Tudalen:Cymru fu.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pawb a fyddent farw tan felldith yr Eglwys Babaidd yn dyfod tan y cyfenw hwn.

Y fyddin Seisnig wedi lladd a gwasgaru y ddeadell fechan a warchaeai'r bont a ruthrasant tua chorph y fyddin Gymreig ar y bryn gerllaw Mochryd. Ymddygoddy Cymry yn ddewr a chanmoladwy iawn er nad oedd eu Tywysog yno i'w llywyddu. Parhaodd y frwydr yn amheus am dair awr, wthiau’r Saeson yn ennill, weithiau'r Cymry. Eithr pan glybu'r olaf am dynged eu llywydd. Ymollwngasant a ffoisant yn anhrefnus, gan adael dwy fil, tua thrydedd ran eu nifer, yn feirwon ar y maes. Cymerodd y gad hon le ar y 10fed o Ragfyr.

Gadawodd Llewelyn ar ei ôl un ferch, a honno ond plentyn dwyflwydd oed, a'r brenin a'i dodes hi mewn mynachlog lle y cymerodd hi urddau fel mynaches. Yr oedd iddo hefyd un mab ordderch o'r enw Madawc; sonnir am dano yn Cymru Fu, tu dal. 132. Disgynai'r Dywysogaeth i Dafydd brawd Llewelyn, ond er iddo ef gymeryd yr awenau i'w law am ysbaid byr, yr oedd yspryd y genedl wedi diffygio ac yntau a ddaliwyd mewn coedwig yn y cyflwr truenusaf, danfonwyd ef gyda'i wraig a'i ddau fab a'i saith merch yn garcharorion i Ruddlan, ac oddiyno i'r Amwythig, Lle y dienyddiwyd ef yn y dull creulonaf, (gwêl Cymru Fu, tu dal. 251).

Y ddau berson mwyaf blaenllaw yn yr hanes brysiog a ysgrifenasom ydynt Iorwerth I a Llewelyn ab Gruffydd, ac y mae arnom awydd dweyd gair byr am gymeriad y ddau cyn terfynu. Na chyhudder ni o ragfarn gwladgarol na dallbleidiaeth mympwyol pan ddywedom mai dyn ffals, creulawn, bostiog, a rhyfelgar, oedd Iorwerth, o'r stamp Fonipartaidd waethaf. Sylwer arno yn gwahodd Llewelyn i'r "wledd" yn Worcester, ac ar ei ymddygiad llechwraidd yn anfon y gor-dduwiol Archesgob Canterbury i ragrithio cyfeillgarwch tuag at y Cymry, er mwyn iddo ef gael hamddem i ddarpar ar gyfer eu gorthrechiad; ac yn eu twyllo yn y diwedd gyda thywysog o'i lwynau ei hun, ac os na weli ffalsder yn hyn, yr wyt yn ddall. Creulawn! buasai Nero ei hun yn gwrido wrth arddel gweithredoedd cyffelyb i anfoniad y "pen gwaedlyd" i foddio cywreinrwydd y Llundeiniaid gwawdus, a'i waed yn rhedeg yn oer wrth orchymyn llofruddiad barbaraidd Dafydd ab Gruffydd. Edrycher eto arno yn dwyn Llewelyn yn ei orymdaith fuddugoliaethus o Cymru, yn rhoddi ystâd tad Eleanor de Montforte iddi ar ddydd ei phriodas, ac yn galw Cymru yn eiddo iddo ei hun, tra nad oedd ganddo y rhithyn lleiaf