Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ben yr ugain mlynedd o'i weinidogaeth—Y Juwbili gweithio egniol wedi bod—Anhawsderau yn diflanu—Crefydd yn llwyddo.

PENNOD IX.

Cyfnod olaf hanes gweinidogaethol Dr. Price—Adolgu y gorphenol yn ddymunol—Y Trem am waith yr eglwys—Adnewyddu y capel ac adeiladu yr Hall—Ystafelloedd y diaconiaid—Y menywod—Y gweinidog—Calfaria Hall—Cyfarfodydd Agoriadol yr Hall.

PENNOD X.

Y Trem a'r Jubili—Bethania, Cwmbach—Mountain Ash, dechreuad yr achos yno—Yr hen bobl—Adeiladu capel—Agoriad yn 1841—Annghydfod—Effeithio yn niweidiol ar yr achos yno—yn dechreu gweithio yno—Y cerbyd wedi aros ar 11 o aelodau—Siams y garddwr a Price—Cyrddau gweddi—Price a'r chwiorydd—Paentio'r capel—Y cerbyd yn ail gychwyn—Yr ail gapel—Ei agoriad—Sefydlu diaconiaid—Ymadawiad Price a sefydliad Williams—Gwawr—Storm gynnarol—Dyfyniad o Seren Cymru—Ffrwgwd Dewi Elfed a'r saint —Lladrata y capel—Cyfraith—Gwroldeb Dr. Price Bwrw allan gythreuliaid—Case for assault—Adferiad y capel—Ail agoriad—Y gweinidogion—Yr achos Saesneg—Jas Cooper—Y ganwyll yn diffodd —Ail gychwyn yr achos—Yr achos yn llwyddo—Bethel, Abernant—Yr Ynyslwyd—Mynychu cyrddau wythnosol y cangenau—Adeiladu ysgoldai Bethel ac Ynyslwyd—Testyn tarawiadol—Bedyddio yn yr Ynyslwyd–Ei gweinidogion–Y Gadlys—Cyw gwaelod y nyth—Sefydlu ysgol yn 1858—Adeiladu—Methu cael tir—Mynu cael cyn cysgu—Y seithfed capel—Y cangenau yn ymadael mewn heddwch—Nodion 1865 ar gofnodlyfr y Gadlys—Yr eglwysi godwyd gan Galfaria—Barn gohebydd.

PENNOD XI.

Golwg gyffredinol ar Fedyddwyr Aberdar—Meddylgarwch a charedigrwydd Price yn ennill iddo barch—Undeb Ysgolion—Cymmanfaoedd