Llyfr Nest (testun cyfansawdd)
← | Llyfr Nest (testun cyfansawdd) gan Owen Morgan Edwards |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Llyfr Nest |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
LLYFR NEST:
GAN
AWDWR LLYFR DEL
HUGHES A'I FAB, GWRECSAM
1913
RHAGYMADRODD
"Am i chwi unwaith wneud llyfr i fechgyn, a'i alw'n Llyfr Del, rhaid i chwi wneud un arall, cystal ag ef, i enethod, a'i alw'n llyfr Nest." Dyna y gorchymyn a gefais, ac y mae yn rhaid ufuddhau.
Yr wyf wedi dweyd llawer o ystraeon wrth eneth fechan, i'w chadw'n ddiddig weithiau, a thro arall i ddeffro ei meddwl ac i roi edyn i'w dychymyg. Yr un ystori sydd yn apelio at fechgyn bychain a merched bychain, ond eu bod yn gweld ystyr wahanol iddynt ac yn teimlo'n wahanol wrth wrando arnynt.
Y mae un peth yn hanfodol i ystori i enethod. Rhaid iddi fod yn wir. Nid oes yma ddim wedi ei greu, dim wedi ei ddychmygu. Mae pob ystori wedi digwydd. Bu ambell un yn y papurau newyddion. Cefais ereill gan ryw gyfaill neu ryw gydymaith teithio, megis y teithiwr, y dyn unig, a'r genhades.
Ar gyfer min nos gaeaf y cyhoeddir y llyfr. Yr wyf yn gobeithio y gwna les. Ei amcan yw deffro'r tannau tyner, trugarog, mwyn, yn nhelyn cymeriad pob geneth.
CYNHWYSIAD
- Y Morwyr
- Yn unig yn y llong
- Ymladdfa a Morfilod
- Yr Albatross
- Cyd-forwr perygl
- Y Derelict
- Y dyn unig
- Y bachgen tair oed
- Geneth gwallt aur
- Y bachgen gwallt llaes
- Y myfyriwr crwydredig
- Mab y wraig weddw
- Aeres y Castell
- Y teithiwr
- Carlamu trwy'r tân
- Dringo mynyddoedd
- Yn yr eira
- Ton yn achub bywyd
- Ymdrech ar ymyl dibyn
- Taith beryglus
- Ymdaith Newyn
- Yr hen gadfridog
- Coron Prydain Fawr
- Breuddwyd Nathanael
- Colli bachgen
- Ymaflyd codwm
- Rhuthr y trwyngorn
- Hela llewod
- Y ddau fachgen losgwyd
- Adar rhaib a chelain
- Dychymyg a ffaith
- Y genhades
- Tair geneth fach
- Bachgen yn achub tref
- Y fôr-forwyn
- Crwydryn bychan
- Eisieu bod yn frenin
- Pryder am dad
- Nofiwr prydferth
- Gwrhydri genethig
- Camgymeriad y fam
- Pwsi a minnau
- Y lleill
- Y mynydd a'r afon
- Darluniau'r baban Iesu
- Gwir arwr
- Profedigaeth Gwen
- Cariad brawd a chwaer
LLYFR NEST
—————————————
Ystraeon yr Hen Forwr
—————
I—Y MORWYR
BETH amser yn ol, yr oedd tad Nest yn wael. Dywedodd y meddyg wrtho fod yn rhaid iddo adael ei waith am fisoedd, a mynd i'r môr. Yr oedd i fynd mewn llong i Ynysoedd Canary, ac oddi yno i Ddeheudir Affrig, a gobeithiai y byddai awelon balmaidd y de, a gwynt iach, pur, y môr, yn dod a'i iechyd yn ol.
Nis gallai adael ei eneth fach, amddifad, gartref; gwyddai y buasai'n torri ei galon o hiraeth ar ei hol. A chychwynnodd y ddau. Ryw fore, pan ddeffrôdd Nest, teimlai'r gwely'n ysgwyd dani. chofiodd ei bod ar y môr.
Yr oedd y dyddiau'n hirion a hyfryd. Yr oedd digon o anser i edrych ar y môr. Wedi blino ar hynny, hyfryd oedd edrych ar y morwyr a'r teithwyr. Y morwyr dynnodd sylw Nest gyntaf. Synnai mor ddeheuig oeddynt yn gwneud pob peth. Arnynt hwy yr oedd bywyd y teithwyr yn dibynnu. Yr oedd rhai yn hen, wedi gweld llawer o beryglon; a rhai'n ieuanc, ar eu mordaith gyntaf.
Ar brynhawn têg, byddai rhai o'r morwyr yn hel o gwmpas yr eneth fach, as yn dweyd ystraeon y môr wrtħi. Cymerai hen forwr tadol hi ar ei lin, a dywedai ystraeon rhyfedd; a rhoddai'r lleill, Morgan Foel, Jac Sur, neu Wil y Goes,—ambell air i mewn.
Yn y darlun acw y mae'r llong wedi gadael y Bay of Biscay tymhestlog a pherygl; er ei bod yn aeaf, y mae'n hyfryd braf ar fwrdd y llong,—oherwydd y mae'n morio ar dueddau Affrig, a'r anialwch tywodlyd poeth weithiau yn y golwg.
II.—YN UNIG YN Y LLONG.
"MAE eisio llawer iawn o honoch i yrru'r llong yn ei blaen," ebe Nest ryw nawn hafaidd, pan nad oedd dim yn y golwg ond y môr, er eu bod yn disgwyl gweld pen Pigyn Teneriffe o hyd.
"Oes, fy ngeneth i," ebe'r hen forwr, “ond mi fum i unwaith heb ddim ond fy hun mewn llong gymaint a hon, a hynny ynghanol y môr mawr.' "Mi wn i fod gennych hanes," ebe Nest, dywedwch ef."
Wel, y mae'n hanes pur ddychrynllyd, ac mi obeithiaf y medr Nest fach gysgu heb freuddwydio ar ol ei glywed. Mynd o Jamaica i Gaerefrog Newydd yr oeddym, a chawsom hin weddol braf nes oeddym wedi pasio penrhyn Florida. Yna, daeth rhyw waeledd ataf fi, a rhoddwyd fi yn fy ngwely i lawr yn y caban. Ryw noson, daeth tymhestl arswydus dros y môr, a chauodd y morwyr yr hatches rhag i'r dwfr lifo i'r caban. Ond, pan oedd y storm ar dawelu, tybiasant fod y llong yn mynd i suddo. Gollyngasant y cychod i lawr, neidiasant iddynt, a gadawsant y llong i'w thynged. Ond anghofiodd pawb am danaf fi.
Yr oedd y llong yn crwydro ar ol y dymhestl hyd y môr, a neb wrth ei llyw nac yn ei hwyliau ; a minnau'n gorwedd yn y caban, yn meddwl am gartref, ac heb wybod dim fod y llong ar fynd i lawr. Ond daliodd y llong i nofio wedi'r cwbl.
"Ond beth feddyliwch chwi oedd fy nheimladau, Nost fach, pan welwn yr amser yn hir, a neb yn dod yn agos ataf?
Codais o'm gwely, ceisiais godi yr hatches, ond ni fedrwn. Chwiliais am fwyd,—cefais ychydig gacenau celyd a dwfr. Darfyddodd y dwfr a'r bwyd yn fuan iawn. A dyna lle'r oeddwn yn y llong wâg, yn clywed dim ond rhu'r dyfroedd, ac heb wybod pa funud y suddwn i'r gwaelod. Yr oeddwn fel pe mewn bedd yn fyw; a gwelwn mai marw o newyn fyddai fy nhynged os nad ai y llong i lawr.
"Yn y tywyllwch, gwelwn lygaid tanllyd llygod anferth, a chlywais dannedd un ohonynt yn cydio yn fy nhrood. Yr oedd gennyf ddigon o nerth i luchio rhywbeth atynt, i ddangos iddynt fy mod yn fyw. Nid oedd gennyf nerth i ddim arall ond i weddio ar Dduw fy arbed, er mwyn fy nau blentyn bach ac er mwyn Iesu Grist.
"Cefais fyw i ddweyd yr hanes wrth fy nau blentyn wedi hynny. Y mae'r ddau'n forwyr yn awr, ac ar y môr.
"Ryw fore, clywais lais dyn. Llais garw pysgotwr oedd, ond ni chlywais lais pereiddiach erioed. Cyn hir, clywais sŵn troed ar ddec y llong. Curais a'm holl egni; ond, gwae fi! clywn hwy'n mynd i ffwrdd. Curais wedyn. Clywais lais yn dywedyd,—
"Beth sydd odditanom?'
Llygod, ebe llais arall, 'gad inni fynd oddiyma, rhag i'r llong suddo.
"Curais a'm holl egni wedyn. Ac O lawenydd, clywn hwy'n codi'r drws. Cariasant fi i'r cwch, yr oeddwn mewn llewyg erbyn hyn, ac aethant a fi i'r lan i Boston."
"Hwre!" ebe Wil Goeshir,"dacw'r Pigyn!" A rhedodd pawb i'w weld.
III.—YMLADDFA A MORFILOD
"A WELSOCH chwi forfil erioed?" ebe Nest wrth yr hen forwr ryw nawn, pan oeddynt wedi ymgasglu fel arferol ar y dec, a'r llong yn rhedeg yn rhwydd ac esmwyth tua'r de.
"Gweld morfil? Do, ac ni anghofiaf mohonynt byth. Pan oeddwn i yn yr hen long Medusa, fe fu morfilod yn ymladd â'r llong."
Ar hyn, gan dybied fod yr hen forwr yn tynnu ar ei ddychymyg, cododd Wil y Goes ei ben i fyny, a chwarddodd chwarddiad uchel, cras, i ddangos ei anghrediniaeth.
Wil, fy ngwas i," ebe'r hen forwr, "ni welaist ti gymaint a fi. Dim ond y gwir wyf fi'n ddweyd." Siglodd Wil ei hun yn ol, dan chwerthin mwy nag erioed, nes oedd ei draed yn codi oddiar y dec, a'i gap bron syrthio oddiar ei ben; ac ebai ef yn wawdus,—
"Morfil yn ymosod ar long! Ha ha!”
"Taw, bellach," ebe'r hen forwr, "nid morfil ddywedais i, ond morfilod. A chofia fod pob un o'r rhai hynny dros gan troedfedd o hyd."
"Dowch a'r hanes," ebe Nest, "waeth heb wrando ar William y Goes: fedr ef wneud dim ond gwaeddi neu chwerthin."
"Na fedr, fy ngeneth i, a 'does dim synwyr yn ei waeddi na'i chwerthin ychwaith. Yr oedd yr hon Fedusa ar ei ffordd o Gaerefrog Newydd i Jacksonville, yn Florida. Yn union wedi i ni basio Sandy Hook, rhedodd y llong i ganol twrr o forfilod mawr. Clywais y llong yn taro yn erbyn un ohonynt, ac yn llithro megis drosto, ac yntau'n suddo. Cyn hir, daeth i'r golwg drachefn, ac yr oedd yn chwythu gwaed i fyny i'r awyr, a gwelsom fod asgwrn ei gefn wedi ei dorri." "Mi gredaf fi hynny," ebe Morgan Foel, "mi ges i beth tebyg. Yr oeddwn i ar agerlong Syr John Bull, yn mynd i fyny'r Neil ryw dair blynedd yn ol. Gwelsom afon farch (hippopotamus) enfawr yn dod i'n herbyn, ac nid oedd bosibl i ni ollwng cwch i lawr tra'r oedd o'n cwmpas. Ai o'n blaen o hyd, gan ddangos ei hen gefn mawr, gwlyb, budr, ambell i dro. Yr oedd Syr John Bull wedi colli ei amynedd yn lan, rhoddodd holl nerth yr ager ar y llong, a dyna lle'r oedd y creadur mawr yn mynd ei oreu o'n blaenau. O'r diwedd, daeth y llong hyd iddo, a chododd bron o'r dwfr wrth lithro dros ei gefn. Ni welsom ef mwy; rhaid ei fod wedi ei ladd."
"Ie," ebe'r hen forwr, "ond nid oeddwn i wedi gorffen f'ystori. Yr oedd chwech o'r morfilod ger Sandy Hook. A phan welodd y pump arall waed y chweched, aethant ymaith ar ffrwst. Ond dyma hwy'n dod yn eu holau, gan ruthro a'u holl gyflymdra trwy'r tonnau, a thaflu eu hunain yn erbyn y llong a'n holl nerth. Crynnodd a siglodd y llong drwyddi, taflwyd y teithwyr oddiar eu traed gan y tarawiad, ac yr oeddym ninnau wedi dychrynu. Yr oeddym yn mynd ein gorau, ond drachefn a thrachefn hyrddiodd y morfilod gwallgof eu hunain yn erbyn y llong. Yr oedd y merched yn gwaeddi, a rhai ohonynt mewn llewyg, a ninnau'n gyrru'r llong ymlaen dan bob hwyl oedd ganddi. Ond yr oedd yr ymosodiad yn mynd yn fwy egwan o hyd. Yr oedd rhai o'r morfilod wedi anafu eu hunain yn fawr, ac yn dod yn llawer mwy araf na chynt. Ond yr oedd yn dda iawn gen i eu gweld yn syrthio'n ôl yn y pellder, a ninnau'n cyflymu o'u cyrraedd."
"A welsoch chwi hwy wedyn?" ebe Nest.
"Naddo, fy ngeneth i. Yr oedd arnaf ofn mynd y ffordd honno wedyn, rhag ofn iddynt fy adnabod. Yr oedd gennyf barch iddynt hefyd; y mae pethau mawr felly, fel rhyw fodau llai, yn teimlo dros eu gilydd."
Yr oedd Morgan Foel ar gychwyn dweyd ystori arall; ond ar hynny, dyma dad Nest yn galw arni, i esbonio iddi beth oedd croesi'r cyhydedd. Yr oedd y cyhydedd yn ymyl. Yno y mae'r haul boethaf, ac yno y mae'r dydd a'r nos o'r un hyd.
IV.—YR ALBATROSS.
YR oedd y llong, erbyn hyn, wedi gadael y cyhydedd ymhell o'i hol, ac yn morio rhwng Penrhyn Gobaith Da ac Awstralia. Dywedodd yr hen forwr lawer ystori wrth Nest. Nid oedd hi yn blino gwrando; ac yr oedd Morgan Foel, a Jac Sur, a Wil y Goes, yn gwrando ar bob un.
Ryw nawn, pan oedd yr hen forwr ar ganol rhyw ystori, clywent sŵn—rhyw hanner gwaedd, hanner ysgrech,—yn yr awyr uwchben. Edrychasant i fyny, a gwelent, rhwng hwyliau'r llong, aderyn anferthol ei faint. Yr oedd ei gorff yn wyn, a'i adenydd yn dduon.
"Edrychwch, Nest," ebe'r hen forwr, "dacw'r albatros.
"A wna hi rywbeth inni?" ebe Nest, wedi brawychu tipyn wrth weld yr aderyn mawr.
"Na wnaiff, fy ngeneth. Dacw gyfaill gorau'r morwr; mae lwc yn dod gyda hi bob amser. Oni bai am dani hi, buasai fy esgyrn i'n gwynnu ar graig, filoedd o filltiroedd oddiyma, lle na welai neb byth mohonynt."
"Sut y bu hynny?"
"Wel, arhoswch chwi, y mae pymtheg mlynedd ar hugain er hynny. Yr oeddwn i yn y llong Anna, yn mynd o Lerpwl i New Zealand. Pan oeddym ynghanol Môr yr India, daeth ystorm arswydus a gyrrodd ni i'r de. Buom yn rhedeg felly am ddyddiau lawer; aethom heibio ynysoedd Amsterdam a St. Paul; collasom bob meistrolaeth ar y llong, ac aethom fil o filltiroedd beth bynnag ymhellach na llwybr yr un llong. A rhyw fore, tarawodd y llong ar graig oedd yn codi o'r dwfr. Suddodd ymhen yr hanner awr, ond achubwyd ni i gyd,—pymtheg ohonom,—a medrasom fynd a llond casgen o ddwfr a pheth ymborth i'r graig. Cawsom rai pethau o'r llongddrylliad wedyn hefyd, ond fod dwfr y môr wedi eu hamharu."
"Mae o'n amharu pob peth," ebe Jac Sur.
"Ond beth oedd hynny i bymtheg o ddynion ar y graig? A beth oedd o'n blaenau ond marw o newyn? Ond, yn rhyfedd iawn, ryw ddiwrnod, daeth albatros atom, mae'n rhaid eu bod yn fwy dof yno,—a medrodd un ohonom ei dal. Yr oedd rhai am ei lladd, a'i bwyta. Ond yr ydym ni'r morwyr yn meddwl na ddaw lwc i neb o ladd yr albatros. A beth a wnaethom ond ysgrifennu ar ddarn o grys gydag indian ink oedd ym mhoced un ohonom, i ddweyd lle yr oeddym, a rhoddasom hwnnw am goes yr albatros, a gollyngasom hi. Ehedodd ar ei hunion i'r gogledd; a gobeithiem yn erbyn gobaith y gwelai rhywun y darn llian oedd am ei throed.
"O'r oeddych chwi'n unig, ar graig ynghanol y môr mawr felly," ebe Nest, a dagrau yn ei llygaid. "Oeddym, ac yr oeddym yn teimlo'n fwy unig nag erioed wrth weld yr aderyn yn diflannu yn y pellder. Yr oedd dau fachgen ieuanc gyda ni,—dau frawd, ac yr oeddynt yn hoff iawn o'u gilydd. Yr oeddym ni'n credu mai'n ateb i'w gweddi hwy y daeth yr albatross. Yr oedd arnaf ofn mai hwy fyddai'r cyntaf i farw o ludded a newyn ac oerfel. Ond, er rhyfeddod i ni i gyd, cadwyd eu bywyd hwy i'r diwedd. O'r pymtheg, syrthiodd saith ohonom y naill ar ôl y llall i'r môr. Yr oedd yn oer iawn, ychydig o ddwfr oedd yn aros, a thrwy fwyta ambell i bysgodyn marw deflid ar y graig y cawsom fyw. Yr oedd y tir bron iawn a darfod; yr oedd gobaith byw wedi diflannu'n lân; ond yr oedd y ddau fachgen rheini'n dal i weddïo o hyd."
"Wel ie," ebe Nest, "yr oedd Duw yn eich gweld yn y fan honno" Oedd. Ymhen y mis wedi i ni golli'n llong, ar ryw fore, dyma un o'r brodyr yn gwaeddi. Dacw long. Ac yn siŵr, yr oedd yno long. Codasom ddilledyn gwyn ar ben polyn; a gallwch feddwl mor falch oeddym o weld y llong yn dod ar ei hunion atom, a gobaith bywyd gyda hi."
"Ai ar ddamwain y daeth?" gofynnai Wil y Goes.
"Nage, llong wedi ei gyrru o Adelaide i'n hachub oedd. Cafwyd yr albatross ar y lan yn farw, a'r darn llian am ei throed, fel pe buasai wedi ehedeg dros fil filltiroedd bwrpas i'n hachub. Anfonodd y Llywodraeth long ar unwaith i chwilio am danom, gwyddent hwy am y creigiau, ac felly achubwyd y gweddill oedd yn fyw ohonom. "Ffrynd y morwr oedd yr albatross honno beth bynnag," ebe Nest. "A 'does arnaf fi ddim ofn honacw'n awr."
V—CYD-FORWR PERYGL
"A WELSOCH chwi shark, yr hen forwr ?" ebe Nest.
"Morgi? Do 'n siwr."
"Ble gwelsoch chwi o?"
"Ar fwrdd llong."
Chwarddodd Jac Sur yn uchel iawn ar hyn. "Jac," ebe'r hen forwr, "paid ti a meddwl dy fod di wedi gweld pob peth. Mi welais i forgi ar fwrdd llong."
"Ie, wedi ei ladd."
"Nage, yn fyw."
"Dowch a'r stori, y stori," ebe Nest.
"Wel, yr oeddwn i yn y llong Gwylan, ac yr oeddym ar ein ffordd o Java i Lerpwl. Pan ym Môr yr India, daeth tymestl o wynt ofnadwy i'n cyfarfod. Ti wyddost, Morgan, am wynt y dwyrain yno."
"Gwn, 'n dyn i."
"Wel, mi sgubodd y môr dros y llong. Wedi iddi godi, mi glywem y sŵn fflapio mwyaf glywodd neb erioed. Tybiodd y capten fod hwyl yn rhydd, a gwaeddodd arnom chwilio ar unwaith. Ond beth oedd yno ond morgi anferth, dros saith troedfedd o hyd, yn ymlafnio'n gynddeiriog hyd fwrdd y llong. Beth pe gwelsit ti'r safn a'r dannedd! Ond, trwy drugaredd, yr oedd yn haws delio a fo ar y llong na phe buasem gydag ef yn y dŵr. Ond ni choeliet ti byth gymaint o guro fu ar ei ben cyn iddo lonyddu. Ond llonyddu fu raid iddo."
VI.—Y DERELICT
"YR hen forwr, beth yw derelict ?" ebe Nest un tro.
"Llong wedi ei gadael ynghanol y môr, yn nofio o fewn ychydig i'r wyneb, heb neb i'w llywio, yw derelict. Ysgerbwd du nofiadwy'r derelict yw prif ddychryn y morwr."
"Welsoch chwi un ?"
"Do, y gaeaf diweddaf un. Yr oeddwn mewn llong teithwyr fawr, y Veenden, yn rhedeg rhwng Rotterdam a Chaerefrog Newydd. Yr oedd ynddi 127 o deithwyr, a chriw o 85. Ar ganol nos, pan dybiem ni fod y môr yn rhydd o'n blaen, tarawodd y Veendem yn erbyn derelict. Torrodd y llong asgwrn ei chefn, a dyma'r dŵr yn rhuthro i mewn. Rhedasom at y pympiau, ond gwelsom na fedrem wneud dim. Dechreuodd y llong suddo'n araf araf, ond sicr.
"Yn ein cyfyngder, gwelem long fawr, y St. Louis, llong Ffrengig gwelodd hon ein harwyddion cyfyngder. Daeth atom, a gollyngodd gychod i lawr. Yr oedd yn loergan lleuad lawn, a medrem weld pob peth. Baban ollyngwyd i'r cwch i ddechrau, yna ei fam. Yna awd a'r teithwyr i'r St. Louis o un i un; yna'r criw; a'r capten, wrth gwrs, oedd yr olaf i adael y llong. Prin yr oeddym wedi cyrraedd y bwrdd na welem yr hen Veendem yn mynd i lawr o'r golwg am byth. Moriodd y St. Louis yn araf rhag ofn iddi hithau daro yn erbyn y derelict. Clywais fod Bwrdd Masnach Prydain wedi anfon llong i chwilio am y derelict, i geisio ei chwythu'n dipiau, neu ei gyrru i'r gwaelod."
Dywedodd Nest yr hanes wrth ei thad, ac yr oedd mewn ofn mawr rhag i'r llong daro wrth dderelict. A dywedodd ei thad fod ambell ddyn a dynes yn dderelict yn y byd, wedi colli eu cymeriad, ac yn berygl i rai'n meddwl cael mordaith deg trwy fywyd.
Ystraeon y Dyn Unig.
I.—Y DYN UNIG
YMYSG pobl y llong yr oedd dyn a golwg unig iawn. Byddai bob amser ar ei ben ei hun. Er fod pawb arall yn siarad yn gyfeillgar a'u gilydd, yr oedd ef yn osgoi pawb. Meddyliai Nest ei fod yn wael, yr oedd golwg flinedig arno, yr oedd ei wyneb yn welw a'i ddwylaw yn aflonydd. Ond, bob yn ychydig, gwelai fod y môr yn ei iachau. Eisteddai'n fwy llonydd ar y bwrdd, ac yr oedd ambell wen yn dod i'w wyneb. A rhyw ddiwrnod, gofynnodd i Nest a'i thad a oeddynt hwythau yn chwilio am iechyd.
