Neidio i'r cynnwys

Hynafiaethau Nant Nantlle (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hynafiaethau Nant Nantlle (testun cyfansawdd)

gan William Robert Ambrose

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hynafiaethau Nant Nantlle
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Robert Ambrose
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dyffryn Nantlle
ar Wicipedia



HYNAFIAETHAU, COFIANNAU

A

HANES PRESENNOL

NANT NANTLLE

Y

TRAETHAWD BUDDUGOL

YN EISTEDDFOD GADEIRIOL PEN-Y-GROES,

LLUN Y PASG, 1871

GAN "MAELDAF HEN,"

SEF Y PARCH. W. R. AMBROSE, TAL-Y-SARN


CYHOEDDEDIG AC AR WERTH GAN GRIFFITH LEWIS,
ARGRAFFYDD, LLYFRWERTHYDD, &c. PEN-Y-GROES
1872

BEIRNIADAETH

Y PARCH, OWEN JONES, LLANDUDNO

AR Y CYFANSODDIADAU AR


"HYNAFIAETHAU, COFIANNAU, A HANES PRESENNOL
NANT NANTLLE"

"Ni ddaeth ond dau gyfansoddiad i law ar y testyn tra dyddorol uchod, ond y mae yn dda genyf allu hysbysu y pwyllgor fod pob un ohonynt yn meddu gradd uchel o deilyngdod. Y mae y naill o'r cyfansoddiadau hyn wedi ei danysgrifio gan Un o hil Rodri, a'r llall gan Maeldaf Hen. ***

Y cyfansoddiad arall a ysgrifenwyd gan Maeldaf Hen, ac y mae yr awdwr hwn hefyd yn ymddangos yn benderfynol i ddeall ei destyn yn drwyadl, a'i drafod yn deg. Fel arweiniad iddo ei hun ac i'r darllenydd ar ei ol, y mae wedi trefnu ei gyfansoddiad yn dri dosbarth; y cyntaf yn cynnwys pedair pennod ar hynafiaethau y lle; yr ail ddosbarth a gynnwysa dair pennod o gofiannau cysylltiedig â'r lle; y trydydd dosbarth a gynnwysa bedair pennod ar hanes presennol yr ardal. Am yr awdwr hwn gellir dywedyd ei fod wedi ymgynghori a phob cymhorth cedd i'w gael, a gwneyd y defnydd goreu ohonynt; ac nid yw yn cymeryd dim yn ganiataol heb ei chwilio yn fanol a'i bwyso yn deg. Cyferbyna ei osodiadau yn deg, a thyn y casgliadau mwyaf naturiol oddiwrthynt. Nid ydyw yn rhedeg yn fyrbwyll gydag unrhyw bwnc heb fynu cyfleusdra i syllu arno o bob cyfeiriad. Tra mae y dosbarth cyntaf o ddyddordeb cyffredinol, y mae yn cael ei gyfyngu yn deg i'r gymydogaeth neillduol hon. Nid yw yr awdwr yn crwydro o'i ffordd pan y gwna gyfeiriadau at leoedd ereill; ac y mae yn ochelgar a chymhedrol yn ei nodiadau ; a'i grybwylliadau am leoedd a phersonau mewn ymadroddion detholedig a synwyrol. Ymddengys yn yr ail ddosbarth fel pe byddai yn dyfod yn fwy chwareus; eto nid i'r fath radd ag i golli dim ar ddillynder na 'destlusrwydd ei draethawd, ond yn hytrach i fywiogi teimlad y darllenydd ; ac y mae tlysni a phriodoldeb neillduol yn holl nodiadau y dosbarth hwn. Y mae y trydydd dosbarth yn fwy amrywiaethol, ac efallai yn fwy dyddorawl; fel y mae yn dyfodi afael â phethau diweddar. Da genym ei weled yn cadw cyflawn feddiant arno ei hun yn ei ganmoliaethau i bersonau ac i leoedd. Nid ydyw fel un a fynai ini gredu mai yn Nant Nantlle y crewyd y byd; er fod pob math o dalent, a rhinwedd, a rhagoroldeb wedi cael lle i gartrefu yno.

"Am y ddau awdwr gallwn ddyweyd fod Un o hil Rodri yn weithiwr dihafal, ond y mae Maeldaf Hen yn well crefftwr nag ef: fel y mae yn rhaid dyfarnu y wobrwy bresennol i Maeldaf Hen, tra ar yr un pryd y dymunem gymell y gymdeithas (os yw bosibl) i roddi ail wobr o ddau gini neu fwy i Un o hil Rodri, llafur yr hwn yn ddiamheu sydd deilwng o gefnogaeth.

"Goddefer ini ychwanegu yr hoffem weled traethawd Maeldaf Hen yn cael ei argraffu, gan ein bod yn credu y byddai yn ychwanegiad gwerthfawr at ein trysorau llenyddol. Pe cymerai pob cymydogaeth trwy y Dywysogaeth yr awgrymiad oddiwrth y cyfeillion yn Nantlle, gan gynnyg gwobrwy deilwng am draethawd lleol da a chynnwysfawr, crynhoid felly ddefnyddiau Hanes Cymru cyflawnach a pherffeithiach nag a

ellir ei wneyd yn bresennol.

"Ydwyf yr eiddoch yn ostyngedig,


Ydwyf yr eiddoch yn ostyngedig,

OWEN JONES . "

"Bryn Eisteddfod, Llandudno, Ebrill 6ed , 1871."


Priodol yn ddiau yw crybwyll ddarfod i Maeldaf Hen ddefnyddio cyfleustra ar ol yr Eisteddfod i helaethu ychydig ar ei draethawd, yr hyn, fel yr hydera , a'i gwna yn fwy dyddorol i'r darllenydd. Wedi y cwbl nid yw agos yr hyn a ddymunasai ei awdwr iddo fod; a phan ystyrir nad yw ond cynnyrch oriau hamddenol ar ol llafur y dydd am ychydig fisoedd, efallai y diarfogir beirniadaeth yn ei erbyn. Modd bynag, nis gall yr ymgeiswyr ar y testyn hwn lai na theimlo yn falch am eu bod wedi llwyddo i'r fath raddau i enill canmoliaeth beirniad o safle a gwybodaeth y Parch. Owen Jones. Hyderwn yn fawr y cefnogir y cyhoeddwr anturiaethus yn ei waith yn dwyn allan y traethawd trwy y wasg, ac y bydd yr ymdrech bresennol, er ahmherffeithied ydyw, yn foddion i ddwyn i sylw y cyhoedd hanes ein dyffryn tlws a goludog, ac y bydd yn "ychwan egiad at ein trysorau llenyddol." Gyda'r ystyriaethau hyn y cyflwynir ef i sylw y wlad yn gyffredinol, a thrigolion darllengar Dyffryn Nantlle yn neillduol, i'r rhai y dysgwylir iddo feddu ar ddyddordeb mwy arbenig, gan

Eu hufuddaf wasanaethydd,

MAELDAF HEN.

Talysarn, Awst 1af, 1871.

CYNNWYSIAD

Sylwadau Rhagarweiniol

DOSBARTH I.— HYNAFIAETHAU

PENNOD 1.—Cromlechau; eu hoedran a'u gwasanaeth—Beddau— Carneddau—Amddiffynfeydd, &c,—Cytiau Gwyddelod

PENNOD II—Eglwys Llanllyfni—St, Rhedyw—Y Gareg a lefa o'r mur—Eglwys Clynnog Fawr—St, Beuno—Capel Beuno—Ffynon Beuno—Cyff Beuno—Llyfr Twrog neu Diboeth—Betws Gwern rhiw—Capel Lleuar—Elusenau Plwyfydd Clynnog a Llanllyfni

PENNOD III,—Baladeulyn—Glynllifon Nantlle, nen Blas Tudur Goch—Pant Du—Llenar, neu Lleufer mawr—Brynaera—Bryn. Cynan—Bryn Gwydion—Eithinog Wen—Bodfan—Pennarth, neu Pennardd—Bachwen Celmnnog—Coch y BigBerth Ddu— Gwernoer

PENNOD IV.—Gwilym Ddu o Arfon—Rhys Penardd—Hywel Gethin— Michael Prisiart—Angharad James— Hywel Eryri— Edmund a Ffowc Prys Parch. Richard Nanney—Parch. Robert Roberts—Parch. William Roberts—Parch, John Jones, 'Talysarn— Parch. John Jones, M, A.—D. ab Hu Feddyg—Eben Fardd — Diweddglo

DOSBARTH II—COFIANNAU

PENNOD I,—Darnodiad o'r testyn—Drws-y-coed—Y 'Tylwyth Teg— Nantlle—Rhos-y-pawl—Cwm Cerwin—Y Gardda—Rhos-yr-Human—Pont-y-Cim—Ffynon Digwg—Llwyn y Ne—Cilmin Droed-ddu—Llyn Cwm y Dulyn—Yr Hafodlas

PENNOD II —Marged uch Ivan—Martha'r Mynydd—Elin Dafydd y Gelli—Sion Caeronwy—Sian Fwyn—Pulpud William Owen—Robert yr Aer PENNOD III.—Dechreuad yr achosion crefyddol—Drws-y-coed—Talysarn—Dechreuad yr Annibynwyr—Y Methodistiaid—Ffridd y Baladeulyn—Agoriad capel Talysarn—Y Bedyddwyr—Yr Eglwys Sefydledig—Llanllyfni—Y Gymdeithasfa gyntaf—Yr ail Gymdeithasfa—Y Bedyddwyr—Yr Annibynwyr—Clynnog— Capel Uchaf—Brynnera—Pontlyfni—Tre' Ddafydd— William Dafydd, Llanllyfni—William Owen, Llwyn y Bedw William Griffith, Caerynarfon, &c

DOSBARTH III.— HANES PRESENNOL

PENNOD I—Drws-y-coed a'r gwaith copr—Y Llech-gloddfeydd— Eu hoedran—Eu dechreuad—Y dull cyntefig o weithio y llechau Gwahanol ffyrdd o'u cludo—Y prif chwarelau, ac amcan-gyfrif o'r gweithwyr—Y chwarelwyr—Rhai o'n harferion niweidiol—Eu nodweddau—Diffyg o Yspytty—Y gwahanol gymdeithasau

PENNOD II,—Ein cymeriadau cyhoddus—Parch. W. Hughes, M.A, —Parch. R, Jones—Parch. W, Hughes, Coedmadog—Parch, E. W. Jones, Talysarn—Parch. E. J, Evans, Penygroes— Parch. R. Thomas, Llanllyfni—Parch. J, Roberts, Pontllyfni—Mr Evan Owen—Mri. Morris Jones a W. Williams, &c

PENNOD III.— Ein beirdd presennol -R. Ellis y clochydd—Richard Owen a Phlas y Cilgwyn—Hywel Tudur—Llwydlas—Ioan Wythwr—Meurig Wyn—Maeldaf Hen—Mynwent St, Rhedyw, a'r Bedd-argraffiadau—Mynwent Capel y Methodistiaid—Ty'n lon—Mynwent St. Beuno, Clynnog

Pennod IV.—Nantlle— Talysarn Penygroes—Llanllyfni—Clynnog—Y Gŵr amheus—Y Ffwl a'r Amaethwr, &c,—Diweddglo ‫‪

HYNAFIAETHAU, COFIANNAU

A

HANES PRESENNOL

NANT NANTLLE

—————————————

SYLWADAU RHAGARWEINIOL

Nodwedd arbenig yn nghyfansoddiad meddwl dyn yw y duedd gref sydd ynddo i wybod hanes dechreuad a gwreiddyn pob peth, Pan edrychom. ar yr afon fawreddog, yr hon sydd yn cario y llongau mawrion ar eî mynwes, teimlwn awydd dilyn cwrs yr afon hono yn ol i'w ffynnonell ddechreuol, ac at y gudd-wythïen yn ystlys y mynydd, neu y dyferion cyntaf ohoni sydd yn disgyn yn ddagrau dros rudd y graig. Neu, pan sylwom ar deml neu balas henafol ac adfeiliedig, teimlwn awydd cryf i wybod hanes eu dechreuad, yr amgylchiadau a roisant fod iddynt, a pha beth roedd eu hanes yn nyddiau eu gogoniant. Y mae mor gydweddol, gan hyny, ag anianawd y meddwl dynol i edrych ychydig yn ol i hanes y gwrthddrychau a welir o'n hamgylch, fel y mae yn. hawdd genym gredu y bydd y darllenydd yn foddlawn ac awyddus i'n dilyn yn ein hymdrech eiddil i fwrw golwg ar hynafiaethau, cofiannau, yn gystal a hanes presennol eìn dyffryn tlws ac anwyl ni ein hunain. Yr ydym yn ddyledus iawn i bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Penygroes am gyfeirio ein traed i'r lwybr dyddorol a phleserus hwn; a byddwn yn falch o ddeall ein bod wed llwyddo i wneyd â'n dyffryn bychan ni yr hyn a wnaed eisoes âg ardaloedd ereill, sef dwyn sylw ein cydwladwyr at yr hanes, a'r amrywiaethau dyddorol a berthynant iddo

Gorwedda dyffryn, neu nant Nantlle, yn benaf, rhwng dan drum o fynyddau, yn Nghwmwd Uwch-Gwyrfau, yn Nghantref Arfon; ac yn y pellder o tua saith milldir o dref henafol Caer Seiont. Mae y fynedfa iddo, yn y pen dwyreiniol, twy agorfa gul a rhamantus a elwir Drws-y- coed. Yn y lle hwn, ymddengys y ddau drum o fynyddau uchel, y rhai sydd yn ffurfio erchwynion y nant ar bob llaw, fel pe byddent ar fedr rhuthro i gyfarfod eu gilydd, a chau i fyny y fynedfa. Taenant eu hedyn adamanteidd duon dros y "Drws;" ac ar adegau ystormus bydd swn y gwynt wrth daro yn erbyn y pendistïau oesol hyn fel olyniad o daranan. brawychus, Nis gall yr olygfa yma beidio a llenwi enaid yr ymwelydd ag arswyd cysegredig. Yma y mae natur yn teyrnasu yn ei hawdurdod a mawredd ei Chreawdwr wedi argraffu arni mewn. llythrenau breision digamsynied.

Fel yr ydym yn dyfod i waered, gan ddilyn cwm y Llyfnwy, y mae y dyffryn yn ysgafnau ac yn ymledu. Tua milldir islaw Drws-y-coed deuwn lan y llynau, y rhai a wahenir gan wddf-dir cul a elwir "Bala-deulyn." Mesura y ddau lyn tua milldir a haner o hyd, wrth chwarter milldir o led. Wedi dyfod rhagom tua dwy filldir drachefn, y mae y trum o fynyddau ar ein llaw ddehau yn diflanu, a'r dyffryn yn ymledu bron yn wastadedd. Modd bynag, y mae y gadwyn ar ein haswy yn parhau; a chan ogwyddo tua'r gogledd ar ffurf fwäog, terfyna yn mhwynt Pen-y-rhiwiau, ar lan y mor gerllaw pentref Clynnog Fawr. Ac os cymerwn y pwynt hwn yn derfyn ar un llaw, a Dinas Dinlle ar y llaw arall, bydd genym felly o'n blaen ddyffryn yn mesur tun chwe' milldir o hyd, gan amrywio o ychydig latheni hyd tua pedair milldir o led, Ar hyd y dyffryn hwn y rhed afon Llyfnwy, gan gychwyn ychydig uwchlaw. Drws-y-coed, a therfynu yn y mor, ychydig islaw pontlyfni, ar lan bau Caer-yn-arfon. Tybiwn mai dyma y terfynau a gynnwysir yn briodol o fewn dyffryn Nantlle, er ei fod yn haeddu ei grybwyll nad yw yr enw yn cael ei gymhwyso ond at y rhan uwchaf ohono yn gyffredin.

Tua 600 mlynedd ym ol buasai y dyffryn yna yn ymddangos i'r edrychydd yn nantle goediog, anniwylliedig, ac anial; a'r cyll-lwyni tewion yn dringo i fyny ar hyd ystlysau y mynyddoedd sydd yn ei gysgodi. Ymddangosai moelydd y Tryfan, y Cilgwyn, Glan-yr-afon megys pennu moelion hen wŷr, a'r coed tewion megys llaeswallt i lawr eu hysgwyddau a'u godreuon. Ar hyd penau y moelydd hyn gallesid gweled ein henafiaid syml yn ysgraffinio ychydig ar y tir tenau cerygog, tra y gadawent yr iseldiroedd breision yn noddfeydd bwystfilod ac ymlusgiald. Ymddyrchaf mwg o'u hanneddau cyfyng a diaddurn fel cymylau eur-wlanog i'r uchelder, Clywid twrf ymdreigliad y Llyfnwy rhwng ceunentydd anhygyrch, ac ymddangosai y "llyn" megys anoddfn prudd, erchyll, yn nghanol llwyni o goed tew-frigog, Y pryd hyny yr oedd holl amgylchoedd y Wyddfa yn llawn o ddyrysgoed, ac yn llochesau ceirw gwylltion a bleiddiaid, Y clogwyni serth a danneddawg â ddefnyddid gan ein tywysogion dewr fel amddiffynfeydd pan yn cael eu hymlid gan dramoriaid lluosog a gwaedlyd. Ond, pan syrthiodd ein. "Llywelyn," ac y gorchfygwyd Cymru gan Iorwerth y Cyntaf, efo a Gorchymynodd ddinystrio fforestydd breninol y Wyddfa, fel nad allent mwyach fod yn achos i wrthryfel yn erbyn coron a llywodraeth Lloegr, Cwympodd ein coedwigoedd gyda chwymp ein hannibyniaeth. Dengys y lluosogrwydd o goed derw a chyll o bob maintioli a orweddant o dan yr arwyneb, yn mhob rhan anniwylliedig o'r dyffryn, pa mor goediog y rhaid fod y lle yma gŷnt.

"Wedi i heddwch gael ei sefydlu, a'r tiroedd gael eu diwyllio, daeth y "Nant" i wisgo gwedd brydferthach, Ymddangosai y maesydd llydain a'r dolydd gwyrdd-leision gydag ambell lanerch o goed yma ac acw, megys i dori ar unffurfiaeth yr olygfa. Ar wyneb y llynau adlewyrchid delw y mynyddoedd uchel, a daeth glanau y Llyfnwy, lle y teyrnasai braw ac annhrefn, yn rhodfeydd difyrus ac adloniadol. Er y cwbl, ychydig oedd nifer y trigolion, ac anaml a diaddurn oedd y tai, hyd oni ddechreuwyd agor y llech-chwarelau.— Ond pan ddaeth yr adeg yr oedd coffrau goludog y Cilgwyn i gael eu hagor, ac ymysgaroedd y mynyddoedd i gael eu chwilio, crewyd cyfnod newydd yn hanes y lle, a dechreuodd pob cangen o'i fasnach ymfywiogi. Cymylodd hyn raddau, mae'n wir, ar degwch naturiol y dyffryn. Boddwyd cynghanedd y goedwig gan swn y morthwylion, a chymylwyd dysgleirdeb yr awyrgylch gan fwg ager-beiriannau. Ond lle collodd mewn prydferthwch yr enillodd mewn cyfoeth. Ymgasglodd nifer! mawrion o deuluoedd o Fon a Lleyn, a manau ereill, yma i fyw. Adeiladwyd yma dai lluosog a golygus, addoldai eang a chyfleus, gydag ysgoldai dymunol, fel y gellir yntyried dyffryn Nantlle y dydd heddyw fel un o'r lleoedd mwyaf blodeuog a chynyddfawr yn Sir Gaernarfon, a'i ragolygon yn addawol a lwyddiannus.

Perchenogid bron yr oll o Ogledd Cymru yn yr amser y goresgynnwyd. hi gan y Rhufeiniaid, gan lwyth neillduol a elwid yr "Ordovices," neu "Gordofgion," Am y bobl hyn sylwa Camden eu bod yn wrol a phenderfynol iawn, yn preswylio rhanbarthau mynyddig, a'u bod y rhai diweddaf oll i gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid. Bu y Rhufeiniaid am yn agos i gan mlynedd, sef o'r amser y tiriodd Julius Cesar, C.C, 50, hyd amser Ostorius, yn O.C. 50, cyn llwyddo i orchfygu y bobl a breswylient y rhanbarth hwn o Ynys Brydain, alwyd ar ol hyny yn Wynedd. Ac o'r flwyddyn O.C, 449 hyd amer Iorwerth y Cyntaf, yn y flwyddyn 1282, bu y Sacsoniaid yn ymosod yn berheus cyn. llwyddo i lwyr orchfygu y Gordofigion, neu bobl Gogledd Cymru; ac nid heb arfer dichell, fel y gwyr y darllenydd yn dda, y llwyddwyd i gael ganddynt yn y diwedd osod eu gyddfau o dan yr iau Sacsonaidd.

Gelwid pobl Sir Gaernarfon yn neillduol yn "Cangi," neu "Cangiani," yn amser y goresgyniad y sir gan y llywydd Rhufeinig, Ostorius Scapula. "Yr oeddynt yn preswylio yn benaf hyd benau y moelydd a'r bryniau, mewn cytiau crynion, diaddurn, gweddillion y rhai a welir yn luosog eto hyd benau y mynyddoedd, ac aelwir yn awr yn gyffredin "Cytiau Gwyddelod," neu fel y myn rhai eu galw "Cytiau'r gwyr hela," am fod y trigolion y pryd hyny yn byw yn benaf ar helwriaeth. Gall y darllenydd weled olion nifer luosog o'r cytiau hyn wrth draed y Mynyddfawr, yn Drws-y-coed.

Efallai y dylem grybwyll nad oedd y wlad hon yn cael ei dosbarthu i siroedd a phlwyfydd, fel y mae yn bresennol, hyd ar ol uniad Cymru a Lloegr, o dan deyrnasiad Iorwerth y Cyntaf; oblegid yn y ddeddf a gyhoeddwyd yn Nghastell Rhuddlan yn ngrawys y flwyddyn 1294, dosbarthwyd Gwynedd a Deheubarth i siroedd, ac y sefydlwyd prif ynad ar bob sir, Ac am y dosbarthiad o'r sir yn blwyfydd, ni ddefnyddiwyd y drefn bresenol hyd Harri yr Wythfed, er fod rhai o'r plwyfydd yn dwyn enwau hon seintiau Ynys Brydain, ac yn cadw yr un cyffinau ag oeddynt o'r blaen o dan arolygaeth eglwysig.

Crybwyllasom o'r blaen mai yn. Nghantref Arfon y gorwedda Nantlle, Y cantref hwn a renid i ddau gwmwd, a elwid "Uwch-gwyrfai" a "Is-gwyrfai," y rhai a dderbynient eu henwau oddiwrth afon o'r enw, yr hon sydd yn ffurfio y terfyn ar un ystlys. Y cwmwd a renid hefyd i nifer o drefi neu dreflanau, ac y mae dyffryn neu nant Nantlle yn cynnwys rhanau o bump o'r treflanau hyn, sef. Tref y Llyfnwy, ar y tu ddeheuol i afon Llyfnwy, a'i hardreth yn myned at wasanaeth côr Beuno; Tref Eithiniog a Bryncynan, a'i hardreth i gael ei dalu i Dywysog Cymru; Tref y Dinlle, yr hon oedd yn dref ryddfreiniol yn meddiant y Tywysog, neu ei berthynas agosaf; Tref y Bennarth, a Thref Celynog, ardrethion y rhai a roddwyd at wasanaeth Eglwys Beuno, yn Nghlynnog fawr.

Cynnwysai pob un o'r treflanau hyn nifer o "welyau." Cyfreithiau Cymru, o dan ei thywysogion, a drefnant fod i bob plentyn, ar farwolaeth y tad, hawl gyfartal i'w diroedd a'i feddiannau, Y drefn hon a elwid "Gafaeledd;" canys pan fyddai pendefig farw, ac i'w diroedd gael eu rhanu yn gyfartal rhwng pob plentyn, gelwid cyfran unigol pob plentyn yn "wele" neu "wely," "Y gyfraith hon," medd Carnhuanawc, oedd dra niweidiol mewn amryw bethau, yn mhob gradd cymdeithasol; ond yn etifeddiaeth o'r orsedd yr ydoedd yn achlysurawl o ddrygau annhraethadwy; canys pan gymerai ei rhwysg yn heddychol, gwanhai y llywodraeth trwy raniadau bychain o'r awdurdod o un genedlaeth i'r llall, hyd nes na fyddai gan y gwahanol freninoedd bychain ddigon o gadernid i wrthladd ymosodiadau estronawl. A phan nad ufuddhaed i'r gyfraith yma, eithr i'r mab hynaf geisio gafaelyd ar y cyfan o'r llywodraeth, er gwrthodiad o hawl ei frodyr, yna byddai yn achlysur o ryfeloedd cartrefol o'r anianawd mwyaf gwrthun a dinystriol, y rhai o wanhaent y wlad lawer mwy na'r gyfraith ei hun. Ac hefyd, a barent i'r blaid wanaf yn wastad alw i mewn gynnorthwy estroniaid, y rhai yn fynychaf a ymsefydlent eu hunain yn y wlad, er mawr flinder a niwaid i'r trigolion."

Y mae yr hinsawdd yn y dyffryn hwn yn amrywiol. Yn y cwr uchaf, yr hwn sydd yn gorwedd wrth droed y mynyddoedd, y mae yr ardymheroedd yn oer a chyfnewidiol. Yn Drwsycoed, wrth odreu y Mynyddfawr, nid ydyw yr haul yn tywynu ond dros ychydig o fisoedd yn nghanol yr haf. Ac er fod y cwr uchaf yn fwy cysgodol, oddieithr ar ddwyrein-wynt yn unig, eto gan fod y Wyddfa, a'r trumau uchel ar bob llaw, yn orchuddiedig dros y rhan fwyaf o'r flwyddyn gan eira neu gymylau a niwl tawchlyd llaith, y mae yr ardymheredd hefyd yn y gwaelodion yn llaith ac oer. Ac heblaw hyny, y mae y trymau uchel yn dryllio y cymylau, o ba herwydd y mae yn fwy tueddol i wlawio yn y cwr uchaf; ac y mae y gwlawogydd yn gyffredin yn drymion a disymwth. Y mae rhanau hefyd o'r gwaelodion yn gorsydd gwlybion, o'r rhai yr ymgyfyd tarth afiachus ar brydiau. Pan ddeuwn heibio Penygroes, at waelodion y nant a glan y mor, y mae yr hinsawdd yn dynerach ac yn fwy sefydlog. Y mae y fath gymesuredd o for awel yn nghymydogaeth Pen-y-groes a Llanllyfni, ac eto heb fod yn rhy agos i'r mor, fel y gallwn dybied fod safleoedd y pentrefydd hyn yn hynod o iach a chymhedrol. Am tua thair rhan o bedair o'r flwyddyn bydd yn chwythu o'r tueddau gorllewinol, er mai y dwyreiniol, yn enwedig yn y gauaf a'r gwanwyn, gan ei fod: yn dyfod oddiar y Wyddfa, a chreigiau yr "eira a'r eryrod," ydyw y mwyaf lym a digysgod.

"Yr ydym wedi cyfeirio amryw o weithiau at y Llyfnwy," y brif afon; yr hon sydd yn rhedeg ar hyd gwaelod y dyffryn hwn. Y mae haneswyr diweddar yn camgymeryd wrth grybwyll mai yn "Llynau Nantlle" y mae ei tharddiad, oblegid y mae yn afon gref cyn cyrhaedd y llynau, er ei bod yn derbyn llawer o adgyfngrthion tra y mae yn ymdroi ynddynt. Ystyr y gair "wy," meddir, yw dwfr neu afon, ond. nid yw Llyfnwy yn ddesgrifiadol, o'r afon yma ond mewn rhan fechan yn unig, gan fod ei threigliad, ar y cyfan, yn chwyrn a thrystfawr, ac ar wlawogydd yn ddychrynllyd. Nid yw y, Llyfnwy, megis rhai o afonydd ein gwlad, y rhai gan awydd "gweled y byd," a gymerant daith hamddenol ar hyd gwastad-diroedd, gan amgylchu bryniau wrth eu pwys; eithr yn hytrach cymer daith frysiog, ddiymaros, nes cyrhaedd: ei chartref yn mor gilfach Caernarfon, ychydig islaw Pontlyfni, Y mae hen draddodiad yn yr ardal fod yr afon hon yn yr hen amser yn llithro i ddyffryn Menai, ac mai wrth Ynys Seiriol, gerllaw Beaumaris, yr oedd yn cyrhaedd y mor, Yr oedd Arfon a Mon y pryd hyny heb eu. hysgaru, fel y gallai dyn gerdded ar draed o Landdwyn i Glynnog Fawr heb wlychu ei draed. Nid oedd y mor y pryd hyny wedi ymweithio trwy y lle y mae culfor Abermenai yn

awr, Dichon y dylid ychwenegu fod rhai yn ceisio amddiffyn y traddodiad hwn oddiar seiliau hanesyddol.

Dosbarth I—Hynafiaethau.
PENNOD I

Bellach, y mae yn rhaid ini ofyn i'r darllenydd ein dilyn yn amyneddgar tra byddom yn ymdrechu casglu yn nghyd ychydig o grybwyllion am y gweddillion hynafiaethol a geir ar hyd a lled y dyffryn prydferth hwn. Ar y pen hwn, modd bynag, ni fynem gyfodi ei ddisgwyliadau yn rhy uchel, gan nad yw y Nant yn ymddangos fel maes addawol iawn i'r hynafiaethydd. Nid yw yn gyfoethog mewn gweddillion derwyddol na mynachaidd. Ni fu ganddo ei "gastell clodfawr," yn ganolbwynt gweithrediadau milwrol. Enwogrwydd diweddar, yn benaf, sydd yn perthyn iddo. Hyd y gwyddom, mai dyma'r ymgais gyntaf a wnaed tuag at gasglu i un cyfansoddiad neillduolion yr ardal hon. Da fyddai genym lwyddo i wneyd a'n dyffryn ni yr hyn a wnaed âg ardaloedd ereill yn ein gwlad; a dichon y bydd ini ddyfod ar draws rhyw beth a feddia yr hynafiaethydd, a chadw rhag ebargofiant rywbeth a fuasai yn debyg o gael ei esgeuluso oni bai yr ymgais bresennol. Yn mysg y pethau sydd yn teilyngu ein sylw blaenaf, o bosibl ar gyfrif eu hynafiaeth, y mae y gweddillion derwyddol a elwir y

CROMLECHAU

Y fwyaf nodedig a chyfan o'r adeiladau hyn yw yr hon a saif ar dir Bachwen, ychydig i'r gorllewin o bentref Clynnog Fawr. Ffurfir y gromlech hon gan bedwar o feini unionsyth ar eu penau yn y ddaear, y rhai a fesurant tua phedair troedfedd o hyd. Acar benau y colofnau hyn gorweddai y bwrdd neu y maen clawr, yr hwn sydd yn mesur wyth troedfedd o hyd, wrth bump o led. Tros holl arwyneb y maen hwn y mae tua chant o dyllau crynion, tri o ba rai ydynt o faintioli mwy na'r lleill, ac a gysylltir a'u gilydd gan linell ddofn yn y maen. Ychydig o latheni oddiwrthi y mae careg arall ar ei phen, yr hon yn unig a erys o'r meini oeddynt unwaith, fel y tybir, yn ffurfio cylch o amgylch y gromlech.

Tua milldir o bentref Clynnog, ar dir Pennarth, a cherllaw y ffordd sydd yn arwain i Lanllyfni, y mae Cromlech arall, nid mor gyfan ac adnabyddus a'r llall, gan fod y bwrdd wedi llithro oddiar y colofnau, ac yn pwyso ar y ddaear. Y mae bwrdd y Gromlech hon yn saith troedfedd o hyd a thua dwy droedfedd a chwe' modfedd o drwch. Hyd y golofn yn y pen gogleddol yw pedair troedfedd, ac un arall dair troedfedd. Ymddengys fod y bwrdd, pan orweddai ar y colofnau, yn gogwyddo tua'r gorllewin neu fachlud haul, fel yr ymddengys fod y mwyafrif o'r cyfryw adeiladau wedi eu lleoli.

Gerllaw yr Hafodlas y mae Maenhir yn sefyll yn awr yn unigol, ac yn mesur tua deuddeg troedfedd o hyd. Sylwai Mr. J. Jones, sydd yn byw yno, fod o fewn ei gof ef amrai o feini hirion cyffelyb yn sefyll mewn pellder neillduol oddiwrth eu gilydd. Bron yn y canol gellir gweled maen mawr yn gorwedd mewn rhan yn y ddaear, yr hwn yn ol pob tebyg ydoedd gynt yn fwrdd cromlech, o amgylch yr hwn yr oedd y meini hirion yn ffurfio cylch derwyddol. Modd bynag, y mae yn bur amlwg fod yn y fan hon ryw wasanaeth mewn cysylltiad â'r grefydd hono yn cael ei ddwyn yn mlaen, neu ynte fod yma amryw o wyr urddasol wedi eu claddu, fel y mae y meini hirion yn gyffredin, fel y tybir, yn arwyddo.

Hyd yn lled ddiweddar yr oedd tair o'r cyfryw adeiladau ar ben y Cilgwyn, yn nghyda chylch o feini cysegredig a elwid "Mynwent Twrog," lle y dywedir fod lluaws mawr wedi eu claddu. Ond erbyn hyn y mae yr holl feini a ffurfient y gweddillion hynafol hyny wedi eu chwalu a'u cario ymaith i adeiladu tai yn y gymydogaeth. Gresyn fod neb mor anwladgarol ac mor ddibarch i weddillion diwydrwydd a chrefydd ein hynafiaid fel ag i ddryllio a chario ymaith eu defnyddiau i adeiladu tai a chloddiau! Yr oedd hefyd yn ngodrau y Cilgwyn, sef yn nghae Ty'n Nant, Gromlech adfeiliedig arall, gyda thair o golofnau, ond eu bod wedi syrthio. Tua deg llath ar hugain i'r dwyrain yr oedd carnedd anferth, ac ychydig yn mhellach drachefn yr oedd cylch rheolaidd yn cael ei ffurfio gan bedair-ar-hugain o golofnau. Y rhai uched ydynt yr oll o'r gweddillion hynafol a adwaenir yn bresennol dan yr enw Cromlechau, cyn belled ag y gwyddom ni, o fewn ein terfynau.

O berthynas i oed a gwasanaeth yr adeiladau hyn, y mae hynafiaethwyr yn anghytuno; ond credir eu bod y pethau hynaf a welir yn ein gwlad, ac yn perthyn i gyfnod boreu iawn yn hanes ein cenedl. Myn rhai fod hiliogaeth Gomer wedi ymfudo i'r gwledydd hyn yn fuan ar ol y diluw, a'u bod yn arfer offrymu ar yr allorau hyn wenith, mêl, a llefrith, &c., gannoedd o flynyddau cyn dyddiau Moses. Modd bynag, credir yn lled gyffredinol eu bod mor hen a dyfodiad yr hiliogaeth Geltaidd i'r gwledydd lle y ceir hwynt. Coleddir amryw dybiau hefyd am eu hamcan a'u gwasanaeth. Creda rhai, megys Rowlands, Stuply, ac ereill, mai allorau Derwyddol oeddynt, ac yr offrymid arnynt, heblaw gwenith a mêl, &c., anifeiliaid, ac hyd yn nod fodau rhesymol, megys carcharorion rhyfel a drwgweithredwyr; a phan na cheid y cyfryw ebyrth na phetrusant offrymu y diniwaid. Tacitus, hanesydd Rhufeinig, a ddarlunia Dderwyddon Mon fel rhai a "gyfrifent yn addas i boethoffrymu ar eu hallorau waed caethion, ac i ymgynghori a'r duwiau trwy gysegr chwilio ymysgaroedd dynion." Dywed Carnhuanawc fod "ymddangosiadau cedyrn mai allorau oeddynt, a bod egwyddorion y grefydd Dderwyddol yn hanfodi yn ei grym pa le bynag y cyfodwyd ac yr arferwyd allorau o'r fath faintioli."

Ymddengys fod y dybiaeth uchod am ddefnydd y cromlechau yn myned yn fwy anmhoblogaidd yn yr oes bresennol, gan y dadleuir yn wresog gan amryw o hynafiaethwyr dysgedig mai bedd-adeiladau yn unig ydynt, a'u bod oll, yn eu sefyllfa gyntefig, yn orchuddiedig mewn carneddau o bridd a cheryg. O blaid y golygiad hwn dadleuir y buasai zel y cenadon Cristionogol cyntaf wedi eu cwbl ddinystrio pe buasent yn eu hystyried fel yn perthyn i'r grefydd baganaidd, ond fod y ffaith iddynt eu harbed yn brawf eu bod yn eu hystyried yn gysegredig fel bedd-golofnau y meirw. Y mae yn anhawdd dirnad oddiwrth ffurf grwm ambell i faen clawr pa fodd y gallesid eu defnyddio fel allorau.. Hefyd, os allorau oeddynt yn perthyn i'r Derwyddon, pa fodd y rhoddir cyfrif am eu bodolaeth yn mysg tylwythau na wyddent ddim am Dderwyddiaeth? O'r tu arall, ar y dybiaeth mai bedd-adeiladau ydynt, y mae yn bur ryfedd, fel y sylwai y diweddar Barch. J. Jones, Llanllyfni,. er cymaint o gyfeiriadau a geir yn "Englynion Beddau Milwyr Ynys Prydain" at feddrodau personau urddasol, na chaed un o honynt erioed o dan gromlech, er fod amryw o honynt yn agos iawn atynt. Hefyd, pa fodd y rhoddir cyfrif am fodolaeth rhai o'r adeiladau hyn ar greigleoedd, lle y buasai yn anhawdd, os nad yn anmhosibl, eu gorchuddio, yr hyn yn ddiau oedd yn ofynol er diogelwch y corff a gleddid danynt? Yn ddiweddaf, pa fodd y rhoddir cyfrif am yr holl dyllau crynion sydd dros arwyneb Cromlech Bachwen, os nad oeddynt wedi eu hamcanu fel llestri i ddal gwaed yr ebyrth?

"Ereill drachefn a farnent mai prif ddyben y gromlech, yr hon a safai yn wastad yn nghanol y maen-gylch neu yr orsedd, oedd bod yn lle cyfleus neu bulpud addas i'r prif-fardd i draddodi ei ddedfryd yn nghlyw y gwyddfodolion, o ba fath bynag y byddai y ddedfryd hono, ai ar bynciau gwladol a'i crefyddol, fel ag y dywed Cesar am Dderwyddon Gâl. Tybir fod yr enwau a roddai y beirdd ar y cromlechau yn tueddu i gadarnhau hyn yn fawr, megys Maen Gorsedd, Maen Llog, a Maen Cetti. Ymddengys, ar y cyfan, mai dybenion penaf y gromlech oedd bod yn bulpud ac yn allor; ond ni ddywedir yma allor i aberthu dynion, gan fod hyny heb ei brofi gan neb eto."-Gwydd., Cyf. 2.

Gallesid ychwanegu tybiaethau yn ddiddiwedd bron, megys y rhai sydd yn eu hystyried fel "llys Ceridwen," lle caethiwid ymgeisydd am urddau, er mwyn ei gymhwyso at gyflawni dyledswyddau Derwyddiaeth. Barnai yr hynafiaethydd enwog o Lanllysni mai yr ystyr yw "awgrymlech," ac mai arwyddlun neillduol ydoedd y gromlech neu yr "awgrymlech" o ryw syniad neu athrawiaeth. Yn wyneb yr opiniynau amrywiol uchod, ni fyddai ond mursendod ynom ni geisio penderfynu y pwnc; yn unig gallwn awgrymu y dybiaeth iddynt gael eu defnyddio fel beddadeiladau i bersonau cyhoeddus ac urddasol, y rhai mewn amser a ddaethant i gael eu hystyried megys duwiau, ac er boddloni y rhai y cyfnewidiwyd eu beddau i fod yn allorau iddynt. Modd bynag am eu dyben a'u gwasanaeth, y mae eu bodolaeth yn Nyffryn Nantlle yn brawf fod y lle hwn wedi ei boblogi mewn cyfnod boreu yn hanes ein cenedl, a bod Derwyddiaeth wedi bod yn lled flodeuog yma gynt, megys y gallwn yn hyderus dystiolaethu fod Cristionogaeth yn bresennol.

BEDDAU, CARNEDDAU &c.,

Yn mysg gweddillion hynafol y gymydogaeth gellir nodi y beddrodau a'r carneddau. Yr ydym wedi crybwyll o'r blaen am y graig uchel sydd yn ffurfio pendist ardderchog Drws-y-coed ar y tu deheuol, yr hon a elwir y "Garn." Gelwir hi ar yr enw hwn, fel y tybir, am fod ar wastadedd ar ei phen ddwy garnedd anferth, yn nghydag olion adeiladau, celloedd, &c. Ychydig o flynyddoedd yn ol buwyd yn cloddio i un o'r carneddau hyn, pryd y deuwyd o hyd i gistfaen, yn cynnwys gweddillion marwol, wrth yr hyn y penderfynwyd fod rhai o wroniaid Eryri wedi eu claddu yno. Nid ydym yn gwybod fod unrhyw gyfeiriad yn yr hen gyfansoddiadau Cymreig at y beddrodau hyn, ac nis gallwn ddyfalu pwy a gladdwyd yno. Gelwir y rhan isaf o'r graig, yr hon sydd yn crogi uwchben y "Drws," yn "Gareg Meredydd;" ond ni allasom wybod dim yn ychwaneg am dano. Ychydig uwchlaw Drws-y-coed, mewn lle a elwir "Bwlch Culfin," yr oedd hen gladdfa, lle y dywedir i lawer o filwyr gorchfygedig gael eu claddu; oblegid cafwyd o bryd i bryd yn y fan hon lawer iawn o esgyrn a lludw. Gelwir y lle eto yn "Hen Fynwent." Yn ucheldir Nantlle, yn agos i'r Ty'n-nant, yr oedd carnedd enfawr yn agos i gylch derwyddol a chromlech, am y rhai y soniwyd o'r blaen. Wrth gloddio i'r garnedd hon cafwyd ysten bridd, yn llawn o ludw golosg, a'i gwyneb i waered. Barnai y diweddar Barch. J. Jones mai yma y claddwyd Mabon ab Madron, am yr hwn y crybwyllir yn "Englynion y Beddau" fod ei fedd yn uchelder Nant Llan, sef yr un a Nantlle fel y tybir. Yn ngodrau Cwm Cerwin hefyd yr oedd yn weledig gistfaen o faintioli mawr, a lluaws o feini ar eu penau o amgylch. Mae y lle hwn yn " ucheldir" yn ystlys y Mynydd-mawr, a gallai ateb yn gywir i'r desgrifiad a roddir o fedd Mabon ab Madron. Y mae amryw o leoedd o fewn terfynau ein testyn yn dwyn enwau y beddrodau, ond y rhai y mae annrhaith yr adeiladwyr wedi ein hysbeilio ohonynt. Gellir cyfeirio at Tal-y-garnedd, y Garnedd Wen, Cae-y-cyngor, y Gistfaen, &c. Ar dir y Plasnewydd, gerllaw Glynllifon, mewn lle a elwir Cae'rmaen-llwyd, y mae maen hir, yr hwn, fel y tybir, yw beddgolofn Gwaewyn Gurgoffri, un o arwyr y "Gododin." Crybwyllir yn ', Englynion y Beddau" am fedd Gwydion ab Don, ei fod yn Morfa Dinlle, o "dan fair dafeillion." Methasem a chael allan unrhyw draddodiad yn cyfeirio at y fan lle claddwyd y seryddwr enwog. Ychydig o'r neilldu i bentref Llandwrog dangosir bedd Gwenen, yn agos i amaethdy o'r un enw. Yn nghyfeiriad Clynnog y mae Bryn-y-beddau, Bryn-y-cyrff, Llyn-y-gelain, Cae-pen-deg-ar-ugain, lle y dywedir fod lluoedd o filwyr wedi eu claddu, megys y mae yr enwau yn arwyddo, ac megys y cafwyd profion amrywiol weithiau yn narganfyddiad esgyrn a gweddillion marwol. Yn agos i bentref Clynnog y mae pwynt o dir yn ymestyn allan ychydig i'r mor, ac ar flaen y pwynt hwn dangosir maen mawr a elwir Maen Dylan, lle tybir fod bedd Dylan, am yr hwn y crybwyllir yn "Englynion y Beddau," ei fod gerllaw Llan Feuno. Yn agos i'r lle hwn y mae Brynaera, yr un, fel y tybia un ysgrifenydd o Brynarien, wrth odrau yr hwn y claddwyd Tydain, Tad Awen. Gerllaw hen bont y Cim darfu i'r aradr, amryw flynyddau yn ol, ddyfod ar draws urn neu ystên, a'i gwyneb i waered, yr hon a gynnwysai ludw golosg.

Y rhai uchod ydynt yr oll o'r beddrodau o fewn terfynau ein testyn ag y mae genym ni unrhyw gydnabyddiaeth â hwy. Diamheu fod llawer o garneddau a bedd-golofnau wedi eu dinystrio wrth i'r tiroedd gael eu diwyllio, y rhai nid oes genym erbyn heddyw un fantais i wybod am eu bodolaeth.

Dichon y byddai ychydig sylwadau mewn cysylltiad â'r claddfeydd hynafol hyn o ddyddordeb i ryw ddarllenydd sydd o bosibl yn anghyfarwydd â'u hanes. Perthynant i gyfnod boreuol iawn yn hanes ein gwlad. Crybwylla Pennant fod yr arferiad o losgi cyrff yn mhlith y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Y Derwyddon hefyd a ddilynent yr un arferiad, gan gladdu gyda'r cyrff bob peth o wasanaeth yn y byd hwn, oddiar y dybiaeth y byddai eu heisieu ganddynt yn y byd isod; am ba reswm y darganfyddir arfau, addurniadau, a phethau ereill, wedi eu claddu gyda hwynt o dan garneddau.

Mae y ffaith hon wedi rhoddi mantais i hynafiaethwyr i ddosbarthu yr hen feddau fel yn perthyn i dri cyfnod, sef y Cyfnod Cerygog, am fod yr arfau a geir ynddynt oll yn wneuthuredig o geryg callestr, cyn bod haiarn nag unrhyw fetal yn adnabyddus i'r trigolion. 2il. Y Cyfnod Efyddol, am fod yr arfau a'r addurniadau wedi eu gwneyd o'r defnydd hwnw. Yn y cyfnod hwn, yn benaf, yr arferid llosgi cyrff, a'u dodi mewn urnau neu ysteni pridd. 3ydd. Y Cyfnod Haiarnol, yr hwn a briodolir i'r Rhufeiniaid, am mai hwy oeddynt y rhai a ddygasant arfau o'r defnydd hwn gyntaf i'r wlad hon.

Y dyb yn y canol-oesoedd oedd, mai boneddigion neu ryfelwyr enwog a gleddid o dan garneddau. Yr oedd yn angenrheidiol wrth ryw arwyddion i ddynodi y fan y cleddid hwy cyn i'r mynwentydd plwyfol a'r claddfeydd cyhoeddus gael eu dwyn i arferiad. Mor barchus a chysegredig yr ystyrid hwynt, fel y byddai pwy bynag a elai heibio yn taflu ei faen i chwyddo y garnedd, oddiar barch i weddillion yr hwn a orweddai ynddi. Wedi dyfod Cristionogaeth i'r wlad hon, ac i leoedd pwrpasol gael eu neillddo i gladdu y meirw, aeth claddu mewn carneddau i gael edrych arno fel gweddillion paganaiaeth. Gwrthwynebid yr arferiad o gladdu mewn carneddau i'r fath raddau gan yr offeiriaid, nes yr aethant o'r diwedd yn nodau gwarthrudd ac nid anrhydedd, a llofruddion a drwgweithredwyr yn unig a gleddid ynddynt. Daeth dymuno "carn ar dy wyneb" y felldith fwyaf atgas allesid ddymuno i unrhyw elyn, a charnlleidr neu garnfrawdwr i ddynodi y rhywogaeth waethaf o'r cyfryw gymeriadau.

Mae yr hanesyn canlynol a gofnodir gan Carnhuanawe ac ereill yn profi fod yr arferiad o losgi y cyrff, a'u claddu mewn ysteni, mewn grym yn Nghymru cyn dyddiau y Rhufeiniaid. "Yn y flwyddyn O.C. 1813, tyddynwr yn byw ar lan afon Alaw yn Mon, wrth geisio ceryg at adeiladu a aeth i symud rhai a welai mewn crug yn agos iddo, ac a ddaeth at garnedd yn orchuddiedig a phridd; ac yn y garnedd cafodd gistfaen, ac yn y gistfaen gawg neu ystên bridd, a'u genau i waered ac yn llawn o ludw ac esgyrn golosg. Yr amgylchiad hwn a ddaeth i wybodaeth offeiriad y plwyf ac offeiriad arall, i'll dau yn hoffi ac yn adnabyddus o hynafiaeth Gymraeg; a chofiasant ymadrodd yn un o'r Mabinogion, yr hwn a draetha hanes Bronwen, merch Llyr, yr hon oedd fodryb i Garadawg ab Bran ab Llyr, sef Caractacus, y gwron, yr hwn a wrthsafodd y Rhufeiniaid gyda'r fath ddewrder. Y Mabinogi, ar ol crybwyll am amryw ddygwyddiadau yn hanes Bronwen yn yr Iwerddon a lleoedd ereill, a ddywed, iddi ddyfod o Fon, lle y bu farw; ac yna y canlyn yr ymadrodd rhagsylwedig:—"Bedd petrual a wnaed i Fronwen, ferch Llyr, ar lan afon Alaw, ac yno y claddwyd hi." A phan yr ychwanegir at hyn fod y fangre hono yn cael ei galw "Ynys Bronwen," y mae awdurdod i feddwl mai beddrod briodol Bronwen oedd y carn, ac mai ei lludw hi oedd yn y cawg, yr hwn a osodwyd ynddo yn nechreu y ganrif gyntaf, sef cyn i'r Rhufeiniaid feddiannu unrhyw ran o Gymru."

