Brithgofion (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Brithgofion (testun cyfansawdd)

gan Thomas Gwynn Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Brithgofion

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Gwynn Jones
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llyfrau'r Dryw
ar Wicipedia

BRITHGOFION

YN y gyfrol hon cawn atgofion mebyd un o lenorion blaenaf ein dydd. Disgrifir bywyd diddan un o bentrefi cefn gwlad Cymru, a phortreadir yr hen gymeriadau. gwreiddiol gyda'r deheurwydd sydd yn nodweddiadol o ysgrifbin awdur Ymadawiad Arthur a Gwlad y Bryniau. Bydd y gyfrol yn anhepgor wrth geisio dilyn twf un o'r llenorion mwyaf a welodd Cymru erioed.






Cyfeirier pob Archebion,
Gohebiaeth, Llawysgrifau i
LLYFRAU'R DRYW,
Llandebie,
Sir Gaerfyrddin.

PRIS SWLLT A THAIR.

</br

LLYFRAU'R DRYW

Golygyddion Cyffredinol:

ANEIRIN AP TALFAN
ALUN T. DAVIES, M.A., LL.B.

——————

BRITHGOFION





LLYFRAU CYMRAEG

I'R LLUOEDD ARFOG

wedi i chwi orffen â'r llyfr
hwn efallai yr hoffech ei anfon
i Ysgrifennydd y Pwyllgor
Cenedlaethol Cymreig er
Darparu Llyfrau Cymraeg
i'r Lluoedd Arfog, sef:—

SYR W. LLEWELYN DAVIES,

Llyfrgell Genedlaethol Cymru,

ABERYSTWYTH

LLYFRAU'R DRYW



BRITHGOFION

GAN

T. GWYNN JONES.


"Hen gof am hyn a gyfyd.
Im' hiraeth mabolaeth byd."
—Dafydd Llwyd ap Llywelyn.




Argraffiad Cyntaf-Awst, 1944
Ail Argraffiad-Medi, 1944
Trydydd Argraffiad-Tachwedd, 1944





Gwnaethpwyd ac Argraffwyd dros Llyfrau'r Dryw, Llandebie,

gan W. Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin.

CYNNWYS.


RHAGAIR.

BRITHGOFION hogyn am y deng mlynedd cyntaf o'i daith yw'r llyfryn hwn. Pethau na byddai dyn wedi gadael ei ganol oed yn barod i gredu eu bod wedi aros yn ei gof cyhyd, ond a fydd weithiau, ar ôl dechrau arni, yn codi o'r dyfnder, gyda pheth pleser iddo ef ei hun, o leiaf, yn gymysg yn y man â pheth teimlad arall-

Yr ing am na ry angof
O'i ddyfnder cudd fwynder cof.

Am hynny, ac am na bu'r awdur erioed yn ddiddorol iawn iddo ef ei hun, onid fel un o'r hil, rhywfaint o hanes trigolion ac arferion darn bach o wlad Gymreig, a'r pentref oedd yn ganolfan iddo gynt, fydd yma gan mwyaf.

T. G. J.
1941.

I.

HEN GARTREF

HEN blasty bychan ydoedd unwaith, ef a'r ffermdy nesaf, oedd o fewn lled cae iddo, hendrefydd gynt, fel y profai eu henwau, yng nghyfnod rhamantus Hafod a Hendref, cyfnod a ganlynai drefn y tymhorau, gan roddi i ddynion y newid a'r parhad y mae natur yn ei ofyn.

Trowyd yr Hendref yn ffermdy rhent rywbryd, lle bynnag yr oedd ei hafod, ond cadwodd rywfaint o'i urddas cyntefig o hyd. Naddwyd rhai o'i bileri derw, a berthynai iddo pan oedd wedi ei adeiladu o goed, i wneud lloriau i'r llofftydd pan wnaed iddo barwydydd o gerrig— yr oedd ôl y neddyf ar yr estyll, oedd wedi troi'n dduloyw yng nghwrs amser, a mynd yn llyfn fel gwydr wrth eu golchi a'u cwyro gan genedlaethau o ferched diwyd.

