Drych y Prif Oesoedd (Detholiad 1896 testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Drych y Prif Oesoedd (Detholiad 1896 testun cyfansawdd)

gan Theophilus Evans


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Drych y Prif Oesoedd (Detholiad 1896)

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




CARREG ARTHUR.

(Ger Abertawe)


Drych

Y Prif Oesoedd.

Theophilus Evans.


 Cymry
 Rhufeiniaid.
 Brithwyr.
 Saeson.




CAERNARFON:

Swyddfa "Cymru."

RHAGAIR.

Llangamarch

MAB Pen y Wenallt,Ceredigion, oedd Theophilus Evans. Ganwyd ef yn 1604[1]. Treuliodd ei oes ym Mrycheiniog,—yn Nhir yr Abad, Llanynys, a Llangamarch, yn berson eglwys. Bu farw yn 1769, a chladdwyd ef ym mynwent Llangamarch, lle gwelir ei fedd.

Ei brif waith yw Drych y Prif Oesoedd. Cyhoeddodd ef gyntaf yn 1716; ac wedyn, wedi ei ddiwygio a'i helaethu, yn 1740. Cyfieithiodd hefyd lawer o bregethau o'r iaith Saesneg, yn eu plith "Llwybr Hyffordd y Plentyn bach i fywyd tragwyddol."

Rhoddi drych o oesoedd cyntaf cenedl y Cymry oedd amcan Theophilus Evans. Rhydd hanes y Brythoniaid, y Rhufeiniaid, y Brithwyr, a'r Saeson yn weddol lawn; ond ychydig iawn sydd ganddo am yr amser ar ol tua 600, er ei fod yn rhoi rhyw gipolwg ar farw Llywelyn yn 1282. Darllennodd bob awdwr oedd o fewn ei gyrraedd, yn eu mysg rai oedd yn byw yn yr amser ddesgrifiant,—megis y Lladinwyr Iwl Ond Cesar a Tacitus, a'r Brython Gildas. rhemantau dyddiau diweddarach ddarllennodd helaethaf, megis croniclau'r Saeson, a Brut Gruffydd ab Arthur. Tynnodd ychydig ar ei ddychymyg ei hun hefyd; a hynny sy'n gwneyd yr hanes mor fyw.

Y mae swyn arddull Theophilus Evans, ei Gymraeg darluniol ac eglur, ei gymhariaethau. difyr pwrpasol,—wedi gwneyd i lawer feddwl mai rhamant, ac nid hanes, yw Drych y Prif Oesoedd. Ond cam ag ef yw gwneyd hynny. Y mae'n wir ei fod yn adrodd ambell hen chwedl anhygoel, oherwydd ei bod yn ddyddorol. Ond y mae yn cadw at wir rediad yr hanes. Y manylion, y darluniau, sydd yn eiddo iddo ef. Dengys ffordd galed union hanes; a rhydd flodau o'i eiddo ei hun hyd ochr y ffordd. Y mae pob hanesydd yn gorfod rhoddi llawer o'i feddwl ei hun wrth ail greu hen oesoedd. O'm rhan fy hun, gwell gen i adroddiad yr hen Theophilus Evans na damcaniaethau byrhoedlog haneswyr Almaenaidd a Ffrengig a Seisnig y dyddiau hyn.

Y mae'r prif bethau ganddo'n eglur,—crwydr y cenhedloedd, rheoli Prydain gan y Rhufeiniaid, cymysgu'r hil, ymosodiadau'r Brithwyr a'r Saeson, diflaniad yr ynys, a'i rhannu'n fân dywysogaethau. O gylch y prif unbennaeth ffeithiau hyn gweodd lawer o ddychmygion y ddeuddegfed ganrif a'r canrifoedd dilynol,— megis tarddiad y Cymry o Gomer, dyfodiad Brutus i Brydain, mordaith Madog ab Owen Gwynedd. Ond y mae yr holl ramantau hyn yn gysgod, mwy neu lai aneglur, rhyw ffaith hanesyddol. Ac am lawer o honynt ni wyddis yn sicr eto prun ai dychymyg ynte gwirionedd yw'r elfen gryfaf ynddynt.

Am ddyddordeb Drych y Prif Oesoedd nid oes ond un farn. Y mae'r arddull naturiol a'r cymhariaethau hapus ar unwaith yn ein denu i ddarllen ymlaen. Yr oedd hanes yr hen Gymry mor ddyddorol i Theophilus Evans ei hun fel nas gall fod yn ddim ond dyddorol i'w ddarllenwyr. Nid oes odid lyfr wedi bod mor boblogaidd yng Nghymru. Y mae dyddordeb y Cymry mewn hanes, a llawer o'u gwladgarwch, i'w briodoli i swyn arddull a mater Drych y Prif Oesoedd. Yr oedd ein tadau'n hoff iawn o hono.

Y mae llawer o amrywiaeth rhwng yr argraffiadau. Yn y llyfr hwn, ni ddilynir yr un argraffiad yn neillduol; gadawyd rhai pethau dibwys allan. Y rhan gyntaf,—sef yr hanes, yn unig sydd yma.

Codwyd darlun Caerdroia o argraffiad Llanidloes. Cwyna Theophilus Evans iddo fethu cael neb i gerfio darlun yn ei oes ef.

 OWEN M. EDWARDS.

LLANUWCHLLYN,

 Awst, 15, 1898.




DRYCH Y PRIF OESOEDD.




RHAN 1.

PENNOD I.

Cyff-genedl y Cymry, a'u hymdaith i'r ynys hon.

GWAITH mawr, ond gwaith salw a chwith, yw adrodd helynt y Cymry,—eu haflwydd a'u trafferthion byd ymhob oes a gwlad y buont yn preswylio ynddi er pan gymysgwyd yr iaith yn Nhŵr Babel. Canys onid peth galarus a blin yw adrodd mor aniolchgar oeddent i Dduw, mor chwannog i wrthryfela yn ei erbyn, ac mor barod i syrthio i brofedigaeth y byd, y enawd, a'r cythraul, yr hyn a barodd eu bod mor anffodiog ac aflwyddiannus? Ac oherwydd i'n hen deidiau ninnau yfed anwiredd fel dwfr, bu gwir y ddiareb,—"Dinistr fydd i weithwyr anwiredd." Ac felly nyni, fel amryw genedloedd ereill, o'r diwedd, wedi i ein pechodau addfedu, a "adawyd yn ychydig bobl, lle yr oeddem fel ser y nefoedd o luosowgrwydd, o herwydd ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw." Nid oes yn wir un genedl dan haul wedi cadw ei gwlad a'i hiaith o'r hen amser gynt yn gyfan a dilwgr; nac oes un wedi cadw ei braint yn ddigoll ac yn ddigymysg. Y mae'r Iddewon ers talm yn achwyn,— Wele ni heddyw yn weision; ac am y wlad a roddaist i'n tadau i fwyta ei ffrwyth a'i daioni, wele ni yn weision ynddi." Canys y mae y Tyrciaid wedi goresgyn gwlad Judea, ac nid oes gan yr Iddewon gymaint a lled troed o feddiant ynddi. Y mae'r Groegiaid hwythau, y rhai a fuont yn yr hen amseroedd yn ben ar y byd, wedi gwasgaru, megis yr Iddewon hwythau, hyd wyneb y gwledydd, a'u tiroedd a'u teyrnasoedd eang ym meddiant y Twrc. Y mae y Rhufeiniaid hefyd, y rhai, o gylch amser ein Harglwydd Iesu, oeddent feistriaid ar y rhan fwyaf o'r byd ag oedd adnabyddus y pryd hwnnw, y maent yn awr, meddaf, ers llawer cant o flynyddoedd maith, wedi darfod am danynt, hwynt—hwy a'u hiaith hefyd, ond a geffir mewn llyfrau,— a'u haw. durdod fawr gynt, wedi ei llarpio, megis burgyn gan adar ysglyfaeth. Ond yr ym ni eto, gweddillion yr hen Frutaniaid, yn trigo mewn cwr o'r ynys fawr hon, y buom gynt yn feistriaid o'r naill gwr i'r llall ohoni, ac yn cadw ein hiaith gyntaf, os nid yn berffaith gwbl, eto yn burach nag un genedl arall yn y byd. "Eu hiaith a gadwant, eu tir a gollant," ebai Taliesin. Yr oedd yr hen hobl yn yr oesoedd gynt mor anhysbys am ddechreuad trigolion cyntaf y wlad hon, fel nad oedd ganddynt na medr nac amcan tuag at hynny. Yr wyf yn cofio am un awdwr Seisnig (a eilw'r Cymry, "Gwilym Bach "), yr hwn a ddywed "gael mewn ogof yn Lloegr, yn amser y brenin Stephan, fachgen ac herlodes o liw gwyrdd dieithr anferthol, anhebyg i un dyn arall a welwyd erioed yn y byd hwn; ac mai yr opiniwn cyffredin oedd, iddynt dreiddio i fyny drwy dwll o eigion neu berfedd y ddaear," fel y mae yr awdwr yn bur ddoeth yn adrodd yn helaeth.

Er ynfyted yw y fath hen chwedlau gwallgof a'r rhai hyn, eto nid oedd rhai, ac yn cymeryd arnynt yn wyr dysgedig hefyd, ymysg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid un tipyn callach yn eu traws-amcan aniben ynghylch trigolion cyntaf yr ynys hon; canys barn rhai ohonynt yw iddynt dyfu allan o'r ddaear, megis bwyd llyffaint.

Y mae e'n wir yn orchwyl dyrus ddigon i chwilio allan ddechreuad ein cenedl ni yn gywir ac yn ddiwyrgam, a'i holrhain o'i haberoedd i lygad y ffynnon. Ond mi a amcanaf i symud ymaith y niwl oddiar y ffordd, fel y bo ein taith at y gwirionedd yn eglur.

Wedi i Adda droseddu gorchymyn Duw, a myned a'i epil yn ddarostyngedig i bechod, amlhaodd drygioni dynolryw gymaint ag y bu "edifar gan yr Arglwydd wneuthur ohono ddyn." Ac yn y flwyddyn er pan greodd Duw y byd 1655, y danfonodd yr Hollalluog ddiluw cyffredinol i foddi dyn ac anifail. Ond Noa gyfiawn, ac er ei fwyn ef a'i deulu, a gafodd ffafr yn ei olwg, ac a achubwyd rhag gormes y dwfr diluw mewn llong, a alwn ni yn arch. Wedi achub Noa fel hyn, a dyfod ag ef i genedlaethu to megis mewn byd arall, cydfwriadodd ei epil, ymhen talm o amser, sef ynghylch can mlynedd ar ol y diluw, i adeiladu "twr a'i nen hyd y nefoedd." Mae rhai yn tybied mai yr achos a'u cymhellodd i ymosod at y fath waith aruthrol a hwn ydoedd, rhag i ddiluw eu goddiwes eilwaith, a'u llwyr ddinistrio oddiar wyneb y ddaear; a rhag ofn hynny, iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas i'w cadw yn ddiogel rhag llifeiriant y dyfroedd. "Gwnawn i ni enw," ebai hwy, "rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear." Er mai barn ereill yw hyn, eu bod hwy yn awr ar eu taith tua gardd Paradwys; ac oblegid fod y wlad o amgylch mor hyfryd, mor llawn o beraroglau, a llysian, a ffrwythau, a phob peth arall dymunol, chwenychasant i aros yno, hwy a'u hepil, tros fyth, ac ar hynny iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas rhag eu gwasgaru oddiyno. Ond pa fodd bynnag yw hynny, ni adawodd yr Arglwydd iddynt ddwyn. en gwaith i ben, oblegid efe a gymysgodd eu hiaith, fel na ddeallai y naill beth a ddywedai y llall. Os dywedai un wrth ei gyfaill, "Moes i mi garreg," fe estynnid iddo ond odid gaib yn lle carreg. Os dywedai un arall," Cadw y rhaff yn dynn," y llall a'i gollyngai hi yn rhydd Fel hyn, yr iaith yn gymysg, ac megis yn estron y naill i'r llall, ni allasent byth fyned â'u gwaith yn y blaen.

Nid oedd ond un dafod-leferydd o'r blaen trwy y byd mawr, sef yr Hebraeg, yn ddilys. ddigon; eithr y ddaear, ag oedd cyn hynny of un iaith ac o un ymadrodd, a glywai ei thrigolion yn awr yn siarad deuddeg iaith a thriugain, canys i gynifer a hynny y mae hen hanesion yn mynegu ddarfod cymysgu y fam-iaith yr Heb. Ac yn y terfysg mawr hwnnw, llawen. iawn a fyddai gan un gyfarfod â'r sawl a fae'n deall en gilydd; a hwy a dramwyent yma ac acw, nes cael un arall, ac felly bob un ac un i ddyfod ynghyd oll, ac aros gyda'u gilydd yn gynifer pentwr ar wahan, y sawl ag oeddent o'r un dafodiaith. A phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwnnw, ond Gomer, mab hynaf Japheth ab Noa ab Lamech ab Methusela ab Enoch ab Jared ab Malaleel ab. Cainan ab Enos ab Seth ab Adda ab Duw.

Dyma i chwi waedoliaeth ac âch yr hen Gymry, cyfuwch a'r a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyrraedd ato, pe baem ni, eu hepil, yn well o hynny. Ac y mae yn ddilys ddiameu gennyf nad yw hyn ond y gwir pur loew; canys 1,—Y mae hanesion yr hen oesoedd yn mynegu hynny; a pha awdurdod chwaneg am unrhyw beth a ddigwyddodd yn y dyddiau gynt na bod coflyflrau neu groniclau yr oesoedd yn tystio hynny? 2. Y mae holl ddysgedigion cred,—gan mwyaf yn awr,—megis o un genau yn myntumio hynny. 3. Y mae yr enw y gelwir ni yn gyffredin arno, sef yw hynny, Cymro, megis lifrai yn dangos i bwy y perthyn gwas, yn hysbysu yn eglur o ba le y daethom allan; canys nid oes ond y dim lleiaf rhwng Cymro a Gomero, fel y gall un dyn, ie, â hanner llygad, ganfod ar yr olwg gyntaf.

Heblaw hyn, yr ydym yn darllen Gen. x. 5, ynghylch epil Japhet,"—O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenedloedd;" lle wrth "ynysoedd y cenhedloedd,' y meddylir yn ddiau, Brydain Fawr ac Iwerddon, os nid y rhan fwyaf o ardaloedd Ewrop. Ond am Sem a Cham y dywedir yn unig,—"Dyma feibion Sem a Cham, yn ol eu teuluoedd wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd." Oddiyma, y mae yn hawdd i gasglu, fod cynifer o fam-ieithoedd yn Nhwr Babel a chenedlaethau hyd wyneb yr holl ddaear. O fam-ieithoedd, meddaf, y rhai sydd hen, a rhywiog, a boneddig, nid oes oddieithr deuddeg gwlad o holl ardaloedd Ewrop yn siarad mam-iaith ddilwgr; nid yw y lleill i gyd ond cymysg, megis y Saesoneg, Ffranceg, Hispaeneg, &c.

Ar ol i Gomer a'i gyd-dafodogion ddyfod o Asia i Ewrop, y mae yr hen ysgrifenyddion yn helaeth ragorol yn son am eu gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys dyna agos yr unig gelfyddyd ag oedd yn gosod synwyr yr hen bobloedd ar waith; ond yn enwedig ar ol eu dyfod i wladychu yn nheyrnas Ffrainc; canys ein hynafiaid ni, yr hen Gymry, oeddent yn ddilys ddiameu y trigolion cyntaf yn Ffrainc yn yr amseroedd gynt, sef ynghylch amser Crist Iesu ar y ddaear, a chyn hynny, fel y dangosaf isod. Digon gwir, yr oedd y Rhufeiniaid hwythau o gylch amser ein Hiachawdwr yn wŷr mawrion, wedi goresgyn amryw wledydd wrth rym y cleddyf; ac yn wir, â llywodraeth fawr iawn ganddynt ar for ac ar dir; ond nid oeddent ond cynifer o grwydredigion lladronach ar y cyntaf, ac yng ngwasanaeth y Cymry, y rhai oeddent feistriaid arnynt. Ie, ar ol eu myned yn gadarn yn y byd, ac yn dechreu hyrddu eu cymydogion gweinion, eto gorfu iddynt ymostwng i gleddyf dau Gymro, a dau frawd hefyd, Beli a Brân, meibion Dynwal Moelmud. Nid oedd galon yng ngwŷr Rhufain i sefyll yng ngwyneb y brodyr enwog hyn, eithr yn cilio i'w llochesau, fel y gwelwch chwi lu o fechgynnos yn ffoi oddiwrth darw gwyllt a fyddai yn cornio.

O hyn y mae fod cymaint o eiriau Cymreig yn yr iaith Ladin, oherwydd fod y Lladinwyr gymaint o amser dan iau y Cymry; ac y mae yn naturiol i dybied y bydd y gwannaf yn benthyca gan y trechaf, a bod y gweision yn dynwared iaith y meistriaid. Camsynied erchyll ydyw tybied i ni fenthyca y fath luaws o eiriau oddiwrth y Rhufeiniaid, fel y mae Pezron ddysgedig wedi profi tuhwnt i amheuaeth neb a fyn ymostwng i reswm. Nid ydys yn gwadu na fenthycodd ein hynafiaid amryw eiriau Lladin tra fu y Rhufeiniaid yn rheoli yma ym Mhrydain, a hynny oedd agos i bum cant o flynyddoedd, sef o amser Iwl Caisar, hyd y flwyddyn o oed Crist 410. Ond nid yw hynny ond ambell air, ac eto heb lwyr golli yr hen air priodol i'r iaith; megis i enwi mewn un neu ddau,—yspeilio sydd air Lladin, ond y mae yr hen air fyth yng nghadw, sef yw hwnnw, anrheithio. Gair Lladin yw rhod, ond y mae yr hen air heb fyned ar goll, sef yw hwnnw, olwyn.

Ond yma yr wyf yn barod eisoes i goelio y bydd rhai yn dywedyd nad yw y rhai hyn ond chwedlau gwneuthur,—fod y Cymry unwaith gynt yn byw yn Ffrainc, ac mor enwog yn y byd am eu gwroldeb. Ond er anhebyced y tybir hynny yn awr, nid oes er hynny un peth gwirach mewn hanesiaeth; canys onid oes son fod ymysg y ddwy genedl, sef trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau o'r ynys hon, yr unrhyw ddefodau ac arferion, yr unrhyw grefydd, ac adnabyddiaeth o'r Duwdod, yr unrhyw fath o offeiriaid a Derwyddon? I adael hyn heibio, meddaf,—ac eto yr ydys yn haeru llawer peth ar waeth rhesymau, y mae Iwl Caisar, yr hwn a ysgrifennodd agos ers deunaw cant o flynyddoedd a aethant heibio, a'r hwn a fu dros ddeng mlynedd yn rhyfela yn Ffrainc, ac a fu ryw ychydig ym Mhrydain, y mae Iwl Caisar, meddaf, yn dywedyd ar ei air yn oleu, fod tafodiaith y ddwy deyrnas yn bur debyg i'w gilydd hyd ddim a allasai efe farnu wrth glywed trigolion y naill deyrnas a'r llall yn siarad. Y mae awdwr arall, a ysgrifennodd o gylch hanner cant o flynyddoedd ar ol Iwl Caisar, ac un arall o gylch deugain mlynedd ar ol hynny, yn tystio ill dau yr un peth, nad oedd ond y dim lleiaf o wahaniaeth rhwng iaith y naill deyrnas a'r llall, sef rhwng iaith trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau y rhai oeddent yn byw y pryd hynny yn Lloegr. Fe allasai fod ond odid ryw gymaint o wahaniaeth rhwng Gwynedd a Deheudir, neu fe allai ryw ychydig yn chwaneg. Ond beth er hynny, diameu mai yr un bobl oeddent o'r dechreuad.

Hefyd, heblaw cysondeb yr iaith, ystyried un dyn nesed yw teyrnas Ffrainc i Loegr; nid oes ond caine o fôr rhyngddynt, lle y gall dyn â llygad craffus ganfod o'r naill lan i'r lan arall ar ddiwrnod clir. Ynys Brydain, gan hynny, yn ddiameu a boblwyd ar y cyntaf allan o'r wlad nesaf ati, megis y poblwyd yr Iwerddon allan o'r wlad hon.

Ond yma y mae i ni ddal sylw mai nid Ffrainc oedd enw y wlad a elwir felly yn gyffredin yn awr; nage, fe'i galwyd hi yn Ffrainc gan y trigolion sydd yn awr yn aros ynddi; y rhai, a hwy yn farbariaid ysgymun ar y cyntaf, a oresgynasant y wlad drwy ladd a llosgi yr hen drigolion, o gylch yr un amser ag y darfu i'r Saeson,—barbariaid ereill,—oresgyn drwy frad yr ynys hon oddiar yr hen Frutaniaid. Eithr enw y wlad ar y cyntaf oedd y Gelli; oblegid ei bod hi yn wlad hyfryd, a rhagorol, a ffrwythlawn, a choediog; megis y gwelwn ni amryw leoedd eto yng Nghymru o'r un enw. Yr hen drigolion cyntaf a alwent eu hunain y Gwyddelod, weithiau y Gwylliaid, ond yr enw cyffredin yn llyfrau hanesion yw y Cymry.

Y mae traddodiad hyd y dydd heddyw ymysg y werin bobl,—nad ydys yn edrych ar hynny ond megis hen chwedl,—fod y Gwyddelod ryw bryd yn yr amseroedd gynt yn frodorion Cymru a Lloegr; ond y mae yn ddilys ddigon eu bod hwy, megis nad oeddem ni a hwythau ar y cyntaf ond un genedl. Ac yn wir, prin y gall un dybied amgen nad o'r un dorllwyth y daeth y ddwy genedl allan, sef y Cymry a'r Gwyddelod, yr hwn a ystyrio y lluaws geiriau sydd o'r un ystyr gyda ni a hwythau. A phwy bynnag ddarllenno y Gramadeg Gwyddelig, a wel fod tueddiad a natur eu hiaith hwy yn gofyn newid llythyrennau yn nechreu y geiriau, yn gwbl gyson â'r Gymraeg.

Pwy bynnag a ddeil sylw ar lawer o hen enwau afonydd a mynyddoedd drwy y deyrnas hon, ni chaiff efe le i ameu nad y Gwyddelod oedd y trigolion, pan roddwyd yr enwau hynny arnynt. Fe ŵyr pawb mai enw afon fawr yng Nghymru yw Wysc; ac nid yw Conwy, Tywi, Wy, ond gwahanol enwau at yr un ystyr; ie enw yr afon bennaf yn y deyrnas yw Tafwys, hynny yw, cydiad Tâf ac Wysc ynghyd. Ni ŵyr neb gyda ni beth yw ystyr y gair; ond nid oes gan Wyddelod yr Iwerddon un gair arall am ddwfr ond visc. Ac megis y mae y geiriau Coom, Dor, Stour, Tam, Dove, Afon, yn Lloegr, yn cyfaddef nad ydynt amgen na'r geiriau Cymreig, Cwm, Dwr, Ysdwr, Tâf, Dyfi, ac Afon, a thrwy hynny yn dangos mai y Cymry oedd yr hen frodorion; felly y mae y geiriau Wysc, Llough, Cinwy, Ban, Drym, Llechlia, ac amryw ereill, yn dangos fod y Gwyddelod yn preswylio gynt hyd wyneb y wlad hon; canys ystyr y geiriau yn ein hiaith ni ydyw, dwfr, llyn, prif afon, mynydd uchel, cefn, maenllwyd. Pwy fyth a ŵyr yr achos am alw lle defaid yn gorlan, oni ŵyr hefyd fod y Gwyddelod yn galw dafad yn eu hiaith hwy, Kaor? Neu paham yr ydys yn galw "gwartheg godro yn "wartheg blithion," oni ŵyr hefyd, mai blithuin yw godro yn yr iaith honno?

Ond er hyn oll, ni ddeall Cymro un tipyn mo'r Gwyddel yn siarad, na Gwyddel chwaith un Cymro. Y mae amryw achosion am hyn, megis,—1. Yr hir amser maith y maent yn ddwy genedl wahanol, heb ddim cyfeillach neu fasnach deuluaidd rhyngddynt. Y mae amser o fesur cam a cham yn gosod wyneb newydd ar bob peth, ond yn enwedig ar ieithoedd. Nid i son am bobloedd pellenig,—dyna y Cymry, y rhai a aethant i'r rhan honno o deyrnas Ffrainc, a elwir Llydaw, gyda Chonan, Arglwydd Meiriadog, yn y flwyddyn o oedran Crist 383; er mai Cymraeg maent yn siarad hyd y dydd heddyw, eto prin iawn y gall un Cymro o ynys Brydain eu deall hwy yn siarad nes bod ennyd fawr o amser yn eu mysg. 2. Y mae gan y Gwyddelod amryw eiriau priodol, y rhai sydd wedi eu colli gyda ni; megis y mae gyda ninnau amryw eiriau y rhai sydd wedi colli gyda hwy. Ni a welwn gymaint o wahanol eiriau sydd rhwng Gwynedd a Deheudir; ac eto, a feiddia neb ddywedyd mai nid Cymraeg a siaredir er hynny yn y ddwy dalaeth? Ie, ac yn Neheubarth, nid oes odid gwmwd na chantref onid oes rhyw ychydig o wahaniaeth yn yr iaith; nid yn unig wrth fod y werin yn rhoddi amryw sain i'r un geiriau, ond hefyd wrth alw ac enwi llawer o bethau ar wahan. 3. Achos arall,—ie achos mawr ac hynod, yw hyn. Rai cannoedd o flynyddoedd cyn geni Crist, yn amser Gwrgant Farf-drwch, brenin Brydain Fawr, y cododd llu anferthol o bobl yr Hispaen, wedi eu gyrru gan eisieu a newyn allan o'u gwlad, gan hwylio ar hyd y weilgi, os ar antur y caffent ryw le i breswylio ynddo i dorri chwant bwyd.

Ar ol goddef gryn drallodion ai y môr yn eu taith beryglus, y tiriasant o'r diwedd ym Mhrydain, lle y gwnaethant eu cwyn â llygaid yn llawn o ddagrau, ac â chalon lawn o ufudd—dod, o byddai gwiw gan fawrhydi y brenin ddangos iddynt ryw gwrr gwlad, a chael rhyddid i achub einioes, hwynt-hwy, a'u gwragedd, a'u plant. Dywedasant mai pobl heddychol oeddent, mai y newyn a'u gyrrodd allan o'u gwlad; ac os byddai wiw gan y brenin i'w cymeryd dan ei ymgeledd, nid oedd ganddynt hwy ond gadael bendith Duw am dano, a bod yn ddeiliaid cywir i goron Lloegr. Ar hynny y tosturiodd y brenin wrth eu chwedl, a rhoddes gennad iddynt fyned i'r Iwerddon, oblegid fod y wlad yn eang ddigon, ac yn lled deneu o drigolion y pryd hwnnw.

Dros hir amser y bu y Gwyddelod a hwythau yn cadw yn bobl wahanol; y naill genedl a'r llall yn dilyn ei harferion a'i hiaith ei hun. Ond yno ymhen talm o amser, ymgyfathrachodd y naill bobl â'r bobl arall, sef y Gwyddelod a'r Skuidiaid,—canys felly y gelwid gwŷr dyfod yr Hispaen, ac aethant megis un pobl, fel y gwelwch chwi ddwy haid o wenyn yn taro ynghyd yn yr un cwch. O hynny allan y cymysgwyd yr iaith, a lluniwyd un iaith gymysg o'r ddwy, yr hon a siaradir yn yr Iwerddon hyd y dydd heddyw. O hyn y mae fod llawer o eiriau dieithr wedi eu benthyca oddigan y Skuidiad, yn iaith y Gwyddelod. Lle y maent yn cytuno â nyni, yno dilys yw mai hen Gymraeg ddiledryw yw y geiriau hynny; a lle y maent yn anghytuno, naill ai geiriau Cymreig yw y rheiny, y rhai a gollasom ni; neu eiriau estronaidd, y rhai a fenthyciodd y Gwyddelod oddigan y Skuidiaid.

Dyma ni wedi gweled estron genedl yn gynnar iawn wedi ymgymysgu âg un llwyth o'r hen Gymry, sef & Gwyddelod yr Iwerddon. Digwyddodd yr un peth i'n hynafiaid ninnau ym Mhrydain, fel yr wyf yn awr i ddangos.

Ar ol bod yr ynys hon, o benbwygilydd o honi, ym meddiant yr hen Gymry, ni wyddys yn dda på gymaint o amser y tiriodd yma ŵr o Gaerdroia, a elwid Brutus; yr hwn, ac efe yn medru darllen ac ysgrifennu, ac yn gynnil ei wybodaeth mewn llawer o bethau cywrain a chelfyddgar, a gâs o unfryd ei dderchafu yn ben ar yr hen drigolion, y rhai, a hwy yn anfedrus y pryd hwnnw agos mewn pob peth ond i ryfela, a ddysgodd Brutus mewn moesau dinasol, ac i blannu, i adeiladu, ac i lafurio y ddaear; ond yn enwedig efe a'u haddysgodd mewn dau beth nad oedd ond ambell genedl yn yr hen amseroedd hynny yn gydnabyddus â hwy, sef yw hynny, i ddarllen ac ysgrifennu, yr hyn ni chollasant fyth wedi hyn. Dywedir i Brutus a'i wŷr dirio ym Mhrydain ynghylch mil o flynyddoedd cyn geni Crist.

Iaith Brutus a'i wŷr oedd y Groeg, ac y mae yn ddilys mai oddiwrtho ef y cawsom yr amryw eiriau Groeg, y rhai sydd hyd heddyw yn gymysg â'r iaith Gymreig. Canys Brutus a'i bobl a ymgymysgodd â'r hen drigolion, yr un ffunud ag y darfu Madoc ab Owen Gwynedd ymgymysgu â phobl America. Canys y Madoc hwnnw, yn y flwyddyn o oedran Crist 1170, pan oedd ei frodyr yn llofruddio eu gilydd, fel bleiddiau ffyrnig, ynghylch eu treftadaeth yng Nghymru, a gymerth long, ac a hwyliodd tua'r Gorllewin, heibio i'r Iwerddon, nes dyfod o'r diwedd i'r deyrnas fawr ac eang honno a elwir yn awr America. Yna y gadawodd efe rai o'i wŷr i gadw goresgyn a meddiant o'r wlad, ac a fordwyodd adref i Gymru drachefn, lle y traethodd efe wrth ei gydwladwyr pa wlad ffrwythlawn a rhagorol a gafodd efe allan wrth hwylio gyda'r haul i bellder y gorllewin. Dymunodd arnynt ystyried am ba greigle a mynydd-dir, ac anialwch, yr oeddent hwy yng Nghymru, megis cynifer cigydd gwaedlyd, yn llofruddio eu gilydd. Deuent gydag ef, a hwy a gant drigo mewn gwlad, yn yr hon y bwytaent fara heb brinder, ac ni byddai eisieu dim arnynt.

Fe synnodd hyn gymaint ar ei gydwladwyr, fel y cododd llu mawr o wŷr a gwragedd gydag ef, yn enwedig o'r rhai hynny ag oedd yn caru byw yn llonydd, ac a diriasant ym mhen wyth mis a deng niwrnod yn y porthladd y buasai efe o'r blaen ynddo. Tra y parhaodd y to hwnnw, hwy a gadwasant gyda'u gilydd, o'r un iaith, o'r un grefydd, a'r un gyfraith. Ond ymhen talm o amser, ar ol dwy genhedlaeth neu dair, fe ymgyfathrachodd y to nesaf â thrigolion y wlad, ac aethant yn un genedl â hwy, fel y gwelwch chwi ddwfr a llaeth yn ymgymysgu.

Yn awr, y mae gennym y sicrwydd mwyaf sydd bosibl i fod, mai y Cymry oedd y cyntaf o holl drigolion Ewrop a gawsant y ffordd allan i America; oblegid, (1) Fod croniclau yr oesoedd yn tystio hynny. (2) Fod amryw eiriau Cymreig gan bobl y parthau hynny hyd y dydd heddyw, lle y gwladychodd y Cymry gyntaf; megis pan y byddont yn siarad dywedant, Gwrando. Pengwyn yw enw aderyn a phen gwyn iddo. Coch-y-dwr yw enw aderyn arall. Corroeso yw enw y lan gyntaf y tiriasant arni, a Gwenddwr y gelwir un o'i hafonydd. Ac heblaw hyn oll, fe gafwyd beddrod Madoc ab Owen yn y wlad honno, a'r ysgrifen a ganlyn ar garreg ei fedd ef,—

Madoc wyf mwydic ei wedd,
Iawn genau Owen Gwynedd;
Ni fynnwn dir! fy awydd oedd
Na da mawr, ond y moroedd.

