ag sydd rhwng yr ewyn a'r graig.

Ond am Jack yr oeddwn yn sôn. Os creadur cymysgryw ydoedd, yr oedd ei fwngreliaeth fonheddig yn waradwydd ar bendefigaeth anrasol cŵn y plas. Sant ei wehelyth oedd ef. Yn y capel y mynnai fod ar y Sul, a chŵn eraill yn ofera ar hyd y mynyddoedd, a'u cyfarth digywilydd yn sŵn rhyfygus iawn mewn bro a ystyriai chwiban yn halogi'r Sabath.

Fel cenau bach boliog, ychydig dros ddeufis oed, y cofiaf amdano gyntaf. Ymddangosai'n rhy drwm i'w goesau; a'i duedd oedd mynd ar ei ben i bob dodrefnyn fel petai holl gynnwys y tŷ ar ei ffordd. Gan ei fod mor simsan ar ei draed, mi a'i codwn i'r whilber (berfa) gyda'r ystenau bob tro y dôi gyda mi i gyrchu dwfr o'r ffynnon yng ngwaelod y weirglodd; a chyn hir ei hoffter oedd ei gludo'n ôl a blaen ar y daith feunyddiol honno.

Clybûm am ddyn a fedrai ddwyn tarw ar ei gefn am iddo ei gario beunydd ar ei ysgwyddau o'r dydd y ganed y creadur. Mor gyson y cludwn innau Jack yn y whilber fel na sylwn ei fod yn prifio a thrym- hau. Ond wedi iddo dyfu i fyny, cefais achos i edifarhau droeon i mi arbed cymaint ar ei goesau. Bob tro yr awn allan â'r whilber, ystyriai Jack mai ei hawl annileadwy ef oedd reidio ynddi. Ni chawn garthu'r ystabl na neidiai ef hyd yn oed i ben y llwyth tail i'w gludo cyn belled â'r domen; i'r cerbyd gwag drachefn i'w gludo'n ôl i'r ystabl, er ei fod erbyn hyn, cofier, yn rhedwr grymus.

Adloniant mawr i gyfeillion a ymwelai â ni oedd gweld fel y medrai Jack sefyll yn y whilber er i mi ei gyrru ar garlam gwyllt i lawr dros oledd y weirglodd. Gellid tybio bod ei bawennau wedi eu gludio wrth ei gwaelod; a her i neb ei gael allan ohoni heb ddymchwel y cerbyd. Dyna un o'i hynod- ion cyntaf. Ychwanegodd yn ddirfawr atynt yng nghwrs ei fywyd.


Yr oeddwn yn hoff iawn o ffuredu cwningod. Fel y gŵyr y cyfarwydd, rhaid taenu rhwydi (os rhai bychain a arferir) ar y tyllau o bobtu'r clawdd a'u gwylio gan ddau heliwr, un bob ochr i'r gwrych. Gan nad oedd gennyf frawd, Jack, fel rheol, oedd fy unig gydymaith. Daeth yn ddigon hyddysg cyn hir i ofalu am un ochr i'r clawdd ar ei ben ei hun a rhoi imi'r arwyddion gofynnol. Fe laddai'r gwningen yn y rhwyd ag un brathiad effeithiol; wedyn sefyll o'r neilltu i warchod y rhwydi eraill a dwyn. y ffured yn ôl gerfydd ei gwddf, heb anafu dim arni, pe digwyddai iddi grwydro allan i'r cae.

Lletywn y ffured mewn cut yn yr ysgubor; a da y cofiaf y noson y mynnai Jack fod llygoden fawr dan y bwrdd dyrnu isel— rhy isel iddo ef fynd dano-ar ganol y llawr. Wedi rhedeg gylch ogylch am beth amser, aeth i'r gornel a gosod ei ddwy bawen flaen ar gut y ffured; wedyn syllu i fyny ataf tan siarad yn erfyniol yn ei ffordd ei hun, a minnau'n ei ddeall i'r dim: "Defi bach! Yr wyt yn gweld fy mhenbleth—llygoden dan y bwrdd dyrnu, a minnau'n rhy fawr i fynd i mewn ar ei hôl. Gad i'r ffured yrru'r satanes allan. Mi ofalaf fi am y gweddill!" Awgrymodd gynllun na ddychmygais i amdano, er fy mod mor chwannog ag yntau i ddal y satanes, yn enwedig o gofio'r hwyaid bach a'r cywion a leddid mor aml gan ei gwehelyth front.