Ar ol hynny, eisteddai Nest yn ei ymyl ar fwrdd y llong yn aml. Ac o ddydd i ddydd, dywedai'r gŵr unig ei hanes.
"Yr oedd gennyf eneth fach anwyl fel y chwi, Nest fach," meddai. "Ond bu farw yn bump oed, ac y mae ei bedd mewn mynwent yn y mynyddoedd. Yr oedd ei mham wedi ei rhoi yno i huno o'i blaen hi. Ac yr oeddwn innau'n teimlo'n unig iawn. Ni wyddwn i ba le i fynd, na pha beth a wnawn. Crwydrais o un lle i'r llall, heb amcan yn y byd. Ryw ddiwrnod, yr oeddwn yn Llundain, a gwelais wraig yn wylo'n chwerw wrth adrodd ei hanes wrth swyddog, a hwnnw'n methu rhoi fawr o gymorth iddi. Gofynnais a fedrwn i wneud rhywbeth. Dywedodd hithau mai wedi colli ei geneth fechan yr oedd, a'i bod mewn pryder mawr. Ymroddais innau i chwilio am yr eneth, a chefais hi. A pheth rhyfedd oedd llawenydd y fam a'r ferch pan yn cwrdd. A thybiwn innau,—Tybed ai fel hyn y bydd yn y nefoedd pan fyddaf fi'n cwrdd âg Enid fach wedi'r holl grwydro ?
"O hynny allan, dyna fu'm gwaith,—sef chwilio am blant coll. Chwiliais am gannoedd, a'r rhan amlaf medrais ddod a hwy'n ol i freichiau eu rhieni. A phob tro y gwelwn eu llawenydd, tybiwn mai felly y byddai yn y nefoedd pan gyfarfyddwn Enid fach. "Ni wyddoch chwi, Nest, mor greulon y gall dynion fod, na faint mae plant yn orfod dioddef. Yn yr hen amser, byddai dynion yn dyfeisio'r poenau mwyaf erchyll. Dioddefodd y merthyr ei losgi ar dân araf, dioddefodd llawer tyst ei ddadgymalu ar yr arteithglwyd. Yn naeargelloedd y Chwilys y bu'r dioddef mwyaf ond odid,—dioddef wnai ddyn yn wallgof cyn ei ladd. Rhaid croesi at y Twrc cyn clywed am flingo dynion yn fyw. Ofnalwy yw meddwl am ddynion yn cael pleser drwy wylio dioddefiadau rhai ereill.
Trwy drugaredd, y mae arteithio wedi diflannu o gyfraith gwledydd gwareiddiedig erbyn heddyw. Ond y mae gan y creulon ffyrdd eto i lenwi enaid ei ysglyfaeth ag ing. Un o'r ffyrdd gwaethaf yw clwyfo rhieni trwy eu plant. Dywedodd un barnwr Prydeinig yn ddiweddar na ddanghosai ef rithyn o drugaredd at y creulondeb mwyaf dirmygus,—arteithio mam trwy boenydio ei phlentyn.
"Mae plant yn gorfod dioddef llawer oherwydd pechodau rhai ereill. Maent hwy, druain, yn hollol ddiniwed; a maddeuant i'w poenydiwr pan fo'r boen wedi darfod.
"Y tro diweddaf yr achubais blentyn o afael adyn, torrodd fy iechyd i lawr yn lân. Dywedodd y meddyg fod yn rhaid i mi orffwys, a gadael fy ngwaith am dymor. A dyma fi ar y llong ynghanol y môr. Nid oes bosibl i blentyn fynd ar goll yma. Ni all neb eich lladrata chwi, Nest. Y mae'r môr dibryder o'n cwmpas, ac ni all neb ddianc drosto.
"Erbyn hyn yr wyf yn well o lawer. Erbyn y down i Benrhyn Gobaith Da, byddaf yn barod i ail ddechreu."
"Gwelsoch bethau rhyfedd iawn," ebe Nest.
"Do. A hoffech i mi adrodd ystori i chwi bob bore? Am ryw wythnos, hwyrach, rhag i chwi flino."
"Ni fuasai dim yn well gennyf. Dof atoch bob bore."
A dywedodd y gŵr unig yr ystraeon sy'n dilyn.UN O HEOLYDD FENIS
II. Y BACHGEN TAIR OED
"AR GOLL, bachgen tair oed. Collwyd ef o dŷ ei rieni trallodedig tua phum munud wedi saith nos Sadwrn. Yr oedd maen geni wrth ben ei lygad chwith."
TUA dwy awr ar ol i'r rhieni anfon yr uchod, gyda'u cyfeiriad, i'r papur newydd, yr oeddwn wrth eu drws. Yr oedd yn amlwg i mi oddi wrth yr hysbysiad eu bod yn dad a mam gor-hoff a, gor-ofalus o'u plentyn. Y munud y gwelais hwy, cadarnhawyd hyn yn fy meddwl. Dau heb fawr o allu meddyliol oeddynt, ond gwelais eu bod ynghanol llawnder, ac mai eu plentyn tair oed oedd goleuni y tŷ,—gwelwn ei deganau costfawr ym mhob cyfeiriad.
Bum beth amser yn methu cael dim gwybodaeth glir. "Peidiwch galaru," ebe fi, er mwyn eu tawelu, "bydd yn hawdd cael eich bachgen oherwydd y maen geni oedd ar ei ael." Ond wylo'n chwerwach a wnaethant; a sylwodd y fam, rhwng ei hocheneidiau, eu bod wedi bod yn galaru am dair blynedd fod yr anurdd hwnnw ar wyneb y bachgen. "Pe buasem wedi diolch mwy am dano, yn lle gofidio fod y maen geni ar ei dalcen, meddai, "buasai Rhagluniaeth wedi ei adael inni." Ceisiais ei chysuro trwy ddywedyd mai ar gyfer adeg gyfyng o'r natur yma y rhoddasai Rhagluniaeth y marc ar ei wyneb; a fod hynny'n arwydd sicr y ceid ef yn ol.
Llwyddais i'w tawelu o'r diwedd, a chefais y wybodaeth oedd arnaf eisieu. Penderfynais ar unwaith mai nid lladron plant cyffredin a'i lladratasai, a fod un o'r morwynion yn gwybod rhywbeth am ei ddiflaniad. A chefais yr hanes hwn,—gadawyd cyfoeth mawr i'r wraig, oherwydd fod cefnder iddi wedi digio eu modryb. Ni adawyd i hwnnw ond busnes digon di-ennill, oedd yn gofyn mynd yn ol a blaen yn aml rhwng Llundain a Fenis. Yr oedd ar y gŵr a'r wraig ofn y cefnder,—gŵr caled a dichellgar iawn oedd, ebe hwy. "A'r bachgen oedd yr unig beth rhyngddo a'r arian", ebe'r wraig, gan ail dorri i wylo.
Mynnais weld y morwynion a'r gweision, a chefais ddarluniad ganddynt hwy o'r cefnder. Y peth nesaf oedd edrych a oedd gartref. Colli amser fuasai mynd i chwilio. Troais yn sydyn at y forwyn a amheuwn, a gofynnais iddi'n ddisymwth,—"Lle mae Mr. Marks?" Wedi ei thaflu oddiar ei gochel gan sydynrwydd y cwestiwn, atebodd,—Wedi mynd i Fenis."
Yr oedd y trên nos gymerai ef newydd fynd. Ond gwyddwn y medrwn ei gyfarfod ym Milan trwy gymeryd ffordd arall fwy costus.
Nawn drannoeth, yn lluddedig ddigon, yr oeddwn yng ngorsaf Milan. Diflannodd fy lludded i gyd mewn eiliad wrth weld dau ddyn a phlentyn yn mynd i drên Fenis. Dyn tal, gyda thrwyn a llygaid eryraidd oedd un,—ie, Mr. Marks oedd. Gŵr byrr, cydnerth, oedd y llall, gyda thalcen bychan, trwyn ysgwâr, a phen crwn fel bwled. Yr oedd cadach dros lygad chwith y plentyn.
Eis i'r un cerbyd a hwy. Dechreuodd y plentyn ystrancio; ac yr oedd yn amlwg na wyddai yr un ohonynt sut i drin plentyn. "Eisio tynnu'r cadach, eisio mynd at mami a tada,"—dyna ddau fyrdwn ei wylofain. Yr oedd y plentyn yn mynd yn feistr glân arnynt, er ei fygwth a'i guro. Er mwyn cael siarad â hwy, cynhygiais eu helpu. Gofynnais a gawn ei roi i gysgu; rhoddais feddyglyn iddo, yr oeddwn am iddo fod yn effro y nos wedyn os oedd fy nghynllun i lwyddo. Cyn pen pum munud, yr oedd y bachgen yn cysgu'n dawel ar lin y gŵr byrr, ac yr oedd hwnnw yn ei ddal fel pe buasai'n beiriant dynameit ar fin ffrwydro, ac nid fel y bydd y cyfarwydd yn cydio mewn baban.
Daethom yn dipyn o gyfeillion. Dywedodd y tal du eu bod yn mynd a'r bachgen at ei fam i Trieste; a chyfaddefodd y byrr,—fel pe buasai eisieu cyfaddef,—nad oeddynt fawr o law ar drin plentyn. Yr oedd y bachgen yn dal i gysgu pan gyrhaeddasom Fenis. Aethom yn yr un gondola; a chawsom ein bod yn mynd i'r un gwesty. Erbyn hyn, yr oeddwn yn credu nad oeddynt am ladd y plentyn; ond tybiwn yn sicr nad oeddynt yn meddwl i'w dad a'i fam ei weld byth mwy. Ei gyfoeth, er na wyddai ef ddim am dano, oedd perygl y bachgen; a'r maen geni ar ei ael, er na phoenodd ef erioed ynghylch hwnnw, oedd y peth tebycaf o ddod ag ef yn ol i ddedwyddwch ac at ei fam.
Y noson honno, yr oedd fy ystafell wely i ar gyfer eu hystafell hwy. Ystafell ddau wely oedd eu cysgle hwy, ond nis gwn gyda pha un ohonynt yr oedd y bachgen. Gwyddwn y cawn wybod cyn hir.
Deffrodd y bachgen o'i gwsg hir pan oedd pawb arall yn dawel. Yr oedd yn newynog, yn groes, ac mewn lle dieithr. Gwaeddai dros bob man am ei fam a'i dad, ac am dynnu'r cadach. Ceisiai ddau ei dawelu; yna clywais hwy'n tyngu. Toc, dyma gnoc ar fy nrws; a daeth y gŵr hir i mewn, a'r bachgen yn cicio ac yn gwaeddi yn ei freichiau. Yr oedd y gŵr byrr yn dal y ganwyll y tu ol, a golwg hanner effro arno. Teflid cysgod y gŵr hir ar y mur gyferbyn, ac yr oedd golwg ddu, frawychus, arno fel cysgod lofrudd.
"A fedrwch chwi ddim rhoi rhywbeth i'r cythgam bach yma eto," meddai," iddo gysgu dan y bore? Y mae rhai'n meddwl y gall plentyn gysgu o hyd. "Medraf," meddwn innau, "gadewch ef i mi." Diolchodd y ddau o waelod eu calon, ac aethant ar ffrwst i'w gwelyau'n ol; a chyn pen pum munud, clywn gyd-chwyrnu hyfryd.
Gwisgais am danaf gynted y gallwn. Nid oeddynt wedi tynnu am y bachgen; ac edrychai arnaf gyda llygaid mawr agored, gan fwyta teisen roddaswn iddo, yn rhy brysur i wylo yn awr. Tynnais y cadach oddiam ei ben, er mawr foddhad iddo; a gwelwn y maen geni yn eglur. Aethom allan ein dau, talais y bil i'r porthor nos; a chyn torri gwawr y bore, yr oedd hanner gwastadedd gogledd yr Eidal rhyngom a'r ddau gysgadur.
Daeth y bachgen a minnau'n gyfeillion mawr ar y ffordd; ac yr oedd y croesaw gawsom yn ei gartref y tu hwnt i bob terfyn,—yr oedd yno wylo a chusanu, a chusanu a wylo, am oriau.
Ni fynnent roi'r peth yn llaw'r gyfraith, ac ni ddywedasant air wrth neb yn lle cafwyd y bachgen. Ymhen hir a hwyr, mentrodd y cefnder yn ei ol. Tybed ei fod yn credu mai breuddwydio ei fod wedi lladrata'r bachgen a wnaeth?
Mae gofal y rhieni am y plentyn yn fwy nag erioed. Byddaf yn gorfod mynd yno yn awr ac yn y man i ddangos fy mod ar gael eto, os bydd taro. Mae'r bachgen yn tyfu'n fachgen braf; ac, er mai ychydig o allu sydd yn ei rieni, bydd yn fuan iawn yn hen ddigon cyfrwys i edrych ar ei ol ei hun. Os ceisia'r tal du ei ddrygu eto, caiff weld ei fod wedi taro wrth ei drech.
III-GENETHIG CHWECH OED, GWALLT EURAIDD HIR
"AR GOLL, genethig chwech oed, gwallt euraidd hir, o'r enw Irene Lee, yn siarad Saesneg ac Eidaleg. Het wellt wen, a rhosyn coch arni; blouse gwyn a ffrog las; esgidiau melynion. Gwelwyd hi ddiweddaf fore Sadwrn, yn y Piazza Cavour, a'i gwyneb tua'r porthladd, &c."
Anfonwyd y Nice Courrier i mi gan gyfaill o Genoa, a'r hysbysiad uchod ynddo. Dywedai fod pawb yn cydymdeimlo 'n ddwys â rhieni'r eneth gollasid,—Saeson cyfrifol yn byw yn Genoa. Yr oeddis wedi chwilio'n ddyfal am bythefnos, ond heb gael syniad i ble'r aethai hi.
Cyrhaeddais Genoa ar fore Mawrth yn Ebrill, ond ni chafodd tlysni diarhebol traeth Liguria yrru fy neges o meddwl. Deallais yn union eu bod wedi cyfyngu eu hymchwiliadau i'r porthladd prysur, oherwydd mai ar y ffordd yno y gwelwyd yr eneth ddiweddaf. Ond nid oedd bosibl cael pen ei llwybr yno.
Wedi holi a chwilio, daethum i'r penderfyniad nas gallai drwg fod wedi digwydd liw dydd, yn heolydd llawnion Genoa, i blentyn. Rhaid ei bod wedi mynd i ffwrdd gyda'r trên, ac o'i bodd.
Holais y teulu am ei dull. Un serchog iawn oedd, a hynod hoff o'i thad a'i mam, ac o'i chwaer ieuengach. Nid oedd ganddi fryndiau ond yn Genoa. "Ond, wrth gofio," ebe ei mam, bu arni hiraeth mawr ar ol Margaret Hermann." Deallais mai morwyn oedd y Fargaret honno, droisid o'i lle am ladrad, er ei bod yn eneth weithgar a deallus iawn. Almaenwyr oedd ei theulu, ond yn byw yn rhywle yn Naples. Yr oedd wedi lladrata dros ugain punt; ond ni erlyniasid hi, oherwydd serch y plant ati, ac oherwydd ei gwasanaeth.
Cerddais drannoeth heibio'r gwyliwr ar ffordd y Mura della Cava. Yr oedd of wedi gweld llawer dwy yn ateb i'm desgrifiad; ond, erbyn holi, nid oedd efe yn gwylio y diwrnod hwnnw. Eis ymlaen i orsaf Sturla, yr agosaf at orsaf Genoa. Cefais ben y llwybr yno; yr oedd merch ieuanc a genethig Saesneg wedi codi tocyn i Livorno. Cyrhaeddais Livorno gyda'r trên cyntaf, a chefais eu hanes yn cael cwch ar eu hunion i fynd i Naples. Gynted y gallwn, yr oeddwn innau yn Naples hefyd, ac yna collais pob craff arnynt.
Bum yn cerdded am ddiwrnodau; a theimlwn yn sicr fod Irene Lee yn fy ymyl yn rhywle. Ryw nawn, pan oeddwn yn synfyfyrio ger y Bau, gofynnodd rhywun i mi yn Saesneg faint oedd o'r gloch.
Troais ac edrychais, a gwelais mai Margaret Hermann ac Irene Lee oedd yno. Tybiai Irene, druan, mai ei mam oedd wedi peri i Margaret ddod a hi i'r ysgol yn Naples. Ond ni wn i hyd y dydd heddyw prun ai cariad at yr eneth, ynte awydd dial ar ei mham, yw'r gwir esboniad ar waith yr Almaenes.
IV.—BACHGEN PUMP OED, GWALLT DU, LLAES, LLYGAID GOLEU
"AR GOLL, bachgen pump oed, gwallt du, llaes, llygaid goleu; mewn dillad morwr. Gwelwyd ef ddiweddaf wrth ddrws tŷ ei dad, Rhagfyr 23, tua phedwar o'r gloch. Rhoddir gwobr dda am unrhyw hysbysrwydd yn ei gylch i'w rieni trallodedig."
Yr oeddwn wedi meddwl treulio Nadolig tawel yn Antwerp, ond dyma'r hysbysiad welais yn y papur yn gyntaf peth wrth fwyta fy mrecwest y diwrnod cynt. Aeth y peth imi ar unwaith mai fi, a myfi'n unig, fedrai ddwyn Nadolig llawen i'r teulu trallodedig hwnnw, oedd yn sylweddoli ing tad wrth golli ei fab.
Curais wrth y drws. Cefais fy hun mewn cartref cysurus, wedi ei barotoi at lawenydd y Nadolig, pan fyddai'r bachgen yn bump oed. Cefais y tad yn nyfnder ei anobaith; danghosodd lythyr imi a wnaeth i'm gwaed fferru o'm mewn am eiliad.
Ond dyma'r hanes yn fyrr. Gŵr o bentref bychan Meer oedd Jan van Steen, wedi dod yn gysurus trwy ddiwydrwydd mawr yn Antwerp, ac wedi priodi geneth harddaf ei ardal enedigol. Eu mab hwy oedd Jan bychan, a gollesid y diwrnod cynt. Yn cyd-chware â'r tad adeg plentyndod ym Meer yr oedd bachgen drwg a chreulon o'r enw Witt, drodd yn ofer iawn. Cashai Jan van Steen oherwydd ei rinwedd, ei lwyddiant, ac yn enwedig oherwydd iddo briodi Margaret,— yr hon a'i gwrthodasai ef gyda dirmyg. Tyngodd wrth Jan y chwerwai ef ei gwpan, a bu am flynyddoedd yn chwilio am ei gyfle. Ond y, peth oedd wedi gyrru dychryn i galon y tad, druan, oedd cael y llythyr hwn y bore hwnnw,—
"Jan Van Steen, y mae'r amser o'r diwedd wedi dod Y mae gweled dy ddedwyddwch wedi gwneud diafl ohonof. Yr wyf yn mynd i uffern heddyw, trwy'r Scheldt. Gwnaf y ddaear yn uffern i tithau tra byddot arni. Ni weli dy fachgen byth mwy, ond bydd yn agosach atat yfory nag y medri gredu. Bydd yn gweddio gyda thi bore yfory, ac yn hiraethu am dy weled yn fwy nag erioed. Byddi di yng nghanol llawnder, bydd yntau'n newynu i farwolaeth. Lle bynnag y byddai fi yfory, nis gallaf ddioddef mwy nag y rhaid i ti a dy fachgen ddioddef. Mwynha'th Nadolig.
- Gyda chasineb dy elyn,
- PIERRE WITT."
Ceisiais ddarbwyllo'r tad mai dychmygion diystyr dyn wedi ynfydu oedd y llythyr; ond gwelais yn union ei fod yn gwybod digon am Pierre Witt i gredu pob gair. A chyda hynny, daeth cennad i ddweyd fod corff Witt wedi ei godi o'r Scheldt.
Eis i lawr at yr afon ar fy union. Yr oedd corff Witt wedi oeri, yr oedd wedi marw ers oriau. Chwiliasom ei bocedi,—yr oedd heddgeidwaid Antwerp yn fy adnabod yn dda. Nid oedd gwaed ar ei gyllell; ac yr oedd cap y bachgen, weithiasai ei fam iddo, ym mhoced yr adyn. Ond nid oedd dim ond hynny i'm rhoddi ar y llwybr; ac mewn penbleth mawr safwn uwchben y wyneb hagr, mileinig marw, gan ofidio nas gallai siarad, i mi gael rhyw awgrym.
Eis yn ol i geisio cysuro'r tad a'r fam, wedi rhoddi'r heddgeidwaid ar waith, ond nid oedd dim yn ymgynnyg i'n meddwl. Ond tybed a oedd rhyw feddwl i'r llythyr, ynte gwallgofrwydd noeth oedd? Ac wrth droi'r peth yn fy meddwl, gofynnais i'r tad, megis ar fy nghyfer,—
"A wnaethoch chwi ryw gam â Witt erioed ?" Naddo," meddai. "Ond, pan oeddym yn blant ym Meer, sarhaodd y wraig yma, a rhoisom ninnau ef yn y twll tywyll tan lawr yr eglwys."
Pelydrodd goleuni i'm meddwl, a gofynnais yn awchus,
Ple'r oeddych wedi meddwl treulio'r dydd yfory?"
"Yn ein hen gartref, yr oedd ar fy mam gymaint o eisieu gweld y bachgen." Wedi dweyd hyn, aeth teimladau'r tad yn chwilfriw mân; a syrthiodd ei feddwl, druan, i ebargofiant llewyg. Gelwais ar ei was ato: yr oedd gennyf fi waith arall, ac yr oedd rhywbeth yn dweyd wrthyf nad oedd gennyf funud i'w golli.
Yr oedd M. Koft, y cudd-heddgeidwad, yn fy nghyfarfod yn y drws. Ysgydwodd ei ben yn drist, nid oedd ganddo obaith. Gelwais am gerbyd, darn lusgais M. Koft iddo, a dywedais wrth y gyriedydd am yrru nerth carnau'r march i gyfeiriad Meer. Yr oedd y pellder yn ddeng milltir ar hugain, newidiasom geffylau tua chanol y ffordd, ac yr oedd dydd byrr Rhagfyr yn tynnu i'w derfyn pan gawsom ein hunain wrth yr hen eglwys.
Yr oedd goleu ynddi, ac yr oedd yn llawn o blant nwyfus, pawb yn gwneud ei ran i'w phrydferthu erbyn drannoeth. Gofynnais i'r hen dorrwr beddau gwargrwm a gawn fynd i lawr i'r crypt.
"O cewch," meddai, "ond y mae'n oer iawn yno, ni fu neb i lawr ers llawer dydd, ond y marw."
Cawsom lusern. Yr oedd y grisiau'n llaith wyrdd. Ond yr oedd ol traed diweddar yn amlwg arnynt. Curai'm calon yn gyflym, a thybiwn ein bod oes yn cyrraedd y gwaelod. Twll du, brawychus, oedd,—ond yr oedd yn hollol wag. Er hynny',—ai dychymyg oedd?—tybiwn glywed anadliad gwan, methedig.
Gwelwn bob man ond un gornel y tu hwnt i biler. Eis yno,—a daeth popeth yn glir. Yr oedd cauad arch wedi ei roddi ar ei led orwedd yn erbyn y piler. Ac wedi ei strapio ar hwnnw yr oedd y bachgen pump oed,—adnabum ef ar unwaith, oherwydd nid yn aml yr a gwallt du a llygaid goleu gyda'u gilydd. Yr oedd cadach wedi ei rwymo am ei enau fel nas gallai siarad. Yr oedd eto'n anadlu. Ni chollasom eiliad cyn ei ryddhau; ac mewn llai na deng munud, yr oedd mewn gwely cynnes yn nhŷ ei nain. Dywedai'r meddyg y buasai'n byw tan ganol dydd drannoeth pe gadewsid ef fel yr oedd yn y crypt—yr oedd yr adyn wedi trefnu iddo fod ym mhangfeydd ei ddioddef pan fyddai ei dad a'i fam yn diolch uwch ei ben am eni eu Ceidwad.
Nid oes gennyf ond un peth i'w ddweyd eto,—yr oedd y Nadolig hwnnw yn un dedwydd wedi'r cwbl i'r fam a'r tad a'r plentyn a gollesid. Ac yr oedd yn un dedwydd i minnau yn Antwerp.
