Neidio i'r cynnwys

Adgofion am John Elias (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Adgofion am John Elias (testun cyfansawdd)

gan Richard Parry (Gwalchmai)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Adgofion am John Elias
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Richard Parry (Gwalchmai)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Elias
ar Wicipedia



ADGOFION
AM
JOHN ELIAS.



GAN R. PARRY.




DINBYCH:
CYHOEDDWYD GAN THOMAS GEE.


1859.




CYNNWYSIAD.

ANERCHIAD
PENNOD I.
John Elias yn Pregethu
PENNOD II.
Mewn Cymdeithasfa
PENNOD III.
Mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Feiblau
PENNOD IV.
A Chymdeithas Genadol Llundain
PENNOD V.
Mewn cymmanfa
PENNOD VI.
Yn dechreu oedfa ar agoriad addoldy
PENNOD VII.
Yn bedyddio
PENNOD VIII.
Yn gweinyddu Swper yr Arglwydd
PENNOD IX.
Yn mysg ei frodyr mewn cymmanfa a chyfarfod misol
PENNOD X.
Yn ei fyfyrgell
PENNOD XI.
John Elias, Williams o'r Wern, a Christmas Evans
PENNOD XII.
Sylwadau diweddgloawl
PENNOD XIII.
John Elias ei farwolaeth a'i gladdedigaeth


ANERCHIAD.

Ni amcenir i'r anerchiad hwn fod yn rhagymadrodd, yn ol dull cyffredin rhaglithiau, ond yn hytrach fel ychydig o nodiadau arweiniol. Y mae i bregethu yn mysg y Cymry ei nodweddau arbenig. Y mae y pulpud Cymraeg yn sefyll yn hollol ar wahan oddi wrth eiddo pob cenedl arall. Y mae iddo gymmeriad priodol iddo ei hun yn unig. Ni all Cymro wir fwynhau y weinidogaeth efengylaidd, os na bydd yn cael ei "llefaru yn ei iaith ei hun, yn yr hon y ganed ef," gan nad pa mor drwyadl y byddo yn deall iaith arall. Fel eglurhâd o hyn, gellid cyfeirio at ein cydwladwyr sydd yn preswylio yn nhrefydd Lloegr. Iaith eu masnach hwy dros ddyddiau yr wythnos yw y Seisoneg, ond iaith eu haddoliad ar y Sabbath yw y Gymraeg; y fwyaf hwylus ganddynt at ffugrau yn y cyfrifdai gydag achosion y bywyd hwn, at wasanaeth y pen a'r deall, ydyw iaith y Seison; ond y fwyaf priodol at gyrhaedd y serch a'r teimlad yw hen iaith eu gwlad. Y mae rhyw linynau tyner yn y galon Gymreig sydd yn ateb yn union i seiniau hon, na chynhyrfir mo honynt byth gan un arall. Efallai y byddai yn anhawdd darlunio hyn, a dichon y byddai yn anhawdd gan estron ei gredu: ond gŵyr pob Cymro trwy brofiad ei fod yn wirionedd.

Y mae arferion yn newid llawer gydag amser. Y mae llawer o wisg y pregethu Cymraeg wedi newid er ys ychydig dymmor yn ol, ond y mae ei ysbryd yn aros eto yr un. Deng mlynedd ar ugain yn ol, y cyfarfod mwyaf dyddorol yn Nghymru oedd y gymmanfa, neu y "sasiwn," fel ei gelwid. Yr oedd yn gyfarfod cenedlaethol yn ystyr mwyaf priodol y gair; ac efallai nad oedd un cynnulliad arall a gydnabyddid felly gan bawb. Ond y mae pethau wedi newid llawer erbyn hyn; ac y mae cynnulliadau cyffelyb wedi lluosogi yn mhob gwlad. Yr oedd enw JOHN ELIAS bob amser mewn cyssylltiad anysgaradwy â'r gymmanfa. Efe oedd bywyd ac enaid y cyfarfod, yn enwedig yn y Gogledd—pa un bynag ai yn ei wlad ei hun ai mewn rhyw fan arall y byddai. O blegid hyn, y mae mor ofynol i'r genedlaeth ieuanc wybod rhyw beth am ansawdd y sasiwn ag am ddoniau arbenig ELIAS, er gallu ffurfio dychymyg lled agos am yr effeithiau hynod a gynnyrchid gan ei bresennoldeb. Y mae yn ofynol cael y ddalen wen i dynu yr ardeb arno, cyn y gellir gweled y llinellau gwreiddiol :-y mae yn llawn mor ofynol cael y sasiwn er arddangos rhagoriaethau yr areithiwr hyawdl y cyfeiriwn ato. Rhaid dangos y dadleuwr yn y llys; rhaid dangos y cadfridog ar y maes; a rhaid dangos ELIAS yn y gymmanfa! Y mae rhai nodiadau achlysurol ar y cynnulliadau hyn wedi eu gwneyd yn yr erthyglau; ond efallai er mwyn yr ieuainc, na welsant erioed mo'r sasiwn yn nghyfnod ei hynodrwydd, na byddai yn anmhriodol gosod rhai cofnodau cyffredinol yma ger bron.

Yr oedd y gymdeithasfa yn ŵyl flyneddol yn yr holl wlad, ac yn enwedig yn nghyrau gorllewinol Gwynedd. Y person mwyaf cyhoeddus ar yr esgynlawr oedd gwrthddrych ein Hadgofion. Dysgwylid, cynllunid, ac ymddyddenid llawer am y sasiwn, yn mhob man drwy y cymmydogaethau, wythnosau cyn ei dyfod. Croesawid yr "uchel ŵyl gyfarfod " â "henffych well, fore dedwydd!" dymmor maith yn mlaen. Mynych y clywid gofyn "Pwy sydd yn dyfod i'r wlad eleni?" "A oes rhai o gawri y Deheudir yn dyfod i ymweled â ni y flwyddyn hon?" Yr oedd tinc uchel yn yr ymadrodd "gŵr dyeithr o'r Deheudir," y pryd hwnw. "A ydyw John Evans o'r New Inn, yn dyfod?" "A oes dim gobaith am gael gweled Ebenezer a Tommy Richards eleni?" "Ai tybed na ddaw o, Ebenezer Morris, ddim atom y tro yma: y mae hi yn gryn bum mlynedd er pan y bu?" "A oes dim son am Dafydd Rhys, Llanfynydd, i fod yn mysg y nifer eleni?" Dyma fel y byddai yr ymddyddan yn mhob tŷ a thwlc; a byddai yr ymofyniad am enwogion y Gogledd i raddau yr un modd, nes y byddai rhyw bryder cyffredinol wedi ei greu yn mhob man drwy yr holl ardaloedd. Yr oedd y sasiwn yn canolbwynt at yr hwn yr oedd mil o linellau yn cyfeirio o bob aelwyd o'r bron. Byddai y gymmydogaeth lle y byddai i gael ei chynnal yn cael ei gwisgo â dillad newydd i gyd. Byddai golchi a glanhau, lliwio a phrydferthu, yn mhob annedd. Yr oedd pob palas yn cael ei adgyweirio, ac yr oedd pob bwthyn yn cael ei wyngalchu. Yr oedd y wlad yn wen fel eira yn Salmon. Yr oedd llwch deuddeng mis yn cael ei symmud oddi ar bob astell. Yr oedd pob ystafell yn cael ei thrwsio a'i gloewi i groesawu y dyeithriaid. Byddai pob man yn cael ei wneyd yn ddiarebol o lân. Yr oedd yma ddangosiad ymarferol fod "glanweithdra yn agos berthynas â duwioldeb." Ar dydd hwn telid math o warogaeth genedlaethol i grefydd. Yr oedd raid i bob dosbarth gael myned i'r gymmanfa. Yr oedd hyd yn oed y rhai nad elent i gapel nac eglwys ddydd yn y flwyddyn, yn mynu codi allan y pryd hwn. Yr oedd raid i bob oed gael eu gwisg newydd erbyn y "seiat fawr." Gwelid nifer o foneddigion yn eu cerbydau yn gwychu y cynnulliad hwn—wedi dyfod yno rywfodd rhwng cywreingarwch a defod. Fel hyn y gwelid pob gradd a dosbarth wedi cyfarfod, o leiaf unwaith yn y flwyddyu, ar yr un maes; a diau y bu hyn yn foddion i godi crefydd i sylw y wlad, ac i effeithio ar gymmeriad y genedl.

Y mae wythnos y gymmanfa wedi dyfod. Y mae cyhoeddiadau y gwŷr dyeithr wedi eu dosbarthu er y Sabbath trwy bob tŷ addoliad, dros ugain milltir o amgylch "pabell y cyfarfod." Y sasiwn sydd ar dafod pawb; y gymmanfa sydd fel swyn yn mreuddwydion y nos; ac megys yn ymwthio o flaen myfyrdod pob gradd. Y mae yr hyfrydwch a'r adeiladaeth a ddysgwylir yn cael ei fwynhau mewn gobeithion yn mlaen llaw. Y mae bore y dydd cyntaf wedi gwawrio. Y mae cynhwrf drwy yr holl wlad hyd bellder ffordd o amgylch y dref sydd i gael ei hanrhydeddu eleni. Y mae y ddinas yn ferw drwyddi draw. Y mae yr ysgolion dyddiol wedi tori i fyny, i ollwng y plant adref. Y mae y gweision yn coffäu i'w meistriaid fod rhyddid i fyned i'r sasiwn yn un o delerau eu cyflogiad. Y mae seiri y dref a'r gymmydogaeth yn prysur gario coed i adeiladu y gadair ymadrodd, ac y mae llèn llian fawr yn cael ei pharotoi i'w thaenu yn dô. Y mae y maes wedi ei gynnyg er ys mis yn ol, yn rhad ac am ddim, gan foneddwr ger llaw; ac y mae wedi tori y gwair i lawr a'i gludo, o'r bron cyn addfedu, er mwyn croesawu yr ŵyl fawr. Lle ar lethr ydyw; man y mae natur wedi adeiladu un o'i horielau mwyaf dengar a manteisiol. Y mae yr areithfa eang yn y cwr isaf, a meinciau i'r cantorion ger bron. Onid oes yma olygfa swynol iawn? Y mae y lle yn cael ei gylchynu gan res o fryniau "megys y mae Ierusalem a'r mynyddoedd o'i hamgylch." Y mae y bronydd acw wedi eu gwisgo â'r borfa lâs; ac y mae y clogwyni noethion acw yn ardderchogi yr olygfa. Y mae yna ambell hafn yn ymagor rhyngddynt, i gael golygfa ar len lydan ddulas mynwes y môr o bell draw. Y mae yr awel yn suo yn hyfryd yn mrig y goedwig ar ochr y bryn; ac y mae y gwynt tyner yn llunio megys tonau ar hyd a lled y maes gwenith draw. Y mae anian heddyw wedi ymwisgo yn ei dillad Sabbathol, canys diwrnod awyr glir hirddydd haf yr unfed ar ugain o Fehefin ydyw. Y mae pob peth o'r ddaiar a'r nef yn ymuno i wneyd pob golygfa yn ddedwydd heddyw !

Y mae cyfarfod y pregethwyr a'r blaenoriaid wedi dechreu, ac y maent wedi myned drwy eu cynghorau ar fyr. Y mae hi agos yn bedwar o'r gloch prydnawn, ac y mae yna gannoedd o amgylch drysau y capel wedi dyfod i gael golwg ar y pregethwyr yn dyfod allan; a dacw hwy ar y palmant yn rhes, a "JOHN" yn eu canol. Y mae y pryder wedi codi i'w orsaf uchaf erbyn hyn; canys y mae hi o fewn ugain mynyd i bump, ac y mae y lluaws yn dechreu cyrchu tua'r maes. Y mae yr esgynlawr yn barod, ac y mae y Beibl a'r llyfr hymnau ar y ddesc. Y mae trwst olwynion mân gertynau fel ar y palmant. Y mae y meirch yn dylifo i mewu i'r dref. Y mae y prif-ffyrdd yn dduon gan y fforddolion ar eu traed. Er maint ydyw y gwau sydd rhyngddynt, nid oes yna un ddamwain heddyw! Y mae y dorf yn prysur lanw y maes o amgylch yr areithfa. Dyma luaws yn dyfod hyd y ffordd dan ganu, fel tyrfa yn cadw gŵyl. Y mae nifer ar ol nifer yn eu dilyn; y mae sain caniadau o'r brif-ffordd arall yn adsain i'w mawl hwy. Y mae y cynnulliad yn cynnyddu o hyd. Y mae yn syndod meddwl o ba le y daethant. Y mae yna deimladau hynod wedi eu moldio yn barod at yr addoliad-rhwng gweddïau, dagrau, caniadau, ac amenau, ar hyd y ffordd. Dyna y pulpud o'r diwedd yn llawn. Onid oes golwg anwyl ar y rhes o werthfawr feibion Lefi yn addurno y lle. Dynion ydynt, ar y cyfan o gorffolaeth uchel ac iachus, gyda wynebau gwrol, gwridgochtebyg i breswylwyr ochrau y mynyddoedd, gydag eithriad o ambell fyfyriwr llwyd a llym ei wedd. A! pwy ydyw hwn acw sydd i'w weled yn dal yn eu canol, â gwallt cryf tywyll, ac arleisiau uchel, ac yn tremio drwy y bobl, gan edrych ol a blaen, i'r naill ochr a'r llall, dros y dorf? Ust! yn awr, cewch wybod tua diwedd yr oedfa! Gosteg! dyna y gymmanfa fawr, y dysgwylid cymmaint am dani yn dechreu, a'r pennill cyntaf yn cael ei roddi allan i'w ganu— "

Ymddyrcha, Dduw, y nef uwchlaw,
Oddi yno daw d' arwyddion;
A bydded dy ogoniant ar
Y ddaiar a'i thrigolion."

Y mae yr hen dad penllwyd, crynedig yna, yn ddigon cynnefin â'r ffordd i'r nef mewn gweddi. Y mae y pregethwr ieuanc gobeithiol yn terfynu ei anerchiad gyda llawer iawn o briodoldeb. Dyna ryw wron cadarn yn y ffydd yn codi, ac yn llefaru felly, fel y mae y lluaws yn teimlo i'r byw, a phawb yn cael eu boddhau yn anarferol, ac y mae yr addoliad cyntaf drosodd.

Dyna wrthddrych ein hadgofion yn codi i fyny, ac yn anerch y dorf, gan argymhell moesau da yn mhob man, ac addoliad teuluaidd yn mhob tŷ; ac y mae yn codi pob teimlad o ddyhewyd a fedd pawb i uchder penaf ymarferiad. Y mae hi yn awr yn dechreu hwyrhau. Y mae mantelli y nos yn dechreu ymdaenu; y mae yr awyr yn glasu, a'r hin yn dechreu oeri, a'r goleuni yn chwareu ei belydran olaf ar fynwes yr eigion yn mhell draw, ac y mae yr haul yn machlud yn ei fantelli cochion gyda godreu mynydd y twrf. Dyna y gynnulleidfa ar chwâl, pawb i'w fangre, a'r addoliad cyhoeddus drosodd, a therfyn ar wasanaeth y dydd.

Y mae hi weithian yn wyth o'r gloch, ac y mae cyfeillach y gweinidogion a'r pregethwyr yn dechreu i'r mynyd awr; ac fe fydd eu cynnadleddau drosodd chwarter cyn deg, sef yr awr i ddechreu ar y maes.

Y mae yr holl wlad o'r bron â'u golwg at y fan yma erbyn hyn. Y mae heolydd y dref yn dduon, gan y bobl yn cyfeirio eu camrau tua'r maes. Y mae yna filoedd yn y lle er ys meityn. Y mae yna filoedd ar filoedd eto ar hyd y prif-ffyrdd; rhai ar draed, a rhai ar feirch, a rhai mewn cerbydau, yn nghanol y llwch-pawb yn cyfeirio eu ffordd tua'r un parth. Y mae rhyw sylwedydd yn esgyn i ben y foel, â map y wlad yn ei law, ac yn synu mewn dychymyg o ba le y deuant i gyd! Y mae yn canfod tyrfa yn ymsymmud ar ochr pob bryn; a nifer ar bob bwlch yn croesi pob mynydd; a lluaws ger llaw pob pontbren yn aros eu tro i groesi pob afon. Y mae y minteioedd yn rhesi ar hyd y llwybrau yn cyrchu yn mlaen drwy y dyffrynoedd a'r glynoedd yn mhob lle. Nid oes neb yn gofyn i ba blaid y perthynant heddyw. Y mae trwydded wedi ei chael, rywfodd yn ddiarwybod, i gladdu sectau o'r golwg am un diwrnod yn y flwyddyn o leiaf. Y mae yr Eglwyswr wedi gadael ei Lyfr Gweddi Gyffredin adref ac wedi anghofio mai Eglwyswr ydyw; mae y Bedyddiwr wedi cael pont i ddyfod dros yr afon ar dir sych; mae y Wesleyad wedi anghofio enw yr hen ddiwygiwr heddyw yn llwyr; ac y mae yr Annibynwr yntau fel pe byddai wedi anghofio fod neb yn y byd yn ymdrech dros un gredo, heb law "y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint:"— —ac fel hyn y cyfarfyddant oll, bawb yn un a chytûn yn yr un lle. Y mae y tyrfaoedd acw sydd yn y certwyni gyda'r carfanau mawr, yn edrych yn lled wledig; ydynt, ond gadewch i hyny fod, y maent yn ddigon parchus yn ol arferion syml eu gwlad. Dyna le i'r dim i'r lluniedydd dynu darlun o "Welsh costume;" yn lle y sarhâd a welir arnynt yn fynych yn ffenestri masnachdai ein gwlad!

Y mae hi yn ddeg o'r gloch! Y mae y dorf yn cynnyddu o hyd! Wrth reswm, o ba le y maent yn dyfod oll? Dyna yr hen dad penllwyd wedi anerch yr orsedd yn anwyl. Dyna y canu mwyn, meddal, hirllaïs, drosodd. Y mae y bregeth gyntaf wedi terfynu yn y modd mwyaf boddhaol. Y mae dirgelwch nerth anorchfygol y pregethu Cymraeg wedi dechreu cael ei ddadblygu eisoes; ac y mae y bobl mewn hwyl i wrandaw prif bregeth y flwyddyn erbyn hyn o bryd. Y mae pawb wedi cael llawn dal yn eu mynwes am daith y dydd yn barod. Y mae y bregeth olaf wedi dechreu. Y mae y pregethwr yn ymddangos yn ddyn cryf, iachus, glandeg yr olwg, llawn o gorffolaeth, ac yn edrych yn wrol iawn. Y mae yn mhob modd wedi ei dori allan gan ragluniaeth, o ran meddwl a chorff, at ei swydd. Y mae yna enaid cryf mewn corff uerthol. Y mae yn llefaru yn eglur. Y mae cloch soniarus yn mhob dant o fewn taflod ei enau. Dyna "Ioan Aurenau" mewn gwirionedd! Y mae ei ysbryd wedi ei danio gan deimladau y bregeth gyntaf; nid i'w daflu oddi ar ei elfen naturiol, ond yn hytrach i dynu ei holl enaid allan. Y mae yn llithro yn gyflym at amcan ei genadwri. Y mae ei feddwl yn gwreichioni mewn trydaniad gan wres amcan ei destyn,—" Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tyuu ymaith bechodau y byd." Y mae yn codi ei lais seingar; nid i waedd afreolaidd, ond i hwyl naturiol. Y mae ei wedd, ei iaith, ei lais, ei nwyd, ei dymmer, ei ystum, a'i deimlad, yn cwbl gydweddu i'w gilydd, ac yn ymasio yn naturiol yn ei weinidogaeth. Y mae y naill yn cefnogi y llall rywfodd. Y mae ambell nôd gerddgar yn ei nabl fwyn yn codi yn uwch na'r lleill, ac yn disgyn i un isel, leddf, brón ar unwaith; ac felly yn tynu allan yr adseiniau mwyaf swyngar oddi ar fynwes yr hen foel fawr ger llaw. Nid yw y tinc mwyn, meddal, sydd i'w glywed weithiau yn ei lais, yn ddim amgen nag un o'r plyf sydd yn adenydd ei enaid dyrchafedig. Y mae yn codi ei lais yn uwch o nodyn eto. Y mae yn cael ei gymmeryd i fyny yn gwbl oll, ben a chalon, gorff ac enaid, gan y neges fawr sydd yn ei destyn. Nid yw ef yn gweled dim ger ei fron yn awr ond eneidiau sydd i fyw byth, yn ymyl y perygl o gael eu colli yn dragwyddol. Ai tybed nad yw y boneddigion a'r rhianod yna, sydd yn eu sidanau gwych yn rhodio o amgylch gydag ymylon y dorf yn eu cerbydau yn croesi dim ar ei feddwl? Nac ydynt, ddim yn y gradd lleiaf! Y mae ef yn sefyll ar dir mor uchel yn awr, fel nad yw yn cael golwg ar Victoria yn ddim amgen na'r llances weini; nac ar y llances weini yn ddim is na Victoria! Nid yw yn gallu edrych ar yr ynad awdurdodol ond yr un fath a'r amaethwr gwledig! Onid tywysog ar lu yr Arglwydd ydyw efe yn awr? Edrychwch mor wrol y mae yn ymddangos â'i gleddyf yn ei law. Nid yw yn prisio wyneb un dyn byw! Nid yw ef yn edrych ar y dorf ond fel pechaduriaid; y mae yn canfod pawb yn yr un sefyllfa, ac yn anerch pawb wrth yr un enw. Y mae yn tremio ar y llinell sydd yn terfynu rhwng y ddau fyd, rhwng amser a thragwyddoldeb, a rhwng nefoedd ac uffern. Y mae efe yn ymherawdwr yn myd yr ysbrydoedd heddyw; y mae efe yn cyfeirio ei deyrnwialen at eneidiau anfarwol yn awr; y mae yn pwyntio ei gleddyf dau finiog at y galon ar hyn o bryd. Y mae anystyriaeth yn methu edrych yn ei wyneb; y mae anghrediniaeth yn ffoi o'i ŵydd; y mae balchder ysbryd yn gwywo yn ei bresennoldeb; y mae difaterwch yn plygu dan nerth ei lais; ac y mae creigiau caledwch y galon yn cael eu hollti a'u dattod oddi wrth eu gilydd gan dreiddgarwch mellt ei weinidogaeth. A soniwch chwi byth mwy am hyawdledd Demosthenes wedi clywed peth fel hyn? A grybwyllwch chwi air byth am ddoniau Cicero wedi gweled peth fel hyn? A! clywch; dyna ef yn symmud i orsaf arall yn ei bregeth yn awr; y mae y gydwybod euog ddeffröedig yn cael esmwythâd anwyl dan olew yr eneiniad sydd yn ei genadwri. Y mae yna berarogl hyfryd yn codi o'r thuser aur acw sydd yn ei law! Wel, wel, y mae ef er ys meityn yn feistr y gynnulleidfa; ond y mae yn awr yn disgyn ei hun i ganol y bobl, ac yn cydgymmysgu ei ddagrau, ei ocheneidiau, ei deimladau, a'i weddïau, a'i ganiadau, â'r eiddynt hwy! A! dyna yr addoliad drosodd, a'r dorf fawr yn chwalu, nes y maent yn mron llethu eu gilydd yn y pyrth sydd yn arwain o'r maes i'r brif-ffordd, a phawb yn cyrchu gyntaf gallont am damaid o luniaeth sydd wedi ei ddarparu iddynt yn rhad gan drigolion caredig y dref! Ow, ow! clywch mewn difrif, dyna rywun yn crïo ffair ocsiwn ar ganol yr heol, fel pe byddai o bwrpas am oeri teimladau y bobl! Y mae yn resyn meddwl fod yn rhaid i'r bydolion gael ymwthio i le fel hyn! Gadewch iddo: nid oes yma neb yn cymmeryd arno ei glywed!

Y mae hi yn ddau o'r gloch. Y mae y prif-ffyrdd yn dduon gan y teitholion yn parhau i ddyfod i'r dref o bob ffordd, a'r cyfan yn cyfeirio tua'r maes. Dyma y cynnulliad lluosocaf eto. Y mae yma ddeng mil o bobl ar y maes! ïe, y bedwaredd ran o boblogaeth y wlad! Y mae yma rywun yn cynnrychioli pob aelwyd sydd yn nherfynau y sir, os nid amrai o siroedd ereill hefyd! Y mae y rhan arweiniol o'r addoliad drosodd. Y mae yna ŵr ieuanc enwog yn dechreu tynu yn y bwa. Nid yw mewn hwyl neillduol; ond yn absennoldeb hwyl, y mae ganddo rwyfau da. Y mae y lli a'r gwynt yn ei erbyn, ac y mae y cwch weithiau fel pe byddai yn cael ei guro yn ol; ond gadewch i hyny fod, y mae ganddo ddigon o nerth a phenderfyniad i ystemio y gorllif i gyd, ac y mae yn cael y làn yn deg. Dyna y bregeth gyntaf drosodd. Yn awr, dacw ddyn gwridgoch, glandeg, tal, dengar, yn codi i fyny i hysbysu cyhoeddiadau y gwŷr dyeithr drwy wahanol gapeli y wlad o hyn hyd y Sabbath. Y mae pryder mawr yn cael ei greu yn awr. "Ust! gwrandewch, pwy sydd yn dyfod atom ni," ydyw y sibrwd dystaw gan bawb. Y mae yna bwynteli plwm a dyddiaduron fil allan ar hyn o bryd. Dyna y cyfwng rhwng y ddwy bregeth drosodd, a'r pregethwr olaf yn codi at y ddesc. Y mae yr holl bobl oedd yn lled flinedig, ac wedi gorweddian ar y maes, yn dechreu codi, a phawb yn dechreu sypio at eu gilydd; a dyna awel dyner yn chwibanu uwch ben ac yn rhedeg dros y bobl; ac y mae poethder mwyaf tanbaid y dydd wedi cilio, canys y mae hi yn hanner awr wedi tri y prydnawn. Y mae dysgwyliad mawr am y bregeth hon. Y mae y llefarwr yn dechreu cael gafael ar ei bwnc ac ar y bobl hefyd. Y mae yn ymadroddi yn rhwydd, ac yn ymresymu yn bert; ac y mae ganddo gyflawnder o arabedd at ei alwad. Y mae yn dyrchafu ei lais fel udgorn arian y cyssegr, ac y mae seiniau swyngar hwnw yn dechreu toddi calonau y bobl. Y mae pob rheswm, teimlad, darfelydd, a nwyd, a fedd, yn cael eu galw allan yn awr. Y mae ei ddrychfeddyliau a'i seiniau cerddgar yn perffaith gydweddu â'u gilydd. Y mae barddoniaeth ei enaid a cherddoriaeth ei lais, wedi eu cyfrodeddu â'u gilydd, er cario effaith ar deimladau y dorf. Y mae yn cyflwyno ei holl ysbryd i ysbrydoedd ei wrandawyr. Y mae ei ymadroddion yn treiddio trwy y deall at y galon. Y mae cwmwl ei weinidogaeth yn llawn trydan. A! dyna y cwmwl mawr yn hollti, a'r gawod yn disgyn! Dyna rwyg drwy deimladau y dorf. Y mae yna gannoedd ar unwaith yn gwaeddi allan am eu bywyd! "Dy wylwyr a ddyrchafant lef, a chyd â'r llef y cydganant!" Dyna hi yn orfoledd cyffredinol drwy y gynnulleidfa luosog i gyd, ac y mae y pregethwr yn tori i fyny ar unwaith yn nghanol caniadau y dyrfa fawr! Y mae yr oedfa drosodd. Y mae y dorf yn ymwasgaru. Y mae degau yn canu, yn bloeddio gwaredigaeth, ac yn moliannu Duw ar hyd yr heol, wrth fyned i lawr i'r dref. Y mae y pregethwyr dyeithr yn cyfeirio tua maes yr ysgrubliaid i chwilio am eu meirch, eu ffrwyni, a'u cyfrwyau, ac yn prysuro at eu cyhoeddiadau i'r wlad erbyn saith o'r gloch;—un i Horeb, a'r llall i Hermon; un i Bethlehem, a'r llall i Salem; un i Seion, a'r llall i Gosen; a'r cannoedd yn eu dilyn—pawb tua thref!

Yn awr, dyna chwi wedi cael un o'r golygfeydd sydd yn hynodi cenedl y Cymry yn eu cymmeriad crefyddol!

Y mae yr oedfa hwyrol yn dechreu am chwech. Nid oes yma ddim cymmaint o hynodrwydd o ran nifer; ond y mae y dyddordeb yn cael ei gynnal i fyny yn barhaus. Yn Môn, bob amser, byddai ELIAS yn pregethu y bregeth olaf yn y sasiwn; ac y mae amryw yn tystio iddo gael rhai o droion mwyaf llewyrchus ei oes yn y rhai hyny. Byddai efe yn brif ysgogydd y cyfarfodydd hyn drwyddynt draw; ac y mae rhyw adwy wedi ei gadael yn agored ar ei ol, sydd heb ei llanw hyd yr awr hon.

Wedi crybwyll yr ychydig sylwadau uchod, fel diheurad am droi allan o lwybr cyffredin rhagymadrodd i'r adgofion, nid oes genym ond gair byr i'w fynegu am y gwaith.

Y mae y gymmeradwyaeth a gafodd yr erthyglau a gyhoeddwyd gan y wlad yn gyffredinol, yn gwneyd pob esgusawd am eu cyhoeddi yn afreidiol. Derbyniodd yr awdwr nodiadau arnynt oddi wrth nifer o weinidogion o wahanol enwadau, y rhai a roddodd iddo bob boddlonrwydd am y priodoldeb o'u cyhoeddi. Y mae rhai o honynt mewn ymadroddion rhy gryfion i wyldeb ganiatäu eu mynegu. Annoga rhai ar fod iddynt gael eu cyhoeddi yn y Saesoneg, fel y gallo ein cymmydogion gael mantais i weled, i raddau, yn mha le y mae cuddiad cryfder yr areithfa Gymreig. Amser a benderfyna hyny.

Ni all yr ysgrifenydd derfynu hyn o anerchiad heb gydnabod ei rwymedigaeth i'r cyhoeddydd; i ysbryd anturiaethus ac egwyddor foneddigaidd yr hwn y mae yn ddyledus am ddygiad allan yr erthyglau drwy y wasg. Bydded iddo hir oes i wasanaethu ci genedlaeth.

R. PARRY
GLANYDON, CONWY, Mehefin 7fed, 1858.

PENNOD I

Y MAE nifer o ddarluniadau wedi eu tynu o John Elias, o bryd i bryd, mewn rhyddiaith, barddoniaeth, a phortreadau. Y maent gan mwyaf wedi eu gwneyd i osod allan ŵr mawr a thywysog yn Israel, yn hytrach na dilyn y gwreiddiol yn unig. Y darlun goreu yw y tebycaf i natur, ac nid y gwychaf ei liwiau. Peth hawdd yw tynu llun dyn; ond peth anhawdd yw tynu llun y dyn. Cryn orchest ydyw gwneyd cyfiawnder âg ardeb y gwr sydd genym yn awr dan sylw dan bob amgylchiadau. Y mae adgofion personol weithiau yn ateb llawn cystal dyben yn hyn a dim a all yr hyawdledd mwyaf, neu'r arfolawd dysgleiriaf, ei gynnyrchu. Maddeuer i ni, gan hyny, am osod ychydig o adgofion ger bron, yn lle darlun, am dro.

Y mae cyhoeddiad John Elias, a gwr dyeithr o'r enw Thomas Jones, Corwen, gydag ef, yn un o drefydd Môn ar noson waith. Y mae hyn yn peri cryn gyffro yn y gymmydogaeth. Y mae y ddau yn cyfarfod eu gilydd yn ddamweiniol. Y mae yr addoldy yn orlawn o wrandawyr; y mae y gwasanaeth wedi dechreu. Y mae hen ŵr penwyn o'r enw Rhisiart Williams, Gorslwyd, yn dechreu yr oedfa. Y mae y gwr ieuanc yn codi at y ddesg. Y mae ei edrychiad fel dyn craff, treiddgar, wyneb llym, trwyn uchel teneu, a'r olwg arno ar y cyfan yn ddigon dymunol. Y mae yn lled ddyeithr i'r dorf—ni welsant mo hono o'r blaen, oddigerth rhyw unwaith, a'r pryd hwnw fel cyfaill i John Roberts, Llangwm; ond yr oedd wedi tynu sylw rhai y tro hwnw fel dyn ieuanc gobeithiol. Y mae yn darllen ei destyn,—"Canys y palasau a wrthodir, lluosogrwydd y ddinas a adewir; ïe, yr amddiffynfeydd a'r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa deadellau, hyd oni thywallter yr Ysbryd o'r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goed-dir." Y mae yn dangos yn fuan ei fod yn ymadroddwr medrus; y mae yn tywallt ffrwd o hyawdledd, nes y mae yn symmud teimladau y dorf; a chyn pen hanner awr, y mae yn gweithio ei hun i hwyl mor ddedwydd, nes y mae yn gallu cario teimladau y gynnulleidfa gydag ef yn hollol; a chyn diweddu, y mae wedi cael perffaith feistrolaeth ar dymmerau ei wrandawyr, nes y mae yr holl dorf yn foddfa o ddagrau, ac yn ymyl tori allan i orfoledd. Y mae yn terfynu yn nghanol gwres y teimladau hyn yn yr adeg fwyaf priodol, ac y mae yn gadael ei wrandawyr yn y myfyrdodau mwyaf derchafedig! Tro anarferol ydyw hwn. Nid yn fynych y gwelir pob peth yn cydgyfarfod mor hynod o darawiadol. Y mae y dorf am fynyd yn fud ddystaw oll, gyda'r eithriad o'r ocheneidiau mynych sy'n dianc o luaws o fynwesau megys yn ddiarwybod iddynt. Y mae yn ofer pregethu dim chwaneg heno. Gwell terfynu ar hyn. Wel, yn awr yr oedd y prawf i fod ar alluoedd yr hen gawr. Yn sicr, yr oedd teimladau y dorf ar y pryd wedi eu codi mor uchel, fel y buasid yn meddwl mai ledio pennill a gweddïo fuasai yn oreu iddo ef y waith hon. Dywedodd rhai hyny yn ddystaw ar y pryd. Ond nid felly yr oedd rhoi Mr. Elias i lawr. Pa fodd bynag, dacw ef yn codi i fyny yn araf, wylaidd; y mae yn agor y Beibl; y mae llyfr du teneu ganddo yn ei law chwith, a'i fys blaenaf yn ei ganol; y mae yn taflu golwg ar y dorf i fyny ac i lawr; y mae yn cyfeirio at y ffenestr yn y talcen, ac yn gofyn, "A fyddwch chwi gystal ag agor y ffenestr acw?" Yna, y mae yn cyfeirio at ffenestr yn y cefn, ac yn gofyn, A fyddwch chwi gystal a chau y ffenestr acw? y mae yr awr yn lled drymllyd. A fyddwch chwithau gystal a dyfod yn mlaen o'r drysau y mae digon o le yn yn yr eisteddleoedd acw.' Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu

Ymddyrcha Dduw y nef uwch law,
Oddiyno daw d' arwyddion," &c.

