Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865 testun cyfansawdd)
← | Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865 testun cyfansawdd) gan Ellis Wynne golygwyd gan Daniel Silvan Evans |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865) |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
GWELEDIGAETHAU
Y
BARDD CWSG
GAN ELIS WYNN
PEDWERYDD ARGRAFFIAD DIWYGIEDIG
𝕲𝖞𝖉𝖆 𝕹𝖔𝖉𝖎𝖆𝖉𝖆𝖚 𝕰𝖌𝖑𝖚𝖗𝖍𝖆𝖜𝖑
GAN D. SILVAN EVANS, B.D.
CAERFYRDDIN: W. SPURRELL A'I FAB.
MDCCCXLI
Cynnwys
ARGRAFFWYD GAN W. SPURRELL A'I FAB, CAERFYRDDIN
HYSBYSIAD I ARGRAFFIAD 1853
(Wedi ei gyfaddasu i'r Argraffiad presennol)
Y MAE weithian gant a hanner o flynyddoedd wedi myned heibio er pan yr ymddangosodd y Bardd Cwsg y tro cyntaf; ac yn ystod hyny o amser, y mae o leiaf un ar bymtheg o argraffiadau wedi bod o hono, heb law yr un cyssylltedig â'r hysbysiad hwn.
Cyhoeddwyd y llyfr y waith gyntaf yn Llundain, yn y flwyddyn 1703, mewn cyfrol fechan 24plyg, yn cynnwys 154 o dudalenau, yr hon y mae ei rhagddalen yn rhedeg fel hyn:-
"GWELEDIGAETHEU Y BARDD CWSC. Y Rhann Gyntaf.
Argraphwyd yn Llundain gan E. Powell, i'r Awdwr.
1703.
Ond er cael o hono ei argraffu i'r awdwr, nid oes enw awdwr wrtho mewn un man. Hwn yw yr argraffiad goreu a chywiraf, yn gystal a chyntaf, o'r gwaith. Nid yw wedi ei ddosbarthu yn wahanranau, ond un synwyreb fawr ydyw o ben bwygilydd.
Yr argraffiadau ereill, cyn belled ag y mae golygydd yr argraffiad presennol yn gwybod am danynt, yw y rhai canlynol.
2. Mwythig, gan Richard Lathrop (cylch 1740-45).
Nid oes iddo amseriad; ond gan y gwyddys fod Richard Lathrop yn argraffu yn y Mwythig rhwng 1740 a 1745, rhaid mai yn ystod y blynyddoedd hyny yr ymddangosodd yr argraffiad hwn.
3. Mwythig, 1755, 16plyg, gan Thomas Durston. 4. Mwythig, 1759, 16plyg, gan Thomas Durston.
Y mae'r ddau argraffiad hyn yn cyfateb yn gwbl i'w gilydd ym mhob peth, oddi eithr y flwyddyn ar y tudalen cyntaf, yng nghyd â rhyw ychydig bach o wahaniaeth argraffwaith yn y tudalen diweddaf, lle y crybwyllir am Y Llyfrau a argraphwyd ac sydd ar werth gan Tho. Durston.' Tebygol, gan hyny, mai yr un argraffiad yw y ddau, ac nad oes dim newydd yn argraffiad 1759, ond yn unig dalen yr enw a dalen yr hysbysiadau.
5. Caerfyrddin, 1767, 12plyg, gan J. Ross.
Yn yr argraffiad hwn troed 'ebr' yn 'ebe ac ebe'r;' a gwnaed ynddo lawer o fân gyfnewidiadau cyffelyb. Ymddengys mai y tro hwn y gwnaed cyfnewidion bwriadol gyntaf yn y gwaith.
6. Mwythig, 1768, 16plyg, gan J. Eddowes.
7. Mwythig, 1774, 24plyg, gan Stafford Prys.
Y mae hwn, ddalen a dalen trwy yr holl waith, yn cyfateb i'r argraffiad cyntaf, ac yn dilyn ei wallau argraffyddol gyda chryn fanyldeb.
8. Merthyr Tydfil, 1806, 12plyg.
Enwir a rhifnodir y tair Gweledigaeth ar ragddalen yr argraffiad hwn; mynegir fod y gwaith Gan Ellis Wynn;' ac attodir—'At ba un yr ychwanegwyd Mynegiad o'r Geiriau mwyaf Anualladwy trwy Gorph y Gwaith. Ceir y ‘Mynegiad’hwn yn y rhan fwyaf o'r argraffiadau diweddarach, heb un ymgais i'w ddiwygio lle mae yr eglurhâd yn anghywir. Ymddengys i'r argraffiad hwn gael ei gymmeryd o un 1767 (rhif 5). Cynnwys 95 o dudalenau.
9. Caerfyrddin, 1811, 12plyg.
Yn hwn y dosbarthwyd y gwaith yn wahanranau gyntaf. Cymmerwyd ef o arg. 1806 (rhif 8), a dilynwyd ef yn lled ddiesgeulus gan yr argraffiadau & ymddangosasant ar ei ol hyd un 1853 (rhif 14).
10. Dolgellau, 1825, 12plyg.
11. Caerfyrddin, 1828, 12plyg. Argraffiad newydd o'r rhif 9, ac yn dwyn ei holl nodweddau.
12. Llanrwst, 12plyg.
13. Caernarfon, 16plyg.
Crach argraffiadau yw y ddau olaf hyn (12 a 13), heb fawr o gamp arnynt, nac, un amseriad wrthynt.
14. Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Gan Elis Wynne. Argraffiad newydd, gyda Nodiadau Eglurhaol, gan D. Silvan Evans.' Caerfyrddin, 1853, 16plyg.
Hwn yw yr argraffiad cyntaf gyda nodiadau eglurhaol, heb law y ‘Mynegiad' y soniwyd am dano eisoes.
15. Llanidloes (1854), 16plyg.
Adargraffiad o destyn yr un blaenorol (rhif 14), heb y Nodiadau. Yr un fath â rhif 12 a 13, nid oes amseriad wrtho; ond yn y flwyddyn uchod (1854) yr ymddangosodd.
16. Caerfyrddin, 1865, 16plyg.
Ail argraffiad diwygiedig, sef adgyhoeddiad o argraffiad 1853 (rhif 14), gyda chyweiriadau.
Dichon fod ychwaneg o argraffiadau wedi ymddangos; ond methwyd taraw wrthynt, er gwneuthur cryn ymchwiliad yn eu cylch.
Cymmerwyd testyn yr argraffiad newydd presennol o argraffiad yr awdwr ei hun; a chymharwyd ef yn ofalus â'r argraffiadau ereill, yn enwedig y rhai a gyhoeddwyd cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Nid oes nemawr o lyfr yn ein hiaith wedi cael cymmaint cam ar ddwylaw cyhoeddwyr ag a gafodd y Bardd Cwsg; ac un o brif amcanion ei gyhoeddi o newydd y tro hwn ydyw, ei adferyd i'w burdeb cyssefin, heb na chwanegu ato, na thynu oddi wrtho, na chyfnewid arno.
Yn y Nodiadau, amcanwyd yn benaf egluro y geiriau ansathredig ac anghyfiaith sy'n dygwydd yma ac acw yng nghorff y gwaith. Y mae rhai geiriau cyffredin yn oes yr awdwr, weithian wedi tyfu allan o arfer, ac felly wedi myned dros gof gwlad; ac y mae ereill yn eiriau cyffredin mewn rhai lleoedd neillduol, ond ar lwyr goll, ac felly yn annealladwy i'r werin, mewn lleoedd ereill. Cynnygiwyd eglurhâd ar y rhan fwyaf o eiriau o'r fath; ac yn gyffredin gosodwyd cyfystyron Cymreig ar gyfer y llygreiriau Seisonig. Chwanegwyd hefyd gynnifer o nodiadau hanesol ag a dybid yn rheidiol er mwyn deall y gwaith yn hwylusach. Ni chymmerwyd trafferth i geisio dangos ei geinion a'i ragoriaethau; nac ychwaith i ymdrechu olrhain pa faint o hono sydd wreiddiol, a pha faint wedi ei fenthyciaw o ysgrifeniadau ereill; ond gosod y darllenydd cyffredin mewn cyfle i ffurfio drosto ei hun farn am ei deilyngdod, oedd y peth arbenicaf yr amcanwyd ato.
- —D. S. EVANS.
- Llangian, Lleyn :
- Medi 22, 1853.
——————
Ail gymharwyd yr argraffiad newydd hwn yn fanwl â'r argraffiad cyntaf, a diwygiwyd y cyfryw wallau a lithrasent i argraffiad 1853. Ni thybiwyd yn ofynol gwneuthur ond ychydig o gyfnewidiadau ereill.
- Llan Mawddwy:
- Mawrth 4, 1865.
ADGOFIANT O'R AWDWR
Ganwyd ELIS WYNN[1] yn y Lasynys, plasdy o ddeutu milltir a hanner o dref Harlech, yn swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1671. Unig fab ydoedd i Edward Wynn, o deulu Glyn Cywarch, yr hwn a briodasai etifeddes y Lasynys. Y mae yr hen dy, lle y ganed, y maged, ac y bu efe farw ynddo, yn aros hyd heddyw; a dangosir i ddyeithriaid yr ystafell yr hon y dywed traddodiad i Weledigaethau y Bardd Cwsg gael eu hysgrifenu ynddi. Fel llawer o enwogion, yn enwedig enwogion Cymru, ni wyddys ond ychydig o hanes ei fywyd: ei gofiant sydd yn ei waith. Pa ddysgeidiaeth a gafodd, ac ym mha le y derbyniodd efe hi, nid ydys yn gwybod. Y mae yn ddilys ei fod yn wr dysgedig; ond nid oes prawf iddo fod erioed mewn prifysgol; ac os bu, mae yn fwy na thebyg na chymmerodd efe un radd athrofaol ynddi. Dywedir nad oedd llawer o duedd ynddo at y weinidogaeth, ac mai ar gais y Dr. Humphrey Humphreys, Esgob Bangor, y cymmerodd efe ei urddo; ac ymddengys na chymmerodd hyny le nes ei fod mewn gwth o oedran. Urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yr un dydd; a thranoeth cyflwynwyd ef i berigloriaeth Llanfair, ger llaw Harlech. Yr oedd efe hefyd yn beriglor Llandanwg a Llanbedr, yn yr un gymmydogaeth; ac felly cafodd fyw trwy gydol ei oes yn ardal ei enedigaeth, ac ar ei dreftadaeth briodol ei hun. Yn 1702, efe a briododd Lowri Llwyd, o Hafod Lwyfog, ym mhlwyf Bedd Gelert, swydd Gaernarfon. Bu iddynt bump o blant; tri mab a dwy ferch. Yr oedd y mab hynaf, Gwilym, yn beriglor Llanaber, wrth Abermaw: iddo ef y disgynodd tiriogaeth y Lasynys; a bu ym meddiant y teulu nes ei gwerthu gan ei wyr, Ioan Wynn Puw. Y mab ieuaf, Edward, ydoedd beriglor Penmorfa a Dolbenmaen, yn Eifionydd, o'r flwyddyn 1759 hyd ei farwolaeth yn 1767. Wyr Edward Wynn, yn llinach ei fab Elis, periglor Llanferras, yn swydd Dinbych, yw y Parch. Ioan Wynn, ebrwyad presennol Llandrillo yn Edeyrnion.
Bu farw Elis Wynn ym mis Gorphenaf, 1734, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ar y 17fed o'r mis hwnw, o dan fwrdd y Cymmundeb, yn Eglwys Llanfair, heb gymmaint a llinell ar na maen na mynor i nodi'r fan lle gorphwysa gweddillion marwol yr athrylithiog Fardd Cwsg, cymmwynaswr ei genedl, ac addurn llenoriaeth ei wlad.[2] Yn llyfr gwyn Eglwys Llanfair ceir y cofnod canlynol o'i gladdedigaeth —Elizæus Wynne, Cler. nuper Rector dignissimus hujus Ecclesiæ, sepultus est 17mo die Julii 1734.
Yn 1701, efe a gyhoeddodd gyfieithad o'r Rule and Exercises of Holy Living, gan yr Esgob Ieremi Taylor, dan yr enw Rheol Buchedd Sanctaidd; ac a'i cyflwynodd i'r Esgob Humphreys. Rhydd gyfieithad o'r gwaith Seisonig ydyw; a gellir ei restru yn ddiammheu ym mhlith y cyfieithion goreu yn yr iaith. Yn 1703, ymddangosodd Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Yn 1710, daeth allan o dan ei olygiad ef, argraffiad newydd a diwygiedig o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, mewn cyfrol unplyg, at wasanaeth yr eglwysi. Cymmerodd y gorchwyl hwn mewn llaw ar gais Esgobion Cymru ac Esgob Henffordd, gan y rhai y mae wedi ei gymmeradwyo a'i orchymmyn.[3]
Yn y flwyddyn 1755, casglodd a chyhoeddodd ei fab Edward, y pryd hwnw curad Llanaber, lyfr tra defnyddiol o'r enw Prif Addysg y Cristion, yn cynnwys, ym mhlith pethau ereill, Esboniad Byr ar y Catecism, o waith y Parchedig Mr. Elis Wynne o Lasynys, Person Llanfair;' ac yn attodedig i'r unrhyw gyfrol ceir amryw 'Hymnau a Charolau,' o waith yr un awdwr. Y mae yr Esboniad, o'i faint, yn waith rhagorol; ac y mae yr Emynau a'r Carolau yn meddu ar lawer o deilyngdod. Bu iddo hefyd droi amryw o'r Salmau ac o Emynau yr Eglwys ar fesur cerdd; a phrin y mae eisieu crybwyll fod ol dawn a chelfyddyd ar y rhai hyn, yn gystal ag ar bob peth arall a hanoedd o'i ysgrifell.
Hyn, hyd y gwyddys, yw'r cwbl a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau; ond dywedir iddo ysgrifenu gwaith arall, a elwid "Gweledigaeth y Nef:' eithr o blegid edliw o rywrai iddo nad oedd ei Weledigaethau blaenorol ond lledrad llên, ac nad oeddynt na mwy nallai na chyfieithad o waith yr Yspaenwr Cwevedo,'[4] efe a daflodd yr ysgrifen i'r tân mewn digllondeb. Y mae yn amlwg ddigon ei fod ef wedi bwriadu estyn Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn helaethach nag y maent; canys ar ragddalen y llyfr hwnw dywedir mai y 'Rhan Gyntaf' ydyw; a gelwir terfyn y gyfrol yn 'Ddiwedd y Rhan Gyntaf. Y mae yn resyn o'r mwyaf gael o lawysgrif y Weledigaeth hon ei dinystrio, ac i'r Bardd gymmeryd ei gythruddo i'r fath raddau gan feibion dirmygedig anghof, yn llinach Soil ysgeler;' canys yn y gwaith hwn y mae lle i dybied y cawsem weled yr awdwr yn myned rhagddo yn ei ffordd a'i drefn ei hun, heb neb o estron genedl yn arweinydd ac yn gynnorthwyrwr iddo.
Gorchestwaith Elis Wynn yw Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Y mae'r gwaith hwn wedi sefyll bob amser yn uchel iawn yng nghyfrif y Cymry; ac nid oes genym ond odid lyfr o'i faint, ond y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, wedi myned trwy gynnifer o argraffiadau yn ystod yr un amser. Y mae pawb y mae eu barn o werth, yn cyduno i'w ganmawl ac i ddadgan ei ragoroldeb; caniatëir fod ei iaith yn rymus ddigyffelyb; ac ystyrir ei ieithwedd yn gynllun teg i bawb ei ddilyn. Yr oedd Walters, y geirlyfrwr enwog, yn ei hofti tu hwnt i bob gwaith; a phwy yn y Dywysogaeth oedd gymhwysach i farnu am ei deilyngdod? Yn ei Draethawd godidog ar yr Iaith Gymraeg y mae yn llefaru am dano i'r ystyr yma:— Y mae cyfansoddiad gwreiddiol yn y Gymraeg, a elwir y Bardd Cwsg, yn cynnwys tair Gweledigaeth. Math ar ddychan ydyw, mewn rhan yn llythyrenol, ond gan mwyaf yn arallegol, lle у ffrewyllir Drygioni, Ynfydrwydd, a Gwagedd, yn gampus dros ben; tynir hwynt yn y lluniau mwyaf dychrynllyd (sef yw hyny, eu lluniau mwyaf priodol), ac arddangosir hwynt yn holl amrywiaeth alaethus Gwae. Yn y gwaith hwn y mae'r dynsodiadau mwyaf tarawiadol a phrydyddol, y darluniadau mwyaf bywiog ac ysbrydlawn, a'r ehediadau dychymmyg mwyaf ardderchog a geir yn unlle, pa un bynag ai mewn rhyddiaith ai mewn barddoniaeth. Nid yw Gweledigaethau Don Cwevedo mewn un modd i'w cystadlu â'r rhai hyn fel ag y canfyddir ac y cydnabyddir gan bwy bynag a'u cymharo â'u gilydd, bid hyny mor arwynebol ag y bo. Clywais am un â'i serch gymmaint ar Don Cwicsot fel y cymmerodd y drafferth i ddysgu yr Yspaeneg er mwyn cael yr hyfrydwch o ddarllen ei hoff awdwr yn yr iaith wreiddiol. Ni ryfeddwn i ddim pe dysgai llawer yr iaith Gymraeg, modd y gallont ddarllen y Bardd Cwsg, pe gallent ond unwaith amgyffred ei ragoroldeb.'
Y mae y Dr. Owain Puw wedi ei ddyfynu lawer deg o weithiau yn ei Eiriadur. Y fath oedd syniadau uchel Theophilus Jones, Hanesydd Brycheiniog, am ei odidogrwydd, fel y bu iddo ymosod ar ei gyfieithu i'r Seisoneg.[5] Y mae rhai wedi myned mor bell a chymharu yr awdwr â Dante, a'i gynnyrchion â'r Divina Commedia. Ac y mae yn hyfryd canfod nad yw y Bardd Cwsg wedi colli ond ychydig, os dim, o'i gymmeriad yn y Dywysogaeth hyd yn oed yn y dyddiau dirywiedig, gwahan-farn hyn. Nid oes nemawr o fisoedd wedi llithro heibio er pan yr ymddangosodd y feirniadaeth ganlynol arno yn y Traethawd ar Swyddogaeth Burn a Darfelydd[6]:— Fe allai mai y Bardd Cwsg yw y cyfansoddiad mwyaf hynod am gymhlethiant Barn fanwl a Darfelydd grymus a hedegog, o'r holl weithiau sydd ym meddiant ein gwlad. Barddoniaeth lawn o dân awenyddol ydyw, mewn gwisg rydd ddigynghanedd. Beth? Barddoniaeth heb gynghanedd? Ië, ddarllenydd, a barddoniaeth ardderchog hefyd! Y mae yn y Bardd Cwsg gryn lawer o anian, ond ei bod yn ymwisgo mewn dull ffugrol, yr hyn, ar yr un pryd, sydd yn peri fod y gwaith yn fwy barddonol. Er fod cryn lawer o ddiffyg yn chwaeth cyfansoddiad, eto y mae yr iaith yn anghymharol o gref, fel nad oes dim yn y Gymraeg yn dyfod yn agos iddo yn y peth hwn. Nid yw bob amser yn hollol gywir yn ei ramadeg, y mae yn wir; ond gwna iawn am hyn yn ei nerth, a'i ieithwedd, yr hon sy mor drwyadl Gymroaidd. Y mae yn tynu llun personau, ac yn corffoli pechodau a llygredigaethau, gan eu harddangos yn eu gwrthuni, mewn dull hynod o argraffawl. Mae y Bardd Cwsg yn un o'r llyfrau ag y byddai yn ddymunol ei fod ym mhob teulu, ac, yn fynych, yn llaw pob dyn ieuanc, ac yn arbenig pob prydydd ieuanc yn y Dywysogaeth.'
Ond eto er hyny, awgrymir gan ambell un, er godidoced y gwaith, ac er ucheled y molawd a roddir iddo, fod yr awdwr yn ddyledus am ei holl feddyliau i Cwevedo; a chyhuddir ef yn gyffredin o ddiffyg chwaeth, ac weithiau o anweddusrwydd ymadrodd.
Gyda golwg ar y cyhuddiad o anwreiddioldeb, y mae yn eithaf amlwg fod Elis Wynn yn gydnabyddus â gwaith Don Cwevedo, a'i fod yn ddyledus iddo am ei gynllun, ac am lawer o'i ddelfrydau: y mae yn ei efelychu yn fynych; ac yn achlysurol, wedi cyfieithu ambell frawddeg o hono. Y mae rhediad У ddau waith yn gryn debyg; ac y mae llawer o'u cymmeriadau yn gwbl yr un.
Ond er hyn oll, y mae'r gwaith Cymreig yn meddu ar nodwedd wahanredol o'i eiddo ei hun, ac yn arddangos holl deithi cyfansoddiad gwreiddiol. Nid oes dim tebyg i gyfieithad neu efelychiad o'i ddechreu i'w ddiwedd. Y mae yn gwbl Gymreig ym mhob ystyr; ac nis gallasid byth feddwl wrth ei ddarllen fod dim o gyffelyb ansawdd wedi ei gynnyrchu mewn un wlad arall.
O ran chwaeth, lledneisrwydd, a naturioldeb, y mae'r Cymro yn sefyll ar lawer uwch tir na'r Yspaenwr; a gellir honi yn ddibetrus ei fod yn tra rhagori arno ym mhob peth ond mewn gwreiddioldeb. Try’r fantol o blaid y naill fel goruch-adeiladydd, ac o blaid y llall fel gosodwr y sylfaen. Darllenodd y Bardd Cwsg Weledigaethau ei ragflaenor; a thra yr oedd yr argraff o honynt yn rymus ar ei gof, eisteddodd i lawr, ac ysgrifenodd ei Weledigaethau ei hun. Ni fyfyriodd mo'i awdwr er mwyn ei ddynwared, ac ni phetrusodd wneuthur defnydd o hono, pa bryd bynag y byddai hyny yn ateb ei ddyben, ac yn fuddiol i'w amcan. Ysbrydolwyd ef at y gorchwyl wrth ddarllen gweledydd yr Yspaen; ac yng ngrym yr ysbrydoliaeth hòno efe a gynnyrchodd ei waith anfarwol ei hun.
Dichon nas gellir, ar fyr eiriau, ddangos dyled ein cydwladwr i'r estronwr, yn well na thrwy ei chymharu â dyled Virgil i Homer. Y mae rhwymedigaethau y ddau, i raddau helaeth, yn ogymmath ac yn ogymmaint. Os gwreiddiol yr Aeneis, gwreiddiol hefyd y Gweledigaethau dan sylw; ond os llenysbeiliwr a benthyciwr yw y Bardd Cwsg, llenysbeiliwr a benthyciwr hefyd yw Bardd Mantua.
Ond ni ddylid anghofio crybwyll fod yn y Gymraeg waith gwreiddiol, wedi ei ysgrifenu ym mhell cyn geni Cwevedo, tra chyffelyb ei ansawdd i'r Bardd Cwsg, a elwir Breuddwyd Pawl Abostol.[7] yr hwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Ysgriflyfrau Iolo Morganwg (t. 190). Y mae'r ddau, mewn llawer o bethau, cyn debyced i'w gilydd, fel y gallai un wrth ddarllen y Breuddwyd, feddwl, braidd, mai darllen un o'r Gweledigaethau y mae; o ran iaith, y maent, o fewn i ddim, yn gyfunrhyw; y mae rhai o eiriau arbenicaf y Bardd Cwsg yn dygwydd yn y cyfansoddiad hwn; ac y mae sail gref i farnu ei fod yn ddyledus iddo am danynt, ac nid am danynt hwy yn unig, ond am lawer o'r meddylrithiau hefyd. Nid yw y Breuddwyd' argraffedig ond lled fyr; ond mae lle i gredu nad yw yn ei ddull presennol ond dernyn anghyflawn, neu o leiaf, fod rhyw gymmaint o hono yn eisieu. Efelly, dichon fod seilwaith y Bardd Cwsg i'w gael yn iaith y Cymry, ac mai rhai o ddefnyddiau yr oruch-adail yn unig a fenthyciwyd o diroedd estron.
Cyn y gallom ei gyhuddaw o ddiffyg chwaeth, rhaid i ni ystyried yr oes yr oedd yr awdwr yn byw ynddi; a'r dosbarth o bobl yr oedd efe yn eu hanerch yn benaf. Y mae ansawdd cymdeithas yng Nghymru wedi cyfnewid llawer yn ystod cant a hanner o flynyddoedd; ac nid yw yn canlyn mewn modd yn y byd fod yr hyn sy'n werinaidd y dydd heddyw yn rhwym i fod yn werinaidd yn y dyddiau hyny. Y mae llawer o eiriau, a ystyrid y pryd hwnw yn weddaidd ac yn llednais, wedi myned erbyn y pryd hwn yn anghoeth ac yn serthus; ac ni chlywir byth mo honynt ond yng ngeneu gwehilion y bobl. Y mae tipyn o wahaniaeth yn y peth hwn rhwng Gwynedd a Deheubarth; ac weithiau y mae hyd yn oed dau gwmmwd yn amrywio. Mae y Ddeheubartheg, yn gyffredin, yn fwy llednais na'r Wyndodeg. Dylid cadw y pethau hyn oll mewn golwg wrth feirniadu ar chwaeth y Bardd Cwsg, ac ar weddnod y dafodiaith arferedig ganddo. Ac os cymmer neb y drafferth i'w gymharu â chyfieithad L'Estrange o Cwevedo, yr hwn oedd mewn bri yn ei amser ef, ac yn ddilys ddigon wedi cael ei ddarllen ganddo, ceir gweled ar unwaith fod ein cydwladwr yn haeddu clod dauddyblyg am goethder ei chwaeth, a gweddusrwydd ei syniadau a'i ymadroddion; ac eto, er ei holl serthedd a'i fudr-iaith, yr oedd y gwaith Seisonig mor boblogaidd a derbyniol yn ei ddydd, fel yr ymddangosodd dim llai na deg argraffiad o hono mewn ysbaid o ddeuddeg mlynedd; ond y mae ei werinoldeb yn gyfryw ag y byddai yn waith ofer ei gynnyg ym marchnad lenyddol y dydd heddyw. Y mae gan bob oes, i gryn raddau, ei phriod chwaeth ei hun; ac nid teg fyddai ei barnu yn hyn o beth wrth archwaeth oesoedd ereill.
Diau mai gwella ac nid drygu chwaeth a moes ei gydgenedl oedd yr amcan mewn golwg gan Elis Wynn; ac yr ydym yn gweled iddo lafurio yn helaethach na nemawr o'i gydoeswyr i ddwyn ym mlaen ddiwygiad yn eu plith. Ymddengys mai un annibynol iawn ydoedd : yr oedd y gwr boneddig, y gwr eglwysig, a'r gwr wrth gerdd, wedi ymgyfarfod ynddo; yr oedd yn ddigon gwrol i ddannod beiau, ac i ddadlenu twyll a hoced, gyda llymder a diystyrwch, heb barchu wyneb ungwr dan hanl. Diau fod ymddangosiad ei lyfr yn frath cleddyf i laweroedd; ond pwy a glywai ar ei galon wrthwynebu'r bardd diweniaith a'r offeiriad glanfucheddol yn yr amser hwnw? Oes lawn o bob ofergoel, anwybodaeth, ac anfoesoldeb, oedd yr oes yr oedd efe yn byw ynddi; ymdrechodd yntau yn egnïol i chwalu'r tywyllwch oedd yn gorchuddio'r Dywysogaeth, ac i yru ar ffo y cymylau duon oedd yn crogi uwch ben ei thrigolion; dynoethodd ormes a rhagrith, gwagedd a ffolineb y byd isod hwn, a hudoliaethau aneirif merched Belial yn y Ddinas Ddienydd; ac annogodd bawb i gymmeryd Buchedd Santaidd yn Rheol i'w tywys yn ddiogel i Ddinas IMMANUEL.
Gwasanaethodd ei genedlaeth gyda ffyddlondeb mawr; gorphenodd ei yrfa; ac erys ei goffadwriaeth yn glodfawr yng Nghymru, tra byddo tafod yn medru parablu Cymraeg ar hyd llethri ei chribog fynyddoedd hi.AT Y DARLLENYDD.
A DDARLLENO, ystyried;
A ystyrio, cofied;
A gofio, gwnaed;
A wnel, parhäed.
A barhao'n ffyrdd Rhinwedd,
Gan ymryddhau o'i gamwedd,
Fwyfwy fyth hyd ei ddiwedd,
Ni fedd a bortho'r fflam ffiaidd,
Na phwys a'i sawdd i'r Sugnedd;
Nid ä byth i Wlad y Dialedd,
Penydfan pob Anwiredd.
Ond y difraw gwael a geulo
Ar ei sorod, a suro
(Nid byw y Ffydd na weithio)
A hirddrwg hir-ddilyno,
Heb Grod a Charind effro;
Gwae, gwae tragwyddol iddo!
Fe gaiff weled theimlo
Fwy mewn mynyd llym yno,
Nag a fedr oes ddyfeisio.
GWELEDIGAETHAU
Y
BARDD CWSG.
—————————————
I—GWELEDIGAETH Y BYD
Ar ryw brydnawngwaith teg o haf hir felyn tesog, cymmerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbïenddrych, i helpu'm'[8] golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr. Trwy yr awyr deneu eglur, a'r tes ysblenydd tawel, canfyddwn ym mhell bell, tros Fôr y Werddon, lawer golygiad 'hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid[9] oedd yr haul ar gyrhaedd ei gaerau yn y Gorllewin, gorweddais ar y gwelltglas, tan syn fyfyrio deced a hawddgared (wrth fy ngwlad fy hun) oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a gwyched oedd gael arnynt lawn olwg; a dedwydded y rhai a welsent gwrs[10] y byd, wrthyf fi a’m bath. Felly, o hir drafaelio[11] â'm llygad, ac wedi â'mmeddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac â'i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a'm holl synwyrau ereill, yn dyn ddiogel. Eto, gwaith ofer oedd iddo geisio cloi yr Enaid, a fedr fyw a thrafaelio heb y corff: canys diangodd fy ysbryd ar esgyll ffansi[12] allan o'r corpws[13] cloiedig: a chyntaf peth a welwn i, yn fy ymyl [oedd] dwmpath chwareu, a'r fath Gad Gamlan[14] mewn peisiau gleision a chapiau cochion, yn dawnsio yn hoew brysur. Sefais ennyd ar fy nghyfyng gynghor awn i atynt ai peidio; o blegid ofnais, yn fy ffwdan, mai haid oeddynt o Sipsiwn[15] newynllydd; ac na wnaent as[16] lai na'm lladd i i'w swper, a'm llyncu yn ddihalen. Ond o hir graffu, mi a'u gwelwn hwy yn well a thecach eu gwedd na’r giwed felynddu gelwyddog hòno. Felly anturiais nesäu atynt, yn araf deg, fel iâr yn sengu ar farwor, i gael gwybod beth oeddynt; ac o'r diwedd gofynais eu cenad fel hyn o hyd fy nhin: Atolwg, lân gynnulleidfa, yr wyf yn deall mai rhai o bell ydych, a gymmerech chwi Fardd i'ch plith, sy'n chwennych trafaelio?' Ar y gair, dystawodd y trwst, a phawb â'i lygad arnaf, a than wichian, Bardd,' ebr un; Trafaelio,' eb un arall; I'n plith ni,' ebr y trydydd. Erbyn hyn mi adwaenwn rai oedd yn edrych arnaf ffyrnicaf o'r cwbl. Yna dechreuasant sibrwd o glust i glust ryw ddirgel swynion, ac edrych arnaf; a chyda hyny torodd yr hwndrwd,[17] a phawb a'i afael ynof, codasant fi ar eu hysgwyddau, fel codi Marchog Sir; ac yna ymaith â ni, fel y gwynt, tros dai a thiroedd, dinasoedd a theyrnasoedd, a moroedd a mynyddoedd, heb allu dal sylw ar ddim, gan gyflymed yr oeddynt yn hedeg. A pheth sy waeth, dechreuais ammheu fy nghymdeithion wrth eu gwaith yn gwrthuno ac yn cuchio[18] arnaf eisieu canu dychan[19] i'm brenin fy hun.
'Wel,' ebr fi wrthyf fy hun, 'yn iach weithian i'm hoedl; fe ä'r carn witsiaid[20] melltigedig hyn â mi i fwytty neu seler rhyw bendefig, ac yno y'm gadawant i dalu iawn gerfydd fy ngheg am eu lledrad hwy: neu, gadawant fi yn noeth lyman i fferu ar Forfa Caer,[21] neu ryw oerle anghysbelli[22] arall. Ond wrth feddwl fod y wynebau a adwaenwn i wedi eu claddu,[23] a'r rhai hyny[24] yn fy mwrw ac ereill yn fy nghadw uwch ben pob ceunant, dëellais nad witsiaid oeddynt, ond mai rhai a elwir y Tylwyth Teg. Ni chawn i attreg[25] nad dyma fi yn ymyl yr anferth gastell tecaf a'r a welais i erioed, a llyn tro mawr o'i amgylch; yma dechreuasant roi barn arnaf: 'Awn ag e'n anrheg i'r castell,' ebr un; "Nag e, crogyn ystyfrig, taflwn ef i'r llyn, ni thâl mo'i ddangos i'n tywysog mawr ni," meddai'r llall; 'A ddywed ef ei weddi cyn cysgu?' ebr y trydydd. Wrth iddynt son am weddi, mi a riddfenais ryw ochenaid tuag i fyny, am faddeuant a help; a chynted y meddyliais, gwelwn ryw oleuni o hirbell yn tori allan, O mor brydferth! Fel yr oedd hwn yn nesäu, yr oedd fy nghymdeithion i yn tywyllu ac yn diflanu; a chwipyn dyma'r Dysglaer yn cyfeirio tros y castell atom yn union: ar hyn gollyngasant eu gafael; ac ar eu hymdawiad troisant ataf guch[26] uffernol; ac oni buasai i'r Angel fy nghynnal, buaswn digon mân er gwneyd pastai, cyn cael daiar.
'Beth,' eb yr Angel, ‘yw dy neges di yma?' 'Yn wir, fy Arglwydd,' ebr finnan, 'nis gwn i pa le yw yma, na pheth yw fy neges, na pheth wyf fy hun, na pleth aeth â'm rhan arall i: yr oedd genyf bedwar aelod, a phen; a pha un ai gartref y gadewais, ai i ryw geubwll (canys cof genyf dramwy tros lawer o geunentyd geirwon) y bwriodd y Tylwyth Teg fi, os teg eu gwaith, nis gwni, Syr, pe crogid fi.' 'Teg, eb ef', 'y gwnaethent â thi, oni bai fy nyfod i mewn pryd i'th achub o gigweiniau[27] plant annwfn.[28] Gan fod cymmaint dy awydd i weled cwrs y Byd bach, ces orchymmyn i roi i ti olwg arno, fel y gwelit dy wallgof yn anfodloni i'th ystâd a'th wlad dy hunan. "Tyred gyda mi, neu dro," eb ef; a chyda'r gair, a hi yn dechreu tori'r wawr, fe a'm cipiodd i ym mhell bell tu uchaf i'r castell; ac ar ysgafell[29] o gwmwl gwyn gorphwysasom yn yr entrych, i edrych ar yr haul yn codi, ac ar fy nghydymaith nefol, oedd lawer dysgleiriach na'r haul, ond bod ei lewyrch ef ar i fyny gan y llen gel[30] oedd rhyngddo ac i waered. Pan gryfhaodd yr haul, rhwng y ddau ddysglaer, gwelwn y ddaiar fawr gwmpasog megys pellen fechan gron, ym mhell oddi tanom. Edrych yr awran,[31] eb yr Angel, ac a roes i mi ddrych ysbïo amgen nag oedd genyf fi ar y mynydd. Pan ysbïais trwy hwn, gwelwn bethau mewn modd arall, eglurach nag erioed o'r blaen.
Gwelwn un Ddinas anferthol o faintioli; a miloedd o ddinasoedd a theyrnasoedd ynddi; a'r eigion mawr, fel llyn tro, o'i chwmpas; a moroedd ereill, fel afonydd, yn ei gwahanu hi yn rhanau. O hir graffu, gwelwn hi yn dair ystrŷd fawr tros ben; a phorth mawr dysgleirwych ym mhen isaf pob ystrŷd; a. thŵr teg ar bob porth; ac ar bob tŵr yr oedd Merch landeg aruthr[32] yn sefyll yng ngolwg yr holl ystrŷd; a'r tri thŵr o'r tu cefn i'r caerau yn cyrhaedd at odre'r castell mawr hwnw. Ar ohyd i'r tair anferthol hyn, gwelwn ystrŷd groes arall, a hòno nid oedd ond bechan a gwael wrth y lleill, ond ei bod hi yn lanwaith, ac ar godiad uwch law yr ystrydoedd ereill, yn myned rhagddi uwch uwch tua'r Dwyrain; a'r tair ereill ar i waered tua'r Gogledd at y pyrth mawr. Ni fedrais i ymattal ddim hwy heb ofyn i'm cyfaill a gawn gena i siarad. 'Beth ynte?' eb yr Angel; ond siarad di, gwrando yn ystyriol, na orffo dywedyd yr un peth i ti ond unwaith.' Gwnaf, fy Arglwydd; ac ertolwg,' ebr fi, 'pa le yw'r castell draw yn y Gogledd?' 'Y castell fry yn yr awyr,' ebr ef, 'a piau Belial, tywysog llywodraeth yr awyr, a llywodraethwr yr holl ddinas fawr obry; fe'i gelwir Castell Hudol; canys hudol mawr yw Belial; a thrwy hudoliaeth y mae e'n cadw tan ei faner y cwbl oll a weli; oddi eithr yr ystrŷd fechan groes acw. Tywysog mawr yw hwn, â miloedd o dywysogion dano. Beth oedd Caesar,[33] neu Alecsander Fawr, wrth hwn? Beth yw'r Twrc, a'r hen Lewis[34] o Ffrainc, ond gweision i hwn? Mawr, a mawr tros ben; yw gallu, a chyfrwysdra, a diwydrwydd y Tywysog Belial, a'i luoedd hefyd sy ganddo heb rifedi yn y wlad isaf.' I ba beth y mae'r Merched yna yn sefyll,' ebr fi, 'a phwy ydynt?' 'Yn araf,' eb yr Angel, un cwestiwn[35] ar unwaith; i'w caru a'u haddoli y maent yna.' 'Nid rhyfedd, yn wir,' ebr fi; 'a hawddgared ydynt, petwn[36] perchen traed a dwylo fel y bûm, minnau awn i garu neu addoli y rhai hyn.[37] Taw, taw,' ebr yntau; os hyny a wnait a'th aelodau, da dy fod hebddynt: gwybydd dithau, ysbryd anghall, nad yw'r tair tywysoges hyn ond tair hudoles ddinystriol, merched y Tywysog Belial; a'u holl degwch a'u mwynder, sy'n serenu yr ystrydoedd, nid yw ond wynebiad ar wrthuni a chreulonder; mae'r tair oddi mewn, fel eu tad, yn llawn o wenwyn marwol.' Och fi! ai posibl,' ebr' fi, yn athrist iawn,'ar glwyfo o'u cariad?' 'Rhy wir, ysywaeth,' ebr ef. Gwych genyt y pelydru y mae'r tair ar eu haddolwyr; wel,' ebr ef, mae yn y pelydr acw lawer swyn ryfeddol; mae e'n eu dallu rhag gweled bach; mae e'n eu synu rhag ymwrando â'u perygl; ac yn eu llosgi â thrachwant diwala am ychwaneg o hono, ac yntau yn wenwyn marwol, yn magu ynddynt glefydau anesgorol,[38] na ddichon un meddyg, ïe, nac angen, byth bythoedd eu hiachäu; na dim, oni cheir physigwriaeth[39] nefol, a elwir edifeirwch, i gyfog[40] y drwg mewn pryd, cyn y greddfo yn rhy bell, wrth dremio gormod arnynt. 'Pan', ebr fi, 'na fyn Belial yr addoliant iddo ei hunan?' Ond yr un peth yw?' eb ef: 'mae'r hen Gadno yn cael ei addoli yn ei ferched; o blegid tra bo dyn yng nglŷn wrth y rhai hyn, neu wrth un o'r tair, mae e'n sicr tan nod Belial, ac yn gwisgo ei lifrai[41] ef.'
'Beth,' ebr fi, 'y gelwch chwi'r tair hudoles yna?' Y bellaf draw,' eb ef, 'a elwir Balchder, merch hynaf Belial; yr ail yw Pleser; ac Elw ydyw'r nesaf yma: y tair hyn yw'r drindod y mae'r byd yn ei addoli.' Atolygaf henw'r Ddinas fawr wallgofus hon,' ebr fi; 'os oes arni well henw na Bedlam[42] fawr.' 'Oes,' ebr ef, 'hi a elwir y Ddinas Ddienydd.'[43] 'Och fi! ai dynion dienydd,' ebr fi, 'yw'r cwbl sy ynddi?' 'Y cwbl oll,' ebr yntau, oddi eithr ambell un a ddiango allan i'r ddinas uchaf fry, sy tan y Brenin IMMANUEL.' Gwae finnau a'm beiddo! pa fodd y diangant, a hwythau yn llygadrythu fyth ar y peth sy'n eu dallu fwyfwy, ac yn eu hanrheithio yn eu dallineb?' 'Llwyr ammhosibl,' ebr yntau, 'fyddai i undyn ddianc oddi yma, oni bai fod IMMANUEL oddi fry yn danfon ei genadon, hwyr a bore, i'w perswadio[44] i droi ato Ef, eu hunion Frenin, oddi wrth y gwrthryfelwr; ac yn gyru hefyd i ambell un anrheg o enaint gwerthfawr, a elwir ffydd, i iro eu llygaid ; a'r sawl a gaffo'r gwir enaint hwnw (canys mae rhith o hwn, fel o bob peth arall, yn y Ddinas Ddienydd, ond pwy bynag a ymiro â'r iawn enaint) fe wel ei friwiau a'i wallgof, ac nid erys yma fynyd hwy, pe rho’i Belial iddo ei dair merch, ïe, neu'r bedwaredd,[45] sy fwyaf oll, am aros.
