Ysgrifau (Dewi Emrys)/Fy Mhib
← Y Falen | Ysgrifau (Dewi Emrys) gan Dewi Emrys |
Ffenestri → |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Ysgrifau (Dewi Emrys testun cyfansawdd) |
FY MHIB
WRTH annerch cymhares y ceir hyd yn oed hen lanciau yn ei choledd a dotio arni, cystal imi addef ar unwaith fod "Fy Mhib" yn swnio'n fwy annwyl i mi na "Fy Nghetyn." Bid sicr, methu ag anghofio yr wyf yr ystyr bychanus sydd i'r gair "Cetyn" yn y Deheudir. Fy anffawd yw hynny, minnau'n gwybod bod iddo felyster odiaeth i lawer o Gymry gwych na fedrant, fwy na minnau, edrych ar bren ceirios na draenen ddu na gwreiddyn miaren, na thelpyn o glai chwaith, heb fawrygu deunydd yr eilun a addolant.
Nid ni'r ysmygwyr sy'n gyfrifol am y dynged dafodieithol a bair inni gyfarch ein heilun wrth wahanol enwau; a mwyn yw sylweddoli ein bod oll yn gyfrannog o'r un gwynfyd yn ein perthynas â'r eilun ei hun, a chofio mai ein dull o dalu gwrogaeth iddi, a hwnnw'n unig, sy'n amrywio.
Heddiw, er hynny, a mi—yn enw brawdoliaeth gyffredinol yr arogldarthwyr—yn ceisio cynnwys y gair "Cetyn," cydymdeimler â mi am fy anallu i dynnu diddanwch ohono. Wedi'r cwbl, y mae i air ei arwyddocâd darluniadol a'i effaith arbennig ei hun ar y synhwyrau.
Mae'n wir y pery'r rhosyn i ddyhidlo'i aroglau pêr gan nad pa enw a roddir arno. Eithr a fydd hyfrydwch i enw arall arno oni alwo'r enw hwnnw lun rhosyn i'r meddwl? Gorchwyl hawdd i benboethyn addolgar fyddai rhedeg ar hyd yr heol tan weiddi:
Mwca! Mwca! Hardd yw Mwca,
a’i fryd ar riain, neu berl, neu flodeuyn, neu ryw wrthrych arall a anwylid ganddo. Ond ef yn unig a fyddai yn y goleuni mewn bro lle ni chlybuwyd y gair "Mwca" erioed o'r blaen. Dolen gymdeithasol yw gair; a lle bo'i ystyr yn dywyll, yn amwys, neu ynteu'n amlochrog, y mae'n bosibl iddo achosi cryn benbleth yng ngwersyll y bobl. Lle dwg gair arliw anrhydedd mewn un cwmwd, fe ddichon iddo beri tramgwydd mewn cwmwd arall.
Yn China, er enghraifft, dibynna ystyr gair yn fynych ar yr ynganiad a roddir iddo yng ngenau'r llefarwr. Gall rhoddi sŵn trwynol iddo ennyn cymeradwyaeth a llawenydd lle'r achosai sŵn gyddfol derfysg a chyflafan. Fe gollodd llawer estron ei ben yn llythrennol yn y wlad honno am i air a fuasai'n "Hawddamor!" yn ei ffroen droi'n "Drato, chwi'r moch!" yng nghorn ei wddf. Peth ofnadwy yw gorfod marw am athrodi pobl, a chwithau'n bwriadu bendith iddynt.
Yn y fro lle'm ganed, erys eto liaws o ysmygwyr nad yw'r gair "Cetyn" yn golygu dim iddynt oddieithr dernyn neu dameidyn. Heblaw hynny, gair ydyw a ddwg gysgod anfri o'i gymhwyso at gyd- ddyn. Lle cyfeirir at frodor fel "cetyn bardd," neu "rhyw getyn o fardd," nid bardd ifanc a olygir, ond un-ar waethaf ei chwŷs rhigymllyd—wedi methu'n lân â thyfu'n fardd. Trymach fyth y gwarthrudd pan sonier am gennad y pulpud fel "cetyn pregethwr." Nid dechreuwr a feddylir, ond un a ddaliodd ati ar hyd ei oes heb erioed gyfiawnhau'r ymadrodd, "llenwi'r pulpud."
Fe welir, felly, mai ystyr diramant iawn sydd i'r gair "Cetyn" yn fy meddwl i. Diau, bydd egluro hyn yn foddion i ennyn cydymdeimlad fy mrodyr yn y Gogledd. Gwell gennyf ennyn eu tosturi na deffro'u dicter.