Pa bryd y diflanodd yr arferiad o losgi cyrff, a chladdu mewn carneddau, nid yw yn hawdd penderfynu. Cesglir oddiwrth grybwylliad o eiddo Llwarch Hen yn ei farwnad i Cynddylan, Tywysog Powys, yr hwn a fu farw yn 557, lle sonia am "gysylltiad du," am "gnawd Cynddylan," eu bod yn defnyddio eirch coed y pryd hyny, a bod y drefn bresennol i raddau mewn arferiad. Dywed Pennant mai y Brytaniaid oedd y rhai cyntaf i roddi heibio yr hen arferiad, ac mai y Daniaid oedd y rhai olaf, oblegid o bob cenedl a roisant eu traed ar Ynys Brydain, hwynt-hwy a fuont y rhai olaf i gofleidio Crist'nogaeth. Modd bynag, yr ydym yn ddyledus i'r efengyl am y drefn weddaidd, ddifrifol, dra phriodol a arferir yn awr o gladdu y meirw.

Yr ydym wedi ymdroi gormod, efallai, gyda'r pwnc hwn, ond maddeued y darllenydd hyddysg yn y pethau hyn er mwyn y lleill nad ydyw eu sylw, efallai hyd yn hyn, wedi eu dynu at y fath weddillion, priodol i hen wlad y bryniau. Nid oes ond un Maenhir o fewn ein terfynau, sef yr un yn Cae'r-maen-llwyd, gerllaw y Plas Newydd, yr hen sydd yn dynodi bedd Gwaewyn Gurgoffri, am yr hwn y crybwyllwyd o'r blaen. Dywed Carnhuanawc nad oes unrhyw sicrwydd o'u dyben, er eu bod y rhan fynychaf yn cael eu cymeryd fel bedd golofnau.

AMDDIFFYNFEYDD, &c.

Gan i'r wlad hon fod dros gymaint o amser yn olygfa o ymdrechiadau gwaedlyd dros ryddid, ac yn erbyn ymosodiadau erchyll ac olynol oddiwrth genedloedd tramoraidd, y ffaith hon a ddyry gyfrif am. amledd y caerau, y gwarch-gloddiau, a'r ffosydd, olion o ba rai a geir yn lluosog mewn amryw barthau o Gymru. Y mae llawer o hynafiaethwyr yn barnu i lawer o'r adeiladau milwrol hyn gael eu codi, neu eu lled-godi, cyn bod unrhyw genedl estronol erioed wedi rhoddi ei thraed ar Ynys Brydain, a'u bod yn cael eu defnyddio mewn achosion o ymladdau rhwng gwahanol lwythau o'r cyn-frodorion. Gan hyny, y mae yn gwbl anmhosibl penderfynu oed na thadogaeth y difer fwyaf o'r amddiffynfeydd, na pha un a'i Brytanaidd a'i Rhufeinig ydynt, gan eu bod wedi eu codi, eu cyfnewid, a'u defnyddio i ateb amcanion rhyfelgar gwahanol oesau, o'r amseroedd boreuaf hyd ddyddiau Owain Glyndwr. Fel rheol, y mae yr hen gaerau Brytanaidd wedi eu hadeiladu ar benau y mynyddoedd, a'r eiddo y Rhufeiniaid ar wastad-diroedd neu fryniau isel.

O fewn terfynau ein testyn y mae gweddillion pedair o amddiffynfeydd, sef Yr Hen Gaer, Craig-y-dinas, Caer Moel Glanyrafon, a Dinas Dinlle. Am y gyntaf, nid yw ond gweddillion lled anmherffaith, ac yn sefyll ar fryn bychan sydd yn ymgodi yn nghanol y Nant ar lan y Llyfnwy, yn agos i bentref Llanllyfni. Gelwir y bryn yn Bryn-cae-yr-hen-gaer, ac y mae olion y gwarchgloddiau yn ymddangos yn amlwg ar y tu dwyreiniol, y rhai oeddynt unwaith yn ddiamheu yn amgylchu y bryn. Yr oedd sefyllfa y Gaer hon yn hynod o fanteisiol i wylio y dyffryn a'r fynedfa. Gerllaw y bryn y mae ffermdy a elwir Bryn-y-castell, fel y mae yr enwau yn gystal a'r olion yn cadarnau y dybiaeth fod yn y lle hwn orsaf filwrol unwaith yn perthyn i'r Rhufeiniaid.

Y nesaf o'r amddiffynfeydd hyn yw Craig-y-dinas, ychydig islaw pentref Llanllyfni, bron ar gyfer Lleuar, ar dir perthynol i'r Eithiniog Wen. Mae hon mewn cadwraeth dda, yn cynnwys amgaerau uchel o geryg a phridd. Hyd yr amgaer yw tua 350 o droedfeddi, a'r fynedfa yn 17 o droedfeddi. Mae osgoawl hyd yr amgaer dufewnol yn 30 troedfedd, a'r allanol yn 24 o du y gogledd, ac yn 120 troedfedd ar y tu deheuol. Saif Craig-y-dinas ar wastadedd; ond y tu deheuol iddi y mae craig serth, a'r afon yn amgylchu ei godrau mewn cwm dwfn. Ei ffurf sydd hirgrwn (oval), ac yn y canol, rhwng yr amgaer a'r graig neu yr afon, yr ymgyfyd bryn crwn bychan, yr hwn, fel y tybiai Dr. Mason, a allai fod yn safle twr, yr hwn oedd yn nghanol yr amddiffynfa. Mae yn ddiamheu fod hon yn orsaf bwysig mewn cysylltiad â Dinas Dinlle a Chaer Seiont.

Y drydedd amddiffynfa sydd ar ben Moel Glanyrafon, ychydig islaw Mynydd y Derwyn. Oddiar ben y Foel ceir golygfa ysblenydd ar y wlad o amgylch. Oddi dani, ar y tu gorllewinol, y gorwedda hen faeror henafol Pennardd, ac yn mlaen y gorwedd pentref tawel Celynog, wrth draed twr neu glochdy uchel cadarn Eglwys Beuno. Gellir oddiyma ddylyn cwrs brysiog y Llyfnwy, o`i tharddell yn nghesail y Clogwyn Brwnt, hyd ei hymarllwysiad i'r mor. Yma yr adeiladwyd amddiffynfa mewn lle uchel a manteisiol, o'r hon y gallesid gwylio ysgogiadau y fyddyn elynol ar hyd a lled y gwastad-dir o amgylch ogylch. Cynnwysa olion presennol yr amddiffynfa hon amgaerau priddlyd ar ffurf hirgrwn, yn mesur o ogledd i ddehau 304 o droedfeddi, ac o ddwyrain i orllewin 258 o droedfeddi. Safai yn ddolen bwysig yn y gadwyn o amddiffynfeydd Rhufeinig a redant i'r cyfeiriad deheuol o Dinas Dinlle.

Ond y benaf o'r adeiladau hyn yw Dinas Dinlle, yr hon a saif ar ben bryn gwyrddlas bychan ar lan y mor, gerllaw pentref Llandwrog. Nis gallwn gydweled â rhai ysgrifenwyr, y rhai a olygant mai celfyddydol (artificial) yw y bryn lle saif yr amddiffynfa hon, er fod pob rhan o honi, fel y sylwa Pennant, wedi ei lyfnhau gan gelfyddyd. Mae amryw fryniau cyffelyb ar hyd yr arfordir hwn, ac fe ellir barnu, oddiwrth ymddangosiad y ddaear yn y lle y mae y tonau wedi ei thori, y llinell, lle mae gwaith natur yn darfod a chelfyddyd yn dechreu. Cynnwysa yr amddiffynfa eang ac enwog hon amgaerau uchel a llydain o bridd a cheryg, y rhai a amgylchir mewn rhan gan ffos ddofn. Mae y ffurf yn hirgrwn, a mesura o'r dwyrain i'r gorllewin 480 o droedfeddi, ac o ogledd i ddehau 385 o droedfeddi. Yr oedd y "ddinas" hon yn bwynt lle cyfarfyddai dwy gadwyn amddiffynol, amryw o ba rai sydd yn weledig o ben y Dinlle. I'r dehau y mae Craig-y-dinas, Moel Glan-yr-afon, Carn-y-gewach, Carn Madryn, Carn Moel Bentyrch, Castell Gwgan, Caer Cricerth (cyn y castell), Pen-y-gaer (gerllaw Tre' Madog), Caer Collwyn, hyd arfordir Ardudwy. Ar y llinell hon y mae Tre'r Caerau, ar ben un o drumau uchel yr Eifl, yr hon yw y gadarnaf a'r oreu o ran cadwraeth o un dref na chaer Brydeinig yn Ngwynedd. I'r gogledd hefyd wele Dinas Dinoethwy, Dinas Dinorwig, Bryn-y-castrelau, Caer-careg-y-fran (gerllaw Cwmyglo), Braich y Dinas, Caer Llion, Caer Deganwy, &c. Perthynai i'r orsaf hon ar y Dinlle hefyd amryw o "dyrau gwylio," megys Dinas Dunodig, Hen Gastell, ar afon Carog, Dinas Ffranog, Dinas y Prif (yr hon a wasanaethai fel hafdy i'r prif lywodraethwr), Cae'r Ffridd, Bwlan, Bryn-y-gorseddau, lle hefyd y mae olion Derwyddol—y lleoedd hyn ydynt oll ar bwys y Dinlle, ac oeddynt yn ddiau mewn cymundeb â'r brif wersyllfa. Yr oedd ffordd Rufeinig i'r Dinas Dinlle o Gaer Segont, a elwid Sarn Helen, a'r lle mae y ffordd hon yn croesi afon y Foryd a elwir yn Rhyd-yr-equestri, a lle arall gerllaw a elwir Rhyd-y-pedestri, sef Rhyd y gwyr meirch a Rhyd y gwyr traed. Cafwyd hefyd amryw fathodau o gylch y lle hwn yn dwyn nodau yr ymherawdwyr Rhufeinig canlynol, nid amgen Gallienus, Tetricus (senior), Tetricus Cæsar, Carausius, ac Alectus.

Ar ortrai, yn neillduol ar dywydd hafaidd, gwelir murglawdd ychydig i'r gorllewin o Dinas Dinlle yn y mor, yr hwn yw gweddillion Tref Caer Arianrod. Arianrod ydoedd ferch i Gwydion ab Don, yr hwn y mae ei fedd ar Forfa Dinlle, gerllaw. Gellir casglu oddiwrth yr enw mai yn y lle hwn, yr hwn yn awr sydd yn orchuddiedig gan y mor, yr oedd tref neu etifeddiaeth Arianrod; ac, fel y sylwa Pennant, y mae "Caer" yn nglyn â'r enw yn rhoddi sail i dybied fod yno hefyd amddiffynfa, neu gaer filwrol. Amheuai y Parch. J. Jones, Periglor Llanllyfni, y traddodiad hwn yn gyfangwbl, gan dybied ei fod wedi ei sefydlu ar gamgymeriad am Dref-yr-anrheg, ar lan y Wyrfai. Modd bynag, gellir bod yn sicr fod yn y lle ryw fur neu glawdd, oblegid clywsom bersonau fuont yn ymweled â'r lle ar ortrai, yn sicrhau y gellir plymio amryw wrhydau i lawr yn syth wrth ochr y mur. Pa bryd y gorlifodd y mor dros y lle hwn y mae yn anmhosibl dyweyd dim yn benderfynol. Barna Mr. О. Williams o'r Waenfawr mai yn O.C. 331 y cymerodd hyny le, sef ar yr un llanw dychrynllyd ag a foddodd etifeddiaeth y Tyno Helyg, Morfa Rhianedd, Cantref-y-gwaelod, Caer Arianrod, &c. Ereill drachefn a dybient i hyn ddygwydd yn y seithfed ganrif; ond gan nad ydyw y naill na'r llall yn dwyn unrhyw brofion i attegu y tybiaethau hyn, nis gallwn ffurfio unrhyw ddyddiad i'r amgylchiad gydag unrhyw sicrwydd. Y mae llawer mabinogi ramantus a rhyfedd yn cael eu cysylltu â Gwydion ab Don a'i ferch Arianrod, am y rhai y bydd genym efallai air yn ychwaneg i'w ddyweyd mewn lle arall.

Nı fyddai yn briodol ini adael y gweddillion hyn o adeiladau milwrol heb ychwanegu rhai nodiadau ar eu hoed a'u gwasanaeth. Ni chyfodid amddiffynfeydd o ddull y rhai hyn gan y Normaniaid na'r Norman-Sacsoniaid diweddar, ac nid ydys yn cael fod y Daniaid na'r Sacsoniaid cyntefig wedi ymsefydlu erioed yn y parthau hyn hyd yn nod ar adeg o ryfel; gan hyny bernir yn lled sicr eu bod yn perthyn i'r Brutaniaid neu y goresgynwyr Rhufeinig. Ar y dybiaeth y gallent fod wedi eu codi i ryw raddau gan gyn-frodorion y wlad, byddai yn anmhosibl dyfalu eu hoed; ond os Rhufeinig ydynt, fel y mae mwyaf o seiliau i gredu, dichon y teifl y ffeithiau canlynol rywfaint o oleuni gwanaidd ar achlysuron eu cyfodiad. Er i Julius Cæsar a'i luoedd lanio yn Brydain tua 55 C.C., ni ddaeth y Rhufeiniaid mor bell a gwlad y Gordofigion hyd ddyddiau Claudian, yn O.C. 50. Yn y flwyddyn hono crybwylla Tacitus, hanesydd Rhufeinig, i luoedd o honynt, o dan lywyddiaeth Ostorius Scapula, oresgyn gwlad Arfon hyd y "Cancarum Promontorium," sef Braich-y-pwll, terfyn eithaf Lleyn yn Aberdaron. Ni wnaed un ymgais ar ol yr ymgyrch hon at ffurfio trefedigaeth (colony) o Arfon, oblegid bu raid i'r lluoedd buddugoliaethus ymadael yn ebrwydd. Ond yn y fl. O.C. 58 daeth Suetonius Paulinus gyda'i luedd arfog, a chan ruthro allan o fforestydd anhygyrch y Wyddfa yn erbyn iseldiroedd Arfon, a ddilynodd olion gwaedlyd Ostorius. Y Gordofigion, gan dybied y diweddai yr ymgyrch hwn fel yr un blaenorol, ni chymerasant arfau i fyny yn erbyn Suetonius, eithr dewisasant dalu treth. Ond, ys gwir diareb Seneca, "Lle mae Rhufain yn gorchfygu mae yn cyfaneddu," felly yma, yr oedd ewinedd yr eryr wedi cael eu planu yn rhy ddwfn i'w ysgwyd ymaith. Ac er i gorff y fyddin ymadael, gadawsant ar eu hol warchodlu i gadw meddiant o'r hyn a enillasant. Prif wersyll y gwarchodlu hwn, fel y tybir, oedd Caer Seion (Caerynarfon). Y Gordofigion, wedi gweled hyn, ac nad oedd o'u blaen ond darostyngiad cenedlaethol, a ruthrasant ar y gwarchodlu Rhufeinig; a chan mor ddisymwth y gwnaed hyn, yn nghydag amlder yr ymosodwyr, lladdwyd y gwarchodlu heb adael cymaint ag un yn fyw—gweithred herfeiddiol a gostiodd yn ddrud i'r Gordofigion oedd hon; canys yn mhen ychydig ar ol y gyflafan hono dychwelodd llengoedd Rhufeinig o dan lywyddiaeth y galluog Julius Agricola, a chan gyhoeddi rhyfel anghymmodlawn yn erbyn y Gordofigion, a lwyddasant i'r fath raddau nes dileu y llwyth hwnw bron oddiar wyneb y ddaear.

Ein hamcan yn coffau yr amgylchiadau hyn yw rhoddi byr olwg ar y pethau a arweiniant i gyfodi, neu o leiaf i ailadeiladu, yr amddiffynfeydd hyn; oblegid yn ystod y rhuthrgyrchoedd hyn yr adeiladodd Suetonus ac Agricola orsafoedd milwrol yn mhob rhan o Arfon. Am Agricola, sylwa Carnhuanawc "iddo sefydlu caerau trwy y wlad gyda chymaint o fedrusrwydd na allai yr un cwr ddianc yn ddianafedig." Dyma, fel y tybiwn, ddechreuad goruchwyliaeth Rhufain dros y rhan hon o Wynedd. Gallasem gyfeirio y darllenydd at luaws o fanau yn amgylchoedd Caer Seiont, lle yr adeil adwyd gorsafoedd milwrol, a lle y cloddiwyd, o bryd bryd, wmbredd o weddillion cyrff dynion: ond wrth ddilyn y rhai hyn byddai raid ini fyned i grwydro dros derfynau ein testyn i diroedd gwaharddedig.

Am wasanaeth yr amddiffynfeydd digon yw crybwyll eu bod, fel y mae eu henwau yn arwyddo, yn cael eu codi er diogelwch rhag ymosodiadau tramoriaid. Ni fwriedid iddynt fod yn drigleoedd parhaus; oblegid, gydag ychydig eithriadau, y maent yn amddifaid o gyfleusderau i gael dwfr. Cesglid y merched a'r plant a'r cyfoeth i'r lleoedd hyn o dan aden gwarchodlu, tra y byddai y dynion yn cymeryd y maes yn erbyn y gelynion. Ni pherthyn i'r adeiladau hyn unrhyw ffurf bennodol, gan eu bod bob amser yn cymeryd y ffurf hono a ymgymodai oreu â'r uchelfan lle yr adeiledid hwy. O ddyddiau y Rhufeiniaid, os nad yn gynt, hyd yr ymdrech olaf a wnaeth ein gwlad i adenill ei hanibyniaeth, y mae yr adeiladau hyn wedi cael eu defnyddio mewn ymdrechiadau gwaedlyd, a bydd dadleniad rhyfedd o'u hanes y dydd hwnw pan "ddatguddia'r ddaear ei gwaed, ac na chela mwyach ei lladdedigion."

Ni a ddygwn y bennod hon i derfyniad gyda chrybwylliad byr am y gweddillion a elwir Cyttiau'r Gwyddelod"—adeiladau crynion, gan mwyaf, yn mesur tua chwech neu wyth llath o drawsfesur, a'u muriau yn gyffredin tua phedair troedfedd o drwch. Ar wastad-dir bychan yn nhroed y Mynyddfawr, yn Drws-y-coed, gellir gweled nifer mawr o'r olion hyn, y rhai a amgylchid gan fur llydan. Yr oedd nifer mawr o honynt gynt yn nhir y Pant-du, gerllaw Penygroes, o'r lle y cariwyd cannoedd o lwythi er adeiladu tai yn Mhenygroes a'r amgylchoedd. Nid yw llawer o'r tai prydferth a breswylir genym yn awr ond "Cyttiau'r Gwyddelod" wedi eu had-drefnu! Paham y gelwir hwy ar yr enw hwn, byddai yn anhawdd penderfynu. Rhai a dybiart mai Gwyddeli, ereill mae Gwyrhela neu Gwyrhelod, oddiwrth y ffaith fod y trigolion pan yn byw ynddynt yn ymgynnal gan mwyaf ar helwriaeth. Ond y dyb fwyaf cyffredin yw mai Gwyddelod yw priodol ffurf yr enw, ac mai y Gwyddyl Ffichti, fel eu gelwir, a ddygodd y math yma o adeiladau i arferiad yn mysg y Cymru; oblegid goresgyniad y rhan hon o Wynedd yn dra mynych gan y giwed anghyweithas hono. Ceir adfeilion y cytiau hyn yn lluosog ar hyd yr ucheldiroedd; ac wrth eu chwalu cynnwysant yn gyffredin swm mawr o ludw. Nid oedd yn perthyn iddynt unrhyw ffenestr, ond ceid goleuni i mewn drwy y drws a thrwy dwll yn mhen uchaf yr adeilad, trwy yr hwn yr esgynai y mwg i fyny, ac y diangai ychydig o oleuni i waered. Cynheuid y tân ar ganol y llawr, o amgylch yr hwn y gorweddai y teulu y nos, heb ganddynt ond y dillad a wisgid ganddynt y dydd yn daenedig drostynt y nos. Crwyn anifeiliaid oedd eu gwisgoedd cyntefig, ac y mae Julius Cæsar yn eu cyhuddo o "redeg yn noethion." Yn mhen amser daethant yn alluog i wneyd math o frethyn bras, yn yr hwn yr ymwisgent y dydd ac yr ymgynhesent y nos. Yn y bwthynod bychain anghysurus hyn y cwrcydai hen gewri Cymreig ein mynyddoedd; ond gymaint y mae cysuron bywyd wedi eu hychwanegu erbyn heddyw! Y fath dawelwch sydd wedi teyrnasu dros fynyddoedd Cymru er amser yr ymuniad, fel y byddwn yn gallu dygymod i raddau â dymchweliad ein hannibyniaeth, fel, yn lle bod ymrysonau gwaedlyd a pharhaus rhwng gwahanol lwythau brodorol, a rhwng mân dywysogion, y mae Cymru fechan yn cael ymgysgodi rhag ymosodiadau estronol er pan yr impiwyd hi yn un â'r cyff mawr Sacsonaidd.

PENNOD II.
Parhad Hynafiaethau.
LLANLLYFNI.

Yn y bennod ganlynol ymdrechwn osod o flaen y darllenydd ychydig o grybwyllion am y lleoedd hynaf a hynotaf fel lleoedd addoliad crefyddol. Pa bryd y diflanodd Derwyddiaeth o'r wlad yma, ac y gwelwyd y Derwydd gyda'i farf wenllaes yn gweinyddu wrth allorau y Cilgwyn, yr esgynodd y fflam ddiweddaf oddiar allor Pennardd, neu y sychodd cwpanau gwaedlyd Cromlech Bachwen, nid i gael eu llenwi mwyach gan waed ebyrth, nis gallwn benderfynu, nag ychwaith fyned i mewn i'r amgylchiadau allent ein cynnorthwyo i gasglu; digon yw crybwyll fod genym seiliau cryfion i gasglu fod Cristionogaeth wedi blodeuo yn ardal Llanllyfni mor foreu a'r bedwaredd ganrif. Gwyddom i eglwysi Cristionogol gael eu sefydlu, a'u bod yn flodeuog iawn o dan lywodraeth Cystenyn. Yr had a hauwyd yn yr erlidigaeth blaenorol, ac a ddyfrhawyd â gwaed y merthyron o dan Rufain baganaidd a wreiddiodd ac a ddygodd ffrwyth toreithiog. Ac yn mysg ereill, cafodd y wlad hon fwynhau o'r tawelwch a'r adfywiad yn amser Cystenyn. Cynheuwyd lamp yn Llanllyfni na ddiffoddwyd eto, er iddo ymgolli o'n golwg ni yn nghanol niwl a thywyllwch y canol-oesoedd; ac y mae yn ddilys genym mae dyma y lle cyntaf o fewn terfynau ein testyn a fendithiwyd â "thy i Dduw," ac ar y cyfrif hwn y mae Eglwys Llanllyfni yn haeddu ein sylw blaenaf.

Mae Eglwys Llanllyfni wedi ei chysegru i Sant Rhedyw, neu Rhedicus, yr hwn a flodeuodd tua'r flwyddyn O.C. 316. Am y sant hwn dywed y Dr. W. O. Pugh nad oes dim o'i hanes ar gael; ond os oes rhyw bwys i'w roddi ar adroddiadau, y mae y rhai hyn yn rhoddi lle cryf i gasglu mai brodor o Arfon ydoedd, neu mai efe a blanodd eglwys Gristionogol gyntaf yn Llanllyfni. Ar un cyfnod o'i oes ceir ei fod yn llenwi lle uchel yn yr eglwys yn Augustodunum (Autwn) yn nhir Gâl (Ffrainc). Mae ei enw yn adnabyddus fel ysgrifenydd o gryn enwogrwydd, oblegid cymerodd ran neillduol yn nadl heresi Arius o Alexandria, yn nechreu y bedwerydd ganrif. Yr oedd yr eglwys yn Gâl yn blodeuo y pryd hyn o dan nawdd Constantius, gwr Helena, a thad Cystenyn Fawr. Heblaw fod yr eglwys bresennol yn gysegredig i'r sant hwn, y mae gerllaw yr eglwys ffynon neillduol a elwir Ffynon Rhedyw, a thyddyn hefyd a elwir Tyddyn Rhedyw. Ac heb fod neppell o'r lle yma, y mae lle arall a elwir Eisteddfa Rhedyw, lle y dywedir fod y sant yn byw am ryw gymaint o amser.

Yno dangosir gweddillion ei gadair, a phethau ereill perthynol iddo. Dangosir hefyd ôl traed ei geffyl, yn nghydag ôl ei fawd yntau ar gareg. Efe hefyd oedd tad Garmon, neu Germanus, arwr brwydr enwog Maes Gaermon, i'r hwn y mae amryw o eglwysydd yn Nghymru wedi eu cysegru i'w goffadwriaeth. Yr oedd yn Eglwys Llanllyfni er's llawer o flynyddau yn ol fedd neillduol tu cefn i'r allor, tua dwy droedfedd yn uwch na'r llawr, a elwid Bedd Rhedyw; ond ar adgyweiriad yr eglwys gostyngwyd ef, ac y mae y maen oedd yn ei orchuddio wedi ei guddio yn awr gan yr eisteddleoedd, o flaen y ddarllenfa, yn nghorff yr eglwys.

Y mae un ran o'r eglwys hon o ymddangosiad pur henafol, ac ymddengys oddiwrth y dyddiad a gafwyd uwchben ffenestr ddwyreiniol y Gangell ei bod wedi ei helaethu i'w maint presennol yn y flwyddyn 1032; ond y mae y rhan arall ohoni yn hyn o lawer, ac o bosibl yr adeilad hynaf yn y wlad. Ar dalcen yr eglwys, o'r tu allan, yr oedd delw o Sant Rhedyw, yr hwn a berchid yn fawr gan yr addolwyr. Gyferbyn a'r ddelw yr oedd camfa, y ffordd y deuid i'r fynwent, ac ar ben y gamfa hon yr oedd careg wedi ei chafnio gan ôl gliniau yr addolwyr a ddeuent i'r gwasanaeth, oblegid ymgrymai pob un â'i lin ar y gareg hon o flaen delw y sant cyn myned i mewn i'w eglwys i addoli. Gellir gweled y gareg hon yn aros yn mur y fynwent, a llech uwch ei phen, a'r ymadrodd hwn yn gerfiedig arni:—" Y gareg a lefa o'r mur;" a buom yn ofalus i osod ein glin yn ol gliniau yr hen addolwyr o barch i'w defosiwn, er nad oes ar y pryd hwn unrhyw ddelw o'r nawdd-sant yn aros. Gwerth y fywioliaeth yn llyfrau y brenin yw £7 17s. 6d., gyda chynnysgaeth freninol o £200. Noddwr, Esgob Bangor.

CLYNNOG FAWR.

Y mae yr eglwys henafol ac ardderchog hon wedi ei chysegru i Sant Beuno, yr hwn oedd fab i Huwgi ab Gwynlliw Filwr, o'i wraig Penfferen, merch Llewddyn Lüyddog, o ddinas Eiddin (Edinburgh). Sylfaenold Beuno fangor neu fynachlog yma tua'r flwyddyn O.C. 616, ar dir a roddwyd iddo gan Gwyddeint, cefnder y brenin Cadwallon. Am yr amgylchiadau a arweiniasant i sylfaeniad y fangor, neu Eglwys St. Beuno, dichon mai priodol fyddai i ni adysgrifio y traddodiad yn eu cylch, yr hon sydd fel y canlyn:

"Ond y gŵr, penaf yn y ffydd oedd Cadfan, brenin Gwynedd, yr hwn a roes i Beuno lawer o dir. Ac wedi marw Cadfan aeth Beuno i ymweled â Chadwallon ei fab, yr hwn a'i dilynodd fel brenin Gwynedd. A deisyfodd Beuno gael y tir a addawsai Cadfan, oherwydd nad oedd ganddo yno le i addoli Duw, nac i breswylio ynddo. Yna y brenin a roddes i Beuno le yn Arfon a elwid Gwaredog, a'r sant a roddes i'r brenin deyrnwialen aur, yr hon a roisai Cynan ab Brochwel iddo ef wrth farw; a'r deyrnwialen oedd yn werth triugain muwch; ac yna Beuno a adeiladodd eglwys, ac a ddechreuodd wneyd mur o'i hamgylch; ac ar ddydd gwaith, pan oedd efe yn gwneyd y mur hwn, a'i ddisgyblion gydag ef, daeth atynt wraig a baban yn ei breichiau, gan erfyn ar y sant ei fendithio, ac yr oedd y plentyn yn wylo, ac ni chymerai ei dawelu. Yna gofynodd Beuno, 'Paham y mae y plentyn yn wylo?" 'Sant da,' ebai y wraig, rheswm da paham, canys y tir hwn wyt ti yn ei feddiannu, ac yn adeiladu arno, treftadaeth y plentyn hwn ydyw. Beuno, pan glywodd, a orchymynodd i'w ddysgyblion dynu eu dwylaw o'r gwaith, a pharotoi cerbyd iddo, fel y gallai gymeryd y wraig a'i baban o flaen y brenin i Gaer Saint; a phan gyrhaeddasant at y brenin, llefarodd Beuno wrth y brenin, gan ddywedyd, 'Paham y rhoddaist i ni dir gŵr arall?" "Pwy," ebai y brenin, 'sydd yn meddu hawl iddo?" Ebai Beuno wrth yntau, "y plentyn sydd yn mreichiau y wraig hon yw etifedd y tir; ac ychwanegai, 'Dyro i'r plentyn ei dir, a dyro i mi dir arall yn ei le, neu dyro i mi yn ol y deyrnwialen aur a roddaist i ti. Ond y brenin balch a gorthrymus a atebodd, 'Ni newidiaf y tir, ac am yr anrheg a roddaist i mi, myfi a'i rhoddais i arall." A Beuno a ddigiodd yn fawr, ac a ddywedodd wrth y brenin, "Mi a weddiaf ar Dduw na byddo genyt ti yn mhen ychydig dir yn y byd; ac aeth Beuno ymaith gan adael y brenin yn felldigedig. Yn awr, yr oedd yn bresennol ar y pryd gefnder i'r brenin Cadwallon a elwid Gwyddeint, yr hwn a ganlynodd ar ol y sant, ac a'i goddiweddodd ef ar y tu arall i afon Saint yn eistedd ar gareg. A Gwyddeint a roddes i Beuno dros ei enaid ei hun, a'r eiddo ei gefnder Cadwallon, dreflan Celynog am byth, heb na moel nac ardreth, ac a wnaeth hawl iddo ar y tir; ac yno yr adeiladodd Beuno ei fangor neu ei Eglwys."

"Bangor Beuno" a ddarlunir yn achau saint Ynys Prydain fel y glodforusaf o'r holl fangorau am ddwyfoldeb a gwybodau; ac wedi hyny y gwnaethpwyd hi yn fynachlog, a chafodd ei gwaddoli o bryd i bryd gan dywysogion Gwynedd. Yn ychwanegol at dref Celynog a roddwyd gan Gwyddeint, rhoddwyd Graianog gan y brenin Cadwaladr; Porthamel, gan Tegwared; Carn y Gewach, gan Merfyn; Bodweiliog a Bodfel yn Lleyn, Cadwgan ab Cynfelyn; Deneio, gan Rodri ab Merfyn; rhanau o Neigwl a Maestref, gan Gruffydd ab Tangwyn; Penrhos a Chlynnog Fechan, gan Idwal; a lluaws ereill o diroedd a gyfranwyd iddi gan y tywysogion, o ddyddiau Cadwallon hyd Gruffydd ab Llewelyn. Yn mhen ysbaid wedi i'r Eglwys gael ei gwneyd yn fynachlog, ymsefydlodd urdd y Carmeliaid, neu y Mynachod Gwynion yma; ond gwasgarwyd hwy rywbryd yn flaenorol i'r flwyddyn 1291. Bu yr Eglwys ar ol hyny yn Golegol, yn gynnwysedig o bump o brebenduriaid hyd amser Harri yr 8fed, pan y rhoddwyd y berigloriaeth i benaeth Coleg yr Iesu yn Rhydychain, a'r ficeriaeth i nawdd Esgob Bangor. Gwerth y berigloriaeth yn llyfrau y brenin yw £24, a'r ficeriaeth yn £6; ond y mae y flaenaf yn bresennol uwchlaw £900, a'r olaf dros £200.

Bernir i'r Eglwys bresennol gael ei hadeiladu tuag amser Edward y 4ydd, neu Harri y 7fed. Ei ffurf sydd ar lun croes, ac yn harddwych a chadarn ei hadeiladwaith. Mesura o hyd, o ddwyrain i orllewin, 138 o droedfeddi. Ei nen sydd doedig a phlwm, ac yn cael ei amgylchu â mur-ganllawiau. Y brif ffenestr yn y pen dwyreiniol oedd o amddangosiad gwych, yn cynnwys amrywiol ddarluniau mewn gwydr lliwiedig. Yn y pen gorllewinol ymgyfyd twr ysgwar, yn 75 troedfedd o uchder. Ar y muriau, yn neillduol tu fewn i'r gangell, y mae amryw o gof feini heirdd. O amgylch y gangell, ar gyfer yr allor, y mae 14 o hen eisteddleoedd mynachaidd, a llun gwyneb mynach wedi ei gerfio ar du blaen yr astell sydd rhwng pob eisteddle. Yn y mur, ar y tu dehau i'r allor y mae y noe yr hon a ddaliai y dwfr sanctaidd, a cherllaw iddi dri o dyllau addurnedig yn y mur, yn y rhai yr eisteddai yr offeiriaid gweinyddol. Yr oedd gynt, rhwng corff yr eglwys a'r gangell, lofft yn cael ei chynnal gan golofnau addurnol a rhwydwaith fwaog, yr hon, modd bynag, erbyn hyn sydd wedi ei thynu ymaith. Addurnir y muriau gan amryw gofddalenau caboledig, ac y mae yr oll yn gwasanaethu er gwneyd yr adeilad hon yn un o'r temlau helaethaf a godidocaf yn y Dywysogaeth.

Wrth ystlys ddeheuol yr eglwys y mae Capel Beuno, neu Eglwys y Bedd. Y mae yr adeilad yma yn cael ei gysylltu â'r eglwys gan fynedfa dywell tua phum' llath o hyd, yn doedig a cheryg mawrion, ac o ymddangosiad llawer henach na'r eglwys na'r capel. Ymddengys mai yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol yr eglwys yr adeiladwyd y capel:— oblegid y mae Leland, with son am yr eglwys, yr hon oedd bron yn newydd yn ei amser ef, yn cyfeirio at yr hen eglwys adfeiliedig yn yr hon y gorweddai llwch y nawdd sant enwog. Yr oedd yn weledig yn nechreu y ganrif hon feddfaen mawr yn nghanol y capel, a elwid Bedd Beuno; ond tua yr adeg hono darfu i Arglwydd Newborough osod dynion ar waith i gloddio iddo, mewn gobaith dyfod o hyd i esgyrn y sant a rhyw greiriau cysegredig ereill. Drylliwyd y maen oedd arno i ryw raddau; ac y mae golygydd 'Cyff Beuno' yn crybwyll iddo ef weled rhanau o'r hen faen gan ryw grydd o'r pentref yn galan hogi! Yr oedd ffenestr fawr Capel Beuno yn addurnedig ar y cyntaf gan amrywiol ddarluniau o'r pethau hynottaf a gymerasant le yn mywyd y sant; yn awr, modd bynag, gwydr cyffredin sydd yno.

Ychydig i'r gorllewin y mae Ffynon Beuno, yr hon sydd wedi ei hamgylchu â mur pedair onglog, uwchlaw dwy lath o uchder. Amgylchir hi hefyd gan eisteddleoedd a grisiau, ond yn awr y mae y muriau yn adfeiliedig. Yn y ffynnon hon arferid trochi babanod, ac ereill ag y byddai rhyw nychdod neu afiechyd arnynt, ac wedi hyny gosodid hwy i orwedd dros nos ar fedd-faen Beuno yn ei gapel; oblegid yr oedd y werin gynt yn ddigon ofergoelus i gredu fod rhyw fath o gyfaredd yn perthyn i'r bedd, fel yr iachai pob clefyd wrth i'r dyoddefydd gael ei ddwyn i gyffyrddiad fel hyn âg ef. Y cyfryw oedd eu cred mewn arferiad ag a ystyrid yn awr yn ddigonol achos o drancedigaeth. O'r ffynnon hon y mae trigolion presennol pentref Clynnog yn cael dwfr i'w yfed, ac y mae o'r ansawdd iachusaf a phuraf.

Yn y festri berthynol i'r eglwys hon cedwir hen ddodrefnyn rhyfedd a elwir Cyff Beuno. Cist ydyw, wedi ei gwneyd o un darn o bren, a'i gafnio oddimewn, a rhan ei arwyneb wedi ei lifio allan i fod yn gauad arno. Y mae clasbiau cryfion o haiarn am y gwyneb a'r ochrau, a bollt o haiarn yn rhedeg trwy dair o hespenau, ar y rhai y mae tri o gloiau, a'r agoriadau a gedwid gan yr offeiriad a'r ddau Warden, ac ni ellid ei hagor heb fod y tri yn bresennol. I'r hen gist hon y bwrid rhoddion gwirfoddol y bobl, y rhai a ddefnyddid at wasanaeth crefydd, ac i'w cyfranu yn mhlith y rhai mwyaf anghenus. Agorwyd y cyff hwn yn mis Rhagfyr, 1688; a chafwyd ynddo, mewn gwahanol fathiadau, y swm o £15 8s. 3c. Agorwyd ef y tro diweddaf trwy orchymyn Deon Bangor, a chafwyd ynddo benadur ac amryw ddarnau llai. Y tro hwn bu raid galw gwasanaeth gof i dori yr hesbenau, gan fod yr agoriadau wedi myned ar goll ac heb eu hadferyd. Bu yr hen arch yma yn cael ei gadw yn y gangell, lle yr offrymid rhoddion ynddo; ond y mae yn awr yn ddiddefnydd ond fel crair hynafol yn unig. Nid yw gwerin Clynnog mwyach yn credu yn nghyfaredd y cyff, na'r bedd ychwaith; ond achwynai ysgrifenydd yn chwerw mewn erthygl yn yr 'Arch. Camb.' na fuasai pobl Clynnog yn dangos mwy o barch i'w hynafiaeth, trwy ei symud o'r festri i'r lle y gellir ei weled, heb gymeryd y drafferth o'i lusgo o'i sefyllfa laith i oleuni, yr hyn nid yw yn bleserus i neb, nac yn fanteisiol i'r hen gyff ei hunan. Yr oedd gan y werin yma ddiareb, wedi ei sylfaenu ar gadernid yr hen gist hon, canys pan gynnygid at rywbeth anhawdd neu anmhosibl, dywedid, "Byddai cystal i chwi geisio tori Cyff Beuno."

Ni fyddai yn briodol ini adael yr eglwys hon heb grybwyll am "Tiboeth," neu "Dibeeth," sef hen lyfr mewn llawysgrifen a gedwid yn yr eglwys hon. Cynnwysai hanes eglwysig tra henafol, yn benaf, fe ddichon, mewn cysylltiad â'r sefydliad hwn ei hunan. Galwyd ef "Diboeth" am iddo gael ei ddiogelu rhag llosgi, er i'r eglwys losgi fwy nag unwaith. Yr oedd cloriau haiarn am dano, ac felly mae yn debyg y diogelwyd ef rhag llosgi. Gwelwyd y llyfr hwn gan Dr. Thomas Williams o Drefriw yn 1594; ar ol hyny ni chlybuwyd dim am dano; ond tybiwyd unwaith i Iolo Morganwg ddyfod o hyd iddo, yr hyn mae yn ddiau oedd gamgymeriad, pe amgen buasai rhyw gyfeiriad ato yn ei lawysgrifau, a'i gynnwysiad wedi ei gyhoeddi. Cyfrifir fod mynwent Clynnog yn filldir o amgylchedd. Y mae yn tyfu ynddi luaws o goed cedyrn, hynafol, goruwch brigau y rhai, modd bynag, y mae clochdy yr eglwys yn ymddyrchafu er eu gwaethaf. Y mae yma le tawel, neillduedig, fel gorphwysfa meirwon; ac O! y fath dorf sydd wedi eu cludo yma er dyddiau y sylfaenydd enwog Beuno, hyd ddyddiau Eben Vardd, pa rai oeddynt ill deuoedd yn teimlo serch ac ymlyniad angherddol at y llanerch neillduedig, a phob peth oedd yn dal cysylltiad ag addoliad o'r Gwir Dduw o fewn y deml henafol a pharchedig. Y mae hyd yn nod pen llwydni a dadfeiliad hen sefydliadau fel hyn yn hawlio iddynt ein parch a'n hedmygedd penaf.

BETTWS GWERNRHIW.

Yn agos i borthordy Glynllifon y mae adfeilion eglwys fechan a elwir Bettws Gwernrhiw, eto yn weledig. Nid ydym yn gwybod mwy am hanes yr eglwys yma nag a ellir ei gasglu oddiwrth yr enw. Nid yw hynafiaethwyr, mae yn wir, yn cytuno am ystyr a tharddiad yr enw "Bettws." Deillia, medd rhai, o'r Saesneg, Bead House (Ty Gweddi). Ereill a dybiant mai gair Cymraeg am lawrbant, neu le isel rhwng dau fryn, ydyw. A'r mwyafrif fe ddichon a'i holrheiniant i Ys-bwyd-ty, sef y gair Cymraeg am Hospitium neu Hospital; ond cytunant oll i olrhain sefydliad yr eglwysydd a elwir Bettws i gyfnod y "Crwysgadau" neu Ryfeloedd y Groes. Daeth i'r wlad hon urdd fynachaidd o'r enw "Knight Hospittalus" yn amser y rhyfeloedd uchod, a dybenion blaenaf yr urdd hon oedd noddi y rhyfelwyr neu y pererinion ar eu mynediad neu eu dychweliad o'r Tir Sanctaidd.

Yn amser Hari yr 2il a Richard y laf ffurfiwyd cymdeithas a elwid "Cymdeithas Marchogion Ioan o Gaersalem," amcan proffesedig yr hon oedd ymgeleddu a chynnorthwyo y pererinion a ymwelent â'r Tir Sanctaidd. Ac mewn cysylltiad â'r amcan hwn codasant ar hyd y wlad amryw ysbytai ac addysgdai ar ddull eglwysydd, lle cyfrenid addysg ysbrydol, o dan lumanau y gwananol urddau; ac fe fernir yn gyffredinol fod yr eglwysydd a gyfenwir Ysbwyd-ti, neu Bettws, yn perthyn i'r cyfnod hwn, ac wedi eu sylfaenu gan y gymdeithas hono, o ba rai y mae Bettws Gwernrhiw, gerllaw Glynllifon, yn un. Ymddengys y gair Bettws gyntaf yn amser trethiad y bywiolaethau drwy orchymyn y Pab Nicolas, tua'r flwyddyn 1292. Yr oedd yr yspytwyr yn arfer gwisgo hugan neu wisg wen, gyda chroes goch ar ei chefn a'i gwyneb. Tybir i eglwys y Bettws Gwernrhiw gael ei defnyddio fel capel teuluaidd perthynol i deulu y Wynniaid o'r Glynllifon. Gelwir y lle weithiau yn Ysbyty y Plas Newydd, am yr hwn y ceir y crybwylliad canlynol yn y 'Brython' am 1861:—" Thomas Wynn, ab Thomas Wynn, ab Syr Ricy Person Gwyn, ab Robert ab Robyn, ab Meredydd. Bu y Person Gwyn yn Abad Aberconwy, ac yn ei amser ef y troes y ffydd ac y colles ef ei le ac a briododd."

CAPEL LLEUAR.

Yr oedd hyd yn ddiweddar adfeilion eglwys neu gapel teuluaidd ar dir Lleuar a elwid yn Capel Lleuar. Safai ar lechwedd-dir uwchlaw yr afon mewn cae a elwir Cae-y-capel. Bu yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â theulu Lleuar, ac yr oedd degwm yr etifeddiaeth yn cael ei gyflwyno at ddwyn traul y gwasanaeth ynddi. Deallwn i ymgais gael ei wneyd yn ddiweddar gan ficer Clynnog am gael y degwm at wasanaeth eglwys y plwyf; ond trwy ymyriad y perchenog, yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough, ni lwyddwyd i'w gael, o ba herwydd y mae y ddwy fferam a elwir Lleuar Fawr a Lleuar Bach yn rhydd oddiwrtho.

Y rhai a enwyd ydynt yr oll o'r eglwysydd o fewn terfynau ein testyn, y rhai a haeddant sylw neillduol ar gyfrif eu hynafiaeth. Ond cyn gadael y pwnc hwn, efallai y byddai yn briodol ini grybwyll am yr elusenau a roddwyd at wahanol achosion mewn cysylltiad â'r eglwysydd hyn. Mewn adroddiad a anfonwyd i'r Senedd yn 1786, mynegid fod Jonathan Edwards, D.D., wedi gadael £10, a'r Parah. Philip Twisleton £20 i'w rhanu i dlodion plwyf Clynnog. Ac yn ol cofnodiad yn llyfr y plwyf, ymddengys fod yr arian wedi eu rhoddi allan ar log i George Twisleton, Ysw., dan ammod ysgrif, dyddiedig Mai 4ydd, 1716, yr hon ysgrif a ddodwyd yn nghadwraeth y Parch. Edmund Price, ficer Clynnog, ac a aeth ar goll, fel nad oes mwyach ddim o'i hanes ar gael, a'r tlodion wedi eu hymddifadu o bob budd oddiwrthi.

Yn ei ewyllys dyddiedig yn y flwyddyn 1820, gadawodd David Ellis Nanney, Ysw., y swm o £30 i ficer Clynnog a'i olynwyr, fel y gallent eu rhoddi allan ar log, yr hwn oedd i gael ei ranu rhwng y tlodion mwyaf haeddiannol perthynol i'r plwyf uchod ar Ddydd Gwyl Domos bob blwyddyn. Y swm hwn a dalwyd i'r ficer, ac yntau a'u rhoddes dan amodrwym i blwyfolion Clynnag am log o 30s., yr hyn a renir gan y ficer bob blwyddyn mewn symiau bychan o 6c. ac uchod, yn ol trefniad yr ewyllys.

Mewn tir-lyfr perthynol i blwyf Llanllyfni y mae cofnodiad, dyddiedig yn 1776, yn rhoi ar ddeall ddarfod i un Richard Evans adael 10s. yn y flwyddyn i dlodion y plwyf yma. Yr arian a ddeillient oddiwrth dyddyn a elwid y Felin Geryg; ac yr oeddynt i gael eu rhanu ar yr 21ain o Ragfyr, gan y person a'r wardeniaid. Deallwn fod y tlodion wedi cael eu hysbeilio o'r elusen hon eto, gan na chawsant eu rhanu bellach er's amryw flynyddoedd. Daeth y tyddyn yn ddiweddar i feddiant Mr. Owen Rogers, Talysarn; ond nid ydym yn gwybod a ydyw yr awdurdod sydd yn trosgwlyddo yr arian i'r tlodion wedi ei ymddiried i'w ofal. Os ydynt nid oes ynom unrhyw amheuasth na fydd i'r boneddwr uchod gyflawni y rhan yma o ewyllys. y gwladgarwr ffyddlawn Richard Evans, trwy adferyd y 10s. blynyddol i dlodion y plwyf.

PENNOD III.
Parhad Hynafiaethau.

Yn y bennod ganlynol bwriadwn ymweled â'r trigfanau mwyaf hynafol, mewn cysylltiad â pha rai y cawn fantais i osod gerbron y darllenydd grybwyllion am y personau enwocaf a fu yn trigiannu ynddynt. Nid ydym yn proffesu rhoddi hanes cyflawn; nid yw ein defnyddiau na'n gofod yn caniatau unrhyw ymgais at hyny, dim ond yn unig roddi ychydig grybwyllion am y pethau mwyaf neillduol mewn cysylltiad â hwy.

BALADEULYN.