Ond i ddychwelyd at Brutus. Fel y gwelwch chwi ddwy gangen wedi ymgydio yn tyfu ynghyd, a myned yn un pren,—felly yr ymgymysgodd Brutus a'i wyr yntef â'r hen Gymry, ac a aethant o hynny allan dan enw Brutaniaid, er parchus goffadwriaeth i'r gŵr yr hwn a'u haddysgodd mewn amryw gelfyddydau perthynasol i fywyd dyn. Ac oherwydd mai Groegwr oedd Brutus, fel y dywedais o'r blaen, o'r hyn y mae fod yr hen Frutaniaid yn arferu llythyrennau Groeg yn eu hysgrifeniadau, a hynny, ni a wyddom, ymhell cyn amser Cred, os nid er dyfodiad cyntaf Brutus i'r ynys hon; canys y mae Iwl Caisar yn adrodd am y Derwyddon, eu bod hwy yn dysgu ar dafod-leferydd rifedi afrifed o benhillion a chywyddau; a bod rhai yn treulio ugain o flynyddoedd yn dysgu y penhillion hynny cyn bod yn ddigon o athrawon. Yr oeddid yn cyfrif y penhillion hyn, eb efe, mor santaidd, fel na feiddiai neb eu hysgrifennu ar bapur; ond pob materion ereill, eb efe, y maent yn ysgrifennu â llythyrennau Groeg.

Yn awr y mae yn eglur oddiyma,—1. Fod yr hen Frutaniaid yn medru darllen ac ysgrifennu, cyn dyfod na Rhufeiniwr na Sais i Frydain; canys yr oedd yr awdwr dysgedig, yr hwn sydd yn rhoddi yr hanes yma i mi, yn byw ynghylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. 2. Mai llythyrennau Groeg oedd ganddynt, sef y cyfryw ag a ddysgodd Brutus iddynt. Yr un llythyrennau a welir heddyw ar fagad o gerrig mewn amryw fannau yng Nghymru.

Heblaw fod yr hen Frutaniaid yn arferyd llythrennau Groeg yn eu hysgrifeniadau, y mae ein hiaith ni hyd y dydd heddyw yn cydnabod amryw, ac amryw eiriau o dyfiant Groeg; sef yw hynny. amryw eiriau y rhai a blannodd Brutus yn ein mysg; yr hen eiriau Cymreig wedi eu colli gennym ni, ond a gedwir eto ymysg y Gwyddelod. Yn awr, visc y gelwai yr hen Gymry ddwfr; y mae y gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynhelir o hyd gan y Gwyddelod canys nid yw dwfr ond gair Groeg a gafwyd oddiwrth Brutus. Ac nid i son am ychwaneg, grian y gelwai yr hen Gymry yr haul. Y mae y gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynhelir o hyd gan y Gwyddelod; canys nid yw haul ond gair Groeg a gafwyd oddiwrth Brutus.

Yr achos cyntaf a gafwyd i wadu dyfodiad Brutus i'r ynys hon o Frydain oedd hyn. Pan fu farw Jeffrey ap Arthur, arglwydd esgob Llanelwy, y daeth Sais a eilw y Cymry Gwilym Bach, am yr hwn y soniais i o'r blaen, a deisyfu ar Dafydd ab Owen, tywysog Gwynedd, gael bod yn esgob yn ei le o gylch y flwyddyn o oed Crist 1169. Ond gan na fu gwiw gan Dafydd ab Owen ganiatau iddo ei ddymuniad, aeth y gŵr adref yn llawn digofaint, a gosod ei synwyr ar waith i ddirmygu a rhedeg i lawr, nid yn unig goffadwriaeth yr esgob ag oedd yn gorwedd yn ei fedd, ond holl genedl y Cymry hefyd. A'r Gwilym Bach hwnnw, o'i falais o waith gael pall am esgobaeth Llanelwy, oedd y cyntaf a feiddiodd wadu dyfodiad Brutus yma. Nid yw ei holl lyfr ddim amgen agos na sothach o gelwyddau haerllug yn erbyn y Cymry.

Dywed Gwilym Bach yn ddigywilydd, na soniodd neb erioed am ddyfodiad Brutus a'i wŷr o Gaerdroia i'r ynys hon, nes i Jeffrey ap Arthur ddychymygu hynny o'i ben ei hun; ond y mae hyn yn achwyniad rhy noeth a safnrwth heb ddim awdurdod, ac yn erbyn pob awdurdod. Canys ni wnaeth Jeffrey ap Arthur ond cyfieithu y cronicl Cymraeg i'r Lladin, fel y gallai y dysgedig o bob gwlad ei ddarllen. Ac ymhell bell cyn amser Jeffrey, y mae un o benhillion Taliesin yn dangos barn ei gydwladwyr yn ei amser ef; ac efe a ysgrifennodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 556. Ei eiriau ydynt,—

Mi gefais innau yn fy mryd lyfrau,
Holl gelfyddyd gwlad Ewropa;
Och, Dduw, mor druan, drwy ddirfawr gwynfan,
Y daw'r ddarogan i lin Droia.

Sarffes gadwynog, falch anrhugarog,
A'i hesgyll yn arfog o Sermania,
Honno a oresgyn holl Loegr a Phrydyn,
O lan Môr Llychlyn hyd Sabrina.

Yna bydd Brython fel carcharorion,
Ym mraint alltudion o Sacsonia;
Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant,
Eu tir a gollant, ond gwyllt Walia.[2]


Ac heblaw hyn, y mae rhyw beth hefyd i ddysgu oddiwrth draddodiad a hen chwedlau; ac fe ŵyr pawb nad oes un peth mor gyffredin ymysg y Cymry na chred o'u dyfod gyntaf i'r ynys hon o Gaerdroia. Ond pa fodd y bu hynny mi a ddangosais eisoes. Ie, y mae hyn wedi greddfu mor ddwfn fel y cewch chwi weled hyd yn oed y bugeiliaid ar ben pob twyn a bryn yn torri llun Caerdroia ar wyneb y glas. Fe all dyn o ystyriaeth gasglu rhyw beth oddiwrth hyn; ond pa fodd bynnag, dyma fel y maent yn ei darlunio hi, yn llawn o droion yn wir yn ol ei henw.

Nid oes yn awr, hyd y gwn i, ond un peth yn ol, sef paham y galwyd yr ynys hon Brydain ar y cyntaf. Tybia Mr. Camden, yr hwn yn ddiau oedd ŵr dysgedig, ond opiniwnus,—i wŷr o wledydd ereill ei galw felly gyntaf o waith bod yr hen Frutaniaid yn britho eu crwyn. Ond nid oes odid gymaint ag un yn ei ganlyn ef yn awr yn ei ddychymyg wan anilys. Y mae Mr. Humffrey Llwyd, gŵr dysgedig arall o Gymro a ysgrifennodd o flaen Camden, yn tybied mai ystyr y gair Prydain, yw "pryd cain," sef yw hynny, ei galw hi felly gan yr hen drigolion oherwydd tegwch ei phryd. Y mae hyn hefyd yn seinio yn lled anaturiol, os nid yn dynn ac yn drwsgl. Ond dyma'r anffawd, pe bae un mor ffodiog a tharo wrth y gwir ddeongliad, eto ni all neb fod yn sicr mai hwnnw sydd ar yr iawn. Mi a dybiwn, os nid Brutus a alwodd y wlad ar ei enw ei hun, mai yr hen enw yw Prydwen; ac mi a wn fod gair Prydwen yn ateb yr ystyr cystal, ac yn fwy rhwydd a naturiol na Phrydcain, am fro deg brydweddol hyfryd. Dyma fel y galwai yr hen Frutaniaid gynt darian Arthur.

Y mae dadl nid bychan ymysg amryw wŷr dysgedig ynghylch pa wlad a feddylir wrth yr non a eilw hen awdwr pellenig wrth y gair Thule. Ond pe buasent hwy yn deall Cymraeg, ni fuasai dim dadl nac ymryson yn y peth. Canys wrth ddarllen rhyw hen ysgrifen o waith llaw y cefais yno "Tylau Iscoed," sef yw hynny, Tylau'r Iwerddon; canys Scotia yn Lladin y geilw yr holl wŷr pellenig ynys yr Iwerddon oddiwrth y gair Cymraeg Iscoed. A chan fod pawb yn cytuno mai rhyw ynys gerllaw ynys Prydain yw Thule, ar eithaf tua'r gorllewin, pa wlad amgen a all hi fod ond Tylau Iscoed, neu ynys yr Iwerddon? Nid oes ond y dim lleiaf rhwng y gair Cymraeg Tylau, a'r gair Lladin Thule.

Yr oedd yr hen bobl yn siarad pethau rhagorol ynghylch y wlad hon, yn ei galw hi yn Baradwys, yn Degwch Bro, y Wlad Fendigaid, ac Hyfrydwch Pobl. Ac ond odid un achos am ei bod mor anwyl yw hyn, am nad all un creadur gwenwynig fyw yno; na llyffant, na sarff, na gwiber, nac un creadur arall â dim naws gwenwyn ynddo; ac os dygir un creadur gwenwynig i'r wlad hon, fe a dry â'i dor i fyny yn y man, ac a drenga ar ei waith yn anadlu awyr bur ynys yr Iwerddon.

PENNOD II.

Y Rhyfel a'r Rhufeiniaid.

FE fu ynys Prydain yn yr hen amser gynt yn talu teyrnged i Rufain, a hynny dros chwaneg na phedwar cant o flynyddoedd; a'r pryd hwnnw nid oedd bonedd y Cymry yn siarad Lladin mor gyffredin ag y maent yn siarad Saesneg yn awr. Nid wyf fi ddim yn meddwl gwaith pab Rhufain yn danfon ei swyddogion yma i geinioca bob blwyddyn, megis y byddai yr arfer yn amser Pabyddiaeth; ond yr wyf yn meddwl amherawdwyr neu. emprwyr Rhufain, y rhai, ymhell cyn dyfodiad y Saeson i'r ynys yma, oeddent wedi goresgyn drwy nerth arfau, amryw o wledydd yn Asia ac Affrica, ond yn enwedigol yn Ewrop, ac ymysg ereill yr ynys hon o Frydain.

Ond beth oedd gan na emprwr na phab Rhufain i wneuthur â'r deyrnas hon o Frydain? Pa hawl oedd gan y naill na'r llall i awdurdodi yma? Cewch glywed. Teitl naill oedd min y cleddyf, canys pa wlad bynnag a allai yr emprwr a'i wŷr rhyfel ei hennill drwy nerth arfau, tybid fod hynny yn ddigon o hawl i gymeryd meddiant ynddi; ond pa fodd bynnag yw hynny, pe bae ŵr canolig a phump neu chwech o ddyhirwyr wrth ei gynffon yn beiddio llofruddio a lladrata, fe a estynnid eu cegau wrth grogbren am hynny. Ac am deitl y pab, y mae hwnnw cynddrwg a'r llall, os nid gwaeth; canys nid yw yn ddim amgen na'i drais yn ymhyrddu ar anwybodaeth dynion, ac yn rhyfygu awdurdod i fod yn ben ar yr eglwys na roddes Iesu Grist erioed iddo; a phan oedd Eglwys Rhufain yn ei phurdeb, heb ei difwyno âg ofergoelion, megis y mae hi yn awr, nid oedd wahaniaeth yn y byd rhwng esgob Rhufain, ond yn gydradd âg esgobion ereill.

Y cyntaf o'r Rhufeiniaid a adnabu ynys Prydain oedd Iwl Caisar, a hynny oedd o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. Gŵr oedd hwn o ysbryd eang, yn rhyfelwr o'i febyd, ac yn chwennych fel Alecsander Fawr oresgyn yr holl fyd, a myned yn glodfawr.

"Blaenrhed wrth fyned oedd fo,
Ag olaf pan f'ai gilio."

Ond cyn iddo ddyfod ar antur i Frydain, efe a anfonodd lythyr at y brenin a elwid Caswallon yn y geiriau hyn, nid amgen,—

Yn gymaint a bod y cwbl o'r Gorllewin wedi ymroi i mi fel i frenin goruchaf arnynt, ac i senedd Rhufain, naill ai drwy gariad ai drwy ryfel; oherwydd hynny, yr wyf yn hysbysu i ti, Caswallon, a'th Frutaniaid, sy'n teyrnasu, a'r môr yn eich hamgylchynu, ac eto heb fod dan reolaeth Rhufain, y bydd raid i chwi ufuddhau i mi ac i senedd Rhufain, canys dyledus a chyf—iawn yw hynny. Er eich rhybuddio, yr ydym ni, senedd Rhufain, yn danfon atoch y llythyr hwn, er traethu ac hysbysu i chwi, yr ymddial—wn ni â chwi drwy ryfel o nerth arfau, os chwychwi nid ymroddwch i ni am dri pheth; sef (1) Talu o honoch i Rufain deyrnged bob blwyddyn. (2) Bod bob amser yn barod a chwbl o'ch nerth i ymladd wrth fy ngorchymyn â'm gelynion o amser bwygilydd. (3) Danfon gwystlon i Rufain ar gyflawni hynny; yr hyn os chwychwi a'i gwna, eich perygl a fydd lai, a'ch rhyfel ar ddiben; ac onide, edrychwch am ryfel ar frys."

Pan ddarllennodd Caswallon, brenin y Brutaniaid, y llythyr hwn, danfonodd i geisio ei gynghoriaid a.i arglwyddi goruchel ato, fel y gwelent pa ryw dymestl a dinistr oedd yn crogi uwch eu pennau. Ac er gwaethaf bygythion Caisar, hwy a gydfarnasant megis o un genau anfon llythyr ateb iddo yn y wedd hon, nid amgen,

Yn y modd yr ysgrifennaist ti, Caisar, ataf i, mai ti biau freniniaethau'r Gorllewin, yr un modd boed hysbys i ti, mai myfi a'r Brutaniaid a biau ynys Brydain. Ac er i'r duwiau roddi i ti gwbl o'r gwledydd wrth dy ewyllys dy hun, ni chei di ddim o'n heiddo ni, canys cenhedlaeth rydd ydym ni, ac nid oes arnom deyrnged nerth na gwystl i ti nac i senedd Rhufain. Ac o'r achos hwnnw dewis di ai cilio yn dy eiriau, ai rhyfela; ac yr ydym ni yn barotach i ymladd â thydi nag i ddymuno tangnefedd; ac yn foddlon gennym i fentro ein hoedlau er cadw ein gwlad rhag estron genedl, heb ofni mo'th fawr eiriau. Gwna y fynnych dan dy berygl.

Wedi i Iwl Caisar ddarllen y llythyr hwn, a gweled bwriad diysgog y Brutaniaid i ymladd âg ef, dirfawr lid a gymerth ynddo ei hun, ac a ddywedodd wrth ei uchel swyddogion,—" Chwi a welwch mor anfoesol a sarrug i'm hatebasant, ond odid ni a wnawn iddynt laesu peth o'r dewrder a'r taiogrwydd hyn. A hwy a atebasant,—"A gymeri di, O Caisar, dy lwfrhau gan wag ymffrost barbaraidd? Ni a wyddom amgen. Wele ni yn barod i ymladd wrth dy ewyllys tra fo defnyn gwaed yn ein cyrff." Ac ar hynny Caisar a ymwrolodd ac a gynhullodd ei filwyr ynghyd, sef oedd eu rhifedi pum mil ar hugain o wŷr traed, a phedair mil a phum cant o wŷr meirch, ac mewn pedwar ugain o ysgraffau a fordwyodd, efe a'i wŷr, tuag at ynys Brydain.

Yr oedd y Brutaniaid hwythau yn gwybod eu bod ar fedr ymweled â hwy, canys nid amser i fod yn segur ac ysmala oedd hwn; ac am hynny yr oedd yspiwyr yn disgwyl yn y prif aberoedd rhag i'r gelynion i dirio yn ddiarwybod, a'u lladd yn eu cwsg. A chyn gynted ag y daeth y llongau i olwg y tir, y swyddogion a anfonasant yn ddiaros i fynegu i'r brenin fod y gelynion wedi dyfod. Ac ar hynny y brenin a archodd i'r penrhingyll i ganu'r cyrn cychwyn i gynnull ei wŷr rhyfel ynghyd. A brysio a wnaethant yn llu mawr arfog at y porthladd ym min Caint, ac erbyn hynny yr oedd y gelynion o fewn ergyd saeth. Nid oedd gan y Brutaniaid y pryd hwnnw na lluryg, nac astalch, na tharian, na phenffestin, nac un trec na pheiriant i amddiffyn rhag y saethau a'r gwaywffyn; lle yr oedd gan wyr Rhufain helm o bres am eu pennau, tarian yn eu dwylo, a lluryg ddur o gylch eu dwyfron. Ond er hyn o anfantais, pobl noeth yn erbyn gwŷr arfog; eto, bernwch chwi, a fu achos gan wyr Rhufain fostio mai hwy a gawsant y trecha yn y diwedd? Canys am y glewion Frutaniaid, rhai a safasant ar bennau creigydd, rhai a ddisgynasant i'r traeth, ereill a aethant i'r môr, a phawb yn ergydio eu saethau cyn amled at y gelynion, nes oedd gwaed y lladdedigion yn ffrydio megis pistyll yma ac acw dros ystlysau'r llongau i'r môr.

Yr oedd Iwl Caisar yn bwrw cael hawddgarach triniad; ac er gwyched rhyfelwr oedd efe, efe a edrychodd yn awr yn lled ddiflas ar y mater, wrth weled ei wŷr wedi digalonni, rhai yn ei regu ef am eu tynnu i'r fath ddinistr, rhai yn hanner marw yn ochain ac yn gruddfan yng nghrafangau angeu, ereill yn gorwedd yn gelaneddau meirw yn ymdrabaeddu yn eu gwaed. Unwaith yn wir y meddyliodd i godi hwyliau a myned adref ond efe a ystyriodd y byddai hynny yn ddifenwad ac yn gywilydd byth iddo ymysg ei gydwladwyr; ac o achos hynny efe a ymwrolodd drachefn, ac a ddywedodd rhwng bodd ac anfodd,—" Gwaradwydd, ie, gwaradwydd tuhwnt i ddim i ni ddychwelyd adref wedi dyfod cyn belled a hyn; nage, ni a fynnwn dirio, pe bae'r diafl ei hun ynddynt.'

Ac yno, fel y gwelwch chwi darw yn taflu ac yn gwylltio ar ol bod dau neu dri o waed-gwn wrtho un hanner awr; felly gwŷr Rhufain hwythau a chwerwasant oddimewn, gan ergydio eu saethau cyn amled a chenllysg at y Brutaniaid; a lladdwyd y fath nifer o bob ochr, nes oedd y môr agos yn wridog gan waed y lladdedigion, a chyrff y meirw a'r clwyfus cyn dewed yn gorwedd ar fin y môr a defaid mewn corlan. A phe buasai elw i Iwl Caisar osod ei draed ar dir Brydain, hynny a gâs efe; eto pe ni buasai efe a'i wŷr redeg yn gyflym i gael diogelwch yn eu llongau, fel y gwelwch haid o wenyn yn taro i'r cwch o flaen tymestl, hwy a larpiasid yn dameidiau â chleddyf y Brutaniaid dewrion. Oddeutu deu—ddeg a deugain o flynyddoedd cyn geni Crist y bu hyn.

Mi a wn o'r goreu fod Iwl Caisar yn dywedyd ei hun iddo wneuthur gryn hafog ym Mhrydain. Ond pa le y mae ei gymydogion i roddi gair o'i blaid? Prin y gellir coelio neb yn seinio allan ei glod ei hun; ond yn enwedig yma, pan yw ei gydwladwyr, y rhai a ysgrifenasant hanes ei fywyd, yn tystio yn eglur na wnaeth efe ond gosod ychydig fraw ar y trigolion, ond nid dim o'r fath beth a'u meistroli, a dyfod â hwy dan ei lywodraeth. Ac y mae un o brydyddion yr oes honno yn canu am ei weithred ym Mhrydain fel hyn,—

Caisar, er trydar tramor,—a giliodd,
O'r golwg i'r dyfnfor,
Rhag saethau picellau
Por Llu dien Fryden frodor." [3]


Mawr a fu llawenydd a gorfoledd y Brutaniaid wedi gyrru ffo fel hyn ar wŷr mor enwog, y rhai oeddent yn galw eu hunain yn feistri y byd. A Chaswallon y brenin a barodd i'r penrhingyll gyhoeddi diaspad i orchymyn pawb i aberthu i'r tadolion dduwiau. Ac yno fe anfonodd lythyrau at bendefigion, uchel—swyddogion, a gwŷr da y wlad, i'w gwahawdd hwy i Lundain i wledda a bod yn llawen. Ac fe ddywedir i ladd at y wledd fawr honno ugain mil o wartheg, deng mil a deugain o ddefaid, dau can mil o wyddau a chapryned; ac o adar mân, gwylltion a dofion, y dau cymaint ar a allai neb eu cyfrif neu eu traethu. A'r wledd hon a fu un o'r tair gwledd anrhydeddus ynys Brydain.

Ugain mil o fwystfilod,
Yn feirw a lâs pan fu'r wledd."[4]


Ond ni pharhaodd tegwch y llwyddiant hwn yn hir, nes i'r haul drachefn fachludo dan gwmwl gerwindeb. Nid y bore y mae canmol diwrnod teg. Mor anwadal ac ansafadwy yw parhad anrhydedd a golud bydol! Ac ni a welwn yn fynych rwygiadau enbyd yn digwydd, ie, hafog a distryw gwledydd, oddiwrth bethau bychain a distadl ar yr olwg gyntaf; ond pan unwaith brydia o lid calon dyn mileinig a Gŵr chwerw, pwy a ŵyr pa le y diwedda? digllon," ebe Selyf Ddoeth, "a ennyn gynnen, a'r llidiog fydd aml ei gamwedd;" megis y tystia yr hanes a ganlyn.

Ryw ychydig ar ol y wledd fawr uchod, y digwyddodd i ddau bendefig ieuainc o waed brenhinol fyned allan i'r gamp i ddifyrru; megis i ymaflyd cwdwm, neidiaw, taflu coeten, chwareu palet, chwareu cleddeu deuddwrn, &c. Enw y naill oedd Hirglas, ac efe oedd nai i Gaswallon y brenin; ac enw y llall oedd Cyhelyn, a nai oedd yntef i Afarwy, tywysog Llundain, ewythr y brenin frawd ei dad. Ond yn niwedd y chwareu, yn lle difyrru a bod yn llawen, y tyfodd anghydfod ac ymrafael rhyngddynt, a dechreu ymgecru; ac o roddi geiriau cras, myned a wnaethant frig—frig ac ymgyndynnu; ar hynny i dynnu eu cleddyfau, lle y lladdodd Cyhelyn nai Afarwy, Hirglas nai y brenin,—er bod Afarwy yn honni mai syrthio ar ei gleddeu ei hun a wnaeth Hirglas. A rhag y gelwid ei nai i gyfrif am y llofruddiaeth, a dioddef cosb cyfraith, am fod Caswallon yn bygwth hynny, Afarwy a anfonodd lythyr i wahawdd Iwl Caisar i ddyfod eto i Frydain, yn y geiriau hyn,

Afarwy ap Lludd, tywysog Llundain, yn anfon annerch i Iwl Caisar, amherawdwr Rhufain; a gwedi dymuno gynt ei angeu, weithian yn dymuno iechyd iddo. Edifar yw gennyf i ddal i'th erbyn di, pan fu'r ymladd rhyngot ti â Chaswallon ein brenin ninnau. Canys pe peidiaswn heb dy ameu, ti a fuasit yn fuddugol. A chymaint o syberwyd a gymerth yntef wedi caffael y fuddugoliaeth honno drwy fy nerth i, ac y mae yntef weithian yn fy nigyfoethi innau, ac felly y mae efe yn talu drwg dros dda i mi. Mi a'i gwneuthum ef yn dreftadawg, ac y mae yntef yn fy nitreftadu innau. A minnau a alwaf dystiolaeth nef a daear hyd na haeddais i ei fâr ef o iawn, ond o herwydd na roddwn fy nai iddo i'w ddihenyddu yn wiriawn. Ac edryched dy ddoethineb di ddefnydd ei lid ef. Cwareu palet a orug dau neuaint i ni, a gorfod o'm nai i ar ei nai ef; ac yno llidio a orug nai y brenin, a chyrchu fy nai i â chleddyf, ond efe a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun oni aeth trwyddo. Ac wrth nas rhoddais, y mae efe yn anrheithio fy nghyfoeth innau. Ac wrth hynny yr wyf yn gweddio dy drugaredd, ac yn erchi nerth gennyt i gynnal fy ngyfoeth, hyd pan fo, drwy fy nerth innau, y ceffych di ynys Brydain. Ac nac amheued dy bryder di am yr ymadrodd hwn, canys llawer wedi ffoi unwaith a ymchwelant yn fuddugol."

Ac o ran ei fod efe yn gwybod mai hen gadnaw oedd Iwl Caisar, ac nad oedd ond ofer iddo dybied y rhoesid coel idd ei eiriau heb ryw fechniaeth, y bradwr Afarwy a anfonodd ei fab ynghyda deuddeg ar hugain o farchogion i ddwyn y llythyr at Iwl Caisar, ac hefyd i fod yn wystlon o fod ei amcan ef yn gywir. Bywiogodd hyn galon Caisar, ac nis gallasai un peth yn y byd ddigwydd yn fwy dymunol ganddo; ond eto o herwydd na chafodd efe ond croesaw cyn hagred, a gorfod arno ffoi a throi ei gefn y waith gyntaf, fe a ddaeth yn awr yn llidiog ac yn hyderus yr ail waith; canys lle nid oedd ganddo ond pedwar ugain o ysgraffau (neu o longau) y tro cyntaf i fordwyo ei wyr trosodd i Frydain, yr oedd ganddo yn awr wyth cant, a nifer ei filwyr y tro hwn oedd tair mil ar ddeg ar hugain, a thri chant a deg ar hugain o wŷr traed; a'r un nifer hefyd o wŷr meirch; sef oedd eu rhifedi gyda'u gilydd chwech mil a thrugain, a chwech cant a thrugain.

Agos i gan mil o wyr arfog, a'r rheiny gan mwyaf yn rhyfelwyr o'u mebyd, beth a allai sefyll yn erbyn y fath lu mawr a hwnnw? Ac ni wyddys pa nifer o filoedd oedd gan y bradwr Afarwy i fod yn blaid â hwy. Ac y mae un bradwr cartrefol, a melldith ei fam a gaffo pob cyfryw un byth,—yn waeth na chant o elynion pellenig; canys y mae bradwr cartrefol yn gydnabyddus â phob amddiffynfa a lloches a lle dirgel lle y mae dim mantais i'w gael. Ond er hyn oll, ni fu i Iwl Caisar ddim achos mawr i orfoleddu o'i daith, na chlod chwaith gan ei gydwladwyr yn Rhufain. Canys yr oedd y Brutaniaid wedi pwyo yng ngwaelod y Tems farrau heiyrn erchyll â phigau llymion, y rhai nad allai neb eu canfod o yma draw, am eu bod droedfedd neu ddwy dan y dwfr. A phan ddaeth llongau Caisar yn ddiarwybod ar draws rheiny, gwae fi, pa waeddi "wbwb" a therfysg oedd ar hynny ymysg milwyr Rhufain; y pigau dur yn rhwygo yr ysgraffau, a hwythau yn soddi ar fin y lan; a'r Brutaniaid hwythau ar dir sych yn llawen am weled eu dyfais yn llwyddo cystal. Y mae yn hawdd i farnu, pe bae hynny ond odid yma yn unig, nad oedd yr hen Frutaniaid ddim cyn anfedrused pobl ag y mae rhai yn weled bod yn dda i daeru. Cas yw'r gwirionedd, lle ni charer.

Ond gan nad pa un, Iwl Caisar a diriodd yn ddilys ddigon y waith hon ym Mhrydain; ac od oes coel ar y peth a ddywed y pendefig ei hun, efe a diriodd yn ddirwystr, ond a gafodd ei longau gan y picellau dur yng ngwaelod Tems. Yr oedd y trigolion, eb efe, wedi cilio i'r coedydd ac idd eu llochesau; wedi brawychu wrth weled cynifer o longau, wyth cant o rifedi. Ond ymhen ychydig amser yr ymwelsont âg ef, nid idd ei gapio a phlygu glin ger ei fron, ond i ergydio picellau dur at ei galon. Canys ar eu gwaith yn bloeddio "I'r frwydr," y Brutaniaid a gymerasant arnynt i ffoi, ond nid oedd hynny ond rhith; ac ar waith y Rhufeiniaid yn eu herlid yn fyrbwyll, yr ymchwelodd y Brutaniaid ac ail ruthro, a gwneuthur galanastra nid bychan ymysg y gelynion, er bod Iwl Caisar yn ymffrostio mai efe a'i wŷr a gawsant y trecha yn y diwedd.

Ond boed hynny fel y mynno, un peth yn anad dim oedd hynod dros ben ymysg yr hen Frutaniaid, sef eu gwaith yn ymladd o gerbydau a bachau heiyrn odditanynt; ac yr oedd gan Gaswallon y brenin bum mil o honynt yn yr ymladdfa uchod. Dyfais waedlyd oedd hon, canys wrth yrru ar bedwar carn gwyllt, hwy a dorrent restrau y gelynion, ac a'u llarpient yn echrydus wrth fod y bachau dur yn rhwygo eu cnawd ac yn llusgo yn erchyll, fel nad allai dim fod yn fwy ofnadwy na ffyrnig. Ni welodd y Rhufeiniaid erioed y fath beth o'r blaen; a diameu mai dychymyg aruthrol greulon oedd hynny; ond wrth ryfela nid ydys yn astudio ar ddim ond dinystr a distryw. Ac er gwyched rhyfelwyr oedd gwŷr Rhufain, fe ddywedir eu bod yn wyneblasu ac yn delwi ar eu gwaith yn clywed trwst cerbyd, fel y gwelwch chwi gywion yr iar yn crynu rhag barcut chwiblsur, egr, yn gwibio oddifry arnynt.

Ni arosodd Iwl Caisar ond amser byr chwaith y tro hwn ym Mhrydain; ac achos da paham, yr oedd y wlad yn rhy dwym iddo; canys y mae efe ei hun yn addef nad oedd dim esmwythdra na llonyddwch iddo ef na'i wŷr. Canys pan elai ei wŷr allan i baratoi lluniaeth,—neu, mewn geiriau ereill, pan elent i ladrata da a defaid, ac ysbeilio tai gwirioniaid,—yno y Brutaniaid a ruthrent arnynt, a'u taro yn eu talcen; a dedwydd a fyddai hwnnw, yr hwn o nerth ei draed a ddygai y chwedl yn ddihangol i glustiau Caisar. Ac atolwg, a oedd bai mawr ar yr hen Frutaniaid yn trin lladron a llofruddion felly? Eu holl hymgais hwy oedd ceisio amddiffyn eu gwir feddiant a'u heiddo eu hun. Ac oddiyno y tyfodd y ddihareb,—"Gwell gwegil câr nag wyneb estron."

A Caisar ar hynny a fwriadodd o ddifrif fyned adreu i dir ei wlad. A'r Brutaniaid hwythau a feddianasant eu gwlad yn heddychol ac yn ddidaro dros agos i gant o flynyddau wedi hynny; a pheth mawi na chai dynion fyw yn llonydd ar eu gwir eiddo eu hunain. Fe amcanodd Augustus Caisar, yn amser yr hwn y ganed Crist Iesu,—ymdreiglo i'r ynys hon; ac y mae un o ben-prydyddion yr oes honno yn dymuno llwyddiant iddo ef a'i wŷr, yn y fath bennill a hon,—

"Cadwed y duwiau Caisar fawr,
A'i lu yn awr yn treiddio
Ymhell i Frydain dros y môr,
A boed hawdd amor iddo." [5]

Ond ni wnaeth efe ddim ond amcanu, a bygwth ar flaen tafod. O gylch deg mlynedd ar hugain ar ei ol ef y bwriadodd Caio Caisar, yr hwn oedd ddyn pendreigl ysgeler, ymweled â'r ynys hon; efe a gynhullodd ynghyd ei wŷr, efe a daclodd ei arfau, ac a wnaeth bopeth yn barod at y daith; ac yno ar ol codi hwyliau, a morio ryw gymaint o olwg tir Ffrainc, fe laesodd calondid y gŵr; ac yn lle myned yn y blaen i dir Brydain i ennill clod wrth nerth arfau, fe roes orchymyn idd ei wŷr ddychwelyd yn eu hol i dir Ffrainc, a myned a chasglu cregin yno ar lan y môr. Ac yr oedd hynny, ond odid, yn well difyrrwch na chael briwio eu hesgyrn wrth ymladd â'r Brutaniaid.

