Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYNHWYSIAD.

_________________

I.— DOLWAR FECHAN,—CARTREF EMYNYDDES. Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan, yn un o'r hafannau bychain gwyrddion sydd rhwng Llanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y Fyrnwy. Gorsaf Llanfyllin yw'r agosaf. Ganwyd Ann Griffiths Ebrill 1776, bu farw yn Awst 1805.

II.— TŶ COCH,— CARTREF PREGETHWR. Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell Carn Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion. Ganwyd Robert Thomas (Ap Fychan) yma, mewn tlodi mawr; a chyn marw, Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn athro duwinyddol.

III.— GERDDI BLUOG,—CARTREF BARDD. Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a rhamantus, y mae'r Gerddi Bluog. O Harlech neu Lanbedr yr eir yno. Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, archddiacon Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau. Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym Maentwrog.

IV.— PANT Y CELYN,—CARTREF PER GANIEDYDD. Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno Ganwyd "per ganiedydd Cymru," gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr 11, 1791.

V.— BRYN TYNORIAD,—CARTREF GWLADGARWR. Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn agos i orsaf Drws Nant. Y mae'r Tŷ Croes ar gyfer yr orsaf agosaf yng nghyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd. Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852.

VI.—TREFECA,—CARTREF DIWYGIWR. Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng ffrydiau Wysg a Gwy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,--lle wnawd gan Howel Harris yn "gartref" cymundeb o dduwiolion diwyd. Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773.