Tudalen:Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwasia.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEDR FAWR, YMERAWDWR RWSSIA

Llyfrau Ceiniog Humphreys

Hugh Humphreys, Caernarfon

Cynwys

PEDR FAWR, YMERAWDWR RWSSIA

PEDR, ymerawdwr Rwssia, yr hwn yn gyffredin a elwir PEDR Fawr, ydoedd un o'r dynion hynotaf mewn hanesyddiaeth ddiweddar. Bydd hanes ei fywyd yn ddyddorol, gan ei fod yn cyfleu esiampl o'r hyn a ellir wneyd er llesiant dynolryw trwy un meddwl anturiaethus a phenderfynol. Ond yn gyntaf, ni a soniwn ychydig am y wlad y bu ei dynged i reoli arni.

Y mae Rwssia yn diriogaeth dra eang yn ngogleddbarth Ewrop ac Asia. Arddengys bob amrywiaeth o hinsawdd; ac y mae, mewn gwirionedd, yn gydgasgliad o amrywiol wledydd, ac arddangosid hi yn yr eilfed ganrif ar bymtheg gan boblogaeth farbaraidd, yn meddu ond ychydig iawn o gymundeb gyda chenedloedd mwy gwareiddiedig y ddaear. Yr oedd ei safle mewn gwybodaeth ac ymarferion cymdeithasol yn dra thebyg i eiddo Twrci ein hoes ni. Ni wyddai y Rwssiaid nemawr neu ddim am y celfyddydau; yr oeddynt yn anghoeth mewn moesgarwch, wedi eu gwisgo mewn dillad afrosgo,—y dynion yn mabwysiadu barfau hirion, yn ol hen ddefodau y cenedloedd Asiaidd, ac nid oedd yn eu plith braidd unrhyw fath o addysg ysgoleigaidd, heblaw eu bod gyda hyny yn dra choelgrefyddol. Yr oedd hyd yn nod eu hoffeiriaid yn ddwfn mewn anwybodaeth a choelgrefydd.

Ar y pryd y cyfeiriwn ato-oddeutu canol yr eilfed ganrif ar bymtheg, neu oddeutu yr adeg pan yr oedd y gwrthryfel yn cymeryd lle yn Lloegr, dan arweiniad Oliver Cromwell—gallesid rhanu pobl Rwssia i bedwar dosparth. 1. Y Boyards, neu y bendefigaeth, y rhai a gyfrifent eu cyfoeth yn ol nifer y caethddeiliaid neu y caethion a fodolent ar eu hetifeddiaethau—y caethion truain hyny, y mwyaf lluosog yn ddiau o'r holl gorph gwladwriaethol. 2. Y Milwyr—dosbarth terfysglyd, y rhai y cawn alw sylw atynt eto, a'r rhai a ymarferent y dulliau mwyaf anfad i dywallt gwaed; y rhai hyn oeddynt yn lluosog iawn. 3. Yr Offeiriaid, ac yr oedd y grefydd