Hyd yn hyn y cadwodd y Brutaniaid eu hawl a'u rhyddid yn gyfan rhag trais a gormes y Rhufeiniaid; a hwy a allasent wneuthur hynny o hyd, pe buasent yn unfryd ac heddychol â'u gilydd. Ond rhaid addef mai dynion diffaith, cynhenus, drwg, oeddent, na fedrent gydfod fel brodyr ynghyd,—arglwydd un cwmwd yn ymgecru â'i gymydog, ac yn myned yn benben, fel y gwelwch chwi ddau waedgi gwancus yn ymgiprys frig-frig am asgwrn. Odid fyth y byddai heddwch parhaus drwy y deyrnas; y trechaf yn treisio'r gwannaf; ac ysbryd o ymddial yn brydio yn ddiorffwys ym mynwesau y gwŷr. mawr. Ac y mae y Rhufeiniaid, er eu bod yn elynion, yn addef yn ddigon eglur nad allasent hwy fyth orthrechu y Brutaniaid oni buasai eu hanghydfod, a'r ymraniadau ymysg eu pendefigion eu hun. Er mai un brenin oedd ben ar yr holl deyrnas, yr hwn a alwai yr hen Gymry Unben coronog, eto yr oedd amryw dywysogion ac arglwyddi â llywodraeth oruchel yn eu dwylo. Ac odid fyth fod y rhai hyn heb ryfel a ffyrnigrwydd rhyngddynt.

Yr oedd yr ysbryd ymddial hwn yn fwy anesgusodol eto, o herwydd fod eu doethion a'u gweinidogion crefydd, y rhai a enwid y pryd hwnnw y Derwyddon, yn pregethu o hyd ymhob cymanfa ar iddynt ystyried enbyted iddynt eu hunain, ac i les cyffredin y wlad, oedd eu gwaith yn ymrafaelio ac yn ymgyndynnu. Ac ymysg ereill, Cyntwrch, gŵr dysgedig o radd y Derwyddon, a areithiodd yn y wedd hon,—Chwychwi bendefigion urddasol o genedl y Brutan Chwyiaid, clust-ymwrandewch a'm chwedl. Rhyw henafgwr gynt, ac iddo ddeuddeg mab anhydyn, ac heb wrando ar ei gyngor i fod yn unfryd ac yn heddychol â'u gilydd, a ddygodd gwlwm o ffyn ger eu bron, sef deuddeg o nifer; ac a archodd os gallai neb un o honynt o rym braich dorri y cwlwm yn ddau; yr hyn pan brofodd un ac arall olynol, a atebasant, nad oedd agos rym ddigon yn y neb un i dorri y baich ffyn ynghyd. Ac yno yr henafgwr a ddatododd y cwlwm; ac yn hawdd ddigon y torrodd y llanciau y ffon a roddasid i bob un ar neilldu. Ac ar hynny y dywedodd eu tad wrthynt,—Cydnebyddwch, fy meibion, tra fo chwithau yn cyd-ddal ynghyd mewn cwlwm tangnefedd a chariad brawdol, nad all neb eich gwaradwyddo; eithr os ymrannu a wnewch, gwybyddwch o fod yn ysglyfaeth i'ch gelynion.' O gydwladwyr, a chwi bendefigion y bobl, dyna ansawdd ein cyflyrau ninnau; os nyni a ymgeidw yn un a chytun, nid all holl ymgyrch y Rhufeiniaid wneuthur dim niwaid i ni; nyni a welsom hynny eisoes wrth yrru Iwl Caisar ar ffo; eithr os anrheithio a difrodi cyfoeth y naill y llall, a rhyfela â'ch gilydd, yw eich dewis, byddwch sicr o fod yn gaethweision i'r Rhufeiniaid."

Ond yr un peth a fuasai canu pibell yng nghlustiau'r byddar a cheisio eu perswadio hwy i fod yn heddychol; canys dilyn eu hen gamp ysgeler a wnaethant hwy fyth, i ymryson a Ilofruddio eu gilydd; fel y gwelwch chwi adar y tô yn ymgiprys am ddyrnaid o ŷd, heb wybod fod hynny yn eu harwain at y groglath. Ar air, cymaint oedd eu cynddeiriogrwydd a'u malais fel prin y byddai cydfod parhaus rhwng y naill gantref a'r llall drwy y deyrnas.

Yn awr yn y terfysg a'r cythrwfl yma, fe ddigwyddodd i ryw ŵr mawr a elwid Meuric gael ei ysbeilio o'i gyfoeth a'i awdurdod,—llosgi ei dai, anrheithio ei diroedd, llofruddio ei ddeiliaid, a'i yrru yntef ar draws gwlad i gael noddfa lle y gallai. Ac yn y wŷn danbaid hon, efe a aeth dros y môr i wahawdd Gloyw Caisar i oresgyn ynys Brydain; yr hyn a ddigwyddodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 44, a hynny oedd agos i gan mlynedd ar ol i Iwl Caisar dirio yma gyntaf.

Ac yno Gloyw Caisar, amherawdwr Rhufain, a alwodd ei bencynghoriaid ynghyd i wybod eu barn, pa un a wnai efe ai rhyfela â'r Brutaniaid ai peidio a fyddai oreu. A hwy a atebasant,—"Digon gwir fe gadd Iwl Caisar ei drin yn hagr a'i faeddu ganddynt; eto ystyried dy fawrhydi di pa fodd y mae gwlad Brydain wedi ymrannu yn awr; nid oes dim ond y gynnen a'r anras yn eu mysg; ac y mae gyda ni un o'u goreuon yn gyfaill calonnog i ni, Meuric dan ei enw. Ac y mae efe yn gwirio eisioes, na fydd ond ychydig ac anaml daro, hyd onid allwn oresgyn gan mwyaf eu gwlad oll. Felly yr ym ni yn barnu y dylid yn anad dim ryfela yno, pe amgen ni a'n cyfrifir fel clêr y dom, ac fel cacwn; ac y mae hynny yn anweddus i barch y Rhufeiniaid." Gwir ddigon," ebe Gloyw Caisar, "dyma'r odfa i ni ymddial arnynt, ac ennill y sarhâd a'r golled a gadd Iwl Caisar fy hen ewythr oddiganddynt."

Ac ar hynny Gloyw Caisar a ymwrolodd yn ei ysbryd, ac a gymerth galon gŵr; ond er hynny yr oedd efe yn gallach nag anturio ei fywyd ei hun yn fyrbwyll ar chwedl Meuric; ac a archodd i ben—cadben a elwid Plocyn, os byddai hi yn galed arno, ar ddanfon hysbysrwydd o hynny ato ef i Rufain, ac y deuai efe â chwaneg o wŷr yn gymorth iddo.

Yno wedi i Plocyn a'i wŷr drwy fawr ludded deithio cyn belled a môr Ffrainc, a hwy yno megis yng ngolwg Brydain, eto efe a gafes ei wala o waith eu perswadio hwy i hwylio drosodd i Frydain. Yr oedd dewrder yr hen Frutaniaid megis yn ddrain pigog ar eu hafu fyth. Ond rhwng bodd ac anfodd morio a wnaethant; ac a hwy yn awr yng ngolwg y tir, y chwythodd tymestl o wynt gwrthwyneb, a'u gyrru drachefn i ardal Ffrainc. Tybiodd y Brutaniaid i'r llongau ddryllio a soddi gan y dymestl, ac a aethont ar hynny bawb ar wasgar. Ond yn y cyfamser y tiriodd Plocyn a'i wŷr agos yn ddiarwybod i lu y Brutaniaid; canys y llongau a achubwyd rhag soddi, er maint oedd y dymestl.

Pan oedd llu y Brutaniaid yn y fath drefn anosbarthus a hyn wedi gwasgaru yma ac acw ar draws y wlad, y mae'n ddilys i'r Rhufeiniaid wneuthur galanasdra nid bychan wrth ddyfod a rhuthro arnynt a hwy yn amharod; ond yn anad dim o ran yr anghydfod a'r ymraefael yn Eithr ymhen ychydig, eu mysg eu hunain. wrth weled cleddyf eu gelynion yn difrodi mor ddiarbed, hwy a ddaethont i well pwyll o fod yn un a chytun â'u gilydd; ac O mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! Canys tra y parhaodd yr undeb hwn, y cynhullasant eu byddinoedd ynghyd dan eu pen-cadben a'u brenin a elwid Cynfelyn; ac â phawb yn awr yn wresog i ymladd dros eu gwlad, buan y dialeddwyd ar y Rhufeiniaid am y gwaed a dywalltasant; ac er cyn gyfrwysed rhyfelwr oedd Plocyn, a ffyrniced i oresgyn y wlad hon er cael clod a goruchafiaeth gan ei feistr gartref, eto gorfu arno, o anfodd ei ên, i ddanfon i Rufain am ychwaneg o gymorth. Ac yna y daeth Gloyw Caisar ei hun, yr ymherawdwr, a'i holl gadernid, i Brydain.

Yr oedd y cenhadon a ddanfonodd Plocyn i Rufain i gynnull ychwaneg o filwyr, wedi adrodd y fath chwedl arw am ddewrder y Brutaniaid, fel na wyddai Gloyw Caisar beth i wneuthur; ac arno chwant i ymddial, a chwant i aros gartref; megis anner dwymgalon yn brefu wrth weled y cigydd yn lladd ei chyntaf—anedig, ac eto heb galon i gornio y llofruddiwr. Ond yna, ar ol bod yn hir yn go bendrist, y daeth i'w gof i'r Rhufeiniaid unwaith neu ddwy ennill y maes ar eu gelynion wrth ymladd oddiar gefn yr eleffant, yr hwn sydd fwystfil hagr o faint, ac yn llwyr anghydnabyddus yn y gwledydd hyn. Ac yn wir nid oedd bosibl iddo daro ar well dychymyg; canys ar ol iddo dirio ym Mhrydain, a gosod ei filwyr, o fesur ugain neu ddeg ar hugain, ar gefn bob eleffant,—canys cynifer a hynny a all efe ddwyn yn hawdd, fe darfodd hynay y meirch rhyfel ynghyda'u marchogion, fel y bu anhrefn erchyll drwy holl lu y Brutaniaid; a'u gelynion yn hawdd a gawsant y trecha arnynt.

Cynfelyn, brenin y Brutaniaid, ar hynny, a ymostyngodd i dalu teyrnged i Rufain, sef tasc o aur ac arian bob blwyddyn; ac y mae'r arian a fathwyd y pryd hwnnw heb fyned ar goll eto, a'r ysgrifen hon fyth i'w darllen, "Tasc Cynfelyn." Ac yna, ymhen un diwrnod ar bymtheg, yr aeth Gloyw Caisar i dir ei wlad tuag adref; a choeliwch fi, nid ychydig oedd ei fost yn Rhufain o'i waith yn darostwng y Brutaniaid wrth y fath ystranc ddichellgar; ac er coffadwriaeth o hynny y bathwyd yr arian, a llun Gloyw Caisar ar y naill wyneb, ac eleffant ar y wyneb arall.

Ond nid oedd agos ddegfed ran o'r ynys wedi ymostwng eto i dalu teyrnged i Rufain; dim ond y wlad o gylch Llundain, lle yr oedd Cynfelyn yn teyrnasu; canys pan amcanodd y Rhufeiniaid ehangu eu llywodraeth tua'r gorllewin, safodd gŵr pybyr a nerthol a elwir Caradoc Freich-fras yn eu herbyn; ac yn ol yr hanes y mae'r Rhufeiniaid, er eu bod yn elynion, yn ei adrodd am dano, gŵr oedd hwnnw heb ei fath, nid yn unig am ei fedr a'i galondid mewn rhyfel, ond hefyd am ei syberwyd a'i arafwch; na chwyddo mewn hawddfyd, na llwfrhau mewn adfyd. Efe a ymgyrchodd naw mlynedd â holl gadernid Rhufain, ac a allasai ymdopi naw ereill, oni buasai ei fradychu ef gan lances ysgeler o'i wlad ei hun a elwir Curtis Finddu. Ac yn yr ysbaid hwnnw efe a ymladdodd ddeg brwydr ar hugain â'i elynion; ac, er nid o hyd â chroen cyfan, eto daeth bob amser yn ddihangol o'i fywyd, ac yn llawn anrhydedd. Ei araeth tuag at annog ei filwyr, a gosod calon ynddynt, oedd at yr ystyr hyn,—" Byddwch bybyr a nerthol, O Frutaniaid, yr ydym yn ymladd ym mhlaid yr achos goreu yn y byd; i amddiffyn ein gwlad, a'n heiddo, a'n rhyddid, rhag carnlladron a chwiwgwn. Atgofiwch wroldeb eich teidiau yn gyrru Iwl Caisar ar ffo: Caswallon, Tudur Bengoch, Gronw Gethin, Rhydderch Wynebglawr, a Madoc Benfras."

Ar ol ei fradychu i ddwylo ei elynion, fe'i dygwyd yn rhwym i Rufain, lle bu cymaint o orfoledd a llawenydd, a dawnsio a difyrrwch, o ddal Caradoc yn garcharor, a phe buasid yn gorthrechu gwlad o gewri.

Ni bu dinas Rhufain ond prin erioed lawnach o bobl na'r pryd hwnnw; nid yn unig y cyffredin bobl, ond y pendefigion, yr uchel gadbeniaid, y marchogion, a'r arglwyddi o bell ac agos, oeddent yn cyrchu yn finteioedd i gael golwg ar y gŵr a ymladdodd gyhyd o amser â holl gadernid Rhufain. Ac yno, ar ddiwrnod gosodedig, mewn eisteddfod lawn o holl oreuon Itali, a'r ymherawdwr ei hun yn bresennol, efe â gwyneb diysgog, ac â chalon ddisigl, a wnaeth araeth yn gosod allan helbulon byd, a chyfnewidiadau bywyd dyn mor deimladwy, fel y mennodd hynny gymaint ar bawb, fel prin yr oedd un yn gallu ymatal rhag wylo, a dywedyd, "Wele, ymhob gwlad y megir glew." Ynghylch blwyddyn yr Arglwydd 53 y bu hynny.

Ond er hyn oll ni laesodd calon y Brutaniaid i sefyll yn erbyn gormes y Rhufeiniaid; ond yr oeddent yn awr yn fwy llidiog nag o'r blaen i ddial arnynt am y sarhad o ddwyn Caradoc yn garcharor i Rufain. Eu pencadben ar ei ol ef a elwid Arifog, ac efe a ymladdodd â hwy lawer brwydr waedlyd, ambell waith yn cael y trecha, ac ambell waith yn colli. Ond beth a allai un genedl wneuthur chwaneg tuag at gynnal ei gwlad a'i gwir eiddo rhag treiswyr gormesol nag a wnaeth y Brutaniaid yma? Calondid, gwroldeb, a medr i drin arfau rhyfel oedd ganddynt cystal ag un genedl arall dan haul. Ond pan oedd gwŷr o newydd yn ymruthro o hyd arnynt, megis yr oedd y Rhufeiniaid yn codi gwyr o bob gwlad, a'u danfon i Brydain, pa le yr oedd bosibl iddynt ymgadw? Y mae gennym achos yn hytrach i ryfeddu pa fodd y gallasant sefyll allan gyhyd.

Ac yma dalıwn sylw ar gyfrwysdra y Rhufeiniaid i gadw craff ar y wlad a oresgynnent drwy nerth arfau; canys yr oeddent yn arferol o arllwys y wlad honno cyn llwyred ag oedd bosibl o'i rhyfelwyr, fel y gallent drwy nerth eu harfau hwy ennill gwledydd ereill, ac er cadw y wlad a oresgynnid dan law.

Nid llai nag ugain mil o Frutaniaid oedd gyda Thitus ap Fespasian yn ymladd yn erbyn Jerusalem: ac yn eu lle y danfonwyd trosodd filoedd a miloedd o bobl yr Itali, y rhai a ymwthiasant i bob man hyfryd, megis haid o gilion gwancus yn tyrru i badell o ddwfr a mêl, ac yn boddi ynddo; neu, megis cenfaint o foch gwylltion yn torri i gae o wenith; ac ar hynny yr hwsmon yn galw ei gwn ac yn eu llarpio. A thyna fel y digwyddodd hi i'r Rhufeiniaid disperod yma yn y diwedd, fel y dangosaf isod.

Canys yr oedd y rhai hyn yn gwneuthur castiau hagr â'r hen drigolion; yn eu gwatwar, ac yn eu galw wrth bob enw câs a allasai digywilydddra noeth ei ddychymygu. Os byddai tiroedd neu dai wrth fodd y Rhufeiniaid, fe orfyddai ar y perchenogion ymadael â hwynt; a'r cyffredin bobl hwythau yn gorfod gweithio'n galed o fore hyd hwyr, ac estroniaid yn cael yr elw. Ac os beiddiai neb achwyn fod hynny yn dost, fod estroniaid yn meistroli trwy drais, ac yn gwneuthur y trigolion yn gaethweision yn eu gwlad eu hunain, hwy gaent aml ffonodiau am eu cwyn, ac yn fynych eu trywanu â'r cleddyf. Ie 'roedd y Rhufeiniaid yn awr wedi myned mor ysgeler, megis nad oeddent yn edrych ar oreuon y deyrnas ond megis cwn a barbariaid, fel, ymysg ereill, y mae gennym hanes iddynt wneuthur âg arglwydd mawr a elwid Brasydoc; canys hwy a ysbeiliasant ei balas o bopeth gwerthfawr ag oedd ganddo; ac a'i arglwyddes yn ymresymu'n llariaidd â hwy am eu trais a'u cribddail, hi a gurwyd â gwiail nes ei bod yn hanner marw; a threisiwyd ei merch o flaen ei llygaid. Ac i gwblhau ar y cwbl, dygwyd delw a wnaed ar lun yr ymherawdwr, a phwy bynnag nid ymgrymai o'i blaen a'i haddoli, a osodid i farwolaeth.

Yr oedd hyn yn ddilys yn fyd tost, ac anioddefol; ac ar hynny y cyd-fwriadodd arglwyddi a phendefigion y deyrnas i ruthro arnynt a'u torri ymaith yn gwbl, hen ac ieuanc, oddiar wyneb y wlad, megis y gwelwch chwi lafurwr yn son am ddiwreiddio drain, ysgall, a mieri, rhag eu bod yn anffrwythloni y tir. Yr oedd hyn yn ddiau yn gyd—fwriad cethin ac ysgeler; ond dyna oedd eu barn hwy y pryd hwnnw.

Yn y cyfamser yr oedd holl lu y Rhufeiniaid gan mwyaf, sef eu holl ryfelwyr a'u gwŷr arfog, wedi myned i oresgyn ynys Môn. Nid oedd yr ynys honno y pryd hwnnw ond trigfa o wŷr crefyddol, a elwid y Druidion, y rhai, megis cenhedloedd ereill, oeddent yn anad un lle arall yn dewis rhodfeydd tywyll dan dderi caeadfrig i aberthu a galw ar y duwiau, megis yr oedd ynys Môn y pryd hwnnw yn llawn o ianneirch a llwyni pendewon; a hyn yw meddwl y bardd—

"Nos da i'r ynys dywell,
Ni wn oes un ynys well." [6]

Nid oedd gwŷr Môn, fel y dywedais, yn rhyfelwyr mawr y pryd hwnnw, ond cymanfa o wyr crefyddol, a hwy a dybiasant y danghosai y Rhufeiniaid barch iddynt ar y cyfrif hwnnw. Y Druidion, heb ddim arfau rhyfel, a gadwent y blaen gwedi eu gwisgo mewn gynau symudliw, capan côr taleithiog am eu pennau, a ffyn hirion purwyn yn eu dwylo; a'r gwyryfon yn dwyn lampau cwyr wedi ennyn, yn dawnsio draw ac yma drwy eu canol, yn edrych yn anferthol ac yn syn o hirbell. Fe wnaeth yr olwg o hyn yn wir ryw ychydig fraw ar y cyntaf yn llu y Rhufeiniaid, ond ar ol ergydio cawod o saethau tuag atynt, buan iawn y gwasgarwyd hwy, a'r gelynion a wnaethant laddfa echrydus yn eu mysg. Y lle y tiriodd y Rhufeinwyr ym Môn a elwir hyd heddyw Maes-hir-gâd; a'r ymladdfa uchod a fu gerllaw Porthamel, rhwng Pwll y Fuwch a Llanidan: ac y mae man gerllaw a elwir eto Pant yr Ysgraffau.

Yr oedd y fath lanasdra a hwn ar eu duwinyddion yn chwerw i'r hen Frutaniaid fwy-fwy fyth; canys ymresymu a wnaethant, "Dyma'r Rhufeiniaid, mwrddwyr a dyhirwyr ag ydynt, wedi rhuthro ar ein hoffeiriaid, a thrigolion ynys Môn, y rhai ni wnaethant erioed y niwed lleiaf iddynt; ac wele ninnau, ar ol pob amharch a thrais yn y byd, eto yn ymostwng iddynt fel diadell o ddefaid wedi eu tarfu gan ddau neu dri o gorgwn. Megis y gwnaethant hwy â nyni, felly y gwnawn ninnau â hwynt hwy. Gwell erlid arglwydd na'i ragod."—Ac ar ol hynny, megis cnud o lewod wedi torri allan o ffau, codi a wnaethant dros yr holl wlad, a dangos cyn Ileied trugaredd i'r Rhufeiniaid yn awr ag a ddangosasant hwythau i wŷr ynys Môn. Nid oedd yn awr dros wyneb yr holl wlad ond crechwenydd y Brutaniaid yn tywallt gwaed, ac ocheneidiau a gruddfan y Rhufeiniaid. Llosgwyd teml a delw'r ymherawdwr, a lladdwyd ei holl offeiriaid. Llundain, ynghyda'r trefydd o amgylch, lle'r oedd pobl Rhufain yn byw, a losgwyd yn ulw mân, ynghyda'u trigolion. Ac er nad oedd y Rhufeiniaid ddim mor anghall dynion a gadael eu trefydd heb lu digonol o filwyr i amddiffyn y trigolion, heblaw y rhai a aethai i ynys Môn, eto eu gwŷr arfog hwythau a dorwyd ymaith, megis un â chryman yn torri penneu cawn. Mor llidiog ac mor wrolwych oeddent! Ar air, ychydig llai na phedwar ugain mil o bob gradd ac oedran a gwympasant yn y lladdfa echrydus hon.

Ar hyn, wele bencadben y Rhufeiniaid, a eilw'r Cymry Sywedw Paulin, ynghyda'i wŷr arfog, yn dychwelyd o Fôn. Ac er eu dyfod, erioed ni bu eu calon, un ac arall gyda'u gilydd, mor farwaidd a diddim a'r pryd hwn. Canys prin y gallasent ddal eu harfau yn eu dwylo; y fath oedd eu dychryn. Gweled celaneddau meirw eu cydwladwyr yn gorwedd yma ac acw cyn dewed ar wyneb y meusydd a hen ddefaid yn trigo o'r pwd mewn gauaf dyfrllyd; gweled eu dinasoedd a'u caerau yn mygu dros wyneb yr holl wlad; ac yn anad dim, gweled y Brutaniaid â llu cadarn ganddynt, o leiaf bedwar cymaint a'u llu hwy,—ar air, ni fu dim rhyngddynt a diffodd, yn barod, canys toddodd calonnau y bobl wrth weled y fath ddistryw, ac aethant fel dwfr, a dilys yw na tharawsent ergyd oni buasai fod eu pencadben yn ŵr call a glew hefyd. Canys ar ei waith ef yn eu gweled yn delwi ac yn ymollwng, efe â gwyneb siriol a'u galwodd ynghyd, ac yna efe a areithiodd yn y wedd hon,—"Ha wŷr,' "eb efe, ai digalonni a wnewch rhag dadwrdd a bloeddiau y barbariaid acw? Beth yw eu llu gan mwyaf ond mynywetach ffol, y rhai a fuasai yn well syberwyd iddynt aros gartref wrth eu rhôd a'u cribau? Ac am eu gwrywaid, beth ynt ond cynifer lleban difedr i drin arfau rhyfel? Ymwrolwch, gan hynny, chwi Rufeiniaid, dychryn gwledydd, a byddwch nerthol y waith hon, a chwi a welwch y barbariaid hyn yn gelaneddau meirwon dan eich traed yn ebrwydd."

Ac ar hynny, Buddug, gwraig Brasydoc, cadbenwraig llu y Brutaniaid, canys benyw oedd ben y gâd y tro hwn, a areithiodd, gan ddywedyd," Adnabyddwch, O Frutaniaid, er fy mod i yn olynol o waed brenhinol, eto nid yw edifar gennyf, er nad wyf ond benyw, i gyd-filwrio a chwi dros yr achos cyffredin, sef i amddiffyn ein gwlad, ein hawl, a'n heiddo rhag trais anrheithwyr ysgymun, y Rhufeiniaid ysgeler acw. Dialed Duw arnynt am y cam a'r sarhad a wnaethant hwy, ni ddywedaf i myfi fy hun a'm teulu yn unig, ond i holl genedl y Brutaniaid. Am danaf fy hun y dywedaf, ni fyddaf i fyth yn gaethwraig dan eu llywodraeth, dewised y sawl a fynno; ac od oes ynnoch galonnau gwŷr, ymddygwch fel gwŷr yn awr; mi a wnaethum, ac a wnaf, fy rhan i."

Ac ar hynny ergydio a wnaethant eu saethau cyn amled a chawod o genllusg at y gelynion; ac mor hyderus oeddent i ennill y maes, a hwy y fath lu mawr anferthol o bob rhyw ac oedran, yn gymaint a bod miloedd a miloedd yn gynifer pentwr yma ac acw ar bennau'r bencydd, ac ereill mewn menni a cherbydau wedi dyfod ynghyd yn unig i weled dyfetha'r Rhufeiniaid. Mor fyrbwyll a nawswyllt oeddent!

Y Rhufeiniaid, hwy a dderbyniasant y gafod gyntaf o saethau yn ddigyffro, heb fyned allan o'u rhestr. Ond ar ol i'r Brutaniaid oeri ychydig o'u brwd ymgyrch, cydio a wnaethant eu tariannau ynghyd i ymachub rhag y saethau, a rhuthro arnynt i ymladd law—law â'u cleddyfau llym daufiniog. Nid oedd y Brutaniaid hwy yn gydnabyddus â'r fath ymgyrch a hwn law—law frig—frig, ac nid oedd ganddynt hwy ond cleddyfau unfiniog, â blaen pwl, a'i blyg tuag i fyny. Ac o achos hyn o anfantais, ond yn anad dim o herwydd eu bod blith-dra-phlith heb eu byddino yn drefnus, hwy a fathrwyd gan y gelynion, megis cringoed yn cwympo mewn tymestl. Ychydig lai na phedwar ugain mil a gwympodd y dydd du hwnnw o bob gradd ac oedran; er nid cymaint a hynny o wyr arfog, ond rhwng gwragedd, gwyryfon, a phlant, a'r werin wirion o gylch; canys mor ffyrnig oedd y Rhufeiniaid y tro hwn, fel nad arbedasant nac hen nac ieuanc, nac hyd yn oed y benywaid yn eu gruddfan, ond trywanu pawb yn ddiwahan, cynifer ag a ddaethant o fewn eu cyrraedd. A Buddug hithau, meddant hwy, o chwerwder a gofid calon a wenwynodd ei hun. O gylch blwy ddyn yr Arglwydd 62 y bu hynny.

Ar ol hyn, digon gwir, yr ehangodd llywodraeth y Rhufeiniaid, ond nid heb golli llawer o waed, ac ymladd megis am bob troedfedd, a goresgyn drwy rym y cleddyf. Bu ymladdfa waedlyd drachefn ym Môn; un arall â gwŷr Deheubarth, y rhai, fel y tystia y Rhufeinwyr, oeddent y dynion dewraf a grymusaf y pryd hwnnw o holl wŷr Prydain. Ac o gylch dwy flynedd ar bymtheg ar ol hynny, sef blwyddyn yr Arglwydd 84, y bu ymladdfa fawr a chreulon eto drachefn yn y gogledd, yn agos i gyffiniau Iscoed Celyddon, lle y cwympodd o'r Brutaniaid, os gwir a ddywed hanesion Rhufain, ddeng mil o wŷr, dan eu pencadben a elwid Aneurin Gilgoch; ond nid ychwaneg, meddant hwy, nag ynghylch pedwar cant o bobl Rhufain, ond bod amryw bendefigion a gwŷr mawr o'r nifer hwnnw.

Dyweded y neb a fyn ei ddewis chwedl, ni bu gymaint o daraw ar y Rhufeiniaid erioed ag a gawsant yma ym Mhrydain. Canys am wledydd ereill, ar ol ymladd ac ennill y maes ddwywaith neu dair, y trigolion yno a ymostyngent i geisio amodau heddwch. Ond am yr hen fechgyn, y Brutaniaid, hwy a ddewisent golli can bywyd, pe bai hynny bosibl, cyn ymostwng i fod yn gaethweision. Ac i ddywedyd y gwir goleu, yr oedd y Rhufeiniaid wedi dygn flino, ac yn edifar ganddynt, ddarfod iddynt droedio tir Prydain erioed, gan mor beryglus ac anesmwyth oedd eu bywyd. Ac yna, wrth adnabod natur a thymer y trigolion yn well, eu bod yn ddynion nad ellid fyth eu llusgo drwy foddion hagr, y cynnyg nesaf a wnaethant oedd eu harwain i gaethiwed drwy ddywedyd yn deg, a'u colwyno drwy weniaith, danteithion, a moethau da: megis heliwr yn elio abwyd i ddal cadnaw mewn magl, yr hwn a fu drech na'i holl filgwn. A choeliwch fi, mai dyfais enbyd a dichellgar oedd hon o eiddo'r Rhufeiniaid. Canys y pendefigion yno a ddechreuasant adeiladu tai gwychion, gwisgo dillad o lawnt a sidan, cadw gwleddoedd, a dilyn pob difyrrwch a maswedd. Dysgasant hefyd yr iaith Ladin, a phrin y cydnabyddid neb yn ŵr bonheddig ond yr hwn a fedrai siarad Lladin. Nid oedd hyn ddim oll ond gwisgo lifrau gweision, er hardded y tybid hynny gan y werin anghall.

Ond eto, er y cawsai y Rhufeiniaid yn ddiamau eu gwynfyd pe buasai pawb o'r deyrnas yn dirywio i'r fath fywyd masweddol, eto yr oedd rhai â golwg sur yn edrych ar y fath feddalwch llygredig. Ac ymysg ereill gŵr a elwid Gwrgan Farfdrwch a areithiodd yn y wedd hon,—"Chwi ddyledogion a goreugwyr y wlad, rhoddwch glust i ddychymyg. Y llew ar fore teg o haf a ganfu afr yn porfau ar ben craig uchel yn Arfon. O fy nghares,' ebe efe, beth a wnewch chwi yn dihoeni ar dusw o wellt mor arw ag sydd yna rhwng y creigydd? Paham, fy anwylyd, na ddeuwch i waered yma i'r dyffryn i bigo meillion a blodau gwinwydd?' Diolch i chwi, meistr,' ebe'r afr, am eich cynnyg da; ond ar hyn o dro, mi a ddewisaf i aros lle yr ydwyf.' Gwybyddwch chwithau, O bendefigion, nad yw teganau y mae y Rhufeiniaid yn eich harddu â hwynt, ddim amgen na'r meillion y mae'r llew gwancus yn gwahawdd yr afr atynt. Hyhi yn y ddameg a atebodd yn gall; mynnwn petai chwithau yn adnabod nad yw y coeg—bethau ffiloreg, yr ydych yn ymdecâu á hwynt, ddim amgen na gwenwyn wedi elio drosto â mêl. Hon ydyw'r ymgais olaf, a'r enbytaf hefyd, o eiddo'r Rhufeiniaid i'ch dwyn i gaethiwed a dywedaf yn hy wrthych, y fath fywyd masweddol a'ch dug yn ddilys i ddistryw, oddieithr i chwi adnabod eich hunain mewn pryd, megis y gwnaeth yr afr yn y ddameg.