Nodaf y digwyddiad hwnnw fel enghraifft o'i gallineb a'i ddeall; a da gennyf ychwanegu i'r cynllun lwyddo. Gyrrwyd y llygoden o'i lloches; ac yng ngenau Jack y darfu ei heinioes.

Awgrymais mai ffyddlondeb na chyfrifai'r gost oedd ei ffyddlondeb ef. Cyfyd lwmp o hiraeth i'm gwddf wrth alw i gof y diwrnod hwnnw yr euthum allan mewn cwch o draeth Wdig gyda'm cyfaill John James— llanc a ddaeth yn gapten llong ar ôl hynny. Wedi inni rwyfo allan tua milltir, dyna John yn gweiddi'n arswydus: "Jiw! Jiw! Dyna forlo!" Yn nhrywydd y cwch, ryw gan- llath i ffwrdd, gwelwn ben du ar frig gwaneg las, a'r creadur yn gwneud am danom! Dyma afael yn dynnach yn y rhwyfau a thynnu am ein bywyd i gyfeiriad y cei dan Graig y Cw yn hytrach na throi'n ôl am draeth Wdig. Ar hyn, dyma gyfarth bach gweddigar yn codi o'r tonnau. Creadur dieithr oedd morlo i mi; ond yr oeddwn yn ddigon cyfarwydd â'r cyfarth hwnnw i wybod mai fy hen ffrind Jack oedd yn gwneud am danom, nid gelyn. Yr oedd ar foddi, druan, pan godwyd ef i'r bad, a mwy o halen yn ei fol nag a lyncodd mewn blwyddyn gyda'i gawl—cawl enwog Sir Benfro. Gorweddodd yn sopyn lluddedig wrth fy nhraed, ei weflau'n glafoerio, a'i ochrau'n megino'n echrydus; ond nid cyn iddo lyfu fy llaw a churo diolch bach gorfoleddus â'i gynffon ar waelod y cwch.

Wedi iddo ddadebru, mi a'i cyferchais yn y dull sarrug hwnnw sydd mor debyg i wylo: "Y ffŵl dwl! Serfio di'n reit petait ti wedi boddi! Yr oedd yn dda iti gyfarth, cofia! Nid lle i gi yw canol bae Wdig, y ffŵl! Fe gredodd John a mi taw morlo oit ti. Glywaist ti? Morlo!"

Cododd ar ei eistedd gan syllu i'm llygaid a gofyn beth oedd morlo. Ate bais: "Nid cadno (wow!), nid draenog (wow!), nid mochyn daear (wow!), nid gwenci (wow!), nid ffwlbart (wow!), ond morlo (?)... Yr oedd yr anghenfil hwnnw y tu allan i'w eiriadur; ond yr oedd yr ymofyn mud yn ei lygaid yn llawn mor huodl a'r "wow" a amlygai ei adnabyddiaeth o'r creaduriaid eraill a enwais. Mwy na hynny, yr oedd ei wrychyn i fyny gan awydd dychrynllyd i'w gyflwyno i'r creadur anghyfeillgar hwnnw. cyn gynted ag y medrwn. Ond-y nefoedd fawr!-rhyfedd oedd teimlo mor sychedig ar ôl llyncu cymaint o ddŵr. Yn ben- difaddau, nid llyn y felin oedd bae Wdig!

Yr oedd yn hoff iawn o Bess y gaseg; a'i wledd fawr oedd cael carlamu wrth ei hochr i dref Abergwaun; ond ni ddilynai bob. cam o'r ffordd. Yr oedd Jack yn gallach na hynny. Wedi cyrraedd gwaelod Rhiw Drefwrgi, fe groesai'r waun heibio i fferm Y Drum, ac aros am danom wrth odre Rhiw Windi Hal yn hytrach na'n canlyn heibio i'r Dyffryn a thros y Barrog. Wrth ein cyfarfod drachefn, fe noethai ei ddannedd mewn chwerthin mawr gan neidio i fyny at drwyn y gaseg ac edliw: "Yr wyt ti'n gyflym, Bess! Ond yr wyf fi'n gyflymach na thi mewn rhai pethau!

Yn ystabl yr un gwesty y lletywn y gaseg bob tro y marchogwn i'r dref. Ai yntau, Jack, ar grwydr am dipyn o garu, a dychwelyd yn awr ac eilchwyl i'r ystabl er cael allan a oedd Bess yno, a minnau heb gychwyn ar y daith tua thre; ond gorfu iddo ymladd yn galed am yr hawl i fynd trwy ddrws yr ystabl i wneud yr ymholiadau hyn. Bob, ci John y gwastrodwr, oedd yr anhawster; hwnnw, ar y dechrau, yn mynnu ei atal, a dadlau mai ef oedd gwyliwr y porth.