Beth y gelwir yr ystrydoedd mawr hyn?' ebr fi. "Gelwir," ebr yntau, "bob un wrth henw'r dywysoges sy'n rheoli ynddi: Ystrŷd Balchder yw'r bellaf; y ganol, Ystrŷd Pleser; y nesaf, Ystrŷd yr Elw. 'Pwy, ertolwg,' ebr fi, sy'n aros yn yr ystrydoedd yma? pa iaith? pa ffordd? pa genedl?' 'Llawer,' ebr ef, o bob iaith, a chrefydd, a chenedl, tan yr haul hwn, sy'n byw ym mhob un o'r ystrydoedd mawr obry; a llawer un yn byw ym mhob un o'r tair ystrŷd ar gyrsiau,[46] a phawb nesaf a'r y gallo at y porth: a mynych iawn y mudant,[47] heb fedru fawr aros yn y naill, gan ddäed ganddynt dywysoges ystrŷd arall: a'r hen Gadno, tan ei ysgafell, yn gado i bawb garu ei ddewis, neu'r tair, os myn; sicraf oll yw ef o hono.'
'Tyred yn nes atynt,' eb yr Angel, ac a'm cipiodd i waered yn y llen gel, trwy lawer o fwrllwch[48] diffaith oedd yn codi o'r ddinas; ac yn Ystrŷd Balchder disgynasom ar ben eangle o blasdy penegored mawr, wedi i'r cŵn a'r brain dynu ei lygaid, a'i berchenogion wedi myned i Loegr, neu Ffrainc, i chwilio yno am beth a fuasai can haws i gael gartref; felly yn lle yr hen dylwyth elusengar, daionus, gwladaidd gynt, nid oes yr awran yn cadw meddiant ond fy modryb Dylluan hurt, neu frain rheibus, neu biod brithfeilchion, neu'r cyffelyb, i ddadgan campau y perchenogion presennol. Yr oedd yno fyrdd o'r fath blasau gwrthodedig, a allasai, oni bai falchder, fod fel cynt, yn gyrchfa goreugwyr, yn noddfa i'r gweiniaid, yn ysgol heddwch a phob daioni, ac yn fendith i fil o dai bach o'u hamgylch.
O ben y murddyn[49] yma yr oeddym yn cael digon o le, a llonydd i weled yr holl ystrŷd o'n deutu. Tai teg iawn, rhyfeddol o uchder ac o wychder; ac achos da, o ran bod yno ymherodron, breninoedd, a thywysogion gantoedd, gwŷr mawr a boneddigion fyrdd, a llawer iawn o ferched o bob gradd : gwelwn aml goegen gorniog, fel llong ar lawn hwyl, yn rhodio megys mewn ffram,[50] a chryn siop[51] pedler[52] o'i chwmpas, ac wrth ei chlustiau werth tyddyn da o berlau: a rhai oedd yn canu, i gael canmol eu llais ; rhai yn dawnsio, i ddangos eu llun; ereill oedd yn paentio, i welläu eu lliw; ereill wrth y drych er's teir-awr yn ymbincio, yn dysgu gwenu, yn symmud pinau, yn gwneyd munudiau ac ystumiau. Llawer mursen oedd yno, na wyddai pa sut i agor ei gwefusau i siarad, chweithach i fwyta ; na pha fodd, o wir ddyfosiwn, i edrych tan ei thraed; a llawer ysgowl[53] garpiog, a fynai daeru ei bod hi cystal merch foneddig a'r oreu yn yr ystrŷd; a llawer ysgogyn rhygyngog,[54] a allai ridyllio ffa wrth wynt ei gynffon.
A mi yn edrych o bell ar y rhai hyn, a chant o'r fath, dyma yn dyfod heibio i ni globen o beunes fraith ucheldrem, ac o'i lledol gant yn ysbïo; rhai yn ymgrymu megys i'w haddoli; ambell un a ro'i beth yn ei llaw hi. Pan fethodd genyf ddyfeisio beth oedd hi, gofynais. O,' ebr fy Nghyfaill, un yw hon sy a'i chynnysgaeth oll yn y golwg; eto gweli faint sy o rai ffolion yn ei cheisio, a'r gwaelaf yn abl, er sy arni hi o gaffaeliad; hithau ni fyn a gaffo, ni chaiff a ddymuno; ac ni sieryd ond â'i gwell, am ddywedyd o'i mam wrthi, nad oes un gamp waeth ar ferch ieuanc na bod yn ddifalch wrth garu.' Ar hyn, dyma baladr o wr a fuasai yn Alderman,[55] ac mewn llawer o swyddau, yn dyfod allan oddi tanom yn lledu ei esgyll, megys i hedeg, ac yntau prin y gallai ymlwybran o glun i glun, fel ceffyl â phwn, o achos y gest a'r gowt,[56] ac amryw glefydon boneddigaidd ereill: er hyny, ni chait ti ganddo, ond trwy ffafr fawr, un cibedrychiad; â chofio, er dim, ei alw wrth ei holl deitlau a'i swyddau.
Oddi ar hwn trois fy ngolwg tu arall i'r ystrŷd, lle gwelwn glamp o bendefig ieuanc, â lluaws o'i ol, yn deg ei wên, a llaes ei foes, i bawb a'i cyfarfyddai. Rhyfedd,' ebr fi, 'fod hwn a hwn acw yn perthyn i'r un ystrŷd. O, yr un Dywysoges Balchder, sy'n rheoli'r ddau,' ebr yntau: nid yw hwn ond dywedyd yn deg am ei neges; hel clod y mae e'r awran, ac ar fedr, wrth hyny, ymgodi i'r swydd uchaf yn y deyrnas; hawdd ganddo wylo wrth y bobl, faint yw eu cam gan ddrwg swyddogion yn eu gorthrymu; eto ei fawrhâd ei hun, nid llesâd y deyrnas, yw corff y gainc.'
O hir dremio, canfum wrth Borth y Balchder, ddinas deg ar saith fryn,[57] ac ar ben y llys tra ardderchog yr oedd y goron driphlys, a'r cleddyfau, a'r agoriadau yn groesion. Wel, dyma Rufain,' ebr fi , ac yn hon y mae'r Pab yn byw?' 'Ië, fynychaf,' eb yr Angel; ond mae ganddo lys ym mhob un o'r ystrydoedd ereill. Gyfeiryd â Rhufain gwelwn ddinas,[58] a llys teg iawn, ag arno wedi ei dyrchafu yn uchel, hanner lleuad[59] ar faner aur; wrth hyn gwybum mai'r Twrc oedd yno. Nesaf at y porth ond y rhai hyn, oedd lys Lewis XIV. o Ffrainc, fel y dëellais wrth ei arfau ef, y tair fflour de lis[60] ar faner arian yng nghrog uchel. Wrth selu[61] ar uchder a mawredd y llysoedd hyn, gwelwn lawer o dramwy o'r naill lys i'r llall, a gofynais beth oedd yr achos. "O! llawer achos tywyll,"[62] eb yr Angel, sy rhwng y tri phen cyfrwysgryf hyn a'u gilydd; ond er eu bod hwy yn eu tybio eu hunain yn addas ddyweddi i'r tair tywysoges fry, eto nid yw eu gallu a'u dichell ddim wrth y rhai hyny. Ië, ni thybia Belial fawr mo'r holl ddinas (er amled ei breninoedd) yn addas i'w ferched ef. Er ei fod e'n eu cynnyg hwy yn briod i bawb; eto ni roes o'r un yn hollawl i neb erioed. Bu ymorchestu rhwng y tri hyn am danynt: y Twrc, a'i geilw ei hun duw'r ddaiar, a fynai yr hynaf yn briod, sef Balchder: Nag e,' meddai brenin Ffrainc, "myfi piau hòno, sy'n cadw fy holl ddeiliaid yn ei hystrŷd hi, ac hefyd yn dwyn ati lawer o Loegr, a theyrnasoedd ereill. Mynai'r Spaen y Dywysoges Elw, heb waethaf i Holland, a'r holl Iddewon; mynai Loegr y Dywysoges Pleser, heb waethaf i'r Paganiaid. Ond mynai'r Pab y tair, ar well rhesymau na'r lleill i gyd: ac mae Belial yn ei gynnwys e'n nesaf atynt yn y tair ystrŷd. 'Ai am hyny y mae'r tramwy yr awran?' ebr fi. 'Nage e,' ebr ef; cytunodd Belial rhyngddynt yn y mater hwn er's talm. Ond yr awron, fe roes y tri i wasgu eu penau yng nghyd, pa fodd nesaf y gallent ddifa yr ystrŷd groes acw, sef Dinas IMMANUEL, ac yn enwedig un llys mawr sy yno, o wir wenwyn ei weled e'n decach adeilad nag sy'n y Ddinas Ddienydd oll. Ac mae Belial yn addo i'r sawl a wnel hyny, hanner ei freniniaeth tra fo ef byw, a'r cwbl pan fo marw. Ond er maint ei allu a dyfned ei ddichellion er maint o emprwyr,[63] breninoedd, a llywiawdwyr cyfrwysgall sy tan ei faner ef yn yr anferth Ddinas Ddienydd; ac er glewed ei fyddinoedd aneirif ef tu draw i'r pyrth yn y wlad isaf; eto,' eb yr Angel, 'cânt weled hyny yn ormod o dasg iddynt: er maint, er cryfed, ac er dichlyned yw'r mawr hwn, eto mae yn yr ystrŷd fach acw Un sy fwy nag yntau.'
Nid oeddwn i yn cael gwrando mo'i resymau angylaidd ef yn iawn, gan y pendwmpian yr oeddynt hyd yr ystrŷd lithrig yma bob yn awr; a gwelwn rai ag ysgolion yn dringo'r tŵr; ac wedi myned i'r ffon uchaf, syrthient bendramwnwgl i'r gwaelod. 'I ba le y mae'r ynfydion acw yn ceisio myned?' ebr fi. 'I rywle digon uchel,' eb ef: 'ceisio y maent dori trysordy'r dywysoges. Mi warantaf yno le llawn,' ebr fi. Oes,' eb ef, 'bob peth a berthyn i'r ystrŷd yma, i'w rhanu rhwng y trigolion: pob math o arfau rhyfel i oresgyn ac ymledu; pob math o arfau bonedd, banerau, scwtsiwn,[64] llyfrau achau, gwersi'r hynafiaid, cywyddau; pob math o wisgoedd gwychion, ystorïau gorchestol, drychau ffeilsion; pob lliwiau a dyfroedd i decäu'r wynebpryd; pob uchel swyddau a theitlau; ac ar fyr iti, mae yno bob peth a bair i ddyn dybio yn well o hono ei hun, ac yn waeth o ereill, nag y dylai. Prif swyddogion y trysordy hwn yw meistriaid y seremonïau, herwyr,[65] achwyr, beirdd, areithwyr, gwenieithwyr, dawnswyr, teilwriaid, pelwyr,[66] gwnïadyddesau, a'r cyffelyb.'
O'r ystrŷd fawr hon, ni aethom i'r nesaf, lle mae'r Dywysoges Elw yn rheoli: ystrŷd lawn a chyfoethog aruthr oedd hon; eto nid hanner mor wych a glanwaith ag Ystrŷd Balchder, na'i phobl hanner mor ehud wyneb-uchel; canys dynion llechwrus iselgraff oedd yma gan mwyaf. Yr oedd yn yr ystrŷd hon fyrdd o Hispaenwyr, Holandwyr, Venetiaid,[67] ac Iddewon yma a thraw; a llawer iawn hen bobl oedranus. 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'pa ryw o ddynion yw y rhai hyn?' 'Rhyw Sion lygad y geiniog, eb yntau, 'yw'r cwbl. Yn y pen isaf cei weled y Pab eto, goresgynwr teyrnasoedd, a'u sawdwyr, gorthrymwyr, fforestwyr,[68] cauwyr y drosfa gyffredin,[69] ustusiaid,[70] a'u breibwyr,[71] a'u holl sil,[72] o'r cyfarthwyr hyd at y ceisbwl: o'r tu arall,' ebr ef, mae'r physigwyr, potecariaid,[73] meddygon, cybyddion, marsiandwyr, cribddeilwyr, llogwyr;[74] attalwyr degymau, neu gyflogau, neu renti, neu elusenau a adawsid at ysgolion, elusendai, a'r cyfryw; porthmyn; maelwyr,[75] a fydd yn cadw ac yn codi'r farchnad at eu llaw eu hunain; siopwyr (neu siarpwyr[76]), a elwant ar angen, neu anwybodaeth y prynwr; stiwardiaid[77] bob gradd; clipwyr;[78] tafarnwyr, sy'n ysbeilio teuluoedd yr oferwyr o'u da, a'r wlad o'i haidd at fara i'r tlodion. Hyn oll o garn[79] lladron,' ebr ef; "a mân ladron yw'r lleill, gan mwyaf, sy ym mhen uchaf yr ystrŷd, sef ysbeilwyr ffyrdd, teilwriaid, gwëyddion, melinyddion, mesurwyr gwlyb a sych, a'r cyffelyb.
Yng nghanol hyn, clywn ryw anfad rydwst[80] tua phen isaf yr ystryd, a thyrfa fawr o bobl yn ymdyru tua'r porth, a'r fath ymwthio ac ymdaeru, a wnaeth i mi feddwl fod rhyw ffrae[81] gyffredin ar droed, nes gofyn i'm cyfaill beth oedd y mater. 'Trysor mawr tros ben sy'n y tŵr yna,' eb yr Angel; a'r holl ymgyrch sy i ddewis trysorwr i'r dywysoges yn lle'r Pab a drowyd allan o'r swydd. Felly ninnau aethom i weled y 'Lecsiwn.[82]
Y gwŷr oedd yn sefyll am y swydd oedd y stiwardiaid, y llogwyr, y cyfreithwyr, a'r marsiandwyr; a'r cyfoethocaf o'r cwbl a'i cai: (o biegid pa mwyaf sy genyt, mwyaf gei ac a geisi,—rhyw ddolur diwala sy'n perthyn i'r ystrŷd). Gwrthodwyd y stiwardiaid y cynnys cyntaf, rhag iddynt dlodi yr holl ystrŷd; ac fel y codasent eu plasau ar furddynod eun meistriaid, felly rhag iddynt, o'r diwedd, droi'r dywysoges ei hun allan o feddiant. Yna rhwng y tri ereill yr aeth y ddadl. Mwy o sidanau oedd gan y marsiandwyr; mwy o weithredoedd ar diroedd gan y cyfreithwyr; a mwy o godau llawnion, a biliau[83] a bondiau,[84] gan y llogwyr. ' Hai, ni chytunir heno,' eb yr Angel, 'tyred ymaith; cyfoethocach yw'r cyfreithwyr na'r marsiandwyr; a chyfoethocach yw'r llogwyr na'r cyfreithwyr, a'r stiwardiaid na'r llogwyr, a Belial na'r cwbl; canys ef a'u piau hwy oll, a'u pethau hefyd.'
'I ba beth y mae'r dywysoges yn cadw'r lladron hyn o'i chylch?' ebr fi. 'Beth gymhwysach,' eb yntau, 'a hi yn benlladrones ei hun?' Synais ei glywed e'n galw'r dywysoges felly, a'r boneddigion mwyaf yno yn garn lladron. “Atolwg, fy Arglwydd,' ebr fi, pa fodd y gelwch y pendefigion urddasol yna yn fwy lladron nag ysbeilwyr ffyrdd ?: Nid wyt ti ond ehud,' ebr ef: 'onid yw'r cnaf[85] el â'i gleddyf yn ei law, a'i reibwyr[86] o'i ol, hyd y byd tan ladd a llosgi, a lledrata teyrnasoedd oddi ar eu hiawn berchenogion, ac a ddysgwyl wedi ei addoli yn gyncwerwr,[87] yn waeth na lleidryn, a gymmer bwrs ar y ffordd fawr?—Beth yw teiliwr a ddwg ddarn o frethyn, wrth wr mawr a ddwg allan o'r mynydd ddarn o blwyf? Oni haeddai hwn ei alw yn garn lleidr wrth y llall? Ni ddug hwnw ond cinynon[88] oddi arno ef, eithr efe a ddug oddi ar y tlawd fywioliaeth ei anifail, ac wrth hyny ei fywioliaeth yntau a'i weiniaid. Beth yw dwyn dyrnaid o flawd yn y felin, wrth ddwyn cant o hobeidiau[89] i bydru, i gael gwedi werthu un ym mhris pedwar? Beth yw sawdwr lledlwm a ddyco dy ddillad wrth ei gleddyf, wrth y cyfreithiwr a ddwg dy holl ystad oddi arnat, â chwil[90] gŵydd, heb nac iawn na rhwymedi[91] i gael arno? A pheth yw pigwr poced, a ddygo bum-punt, wrth goegiwr dis, a'th ysbeilia o gan-punt mewn traian nos? A pheth yw hwndliwr[92] a'th siomai mewn rhyw hen geffyl methiant,[93] wrth y potecari a'th dwylla o’th arian a'th hoedl hefyd, am ryw hen physigwriaeth fethedig? Ac eto, beth yw'r holl ladron hyn wrth y pen-lladrones fawr yna, sy'n dwyn oddi ar y cwbl yr holl bethau hyn, a’n calonau a'y heneidiau yn niwedd y ffair?'
O'r ystryd fawaidd, annhrefnus hon, ni aethom i ystryd y Dywysoges Pleser; yn hon gwelwn lawer o Frytaniaid, Ffrancod, Italiaid, Paganiaid, &c. Tywysoges lân iawn yr olwg oedd hon, â gwin cymmysg yn y naill law, a chrwth a thelyn yn y llall; ac yn ei thrysorfa, aneirif o bleserau a theganau, i gael cwsmeriaeth pawb, a'u cadw yng ngwasanaeth ei thad. Ië, yr oedd llawer yn dianc i'r ystrŷd fwyn hon i fwrw tristwch en colledion a'u dyledion yn yr ystrydoedd ereill. Yrtryd lawn aruthr oedd hon, o bobl ieuanc yn enwedig; a'r dywysoges yn ofalus am foddio pawb, a chadw saeth i bob nod. Os sychedig wyt, mae i ti yma dy ddewis ddiod: os ceri ganu a dawnsio, cei yma dy wala. Os denodd glendid hon di i chwantio corff merch, nid rhaid iddi ond codi bys ar un o swyddogion ei thad (sy o'i hamgylch bob amser, er nas gwelir), a hwy a drosglwyddant iti fenyw yn ddiattreg; neu gorff putain newydd gladdu, a hwythau ant i mewn iddo yn lle enaid, rhag i ti golli pwrpas mor ddaionus. Yma mae tai teg, a gerddi tra hyfryd; perllanau llawnion; llwyni cysgodol, cymhwys i bob dirgel ymgyfarfod, i ddal adar, ac ambell gwningen wen; afonydd gloew tirion i'w pysgota , meusydd maith, cwmpasog, hawddgar, i erlid ceinach[94] a chadno. Hyd yr ystryd allan, gwelid chwareuon Interlud,[95] siwglaeth,[96] a phob castiau hug, pob rhyw gerdd faswedd dafod a thant, canu baledau, a phob digrifwch; a phob rhyw lendid o feibion a merched yn canu ac yn dawnsio; a llawer o Ystrŷd Balchder yn dyfod yma i gael eu moli a'u haddoli. Yn y tai, gwelem rai ar welyau sidanblu, yn ymdrybaeddu mewn trythyllwch; rhai yn tyngu ac yn rhegu uwch ben y dabler;[97] ereill yn siffrwd[98] y disiau a'r cardiau. Rhai o Ystrŷd Elw, â chanddynt ystafell yn hon, a redent yma â'u harian i'w cyfrif: ond ni aröent fawr, rhag i rai o'r aneirif deganau sy yma eu hudo i ymadael â pheth o'u harian yn ddilog. Gwelwn ereill yn fyrddeidiau yn gwledda, a pheth o bob creadur o'u blaen; a chwedi i bob un, o saig i saig, folera[99] cymmaint o'r dainteithion ag a wnaethai wledd i ddyn cymmedrol tros wythnos, yna bytheirio[100] oedd y gras bwyd; yna moeswch iechyd y brenin; yna iechyd pob cydymaith da, ac felly ym mlaen, i foddi archfa'r[101] bwydydd, a gofalon hefyd; yna tobacco; yna pawb a'i ystori ar ei gymmydog; os gwir, os celwydd, nis gwaeth, am y byddo hi yn ddigrif, neu yn ddiweddar; neu yn sicr, os bydd hi rywbeth gwaradwyddus. O'r diwedd, rhwng ambell fytheiriad trwm, a bod pawb â'i bistol pridd yn chwythu mwg a thân, ac absen i'w gymmydog, a'r llawr yn fudr eisys rhwng colli diod a phoeri, mi ofnais y gallai gastiau butrach na'r rhai hyny fod yn agos, ac a ddeisyfiais gael symmud.
Oddi yno ni aethom lle clywem drwst mawr, a churo a dwndrio, a chrio a chwerthin, a bloeddio a chanu. Wel, dyma Fedlam yn ddiddadl,' ebr fi. Erbyn i ni fyned i mewn, darfuasai'r ymddygwd;[102] ac un ar y llawr yn glwt; un arall yn bwrw i fyny; un arall yn pendwmpian uwch ben aelwydaid o fflageni[103] tolciog, a darnau pibelli a godardau; a pheth, erbyn ymorol, ydoedd, ond cyfeddach rhwng saith o gymmydogion sychedig:-eurych,[104] a lliwydd, a gof, mwyngloddiwr, ysgubwr simneiau, a phrydydd, ac offeiriad a ddaethai i bregethu sobrwydd, ac i ddangos ynddo ei hun wrthuned o beth yw meddwdod; a dechreu'r ffrwgwd[105] diweddar oedd dadleu ac ymdaeru fuasai rhyngddynt, p'r un oreu o'r seith-ryw a garai bot a phibell; a'r prydydd aethai â'r maes ar bawb ond yr offeiriad; a hwnw, o barch i'w siaced, a gawsai'r gair trechaf, o fod yn ben y cymdeithion da; ac felly cloes y bardd y cwbl ar gân:
'O'r dynion p'le'r adwaenych,
Ar ddaiar faith, saith mor sych?
A'r goreu o'r rhai'n am gwrw rhudd,
Offeiriedyn a phrydydd.'
Wedi llwyr flino ar y moch abrwysg[106] hyn, ni aethom yn nes i'r porth i ysbïo gwalliau i ardderchog lys Cariad, y brenin cibddall, lle hawdd myned i mewn, ac anhawdd myned allan, ag ynddo aneirif o ystafelloedd. Yn y neuadd gyfeiryd â'r drws yr oedd Cuwpid[107] bensyfrdan, â'r ddwy saeth ar ei fwa, yn ergydio gwenwyn nychlyd a elwir blys. Hyd y llawr gwelwn lawer o ferched glân trwsiadus yn rhodio wrth ysgwîr,[108] ac o'u lledol drueiniaid o lanciau yn tremio ar eu tegwch, ac yn erfyn bob un am gael gan ei beunes un ciledrychiad, gan ofni cuwch yn waeth nag angeu; ambell un, tan blygu at lawr, a ro'i lythyr yn llaw ei dduwies, un arall gerdd, a dysgwyl yn ofnus, fel ysgolheigion yn dangos eu tasg . i'w meistr; a hwythau a roent ambell gip o wên gynffonog, i gadw eu haddolwyr mewn awch, ond nid dim ychwaneg, rhag iddynt dori eu blys, a myned yn iach o'r clwyf, ac ymadael. Myned ym mlaen i'r parlwr,[109] gwelwn ddysgu dawnsio, a chanu â llais ac â llaw, i yru eu cariadau yn saith ynfytach nag oeddynt eisys: myned' i'r bwytty, dysgu yr oeddid yno wersi o gymhendod mindlws wrth fwyta: myned i'r seler, yno cymmysgu diodydd cryfion o swyn serch, o greifion ewinedd, a'r cyffelyb: myned i fyny llofftydd, gwelem un mewn ystafell ddirgel yn gwneyd pob ystumian[110] arno ci hun, i ddysgu moes boneddigaidd i'w gariad; un arall mewn drych yn dysgu chwerthin yn gymhwys, heb ddangos i'w gariad ormod o'i ddannedd; un arall yn tacluso ei chwedl erbyn myned ati hi, ac yn dywedyd yr un wers ganwaith trosti. Blino ar y ffiloreg ddiflas hòno, a myned i gell arall; yno yr oedd pendefig wedi cyrchu bardd o Ystrŷd Balchder, i wneyd cerdd fawl i'w angyles, a chywydd moliant iddo ei hun; a'r bardd yn dadgan ei gelfyddyd, ' Mi fedraf,' ebr ef, 'ei chyffelybu hi i bob coch a gwyn tan yr haul, a'i gwallt hi i gan peth melynach na'r aur; ac am eich cywydd chwithau, medraf ddwyn eich achau trwy berfedd llawer o farchogion a thywysogion, a thrwy'r dwr diluw, a'r cwbl yn glir hyd at Adda. Wel, dyma fardd,' ebr fi, 'sy well Olrheiniwr na mi.' 'Tyred, tyred,' eb yr Angel, mae y rhai hyn ar fedr twyllo'r fenyw; ond pan elont ati, bid sicr y cânt ateb cast am gast.'
Wrth ymadeal â'r rhai hyn, gwelsom gip ar gelloedd lle yr oeddid yn gwneyd castiau bryntach nag y gad gwylder eu henwi (yr hyn) a wnaeth i'm cydymaith fy nghipio i yn ddigllon o'r llys penchwiban yma, i drysordy'r dywysoges (o blegid ni aem lle chwennychem, er na dorau na chloiau). Yno gwelem fyrdd o ferched glân, pob diodydd, ffrwythydd, dainteithion, pob rhyw offer a llyfrau cerdd dafod a thant, telynau, pibau, cywyddau, carolau, &c.; pob math o chwareuon tawlbwrdd,[111] ffristial, disiau, cardiau, &c.; pob lluniau gwledydd, a threfi, a dynion, a dyfeisiau, a chastiau digrif; pob dyfroedd, peraroglau, a lliwiau, ac ysmotiau, i wneyd yr wrthun yn lân, a'r hen i edrych yn ieuanc, ac i sawyr y butain a'i hesgyrn pwdr fod beraidd tros Ar fyr, yr oedd yno bob math o gysgodion pleser, a rhith hyfrydwch: ac o ddywedyd y gwir, ni choeliaf fi na walliasai'r[112] fan yma finnau, oni buasai i'm cyfaill, yn ddiymanerch,[113] fy nghipio i ym mhell oddi wrth y tri thŵr hudol i ben uchaf yr ystrydoedd, a'm disgyn i wrth gastell o lys anferthol o faint, a thirion iawn yr olwg cyntaf, ond gwael a gwrthun arswydus o'r tu pellaf; eto ni welid ond yn anhawdd iawn mo'r tu gwrthun; a myrdd o ddrysau oedd arno, a'r holl ddorau yn wych y tu allan, ond yn bwdr y tu mewn. 'Atolwg, fy Arglwydd,' ebr fi, os rhyngai eich bodd, pa le yw'r fan ryfeddol hon?' 'Hwn,' ebr ef, 'yw llys ail ferch Belial, a elwir Rhagrith: yma mae hi yn cadw ei hysgol; ac nid oes na mab na merch o fewn yr holl ddinas, na fu yn ysgolheigion iddi hi, a'r rhan fwyaf yn yfed eu dysg yn odiaeth; fel y gwelir ei gwersi hi wedi myned yn ail natur yn gyfrodedd[114] trwy eu holl feddyliau, geiriau, a gweithredoedd, agos er yn blant.'
Wedi i mi ysbïo ennyd ar ffalsder pob cwr o'r adeilad, dyma ganhebrwng[115] yn myned heibio, a myrdd o wylo ac ochain, a llawer o ddynion a cheffylau wedi eu hulio mewn galarwisgoedd duon: ym mhen ennyd, dyma'r druan weddw, wedi ei mygydu rhag edrych mwy ar y byd brwnt yma, yn dyfod tan leisio yn wan, ac ocheneidio yn llesg rhwng llesmeiriau. Yn wir, ni fedrais innau nad wylais beth o dosturi. 'Ië, ïe', eb yr Angel, 'cedwch eich dagrau at rywbeth rheitiach: nid yw'r lleisiau hyn ond dysg Rhagrith; ac yn ei hysgol fawr hi y lluniwyd y gwisgoedd duon yna. Nid oes un o'r rhai hyn yn wylo o ddifrif: mae'r weddw,[116] cyn myned corff hwn o'i thy, wedi gollwng gwr arall eisys at ei chalon: pe cai hi ymadael â'r gost sy wrth y corff, ni waeth ganddi o frwynen petai ei enaid ef yng ngwaelod uffern, na'i geraint ef mwy na hithau; o blegid, pan oedd galetaf arno, yn lle ei gynghori yn ofalus, a gweddïo yn daer-ddwys am drugaredd iddo, son yr oeddid am ei bethau,[117] ac am ei lythyr cymmyn,[118] neu am ei achau; neu laned, gryfed gwr ydoedd ef, a'r cyffelyb; ac felly yr awran, nid yw'r wylo yma ond rhai o ran defod ac arfer, ereill o gwmni, ereill am eu cyflog.'
Prin yr aethai y rhai hyn heibio, dyma dyrfa arall yn dyfod i'r golwg: rhyw arglwydd gwych aruthr, a'i arglwyddes wrth ei glun, yn myned yn araf mewn ystâd,[119] a llawer o wŷr cyfrifol yn ei gapio, a myrdd hefyd ar eu traed yn dangos iddo bob ufudd-dod a pharch; ac wrth y ffafrau[120] dëellais mai priodas ydoedd. 'Dyma arglwydd ardderchog,' ebr fi, 'sy'n haeddu cymmaint parch gan y rhai hyn oll.' Ped ystyrit y cwbl, ti a ddywedit rywbeth arall,' eb ef: 'un o Ystrŷd Pleser yw yr arglwydd yma, a merch yw hithau o Ystrŷd Balchder; a'r hen ddyn acw sy'n siarad ag ef, un ydyw o Ystrŷd yr Elw, sy ganddo arian ar holl dir yr arglwydd agos, a heddyw yn dyfod i orphen taledigaeth. Ni aethom i glywed yr ymddyddan.
'Yn wir, Syr, meddai'r codog, gyfoethog; cybydd, cotyn. ni fynaswn i er a feddaf fod arnoch eisieu dim a'r a allwn i, at ymddangos heddyw yn debyg i chwi eich hunan, ac yn sicr gan ddarfod i chwi daro wrth arglwyddes mor hawddgar odidog a hon' (a'r cotyn[121] hen-graff yn gwybod o'r goreu beth oedd hi). Myn, myn, myn—'eb yr arglwydd, 'nesaf pleser at edrych ar degwch hon, oedd wrando eich mwynion resymau chwi; gwell genyf dalu i chwi log, na chael arian yn rhad gan neb arall.' 'Yn ddiau, fy arglwydd,' ebr un o'r pen-cymdeithion, a elwid Gwenieithiwr 'nid yw fy ewythr yn dangos dim ond a haeddech chwi o barch; ond trwy eich cenad, ni roes ef hanner a haeddai fy arglwyddes o glod. 'Ni cheisiaf,' ebr ef, 'ond gwaethaf ungwr ddangos ei glanach hi yn holl Ystrŷd Balchder, na'ch gwychach chwithau yn holl Ystrŷd Pleser, na'ch mwynaeh chwithau, fy ewythr, yn Ystrŷd yr Elw'. 'O, eich tyb dda chwi,' eb yr arglwydd, 'yw hyny; ond ni choeliaf fi fyned o ddau yng nghyd erioed trwy fwy o gariad na ninnau.' Fel yr oeddynt yn myned ym mlaen, yr oedd y dyrfa yn cynnyddu, a phawb yn deg ei wên ac yn llaes ei foes i'r llall, ac yn rhedeg i ymgyffwrdd â'u trwynau gan lawr, fel dau geiliog a fyddai yn myned i daro.
Gwybydd, weithian,' eb yr angel, na welaist ti eto foes, ac na chlywaist yma air, ond o wersi Rhagrith. Nid oes yma un, wedi'r holl fwynder, â chanddo ffyrlingwerth o gariad i'r llall; ïe, gelynion yw llawer o honynt i'w gilydd. Nid yw yr arglwydd yma ond megys cyff cler[122] rhyngthynt, a phawb â'i grap arno. Mae'r feinir â'i bryd ar ei fawredd a'i fonedd ef, modd y caffo hi'r blaen ar lawer o'i chymmydogesau. Y cot[123] sy â'i olwg ar ei dir ef i'w fab ei hun; y lleill i gyd ar arian ei gynnysgaeth ef; o blegid ei ddeiliaid ef ydynt oll, sef ei farsiandwyr, ei deilwriaid, ei gryddion, a'i grefftwyr ereill ef, a'i huliodd[124] ac a'i maentumiodd[125] e'n yr holl wychder mawr hwn, ac heb gael ffyrling eto, nac yn debyg i gael, ond geiriau teg, ac weithiau fygythion ond odid. Bellach, pa sawl to, pa sawl plyg, a roes Rhagrith yma ar wyneb y Gwirionedd! Hwn yn addo mawredd i'w gariad, ac yntau ar werthu ei dir; hithau yn addo cynnysgaeth a glendid, heb feddu ond glendid gosod, a'r hen gancr yn ei chynnysgaeth a'i chorff hefyd.'
'Wel, dyma arwydd,' ebr fi, 'na ddylid fyth farnu wrth y golwg.' 'Ië, tyred ym mlaen,' ebr ef, a dangosaf i ti beth ychwaneg.' Ar y gair, fe a'm trosglwyddodd i fyny lle yr oedd Eglwysi'r Ddinas Ddienydd; canys yr oedd rhith o grefydd gan bawb ynddi, hyd yn oed y digred. Ac i deml yr anghred yr aethom gyntaf: gwelwn yno rai yn addoli llun dyn, ereill yr haul, ereill y lleuad, felly aneirif o'r fath dduwiau ereill, hyd at y winwyn a'r garlleg; a duwies fawr a elwid Twyll yn cael addoliant cyffredinol; er hyny, gwelid beth ol y Grefydd Gristianogol ym mysg y rhan fwyaf o'r rhai hyn.
Oddi yno ni aethom i gynnulleidfa o rai mudion,[126] lle nid oedd ond ocheneidio, a chrynu, a churo'r ddwyfron. Dyma,' eb yr Angel, rith o edifeirwch a gostyngeiddrwydd mawr, ond nid oes yma ond 'piniwn,[127] a chyndynrwydd, a balchder, a thywyllwch dudew; er maint y soniant am eu goleuni oddi mewn, nid oes ganddynt gymmaint a spectols[128] natur, peth sy gan y digred a welaist gynneu.'
Oddi wrth y cŵn mudion dygwyddodd i ni droi i eglwys fawr benegored, â myrdd o esgidiau yn y porth: wrth у rhai hyn dëellais mai teml y Tyrciaid[129] ydoedd. Nid oedd gan y rhai hyn ond spectol dywyll a chymmysglyd iawn a elwid Alcoran;[130] eto trwy hon yr oeddynt fyth yn ysbïo ym mhen yr eglwys am eu prophwyd a addawsai ar ei air celwydd ddychwel i ymweled â hwynt er's talm, ac eto heb gywiro.
Oddi yno yr aethom i Eglwys yr Iddewon; yr oedd y rhai hyn lwythau yn methu cael y ffordd i ddianc o'r Ddinas Ddienydd, er bod spectol lwyd-oleu ganddynt, am fod rhyw huchen[131] wrth ysbïo yn dyfod tros eu llygaid, eisieu eu hiro â'r gwerthfawr enaint, ffydd.
Yn nesaf yr acthom at y Papistiaid.[132] 'Dyma,' eb yr Angel, 'yr eglwys sy'n twyllo'r cenedloedd! Rhagrith a adeiladodd yr eglwys yma ar ei chost, ei hun. Canys mae'r Papistiaid yn cynnwys,[133] ië, yn gorchymmyn, na chadwer llw â heretic,[134] er darfod ei gymmeryd ar y cymmun. O'r ganghell, ni aethom trwy dyllau cloiau i ben rhyw gell neillduol, llawn o ganwyllau ganol dydd goleu, lle gwelem offeiriad wedi eillio ei goryn yn rhodio, ac megys yn dysgwyl rhai ato: yn y man, dyma globen o wraig, â llances lân o'i hol, yn myned ar ei gliniau o'i faen ef, i gyfaddef ei phechodau. Ty nhad ysbrydol,' ebr y wreigdda, 'mae arnaf faich rhydrwm ei oddef, oni chaf eich trugaredd i'w ysgafnhau; mi briodais un o Eglwys Loegr.' 'Ac, pa beth?' ebr y corynfoel, 'priodi heretic! priodi gelyn! nid oes fyth faddeuant i'w gael. Ar y gair hwnw hi a lesmeiriodd, ac yntau yn bugunad melltithion arni. Och, a pheth sy waethi,' ebr hi, pan ddadebrodd, 'mi a'i lleddais ef!'-O, ho! a leddaist ti ef? wel, dyma rywbeth at gael cymmod yr eglwys; yr wyf fi yn dywedyd iti, ond bai ladd o honot ef, ni chawsit fyth ollyngdod, na phurdan, ond myned yn union i ddiawl wrth blwm. Ond pa le mae eich offrwm chwi, 'r faeden,[135] ebr ef, tan ysgyrnu[136] 'Dyma,' ebr hi; ac estynodd gryn god o arian. Wel,' ebr yntau, 'bellach mi wnaf eich cymmod; eich penyd yw bod byth yn weddw, rhag i chwi wneyd drwg fargen arall. Pan aeth hi ymaith, dyma'r forwyn yn dyfod ym mlaen i draethu ei chyffes hithau. 'Eich pardwn, fy nhad cyffeswr,' ebr hi, mi a feichiogais, ac a leddais fy mhlentyn.' 'Teg iawn yn wir,' ebr y cyffeswr; 'a phwy oedd y tad? Yn wir, un o'ch monachod chwi,' ebr hi. Ust, ust,' eb ef, dim anair i wŷr yr eglwys;[137] pa le mae'r iawn i'r eglwys sy genych?'
Dyma, ebr hithau, ac a estynodd iddo euryn.[138] Rhaid i chwi edifarhau; a'ch penyd yw, gwylied wrth fy ngwely i heno,' ebr ef, tan gilwenu arni hi. Yn hyn, dyma bedwar o rai moelion ereill yn llusgo dynan[139] at y cyffeswr; ac yntau yn dyfod mor wyllysgar ag at grogbren. Dyma i chwi geneu,' ebr un o'r pedwar, 'i ddwyn ei benyd am ddadguddio dirgelion yr Eglwys Gatholig.' 'Pa beth,' ebr y cyffeswr, tan edrych ar ryw siêl[140] ddu oedd yno ger llaw: 'ond cyffesa, filain, beth a ddywedaist ti?' 'Yn wir,' eb y truan, 'cymmydog a ofynodd i mi, a welswn i yr eneidiau yn griddfan tan yr allor, Ddygwyl y Meirw; minnau ddywedais glywed y llais, ond na welswn i ddim.' 'Aie, syre,'[141] dywedwch y cwbl,' ebr un o'r lleill. Ond mi atebais,' ebr ef, glywed o honof mai gwneyd castiau yr ych chwi â ni yr anllythyrenog; nad oes yn lle eneidiau ond crancod y môr yn ysgyrlwgach[142] tan y carbed.[143] O, fab y Fall! O, wyneb y felltith!' ebr y cyffeswr; 'ond ewch ym mlaen, fastiff.[144] Ac mai weir[145] oedd yn troi delw St. Pedr, ac mai wrth weir yr oedd yr Ysbryd Glân yn disgyn o lofft y grog ar yr offeiriad. O etifedd uffern!' eb y cyffeswr; hai, hai, cymmerwch ef, boenwyr, a theflwch ef i'r simnai fyglyd yna, am ddywedyd chwedlau. Wel, dyma i ti'r eglwys a fyn Rhagrith ei galw yn Eglwys Gatholig, ac mai y rhai hyn yw yr unig rai cadwedig,' eb yr Angel: 'bu gan y rhai hyn yr iawn spectol; eithr torasant hyd y gwydr fyrdd o luniau: a bu ganddynt wir ffydd; ond hwy a gymmysgasant yr enaint hwnw â'u defnyddiau newyddion eu hunain, fel na welant mwy na'r anghred.'
Oddi yno ni aethom i ysgubor, lle yr oedd un yn dynwared pregethu ar ei dafodleferydd; weithiau yr un peth deirgwaith olynol, 'Wel,' eb yr Angel, mae gan y rhai hyn yr iawn spectol i weled y pethau a berthyn i'w heddwch, ond bod yn fyr yn eu henaint un o'r defnyddiau angenrheitiaf, a elwir cariad perffaith. Mae amryw achosion yn gyru rhai yma: rhai o ran parch i'w hynafiaid; rhai o anwybodaeth; a llawer er manteisiau bydol. Gwnaent iti dybio eu bod yn tagu â'r wyneb, ond hwy a fedrant lyncu llyffaint rhag angen: ac felly mae'r Dywysoges Rhagrith yn dysgu rhai mewn ysguboriau.'