Ond dilyn eu rhodres a fynnent hwy, ac ni chafodd Gwrgan Farfdrwch ond chwerthin am ei ben, am ei ewyllys da i'w hachub rhag myned bendramwnwgl i gaethiwed. Ac o hynny allan dros amryw flynyddoedd, y boneddigion a ymroisant i ddifyrrwch a moethau; y gwŷr ieuainc yn dwyn arfau, a gipiwyd ymaith i wledydd pellenig; a'r cyffredin bobl hwythau a osodwyd ar waith i ddiysbyddu llynnoedd, gwneuthur sarnau newyddion ar draws y wlad; neu wneuthur priddfeini i adeiladu tai gwychion idd eu meistriaid y Rhufeiniaid. O gylch deugain mlynedd y buont yn lled dangnefeddus, heb ddim terfysg nac ymyrraeth, ond yn talu teyrnged yn lled ddiddig. Ond o gylch y flwyddyn 124, pan oedd gŵr a elwid Sefer yn rheoli yma dan yr ymherawdwr Adrian, cyd-fwriadu a wnaethant dros yr holl deyrnas i ysgwyd ymaith awdurdod y Rhufeiniaid, ac i gleimio eu rhyddid a'u braint unwaith eto. Eu dirmyg ar fonheddig a gwreng a gyffrôdd y trigolion i fwrw ymaith iau eu caethiwed. A dywedir, oni buasai fod Adrian yr ymherawdwr a'i holl lu gerllaw, a hwylio trosodd yn ebrwydd yn gynorthwy cyfamserol, y torasid y Rhufeiniaid ar hyn o bryd ymaith yn gyfangwbl; ac eto, hi a fu gyfyng iawn arnynt, er mai hwynt-hwy, digon gwir, a gawsant y trecha yn y diwedd.

Ac ar hyn o bryd, wele ddychymyg arall ac ystryw o eiddo'r Rhufeiniaid i gadw tan law yr hen drigolion. Canys gwnaethant glawdd mawr o dyweirch a pholion bedwar ugain milltir o hyd, ar draws yr ynys o fôr i fôr, sef o Aber Cwnrig y naill ran o'r ynys tua'r dwyrain, hyd yn Ystrad Clwyd tua'r gorllewin, sef yn agos i gydiad Lloegr ac Is-coed Celyddon, neu Scotland, lle mae'r ynys yn gulaf drosti. Pwy bynnag ni roddai ufudddod i lywodraeth y Rhufeiniaid a yrrid allan o gyffiniau Lloegr y tu arall i'r clawdd; a milwyr yn gynifer pentwr yma ac acw ar bwys y clawdd yn gwylied' i gadw pawb allan o'r tu draw.

Dros dalm ar ol hyn y bu amser lled heddychol, megis heddwch rhwng boneddigion, oddieithr ambell wth a bonclust yn awr a phryd arall yma ac acw. Ond megis wrth gronni afon redegog, hi a erys ond odid yn llonydd ac yn dawel dros encyd; eto pan ddel llifeiriant, hi a ffrydia yn rhaiadr gwyllt dros yr ystanc, ac a dreigla ac a chwilfriwia pa beth bynnag a saif ar ei ffordd; felly y Brutaniaid hwythau, er eu bod dros amser yn lled esmwyth, eto wrth weled eu trin mor hagr, ac fel estroniaid yn eu gwlad eu hun, a gymerasant galon o newydd eto, er bod eu gwŷr dewisol, pigion a blodau ieuenctid y wlad, wedi eu cipio o drais y tu draw i'r môr, megis yr oedd y Rhufeiniaid yn arferol o wneuthur, eto yr oedd digon o ysbryd chwerw o ymddial yn brydio calonnau y gwŷr oedd gartref. Canys y gwŷr y tu draw, ni wnaethant fwy cyfrif o'r clawdd nac a wna march rhyfel i neidio dros gornant; a phreswylwyr Lloegr a Chymru hwythau y tu yma i'r clawdd, a godasant yn un a chytun dros wyneb yr holl wlad, nes ei bod hi yn amser gwaedlyd y pryd hwnnw ym Mhrydain. Cynllwyn am waed,—lladd a difetha eu gilydd drwy boenau a chreulonderau, llosgi tai a gwŷr a gwragedd a phlant o'u mewn, ar air, ymffyrnigo mewn dialedd, oedd agos yr unig beth ag oedd y Rhufeiniaid a'r Brutaniaid yn astudio arno dros amryw ac amryw flynyddoedd. Digon gwir, hwy a lonyddent dros ychydig amser, i gymeryd eu hanadl, megis dau darw gwyllt yn ymgornio, ac yn gadael heibio dros ychydig; ond yno eu llid a ffrydiai o newydd, a myned i ymdopi yn ffyrnicach nag o'r blaen.

Fe syrthiodd peth aneirif o bob gradd ac oedran, yn gystal o'r Rhufeiniaid ac o'r Brutaniaid, yn y terfysg yma, yr hwn a barhaodd dros gymaint o flynyddoedd. Dywedir i ddeng mil a deugain o sawdwyr a swyddogion Rhufain, heblaw ereill hyd wyneb y deyrnas, gael eu trywanu â chleddyf y Brutaniaid. Y gwirionedd yw hyn, yr oedd y ddwy genedl yn bengam eu gwala; ni fynnai'r naill ddim i blygu ac ymostwng; na'r llall ddim i adael heibio wedi dechreu.

Felly y newyddion nesaf sydd gennym ni am danynt yw o gylch y flwyddyn o oedran Crist 197, pryd y daeth yr ymherawdwr a elwid Sefer a llu mawr iawn ganddo trosodd i Frydain, sef agos i gan mil rhwng meirch rhyfel a gwŷr traed, gan lwyr fwriadu cwbl ddifetha cenedl y Brutaniaid oddiar wyneb y ddaear. Canys nid hwyrach ag y tiriodd, efe a roddes orchymyn idd ei sawdwyr mewn pennill allan o hen brif fardd,—

"Na edwch Fritwn yn y wlad, ond lleddwch oll i gyd!
Gwryw a benyw, mawr a bach, difrodwch oll ynghyd."

Ond er gwaetha hyn o fygwth i daro braw a'u digalonni, fe gafas ei wala o waith i ddarostwng pob man dan ei lywodraeth. Am y rhan fwyaf, digon gwir, a hwy wedi cael ond gormod prawf eisioes o ddyhirwch rhyfel, ac yn enwedig wrth ystyried nad oedd e ddim sarhad na chywilydd i'r Brutaniaid ymostwng i dalu teyrnged pan oedd yr holl fyd,—hynny yw, y rhan fwyaf o'r byd adnabyddus y pryd hwnnw,—dan awdurdod y Rhufeiniaid, ac yn eu cydnabod yn feistriaid; am hynny, meddaf, y danfonasant genadwri at yr ymherawdwr, ar fod yn wiw ganddo alw yn ol a diddymu y gorchymyn gwaedlyd a roddes efe o'r blaen idd ei filwyr, ac y byddent hwythau wedyn yn ddeiliaid ffyddlon iddo. A'r ymherawdwr yno, ar ol cael deuddeg o ben—goreuon y deyrnas yn wystlon ar iddynt gyflawni eu gair, a'u derbyniodd idd ei ffafr, ac ar hynny y gwnaethpwyd Iamodau o heddwch rhwng y ddwy genedl.

Ond er i'r rhan fwyaf o'r deyrnas gymeryd llw o ufudddod, eto yr oedd miloedd o rai cyndyn, a Merfyn Frych Wynebglawr yn bencapten arnynt, nad ymostyngent ar un cyfrif i lywodraeth pobl pellenig, er gwaetha eu holl gadernid a'u bygythion; oblegid hwy a gilient i'r anialwch a'r corsydd, lle nid allai y Rhufeiniaid ddim eu canlyn heb berygl bywyd; a phrin gellid eu newynu chwaith, oblegid fod ganddynt ryw damaid gymaint a ffaien a gadwent yn eu geneuau, a fwriai ymaith chwant bwyd. Ond o fesur ychydig ac ychydig hwy a ddofwyd, ond nid heb golli llawer o waed o bob ochr. Ond nid ymddiriedodd yr ymherawdwr fyth iddynt; canys efe a'u danfonodd hwy y tu arall i'r clawdd, yr hwn a adgyweiriodd efe o fôr i fôr, ac a'i gwnaeth yn gadarnach o lawer na'r hen glawdd, er nad oedd e eto ond o dyweirch a pholion, ac a enwir hyd heddyw Gwal Sefer; am ba un y cân hen fardd fel hyn,—

Gorug Seferus waith cain yn draws dros ynys Frydain,
Rhag gwerin gythrawl, gwawl fain."

Dyn dewr calonnog oedd Sefer, ac a gadwodd, tra bu efe yn teyrnasu, bob peth yn wastad ac yn heddychlon. Efe a fu farw flwyddyn yr Arglwydd 213 yng Nghaer Efrog; a'r geiriau diweddaf a ddywedodd efe ar ei wely angau oeddent,—"Mi a gefais yr ymherodraeth yn llawn terfysg a helbul, ond wele bob peth yn awr yn dangnefeddus, ie hyd yn oed ymysg y Brutaniaid eu hunain."

Ni bu dros amryw flynyddoedd wedyn ddim rhyfel, oddieithr ambell ergyd chwyrn, ac ambell sen chwimwth draw ac yma,—y Rhufeiniaid oedd yn awr yn feistriaid, ac odid fod gwas lifrai drwy gydol y deyrnas onid oedd yn deall ac yn siarad Lladin yn ddifai ddigon.

Yn y flwyddyn 228 y gwelwyd, ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, seren y gynffon yn estyn ei phelydr megis tân llachar, yn ofnadwy ac yn aruthrol ei ganfod; a'r haf dros dair blynedd ar ol hynny oedd mor wlybyrog, fel nad addfedodd nac ŷd na ffrwythau coed, yr hyn a barodd ddrudaniaeth, haint, a newyn; y bara oedd afiach, ac hyd y mae hanesiaeth yn mynegi, hon oedd y waith gyntaf, er digwydd yr un farnedigaeth amryw brydiau wedi hynny, o'i alw y bara chwydog; oblegid nid oedd e ddim yn dygymod â chorff dyn, ond ei chwydu allan drachefn, er fod y werin druain yn eu gwanc a'u newyn yn gorfod ei fwyta, er ei saled. Ond yng ngauaf y drydedd flwyddyn y bu durew parhaus o ganol Tachwedd i ddechreu Chwefror, a haf rhadlon tymherus ar ol hynny, yr hyn, trwy fendith Duw, a ddygodd lawndid a digonolrwydd o bob dim i'r trigolion drachefn.

Y pryd nesaf y mae dim crybwyll am helynt y Brutaniaid, sydd o gylch y flwyddyn 286, ym mha amser, gŵr a elwid Caros, yr hwn oedd o dylwyth gwael, eto yn filwr gwych a dewr, a anfonwyd o Rufain yn ben ar ddeugain o longau, i gadw ymaith y Ffrancod a'r Saeson, y rhai oeddent yn diffeithio y wlad a elwir yn awr yn Ffrainc, ond y pryd hwnnw y Gelli; canys pigladronach a gwibiaid oedd y ddwy genedl honno ar y cyntaf, megis haid o gacwn neu wenyn ormes yn ymwthio i gwch yn Ilawn o fêl. Yna Caros a ymddygodd yn wrol—wych, gan ddarostwng hyd lawr y crwydedigion ladronach hynny, ac ennill anrhaith fawr iawn oddiarnynt. Ond yn y cyfamser efe a drodd yn ben-lleidr ei hun, ac yn fradwr idd ei feistr, ymherawdwr Rhufain; canys yr holl gyfoeth yma a gadwodd efe yn ei feddiant ei hun, a rhag y gelwid ef i gyfrif am hynny, efe a lanwodd ei longau â'r ysbail ac a hwyliodd i Frydain, a thrwy ei weniaith hudol efe a enillodd galonnau'r Brutaniaid, gan wneuthur araith a dywedyd y caent hwy esmwythach byd dan ei lywodraeth ef na chan y Rhufeiniaid, ac y byddai efe yn gyfaill cywir iddynt rhag ymgyrch un gelyn pa un bynnag. Er pan gafodd efe y llywodraeth yn ei law, efe a ymddygodd yn ormeswr creulon yn hytrach nag ymgeleddwr, megis y gwelwn ni lawer bore teg o haulwen haf yn diweddu mewn dryghin. Ond eto, o ran ei fod ef yn cadw llaw dynn ar warr y Brutaniaid, ei hen feistr, Dioclesian oedd ei enw, a heddychodd âg ef, ac a gadarnhaodd ei frenhiniaeth ym Mhrydain; am ba ham y mae ar naill wyneb yr arian a fathwyd dan ei lywodraeth ef, ddwy fraich estynedig yn siglo dwylaw. Ac y mae y fath hon heb fyned ar goll eto.

Lle nid oes dim hawl dda, y mae yno yn wastad ofn. Ac felly Caros, i ddiogelu ei hunan yn y frenhiniaeth, a adeiladodd saith gastell wrth Wal Sefer, yn gynifer amddiffynfa i gadw allan y rhai oedd yn edrych arno ddim amgen na charn-leidr mewn awdurdod; ac efe a wnaeth hefyd dŷ mawr crwn o gerrig nadd ar lan Caron i gynnal llys ynddo pan y byddai efe yn y parthau hynny. o deyrnasiad gerwin a llym, efe a laddwyd yn Ond ar ol saith mlynedd fradychus gan ei swyddog ei hun, yn yr hwn yr ymddiriedodd, a elwid Alectus. A hwn hefyd a drawsfeddiannodd y wlad dair blynedd, ac yno a laddwyd gan Fran ap Llyr, yr hwn a deyrnasodd chwe inlynedd, ac yno a laddwyd gan Coel Codebog, Iarll Caerloyw; a'i fab Caradoc aeth i Wynedd, lle y claddwyd Bronwen chwaer ei dad mewn bedd petrual ar lan Alaw yn ynys Fôn; a chwedi marw Caradoc, gwnaethpwyd ei fab Eiddaf yn Rhaglaw Prydain gan Gystenyn Fawr, ei gefnder, fel y danghosaf isod.

Dyddiau blin oedd y rhai hyn; pan, pe lyma y byddai cleddyf gŵr, mwyaf i gyd fyddai ei awdurdod a'i feistrolaeth. Ond ar hynny y daeth trosodd i Frydain dduc anrhydeddus a elwid Custeint, yr hwn a fu yn emprwr yr holl fyd ei hun wedyn. Efe a ddaeth trosodd mewn amser da, canys efe a achubodd y brif ddinas Llundain rhag ei llosgi a'i hanrheithio gan y Ffrancod, y rhai yn yr anhrefn a'r afreolaeth uchod, y gwŷr mawr yn ymrannu ben ben—oeddent yn chwilenna draw ac yma am ysglyfaeth; megis pan fyddo dau waedgi yn tynnu llygaid eu gilydd am olwyth o gig, heb fod well oddiwrtho; y mae corgi taeog yn dyfod heibio, yn myned ymaith â'r golwyth, ac yn gadael y ddau golwyn i wneuthur heddwch gan eu pwyll.

Mawr oedd gorfoledd y Brutaniaid, a'u diolchgarwch i Gusteint, am eu hachub o grafangau plant annwn, y Ffrancod. Bathwyd arian yn Llundain er anrhydedd iddo, a gosodwyd ar y naill wyneb ei ddelw ef, ac ar y wyneb arall teml rhwng dau eryr, gan arwyddocau wrth hynny, mae'n debygol, fod eu braint eglwysig yn ddiogel dan ei nawdd ef; canys ei fod efe yn ffafrio y Cristnogion, ac yn gwneuthur mwy cyfrif o honynt nag o neb ereill, sydd eglur ddigon oddiwrth yr hanes nodedig hon o'i fywyd. Meddyliodd ynddo ei hun i gael profiad hollol pa un ai Cristnogion cywir ai rhagrithwyr oedd swyddogion ei lys; canys Cristnogion gan mwyaf oeddent oll. Felly efe a'u galwodd hwy oll ynghyd, ac a ddywed wrthynt mai ei ewyllys oedd y cai y sawl a aberthai i'r duwiau gadw ei fraint, ac aros yn y llys; ond y cai y sawl nad ymostyngent i hynny ymadaw o'i wasanaeth ef. Ar hynny y Cristnogion cywir, gan oblygu eu pennau, a aethant allan; ond y rhagrithwyr a arosasant gyda'r ymherawdwr, ac a ddywedasant eu bod hwy yn fodlon i aberthu. Ac yno yr ymherawdwr a barodd alw i mewn y rhai aethent allan, ac a'u gwnaeth hwy yn ben-cynghoriaid; ond efe a ymlidiodd ymaith y rhagrithwyr, gan farnu yn uniawn na fyddai y cyfryw rai ag oedd fradychus i Dduw fyth yn ddeiliaid ffyddlon iddo ef.

Erioed ni bu gŵr o Rufain mor anwyl gan y Brutaniaid a Chusteint, ac yntef a'u hoffodd hwythau o flaen un genedl arall; a phrin y gellir gwybod pwy oedd yn caru y naill y llall oreu, ai hwynt—hwy yn eu parch a'u hufudddod iddo ef, a'i yntef yn ei foesau da a'i diriondeb tuag atynt hwythau. Ac fel y sefydlid hedd—wch parhaus rhwng y ddwy genedl, ac i symud ymaith o hynny allan bob llid a chwerwder a digofaint, efe a briododd Elen, y bendefiges lanaf ac oreu ei rhinwedd dan haul, merch Coel Codebog, yn awr yn frenin Prydain, a'i wraig Stradwen, merch Cadfan ap Conan, tywysog Gwynedd; ac o'r Elen hon y ganwyd i Gusteint fab a elwir Cystenyn Fawr, y gŵr enwocaf o'r byd Cristnogol, a'r ymherawdwr cyntaf a fedyddiwyd i ffydd Iesu Grist.

Elen oedd Gristnoges wresog yn y ffydd, a chymaint yn rhagori ar ereill yn ei dyledswydd at Dduw a dyn ag oedd hi mewn anrhydedd a goruchafieth fydol. Hi aeth i Gaersalem i weled y lle y dioddefodd Crist Iesu dros bechod y byd, yn ol yr hyn a ddywed yr angel wrth y gwragedd,—"Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. Ac yno, drwy fawr ludded ac anhawsdra, hi a gadd y groes y dioddefodd Crist; canys y paganiaid a daflasent yno grug aruthrol o gerrig, o'u casineb i'r Cristnogion, ac yn y gwaelod y cafwyd tair croes; ond oblegid fod yr astell yn cynnwys y scrifen wedi torri, ac yn gorwedd o'r neilldu, croes Crist, medd yr hen hanesion, a adnabuwyd wrth fod rhinwedd ynddi i iachau clefydon. Am ba weithred y mae un o'n beirdd ni yn canu, ac yn ei galw hi Diboen,—

"Diboen, ferch Coel Codebog,
I gred a gafas y grog.'

Hi a fu farw yn llawn o ddyddiau yn bedwar ugain oed, ac a gladdwyd yng Nghaer Cystenyn. Ond Custeint yr ymherawdwr a fu farw ymhell o'i blaen hi, sef yn y flwyddyn 313, ac a gladdwyd yng Nghaerefrog, yn Lloegr. Dywedir i gael yn ei feddrod ef, yn amser Iorwerth y Chweched, lamp a gyneuodd yno yn wastadol er yr amser y claddwyd hyd y pryd hwnnw; sef dros ychwaneg na deuddeg cant o flynyddoedd. Cafwyd yr un fath lamp ym meddrod Tullia, merch Cicero yr areithydd, yr hon a gyneuodd ynghylch 1550 o flynyddoedd; ond a ddiffoddodd yn y man cyn gynted ag y daeth goleu dydd i mewn. Dychymyg odiaeth ryfeddol oedd hon o eiddo'r hen bobl i wneuthur lamp fel hyn i gynneu yn wastadol yn y tywyllwch. Tybia rhai mai aur wedi ei gyf newid i rith arian byw oedd yn pesgi'r lamp; ond pa fodd bynnag yw hynny, mae'r gelfyddyd wedi ei cholli yn awr.

Er cyn gynted ag y clybu Cystenyn Fawr yn Rhufain fod ei dad yn glaf, er meithed oedd y ffordd, eto prin y rhoddodd efe hûn i'w amrantau nes ei ddyfod i dir Prydain; ond yno yr hen ŵr oedd ar dranc marwolaeth.

Yr oedd y pryd hwnnw derfysg a gwrthryfel yn yr Eidal, am baham nid allodd Cystenyn aros ond ychydig amser ym Mhrydain ar ol claddu ei dad; ond cyn ymadael efe a drefnodd bob peth yma er cadw llonyddwch yn y deyrnas. Eiddaf ei gefnder a wnaeth efe yn ben ar Loegr gan mwyaf oll; Cenau ap Coel, ei ewythr, frawd ei fam, a apwyntiodd efe yn rhaglaw i lywodraethu Cernyw; Cunedda Wledig, ei gefnder, sef mab Gwawl, ei fodryb, chwaer ei fam, a osododd efe yn dywysog rheolwr Cymru; ac Einion Urdd, câr arall iddo, a sefydlodd efe a llawn awdurdod yn y gogledd tua chydiad Lloegr a Scotland. Ac ar hynny efe a ymadawodd, a chododd llu mawr o Frydain gydag ef i ymladd yn erbyn y rhai oeddent yn ymgeisio am y goron; eithr ar ol darostwng y gelynion, ni ddychwelodd ychydig o'r rhai hynny adref, eithr arhosodd rhai yn Rhufain, ac ereill a arosasant yn y rhan honno o Ffrainc a elwir Llydaw, a hon oedd y waith gyntaf i'r Brutaniaid fyned i breswylio yn Llydaw, sef yn y flwyddyn 313.

Cyd-dylwyth oedd yn awr gan hynny yn eistedd ar orseddfeinciau Rhufain a Phrydain; am baham ni cheisiodd Cystenyn Fawr ddim arian teyrnged o Frydain, ond rhyw gydnabyddiaeth yn unig mai efe oedd ben: yr oedd ganddo ei wala, yn ymherawdwr Ffrainc, Yspaen, Germania, Eidal, yr Aifft, Mesopotamia, Judea, Capadocia, Phrygia, Pontus, ac Asia. Ac onid oedd hyn ddigon?

Ond i ddychwelyd i Frydain. Eiddaf, wedi heneiddio, ac iddo un ferch yn unig a'i henw Elen, a chwenychai, megis gŵr call, sefydlu y goron yn ei fywyd, rhag bod ymgais am dani, a therfysg ar ol ei ddyddiau ef; a chyngor ei arglwyddi oedd ei rhoddi hi yn briod i garwr iddi a elwid Macsen Wledig, yr hwn oedd o ran ei dad yn Gymro, fab Llywelyn, brawd Coel Codebog; ond o ran ei fam yn Rhufeiniad,—canys Llywelyn a aeth gyda'i nai, Cystenyn Fawr, i Rufain ac a briododd yno,—ac a anwyd ac a fagwyd yn y llys yn Rhufain; ac o ran tad a mam o waed brenhinol, ac am hynny a farnwyd yn briod gweddus i Elen, etifeddes y goron. Yr oedd Macsen Wledig y pryd hwnnw yn Rhufain, ac, fel yr oedd gwaetha'r bod, wedi newydd syrthio allan â'r ddau ymherawdwyr, Falentinian a Grasian, am na chai yntef fod yn drydydd. Ac erioed ni bu lawenach ei galon na phan ddaeth y genadwri ato o Frydain, i gynnyg Elen merch Eiddaf yn wraig iddo, ynghyd â choron Lloegr yn waddol gyda hi.

Ond wedi priodi Elen, ni bu efe ddim yn foddlon i wisgo coron Lloegr yn unig,—a pho gwnaethai efe hynny, buasai o goffadwriaeth ddedwydd, ond efe a fynnai fod yn ben ymherawdwr y byd. Eto, i ddywedyd y gwir, nid ei ryfyg ei hun, ond cariad y milwyr ato, a'i cymhellodd ef, o'i anfodd, i wneuthur yr hyn a wnaeth; ac y mae pawb yn tystio nad oedd wr dan haul yn weddusach i fod yn ymherawdwr, pe buasai ei ditl yn dda; ac er hynny, yr oedd efe yn gâr agos i Elen Lueddawg, mam Cystenyn Fawr.

Ond pa fodd bynnag, cymaint oedd ei barch gyda goreuon y llu, fel y dewiswyd ef yn ymherawdwr, a'i gyhoeddi, nid yn unig ym Mhrydain, ond gan y llu tuhwnt i'r môr hefyd; ac yntau ar hynny, o'i led anfodd, a gymerodd ei berswadio; a rhag bod dim yn rhwystr ar ei ffordd, y fath oedd ei gariad ymhob gwlad, fel yr haerodd llu aneirif o ddewis filwyr y Brutaniaid eu bod yn llwyr fwriadu i sefyll gydag ef, ac na chai dim ond angeu fyth eu gwahanu oddiwrtho; ac yna hwylio a wnaethant i deyrnas Ffrainc.

Y ddau ymherawdwr cyfreithlon, ar hynny, sef Falentinian a Grasian, oeddent yn agos a gorphwyllo, a pheth i wneuthur ni wyddent. Ond tuag at atal eu cyrch ymhellach tua'r Eidal, gwnaethant gyngrair â barbariaid gwylltion o Sythia, y rhai a fuont o'r blaen yn anrheithio gwlad Brydain, ac a'u danfonasant trosodd âg arian ac arfau, a'u hannog i wneuthur pa ddrygau oedd bosibl, sef i ladd, llosgi, a dinistrio hyd ddim y gallent; gan hyderu y dychwelai Macsen ar hynny i Frydain, i achub ei deyrnas ei hun. A phwy allai ddisgwyl llai? Megis haid o frain yn myned allan o'u nythod i chwiliena ac i gipio'r hâd oddiar wyneb y maes; ond digwydd cafod disymwth o gesair, yna hwy a ehedant ar frys i achub eu cywion gartref. Ond Macsen yn awr, wedi ymgaledu yn ei ddrwg, oedd a'i lygaid ar bethau uwch nag achub ei wlad ei hun rhag y Ffictiaid gormesol,—canys dyna oedd enw y bobl a ddaethant o Sythia,—felly efe a'i wŷr ymlaen yr aethant tua'r Eidal; a phan oedd Grasian, gŵr ieuanc grasol o gylch pum mlwydd ar hugain oed, yn brysio adref i ymweled â'i briod newydd-weddawg, ac efe yn rhydio afon yn ei gerbyd, a syrthiodd i gynllwyn Anarawd Gethin, un o uchel-gapteniaid Macsen, ac a laddwyd; a Falentinian ei frawd, rhag y trinid yntef yn yr un modd, a giliodd ar encil ymhell i Asia tua'r dwyrain.

Wedi bod cyhyd mor llwyddiannus yn eu gwrthryfel, y newydd nesaf, fe all dyn dybied, a fyddai coroni Macsen Wledig yn ymherawdwr, oblegid yn awr fod y ffordd yn rhydd. Ond yma y gwiriwyd yr hen ddiareb, mai drwg y ceidw y diafl ei was; canys, pa un ai ofni y dychwelai Falentinian a llu cadarn o Asia, a bod eu cydwybod yn eu brathu oddimewn; ai hynny, ai beth bynnag oedd yr achos, efe a laddwyd gan ei wŷr ei hun, ynghydag Owen Fin-ddu ei fab. Ac Anarawd Gethin ar hynny a syrthiodd i bwll ar ei ben, yn yr un man ag y cyfododd efe gynllwyn am waed gwirion y gŵr da hwnnw, Grasian. Ac yno holl lu Macsen a wasgarwyd draw ac yma hyd wyneb y gwledydd; ond y rhan fwyaf, ynghyd â'u pen-cadben Conan, arglwydd Meiriadoc, a arosasant gyda'u cydwladwyr yn Llydaw; a hon oedd yr ail waith i'r Brutaniaid wladychu yno, sef o gylch y flwyddyn 383.

Conan ni fynnai ymgyfathrachu â neb ond â'i genedl ei hun; am hynny efe a anfonodd i Frydain am wragedd; a danfonwyd iddo un fil ar ddeg, rhwng merched gwŷr cyfrifol ac ereill o isel radd. Ac fel yr oeddent yn hwylio tua Llydaw, y cyfododd tymest] ddirfawr, fel y boddodd tair o'r llongau; ond y deuddeg diangol a yrrwyd gan gynddeiriogrwydd y gwynt i barthau Llychllyn, ac a ddaliwyd gan y Ffictiaid. Ac yno, ebe'r cronicl, gwedi canfod o'r ysgymun bobl y morwynion, hwy a'u lladdasant. Yr ydys yn cadw dydd gwyl er coffadwriaeth i'r gwyryfon hynny, Hydref 21, ac a elwir Gwyl Seintesau. Ac y mae eglwys yng Ngheredigion a elwir Llan Gwyryfon, a gyfenwyd felly ar ei chysegriad er cof am danynt. Dywedir i Frutaniaid Llydaw ar ol hynny gymeryd merched y wlad honno yn wragedd iddynt; a phan enid plentyn, os gwir yw'r chwedl, pob un yno a dorrai dafod ei wraig, rhag y buasai hi yn difwyno'r iaith, ac yn dysgu i'r plant siarad llediaith.

Nid oedd o gylch yr amser yma yn nhir Brydain ddim ond yr anhrefn mwyaf. Cyhoeddid gŵr yn ymherawdwr heddyw, a thorrid ei ben ef drannoeth i roddi lle i ryw un arall; a chai hwnnw hefyd o fewn ychydig ddyddiau yr un dienyddiad; nid gwiw gosod lawr eu henwau; eto un o honynt, yr hwn oedd yn ddilys o waed brenhinol y Brutaniaid, a haeddai ei goffau, ac a elwid Cystenyn. Heb-law ei hawl i'r goron, dewiswyd ef hefyd er mwyn ei enw, gan obeithio y byddai cyn enwoced gŵr a Chystenyn Fawr, ei gâr. Rhyfelwr enwog oedd y gŵr, ac mor llwyddiannus, fel y bu Ffrainc ac Yspaen a Phrydain dan ei lywodraeth ef dros amryw flynyddau; ac ni bu ond lled troed rhyngddo a bod yn ben ymherawdwr byd, a'i goroni yn yr Eidal. Ond, yng nghanol ei rodres, efe a laddwyd drwy frad a chynllwyn, a'i wŷr a wasgarwyd, ond y rhan fwyaf a arosasant gyda'u cydwladwyr yn Llydaw; a hon oedd y drydedd waith i'r Brutaniaid adael llwyth o'u pobl yno, sef o gylch y flwyddyn 409.

Parodd y fath afreolaeth a hyn, a hynny yn ddibaid dros amryw flynyddau, i holl ymherodraeth Rhufain siglo ac ymollwng, megis Ilong fawr yn ymddatod pan fyddo'r tonnau a gwynt gwrthwynebus yn ei chipio; neu megis maes llydan o wenith yn cael ei sathru a'i rwygo gan genfaint o foch, oni bydd cae diogel o'i gylch. Felly Rhufain a'i holl gadernid a aeth, o fesur ychydig ac ychydig, yn chwilfriw mân, o ran yr aml ymbleidiau o'i mewn, ac ymgyrch y barbariaid o amgylch. Ac megis na all neuadd fawr eang o amryw ystafelloedd amgen nag adfeilio, pan y byddo deiliaid gwan yn byw ynddi, felly yr un modd, pan oedd y milwyr mor afreolus, ac yn newid eu meistr mor fynych, hynny yw, yn gosod y sawl a welent hwy fod yn dda fod yn ymherawdwr, ac ar yr ymryson lleiaf yn ei ddiswyddo eilwaith, nid rhyfedd na allai un penrheolwr yn y fath achos gadw cynifer o wledydd mewn ufudddod. Hyn a barodd i'r ymherawdwr Honorius, o gylch y flwyddyn 410, ymwrthod â'r deyrnas hon, a danfon am ei fyddinoedd adref i'r Eidal, lle'r oedd mwy rhaid wrthynt. Dyma ddechreuad yr aur a'r arian yr ydys yn eu cloddio o'r ddaear mewn amryw fannau; canys ar waith yr ymherawdwr yn galw am danynt adref ar frys, y Rhufeiniaid a guddiasant eu trysorau mewn tyllau ac ogofeydd yn y ddaear, gan obeithio y caent hwy oedfa i'w meddiannu ryw bryd arall, ond hynny ni chawsant byth.