Y mae amryw ystyriaethau yn peri i ni gyfeirio yn flaenaf at y "Baladeulyn." Dywedir mai ystyr Bala yw ymestyniad allan, neu ymarllwysiad, ac felly y mae yn hollol ddesgrifiadol o'r lle hwn. Wrth yr enw hwn yr adnabyddir y gwddf-dir çul sydd yn gwasgaru y ddau lyn oddiwrth eu gilydd, trwy yr hwn y mae y naill yn arllwys ei ddyfroedd i'r llall. Oddiar y gwddf-dir yma ceir golwg fanteisiol ar y nant, yn neillduol i'r cyfeiriad dwyreiniol. Dyma y llecyn a ddewisodd Wilson, yr arlunydd enwog, i dynu ei ddarlun o'r Wyddfa—y cywiraf a'r ardderchocaf, o bosibl, a dynwyd eto o "frenines y mynyddoedd." Ceir seilau i dybied fod y llain yma o dir rhwng y Baladeulyn a Ffridd y Bala wedi eu diwyllio i raddau yn gynar, yn flaenorol i unrhyw le arall o fewn y dyffryn. Ymddengys oddiwrth yr awdurdodau a ddyfynir gan Syr John Wynne, yn ei "History of the Gwydir Family," fod y lle hwn yn meddiant y tywysogion Cymreig, o leiaf, er amser Owain Gwynedd, tua'r flwyddyn 1137, a'u bod wedi adeiladu palas neu lys yma, yn yr hwn y preswylient yn achlysurol. Yr oedd y tywysogion Cymreig yn hoff iawn o hela, ac yr oedd Fforestydd Breninol y Wyddfa yn rhoddi mantais neillduol iddynt er boddhau y dueddfryd hono; ac yn ychwanegol at eu teitlau ereill, gelwid tywysogion Gwynedd yn "Arglwyddi y Wyddfa." Gan fod amgylchoedd godrau y Wyddfa fel hyn yn perthyn i'r Goron, nid oedd caniatâd i neb hela ynddynt heb drwydded oddiwrth y brenin neu y tywysog. Crybwylla Pennant iddo weled amryw o'r trwyddedau hyn, dyddiedig o'r flwyddyn 1552 hyd 1561. Crybwyllir mewn barddoniaeth o waith "Morys Dwyfach" am wyth o foneddigion o Leyn a anfonwyd yn garcharorion i Lundain am hela yn y coedwigoedd breninol he drwydded.

Yn misoedd yr haf byddai y tywysogion yn cymeryd cylchdeithiau helwriaethol, ac yr oedd y gyfraith dan Hywel Dda yn darparu ar gyfer traul y tywysog, ei gymdeithion, ei feirch, a'i gŵn. Ac yn ystod y cylchdeithiau hyn yr oedd y llys yn symudol, ac yr oedd ganddynt amryw balasau yn amgylchedd y Wyddfa, lle trigent yn achlysurol, ac y cynnelid y llys, megys "Llys Llewelyn," yn Aber-garth-gelyn; "Llys Dinorwig," yn Nant Padarn; a'r "Baladeulyn," yn Nant Nantlle. Yn flaenorol i'r flwyddyn 1626, yr oedd y dyffrynoedd hyn yn llochesau bleiddiaid, ceirw gwylltion, a llwynogod, y rhai a barent flinder ac annhraith tost ar y tiroedd diwylliedig a'r ffrwythydd cyfagos. Ar orchfygiad Llewelyn aeth holl diroedd, breintiau, a llysoedd y tywysogion yn ysbail i Coron Lloegr.

Yn ngwanwyn y flwyddyn 1283, yn ol y Parch. J. Jones, person Llanllyfni (o ysgrifau yr hwn yr ydym yn rhwym o wneyd defnydd helaeth mewn cysylltiad â'r lle yma), anrhydeddwyd y Baladeulyn âg ymweliad breninol o eiddo gorchfygwr Cymru, Iorwerth y Cyntaf. Yn y flwyddyn hono (1284 medd rhai), cymerodd Iorwerth daith fuddugoliaethus o Gastell Rhuddlan, trwy Gaerynarfon; Nant Nantlle, Eifionydd, ac i Nefyn, lle cynnaliwyd gwledd fawreddog i goffâu am lwyr orchfygiad y galluoedd Cymreig. Ar ol gadael Caerynarfon ar y daith hon ymddengys iddo osod ei babell i lawr, a gorphwyso mewn lle a elwir ganddo yn Nanardarchlen. "Feste me ipso apud nenardarchlen." Rhoddwyd yr enw "Nant y Dywarchllyn" i'r lle hwn, tua chan' mlynedd cyn hyn, gan Giraldus Cambrensis, pan oedd ar ei daith yn nghwmni Baldwin, Archesgob Caergaint, yn pregethu Rhyfeloedd y Groes, gan annog ein cydwladwyr i ymarfogi er amddiffyn y Tir Sanctaidd. Crybwylla Roscoe fod unigrwydd rhamantus y lle hwn wedi swyno y Brenin Iorwerth i'r fath raddau, nes yr oedd yn methu peidio ymdroi am ddyddiau rai o amgylch y fan. Y mae ei weithred yno, a'i lawysgrifen wrthi, o blaid rhoddi manor Ellesmere i un o'i swyddogion, yn ddyddiedig y 9fed o Fai, 1283. Ar ol iddo dreulio amryw ddyddiau yn pabellu gerllaw Llyn y Dywarchen, gallwn ddilyn ei lwybr i lawr trwy Ddrws-y-coed, yn cymeryd i fyny ei breswyl yn y llys Tywysogol, sef y Baladeulyn. Y weithred gyntaf a gyflawnodd yma oedd rhoddi gorchymyn allan am i'r holl eiddo a gysegr-ysbeiliwyd yn ystod y rhyfel rhyngddo a Llewelyn gael eu hadferyd drachefn i'r Eglwys. Dyddiwyd y gorchymyn hwn ar yr 16eg o Fai, yn y Baladeulyn; ac heblaw y gorchymyn hwn, y mae ar gael amryw freint lythyrau o'i eiddo, dyddiedig o'r un lle yn Mehefin yr un flwyddyn. Wele rai ohonynt:

1. "I Ronw ap Griffin ap Tudur ap Ednyfed, o faddeuant am lofrudliaeth yn achos Dafydd ap Griffith, o Torton, ger Amwythig."

2. "I Bennaeth a Chymdeithas Marchogion Ioan o Gaersalem, i gynnal eu rheolau a'u llysoedd gwladol yn y Deheudir."

3. "I Esgob Llanelwy, i'w ddigolledu am ei draul yn adeiladu Castell Conwy."

4. "I Lywydd Mynachlog Maenan, o hen Eglwys Aberconwy."

Arglwydd y Baladeulyn, yn gystal a Phenychain, yn Eifionydd, a Phenyberth yn Lleyn oedd pendefig o'r enw Tudur ab Engan, neu Einion; ac y mae amryw dyddynod yn y gymydogaeth yn dwyn ei enw, megys Tyddyn ab Engan, Cae Engan, &c. Yr oedd Engan yn oresgynydd i'r Tywysog Owain Gwynedd, ac yr oedd yn preswylio, gan mwyaf, ar ran o'i etifeddiaeth yn Eifionydd, sef Penychain. Yr oedd yn weledig gerllaw y mor, yn agos i'r lle mae gorsaf rheilffordd yr Afon Wen yn awr, adfeilion preswylfod a elwid "Llys Engan," lle tybir fod y pendefig yn byw. Yr oedd i Engan chwaer a elwid Sina, neu Senena, yr hon a briododd Gruffudd ab Llywelyn, ac a ddaeth trwy y briodas hon yn fam i Llywelyn ab Gruffydd, neu "Llywelyn ein llyw olaf." Yr oedd Engan, Arglwydd y Baladeulyn, fel hyn yn ewythr i Llywelyn, yn bleidiwr gwresog i achos ei gâr ac adferiad annibyniaeth Cymru. Dilynwyd Engan yn ei deitlau a'i etifeddiaethau gan ei fab, Tudur ab Engan. Tra bu Iorwerth yn aros yn y Baladeulyn, ysbeiliwyd Tudur o'i holl diroedd drwy drachwant y frenines a'i swyddogion, yn gystal ag eiddo ei ewythr, Gruffydd ab Caradog, Arglwydd y Friwlwyd, yn Eifionydd; a'r brenin a drosglwyddodd y tiroedd hyn yn gynnysgaeth i'r Frenines Matilda, ac i'r breninesau ar ei hol hi. Ar ol i heddwch gael ei sefydlu rhwng Cymru a Lloegr, anfonwyd deiseb, wedi eu hysgrifenu yn Lladin at y brenin Iorwerth, yn erfyn am gael y tiroedd yn ol, yr hyn, fel y tybiwn, a ganiatawyd. Arwyddwyd y ddeiseb hon gan Tudur ab Engan, a'i chwaer Gwerfyl. Ond yn nghorff y flwyddyn gyntaf o heddwch bu farw Tudur, a disgynodd ei diroedd eilwaith i ddwylaw y Goron. Anfonwyd deiseb drachefn at y Senedd, wedi eu harwyddo gan Gruffydd a Llywelyn, meibion Owain, brawd Tudur, yn achwyn, gan fod eu hewythr wedi byw yn agos iawn i flwyddyn ar ol i heddwch gael eu sefydlu, eu bod hwy yn cael dirfawr gam, trwy fod eu tiroedd yn meddiant y frenines, ac yn erfyn ar gael eu gosod mewn rhyw raglawiaeth nes i'w hachos gael ei benderfynu o flaen ynadon llys; ond tra thebygol na chaniatawyd iddynt eu dymuniadau. Tybir mai yn Ty'n y Nant yr oedd Tudur ab Engan yn byw yn ystod arhosiad Iorwerth yn y Baladeulyn; ac mae yn deg i ni grybwyll fod rhai yn dal allan mai yn y Baladeulyn y ganwyd Tywysog Gymru, ac iddo gael ei gymeryd yn ddirgel i'r Castell yn Nghaerynarfon. Oddiar ba seiliau y dychymygir hyn nis gallwn roddi un hysbysrwydd. Pa le bynag y cafodd ei eni, (nid yw yn hawdd penderfynu yr amgylchiadau yn nghlyn â'i enedigaeth, ac y mae cryn amheuaeth o berthynas iddynt), ymddengys oddiwrth amser ei enedigaeth nas gall y Baladeulyn honi yr anrhydedd iddo ei hun.

Gyda golwg ar sefyllfa y llys Tywysogol, dywed Pennant, yr amser y bu ef yma, nad oedd unrhyw adgof am ei sefyllfa; ond trwy ymchwiliad dyfal y gallesid, hwyrach, ddyfod o hyd i olion ohono; ond llais pob traddodiad sydd yn y gymydogaeth yn bresennol ydyw, mai yr hen adeilad a safai y tu cefn i Nantlle, ac a elwid "Y Gegin" ydoedd, yr hwn a chwalwyd tua phymtheng mlynedd yn ol. Yn ol pob tystiolaeth, yr oedd yr hen adeilad hwnw yn dwyn arwyddion o hynafiaeth mawr o ran ei gynllun a'i adeiladaeth; a gresyn o'r mwyaf na fuasai yn cael ei gadw a'i ymledu, yn neillduol os yw y ddybiaeth ddiweddaf yn gywir, mai efe oedd y "Llys" Tywysogol. Tuedda Mr. Lloyd Jones, perchenog a thrigiannydd presennol Baladeulyn i dybied mai i fyny ar lethr y Ty'n y Nant yr oedd y Llys, gan fod yn y lle hwnw olion a sylfeini adeiladau o faintioli dirfawr, y rhai yn awr a orchuddir gan rwbel chwarelau Penyrorsedd.

GLYNLLIFON.

Gan ein bod yn cyfarfod â changenau o deulu hynafol Glynllifon wedi ymledu i bob trigfan bwysig o'r bron o fewn terfynau ein testyn, bydd yn fwy manteisiol i ni gyfeirio atynt ar ol ymweled yn flaenaf a'u trigfan gyntefig ar lan y Llifon. Yr afon hon, yr hon sydd yn tarddu ar lethr y Cilcgwyn, ar y tu gogleddol, sydd yn rhedeg i lawr i gwm dwfn a chuddiedig. Tua diwedd yr wythfed ganrif diangodd gŵr oddiar ffordd ymgyrch y Sacsoniaid yn y Gogledd i chwilio am ddiogelfa yn Arfon, ac a adeiladodd ei dy mewn dyffryn llawn o ddyrysgoed, o fewn tref y Dinlle, ac o dan nawdd y tywysogion Cymreig. Gelwid y gŵr hwn Cilmin Droed-ddu. Yr oedd efe yn gefnder i Rodri Fawr, Brenin Cymru oll, ac yn nai i Merfyn Frych, Brenin neu Dywysog Manaw (Isle of Man). Y brenin a'i gwnaeth yn arglwydd Uwch Gwyrfai, ac yr oedd ei diroedd yn cyraedd o'r Eifl hyd i Gaerynarfon. Dyrchafwyd ef hefyd i fod yn brif ynad Gwynedd, rhagorfraint a arhosodd yn etifeddol yn y teulu. Yr oedd Cilmin yn deilliaw o lwythau Gwynedd, yn fab i Cadrod ap Elidr ap Sandde ap Alser ap Tegid ap Gwyarap Dwywg ap Llowarch Hen, Arglwydd Penllyn, ap Elidr Lyddanwyn ap Meirchion ap Gorwst Ledlwm ap Cenau ap Coel Godebog, Brenin Ynys Brydain; ac "Empriwr o'r Vrytain Vawr oedd y Goel hwn." Ei arfbais oedd "Eryr deuben du, a'i adenydd ar led yn y maes gwyn; yn 2il, pedwar cnapstaff cnyccioc, tanllyd, cochion yn y maes gwyn; y 3ydd fel yr ail, a'r 4ydd fel y cyntaf; a thros y cwbl ar yr arfaes wen, coes a throed du." Gwelir sylfaeni ei annedd yn agos i Ffynnon Cilmyn, ar dir y Plas Newydd, o fewn dyffryn y Llifon, a cherllaw y fan y mae palas ardderchog presennol y Glynllifon.

Oferedd fyddai i ni geisio dilyn llinach Cilmyn Droed-ddu i waered i'r pendefig presennol. Gall y sawl a ewyllysio wneyd hyny weled yr achyddyddiaeth wedi eu trefnu mewn ysgrif o eiddo Gwilym Lleyn, ac a ymddangosodd yn y rhifyn am Mawrth, 1863, o "Olud yr Oes." Ei holl ddisgynyddion oeddynt yn rhai doeth, ac enwog am eu gallu i drin cyfreithiau gwladol ac eglwysig. Cyrhaeddodd amryw ohonynt y safleoedd uwchaf mewn dysgeidiaeth, a'r swyddau uchaf yn y llys a'r Eglwys, gan ddefnyddio y cyfleusterau hyny i ymgyfoethogi dros fesur, fel y cawn weled yn ol llaw. Yr wythfed o ddisgynyddion Cilmin a elwid Morgenau Ynad, o Dref y Dinlle, ydoedd yn enwog iawn fel cyfreithiwr. Ymddengys ei fod ef, a'i fab Cyfnerth, yn mysg y deuddeg henaduriaid a ddetholwyd gan Hywel Dda i ad-drefnu cyfreithiau y deyrnas, a chyfansoddodd Cyfnerth lyfr galluog ar y cyfreithiau, yr hwn ellir weled hyd heddyw mewn rhai hen lyfrgelloedd yn ysgrifenedig ar femrwn. Gellir enwi hefyd Morgenau ap Madog, Ynad, Morgan Ynad ap Meirig, a Madoc Goch Ynad, yn mhlith disgynyddion Cilmin oeddynt yn enwog iawn am eu gallu i esbonio a thrin cyfreithiau.

Cyrhaeddodd amryw o'r teulu hwn safleoedd uchel mewn dysgeidiaeth ac enwogrwydd, yn mhlith y rhai y gellir nodi Maurice Glynn, mab hynaf Robert ab Meredydd ab Hwlcyn Llwyd, o'r Glynllifon a Nantlle. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, lle derbyniodd y gradd o LL.D., ar gyfrif ei ddawn yn ymdrin a deddfau Eglwysig neu Ganonaidd. Dyrchafwyd ef yn gynar i archddiaconiaeth Bangor, a than gysgod y swydd hon meddiannodd ddegymau Llanor a Denio yn Lleyn, Llandegai, a chyfran o Gaerhun, ar afon Conwy. Heblaw hyn dylifodd i'w drysorau ddegymau saith o Eglwysi Mon, sef Llansadwrn, Llanddeusant, Llanfairynghornwy, Llanrhwydrus, Llanfflewin, Llanbabo, a Llangadwaladr; a chwanegwyd atynt Llaniestyn, Penllech, Bodferin, a Llandegwning, yn Lleyn. Chwanegwyd eto ystafell ag elw mawr perthynol iddi yn Eglwys Gadeiriol Caergybi; ond nid oerodd ariangarwch er hyny, canys efe a gafodd ystafell werthfawr arall o fewn Esgobaeth ac Eglwys Ty Ddewi, lle diweddodd ei oes yn y flwyddyn 1525, megys y tystia ei gareg fedd yn y gafell ogleddol o'r Eglwys ardderchog hono.

"Llwyddiant cyffelyb a ddilynodd ei frawd William Glynn. Cyrhaeddodd yntau y gradd o LL.D., a dyrchafwyd ef i archddiaconiaeth Meirion, gyda degymau Llandudno yn nglyn wrthi; ond gan y barnwyd fod ei chynnysgaeth yn lled ysgafn, rhoddwyd Eglwys Rhedyw, neu Lanllyfni, yn y clorian i'w chodi yn y scale esgobawl. Ar ei ymadawiad o'r eglwysi hyn, yn y flwyddyn 1522, efe a ddyrchafwyd i archddiaconiaeth Mon; ac ar gyfer hyny cafodd feddiant o ddegymau Amlwch, Llanwenllwyfo, Cerrigceinwen, a Llangristiolus. Yr un amser efe a bennodwyd yn berson Llandwrog a Llanengan, yn Lleyn, ac a gafodd haner plwyf Llandinam yn Arwystley, heblaw Clynnog Fawr yn Arfon, a Chlynnog Fechan, sef Llangeinwen a Llangaffo, yn ngwmwd Menai. Bu farw yn y flwyddyn 1537, mewn llawn feddiant o'r eglwysi hyn; ac heb wneuthur nemawr orchest heblaw hyny." Y cyfryw yw tystiolaeth y diweddar Barch. J. Jones, Llanllyfni, o berthynas i ddysgeidiaeth a thrachwant anniwalladwy y dynion hyn!

Y brodyr uchod oedd y rhai cyntaf i gymeryd enw eu preswylfod i fod yn gyfenwad i'r teulu, a than yr enw Glynn, neu Glynne, y ceir eu hanes wedi ymganghenu yn Arfon, Mon, Llundain, a manau ereill. Tua'r adeg yma hefyd cymerodd lluaws o foneddigion Cymru i fyny yr un arferiad. Ceir y sylw canlynol gan Gwilym Lleyn gyda golwg ar yr amgylchiad a arweiniodd i'r arferiad yma. Mewn cysylltiad âg un o ddisgynyddion Collwyn ab Fango, sef Syr John Bodfal, o Bodfal, y dywed, "Tua'r amser hwn cymerodd lluaws o foneddigion Cymru gyfenw byr oddiwrth leoedd eu preswylfod, yn lle dilyn llinach hir o enwau cyntaf gydag ab neu ap rhyngddynt. Gwnaed hyn pan oedd Rowland Lee, Esgob Lichfield, Llywydd y Cyffiniau, yn amser Harri yr 8fed, yn eistedd yn un o'r cyrtiau ar ryw achos Cymreig, ac yn flinedig, oblegid yr holl apiau wrth alw y rheithwyr, a gyfarwyddodd fod i'r rhestr gael ei galw with yr enw diweddaf, neu le eu preswylfod, yr hyn a fabwysiadodd boneddigion Cymru yn gyffredinol; felly ni a gawn o hyn allan John. Bodfal, o Bodfal; John Bodwrda, o Bodwrda; Richard Madryn, o Fadryn; John Glyn, o'r Glyn, neu Glinllifon; Thomas Mostyn, o Fostyn; Robert Carreg, o Carreg." Daeth y cyfenw presennol Wyon i mewn i deulu Glynllifon yn lle yr enw Glynn, trwy i Thomas Wynn, o'r Bodruan, yr hwn a wnaed yn farwnig Hyd 25, 1742, briodi Frances, ferch ac etifeddes i John Glynn, ysw., o'r Glynllifon, trwy yr hyn hefyd yr unwyd etifeddiaethau eang Bodruan a Glynllifon a'u gilydd. Dilynwyd Syr Thomas gan ei fab, Syr John Wynn, yr hwn a briododd ferch ac etifeddes i John Wynne, ysw., o Melai, yn sir Ddinbych, a Maenan, yn sir Gaerynarfon, trwy yr hyn yr ychwanegwyd yr etifeddiaethau hyny drachefn at yr eiddo Glynllifon. Dilynwyd Syr John gan Syr Thomas Wynne, A.S. dros sir Gaerynarfon, a milwriad ar wirfoddoliaid Caerynarfon, yr hwn a grewyd yn bendefig o deyrnas y Werddon, wrth y cyfenwad o BARWN NEWBOROUGH, Gorph. 23, 1776. Priododd Syr Thomas yn gyntaf a Catherine, ferch hynaf i John, Iarll Egremont, ac wedi ei marwolaeth, priododd yn ail & Maria Stella Patronilla, ferch i Lorenzo Chiappini; ac o'r briodas hon y deilliodd Thomas John, yr ail Farwn, A.S. dros sir Gaerynarfon, ac a fu farw heb briodi Tach. 15, 1832, ac a ddilynwyd yn ei deitlau a'i etifeddiaethau gan ei frawd, Spencer Bulkeley Wynn, y pendefig presennol, yr hwn a anwyd Mai 23, 1803, ac a briododd Mai 10fed, 1834, a Frances Maria, merch hynaf y Parch. Walter de Winton, o Gastell y Gelli, yn sir Frycheiniog, a chanddynt hiliogaeth, sef yr Anrhydeddus Thomas John Wynn, a anwyd Rhag. 31, 1840, a lluaws ereill. Mewn perthynas i fam y pendefig urddasol presenol, sef Maria Stella Patronilla, ceir y sylw canlynol gan Gwilym Lleyn:—-"Darfu i'r foneddiges hon, mewn llyfryn a gyhoeddwyd yn 1829, hawlio ei bod yn ferch hynaf, gyfreithlon, i Dduc a Duces Orleans, ac yn dyweyd iddi hi, yn dwyllodrus, gael ei lleoli gan frenin diweddar y Ffrancod, yn Florence, yn 1773, yr hon y darfu i'w rhieni, yn awyddus am etifedd gwryw, ei phrynu gan dafarnwr yn y ddinas hono. Creodd y llyfr lawer o syndod ar y pryd yn Ffrainc."

Y mae ei arglwyddiaeth y Barwn Newborough yn cartrefu bron yn gyson yn annedd ei hynafiaid, y Glynllifon, gan ymddifyru mewn trefnu, adeiladu, a phrydferthu ei barc eang a'i ystad. Y mae efe, fel ei hynafiaid, yn enwog fel cyfreithiwr. Efe yw cadeirydd y Chwarter Sessiwn; ac nid oes ynad mwy cyfiawn a didderbyn wyneb, yn gystal a doeth, уn eistedd ar y fainc. Llywodraethir ef bob amser gan argyhoeddiad o gyfiawnder a dyledswydd; a cholled ddirfawr i achos cyfiawnder fydd ei symudiad o'r safle y mae wedi ei llenwi er cymaint o anrhydedd iddo ei hun er's llawer o amser. Mae ei oedran yn ein rhwymo i synio nad all y dydd y terfynir ei wasanaeth fod yn mhell iawn, er y gallem o'n calon ddymuno hir oes iddo, er mwyn achos cyfiawnder ac uniondeb. Heblaw hyny y mae efe yn foneddwr Rhyddfrydig, fel y mae wedi arddangos ar achlysuron diweddar ei fod yn parchu barn a chydwybod ei isafiaid, trwy eu cefnogi i ymarfer barn a chydwybod mewn cysylltiad â materion, ac yr oedd boneddigion ereill yn ddigon annynol i gymeryd mantais arnynt i orthrymu eu tenantiaid, a phawb o dau eu dylanwad.

NANTLLE NEU PLAS Y NANTLLE.

Sefydlodd cangen o hiliogaeth Cilmin Droed-ddu yn gynar yn y lle hwn. Yr oedd i Morgenau Ynad, yr wythfed o ddisgynyddion Cilmin, ddau o frodyr o'r enwau Ednowen a Philip; a dilynir llinach y ddau i waered i'r amser presennol, y naill yn etifeddion Bodfan, gerllaw y Dinlle, a'r llall yn Glynllifon. Yr oedd mab i Ednowen a elwid Ostroyth, neu Astrwyth, yr hwn a fu dad i Iorwerth Goch, ac yntau drachefn yn dad i Ieuan, i'r hwn hefyd y bu mab o'r enw Einion. Einion hefyd a fu dad i Gronw, ac i Gronw y bu mab a elwid Tudur ab Gronw, ac ar ol hyny Tudur Goch y Nantlle. Bu Tudur ab Gronw, neu Tudur Goch, yn enwog yn amser Iorwerth y 3ydd, y rhyfelwr penaf a esgynodd eriod i orsedd Prydain. Dywedir fod tua 12,000 o'r Cymry yn ymladd o dan ei faner, yn y frwydr fawr a ymladdwyd yn Cressey, yn y flwyddyn 1346: a thrachefn, yn y byddinoedd o dan Iorwerth y Tywysog Du, yn Poictiers a manau eraill, pan gymerwyd Brenin Ffrainc a'i fab yn garcharorion, yn 1356. Ymddengys i Tudur ab Gronw enill anrhydedd a ffafr neillduol ar law y Tywysog yn y brwydrau hyn, ac fel gwobr cafodd Tudur ysgrif-weithred dan sel y Tywysog Du, yn rhoddi iddo chwe' cyfar, neu waith aradr, o dir yn y Nant, neu Baladeulyn, a ddaeth i feddiant coron Lloegr ar farwolaeth Llywelyn. Ar y tir hwn efe a adeiladodd Blas y Nantlle, tua'r flwyddyn 1350. Ei wraig oedd Morfudd, merch Howel ap Iorwerth Vychan, ac orwyres i Ostroyth, ac felly yn garedigion i'w gilydd: a bu eu gwehelyth mewn meddiant o'r lle hwn am oesoedd, a rhai o'r telu yn trigianu yma. Mab i Tudur Goch y Nantlle oedd Hwlcyn Llwyd, yr hwn a briododd Nest, merch Cynfrig ab Meredydd Ddu, o linach Llywarch ab Bran, ac a fuont yn ben cenedl i amryw deuluoedd anrhydeddus yn y wlad. Ceir amryw gyfeiriadau at Wynniaid Nantlle, yn achau gwehelyth cadarn Cilmin Droed-du. Yn awr, pa fodd bynag, perthyna y tiroedd hyn, sef Nantlle a'r Gelliffrydiau, i Mr. Hughes, o Ginmel. Un o hynafiaid Mr. Hughes, yr hwn oedd offeiriad yn byw ar guradiaeth isel mewn congl o Ynys Mon, a briododd Miss Lewis, o Lys Dulas, eiddo yr hon oedd y darn hwnw o fynydd Parys a drodd allan mor gynnyrchiol o fwn copr, ac o'r cyfoeth a enillwyd yn mynydd Parys y darfu i'r teulu hwn brynu etifeddiaethau y Nantlle, &c., ac a ddelir yn bresennol dan ammod-rwym gan John Lloyd Jones, Ysw., o'r Baladeulyn.

PANT-DU.

Ychydig uwchlaw y ffordd, yn nghyfeiriad Penygroes, y saif palasdy henafol y Pant-du, lle yr ymsefydlodd cangen bwysig o deulu y Glynllifon er's cannoedd o flynyddoedd yn ol. Crybwyllir yn achau y Glynllifon am John Wynn, Ysw., o'r Bodfel, banerwr yn mrwydr Norwich, yn 1549, a siryf dros sir Gaerynarfon yn 1551 a 1560. Hugh ei fab a gymerodd Bodfel yn gyfenwad y teulu, ac o'r teulu hwn, y rhai oeddynt ddisgynyddion o Collwyn ab Tangno, y deilliodd William Bodfel, yr hwn a adeiladodd y palasdy presennol. Yr oedd William Bodfel yn fab i Humphrey Bodfel, LL.B., neu Humphrey ab Richard, ab John, ab Madog, ab Howell, ab Madog, ab Ieuan, ab Cenion, ab Gruffydd, ab Hywel, ab Meredydd, ab Einion, ab Gwgan, ab Merwydd Goch, ab Collowyn, ab Tangno, sylfaenydd un o'r Pymtheg Llwyth. Claddwyd Humphrey Bodfel yn St. Rhedyn, wrth allor y llan; ac y mae ei ysgwydd arfau yn gerfiedig ar ei fedd yn arwyddo ei haniad o gyff-genedl Brochwel Ysgythrog a Chilmin Droed-ddu. Yr amseriad yw 1603. Y mae hefyd arfau ei fab, William, yn gerfiedig yn y Pant-du uwch ben y tân, yn y neuadd, er coffau ei briodas a Chathrine Morgan, aeres Talymignedd Isaf. Y Cathrine hon oedd ferch i Hugh ab Robert, &c., i Tudur Goch y Nantlle, a'i mam oedd Cathrine, ferch Dafydd ab Ieuan, ab Meredydd, o'r Graianog, aeres Talymignedd.

Wyres i William Bodfel, yr hon a elwid Cathrine o'r Nantlle, a briododd â John ab Gruffydd Vychan o Gorsygedol, a'u merch hwythau, Cathrine, a briododd John Garnons, o Garnons Hall, yn Neheudir Cymru, ac a gawsant yn gynysgaeth yr holl diroedd a berthynent i etifeddiaeth Corsygedol, o fewn dyffryn Nantlle. Eu hwyr hwy, sef Richard Garnons, a briododd yn ail âg Ann, merch ac aeres William Wynn, o Blas Llanwyndaf, disgynydd eto oddiwrth Collwyn; ac y mae ei fedd yn mhen dwyreiniol mynwent St. Rhedyn, wrth fur y gangell, a'r geiriau canlynol yn gerfiedig arno:—"Underneath lieth the remains of Richard Garnons, of Pant-du, gent., and Cathrine his first wife; she was buried the 7th day of July, 1718, aged 36; and he on the 17th day of April, 1742, aged 77, after having served in his youth full days & volunteer in all the Irish wars." Brawd i Richard Garnons oedd John Vaughan Garnons, person Llanddeiniolen, tua'r flwyddyn 1782. Yr oedd eraill o aelodau y teulu hwn yn byw yn Penybryn, megis Evan Garnons, yr hwn a briododd ferch Owen Jones, Dolyfelin, a'i dad Paul Garnons, yr hwn a briododd ferch Evan Gruffudd, person Penymorfa, ac a fuont hefyd yn cyfaneddu yn y Pant-du. Er's ugeiniau o flynyddoedd bellach nid oes neb o'u hiliogaeth yn cyfaneddu yma.

LLEUAR, NEU LLEUFER MAWR.

Saif y lle hwn ar lethrhyfryd ar y tu deheuol i afon Llyfnwy, ychydig islaw pentref Llanllyfni; ac yr oedd yr etifeddiaeth ar y cyntaf yn ffurfio rhan o dref y Bennarth. Derbyniodd yr enw Lleuar neu Lleufer oddiwrth neu barch i goffadwriaeth Lleufer Mawr, sef yr un a Lles ab Coel, y brenin Cristionogol cyntaf fu yn Mrydain. Y mae yr un arwyddlun ag a wisgid yn arfbais Lles ab Coel i'w weled hefyd yn arfbeisiau teulu Lleuar, sef "Eryr deuben du, a'i adenydd ar led." Ceir yr un arwyddlun hefyd wedi ei gerfio ar amryw o hen ddodrefni ac eisteddleoedd Eglwys Clynnog Fawr, a gellir bod bron yn benderfynol i'r naill a'r llall eu cymeryd oddiwrth Lleufer Mawr, y brenin Cristionogol.

Ymsefydlodd cangen o hiliogaeth Cilmin Droed-ddu yn Lleuar tua'r flwyddyn 1588, trwy i William Glynn, neu yn hytrach William Wynn Glynn, briodi aeres Lleuar, sef Lowri Gwynion, yr hon oedd yn ferch i John ab Robert, ab John, ab Meredydd o Fachwen, Clynnog, disgynydd o deulu pendefigaidd Tegwared y Bais Wen. Yr oedd William W. Glynn yn fab i William Glynn, Sergeant at Arms to Henry VIII., mab i Robert ab Meredydd ab Hwlcyn Llwyd, o'r Glynllifen, ab Tudur Goch y Nantlle. Arfau William Glynn ab William Glynn oedd Pais Cilmin Droedddu, a'i sin pâl oedd Pais Owen Gwynedd yn ol Lewis Dwnn.

I William W. Glynn a'i wraig Lowri Gwynion y ganwyd William Glynn, yr hwn a briododd Margaret, ferch ac etifeddes Humphrey ab Meredydd, tua'r flwyddyn 1609. O'r briodas hon eto ganwyd William Glynn, a briododd Jane Brynkir; ac iddynt y ganwyd etifedd, William Glynn, a fu farw yn faban; a disgynodd yr etifeddiaeth i'w chwaer Mary, yr hon a briododd yr Uwch Filwriad George Twistlelton, o Barrow Hall, sir Gaerlleon, yn goffadwriaeth am yr hwn y mae careg uwch ben drws y ty presennol yn Lleuar Fawr yn coffau am ei farwolaeth.

Er mwyn egluro y cysylltiad newydd hwn efallai y dylem gyfeirio y darllenydd yn ol at adeg y rhyfel cartrefol, yn amser Charles y 1af ac Oliver Cromwell. Pan oedd y rhyfel bron ar ben, a chestyll Arfon yn meddiant milwyr y senedd, darfu i Syr John Owen, o'r Cleneney, yn Eifionydd, gasglu yn nghyd fyddin o wirfoddolwyr yn enw y Brenin, ac ymosod ar warchodlu Castell Caerynarfon, y rhai o ddiffyg nerth digonol a orchfygwyd, a syrthiodd y castell i ddwylaw Syr John a'i wirfoddolwyr. Yn y cyfamser anfonwyd i Gaerlleon am gymhorth, ac anfonwyd byddin i Gaerynarfon i adgyfnerthu y gwarchodlu, o dan lywyddiaeth yr Uwch Filwriad Twisleton a'r Milwriad Carter. Deallodd Syr John Owen am y symudiad, ac efe a aeth gyda rhan o'i fyddin i gyfarfod Twisleton, a chyfarfuasant yn ngwaelod plwyf Llanllechid, mewn maes ar lan y mor a elwir y Dalar Hir. Wedi brwydr galed a gwaedlyd gorchfygwyd Syr John Owen, a chymerwyd ef yn garcharor; a daeth Twisleton yn mlaen i Gaerynarfon. Tra bu yn aros yma daeth i gydnabyddiaeth â Mary, aeres Lleuar, yr hyn a arweiniodd i briodas. Daeth George Twisleton, mewn canlyniad, i fyw i Lleuar at ei wraig, a bu iddynt amryw blant. Yr hynaf o'r plant hyn, George Twisleton, a briododd Margaret, ferch William Gruffudd, Cefn Amwlch, Ysw. Un arall o'r enw Philip Twisleton a ddygwyd i fynu mewn urddau, ac a fu yn ficer yn eglwys Beuno. Bu farw yr ail George Twisleton tua'r flwyddyn 1714. Y trydydd Ceorge Twisleton a briododd Barbara Jackson, o gylch y flwyddyn 1737, ac iddynt y ganwyd Mary, yr etifeddes, yr hon a briododd y Capten William Redsdale, o Ripon, yr hwn a werthodd yr etifeddiaeth i Syr Thomas Wynn o'r Glynllifon, ac efe a laddwyd yn Dettingen yn 1743. O hyny allan y mae etifeddiaeth Lleuar yn ffurfio rhan o ystad helaeth y Glynllifon; ac y mae yn awr yn rhanedig i ddwy o ffermydd, sef Lleuar Fawr a Lleuar Bach. Yr oedd hen balasdy Lleuar yn sefyll yn nes at yr afon na thy presennol Lleuar Fawr. Y mae rhai o hen ddodrefn yr Uwch Filwriad George Twisleton, megis ei gadeiriau, &c., eto yn meddiant Mrs. Gwen Jones, Tregrwyn, ar lan y Llyn Isaf Nantlle, yr hon a'u cafodd ar ol rhai o'i pherthynasau oeddynt yn arwerthiant dodrefn y cadfridog dewr.

BRYNEURA.

Ar du y dehau i Bont Lyfni y mae bryn bychan gwyrddlas a elwir Brynaera neu Bryneura, alias Brynarfau, oddiwrth yr hwn y mae amryw o dai, a chapel y Methodistiaid, yn derbyn eu henwau. Y diwedda, Glasynys a dybiai ei fod yr un a Bryn Arien, yn ngodir yr hwn y mae bedd Tydain Tad Awen. Wele ei eiriau:—"Yr wyf fi mor ofergoelus a chredu mai yno y claddwyd Tydain Tad Awen. Dywed Englynion y Beddau mai yn Mryn Arien y gwnaed hyny; ac nis gwn ond am ddau Fryn Arien, sef hwn, ac un arall yn Nghantref Creuddyn, wrth Gonwy. Tueddir fi i gredu mai yma mae'n gorphwys yr hwn addosbarthodd ar ein cenedl yr elfen farddol; a'm rheswm dros hyny ydyw, ei fod yn cael ei osod mewn un ysgrif o Englynion y Beddau hefo Dylan, yr hwn y gwyddys sydd a'i fedd gerllaw Pwynt Maen Dylan, a'u bod yn gorwedd yn Llanbeuno. Tybia ereill mai Bryn yr Arfau y dylid galw y lle hwn; a chesglir oddiwrth ei agosrwydd i Bryn y Beddau, Llyn y Gelain, a Bryn y Cyrff, fod rhyw gysylltiad wedi bod rhyngddo âg ymladdfeydd o'r fath ac sydd wedi arwydd-nodi y manau hyny.

Dywedir i etifeddiaeth y Brynaera fod yn meddiant dwy foneddiges, fel cyd-aeresau, ac y mae traddodiad yn cyfeirio at foneddiges a eilw yn "Cowntess y Cwn Gwynion," i'r hon y perthynai llawer o diroedd yn Eifionydd ac Arfon; a dywedir fod ei thiroedd yn mhob lle yn nodedig am dlodi ac aflerwch y tai a'r adeiladau. Tueddai Eben Fardd i dybied mai Sarah, Countess of Radnor, a merch i Syr John Bodfel, o Bodfel, oedd y foneddiges y cyfeiria y traddodiad ati, ac iddi trwy briodi symud i fyw i Loegr, neu ar y Cyfandir, ac oblegid hyny iddi esgeuluso ei hetifeddiaethau gartref.

John Solomon Williams, ysw., y perchenog presennol sydd fab ac olynydd i Solomon Williams, fab John Williams, fab Solomon Williams, fab William Thomas, fab Thomas Williams, fab William Thomas, a anwyd yn 1635 neu 1639. Ganwyd John Solomon Williams yn Mrynaera, Awst 19, 1836. Priododd â Mary, merch i Mr. Williams, Castellior, Mon. Heblaw tueddiadau caruaidd a haelfrydig fel boneddwr, y mae Mr. Williams yn meddu ar raddau helaeth o wybodaeth a chwaeth lenyddol, ac wedi astudio rhai canghenau, yn neillduol cerddoriaeth yn lled berffaith. Miss Williams hefyd, ei ferch, sydd yn feddiannol ar gynneddfau addawol iawn; oblegid er nad yw ond ieuanc gwyddom iddi gario ymaith lawryf buddugoliaeth mewn Eisteddfod Gadeiriol; a'r fath foddhad a gynnyrchai ei datganiad o ryw ddernyn cerddorol, ar yr un amgylchiad, fel yr anrhydeddwyd hi gan yr Eisteddfod a'r ffugenw soniarus. "Myfanwy'r Glyn."

BRYN CYNAN.

Yn agos i Bont Lyfni, ar y tu dwyreiniol i'r afon, y mae bryn bychan coediog, a ffermdy yn dwyn yr enw uchod. Tybir i'r lle gael ei alw ar yr enw hwn oherwydd rhyw gysylltiad fu rhwng Cynan, neu yn hytrach Gruffudd ab Cynan â'r lle. Ganwyd Gruffudd yn y Werddon, lle ffoasai ei dad, Cynan ab Iago, am nawdd at Awloedd, brenin y Werddon. Tra bu yno priododd Cynan ferch Awloedd, ac o'r briodas hon y deilliodd Gruffudd ab Cynan, Tywysog Gwynedd. Yr oedd gorsedd Gwynedd ar y pryd yr oedd Gruffudd yn fachgen yn cael ei thrawsfeddiannu gan Trahaiarn ab Caradog, yr hwn ei hunan oedd wedi ymgymysgu a'r gwaed breninol trwy briodi Nest, ferch Gruffudd ab Llywelyn. Wedi i Gruffudd ab Cynan dyfu i fyny, a pherffeithio ei addysg yn y Werddon, ac ar yr un pryd yn ymwybodol o'i hawl i orsedd Gwynedd, efe a ddaeth drosodd i Fon, yn cael ei ddilyn gan fyntai o Wyddelod. Ymostyngodd Mon i gydnabod ei awdurdod. Wedi hyny efe a groesodd afon y Menai, ac a wersyllodd yn Arfon; ac o bosibl mai yn Bryn Cynan yr oedd ei bencadlys y pryd hwn. Modd bynag, Trahaiarn, yn hysbys o'i symudiadau, a drefnodd ei fyddin i'w wrthsefyll; ac wedi brwydr waedlyd a orfuodd, fel y bu gorfod ar Gruffudd encilio dros y Fenai i Fon yn ol. Cymerodd y frwydr yma le mewn man a elwir Bron yr Erw, gerllaw Pryscyni, yn mhlwf Clynnog.

Y mae yn briodol i ni grybwyll am y gwahanol dybiau o berthynas i sefyllfa Bron yr Erw. Y mwyafrif, ac yn eu plith y mae Carnhuanawc, Lewis, Catherall, Williams, a'i lleolant yn agos i Harlech, yn Meirionydd; ond tybiwn fod Mr. E. Thomas (Eben Fardd) mewn ysgrif o'i eiddo yn yr Arch. Cambrensis, wedi profi i foddlonrwydd mai Bron yr Erw, Clynnog, oedd maes yr ymdrechfa waedlyd rhwng lluoedd Gruffudd ab Cynan a'r eiddo Trahâiarn ab Caradog. Heblaw Bryn Cynan, y mae yn agos i Bron yr Erw amddiffynffa o graig a elwir Craig Cynan; ac ar derfyn Bron yr Erw y mae Pryscyni, o Prysg a Cynan. Yr oedd hefyd yn myddin y tywysog dri o benaethiad Gwyddelig, o'r enwau Encumallon, Rainallt, a Mathon, ac y mae yn werth ei grybwyll mai un o'r enw Mathon yw sylfaenydd teulu y Pryscyni. Hefyd, y mae yn yr un gymydogaeth adfeilion lluosog a elwir Pencadleisiau, oddiwrth Pencadlys. Yno mae yn ddiamheu yr oedd Pencadlys Trahaiarn. Ar odrau gallt Pryscyni y mae carnedd enfawr; ac nid neppell o'r lle yw Pen bryn-y-fynwent. Gellir cyfeirio hefyd at fryn bychan ar lan yr Aberdusoch, a elwir Bryn-y-cyrff, a lle arall a elwir Bryn-y-beddau, a Llyn-y-gelain, a chae Pen-deg-ar-ugain; y mae y lleoedd hyn yn arwyddo rhyw gysylltiad agos âg ymladdfeydd gwaedlyd, yn yr ymgyrch arfog rhwng Gruffudd ab Cynan a'r gormeswr diawdurdod Trahaiarn ab Caradog. Ac er i Gruffudd orfod ffoi yn orchfygedig yn mrwydr Bron yr Erw, gorchfygodd ei elyn ar ol hyny yn y frwydr fyth-gofiadwy ar fynyddoedd Carno, yn 1077, pan syrthiodd Trahaiarn ar y maes, ac yr adferwyd gorsedd Gwynedd i'w chyfiawn etifedd, yr hwn, ar ol teyrnasu am 57 o flynyddoedd a fu farw, ac a gladdwyd yn Eglwys Gadeiriol Bangor Fawr yn Ngwynedd. Gŵr o'r enw Owen Owens sydd yn byw yn awr yn Bryn Cynan, yr hwn sydd fab i'r diweddar fasnachwr adnabyddus "Sion Owen, o Fryn Cynan."

BRYN-Y-GWYDION.

Gerllaw Bryn Cynan y mae bryn bychan arall, a ffermdy o'r enw Bryn-y-gwydion, a elwir felly, meddir, oherwydd i Gwydion ab Don fod yma yn cartrefu am ryw gymaint o amser. Gwaredog hefyd, ar lan afon Gwyrfai, a nodir fel ei breswylfod. Daeth Gwydion i Wynedd gyda llu o Wyddelod, yn y bedwaredd ganrif, a buont yma yn byw a'u hiliogaeth ar eu hol, yn ysbeilio, ac yn peri blinder i'r Gwyneddion hyd amser Caswallon Law Hir, yr hwn a'u hymlidiodd i'r Werddon gyda lladdfa fawr. Yn y Trioedd Cymreig crybwyllir am Gwydion ab Don fel un o dri Buelydd Ynys Prydain. Buelydd yw ceidwad gwartheg, a Gwydion a ofalai am y fual fawr, neu osgordd uwch Conwy; "ac yn y fual hono ugain mil ac un" (21,000). Rhestrir ef hefyd fel un o'r "Tri Gwyn Seryddwyr Ynys Prydain," ac mai efe oedd y cyntaf i ddysgu i Wyddelod Mon ac Arfon ar lyfr. Heblaw hyny yr oedd yn un o gymeriadau hynotaf y Mabinogion, ac nid oes terfyn ar y chwedlau a'r pethau rhyfedd a briodolir iddo. Crybwylla Englynion y Beddau fod ei fedd yn Morfa Dinlle, rhwng Bryn-y-gwydion a'r mor.

Bu cangen o hiliogaeth y Glyniaid yma yn preswylio. William Glynne, ysw., o Fryn-y-gwydion, Siryf dros swydd Gaerynarfon yn y flwyddyn 1634, a briododd Margaret Evans, merch Richard Evans, ac etifeddes ystad Elernion, yn Llanaelhaiarn, yr hwn sydd yn deilliaw o wehelyth Trahaiarn Goch o Leyn. O'r briodas hon y deilliodd Richard Glynne, tad Ellen Gwynne, yr hon a sylfaenodd ac a waddolodd Elusendai Llandwrog, am yr hon y cawn grybwyll ychydig eiriau yn ychwanegol mewn cysylltiad âg Eithinog Wen. Perthyna Bryn-y-gwydion yn bresennol i deulu y Gwynfryn, yn Eifionydd, a delir y ffarm fel tenant o flwyddyn i flwyddyn gan William Jones, mab i'r diweddar Robert Jones, o Fryn-y-gwyddion, a chyn hyny o'r Gwydr Bach, Llanaelhaiarn. Yr oedd Robert Jones yn amaethwr o'r fath fwyaf cyfrifol, ac y mae ei feibion, a'i wŷrion, yn cadw i fyny yr un cymeriad, a lluaws ohonynt yn preswylio yn y ffermydd helaethaf o fewn y wlad. William Jones ab William Jones, ab Robert Jones, sydd ŵr ieuanc athrylithgar, yn meddu chwaeth lenyddol gref, ac fel ei dad yn ddiacon parchus yn eglwys. Fethodistaidd y Brynaera.

EITHINOG WEN.

Yn bresennol ceir tair o ffermydd yn dwyn yr enw Eithinog, sef Eithinog Uchaf, y Ganol, a'r Eithinog Wen. Yr oedd y tiroedd hyn yn ffurfio rhan bwysig o'r dreflan a elwid Tref Eithinog a Bryn Cynan. Disgynodd yr Eithinog Wen i feddiant Ellen Gwynne, at yr hon y cyfeiriwyd o'r blaen, yr hon oedd yn ferch i Richard Glynne, ab William Glynne, o Fryn-y-gwydion. Yr oedd i Richard Glynne amryw o blant, ond buont oll feirw yn ieuainc, neu yn ddiblant, a'r etifeddiaeth a aeth ar gogail, sef i feddiant Ellen, yr ieuangaf. Cyflwynodd Ellen gyfran o'i hetifeddiaeth, sef yr Eithinog Wen, a'r Plas Newydd yn Llangoed, Mon, tuag at sefydlu a gwaddoli Elusendai yn Llandwrog, lle gallai 12 o ferched boneddigion fuasent wedi syrthio i ymddifadrwydd a thlodi dderbyn cartref a chynnaliaeth gysurus. Bu farw y foneddiges ragorol hon yn 1753; ond ni wyddys pa le y bu farw nag y claddwyd hi. Rhai a dybaint iddi ddiweddu ei hoes yn Ficerdy Hendon, yn agos i Lundain, lle yr oedd un oi cheraint, sef Richard Evans, fab i Catherine, merch William Glynne, o'r Glynllifon, yn preswylio. Ereill a dybiant mai yn nhy un arall o'i cheraint, sef y Dr. John Evans, Esgob Meath, yn y Werddon, y bu hi farw. Yr Esgob John Evans a anwyd yn Plas Du, Eifionydd, a ddyrchafwyd yn Esgob Bangor, ac wedi hyny a symudodd i Meath, yn y Werddon, lle diweddodd ei ddyddiau. Modd bynag, y mae ffrwyth calon haelfrydig Ellen Glynne yn cael ei werthfawrogi yn Elusendai Llandwrog, er fod "lle bedd" y foneddiges yn anadnabyddus i ni. Y tenant presennol yw Thomas Williams, genedigol oddiyno. Ar y fferm hon y mae amddiffynfa Craig y Dinas, a lluaws o olion hynafol. Cloddiwyd amryw o hen felinau y Cymry wrth drin y tiroedd, amryw o ba rai a welir yma ac acw hyd y maesydd.