V—Y MYFYRIWR CRWYDREDIG.
UNWAITH, cefais siomedigaeth fawr. Cafwyd y colledig cyn i mi gael dechreu chwilio. Ac fel hyn y bu.
Yr oedd bachgen o Ddeheudir Cymru, mab i deulu parchus iawn, wedi ennill ysgoloriaeth yn Rhydychen. Daeth adeg ei arholiad terfynol am anrhydedd,—amser pryderus iawn i bob efrydydd.—yn agos. Yr oedd yr arholiad yn dal llawer ar ei feddwl, er nad oedd wedi gwastraffu dim o'i amser. Dywedodd ei athrawon wrtho am gymeryd wythnos o seibiant o flaen yr arholiad; thybiasant ei fod wedi mynd adre.
Daeth dydd cyntaf yr arholiad, ond nid ymddangosodd ef. Pellebrwyd at ei deulu, ond nid oedd neb yn ei gartref wedi ei weld er dechreu'r term. Yna, bu pryder mawr, gartref ac yn ei goleg. Chwiliwyd yr afonydd, ceisiwyd gwynt ar ei lwybr i bob cyfeiriad, ond ni ddaeth dim o'i hanes i'r golwg. Sonnid am fechgyn yn cael eu hud-ddenu i gelloedd yn Llundain, i'w hysbeilio a'u llofruddio, lle llosgid y cyrff i guddio'r erchyll-waith. Ofnai ei dad a'i fam bob peth, ac nid oedd ball ar eu hymchwil.
O'r diwedd, anfonasant ataf fi, a phrysurais innau i Rydychen i geisio olrhain pen llwybr y colledig. Ond gydag i mi osod fy hun yno, cefais bellebyr oddiwrth y tad i ddweyd fod y mab wedi ei ddarganfod.
Ryw fore, daeth llythyr oddiwrtho, o ryw le bychan pellennig ar yr afon Saskatchewan, ym mhellderoedd Canada. Daeth adre, a dywedodd ei hanes. Nid oedd yn cofio dim nes cael ei hun mewn lle o'r enw Battleford, dyna'r enw, yr wyf yn meddwl,—ar gyffiniau eithaf gwareiddiad. Nid oedd wedi meddwl am grwydro felly, nac wedi breuddwydio am wneud; ac ni ŵyr eto pam na pha fodd yr aeth.
Gwn i am aml dro tebyg, ac yr wyf yn credu ei stori bob gair. Pe cai dwymyn, deuai hanes y daith, yn ôl pob tebyg, i'w gof. Yr oedd ganddo flwyddyn arall i efrydu, a graddiodd yn anrhydeddus iawn. Y mae'n awr yn ŵr defnyddiol, ac heb ddim awydd trafaelio.
VI.—MAB Y WRAIG WEDDW
GOFYNNODD cyfaill i mi fynd i bentref bychan yn Lloegr i chwilio am fab i wraig oedd wedi gweld llawer o drallodion, ac oedd yn awr ymron a cholli ei synnwyr oherwydd hiraeth.
Yr oedd wedi bod mewn amgylchiadau cysurus iawn unwaith,—mewn cartref llawn a dedwydd gyda'i gŵr ac un plentyn. Gwraig garedig, hollol ddiddichell, yn credu'r goreu am bawb oedd. A phlentyn serchog, tebyg iawn i'w fam, a theimladau dwys, oedd Frank
Bu'r tad farw, a gadawodd ddigon i'r wraig fyw arno, a digon i roi Frank ar ben llwybr bywyd. Ond, ymhen amser, llwyddodd un arall i ddenu sylw'r weddw. Gŵr mawr, hardd oedd, a chudyn hir o wallt melynddu'n taflu allan o bob cefn. Yr oedd duwioldeb a dyngarwch yn llond ei siarad, a gallasech feddwl mai er mwyn y diamddiffyn yr anfonwyd ef i'r byd. Swynwyd mam Frank ganddo'n lân, a phriododd ef. Yna yr oedd eu harian, a Frank, at ei drugaredd.
Yn fuan iawn trodd y gŵr yn greulawn, a thriniai Frank a'i fam fel pe buasent gŵn. Daeth morwyn hagr yno o rywle, a thri o blant bryntion anrasol. Caent hwy bob danteithion, ond ni chai Frank ond rhyw grystion adawent.
Ystori brudd ydyw, ond rhaid i mi ei dweyd. Trwy gelwydd a brad, profodd y gŵr creulon mewn llŷs cyfraith ddigon i gael gwared o'r wraig a Frank, a phriododd y forwyn. Aethant hwythau, y ddau ddiniwed, i fyw i fwthyn bychan gerllaw. Yr oeddynt yn dlodion iawn; ond yr oedd cydymdeimlad eu cymdogion gyda hwy, a chawsant lawer o garedigrwydd oddiar eu llaw. Yr oedd gŵr y whiskers a'r ffug ddyngarwch, a'r forwyn hagr oedd yn ail wraig iddo, yn cashau y fam a'r plentyn. Yn aml iawn y mae'r erlidiwr yn cashau'r erlidiedig, fel pe buasai wedi gwneud cam ag ef trwy oddef ei greulondeb; ac y mae'n ddiamau fod gan y blaidd ddigon o resymau yn ei feddwl ei hun dros gashau'r oen. Nis gallai y gŵr barfog a'r forwyn oddef edrych ar y ddau y gwnaethant gymaint o gam â hwy, a hiraethent am gyfle i'w poeni.
Ryw fin nos, collwyd Frank. Yr oedd, erbyn hyn, yn saith oed, ond yr oedd wedi cael cymaint o gamdriniaeth fel nad edrychai yn hŷn na rhyw bedair a hanner. Yr oedd ei fam wedi bod yn cusanu gofidiau er adeg ei hail briodas, lladdodd y golled hon hi'n lân. Ni chredai y deuai ei bachgen yn ôl; a sylwyd cyn hir ei bod yn peidio wylo, a fod ei llygaid yn hollol ddiddagrau wrth dywallt ei chwynion.
Anfonodd cyfaill am danaf fi. Clywais yr hanes uchod i gyd. Y mae gennyf ryw ragfarn di-sail yn erbyn mutton chop whiskers, y mae gennyf ragfarn ar sail adnod yn erbyn y sawl fydd yn pregethu ei rinweddau ei hun. Teimlwn yn sicr mai gan y gŵr creulon yr oedd Frank, ond ym mha le? Chwiliais am dair wythnos, nos a dydd bron, ond nid oeddwn ddim agosach.
Tarawodd peth newydd i'm meddwl wrth wrando ar rywun yn dweyd fod Mr. Whiteman,—dyna enw'r dyn,—yn cadw mwy o gŵn ac ieir nag erioed, a'i fod yn gwneud llawer o arian oddiwrthynt. Dywedasant hefyd ei fod wedi ffraeo â'r meddyg ynghylch ei werthasai iddo.
Ryw ddiwrnod, deuais i'r pentref yn ôl, wedi gwneud fy hun mor debyg i feddyg hoff o ddiod ag y medrwn; a chymerais lety yn y dafarn. Aeth y si ar unwaith fod doctor newydd wedi ymsefydlu yn y pentref.
Ymhen dau ddiwrnod, daeth Mr. Whiteman i ofyn i mi a ddeuwn i weld bachgen claf oedd yn gadw o dosturi. "Ond cofiwch," meddai, beidio dweyd gair am dano wrth neb. Dyngarwch sy'n gwneud i mi roi llety iddo; ac y mae hanner pleser gwneud daioni yn colli os caiff y byd wybod fy mod yn ei wneud."
Dilynais ef at ei dŷ—tŷ ddylasai fod yn eiddo Frank,—ac i'r cefn, lle yr oedd sŵn cyfarth a sŵn clochdar ieir. Yno, mewn math o feudy, ar wely gwellt, gorweddai bachgen ieuanc gwelw. Yr oedd ei esgyrn drwy ei groen bron; ond yr oedd rhyw loywder serchog yn ei lygaid wrth edrych yn erfyniol arnaf.
"Fy machgen," ebe fi, "beth a gefaist i'w fwyta heddyw?"
"Ches i ddim heddyw na ddoe," ebai, gyda chipedrychiad ofnus at y dyn, "ond byddwn yn arfer cael y darnau o gig a bara wrthodai'r cŵn bach."
Cuchiodd gwyneb y dyn yn erwin, a gofynnodd rhag i'r llanc ddweyd ychwaneg,—
Beth sydd arno?
"Newyn," ebe finnau, gan edrych ym myw ei lygad. "Faint fydd e byw?" ebai wedyn, mewn tôn hollol ddigydymdeimlad.
Gofynnais iddo ddod allan gyda mi. Dywedais nad oedd gan y bachgen ond ychydig oriau i fyw; a dychrynais ef trwy ddweyd y byddai ef ar ei brawf am ddynladdiad. Wedi dychrynu felly, rhoddodd gennad sarrug i mi ddod a'i fam i weld Frank.
Pan ddaethom yno, yr oedd yn rhy hwyr. Yr oedd Frank ar ei liniau, a'i ddwylaw bychain ymhleth, a'i lygaid wedi cau; ac yr oedd ei ysbryd wedi ehedeg, gyda'i weddi fechan olaf, at ei dad. Yr oedd wedi meddwl, mae'n ddiameu, ei fod wrth ochr ei wely, a fod cwsg yn dod.
Edrychai ei fam arno. Ond, erbyn hyn, yr oedd ei deall wedi tywyllu. Nid ei bachgen hi oedd, ebai hi. "Mae hwn yn denau iawn," ebai, " dim ond esgyrn.'Roedd fy machgen i yn fwy graenus o lawer. Mae hwn wedi newynu; ond cafodd fy machgen i damaid bob pryd, er i ni ar lawer adeg fod heb damaid fy hun."
Mae rhai'n credu nad oes creulondeb at blant yn y byd. Tybia llawer fod diniweidrwydd plentyn yn apelio at y galon galetaf. Gwelais i ddigon i'm hargyhoeddi fod llawer natur rhy ddieflig,—ie, mewn cylchoedd parchus,—i ddioddefiadau plentyn apelio atynt o gwbl.
Bu mam Frank farw yn union wedyn. Daeth rheswm yn ol iddi pan ar groesi i'r byd tragwyddol. Clywodd y rhai a'i gwylient hi yn croesawu ei gŵr a'i bachgen. Os oes digon o ddioddef i'n synnu ar y ddaear weithiau, y mae'n ddiameu fod digon o ddedwyddwch i'n synnu yn y nefoedd adeg ail gyfarfod plant y tonnau.
VII.—AERES Y CASTELL
DYWEDAIS fy mod unwaith wedi methu'n lân, ac y mae y tro hwnnw yn ddirgelwch i mi byth.
Yn union o flaen y Nadolig oedd hi, amryw flynyddoedd yn ôl. Gofynnwyd i mi fynd i blas ger hen gastell enwog. Y mae'r hen le yn adfeilion,- y neuadd ardderchog heb do ond dros rannau o honni, a'r grisiau aneirif sy'n arwain i'r gwahanol ystafelloedd wedi dechreu malurio. Hen adfail mawreddog ydyw, ond mwswgl ac eiddew ac ambell goeden dalfrig yw ei unig breswylwyr,-o leiaf dyna syniad pawb cyn y tro yr wyf yn mynd i adrodd am dano.
Yn ymyl yr hen blas, codwyd tý newydd gan y perchennog, ac yno yr oedd ef a'i wraig a'i blentyn, gyda llu o weision a morwynion, yn byw. Yr oeddwn yn deall eu bod yn gyfoethog iawn; a hawdd oedd dyfalu hynny oddiwrth y gerddi, y chwarau-leoedd, a'r perllannau oedd o gwmpas adfeilion toredig du yr hen gastell.
Cyrhaeddais yno gyda'r nos. Yr oedd yr eneth ar goll,-aeres y cwbl, geneth seithmlwydd oed. Aethai i neuadd yr hon gastell ei hun y noson cynt, a diflannodd megis pe buasai'r ddaear wedi ei llyncu. Yr oedd wedi bod yn yr hen neuadd o'r blaen, ac wedi crwydro llawer ymysg yr adfeilion, ond erioed heb famaeth gyda hi.
Aeth dau beth a fy sylw. Yn un peth, dychryn, ac nid galar, oedd y peth amlycaf ar wynebau'r tad a'r fam. A pheth arall, ni fynnent esbonio paham yr anfonid y famaeth bob amser gyda'r eneth i neuadd y castell. Pan ofynnais hynny, gwelwn yn amlwg eu bod yn cadw rhywbeth yn ôl. Er hynny, prysurais i'r castell, rhag colli dim amser. Tybiwn y gallai fod yr eneth fach wedi syrthio i ryw hen ffynnon sych, neu ei bod mewn ystafell ddirgel, ac yn newynu.
Eisteddais yn adfeilion ystafell y porthor. Yr oedd yn noson dymherus, a chofio mai canol gaeaf oedd. Dechreuais gynllunio beth i'w wneud; a mwyaf yn y byd feddyliwn, anhawddaf yn y byd oedd fy nhasg. Nis gallwn feddwl am ddim ond chwilio yr hen gastell; ac ofer iawn fuasai i un anghyfarwydd ei chwilio wedi nos, tra yr oedd rhai cyfarwydd wedi chwilio pob cornel liw dydd. Tra yr oeddwn ynghanol fy syn-fyfyrdod, wele eneth fechan dlos, a llusern yn ei llaw, wrth ddrws yr ystafell. Yr oedd wedi ei gwisgo yn nillad adeg Rhyfeloedd y Rhosynau, ac ebe hi,—
"Yr ydych chwi yn chwilio llawer am blant, dyma blentyn wedi dod i chwilio am danoch chwi. Mae'r wledd yn barod. Deuwch."
A chyda gwen swynol, trodd ei sawdl. Dilynais hi, ac arweiniodd fi trwy ystafelloedd llawn o filwyr yn pendwmpian ger tanau coed,—oll yn nillad dur y bymthegfed ganrif. Toc, daethom i neuadd ardderchog, a rhoddwyd fi i eistedd ar un o'r ffenestri, wrth ochr y bwrdd. Ni welais le mor ysblennydd erioed,—y torchau uchel, y gwŷr a'r gwragedd yn eu dillad rhyfedd, a sylwais fod yno lawer iawn o blant. Eisteddai yr enethig a'm gwahoddasai yn fy ymyl; a phan ddywedais fod yno lawer o blant, atebodd,-
"Oes, y mae un yn dod yma bob blwyddyn ers pedwar can mlynedd. Myfi ddaeth ddiweddaf." Ond cyn i mi holi ychwaneg arni, yr oedd y cinio drosodd, a rhyw filwr wedi dod i'w chyrchu i ran arall o'r neuadd. Bum yno am oriau lawer, a'r peth olaf wyf yn gofio yw'r ddawns. Yn ystod honno, daeth yr enethig ataf wedyn, ac estynnodd fodrwy i mi,-
"Rhoddwch hon," meddai,"i fy mam.' Yna dawnsiodd ymaith drachefn. Edrychais ar y fodrwy, yr oedd rhuddem amhrisiadwy yn ei llygad, ac wrth i mi syllu ar y cochder dwfn, tlws, daeth cwsg ataf.
Yn y bore deffroais. Teimlwn yn oer iawn. Yr oeddwn yn eistedd ar un o ffenestri toredig yr hen neuadd fawr ynghanol yr adfeilion. Ai breuddwyd oedd y cwbl ynte? Nage, oherwydd yr oedd modrwy a rhuddem yn ei llygad yn fy llaw.
Cyflymais i'r plas. Edrychai y gŵr a'r wraig arnaf gyda rhyw drem nas gallwn ei ddeall, rhyw bryder na welais ei debyg mewn rhieni plant colledig erioed o'r blaen. Gofynnais a oedd ganddynt ddarlun o'r eneth. Oedd. Gofynnais iddynt ei roddi ymysg amryw ereill o ddarluniau genethod o'r un oed. Gwnaethant hynny. Yn y sypyn darluniau gwelais ddarlun yr enethig a'm cymerasai i'r wledd. Gofynnais,
"Ai hon yw eich merch? "
Atebasant mai ie. Yna dywedais, gan wylio eu gwynebau,
" Rhoddodd y fodrwy hon i mi i'w rhoddi i'w rhoddi i'w mam.
Edrychodd y ddau'n graff ar y fodrwy, ac ocheneidiasant. Ond yr oeddwn yn tybied fod sŵn gollyngdod yn yr ocheneidiau.
Ni fynnent fy ngwasanaeth ymhellach. Erfyniais
am gael chwilio ychwaneg, ond yn ofer. Gadewais
y lle y diwrnod hwnnw.
Clywais hen ŵr yn dweyd ar fy ffordd adre fod llawer o blant wedi eu colli o amgylch yr hen gastell, ac na ddaeth yr un gollwyd byth yn ol.
Dyna yr unig dro, mewn oes o ddeugain mlynedd, y siomwyd fi'n hollol.
Ond, ryw dro, yr wyf wedi penderfynu mynnu chwilio'r hen gastell.
Ystraeon y Teithiwr
I.—Y TEITHIWR
YMYSG y dyrfa ar y llong yr oedd gŵr cymharol ieuanc, a'i ynni yn tynnu sylw pawb. Teithiwr oedd. Yr oedd rhyw awydd gweld lleoedd newyddion yn ei ddenu yn ei flaen o hyd. Weithiau dyheai am weld lleoedd unig, na fu troed dyn ynddynt erioed; lle gwenai mil o sêr ar aberoedd tawel, a lle'r oedd y lleuad fel pe'n ymdrechu a chymylau'r nos wrth geisio goleuo'r wlad. Dro arall, crwydrai drwy ddinasoedd mawrion, gorlawn o bobl, rhai o'r heolydd yn llawn dwndwr masnach, ereill yn llawn pechod a phla. Bu bron iddo golli ei fywyd lawer gwaith—yn eira'r Pegwn, yn sychdir gwlad y Somali, ar yr Alpau, ac yn anialwch Arabia. Beth, tybed, oedd yn ei alw o'i gartref tawel i'r helyntion hyn?
Gŵr hirgoes, teneu, eiddil, oedd; a thrwyn fel Rhufeiniwr nen eryr, a llygaid duon, gwibiog. Dywedais ei fod yn eiddil, ond golwg felly yn unig oedd arno. Yr oedd ei gyhyrau fel lledr, medrai redeg pum milltir heb golli ei wynt, yr oedd ei afael fel gafael llaw haearn.
Cafodd Nest aml ysgwrs ag ef. Ni wyddai'n iawn sut i ddweyd ystori wrth enethig: ond deallai Nest amryw ddywedai wrthi, a dychmygai lawer o ychwanegiadau atynt yn cysgu'r nos.
"Lle gwenai mil o ser ar aberoedd tawel"
II.—CARLAMU TRWY'R TAN
Y MAE tymlestl o wynt ac eira'n beth digon gerwin yn ein hinsoddau gogleddol ni, ond nid yw ond megis dim wrth yr ystormydd o dân fydd yn ysgubo weithiau dros wastadeddau crinion sychion Awstralia. Gwae i'r neb fyddo ar eu llwybr; llosgir diadelloedd o ddefaid, a gyrroodd o wartheg, yn lludw mewn ychydig eiliadau; syrth coed mawrion, ir, a thai cedyrn, megis llwch i'r llawr dan anadl boeth ddeifiol yr oddaith ofnadwy.
Yr oedd gwraig fferm dair milltir o'r dref wedi dod i Warragul a dau blentyn bach gyda hi. Yr oedd Mr. Loader, ei gŵr, a geneth fechan deirblwydd oed, wedi aros gartref.
Y noson honno, ysgubodd ystorm dân dros y cartref yn y wlad. Gwelodd y tad a'r plentyn y tân yn cau o'u cwmpas, a'r coed tal o gwmpas y tŷ yn dechreu llosgi. Dechreuodd y tŷ losgi hefyd, a rhoddai'r tad bob gewyn ar waith i geisio cadw rhyw lecyn yn nodded i'r plentyn. Ond yr oedd yn mynd wannach, wannach; yr oedd gwres a thanbeidrwydd y tân bron llethu'r tad a'r plentyn. O'r diwedd, cofiodd y tad am y pydew. Cymerodd ei blentyn yn ei freichiau, rhuthrodd trwy'r tân, a. chyrhaeddodd wyneb y pydew. Ac yno y cawsant nodded, a'r goelcerth ofnadwy yn ei hafiaeth uwch eu pennau.
Pan wawriodd y bore, gwelai'r cymdogion y mig du'n codi o'r cartref, a'r flamau'n dal i herio goleu dydd. Aeth cymdogion yno ar feirch. Rhoddodd un Mr. Fowler wisg ledr am dano, a charlamodd i ganol y tân. Prin y gobeithiai neb ei weld yn dod yn ol yn fyw. Ni welai yntau ond tân a lludw ym mhobman. Ond, pan ar droi i ffwrdd, gwelodd rywbeth llosgedig megis yn codi o'r pydew. Carlamodd yno, a chafodd y plentyn yn ddianaf ym mynwes y tad; a'r tad bron yn ddall, ac megis ar drengu.
Tynnodd Mr. Fowler ei wisg ledr, a rhoddodd hi am y plentyn. Yna rhoddodd hi o'i flaen ar ei gyfrwy; a gwelai ei gymdeithion y dyn dewr yn carlamu allan megis o ganol y tân. Mentrodd ef ac un arall yn eu holau, a rhyngddynt, medrasant ddod a Mr. Loader allan yn fyw.
Y rhyfedd ydyw, mewn ystorm mor ofnadwy o dân, na chollwyd yr un bywyd dynol. Ond yr oedd y meirch a'r gwartheg a'r moch a'r defaid oll wedi llosgi'n golsyn.
Sŵn rhyfel sydd yn y byd y dyddiau hyn, a llawer yn meddwl mai rhyfel yw'r lle i ddangos dewrder. Ond, onid canwaith mwy gogoneddus yw'r dewrder sy'n cadw bywyd mewn heddwch na'r dewrder sy'n dinistrio mewn rhyfel?
II.—DRINGO MYNYDDOEDD
UN o'r pethau mwyaf perygl yw dringo mynyddoedd, ond y mae rhyw swyn rhyfedd yn y gwaith. Y mae gogoniant yn y gwaith hefyd. Hir y cofir am y gŵr safodd gyntaf ar ben Mont Blanc.
Y mae y peryglon bron yn anarluniadwy. Yr haf diweddaf, collodd Owen Glynne Jones, dringwr mynyddau enwog, athraw o'r Abermaw, ei fywyd wrth geisio dringo y Dent Blanche, yn yr Alpau.
Yr oedd pedwar ohonynt,—Jones, Hill, a dau arweinydd. Yr oeddynt wodi dringo yn uchel hyd wyneb ia llithrig, ac yr oedd y rhaff gref yn eu cysylltu wrth eu gilydd. Yr oodd talp o graig o'u blaenau, ac yr oedd yn rhaid iddynt fynd drosti. Wrth geisio dringo hwnnw, syrthiodd yr arweinydd cyntaf i lawr ar gefn Jones a'r arweinydd arall, ac ysgubwyd y tri dros y dibyn ofnadwy. Teimlai Hill ei hun yn cael ei dynnu ar eu holau; ond yr oedd carreg rhyngddo a'i gyfeillion, a throdd y rhaff am honno. Torrodd y rhaff, gadawyd Hill yn ei noddfa berygl, a gwelai'r Cymro a'r ddau Swisiad yn disgyn i'r dyfnder odditanodd.—eu dwylaw diymadferth yn estynedig, a'r rhaff yn eu cysylltu o hyd. Trwy beryglon anhygoel, medrodd Hill gyrraedd yn ol; ac aeth mintai ddewr i chwilio am y dringwyr, ond heb obaith eu cael yn fyw.