Yr oedd Prydain Fawr, ar hyn o bryd, wedi ei harllwys yn gwbl o'i gwyr arfog, a hynny a barodd i'r gwibiaid treigl hynny, y Ffictiaid, fod mor llwyddiannus yn eu lledrad a'u gwaith yn anrheithio'r wlad hon wedi hynny; ond eto arhosodd yma filoedd o bobl Rhufain, y rhai oeddent wedi ymgyfathrachu â'r hen drigolion, ac felly wedi myned yn un genedl. Erbyn hyn mae'n amlwg ein bod ni, gweddillion yr hen Frutaniaid, yn bobl gymysg o Wyddelod, Groegiaid, a Rhufeiniaid.

PENNOD III.

Y Rhyfel rhwng y Brutaniaid a'r Brithwyr.

NID yw'r dysgedig ddim wedi cwbl gytuno arno oblegid cyff-genedl neu âch pobl y Ffictiaid, y rhai a alwid felly, o'r gair Lladin Picti, am eu bod yn britho eu crwyn âg amryw luniau, yn enwedig â math o liw glâs. Ond eu henw yn Gymraeg yn ddilys ddigon yw y Brithwyr; ac felly y galwaf i hwy yn yr ymadrodd a ganlyn.

Tybia rhai gwŷr diweddar mai Brutaniaid gwylltion anfoesol oeddent; neu yn hytrach y cyfryw rai dewrion, y tu hwnt i Wal Sefer yn y gogledd, nad ymostyngent ar un cyfrif dan iau y Rhufeiniaid, a bod yn gaethweision dan eu llywodraeth. Ond yn ol yr hen hanesion, pobl grwydredig bellenig oeddent o Sythia, y rhai a diriasant o gylch y flwyddyn 75 ym Mhrydain, dan Rodri, eu pen-capten, wedi eu gyrru gan y newyn o'u gwlad eu hun. Ac am y mynnai Rhodri a'i wŷr aros yma heb ofyn cennad, heb ddangos dim cydnabyddiaeth, na thâl, na diolch, yno Meuric, un o frenhinoedd y Brutaniaid, a alwodd ynghyd ei lu i wybod beth a allai nerth arfau wneuthur. Ac ar yr ymgyrch cyntaf, pan oedd y fyddin flaen yn dwys ergydio eu saethau, Rhodri a laddwyd ynghyd â hanner ei lu; ac er coffadwriaeth o hynny o oes bwygilydd, y parodd Meuric brenin y Brutaniaid argraffu ar lech y ddau air hyn,—"Buddugoliaeth Meuric" Ar hynny y deisyfodd hanner arall y llu amodau heddwch gan y Brutaniaid; ac ar eu gwaith yn taflu i lawr eu harfau ac yn ymostwng, y caniataodd y brenin eu hoedl iddynt, ac a adawodd iddynt gyfaneddu mewn cwr o Scotland, neu Iscoed Celyddon, ymhell tua'r gogledd. Ac yn gymaint nad oedd deilwng gan y Brutaniaid roddi eu merched hwy yn wragedd i'r fath ddynion treigl a'r rhai hynny, yr aeth y Brithwyr hyd yr Iwerddon, ac a gymerasant y Gwyddelesau yn wragedd iddynt; ac o'r cyfathrach hwnnw y tyfodd y fath gyfeillgarwch rhwng y Brithwyr a'r Gwyddelod fel y buont yn wastadol megis elin ac arddwrn fyth wedyn. Ac y mae eu hepil, hyd y dydd heddyw yn siarad Gwyddelaeg. yn byw eto o Prydain Fawr tuag eithaf gwr y gogledd.

Y bobl hyn oeddent fyth yn cynnal yr hen ddefod o fritho eu crwyn âg amryw luniau adar, seirff, a bwystfilod,—dyna oedd eu gwychder hwy—ac o achos hynny a gyfenwyd y Picti, neu y Brithwyr; megis y mae llaweroedd o bobl yr India fyth yn ymdecâu. Heblaw fod yr hen hanesion, ac amryw hefyd o'n pen—ddysgedigion diweddar, yn maentumio mai pobl dreigl o bell oedd y Brithwyr, mi a feddyliais o hyd mai pobl bellenig oeddent wrth y ddefod nodedig hon yn eu chwareuyddiaeth sydd ganddynt mewn amryw fannau o Gymru, yn enwedig ar lan Teifi, yn Neheubarth. Canys yn y gamp, y maent yn ymrannu yn ddwy blaid, dan enw Brithwyr ac Henwyr, y naill yn erbyn y llall. Yr Henwyr yw yr holl rai o'r pedwar enw cynefin, Ifan, Dafydd, Sion, a Siencyn; a'r Brithwyr yw pawb yn ddiwahan o un enw arall pa un bynnag; ac fynychaf y mae'r Henwyr, er ond o bedwar enw, yn ennill y maes. Yn awr wrth Henwyr y meddylir yn ddilys yr hen drigolion cyntaf; ac felly y Brithwyr yn estroniaid a phobl ddyfod.

Gan hynny, o gylch y flwyddyn 75 y tiriodd y Brithwyr gyntaf ym Mhrydain, y rhai, er iddynt gyfathrachu â'r Gwyddelod, a gadwasant er hynny yn bobl wahan dros rai cannoedd o flynyddoedd; ac ni wyddys eto yn ddilys ddigon pa un ai eu lladd a gawsant mewn rhyfel, neu fyned yn un bobl â'r Gwyddelod a wnaethant yn y diwedd; canys nid oes son am danynt mewn hanesion er ys wyth cant a hanner o flynyddoedd a aethant heibio.

Hyd y gwyddom ni amgen, fe allasai y rhai hyn fod yn bobl led brydferth a llonydd ar y cyntaf; canys nid oes dim hanes am ddim afreolaeth a therfysg a wnaethant dros agos i dri chant o flynyddoedd ar ol iddynt gael cennad i wladychu yma. Megis aderyn gwyllt pan dorrer ei esgyll, a fydd yn dychlamu ac yn selgyngian o gylch y ty gydag un dof,—ond pan dyfant drachefn, efe a ddengys o ba anian y mae, felly y Brithwyr, hwythau, ar ol iddynt ymgryfhau, ond yn enwedigol, ar ol iddynt gyfeillachu â'r Saeson a'r Ffrancod,—pobl ag oedd yn byw ar ledrad ac anrhaith y pryd hwnnw,—rhuthro a wnaethant ar eu hen feistriaid, y Brutaniaid, a'u llarpio mor ddidrugaredd ag y llarpia haid o eryrod ddiadell o ŵyn. Ond nid oedd hyn ond ar ddamwain, pan y byddai cyfle, a llu y Brutaniaid ar wasgar, neu yn bell oddiwrthynt; ond cyn gynted y clywent drwst y saethyddion, hwy a gilient o nerth traed i'r mynydddir a'r diffeithwch, y tu hwnt i Wal Sefer; megis corgi yn ymddantu â march rhyngeg, os digwydd iddo gael cernod, yna efe a brysura yn llaes ei gynffon tuag adref.

Chwi a glywsoch yn y bennod o'r blaen modd y cododd gan mwyaf holl lu o ieuenctyd y Brutaniaid gyda Macsen Wledig tuag at ei wneuthur yn ben ymherawdwr y byd; ac hefyd fel y darfu i Falentinian a Grasian roddi llongau, arfau, ac arian i bobl Sythia, a'u danfon i Frydain, a'u hannog i wneuthur pa ddrygau oedd bosibl, gan hyderu y dychwelai Macsen Wledig ar hynny adref i achub ei wlad ei hun; ac er eu bod yn Ilu cadarn o honynt eu hunain, eto, rhag na buasai hynny ddigon, gwahoddasant y Saeson a'r Ffrancod i fod yn gynhorthwy iddynt, fel y gallent, os byddai bosibl, lwyr ddifetha cenedl y Brutaniaid, a rhannu'r wlad rhyngddynt. Yn awr, dyma'r amser, sef o gylch y flwyddyn 386, ac o hynny allan, y teimlodd ein hynafiaid hyd adref bwys digofaint y Goruchaf am eu haniolchgarwch yn ei erbyn. Canys dyna bedair cenedl ysgymun a ffyrnig,—y Saeson, y Ffrancod, y Brithwyr, a'r Gwyddelod,—wedi cyfrinachu i dywallt gwaed a difrodi, digrifwch y rhai oedd poenydio, rhwygo, a llosgi dynion, a chyn belled o ddim tosturi a theimlad fel mai'r gerdd felusaf ganddynt a fyddai clywed ocheneidiau a griddfan y lladdedig. Eu bwâu a ddrylliodd ein gwŷr ieuainc, wrth ffrwyth bru ni thosturiasant, eu llygaid nid eiriachasant y rhai bach. Pan oedd pedair cenedl anhrugarog, wedi eu meithrin i dywallt gwaed o'u mebyd, yn ymryson pwy fyddai gieiddiaf i boenydio dynion, megis pedair arthes wancus yn ymgyfrannu wrth ddifa carw, pa dafod a all fynegi y galanasdra a wnaethant, ond yn anad dim pan nad oedd yn y wlad ond prin ŵr wedi ei adael i daro ergyd yn eu herbyn! Y dinasoedd caerog yn wir a ymgadwasant heb nemawr o daraw, ond y mân drefydd oeddynt megis cynifer goddaith yn fflamio hyd entrych awyr, a'r trigolion druain yn rhostio'n fyw yn eu canol; tra'r oedd y Brithwyr, hwythau a'u cyfeillion, plant annwn, yn agor eu safnau cythreulig o grechwen.

Yn y cyfamser, nid oedd Macsen Wledig ddim yn anhysbys o gyflwr gresynol ei wlad; ac er cynddrwg dyn y bernir ef gan rai, eto ar hyn o bryd efe a ddanfonodd trosodd ddwy leng, hynny ydyw, o gylch pedair mil ar ddeg; ac fe allasai hebgor hynny yn hawdd ar hyn o dro; canys yr oedd efe eto yn Ffrainc, a'r holl deyrnas honno a'i chyffiniau wedi ymddarostwng dan ei lywodraeth. Erioed ni bu llu o wŷr arfog mor gymeradwy a phan diriodd y llu hwn yn gymorth cyfamserol i'r Brutaniaid. Y gelynion oeddent o leiaf dri chymaint o nifer, ac ar hyn o bryd wedi gwasgaru yn finteioedd o fesur pedwar neu bum cant ynghyd dros wyneb y deyrnas; a chyn cael oedfa na chyfle i ddyfod ynghyd yn gryno, y rhai o gylch Kent, Llundain a chanol Lloegr a gwympwyd bob yn fintai agos i gyd; ond y rhai o gylch Cymru ac yn agos i lan y môr a ddiangasant yn eu coryglau i'r Iwerddon.

Eisieu rhagweled pethau mewn amser a fu'n dramgwydd i filoedd; ac yn nyddiau disglaer. i esgeuluso parotoi rhag dryghin, yw rhan yr ynfyd. Ac felly ar hyn o bryd, ar ol cael y trechaf ar eu gelynion, nid oedd yr hen Frutaniaid ysmala yn pryderu rhag un ymgyrch arall; ond diswyddo eu milwyr a wnaethant, megis pe na buasai dim rhaid wrthynt mwyach. Nid oes yn wir ddim hanes neillduol, oblegid pa ddrygau a wnaeth y Brithwyr a'u cyfeillion dros rai blynyddau ar ol eu herlid y waith hon, oddieithr eu bod yn lladrata gyrr o dda a defaid, a llosgi ambell bentref yn awr a phryd arall, ac yno chwipyn ar gerdded: megis barcut ar gip yn dwyn cyw, ac yna myned ymaith gynted ag y gallo. Ond pan gydnabu y Brithwyr fod y Brutaniaid wedi gadael eu cleddyfau i rydu, a phob math o hurtrwydd wedi eu perchenogi, megis rhai yn dylyfu gên rhwng cysgu a pheidio, yno danfon a wnaethant at eu hen gyfeillion, y Ffrancod a'r Saeson, a'n gwahodd trosodd i wneuthur pen ar bobl ddidoreth a musgrell nad oeddent dda i ddim ond i dwymno eu crimpau wrth bentan ac ymlenwi.

Y Brutaniaid yn ddilys ddiameu, ar hyn o amser, oeddent wedi dirywio yn hagr oddiwrth eu gwroldeb gynt; canys yna, ar waith y Brithwyr a'u cyfeillion yn rhuthro arnynt, nid oedd calon yn neb i sefyll yn eu herbyn, mwy nag a all crug o ddail ar ben twyn sefyll yn erbyn gwth o wynt. Er lleied o wyr arfog oedd y pryd hwnnw ym Mhrydain, eto pe buasent yn galw ar Dduw am ei gymorth, ac yn ymwroli, byth ni fuasai y fath dreigl ladronach ag oedd eu gelynion yn awr yn eu sathru mor ddi-daro, ac heb godi llaw yn eu herbyn. Ond hwynt-hwy, digalonni a wnaethant, ac yn lle arfogi eu hieuenctid a'u hannog i hogi eu cleddyfau, a anfonasant lythyr cwynfannus at eu hen feistriaid y Rhufeiniaid, yn taer ymbil am gymorth i yrru y barbariaid allan o'u gwlad. Prin y gallasent ddisgwyl y fath ffafr y pryd hwnnw, am fod mwy na gwaith gan y Rhufeiniaid gartref, ac hefyd yn eu cof yn ddigon da wrthryfel Macsen Wledig, eto yr ymherawdwr a dosturiodd wrthynt, ac a ddanfonodd leng o wŷr dewisol, hynny yw, o gylch saith mil, neu, medd ereill, 6,666. Hwyn gynted ag y tiriasant, y chwedl a aeth allan, a chwedl a gynydda fel caseg eira, fod yma bum lleng wedi dyfod, ac ar hynny y Brithwyr, y rhai oeddynt yn anrheithio canol y wlad, a ffoisant y tu hwnt i Wal Sefer i'r anialwch ac i'r Iwerddon; ond y rhai o gylch Llundain a glan Tafwysc a wanwyd â chleddyf y Rhufeiniaid. O gylch oedran Crist 418 y bu hynny.

Ac yno y Rhufeiniaid, fel cynghorwyr da yn hysbysu pethau buddiol er diogelwch y deyrnas, a anogasant y Brutaniaid i adgyweirio bylchau ac adwyau Gwal Sefer, gan hyderu y byddai hynny yn beth rhwystr ar ffordd eu gelynion ciaidd rhag eu merthyru; ac yn ddiameu hi fuasai yn amddiffynfa gadarn, pe ei gwnaethid fel gwal caer o galch a cherrig; ond nid oedd hon ddim ond gwal bridd o fôr i fôr, ac ambell dŵr neu gastell yma ac acw, ac felly ond ychydig lesad i'r hen Frutaniaid rhag rhuthrau eu gelynion; canys prin oedd y Rhufeiniaid wedi dychwelyd adref i'r Eidal, ond wele y Brithwyr ynghyd a'r Gwyddelod yn tirio drachefn o'u coryglau yn aberoedd y gogledd o'r Iwerddon, ac yn difrodi y waith hon, pe byddai bosibl, yn fwy llidus nag o'r blaen. Torasant fylchau yn y clawdd, lladdasant y ceidwaid, llosgasant y trefydd, bwytasant yr anifeiliaid, ond odid yn amrwd, yn eu gwanc a'u cythlwng, megis pan fod cnud o fleiddiaid, wedi eu gyrru'n gynddeiriog gan newyn, yn rhuthro i ddiadell o ddefaid, yno pa lanasdra a fydd ymysg y werin wirion honno! A'r hon a fo mor ddedwydd a dianc fydd a'i chalon o hyd yn ysboncio, ac yn tybied fod blaidd ar ei gwarr, os bydd ond dalen yn cyffro mewn perth. Felly y Brithwyr hwythau, y rhai ebe Gildas, oeddynt ddynion blewog, cethin ac ofnadwy, a go debyg i Nebuchadnezar ar ol ei droi ar lun anifail,—oeddent genhedlaeth anrhugarog a chreulon, digrifwch y rhai oedd lladd a difetha, megis y teimlodd y Brutaniaid y waith hon ac amryw brydiau ereill hyd adref; a'r rhai a ddiangasant i ogfeydd a'r anialwch oeddent o hyd yn eu hofn, rhag i'r Brithwyr ddyfod am eu pennau, a'u taro, bob mab gwraig, yn ei dalcen, yn ddisymwth. Nid oes dim crybwyll fod y Ffrancod a'r Saeson y waith hon gyda'u hen gyfeillion; mae'n debygol mai arnynt hwy y disgynnodd dyrnod y Rhufeiniaid drymaf, gan eu bod hwy yn cadw tua'r dwyrain, y lle y tiriasant gyntaf, o gylch Kent a glan Tafwysc.

Y fath oedd llaithder a meddalwch y Brutaniaid o hyd fel y goddefasant eu herlid i dyllau, a newynu, yn hytrach na chymeryd calon ac ymwroli. Ond ar hynny y penaethiaid a ymgyfarfuont, ac er dewis chwedl neb, nid oedd dim i wneuthur ond danfon cenadwri eto at eu hen feistriaid i Rufain i ddeisyf cymorth, a chynnyg y wlad dan eu llywodraeth; sef oedd enwau y gwŷr a anfonwyd, Peryf ap Cadifor, a Gronw Ddu ap Einion Lygliw. Prin iawn yn wir y gallasent ddisgwyl cael eu neges y tro hwn yn anad un pryd arall, gan fod y Rhufeiniaid a'u dwylaw yn llawn gartref, a'r ffordd yn faith i ynys Brydain; eto, trwy fawr ymbil, tycio a wnaethant, a chawsant leng o wŷr arfog i fyned gyda hwy drachefn i dir eu gwlad. A chwedi cael y fath gefn, y Brutaniaid yno a ymchwelasant ar eu gelynion, a thrwy borth y Rhufeiniaid, a wnaethant laddfa gethin yn eu mysg; ond Dyfodoc, pen y gâd, a ddiangodd, ynghyda dwy fil a phum cant o wŷr gydag ef i'r Iwerddon. O gylch y flwyddyn o oedran Crist 420 y bu hyn.

Y mae'n ddilys fod y Brutaniaid ar hyn o amser yn weinion eu gwala, pan y gallasai un lleng fod er cymaint o wasanaeth iddynt; a'r achosion o hynny ynt,—1. Am fod y Rhufeiniaid, o amser bwygilydd tra fuont yn rheoli yma, yn arllwys y deyrnas o'i gwŷr ieuanc, ac yn eu cipio y tu draw i'r môr i ymladd trostynt mewn gwledydd pellenig. 2. Am i'r rhan fwyaf o'r ieuenctid a gwŷr arfog, y rhai a adawyd yn y wlad, fyned ar ol Macsen Wledig i Ffrainc a'r Eidal, y rhai ni ddychwelasant fyth i Frydain; megis yr aeth llu mawr hefyd gyda Chystenyn, gan fwriadu ei wneuthur yntef yn ymherawdwr, fel y darllenasoch eisus. 3. Am fod y ieuenctid ag oedd y pryd hwn ym Mhrydain heb eu haddysgu i ryfela, ac ni wna gŵr dewr heb fedr ond milwr trwsgl. Dyma paham yr oedd y Brutaniaid mor llesg ar hyn o bryd, y rhai, oddieithr hynny, oeddent mor fedrus i drin arfau rhyfel, ac hefyd mor galonnog ag ond odid A hynod un genedl arall dan wyneb yr haul. yw'r enw y mae Harri'r Ail, brenin Lloegr, yn adrodd am danynt mewn llythyr a ddanfonodd efe at Emanuel, ymherawdwr Caercystenyn. "Y mae," ebe fe, o fewn cwr o ynys Brydain, bobl a elwir y Cymry, y rhai sy mor galonnog i amddiffyn eu hawl a braint eu gwlad, megis ag y beiddient yn hyderus ddigon, ymladd law-law, heb ddim ond y dwrn moel, a gwŷr arfog a Ond i ddygwaewffon, a tharian, a chleddyf." Ond i ddychwelyd. Nid oedd bosibl i'r Rhufeiniaid gymeryd y fath ymdeithiau peryglus hirfaith cyn fynyched ag y byddai eu rhaid wrthynt ym Mhrydain; felly hwy a gynghorasant benaethiaid a chyffredin i fod yn wrol a chalonnog i amddiffyn eu gwlad rhag gwibiaid disperod, nad oeddent mewn un modd yn drech na hwy, pe bwrient ymaith eu musgrellni a'u meddalwch; ac yno, heblaw addysgu eu hieuenctid y ffordd i ryfela a byddino llu yn drefnus, yn lle yr hen wal bridd, rhoisant fenthyg eu dwylo yn gariadus i'r trigolion tuag at wneuthur gwal gerrig deuddeg troedfedd o uchder a wyth o led, ac a adeiladasant amryw gestyll, ychwaneg nag oedd o'r blaen. Yr oedd cymaint o dir rhwng un castell a'r llall ag y clywid cloch o un bwy-gilydd; eu hamcan yn hynny o beth oedd, os y gelynion a diriai, i ganu cloch y castell a fyddai nesaf at y porthladd, fel y clywsai yr un nesaf ato ynte, ac i hwnnw ddeffroi un arall; ac felly o'r naill i'r llall fyned y newydd ar unwaith drwy'r holl wlad i'w rhybuddio i barotoi yn erbyn y gelynion. Ac ar ol gorffen pob peth, y danfonwyd gwys i holl randiroedd Cymru a Lloegr i erchi y pendefigion i Lundain rai dyddiau cyn ymadawiad y Rhufeiniaid adref; a gwedi eu dyfod, Cuhelyn, yr archesgob, a bregethodd yn y wedd hon,—

"Arglwyddi," eb efe, "archwyd i mi bregethu i chwi; ys mwy i'm cymhellir i wylo nac i bregethu, rhag truaned yr amddifadrwydd a ddamwaeniodd i chwi, gwedi yspeilio o Facsen Wledig ynys Brydain o'i marchogion a'i hymladdwyr. Ac a ddiengys o honoch chwi, pobl anghyfrwys ydych ar ymladd, namyn ych bod yn arferedig i ddiwyllio daear yn fwy nag yn dysgu ymladd. A phan ddaeth ych gelynion am ych pennau, ych cymhellasant ar ffo, megis defaid heb fugail arnynt, gan na fynasoch ddysgu ymladd. Ac wrth hynny, pa hyd y ceisiwch bod gwŷr Rhufain yn un â chwi, ac ydd ymddiriedwch ynddynt rhag yr estron genedl ni bo dewrach na chwi, pei ni adech i lesgedd i'ch gorfod? Adnabyddwch bod gwŷr Rhufain yn blino rhagoch, a bod yn edifar ganthynt y gyfnifer hynt a gymerasant ar fôr ac ar dir drosoch maent yn dewis yn wastad yn ymladd; ac y maddeu eu teyrnged i'wch weithian, rhag dioddef llafur cyfryw a hwnnw drosoch bellach. Pei byddech chwi yr amser y bu y marchogion yn Ynys Brydain, beth a debygech chwi, a ffoai dynol anian o wrthych? Ni thebygaf i golli o 'honynt eu dynol anian er hynny. Ac wrth hynny gwnewch megis y dyly dynion wneuthur; gelwch ar Grist, hyd pan roddo efe lewder iwch a rhydd—did." Ac yno brysio a wnaeth y Rhufeiniaid tuag adref i'r Eidal, a dywedasant wrth y Brutaniaid i ymwroli os mynnent; ac onide, arnynt hwy y disgynnai pwys y gofid, canys ni wrandewid eu cwyn mwyach yn Rhufain.

Dros o gylch tair blynedd y bu tawelwch yn y deyrnas ar ol hyn; canys rhwng bod y Brutaniaid ryw ychydig ar eu disgwylfa, a'u llygaid yn neffro; a rhag ofn fod gwŷr Rufain wedi cymeryd y wlad dan eu hymgeledd, y Gwyddel gyflachawg, a'r Brithwr blewog yntef, a arosasant yn llonydd yn yr Iwerddon, a'r ynysoedd o amgylch. Ond ymhen ychydig amser, sef o bob tu'r flwyddyn 425, y tiriasant drachefn yn Ynys Fôn; a'r Saeson hwythau, megis cynifer barcutan yn gwibio am ysglyfaeth, a heidiasant o gylch yr un pryd oddeutu Kent a'r wlad oddiamgylch; a rhwng y naill a'r llall y mae'n hawdd i undyn farnu pa gyflafan a thywallt gwaed oedd agos dros wyneb y deyrnas, ond yn anad un lle tua Llundain a Gwynedd. Yr oedd gwaith y barbariaid hyn yn difrodi, yn ddilys yn farnedigaeth drom; ond drwg fuchedd yr hen Frutaniaid a haeddai chwaneg eto. Canys o gylch yr amser hwn y tramwyodd i Frydain heresi Morgan, nid ganddo ef ei hun, oblegid ei fod efe y pryd yma tua Chaersalem, ond gan rai o'i ddisgyblion; a hi a bregethwyd yn ddirgel mewn teios, ac a ddadymchwelodd ffydd aneirif o'r werin anwastad, y rhai ni sefydlwyd yn egwyddorion crefydd. Ergyd ei athrawiaeth oedd gan i Iesu Grist foddloni cyfiawnder Duw dros bechod dyn, y gallai pob Cristion foddhau Duw, a bod yn gadwedig, heb nerth ei ras ef. Ac yma, mae'n debygol nad oedd Brutaniaid yr oes honno ddim hyddyscach yn yr Ysgrythyrau nag oeddent i drin arfau rhyfel. Canys fel ag y danfonasant o'r blaen i'r Eidal am borth yn erbyn eu gelynion, y Brithwyr, felly hefyd yn awr yr anfonasant at eu cymydogion yn Ffrainc i ddeisyf cymorth eu gwŷr dysgedig i wrthbrofi heresi Morgan. Ac ar hynny y daeth trosodd ddau esgob rhagorol, sef Garmon a Lupus, y rhai, drwy awdurdod yr Ysgrythyr, tystiolaeth y brif eglwys, a chadarn resymau duwinyddiaeth, a amddiffynasant mor wrol y ffydd gatholig, fel y cydnabu pawb fod Duw gyda hwy, er cywilydd a gwarth i'r gwrthwynebwyr, a chysur tra mawr i'r iawn-ffyddiog.

Ond y gelynion, y Brithwyr, y Gwyddelod, a'r Saeson, oedd o hyd yn y wlad yn difa ac yn difrodi mewn rhyw gwr neu gilydd yn wastadol. Yr oedd câd ar faes gan y Brutaniaid hwythau, eto yn ofnus a meddal galon, yr hyn pan gydnabu y ddau esgob, Garmon a Lupus, hwy a ddywedasant," Na feddalhaed eich calon, na synnwch, ac na ddychrynnwch rhag eich gelynion, nyni a fyddwn yn flaenoriaid i chwi, a'n porth fydd yn y Duw byw, Arglwydd y lluoedd. Ac yno wedi cael hyspysrwydd am gyrchymdaith y gelynion, yr esgobion a roisant orchymyn i'r fyddin am orwedd mewn dyffryn coediog, ac na syflent oddiyno hyd oni ddelai y gelynion heibio; a pheth bynnag a welent hwy hwynt-hwy yn ei wneuthur, gwnelent hwythau yr un modd. Ac ymhen ennyd fechan, wele y Brithwyr, &c., yn troedio trwy'r dyffryn; a chododd y ddau esgob ar eu traed ac a waeddasant,—" Aleluia, Aleluia, Aleluia." Ac ar hynny, dyma'r milwyr eu gyd, un ac arall, yn neidio'n chwipyn ar eu traed, gan lefain o nerth pen, Aleluia," gyda'r fath floedd nes oedd y dyffryn yn dadseinio oll. A dododd hynny y fath arswyd a braw yn y Brithwyr megis ag yr aethant oll ar ffo; a boddodd llawer iawn o honynt wrth eu gwaith yn brysio drwy Alun, afon ag sydd yn ffrydio drwy'r dyffryn. Digwyddodd y frwydr hon ryw ychydig ar ol gwyl y Pasg, o gylch y flwyddyn 427, yn agos i Wyddgrug, yn rhandir Fflint, a'r lle hwnnw a elwir Maes Garmon hyd heddyw.

Ar ol hyn y peidiodd hyfder y Brithwyr a'r gwibiaid ysgeler ereill dros ennyd; canys cyhyd ag y bu y Brutaniaid yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni, cyhyd a hynny yr arhosodd y gelynion gartref; ond pan ddechreuasant anghofio Duw a'i addoli, yno y gelynion hwythau a barotoisant i ymweled â hwy drachefn. Er fod y Brutaniaid gan mwyaf yn Gristnogion, eto, gan mwyaf Cristnogion drwgfucheddol oeddent. Tra fu Garmon a Lupus gyda hwy yr oeddent yn ddynion crefyddol, neu o'r hyn lleiaf yn ymddangos felly; ond ar ol ymadawiad y ddau ŵr duwiol, yno y llaesodd eu sel at grefydd, ac a ddechreuasant gellwair a chrechwenu, ac o fesur cam a cham i ymroddi i bob ofergamp a maswedd, nes llwyr anghofio eu gorthrymderau gynt. Ac ymhen talm o amser, syrthiasant, frodor a pheriglor, bonheddig a gwreng, i bob math o ysgelerder a drygioni, cyfeddach a meddwdod, godineb ac aniweirdeb, cybydddod ac ocreth, cenfigen a chasineb, gyda phob diystyrrwch ac amharch ar orchymynion Duw ag a ydyw natur lygredig dyn yn dueddol iddynt. Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir." Felly nid yw ryfedd i farnedigaethau'r Goruchaf, sef rhyfel, haint a newyn, ymweled â hwy. "Oni ymwelaf am y peth hyn, medd yr Arglwydd, oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl a hon?" Wele y Brithwyr ynghyda'r Gwyddelod, yn llu cethin arfog, yn tirio eto, yn lladd ac yn llosgi mor ddidrugaredd a chynifer cethern o waelod uffern. A chan ystyried gyhyd o amser y buont yn gormeilio o'r naill gwr i'r llall dros wyneb y deyrnas, prin y gall synwyr dyn amgyffred, na thafod dewin fynegi, pa gyflafan ac anrhaith a dinistr a wnaethant; canys hwy a fuont yspaid deng mlynedd yn gwanu y trigolion meddal, heb arbed na phlentyn sugno, gwraig, nac henafgwr; ond y rhan fwyaf a ymadawsant â'u dinasoedd a'u tai annedd, a myned ar encil i'r diffeithwch, a hynny yn gystal i geisio nawdd a diogelwch y creigydd, ac i gael rhyw ymborth, er ei saled, i dorri cythlwng a chwant bwyd. Ac yn yr anialwch nid oedd dim i'w gael ond ambell fwystfil ac aderyn, gwraidd coed a grawn surion yn eu hamser. Ond nid oedd ar hyn o bryd ddim gwell amheuthyn gan y rhan fwyaf o'r Brutaniaid. Dyma a ddaw o ymddigrifwch mewn pechod, ac ymwrthod â Duw a'i sanctaidd gyfreithiau.

Pechod yw gwaelod galar—echrydus
Ac ochain a charchar;
Cafod o boen, gofid, bâr
Dial Duw, diluw daear.

Hir adwyth, a mwyth, a maithder—o ddig,
Ddaw o ysgelerder;
Gwna gaerau 'n garnedd gwer,
A bro naid oll yn brinder.

Ond o'r diwedd, wedi goddef hir gystudd, gorthrymder, newyn, ac oerfel, eu cyngor oedd i anfon un genadwri eto at eu hen feistriaid, y Rhufeiniaid, i edrych os ar antur a drugarhaid wrthynt. Ac ar hynny, o gylch y flwyddyn 446 ysgrifennwyd llythyr gydag Ednyfed ap Gwalchmai, at Esius, y rhaglaw dan yr ymherawdwr yn Ffrainc, yn y geiriau galarus hyn,—

"Griddfan y Brutaniaid at Esius, y tair-gwaith uchelfaer. Y barbariaid a'n gwthiant i'r môr, a'r môr yn ein gyrru'n ol at y barbariaid; a rhwng y naill a'r llall nid oes dim cyfrwng ond naill a chael ein lladd neu foddi."