Ertolwg,' ebr fi,' pa le weithian y mae Eglwys Loegr? O,' ebr yntau, mae hòno yn y ddinas ucħaf fry, yn rhan fawr o'r Eglwys Gatholig. Ond, ebr ef, mae yn y ddinas yma rai eglwysi prawf, yn perthyn i Eglwys Loegr, lle mae'r Cymry a'r Seison tan brawf tros dro, i'w cymhwyso at gael eu henwau yn llyfr yr Eglwys Gatholig; a'r sawl a'i caffo, gwyn ei fyd fyth! Eithr nid oes, ysywaeth,[146] ond ychydig yn ymgymhwyso i gael braint yn hòno: o blegid yn lle edrych tuag yno, mae gormod yn ymddallu wrth y tair tywysoges obry; ac mae Rhagrith yn cadw llawer, ag un llygad ar y ddinas uchaf, a'r llall ar yr isaf; ïe, mae Rhagrith cyn lewed a thwyllo llawer o'u ffordd, wedi iddynt orfod y tair hudoles ereill. Tyred i mewn yma, cei weled ychwaneg,' ebr ef, ac a'm cipiodd i lofft y grog un o eglwysi Cymru, a'r bobl ar ganol y gwasanaeth: yno gwelem rai yn sisial siarad; rhai yn chwerthin; rhai yn tremio ar ferched glân; ereill yn darllen gwisgiad eu cymmydog o'r coryn i'r sawdl; rhai yn ymwthio ac yn ymddanneddu[147] am eu braint; rhai yn hepian; ereill yn ddyfal ar eu dyfosiwn;[148] a llawer o'r rhai hyny hefyd yn rhagrithio. 'Ni welaist ti eto,' eb yr Angel, 'na dda, ym mysg yr anghred, ddigywilydddra mor oleu gyhoedd a hwn; ond felly mae, ysywaeth, llygriad y peth gorau yw'r llygriad gwaethaf oll.[149] Yna hwy a aethant i'r cymmun; a phob un yn ymddangos yn syrn barchus i'r allor. Er hyny (trwy ddrych fy nghyfaill) gwelwn ambell un gyda'r bara yn derbyn i'w fol megys llun mastiff, un arall dwrch daiar, un arall megys eryr, un arall fochyn, un arall megys sarff hedegog; ac ychydig, O! mor ychydig, yn derbyn pelydryn o oleuni dysglaer gyda'r bara a'r gwin. Dyna,' ebr ef, ' Rowndiad [150] sy'n myned yn siryf; ac o ran bod y gyfraith yn gofyn cymmuno yn yr Eglwys cyn cael swydd,[151] yntau a ddaeth yma rhag ei cholli: ac er bod yma rai yn llawenu ei weled ef, ni bu eto yn ein plith ni ddim llawenydd o'i dröedigaeth ef; wrth hyny ni throes ef, ysywaeth, ond tros y tro; ac felly ti weli fod Rhagrith yn dra hy ddyfod at yr allor o flaen IMMANUEL ddisiomedig. Ond er maint yw hi yn y Ddinas Ddienydd, ni all hithau ddim yn Ninas IMMANUEL, tu uchaf y gaer acw.'
Ar y gair, ni a droisom ein hwynebau oddi wrth y Ddinas fawr Ddienydd, ac aethom ar i fyny, tua'r ddinas fach arall: wrth fyned, gwelem ym mhen uchaf yr ystrydoedd lawer wedi llettroi oddi wrth hudoliaeth y Pyrth Dienydd, ac yn ymorol am Borth y Bywyd; ond naill ai methent ei gael, ai blinent ar y ffordd; nid oedd fawr iawn yn myned trwodd, oddi eithr un dyn wynebdrist oedd yn rhedeg o ddifrif, a myrdd o'i ddeutu yn ei ffoli, rhai yn ei watwar, rhai yn ei fygwth; a'i geraint yn ei ddal ac yn ei grëu[152] i beidio â'i daflu ei hun i golli yr holl fyd ar unwaith. Nid wyf fi,' ebr yntau, 'yn colli ond rhan fechan o hono; a phe collwn i'r cwbl, ertolwg, pa'r golled yw? O blegid beth sy'n y byd mor ddymunol, oni ddymunai ddyn dwyll, a thrais, a thrueni, a drygioni, a phendro, a gwallgof? Bodlonrwydd a llonyddwch,' ebr ef, 'yw hapusrwydd dyn; ond nid oes yn eich dinas chwi ddim o'r fath bethau i'w cael. O blegid pwy sy yma yn fodlon i'w ystâd? Uwch, uwch y cais pawb Ystrŷd Balchder; 'Moes, moes ychwaneg,' medd pawb yn Ystrŷd yr Elw; 'Melus, moes eto,' yw llais pawb yn Ystrŷd Pleser. Ac am lonyddwch, pa le mae? a phwy sy'n ei gael? Os gwr mawr, dyna weniaith a chenfigen ar ei ladd; os tlawd; hwdiwch bawb i'w sathru a'i ddiystyru. Os myni godi, dyro dy fryd ar fyned yn ddyfeisiwr; os myni barch, bydd ffrostiwr neu rodreswr; os byddi duwiol, yn cyrchu i'r eglwys a'r allor, gelwir di yn rhagrithiwr; os peidi, dyna di yn anghrist neu yn heretic; os llawen fyddi, gelwir di yn wawdiwr; os dystaw, gelwir di yn gostog[153] gwenwynllyd; os dilyni onestrwydd, nid wyt ti ond ffwl diddeunydd; os trwsiadus, balch; os nad e, mochyn; os llyfn dy leferydd, dyna di yn ffals, neu ddyhiryn anhawdd dy ddirnad; os garw, cythraul trahäus anghydfod. Dyma'r Byd yr ych chwi yn ei fawrhau, ebr ef, ac ertolwg, cymmerwch i chwi fy rhan i o hono:' ac ar y gair, fe a ymysgydwodd oddi wrthynt oll, ac ymaith ag e'n ddihafarch[154] at y porth cyfyng; ac heb waethaf i'r cwbl, tan ymwthio, fe aeth drwodd, a ninnau o'i ledol; a llawer o wyr duon ar y caerau o ddeutu'r porth yn gwadd y dyn ac yn ei ganmol. Pwy,' ebr fi, 'yw'r duon fry?' 'Gwylwyr y Brenin IMMANUEL,' ebr yntau, 'sy'n enw eu Meistr yn gwadd ac yn helpu rhai trwy'r porth yma.'
Erbyn hyn yr oeddym ni wrth y porth: isel a chyfyng iawn oedd hwn, a gwael wrth y pyrth isaf; o ddeutu'r drws yr oedd y Deg Gorchymmyn; y llech gyntaf, o'r tu deheu; ac uwch ei phen, Ceri Dduw â'th holl galon,' &c.; ac uwch ben yr ail lech, o'r tu arall, 'Câr dy gymmydog fel ti dy hun;' ac uwch ben y cwbl, 'Na cherwch y byd, na'r pethau sy'n y byd,' &c. Ni edrychasawn i fawr nad dyma'r gwylwyr yn dechreu gwaeddi ar y dynion dienydd, 'Ffowch, ffowch am eich einioes! Ond ychydig a dro'i unwaith atynt; eto rhai a ofynent, 'Ffoi rhag pa beth?' 'Rhag tywysog y byd hwn, sy'n llywodraethu ym mhlant yr anufudd-dod,' meddai'r gwyliwr; rhag y llygredigaeth sy'n y byd trwy chwant y cnawd, chwant y llygad, a balchder y bywyd; rhag y digofaint sy ar ddyfod arnoch.' 'Beth,' ebr gwyliwr arall, yw eich anwyl ddinas chwi, ond taflod fawr o boethfel[155] uwch ben uffern? a phetäech chwi yma, caech weled y tân tu draw i'ch caerau ar ymgymmeryd i'ch llosgi hyd annwfn. Rhai a'u gwatwarai; rhai a fygythiai oni thawent â'u lol anfoesol; eto ambell un a ofynai, 'I ba le y ffown?' Yma,' meddai'r gwylwyr, 'ffowch yma at eich union Frenin, sy eto trwom ni yn cynnyg i chwi gymmod, os trowch i'ch ufuddod-dod oddi wrth y gwrthryfelwr Belial, a'i hudol ferched. Er gwyched yr olwg arnynt, nid yw ond ffug; nid yw Belial ond tywysog tlawd iawn gartref; nid oes ganddo yno ond chwi yn gynnud[156] ar y tân, a chwi yn rhost ac yn ferw i'ch cnoi, ac byth nid ewch yn ddigon; byth ni ddaw tor ar ei newyn ef, na'ch poen chwithau. A phwy a wasanaethai'r fath gigydd maleisddrwg, mewn gwallgof ennyd, ac mewn dirboenau byth wedi, ag a allai gael byd da tan Frenin tosturiol a charedig i'w ddeiliaid, heb wneyd iddynt erioed ond y daioni bwygilydd, a'u cadw rhag Belial, i roi teyrnas i bob un o'r diwedd yng ngwlad y goleuni! O, ynfydion! a gymmerwch chwi'r gelyn echryslawn yna, sydd â'i geg yn llosgi o syched am eich gwaed, yn lle'r Tywysog trugarog a roes ei waed ci hun i'ch achub?' Eto, ni wyddid fod y rhesymau hyn, a feddalhäi graig, yn llesio fawr iddynt hwy; a'r achos fwyaf oedd, nad oedd fawr yn cael hamdden i'w gwrando, gan edrych ar y pyrth; ac o'r gwrandawyr, nid oedd fawr yn ystyried; ac o'r rhai hyny nid oedd fawr yn eu cofio chwaith hir;[157] rhai ni choelient mai Belial yr oeddynt yn ei wasanaethu; ereill [ni] fynent mai'r twll bach disathr hwnw oedd Porth y Bywyd; ac ni choelient mai hudoliaeth oedd y pyrth dysglaer ereill a'r castell, i rwystro iddynt weled eu distryw neş myned iddo.
Yn hyn, dyma drwp[158] o bobl o Ystrŷd Balchder, yn ddigon hy yn curo wrth y porth; ond yr oeddynt oll mor warsyth, nad aent byth i le mor isel, heb ddiwyno eu perwigau[159] a'u cyrn: felly hwy a rodiasant yn eu hôl yn o surllyd. Yng nghynffon y rhai hyn daeth atom ni fagad o Ystrŷd Elw: 'Ac,' ebr un, ai dyma Borth y Bywyd?' 'lë,' ebr gwyliwr, oedd uwch ben. Beth sy i'w wneyd, ebr ef, at[160] ddyfod trwodd?'
Darllenwch o ddeutu'r drws, cewch wybod.' Darllenodd y cybydd y Deg Gorchymmyn i gyd trostynt. 'Pwy,' ebr ef, a ddywed dori o honof fi un o'r rhai hyn?' Ond pan edrychodd e'n uwch, a gweled, 'Na cherwch y byd, na'r pethau sy'n y byd,' fe synodd, ac ni fedrai lyncu mo'r gair caled hwnw. Yr oedd yno un piglas cenfigenus a droes yn ôl wrth ddarllen, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.' Yr oedd yno gwestiwr[161] ac athrodwr, a chwidr droisant wrth ddarllen, Na ddwg gam dystiolaeth. Pan ddarllenwyd, Na ladd, Nid yma i ni,' eb y physigwyr. I fod yn fyr, gwelai bawb rywbeth yn ei flino, ac felly cyd-ddychwelasant oll i astudio'r pwynt. Ni welais i yr un eto yn dyfod wedi dysgu ei wers; ond yr oedd ganddynt gymmaint o godau ac ysgrifenadau yn dyn o'u cwmpas, nad aethent fyth trwy grai mor gyfyng, pe ceisiasent.
Yn y fan, dyma yr o Ystrŷd Pleser yn rhodio tua'r porth. Yn rhodd,' ebr un, wrth y gwylwyr, 'i ba le mae'r ffordd yma yn myned?' 'Dyma,' ebr gwyliwr, y ffordd sy'n arwain i lawenydd a hyfrydwch tragwyddol. Ar hyn, ymegnïodd pawb i ddyfod trwodd, ond methasant; canys yr oedd rhai yn rhy foliog i le mor gyfyng; ereill yn rhy egwan i ymwthio, wedi i ferched eu dihoeni, a'r rhai hyny yn eu hattal gerfydd eu gwendid afiach. 'O,' ebr gwyliwr oedd yn edrych arnynt, 'ni wiw i chwi gynnyg myned trwodd â'ch teganau gyda chwi; rhaid i chwi adael eich potiau, a'ch dysglau, a'ch puteiniaid, a'ch holl gêr[162] ereill, o'ch ol, ac yna brysiwch.' Ebr ffidler,[163] a fuasai trwodd er's ennyd, oni bai rhag ofn tori'r ffidl,[164] 'Pa fodd y byddwn ni byw?' 'O', ebr y gwyliwr, rhaid i chwi gymmeryd gair y Brenin am yru ar eich ol gynnifer o'r pethau yna a'r a fo da er eich lles.' Rhoes hyny 'r cwbl i ymwrando: 'Hai, hai,' ebr un, 'gwell aderyn mewn llaw na dau mewn llwyn;' ac ar hyny troisant oll yn unfryd yn eu hol.
'Tyred trwodd weithian,' eb yr Angel, ac a'm tynodd i mewn, lle gwelwn yn y porth, yn gyntaf, fedyddfaen mawr; ac yn ei ymyl, ffynnon o ddwr hallt. Beth a wna hon ar lygad y ffordd?' ebr fi. 'Am fod yn rhaid i bawb ymolchi ynddi cyn cael braint yn llys IMMANUEL; hi a elwir Ffynnon Edifeirwch. Uwch ben, gwelwn yn ysgrifenedig, 'Dyma borth yr Arglwydd,' &c. Yr oedd y porth a'r Ystrŷd hefyd yn lledu ac yn ysgafnhau fel yr elid ym mlaen. Pan aethom ronyn uwch i'r ystrŷd, clywn lais araf yn dywedyd o'm hol, 'Dyna'r ffordd, rhodia ynddi'. Yr oedd yr Ystrŷd ar orifyny, eto yn bur lân ac union; ac er nad oedd y tai ond is yma nag yn y Ddinas Ddienydd, eto yr oeddynt yn dirionach; os oes yma lai o feddiannau, mae yma hefyd lai o ymryson a gofalon; os oes llai o seigiau, mae llai o ddoluriau; os oes llai o drwst, mae hefyd lai o dristwch, a mwy yn sicr o wir lawenydd. Bu ryfedd genyf y dystawrwydd a'r tawelwch hawddgar oedd yma wrth i waered. Yn lle'r tyngu, a'r rhegu, a'r gwawdio, a phuteinio, a meddwi; yn lle balchder ac oferedd; y syrthni yn y naill gwr, a thrawsni yn y cwr arall; ïe, yn lle yr holl ffrio ffair, a'r ffrost, a'r ffrwst, a'r ffrwgwd, oedd yno yn pendifadu[165] dynion yn ddibaid; ac yn lle yr aneirif ddrygau gwastadol oedd isod, ni welit ti yma ond sobrwydd, mwynder a sirioldeb, heddwch a diolchgarwch, tosturi, diniweidrwydd, a bodlonrwydd, yn eglur yn wyneb pob dyn; oddi eithr ambell un a wylai yn ddystaw o fryntni fod cyd yn Ninas y Gelyn. Nid oedd yma na chas, na llid, ond i bechod, ac yn sicr o orchfygu hwnw; dim ofn, ond rhag digio eu Brenin, a hwnw yn barotoch i gymmodi nag i ddigio wrth ei ddeiliaid; na dim swn, ond Salmau mawl i'w Ceidwad.
Erbyn hyn, ni aethem i olwg adeilad deg tros ben. o, mor ogoneddus ydoedd! Ni fedd neb yn y Ddinas Ddienydd, na'r Twrc[166], na'r Mogul[167], na'r un o'r lleill, ddim eilfydd i hon. 'Wel, dyma'r Eglwys Gatholig,' eb yr Angel. 'Ai yma mae IMMANUEL yn cadw ei lys?' ebr fi. 'Ie,' ebr ef, 'dyma ei unig freninllys daiarol ef.' 'Oes yma nemor tano ef o benau coronog?' ebr fi. Ychydig,' ebr yntau. 'Mae dy frenines di, a rhai tywysogion Llychlyn[168] a'r Ellmyn[169], ac ychydig o fân dywysogion ereill.' Beth yw hyny,' ebr finnau, 'wrth sy dan Belial fawr? wele ymherodron a breninoedd heb rifedi." 'Er hyny i gyd,' eb yr Angel, 'ni all un o honynt oll symmud bys llaw heb gynnwysiad[170] IMMANUEL; na Belial ei hunan chwaith. O blegid IMMANUEL yw ei union Frenin yntau, ond darfod iddo wrthryfela, a chael ei gadwyno am hyny yn garcharor tragwyddol; eithr mae e'n cael cenad eto tros ennyd fach i ymweled â'r Ddinas Ddienydd; ac yn tynu pawb a'r a allo i'r un gwrthryfel, ac i gael rhan o'r gosp: er y gwyr ef na wna hyny ond chwanegu ei gosp ei hun; eto ni ad malais a chenfigen iddo beidio, pan gaffo ystlys cenad: a chan ddäed ganddo ddrygioni, fe gais ddifa'r ddinas a'r adeilad hon, er y gŵyr e'n hen iawn fod ei Cheidwad hi yn anorchfygol.'
Ertolwg,' ebr fi, 'fy Arglwydd, a gawn i nesäu i gael manylach golwg ar y breninlle godidog hwn?' (canys cynhesasai fy nghalon i wrth y lle, or y golwg cyntaf.) Cei yn hawdd,' eb yr Angel, 'o blegid yna mae fy lle, a'm siars, a'm gorchwyl innau. Pa nesaf yr awn ati, mwyfwy y rhyfeddwn uchod, gryfod a hardded, laned a hawddgared, oedd pob rhan o honi; gywreinied y gwaith, a chariadused y defnyddiau. Craig ddirfawr, o waith a chadernid annhraethawl, oedd y sylfaen; a meini bywiol ar hyny, wedi eu gosod a'u cyssylltu mewn trefn mor odidog, nad oedd bosibl i un maen fod cyn hardded mewn unlle arall ag ydoedd ef yn ei le ei hun. Gwelwn un rhan o'r eglwys yn taflu allan yn groes[171] glandeg a hynod iawn; chanfu yr Angel fi yn ysbio arno. A adwaenost ti y rhan yna?' ebr ef. Ni wyddwn i beth i ateb. 'Dyna Eglwys Loegr,' ebr ef. Mi gyffroais beth; ac wedi edrych i fyny, mi welwn y Frenines Ann[172] ar ben yr eglwys, â chleddyf ym mhob llaw; un yn yr aswy a elwid Cyfiawnder, i gadw ei deiliaid rhag dynion y Ddinas Ddienydd; a'r llall yn ei llaw ddeheu, i'w cadw rhag Belial a'i ddrygau ysbrydol: hwn a elwid Cleddyf yr Ysbryd, neu Air Duw. O tan y cleddyf aswy yr oedd llyfr Ystatut[173] Loegr; tan y llall yr oedd Beibl mawr. Cleddyf yr Ysbryd oedd danllyd, ac anferthol o hyd; fe laddai ym mhellach nag y cyffyrddai'r llall. Gwelwn y tywysogion ereill â'r un rhyw arfau yn amddiffyn eu rhan hwythau o'r eglwys; eithr tecaf gwelwn i ran fy mrenines fy hun, a gloewaf ei harfau. Wrth ei deheulaw hi, gwelwn fyrdd o rai duon, archesgobion, esgobion, a dysgawdwyr, yn cynnal gyda hi yng Nghleddyf yr Ysbryd a rhai sawdwyr, a swyddogion, ond ychydig o'r cyfreithwyr, oedd yn cydgynnal yn y cleddyf arall. Ces genad i orphwyso peth wrth un o'r drysau gogoneddus, lle yr oedd rhai yn dyfod i gael braint yn yr Eglwys Gyffredin, ac Angel tal yn cadw'r drws: a'r eglwys oddi mewn mor oleu danbaid, nad oedd wiw i Ragrith ddangos yno mo'i hwyneb; eto hi ymddangosai weithiau wrth y drws, er nad aeth hi erioed i mewn. Fel y gwelais i, o fewn chwarter awr, dyma Bapist, oedd yn tybio mai'r Pab a pioedd yr Eglwys Gatholig, yn cleimio[174] fod iddo yntau fraint. Beth sy genych i brofi eich braint?' ebr y porthor. Mae genyf ddigon,' ebr hwnw, 'o Draddodiadau'r Tadau, ac Eisteddfodau yr Eglwys; ond pam y rhaid i mi fwy o sicrwydd,' ebr ef, 'na gair y Pab sy'n eistedd yn y gadair ddisiomedig?' Yna yr egorodd y porthor lwyth o Feibl dirfawr o faint. 'Dyma,' ebr ef, 'ein hunig lyfr Ystatut ni yma; profwch eich hawl o hwn, neu ymadewch.' Ar hyn fe ymadawodd.
Yn hyn, dyma yrr o Gwaccriaid,[175] a fynai fyned i mewn â'u hetiau ar eu penau; eithr trowyd hwy ymaith am fod cynddrwg eu moes. Wedi hyny, dechreuodd rhai o dylwyth yr ysgubor[176], a fuasai yno er ys ennyd, lefaru. "Nid oes genym ni," meddent, 'ond yr un Ystatut â chwithau; am hyny dangoswch i ni ein braint.' 'Aröwch,' ebr y porthor dysgleirwyn, gan graffu ar eu talcenau hwy, 'mi a ddangosaf i chwi rywbeth.' 'Dacw,' ebr ef, 'a welwch chwi ol y rhwyg a wnaethoch chwi yn yr Eglwys i fyned allan o honi heb nac achos nac ystyr? ac yr awran, a fynech chwi le yma? Ewch yn ol i'r porth cyfyng, ac ymolchwch yno yn ddwys yn Ffynnon Edifeirwch, i edrych a gyfogwch chwi beth gwaed breninol a lyncasoch gynt;[177] a dygwch beth o'r dwfr hwnw i dymmeru'r clai at ail uno y rhwyg acw; ac yna croeso wrthych.'
Ond cyn i ni fyned rwd[178] ym mlaen tua'r Gorllewin, mi glywn si oddi fyny ym mysg y penaethiaid, a phawb o fawr i fach yn hel ei arfau, ac yn ymharneisio,[179] megys at ryfel: a chyn i mi gael ennyd i ysbio am le i ffoi, dyma'r awyr oll wedi duo, a'r ddinas wedi tywyllu yn waeth nag ar eclips,[180] a'r taranau yn rhuo, a'r mellt yn gwau yn dryfrith, a chafodydd didor o saethau marwol yn cyfeirio o'r pyrth isaf at yr Eglwys Gatholig; ac oni bai fod yn llaw pawb darian i dderbyn y picellau tanllyd, a bod y graig sylfaen yn rhy gadarn i ddim fanu arni, gwnelsid ni oll yn un goelcerth. Ond och! nid oedd hyn ond prolog,[181] neu damaid prawf, wrth oedd i ganlyn: o blegid ar fyr, dyma'r tywyllwch yn myned yn saith dduach, a Belial ei hun yn y cwmwl tewaf, a'i ben-milwyr daiarol ac uffernol o'i ddeutu, i dderbyn ac i wneyd ei wyllys ef, bawb o'r neilldu. Fe roesai ar y Pab,[182] a'i fab arall o Ffrainc,[183] ddinystrio Eglwys Loegr a'i brenines; ar y Twrc a'r Moscoviaid[184] daro y rhanau ereill o'r Eglwys, a lladd y bobl, yn enwedig y frenines, a'r tywysogion ereill, a llosgi'r Beibl yn anad dim. Cyntaf gwaith a wnaeth y frenines, a'r seintiau ereill, oedd troi ar eu gliniau, ac achwyn eu cam wrth Frenin y Breninoedd, yn y geiriau yma: "Mae estyniad ei adenydd ef yn llonaid lled dy dir di, O IMMANUEL!" Esa. viii. 8. Yn ebrwydd, dyma lais yn ateb, Gwrthwynebwch ddiawl, ac fe ffy oddi wrthych. Ac yna dechreuodd y maes[185] galluocaf a chynddeiriocaf fu erioed ar y ddaiar. Pan ddechreuwyd gwyntio cleddyf yr Ysbryd, dechreuodd Belial a'i luoedd uffernol wrthgilio; yn y man dechreuodd y Pab lwfrhau, a Brenin Ffrainc yn dal allan; ond yr oedd yntau ym mron digaloni wrth weled y frenines a'i deiliaid mor gytunol; ac wedi colli ei longau a'i wŷr,[186] o'r naill du, a llawer o'i ddeiliaid yn gwrthryfela, o'r tu arall; a'r Twrc[187] yntau yn dechreu llaryeiddio. Yn hyn, och! mi welwn fy anwyl gydymaith yn saethu oddi wrthyf fi i'r entrych, at fyrdd o dywysogion gwynion ereill; a dyna'r pryd y dechreuodd y Pab a'r swyddogion daiarol ereill lechu a llewygu, a'r penaethiaid uffernol syrthio o fesur y myrddiwn, a phob un cymmaint ei swn yn cwympo (i'm tyb i) a phe syrthiasai fynydd anferth i eigion y môr; a rhwng y swn hwnw, a chyffro coll fy nghyfaill, minnau a ddeffroais o'm cwsg; a dychwelais o'n llwyr anfodd i'm tywarchen drymluog; a gwyched, hyfryded oedd gael bod yn ysbryd rhydd, ac yn sicr yn y fath gwmni, er maint y perygl. Ond erbyn hyn, nid oedd genyf neb i'm cysuro, ond yr Awen, a hòno yn lledffrom; prin y ces ganddi frefu i mi yr hyn o rigymau sy'n canlyn.
AR FESUR 'GWEL YR ADEILAD.'
1. Gwel, ddyn, adeilad hyfryd, |
Pob rhan o'r adail aeth yn wan; |
O ddyn! dy bechod di dy hun |
II
GWELEDIGAETH ANGEU YN EI FRENINLLYS ISAF.
PAN oedd Phoebus[198] unllygeidiog ar gyrhaedd ei eithaf benod yn y Deheu, ac yn dal gwg o hirbell ar Brydain Fawr, a'r holl Ogledd-dir; ryw hirnos gauaf dduoer, pan oedd hi yn llawer twymnach yng nghegin Glyn Cywarch[199] nag ar ben Cader Idris, ac yn well mewn ystafell glyd gyda chywely cynhes, nag mewn amdo ym mhorth y fonwent; myfyrio yr oeddwn i ar ryw ymddyddanion a fuasai wrth y tân rhyngof fi a chymmydog, am fyrdra hoedl dyn, a sicred yw i bawb farw, ac ansicred yr amser;[200] a hyn, newydd roi fy mhen i lawr, ac yn lled-effro, mi glywn bwys mawr yn dyfod arnaf yn lledradaidd o'm coryn i'm sawdl, fel na allwn symmud bys llaw, ond y tafod yn unig; a gwelwn megys mab ar fy nwyfron, a merch ar gefn hyny. Erbyn craffu, mi adwaenwn y mab wrth ei aroglau trwm, a'i gudynau gwlithog, a'i lygaid mol-glafaidd, mai fy Meistr Cwsg ydoedd. 'Ertolwg, Syr,' ebr fi, tan wichian, 'beth a wnaethym i'ch erbyn pan ddygech y wyddan[201] yna i'm nychu?' Ust,' ebr yntau, 'nid oes yma ond fy chwaer Hunllef;[202] myned yr ŷm ni ein dau i ymweled â'n brawd Angeu: eisieu trydydd sy arnom; a rhag i ti wrthwynebu, daethom arnat (fel y bydd yntau) yn ddirybudd. Am hyny, dyfod sy raid i ti, un ai o'th fodd ai o'th anfodd.' Och,' ebr finnau, 'ai rhaid i mi farw?' 'Na raid,' eb yr Hunllef; ni a'ch arbedwn hyn o dro.' 'Ond trwy eich cenad,' ebr fi, 'nid arbedodd eich brawd Angeu neb erioed eto a ddygid i'w ergyd ef; y gwr o aeth i ymaflyd cwymp ag Arglwydd y Bywyd ei hun; ond ychydig a ennillodd yntau ar yr orchest hòno.' Cododd Hunllef ar y gair yma yn ddigllon, ac a ymadawodd. Hai,' ebr Cwsg, 'tyred ymaith, ni bydd i ti ddim edifeirwch o'th siwrnai. 'Wel,' ebr fi, 'na ddêl byth nos i Lan-gwsg, ac na chaffo'r Hunllef byth orphwys ond ar flaen mynawyd, oni ddygwch fi yn ol lle y'm cawsoch.' Yna i ffordd yr aeth â mi tros elltydd a thrwy goedydd, tros foroedd a dyffrynoedd, tros gestyll a thyrau, afonydd a chreigiau; a pha le y disgynem ond wrth un o byrth merched Belial, o'r tu cefn i'r Ddinas Ddienydd; lle gwelwn fod y tri Phorth Dienydd yn cyfyngu yn un o'r tu cefn, ac yn agor i'r un lle: lle mwrllwch oerddu gwenwynig, llawn niwl afiach a chymylau cuwchdrwm[203] ofnadwy. 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'pa le yw'r fangre hon?' 'Ystafelloedd Angeu,' ebr Cwsg. Ni ches i ond gofyn, na chlywn i rai yn crio, rhai yn griddfan, rhai yn ochain, rhai yn ymleferydd,[204] rhai yn dal i duchan yn llesg; ereill mewn llafur mawr, a phob arwyddion ymadawiad dyn; ac ambell un ar ei ebwch[205] mawr yn tewi; a chwap[206] ar hyny, clywn droi agoriad mewn clo. Minnau a drois wrth y swn i ysbio am y drws; ac o hir graffu, gwelwn fyrdd fyrddiwn o ddrysau yn edrych ym mhell, ac er hyny yn fy ymyl. 'Yn rhodd, Meistr Cwsg,' ebr fi, 'i ba le mae'r drysau yna yn egor?' Y maent yn agor,' ebr yntau, 'i Dir Anghof, gwlad fawr tan lywodraeth fy mrawd yr Angeu; a'r gaer fawr yma yw terfyn yr anferth Dragwyddoldeb.' Erbyn hyn, gwelwn Angeu bach wrth bob drws, heb un yr un arfau, na'r un enw a'u gilydd; eto, gwyddid arnynt mai swyddogion yr un brenin oeddynt oll; er y byddai aml ymryson rhyngddynt am y cleifion; mynai'r naill gipio'r claf yn anrheg trwy ei ddrws ei hun, a'r llall a'i mynai trwy ei ddrws yntau. Wrth nesäu, canfum yn ysgrifenedig uwch ben pob drws, henw'r Angeu oedd yn ei gadw; ac hefyd wrth bob drws, ryw gant o amryw bethau wedi eu gadael yn llanastr,[207] arwydd fod brys ar y rhai a aethent trwodd.
Uwch ben un drws, gwelwn Newyn; ac eto ar lawr yn ei ymyl byrsau a chodau llawnion, a thrynciau[208] wedi eu hoelio. 'Dyma,' ebr ef, 'Borth y Cybyddion.' 'Pwy,' ebr fi, 'pioodd y carpiau yna?' Cybyddion, eb ef, 'gan mwyaf, ond mae yna rai yn perthyn i segurwyr, a hwsmyn tafod,[209] ac i ereill, tlawd ym mhob peth ond yr ysbryd, oedd well ganddynt newynu na gofyn."
Yn y drws nesaf yr oedd Angeu Annwyd; gyfeiryd â hwn clywn lawer hydyd—ydyd—cian[210]; wrth y drws hwn yr oedd llawer o lyfrau, rhai potiau a fflageni, ambell ffon a phastwn, rhai cwmpasau, a chyrt, a chêr llongau. Fe aeth ffordd yma ysgolheigion,' ebr fi. 'Do,' ebr yntau, 'rai unig a dihelp, a phell oddi wrth amgeledd a'u carai, wedi dwyn hyd yn oed y dillad oddi arnynt.'[211] 'Dyna,' ebr ef (am y potiau) 'weddillion y cymdeithion da, a fydd â'u traed yn fferu tan feinciau, tra bo eu penau yn berwi gan ddiod a dwndwr: a'r pethau draw sy'n perthyn i drafaelwyr mynyddoedd eiryog, ac i farsiandwyr y Gogledd-for.' Yn nesaf oedd ysgerbwd teneu a elwid Angeu Ofn; gellid gweled trwy hwn nas meddai'r un galon; ac wrth ddrws hwn hefyd godau, a chistiau, a chloiau, a chestyll. I hwn yr air llogwyr, a drwg wladwyr, a gorthrymwyr, a rhai o'r mwrdrwyr;[212] ond yr oedd llawer o'r rhai hyny yn galw heibio i'r drws nesaf, lle yr oedd Angeu a elwid Crog, â'i gortyn parod am ei wddf.
Nesaf i hyny oedd Angeu Cariad, ac wrth ei draed fyrdd o bob offer a llyfrau miwsig[213] a cherdd, a llythyrau mwynion, ac ysmotiau a lliwiau i harddu yr wyneb, a mil o ryw siabas[214] deganau i'r pwrpas hwnw; a rhai cleddyfau. 'A'r rhai hyn,' eb efe, y bu'r herwyr[215] yn ymladd am y feinwen, a rhai yn eu lladd eu hunain.' Mi a welwn nad oedd yr Angeu yma ond cibddall.
Y drws nesaf yr oedd yr Angeu gwaethaf ei liw o'r cwbl a'i afu wedi diflanu; fo'i gelwid Angeu Cenfigen. 'Hwn,' ebr Cwsg, a fydd yn cyrchu colledwyr, athrodwyr, ac ambell farchoges a fydd yn ymwenwyno wrth y gyfraith a barodd i wraig ymddarostwng i'w gwr.' 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'beth yw marchoges?' 'Marchoges,' ebr ef, 'y gelwir yma y ferch a fyn farchogaeth ei gwr, ei chymmydogaeth, a'i gwlad, os geill; ac o hir farchogaeth, hi ferchyg ddiawl o'r diwedd, o'r drws yna hyd yn annwn.'
Yn nesaf yr oedd drws Angeu Uchelgais, i'r sawl sy'n ffroenio yn uchel, ac yn tori eu gyddfau eisieu edrych tan eu traed; wrth hwn yr oedd coronau, teyrnwiail, banerau, a phob papyrau am swyddau, pob arfau bonedd a rhyfel. Ond cyn i mi edrych ychwaneg o'r aneirif ddrysau hyny, clywn lais yn peri i minnau wrth fy henw ymddattod. Ar y gair mi'm clywn yn dechreu toddi, fel caseg eira yng ngwres yr haul; yna rhoes fy Meistr i mi ryw ddiod gwsg, fel yr hunais; ond erbyn i mi ddeffro, fo a'm dygasai i ryw ffordd allan o bellder y tu arall i'r gaer; mi'm gwelwm mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac i'm tyb i, nid oedd dyben arno: ac ym mhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel canwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif o gysgodion dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y gwynt, yn ddystaw ac yn ddifrifol aruthr: a gwlad ddiffrwyth, lom, adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed, nac anifail, oddi eithr gwylltfilod marwol a phryfed gwenwynig o bob math; seirff, nadroedd, llau, llyffaint, llyngyr, locustiaid, pryf y bendro, a'r cyffelyb oll sy'n byw ar lygredigaeth dyn. Trwy fyrddiwn o gysgodion ac ymlusgiaid, a beddi, a monwentau, a beddrodau, ni aethom ym mlaen i weled y wlad yn ddirwystr, tan na welwn[216] i rai yn troi ac yn edrych arnaf; a chwipyn, er maint oedd y distawrwydd o'r blaen, dyma si o'r naill i'r llall, fod yno ddyn bydol.[217] Dyn bydol!' ebr un; 'Dyn bydol!' eb y llall; tan ymdyru ataf, fel y lindys, o bob cwr. 'Pa fodd y daethoch, Syre?' ebr rhyw furgyn o Angeu bach oedd yno. 'Yn wir, Syr,' ebr fi, 'nis gwn i mwy na chwithau.' Beth y gelwir chwi,' ebr yntau? 'Gelwch fi yma fel y mynoch yn eich gwlad eich hun, ond fe'm gelwid i gartref, Bardd Cwsg.'
Ar y gair, gwelwn gnap o henddyn gwargam, a'i ddeupen fel miaren gen lawr, yn ymsythu, ac yn edrych arnaf yn waeth na'r dieflyn coch; a chyn dywedyd gair, dyma fe'n taflu penglog fawr heibio i'm pen i. Diolch i'r gareg fedd a'm cysgododd. 'Llonydd, Syr, ertolwg,' ebr fi, 'i ddyn dyeithr na fu yma erioed o'r blaen, ac ni ddaw byth, pe cawn unwaith ben y ffordd adref.' Mi wnaf i chwi gofio eich bod yma,' eb ef, ac eilwaith ag asgwrn morddwyd, gosododd arnaf yn gythreulig, a minnau yn osgoi fy ngoreu. 'Beth,' ebr fi, dyma wlad anfoesol iawn i ddyeithriaid; oes yma un ustus o heddwch?' 'Heddwch,' ebr yntau, 'pa heddwch a haeddit ti, na adewit lonydd i rai yn eu beddi?' 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'a gawn i wybod eich henw chwi; o blegid nis gwn i flino ar neb o'r wlad yma erioed.' 'Syre,' ebr yntau, gwybyddwch mai fi, ac nid chwi, yw'r Bardd Cwsg; ac a ges lonydd yma er's naw cant o flynyddoedd gan bawb ond chwychwi;' ac a aeth i'm cynnyg i drachefn.
Peidiwch, fy mrawd,' ebr Merddyn,[218] oedd yn agos; 'na fyddwch ryboeth; diolchwch iddo yn hytrach am gadw coffadwriaeth parchus o'ch enw ar y ddaiar.' 'Yn wir, parch mawr,' eb yntau, 'oddi wrth y fath benbwl a hwn. A fedrwch chwi, Syre, ganu ar y pedwar mesur ar hugain? a fedrwch chwi ddwyn achau Gog a Magog, ac achau Brutus ab Silvius hyd gan—mlwydd cyn difa Caer Troia? A fedrwch chwi frutio pa bryd, a pheth a fydd diwedd y rhyfeloedd rhwng y llew a'r eryr, a rhwng y ddraig a'r carw coch? ha!' 'Hai! gadewch i minnau ofyn iddo gwestiwn,' ebr un arall, oedd wrth efyddan[219] fawr yn berwi, soc, soc, dy gloc, dy gloc.[220] Tyred yn nes ebr ef, beth yw meddwl hyn?'—
Mi fyddaf hyd ddydd—brawd,
Ar wyneb daiar—brawd,
Ac ni wyddys beth yw 'nghnawd,
Ai cig ai pysgawd,'
Dymunaf eich henw, Syr,' ebr fi, 'fel y'ch atebwyf yn gymhwysach.' 'Myfi,' ebr ef, 'yw Taliesin Ben Beirdd y Gorllewin, a dyna beth o'm difrogwawd[221] i. 'Nis gwn i ebr finnau, beth a allai eich meddwl fod, onid allai'r fad felen[222] a ddyfethodd Faelgwn Gwynedd, eich lladd chwithau ar y feisdon,[223] a'ch rhanu rhwng y brain a'r pysgod.' 'Taw, ffwl,' ebr ef, 'brutio yr oeddwn i am fy nwy alwedigaeth, gwr o gyfraith a phrydydd: a ph'run, meddi di yr awran, debycaf ai cyfreithiwr i gigfran reibus, ai prydydd i forfil? Pa sawl un a ddigiga un cyfreithiwr i godi ei grombil oi hun? ac O! mor ddifater y gollwng e'r gwaed, a gadael dyn yn lledfarw! A'r prydydd yntau, pa le mae'r pysgodyn sy'r un lwnc ag ef! ac mae hi yn for arno bob amser, eto ni thyr y môr heli mo'i syched ef. Ac erbyn y bai ddyn yn brydydd ac yn gyfreithiwr, pwy a ŵyr pa'r un ai cig ai pysgod fyddai: ac yn sicr, os byddai yn un o wyr llys, fel y bûm i,[224] ac yn gorfod iddo newid ei flas at bob geneu. Ond dywed i mi,' ebr ef, 'a oes yr awran nemor o'r rhai hyny ar y ddaiar?' 'Oes,' ebr finnau, 'ddigon; os medr un glytio rhyw fath ar ddyri,[225] dyna fe'n gadeirfardd. Ond o'r lleill,' ebr fi, mae'r fath bla yn gyfarthwyr, yn fân dwrneiod,[226] a chlarcod,[227] nad oedd locustiaid yr Aipht ddim pwys ar y wlad wrthi rhai hyn. Nid oedd yn eich amser chwi, Syr, ond bargeinion bol clawdd, a lled llaw o ysgrifen am dyddyn canpunt, a chodi carnedd, neu goeten Arthur, yn goffadwriaeth o'r pryniant a'r terfynau. Nid oes mo'r nerth i hyny yr awran, ond mae chwaneg o ddichell ddyfeisddrwg, a chyfied a chromlech o femrwn ysgrifenedig i sicrhau'r fargen; ac er hyny, odid na fydd, neu fe fynir, rhyw wendid ynddi.' Wel, wel,' ebr Taliesin, 'ni thalwn i yno ddraen; ni waeth genyf lle yr wyf: ni cheir byth wir lle bo llawer o feirdd, na thegwch lle bo llawer o gyfreithwyr, nes y caffer iechyd lle bo llawer o physigwyr.'