BODFAN.

Saif y lle prydferth uchod o fewn tref y Dinlle, a pherthyna i hiliogaeth Phillip, brawd i Ednowen a Morgenau, o'r Dinlle, neu Morgenau Ynad, yr wythfed o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu. Yr oedd William Llwyd, sirydd dros swydd Gaerynarfon yn y flwyddyn 1668, yn fab i Dafydd Llwyd, o'r Bodfan, ab William, ab Hywel, ab Robert, ab Dafydd, ab Llywelyn Llwyd, ab Llywelyn, ab Bleddyn, ab Phillip. Chwaer i William Llwyd a briododd John Bodfel, o'r Carnguwch, ac felly aeth y Bodfan yn eiddo i'w fab, Peter Bodfel, yr hwn a roddodd gyfran o'i dir i'w fab, Llwyd Bodfel, tad William Bodfel, o Fadryn, a'r gyfran arall i'w ferch, yr hon a briododd Hugh Hughes, o'r Pemprys, Lleyn; a'i fab yntau, sef Peter Hughes, oedd tad Hugh Hughes, y sirydd am 1762, a gorhendaid i'r diweddar Dafydd Jones, ysw., Cefn y coed. Yr oedd Dafydd Jones yn fab ieuangaf i Dafydd Jones, Cefn y coed, a fu farw yn Ionawr 16eg, 1794, o'i wraig Margaret, merch Peter Hughes, o'r Pembrys, yr hon a fu farw Hydref 18, 1828. Brawd i Dafydd Jones a elwid William a ddaliai swydd Major yn y 52ain gatrawd, ac a laddwyd wrth warchae ar Badagos yn 1812, pan nad oedd ond 35 mlwydd oed. Y mae gweddw y diweddar Dafydd Jones, ysw., yn byw yn Cefn y coed, i'r hon y mae amryw o ferched. Delir y Bodfan fel tenant i Mrs. Jones o flwyddyn i flwyddyn gan Robert Jones, mab i'r diweddar Robert Jones, o Fryn-y-gwydion, ac wedi hyny o'r Hendy, Clynnog Fawr. Nid ydym yn gwybod pa bryd, na chan bwy yr adeiladwyd palasdy presennol y Bodfan. Tybiwn oddiwrth ei adeiladwaith y gall fod wedi ei adeiladu rhywbryd yn flaenorol i amser William Llwyd, yn y flwyddyn 1668.

PENNARTH NEU PENNARDD.

Ymddengys fod y lle hwn yn meddu enwogrwydd gynt, oblegid gwneir amryw gyfeiriadau ato yn yr hen ysgrifau Cymreig. "Mae hynafiaeth ardderchog yr hen Faenor glodfawr hon," medd E. Fardd yn "Nghyff Beuno," yn cyraedd mor bell yn ol ag i ymgolli o'n golwg yn niwl y Mabinogion. Ond diflanodd bri y bendefigaeth yma er's llawer oes, nid oes ond ychydig o son am dani ar gof a chadw er amser Iorwerth y 3ydd. Ymddengys fod yma bendefig urddasol yn byw yn y chweched ganrif o'r enw Maeldaf Hen, am yr hwn y sonir yn y rhagymadrodd i Freiniau Gwyr Arfon, y rhai a ganiatawyd gan y Tywysog Rhun ab Maelgwyn Gwynedd. Mae afon yn rhedeg i'r mor trwy gwr Maenor Pennarth, a elwir Aberdusoch; ac y mae cainc o'r afon hon yn rhedeg iddi o ucheldir Clynnog, a elwir Afon Rhyd y Beirion, yr hon y tybia Eben Fardd sydd yr un ag afon Menwedus, yn agos i'r hon y lladdwyd Elider Mwyn Fawr, ac i ddial gwaed yr hwn y daeth y tywysogion gogleddol, ac a losgasant Arfon yn y 6ed ganrrif. Ar lan yr afon yma hefyd y claddwyd Cynon ab Clydno Eiddin, am yr hwn y crybwyllir yn Englynion y Beddau. (Gwel Cyff Beuno, tudal 67).

BACHWEN.

Saif y lle hwn ar lan y mor, ychydig islaw pentref Clynnog. Y mae bach," yr hwn sydd yn deilliaw o "mach," yn gyfystyr a dõl "Bachwen (Elysium) neu gysegr-ddôl neillduedig Derwyddon a myneirch Clynnog Fawr, yr hon a gylchynid gynt gan wern isel goediog o lun pedol, a'i deuben yn gydiedig gan y mor a'i feisdon caboledig, a'r Fachwen yn ymddyrchafu yn fron brydferth o'r wern nes ymgrynhoi o dan wadnau y gromlech ar uwchaf y maes." (Ioan ab Hu.) Yr oedd yr hen deulu a breswylient yma gynt yn disgyn o linach Tegwared y Bais Wen, yr hwn, meddir, oedd yn fab ordderch i Llywelyn ab Iorwerth neu Llywelyn Fawr. Meredydd, y pummed o ddisgynyddion Tegwared, a briododd Morfydd, merch Howel ab Gruffudd ab Tudur, hen ryfelwr enwog yn ei ddydd, yr hwn sydd yn gorwedd yn Nghor Beuno. I Meredydd y bu mab a elwid John ab Meredydd, o Fachwen, yr hwn a briododd Angharad, merch John ab Llywelyn ab Ieuan, ac iddynt y bu mab, sef Robert ab John, oedd yn byw yma yn y flwyddyn 1588. Robert ab John a briododd Elen, merch Syr John Puleston, marchog; a'u mab hwythau, John ab Robert, a briododd Cathrine, merch Thomas Gruffudd Celynog, a'u hunig blentyn hwy oedd Lowri Gwynion, aeres Lleuar, yr hon a briododd William Glynne, fel y crybwyllwyd o'r blaen mewn cysylltiad âg ach Lleuar.

Yr oedd yn byw yn Machwen, mewn amser diweddarach, wr mewn urddas eglwysig o'r enw Richard Nanney, neu fel yr adnabyddid ef gan bobl ei oes, Nanney Bachwen. Yr oedd yn fab i Richard Nanney Elernion, offeiriad duwiol a phoblogaidd, ficer Clynnog a pheriglor Llanaelhaiarn. Ond nid ymddengys fod ei fab, Nanney Bachwen, yn cyfranogi o'i ysbryd; oblegid ceir ei fod, ar fwy nag un achlysur, wedi codi erledigaeth yn erbyn y Methodistiaid, pan yn dechreu cynnal eu hachos crefyddol tua chymydogaeth y Capel Uchaf. Aeth mor hyf unwaith a myned i mewn i'w haddoliad, gan ddechreu cymeryd ei chwip at y gynnulleidfa oedd yno. Ond gan y daw hyn efallai o dan sylw mewn pennod arall, ni a'i gadawn yn bresennol. Ar fferm Bachwen y mae y gromlech y cyfeiriwyd ati yn ein tudalenau cyntaf. Delir y tir fel tenant i Mr. Jones, ail fab y diweddar Mr. Jones, Yoke House, gan amaethwr cyfrifol a llwyddiannus o'r enw John Gruffudd, yr hwn hefyd sydd yn byw yn bresennol yn yr hen balasdy.

CELYNNOG.

Yr oedd hen deulu pendefigaidd yn byw yn Celynnog, yn perthyn i hiliogaeth Hywel Coetmor, yr hwn a adeiladodd Gastel y Gwaed-dir (Gwydir Castle), gerllaw Llanrwst. Yr oedd Hywel yn fab i Gruffudd ab Dafydd Goch, yr hwn oedd yn fab i Dafydd ab Gruffudd, a brawd i Llywelyn ab Gruffudd, Tywysog diweddaf y Cymry. I Hywel Coetmor y bu mab o'r enw Einion, yr hwn oedd tad Howel Gwynedd, oedd yn fyw o gylch y flwyddyn 1462. Mab iddo ef oedd Dafydd ab Howel, a'i fab yntau John ab Dafydd, a'i fab yntau Morus ab John, a briododd Jane Robert ab John ab Meredydd o Fachwen. O'r briodas hon y deilliodd John a Morus a Rhys Wynne, a elwid Wynniaid y Cim, y rhai oeddynt yn blodeuo o gylch y flwyddyn 1700.

COCH Y BIG.

Cyfystyr Coch y Big a'r Big Goch, medd Ab Hu; "ond fod un yn ol y Wentwysaeg oedd yn dafodiaeth yr ardal; a'r llall yn ol y Wyndodaeg, sydd mewn arfer yn awr." Daeth uchelwr o'r enw Dafydd Roberts, o Aberdyfi, Meirion, a'i wraig Cathrine, i fyw i Lanllyfni, ac oddiyno symudasant i Leuar Bach, lle ganwyd mab iddynt o'r enw John Pughe, gwr o gymeriad uchel am ei dduwioldeb, a fu farw Hyd. 1802. Ei wraig oedd Jane, merch John Pritchard o Ty'n-y-coed; ac o'r briodas hon y deilliodd David Roberts Pughe, Ysw., diweddar a'r Frondirion, yr hwn a briododd Elizabeth, merch William Owen o'r Chwaen Wen, Mon, yr hon sydd wedi ei oroesi, ac eto yn byw yn y Frondirion. Meibion i David Roberts Pughe ydynt y Dr. John Pughe, Ysw., F.R.C.S. (Ioan ab Hu Feddyg), a'r diweddar enwog acanwyl David William Pughe, Ysw., M.R.C.S. (D. ab Hu Feddyg) ill dau yn feddygon a llenorion enwog, ac awdwyr adnabyddus, yn enwedig yr olaf.

Anne, merch ieuengaf John Pughe, a briododd y Cadben Lewis Owen, o Leuar Bach, a fu farw Mai 11eg, 1870. Yr oedd y Cadben Lewis Owen wedi rhoddi heibio fordwyo, ac yn amaethu Lleuar Bach: yr oedd yn ddiacon ffyddlon yn eglwys y Methodistiaid yn Mrynaerau. Yr oedd yn wr o foesau prydferth a duwioldeb diamheuol. Dilynwyd ef hefyd yn yr un swydd gan ei fab ieuengaf, William, ond bu yntau farw yn mlodau ei ddyddiau. Dywedir fod y gwr ieuanc yn meddu llawer o gymhwysderau diacon; ac fod yr eglwys yn Mrynaerau yn galaru ei cholled yn ddirfawr am dano. Y mae ei fam weddw yn aros gyda Lewis ei mab hynaf, eto yn Lleuar Bach.

Y BERTH DDU.

Saif y lle hwn ar fron brydferth yn agos i'r afon Aberdusoch, a'i berchenog yw John S. H. Evans, presennol o'r Rhyl, masnachwr cyfoethog, haelionus, blaenor galluog a ffyddlawn yn nghyfundeb y Bedyddwyr. Y mae efe yn fab i'r diweddar David Evans, Ysw., Berth Ddu, yr hwn a ddeilliai o hiliogaeth Bodychain; oblegid crybwyllir i un o Evansiaid y Berth Ddu briodi ǎ Mary Ellis, merch i David Ellis, Ysw., o Fodychain, yn Eifionydd. Bu i David Evans bedwar o feibion, un o ba rai a fu farw yn fachgen ieuanc. Un arall, sef David, a ddygwyd i fyny yn fferyllydd, ac sydd yn aros yn bresennol yn Llundain. Y trydydd, sef Hugh, sydd yn byw yn bresennol yn y Berth Ddu.

GWERNOER.

Saif y lle hwn ar lan y llyn isaf, Nantlle, ac y mae ei berchenog yn deilliaw, fel y rhan fwyaf o hen deuluoedd y cymydogaethau hyn, o linach Cilmin Droed-ddu o'r Glynllifon. Rhoddir yr ach fel y canlyn gan y diweddar Barch. J. Jones, Llanllyfni:—" Morgenau ab Gwrydr ab Dyfnant ab Iddon ab Iddig ab Llywarch ab Llion ab Cilmin Droed-ddu -Lewis ab Ivan Llwyd ab Ynwr ab Madog ab Rhys ab Cadwgan ab Rhys Llwyd ab Gruffudd ab Owen ab Madog ab Morgenau Ynad.-Evan Lewis a briodedd ferch ac aeres Dafydd Llwyd ab Gwilym o'r Hen Eglwys: a'i fab Lewis Llwyd a briododd ferch Hugh Price Lewis o'r Marian, Trefdraeth, John ei fab a briododd Elizabeth, merch Henry Evans, person Llanfihangel, a'i fab Lewis Llwyd a briododd Anne, ferch Robert Gruffudd o Bach-y-Saint, neu Danybwlch. Evan Llwyd o Maes-y-Porth, mab i Lewis, a briododd Margaret, merch Thomas ab Richard o Drefor, yn Llansadwrn, a mab neu ŵyr iddo a briododd ferch ac etifeddes Gwernoer, Llanllyfni."

Yn Ngwernoer, tua 150 o flynyddoedd yn ol, y ganwyd y Parch. wedi hyny y Dr. David Hughes, yr hwn, ar ol derbyn ei addysg elfenol yn y wlad hon, a symudodd i Gaergrawnt, lle bu yn aros ar hyd ei oes, a thros y rhan olaf o honi fel un o brif athrawon y sefydliad hwnw. Heblaw ei fod yn wr dysgedig iawn, yr oedd hefyd yn neillduol o haelfrydig, rhanodd ei holl eiddo rhwng ei berthynasau tylodion yn Nghymru. Brawd iddo, o'r enw Richard Hughes, a adeiladodd Llwyn-y-cogau yn 1773; ac o'r teulu hwn y deilliodd Hughesiaid presennol Ty'n-y-weirglodd.

Ni a ddygwn y bennod hon i derfyniad gyda chrybwyll y ffeithiau canlynol;—Yn y flwyddyn 1827, yn agos i Nantlle a Baladeulyn, cafwyd dau fathodyn (coin) o aur. Ar un tu iddynt yr oedd delw Iorwerth y Cyntaf yn eistedd mewn llong, ac yn dal cleddyf yn ei law. O amgylch yr oedd y geiriau canlynol yn argraffedig mewn hen lythyrenau: "Edward, Dei. Gra. Rex angl. dns. hyb. D. aqui." Ar y tu arall yr oedd lluniau pedwar o lewod a phedair coron, gyda'r geiriau canlynol yn argraffedig:—"ipse. auiem, Transiens. per, medium, Morum. ibat." Yn y flwyddyn 1847, gerllaw Castell Caeronwy, cafwyd nifer o sylltau o fathiad Hari yr 8fed, ac yn ddiweddar, yn agos i'r un lle, ddarn trwm o gopr toddedig, yr hwn sydd yn bresennol yn meddiant J. Lloyd Jones, Ysw., Baladeulyn.

Mae genym bleser neillduol o gyflwyno i sylw y darllenydd sydd yn caru hynafiaethau a chreiriau cysegredig hanes cerfwaith, yn nghyda ffon, a berthynent yn wreiddiol i Goronwy Owen (Goronwy Ddu o Fon), yn nghylch pa rai y bu cymaint o ymdrafod yn y newyddiaduron, pan oeddid yn cyhoeddi hanes y bardd yn nglyn âg argraffiad o'i farddoniaeth. Gellir gweled y creiriau hyn yn meddiant Mr. William Griffith, Penygroes, yr hwn sydd yn briod âg un o ddisgynyddion Goronwy Fardd. Fel hyn y dywed Mr. Griffith am y cerfwaith:—"Pan ydoedd Goronwy yn fachgen ieuanc yn ysgol y Friars, Bangor, byddai yn mynychu yr Eglwys Gadeiriol fel lle o addoliad ar y Sabboth, ac yno, o ryw ddireidi bachgenaidd, torodd ei enw a'r flwyddyn ar un o'r meinciau, a'i gyllell, ac y mae y dyddiad (1746) yn cyfateb i'r cyfnod y dywed ef ei hun y bu yn yr ysgol, sef o'r flwyddyn 1737 hyd 1741. A dyna lle bu yr enw am faith amser, heb neb bron yn gwybod ei fod yno, nac yn meddwl dim yn eigylch. Pa fodd bynag, yn y flwyddyn 1807, pan oeddid yn adgyweirio yr eglwys, nai i Goronwy, sef Mr. Mathew Owen, Coed-y-parc, Bethesda, Am y ffon dywed Mr. Griffith fod ganddo seiliau i gredu iddi gael ei hanfon o'r America gan fab i Goronwy, a'i bod felly, yn ol pob tebyg, yn perthyn yn wreiddiol i'r Bardd Du ei hunan. Y mae yn ffon o ddraenen ddu, brydferth geinciog, ac addurnedig. Cynnwysa yr addurniadau hyn amgorn arian hardd a berthynai yn wreiddiol i Lady Pugh, Coetmor. Hawdd genym gredu y buasai llawer yn barod i roddi pris mawr am dani, nid yn unig ar gyfrif ei phrydferthwch, ond hefyd ar gyfrif y cysylltiad sydd ynddi a phrif-fardd ei oes. Cedwir hi yn ofalus fel etifeddiaeth deuluol; ond caiff yr ymwelydd, efallai, gymaint o bleser wrth weled y creiriau hyn ag a gaiff Mr. Griffith wrth eu dangos. I niy maent yn meddu ar ddyddordeb tra neillduol.

PENNOD IV.
Parhad Hynafiaethau.

Yn y bennod hon ymdrechwn roddi i'r darllenydd fyr grybwyllion am rai o'r cymeriadau mwyaf cyhoeddus fuont yn dwyn perthynas â'r dyffryn hwn. Er fod pob talent o'r bron wedi ymddangos yma, a rhywrai rhagorol yn mhob cangen o lenyddiaeth wedi bod yn preswylio yma, eto ofer fyddai i ni geisio perswadio y darllenydd mai yma yr ymddysgleiriodd y talentau mwyaf, er y gellir, efallai, honi hyny mewn cysylltiad âg ychydig iawn o niferi. Ni fyddwn yn amcanu at ddim mwy na chrybwyllion, hyd yn oed am y rhai ag y gellir cael defnyddiau hanes. Digon i gyfateb i'n hamgylchiadau ni yn bresennol yw bras-grybwyllion yn unig.

GWILYM DDU O ARFON oedd fardd enwog yn ei flodau o'r flwyddyn 1280 i 1320. Yr oedd yn byw mewn lle a elwir Tyddyn Tudur, yn awr o fewn parc y Glynllifon. Gelwid adfeilion ei gartref yn "Furiau Gwilym Ddu, ac yr oeddent yn weledig hyd tua 30 mlynedd yn ol, pryd y chwalwyd hwy, ac y mae coed yn awr yn tyfu dros y lle yr oedd llawr ty y bardd; a dywedwyd wrthym fod pren gwyrddlas, gwahanol ei rywogaeth i'r rhelyw yn tyfu yn y fan lle 'roedd aelwyd y bardd unwaith. Argraffwyd tair o ganeuon Gwilym Ddu yn y Myv. Arch., dwy o ba rai a gyfansoddwyd i Syr Gruffydd Llwyd, o Dregarnedd Mon, a Llys Dinorwig, yn Arfon. Cafodd Gruffydd Llwyd ei greu yn farwn, oherwydd mai efe oedd y cyntaf i gludo i Iorwerth y 1af y newydd eni mab iddo yn Nghastell Caerynarfon. Rhoddwyd iddo hefyd Lys Dinorwig, yr hwn a berthynai i'r tywysogion Cymreig, ac yn yr hwn y preswylient dros gyfnod yn amser hela fforestydd y Wyddfa. Yn mhen talm o amser cododd Gruffydd wrthryfel yn erbyn y Goron, a gasglodd yn nghyd fyddin o wirfoddolwyr, ac a ddystrywiodd lawer o fanau a berthynent i'r Saeson trwy bob rhan o Wynedd; ond yn y diwedd efe a ddaliwyd ac a garcharwyd. Ar yr achlysur hwn y cyfansoddodd Gwilym Ddu ei "Awdl y Misoedd," yr hon a gynnwysa tua 62 o linellau, ac enw yr awdwr gyda'i ddyddiad (1322) wrthi.

RHYS PENNARDD.—Yr oedd y bardd hwn yn ei flodeu o'r flwyddyn 1460 i 1490. Dywed E. Thomas nad yw yn eglur wrth y cofnodiad a geir am dano pa un ai o Glynnog ai o Gonwy yr oedd; ond y dyb gryfaf ydyw mai o'r lle blaenaf. Y mae amryw o'i gyfansoddiadau ar gael mewn llawysgrifen. Claddwyd ef yn Llandrillo, yn Edeyrnion, Meirionydd.

HYWEL GETHIN oedd fardd ac achyddwr galluog, yn byw rhwng y flwyddyn 1570 a'r flwyddyn 1600. Pwy oedd Hywel Gethin o ran teulu, a pha le yn Nghlynnog yr oedd yn byw, nid wyf yn gwybod; nid ellais ddeall fod un cof na thraddodiad am dano wedi aros yn y plwyf, nid oes neb yn y gymydogaeth y bum i yn ymddyddan a hwynt am dano erioed wedi clywed son am ei enw, er nad oes fawr dros ddau gant o flynyddoedd er pan oedd yn ei flodau; clywais amryw yn crybwyll am un Gutto Gethin oedd yn byw braidd gymaint a hyny o amser yn ol, mi feddyliwn, oblegid dywedir mai saer maen digymar am gryfder ei waith oedd, ac mai efe a adeiladodd y New Inn a Hafod y Wern, yn Nghlynnog, dau hen dy, y gellid dyddio eu hadeiladaeth rywbryd gan belled yn ol ag amser Oliver Cromwell, o leiaf, ac yn darawiadol o debyg yn eu cynllun a'u gweithred. Sonir hyd heddyw am "Bin Gutto Gethin," yr hwn oedd yn ddiarebol o ddiogel, trwy ei fod yn cael ei osod yn yr adeilad a'r pen ffurfaf i fewn. Crybwylla Owen Gruffydd yn ei achau fod un Japheth Gethin (yr hwn, fel y gellid casglu, oedd yn gydoeswr âg) yn disgyn o genedl Rhys Gethin; pa un a oedd y Cethiniaid hyn i gyd wedi deillio oddiwrth yr hen wron gerwin hwnw nis gwn, a bydd arnaf flys garw gwybod tipyn o edryd hen fechgyn fel hyn, oeddynt yn eu dydd yn medru cyflawni tipyn o orchest mewn llenyddiaeth neu law-weithyddiaeth. Dyma fel yr ysgrifenai Mr. Thomas mewn nodiad cysylltiedig â chywydd o eiddo y bardd Hywel Gethin a adysgrifenyd ganddo i'r 'Brython' am 1860.

MICHAEL PRISIART.—Bardd ieuanc athrylithgar a anwyd yn Llanllyfni, yn y flwyddyn 1710. Enw ei dad oedd Risiart Prisiart, o Lanllyfni. Gwehydd oedd Michael wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn ddysgybl barddonel i Owen Gruffudd, o Lanystumdwy, ar ol yr hwn hefyd y cyfansoddodd gywydd marwnad rhagorol, ac a gyhoeddwyd ar ol ei farwolaeth yn y 'Gwladgarwr.' Yn yr un cyhoeddiad hefyd ymddangosodd ei Gywydd i'r Wyddfa, yn nghyda lluaws o gyfansoddiadau ereill o'i eiddo.

Dygwyddodd i'r bardd ar ryw achlysur neu gilydd fod mewn swyddfa cyfreithiwr yn Beaumaris, ac yno cyfarfyddodd â'i hen gymydog, Ffowc Jones, yr Udganwr, yr hwn a annerchodd Michael fel hyn:—"Michael, pa le mae'r meichie?" "Y mae wrth law draw'n y dre'," ebai Michael yn ddiymaros. Pwy ddamweiniodd fod yn clywed yr atebiad parod, ond W. Bulkeley, ysw., o'r Bryn du, Mon, yr hwn oedd ei hun yn fardd ac yn achleswr beirdd a barddoniaeth; a chan ei fod yn foneddwr cyfoethog a haelfrydig, efe a gymerodd Michael ato i'r Bryn du yn arddwr iddo. Yn fuan ar ol iddo symud yno daeth angau, yr hwn ni eiriach na bardd na garddwr heibio i'r ardd, ac a dorodd y planigyn tyner hwn i lawr, a Michael druan a fu farw, a chladdwyd ef yn mynwent sech Llanfechell, lle nad oes ond y dywarchen las yn unig yn gorchuddio ei fedd. Cymerodd hyn le yn 1731, cyn iddo gyraedd ei 22ain mlwydd oed. Rhyfedd na buasai y boneddwr hael a charedig yn cyfodi gwyddfa iddo, ac y mae yn anhawdd genym gredu pe claddesid ef yn ei lan enedigol y gadawsai chwarelwyr llenorol Nantlle feddrod un o'u bechgyn athrylithgar heb gof-golofn deilwng o'i enwogrwydd.

ANGHARAD JAMES.—Yr oedd yn byw yn y Gelliffrydau, yn agos i'r Baladeulyn tua 200 mlynedd yn ol ŵr a wraig o'r enw James Davies ac Angharad Humphreys, ac iddynt yr oedd merch a elwid yn ol y drefn Gymreig Angharad James, yr hon oedd yn feddiannol ar raddau uchel o athrylith a dysgeidiaeth. Yr oedd hefyd yn meddu tuedd gref at farddddoniaeth; ac ymddengys iddi gyfansoddi llyfr o farddoniaeth ei hunan, yr hwn ni chyhoeddwyd erioed mor bell ag y deallasom. Nyni a ddyfynwn yr hanes desgrifiadol a ganlyn am y foneddiges awdurol hon o 'Gofiant y Parch. J. Jones, yr hwn oedd yn ddisgynydd o'r un teulu a hithau. Fel hyn y dywed y Parch. O. Thomas:—"Cyfrifid Angharad James yn wraig nodedig yn ei dydd, yn anghyffredin felly o feddwl cryf ac athrylithgar, yn hynod o wrol a phenderfynol, ac wedi cael dysgeidiaeth uchel iawn. Nid ydym yn gwybod yn mha le y derbyniodd ei haddysg; ond yr oedd ei rhieni mewn sefyllfa uchel y byd, ac o bosibl, eu hunain yn gweled gwerth dysgeidiaeth, ac yn ofalus am roddi i'w merch y manteision gereu i hyny. Yr oedd Angharad James, pa fodd bynag, wedi esgyn i'r hyn oedd yn mhell o fod yn gyffredin, nid yn unig yn y dyddiau hyny, ond eto hefyd. Yr oedd yn gwbl hyddysg yn yr iaith Lladin, yn gyfarwydd iawn yn nghyfreithiau y deyrnas, ac yn cael ei chydnabod yn un o wybodaeth dra helaeth. Yr oedd rhai o'i llyfrau Lladin ar gael yn mhlith ei disgynyddion hyd yn ddiweddar, a dichen fod rhai ohonynt eto. Yr oedd hefyd yn dra hoff o farddoniaeth, ac yn arfer cyfansoddi llawer ei hun. Yr oedd llyfr helaeth o'i barddoniaeth ar gael hyd o fewn llai na haner can' mlynedd yn ol yn ei llawysgrifen hi ei hunan. Bu yn menthyg yn nwylaw y diweddar Mr. G. Williams, Braich Talog, Llandegai, (Gutyn Peris) am dymmor, yr hwn a ddywedai ei fod yn hollol hysbys i'r hen feirdd ac y gelwid ef y 'Llyfr Coch,' am mai ag inc coch yr ysgrifenasid ef. Yr oedd gan Angharad hefyd delyn, ac yr oedd yn dra hoff o chwareu arni. Cyn myned i orphwys y nos ar yr awr bennodol, byddai raid i'r holl deulu, y gweision a'r morwynion, ddyfod yn nghyd i ddawnsio am ryw gymaint o amser, tra byddai eu meistres awdurdodol yn chwareu ar y delyn." Dylid crybwyll yma iddi briodi pan oedd tuag 20 oed, a myned i fyw i'r Parlwr Panaman, Dolyddelen, lle yr oedd yn cario yn mlaen yr arferion neillduol at y rhai y cyfeiria Mr. Thomas. "Pan fyddai y gwartheg yn yr haf yn mhell oddiwrth y ty, tuag Aberleinw, elai Angharad gyda'r morwynion i odro, ac wrth ddychwelyd adref, rhoddid y beichiau llaeth i lawr mewn lle pennodol, fel y gallent orphwyso. Yna canai y feistres, tra yr ymroddai y morwynion i ddawnsio. Dyna oedd yr arferiad, pa un ai ar wlaw a'i hindda, nid oedd un gwahaniaeth, yr oedd yn rhaid myned trwy y ddefod, a galwyd y lle hwn yn 'Glwt y Ddawns' hyd y dydd hwn. Yr oedd yn cael ei chyfrif yn wraig nødedig o foesol; ac yn ol syniad yr amseroedd yn dra chrefyddol; ac oblegid y cymeriad oedd iddi am ei dysgeidiaeth, a'i chydnabyddiaeth â chyfreithiau y deyrnas, yn nghyda gwroldeb ei hysbryd, a'r dull arglwyddaidd ac awdurdodol oedd gwbl naturiol iddi, yr oedd gradd o'i harswyd ar yr holl wlad o'i hamgylch.

HYWEL ERYRI.—Hugh Evans, neu Hywel Eryri, oedd fardd cywrain a fu yn byw am y rhan fwyaf o'i oes yn y gymydogaeth hon, er ei fod yn enedigol o Lanfair-mathafarn-eithaf, yn Mon. Gwehydd oedd efe wrth ei alwedigaeth, a lled isel ydoedd ar hyd ei oes o ran ei amgylchiadau tymmorol. Bu fyw am ysbaid yn Abererch, gerllaw Pwllheli, am dros y rhan fwyaf o'i oes mewn lle a elwir Plas Madog, yn agos i Glynnog. Bu fyw y rhan ddiweddaf o'i oes yn Penygroes, lle hefyd y bu farw. Y mae llawer o'i gyfansoddiadau yn wasgaredig yn ngwahanol gylchgronau a chyfnodolion ei oes. Dywedai Eben Fardd fod rhediad naturiol ei ddawn at duchan; ac y mae ar gof yr ardalwyr luaws mawr o'i gerddi duchan, yn y rhai y dirmygai mewn ymadroddion llym a chyrhaeddgar y cyfryw a'i tramgwyddent. Ganwyd ef o gylch y flwyddyn 1764, a bu farw yn Mhenygroes, yn 1809, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Bedyddwyr Albanaidd, yn Llanllyfni, gyda pha rai yr oedd efe hefyd yn aelod eglwysig.

EDMUND A FFOWC PRYS. —Mewn rhestr o enwogion Arfon a gyhoedd o lawysgrif D. Ddu Eryri yn y 'Brython' am 1860, crybwyllir enwau Edmund a Ffowc Prys, meibion yr Archddiacon Edmund Prys, o'r Tyddyn Du, Maentwrog, ac awdwr byd-enwog y 'Salmau Cân,' Amryw ereill hefyd, megys Iolo Meirion yn ei draethawd buddugol ar enwogion sir Feirionydd a grybwylla am danynt fel meibion i'r Arch. ddiacon. Dywedai y Parch. J. Jones, Llanllyfni ar y pen hwn "fod meibion ac ŵyrion yr Archddiacon Prys wedi bod yn llafurio yn y Nant." Yn ol y rhestr y cyfeirir ati uchod, yr oedd Edmund a Ffowc Prys yn blodeuo tua'r flwyddyn 1702, pryd y dywedir fod yr Archddiacon wedi marw yn y flwyddyn 1624. Ystyrier y gwahaniaeth rhwng 1702 a 1624, a gwelir fod y mab yn blodeuo bedwar ugain mlynedd ond dwy ar ol marwolaeth y tad! Rhaid eu bod wedi myned yn hen iawn cyn blodeuo? Tybiai Eben Fardd, ar sail llythyr o eiddo Goronwy Owain at un William Morys, mai ŵyrion, nid meibion oeddynt y Parchedigion Edmund a Ffowc Prys; y blaenaf yn ficer yn Nghlynnog, a'r olaf yn berson yn Llanllyfni. Ymddengys fod Edmund Prys yn fardd lled enwog fel ei daid, fel y prawf ei englynion i Ellis Wynn, awdwr 'Bardd Cwsg,' y rhai a gyhoeddwyd mewn cysylltiad a'i gyfieithiad o 'Reol Buchedd Sanctaidd.' Yr oeddynt hefyd yn gyffelyb i'w taid yn ysgolheigion o radd uchel, yr hwn, fel y dywedir, ydoedd yn hyddysg mewn wyth o wahanol ieithoedd. Bu E. Prys, ficer Clynnog farw yn y flwyddyn 1718, ac y mae careg bedd Ffowe Prys i'w gweled yn llawr Eglwys Llanllyfni.

PARCH. RICHARD NANNEY.—Yr oedd y gwr enwog hwn yn berson Llanaelhaiarn, ac yn ficer Clynnog o gylch y flwyddyn 1723. Ganwyd ef yn Cefndeuddwr, yn mhlwyf Trawsfynydd, Meirionydd. Ei rieni oeddynt Robert Nanney o Cefndeuddwr, a Martha, merch Richard ab Edward o Nanhoron, yn Lleyn. Wedi iddo briodi ag Elizabeth, merch hynaf William Wynn o'r Wern, cymerodd lease ar Elernion, Llanaelhaiarn, ac yno y bu fyw yn fawr ei barch am haner can mlynedd. "Offeiriad hynod am ei dduwioldeb, ac am ei lwyr ymroddiad i'w swydd gysegredig oedd y Parch. Richard Nanney: dywedir y byddai eglwys Clynnog Fawr yn orlawn yn ei amser ef, a'r gynnulleidfa fel tyrfa yn cadw gwyl mewn llais can a moliant, ac adsain defosiwn yn llenwi yr holl le." (E. Fardd yn 'Nghyff Beuno'.) Ceir y desgrfiad canlynol o'r gwr parchedig yma gan awdwr 'Drych yr Amseroedd:'—" Cyfrifid ef fel pregethwr yn rhagori ar y rhan fwyaf o'i frodyr urddasol: nid oedd gofalon bydol yn cael nemawr o le ar ei feddyliau; oblegid nid adwaenai ei anifeiliaid ei hun, ond yr un fyddai efe yn ei farchogaeth. Ond O! er mor foesol a phrydferth oedd ei ymddygiad yn ystod ei fywyd, eto nid oedd pelydr yr efengyl, na'r anadl oddiwrth y pedwar gwynt, yn effeithioli ei weinidogaeth i gyrhaedd calonau ei wrandawyr yr holl amser hyn; ond yn niwedd ei ddyddiau cododd goleuni yn yr hwyr, daeth arddeliad amlwg ar ei weinidogaeth, a bu fel diferiad diliau mel i lawer o eneidiau trallodedig. Ymgasglai lluaws mawr o amryw blwyfydd i wrando arno, nes y byddai eglwys fawr Clynnog yn haner llawn: byddai raid ei gynnorthwyo i'r pulpud rai gweithiau o achos ei henaint a'i lesgedd. Yn ol pregethu eisteddai i lawr yn y pulpud i aros i'r gynnulleidfa ganu salm neu hymn, a byddai yn fynych dywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn gorlenwi calonau llawer o'r gwrandawyr, nes y byddai y deml fawr yn adseinio yn beraidd o haleluiah i Dduw a'r Oen. Bu farw y gwr parchedig hwn yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau-dros 80 oed."

ROBERT ROBERTS, CLYNNOG. —Tua chanol y ganrif o'r blaen yr oedd yn byw yn Ffridd Baladeulyn wr a gwraig grefyddol o'r enwau Robert Thomas a Chathrine Jones; a bu iddynt ddau o feibion, y rhai a ddaethant yn mhen amser yn weinidogion enwog yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Yr hynaf o honynt, John, a anwyd yn 1752; a phan yn fachgen oedd o dymer addfwyn, lonydd, a myfyrgar; ac yn mlynyddoedd aeddfedaf ei fywyd oedd yn bregethwr melus ac efengylaidd. Yr ieuengaf o honynt, â'r hwn y mae a fynom yn fwyaf neillduol, a anwyd yn 1762, oedd o dymer fywiog, chwareus, a thanbaid; ac mewn amser dilynol a ddaeth yn un o'r gweinidogion mwyaf tanllyd ac effeithiol a gyfododd erioed, o bosibl, yn Ngwynedd. Bu John dros ryw ysbaid a amser yn cadw ysgol yn Nghlynog, ond symudodd i Langwm, yn sir Feirionydd, lle diweddodd ei yrfa mewn tangnefedd, Tach. 3ydd, 1834, yn 82 mlwydd oed, Efe oedd tad yr athrylithgar ac anffodus Michael Roberts, Pwllheli. Yr oedd iddo ferch hefyd yn meddu ar raddau o athrylith, a dywedir mai hi a gyfansoddodd yr emyn prydferth sydd yn dechreu â'r llinell hon:—-"Mi gysgaf hun yn dawel," &c. Parhaodd y cysylltiad rhwng Robert Roberts a'r ardal hon dros y rhan fwyaf o'i oes. Cychwynodd ei yrfa fel chwarelwr yn y gloddfa; ond pan ymunodd â chrefydd, yn unarbymtheg oed, newidodd ei alwedigaeth, ac a aethi wasanaethu fel gwas ar fferm. Mewn cysylltiad a'r gwaith hwn cyflogodd i fyned i wasanaeth rhieni y Parch. R. Jones, Coed Caed Du, lle bu mab y Parch. R. Jones (y Wern ar ol hyny) yn gymhorth iddo addysgu ei hunan. Bu am ychydig fisoedd wedi hyny gydag Evan Richardson, yn Nghaerynarfon; a dyna gymaint o fanteision addysg a gafodd; er hyny, trwy ei ymroddiad a'i ddiwydrwydd, meistrolodd yr iaith Saesenaeg i'r fath raddau nes bod yn alluog i ddefnyddio yr awduron Seisnig ar faterion duwinyddol. Yr oedd ei ymddangosiad personol yn wael, ffurf ei gorph yn grwca ac eiddil, yr hyn a achlysurwyd trwy oerfel neu ysigdod. Er yr anfanteision hyn yr oedd rhyw nerth a dylanwad rhyfedd yn canlyn ei weinidogaeth. Treuliai ysbaid o amser cyn pregethu mewn ymdrech gyda Duw, ac ymollyngai dan angerddoldeb ei deimlad i wylo yn hidl. Disgynai ei ymadroddion fel taranfolltau ar glustiau ei wrandawyr, a byddai dyspeidiau disymwth ac annisgwyliadwy yn nghanol ffrydlef danllyd o hyawdledd, yn peri effeithiau annesgrifiadwy. A chan y gall y darllenydd weled desgrifiad cyflawnach o hono, gyda chyfeiriad at amgylchiadau neillduol yn ei hanes, wedi ei ysgrifenu gan ei nai, ni fydd ini yma ychwanegu. Cyfansoddodd Dewi Wyn farwnad doddedig i'w goffadwriaeth. Yr oedd yn byw y rhan fwyaf a'r olaf o'i oes wrth y Capel Uchaf a bu farw yn 1802 yn 40 mlwydd oed. Y mae yr englyn canlynol o waith Eben Fardd yn gerfiedig ar ei fedd yn mynwent Eglwys Beuno Sant':

"Yn noniau yr eneiniad,—rhagorol
Fu'r gwr mewn dylanwad;
Seraph o'r nef yn siarad
Oedd ei lun yn ngwydd ei wlad."

Y PARCH. WILLIAM ROBERTS ydoedd weinidog nid anenwog yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Ganwyd ef yn yr Hendre Bach, yn agos i Glynnog, lle bu ei deulu yn trigianu er's mwy na 300 mlynedd. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Bedyddwyr, ac yn bobl hynod o grefyddol. Eithr eu mab, pan oedd tuag ugain mlwydd oed, a ymunodd â'r Methodistiaid yn y Capel Uchaf. Efe, oddiar anogaeth a gafodd gan Mr. Charles o'r Bala, a ddechreuodd gadw Ysgol Sabbothol gyntaf yn y lle. Lle hefyd y traddododd ei bregeth gyntaf mewn wylnos un o deulu y Ty'nllwyn. Yr oedd hyny yn y flwyddyn 1804. Ordeiniwyd ef i gyfawn waith y weinidogaeth yn 1819. Ni chafodd William Roberts, mwy na'r mwyafrif yn ei oes, ond ychydig o fanteision addysg foreuol. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth i deithio drwy Dde a Gogledd, a threfydd Lloegr. Yr oedd yn araf a phwyllog yn ei ymddiddanion, yn sych ac ymresymiadol wrth draddodi ei bregethau, ac yn aml iawn yn faith—yn afresymol felly—am ba herwydd ni bu erioed yn boblogaidd ond gydag ychydig o'r dosbarth mwyaf darllengar. Yr oedd yn gyfarwydd iawn mewn hanesiaeth ysgrythyrol ac eglwysig; yn gartrefol yn mhrophwydoliaethau Daniel ac Ioan, a gelwid ef yn fynych yr "Hen Brophwyd o'r Hendre Bach." Yr oedd hefyd yn cael ei gydnabod yn wr o brofiad a synwyr cryf mewn cynadleddau, ac yn sefyll yn uchel mewn parch gan ei frodyr yn y weinidogaeth. Ei brif lafur fel awdwr oedd ei 'Draethawd ar yr Ordinhad o Fedydd.' Cyhoeddodd hefyd ddetholion o weiehiau y Parch. J. A. James, o Birmingham, ar yr Ysgol Sabbothol. Aeth yn gwbl ddall yn mlynyddoedd diweddaf ei oes: ond parhai i fyned oddiamgylch felly i bregethu. Yr oedd yn wr o gorpholaeth cadarn, ond lled anniben, ac o feddwl cawraidd, ond ei fod yn ddiwres. Bu farw yn nhrigfod ei hynafiaid Hyd. 14eg, 1857, yn 84 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent y Capel Uchaf, lle gwelir ar ei fedd englyn o waith ei gymydog athrylithgar Eben Fardd.

PARCH. JOHN JONES, TALYSARN. — Y mae cymaint wedi cael ei ysgrifenu am y gwr mawr hwn, yn neillduol yn ei 'Gofiant' anghydmarol gan y Parch. O. Thomas, Liverpool, fel mai mursendod ynom ni fyddai gwneyd un ymgais i gyfeirio at brif amgylchiadau ei fywyd, na phrif nodweddau ei gymeriad. Gellir meddwl ei fod wedi cael cyfiawnder yn y cofiannau, y marwnadau, yr anthemau, yn mha rai y mae prif dalentau Cymru am y cyntaf i dalu gwarogaeth i fawredd a gwerth y cymeriad a ddarlunir ganddynt. Ganwyd ef yn Tanycastell, Dolyddelen, Mawrth 17eg, 1796. Olrheiniai ei achau o dy ei dad i Hedd Molwynog, sylfaenydd un o'r Pymtheg Llwyth; ac o du ei fam i Einion Efell, Arglwydd Cynllaeth. Ymunodd â chrefydd pan yn 22 mlwydd oed, a phregethodd yn gyhoeddus gyntaf yn y Garnedd, yn agos i Dolyddelen, yn 1820, ac ordeiniwyd ef yn y Bala yn 1829. Wedi pregethu am yr ysbaid o 33 o flynyddoedd, bu farw ar y dydd Sabboth, Awst 17eg, 1857. Claddwyd ef y Gwener canlynol, a chynwysai ei angladd tua 70 o weinidogion a phregethwyr, tua 100 o swyddogion eglwysig, 200 o gantorion, 40 o gerbydau, a thua 5000 o bobl ar draed, yr angladd lluosocaf a welwyd erioed o bosibl yn Nyffryn Nantlle. Parhaodd cysylltiad y Parch. John Jones a'r gymydogaeth hon o ddechreu y flwyddyn 1823 hyd ei farwolaeth. Yn mis Mai y flwyddyn hono priododd â Frances. Edwards, merch Thomas Edwards, Taldrwst, yr hon sydd wedi ei oroesi. Bu Mrs. Jones yn "ymgeledd gymwys" iddo yn mhob ystyr; cymerai ofal masnach a dygiad i fyny deulu lluosog ar ei hysgwyddau ei hunan; a thrwy fendith Duw ar ei llafur hi yn benaf, dygasant i fyny deulu lluosog yn anrhydeddus, a llwyddasant i grynhoi swm mawr o gyfoeth, nes y daeth y teulu hwn gyda'r mwyaf dylanwadol yn y Nant. Yn fuan ar ol iddynt briodi, perchenog y chwarel a adeiladodd dy a shop iddynt yn ymyl y capel. Gerllaw y ty yr oedd gallt goediog, yn yr hon y gellid gweled "pregethwr y bobl" yn cerdded ol a blaen, a'i ddwylaw ar ei gefn o dan ei gõt. Dyma y fan lle y cenhedlwyd y meddylddrychau, ac y lluniwyd y broddegau o dan y rhai yr ysgydwid cynnulleidfaoedd mawrion Cymru fel coedwig o dan yr awel. Buom yn teimlo arswyd cysegredig wrth sangu y llanerch hon, fel pe buasai yr ysbryd mawr fu yn cymdeithasu & Duw yn y fan yma wedi gadael ei ddelw ar y creigiau o amgylch. Yn awr y mae yr hen gapel a'r hen dy wedi eu chwalu, a malurion y cloddfeydd wedi gorchuddio y fan bron yn hollol. Bernir i gysylltiadau agosach y Parch. John Jones a'r byd, yn y rhan olaf o'i oes, trwy iddo ymgymeryd â goruchwyliaeth chwarel, anmharu ar ddysgleirdeb ei weinidogaeth, yr hyn a barodd ofid i'r wlad, a'r hyn, pan ddeallodd yntau, yr ymryddhaodd oddiwrtho. Adeiladodd fasnachdy helaeth wrth y ffordd sydd yn arwain o Benygroes i Nantlle; ac yno diweddodd ei oes ar yr 17eg o Awst, 1857. Mae y bobl hynaf yma yn caru son am dano, yn caru adrodd ei sylwadau mewn cyfeillachau, a'i weddiau ar amgylchiadau neillduol. Bywyd ydoedd yr eiddo ef a adawodd y fath argraff ar holl gylch ei ddylanwad, nad oes ond y dydd mawr a'i dengys. Y mae yr had a hauwyd ganddo yn dwyn ffrwyth yn nghrefyddolder y wlad oddiamgylch. Ni fu neb mwy, os mor boblogaidd ag efe, yn y rhan hon o Wynedd, ac a barhaodd i fwynhau yr unrhyw hyd ei farwolaeth. O ran tuedd ei gredo a'i athrawiaeth cyhuddid John Jones o bregethu Arminiaeth a phethau "croes i athrawiaeth iachus." Addefir i'w weinidogaeth greu cyfnod newydd yn y dull o bregethu yn mysg gweinidogion y cyfundeb y perthynai iddo. Sylwai y Parch. M. Hughes, diweddar o'r Felinheli, mai "John Jones a fu y prif offeryn i greu y dull newydd yn mhlith y Methodistiaid yn Nghymru. Yr hen ddull oedd pregethu ar bynciau athrawiaethol. Teimlodd llawer, nid yn unig yn mysg y Methodistiaid, ond hefyd yn mysg yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, fod rhyw ddiffyg pwysig yn y dull hwnw, ac y dylasai y pechadur yntau wneyd rhywbeth er sicrhau ei gadwedigaeth." Blaenorid yn y drefn newydd o bregethu yn mysg y Bedyddwyr gan y Parch. J. P. Davies o Dredegar; yn mysg yr Annibynwyr gan Williams o'r Wern; ac yn mhlith y Methodistiaid gan Jones o Talysarn. Derbyniasant ill trioedd wrthwynebiadau cryfion ar y cyntaf. Bu llawer o'r hen flaenoriaid yn doctora uwch eu penau, ond hwynthwy a orfuant, a chydnabyddir yn lled gyffredin, erbyn hyn, mai hwynthwy oedd yn gywir. Ond er ei holl ddefnyddioldeb, ei barch, a'i boblogrwydd, efe a fu farw. Cyfodwyd cofgolofn ysblenydd uwch ei fedd trwy danysgrifiadau ei gyfeillion, ar yr hon y mae crynhodeb o ragoriaethau ei gymeriad. Cyfansoddodd Eben Fardd ddau englyn i'r golofn hon, y rhai a ddodwn ger bron yma:

Jones Talsarn wnaeth yn ddarnau—y cestyll
Castiog lochent ddrygau;
Cliriodd hwynt, er cael rhyddhau—plant pechod
Drwy waed yr amod, o'u diriaid rwymau.