Nid yw hyn ond darn o'r llythyr, ond hyn yw'r cwbl sydd gennym ni wedi ei gadw; ac oddiwrth yr ychydig yma y mae yn hawdd i farnu ymha gyflwr tosturus a gresynol yr oedd y Brutaniaid ynddo ar hyn o bryd; ond er hynny ni allodd y Rhufeiniaid ond dymuno yn dda iddynt, a phrin oedd hi bosibl iddynt eu cynorthwyo chwaneg, am fod yr ymherodraeth yn llawn terfysg a gwrthryfel ymhob man; megys hen balas wedi adfeilio, bob cymal yn siglo, a'r trawstiau oll yn ysboncio ar uchaf awel o wynt rhyferthwy.

Yn y cyfamser yr oedd y newyn yn dost ym Mhrydain; canys heblaw fod y Brithwyr, fel llwynogod Samson, yn llosgi'r ydau, a phob rhyw luniaeth oddieithr yr hyn oedd gyfreidiol iddynt eu hunain, heblaw iddynt yrru y Brutaniaid ar encil i'r diffaithwch, lle nid allai fod nac âr na medi, heblaw hyn, meddaf, yr oedd y blynyddoedd yn oer a gwlybyrog, yn gymaint ac nad addfedodd yr ychydig a hauwyd; ond er y gorthrymderau hyn oll, y cleddyf a'r newyn, rhai aethant yn gaeth weision i'r Brithwyr er cael tamaid o fara yn eu cythlwng; ereill a ddewisasant drengu yn yr ogofau a chromlechydd y creigiau cyn yr ymostyngent i'r gelynion. Ond ychydig iawn a alwasant ar yr Arglwydd eu gwared o'u cyfyngder a'u cystudd; a phe hynny a wnaethent o galon ddifrifol, ni fuasai raid wrthynt arswydo rhuthr un gelyn; ac byth ni welsent estron—genedl yn trawsfeddiannu eu gwlad, oblegid "tŵr cadarn yw enw'r Arglwydd, ato y rhed y cyfiawn, ac y mae'n ddiogel."

Ond yno ymhen talm, ar ol derbyn y wobr ddyledus idd eu pechodau yn y byd hwn, y gwelodd yr Arglwydd yn dda i gyffwrdd â'u calonnau, a daethant, fel y Mab Afradlon, i bwyll ac ystyriaeth, gan ddychwelyd yn edifeiriol at yr Arglwydd eu Duw. Ac er nad oeddent y pryd hwnnw ond ychydig o drueiniaid methedig wedi curio gan yr oerfel a newyn, eto cawsant eu nerthu gan Dduw, fel nad allodd câd y Brithwyr, er lluosoced oedd, eu gwrthsefyll. Sathrwyd eu byddinoedd, megis pan fo dyn yn ysgythru mân—goed â bilwg, ac er iddynt gael aml borth o wyi ac arfau allan o'r Iwerddon, eto ni thyciodd iddynt ennill un maes, canys y Brutaniaid oedd a'u hyder yn yr Arglwydd Dduw; ac ar hynny, Cilamwri Mac Dermot O'Hanlon, ac Huw Mac Brian, ac Efer Mac Mahon, pen—capteniaid y Brithwyr a'r Gwyddelod, a ffoesant, hwynt—hwy a'u gŵyr, yn archolledig, y tu draw i Wal Sefer, i fynydddir Iscoed Celyddon, ac ereill dros y môr i'r Iwerddon. Hwyr y tygasai neb y y buasai y cyfryw ddynion yn gollwng Duw mor ebrwydd yn anghof. Fe debygai dyn y buasent yn ofni Duw gyda gwylder a pharchedig ofn, gan ystyried eu bod yn gweled, pe gosodasent hynny at eu calonnau, y fath arwyddion mawr ac hynod; canys hwy a welsont y dialeddau trymion, y distryw, y newyn, y difrod ag oedd o hyd yn eu cyd—ganlyn tra'r oeddent yn ddihareb ymysg eu cymydogion am eu dirasrwydd a'u meddalwch. Gwelsont hefyd y bendithion haelionus, y diddanwch, y breswylfod ddiogel a gawsant tra'r oeddent yn Gristnogion da, ac yn gwneyd cydwybod o'u dyledswydd at Dduw a dyn; ond er hyn i gyd, dynion drwg anufudd a gwrthryfelgar oeddent. Wedi iddynt yrru ymaith y gelynion, a byw yn llonydd yn eu gwlad, hwy a ymosodasant i lafurio'r ddaear, a chawsant y fath gnwd o yd, a'r fath amlder o ffrwythau y flwyddyn hon, fel na welwyd erioed y cyffelyb. Ond ymhen dwy flynedd neu dair (amser byr!) ar ol iddynt gael preswylfa ddiogel yn eu caerydd a'u cestyll, ac hefyd eu llenwi o bob danteithion, amheuthun fwydydd, ac ail seigiau, hwy a aethant yn hyfach, pe buasai bosibl, i bechu yn erbyn Duw nag y buont erioed. Jesurum a aeth yn fras ac a wingodd." Eneiniwyd brenhinoedd, nid y cyfryw a wnaent gydwybod i rodio gyda Duw, ond y sawl oeddent greulonach a melldigedicach nag ereill; a chyn pen ychydig hwy a leddid gan y sawl a'u heneiniodd, nid o achos y gwirionedd, a dewisid rhai creulonach eto yn eu lle. Os byddai rhyw neb un yn chwennych byw yn brydferth a llonydd, ac yn symud ei droed oddiwrth ddrygioni, hwnnw a gasheid gan bawb, a phrin y gellid amharchu digon arno; ond po fwyaf ysgeler, diriaid, a di—ras a fyddai neb, mwya gyd fyddai parch ac anrhydedd hwnnw. Ac nid y gŵyr llyg yn unig oeddent fel hyn yn ymhyfrydu mewn camwedd ac yn casau y wybodaeth o Dduw; eithr y gŵyr llen hefyd, neu'r offeiriaid, a ymadawsant â llwybrau uniondeb i rodio mewn ffyrdd tywyllwch." Canys, yn lle gofalu dros eu diadellau, eu teml hwy a fyddai cegin tafarnau, a chanu maswedd. Am baham y canodd un o'i prydyddion, gan edliw iddynt,—

Y 'ffeiriaid oe'nt euraid cyn oeri—crefydd,
Cryf oeddent mewn gweddi;
Yn awr meddwdod sy'n codi,
'Nifeiliaid yw'n bugeiliaid ni.

Ar fyr eiriau, ni lysodd un gradd, na bonheddig na gwreng, na gŵyr llen na gwyr lleyg, a dim ysgelerder, a direidi, ac anuwioldeb ag ydyw natur lygredig dyn yn dueddol iddo. "I'r bobl hyn yr oedd calon wrthnysig ac anufuddgar, hwynt-hwy a giliasant ac a aethant ymaith. Yng nghanol y gloddest a'r aniweirdeb yma, dyma newydd disymwth yn ymdaenu dros y wlad, fod y Brithwyr a'r Gwyddelod wedi tirio. Fe weithiodd hynny yn wir ryw gymaint o fraw ynddynt, ac a wnaeth i'w calonnau ysboncio ychydig, megis y gwelwch chwi ddyn yn cilio yn drachwyllt wrth ganfod neidr yn ddiswta yn gwanu ei chonyn, ac yn llamsach mewn perth; ond hynny o fraw a â yn ebrwydd heibio. Felly yr un modd, y Brutaniaid hwythau, wedi cael hysbysrwydd nad oedd y cwbl ond larwm a chwedl gwlad, a aethant yn ebrwydd ar ol eu hen arferion, yn bendifaddeu i ymlenwi ac ymbleidio.

Ac ar hynny, gan na chymerent addysg, yr Arglwydd a anfonodd bla angeuol yn eu mysg a elwid Brad-Cyfarfod, yr hwn a ysgubodd ymaith y fath liaws anfeidrol o bob gradd ac oedran, fel prin y gallodd y byw gladdu'r meirw. "Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, yna y gwna'r Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd, fel plâu mawrion a pharhaus, a A chyn pen chlefydau drwg a pharhaus. nemawr o amser ar ol hyn, sef ar ol i'r pla laesu ychydig, wele y Brithwyr wedi dyfod yn ddiau ddigon; a rhwng y difrod a wnaeth y pla, a'r gelynion yn llosgi eu trefydd ac yn rhuthro arnynt, a hwy yn weinion ac yn gleifion, y mae'n hawdd i neb farnu pa mor resynol oedd eu cyflyrau. A hynny a wnaeth iddynt alw am y Saeson, y rhai a fuont yn waeth eto nag un pla na Brithwr.

PENNOD IV.

Y rhyfel rhwng y Brutaniaid a'r Saeson.

WEDI dangos eisioes i ba amgylchiadau tosturus y dygpwyd yr hen Frutaniaid. iddynt gan eu llaithder a'u meddalwch, ond yn anad dim gan eu bywyd diras a'u diystyrrwch ar Dduw mi a af rhagof i ddangos eu hynfydrwydd a'u gwallgof y tuhwnt i ddim yn deisyf cymorth y Saeson. Canys yr un a fuasai iddynt osod y blaidd yn geidwad ar yr ŵyn i'w hachub rhag y gedni a gwahodd y Saeson hwythau trosodd i ymladd drostynt yn erbyn y Brithwyr. Ac eto, nid oedd hynny ond y peth y mae Duw yn fygwth yn erbyn anufudddod. "Oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, yr Arglwydd a'th dery di âg ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon. Ofnent y Saeson o'r blaen megis plant y fall, ac ellyllon o waelod annwn; eto y fath hurtrwydd a'u perchenogent ar hyn o dro, fel y danfonasant genhadon atynt i'w gwahodd hwy trosodd i Frydain i fod o'u plaid i ymlid ymaith y Brithwyr, y rhai nid oeddent mewn un modd yn wrolach pobl na hwynt—hwy eu hunain, pe nis gadawsent i fusgrellni a llaithder eu gorthrechu, megis y dywedodd y Rhufeiniaid lawer gwaith wrthynt.

Ni wyddis ddim, yn dda ddigon, am baham y danfonwyd am y Saeson yma gyntaf, y rhai oedd bobl o Germany gerllaw i Hanover. Dywed rhai fod amgylchiadau'r hen Frutaniaid y pryd hwnnw fel y canlyn. Fe ddisgynnodd coron y deyrnas o iawn dreftadaeth i ŵr graslawn a elwid Constans, yr hwn a gadd ei ddygiad mewn monachlog, ar fedr ei ddwyn i fyny yn grefyddwr, ac o'r achos hwnnw oedd anghydnabyddus âg arferion y llys ac â chyfreithiau'r deyrnas. Ac o'r achos hwnnw efe a osododd ddistain neu ben—reolwr dano i farnu materion y llys a'r deyrnas. Y distain hwnnw a elwid Gwrtheyrn, a dyn rhyfygus, ystrywgar, a ffals oedd efe; canys ar ol cael yr awdurdod frenhinol yn ei law, ei amcan nesaf oedd cael meddiant ei hun a lladd ei feistr. Felly efe a roddiodd wobr anwiredd i o gylch cant o feibion y fall am iddynt ruthro ar ben ystafell y brenin a'i ladd ef. Ac ar hynny, wedi gwneuthur sen a gogan-gerdd er anfri i Constans, a chaniad o fawl i Wrtheyrn, disgwyl oedfa a wnaethant i ruthro iddo; a'i ladd a orugant, a dwyn ei ben ger bron y bradwr; ac yntau a gymerth arno wylo, er na bu erioed lawenach yn ei galon. Ond i fwrw niwlen o flaen llygaid y bobl, mal y tybid nad oedd ganddo ef ddim llaw yn y mwrdd-dra, efe a barodd dorri pennau y can ŵr hynny a osododd efe ei hun ar waith. Ac felly barn rhai yw, i Wrtheyrn wahodd y Saeson i fod yn osgordd ac yn amddiffyn iddo, rhag y difreinid ef am ei fradwriaeth a'i ysgelerdra. Ond boed hynny fel y mynno, hwn sydd ddilys ddigon, fod pob peth allan o drefn, fyg fag, bendrapen ymysg y Brutaniaid ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid oddiyma. Prin, ïe, prin iawn, yr ystyrrid pa wir hawl neu deitl, nag ychwaith pa gyneddfau da, a fyddai gan neb un a osodai gais i fod yn ben—rheolwr gwlad; ond yr hwyaf ei gleddyf a'r dirieitiaf a ymhyrddai i awdurdod ac a gadwai y rheolaeth hyd oni ddeuai un trech nag ef, i'w wthio ymaith. A hyn y mae Gildas, yr hwn a ysgrifennodd o gylch y flwyddyn o oedran Crist 546, yn ei dystiolaethu yn eglur. Ac felly Gwrtheyrn, rhag y difreinid ef, megis y gwnaed i laweroedd ereill o'i flaen, a alwodd am gymorth y Saeson, i ddiogelu ei hun ar yr orseddfainc. A hyn, yn wir, a allai fod yn un rheswm ymysg ereill; ond i ymladd â'r Brithwyr y cyflogwyd y Saeson yn bennaf dim.

Felly Gwrtheyrn, ar ol ymgynghori a'i benaethiaid, a anfonodd bedwar o wŷr anrhydeddus ei lys i wneuthur amod â'r Saeson, a'u gwahodd hwy drosodd i Frydain, sef oedd enwau y pendefigion hynny, Cadwaladr ap Tudur Ruddfaog, Rhydderch ap Cadwgan Freichfras, Meuric ap Trahaern, a Gwrgwnt ap Maelgwn Ynad, heblaw ereill o is-radd yn osgordd iddynt. Ac yno, wedi myned i ben eu siwrnai, os gwir a ddywed cronicl y Saeson,—canys Sais cynhenid sydd yn adrodd hyn o fater, nid oes air yn un cronicl Cymraeg am dano,—y cenhadon a wnaethant araith gerbron eisteddfod o Saeson yn y geiriau hyn,—

Nyni, y Brutaniaid truain, wedi ein harcholli a'n blin gystuddio gan aml ruthrau ein gelynion, ydym yn deisyf eich porth a'ch nawdd yn y cyfyngdra trallodus i'n dygpwyd ynddo ar hyn o bryd. Ein gwlad sydd eang ddigon, fflwch a diamdlawd o bob peth buddiol at gynhaliaeth dyn; cewch feddiant ynddi; digon yw hi i ni a chwithau. Hyd yn hyn y bu y Rhufeiniaid yn ymgeleddwyr tirion i ni; nesaf at va rai ni adwaenem neb a roddodd brawf mor helaeth o'u grymusdra a chwychwi. Bydded eich arfau seinio allan eich gwroldeb yn Ynys Brydain, ac ni fydd flin gennym wneuthur o'n rhan ninnau, un fath o wasanaeth a esyd eich ardderchawgrwydd arnom.

Ac yno yr atebodd y Saeson wrth fodd eu calonnau, gan ddywedyd, "Chwi ellwch hyderu arno, Frutaniaid anrhydeddus, y bydd y Saeson yn geraint cywir i chwi, ac yn barod i'ch cynorthwyo yn yr ing a'r trallod mwyaf." Y gwirionedd yw, nid yw yr araith hon ond chwedl gwneuthur y Sais; nid dim ond ei ddychymyg ei hun; canys nid oedd awdurdod y cenhadon a anfonwyd at y Saeson ddim amgen ond amodi â hwy er cymaint a chymaint o gyflog, megis y gallent hwy gytuno arno; nid oedd air o son am gael meddiant mewn un cwr o'r deyrnas.

Yr oedd ambell un, y rhai oedd a'u synhwyrau yn effro, yn darogan y wir chwedl, ac yn ofidus eu calon wrth ragweled y distryw gerwin oedd ar ddyfod. "Pan gaffo y cacwn, ebe un, "lety yng nghwch y gwenyn, gorfudd ar wir drigolion y cwch roddi lle i'r pryf gormesol. Gwae fi, na fyddo gwahodd y Saeson ddim yn gwirio dihareb, Gollwng drygwr i ysgubor gŵr da,' a llawer gwaith y gwelwyd mai Gelyn i ddyn yw ei dda.'" "Mi a glywais hen chwedl," ebe un arall, "i'r clomenod gynt amodi â'r barcutanod ar eu cadw rhag rhuthr y brain; y bodaod yn ddilys ddigon a erlidiasant y brain ymaith; ond beth er hynny? Nid hwyrach ag y byddai chwant saig felus ar y bodaod, nid dim arall a wasanaethai eu tro ond colomen at giniaw a phrydnawnfwyd. Mi gaf gan Dduw mai nid hynny a fydd corff y gaine, ar waith ein brenin da ninnau yn anfon am y Saeson. Ond nid oedd ond ambell offeiriad tlawd yn dal hyn o sylw ar bethau. Canys ar ol dychwelyd y cenhadon adref, y bu llawenydd o'r mwyaf yn y llys; a byth ni welai y brenin ynfyd ddigon o arlwy ar eu medr, na digon o ddanteithion a moethau'r ynys i'w croesawu. Ac ymhen ychydig, rywbryd ym mis Awst, yn y flwyddyn o oedran Crist 449, y tiriasant mewn tair llong, a dau frawd, Hengist a Horsa, yn flaenoriaid arnynt. Ar ol gwledda a bod yn llawen dros rai dyddiau, a llwyr gytuno ar y cyflog yr oedd y Saeson i dderbyn am eu gwasanaeth, fel na byddai dim ymrafael am hynny rhagllaw, y Saeson yno, yn wir, a roisant brofiad helaeth o'u gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys er nad allent fod yn nifer fawr iawn pan y gallasai tair llong eu dwyn, eto, a hwy yn awr yn borth i'r llu egwan oedd yn y deyrnas eisioes, y Brithwyr a wasgarwyd, a'u byddinoedd a ddrylliwyd, a Niawl Mor Mac Flan a dorrodd ei wddf ar ei waith yn ffoi yn frawychus ac yn fyrbwyll.

Ond fe ddarfu am onestrwydd y Saeson wrth weled mor ddifraw a musgrell oedd y trigolion, a diameu mai dynion oeddent wedi ymroddi i feddalwch a maswedd, ond yn anad dim wrth feddwl pa wlad dda fras odidog oedd ganddynt, cymaint yn rhagori ar y gornel llwm newynog oedd ganddynt hwy gartref. Ac yno hwy a ddanfonasant yn ddirgel at eu cydwladwyr i wahodd y rhai mwyaf gwaedlyd a'r cieiddiaf o honynt drosodd i Frydain, tuag at ddwyn eu hystryw drwg i ben; canys er eu bod yn barod ddigon o honynt eu hunain, ond nid oedd eu nifer eto yn ddigon. "Y wlad," ebe hwy, sydd odidog a chnydfawr, gwlad doreithiog a hyfryd, ond y trigolion ydynt lesg, a llaith, a diofal. Os ydych gall, na arhoswch gartref i newynu, ond cymerwch galon gwŷr, a deuwch drosodd gyda ni. Ni roddir gwlad i fusgrell. Ein cydfwriad yw, i ruthro ar y trigolion swrth, megis y byddo'r wlad yn eiddo ein hunain; felly gwybyddwch fod eich arfau yn awchus ac yn gywrain i ladd."

Nid oedd dim llawer iawn achos canlyn arnynt i'w perswadio; digon o anogaeth oedd cael anrheithio'r wlad ar ol lladd a mwrddro y trigolion. Felly yn ebrwydd y cynullodd llu mawr o honynt, pedwar cymaint a'r waith gyntaf, ac ymhlith ereill, dau fab i Hengist, a merch iddo a elwid Rhonwen. Y sawl o'r Brutaniaid ag oedd a'u llygaid yn agored a edrychasant yn chwithig ar y fath lu gormesol o farbariaid arfog yn tirio heb gennad; ond y brenin ynfyd, Gwrtheyrn dan ei enw, a'u hymgeleddodd; a thuag at ddistewi mân-son y bobl, efe a ddywed mai yn gynorthwy yn erbyn y gelynion y daethant, rhag bod y fyddin gyntaf yn anigonol. Yr oedd Hengist erbyn hyn wedi adnabod tymer y brenin, ac er maint o anrhegion, heblaw eu cyflog, ag oedd efe a'i wŷr wedi eu derbyn, eto efe a fynnai gael dinas gaerog dan ei lywodraeth. Fel y byddwyf," eb efe, "yn anrhydeddus ymhlith y tywysogion, megis y bu fy hen deidiau yn eu gwlad eu hunain." Ond atebodd Gwrtheyrn, Ha ŵr da, nid yw hynny weddus; canys estron a phagan ydwyt ti; a phe i'th anrhydeddwn di megis bonheddig cynhwynol o'm gwlad fy hun, y tywysogion a safent yn erbyn hynny." "Ond, O arglwydd frenin," ebe Hengist, caniata i'th was gymaint o dir i adeiladu castell ag yr amgylchyna carrai." "Ti a gei gymaint a hynny yn rhwydd," ebe Gwrtheyrn. Ac ar hynny y cymerth Hengist groen tarw, ac a'i holltodd yn un garrai, ac yn y lle cadarnaf efe a amgylchynodd gymaint a chae gweddol o dir, ac a adeiladodd yno gaer freiniol, yr hon a elwid gynt gan y Brutaniaid Caer y garrai, eithr yn awr gan y Saeson, Doncaster, h.y., Thong-chester.

Ac yno Hengist a wahoddodd y brenin i weled y gaer newydd, a'r marchogion a ddaethant o Germany; a gwnaethpwyd yno wledd fawr o bob moethau da ac amheuthyn fwydydd dantaith. Ond yn niwedd y cwt, a Hengist yn gwybod eisioes mai dyn mursenaidd oedd Gwrtheyrn, efe a barodd i'w ferch Ronwen wisgo'n wych odidog am dani, ac i ddyfod i'r bwrdd i lenwi gwin i'r brenin; a daeth ystryw Hengist i ben wrth fodd ei galon; canys y brenin anllad a hoffodd yr eneth, a hithau,

"Yr eneth frau aniwair,
Ni ddyd wich, ni ddywed air," [7]

ond cydsynio yn ebrwydd ag ef; a phan geryddwyd ef am ei bechod a'i loddest gan Fodin, esgob Llundain, megis y gweddai i ŵr o'i broffes wneuthur, y brenin yn ei wyn gynddeiriog, a ergydiodd waewffon at ei galon, ac a gymerth Ronwen yn gariadferch iddo. Geiriau'r cronicl ydynt, Gwedi meddwi Gwrtheyrn, neidiaw a orug diaf ynddo, a pheri iddo gydsyniaw a'r baganes ysgymun heb fedydd arni."

Wedi i hyn ddyfod cystal i ben wrth fodd y Saeson, yno disgwyl a wnaethant am amser cyfaddas i ruthro ar eu meistriaid. Yn gyntaf, achwyn a wnaethant nad oedd eu cyflog agos gymaint ag oedd eu gwroldeb yn ei haeddu, er nad oedd hyn ddim oll ond eweryl gwneuthur; eto i gau eu safnau cawsant ychwaneg, yr hyn a'u distawodd dros ychydig. Ond megis y dywed y ddihareb, hawdd gan foneddig fin—gamu," felly hefyd hawdd yw digio dig, canys yr un don hagr oedd fyth yn bytheirio yn eu safnau, nad oedd dim cystadledd rhwng eu cyflog a'r gwasanaeth oeddent hwy yn ei wneuthur. "A raid i ni," ebe hwy, "fentro ein hoedlau am ffiloreg ac ambell geiniog gwta, i'ch cadw chwi yn ddiogel a difraw i ymlenwi mewn tafarnau, ddynionach musgrell segur ag ydych? Na wnawn ddim, ni fedrwn rannu arnom ein hunain."

Ac felly yn wir y gwnaethant y ffordd nesaf; canys ar ol dyfod rhai miloedd o honynt drachefn o Germany, a hwy yn awr yn gweled eu hunain yn gryfion eu gwala o nifer, a chwedi heddychu a'r Brithwyr, rhuthro a wnaethant ar y trigolion, megis cynifer o gigyddion anrhugarog yn ymbesgi ar waed, heb arbed na dyn na dynes, na boneddig na gwreng, nac hen na ieuainc. Nid oedd o gylch glan Tafwysc, Kent, a Llundain, a'r wlad oddi amgylch hyd at Rydychen, —ac ni chyraeddodd crafangau plant y felldith ddim llawer pellach, ddim ond yr wbwb gwyllt, ac oernad, ac ymdrybaeddu mewn gwaed, a drychau tosturus y meirw. Ac ar lan Hafren, o Gaerloyw i'r Amwythig, ac oddi yno tua Chaerlleon Gawr, yr oedd y Brithwyr hwythau, rhai a chleddyfau, rhai a gwaewffyn, rhai a chigweiniau, a rhai a bwyeill daufiniog, yn dieneidio ac yn difrodi mor ysgeler a phan y bo llifeiriant disymwth gan gafod twrwf yn ysgubo gyda'r ffrw1, ac yn gyrru bendramwnwgl dai a daear, deri a da, a pha beth bynnag a fo ar eu ffordd. Felly nid oedd ond drychau marwolaeth a distryw o'r dwyrain hyd y gorllewin. Y trefydd a'r dinasoedd oeddent yn fflamio hyd entrych awyr, yr eglwysydd a'r monachlogydd a losgwyd hefyd â thân, ac a fwriwyd i lawr yn ganddryll. Ac o herwydd mai yno gan mwyaf y ciliodd y gwŷr llen, yr esgobion, yr offeiriaid, a gweinidogion crefydd, megis i gynifer dinas noddfa, ond ni wnai barbariaid ysgeler ddim rhagor rhwng lle cysegredig a beudy, yr esgobion, yr offeiriaid, &c., a ferhyrwyd megis ereill, lle y byddai eu haelodau yn gymysg blith-drafflith a thalpau chwilfriw yr adeilad. A'r rhai a laddwyd ar wyneb y maes a adawyd yno yn grugiau draw ac yma, naill ai i bryfedu a drewi, neu fod yn borthiant i'r cŵn a'r bleiddiaid ac adar ysgly faeth. Ar air, preswylwyr y fro a ferthyrwyd agos drwy bob cantref yn Lloegr, ond y sawl a allodd ddiane, gydag ychydig luniaeth, i'r ogofau a'r anialwch. Ond gwŷr blaenau gwlad a'r mynydddir a ymgadwasant heb nemawr o daro, ond a gawsant o gyffro.

Wedi i'r ffeilstion digred, plant y fall, orffen lladd a llosgi, y rhan fwyaf o honynt, ansier am ba achos, a ddychwelasant adref i Germany. Tybia rhai mai yr achos o'u myned mor ddisymwth i dir eu gwlad, oedd, rhag y buasai sawyr y celaneddau meirw y rhai a adawsant yn bentyrrau ar wyneb y maes heb feddrod, beri afiechyd, a bod yn bla iddynt; ond barn ereill yw, iddynt lwytho eu cylla cigfreiniog yn rhy dynn, ac iddynt ddewis, er mwyn cael eu cynefinol iechyd, fyned adref dros ennyd i dir eu gwlad, er cael budd a lleshad y fôr-wybr. naill neu'r llall oedd yn ddilys ddigon yr achos, neu ond odid bob un o'r ddau, sef drygsawr y celaneddau, ac ymlenwi nes bod yn dordyn. Ond myned adref yn ddiameu a wnaethant; a chyn belled a ellir gasglu oddiwrth hen hanesion, hwy a arosasant gartref bum mlynedd neu chwech cyn dyfod drachefn i Ynys Brydain. Canys yn y flwyddyn o oedran Crist 449, y gwahoddwyd hwy drosodd gyntaf; o gylch deng mlynedd y buont yn weision cyflog yng ngwasanaeth y Brutaniaid i ymladd drostynt, cyn iddynt yn felldigedig dorri eu hamod a rhuthro arnynt; ac nid oes dim son am danynt mwyach hyd y flwyddyn 465. Ond boed hynny fel y mynno, wedi i weddillion y Brutaniaid ymgynnull o'r tyllau ar ol y lladdfa echrydus uchod, a galw yn egniol ar Dduw am ei gymorth, di-freinio Gwrtheyrn a wnaethant, ac nid oedd efe ond trawsfeddiannwr ar y cyntaf, a gosod y goron ar ben câr iddo a wnaethant, a elwid Gwrthefyr, yr hwn am ei fod yn ŵr arafaidd a duwiol, ac eto yn llawn calondid, a gyfenwir Gwrthefyr Fendigaid.

Ar eu gwaith yn bwrw heibio Gwrtheyrn o fod yn frenin, mab iddo a elwid Pascen, o'i lid a'i cherwder yn gweled gŵr arall yn gwisgo coron y deyrnas, a ymadawodd a'r wlad, ac a aeth, Suddas bradychus ag oedd, yn union at y Saeson, a chymodi a wnaeth ef â hwy, a myned yn un-gar unesgar; a'r bradwr hwnnw,—a bradwr o hyd a fu distryw Brydain,—a fu, ond odid, yr achos pennaf o'u dyfodiad y waith hon i Frydain, i ddial y sarhad o ddifreinio ei dad. Ond gwell a fuasai iddo ef a hwythau fod yn llonydd; canys am y brenin duwiol Gwrthefyr, cymaint oedd yr enw am dano wedi ymdaenu ar led, fel y bu hoff gan galonnau holl ieuenctid y deyrnas ddwyn arfau dano; ac yntau a osododd ar y llu, yn nesaf ato ei hun mewn awdurdod a gallu, wr graslawn a elwid Emrys Benaur, tad yr hwn yng nghyda'r rhan fwyaf o'i gyfneseifiaid a laddwyd yn y mwrdra creulon y soniwyd am dano uchod. A gŵr rhagorol oedd hwn hefyd; heblaw ei fod yn rhyfelwr enwog, efe "a rodiodd o flaen Duw mewn gwirionedd, cyfiawnder, ac uniondeb calon, ac eto fel llew i ymladd dros fraint ei wlad a'r eglwys gatholig. Ac a hwy a'u hymddried yn yr Arglwydd Dduw, ac yn glynu wrtho â'u holl galon ac â'u holl enaid, ar waith y ddwy gad yn bloeddio i'r frwydr, Emrys a weddiodd ar yr Arglwydd â'i holl egni; ac yno, y ddau lu a ergydiasant yn ffyrnig y naill at y llall, a buan y cuddiwyd y maes â chelaneddau y clwyfus a'r meirw. Emrys oedd ar farch rhygynog yn gyrru megis mellten o restr i restr, i osod calon yn ei wŷr, rhag bod neb o honynt yn llaesu, ac yn troi eu cefn ar y gelynion; a thrwy borth Duw, y Bru—taniaid a enillasant y maes, a'u gelynion a wasgarwyd, rhai yn ffoi gyda'r Brithwyr i Iscoed Celyddon neu Scotland, ac ereill i dir eu gwlad y tu draw i'r môr. O gylch y flwyddyn o oedran Crist 465 y bu hyn.

Er ennill y maes ar y gwŷr arfog, a'u hymlid ymaith, eto chwith fu gan y Brutaniaid ruthro ar y gwragedd a'r plant a adawodd y Saeson ar eu hol, ond eu gadael a wnaethant i fyw yn llonydd yn y wlad. Ond "gwneler cymwynas i ddyn drwg, ac efe a dâl y mawr ddrwg am dano;" ymgoledded dyn sarff yn ei fynwes, ac efe a fydd debyg o gael ei frathu. Ac felly Rhonwen hithau, y Saesones, merch Hengist, a gordderchwraig Gwrtheyrn, yn lle bod yn ddiolchgar am y tiriondeb a'r ffafr a ddangoswyd iddi hi a'i heiddo, a osododd ei synwyr ar waith i wenwyno y brenin da, Gwrthefyr Fendigaid; a thuag at ddwyn ei hystryw uffernol i ben, hi a roddodd yr hanner o'r holl drysor ar a feddai hi yn y byd, i lanc o ysbryd eofn ac ysgeler a elwid Ebissa; ac yntau a ymrithiodd megis garddwr, ac ar foreugwaith, tra yr oedd y brenin yn rhodio yn ei ardd, y bradwr du a'i hanrhegodd a thusw o flodau briallu, a mwg gwenwyn marwol wedi anadlu arnynt. Ac yno pan gydnabu Gwrthefyr ddarfod ei wenwyno, ond y bradwr a ddiangodd ymaith yn ddistaw at Ronwen, efe a alwodd ei holl dywysogion ato, a chynghori a orug bawb o honynt i amddiffyn eu gwlad a'u gwir ddyled rhag estron genedl. A rhannu ei gyfoeth a wnaeth efe i bawb o'r tywysogion; a gochymynnodd losgi ei gorff, a rhoddi ei ludw mewn delw o efydd ar lun gŵr yn y porthladd lle y byddai estron genedl yn ceisio dyfod i dir, gan ddywedyd mai diau oedd na ddeuent fyth tra y gwelent ei lun ef yno. Ond wedi marw Gwrthefyr, ni wnaeth y tywysogion megis yr archasai efe iddynt, ond ei gladdu ef yng Nghaerludd a wnaethant. Y fath oedd dewrder ac arial calon y brenin godidog hwn, fel megis y bu efe yn ffrewyll yn ystlysau'r Saeson tra y bu efe byw, felly efe a chwenychai fod yn ddychryn iddynt hyd yn oed ar ol ei farw. Ond ebe'r bardd,—

"Er heddwch nac er rhyfel,
Gwenynen farw ni chasgl fêl."