Yn hyn, dyma ryw swbach[228] henllwyd bach, a glywsai fod yno ddyn bydol, yn syrthio wrth fy nhraed, ac yn wylo yn hidl. Ocho druan!' ebr fi, 'beth wyt ti?' 'Un sy'n cael gormod o gam yn y byd beunydd,' ebr yntau; 'fe ga eich enaid chwi fynu i mi uniondeb.' 'Beth,' ebr fi, 'y gelwir di? Fe a'm gelwir i Rhywun,' ebr ef; 'ac nid oes na llateiaeth,[229] nac athrod, na chelwyddau, na chwedlau, i yru rhai benben, nad arnaf fi y bwrir y rhan fwyaf o honynt. "Yn wir," medd un, "mae hi yn ferch odiaeth, ac hi fu yn eich canmol chwi wrth Rywun, er bod Rhywun mawr yn ei cheisio hi." "Mi a glywais Rywun," medd y llall, "yn cyfrif naw cant o bunnau o ddyled ar yr ystâd hòno." "Gwelais Rywun ddoe," medd y cardotyn, "â chadach brith fel moriwr, a ddaethai â llong fawr o yd i'r borth[230] nesaf;" ac felly pob cerpyn a'm llurgynia i i'w ddrwg ei hun. Rhai a'm geilw i yn Ffrind.[231] "Mi ges wybod gan Ffrind," medd un, "nad oes ym mryd hwn a hwn adael ffyrling i'w wraig, ac nad oes dim diddigrwydd rhyngthynt." Rhai ereill a'm diystyrant i ym mhellach, gan fy ngalw yn Frân: "Fe ddywed Brân i mi fod yno gastiau drwg," meddant. Ië, rhai a'm geilw ar henw parchedicach yn Henwr; eto nid eiddof fi hanner y coelion, a'r brutiau,[232] a'r cynghorion a roir ar yr Henwr; ni pherais i erioed ddilyn yr hen-ffordd, os byddai'r newydd yn well; ac ni feddyliais i erioed warafun cyrchu i'r Eglwys wrth beri—"Na fynych dramwy lle bo mwyaf dy groeso;" na chant o'r fath. Ond Rhywun yw fy enw cyffredinaf i,' ebr ef; 'hwnw a gewch chwi glywed fynychaf ym mhob mawrddrwg; o blegid gofynwch i un, lle dywedpwyd y mawrgelwydd gwaradwyddus, pwy a'i dywed; "Yn wir," medd yntau, "nis gwn i pwy, ond fo'i dywed Rhywun yn y cwmni;" holi pawb o'r cwmpeini am y chwedl, fe'i clybu pawb gan Rywun, ond nis gŵyr neb gan bwy. Onid yw hyn yn gam cywilyddus?' ebr ef. Ertolwg, a hysbyswch chwi i bawb a glywoch yn fy henwi, na ddywedais i ddim o'r pethau hyn? Ni ddyfeisiais ac ni adroddais i gelwydd erioed i waradwyddo neb, nac un chwedl i yru ceraint bendramwnwgl â'u gilydd; nid wyf yn dyfod ar eu cyfyl;[233] nis gwn i ddim o'u hystorïau, na'u masnach, na'u cyfrinach felltigedig hwy; na wiw iddynt fwrw mo'u drygau arnaf fi, ond ar eu hymenyddiau llygredig eu hunain.'
Ar hyn, dyma Angeu bach, un o ysgrifenyddion y brenin, yn gofyn i mi fy henw, ac yn peri i Meistr Cwsg fy nwyn i yn ebrwydd ger bron y brenin. Gorfod myned o'm llwyr anfodd, gan y nerth a'm cipiodd fel corwynt, rhwng uchel ac isel, filoedd o filltiroedd yn ei hol ar y llaw aswy, oni ddaethom eilwaith i olwg y wal derfyn; ac mewn congl gaeth, ni welem: glogwyn o lys candryll penegored dirfawr, yn cyrhaedd hyd at y wal lle yr oodd y drysau aneirif, a'r rhai hyny oll yn arwain i'r anferth lys arswydus hwn: â phenglogau dynion y gwnelsid y muriau,[234] a'r rhai hyny yn ysgyrnygu dannedd yn erchyll; du oedd y clai, wedi ei gyweirio trwy ddagrau a chwys; a'r calch oddi allan yn frith o phlêm[235] a chrawn; ac oddi fewn o waed dugoch. Ar ben bob tŵr, gwelid Angeu bach, â chanddo galon dwymn ar flaen ei saeth. O amgylch y llys yr oedd rhai coed ambell ywen wenwynig, a cypreswydden farwol; ac yn y rhai hyny yr oedd yn nythu ddylluanod, cigfrain, ac adar y cyrff, a'r cyfryw, yn crëu[236] am gig fyth, er nad oedd y fangre oll ond un gigfa fawr ddrewedig. O esgyrn morddwydydd dynion y gwnelsid holl bilerau'r neuadd; a philerau'r parlwr o esgyrn y coesau; a'r lloriau yn un walfa o bob cigyddiaeth.
Ond ni ches i fawr aros, nad dyma yng ngolwg allor fawr arswydus, lle gwelem y brenin dychrynadwy yn traflyncu cig a gwaed dynion, a mil o fân angeuod, o bob twll, yn ei borthi fyth â chig ir twymn. 'Dyma,' eb yr Angeu a'm dygasai i yno, 'walch a ges i yng nghanol Tir Anghof, a ddaeth mor ysgafn-droed, na phrofodd eich mawrhydi damaid o hono erioed.' Pa fodd y gall hyny fod?' ebr y brenin, ac a ledodd ei hopran[237] cyfled a daiargryn i'm llyncu. Ar hyn, mi a drois tan grynu at Gwsg. 'Myfi,' ebr Cwsg, 'a'i dygais ef yma.' 'Wel,' ebr y brenin cul ofnadwy, er mwyn fy mrawd Cwsg, chwi ellwch fyned i droi eich traed am y tro yma; ond gwyliwch fi'r tro nesaf.' Wedi iddo fod ennyd yn bwrw celanedd i'w geubal[238] ddiwala, parodd roi dyfyn[239] i'w ddeiliaid, ac a symmudodd o'r allor i orseddfainc echryslawn dra uchel, i fwrw'r[240] carcharorion newydd ddyfod. Mewn mynyd, dyma'r meirw, fwy na rhif o fynteioedd, yn gwneyd eu moes i'r brenin, ac yn cymmeryd eu lle mewn trefn odiaeth. A'r brenin Angeu yn ei freninwisg o ysgarlad gloewgoch, ag hyd-ddi luniau gwragedd a phlant yn wylo, a gwyr yn ocheneidio; ac am ei ben gap dugoch trichonglog (a yrasai ei gâr Luciffer yn anrheg iddo); ar ei gonglau ysgrifenasid, 'Galar, a griddfan, a gwae.' Uwch ei ben yr oedd myrdd o luniau rhyfeloedd ar fôr a thir; trefi yn llosgi, y ddaiar yn ymagor, a'r dwr diluw; a than ei draed nid oedd ond coronan a theyrnwiail yr holl freninoedd a orchfygasai fe erioed. Ar ei law ddeheu yr oedd Tynged yn eistedd, ac â golwg ddu ddel[241] yn darllen anferth lyfr oedd o'i flaen: ac ar y llaw aswy yr oedd henddyn a elwid Amser, yn dylifo[242] aneirifo edafedd aur, ac edafedd arian, a chopr, a haiarn lawer iawn, ac ambell edyf yn prifio yn well at ei diwedd; a myrddiwn yn prifio yn waeth. Hyd yr edafedd yr oedd oriau, diwrnodau, a blynyddoedd; a Thynged wrth ei lyfr yn tori yr edafedd einioes, ac yn egor drysau'r wal dorfyn rhwng y ddau fyd.
Ni chawswn i fawr edrych na chlywn alw at y bar bedwar o ffidleriaid oedd newydd farw. Pa fodd,' ebr brenin y dychryn, 'a däed genych lawenydd, na ddaliasech chwi o'r tu draw i'r agendor? canys ni fu o'r tu yma i'r cyfwng lawenydd erioed.' 'Ni wnaethom ni,' ebr un cerddor, ddrwg i neb erioed, ond eu gwneyd yn llawen, a chymmeryd yn ddystaw a gaem am ein poen." 'A gadwasoch chwi neb,' ebr Angeu, 'i golli eu hamser oddi wrth eu gorchwyl, neu o fyned i'r Eglwys? ha!' 'Na ddo,' ebr un arall, oddi eithr bod ambell Sul wedi gwasanaeth yn y tafarndy tan dranoeth, neu amser haf mewn twmpath chwareu; ac yn wir, yr oeddym ni yn gariadusach ac yn lweusach[243] am gynnulleidfa na'r person.' 'Ffwrdd, ffwrdd a'r rhai hyn i Wlad yr Anobaith,' ebr y brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu[244] fyth heb na chlod na chlera.'
Y nesaf a ddaeth at y bar, oedd rhyw frenin agos i Rufain. 'Cyfod dy law, garcharor,' ebr un o'r swyddogion. 'Gobeithio,' ebr hwnw, 'fod genych beth gwell moes a ffafr i frenin." Syre.' ebr Angeu, 'chwithau ddylasech ddal y tu arall i'r agendor, lle mae pawb yn freninoedd; ond gwybyddwch nad oes o'r tu yma yr un ond fy hunan; ac un brenin arall sydd i waered obry; a chewch weled na phrisia hwnw na minnau yng ngraddau'ch mawrhydi, eithr yng ngraddau'ch drygioni, i gael cymhwyso eich cosp at eich beiau; am hyny atebwch i'r holion.' 'Syr,' ebr yntau, gwybyddwch nad oes genych ddim awdurdod i'm dal nac i'm holi: mae genyf fi faddeuant o'm holl bechodau tan law'r Pab ei hun. Am i mi ei wasanaethu e'n ffyddlon, yntau roes i mi gynnwysiad i fyned yn union i Baradwys, heb aros fynyd yn y purdan.' Wrth hyn dyma'r brenin, a'r holl gegau culion, yn rhoi oer ysgyrnygfa, i geisio dynwared chwerthin; a'r llall, yn ddigllon wrth y chwerthin, yn eu gorchymmyn i ddangos iddo ei ffordd. Taw, ffwl colledig,' ebr Angeu, tu draw i'r wal o'th ol y mae'r purdan; canys yn dy fywyd y dylasit ymburo; ac ar y llaw ddeheu, tu hwnt i'r agendor yna, y mae Paradwys. Ac nid oes dim ffordd bosibl i ti ddianc weithiau, na thros yr agendor i Baradwys, na thrwy'r wal derfyn yn dy ol i'r byd; canys, pe rhoit dy freniniaeth (lle ni feddi ddimai i roi) ni chait gan borthor y drysau yna ysbio unwaith trwy dwll y clo. Y Wal Ddiadlam[245] y gelwir hon; canys pan ddeler unwaith trwyddi, yn iach fyth ddychwelyd. Ond gan eich bod gymmaint yn llyfrau'r Pab, cewch fyned i gyweirio ei wely ef at y Pab oedd o'i flaen, ac yno cewch gusanu ei fawd ef byth, ac yntau fawd Luciffer.' Ar y gair, dyma bedwar o'r mân angeuod yn ei godi, ac yntau erbyn hyn yn crynu fel dail yr aethnen, ac a'i cipiasant fel y mellt allan o'r golwg.
Yn nesaf at hwn daeth mab a merch. Ef a fuasai yn gydymaith da, a hithau yn ferch fwyn, neu yn rhwydd o'i chorff; eithr galwyd hwy yno wrth eu henwau noethion, meddwyn a phutain. Gobeithio,' ebr y meddwyn, 'y caf fi genych beth ffafr; mi yrais i chwi lawer ysglyfaeth dew mewn llifeiriant o gwrw da; a phan fethais yn lladd ereill, daethym fy hun yn wyllysgar i'ch porthi.' Trwy genad y cwrt,[246] nid hanner a yrais i iddo,' ebr y butain, 'wedi eu hoffrwm yn ebyrth llosg, yn gig rhost parod i'w fwrdd.' Hai, hai,' ebr Angeu, er eich trachwantau melltigedig eich hunain, ac nid i'm porthi i, y gwnaed hyn oll: rhwymwch y ddau wyneb yn wyneb, gan eu bod yn hen gyfeillion, a bwriwch hwy i wlad y tywyllwch, a chwyded ef i'w cheg hi, pised hithau dân i'w berfedd yntau, hyd ddydd-farn."[247] Yna cipiwyd hwythau allan â'u penau yn isaf.
Yn nesaf i'r rhai hyn daeth saith Recordor:[248] peri iddynt godi eu dwylo at y bar; ni chlywid mo hyny, canys yr oedd y cledrau yn ireidlyd;[249] ond dechreuodd un ddadleu yn hyfach: Ni ddylasem gael dyfyn teg i barotoi ein hateb, yn lle ein rhuthro yn lledradaidd.' 'O, nid ym ni rwymedig i roi i chwi yr un dyfyn penodol,' ebr Angeu, am eich bod yn cael ym mhob lle, bob amser o'ch einioes, rybudd o'm dyfodiad i. Pa sawl pregeth a glywsoch am farwoldeb dyn? Pa sawl llyfr, pa sawl bedd, pa sawl clul,[250] pa sawl clefyd, pa sawl cenad ac arwydd a welsoch? Beth yw eich cwsg, ond fy mrawd i? Beth yw eich penglogau, ond fy llun i? Beth yw eich bwyd beunyddiol, ond creaduriaid meirwon? Na cheisiwch fwrw mo'ch aflwydd arnaf fi; chwi ni fynech son am y dyfyn, er ei gael ganwaith.' 'Ertolwg,' ebr un Recordor coch, beth sy genych i'n herbyn?' Beth!' ebr Angeu; 'yfed chwys a gwaed y tlodion, a chodi dwbl eich cyflog.' Dyma wr gonest,' eb ef, gan ddangos cecryn oedd o'u hol, 'a wyr na wnaethym i erioed ond tegwch: ac nid teg i chwi ein dal ni yma, heb genych un bai penodol i'w brofi i'n herbyn.' 'Hai, hai,' ebr Angeu, cewch brofi yn eich herbyn eich hunain: gosodwch,' ebr ef, 'y rhai hyn ar fin y dibyn, ger bron gorsedd Cyfiawnder; hwy a gânt yno uniondeb, or nas gwnaethant.'
Yr oedd yn ol eto saith o garcharorion ereill, a'r rhai hyny yn cadw'r fath drafferth a thrwst; rhai yn gwenieithio, rhai yn ymrincian, rhai yn bygwth, rhai yn cynghori, &c. Prin y galwasid hwy at y bar, nad dyma'r llys oll wedi duo yn saith hyllach nag o'r blaen, a grydwst a chyffro mawr o gylch yr orseddfainc, a'r Angeu yn lasach nag erioed. Erbyn ymorol, un o genadon Luciffer a ddaethai â llythyr at Angeu, yng nghylch y saith garcharor hyn; ac ym mhen ennyd, parodd Tynged ddarllen y llythyr ar osteg; ac hyd yr wyf yn cofio, dyma'r geiriau:—
Luciffer, Brenin Breninoedd y Byd, Tywysog Annwn a Phrif Reolwr y Dyfnder, At ein naturiol Fab, y galluocaf ddychrynadwy Frenin Angeu: cyfarch, a goruchafiaeth, ac ysbleddach[251] dragwyddol.
Yn gymmaint a darfod i rai o'n cenadon cyflym, sy'n wastad allan ar ysbî, hysbysu i ni ddyfod gynneu i'ch breninllys saith garcharor o'r saith rywogaeth ddihiraf yn y byd, a pheryclaf, a'ch bod chwi ar fedr eu hysgwyd tros y geulan i'm teyrnas i: eich cynghori yr wyf fi i brofi pob ffordd bosibl i'w gollwng hwy yn ou hol i'r byd; gwnânt yno fwy o wasanaeth i chwi am ymborth, ac i minnau am well cwmni: canys gwell genym eu lle na'u cwmpeini; cawsom ormod o heldrin[252] gyda'u cymheiriaid hwy er's talm, a'm llywodraeth i yn gythryblus eisys. Am hyny, trowch hwy yn eu hol, neu gedwch gyda chwi hwynt. O blegid myn y goron uffernol, os bwri hwy yma, mi a faluriaf tan seiliau dy deyrnas di, hyd oni syrthio yn un â'm teyrnas fawr fy hun.
'O'n Breninllys ar Sugnedd yn y Fallgyrch[253] eirias,[254] yn y flwyddyn o'n Teyrnasiad, 5425.'
Safodd y brenin Angeu, â'i wep yn wyrdd ac yn las, ennyd ar ei gyfyng gynghor. Ond tra bu e'n myfyrio, dyma Dynged yn troi ato'r fath guwch haiarnddu a wnaeth iddo grynu. Syre,' ebr ef, edrychwch beth a wneloch; ni feddiaf fi ollwng neb yn ol trwy derfyn-glawdd tragwyddoldeb y wal ddiadlam, na chwithau ou llochi[255] hwy yma; am hyny, gyrwch hwynt ym mlaen i'w distryw, heb waethaf i'r Fall fawr; fe fedrodd drefnu llawer dalfa o fil neu ddeng-mil o eneidiau, bob un i'w le mewn mynyd; a pha'r galedi fydd arno yr awran gyda saith, er eu perycled? Pa ddelw bynag, pe troent y llywodraeth uffernol tros ei cholyn, gyr di hwynt yno yn sydyn, rhag ofn i mi gael gorchymmyn i'th daro di yn ddim cyn dy amser. Am ei fygythion ef, nid ynt ond celwyddog: canys er bod dy ddyben di a'r henddyn draw (gan edrych ar Amser) yn nesau o fewn ychydig ddalenau, yn fy llyfr disomiant i; eto nid rhaid i ti unon[256] soddi at Luciffer; er däed fyddai gan bawb yno dy gael di, eto byth nis cânt; o blegid mae'r creigiau dur a diemwnt[257] tragwyddol sy'n toi Annwn, yn rhy gedyrn o beth i'w malurio.' Ar hyny galwodd Angeu, yn gyffrous, am un i ysgrifenu yr ateb fel hyn:—
'Angeu, Frenin y Dychryniadau, Cwncwerwr y Cwncwerwyr, At ein parchedicaf Gâr a'n Cymmydog Luciffer, Brenin Hirnos, Penllywodraethwr y Llynclyn Diffwys: anerch.'
Ar ddwfn ystyried eich breninol ddymuniant hwn, gwelsom yn fuddiolach, nid yn unig i'n llywodraeth ni, eithr hefyd i'ch teyrnas helaeth chwithau, yru y carcharorion hyn bellaf bai bosibl oddi wrth ddrysau'r wal ddiadlam, rhag i'w sawyr drewedig ddychrynu yr holl Ddinas Ddienydd, fel na ddel dyn byth i dragwyddoldeb o'r tu yma i'r agendor; ac felly ni chawn i fyth oeri fy ngholyn, na chwithau ddim cwsmeriaeth rhwng daiar ac uffern. Eithr gadawaf i chwi eu barnu a'u bwrw i'r celloedd a weloch chwi gymhwysaf a sicraf iddynt.
'O'm Breninllys Isaf yn y Gollborth[258] Fawr ar Ddistryw: Er blwyddyn adnewyddiad fy nheyrnas, 1670.'
Erbyn clywed hyn oll, yr oeddwn innau yn ysu am gael gwybod pa ryw bobl allai'r seithnyn hyny fod, a'r diawliaid eu hunain yn eu harswydo cymmaint. Ond cyn pen nemor, dyma Glarc y Goron yn eu galw hwy wrth eu henwau, fel y canlyn: 'Meistr Medleiwr,[259] alias[260] Bys ym mhob Brywes.' Yr oedd hwn mor chwidr a phrysur yn fforddio'r lleill, nad oedd e'n cael mo'r ennyd i ateb trosto ei hun, nes Angeu fygwth ei hollti â'i saeth. Yna, 'Meistr Enllibiwr, alias Gelyn y Geirda.' Dim ateb. Mae e'n orchwylus[261] glywed ei deitlau,' eb y trydydd, 'nis gall aros mo'r llysenwau.' 'Ai tybied,' eb yr Enllibiwr, 'nad oes deitlau i chwithau?' 'Gelwch,' ebr ef, Meistr Rhodreswr Meldafod, alias Llyfn y Llwne, alias Gwên y Gwenwyn.' 'Redi,'[262] ebr merch oedd yno, tan ddangos y Rhodreswr. O,' ebr yntau, Madam Marchoges! eich gwasanaethwr tlawd; da genyf eich gweled yn iach, ni welais i erioed ferch harddach mewn clos;[263] ond, och feddwl druaned yw'r wlad ar eich ol am lywodraethwraig odiaeth! eto eich cwmni hyfryd chwi a wna uffern ei hun yn beth gwell.' 'O fab y fall fawr!' ebr hi; 'nid rhaid i neb gyda thi yr un uffern arall; yr wyt ti yn ddigon.' Yna galwodd y criwr, 'Marchoges, alias Meistres y Clos.' 'Redi,' eb rhywun arall; ond hi ni ddywedodd air, eisieu ei galw hi Madam. Yn nesaf, galwyd Bwriadwr Dyfeisiau, alias Sion o bob Crefft. Ond ni atebai hwnw chwaith; yr oedd ef yn prysur ddyfeisio'r ffordd i ddianc rhag Gwlad yr Anobaith. Redi, redi,' ebr un o'i ol; 'dyna fo yn ysbio lle i dori eich breninllys, ac oni wiliwch, mae ganddo gryn ddyfais i'ch erbyn.' Ebr y Bwriadwr, 'Gelwch yntau, yn rhodd, Meistr Cyhuddwr ei Frodyr, alias Gwyliwr y Gwallau, alias Lluniwr Achwynion.' 'Redi, redi, dynia fo,' ebr Cecry Cyfreithgar; canys gwyddai bob un henw'r llall, ond ni addefai neb mo'i henw ei hunan. 'Gelwch chwithau,'[264] ebr Cyhuddwr, 'Meistr Cecryn Cyfreithgar, alias Cwmbrus y Cyrtiau,"[265] "Tystion, tystion o honoch, fel y galwodd y cnaf fi,' ebr Cecryn. 'Hai, hai,' ebr Angeu, 'nid wrth y bedyddfaen, ond wrth y beiau, yr henwir pawb yn y wlad yma; a thrwy eich cenad, Meistr Cecryn, dyna eich henwau a saif arnoch o hyn allan byth.' 'Aie,' ebr Cecryn, 'myn diawl, mi wnaf yn hallt i chwithau; er y gallech fy lladd, nid oes genych ddim awdurdod i'm llysenwi. Mi rof gydgwyn am hyny ac am gamgarchariad arnoch chwi a'ch câr Luciffer, yng nghwrt Cyfiawnder.'
Erbyn hyn gwelwn fyddinoedd Angeu wedi ymdrefnu ac ymarfogi, a'u golwg ar y brenin am roi'r gair. Yna, ebr y brenin, wedi ymsythu ar ei freninfainc, 'Fy lluoedd ofnadwy, anorchfygol, na arbedwch ofal a phrysurdeb i hebrwng y carcharorion hyn allan o'm terfynau i, rhag diwyno fy ngwlad; a bwriwch hwy yn rhwym tros y dibyn diobaith, a'u penau yn isaf. Ond yr wythfed, y gwr Cwmbrus yna, sy'n fy mygwth i, gedwch ef yn rhydd uwch ben y geulan tan gwrt Cyfiawnder, i brofi gwneyd ei gwyn yn dda i'm herbyn i, os geill.' A chyda'i fod e'n eistedd, dyma'r holl fyddinoedd marwol wedi amgylchu a rhwymo'r carcharorion, ac yn eu cychwyn tua'u lletty. A minnau wedi myned allan, ac yn lled-ysbio ar eu hol, Tyred yma,' ebr Cwsg, ac a'm cipiodd i ben y tŵr uchaf ar y llys. Oddi yno gwelwn y carcharorion yn myned rhagddynt i'w dienydd tragwyddol. A chyn pen nemor, cododd pwff o gorwynt, ac a chwalodd y niwl pygdew cyffredin oedd ar wyneb Tir Anghof, onid aeth hi yn llwyd oleu, lle gwelwn i fyrdd fyrddiwn o ganwyllau gleision; ac wrth y rhai hyny, ces olwg o hirbell ar fin y geulan ddiwaelod: ond os golwg dra ochryslawn oedd hòno, yr oedd yno uwch ben olwg erchyllach na hithau, sef Cyfiawnder ar ei gorseddfainc yn cadw drws uffern, ar frawdle neillduol uwch ben y safn, i roi barn ar y colledigion fel y delont. Gwelwn daflu'r lleill bendramwnwgl, a Checryn yntau yn rhuthro i daflu ei hun tros yr ymyl ofnadwy, rhag edrych unwaith ar gwrt Cyfiawnder; canys, och! yr oedd yno olwg rydost i wyneb euog. Nid oeddwn i ond ysbio o hirbell; eto mi a welais fwy o erchylldod arswydus nag a fedraf fi yr awran ei draethu, nac a fedrais i y pryd hyny ei oddef; canys ymdrechodd a dychlamodd fy ysbryd gan y dirfawr ddychryn, ac ymorchestodd mor egnïol, oni thorodd holl gloiau Cwsg, a dychwelodd fy enaid i'w chynnefin swyddau: a bu lawen iawn genyf fy ngweled fy hun eto ym mysg y rhai byw; a bwriedais fyw wellwell, gan fod yn esmwythach genyf gan mlynedd o gystudd yn llwybrau sancteiddrwydd, na gorfod gweled cip arall ar erchylldod y noson hòno.
AR Y DÔN A ELWIR LEAVE LAND,' NEU GADAEL Y TIR."
1. GADAEL tir, a gadael tai |
7. Mae clod i ddawns a pheraidd gân, |
14. Pan fo d'enaid am y clo, |
III.
GWELEDIGAETH UFFERN.[273]
AR foreu teg o Ebrill rywiog, a'r ddaiar yn las feichiog, a Phrydain baradwysaidd yn gwisgo lifrai gwychion, arwyddion heulwen haf, rhodio yr oeddwn yng nglan Hafren, yng nghanol melus bynciau cerddorion bach y goedwig, oedd yn ymryson tori pob mesurau mawl hyfrydlais i'r Creawdwr; a minnau yn llawer rhwymedicach, weithiau mi gydbynciwn â'r côr asgellog mwynion, ac weithiau darllenwn ran o lyfr Ymarfer Duwioldeb[274]. Er hyny, yn fy myw, nid ai o'm cof fy ngweledigaethau o'r blaen, na redent fyth a hefyd i'm rhwystro ar draws pob meddyliau ereill. A daliasant i'm blino, nes imi, wrth fanwl ymresymu, ystyried nad oes un weledigaeth ond oddi uchod, er rhybudd i ymgroesi; ac wrth hyny fod arnaf ddylêd[275] i'w hysgrifenu hwy i lawr, er rhybuddi ereill hefyd. Ac ar ganol hyny o waith, a mi yn bendrist, yn ceisio casglu rhai o'r cofion ofnadwy, daeth arnaf hepian uwch ben fy mhapyr, a hyny a roes le i'm Meistr Cwsg lithro ar fy ngwarthaf. Braidd y cloisai Cwsg fy synwyrau, nad dyma yn cyfeirio ataf ryw ddrychiolaeth ogoneddus, ar wedd gwr ieuanc tal a glandeg iawn, a'i wisg yn saith wynach na'r eira, a'i wyneb yn tywyllu yr haul o ddysgleirdeb, a'i felyngrych aur-gudynau yn ymranu yn ddwybleth loewdeg oddi arnodd ar lun coron. "Tyred gyda mi, ddyn marwol!' ebr ef, pan ddaeth hyd ataf. 'Pwy wyt ti, fy Arglwydd?' ebr finnau. 'Myfi,' ebr ef, 'yw Angel teyrnasoedd y Gogledd, gwarcheidwad Prydain a'i brenines. Myfi yw un o'r tywysogion sy tan orseddfainc yr Oen, yn derbyn gorchymmynion ym mhlaid yr Efengyl, i'w chadw rhag ei holl elynion sy'n Uffern, ac yn Rhufain, yn Ffrainc, ac yng Nghaer Cwstenyn, yn Affrica, a'r India, a pha le bynag arall y maent yn dyfeisio dichellion i'w difa. Myfi yw yr Angel a'th waredodd tu isaf i Gastell Belial, ac a ddangosais i ti oferedd a gwallgof yr holl fyd, y Ddinas Ddienydd, a godidogrwydd Dinas Emmanuel; a daethym eto trwy ei orchymmyn Ef, i ddangos i ti bethau mwy, am dy fod yn ceisio gwneyd deunydd o'r hyn a welaist eisys.' 'Pa fodd, fy Arglwydd,' ebr fi, 'y mae eich anrhydedd gogoneddus, sy'n goruwchwylio teyrnasoedd a breninoedd, yn ymostwng at gymdeithas burgyn o'm bath i?' 'O!' ebr yntau, 'mwy genym ni rinwedd cardotyn na mawredd brenin. Beth os wyf fwy na holl freninoedd y ddaiar, ac uwch na llawer o'r aneirif benaethiaid nefol? Eto, gan deilyngu o'n hanfeidrol Feistr ni ostyngiad mor annhraethol arno ei Hun, a gwisgo un o'ch cyrff chwi, a byw yn eich mysg, a marw i'ch achub, pa fodd y meiddiwn i amgen na thybio yn rhydda fy swydd dy wasanaethu di, a'r gwaelaf o'r dynion, sy cyfuwch yn ffafr fy Meistr? Tyred allan, ysbryd, a dibridda!' ebr ef, â'i olwg ar i fyny: a chyda'r gair, mi'm clywn yn ymryddhau oddi wrth bob rhan o'r corff, ac yntau yn fy nghipio i fyny i entrych nefoedd, trwy fro'r mellt a'r taranau, a holl arfdai gwynias yr wybr, aneirifo raddau yn uwch nag y buaswn gydag efo'r blaen, lle prin y gwelwn y ddaiar cyfled a chadlas.[276] Wedi gadael i mi orphwys ychydig, fe'm cododd eilchwyl fyrddiwn o filltiroedd, oni welwn yr haul ym mhell oddi tanom; a thrwy Gaer Gwydion,[277] ac heibio i'r Twr Tewdws,[278] a llawer o ser tramawr ereill, gael golwg o hirbell ar fydoedd ereill. Ac o hir ymdaith, dyma ni ar derfynau yr anferth Dragwyddoldeb; yng ngolwg dau lys y gorchestol frenin Angau, un o'r tu deheu, a'r llall o'r tu aswy, ym mhell bell oddi wrth eu gilydd, gan fod rhyw ddirfawr wag rhyngddynt. Gofynais a gawn fyned i weled y Breninllys deheu; o blegid ni welswn mo hwnw yn debyg i'r llall a welswn i o'r blaen. Cei, ond odid,' ebr yntau, weled ychwaneg o'r rhagor sy rhwng y naill lys a'r llall, rywbryd. Eithr rhaid i ni yr awran hwylio ffordd arall.' Ar hyn troisom oddi wrth y Byd bach, a thros y cyfwng ymollyngasom i'r Wlad Dragwyddol, rhwng y ddau lys, i'r gwagle hyll; anferth wlad, ddofn iawn a thywyll, didrefn a didrigolion, weithiau yn oer, ac weithiau yn boeth, weithiau yn ddystaw, weithiau yn synio gan y rhaiadrydd[279] dyfroedd yn disgyn ar y tanau ac yn eu diffodd; ac yn y man gwelid damchwa[280] o dân yn tori allan, ac a losgai'r dwr yn sych. Felly nid oedd yno ddim cwrs, na dim cyfa, dim byw na dim lluniaidd; ond yr anghyssondeb syfrdan, a syndod tywyll a'm dallasai i fyth, oni buasai i'm Cyfaill noethi eilwaith ei nefol ddysgleir-wisg. Wrth ei oleu ef gwelwn Dir Anghof, a minion Gwylltoedd Distryw, ym mlaen o'r tu aswy; ac o'r tu deheu, megys godreon isaf caerau'r Gogoniant. Wel, dyma yr Agendor fawr sydd rhwng Abraham a Difes,'[281] ebr ef, 'a elwir y Gymmysgfa Ddidrefn: hon yw gwlad y defnyddiau, a greodd y Creawdwr gyntaf: a dyma lle mae hadau pob peth byw; ac o'r rhai hyn y gwnaeth y Gair Hollalluog eich Byd chwi, ac oll sy ynddo, dwr, tân, awyr, tir, anifeiliaid, pysg, a phryfed, adar asgellog, a chyrff dynion: ond mae eich eneidiau o ddechreuad ac achau uwch ac ardderchocach.' Trwy'r gymmysgfa fawr arswydus, ni a dorasom, o'r diwedd, allan i'r llaw chwith; a chyn trafaelio neppell yno, lle yr oedd pob peth yn dechreu myned hyllach hyllach, clywn y galon yng nghorn fy ngwddf, a'm gwallt yn sefyll fel gwrych draenog, cyn gweled; ond pan welais, och ormod golwg i dafod ddadgan, nac i ysbryd dyn marwol ei edrych! Mi a lewygais. O aruthrol anferthol gyfwng tra erchyll, yn ymagor i fyd arall! Och â'r clecian fyth yr oedd y fflamau echryslawn wrth ymluchio tros ymylau'r geulan felltigedig, a'r dreigiau mellt ysgethrin[282] yn rhwygo'r mwg dudew yr oedd y safn anferth yn ei fwrw i fyny! Pan ddadebrodd fy anwyl gydymaith fi, rhoes i mi ryw ddwr ysbrydol i'w yfed; o odidoced oedd ei flas a'i liw! Pan yfais y dwr nefol, clywn nerth rhyfeddol yn dyfod imi, a synwyr, a chalon, a ffydd, ac amryw rinweddau nefol ereill. Ac erbyn hyn, neseais gydag e'n ddiarswyd, at fin y dibyn, yn y llen, a'r fflamau yn ymranu o'n deutu, ac yn ein gochel, heb feiddio cyffwrdd â thrigolion Gwlad Uchelder. Yna, o ben y geulan anaele,[283] ymollyngasom, fel y gwelit ti ddwy seren yn syrthio o entrych nef, i lawr â ni fil filiwn o filltiroedd, tros lawer o greigiau brwmstan, a llawer anfad raiadr gwrthun, a chlogwyn eirias, a phob peth â gwg crogedig ar i waered fyth; eto yr oeddynt oll yn ein gochel ni; oddi eithr unwaith yr estynais fy nhrwyn allan o'r llen gel, tarawodd y fath archfa fi o fygfeydd a thagfeydd ag a'm gorphenasai, oni buasai iddo yn ddisymmwth fy achub â'r dwr bywiol. Erbyn i mi ddadebru, gwelwn ein bod wedi dyfod i ryw sefyllfod; canys yn yr holl geg anferthol hòno, nid oedd bosibl ddim cynt gael attreg, gan serthed a llithriced ydoedd. Yno gadawodd fy Nhywysog i mi orphwys peth drachefn; ac yn hyny o seibiant dygwyddodd i'r taranau a'r corwyntoedd croch ddystewi gronyn; ac heb waethaf i swn y rhaiadrydd geirwon, mi a glywn o hirbell swn arall mwy na'r cwbl, o grochleisiau echrys, bonllefain, gwaeddi, ac ochain cryf, a thyngu, a rhegu, a chablu, oni roiswn i newid ar fy nghlustiau rhag gwrando. A chyn i ni ymsymmud fodfedd, clywem oddi fyny'r fath drwp-hwl-rwp-rap, dy dump, dy damp[284] ac oni buasai i ni osgoi yn sydyn, syrthiasai arnom gantoedd o ddynion anhapus, oedd yn dyfod ar eu penau, mewn gormod brys, i ddrwg fargen, a llu o ellyllon yn eu gyru. 'O, Syr,' ebr un diawl, cymmerwch yn araf, rhag dyrysu eich cydyn crych.' 'Madam, a fynwch chwi glustog esmwyth? mae arnaf ofn na fydd arnoch ddim trefn erbyn yr eloch i'ch lletty,' meddai ef wrth y llall.
Gwrthnysig aruthr oedd y dyeithriaid i fyned ym mlaen, gan daeru eu bod allan o'r ffordd; ac er hyny myned yr oeddid, a ninnau o'u lledol, hyd at weilgi ddu ddirfawr o faint; a thrwodd yr aethant hwy, a throsodd ninnau, a'm cydymaith yn dal y dwr wrth fy nhrwyn, i'm nerthu rhag archfa yr afon; ac erbyn y gwelwn rai o'r trigolion (canys hyd yn hyn nis gwelswn gymmaint ag un diawl, ond clywed eu llais): Beth, ertolwg, fy nhywysog, y gelwir yr afon farwaidd hon?' ebr fi. 'Afon y Fall!' ebr yntau, 'lle trochir ei holl ddeiliaid ef, i'w cymhwyso at y wlad: mae'r dwr melltigedig hwn,' ebr ef, 'yn newid eu gwedd, yn golchi ymaith bob gweddillion daioni, pob rhith gobaith a chysur.' Ac erbyn gweled y llu yn dyfod trwodd, nis gwyddwn i ddim rhagor gwrthuni rhwng y diawliaid a'r damniaid. Chwennychai rhai o honynt lechu yng ngwaelod yr afon, a bod yno fyth fythoedd yn tagu, rhag cael ym mlaen waeth lletty; ond fel y mae'r ddiareb, "Rhaid i hwnw redeg y bo diawl yn ei yru;" felly gan y diawliaid oedd o'u hol, yr oedd yn gorfod i'r damniaid hyn fyned ym mlaen hyd y feisdon ddinystriol i'w dienydd tragwyddol; lle gwelais innau, ar y golwg cyntaf, fwy nag a all calon dyn ei ddychymmyg, chweithach tafod ei draethu, o arteithiau a dirboenau; a digon oedd gweled un o honynt er gwneyd i'r gwallt sefyll, i'r gwaed fforu, i'r cnawd doddi, i'r esgyrn ymollwng, ie, i'r ysbryd lewgu. Beth yw polioni neu lifio dynion yn fyw, tynu'r cnawd yn dameidiau â gwrthrimynod[285] heirn, neu friwlio[286] cig â chanwyllau o fesur golwyth, neu wasgu penglogau yn lledfenau[287] mewn gwasg, a'r holl ddirmyg erchyllaf[288] fu erioed ar y ddaiar? Nid ydynt oll ond megys difyrwch wrth un o'r rhai hyn. Yma, fil can mil o floeddiadau ac ebychiau hyllgryg,[289] ac ocheneidiau cryfion; draw wylofain croch, ac aruthrol gri yn eu hateb; ac mae udfa cŵn yn ber fiwsig flasus wrth y lleisiau yma. Pan aethom ronyn ym mlaen o'r feisdon felltigedig i wyllt Distryw, wrth eu tân eu hunain, canfum aneirif o feibion a merched yma a thraw; a diawliaid heb rifedi, ac heb orphwys, â'u holl egni, yn dal byth i'w harteithio;" ac fel y gwaeddai'r diawliaid gan eu poen eu hunain, gwnaent i'r damniaid eu hateb hyd adref. Deliais fanylach sylw ar y cwr oedd nesaf ataf: gwelwn y diawliaid, â phicffyrch, yn eu taflu i ddisgyn ar eu penau ar heislanod[290] gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu hymenyddiau; ym mhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.[291] Oddi yno cipid hwy ym mhell i ben un o fylchau y rhew a'r eira tragwyddol; yna yn ol i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i'w trochi mewn llosgfeydd a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele;[292] oddi yno i siglen y pryfed, i gofleidio ymlusgiaid uffernol, llawer gwaeth na seirff a gwiberod: yna cymmerai'r cythreuliaid wiail clymog o ddur tanllyd o'r ffwrnais, ac a'u curent oni udent tros yr holl Fagddu fawr, gan yr annhraethawl boen echryslawn; yna cymmerent heirn[293] poethion i serio'r archollion gwaedlyd. Dim llewygu na llesmeirio nid oes yno, i siomi mynyd o seibiant; ond nerth gwastadol i ddyoddef ac i deimlo; er y tebygit ti, ar ol un echrys-lef, nad oedd bosibl fod fyth rym i roi un waedd arall mor hyllgref;[294] eto byth ni ostwng eu cywair, a'r diawliaid yn eu hateb, Dyma eich croeso byth bythoedd.' A phetai posibl, gwaeth na'r boen oedd goegni a chwerwder y diawliaid yn eu gwawdio ac yn eu gwatwar; a pheth oedd waethaf oll, oodd eu cydwybod yr awran wedi cwbl ddeffro, ac yn eu llarpio hwy yn waeth na mil o'r llewod uffernol.
Ond wrth fyned rhagom ar i waered bellbell, a 'phan bella' gwaetha'r gwerth;[295] y golwg cyntaf, gwelwn garchar ofnadwy, a dynion lawer iawn tan scwrs[296] y diawliaid yn griddfan yn felltigedig. 'Pwy yw y rhai hyn oll?' ebr fi. Dyma,' eb yr Angel, 'letty'r Gwae fi na buaswn![297] Gwae fi na buaswn yn ymlanhau oddi wrth bob rhyw bechod mewn pryd!' medd un; 'Gwae fi na buaswn yn credu ac yn edifarhau cyn dyfod yma! medd y llall.