Y mae yn gwrandaw ar seingarwch y canu er mwyn adnabod tymmeredd yr awyr—i ddeall yn mha gyweirnod i ddechreu llefaru, i ddirnad pa faint o lais fyddai yn ofynol i lanw y lle, ac i ddyfalu pa fodd i ochelyd oedfa drom, ar ol y cyffro mawr a fuasai ar deimladau y dyrfa eisoes. ac i ocheneidiau ac anadl y bobl lygru yr awyr. Y mae y canu drosodd y mae yntau yn dechreu edrych ar y Beibl; ond cyn darllen ei destyn, y mae yn cymmeryd golwg esmwyth, hawddgar, ar y dorf drachefn i fyny ac i lawr, gan ymaflyd yn ymyl ei gôt, a symmud ei ffunan llogell unwaith neu ddwy. Y mae yr olwg arno yn hynod o ddengar: y mae yn dal o gorffolaeth, heb fod yn gnodiog; y mae ffordd hir o'i law hyd i'w ysgwydd; y mae yn perthyn i Gaswallon fraich hir, feddyliem. Y mae pob ystum ar ei law, ei fys, ei wefus, a'i ael, yn swyngar. Y mae ei ben yn urddasol, er nad yw ei wedd yn brydferth. Y mae ei arleisiau yn uchel, ei ruddiau yn ddyfnion. Y mae ei wallt tywyll yn disgyn yn ol ei dyfiant, heb ei droi un ffordd; eto y mae yn ddigon tewglud i beidio ymddangos fel bargod tô gwellt. Ond ei lygaid —ei lygaid: y mae ei enaid mawr yn ymwthio iddynt yn fflam. Y mae lleferydd byw yn mhob gewyn a chyhyr yn ei wyneb. Y mae natur wedi ei dori allan, yn mhob modd manteisiol, i fod yn areithiwr. Y mae ei wisg hefyd yn mhob dull yn gweddu iddo—yn syml, lân, drwsiadus, drefnus—ei gôt Crynwr; ei wasgod ddwbl; ei ffunan wen, gàn, blaun, lefn. Y mae yn tynu ei napcyn gwyn o'i logell, ac yn ei dynu dros ei wyneb: y mae yn ei osod ar y ddesg dan ochr y Beibl. Y mae yn tynu ei anadl i'w ffroenau yn gyflym ddwywaith neu dair. Wel, wel, ni waeth hyny na chwaneg, y mae ei ymddangosiad wedi sychu ymaith hanner y teimladau a gyffrowyd dan y bregeth gyntaf; y mae gobaith i ni am bregeth eto. Onid yw dylanwad fel hyn ar dymmerau dynion yn beth rhyfedd iawn? Pa fodd y gellir rhoddi cyfrif am y dirgelwch? Y mae yn darllen ei destyn yn eglur a dirodres,—"Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd." Ah! fel y mae darlleniad y testyn yn taflu llen o arddwysedd dros wyneb y dorf! Y mae ei lais yn gafael yn mhob teimlad, ac yn myned yn fwy soniarus bob brawddeg; nid o ran dim pereidddra neillduol sydd ynddo, ond o ran priodoldeb y darlleniad, addasrwydd yr aceniad, a threiddgarwch ei wedd. Y mae yn rhagymadroddi ac yn esbonio cyssylltiadau y testyn. nes y mae, fel masnachydd eang, yn agor y ddor ac yn symmud y gauadlen, a holl drysorau ystordy mawr y gwirionedd yn ymddangos fel hanner dydd o flaen yr holl dorf, fychan a mawr, ar unwaith; neu o leiaf cyn pen deng mynyd. Y mae yn rhanu ei destyn yn gelfyddgar. Dyna ni wedi myned drwy un orsaf yn awr. Y mae yn myned rhagddo ac yn ymresymu â'r dorf yn oleu, yn argyhoeddiadol, ac yn afaelgar, nes y mae cyn pen ugain mynyd wedi ennill meddylfryd y bobl yn lân, ac wedi golchi ymaith yr holl deimladau uchel a godwyd gan y bregeth gyntaf yn gwbl oll, ac wedi claddu ei ragflaenorydd o'r golwg ddeg llath ar hugain dan y ddaiar. Y mae y dorf yn awr yn gwbl at ben ei fys, ac y mae fel pe byddai yn deall ei fod wedi gweithio teimladau ei wrandawyr i fod yn arweiniai i wefryddiaeth gwreichionog ei genadwri. Y mae wedi llyncu syniadau y bobl i fyny yn llwyr, a'u gosod i droi ar begwm ei bwnc ei hun yn unig. Y mae yn gwaeddi, "Gwrandewch yn awr." O, dyna ymadrodd heb ei eisieu beth bynag ar hyn o bryd; camp fyddai cael gan neb beidio gwrandaw yn awr: y mae pob oen sydd yma yn glust i gyd er ys meityn. Y mae ei ysbryd wedi ei danio gan wres y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu. Y mae pryder a dysgwyliad wedi gwisgo pob wyneb dyn, ac y mae pob clust wedi ei hoelio wrth ddor ei ymadrodd. Ymddengys yn awr fel cadfridog yn sefyll o flaen y dorf, a chleddyf yr Ysbryd yn ei law, ac y mae fel pe byddai yn ymwybodol ei hun ei fod dan arweiniad uniongyrchol ei Feistr. Y mae fel pe byddai wedi penderfynu y myn ryw bechadur yn rhydd o'i berygl yn yr oedfa hon, pe byddai heb bregethu byth mwy. Mewn gwirionedd, ymddengys yn awr, nid yn unig fel pe byddai yn ymwybodol fod "Tywysog llu yr Arglwydd" ar ei ddeheulaw, ond y mae fel pe byddai yn deall sefyllfa a theimlad y dorf sydd o'i flaen, ac yn gweled fod min y cledd yn cyffwrdd â chydwybodau y bobl yn barod. Ah! dyma ni wedi pasio yr ail orsaf yn awr. Y mae rhyw newidiad yn ei wedd. Y mae ei lais yn disgyn i ryw dinc mwyn yn y minor key. mae yn dechreu tyneru, os nad yn dechreu toddi, teimladau y dorf; ond nid oes dim eto o'r hwyl hyfryd a deimlwyd dan y bregeth gyntaf. Y mae yn dychwelyd at y dull ymresymiadol, fel pe byddai yn gweled rhyw un heb ei lwyr argyhoeddi. Y mae yn uchder nerth ei weinidogaeth yn awr. Y mae yn son am ffrwyth pechod, fel un wedi profi ei chwerwder ei hunan. Y mae yn son am edifeirwch, fel un wedi bod ei hun yn gwaedu dan ei archollion. Y mae yn darlunio uffern fel un a fuasai wedi bod ei hun yn chwilio ei holl ogofâau â lanterni. Y mae yn arwain y bobl i ymyl dibyn gwlad y gwae, nes y mae llawer fel pe byddai arnynt ofn syrthio dros ymyl y gallery yn y capel. Y mae rywbeth tebyg i anobaith fel pe byddai wedi ei argraffu ar ruddiau pawb. Rhyw deimlad rhyfedd fyddai yn y dorf pe gollyngid pawb adref ar hyn! Buasai yn well i'r bobl gael myned ymaith ar ol y bregeth gyntaf. Pa fodd bynag, y mae yn myned rhagddo, ac y mae yn gollwng ei saethau tanllyd mor aml ac mor effeithiol, nes y mae teimladau ei wrandawyr yn cael eu dwysbigo, a'u calonau yn gwaedu ar lawr! Y mae ysbryd y peth byw yn gweithio drwy yr holl gynnulleidfa fawr: y mae rhyw ferw drwy bob man; ac o'r braidd na thybiem fod y dorf fel pe byddai yn dychymygu fod y tyle yn symmud dan eu traed. Y mae pawb eto yn fud; nid oes yma ddim eto o'r teimladau uchel a brofwyd dan y bregeth gyntaf, er fod yma rywbeth—rywbeth—y peth—beth y galwn ni ef?—sydd yn fwy effeithiol fil o weithiau na dim a glywsom o'r blaen. Y mae ei iaith yn dda ac yn ddillyn; ond y mae yn cameirio yn aml iawn "canlnyniad, ternas," &c.; ond ni waeth beth a fo, y mae rhyw swyn hyd yn oed yn ei gamsilliadaeth. Y mae wynebau y bobl wedi colli eu hagwedd gyffredin—y mae pob llinyn yn eu gwedd fel pe byddai wedi ymollwng. Beth mewn gwirionedd ydyw peth fel hyn? O'r braidd na feddyliem, wrth syllu ar wyneb gwelw llawer un, ei fod yn dywedyd yn ddirgel yn ei fynwes, "Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu." Ah! dyna ef yn troi yn awr oddi wrth yr anghredadyn at y gwrthgiliwr. Y mae ei eiriau yn disgyn fel tân ar benau y bobl. Y mae rhyw hanner crac yn ei lais yn awr, ac y mae bron yn tori i wylo! Beth ddaw o'r dorf bellach? Y mae rhai wedi eu cadwyno—rhai wedi eu synu―rhai wedi eu syfrdanu—ac ereill wedi ymollwng! Y mae yn gwaeddi allan, "Wel, deuwch â'r waredigaeth i'r golwg bellach?" "Ah! a fyddai yn onest i mi ddangos y noddfa i chwi cyn i chwi deimlo eich perygl?" Y mae y dorf yn ddystaw fud eto. Y mae rhai yn dechreu tynu allan eu napcynau i sychu y gruddiau gwlybion. Y mae ambell hen chwaer yn methu yn lân a chadw y teimlad i lawr; y mae yr ager yn rhy gryf i'r safety valve. mae un yn gwaeddi allan yn y gornel draw, "Fy mywyd i!" Y mae un arall yn mron ymdori yn y fan arall, wedi ymattal yn hir, yn gwaeddi, "Oes gobaith i fy math i?" Un arall, "O fy enaid gwerthfawr i!" Un arall, "Beth a wnaf?" Y mae yna ddynion cryfion â'u hwynebau yn amliwio wrth geisio cuddio eu teimladau. Ond nid oes yma eto ddim o'r cyffro cyffredinol oedd dan y bregeth gyntaf. Ar hyn, dyma y pregethwr, o ganol ei ymresymu, yn cael ei gymmeryd i fyny gan deimlad cryf. Dyma ni yn cael ein symmud i station newydd eto. Y mae yn codi ei lef, ac fel pe byddai yn rhedeg i ganol y gwersyll, ac yn codi baner y groes yn ngolwg y bobl, ac â llais treiddgar, fel udgorn arian y deml, yn cyhoeddi gobaith i'r euog, ac agoriad carchar i'r rhai sydd yn rhwym; y mae yn galw ar bawb at orsedd trugaredd; y mae yn dyferu myrr oddi wrth ben ei fys hyd hespenau rhydlyd cloion calonau pechaduriaid celyd; y mae yn tywallt olew iachawdwriaeth gras ar glwyfau yr argyhoeddedig. Y mae yn agor drws llydan o obaith o flaen yr hen wrthgiliwr, ac yn galw ar yr afradlawn i ddyfod yn ol i dŷ ei Dad. Y mae fel bugail tyner yn gwylio y praidd, ac yn tyru y defaid o'i flaen i'r gorlan, â'i ffon gnwpa,—

A'i danbaid lygaid a'i lef—dilyna
Afrodloniaid adref
Fe lwydda grym ei floedd gref"

i symmud yr holl dorf ar unwaith, fel pe byddent wedi cael eu trydanu gan fellt y gyfraith, a'u bywhau gan lais hyfryd rhad ras yn eu harwain at odrau y groes. Y mae y waredigaeth wedi dyfod i'r golwg o'r diwedd; y mae drws trugaredd wedi cael ei agor o led y pen; y mae trothwy y noddfa yn cael ei dangos ger llaw. Y mae yn awr fel pe byddai yn estyn ei fraich hir dros ymyl yr areithfa, ac â'i law yn dattod y cwlwm ac yn tynu y cortyn oddi am wddf rhyw hen bechadur sydd yn sefyll ar y drop, ac y mae hwnw yn neidio i fyny yn nghanol y dorf, ac yn gwaeddi allan, "Y fagl a dorwyd, a minnau a ddiengais!" Y mae yr holl dyrfa fawr fel pe byddai yn gwyro dan ei weinidogaeth—fel y goedwig dderw yn plygu dan y rhyferthwy hyd y llawr! Dyma yr olygfa yn newid eto, ac yr ydym wedi cyrhaedd yr orsaf ddiweddaf yn awr. Y mae ei wedd yn sirioli, a gobaith yn dychwel ar wedd y dorf. Y mae yn cymmysgu ei gymhwysiad o'r athrawiaeth at y bobl â gweddïau taerion drostynt, gydag effeithioldeb digon i hollti calonau o adamant! Y mae fel pe byddai yn cael ei gipio i'r drydedd nef, ac yn son am yr orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw fel un a fyddai wedi bod yno ei hun yn eistedd ar y fainc, a chario teimladau gogoniant yn ol i'r ddaiar, a'u cyflwyno i fynwesau ei wrandawyr bob un. Dyma ddydd y Pentecost mewn gwirionedd yn Nghymru! Crëwyd teimladau yn yr oedfa hon a hir gofir yn Môn, ac ni bydd tragwyddoldeb ei hun yn ddigon o hyd i'w golchi ymaith.

Wedi adrodd hyn o adgofion, nid oes eisieu gwneyd nemawr o sylwadau. Ond y mae yn naturiol i ni ofyn, A oedd dim a allesid ei ddysgu a barai y gwahanol olygfeydd a welsom, a'r holl orsafoedd yr arweiniwyd ni drwyddynt? Y mae yn ddiau fod celfyddyd yma; ond yr oedd dan yr eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnw, Yr oedd dylanwad yr Ysbryd fel addurn ar alluoedd naturiaethol tra rhagorol —celfyddyd yn ei champ uchaf, ac eto heb neb â llygad digon craff i'w chanfod—celfyddyd dan effeithiolaeth mor gyssegredig nad all hyawdledd dynol ei dynwared. Y mae hyn yn rhyfedd iawn! Buom yn teimlo tipyn dros sefyllfa yr hen wron pan oedd y gwr ieuanc yn nofio yn nghanol ei hwyl, a'r gwynt a'r llanw yn gweithio o'i blaid, a'r dorf wedi ei gorloni dros ben pob mesur. Ond erbyn y diwedd, yr oedd y cwbl wedi myned yn ddim—ac yntau ddim yn amgen na'r merlyn bach yn yr arddangosfa, a osodir wrth ochr yr elephant, er mwyn dangos y cyferbyniad yn fwy. Nid oes un ammheuaeth ynom nad yn y dromarawd (tragedy) yr oedd cuddiad ei gryfder ef. Y mae hyny yn cael ei brofi, feddyliem, oddi wrth un amgylchiad neillduol y gellid cyfeirio ato. Bu llongddrylliadau mawrion ar derfynau Môn unwaith, a darfu i'r wlad warthruddo ei hun yn fawr trwy redeg dros y terfynau ar y pryd. Annogwyd Mr. Elias mewn cyfarfod misol i areithio yn erbyn y pechod cyn pregethu yn mhob man y gallai fyned—ac felly fu. Yr oedd ei anerchion y pryd hwnw mor daranllyd, fel yr oedd y gwrandawyr yn arswydo ac yn dychryn ar eu traed; a'r canlyniad a fu, i gannoedd o lwythi meni o eiddo gael eu danfon yn ol, a'u tywallt yn garneddi ar lan y môr, gyferbyn â'r lle y dygwyd hwy o hono. Ni thramgwydda neb wrthym am ddyweyd fod John Elias, fel areithiwr, yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb a welodd Cymru ar ei ol! Nid oes eisieu un teitl iddo ef—na B. A., nac A.M., na D.D. Y mae mwy o swyn yn enwau syml a diaddurn John Elias, a Christmas Evans, nag sydd yn holl deitlau y byd. Nis gall Ynys Môn anghofio yr enwau cyssegredig hyn tra byddo Mynydd y Twr yn cael golchi ei odre gan donau y môr!

'Elias fawr â'i lais fu
Drwy hon yn hir daranu;
Yntau, Christmas, addas oedd
Yn llaw Arglwydd y lluoedd—
Dau i agor diwygiad
Ar lw i gynhyrfu'r wlad,
A dau gerub di—guro,
Goleu fryd, siglai y fro :—
Ond dau haul mawr teulu Mô
A orwedd gyda'r meirwon."


PENNOD II.

JOHN ELIAS MEWN CYMDEITHASFA

YN y bennod flaenorol, mynegwyd na amcenid yn y nodiadau hyny ddim yn amgen na gosod ger bron ychydig o adgofion am Mr. Elias. Felly y waith hon, ni chynnygir at ddim chwaneg na gosod ar lawr ychydig o adgofion am dano mewn argraffiadau a lynasant yn y meddwl ac ar y teimlad, ac sydd mor fyw heddyw a phe buasai yr amgylchiadau y cyfeirir atynt wedi cymmeryd lle ddoe—fel y byddont ar gof a chadw i'r rhai a'i clywsant, ac fel rhyw awgrym i'n darllenwyr ieuainc, na welsant ac na chlywsant ef erioed, yn mha bethau yr oedd ei brif hynodrwydd—yn mha fodd yr oedd yn gwahaniaethu oddi wrth ereill, ac yn tra rhagori ar bawb. Sylwedd ein nodiadau y tro hwn fydd, adgofion am dano yn anerch y dorf ar y maes, ac yn cadw addoliad teuluaidd yn y man y llettyai, mewn cymmanfa yn Môn. Yr oedd efe yn arferol o rybuddio y gynnulleidfa yn nghylch iawn ymddygiad a moesau da yn y cynnulliadau hyn bob blwyddyn, y noswaith gyntaf o'r cyfarfod ar ol y bregeth; ac yr oedd ei anerchion bob amser yn tynu sylw anarferol yr holl dorf, ac yn ffurfio un o ranau mwyaf arbenig y cyfarfod. Tua deng mlynedd ar ugain yn ol, y cyfarfod mwyaf dyddorol a dylanwadol ar hyd y flwyddyn yn Môn, oedd y sassiwn, neu y seiat fawr, fel ei gelwid ychydig o flyneddoedd cyn hyny. Gallesid galw y sassiwn y pryd hwnw yn gyfarfod cenedlaethol, mewn gwirionedd, heb arfer gormodiaith: o blegid yr oedd yr holl wlad yn talu math o warogaeth iddi. Hi oedd yr uchel-ŵyl gyfarfod i bawb, o bob gradd. Yr oedd yn rhaid fod Ierusalem yn dangos golygfa hynod ar brif wyliau yr Iuddewon gynt. Yr oedd y gwrywiaid yn cyrchu yno o bob parth o'r wlad, fel yr oedd holl heolydd y dref yn orlawnion o ddyeithriaid yn mhob man: yr oedd y gwerthwyr durturod a chywion colomenod yn llanw un heol, a'r cyfnewidwyr arian yn llanw heol arall. Yr oedd tynfa y dorf yn ferw yn yr un cyfeiriad, tua y porth deheuol; ac yr oedd y lluaws yn cael eu britho gan ddillad cochion y milwyr Rhufeinig yn mhob parth, a swn eu tabyrddau a'u chwibanoglau yn swyno clustiau yn mhob petryal, a thrwst diorphwys yn mhob cwr yn cyffroi y lle drwyddo draw. Ond pa mor uchel bynag oedd y cyffro yno, nid oedd yn fwy felly nag yn y sassiwn yn Môn. Yr oedd y cynnulliad yn lluosog iawn. Nid oedd poblogaeth y sir y pryd hwnw uwch law deugain mil; ac fe ellir sicrhau fod y bedwaredd ran o honynt yn bresennol yn un o'r cyfarfodydd hyn. Ugain mil oedd cyfrifiad cyffredin y werin; ond yr oedd yn rhaid fod y cyfrifiad hwnw yn gyfeiliornus iawn. Nid oeddynt yn gyffredin dros saith mil; ond ar un amgylchiad neillduol, cyrhaeddodd ddim llai na deng mil. Ar y tro y cyfeirir ato yn awr, darfu i'r Parch. Richard Llwyd, o Beaumaris, gyfrif penau y bobl ar hyd a lled y dorf; ac wrth eu lluosogi yn nghyd, yr oedd yn eu cael yn 12,000, fel y gwelid yn y ffugrau a ysgrifenodd yn y llyfr hymnau ar y pryd. Ond, a chyfrif fod sefyllfa y dorf yn grwn, ac nid yn ysgwâr, ni ellir sichrau fod yno dros ddeng mil. Ond yr oedd y cyfrif hwn yn ddirfawr, pan ystyrir ei gyfartaledd â nifer trigolion yr holl wlad; ïe, yr oedd yn fwy ddwy waith nag a welwyd erioed ar unwaith yn Exeter Hall yn Llundain.

Yr oedd y dref mewn cyffro mawr er ys pythefnos yn mlaen. Yr oedd pob tŷ yn cael ei adgyweirio, yr oedd pob heol yn cael ei gwyngalchu, yr oedd pob annedd yn cael ei glanhau, ac yr oedd pob ystafell yn cael ei thrwsio; ïe, gallesid dyweyd am yr holl dref, "Yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon."

Cymmerid maes at bregethu, a maes arall at geffylau y pregethwyr a'r blaenoriaid; a mawr fyddai y drafferth o rwymo ffrwyni, a nodi cyfrwyau, a gwarchod yr ysgrubliaid. Yr oedd cryn bryder bob amser wrth ddethol y maes pregethu, ac yn nghynlluniad a sefyllfa y pulpud, ac yn y rhagbryderu a fyddai am gael hin deg ar gyfer yr ŵyl fawr. Byddai ymholi mawr pwy fyddai y pregethwyr dyeithr a ddysgwylid i'r wlad, ac yn enwedig pwy o'r Deheudir. Yr oedd swyn mawr mewn cyhoeddiad gwr dyeithr o'r Deheudir y pryd hwnw. Byddai son uchel am gyhoeddiadau y dyeithriaid ar hyd y cymmydogaethau drwy y wlad y nosweithiau blaenorol i'r cyfarfod: ac fel hyny, byddai yr holl ynys drwyddi yn siglo yn mhob man, a'r cyfan yn cydeffeithio er tynu nifer o wrandawyr o bob plwyf, a phob tref, ac o bob cilfach a glan i'r gymmanfa fawr. Ond ar fore y cyfarfod, drwy yr holl drafferthion i gyd, a thrwy y dysgwyliadau oll, y gofyniad mynychaf a glywid oedd, "A ydyw John wedi dyfod?" A phan y deuai, byddai llygaid pob dyn arno, drwy ferw y dyddiadur, a'r cyhoeddiad, a'r gwr dyeithr, a'r siglo llaw, a'r cyfarch, i gyd. Yr oedd hyd yn oed yr olwg arno, yn ei ymddygiad boneddigaidd, a'i ddillad glân trefnus, yn ei glôs pen glin, a'i hosanau duon meinion, yn hynod o ddengar, ac yn sicr o dynu sylw pawb; ac yr oedd yr holl amgylchiadau hyn fel pe buasent yn ymuno i greu dysgwyliad, a phryder, a theimlad byw, erbyn ymgyfarfod yn yr oedfa gyhoeddus ar y maes eang. Bellach, y mae y gyfeillach ddau o'r gloch wedi myned drosodd. Y mae penderfyniadau wedi pasio yno ag sydd yn sicr o gario mwy o ymofyniad a dylanwad ar y wlad na dim a ddaeth o chwarter sessiwn erioed! Y mae yr awrlais newydd daro pump o'r gloch; y mae yn bryd cyrchu at y maes. Y mae yr holl heolydd yn orlawnion o ddyeithriaid, er nad yw hi ond nos gyntaf y cyfarfod. Pa beth, attolwg, sydd yn codi y fath deimlad y nos gyntaf? Anerchiad John Elias yn ddiau sydd yn codi yn y nifer mwyaf y teimlad penaf oll. Y mae yr heol uchaf yn ddu o bobl—pawb yn symmud yn mlaen yn yr un ffordd, ac yn cyfeirio at y maes; rhai yn cludo eu cadeiriau, a'r lleill yn cario eu hystolion. Mae yr oedfa wedi dechreu; y mae y bregeth gyntaf drosodd: gwan yn gyffredin fyddai hono, mewn cyferbyniad â rhyw un ragorol a geid gan ryw hen wron ar ei hol. Mae un o hen gawri y Deheudir yn bresennol y tro hwn, ac i bregethu ddwywaith, sef y nos gyntaf a dau o'r gloch dranoeth.

Mae ei bregeth yr awr hon yn gampus, ac yn cael ei thraddodi yn ddedwydd, ac y mae teimladau hynod yn cael eu cynnyrchu drwy yr holl dorf wrth ei gwrandaw.

Bellach, dyma adeg yr anerchiad wedi dyfod. Mae Mr. Elias yn codi i fyny, ac yn nesau at y ddesg. Mae yn edrych o amgylch dros yr holl dorf, ac fel pe byddai yn tremio yn graff drwy bob wyneb hyd y galon ag sydd ger ei fron ar bob llaw. Y mae â'i anadl yn tynu ei fochau i mewn dan ei arleisiau uchel: y mae yn cyfeirio à'i fys ddwywaith at ryw fanau yn y dorf sydd yn sibrwd mewn tipyn o aflonyddwch, nes y mae pawb mewn mynyd mor llonydd a'r delwau ar y pared—ond y mae efe heb agor ei enau eto. O'r diwedd, y mae gwen serchus yn gwisgo ei wyneb, ac yna y mae yn dechreu llefaru :—"Y mae genyf air neu ddau i'w dywedyd cyn i neb syflyd o'i le. Nid yw hi eto prin chwarter wedi saith o'r gloch: ni raid fod brys ar neb; y mae hi yn hirddydd haf. Yr wyf wedi deall er ys meityn ar wyneb y dorf fod pawb yma heno fel pe byddai yn teimlo fod y nefoedd yn ein hymyl. Mae gweision y Duw Goruchaf yn llaw eu Meistr. Mae yn eglur eu bod wedi eu gwisgo â nerth o'r uchelder yn barod. Y mae udgorn bloedd brenin yn y gwersyll. Yr ydym wedi clywed a gweled pethau anhygoel heno. Clywsom drwst crack yn muriau Iericho, a gallwn yn hyderus ddysgwyl gweled yr hen furiau yn garneddi ar lawr cyn nos yfory; ac ni a gawn weled hyny hefyd yn sicr oni bydd i rywbeth ynom ni, neu yn ymddygiad y dorf, neu y dref, dristäu yr Ysbryd. Gan hyny, er mwyn gwerth eneidiau a all fod yn yr esgoreddfa y mynyd hwn, yr wyf yn atolwg am i bawb fod ar eu gwyliadwriaeth. Dymunwn dyngedu pob dyn sydd yma i fod yn fwy difrifol yn awr nag erioed. Na ato Duw i neb o honom fod yn euog o'r fath beth ag ymlid y golomen nefol o'n mysg. Na weler un dyn meddw ar yr heol heno, ar bwys colli ei enaid. Na fydded dim yn ymddygiad neb, yn y tai nac allan o honynt, i ddolurio teimlad un magistrate na swyddwr gwladol, mwy na'r pregethwr neu y dyn duwiol cyffredin. Dysgwyliwn i foesau yr holl dorf fod yn ddifrycheulyd heno; onide, dyma y sassiwn ddiweddaf fydd yn y dref hon byth! Y mae yma filoedd o ddyeithriaid i gael eu llettya heno yn y gymmydogaeth; cofied pob dyn fod yn ufudd i fyned i'r lle y caffo ei wahodd: pa orchest, ar hin fel hyn, fyddai myned dair milltir o ffordd, pe bai raid. Gofaled pob un am fod yn ffyddlawn a diolchgar am ei letty. Chwithau sydd yn llettya, agorwch eich drysau o galon. Nac anghofiwch lettygarwch. Na chymmerwch unrhyw drafferth na thraul: cymmaint a ofynwn ydyw gwely sych, diberygl, a thamaid o fara, a llymaid o ddwfr. Gwerthfawrogwch ddyfodiad y dyeithriaid dan eich cronglwyd am dro. Efallai mai hẹno yr eneinir eich aelwydydd gyntaf â dagrau y saint; efallai mai heno y cyssegrir eich nenbrenau gyntaf â gweddïau duwiolion. Darfu i'r hen bererinion gynt, trwy ffydd, lettya rhai angelion yn ddiarwybod, a gwledda yn hyfryd gyda hwy yn eu lluesttai. Pwy a ŵyr na chewch chwithau heno lettya duwiolion yn nghwmni anweledig angelion y nef! Chwithau sydd yn cyfarwyddo y llettywyr, gofelwch am drefnu fel y byddo gweddïwr yn myned i bob tŷ. Sylwed y dorf i gyd, ar fod addoliad teuluaidd yn mhob annedd heno yn exact am naw o'r gloch. Y mae y nefoedd fawr wedi gwenu arnom eisoes; y mae negeswriaeth gyflym gan yr angelion rhwng yr orsedd a'r maes hwn er ys meityn; ac am naw o'r gloch heno, yr ydym yn hyderu y bydd ysgol Iacob yn orlawn o deithwyr ol a blaen, ac y bydd y fath nerth gan gydweddïau o'r gymmydogaeth hon dros chwe milltir o amgylch, fel y tynant y nefoedd i lawr at y ddaiar, ac y codant y ddaiar mor agos i'r nef, fel y bydd pabell Duw gyda dynion, ac mai y sassiwn hon fydd prif destyn yr ymddyddan heno yn nghyfrin-gynghor y drydedd nef."

Fel hyn, yr oedd meddyliau y bobl wedi eu hoelio wrth ei ymadroddion, ac yr oeddynt fel yn clywed ei eiriau yn ringio yn hir yn eu clustiau. Yr oedd arswyd ar bob dyn wrth gerdded yr heol rhag rhoi dim achos tramgwydd mewn dim. Ymddangosai y dorf fel crefyddwyr dichlynaidd i gyd. Naw o'r gloch yw yr awr weddi—a dyna y clock wedi taro. Yr oedd llawer wedi gorphen swpera ac addoli cyn yr amser. Yr oedd pawb wedi dyfod i wybod rywfodd neu gilydd pa le yr oedd Elias ei hun yn llettya. Yr oedd yr heol gyferbyn â'r tŷ wedi ei llenwi gan bobl gryn chwarter awr cyn naw o'r gloch. Ar ddyfodiad yr awr, pan agorwyd ffenestr yr ystafell o led y pen, yr oedd pawb yn dysgwyl am gael ei glywed yn darllen a gweddïo. Y mae ef yn rhoddi pennill allan i'w ganu yn mlaenaf—

"Ag isop golch fi'n lân,
Ni byddaf aflan mwyach;
A byddaf, o'm golchi fel hyn,
Fel eira gwyn neu wynach."

Mesur Salm byr—mesur go anghyffredin. Nid oedd neb a ddechreuai ganu am beth amser. Ond o'r diwedd, dyma wr y tŷ yn ei chynnyg hi: canwr trwstan druenus oedd efe —ond ра fodd bynag, gwnaeth y tro ar y pryd: a phwy a ddygwyddodd fod allan yn yr heol, wrth y ffenestr, ond Cadi Rondol; a dyma yr hen Gadi yn cipio yr hen fesur i fyny, ac yn dechreu ei rolio yn yr awyr, gan befrio ei hen lygaid croesion gwrthun, â'r olwg arni yn rhyfedd iawn; ond ni waeth beth a fo, gweithiodd yr hen fenyw ei ffordd, a gafaelodd yr holl dorf yn y canu mor wresog, fel y buwyd gryn dipyn o amser cyn cael pen a gosteg i fyned yn mlaen â'r gwasanaeth. Wedi gorphen y canu, darllenodd Mr. Elias Salm li.; ac yr oedd pob arwyddion yn y darlleniad fod y canu wedi tanio ei ysbryd. Yn nesaf, plygodd ei liniau i anerch yr orsedd. Y mae cynnyg darlunio y weddi yn hollol ofer; ac o ran hyny, nid â darlunio, ond âg adgofio y mae a wnelom. Yr ydym yn meddwl na fyddai yn rhyfyg i ni ddefnyddio geiriau yr hanes am weddi y Gwaredwr wrth adrodd. Yr oedd efe mewn "llefain cryf a dagrau, yn offrwm gweddïau ac erfyniau at Dduw" dros achubiaeth y bobl ar y pryd. Yr oedd y teimladau hyn yn rhywbeth uwchlaw y cyffredin. Yr oedd fel pe buasai wedi cae caniatâd i fyned i ymyl yr orsedd, i ymddyddan wyneb yn wyneb â Duw. Yr oedd ei wyneb yn dysgleirio fel yr eiddo Moses yn y mynydd. Yr oedd ei weddi mewn ofn, mewn ffydd, mewn cariad, mewn hyder, mewn nerth, ac mewn gafael na ollyngai mo honi nes cael ei neges. Os bu Iacob yn ymdrechu â'r angel, yr oedd yntau felly wedi ymaflyd yn nerth ei Dduw. Mynai arwydd er daioni y noswaith hono cyn codi oddi ar ei liniau, fel blaenffrwyth o ryw gynauaf mawr dranoeth! Yr oedd yn tynu ysbryd y bobl i mewn i'w ysbryd ei hun. Yr oedd y weddi hon yn treiddio trwy galonau annuwiolion fel cleddyf tanllyd ysgwydedig; ond yr oedd yn dyrchafu teimladau duwiolion, nes yr oeddynt yn dychymygu eu bod ar adenydd cerubiaid ac yn colli eu gwadnau oddi ar y ddaiar!

Wedi gweddïo, rhoddwyd pennill allan i'w ganu drachefn, a chanu rhyfedd ydoedd!—canu yn ddiau ag yr oedd yn bleser gan seraphiaid dewi i wrandaw arno!

"Caned nef a daiar lawr,
Fe gaed ffynnon;
Golchir pechaduriaid mawr
Yn glaer wynion," &c.

Ac felly y parhaodd y canu am hir amser. Bu effeithiau y weddi hon yn rhyfedd. Gwelwyd y dynion mwyaf annuwiol ac anystyriol yn wylo eu dagrau yn hidl fel plant bychain. Dychwelwyd lluaws at grefydd yn y tro, ag a roisant brawf o'u gwir dröedigaeth mewn oes o fywyd wedi ei gyflwyno i Grist, ac i harddu ffyrdd crefydd a llwybrau rhinwedd. Clywsom rai yn son am yr amgylchiad hwn fel effeithiau rhyfedd ar deimladau anifeilaidd dynion. Nid ydym yn proffesu y gallwn roddi cyfrif athronyddol am danynt; ond os teimladau anifeilaidd oeddynt, byddai yn dda iawn i'r byd weled eu cyffelyb yn fynychach. Peth rhyfedd iawn, os teimladau anifeilaidd oeddynt, fod canlyniadau mor egwyddorol yn eu dilyn. Yr oeddynt yn troi y tyngwr yn weddïwr, a'r meddw yn sobr; yr oedd yr annuwiol yn cael ei ddwyn i wisgo cymmeriad dillyn, moesgar, a sanctaidd, mewn canlyniad iddynt, weddill yr oes. Yr oedd yma rywbeth tra thebyg i'r hyn a gofnodir am yr apostolion:—"Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll â'r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant ar Dduw yn hyderus; a lluaws yr hai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid."

PENNOD III

JOHN ELIAS MEWN CYFARFOD O'R GYMDEITHAS FEIBLAU.

MEWN erthyglau blaenorol, gosodwyd ger bron ychydig o adgofion am Mr. Elias yn pregethu ar noson waith, yn anerch dorf ar y maes, ac yn cynnal addoliad teuluaidd yn y man lle y llettyai noswaith gyntaf y sassiwn yn Môn. Gelwir ein sylw y tro hwn ato yn areithio mewn cyfarfod cyhoeddus perthynol i'r Feibl Gymdeithas.

Tua deugain mlynedd yn ol—neu o leiaf yn mhen tua deg neu ddeuddeng mlynedd ar ol ei ffurfiad cyntaf—daeth y gymdeithas i ennill sylw a dylanwad neillduol drwy yr holl wledydd. Nid oedd Cymru yn ol, a Môn ac Arfon yn arbenig. Er hyny, tua'r amser hwn, yr oedd llawer yn edrych arni gyda llygad eiddigus, os nid gyda chilwg go ragfarnllyd.

Haerent mai dyfais ymneillduol oedd y Gymdeithas Frytanaidd a Thramor i wrthweithio amcan a llafur y Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol, yr hon oedd ar y maes yn barod, ac yn gweithio yn llwyddiannus er ys llawer dydd.

Er fod rheolau y gymdeithas newydd yn profi yn ddigon eglur i bob dyn diduedd nad oedd un math o sail i'r cyhuddiadau a ddygid i'w herbyn; eto, yr oedd yn lled anhawdd rhoddi y rhagfarn i lawr ar y cyntaf. Pa fodd bynag, gweithio ei ffordd yn mlaen, ennill tir, a chwanegu cryfder yr oedd y gymdeithas yn barhäus; a'i thrysorfa yn chwyddo yn rhyfeddol y naill flwyddyn ar ol y llall. Daeth o'r diwedd i rifo rhai o bigion y wladwriaeth yn mysg ei noddwyr a'i swyddogion. Yr oedd ei chynnydd yn dyfod i fewn mor rymus a llanw y môr, fel y buasai mor ofer i neb gynnyg troi nerth y llifeiriant ag a fuasai ceisio troi y dòn yn ei hol.

Tua'r adeg hon, yr oedd cyfarfodydd cyhoeddus y gymdeithas i gael eu cynnal yn nhrefydd Caernarfon a Beaumaris. Gwahoddwyd y Gwir Anrhydeddus Ardalydd Môn i lywyddu ynddynt. Derbyniodd y pendefig enwog y gwahoddiad yn serchus, a chydsyniodd â'r cais, gan addaw bod yn gydroddwr o ddeg neu ugain punt yn y flwyddyn at y drysorfa. Parodd hyn gryn gyffro drwy yr holl Dywysogaeth.

Disgynodd yr hanes fel tân gwyllt ar deimladau dosbarth neillduol yn y wlad. Rhoddodd gryn dramgwydd i luaws o fawrion y tir; a pharodd ddychryn rhyfeddol yn ngwersylloedd dynion o feddyliau rhagfarnllyd ac egwyddorion culion. Amcanwyd perswadio yr Ardalydd na wisgai yn dda iddo ef ymgymmysgu felly âg Ymneilldüwyr; a dywedent, er y gallai dybenion rhai o'r bobl fod yn dda, eto, gan fod cymdeithas arall ar y maes yn barod, y byddai ei wasanaeth yn hono yn fwy o wir werth:—ond nid felly yr oedd troi gwron Waterloo o'i ffordd. Wedi iddo ef wneyd ei feddwl i fyny, buasai yn haws cael tori aelod arall iddo, na chael ganddo dori ei air. Yr oedd wedi addaw dyfod; a phenderfynai sefyll at ei addewid. Dichon mai yr ardalydd oedd y cyntaf o'r uchelwyr yn Ngwynedd a ddaeth allan i bleidio y gymdeithas hon.

Cyhoeddwyd hysbysiadau am y cyfarfodydd; ac yn mysg ereill, yr oedd Dr. Steward, o Liverpool, i areithio yn Seisoneg, a John Elias, o Lanfechell, i areithio yn Gymraeg. Erbyn hyn, gwelid nad oedd modd troi yr Ardalydd o'i lwybr.

Deallid y byddai ei bresennoldeb yn foddion i dynu lluaws o foneddigion i fod yn bresennol, er mai yn lled anfoddog y byddai rhai o honynt yn dyfod. Yr oedd yr Ardalydd newydd gael ei goroni â gogoniant bythgofiadwy Waterloo, a'i urddo â theitlau newyddion yn ddirif; ac yr oedd y gofgolofn o anrhydedd iddo newydd gael ei chodi ar glogwyn uchel Craig y Ddinas ar lan afon Menai yn Môn. Nid allai y boneddigion oedd newydd fod wrth y gorchwyl o godi monument iddo lai na'i gyfarfod yn y cynnulliad cyhoeddus hwn. Darfu iddynt oll feddwl mai gwell fyddai bod yno, a chaniatäu i'r Dr. Steward, fel dyn dyeithr, gael areithio; ond mai gwell a fyddai cymmeryd John Elias yn esgusodol ar y fath amgylchiad a hwn, ac y cai ef arfer ei ddawn mewn cyfarfodydd llai cyhoeddus ar hyd y wlad. Ni allent oddef y meddwl am ei wrandaw, er na addefid mo hyny ar air; ond yn hytrach, awgryment y gellid ei esgusodi am y tro! Cynnygiwyd y peth i sylw y swyddogion; ond ni fynai neb o honynt hwy, na'r cyhoedd chwaith, er dim i Mr. Elias fod yn ddystaw. Yr oeddynt yn benderfynol am iddo anerch y dorf.

Y cyfarfod mawr a ddaeth! Yr oedd llygaid yr holl wlad arno! Nid oedd nemawr gwr o Fôn nac Arfon, nad oedd rhywun oddi yno yn bresennol. Yr oedd y boneddigesau yn ddirifedi yno o bob man. Yr oedd pob peth erbyn hyn yn barod at ddechreu y cyfarfod, a'r lle yn orlawn o wrandawyr. Mawr oedd y pryder bellach yn mhob mynwes; a phawb yn tremio tua'r drws, ac yn ymwrandaw a oedd dim arwydd fod y cadeirydd ger llaw; ac yn dysgwyl bob mynyd glywed carnau y meirch yn trystio ar y palmant i hysbysu am ei ddyfodiad. Yr oedd y pryder yn codi fwyfwy bob mynyd fel yr oedd yr amser i ddechreu yn nesäu. Nid oedd na siw na miw, na dim tebyg am y cadeirydd o fewn pum mynyd i awr y cyhoeddiad. Ar hyn, dyma sibrwd drwy yr holl le, nad oedd y llywydd yn dyfod i'r cyfarfod! Yr oedd hyn fel tawch ar y cwbl; ac yr oedd megys niwl tywyllwch wedi ymdaenu dros bob wyneb yn y lle! Ond, ust! gyda bod yr awrlais yn dechreu taro un ar ddeg o'r gloch, dyma drwst olwynion y cerbyd yn sefyll ar y foment wrth y gorddrws, a dyma y gŵr mawr i mewn, ac i'w gadair rhag blaen, nes yr oedd yr holl le yn fyw drwyddo ar unwaith, a gwên newydd. yn cael ei gwisgo gan bawb. Erbyn hyn, dyma y ffanau, y ffuneni, a'r sidanau, gan y rhïanod, yn sïo llawenydd yn yr holl ystafell drwyddi draw. Wel! dyna bawb yn ei le, a dystawrwydd y bedd drwy bob man, a gorchwylion pwysig y cyfarfod yn dechreu.

Cododd y llywydd i fyny. Eglurodd ddybenion y cyfarfod mewn byr eiriau. Dywedodd ei fod yn hollol gymmeradwyo amcan y gymdeithas; ac yr ystyriai yn fraint iddo gael cydweithredu yn mhob modd tuag at ddwyn y fath gynllun bendigedig yn mlaen! Wedi darllen yr adroddiad, a myned drwy gylch y gorchwylion arferol, galwyd ar yr areithwyr i gymmeryd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod, gyda y cynnygion a'r cefnogiadau. Ai y cyfan yn mlaen yn y modd mwyaf dymunol a chymmeradwy.

Bellach, dyna enw Mr. John Elias yn cael ei alw o'r gadair. Rhyfedd oedd yr olwg ar nifer yn y lle y pryd hwnw Yr oedd llawer yn troi gwegil, ac nid wyneb, tuag ato: ereill, yn hytrach na throi cefn, yn gwneyd osgo lled ochrog tuag ato, gyda gwefl laes, a thrwyn sur, a llygad cilwgus! Wel! o'r goreu: nid oedd yr holl agweddau a wneid yn ddigonol i'w roddi ef i lawr. Deuai yn mlaen—talai foesgyfarchiad i'r llywydd, mewn ymddygiad tra boneddigaidd; a dychwelai y llywydd yr amnaid yn ol gyda gwên. Gwelai yn eglur fod rhywbeth ynddo ar yr olwg gyntaf! Dechreuai yr hen gyfaill ar ei orchwyl. Er mor gas oedd ei enw gan lawer, yr oedd hyd yn oed yr olwg arno wedi lladd hanner eu rhagfarn yn barod; ac yr oedd ei gyfarchiad gweddus o'r braidd wedi lladd yr hanner arall. Dechreuodd drwy gymmeryd golygiad ar ansawdd Cymru cyn cael y Beibl. Dangosodd, cyn pen pum mynyd, fod hanesiaeth ei wlad ar ben ei fys. Yr oedd y gynnulleidfa yn gymmysgedig o Seison a Chymry—rhai yn ei ddeall, a rhai heb ei ddeall. Pan ddaeth at hanes y cyfieithiadau Cymreig o'r Ysgrythyr, ac i'r dorf ei glywed yn son am William Salusbury, Dr. Morgan, Dr. Richard Davies, Thomas Heret, canghellwr Tyddewi, Dr. Whitgift, Dr. Hughes, Dr. Bellot, Dr. Gabriel Goodman, Dr. David Powell, ficar Rhiwabon, Archddiacon Prys, Mr. Richard Vaughan, a'r Dr. Parry, ac ereill, disgynodd seiniau ar eu clustiau na ddysgwyliasent oddi wrtho ef; a hen enwau anwyl oedd fel miwsig ar eu calonau. Ac fel yr oedd yn myned yn mlaen i son am y gwahanol argraffiadau o'r Beibl Cymraeg, ac yn rhedeg dros enwau Thomas Middleton, Rowland Heylin, Walter Cradoc, Vavasor Powell, Thomas Gouge, Stephen Hughes, Dafydd Jones, yr Esgob Llwyd, Moses Williams, a'r Morusiaid o Fôn, ac ereill, a chanfod fod yr holl hanes drwyddi, fel llythyrenau yr egwyddor, o flaen ei feddwl, nid oedd modd peidio gwrandaw arno; ac wedi dechreu ennill eu sylw, a thoddi y teimlad, a thwymno y serch, yr oedd y rhew i gyd wedi toddi yn ddiarwybod rywfodd! Ac fel yr oedd yn myned rhagddo yn ei araeth, â'i eiriau nerthol, a'i iaith dda, a'i ddawn dengar, nid oedd un gwegil nac ochr ar ei gyfer; ond pawb megys am eu bywyd yn gwrandaw ac yn tremio arno. Wedi arwain y dorf i gymmeryd golygiad ar ansawdd Cymru, a darlunio yr angen yn mha un yr oedd y genedl yn sefyll am ryw ddarpariaeth mwy effeithiol na dim a gafwyd eto—er cymmaint oedd y llafur a fu, yr oedd pob dyn wedi llwyr anghofio ei gulni a'i ragfarn, a phob teimladau wedi eu cydsyfrdanu yn lân! Yna, symmudodd i orsaf newydd yn ei anerchiad. Darluniodd sefyllfa foesol y wlad ar y pryd hwnw, megys mewn rhyfel rhwng goleuni a thywyllwch—rhwng sancteiddrwydd a phechod—Crist a Belial a bod y ddwy fyddin fawr yn nesäu i gyfarfod eu gilydd yn gyflym—a bod y tir canol rhyngddynt i'w weled yn culhau bob dydd—a bod yn rhaid i'r gwirionedd lwyddo a gorchfygu ar y diwedd yn lân. Dangosodd fod dedwyddwch y byd yn troi ar yr ymdrech fawr hon. Dywedodd fod cynllun o'r frwydr a'r fuddugoliaeth wedi ei gael yn ddiweddar ar faes Waterloo! Erbyn hyn, yr oedd teimladau y dorf yn gwbl at ei alwad. Yr oedd y rhïanod er ys meityn wedi colli llinynau a chyhyrau eu hwynebau. Gwelid ambell un yn colli ei napcyn yn ddifeddwl o'i llaw, a'r llall yn gollwng ei maneg i lawr, a'r drydedd wedi colli trefn cudynau ei gwallt—a phawb yn yr un teimlad! Aeth rhagddo i ddarlunio yr ymdrech diweddar yn Waterloo; a dangosai fel yr oedd tynged cenedloedd, heddwch y byd, anturiaeth masnach, gobaith celfyddyd, cynnydd gwybodaeth—ïe, a rhwydd rediad yr efengyl—yn troi ar yr awr bwysig hono. Ond yr oedd llaw Rhagluniaeth i'w gweled yn amlwg yno. Yr oedd eu cadfridogion wedi eu donio â'r doethineb a'r gallu oedd yn ofynol i'r orchest fawr. "Yr Arglwydd sydd ryfelwr—yr Arglwydd yw ei enw." Ar hyn, tröai i ddarlunio y llywydd yn myned yn mlaen i'r maes yn y foment yr oedd y glorian fawr i droi am byth! Defnyddiodd y darluniad sydd yn llyfr Iob am y rhyfelfarch a'i farchog i'w osod allan:—"Dychymygaf," meddai ef, "ei weled yn dyfod i'r maes ar ei farch gwyn: hwnw yn diystyru arswyd, ac yn herio pob dychryn ei draed yn cloddio y dyffryn, yn llawenychu yn ei gryfder wrth gyfarfod arfau; y cawell saethau yn trystio yn ei erbyn—y cledd, y bidog, y waewffon, a'r darian, yn serenu yn ei lygaid, ac yn dysgleirio o'i amgylch; ond y cwbl i ddim ond i'w wneyd yn barotach i lyncu y ddaiar gan greulondeb a chynddaredd."