Fel yr wyf i'n ei gofio, yr oedd yn adeilad cadarn o gerrig calch yr ardal; simneiau uchel, ffenestri llydain ond heb fod yn uchel, y paenau, neu'r cwareli, fel y galwem y darnau gwydr yno, wedi cu gosod mewn cysylltau plwm, y gellid agor un ymyl iddynt â blaen. cyllell, pan fyddai angen am gwarel newydd. Cnap ar ambell gwarel, lle bu'r chwythu wrth redeg y gwydr gynt yn anwastad, ond odid. Cyntedd yn y canol, parlwr ar y dde fel yr elech i mewn a'r gegin fawr ar y chwith. Cegin gefn yn y darn croes o'r tŷ. Llawr honno o bridd wedi caledu a duo, a hwnnw ddwy droedfedd yn is na llawr y gweddill o'r tŷ. Yr enw cyffredin yn yr ardal ar y gegin gefn fyddai briws. Lle tân helaeth yno a mantell fawr uwchlaw, ar un pen. Ffenestr fechan gul a gwydr arni ar yr ochr, yn wynebu'r drws allan, ac yn ochr hono, ffenestr rwyllog helaeth o ais pren heb ddim gwydr arni, yn edrych i'r buarth cefn. Yn y gegin gefn hon y byddai'r coginio, pobi, golchi a gorchwylion eraill y pobty (neu'r ffwrn) ym mhared allan y tŷ, un ochr i'r tân. Poethid y ffwrn à thân coed. Cymerai hynny tuag awr o amser. Tynnid y marwor allan â darn o goedyn a elwid twymbren (seinid tumbren). Dodid y torthau toes i mewn â chelfyn tebyg i raw â choes hir, yn un darn, a elwid pil. Drws haearn â dau ddwrn arno, i'w dynnu a'i roi ar y ffwrn, a dwbio hwnnw gyda'i ymylon â chlai wedi ei gyweirio'n dda, at gadw'r gwres i mewn.

Gwasanaethai'r gegin fawr fel ystafell fwyta ac eistedd. Lle tân helaeth yn honno, ac ysgrat odditano, sef twll go ddwfn a llafn o hacarn a thyllau crynion. drwyddo ar ei wyneb, at racio'r marwor a'r lludw odditan waelod y grât i lawr iddo, a'i glirio allan pan fyddai achos. Y parlwr fyddai'r gesail gyfarch, neu'r eisteddfa, pan alwai rhywun teilwng o ddyfodiad i'r tŷ ar ryw neges yn ystod y dydd. Byddai hefyd yn lle bwyta ac ymddiddan ar achlysuron arbennig. Yn yr hwyr, eisteddem ar aelwyd y gegin fawr.

Pump o lofftydd, ac ystafell ymdrwsio ynglŷn â dwy ohonynt. Lle tân bychan a mantell isel ym mhob un o'r ddwy orau, croglofft at gadw ysterniach uwch ben y cyntedd a chornel o lofft arall. Y grisiau o'r gegin fawr yn y canol, i'r dde a'r chwith, pob un, fel yr oedd lloriau'ı llofftydd, o dderw gloywddu.

Efallai fod dau ddarn croes i'r tŷ cyn f'amser i. Yr oedd un ystafell arall ar y llawr, na wn i mo'i gwasanaeth gynt, hefyd wedi ei throi'n llaethdy. Gwelir tai ffermydd tebyg hyd heddiw mewn rhannau o Sir Ddinbych a Sir Feirionydd, o leiaf. Bûm fy hun yn talu mwy o rent am dai ar hyd f'oes nag y gallwn ei fforddio, oblegid fy magu mewn tŷ felly yn hogyn!

Gardd a pherllan helaeth wrth-y tŷ. Coeden ywen, a gedwid yn bigfain bob amser, o flaen y drws, a lawnt fach rhyngddi a'r tŷ. Cnwd o glych mebyn ar y lawnt bob gwanwyn cynnar. Coed dail cyrn a lawrensteina o gwmpas y ffenestri. "Hen ŵr yng ngwrych yr ardd, a mân goed rhosynnau coch a melyn. Pob math o flodau hen ffasiwn yn yr ardd, rhesi o holi-hocs, rhosyn y mynydd, y fyddiged, drysi pêr, dail saeds, a blodau fel balchter Llundain, y Ffiled Fair, Botwm Gwr Ifanc, Briallu Cochion, ac eraill na wyddwn i enwau arnynt. Coed Eirin Mair (gwsberis) cyrrains a mafon cochion yn yr ardd, a gwlâu rhubarb. Coed afalau yn y berllan, afalau Awst, afalau Cochion Bach, afalau Pig y Glomen, afalau Croen Hwch (russet), Eirin Duon, Eirin Gwynion ac Eirin Gwlanog (peaches). Perllan arall wrth waelod y buarth, wedi ei throi yn ydlan rywdro, ond yr oedd afalau Pig y Glomen ac Eirin Cochion yn honno, ac amryw goed Cnau Ffreinig, un ohonynt o faint anferth.