Nesaf i gell yr Edifeirwch rhyhwyr a'r dadl wedi barn, oedd garchar yr Oedwyr, a fyddo bob amser yn addo gwelläu, heb fyth gwplhau. Pan ddarffo hyn o drafferth,' medd un, 'mi a drof ddalen arall: Pan el hyn o rwystr heibio, mi a af yn ddyn newydd eto,' medd y llall. Ond pan ddarffo hyny, nid ydys nes; ceir rhyw rwystr arall fyth a hefyd, rhag cychwyn tua phorth sancteiddrwydd; ac os cychwynid weithiau, ychydig a'u troi yn ol.
Nesaf i'r rhai hyn oedd carchar y Camhyder, llawn o rai, pan berid iddynt gynt ymadael â'u hanlladrwydd, neu feddwdod, neu gybydd-dod, a ddywedent, 'Mae Duw yn drugarog, ac yn well na'i air, ac ni ddamnia ei greadur fyth am fater cyn lleied."[298] Ond yma cyfarth cabledd yr oeddynt, a gofyn, 'Pa le mae'r drugaredd hòno a fostid ei bod yn anfeidrol?' Tewch, gorgwn,' ebr ceimwch o gythraul mawr oedd yn eu clywed, tewch; ai trugaredd a fynech chwi, heb wneyd dim at ei chael? A fynech i'r Gwirionedd wneyd ei air yn gelwydd, dim ond er cael cwmni sothach mor ffaidd a chwi? Ai gormod o drugaredd a wnaed â chwi? Rhoi ichwi Achubwr, Dyddanwr, a'r angylion, a llyfrau, a phregethau, a siamplau da; ac oni thewch chwi â'n crugo[299] ni bellach wrth ymleferydd am drugaredd lle ni bu hi erioed!'
Wrth fyned allan o'r ceubwll tra thanbaid hwn, clywn un yn erthwch[300] ac yn bloeddio yn greulon: Nis gwyddwn i ddim gwell; ni chostiwyd dim wrthyf fi erioed, i ddysgu darllen fy nyledswydd; ac nid oeddwn i yn cael mo'r ennyd chwaith gan ennill bara i mi ac i'm tylwyth tlawd, i ddarllen nac i weddio.' 'Aie,' eb rhyw ddieflyn gwargam oedd ger llaw, 'a gaed dim ennyd i ddywedyd chwedlau ysmala? dim segur ymrostio hirnos gauaf, pan oeddwn i yng nghorn y simnai, na allesid rhoi peth o'r amser hwnw at ddysgu darllen neu weddio? Beth am y Suliau? Pwy fu yn dyfod gyda mi i'r dafarn, yn lle myned gyda'r person i'r Eglwys? Pa sawl prydnawn Sulgwaith a roed i ofer ddadwrdd am bethau'r byd, neu gysgu, yn lle dysgu myfyrio a gweddïo? Ac a wnaethoch chwi yn ol a wyddech? Tewch, Syre, â'ch dwndwr celwyddog.' 'O waedgi cynddeiriog,' ebr y colldyn, 'nid oes fawr er pan oeddit yn sisial peth arall yn fy mhen i! Pe dywedasit hyn y dydd arall, odid a ddaethwn i yma.' 'O,' ebr diawl, 'nid oes genym fater er dywedyd i chwi'r caswir yma; o blegid nid rhaid unon yr ewch chwi yn ol bellach i ddywedyd chwedlau.'
Tu isaf i'r gell yma gwelwn ryw gwm mawr, ag ynddo megys myrdd o domenydd anferth yn gwyrdd-losgi; ac erbyn nesäu, gwybum wrth eu hudfa, mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a'r fflamau cethin yn clecian trwyddynt. Y pantle yna,' eb yr Angel, 'yw lletty'r gwŷr a ddywedent wedi gwneyd rhyw fawrddrwg, "Haro! nid fi yw'r cyntaf; mae i mi ddigon o gymheiriaid:" ac felly gweli eu bod yn cael digon o gymheiriaid, i wirio eu geiriau, ac i chwanegu eu gofid.'
Gyfeiryd â hyn yr oedd seler fawr, lle gwelwn nyddu dynion fel nyddu gwdyn, neu sicio[301] cynfasau. Atolwg,' ebr fi, 'pwy ydyw y rhai hyn?' Dyma'r Gwawdwyr,' ebr ef; 'ac o wir wawd arnynt, mae'r diawliaid yn profi a ellid eu nyddu hwy cyn ystwythed a'u chwedlau.'
Is law hyn ronyn, prin y gwelsom ryw garchar-bwll arall tra thywyll; ac yno yr oedd pethau a fuasai yn ddynion, â wynebau fel penau bleiddgwn, hyd at eu cegau mewn siglen; ac yn cyfarth cabledd a cholwydd yn gynddeiriog, tra caent y colyn allan o'r baw. Yn hyn, dyma gadfa[302] o gythreuliaid yn dyfod heibio; a chyrhaeddodd[303] rhai frathu deg neu ddeuddeg o'r diawliaid a'u dygasai hwynt yno, yn eu sodlau. Gwae, distryw, uffern-gwn!' ebr un o'r diawliaid a frathesid, ac a darawodd ar y siglen, onid oeddynt yn soddi yn eigion y drewi. Pwy a haeddai uffern well na chwi, a fyddai yn hel ac yn dyfeisio chwedlau, ac yn sibrwd celwydd o dŷ i dŷ, i gael chwerthin wedi y gyrech yr holl fro benben â'u gilydd? Beth ychwaneg a wnai un o honom ninnau?' 'Dyma,' eb yr Angel, 'letty yr Athrodwyr, yr Enllibwyr, a'r Hustingwyr, a phob llyfrgwn cenfigenus, a anafant fyth o'r tu cefn, â dyrnod neu â thafod."
Oddi yno ni aethom heibio i walfa fawr, ffieiddiaf a'r a welswn i eto, a llawnaf o bryfed, a huddygl, a drewi. 'Dyma," ebr ef, 'le'r gwŷr a ddysgwylient nef am fod yn ddifalais, sef yn ddiddrwg ddidda.'
Nesaf i'r drewbwll yma, gwelwn dyrfa fawr, yn eu heistedd, yn ochain yn greulonach na dim a glywswn i hyd yn hyn o uffern. Ymgroes dda i bawb,' ebr fi, beth sy'n peri i'r rhai hyn achwyn mwy na neb, heb na phoen na chythraul ar eu cyfyl?' 'O!' eb yr Angel, 'mae ychwaneg o boen oddi mewn, os oes llai o'r tu allan: Hereticiaid gwrthnysig, a rhai annuw, a llawer o rai anghrist, ac o'r bydol ddoethion, gwadwyr y ffydd, erlidwyr yr eglwys, a myrdd o'r cyfryw, sy yma, wedi eu gadael yn hollawl i chwerw-ddycnach gosp y gydwybod, sy'n cael ei chyflawn rwysg arnynt yn ddibaid ddirwystr. "Ni chymmeraf fi bellach," medd hi, "mo'm boddi mewn cwrw, na'm dallu â gwobrau, na'm byddaru â cherdd ac â chwmni, na'm suo, na'm synu â syrthni anystyriol; eithr mynaf fy nghlywed bellach, ac byth ni thyr clep y caswir yn eich clustiau.' Mae yr ewyllys yn codi blys y gwynfyd a gollwyd; a'r cof yn edliw hawsed fuasai ei gael; a'r dealltwriaeth yn dangos faint y golled, a sicred yw na cheir bellach ddim ond yr annhraethawl gnofa byth bythoedd. Ac felly â'r tri hyn, y mae'r gydwybod yn eu rhwygo yn waeth nag y gallai holl ddiawliaid uffern."[304]
A mi yn dyfod allan o'r gilfach ryfeddol hòno, mi glywn gryn siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bumcant o'r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin. Ond erbyn i mi gael nesäu i weled yr ammeuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd, ond dau o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i'w bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio'r gwyr boneddigion. Palff[305] o ysgwier,[306] â chanddo drolyn mawr o femrwn, sef ei gart achau,[307] ac yno yn dadgan o ba sawl un o'r pymtheg-llwyth Gwynedd[308] y tarddasai ef; pa sawl ustus o heddwch, a pha sawl siryf, a fuasai o'i dy ef. 'Hai, hai,' ebr un o'r diawliaid, 'ni wyddom haeddiant y rhan fwyaf o'ch hynafiaid chwi: ped fuasech chwi tebyg i'ch tad neu i'ch gorhendaid ni feiddiasem ni mo'ch cyffwrdd. Ond nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y teli roi i ti letty noswaith,' ebr ef, ac eto ti a gai ryw gilfach i aros dydd:' a chyda'r gair, dyma'r ellyll ysgethrin â'i bicfforch yn rhoi iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, onid oedd o'n disgyn i geudwll allan o'r golwg. Mae hyny yn abl,' ebr y llall, i ysgwier o hanner gwaed; ond gobeithio y byddwch well eich moes wrth farchog, a fu yn gwasanaethu'r brenin fy hun; a deuddeg o ieirll, a dega deugain o farchogion, a fedraf eu henwi o'm hen ystent[309] fy hun.' Os eich hynafiaid a'ch hen ystent. yw'r cwbl sy genych i'w ddadleu, gellwch chwithau gychwyn yr un ffordd,' ebr un o'r diawliaid; o blegid nid ŷm ni yn cofio odid o hen ystâd fawr, nad rhyw orthrymwr, neu fwrdriwr, neu garn lleidr, a'i dechreuodd; a'i gadael i rai cyn drawsed a hwythau, neu i benbyliaid segurllyd, neu foch meddwon. Ac i faentumio'r mawredd afradlon, rhaid gwasgu'r deiliaid a'r tenantiaid;[310] os bydd yno nac ebol tlws, na buwch foddgar, rhaid i meistres eu cael, rhag blys; a da os dianc y merched, ie, a'r gwragedd, rhag blys y meistr. A'r mân uchelwyr o'u hamgylch, rhaid i'r rhai hyny naill ai eu hofer ganlyn, ai meichnio trostynt, i'w hanrheithio eu hunain a'u heiddo, a gwerthu eu treftadaeth, neu ddysgwyl cas a chilwg, a'u llurgynio i bob oferswydd yn eu byw. O! foneddigeiddied y tyngant, i gael eu coelio gan eu cariadau, neu gan eu siopwyr! a chwedi ymwychu, O! goeced yr edrychant ar lawer o gryn swyddogion gwledig ac eglwysig, chweithach ar y bobl gyffredin! fel petai y rhai hyny ryw bryfed wrthynt hwy. Gwae finnau! Ai nid unlliw pob gwaed? Ai nid yr un ffordd rhwng y trwne a'r baw y daethoch chwi i gyd allan?' 'Er hyn oll, trwy eich genad,' ebr y marchog, 'mae ambell enedigaeth yn llawer purach na'r llall.' 'I'r distryw mawr, oes blisgyn o honoch oll well na'u gilydd,' ebr y dieflyn; 'yr ych i gyd oll wedi eich diwyno â phechod gwreiddiol oddi wrth Adda. Ond, Syr,' ebr, ef, os yw eich gwaed chwi yn well na gwaed arall, bydd ynddo lai o ysgum wrth ferwi trwoch chwi yn y man; ac os oes rhagor, mynwn chwilio pob rhan o honoch trwy ddwr a thân.' Ar y gair, dyma ddiawl ar lun cerbyd tanllyd yn ei dderbyn, a'r llall o wawd yn ei godi ef iddo, ac ymaith ag yntau fel mellten. Ym mhen ennyd, parodd yr Angel i mi edrych, a gwelwn y marchog, druan, yn cael ei drwytho yn erchyll mewn anferthol ffwrnais ferwedig, gyda Chain, Nimrod, Esau, Tarcwin,[311] Nero,[312] Caligula,[313] a'r lleill a ddechreuodd ddwyn achau, a chodi arfau bonedd.[314]
Encyd yn mlaen, parodd fy nhywysog i mi ysbio trwy dollgraig,[315] ac yno gwelwn dyrfa o fursenod yn ymsionci yn gwneyd ac yn dadwneyd eu holl ffoledd ar y ddaiar gynt; rhai yn mingrynu; rhai â heirn yn tynu eu haeliau; rhai yn ymiro; rhai yn clytio eu hwynebau ag ysmotiau duon, i wneyd i'r melyn edrych yn wynach; rhai yn ceisio tori'r drych; a chwedi'r holl boen yn ymliwio ac yn ymfritho, wrth weled eu hwynebau yn wrthunach na'r cythreuliaid, a rwygent â'u hewinedd a'u dannedd yr holl wrid gosod, a'r ysmotiau a'r crwyn, a'r cig tan un, ac a oerleisient allan o fath.[316] 'Y felltith fawr,' meddai un, 'i fy nhad, a wnaeth i mi briodi hen gelffaint[317] yn eneth gwaith hwnw yn codi blys heb allu mo'i dori a'm gyrodd i yma.' 'Mil o felltithion ar fy rhieni," meddai'r llall, 'am fy ngyru i'r fonachlog i ddysgu diweirdeb; ni fuasai waeth iddynt fy ngyru at Rowndiad i ddysgu bod yn hael, neu at Gwacer i ddysgu bod yn foesol, na'm gyru at Bapist i ddysgu onestrwydd. Y distryw gwyllt,' ebr un arall, 'a ddyco fy mam, am ei balchder cybyddus yn rhwystro i mi gael gwr wrth fy rhaid, ac felly gwneyd i mi ledrata'r peth a allaswn ei gael yn onest.' 'Uffern, a dwbl uffern, i'r tarw cynddeiriog o wr boneddig a ddechreuodd gyntaf fy hudo i,' meddai'r drydedd; 'oni buasai i hwnw, rhwng teg a hagr, dori'r cae, nid aethwn i yn gell egored i bawb, ac ni ddaethwn i'r gell gythreulig yma!' ac yna ymrwygo eilwaith.
Ond ereill wedi ymbobi, aent o dwll i dwll tan gyneica, a thynent y diawliaid rhwng eu traed; weithiau ffo'i y rhai hyny rhagddynt; ac weithiau rhoent iddynt dân at dân; cynient[318] hwy ag ebillion o ddur gwynias, oni chaent ddigon o ymrygnu, a'u perfedd yn sio ac yn ffrïo.
Yr oedd yn rhyhwyr genyf ymadael â ffiaidd ganel[319] y geist cynäig. Ond cyn myned nemor ym mlaen, bu ryfedd genyf weled carchar-lwyth arall o ferched dau ffieiddiach na hwythau. Rhai wedi myned yn llyffaint; rhai yn ddreigiau; rhai yn seirff, yn nofio ac yn chwibianu, yn glafoerio ac yn ymdolcio mewn merbwll[320] drewllyd, mwy o lawer na Llyn Tegid.[321] 'Atolwg,' ebr fi, 'beth bosibl i'r rhai hyn fod?' Mae yma," ebr yntau, bedair rhywogaeth benigamp o ferched, heb law eu cynffonion: 1. Carn-buteiniaid, a fu yn cadw mân fudrogod tanynt, i gael gwerthu yr un morwyndod ganwaith; a rhai o'r puteiniaid penaf yma o'u hamgylch. 2. Meistrosod y Chwedlau, ac o'u cwmpas fyrdd o wrachod y newyddion. 3. Marchogesau, â phac[322] o lyfrgwn llechwrus o'u deutu; canys nid ai ddyn erioed ar eu cyfyl ond rhag eu hofn. gowliaid, wedi myned yn gan erchyllach na nadroedd, yn cnoi fyth dy rinc, dy rinc,[323] â'u colyn gwenwynig.
Tygaswn[324] fod Luciffer yn weddeiddiach brenin na rhoi gwraig foneddig o'm gradd i gyda'r mân ddiawlesod hyn,' ebr un syrn debyg, ond ei bod hi yn llawer gerwinach na sarff hedegog. 'O! na yrai fo yma seith-gant o'r diawliaid dyhiraf yn uffern yn gyfnewid am danat ti, uffern-bryf gwenwynig!' meddai rhyw wiber wrthun arall. O, diolch i chwi yn fawr,' ebr un cawr o gythraul oedd yn clywed; yr ym ni yn cyfrif ein lle a'n haeddiant yn beth gwell: er y poenech chwi bawb cynddrwg a ninnau; er hyny, ni chollwn ni eto mo'n swydd i chwi.' 'Ac hefyd,' eb yr Angel yn ddystaw, 'mae achos arall i Luciffer roi cadwraeth ddichlyn ar y rhai hyn, rhag iddynt, os torant allan, yru holl uffern bendramwnwgl.'
Oddi yno ni aethom ar i waered fyth, lle gwelais ogof anferthol, ag ynddi'r fath ddrygnad echrys, na chlywswn i eto mo'i gyffelyb, gan dyngu, a rhegu, a chablu, ac ymddanneddu, ac ochain, a gwaeddi. 'Pwy sy yma?' ebr fi. 'Dyma,' ebr ef, 'Ogof y Lladron: yma mae myrdd o fforestwyr, cyfreithwyr, stiwardiaid, a'r hen Suddas[325] yn eu mysg;" a blin iawn oedd arnynt weled y ffardial[326] deilwriaid a'r gwëyddion uwch eu llaw ar ystafell esmwythach. Prin y cawswn ymdroi, nad dyma geffyl o ddiawl yn dwyn physigwr a photecari, ac yn eu taflu ym mysg y pedleriaid, a'r hwndlwyr ceffylau, am werthu war[327] ddrwg fethedig: ond dechreuasant rwgnach eu gosod mewn cwmpeini mor wael. 'Aröwch, aröwch,' ebr un o'r diawliaid, 'chwi haeddech le amgenach: ac a'u taflodd hwy i waerod i blith y cwncwerwyr a'r mwrdrwyr. Yr oedd yma fyrdd i mewn am chwareu disiau ffeilsion, a chuddio cardiau: ond cyn i mi gael dal fawr sylw, clywn yn ymyl y drws, anferth drwp a thrwst, a gyru hai, hai, hai-ptrw-how, ho, ho-o-o-o-hwp.[328] Trois i edrych beth oedd: methu canfod dim ond yr ellyllon corniog. Gofynais i'm tywysog ai cycwalltiaid[329] oedd gyda'r diawliaid? Nag e,' ebr ef, 'mae y rhai hyny mewn cell arall: Porthmyn yw y rhai hyn, a fynai ddianc i le Torwyr y Sabbath, ac a yrir yma o'u hanfodd.' Gyda'r gair, edrychais, a gwelwn eu penglogau yn llawn o gyrn defaid a gwartheg; a dyma'r gyrwyr yn eu taflu hwy i lawr tan draed yr ysbeilwyr gwaedlyd. Llechwch yna,' ebr un; 'er maint yr ofnech chwi ladron ar ffordd Llundain gynt, eto nid oeddych chwi ond y fath waethaf o ladron ffordd fawr eich hunain, yn byw ar y ffordd ac ar ledrad; ïe, ac ar ladd teuluoedd tlodion, wrth ddal llawer o gegau newynllyd yn egored i ddysgwyl eu heiddo eu hunain i'w porthi, a chwithau yn y Werddon, neu yn y King's Bench,[330] yn chwerthin am eu penau; neu ar y ffordd, yn eich gwin a'ch puteiniaid.'
Wrth ymadael â'r ogof greision-boeth, ces olwg ar y walfa benaf ond un a welais i yn uffern, am echryslawn ffieidd-dra drewedig, lle yr oedd cenfaint o foch meddwon melltigedig yn chwydu ac yn llyncu, yn llyncu ac yn chwydu llysnafodd erchyll fyth heb orphwys.
Y twll nesaf oedd lletty'r Glothineb, lle yr oedd Difes a'i gymheiriaid ar eu torau yn bwyta baw a thân bob yn ail, fyth heb ddim gwlybwr. Ddant neu ddau yn is, yr oedd cegin rost helaeth iawn, a rhai rhost ac yn ferw, ereill yn ffrio ac yn fflamio mewn simnai syrn danbaid. 'Dyma le yr Annhrugarog a'r Annheimladwy,' eb yr Angel; a throis dipyn ar y llaw aswy, lle yr oedd cell oleuach nag a welswn i eto yn uffern: gofynais pa le ydoedd. Trigfa'r Dreigiau Uffernol,' eb yr Angel, 'sy'n chwyrnu ac yn ymchwerwi, yn rhuthro ac yn anrheithio eu gilydd bob mynyd.' Mi neseais; ac och â'r olwg annhraethadwy oedd arnynt! y tân byw yn eu llygaid oedd y goleuni oll. 'Hil Adda yw y rhai hyn,' ebr fy nhywysog, yn ysgowliaid, a gwŷr digllon cynddeiriog: ond dacw,' ebr ef, rai o hen sil y Ddraig fawr Luciffer;' ac yn wir, ni wyddwn i ddim rhagor hawddgarwch rhwng y naill a'r llall.
Y seler nesaf yr oedd y Cybyddion mewn dirboen echrys, gerfydd eu calonau yng nglŷn wrth gistiau o arian tanllyd, a rhwd rhai hyny yn eu hysu fyth heb ddiwedd, megys na feddyliasent hwythau am ddiwedd fyth yn eu casglu: ac yr awran ymddryllio yr oeddid yn waeth na chynddeiriog gan ofid ac edifeirwch. Is law hyn, yr oedd bachell[331] swrth, lle yr oedd rhai o'r potecariaid wedi eu malu a'u gwthio i botiau priddion, mewn Album Græcum, [332] a baw gwyddau a moch, a llawer enaint hendrwm.
Ym mlaen ar i waered fyth yr oeddym ni yn teithio hyd y gwyllt dinystriol, trwy aneirif o arteithiau annhraethol a thragwyddol, o gell i gell, o seler i seler; a'r olaf fyth yn rhagori ar y lleill o erchylldod anferth: o'r diwedd i olwg cyntedd dirfawr, annhirionach fyth na dim o'r blaen. Cyntedd trahelaeth ydoedd a hyllserth,[333] a gwga[334] ei redfa at ryw gongl ddugoch anghredadwy o wrthuni ac erchylldod: yno yr oedd y breninllys. Ym mhen uchaf y brenin-gwrt melltigedig, ym mysg miloedd o erchyllion ereill, wrth lewyrch fy nghydymaith, gwelwn yn y fagddu ddau droed anferthol o anferthol o faint![335] yn cyrhaedd i doi'r holl ffurfafen uffernol. Gofynais i'm tywysog beth allai'r anferth hwnw fod. Wel,' ebr yntau, ti a gei helaethach golygiad ar yr anghenfil yma wrth ddychwelyd: ond tyred ym mlaen yr awran i weled y breninllys.'
A ni yn myned i waered hyd y cyntedd ofnadwy, clywem drwst o'n hol, megys llawer iawn o bobl: wedi i ni osgoi i'w gollwng hwy ym mlaen, gwelwn bedwar llu neillduol; ac erbyn ymorol, pedair tywysoges y Ddinas Ddienydd oedd yn dwyn eu deiliaid yn anrheg i'w tad. Mi adnabum lu y Dywysoges Balchder, nid yn unig am eu bod yn mynu'r blaen ar y lleill, ond hefyd wrth eu gwaith yn pendwmpian bob yn awr eisieu edrych tan eu traed. Yr oedd gan hon fyrdd o freninoedd, penaethiaid, gwŷr llys, boneddigion, a ffrostwyr, a llawer o Gwaceriaid, a merched aneirif o bob gradd.
Y nesaf oedd y Dywysoges Elw, â'i llu henffel iselgraff, a llawer iawn o hil Sion Lygad Arian, llogwyr, cyfreithwyr, cribddeilwyr, goruchwylwyr, fforestwyr, puteiniaid, a rhai eglwyswyr.
Nesaf i hyny oedd y Dywysoges fwyn Pleser, a'i merch Ffolineb, yn arwain ei deiliaid, yn chwaryddion disiau, cardiau, tawlbwrdd, castiau hug, yn brydyddion, cerddorion, hen chwedleuwyr, meddwon, merched mwynion, masweddwyr, teganwyr, a mil fyrddiwn o bob rhyw deganau, i fod weithian yn beiriannau penyd i'r ynfydion colledig. Wedi i'r tair hyn fyned â'u carcharorion i'r llys i dderbyn eu barn, dyma Ragrith, yn olaf oll, yn arwain cadfa luosocach na'r un o'r lleill, o bob cenedl ac oed, o dref a gwlad, boneddig a gwreng, meibion a merched. Yng nghynffon y llu dauwynebog, ninnau aethom i olwg y llys, trwy lawer o ddreigiau, ac ellyllon corniog, ac o gawri annwn, porthorion duon y Fallgyrch eirias; a minnau yn llechu yn ofalus iawn yn fy llen gel, ni aethom i mewn i'r adail erchyll; aruthrol a thra aruthrol o erwindeb oedd bob cwr; y muriau oedd anfad greigiau o ddiemwnt eirias; y llawr yn un gallestr gyllellog anoddef; y pen o ddur tanllyd, yn ymgyfhwrdd fel bwa maen o fflamau gwyrddlas a dugoch, yn debyg, ond ei faint a'i boethder, i ryw anferth bobdy cwmpasog erchyll.[336] Gyferbyn a'r drws, ar orseddfainc fflamllyd, yr oedd y Fall fawr, a'i brif angylion colledig o'i ddeutu ar feinciau o dân tra echryslawn, yn eistedd yn ol eu graddau gynt yng ngwlad y goleuni, yn genawon hawddgar; ni waeth i ti hyny nag ofer bregeth, i geisio dadgan mor ysgeler ysgethrin oeddynt; a pha hwyaf yr edrychwn ar un o honynt, saith erchyllach fyth. Yn y canol, uwch ben Luciffer, yr oedd dwrn mawr, yn dal bollt tra ofnadwy. Y tywysogesau, wedi gwneyd eu moes, a ddychwelasant i'r byd at eu siars yn ddiymaros. A phan gyntaf yr ymadawsant, dyma gawr o ddiawl ceghir, ar amnaid y brenin, yn rhoddi bonllef uwch na chan ergyd o ganon,[337] cyfuwch, pe posibl, a'r udgorn diweddaf, i gyhoeddi'r Parliament uffernol: ac yn ebrwydd, dyma giwed annwn wedi llenwi'r llys a'r cyntedd ym mhob llun, yn ol delw a chyffelybiaeth y pechod penaf a'r a garai pob un ei wthio ar ddynion. Wedi gorchymmyn gosteg, dechreuodd Luciffer, â'i olwg ar y penaethiaid nesaf ato, lefaru yn rasusol fel hyn:—
Chwychwi benaethiaid Annwn, tywysogion y Fagddu anobaith! Os collasom y meddiant lle buom gynt yn dysgleirio hyd teyrnasoedd gwynion Uchelder, er maint, eto gwych oedd ein cwymp ni, nid oeddym ni yn bwrw am ddim llai na'r cwbl; ac ni chollasom mo'r cwbl chwaith; canys wele wledydd helaeth a dyfnion hyd eithaf gwylltoedd Distryw fawr, tan ein rheolaeth ni eto. Gwir yw, mewn dirboen anaele yr ŷm ni yn teyrnasu; eto gwell gan ysbrydion o'n huchder ni deyrnasu mewn penyd na gwasanaethu mewn esmwythyd. [338] Ac heb law hwn, dyma ni agos ag ennill byd arall; mae mwy na phum rhan o'r Ddaiar tan fy maner i er's talm. Ac er darfod i'r Gelyn Hollalluog yru ei Fab ei hun i farw trostynt, eto yr wyf fi wrth fy nheganau, yn mynu deg enaid am un a gaffo Fo gyda'i Fab croeshoeliedig. Ac er na chyrhaeddwn ei gyffwrdd Ef yn y goruchafon, sy'n ergydio'r taranau anorchfygol; eto melus yw dial rywffordd. Gorphenwn ninnau ddifa'r gweddill sy o ddynion yn ffafr ein Distrywiwr ni. Mae yn gof genyf yr amser y parasoch iddynt losgi yn fyddinoedd ac yn ddinasoedd, ie, i ddaiar-lwyth cyfan ddisgyn trwy'r dwr atom ni i'r tân. Ond yr awran, er nad yw eich nerth a'ch creulonder naturiol ronyn llai, eto yr ych chwi wedi rhyw ddiogi: ac oni bai hyny, gallasem fod er's talm wedi difa yr ychydig rai duwiol, ac wedi ennill y ddaiar i fod yn un â'r llywodraeth fawr yma. Ond gwybyddwch hyn, weinidogion duon fy nigofaint, oni byddwch glewach a phrysurach weithian, a byred yw ein hamser ni, myn Annwn a Distryw, ac myn y Fagddu fawr dragwyddol, cewch brofi pwys fy llid arnoch eich hunain yn gyntaf, mewn poenau newyddion a dyeithrol i'r hynaf o honoch.' Ac ar hyn, fe guchiodd oni chymylodd y llys yn saith dduach nag o'r blaen.
Yn hyn, cododd Moloc,[339] un o'r penaethiaid cythreulig, ac wedi gwneyd ei foes i'r brenin, ebr ef, 'O Empriwr yr awyr, rheolwr mawr y tywyllwch, nid ammheuodd neb erioed fy ewyllys i at eithaf malais a chreulonder; canys dyna fy mhleser i erioed; odiaeth oedd genyf glywed plant yn trengu yn y tân, megys gynt pan aberthid hwy i mi, tu allan i Gaersalem. Hefyd, wedi i'r Gelyn croeshoeliedig ddychwel i'r uchelder, mi a fum, yn amser deg o ymherodron, yn lladd ac yn llosgi ei ddilynwyr Ef, i geisio difa'r Cristianogion oddi ar wyneb y ddaiar, tra thyciodd i mi. Gwnaethym ym Mharis ac yn Lloegr, ac amryw fanau ereill, lawer lladdfa fawr o honynt wedi hyny: ond beth ydys nes? Tyfu a wnai'r pren pan dorid ei geinciau: nid yw hyn oll ond dangos dannedd heb allu mo'r brathu.'
'Pshaw!'[340] ebr Luciffer; 'baw i'r fath luoedd digalon a chwi; ni hyderaf fi arnoch chwi mwy. Mi wnaf y gwaith fy hun, ac a fynaf yr orchest yn ddi-ran: af i'r ddaiar yn fy mherson breninol fy hun, ac a lyncaf y cwbl oll; ni cheir dyn ar y ddaiar i addoli'r Goruchaf mwy.' Ac ar hyn fe roes hedlam[341] cynddeiriog i gychwyn, yn un ffurfafen o dân byw; ond dyma'r dwrn uwch ei ben yn gwyntio'r follt ofnadwy, onid oedd e'n crynu yng nghanol ei gynddaredd; a chyn ei fyned e'n neppel, llusgodd llaw anweledig y cadno yn ei ol heb waethaf ei ên, gerfydd y gadwyn: ac yntau yn ymgynddeiriogi yn saith pellach; a'i lygaid yn waeth na dreigiau; mwg dudew o'i ffroenau; tân gwyrddlas o'i geg a'i berfeddau; gan gnoi ei gadwyn yn ei ofid, a sibrwd cabledd ochryslawn, a rhegfeydd tra arswydus.
Ond wrth weled ofered oedd geisio ei thori, neu ymdynu â'r Hollalluog, fe aeth i'w le, ac ym mlaen yn ei ymadrodd beth gwareiddiach, eto yn ddau mileiniach. Er na threchai neb ond y Taranwr Hollalluog fy nerth i a'm dichell; eto gan fod yng ngorfod ymostwng i Hwnw heb y gwaethaf, nid oes genyf mo'r help; ond mi a gaf fwrw fy llid yn is ac yn nes ataf, a'i dywallt yn gafodydd ar y rhai sy eisys tan fy maner i, ac yng nghyrhaedd fy nghadwyn. Codwch chwithau, swyddogion distryw, rheolwyr y tân anniffoddadwy; ac fel y bo fy llid a'm gwenwyn i yn llenwi, a'm malais yn berwi allan, taenwch chwithau'r cwbl oll yn ddichlyn rhwng y damniaid, ac yn benaf y Cristianogion; cymhellwch y peiriannau penyd hyd yr eithaf; dyfeisiwch; dyblwch y tân a'r berw, oni bo'r peiriau yn codi yn damchwëydd tros eu penau; a phan font mewn eithaf poen annhraethawl, yna gwawdiwch, gwatwerwch hwynt, ac edliwiwch; a phan ddarffo i chwi'r cwbl a fedroch o ddirmyg a chwerwder, brysiwch ataf fi, a chewch ychwaneg.'
Buasai gryn ddystawrwydd yn uffern er's ennyd, a'r poenau yn hydr[342] creulonach wrth eu cadw i mewn. Ond yr awran torodd yr ostega barasai Luciffer, pan redodd y cigyddion erchyll, fel eirth newynllyd cynddeiriog, ar eu carcharorion; yna cododd y fath och! och! och! a'r fath wae, ac udfa gyffredin, mwy na swn llifddyfroedd, neu dwrw daiargryn, onid aeth uffern yn saith erchyllach. Minnau a lewygaswn, oni buasai i'm hanwyl gyfaill fy achub. 'Cymmer,' ebr ef, 'lawer yr awron i'th nerthu i weled pethau garwach eto na'r rhai hyn.' Ond prin y daethai'r gair o'i eneu ef, pan, wele'r nefol Gyfiawnder, sy uwch ben y geulan yn cadw drws uffern, yn dyfod dan scwrsio[343] tri o ddynion â gwiail o ysgorpionau tanllyd. Ha, ha!' ebr Luciffer, 'dyma driwyr parchedig, y teilyngodd Cyfiawnder ei hun eu hebrwng i'm teyrnas i.' 'Och fi fyth!' ebr un o'r tri, pwy oedd yn ceisio ganddo ymboeni?' 'Ni waeth er hyny,' ebr yntau (â golwg a wnaeth i'r diawliaid ddelwi a chrynu, onid oeddynt yn curo yn eu gilydd), 'ewyllys y Creawdr mawr oedd i mi fy hun ddanfon y fath fwrdrwyr melltigedig i'w cartref.' 'Syre,' ebr ef wrth un o'r cythreuliaid, 'egorwch i mi ffollt[344] y mwrdwr, lle mae Cain, Nero, Bradshaw,[345] Boner,[346] ac Ignatius,[347] ac aneirif ereill o'r cyffelyb.' 'Och! och! ni laddasom ni neb,' ebr un. 'Diolch i chwi, eisieu cael amser, am ddarfod eich rhwystro,' ebr Cyfiawnder. Pan egorwyd yr ogof, daeth allan y fath damchwa echrys o fflamau gwaedlyd, a'r fath waedd, a phetai fil o ddreigiau yn rhoi'r ebwch olaf wrth drengu. Ac wrth i Gyfiawnder fyned heibio yn ol, ar hanner tro, fe chwythodd y fath dymmestl o gorwyntoedd tanllyd ar y Fall fawr a'i holl benaethiaid, oni chipiwyd ymaith Luciffer, yna Belsebub, Satan, Moloc, Abadon, Asmodai, Dagon, Apolyon, Belphegor, Mephostophiles,[348] a'r holl brif gythreuliaid ereill, ac a'u pendifadwyd oll i ryw sugn-dwll can ffieiddiach ac erchyllach ei olwg a'i archfa ofnadwy na dim oll a'r a welswn i, a hwnw yn cau ac yn agoryd yng nghanol y llys. Ond cyn i mi gael gofyn, Dyma,' eb yr Angel, dwll sy'n disgyn i fyd mawr arall.' "Beth,' ebr fi, 'ertolwg, y gelwir y byd hwnw?' 'Fo'i gelwir,' ebr ef, 'Annwn, neu Uffern Eithaf, cartref y cythreuliaid, ac lle yr aethant yr awron. A'r holl wylltoedd mawrion y daethost ti tros beth o honynt, a elwir Gwlad yr Anobaith, lle a drefnwyd i ddynion damnedig hyd ddydd-farn; ac yna fe syrth hon yn un â'r Uffern Eithaf ddiwaelod; yna daw un o honom ninnau, ac a gau ar y diawliaid a'r damniaid yng nghyd, ac byth yn dragywydd ni egorir arnynt mwy. Ond yn y cyfamser maent yn cael cynnwysiad i ddyfod i'r wlad oerach yma i boeni yr eneidiau colledig. Ië, maent yn fynych yn cael cenad i fyned i'r awyr, ac o gwmpas y ddaiar, i demtio dynion i'r ffyrdd dinystriol sy'n tywys i'r diadlam garchar tra ysgethrin hwn.'
Yng nghanol hyn o hanes, a mi yn synu fod ceg Annwn yn rhagori cymmaint ar safn Uffern uchaf, mi a glywn dramawr drwst arfau ac ergydion geirwon o un cwr, ac megys taranau croch yn eu hateb o'r cwr arall, a'r creigiau angeuol yn diaspedain.[349] Dyma swn rhyfel,' ebr fi, os bydd rhyfel yn uffern.' Bydd,' ebr ef; 'ac nid posibl fod yma ond rhyfel gwastadol.' A ni yn cychwyn allan i edrych beth oedd y mater, gwelwn gog Annwn yn ymagor, ac yn bwrw i fyny filoedd o ganwyllau gwyrdd-hyllion; y rhai hyn oedd Luciffer a'i benaethiaid wedi gorfod y dymmestl. Ond pan glybu o'r trwst rhyfel, fe aeth yn lasach nag Angeu,.ac a ddechreuodd alw a hel byddinoedd o'i hen sawdwyr profedig i ostegu'r cythryfwl: yn hyny, dyma fe'n taro wrth gorgi o ddieflyn bach, a ddiangasai rhwng traed y rhyfelwyr. Beth yw'r mater?' ebr y brenin. Y fath fater ag a berygla eich coron, oni edrychwch atoch eich hun.' Yngnghynffon hwn, dyma redegwas cythreulig arall yn crygleisio: Yr ych chwi yn dyfeisio aflonyddwch i ereill: edrychwch[350] weithian at eich llonydd eich hun; dacw'r Tyrciaid, y Papistiaid, a'r Rowndiaid llofruddiog, yn dair byddin, yn llenwi holl wastadedd y Fagddu, ac yn gwneyd y mawrddrygau, yn gyru pob peth dinbenstrellach.'[351] Pa fodd y daethant allan?' ebr y Fall fawr, tan edrych yn waeth na Demigorgon.[352] 'Y Papistiaid,' ebr y genad, 'ni wn i pa fodd, a dorasant allan o'u Purdan; ac yna, o achos hen lid, aethant i ddifachio[353] ceuddrws Paradwys Mahomet, a gollyngasant y Tyrciaid allan o'u carchar; ac wedi yn y cythryfwl, caed rhyw ffael i hil Cromwel dori allan o'u celloedd.' Yna troes Luciffer, ac a edrychodd tan ei orseddfainc, lle yr oedd yr holl freninoedd colledig, ac a barodd gadw Cromwel ei hun yn ei ganel, a hefyd holl ymherodron y Tyrciaid yn ddiogel. Felly hyd wylltoedd duon y tywyllwch prysurodd Luciffer a'i luoedd, a phawb yn cael goleu a gwres ar ei gost ei hun; wrth yr anferth drwst cyfeiriodd yn lew tuag atynt; yna gorchymmynwyd gosteg yn enw'r brenin; a gofynodd Luciffer, 'Beth yw achos y cythryfwl yma yn fy nheyrnas i?' 'Rhyngai fodd i'ch mawrhydi uffernol,' ebr Mahomet, 'dadladdechreuodd rhyngof fi a'r Pab Leo, pa'r un a wnaethai i chwi fwyaf o wasanaeth, ai fy Alcoran i, ai crefydd Rufain: ac yn hyny,' ebr ef, 'dyma yr o Rowndiaid wedi tori eu carchar yn y trwst, ac yn taro i mewn hwythau, gan daeru yr haeddai eu Lêg a'u Cofenant[354] fwy parch ar eich llaw nag yr un; felly o ymdaeru i ymdaro, o eiriau i arfau. Ond weithian, gan i'ch mawrhydi ddychwelyd o Annwn, mi a rof y mater arnoch chwi eich hunan.' 'Aröwch, ni ddarfu i ni â chwi felly,' ebr Pab Iulius; ac ati hi, ewinedd a dannedd, eilwaith yn gynddeiriog, onid oedd yr ergydion megys daiargryn, a'r tair byddin damniaid hyn yn darnio eu gilydd, ac yn asio eilwaith fel nadroedd, ar draws, y tarenydd[355] eirias danneddog, nes peri o Luciffer i'w hen sawdwyr, cawri Annwn, eu tynu oddi wrth eu gilydd; ac ni bu hawdd.
Pan ddystawodd y derfysg, dechreuodd y Pab Clement[356] lefaru: 'O Empriwr yr Erchyllion, ni wnaeth un gadair eriood ffyddlonach a chyffredinach gwasanaeth i'r goron uffernol, nag a wnaeth esgobion Rhufain, tros lawer o'r byd, er's uncant ar ddeg o flynyddoedd; gobeithio na oddefwch i neb ymgystadlu â ni am eich ffafr.'