"Y Cetyn!" Pa fodd y dichon i mi gysylltu'r enw hwn â chymhares a ddwg imi'r fath gyflawnder o ddiddanwch a mwynhad?
Y mae gennyf wrthwynebiad arall hefyd i'r gair "Cetyn" fel enw ar fy anwylyd bersawrus, a hwnnw'n gryfach, os rhywbeth, na'r llall. Amlwg yw nad i'r "rhyw deg " y perthyn fy anwylyd yn y Gogledd; oblegid "Y Cetyn" a ddywedir, nid "Y Getyn." Dyna ddigon i warafun i mi glodfori fy eilun fel y dylwn dan yr enw hwnnw. Y mae'n anodd iawn gennyf synied am fab yn medru dotio'n llwyr ar wrthrych y rhoddir iddo enw gwrywaidd. "Hi" yw fy anwylyd i mi, nid "Ef." Pa ryfedd, a'm gwefus yn glynu wrthi mor fynych ac mor ddiollwng?
Mae'n ddrwg gennyf fod yn rhaid i arogldarthwyr y Deheudir droi i fyd y Sais cyn darganfod yr un cynhesrwydd ymadrodd ynglŷn â'r bibell ysmygu. "Lady Nicotine" yw'r anwylyd hyd yn oed yn y byd claear hwnnw. Meddylier, o ddifrif, am ei galw yn "Sir Nicotine!" Chwarae teg i'r Sais hefyd. Medr yntau amlygu gwresogrwydd defosiwn yn nheml ei eilunod.
Mae'n anodd dirnad paham y gomedd y Gogleddwr i'r Bibell swyn a rhagorfraint pendefiges, ac yntau'n honni'r fath gariad tuag ati. Clywais ddadlau bod mwy o sefydlogrwydd i edmygedd diffwdan y Gogledd nag i benboethni stwrllyd y De; nad mewn coelcerth rwysgfawr, fel lliwiau'r enfys, yr amlygir y ffyddlondeb a bery hyd y diwedd:
Ni phara bwa'n y byd.
Tuedd traserch tanllyd yw llosgi allan yn fuan, fel mai perygl edau a fo'n rhy dynn yw torri'n fuan. Dichon y gwelir y Gogleddwr yn eistedd yn wynfydedig ar ei bentwr myglys, a'i getyn hoff rhwng ei ddannedd, wedi i'r Deheuwr losgi ei stoc i'r ddaear a throi ymaith i gasglu cnau.
Wel, y mae rhywbeth yn hynny hefyd. Eithr, a'r dyfodol yn guddiedig oddi wrthyf, maddeuer imi am dystio mai heddiw sydd yn cyfrif yn fy ngolwg i. Rhaid dweud, er hynny, fod craig o ddyn yn well na rhyw berth o greadur y gellir ei roi ar dân mewn ennyd awr heb ado dim ar ôl namyn lludw oer y geill gwynt ei wasgar fel y mynno.
Cyn belled ag y gwn i, yr hen englynwr gwych Gwydderig yw'r unig fardd o'r De a gysylltodd ddiddanwch myglys â'r gair "Cetyn." Ofnaf hefyd mai gorthrwm y Gynghanedd, yn hytrach na gormes serch, a'i llywodraethai ar y pryd. Cysuro brawd trallodus y mae:
Dwg atat safn dy Getyn;—gad y byd
Gyda'i boen am dipyn;
'E ddaw rhyw lwydd ar ôl hyn,
Arfoga, cymer fygyn!
Ond nid yw yntau'n caniatáu i neb haeru nad safn cariadferch sydd i'r anwylyd yn y Deheubarth. Mae'n wir, er hynny, nad yw ef yn bendant ar y pwynt. Felly, gwell yw troi at englynwr arall sydd yn hollol ddiamwys ar y pen hwnnw.
Lle cyfyd aroglau'r safwyrdan pêr, rhyw Forfudd ddiddanus a wêl yr englynwr hwn, a hithau'n dwyn gofidiau ei phrydydd ar ei hallor ei hunan. Gwrandawer ar ei folawd iddi:
Hi a rydd dangnef i'm bron;—gyda'i mwg
Daw i'm heirdd freuddwydion.
Yn lludw y try trallodion
Llawer awr ar allor hon.
"Fy Mhibell" yw testun yr englyn hwn; ac y mae'n rhaid i bob ieithydd gydnabod na ellid molawd felly i wrthrych a elwir yn Getyn.