Jones Talsarn—nid barn, nid bedd—a bylant
Belydr ei glaer fuchedd;
Ni ad Duw ei genad hedd-a'i fri tal
I ffawd anwadal, a phw! dinodedd.


Y PARCH. JOHN JONES, M. A.—Y nesaf o ran amser, ac nid y lleiaf o ran teilyngdod, ceir y Parch. John Jones, person Llanllyfni. Ganwyd ef yn y Lleddfa, gerllaw Machynlleth, yn swydd Feirionydd. Derbyniodd ei addysg elfenol yn Ysgol Ramadegol, Bangor. Symudodd drachefn i Goleg yr Iesu, Rhydychain, lle graddiwyd ef yn Athraw yn y Celfyddydau. Priododd âg Elizabeth, merch John Jones, ysw., Bryn Hir, a chwaer y diweddar Owen Jones Ellis Nanney, o'r Gwynfryn; ac y mae hi wedi ei oroesi, ac eto yn byw yn Mhenygroes. Bu Mr. Jones yn gweinidogaethu yn Eglwys Llanllyfni am yr ysbaid maith o 43 o flynyddoedd. Cyhoeddodd saith o bregethau yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, eithr ei hoff bwnc oedd Hynafiaethau, ac yn y gangen hon o lenyddiaeth Gymraeg gellir ei osod ar ben y rhestr o ddynion ei oes. Ysgrifenodd amryw babyrau yn dwyn cysylltiad â hynafiaethau y wlad hon i wahanol gyfnodolion; ac ymddangosodd erthyglau ysgolheigaidd o'i eiddo yn yr 'Arch. Cambrensis,' yn nghyda'r 'Cymro yr Amserau,' &c. Gadawodd ar ei ol swm mawr o MSS., y rhan fwyaf o ba rai a gyflwynwyd gan ei gymun-weinyddwyr i Gymdeithas y 'Camb. Arch. Association.' Gwasgarwyd llawer o'i lyfrau a'i ysgrifau yn yr arwerthiant fu arnynt; ac yr oedd efe ei hun yn niwedd ei oes mor ddiystyr o ffrwyth ei lafur boreuol, fel y sylwyd arno yn llosgi ei ysgrifau gwerthfawr fel difyrwch iddo ei hun a'i ŵyrion bychain. Bu farw y Parch. John Jones yn mis Chwefror, 1863, yn 77 mlwydd oed, ac y mae ei fedd yn mynwent Eglwys Sant Rhedyw, a drwg genym oedd ei weled heb unrhyw fath o golofn na beddadail, dim ond "careg arw a dwy lythyren dorodd rhyw anghelfydd—law" i ddynodi ei orphwysfa. Tra mae lluosogrwydd o greaduriaid dinod yn eu bywyd wedi eu hanrhydeddu yn eu marwolaeth â chof-golofnau heirdd, y mae yn resyn meddwl fod bedd yr hynafiaethydd hybarch yn cael ei esgeuluso.

D. AB HU FEDDYG. —David William Pughe, ysw., neu D. ab Hu Feddyg, M.R.C.S., oedd fab ieuangaf David Roberts Pughe, Brondirion, Clynnog. Heblaw ei fod yn feddyg clodfawr, yr oedd yn hynafiaethydd craff, ac ysgrifenydd gwir alluog. Ysgrifenodd amryw o gyfrolau yn cynnwys hanes Cestyll Caerynarfon, Conwy, Beaumaris, Harlech, yn nghyda llyfr ar 'Awstralia, neu ar wlad yr aur; ac hefyd ysgrifenodd luaws o erthyglau galluog i'r 'Arch. Camb., yn nghyda chyfnodolion ereill. Yr oedd efe yn gyfaill ffyddlon iawn i Eben Fardd, a'r bardd iddo yntau. Yr oedd hefyd yn feddyg ei deulu, a gwnaeth bob peth oedd yn ei allu er adferyd iechyd, ac achub bywydau anwyliaid y bardd; ond trechai y gelyn diweddaf bob ymdrechion o'i eiddo. Dengys y dyfyniad canlynol y fath feddyliau uchel oedd gan Mr. Thomas am dano, yr hwn a gawsai y fantais oreu i'w adnabod. Rhoddwn y geiriau yma fel eu hysgrifenwyd hwy:—-"The demise of the above gentlemen requires a prominent notice, inasmuch as he was an excellent Literary character, and an author of great aptitude, endowed with a noble, vigorous genius, and possessing talents of rare brilliancy. Being therefore addicted from boyhood to reading and study, he soon became through the accessory influence of habit and taste, a marked Literate, exhibiting a rather immoderate passion for literary enjoyments. Having stored his mind with an infinite variety of knowledge and general information, well digested and arranged in the memory, he seemed always very ready to impart it to others, either through the press, or by oral delivery in lec-turing and conversation." Wedi gwanwyn a haf gwych ac addawol, daeth pruddfeddyliau yn tarddu o afiachusrwydd i orlethu ei enaid athrylithgar, nes ei ddyeithrio bron yn llwyr oddiwrth bob cymdeithas ac ymdrech am y pedair blynedd diweddaf o'i yrfa. Ar foreu Sadwrn yn mis Tachwedd, 1862, hunodd yn dawel i brofi gwirionedd llinellau a fynych goffeid ganddo yn anterth ei drallodion.

"Wyf iach o bob afiechyd,
Ac yn fy medd gwyn fy myd."

Yn foneddwr o alluoedd anghyffredin fel llenor a chelfyddydwr, ysbeiliwyd Cymru o un o'r rhai mwyaf gobeithiol o'i meibion, trwy ei flynyddoedd o gystudd a'i farwolaeth anamserol. Claddwyd ef yn mynwent Clynnog yn agos i fedd ei gyfaill, Eben Fardd; ac y mae gwyddfa hardd ar ei fedd, a'r ddwy linell a goffâwyd yn gerfiedig arni. Nid oedd ond 41 mlwydd oed.

EBEN FARDD.—Y mae enw Mr. Ebenezer Thomas, neu Eben Fardd, yn gysylltiedig â'r gymydogaeth hon er's llawer o flynyddoedd, ac mor gyhoeddus trwy bob rhan o Gymru, fel mai afreidiol i ni fanylu ar ei. hanes. Dechreuodd ei gysylltiad â'r Nant yma tua'r flwyddyn 1827, pan ddaeth i gadw ysgol ddyddiol i Gapel Beuno yn llanc gwladaidd ac yswil yr olwg arno. Wedi bod yn y lle hwnw am tuag 16eg o flynyddoedd symudwyd yr ysgol i gapel newydd y Methodistiaid gerllaw y pentref, lle bu yntau yn athraw ynddi hyd ddiwedd ei oes. Rhoddodd rybydd o'i fwriad i ymadael rai gweithiau—unwaith penderfynodd symud i Borthmadog; ond y wlad a gyfododd ei llais i'w attal, a'r pryd hyny y darfu i gyfarfodydd misol Lleyn, ac Eifionydd, ac Arfon bennodi swm blynyddol o gyflog idde am aros yn Nghlynnog, er mwyn rhoddi cyfleusdra i ymgeiswyr am y weinidogaeth gael addysg ragbarotoawl cyn myned i Athrofa. Prif ddiffyg Eben fel ysgolfeistr oedd tynerwch ei ddysgyblaeth. Byddai weithiau yn ymgolli mor lwyr yn nghanol creadigaethau ysblenydd ei ddychymyg barddonol, nes anghofio pawb a phobpeth o'i amgylch; er hyny yr oedd ar bawb o'i blant ofn ei ddigio fel digio tad; a chof genym weled rhai ohonynt yn wylo yn hidl pan awgrymodd efe iddynt ei fwriad i'w gadael. Efe oedd tad y cyfarfodydd llenyddol; a chynnaliwyd y cyntaf ohonynt yn y wlad hon, yn nghapel y Methodistiaid yn Nghlynnog, lle yr oedd y bardd yn gweithredu fel beirniad a chyfarwyddwr. Ymledodd y meddylddrych yn fuan dros y wlad, ac y maent eto yn hynod o boblogaidd. Cynnelir ef yn flynyddol yn Nghlynnog bob dydd Llun y Sulgwyn hyd heddyw. O ran ffurf ei gorff yr oedd Eben yn dal a lluniaidd, talcen uchel a llydan; ac yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn gadael ei farf yn llaes a thrybrith. Gwisgai bob amser yn drefnus, ond yn wladaidd. Ymddangosai ar y cyntaf yn annibynol ac oeraidd, ac nid oedd ei serch hyd yn nod at ei deulu, yn drysliog ag arwynebol, ond fel yr eigion yn ddwfn a llonydd. Yr oedd rhyw fath o yswildod yn nglyn wrtho mewn cyfarfodydd cyhoeddus; ond gartref yn ei gynefin traddodai ei sylwadau yn rhwydd a naturiol iawn. Yr oedd ei gyfeillgarwch yn werth cymeryd trafferth i'w feddiannu, oblegid meddiant parhaus fyddai, ac yn sicr o osod bri ar y sawl alwyddai. Cynwysa teulu y bardd unwaith, heblaw ei briod, bedwar o blant, sef tair merch ac un mab. Wedi eu gweled oll yn tyfu i fyny gwanwyn tyner einioes, gorfu arno edrych arnynt i gyd ond un, yn gwywo yn y darfodedigaeth. Yr oedd drylliad y rhwymau tyner â'i hunai, â'i briod, a'i blant yn creu y fath ing meddyliol hiraethus nad all neb o feddwl llai nag a feddai ef ei deimlo. Ei ddwy ferch hawddgar a glan, a'u mam, a'i fab, sef ei unig fab, y dysgedig a'r athrylithgar James Ebenezer Thomas, a gludwyd trwy y porth i fynwent Beuno, lle gorphwysent ar gyfer ei dy. Ei ferch hynaf, Mrs. Davies yr Hendre Bach yn unig a'i goroesoedd, ac y mae hithau er's blynyddoedd bellach wedi eu dilyn i'r un orweddle lonydd. Gadawyd y bardd yn mlynyddoedd olaf ei oes yn unig; ond yn awr y mae yr holl deulu, yn dad, mam, chwiorydd, a brawd, yn ddystaw a thawel wrth fur deheuol Eglwys Beuno Sant. Nis gallwn osgoi y brofedigaeth o ddyfynu geiriau un o'i fywgraffwyr, y rhai a roddant ddesgrifiad cywir a tharawiadol o gyflwr bardd Clynnog Fawr yn nghanol unigrwydd blynyddoedd olaf ei oes. Yr oedd y pryd hwnw yn nyfroedd dyfnion trallod oherwydd colli ei anwyliaid, yn byw wrtho ei hun, a chadeiriau gweigion o'i ddeutu yn ail enyn ei alar bob edrychiad a roddai arnynt; ac i fagu y pruddglwyf nid oes odid haiach man yn Nghymru na Chlynnog Fawr, pentref bychan cysglyd, beddrodau saint hen a diweddar yn nghor Beuno gerllaw, a thudraw i hyny yr eigion cwynfanus yn ymgyro yn dragyfyth yn erbyn erchwynion ei wely; y Wyddfa benfoel gan henaint yn y pellder o'r tu cefn; ac ar y naill law wastadedd marwaidd yn ymestyn amryw filldiroedd, tra y gwelir ar y llaw arall fynyddau hirddaint yr Eifi cilwgus. Y mae y Llan gwledig, haf a gauaf, fel pe wedi ei offrymu i swyn gyfaredd yr hunllef; ac i ddyn o anianawd ddwys-fyfyriol Eben Fardd, a than ei ofidiau dygn, diau fod ei brudd-der yn ddwfn ac arteithiol yn y fath le. Y mae rhifedi a theilyngdod y rhan fwyaf o gyfansoddiadau Eben Fardd yn adnabyddus i bawb, fel nad rhaid eu crybwyll yma. Eisteddodd dair gwaith yn nghadair yr Eisteddfod, i dderbyn yr anrhydedd uwchaf allai ei genedl roddi iddo, a chydnebydd lluaws mawr o brif lenerion Cymru y dylasai gael gwneyd hyny iddo fwy o weithiau. Fel beirniad ni amheuodd neb erioed ei fedrusrwydd na'i gywirdeb, er fod ei duedd yn gogwyddo yn fwy at ganmol rhagoriaethau nac edliw beiau. Gellid ysgrifenu llawer hefyd am burdeb ei farddoniaeth. Digon yw dyweyd na chyfansoddodd Eben Fardd, hyd y gwyddys, linell erioed y bu achos iddo edifarhau na chywilyddio ohoni yn ei funudau olaf a difrifolaf; ac fel aelod eglwysig a blaenor, yr oedd mor gyson a rheolaidd, hunanymwadol ac efengylaidd ei ysbryd, ag y gall creadur anmherffaith bron fod. Yr oedd ei serch yn angherddol a dwfn at hen fynwent ac Eglwys a Chapel Beuno, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn:—" Yma," medd efe, gan gyfeirio at Eglwys y Bedd—"yma y bu fy meddwl mewn gweithgarwch bywiol gyda rhagolygiadau a gofalon bywyd, tra yr oedd pleth ar ol pleth yn cael eu gwau am danaf o gysylltiadau teuluaidd, y rhai y mae eu dadblethiad buan gan ddwylaw geirwon angau wedi gwaedu fy ysbryd, a'i adael yn dyner a dolurus! Rhwng hen furiau llwydion trwchus ac oedranus Capel Beuno y cyfansoddais y rhan fwyaf o awdl "Cystuddiau ac Amynedd Job," a llawer dernyn ag y mae genyf bleser i edrych drostynt weithiau eto. Ond y rheswm mwyaf dyddorol dros fy serch at hen Eglwys Clynnog Fawr yw, ei bod yn sefyll i fyny trwy oesoedd a chenedlaethau yn gofadail ddangosiadol o'r unig ysmotyn bychan cysegredig, yn yr ardal eang hon, lle bu ymdriniaeth athrawol defosiynol a didor a gair Duw, ac â materion Cristionogaeth er's deuddeg cant o flynyddoedd!" Ond er holl ragoriaethau llenyddol a moesol bardd mawr Clynnog, ei athrylith, a'i dduwioldeb, bu farw Chwef. 17, 1863, gan sibrwd y geiriau prydferth canlynol o'i eiddo ei hun:

"Y nefoedd fydd, yn berffaith ddydd,
O bob goleuni i'w ddysgwyl sydd."

Claddwyd ef wrth fur y gangell, lle mae cof-golofn o farmor gwyn, a gyfodwyd trwy gyfroddion gwirfoddol ei edmygwyr, yn addurno ei fedd. Yr oedd yn 61 mlwydd oed. Y mae llawer o ddarnau gorchestol o'i eiddo heb ymddangos erioed trwy y wasg, a gresyn o'r mwyaf ydyw, na chyhoeddid ei holl weithiau gyda'u gilydd. Nid oes un enw yn perarogli yn fwy hyfryd yn yr ardal hon nag enw cadeirfardd campdlysog Clynnog Fawr. Bydded heddwch i'w lwch.

Gyda'r benned hon dygir y dosbarth cyntaf o'n testyn i derfyniad. Bydd genym achlysur eto i gyflwyno i sylw y darllenydd amryw o gymeriadau neillduol, y rhai y bydd yn fwy manteisiol i ni grybwyll am danynt yn nosbarth y "Cofiannau," am fod y cwbl a wyddys o'r bron am danynt wedi ei gasglu oddiar lafar gwlad ac adgofion hen bobl. Gofidiwn na fuasai ein defnyddiau a'n gallu yn helaethach, i ysgrifenu yn fanylach, ar y rhan bwysicaf, a mwyaf dyddorol o lawer o'r testyn. Ymddengys i ni fod Nant Nantlle wedi cael ei hesgeuluso bron yn hollol gan bob hanesydd, a'i bod yn rhyw gilfach neillduedig, anghysbell, a thawel pan oedd ymrysonau ac ymladdfeydd yn cymeryd lle mewn ardaloedd cylchynol. Gellir casglu i'r grefydd Dderwyddol fod mewn cryn fri yma ryw adeg bell yn ol; ac y mae mewn amrywiol ucheloedd feini mawrion a elwir "meini arwydd," yn dangos fod yma ryw drefniadau rhyfelgar wedi cael eu cario yn mlaen rywbryd. Yr olion adeiladau a welir hyd yr ucheldiroedd a arweiniant i'r penderfyniad fod y lle yma wedi ei boblogi, i ryw fesur, mewn cyfnod boreuol. Gwelir yma ol y Brytaniaid, y Rhufeiniaid, y Gwyddelod, y Saeson, a'r Cymru presennol yn preswylio, a'i fod wedi teimlo i raddau oddiwrth y chwyldroadau fu ar ein gwlad er amser ymsefydliad cyntaf ein hynafiaid yn y rhan hon o Ynys Brydain.

Dosbarth II. — Cofiannau.
PENNOD I.

Wrth y Cofiannau, mae'n debyg, yr ydym i olygu y Traddodiadau, y Chwedlau, a'r Hanesion a geir ar lafar gwlad, yn neillduol y cyfryw ag ydynt yn dal perthynas neillduol & dyffryn y Nantlle. Y mae Cymru yn enwog am ei thraddodiadau a'i chwedlau, yn enwedig ei hardaloedd mynyddig, lle mae meddyliau y trigolion, fel ar wyneb natur, yn wyllt a barddonol. Y mae i bob ardal hefyd ei llen gwerin, neu ei chwedlau priodol iddi ei hun; ac felly hefyd y mae y gymydogaeth hon. Y mae rhai o'r traddodiadau y geir yma yn dwyn arnynt eu hunain arwyddion ofergoeliaeth y dyddiau a'r oesoedd tywyll. Y maent mor afresymol ac ynfyd fel na phetrusa neb o berthynas iddynt a'u teilyngdod. Y mae ereill y gwyddom eu bod yn sylfaenedig ar ffeithiau, a goreu po leiaf a ledaenir ac a adnewyddir ar y dosbarth blaenaf; ond am yr ail y maent yn aml yn taflu goleu cryf ar hanes arferion a moesau yr amseroedd y cymerasent le.

DRWS-Y-COED. — Gan mai y lle hwn sydd yn ffurfio terfyn y nant yn y pen dwyreiniol, efallai mai cymhwys fyddai ini, yn gyntaf, grybwyll am y traddodiad sydd yn proffesu egluro ystyr a tharddiad yr enw hwn. Crybwyllasom o'r blaen fod holl waelodion y dyffryn yn orchuddedig gan goed derw a chyll o bob maintioli. Yr oedd y tir yn llawn o siglenydd peryglus; ac mewn amser boreuol yr oedd yr holl le yn heidio gan fleiddiaid, ceirw gwylltion, llwynogod, &c. Mae rhai o'r hen bobl hynaf sydd yn awr yn fyw yn cofio llanerchau mawrion o goed mor drwchus fel y gellid "cerdded hyd eu penau am filldiroedd." A chaniatau fod yr hen bobl yn arfer gormodiaith, cadarnhant eu bod yn dewion iawn. Dywed un hanesydd eu bod yn Drws-y-coed mor drwchus fel na ellid gweled y ffurfafen nes dyfod i fyny yr allt yn nghyfeiriad y Rhydd-ddu, lle yr oeddynt yn lleihau ac yn teneuo, Y lle a elwir am y rheswm hwn yn Bwlch Goleugoed, am mai yma y gellid gweled y nefoedd trwy dewfrigau y coed. Yr oedd hen ffordd Rufeinig, ar y cyntaf, yn cychwyn o Beddgelert, heibio i Rhydd-ddu, yn uchel ar y Mynyddfawr, tros Fwlch y Pawl, i lawr at Bodaden, lle mae ei holion yn weledig eto, i lawr gan groesi afon y Foryd i Dinas Dinlle: Dyma yr unig ffordd o gyfeiriad Beddgelert i Benygroes a Chlynnog Fawr, mae yn debygol, yn flaenorol i ymweliad Iorwerth y Cynaf â'r lle. Eithr Iorwerth, yn hytrach na dringo i fyny y llechweddau serth, a osododd ei filwyr ar waith i dori drws trwy y coed, yn yr agorfa gul wrth droed y Mynyddfawr, fel y gallai efe a'i osgordd drafaelu yn hawddach i Baladeulyn. Pan gyflawnodd y milwyr hyn, nes oeddynt mewn lle clir, wrth edrych o'u hol, hwy a waeddasant, "Gorphenwyd Drws yn y coed," a dyna, yn ol awdurdod y traddodiad hwn, a roes fodolaeth i'r enw Drws y coed.

NANTLLE sydd dalfyriad, fel y tybir, o Nant-y-llef, yr enw cynenid ar y nant hon. Y mae amryw draddodiadau yn amcanu at egluro ystyr darddiadol yr enw hwnw hefyd; y mwyaf poblogaidd a derbyniol yw y canlynol:—Wrth odrau mynydd Drws y coed, ar y tu dwyreiniol iddo, y mae llyn helaeth a elwir Llyn y gadair, ac a elwir gan rai Llyn y pum' careg, am fod y nifer hono o feini, neu ddarnau o greigiau yn y golwg. Ar du dwyreiniol y llyn hwn y mae bryn bychan, ac o'r bryn yma darfu i helgwn rhyw foneddwr gyfoài rhyw fwystfil rhyfedd a dyeithr, a hynod o brydferth. Y bwystfil hwn, medd y traddodiad a orchuddid â chydynau o flew euraidd, y rhai a ymddysgleirient yn llachar yn mhelydrau yr haul, am hyny galwyd ef yn Aurwrychyn. Y cŵn a'i hymlidasant trwy Ddrws y coed i lawr hyd at Baladeulyn, lle y daliasant ef; ac fel yr oeddynt yn ei ddal, y bwystfil a roddes y fath lef dorcalonus ac egniol, nes oedd y creigiau ogylch yn diaspedain gan ei lef. Y llef hon a roddes enw i'r nant, a galwyd ef o hyny allan yn Nant-y-llef.

Y TYLWYTH TEG.—Y mae y bodau annaearol hyn yn ymlusgo i chwedloniaeth pob ardal bron o Wlad y Bryniau. Ni adroddwn y chwedl ganlynol yn unig am ei bod yn dal cysylltiad â Drws y coed. Dylid crybwyll fod uwchlaw Drws y coed ddwy fferm, yn dwyn yr enwau Drws'y coed Uchaf a'r Drws y coed Isaf. Oesau yn ol yr oedd yn Drws y coed Uchaf lanc ieuanc a phenderfynol yn trigiannu. Byddai y llanc hwn yn difyru ei hun trwy wylio campau a symudiadau y teulu dedwydd, sef y Tylwyth Teg, gan wrando ar eu dawns a'u cerddoriaeth ar hyd y twmpathau a'r bryniau cylchynol. Un noswaith cadwent noswaith lawen yn muarth, cartref y llanc, ac aeth yntau i edrych arnynt fel arferol, ac yn y fan efe a syrthiodd mewn cariad at un o'u rhianod, yr hon oedd yn nodedig o brydferth. Yr oedd ei phryd mor wyn a'r alabaster, ei llais fel yr eos, a chan esmwythed a'r awel mewn gardd flodau, ac yr oedd ei dawns mor ysgafn hyd y glaswellt a phelydrau y lloer ar Lyn y Dywarchen. Gan rym y serch at y wyryf brydferth efe a redodd i ganol y dorf, ac a'i cipiodd hi yn ei freichiau, ac a redodd gyda hi i'r ty. Y Tylwyth Teg, wrth ganfod y fath drais yn cael el arfer at un ohonynt a ddilynasant y llanc at y ty; ond yr oedd y drws wedi ei folltio, a'r fenyw deg wedi ei sicrhau mewn ystafell. Ymroddodd y llanc ar ol hyny i geisio ei pherswadio i ddyfod yn wraig iddo, yr hyn ni wnai hi; eithr gan weled na ollyngid mohoni ymaith, hi a addawodd ei wasVanaethu fel morwyn os medrai efe gael allan ei henw, ar hyn y cydsynDiodd y cariadfab. Ond yr oedd cael allan ei henw yn orchwyl anhawddach nag y tybiodd; a phan oedd ar fin rhoddi yr ymdrech i fyny mewn anobaith, gwelai ryw noswaith dorf o'i Thylwyth mewn mawnog yn agos i'r ffordd; ymlithrodd yntau yn ddystaw a lladradaid nes dyfod yn ddigon agos atynt i'w clywed yn ymddyddan, a deallodd un yn gwaeddi mewn gofid, "O Penelope! Penelope! fy chwaer! paham y diangaist gydag un o'r marwolion," "Penelope! Penelope!" Ebe yntau, "dyna ei henw! dyna ddigon," ac a ymgripiodd adref o'r lle. Wedi cyrhaedd y ty gwaeddai ar y ferch, "Penelope, fy anwylyd, tyr'd yma." Hithau a ddaeth yn mlaen gan waeddi, "O farwol! pwy a ddatguddiodd i ti fy fy enw?" a chan ddyrchafu ei dwylaw plethedig dywedai, Fy nghynged, fy nghynged! Eithr hi a ymfoddlonodd i'w thynged, ymaflodd yn ei swydd, a llwyddai pob peth o dan ei llaw, ac nid oedd un hyswi mor lân a darbodus a hi yn yr holl ardaloedd hyny. Ond nid oedd y llanc yn foddlawn ar iddi fod yn forwyn iddo, a hithau a gydsyniodd briodi âg ef, ar yr ammod iddi gael bod yn rhydd os byth y tarawai efe hi â haiarn; yntau a gydsyniodd â'r ammod yma. Felly unwyd hwy mewn priodas, a buont fyw yn ddedwydd am hir amser, a ganwyd iddynt ddau o blant. Ond rhyw ddiwrnod, yr oedd ar y gŵr eisieu myned i ffair Gaerynarfon, ac a aeth i geisio eboles ieuanc oedd yn pori gerllaw, i fyned a hi i'w gwerthu; ond methai yn deg a'i dal, a daeth y wraig allan i'w gynnorthwyo. Llwyddasant i hel yr eboles i ryw gongl, ond pan oedd y gŵr yn nesau i'w ddal, rhedodd heibio iddo, ac yntau yn ei wylltineb a daflodd y ffrwyn ar ei hol, a phwy oedd yn ergyd y ffrwyn ond y wraig, a tharawodd yr enfa haiarn hi ar ei gwyneb, a diflanodd o'i olwg yn y fan! Ni welwyd hi mwyach; ond rhyw noswaith oer, rewllyd, yn mhen hir amser deffröwyd ef o'i gwsg gan ryw un yn enithio ar y ffenestr. Wedi iddo ateb efe a adnabu lais fwyn ei wraig yn dywedyd fel hyn,

"Os bydd anwyd ar fy mab,
Yn rhodd rhowch arno gôb ei dad ;
Ac o bydd anwyd ar liw cán,
Yn rhodd rho'wch arni bais ei mam,"

Terfyna y chwedl hon gyda dyweyd fod rhai o hiliogaeth y teulu hwn yn byw hyd heddyw yn Nant y Bettws, yn nghyfeiriad Caerynarfon.

RHOS-Y-PAWL.—Yn ucheldir Nantlle, uwchlaw y Gelliffryda, y mae darn o wastad-tir corsiog, a elwir wrth yr enw uchod; a'r rheswm am darddiad yr enw a geir yn y chwedl ganlynol:—Yr oedd yn y Gellli fab ieuanc wedi syrthio mewn cariad angherddol â gwyryf ieuanc brydweddol, oedd yn ferch Talymignedd Uwchaf; ond ni chydsyniai rhieni y ferch iddi gael ei rhoddi yn wraig iddo; ond nid allai dim luddias, nac oeri serchiadau y ddauddyn ieuainc at eu gilydd. Tad y ferch, pan welodd eu hymlyniad, a alwodd y mab ieuanc ato, ac a osododd yr ammodau celyd canlynol o'i flaen, -y byddai iddo, cyn y caffai ei ferch ef yn wraig ei orfodi i ymddiosg yn noeth ar noswaith rewllyd, ac aros yn y cyflwr hwnw hyd y boreu ar yr ucheldir oer yn ngolwg y Talymignedd. Bwriadai y tad hwn, fe allai, brofi i'w ferch nad oedd cariad ei hedmygydd mor frwd ag y proffesai ei fod, neu ynte ei fod yn meddwl y gwnai ymgais at gyflawni y fath ammod achlysur o angeu y gŵr ieuanc, ae y ceid llonydd ganddo. "Ond cariad sydd gryfach nacangau;" diosgodd y gŵr ieuanc ei ddillad, cymerodd fwyall a phawl gydag ef i'r rhos, ac â'i holl egni curai y pawl i'r ddaear, nes y byddai yn dwymn, ac i orphwysi dodai ei fynwes i bwyso ar y pren cynhes. Pan deimlai ei hun yn fferu, a'i trwy yr un oruchwyliaeth o ymwresogi drachefn, ac felly cadwodd ei hun rhag fferdod a marwolaeth. Trwy ystod y prawf tanllyd hwn yr oedd y ferch ieuanc yn dal canwyll yn oleu yn ffenestr ei hystafell yn Talymignedd er ei galonogi, a chynal ei feddwl. Ar ol hyny hwy a briodwyd, ac a fuont byw yn ddedwydd mewn mwynhad o'r cariad a brynwyd mor ddrud!

CWM CERWIN.— Yn ystlys ddeheuol y Mynyddfawr y mae cwm serth a elwir Cwm Cerwin, lle mae traddodiad yn dywedyd yr arferid rhoddi troseddwyr i farwolaeth trwy eu cau i fyny mewn cerwinau neu farilau, trwy y rhai y byddai hoelion wedi eu curo i mewn fel picellau, ac yna eu gosod i dreiglo i waered y cwm arswydus hwn. Heb fod yn mhell o'r lle hwn yr oedd Penyrorsedd, lle cynhelid y llys, ac y cyhoeddid y ddedfryd. Dangosir hefyd lwybr gwyrddlas yn bresennol, yr hwn a ellir ei ddilyn yn eglur o'r lle y safai Penyrorsedd, i ben uwchaf y cwm, ar hyd yr hwn, meddir, y cludid y barilau. Mae yn deilwng ini grybwyll am le cyffelyb i hwn hefyd yn Mon, yn agos i Landdona, lle mae diphwys ofnadwy yn nghreigiau glan y mor, a elwir Nant Dienydd. Mae yn agos i'r fan hono hefyd le a elwir Penyrorsedd, a gorsaf filwraidd Rufeinig a elwir Dinas Sylwy; ac y mae y traddodiad yno yn gyffelyb am y dull y rhoddid y troseddwyr i farwolaeth.

Meddyliai rhai fod y troseddiadau hyn yn dal perthynas a'r erledigaeth a ddyoddefodd y Cristionogion yn Brydain o dan yr Ymerawdwyr Galerius a Dioclesian, ac a elwir y ddegfed erledigaeth dan Rufain Baganaidd. Cyrhaeddodd gorchymynion caeth i'r wlad hon, y pryd hyny, wedi eu hargraffu ar lafnau o efydd, yn gorchymyn rhoddi pob Cristion i farwolaeth. "Oddiwrth y crybwyllion hyn," medd un ysgrifenydd cyfarwydd, "y mae yn lled hawdd ini gasglu bod erledigaeth hyd angau mewn amryw ffyrdd creulawn wedi bod ar Gristionogion yr ynys hon yn foreu: canys nid oedd y dulliau o farwolaethu a grybwyllir yn y traddodiadau uchod mewn arferiad, hyd y deallem i, yn yr erledigaeth pabaidd, ond yr oeddynt yn yr erledigaethau paganaidd. Heblaw hyny y mae lle a elwir Penyrorsedd yn agos i'r ddau le a gorsafau Rhufeinig hefyd, ac yn agos i un man y mae mynwent (Monwent Twrog) lle y cleddid cyrph maluriedig y merthyron, efallai, ond yn y fan arall nid oedd angen claddfa gan fod y mor yn eu cymeryd ymaith."— (Hanes y Cymry).

Dichon y byddai cystal ini yma ychwanegu y traddodiad a geir yn y gymydogaeth am y gladdfa adnabyddus ar ben y Cilgwyn, a elwir Mynwent Twrog. Ai yma y claddwyd Twrog Sant, nis gwyddom: y mae eglwys y plwyf wedi ei chysegru i'w goffadwriaeth. Cafwyd llawer o ludw llosgedig yn y lle yr oedd y fynwent, a'r traddodiad a glywsom am y fan yma sydd fel y canlyn;—Yn y cyfnod pell hwnw pan oedd Derwyddiaeth yn grefydd sefydledig y parthau hyn, yr haul, meddir, oedd gwrthddrych eu haddoliad; a phan na byddai yn ymddangos dros hir ddyddiau cesglid ei fod wedi cael ei ddigio, a'r canlyniad fyddai bwrw coelbren, a'r truan ar yr hwn y syrthiau y coelbren a aberthid er dyhuddo llid yr haul. Plethid delw o wiail derw neu fedw briglas, a gosodid y collfarnedig o fewn y ddelw blethedig, yna cynheuid tan o'i hamgylch, a llosgid yr aberth ynddi yn ludw, a'r cyrph llosgedig hyn a gleddid yn Monwent Twrog. Ychwanega y traddodiad yr arferid llabyddio troseddwyr â meini i farwolaeth yn y lle hwn. Nid oes yma ddim o weddillion meini y fonwent hon yn aros yn bresennol, gan fod y defnyddiau wedi eu cario i adeiladu y tai cymydogaethol.

Y GARDDA.—Wrth yr enw hwn yr adnabyddir llain o dir sydd gerllaw Gwernoer. Y mae y llain hon, yr hon sydd yn nghanol tir Gwernoer, yn perthyn i Penybryn, y tu arall i'r llyn, a'r rheswma roddir dros hyn a geir mewn traddodiad sydd yn dal cysylltiad â'r lle. Ni a'i rhoddwn yn ngeiriau rhyw ysgrifenydd o'r gymydogaeth hon amryw o flynyddoedd yn ol yn yr 'Amserau.'—" Yr oedd yn Nant Nantlle 80 neu 100 mlynedd yn ol gynifer a phymtheg o fan dafarndai. Yr oedd un o'r cyfryw ar lain o dir o eiddo R. Hughes, Ysw., a elwir y Gardda. Byddai trigolion y Nant yn ymgasglu at eu gilydd ar ddydd y Sulgwyl llawen i yfed y diodydd meddwol, canu, a dawnsio. Un tro yr oeddynt wedi ymgasglu yn y Gardda, ac wedi iddynt yfed a meddwi aeth dau o'r cymydogion i ymladd, ac yn yr ymladdfa lladdodd y naill ddyn y llall, ac o herwydd hyny aeth y llain o dir o feddiant Mr. Hughes yn eiddo i'r llywodraeth. Prynodd Mr. Carnons hi drachefn gan y llywodraeth, ac y mae yn eiddo i'w deulu hyd y dydd heddyw." Gyda golwg ar y lle hwn ceir y sylw canlynol gan, yr hynafiaethydd dysgedig o Lanllyfni:—"O. dan gyfreithiau Hywel Dda, os digwyddai i neb golli ei fywyd mewn rhyw gythrwfl, a theulu'r llofrydd yn nacau talu ceiniog y paladr, yr oedd ei dir yn myned yn eiddo i'r brenin, neu y tywysog, ac yn cael ei alw yn waed-tir; a lle bynag y mae cae neu dyddyn yn dwyn yr enw hwn gallem ei gyfrif i ddamwain o'r fath yma. Pwy bynag oedd yn perchen Gwernoer y dyddiau hyny, pan aeth y Gardda allan o'i feddiant, efe oedd yn gyfrifol am y weithred." Dywedir yn gyffredin am y llain yma mai "gwerth gwaed ydyw."

RHOS-YR-HUMAN.—Yn agos i bentref Llanllyfni y mae tyddyn yn dwyn yr enw hwn. Nid yw ystyr na tharddiad yr enw yn wybodus ini; ond clywsom y traddodiad canlynol yn cael ei adrodd yn nghylch y lle:—Un boreu gwanwyn hafaidd, a'r haul melynwar yn cyfodi dros lechweddau yr Eryri, yr oedd bugail yn Nghwm y Dulyn yn troi allan i edrych am ei braidd; ac er ei fraw canfu fintai fawr o Wyddelod wedi gwersyllu ar lan y Llyn Uchaf, wedi ymsefydlu yno gyda'r bwriad o anrheithio ac ysbeilio y wlad o amgylch. Y bugail cyffrous a redodd i fynegi i'r awdurdodau, ac anfonwyd brys-negeswyr i Leyn a Chricerth am filwyr, y rhai pan ddaethant a gloddiasant ffosydd ac a ymguddiasant yn y rhos hon, a phan nesaodd y fintai ysbeilgar hwy a ruthrasant arnynt o'r ffosydd gyda'r fath laddfa a gwasgariad nes llwyr ddinystrio yr ysbeilwyr ar unwaith. Dyma yr amgylchiad a roddes fod i'r enw Rhos-yr-human, medd ý chwedl, gan nad beth yw ei briodol ystyr.

PONT-Y-CIM.—Ychydig islaw Craig y Dinas y mae yr afon Llyfnwy yn cael ei chroesi gan bont a elwir Pont-y-Cim, am ei bod ar gyfer y lle hwnw mae yn debyg. Y mae seiliau i feddwl fod gwirionedd yn yr hanes canlynol am y bont hon, ac achlysur ei chyfodiad:—Ar noswaith dymhestlog yn ngauaf y flwyddyn 1612, pan oedd y gwlaw yn disgyn yn bistylloedd, a'r cornentydd hyd lechweddau y mynyddoedd yn chwyddo y Llyfnwy dros ei cheulenau, y nos hono yr oedd gwyryf brydferth yn eistedd wrth dan siriol yn yr Eithinog Wen yn disgwyl ei chariadfab. Y nos a gerddai yn mhell, ond nid oedd efe yn gwneyd ei ymddangosiad; ac ychydig a feddyliai hi fod ei charwr anturiaethus yn brwydro a'r elfenau, gan gyfeirio ei ffordd tuag ati. Yr oedd efe yn fab Elernion, Llanaelhaiarn; ac wedi marchogaeth yr holl ffordd trwy y gwlawogydd, ond yr oedd yn rhaid iddo groesi y Llyfnwy yn y fan lle saif y bont yn awr; mentrodd y lle, ond oherwydd nerth ffrochwyllt treigliad yr afon collodd y march ei draed a boddasant ill dau yn nyfroedd y Llyfnwy! I goffau yr amgylchiad hwn cyfranodd y ferch ieuanc ugain punt i gyfodi pont dros yr afon yn y fan lle boddodd ei chariad, a pharodd i gofnod o'r amgylchiad gael ei dori ar gareg, yr hon a welir yn y mur-ganllaw hyd heddyw, a'r argraff ganlynol arni:—"Catring Bwkle hath given twenty Poundes to mack the Brige, 1612." Nid oedd y bont ond cul ar y cyntaf, ond pan ddigwyddodd fod eisieu myned ag un o aelodau teulu y Glynllifon i Bodfuan i'w gladdu adeiladwyd darn yn ei hystlys, fel y gallai yr elorgerbyd fyned drosti. Y ffaith hon a rydd gyfrif am y darn newyddiaf a welir ynddi.

FFYNON DIGWG.—Ar derfynau hen faenor bendefigol Pennarth y mae ffynon nodedig a elwir Ffynon Digwg. Y traddodiad am y lle sydd fel y canlyn, yr hwn a adroddir yma yn ngeiriau y bardd o Glynnog Fawr:"Dygwyddodd gynt i un o'r gweithwyr yn yr Aberffraw fyned i lys Ynyr Gwent, ac nid oedd tecach llanc nag ef; ac wedi gweled o ferch Ynyr Gwent ef, nis gallai aros am funyd allan o'i gyfeillach; a rhyngodd bodd i'r brenin, pan wybu hyny, roddi y llanc yn briod i'w ferch, rhag y mynai hi ei gael ef mewn rhyw ffordd arall; gan ymfoddloni i gaffael gwr mor hardd yn fab ac yn ddeiliad: ac ar ol ysbaid o amser dychwelodd y gwr ieuanc gyda'i wraig i'w wlad ei hun, a hwy a ddaethant i le a elwir Pennarth yn Arfon, ac yno disgynasant oddiar eu meirch ac aethant i orphwys; a chan ludded a blinder daeth cwsg ar y dywysoges, a thra yr oedd hi yn cysgu daeth cywilydd mawr arno ef fyned i'w wlad gyda gwraig mor bendefigaidd ei haniad, heb ganddo le i'w chymeryd iddo, a gorfod myned eilwaith i'r lle y buasai yn gweithio ynddo ac yn enill ei gynhaliaeth: ac yna, trwy gynhyrfiad y diafol, efe a dorodd ymaith ei phen tra yr oedd hi yn cysgu, ac a ddychwelodd gyda'r meirch gwerthfawr, a'r aur a'r arian, at y brenin, trwy yr hyn bethau y cafodd efe swydd ganddo i fod yn oruchwyliwr iddo. A bugeiliaid Beuno a ganfuant y corph, ac a aethant yn ddioed i fynegi iddo; yna Beuno a aeth gyda hwynt yn ddiymdroi i'r lle yr oedd y corph ynddo, ac yn y fan efe a gymerodd y pen ac a'i gwasgodd at y corph, a chan gwympo ar ei luniau efe a weddiodd ar Dduw fel hyn:—'Arglwydd, Creawdwr y nef a'r ddaear, rhag yr hwn nid oes dim yn guddiedig, cyfod gorph y ferch hon mewn iechyd,' ac yn y fan cyfododd y wyryf yn hollol iach, ac a fynegodd i Beuno yr hyn oll a ddygwyddodd: yna Beuno a ddywedodd wrthi, 'A fyni di ddychwelyd i'th wlad, ynte aros yma gan wasanaethu Duw.' Y wyryf fwyn a da a ddywedodd, 'Yma yr arhosaf fi gan wasanaethu Duw, yn agos i ti yr hwn a'm cyfodaist o farw yn fyw.' Ac yn y fan lle syrthiodd y gwaed i'r llawr tarddodd ffynon loyw, a'r ffynon hone a gafodd ei henw oddiwrth y wraig ieuanc, ac a alwyd Ffynon Digwg." Ac felly y terfyna y chwedl.

LLWYN-Y-NE.— Y mae llethr neu fron hyfryd uwchlaw pentref Clynnog o'r enw Llwyn-y-Ne. Yr oedd, er ys blynyddoedd yn ol, yn llawn o brysglwyni a byrgyll, a rhai irwydd talfrig, o bo rai nid oes yn awr nemawr yn aros. A thrwy ran o'r llwyn hwn y mae aber fechan yn rhaiadru; ac y mae traddodiad yn dweyd fod rhyw aderyn swynol a dengar yn canu yn barhaus yn y llwyn hwnw pan oeddid yn adeiladu yr eglwys: ac oherwydd pereidd-dra hudol ei beroriaeth ni cheid gan yr adeiladwyr wneyd dim ond gwrando arno, yr hyn a barai annybendod poenus yn nygiad y gwaith yn mlaen; a hyn a barodd i Beuno weddio am i'r Arglwydd symud ymaith yr aderyn, a'i gais a gyflawnwyd, ac ni chlywyd ei nodau swynol mwy!

CILMIN DROED-DDU.—Rhaid ini gyfeirio unwaith yn rhagor at yr hen bendefig hwn. Yn y crybwyllion a wnaethom am dano, hyd yn hyn, darfu ini yn fwriadol ysgoi y traddodiadau a geir yn yr ardal am darddiad yr enw Troed-ddu, ond ymddengys fod rhyw briodoledd iddo, oblegid yn arfbais y teulu y mae "Llun coes wedi ei lliwio yn ddu," neu "A man's leg couped sable." Un traddodiad a ddywed fod rhyw lyfr cyfrin, yr hwn a gynnwysa wybodaeth ryfedd ac anhysbys yn meddiant rhyw ddemon oedd yn trigfanu tua Thre y Ceiri, ar gopa yr Eifl. A daeth gwr cyfarwydd (magician) at Cilmin i ofyn ei gynnorthwy i ddwyn y llyfr oddiar y demon, â'r hyn y cydsyniodd yntau, ac ymaith a hwy tua chymydogaeth yr Eifl, a chawsant hyd i'r demon a'r llyfr o dan ei aden Ond Cilmin, gan faint oedd hyd ei gleddyf, ac yn neillduol oherwydd fod llun croes ar ei garn, a darawodd yr ellyll i lawr, a thra bu yn cymeryd ei godwm dygasant y llyfr a diangasant ymaith. Y demon wedi ymadferyd a gasglodd yn nghyd ei weision i ymlid ar ol Cilmin hyd at afon Llifon, a phan oedd Cilmin yn croesi y ffrwd hono llithrodd ei goes i'r dwfr, ac erbyn iddo ei thynu allan yr oedd yn gwbl ddu ac yn arteithiol boenus, y cwbl wedi ei ddwyn arno trwy ddylanwad dieflig y demon! Y traddodiad arall sydd debyg i hyn:—Tyddynwr tlawd ydoedd Cilmin ar y cyntaf yn nyffryn y Llifon. Un noswaith breuddwydiodd ei fod yn gweled gwr yn dyfod ato ac yn dwedyd wrtho os ai efe i Lundain y cai afael ar gyfoeth mawr. Ni feddyliodd y tyddynwr ddim o'r breuddwyd hyd nes yr adnewyddwyd ef amryw o weithiau, wedi hyny efe a benderfynodd fyned i Lundain. Wedi cyrhaedd y brif ddinas bu am rai dyddiau yn cerdded o amgylch heb unrhyw neges. Un diwrnod tynwyd ei sylw at ddyn dyeithr yn cerdded ol a blaen yn fyfyrgar ar bont Llundain, ac aeth yn ymddiddan rhyngddynt, pryd y gofynodd y gwr dyeithr i Cilmin o ba le y daethai; atebodd yntau mai o sir Gaerynarfon. Yna y gwr dyeithr a wenodd, ac a ddywedodd ei fod yn breuddwydio yn barhaus ei fod yn cael cyfoeth dirfawr yn y Seler Ddu yn Arfon, a gofynai i Cilmin a wyddai efe pa le yr oedd hi, yntau a ddywedodd nas gwyddai. Eithr Cilmin a brysurodd adref ac a aeth i mewn i'r Seler Ddu, yr hon oedd yn agos i'w gartref yn nyffryn y Llifon, ac yno cafodd afael ar y cyfoeth a nodwyd. Wrth gario baich trwm ar hyd yr ogof llithrodd ei droed i bwll dwfn a thywyll, ac ni allodd byth olchi ymaith y lliw du oddiwrth ei goes. Dyma, yn ol awdurdod y traddodiad hwn, oedd dechreuad cyfoeth y Glynllifon. Yr ydym yn gadael y traddodiadau i farn y darllenydd, heb ond yn unig grybwyll mai nid Cilmin druan oedd yr unig un a ddifwynodd ei hunan yn ei orawydd am fyned yn gyfoethog. Ac os oes addysg arall i'r chwedl cymer ef.

LLYN Y DULYN.— Ymddangosodd y chwedl ganlynol mewn rhifyn o'r 'Brython,' am 1859:—"Mae llyn yn mynyddoedd Eryri a elwir Dulyn, mewn cwm erchyll, wedi ei amgylchu a chreigiau uchel peryglus, a'r llyn yn ddu dros ben, a'i bysgod sydd wrthun, a phenau mawr a chyrff bychain. Ni welwyd erioed arno eleirch gwylltion (fel y byddant yn aml ar bob llyn arall yr Eryri) yn disgyn, na hwyaid, nag un math o aderyn. Ac yn y rhyw lyn y mae sarn o geryg yn myned iddo, a phwy bynag a aiff ar y sarn pan fo hi yn des gwresog, ac a deifl ddwfr gan wlychu y gareg eithaf yn y sarn, a elwir yr Alawr Goch, odid na chewch wlaw cyn y nos."

HAFODLAS.—Y tai a elwir Haf-fod-tâi a ddefnyddid ar y cyntaf yn unig yn yr haf, er cyfleusdra i'w perchenogion i edrych ar ol yr anifeiliaid, i gasglu y gwair, a gwneyd caws ac ymenyn; ac fel y nesai at y gauaf disgynent i'r dyffrynoedd i'w cartrefi priodol. Y mae un lle o fewn ein terfynau yn dwyn yr enw hwn, a chan ei fod yn uchel ar lethr y Cilgwyn, nid yw yn anhebyg iddo gael ei ddefnyddio ar y cyntaf i'r amcan a enwyd. Yr oedd hen dy yr Hafodlas, yn gystal a'r hen Goed Gwyn a elwir Coedmadog yn awr, ac ychydig o dai ereill a welir hyd y llethrau hyn, wedi eu hadeiladu o dan y ddeddf orthrymus a wnaed yn amser gwrthryfel Owain Glyndwr, sef nad oedd i un Cymro adeiladu ty uwch nag y cyffyrddai y cwplau â'r sylfaen. Cyfeirir at y tai bychain a'u to yn y ddaear, y rhai a welir hyd lethrau y mynyddoedd, fel yn perthyn i'r un cyfnod. Sylwer, fel engraifft, ar yr Hafodlas, lle mae Mr. D. Williams yn awr yn byw, a'r hen Goedmadog, gydag amryw ereill. Adeiledid rhai hefyd ar leoedd gwastad yn y fath fedd ag i ysgoi y ddeddf hon. Darlunir y dull o'u cyfodi gan un ysgrifenydd fel y canlyn:—"Chwilid am goeden yn meddu cangen yn taflu allan ar ongl osgawl, tebyg i gwpl ty, torid y goeden yn y bon, yna plenid hi ar ei phen yn y lle y bwriedid i'r ty fod, a'r gangen gam yn taflu allan fel cwpl at le y crib: wedi y ceid digon o'r cyfryw goed plenid hwy yn yr un modd yn gyfochrog, wedi hyny adeiledid mur ceryg am danynt, a thrwy y ddyfais hon ceid tai helaeth, uchel, ac iachusol." Y mae y desgrifiad uchod yn cyfateb i'r dull yr oedd yr Hafodlas, lle mae Mr. John Jones yn byw, wedi ei adeiladu, yn ol tystiolaeth Mr. Jones ei hun. Yr ydym yn cyfleu yr hanes yn y fan hon am mai awdurdod traddodiad yw y cwbl a feddwn yn eu cylch.