Wel,' ebr Scotyn o lwyth Cromwel, 'er maint gwasanaeth yr Alcoran er's wythgant o flynyddoedd, ac ofergoelion y Pab or cyn hyny, eto gwnaeth y Cofenant fwy er pan ddaeth allan; ac mae pawb yn dechreu ammheu a diflasu ar y lleill, ond yr ym ni eto ar gynnydd hyd y byd, ac mewn grym yn Ynys eich gelynion, sef Prydain, ac yn Llundain, y ddinas ddedwyddaf sy tan haul.' 'Hai, hai,' ebr Luciffer, 'os da clywaf i, yr ych chwi yno ar fyned tan gwmwl chwithau. Ond beth bynag a wnaethoch mewn teyrnasoedd ereill, ni fynaf fi mo'ch gwaith yn cythrybio fy nheyrnas i. Am hyny, gwastatewch yn frau,[357] tan eich perygl o fwy o boenau corfforol ac ysbrydol.' Ar y gair, gwelwn lawer o'r diawliaid, a'r holl ddamniaid, yn taro eu cynffonau rhwng eu carnau, ac yn lladrata bawb i'w dwll, rhag ofn cyfnewid waeth.
Yna wedi peri cloi'r cwbl yn eu llochesau, a chospi a newid y swyddogion diofal a'u gollyngasai hwynt i dori allan, dychwelodd Luciffer a'i gynghoriaid i'r breninllys, ac eisteddasant eilwaith, yn ol eu graddau, ar y gorseddfeinciau llosg: ac wedi peri gosteg, a chlirio'r lle, dyma glamp o ddiawl ysgwyddgam yn gosod cefnllwyth o garcharorion newyddion o flaen y bar. 'Ai dyma'r ffordd i Baradwys?' ebr un (canys ni wyddent amcan pa le yr oeddynt). 'Neu os y Purdan yw yma,' ebr un arall, mae genym ni gynnwysiad tan law'r Pab i fyned i Baradwys yn union, heb aros yn un lle fynyd: am hyny dangoswch i ni ein ffordd; onid e, myn bawd y Pab, ni a wnawn iddo eich cospi.' 'Ha, ha, ha, he,' ebr wythgant o ddiawliaid; a Luciffer ei hun a wahanodd ei ysgythredd[358] hanner-llath i ryw chwerw chwerthin. Synodd y lleill wrth hyn. 'Ond,' ebr un, 'wele, os collasom y ffordd yn y tywyll, ni a dalwn am ein cyfarwyddo.' 'Ha, ha,' ebr Luciffer, 'cewch dalu'r ffyrling eithaf cyn yr eloch' (ond erbyn chwilio yr oedd pob un wedi gadael ei glos ar ei ol). 'Gadawsoch Baradwys ar y llaw chwith tu uchaf i'r mynyddoedd fry,' ebr y Fall; 'ac er hawsed dyfod i waered yma, eto nesaf i ammhosibl yw myned yn ol, gan dywylled a dyrysed yw'r wlad, a maint sy o elltydd heirn tanllyd ar y ffordd, a chreigiau dirfawr yn crogi trosodd, ac ysblentydd[359] dibyn o rew anhygyrch, ac ambell raiadr serthgryf, sy'n rhydost oll i ymgribinio trostynt, oni byddai genych ewinedd diawledig o hyd. 'Hai, hai,' ebr ef, 'ewch â'r penbyliaid hyn i'n Paradwys ni at eu cymheiriaid.' Ar hyn, clywn lais rhai yn dyfod tan dyngua rheguyn greulon, 'O diawl! gwaed diawl! mil canmil o ddiawl! mil myrddiwn o ddiawl[360] el â mi os af!' ac ar hyny, dyma eu taflu chwap ger bron. Dyma,' ebr y ceffyl, 'i chwibwn o gystal tanwydd a'r goreu yn uffern.' 'Beth ydynt?' 'Meistri[361] y gelfyddyd foneddigaidd o dyngu a rhegu,' ebr yntau; gwyr a fedr iaith uffern cystal a ninnau.' 'Celwydd yn eich gên,[362] myn diawl,' ebr un o honynt. 'Syre, a gymmerwch chwi fy enw i yn ofer?' ebr y Fall fawr. Hai, ewch a bechiwch hwy yng nghrog gerfydd eu tafodau wrth y clogwyn eirias acw, a byddwch barod i'w gwasanaethu; os diawl a alwant, neu os mil o ddiawl, hwy a gânt eu gwala.'
Pan aeth y rhai hyn, dyma gawr o gythraul yn gwaeddi am glirio'r bar, ac yn taflu yno lwyth o wr. 'Beth sy yna?' Tafarnwr,' ebr yntau. 'Pa beth,' ebr y brenin, un Tafarnwr? lle byddent yn dyfod o fesur chwemil a seithmil. Onid ych chwi allan er's deg mlynedd, Syre, ac heb ddwyn i ni ond un? a hwnw yn un a wnaethai i ni chwaneg o wasanaeth yn y byd, na chwi, ddrewgi diog.' 'Yr ych chwi yn rhy deg i'm bwrw cyn fy ngwrando,' ebr yntau. 'Ni roisid ond hwn yn fy siars i, ac wel, dyma fi yn rhydd oddi wrth hwn. Ond eto mi yrais i chwi o dŷ hwn lawer oferwr wedi yfed cynnaliaeth ei dylwyth, ambell deisiwr a chardiwr, ambell dyngwr tlws, ambell folerwr mwyn difalais, ambell was diofal, ambell forwyn groch yn y gegin, a mwynach na dim yn y seler neu'r gwely.' 'Wel,' ebr y Fall fawr, 'er yr haeddai'r tafarnwr fod ym mysg y Gwenieithwyr oddi tanom ni, eto [ewch[363]] ag e'r awron at ei gymheiriaid i gell y Mwrdwr[364] gwlyb, at lawer o Botecariaid a Gwenwynwyr, am wneyd diod i ladd eu cwsmeriaid; berwch yntau yn dda, eisieu iddo ef ferwi ei gwrw yn well.' 'Trwy eich cenad,' ebr y tafarnwr, tan grynu, 'ni haeddwn i ddim mo'r fath beth; ond rhaid i trad[365] fyw 'Ai ni allech chwi fyw,' ebr y Fall, 'heb gynnwys oferedd a chwareuon, puteindra, meddwdod, llyfon,[366] cwerylon, enllib, a chelwydd? ac a fynech chwi, hen uffern-gi, fyw bellach yn well na ninnau? Ertolwg, pa ddrwg sydd genym ni yma, nad oedd genyt tithau gartref, ond y gosp yn unig? Ac o ddywedyd i chwi'r caswir yma, nid oedd y gwres a'r oerfel uffernol ddyeithr i chwi chwaith. Oni welsoch wreichionen o'n tân ni yn nhafodau'r tyngwyr, a'r ysgowliaid wrth geisio eu gwŷr adref? Onid oedd llawer o'r tân anniffoddadwy yng ngheg y meddwyn, yn llygad y llidiog, ac yng ngaflach y butain? Ac oni allasech weled peth o'r oerfel uffernol yng ngharedigrwydd yr oferwr; ac yn sicr yn eich mwynder eich hun tuag atynt, tra pharhai ddim ganddynt; yn ysmaldod y gwawdwyr; yng nghlod y cenfigenus a'r athrodwr; yn addewidion yr anllad; neu yng nghroesau'r cymdeithion da, yn fferu tan eich byrddau? Ai dyeithr genyt ti uffern, a thithau yn cadw uffern gartref? Dos, fflamgi, at dy benyd.'
Yn hyn, dyma ddeg o gythreuliaid yn bwrw eu beichiau ar llawr tanbaid, tan erthwch[367] yn aruthr. Beth sy genych yna?' ebr Luciffer. Mae genym,' ebr un o'r ceffylau cythreulig, 'bump o bethau a elwid echdoe yn freninoedd.' (Edrychais lawer a welwn i Lewis o Ffrainc yn un.) Teflwch hwy yma,' ebr y brenin. Yna taflwyd hwy at y penau coronog ereill tan draed Luciffer.
Nesaf i'r breninoedd, daeth y Gwyr llys a'r Gwenieithwyr lawer. Bwriwyd y rhai hyn bob un tan din[368] ei frenin ei hun, fel yr oedd y breninoedd tan dinau'r diawliaid, yng nghachdy Luciffer. Ond yr oedd rhan o'r bawdy o tan y diawliaid gwaelaf, lle yr oedd y Witsiaid, fel gynt ar nos Iau, felly fyth yn cusanu tinau yr ellyllon.
Ni ches i fawr ymorol, na chlywn i ganu cyrn pres, a gwaeddi, 'Lle! lle! lle!' Erbyn aros ychydig, beth oedd ond gyr o wyr y Sessiwn,[369] a diawliaid yn cario cynffonau chwech o Ustusiaid, a myrdd o'u sil, yn gyfarthwyr,[370] twrneiod, clarcod, recordwyr, beiliaid, ceisbyliaid, a checryn y cyrtiau. Bu ryfedd genyf na holwyd un o honynt; ond deallodd y rhai hyn fyned o'r mater yn eu herbyn yn rhy bell; ac felly ni agorodd un o'r dadleuwyr dysgedig mo'i safn; ond Cecryn y Cyrtiau a ddywed y rho'i gwyn camgarchariad yn erbyn Luciffer. "Cewch gwyno trwy achos weithian,' ebr y Fall, 'a bod fyth heb weled cwrt â'ch llygaid.' Yna gwisgodd Luciffer ei gap coch yntau, ac â golwg drahaus-falch anoddef, 'Ewch,' ebr ef, 'â'r Ustusiaid i ystafell Pontius Pilat, at Meistr Bradshaw, a fwriodd y Brenin Charls. Sechwch y Cyfarthwyr gyda mwrdrwyr Syr Edmwnt Buwri Godffri,[371] a'u cymheiriaid daueiriog ereill, a gymmerent arnynt ymrafaelio â'u gilydd, dim ond i gael lladd y sawl a ddêl rhyngddynt. Ewch, ac anerchwch y cyfreithiwr darbodus hwnw, a gynnygiodd wrth farw fil o bunnau am gydwybod dda, gofynwch a ro'i ef yr awron ddim ychwaneg. Rhostiwch y Cyfreithwyr wrth eu parsmant[372] a'u papyrau eu hunain, oni ddêl eu perfedd dysgedig allan; ac i dderbyn y mygdarth hwnw, crogwch y Cyrtwyr cecrus uwch ei ben, â'u ffroenau yn isaf yn y simneiau rhost, i edrych a gaffont fyth lonaid eu bol o gyfraith. Y Recordwyr, teflwch hwy yr awran i fysg y Maelwyr, a fydd yn attal neu yn rhagbrynu yr yd, ac yn ei gymmysgu; yna gwerthu yr ammhur yn nwbl bris y pur-yd: felly hwythau, mynant am gam, ddwbl y ffis[373] a roid gynt am uniondeb. Am y ceisbyliaid, gedwch hwy yn rhyddion, i bryfeta,[374] ac i'w gyru i'r byd i geunentydd a pherthi, i ddal dyledwyr y goron uffernol: o blegid pa'r diawl sy o honoch a wna'r gwaith yn well na hwy?'
Yn y man dyma ugain o ddiawliaid, fel Scotsmyn, a phaciau traws ar eu hysgwyddau, yn eu disgyn o flaen yr Orsedd ddiobaith; a pheth oedd ganddynt erbyn gofyn, ond Sipsiwn. 'Ho!' ebr Luciffer, 'pa fodd y gwyddech chwi ffortun rhai ereill cystal, ac heb wybod fod eich ffortun eich hunain yn eich tywys i'r fangre hon?' Nid oedd ateb gair wedi synu weled bethau gwrthunach na hwy eu hunain. "Teflwch hwy,' ebr y Brenin, 'at y Witsiaid i'r cachdy uchaf, am fod eu hwynebau mor debyg i liw'r baw. Nid oes yma na chathod, na chanwyllau brwyn iddynt; ond gedwch iddynt gael llyffant rhyngddynt unwaith bob dengmil o flynyddoedd, os byddant dystaw, heb ein byddaru a'u gibris dy glibir dy glabar[375]
Yn nesaf i'r rhai hyn, daeth, debygwn i, ddeg ar hugain o Lafurwyr. Synodd ar bawb weled cynnifer o'r alwedigaeth onest hòno, ac anamled y byddont yn dyfod: ond nid oeddynt o'r un fro, nac am yr un beiau. Rhai am godi'r farchnad; llawer am attal degymau, a thwyllo yr Eglwyswr o'i gyfiawnder; ereill am adael eu gwaith i ddilyn boneddigion, ac wrth geisio cydgamu â'r rhai hyny, tori eu ffwrch; rhai am weithio ar y Sul; rhai am ddwyn eu defaid a'u gwartheg yn eu penau i'r Eglwys, yn lle ystyried y gair; ereill am ddrwg fargenion. Pan aeth Luciffer i'w holi, O! yr oeddynt oll cyn laned a'r aur; ni wyddai neb arno ei hun ddim a haeddai'r fath letty. Ni choelit ti rhawg daclused esgus oedd gan bob un i guddio ei fai, er eu bod eisys yn uffern o'i herwydd; a hyny dim ond o ddrygnaws i groesi Luciffer, ac i geisio bwrw anghyfiawnder ar y Barnwr cyfion a'u damniasai. Eto buasai rhyfeddach genyt ddeheued yr oedd y Fall fawr yn dynoethi'r briwiau, ac yn ateb eu coeg esgusodion hyd adref.
Ond pan oedd y rhai hyn ar dderbyn y farn uffernol oll, dyma ddeugain o Ysgolheigion yn dyfod ger bron ar lamidyddion[376] o ddiawliaid gwrthunach, petai bosibl, na Luciffer ei hun. A phan glybu yr ysgolheigion y llafurwyr yn ymresymu, hwy a ddechreuasant yn hyfach ymesgusodi. Ond, O! barFoted yr oedd yr hen Sarff yn eu hateb hwythau, er maint eu dichell a'u dysgeidiaeth. Eithr gan ddygwydd i mi weled y cyffelyb ddadleuon mewn brawdle arall, mi rof yno hanes y cwbl tan un; ac a fynegaf yr awran it' beth a welais nesaf yn y cyfamser.
Prin y traethasai Luciffer y farn ar y rhai hyn, a'u gyruam oered eu rhesymau i'r ysblent fawr yng Ngwlad yr ia tragwyddol, a hwythau yn dechreu rhincian eu dannedd eisys cyn gweled eu carchar, dyma uffern eilwaith yn dechreu dadseinio yn aruthrol, gan ergydion ofnadwy, a tharanau croch rhuadwy, a phob swn rhyfel; gwelwn Luciffer yn duo ac yn delwi; yn y mynyd, daeth ysguthell[377] o ddieflyn carngam i mewn tan ddyhead a chrynu. Beth yw'r mater?' ebr Luciffer. 'Y mater peryclaf i chwi er pan yw uffern yn uffern,' ebr y bach; 'mae holl eithafoedd teyrnas y tywyllwch wedi tori allan i'ch erbyn, a phawb yn erbyn eu gilydd, yn enwedig y sawl oedd â hen alanasdra rhynddynt, ddant yn nant, nad yw bosibl eu tynu oddi wrth eu gilydd. Mae'r Sawdwyr benben â'r Physigwyr, am ddwyn eu trad lladd. Mae myrdd o Logwyr bonbon â'r Cyfreithwyr, am fynu rhan o'r trad ysbeilio. Mae'r Cwestwyr a'r Hwndlwyr ar falu y boneddigion, am dyngu a rhegu heb raid, lle yr oeddynt hwy yn byw wrth y trad. Mae'r Puteiniaid a'u cymdeithion, a myrddiwn ereill o hen geraint a chyfeillion gynt, wedi syrthio allan yn chwilfriw. Ond gwaeth na dim yw'r gad sy rhwng yr hen Gybyddion a'u plant eu hunain, am afradloni'r da a'r arian a gostiodd i ni (medd y cotiaid) gryn boen ar y ddaiar, ac anfeidrol ing yma dros byth a'r meibion, o'r tu arall, yn rhegu ac yn rhwygo'r cribinwyr[378] yn felltigedig, gan roddi eu galanasdra tragwyddol ar eu tadau, am adael iddynt ugain gormod i'w gwallgofi o falchder ac oferedd, lle gallasai ychydig bach, gyda bendith, eu gwneyd yn hapus yn eu dau fyd.[379] 'Wel,' ebr Luciffer, digon, digon! rheitiach arfau na geiriau. Ewch yn ol,' ebr ef, Syre, ac ysbiwch ym mhob gwyliadwriaeth, pa le bu yr esgeulusdra mawr hwn, a pheth yw yr achos: canys mae rhyw ddrygau allan na wyddys eto.' Ymaith â hwnw ar y gair; ac yn y cyfamser cododd Luciffor a'i benaethiaid mewn braw ac arswyd mawr, a pharodd gasglu'r byddinoedd dewraf o'r angylion duon; ac wedi eu trefnu, cychwynodd ei hun allan ym mlaenaf i ostegu'r gwrthryfel, a'r penaethiaid a'u lluoedd hwythau ffyrdd ereill.
Cyn i'r fyddin freninol fyned yn neppell, fel mellt hyd y fagddu hyll (a ninnau o'u lledol), dyma'r trwst yn dyfod i'w chyfhwrdd. Gosteg, yn enw'r brenin!' ebr rhyw fonllefwr cythreulig. Nid oedd dim clywed; haws tynu'r hen afanc[380] o'i gafael nag un o'r rhai hyn. Ond pan darawodd hen sawdwyr profedig Luciffer yn eu plith, dechreuodd y chwyrnu a'r ymdolcio a'r ergydion laryeiddio. Gosteg yn enw Luciffer!' ebr y crochlefwr eilwaith. 'Beth ydyw'r mater,' ebr y brenin; 'a phwy yw y rhai hyn?' Atebwyd, 'Nid oes yma ddim ond darfod, yn y cythryfwl cyffredin, i'r Porthmyn daro wrth y Cycwalltiaid,[381] a myned i ymhyrddio, i brofi pa'r un oedd galetaf eu cyrn; ac hi a allasai fyned yn hen ymgornio, oni buasai i'ch cawri corniog chwithau daro i mewn.' Wel,' ebr Luciffer, gan eich bod oll mor barod eich arfau, trowch gyda mi i gystwyo'r[382] terfysgwyr ereill.' Ond pan aeth y si at y gwrthryfelwyr ereill, fod Luciffer yn dyfod â thair byddin gorniog i'w herbyn, ceisiodd pawb i'w wâl.
Ac felly ym mlaen yn ddiwrthwyneb yr aeth Luciffer, hyd y gwylltoedd dinystriol, tan holi a chwilio beth oedd dechreu'r cynhwrf, heb air son. Ond ym mhen ennyd, dyma un o ysbiwyr y brenin wedi dychwelyd, ac â'i anadl yn ei wddf: 'O ardderchocaf Luciffer,' ebr ef, 'mae'r tywysog Moloc wedi gostegu peth o'r Gogledd, a darnio miloedd ar draws yr ysblentydd; ond mae eto allan dri neu bedwar o ddrygau geirwon yn y gwynt.' 'Pwy ydynt?' ebr Luciffer. 'Mae,' ebr ef, 'Athrodwr, a Medleiwr, a Checryn Cyfreithgar, wedi tori'r carcharau, a myned yn rhyddion.' 'Nid oes ynte ddim rhyfedd,' ebr y Fall fawr, 'ped fuasai chwaneg o gythryfwl.' Yn hyn, dyma un arall, a fuasai ar ysbi tua'r Deheu, yn mynegu fod y drwg yn dechreu tori allan yno, oni charcherid tri oedd eisys wedi gyru pob peth bendramwnwgl yn y Gorllewin: a'r tri hyny oedd Marchoges, a Dyfeisiwr, a Rhodreswr. 'Wel,' ebr Satan, oedd yn sefyll nesaf ond un at Luciffer, 'er pan demtiais i Adda o'i ardd, ni welais eto o'i hil ef gymmaint o ddrygau allan ar unwaith erioed. Marchoges, Rhodreswr, a Dyfeisiwr; ac o'r tu arall, Athrodwr, Cyrtiwr, a Medleiwr! Dyna gymmysg a bair i fil o ddiawliaid chwydu eu perfeddau allan.' 'Nid oes ryfedd,' ebr Luciffer, 'eu bod mor adgas gan bawb ar y ddaiar, a hwythau yn gallu gwneyd cymmaint blinder i ni yma.'
Gronyn ym mlaen, dyma'r Farchoges fawr yn taro wrth y brenin yng ngwrth ar ei hynt. Ho! modryb â'r clos,' ebr rhyw ddiawl croch, 'nos da'wch.' 'Ie, eich modryb, o ba'r du, atolwg?' ebr hithau, yn ddigllon, eisieu ei galw Madam. 'Brenin gwych ydych chwi, Luciffer, gadw'r fath benbyliaid anfoesol pechod fod cymmaint teyrnas tan un mor anfedrus yn eu llywodraethu: O na wneid fi,' ebr hi, 'yn rhaglaw arni.' Yn hyn, dyma'r Rhodreswr, tan bendwmpian yn y tywyll: Eich gwasanaethwr, Syr,' meddai fo wrth un, tros ei ysgwydd. Ych chwi yn iach lawen?' wrth y llall.—'Oes dim gwasanaeth a'r a allwn i i chwi,' wrth y trydydd, tan gilwenu yn goegfall.[383] Mae eich glendid yn fy hudo i,' ebr ef wrth y Farchoges. Och! och! ymaith â'r fflamgi yma,' ebr hono; a phob un yn gwaeddi, 'Ymaith â'r poenwr newydd yma! uffern ar uffern yw hwn.' 'Rhwymwch ef a hithau dinben drosben,' ebr Luciffer.
Ym mhen ennyd, dyma Gwmbrus y Cyrtiau yn nal rhwng dau ddiawl. O ho! angel tangnoddyf,' ebr Luciffer, 'a ddaethost ti!' 'Cedwch e'n ddiogel tan eich perygl,' ebr ef, wrth y swyddogion. Cyn i ni fyned nemor, dyma'r Dyfeisiwr a'r Athrodwr yn rhwym rhwng deugain o ddiawliaid, ac yn sisial yng nghlustiau eu gilydd. 'O ardderchocaf Luciffer,' ebr y Dyfeisiwr, 'drwg iawn genyf fod cymmaint cythryfwl yn eich teyrnas; ond mi a ddysgaf i chwi ffordd well, os caf fi fy ngwrando; nid rhaid i chwi ond yn esgus Parliament ddyfyn y damniaid oll i'r Fallgyrch eirias, ac yna peri i'r diawliaid eu pendifadu bendramwnwgl i geg Annwn, a'u cloi yn y sugnedd, ac yna cewch lonydd ganddynt.' 'Wel,' ebr Luciffer, tan guchio yn dra melltigedig ar y Dyfeisiwr, mae'r Medleiwr cyffredin eto yn ol.' Erbyn ein dyfod eilwaith i gyntedd y llys cythreulig, pwy a ddaeth decaf i gyfhwrdd y brenin, ond y Medleiwr. O fy mrenin,' ebr ef, 'mae i mi air â chwi.' 'Mae i mi un neu ddau â thithau, ond odid,' ebr y Fall. Mi a fûm,' ebr yntau, 'hyd hanner Distryw yn edrych pa fodd yr oedd eich materion chwi yn sefyll. Mae genych lawer o swyddogion yn y Dwyrain heb wneyd affaith,[384] ond eistedd yn lle edrych at boeni eu carcharorion, na'u cadw chwaith; a hyny a barodd y cythryfwl mawr yma. Heb law hyny,' ebr ef, 'mae llawer o'ch diawliaid, ac o'ch damniaid hefyd, a yrasoch i'r byd i demtio, heb ddychwelyd er darfod eu hamser; ac ereill wedi dyfod, yn llechu, yn lle rhoi cyfrif o'u negesau.
Yna parodd Luciffer i'w grochlefwr gyhoeddi Parliament drachefn; ac ni bu yr holl benaethiaid a'u swyddogion dro llaw[385] yn ymgyfhwrdd i wneyd yr eisteddfod gythreulig i fyny eilwaith. Cyntaf peth a wnaed oedd newid swyddogion, a pheri gwneyd lle o amgylch ceg Annwn i'r Rhodroswr a'r Farchoges drwyndrwyn; ac i'r terfysgwyr ereill yn rhwym dinben drosben; a rhoi allan gyfraith pa ddieflyn neu gollddyn bynag a droseddai ei swydd rhag llaw, y cai ei fwrw yno rhyngddynt hyd ddydd-farn. Wrth y geiriau hyn gwelid yr holl erchyllion, ie, Luciffer ei hun, yn crynu ac yn cythruddo. Nesaf peth fu alw i gyfrif rai diawliaid a rhai damniaid, a yrasid i'r byd i hel cymdeithion: a'r diawliaid yn dywedyd eu hanes yn deg; ond yr oedd rhai o'r damniaid yn gloff yn eu cyfrif, ac a yrwyd i'r ysgol boeth, ac a sewrsiwyd â seirff clymog tanllyd, eisieu dysgu yn well.
Dyma fenyw lân, pan ymwisgo hi,' ebr diawl bach, 'a yrwyd i fyny i'r byd, i hel i chwi ddeiliaid gerfydd eu canolau; ac i bwy yr ymgynnygiai hi, ond i ryw weithiwr llafurus yn dyfod adref yn hwyr o'i orchwyl; a hwnw, yn lle ymdrythyllu gyda hi, aeth ar ei luniau i weddio rhag diawl a'i angylion. Amser arall, hi ai at wr afiachus.' 'Hai, teflwch hi,' ebr Luciffer, 'at y goll-ferch ddiles hòno a fu yn caru Eignion ab Gwalchmai[386] o Fon gynt.' 'Aröwch, nid yw hwn ond y bai cyntaf,' ebr y feinir; nid oes eto oddi ar flwyddyn er y diwrnod y darfu am danaf, pan y'm damniwyd i'ch llywodraeth folltegedig chwi, frenin y poenau!' 'Nac oes eto mo'r tair wythnos,' ebr y diawl a'i dygasai hi yno. Am hyny ynte,' ebr hi, pa fodd y mynech fi mor hyddysg a'r damniaid, sy yma er's trichant neu bumcant o flynyddoedd allan yn ysglyfaetha? Os mynech genyf fi well gwasanaeth, gollyngwch fi i'r byd eto, i roi tro neu ddau yn ddigerydd; ac oni ddygaf i chwi ugain puteiniwr am bob blwyddyn y bwyf allan, rhowch arnaf y gosp a fynoch.' Ond fe aeth ferdit[387] yn ei herbyn; a barnwyd iddi fod gan mlynedd hirion tan gerydd, y cofiai hi yn well yr ail tro.
Yn hyn, dyma ddiawl arall yn gwthio mab ger bron. Dyma i chwi,' ebr ef, 'ddarn o negeswr teg, oedd ar grwydr hyd ei hen gymmydogaeth uchod y nos arall, ac a welai leidr yn myned i ddwyn ystalwyn; ac ni fedrai gymmaint a helpu hwnw i ddal yr ebol, heb ymddangos; a'r lleidryn, pan ei gwelodd, a ymgroesodd[388] byth wedi.' Trwy genad y cwrt,' ebr y mab, os cai blentyn y lleidr roddiad oddi uchod i'm gweled i, a allwn i wrth hyny? Ond nid yw hwn ond un,' ebr ef; nid oes oddi ar gan mlynedd er y dydd diesgor[389] y darfu byth am danaf! a pha sawl un o'm ceraint a'm cymmydogion a hudais i yma ar fy ol, yn hyny o amser? Yn Annwn y bwyf, onid oes genyf gystal ewyllys i'r trad a'r goreu o honoch; ond fe geir gwall ar y callaf weithiau.' Hai,' ebr Luciffer, 'bwriwch ef i ysgol y Tylwyth Teg, sy eto tan y wialen am eu castiau diriaid gynt, yn llindagu a bygwth eu cyfneseifiaid, a'u deffroi felly o'u diofalwch; canys gweithiai'r dychryn hwnw chwaneg ond odid arnynt na deugain o bregethau.'
Yn hyn, dyma bedwar ceisbwl, a chyhuddwr, a phymtheg o ddamniaid, yn llusgo dau gythraul ger bron. 'Wel,' ebr y cyhuddwr, 'rhag i chwi fwrw yr holl gam negeswriaeth ar hil Adda, dyma,' eb ef, ddau o'ch hen angylion a gamdreuliodd eu hamser uchod cynddrwg a'r ddau o'r blaen. Dyna walch ail i hwnw yn y Mwythig, y dydd arall, ar ganol Interlud y Doctor Ffaustus;[390] a rhai (yn ol yr arfer) yn godinebu â'u llygaid; a rhai â'u dwylo; ereill yn llunio cyfarfod i'r un pwpras; a llawer a bethau ereill, buddiol i'ch teyrnas: pan oeddynt brysuraf, ymddangosodd y diawl ei hun i chwareu ei bart;[391] ac wrth hyny gyrodd pawb o'i bleser i'w weddïau; felly hwn hefyd ar ei hynt hyd y byd; fe glywai rai yn son am fyned i droi o gwmpas yr eglwys i weled eu cariadau; a pheth a wnaeth y catffwl,[392] ond ymddangos i'r ynfydion yn ei lun ei hun gartref: ac er maint fu eu dychryn, eto pan gawsant eu cof, rhoisant ddiofryd oferedd[393] ond hyny: lle ni buasai raid iddo ond ymrithio ar lun rhyw fudrogod diffaith, fo'u tybiasent eu hunain yn rhwym i gymmeryd y rhai hyny; ac yna gallasai yr ellyll brwnt fod yn wr y ty gyda'r ddwyliw,[394] ac yntau wedi gwneyd y briodas. Ac dyma un arall,' ebr ef, 'aeth nos Ystwyll ddiweddaf i ymweled â dwy ferch ieuanc yng Nghymru, oedd yn troi'r crysau;[395] ac yn lle denu'r genethod i faswedd, yn rhith llanc glandeg, myned ag elor i sobreiddio un; a myned â thrwst rhyfel at y llall mewn corwynt uffernol, i'w gyru o'i chof ym mhellach nag o'r blaen; ac ni buasai raid. Ond nid hyn mo'r cwbl; eithr wedi iddo fyned i'r llances, a'i thaflu a'i phoeni yn dost, gyrwyd am rai o'n gelynion dysgedig ni, i weddïo drosti hi, ac i'w fwrw ef allan; yn lle ei themtio hi i anobeithio, a cheisio ennill rhai o'r pregethwyr, myned i bregethu iddynt, a dadguddio dirgelion eich teyrnas chwi; ac felly yn lle rhwystro, helpu eu hiechydwriaeth.' Ar y gair Iechydwriaeth, gwelwn rai yn dychlamu yn dân byw o gynddaredd. Teg pob chwedl heb wrthwyneb,' ebr y dieflyn: 'gobeithio na ad Luciffer i'r un o hil domlyd Adda ymgystadlu â mi sy'n angel, llawer uwch fy rhyw a'm bonedd.' 'Hai,' ebr Luciffer, 'bid sicr iddo ei gosp: ond, Syre, atebwch i'r achwynion yma, yn brysur ac yn eglur; neu, myn Distryw diobaith, mi wnaf'—'Mi ddygais yma,' ebr yntau, 'lawer enaid er pan fu Satan yng Ngardd Eden, ac a ddylwn ddeall fy nhrad yn well na'r cyhuddwr newydd yma.'—'Gwaed uffernol bentewyn!' ebr Luciffer, 'oni pherais i chwi ateb yn brysur ac yn eglur?' 'Trwy eich gorchymmyn,' ebr y dieflyn, 'bûm ganwaith yn pregethu, ac yn gwahardd i rai amryw o'r ffyrdd sy'n arwain i'ch terfynau chwi, ac eto yn ddystaw, â'r un anadl, hyd ryw goeglwybr arall yn eu dwyn yma yn ddigon diogel: fel y gwnaethym wrth bregethu yn ddiweddar yn yr Ellmyn,[396] ac yn un o Ynysoedd Fferoe,[397] ac amryw fanau ereill. Felly drwy fy mhregethiad i y daeth llawer o goelion y Papistiaid, a'r hen chwedlau, gyntaf i'r byd, a'r cwbl tan rith rhyw ddaioni. Canys pwy fyth a lwnc fach heb ddim abwyd? Pwy erioed a ga'dd goel i ystori, oni byddai ryw fesur o wir yn gymmysg â'r celwydd, neu beth rhith daioni i gysgodi'r drwg? Felly, os caf finnau wrth bregethu, ym mysg cant o gynghorion cywir a da, wthio un o'm heiddo fy hun, mi wnaf â'r un hwnw, trwy amryfusedd neu goelgrefydd, fwy lles i chwi nag a wnel y lleill i gyd fyth i'ch erbyn.' 'Wel,' ebr Luciffer, 'gan eich bod cystal yn eich pulpud, yr wyf yn dy orchymmyn tros saith mlynedd i safn un o bregethwyr yr Ysgubor, a ddywed y peth a ddêl gyntaf i'w fochau; yno cei dithau le i roddi gair i mewn weithiau at dy bwrpas dy hun.'
Yr oedd llawer o ddiawliaid ac o ddamniaid ychwaneg yn gwau fel mellt trwy eu gilydd o amgylch yr orsedd echryslawn, i gyfrif ac i ail dderbyn swyddau. Ond yn sydyn ddiarwybod, dyma orchymmyn i'r holl negesyddion a'r carcharorion fyned allan o'r llys, bawb i'w dwll, a gado'r brenin a'i ben-cynghoriaid yno yn unig. Ond goreu i ninnau ymadael,' ebr fi wrth fy Nghyfaill, 'rhag iddynt ein cael?' 'Nid rhaid it' unon,' eb yr Angel; 'ni wel un ysbryd aflan byth trwy'r llen yma.' Felly yno yr arosasom yn anweledig, i weled beth oedd y mater. Yna dechreuodd Luciffer lefaru yn raslawn wrth ei gynghoriaid, fel hyn: Chwi'r prif ddrygau ysbrydol, chwi Ben-Ystrywiau Annwfn, eithaf eich dichellion maleisgar wrth raid yr wyf yn ei ofyn. Nid dyeithr i neb yma, mai Prydain a'r Ynysoedd o'i hamgylch yw'r deyrnas beryelaf i'm llywodraeth i, a llawnaf o'm gelynion: a pheth sy gan gwaeth, mae yno yr awron frenines beryclaf oll, heb osio[398] troi unwaith tuag yma, nac hyd hen ffordd Rufain o'r naill du, na chwaith hyd ffordd Geneva[399] o'r tu arall; a maint lles a wnaeth y Pab i ni yno yn hir, ac Olfir[400] hyd yr awran! Beth a wnawn weithian? Yr wyf yn ofni y collwn yr hen feddiant a'n marchnad yno yn glir, oni phalmantwn chwipyn ryw ffordd newydd yn dramwyfa iddynt; canys adwaenant yr holl hen ffyrdd sy'n tywys yma yn rhy dda.
A chan fod y dwrn anorfod hwn yn byrhau fy nghadwyn, ac yn fy rhwystro i fy hun i'r ddaiar, eich cynghor pwy a wnaf yn rhaglaw tanaf i wrthwynebu'r frenines adgas acw, rhaglaw ein Gelyn ni.'
O Empriwr mawr y tywyllwch,' ebr Cerberus, diawl y Tobacco, myfi sy'n rhoi traian cynnaliaeth y goron hòno: myfi a af ac a yraf i chwi ganmil o eneidiau eich gelynion trwy dwll pibell.' 'Wel,' ebr Luciffer, 'ti a wnaethost i mi wasanaeth digon da, rhwng peri lladd y perchenogion yn yr India, a lladd y cymmerwyr â glafoerion, gyru llawer i'w segur gludo o dŷ i dŷ, ereill i ledrata i'w gaol, a myrdd i'w serchu cymhelled nad allent fod ddiwrnod yn eu hiawn bwyll hebddo. Er hyn oll, dos di, a gwna dy oreu; ond nid wyt ti ddim i'r pwrpas presennol.'
Ar hyn eisteddodd hwnw; a chododd Mammon, diawl yr Arian; ac â golwg dra chostog[401] lechwrus:[402] 'Myfi,' ebr ef, 'a ddangosodd y mwynglawdd cyntaf i gael arian; ac byth er hyny yr wyf yn cael fy moli a'm haddoli yn fwy na Duw; a dynion yn rhoi eu poen a'u perygl, eu holl fryd, eu hoffder, a'u hyder arnaf fi: ie, nid oes neb yn esmwyth, eisieu cael ychwaneg o'm ffafr i; a pha mwyaf a gaffont, pellaf fyth oddi wrth orphwysdra, nes dyfod o'r diwedd, tan geisio esmwythyd, yma i wlad y poenau tragwyddol. Pa sawl cybydd henffel[403] a ddenais i yma, hyd lwybrau tostach nag sy'n arwain i deyrnas yr hapusrwydd! Os ffair, os marchnad, os sessiwn, os 'lecsiwn, os rhyw ymgyfhwrdd arall, pwy amlach ei ddeiliaid, pwy fwy ei allu a'i awdurdod na myfi? tyngu, rhegu, ymladd, ymgyfreithio, dyfeisio, a thwyllo, ymgurio, ymgribinio, lladd a lledrata, tori'r Sul, anudoniaeth, angharedigrwydd, a pha nod du arall, heb law y rhai hyn, sy'n marcio dynion at gorlan Luciffer, nad oes genyf fi law yn ei roi? Am hyny y galwyd fi "Gwreiddyn pob drwg." Am hyny, os gwel eich mawrhydi yn dda, myfi a af,' ebr ef; ac a eisteddodd.
Yna cododd Apolyon. Nis gwn i,' ebr hwnw, 'beth a'u dwg hwy yma sicrach na'r peth a'ch dug chwithau yma, sef Balchder; os caiff hon blanu ei phawl syth ynddynt, a'u chwyddo, nid rhaid unon yr ymostyngant i godi'r groes, nac i fyned trwy'r porth cyfyng. Myfi a af,' ebr ef, 'gyda'ch merch Balchder, ac a yraf y Cymry, tan ucheldremio ar wychder y Seison, a'r Seison tan ddynwared sioncrwydd y Ffrancod, i syrthio yma cyn y gwypont amcan pa le bônt.'
Yn nesaf cododd Asmodai, diawl yr Anlladrwydd. 'Nid anhysbys i chwi, frenin galluocaf y Dyfnder,' ebr ef, 'na chwithau, dywysogion gwlad anobaith, faint a lenwais i o gilfachau uffern, trwy drythyllwch a maswedd: beth am yr amser y cynneuais i'r fath fflam o drachwant yn yr holl fyd, oni orfu gyru'r diluw i lanhau'r ddaiar oddi wrthynt, ac i'w hysgubo hwy oll atom ni i'r tân anniffoddadwy? Beth am Sodoma a Gomorra, dinasoedd teg a hyfryd, a losgais i â thrythyllwch, nes i gafod o uffern ennyn yn eu trachwantau uffernol, a'u curo hwy yma yn fyw i losgi yn oes oesoedd? A pheth am fyddin fawr yr Assyriaid,[404] a laddwyd oll mewn unnos o'm hachos i? Sara[405] a siomais i am saith o wyr; a Solomon, y doethaf o ddynion, a llawer mil o freninoedd ereill, a welliais[406] i â merched. Am hyny,' ebr ef, 'gollyngwch fi â'r pechod melus yma, ac mi a ennynaf y wreichionen uffernol yno mor gyffredin, hyd onid el yn un a'r fflam aniffoddadwy hon canys odid o un a ddychwel fyth oddi ar fy ol i, i gym- meryd gafael yn llwybrau bywyd.' Ar hyn fe eisteddodd.
Yna cododd Belphegor, penaeth y Diogi a'r Seguryd. 'Myfi,' ebr ef, 'yw tywysog mawr y Syrthni a'r Diogi, mawr fy ngallu ar fyrdd o bob oed a gradd o ddynion; myfi yw'r merllyn[407] mud,[408] lle mag sil pob drygau, lle ceula sorod pob pydredd a llysnafedd dinystriol. Beth a delit ti, Asmodai, na chwithau'r prif Ddrygau colledig ereill, hebof fi, sy'n cadw'r ffenestri yn agored i chwi, heb ddim gwyliadwriaeth, modd y galloch chwi fyned i mewn i'r dyn, i'w lygaid, i'w glust, i'w safn, ac i bob twll arall arno, pan fynoch. Myfi a af, ac a'u treiglaf hwy oll i chwi tros y dibyn trwy eu cwsg.'