Darluniai ef yn rhedeg i ganol yr udgyrn, ac yn gwaeddi "Ha! ha!" mewn gwawd am eu penau; ac yn arogli rhyfel o bell—twrf tywysogion a bloeddio! "Ond y marchogwr enwog mewn perffaith hunanfeddiant, yn nghanol y mwg a'r tân, yn cyfarwyddo y fyddin, ac yn arwain ei gadrod, nes yr oedd wedi hollol gylchynu y gelyn, fel nad allai fyned yn mlaen nac yn ol; ond yntau yn rhy fawr ac yn rhy foneddigaidd i'w ladd ei hun pan yr oedd yn ei gyrhaedd!" Ar hyn, attaliwyd peth ar hyawdledd yr areithiwr gan deimladau y dorf; o blegid yr oedd sî dystaw yn rhedeg drwy yr holl ystafell; a chryn gamp i gadw griddfanau a chrechwenau i lawr. Ond yn mlaen yr aeth Mr. Elias yn ei araeth; ac fel yr oedd yn cryfhau yn ei nerth, ac yn tanio yn ei ysbryd, yr oedd yn myned yn fwyfwy effeithiol o hyd! Dywedai yn awr—" Dychymygaf glywed bloeddio concwest cyn ei hennill! Ië, ond concwest ar draul colli bywyd un o bigion ein cenedl a fydd! Nage; dim ond colli un aelod! Ar hyn, dyma angeu yn dyfod yn mlaen, ac yn taflu pelen nes ysgar aelod y llywydd; ond beth er hyny, dyma Ragluniaeth i'r maes yn yr un moment, ac yn gwaeddi ar angeu, fel y gwaeddodd yr angel ar Abraham gynt—Attal dy lawhyd yna yr äi, ac nid yn mhellach!' Gochel gyffwrdd â'i einioes—na feiddia fyn'd gam yn nes at ei fywyd na'r aelod. Y mae arnaf fi eisieu ei wasanaeth eto fel cadfridog mewn brwydr o natur uwch o lawer na hon—y mae arnaf fi eisieu ei wasanaeth i lywyddu yn nghadair y Feibl Gymdeithas —y mae arnaf eisieu iddo arwain byddin i daenu gair y bywyd i bob gwlad, ac iaith, a phobl, a chenedl, dros wyneb yr holl ddaiar." Bloeddiodd allan yn y fan hon â llais grymus, ond lled doddedig—"Y mae y gelyn wedi ei rwymo; ond gair Duw nis rhwymir!" Ar hyn, dyma yr holl gynnulleidfa fel pe buasai wedi ymddyrysu yn lân!—weithiau dystawrwydd—weithiau sibrwd—weithiau dystaw holi: a'r Seison oedd heb ddeall Cymraeg yn brysurach na neb, wrth ganfod y thrill drwy yr holl ystafell, yn gofyn—"What?— What was that? What did he say?—What was that excitement?" &c. Yr oedd yr holl sidanau erbyn hyn yn ddagrau—yr holl fwcram yn wlanen—a'r holl starch yn llyn! Wedi ychydig o ddystawrwydd, ac adfeddiant o deimladau, amneidiai y cadeirydd ar gyfaill oedd ger llaw i ofyn beth oedd yr achos o'r cyffro? Nesaodd hwnw at ei glust, a dywedodd—"It was an allusion to yourself, my Lord, and the accident at Waterloo, where the interposition of Providence spared you to preside over this meeting," &c. Ar hyn, gwelid y llywydd yn prysuro i chwilio am ei ffunan poced, â'r dagrau mawr, fel y pys, yn dylifo o'i lygaid! Dychymyged y darllenydd, bellach, os gall, beth oedd y teimladau oedd wedi eu creu yn yr holl dorf erbyn hyn! Ië, dyma y maeslywydd gwrol yn wylo fel plentyn!

Nid oedd digon o nerth yn holl drwst magnelau Waterloo i fenu ar ei deimlad, mwy na'r graig; ond dyma araeth Cymro yn troi y graig gallestr yn llyn dwfr! Nid oedd dim digon o rym yn y belen a ysgarodd ei aelod i gyffroi ei ysbryd; ond dyma effaith un anerchiad yn nghyfarfod y Feibl Gymdeithas yn lliniaru yr hwn a osodai ei wyneb fel callestr, nes ei ddwyn mor dyner, mor wylaidd, mor deimladol, a'r plentyn bach!

Ni wnaeth Mr. Elias wedi hyn ond terfynu gydag appeliad dwys, oddi wrth ymadrodd yr apostol, "Bellach, frodyr, gweddïwch drosom, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd."

Tro hynod oedd hwn, ac adeg arbenig iawn ar oes Mr. Elias. Newidiodd llawer eu barn am dano ar y pryd. Aeth llawer oedd mewn rhagfarn ofnadwy yn ei erbyn o'r blaen o'r braidd i feddwl gormod o hono ar ol hyn. Aeth llawer o wŷr a fuasent yn ddigon parod i'w ddeoli ynys Patmos, am air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, o'r bron i'w orfawrygu. Pa fodd bynag am hyny, rhoddodd gychwyn newydd yn olwynion Cymdeithas y Beiblau. Bu yn ffyddlawn a llwyddiannus iawn gyda'r gymdeithas yn mhob modd. Arferai fod yn bresennol yn ei holl gyfarfodydd blyneddol; ac effeithiodd ei ddylanwad i raddau mawr er chwyddo ei thrysorfa. Y mae Môn wedi ei hynodi ei hun am ei chyfraniadau i'r gymdeithas hon er ys blyneddoedd yn ol; ac y mae yn parhau yn yr un ysbryd haelionus hyd heddyw. A ydyw yn ormod i ni awgrymu yma fod dylanwad areithiau Mr. Elias yn fyw yn nghasgliadau y wlad hyd yn awr? "Y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Môn! "Ereill a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll!"

"Ie, daethost i'r Feibl Gymdeithas—fel mam
Ddyfal mewn aur balas;
Dy roddion o dra addas—haelioni,
A'th olud erddi, fythola dy urddas!"
 


PENNOD IV.

JOHN ELIAS, A CHYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.

NID dyn i enwad, na chenedl, na gwlad, yn unig ydoedd Mr. Elias; ond dyn i'r byd, ac i eglwys Dduw yn gyffredinol. Ar yr un pryd, nid oedd heb ei syniadau neillduol na'i deimladau pleidiol. Ond yr oedd ei feddwl mor eang, a'i enaid mor fawr, fel nad allesid ei gadwyno i le na dosbarth. Ymdeimlai yn debyg i'r apostol, pan y dywedai, "Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid ac i'r barbariaid hefyd, i'r doethion ac i'r annoethion hefyd." Yr oedd arlun o'r byd wedi ei argraffu ar ei galon. Ymdeimlai yn ddwys dan y rhwymedigaethau y gwyddai yr oedd yr efengyl wedi ei osod danynt. Gwyddai fod Rhagluniaeth wedi ymddiried cryn raddau o ddylanwad i'w law, fel offeryn er lledaenu yr efengyl; ac er cwblhau yr ymddiried a roddwyd iddo, cyflwynai holl alluoedd cryfion ei feddwl, holl nerth ei gryfder corfforol, a holl deimladau tyner ei galon, i'r gwaith. Ni arbedai ddim a allai nac a feddai, heb eu haberthu ar allor defnyddioldeb cyffredinol. Yr oedd yn un o bleidwyr mwyaf cyhoeddus y Beibl Gymdeithas, fel y crybwyllwyd yn flaenorol. Yr oedd yn un o brif gyfeillion y genadaeth hefyd. Yn mlodau ei ddyddiau, Cymdeithas Genadol Llundain a bleidiai; ac nid oerodd ei deimladau yr un gradd tuag ati hyd ei fedd ac at ei wasanaeth i'r gymdeithas hon, mewn modd neillduol, y cyfeirir yn yr erthygl hon.

Arferai Mr. Elias ysgrifenu anerchiad ar ran y genadaeth yn flyneddol: yr hwn a ddarllenid gan y cyhoedd yn wastadol gydag awyddfryd byw. Traddodai araeth gyhoeddus hefyd, yn mhob man, lle y gallai gyrhaeddyd, er annog y cynnulleidfaoedd i gyfranu i'w thrysorfa, bob tymmor gauaf; a byddai dysgwyliad mawr bob tro am yr anrheg flyneddol, yr hon a ystyrid fel calenig werthfawr gan yr holl wledydd —ac yn neillduol, tuag ynys Môn. Un bore Sabbath arbenig, teithiai drwy yr eira mawr, ar ei draed, â hen ffon hir weinidogaethol Dafydd Morys yn ei law, bum milltir o ffordd, at ei gyhoeddiad. Ni allasai farchogaeth ar y pryd, gan lithrigrwydd y ffordd, o herwydd y rhew. Gwyddai fod casgliad i gael ei wneyd at y genadaeth, a dysgwyliad am araeth genadol yn y lle. Yr oedd ei anerchiad y tro hwn, fel areithiwr, yn un o droion dedwyddaf ei oes. Ymddangosai, yn mhob modd, yn ei wisg Sabbathol. Yr oedd hi megys yn ganolddydd ei oes weinidogaethol tua'r amser hwnw. Yr oedd ef yn ei fan goreu, yn mhob ystyriaeth. Yr oedd addfedrwydd ei farn, eangder ei wybodaeth, grym ei ddawn areithyddol, uchder gwres ei eiddigedd dros achos y Gwaredwr, a phob peth arall, yn eu hadeg fwyaf manteisiol er iddo allu gwneyd argraff ar ei wrandawyr. Yr oedd y capel yn orlawn o bobl, er oered oedd yr hin. Yr oedd holl deimladau ei feddwl yntau wedi eu llanw hyd yr ymylon. Yr oedd ei ysbryd wedi ei danio i'r byw. Gwyddai amryw oedd yn bresennol am arwyddion allanol teimladau ei fynwes. Byddai gwylder cyssegredig neillduol yn gwisgo ei wedd a'i ymddygiad pan fyddai ei enaid yn orlwythog o feddyliau. Felly y rhagdybid yn arbenig y tro hwn, pan yr oedd ar ddechreu ei anerchiad. Dysgwylid y ceid ganddo rywbeth nad ydoedd i'w gael bob dydd. Yr oedd pregeth i ddilyn yr araeth.

Dechreuai drwy daflu golwg gyffredinol ar ansawdd y byd, mewn ystyr foesol, ac fel yr oedd yr holl genedloedd yn gorwedd mewn drygioni, ac yn eistedd yn mro a chysgod angeu. Rhwyddhäai y ffordd yn fyr ac yn naturiol at ei sylwadau dilynol. Cyfeiriai at y feddyginiaeth oedd yn cael ei chynnyg at adferiad y byd. Nodai ddwy gymdeithas yn neillduol, oedd fel dwy chwiorydd o efeilliaid, â'u gwyneb arno; sef Cymdeithas y Beiblau, a'r Gymdeithas Genadol. Cymharai y gyntaf i'r had, a'r ail i'r hauwr. Dangosai fod y naill mor angenrheidiol, o ran ei gwasanaeth, a'r llall. Pe byddai cyflenwad o had mewn granary, ac yn cael ei adael yno, gofynai, "Pa les a wnai, heb i'r hauwr ei daflu dan y gwys? Pe safai yr hauwr mwyaf medrus a ffyddlawn ar y maes, a fyddai wedi ei wrteithio yn dda, a'i aredig yn drefnus, ac eto heb had yn ei lestr, pa les a ddeuai o'i waith?—a oedd neb a ddysgwyliai am gnwd? Nac oedd, neb. Ond lle y byddai y ddau wedi cydgyfarfod, yr oedd yr amcan yn sicr o gael ei gwblhau. Felly am y ddwy gymdeithas hyn, y mae Rhagluniaeth y nef wedi anfon y ddwy allan gyda'u gilydd i wynebu ar faes y byd. Y gair yw yr had, y maes yw y byd, a'r hauwr ydyw y cenadwr anfonedig. Rhaid cael y tri i afael â'u gilydd. Er argraffu a rhwymo y Beiblau, ni allwn roddi adenydd iddynt, a'u cyflwyno i ofal y gwynt. Y mae yn rhaid i'r paganiaid glywed gair y gwirionedd; ond 'Pa fodd y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano a pha fodd y clywant heb bregethwr? a pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt?'

"Y mae amryw o gymdeithasau cenadol ar y maes, ond un ydynt mewn yspryd a dyben; ac y mae llawer yn un, bob amser, yn nerth. Fe allai mai y Swissiaid a gafodd yr anrhydedd o ddyfod allan i'r maes gyntaf, yn y flwyddyn 1556, pan yr anfonodd Eglwys Geneva bedwar ar bymtheg o genadon i gyhoeddi 'yr ymadrodd am y groes' i froydd eang South America. Ffurfiwyd y Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl mewn Parthau Tramor yn gynnar iawn. Daeth y Brodyr Unedig, neu y Morafiaid, allan yn fore gwnaethant anturiaethau rhagorol, a buont yn ddefnyddiol iawn. Y mae Cymdeithas Genadol y Wesleyaid wedi anfon gweithwyr ffyddlawn i'r maes—i'r Iwerddon a Ffrainc, i Gibralter a Malta, i'r Ashantee a'r Liberia Colony, a manau ereill. Y mae gan y Bedyddwyr gymdeithas lwyddiannus iawn, sydd wedi anfon allan genadon gwir enwog i'r gwledydd cynhes a thymmerus, yn neillduol. Y mae Cymdeithas yr Eglwys Sefydledig yn gweithio yn rymus mewn gwahanol barthau o'r maes, tua Sierra Leone, Malta, Cairo, British Guiana, a lleoedd ereill. Gellid crybwyll am amryw gymdeithasau ereill sydd yn cydweithio yn y gorchwyl mawr; megys yr Edinburgh, neu y Scottish Missions, Cymdeithas y Netherlands, Cymdeithas Berlin, y German Missions, a'r Basle Institution, y French Protestant a'r Rhenish Missionary Society; ac amryw ereill o lai sylw a ellid eu nodi. Y mae y rhai hyn oll yn cydweithredu, fel gwahanol gatrodau mewn un fyddin arfog, yn ymosod ar dywyllwch y byd paganaidd, ac yn ymdrechu i ledaenu egwyddorion y grefydd Gristionogol dros holl derfynau y byd.

"Y mae rhywbeth ychydig yn wahanol yn egwyddorion ac amgylchiadau y gymdeithas yr ydym ni yn llafurio gyda hi i'r lleill i gyd, er eu bod yn un yn yr amcan a'r dyben mawr. Nid yw y gymdeithas hon yn gyfyngedig i unrhyw blaid. Ni fyn ymgyfenwi ar unrhyw blaid; ac o herwydd hyn, gelwir hi, Cymdeithas Genadol Llundain. Cynnwysa Gristionogion, fel y cyfryw, heb olygiad ar blaid, na syniadau neillduol ar drefn eglwysig. Ei chenadaeth hi ydyw anfon allan bregethwyr 'i efengylu yn mysg y Cenedloedd anchwiliadwy olud Crist,' a gadael i'r dychweledigion ymffurfio yn bleidiau fel yr ymddangoso oreu yn eu golwg hwy eu hunain. Wyneba y gymdeithas hon ar yr holl fyd hefyd, ac i bregethu yr efengyl i bob creadur; heb wahaniaethu dim rhwng y gwledydd cynhes ragor ardaloedd yr iâ, rhwng India na Siberia, rhwng broydd tywyniad haul na chyffiniau yr eira a'r rhew. Y mae ei chenadon wedi ymwasgaru i China a Madagascar, Canoldir Affrica, ac ymylon New Zealand, o ynysoedd Môr y De hyd yr Ultra Ganges, ac o Werddon—ogleddol hyd y Cape Horn! Y maent wedi wynebu ar bob math o anhawsderau naturiaethol, moesol, a gwladol; ac y mae gwenau y nef ac amddiffyn Rhagluniaeth wedi bod yn eglur arnynt. Y mae yr eneiniad oddi uchod yn disgyn fel gwlith bendith arnynt, a Duw yn peri iddynt oruchafiaeth yn Nghrist, ac yn eglurhau arogledd ei wybodaeth drwyddynt yn mhob lle.

"Yn awr, beth sydd a wnelom ni â'r genadaeth, ydyw ein pwnc yma heddyw. A ydyw y gwaith wedi ei gwblhau? Nac ydyw nid yw ond megys ar ei ddechreu. Y mae gan y byd paganaidd hawl bersonol ar bob un o honom ni; a dangos y rhwymedigaeth sydd arnom ni ydyw ein hamcan yma yn awr. Pwy a ddanfona yr efengyl iddynt, ond y rhai a'i cafodd? Pwy a ddenfyn weithred bywyd y byd tywyll iddo, ond y rhai yr ymddiriedwyd hi i'w dwylaw? At bwy y mae Ethiopia yn estyn ei dwylaw yn brysur, y mynyd hwn, ond atom ni sydd wedi ymgynnull yma? Yr wyf yn gwybod nad oes dim ond eisieu i'n gwlad ddeall ac ystyried sefyllfa y byd paganaidd, na theimla er gwneyd ei rhan yn deilwng yn yr achos. I'r dyben hyny, ni a amcanwn roddi i chwi ryw awgrym o ansawdd y byd, yn ei sefyllfa ddaiaryddol, ac yn mhoblogaeth pob gwlad, a'r cyflwr moesol y mae y gwahanol genedloedd ynddo, er ein cyffroi a'n codi i wneyd a allom tuag at anfon gair y bywyd i bob dyn yn mhob man!

"Y mae pawb sydd yma yn deall mai pelen gron ydyw y ddaiar, yn troi ar ei phegwn unwaith bob dydd yn y gwagle mawr; a'r lloer yn troi o'i hamgylch, fel morwyn i ddal y ganwyll iddi, unwaith bob mis; ac yn cylchdroi hefyd, drwy yr eangder dirfawr, unwaith bob blwyddyn o amgylch yr haul. Y mae poblogaeth ein daiar ni yn fil o filiynau o rifedi o ddynolryw; ac o'r nifer mawr hwnw, y mae dros yr hanner mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth —yn gorwedd yn mro a chysgod angeu; ac heb glywed cymmaint a sill o air y bywyd erioed! Y mae yn anhawdd ini ffurfio dychymyg parod am y nifer sydd yn gynnwysedig mewn miliwn. Y mae yn disgyn ar y glust o'r bron yr un sain a mil; ac ar y deall o'r bron yr un fath. Hanes y byd, a chymhariaeth yn unig, a all gynnorthwyo ein meddwl i ffurfio dychymyg priodol am y nifer. Ni a ymdrechwn, gan hyny, i gael gan bawb sydd yma ffurfio dirnadaeth, o leiaf, am ansawdd y byd, ac amlder ei boblogaeth, drwy geisio dyrchafu ein hunain yn ddigon uchel, i gymmeryd golygiad ar y ddaiar yn ei hysgogiad ar ei phegwn dyddiol, a chraffu ar ei gwyneb, a sylwi ar ei thrigolion. Felly, ni a gymmerwn ein sefyllfa, o ran ein dychymyg, yn y man lle y darluniai yr angel hwnw, yn Llyfr y Dadguddiad, ei fod, pan yr oedd yn sefyll yn nghanol yr haul:—'Ac mi a welais angel,' medd Ioan, 'yn sefyll yn nghanol yr haul.' 'Tybiwn ninnau, yn awr, ein bod yn sefyll ar le manteisiol ar yr haul, ac yn tremio i lawr tua'r ddaiar, ryw bellderau dirfawr, â llygad treiddgar, fel y wawr, a'n bod yn edrych ar ei symmudiadau, fel y byddo hi yn troi ar ei hechel, yn ei chylchrod eang, yn yr eangder mawr. Dychymygwn yn awr ei gweled, fel pelen bach ddysglaer, o draw, yn troi yn rheolaidd, tua'r dwyrain. Dacw hi yn cychwyn! Beth a welwn ni gyntaf? Dacw dref Llundain, yn awr, yn union, gyferbyn a ni. Y mae hi yn symmud o'r golwg, yn fuan. Prin y mae Lloegr wedi colli o'r golwg, nad yw yr Iwerddon, rhan o'n hymherodraeth ni ein hunain, yn dechreu ymddangos. Beth sydd acw i'w ganfod? O! saith miliwn o Babyddion, yn boddloni ar ymgrymu i ddelw, o lun y groes, yn lle credu 'yr ymadrodd am y groes;' ac, mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth, yn cael eu tywys wrth ewyllys yr offeiriaid Pabyddol, heb wybod dim eu hunain am ffordd y bywyd! Beth! ai nid oes acw neb yn ceisio gwared y rhai a lusgir i angeu? Oes, y mae gwaith mawr wedi ei ddechreu acw. Dacw bregethwyr yr Irish Evangelical Society yn un man, ysgolion yr Hibernian Society mewn man arall, a'r gwahanol weinidogion Protestanaidd mewn cyrau ereill—oll yn gwasgar goleuni y gwirionedd yn nghanol y dywyllnos ddu!

"Gyda bod yr Atlantic wedi llithro yn ddystaw o'r golwg, i adael ein chwaer—ynys, dacw yr Unol Daleithiau yn addurno canol yr eigion, ac yn dechreu tremio arnom! Beth sydd yn y fan acw? Llwythau dirifedi o ddynolryw, yn gweu drwy eu gilydd yn nyfnder tywyllwch a thrueni; ond eto, er hyn i gyd, y mae acw fyddin ardderchog o genadon yn tywys y trigolion at odreu y groes!

"Craffwch eto yn awr! Dacw y Môr Tawelog llydan yn dyfod i'r golwg, wedi ei fritho âg ynysoedd fil, a thrigolion pob un o honynt yn plygu mewn addoliad ger bron eu heilundduw! Ond, er hyny, dacw Tahiti ac Eimeo yn dysgleirio yn ddengar. fel dwy seren ddysglaer yn nghanol mynwes y môr mawr, a goleuni gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist yn llewyrchu oddi wrthynt dros donau hirfeithion yr eigion dwfn.

"Dyma ni yn awr yn cael difyru ein llygaid gyda rhyw gipolwg ar demlau Cristionogol, megys yn nofio ar wyneb Môr y Deheu. Craffwch yn awr: dacw China eang, â'i hymherodraeth helaeth, yn dyfod yn brysur i'r golwg. O! clywch, fel y mae hi megys yn griddfan dan drueni tri chan miliwn o eilunaddolwyr anwybodus a choelgrefyddol! Nid oes dim i'w glywed ond son am ryw Confucius a Foe, yn lle yr Oen a laddwyd! Ond eto, dacw amryw o honynt yn cyfarfod eu gilydd yn ddirgel i ddarllen y Testamentau Newydd a wasgarwyd gan Morrison a Milne, yn ddystaw, yma a thraw. Y mae blaenffrwyth y cynauaf mawr wedi cael ei gyhwfanu acw yn barod, ni a welwn!

"Y mae y ddaiar eto yn troi yn ddiorphwys. Gwelwch yn awr, dyna lewyrch yr haul yn disgyn ar wastadedd eang Hindwstan, sydd yn cael ei olchi yn barhäus gan ddyfroedd y Ganges, a'i llifeiriant diaros. A dacw Juggernaut a'i olwynion dinystriol: dacw y tanllwyth claddedigaeth yn ffaglu dacw y weddw yn cael ei llosgi yn fyw gyda'i gŵr trancedig! Eto, er yr oll o'r trueni, dacw mission houses Serampore a Calcutta yn dyfod yn dirion i'r golwg. Dacw Bradbury, a Morton, a Lessel, newydd gyrhaedd yno y mynyd yma, i ddilyn Carey a Townley, a fu yno o'u blaen; ac y mae rhyw wawr wedi tori ar y fro dywyll acw, sydd yn dal perthynas â haul hanner dydd, sydd i dywynu yn ddysglaer ar yr holl derfynau cyn hir. Brysiwch! brysiwch! edrychwch dros fynyddau y Northern India; gwelwch yr ardaloedd hirfeithion sydd yn ymestyn hyd y pegwn. Onid oes acw le galarus i edrych arno? dim ond dyfnder llygredigaeth a thrueni yn mhob man. Eto, er hyny i gyd, daew Swan, a Hallybrass, a Youell yn dechreu planu rhosyn Saron yn eira Siberia, a lili y dyffrynoedd yn Tartary bell.

"Dacw Persia ac Arabia eto yn awr yn dyfod yn mlaen. A! y fath filiynau sydd yna dan dwyll y gau brophwyd. Ond eto, wrth i chwi graffu yn fanwl, wrth symmud o Astrachan gyda glanau Môr Caspia, gellwch weled cenadon yr Edinburgh Society yn dechreu ar y gwaith, na therfynir mo hono nes cymmeryd meddiant o'r tiroedd eang o'r bron i wasanaethu Gwaredwr y byd!

Syllwch yn awr, yn benodol—dacw Palestina yn dechreu dyfod i'r golwg. A! yr hen wlad enwog. Dacw y dyffryn lle y bu Abraham, tad y ffyddloniaid, yn codi ei babell! Ar y bryn acw y bu Dafydd yn cyfansoddi llawer o'i salmau! Dacw y mynydd lle y bu Esaiah yn chwareu ei delyn, ac yn rhagfynegu genedigaeth Crist! Dacw Galfaria lle y gwaedodd y Messiah mawr! Dacw yr ardd!—a'r bedd! Braidd na ddychymygwn glywed rhyw deithiwr dyeithr ac unig yn dywedyd yn ddystaw a gwylaidd acw, 'Deuwch, gwelwch y fan lle gorweddodd yr Arglwydd!' Mae yn alarus gweled yr Iuddewon acw yn gwibio ar hyd y lle; ac onid yw yn dwyn gwaedd eu tadau gynt yn groch ar ein clustiau—' Bydded ei waed ef arnom ni ac ar ein plant!' Y mae ei waed arnynt yn awr, yn amlwg, mewn ffordd farnol; ond y mae y dydd. yn agos, pan y bydd arnynt mewn ffordd achubol yn nhrefn gras y nef. Rhaid yw impio yr hen genedl yn ei holewwydden ei hun. Pwy na waeddai, Brysied yr amser i ben! Pwy a all lai na theimlo drostynt; a phwy a all lai na llawen hau wrth feddwl fod pob addewid yn ïe ac amen yn Nghrist!

"Dacw Asia Leiaf ger bron yn awr; ond yn nghanol y coelgrefydd sydd yno, ni a ganfyddwn y Russian Bible Society yn myned â'r canwyllbren aur yn ol, mewn un llaw, a chanwyll y gwirionedd yn y llaw arall, i ail oleuo y lampau a fu unwaith yn cynneu dros Fôr y Canoldir yn ddysglaer mewn llewyrch prydferth yn hir.

"A! dacw Affrica eto yn brysio i'r golwg, â'i miliynau barbaraidd yn gwaedu dan law y gorthrymydd. Ond er y cyfan, gwelwn Bethelsdorp a Sierra Leone yn llewyrchu, fel rhag—gynllun o'r dydd pan y gwelir diwedd ar y caethiwed, ac y bydd Haul Cyfiawnder yn goleuo y fro.

"Dacw Ewrop eto wedi dychwelyd i'n golwg yn ei thro! Beth a welwn ni yn y parthau eang acw o honi? Coelgrefydd Eglwys Groeg yn y gogledd, a chyfeiliornadau Pabyddiaeth yn y de. Bellach, edrychwch, dyma ni wedi dychwelyd i'n hen gartref yn ol! Dacw binacl St. Paul yn dyfod i'r golwg. Dacw swyddfa y Gymdeithas Genadol ger llaw! "Wel, bellach, gyfeillion, beth a ddywedwch chwi uwch ben yr holl olygfeydd a gawsom? A oes yma un galon a all lai na theimlo? Ai nid yw yn dda genych gael y fraint o gyfranu, yn ol fel y llwyddodd Duw, tuag at anfon gair y bywyd i'r rhai sydd yn cael eu dyfetha o eisieu gwybodaeth? A oes yma rywun a all attal ei anadl mewn gweddi, ar fod i air yr Arglwydd redeg a chael gogonedd? A oes eisieu annog? A oes eisieu cymhell? Na, na: gwn yn dda fod eich ysbryd wedi ei gynhyrfu ynoch, fel Paul yn Athen, wedi gweled y ddinas oedd wedi ymroi i eilunod.

"Ond eto, y mae rhywun yn barod i ofyn, A oes gobaith y gwelir y dydd pan y byddo y gair wedi ei gyfieithu at dafodleferydd pob un o'r cenedloedd hyn, ac y bydd yr efengyl wedi ei phregethu yn mhob gwlad a welsom ar y daith? Y mae yr ateb yn barod 'Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, yr holl ddaiar a lenwir o ogoniant yr Arglwydd!' 'Nid dyn yw Duw i ddywedyd celwydd, na mab dyn i edifarhau A lefarodd efe, ac oni chywira?' Y mae y cynghor tragwyddol wedi ei fwriadu; y mae aberth Crist wedi ei haeddu; y mae llais prophwydoliaeth wedi ei gyhoeddi; a sel Arglwydd y lluoedd a'i cyflawna. Pe bai i ryw angel ddyfod i ymweled â'n daiar ni am y tro cyntaf, pan y byddai y rhew wedi cloi y dyfroedd, a'r eira wedi gorchuddio y maes, a thlodi a llymder gauaf wedi gwisgo wyneb y byd; a phe byddai i ninnau ei sicrhau y byddai i ryw allu anweledig ddyfod cyn pen ychydig fisoedd ac anadlu ar y ddaiar nes dattod yr holl gloion, a thoddi yr holl ia, ac yr adnewyddid wyneb y ddaiar, ac y dilledid y bryniau o newydd, ac y gorchuddid y dyffrynoedd âg ŷd, ac y gwisgid y gerddi â rhosynau, nes y byddai yr anialwch a'r anghyfanneddle yn llawenychu, nes lloni pob llygad, a sirioli pob calon—a allai yr ymwelydd dy ithr hwn wrandaw yr adroddiad heb gael ei daraw â syndod? a allai efe gredu y rhag dystiolaeth am y cyfnewidiad mawr? Felly ninnau yn yr achos hwn; y mae y dystiolaeth mor gadarn a phe byddem yn gweled y cyfan wedi ei gwblhau yn barod; er ein bod ni yn teimlo ein ffydd yn awr fel yn cael ei phrofi, wrth weled fod y gwaith sydd i gael ei gyflawnu mor fawr! A fydd dim yn anhawdd i'r Arglwydd ei wneuthur? 'Pan ollyngech dy ysbryd y crëir hwynt, ac yr adnewyddir wyneb y ddaiar.' Diau y bydd y cyfan fel creadigaeth newydd. pan y clywir lleisiau yn nghanol y nef yn dadgan, 'Fod teyrnasoedd y byd wedi myned yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef!' Mor ogoneddus fydd y cyfnewidiad! Y mae teyrnas Crist yn ei llywodraeth ar galon pob pechadur ar wahân yn ogoneddus: bydd y credadyn yn greadur newydd! Os ydyw felly mewn dylanwad ar galon un dyn, beth fydd yr olwg ar y byd pan y bydd bywyd ysbrydol a grasau Cristionogol wedi addurno yr holl ddynoliaeth i gyd! Bydd pabell Duw gyda dynion! Bydd holl dylwythau y ddaiar wedi dyfod yn un teulu, ac heb anadlu dim ond cariad, a thangnefedd, a daioni; ac yn addoli yr 'un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll!'"

Ar derfyniad yr anerchiad hwn, yr oedd teimladau hynod wedi meddiannu y dorf. Ni raid yma grybwyll pa effaith a gafodd ar y casgliad ar y pryd. Nid oedd nemawr o rwygo na thanio ar yr amgylchiad hwn, ac nid oedd dysgwyliad am hyny. Nid oedd y testyn yn galw am appeliadau o'r un natur ag y crybwyllwyd am danynt mewn rhai nodiadau blaenorol, mwy na'r amgylchiadau y gelwir ein sylw atynt eto rhag llaw. Yr oedd rhyw hyfrydwch teimlad wedi llanw mynwesau pawb fel eu gilydd ar y pryd. Goleuo a difyru oedd nod mwyaf uniongyrchol yr araeth.

Yr oedd amryw fel pe buasent wedi eu taro â syndod, ac yn edrych ar eu gilydd, i weled a oedd yr un amnaid gan neb; ond nid oedd neb yn meddiannu cymmaint a hyny arno ei hun. Yr oedd pawb wedi eu cydsyfardanu mewn myfyrdod dwys. Bu y ddaiar yn troi ger bron llygaid rhai am wythnos o amser yn barhäus ar ol hyn. Gwyddir iddi ymwthio yn ei chylchdro o flaen dychymyg rhai mewn breuddwydion nos, mewn canlyniad i'r effaith a'r argraff yr oedd y traddodiad wedi ei adael ar y teimlad ar y pryd. Dyma fu testyn ymddyddanion y gymmydogaeth am dymmor maith; ac yn wir, nid yw wedi ei ddileu oddi ar feddwl llawer hyd heddyw. Y mae ei sylwadau, ïe, ei eiriau, ar gof a chadw gan lawer yn eu mynwesau hyd y dydd hwn!

Pe gofynid, yn mha beth yr oedd nerth yr areithiwr yn ymddangos yn fwyaf neillduol ar y tro hynod hwn, gellid cyfeirio at amryw bethau. Yr oedd ei adnabyddiaeth drwyadl o ddaiaryddiaeth yn cario dylanwad grymus trwy yr holl anerchiad. Yr oedd yn cyfeirio at fynyddoedd y gwledydd pell, fel pe buasai yn son am fynydd y Twrf, neu fryniau Bodafon a Llwydiarth. Siaradai am ororau y Ganges a'r Mississippi, fel pe buasai yn adrodd am bethau oedd newydd ddygwydd gyda glanau afonydd Alaw a Braint. Yr oedd ei hysbysiaeth gyflawn am yr holl orsafoedd cenadol, yn nghyd â natur a llafur cenadon pob cymdeithas yn mhob gwlad, yn ei wneyd yn feistr ar ei orchwyl. Yr oedd ei iaith dda a nerthol yn chwanegu at effeithioldeb y dylanwad. Nid oedd Mr. Elias yn ieithydd celfyddgar; ond yr oedd ganddo iaith naturiol, gywir, a dillyn. Clust oedd ei ramadeg penaf ef. Yr oedd ei olygiadau clir ar y pwnc oedd ganddo mewn llaw yn gymhorth iddo gario yr effaith a gafodd; ac i goroni y cwbl, yr oedd yr hyawdledd naturiol dihafal, â'r hwn yr oedd natur wedi ei addurno, yn aros fel cuddiad ei gryfder. Creodd gyfeillion i'r genadaeth ar y pryd, nad oeddynt erioed wedi gwneyd nemawr o sylw o honi o'r blaen cyn hyn. Cymdeithas y Beiblau oedd pob peth yn ngolwg y gymmydogaeth hon; ond yn awr, daeth i ddeall fod chwaer iddi, oedd yn teilyngu yr un amddiffyn ac ymgeledd gan bawb. Y mae yr oes bresennol yn rhy fer i beri i bawb o'r gwrandawyr anghofio gyda pha effeithioldeb y terfynodd ei araeth, gyda'r geiriau, "Yr Arglwydd a roddes y gair, mawr yw mintai y rhai a'i pregethant." "Ac mor brydferth ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; yr hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Sion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu!"

PENNOD V.

JOHN ELIAS MEWN CYMMANFA.

YR ydym wedi gwrandaw Mr. Elias yn pregethu ar noson waith yr ydym wedi ei ddilyn hyd noswaith gyntaf y gymmanfa, a'i glywed yn anerch y bobl ar y maes, ac yn cynnal addoliad teuluaidd yn y man lle y llettyai, yn hwyr y dydd: yr ydym wedi cael cyfle i'w wrandaw yn areithio mewn cyfarfod perthynol i'r Feibl Gymdeithas; ac wedi ei glywed yn anerch cynnulleidfa yn achos y genadaeth; ond yr ydym eto heb ei glywed yn pregethu mewn Sassiwn. Y mae y gymdeithasfa yn cael ei chynnal mewn tref ger llaw heddyw: y mae yntau i bregethu am ddeg o'r gloch. Beth fyddai ni fyned yno, a rhag blaen i'r maes? O'r goreu; bydded felly. Ni a gychwynwn yr awr hon!

Y mae yr oedfa wedi dechreu. Y mae y bregeth gyntaf drosodd. Y mae y gynnulleidfa yn lluosocach nag arferol, ac y mae dysgwyliad mawr i'w weled yn amlwg yn wyneb pob dyn. Y mae Mr. Elias yn codi i fyny at y ddesg. Y mae yn taflu golwg dros yr holl dorf. Y mae yn erfyn ar y nifer sydd tua'r ymylon nesäu i'r canol. Y mae yr olwg arno yn darawiadol iawn; y mae ei holl agweddau yn ddymunol; y mae rhyw urddas boneddigaidd yn ei agwedd; y mae mawredd yn gydblethedig â gostyngeiddrwydd yn ei ymddangosiad personol. Y mae yn dyfod allan i'r maes fel cadfridog i arwain byddin—yn dywysog ar lu yr Arglwydd, neu yn hytrach fel cenadwr dros ei frenin. Nid oes neb yn gofyn iddo am gael gweled seliau ei swydd―y mae pawb yn darllen ei awdurdod yn ei wedd. Nid oes neb a faidd ammheu ei anfoniad; y mae ei dystebau yn ganfyddadwy yn yr olwg arno. Y mae ei feddwl yn llanw pob llinyn, pob cyhyr, a phob gwythen yn ei wyneb. Y mae gwreichion tân yn neidio allan o'i lygaid, ac ar yr un pryd y mae y tynerwch mwyaf gwylaidd yn gwisgo ei wedd. Y mae yn ymddangos mor bryderus a phe byddai hon i fod y gymmanfa olaf am byth iddo ymddangos yn gyhoeddus i gyflwyno ei neges dros ei Feistr mawr; y mae fel pe byddai yn meddwl ei fod ar gael ei alw i roddi ei gyfrif i fyny i'w frenin; ac o blegid hyny, y mae yn gwysio pob teimlad, pob gewyn, pob gallu, a phob bwriad a fedd at ei orchwyl pwysig a difrifol. Y mae fel pe byddai am wneyd un orchest anfarwol. Heddyw neu byth, am achub yr eneidiau sydd ger ei fron! Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu, â rhyw seingarwch fel cloch aur yn ei enau,—

"O Arglwydd! gosod, rhag gair ffraeth,
Gadwraeth ar fy ngenau;
Rhag im' gam-dd'wedyd, gosod ddôr
Ar gyfor fy ngwefusau."