IV—YN YR EIRA
LAWER o fywydau gollwyd adeg ystormydd o eira mawr. Ond nid yr eira sy'n lladd. Mae llawer wedi byw dyddiau o dan eira; ac y mae defaid yn byw felly beunydd. Yr oerfel sydd yn lladd,—y gwynt miniog yn fferru'r gwaed, a'r eirwlaw rhewllyd yn arafu curiadau'r galon. Bum droion mewn ystorm eirwlaw oedd ar fy rhwystro i anadlu. Bydd yn ystorm eira mawr yng Nghymru weithiau. Ar yr Arennig bu dyn yn mynd a llond car o wair i'r defaid; a chyn pen ychydig funudau, deuai ystorm i guddio'r car o'i olwg â llen o eira.
Yn yr America, y mae'r tywydd yn llawer mwy eithafol nag yn ein gwlad ni,—yn eithafol oer yn y gaeaf ac yn eithafol boeth yn yr haf. Yn yr America, y mae'r amaethwr yn gorfod ceisio tynnu adref gerfydd rhaff.
Y mae'r beudai a'r ystablau. fel y mae'n digwydd yn aml, dipyn oddiwrth y tŷ. Rhoddir rhaff gref oddiwrth ddrws y tŷ at ddrws y beudy a'r ystabl. Gŵyr yr amaethwr y gall ystorm erwin o eira godi, i guddio pob man o'i olwg. Mewn ychydig iawn o
amser, disgyn troedfeddi o eira ar ei lwybr, ac y mae'r awyr yn llawn o'r eira trwm. Ond tra y ceidw ei afael yn y rhaff, gŵyr ei fod ar y ffordd i ddiogelwch a diddosrwydd.
V.—TON YN ACHUB BYWYD
MAE ynys fechan o graig, a elwir Craig yr Esgob, ger ynysoedd Scilly. Rai blynyddoedd yn ol, adeiladwyd goleudy arni, yn gyfarwyddyd ac yn rhybudd i'r llongau aml sy'n hwylio gyda glannau deheuol ein hynys. Pan godid y goleudy, yr oedd mab yr arch-adeiladydd yn edmygu gwaith ei dad. Un diwrnod tawel, clir, collodd ei draed a syrthiodd. "Nis gall dim. ei achub," ebe'r gweithwyr, dan ddal eu hanadl. Yr oedd y goleudy yn uchel iawn, a dim ond craig odditanodd.
Ond, pan oedd y bachgen yn disgyn, daeth ton anferth o rywle o'r Werydd, a chyrhaeddodd waelod y tŵr. Syrthiodd y bachgen yn ddianaf ar ei bron meddal, cludwyd ef ychydig i'r môr, a nofiodd yn ol heb fod ddim gwaeth.
Dywedai'r gweithwyr mai dynar unig don orchuddiodd y graig y diwmod hwnnw.
Y mis diweddaf, syrthiodd un o wŷr y goleudy, ond nid oedd ton garedig rhyngddo ef a'r graig, a drylliwyd ef.
VI.—YMDRECH AR YMYL DIBYN
Yn y mis diweddaf, yr oedd teithiwr o Wyddel yn disgyn i lawr hyd lethrau peryglus Monte Rosa, un o bigynau yr Alpau. Yr oedd ganddo ddau arweinydd, Swisiaid, tad a mab. Yr oedd y tri wedi eu rhwymo wrth eu gilydd,—y mab wrth un pen i'r rhaff, y teithiwr yn y canol, a'r tad wrth y pen arall. Tra'n dringo dros yr ochrau, syrthiodd y ddau flaenaf,—y teithydd a mab yr arweinydd,— dros ymyl y clogwyn. Ond medrodd y tad gael gafael mewn carreg fawr.
Felly, yr oedd dau o'r tri dyn yn crogi gerfydd y rhaff uwchben dibyn erchyll, dros ddeng mil o droedfeddi o uchder. Yr oedd y llall yn eu dal. Ond am faint y medrai gewynau ei freichiau adael iddo eu cadw?
Gwyddai y mab gymaint oedd y pwysau ar freichiau, ei dad. Medrodd, rywsut, tra'n crogi'n ol ag ymlaen wrth y rhaff, gydio yng ngwyneb y graig. Dringodd i lawr ar hyd-ddi, o glogwyn i glogwyn; a phrysurodd, yn archolledig, a'i fywyd mewn enbydrwydd bob eiliad, i chwilio am gymorth. Gwyddai beth oedd yn adael ar ol.
Yr oedd y teithiwr eto'n grogedig wrth y rhaff. Yr oedd ei goes ddehau wedi ei thorri, ac ni fedrai wneud dim i'w achub ei hun. Daliai'r arweinydd fry ei afael yn y rhaff, a'i draed wedi eu gosod yn erbyn carreg ar fin y dibyn ofnadwy. Daliodd felly am saith awr. Yna teimlodd fod breichiau cryfion yn cymeryd lle ei freichiau lluddedig ef. 'Tynnwyd y teithiwr i fyny i ddiogelwch. Daeth pawb yn Alagna i gyfarfod y tad a'r mab dewr i'w croesawu.
"Trodd y gwynt yn sydyn."
VII.—TAITH BERYGLUS
YN ystod y flwyddyn ddiweddaf, hysbyswyd fod sêr dieithr i'w gweld ar noson neilltuol. Er mwyn cael yr olwg oreu arnynt, penderfynodd seryddwyr o ymyl Rhydychen fynd mewn awyren i fyny i'r awyr glir y tu hwnt i'r cymylau. Fin nos, acthant i gerbyd yr awyren, a gollyngwyd hi oddiwrth y ddaear. Ymsaethodd hithau i fyny, a thaflasant gydaid ar ol cydaid o dywod o honi, er mwyn prysuro ei hesgyniad drwy'r cymylau. Cododd yn gyflym trwy'r cymylau, er mor drwchus oedd eu plygion llaith o'i hamgylch. Yna arafodd, mewn awyr deneu ac oer a iach, ymhell uwchlaw cwmwl a daear. Yr oedd oerni llaith y cymylau wodi gwneud i'r nwy oedd yn yr awyren fynd yn llai o swm; crebychodd hithau, a thrymhaodd, a gorffwysodd heb godi ychwaneg.
Daeth y bore, a disgynnai pelydrau'r haul ar yr awyren yn gynnes mewn bro ddigymylau. Wrth gynhesu, ymchangai'r nwy, ysgafnhai'r awyren, a chodai'n gyflym yn uwch fyth i'r entrych. Yna, deallodd y seryddwyr, er eu braw, fod y llinyn oedd yn disgyn i lawr i'r cerbyd o'r awyren, i ollwng nwy, yn gwrthod gweithio. Ofer fuasai ceisio dringo ochr pelen yr awyren yn yr uchder mawr hwnnw. Wrth ollwng nwy y gwneir i'r awyren ddisgyn. Rhaid i'r teithiwr fedru gwneud i'r awyren esgyn a disgyn yn ol ei ewyllys, er mwyn medru mynd y ffordd y mynno. Os bydd arno eisiau teithio i'r gogledd, esgyn neu ddisgyn hyd nes yr êl i wynt yn chwythu yn y cyfeiriad hwnnw. Os bydd arno eisiau troi i'r dwyrain, esgyn neu ddisgyn drachefn. Ac weithiau cwyd uwchlaw y ffrydiau o wyntoedd croesion i gyd, er mwyn cael hofran uwch y byd mewn unigedd tawel a distaw.
Ond nid oedd gan y seryddwyr y soniais am danynt reolaeth ar eu hawyren. Teimlent eu hunain yn codi'n chwyrn o hyd. Toc, er fod y cymylau oedd ôdditanynt wedi clirio, gwelent y ddaear yn graddol newid. Am hir gwelent y ffyrdd fel llinynnau gwynion, meinion. Ac yna ni welent ond llecyn. gwyrdd wrth edrych i lawr.
Tua chanol dydd, daethant i ffrwd o wynt oedd yn chwythu'n gryf tua'r gorllewin. Teimlasant eu hunain yn teithio'n gyflym i'r cyfeiriad hwnnw. Buan y sylweddolasant eu perygl. Beth pe buasai'r awyren yn syrthio i'r môr?
Yr oedd y nos yn dod. Gwlychid ac oerid yr awyren. Ym mhle y disgynnai? Ysgrifenasant lythyr arol lythyr i'w taflu i lawr, i rybuddio gwylwyr glannau'r moroedd i sylwi ar yr awyren, ac i anfon llong i hwylio o dani os ai wrth ben y môr. Ond gobaith gwan oedd i neb gael y llythyrau mewn pryd. Syrthiai rhai ar y mynyddoedd a rhai ar y caeau; siawns oedd i un syrthio i dref neu dramwyfa pobl. Cyn iddi dywyllu, gwelent liw'r ddaear yn newid. Yn lle gwyrdd daeth glas. Bron na pheidiodd eu calonnau guro gan fraw. Yr oeddynt uwch ben y môr.
Ni chysgasant hunell y noson honno, Disgynnodd gwlaw oer, a fferrodd hwy. Teithiai'r awyren yn gyflym tua'r gorllewin o hyd. Yr oeddynt yn sicr, oherwydd yr oerni a'r gwlaw, ei bod yn disgyn hefyd.
Wedi nos hir. gwawriodd y bore. Er eu llawenydd, gwelsant eu bod uwchben y tir sych, a'u bod yn llawer agosach i'r ddaear. Gwelsant mai Sianel Bryste oedd y môr a groesasent, a'u bod yn awr yn teithio uwchben glan ddeheuol Deheudir Cymru. Yn y prynhawn, gwelsant y môr drachefn, a bron na suddodd eu calonnau o'u mhewn. Ond cyn eu hyrddio i'r môr dros bentir Dyfed, trodd y gwynt yn sydyn i'r gogledd. Yr oedd yr awyren yn graddol ddisgyn, ac yn rhywle yn sir Benfro, tarawodd y cerbyd yn erbyn coeden; llusgwyd ef ymlaen ar draws gwrychoedd hyd nes y daliwyd yr awyren gan dderwen dalfrig. Ysgytiwyd tipyn ar y teithwyr, ac anafwyd un yn bur drwm, ond anghofiasant bopeth,—y sêr hefyd,—yn eu llawenydd wrth deimlo eu traed ar y ddaear galed. Cawsant luniaeth a chynhesrwydd yn nhai rhai o amaethwyr caredig Dyfed; ond y mae'n sicr nad anghofíìant eu taith beryglus hyd y bedd.
VIII.— YMDAITH NEWYN
YN ystod y gaeaf a'r gwanwyn diweddaf, cawsom ni dywydd digon oer; bu gwynt miniog y dwyrain yn cadw'r claf a'r blodau'n ol am hir. Yn yr India ar yr un pryd yr oedd Newyn yn teyrnasu.
Yr oedd y gwlaw wedi peidio dod yn ei amser. Yr oedd yr holl ffynhonnau wedi sychu. Yr oedd pobl yn gyrru anifeiliaid hyd welyau sychion yr afonydd, a merched yn taenu dillad i sychu ar beth fuasai unwaith yn waelod llyn. Yr oedd y wlad wedi troi yn llwch cochlyd, yrrid gan y gwynt.
Y mae tlodi ac angen yn y pentref. Y mae'r bwyd wedi darfod. Y mae popeth oedd yn y tŷ wedi ei werthu i dalu am yr ychydig fara prin. Os oedd yno hen addurniadau arian, neu hen lestri pres cerfiedig, neu flychau o bren aroglus, y maent oll wedi mynd. Tŷ gwâg sydd yno,—popeth wedi mynd i gael bwyd. Ac y mae Newyn yn aros yno o hyd. Ac o ddrws agored teml gerllaw, y mae eilun coch fel pe'n gwawdio dioddefiadau ei addolwyr.
Y mae'r teuluoedd yn cychwyn, o un i un, i weithfa'r Llywodraeth draw, lle y rhoddir digon o fwyd i brin gadw croen ar yr asgwrn, am waith. Y mae'r fam yn cario'r baban mewn basged ar ei phen, a phlentyn arall yn ei breichiau. Oluda'r tad a'r plant ereill holl eiddo'r teulu. Wedì cyrraedd y weithia, gwnant eu goreu i ennill ymborth trwy dorri cerrig; ond, er eu bod yn bwrw â'u morthwylion bychain goreu gallent, ychydig iawn o gerrig dorrai'r plant.
Yn Bombay yn unig y mae'r Llywodraeth yn cynnal cynifer a holl boblogaeth Cymru. Eu prif ofn yw i'r cholera ddilyn y newyn; eu gweddi sydd am wlaw. Os daw'r cholera, med adladd y
newyn i'r bedd wrth y miloedd.CORON PRYDAIN FAWR.
Ystraeon yr Hen Gadfridog.
I.—YR HEN GADFRIDOG
Ymysg y teithwyr yr oedd hen ŵr bonheddig urddasol, a'r milwr i'w weld ym mhob osgo. Safai'n syth, cerddai'n gywir, edrychai'n llym a beirniadol, a hoffai weld popeth yn ei le. Yr oedd braidd yn wyllt ei dymer, a rhuthrai'r gwaed i'w wyneb os na fyddai wrth ei fodd. Ond hen ŵr ardderchog oedd. Anrhydeddai ei frenin, er nas gallai ei wasanaethu mwy; ymfalchiai pan welai faner Prydain mewn porthladd ar ol porthladd. Yr oedd wedi ymladd mewn llawer rhan o ymherodraeth ei frenin; a'r goron, ehangder yr ymherodraeth, a braint a dyledswydd y deiliaid hapus, oedd yn ei enau o hyd.
Iddo ef, ymladd oedd prif waith bywyd, a hela ei brif bleser. Ond hoffai Nest, er y gwyddai nas gallai hi ymladd.
Yr oedd yr hen begor wedi mynnu tipyn o fwyniant wrth wasanaethu ei frenin hefyd, yn enwedig wrth hela anifeiliaid gwylltion.
Siaradai â Nest weithiau fel pe byddai hi'n wladweinydd, weithiau fel pe byddai'n filwr. Ond yr oedd calon gynnes, serchog, yn curo yn ei fynwes, a chofiai ambell dro nad oedd hi ond geneth fach, ac esboniai bethau dyrus iddi. Felly, cofiodd Nest lawer o'r pethau ddywedodd ef wrthi.
II—CORON PRYDAIN FAWR
YR oeddwn i yn gweld y brenin Edward y Seithfed yn gwisgo ei goron am y tro cyntaf. Coronid ef yn frenin gyda rhwysg anarferol yn hen fynachlog Westminster.
Yr oedd yn frenin, mae'n wir, er yr eiliad y bu Victoria farw. Y brenin yw y deddfroddwr, felly, rhaid fod rhywun ar yr orsedd o hyd yn ol cred y cyfreithiwr, onide, ni byddai cyfraith mewn grym. Ond yn ol ewyllys y bobl y mae hynny; oherwydd trwy ddeddf seneddol, nid trwy hawl, y ca neb y frenhiniaeth a'r goron.
'Teyrnasa'r brenin dros y frenhiniaeth ehangaf welodd y byd erioed,—estyn ei deyrnwialen dros fwy na deuddeng miliwn o filltiroedd ysgwâr, a thros fwy na phedwar can miliwn o bobl. Ymysg y rhain y mae hen wlad hanesiol y Pharoaid, a gwledydd heulog hen Fogoliaid India. Y mae dros hanner masnach yr holl fyd yn llaw Prydain Fawr.
Yr ydych chwi, Nest, wedi cael y fraint o weld baner cich gwlad yn cyhwfan uwch ben llu o'r gwledydd hyn. Anrhydeddwch y faner, fy ngeneth fwyn i, hen faner ardderchog ydyw. Nì chewch chwi ymladd dros eich gwlad, fel y cefais i, wrth nad ydych yn ddim ond geneth. Ond gollwch ei gwasanaethu mewn ffyrdd ereill. Cofiwch bob dydd, wrth ddweyd eich gweddi, eich bod yn un o ddeiliaid coron Prydain Fawr.
Y mae hefyd yn gartref eang rhyddid. Ni orfodir neb, o begwn i begwn, i fynd i garchar ond trwy brawf cyfreithlawn; ni erlidir neb, ymysg y miliynau cymysgliw, am grefydd. Gweriniaeth, gyda brenin yn addurn iddi, ydyw; hi yw gwlad fwyaf gwerinol y byd.
Y mae'r goron yn llawn o'r gemau mwyaf gwerthfawr; nis gellir rhoi pris ar rai ohonynt. Bydd arglwyddi a barwniaid yn gwisgo eu coronau hwythau ar yr un dydd. Y mae'r coronau hyn, hefyd, yn dryfrith o berlau brynnwyd â mawr bris gan lawer cenhedlaeth o'u teulu. Y maent o'r un lun a choron y brenin, a'r perlau o'r un ansawdd, ond eu bod yn llawer llai.
Gwir berlau coron Prydain yw rhyddid, cydraddoldeb gwladol, a goddefiad crefyddol. Fflachia y rhain yng nghoron ein gwlad fel y gwelo yr holl fyd hwy. Ac yn hyn dylai pob deiliad wisgo coron debyg i goron ei frenin,—dylai gredu fod dyn i fod yn rhydd, i feddu yr un hawl a phawb arall yn y wladwriaeth, ac i addoli ei Dduw yn ol ei gydwybod ei hun. Tra bo hyn yn gred inni, ni fachluda haul mawredd a gogoniant Prydain Fawr.
III. BREUDDWYD NATHANAEL
"Os na bydd gryf, bydd gyfrwys," ebe hen ddiareb. Y mae dysgeidiaeth y ddiareb yn ddigon defnyddiol; ond nid yw'n arwrol. Rhaid i'r gwir arwr feiddio, a dioddef.
Y mae Cristionogion y dwyrain wedi dioddef llawer ar law y Mahometaniaid. Gwŷr chwyrn, dibris, yw dilynwyr Mahomet, plant y rhai a roent ddewis i'r gorchfygedig rhwng marw trwy'r cleddyf a byw i gredu yn eu proffwyd. Y maent hyd heddyw yn ymosod ar epil lwfr, gyfrwys, yr hen Gristionogion.
Un diwrnod, daeth dau Fahometan, Ali ac Abdul, at y Cristion Nathanael.
"Gi o Gristion," ebc Ali, "a wnei di ateb y cwestiwn a roddaf iti? Os na atebi ef, byddi farw."
"Ie, O gi dirmygus," ychwanegai Abdul, "byddi farw oni atebi ef wrth ein bodd."
"Rhynged bodd i'ch anrhydedd," ebe Nathanael, dan grynnu a gostwng ei ben, "mi a'ch atebaf wrth eich bodd hyd eithaf fy ngallu."
"O gi, a yw Mahomet yn y nefoedd?"
Syrthiodd gwedd Nathanael wrth weld y ddau erlidiwr yn dynoethi eu cledd i ddisgwyl am ei ateb. Os dywedai "Ydyw," bradychai ei ffydd; os dywedai "Nac ydyw," byddai farw.
"Rhynged bodd i chwi," ebai ef yn grynedig, "mi a freuddwydiais freuddwyd. Yn fy mreuddwyd gwelwn y nefoedd. Safai amryw angylion a phrofiwydi a seintiau ger bron Duw. Yn eu mysg gwelwn Mahomed."
Gollyngodd Ali ac Abdul eu cleddyfau i lawr at eu hanner i'r wain, a dywedasant yn ddefosiynol,— "Nid oes ond un Duw, a Mahomed yw ei broffwyd.”
"Gyda hynny," ebe'r Cristion, "gwelwn esgid un o'r angylion yn cwympo drwy'r llawr grisial, Gwelwn hi'n mynd i lawr, i lawr, i lawr i'r aflwys obry, nes y gwelwn safn ufíern yn ei llyncu. Yna, clywais Duw'n gofyn pwy ai i lawr i uffern i gyrchu esgid yr angel. Ni chlywn neb yn ateb. Ebe Duw,—"A ei di, Gabriel?" "O Dduw", ebe'r archangel, "yr wyf ger dy fron beunydd mewn purdeb, ac a lychwinaf fi fy ngwynder drwy fynd. i'r ffau huddyglyd erchyll honno?" Tebyg hefyd oedd atebion yr archangylion ereill. O'r diwedd, clywn Dduw yn gofyn,—"A ei di, Mahomed" "O Dduw, myfi yw dy broffwyd. Pe dywedet wrthyf am aros yno, mi a arhoswn yn ol dy air."
Gollyngodd Ali ac Abdul eu cleddyfau i waelod y wain, ac ail adroddasant eu credo,—"Nid oes ond un Duw, a Mahomed yw ei broffwyd."
"Yna," ebai Nathanael, gan anadlu'n rhyddach wedi gweld y cleddyfau wedi eu gweinio, "gwelwn Mahomed yn disgyn i lawr ar ol yr esgid. I lawr, i lawr, i lawr yr ai, nes o'r diwedd gwelwn ef yn ymgolli yn safn uffern. Yr oedd yno, mi welwn, ddôr haearn fawr yn cirias boeth. Pan aeth Mahomed trwyddi, clywn grechwen yn uffern; a chyda thwrf mawr, fe gauodd y ddôr. A chan y sŵn hwnnw deffrowyd fi."
Chwarddodd y ddau erlidiwr wedi deall y dull gymerodd Nathanael i osgoi eu cwestiwn, ac aethant
ymaith heb ei niweidio.IV.—COLLI BACHGEN
TRALLODUS iawn yw colli bachgen yn y goedwig neu yn ardal aberoedd. Mwy trallodus yw ei golli ymysg torfeydd anferth Llundain.
Daeth cyfaill i mi, meddyg, i Lundain i'n gweld ni'r milwyr yn dychwelyd o Ddeheudir Affrig. Gydag ef yr oedd pump o gyfeillion, a'i fachgen bach pum mlwydd oed.
Cymerasant eu lle yn Hyde Park i weld y fyddin yn gorymdeithio heibio. Ebe'r meddyg, "Gadewch i ni gyfarfod yn ein gwesty arferol am bedwar o'r gloch, os collwn ein gilydd yn y dyrfa fawr hon." Ni ddacth i'w feddwl y collai ei fachgen.
Yn rhes o bobtu i'r ffordd yr oedd yr heddgeidwaid. Wrth eu cefnau yr oedd y dorf fawr, mor dynn yn eu gilydd fel nas gallasai neb symyd cam. Felly y buont am oriau, yn disgwyl i'r milwyr ddod. 'Toc, clywid y seindorf, ac aeth yr orymdaith heibio. Yna, pwysodd y dorf ar yr heddgeidwaid, a bu ymwthio gwyllt ar ol y milwyr. Yn y tyndra a'r gwthio, collodd y cyfeillion eu gilydd, a chollodd y meddyg olwg ar ei blentyn bach.
O'r diwedd, gwthiwyd y dyrfa'n ol, ond nid oedd. olwg ar y plentyn yn unlle. Anfonodd y tad nodyn. o law i law at un o'r heddgeidwaid,—"Mae plentyn ar goll. Pump oed. Gwallt melyn. Cob ddulas. Bathodyn ar ei fron a'r geiriau, Duw a Chymru arno. Os ceir, anfoner i'r Gwesty Cymreig."
Pan ymryddhaodd y dorf, aeth y meddyg i'r gwesty. Ond nid oedd yr un ohonynt wedi gweld y plentyn; collasant olwg arno yn ystod y rhuthr. Cyn y nos, daeth gair oddiwrth yr heddgeidwaid fod y bychan wedi ei gael. Collasai olwg ar ei dad, ac nis gallai weld dim; yr oedd yn rhy fyrr, a'r dorf enfawr yn dynn yn eu gilydd o'i gwmpas. Dechreuodd wylo. Cododd rhywun ef ar ei ysgwyddau, ac o ysgwydd i ysgwydd anfonwyd ef ymlaen at y rheng o heddgeidwaid. Yn llaw yr heddgeidwad y bu, yn gweld popeth, tan aeth popeth drosodd. Daeth nodyn ei dad o law i law hyd reng hir yr heddgeidwaid nes ei gyrraedd. Felly cafwyd ef.
Nid oes ddinas yn y byd a'i phobl mor amyneddgar a phobl Llundain; ac y mae ei heddlu y rhai goreu yn y byd.