Yna cododd Satan, diawl yr Hug,[409] oedd nesaf i Luciffer ar ei law chwith; ac wedi troi gwep hyllgrech at y brenin: 'Afraid i mi,' ebr ef, 'ysbysu fy ngweithredoedd iti, archangel colledig, nac i chwithau, dywysogion duon y Distryw: oblegid y dyrnod cyntaf erioed ar ddyn, myfi a'i tarawodd; a dyrnod nerthol ydoedd, i bara yn farwol o ddechreu'r byd i'w ddiwedd. Ai tybied nad allwn i, a anrheithiais yr holl fyd, roi yr awran gynghor a wasanaethai am un ynysig fechan? ac onid allwn i, a siomais Efa ym Mharadwys, orchfygu Ann ym Mhrydain? Os tâl ddim ddichell naturiol, a phrawf gwastadol, er's pummil o flynyddoedd, fy nghynghor i ichwi drwsio eich merch Rhag- rith i dwyllo Prydain a'i brenines: ni feddwch chwi ferch yn y byd mor wasanaethgar i chwi a hòno; mae hi yn lletach ei hawdurdod, ac yn amlach ei deiliaid, na'ch holl ferched ereill. Onid trwyddi hi y siomais i y ferch gyntaf? ac byth er hyny hi arosodd ac a gynnyddodd yn ddirfawr ar y ddaiar. Ac yr awron, nid yw'r byd oll fawr ond un Rhagrith i gyd trosto. Ac oni bai gywreindeb Rhagrith, pa fodd y cai yr un o honom ddim masnach mewn un cwr o'r byd? O blegid pe gwelent bechod yn ei liw a than ei enw ei hun, pa ddyn byth a'i cyffyrddai? Byddai haws ganddo gofleidio diawl yn ei lun a'i wisg uffernol. Oni bai ei bod hi, Rhagrith, yn medru dyeithro henw a natur pob drwg, tan rith rhyw dda, a llysenwi pob daioni â rhyw enw drwg, ni chyffyrddai ac ni chwennychai neb ddrwg yn y byd. Rhodiwch yr holl Ddinas Ddienydd, cewch weled faint yw hon ym mhob cwr. Dos i Ystryd y Balchder, ac ymorol am wr trahäus, neu am geiniog- werth o fursendod wedi ei gymmysgu trwy falchder; " gwae finnau," medd Rhagrith, "nid oes yno ddim o'r fath beth;" ac i ddiawl ddim arall yn yr holl ystryd ond yr uchder. Neu gerdd i Ystryd yr Elw, a gofyn am dy'r Cybydd; ffei! nid oes neb o'r fath ynddi; neu am dy'r Mwrdriwr ym mysg y physigwyr; neu am dŷ'r carn lleidr ym mysg y porthmyn; byddai cynt it' gael carchar am ofyn, na chael gan neb gyfaddef ei henw. Ië, mae Rhagrith yn ymlusgo rhwng dyn a'i galon ei hun, ac mor gelfydd yn cuddio pob camwedd, tan enw a rhith rhyw rinwedd, oni wnaeth hi i bawb agos golli eu hadnabod arnynt eu hunain. Cybydd-dod a eilw hi cynnilweh; ac yn ei hiaith hi, llawenydd diniwed yw oferwch; boneddigeiddrwydd yw balchder; gwr ffest[410] gwrol yw'r traws; cydymaith da yw'r meddwyn; ac nid yw godineb ond cestyn[411] ieuenctyd. O'r tu arall, os coelir hi a'i hysgolheigion, nid yw'r duwiol ond rhagrithiwr neu benbwl; nid yw'r llaryaidd ond llyfrgi; na'r sobr ond cerlyn; ac felly am bob camp arall. Gyrwch hon,' ebr ef, 'yn ei llawn drwsiad yno, mi a warantaf y twylla hi bawb, ac y dalla hi'r cynghoriaid, a'r milwyr, a'r holl swyddogion gwledig ac eglwysig, ac a'u tyn hwy yma yn fynteioedd chwap, â'r mwgwd[412] symmudliw ar eu llygaid.' Ac ar hyn yntau a eisteddodd.
Yna cododd Belsebub, diawl yr Anystyriaeth, ac â llais garw-gryf rhuadwy: 'Myfi,' ebr ef, 'yw tywysog mawr y Syndod; myfi a piau rhwystro i ddyn ystyried a chonsidrio[413] ei ystad; myfi yw penaeth y gwybed taer-ddrwg uffernol sy'n pensyfrdanu dynion, wrth eu cadw fyth a hefyd mewn rhyw ddwned[414] gwastadol yng nghylch eu meddiannau neu eu pleserau, heb adael iddynt, o'm bodd, fyth fynyd o hamdden i feddwl am eu ffyrdd na'u diwedd. Ni wiw i'r un o honoch ymgystadlu â mi am orchestion buddiol i deyrnas y tywyllwch. Canys beth yw tobacco, ond un o'm harfau gwaelafi, i ddwyn syndod i'r ymenydd? A pheth yw teyrnas Mammon, ond cainc o'm llywodraeth fawr i? Ie, pe dattodwn i y rhwymau sy genyf ar ddeiliaid Mammon a Balchder, ïe, ac ar ddeiliaid Asmodai, Belphegor, a Rhagrith, nid aroai ddyn fynyd hwy tan reolaeth un o honynt. Am hyny,' ebr ef, 'myfi a wnaf y gwaith, neu na sonied un o honoch chwi fyth.'
Yna cododd Luciffer fawr ei hun o'i gadair eirias, ac wedi troi wyneb hygar (neu hagr) o'r ddeutu: Chwi brif ysbrydion Hirnos, penaethiaid y ddichell ddiobaith,' ebr ef, 'er nad yw'r Fagddu fawr a gwylltoedd Distryw rwymedicach i neb am ei thrigolion, nag i'm breninol oruchelder fy hunan; canys myfi gynt, eisieu gallu tynu yr Hollalluog o'i feddiant, a dynais fyrddiwn o honoch chwi, fy angylion duon, gyda'm cynffon, i'r erchyllfa anesgor[415] hon; ac wedi, a dynais fyrddiwn o ddynion atoch, i gael rhan o'r byd sy yma; eto nid oes wad na wnaethoch chwithau eich rhan oll at gynnal a chynnyddu yr ymherodraeth fawr uffernol hon.'
Yna dechreuodd Luciffer eu hateb o un i un. 'Ac,' ebr ef, 'o un o godiad diweddar, ni wadaf fi na ddygaist ti, Cerberus, i ni lawer ysglyfaeth yn ynys y gelynion, o achos y tobacco, rhwng sy o dwyll yn ei gludo, yn ei gymmysgu, ac yn ei bwyso; ac y mae e'n ei ddenu i lymeitian cwrw; ac ereill i dyngu, rhegu, a gwenieithio i'w gael; ereill i ddywedyd celwydd i'w wadu; heb law yr afiechyd sy ynddo i amryw gyrff, a gormodedd yn niweidiol i bob corff, heb son am yr enaid. A pheth sy well, mae myrdd o dlodion, na chaem ni oni bai hyny mo'u cyffwrdd, yn soddi yma wrth roi pwys eu serch ar y tobeccyn, a gadael iddo eu meistroli, i dynu'r bara o safnau eu plant. Ac yn nesaf, fy mrawd Mammon, mae eich gallu chwi mor gyffredin a hysbys hefyd ar y ddaiar, a'i myned hi yn ddiareb, "Ceir pob peth am arian." A diammheu,' ebr ef, gan droi at Apolyon, 'fod fy anwyl ferch Balchder yn dra buddiol i ni; canys beth sy, nac a all ddrygu dyn fwy yn ei ystâd, ei gorff, a'i enaid, na'r 'piniwn balch ystyfnig hwnw a wna i ddyn wastraffu can-punt yn hytrach na phlygu i roi coron am heddwch. Mae hi yn eu cadw hwy mor warsyth, a'u golwg mor ddyfal ar uchel bethau, oni bo digrif eu gweled, wrth dremio ac ymgyrhaedd â'r awyr, yn syrthio chwap i eigion uffern. Chwithau Asmodai, mae yn gof genym oll eich gwasanaeth mawr chwi gynt; nid oes neb lewach am gadw ei garcharorion tan glo, na neb mor ddigerydd a chwi; nid oes ond chwerthin tipyn am ben cestyn anllad. Ond bu agos i ti â thrigo o newyn yno'r blynyddoedd drudion diweddar. Ond, fy mab Belphegor, penaeth pryfedog y Diogi, ni wnaeth neb ini fwy pleser na chwi; mawr iawn yw eich awdurdod ym mysg y boneddigion, a'r gwreng hefyd hyd at y cardotyn. Ac oni bai cywreindeb fy merch Rhagrith yn lliwio ac yn ymwisgo, pwy fyth a lyncai un o'n bachau ni? Ond wedi'r cwbl, oni bai ddyfal lewdid fy mrawd Bolsebub, yn cadw dynion mewn syndod anystyriol, ni thalech chwi oll ddraen. Weithian,' ebr ef, 'ail grynöwn y cwbl. Beth a delit ti, Cerberus, â'th fygyn[416] tramor, oni bai fod Mammon yn dy achlesu? Pa farsiandwr fyth a gyrehai dy ddeiliach, trwy gymmaint perygl o'r India, oni bai o ran Mammon? Ac ond o'i achos ef, pa frenin a'i derbyniai, yn enwedig i Brydain? a phwy, ond o ran Mammon, a'i cludai i bob cwr o'r deyrnas? Er hyny, beth a delit tithau, Mammon, heb Falchder i'th wastraffu ar dai teg, dillad gwychion, cyfreithiau afraid, gerddi, ameirch, perthynasau drudfawr, dysglau aml, bir[417]. a chwrw yn genllif, uwch law gallu a gradd y perchenog: canys ped arferid arian o fewn terfynau angen- rhaid, a gweddeidd-dra cymmesurol, pa les a wnai Mammon i ni? Felly ni theli dithau ddim heb Falchder. Ac ychydig a dalai Falchder heb Anlladrwydd; o blegid bastardiaid yw'r deiliaid amlaf a ffyrnicaf a fedd fy merch Balchder yn y byd. Chwithau, Asmodai, penaeth Anlladrwydd, beth a dalech oni bai Ddiogi a Seguryd? pa le caech letty noswaith? Nid oedd wiw i chwi ddysgwyl gan un gweithiwr nac astudiwr llafurus. Tithau, Belphegor y Diogi, pwy, gan gywilydd a gwarth, a'th groesawai fyth fynyd, oni bai Rhagrith, sy'n cuddio dy wrthuni tan enw afiechyd oddi mewn, neu fod yn bwrpaswr da, neu tan rith dibrisio golud, a'r cyffelyb. Hithau fy anwyl ferch Rhagrith, beth a dal neu a dalasai hi erioed, er cywreinied gwniadyddes, a glewed yw, oni bai eich help chwi, fy mrawd hynaf Belsebub, tywysog mawr y Pensyfrdandod: pe gadawai hwn lonydd a hamdden i bobl i ddwys ystyried natur pethau a'u gwahaniaeth, pa dro byddent yn ysbio tyllau yn nyblygion eurwisg Rhagrith, ac yn gweled y bachau trwy yr abwyd? Pa wr yn ei gof a holiai deganau a phleserau darfodedig, swrffedig,[418] ffol, a gwaradwyddus, a'u dewis o flaen heddwch cydwybod, a hyfrydwch tragywyddoldeb ogoneddus? Pwy a rusiai[419] oddef ei ferthyru am ei ffydd, tros awr neu ddiwrnod, neu ei gystuddio ddeugain neu drigain mlynedd, ped ystyriai fod ei gymmydogion yma yn dyoddef mewn awr fwy nag all ef oddef ar y ddaiar fyth? Nid yw tobacco yntau ddim heb Arian, nac Arian heb Falchder, na Balchder ond egwan heb Anlladrwydd, nac Anlladrwydd ddim heb Ddiogi, na Diogi heb Ragrith, na Rhagrith heb Anystyriaeth. Weithian,' ebr Luciffer, ac a gododd ei garnau cythreulig ar ei garnewinedd,[420] 'i draethu fy meddwl innau fy hunan; er däed y rhai hyn oll, mae genyf fi gyfaill sy well at yr elynes Prydain na'r cwbl.'
Yma gwelwn yr holl brif gythreuliaid â'u cegau tra erchyll yn egored ar Luciffer, i ddysgwyl beth bosibl a allai hwn fod; a minnau cyn rhyhwyred genyf glywed a hwythau.
'Un,' ebr Luciffer, 'y bûm i yn rhy hir heb ystyried ei haeddiant hi, fel dithau Satan gynt wrth demtio Iob yn troi'r tu hagr fel ffwl. Hon fy nghares yr wyf yn awr yn ei hordeinio yn rhaglaw ar holl achosion fy llywodraeth ddaiarol yn nesaf ataf fy hun; hi a elwir Hawddfyd: hon a ddamniodd fwy o ddynion na chwi i gyd; ac ychydig a dalech chwi oll hebddi hi; canys mewn rhyfel, neu berygl, neu newyn, neu glefyd, pwy a brisia mewn na thobacco, nac arian, na hoewdra balchder, nac a feiddia feddwl am groesawu nac anlladrwydd na diogi? Ac mae dynion yn y cyfyngoedd hyny yn rhy effro i gymmeryd eu pendifadu gan Ragrith nac Anystyriaeth chwaith; ni lefys[421] un o'r uffernol wybed y Syndod ddangos ei big ar un o'r ystormoedd hyn. Eithr Hawddfyd esmwythglyd yw eich mammaeth chwi oll: yn ei chysgod tawel, ac yn ei monwes hoewal[422] hi, y megir chwi oll, a phob pryfed uffernol ereill yn y Gydwybod, a ddaw i gnoi eu perchen yma byth heb orphwys. Tra bydder esmwyth, nid oes son ond am ryw ddigrifwch, gwleddoedd, bargenion, achan, ystorïau, newyddion, a'r cyffelyb; ni sonir am Dduw, oddi eithr mewn ofer lyfon a rhegfëydd; lle mae'r tlawd a'r claf, &c., a Duw yn ei eneu ac yn ei galon bob mynyd. Ewch chwithau eich saith yng nghynffon hon, a chedwch bawb yn ei hun a'i heddwch, mewn llwyddiant ac esmwythyd, a llawnder a diofalwch; ac yno cewch weled y tlawd gonest yn myned yn garl[423] trawsfalch anhywaith, pan gyntaf yr yfo o hudol gwpan Hawddfyd; cewch weled y llafurwr diwyd yn troi yn llefarwr diofal ysmala; a phob peth arall wrth eich bodd. O blegid Hawddfyd hyfryd yw cais a chariad pawb; hithau ni chlyw gynghor, nid ofna gerydd; os da, nid edwyn; os drwg, hi a'i meithrin. Hon yw'r brif brofedigaeth; y dyn a ymgadwo rhag ei swynion mwynion hi, gellwch daflu eich cap iddo; ffarwel i ni byth am gwmni hwnw. Hawddfyd, ynte, yw fy rhaglaw ddaiarol i; dilynwch hon i Brydain, ac ufuddhëwch iddi, megys i'n breninol oruchelder ni ein hunain.'
Ar hyn, gwyntiwyd y follt fawr, a tharawyd Luciffer a'i ben-cynghoriaid i sugnedd Uffern Eithaf; ac och fyth erwined oedd weled ceg Annwn yn ymagor i'w derbyn! Wel,' eb yr Angel, 'weithian ni a ddychwelwn: ond ni welaist ti eto ddim wrth y cwbl sydd o fewn cyffiniau Distryw; a phe gwelsit y cwbl, nid yw hyny eto ddim wrth sydd o drueni annhraethawl yn Annwn; canys nid yw bosibl bwrw amcan ar y byd sy'n Uffern Eithaf.' A chyda'r gair fe a'm cipiodd yr Eryr nefol fi i entrych y Fagddu felltigedig, ffordd nas gwelswn, lle ces o'r llys hyd holl ffurfafen y Distryw duboeth, a holl dir anghof, hyd at gaerau'r Ddinas Ddienydd, lawn olwg ar yr anfad anghenfil o Gawres y gwelswn ei thraed hi o'r blaen. 'Ac nis meddaf mo'r geiriau i ddadgan ei moddion hi: ond mi fedraf ddywedyd iti mai cawres dri-wynebog oedd hi: un wyneb tra ysgeler at y nefoedd, yn cyfarth, yn chwyrnu, ac yn chwydu ffieidd-dra melltigedig tuag at Brenin nefol: wyneb arall teg tua'r Ddaiar, i ddenu dynion i aros yn ei chysgod; a'r wyneb anaele arall at Annwn, i'w poeni byth bythoedd. Mae hi yn fwy na'r ddaiar oll, ac yn cynnyddu eto beunydd, ac yn gan erchyllach na holl uffern. Hi a barodd wneyd uffern, ac sy'n llenwi hi â thrigolion. Pe ceid hon o uffern, fe ai Annwn yn Baradwys: a phe ceid hi o'r ddaiar, fe ai'r byd bach yn nef; a phe cai hithau fyned i'r nef, hi a droai'r gwynfyd yn Uffern Eithaf! Nid oes dim yn y bydoedd oll (ond hon) nad Duw a'i gwnaeth. Hon yw mam y pedair Hudoles ddienydd; hon yw mam Angeu; a hon yw mam pob Drygioni a Thrueni; â chanddi grap ofnadwy ar bob dyn byw. Hi a elwir PECHOD. Y sawl a ddiango o'i bachau hi, gwyn ei fyd fyth,' eb yr Angel. Ar hyn fe ymadawodd; a chlywn ei adlais e'n dywedyd, 'Ysgrifena yr hyn a welaist; a'r sawl a'i darlleno yn ystyriol, ni fydd byth edifar ganddo.'
AR Y DÔN A ELWIR 'HEAVY HEART,' NEU TROM GALON.'
1. TROM yw'r galon, tramwy'r gwaelod, |
4. Trom yw'r galon, trwm y gwelir |
7. Trom yw'r galon tan un goflaid |
DIWEDD.
Nodiadau
[golygu]- ↑ 'Ellis Wynne' yr ysgrifenai ef ei enw, a Wynne yw y dull a arferir gan ei ddisgynyddion i lythyrenu eu cyfenw hyd heddyw: ond nid peth anghyffredin yng Nghymru, mwy nag mewn gwledydd ereill, yw gwneuthur, yn rhwysg amser, beth cyfnewid ar lythyraeth enwau poblogaidd. Y mae'r Cymry yn hoff nodedig o ddull anghymreig i ysgrifenu eu henwau.
- ↑ Gwedi cael o'r cofnod hwn ei ysgrifenu, gosododd y Parch. Ioan Wynn, Llandrillo, ffenestr liwiedig hardd yn Eglwys Llanfair, er cof am ei hendaid clodwiw.
- ↑ Y mae ei 'Hysbysiad' i'r argraffiad dan sylw, yr hwn a gynnwys ynddo rai pethau na wyddir mo honynt yn gyffredin, wedi ei adargraffu yn gyflawn yn y Gwyliedydd, x. 275, ac yn y Traethodydd, vii. 322.
- ↑ Francisco Gomez de Quevedo y Villegas a anwyd ym Madrid, yn yr Yspaen, yn 1580, ac a fu farw nid neppell o'r ddinas hono, yn 1645, yn 65 mlwydd oed. Ymddangosodd ei Sueños, neu Weledigaethau, y tro cyntaf, ym Madrid yn 1649; cyfieithwyd hwynt i'r Seisoneg gan Syr Roger L'Estrange yn 1668; ymddangosodd cyfieithad newydd gan Pineda yn 1734; ac un arall yn 1798. Cyfieithwyd hwynt hefyd i'r rhan fwyaf o ieithoedd ereili Ewrop. Yr un modd â'n cydwladwr ninnau, yr oedd Cwevedo yn brydydd yn gystal ag yn ysgrifenwr rhyddiaith.
- ↑ Yn 1860 ymddangosodd cyfieithad o hono i'r Seisoneg gan Mr. Geo. Borrow. Y mae hwn yn gyfieithad gweddol dda, ag ystyried mai Sais cynnwynol a'i gwnaeth; er bod cyfieithydd mewn rhai manau wedi camddeall meddwl yr awdwr yn hollol. Ymddengys ei fod wedi cyfieithu o argraffiad pur anghywir. Yn ei Ragymadrodd dywed wrthym mai brodor o Swydd Dinbych oedd Elis Wynn, ac nas gwyddys braidd ddim ychwanego hanes ei fywyd!
- ↑ Gwaith y Parch. W. Jones, Periglor Llanenddwyn, Meirion. (Rhuthyn, 1853, 8plyg.)
- ↑ Cymharer yr Awdlau i Dduw, o waith Gruffydd ab yr Ynad Coch, yn y Myvyrian Archaiology, i. 400, 516; ac hefyd ranau o'r Marchog Crwydrad (Tremadog, 1864, 8plyg).
- ↑ 'I helpu'n golwg,' argraffiad 1703.
- ↑ Hyd nes, hyd onid.
- ↑ Llad, cursus; Seis. course: hynt, helynt, ystod, gyrfa, chwyl. Arferir y gair mor fore o leiaf ag amser Dafydd ab Gwilym
- ↑ Seis, travel: teithio, ymdeithio, trafaelu
- ↑ Fancy: dychymmyg, asbri, crebwyll. Na fydd megys llew yn dy dŷ, yn curo dy weision wrth dy fansi. Eccl. iv. 30
- ↑ Llad. corpus: corff, corffyn. Gwel D. ab Gwilym, cvi. 43
- ↑ Cad Gamlan=tyrfa fawr wedi myned blith draphlith â'u gilydd: neu yn gwau drwy eu gilydd, heb drefn na dosbarth. Ymadrodd diarebol ydyw, wedi ei fenthyciaw oddi wrth y gad a ymladdwyd rhwng Arthur a Medrod, ar lan yr afon Camlan, ar gyffiniau Dyfnaint, o gylch y flwyddyn 542. Cyfeiria'r beirdd yn aml at y frwydr drychinebus hon.
- Llawer llef druan, fal ban fu’r Gamlan.—Gr. ab yr Ynad Coch.
- Lliw tân y Gad Gamlan gynt.—D. ab Gwilym.
- ↑ Gipsies: llygriad, fel y bernir, o Egyptians, am y tybid gynt eu dyfod o'r Aipht, yr hon oedd enwog yn y cynoesoedd am ei dewiniaid a'i hudolion. Gwel Ecs, vii, viii. Ond credir yn awr yn gyffredin mai Hindwstan yw bro gynhenid y gwibiaidi hyn. Brython, i. 51
- ↑ Mymryn, gronyn, y dim lleiaf
- ↑ Hundred: cantref, cwmmwd; cyfundeb: yma, dwndwr, cynhwrf, ffwndwr. Peidiodd y dadwrdd.
- ↑ Gygu, talgrychu, gwneuthur cuwch, edrych yn ddigllawn
- ↑ Gogan, gogangerdd, casgerdd, goganair, cerdd ogan
- ↑ Witches: dewinesau, rheibwragedd, swynwragedd
- ↑ Caerlleon ar Ddyfrdwy, a elwir hefyd Caerlleon Gawr
- ↑ Pellenig; diarffordd. Longinquus, longè distans.'— Dr. Davies.
- ↑ Yr oedd yn adwaen yr wynebau; ond wynebau pobl wedi eu claddu oeddynt
- ↑ Rheini, yma, ac yn gyffredin, yn argraffiad 1703.
- ↑ Oed, oediad, seibiant, hamdden; amser i betruso neu oedi.
- ↑ Cuch, gwg, cilwg, golwg guchiog, edrychiad digllawn.
- ↑ Crafangau, bachau, ysbagau
- ↑ Neu, annwn=y pwll diwaelod, uffern eithaf, uffern
- ↑ Ael, ymyl, cilffed
- ↑ Gorchudd, llen gudd, mwgwd
- ↑ Yrwan, yma, ac yn y rhan fwyaf o fanau ereill, yw llythyraeth argraffiad 1703.
- ↑ Rhyfeddol, i'w ryfeddu, nodedig; anferthol; dros ben
- ↑ Iwl Caisar, ymharawdwr cyntaf Rhufain
- ↑ 'Lewis o Ffrainc,' y pedwerydd ar ddeg o'r enw, yr hwn oedd y pryd hyn yn fyw, ac yn dwyn mawr rwysg. Bu farw yn 1715, yn 77 mlwydd oed, wedi teyrnasu 72 o flynyddoedd
- ↑ Gofyniad, holiad
- ↑ 'Petwn'=pe bawn, pe byddwn. Gwel Act. xxviii. 19; Col. ii. 20.
- ↑ 'Rhain,' yn y lle hwn, ac yn gyffredin drwy'r gwaith, a geir yn argraffiad 1703
- ↑ Neu, anesgor=anfeddyginiaethol, anwelladwy, difeddyg, anaele
- ↑ Physic: meddyginiaeth
- ↑ Cyfogi, chwydu, gloesi
- ↑ Gosgorddwisg, nodwisg, gwisg: Seis. livery
- Yn adail serch im' ydoedd,
- Un lifrai â Mai im' oedd.—D. ab Gwilym.
- Dewr loew-fryd mewn dur lifrai.— Iolo Goch
- ↑ 'Bedlam' (oddi wrth Bethlehem, crefydd-dy o'r enw yn Llundain, yr hwn a droed wedi hyny yn yspytty gwallgofiaid)=gwallgofdy, gorphwyllfa; ty gwallgotiaid neu loerigion.
- ↑ Dinas â dienydd neu ddinystr yn ei haros; dinas distryw
- ↑ Darbwyllo, ymlewydd, cynghori
- ↑ Rhagrith. Wedi i'r tair hyn [Balchder, Elw, a Phleser] fyned â'u carcharorion i'r llys i dderbyn eu barn, dyma Ragrith, yn olaf oll, yn arwain cadfa luosocach na'r un o'r lleill.'— Gweledigaeth Uffern. Yn nes ym mlaen (t. 33) gelwir Rhagrith yn ail ferch Belial
- ↑ Ar brydiau, ar droion; yn awr a phryd arall: un. cwrs.
- ↑ Symmudant
- ↑ Niwl neu darth tew; caddug, tawch
- ↑ Adfeilion adeilad, adail gandryll, hen adail ar adfail
- ↑ Frame: ystram, attegwydd, cynnalwydd
- ↑ Maelfa, gwerthfa
- ↑ Mannwyddwr, crachwerthwr, crachnwyddwr, marchiatäwr treigl; gwerthwr mân bethau ar hyd y wlad
- ↑ 'Ysgowl'=scold:cecren, hellgre, benyw gecrus, gwraig anynad
- ↑ Yn cerdded yn goegfalch neu uchelsyth; ymdeith-wastad. Gwel Esa. iii, 16.
- ↑ Henadur, henuriad dinesig
- ↑ Y gymmalwst
- ↑ Sef y Palatinus, y Capitolinus, yr Aventinus, y Ianiculus, y Quirinalis, y Caelius, a'r Esquinalis. Septicollis arx.—Prudentius
- ↑ Caer Cystenyn, Constantinopl, prif ddinas Twrci
- ↑ Hanner lleuad, neu gilgant, yw yr arwydd ar luman y Tyrciaid
- ↑ Fflour de lis,' neu fleur de lis, sef y gammined, yw y blodeuyn a ddygir ym mhais arfau Ffrainc.
- ↑ Sylwi, syllu, edrych, craffu
- ↑ Y mae Dr. Puw, yn ei ddyfyniad o'r lle hwn, yn darllen, 'llawer achaws twyll', ac yn ei gyfieithu yn unol â hyny; ond nid oes neb o'r argraffiadau yn cyfreithloni'r fath ddarlleniad. Peth rhy gyffredin gan y Doethor oedd cyfnewid gwaith awdwyr y dyfynai o honynt.
- ↑ Emperors: ymherawdwyr, ymherodron.
- ↑ Scwtsiwn'=escutcheon: y maes yr arddangosir arfau bonedd arno; arflen, maes arfau, pais arfau.
- ↑ Yn briodol, ffoaduriaid, gwilliaid; ond yma golygir arwyr, gwroniaid, campwyr, neu ryswyr; o blegid nis geill rhai ar herw, na rhai yn anrheithio, nac ychwaith rai yn rhoddi her, gytuno ag ystyr y lle hwn; ac ni buasai naturiol cyflëu y cyfryw yn Ystrŷd Balchder. 'A'r rhai hyn,' ebr ef, 'y bu'r herwyr yn ymladd am y feinwen.'— Gweledigaeth Angeu.
- Hiraeth dan fron ei herwr.—D. ab Gwilym.
- ↑ Chwareuwyr pel
- ↑ Trigolion Gwenethia neu Venis, yn yr Ital.
- ↑ Ceidwaid coedwigoedd, coedwigwyr
- ↑ Tir cyd, cyttir; maes cyffredin i droi anifeiliaid iddo
- ↑ 3 Ynadon, yngnaid
- ↑ Bribers: cel-obrwyr, gwobrwywyr
- ↑ Hil, hiliogaeth, llinys
- ↑ Apothecaries: darparwfi a gwerthwyr cyfferi meddygol
- ↑ Rhai a roddant arian ar log neu usuriaeth; ocrwyr
- ↑ Trafnidwyr, marchnatwyr, ennillwyr
- ↑ Sharpers: gwŷr twyll a chribddail
- ↑ Stewards: goruchwylwyr.
- ↑ Or Seis. clipper, tebygol; sef y rhai a dociant ymylau arian bath. Nid ymddengys fod clipan (=cardotyn haerllug) yn dwyn perthynas â'r gair.Ceir clipiwr yng ngwaith Madog Dwygraig, cylch 1350
- ↑ Yn yr hen amseroedd, gosodid carn neu garnedd o geryg ar feddau rhyfelwyr a gwroniaid enwog; ac ystyrid hwn yn ddull anrhydeddus o gladdu, fel y mae yn eglur oddi wrth y dyfyniad canlynol:
Y mynydd hagen, y bu y frwydr ynddo, a eilw ciwdawd y wlad y Mynydd Carn; sef yw hyny, Mynydd y Garnedd; canys yno y mae dirfawr garnedd o fain, o dan yr hon y claddwyd rhyswr yng nghynoesoedd gynt.'—Buchedd Gr. ab Cynan
Ond pan ddechreuwyd claddu mewn mynwentydd, a lleoedd cyssegredig, syrthiodd y garn i anarfer, ac felly i anfri; ac ni chleddid neb ond drygweithredwyr yn y dull hwnw. Oddi wrth hyn daeth 'carn ar dy wyneb,' i fod yn ogyfystyr ag ‘yng nghrog y bột ti,' neu ryw ymadrodd cyffelyb. Gan hyny, arwydda carn lleidr, carn fradwr, carn butain, &c., y rhai gwaethaf neu hynotaf o'r nodweddiadau hyny; neu y cyfryw ag a haeddent gael carn ar eu gwyneb. Gweler Geiriadur Cymraeg y Dr. Owain Puw dan y gair Carn. - ↑ 'Grydwst'=twrdd, dadwrdd, trwst, swn, grymial.
- ↑ Fray: ffrwgwd, ymrysor, ymrafael.
- ↑ Election: etholiad
- ↑ Bills: dyledion, ysgrifau am ddyled
- ↑ Bonds: ysgrifrwymau, machysgrifau, llythyrau ymrwym
- ↑ Knave: dyhiryn, diffeithwr, dyn cas, nebwr
- ↑ Ysbeilwyr, ysglyfwyr, ysgyfaethwyr
- ↑ Gorchfygwr, buddugwr, goresgynwr
- ↑ Mân ddarnau, mân ddrylliau, tameidiau, llarpiau, darnau, ciniach
- ↑ Hobaid=mesur, mewn rhai lleoedd o dri, ac mewn ereill o bedwar pwysel; ar arfer gyffredin yng Ngwynedd a Phowys.
- ↑ Quill: plufen, plufyn; ysgrifell
- ↑ Ymwared, gwared, meddyginiaeth , gallu i rwymo neu attal: Seis. remedy; Llydaweg, remet.
- Ymadael heb rwymedy;
- A thost ymadael â thir!—Wiliam Lleyn.
- ↑ Porthmon, ffeiriwr; hudleidr, lleidr penffair; jobber, jockey; swindler
- ↑ Methiant'=methiannus, methiantus. 'Ei gaethwas ef sy fethiant.'—E. Prys (Salm lxix. 33)
- ↑ Ysgyfarnog
- ↑ 'Interlud,' neu interlude, yn briodol a ddynoda ddifyrwch rhwng dau chwareu; chwareu cyfrwng: ond yma golyga chwareu dynwaredol ar fesur cerdd, cyffelyb i rai Thomas Edwards (Twm o'r Nant).
- ↑ 'Siwglaeth'=jugglery, juggling: hud a lledrith, hudoliaeth, castiau hudol, cynnildeb llaw, chwidogaeth.
- ↑ Tabler' (o'r Llad. tabula)=clawr yr wyddbwyll; bwrdd y chwareu a elwir yn Seisoneg chess.
- ↑ Sisial, sibrwd, husting; ond yma, tebygol, golygir cymmysgu y cardiau=to shuffle the cards.
- ↑ Gloddesta, wttresu, glythu
- ↑ Neu, brytheirio=cyfogi, ysgyfogi, chwydu, bwrw allan. 'Bytheiriant â'u geneu.' Salm ix. 7.
- ↑ 'Archfa' (ar chwa)=archwa, arogl, sawyr, sawr, gwynt. 'Archfa' sy lygriad o archwa
- ↑ Cythrwfi, terfysg, ymdrafael, ymdrafod, trafferth, dyfysgi
- ↑ Cwpanau, gorflychau
- ↑ Tincerdd, tincof, gof y dinc.
- ↑ Terfysg, ymrafael, ymryson
- ↑ Meddw, brwysg
- ↑ Neu, Cupid=duw cariad, yn ol chwedlau y beirdd Cenedlig
- ↑ Ysgwâr, petryalai, lluniodr; offeryn i wneyd peth yn ysgwâr neu betryal
- A'i linyn yw'r gog lonydd,
- A'i sgwîr yw cos y gwŷdd.—D. ab Gwilym
- ↑ Neu, parlawr; ymddyddanfa.
Ein parlwr glas cwmpasawg
Aeth yn fwth rhy rwth yr hawg.—D. ab Gwilym - ↑ Lluniau, ffurfiau, munudiau.
- ↑ Tawlbwrdd,' neu tawlfwrdd=y chwareu a elwir yn Seisoneg draughts, neu backgammon. Ffristial'=chwareu yn cyfateb i dice y Seison. Chwareu gwyddbwyll, chwareu tawlbwrdd, chwareu ffristial, a chyweirio telyn, oedd y pedair gogamp yn 24 Camp Cymru yn yr oesoedd gynt.
- ↑ 'Gwallio'=cael gwall ar; gyru ar wall neu ar gyfeiliorn; maglu, rhwydo; dallu. Mae y Dr. Puw (yn ei Eiriadur, d. g. Diymanerch), ac hefyd argraffiad 1811, a'r holl argraffiadau diweddarach, yn darllen dallasai;' ond gwalliasai, neu, yn ol yr arddygraff arferedig y pryd hwnw, 'gwalliasei,' sydd yn argraffiad yr awdwr ei hun, ac ym mhob un arall a ymddangosodd yn ystod y ganrif ddiweddaf, ond un 1767.
Chwi rai glân o bryd a gwedd,
Sy'n gwallio gorseddfeinciau, &c.—Cerdd Gweledigaeth Angeu. - ↑ Yn ddioed, yn ddiymaros; heb gymmeryd amser i siarad; yn ddiddefod
- ↑ Cydblethedig, cydwenedig; wedi eu cydwau neu gydblethu
- ↑ Cynhebrwng, angladd, claddedigaeth
- ↑ 'Widw,' arg. 1703
- ↑ Meddiannau, moddion, da
- ↑ Ewyllys, ewyllys diweddaf
- ↑ 'Mewn ystầd '=mewn rhwysg; mewn rhwysg a rhodres; yn rhwysgfawr
- ↑ 'Ffafrau'=arwyddion, neu gofroddion priodas.
- ↑ 'Cotyn' (o cod)=codog: lluos. Cotiaid
- ↑ 'Cyff cler'=un â phawb yn ei oganu, neu yn chwerthin am ei ben; cyff gwawd, gwatwargyff, nod y gwatwar.
Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
A'th doi â gwrid a gwradwydd;
Od wyt gyff cler a bustl i'r byd,
Fe'th gyfyd i fodlonrwydd.—Gronwy Owain - ↑ 'Cot' (o cod)=codog, cotyn; cybydd
- ↑ Gwisgodd, hwyliodd, taclodd, trwsiodd
- ↑ Myntumiodd, cynnaliodd, cadwodd
- ↑ Crynwyr, y Cyfeillion.
- ↑ Opinion: tyb, daliad, ymddaliad, mympwy.
- ↑ Spectacles: yspeithell, gwydr golwg.
- ↑ Y Mahometiaid, a'r rhan fwyaf o'r Dwyreiniaid, a addolant yn droednoeth, gan adael eu hesgidiau oddi allan wrth ddrws y deml.
- ↑ 'Alcoran,' neu y Coran, yw Beibl y Mahometiaid. Cyfansoddwyd ef gan eu prophwyd yn y seithfed ganrif.
- ↑ Pilen, croenen, gorchudd teneu. Gwel 2 Cor. iii. 14, 15.
- ↑ Pabyddion, Eglwys Rhufain.
- ↑ Caniatäu, goddef
- ↑ Heretic' (Gr. αιρετικός) = camgredwr, geugredwr, geulithiwr, geuffyddiwr, cyfeiliornwr. 'Est vox antiquis usitata.'—Dr. Davies.
- ↑ Neu, maden=cecren: llances haerllug, eithaf llances
- ↑ Rhincian dannedd, noethi dannedd; chwyrnu
- ↑ Hen ddiareb. Gwel y Myvyrian Archaiology, iii. 182
- ↑ Darn neu ddryll o aur
- ↑ Dynyn, dyn gwael: ll. dynionach
- ↑ Jail: carchar, geol
- ↑ 'Syre'=syr, gyda dirmyg; yr un fath a sirrah yn y Seisoneg
- ↑ Rhugl-drystio; chwithrwd; clecian; cadw swn
- ↑ Carpet: llorlen
- ↑ Gwaedgi, costawcci.
- ↑ Wire: gwifr, edaf fetel
- ↑ Fel y mae gwaethaf y modd; ysgwaetheroedd, gwaetheroedd
- ↑ Dyhewyd, duwiolswydd
- ↑ Dyhewyd, duwiolswydd
- ↑ Diareb Gymreig
- ↑ Roundhead: pengrwn, pengryniad (ll. pengryniaid): enw a roddid gynt i'r Coethynion neu yr Anghydffurfwyr, oddi wrth eu harfer, meddir, o dori eu gwallt yn grwn ac yn gwta
- ↑ Y mae'r gyfraith hon wedi ei diddymu
- ↑ Crefu, ymbil, deisyf
- ↑ Corgi, un taiog
- ↑ Yn egnïol, yn galonog, yn wrol
- ↑ Cyfnewidiad, tebygol, o poethwal. Y mae poethwal yn air cyffredin yn Lleyn, a manau ereill o Wynedd; a'i ystyr yw, goddaith a roir mewn eithin, grug, neu'r cyffelyb; eithin neu rug a losgir ar eu traed. Y mae hyn yn debycach na'i fod yn dalfyriad o poeth ufel, neu ufel poeth, fel y tybia rhai. 'Ym mhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfëydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.'—Gweledigaeth Uffern
- ↑ Tanwydd
- ↑ Chwaith yn hir,' argraffiadau diweddar
- ↑ Troop: haid, myntai, gyr, twr, bagad
- ↑ Periwigs: penguwchau, ffugwallt
- ↑ 'At,' arg. 1703; 'ar,' amryw ereill
- ↑ Un yn arfer cadw cwest neu reithfarn ar ei gymmydogion; un yn barnu ar bobl ereill; chwiliwr am wallau. Questman neu qaestnonger y gelwid gynt un a gychwynai erlyniadau cyfreithiol; ac y mae dywedyd bod dyn yn cwesta ar hwn a'r llall, yn ymadrodd cyffredin yn Nyfed.
- ↑ Taclau, celfi, pethach
- ↑ Crythor, ffilor
- ↑ Crwth, ofîeryn cerdd dannau
- ↑ Pensyfrdanu, penwanu, penddaru, syfrdanu
- ↑ Y Sultan, neu ymherawdwr y Tyrciaid.
- ↑ Ymherodraeth y Mogul y gelwid yr ymherodraeth hòno a sylfaenwyd yn Hindwstan, gan Baber, un o olynwyr Timwr neu Tamerlan, yn yr 16fed ganrif. Yr olaf a ddug yr enw hwn ydoedd Shah Alwm; a chyda'i farwolaeth ef, yn 1806, y terfynodd yinherodraeth y Mogul Mawr.
- ↑ Y gwledydd sy'n terfynu ar y Môr Baltig, megys Denmarc, Sweden, &c.; gogledd Ewrop: Scandinavia.
- ↑ Yn briodol, yr Almaeniaid, trigolion yr Almaen, neu Sermania; ond yma, arferir y gair am yr Almaen, neu wlad yr Ellmyn; a defnyddir ef yn yr un ystyr yng Ngweledigaeth Uffern.
- ↑ Caniatâd, cenad, goddefiad.
- ↑ Yr hyn a elwir transept gan adeilyddion Seisonig. Yn yr ystyr hwn, arferir y gair, fel y gwneir yma, yn yr ystlen wrywol.
- ↑ Tan ei theyrnasiad hi, yr hwn a dlechreuodd Mawrth 8, 1702, ac a derfynodd Awst 12, 1714, y cyhoeddai yr awdwr y gwaith hwn.
- ↑ Deddflyfr, llyfr cyfraith.
- ↑ Claim: honi hawl, arddelwi, honi.
- ↑ Crynwyr, y Cyfeillion.
- ↑ Yr Ymneillduwyr Gwel t. 38.
- ↑ Cyfeiriad at ddienyddiad y Brenin Carl 1.
- ↑ 'Rwd'=Seis. rood: chwarter erw, pedwaran o dir. 'Rwyd' yw darlleniad agos yr holl argraffiadau, ond y cyntaf (1703), un y Mwythig, 1774, ac un Caerfyrddin, 1767.
- ↑ Ymwisgo, gwisgo ei arfau, ymarfogi.
- ↑ Diffyg (ar yr haul neu'r lleuad).
- ↑ Prologue: rhagaraeth, rhaglith, rhagymadrodd.
- ↑ Clement XI. a eisteddai y pryd hwn yng nghadair Pedr.
- ↑ Lewis XIV.
- ↑ Y Rhwssiaid, hen drigolion Rhwssia.
- ↑ Brwydr, cad, rhyfel, ymladdfa, gwaith
- ↑ Wrth ymladd yn erbyn ymherodraeth yr Almaen, Holand, a Lloegr Yr oedd Lewis yn bleidiwr wresog i Iago II; ac ymdrechodd lawer i'w adsefydlu ef ar orsedd Prydain.