Diweddarach oedd y beudai, ystabl a llofft uwch law, grisiau cerrig i fynd iddi oddi allan; beudy'r gwartheg godro, beudy'r gwartheg hysbion, cut y lloi, yr ysgubor, gyda llawr dyrnu, cowlas a thaflod—lle ardderchog i chwarae ar dywydd gwlyb ac oer—a'r hofel droliau ar fin y nant. Cutiau moch o'r neilltu.

Bu'r lle unwaith yn Hen Gartref i rywun cefnog, lle i ddyn fyw wrth ei hamdden, nid lle i gadw busnes neu gysgu noswaith. Ni allech fyw yno heb fagu chwaeth at fywyd cartrefol, tawel, pe buasai fodd, ond modd neu beidio, glynai ynoch.

Yr oedd y wlad oddiamgylch yn goediog iawn. Yr oedd dwy afon fach yn rhedeg heibio'r tŷ, un gydag ystlys y berllan a'r llall gyda gwaelod y buarth, a'r tŷ a'r beudai ar y tafod tir rhwng cydiad y ddwy. Dygai'r ddwy gerrig bychain coch, melyn a glas i'w canlyn ar lifogydd, a graean mân a fyddai'n disgleirio fel aur yng ngoleuni'r haul. Byddai ynddynt hefyd frithylliaid prydferth, a ddaliem â'n dwylo, heb dybio bod hynny'n greulonach na dyfais i ddodi bachau yn eu gyddfau.

Yr wyf yn cofio dal y brithyll cyntaf i mi ei ddal erioed. Cefais ef allan o'r dŵr, ond llithrodd o'm llaw. yn ei ôl i'r afon. Cyn hir, cefais afael arno wedyn, tan garreg. Gwesgais ef yn erbyn y garreg. Ni allodd ddianc wedyn. Yr oeddwn yn falch ofnadwy o'm gorchest, ac arnaf eisiau rhedeg i'r tŷ i'w ddangos. Gorweddai'r brithyll bach ar gledr fy llaw yn llonydd. Yr oedd yn brydferth iawn. Ac ni chwaraeai yn y dŵr byth mwy. Aeth fy malchter i ffwrdd, a theimlwn fel llofrudd. Mor ddel oedd y brithyll bach hwnnw, yn llonydd ar fy llaw. Ni wnaethai ddrwg i mi nag i neb arall. Rhoeswn unpeth am ei weld yn chwarae eilwaith yn y dŵr. Teflais ef yn ei ôl i'r afon, ac aeth y dŵr ag ef i'w ganlyn, fel darn o bren marw. Deliais bysgod wedi hynny, mi wn, ond nid wyf yn cofio dim un ohonynt, ond y brithyll bach hwnnw...

Tyfai coed o bob math o bobtu i'r ddwy afon am filltiroedd o bellter, derw ac ynn, bedw, llawrydd a rhai pinwydd a ffawydd. Haf a gaeaf, ardderchog fyddai'r coed, lle gallai un grwydro am ddyddiau a gweld rhyw ryfeddod bob tro y gwnâi hynny. Ni fedrech gyfrif y dail a'r blodau gwylltion a welech yno, a chymerai amser i chwi adnabod yr adar a'r creaduriaid a fyddai yno. Clywech hwy o'ch gwely yn gynnar yn y bore yn canu oll gyda'i gilydd, peth rhyfeddol i'w glywed. Yn y dydd hefyd clywech hwy'n trydar, ond y seiniau a garwn yn enwedig fyddai grŵn gwenyn a chacwn a man wybed eraill. Ai'r sŵn bach hwnnw yn un â'i gilydd, megis, yn un canu tyner, pell, fel pe buasai'n dyfod o bellter yr oesau neu o fyd arall. Ar brynhawn cysglyd, mwll, yn yr haf y clywech y canu hwnnw orau. Rhaid mai nid myfi fy hun yn unig fyddai'n ei glywed fel canu o rywle arall, canys byddai pobl yn ei alw yn "ganu'r Tylwyth Teg." Ym mhen blynyddoedd, deuthum i wybod ei fod yn hysbys yn Iwerddon wrth enw tebyg, "ceol sidhe," canu'r Tylwyth Teg. Yr wyf yn cofio hefyd mai canu tyner felly fyddai'n peri i mi feddwl am bethau pell, wedi bod unwaith ac wedi darfod am byth, nes byddwn yn mynd yn drist.