Lle eithaf diogel i blant ydyw, o ran hynny. Y mae hyd yn oed bechgyn carpiog ei heolydd yn hapus iawn.
V. YMAFLYD CODWM
Byddai ymaflyd codwm yn chwareu brenhinol unwaith. Ond yn awr, nid yw mewn bri ond ymysg gweision ffermwyr.
Unwaith, yr oedd Pedr Fawr, y Czar wnaeth allu aruthrol Rwsia y peth ydyw, yn gwledda yn y Neuadd Ymherodrol yn St. Petersburg, y ddinas newydd oedd y Czar mawr wedi ei hadeiladu fod yn brifddinas Rwsia. O amgylch yr ymherawdwr yr oedd llu o dywysogion a chadfridogion; a chydag ymylon y dorf ddisglair, yn gwylio, yr oedd rheng o filwyr.
"A oes rhywun faidd ymaflyd codwm â mi?" ebe Pedr Fawr. Acth y tywysogion a'r pendefigion yn fud; ni feiddiai neb feddwl am daflu yr eneiniog Czar. Ond ymysg y milwyr yr oedd march-filwr ieuanc ffôl. Cerddodd ymlaen, ac meddai,—
"Clyw, uniawngred Czar, mi a dy fentraf di."
"O'r goreu," ebe'r Czar. "Mi a ymgodymaf â thi ar yr amod hwn. Os tafli fi, cei dy fywyd. Os taflaf di, torrir dy ben. A ymgodymi di ar yr amod hwn?
"Gwnaf, O Czar mawr."
Ymaflasant yn eu gilydd, a thoc aeth y Czar mawr i lawr. Ond daliodd y milwr ef rhag syrthio i'r llawr.
Gofynnodd y Czar pa wobr ddymunai, ac atebodd. y bachgen ynfyd,—"Cael yfed yn ffri ym mhob gwesty brenhinol."
Medrai'r milwr ieuanc cryf daflu ymherawdwr Rwsia; ond, wrth geisio ymgodymu â'r ddiod feddwol, tarawodd ar un cryfach nag ef. Ac yn yr ymdrech honno, angeu oedd canlyniad colli'r
frwydr.VI. RHUTHR Y TRWYNGORN
YR ydym ar gyfer glannau'r Zambesi, yn Affrig. Y Trwyngorn (rhinoceros) yw dychryn mwyaf y glannau poethion hyn. Cofier, er ei hagred, y medr y trwyngormn redeg yn gyflym iawn, a'i fod yn greulon yn ei ddig. Cofier hefyd fod ei groen mor dew fel nas gellir ei saethu â gynnau cyffredin,—â'r fwlet yn wastad fel ceiniog ar ei groen.
Saethwyd un aruthrol gan Corporal Johnson. Cyn i'r anghenfil ddal yr un o'i weision duon, anfonodd y Corporal fwled i'w ysgyfaint, a syrthiodd y creadur anferth i lawr.
Mesurai bymtheg troedfedd o'i drwyn i flaen ei gynffon, yr oedd ei galon yn ddeuddeg pwys, esgyrn ei ben tua phedwar ugain pwys, ac yr oedd. yr holl bwystfil tua thunnell a chwarter.
Anodd iawn yw dianc rhagddo os na fydd coeden ynagos. Teifl y brodorion eu beichiau, a cheisiant ddianc trwy'r tyfìant,—gan gofio am y trwyn a'r corn perygl sydd yn cyflymu ar eu holau. Y mae yn rhaid iddynt ymwasgaru,—a rhedeg i bob cyfeiriad. Yna cyll yr anghenfìl beth amser i wneud ei feddwl i fyny ar ol pwy yr a; ac erbyn hynny bydd y dynion wedi medru ymguddio yn rhywle,—dan y gwellt hir, neu at eu gyddfau mewn cors. Ond os deil y trwyngorn ei olwg ar ryw un dyn, y mae'n sicr o hwnnw. Daliodd was i gyfaill i mi; corniodd ef i farwolaeth, a mathrodd ei gorff yn y gors.
Diolchwch, Nest, na raid i chwi redeg o flaen 'Trwyngorn.
MEWN PERYGL
VII. HELA LLEWOD.
GWAITH perygl yw hela llewod. Mae tri dull o wneud hynny. Chwi wyddoch am wlad y Somali, lle mae byddin i ni yn awr, yn disgwyl gorchymyn i fynd ar draws yr anialwch i ymladd a'r proffwyd gwyllt. Dangosais lle yr oedd pan oeddym ar ei chyfer. Gwlad y llewod ydyw honno. Yr oeddwn i unwaith yn mynd o Aden ar negesi Berbera; perthyn i ni, fel y gwyddoch, y mae'r ddau borthladd hynny, y naill yn Arabia a'r llall yn Affrica, a Chulfor Aden rhyngddynt.
Yr oedd yn rhaid i mi aros yn Berbera yn hir. Nid oedd yno fawr i dynnu fy sylw ond pan ddeuai ambell fasnachwr Somali ar draws y gwastadedd aniali'r môr. Dywedid wrthyf fod bryniau gwyrddion a gwastadeddau glaswelltog a ffynhonnau dyfroedd ymhellach i mewn yn y wlad. Dywedid hefyd fod yno adfeilion temlau Cristionogion fu yno'n byw o flaen y Mahometaniaid sydd yno'n awr. A dywedid fod yno ddigon o fwystfilod gwylltion,—y llew, yr eliffant, y trwyngorn, y baedd gwyllt, y zebra, a phob math o hydd.
Bum yno am wythnosau yn hela llewod; ac y mae'm cader, yn y fan acw, yn sefyll ar gwrr croen. llew a saethais; ond fe fu agos iawn i'r llew hwnnw fy lladd.
Fel y dywedais, y mae tri dull o hela llew. Y dull cyntaf ydyw gorwedd a gwylio. Rhaid i chwi wneud rhyw fath o gaban o ddrain garw, a gadael drws i ymwthio i mewn iddo. Yna, rhwymwch afr neu asyn y tu allan. Wedi hynny, ymwthiwch i'r caban, a gwthiwch ddrain i gau'r drws. Y gwaith nesaf yw rhoddi eich gwnn a'i ffroen trwy'r drain, fel y gallwch anelu mewn amrantiad at unrhyw beth ddaw at yr afr sydd yn cysgu'n dawel, heb feddwl am lew na dim, y tu allan. Os cysgwch, a deffro yn y bore, feallai y bydd yr afr wedi diflannu, a dim ond ôl troed y llew i'w weld. Os byddwch yn effro, cewch weld y bwystfil mawreddog yn dod yn llechwraidd o'r goedwig, a'r afr yn crynnu gan arswyd oherwydd presenoldeb ofnadwy y llew. Taniwch! Os lladdasoch ef, bydd yr afr a chwithau'n ddiberygl. Ond os methasoch, chwi, ac nid yr afr, fydd mown perygl. Ymhyrddia y bwystfil clwyfedig, digllon, ei hun yn erbyn eich castell drain; ac oni fedrwch fod yn ddigon cyflym i roi bwled arall yn ei ben neu ei galon, gwae chwi.
Dull arall yw dilyn ar ol y llew ar droed i'r prysgwydd, lle y cysga y dydd. Clywir fod llew wedi mynd a mynn neu blentyn o un o bentrefi'r brodorion. Dilynant ôl eì draed i'r llwyni trwchus. Wedi cyrraedd yno, ni wyddoch ar ba amrantiad y dowch wyneb yn wyneb â'r llew. Gwelwch y canghennau yn symud, clywch ru ofnadwy, a rhuthra'r bwystfil digofus heibio i chwi neu atoch. Rhaid cael anelwr iawn, a dyn diofn ac effro, i hela'r llew fel hyn. Ond y mae'n ddull mwy dyddorol na'r llall, oherwydd ei fod yn fwy cyffrous.
Y trydydd dull yw hela llew ar geffyl. Mewn gwlad agored, lle ceir glaswellt hir yn lle prysgwydd, y gellir hela fel hyn. Dilyna'r cwmni ôl ei droed nes cael rhyw syniad ym mha ran o'r gwastadedd mae'n cysgu. Yna deuant at ei wâl o wahanol gyfeiriadau, pawb a'i wnn yn berffaith barod, oherwydd ni ŵyr neb trwy ba ochr i'r twmpath gwellt, y daw allan. Os na saethir ef yn farw, peth perygl iawn fydd dilyn ar eì ol wedi ei glwyfo. Lladd y dyn cryfaf âg un ergyd â'i balf nerthol, ae ni fydd ond ychydig eiliadau yn lladd march a'i farchog yn ei gynddaredd.
Yr oeddwn yn adnabod Kruger pan oeddwn yn Ne Affrig. Cyn iddo ddod yn llywydd y Transvaal oedd hynny, ae ymhell cyn y rhyfel, wrth gwrs. Dywedodd lawer hanesyn wrthyf am dano ei hun. Aeth allan unwaith gyda'i dad, a dau arall, ar ol llew oedd wedi ymosod ar eu praidd. Huw oedd enw un o'r helwyr, a dywedai o hyd,— Ni gawn weld Paul yn dychrynnu wrth weld ei lew cyntaf,” gan boenydio y bachgen. Yr oeddynt oll ar eu ceffylau.
O'r diwedd, daethant at y twmpath gwellt sych lle'r oedd y llew'n cysgu. Dechreuasant ei amgylchynu. Rhoddwyd y bachgen Paul Kruger mewn cyfeiriad y tybient nad oedd berygl i'r llew neidio allan. Toe, clywodd y llew hwy'n dod.
Rhuodd yn arswydus, a gwelai'r bachgen ei ben yn dod drwy'r glaswellt yn union i'w gyfeiriad ef. Anelodd at y pen, a thaniodd. Neidiodd y llew yn syth i fyny i'r awyr, a disgynnodd i lawr yn berffaith lonydd. Wedi clywed y glec, carlamodd y tri ereill at Paul Kruger, a gwelodd Huw fod y llew yn farw gorn.
Yr oedd Kruger wedi clywed y medrai llew ruo un waith wedi marw. Pe neidiai rhywun ar ochr y gelain,—felly y clywsai,—gwthid y gwynt i wddw y llew, gan wneud rhuad olaf y bwystfil. Yn sydyn, pan oedd yr hen Huw yn edrych dannedd y llew, neidiodd Paul Kruger ar ochr y gelain. Agorodd y llew mawr ei enau, a rhuodd fel pe buasai'n fyw. Neidiodd Huw oddiwrtho, ac ar gefn ei geffyl, gan roddi ei holl feddwl ar ddianc. Gallwch feddwl gymaint o ddifyrrwch roddodd hyn i'r bachgen; a chlywais ei fod yn adrodd yr ystori yn ddiweddar, gan chwerthin yn iach.
GOFIDUS iawn i mi oedd cael hanes y tân yn ysgol enwog Eton, fy hen ysgol, yn nechreu y mis diweddaf. Dydd mawr Eton ywr pedwerydd o Fehefin; ond eleni yr oedd pawb mor brudd fel yr aeth y dydd hwnnw heibio heb gân nac adroddiad na llawenydd.
Y mae Eton, magwrfa cymaint o wŷr mawr Lloegr, yn hen hen. Mae'r bechgyn yn byw yn nhai gwahanol athrawon. Mae'r tai hyn yn hen ffasiwn,—yr iorwg yn cuddio eu muriau y tu allan; a'r tu mewn, gyda'i ystafelloedd trymaidd ai risiau culion, o hen goed sych iawn i'r fflam.
Y mae barrau heiyrn ar bob ffenestr, er yr hen amser, i rwystro'r bechgyn direidus ddod trwodd. Yr oeddis wedi tynnu y rhain o bob ty ond un drwy'r ysgol.
Un nos yn nechreu Mehefin, torrodd tân allan yn y tŷ hwnnw yn oriau'r nos. Ni ŵyr neb sut. Deffrowyd un o'r bechgyn gan y mŵg oedd bron a'i fygu. Gwaeddodd ar y lleill. Yr oedd y mŵg yn llenwi'r grisiau erbyn hyn, a'r fflamau creulon yn dilyn ar ei ol. Trwy ymdrechion anhygoel bron, medrasant dynnu'r barrau oddiar rai o'r ffenestri, a llithro i lawr hyd y planhigyn dringol oedd yn tyfu hyd y mur.
Ond yr oedd dau yn cysgu mewn dwy ystafell uwchben. Dywedir i rai weld gwyneb gwelw un o'r bechgyn yn tynnu ym marrau ei ffenestr, ond gorchfygodd y mŵg ef, a dihangodd yn ol. Ymlusgodd dan ei wely, i ddianc rhag y mŵg marwol, nes y deuai ymwared. Ac yno y cafwyd ei gorff, wedi llosgi'n golsyn. Y mae'n debyg i'r bachgen arall ddianc i dragwyddoldeb yn ddiboen. Tybir na ddeffrôdd, ond fod y mŵg wedi ei wneud yn ddideimlad cyn iddo wybod fod perygl.
Gwnaeth pawb ei oreu, yn enwedig yr athraw, i achub y ddau fachgen. Dringodd yr athraw at y ffenestr, llosgodd ei ddwylaw a'i wyneb wrth geisio tynnu'r barrau. Ac erbyn hynny, ni welai ond mŵg yn yr ystafell, ac nid oedd llais yn ateb.
Nid oedd fawr er pan oedd rhieni hoff yn anfon y ddau fachgen,—ei fam yn dod ag un o Lundain, a'i dad a'r llall o'r Alban. Prudd iawn oedd mynd a'u gweddillion yn ol.
Yr wyf yn galw sylw at y trychineb ingol er mwyn. gofyn cwestiwn. A oes ysgol neu dŷ yn ein gwlad, lle mae plant, nas gellir dianc ohonynt ond ar hyd y grisiau? Y grisiau yw'r llo mwyaf anodd dianc hyd-ddynt; yno y bydd y mŵg dewaf a'r tân ffyrnicaf. Y ffenestr yw'r unig obaith. Nid oes ofn lladron fel y bu ; pe mynnai lleidr, gallai fynd i unrhyw dŷ'n hawdd. Ni ddylid rhoi barrau ar ffenestr nas gellir eu tynnu o'r tu mewn. Dylai pob ffenestr fod gymaint ag sydd bosibl,—goleu a heulwen yw'r galluoedd sy'n sicrhau iechyd. Dylai fod dihangfa o bob ffenestr hefyd. Dylai fod ysgol, mewn man cyfleus, ddigon hir i gyrraedd y ffenestr uchaf yn yr adeilad.
IX.—ADAR RHAIB A CHELAIN
DO, mi welais lawer iawn o adar rhaib. Bum yn eu gwylio ym mynyddoedd yr Himalaya lawer tro. Peth perygl iawn yw mentro at eryr clwyfedig. Y mae rhyw nerth rhyfedd yn ei bîg a'i ewinedd hyd yn oed pan fydd wedi ei hamner ladd.
Wyddoch chwi beth fu'n ddieithrwch i mi am ran helaeth o fy oes? Er pan oeddwn yn oed y bachgen bach acw, sy'n chwareu draw ar ddec y llong yma, yr oeddwn yn ceisio deall un dirgelwch, ac yn methu. A dyma oedd. Sut y mae aderyn ysglyfaethgar yn gwybod am gelain lle bynnag y bydd? Saethais lew ar wastadeddau Somaliland. Yr oedd yr awyr yn glir danbaid, nid oedd gwmwl gymaint a chledr llaw gŵr i guddio mi ran o'r awyr. Ac eto, cyn pen yr hanner awr, yr oedd ugeiniau o adar ysglyfaeth yn hofran uwch em pemnau, yn disgwyl i ni orffen blingo'r llew.
O ble y daethent? Sut y medrent ein gweld ni tra yr oeddynt hwy ymhell o gyrraedd gwelediad y llygad craffaf? Arogli'r gelain? Na wnaethant. Beth oedd y gwahaniaeth rhwng arogl llew byw ac arogl llew newydd ei ladd?
Yr wyf yn meddwl fy mod wedi deall y dirgelwch. Ac mi ddwedaf i chwi pa fodd. Yr oeddwn yn hela yng ngwlad y Somali, ac yn chwilio am lewod. Aethom trwy wlad lle yr oedd llewod wedi bod, ond yr oeddynt newydd gilio o honi. Yr oedd pob hydd wedi dianc rhag eu hofn, ae nid oedd yno un creadur byw i dorri ar ddistawrwydd unig y fro. Ond pan oeddym bron a gadael yr ardal hon, gwelwn ewig. Saethodd un o honom hi, a blingasom hi. Nid oedd arnom eisieu y cig i gyd, a gadawsom” lawer ar yr ysgerbwd.
'Tua'r nos daethom heibio'r ysgerbwd yn ol. Er syndod i ni, nid oedd dim wedi cyffwrdd âg ef. Nid oedd yr un aderyn rhaib wedi bod yn agos ato. Bob tro o'r blaen, byddai'r adar wedi bwyta popeth ond yr esgym.
Gwelais yr achos. Nid gweld y gelain o bell wna'r aderyn rhaib, na'i arogli. Dilyn y llew a'r teigr a'r blaidd y mae. Gwylia uwchben y llew fo'n cysgu'r dydd, gan feddwl ei ddilyn pan gychwynno i chwilio am ysglyfaeth. Felly, pan saethem ni lew, yr oedd rhyw aderyn yn ein gwylio. Ehedai atom. Gwelai adar ereill ef yn ehedeg. "Mae bwyd fan acw," meddent. Ac ehedent oll i'r un cyfeiriad, nes y llenwid yr awyr uwch ein pen â hwynt.
X.—DYCHYMYG A FFAITH
BREUDDWYD yw nodwedd y Dwyrain; ffaith yw nodwedd y Gorllewin. Eistedd y pennaeth yn y Dwyrain dan gysgodlen ddrudfawr; myfyrìa, dychmyga. Saif y pennaeth yn y Gorllewin o flaen y bobl; arweinia'r Senedd, arwain y fyddin; mae'n llawn egni a dyfais.
Prif ddull ystraeon y dwyrain ydyw rhoi gallu goruwchnaturiol i ddyn wneud yr hyn a ewyllysia,— fod y meddwl yn dod yn ffaith ar unwaith. Nid ofer yw dychmygu felly. Esgorodd y dychmygu ar ddyfeisio ffordd. Onid yw gwyddoniaeth yn rhoddi cymaint o gyfleusterau inni fel, o gymharu ein manteision â manteision y rhai gynt, y mae ein. meddwl yn dod yn ffaith gydag ychydig iawn o drafferth? Er engraifft, rhodder stamp ceiniog ar lythyr cyfeiriedig i Uganda, yn "Affrig Dywyllaf," ac yn ddistaw a buan cludir y llythyr dros foroedd, drwy goedwigoedd, i ben ei daith hir.
Ie, ymherodraeth ardderchog yw ymherodraeth ein brenin ni. Ie, daioni wna ein byddin, a'n llynges ym mhob man. Cefais innau ran yn ei hadeiladu, a diolch fo i'r Duw da am hynny. Nest fach anwyl, mynn dithau wneud dy ran.
Ystraeon y Genhades
I.—Y GENHADES
O BOB ystraeon glywodd, y rhai gofiai Nest oreu oedd ystraeon adroddid iddi, weithiau ar fwrdd y llong, weithiau yn y cabin, gan foneddiges ieuanc. Athrawes oedd, ac yr oedd yn mynd allan fel cenhades i Ynysoedd Môr y De. Yr oedd Nest yn teimlo fod llygaid dwys y genhades yn edrych drwyddi, ac i'w henaid; ond yr oeddynt yn dyner ac yn garedig iawn. Yr oedd ei llais yn felodaidd iawn hefyd; a theimlai Nest fod ei chwmni, nid yn unig yn ei gwneud yn hapusach, ond hefyd yn ei gwneud yn well.
Weithiau adroddai'r genhades hanes rhyw blentyn bach gartref. Weithiau galwai sylw at rywbeth welent,—a gwelsant nautilus un diwrnod. Dro arall, adroddai ryw ystori oedd wedi glywed. A thro arall gwnai ambell gân fechan ddigri i ddifyrru Nest. Yr oedd yn llawn o gymdymdeimlad â phlant ac â rhai'n dioddef. Ni Wyddai Nest o'r blaen fod cymaint o ddioddef yn y byd, a fod gan Iesu Grist gymaint o waith cyn 'ennill y byd yn lwyr iddo. Bob nos, hefyd, wrth ddweyd ei gweddi, gofynnai i Iesu Grist a gai hi ei helpu i ennill y byd iddo. Nid y genhades ofynnodd iddi wneud; daeth y peth i feddwl Nest ei hun.
"Y mae'r tair yn dod yo ddistaw iawn."
II.—TAIR GENETH FACH
AR fore cynta'r flwyddyn, yr oedd tair geneth fach yn dod i lawr y grisiau eu hunain, wedi codi heb i neb eu galw. Y mae'r tair yn dod yn ddistaw iawn; ac y mae gwên disgwyliad ar wyneb pob un. Er ei bod yn oleu ddydd, y maent yn meddwl eu bod yn codi yn fore iawn. Eu hamcan yw gwaeddi "Fy nghalennig i" cyn i neb ddeall eu bod wedi codi, a chyn i neb waeddi "Fy nghalennig i" arnynt hwy. Eu perygl mawr yw chwerthin yn uchel cyn cyrraedd yr ystafell lle y mae eu mam a'u tad; oherwydd y mae eu calonnau yn llawn o obaith a mwynhad.
Nid oes dim ar y ddaear hon mor brydferth a phlant da mewn cartref hapus. Os medr rhieni wneud cartref hapus i'w plant, byddant wedi rhoddi cariad yn eu meddyliau at ddiniweidrwydd pur bore oes, ac wedi rhoddi hiraeth yn eu calonnau am gartref a mam a thad,—hiraeth fydd yn santeiddio eu heneidiau ym mhob temtasiwn a thymestl,—hyd eu bedd. Nis gallwn, feallai, roddi cyfoeth mawr na iechyd perffaith i'n plant; ond gallwn oll, hyd yn oed y tlotaf o honom, geisio gwneud eu cartref yn gartref dedwydd iddynt.
Yn nyfnder y gaeaf hwn, gellid gweld golygfa torcalonnus yn un o drefi bychain mwyaf crefyddol a mwyaf dyngarol Cymru. Yr oedd tri o blant bach heb gartref. Pan oedd yn dyddio, rhwng saith ac wyth o'r gloch y bore,—bore oer a gwlyb,—yr oedd tri bychan yn eistedd ar garreg drws gorsaf yr heddgeidwad. Gwasgont at eu gilydd i gynhesu; ond digon oer oedd y tri bychan carpiog.
Paham y daethant yno? Y mae'n debyg mai oherwydd mai yno y gwelsant eu tad a'u mam ddiweddaf. Yr oedd y rhai hynny wedi eu gwysio o flaen yr ynadon am esgeuluso eu plant, a'u gadael yn newynog a diymgeledd. Cafwyd y tad a'r fam yn euog o'r creulondeb hwn at eu plant eu hunain, ac anfonwyd hwy i'r carchar.
Beth all wneud i dad a mam esgeuluso eu plant, a'u gadael i wylo mewn carpiau, ac heb ddigon o fwyd? Nid oes ond un peth yn y byd fedr wneud hyn, a'r peth hwnnw yw'r ddiod feddwol.
'Tra'r oedd y tad a'r fam yn y carchar, yr oedd eu tri plentyn bach yn chwilio am danynt; ac wedi cyrraedd rywsut at y fan y gwelsant hwy ddiweddaf. Beth bynnag fyddant, oddiwrth eu tad a'u mam y disgwyl plant nodded.
Cymerodd rhyw Samaritan drugaredd ar y plant. Cawsant fwyd a chynhesrwydd; a rhoddwyd cyfarwyddyd iddynt ffordd i fynd i orsaf y ffordd haearn, i fynd oddiyno i dloty tref gyfagos. A gwelwyd y tri yn cychwyn drachefn,—y plentyn lleiaf yn cael ei gario ar gefn yr hynaf, ac un troed bach yn noeth.