PENNOD II.
Parhad Cofiannau.

Amcenir i'r bennod hon gynnwys ychydig o grybwyllion am rai o gymeriadau hynotaf y dyffryn hwn mor bell ag y ceir eu hanes ar lafar gwlad. Nis gallwn eu rhestru yn mhlith enwogion ein hardal, eto teimlwn fod yn perthyn i'w hanes ddigon o neillduolrwydd, fel ag i'n cyfiawnhau am neillduo pennod fechan ar eu cyfer.

MARGED UCH IVAN, neu Margaret ferch Evan, alias Peggy Evans, oedd yn gymeriad tra nodedig yn ei dydd. Yn agos i dollffordd y Gelli yr oedd yn weledig islaw y ffordd adfeilion adeilad a elwid gynt y Telyrnia. Yr amser yr oedd gwaith Drws y coed yn flodeuog tua 120 a a mwy o flynyddoedd yn ol, cedwid tafarn yn y lle hwn gan Margaret uch Ivan, fel y gelwid hi. Enw ei gŵr oedd William ab Rhisiart. Yr oedd Marged yn gallu cyflawni pethau anhygol, yn neillduol i ferch. Yr oedd yn medru gwneyd telyn a chrwth, a'u chwareu, a gallesid ei gweled ar brydnawniau hafaidd yn nrws y Telyrnia yn chwareu crwth neu delyn, a'i chwsmeriaid yn dawnsio o'i hamgylch. Wedi i'r gwaith copr farweiddio, ymddengys i'r teulu yma symud i fyw yn agos i Benllyn, Llanberis, lle yr ymgymerodd â chario y copr a gyfodid yn nhroed y Wyddfa i lawr mewn cychod i Benllyn. Ymwelodd Pennant, y teithiwr enwog, â'i thy yn Penllyn yn y flwyddyn 1786; ond gofidiai yn fawr nad oedd yr arwres gartref. Dywed Pennant ei bod hi y pryd hyny tua 90 mlwydd oed, mai hi oedd yr oreu am hela, pysgota, a saethu o neb yn y wlad. Cadwai o leiaf ddwsin o gŵn y pigion o bob rhywogaeth at hela, a sicrheir iddi gael mwy o lwynogod mewn un flwyddyn nag a ddaliodd yr heliwr goreu mewn deng mlynedd. Yr oedd yn medru pedoli ei cheffylau, gwneyd ei hesgidiau, gwneyd ei chychod a'u rhwyfo, ac yr oedd yn hollol hyddysg yn yr holl hen alawon Cymreig, fel y gallai eu chwareu yn gampus ar eu hofferynau. Pan yn 70 mlwydd oed nid oedd neb o'r bron a ymaflai godwm â hi oblegid cyfrifid hi yr oreu yn y wlad. Gelwid hi gan Pennant yn Queen of the Lakes (Brenin y llynoedd). Cenid ei chlodforedd gan holl feirdd y wlad, a chyfansoddwyd y llinellau canlynol gan awdwr Seisnig i'w rhoddi ar ei bedd:

"Here lies Peggy Evans who saw ninety-two,
Could wrestle, row, fiddle, and hunt a fox too,
Could ring a sweet peal, as the neighbourhood tells,
That would charm your two ears-had there been any bells!
Enjoyed rosy health, in a lodging of straw,
Commanded the saw-pit, and weilded the saw,
And though she's departed where you cannot find her,
I know she has left a few sisters behind her."


Ymddengys, fodd bynag, i angau ddyfod i ymaflyd codwm â'r fenyw ryfedd hon a'i rhoddi i lawr, lle yr erys o dan ei law hyd adgyfodiad y meirw. Y mae o'n blaen tra yr ydym yn ysgrifenu brint ymenyn cywrain o waith ei llaw feistrolgar. Gellid dyweyd nad oedd dim byd y'mron nad oedd Marged uch Ifan yn alluog i'w gyflawni, gan nad i ba grefft neu gelfyddyd y perthynai. Bu farw yn 92 mlwydd oed, yn y flwyddyn 1788. Y mae haneswyr er dyddiau Pennant yn crybwyll hanes Marged mewn cysylltiad â Llanberis; ond dylid crybwyll mai yn y Telyrnia, Nantlle, y treuliodd y rhan fwyaf o lawer o'i hoes; ac am hyny gelwid hi yn Marged uch Ivan o'r Telyrnia.

MARTHA'R MYNYDD.—Ychydig gyda chan' mlynedd yn ol, yr oedd yn byw mewn bwthyn distadl ar fynydd Llanllyfni, wraig a elwid yn gyffredin Martha'r Mynydd, yr hon a wnaeth lawer o son am dani dros amser. Yr oedd y wraig hon wedi llwyddo i gael gan luaws o ddynionach ofergoelus y dyddiau hyny i gredu ei bod hi yn derbyn ymweliadau dyeithr yn ei thy oddiwrth ryw fodau dyeithr a alwai yr Anweledigion. Haerai fod yr Anweledigion yn dylwyth cyfoethog, yn ymgymysgu & phobl ereill yn y marchnadoedd, y ffeiriau, a'r lleoedd cyhoeddus; ond bob amser yn anweledig i bawb ond y rhai a ymroddent i fod yn ddeiliaid o'u cymdeithas. Yr oedd Martha, gan ei bod yn wraig ymadroddus, wedi cael gan luaws gredu fod boneddwr cyfoethog o gyfundeb yr Anweledigion yn byw gyda'i ferch ar y mynydd yn agos i dy Martha, a'u henw oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai nifer mawr o bobl, o bell ffordd gan mwyaf, i dy Martha i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, wrth tân marwor, (canys ni allai yr anweledigion oddef goleuni), a byddai y gŵr bonheddig yn dyfod ac yn pregethu iddynt. Weithiau hefyd deuai Miss Ingram, wedi ymwisgo â gwisg wen hyd ei thraed i bregethu, a dywedir fod un amaethwr o Fon wedi ei lygad-dynu i'r fath raddau gan y grefydd newydd hon, a chan obeithio hefyd, trwy gyfrwngwriaeth Martha, y rhoddid Miss Ingram yn wraig iddo, fel y cariodd ei holl eiddo i Martha i fynydd Llanllyfni. Yr oedd yn arfer mynychu y cyfarfodydd hyn walch cyfrwysddrwg a adwaenid wrth yr enw Gutto-wirgast. Yr oedd Gutto wedi amheu mai twyll oedd y cwbl a honai Martha, a phenderfynodd fynu cyfle i wneyd prawf. Sylwodd fod Martha wedi llosgi ei throed; ac un noswaith yn lled fuan ar ol i'r anffawd ddygwydd yr oedd Miss Ingram yn pregethu, a chafodd Gutto gyfle i sathru y troed llosgedig, yr hyn a barodd i Martha lefain allan. Ar hyny gwaeddai Gutto, "Bobol anwyl, ein twyllo yn hollol ydym yn ei gael, mi wnaf lw mai Martha yw hon!" Ond cymaint oedd cred y gwyddfodolion yn y grefydd newydd, fel y bwriasant Gutto allan o'r gwasanaeth fel terfysgwr! Yn fuan ar ol y darganfyddiad yma, modd bynag, fe aeth y grefydd newydd i warth, a'i ddysgyblion a wasgarwyd, ac y mae yn briodol i ni ychwanegu, i Martha ar ol hyn edifarhau a chyfaddef ei holl dwyll, a diweddodd ei hoes yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid yn Llanllyfni. Teifl yr hanes yma radd o oleuni ar gyflwr twyll ac ofergoelus y werin yn yr amser y cyfeiriwyd ato, sef cyn dechreuad Ysgolion Sabbothol, a moddion addysg yn y wlad. Cymerodd peth tebyg le yn Lloegr hefyd, pryd yr honai gwraig o'r enw Johanna Southcott ei bod yn feichiog ar y Messiah, a cheid lluaws mawr a gredent hefyd i'r cabledd a'r ynfydrwydd hwnw!

ELIN DAFYDD Y GELLI.—Er ys tua 250 o flynyddoedd yn ol, yr oedd yn byw yn y Gelliffryda gwpl ysmala, nodedig o gyfoethog a chybyddlyd. Enw y gŵr oedd Dafydd Gruffydd, ac enw'r wraig oedd Elin Dafydd. Yr oeddynt yn daid a nain i Angharad James, y soniwyd am dani mewn pennod flaenorol. Nid oes genym ddim i'w ddyweyd am yr hen ŵr, amgen na'i fod yn lled gybyddlyd, ac wedi llwyddo i gasglu cyfoeth a ystyrid yn swm mawr yn y dyddiau hyny. Dywedir ei fod, pan yn glaf yn niwedd ei oes, wedi anfon am gyfreithiwr i wneyd ei ewyllys. Dechreuodd y gŵr claf enwi rhyw symiau anferth i hwn a'r llall, fel y penderfynodd y cyfreithiwr mai dyrysu yr oedd. "Mi a alwaf yma yfory," ebe'r cyfreithiwr, "dichon y byddwch yn well." "Y d——- mawr," ebe'r claf, "ai meddwl yr ydych fy mod yn wallgof?" Ac efe a archodd i ryw un agor y drawer oedd yn yr ystafell, lle yr oedd y cyfoeth mawr y cyfeiriai ato yn gorwedd. Wedi ei foddloni fel hyn aeth y cyfreithiwr yn mlaen â'i ddyledswydd. Ond yr oedd Elin Dafydd yn rhagori ar yr hen ŵr mewn cybydd-dra, fel y prawf yr hanes can-lynol:—Un tro danfonodd boneddwr oedd yn perchen tir yn y Nant ei was yma ar neges, ac a roddodd yn ei law haner coron, gan orchymyn iddo ei roddi i'r tylotaf a welai yn Nant Nantlle. Wedi edrych yn ddyfal am wrthddrych priodol i dderbyn yr elusen yma, o'r diwedd gwelai y gwas hen wraig yn hel brigwydd ar y tân. Yr oedd ei gwisg garpiog drosti, ei hosanau yn gandryll, a'r gwas a roddodd iddi yr haner coron, yr hon erbyn edrych, nid oedd yn neb amgen nag Elin Dafydd y Gelli. Pan y byddai yn gwlawio, yn enwedig ar ol sychder, byddai yr hen wraig yn arferol o ymdreiglo o dan fargod y ty, a'r dyferynau breision yn disgyn arni, a hithau yn llefain, "llaeth a menyn i mi." Ar y Suliau gellid ei gweled yn myned i fyny gyda'i rhaw a'i noe rhyngddi a Llyn a Ffynonau, i droi y dwfr o'r ddyfrffos, ac i ddal y pysgod gyda'r noe. Dygwyd aml i lonaid noe i lawr i'r Gelli ar y Sabboth yn y modd hwn. Dywedir mai i Elin Dafydd y daeth tê gyntaf erioed yn y gymydogaeth hon. Yr oedd i'r hen wraig ddwy nîth yn byw yn y Werddon, y rhai a ddaethant i ymweled â hi i'r Gelli, a chyda hwy dygasant bwys o dê yn anrheg i'w mhobryb. Pan ddaeth amser gwneyd y tê, yr hen wraig, gan na wyddai pa fodd i'w goginio yn well, a'i rhoddes i gyd mewn crochan i'w ferwi, ac wedi tywallt ymaith y dwfr a gyfododd y dail ar y treiswriau coed i'w fwyta! yr hyn a greodd gryn hwyl i'r boneddigesau, a cholled anaele ar y pwys tê. Ond gwele'n fod Elin Dafydd yn myned a mwy na'i rhan o'n gofod. Yr oedd i'r hen gwpl ddau o feibion, un o ba rai a briododd ferch Tan y castell, Dolyddelen, ac o'r briodas hon y deilliodd Angharad James, y wraig athrylithgar y cyfeiriwyd ati.

SION CAERONWY.—Uwchlaw y Gelliffryda y mae Caeronwy, lle yr oedd hen brydydd rhagorol yn byw tua dechreu y ganrif bresennol. Yr oedd John Jones, neu Sion Caeronwy, yn berchen awen rwydd a pharod; ond nid oedd ond dyn pur anllythyrenog; a phan y byddai wedi cyfansoddi rhyw ddernyn a ystyriai o werth, byddai yn myned dros y mynydd i'r Waenfawr, at Dafydd Ddu, i gael ei hysgrifenu. Ystyriai Dafydd Ddu ef fel yn tra rhagori arno ef am fywiogrwydd awenyddol, a'i allu i gyfansoddi yn ddidrafferth; ond o ddiffyg addysg briodol, ni chyrhaeddodd y drefn a'r coethder sydd yn nodweddu barddoniaeth 'Corph y Gainc." Y mae llawer o gerddi Duchan ar gof y bobl hyny sydd yn awr yn fyw; gallesid casglu llyfryn bychan bron ohonynt. Y maent yn hyned am swn cydseiniaid yn clecian," a buasai yn dda genym roddi un gerdd duchan a gyfansoddodd pan osodwyd treth ar Caeronwy; ond cymerai ormod, efallai, o le. Ar yr achlysur hwnw rhoes yr hen fardd Caeronwy i fyny, ac a adeiladodd dy ar y Common, a elwir yn awr Castell Caeronwy, lle bu y prydydd yn byw weddill ei ddyddiau.

SIAN FWYN.—Tua'r un adeg a Chaeronwy yr oedd Jane Roberts, neu fel yr adnabyddid hi gan y cyffredin Sian Fwyn, yn blodeuo. Yr oedd yn byw ar fynydd y Cilgwyn, yn y lle a elwir Samaria, ac yr oedd yn meddiannu tuedd gref, a llawer o allu prydyddol. Cyfansoddodd doraeth o emynau, amryw o ba rai a welir yn arffraffedig yn nghasgliad câr iddi, sef y Parch R. Jones. Darlunir hi fel hen wraig grefyddol iawn, yn llawn o hwyl moliannu bob amser; ac er ei bod yn dylawd, ac yn ymddibynu i gryn raddau ar elusenau at ddiwedd ei hoes, eto yr oedd yn dra chymeradwy gan ei chymydogion oll, a gair da iddi gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Claddwyd hi yn mynwent y Bedyddwyr, yn Llanllyfni, gyda pha rai yr oedd hefyd yn aelod crefyddol. Ei diwedd oedd tangnefedd. Cyhoeddwyd cyfrol fechan o'i barddoniaeth, yn cynnwys caniadau moesol ac emynau.

WILLIAM OWEN. — Yn agos i'r man lle saif Hyfrydle, capel y Methodistiaid, yr oedd craig serth a neillduedig, a elwid Pulpud William Owen. Paham y galwyd y lle ar yr enw hwn a eglurir gan yr hanes canlynol: Tua phedwar ugain mlynedd yn ol yr oedd yn byw mewn bwthyn bychan gerllaw Talysarn hen lencyn neillduol o'r enw William Owen. Pan yn ieuanc cafodd ei frathu gan sarff yn agos i ffynon yr Hafodlas, yr hyn a'i hanalluogodd i gerdded ond wrth ei ffon weddill ei oes. Ymddengys ei fod yn Eglwyswr brwdfrydig; ac wedi iddo fethu dilyn y gwasanaeth yn Eglwys Llanllyfni, byddai yn dringo i'r graig y cyfeiriwyd ati i olwg yr eglwys, gyda'i Feibl a'i Lyfr Gweddi Cyffredin, ac yno darllenai yn fanwl y gweddiau a'r llithoedd a ddarllenid ar yr un adeg yn Llanllyfni. Dilynodd yr arferiad yma yn ddifeth am lawer o flynyddoedd gyda'r fath gysondeb nes y deuwyd i adnabod y graig fel Pulpud William Owen hyd heddyw. Yr oedd ganddo hefyd le yn agosach i'w dy, lle yr arferai gyda'r un cysondeb fyned dros y gwasanaeth hwyrol a'r gosber! Yr oedd William Owen yn byw yn unig mewn ty bychan o'r enw Ty'n y Coed, muriau yr hwn a welid hyd yn ddiweddar, a byddai ymarfer sicrhau y drws trwy osod pilar mawr o lechfaen i bwyso yn erbyn y ddor o'r tu mewn. Un diwrnod sylwai rhai oedd yn gweithio ar ei gyfer nad oedd mwg yn esgynody yr hen lanc, ac ofnasant nad oedd pob peth yn iawn; ac wedi llwyddo trwy anhawsdra i fyned i mewn, cawsant ef yn farw a fferedig yn ei wely! Mor druenus yw bywyd yr unig!


ROBERT YR AER.—Yr oedd yn byw yn Talysarn Uchaf gymeriad hynod a elwid Robert yr Aer, ac efe oedd aer neu berchenog y lle hwnw. Yr oedd amryw arferion digrif gan Robert, un o ba rai oedd y canlynol:—Cymerai bleser mawr mewn dal pren yn y tan nes y byddai wedi haner llosgi, wedi ei gael i'r cyflwr hwnw rhedai ag ef nerth ei draed er mwyn ei daflu i'r afon oedd gerllaw, er mwyn clywed y pren tanllyd yn ffrio wrth ddyfod i gyffyrddiad â'r dwfr? Yr aer hwn a drosglwyddodd ei holl direodd, ar y rhai y mae cloddfeydd llechau cyfoethog yn awr, i Mr. Garnons, ar yr amod fod iddo roddi £50 yn y flwyddyn iddo ef tra byddai efe byw; ond bu farw yr aer yn mhen tua blwyddyn ar ol y cytundeb hwn, a disgynodd ei dir yn eiddo Mr. Garnons, yr hwn nid oedd na châr na pherthynas iddo; ac felly y difuddiodd ei hiliogaeth ei hun o'r hyn a ddylasai eto fod yn meddiant rhai o'r teulu. Hen lanc oedd Robert ei hun, ac yr oedd yn byw y rhan olaf o'i oes mewn ystafell allan, berthynol i dy Talysarn Uchaf. Amryw ereill a haeddant gael eu crybwyll yn y dosbarth hwn, ond gan ein bod wedi enwi y rhai mwyaf nodedig, dichon mai terfynu y rhan yma o ddosbarth y Cofiannau fyddai cymhwysaf, er mwyn ini fyned rhagom at bethau mwy dyddorol a phwysig.

PENNOD III
Parhad Cofiannau

Yn y bennod hon ymdrechwn roddi braslun o hanes dechreuad a chynnydd yr achosion crefyddol o fewn ein terfynau. Yr ydym wedi crybwyll o'r blaen fod Cristionogaeth wedi cael ei phlanu yn Llanllyfni yn foreu, mor foreu fe ddichon ag amser Cystenyn, gan St. Rhedyw; ac yn Nghlynnog Fawr, yn y chweched ganrif, gan Beuno; ac yn awr, cawn fyned rhagom i nodi rhai ffeithiau yn nglyn â hanes dechreuad Ymneillduaeth yn y parth hwn. Ymddengys oddiwrth bob tystiolaeth sydd genym mai isel a dirywiedig iawn oedd agwedd foesol trigolion y dyffryn hwn cyn cyfodiad Ymneillduaeth. Nid oedd y gwasanaeth ffurfiol a gynnelid yn yr eglwysi plwyfol yn gwneyd nemawr tuag at grefyddoli y preswylwyr. Heblaw hyn, achosodd cynnydd yn ngweithfeydd copr a llechi y gymydogaeth, i ddynion o bob cwr ymgasglu yma, ac yn ei plith rai o'r cymeriadau gwaethaf. Poenid yr ychydig a ofalent rywbeth am grefydd gan eu harferion anfoesol, yn enwedig ar y Sabbothau, Hela gyda chŵn, ymgasglu at eu gilydd i chwedleua, gorweddian hyd y maesydd, ymyfed, ac ymladdfeydd gwaedlyd, —y pethau hyn a'u cyffelyb oedd yn cael eu cario yn mlaen ar y Sabbothau. Ond yr Ysgol Sabbothol, cynnydd y capeli, a gweinidogaeth yr efengyl a ddygasant y pethau hyn o'r diwedd i warth, a thra y mae eto lawer o anfoesoldeb, diogi, a segur- dod yn parhau, er hyny y mae mynychu rhyw le o addoliad, ymwisgo yn drefnus ar y Sabboth, &c., wedi dyfod yn bethau hanfodol i raddau o barch, hyn yn nod yn ardaloedd gwylltaf y gweithfeydd. Ond rhaid i ni fyned rhagom i grybwyll yn flaenaf am

DRWS Y COED.—Rhywbeth yn gyffelyb i'r darluniad uchod oedd hanes y lle hwn, yn flaenorol i gyfodiad yr achos Annibynol yn y lle. Tua'r flwyddyn 1700, dygwyddodd i deulu crefyddol perthynol i gyfundeb y Morafiaid ddyfod i fyw i Drws y coed, y rhai a wnaethant les mawr yn y gymydogaeth. Adeiladwyd capel bychan yn agos i Drws y coed Uchaf, yr hwn a elwir yn awr Bwlch Culfin; ond yn mhen ysbaid ymadawodd y teulu uchod oddiyma, trowyd y capel yn dy annedd, a darfyddodd son am le o addoliad am hir amser hyd oni roes yr Arglwydd yn meddwl gŵr o'r enw William Gruffudd, Drws y coed Uchaf, ddarparu lle i'r arch yn ei dy ei hun. Adeiladodd W. Griffith dy newydd yno, a chyfansoddodd benill, yr hwn a welir yn doredig ar lech uwch ben y ty presennol yn Drws y coed Uchaf, yr hwn sydd fel y canlyn:

"Dymuniad calon yr adeiladydd, Yr hwn a'i gwnaeth o ben bwygilydd, Fod yma groesaw i Dduw a'i grefydd Tra bo ceryg ar ei gilydd."

Dymuniad sydd yn cael ei gyflawni i raddau helaeth hyd heddyw, ac hyderwn mai felly fydd "tra bo ceryg ar eu gilydd."

Yn y flwyddyn 1790, daeth gwraig o'r enw Ellen Evans i fyw i'r Storehouse. Yr oedd hon yn aelod o eglwys Annibynol Talysarn, a dywedir ei bod yn wraig nodedig o grefyddol. Pan heneiddiodd Ellen Evans, nes methu dilyn y moddion yn Talysarn, erfyniodd am gael ambell oedfa yn y Storehouse, ac y mae yn y ty hwnw gongl neillduol a elwir Congl y Pregethwr hyd heddyw. Y wraig hon oedd y gyntaf i broffesu egwyddorion Annibynol yn y lle. Wedi bod pregethu am ysbaid yn y Storehouse, Talymignedd, a Drwsycoed uchaf, daeth i feddwl John Jones, goruchwyliwr y gwaith copr, adeiladu capel yma. Bedyddiwr oedd John Jones, ac aelod o'r cyfundeb hwnw yn y Felingeryg. Bu yr eglwys a'r gynnulleidfa am dymhor wedi hyn yn gymysgedig o Annibynwyr a Bedyddwyr, gan mwyaf; ond anghydfod a ddilynodd, a llwyddodd yr Annibynwyr i gael lease ar y capel, ac iddynt hwy y mae hyd heddyw yn perthyn. Dywedir mai nifer o ddynion dibroffes oeddynt y rhai cyntaf i ymgynnull at eu gilydd i gadw Ysgol Sabbothol yno. Bu amgylchiadau yr eglwys hon yn gyfnewidiol gyda golwg ar rif yr eglwys a'r gynnulleidfa, yn ol fel y byddai sefyllfa y gwaith mŵn. Ar y pryd yr ydym yn ysgrifenu cynnwysa tua thriugain o aelodau, a rhifedi cyffelyb yn yr Ysgol Sabbothol. Er's tua pymtheng mlynedd yn ol y mae yr eglwys hon, yn gystal a'r eiddo Talysarn, o dan ofal y Parch. E. W. Jones. Yn yr eglwys hon cyfodwyd pedwar o bregethwyr, sef un o'r enw D. Davies a Richard Jones, gwr ieuanc addawol, a fu farw yn ieuanc, Y Parch. Hywel R. Jones (Rhodri Arfon), bardd a llenor rhagorol, sydd yn awr wedi ymsefydlu yn Bryngwran, Mon; ac Ellis Lewis, gwr ieuanc gobeithiol a godwyd yno yn ddiweddar, ac sydd yn awr yn ymbaratoi gogyfer a myned i'r athrofa.

TALYSARN.—Yr Annibynwyr oeddynt y rhai cyntaf o'r cyfundebau Ymneillduol a ddechreuasant bregethu yn y gymydogaeth hon. Dywedir mai gweithiwr o'r enw Michael Owen, aelod o eglwys Penlan, Pwllheli, a fu y prif offeryn i blanu eglwys yn y lle hwn. Daeth y gŵr hwni weithio i'r gymydogaeth yn nechreu y flwyddyn 1790; a chan ei fod yn ŵr o dueddiadau crefyddol, yr oedd anfoesoldeb ei gydweithwyr yn ei boeni yn ddirfawr; ac ar ganol dydd byddai arferol a darllen a gweddio yn yr hen chwimsi, fel y gelwid y lle perthynol i'r gwaith, lle byddai ef a'i gydweithwyr yn bwyta eu tamaid ciniaw. Derbyniodd Michael Owen gyfran dda o ddirmyg a sen oherwydd yr arferiad yma; ond yn raddol darfu i'w onestrwydd a'i ddifrifoldeb enill y bobl i'w barchu, ac yn lle ei wawdio fel cynt ymgasglent yn fynteioedd at yr hen chwimsi er mwyn ei glywed yn gweddio. Tua'r flwyddyn 1793, dechreuodd George Lewis (Dr. Lewis ar ol hyny) ymweled â'r lle yn achlysurol i bregethu i'r gweithwyr ganol dydd. Dilynwyd ef yn yr arferiad yma gan amryw ereill, ac o'r diwedd ymsefydlodd y Parch. W. Hughes, Saron, fel cenadwr teithiol yn y cymydogaethau hyn. Rhywbryd yn y flwyddyn 1800, yr oedd W. Hughes i bregethu yn yr hen chwimsi, ac yr oedd y diwrnod yn wlawog, a'r gynnulleidfa yn ormod i fyned i mewn, deallodd y pregethwr fod hen factory wag yn agos i'r lle, ac wedi cael caniatâd y perchenog awd i mewn yno, ac yn yr hen factory yma gorphwysodd yr arch; yno corpholwyd yr eglwys annibynol gyntaf yn y Nant, a'r hen factory wedi ei hadgyweirio a'i dodrefnu oedd y capel a ddefnyddid gan y Cyfundeb o'r flwyddyn 1800 hyd 1862, pryd yr agorwyd y Seion helaeth a chyfleus bresennol. Er y flwyddyn 1856, y mae yr eglwys hon yn cael ei bugeilio gan y Parch. E. W. Jones. Rhif yr aelodau yn 1856 oedd 30, ac y maent yn awr tua 140, ag Ysgol Sabbothol flodeuog, yn nghyda chynnulleidfa luosog a chynnyddol.

Yn y flwyddyn 1821 adeiladwyd yma gapel perthynol i'r Methodistiaid, Yr oedd pregethu cyn hyn yn Ffridd y Baladeulyn, y tu arall i'r llyn, er's o leiaf 52 o flynyddoedd. Dechreuasant yn nhy un Robert Thomas a'i wraig Catherine Jones. Ymunodd y wraig yn ieuanc â'r Methodistiaid yn y Capel Bach, yn Nhalygarnedd: ond bu Robert Thomas yn greulon ac erledigaethus yn eu herbyn am amser. Coffeir am dano unwaith yn cymeryd taith i Bencoed, Eifionydd, gyda'r bwriad o ladd y pregethwr oedd yno; ond iddo ddychwelyd yn ol o'r elyniaeth oedd yn ei galon wedi ei lladd yn yr oedfa, er mawr lawenydd i'w briod oedd yn llawn pryder yn ei absenoldeb. Ar ol hyn ymunodd Robert Thomas â chrefydd, a gwahoddwyd pregethu i'w ty: cynnelid cyfarfodydd gweddio ac Ysgol Sabbothol hefyd yn y Ffridd am lawer o flynyddoedd, ac y mae cyfran o'r hen bulpud ceryg i'w weled yno eto, a'r hen ganwyllbren haiarn cymalog yn cael ei gadw yn ei le yn ofalus hyd heddyw. Pan gynnyddodd poblogrwydd y gymydogaeth adeiladwyd capel ychydig uwchlaw y ffordd, ar dir Talysarn, yr hwn, erbyn y flwyddyn 1852, oedd wedi myned yn rhy gyfyng, ac adeiladwyd addoldy eang a chyfleus wrth y brif-ffordd, yr hwn hefyd a aeth yn rhy gyfyng, hyd onid yw yr eglwys sydd ynddo wedi bwrw allan ganghenau blodeuog i Nantlle a Hyfrydle, a'r hen fam-eglwys yn gadarn a llewyrchus eto.

Cymerodd amgylchiad le ar agoriad Capel Talysarn ag y byddai ei grybwyll efallai yn llesol i'r rhai a'i hystyriant. Ymddengys fod dau o deuluoedd cyfrifol yn y gymydogaeth wedi dewis yr un seat yn y capel newydd, ac er pob ymgais ni ellid cael gan y naill blaid na'r llall roddi i fyny. Boreu ddydd ei agoriad canfyddwyd fod un o'r teuluoedd wedi myned i mewn trwy y ffenestr cyn i'r drysau gael eu hagor, a llenwi y seat, fel pan ddaeth y teulu arall i mewn y gorfu arnynt gymeryd eu heisteddleoedd yn y naill fan a'r llall yn y capel. Modd bynag, effeithiodd yr amgylchiad gymaint ar feddwl y mab hynaf yn y teulu gorchfygedig fel y llefodd allan ar ganol yr oedfa, a'r Parch. W. Morris, Cilgeran, yn pregethu, fel y gorfuwyd tori yr addoliad i fyny mewn annhrefn; ac erbyn cymeryd y llanc allan gwelid ei fod yn wallgof, a pharhaes felly hyd ddydd ei farwolaeth, er dirfawr ofid i'w deulu a drwg deimlad annileadwy rhwng cymydogion! Dyma un o gampau dieflig y bod annynol a alwai un hen dduwinydd manylgraf, gyda llawer o briodoldeb, yn "Gythraul y gosod seti."

Yn y flwyddyn 1862 adeiladwyd capel yn Nhalysarn gan y Bedyddwyr. Nid oedd yma unrhyw fath o addoliad yn cael ei gadw gan y cyfundeb hwn yn flaenorol i agoriad y capel. Y pryd hyny corpholwyd eglwys ynddo yn rhifo 22 o aelodau gwreiddiol yn eglwys y Felingeryg. Am y blynyddau cyntaf bu yr achos yma o dan olygiaeth y Parch. R. Jones, Llanllyfni, a'r ddwy eglwys yn ffurfio un daith Sabbothol, eithr er's amser bellach y mae pob un o honynt ar wahan, ac yn gofalu am weinidogaeth drostynt eu hunain. Rhifedi yr eglwys hon yn 1862, fel y crybwyllwyd, oedd 22; y mae yn bresenol yn rhifo 52, a'r Ysgol Sabbothol yn 80, gyda chynnulleidfa gynnyddol.

Tua dwy flynedd yn ol dechreuwyd achos yn y gymydogaeth hon gan yr Eglwys Sefydledig. Daeth gwr ieuanc crefyddol a hynaws yma fel cenhadwr, a llwyddodd yn fuan i gasglu cynnulleidfa mewn ystafell gerllaw palasdy Talysarn. Brodor o'r Deheudir oedd Mr. Williams, a bu farw yma yn 1869 yn mlodeu ei ddyddiau. Claddwyd ef mewn modd anrhydeddus yn Llanllyfni, a gweinyddwyd yn ei angladd mewn rhan gan ei noddwr a'r Gwir Barchedig Dr. Campbell, Arglwydd Esgob Banger. Ei olynydd yw y Parch. Mr. Williams, genedigol o'r Penrhyndeudraeth, a mab i W. Williams (Gwilym Idris), pregethwr yn nghyfundeb yr Annibynwyr yn y lle hwnw. Bydd y gynnulleidfa yn cael ei symud yn fuan i le mwy cyfleus, gan fod yma eglwys newydd eang a phrydferth ar fin bod yn barod. Nid ydym yn awr mewn mantais i wybod yn hollol rifedi y cymunwyr mewn cysylltiad â'r Eglwys Sefydledig yma.

LLANLLYFNI.—Y cyntaf o'r cyfundebau Ymneillduol i ymsefydlu yn Llanllyfni oedd y Methodistiaid. Ymddengys fod pregethu i lawr y dyffryn, mewn lle a elwir Berth Ddu Bach, er's peth amser, ac i wr o'r enw William Williams, o Lanllyfni, fyned yno i wrando pregeth. Llwyddodd yn fuan i enill tri ereill o'r enwau W. Jones, W. Roberts, a W. Dafydd, i ddyfod yno gydag ef. Y rhai hyn, gyda gwraig a chwaer W. Williams, oeddynt y rhai cyntaf i ffurfio yr eglwys Fethodistaidd yn Llanllyfni. Dangoswyd llawer o ddirmyg tuag atynt ar y dechreu; nid oedd a'u derbyniau i'w dy, hyd oni chawsant achles yn nhy W. Williams, yn y Buarthau.

Yn y flwyddyn 1770 cynnaliwyd cymdeithasfa yn Llanllyfni am y waith gyntaf. Adroddir hanes y gymdeithasfa hon gan awdwr 'Hanes Methodistiaeth', yn yr hwn y dywed fod person y plwyf yn llidiog iawn o'i herwydd, ac iddo gyflogi dynion i fyned i'r maes i aflonyddu ar y pregethwyr. Wedi i amryw wrthod, o'r diwedd gwr fo'r enw Evan Thomas, gwr ystrywgar a chellweirus, a ammododd â'r person am lonaid ei fol o fwyd a diod, yr elai ac yr aflonyddai yn llwyddiannus. I'r cae yr aeth, ond dychwelodd yn ei ol heb gyflawni ei ymrwymiadau oherwydd ofn; ond gwr arall a wnaeth y gorchwyl mor effeithiol fel y bu gorfod ar y pregethwr ddistewi. Ond Cymro o ymddangosiad boneddigaidd, o gyfundeb Lady Huntingdon, a esgynodd yr areithfa ac a gafodd lonydd i derfynu y moddion.

Yn mhen naw mlynedd drachefn cynnaliwyd yma gymdeithasfa arall, ac yr oedd yr un penderfyniad ar droed i'w haflonyddu; ond gwr grymus o gorpholaeth, o'r enw Robert Prys, a ymosododd ar y terfysgwr, fel y bu gorfod arno sefyll draw a pheidio aflonyddu yr addoliad mwy, a therfynodd yr erledigaeth gyhoeddus ar y Methodistiaid yn y fan hon. Yn y flwyddyn 1771 adeiladwyd capel bychan yn Talygarnedd, ac er na fesurai fwy nag wyth llath wrth chwech, haerid na lenwid byth mo hono; ond eynnyddodd poblegrwydd y gymydogaeth, a chafwyd adfywiadau grymus hefyd ar grefydd trwy y wlad, fel y rhifai yr aelodau a berthynant i gapel Talygarnedd tua 200 erbyn y flwyddyn 1813, pryd y bu raid "lledu y babell ac estyn y cortynau," ac yr adeiladwyd addoldy helaeth wrth y brif-ffordd, yn mhentref Llanllyfni. Tra (bu yr eglwys yn y lle hwn bwriodd allan ganghenau i Bryn-yr-odyn, Carmel, Rhostryfan, Talysarn, Penygroes, a'r Mynydd. Mor gadarn y cynnyddodd gair yr Arglwydd! Yn 1864 adeiladwyd y capel presennol yn Llanllyfni, yr hwn sydd yn un o'r addoldai eangaf a phrydferthaf yn y wlad. Bugail presennol yr eglwys hon yw y Parch. Robert Thomas, diweddar o Fangor. Rhif yr aelodau yw 150, a'r Ysgol Sabbothol 300 ar gyfartaledd.

Yn mhen tua dwy-ar-bymtheg o flynyddoedd ar ol y Methodistiaid daeth y Bedyddwyr i'r gymydogaeth hon. Y pregethwr cyntaf perthynol i'r Bedyddwyr a ddaeth i Lanllyfni oedd un o'r enw Dafydd Morus, o'r Deheudir. Daeth ar daith trwy Gricerth, Pwllheli, Nefyn, ac i Lanllyfni, ac a draddododd bregeth i dyrfa luosog ar y cae tu cefn i'r King's Head. Nid oedd ymddygiad y person mor ffol y tro hwn ag ar adeg Cymdeithasfa y Methodistiaid; eto teimlai y dylasai ymyraeth. Y tro hwn danfonodd y clochydd i'r oedfa, gan orchymyn iddo ddal yn fanwl ar athrawiaeth y gwr dyeithr. Y clochydd, yr hwn oedd wr lled wybodus a diragfarn, a wnaeth felly, a phan ddychwelodd at ei feistr dywedai na wrandawsai well pregeth erioed, fod rhesymau y pregethwr yn anwrthwynebol. Dywedir i'w feistr ddigio wrtho am y ganmoliaeth hon fel na ddangosodd y fath sirioldeb tuag ato ar ol hyny.

Adeiladwyd y capel cyntaf perthynol i'r Bedyddwyr yn y flwyddyn 1790, hwnw yw capel y Ty'nlon, ac sydd yn awr yn meddiant y Bedyddwyr Albanaidd. Yn y flwyddyn 1805 dygwyddodd anffawd i'r cyfundeb hwn a fu yn atalfa ar ei gynnydd, nid yn unig yn Llanllyfni ond trwy y rhan fwyaf o Ogledd Cymru. Yr ydym yn cyfeirio at yr ymraniad Sandimanaidd, fel ei gelwir, o dan arweiniad y Parch. J. R. Jones, o Ramoth, sir Feirionydd. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn dysgedig iawn, yn hyddysg mewn amrywiol ieithoedd, yn bregethwr a duwinydd rhagorol, ac yn bleidiwr di-ildio i ryw osodiadau nad oedd ei oes na'i enwad yn aeddfed i'w derbyn. Cofleidiodd olygiadau duwinydd Albanaidd o'r enw A. Mc.Lean. Dygodd elfenau anghydfod i mewn i'r eglwysi, ac ymraniad a rhwygiadau a ddilynodd. Ymunodd y mwyafrif yn Llanllyfni & phlaid Jones o Ramoth, a chadwasant feddiant o'r capel. Y rhai a lynent wrth olygiadau yr hen Fedyddwyr, ar ol bod tua phum' mlynedd heb unrhyw addoliad, a ddechreuasant gynnal cyfarfodydd mewn tai annedd yn y pentref; ac yn y flwyddyn 1826 adeiladasant gapel bychan yn agos i'r pentref, ar dir y Felingeryg. Ail-adeiladwyd ef yn 1858, a helaethwyd rhyw gymaint arno y flwyddyn ddiweddaf. Prynwyd darn helaeth o dir yn gladdfa wrth y capel, lle mae llawer o gyfeillion ac aelodau o'r eglwys wedi eu claddu. Mae yr eglwys hon, o dan ofal y Parch. R. Jones, yn cynnwys tua 70 o aelodau, a'r Ysgol Sabbothol rywbeth yn gyfartal. Dwy flynedd neu dair yn ol dechreuodd yr Annibynwyr achos yn Llanllyfni; gan fod y Bedyddwyr Albanaidd wedi rhoddi i fyny gynnal moddion crefyddol yn Ty'nlen, benthyciwyd ef gan yr Annibynwyr, y rhai eleni a agorasant addoldy prydferth o'r eiddynt eu hunain. Nid oes eto weinidog sefydlog ar yr eglwys hon, ond y mae mewn cysylltiad â Gosen, Rhosynenan, yn ffurfio taith Sabbothol. Rhifa yr aelodau tua 35, ac y mae yma Ysgol Sabbothol lewyrchus.

CLYNNOG.—Mae Clynnog a'r amgylchoedd yn hen wersyllfa i'r Methodistiaid. Oblegid adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Pryscyni-isaf, a elwid ar ol hyny y Capel Uchaf, yn y flwyddyn 1760, a dyma'r cyntaf ond un (y cyntaf oll, medd awdwr 'Drych yr Amseroedd') a gyfodwyd gan y Methodistiaid yn sir Gaernarfon. Pregethid cyn hyn yn y Berth Ddu Bach, yr hwn a osodasid gan Hugh Evans, Uchelwr, i grefyddwr o'r enw Dafydd Prisiart Dafydd. Gan ei fod yn cael caniatad y perchenog yr oedd yr achos yn cael noddfa yn nhy Dafydd Prisiart Dafydd pan oedd yn cael ei erlid bron yn wastadol mewn manau ereill. Rhydd awdwr Hanes Methodistiaeth' yr hanes dyddorol a ganlyn am y lle hwn: "Yr oedd Hugh Evans, er ei dynerwch at y Methodistiaid, yn ymhoffi yn fawr mewn canu a dawnsio, a phob difyrwch cnawdol o'r fath. Yr oedd yn berchen crwth neu ffidil, ac yn chwareuydd campus arni, ac ato ef yr ymdyrai lluaws o'i gymydogion diofal yn fynych ar ddechreunos i ymddifyru mewn dawns a phleser. Dygwyddodd fod pregeth yn y Berth Ddu Bach ar ryw noswaith, pryd y penderfynodd y cwmni llawen hyn, am y tro, roi heibio eu difyrwch a myned i wrando y bregeth. Gwelodd Duw yn dda goroni y weinidogaeth y pryd hyny âg awdurdod mawr, fel ag i gyraedd cydwybodau amryw o'r gwrandawyr, ac yn eu mysg yr oedd Hugh Evans, y pen-campwr ei hun. Aeth adref o'r bregeth a dywedodd wrth ei wraig yn un o'r pethau cyntaf 'Mi doraf y ffidil yn ddarnau man.' 'Na, gresyn!' meddai y wraig, 'peidiwch a'i dryllio, bydd yn dda gan Wil Evan ei chael.' 'Nage,' ebe yntau, 'ni wna ond y drwg iddo yntau.' Yna ymaflodd yn yr offeryn ac a ddechreuodd ei churo yn erbyn hen gist ystyfflog oedd yn ei ymyl nes oedd yn chwilfriw man ar hyd y llawr.' Wedi bod am ysbaid yn y Berth Ddu Bach symudodd yr arch i'r Capel Uchaf, lle mae hefyd yn aros hyd heddyw.

Tua'r flwyddyn 1810, adeiladwyd y Capel Newydd ar dir y Brynaerau Isaf, yr hwn a adeiladwyd drachefn yn 1861. Cangen o hen eglwys y Capel Uchaf oedd hon, yn gystal a'r hon a ymsefydlodd yn agos i bentref Clynnog, lle yr adeiladwyd y capel presennol yn 1841, ac a elwir yn awr Ebenezer. Dyma lle bu Eben yn ddiacon ffyddlon am lawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn briodol iawn enwi y capel hwn ar ei enw. Ynddo hefyd am faith flynyddau y bu yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn cyfansoddi rhai darnau o'i farddoniaeth aruchel, pan y byddai yn ymollwng i for o fyfyrdodau, nes anghoflo pob peth o'i amgylch. Yn Brynaera y dechreuodd y Parch. Thomas Ellis (yn awr o Rhoslan) bregethu, ac ar ei ol ef ŵr ieuanc o'r enw Henry Griffith, genedigol o'r un lle, a mab i Robert a Jane Griffith, y rhai sydd eto yn byw wrth y capel, Brynaerau. Bu R. Griffith am lawer o flynyddoedd yn arweinydd canu, ac yn chwareu offeryn yn Eglwys Clynnog Fawr, ac efe ydyw arweinydd y canu yn awr yn Brynaerau. Ystyrid ef yn gerddor rhagorol pan yn ei flodau, ac y mae ar gael nifer o donau cynnulleidfaol o'i waith mewn arferiad. Ei fab ieuengaf oedd Henry Griffith y cyfeiriwyd ato, yr hwn a fu farw pan ar fin gorphen ei efrydiaeth yn y Bala. Yr oedd yn fachgen o dymmer ddwys a dystaw, ac yr oedd yn arfer treulio llawer iawn o amser gyda Duw mewn dirgelfanau, yn neillduol ar ol iddo ddechreu pregethu, ac yr oedd rhyw ddylanwad anarferol gyda'i bregethau. Yr oedd difrifoldeb ei wedd, tynerwch toddedig ei lais, a'i gymeriad pur yn peri effeithiau neillduol ar ei bregethau. Odid y bu un gŵr ieuanc, er dyddiau John Elias, yn arfer cael y fath odfaon, fel y tystiai ei gymydogion hyd y dydd hwn, yn mysg y rhai y mae ei goffadwriaeth fel perarogl. Ond y darfodedigaeth, gelyn creulon a diarbed, yr hwn oedd wedi danfon chwech o'i frodyr a'i chwiorydd trwy byrth mynwent Sant Beuno o'i flaen, a'i hanfonodd yntau, y seithfed o'r plant, i huno pan yn 23 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am tua pedair blynedd. Ni bu ei fywyd yn ofer, oblegid mewn oes fer enillodd ddegau o eneidiau at y Gwaredwr.

Yn y Pontlyfni y mae achos y Bedyddwyr er's llawer o flynyddoedd. Dechreuodd y Bedyddwyr bregethu yn Brynaerau Uchaf, Llwynimpiau, ac mewn ty bychan gerllaw y fan y mae y capel yn awr. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1822, ac ail-adeiladwyd ef yn 1868. Cyf ododd amryw o bregethwyr enwog o'r eglwys fechan hon, sef William Roberts, genedigol o'r Ynys, a diweddar weinidog Penyparc, yn swydd Aberteifi, Samuel Williams, genedigol o'r Bont, a gweinidog presennol Nant y glo, ac Enoch Williams, Twyn yr odyn-tri o oleuadau dysglaer, ond ydynt yn awr yn dechreu pylu gan oedran. Deallwn fod y blaenaf wedi gorfod encilio oddiwrth lafur gweinidogaethol oherwydd gwaeledd ei iechyd.

Un capel perthynol i'r Cyfundeb Wesleyaidd sydd o fewn terfynau ein testyn, sef yr un yn Treddafad, Penygroes. Dechreuodd y Wesleyaid bregethu yn y gymydogaeth hon er's tua 40 mlynedd yn ol, mewn ty ar lethr y Cilgwyn a elwir Cel-y-llidiart, ond a elwid Nebo y pryd hyny. Yn y flwyddyn 1834, adeiladwyd capel yn Treddafydd. Gwywodd yr achos i'r fath raddau ar ol hyny, nes y penderfynodd y Wesleyaid ei osod i'r Methodistiaid, y rhai fuont yn ymgynnull ynddo hyd y flwyddyn 1860, pan yr adeiladwyd Bethel yn ei ymyl. Ail-ymaflwyd yn y gwaith yn ddiweddar drachefn gan y brodyr Wesleyaidd, ac y mae ynddo yn awr eglwys fechan weithgar yn rhifo tua 30 o aelodau.

Heblaw Talysarn a Phenygroes, lle mae eglwysydd cryfion gan y Methodistiaid wedi hanu o eglwys Llanllyfni, y mae Talysarn drachefn wedi anfon allan i'r byd ferched enwog, sef Nantlle a Hyfrydle, lle mae capelydd heirdd ac eang. Y mae gan y Methodistiaid hefyd orsaf yn Tanyrallt, lle cedwir Ysgol Sabbathol, ac y pregethir yn achlysurol; ac y mae gan yr Annibynwyr orsaf gyffelyb hefyd yn mynydd y Cilgwyn, lle y cedwir ysgol, ac y pregethir yn achlysurol. Canghenau o eglwys yr Annibynwyr yn Talysarn yw Penygroes a Drws y coed, a changen o eglwys y Felingeryg yw yr eglwys Fedyddiedig yn Talysarn.

Yr ydym yn awr wedi cyfeirio at yr holl leoedd o addoliad o fewn terfynau ein testyn, a chyda golwg ar ansawdd crefyddol o'i fewn nid am-heuwn nad all sefyll cymhariaeth âg unrhyw ddyffryn neu nant yn Ngwynedd o ran harddwch a rhifedi ei addoldai, a chymeriad ei eglwysi,. yn ol rhifedi a sefyllfa y trigolion, y rhan fwyaf o ba rai ydynt yn perthyn i'r dosbarth gweithiol. Ond addefir yn gyffredinol nad oes unrhyw ddosbarth o weithwyr mor hael at achosion crefyddol, ac yn meddu cystal addoldai a'r chwarelwyr; a hir y parhaont i deilyngu y ganmoliaeth hon; ac er fod rhai o'r eglwysi uchod yn gryfion, ac yn cynnwys nifer mawr o aelodau, y mae eto yn aros dir lawer i'w feddiannu.