Teg fyddai blodau'r gwynt yn y Coed Uchaf, a'r mwsogl o bob math ar y torlennydd. Un peth cas yn unig fyddai yno-y craf a dyfai mewn ambell fan, a'i aroglau a'r blas a rôi ar ymenyn, os cai'r gwartheg damaid ohono, yn annioddefol i rywun a âi'n agos ato, heb sôn am ei flasu. Byddai raid mynd yn nechrau haf i chwilio amdano a'i ddifa rhag blaen. Bûm agos i ddeng mlynedd ar hugain heb glywed ei aroglau ar ôl gadael yr Hen Gartref, ond adnabûm ef ar unwaith pan drawodd fy ffroen, ym mhen arall y Sir, a daeth yr "hela cra" á â rhawiau bychain a choesau hirion iddynt i'm cof fel ergyd.

Tuag adeg y cynhaeaf ŷd, gyda'r hwyr, byddai golau coch yr haul yn tywynnu'n isel gyda'r ddaear i mewn i'r coed, nes byddai eu bonau'n cochi. Ambell waith y byddai'r golau hwnnw'n dyfod, ond pan ddôi gallech weld i mewn rhyngddynt ymhell. Byddai'n gwneud i chwi feddwl am ryw adeilad mawr, na welswn ac na welais erioed ei debyg, a'r coed mwyaf fel pe baent bileri'n dal y to, a'r adeilad hwnnw wedi ei oleuo â golau coch gwan, nes bod y lle'n rhyfeddod. Cyn hir hefyd byddai dail y coed yn troi eu lliwiau, dail yr ynn fel clytiau bach o aur melyn yn yr awyr, y derw yn gymysg o goch a gwyrdd a'r ysgaw a'r drysi fel gwaed. Grawn bychain y drain gwynion, neu'r ysbyddad, fel y byddai fy nhad yn eu galw, yn gnwd fel mwclis bychain coch tywyll. Gellyg y moch oedd yr enw arnynt. A grawn y marchfieri, rhai'n grwn ac yn goch, eraill yn hirgrwn ac yn felyn gloyw. Byddai merched bach yn gwneud cadwynau del iawn ohonynt a'u gwisgo am eu gyddfau.

Tua'r un amser, byddai goleuni rhyfeddol iawn i'w weled tua'r hwyr ar y marian y tu draw i'r Coed Uchaf, golau meddal, melyn fel mêl gloyw, a rhywbeth annaearol ynddo. Hwyrach mai'r elfen annaearol honno a barodd. i mi unwaith freuddwydio breuddwyd nad anghofiais mono hyd heddiw. Byddai gan fy nhad air a arferai yn aml wrth sôn am rywun mewn hwyl dda-" 'Roedd o ar uchelfannau'r maes," meddai. Y breuddwyd oedd fy mod yn gweled y "Cae o Flaen y Drws " yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd mewn gwirionedd. Yn lle bod yn codi'n raddol iawn o'r buarth at y caeau gwastatach y tu draw iddo, codi yr oedd yn y breuddwyd yn risiau megis o greigiau moel a haenau, ynddynt, yr un fath â'r Marian, a phob gris gwastad yn wyrdd iawn a'r grisiau uchaf yn colli o'r golwg yn y cymylau, a'r goleuni meddal fel mêl gloyw yn gorwedd ar y cwbl. A dyna, yn fy meddwl i, yn dyddiau hynny, oedd y " maes," canys maes oedd y cae llafur yr âi'r wedd iddo yn ei phryd i aredig-" mynd i'r maes," neu "fynd i faesa," fel y dywedwn. A'r peth a welais yn fy mreuddwyd oedd uchelfannau'r maes." Codais yn gynnar y bore a mynd i edrych ar y "Cae o Flaen y Drws." Fel yr oedd bob amser yr oedd erbyn hynny, ond bu'r "Uchelfannau " hynny'n fy nilyn am amser maith. Gallaf, yn wir, eu gweled eto fel y gwelais yn y breuddwyd.