Yn lân a hapus y dylai plant gael codi o'u gwelyau bob bore, i dderbyn croesaw a chusan tad a mam. Ond am y tri bychan hynny, yr oedd yn rhaid iddynt hwy guro'n ofnus wrth ddrws y tloty, lle nad oedd iddynt dad na mam.
III.—BACHGENNYN YN ACHUB TREF
Hwyrach yr hoffech wybod sut yr achubodd llanc ieuanc o'r enw Hans dref rhag boddi. Is-Ellmynwr (Dutchman) o ran ei rieni oedd y bachgen hwn, ac yr oedd o'i febyd,—fel y dylai pob plant da fod,—yn ufudd bob amser i'w rieni. Yr oedd hefyd wedi cael ei ddysgu i ba le bynnag y caffai ei anfon gan ei dad a'i fam, i ddod adref yn gynnar o'i negesau.
Un prynhawn, fodd bynnag, yr oedd ei rieni yn dechreu mynd yn anesmwyth yn ei gylch, am nad oedd wedi dychwelyd yn ei amser priodol. Y tro hwn cafodd ei anfon o'r dref i'r pentref cyfagos, lle yr oedd ei ewythr yn byw, ac yr oedd fel arfer i ddychwelyd yn ddioed ar ol tê, fel y byddai gartref cyn nos. Aeth amser heibio, ond nid oedd hanes am Hans yn unman, a dechreuodd ei rieni anesmwytho. Wedi mynd at y drws dro ar ol tro, penderfynasant fynd i chwilio am dano, a chymeryd gyda hwy lusern oleuedig i gael gweld y ffordd.
Digwyddai fod y llwybr ar hyd yr hwn yr oedd rhaid i Hans ddod ar ochr arglawdd, oedd yn cadw y môr rhag gorlifo y tir. Tra yr oedd ei rieni yn mynd hyd y llwybr hwn, yr oeddynt wrth reswm yn bur ofalus, gan aros yn awr ac yn y man i alw a gwrando. Ond nid oedd dim argoel iddynt glywed Hans nes oeddynt bron a chyrraedd y pentref. Yna arosasant i alw,—"Hans, Hans."
O'r diwedd, clywsant lais bron odditanynt, ac aeth ei dad i weld beth oedd y mater. A pha beth, debygech chwi, oedd Hans yn ei wneud? Yr oedd yn cadw y môr yn ol â'i law fach.
Tra yr oedd y llanc yn cerdded adref, gwelodd ar ochr yr arglawdd fod y dwfr yn dechreu torri drwy agen fechan. Clywodd ei dad lawer gwaith yn siarad am y llifogydd dychrynllyd oedd wedi cymeryd lle fel canlyniad i'r môr dorri drwy y gwrthgloddiau hyn, er i'r dechreu fod yn fychan, canys ai yr agen yn fwy, fel y byddai i'r gwrthglawdd ymollwng, a miloedd lawer yn boddi mewn canlyniad. Tra yn cofio am hyn, fe welodd y llanc bychan fod y ffrwd fach hyn yn dangos fod perygl. 'Doedd dim amser i redeg i'r dref i roi rhybudd, a 'doedd neb yn agos yn y cyfwng. Penderfynodd fynd i lawr i'r banc ei hunan, gan wasgu ei law fechan ar y twll i gadw y dwfr yn ol. Bu yno am amser maith yn methu clywed na gweld neb nes iddi fynd yn nos; er iddo alw yn fynych, 'dloedd neb yn ddigon agos i'w glywed, hyd nes iddo glywed llais ei dad. Yr oedd, erbyn hyn, yn oer a blinedig, ond arhosodd yno wrth ei orchwyl. Fe welodd ei dad y perygl ar unwaith, ac fe ddaliodd ei law gref i gadw y dwfr yn ol cyhyd ag y bu y fam yn rhedeg i'r dref i gael gweithwyr i gau y twll yn briodol. Ac nid hir y buont cyn gwneuthur hyn, ac yn awr yr oedd y perygl drosodd.
Ond yr oeddynt i gyd yn teimlo fod Hans bach wedi achub y dref. Oni buasai iddo atal y ffrwd fechan, buasai wedi rhedeg yn un fawr, a chyn y gallasai neb ei rhwystro, fe fuasai y môr wedi torri drwy y gwrthglawdd, ac erbyn y bore fe fuasai yr holl dref wedi boddi.
Gwelwn wrth hyn y gall perygl mawr godi oddiwrth beth sydd yn edrych yn fychan ar y cyntaf; ac os ydym am achub pobl rhag peryglon mawrion, ni ellir byth ddechreu yn rhy gynnar.
IV.—Y FOR FORWYN
Un o hanesion hynaf y byd yw hanes y fôr forwyn. Hanner genethig, hanner pysgodyn oedd hi. Yr oedd ganddi wyneb a gwallt a dwylaw merch brydferth, ond yr oedd gwrychell pysgodyn ar ei chefn, ac yn lle coesau a thraed yr oedd ganddi gynffon fforchog.
Trigai mewn ogof dan y môr, dan y creigiau peryglus. Os daw llong at y creigiau hynny, gwae iddi. Curir hi gan y tonnau yn erbyn y graig nes a'n ddrylliau. Gwaith y fôr forwyn dlôs a chreulon oedd hudo morwyr, druain, i'w dinistr. Canai delyn fechan, ac unwaith y clywai'r morwyr ei llais swynol, ni fedrent beidio troi y llong o'i llwybr, a mynd i gyfeiriad y llâis mwyn a'r dinistr.
Y mae hanes am un o forwyr yr hen amser fel hyn. Gwyddai fod ei long yn dod at gartref y fôr forwyn. Llanwodd glustiau y rhwyfwyr oll â chŵyr, fel na chlywent ddim. Yna gwnaeth iddynt ei rwymo ef wrth yr hwylbren yn ddiogel; a gorchymynodd iddynt gadw ar eu llwybr, beth bynnag a ddywedai ef wrthynt.
Bob tro y rhoid y rhwyf yn y dŵr, yr oeddynt yn dod nes nes at gartref y fôr forwyn. Toc, clywai'r morwr gân na chlywodd ei chyffelyb erioed,—yr oedd mor bur, mor felus, mor swynol. Teimlai awydd angerddol am rwyfo i gyfeiriad y llais. Anghofiodd y perygl, gwaeddodd ar y gŵr oedd wrth y llyw ac ar y morwyr i droi oddiar eu llwybr i'r de. Ond nid oeddynt yn clywed dim. Rhwyfasant yn ddiogel heibio'r perygl heb wybod ei fod yno.
Y FÔR FORWYN
Y mae'r ystori'n wir. Y mae môr forwyn yn hanes pob bachgen ieuanc a geneth ieuanc. Ceisia hudo pob un oddiar lwybr ei ddyledswydd. Y munud y gwrandawa arni, ac y try oddiar lwybr gwaith a dyledswydd ì chwilio am bleser, mae creigiau dinistr o'i flaen, â drwy weddill ei fywyd yn wreck. Beth yw hanes y bechgyn a'r genethod sydd wedi codi o dlodi i gyfoeth, ac o ddinodedd i fri, ac o gylch cyfyng i ddefnyddioldeb eang? Gwrthod gwrando ar lais y fôr forwyn. Yn lle ymroi i bleser diog fel eu cyfoedion, gweithiasant yn galed, daliasant eu llygaid ar nôd uchel, a daethant yn ddiogel o byllau'r glannau i'r môr agored ardderchog sydd yn llwybr i bob man.
V.—CRWYDRYN BYCHAN
MAE gwir yn rhyfeddach na rhamant yn ddigon aml. Ychydig amser yn ol, anfonodd boneddiges imi ddernyn o'r Daily Telegraph, yn cynnwys hanes crwydriadau plentyn digartref.
Ddydd Sadwrn diweddaf, ebe'r papur newydd, dygwyd plentyn o flaen yr ynad, yr hwn a edrychai'n syn ar yr heddgeidwaid â llygaid mawr agored, ar y cyhuddiad o "grwydro." Bachgen bychan bychan oedd, tair ar ddeg oed, a'i enw Robert Robinson, ac yr oedd wedi bod yn grwydryn hyd wyneb y ddaear ers dwy flynedd.
'Trodd ei dad ef o'r tŷ yn Crewe yn 1895, paham nis gwyddid. Crwydrodd y bychan oddiyno, hyd lwybrau gwyrddion ac hyd y ffyrdd hirion, blin, ar heulwen a gwlaw, heb nôd o'i flaen, byth yn aros yn hir yn unman, am fisoedd a misoedd. Yr oedd ganddo chwaer yn Warrington, ond pa fodd y gallai ei chael mewn lle mor fawr a phoblog? Ond daliodd i gerdded ymlaen o hyd.
Daeth y gwanwyn, a rhoddodd flodau ar ei lwybr; daeth yr haf, a gwelai'r plant yn chwareu yn y caeau; daeth gwynt yr Hydref i chwirlio'r dail oddiar y coed, a gwelai yntau gasglu'r ffrwythau; daeth eira a rhewynt y gaeaf, a gwelai blant wrth y tân mewn llawer bwthyn clyd. Ond nid oedd neb a gair caredig i'w ddweyd wrtho ef; yng nghysgod gwrych neu fur y cysgai, heb gwmni ond y nos a'r eira a'r sêr. Cwsg oedd yr unig gymhwynasydd, ac ambell freuddwyd ddeuai i'r meddwl bychan.
Weithiau cai ei hun ar waenydd unig Yorkshire, yn cysgu dan goeden heb neb o fewn milltiroedd iddo. Dro arall, cai ei hun yn heolydd Lerpwl, yn cysgu mewn rhyw gornel dywell, a neb o'r miloedd pobl yn malio dim ynddo ef.
Daeth hiraeth am ei fam dros ei feddwl unwaith, a throdd ei gamrau tua'r cartref yr oedd wedi ei droi ohono. Erbyn cyrraedd yno, ac edrych trwy'r ffenestr, a holi, yr oedd ei fam wedi marw. Trodd ymaith, i'r nos, yn fwy unig nag erioed.
A ddioddefodd y plentyn bychan hwn? Do, mae'n ddiameu, misoedd o ing iddo ef oedd y misoedd hynny. Mae plant yn hoff iawn o gwmni, yn enwedig o gwmni eu gilydd; a gwn beth oedd teimladau y crwydryn bach pan wrthodai pob plant siarad, rhagor cyd-chwareu, âg ef.
Trodd ei gamrau tua Llundain. Teithiodd y ffordd hir heb gwmni, heb gymorth, ar fin newynu'n ddigon aml. Gwelai blant yn dod o'r ysgol, yn prysuro adref,—ond, er hired ei siwrne, nid oedd iddo ef gartref yn y byd.
Wedi cyrraedd Llundain, trodd o'r heolydd llawnion, a gorweddodd i gysgu wrth droed cofgolofn General Gordon, yr arwr achubodd lawer o blant digartref ac a roddodd iddynt foddion i ennill eu cynhaliaeth. Ac yno y cafodd yr heddgeidwad ef, yn cysgu'n dawel.
VI. EISIEU BOD YN FRENIN
"MI hoffwn fod yn frenin," ebe Huw bach ab Ioan. "Fuase raid i mi ddim dysgu felly, a fuase raid i mi ddim ufuddhau, dim ond gorchymyn."
Yr oedd Huw bach ab Ioan yn gwneud camgymeriad mawr. Y mae brenin yn gorfod dysgu, yn gorfod gweithio'n galed, ac yn gorfod ufuddhau,—ychydig iawn o frenhinoedd sydd yn cael eu ffordd eu hun. Gall Huw wneud ceffylau o'r cadeiriau, a dychmygu ei fod yn carlamu'n wyllt, a miloedd o bobl yn rhedeg oddiar y ffordd, ac yn rhyfeddu at ei allu i yrru cynifer o geffylau. Gall Huw ddychmygu hefyd y gallai reoli'r byd heb ddysgu dim; y mae llawer hŷn nag ef yn meddwl yr un peth ynfyd.
Bachgennyn, ar hyn o bryd,[1] yw brenin Spaen. Ei enw yw Alfonso XIII. Bu deuddeg Alfonso ar orsedd Spaen o'i flaen; ac yr oedd rhai ohonynt ynrhyfelwyr dewr ac yn wladweinyddion doeth. Ond bachgennyn tal, gwan, yw ef.
Mae'n medru, heblaw ei iaith ei hun, Ffraneaeg a Saesneg a'r Almaeneg, ae y mae'n bur hyddysg yn ei Ladin. Cwyd saith o'r gloch y bore drwy'r flwyddyn. Wedi ymwisgo, gweddio, a brecwesta, bydd gyda'i lyfrau o hanner awr wedi wyth tan ddeg, llyfrau Saesneg a llyfrau Ffraneaeg bob yn ail fore. O ddeg i unarddeg, ca wers mewn marchogaeth. O unarddeg tan hanner dydd astudia fferylleg, daearyddiaeth, neu'r grefft filwrol. Am hanner dydd ca nawnbryd gyda dau o'i athrawon. O un tan ddau cymer Almaeneg a thynnu lluniau bob yn ail. Wedi hynny, darllen lenyddiaeth a hanes. Y mae'n hofî iawn o hanes. Yna a allan am ychydig gyda'i fam, neu a drwy drill gyda bechgyn o'r un oed ag ef. Am saith o'r gloch ciniawa gyda'i chwiorydd. Am hanner awr wedi wyth, cymer wers mewn cerddoriaeth. Yna, wedi dweyd ei bader, a i'w wely am naw.
Y mae'n amheus gennyf a oes bachgen yn holl Ysgolion Sir Cymru yn gweithio mor galed a brenin baeh Spaen. Ymhen dwy flynedd a hanner bydd yn dechreu rheoli'r wlad. Y mae ei waith yn un anodd iawn, ac ni ŵyr neb eto a fedr lwyddo. Y mae llond y wlad o wrthryfel; y mae'r talaethau,— Catalonia, Asturias, Galieia, ar ereill,—yn teimlo iau Castile yn drom. Y mae llond y wlad o ddioddef ac o bechod; y mae'r llafurwyr yn cashau eu meistri, a therfysgoedd yn aml. Y mae Spaen yn dlawd, a'r trethi'n pwyso'n drwm ar y bobl. Y mae newydd fod mewn rhyfel âg Unol Dalaethau'r Amerig, ac wedi colli ei milwyr a'i llongau a'i threfedigaethau a'i phareh,—a hithau'n wlad falch iawn.
Tasg caled sydd o flaen Alfonso bach. Beth pe buasai Huw bach ab Ioan yn frenin, ae yntau'n wyllt ei dymer ac yn gwrthod dysgu? Dinistriai ei wlad ac ef ei hun.
VII.—PRYDER AM DAD
AFON fawr India yw'r Ganges. Addolir hi gan drigolion y wlad, a chredant y ceir goleuni ganddi ar bob amgylchiad mewn bywyd. Os bydd rhywun mewn perygl, rhoddant lusern fechan i nofio arni. Os nofia llusern i lawr yr afon. o'r golwg, tybiant y bydd y claf byw; ond os difíydd yn y dŵr, credir mai marw a wna.
Ar ei glan, mewn bwthyn salw, flynyddoedd yn ol, fe drigai geneth hardd. Collasai ei mam, a denwyd ei thad i ymrestru yn filwr i ymladd â gelynion ei wlad. Ni allai y fereh, gan flinder dwys, wneud fawr o ddim ond meddwl am, yrfa ei thad dewr. Carasai yn fawr wybod rhywbeth yn ei gylch; ac wedi hir-ddisgwyl, o'r diwedd penderfynodd ymofyn â'r afon Ganges. Dacw hi, gyda'i llusern fach yn ei llaw, ar noson dywell, yn dianc, yn ddistaw fel ewig, o'r bwthyn, a'i llygaid yn llawn o nwyfiant ieuenctid. Dryllir ei sandalau gan y drain a'r mieri, a chilia bwystfilod rheibus yn synedig wrth weld y goleuni a chlywed y trwst. Neshaodd yr eneth at yr afon a gosododd y llusern i nofio arni, a chariwyd hi i lawr gyda'r lli. Gwelir pryder dyfnach ar wyneb y fach, a graddau o ofn yn dechreu dangos ei hun yn ei llygaid.
Cred fod ei thad yn fyw ac yn iach, ac y del adref ati ryw ddydd, os parha y llusern yn oleu tra y dywed hi ei gweddi hwyrol. Tŷb weithiau fod y goleuni wedi mynd allan, a chyffroir hi nes bron dyrysu ei gweddi. Camgymeriad ydoedd. Daw y llusern i'r golwg unwaith eto. Mae'r weddi drosodd, a chenfydd, wrth sylwi'n fanwl, y goleuni yn teithio yn hwylus i gyfeiriad y môr. Cyfyd i fyny wedi i'r llusern gilio o'r golwg, gan redeg tua'r bwthyn a gwaeddi,—"Mae 'nhad yn fyw!" Gwrendy y creigiau ar ei chri ac atebant yn ol,— "Mae 'nhad yn fyw."
Gobeithio na siomwyd hi, ond i'w thad ddychwelyd yn iach a chydag anrhydedd mawr, canys ni feddai drysor mwy na'i eneth fach.
VIII. NOFIWR PRYDFERTH
Y MAE cragen eiddil gywrain y Nautilus yn un o'r pethau tlysaf yn y byd. Gall y Nautilus ddod o'r gragen, gan ledu dwy fraich fel dwy hwyl i'r gwynt, a physgota & breichiau ereill. Neu gall ymwasgu i'w gragen, a suddo i'r dyfnder tawel, tra bo ystormydd yn curo yn ddidrugaredd ar wyneb y môr. Gwerthir y gragon gain gan ynyswyr Môr y De; ac nid oes law fedr gerfio peth tlysach, perfieithiach, na hi.
Y NAUTILUS YN NOFIO
IX.-GWRHYDRI GENETHIG
GENETH dlawd oedd Pati. Gwraig weddw oedd ei mam, yn ennill tamaid prin, wrth olchi, i Pati a thri brawd llai.
Gwelais Pati droion yn edrych ar blant bach dedwydd oedd yn cael digon o fwyd, a digon o deganau. Yr oedd yn amlwg na wyddai beth oedd eiddigedd. Edrychai arnynt gyda llygaid llawn o serch; buasai'n foddlon iawn i chwareu gyda hwy, ac i wneud unrhyw dro caredig iddynt. Gwelais hi wrth ffenestr siop teganau lawer gwaith hefyd. Yr oedd yno un ddoli wedi mynd â'i serch yn lân. Yr oeddym yn lletya bron gyferbyn; a llawer gwaith y gwelais Pati yn sefyll o flaen y ffenestr, a'i chap wedi ei daflu'n ol oddiar ei gwallt goleu, ac yn syllu yn fyfyrgar ar y ddoli dlôs. Ond ni fuasai waeth iddi hi feddwl am y lleuad, neu am bluen o aden angel, nag am y ddoli honno. Yr oedd yn costio chwe cheiniog.
Ryw nawn yn yr haf, yr oeddwn i fynd a cherbyd at lan y môr i gyrchu fy mam.adre. Yr oedd hi wedi bod yn eistedd yno drwy'r bore, yn mwynhau awel y môr. Pan ddynesais ati, gwelwn fod Pati yn ei hymyl. Ac ebai wrthyf,—
"Y mae'r eneth fach yna, weli di, wedi bod yn ffeind iawn wrtha i. Mi gollais fy ysbectol; ac oni bai am y ffrynd bach yma, ni chawswn hi eto. Hwde, fy ngeneth i, dyna i ti chwe cheiniog i brynnu doli."
"I brynnu doli,"—gwelwn wefusau Pati yn ail adrodd geiriau diweddaf fy mam, ac yr oedd llond ei
DACW'R DDOLI OEDDWN I WEDI FEDDWL GAEL
llygaid gleision o lawenydd. Ni phrysurodd ymaith, ond cydiai'n dynn iawn yn y chwech.
Aeth y cerbyd a mam a finnau'n gyflym i'n llety. Ond pan edrychais at ffenestr y teganau, wele Pati yno. Safai yn llonydd a myfyrgar o flaen y ffenestr, ac o flaen y ddoli. Yr oedd nôd ei bywyd bychan yn y golwg. Penderfynais fynd i lawr, ac ar draws yr heol, i weld y llawenydd ar wyneb Pati wedi iddi brynnu'r ddoli.
Erbyn i mi gyrraedd yno, yr oedd Pati wedi diflannu. "I'r siop yn sicr," meddwn wrthyf fy hun. Arhosais ennyd, gan ddisgwyl gweld llaw y siopwraig yn tynnu'r ddoli o'r ffenestr. Ond ni welwn ddim. Eis i'r siop, Nid oedd Pati yno, nac wedi bod yno. I ble yr aethai, tybed? Cefais wybod yn union. Pan ddaethum allan o'r sìop, gwelwn hi'n sefyll yn fyfyrgar fel o'r blaen o flaen y ffenestr. Ni welodd hi fi.
Yr oedd torth chwech'ar un fraich iddi. Rhoddodd fŷs y llaw arall ar y ffenestr, ar gyfer y ddoli, ac meddai wrthi ei hun,— Dacw'r ddoli oeddwn ni wedi feddwl gael." Yna trodd ymaith, a cherddodd yn gyflym tuag adre, tan fwmian canu.
Bu ymladd caled rhwng y ddoli a'r dorth yn mynwes y plentyn, mae'n ddiameu. Ond gwell oedd ganddi foddio ei mam a'i brodyr bach newynog na boddio ei hun. Ac os na chaf ddweyd fod Pati wedi cyflawni gwrhydri, nis gwn beth yw ystyr y gair.
X.—CAMGYMERIAD Y FAM
MAE serch mam at ei phlant, fel rheol, yn gwneud ei meddwl yn ddoeth a'i bywyd yn arwrol. Y mae ambell eithriad; a'r eithriadau hyn yw pethau pruddaf hanes y byd. Adroddir eto, ar aelwydydd Finland, hanes prudd mam gollodd ei serch am ennyd at ei phlant.
Yr adeg honno, yr oedd Finland newydd ei gorchfygu gan Rwsia greulon, ac yr oedd sawdl y gorthrymwr ar wddf y gwladgarwr. Yn ystod y rhyfel yr oedd heidiau afrifed o fleiddiaid wedi dod o'r gogledd oer a'r dwyrain caled, ac ni feiddiai dynion dewr fynd i'r caeau a'r coedydd, hyd yn oed liw dydd. Daeth gaeaf gerwin,—eira gwyn dros bob man,—a daeth newyn at yr heidiau bleiddiaid.
Yr oedd mam yn mynd â'i thri phlentyn i dŷ ei thad, i chwilio am nodded yn y dyddiau duon hynny. Yr oedd y dioddef, mae'n sicr, wedi gwanhau ei meddwl. Bachgen afiach, croes, chwech oed, oedd yr hynaf; nid oedd dim wrth ei fodd, ac yr oedd ei lais gwenwynllyd i'w glywed yn cwyno ar hyd y dydd. Bachgen hardd, serchog, pedair oed, oedd yr ail; yr oedd pawb yn hoff iawn o hono. Baban ar y fron oedd y llall,
Cerbyd un ceffyl oedd ganddynt, y fam yn dal y ffrwyn. Carlamai'r ceffyl ymlaen, rhag ofn y nos— a'r bleiddiaid. Cyn mynd ymhell, clywent udiadau'r bleiddiaid o'u hol. Fflangellai'r fam y ceffyl; ond, er iddo fynd ei oreu, yr oedd y bleiddiaid yn ennill arnynt. Rhuthrodd dau flaidd enfawr at y ceffyl. Heb betruso dim, cydiodd y fam yn y bachgen hynaf a thaflodd ef i'r bleiddiaid. Arosodd yr holl haid am ennyd i ymladd am dano ac i'w fwyta.