Y mae gwroldeb newydd yn gwisgo ei wynebpryd; y mae rhyw harddwch rhagennillgar yn mhob ysgogiad o'i eiddo; ac y mae serchogrwydd yn mhob edrychiad a wna, sydd yn gwisgo anmhrydferthwch ei wynebpryd â thegwch deniadol iawn. Nid oes eisieu un math o ddyheurad arno am ymgymmeryd â'i swydd. Y mae cleddyf yr Ysbryd yn amlwg yn ei law; ac y mae hwnw mor lân ac mor loew, fel y mae ei ddysgleirdeb yn serenu llygaid y dorf. Y mae helm yr iachawdwriaeth yn eglur am ei ael; y mae wedi amgylchwregysu ei lwynau â gwirionedd y mae wedi ymwisgo â holl arfogaeth Duw; y mae ysbryd bywyd yn melltenu yn ei dremiadau; y mae ei bregeth yn ymwthio i'w wyneb; y mae amcan ei genadwri yn ymwthio yn ei wedd: y mae hyawdledd byw yn chwareu ar ben ei fys; y mae areithyddiaeth grymus i'w weled yn ei ymafaeliad yn ymylon ei gôt; ac y mae swyn dengar yn symmudiadau ei napcvn llogell. Yn mhob peth, y mae yna ragarwydd amlwg fod daiargryn ger llaw!

Y mae y canu drosodd. Y mae math o sirioldeb difrifol yn gwisgo ei wedd. Y mae yn darllen ei destyn, mewn llais clir, ond hollol syml a dirodres:—" Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonau chwi; fel y galloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw y lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder; gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwch law gwybodaeth, fel y'ch cyflawner & holl gyflawnder Duw." Y mae yn esbonio ei destyn; y mae yn dechreu dangos prif nod ac amcan yr apostol yn ysgrifenu y llythyr; y mae yn prysuro at egluro cyssylltiadau y testyn a'r cyd-destynau. Y mae yn agor dirgelion cynnwysiad yr holl ymadroddion cryfion sydd yn cael eu harfer gan yr apostol yn llydan ac eglur o flaen meddwl pob dyn. Y mae yn gosod pob cymmal ar wahân, ac yn eu dangos ger bron y dorf, ol a blaen, wyneb a chefn, nes y mae pawb yn eu deall yn gwbl oll. Y mae fel y celfyddydwr, yn agor cauad yr awrlais, yn dattod y colynau, ac â'i efeilen yn rhyddhau pob hoel, yn dattod pob bach, ac yn tynu yr holl olwynion oddi wrth eu gilydd. Y mae yn gosod y dringlyn o'r neilldu, yn dodi y morthwyl taro ar y bwrdd, ac yn symmud y pwysau ymaith; ac wedi dangos pob paladr ac olwyn, pob pin a phegwn, pob cranc a nodwydd, ac egluro eu dybenion, y mae yn dangos y modd yr oedd y dannedd yn cydio yn eu gilydd, a'r modd yr oedd pob olwyn yn cyd-ddibynu, y naill ar y llall; ac yna y mae yn gofyn:—"A ydych chwi yn deall natur y peiriant?" Y mae agwedd y bobl yn ateb, " r ydym yn deall yr awr a'r mynyd, wrth edrych ar y wyneb, y ffugyrau, a'r bysedd." "Ië," meddai yntau, "ond y mae arnaf eisieu i chwi ddeall y modd y mae yr olwynion mewnol yn symmud, er dangos yr amser i chwi, fel na byddo i neb o honoch betruso dim, nac ofni unwaith eich bod yn cael eich siomi am y gwirionedd"—ac yna y mae yn dodi y cyfan wrth eu gilydd fel o'r blaen. Felly, yn debyg i'r crefftwr medrus, yr oedd y pregethwr yr oedd yn agor pob adnod, yn egluro pob ymadrodd, ac yn esbonio pob gair; ac yn eu dangos bob un, yn mhob golygiad, i bawb, fel nad oedd modd i neb eu camddeall. Yr oedd yn gosod pob athrawiaeth, pob egwyddor, a phob addysg, fel goleuni haul hanner dydd o flaen meddwl pawb —ïe, hyd yn oed y gwanaf ei ddeall yn y lle. Gwedi chwalu a chwilio y cyfan ar wahân, gosodai y cwbl yn nghyd drachefn, yn ngoleuni eu cynnwysiad, eu cyssylltiad, a'u dyben. Mynai i bawb wybod cymmaint ag a wyddai yntau ei hun ar bob pwnc. Gwnaed hyn oll mewn tuag ugain mynyd o amser. Yr oedd y dorf yn ymddangos wrth ei bodd, ac yn gwenu mewn syndod a difyrwch anarferol! Yr oedd ef wedi bod hyd yn hyn yn ymwneyd yn unig â deall y bobl, ond yr oedd yn ymddangos fel pe buasai yn ymwybodol ei fod wedi cael gafael ar yr allwedd at eu teimladau a'u calonau.

Yr oedd yn ddigon amlwg erbyn hyn fod y pregethwr wedi perffaith ennill y sylw mwyaf astud a difrifol. Yr oedd wedi rhwymo pob clust wrth ei wefus, tra y bu yn esbonio iddynt yr Ysgrythyrau. Daeth rhagddo yn fuan i draethu ar anfeidrol fawredd cariad Duw at fyd colledig. Dywedodd, "Yr wyf yn canfod fel pe byddai holl ogoniant caritor Duwdod mawr yn cael ei osod allan mewn tri gair, sef—Duw, cariad yw.' Ac nid oedd ryfedd i Ioan ddywedyd, Yn hyn y mae cariad: nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau ni.' Yr oedd fel pe buasai am gynnwys mewn un ymadrodd gymmaint ag a ellid ddywedyd byth am ei gariad! Nid yn unig, y mae cariad yn briodoledd yn y Duwdod, ond dyma ydyw ei hanfod; dyma ydyw ei garitor. Y mae ei gariad yn pelydru drwy holl drefn yr iachawdwriaeth, a thrwy holl egwyddorion llywodraeth Duw." Yma yr oedd efe yn dechreu ymollwng i rym ei hyawdledd dylanwadol, ac yr oedd yr effeithioldeb ar y dorf yn cynnyddu, yn mron gyda phob brawddeg. Yr oedd fel llanw y môr yn dringo yn uwch, uwch, o dòn i dòn, yn ddiorphwys, ac ambell nawfed tòn yn rhuthro yn nes i'r lan ar draws pob peth, gyda mwy o rym. Yr oedd dylanwad ei weinidogaeth yn rhedeg dros deimladau yr holl dorf, nes yr oedd ocheneidiau y bobl fel pe buasent yn mynu tori allan, er maint oedd pawb yn geisio eu cadw i lawr a'u hattal, hyd yn hyn. Daeth i gyflawn nerth ei areithyddiaeth, a'i feistrolaeth ar deimladau y bobl, gyda'r ymadroddion canlynol, y rhai a dywalltodd efe fel cawod o wlaw taranau ar benau y gwrandawyr oll:— "Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw,' sef yn anfoniad ei Fab i'r byd. Dyma lle yr eglurodd Duw ei galon. Nid yw ei briodoliaethau, a llefaru yn feirniadol, yn ddim amgen na gwahanol amlygiadau o'i gariad. Beth yw ei ddoethineb? Dim ond ei gariad yn llunio trefn i achub pechadur euog. Beth yw ei allu? Dim ond ei gariad yn gweithio allan ffordd iachawdwriaeth. Beth yw ei wirionedd? Dim ond ei gariad yn cwblhau pob peth oedd yn ofynol er gwaredu yr euog. Beth yw ei sancteiddrwydd? Dim ond ei gariad yn gwahardd pob peth sydd yn niweidiol i gyflwr dyn. Beth yw ei ddigofaint? Dim ond ei gariad at drefn; yr hwn sydd fel mur tanllyd o'n hamgylch, i'n cadw rhag pob drwg!" Ni allodd fyned rhagddo gyda y gofyniadau a'r atebion hyn, ddim yn mhellach; o blegid torodd teimladau nifer o bobl lled ieuainc oedd yn agos i'r areithfa yn ddrylliau, ac yr oedd yn fanllef o waeddi am drugaredd, ac am faddeuant, ac am fywyd, drwy y lle. O herwydd hyn, arafodd yntau, a throes atynt, mewn cyfeiriad tyner, ac erfyniodd arnynt ymdrechu i lywodraethu eu hunain, ac attal eu tymmerau, os gallent mewn un modd; a dywedai ei fod ef heb ddyfod at amcan ei genadwri eto, a bod arno eisieu ymddyddan â'r bobl bellaf ar y maes, yr un modd a hwythau:—" Ac heb law hyny," meddai ef, "y mae hi yn rhy fuan i waeddi eto; y mae y seithfed tro heb ddyfod. Nid oedd Israel i waeddi dim wrth gaerau Iericho gynt, hyd nes y byddai iddynt weled yr hen furiau yn dechreu cwympo; ac yna, yr oedd Ioshua yn gorchymyn iddynt waeddi. Nid yw caerau annuwioldeb wedi dechreu chwalu yma eto, er ein bod yn dysgwyl gweled pethau mawrion cyn diwedd y cyfarfod yma ac yn wir, yr ydym bron a dychymygu ein bod yn clywed yr hen dyrod yn dechreu cracio yn barod, a phan gyntaf y gweloch chwi yr hen gestyll yn dechreu syrthio, yna gwaeddwch, yn enw yr Arglwydd!" Ar hyn, yn lle attal teimladau, dyma dymmerau yr holl dorf fawr, yn ymddryllio ar unwaith, a wynebau pawb oll, yn hen ac yn ieuanc, yn un foddfa gyffredinol o ddagrau; rhai yn ceisio sychu eu gruddiau gwlybion, ac ereill am eu bywyd yn ceisio ymattal rhag tori allan i waeddi mwy; ac ereill yn mron ymdori wrth ymgynnal, mewn awydd clywed y genadwri fawr yn dyfod allan yn eithafion ei nerth. Pa fodd bynag, lliniarodd tymmerau y bobl yn raddol; ond yr oedd yn amlwg fod pob teimlad a feddai pob dyn oedd ar y maes wedi cael eu symmud mewn rhyw ffordd neu gilydd; yr oedd grym y weinidogaeth yn dwyn cyflyrau a phrofiadau y gwrandawyr i'w gwynebau; yr oedd y genadwri onest yn dreiddgar, " ac yn llymach nag un cleddyf dau—finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymmalau a'r mêr, ac yn barnu meddyliau a bwriadau y galon." Yr oedd yn llefaru nes yr oedd y bobl yn teimlo, nid yn unig y dylasent edifarhau, ond fod yn rhaid iddynt blygu ac ufuddhau yn y fan!

Wedi i'r dorf feddiannu ei hun i raddau, ac i dymmerau wastatau ychydig, aeth Mr. Elias rhagddo mewn dull tra hynod i ddarlunio trefn yr iachawdwriaeth, a mawredd cariad Duw, yn ol y dychymyg yn y testyn, yn eangder eu terfynau anfesurol. Wedi cyrhaedd i uchder grym ei afael yn ei destyn, ac yn nheimladau y bobl, bu yn ymadroddi yn lled afrwydd, os nid yn geirio yn lled drwstan, am beth amser, o herwydd grym eiddigedd tanllyd ei fynwes; ond eto, er hyn i gyd, yr oedd y cyfan rywfodd fel pe buasent yn uno i chwyddo nerth ei ddylanwad ar y bobl, "Amgyffred gyda'r holl saint, beth yw y lled, yr hyd," &c. Gofynai yma yn gyffröus, "Beth yw lled trefn yr iachawdwriaeth 0 y mae yn rhy anhawdd dywedyd: ond beth bynag ydyw, y mae hi yn rhy lydan i'r lleidr ar y groes syrthio drosti i uffern! Beth yw ei hyd ynte? Nid oes dim modd dywedyd; ond pa faint bynag ydyw, y mae hi yn rhy hir i Saul o Tarsus syrthio drosti i golledigaeth!" Ar hyn gwaeddai rhyw ddyn cryf, gwrol, gwledig, o ganol y dorf "O diolch byth! y mae hi yn ddigon o hyd i hen bechadur colledig fel fi felly!" Rhedodd teimladau y dyn hwnw fel tân gwyllt drwy yr holl dorf mewn moment. Aeth Mr. Elias yn mlaen; ond yr oedd ei deimladau ef ei hun yn mron a thori dros yr ymylon weithiau. Gofynodd, "Beth yw dyfnder trefn gras yr efengyl? Y mae yn rhy anhawdd treiddio i wybod; ond pa faint bynag ydyw, y mae ei sylfaeni yn rhy ddyfnion i ddim dafn o ddamnedigaeth gyffwrdd byth & Manasseh waedlyd, wedi unwaith gredu yn Nghrist, er iddo fod wedi bod yn llenwi heolydd Ierusalem â gwaed y saint! Beth yw uchder trefn gras? Ni ellir dywedyd; ond y mae ei thŵr yn rhy uchel i un o'r cythreuliaid a wasgwyd o Mair Magdalen ddringo dros ei nen i fyned yno i'w lithio hi i drueni byth!" Erbyn hyn, nid oedd modd clywed yr un gair, gan floeddiadau a griddfanau y dorf. Bernir nad oedd y fath beth a gruddiau sychion ar y maes; ac erbyn hyn, yr oedd y pregethwyr a'r gweinidogion oedd yn yr areithfa wedi myned i wylo fel plant o'i amgylch! Yr oedd golygfa ryfedd ar y lle drwyddo draw!

Ar un cyfnod neu ddau o'r bregeth, dringodd ar aden dychymyg, o'r braidd yn rhy uchel i gyrhaeddiadau y dorf i'w ddilyn yn enwedig, pan, yn ngwres ei hyawdledd, y chwareuai ar rai o ffugrau aruchel y testyn, ac y rhedai dros rai darluniadau o anfeidrol fawredd cariad Duw, a threfn yr iachawdwriaeth, ac y gwaeddai â llef uchel"Cyfuwch a'r nefoedd yw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? mae ei mesur yn hwy na'r ddaiar, ac yn lletach na'r môr; beth a all creadur meidrol ei gynnwys? Mae ei lled yn cyrhaedd at bob gradd ac oed, ac at bob sefyllfa a chyflwr o ddynolryw. Y mae ei hyd yn cyrhaedd fel cadwen euraidd, o dragwyddol fwriad Duw hyd at dragwyddol ogoneddiad y saint yn y nef; y mae ei dyfnder yn cyrhaedd at isder eithaf codwm Eden; ac y mae ei huchder yn cyrhaedd hyd at orsedd y Mawredd yn y goruwch leoedd! Meddyliwch am ei gariad o ewyllys da at ei greaduriaid, neu ei gariad o hyfrydwch yn ei bobl, y mae pob mesuriad dynol wedi colli am byth! O ryfedd ras ein Duw!"

Pan y daeth at y darluniad am y saint yn amgyffred yr hyn sydd uwch law gwybodaeth, yr oedd yn wir effeithiol. Wrth ddarlunio gwerth gwybodaeth brofiadol, "gofynai—Pa fodd y gall pobl gyffredin fel sydd yma gynnwys y wybodaeth uchel hon?" Ac atebai, â gwên serchus ar ei rudd, "Y mae genych chwi yr eneiniad oddi wrth y sanctaidd hwnw, a chwi a wyddoch bob peth!' Dyna yr unig wybodaeth oedd yn destyn ymffrost yr apostol: yr oedd yn cyfrif pob peth yn golled er mwyn ardderchogrwydd gwybodaeth Crist Iesu ei Arglwydd! Gallai dyn ddeall llawer o wybodaethau ereill, ac eto heb fod yn ddim gwell na hurtyn yn y wybodaeth hon! Dyma yr unig wybodaeth a wna ddyn yn ddoeth i iachawdwriaeth! Dyma yr unig wybodaeth all lenwi holl alluoedd a dymuniadau enaid dyn!'

Erbyn hyn, yr oedd y bregeth wedi cyrhaedd uchder nerth ei dylanwad ar y bobl. Yr oedd fel pe buasai wedi llwyddo i gael y dorf i olwg y cyflwr; ac o hyn allan, ei amcan oedd ennill pawb i ddefnyddio y waredigaeth. Darluniai fawredd cariad Duw, yn ei barodrwydd i dderbyn pechadur edifeiriol, mewn ymadroddion oedd yn ddigon nerthol i hollti y graig, a thoddi y graig gallestr yn llyn dwfr. Mewn llais tyner, hanner toredig, ac megys yn ymyl wylo, darluniai duedd rasol calon Duw, addasrwydd trefn yr iachawdwriaeth at gyflwr pechadur, llwybr gogoneddus gweinyddiad trugaredd a gras i'r annheilwng trwy angeu y groes, seiliau cedyrn gobaith derbyniad i'r edifeiriol, nes yr oedd yr holl dorf drwyddi fel pe buasai yn plygu dan bwys y dylanwad. Cyfeiriodd yma at ei brofiad ei hun, a theimlai pawb ei fod yn llefaru yr hyn a wyddai, ac yn tystiolaethu yr hyn a brofai. Trosglwyddai ei brofiad ei hun i fynwesau pawb ereill. Yr oedd teimladau y dorf, erbyn hyn, fel y cwyr dan wres yr haul, yn derbyn argraffiadau ei genadwri. Yr oedd yn llefaru mor dreiddgar, fel nad oedd modd peidio ei glywed; mor oleu, fel nad oedd modd peidio ei ddeall; ac mor danllyd, fel nad oedd modd peidio ei deimlo! Wedi agor yr archollion yn ddigon dwfn, ymddangosai megys wrth ei fodd, fel meddyg medrus, yn tywallt olew i'r briwiau, ac yn rhwymo y doluriau wedi arwain y clwyfedigion at yr Hwn a ddichon yn gwbl iáchäu!

Yn nghanol y teimladau hynod hyn, troes y pregethwr megys i adlewyrchu ychydig ar ei sylwadau blaenorol; ac wrth ryfeddu mawredd y cariad, sydd uwch law gwybodaeth, yn anfeidroldeb ei eangder a'i rinwedd yn achub yr enaid, yn tawelu y gydwybod, ac yn puro y galon, adroddodd yr hen bennill canlynol, gyda'r fath effeithioldeb, na byddai ond cwbl ofer ceisio ei ddarlunio:

"O gariad! O gariad! anfeidrol ei faint,
Fod llwch mor annheilwng yn cael y fath fraint;
Cael heddwch cydwybod a'i chlirio trwy'r gwaed,
A chorff y farwolaeth, sef llygredd, dan draed."

Yr oedd ei dynerwch a'i daerineb, yn annog pob pechadur i ddyfod at Grist, yn cyrhaedd i'r byw at bob calon; yr oedd yn agor drws gobaith ger bron y gwaethaf a'r annheilyngaf, trwy ddarpariadau cariad Duw yn anfoniad ei Fab i'r byd, yn effeithiol iawn. Adroddodd y gwahoddiadau ysgrythyrol i bechaduriaid gyda nerth anarferol, fel yr oedd yr adnodau mwyaf adnabyddus yn dyfod ar y teimlad gyda'r fath newydd—deb a phe buasent heb eu clywed erioed o'r blaen. Dangosai werth mwynhâd y wybodaeth brofiadol o gariad Crist, nes yr oedd yn ennill serch pob dyn yn llwyr:—"O wybodaeth ogoneddus! Ni welodd llygad, ni chlywodd clust, ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef: rhyfeddodau rhy ddyfnion i archangelion eu plymio byth, ac eto gwybodaeth gymhwys i alluoedd y gwanaf ei ddeall sydd yma heddyw! Gall dyn wybod y dirgelion oll, a phob gwybodaeth naturiaethol, ond eto bod heb wybod dim o'r hyn a'i gwna yn ddoeth i iachawdwriaeth. Pa les a wna pen fel lantern, os bydd y galon mor dywyll a'r fagddu? Dyma drefn sy'n dwyn y byraf ei gyrhaeddiadau yn ngolwg y byd hwn i wybod mwy na'i holl athrawon am bethau y byd a ddaw. Amgyffred gyda'r holl saint!' Y mae yr holl saint, pa mor fyred bynag y byddo eu dysgeidiaeth yn mhethau y byd hwn, yn cael eu dwyn i wybod yr hyn a'u cyflawna â chyflawnder Duw!" Rhyfedd oedd yr effeithiau ar y dorf erbyn hyn!

Cyn terfynu, troes y pregethwr ei appeliadau at y bobl yn weddïau drostynt. Yr oedd ei erfyniau dros y rhai oedd yn ymyl plygu i Grist, ac heb benderfynu, gyda thaerineb mawr yr oedd o'r bron yn ddigon i doddi teimladau y caletaf a'r mwyaf anystyriol yn y lle. Yr oedd ei wynebpryd megys yn dysgleirio. Yr oedd ei enaid fel yn ymgodi i fynydd y gweddnewidiad, i gydweddïo â Phedr ac Iago ac Ioan, yn nghymdeithas y Gwaredwr mawr ei hun. Yr oedd gras y weinidogaeth wedi ei dywallt ar ei wefusau. Terfynodd yn nghanol gorfoledd y dorf, ac wedi bod yn offerynol yn llaw ei feistr i droi lluaws o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw. Uno droion hynotaf ei oes ydoedd y waith hon!

Yr oedd llawer yn dychwelyd o'r maes fel pe buasent heb wybod pa le i fyned, nac ar ba law i droi. Yr oeddynt o'r braidd wedi colli llwybr eu traed. Y mae yn nodedig i'w goffa, fod teimladau yr holl wrandawyr wedi cael eu cymmeryd i fyny mor lwyr dan y bregeth ryfedd hon, fel na cheid dim mewn ymddyddan, ar y dydd, ond y bregeth—" y cariad," "yr achub," &c. Barnai amryw, ar y pryd, na fuasai waeth terfynu y cyfarfod ar hyny, a gollwng y bobl adref yn y fan. Nid oedd modd cael gafael effeithiol ar ddim wedi hyny. Sylwyd fod pregethau rhagorol yn cael eu traddodi am ddau a chwech o'r gloch, ond nad oedd modd cael gafael ar ddim rywfodd; o blegid "lled, a hyd, ac uchder, a dyfnder," oedd yn nghlustiau a chalonau y bobl o hyd! Sylwyd fod y bregeth am ddau yn daranllyd iawn, ond nid oedd yno ddin meilt; a bod y bregeth am chwech yn dyner iawn, fel y gwlith, ond nid oedd yn ireiddio dim ar neb; yr oedd yn sychu i fyny yn union. Nid oedd dim modd cael meddyliau y bobl at ddim ond at y bregeth yn y bore! Bernir fod y tro hwn wedi bod yn achubiaeth i luaws o eneidiau, ac yn adnewyddiad i lawer o eglwysi—nid yn unig yn y lle a'r gymmydogaeth, ond hefyd drwy yr holl wlad!

Wrth adgoffa y nerthoedd rhyfeddol hyn, pwy na waeddai gyda y prophwyd, "Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr Arglwydd! deffro fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a doraist Rahab, ac a archollaist y ddraig Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i'r gwaredigion i fyned drwodd?"

PENNOD VI.

JOHN ELIAS YN DECHREU OEDFA, AR AGORIAD ADDOLDY.

Er mwyn cael adnabyddiaeth gyflawn o gymmeriad a galluoedd unrhyw ddyn, y mae yn ofynol cael golygiad arno dan amrywiol amgylchiadau, ac yn mhob agweddiad, ac o bob ochr. Y mae y darlunydd, yn gyffredin, pan y byddo yn tynu ei fraslun at bortread, yn tremio ar ei wrthddrych o bob sefyllfa—o'r ochr, ac o'r lled-ochr, yn gystal a chyferbyn a'r wyneb; myn adnabod y profile, y three-quarter, a'r enfront, cyn yr ystyria ei hun yn barod at ei waith. Nid ellir cyflwyno ardeb cywir o Elias, heb syllu arno o wahanol fanau, a than amrywiol amgylchiadau. Yr ydym wedi tremio arno o rai manau neillduol yn barod. Ni a'i gwelsom yn pregethu ac yn areithio yn gyhoeddus; yr ydym wedi ei ddilyn hyd yr allor deuluaidd, a manau ereill; ond er mwyn cael portread teg o hono, dichon y byddai yn briodol i ni eto gael ei weled a'i glywed yn myned trwy ranau arweiniol addoliad cyhoeddus; ac efallai y byddai yn burion i ni gael golwg arno yn gweinyddu yr ordinhadau, os nid ei weled hefyd yn llywyddu yn mysg ei frodyr, ac yn ei fyfyrgell yn parotoi at ei lafur cyhoeddus. Wrth gymmeryd golygiad cyffredinol felly arno, hyderwn y cawn fantais i ganfod y llinellau arbenig hyny ynddo oedd yn ei wahaniaethu oddi wrth bawb ereill.

Y mae addoldy eang, ardderchog, newydd gael ei adeiladu, ac y mae yn un o'r capelydd gwychaf yn Ngogledd Cymru. Y mae cyfarfod pur gyhoeddus i fod ar ei agoriad. Y mae yr amgylchiad yn creu cryn sylw yn y wlad, a chyffro mawr yn y gymmydogaeth: dyna brif destyn siarad yr ardaloedd o amgylch. Y mae cynnulleidfa fawr wedi ymgasglu ar yr achlysur. Y mae trefn y cyfarfod wedi ei hysbysu; ac fel amgylchiad pur hynod, y mae yna un rhagdrefniad go anghyffredin. Beth, atolwg, yw hyny? "Y mae JOHN i ddechreu yr oedfa heno!" Y mae yr awr i ddechreu y cyfarfod ar gael ei tharo—y mae y bobl yn prysuro i'r capel, ac y mae y lle yn llawn eisoes. Dacw Mr. Elias wrth odre y grisiau y mae yn dringo—y camrau yn araf, pwyllog, ac yn weddus. Y mae yn sefyll ar hanner y grisiau am hanner mynyd, ac â gwedd ddifrifol iawn, yn edrych dros yr adeilad newydd, fel pe byddai heb ei weled erioed o'r blaen. Y mae yn myned rhagddo; ac wedi plygu ei ben ar ei law, a'i gefn at y bobl, y mae yn eistedd am un mynyd yn yr areithfa, ac yna yn codi at y ddesc. Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu―

"Gosod babell yn ngwlad Goson
Tyred, Arglwydd, yno dy hun
Gostwng o'r uchelder goleu,
Gwna dy drigfan gyda dyn:
Trig yn Sion, aros yno,
Lle mae'r llwythau 'n dod yn nghyd;
Byth na 'mâd oddi wrth dy bobl,
Nes yn ulw 'r elo 'r byd."

Tra y mae y canu yn myned yn mlaen, y mae fel pe byddai ei wedd yn dadguddio fod ei fynwes yn orlawn o feddyliau. Y mae y mawl drosodd. Y mae yn darllen rhan o 1 Bren. viii; a rhan o'r ail Salm wedi y ganfed. Y mae y darlleniad yn hynod o naturiol a tharawiadol. Y mae yn plygu i weddïo. Y mae rhyw ddwysder parchus yn ei gyfarchiad i'r orsedd—"Dduw anfeidrol!" &c. Y mae megys yn diosg ei esgidiau oddi am ei draed; canys y mae yn ymwybodol fod y lle y saif arno yn ddaiar sanctaidd. "Nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Y mae ei erfyniau am gael ei arwain mewn gweddi gan yr Ysbryd, yn daer a gafaelgar iawn. Er fod ei lygaid yn nghauad, y mae yn codi ei ben, fel pe byddai yn edrych ar i fyny weithiau. Y mae yn gofyn yn ostyngedig am ganiatâd i ymddyddan wyneb yn wyneb â'r "Hwn sydd yn trigo yn y goleuni, nad ellir dyfod ato." Y mae yn tywallt ei holl galon mewn erfyniau, ymbiliau, deisyfiadau, a thalu diolch dros bob dyn, ger bron yr orsedd. Y mae ei ddyhewyd yn cryfhau. Y mae fel pe byddai yn cael benthyg llygaid angel, ac yn canfod yr orsedd wen fawr o draw yn mhell yn entrych y nen, a'r Hwn sydd yn eistedd arni, mewn urddas, a mawredd, a gogoniant, nes y mae rhyw wylder dymunol i'w weled yn cuddio ei wyneb, ac yn llanw ei galon. Y mae yn ymddyrchafu yn ei dduwiolfrydedd eto, ac y mae rhyw arucheledd anrhydeddus yn ei ymadroddion grasol. Y mae fel pe byddai yn cael benthyg aden cerub eto, ac yn ymgodi yn raddol oddi ar y ddaiar, ac yn myned yn uwch, uwch, hyd at ymyl teyrngadair y nef, i wyddfod y Duwdod mawr! Y mae yn arswydo! Y mae yn ymwroli eilwaith. Y mae wedi cael golwg ar y Cyfryngwr ar ddeheulaw y Tad. Y mae nid yn unig yn esgyn ei hunan, ond y mae yn dechreu ein codi ninnau hefyd gydag ef. Y mae wedi ennill yr holl dorf i'w deimladau ei hun. Y mae dystawrwydd y bedd dros yr holl addoldy eang. Y mae yr holl gynnulleidfa, yn hen ac yn ieuanc, yn broffeswyr a dibroffes, â'u mynwesau yn orlawn o bryder dwys, megys yn mhresennoldeb y Brenin. Y maent fel pe byddai arnynt ofn gollwng eu hanadl. Clywid trwst pin, pe buasai le iddi ddisgyn ar y llawr. Y mae golwg y dorf fel pe byddai yn myned yn fwy treiddgar o hyd fel y mae ef yn myned yn mlaen yn ei weddi afaelgar. Y mae y lleni yn cael eu symmud, ac y mae y nef, o'r diwedd, fel pe byddai yn ymagor o flaen meddwl y bobl y mae y ddaiar wedi colli dan eu gwadnau—y mae y byd a'i bethau wedi eu llwyr anghofio—y mae fel pe byddai cwmwl gogoniant yn cuddio marwoldeb allan o'r golwg, ac y mae y bobl fel pe byddent yn nheimlad yr ysbrydion dignawd. Y mae pob meddwl wedi ei gaethiwo i syniadau y weddi. Nid oes yma ond un galon drwy y lle i gyd! Y mae pawb yn edrych yn ddyfal tuag i fyny, fel pe byddent yn tybied eu bod yn cael eu codi, yn yr Ysbryd, i fynydd mawr ac uchel, ac yn cael golwg ar y ddinas nefol—y Ierusalem sanctaidd—yn disgyn oddi wrth Dduw—a'i goleuni hi ydyw yr Oen, a'r Arglwydd Dduw Hollalluog yn deml iddi! Y maent o'r braidd yn dychymygu clywed yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc yn dywedyd, "Dring i fyny yma. Wele, yr ydwyf fi yn gwneuthur pob peth yn newydd." Y mae pawb wedi eu taro â syndod, ac â difrifoldeb, na theimlasant mo hono erioed o'r blaen. Y maent fel pe baent yn anadlu mewn awyr burach nag a brofasant erioed. Y mae yn rhaid fod rhyw farworyn oddi ar yr allor wedi cyffwrdd â phob calon, ac y maent fel pe byddent yn gweled ac yn teimlo eu dymuniadau yn ymuno yn weddïau, ac yn dyrchafu i fyny gyda mwg yr arogldarth lawer! Y mae yn anhawdd iawn rhoddi cyfrif am deimladau fel hyn! Cof yw genym fod yn y Colosseum yn Llundain unwaith, gyda nifer o gyfeillion, mewn ystafell yno; ac yn fuan wedi eistedd, wele yr ystafell i gyd yn dechreu ymgodi, o'r bron yn ddiarwybod i ni; a'r byrddau, y cadeiriau, y dodrefn, a'r cyfan, yn cydesgyn yn esmwyth, megys ar adenydd yr awel dyner, nes yr oeddym yn gwbl ddifeddwl i ni ein hunain yn uchder y nen; a'r ddinas fawr i'w gweled isod, draw, yn ddofn, bell, o danom! Yr oedd rhywbeth tra thebyg i hyny y tro hwn. Yr oedd y gynnulleidfa oll wedi ei chodi yn ei dychymyg, yn ddiarwybod iddi ei hun, yn awyren y weddi, nes yr ydoedd wrth borth ardderchog dinas y Duw byw y Gaersalem nefol; ac wedi dyfod i blith myrddiwn o angelion, y rhai oedd yn gweini yn ol ac yn mlaen, fel ar hyd ysgol Iacob; ac i ganol "cymmanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig, ac ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd; ac o'r braidd yn meddwl eu bod yn cael uno eu caniadau â llu y nef, ac yn gwaeddi allan, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog," &c. Clywsom lawer gwaith son am nefoedd ar y ddaiar:—os nad hyn ydyw, ni wyddom beth a all fod.

Wedi bod yn ymddyrchafu felly, megys ar adenydd ysbrydoliaeth, am gryn amser, a'r gynnulleidfa yn cydymsymmud â'i wefus a'i deimlad, disgynodd yn fuan yn ei gyfeiriad yn fwy uniongyrchol at yr addoldy newydd ac achlysur y cyfarfod. Yr oedd ei erfyniau yn rymus iawn ar iddo fod yn gwbl gyssegredig at ogoniant Duw, dyrchafiad y Gwaredwr, ac achubiaeth eneidiau dynion::—na byddai i'r areithfa hwnw byth gael ei llychwino â dysgeidiaeth doethineb y byd hwn; na byddai i athrawiaeth balchder calon dyn, na gwenwyn philosophi a gwag dwyll, syniad y cnawd, gael byth ddringo i'r lle cyssegredig hwnw; na byddai i athrawon dysgeidiaeth llywodraeth wladol, nad arswydant gablu urddas, byth ddringo y grisiau adamant hyny. "Gwell fyddai genym i'r lle hwn gael ei droi fel hen allor Athen, ac ysgrifenu ar ei furiau, I'r Duw nid adwaenir, nag i'r lle hwn gael ei halogi âg athrawiaeth rhesymoliaeth dyn, sydd yn dywedyd yn haerllug yn erbyn y gwirionedd, ac yn twyllo dynion am gadwedigaeth eu heneidiau." Erbyn hyn, yr oedd yr arddwysedd cyntaf wedi colli i raddau, a'r teimladau cynhes, dystaw, cyssegredig, a deimlid o'r blaen, wedi dechreu oeri; ac yr oedd dorf o ran ei serchiadau yn teimlo ei hun megys wedi disgyn cryn raddau i lawr tuag at y ddaiar yn ol!

Yr oedd ei erfyniau ar fod yr areithfa hwnw yn dyst ffyddlawn dros burdeb yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb yn effeithiol dros ben. Arwyddai, os collid golwg ar athrawiaeth cadwedigaeth pechadur trwy ffydd yn nghyfiawnder Crist yn unig, heb ddim o weithredoedd y ddeddf, y byddai y gogoniant wedi ymadael; na byddai harddwch yr adeilad ond cofgolofn i'r oes a ddel o ddirywiad crefydd, ac ymadawiad oddi wrth symledd yr efengyl; a throad oddi wrth egwyddorion y Diwygiad at gyfeiliornad yr oesoedd tywyll yn ol, ac y byddai yn well cerfio Ichabod ar y maen clo! "Os efengyla neb amgen na'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb yn yr areithfa hwn, bydded anathema maranatha. Pe byddai i ni, neu angel o'r nef, efengylu yn y lle hwn amgen na'r gwirionedd megys y mae yn yr Iesu, bydded esgymunedig byth!" Yr oedd rhyw fath o arswyd a dychryn i'w weled yn wyneb y dorf ar hyn o bryd!

Wedi hyn, newidiodd yn hollol yn ei deimlad, ac ymollyngodd i dynerwch effeithiol a thoddedig iawn, nes yr oedd mynwesau pawb yn adgynhesu drachefn; ac yr oedd y teimladau erbyn hyn, yn dechreu tori allan mewn dagrau, ac ocheneidiau dwysion iawn. Yr oedd ei erfyniau ar fod i Ysbryd Duw gael ei dywallt ar y lle yn wir effeithiol. Erfyniai ar fod yr Ysbryd yn fywyd pob rhan o bob addoliad a fyddai yno byth! "Na fydded i un geneu ddywedyd yr Arglwydd Iesu, yn yr areithfa hwn, eithr trwy yr Ysbryd Glân. Na fydded yma byth bregethu, er mwyn difyru y glust, a boddhau cywreinrwydd calon lygredig dyn, ond pregethu felly, fel y credo lluaws mawr. Na fydded i neb agor ei wefus yma i weddïo, ond yn nghymhorth yr Ysbryd Glân: a dyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter na dadl. Symmuder oddi yma drwst y caniadau, ac na wrandawer yma ar beroriaeth nablau, oni byddo y canu â'r Ysbryd. Na chyflawner yma un gwasanaeth ond a fyddo wedi ei roddi gan yr Ysbryd, a'i eneinio gan yr Ysbryd, ac a fyddo yn cael ei arddel gan Ysbryd y Duw byw!" Yma, tröai mewn tymmer pur ddrylliog i ddiolch am fod pob arwyddion nad oedd y gogoniant wedi ymadael, ond fod "Duw yn wir ynom." Erfyniai ar i'r deyrnas oll gymmeryd addysg rhag i'r Ysbryd ymadael o honi. Terfynai mewn cyfeiriad at amryw o'r cewri yn y weinidogaeth oedd wedi eu symmud oddi ar y maes yn ddiweddar, ac adroddai eiriau Iosuah drosodd eilwaith a thrachefn, gyda llais toddedig iawn, "O haul! aros," &c., a hyny gydag effeithioldeb a difrifoldeb mawr iawn! Yr oedd y gynnulleidfa yn y fan hon eilwaith fel pe buasai wedi ei tharo â syndod cyffröus, a bu raid dechreu y canu, cyn y gallai ymgodi yn gwbl er dyfod allan o'r perlewyg ag yr oedd ynddo ar derfyn y weddi ryfedd hon!

Ni allwn ollwng yr adgofion hyn heibio heb gynnyg nodiad neu ddau arnynt. Yr oedd y weddi hon, o ran ei chynnwysiad, ei chyfansoddiad, a'i chyssondeb, mor drefnus a rheolaidd, a phe buasai yn ffurf o weddi ysgrifenedig; a buasai yn ymddangos yn bur debyg i gynllun bwriadol felly, ar gyfer y gwasanaeth arbenig hwn, ond fel yr oedd hysbysrwydd am yr amgylchiadau yn profi peth arall. Yr oedd y pregethau, drwy y cyfarfod, at eu gilydd yn rymus iawn. Yr oedd ei bregeth ef ei hun, am ddeg o'r gloch, y bore dranoeth, oddi wrth y geiriau, "Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd," yn nerthol dros ben; ond er hyn oll, nid oedd dim yn ystod y cyfarfod drwyddo wedi cario y fath ddylanwad, na gosod y fath argraff ar feddyliau y bobl, a'r weddi y noswaith gyntaf. Yr oedd yn gofyn cryn wroldeb yn y gweinidogion oedd i bregethu y noswaith hono, i ymaflyd yn eu gorchwyl, wedi y symmudiad hedegog uchel hwn, a da iawn mai cewri oeddynt—a daethant drwy eu gwasanaeth yn llawn cystal ag y gallesid dysgwyl. Pregethodd y cyntaf oddi wrth Salm xcv. 10, 11; a'r ail oddi wrth Salm cii. 16. Yr oedd yn eglur fod pregeth Elias wedi ei llunio ar gyfer yr amgylchiad, ond yr oedd wedi tywallt holl hanfod egwyddorion ei bregeth yn ei weddi y noswaith cynt, ac o blegid hyny yn ddiau wedi ei gwanhau i raddau mawr. Y mae hyny yn dangos yn ddigon eglur fod amcan ei bregeth yn gwreichioni yn fyw yu ei fynwes mor effeithiol ar y pryd fel yr oedd megys tân yn ennyn ac yn tori allan cyn yr amser. Ymddangosai hyn i lawer oedd yno ar y pryd fel y rheswm am orlawnder y meddyliau dwysion oedd yn y weddi. Peth arall sydd yn profi yn amlwg mai nid ffurf ydoedd, yn y meddwl, mwy aag mewn ysgrifen, oedd yr effeithioldeb digyffelyb oedd wedi ei gario ar feddyliau y bobl. Yr oedd yno ryw ysbrydiaeth a fuasai yn tori allan o gylch pob rheol fwriadol; yr oedd yno ryw gynhyrfiad a fuasai yn rhwygo rhwymyn pob ffurf yn dipiau. Ni allasai defod farw gynneu y fath farwor byw. Teimlad cyffröus ei feddwl ef ei hun ydoedd, wedi dyfod i gyffwrdd â theimladau meddyliau y dorf. Nid oedd dim llai na'r dylanwad hwnw a fuasai yn cymmeryd i fyny holl syniad cynnulleidfa mor luosog ar unwaith, mor llwyr iddo ei hun. Yr oedd yr arddwysedd anarferol oedd ynddo ef wedi ei gyflwyno i'r gwrandawyr, nes eu hysbrydoli yr un modd. Fel y daethai ei deimladau ef, tua'r canol, yn fwy claiar, yr oedd teimladau y bobl yn cyd-ddisgyn, a hyny mor gysson a thymmeredd yr hinfesurydd.