"Fy Mhib," ffurf anwylach ar "Fy Mhibell," yw fy eilun i mi, fel y geilw cariadfab ei Sali yn Sal, a'i Olwen yn Ol; a'r un modd y'i cyferchir gan bawb yn y Deheudir.
Gan nad beth a awgrymir i'r Gogleddwr gan Fy Mhib, melyster cynghanedd sydd yn yr enw i mi. Cofier yr ymadrodd, "Pibau aur y gwanwyn." Onid sŵn ffliwtiau sydd ynddo i bob clust a adnebydd beroriaeth?
"Fy Mhib!" Nid ar unwaith yr enillir serch yr anwylyd hon. Y mae hi'n hawlio taer ymofyn a gwytnwch yn ei charwr ifanc. Yn wir, rhaid mynd yn sâl erddi ar y cychwyn cyn profi ei melyster maes o law. Hi a achosodd i mi welwi'n aruthr yn ystod ymdrechion cyntaf fy ngharwriaeth. Yn ôl tystiolaeth fy nghyfoedion ar y pryd, yr oedd fy wyneb fel y galchen, a'm clustiau fel dwy lili wen. Eithr digon fy nhâl fel concwerwr am bob anghaffael a ddioddefais fel ymgeisydd. Am iddynt fethu a dal y praw ar y dechrau—y tipyn cno yn yr ymysgaroedd a'r tipyn diflastod uwchben platiad o fwyd bras ar ôl ei chusanu'n rhy chwannog—y troes cynifer o edlychod gorsantaidd i bwnio ar yr anwylyd a'i melltithio, yn enwedig ym mhresenoldeb hen ysmygwr hamddenol a bair iddynt garthu eu gyddfau ac agor y ffenestri. Pobl ydynt a gred fod modd cyrraedd gwlad yr addewid heb fynd trwy'r anialwch.
Y mae i fab lawer o "gydnabyddion " ymysg merched. Ond yr hon a bair iddo glafychu—methu â bwyta, a methu â chysgu—yw brenhines ei galon. Euthum trwy hyn oll er yr anwylyd a dry gymaint trallod yn llwch heddiw. Fy nghysur yr adeg honno oedd credu na fedrwn fod yn ddyn heb ddyfod i gymod â hon. Annheilwng o'i het bowler oedd pob llanc a gerddai allan hebddi; canys gogoniant mab ifanc, y pryd hwnnw, oedd gwisgo het galed ar ŵyr a chynhyrchu digon o fwg i brofi nad plentyn mono mwyach.
Wrth reswm, darfu mursendod ienctid. Eithr na thybied yr anghyfarwydd i'm brwdfrydedd leihau. Lle'r hoffwn gynt roddi amlygrwydd cyhoeddus i'r anwylyd, yn unig fel praw o'm concwest, fy hyfrydwch heddiw yw ymdawelu'n ei chwmni a sugno o rïn ei balm dihafal. Yn lle byr-bwylltra'r carwr balch, daeth arafwch yr addolwr defosiynol. Yn wir, y gŵr a ymddûg yn ddefosiynol tuag ati a gaiff y gorau allan ohoni.
Meddylier, er enghraifft, am y rhagbaratoad a elwir yn "llenwi'r bibell." Nid gorchwyl mono, ond defod; eithr defod sydd yn hawlio manyldeb a gofal. Yn wir, llaw offeiriadol sy'n gweddu i'r ddefod honno—llaw a ŵyr sut i drin a threfnu'r ffrwyth a'i gyflwyno'n boethoffrwm addas i dduwies mor hoff.
Rhaid cofio hefyd fod i'r dduwies anadl a ofyn am rwyddineb, ac y geill gorlwytho, neu wasgu trwsgl, effeithio'n niweidiol ar yr anadl honno. Mi glywais hen ysmygwr yn tystio nad oedd fawr o bleser iddo mewn "baco cardod," sef myglys a roddid iddo'n rhad ac am ddim. Tuedd dyn, ebr ef, oedd stwffio'r bibell â hwnnw nes atal ei gwynt a'i thagu. Wrth reswm, anghofio ysbryd parch a gweddusder yw peth felly; barusrwydd yn cael yr afael drechaf. Canlyniad hynny yw tramgwyddo'r dduwies a cholli'r fendith. Cymhares yr awr dawel yw'r Bibell—awr myfyr a breuddwyd, awr geni telyneg ac englyn. Hi'n unig sydd yn cael dilyn bardd i bellter cyfaredd. Nawf ei dolennau mwg yr adeg honno yn fiwsig na ellir ei ddal.