Cyn terfynu y bennod hon dymunwn grybwyll ychydig eiriau am rai pregethwyr a godasant yn yr eglwys uchod nad ydym wedi cyfeirio atynt hyd yn awr; a'r cyntaf yw William Dafydd, y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn Llanllyfni. Yr oedd W. Dafydd yn ddyn dichlynaidd iawn ei ymarweddiad, ac o ddawn llithrig a phoblogaidd, ac yr oedd yn nodedig o barchus trwy y wlad. Ei ddull o bregethu oedd fyr a melus. Dywedir fod ynddo hoffder neillduol at blant, a'i fod yn hynaws a thirion yn ei gyfeillach. Am rai blynyddoedd, yn niwedd ei oes, yr oedd yn fusgrell ac afiach iawn. Rhaid fyddai cael help cadair i'w gynnorthwyo i fyned ar gefn ei geffyl, ac arferid ei gario o le i le gan ei gynnorthwyo i ddringo y pulpud. Ac wedi iddo fyned mor afiach nes methu gadael cartref, cymaint oedd ei ymlyniad wrth ei hoff waith o bregethu, fel y pregethai i'w gymydogion yn ei dy oddiar y bwrdd, neu o'i eistedd yn y gadair.

William Owen, o Lwyn y Bedw, oedd hefyd yn bregethwr cymeradwy iawn a godwyd gan y Bedyddwyr yn y Felingeryg. Dechreuodd W. Owen bregethu tua'r flwyddyn 1826, sef yr un flwyddyn ag yr adeiladwyd y capel cyntaf yn y Felingeryg. Yr oedd yn ddyn tal, glandeg, a phregethwr melus ac efengylaidd. Tua'r flwyddyn 1833, aeth ar daith i'r Deheudir, a derbyniodd alwad oddiwrth eglwys henafol a pharchus y Felinganol i ddyfod yn weinidog iddi, a bu yno hyd Ionawr, 1835, pryd y bu farw trwy ddrylliad gwaed-lestr. Yr oedd yn nychlyd er's blynyddau: ond ni feddylid fod ei ymddattodiad mor agos. Claddwyd ef yn mynwent Capel y Felinganol, ac yr oedd tua 33 mlwydd oed.

Un arall a godwyd yn y Felingeryg ydoedd y diweddar Barch. William Griffith, o Gaerynarfon. Dechreuodd Mr. Griffith bregethu gyda'r Bedyddwyr pan nad oedd namyn 17 neu 18 mlwydd oed; ond yn fuan cyfnewidiodd yn ei olygiadau, ac ymunodd â'r Methodistiaid. Ordeiniwyd ef yn Bala yn 1841. Bu yn byw am ysbaid yn Mhwllheli, ac wedi hyny fel cenadwr gyda'r Cymry yn Dublin. Symulodd ar ol hyny i Wolverhampton, ac ar ol hyny bu am ysbaid yn Talysarn. Nid ystyrid ef un amser o gyrhaeddiadau helaeth; eto yr oedd yn ddengar a defnyddiol, a chanmolir ef hyd heddyw yn y cyfeillachau. Yr oedd yn ŵr gostyngedig a diymffrost, ac o dymmer addfwyn a thawel. Bu farw Mai y 6ed, 1870, gan sibrwd y geiriau " Y Baradwys Nefol."

Y Parch. Robert Owen, diweddar o Ddolwgan, eithr yn bresennol o Waenynog, swydd Dinbych, sydd weinidog cymeradwy a gyfodwyd mewn cysylltiad âg eglwys y Methodistiaid yn Talysarn. Dechreuodd Mr. Owen bregethu yn y flwyddyn 1846, ac ystyried ei anfantais foreuol o ddiffyg addysgiaeth y mae wedi cyrhaedd safle barchus yn y cyfundeb y perthyna iddo. Dywedwyd wrthym y byddai rhyw ddylanwad neillduol yn cydfyned â'i weddiau cyn iddo ddechreu pregethu-rhywbeth mwy hynod hyd yn nod na dylanwad ei bregethau yn awr, er ei fod yn y golygiad yma yn dra rhagorol.

Ar derfyniad y bennod hon dichon nad annerbyniol fyddai taflen fechan o'r capelydd, yr amser yr adeiladwyd hwy, a rhifedi y cymunwyr yn mhob un. Gwelir oddiwrthi fod 15 o gapelydd o fewn terfynau ein testyn, o ba rai y mae saith yn perthyn i'r Methodistiaid, pedwar i'r Annibynwyr, tri yn perthyn i'r Bedyddwyr, un yn perthyn i'r Wesleyaid, a thair cynnulleidfa perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Mae yn y 15 capel 1576 o gymunwyr, o ba rai y mae tua 1000 yn perthyn i'r Methodistiaid, 355 i'r Annibynwyr, 190 i'r Bedyddwyr, a 30 i'r Wesleyaid. Nis gallwn sicrhau rhifedi y cymunwyr perthynol i'r Eglwys Sefydledig; ond y maent yn sefyll yn y cyfwng rhwng y Bedyddwyr a'r Wesleyaid. Ac heblaw y capelydd, y mae yma ddwy o orsafoedd, lle cedwir Ysgol Sabbothol, ac y pregethir yn achlysurol-un yn Tanyrallt, gan y Methodistiaid, a'r llall yn mynydd y Cilgwyn, gan yr Annibynwyr.

Ad. Cym. Ad Cym
1 Drws y coed (A.) 1856 80 10 Felingeryg (B.) 1858 80
2 Nantlle (M.C.) 1865 81 11 Llanllyfni (M.C.) 1864 200
3 Talysarn" (M.C.) 1853 250 12 Eto (A) 1871 36
4 Seion (A.) 1861 140 13 Brynsera (M.C.) 1860 110
5 Tabernacl (B.) 1862 50 14 Pontlyfni (B.) 1868 60
6 Hyfrydle (M.C.) 1867 130 15 Ebenezer (M.C.) 1844 100
7 Bethel (M.C.) 1860 180
8 Soar (A.) 1860 120 Cyfanswm 1576
9 Tre Ddafydd (W.) 1834 30


Dosbarth III.—Hanes Presennol.
PENNOD I

Mae yr haner canrif diweddaf wedi esgor ar gyfnewidiadau anhygoel gyda golwg ar gyfryngau masnach, addysg, a chrefydd, yn Nyffryn Nantlle. Haner can' mlynedd yn ol ni rifid o Drwsycoed i Benygroes nemawr gyda dwsin o dai annedd, a phe byddai yn bosibl i'r hen drigolion fu yn byw ac yn marw ynddynt gael golwg ar eu hen ddyffryn tawel hwn fel y mae, o'r braidd y gallent gredu eu llygaid eu hunain. Yn y lle yr oedd dolydd tawel, rhwng cysgodion llanerchau o goedydd preiff tewfrigog, yn y rhai y pynciau corau asgellog, y mae yn awr gloddfeydd safnrhwch yn ymddangos fel pe byddai calon y ddaear wedi ei thynu o honi: ac yn lle peroriaeth adar, a llancesau wrth weini gyda'r gwartheg a'r diadellau, clywir twrf pylor yn "palu mynyddau." Uwchben y tyllau arswydus gwelir ugeiniau o'r gweithwyr yn hongian wrth didau, ac yn ymddangos yn debycach i'r pryf copyn yn gweu ei rwyd uwchben y gwagle erchyll; ond y maent yn galonog ac anturiaethus, ac yn foddlawn dygymod a'u holl galedwaith os bydd golwg am setlio canolig, er fod yr hen greigiau yna wedi bod yn diaspedain yn fynych gan lefau marwol eu cydweithwyr, a'r lechfan las wedi cael ei rhudd-ystaenio â'u gwaed. Gan y bydd yn fwy cyfleus ini fwrw golwg ar ansawdd bresennol y nant wrth ei gymeryd o'i gwr, ni a ddechrenwn unwaith yn rhagor yn Drws-y-Coed.

Prif fantais y lle neillduedig hwn i fyw yndde yw y gwaith mwn sydd yma. Nid oes genym unrhyw wybodaeth sicr pa bryd y dechreuwyd codi copr yn ngodreu Careg Meredydd; bernir oddiwrth ryw hen agoriadau fod hen genedl ddewr ac anturiaethus y Rhufeiniaid wedi bod yn cloddio ynddi. Y mae yn ddirgelwch yn awr pa fodd yr oeddynt yn agor y graig, gan nad oes ol ebillion na phylor ar eu gwaith. Crybwylla awdwr yr 'Observations on the Snowdon Mountains,' fod y gwaith wedi cael ei gario yn mlaen yn flaenorol i'r flwyddyn 1862, er's deng mlynedd ar hugain; ond pan wnaed i fyny y cyfrifon ar derfyn yr amser hwnw, fod y cwmni yn cael ei hun yn golledwr o ddwy fil o bunnau. Ymaf- lwyd yn y gwaith drachefn gan berchencg y tir, sef T. A. Smith, Ysw., Faenol, ac yn y flwyddyn 1833 yr oedd yma tua 400 yn gweithio, symiau helaeth o gopr yn cael ei godi, a'r gwaith yn troi elw da i'r perchenog. Yn bresennol y mae y gwaith hwn wedi ei ddwyn i agwedd hynod o isel. Nid oes ar hyn o bryd lawn tri dwsin o weithwyr yn y ddau waith, sef Drws-y-Coed a Simdde Dylluan, nid yn gymaint oherwydd prinder yr adnoddau yn y ddaear, eithr am fod y galwad am gopr yn ychydig, a'i bris oherwydd hyny yn isel.

Crybwyllasom fod Drws-y-Coed yn gorwedd with droed y Mynyddfawr ar un llaw, a'r Garn ar y llaw arall, ac ni fuasai neb yn dewis lle mor anghysbell a diffygiol o bob cyfleusderau cyffredin fel lle i fyw ynddo, oni bai y gwaith. Am ychydig fisoedd yn yr haf y gall y trigolion o'u tai weled yr haul; ond y mae copaäu y mynyddoedd o'i amgylch bron yn wastad yn orchuddiedig gan darth a niwl. Nis gall y lle fod yn iach i fyw ynddo, ac y mae mwy o farwolaethau yn cymeryd lle ynddo nag unrhyw le o'i faint o fewn sir Gaerynarfon, a'r cwbl bron yn ddieithrad, meddir, o'r un afiechyd, sef math o nychdod neu ddarfodedigaeth, wedi ei gynnyrchu gan oerfel. Mae yma tua 30 o dai annedd, annhrefnus mewn cymhariaeth, un capel, ond heb yr un siop nag un ysgol ddyddiol sefydlog, nag un dafarn ychwaith; a rhydd y ffaith olaf gyfrif am gyflwr rhinweddol a moesol y mwyafrif o'r preswylwyr. Mae yma gyfleusdra i ymohebu â'r byd mawr oddiamgylch yn gyson, gan fod llythyr-gludydd rheolaidd rhyngddo a Phenygroes; a thebyg y bydd i'r byrddau ysgol drefnu yn fuan ryw ddarpariaeth ar gyfer y plant sydd yma. Rhaid ini adael y lle hwn ar hyn, onide byddwn yn hir cyn bwrw golwg dros holl faes ein testyn. Rhwng Drws-y-Coed a Nantlle agorwyd gwaith mwn yn ddiweddar mewn lle a elwir y Benallt; bernir fod yno blwm i'w gael, ond ni fedrwn ddweyd dim gyda golwg ar lwyddiant yr anturiaeth, gan nad ydyw hyd yn hyn wedi ei benderfynu.

Y LLECHGLODDFEYDD.

Gan mai y llechgloddfeydd yw asgwrn cefn masnach y rhan uwchaf a mwyaf poblogaidd o Nant Nantlle, fe oddefir ini ymhelaethu ychydig ar eu hanes. Y mae yn anmhosibl penderfynu i sicrwydd pa bryd, a chan bwy, nac yn mha le y dechreuwyd cloddio llechau, gyda'r bwriad o'u defnyddio i doi tai. Y math o dai a godid yn flaenorol a ddesgrifir gan un ysgrifenydd fel y canlyn:—"Yr oedd muriau a tho ty yn yr hen amser yn dra thewglyd. Gwneid y muriau yn drwchus, y rhai a lenwid â chlai neu gymrwd, a gorchuddid oddifewn â'r un defnydd, ac oddiallan mwsoglid hwy; ar hyn gosodid y coedwaith wedi ei gymhlethu a gwiail, ac ar hyn to o dyweirch gleision gwydnion o'r mynydd, ac yn uchaf te o lechi. Oddifewn, uwch ben, crogid math o gar neu gronglwyd o wiail eto, ac ar hono y cedwid bara ceinch, cig sych, &c., ac ystyrient eu hunain yn dra chlud o dan y gronglwyd hon; a dyma y math hynaf o dai a ddaethant i lawr i'n hamser ni, oddieithr y palasau."

Mewn hen gyfansoddiad barddonol, a dadogir ar Myrddin Wyllt, ceir y brophwydoliaeth ganlynol:

"Pan dorer y deri yn agos i'r Yri,
A'i nofiad yn efrydd o Gonwy i fro Gwerydd (Gwerddon),
A throi'r ceryg yn fara yn agos i'r Wyddfa."

Cyflawnwyd y rhan gyntaf o'r broffwydoliaeth hon yn ngwaith y Saeson yn cymynu y deri, a thori i lawr fforestydd y Wyddfa o flaen byddin Iorwerth y Cyntaf; ac os wrth droi y "ceryg yn fara" y meddylid y byddai dynion yn enill eu bara wrth wneyd y ceryg yn do, ymddengys fod amseriad y diweddaf yn gyffelyb i'r cyntaf, y rhai erbyn hyn, modd bynag, sydd wedi eu cyflawni yn llythyrenol yn amgylchoedd y Wyddfa. Y mae tair cymydogaeth yn sir Gaerynarfon yn honi y flaenoriaeth gyda golwg ar y cloddfeydd, sef Bethesda, Llanberis, a Nantlle. Dygir y ffaith ganlynol gan y lle blaenaf:—" Oddeutu tri chan' mlynedd yn ol cawn yr hen fardd, Sion Tudur, wedi gwneyd 'Cywydd i ofyn llwyth o yslatys o Chwarel y Cae Hir, gan Robert Thomas, Ll.D., Deon Bangor, oddeutu y flwyddyn 1570." O blaid Llanberis crybwylla Gutyn Peris fod yr haf-dy perthynol i Lys Dinorwig, a elwid y Fechwen, wedi ei doi â cheryg cyffelyb o ran eu hansawdd i'r rhai a gloddir yn bresennol yn Chwarel Dinorwig; ac yr oedd yr haf-dy o leiaf yn 600 mlwydd oed. O blaid Nantlle dywedir fod yr hen lys tywysogol yn y Baladeulyn wedi ei doi â cheryg cyffelyb i'r rhai a gloddid ar ol hyny yn Nghloddfa'r Clytiau, yn y Cilgwyn, ac am a allwn ni weled nad oes gan y Cilgwyn gystal hawl i honi y flaenoriaeth ar Elidir neu y Fronllwyd. Gallwn gasglu fod rhyw fath o geryg brigog, anghelfydd, ac anghymesur o ran ffurf a thrwch, yn cael eu defnyddio yn yr ardaloedd lle ceir hwynt er's canrifoedd bellach, er mae yn ddiweddar mewn cymhariaeth y daeth y fasnach lechau i'r fath bwysigrwydd ag ydyw yn bresenol.

Dywed un ysgrifenydd cyfarwydd â'r pwnc fel y canlyn am y dull y dechreuwyd gweithio y chwarelau:—"Pa fodd bynag nid oedd y fasnach lechi ond bychan a distadl iawn bedwar ugain mlynedd a mwy yn ol. Nid oedd y cloddfeydd llechau y pryd hwnw ddim ond cyffelyb i'r pyllau mawn. Yr oedd rhyddid i holl drigolion y fro i dori mawn ar y mynydd (common), mewn unrhyw fan; ond wedi i un ddechreu mewn unrhyw le ystyrid yn lladrad i neb arall gymeryd meddiant o bwll ei gymydog. Ac yr oedd yr un rhyddid i dreio am lechau yn y mynydd; ond wedi i ryw un ddechreu chwarel, lladrad fyddai i neb arall gloddio yn hono. A "Chwarel Morris William," a "Chwarel John Jones," &c., y gelwid hwy y pryd hyny. Ond fel y cynnyddai y cyfryw cydunai nifer o chwarelwyr y gymydogaeth yn gyfranogion (partners) a'u gilydd i weithio chwarel, a gwerthu y Lechau i ryw rai fyddai yn adeiladu tai. Yn nesaf gwelid llong fechan yn awr ac yn y man yn Nghaerynarfon, neu Felinheli, neu Bangor, a'r chwarelwyr bellach yn dechreu dangos mewn amryw ddulliau, heb fod yn ddoeth iawn, fod ganddynt ddigonedd o arian. Tynodd hyn sylw y tir-feddiannwyr ac ereill at y cloddfeydd llechau, a chymerasaut hwy feddiant o'r rhai penaf, a dechreuasant eu gweithio ar gynlluniau mwy eang ac effeithiol." Rhoddwn eto ddesgrifiad hen chwarelwr o'r dull anghelfydd o weithio. y llechau yn yr amser y cyfeiriwyd ato uchod. "Wedi llwyddo trwy offerynoliaeth ceibiau a throsolion i gael ychydig glytiau, cariai dyn hwy ar ei gefn o un i un i'r clwt agored, ac os byddai eisieu pileru clwt dodai gareg dan ei ben, yn union dan y lle yr amcanai iddo dori, a chyda clamp o ddulbren efe a gurai ar y fan hono nes pilerau; ond weithiau byddai y dulbren yn myned yn ddellt cyn gwneyd ei waith! Y gorchwyl nesaf gyda y clytiau oedd eu trwsio a'u hollti; ac yr oedd gan y noddwr gareg deirongl a elwid Maen Nadd, ac wrth ei thalcen swp o geryg, ar yr hwn yr oedd torch wellt lle yr eisteddai i naddu, nid at yr un hyd na lled pennodol, ond at ryw faint, cymaint ag a oddefai y gareg: ac'ar y torwr, druan, y disgynai y gwaith o orphen eu cymhwyso. Yr oedd amryw o'r llechi hyn yn dri chwarter modfedd, ac weithiau yn fodfedd o dew, ac y mae engreifftiau dyddan i'w cael ohonynt weithiau mewn hen furddynod. Nid oedd yr hen gyllell naddu nemawr fwy na thriwal; rhywbeth tua saith modfedd a haner o hyd wrth bedair o led, fel y dengys yr engraifft o un sydd yn llaw y ddelw o fynor o lechnaddwr sydd yn eglwys Llandegai."

Gellir ffurfio meddylddrych am gynnydd y farchnad lechi yn Nyffryn Nantlle oddiwrth y gwelliantau olynol a wnaed yn y dull o'u trosglwyddo i borthladd Caerynarfon. Pan ddechreuwyd eu cloddio cludid hwy mewn cewyll ar gefnau mulod neu ferlynod dros y mynydd, ar hyd llwybrau anhygyrch; dull oedd o angenrheidrwydd yn drafferthus ac annyben. Ar ol hyny gwnaed ffordd trwy Benygroes, a elwir yn awr yr Hen Ffordd, ar hyd yr hon y cludid hwy mewn certwyni. Yr oedd hon, er ei bod yn welliant mawr, ar yr hen lwybr dros y mynydd, eto nid oedd ond ffordd anwastad a throfaog. Y gwelliant nesaf oedd gwneyd y dollffordd bresennol, yr hon sydd yn ffordd wastad, weddol dda, ac yn cael ef chadw mewn trefn lled ragorol. Tua'r flwyddyn 1829 agorwyd llinell o ffordd haiarn o'r Nant i Gaerynarfon, ar hyd yr hon y gallai un ceffyl lusgo amryw dunelli gyda rhwyddineb. Bu hon yn cael ei defnyddio am ysbaid fel cyfleustra i deithwyr, a'r rhai a ymwelent â'r marchnadoedd yn y dref. Darparwyd cerbydau pwrpasol arni, ond eu bod yn agored, ac oherwydd hyny yn ddigysgod iawn yn nyfnder y gauaf. Yn awr y mae cangen o linell ffordd haiarn sir Gaerynarfon yn cael ei gweithio yn brysur, a chyn pen ond ychydig o ddyddiau ar ol yr amser yr ydym yn ysgrifenu bydd y "march tan" wedi dysgu ei ffordd i'n dyffryn ninau, a chyfleusterau teithiol wedi eu perffeithio. Wrth edrych ar y gwelliantau olynol uchod teimlwn awydd aros i ofyn i'r darllenydd, Tybed a ydyw ar ben yn awr? A oes rhyw welliant i ddilyn ar ol hyn? A ydyw dyfais y meddwl dynol wedi cyrhaedd ei uchafnod yn mherffeithiad yr agerbeiriant a'r ffordd haiarn? Ond nid oes terfyn i ddarganfyddiadau meddwl dyn, ac efallai nad allwn yn awr freuddwydio am y gwelliantau sydd i'w datguddio mewn amser a ddaw.

Byddai nodi y gwelliantau bychain a graddol yn y dull o wneyd y llechau yn debyg o flino y darllenydd â gorfanylrwydd diangenrhaid. Ar y cyntaf yr amcan oedd ceisio eu gwneyd at yr un maintioli, ac yr oedd y rhai cyntaf yn fychain iawn. Gall y darllenydd weled gan Mr. John Jones, y Fodlas, esiamplau ddigon o'r hen ddull a'r maintioli gwreiddiol, ac o bosibl y math cyntaf a weithiwyd erioed yn Nantlle. Tua'r flwyddyn 1746, meddai awdwr "Hanes Sir Gaerynarfon " (Parch. Р. B. Williams), dechreuwyd gwneyd rhai cymaint arall a'r rhai cyntaf, a galwyd hwy yn "geryg dwbl," am eu bod yn ddwbl y maint a dwbl y pris. Yn fuan dechreuwyd gwneyd rhai cymaint arall drachefn, y rhai a alwyd yn "ddwbl mawr." Ond fel yr oedd eu maint a'u graddau yn ychwanegu yr oedd yn rhaid cael enwau newyddion i'w gwahaniaethu, a dywedir mai y Cad. Warburton, perchenog Cae Braich y Cafn y pryd hwnw, ar awgrymiad ei foneddiges, a ddechreuodd roddi yr enwau Countesses, Ladies, Duchesses, a Queens, wrth y rhai yr adnabyddir y gwahanol raddau o lechi yn holl chwarelau Arfon, os nad yn holl chwarelau Cymru hyd y dydd heddyw. Y prif gloddfeydd yn Nantlle, pan ysgrifenodd y Parch. P. B. Williams, oedd yr Hafodlas a'r Cilgwyn. Yr Hafodlas a elwir yn awr Cloddfa y Coed, yr hon sydd yn meddiant Hugh Roberts, Galltberan, gerllaw Pwllheli, ac a weithir i ryw raddau yn y dyddiau hyn. Y prif gloddfeydd yn awr ydynt y Dorothea, Cilgwyn, Penybryn, Talysarn, Penyrorsedd, a'r Coedmadog. Yn y gyntaf, yr hon a ddechreuwyd tua 40 mlynedd yn ol, y mae tua 525 yn gweithio. Y prif berchenog yw J. H. Williams, Ysw., Glanbeuno, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. J. J. Evans a D. Pritchard, Yn Penybryn neu Gloddfa'r Lon y mae tua 250 yn gweithio. Y perchenogion ydynt Mri. Dew and Co., Llundain, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. W. Davies a J. Roberts. Yn Talysarn y mae tua 300 yn gweithio, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. Robinson, T. Jones, a J. C. Jones. Yn Penyrorsedd nid oes yn awr ond tua 40, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. Darbishire a W. Roberts. Yr oedd yn y chwarel hon, tua phedair blynedd yn ol, tua 500 yn gweithio. Yn Coedmadog y mae tua 100 yn gweithio, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. J. White ac O. Rogers. Yn y Cilgwyn y mae tua 280 yn gweithio, a'r goruchwyliwr yw Mr. Ellis Williams. Dyma y rhai pwysicaf o fewn Dyffryn Nantlle.

Y CHWARELWYR.

Ni byddai yn briodol i ni ymhelaethu llawer ar y chwarelwyr, yn unig nodwn ychydig o bethau a ymddengys i ni yn fwyaf nodweddiadol ohonynt. Nid yw y chwarelwyr, a'u cymeryd at eu gilydd, yn ymddangos yn ddynion iach a chorfforol iawn. Dyoddefant yn aml oddiwrth y crydcymalau, a diferant yn fynych i'r mynwentydd trwy effeithiau nychlyd a gwenieithus y ddarfodedigaeth. Y mae amryw o bethau yn dal cysylltiad a'u gwaith ac a'u harferion sydd o angenrheidrwydd yn niweidiol i'w hiechyd. Sylwer ar yr adeiladau rhwyd-dyllog, anniddos, lle mae y rhai sydd yn hollti ac yn naddu yn eistedd ynddynt ar hyd y dydd. Nid yw y cytiau a elwir gwaliau ond pentyrau wedi eu bwrw ar eu gilydd yn y modd mwyaf diofal, ac wedi eu lled-doi uwch ben a chlytiau e'r maintioli mwyaf allant gael at y gwasanaeth. Trwy y gwaliau hyn y chwyrnella y gwynt a'r gwlaw bron yn ddirwystr, a chan eu bod bron bob amser yn cael eu hadeiladu ar uchelfanau y bonc, y maent yn sicr o fod yn hollol anghymwys i unrhyw ddynion eistedd ynddynt bron am ddeuddeng awr. Wedi gwlychu hyd at y croen y mae yn arferiad gan lawer o'r chwarelwyr ymgasglu at eu gilydd i Gwt y Boiler i'r gwres, a gadael i'w dillad gwlybion sychu felly am danynt. Y mae y corph, dan yr amgylchiadau hyn, yn sugno lleithder afiach i mewn i'r cyfansoddiad, a'r hyn yn amlach nag y meddylir, sydd yn diweddu mewn marwolaeth anamserol. Nid ydynt yn ofalus iawn ychwaith yn nghylch yr ymborth mwyaf priodol. Y boreu, yn eu brys, cymerant gwpanaid neu ddwy o de, ac i'w canlyn yn y can bach cymerant ffrwyth yr un ddeilen drachefn i giniaw. Ac yn aml iawn ni bydd ond te i groesawu eu dyfodiad adref. Ac yr ydym yn adnabod amryw o honynt mor hoff o ffrwyth y ddeilen fel na ofalant am ddim byd arall. Ond dylid cofio sylw Miss Nightingale:—" Y mae ychydig o de yn feddyginiaeth; ond y mae gormod o hono yn wenwyn." Nid oes dim mwy niweidiol er cynnyrchu gwendid gewynol, annkreuliad, a nychdod, nag arferiad anghymedrol o ffrwyth y ddeilen dramoraidd hon. Esgusodir ni am grybwyll y pethau hyn, nid am nad ydynt eisoes yn eu gwybod, eithr am y dymunem i'r cyfryw bethau ag sydd yn niweidiol iddynt gael eu symud ymaith.

Caniataer ini ddyfynu sylwadau un ysgrifenydd ar nodweddau cymharol y chwarelwyr:—"Os yn ein cyfarfod ar y ffordd y mae y chwarelwr cawn olwg lanwaith, deneu, lwyd, fywiog, hyf arno. Os yn ei ddillad goreu y bydd, ychwanega wychder at y pethau hyn. Mae ei waith yn un glan, a thebygol fod hyny yn ei wneyd yn hoff o lanweithdra yn mhob man, ac yn mhob peth arall. Diameu na cheir un adran fawr o'r dosbarth gweithiol mor lan eu dillad a'u tai. Nid oes le i ferched yn y llechgloddfeydd fel y maent mewn gweithydd mawrion ereill, a gall hyny fod mewn rhan yn achos o'r glendid, trwy eu bod hwy yn cael eu hamser gartref i lanhau. Mae lle gweithio y chwarelwr yn beryglus hefyd, a digon tebyg fod hyny yn meithrin yr hyfdra sydd mor amlwg yn y cymeriad. A gall fod diffyg cyfleusderau i gymdeithasu a dosbarth uwch na hwy eu hunain yn helpio i'w gwneyd yn hyf. Gan fod eu hamser gweithio yn fyrach nag eiddo llafurwyr, ceir segurdod yn un o frychau y cymeriad. Segurdod ydyw diffyg mawr y chwarelwyr ieuainc, ac y mae cysylltiad rhwng hyny a gwario arian, yr hyn a ddilynir gan res o ddrygau ereill. Haelioni, dylid dywedyd, sydd yn amlwg yn y cymeriad. Mae y chwarelwyr yn fwy darllengar nag ydynt o feddylgar. Dengys y traethodau erbyn y cyfarfodydd cystadleuol yn ardaloedd y chwarelau, fwy o ol darllen a llai o ol meddwl, nag a geir yn y cyfryw yn y cymydogaethau amaethyddol. Mae bod cymaint o'r chwarelwyr yn nghyd, a'u bod yn nghyd am gymaint o'u hamser, yn peri hefyd eu bod yn fwy chwedleugar."

Diffyg a deimlir i'r byw yn Nant Nantlle yw absennoldeb unrhyw fath o ysbytty lle gellid derbyn personau wedi eu clwyfo a'u hanafu. Er nad oes yma gymaint o nifer yn gweithio ag sydd yn Bethesda neu Lanberis, eto pan ystyriom ansawdd beryglus y cloddfeydd, a'r dull peryglus a gymerir i'w gweithio, yr ydym yn gwbl sicr fod y damweiniau yma yn cymeryd lle yn fwy mynych nag yn y lleoedd a enwyd; ond y mae ganddynt hwy bob un ei hospital i dderbyn y dioddefwyr, lle ceir ymgeledd uniongyrchol, a phob angenrheidiau wrth law er gweini yr ymgeledd oreu i'r trueiniaid. Ond yn Nant Nantlle nid yw yn beth anghyffredin cludo dynion ar ysgwyddau, neu mewn cerbydau, filltiroedd o ffordd, a'u gwaed yn ystaenio y llwybrau, er gwanychdod dirfawr trwy y fath ddyhysbyddiad o adnoddau bywyd. Gwir fod genym feddygon rhagorol, yn ddynion medrus a charedig, nodedig felly; ond y maent yn byw yn mhell oddiwrth y gweithydd, y mae gofal gwlad eang, a phlwyfydd mawrion ar eu hysgwyddau; a phan fyddo fwyaf angenrheidiol wrthynt, dichon na fydd un ohonynt i'w gael. Y mae y fath ystyriaethau, dybiwn ni, yn galw am welliant effeithiol yn hyn, ac ni cheir mo hono nes neillduo ysbytty, a chael gwasanaeth meddyg arosol, a phob angenrheidiau wrth law i weini yr ymgeledd fwyaf prydlawn. Nid oes amheuaeth, yn ein meddwl ni, nad oes aml i fywyd gwerthfawr wedi ei golli ag y gallesid ei arbed trwy ymgeledd brydlawn. Tybed fod perchenogion y cloddfeydd mor anheimladwy o gysur eu gweithwyr tlodion fel y gomeddant ymsymud yn y cyfeiriad hwn! neu a ydyw y gweithwyr mor ddiofal o'u cysur eu hunain fel y maent hwythau yn annheimladwy o'i bwysigrwydd? Os ydyw y cyntaf yn bod y maent yn annheilwng iawn o ddyngarwyr a boneddigion; ac os y diweddaf, rhaid eu bod yn ymfoddloni o dan fwy o anfantais na'u cyd-alwedigion mewn cymydogaethau ereill, y rhai sydd wedi eu bendithio â'r fath sefydliadau ag y cyfeiriwyd atynt, trwy y rhai y mae y rhai sydd yn cael y fantais oddiwrth feibion llafur wedi dangos gofal priodol a chanmoladwy am eu cysuron.

Cwynai un ysgrifenydd a fu yn ymweled â'r lle hwn tua 50 mlynedd yn ol, nad oedd gan y chwarelwyr y pryd hyny unrhyw ddarpariaeth ar gyfer damweiniau ac afiechyd. Ond pe gallasai yr awdwr parchedig fod yn bresennol yn Mhenygroes ar Ddydd Llun y Sulgwyn, gallasai weled cannoedd o bobl, tyn hen, canol oed, ac ieuenctyd, yn cadw gwyl flynyddol eu cymdeithasau, pawb o dan ei luman ei hun, ac yn cydwledda â'u gilydd yn un gymdeithas garedig a chyfeillgar. Yn y flwyddyn 1838 y sefydlwyd cymdeithas yn Llanllyfni, o dan yr enw Cymdeithas Gyfunol Brodorion Llyfnwy, yr hon erbyn hyn sydd yn rhifo tua 500 o aelodau, gydag ariansawdd o yn agos i 1000 o bunnan. Ysgrifenydd presennol y gymdeithas hon yw Mr. W. Williams, Victoria Vaults, Penygroes. Yn 1843 ffurfiwyd cymdeithas arall yn Mynydd y Cilgwyn, yr hon a ymgyferfydd yn Pisga, Capel yr Annibynwyr, ac sydd yn rhifo 380 o aelodau, gydag ariansawdd o dros 1000 o bunnau. Yr ysgrifenydd yw Mr. O. Rogers, Frondeg. Tua thair blynedd yn ol sefydlwyd cymdeithas arall yn Talysarn o dan yr enw Cymdeithas Gyfeillgar Dyffryn Nantlle, rhifa tua 200 o aelodau gydag ariansawdd o yn agos i 100 punt. Yr ysgrifenydd yw Mr. D. Pritchard, Ty Mawr.

Heblaw y cymdeithasau uchod, y rhai ydynt yn sefydliadau gwerthfawr ar gyfer afiechyd, y mae amryw o gymdeithasau adeiladu, trwy y rhai y mae lluaws o weithwyr yn dyfod i feddiant o dai iddynt eu hunain; a thrwy hyny yn meddu hawl i bleidleisio yn etholiad marchog dros y sir, &c. Y mae ganddynt hefyd gymdeithasau arian, yn y rhai y telir symiau penodol bob mis, a'r arian a roddir allan ar log gan y cyfarwyddwyr, ac ar derfyn yr 20fed mis rhenir yr ariansawdd i bob aelod gyda llog, neu gall unrhyw un trwy dalu y llog gofynol, a darparu meichiafon, gael yr arian unrhyw adeg yn nghorff yr ugain mis. Yn y cymdeithasau dirwestol hefyd y tanysgrifia pob aelod swm penodol yn fisol, y rhai a ddosberthir ar derfyn y 12fed mis gyda llog. Dilynir trefn y clwbiau gan wahanol fathau o fasnachwyr a chrefstwyr, ac ystyrir ef yn gynllun ysgafn a chyfleus i gael dodrefn, oriaduron, dilladau, &c.; a gresyn na byddai yn bosibl alltudio trefn, neu yn hytrach annhrefn, y coel o blith y chwarelwyr. Rheol y Dr. Franklin oedd, "Y gŵr a'r wraig, wedi derbyn y cyflog, yn cyd-lunio i brynu y cwbl fydd arnynt ei eisieu o bob peth hyd adeg derbyn cyflog drachefn, a gofalu bob tro am fod un geiniog yn weddill yn y llogell wedi talu i bawb." Y mae yn rhaid addef, er holl rinweddau y chwarelwyr, eu glendid, eu moesau, a'r cwbl, eu bod yn lled anghyfarwydd yn y rheol uchod o eiddo y Dr. enwog. Tra nad yw y chwarelwyr byth yn anwladgarol, nac yn hoffi terfysg, na sefyll allan, nac yn euog o gyflawni troseddau, eto y mae yn rhy gynefin o lawer â meinciau llysty mân-ddyledion, ac yn dangos ei wyneb yn rhy aml er ei les a'i gymeriad o flaen ei well, oherwydd ei arfer annhymig or redeg ar goll. Byddai yn hawdd i'r dosbarth yma sychu yr ystaen hon oddiar eu cymeriad trwy ychydig o ddarbodaeth brydlawn.

Dichon ein bod bellach wedi trafod y mater hwn yn ddigon pell. Cyfeirir y darllenydd at y daflen fechan ar ddiwedd y traethawd i gael golwg fwy cryno ar ansawdd bresennol y gwahanol chwarelau o fewn y Nant.

PENNOD II.
Parhad Hanes Presennol.

Yn y bennod ganlynol bydd i ni gyfleu gerbron y darllenydd grybwyllion brysiog am y cymeriadau mwyaf cyhoeddus fel pregethwyr, y rhai sydd yn byw yn awr o fewn terfynau ein testyn. Ystyrir dynion cyhoeddus yn fath o public property, ac ar yr ystyriaeth hon fe'n hesgusodir ninnau am gyfeirio at eu henwau wrth fyned heibio. Cawn gyfeirio yn flaenaf at beriglor ein plwyf, ac olynydd yr Hynafiaethydd enwog o Lanllyfni, sef y

PARCHEDIG WILLIAM HUGHES, M.A.

Pa beth bynag a ddywedir am weinidogion yr Eglwys Sefydledig, rhaid i bawb addef eu bod yn gyffredin yn gwisgo ymddangosiad bonedd- igaidd a pharchus mewn cysylltiad â gwasanaeth y cysegr, Y mae effaith addysg dda, a dygiad i fyny mewn cymdeithas ac ymarferion diwylliedig o angenrheidrwydd yn gosod y wedd yma arnynt. Ni fyddai yn beth dyeithr weled dynion yn dringo i'n pulpudau mor ddifoes, nes aflaneiddio y lle hwnw a sudd melyngoch y myglys; ïe, gwelsom hyd yn nod dalenau y Llyfr mwyaf cysegredig wedi ei anurddo yn y dull hwn ! Yr ydym yn gwybod fod yr eithriadau hyn yn darfod yn brysur, gan gael eu dylyn gan ddynion yn teimlo mwy o barch i'r lle y mae sancteiddrwydd yn unig yn gweddu iddo. Nid rhaid is ni ddyweyd wrth neb sydd yn adnabod y Parch. William Hughes, Periglor St. Rhedyw, ac wedi bod yn gwrandaw arno i ba ddosbarth y perthyna; a bydd yn hawddach genym faddeu i'r hwn a welom yn talu gormod o barch i le o addoliad nag i'r hwn a ymddengys fel wedi anghofio yn hollol pa fath le y mae ynddo, na pha beth yw ei neges.

Ganwyd y Parch. William Hughes yn Bottwnog, yn Lleyn, lle yr oedd ei dad, y diweddar Barchedig John Hughes, o Lanystumdwy, y pryd hyny yn gwasanaethu. Derbyniodd Mr. Hughes elfenau cyntaf ei addysg yn yr ysgol ddyddiol a gedwid gan ei dad, yn ei dy, i nifer o blant boneddwyr. Cymerodd y Parch. John Hughes brif arolygiaeth ysgol yr Esgob Rowlands, yn Bottwnog, hyd oni ymadawodd i Lanystumdwy, lle bu farw. Y mab, y Parch. William Hughes, ar ol gorphen ei addysg, a derbyn urddau a ymsefydlodd yn Meddgelert, o'r lle, yn 1863, y symudodd i Lanllyfni. Heblaw ei fod yn ysgolhaig o radd uchel, y mae yn bregethwr rhagorol, yn meddu llais clir, hyglyw, a dawn ymadrodd rhwydd a llithrig. O ran ei syniadau cyfrifir ef yn Uchel Eglwyswr, ac y mae ei eiddigedd a'i zel dros yr eglwys y mae yn weinidog ynddi yn adnabyddus. Nodweddir ef gan dynerwch a haelfrydedd tuag at y tlawd a'r anghenus. Cydweithreda a'i blwyfolion yn mhob peth rhinweddol. Efe yw cadeirydd pwyllgor yr Eisteddfod Gadeiriol Penygroes, ac y mae yn aelod o'r bwrdd ysgol, ac yn yr holl gysylltiadau hyn nid oes neb mwy ffyddlon na pharotach i lafurio er lles y cyffredin nag ef.

Y PARCH. ROBERT JONES.

Ganwyd y Parch. R. Jones mewn lle a elwir Caer waen, yn ucheldir deheuol y Nant, wrth droed creigiau geirwon a rhamantus Cwm y Dulyn, ac os oes rhyw wirionedd yn y dybiaeth fod gan olygfeydd bro ein genedigaeth rywbeth a wnelont â ffurfiad ein cymeriad meddyliol, ceir engraifft hapus o hyny yn y Parch. R. Jones. Ymddengys na fwynhaodd efe mwy nag ereill o'i oedran, nemawr o fanteision addysg yn moreu ei oes; oblegid nid oedd un ysgol ddyddiol yn cael ei chadw gyda dim cysondeb yn Llanllyfni y pryd hyny. Weithiau byddai dynion wedi methu gyda'u masnach neu ei galwedigaethau, oherwydd anallu neu ddrwg-fuchedd, yn taro ati i gadw ysgol; ac yn nwylaw y dosbarth hwn yr oedd yr holl addysg a gyfrenid 60 neu 50 mlynedd yn ol. Ymddengys fod Mr. Jones yn teimlo ar hyd ei oes oddiwrth yr anfantais hon. "Y mae diffyg manteision dysgeidiaeth," ebe fe, "yn un diffyg pwysig, y mae yn Diffyg y mae yr ysgrifenydd wedi ei deimlo yn ddwys yn wyneb llawer o anturiaethau a gymerodd mewn llaw." Ond cydgyfarfyddiad amgylchiadau ffortunus a roes fodd iddo ymroddi i ddarllen, myfyrio, a chyfansoddi, fel y cydnebydd yn y geiriau canlynol:—" Yn nghanol pob anfanteision cafodd lonyddwch rhagorol oddiwrth drafferthion bydol am lawer o flynyddoedd. Trefnodd Rhagluniaeth fawr y fraint hon iddo, trwy gael gwraig ffyddlawn ac ymroddgar, i gymeryd arni ei hun ei holl ofalon bron yn hollol. Gwnaeth hyny hefyd yn dra ewyllysgar a dirwgnach. Y mae wedi gwneyd mwy iddo ef yn yr ystyr yma nag a wnaeth pawb arall yn nghyd."

Yn mlynyddoedd cyntaf ei ieuenctyd bu y Parch. R. Jones yn dilyn yr arfer gyffredin i fechgyn y gymydogaeth hon, sef Rybela; ond ni wnaeth nemawr gynnydd yn y ffordd hono,—llyfrau, nid llechau gaent ei sylw. Yr oedd rhywbeth yn esgeulus bob amser o amgylch ei berson, ni chymerai ond ychydig o ofal am ei wisg na'i ymddangosiad. Y mae yn ymbarchedigo wrth heneiddio, ond y mae esgeulusdra yn nodweddiadol ohono eto. Ni chymerodd erioed drafferth i ddeall y natur ddynol, yr hyn a fu yn achlysur i rai tramgwyddiadau ac anffodion. Dechreuodd bregethu yn y Felingeryg tua'r flwyddyn 1834, a chafodd ei ordeinio yn 1836, ac er y pryd hyny llafuriodd bron yn gwbl yn yr un ardal. Llwyddodd i gasglu llyfrgell helaeth, yr hon a gynnwysa ddetholiad o'r llyfrau goreu ar Dduwinyddiaeth. Darllenodd amryw o'r Puritaniaid yn fanwl, ac y mae yn gartrefol yn ysgrifeniadau Dr. Owen, Goodwin, Charnock, Howe, &c. Cyhoeddodd amryw o lyfrau—y penaf yw ei gasliad o Emau Duwinyddol. Caffed hir ddyddiau, a phrydnawnddydd tawel a llwyddiannus.

Y PARCH. WILLIAM HUGHES

Y Parch. William Hughes, Coed Madog, gweinidog perthynol i'r Methodistiaid a anwyd Nadolig, y flwyddyn 1818. Y mae efe yn ŵyr i William Dafydd, y pregethwr cyntaf o eiddo'r un cyfundeb a godwyd yn Llanllyfni. Oherwydd yr un rhesymau ag a nodwyd mewn cysylltiad â'r Parch. R. Jones, ni fwynhaodd Mr. Hughes fanteision addysg foreuol; ond pan yn 17eg oed aeth i'r ysgol i Gaerlleon, at un o'r enw Mr. Edgar, lle yr arhosodd am ysbaid blwyddyn. Yn 1840, dewiswyd ef yn ddiacon yn eglwys Llanllyfni; ond mewn canlyniad i'w ymuniad mewn priodas a Miss Hughes, Ty'n y Weirglodd, symudodd i gymydogaeth Talysarn, ac ar gais yr eglwys yno dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1844. Ordeiniwyd ef yn 1859, ac efe hefyd ydyw cyfrifydd (clerk) cloddfa Penybryn er's llawer o flynyddoedd.

Ystyrir y Parch. W. Hughes yn ddyn o synwyr cryf a barn aeddfed; ond fel traddodwr nid yw ond lled afrwydd ac annyben, Y mae yn fanwl yn newisiad ei eiriau: ond nid yw yn meddu y feistriolaeth hono ar gyflawnder iaith ag sydd yn cyfateb i'w chwaeth, tra mae ef yn dethol y geiriau mwyaf detholedig, y mae y gwrandawyr wedi cipio i fyny ei feddwl, ac yn dysgwyl wrtho. Ond ag eithrio y pethau uchod nis gellir cael gwell pregeth, cyfansoddiad mwy diwastraff, a synwyr cryfach. Nid oes ganddo yr hyn a elwir hyawdledd, ond y mae ganddo ystor o'r hyn sydd annhraethol brinach a gwerthfawrocach—synwyr a phrofiad helaeth. Yn ei holl ymdrafodaeth â'r byd a phethau gwladol, yn gystal a materion eglwysig, y mae bob amser yn bwyllog, yn gynnil, ac eto yn benderfynol. Y mae yn ffyddlon iawn gydag achos addysg, yn ysgrifenydd i'r pwyllgor mewn cysylltiad â'r Ysgol Frytanaidd yn Nhalysarn, ac yn gadeirydd i'r Bwrdd Ysgol dros blwyf Llanllyfni. Y mae yn is mhob ystyr yn gymeriad gwerthfawr mewn cymydogaeth.

Y PARCH. EDWARD WILLIAM JONES

Gweinidog presennol eglwysi yr Annibynwyr yn Talysarn, a anwyd yn agos i Bont Robert, Tachwedd 29ain, 1829. Yr oedd ei fam yn ferch i fardd a adweinid yn y gymydogaeth hono wrth yr enw Eos Gwynfal. Pan oedd Edward tua thri mis oed bu farw ei fam, a rhoddwyd yntau at ei fodryb i'w fagu. Amlygodd duedd at bregethu yn dra ieuanec, dringai i ben ystol i ddynwared pregethu, ac y mae yn y teulu hwnw un gadair neillduol a elwir Pulpud Edward Bach hyd heddyw. Adroddir iddo unwaith ymollwng i bregethu wrth ddanfon ciniaw ei ewythr trwy goed rhyw foneddwr, a'i destyn oedd, "Onid edifarhewch chwi a ddifethir oll yn yr un modd." Ond pan oedd mewn hwyl yn darogan cwymp arswydus ei wrandawyr (y coed), clywai lais yn ateb y tu ol iddo ac yn dywedyd, "Edifarhau neu beidio, cant eu tori i lawr eleni i gyd." Safai y goruchwyliwr gerllaw, yr hyn a roes derfyn ar y gwasanaeth y tro hwnw. Adroddir am dro arall pryd y pregethai i nifer o ddefaid, oblegid bu Mr. Jones yn fugail defaid cyn bod yn bregethwr a bugail eglwys. Yr oedd yn mysg y gwrandawyr, y tro hwn, Nany Goat, a phan oedd y pregethwr yn pwyntio at y gwrandawyr, meddyliodd y Nany Goat fod ei urddas yn cael ei sarhau yn ormodol, a rhuthrodd yn erbyn y llefarydd, ac oni bai i ymwared gael ei estyn yn brydlawn gan ddyn a ddamweiniai fod yn sylwi, buasai yn debyg iawn o gael ei niweidio.

Ar ol treulio ei amser yn yr athrofa, derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi Talysarn a Drwsycoed i ddyfod i bregethu iddynt hwy, ac i'w bugeilio; ac ordeiniwyd ef yn Nhalysarn Mai 21ain, 1856. Nid oedd rhifedi yr eglwys hon y pryd hyny ond 30, ond y mae erbyn hyn yn rhifo 140 o aelodau. Fel pregethwr, cyferfydd yn Mr. Jones lawer o anhebgorion pregethwr da—corph grymus, ymddangosiad gwrol, a llais cryf eglur. Nid yw yn arfer ehedeg yn uchel, na chloddio yn ddwin, ond cedwir mewn golwg amcan mawr y weinidogaeth yn ei bregethau, sef ymgais i argyhoeddi pechaduriaid. Nid yw un amser yn ceisio ymgyrhaedd at yr hyn sydd uwchlaw deall ei wrandawyr, ond rhaid i bawb gydnabod nad amcan i ymddangos yn fawr, ond bod yn ddefnyddiol, sydd ganddo. Rhydd ei gefnogaeth fwyaf rhwydd i bob symudiad daionus yn ei ardal, er y dymunem iddo gymeryd mwy o flaenoriaeth gyda'r cyfryw. Ychydig a ysgrifenodd; ond argraffwyd traethodyn o'i eiddo yn ddiweddar yn rhoddi hanes "Dechreuad a chunnydd Annibyniaeth yn Nhalysarn." Ar y pryd yr ydym yn ysgrifenu y mae Mr. Jones ar ymweliad â gwlad y gorllewin.