Dengys yr hanes hwn yn amlwg iawn fod gwrthddrych ein HADGOFION, nid yn unig yn bregethwr ac areithiwr uchel, ond hefyd yn Gristion gostyngedig a phrofiadol. Yr oedd y weddi yn debyg i'r hyn a ddywedir am yr offeiriaid a'r Lefiaid hyny a gyfodasant i fendithio y bobl gynt— Gwrandawyd ar eu llef hwynt, a'u gweddi hwynt a aeth i fyny i breswylfod sanctaidd Duw, i'r nefoedd!"

PENNOD VII.

JOHN ELIAS YN BEDYDDIO.

Yr oedd rhyw brydferthwch neillduol yn holl gyflawniadau gweinidogaethol Mr. Elias, gan nad yn mha orchwyl yr ymaflai. Yr oedd yn deilwng o hono ei hun, ac o'i swydd, yn mhob rhan o'r gwaith. Yr oedd yn hynod yn ei sylwadau, ac yn ei ymddygiad, bob amser, wrth weinyddu yr ordinhadau, sef Bedydd a Swper yr Arglwydd. Yr oedd ei syniadau cryfion, ei deimladau difrifol, ei weddïau taer, yn nghyd â'i ddull gwylaidd yn cyflawnu y cyfan, yn sicr o ennill sylw a gosod argraff ddwys ar feddyliau pawb. Byddai ef yn wastadol yn sicr o gadw golwg ar y cynghor apostolaidd, "Gwneler pob peth yn weddus ac mewn trefn;" fel na roddid achos tramgwydd mewn dim, ac na feiid ar y weinidogaeth.

Yr oedd adfywiad neillduol ar grefydd trwy holl wlad Môn ar un adeg arbenig. Yr oedd dynion, ac yn enwedig y genedlaeth ieuanc, wrth y degau a'r ugeiniau yn cael eu dychwelyd, ac yn ymuno â'r eglwysi. Ar dymmor mor lewyrchus ar grefydd, yr oedd yn naturiol dysgwyl y byddai i sylw y cyhoedd gael ei dynu at y cynnydd dirfawr oedd yn nifer proffeswyr yn mhob parth o'r wlad. Pa fodd bynag, fel y mae rhai dynion llawn o uchelgais yn mysg pob enwad o grefyddwyr, cyffroes hyn deimladau rhai athrawon, mewn eiddigedd mawr dros yr hyn a alwent "crefydd y commisiwn," fel y troisant allan yn genadon, tebyg i'r rhai hyny gynt, a bregethent, "Oni enwaedir chwi yn ol defod Moses, ni ellwch chwi fod yn gadwedig." Felly yr oedd y bobl hyn wedi ei wneyd yn bwnc, pa le bynag y cyfarfyddent â'r dychweledigion ieuainc, i ddywedyd wrthynt, "Oni throcher chwi, yn ol defod y Bedyddwyr, ni ellwch fod yn gadwedig!" "Nid ydych wedi ufuddhau; a chan hyny, ni ellwch fod yn ddysgyblion i Grist," &c. Ac felly, yr oeddynt wedi maglu a dyrysu llawer, ac wedi llwyr darfu rhai. Meddodd un o honynt y gwroldeb o fyned at Mr. Elias, i dŷ capel y Gorslwyd, o flaen y bregeth, gan feddwl gwneyd gorchest, a dwyn y byd i drefn ar unwaith; a dywedodd wrtho, ei fod ef yn dyfod ato o gydwybod, dros ei Dduw, i'w annog i fod yn onest at y bobl, a'u bedyddio drwy eu trochi, yn ol gair yr Arglwydd; o blegid heb hyny, na allent fod ar dir ysgrythyrol cadwedigaeth, o blegid eu bod heb ufuddhau i orchymyn pendant Crist! Yntau, yn bur ddigyffro, a ofynodd ddau neu dri o gwestiynau i'r hen gyfaill; ond ni welai ef y ffordd yn glir i'w hateb; ac yna troes i gondemnio, a bygwth, a phrophwydo yn enbyd. Gwelai Elias nad oedd parhau yr ymddyddan yn ddim amgen na churo yr awyr; ac o herwydd hyny, tynai sylw at rywbeth arall, mewn dull hynod o ddoeth, i roddi pen ar y ddadl; ac felly y cafodd efe ymwared y tro hwn. Ond er mor ddigyffro yr ymddangosai ar y pryd, deallid fod yr ymddygiad hwn wedi ei dynu ef allan yn benderfynol ar y pwnc; o blegid gwelai y priodoldeb o gadarnhau eneidiau y dysgyblion ieuainc. a'u cynghori i aros yn y ffydd.

Yr oedd un amgylchiad pur gyhoeddus i gymmeryd lle mewn tref gyfagos ar y Sabbath canlynol; sef bedyddio un oedd mewn oedran, a thri o blant bychain. Yr oedd yr hanes yn dra hysbys yn y gymmydogaeth, ac wedi creu cryn ddysgwyliad, a chynnulleidfa luosocach nag arferol wedi dyfod yn nghyd. Wedi i gyfaill ddechreu yr oedfa, dechreuodd Mr. Elias ar wasanaeth y bedydd. Ymddangosai yn hollol bwyllus a dedwydd pan y dechreuai ar y gwaith. Dywedai:—" Yr ydym yn bresennol yn myned i gyflwyno rhai trwy fedydd i'r Arglwydd. Y mae yr amgylchiad presennol yn un lled anghyffredin, sef cyflwyniad un mewn oed, gydag ereill, trwy fedydd i Grist. Y mae hyn yn ein gosod mewn sefyllfa debyg iawn i'r amgylchiadau yr oedd yr apostolion ynddynt yn more Cristionogaeth, pan yr oeddynt yn bedyddio teuluoedd cyfain, lle yr oedd y deiliaid o bob oedran. Yr ydym yn debyg iawn hefyd i'r sefyllfa y bydd ein cenadon yn fynych, y rhai sydd yn y gwledydd paganaidd, pan y byddant yn bedyddio y dychweledigion ac yn cyflwyno rhieni a phlant, rhai o bob oed, hen ac ieuanc, drwy yr or dinhâd o fedydd i'r Arglwydd."

Aeth rhagddo yn ei sylwadau, a dywedodd ei fod ef o'r farn y dylid gweinyddu yr ordinhâd hon gyda theimladau mor gyssegredig ag y gweinyddir yr ordinhâd arall, sef Swper yr Arglwydd; ac os na ellir ei gweinyddu mewn ysbryd addoliad, ac nid mewn ysbryd dadleugar, yn codi oddi ar sel bleidgar, mewn tymmer chwerw, bigog, gynhyrfus, a chollfarnol ar rai a fyddont yn gwahaniaethu oddi wrthym mewn barn ar y pwnc, nad ydoedd i'w gweinyddu mewn modd yn y byd. Os na ellir dyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter na dadl, uwch ben yr ordinhâd, ni all y gweinyddiad o honi fod o un anrhydedd i Dduw nac adeiladaeth i ninnau. A oes rhyw angenrheidrwydd anorfod am fod mewn rhyw dymmer mwy cyffrous gyda yr ordinhâd hon na'r swper sanctaidd? Trefn iachawdwriaeth a osodir allan yn y ddwy!—un yn gosod allan ddyoddefiadau Crist, a'r llall yn darlunio gweithrediadau sancteiddiol yr Ysbryd Glân. Ni buasai yn deilwng o ddoethineb y Duw anfeidrol osod dwy ordinhâd i ddangos gwaith un o'r Personau Dwyfol, ac heb un i ddangos y llall. Y mae pob un mor angenrheidiol a'u gilydd yn ein hiachawdwriaeth. Ni ddeuai y fendith sydd ar gyfer pechadur yn iawn y groes, ac yn ngwaed yṛ Oen a laddwyd, byth i afael â'i gyflwr heb weithrediadau yr Ysbryd sydd yn cymmeryd o eiddo y Cyfryngwr ac yn ei fynegu i feddwl y cyfryw. "Eithr, yr wyf yn atolwg i chwi frodyr," meddai yr apostol, "er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er mwyn cariad yr Ysbryd!" Yr oedd yn cyssylltu y cariad anfeidrol yn y ddau Berson yn un, y naill yn gyfartal a'r llall. Yr oedd ei sylwadau nerthol erbyn hyn yn dechreu gafael yn nheimladau y bobl i'r byw.

Dywedai: "Ar yr un pryd, efallai y dysgwylir, ar amgylchiad cyhoeddus fel hyn, i mi ddywedyd ychydig mewn ffordd o eglurhâd ac amddiffyniad i'n golygiadau ar yr ordinhâd gyssegredig hon. Yr ydym yn cael ein herlid gan rai am na ddywedem fwy am ein syniadau ar y pwnc; ond pan y traethwn ein barn yn lled gyflawn arno, dichon mai yr un rhai fydd yn ein beio am hyny drachefn yr un modd. Beiant ni, o blegid ein dystawrwydd, fel rhai heb allu amddiffyn ein golygiadau; a beiant ni, ar y llaw arall, pan y llefarom allan yn lled groew ar y pwnc, o fod yn erlid golygiadau gwahanol. Pa fodd bynag, er mwyn yr ymofyngar, a'r ammhëus sydd yn petruso, ac yn enwedig yr ieuenctyd anmhrofiadol, byddwn yn defnyddio ambell gyfle fel hyn i nodi allan yr ysgrythyrau sydd yn gosod y pwnc yn ei oleuni a'i ddyben priodol ei hun. Y mae rhai yn gwneyd gormod o'r ordinhâd, ac ereill yn gwneyd rhy fach o honi. Y mae rhai yn ceisio ei gwneyd yn bob peth, a'r lleill yn ceisio ei gwneyd yn ddim. Y mae Eglwys Rhufain, a rhai pleidiau ereill hefyd yn ei dilyn, yn ei gwneyd yn foddion cadwedigaeth yr enaid, ac felly yn ceisio gwneyd edifeirweh tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist yn ofer; ac y mae y Crynwyr o'r ochr arall drachefn yn rhedeg i'r eithafion cyferbyniol, ac yn ei diddymu yn hollol, gan ei goblygu i fyny gydag amryw fedyddiadau, seremonïau, a defodau cnawdol yr hen oruchwyliaeth. Yr ydym ninnau yn ymdrechu sefyll ar y canol, gan ei gosod yn y man y gosodwyd hi gan Grist ei hun."

Yn y fan hon, dechreuodd draethu yn rymus, goleu, ac argyhoeddiadol iawn ar y testyn drwyddo; dangosodd ef yn ei holl gyssylltiadau, yn drwyadl, heb ysgoi un anhawsder, gan gyfarfod pob gwrthddadl yn ei gwyneb. Ymdrechai i ochel rhag llusgo unrhyw ymadrodd allan o'i berthynas â'r cyd—destynau; a dywedai ei fod yn ymdrechu i olrhain yr Ysgrythyrau er mwyn cael gwybod meddwl yr Ysbryd, sydd yn chwilio, ïe, dyfnion bethau Duw; ac nid dirdynu y gwirionedd allan o'i ystyr naturiol ei hun, er mwyn cynnal i fyny osodiadau un dyn. Eglurai ddyben bedydd mewn byr eiriau:— "Y mae yr elfen a ddefnyddir yn arwydd gweledig o fendith ysbrydol. Dwfr glân, neu ddwfr pur, yn cael ei gymhwyso at y bedyddiedig, yn enw y Drindod, gan berson wedi ei alw gan Dduw, a'i neillduo gan ei eglwys, i'r swydd weinidogaethol, ydyw bedydd. Y mae yn arwyddo puredigaeth, golchiad, neu faddeuant pechodau. Y mae cymhwysiad o'r dwfr at yr un y gweinyddir arno yn arwyddo cymhwysiad o'r iachawdwriaeth sydd yn Nghrist at bechadur." Dechreuodd ei sylwadau beirniadol gyda y deiliaid. Eglurai amcan y gorchymyn i fedyddio, fel y mae wedi ei gofnodi gan yr efengylwyr— "Ewch i'r holl fyd." Yr oedd wedi anfon ei ddysgyblion trwy wlad Iudea o'r blaen, cyn ei farwolaeth; ond wedi ei adgyfodiad o'r bedd, ac iddo dderbyn pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaiar, anfonodd hwy i'r "holl fyd, i bregethu yr efengyl i bob creadur, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân." Cymmerodd fantais oddi wrth yr amgylchiad o fod un mewn oed yn cael ei fedyddio i ddwyn ger bron yr holl fedyddiadau teuluol a gofnodir yn y Testament Newydd, yn fanwl iawn. Traethodd yn eglur ar gyferbyniad bedydd yr oruchwyliaeth efengylaidd âg enwaediad yr Hen Destament; gan ddal y tebygoliaeth sydd rhwng y ddau ger bron, yn eu holl berthynasau —eu harwyddion a'u harwyddocâd, eu dybenion a'u heffeithioldeb gyda boddhâd anarferol i'r gwrandawyr. Dangosai fod yr Arglwydd wedi dewis amrywio ei ordinhadau dan wahanol amgylchiadau yn ei eglwys. "Yr oedd yr ordinhadau cyn dyfodiad y Gwaredwr, gan mwyaf, yn waedlyd; megys yr enwaediad, yr oen pasc, &c.: ond dan oruchwyliaeth yr efengyl, y mae yr arwyddion yn fwy dysyml ac esmwyth, ac felly yn gweddu yn fwy o ran priodoldeb i'r amcan mawr sydd mewn golwg ynddynt. Dyma fel y mae bedydd, yr hwn sydd i barhau yn yr eglwys hyd ddiwedd amser. Y mae yn syml, yn esmwyth, yn eglur, ac yn hawdd." Dywedai, "Ni roddodd yr Arglwydd unrhyw addewid i'w bobl, mewn unrhyw oes, heb gadarnhau y cyfryw gyda rhyw sel benodol. Rhoddodd addewid i Noah, a sefydlodd y bwa fel sel i'w chadarnhau. Rhoddodd addewid i Abraham, ac i'w hâd ar ei ol; a rhoddodd yr enwaediad fel sel o'i ffyddlondeb i'w chadarnhau: 'Ac efe a gymmerth arwydd yr enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd ac yn dad yr enwaediad; nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad." Felly, yn ngosodiad i fyny yr oruchwyliaeth newydd dan yr efengyl, trefnwyd bedydd yn arwydd yn insel o'i ffyddlondeb i gyflawnu ei addewid i'w bobl ac i'w plant. Gan fod y plant yn rhan o Israel Duw y pryd hwnw, pa fodd nad ydynt felly yn rhan o eglwys Dduw yn awr? Wedi cymmeryd y deyrnas oddi ar yr Iuddewon, am na ddygent ei ffrwythau—pan y torwyd y cangenau ymaith, ni symmudwyd y boncyff; a phan ddychweler hwy yn ol, eu himpio yn yr hen wreiddyn—yn eu holewydden eu hun—a wneir. Yr un yw yr eglwys, o ran ei dyben, yn awr a'r pryd hwnw. Gan fod y plant ynddi gynt, rhaid eu bod felly yn awr, oni ddarfu i Dduw ei hun eu tori ymaith. Atolwg, pwy a allai eu tori ymaith? Yn mha le y mae y bennod, pa le y mae yr adnod, lle y crybwyllir am eu diarddeliad? Pa le, mewn gorchymyn neu esampl, y mae yr awgrymiad lleiaf am y fath beth? Ni allwn ei ganfod. A hyd na ddangoser hyny i ni, ni allwn ryfygu eu hysbeilio o'u hawlfraint briodol yn yr eglwys yn awr, yn ol gosodiad Duw ei hun. Na, yn y gwrthwyneb yn hollol y mae; o blegid y mae yr apostolion, yn eu llythyrau, yn cyfeirio yn benodol at y plant oedd yn yr eglwys y pryd hwnw, pan oedd yn ei mabandod, megys morwyn bur i Grist." Cyfeiriodd yn rymus iawn hefyd at yr ymadroddion sydd yn dangos fod plant yn cael eu galw yn ddysgyblion gan Grist ei hun. Ystyriai ddadleu fod credinwyr yn ddeiliaid priodol o fedydd yn afreidiol, gan nad oedd neb yn ammheu nac yn gwadu hyny: ond y pwnc mewn dadl ydyw, A ydyw y plant i gael eu cau allan? Os ydynt, ar ba awdurdod? Soniai fel y mae yr apostol yn egluro fel y mae y wraig ddigred yn cael ei sancteiddio trwy y gŵr a fyddai yn credu, ac o ganlyniad, fod eu plant yn sanctaidd; ac felly, mewn hawl i'r breintiau mawr sydd yn yr efengyl.

Gwnaeth ei nodiadau yn dra manwl ar daenelliad, tywalltiad, &c., fel y dull priodol o weinyddu yr ordinhâd; a hyny gyda llawer o ddeheurwydd o ran ymresymiad a phrofion ysgrythyrol, gydag egluriadau ar ystyr y gair, a'i gyfatebiad i amryw fedyddiadau yr hen oruchwyliaeth, y rhai a weinyddid trwy daenelliad, fel moddion priodol glanhâd. "Taenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân," &c. Dangosodd ei fod yn berffaith gyfateb fel ffugri fedydd yr Ysbryd Glân, yn ol y darluniadau Ysgrythyrol: "Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele mi a dywalltaf fy Ysbryd i chwi;" "Hyd oni thywallter yr Ysbryd o'r uchelder;" "Tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd;""Tywalltaf fy Ysbryd ar dy hâd, a'm bendish ar dy hiliogaeth," &c. Felly y mae yn cyfateb i'r hanes Ysgrythyrol yn amser yr apostolion; megys yr ymadroddion, "Efe a dywalltodd y peth yma a welwch ac a glywch chwi;" "Yr Ysbryd Glân, yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth," &c.; "Syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bob un oedd yn clywed y gair;" "Taenellu ar y llyfr a'r bobl oll," &c.; ac yn gyfatebiad priodol fel arwydd o lanhâd a phuredigaeth. Y mae yr arwydd a'r arwyddocâd yn sefyll yn eglur ar gyfer eu gilydd—"Geni o ddwfr ac o'r Ysbryd;" "Sancteiddio a glanhau â'r olchfa ddwfr drwy y gair;" "golchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân;" "glanhau ein calonau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein cyrff â dwfr glân," &c. "Y mae y dwfr, y dwfr glân, &c., yn golygu yr arwydd; a'r adenedigaeth, yr adnewyddiad, &c., yn golygu yr hyn a arwyddoceir. Y mae y naill yn golygu y cysgod, a'r llall yn dangos y sylwedd." Dangosai ei addasrwydd yn ei gydweddiad â dull esmwyth gweinidogaeth yr efengyl yn ei holl osodiadau; yr hawsder naturiaethol diberygl mewn gweinyddiad yn mhob gwlad, yn mhob hinsawdd, ar bob tymmor, ac yn mhob adeg. Dangosai fod ychydig o ddwfr mor briodol fel arwydd yn y bedydd ag ydyw ychydig o fara ac ychydig o win yn y swper sanctaidd; a bod y wyneb yn arwyddo y dyn, fel y dywedai yr apostol, "Mi a'i gwrthwynebais ef yn ei wyneb;" yr hyn a arwyddocäai ei wyddfod neu ei bresennoldeb. Rhedodd dros y cofnodion Ysgrythyrol am yr holl deuluoedd a'r personau a fedyddiwyd, o fedydd Ioan drwy holl fedyddiadau yr apostolion. Gwnaeth nodiadau beirniadol tra manwl ar y testynau ag y gwrthddadleuir yn eu cylch; megys, "Claddwyd ni gan hyny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth;" "Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig;" "y myned i waered i'r dwfr;" "y dyfod i fyny o'r dwfr," &c., gydag eglurhâd tra boddhaol i bawb oedd yn gwrandaw; a therfynodd ei sylwadau ar natur yr ordinhâd gydag appeliad dwys a difrifol iawn at y dorf ar ei thuedd ymarferol, fel cymhelliad i fywyd duwiol.

Wedi gwneyd cyfeiriad effeithiol iawn at y darluniad yn yr ordinhâd o aflendid cyffredinol dynoliaeth, ac`at yr arwydd eglur sydd ynddi o'r ffynnon ogoneddus a agorwyd ar Galfaria i bechod ac aflendid, sylwodd ar rwymedigaeth y bedyddiedig i rodio mewn newydd—deb buchedd, ac i ymgyflwyno i Grist. Cyfeiriai at rieni oedd wedi cyflwyno eu plant trwy fedydd i'r Arglwydd, am fod yn ffyddlawn i'w rhwymedigaeth bwysig a difrifol, i'w maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymynodd Crist iddynt, a'u dwyn i fyny fel dysgyblion cywir iddo ef. Rhoddodd y gwersi mwyaf gafaelgar i'r dorf yn gyffredinol; ac annogai bawb i ystyried y ddyledswydd oedd arnynt i rodio a boddloni Duw, trwy gydsynio â threfn yr iachawdwriaeth, a thrwy wneyd arddeliad o'u cred yn athrawiaeth a gwaith y Drindod, i enw yr hwn yr oeddynt wedi eu bedyddio, mewn proffes ffyddlawn i glod ei ras. Dywedai mai pan y deuai eglwys Dduw i fagu eu plant yn deilwng o'r rhwymedigaeth sydd arni, y darfyddai y dadleu a'r ymdaeru yn nghylch y plisgyn, a hyny yn fynych ar draul colli y cnewyllyn; a hyderai y byddai pawb oedd yno wedi eu cadarnhau yn y gwirionedd presennol, ac na byddent byth yn blantos, yn bwhwman, ac yn cael eu harwain o amgylch gan bob awel dysgeidiaeth, ac y byddent yn barod bob amser i ateb i'r neb a ofyno iddynt reswm am y gobaith oedd ganddynt! Aeth trwy holl drafodaeth y cwestiwn, yn ei amrywiol gangenau, mewn modd ag oedd yn cyflwyno perffaith foddlonrwydd i bob mynwes oedd yn y lle. Yr oedd ei holl ymadroddion fel hoelion yn cael eu sicrhau yn meddyliau y bobl oll.

Yna, cyflawnwyd gorchwylion y bedyddiad. Dywedodd wrth yr un mewn oedran, "Cyfod, bedyddier di," ac felly y cwblhawyd y gwaith arno. Yna, dygwyd y plant yn mlaen. Pan y cymmerai y cyntaf i'w freichiau, ymddangosai megys wrth ei fodd, â gwen siriol a syml ar ei wynebpryd, fel pe buasai yn nghanol mwynhâd o hyfrydwch a budd yn y gorchwyl difrifol. Derbyniai hwy gydag anwyldeb serchus iawn; tynai ei law dros eu dillad, i'w dangos yn brydferth a thrwsiadus, a hyny yn llawn mor fedrus a thyner a mammaeth. Adroddai eiriau y Gwaredwr, "Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd." "Os eiddynt yw y deyrnas—os rhyngodd bodd i'w Tad nefol roddi iddynt y deyrnas—pwy ydym ni i'w cau allan, neu i attal iddynt un o freintiau y deyrnas?—y deyrnas nad yw o'r byd hwn! Wedi eu bedyddio, gweddïodd drostynt yn afaelgar ac effeithiol iawn yna, rhoddodd bennill allan i'w ganu, o waith yr enwog Jones o Ddinbych; ac unodd yr holl dorf yn y mawl gyda'r teimladau mwyaf cynhes:

"Nol d'orchymyn, Arglwydd Iesu,
Gynt bedyddiwyd llawer teulu,
Am dy fod, o'th rinwedd didranc,
Yn glanhau yr hen a'r ieuanc."

Yn y swydd o fedyddio, yr oedd cryn wahaniaeth, ar ryw gyfrif, rhwng Elias a Paul. Nid oedd apostol mawr y Cenedloedd wedi bedyddio rhyw luaws mawr, o leiaf yn Corinth; ond yr oedd apostol mawr y Cymry wedi bedyddio miloedd, ïe, yn Môn yn unig, heb son am ranau ereill o'r Dywysogaeth, a llawer o drefydd Lloegr. Odid y gellir myned i gwm yn yr ynys heddyw na cheir clywed rhywun yn dywedyd, "John Elias a'm bedyddiodd i!"

Bu effeithiau dymunol iawn mewn canlyniad i'r anerchiad uchod; cafodd y dysgyblion ieuainc lonydd, i raddau, oddi wrth yr ymosod gan yr athrawon ereill. Cawsant eu hyfforddi yn yr Ysgrythyrau, a'u cadarnhau yn y gwirionedd, gan rodio yn addas i'r alwedigaeth eu galwyd iddi; "a chan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, aethant rhagddynt at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol." A hyn a wnaethant, fel y caniataodd Duw.

PENNOD VIII.

JOHN ELIAS YN GWEINYDDU SWPER YR ARGLWYDD.

YR ydym y waith hon yn myned i weled a chlywed Mr. Elias wrth y bwrdd cymundeb yn gweinyddu Swper yr Arglwydd, ar ol y bregeth nos Sabbath. Y mae ef wedi pregethu, gydag effeithioldeb mawr, ar offeiriadaeth Crist, oddi wrth y testyn:—"O blegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw?" Manylodd lawer, yn ei ddarluniad o waith yr archoffeiriad dan yr hen oruchwyliaeth—yr hanesion a rydd y Rabbiniaid Iuddewig am yr anner goch berffeithgwbl—y defodau perthynol i lanhâd y gwahanglwyfus, &c., fel cysgodau o waith Archoffeiriad mawr ein cyffes ni; yn nghyd â'i anfeidrol ragoroldeb, o ran ei Berson, ar Aaron a Moses, ac o ran ei aberth ar yr aberthau cysgodol; yn nghyd â thra—rhagoroldeb yr oruchwyliaeth newydd ar yr hen, &c. Yr oedd y bregeth yn cario dylanwad effeithiol iawn ar yr holl dorf fawr oedd wedi ymgynnull yn yr hwyr ar ddydd yr Arglwydd, fel yr oedd pob peth yn cydgyfarfod i wneyd y gweinyddiad o'r ordinhâd yn hynod o effeithiol y pryd hwnw. Ciliai y gwrandawyr i'r oriel: ni allai neb fyned allan cyn gorphen gwasanaeth y cymundeb—yr oedd pawb megys wedi eu rhwymo i aros. Yr oedd y rhai oedd yn cyfranogi yn cael eu cyfleu ar ganol y llawr, rhwng y meinciau; ac yr oedd golwg ddymunol iawn ar y gynnulleidfa oll.

Yr oedd Elias yn bleidgar iawn dros i bawb dderbyn yr elfenau oddi ar eu gliniau: ni allai oddef bod eisteddleoedd ar ganol llawr yr addoldai; dewisai gael y llawr yn glir bob amser, er gosod meinciau, fel y gellid cael lle i'r cyfranogwyr yn rhesi rhyngddynt. Y dull arferol oedd i un o'r blaenoriaid ei ganlyn ef, gyda y bara a'r gwin, i gyflenwi fel y byddai efe yn myned yn mlaen.

Y mae pob peth yn barod at ddechreu y gwasanaeth. Y mae yr eglwys a'r edrychwyr yn y teimladau mwyaf dymunol, gan effeithiau y bregeth. Y mae y pregethwr hefyd yn ei fan goreu, ac yn ei hwyl oreu; fel y mae pob peth yn rhagarwyddo y ceir cyfarfod hynod iawn. Y mae pawb wedi cymmeryd eu lle. Y mae dystawrwydd y bedd dros yr holl addoldy. Diau y clywsid trwst deilen yn ysgwyd, pe buasai yno, gan y gosteg, gyda'r eithriad o ambell ochenaid led ddystaw oedd yn dianc o waelod calon weithiau. Y mae y bwrdd wedi ei barotoi. Y mae Elias yn eistedd wrth yr ochr, â phwys ei benelin ar yr ymyl, a’i ben ar ei law, ac ychydig o arwyddion lludded arno wedi ei bregeth egnïol. Y mae pob peth o amgylch y bwrdd yn blaen, yn ddysyml, a diaddurn iawn; ond eto y mae yna ryw fath o brydferthwch dymunol ar bob peth. Y mae yn wir nad oes yna mo'r brethyn crimson, wedi ei ymylu â'r gold gimp fringe, ac nid oes un I. H. S. mewn llythyrenau o aur pur, na llun y groes mewn gwaith edau a nodwydd ar y canol; ond beth er hyny, y mae yna lïan glân, cànaid, a hwnw mor wyned a'r eira, wedi ei daenu dros y bwrdd. Y mae yn wir nad oes yna mo'r flagon uchel, na'r chalice addurnedig; ond gadewch i hyny fod, y mae y poteli gwydr duon cyffredin sydd yna yn edrych yn bur deg ar y llian claerwyn acw. Diau nad oes yna mo'r meiliau caboledig i serenu llygad neb, eto y mae y cwpanau china bychain yna yn edrych yn lân ac yn ddengar iawn. Gwir yw, nad oes yna mo'r dysglau wedi eu gwisgo ag aur melyn, mwy na'r fasged arian dan y bara; ond eto, er hyn i gyd, y mae rhai cyffredin sydd yna i'w gweled yn lân ac yn ddymunol iawn. Os nad oes yna ganwyllau cŵyr dwy lath o hyd, a dwy fodfedd o drwch, y mae yna ganwyllau gwer glân, goleu, a siriol iawn yr olwg arnynt. Os nad oes yna yr un glustog o'r melfed pali ysgarlad i benlinio arni, y mae yna fat Niwbwrch bychan, newydd, glân, a etyb yr un dyben yn union. Os nad oes yna nemawr o wychder mewn dim, efallai fod yna aberthau Duw, sydd yn ganmil mwy o werth; sef calon ddrylliog ac ysbryd cystuddiedig, y rhai ni ddirmygir byth gan Frenin y nef! Er nad oes un cerfiad henafiaethol ar y ford na'r gadair, i swyno teimlad neb. eto y mae yna "ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd" i gyflawnu y gwasanaeth. Y mae yn codi ar ei draed. Fel y mae bobl yn gwyro, y mae efe yn ymddangos yn uwch na phawb, a braidd yn dalach nag arferol. Y mae yr olwg arno yn hynod o hoff. Y mae yma ryw beth yn dyrchafu pawb i ryw deimladau tra chyssegredig—yr edrychwyr yn gystal a'r cymunwyr—a hyny yn hollol ddiarwybod iddynt eu hunain! Y mae y gweinyddwr yn meddu boneddigeiddrwydd gwŷr y llys; medd dynerwch dillyn menyw; medd wroldeb cadfridog yr un pryd. Y mae rhywbeth ennillgar yn mhob ysgogiad a wna. Y mae yn sicr o'i nôd gyda phob peth bob amser. Wel! y mae yn dechreu ar ei orchwyl. Y mae yn galw sylw y dorf at y bwrdd, ac yn cyfeirio â'i fys at yr elfenau sydd arno. Y mae yn dywedyd:—" Yn awr, yr ydym yn myned i wneuthur coffadwriaeth o angeu Crist, mewn ufudd—dod i'w orchymyn, ac o barch i'w ddymuniad: 'Gwnewch hyn er coffa am danaf,' &c.! Hyderwn y cawn fod yma dan arwyddion o’i foddlonrwydd."

Pan yr oedd ar ddechreu ei anerchiad, safodd yn fud ystyriol am tua hanner mynyd, gan edrych yn dra difrifol ar y dorf i gyd, i fyny ac i lawr. Yr oedd â'i edrychiad ryw fodd yn gallu ennill teimladau y bobl i gyd—darawiad â'i deimladau ei hun. Yna aeth rhagddo—"Chwi a gedwch yr eich myfyrdod y sylwadau a draddodwyd genym yn barod, am y cyssegr, yr offeiriad, yr aberth, y gwaed, a'r gwasanaeth gynt, yn nghyd â'r hyn a osodid allan ynddynt, yn eu cyfeiriad at y sylwedd mawr ei hun. Yr oeddym yna yn ceisio dangos Crist i'r galon trwy y glust; yn awr, yr ydym yn amcanu ei bortreiadu i'ch meddwl trwy olwg y llygad. Dywed yr apostol fod Iesu Grist wedi cael ei bortreiadu o flaen llygaid y Galatiaid—wedi ei groeshoelio; bydd ein hamcan ninnau yn awr, i arwain eich meddwl chwithau i edrych trwy ffydd arno yn marw dros bechaduriaid ar Galfaria, drwy y portreiad a welwch o hono yn awr ar y bwrdd. Yr wyf fi er ys meityn dan yr argraff nad yw yr Arglwydd yn neppell oddi wrthym o ran arwyddion ei foddlonrwydd heno. A wnewch chwi uno mewn gweddi i gyd, am i'r lleni oll gael eu symmud ymaith, fel y gwelom ei ogoniant y tro hwn yn neillduol? Nid wyf yn meddwl am gael ei weled, fel y gwelodd y dysgyblion ef ar fynydd. y gweddnewidiad, â'i wyneb yn dysgleirio yn oleuach na'r haul ganol dydd, a'i wisg yn wynach na'r eira; ond ei weled yn ei ogoniant trwy ffydd—'gogoniant megys yr Uniganedig oddi wrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd'—nes ein codi i'r un teimladau a hwy pan y gwaeddasant allan, ‘Da yw i ni fod yma!'

"Nid oes ond y teimladau mwyaf cyssegredig yn gweddu i fod yn mhob mynwes wrth nesu at y bwrdd sanctaidd. Nid oes ond un teimlad i feddiannu calonau pawb yma. Un bara—un cwpan ydym. Ni oddef awyr y lle sanctaidd hwn i fynwes neb anadlu ynddo ond a fyddo mewn teimlad o berffaith gariad at Dduw a dyn. Y defnyddiau gweledig ydynt fara yn cael ei dori, a gwin yn cael ei dywallt, fel arwyddion o fendithion ysbrydol. Yr hyn a arwyddoceir yn y gwrthddrychau ydyw, drylliad corff Crist, a thywalltiad ei waed drosom. Y mae yr holl weithredoedd sacramentaidd hefyd yn llawn o addysgiadau i ni. Y mae ein gwaith yn bendithio yn dangos ein rhwymau i fendithio Duw am anfeidrol fawredd darpariadau ei ras yn nhrefn iachawdwriaeth; estyniad y bara yn dangos parodrwydd Duw i estyn trugaredd i bechadur edifeiriol; a'n gwaith yn derbyn y bara yn dangos ein bod yn cymmeradwyo trefn Duw, ac yn derbyn Crist yn ei holl haeddiant fel ein hunig obaith am ein bywyd byth!

"Y mae y cwbl i gael eu cyflawnu genym mewn coffadwriaeth parchus am dano. Yr ydym i gofio amser sefydliad yr ordinhad. Y mae pob peth perthynol iddi yn hynod iawn; felly yr amser—yr adeg y cafodd ei sefydlu, sef y nos y bradychwyd ef. O! y fath nos ryfedd ydoedd hono! 'Canys mi a dderbyniais gan yr Arglwydd,' medd yr apostol, 'yr hyn hefyd a draddodais i chwi; bod i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara,' &c. Yr oedd hyn yn uniongyrchol ar ol bwyta y Pasc. Prin yr oedd bwyta y Pasc drosodd, nad oedd bwyta Swper yr Arglwydd yn dechreu. Pa bryd y bu hyn? Y nos y bradychwyd ef. Yr oedd y naill megys yn cymmeryd lle y llall, fel y mae bedydd wedi cymmeryd lle yr enwaediad. Yr oedd y Gwaredwr wedi dewis y nos y bradychwyd ef i'w sefydlu, am ei fod y pryd hwnw fel yn noswylio oddi wrth ei lafur cyhoeddus. Yr oedd wedi dywedyd, 'Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd tra yr ydyw hi yn ddydd; y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.' Yr oedd ei nos ef wedi dyfod erbyn hyn. Yr oedd yr haul wedi machludo am y tro diweddaf ar ei ben glân; o blegid ar y dydd canlynol, yr oedd i gael ei draddodi yn gyhoeddus i ddwylaw ei elynion i'w groeshoelio a'i ladd. Nos ei ddyoddefiadau mawr oedd hon. Oes o ddyoddefiadau oedd ei fywyd, ond erbyn hyn yr oedd holl ffrydiau dyoddefiadau ei dymmor ar y ddaiar wedi cydgyfarfod yn ddyfroedd uchel hyd yr ên! Yr oedd rhywbeth yn rhyfedd iawn yn nywediad Pilat am dano, 'Wele y dyn!' Ond ni welodd efe, druan, ddim ond y dyn ynddo. Dyma alwad i ninnau heno i edrych arno megys yn weledig ar y bwrdd, 'Wele y dyn,' yma! Wele Immanuel, Duw gyda ni! Yr oedd Crist drwy ei fywyd yn 'ŵr gofidus a chynnefin â dolur.' Yr oedd tristwch ei gyfeillion—gwendid ei ddysgyblion caledwch ei elynion—ac erlidigaeth yr Iuddewon wedi gwasgu llawer ochenaid o'i fynwes o bryd i bryd; yr oedd dagrau cydymdeimlad wedi rhedeg dros ei ruddiau glân uwch ben bedd Lazarus, ac uwch ben dinas Jerusalem, ond erbyn hyn yr oedd y ffrydiau oll fel wedi cyfarfod yn nghyd, megys afon nerthol, o bob man, ac o bob byd; yr oedd ei nos ddu wedi dyfod. Yr oedd uffern yn cynhyrfu o danodd; yr oedd daiar fel pe buasai wedi penderfynu ei wrthod; ac yr oedd y nef yn dechreu duo uwch ei ben! Yr oedd ei elynion wedi cynllunio y fradwriaeth, ac megys yn sychedu am ei waed!—yntau ei hun yn ymneillduo i weddio yn yr ardd, mewn lle dystaw, llonydd, tawel, ger llaw afon Cedron; a Iudas hefyd a adwaenai y lle, o blegid mynych y cyrchasai yr Iesu yno! Yr oedd rhyw frys mawr ar bawb y nos hono am gyflawnu eu gwaith. Yr oedd Iudas yn prysuro. Iesu, yn gweled yr awydd mawr oedd arno, a ddywedodd wrtho, Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.' Wedi cyrhaedd i Gethsemane, nid oedd amser maith iddo weddïo y weddi ddyfalach, canys yr oedd tyrfa y gwaewffyn ger llaw, pan yr oedd wedi syrthio ar ei wyneb ar y ddaiar, â'i chwys fel defnynau mawrion o waed yn disgyn ar y llawr. Yr oedd brys ar y milwyr i'w ddal a'i rwymo; brys yn ei arwain drwy yr heolydd, ac i'r llysoedd; brys am ei gondemnio a'i fflangellu, ei wawdio, a'i rithgoroni; a brys am ei yru o'r byd! Dyma destyn ein myryrdodau ni heno. 'Wele y dyn!' Dacw yr hwn oedd yn ddysgleirdeb gogoniant y Tad, ac yn wir lun ei Berson ef, dan gondemniad am feiau nad oedd yn euog o honynt! Dacw ddedfryd marwolaeth y groes ar yr Oen difeius a difrycheulyd! Dacw yr hwn sydd yn dal teyrnwialen llywodraeth y byd ar orsedd y nef yn sefyll yn fud o flaen gorsedd y rhaglaw Rhufeinaidd! Dacw yr hwn sydd yn gwisgo goleuni fel dilledyn, ac yn taenu y nefoedd fel llen, a'r milwyr yn rhanu ei ddillad, ac yn bwrw coelbren am ei wisg ddiwnïad! Dacw yr hwn sydd wedi ei goroni â gogoniant ac â harddwch, wedi ei goroni â drain! Nid oedd ryfedd gwaeddi allan, 'Wele y dyn!' Wel, atolwg, mewn pa faint o amser y dygwyd yr holl orchwylion hyn yn mlaen? Y nos y bradychwyd ef! Dyma rai o'r pethau sydd genym ninnau yn awr i'w cofio, fel y byddo i'n calonau gael eu llanw â gwir gariad ato. Beth a allai fod yn llanw ei feddwl ef y pryd hwnw? Yr oedd efe wedi anghofio pawb gan fawredd ei drallod ei hun. Na: yr oedd ei gariad at ei bobl yn uchaf ar ei galon o hyd! Yr oedd yr archoffeiriad yn myned âg enwau deuddeg llwyth Israel ar ei fynwes i'r cyssegr; felly yr oedd enwau ei bobl wedi eu hysgrifenu ar galon Iesu!"

Erbyn hyn, yr oedd y gynnulleidfa mewn teimladau tyner —a thoddedig iawn. Ni welid yno wyneb dyn, pa un bynag ai yn mysg y frawdoliaeth oedd yn cyfranogi, ai yn mysg yr edrychwyr, nad oedd eu llygaid fel ffynnonau o ddagrau! Eto, nid oedd yno ond hollol ddystawrwydd drwy y lle hyd yn hyn!