A glybuwyd son erioed am bobl mor wallgofus ac ynfyd ag a fu y Brutaniaid ar hyn o bryd? Canys Gwrtheyrn, yr hwn a ddifreiniasant rai blynyddoedd o'r blaen am ei ddiddarbodaeth yn bradychu ei wlad i ddwylaw estroniaid, a gafodd y llywodraeth yn ei law eto; ac nid oedd Rhonwen yn ewyllysio ond dyfod hynny i ben; canys wedi ei sicrhau ef yn y frenhiniaeth, hi a anfonodd yn chwipyn genhadon hyd yn Germany, i hysbysu i'w thad iddi hi yn ystrywgar ddigon wneyd pen ar Wrthefyr, a bod Gwrtheyrn, gŵr ag oedd hoff ganddo genedl y Saeson, wedi ei ddyrchafu i eistedd ar yr orseddfainc yn ei le. Ha, ha," ebe Hengist yno wrth ei wŷr, "y mae i ni obaith eto; oes. hwy a'i hatebasant ef â gwên ddiflas,—" Gobaith ansicr iawn ydyw hynny: canys nyni a ddirmygasom ormod ar y Brutaniaid eisioes, a phobl lewion ydynt hwythau wedi llidio." Ffi, ffi," ebe Hengist, na lwfrhaed eich calon, yr ym ni yn gyfrwysach na hwy; pan ballo nerth, ni fedrwn gynllwyn." Ac yno, efe a gynullodd yng nghylch pymtheg mil o wŷr arfog, heblaw gwragedd a phlant, ac a hwyliodd trosodd i Frydain mor ebrwydd fyth ag oedd bosibl, canys efe a wyddai mai hawdd cymod lle bydd cariad, y fath oedd ei hyder ar y brenin hanner call hwnnw, Gwrtheyrn. Ond pan welodd y Brutaniaid y fath lynges fawr, o gylch deugain o ysgraffau, yn hwylio parth ag atynt, sicrhau y porthladd a wnaethant fel nad allent dirio. Ac ar hynny y gosododd Hengist arwydd tangnefedd i siomi y Brutaniaid, ac a ddanfonodd genhadon i fynegi i'r brenin mai nid er molest yn y byd yr hwyliodd efe i Frydain y waith honno a'r fath lu ganddo, ond i gynorthwyo y brenin i ennill ei goron, yr hon a gipiwyd yn anghyfiawn oddiwrtho. "Canys ni wyddem ni ddim amgen," ebe hwy, "onid oedd Gwrthefyr eto yn fyw, ac yn trawsfeddiannu y goron." "Teg iawn, ebe Gwrtheyrn, ac a ddiolchodd iddynt am eu cariad. "Boed gwiw gan eich mawrhydi gan hynny," ebe hwy, "i apwyntio rhyw ddiwrnod, fel y caffo Hengist ein harglwydd gael siarad wyneb yn wyneb a'ch brenhinol uchelder." O ewyllys fy nghalon," ebe Gwrtheyrn. "Ond, O arglwydd frenin," ebe hwy eto, fel yr ymddangoso yn eglur i'r byd ein bod ni yn heddychol ac ar feddwl da, deued pawb yn ddiarfog i'r lle gosodedig a welo eich "Da mawrhydi chwi yn dda i'w bennu arno." y dywedwch," ebe Gwrtheyrn, "ac nyni a gyfarfyddwn ddydd Calan Mai nesaf, yng ngwastadedd Caer Caradoc."

Wedi i Hengist fel hyn ymgynhesu â'r brenin didoreth, a hawdd cynneu tân mewn hen aelwyd, yno ei ferch Rhonwen a ddaeth i ymweled âg ef, ac adrodd wrtho mor ddichellgar y bu hi i wenwyno Gwrthefyr. "Da merch i!" ebe Hengist, "wele merch dy dad yn llwyr wyt ti, mi a ddywedaf hynny am danat."

Hengist ar hyn a barodd alw ynghyd ei farchogion, ac ar ol adrodd mor ystrywgar y darfu i Ronwen wenwyno Gwrthefyr Fendigaid, yna efe a ddywedodd wrthynt,—Dydd Calan Mai nesaf yr ydym i gyfarfod â phendefigion y Brutaniaid dan rith i wneyd amod o heddwch â hwy; ond yn wir ddiau ar fedr eu lladd bob mab gwraig, cystowcwn ag ydynt. Canys wedi i ni ladd y goreuon, rhydd hynny gymaint o fraw yn y werinos talog, fel na bo calon yn neb i'n gwrthsefyll. Ond i ddwyn i ben hyn o or—chwyl yn gyfrwys, dyged pawb o honoch gyllell awchlym ddaufiniog, megis cyllell cigydd, yn ei lawes, a phan ddywedwyf i wrthych, Nemet cour saxes (hyn ydyw, Ymafled pawb yn ei gyllell '), lladded pawb y nesaf ato. Wele gorchymyn a gawsoch; ymddygwch fel gwŷr, ac nac arbed eich llygaid.'

Ar y dydd apwyntiedig cyfarfod a wnaethant; ac er ychwaneg o argoelion cariad, Hengist a'u perswadiodd yn hawdd i eistedd Fritwn a Sais bob yn ail, blith drafflith o amgylch y byrddau; ond wedi ciniawa a dechreu myned yn llawen, y cododd Hengist ar ei draed, ac a waeddodd," Nemet cour saxes. Ac yn ddiatreg ymaflyd a wnaeth pob un gyda'r gair yn ei gyllell, a thrywanu y nesaf ato, a hynny gyda chyn lleied o dosturi a phan y bo cigydd yn gollwng gwaed mochyn. Ychwaneg na thri chant o bendefigion a goreuon y deyrnas a ferthyrwyd yn dra mileinig yn y wledd waedlyd honno ar ddydd Calan Mai. Ond Eidiol, iarll Caerloyw, a ddiangodd yn ddidaro, o nerth trosol a gafodd efe dan ei draed, ac â'r trosol hwnnw efe a laddodd ddeng ŵr a thriugain o blant y fall, y Saeson; canys gŵr glew oedd hwnnw. Er nad oedd ganddo ond trosol, eto ni a welwn wirio hen ddihareb,—"Ni ddiffyg arf ar was gwych." Ac medd dihareb arall,—'Glew a a fydd llew hyd yn llwyd.' Yn y flwy ddyn o oedran Crist 472 y bu hynny.

Fe ddamweiniodd i mi weled un o'r cyllill hirion hynny, ac un hagr hell oedd hi oedd ynghylch saith modfedd o hyd, ac yn; y llafn ychwaneg na hanner modfedd o led, ac yn ddau-finiog pum modfedd o'r saith; ei charn oedd eleffant, a manylwaith cywrain arno, a llun benyw a bwl crwn yn ei llaw aswy, a'r llaw ddeau ar ben ei chlun; ac yr oedd llun gwas ieuanc wrth y tu deau o honi, a'r haul o amgylch ei ben; ei gwain oedd eleffant hefyd, wedi ei weithio yn gywrain iawn. Ac meddent hwy, yr oedd y gyllell hon yn un o'r rhai fu gan y Saeson yn lladd penaethiaid y Cymry.

"Gwae ddydd anedwydd anwir,
Gwae rhag yr hen gyllell hir!"

Wedi ymdanu y newydd galarus o'r mwrdra hwn ar led, y werin bobl a fu agos i amhwyllo gan ofn, megis ysgolhaig ieuanc, newydd fyned i'r ysgol, yn cyffro bob cymal ar weled meistr gerwin yn ystwytho llanc diwaith na fynnai edrych ar ei lyfr. Nid oedd y pryd hwnnw gan y Brutaniaid ddim ychwaneg na saith mil o wŷr arfog, y fath ag oeddent; ac ni allwn ddal sylw mai pobl anghall o hyd oeddent yn hyn o beth, sef yn gadael y milwyr fyned ar wasgar ar ol iddynt hwy unwaith gael y trechaf ar eu gelynion. Beth oedd saith mil o wŷr mewn teyrnas a chymaint o ergyd barbariaid arni? Ac yma ar waith y llu egwan, heb yn awr un uchel gadben o ŵr profiadol calonnog yn flaenor arnynt, canys Emrys Ben-aur a ddiswyddwyd ar ol dyfod Gwrtheyrn i reoli eilwaith,—ar eu gwaith, meddaf, yn llaes-wynebu eu gelynion, hwy a sathrwyd gan y Saeson, megis march rhegynog yn torri crin-gae, neu megis y difa fflam o dân berth o eithin crin. A'r Saeson yno a oresgynasant y cwbl o gylch Llundain a'r wlad o amgylch, heb feiddio o neb symud ei dafod yn eu herbyn.

Gwrtheyrn yno, dyn pen-dreigl ag oedd, a aeth ar encil tua Gwynedd, ac megis Saul yn ei gyfyngdra yn ymgynghori â'r ddewines o Endor, felly yntau a ymgynghorodd â'i ddoethion, gwŷr ond odid ddim callach nag yntau, ynghylch pa beth oedd oreu wneuthur yn y fath adfyd a chaledi. A'u barn hwy oedd yn un a chytun, i adeiladu castell o fewn Eryri, fel y caffent ryw breswylfa ddiogel mewn lle anial allan o olwg y byd. Ond cymaint a adeiladid y dydd, os gwir yw'r chwedl, a syrthiai yn y nos, ac ni ellid mewn un modd yn y byd beri i'r gwaith sefyll. A'r brenin a ymofynnodd â'r dewiniaid, a'i ddeuddeg prif-fardd, ond ni fedrent beth i ateb. "Ond," ebe un o honynt, ac ychydig fwy o synwyr pen ynddo nag yn y lleill, dywedwn rywbeth amhosibl i fod, rhag na bo anair i'r dewiniaid." Felly ymhen ychydig, megis pe buasent wedi hylldremio ar y planedau, adrodd a wnaethant, "Pe ceid gwaed mab heb dad iddo, a phe cymysgid hwnnw â'r dwfr ac a'r calch, fe saif y gwaith. Garw yw eich chwedl," ebe Gwrtheyrn, ac yn gall ei wala yn hyn, megis ymhob peth arall, efe a anfonodd swyddogion i bob man o Gymru, canys yng Nghymru yr oedd ganddo awdurdod eto, i ymofyn pa le y ganesid un mab heb dad iddo. A gwedi tramwyo gan mwyaf yr holl ardaloedd, er cryn ddifyrrwch i'r bobl, y daeth dau o honynt i dref a elwid Caerfyrddin, ac ym mhorth y ddinas y clywent ddau lanc ieuanc yn ymdaeru. Enw'r naill oedd Myrddin, a Dynawt y llall. Ebe Dynawt wrth Myrddin," Pa achos yr ymrysoni di â myfi? canys dyn tyngedfennol wyt ti heb dad, a minnau sydd o lin brenhinol o ran tad a mam. "Boed wir dy chwedl," ebe'r cenhadon yno wrth eu gilydd, ac a aethant at faer y dref i ddangos eu hawdurdod i ddwyn Myrddin a'i fam at y brenin i Wynedd. Wedi eu dyfod ger bron, Gwrtheyrn a ofynnodd mab i bwy oedd y llanc. A'i fam a atebodd, mai hi oedd ei fam: ond nad oedd ganddo dad. Y brenin ar hynny a ddywedodd wrth Myrddin, "Y mae'n rhaid i gael dy waed. "Pa les a wna fy ngwaed i mi mwy na gwaed dyn arall?" ebe Myrddin. "Am ddywedyd o'm deuddeg prif-fardd y pair dy waed di i'r gwaith sefyll yn dragywydd," ebe'r brenin. A Myrddin a ofynnodd i'r dewiniaid am yr achos ag oedd yn llestair ac yn rhwystro i'r gwaith sefyll; a phryd nas gallasent roddi ateb iddo, efe a'u galwodd yn dwyllwyr a brad wyr celwyddog. Yr achos na saif y gwaith,eb efe, yw, am fod llynclyn dan wadn yr adeilad. A phan, wrth ei arch ef, y cloddiwyd y ddaear odditanodd, fe gafwyd llynclyn yno yn ddilys ddigon, megis yr oedd efe yn barnu ym mlaen llaw. A'r brenin ar hynny a anrhydeddodd Fyrddin, ond a barodd ladd y deuddeg priffardd, am eu bod yn dwyllwyr ac yn cymeryd arnynt y peth ni wyddent. Y mae eu beddau i'w gweled yno hyd heddyw, yn adnabyddus wrth enw Beddau'r Dewiniaid.

Gwrtheyrn a symudodd oddiyno i Ddeheubarth, i lan Teifi; ac mewn lle anial yng nghanol creigydd a mynydd-dir yr adeiladodd fath o gastell, yr hwn yn ddiau oedd y pryd hwnnw mewn lle anghyfannedd ddigon, ymhell allan o glybod a golwg y byd; ond nid er diben crefyddol y dewisodd efe fyned fel hyn ar encil; oblegid efe, dyn diras ag oedd, megis Ahab, y gwaethaf o frenhinoedd Israel, "a ymwerthodd wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd." Fel y glawiodd yr Arglwydd dan a brwmstan ar Sodom a Gomorrah, felly yma y cafododd eirias-dân wybrenol, yr hwn a ysodd yr adeilad a phawb o'i fewn yn ulw. A'r man a elwir hyd heddyw, Craig Gwrtheyrn; o gylch hanner y ffordd rhwng Llanbedr pont Stephan, a Chastell Newydd yn Emlyn, ar lan Teifi, a rhandir Caerfyrddin. Yn y flwyddyn o oedran Crist 480 y bu hynny.

Yn y cyfamser yr oedd y Saeson yn ddygn ormesol yn creuloni yng Nghent a'r wlad o amgylch; y pendefigion, y cyfoethogion, yr uchelwyr, a ddienyddiwyd bob mab gwraig yn y parthau hyn; ond y cyffredin a arbedwyd i fod yn gaethweision, megis cynifer asyn llwythog, i ddwyn beichiau. Yr oedd hyn yn ddilys ddigon yn fyd caled, ac yn fywyd chwerw; eu palasau, gerddi, perllannoedd, a'u gweirgloddiau, ym meddiant barbariaid anrhugarog a mwrddwyr; y perchenogion yn gorwedd yn gelaneddau ar wyneb y maes, yn borthiant i eryrod a chigfrain; y cyffredin yn gaethweision i baganiaid ysgeler, plant y felldith, yn addoli delwau. Ond eto, y mae'n weddus i ni addef mai pobl ddrwg fucheddol oedd y Brutaniaid hwythau, pobl yn wir wedi ymroddi i aflendid, anwiredd, a thywallt gwaed gwirion; am hynny yr Arglwydd a'u purodd hwy mewn pair cystudd, ac a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion. "Os rhodio a wnewch yn y gwrthwyneb i mi," ebe Duw wrth yr Israeliaid gynt, yna y rhodiaf innau yn y gwrthwyneb i chwithau; a dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod; a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg, a chwi a roddir yn llaw y gelyn." Pechod yr Israeliaid hefyd oedd godineb ac ymlenwi yn nyddiau hawddfyd. "Oeddent fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog. "Ond pan laddai efe hwy," hynny ydyw, pan ymwelai'r Arglwydd mewn barn â hwynt, "hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent; cofient hefyd mai Duw oedd eu craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd."

Yr un fath bobl oedd y Brutaniaid hwythau; rhai yn ymgeisio â Duw mewn cyfyngura, ac yn ei wrthod mewn helaethrwydd. Ac felly ar hyn o bryd, tra'r oedd y Saeson trwy frad a chreulonder wedi trawsfeddiannu rhan fawr o Loegr, gweddillion y Brutaniaid a ddychwelasant at yr Arglwydd eu Duw, â'u holl galon a'u holl egni. Emrys Benaur oedd yn awr eu brenin, a fu ben cadben y llu yn amser Gwrthefyr Fendigaid, megis y soniwyd o'r blaen; a chymaint oedd ei glod wedi eangu dros yr holl deyrnas, fel prin oedd gŵr o ugain i hanner cant oed na chwenychai ddwyn arfau dano. A gwŷr Gwynedd a Deheudir hefyd ar hyn o bryd ddaethant yn gymorth cyfamserol i'w brodyr yn Lloegr; ac, yn wir, achos da paham; canys fe rydd pob un fenthyg ei law i ddiffodd tŷ ar dân, a phob un a ymgyfyd â'i arf yn ei law i daro ci cynddeiriog yn ei dalcen. Felly, a hwy yn awr yn llu cadarn, a'u hymddiried yn yr Arglwydd, myned a wnaethant yn uniongyrch, a danfon gwys at y gelynion i ymadael o Frydain; neu, os oedd calon ynddynt i ymladd, deuent i'r maes, ac ymladdent yn deg, ac nid fel bradwyr yn cynllwyn am waed dan rith cyfeillion. Hengist ar hynny a wrychiodd, canys yr oedd yr hen gadnaw yn fyw eto, ac yn awr o gylch saith a thriugain oed; ac ar ol ymgynghori â'i frawd Hors, ac ereill o'i gadbeniaid, efe a atebodd i'r penrhingyll a anfonodd Emrys ato, "fod ganddo ef gystal hawl yn y tir a oresgynasai efe drwy nerth arfau a'r goreu o'r Brutaniaid. Serenbren am eu bygwl."

Ar hynny, rywbryd ym mis Mai, yn y flwyddyn o oedran Crist 484, y bu ymladdfa greulon rhwng y ddwy genedl; y naill yn ymwroli er gyrru estrongenedl, bradwyr a mwrddwyr, allan o'u gwlad; a'r llall yn ffyrnigo fel ellyllon er cadw craff yn eu trawsfeddiannau anghyfiawn. Ar ol cwympo cannoedd o bob parth, yn enwedig o blaid y Saeson, dynesu a wnaethant yn dra llidiog i ymladd law-law; a chethin oedd yr olwg i weled rhai wedi eu hollti yn eu canol, rhai yn fyr o fraich, ac ereill o goes. Hors a wanwyd yn ei wddf, a Hengist a ddaliwyd yn garcharor, a'r lleill ar hynny a ffoisant, ond y rhan fwyaf yn archolledig a dart o'u tu ol. Y sawdwyr yno a lusgasant Hengist gerfydd ei farf tua phabell y brenin, a phan oedd dadl yn eu mysg ynghylch pa beth a wneid o hono, Dyfrig, archesgob Caerlleon-ar-Wysg, a gododd ar ei draed ac a ddywedodd,—"Petai pob un o honoch chwi am ei ryddhau ef, myfi, ie myfi, ag wyf yn esgob, a'i drylliwn ef yn chwilfriw; canys mi a ganlynwn siampl y proffwyd Samuel, yr hwn, pan oedd Agag, brenin yr Amaleciaid, yn ei law, a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ym mysg gwragedd. A Samuel a ddarn—iodd Agag gerbron yr Arglwydd yn Gilgal.' Gwnewch chwithau, anwyl wŷr," eb efe, yr un ffunud a Hengist, yr hwn sydd megis ail Agag." Ar hynny, Eidiol, iarll Caerloyw, a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Gyda bod y cleddyf ynddo, yna chwi a welech yr holl lu yn gwasgaru, rhai yma, rhai acw, i geisio bob un ei garreg i daflu arno; a chyn nosi, yr oedd yno gryn garn ar ei ben, megis yr oeddid yn arferol o wneuthur â drwgweithredwyr, y rhai, oddiwrth hyn, a gyfenwir yn Garn-ladron.

Emrys Benaur oedd yn awr yn eistedd yn ddiogel ar yr orseddfainc; a chyn gwneuthur un peth arall, adgyweirio tŷ na dinas, efe a barodd talu diolch cyffredinol i Dduw ymhob eglwys blwyf a chadeiriol o fewn y deyrnas, am deilyngu o hono adael ei fendith i gydgerdded â'u Ac yn harfau er darostwng y gelynion. ebrwydd, y gweddillion o'r Saeson a adawyd yn fyw, a ymostyngasant ger ei fron, a lludw ar eu pennau, a chebystrau am eu gyddfau, yn taer ymbil ar fod yn wiw gan y brenin i ganiatau ond eu hoedl yn unig iddynt. Y brenin yno a ymgynghorodd â'i benaethiaid; a barn Dyfrig, yr archesgob, oedd hyn,—"Y Gibeoniaid," ebe efe, a geisiasant amodau heddwch gan yr Israeliaid, er nad oedd hynny ond mewn twyll, ac a'i cawsant. Ac a fyddwn ni, Gristnogion, yn greulonach nag Iddewon, i gau allan y Saeson oddiwrth drugaredd? Y mae'r deyrnas yn eang ddigon; y mae llawer o dir eto yn annghyfannedd; gadewch iddynt drigo yn y mynydd-dir a'r diffeithwch, fel y byddont yn weision yn dragywydd i ni." A'r brenin, ar hynny, a ganiataodd eu hoedl iddynt, ar eu gwaith yn cymeryd llw o ufudd-dod i goron Lloegr, ac na ddygent arfau byth rhagllaw yn erbyn y Brutaniaid.

Chwi a glywsoch eisoes fod i Wrtheyrn fab a elwid Pascen, yr hwn, pan goronwyd Emrys Benaur yn frenin, a aeth eilwaith yn llidiog i Sermania, gwlad y Saeson, i'w cymell trosodd i Frydain i ennill y deyrnas oddiar Emrys. Ac ar ol iddo, drwy weniaith ac addewidion mawr, gynnull ato lu mawr o wŷr arfog, efe a hwyliodd gyda hwy mewn pymtheg llong, ac a diriodd yn ddiangol yn Iscoed Celyddon, a elwir heddyw Scotland, lle y gadawodd efe y Saeson gyda'u cydwladwyr, y rhai a arbedodd Emrys Benaur, ac a ganiataodd eu hoedl iddynt ar ddeisyfiad Dyfrig, archesgob Caerlleon-ar-Wysg. Am dano ei hun, gyda ynghylch hanner cant o wŷr ei wlad, efe a hwyliodd i'r Iwerddon, o'r lle yr oedd efe yn disgwyl ychwaneg gymorth oddiwrth Gilamwri, un o frenhinoedd yr ynys honno. Cilamwri a'i derbyniodd ef yn anrhydeddus, ac a adawodd iddo gael saith mil o wŷr dewisol i fordwyo gydag ef i Frydain. Pascen a'i lu a diriasant yn Aberdaugleddyf, ym Mhenfro, ac oddiyno y cerddodd yn y blaen yn llidiog, megis arthes yn ymgynddeiriogi wedi colli ei chenawon, gan ddifa a dinistrio y cwbl, tua Chaerfyrddin, glan Tywi, ac oddiyno i Aberhonddu a glan Wysg, hyd at Fôr Hafren.

Emrys, brenin y Brutaniaid, yn y cyfamser oedd yn glaf yng Nghaer Went; a hyfryd iawn oedd y newydd yng nghlustiau Pascen, ac a ddymunasai o eigion calon ei fod ef mewn rhywle arall nag yn nhir y rhai byw. Ac yna neidio a wnaeth y diafl i galon Pascen, a dyfalu ffordd i ladd y brenin; ac fe wyddai eisoes fod ganddo Sais yn ei gymdeithas, Eppa oedd ei enw, o gystal un at fath orchwyl ag a fu erioed yn ysgoldy Belzebub. Yr oedd efe yn deall yr iaith Gymraeg, yn rhyw ychydig o feddyg, ac yn ddyn dewr ystrywgar hefyd. Ac fel y byddai efe yn fradwr hollol, efe a ymrithiodd megis offeiriad, aceto yn deall meddyginiaeth. "Wele yn awr," ebe Pascen wrtho, dos a llwydda; a gwybydd fyned yn ebrwydd at y Saeson i Iscoed Celyddon, ar ol gwneuthur o honot dy orchwyl, a danfon air ataf innau. Y Sais, mewn rhith gŵr crefyddol, ac yn un yn deall meddyginiaeth, a gafodd fynediad yn hawdd i lys y brenin, ac a roddodd iddo ddiod o lysiau a gasglodd efe o'r ardd, yng ngwydd pawb; ond efe yn ddirgel a gymysgodd wenwyn â hi, ac o fesur cam a cham a ddiflannodd o'r golwg, a phrin y gorffwysodd efe yn iawn nes myned a'r newydd at ei gydwladwyr i Iscoed Celyddon, a'u hannog i wisgo eu harfau. Dydd du yn ei wyneb, a phob bradwr câs megis yntau.

Fe ddywedir i seren a phaladr iddi, anfeidrol ei maint, ac yn echrydus yr olwg, ymddangos i Uthr Bendragon ar y munud y bu farw Emrys ei frawd. A phan oedd Uthr, a phawb o'r rhai oedd gydag ef. yn ofni wrth edrych ar y fath weledigaeth, yno Myrddin a ddywedodd,—"O genedl y Brutaniaid, yn awr yr ydych chwi yn weddw o Emrys, y golled ni ellir ei hennill; ac er hynny nid ydych yn amddifad o frenin, canys tydi a fyddi frenin, Uthr; brysia di, ymladd â'th elynion, canys ti a orfyddi arnynt, ac a fyddi feddiannol ar yr ynys hon; a thydi a arwyddocâ y seren a welaist ti."

Uthr Bendragon a goronwyd ar ffrwst; ac ar y fath amser terfysglyd a hwn, nid oedd dim cyfle nac adeg i lawer o seremoni a rhialtwch; canys yr oedd Eppa, mab Hengist, wedi perswadio ei gydwladwyr, y Saeson, eu bod yn awr yn rhydd oddiwrth y llw a gymerasant i Emrys Benaur. "Beth," eb efe, ai gwneuthur cydwybod yr ydych o ffol eiriau ffiloreg? Emrys nid yw mwy; mi a roddais gwpanaid iddo i'ch rhyddhau o'r llw a wnaethoch iddo ef. Gan hynny, gwisgwch am danoch eich arfau; yr ydym ni yma, o honom ein hunain yn llu cadarn; a Phascen sydd â llu cadarn o wŷr dewisol tua Chaerlleon ar Wysg. Y mae'r Brutaniaid wedi digalonni; wele, holl gyfoeth ynys Brydain yn wobr o'n gwroldeb." Nid oedd dim achos wrth lawer o araith; yr oedd y gwŷr a'u cydwybod yn ystwyth ddigon i lyncu llw a'i chwydu allan, pan fyddai hynny at eu tro.

Felly, a hwy yn awr yn llu mawr erchyll, wedi ymgaledu mewn drygioni, ac mor chwannog i dywallt gwaed a difrodi, ag yw haid o gigfrain gwancus yn gwibio am ysglyfaeth, cymeryd eu cyrch a wnaethant, gan ladd a dinistrio, i gyffwrdd â Phascen, yr hwn, erbyn hynny, oedd wedi treiddio Môr Hafren, tua Chaer Bristo. Uthr Bendragon a wnaeth ei ran cystal ag oedd bosibl yn y fath amgylchiadau cyfyng; canys efe a ddanfonodd bedwar rhingyll, un i Gerniw, un i'r Gogledd, un tua Rhydychen a Llundain. ac un i Gymru, ynghyda llythyrau at y gwŷr mawr i godi gwŷr, bob un yn ei fro a'i ardal, i achub y deyrnas rhag bod yn ysglyfaeth i'r fath elynion a bradwyr anrhugarog. Pa gynorthwy a ddaeth o Loegr, ni wyddis; ond o Gymru y daeth rhyw arglwydd mawr a elwid Nathan Llwyd, a phum mil o wŷr dewisol gydag ef. Ac ymgyfarfod oll a wnaethant ar dwyn, gerllaw Caerbaddon, yng Ngwlad yr Haf; sef Pascen Fradwr a'i wŷr, y Saeson hwythau dan Eppa a Cherdic, dau ben-cadben y llu; ac o'r tu arall, Uthr Bendragon a'i luoedd, a Nathan Llwyd a'i wyr o Gymru. Wedi byddino eu gwyr o bob ochr, y dechreuodd yr ymladdfa greulonaf a fu, ond odid, erioed rhwng y Brutaniaid a'r Saeson. Yno y gwelid y saethau yn chwifio o'r naill lu at y llall, megis cafod o gesair yn ymdyrru pan y byddo gwynt gwrthwyneb yn eu gwthio draw ac yma.

Dros chwech awr, nid oedd dim ond y dinystr gwyllt o bob ochr, ond yn enwedig o du y Saeson, megis y mae Gildas, ein cydwladwr, yr hwn a aned yn y flwyddyn honno, yn sicrhau. Eu lluoedd, y waith hon, er eu hamled, a sathrwyd fel nad arhosodd cymaint a rhestr gyfan yn ddiglwyf; a'r maes a guddiwyd cyn dewed â chelaneddau y meirw, fel mai nid gwaith ysgafn dros rai diwrnodau oedd eu claddu. Y frwydr hon a ymladdwyd yn y flwyddyn 495. Arthur, mab y brenin, a ymddygodd yma yn llawn calondid a medr i drin arfau. Am ba ham y mae beirdd yr oes honno yn canu ei fawl mewn amryw benillion ac odlau; ac ymysg ereill, hen Daliesin Benbeirdd sy'n canu,—

"Gwae hwynt-hwy yr ynfydion,
Pan fu waith Faddon;
Arthur, ben haelion,
Y llafnau bu gochion,
Gwnaeth ar ei âlon
Gwaith gwŷr gewynion."

Ni bu dim rhyfel ar ol hyn dros amryw flynyddoedd; canys y Saeson a dorrwyd i'r llawr y waith hon, ac hyd y gall dyn farnu, ni buasent byth yn abl i godi eu pennau drachefn ym Mhrydain, oni buasai anghydfod ac anras y Brutaniaid yn eu mysg eu hunain. Canys ar ol iddynt gael preswylfa ddiogel, a llonyddwch oddiwrth eu gelynion o amgylch, ymroddi a wnaethant i bob aflendid ac anwiredd, gormodedd a meddwdod, anudon a dywedyd celwydd, megis pe buasent yn beiddio Duw, gan ddywedyd, "Ni fynnwn ni ddim o'th gyfraith." Ond yn anad un drwg arall, y gwŷr mawr yn enwedig a ymroisant yn ddigydwybod i bob aflendid a godineb, yr hyn a barodd eu bod yn cynllwyn am waed, yn mwrddro eu gilydd, ac yn difrodi dros gydol y deyrnas, yn waeth eto er y lles cyffredin nag un gelyn amlwg, neu estron pellenig. Ac ymysg amryw ddrygau ereill, beth a wnaeth rhai mewn gwyn fyrbwyll o gynddaredd a llid, ond gollwng penaethiaid y Saeson o'r carchar; y rhai, cyn gynted ag y cawsant eu traed yn rhyddion, brysio a wnaethant i dir eu gwlad, sef i Sermania, ac adrodd wrth eu cydwladwyr,—"Er i ni, digon gwir, gael y gwaethaf wrth ymladd â'r Brutaniaid lawer tro, megis y mae hynt rhyfel yn ansicr, eto, nid oedd hynny ond eisieu ychwaneg o ddwylaw, ac nid eisieu na chalondid na chyfrwysdra, wrth fel y gwelwn ni bethau yn digwydd. Eto," ebe hwy, "nid allwn lai na chredu oni bydd Ynys Brydain rywbryd neu gilydd ym meddiant y Saeson, ac ond odid cyn bo hir; canys yn awr," ebe hwy, "nid oes dim ond anrhefn gwyllt dros wyneb yr holl wlad. Gadewch iddynt i ladd eu gilydd oni flinont, ysgafna i gyd fydd ein gwaith ni y tro nesaf.