Y PARCH, E. J. EVANS

Gweinidog presennol, eglwysi yr Annibynwyr yn Pisga a Phenygroes, sydd enedigol o Amlwch, yn Mon; ac ar orpheniad ei efrydiaeth yn y Bala a neillduwyd i'r weinidogaeth, trwy ddewisiad yr eglwysi uchod, yn y flwyddyn 1855, ac er y pryd hyny y mae wedi llafurio yn y cymydogaethau hyn gyda graddau helaeth o lwyddiant. Bendithiwyd ef ag un o'r lleisiau mwyaf ardderchog, yr hwn sydd yn cydweddu yn dda âg arddull ei gyfansoddiad, yr hwn sydd yn tueddu yn gyffredin at y cyffrous a'r dychrynllyd. Nid yw Mr. Evans wedi arfer ymyraeth dim âg unrhyw faterion politicaidd nac addysgol; fel pregethwr yn unig yr adwaenir ef, a byddai yn dda pe dilynai mwy ei esiampl o'r rhai sydd yn ymrwystro gyda phethau cyffelyb, a thrwy hyny yn colli llawer o ysbryd a naws yr efengyl.

Y PARCH. ROBERT THOMAS

Bugail yr eglwys Fethodistaidd yn Llanllyfni, sydd enedigol o Fangor. Bu am ysbaid o amser yn athraw ysgol ragbaratoawl Clynnog, fel olynydd i Dewi Arfon; ond yn fuan derbyniodd alwad yr eglwys hon i ddyfod i'w bugeilio, a'r hyn y cydsyniodd. Dywedir ei fod yn bregethwr galluog, ac yn cael ei hoffi yn fawr fel gweinidog a bugail ffyddlon ac enillgar.

Y PARCH. JOHN ROBERTS, YR YNYS

Sydd weinidog yn ngyfundeb y Bedyddwyr. Dechreuodd Mr. Roberts ei yrfa grefyddol a gweinidogaethol gyda'r Bedyddwyr Albanaidd, ond cyfnewidiodd yn ei olygiadau ac ymunodd â'r Hen Fedyddwyr. Y mae yn bregethwr llithrig a chymeradwy.

MR. EVAN OWEN

Sydd bregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid yn Nantlle, ac wedi cyrhaedd y safle hono yn ei gyfundeb a ddynodir a'r ymadroddion "wedi ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol." Dechreuodd bregethu yn Llanllyfni yn y flwyddyn 1854. Y mae ynddo duedd a chwaeth gref at hynafiaethau, ac wedi talu sylw mwy na'r cyffredin i'r gangen hono o lenyddiaeth.

Heblaw y rhai a enwyd y mae yma rai dynion ieuanc wedi dechreu pregethu, megys Morris Jones a William Williams, y rhai a ystyrir yn fechgyn pur addawol. Ac yn nghymydogaeth Clynnog y mae amryw yn aros er mwyn cyfleusdra addysg, y rhai nad ydynt yn dal perthynas neillduol â'r Nant. Yr ydym mewn anfantais i wneyd unrhyw nodion o berthynas i ficer presennol Clynnog, y Parchedig Mr. Price, diweddar o Landwrog Uchaf, amgen na'i fod yn foneddwr a phregethwr derbyniol a chymeradwy. A phe byddai yn briodol i'r ysgrifenydd grybwyll rhyw beth am dano ei hun, gallem ddweyd ei fod yn ymdrechu dilyn yn llwybrau yr enwogion y cyfeiriwyd atynt. Ordeiniwyd ef yn Talysarn yn 1864, mewn cysylltiad â'r eglwys Fedyddiedig yn y lle hwnw, ac i'r hon, yn fwyaf neillduol, y mae ei wasanaeth yn rhwymedig hyd yn awr.[1]

Y PARCH. D. LL. JONES, M.A., LLANIDLOES

A mab y diweddar Barchedig John Jones, Talysarn, a ddechreuodd bregethu yn 1863. Cafodd Mr. Jones fanteision goreu yr ysgolion cartrefol ac athrofeydd enwog y Bala ac Edinburgh; ac ystyrir ef yn ysgolhaig o radd uchel. Cyferfydd ynddo hefyd luaws o elfenau poblogrwydd ei barchedig dad. Ymddangosiad personol teg, llais peraidd grymus, a meddwl athrylithgar a ffrwythlawn. Ymsefydlodd fel bugail yr eglwys Fethodistaidd yn Llanidloes y flwyddyn hon; ac y mae ar fin cael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Arno ef y disgynodd mantell "pregethwr y bobl" ac y mae ei gyfundeb yn dysgwyl llawer oddiwrtho fel ffrwyth yr efrydiaeth fanwl yr aeth efe trwyddi. Ei brif ddiffyg fel pregethwr, fe ddichon, yw ei fod yn rhy gaeth a chlasurol i'r cyffredin, ond bydd ei ymarferiad a'i brofiad yn debyg o'i ddwyn i ymwneyd yn helaethach â phethau y rhai nas gallant, oherwydd anwybodaeth a diffyg dysgeidiaeth, werthfawrogi ymdrechion y gwyr ieuainc sydd wedi eu mwynhau. Bydded iddo hir ddyddiau i wasanaethu ei genedl, ac na fydded hyd yn nod yn ail i'w dad mewn dylanwad a phoblogrwydd.

PENNOD III.
Parhad Hanes Presennol.

Ni fyddai yn briodol ini esgeuluso gwneyd rhai crybwyllion am y Beirdd ag sydd ar hyn o bryd yn byw o fewn ein terfynau. Nid oes genym yn awr yr un Eben Fardd yn mysg y beirdd, mwy na John Jones yn mysg y pregethwyr—neb ag sydd yn hawlio blaenoriaeth amlwg ar bawb ereill: er fod genym yn awr amryw o feibion athrylith a phlant yr awen yn ein mysg. Yn mysg y rhai hyn, rhaid ini gael ein hesgusodi am ein bod yn dewis talu parch i henafgwr, trwy enwi yn flaenaf Yr Hen Glochydd, Mr. Robert Ellis o Lanllyfni. Byddai yn anhawdd treulio prydnawngwaith difyrach nag yn mynwent St. Rhedyw, yn nghwmni y dyddan Robert Ellis. Er's deugain o flynyddau y mae ef yn gwasanaethu yn yr eglwys hon. Gweinyddodd yn nghladdedigaethau dros 1900 yn y fynwent hon yn unig! Y fath lu a adgyfodir o'r llanerch dawel yma! Y mae Mr. Ellis hefyd yn fardd da, ac wedi cyfansoddi llawer iawn o garolau plygain, englynion beddargraff, amryw o ba rai a geir wedi eu cerfio ar feddau yn y fynwent. Cyhoeddodd gyfrol o'i garolau, &c., er's blynyddau yn llyfr swllt; ac heblaw ei fod yn awdwr i'r carolau, gallai eu datganu hefyd yn ardderchog, gan ei fod yn gerddor yn gystal ag yn fardd, ac felly o wasanaeth deublyg yn yr eglwys. Buasai yn ddymunol genym adysgrifenu esiamplau o 'Awen Llyfnwy,' sef llyfr Yr Hen Glochydd; ond boddloner ar ddim ond y ddau englyn canlynol, y naill ar fedd Dafydd Jones, meddyg, &c., a'r llall ar Wagedd y Byd:

Er meddu ar y moddion—a wellaent
Ereill o glefydon;
Angeu trwch i'r llwch-gell hon
Yma ddwg y meddygon.

ETO

Gwagedd'yw'r byd a gwegï,—a'i olud
Sydd wael i'w drysori ;
Pryfyn a rhwd wna'n profi,
Gwael yw yn awr—gwelwn nî,

Nifer o flynyddoedd yn ol darfu i Gwmpeini Chwarel y Cilgwyn adeiladu palasdy prydferth ar fron y Cilgwyn, gerllaw y gloddfa; ond oherwydd rhyw amgylchiadau anhysbys ini ni ddaeth neb iddo i gyfaneddu fel y bwriadwyd. Ac oherwydd hyny y werin anonest a breswylient y mynydd-dir a ddifrodasant y palasdy, cariasant ymaith ei ffenestri, ei ddrysau, ei goed, a'i do, a'r cwbl oedd yn symudadwy oddiyno, fel na adawyd o'u hol ond darnau o'r muriau moelion i goffau am yr amgylchiadau gwaradwyddus a diraddiol. Yr oedd yn y gymydogaeth yma ar y pryd un o'r enw Richard Owen yn byw yn y Machine (yn awr o Bethesda), yr hwn a gyfansoddodd y gan ganlynol i'r "Lladron a dorasant Blas y Cilgwyn," a chan fod Mr. Owen yn frodor oddiyma, a'r amgylchiad yn dal perthynas a'r lle hwn, fe'n hesgusodir am osod y gan awgrymadol hon ger bron y darllenydd yn gyflawn:

I ba beth y tawn a son
O'n calon pa'm y celwn?
Ni bydd ini unrhyw loes
O achos ini achwyn,
'Does neb yn caru'r lladron cas
Fu'n tori Plas y Cilgwyn.

Na fyddwch llonydd, wyr y llys,
Ag 'wyllys dowch i gynllwyn,
I godi'r bradwyr gyda brys
Fel Moses rhowch gomisiwn-
I ddal o'u cwr y lladron cas
Fu'n tori Plas y Cilgwyn.


'R attwrnai doeth, wr tenog au,
Fo'n gyru beili bolwyn,
Yn nechreu'r nos i ochry nant
A gwarant yn ei goryn-
I chwilio cytiau'r lladron cas
Fu'n tori Plas y Cilgwyn.

Mae llywer cell yn llawn o'r coed
Rhwng bargod amal furgyn,
Mewn ty neu fwth o tanyfoel,
A phaent ac oil i'w canlyn,
Yn llenwi conglau'r lladron cas
Fu'n tori Plas y Cilgwyn.

Dwyn y simddeiau dan eu swydd,
A gogwydd yn y gegin,
A dryllio'r bwtri gyda'r bar
O'r selar hyd y ceilyn;
Mae'n rhywyr cosbi'r lladron cas
Fu'n tori Plas y Cilgwyn.

Chwalu'r to a chwilio'r ty,
A thynu hefo thenyn;
O'i farau'r coed i ferwi cig
Nadolig, oedd yn dilyn;
Aflwydd i'r fro fu'n gwledda'n fras
Ar danwydd Plas y Cilgwyn.

MR. HYWEL ROBERTS NEU HYWEL TUDUR

Athraw presennol yr Ysgol Frytanaidd, Llanllyfni, sydd enedigol o swydd Ddinbych. Daeth i Glynnog yn y flwyddyn 1861 i gymeryd gofal yr Ysgol Genedlaethol. Tra bu yn Nghlynnog ffurfiodd gydnabyddiaeth gyfeillgar âg Eben Fardd; ac y mae efe yn parhau yn un o edmygwyr penaf athrylith a chyfansoddiadau y prif-fardd. Cyfansoddodd englynion o'r fath fwyaf toddedig ar ei farwolaeth, ac ysgrifenodd draethawd maith a llafurus ar ei 'Fywyd a'i Athrylith,' i Eisteddfod Aberystwyth. Priododd & Miss Margaret Williams, Hafod y Wern, yr hon nid oedd ar ol iddo yntau yn ei gallu a'i chwaeth lenyddol. Ystyrir Hywel Tudur yn fardd cywrain, yn gartrefol gyda'r cynganeddau a mesurau arferedig D. ab Edmund, a rhestrir ef gyda'r goreu fel englynwr yn Ngogledd Cymru. Wele esiampl neu ddwy o'r cyfryw. Beddargraff Rhisiart Ddu o Wynedd (buddugol):

Mawr gŵyn fu rhoi mor gynar—weinidog
O nodwedd mor lachar,
At feirwon mewn estron âr,
Y Bardd Du i bridd daear.


Eto ar yr un testyn:

Trwy lesgedd i'r bedd y bu—ei fer hynt,
Rhoes fawrhad ar Gymru;
Ni faidd y Werydd fyddaru
Ei phrudd dòn am ein hoff Fardd Du.

Eto i'r Hwrddlong (buddugol):

Y gallestr hwrddlestr ar wyrddli-moria
Heb gymhares iddi;
Ah! drwyn dur i drin deri,
Ni thal coed dan ei thwlc hi.

Gellid ychwanegu toraeth o gyffelyb engreifftiau, pe byddai angen, er dangos nodwedd yn gystal a gallu barddonol Hywel Tudur.

LLWYDLAS

William J. Roberts, yr hwn a adnabyddir wrth y ffugenw Llwydlas, sydd enedigol o Rhostryfan, ond yn awr yn byw yn Mhenygroes. Y mae efe yn frawd i'r diweddar athrylithgar Glasynys, yr hynafiaethydd a'r bardd enwog. Nid yw Llwydlas wedi cyrhaedd safle ei frawd, nac yn debyg o wneyd, eto, y mae yntau yn fardd rhagorol, ac wedi cario ymaith lawryf buddugoliaeth mewn cyfarfodydd pwysig. Ni a ddodwn o flaen y darllenydd ddyfyniad byr o'i Gywydd i'r bedd, nid am ei fod yn rhagori ar luaws o gyfansoddiadau ereill o'i eiddo, eithr am ei fod yn dygwydd bod wrth ein llaw.

Y baban glwys, dwys i'w daith,
Er ameu fwrir ymaith,
I annedd dywell unig,
Oerni, a'i drem arno drig:
Ei wridog rudd roed i'w gro,
Fel ereill i'w falurio;
Dwg yr ifanc digrifol,
Er ei nwyd i'r âr yn ol;
Y wyryf deg, araf dygir,
Hon i gell ei dywell dir;
A'r ywen brudd ya enhuddo,
Ei gŵyl rudd, mewn gwely o ro,
Y cristion, &c., &c.

JOHN O. OWENS, NEU IOAN WYTHWR.

sydd enedigol o Dalysarn, chwarelwr wrth ei alwedigaeth, a llenor gobeithiol. Bu yn fuddugol mewn amryw ymdrechiadau llenyddol yn y gymydogaeth; a'r flwyddyn ddiweddaf ymhyfhaodd i ymdrechu lam y gamp yn yr eisteddfod gadeiriol. Cyfansoddodd draethawd maith a llafurfawr ar addysg yn y pedwar plwyf, am yr hwn y derbyniodd wobr addawedig y pwyllgor, a chanmoliaeth uchel ei feirniad. Dyledus i ni yw crybwyll ei fod yn gystuddiol bellach er's bron ddwy flynedd, ac iddo gyfansodddi y traethawd o dan anfantais anocheladwy ei waeledd. Yr oedd yn dringo hefyd yn gyflym i enwogrwydd fel bardd, ac ni a roddwn gerbron gân fechan a gyfansoddodd yn lled ddiweddar, am ei bod yn sylfaenedig, ebe fe, ar ryw draddodiad cysylltiedig â'r Baladeulyn.[2]

I'w hynt garwriaethol dros lechwedd y mynydd,
Caswallon ab Dulyn gychwynai'n min oes,
Gan feddwl cyrhaeddyd hyd annedd Aeronwy,
A garai mor gywir, a welai mor dlos.

Wrth ddisgyn y llechwedd, chwibanai alawon
I glustiau yr awel a grwydrai y bryn;
Dych'mygai fod delw Aeronwy i'w chanfod
Yn nelw y lloer a arianai y llyn.

Dan chwiban a chanu, dan feddwl dychwelyd,
Cyrhaeddai Caswallon hyd afon y llyn;
Ac yno eisteddai i wrando murmuron
Yr afon, wrth dreiglo hyd raian man gwyn.

'Rol enyd o seibiant, cychwynodd ab Dulyn
I groesi y bont-bren yn ysgafn ei fron;
Ac yn ei freuddwyddion am gwmni Aeronwy
Fe syrthiodd Caswallon i ymchwydd y don.

Caswallon ab Dulyn ga'dd ddyfrllyd orweddle,
'N lle mynwes Aeronwy-yn mynwes y lle;
A hithau, Aeronwy, adawyd yn unig,
Ymlanwai ei chalon o hiraeth a chri.

Tra'r dyfroedd yn rhedeg dros raian yr afon,
Tra defaid ac ychain yn yfed o hon,
Fe gofir Caswallon, ac hefyd Aeronwy,
Fu'n tywallt eu dagrau i chwyddo y don.

Yn ol y traddodiad uchod, "Pa le mae Dulyn," yr hyn a waeddai Aeronwy, yw ystyr Baladeulyn yn Nant Nantlle.

MORRIS WILLIAMS, NEU MEIRIG WYN

sydd fardd a ddylai fod yn fwy adnadyddus. Y mae Meirig yn byw mewn congl hafaidd, gerllaw teml harddwych y Methodistiaid, yn Hyfrydle, ac yn un o'r saint mwyaf defosiynol. Y mae yn dra neillduedig yn ei arferion, ac yn gynil o'i gymdeithas oddieithr i fodau yn byw o fewn byd yr englynion, sef ei ddewis bethau ef ei hun. Nid oes genym o fewn terfynau ei well am englynion; y mae bob amser yn bwrpasol a diwastraff, a dengys pob llinell a ddaeth o dan ei law radd neillduol o berffeithrwydd. Cymerer yr ychydig engreifftiau canlynol yn brawf o hyny. Buasai yn dda genym allu dyfynu ychwaneg, oni bai fod ein terfynau yn prinhau.

I'r Corwynt—

Distrywiol dost darawiad—y corwynt,
Nis ceir y fath hyrddiad ;
Dryllia yn ei hy droelliad
Irion a glwys dderw'n gwlad,

Anorfod ruthr cynhyrfus—yn tori
Mal taran frawychus ;
Teg rwymau y tai grymus
O'i faen ymroant fel us.

Onid Ior, pan ruo'r corwynt,—a rodia.
Ar edyn y ffromwynt;
A gair, rheolwr y gwynt,
Ffrwyna agwedd ffyrnigwynt.

Eto i'r Ystorm—

Pylu mae gwyneb haulwen—o'r olwg
Ar aeliau'r ffurfafen ;
Arwydd nos ar wedd y nen,
Fflachia, ymwylltia mellten.

Yn nhrymder dwyster distaw—y daran
Ymdoru dan ruaw .
Eeo oerlym y curwlaw ”
Wna grog drwst yn y graig draw,

Englyn hwyrol.—
'O! mor dlos y nôs yw y non—gwena.
Gogoniant yr wybren ;
Gwaith Naf yw llu'r ffurfafen
Profant hwy pwy yw'r pên.

Ni a ddygwn y rhestr uchod i derfyniad gyda'r llinellau dilynol o eiddo Maeldaf Hen, am eu bod yn dal cysylltiad â dosbarth lluosog yn Nantlle, yn hytrach nag oherwydd unrhyw ymsyniad sydd ynom o'u rhagoroldeb.

Y CHWARELWR.

Hen Wynedd anwylaf oganwyd cyhyd
I rythol anrhydedd ddyrchafwyd;
Ei chyfoeth orweddai o olwg y byd,
'Trwy orchest; ei meibion enillwyd :
Prif addurn y palas ardderchog a'r dref
Yw cynnyrch ein henwog chwarelau, -
Estroniaid pellenig pob cwr dan y nef
Gant orphwys dan gysgod ein creigiau.

Darllenodd ar wyneb y mynydd ban cryf
Agweddau ac ansawdd ei galon;
Ei feirch a'i gerbydau a enfyn yn hyf
Hyd briffyrdd trwy'r bryniau talgryfion ;
Fe ddringa uchelion rhamantus a serth,
Gan hongian wrth aeliau'r clogwyni ;
Yr haenau a blygodd yr Ior trwy ei nerth
Mollyngant ger bron ei wrhydri.

'Uwch dyfnder brawychus eí orchwyl y sydd,
A'i einioes yn hongian wrth didau,
'Tra'n tynu esgoiriau y ddaear yn rhydd,
Ac ysgwyd ei chedyrn golofnau.
O'r creigiau diaddurn, a'r gyllell i'm law,
Y lluniau ei brydferth ddalenau,
I'w taenu yn orchudd rhag curwynt a gwlaw,
Ac addurn ein prydferth anneddau.

Er gweled archolli cyfeillion tra mad, —,,
A gwaed yn ystsenio'r clogwyni,
Mae clod ei orchestion yn llenwi, y wlad
Dyrchefir yn mhell ei wrhydri.
Hardd golofn yn nhemel trafnidiaeth y byd
Gyfododd o'r lechfaen fynyddig;
Mae'i oes yn orchestwaith o'r bron ar ei hyd,
A'i enw ef fydd ddyrchafedig

Tra byddom yn nghymdeithas y beirdd dichon mai nid annifyr fydd gan y darllenydd ein dilyn heibio i'r mynwentydd, lle ceir aml ddesgrifiad awenyddol o gymeriad y personau a gladdwyd ynddynt. Y mae llawer o brudd—ddifyrwch yn gystal a gwersi priodol i'r byw, i'w gael wrth ymweled â gorweddleoedd y meirw, lle teyrnasa y dystawrwydd a'r cydraddoldeb perffeithiaf. Oni fuom yn barod i addef fed darllen ambell i englyn beddargraff i'w deimlo fel llais o'r bedd, rhybuddiol a chyffrous, at galon a chydwybod y byw? Gwir fod llawer o bethau ar ffurf englynion i'w cael mewn mynwentydd nad ydynt yn adlewyrchu unrhyw anrhydedd ar eu hawdwyr, nag ar chwaeth y rhai a barasant iddynt gael eu cerfio ar feddau eu cyfeillion neu eu perthynasau. Ni fydd ini wneyd mwy na phigo ychydig o'r goreuon wrth fyned heibio.

Mynwent St. Rhedyw, Llanllyfni. Mae yr orweddle hon ar lethr ddymunol ar lan yr afon Llyfnwy, yr hon sydd yn murmur yn barhaus wrth olchi ei godreu. Yma ar fedd Mr. William Hughes, Ty'nyweirglodd, ceir yr englyn canlynol o waith Eben Fardd:

I Hughes hybarch boed seibiant, —dyma'i fedd
Dyma faen ei gofiant;
Ei awen fry dery dant
Ac a gan don gogoniant..

Eto ar fedd Richard Hughes, Nantlle, yr hwn a laddwyd trwy ddamwain yn y gloddfa. Yr awdwr yw Llwydlas:

Trwy y ddamwain trodd ymaith—o afael
Du ofid ac anrhaith;
Dai'r dyn, wedi hir daith,
Na wel ofidiau eilwaith,

Ar fedd morwr ceir yr englyn canlynol, ac enw Alltud Eifion wrtho:

Daethum ar ol hir deithio—y mor llaith,
Dyma'r lle 'rwy'n huno;
Diwedd fy holl fordwyo
Yw calon graian y gro.

Dyma un arall o waith Dewi Arfon ar fedd gwr a gwraig:

Morgan yn y fan hon fydd—a'i Ann fwyn
Yn fud dan len lonydd;
Yma' eu plant boenant beunydd,
Dagrau serch hyd y gro sydd.

Eto ar fedd Lowri, gwraig i William Thomas, heb enw yr awdw wrtho:

O'r du lawr y daw Lowri—i fyny
O fynwent Llanllyfni;
Mae teyrnas addas iddi,
Dydd heb nos i'w haros hi.

Wele un arall ar fedd T. Williams:

I wael fan, dywell annedd, —y daethum
O daith byd i orwedd;
Cefais fy nghau mewn ceufedd
O glyw byd dan gloiau bedd.


Ar fedd dau faban:— ' .

Ni ddaeth y siriol flodau hyn.
A gadd mor syn eu symud
Ond prin i ddangos pa môr hardd
Yw blodau gerdd y bywyd."

Yn mynwent newydd y Methodistiaid ceir y canlynol ar fedd Mr. John Robinson, blaenor ffyddlawn yn y cyfundeb am 30 mlynedd. Yr awdwr, feddyliwn, yw y Parch. J. Jones, Groeslon:

Anrhydedd i'r bedd yw bod—i wyliwr
Yn wely gollyngdod;
Ei hun sydd dawel hynod,
Myn i ni fel man ei nod.

Yn mynwent Capel Ty'nlon ceir yr englyn canlynol o waith Cynddelw ar fedd tad a phlant:

Tad a phlant hunant mewn hedd—hyd foreu
Yr adferiad rhyfedd;
Yna i dd'od ar newydd wedd
Yn llon o'u tywell annedd.

Yn yr un fynwent, ar fedd y Parch. Edmund Francis, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd yn Nghaerynarfon:

Gwir astud ffyddiog Gristion—oedd Edmund,
Diwyd mwyn a ffyddlon;
Cywir ei fryd, carai'i fron
Ddaioni i'w gyd-ddynion.

Eto ar fedd gwraig o'r enw Gwen Roberts:

Nid aeth mâd wraig deimladwy
O'n plith a ga'dd fendith fwy.
Rhan wrth raid, gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant;
Dedwydd, O enaid, ydwyt!
Llaw Dduw a'n dygo lle 'ddwyt.

Yn mynwent Eglwys Clynnog Fawr, o dan gysgod tewfrigog goed, y mae llawer oes yn gorwedd, ys dywed prif-fardd Clynnog:

Ah! llawer oes i'w llawr aeth,
Hidlwyd llawer cenhedlaeth:
Isod, ar dde ac aswy,
Lawer plaid fu'n pobli'r plwy',
Derbyniodd daear Beuno
Eu twf yn do ar ol to


Ymddengys mai arferiad lled ddiweddar mewn cymhariaeth yw cerfio Englyn ar feddfaen, gan nad oes yn mynwent henafol Clynnog nemawr o rai hynach nag oes Eben Fardd, yr hwn a gyfansoddodd y nifer luosocaf a'r goreuon ohonynt. Ar fedd Ellen, merch J. Owen, Penybont, ceir y canlynol o'i eiddo:

Byr fu ei boreu fywyd y teithiwr,
Tithau cais ddychwelyd;
Myn allan brawf, mae'n llawn bryd,
A wyt o elfen at eilfyd.

Eto ar fedd D. R. Pughe, ysw., Brondirion, gan yr un awdwr:

Aeth yn glaf, a thyna glo—ar y byd,
I'r bedd bu raid cilio;
Ein coffâd er hyn caiff o,
Gŵr da oedd, gair da iddo.

Ar fedd Mr. Robert Jones, o Fryn y Gwydion, amaethwr cyfrifol, ceir yr englyn canlynol o waith yr un awdwr:

Hynaws amaethwr, mewn esmwythyd—oedd,
Bu idde blant diwyd;
A chaffai barch hoff y byd,
Da ei air fu drwy ei fywyd.

Ar fedd Solomon Williams, ysw., Brynaera Isaf, ceir y canlynol:

Un gonest oedd yn ei gyn-stad—a theg
Wrth air ac ymddygiad;
Er hyn rhoes yn yr iawn rhad,
Ei nawdd am ogoneddiad.

Ar fedd Catrin Ellis, Bryncynan Bach:

Trwy y niwl, Catrin Ellis—a ganfu
Y gwynfyd uchelbris;
I hon nid oedd un nod is
Na Duw'n Dduw—dyna ddewis.

Y rhai uchod oll ydynt eiddo Eben Fardd. Cawn ychwanegu y canlynol o eiddo Dewi Arfon ar fedd Martha, merch S. Roberts, Bryneryr:

Yma wrth fedd Martha fâd—dagrau serch
Hyd y gro sy'n siarad;
Iaith aml galon a'i theimlad-ond gwrando,
Ni raid gofidio'n yr adgyfodiad.

Ar fedd Catherine, merch Eben Fardd, ceir yr englyn canlynol, y diweddaf a ddetholwn:

O rwymau muriau marwol,—trwy Iesu
Mewn trwsiad ysbrydol,
Hi ddring, a'i llygredd ar ol,
I 'stafell y llys dwyfol.

Mae yn yr hen fonwent hon doraeth ychwanegol o englynion, ond y mwyafrif yn israddol i'r rhai uchod mewn teilyngdod; a rhag blino y darllenydd ni fydd i ni yma eu hadysgrifio.

PENNOD IV.

Parhad Hanes Presennol.

Yn y bennod hon, gyda pha un y terfynir ein hymdrech, cawn fyned rhagom i grybwyll am ychydig o leoedd neillduol eto o fewn ein terfynau. Gan i ni grybwyll yr oll sydd genym i'w grybwyll am Drws y coed, yn nechreu y dosbarth hwn, cawn ddechreu ein taith yn awr yn

NANTLLE.

Mae y lle hwn ar lan y llyn, yn neillduol o gysgodol, isel, a ffrwythlawn, ac yn cynnwys nifer led luosog o dai trigiannol o adeiladwaith ddiweddar. Cafodd y lle ei enw oddiwrth Nantlle, palasdy Tudur Goch, yr hwn sydd eto yn gyfan; yn ymyl ei gefn y safai y gegin, yr hwn, fel y tybid yn gyffredin, ydoedd yn rhan, o leiaf, o'r hen lys tywysogol. Gresyn oedd difrodi yr hen balasdy hwnw, gan y buasai ar gyfrif ei oedran yn meddu ar fwy o ddyddordeb nag unrhyw adeilad arall yn y gymydogaeth. Uwchlaw y lle hwn ar fron y Cilgwyn, mewn lle a elwir Cae'r Cilgwyn, y mae olion cloddiau eang a llydain, y naill yn ymgodi uwchlaw y llall mewn pellder penodol oddiwrth eu gilydd. Nid oes genym unrhyw fantais i ffurfio barn am yr olion yma, ond dywed traddodiad yn y gymydogaeth fod llwyth lluosog o'n hynafiaid wedi ymsefydlu yma mewn amser tra boreuol, sef pan oeddynt yn ymsymud yn finteioedd crwydrol, ac yn adeiladu mathau o bebyll anghelfydd o hesg, a chlai, a gwiail, ar lanau y llynan a'r afonydd, gan ymborthi ar ffrwythydd, pysgod, a helwriaeth. Y prif adeiladau yn Nantlle ydyw y Baladeulyn, preswylfod John Lloyd Jones, ysw., mab hynaf y diweddar Barch. John Jones, Talysarn. Y mae Mr. Jones yn foneddwr anturiaethus a chyfoethog, haelfrydig, a chymwynasgar, ac yn flaenor yn nghyfundeb y Methodistiaid yn Nantlle, lle mae hefyd addoldy hardd & chostfawr a gyfodwyd trwy ei haelioni ef yn benaf. Mrs. Jones ydoedd unig ferch y diweddar W. Williams, ysw., Llanwyndaf, ac y mae iddynt amryw o blant. Capel newydd y Methodistiaid, fel yr awgrymwyd, sydd hefyd yn adeilad eang a harddwych, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn 1865, lle hefyd y mae eglwys flodeuog yn rhifo tua 80 neu ychwaneg. Mae yma amryw fasnachdai mewn nwyddau bwytadwy, y rhai penaf yw yr eiddo Mr. Thomas Roberts, a John Roberts, a Mrs. Evans, gweddw y diweddar Mr. Evan Evans, yr hwn a laddwyd trwy ffrwydriad pylor yn nghloddfa Penyrorsedd. Mae yma hefyd gangen o'r llythyrdy, ac amryw gyfleusderau ereill mwy cyffredin.

TALYSARN.

Wedi ymsymud rhagom yn nghyfeiriad Penygroes, ar hyd ffordd sydd yn cael ei chysgodi ar bob llaw gan y tomenydd uchel, a thros yr hon y mae amryw o bontydd peryglys yr olwg arnynt i ddyeithrddyn, yr ydym yn dyfod heibio i balasdy, a nifer luosog o annedd-dai a elwir Talysarn. Derbyniodd y lle hwn ei enw oddiwrth Sarn Wyth-ddwr, fel y gelwid y sarn a groesai yr afon gerllaw Tre-grwyn. Yma mae tri o addoldai eang a chyfleus, yn neillduol eiddo y Methodistiaid a'r Annibynwyr, amryw o fasnachdai, llythyrdy, &c. Yma y mae Bryn Llywelyn, tŷ hardd a adeiladwyd gan Thomas Lloyd Jones, ysw., ac a ddefnyddir yn bresennol fel gwesty dan yr enw Nantlle Vale Hotel, ac a gedwir gan Thomas Griffith. Y Coedmadog hefyd sydd yn un o'r anneddau mwyaf golygus a hyfryd, yr hwn a adeiladwyd gan y diweddar Hugh Jones, ysw., Goruchwyliwr Cloddfa Penybryn, a pherchenog ystad Coedmadog. Yma hefyd y preswylia ei weddw Mrs. Jones, a'i ferch M. Jones, yr hon sydd yn ieuanc. Wrth fyned rhagom deuwn heibio i Hyfrydle, addoldy newydd eto perthynol i'r Methodistiaid, ac wedi myned heibio Pant Du, palasdy henafol William Bodfil, a'r Llwynonn, annedd wych y Dr. John Williams, yr ydym yn cael ein hunain yn nghanol pentref eang a chynnyddol

PENYGROES.

Dyma ganolbwynt masnach a thrafnidiaeth y dyffryn, gan ei fod yn sefyll yn ganolog, ac yn meddu ar ei farchnadfa, ei railway station, a lluaws o fanteision neillduol ereill. Mae yn y lle hwn dri o addoldai gan y Methodistiaid, yr Annibynwyr, a'r Wesleyaid, amryw o fasnachdai llwyddiannus, yn neillduol yr eiddo Mr. O. Roberts, yr hwn sydd yn un o'r masnachdai mwyaf golygus yn y wlad. Mae yma hefyd amryw o westai, y rhai penaf ydynt y Stag's Head, y Goat, y Prince of Wales, a'r Victoria Vaults. Yma hefyd y ceir shop lyfrau, ac argraffdy, y rhai a gedwirgan Mr. Griffith Lewis. Gerllaw Penygroes y mae y Sea View, preswylfod Mr. Roberts, y meddyg adnabyddus. Prif ddiffyg presennol y lle yw ysgoldy, yr hwn, fel y dysgwylir, a gyflenwir ar fyrder gan y Bwrdd Ysgol. Cedwir ysgol yn bresennol yn neuadd y farchnad. Sonir yn awr am ffurfio gas company, er mwyn adeiladu nwy weithfa i gyflenwi yr ardaloedd hyn a'r cyfleustra anghydmarol hwnw, yr hyn a fyddai yn gaffaeliad gwerthfawr, yn neillduol mewn tai cyhoeddus masnachdai. Rhyw filldir i'r dehau o Benygroes deuwn i bentref hynafol

LLANLLYFNI.

Dygir ein sylw yn flaenaf oll yn y lle hwn gan eglwys barchus, henafol, lwydaidd, St. Rhedyw; a cherllaw iddi y persondy, lle preswylia y periglor, y Parch. William Hughes, M.A. Mae yma gapelydd newyddion gan y Methodistiaid a'r Annibynwyr, ac un arall ychydig o'r neilldu perthynol i'r Bedyddwyr. Mae yma amryw o fan dafarndai; ond nid un gwesty o nod. Gerllaw y fan y mae Tyddyn, a Ffynon Rhedyw, y rhai a elwir felly, oblegid rhyw gysylltiad fu rhyngddynt yn ddiamheu a nawddsant yr Eglwys. Llanllyfni yw yr hynaf, ond y mae ar ol Penygroes, ac hyd yn nod Talysarn am ddestlusrwydd ac amledd ei adeiladau a'i gyfleusderau. Ceir yma hefyd amryw o fasnachdai, y rhai penaf ydynt yr eiddo Mri. Hugh Jones a John Roberts. Mae yma Ysgol Frytanaidd eang, yr hon a gedwir yn bresennol gan Mr. Hywel Roberts, neu Hywel Tudur, y bardd adnabyddus. Rhaid i ni yn awr gyfeirio ein camrau i lawr i ganlyn cwrs y Llyfnwy, a thrwy gwr hen faenor bendefigaidd, tua phentref hynafol

CLYNNOG.

Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad. Byddai yma le digon annifyr i urdd o'r Mynachod Gwynion ddyfod yma eilwaith i breswylio, a gallai Pio Nono yma gael lle i ddiweddu ei einioes hir mewn "anffaeledigrwydd" tangnefeddus, a chael lle bedd gyda Beuno yn ei gapel. Yr ydym wedi cyfeirio mewn lle arall at hen eglwys ardderchog Clynnog Fawr, a Chapel Beuno a'i Gyff a'i Ffynnon a'i Fynwent. Y ty a'r wyneb tywyll yma, gyferbyn a chanol y fynwent, ac yn gwynebu yn union ar y clochdy uchel a chadarn, oedd preswylfod y bardd aur-dlysog y diweddar Eben Fardd; dyna lle bu yn cario yn mlaen ei fasnach, neu o leiaf ei briod yn gwneyd hyny, a'r llythyrdy; dyna lle y bu yn edrych ar ei blant glan deallgar yn tyfu i fyny fel planhigion olewydd o'i amgylch; ac yma drachefn yr edwinai eu gwedd o un i un nes cariwyd yr olaf ohonynt trwy y porth llydan yna i'r fynwent, lle gorphwysant yn dad, mam, brawd, a chwiorydd, yn ymyl eu gilydd, ond yn berffaith ddigymdeithas i'w gilydd hyd foreu mawr caniad yr udgorn diweddaf.

Yn nesaf at yr eglwys yr adeilad hynaf yn Nghlynnog yw y New Inn, hen adeilad o waith yr hen saer maen dihafal Gutto Gethin, am yr hwn y mae gan y trigolion dihareb am rywbeth anhawdd ei ryddhau, ei fod "mor sound a phin Gutto Gethin." Hen dy arall yn y Nant o'i waith yw Tre Grwyn, a adeiladwyd o gylch y flwyddyn 1662. Y prif westdy yw y Newborough Arms, a gedwir gan Mr. R. Edwards. O'r neilldu ychydig wele gapel y Methodistiaid, a'r Ysgoldy Brytanaidd newydd yn gysylltiedig âg ef. Yma y parotoir dynion ieuainc i'r athrofa yn y Bala. Cychwynwyd yr ysgol hon gan Eben Fardd, dilynwyd yntau gan Dewi Arfon, a golygir hi yn bresennol gan Mr. Williams. Adeiladwyd y Vicarage sydd yma yn amser y Parch. John Williams, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1821. Mae yma hefyd Ysgoldy Cenedlaethol, yr hon sydd dan arolygiaeth y ficer, y Parch. Mr. Price. Heblaw y pethau hyn nid ydym yn gwybod am unrhyw le o ddyddordeb neillduol yn mhentref Clynnog. Ond gwnai yr hen eglwys a'r capel fwy o lawer nag ad-dalu y drafferth o ymweled â'r lle tawel, neillduedig, ac enwog hwn.

Wedi gadael Clynnog, yn nghyfeiriad Pontlyfni, yr ydym yn gadael ar ein dehau, wrth afon Aberdusoch, fryncyn bychan a elwir Bryn y Cyrff, ac ar lan y mor ar ein haswy dyna Bryn y Beddau. Deugain mlynedd yn ol, sef yn ngwanwyn y flwyddyn 1831, darfu i foneddwr Gwyddelig dyeithr a ddaethai i letya y nos flaenorol i Fryn Cynan, daflu ei hun dros y clogwyn hwn nes disgyn dyfnder o tua 25 llath. Yr oll a ddywedodd pan. ddaethpwyd ato oedd, "Dead, dead, dead." Claddwyd ef yn Ynyscynhaiarn gerllaw Cricerth. Yn y Bontlyfni y mae capel bychan dymunol gan y Bedyddwyr, ac yn mlaen rhyngom a Chaerynarfon, wele yn ymddyrchafu glochdy neu dwr pigfain Eglwys St. Twrog, yr hon a adeiladwyd yn ddiweddar ar draul yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough, yr hwn sydd yn un o'r adeiladau mwyaf addurniadol a phrydferth yn Nghymru. Cyn dyfod i'r fan hon gadawsom ar ein chwith y Tymawr, preswylfod Hu Gadarn, a'i wraig Gwenhonwy. Y mae Hu Gadarn yn enwog, nid yn unig ar gyfrif ei ychain bannog, eithr hefyd ar gyfrif ei chwaeth lenyddol; a medr ei wraig, Gwenhonwy, nid yn unig feirniadu gweithiau ein prif awduron yn Gymraeg a Saesonaeg, eithr hefyd ymostwng i ymdrechu am gamp o wneyd pâr o hosanau mewn Eisteddfod Genedlaethol, a gorchfygu, a thrwy hyny roddi esiampli'w chydryw o deuluyddiaeth dda. Anhawdd fyddai treulio nawnddydd difyrach nag yn ngwmni y pâr dedwydd a deallgar hyn. Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd ar gyfer Dinas Dinlle, ein pwynt terfynol. Rhaid i ni gan hyny droi yn ol, i fyned drachefn tua chyfeiriad Penygroes a Nantlle, gan ddiweddu yn yr un fan ag y dechreuasom.

Nis gallwn osgoi y brofedigaeth o grybwyll gair am un cymeriad gwreiddiol oedd yn byw nifer o flynyddoedd yn ol, gyda'i wraig a'i ferch, heb fod gan' milldir o bentref Clynnog. Poenid y gŵr hwn un adeg o'i fywyd yn fawr gan amheuaeth a oedd y wraig a'r ferch yn ei garu, ac a fyddent yn debyg o ddangos arwyddion galar a cholled ar ei ol, pe dygwyddasai iddo farw. Nid ydym yn gwybod pa beth yn ymddygiadau y merched tuag at yr hen ŵr a achlysurai y fath amheuaeth; ond y ffaith yw, pa le bynag yr elai, a pha bryd bynag y dychwelai, yr oedd yr ysbryd poenydiol hwn yn ei ganlyn i bob man. Un prydnawn penderfynodd y mynai gael ymwared oddiwrth ei boenydiwr, trwy ffurfio cynllun i gael gwybod i sicrwydd pa fodd yr ymddygai ei briod a'i ferch pe byddai efe wedi ei ddwyn oddiwrthynt. Y prydnawn crybwylledig ymddangosai fel yn cael ei flino yn arw gan y pruddglwyf, rhodiai yn wyneb drist, siaradai, yr ychydig a siaradai, mewn ton leddf a galarus, a chyda'r hwyr ymneillduodd i'r beudy, diosgodd ei ddillad, llanwodd hwy â gwellt, a chrogydd y dyn gwellt o dan y swmer; yna ymguddiodd o'r neilldu i weled beth fyddai y canlyniad pan ddeuai y merched i odro y gwartheg. Daeth yr adeg gyda gwyll y nos fel arfer, dyna'r merched yn agor y drws, ac och! dyna y priod a'r tad yn hongiau yn grogedig! Cyfedwyd gwaedd wylofus; gwaeddai y wraig am ei phriod, datganai ei rinweddau ef, a'i cholled hithau, a'r ferch yr un modd. A phan oeddynt yn tori y corff i lawr daeth yr hen fachgen o'i ymguddfan wedi ei lwyrfoddloni eu bod yn eu garu, ac ni flinodd yr ysbryd amheus ef mwy. Na feier ni am gyflawni rhan hanesydd trwy gofnodi y ffaith ddigrif hon.

Ymddengys y byddai boneddigion gynt yn cadw yr hyn a elwid ffwl, neu ddyn a fedrai ddynwared ymddangosiad hurtyn er difyrwch ac adloniant i'r teulu. Yr oedd un o'r cymeriadau hyn yn Lleuar, yn amser y Wyniaid. Un diwrnod yr oedd ffermwr cyfagos yn petruso a allai efe groesi sarnau Lleuar, gan fod yr afon wedi llifo yn arw. Gwelai y ffwl ef yn petruso, a nesaodd at yr afon. "A ydych chwi yn meddwl y gallaf groesi y sarnau yn ddiogel ?" ebe y ffermwr. "O, pa'm nas gellwch," oedd. yr atebiad; "ychydig funudau yn ol croesodd boneddwr mor hardd ei ddillad a chwithau y sarnau yn ddiogel." "Wel, os gallai ef, pa'm nad allaf finnau," ebe'r ffermwr druan, a chymerodd y sarnau; ond nid cynt y dechreuodd eu sangu nag yr ysgubodd y llifeiriant ef ymaith, a buasai wedi boddi oni bai y ffwl ei achub. Y boneddwr oedd wedi croesi yn ddiogel o'i flaen oedd y ceiliogwydd! Mae y sarnau yn aros, ond y ffermwr a'r ffwl wedi myned!

Ond nid oes terfyn i hanes dygwyddiadau fel hyn, gan hyny y mae yn rhaid i ni eu gadael. Y wyddor a efrydir yn fwyaf cyffredinol yn awr, a'r hon mewn canlyniad sydd wedi cyrhaedd y graddau uwchaf o berffeithrwydd, yw cerddoriaeth. Gwir nad ydym yn gallu ymffrostio mewn cerddorion enwog, er hyny y mae genym nifer o wŷr ieuainc sydd yn dringo rhagddynt yn gyflym, ac yn cipio yn aml flodeuyn arobryn yn ein heisteddfodau a'n cyfarfodydd llenyddol. Yn mysg y rhai hyn y gellir crybwyll yn arbenig am Mr. John Hughes (Alaw Llyfnwy), William Roberts, Penygroes (Ehedydd Llyfnwy), Hugh Owen (arweinydd y Glee Society). Y mae genym ddwy seindorf, un yn Llanllyfni, a'r llall yn Nantlle, gwasanaeth pa rai a geir yn hwylus a gwerthfawr mewn gorymdeithiau, cyngherddau, &c. Hefyd, amryw gorau a glee societies perthynol i'r amrywiol ardaloedd, yn mysg y rhai efallai mai y Talysarn Glee Society, dan arweiniad Mr. Hugh Owen, yw y fwyaf cyhoeddus, i'r hon y mae Mair Alaw yn addurn gogoneddus.

Mewn rhan o'r Nant y mae addysgiaeth y plant wedi ei drosglwyddo i ofal Bwrdd Addysg. Y mae Bwrdd plwyf Llanllyfni yn gynnwysedig o'r boneddigion canlynol:—Parchn. W. Hughes, M.A., periglor, a W. Hughes, Coedmadog; Dri. Williams a Roberts, Penygroes; a Mr. Hugh Jones, Gelli Bach. Darfu i blwyf Clynnog, trwy lais y mwyafrif, ymwrthed â derbyn y Bwrdd yn y plwyf hwnw; pa un o'r ddau a wnaeth y peth doethaf, efallai mai amser fydd yr esboniwr goreu.

Ddarllenydd hawddgar, y mae ein gorchwyl yn awr ar ben. Da fuasai genym iddo fod yn berffeithiach. Gan y bydd y cyfleusderau teithiol yn fuan wedi eu perffeithio yn nghwblhad y rheilffordd trwy rhan helaeth o'r dyffryn, ni a hyderwyn y bydd yr ymdrech yma yn rhywbeth er dwyn neillduolion y Nant yn fwy i sylw. Y mae hen ddyffrynoedd Arfon yn oludog o drysorau, a'u cudd-adnoddau braidd yn ddihysbydd, a phob dydd y mae y meddwl dynol yn enill rhyw oruchafiaeth newydd, ei gynlluniau yn ymeangu, a thrysorau newyddion yn cael eu dadguddio iddo.

O dan ddeddf bresennol addysg y mae lle i hyderu na fydd un cwr o'r wlad heb ddarpariaeth briodol tuagat gyfranu addysg i blant tlodion. Yn wir y mae y ddeddf ddiwygiedig wedi gwneyd hyn yn anhebgorol. Yn fuan fe symudir pob rhwystr ac esgusawd dros anwybodaeth, ac ni fydd cymaint ag un dyn anllythyrenog o fewn y Dywysogaeth a'r Deyrnas.

Ac yn nghanol ein gwelliantau, na fydded i ni anghofio ein cyfrifoldeb moesol, canys daw y dydd pan ddystewir swn y morthwylion ar y creigiau-y galwad, fe ddichon, wedi dihyspyddu yr adnoddau. Ie, daw y dydd y bydd yr elfenau gan wir wres yn toddi. Lleibir y llynau a'r Llyfnwy drystfawr gan fellt y farn. Y dydd hwnw caffer ni oll "ynddo ef," a chyda y seintiau y rhai sydd wedi ein rhagflaenu-llwch y rhai a orweddant dan ein traed yn y mynwentydd, ac ysbrydoedd pa rai a wyliant ein hysgogiadau o'r nefoedd.

.. S

Nodiadau

[golygu]
  1. Ychwanegwyd y sylw diweddaf at y Traethawd ar ol yr Eisteddfod.—MAELDAF HEN.
  2. Bu farw y llenor ieuanc a gobeithiol uchod ar y 17eg o fis Medi, 1871. Yr oedd yn aelod eglwysig gyda'r Methodistaid yn Talysarn, a bu farw mewn tangnefedd, yn 25ain mlwydd oed.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.