Wrth dori y bara, yr oedd yn dangos y tori a fu ar gorff glân y Gwaredwr, a'r rhwygo fu ar y llen, sef ei gnawd ef, yn hynod o effeithiol; ac wrth weddïo, yr oedd mewn gafael egniol iawn â'r orsedd am arwyddion neillduol o bresennoldeb Duw ar y pryd. Yna, aeth o amgylch gyda'r bara; ac yr oedd ei ymadroddion, bob brawddeg, yn hynod iawn o effeithiol yn disgyn ar deimladau y bobl. Yr oedd nifer y rhai oedd yn cyfranogi yn fawr, ac yr oedd yntau yn prysuro ei oreu wrth fyned yn mlaen. Yr oedd ei eiriau yn dyfod yn fwy effeithiol o hyd ar y bobl, ac yr oedd y teimladau yn dechreu tori allan i amlygiad erbyn hyn:—"Corff ein Harglwydd Iesu Grist a aberthwyd drosoch; Cymmerwch a bwytewch y bara hwn, yn goffadwriaeth ddryllio ei gorff glân drosoch, a byddwch wir ddiolchgar; 'Gwnewch hyn er coffa am danaf;' 'Hwn yw fy nghorff,' &c.yn arwyddol—ac nid fel y meddylia Eglwys Rhufain, yn wirioneddol na, yr oedd hwnw i gael ei aberthu ar y groes dranoeth; Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren,' &c; Cofiwn nes teimlo, a theimlwn nes diolch," &c. Yr oedd ei feddwl yn ymddangos mor llawn weithiau, fel yr oedd megys yn gorfod sefyll er ei waethaf, i esbonio dull mynediad yr archoffeiriad i'r cyssegr gyda gwaed yr aberth, nes yr oedd hyd yn oed y brys oedd arno yn ei wneyd yn fwy tarawiadol fyth. "Wedi swperu, efe a gymmerth y cwpan. Nid oedd modd bod arwydd mwy priodol na'r gwin, o blegid gelwid ef yn fynych, Gwaed y grawnwin. 'Einioes pob peth yw ei waed.' Fel yr oedd y bara i gael ei fwyta, felly yr oedd y gwin i gael ei yfed. Ni waeth pa mor lleied i'w yfed, ond dylid yfed: "Yfwch bawb o hwn.' 'Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes genych fywyd ynoch. Oni dderbyniwch yr athrawiaeth am ei ddyoddefiadau, ac oni ymddiriedwch trwy ffydd yn ei angeu, nid oes genych fywyd ynoch. Yr un modd y mae y rhan hon eto o'r gwasanaeth i gael ei gwneyd trwy gofio yn ddiolchgar am ei angeu a'i aberth. Cofio am ei Berson a'i ddyoddefiadau, ac am ei gariad rhad yn ein cofio ni yn ein hiselradd, a hyny bob tro y nesaom at y bwrdd. 'Cynnifer gwaith bynag y gwneloch'—pa mor aml bynag. Ni ddywedir i ni yn benodol pa mor amled; ond pa mor aml bynag, nid yw byth i gael ei gyflawnu, ond er cof am dano ef. Dyna ddylai fod y dyben mawr mewn golwg bob amser—dangos marwolaeth yr Arglwydd. Yr oedd yr aberth gynt i gael ei ddangos. Hwn a osododd, neu a arddangosodd Duw yn iawn. Yr oedd Crist, drwy yr aberthau a'r ordinhadau, yn cael ei ddangos i'r eglwys yn mhob oes, ac yr oedd yn cael ei ddangos trwy yr eglwys i'r byd. Yr oedd yr aberthau gynt yn ei ddangos fel un i ddyfod, ac y mae yr ordinhadau yn awr yn ei ddangos fel un wedi dyfod. 'Wele fi yn dyfod,' oedd ei iaith yn ngwaed yr aberth; ond 'Mi a ddaethym fel y caent fywyd,' yw ei iaith yn yr ordinhadau. Beth sydd genym i'w ddangos? Marwolaeth yr Arglwydd! Y gwaed hwn a wna gymmod dros yr enaid! Os bydd y ddeddf yn dyfod yn ei hysbrydolrwydd, ac yn gofyn perffeithrwydd, a ninnau yn teimlo ein bod yn euog, pa beth a wnawn? Dim ond dangos marwolaeth yr Arglwydd. Os bydd ein cydwybod yn ein condemnio, pa beth a wnawn? Cofio y testyn heno fydd yn ddigon. Os bydd y gelyn yn edliw dillad budron, pa beth a wnawn? Dim ond dangos marwolaeth yr Arglwydd! Cyfeiriwn ef at y rhai sydd ger bron yr orsedd, wedi dyfod allan o'r un cystudd mawr a ninnau, ac wedi golchi eu gynau, a'u cànu yn ngwaed yr Oen! Gwaed yr ammod sydd yn rhyddhau y carcharor o gadwynau pechod, o afael llygredigaeth, ac oddi wrth felldith y ddeddf. Y mae ein rhyddid ni wedi ei ennill mewn gwaed. Y mae y gwaed wedi ei daenellu ar lyfr y gyfraith, ac ar y bobl oll!"

Yr oedd yr olwg ar y dorf yn y fan hon yn dra rhyfedd. Yr oedd yr holl bobl wedi eu bedyddio â'u dagrau. Yr oedd aml un, yma a thraw, wedi tori allan i orfoledd cyhoedd. Aeth Elias yn mlaen i anerch y bobl, wedi dychwelyd at y bwrdd gyda'r gwpan ar ol gorphen y gwaith. Cyfeiriodd ei sylwadau at yr eglwys, ac at yr edrychwyr yn effeithiol dros ben:—" Onid yw yn fraint i ni fod y golofn goffadwriaethol hon wedi ei chodi yn ein byd? Pa hyd y mae hi i sefyll Hyd oni ddelo! Ni waeth pa faint o lid a fyddo gan ddiafol a'i alluoedd ati—pyrth uffern nis gorchfygant hi. Yn hon, dangosir i'r byd, er esampl i'r rhai a gredant rhag llaw, fod y ddeddf wedi ei hanrhydeddu, fod iawn dros bechodau wedi ei gael, a bod modd trwy ei rinwedd i godi yr euog i gymmeradwyaeth ger bron yr orsedd, a'i sancteiddio yn gymhwys o'i arddel ger bron gorseddfainc y nef. Y mae brenin Sion yn dewis i'w ddeiliaid ei gofio yn ei waed! Pan y byddo breninoedd y byd hwn yn ennill buddugoliaethau, bydd raid sylfaenu cofgolofnau mawrion, ac addurno eu pinaciau â delwau o bres i'w hanrhydeddu; ond dyma Iesu Grist yn dewis cael ei bortreiadu ger ein bron, wedi ei groeshoelio yn aberth drosom ni. Dywedodd Ioan am yr olwg ardderchog a gafodd arno; "Ac mi a welais Oen megys wedi ei ladd." Y colofnau cadarnaf a gwychaf a gododd dynion erioed, y mae ychydig o ganrifoedd o ystormydd y byd yn ddigon i'w chwalu hyd eu sylfeini; ond dyma golofn a godwyd mewn ychydig oriau a saif hyd oni ddel efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod ‘yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu!' Fe fydd rhywrai yn derbyn y cwpan pan y byddo llef yr archangel âg udgorn Duw yn eu newid mewn moment, ar darawiad llygad, ac yn cu cipio i gyfarfod â'r Arglwydd yn y cymylau, i'w gofio mewn gwlad berffaith, yn yr orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw! Y mae y Cyfryngwr wedi sylfaenu ei deyrnas mewn gwaed; ïe, yn ei waed ei hun: uid â gwaed arall, ond trwy ei waed ei hun, y cwblhaodd y cyfan. Y mae llawer o dref fawr Liverpool yna wedi ei sylfaenu yn ngwaed y Negroaid druain, er ei gwarth oesol hi; ond y mae teyrnas y Cyfryngwr wedi ei sylfaenu yn ei waed ei hun, er ei gogoniant tragwyddol hi. Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys.'

"Wrth gofio ei angeu, dylem bob amser gofio yr achos o'i ymostyngiad a'i ddyoddefiadau mawr. Y Messiah a leddir, ond nid o'i achos ei hun. O achos pwy, gan hyny? Dy feiau di, bechadur! Efe a archollwyd am ein camweddau ni."" Yna, troes at y bobl yn rymus iawn yn ei gyfeiriadau, a gofynodd "Os pechod a fu yn blaenllymu pigau y goron ddrain a roddwyd ar ei ben glân, nes yr oedd y gwaed yn llifo o'r archollion, a allwn ni garu pechod byth mwy? Os ein pechodau ni a fu yn minio y waewffon a frathwyd yn ei ystlys, fel y daeth allan waed a dwfr, a allwn ni fyw mewn pechod byth mwy?" Yr oedd yr holl bobl erbyn hyn ar ymddryllio o ran eu teimladau, ac mewn gorchest fawr yr oedd pawb yn gallu ymgynnal. Dywedodd yn bur gyffröus, wedi sefyll am fynyd—" Gyfeillion! yn yr olwg ar Grist ar y groes ar Galfaria yn gwaedu o herwydd ein pechodau ni, yr wyf yn rhoddi hèr i neb sydd yma fedru byw yn annuwiol byth mwy! A oes modd i anystyriaeth dyn sefyll yn ngolwg y groes? A oes yma neb a fedr anghofio ei Briod byth mwy? Na: nid oes yma neb a all symmud cam oddi wrth odreu y groes o heno allan. Dylem gofio bradwriaeth Iudas gyda'r adgasrwydd mwyaf at y weithred. Dylem gofio et erlidwyr a'i ddirmygwyr, gyda chasineb at eu holl ysgelerder; ond dylem gofio mai ein pechodau ni oedd yr erlidwyr gwaethaf―dylem gofio mai ein pechodau ni fu yn gwaeddi Ymaith âg ef, croeshoelier ef,' uchaf o bawb. Edrychwn ar yr hwn a wanasom, nes galaru o'i blegid mewn edifeirwch pur, ac y teimlom ddychryn rhag byth ymylu y pechod o ail groeshoelio i ni ein hunain Fab Duw na'i osod yn watwar!" Yn y fan hon, torodd y dorf allan i lefain cyffredinol drwy y lle; ac yr oedd ambell un yn methu ymattal heb dori allan i fanllef, ac ambell hen chwaer dwymngalon yn tori allan i orfoledd byw. Aeth yntau ei hun yn y fan hon yn hollol dan awdurdod ei deimladau drylliedig; bu raid iddo wrth ei ffunen boced, ac yr oedd ei lais wedi tori yn hanner crac, fel y bu yn hollol fud am agos i fynyd o amser. Wedi adfeddiannu ei deimladau i raddau, dywedodd, "Gyfeillion, yr wyf fi yn teimlo mwy o rwymau i'w garu heno nag erioed!" ac ar hyn, methodd a myned rhagddo yn lân am ychydig amser. Beth feddylid oedd teimladau yr edrychwyr syn yn y fan hon! Haws yw dychymygu na darlunio.

Wedi ymbwyllo ychydig, ac i deimladau wastatäu drachefn, trodd i anerch yr edrychwyr yn ddifrifol iawn. Dywedodd; "Wel, yr ydym ni i ddangos marwolaeth yr Arglwydd i chwithau hefyd. Dyma sydd genym ni am ein bywyd! Atolwg, beth sydd genych chwi? Yr wyf yn edrych ar yr arwyddion hyn sydd ar y bwrdd fel sel bywyd i chwithau, os derbyniwch hi. Dyma hi yn cael ei dangos i chwi! Dyma hi yn cael ei chynnyg i bob un o honoch chwi! Nid oes yma neb yn ei chadw nac yn ei chuddio oddi wrthych! Yr oedd Iarll Essex, yn amser y frenines Elizabeth, wedi ei gondemnio i farw. Yr oedd Elizabeth er hyny, yn ewyllysio dangos ffafr iddo; ac fel amlygiad o hyny, anfonodd ei sêl—fodrwy iddo. Yr oedd dangos hono i swyddogion y deyrnas yn ddigonol i sicrhau ei fywyd, ac i'w gadw yn ddiogel yn mhob man. Nid oedd y frenines yn dewis ei rhoddi iddo â'i llaw ei hun, ond ymddiriedodd hi i'r Countess of Nottingham, i'w danfon iddo. Trwy ddylanwad ei gŵr, yr hwn oedd elyn i'r iarll, fe'i perswadiwyd hi i beidio ei chyflwyno iddo; ac felly, bu yn anffyddlawn i'w chenadaeth, a chuddiodd y sêl. Dydd ei ddienyddiad a ddaeth; ac yr oedd y frenines yn dysgwyl o hyd glywed ei fod wedi dangos y sêl, a'i fywyd wedi ei arbed: ond yn y gwrthwyneb y bu, a dienyddio y gŵr mawr a wnaed; ac yr oedd y newydd yn ofid calon i'r frenines. Aeth y Countess cyn hir yn wael o iechyd ac i afael angeu. Ni allai feddwl am farw, heb gael gweled y frenines, a rhyddhau ei meddwl i raddau oddi wrth ofid ei henaid drwy gyffesu fel y bu. Aeth y frenines i ymweled â hi ar ei chlaf wely. Dywedodd hithau wrthi yr holl hanes aeth y frenines i'r fath ofid a chynddaredd ati o blegid y tro, fel yr ysgytiodd y Countess yn ei gwely, gan ddyweyd, "Duw a faddeuo i ti: nid allaf fi faddeu i ti byth." Aeth adref, ac ni fynai ei chysuro; taflodd ei hun ar y llawr, ni chodai oddi ar y carpet, ni fynai nac ymborth nac ymgeledd; a bu farw yno yn mhen tua deng niwrnod! Yn awr, collodd hwnw ei fywyd, o blegid cuddio y sêl oddi wrtho; ond nid all un o honoch chwi ddywedyd hyny; nid oes yma neb yn cuddio y sêl oddi wrthych chwi; a dderbyniwch chwi y sêl am eich bywyd? Dyma hi i chwi yn awr; deryniwch hi; ewch at yr orsedd, ac y mae eich bywyd mor sicr i chwi a bod gwirionedd yn eiddo Duw! 'Pwy bynag a ddel, nis bwriaf ef allan ddim!"" Erbyn hyn yr oedd rhyw deimladau na anghofir mo honynt byth bythoedd wedi meddiannu mynwesau y dorf i gyd. Wedi gorphen y gwasanaeth, canwyd yno hen bennill ar hen fesur, gyda blas newydd; gan ddyblu a threblu yr un llinellau drosodd a throsodd, drachefn a thrachefn, am hir amser:

Daeth trwy
Fy Iesu glân a'i farwol glwy'
Fendithion fyrdd, daw eto fwy;
Mae ynddo faith ddiderfyn stôr,
Ni gawsom rai defnynau i lawr,
Beth am yr awr cawn fyn'd i'r môr?

Yr oedd nifer mawr yn eistedd wrth y bwrdd am y tro cyntaf y pryd hwn; a gwyddys i'r tro rhyfeddol fod yn foddion i ddwyn llawer oedd yno, wedi bod megys yn cloffi rhwng dau feddwl dros flyneddoedd meithion, i benderfynu yn y fan a'r pryd i blygu i Grist, a rhoddi eu hunain i'r Arglwydd, ac ymuno â'i eglwys byth mwy!

Ceir clywed llawer yn gofyn yn y dyddiau hyn, Pa beth ydyw yr achos na cheid gweled adfywiadau a theimladau cyffelyb i'r rhai a ddarlunir uchod yn awr? Y mae yn lled anhawdd rhoddi cyfrif naturiaethol am y peth. buasid yn gofyn yr un peth y pryd hwnw, pa ham na welsid yr un cyffroadau yn fynychach yn yr un lle, gyda'r un bobl, dan ddylanwad gwasanaeth yr un gweinidog — diau na chawsid atebiad boddhaol y pryd hwnw mwy nac yn awr. Wrth adgofio am yr hanesion hyn, ac wrth adfeddwl am y teimladau a brofwyd, y mae yn anhawdd peidio hiraethu a dymuno am weled eu cyffelyb eto; yn enwedig pan y meddyliom am y nifer oedd yn cael eu hennill at grefydd, a'r dyrchafiad mawr a fu i achos y Gwaredwr dan y fath ymweliadau grymus. Ni wyddys pa mor fuan y gallant ddyfod eto. Nid ein lle ni ydyw gosod terfyn, na thori llwybr, i Sanct yr Israel. "Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno." Ond os dyfod a wnânt, ni bydd holl effeithiau dylanwad addysg fydol, grym dygiad i fyny naturiol, nac arferion na defodau gwlad, yn ddigon o warchglawdd i attal eu gweithrediadau Gwir yw, fod sefyllfa yr eglwysi yn dra duwiolfrydig ar y pryd:—"Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yn nghymdeithas yr apostolion, ac yn tori bara, ac mewn gweddïau. A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn tori bara o dŷ i dŷ, a gymmerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon; gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig."

PENNOD IX.

JOHN ELIAS YN MYSG EI FRODYR MEWN CYMMANFA A CHYFARFOD MISOL.

Yr oedd oedran, profiad, doniau, ffyddlondeb, a defnyddioldeb cyffredinol Mr. Elias, wedi ei ddyrchafu i ddylanwad mawr iawn yn mhlith ei frodyr, yn yr adeg yr oedd yr enwad y perthynai iddo yn ymgorffori yn effeithiol, ac yn cymmeryd ei le cyhoeddus yn mysg dosbarthau crefyddol cyhoeddus y byd. Yr oedd wedi ennill iddo ei hun "radd dda," a thrwy hyny wedi dyfod i gymmeradwyaeth mawr. Yr oedd wedi ei gynnysgaethu â llawer o fanteision i fod yn ddefnyddiol, ac nid oedd yn ol o gyflwyno pob talent a feddai i wasanaethu crefydd—yn neillduol, o fewn cylch ei frawdoliaeth ei hun. Nid oedd odid gymmanfa chwarterol yn y Gogledd, nac ond ychydig o nemawr bwys yn y Deheudir, nac yr un cyfarfod misol yn Môn, na byddai efe yn bresennol. Nid arbedai deithio. Nid oedd na hin oer na hin frwd yn ddigon i'w attal rhag cyrhaedd ei gyhoeddiad. Ac yn gyffredin iawn, yn y cynnadleddau, ymddiriedid gofal y llyw i'w law ef; ac os dygwyddai i ystorm godi, gan nad faint fyddai y creigiau cuddiedig, a'r traethellau peryglus, byddai ef yn lled sicr o fynu gweled y llestr wedi cyrhaedd yr hafau ddymunol. Ni byddai neb yn arswydo rhag llongddrylliad, os byddai efe wrth yr helm! Y mae ambell ddyn fel enaid a bywyd pob cymdeithas lle byddo. Ychydig o ddynion enwog sydd wedi gwneyd gorchestion mawrion ar eu penau eu hunain, ar wahân oddi wrth gyd-weithrediad eu brodyr. Ceir ambell eithriad yn hyn, y mae yn wir, fel gyda phob achos arall—megys y gwelir anghraifft unigol yn Samson, yr hwn a ymaflai yn ngholofnau preswylfod y Philistiaid, ac â nerth ei fraich ei hur, heb gynnorthwy neb, a dynai yr adeilad i lawr yn chwilfriw. Ond yn gyffredin, fel arweinwyr, trwy gydweithrediad ereill, y cyflawnant bob gwrhydri. Dichon y gallasai Elias, gan eangder ei wybodaeth, a nerth ei alluoedd, wneyd cryn orchestion ei hunan, trwy ei ddoniau ei hun; ond ni fynai, o blegid yr oedd yn deall yn rhy dda am werth cydweithrediad cymdeithasol. Yr oedd efe wedi mabwysiadu yr arwyddair "llawer yn un" mewn chwaneg nag un ystyr. Gydag enwad mor luosog a dylanwadol, yr oedd yn naturiol casglu y byddai i lawer o anhawsderau gyfodi, ac y cyfarfyddid â llawer o riwiau serth y byddai raid eu dringo; ac i ragdrefnu symmudiadau cyfundeb mor fawr, yn enwedig yn nghyflwr ei brif dyfiant, tua deugain neu hanner can mlynedd yn ol, yr oedd yn ofynol cael bugeiliaeth un o wybodaeth, craffder, a chalonrwydd Elias. Dichon fod amgylchiadau yn fwy sefydlog yn awr nag oeddynt y pryd hwnw, ac nad oes cymmaint o angen am wroniaid; ond y mae yn amlwg ei fod ef yn ddyn i'w ddydd ac i'w amserau mewn modd arbenig.

Nid oes dim a wnelom ni yn yr Adgofion hyn â chyfiawnhau na chollfarnu cywirdeb nac anghywirdeb y golygiadau a grybwyllir, na'r ymddygiadau a gofnodir; ond yn hytrach "mynegu yn helaeth y peth fel y bu," er mwyn dangos rhai o linellau cymmeriad Elias pan yn llywyddu yn mysg ei frodyr. Ag ystyried y gymdeithas lle yr ydoedd fel peiriant eang—yn meddu ar lawer paladr ac olwyn, ar lawer dant a llygad, ar lawer modrwy a chadwen, a'r amrywiol ranau hyny o wahanol faintioli a grym, ac yn amrywio llawer yn eu troadau a'u gwrthdroadau, gan nad pwy fyddai yn gwylio ar yr ysgogiadau ar y cyfan—efe fyddai bob amser yn gollwng yr ager i roddi cychwyniad a bywyd yn y cwbl oll. Yn gyffredin iawn, efe a ddewisid i'r gadair lywyddol; ond os, o ran oedran ac amgylchiadau, y dewisid rhywun arall fyddai yn bresennol, ato ef yr edrychid bob amser fel y prif weithredydd yn mhob rhan o'r gwaith. Ar godiad enwad mor lluosog a chynnyddol, yr oedd llawer o gynlluniau cyhoeddus yn ofynol ar gyfer cyflawnu diffygion a gofynion yr eglwysi mewn llawer modd; megys gwneyd anturiaethau tuag at estyn y terfynau, cychwyn symmudiadau newyddion mewn achosion cyhoeddus, ac mewn achosion lleol hefyd, ac i roddi anghydfyddiaethau i lawr, os dygwyddai iddynt gyfodi. Ato ef yr edrychid yn neillduol yn y pethau hyn. Yr oedd ganddo ef ddigon o hysbysiaeth i adnabod amgylchiadau, llawer o ddoethineb i ragdrefnu y modd goreu i'w cyfarfod, a digon o wroldeb ac ymroad bob amser i'w gweithio allan i ymarferiad. Yr oedd weithiau, mae yn wir, yn agored i wresogrwydd teimladau pan y croesid ei gynlluniau, ond yr oedd ei brofiad wedi ei ddysgu i'w lywodraethu ei hun i raddau mawr. Yn gyffredin iawn, nid oedd gwrthwynebiad yn ddim amgen na chymhellai i'w dynu allan yn ei lawn nerth. Nid ydym yn haeru nad oedd efe, ar rai achlysuron, yn agored i redeg i eithafion, yn ei olygiadau duwinyddol, ac yn ei syniadau ar bynciau gwladwriaethol; ond nid oedd ef byth yn rhedeg cyn belled ag na oddefai i bawb eu lle a'u rhan, yn mhob dadl ac olrheiniad ar unrhyw gwestiwn a ddygid ger bron. Efallai na byddai yn ormod i ni addef ei fod wedi mabwysiadu mesurau go eirwon ar rai amgylchiadau; ond hyd yn oed yn y rhai hyny, trodd amser a phrofiad lawer gwaith i ffafrio yr hyn y dadleuai efe drosto, wedi yr holl ymdrafod i gyd.

Yr oedd gan Elias eiddigedd cryf yn ei fynwes dros yr hyn a alwai yr hen dduwinyddion yn athrawiaeth orthodox. Dyma y man lle y byddai ei gydoddefiad ef yn cael ei osod yn y brofedigaeth fwyaf tanllyd. Ystyriai ei hun dan rwymau cydwybod i rybuddio, os nid i geryddu, rhai dynion ieuainc yn lled lym, gyda golwg ar burdeb yr athrawiaeth, os deallid y byddent yn tueddu i wyro. Ystyriai mai y ffordd hono oedd y fwyaf gonest ac effeithiol i'w cadw o fewn terfynau cymmedroldeb. Gwelwyd enghraifft o hyn yn neillduol ynddo, pan unwaith yr edliwiai yn lled duchanol i rai eu bod yn fychain o ddynion i allu bathu eu counterfeits, heb gael benthyg moldiau y Seison i'w coinio." Cyrhaeddai ei wialen at y gwaed ac i'r byw y tro hwn. Ond wedi y cyfan, ni byddai am dori pen nac ysigo esgyrn neb. Tywalltai olew meddyginiaeth ar y briwiau yn fuan, fel y ceid eu hiachau cyn hir, ac y dygid y tramgwyddus i'w hoffi yn fwy nag erioed. Dygid pob un ar fyrder i gusanu y llaw a'i tarawai gydag ymostyngiad caredig. Anfynych iawn, os byth mewn dadl, y rhoddai efe ei hun yn nghyrhaedd magl ei wrthwynebydd i gael ei ddal. Os byth y dygid ef i gyfyngder, ac i orfod rhodio drwy lwybr lled gul er ei ddiogelu ei hun, byddai yn sicr o daflu baich y prawf ar gefn ei wrthwynebydd, a hyny gyda'r esmwythder mwyaf parod a dirwystr. Er anghraifft, gellid cyfeirio at un amgylchiad neillduol fel eglurhâd ar hyn. Mewn cynnadledd cymdeithasfa unwaith, yr oedd cryn ddadl wedi codi yn nghylch rhywrai a dybid eu bod heb fod yn hollol iach yn y ffydd, ac yn tueddu i wyro at ryw syniadau nad oeddynt yn gwbl gydunol â synadau cyffredin yr enwad. Cyhuddid rhywrai o fod yn gwadu un o syniadau arbenig rhai o'r hen dduwinyddion uniawngred, a alwent y tri chyfrifiad: sef, cyfrifiad o bechod Adda i'w had; cyrifiad pechodau ei bobl ar Grist; a chyfrifiad cyfiawnder Crist i'r credadyn. Wedi gwneyd cryn nifer o sylwadau ar y pynciau a ystyrid yn uniawngred, ac ar y perygl o lithro oddi wrth y gwirionedd, cynnygid cerydd gan un, a chefnogid gan y llall; ac fel yr oedd y sylwadau yn myned rhagddynt, yr oedd y cwmwl yn ymddangos yn bur ddu uwch ben y rhai a gyhuddid. Pa fodd bynag, cyn i unrhyw ddedfryd gael ei chyhoeddi, nac i'r cerydd chwaith gael ei gweinyddu—yn yr hon yr ymddangosai Elias yn bur dwymfrydig—cododd un diacon o sir Fflint i fyny, a dechreuodd geisio troi y byrddau yn araf, a dywedodd ei fod ef yn lled ammheu cywirdeb yr hyn a ddygid yn erbyn y gwŷr y cyfeirid atynt, ac nad oedd pethau cynddrwg a'r darluniad. Cododd un arall drachefn, gan besychu bob yn ail â phob brawddeg; ond eto, yr oedd yn dyfod yn mlaen yn raddolyn gryfach gryfach o hyd—a dadleuodd yn rymus fod y lliwiau oedd wedi eu rhoddi ar yr achos yn rhy gryfion, ac nad oedd y cyfan mewn gwirionedd yn ddim amgen na gwahaniaeth mewn geiriau; nad oedd y cwbl ond gwahaniaeth mewn dull o ddywedyd yn y diwedd, a bod y sylwedd ar y cyfan bron yr un peth; a bod yn annheg dal ar eiriau, &c., nes yr oedd wedi effeithio yn fawr ar bawb; a throi y teimlad i redeg yn gyflym yn ei ol, ac i farnu nad oedd y cwbl fawr iawn o bwys yn y diwedd. Erbyn hyn, yr oedd y naill dòn ar ol y llall yn cael ei lluchio yn ol megys ar gefn Elias, fel yr ymddangosai yr hen gyfaill ar y pryd fel pe buasai yn nghymmydogaeth y niwl: ond, aroswch dipyn bach! Y mae ei dro yntau wedi dyfod. Dacw ef i fyny ar ei draed, a dywedai; "Dyma y tro cyntaf erioed i mi glywed nad ydyw golygiadau athrawiaethol dynion i gael eu barnu wrth eu geiriau! Beth! a ydych yn meddwl mai seilio y cyhuddiad ar freuddwyd neu ddychymyg a wnaed, o'r peth a allai eu golygiadau fod? Nag e; ond wrth eu geiriau. Trefn y Beibl ydyw barnu golygiadau dynion wrth eu geiriau; 'Wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.' 'O helaethrwydd y galon y llefara y genau.' Yr wyf fi yn awr yn eistedd i lawr i wrandaw arnoch chwi yn egluro pa fodd y mae barnu athrawiaethau dynion, heb law wrth eu geiriau? Dynion yr un feddwl â'u gilydd, ond yn gwahaniaethu yn eu geiriau, ai e?" Y mae yn hawdd dirnad beth oedd y canlyniad. Gan nad faint o wir ymresymiad oedd yn hyn, dengys fod ganddo ef ddigon o eangder meddwl i allu cadw ei droed ar yr ochr ddiogel o graig y ddadl, ac na roddai ei ben dan gesail neb!

Wedi gweled Elias yn mhlith ei frodyr mewn sassiwn, ni a'i dilynwn eto hyd y cyfarfod misol. Nid yw y naill olygfa na'r llall ond tebyg i'w gilydd, gyda'r eithriad o fod y naill â'i gylch yn llai na'r llall, a'i fod yntau, efallai, yn gwneyd ei hun yn fwy teuluaidd yn yr olaf. Ni ystyrid y gyfeillach yn Môn yn gyfa heb Elias a "Rhisiart William Dafydd." Efallai fod priodoldeb yn galw am i ni beidio gwneyd cyfeiriadau at y byw, ar hyn o bryd. Pan y byddai y ddau gyda'u gilydd, byddai y cyntaf yn codi yr hwyliau a'r llall yn gofalu am y llyw. Aethai olwynion y cyfarfod neillduol yn rhy farwaidd a digychwyn heb Elias, ac aethai y cerbyd, ambell dro, yn rhy gyflym ac angerddol heb Llwyd. Pan y byddai y rhes yn teithio yn rhy araf, gollyngai Elias chwaneg o steam arni, a phan y cyflymai dros gan milltir yr awr, rhoddai Llwyd y brac ar yr olwyn. Ond rhaid sylwi yma fod y ddau gyda'u gilydd yn hyfryd. Ar yr un pryd, dylid nodi fod yn llawer haws attal olwynion, na'u gyru yn mlaen. Gall bongler daflu yr olwyn oddi ar y gledr; ond y mae yn rhaid cael crefftwr i wylio a rheoli yr ager. I gadw bywyd mewn cyfarfod, yr oedd yn ofynol cael cyflawnder o ddefnyddiau, ac adnabyddiaeth o amgylchiadau cyhoeddus y byd. Yr oedd yn ofynol gwybod rhywbeth am sefyllfa wladwriaethol y deyrnas, i edrych a fyddai dim galwad am erfyniad seneddol weithiau; yr oedd eisieu gwybod rhywbeth am gyflwr cymdeithasol y genedl, i edrych a fyddai dim eisieu cynnyg gwellâd mewn rhywbeth bryd arall; byddai yn ddymunol gwybod rhywbeth am symmudiadau y cymdeithasau crefyddol, i ymwrandaw a fyddai dim angen cydweithrediad, ar brydiau ereill, Yr oedd gwyliadwriaeth ar foesau y wlad, ac ar bynciau cyhoeddus yr amseroedd, yn werthfawr bob amser, fel y gwybyddid a fyddai dim angen chwythu yn udgoru rhybudd; fel, os deuai y gelyn i mewn fel afon, y gallesid codi baner yn ei erbyn. Beth bynag fyddai y "gwirionedd presennol," yr oedd bob amser yn gwbl hysbys iddo ef; a byddai ei feddwl wedi bod yn myfyrio arno yn barod, a byddai ganddo ryw fesurau wedi eu cynllunio i'w cynnyg yn ei gylch. Yr oedd hyn, o angenrheidrwydd, yn ei wneyd ef yn brif ysgogydd yn mhob brawdoliaeth lle y byddai. Yr oedd efe mor gyflawn o feddyliau fel pan ofynid am i rywun roddi rhyw bwnc i lawr fel testyn ymddyddan, ac y clywid un yn dywedyd, "Nid oes dim neillduol ar fy meddwl i;" a'r llall yn dywedyd, "Nid oes dim o bwys ar fy meddwl innau;" a'r trydydd yn dywedyd, "Nid wyf finnau yn cofio am ddim arbenig yn awr;" ond pan y deuid ato ef, byddai ganddo ef "beth neillduol," a "pheth o bwys," a "pheth arbenig;" a hyny bob amser. Ni byddai raid i'r frawdoliaeth byth ymadael heb ryw sylw gwerth ei gofio a'i ddefnyddio, os byddai efe yn bresennol. Dywedir fod llawer brwydr wedi ei hennill yn fwy oddi ar ddoethineb cynlluniau y cadfridog, nag o herwydd dewrder milwrol y fyddin. Felly, nid oedd neb yn deall tactics cymdeithasol yn well nag ef, na neb â chanddo fwy o fedrusrwydd i'w dilyn a'u gweithio allan i brawf.

Yr oedd yn nodedig am ei gydoddefiad, a'i barch i deimladau pregethwyr bychain, oedd o ddoniau lled gyffredin, os byddai efe dan yr argraff fod yr amcan yn gywir ganddynt. Cafwyd esampl neillduol o hyn ynddo unwaith pan yn gwrandaw ar un tra byr ei ddawn a'i gyrhaeddiadau, ond o gymmeriad da, ar nos Sadwrn mewn ffermdy yn Môn. Yr oedd y gŵr bach wedi rhoddi ei gyhoeddiad i bregethu yno, a daeth Elias i'r lle ar ei ffordd am letty, ac heb wybod dim am y cyhoeddiad. Mynid iddo bregethu, ond ni wnai; yr oedd yn bur barod i ddechreu yr oedfa. Wrth ymddyddan ychydig cyn dechreu y cyfarfod, deallai fod y pregethwr yn y brofedigaeth dros ei ben, wrth feddwl am ddal allan yn ei ŵydd. Gwnaeth bob cais i ymryddhau, ond ni allai lwyddo. Yr oedd Elias yn ymdeimlo yn bur ofidus o blegid pryder ei gyfaill. Pa fodd bynag, yn fuan, tynodd ymddyddan yn nghylch pregethu, a dangosodd beth mor ddibwys oedd medr i gyfansoddi yn gywrain, a dawn i draethu yn hyawdl mewn cymhariaeth â chywirdeb dyben yn y llefarwr. Bod llawer llai o wir ragoriaeth rhwng dynion o ran eu galluoedd nag yr oedd llawer yn ei feddwl. Bod esamplau mynych am ddynion cyffredin o ran doniau, eto dan lywodraeth ofn yr Arglwydd yn perswadio dynion, yn fwy llwyddiannus yn eu swydd na llawer o dalentau uchel, &c. Fel hyn, yn raddol, cododd feddwl y dynyn bach i fyny, fel yr ymwrolodd, ac y cafodd yr hwyl oreu erioed i bregethu ar y pryd.

Yr oedd yr holl fanteision yr oedd wedi eu hennill drwy brofiad ac ymarferiad yn mhlith ei frodyr wedi ei ddyrchafu i sefyllfa o dderbyniad a chymmeradwyaeth uchel iawn yn mhlith ei frodyr fel cynghorwr, yn gystal ag fel pregethwr ac areithiwr. Yr oedd ei ddefnyddioldeb neillduol yn cyfateb i'w ddefnyddioldeb cyhoeddus; ac y mae yn rhaid fod y diffyg ar ei ol, yn y naill gymmeriad a'r llall, yn cael ei deimlo yn fawr. Fel hyn y mae "Arglwydd y lluoedd," pan y myno, yn tynu "ymaith o Ierusalem ac o Iudah, y cynnaliaeth a'r ffon...y cadarn,...y brawdwr, a'r prophwyd, y synwyrol, a'r henwr, y tywysog deg a deugain, a'r anrhydeddus, a'r cynghorwr,...a'r areithiwr hyawdl"! Ond er ei golli ef yn bersonol, ni anghofir mo'i gynghorion na'i areithiau tra y byddo pregethu yn ein hiaith!

"Haws troi môr a storm eira
Yn eu hol yn dawel ha',
Na chladdu uchel haeddiant
Mewn anghof, yn ogof nant!"


PENNOD X.

JOHN ELIAS YN EI FYFYRGELL.

Y MAE yn ddifyrus iawn i ddyn gael rhodio ar geulan afon Conwy, gan gychwyn wrth y Gyffin, a dilyn yn mlaen yn raddol ar i fyny, nes dyfod heibio i Hafod y Rhodwydd, hyd at ei tharddiad bychan cyntaf, i sylwi ar ei byrlymiad gloew o'i ffynnonell ddechreuol yn Meirionydd! Dechreua y teithiwr ymbleseru wrth weled yr afon yn ei nerth, ac â grym ei llifeiriant yn ysgubo ymaith bob peth o'i blaen wrth ymarllwys i'r môr. Tra y symmuda yn mlaen, sylla arni yn culhau o fesur ychydig ac ychydig wrth basio yr afonydd a'r ́ ffrydiau sydd yn ei chwyddo, gan redeg iddi drwy eu rhigolydd ar bob ochr o'r dyffryn. Tremia arni yn ddifyrus gyda nyfyrdod swynol wrth fyned heibio i'r rhaiadr mawr yn Llanbedr, a'r rhaiadr bach ger Dolgarog. A rhagddo yn mlaen, a thros bontydd y Llugwy a'r Lledoer, nes dringo i fyny gydag ael y bryn, a chydag ochr Llyn-cynwy, nes dyfod at y llecyn llaith hwnw lle yr ymwthia ei phistylliad cyntaf o fynwes y clogwyn i oleu dydd. Yno, eistedda i lawr, a dechreua holi wrtho ei hun mewn syndod,—"Wel, mewn gwirionedd, ai dyma ddechreuad y rhaiadrau mawrion sydd yn trystio ac yn adsain yr holl nentydd y daethym drwyddynt? Ai dyma darddiad blaenaf yr afon eang sydd yn ddigon nerthol i gynnal y llongau i nofio mor esmwyth a'r pluf ar ei gwyneb, yn y gwaelod tua Thal y Bont, a Thal y Cafn, a Thyddyn Cynwal? Ië, ïe, digon gwir—dyma y cychwyniad cyntaf oll! Felly y teimla dyn, pan yr adgofia ddoniau dylanwadol ac anghymharol Elias. Efe a lwybra gydag ymylon afon fawr nerthol ei weinidogaeth yn y gymmanfa ar y maes agored, ac a rodia yn mlaen hyd y geulan heibio i raiadrau o bregethau grymus yn y cyfarfod misol; ä rhagddo drachefn gydag ochr ffrydiau nerthol y Beibl Gymdeithas a'r Genadaeth, nes o'r diwedd ddyfod o hyd iddo yn ei fyfyrgell fechan, yn parotoi at ei lafur cyhoeddus, yn yr amrywiol gylchau y bu yn troi ynddynt ac y gelwid am ei wasanaeth; a gofyna yn naturiol iddo ei hun, "Ai o'r fan yma y tarddodd yr afon nerthol a welais yn cludo teim ladau cymmydogaethau a gwledydd cyfain gyda hi, a hyny gyda'r esmwythder mwyaf dymunol, gan nerth ei llifeiriant? A ydyw yn bosibl mai oddi yma y cychwynodd yr holl lifeiriant anwrthwynebadwy, yr hwn a gynnyddwyd ar bob taith, trwy bob tref yn Nghymru, ac amryw barthau yn Lloegr, at bob cyfarfod neillduol a chyhoeddus, lle y gelwid am ei wasanaeth dylanwadol?"

"O! ïe, digon gwir:—dyma fan creadigaeth y cyfan oll" "Wel, os felly, rhaid i mi gael eistedd am fynyd yn y lle hwn, i gymmeryd golwg arno drosto i gyd! Dyma nifer mawr iawn o lyfrau! Dyma weithiau yr holl hen dduwinyddion a'r esbonwyr wedi eu cynnull i'r un lle. Dyma ford fanteisiol i osod Dr. Owen, John Howe, Jonathan Edwards, Lightfoot, Patrick, Poole, &c., wrth ymyl eu gilydd, i'w symmud y naill ar ol y llall, er cael ymddyddan â phob un o honynt, ac ymgynghori â hwy ar bob pwnc. Yr wyf yn gweled math o berthynas rhwng y lle rhyfedd hwn a'r holl gyffroadau mawrion a welais, ar amrywiol brydiau, mewn sassiynau, cyfarfodydd misol, a phregethau ar Sabbathau a nosweithiau gwaith! Ac ai yma y crëid yr holl fellt a welais yn fflamio yn nghwmwl goleu ei weinidogaeth danllyd ac ai yma y distyllwyd yr holl gawodydd graslawn a welais yn ymdywallt fel dylif ar benau cynnulleidfaoedd cyfain? Wel, nid rhyfedd ynte oedd gofyn gynt, Pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain?' Ni wnaeth yr athronydd erioed; ac ni wna y Cristion na'r pregethwr byth. Y mae y gwaith mwyaf wedi cael ei ddechreuad yn y symmudiad lleiaf lawer tro, ac y mae y pren mwyaf wedi cael ei dyfiant yn yr hedyn lleiaf mewn llawer man:

"'Bu'r dderwen yn fesen fach.
Eginyn heb ei gwanach;
Ond erbyn hyn, mae hono
A'i brig yn gysgod i'n bro!"