Mae'n wir y gwelir gwefusau ambell weithiwr yn glynu wrthi pan fyddo'i law ar ebill, neu fwyell, neu ordd. Eithr lle bo eisiau poeri ar ddwylo a defnyddio holl rym yr ysgyfaint, anghyflawn yr offrwm i'r eilun hoff. Gormod camp yw gwasanaethu dau arglwydd yr un pryd.
Y smôc gyntaf ar ôl brecwast yw fy smôc felysafi. Rhyw ymchwil am honno yw pob mygyn a'i dilyn, a phob un ohonynt yn syrthio'n fyr o'i hyfrydwch hi. Mi glywais nodi rheswm da am hynny: Nid wrth erlid pleser y mae ei ddal.
Y dydd o'r blaen, mi welais lun tarawiadol: nifer o Indiaid Cochion, ynghyd â milwyr Americanaidd, yn swatio ar lawr fel cylch o deilwriaid. Mewn cynghrair yr oeddynt, a'r pennaeth coch yn estyn pibell ysmygu hir i arweinydd y fintai Americanaidd. Teitl y darlun oedd, "Pibell Tangnefedd." Eithr pibell tangnefedd yw pob pibell ysmygu i mi. Mi welais ddyn yn ymladd a het silc ar ei ben. Ond pwy all gwffio a chetyn yn ei geg? A fu i ysbryd heddwch well cynrychiolydd? Gellir mynd i ymrafael â dyn arall â baich ar gefn; ond y mae pibell rhwng dwy wefus yn glo ar ymryson ac yn atalfa ar dafod athrodus.
Merch tangnefedd yw fy anwylyd i trwy'r byd mawr achlân. Dyna reswm da dros ei charu; a hyfryd gennyf yw sôn am Ogleddwr a'm hargyhoeddodd heno (ar ôl i mi ddechrau'r ysgrif hon) nad oedd ef yn ail i'r Deheuwr yng ngwres ei serch tuag ati. Yn wir, aeth cyn belled â phrofi bod "Cetyn" y Gogledd yn uwch teyrnged i anwylyd yr ysmygwr na "Phibell" y De. Pa un oedd gwrthrych godidocaf y galon—merch a gerid, ynteu duw a addolid? Y Bibell! Dyna gariadferch y De. Y Cetyn! Dyna eilun y Gogledd!
Peth arall. Cymaint oedd anwyldeb y Gogleddwr o'i eilun nes peri iddo gynhyrchu deunydd y poethoffrwm yn ei ranbarth ei hun. Yr oedd iddo air clodforus na feddai'r Deheuwr ei hafal ym myd myglys; a hwnnw oedd "Amlwch." Onid am fod iddi gymaint o lwch baco y rhodded i'r dref enwog yr enw hwnnw? Onid gwir ystyr y gair oedd "aml lwch "? Ffwlbri noeth, ebr fy nghyfaill, wedi munud o saib, a'i ben o'r golwg mewn cwmwl o fwg, oedd cymharu'r Cetyn i gariadferch. Nid wrth draed yr un ferch y plygai meibion dynion yn rhwymyn tangnefedd, eithr wrth draed yr un eilun. Priodol y rhoed yr enw "Pibell tangnefedd " i'r gwrthrych a gymodai'r Americanwr a'r Indiad Coch, nid am fod y gwrthrych hwnnw yn atal anghydfod, ond am ei fod yn dileu'r ffin genedlaethol rhyngddynt, a pheri eu bod mwyach yn un frawdoliaeth gytûn.
Ymhell cyn i'r Gogleddwr galluog hwn orffen ei ddadl, yr oeddwn wedi syrthio ar ei wddf tan gydnabod grymuster ei resymeg a'i fyglys, ac ymbil am "lond fy nghetyn " (ie, Fy Nghetyn) o faco Amlwch. Sylweddolais o'r newydd nad ni'r arogldarthwyr sy'n gyfrifol am y dynged dafodieithol a bair inni gyfarch ein heulun wrth enwau gwahanol. Ein cysur yw y medrwn oll gladdu ein gwahaniaethau pan fo dylanwad yr un hudoliaeth yn gweithio arnom.
A aroglderthir yng nghafell y llosgwyr myglys na dderfydd Gogledd a De, Dwyrain a Gorllewin? Nid erys onid talaith uniaith y galon.