"Edrych yma," meddai Jack wrtho un noswaith, "a bydd yn rhesymol. Eisiau gweld yr wyf a yw Bess i mewn yn y stabl yna. Os ydyw, popeth yn dda; mi af am dipyn o garu eto. Os yw wedi mynd, mae'n rhaid i mi frasgamu ar ei hôl nerth fy maglau. Yn awr, gad imi gael un pip bach!"

"Dim un pip!" heriai Bob, a'i wrych i fyny yn storm o afresymoldeb.

"Yr wyt yn gofyn am drwbwl, cofia!" dadleuai Jack. "Yr wyf yn penderfynu setlo'r fusnes hyn heno, unwaith am byth. A wyt ti am roi ffordd?"

"Dim un pip!" taerai Bob drachefn, gan chwyrnu'n gas. Ond cyn iddo gael ei anadl ato'n iawn, yr oedd Jack i mewn iddo, yn lloerig gan gynddaredd cyfiawn.

Ymglymodd y ddau ymladdwr yn ei gilydd ac ymdreiglo'n belen o ffyrnigrwydd brathog i ganol llawr yr ystabl; a dyna'r ceffylau hefyd yn ymuno yn nherfysg yr ysgarmes gan wichial a thaflu eu pedolau ôl i'r entrych yn gylchau gloywon o fellt. Yng nghanol y randibŵ fawr dyma John i mewn ac yn ysgubo'r ddau ymladdwr allan i'r heol. Canlyniad eu brwydr y noson honno oedd cymodi a dyfod yn ffrindiau anghyffredin. Yn wir, anaml, wedi hynny, y cychwynnai Jack tuag adref na fynnai Bob ei hebrwng allan o'r dref a chymryd ei ran yn erbyn pob llechgi a ruthrai allan ato ar y ffordd. Canent yn iach i'w gilydd ar ben Rhiw Windi Hal, a Jack yn mwmian wrthyf wedyn: "Hen fachan reit ffein yw Bob yn y gwaelod, ond ei fod yn credu taw fe piau'r stabl yna."

Tro rhyfedd oedd hwnnw yn Wdig pan farchogodd fy nhad trwy'r pentref a Jack yn trotian wrth ei ochr â dysgl yn llawn baeddgig yn ei geg, a gosgordd o gŵn gobeithiol wrth ei gynffon-pob un ohonynt yn ei adnabod yn rhy dda i ddechrau ymrafael. Yn gelfydd iawn y cariai Jack y ddysgl-ei hymyl isaf rhwng ei ddannedd, a'i chantel uchaf yn gorffwys ar ei dalcen. Yr oedd Jack, fel y cewch glywed, yn hoff iawn o bregethu fy nhad; ond rhaid cyd- nabod iddo ymyrryd yn ofnadwy ag urddas y weinidogaeth y diwrnod hwnnw. Unig ffordd fy nhad o ddianc rhag cywilydd oedd gado'r pentref ar garlam. Cefais allan wedi hynny mai eiddo dwy hen ferch y llythyrdy oedd y danteithfwyd y methodd Jack ymatal rhag ei ladrata. Gadawsent y saig ar y llawr i oeri a chaledu, nid i ddiflannu fel breuddwyd, a'u hamddifadu o swper blasus. Credaf i'r lleidr bach edifaru llawer am ei drosedd; oblegid yn euog iawn wedi hynny y cripiai heibio i hen ferched y llythyrdy; ac er iddynt hwythau—chwarae teg iddynt! —addef bod cydwybod yn aros yn rhagoriaeth iddo fel ci pregethwr, nid aethant mor bell â chyfrif hynny'n ddiogelwch rhag temtasiwn gyffelyb maes o law! Ystorm a ysgydwodd gedyrn yw'r gwrthryfel rhwng cydwybod a thrachwant.

Costiodd ei hoffter o bregethu—pregethu fy nhad, wrth gwrs—yn ddrud iawn iddo un bore Sul. Yr oeddwn, yn ôl fy arfer, wedi ei gloi yn y gegin cyn cychwyn am y capel. Ond, er fy syndod, a ninnau'n canu'r emyn o flaen y bregeth, dyma Jack yn cripian i mewn i'm sedd, a golwg euog ofnadwy arno. Sylwais, yn ychwanegol, fod ei ben yn friw a gwaedlyd.