Tybiem na thalodd neb erioed fwy o sylw i'r cynghor hwnw, Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros, fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb," nag Elias. Yma, yn ei fyfyrgell, y cawn ei weled yn dysgyblu ac yn hyfforddi ei hun ar gyfer ei orchestion cyhoeddus. Y mae llawer brwydr wedi ei hennill, yn wyneb anfanteision mawr, drwy ragoroldeb y rhagbarotoad. Y mae cynllunio yn dda yn hanfodol er cael goruchadeiladaeth dda. Dyma lle yr oedd amddiffynfa ein harwr. Ni allasai ollwng allan y fath ddylanwad cyhoeddus ag a siglai y byd, heb ymbarotoad neillduol ar gyfer y gwaith.

Yma, yr ydym yn ei gael yn ddyn "meddylgar". Dechreuodd ar ddiwyllio ei feddwl yn fore. Mynodd ddysgu ei hun pa fodd i roddi ei alluoedd meddylgar mewn ymarferiad cyn dechreu trysori ei feddwl â defnyddiau. Yn absennoldeb manteision addysg golegawl yn ei ddyddiau boreuol ymdrechodd, drwy efrydiaeth fanwl, i ddiwyllio ei feddwl a hyfforddi ei hun pa fodd i gyrhaedd gwybodaeth gyffredinol. Gosododd iddo ei hun nôd pendant, a gosododd hwnw yn ddigon uchel; a phenderfynodd, gan nad faint fyddai y llafur, y mynai ei gyrhaedd: ac ni oddefai i ddim beri iddo blygu, llaesu, gwanhau, na newid ei benderfyniad. Yn yr ymroad diysgog hwn y cawn guddiad ei gryfder. Yr oedd y diffyg o addysg fore yn ei daflu i orphwys ar ei hunangynnyrchion yn naturiol. Yr oedd ganddo ddigon o wroldeb a mawrfrydigrwydd meddwl i weithio ei ffordd yn mlaen drwy bob rhwystr a fyddai ar ei lwybr. Gwyddai na allai meddyliau ereill greu dim nad oedd yn ei gyrhaedd yntau; a bod holl egwyddorion natur mor agored ger ei fron ef ag oeddynt o'u blaen hwythau; ac felly yr ymwrolodd yn ei rymusder hwn. Dyma ragoroldeb yr hunanddibynol. Daeth ef yn feddiannol ar ei diriogaeth ei hun yn fuan; ac felly yr oedd ganddo ei fwngloddiau ei hun, heb un angen am fyned i dir neb arall; ac yr oedd yn cloddio o'r tyrau llwch y ceinion mwyaf dysglaer, ac heb un achos i dalu treth na royalty i neb arall, y rhai a wasgarai mewn cyflawnder mawr ar hyd a lled y Dywysogaeth. Prif wythen ei fwngloddiau ef oedd duwinyddiaeth. Yr oedd wedi sefydlu ei olygiadau athrawiaethol yn dra chadarn; ac yr oedd yn dra eiddigus drostynt, ac yn bur anhawdd ei symmud oddi wrth yr hen derfyn. Y mae yn wir na chyfyngodd ef ei ymchwiliadau i'r wyddor dduwinyddol yn unig. Yr oedd wedi cyrhaedd graddau uchel mewn gwybodaeth gyhoeddus. Ond ni ragorodd ef ond yn y dosbarth oedd yn dal y berthynas agosaf a'i weinidogaeth efengylaidd, ac âg amcan ei genadwri fawr.

Yma, yr ydym yn ei gael yn ddarllengar. Yr oedd wedi "glynu wrth ddarllen" er yn gynnar; a thrwy hyny, yr oedd wedi cyfoethogi ei feddwl yn ddirfawr â phob defnyddiau a ystyriai o wir werth. Pan y byddai yn cyfansoddi ei bregethau, mynai wybod barn yr holl esbonwyr oedd yn werth ymgynghori â hwy am ystyr ei destyn. Yr oedd hyn yn naturiol yn cario dylanwad ar ei feddwl yn yr areithfa, fel y byddai yn fynych mewn profedigaeth i ddynoethi gwendidan rhai o honynt yn lled lym, ac i wrthwynebu y rhai yr anghytunai â hwy—yn gystal ag i arganmawl y cyfryw a redent yn yr un llwybr ag ef ei hun. Yr oedd yn dra dedwydd yn ei drefn o ddefnyddio awdwyr. Mynai ddeall pob awdwr yn drwyadl. Ni foddlonai ei hun ar frasolwg arnynt yn unig. Nid oedd efe, er hyny, yn mysg y rhai a ddarllenant bob peth. Yr oedd ganddo ei ddetholion arbenig. Ni ymddangosodd erioed yn yrareithfa fel dyn yn cario llyfrau ar ci gefn; neu, yn hytrach, fel y dywedai Robert Hall, yn ei ddull hynod a phriodol iddo ei hun, "yn cario y fath bentyrau o lyfrau ar ei ben, nes attal i'w ymenydd symmud." Y llyfrau a arganmolai efe fydddai y rhai a borthent y meddwl ac a gyffroent y teimlad. Gwyddai yn dda fod gwybodaeth yn allu. Dwyn trysorau allan o'i galon, ac nid o lyfrau, y byddai efe bob amser.

Fel hyn, yr oedd, drwy ei efrydiaeth a'i ddarlleniaeth sefydlog, wedi cyfoethogi ei feddwl o'r trysorau goreu. Yr oedd wedi moldio yr holl syniadau yn ei feddwl a'i farn ei hun. Yr oedd wedi gwneyd y cyfan yn eiddo personol iddo ei hun; a thrwy hyny, yr oedd, fel ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, yn alluog i ddwyn allan bethau newydd a hen, a'u gollwng gydag effeithioldeb mawr ar deimladau ei wrandawyr. Yr oedd ei alluoedd naturiol mor gryfion, ei olygiadau mor eglur, a'i wybodaeth mor eang, fel yr oedd y cyfan yn dyfod oddi wrtho bob amser gyda newydd-deb dyddorol, ac megys darganfyddiadau newyddion yn neidio i'r golwg ar y pryd. Ni ymddangosai dim a fyddai anddo fel nwyddau ail-llaw.

Yma y cawn ef yn ysgrifenydd lled fanwl. Eto, nid yn hyn yr oedd yn rhagori. Nid yma yr oedd tŵr ei arfogaeth. Gwyddai yn dda am y perygl o niweidio ei hyawdledd drwy gyflwyno manylion ei olrheiniadau ysgrifenedig i'w gof; ac eto, gwyddai gymmaint am werth cywirdeb, fel y byddai yn ddigon gofalus i gofnodi pob peth oedd wir angenrheidiol. Dichon iddo fod yn esgeulus o ysgrifenu ei gyfansoddiadau yn nechreu ei yrfa weinidogaethol, gan rym angerddol ei hyawdledd, a thybied pe buasai yn cyfyngu ei hun at gofnodau mewn ysgrifen, na buasai yn ddim amgen na dyn yn cerdded ar dudfachau; ac er bod yn dalach na neb, ac yn uwch na phawb, na allai deithio fawr yn mlaen, heb law bod mewn perygl o gwympo ar yr heol bob mynyd awr.

Yma yr ydym yn ei gael yn gryf mewn gweddi. Cyfeiriwyd mewn adgofion blaenorol at rai amgylchiadau a'i profodd yn ŵr gafaelgar a nerthol wrth yr orsedd; a dichon mai yma y cawn yr eglurhâd ar yr holl ddirgelwch hwnw. Y nerth oedd ef yn ei gasglu yn y dirgel oedd yn dyfod i'r amlwg yn y cyhoedd. Yr oedd hyn fel eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnw ar bob talent a feddai. Yr oedd ei ysbryd gweddi yn dwyn holl wrthddrychau ei fyfyrdod i wir eglurdeb yn ei feddwl, yn nerthu ei ymroddiad i'r gwaith, yn puro ei chwaeth gyssegredig, yn bywiogi ei ysbryd tanllyd, ac yn rhoddi pwysigrwydd difrifol yn ei holl lafur. Yr oedd fel perarogl ar ei dduwiolfrydedd, ac yn codi ei feddwl i deimladau dyrchafedig, ac yn gwneyd ei ysbryd yn fwy cyflwynadwy i'w wrandawyr. Dyma lle yr oedd y callestr yn dyfod i'r tarawiad cyntaf â'r dûr, i gynnyrchu y wreichionen, a ennynai yn fflam dân ac a oddeithiai yn olosg ysol, i'w wasgaru dros gynnulleidfaoedd lluosog ar unwaith, nes y byddai pob calon yn gwir deimlo gan y gwres. Dichon mai hyn oedd cyfrinach y gwreiddioldeb oedd yn ei bregethau. Sonir llawer am wreiddioldeb yn mhlith dynion; ond efallai mai ychydig o hwnw sydd i'w gael mewn gwirionedd allan o gloriau yr Ysgrythyr pa fodd bynag am hyny, yr oedd y bywiogrwydd, y nerth, a'r dylanwad oedd yn ei weinyddiadau ef, yn gosod argraff o wreiddioldeb ar ei holl anerchiadau i'r tyrfaoedd oedd yn ei wrandaw ar bob pryd. Yr oedd ef yn gwneyd perffaith chwareu teg â'i bregethau, drwy eu cyfeirio yn mhob modd at yr amcan mawr oedd ganddo yn ei genadwri. Yr oedd ganddo neges arbenig, a chenadwri benodol, at ei wrandawyr bob pryd. Nid gollwng saethau ar antur y byddai; ond yr oedd ganddo ei nod yn wastadol, ac yr oedd yn dra sicr o'i gyrhaedd.

Ni ddeuai byth o'i fyfyrgell nes bod yn barod at ei waith. Yr oedd ganddo ei ddyddiau a'i oriau penodol i ymneillduo i ymbarotoi at ei lafur cyhoeddus; ac nid yn hawdd y goddefai i neb ei aflonyddu na'i godi o'i ystafell ar y pryd. A diau na allasai byth ddyfod i ben âg anturiaethau mor eang ag a fyddai raid iddo ymgymmeryd â hwy, heb ryw reol sefydlog iddo ei hun, yr hon ni chiliai oddi wrthi. Ni chlywid ganddo byth bregeth â'i chyfansoddiad yn dangos arwyddion o fusgrellni, na difaterwch, na brys. Yr oedd y cyfan yn ddarnau gorphenedig, ac wedi eu puro yn y ffwrn seithwaith." Yr oedd ei amcan ar bob achlysur at fod yn weithiwr difefl, ac felly i iawn gyfranu gair y gwirionedd. Yr oedd dyben pregethu, iddo ef, yn rheol dull ei bregethu. Yr oedd ei iaith yn gref, a'i fater yn dda. Nid oedd byth yn gorlwytho ei ymadroddion â geiriau hirion; yr oedd ei nod i effeithio ar y gydwybod, i gyffroi y galon, ac i ddiwygio y bywyd. Myfyriai nes yr ennynai tân, ac yna y llefarai â'i dafod. Yr oedd hyn yn rhoddi ysbryd y peth byw ynddynt.

Yr oedd dylanwad ei ymbarotoad yn ei efrydfa ar gyfer ei lafur cyhoeddus yn hawdd iawn i'w ddarllen yn ei wynebpryd, pan y byddai mewn oedfa ar gyfodi i fyny at y ddesc i bregethu. Byddai teimladau ei feddwl yn fynych yn neidio i'w wedd, a byddai weithiau fel pe buasai yn mron a methu ymattal. Gwelwyd ef rai troion dan deimladau y buasai y darluniad a wnai Elihu o hono ei hun yn dra phriodol i'w gymhwyso ato ef. Ei feddwl yn cynneu ac yn ennyn, ac yntau yn mron tori allan i ddywedyd, "Y mae ysbryd mewn dyn, ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn peri iddo ddeall......gwrandewch fi; minnau a ddangosaf fy meddwl......minnau a atebaf fy rhan. Canys yr ydwyf yn llawn geiriau; y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymhell i. Y mae fy mol fel gwin nid agorid arno; y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. Dywedaf fel y caffwyf fy anadl, agoraf fy ngwefusau, ac atebaf. Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb, ni wenieithiaf wrth ddyn; canys ni fedraf wenieithio; pe gwnawn, buan y cymmerai fy Ngwneuthurwr fi ymaith. O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau, a'm gwefusau a adroddant wybodaeth bur."

Yr oedd ymbarotoad Elias at ei lafur cyhoeddus mor gyflawn a phe buasai yn credu y byddai ei holl lwyddiant yn y weinidogaeth yn troi yn gwbl ar ei ymbarotoad; ac eto, ar yr un pryd, yr oedd ei ymddiried a'i hyder mewn amdiffyn oddi uchod mor llwyr a phe na buasai yn ystyried ei ragbarotoad yn ddim. Yr oedd, wrth hyn, yn rhoddi ei le priodol ei hun i bob teimlad. Nid oedd byth yn foddlawn i ddyrchafu un ddyledswydd ar draul esgeuluso y llall.

Yr oedd ei adnabyddiaeth a'i ymarferiad âg ymadroddion y Beibl, yn dangos mai "y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu" oedd cartref ei fyfyrdod a'i astudiaeth. Yr oedd ei gof fel mynegair i'r Ysgrythyrau, a byddai ymadroddion nerthol geiriau gwirionedd a sobrwydd yn gydblethedig â holl frawddegau ei bregethau. Yr oedd yn dra hoff o eglurhadau ysgrythyrol yn ei holl anerchiadau cyhoeddus. Os adroddai hanesion, os cyfeiriai at egwyddorion naturiaethol, os cynnygiai gymhariaeth, neu os tynai addysg, byddai adnod o'r Beibl yn sicr o fod fel maen clo ganddo, ac fel rhan hanfodol o'r cyfanwaith i gyd; ac yr oedd hyny yn profi yn ddigon eglur fod ei "ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd," a'i fod "yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos." Os oedd wyneb Moses gynt yn dysgleirio pan y byddai yn dychwelyd o'r mynydd wedi bod yn nghymdeithas ân Duw, yn nirgelwch y Goruchaf, ac yn nghysgod yr Hollalluog, felly yn amlwg y byddai Elias, pan y byddai yn myned o'i fyfyrgell i'r areithfa. A pha bregethwr, ystyr iol o bwysigrwydd a chyfrifoldeb ei swydd, na ddywedai o eigion calon: "Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymmeradwy ger dy fron, O Arglwydd! fy nghraig a'm prynwr."

PENNOD XI

JOHN ELIAS, WILLIAMS O'R WERN, A CHRISTMAS EVANS.

Y MAE ein gwlad ni, yn ystod yr hanner canrif diweddaf wedi cynnyrchu pregethwyr a duwinyddion o enwogrwydd mawr:—dynion a adawsant argraffiadau o'u dylanwad ar gymmeriad cyhoeddus y genedl; dynion a siglasant y Dywysogaeth o'r naill gwr i'r llall, ac a gyfodasant filoedd i wrandaw gair y bywyd, y rhai oedd yn aros yn y fath ddifaterwch, fel nad oedd dim llai na chynhyrfiad tebyg i ddaiargryn a fuasai yn eu symmud ac yn eu codi allan o'u hanneddau. Buont o wasanaeth mawr i achos crefydd yn gyffredinol yn ein gwlad. Yr oedd rhai o honynt yn tra rhagori ar y lleill mewn amryw ystyriaethau. Nid yr un nifer o dalentau oedd wedi eu hymddiried i holl "werthfawr feibion Lefi;" ac nid oedd eu rhagoriaethau yn rhedeg yn yr un ffordd. Yr oedd rhai yn fwy amlwg nag ereill yn y naill beth neu y llall; ond yr oeddynt oll yn angenrheidiol er gwasanaethu yr achos mawr. Yr oedd rhai mor amlwg a'r llaw a'r llygad yn y corff, tra yr oedd yr aelodau a dybir eu bod yn wanaf oll yn ateb dyben pwysig yn eu lle. Yr oedd gan yr apostolion gynt eu trioedd," sef "Iago, a Cephas, ac Ioan—y rhai a dybid eu bod yn golofnau." Felly yr oedd gan y Dywysogaeth ei thrioedd; sef, JOHN ELIAS, WILLIAMS O'R WERN, a CHRISTMAS EVANS—y rhai a dybid eu bod yn golofnau yn yr eglwysi Cymreig. Yr oeddynt yn sefyll fel temlau ar wahân oddi wrth yr holl adeiladau ereill, ac yn saethu eu pinaclau i'r cymylau mor uchel fel nad oedd modd methu eu hadnabod. O blegid hyn, nid ydym yn ystyried ein hunain dan rwymau i wneyd un math o esgusodiad am y detholiad a wnawn o honynt fel y cyfryw. Hwy oedd "tri chedyrn Cymru" yn marn y cyhoedd. Yr oedd eu henwau fel "household words pan elent allan i daith ar gyhoeddiad, yn mhob cymmydogaeth trwy Ddeheu a Gogledd. I ba le bynag yr elent i bregethu ar unrhyw dymmor o'r flwyddyn, ac ar unrhyw awr o'r dydd, yr oedd yn ddigon i greu gwyl gyffredinol yno—ie hyd yn oed pe buasai yn ganol cynauaf y gwenith; a byddai raid i bawb, o bob gradd ac oed, gael eu rhyddid am y tro i fyned i wrandaw arnynt. Yr oedd y tri fel rhyw Sauliaid, yn uwch o'u hysgwyddau i fyny na phawb eraill; ac ni chyrhaeddodd neb ar eu hol i'r fath ddylanwad ar y cyffredin a hwy yn ein gwlad ni. Yr oedd gan y tri eu gwahanol dyrau, eu gwahanol lurigau, eu gwahanol arfogaeth, a'u gwahanol ddoniau. Ni allasai y naill wisgo arfbeisiau y llall; ni allasai y naill dynu yn mwa y llall: yr oedd cuddiad cryfder pob un mewn gwahanol fanau. Oud yr oedd pob un o honynt yn sicr o'i nôd; annelent i drwch y blewyn; ni ollyngent byth saeth heb iddi gyrhaedd ei phwynt; nid oeddynt byth yn llafurio yn ofer nac am ddim. Yr oedd eu cyd—gyhoeddusrwydd yn cyssylltu eu henwau rywfodd yn mhob achos cyhoeddus gyda phethau crefyddol. Atolwg, gan hyny, onid yw yn naturiol i ni ofyn, Yn mha le yr oedd dirgelwch eu rhagoriaethau? Yn mha fan yr oedd cuddiad eu cryfder? Yn mha beth yr oedd nerth eu dylanwad yn gynnwysedig? Wel, ni a wrandawn ar y tri; canys dyna y ffordd oreu i gael yr atebiad boddhaol i'r ymofyniadau hyn. Ni a edrychwn beth a wnaeth pob un o honynt; ni a osodwn anghraifft o bob un o honynt ger bron; ac ni a ymdrechwn dynu y casgliadau priodol mewn canlyniad. Y mae y bywgraffiad goreu o bob dyn i'w gael yn y peth ydoedd, ac yn yr hyn a wnaeth. Gwneir cofiantan i fyny yn fynych o ddychymygion am y pethau a allasai dynion fod, neu a allasent eu gwneuthur; a hyny efallai, weithiau, o herwydd prinder defnyddiau o ddim dyddordeb. Ond nid felly y mae wrth gyfeirio at "dri chedyrn Cymru:" mae yr anghreifftiau mor lucsog gyda hwy, fel y mae yn anhawdd gwybod pa rai i'w dewis gyntaf.

Yr oedd Elias yn rhagori yn ystôr ddirfawr ei wybodaeth dduwinyddol, eangder ei gof anfesurol, a nerth ei hyawdledd naturiol dihafal. Yr oedd Williams yn rhagori yn ei adnabyddiaeth o natur, ei fedr i osod pethau agos mewn effeithioldeb dyddorol ger bron, a'i berffaith feistrolaeth ar deimladau ei wrandawyr. Yr oedd Evans yn rhagori yn uchder ei ddarfelydd awenyddol, yn llawnder ei gymhariaethau naturiol, yn melusder ei ddawn, ac yn arabedd ei ymadroddion. Ystordy eang, gorlawn o holl geinion a thrysorau y byd, oedd Elias!—yr arddangosfa fawr ydoedd! —y palas grisial ydoedd! Gweithfa Watt a Stephenson oedd Williams, lle yr oedd elfenau a defnyddiau natur yn cael eu dwyn i ddylanwad ymarferol y naill ar y llall; lle yr oedd holl ddirgelwch dylanwadau yr ager a'r trydan yn cael eu dangos yn syml ger bron y cyffredin mewn gweithrediad! Awyren Green oedd Evans, wedi ei gwisgo â'r pali symmudliw; darfelydd a dychymygiaeth yn hofiau yn ddifyrus yn yr wybren, gan chwareu yn hyfryd o amgylch, a thywallt y miwsig mwyaf soniarus i ddisgyn ar ein clustiau o'r nen! Yr oedd yn anhawdd i'r edrychydd wrth basio wybod gyferbyn a pha un o honynt i aros hwyaf, i syllu a rhyfeddu, a mawrhau! Yr oedd gan y genedl ei chlychau suddol hefyd, a fedrent dreiddio i waelodion isaf yr eigion du, nes taraw pawb â syndod, er eu bod hwy eu hunain yn colli allan o'r golwg. Ond gan mai nid â'r dyfnderoedd allan o'r golwg yr oedd y cyffredin yn ymdeimlo fwyaf, nid oeddynt yn eu gweled hwy yn cyrhaedd dosbarth y trioedd. Felly, safai y cewri hyn, rywfodd neu gilydd, ar wahân, yn uwch na phawb; ac nid oedd modd gosod neb arall i eistedd yn gyfochrog â hwy.

Yr ydym wedi gosod angnreifftiau o Elias ger bron yn barod, fel mai afreidiol fyddai chwanegu, er y gellid eu lluosogi i swm cyfrol fawr. Yr oedd efe yn dra hoff o olyg iadau duwinyddol yr hen awdwyr Puritanaidd. Ei arwyddair oedd, "Yr hen dduwinyddion, a'r athronwyr diweddar." Yr oedd o'r farn na chafodd neb fwy o feddwl yr Arglwydd ar ol yr oes apostolaidd na'r Doctor Owen a'r President Edwards. Yr oedd wedi darllen yr holl weithiau boreuol yn fanwl iawn. Yr oedd yr holl esboniadau "uniawngred" wedi eu crynoi yn ei feddwl. Gallasai gyfeirio, ar unrhyw bryd, at eu syniadau ar unrhyw bwnc. Yr oedd ganddo fath o ddrwgdybiaeth am iachusrwydd golygiadau yr holl awdwyr diweddar, gydag ychydig iawn o eithradau; ac yr oedd hyn yn peri iddo fawrhau y rhai boreuol yn fwy. Yr oedd holl resymau ac eglurhadau y cyfan ar ei gof, ac at ei alwad. Nid ydym yn golygu wrth hyn, mai byw ar eiddo ereill yr oedd efe. O! na: yr oedd wedi moldio eu holl olrheiniadau yn ei feddwl ei hun. A phan y meddyliwn fod ei enaid mor gyfoethog o feddyliau, a'i ysbryd mor ddiorphwys mewn llafur, a'i ddawn areithyddol mor ddigyffelyb mewn dylanwad, nid rhyfedd oedd ei fod yn rhagori cymmaint fel pregethwr ar bawb, o bob gwlad, gan nad pa un ai Cymro ai Sais a fyddai. Yr oedd ei fedr i ddwyn gwirionedd i orphwys ar deimladau ei wrandawyr yn rhyfeddol iawn. Dywedir fod "gwybodaeth yn allu," a diau mai felly y mae: ond pa fodd bynag am hyny, nid oedd neb a wrandawai weinidogaeth Elias heb deimlo fod "gwirionedd yn allu "—ïe, yn allu Duw er iachawdwriaeth. Os byddai yn gollwng allan ambell air heb fod yn hollol goethedig, nid oedd i ddim ond i dynhau llinyn y bwa yn gynt; os gollyngai ambell ymadrodd heb fod yn holiol yn ol deddfau caethaf cyfansoddiad, nid oedd i ddim ond i gael gafael ar y gydwybod yn fwy effeithiol; os byddai ganddo ambell gymhariaeth heb fod yn gwbl yn ol rheolau cyfyngaf cyfatebiaeth, nid oedd i ddim ond i flaenllymu y saeth yn fwy miniog; os byddai rhywbeth tebyg i hanner attal-dywedyd arno weithiau, nid oedd i ddim ond i wneyd ei hyawdledd tanllyd yn fwy effeithiol. Yr oedd pob peth a fyddai ganddo mewn testyn, mewn athrawiaeth, mewn traddodiad, mewn ysbryd, ac mewn amcan, yn sicr o ateb y dyben fyddai ganddo ef mewn golwg. Byddai pob peth a wnai wedi ei gymhwyso a'i gynhyrfu, i aflonyddu, i ddeffro, i oleuo, i ddarbwyllo, i argyhoeddi, i ennill, ac i gaethiwo pob meddwl a fyddai ger ei fron. Byddai ei saethau bob amser wedi eu gloewi a'u llathru, drwy ymarferiad yn ei brofiad ei hun. Nid pigo saethau oddi yma a thraw, wedi syrthio o gawell un arall, y byddai; ond defnyddio rhai newydd, wedi eu hawchlymu yn ei brofiad ei hun, a'u tymmeru yn ngwaed ei galon ei hun.

Bellach, ni a gyfeiriwn at un anghraifft o Williams ac Evans, er mwyn dangos y modd yr oedd cryfder y tri yn gwahaniaethu oddi wrth eu gilydd.

Yr oedd Williams wedi troi ei feddwl i fyfyrio ar natur, ac olrhain egwyddorion athronyddol, a gwir achos pob peth, a hyny mewn rhyw ddull cartrefol ac agos iawn. Os dygwyddai iddo ef orwedd ar ei gefn yn yr ardd yn yr haf, wrth orphwys, i fyfyrio ar ei bregeth, a gweled y wennol yn gwneyd ei nyth dan fargod y tô, mynai ryw eglurhâd ar ryw bwnc neu gilydd yn ei bregeth oddi wrth hyny. Yr oedd ef gartref rywfodd bob amser gyda phob peth. Yr oedd fel pe buasai yn rhwym o fynu chwilio i mewn am reswm dros bob gwirionedd ac athrawiaeth a gynnygient eu hunain i'w sylw. Nid oedd yn cymmeryd dim yn ganiataol heb ei chwilio. Mynai bwyso a barnu pob peth a ddygid ger bron. O blegid hyn yr oedd ei gymhariaethau mor naturiol, ac mor darawiadol. Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn hynod o ystwyth, a'i dafod yn llithrig fel pin ysgrifenydd buan. Gallai dynu maesolygfa yn ei holl linellau a'i gysgodion, ei bellder a'i agosrwydd, ac oddi waered i fyny o'r ddaiar i'r nen, gyda phwyntil perffaith. Yr oedd ei ddarluniad o Abraham yn teithio yn ngwlad yr addewid, yn ei bregeth ar y "wlad well," yn ddigon i beri i'r gwrandawyr anghofio mai gwrandaw ar un yn son am le yr oeddynt, a thybied eu bod yn cael eu harwain mewn gwirionedd wrth eu llaw, gam a cham trwy bob dyffryn a chwm, a dôl, heibio i bob coedwig, a heibio i ael pob bryn, a thrwy bob nant, a thros bob afon, a chyda phob gardd, a thrwy ymylon pob tref oedd yn Nghanaan i gyd! Yr oedd yn gallu gweithio mor naturiol at deimladau y bobl, yn y bregeth hono, nes yr oedd yr holl dorf yn foddfa o ddagrau, a hyny yn hollol ddiarwybod iddynt eu hunain. Yr oedd ei lancet yn archolli hyd y byw; ond yr oedd y min mor deneu fel nad allai neb ei deimlo; ac yr oedd pawb fel pe buasent heb wybod dim am hyny nes iddynt weled y gwaed. Yr oedd hyn oll cyn iddynt feddwl na dysgwyl dim am y fath beth; ac yr oedd y cwbl yn cael ei wneyd heb un math o arwydd egni nac ymdrech ynddo ef ei hun, ond gyd a'r esmwythder mwyaf diymgais. Yr oedd fel pe buasai yn deall anianyddiaeth y meddwl dynol yn drwyadl. Dywedai yn fynych fod "natur yn sicr o daro natur!" Yr oedd wedi gwneyd ei weinidogaeth yn brif wrthddrych ei astudiaeth, nes yr oedd wedi dyfod o'r braidd yn sicr o'i nôd bob tro yr esgynai i'r areithfa. Yn ei ddyddiau boreuaf, pan y dygwyddai droi yn fethiant, canfyddai hyny yn fuan, ac nid äi byth i ddirdynu; ond rhoddai i fynu ar fyrder: ni fynai orweithio mewn gorchest byth. Ond pan y daeth i addfedrwydd ei weinidogaeth, yr oedd bob amser yn deall ei bwnc, yn adnabod ei sefyllfa, ac yn sicr o'i nôd!

Yr oedd Evans yn hynod am uchder ei ddychymygiaeth. Yr oedd yn llawn o ysbryd barddoniaeth, er nad oedd yn ymddilladu yn y wisg farddonol. Gallai chwareu ar gymhariaethau a ffugrau mewn araeth ddilynol, a hyny mewn ffrydlif diorphwys o'r hyawdledd mwyaf swynol, am chwarter awr cyn cael y full stop. Pan y deuai i uchder eithaf ei wres araethyddol, yr oedd ei fynweslais soniarus, yn rhoddi adgyfnerthiad i'w effeithioldeb ar glustiau ei wrandawyr. Yr oedd ei ffugrau yn hollol neillduol iddo ei hun. Pan yr oedd yn pregethu mewn cymmanfa―ar y geiriau "Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni; yr hon oedd yn ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymmerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; gan ysbeilio y tywysogaethau a'r awdurdodau, efe a'u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi"—yr oedd Stanley o Alderley newydd lwyddo i gael symmud ymaith y tollbyrth oddi ar yr hen brif-ffordd yn Môn, ac yr oedd yno le hynod i'w ddarfelydd chwareus ehedeg yn ei helfen wrth ddarlunio yr amgylchiad. "Daeth Stanley allan," meddai efe, "yn ei holl rym; ac âg un araeth, efe a symmudodd yr hen dollbyrth ymaith i gyd oddi ar yr hen brif-ffordd yn Môn yma. Aeth at y porth yn ei gerbyd, a gwaeddai ar y porthor, Open the gates! 'Pa le mae y tâl?' meddai y porthor. Yr oedd yno rywbeth ar y ffordd. Ond yn lle gorfod talu, disgynodd i lawr, ac ymaflodd yn yr hen byst teirllath, ac a'u taflodd hwy a'r hen glwyd dros y clawdd ar unwaith. Ffordd rydd i mi bellach! meddai ef, ac yna esgynodd i'w gerbyd, a thrwodd âg ef rhag ei flaen: ac y mae y ffordd yn rhydd ac yn rhad i bawb ar ei ol ef hyd heddyw. Felly yr oedd Cadben mawr ein iachawdwriaeth ni yn myned trwy byrth y nef adref i ogoniant; ond nid rhyw byst o goed, llonydd, meirw, oedd ganddo ef i'w symmud oddi ar y ffordd, ond ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, â deg o fagnelau Sinai ger llaw, â'u ffroenau yn pwyntio at fywyd yr euog; a miloedd o gythreuliaid, a myrddiynau o dywysogaethau, a channoedd o awdurdodau, yn sefyll o amgylch y lle, yn rhwystro fforddolion Sion i deithio llwybr y bywyd. Ond ar Galfaria, pan aeth Mab Duw i symmud y gates ysbrydol, dyma ef yn galw y gelynion i gyd o bob man i faes y frwydr! gwaeddodd ar gynghreiriau y gethern, ac ar holl ddichellion y fagddu i ddyfod yn mlaen:—' Yn awr yw eich awr chwi,' eb efe, 'a gallu y tywyllwch!' Rhyfedd iawn ar hyn, fel yr oedd penaeth y diafliaid yn rhoddi ei word of command i holl alluoedd y pydew i ddyfod yn mlaen: 'Dowch allan bob un heddyw i Galfaria,' meddai ef; ymarfogwch, chwi ddewrion enwog y pwll diwaelod; 'ymwrolwch, chwi ffyddloniaid yr affwys du! a chwithau y cythreuliaid bychain, gweiniaid, cloffion yna, dewch allan bob un; os na fedrwch chwi ymladd, chwi ellwch fingamu, a llaesu gwefl, a phoeri fel cathod! Clywch yr udgorn yn galw i'r frwydr!' Gyda hyn, dyna yr hen gatrodau duon yn cychwyn tua'r groes. 'Ha! dyma ddiafol ac angelion yn dyfod! ebe Iesu Grist; 'wel, tyred yn mlaen, dywysog y fagddu, a mi a'th darawaf nes y byddot ti yn disgyn fel sildyn torgoch yn y fan yna! dewch chwithau yn mlaen, hen deirw Basan, â'r cyrn degllath, a mi a'ch tarawaf âg un ergyd, nes y byddoch yn glynu yn holltau creigiau Iudea, gerfydd eich cyrn! deuwch chwithau yn mlaen, hen unicorniaid uffern, a mi a'ch llethaf âg un wasgfa, nes bo y parlys mud arnoch bob un, a mi a ysigaf eich balchder âg un dyrnod! 'Hawyr bach! bobl anwyl! dyma ddyffryn Jehosaphat wedi ei balmantu â charnau teirw a chyrn unicorniaid drosto i gyd! Wel, bellach, byrth, dyrchefwch eich penau! ddrysau tragwyddol, ymagorwch! a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. Haleluiah! dyna y pyrth yn agored—dyna y ffordd yn glir bob cam—dyna yr hen femrwn wedi ei hoelio wrth y groes; dyna yr udgyrn yn dechreu seinio, a'r telynau yn dechreu chwareu, a'r frwydr fawr drosodd am byth, a'r saint hwythau yn dechreu canu'

Efe a ddrylliodd y bwa saeth,
Y waew wnaeth yn ddarnau,
Ysigai 'r holl darianau pres,
Fe dorai'r rhes cleddyfau,' &c."

Byddai yn ofer ceisio darlunio yr effeithiau oedd ar y dorf, dan yr hyawdledd chwareus hwn; canys yr oedd pawb wedi eu cwbl syfrdanu drwy yr holl le. Yr oedd yn tywallt yr hyawdledd mwyaf swynol ar benau y bobl, nes yr oedd teimlad byw i'w ganfod yn mhob wyneb oedd ar y maes ar y pryd. Haws yw ei ddychymygu na'i ddarlunio!

Dichon y gall yr anghreifftiau hyn roddi rhyw awgrym byr o'r hyn oedd yn hynodi y tri seraph tanllyd; a dichou y gallant gyflwyno i feddyliau y genedlaeth ieuanc, a'r rhai na chlywsant mo honynt yn pregethu erioed, ryw ddychymyg egwan am eu galluoedd, ac yn mha bethau yr oeddynt yn ymdebygu, ac yn mha bethau yr oeddynt yn gwahaniaethu oddi wrth eu gilydd. Yr oedd gan bob un o honynt ei dŵr a'i arfogaeth ei hun, ac yr oedd fel tŵr Dafydd, yr oedd â tharianau fil yn nghrog ynddo. Yr oedd gan bob un ei ffordd ei hun, a phob un yn nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll annuwioldeb, anystyriaeth, ac anfoesgarwch i'r llawr. Nid oes dim a wnelom ni â dyrchafu na darostwng un o'r tri, y naill ar draul y llall. Nid ein hamcan oedd na mawrhau na bychanu un o honynt, ond dangos portreiad cywir a ffyddlawn o honynt; gyda dangos yn mha ffordd yr oedd eu rhagoriaethau yn dysgleirio. Y mae coffäu enwau y tri gwron yn dwyn hen gofion maboed yn hiraethlawn iawn i'n teimladau; ac y maent yn ein harwain i ofyn

P❜le mae'r hen seraphiaid tanllyd,
Siglai'r ddaiar, siglai'r nef?
P'le mae Elias? P'le mae Williams?
P'le mae Christmas fwyn ei lef?—
O fysg gwerthfawr feibion Lefi,
Collais olwg ar eu gwedd,
Ciliais o'r gymmanfa i ddarllen
Enwau 'r tri ar gareg fedd!


PENNOD XII

SYLWADAU DIWEDDGLOAWL

Y MAE llawer o ffugiant yn cael ei ysgrifenu mewn ffordd ddychymygol, eto yn seiliedig ar wirionedd:—"Fiction founded on fact." Honir mai ffaith fydd y sylfaen, ond addefir mai tybiau fydd yr oruwch adeiladaeth. Ond nid felly y mae gyda ein nodiadau ar John Elias. Nid gwirionedd yn sylwedd, a ffugiant yn addurn sydd yma; ond ffaith yw y sail, a ffaith yw yr adeiladaeth hefyd. Amcenir yma osod ger bron, ar y lleni, faesolygiadau, yn ymsymmud y naill ar ol y llall, mewn arddangosiadau dilynol, fel y darfu iddynt gymmeryd lle yn weithredol a gwirioneddol. Nid ymdrech sydd yma i chwyddo gwrthddrychau i faintioli annaturiol, ond cais at dynu darlun cywir, a ffyddlawn i natur. Nid bwriad sydd yma i dynu ardeb mewn lliwiau cryfach na'r gwreiddiol, er mwyn rhoddi hynodrwydd yn ei ymddangosiad, ond ymgais at osod y gwrthddrych ei hunan ger bron mewn dull na byddo modd i neb fethu ei adnabod. Yn hytrach nag amcan i arloewi y darlun er mwyn dysgleirdeb, cais sydd yma i symmud pob varnish ymaith, er mwyn dangos y person yn ei wedd naturiol ei hun. Os na adwaenir portread heb gynnorthwy yr enw a fyddo wedi ei ysgrifenu neu ei argraffu dano, ni ystyrir ef yn werth dim yn y byd. Ymdrech syml sydd yma i gyrchu ein hareithiwr yn ol i'r byd am unwaith, a'i osod ger bron y rhai a'i clywsant mewn adgofion am bethau a fu, yn gystal a'i ddwyn i olwg llygad, ac o fewn cyrhaedd clyw, y genedlaeth sydd yn codi, y rhai na wyddant ddim am dano ond mewn hanes a son yn unig.

Gwyddai yr ysgrifenydd fod nifer o gofiantau wedi eu cyhoeddi am Mr. Elias yn barod, yn Gymraeg a Seisoneg, ond gan y bwriadai yntau wneyd rhyw ychydig o gofnodau am dano ryw bryd, ymattaliodd rhag darllen un o honynt, yn unig er mwyn ymochel, rhag cael ei dynu allan o'i lwybr ei hun, yn y naill ffordd na'r llall, i lwybr neb arall; a rhag iddo beidio cofnodi dim a fwriadai a fyddai wedi ei grybwyll gan ereill, a rhag i ddim a fyddai ereill wedi ei adrodd fod yn rhwystr iddo ddwyn i mewn bethau a ystyriai yn wir angenrheidiol; fel y byddai yr adgofion hyn mor ffyddlawn i natur ag y byddai modd. Gadawyd digon o amser i bawb ereill ysgrifenu a chyhoeddi ar y testyn, cyn dwyn yr erthyglau hyn ger bron y cyhoedd drwy y wasg.