Cyn pen hir, clywid sŵn ofnadwy'r bleiddiaid yn nesu drachefn. Edrychodd yr ail fachgen ym myw llygaid ei fan. "Mami, ydw i'n dda; yn tydw i, mami?_ Chaiff y bo-bos mo'na i, a gan nhw, mami ? mami? Cyn pen ychydig funudau, yr oedd y bleiddiaid ar eu gwarthaf; a thaflodd y fam y bychan hoffus iddynt.
Yn fuan fuan, daeth sŵn y bleiddiaid ar yr awel eto. Taflodd y fam ei baban iddynt oddiar y fron. Cyn i'r bwystfilod ddod ar warthaf y fam wedyn, yr oedd hi a'r ceffyl lluddedig wedi cyrraedd cyfannedd. Cafodd amser i adrodd hanes colli'r plant; ac yna bu farw o ddychryn a thorr calon. Ystori brudd, onite? Ond y mae gwers i'r hanes ofnadwy hwn. Nid oes dim, hyd yn oed cadw bywyd, yn rhoddi hawl i ni wneud drwg. Mil gwell i'r fam, druan, fuasai marw gyda'i rhai bychain na marw o dorr calon wedi eu colli.
XIL—PWSI A MINNAU
CYD-SBIO, cyd-studio mae Pwsi a fi,
A'n llyfr sydd yn llawn o ddarluniau;
Ar bedwar troed bach yn eistedd mae hi,
Ac felly yn union 'rwyf finnau.
Disgwyl gweld llun rhyw blant bach yr wyf fi,
Bob tro a roddaf i'r ddalen;
Ond nid lluniau felly sydd wrth ei bodd hi,—
Mae Pwsi yn disgwyl llygoden.
Ystraeon y Lleill
1.—Y LLEILL
YR oedd tyrfa, fel y dywedais, ar fwrdd y llong. Hoffai pawb weld yr eneth fechan chwim yn gwibio hyd y dec ac yn y cabanau, ac yr oedd pawb a gair mwyn a gwen pan fyddai hi gerllaw. Gwelent mor ieuanc oedd, a chofient fod ei thad yn wael.
Wedi deall ei bod yn hoff o ystraeon, ceisiai pawb gofio rhyw ddychymyg neu hanes i'w adrodd iddi. Ac felly clywodd Nest lawer iawn o ystraeon nad ydynt yn y llyfr hwn.
Heb fanylu dim am yr aroddwyr ereill,—ond dweyd fod rhai yn garedig ddiathrylith a'r lleill yn adroddwyr o fedr, dyma ychydig o'r pethau glywodd
II.-Y MYNYDD A'R AFON
FFARWEL, fy nghyfeilles hawddgar," ebe'r Mynydd wrth yr Afon, "y mae'n well gennyt y Môr na mi. Yr wyf yn sefyll yma bob amser, a than oleu haul a lleuad yr wyf yn syllu ar dy dlysni, a gwrando ar dy gân. Ond mynd dy oreu yr wyt ti, ddydd a nos. Mae arnat hiraeth am y Môr."
"Rhaid i mi fynd," ebe'r Afon, "i roi dŵr i'r blodau. Oni weli hwy ar fy mynwes? Y mae'rY MYNYDD A'R AFON
ddôl yn disgwyl am danaf, i'w diodi. Y mae fy merched, y ffrydlifoedd bychain, yn crwydro i chwilio am danaf. Y mae llongau a chychod yn fy nisgwyl i'w cludo i'r môr."
Bydd arnaf hiraeth am danat," ebe'r Mynydd, "a ddoi di'n ol?"
"Dof. Pan af i'r môr, collaf bob amhurdeb. Cwyd yr haul fi i fyny i'r awyr, chwyth y deheuwynt fi uwch y tir, a disgynnaf yn wlaw tyner ar dy ben, yn fendith y Nefoedd iti, hen Fynydd cadarn a ffyddlon."
"Byddaf finnau'n lloches i'r defaid," ebe'r mynydd, "a rhoddaf fwyd i'r glaswellt ac i'r coed ac i'r adar. Yr wyf fi yn aros, yr wyt tithau'n newid. Ac wrth i mi aros, ac wrth i ti newid, y mae pob peth yn fyw ac yn dlws. Cân, Afon dlos, a chrwydra i wneud daioni. Yr wyt ti byth yn ieuanc, croesaw iti."
"Aros dithau, Fynydd ardderchog, yn gysgod i'r coed a'r blodau rhag ystormydd. Mawredd sydd iti, a ffyddlon wyt. Yr wyf bob amser yn dychwel atat, ac yn canu cân i ti."
III.—-DARLUNIAU'R BABAN IESU
Y MAE pedwar darlun o'r baban Iesu na byddaf byth blino edrych arnynt. Un yw darlun Raffael. Yn hwn saif ar lin Mair. Y mae hithau'n troi dalennau llyfr bychan darluniedig, ac y mae'r bachgen wedi dysgu sylwi arno. Gwyneb dwys, prydferth, ydyw, yn dechreu meddwl.
Yr ail yw darlun Carlo Dolci. Yn hwn dengys ei fam iddo flodau. Y mae yntau wedi dewis rhosyn, a gallai'r ddau ddweyd wrth eu gilydd,
"Rhosyn Saraon,
Ti yw tegwch nef y nef."
Gwyneb plentyn yn dechreu sylwi sydd yn y clarlun hwn.
Y trydydd yw darlun Sassoferrato. Plentyn gwallt goleu ydyw yma, yn cydio'n dynn am wddf ei fam. Gwyneb plentyn cariadus a serchog sydd yna.
Yr olaf yw darlun Murillo. Yn hwn saif ar garreg, gydag un llaw yn llaw ei dad, a'r llall yn llaw ei fam. Hwn yw'r goreu gennyf o'r pedwar, ond nis gallaf ddweyd dim am dano ond mai darlun o blentyn naturiol yw.
Dysgu meddwl, dysgu sylwi, dysgu caru, ac eto'n blentyn,—beth yn y byd sydcl dlysach na'r pedwar darlun hyn?
IV.-GWIR ARWR
Y MAE daioni lle na ddisgwylir ei gael yn aml. Ymysg y plant carpiog tlodion sydd yn hanner newynu hyd heolydd Llundain, y mae aml galon fechan ddewr yn curo, yn llawn caredigrwydd ac awydd gwneud daioni.
Yr oedd un o weinidogion Cymreig Llundain yn pasio cornel lle y saif crossing sweepper,—bachgen ungoes, wedi ei daflu yn hollol at drugaredd y byd. Y munud hwnnw, aeth plentyn bychan dan olwynion cab. Er perygl ei fywyd ei hun, rhuthrodd y cardotyn bach cloff i waredu'r plentyn. Tynnodd ddimeuau lawer o'i boced, cyfrifodd hwy, ac estynnodd hwy i'r cabman. Cododd y plentyn yn ei freichiau i'r cab, aca meddai,—
"Cabi, ar eich union i'r ysbyty."
Pan aeth y cab a'r plentyn clwyfedig ymaith, aeth y gweinidog at vr ysgubwr, estynnodd ddarn arian iddo, a dywedodd,—
"Fy machgen i, fedrwch chwi ddim fforddio talu o'ch poced eich hun.”
"Na, syr," oedd yr ateb dewr, "myfi sy'n talu.” A gwrthododd yr arian; er, y mae'n debyg, byddai raid iddo ddioddef oerfel a newyn o'r herwydd.
V.—PROFEDIGAETH GWEN OWEN
MERCH i rieni Cymreig yn byw yn Llundain oedd Gwen Owen. Yr oeddynt, oherwydd colli ei thad, wedi syrthio i dlodi mawr. Un bore, yr oedd mam Gwen yn wael, ac anfonodd ei merch fechan â llestr i ymofyn llaeth. "Gofala am y piser, Gwen," meddai, "fy mam a'i rhoddodd i mi, cerdd yn araf, paid a rhedeg, rhag i ti syrthio a'i dorri."
Yr oedd Gwen yn llawen iawn wrth feddwl ei bod yn cael mynd ar neges dros ei mham, a'i bod yn ddigon mawr i fod yn forwyn. Yn ei llawenydd, dechreuodd fwmian canu. Toc, dechreuodd redeg. Tarawodd ei throed yn erbyn rhywbeth, a syrthiodd ar y palmant llyfn. Torrodd y piser yn deilchion.
Gwelodd gwraig garedig ing y plentyn. Aeth gyda hi at ei mham wael. Mae Gwen yn awr yn forwyn gyda'r wraig garedig sychodd ei dagrau.
TORRODD Y PISER YN DEILCHION
VI.-CARIAD BRAWD A CHWAER
TRO diweddaf y gwelais Ilid a Gwenfron oedd ar falconi gwesty yn Llundain, ar noson haf oleu leuad, yn siarad yn hapus a'u gilydd. Ychydig fuasai'n dychmygu, wrth edrych arnynt, gymaint oedd dau mor ieuanc wedi ddioddef. Eto, gallai y craff ganfod fod Gwenfron yn welw, ac megis yn ddi-ysbryd oherwydd gwaeledd. Yr oeddwn i yn digwydd gwybod hanes y brawd a chwaer.
Yr oedd eu tad a'u mam unwaith mewn amgylchiadau cysurus, ond syrthiasant i dlodi. Penderfynodd y tad fynd i Awstralia i ennill arian, gan adael ei wraig a'i blant ar ol. Cyn mynd aeth at gyfaill, un oedd wedi dod yn gyfoethog trwy ei gymorth ef, a dywedodd wrtho,
—"Yr wyf yn mynd i Awstralia i geisio ail-ennill bywoliaeth. Yr wyf yn gadael digon i'm gwraig a'm dau blentyn fyw arnynt am bedair blynedd. Os na ddof yn ol yr adeg honno, a wnewch chwi ofalu na fyddant yn dioddef?"
"Yr wyf yn ddyledus i chwi am bob peth sydd gennyf," ebe'r cyfaill. "ni chaiff eich gwraig na'ch plant ddioddef eisieu tra bo gennyf grystyn i'w rannu a hwynt."
Aeth y tad i Victoria, a gweithiodd yn galed yno i godi busnes. Yr oedd y gwynt yn galed yn ei erbyn ; ond anfonai lythyrau cysurlawn adref at ei wraig a'i blant. Y mhen y pedair blynedd, pan hanner ddisgwyliai y fam ei fod yn dod adref, pallodd ei lythyrau. Ofnai y fam ei fod yn wael; ofnai hefyd na fedrai gael bwyd i'r plant, oherwyddAR FALCONI YN LLUNDAIN
yr oedd yr arian yn prysur ddarfod. Effeithiodd yr ofn a'r pryder ar ei hiechyd gwannaidd, a bu farw.
Yr oedd y cyfaill hwnnw yn edrych ar y ddau blentyn yn wylo yn angladd eu mam. Gŵr caled oedd, heb le yn ei galon i deimlad na diolch. "Bydd y ddau acw yn bwysau arnaf fi," meddai ynddo ei hun, "ond ychydig wariaf fi ar eu bath. Pe dechreuwn dosturio wrth blant amddifaid, buan yr ehedai fy arian ymaith."
Ar derfyn tref y gwyddai am dani, yr oedd dwy hen ferch a brawd yng nghyfraith iddynt yn cadw "cartref i amddifaid." Dywedai y tri hyn mai o gariad at blant amddifaid y cadwent y lle. Aeth y cyfaill anffyddlawn a'r ddau blentyn wylofus yno. Wrth fynd, dywedai,—
"Bydd Mr. Wamp a'r ddwy Miss Strait yn fwy caredig hyd yn oed na'ch tad a'ch mam. Wedi bod yno dipyn, bydd yn dda gennych fod eich mam wedi marw. Yr oedd eich mam yn dlawd a'ch hen. gartref yn wael; ond yr wyf yn mynd a chwi i gartref mawr, lle cewch ddigon o fwyd, a digon o rai i chwareu â chwi."
Yr oedd y geiriau celyd yn archolli teimladau y ddau alarwr bychan, er na wyddent pam. Hawdd oedd gweld na feddai y gŵr ofalai am danynt fawr o syniad am deimlad plentyn, na fawr o gydymdeimlad â'u trallodion.
Pan gyrhaeddodd y plant y cartref newydd, aeth ias o ofn trwy'r ddau, ac edrychasant yn bryderus ar eu gilydd. Ni wyddent pam, ond yr oedd eu hen gartref, pan oedd eu mam yno, mor glŷd ac mor gynnes. Yr oedd ei gwên hi yn cynhesu eu calonnau pan oedd ychydig iawn o fwyd yn y cwpwrdd. Yr oedd ei gobaith,—' Fe ddaw eich tad adre,—yn ddigon i wneud iddynt ganu er fod eu dillad yn ddigon teneu a'u cylla yn ddigon gwag. Ond beth oedd yn y tŷ mawr o'u blaenau barai iddynt ofni? Ni welai cyfaill eu tad ond diddosrwydd yno. Pe buasai eu mam yn eu dwyn, buasai yn gweld yn gliriach beth oedd cartref newydd ei phlant.
Oer ac unig oedd cartref newydd y brawd a'r chwaer. Yr oedd y tŷ'n fawr, y mae'n wir, a'r plant yn lluosog. Ond ni fedrai'r ddau bach wneud cyfaill o neb,
Yr oedd Mr. Wamp a'r ddwy Miss Strait yn cadw tŷ eang oer yn gartref i amddifaid. Haerent fod eu bryd yn llwyr ar wneud daioni, ac mai eu cariad at blant a wnai iddynt ymroddi i gadw cartref i rai heb gartref arall yn y byd. Ond y gwir yw mai er mwyn elw yn unig y cadwent cu "Cartref; "ac yr oeddynt yn cashau y plant, druain, oedd dan eu gofal. Ni chaent ddigon o fwyd, a dysgid hwy i gashau eu gilydd, ac i brepian ar eu gilydd wrth y ddwy hen ferch ddideimlad a'u rheolai.
Yr oedd llawer o'r plant yn blant drwg yn dod yno, ac aent yn waeth wedi dod. Plant yr oedd ar rywun eisieu eu lle oedd llawer ohonynt, plant a'u mamau wedi marw, plant na ofalai neb am danynt yn eu bywyd ac na alarai neb am danynt yn eu marwolaeth.
Gwael iawn oedd y bwyd, hollol anghymwys i blant o oedran tyner. Ychydig oedd o hono hefyd, ac yr oedd golwg newynog ar y llu plant wrth godi oddiwrth y bwrdd yn ogystal ag wrth ddod ato. Ceid dyledswydd yn y bore; darllennai Mr. Wamp bennod hir mewn llais sychlyd. Yn ystod yr oriau hynny, tyfai casineb at y Beibl ac at grefydd ym mynwesau y plant. Yn y bore a'r prynhawn yr oedd ysgol. Arolygai y ddwy Miss Strait hi. Llais main, gwichlyd, oedd gan yr ieuengaf o'r ddwy, ac yr oedd i'w glywed bob munud. Yr oedd yr hynaf yn ddistawach ; ond yr oedd, yn ei hoes, wedi gwisgo cannoedd o wialenau bedw allan yn llwyr. Hir iawn oedd oriau'r ysgol. Pregethai y ddwy Miss Strait y dylai y plant fod fel hyn ac fel arall, y dylent hoffi'r ysgol a'u gwersi, ac y dylent gredu mai Mr. Wamp oedd y dyn goreu yn y byd, ac mai y ddwy Miss Streit oedd y ddwy fwyaf caredig. Ond ni fedrai'r plant hoffi yr hyn ddysgid iddynt, llusgai'r oriau hirion yn araf heibio, tra y gwyliai dau bâr o lygaid creulawn laweroedd o barau o lygaid bychain gwrthryfelgar ac anhapus. Y wialen oedd yn teyrnasu yno; am dani hi y meddyliai y plant o hyd, ac am dani hi y meddyliai y ddwy Miss Strait.
Yr oedd hiraeth y ddau blentyn am eu mam yn fawr yn ystod oriau'r ysgol. Mor hawdd oedd dysgu gyda hi, mor wahanol oedd y Testament Newydd pan yn gorffwys ar ei glin, mor hawdd oedd ei deall yn esbonio. Rhoddodd Gwenfron ei phen ar y ddesc i wylo o hiraeth unwaith. Cysgodd dan wylo. Breuddwydiodd ei bod gyda'i mham. Yr oeddynt yn crwydro drwy'r caeau, yn torri blodau i'w dangos i'w mham, ac yr oedd Ilid yn chwareu yn fachgen bach hapus o'u cwmpas. Deffrodd mor sydyn fel y credai fod ei breuddwyd yn wir, a'i bod yn estyn blodyn llygad y dydd i'w mham. Ond yn lle gwyneb tyner ei mham, gwelai wyneb llym, di-dosturi, y Miss Strait ieuengaf yn edrych yn ddigofus arni. Yn lle rhoddi blodyn llygad y dydd i'w mham, yr oedd yn estyn ei llechen at Miss Strait, megis heb yn wybod iddi hi ei hun. Ei gwaith y prynhawn hwnnw oedd ysgrifennu brawddeg,—"Teach us to be content,"—ryw ddeuddeg o weithiau ar y llechen. Ond, ymysg y llechau llawnion ddanghosid i Miss Strait, yr oedd ei llechen hi yn wâg. Yr oedd wedi colli llawer ar ei chysgu y noson cynt; poenid hi gan ddannodd. Gofynnodd Miss Strait iddi yn ddigofus paham na fuasai wedi llenwi ei llech âg ysgrifen. Yr oedd Gwenfron yn hollol eirwir, a chyfaddefodd ar unwaith ei bod wedi cysgu. Ac ychwanegodd, yn awydd plentyn i ennill cydymdeimlad,—' Mi welais mam yn fy nghwsg." Llanwodd llygaid yr eneth o ddagrau wrth gofio am ei breuddwyd, ond nid oedd gan Miss Strait le yn ei chalon i ofidiau plentyn bach. Ond gellid clywed ei llais caled yn gwaeddi geiriau yr oedd ar bawb o'r plant eu hofn,—
"Gwenfron Jones. Stand out!"
Cerddodd Gwenfron yn araf i'r lle agored oedd yn un pen i'r ystafell, a safodd yno yn fud a thrist o flaen y plant ereill.
Toc, daeth diwedd yr ysgol. Taflai y ddwy Miss Strait gip-edrychiadau ar eu gilydd. Yr oedd Gwenfron yn edrych ar y llawr, ac yn sylwi ar ddim. Ond yr oedd Ilid yn gweld y cwbl, ac yn gwybod yn rhy dda beth oedd i ddigwydd i'w chwaer fach.
'Toc, dechreuodd y Miss Strait ieuengaf lefaru, Dywedodd wrth y plant beth oedd diogi. Ac yna pwyntiodd â'i bŷs at Gwenfron, gan ddweyd,— "Geneth ddiog." Yna tynnodd y blouse teneu oedd yr eneth yn wisgo i ffwrdd, nes oedd ei breichiau a rhan o'i chefn yn noeth. Yna cydiodd yn dynn yn ei dwy law. Daeth Miss Strait yr hynaf a gwialen hir, gan sefyll y tu cefn i'r eneth, a'i gwyneb caled at wyneb caled ei chwaer. Cymerodd amser i edrych ar yr eneth grynedig, ac yna cododd ei braich, a disgynnodd gwialenodied ar draws breichiau a chefn Gwenfron, gan adael gwrym ar ei chnawd. Disgynnodd y wialen yr ail waith, a dolefodd y plentyn,—
"O mam, mam."
Yr oedd ei llais fel pe'n gwneud i Miss Strait greuloni, a chiliodd dipyn yn ol i roddi ergyd drymach. Ond disgynnodd yr ergyd honno ar wyneb plentyn arall. Yr oedd Ilid wedi rhuthro yno, ac wedi sefyll rhwng y wialen a'i chwaer. Rhoddodd wth i'r Miss Strait ieuengaf nes yr hanner syrthiodd ar draws cader, a cheisiodd" gydio yn y wialen oedd yn llaw y llall. Wedi cael aml wialenodied ar ei wyneb a'i ddwylaw, cafodd afael yn y wialen fedw. cydiai ef yn y blaen, a Miss Strait yn y bôn, ac yr oedd tynnu caled rhyngddynt. Yr oedd y plant fel pe wedi dychrynnu gormod i wneud dim, ysgrechiai y Miss Strait ieuengaf ar uchaf ei llais.
Agorodd y drws, ac wele Mr. Wamp yn cerdded yn awdurdodol i mewn.
Gwaeddodd y ddwy Miss Strait ar draws eu gilydd pan ddaeth Mr. Wamp i mewn. "Yr eneth ddiog wedi fy insultlio," gwichiai un. "Y bachgen drwg wedi ymosod arnaf a cheisio fy nharo," dolefai'r llall.
Edrychai Mr. Wamp edrychiad creulon penderfynol. Cydiodd yng ngholer Ilid heb ddweyd gair, a llusgodd ef allan. Disgynnodd y wialen ar Gwenfron drachefn; ond am ei brawd yr oedd yn meddwl, nid am dani ei hun.
Ni welodd Ilid am dri diwrnod. Ni feiddiai ofyn dim i neb. Ofnai bopeth. Tybed a oeddynt wedi ei ladd?
Er ei llawenydd, gwelodd ef wrth y bwrdd brecwast. Yr oedd yn llwyd ac yn deneu iawn. Ond yr oedd yr eneth fach amddifad yn hapus, hyd yn oed o dan olwg y Miss Strait ieuengaf, pan deimlai fod ei brawd yn yr un ystafell a hi,
Ni ddywedai Ilid fawr o'i hanes ar y cyntaf. Ond dychmygai ei chwaer sut fu arno oddiwrth ambell frawddeg. "Mae'n gas gen i'r dyn yna,"— deuai y geiriau dros ei wefusau beunydd. Gwyddai mai Mr. Wamp oedd yn feddwl.
"Waeddais i ddim, Gwenfron," meddai dro arall. ""Yr oeddwn i wedi penderfynu y cawsai fy lladd, neu y buaswn yn marw o newyn, cyn y dywedwn wrtho fod yn edifar gennyf."
Byddai'r plant yn cael crwydro o amgylch y grounds wedi amser tê. Un prynhawn, aeth y brawd a'r chwaer i gornel bellaf y lle, gan adael y plant ereill ar ol.
"Fan yma y ces i hi waethaf, Gwenfron," ebe Ilid. " Yr wyf yn credu y buasai wedi fy lladd oni buasai iddo glywed rhyw lais."
"Rhyw lais?"
"Ie, rhyw lais." Mi dy laddaf,' ebe ef wrthyf, a tharawodd fi â'r ffon pen haearn sydd ganddo. A chyda hynny, dyma lais yn gwaeddi o rywle,— "A fedrai rhywun ei adnabod yn ei fedd ?' Mi syrthiodd y ffon o'i law, mi gurodd ei liniau yn eu gilydd, a dechreuodd redeg i'r tŷ. Eis innau ar ei ol. Yr oedd yn wyn iawn. ac yn chwys dyferu. Mae rhyw ddirgelwch yn perthyn i'r lle yma, Gwenfron. Oes yma ysbryd, tybed?"
Safai y ddau blentyn, gan edrych yn syn ar eu gilydd, mor ddifrifol a phe buasent hen bobl.
Yr oedd dau ddyn yn eu gwylio yn bryderus, o ddau gyfeiriad gwahanol. Ond ni wyddent hwy, druain, ddim ond fod eu tad ymhell i ffwrdd a'u mam yn y nefoedd.
'Toc, clywai'r ddau blentyn drwst rhywun yn dod o'r coed. Ac wele wyneb gwelw, didrugaredd, Mr. Wamp yn ymddangos. Fel rheol, byddai yn weddol garedig wrth Gwenfron, ond cashai Ilid, ac yr oedd fel pe wedi penderfynu ei ladd. Eithr y tro hwn, gwenodd yn wenieithus ar llid, ac edrychodd yn hyllig ar Wenfron. 4
"Ilid," meddai, "y mae Gwenfron wedi lladrata gwnïadur arian Miss Strait. Rhaid ei chwipio â chansen. Tydi gaiff ei chwipio."