Nid neb ond goreuon y Saeson, eu cadbeniaid, a swyddogion eu lluoedd, a ddiangasant y pryd hwnnw o garchar, a myned i dir eu gwlad, i Sermania. Am yr ysgraglach bach, y werin sawdwyr, ni charcharwyd mo honynt hwy, eithr, a hwy heb un pen arnynt, a wnaethpwyd yn gaethweision i'r Brutaniaid. Ond er hynny, yr oedd y natur ddrwg yn brydio yn y rhai hyn, megis ac yn eu gwŷr mawr. oeddent i godi mewn arfau, lladd eu meistriaid, Chwennych yr a bwyta brasder y wlad, ond eu bod yn ofni fod y Brutaniaid yn rhy galed iddynt. Megis y gwelwch chwi bedwar neu bump o gorgwn yn dilyn y sawr ar furgyn, os digwydd fod yno waed-gi neu ddau yn ciniawa yno eisioes, yna y corgwn, er cymaint fyddo eu chwant, a safant o hirbell, gan edrych o yma draw, heb feiddio peri afonyddwch i'w goreuon. Ond er bod eu gallu yn wan, eto yr oedd eu hewyllys yn gryf; canys y drwg a oedd o fewn eu cyrraedd, hynny a wnaeth y dynionach hyn, sef bwrw gwenwyn yn ddirgel i'r ffynnon, lle, er ys rhai dyddiau, yr arferai Uthr Bendragon yfed o honi; canys yr oedd efe ryw ychydig allan o hwyl, a chyngor ei feddygon oedd yfed dwfr ffynnon bob bore. Ond efe, ŵr glew a chalonnog ag oedd, a gollodd ei fywyd gan frad y Saeson; yn lle ei dynerwch iddynt yn arbed eu bywyd, hwynt-hwy, blant annwn, a wnaethant iddo ef anrheg o wenwyn marwol.

Y fath a hyn oedd y gydnabyddiaeth a ddanghosodd y gwŷr bach; ac am y blaenoriaid, y rhai a ddiangasant o garchar i dir eu gwlad, mynegi draw ac yma pa fath wlad odidog a rhagorol oedd teyrnas Lloegr, nad oedd eu gwlad eu hunain ddim mwy i'w chystadlu â hi nag yw ysgall i rosynau cochion. Mynegi hefyd a wnaethant pa anrhefn ac anghydfod oedd ymysg y trigolion, ac nid oedd dim ameu ganddynt oni byddent berchenogion ar y wlad, os caent hwy rydd—did i godi digon o wŷr ac arfau tuag at hynny. Ac, megis pan fyddo carw wedi ei glwyfo, y bydd corgwn a bytheuaid-gwn, a brain, a phiod, a barcutanod, bawb o un chwant yn llygad-dynnu tuag ato, eu gyd yn blysio am olwyth o gig carw; felly yma yr ymgynhullodd amryw bobl o dylwythau ereill heblaw y Saeson, nes eu bod yn llu mawr iawn, gylch ugain mil o wŷr, i gyd a'u hergyd i gael rhan o ysglyfaeth Ynys Brydain, yr hon, yn rhy fynych er ei lles, oedd yn glwyfus gan anghydfod a rhy aml ym bleidio o'i mewn.

Ond erbyn eu dyfod hwy i dir Brydain, yr oedd yma ŵr, y brenin Arthur dan ei enw, yr hwn ni roddes iddynt ond ychydig hamdden i wledda ac ymdordynnu. Ar y cyntaf, yn wir, pan nad oedd neb yn eu gwrthsefyll, y gwnaethant hafog echrydus o gylch y lle y tiriasant, ac oddiyno tua Llundain; do, y fath ddistryw a phan y byddo eirias dân yn difa perth o eithin crin, y fath oedd eu cynddeiriogrwydd a'u creulonder. Yn y cyfamser, y brenin Arthur a gynhullodd ei wŷr, ac a ddanfonodd wys, megis yr oedd efe yn ben rheolwr y deyrnas, at Garon, brenin Iscoed Celyddon, Caswallon Lawhir, brenin Gwynedd; at Meuric, brenin Deheubarth; ac at Catwr, iarll Cerniw, yn gorchymyn bob un o honynt i arfogi eu gwŷr, gan fod y gelynion a llu cadarn wedi dyfod i'r wlad, ac yn distrywio y ffordd y cerddent. Pa gymaint o wŷr arfog a ddaeth yng nghyd ar wys y brenin Arthur, ni wyddys yn sicr; ond y mae yn ddilys ddiameu nad oedd yma agos ddigon i wynebu y gelynion yn y maes. Ambell ysgarmes frwd yn wir a fu, ac ambell ymgiprys a chynllwyn; ond y Saeson oedd drechaf, ac yn ymgreuloni yn dra ffyrnig Y brenin Arthur yno, ar ol ym—gynghori â'i arglwyddi, a ddanfonodd lythyr gydag Owen ap Urien Reged, at Howel, brenin Llydaw, ei nai fab chwaer, i ddeisyf porth ganddo yn erbyn y gelynion. Dyma i chwi eiriau'r llythyr,—

Arthur, brenin Brydain, at Howel, brenin Llydaw, yn anfon annerch. Y barbariaid anystywallt, y Saeson, sydd fyth yn gormesu yn dra ysgeler yn ein teyrnas. Hwy a gyflogwyd ar y cyntaf, fel y mae'n hysbys ddigon i'ch mawredd, i ymladd drosom: eithr hwynt hwy, yn lle bod yn wasanaeth-ddynion a fynnant fod yn feistriaid, yn erbyn pob gwirionedd a chyfiawnder. Ein cais ni, gan hynny, gâr anwyl, ydyw, ar deilyngu o honoch ddanfon yn borth i ni wyth mil o wŷr dewisol; ac y mae fy hyder ar Dduw, y bydd yn fy ngallu innau ym mhen ychydig, wneyd ad-daledigaeth i chwi. Eich câr diffuant,

ARTHUR, BRENIN BRYDAIN."

Y nai, fel gwir Gristion teimladwy, a wnaeth fwy eto nag oedd ei ewythr yn geisio ganddo; canys efe a anfonodd yn garedig ddeng mil o wŷr, a gwŷr glewion, yn wir, a dewr oeddent. Y fath gymorth a hwn a adfywiodd galon Arthur a'i Frutaniaid, ac yn ebrwydd y bu ysgarmes greulon ac ymladdfa waedlyd, yr hon a barhaodd agos yn ddiorffwys dros dri diwrnod a thair nos. Ac er bod Arthur yn rhyfelwr enwog o'i febyd, ac hefyd ei wŷr yn llawn calondid ac egni i ymladd dros eu gwlad: eto, y mae'n rhaid addef y gwir, hi a fu galed ddigon arnynt y waith hon. Mor ffyrnig oedd y Saeson i gadw craff yn eu traws feddiant annghyfiawn, megis ac y drylliwyd blaenfyddin y Brutaniaid y dydd cyntaf, a'r Saeson yn eu herlid yn archolledig nes lladd cannoedd o honynt; ond Catwr, iarll Cerniw, a'i hymchwelodd drachefn a mil o wŷr meirch a thair mil o wŷr traed gydag ef. Y rhyfel a drymhaodd yr ail ddydd; ac Arthur, o serch at ei genedl, a ddibrisiodd ei einioes gymaint, megis yr aeth efe i ganol y frwydr ymysg ei elynion, a'i gleddyf noeth yn ei law, a elwid Caledfwlch; ac â'i law ei hun, heblaw y lladdfa a wnaeth ei farchogion, efe a wanodd dros dri chant o Saeson; ar hynny y lleill a ffoisant, ond nid cyn tywallt llawer iawn o waed o bob ochr. O gylch y flwyddyn 520 y bu hyn.

Erbyn hyn o amser, yr oedd goreuon Sermania, gwlad y Saeson, wedi cael prawf o ddaioni a brasder Lloegr; a chymaint oedd eu trachwant anghyfiawn i feddiannu y wlad odidog hon, fel y gwnaethant lawn fwriad yn un a chytun, na ddiffygient hwy fyth i ddyfod a gwŷr y tu draw i'r môr i oresgyn Lloegr wrth rym y cleddyf, ie, pe gorfyddai arnynt gwbl arloesi eu gwlad eu hun o bob copa wlanog o'i mewn. O hyn ymlaen, ni chafodd y brenin Arthur ond ychydig lonyddwch nac esmwythder yn holl amser ei deyrnasiad; canys o'r dechreu i'r diwedd efe a ymladdodd ddeuddeg brwydr â'r Saeson. Ac er hyn i gyd, er cymaint o ddyhirwyr a chigyddion gwaedlyd oedd yma yn ymwthio yma o du draw y môr, eto, oni buasai bradwyr gartref, ni roddasai y brenin Arthur bin draen am eu holl ymgyrch; ond teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir." Felly yma, gan fod rhai yn haeru mai nid mab o briod oedd Arthur, y gwyrodd rhan fawr o'r deyrnas, ac eneinio câr iddo yn frenin a wnaethant, a elwid Medrod, yr hwn a fu chwerwach i Arthur na holl ruthrau ei elynion. Canys heblaw ei fradwriaeth yn erbyn y goron, a'i waith yn ymgoleddu y Saeson, efe a gymerodd trwy drais, Gwenhwyfar y frenhines, ac a'i cadwodd yn wraig iddo'i hun. Dynion drwg, aflan, a chynhenus oedd yr hen Frutaniaid o hyd, gan mwyaf; a hwn yw un o'r tri bradwyr Brydain; y ddau arall ydynt Afarwy, fab Lludd, yr hwn a fradychodd y deyrnas i Iwl Caisar; a Gwrtheyrn, yr hwn gyntaf a wahoddodd y Saeson drosodd.

Y mae llawer o storiau am Arthur, y rhai ydynt yn ddilys ddigon ddim amgen na hen chwedlau gwneuthur. Dywedir fod ymrafael ymysg y Brutaniaid ynghylch dewis brenin ar ol marw Uthr Bendragon, tad Arthur; ac i Fyrddin alw ynghyd oreuon y deyrnas i Lundain, a gorchymyn yr offeiriaid weddio Duw ar deilyngu o hono hysbysu drwy ryw arwydd pwy oedd frenin teilwng Ynys Brydain; ac erbyn y bore drannoeth, mewn carreg fawr bedair ochrog, y cafwyd yn ei chanol gyffelyb i eingion gôf, ac yn yr eingion yr oedd cleddyf yn sefyll erbyn ei flaen, a llythrennau euraidd yn ysgrifenedig arno, nid amgen:—Pwy bynnag a dynno y cleddyf hwn allan o'r eingion, hwnnw a fydd frenin cyfiawn Ynys Brydain." A phan wybu y pendefigion a'r offeiriaid hynny, hwy a roisant y gogoniant i Dduw. A rhai o honynt a brofasant i dynnu y cleddyf allan, ond nis gallent. A dywedodd yr offeiriaid wrthynt nad oedd neb yn deilwng i wisgo coron y deyrnas; ond Arthur a ymaflodd yn y cleddyf, ac a'i tynnodd allan yn ddirwystr.

Y fath chwedlau a'r rhai hyn, ac amryw o'u cyffelyb ydynt gymaint yn anfoddloni rhai dynion, megis y beiddiant daeru yn safnrwth eu gwala, na fu erioed y fath frenin ag Arthur. Ond ni ddylid gwadu gwirionedd amlwg, er ei fod wedi ei drwsio â hen chwedlau ofer. Dyn allan o berfedd ei gof a fyddai hwnnw a daerai na chododd yr haul erioed, o herwydd ei bod yn fachlud haul pan yr ynfydai efe hynny. Ac y mae mor ddilys ddiameu fod y fath frenin ac Arthur, a bod Alecsander, er bod hanes bywyd y naill a'r llall wedi eu cymylu â hen chwedlau. Canys y mae beirdd yr oes honno yn crybwyll am dano yn eu penillion. Mi a adroddais o'r blaen awdl o waith Taliesin, clywch un arall o waith Llywarch Hen,—

"Yn Llongborth llâs i Arthur
Gwŷr dewr, cymunent â dur,
Amerawdwr, llywiawdwr llafur."

Barn rhai yw mai Llanborth, o fewn plwyf Pen Bryn, yng Ngheredigion, yw y lle a eilw y bardd Llongborth, yr hyn nid yw anhebyg i fod yn wir. Mae lle yn gyfagos yno a elwir yn gyffredin Maes Glas; ond yr hen enw cyffredin yw Maes y Llâs, neu Maes Galanas; ac yno, drwy bob tebygoliaeth, y lladdwyd rhai o wŷr Arthur, trwy fradwriaeth Medrod. Y mae man arall yn y gymydogaeth o fewn plwyf Pen Bryn, a elwir Perth Gereint, lle wrth bob tebygoliaeth y claddwyd Gereint yr hwn oedd uchel gadben llongau Arthur, ac a laddwyd yn Llongborth, megis y cân yr un hen fardd godidog Llywarch Hen,

"Yn Llongborth y llâs Gereint,
Gwr dewr o goed—tir Dyfneint,
Hwynt hwy yn lladd, gyd os lleddeint."

Heblaw hyn, fe gafwyd beddrod Arthur yn niwedd teyrnasiad y brenin Harri yr Ail, o gylch y flwyddyn un mil, un cant, pedwar ugain a naw, a'r geiriau hyn oeddent argraffedig ar groes blwm, yr hon oedd wedi hoelio wrth yr ysgrin,—" Yma y gorwedd Arthur, brenin enwog y Brutaniaid, yn ynys Afallon." Wrth rai o benillion yr hen feirdd y daeth y goleuni cyntaf ynghylch y man a'r lle y claddwyd ef. Defnydd ei ysgrin ef oedd derwen gau, ac yn gorwedd mewn naw troedfedd o ddyfnder daear.

Yr oedd gan Arthur amryw lysoedd heblaw ei ben palas yn Llundain,—ambell waith yng Nghaer y Gamlas, dinas hyfryd gynt yng Ngwlad yr Haf; ambell waith mewn lle a elwid Gelli Wig, yng Ngherniw; ac yn fynych yng Nghaerlleon ar Wysg, yr hon oedd gynt y drydedd ddinas o ran tegwch a maint drwy'r holl deyrnas, ac yn eisteddfa archesgobaeth.

Ac efe yn ŵr call i ragachub cynnen ymysg ei farchogion ynghylch y lle uchaf ar y bwrdd; dywedir mai efe oedd y cyntaf a ddyfeisiodd y ford gron, fel y gallai pawb eistedd blith-drafflith yn ddiwahan heb ddim ymryson am oruchafiaeth. Y rhai hyn yw y cynheddfau a ofynnid gan bob un o farchogion Arthur, y rhai y caniateid iddynt ar ei fwrdd ei hun,—

"I. Y dylai pob marchog gadw arfau da, ac yn barod at bob rhyw wasanaeth a osodid arno, ai ar fôr ai ar dir.

"II. Y dylai yn wastad wneyd ei oreu er darostwng pawb a fyddai yn gorthrymu ac yn treisio'r bobl o'u hiawn.

"III. Y dylai amddiffyn ac ymgoleddu gwragedd gweddwon rhag magl a niwed maleiswyr; edfryd plant a dreisid o'u heiddo at eu gwir feddiant; a maentumio'r grefydd Gristnogol yn wrol.

"IV. Y dylai, hyd eithaf ei allu, gadw llonyddwch yn y deyrnas, a gyrru ymaith y gelynion.

"V. Y dylai chwanegu at bob gweithred glodfawr, dorri lawr bob campau drwg, cynorthwyo y gorthrymedig, dyrchafu braint yr eglwys gatholig, ac ymgoleddu pererinion.

"VI. Y dylai gladdu y sawdwyr a fyddent yn gorwedd ar wyneb y maes heb feddrod, gwared y carcharorion a'r rhai a gaethiwid ar gam, a iachau y rhai a glwyfid yn ymladd dros eu gwlad.

"VII. Y dylai fod yn galonnog i fentro ei hoedl mewn pob rhyw wasanaeth anrhydeddus, eto fod yn deg a chyfiawn.

"VIII. Y dylai, wedi gwneuthur unrhyw weithred odidog, ysgrifennu hanes am dani mewn cof—lyfr, er tragwyddol ogoniant i'w enw, a'i gydfarchogion.

"IX. Os dyger dim achwyniad i'r llys am dyngu anudon, neu orthrwm. yno y dylai y marchog hwnnw a apwyntiai y brenin, amddiffyn y gwirion, a dwyn y drwg-weithredwr i farn cyfraith.

"X. Os digwyddo ddyfod un marchog o wlad ddieithr i'r llys, ac yn chwennych dangos ei wroldeb, yna y dylai'r marchog a apwyntiai'r brenin ymladd ag ef.

"XI. Os rhyw bendefiges, gwraig weddw, neu arall, a wnai ei chwyn yn y llys ddarfod ei threisio hi, y dylai un, neu chwaneg o farchogion, os byddai raid, amddiffyn ei cham, a dial y sarhad

"XII. Y dylai pob marchog ddysgu arglwyddi a phendefigion ieuainc i drin arfau yn gywrain, nid yn unig i ochelyd seguryd, ond hefyd i chwanegu at anrhydedd eu swydd a'u gwroldeb."

Ni chafodd y Saeson ddim meddiant, na'r deyrnas ychwaith ddim llonyddwch parhaus tra bu Arthur yn teyrnasu, er ei fod efe yn ddilys ddigon cyn enwoced brenin a chyn enwoced rhyfelwr ar a fu erioed yn y byd Cristnogol. Ond ar ol ei farwolaeth ef, yr hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn 543, tra yr oedd y fath luaws gwastadol o draw yn heidio arnom, gormes y Saeson a eangodd fwyfwy; megis cornant gwyllt, ar waith cawod yn pistyllio i lawr, sy'n rhuthro dros y dibyn, ac yn gorchuddio y dyffryn isod â llaid, graian, a cherrig. Ac eto ni chawsant ddim cwbl feddiant yn holl Loegr hyd yn amser Cadwaladr, o gylch y flwyddyn 664; ym mha amser y bu marwolaeth fawr iawn yn Lloegr, a elwir pla y fall felen." Ac o achos y pla yr ymadawodd Cadwaladr a'r rhan fwyaf o'r Brutaniaid dan ei lywodraeth ef, ac a aethant at eu cydwladwyr i Lydaw, yn nheyrnas Ffrainc.

Dyma'r pryd y darfu i'r Saeson gael cwbl feddiant yn Lloegr; ond nid yn wobr o'u gwroldeb, ond o achos cynnen ac ymraniad yr hen Frutaniaid; ac am y mynnai Duw eu cospi am eu holl ffieidddra a'u diystyrrwch ar ei sanctaidd gyfreithiau. Y Brutaniaid yng Nghymru a aroshasant yn eu gwlad; hwynt-hwy o Loegr, lawer iawn o honynt, a aethant gyda Chadwaladr eu brenin i Lydaw. Ond ym mhen amser, sef ar ol atal y pla ym Mhrydain, dychwelyd adref a wnaethant, a phreswylio yn y wlad y tuhwnt i Fristo, a elwir Cerniw, lle yr arhosasant fyth wedi hyn, ond bod yr iaith wedi darfod yn awr yn llwyr, oddieithr rhyw ychydig mewn naw neu ddeg o blwyfau. Ac er gwahanu yr hen Frutaniaid oddiwrth eu gilydd, sef i Lydaw, a Cherniw, a Chymru, eto llawer gwaith y gwnaethant ymgais i hyrddu ymaith y gelynion, a bod yn ben drachefn; ond gormod o ymorchest oedd hynny, ac uwchben eu gallu; megis pan fo neidr wedi ei thorri yn dair darn, fe fydd pob darn clwyfus dros ennyd yn gwingo, ond eto heb allu byth ymgydio drachefn.

Y sawl a chwenycho hanes cyflawn am helynt tywysogion Cymru, darllenned Gronicl Caradoc o Lancarfan. Ar y cyntaf un tywysog a reolai Gymru oll; ond Rhodri Mawr, yr hwn a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 843, a rannodd Gymru yn dair rhan, rhwng ei dri mab. Gosododd un yng Ngwynedd, yr ail ym Mhowis, a'r trydydd yn Neheubarth. Breninllys tywysog Gwynedd oedd Aberffraw, ym Môn. Palas tywysog Powys oedd ym Mathrafael. A phen cyfeistedd tywysog Deheubarth ydoedd Castell Dinefwr, ar lan Tywi.

Amcan Rhodri Mawr yn hyn o beth oedd.er diogelwch a chadernid Cymru; fel a hwy yn gyd—dylwyth yng Ngwynedd a Deheubarth, y gallent gydfod fel brodyr, ac, o byddai raid, gydymgynnull eu lluoedd yn erbyn y Saeson. Ond hi a ddigwyddodd yn llwyr wrthwyneb, canys ben-ben yr aethant o hynny allan, fel prin y gwladychodd un tywysog heb ymgecreth a llawer o dywallt gwaed.

Yr enwocaf o holl dywysogion Cymru oedd Hywel Dda, yr hwn a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 940. Efe a drefnodd gyfreithiau da i'w cadw drwy holl Gymru, y rhai a arferid gan mwyaf hyd yn amser Harri y Seithfed, brenin Lloegr, ac ŵyr i Owen Tudur, o ynys Môn.

'Pan welodd Hywel," ebe y cronicl, gamarfer defodau ei wlad, efe a anfonodd am archesgob Tŷ-Ddewi, a'r holl esgobion ereill ag oeddent yng Nghymru, a'r holl brif eglwyswyr ag oedd danynt, y rhai oeddent i gyd yn saith ugain; ac hefyd holl arglwyddi, baryniaid, a phendefigion y wlad. Ac yno y parodd i chwech o'r rhai doethaf o honynt ymhob cwmwd, ddyfod ger ei fron ef yn ei lys, yn y Tŷ Gwyn ar Daf, lle y daeth efe ei hunan, ac a arhosodd yno gyda'i bendefigion, esgobion, eglwyswyr, a'i ddeiliaid, drwy y Grawys, mewn ympryd a gweddiau am gymorth yr Ysbryd Glân, modd y gallai adferu ac adgyweirio cyfreithiau a defodau gwlad Cymru, er anrhydedd i Dduw, ac er llywodraethu y bobloedd mewn heddwch a chyfiawnder. Ac ymhen diwedd y Grawys, efe a ddetholodd ddeuddeg o'r rhai doethaf o'r cwbl, gyda'r doctor enwog o'r gyfraith, Blegwyryd, gŵr doeth a dysgedig iawn; ac a orchymynodd iddynt chwilio yn fanwl holl gyfreithiau a defodau Cymru, a chynnull allan y rhai oeddent fuddiol, ac esbonio y rhai oeddent dywyll ac amheus, a diddymu y rhai oeddent ar ddigonaidd. Ac felly yr ordeiniodd efe dair rhyw ar gyfraith,—sef yn gyntaf, cyfraith ynghylch llywodraeth y llys a theulu y tywysog; yr ail ynghylch y cyfoeth cyffredinol; a'r drydedd ynghylch y prif ddefodau a breiniau neillduol. Ac yna, wedi eu darllen a'u cyhoeddi, y parodd efe ysgrifennu tri llyfr o'r gyfraith; sef un i'w arfer yn wastadol yn ei lys; a'r ail i'w gadw yn ei lys yn Aberffraw; a'r trydydd yn llys Dinefwr; modd y gallai y tair talaeth eu harfer a'u mynychu pan fyddai achosion. Ac i gymell ufudd-dod iddynt, efe a barodd i'r archesgob gyhoeddi ysgymundod yn erbyn y sawl oll a'i gwrthladdai hi. Yma y canlyn ryw ychydig o honi:—

Barnwr a ddylai wrando yn llwyr, dysgu yn graff, dadganu yn wâr, a barnu yn drugarog. A dyma yr oed y dylir gwneyd dyn yn farnwr, pan fyddo bum mlwydd ar hugain oed. Sef yr achos yw hynny, wrth na bydd cyflawn o synwyr a dysg hyd pan fyddo barf arno; ac ni bydd gŵr neb hyd pan ddel barf arno; ac nid teg gweled mab yn barnu ar ŵr hen.

Rheidus a gerddo dair tref, a naw tŷ ymhob tref, heb gael na chardod na gwestfa, er ei ddal a'i ladrad-ymborth ganddo, ni chrogir.

"O derfydd pob ymryson pwy a ddylai warchadw etifedd cyn y del i oedran gŵr, ai cenedl ei fam ai cenedl ei dad, cyfraith a ddywed, mai gŵr o genedl ei fam a ddylai, rhag i neb o genedl ei dad wneuthur brad am y tir, neu ei wenwyno.

'Os ymrwym gwraig wrth ŵr heb gyngor ei chenedl, y plant a enillir o honno, ni chant ran o dir gan genedl eu mam o gyfraith.

"Tri dyn sy enaid-faddeu (hynny yw, euog o farwolaeth), ac ni ellir eu prynnu,—bradwr arglwydd, a dyn a laddo arall yn ffyrnig, a lleidr cyfaddef am werth mwy na phedair ceiniog.

"Os derfydd bod dau ddyn yn cerdded drwy goed, ac esgynio gwrysgen ar lygaid yr olaf gan y blaenaf, oni rybuddia taled iddo am ei lygad, os cyll; ac os rhybuddia, ni thal ddim. O derfydd bod dau yn cerdded ffordd, a chaffael o'r naill denot; os y blaenaf a'i caiff, rhanned â'r olaf os yr olaf a'i caiff, nis rhan â'r blaenaf.

Ni pherthyn dau boen am yr un weithred. "Y neb a ddyweto air garw neu air hagr wrth y brenin, taled gamlwrw i'r brenin.

Pwy bynnag a gwyno rhag arall, ac a fyddo gwell ganddo dewi na chanlyn, cennad yw iddo dewi, a thaled gamlwrw i'r brenin; ac yn oes y brenin hwnnw ni wrandawer.

"Os dyn cynddeiriog a frath ddyn arall â'i ddannedd, a'i farw o'r brath, nis drwg cenedl yr ynfyd; canys o anian yr haint y collodd efe ei enaid.

"Sef yw mes gwobr, os caiff gŵr foch yn ei goed, o'r pumed dydd cyn Gwyl Fihangel, hyd y pymthegfed dydd wedi Calan Gauaf, lladded y degfed o honynt.

Cymaint a hyn yn fyr oblegid cyfraith Hywel Dda. Yn y flwyddyn un cant ar ddeg ac wyth, y soddodd rhan fawr o iseldir Fflanders. Y trigolion gan mwyaf a ddiangasant, ac, a hwy heb un cartref, a ddaethant i Loegr, gan ddeisyf ar y brenin Harri y Cyntaf ar iddynt gael rhyw gwr o'r ynys i fyw ynddo. Harri oedd hael ddigon o'r hyn nid oedd ei eiddo ei hun, a roddodd gennad iddynt fyned i Benfro a Hwlffordd, a'r wlad o amgylch. Yn y cyfamser yr oedd y Cymry hwy ben-ben a'u gilydd,—megis dyna oedd eu hanffawd a'u hanras o hyd,—a gwŷr Fflanders a gawsant yno breswylfa ddiogel heb nemawr o daro, lle y maent yn aros hyd heddyw.

O gylch can mlynedd ar ol hynny, a hwy yn afreolus, y daeth Llywelyn ap Iorwerth, tywysog Cymru, a llu arnynt. Ond tra yr oedd efe yn gorffwys a'i lu ar Gefn Cynwarchan, yr anfonodd Saeson sir Benfro i geisio amodau heddwch. Llywelyn a wrthododd eu cais, ac a fwriadodd unwaith i'w llwyr ddinistrio oddiar wyneb gwlad Penfro; ond ar ddeisyfiad Iorwerth, esgob Dewi, efe a ganiataodd iddynt eu hoedl, ar eu gwaith,—1. Yn talu iddo swm mawr o aur ac arian; 2. Yn tyngu ufudd-dod iddo ef a'i etifeddion ar ei ol; 3. Yn danfon ato ugain o'u penbonedd i fod yn wystlon ar iddynt gyflawni eu gair.

Yn y flwyddyn 1283 y dygpwyd Cymru gyntaf dan lywodraeth brenin Lloegr; trwy frad a ffalsder, digon gwir; ac er hynny, yn well, ie, fil o weithiau yn well er lles cyffredin y wlad, nag yn amser y tywysogion, y rhai oeddent fel bleiddiaid rheibus, mor chwannog i fwrddro eu gilydd. Canys pan fu farw Llywelyn ap Gruffydd, y tywysog diweddaf yng Nghymru o waed diledryw y Brutaniaid, y danfonodd y brenin Edward y Cyntaf at benaethiaid y Cymry, i erchi iddynt ufuddhau i'w lywodraeth ef, a bod yn ddeiliaid i goron Lloegr. Ond yna yr atebasant, nad ymostyngent hwy fyth i neb ond i un o'u cenedl eu hunain; ac y byddai raid i hwnnw fod o ymarweddiad da, ac heb air o Saesneg ganddo. Ac yno y brenin pan ddeall odd na thyciai mo'u bygylu, a ddychymygodd ffalsder i'w siomi; canys yn y cyfamser yr oedd gwraig y brenin yn feichiog, ac efe a'i hanfonodd hi i dref Caernarfon esgor. A phan an wyd iddi fachgen, y danfonodd Edward yn gyfrwys ei wala at benaethiaid y Cymry, gan ofyn iddynt a oeddent o'r un bwriad ag o'r blaen; a hwy a ddywedasant eu bod. "O'r goreu," ebe Edward, "mi a enwaf i chwi dywysog o'r cyneddfau pa rai yr ydych chwi yn ewyllysio. Ganwyd i mi fab yng Nghaernarfon, a hwnnw a gaiff fod yn dywysog i chwi. Un ydyw na wyr air o Saesneg, ac nid all fod dim bai ar ei fywyd a'i fuchedd. Prin y buont foddlon i dderbyn y baban; eto yn lled ddiflas, megis rhai yn yfed diod wermod, cytuno a wnaethant. Ac o hynny allan y cyfenwyd mab hynaf brenin Lloegr, Tywysog Cymru. Llywelyn ap Gruffydd a ryfelodd ar unwaith â holl gadernid Lloegr ac Iwerddon, ar fôr ac ar dir. Efe a soddodd longau y Gwyddelod, ac a yrrodd frenin Lloegr a'i fab a'i holl lu ar ffo. Ond yr hwn nid allodd holl gadernid Lloegr ac Iwerddon ei orthrechu. a gwympodd drwy frad yn ei wlad ei hun. Felly derwen fawr, brenin-bren y tyddyn, a saif yn ddigyffro yn erbyn ystorom, ond diffeithiwr gerllaw a'i bwr hi i lawr â'i fwyell. Efe a fradychwyd ym Muallt, ar ddydd Gwener, 11eg of Ragfyr, yn y flwyddyn 1282. Ei ben a osodwyd ar ben pawl haiarn, ar dŵr Llundain, a'i gorff a gladdwyd mewn lle a enwid o hynny allan Cefn y Bedd; ond pa fan enwedigol y mae ei feddrod, ni wyr neb o'r trigolion presennol.

"Pob cantref, pob tref yn treiddiaw,
Pob tylwyth, pob llwyth y sy'n llithraw;
Pob mab yn ei gryd y sy'n udaw;
Bychan lles oedd im' am fy nhwyllaw,
Gadael pen arnaf, heb ben arnaw;
Pen pan lâs oedd lesach peidiaw;
Pen milwr, pen moliant rhagllaw;
Pen dragon, pen draig, oedd arnaw;
Pen Llywelyn deg, dygna braw
I'r byd fod pawl haiarn trwyddaw." [8]


Nodiadau[golygu]

  1. Cam osodiad printio; 1693 oedd blwyddyn ei enedigaeth
  2. Taliesin Ben Beirdd a'i cânt.
  3. "Territa quæsitis ostendit terga Britannis.
    —LUCAN. "
  4. Dafydd Nanmor a'i cant.
  5. Horat. Lib. 1, Od. 35.
  6. Llywelyn Goch ap Meuryg.
  7. Owen ap Llewelyn Moel a'i Cant.
  8. Gruffydd ap yr Ynad Coch a'i Cant.
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Theophilus Evans
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.