Eisteddodd o'm blaen a syllu i fyw fy llygaid. Heb wneud sŵn o gwbl, ond siarad yn angerddol â'i olygon, a llyfu fy llaw, dechreuodd ymddiddan a begian fy mhardwn gyda'r peth taeraf a glywsoch chwi erioed. Jack, bid sicr, oedd y pechadur mwyaf edifeiriol yn y cwrdd y bore hwnnw; ac fel hyn y llefarai, yn ei ffordd ei hun: "Defi bach! Y mae'n ofidus iawn gennyf dy drwblu fel hyn. Y doluriau yma ar fy mhen? O, twt, twt, paid â sôn am danynt. Digon o wynfyd am y rheini yw cael gafael ynot a chlywed llais meistr yn y pulpud. Dim ond un peth sy'n fy ngofidio'n awr— y twll melltigedig yna yn ffenestr y gegin, a gwydr y chwarel yn deilchion ar hyd y lle. Ond dyna hen Bitar y Saer, fe ddaw ef, fel arfer, i drwsio pethau. Gwell imi dewi hefyd neu mi gollaf y bregeth. Y mae meistr wedi codi ei destun yn barod. Ond gad imi lyo dy law, Defi bach annwyl, unwaith eto—dim ond unwaith! Mi orweddaf i lawr wedyn yn dawel bach dan y sedd yma. O! 'r nefoedd fawr! Dyna dda yw cael bod yma—pen tost neu beidio!"

Wedi hynny, yr ysgubor oedd ei garchardy bob bore Sul, a chadwyn gref yn atalfa ychwanegol ar ei bererindodau. Ond nid hir y bu'r cynllun hwnnw cyn troi'n fethiant. Trwy ryw gyfrin ddeall nas rhodded hyd yn oed i ddewin, fe ddechreuodd Jack ddiflannu nos Sadwrn. Nis gwelais yn edrych ar yr almanac; ond fe wyddai, heb gymorth amseroni, mai nos Sadwrn ydoedd. Nid oedd sôn amdano ar y buarth fore Sul; a chawn innau alw a chwibanu fy mherfedd allan cyn yr ymddangosai, er fy mod yn dra sicr ei fod yn llercian yn y cyffiniau. Gallwn fentro fy mhen y cawn ei weld yn y capel—yn disgwyl wrthyf yn y sedd neu ynteu'n ymlusgo i mewn yn llechwraidd wrth gynffon rhyw addolwr amhrydlon.

Nid ffordd y saint a ddilynai ef wrth gyrchu'r addoldy, ond dringo ffordd arall fel ysbeiliwr—croesi'r waun a'r mynydd, ymwthio trwy'r perthi a llamu'r cloddiau ar ei ben ei hun—rhag i mi ddigwydd ei weld a'i yrru'n ôl.

Os aeth creadur erioed i foddion gras dan anawsterau, a mynnu bod yno hefyd, Jack oedd hwnnw.

Dan gysgod y Garn Fawr y gorwedd heddiw, ei glustiau astud yn rhy fyddar i glywed dwndwr y môr yn ogofeydd Pwll Deri, a chadwyn na allodd neb ei thorri yn ei ddal rhag crwydro mwy. Fe'i claddwyd yn barchus gan hen ffrind i mi sydd yn aros hyd y dydd heddiw, yn hynafgwr penllwyd bellach, yn ei fwthyn ar lannau arfordir creigiog Penfro.

Mynnwn innau hefyd orffwys yn y diwedd dan gysgodion hen gernydd Pencaer; ac o gael fy newis, yng nghesail Garn Gowil, yng nghanol y grug a'r eithin, y carwn gysgu fy nghwsg olaf, ag un o feini digabol y fro-hen fro'r derwydd a'r marchog- yn sefyll uwch fy mhen.

Yno y llamodd Jack a minnau yn gyfoedion diofid cyn dyfod cwmwl trallod; yno yr agorwyd i mi byrth fy mreuddwydion cyntaf; ac o orwedd eilwaith gerllaw fy hen ffrind, cawn yno dangnefedd llwyr, a dweud y lleiaf:

Ni'm brath na phig eiddigedd
Na min fy mai yn fy medd.




ARGRAFFWYD

YNG NGWASG HUGHES A'I FAB

WRECSAM

Nodiadau[golygu]


Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.