Gwynnodd gwyneb y ddau blentyn. "Os gwrthodi," hisiai'r adyn creulawn rhwng ei ddannedd, "ti gei dy chwipio gan un cryfach na fi, a bydd ei ol arnat byth. Mi wn i na cherddi mor syth wedi'r chwipio hwnnw."
"Ni tharawaf fy chwaer byth," ebe Ilid, "beth bynnag ddigwydd imi."
"Af i nol y gansen,"ebe Mr. Wamp," a'r dyn cryf. Cawn weld prun ohonoch gaiff ei chwipio, a phwy fydd y chwipiwr." A chyda threm wawdlyd, prysurodd ymaith, wedi dweyd,—"Peidiwch a symud modfedd o'r llecyn hwn."
Gydag iddo fynd ymaith, daeth dyn dieithr atynt, fel pe buasai wedi disgyn o'r awyr. Yr oedd dillad estronol am dano, ac yr oedd ei wyneb yn dangos ei fod yn dod o wlad boethach. Ond cynhesodd calonnau y ddau blentyn ato ar unwaith, ac ufuddhasant heb yngan gair pan ddywedodd,—
Blant bach, dowch gyda mi."
Tra yr oedd Mr. Wamp yn dod a chansen ddu hir i'r coed, ac adyn mawr, llofruddiog, yn ei ddilyn, yr oedd y ddau blentyn mewn cerbyd yn prysuro tua gorsaf y dref, ac wedi deall fod eu tad wedi dod yn ol.
Yr oedd y tad wedi ennill arian lawer. Ond pan ar gychwyn adref at ei wraig a'i blant, i'w cyrchu ato, taflwyd ef oddiar geffyl. Bu'n hofran rhwng byw a marw'n hir mewn pentref Awstralaidd, a neb yn gwybod pwy oedd. Yna bu am amser maith heb ddod i'w bwyll, ac ni wyddai neb beth oedd yn feddwl wrth waeddi am cei wraig ac Ilid a Gwenfron. Pan wellhaodd, daeth ar ei union i chwilio am danynt.
Dan ofal tyner eu tad, graddol enillodd y plant eu hoen a'u hapusrwydd. Pan welais hwy ddiweddaf, yr oedd y tri yn mynd i weld bedd y fam. Beth sydd burach a gwell na chariad brawd a chwaer?
Ffarwel
Y MAE llawer o ameser er pan ddigwyddodd yr ystraeon yn y llyfr hwn. Yr oedd taith Nest tuag amser y rhyfel yn Neheudir Affrig: ac y mae honno yn hen erbyn hyn, ac nid oes yr un plentyn yn ei chofio. Y mae'r hen forwr eto'n fyw. Ond nid yw ar y môr mwyach. Y mae wrth ei bentan, yn gloff, ac ychydig yn fyddar. Ond ni raid i chwi ond crybwyll am stori, na chofia ar unwaith am bethau rhyfedd ddigwyddodd iddo ef.
Byddaf yn cael golwg weithiau ar y dyn unig. Y mae'n brysur iawn, mi glywais. Ond y mae ei egni a'i hiraeth wedi gwneud ei gorff yn wan, er eryfed yw ei ddeall.
Mae'r hen gadfridog wedi huno. Gwelais ei fodd mewn llecyn tawel iawn, a chroes Geltaidd dal, urddasol, yn tystio fod ei ymdrech dêg ar ben, ei gleddyf dan rwd, a phalmwydd heddwch yn ei law.
Bydd y genhades yn dod i edrych am Nest pan ddaw i'r wlad hon. Prudd yw llawer o'i hystraeon hi, ond dwys a thyner. Y mae wedi ymroddi yn hollol i'w gwaith mawr, ac ni ddaw adre ond i gael adgyfnerthiad i'w hiechyd.
Ac y mae Nest, erbyn hyn, wedi gadael dyddiau hyfryd plentyndod o'i hol. Yr oedd y daith honno yn well iddi nag ysgol na choleg. Y mae ganddi syniad gweddol glir am eangder y byd, ac am amrywiaeth diderfyn ei bobl. Hoffodd ei chyd- deithwyr, ac y mae'n dal i gofio am danynt oll ac i ymohebu a rhai.
Erbyn hyn, medr adrodd ystori yn dda ei hun. Medr gyfaddasu y stori at feddwl y rhai fydd yn gwrando; ac y mae ganddi gyfeillion bychain, sy'n dyfal ddisgwyl wrthi am ystori glywodd gynt ar y mor.
GEIRFA
ADLADD, aftermath.
AFIAETH, boisterous enjoyment, enjoyable activity.
AFFWYS, abyss, the deeps,
ALMAENEG, German.
AMHARU, to spoil.
ANELWR, One who can take aim.
ANHYGOEL, incredible.
AR FY RHWYSTRO, nearly preventing me,
ARGLAWDD, dyke, embankment,
ARGOEL, sign.
ARCH-ADEILADYDD, architect.
ARTEITHGLWYD, rack.
BWRAWYCHUS, fearful, terrifying
BRYNTION, sing., brwnt: cruel yng Ngogledd Cymru, dirty yn y De.
BYW, alive; i'r byw—to the quick; ym myw ei lygaid— straight to his eyes.
CACENAU, sing, cacen, biscuits,
CAEREFROG NEWYDD, New York.
CALENIG, New Year's Gift.
CERN, the side of the head, cheek
CLEDR LLAW, palm of the hand,
CLOCHDAR, cackle.
CRAS, harsh, unmusical.
crypt, cel-gafell, ystafell dan eglwys.
CYDNERTH, sturdy, strong, thick-set
CYFWNG, crisis.
CWD, bag; cydaid, bagful.
CYHYDEDD, equator.
CYMAINT, so much, as much;
CYNIFER, so many, as many.
CYTHGAM BACH, a little devil.
CHWILYS, the Inquisition,
DADGYMALU, disjoint.
DEHEUIG, Handy. O chwith in the wrong way.
DEIFIOL, scorching.
DIBRIS, reckless,
DIBRYDER, not surrounded by anxiety,
DWNDWR, murmur, murmuring noise,
DRINGOL, climbing.
DWYS, deep, sad, plaintive.
DYFED, Pembrokeshire.
DYLEDSWYDD, family prayers.
DYN, man ; 'n dyn i—certainly, I should think
EIDAL, Italy
EIRWLAW, sleet
FENIS, Venice.
FFERYLLEG, Chemistry.
FFORCHOG, forked.
GRAENUS, in good condition.
GRISIAL, Crystal
GWAEN, pl, gwaenydd neu gweunydd, moors.
GWAL, lair,
GWARGRWN, bent, bowed.
GWAS, boy, servant; y ngwas i my boy.
GWICHLYD, squeaky.
GWRHYDRI, heroism.
GWRYN, weal.
GWYDDEL, Irishman.
GWYNNU, whiten, bleach.
GWYNT, wind; cael gwynt arno—to find his trail.
HANESIOL, storied.
Hatches, dorau llong, dorau ar y lleoedd agored ar fwrdd llong; cauir hwy ar ystormydd.
HWDE—here, take!
IAS, painful thrill.
IORWG, EIDDEW, ivy.
LERPWL, Liverpool.
LLAW, hand; fawr o law—not a a good hand at...
LLYGOD, sing., llygoden, mice; llygod mawr, rat.
MAEN GENI, birth mark.
MEDDYGLYN, dose.
MORFIL, whale.
MORGI, Shark.
MÔR-FORWYN, sea maiden.
NWYFUS, sprightly, playful.
OSGO, movement.
PAPUR NEWYDD, newspaper.
PEGOR, HEN BEGOR, old chap.
PELLEBYR, telegraph.
PENDWMPIAN, to nod.
PENRHYN, peninsula, megis Lleyn a Gwyr; Penrhyn Gobaith Da, Cape of Good Hope.
PIGYN, Peak of Tenerife.
PLYGION, sing. plyg. folds.
POENYDIWR, tormentor.
PREPIAN. Íell (ales.
PRIN, scarce; pryn bought.
PROFFWYD GWYLLT, mad mullah.
PRYSGWYDD. undergrowth.
RHUDDEM, ruby,
RHUFEINIWR, Roman.
RHWYDD, easy, yn rhwydd, easily, smoothly.
RHYDYCHEN, Oxford.
RHYFELOEDD Y RHOSYNAU, Wars of the Roses.
SEINDORF, brass band.
SIANEL BRYSTE, Bristol Channel.
SUT, how.
TORCH, FFAGL, torch.
TWYMYN, fever.
TYNN, full; tyndra, press.
WTH, o gwth', push.
YMAFLYD CODYM, to wrestle.
YMLAFNIO, strive.
YMRODDI, to give oneself up to.
YNYSOEDD MÔR Y DE, South Sea Islands.
YSGERBWD, skeleton.
YSGOL, school, ladder.
YSTRANCIO, to get into hysterical fits.
LLYFRAU
GAN
O. M. EDWARDS, M.A.
AC EREILL,
WEDI EU DETHOL ALLAN O GATALOG
Hughes a'i Fab, Cyhoeddwyr,
GWRECSAM
Gwaith Islwyn: Wedi ei olygu gan O. M. EDWARDS M.A. Gyda nifer o ddarluniau rhagorol. Mewn hanner-rhwym, ymylau marbl, 900 o dudalennau, 21/-
"Ni allwn lai na theimlo dwfn foddhad wrth weld y fath drysor o farddoniaeth bur wedi ei osod yng nghyrraedd ein cenedl. Y mae y gyfrol yn cynnwys cyfoeth o dlysni a pherarogl." -Y Traethodydd.
"Mae Mr. Edwards wedi gosod darllenwyr Cymreig mewn mwy o rwymau nag erioed iddo am eu anrhegu &'r fath drysor, oblegid trysor o'r fath fwyaf gwerthfawr ydyw barddoniaeth Islwyn, a bydd oesoedd a chenedlaethau i ddyfod yn ei werthfawrogi yn fwy, y mae yn bosibl, nag y gwneir gennym ni, obleglid nid bardd un oes oedd Islwyn, ac nid cwestiynau i un cyfnod oedd testynau ei awen ef."- Goleuad (mewn adolygiad o 4 colofn).
"Cyfrol odidog."- Genedl Gymreig.
Cymru, fel ei desgrifir gan Islwyn:
Wedi ei olygu gan O.M. EDWARDS, M.A. Gyda 40 o Ddarluniau. Llian, 1/- Pwrpasol fel anrheg.
"Cynhwysa bigion tlws gan Islwyn ber ei oslef,' yn dal cysylltiad a mynyddoedd, dyffrynnoedd, gwladgarwch, crefydd, &c., Cymru.....Hynod, ddyddorol ac amserol.-LLanelli Mercury.
LLYFRAU gan O. M. EDWARDS, M.A.
Deuddeg o benodau dyddorol ar Gartrefi Enwogion Cymreig gan O. M. EDWARDS, M.A. Gyda Geirfa & Darluniau. Llian, 1/-
"Y mae wedi ei ysgrifennu yn swynol dros ben,-'does dim mor swynol yn yr iaith. Llyfr ardderchog i'w roi yn anrheg neu wobr."-Weekly Mail.
"Cartrefi Cymru' is in Mr. Edwards' best style-light, graceful, informed with glowing patriotism. Each account is admirable, and there is not a dull page in the book."- Manchester Guardian.
Ystraeon Hanes (Story Book of History):
Gan O. M. EDWARDS M.A. Llyfr I. 64 tudal. Llian, 5c. Llyfr II., 80 tudal, 7g. Bi-Lingual. Illustrated.
Y ddau Lyfr uchod ynghyd mewn Llian, 144 t.d., 1s. Mae gwersi y llyfr hwn wedi eu trefnu yn baragraffau; hefyd y mae pob gwers yn rhedeg yn gyfochrog yn Gymraeg a Saesneg; am arddull yr Hanesion bydd ynddo nis gellir dweyd gormod, y maent yn werthfawr fel cynllun i'r plant. Mae y detholion o ddigwyddiadau, a hanes personau a groniclir yma, yn cymeryd i mewn amryw o rai mwyaf pwysig ac adnabyddus yn hanes Cymru; nid cronicl o ymladd brwydrau ydyw, ond o rywbeth sydd yn apelio at yr ochr oreu i natur plentyn.
O'r Aifft:
Gan J. D. BRYAN, gyda Rhagymadrodd gan ROBERT BRYAN. Golygwyd gan O. M. EDWARDS, M.A. Gyda Darluniau. Llian, 1/-
"Llyfr bychau del iawn. Nid rhamant na dychymyg yw ei gynnwys, eithr ffeithiau byw wedi eu cyfleu drwy gyfrwng iaith syml, ystwyth. Nis gall neb ddechreuo ei ddarllen beidio a'i orffen. Cyfaddas iawn fel gwobr i blant ac ieuenctid yr Ysgolion Sabothol a dyddiol." Y Negesydd.
"Llyfryı destlus & dyddorol. Cefais bleser neilltuol wrth ei ddarllen, ac addawaf ragor na gwerth swllt i bawb a'i darllenno. Y Goleuad.
Hanes y Ffydd yng Nghymru:
Gan CHARLES EDWARDS. Gyda Rhagymadrodd gan O. M. EDWARDS, M.A. Argraffiad Newydd. Llian, 6ch ; Amlen, 4c.
"Ddarlleunydd mwyn, cei, yn 'Hanes y Ffydd, yr efengyl yn ei symlder prydferth, a gorffwysdra enaid lawer tro. Cei ynddo gariad angherddol at Gymru, & hynny pan oedd Cymru'n dlawd ac yn anwybodus. Ac ynddo gweli dlysni'r iaith Gymraeg. O'r Rhagymadrodd.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR GWRECSAM.
Gwaith Robert Jones, Rhos Lan
Yn cynnwys "Drych yr Amseroedd," "Lleferydd yr Asyn,” &c. 200 tudalen, 4 darlun o Robert Jones, Suntur, Ty Bwlcyn, Dyffryn Clwyd. Llian, 2/6.
Ceir yma hanes Morgan Llwyd o Wynedd, Diodles dros y Marw, Ofergoelion.
y werin, Daniel Rowland, Hawel Harris, Charles o'r Bala, Diwygiad Beddlert..
"Swynol ei arddull."
"Nis gall y sawl a ddarllenno gynyrchion yr hen Gymro aeddgar a duwiolfrydig, lai na theimlo yn ddiolchgar i Olygydd y LLenor am eu codi i sylw, Maent yn werth eu darllen—a'u darllen fwy nag unwaith."—Y Diwygiwr
Gwaith Glasynys:
Gwaith Barddonol Glasynys, yn bennaf a'i lawysgrif ei hun. / 192 tudalen, tua 40 o Ddarluniau o'r lleoedd ddesgrifir gan Glasynys. Llian, 2/6.
"Un o feirdd mwyaf swynol Cymru, yn enwedig yn y mesurau rhyddion."
Ceiriog :
Detholion o Weithiau Ceiriog. Argraffiad Newydd. Llian, 1/-.
Detholion o rai o ddarnau telynegol gore ein prif-fardd. Ceiriog yn ddiameu” yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei naturioldeb syml a'i gydymdeimlad dwys wedi rhol swyn anfarwol i'w gân. Nid oes telyn yn yr un bywyd ne chyffyrdda Ceiriog â rhai o'i thannau.
Dinistr Jerusalem :
Gan EBEN FARDD, gyda Rhagymadrodd gan O.M. EDWARDS, Amlen, 3c.
Diarhebion Cymru:
Casgliad rhagorol, mewn dull hylaw. Amlen, 1c.
Islwyn i Blant:
"Un o'r moddion goreu i gynefino plant â barddoniaeth bur." Amlen, 1c.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.
LLYFRAU GAN J. M. EDWARDS, M.A.
CEIRIOG A MYNYDDOG: Pigion allan o weithiau y ddau fardd poblogaidd, gyda Geirfa helaeth, Cynllun "Wers i Athraw a Disgybl, Bywgraffiadau byrrion, a Darluniau. Llian, 1/3.
Telynegion ydyw y rhai hyn, ac yn ddiddadl nid oes eu cyffelyb yn y Gymraeg,—maent yn syml a tharawiadol. Dyddiau mebyd, digwyddiadau sy'n cynhyrfu'r teimladau i ysgafnder neu ddwysder calon. Syniadau plant, y canol oed, a'r hen. Diau y bydd yn dda gan lawer gael y Pigion hyn, mewn llyfr hylaw a hwylus.
PERLAU AWEN ISLWVN: Detholiad allan o weithiau ISLWYN, gyda Nodiadau, Geirfa, a Darluniau. Llian, 1/.3.
Darllenner y gyfrol hon, ac fe welir fod ISLWYN yn un o brif
feirdd Cymru, heb gysgod amheuaeth. Pwy bynag a fedd reddf y bardd, ni chaiff golled o brynnu'r llyfr hwn. Caiff ynddo gasgliad cyfoethog, heb ry nae eisiau, o 'Berlau Awen Islwyn.'"—Silyn.
"Y mae'r llyfr o'i ddechreu i'w ddiwedd yn glod i'r golygydd a'r
cyhoeddwyr. Dylai fod ym mhob cartref yng Nghymru."-yr Herald Gymraeg.
"Y rhai hyn ydynt berlau yn wir. Brithir pob tudalen o'r llyfr
gan emau, yn ddarluniau llawn swyn o'r gweledig, ac aml hynt a'n dena i'r anweledig."—Yr Athraw.
DRAMA GYMRAEG LLWYDDIANNUS.
Drama—"RHYS LEWIS" (Daniel Owen).
Wedi ei threfnu gan J. M. EDWARDS, M.A., Ysgol Sir, Treffynnon. Gyda Chyfarwyddiadau a Darlun o'r Cymeriadau. Amlen Gref, 1/-
Gwerthwyd yr argraffiad cyntaf mewn llai na thri mis. Ym mhob man lle ei chwareuwyd derbyniodd gymeradwyaeth uchel, a galwyd am ail a thrydydd berfformiad mewn llawer lle. Ni raid ond dweyd ddarfod iddi gael ei pherfformio tua 40 o weithiau yn ystod tri mis cynta/ 1912, i ddangos ei bod yn dal yn ei phoblogrwydd.
HAWLFREINTIOL (COPYRIGHT)
Mae fee fechan i'w thalu am bob perfformiad, ac nis gellir ei pherfformio heb ganiatad Y CYHOEDDWYR.
DYMA'R UNIG DREFNIAD AWDURDODEDIG.
Bydd unrhyw drefniad arall yn Droseddiad ar Hawlfraint. Gellir cael copiau i'w gwerthu yn y Perfformiadau. Am bob manylion, anfoner at y CYHOEDDWYR.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.
LLYFRAU gan J. M. EDWARDS, M.A.—parhad.
Dyddiau Ysgol:
Sef Detholion o Weithiau Daniel Owen, gyda Geirfa. Llian, 1/3.
."Er mai ar gyfer ieuenctid Cymru y darparwyd y detholiad penigamp hwn,
yr_ydym yn ei argymell i sylw plant o bob oed t Hwyrach mai y plant hynaf gaiff fwyaf O flas arno."—ANTHROPOS
Dyma lyfr glan a difyrrus dros ben, a llawn o addysg. . . .
Prynner ef i'r plant, a byddant yn sicr o'i ddarllen, a chrea awydd ynddynt am lyfrau ereill "—Tywysydd y Plant.
Mabinogion
(O Lyfr Coch Hergest):
Llyfr I. Yn cynnwys Pwyll, Pendefig Dyfed; Branwen Ferch Llyr; Manawyddan Fab Llyr, a Math Fab Mathonwy. Gyda 4 o Ddarluniau yn yr Arddull Foreuol, gan Eirian E. Francis. Llian, 96 t.d. n! x 3½. 1/-
Mabinogion
(O Lyfr Coch Hergest):
Ail Lyfr. Yn cynnwys Peredur ab Efrog, Breuddwyd Rhonabwy, Lludd a Llefelys, Hanes Taliesin. Darluniau gan J. E. C. Williams. Unffurf a Llyfr I. o ran Pris, Rhwymiad, a Llythyren.
Pieces for Translation:
Selected and arranged by J. M. EDWARDS, M.A. Cloth, 9d.
The examples of mistakes made in translating Welsh Idioms literally are
excellent, inasmuch as they demonstrate the absurd errors which Welsh learners of English are apt to make when they neglect the equivalent English idioms.
"The book can be cordially recommemled.. The selection of pieces :or translation from Welsh into English Is excellent, and there Is a commendable variety of style, . . they afford ample exercise for showing a knowLdge of the differences of Idiom In Welsh and Engllsh."—Manchester Guardian.
Yng Ngwlad y Gwyddel:
Gan J. M. EDWARDS, M.A. Gyda Darluniau rhagorol o olygfeydd. 144 t.d. Llian, 1/-
Os am ddarluniad byw o'r Gwyddel yn ei gartref, a hwnnw wed! ei ysgrifennu fel pe bae'r awdwr wed! ei drwytho ei hun yn ffraethineb Pat, dyma Y llyfr. Mae'n ddifyrrus dros ben. Cymhwys neillduol fel Anrheg.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.
Ffug-chwedlau, Ystoriau, &c., gan wahanol awdwyr.
Yr Hen Ddoctor:
Y Ffug-chwedl enwog o waith IAN MACLAREN (Parch. John Watson, D.D.), wedi ei Chymreigio (trwy ganiatad) gan R. H. JONES. Gyda. 17 o Ddarluniau. Llian, 2/-
"The Welsh reader who commenres to read the book will not be able to
lay it down till he comes to the last page."—Liverpool Daily Post and Mercury.
"Hen gymeriad godidog oedd Dr. Mac Lure."-Lladmerydd.
Ifor Owain:
Ffug-chwedl hanesyddol am Gymry yn amser Cromwel. Gan y Parch. ELWYN THOMAS. Llian, 1/6. Amlen, 1/-
"Chwedl dda iawn; mae'r cymeriadau wedi eu tynnu'n rhagorol. Dylai ein darllenwyr ei phrynnu a'i darllen, rhydd bleser iddynt."—Y Beirniad.
"Stori yn llawn dyddordeb byw o'r dechreu i'r diwedd. Y mae'r plot yn un celfydd, a hwnnw wedi ei weithio allan yn fedrus a hapus." —Llais Rhyddid.
Cit:
Ystori i Blant, gan FANNY EDWARDS. Darluniau. Llian, 1/-
Ystori fechan syml, naturiol, a darllenadwy iawn yw 'Cit.' Ysgrifenned yr awdures lawer ychwaneg o'r cyfryw lyfrau. ... Dylai pawb ddarllen 'Cit,' ac nid ystyriwn fod neb yn dilyn yr oes mewn llenyddiaeth Gymraeg os na wna hyn.—Y Glorian.
Gwilym a Bennni Bach:
Ystori am Ddau Blentyn, gan W. LLEWELYN WILLIAMS, M.A., M.P. Llian, 1/
"A charming story."-Manchester Guardian.
"Llawn o ddigwyddiadau digrifol ac amrywiol."—Y Gwyliedydd.
Gorchest Gwilym Bevan:
Ffug-chwedl gan T. GWYNN-JONES, awdwr "Gwedi Brad a Gofid," Bardd Cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902. Amlen, 1/-
"Ysgrifenna yr awdwr yn llithrig a byw. Ceir fod naturioldeb a swyn yn y llyfr. Wedi dechreu ei ddarllen, bydd yn anhawdd ei roi o'r neilldu nes ei orffen."—Tywysydd y Plant.
"This is a novel of exceptional merit."—The Christian Life.
Llithiau o Bentre Alun:
Gan Mrs. S. M. SAUNDERS. Cyfres o Ystoriau Crefyddol yn cael eu hadrodd yn null anghymarol S.M.S. Llian, 1/-·
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM."Yn neuddeg golygfa y llyfryn prydferth hwn, darlunir gweddau crefyddol ar anghrefyddol y bywyd Cymreig gyda deheurwydd. ... Cyffyrddir ynddo a holl dannau y teimlad dynol."—Yr .Athraw.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Erbyn hyn y mae'r brenin hwn yn ŵr, wedi priodi un o deulu ein brenin ni, ac wedi gweld llawer o droion cynhyrfus.