Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYNWYSIAD.

Desgrifiad o ardal Pennal—Y teulu yn adnabyddus cyn cof —Cof-golofn Dafydd Rolant—Ei Adroddiad ei hun am ei haniad—Dr. Pugh y Cunger—Dylanwad dywedyd tesni— Hugh Rolant yn heliwr Achau—Ffraethineb ei Atebion— Ei sylw pan ddewiswyd ei fab yn flaenor—Hugh Rolant yn dyfod yn Ddirwestwr—Ei brofiad fel Dirwestwr, a'i Araeth ar Ddirwest—Hugh Rolant yn ymladdwr Ceiliogod—Darluniad Dafydd Rolant o "Gocyn Ceiliogod"—Spardynau y Ceiliogod

Amser a lle ei enedigaeth—Ei alwedigaeth—Lewis William, Ysgolfeistr yr Ysgolion Rhad Cylchynol—Dilyn ei alwedigaeth yn ol dull yr oes—Y bai yn cael ei roi ar y teilwriaid—Yr hwch fagu yn y ty—Tro yn yr uwd—Y teilwriaid yn bobl barablus—Yn dechreu cadw siop—Achos crefydd yn Mhennal yn more ei oes—Enill gwobr yn yr Ysgol Sul—Yn llechu yn ngweithdy Arthur Evan y blaenor ar fellt a tharanau.


Yr hyn a barodd iddo fod yn Fethodist—William Rowland ei Ewythr—Diwygiad 1819—Gorfoledd yn nhy Peter Jones a Sian William—Y Diwygiad Dirwestol yn 1836— Sign y Black Crow yn cael ei thynu i lawr—Hanes D. Rolant yn d'od yn Ddirwestwr—Llythyr y Parch. D. Cadvan Jones—Yn dyfod i'r Seiat yn 1838—Yn talu y casgliad misol cyntaf Yn cyfodi'r allor deuluaidd—Yn llafurio am wybodaeth—Yn cael ei ddewis yn flaenor yn 1850.

Yn frodor o'r brodorion—Y rheswm am ei boblogrwydd— Darluniad y Parch. John Owen, y Wyddgrug, o hono— Ei fedr i ddesgrifio cymeriadau—Arthur Evan yn cyfarfod temtasiwn ar y Sul—Ei gynghorion mewn priodas—