Y mae pob dyn mawr o'r bron a gyfododd i sylw yn Nghymru fel pregethwr, yn cael nifer o ddynwaredwyr. Yr oedd gan Mr. Elias epaod yn ddirifedi. Ond ni chynnygiwyd erioed ar ddynwared neb yn fwy aflwyddiannus na dynwared Elias. Yr oedd ganddo ef, fel o'r bron bob dyn mawr arall, ei agweddiadau od a'i ddulliau dyeithrol; ac y mae yn hynod i'w sylwi mai pethau gwaelaf dynion mawr a amcenir eu hefelychu bob amser. Byddai yn ddigrif iawn gweled ambell wenhudyn yn esgyn yr areithfa yn ngŵn a llodrau Elias. Byddai dynion synwyrol mewn byd mawr i allu peidio gwenu yn dosturiol wrth ei weled—â'i goes mor fain a'i droed mor fyr, nes y byddai yn colli y botasau wrth ddringo grisiau y pulpud; ac erbyn dyfod i'r lan, byddai golwg ryfedd arno, â gwasgod mor laes nes y byddai yn cyrhaedd at ben ei lin; a chôt mor fawr, fel y byddid yn methu peidio a dychymygu am fantell ar yr hoel. Ond y mae eithrad o'r bron i bob rheol gyffredinol. Darfu iddo yntau unwaith, o'r braidd, gael ei daflu dros y bwrdd gan ei ddynwaredwr. Yr oedd cymmanfaoedd i fod mewn man neillduol yn y Deheudir; un gan y Methodistiaid, ac un gan enwad arall. Yr oedd Elias yn cychwyn ar ei daith yno, ac yn pregethu y noswaith gyntaf ar ol cychwyn o gartref, mewn tref nid yn neppell; ac yr oedd i gyrhaedd i'r gymmanfa yn mhen tair wythnos. Ei destyn oedd, "Heb gyfattal y pen, o'r hwn y mae yr holl gorff, trwy y cymmalau a'r cyssylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgyssylltu yn cynnyddu gan gynnydd Duw." Yr oedd pregethwr o enwad arall yno yn gwrandaw; yr hwn, er na chymmerai nemawr o drafferth i fyfyrio ei hun, a allai gofio pregeth un arall wedi ei gwrandaw unwaith bob sill ac iot; ac yr oedd fel traddodwr yn un o'r rhai ffraethaf a mwyaf doniol yn Nghymru. Gallai adrodd pregeth dyn arall mor fanwl, air yn ngair, a phe buasai yn ei darllen o ysgrifen neu argraff. Yr oedd y pregethwr hwn yntau yn cychwyn dranoeth i gymmanfa oedd i gael ei chynnal yn yr un lle, yn mhen yr wythnos. Yr oedd yn pregethu yno am ddeg o'r gloch; a'i destyn oedd, "Heb gyfattal y pen, &c.;" ac yr oedd ei bregeth wedi cael yr argraff mwyaf effeithiol oedd yn ddichonadwy ar y dorf. Ni bu dim yn hynod yn y gymmanfa hon ond yn unig y bregeth am ddeg o'r gloch. Yn mhen y pythefnos yr oedd Elias yntau wedi cyrhaedd yno, ac yn pregethu am ddeg o'r gloch yn yr ail gymmanfa—yn yr un dref, ac ar yr un maes. Darllenodd ei destyn, "Heb gyfattal y pen, &c." Gwelai ryw olwg wammal hynod ar y dorf. Yr oedd yn methu yn lân a deall beth oedd yr achos. Yr oedd yn meddwl ei fod yn ddifrifol ei hun, a bod ganddo destyn difrifol a phwysig iawn. Ond er pob peth, gwibiog oedd yr olwg ar y bobl yn parhau o hyd; ac felly, methodd Elias yn hollol a chael yr afael arferol ar y gwrandawyr y tro hwnw! Mawr oedd y syndod ganddo pan y gofynodd un cyfaill iddo, wedi myned i'r tŷ, pa fodd yr oedd efe yn dyfod â phregeth ail llaw iddynt i'r gymmanfa? "Pregeth ail llaw?" ebe yntau. "Ië," ebai y cyfaill "ni a'i clywsom bob gair bythefnos yn ol ar y maes yna' "Wel, y mae hi wedi bod yn llawer rhatach i rywun nag i mi ynte," meddai Elias. Felly, gadawyd ef yn y niwl am y tro hwn; ac efallai mai yr unig dro iddo fod felly yn ei oes ydoedd! Yn mhen ychydig amser wedi hyny, gofynodd i gyfaill, "A wyddoch chwi a oedd hwn a hwn yn gwrandaw yma, pan oeddwn i yn pregethu ar y testyn, "Heb gyfattal y pen, &c.?" "Oedd siwr," oedd yr atebiad, "yn yr un seat a mi yr oedd efe yn gwrandaw." "A ddarfu i chwi ddim sylwi, a oedd efe yn ysgrifenu yno ar y pryd?" Atebwyd, "o nag oedd, ac nid oedd eisieu hyny chwaith; o blegid efe a gofia bob gair, sill, ac iot, o bregeth un arall." "Wel, Syr," ebai hwnw ar hyn, " pa ham yr oeddych yn gofyn, os yw y cwestiwn yn briodol?" "O dim," meddai yntau, "ond ei fod ef fel finnau yn pregethu ar yr un testyn weithiau; ac y mae peth felly yn dygwydd yn fynych."

Y mae llawer o bregethau Elias wedi cael eu hargraffu; ond y mae yn nodedig i'w sylwi, fel y bydd pawb yn cael eu siomi yn eu dysgwyliad wrth eu darllen. Diau na byddant yn cael eu siomi ynddynt gymmaint fel cyfansoddiadau, ond am ysbryd y peth byw oedd ynddynt tra y byddai efe yn eu traddodi! Yr oedd y gloch ymadrodd ar ol ynddynt. "Rhyfedd! (meddai pob dyn o'r bron) nid wyf fi yn eu clywed yr un fath a phan y byddai efe ei hun yn eu llefaru, Nid ydwyf yn clywed dim mwy ynddynt na rhyw bregethau da ereill sydd genyf mewn llyfr yn rhywle yn y tŷ yma! Dyma bregeth a glywais i ef ei hun yn ei thraddodi, yn y fan a'r fan, yr amser a'r amser; yr oedd hi yn disgyn y pryd hwnw fel tân byw bob gair ar deimladau y bobl; ond nid wyf fi yn clywed dim yn y byd ynddi wrth ei darllen yn y llyfr yma!" Heb wybod fawr am yr anmhosiblrwydd o roddi bywyd mewn papyr ac inc. Nid oes modd cael gwell esboniad ar hyn, nag mewn gair a ddywedodd Elias ei hun ar achos arbenig yn Llundain. Yr oedd gweinidog o Gymru unwaith i draddodi y bregeth genadol dros Gymdeithas Genadol Llundain yn nghapel Surrey. Yr oedd cryn ofal a phryder arno yn nghylch y gorchwyl pwysig; a gofynodd y gweinidog i'r hen batriarch Matthew Wilks, yn mhresennoldeb Mr. Elias, pa un a fyddai oreu iddo, ai darllen ei bregeth, ai ynte ei thraddodi o'i feddwl? Dywedodd Mr. Wilks, "Efallai mai ei darllen fyddai oreu i chwi; ond pa fodd bynag, gadewch i ni gael cymmaint o dân Cymraeg ynddi ag y byddo modd; onid e Mr. Elias?" meddai efe. I'r hyn yr atebodd Elias yn union, "O, nid oes modd cario tân mewn papyr, Syr." Yn awr, dyna yr atebiad goreu i'r ymofyniad, pa ham na byddai mwy o Elias ei hun yn ei bregethau argraffedig. "Nid oes modd cario tân mewn papyr."

Yr oedd Mr. Elias bob amser yn cyfansoddi ei bregethau gyda gofal mawr. Nid esgynai ef byth i'r areithfa i draddodi rhywbeth a ddeuai gyntaf i'w feddwl; er ei fod mor alluog i gyfodi i fyny i siarad ar unrhyw bwnc yn ddifyfyr a neb yn ei oes. Yr oedd agwedd orphenol i'w ganfod ar ei holl bregethau drwyddynt, pa un bynag a olygwn ai y dygiad i mewn, ai defnydd y sylwadau, ai y casgliad oddi wrthynt. Nid oedd ef byth yn ymddangos fel un heb adnabod ei lwybr. Dywedai Williams o'r Wern, fod pregethwr heb ragymadrodd priodol yn debyg i ddyn yn troi allan i daith, heb wybod i ba le y byddai yn myned; a bod dyn na allai dynu casgliad priodol oddi wrth ei sylwadau, yn debyg i ddyn yn dychwelyd o daith heb wybod yn y byd pa le y bu. Nid felly yr oedd Elias. Byddai pob peth ganddo ef yn ei le ei hun, ac yn deilwng o hono ef ei hun, ac ni adawai byth le i arall wellhau ar ei ol.

Ychydig iawn a arferai alw o bennillion i'w gynnorthwyo yn ei bregethau. Nid ydynt yn aml ond pethau i wneyd i fyny am ddiffygion, er eu bod yn dyfod yn ddigon esmwyth a naturiol yn aml. Eithriad i'w drefn gyffredin ef yw yr hyn a geir yn pennod v. Efallai fod llawnder ei enaid o feddyliau yn rheswm am hyn: nid oedd ganddo ef ddiffygion i'w llanw. Adnodau oedd ei bennillion ef bob amser:—barddoniaeth yr Ysgrythyrau, gyda chywirdeb a phriodoldeb, bob Mewn addoliad cyhoeddus, yr oedd yn dra hoff o roddi Salmau Edmund Prys allan i'w canu. Ychydig o bennillion a gyfansoddodd efe. Y mae yr emyn a ysgrifenodd ar y mesur byr yn darllen yn dda iawn.

Mewn tramarawd yr oedd grym penaf Mr. Elias fel areithiwr. Gallai wrthwynebu peth gyda mwy o nerth na'i arganmawl: gallai dynu peth i lawr gyda mwy o rym na'i godi i fyny. Yr oedd nerth ei ddynoethiad o gyfeiliornad neu ryw anfoesgarwch uwch law pob dychymyg. Yma y· oedd efe megys yn ei elfen. Os dynoethi y pechod o halogi y Sabbath y byddai, gwnai hyny gyda y fath ddylanwad, nes newid ymddygiad cymmydogaeth gyfan. Os ymosod ar anfoesau cyhoeddus y byddai, gwnai hyny nes cael ei deimlo bob amser. Os dynoethi y pechod o ysbeilio ar ol llongddrylliadau y byddai, gwnai hyny nes gosod yr ysbeilwyr yn y fath anesmwythder cydwybod nes methu cysgu y nos, cyn danfon yr ysbail yn ol. Os ymosodai ar y ffeiriau cyflogi a gedwid newn rhai manau ar y Sabbath, neu negeseuau afreidiol, gwnai hyny gyda y fath wroldeb, nes y llwyr ddilëid yr arferiad o'r fan am byth. Gosodai dân ysol dan bob noddfa celwydd. Chwelid anfoesau cyhoeddus fel niwl o flaen y goleuni a daflai, o wres ei hyawdledd, nes clirio yr awyr yn deg! Dyma lle yr oedd ei brif gadernid.

Bernir yn gyffredin nad oes un bywgraffiad o hono wedi ei ysgrifenu yn ddigon desgrifiadol, hyd yn hyn. Golygir nad oes un wedi ei ysgrifenu fel y gellid ei adnabod heb ei enw; er yn ddiau y dywedid eu bod yn dda, cyn belled ag yr oeddynt yn cyrhaedd. Pa mor bell y llwyddwyd i wneyd y diffyg hwn i fyny yn yr amcan presennol, y cyhoedd biau barnu. Yr hyn a ddywedir am ei gofiantau, a ellir ei ddywedyd hefyd am ei ardebau. Nid yw y goreu o honynt yn ddim amgen na gwrthlun o hono. Nid yw agweddiad ei wyneb, bywiogrwydd ei lygaid, treiddgarwch ei dremiad, llefariaeth ei wedd, na ffurfiad ei gorff, yn cael eu dangos yn deg mewn un o honynt. Efallai mai y goreu, ar y cyfan, yw yr un a ymddangosodd yn yr Eurgrawn Efengylaidd, flyneddoedd yn ol; ond nid yw hwnw yn cyflawn ateb y dyben.. Y mae y llinellau gwreiddiol yno; ac nid anhawdd fyddai cael yr amlin eto. Gydag arweiniad rhyw un craff oedd wedi sylwi yn fanwl arno, gallai lluniedydd cywrain, o farn gyrhaeddgar a llaw ysgafn, dynu allan ddarlun teilwng o hono. Gresyn na byddai i ryw un galluog ymgymmeryd â'r gorchwyl, er mwyn trosglwyddo i'r oes a ddel olygiad naturiol arno.

Yr ydym yn awr yn terfynu ein sylwadau mewn ffordd O ADGOFION AM JOHN ELIAS:—un o'r dynion enwocaf, ar amryw ystyriaethau, a fagodd Cymru erioed:—dyn y bydd ei enw yn cael ei drosglwyddo yn mysg hanesion crefyddol ein gwlad, fel perarogl i'r oesau a ddel, a'r plant a enir mewn cenedlaethau rhag llaw, fel un o brif ddiwygwyr ei oes! Pa faint bynag oedd ei ddiffygion a'i golliadau, (a phwy sydd hebddynt?) nid oes neb na addefa fod ei ragoriaethau yn eu cysgodi ac yn eu gorchuddio i gyd! Y mae y brychau yn colli o'r golwg yn nhanbeidrwydd dysgleirdeb yr haul. Nid oedd dim a wnelom ni âg un amcan, mwy na llai, na cheisio tynu portread cywir o hono yn ei gymmeriad cyhoeddus fel pregethwr. Dichon fod awchder gwres ei deyrngarwch wedi ei gario i eithafion yn ei olygiadau gwleidyddol; ond nid y politician, ond y pregethwr, oedd gwrthddrych ein hadgofion. Ac os bydd i'r adfyfyrdodau hyn fod yn foddion i godi dymuniad newydd drwy y wlad, ar fod i ddeuparth o'i ysbryd ddisgyn ar y pregethwyr ieuainc sydd yn cychwyn i'r maes, ac i godi ysbryd gweddi yn yr eglwysi, i erfyn am i'w fantell ddisgyn ar weinidogion y cyssegr yn gyffredinol; ac i ddyrchafu eu golwg oddi ar y gweision at y Meistr mawr, ac i waeddi allan oddi ar wir wasgfa yn wyneb yr olwg bresennol sydd ar ansawdd ein gwlad, "Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?" bydd yr amcan oedd mewn golwg wrth eu hysgrifenu wedi ei gwblhau.

Ofnwn, na welwn, un waith
Wr o'i ail, na'i fedr eilwaith;
Ni ddaw neb o'i ddoniau o
Fyth atom, na'i fath eto!


PENNOD XIII

JOHN ELIAS, EI FARWOLAETH A'I GLADDEDIGAETH.

DYWEDODD Addison unwaith wrth foneddwr ieuanc oedd o olygiadau lled ammheus ar wirioneddau Cristionogaeth, pan yr oedd cyfaill iddo, yr hwn oedd yn Gristion dysglaer, ar gymmeryd ei adenydd i'r byd ysbrydol, "Deuwch gyda mi," gan ei arwain yn dyner wrth ei law, "a dangosaf i chwi pa fodd y gall Cristion farw!" Yr ydym ninnau wedi edrych ar Elias yn byw, ac wedi gwneyd amryw nodiadau ar ei fywyd; efallai na byddai yn anmhriodol i ni, cyn terfynu, edrych pa fodd y gallai farw. Awn i'w ystafell angeuol, yn y mynydau mwyaf difrifol a fu arno erioed, a chawn weled a chlywed pa beth a ysgrifena, a pha beth a ddywed yno. Gorphenodd ei yrfa ddaiarol yn y Fron, Llangefni, yn Mon, ar yr 8fed dydd o Fehefin, 1841, yn y 69ain flwyddyn o'i oedran. Dyma ei dystiolaeth pan yr oedd ar wynebu brenin y dychryniadau, a chychwyn i ffordd yr holl ddaiar; pan yr oedd yn

—tynu at ochr y dŵr,
Bron gadael yr anial yn lân."

"Yr ydwyf mor ddedwydd fy meddwl ag y dichon i ddyn fod o dan y fath boen ag yr wyf ynddo. Nid oes un cwmwl yn myned rhwng fy enaid a'm Duw; y mae y cysuron hyny yr arferwn eu mwynhau yn moddion gras ac yn y weinidogaeth, yn dylifo eto i fy enaid; ïe, y maent weithiau yn gryfach ac yn fwy bywiog yn eu heffeithiau yn awr nag y buont erioed o'r blaen!"

Y mae yr hanesyn am yr ymherawdwr oedd â chraith led hagr ar ei wyneb, yn myned i gael tynu ei ddarlun, yn adnabyddus i'r cyffredin. Annogid ef i eistedd â phwys ei ben ar ei benelin, a'i law dan ochr ei wyneb, a'i fys yn cyrhaedd dros y graith, er ei chuddio yn gwbl oll, fel nad ymddangosai dim o honi ar y llen. Hawdd ydyw addef nad oes nemawr ddyn heb ei graith. Ond nid â chreithiau y mae a wnelom yma. Gadewir y diffygion i ofal y rhai hoff o ymborthi ar weddillion. Nid oes dim a wnelom yma ond âg adrodd ffeithiau, ac adgoffa pethau a gymmerasant le yn weithredol a gwirioneddol, yn yr hyn oedd werthfawr fel addysgiadau i ni, a hyny ar lan y bedd.

Y mae yn amlwg ei fod wedi ymbarotoi ar gyfer y cyfnewidiad oedd ger llaw, fel y gwelir wrth ei eiriau penderfynol ef ei hun,—"Yr ydwyf wedi rhoddi fy nghorff a'm henaid yn ngofal y Gwaredwr mawr er ys deng mlynedd a deugain, ac yno y maent eto!" Adwaenai Paul "ddyn yn Nghrist er ys pedair blynedd ar ddeg;" ond adwaenai Elias un ynddo er ys hanner canrif!

Yr oedd yn berffaith dawel yn ei gystudd, ac yn gallu ymollwng yn gwbl i ewyllys ei Arglwydd. Y mae ei dystiolaeth ef ei hun yn dra boddhaol ar hyn; canys dywedai, "Yr wyf unwaith eto yn cael eich cyfarch o ystafell cystudd, lle y mae fy Nhad doeth a da yn gweled yn oreu i mi fod. Y mae efe yn dda iawn wrthyf; yr wyf yn cael llawer awr o gymdeithas ag ef! 'Da i mi gael fy nghystuddio.' Ni wn eto beth a wna yr Arglwydd o honof; pa un ai fy symmud o'r winllan, ai fy adferu dros ychydig, i geisio gwneyd rhywbeth eto dros ei enw yn y byd. Gwn nad oes arno fy eisieu, a gwn fod yn hawdd iddo fy adferu. Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg.'"

Yr oedd ei ostyngeiddrwydd yn dra phrydferth yn yr adeg ddifrifol hon. Yr oedd pob arwyddion ymaddfedu ynddo. Yr oedd yn ymwybodol o'i sefyllfa ddylanwadol fel gweinidog yn mysg ei frodyr; eto cadwyd ef yn gydostyngedig â'r rhai iselradd, o blegid yr oedd wedi ymdrwsio oddi fewn â gostyngeiddrwydd. Yr oedd yn ystyriol o'i fod wedi gwneyd ei oreu i adael y fath argraff ar y byd ag y gwneid coffa am dano wedi ei ymadawiad; ond ni chollodd mo'i olwg unwaith ar yr hwn yr ystyriai ei hun yn ddyledus iddo am bob dawn; ac i'r hwn y dymunai ddychwelyd yr holl anrhydedd am yr hyn y bu yn offerynol i'w gyflawnu. Yn yr olwg ar y llinellau bywgraffiadol a ysgrifenasai iddo ei hun, terfynai gyda'r ymadroddion gwylaidd canlynol:—" Ysgrifenais y pethau hyn, heb wybod nad 'yn rhosydd Moab, ar lan yr Iorddonen' yr ydwyf. Mewn gofid, a thrwy anhawsder mawr yr ysgrifenais—gan fy ystyried fy hun yn ysgrifenu ger bron Duw: ac efallai, yn ysgrifenu yr hyn a ddarllenir pan y byddaf fi yn ddystaw yn y bedd. Nid oes genyf ddim i'w ddyweyd am danaf fy hun, heb law am fy mhechadurusrwydd, fy ngwaeledd, a'm trueni mawr; ond byddai dda genyf ddyweyd yn uchel ac yn eglur iawn am ddaioni, trugaredd, a gras Duw tuag ataf fi, yr annheilyngaf! Dyma y tlawd a godwyd o'r llwch! dyma yr angenus a ddyrchafwyd o'r domen, ac a osodwyd i eistedd gyda phendefigion pobl Dduw! Os gwnaed rhyw les drwy fy llafur anmherffaith iawn, Duw yn ei ras yn unig a wnaeth hyny; efe biau y gogoniant i gyd. Yn y dydd y dadguddia Duw y dirgelion y gwelir hyny yn eglur. Os cymmerodd Duw fi yn offeryn yn ei law i ddwyn rhyw bechadur neu bechaduriaid at y Gwaredwr, yr oedd, ac y mae, hyny yn fraint annhraethol fawr! A bydd yn orfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymmerais boen yn ofer!"

Y mae y syniadau a'r teimladau uchod, a fynegwyd megys oddi ar fin y bedd, yn dangos yn ddigon eglur ei fod yn profi ei hun yr hyn a gymhellai ar ereill. Yr oedd wedi dywedyd llawer yn ystod ei weinidogaeth am y modd y gallai Cristion diegwan o ffydd farw, ac yr oedd wedi annog llawer ar ei wrandawyr i ymestyn at gyrhaedd mwynhad o'r hyder hwnw a'u dyrchafai goruwch ofn angeu; ac yn awr, oddi ar y dystiolaeth hon, y gwelir nad oedd yn argymhell i ereill ddim ag yr oedd yn ddyeithr iddo ei hun. Yr oedd y gofidiau corfforol yr oedd yn dyoddef danynt yn ei osod mewn anfantais i fwynhau y cysuron hyn; ond eto, gan nad oedd un cwmwl yn myned rhyngddo a wyneb ei Dduw, yr oedd yn parhau i gael llewyrch ei wyneb. Yr oedd egwyddorion yr ymadawiad yn cael eu teimlo ganddo yn ei natur; ac yr oedd cyssylltiadau y babell yn cael eu dattod o radd i radd, ac o gwlwm i gwlwm; eto yr oedd yr awyrgylch yn berffaith glir oddi wrth deimlad ei fynwes hyd at orseddfainc yr Ion! Y mae llawer yn cael eu mynedfa trwy y glyn yn ddigon esmwyth, o ran teimladau y corff; ond y mae y golygfeydd i'r meddwl ar yr un pryd yn dywyll a thrist. Ond am wrthddrych ein hadgofion, trefnwyd iddo ef fynediad helaeth i'r dragwyddol deyrnas, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: cyrhaeddodd y porthladd a ddymunai, fel llestr yn ei llawn hwyliau o flaen yr awel deg; a chanai mewn myfyrdod dystaw wrtho ei hun:

Pan bwy'n rhodio traeth Iorddonen
Ac yn croesi grym ei lli,
Ffydd yn ngwaed yr Oen a laddwyd
Fodda fy ammheuon i;
Pan fo golau 'r byd yn t'wyllu
Yn ngoleuni 'r ochr draw,
Rhydiaf drwy ei dyfroedd dyfnion
Yn ddiangol yn ei law.

Heibio i frenin dychryniadau,
Ac heb ofn ei wyneb du,
Af yn mlaen trwy lys angelion,
Heibio 'r saint dysgleiriaf fry;
Yno 'n wylaidd mi ddynesaf
Hyd at droed yr orsedd wen,
Lle teyrnasa fy Ngwaredwr,
I roi'r goron ar ei ben.

Wedi syllu ar ei berson
Yno ddeg can mlynedd llawn,
Hyny 'n pasio fel ychydig—
Oriau byrion y prydnawn,
Trof i ganol côr y nefoedd
Ac eisteddaf yn eu plith,
Gyda'r delyn aur i seinio
Anthem na therfyna byth!

Diwrnod i'w gofio yn hir yn Mon ydoedd y pymthegfed o Fehefin, yn y flwyddyn deunaw cant ac un a deugainy dydd y claddwyd yr hyn oedd farwol o John Elias, yn mynwent Llanfaes, ger Beaumaris. Y mae cryn deimlad ar lawer pryd wedi cael ei amlygu ar gyflwyniad dynion o enwogrwydd mawr i dŷ eu hir gartref: a theimlad tra naturiol ydyw. A holl Iudah a Ierusalem a alarasant am Iosiah Ieremi hefyd a alarnadodd am Iosiah; a'r holl gantorion a'r cantoresau yn eu galarnadau a sonient am Iosiah hyd heddyw, a hwy a'i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau." Peth boreuol gan hyny, feddyliem, oedd cofnodi bywgraffiadau ysgrifenu a dadganu marwnadau ar ol dynion o ragoriaethau cyhoeddus:—"A gwŷr bucheddol a ddygasant Stephan i'w gladdu, ac a wnaethant alar mawr am dano ef." Nid oedd modd attal dagrau wrth gasglu y darnau cnawd yn nghyd, i'w hamdoi ar ol y llabyddiad, er gwneyd angladd parchus iddynt yn Maes y gwaed, yr hwn a brynwyd, y mae yn debyg, yn gladdfa dyeithriaid. Nid allent lai nag anrhydeddu yr hwn a anrhydeddid gan eu Duw fel y merthyr cyntaf dros yr efengyl; ac i dystio eu cred a'u gobaith yn adgyfodiad y meirw a'r bywyd tragwyddol. Felly, y mae eu hesampl hwy yn amddiffyniad i'r teimladau a amlygwyd yn Mon, wrth hebrwng corff Elias i fynwent. Llan-faes brwydr Egbert. Peth anarferol oedd gweled cynnulliad o ddeng mil o drigolion yr ynys, gydag ymylon Arfon, yn dyfod i ddangos eu teyrnged olaf o barch i gofion un o wir enwogrwydd mewn duwioldeb a defnyddioldeb yn y weinidogaeth; ac hefyd, fel cyfle manteisiol i uno mewn addoliad mewn gweddïau a chynghorion, a hyny ar achlysur o ddyddordeb cyffredinol. Yr oedd y gynnulleidfa, gan mwyaf, yn rhai cynnefin â'r myfyrdodau sydd yn briodol i lethr glŷn cysgod angeu, y rhai a allent ddyddanu eu gilydd â'r ymadroddion hyny. Ni all y cyfryw ag sydd yn ddyeithr i'r syniadau hyn oddef yr olwg ar "y galarwyr yn myned o bob tŷ yn yr heol," gydag un math o gysur. Rhoddodd un o freninoedd Ffrainc orchymyn na enwid mo "angeu" byth yn ei glywedigaeth! Mynodd Catherine, ymherodres Rwssia, osod cyfraith i attal angladdau gael eu harwain trwy yr heol oedd gyferbyn a'i phalas, a bod i bob claddedigaeth gael ei gyflawnu yn y nos; rhag i hyny ddwyn y meddwl am farw i'w myfyrdod, ac felly aflonyddu ei theimladau. Ond nid oedd dim arswyd teimladau felly gan y dorf oedd yn claddu Elias. Yr oeddynt yn hytrach yn eu croesawu. Y mae rhywrai trwy ofn marolaeth dros eu holl fywyd dan gaethiwed. Y mae yr angladd, y bedd, yr arch, a'r amdo, yn annyoddefol iddynt. Y mae hyny yn dangos fod rhywbeth allan o'i le yn y fynwes. Ond am y dorf hon, yr oedd aml un yn eu mysg yn gallu dyweyd gyda y Dr. Gouge, "Nid oes genyf fi ond dau gyfaill yn y byd hwn, sef Crist ac angeu; 'Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw!'"

Nid yw yn anhawdd dirnad beth oedd rhediad myfyrdod y dorf a'r edrychwyr fel yr oeddynt yn cychwyn, gan symmud, cerbyd ar ol cerbyd, a march ar ol march, a theithwyr ar draed, y naill ar ol y llall, oddi wrth drothwy annedd y trancedig. Yr oedd tref Llangefni yn orlawn o bryder ar y pryd. Nid yn fynych y gwelwyd y masnachdai na'r anneddau a'u lleni wedi eu gollwng i gau allan y goleuni mor gyffredinol. Nid oedd dim llai na cholli ardderchogrwydd Israel a fuasai yn creu y fath gyffro yn mynwesau pob gradd. Yr oedd yr olwg ar yr orymdaith yn symmud yn araf oddi wrth y Fron, ar hyd y brif-ffordd, ac heb odid lygad sych o'r naill ben i'r llall, yn dra effeithiol. Yr oedd nifer y galarwyr a hyd y llinell yn estyn ac yn cynnyddu wrth bob croesffordd, ac ar gyfer pob llwybr, nes yr ydoedd yn ddim llai na milltir a hanner o hyd cyn cyrhaedd Porthaethwy! Yr oedd yr olwg ar y brodorion oedd ar derfynau y ffordd, ac yn nrysau y teios, i'w gweled fel tyrfa yn cadw gŵyl. Mynai pob gweithiwr gwledig yr olwg olaf ar gynhebrwng yr hwn y cawsent y fath adeiladaeth wrth ei wrandaw. Mynai pob boneddwr ddangos rhyw arwydd o barch i gofion un a ystyrient o deilyngdod mor fawr, trwy roddi attaliad ar bob gwaith tra y byddai y gynnulleidfa yn myned heibio. Yr oedd cannoedd yn cymmysgu eu dagrau hyd ymylon y llwybrau; yr oedd myrdd o ocheneidiau yn codi o eigion enaid, ac yn heidio awyr Mon ar y pryd. Yr oedd y sylw ystyriol a delid i ysgogiadau a chamrau y galarwyr yn gadael effaith ddwys ar feddyliau yr edrychwyr tra y syllent ar yr orymdaith hirfaith yn symmud yn mlaen—nifer ar draed, bob yn bedwar, yn cael eu dilyn gan y gweinidogion, y meddygon, yr elor-gerbyd, yr alar-gerbyd, cerbydau neillduol cyfeillion, y gweinidogion ar feirch, deugain o gerbydau chwanegol, cant a hanner, neu chwaneg, ar feirch, bob yn ddau—a'r cyfan oll yn yr agwedd fwyaf difrifol, ac yn y wisg fwyaf galarus. Yr oedd pob peth fel pe buasent yn ymuno i chwyddo yr arddwysedd. Yr oedd trymder wedi ei argraffu ar bob gwynebpryd, ac yr oedd dagrau wedi ffosu pob grudd. Yr oedd amryw o'r dynion dewraf a chadarnaf dan effeithiau mor ddwys fel yr oeddynt yn dwyn delw plant amddifaid yn wylo ar ol colli eu tad, ac na fynent mo'u cysuro am nad ydoedd!

Yr oedd tref Beaumaris yn ei galarwisg o'r naill gŵr i'r llall, ac yr oedd pawb yn mynu dangos rhyw arwydd o'u cydymdeimlad â chalon y dorf, fel yr oedd yn ymsymmud yn mlaen. O'r diwedd, wele y Llan a'r fynwent yn dyfod i'r golwg!—yr oedd hyn eto yn cryfhau y teimlad. Y mae y lle yn un o'r manau mwyaf neillduedig yr olwg arno. mae y fynwent wedi ei chau allan fel gardd glöedig. Dyma y lle mwyaf priodol yn y fro i fod yn swyddfa i gadw llwch aur gwerthfawr feibion Lefi hyd fore caniad yr udgorn, a gwysiad archangel Duw fel rhingyll swyddol y farn fawr! Dacw yr elor—gerbyd yn cyfeirio trwy borth y fynwent. Y mae y trefniadau arferol wedi eu cyflawnu yn y deml. Y mae y gwasanaeth difrifol drosodd; ac y mae y corff wedi cael ei roddi i lawr yn esmwyth yn y bedd i orphwys, "mewn gwir ddiogel obaith o adgyfodiad i fuchedd dragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist." Mae y beautiful prayers, yn ol yr arfer ar gladdu, yn cael eu darllen. Y maent yn hynod o darawiadol. Y mae yr ymadroddion yn awenyddol, yn uchelfrydol, yn blethiadol, ac yn wir effeithiol. Pa ddyn anysbrydoledig a allai roddi wrth eu gilydd linellau mwy swynol ar y teimlad? Maent mor newydd i'w clywed a phe buasent wedi eu cyfansoddi ar hyn o bryd, at yr achlysur hwn, am y waith gyntaf erioed. "Hollalluog Dduw! gyda'r hwn y mae yn byw ysbrydoedd y rhai a ymadawsant' "yn yr hwn y mae eneidiau y ffyddloniaid, wedi darfod eu rhyddhau oddi wrth faich y cnawd, mewn llawenydd a dedwyddyd".."ryngu bodd i ti o'th radlawn ddaioni "gaffael i ni ddiwedd perffaith a gwynfyd, yn nghorff ac enaid, yn dy ddidranc a'th dragwyddol ogoniant".."a derbyn dy fendith a ddadgan dy garedig Fab," &c. Y mae rhyw sain hanner Beiblaidd yn yr ymadroddion prydferth hyn sydd yn boddio y glust yn fawr ar eu darlleniad bob tro! Mae cynnifer o'r dorf ag a allant yn mynu cael cip-olwg ar y lle yr huna ef, a'i hen gyfaill a'i gydweithiwr, y Parch. Richard Llwyd. Mae beddau y ddau wron wedi tragwyddoli y lle hwn! Hynodwyd y Franciscan Friars sydd gerllaw i'r fan, am mai yno y claddwyd Joan, merch John, gwraig Llewelyn fawr, gyda llawer barwnig a gwympwyd o bryd i bryd yn y rhyfeloedd Cymreig—ond pwy sydd yn malio dim am eu coffawdwriaeth hwy; y mae eu henwau wedi eu claddu yn y llwch gyda'u gweddillion marwol! Ond y mae enwau y ddau gawr hyn wedi cyssegru y llanerch neillduedig hon—yn eglwys, yn fynwent, yn enw, ac yn gwbl—â hynodrwydd a bery tra y byddo pregethu efengyl Crist yn hen wlad y Derwyddon. Bydd eu henwau ar gael pan y byddo yr holl gromlechau sydd ynddi wedi adfeilio yn llwch! Beth sydd yn hynod yn Llanfaes? Dim yn arbenig, oud mai" yno y claddwyd y cewri!" Y mae yno gofion a dery y galon Gymreig gyda llawer mwy o nerth yn yr oesau a ddel na dim o'r holl wychder sydd yn addurno y gymmydogaeth o'r bron!—Y mae y dorf bellach wedi eneinio eu beddau â'u dagrau. Y mae y naill a'r llall yn coffa cyssylltiad enwau y ddau â'u gilydd wrth gilio yn ddystaw o'r lle. "Saul ac Ionathan oedd gariadus ac anwyl yn eu bywyd; ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt "—"Pa fodd y cwympodd y cedyrn yn nghanol y rhyfel?" Coffânt am y ddau fel cydfilwyr yn yr un fyddin: fel cydweithwyr yn yr un gorchwyl: fel cyd—ddyoddefwyr yn yr un profedigaethau: fel cyd—deithwyr tua'r un wlad: ac fel cydetifeddion o'r un addewid y rhai nid oedd y byd yn deilwng o honynt! Yr oedd ambell un yn rhedeg mewn adgofion mor gynnar a bore eu hoes, pan oeddynt yn gorfod gwynebu muriau rhagfarn, oedd wedi eu codi gan ysbryd erlidigaeth yn y wlad; a phan y cyhuddid hwy o amcanion drygionus fel chwyldroadwyr. Wrth edrych ar y ddau erbyn hyn wedi diosg eu harfogaeth, yn gorphwys, yn huno, ac yn cael llonyddwch, yn y gwely pridd—ond hwnw wedi ei esmwytho â manblu, ei drwsio: lleni porphor, a'i berarogli yn ddymunol gan bresennoldeb yr Iesu mawr ei hun, byth er pan draddodwyd yr awdl hono uwch ben y bedd, "y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd "— yr oeddynt yn coffa am oes arall, pan yr oedd agwedd arall ar ansawdd y byd, a phan yr oedd y gelyn yn

——edliw fod Elias ddull addas gyda Llwyd,
I'r Werddon wedi myned a rhoi pregethau'n gaeth,
I Gymry oedd yno'n sawdwyr, a'u troi'n arswydus waeth;"

ond erbyn hyn, eu dau wedi cyrhaedd y fro lle y paid yr annuwiolion â'u cyffro, ac y gorphwys y rhai lluddedig, ar ol eu diwrnod gwaith, ac na chlywant lais y gorthrymwr mwy! Buont mor unedig â'u gilydd drwy eu hoes a phe na buasai ond un enaid rhwng y ddau gorff. Dilynasant gymdeithas eu gilydd mor glymedig ag y bu Dafydd ac Ionathan erioed yn eu horiau anwylaf. Gan hyny, ni buasai yn deg eu gwasgaru hwythau yn angeu, na'u gwahanu yn y bedd. Yr oeddynt yn wastadol yn cydgyfarfod i ymgynghori gydag achos eu Harglwydd, drwy ystod taith eu pererindod ar y ddaiar, ac nid oedd yn ormod iddynt gael dyfod i'r un fan i gydorphwys i aros eu cyfnewid, fel y gallant gyfodi o'r un bedd, i fyned megys, fraich yn mraich, i gyfarfod eu Prynwr ar gymylau y nef. "Hunwch frodyr," meddai ambell un, "yn dawel yn eich beddrod!"—"Na chyffröed traed mo'ch annedd dawel chwi!" meddai un arall." Angylion y lle fyddo yn gwylio eich llwch!" meddai y trydydd.—"Os caiff ein hysbrydoedd gyfarfod eich eneidiau pur yn yr anneddle lonydd," meddai y lleill, "ni ryfeddem na ddeuem ar adenydd y wawr i dalu ymweliad â'r lle hwn eto!"

Y mae y lluaws yn awr yn cefnu; ac ambell un yn methu peidio troi golwg yn ol, fel i ffarwelio â'r fan, gyda'r olwg olaf am byth ar y fangre. Mae yna ambell bren ywen werdd, gauadfrig, yn codi ei phen i'r golwg, hyd ochrau y fynwent, ac megys yn siarad â'r oesau a fu; a than ysgydwad yr awel megys yn amneidio ar yr oesau a ddel! Y mae y cyfan yn codi hiraeth yn mynwes amryw am yr hen amser a'r hen gyfeillachau a fu; ac y mae eu dychymyg yn methu ymadael â'r lle, heb ofyn unwaith eto, Ah! pa fodd y mae y tafod, a fu fel pin yr ysgrifenydd buan mewn llawer cymmanfa cyn hyn, mor ddystaw heddyw? Y mae y llygad craffus a fu yn tremio trwy wynebau at galonau tyrfaoedd, erbyn heddyw wedi eu cau am byth! Y mae y fraich, y llaw, a'r bys, a roddent gyffro byw mewn teimladau, mor oerion ac mor lonydd erbyn heddyw a'r ddelw o farmor gwyn ar y pared! Dyma fyfyrdodau naturiol i bawb ar ymylon glyn cysgod angeu! Y mae y lluaws yn cyfeirio am eu gwahanol gartrefi yn awr: ond y mae nifer yn aros yn y dref, i glywed y bregeth angladdol yn yr hwyr. O ganol y pryder i gyd, y mae eu meddyliau yn ymddyrchafu mewn myfyrdod ar bethau uwch; ac er marw o'r gweision, fod y Meistr mawr yn fyw; yr hwn sydd yn byw bob amser," yr hwn y mae agoriadau y bedd a'r byd anweledig ganddo. Y maent weithian yn dechreu tywallt eu dagrau, ac yn troi oddiar alaru eu colled i ddiolch am wasanaeth y gweinidog ffyddlawn cyhyd; ac am y fraint a gawsant o gael yr adeiladaeth a brofasant dan ei weinidogaeth am dymmor mor faith, ac yn ymdrechu rhag tristau yn anghymmedrol fel rhai heb obaith ei weled mwy; ac y maent yn cael ysbrydoli eu teimlad mewn gob aith am gyfarfod eu gilydd ar fryniau anfarwoldeb, yn "yr orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw!" Maent yn mawrhau y fraint o gael dadguddiadau Cristionogaeth, sydd wedi dwyn bywyd ac anfarwoldeb i oleuni ymarferol. Gwelant mai nid ymollwng, ond ymwroli, ydyw eu lle y maent yn penderfynu anrhydeddu ei goffawdwriaeth drwy roddi ei gynghorion mewn ymarferiad. Y maent yn ymwybodol mai y gofadail uchaf a allant godi o barch i'w enw ydyw dilyn ei ffydd, gan ystyried diwedd ei ymarweddiad, ac ymddiried yn yr un fraich ag a'i cynnaliodd yntau, ac edrych am oleuni y gwirionedd yn arweiniad drwy y glyn tywyll i'r wlad lle nad oes ymadawiad na marwolaeth mwy—y baradwys nad oes un bedd o'i mewn—yr anneddle lonydd, lle na ddywed un o'i phreswylwyr, "claf ydwyf!"

Pan welwy'm hen gyfeillion
Yn croesi'r afon ddofn,
Heb brofi unrhyw niwaid,
Pa ham y teimlaf ofn?
Mae'r un addewid gadarn
A'u daliodd hwy i'r lan,
Yn ddigon byth i minnau
'Roi pwys fy enaid gwan.






CLWYD-WASG:
ARGRAPHWYD GAN THOMAS GEE.
DINBYCH.

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.