- ↑ Y Sultan Mwstaffa II, mab Mohammed IV, a ddechreuodd deyrnasu yn 1695, ac a ddiorseddwyd yn 1703.
- ↑ Cyflawn, llwyr, cyflwyr, hollol
- ↑ Llawr, y llawr. Y mae y gair ar gyffredin arfer yng Ngwent a Morganwg, ac mewn rhai parthau o Wynedd. Defnyddir parth weithiau yn yr un ystyr.
- ↑ 'A wyddai ddyn'=a wyddai dyn
- ↑ Gwyddanes, gwyddones, neu gwyddan (o gwŷdd), yn briodol a ddynoda un yn meddu ar wŷdd neu wybodaeth; un wybodus; ond yn gyffredin, arferir y gair, megys yn y lle hwn, mewn ystyr drwg, am un wybodus neu hyddysg yn y gelfyddyd ddu; dewines, swynwraig, gwrach, gwyll, ellŷlles. Yn yr ystyr hwn, gwiddan, gwiddon, gwiddanes, yw y dull cywiraf i ysgrifenu'r geiriau. Gwyddanes (=duwies y coed) a ddaw o'r gwreiddyn gwŷdd (=coed)
- ↑ Ymddengys fod y gair hwn wedi peri peth dyryswch i gyhooddwyr argraffiadau blaenorol; canys darllen rhai 'ail,' ereill "sail,' ac ercill 'ael'. Ond diau mai aisle (=asgell neu ystlys adeilad) a olygir; ac os llythyrenir ef eil, arddengys sain y gair Seisoneg yn well, a bydd lai agored i gael ei gamddeall na phed ysgrifenid ef ail neu ael, er mai y blaenaf yw y ffurf a geir yn argraffiad yr awdwr ei hun.
- ↑ 'Llawnwyn' (o llawn, a gwyn, hyfryd, dymunol; hyfrydwch)=llawn a hyfryd; llawn hyfrydwch. Llownwyn' yw llythyreriad arg. 1703 a 1774; 'llownwyd yw darlleniad dau argraffiad Durston, ac un 1768, yr hwn, wedi ei newid i 'llanwyd,' a ddilynwyd gan yr holl argraffiadau diweddar, ond un Caernarfon, yr hwn a'i trodd i 'llonwyn,' 'Llanwyd' yw darlleniad y Dr. Puw, yr hwn (d. g Perllanawg) a gyfieitha y lle fel hyn: 'Every part of the structure, on a region abounding with orchards, was filled, without producing any thing but weeds and reeds."
Ond gan fod llawnwyn' yn dygymmod yn llawn cystal a 'llanwyd' ag ystyr y lle, ac yn llawer gwell a'r mydr a'r cyfodliad, nid ymddengys un rheswm pa ham y dylid ymadael â darlleniad yr awdwr, fel ei gwelir yn yr argraffiad cyntaf. - ↑ Os yw 'cleimiau claer' (o'r Seis. claim) yn ddarlleniad cywir, nid yw yr ymadrodd amgen na geiriau llanw, i helpu'r mesur a'r gynghanedd. Buasai clemiau claer yn rhoddi rhyw fath o ystyr.
- ↑ Dadlaith, dadleithio, ymddattod, meiriol.
- ↑ 'Yn ty'=yn y ty: yr un fath ag 'yn tân, yn y Beibl Cymraeg, yn lle yn y tân, mewn tân, neu i'r tân.
- ↑ Cyfan, cryno, cyflawn, perffaith
- ↑ Enw cyffredin ar yr Haul gan brydyddion Groeg a Rhufain: yr un ag Apolo.
- ↑ Plasdy, yn sefyll yng ngeneu neu agorfa glyn coedog, o ddeutu 3 milltir o dref Harlech, ar ffordd Maentwrog. Tua hanner y ffordd rhwng Glyn Cywarch a Harlech, y mae'r Lasynys, treftadaeth a phreswylfod awdwr y Bardd Cwsg.
- ↑ Cymharer yr ail a dechreu'r bedwaredd o Weledigaethau Cweredo
- ↑ Gwel y sylw ar Gwyddanes, t. 48, n. 4.
- ↑ Hunlle, arg. 1703 ac ereill.
- ↑ Trwm ei guwch; trwm a chuchiog; gygus nen sarig yr olwg arno.
- ↑ Siarad fel dyn gwallgof neu orphwyllog; bod allan o bwyll; ynfydu, gwallgofi.
- ↑ Uchenaid, griddfan, wban, gwaedd, drygnad.
- ↑ Uchenaid, griddfan, wban, gwaedd, drygnad.
- ↑ Yn annhrefnus, mewn annhrefn; blith draphlith; yn gymmysg.
- ↑ 'Trynciau'=trunks: cistiau, blychau, coffrau.
- ↑ Hwsmyn tafod'=dynion tafodiog, siaradus, neu chwedlengar; rhai a fyddont byth a hefyd yn siarad am faterion a negesau pobl ereill; ofersiaradwyr, gwagsiaradwyr, baldorddwyr. Presently after these appeared a consort of loud and tedious talkers, that tired and deafened the company with their shrill and restless gaggle.—L'Estrange's Visions of Quevedo, 10th Edit. p. 29.
- ↑ Dychymmygair, neu air gwneuthur, wedi ei ffurfio er dynwared llais crynedig dyn pan fo ar fferu gan annwyd. Dychymmygair, yn ol Henri Perri, yw, pan fo yr areithiwr yn dychymmyg enw i ryw beth wrth ddynwared sain y peth y bo, drwy gyffelybrwydd, yn ei arwyddocäu. Egluryn Ffracthineb, t. 24, arg. 1807.) Felly Wiliam Lleyn, i fen:—
Wich wach, yn ol chwech ychain
A Dafydd ab Gwilym, i'r biogen:—Cric crec, ni'm dawr pe crocid.
A thrachefn, i ddynwared un yn yfed:—Cue cue yn yfed sucan.
Yr un modd, Rhys Cain, i'r gwyddau:—Cywion ar dor afon deg,
Crygion, yn crio wegeg.Βρεκεκεκέξ kόαξ kόαξ
- ↑ Nay, many times they are stript, ere they are laid, and destroyed for want of clothes to keep them warm.—Estrange's Visions of Quevedo, p. 41.
- ↑ 'Mwrdrwyr'=murderers: llofruddion, murnwyr.
- ↑ Music—cerddoriaeth, peroriaeth, alaw.
Mwyna' cerdd ym min gwerddon
Ym mysg llu'n gwau minsig llon.
::—D. ab Gwilym. - ↑ 'Sciabas' (arg. 1703)=siabas. Siabas deganau=teganau diwerth, gwael, oferwag, neu ddiddefnydd; pethau bychain diles; ffrilion; sothach.
Cnau, ac eirin, a phob siabas,
Afalau, rhwnyn, a rhai crabas.
—Huw Morus. - ↑ Gwel t. 26.
- ↑ Tan na welwn=hyd oni welwn; nes y gwelwn.
- ↑ Sef, dyn o'r byd, dyn daiarol.
- ↑ Sonir yn gyffredin am ddau o'r enw Merddyn neu Myrddin; sef, Myrddin Emrys a Myrddyn ab Morfryn, yr hwn a elwir hefyd Myrddin Wyllt; ond y mae yn gryn debygol mai yr un oeddynt, er yr honir i'r naill flodeuo yng nghylch can mlynedd o flaen y llall. Cyfrifir yn gyffredin fod Myrddin Emrys yn byw tua chanol y bummed, a Myrddin Wyllt o ddeutu canol y chweched ganrif o gyfrif Cred. Ystyrir Myrddin yn ddewin a phrophwyd nodedig yn ei ddydd; ac y mae llawer o chwedlau am dano, ac o brophwydoliaethau yn cael eu tadogi arno, yng Nghymru hyd heddyw. Gweler y Brutiau Cymreig (Myvyrian Archaiology, ii.), a Drych o Prif Oesoedd (arg. Caerfyrddin, 1863, t. 102, 103.) Cynnwysa yr unrhyw Frutiau lawer o chwedlau dyddorol ond disail am Brutus ab Silvius ab Ascanius ab Eneas Ysgwyddwyn, a'i helyntion a'i anturiaethau yn yr Ital, yng ngwlad Groeg, yug Ngal, ac yn Ynys Prydain.
- ↑ Neu, efydden=padell efydd; pair.
- ↑ Dychymmygeiriau, oddi wrth swn pair yn berwi. Gwel t. 53, n. 2.
- ↑ Neu, difregawd=gofyniad neu holiad dychymmygol; ymadrodd â dirgelwch ynddo; prydyddiaeth ddammegol; dychymmyg, gorchan.
- ↑ Y fad neu fall felen y gelwir yr haint y bu Maelgwn Gwynedd, brenin y Brython yn y chweched ganrif, farw o honi.
"Tair haint echrys Ynys Prydain —Ail, Haint y fad felen o Ros; ac achos celaneddau y lladdedigion y bu hono; ac od elai neb o fewn eu gwynt, cwympo yn farw yn ddioed a wnelai.'—Trioedd (Myv.Arch. ii. 59).
'Ac mewn eglwys yn ymyl Dyganwy y bu [Maelgwn Gwynedd] farw, pan weles y fad felen drwy dwll dor yr eglwys.'—Brut Gr. ab Arthur. - ↑ Glan y môr, traeth, traethell, tywyn.
- ↑ Buasai Taliesin yn un o wyr llys Urien Rheged, Gwyddno Garanhiir, a'r Brenin Arthur
- ↑ Neu, dyrif cerdd tôn a goslef; canu ar fesur rhydd; cân rydd. Mesur cyn cof yw dyri-Barddas.
- ↑ 'Twrneiod'=attorneys: cyfreithwyr, dirprwywyr cyfreithiol.
- ↑ 'Clarcod'=clerks: ysgrifenyddion, ysgrifweision.
- ↑ 'Swbach'=peth wedi ymwasgu neu ymgrynoi yng nghyd; a fo yn swp neu grynswth; sypyn, sybwrn; sypyn o ddyn; cleb, cleirchyn, sybidyn, cor, corach.
- ↑ Cenadwri rhwng cariadau; negesiaeth yn achos cariad.
- ↑ Porthladd, porthfa.
- ↑ Friend: cyfaill.
- ↑ Ystorïau, hanesion; daroganan
- ↑ 'Ar eu cyfyl'= yn agos atynt.
- ↑ Cymharer hanes y llys hwn â'r darluniad o Garchar Oeth ac Anoeth, yn Ysgriflyfrau Iolo, t. 185-7.
- ↑ Phlegm: llysnafedd, cornboer.
- ↑ 'Crëu'=crawcio; crefu; erfyn.
- ↑ Yma, safn, ceg.
- ↑ Yn briodol bad, cwch, neu ysgraff; ond yma, ceudod, crul, bol.
- ↑ 'Rhoi dyfyn'=gwysio, rhoi gwys, rhybuddio, galw ger bron.
- ↑ Barnu, dyfarnu, dedfrydu.
- ↑ 'Del'=caled, anhyblyg, anhydyn: hefyd, pert, gwych, tlws, dillyn.
Ni bu haid, ddiawliaid! ddelach eu gwahodd,
Ni bu ieir un fodd, na brain feddwach.
——L. G. Cothi, V. vi. 51.
Gwr du i daflu gair del.—T. Prys. - ↑ Ystofi; gosod edafedd yn y gwydd
- ↑ Lwcusach' (o'r Seis, lucky)=ffodusach, mwy ffodiog
- ↑ Rhwbio neu rwtio (ar y tannau)
- ↑ 'Diadlam' (o di, ad, a llam)=nas gellir llamu, neidio, neu fyned yn ol ar hyd-ddi wedi yr eler unwaith drosti; diwrthlam. Y mae yn un o'r geiriau mwyaf grymus ac ystyrlawn yn yr iaith.
A'i anadl diadlam dwfn
Yn megino mwg annwfn.
—Gwilym Wynn. - ↑ Cwrt i feinwar i chwareu.—D. ab Gwilym.
- ↑ 'Dydd-farn' (=dydd y farn), yma a manau ereill, yn arg. 1703.
- ↑ Recorder=Cofiadur.
- ↑ Ireidlyd, wedi eu hiro
- ↑ Cnul, cnill; cloch a genir ar farwolaeth un
- ↑ 'Ysbleddach',yn ol y Dr. Dafis, yw lusus oblectamentum; sef, chwareu, difyrwch, maldod, sarllach: ond yn ol y Dr. Puw, spoil, prey, or booty, yw ystyr y gair. Dealla Ioan Walters a Thomas Richards ef yr un modd a Dafis. Ond nid yw yn ymddangos i mi fod neb o'r ystyron hyn yn cydweddu yn hollol â'r lle hwn a thybiaf mai cyfathrach, cynghrair, neu gydbleidiaeth, a olygir wrtho, ac mai alliance yw y cyfystyr agosaf iddo yn y Seisoneg.
- ↑ Trafferth, ffwdan, helgur, helbul
- ↑ Y fallgyrch' (mall—cyrch)=cyrch neu gyrchfa y Fall; priflys neu brif neuadd y cythreuliaid; cynghethernan: pandemonium.
- ↑ Llosg, gwynias, chwilboeth, tanllyd.
- ↑ Llochesu, achlesu, noddi
- ↑ 'Unon' (un ofn)=ofni; tybio, meddylied.
*Onid rhaid unon na ddichon dim tramgwydd ddamwain i'r Eglwys, pa raid, ynte, wrth enwau diles yr esgobion?'—Morus Cyffin. - ↑ Adamant; y maen caletaf
- ↑ Porth y colledigion; y porth yr ä'r colledigion drwyddo
- ↑ Meddler: ymyrwr, dyn ymyrgar, ymhelwr
- ↑ 'Alias'=gair Lladin, arferedig yn aml yn y gyfraith, yn dynodi, neu amgen, fel arall, mewn modd arall.
- ↑ Tra gwylaidd, gorwylaidd, gwyl iawn, yswil
- ↑ Ready: parod, yn barod
- ↑ Llodrau: brecches
- ↑ 'Gelw chwitheu', arg. 1703, 1755, 1759, a 1774; 'gelwch chwitheu,' arg. 1768; 'gelwir chwitheu,' rhai diweddarach.
- ↑ Cumbrous: rhwystrus; un a fyddo yn rhwystr
- ↑ 266.0 266.1 Mael,' arg. 1703; 'mal,' y rhai diweddar
- ↑ 2 Gwel t. 33, n. 1.
- ↑ Tir
- ↑ Llain; dernyn hirgul neu hirfain. Strip' yw argraffiad yr awdwr; a thebygol mai strip a fwriedid; ac felly y darllen argraffiadau Durston, un 1768, a 1774. Ystryd' a geir yn yr argraffiadau mwy diweddar.
- ↑ Briwsion, tameidiau, catiau, teilchion, cyrbibion
- ↑ Yn myn'd?
- ↑ Y gwellâu,' arg. 1703.
- ↑ Cymharer y Weledigaeth hon â chweched Weledigaeth Crevedo.
- ↑ Cyfieithad Rowland Fychan o'r Practice of Piety, gwaith y Dr. Lewis Bayley, Esgob Bangor. Ymddangosodd yn Gymraeg y waith gyntaf yn 1630, ac argraffwyd ef amryw weithiau wedi hyny. Cyfieithwyd y gwaith hefyd i'r Ffrancaeg; a bu agos i gant o argraffiadau o hono yn yr iaith Seisoneg.
- ↑ Dylêd'—y dull Gwyndodig o seinio dyled.
- ↑ Llanerch, talwrn, buarth, gardd.
- ↑ Caer Gwydion'=cylch neu lwybr dysgleirwyn yn y ffurfafen, yn cael ei achosi, fel yr ydys yn barnu, gan luaws aneirif o ser sefydlog, y rhai nis gellir eu canfod a'u gwahaniaethu â thremwydrau cyffredin. Gelwir ef hefyd y Llwybr Llaethog, y Ffordd Laeth, Galaeth, Eirianrod, Crygeidwen, Heol y Gwynt, a Llwybr y Mab Afradlawn. Cafodd yr enw Caer Gwydion, oddi wrth Gwydion Ab Don, un o seryddion y drydedd ganrif: a dychymmyga'r prydyddion iddo deithio drwy'r nefoedd ar ol merch a ddiangasai gyda Gronwy Befr; ac iddo adael llwybr ar ei ol yn y ffurfafen, yr hwn a alwyd Caer Gwydion' o'r pryd hwnw allan.
- ↑ Y Twr Tewdws'-Y Saith Seren Siriol: saith seren yng ngwddf cydser y Tarw; y rhai a elwir hefyd Pleiades (Iob, ix. 9; xxxviii. 31).
- ↑ Rhaiadydd,' arg. 1703; ac yr un modd yn y tudalen nesaf.
- ↑ 'Damchwa' (dam-chwa)=chwa neu ager amgylchynol. Ond tebygol nad yw y gair yn y lle hwn, ac mewn rhanau ereill o'r Weledigaeth, ond cyfnewidiad o tanchwa (Seis. fire-damp), sef yr agerdd neu fwg dinystriol a dyr allan mewn mwngloddiau a lleoedd cyffelyb. Gwel t. 87, 88.
- ↑ Neu, Dives y gair Lladin am oludog neu gyfoethog. Gwel Luc, xvi. 19, 26.
- ↑ 'Ysgethrin'=gyrol, hyrddol, lluchiol, diriol; yn gyru, yn hyrddio: ysgethrog; erchyll, ofnadwy, cethin, irad. Iterative, impulsive—Dr. Puw. Tywydd ysgethrog y gelwir yn y Deheubarth, dywydd garw, ystormus, pan y bo'r gwynt a'r gwlaw megys yn ysgethru, yn ysgubo, yn lluchio, neu yn gyru pob peth o'u blaen.
- ↑ Erchyll, ofnadwy, irad: hefyd anfeddyginiaethol, anfeddygadwy,
anwelladwy; megys,
Anacle fydd fy nolur.—Ed. Richard. - ↑ Dychymmygeiriau: gwel t. 53, n. 2.
- ↑ Gefeiliau. Gweler Geiriadur y Dr. Owain Puw, d.g. Gwrthrimyn.
- ↑ 'Briwlio' (Seis, broil; Ffr. brûler)=briwlian, briwlio; rhostio megys ar alch neu ar farwor.
- ↑ Lledfen yw peth tenan, gwastad, megys llech, a'r cyffelyb; peth a fo wedi ei ledu a'i wasgu yn lled deneu. Gorwedd yn lledfen-gorwedd yn ei hyd gyhyd, â'i faglau ar led; gorwedd yn aflêr o'i hyd gyhyd.
- ↑ Neu, 'erchyll a fu.' Erchylla fu,' arg. 1703.
- ↑ Hyll a chryg; erchyll a chryglyd.
- ↑ Math o gribau â dannedd heiyrn iddynt; heisylltan, trafelau.
Pigau heislan o annwn.—Syr Rhosier Offeiriad. - ↑ Gwel t. 41, n. 1.
- ↑ Cymharer Coll Gwynfa, ii. 627-34.
- ↑ 'Heirn' (lluosog o harn-haiarn)=heiyrn, heieirn.
- ↑ Hyll a chref; erchyll a nerthol.
- ↑ Po bellaf, gwaethaf yw'r gwerth.—Guto'r Glyn.
- ↑ 'Scwrs'=scourge: ffrewyll, fflangell.
- ↑ 'O that I hads'.—L'Estrange's Quevedo, p. 169.
- ↑ Gwel L'Estrange's Quevedo, p. 170.
- ↑ Blino, poenydio, poeni, dygnu, plaeo.
- ↑ Griddfan, tuchan, ebychu.
- ↑ Sicio'=yn briodol, gwlychu, mwydo; gwasgu neu faeddu yn wlych: ond yma, gwasgu, nyddasgu, neu nydd-droi: Seis. wring.
- ↑ Torf, tyrfa, haid, lluaws.
- ↑ Cyrhaedd=cynnyg, ceisio, osio. Cymh. t. 86.
- ↑ Cymharer L' Estrange's Quevedo, pp. 180-2.
- ↑ Clamp, enwff, llach, neu dwlffyn o wr boneddig.
- ↑ 'Ysgwier'=Esquire: yswain.
- ↑ 'Cart' card, neu chart: achres.
- ↑ Coffeir enwau Pymtheg Llwyth Gwynedd yn y ddau englyn isod :—
Cilmin, Hwfa, Brân, Gweirydd gell, a Hedd,
Collwyn, Maelog, Nefydd,
Edwin, Braint Hir, a'u bedydd,
Marchweithiau, a Merchudd bydd:
Dau Ednowain gain i gyd, Gwernynwy,
Gwŷr uniawn gadernyd;
I'r rhai'n y bu o'u rhan byd,
Gwindai Pymtheg-llwyth Gwyndyd.
(Y Greal, t. 155-8, 167.) - ↑ 'Ystent' hen dreftadaeth; hen gartrefle; ystâd.
I'th dent y mae 'stent mwyaf 'stor.—L. Glyn Cothi. - ↑ Deiliaid a thenantiaid;' dau air, un yn Gymraeg a'r llall o'r Seisoneg, yn arwyddo yr un peth. Y blaenaf sydd ar gyffredin arfer gwlad yn y Deheubarth, a'r olaf yng Ngwynedd a Phowys.
- ↑ Tarcwin Falch, neu Tarquinius Superbus, y seithfed a'r olaf o freninoedd Rhufain, cyn Cred 534-510.
- ↑ Chweched ymherawdwr Rhufain.
- ↑ Trydydd ymherawdwr Rhufain.
- ↑ Cymharer L'Estrange's Quevedo, pp. 161-7
- ↑ Tollgraig' (o toll, benywaidd o twll, a craig)=craig dyllog; craig ddrylliog neu ddarniog.
Ogof y dollgraig a wna les, Yn lloches i'r cwningod.—Edm Prys (Salm civ. 18).
- ↑ 'Allan o fath'=allan o fesur, tu hwnt i fesur.
- ↑ 'Celffaint'=hen bren crin; pren wedi erino a chialedu gan henaint; cyff, boncyff, cippill; hen beth gwywedig.
Carn Sais ar gellaint-Trivedd.
Celffaint o henaint yw hwn.—Llew. ab Gutyn.
</poem
- ↑ Cynio (o cŷn=gaing)=sicrhau â chŷn neu aing; geingio, llettemu; rhoi neu yru cŷn ym mheth.
- ↑ 'Canel'=kennel: cynel, ty cŵn, cyndy, cyullwst; ceudwll, ffau.
- ↑ 'Merbwll' (marm-bwll)=pwll o ddwfr marw neu lonydd; pwll budreddi; merllyn.
- ↑ Llyn Tegid, ger y Bala, ym Meirionydd, yw y llyn mwyaf yng Nghymru.
<poem>
Drwyodd, er dyddiau'r Drywon,
Y rhwyf y Dyfrdwyf ei don.' - ↑ 'Pac'=pack: haid, gyr, cniw, cnud, tocyn.
- ↑ Dychymmygeiriau, i ddynwared swn cnoi, neu rincian dannedd.
- ↑ Tygaswn=tybygaswn. Gwel Davies, Ant. Ling. Brit. Rud. 136-7,
- ↑ 'Suddas'=Iudas-Iudas Iscariot.
- ↑ Ffardial' (o'r Seis. fardel, sypyn)=sypyn o ddyn, torpwth, ffallach, swbach, pwtyn o ddyn, ffwtiar.
- ↑ 'War'=ware: nwyddau, moddion, eiddo.
- ↑ Dychymmygeiriau, i ddynwared gwaedd gyrwyr gwartheg.
- ↑ 'Cycwalltiaid' (Seis. cuckolds)=rhai a gywilyddir drwy anniweirdeb eu gwragedd; gwŷr corniog, hoffdyniaid. Cwewaldiaid, arg, 1703.
Yn gycwallt salw y'm galwant.
—D. ab Gwilym. - ↑ King's Bench=y Llys Penadur, un o brif lysoedd y gyfraith.
- ↑ Congl, cornel, cilfach, ebach.
- ↑ Stercus Canis officinale, Dog's white dung, Album Græcum as 'tis commonly called. This is said to cleanse and deterge: but it is used in little else but inflammation of the throat, with honey: and that outwardly, as a plaster, more than any other way: but seldom as appears to any great purpose.—Quincy's Compleat English Dispensatory, 12th edit. 1749.
- ↑ Hyll a serth.
- ↑ Golwg, edrychiad; gogwydd.
- ↑ Felly yn arg, 1703, a rhai Durston.
- ↑ Gwel Coll Gwynfa, i. 68, &c.
- ↑ Cannon: cyflegr, magnel, gwn mawr.
- ↑ Gwel Coll Gwynfa, i. 259-89.
- ↑ Gwel Coll Gwynfa, i. 414.
- ↑ Pw twt! tw tw!
- ↑ 'Hedlam' (hed a llam)=llam neu naid ar hedeg; llam hedegog; cam pan y bo'r troed olaf wedi ymadael â'r llawr, cyn y bo'r blaenaf yn cyffwrdd ag ef.
- ↑ Yn hydr creulonach=yn llawer mwy creulon. Hydr=hy, eofn, dewr, pybyr, cryf. Oddi yma y daw hytrach, cyhydr, cyhydrey, &c. Gwel y Dr. Dafis, d. g.
Hydr fydd dwfr ar dal glan.'—Diareb.
'Gan roddi i'n tywysogion gwbl barch a goruch-fawredd yn fwyaf ac yn hytraf y gallom.—Morus Cyffin.
Heddyw tydithau haeddol
Sy ddewraf, hydraf o'u hol.—I. B. Hir. - ↑ 'Scwrsio'=scourge: ffrewyllio, flangellu.
- ↑ Ffollt'=ffald, lloc, gwarchae, carchar. 'Ffolt' yw darlleniad rhai o'r argraffiadau, a 'follt' (bollt) a geir yn y lleill; ffollt' yn arg. 1703.
- ↑ Ioan Bradshaw, blaenor yr uchel lys a gollfarnodd y Brenin Carl i'w ddienyddu. Gwel t. 94.
- ↑ Edmund Bonner, esgob gwaedlyd Llundain, yn nheyrnasiad y Frenines Mair. Bu farw yn 1569.
- ↑ Ignatius Loyola, sylfaenydd yr Iesuaid, neu Gymdeithas yr Iesu. Ganwyd ef yn yr Yspacn, yn 1491; bu farw yn 1556; a seintiwyd ef gan y Pab Gregor XV. yn 1622. Ei gofwyl yw Gorphenaf 31.
- ↑ Neu, Mephistopheles, fel y gelwir yn y Faust, eiddo Goethe.
- ↑ Dadseinio, adscinio, tryseinio.
- ↑ Edrych,' arg. 1703.
- ↑ Bendramwnwgl, blith draphlith, dinben drosben.
- ↑ Neu yn hytrach, Demogorgon, fel y llythyrenir yr enw gan Milton:
Cyda hwynt y safent Erch
A Had, ac yr arswydus enw, ïe,
Y Demogorgon, nesaf Son a Chwaen
A Therfysg ac Annhrefniad llawn o gur,
Anghydfod ag ei rhydd dafodau fil.Coll Gwynfa, ii. 1018.
Ar Demogorgon, rhydd y Dr. Owain Puw yr eglurhâd canlynol:—
Tybia rhai mai un yw hwn à Demiurgus; ereill mai efelly y gelwid am y gallai edrych ar y Gorgon, a droai dremyniaid ereill i feini: mor ofnadwy oedd llafaru ei enw, nas gallent y penaf o uffernolion hyny heb grynu a ffoi." - ↑ Dadfachu; tynu neu daflu oddi ar y colfachau.
- ↑ The Solemn League and Covenant y gelwid y cytundeb a wnaed rhwng Cymmanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban, a Dirprwywyr oddi wrth Senedd Lloegr, yn 1643; a'i amcan proffesedig oedd unffurfiaeth addoliad, athrawiaeth, a dysgyblaeth, trwy yr Alban, Lloegr, ac Iwerddon.
- ↑ Tarenydd'=darnau neu glytiau o dir; twmpathau, cnyciau, cnoliau, crugiau, banau: un. taren.
- ↑ Bu 14 o Babau o'r un enw hwn. Clement XI. oedd yr amser yma (1700-1721) yn llenwi'r gadair anffaeledig.
- ↑ 'Yn frau'=yn ebrwydd, yn fuan, toe; yn rhwydd, yn barod.
O ewch i'w byrth â diolch brau.—Edm. Prys (Salm c. 4).
Ni chânt yn frau mo'n gorfod.—Edm. Prys (Salm ii. 3). - ↑ Dannedd hirion blacnllym, megys daint baedd, a'r cyffelyb.
- ↑ 'Ysblentydd'=lleni o ia; talpiau dirfawr o ia hylithr: ysglentiau: Seis, glaciers. Gwel t. 96, 98.
- ↑ Felly yn arg. 1703, dau Durston, ac un 1774; 'ddiawliaid,' arg. 1768.
- ↑ Meistr,' arg. 1703.
- ↑ Celwydd yn eich gên=celwydd yn eich dannedd.
- ↑ Nid yw 'ewch' yn arg. 1703; ond ymddengys mai gwall oedd ei adael allan, gan fod yr ystyr yn gofyn am dano.
- ↑ Mwrdwr'=murder: llofruddiaeth, murn.
- ↑ 'Trad'=trade; masnach, trafnid; galwad, galwedigaeth.
- ↑ Llyfon'=llwon.
- ↑ Erthwch'=dyhëu; tuchan.
- ↑ Nid yw y gair hwn mor werinol yng Ngwynedd ag yn y Dehenbarth; ac ymddengys nad oedd cyfieithwyr hybarch yr Ysgrythyrau i'r Gymraeg (y rhai, oddi eithr Huet, oeddynt Ogleddwyr) yn ystyried fod dim gwerinaidd neu serthus ynddo yn eu hamser hwy. Gwel Esa. xx. 4. Gellid gwneuthur sylw gogyffelyb ar amryw eiriau ereill sy'n dygwydd yn y gwaith hwn.
- ↑ Sessiwn session; assizes: brawdlys, proflys, brawdle.
- ↑ Anhawdd gwybod yn iawn pa ddosbarth o wyr y gyfraith a anrhydeddir â'r enw cyfarthwyr. Gellid meddwl nad yw, mewn ambell fan, ond gair arall am gyfreithwyr: eithr yn y wahanran hon, ychydig yn y blaen, crybwyllir am y naill a'r llall o honynt, a derbyn pob un ei briodol gosp. Tebygol, gan hyny, mai dadleuwyr, neu foneddigion y bar,' a olygir; ac nid ystyrir eu holl hyawdledd ddim amgen na chyfarth. Cymh. t. 27-O'r cyfarthwyr hyd at y ceisbwl.'
- ↑ Syr Edmondburi Godffrey oedd heddynad nodedig yn amser Carl II., a bu dra diwyd i gael allan y Cydfrad Pabaidd oedd ar droed y pryd hwnw. Buan wedi hyny cafwyd ef yn farw, wedi ei drywanu â'i gleddyf ei hun. Bwrid ei alanas ar y labyddion; ac o herwydd hyny, claddwyd ei weddillion gyda gwychder mawr. Dygwyddodd ei drancedigaeth, Hydref 17, 1678.
- ↑ 'Parsmant'=parchment: memrwn; croen i neu wedi ysgrifenu arno.
- ↑ 'Ffis'=fees: tâl, gwobr.
- ↑ Hel neu ddal pryfed; gwybeta, gwibiaw o fan i fan.
- ↑ Geiriau gwneuthur. Cymharer t. 53, n. 2.
- ↑ 'Llamidyddion' (o llamu)=llamwyr; rhai yn arfer llamu neu neidio.
- ↑ Ysguthell'=rhedegydd ar frys gwyllt; un a fo yn ysgubo neu hwysgo'r cwbl o'i flaen; hedegydd, hedwr, ysgutyll; rhedegwas.
- ↑ Cribinwyr'=rhai yn cribinio, yn crafu, neu yn rhacanu pob peth atynt eu hunain; pentyrwyr mwnws; cybyddion, cotiaid.
- ↑ Gwel L'Estrange's Quevedo, t. 168.
- ↑ Tri phrif orchestwaith Ynys Prydain: Llong Nefydd Naf Neifion, a ddug ynddi wryw a benyw o bob byw, ban dores Llyn Llion; ac Ychain Banog Hu Gadarn, a lusgasant Afanc y Llyn i dir, ac ni thores y llyn mwyach; a Main Gwyddon Ganhebon, lle y darllenid arnynt holl gelfyddydau a gwybodau byd.'—Trioedd.
Addane ni thynir o anoddyn dwfr.—L. G. Cothi. - ↑ Cwcwaldiaid,' arg. 1703. Gwel t. 82, n. 5.
- ↑ Cospi; ceryddu; darostwng.
- ↑ Coegfall,' arg. 1703, 1755, 1759, 1767, 1768, 1774; 'coegfalch,' rhai diweddarach.
- ↑ Effaith cydfrad: help neu gymhorth i arall yng nghyflawniad drwg weithred; cynnorthwy; gwaith.
- ↑ Dro llaw='yn nhro llaw; yn ebrwydd; mewn dim o amser.
- ↑ Gweler 'Dammeg Einion ab Gwalchmai a Rhian y Glasgoed,' yn Ysgriflyfrau lolo, t. 176.
- ↑ Ferdit=verdict: dedfryd, rheithfarn, barn.
- ↑ Ymgroesi=ymswyno, ymswyn; gwylio neu ochelyd rhag peth.
- ↑ 'Diesgor'=nas gellir esgor arno, na chael gwared o hono; na ddaw byth yn ol; anesgorol, anesgor.
- ↑ Y Dr. Ffaustus neu Ffaust ydoedd Sion Cent yr Almaen. Yr oedd yn ei flodau yn nechreu yr 16fed ganrif; cyfrifir ef yn enwog ei wyhodaeth a'i ymarfer o'r gelfyddyd ddu; ac adroddir aneirif o chwedlau am ei orchestion goruchanianol, y rhai a gyflawnid ganddo drwy ei gynghrair â'r ellyll Mephistopheles; yn y cyffelyb fodd ag y tadogir llawer o weithredoedd cyfunrhyw ar y Dr. Cent yng Nghymru. Ar y traddodiadau hyn y syfaenodd Goethe ei gerdd nodedig a elwir Faust
- ↑ Ei ran.
- ↑ 'Catffwl' (o cat a ffwl)—cetyn neu ddarn o ffwl; cryn ffwl; ffwleyn, cuall, hurthgen, folyn, hurtyn.
Taw a'th swn, ddigywilydd gatffwl.—Thomas Edwards. - ↑ 'Rhoi diofryd oferedd'=ymwrthod ar lw ag oferedd; ymddiofrydu ar ymwrthod ag oferedd; penderfyuu ymwrthod ag oferedd.
- ↑ Y ddwy blaid.
- ↑ Cyfeiriad at arferion ofergoelus rhai merchetach ynfyd gynt (ac ambell ffolcen hyd heddyw) i geisio cael gwybod pwy a fyddai eu gwŷr. Byddai olrhain yr holl ddefodau gwarthus cyssylltedig â'r ofergoelion hyn, yn gofyn llawer mwy o le nag a ellir ei hebgor yn y gwaith hwn. Am yr ofergoel o droi o gylch yr Eglwys, gweler y Brython, ii. 120.
- ↑ Gwel t. 44, n. 4.
- ↑ Ynysoedd Fferoe,' Ffaroe, neu Ffarverne, sydd haid o ynysoedd perthynol i Denmarc, yn gorwedd ym Môr y Gogledd, rhwng Norway ac Ynysoedd Shetland.
- ↑ 'Osio'=cynnyg, ceisio, profi.
- ↑ 'Ffordd Geneva'=Calfiniaeth. Yn Geneva y preswyliai Calfin.
- ↑ 'Olfir'=Oliver Cromwel.
- ↑ Sarig, afrywiog, taiog, sur.
- ↑ Celgar, ffel, ystrywus, cyfrwys, cadnoaidd: Seis. sly.
Dynion llechwrus iselgraff.'
—Gweledigaeth y Byd. - ↑ Hen a ffel; hen a chyfrwys.
- ↑ Gwel 2 Bren. xix. 35.
- ↑ 'Sara'=merch Raguel, a gwraig Tobias. Gwel Tobit, vi. vii.
- ↑ Gwel t. 33, n. 1.
- ↑ Merllyn' (marw-llyn)-llyn o ddwr llonydd: merbwll; llynwyu.
- ↑ 'Mudd,' arg. 1703, 1755, 1759, 1768, 1774; 'mud,' arg. 1767.
- ↑ Hud, twyll, hoced; gorchudd i dwyllo. Gwel Iob, ix. 24; xxiv. 15.
- ↑ Ffel, craff, call, deheuig.
- ↑ Cestyn' (bychanig o cast)=cast bychan, pranc.
- ↑ Gorchudd, llen gel.
- ↑ Consider: ystyried, ystyrio, pwyllo.
- ↑ Dwndwr, dadwrdd, siarad.
- ↑ Gwel t. 21, n. 6; a 100, n. 4.
- ↑ 'Mygyn' (o mwg)=chwiff, pwff o fwg.
Mygyn o'r cetyn cwta.—Gronwy Owain. - ↑ Seis. beer: ewrw, diod frag. Dywed y Dr. Johnson mai o bir y Gymraeg y mae beer y Seisoneg yn dyfod. Ceir y gair, gydag ychydig o amrywiaeth arddygraff, ym mhrif gangenau y Geltaeg, yn gystal ag mewn amryw ereill o ieithoedd Ewrop; megys, Gwyddeleg beoir; Gaeleg, bebir; Llydaweg, bir, ber, neu boer; Cernyweg, bior (dwfr); Almaeneg ac Isdiraeg, bier; Ffrancacg, bière; Italeg, birra; Rhineg, bior. Ceir ef hefyd yng ngwaith rhai beirdd Cymreig lled gynnar; ac ni ddylid anghofio ei fod wedi ei gyflëu megys gair Cymreig yng Ngeirlyfr y dysgedig Ddr. Dafis.
Dy fir i'w yfed fal dwr afon.—Hywel Aerdrem - ↑ Surfeited: alarllyd; wedi alaru neu ddiflasu arno.
- ↑ Pwy a rusiai'=pwy a betrusai; pwy a ofnai.
- ↑ Blaen yr ewinedd; rhanau blaenaf y carn. Gweler Geiriadur y Dr. Puw dan y gair.
- ↑ Llafasu, neu llyfasu=beiddio, meiddio, anturio.
Ni a welwn yn y byd hwn, na faidd ac na lefys neb wneuthur yn erbyn mawredd tywysog bydol,'—Dr. Dafis. - ↑ 2 Hoewal= llonydd, tawel, digyffro, digynhwrf. Ystyr hoewal, fel enw cadarn, yn ol Geiriadur y Dr. Puw, ydyw—Agitation of water; the whirling of a stream; an eddy; the waves formed by anything thrown into the water. Ac yn ol Lewis Morys—'The stream of the sea or a river, Pa fodd bynag, yng Ngheredigion, a manau ereill, defnyddir y gair am ddwfr llonydd neu ddigyffro; llynwyn; llyn neu gronfa mewn afon, a'r cyffelyb. A'r ystyr hw y cytuna dosbeniad y Dr. Dafis—Pars fluminis tardiùs transiens;' a thebygol mai yn yr un golygiad yr arferir ef gan y beirdd canlynol:
Od ä i'r hoewal adar hwyaid.—L. G. Cothi.
Hely'r wyf hoewal yr afon.—Meredydd ab Rhys
Edwyn llaw dyn edu lle dêl, A yr hwyaid i'r hoewel.—H. ab D. ab Ieuan ab Rhys.
Hywel, hoewal pob eirchiad.—Llywarch ab Llywelyn.
Ardal dwyn hoewal Dinmilwy.—Llyw. ab Llywelyn.
Gwâr Hywel, hoewal cyfeddwch.—Llyw. ab Llywelyn. Heol dyfnion afonydd,
Hoewal o fewn heli fydd.—I. ab Tudur Penllyn
Ail i'r âr ael Eryri,
Cyfartal hoewal a hi—Gronwy Owain.
Ond yn yr enghreifftiau sy'n canlyn, gellir barnu ei fod yn arwyddo canol ffrwd, brwynen neu frydle afon; yn unol ag eglurhâd L. Morys, ac â'r ystyr y dywed Dafis fod rhai yn ei roddi iddo—Alii volunt esse alreum fluminis et aquam festinantem.
Cynt wyf Ieuan, lle'r ä gan—nyn,
Nag awel o wynt i'r gwiail yn,—
Ac na hoewal llif trwy ganol llyn.—L. G. Cothi.
F'al yr awel ei helynt,
Anhawdd dal hoewal ei hynt.—M. ab H, Lewys.
Ac ymddengys mai yr un peth a olygir wrtho yn yr ymadrodd hwn, eiddo un o'r gogynfeirdd:
Ef a wnai—
Hwrdd aflwfr mal hir—ddwfr hoewal.— Cynddelw.
Gwraidd hoewal, medd Puw ydyw hoew—al; ond tebycach ei fod yn tarddu o hoe a gwâl. Hoe yw y gair cyffredin yn nhafodiaith Dyfed am orphwysfa, seibiant, neu lonyddwch: ac felly ystyr llythyrenol hoewal yw, y wâl lle mae'r dwfr yn cymmeryd hoe; y gwely lle mae'r dwfr yn gorphwys; neu gasgliad o ddwfr llonydd.
Hoewal llong= ol long ar y dwfr. - ↑ Cerlyn, cybydd, mab y crinwas.
- ↑ Y byd bychan, y byd bach.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.