Gwyn ei fyd y sawl a gaffai drigo beunydd ar faes tan y goleuni hwnnw-nas gwêl, efallai, onid breuddwydion ieuenctid . . .

Unwaith, ynghanol y Coed Uchaf, yn ymyl llannerch agored a llyn gweddol ddwfn lle'r oedd tro yn yr afon ag iddo draeth bychan o gerrig wedi eu cludo gan y dwfr a'r llif, clywais sŵn nas clywswn o'r blaen yno. Cofiais yn y fan am un o'r dychmygion a fyddai gennym, yn gofyn beth oedd

"Cnoc, cnoc yn y coed,
Pedwar llygad ag un troed?"

Yr ateb oedd "Buddai gnoc," hen fuddai gyntefig, pawl syth drwy dwll yn y caead, ynglŷn â pheth tebyg i stôl bedwartroed, at guro a throi'r llaeth yn ymenyn gynt. Nid oedd fodd bod yno neb yn gweithio buddai gnoc yn y fan honno. Mynd yn nes yn araf a distaw. Ar y traeth bach, yr oedd mwyalchen a malwen gorn yn ei phig, ac yn curo honno yn erbyn y cerrig, yna'n bwyta'r falwen. Torrodd darn o bren crin dan fy nhroed, ac ymaith â'r fwyalchen. Yr oedd yno amryw gregin wedi eu torri a darn malwen yn un ohonynt. Yr oeddwn wedi tarfu'r fwyalchen ar ganol ei phryd bwyd.

Gwelais yno hefyd gudyll coch (y "genlli goch " a ddywedem ni) yn dyfod i drychineb sydyn unwaith. Yr oedd yr aderyn yn hofran yn ei unfan uwchben. Yn y man daeth i lawr fel carreg ac yna i fyny yn ei ôl fel ergyd. Ond bron yn ddioed, dyma ysgrech, ac i lawr â'r aderyn nes oedd ar y ddaear yn llonydd, a'i blu yn disgyn o'r awyr ar ei ôl. Erbyn edrych, yr oedd wedi marw, a llygoden ddŵr gydag ef, wedi ei lladd gan y codwm.

Yn y Coed Pellaf, fel y byddem yn eu galw, yr oedd rhaeadr bychan, y cyntaf i mi ei weled erioed, yn llifo dros glogwyn gweddol uchel a disgyn i bwll yn y graig ar y gwaelod. Pistyll Brido" y byddai pobl yn ei alw. Clywais fy nhaid yn dywedyd bod coel pan oedd ef yn ieuanc y byddai rhyw rinwedd ar y dwfr hwnnw. Byddai pobl yn myned yno ac yn dal llaw neu ryw ran o'r corff dan y dwfr at wella rhyw anap neu boen. Yr oedd ef ei hun unwaith wedi rhoi ei ffêr o'i lle. Dywedwyd wrtho mai'r peth i'w wneud oedd myned at Bistyll Brido a dal ei droed tan godwm y dŵr. Gwnaeth hynny. Yr oedd y dŵr yn oer ofnadwy er ei bod ynghanol haf ar y pryd, a'r boen yn ei ffêr yn annioddefol ganddo. Ond yr oedd yn rhaid dal ati, a hynny a wnaeth yntau, nes bod ei galon yn mynd yn sal a rhyw niwl yn dyfod tros ei lygaid, meddai yn sydyn, dyma glec yn y ffêr. Meddyliodd fod yr asgwrn wedi torri, ond y cymal oedd wedi mynd i'w le dan gwymp y dŵr.

Tyfai coed pîn ar ben y clogwyn, a byddent yn y gaeaf yn edrych yn dduon, ynghanol y coed moelion eraill, golwg bygythiol arnynt o bell. Efallai mai dyna'r rheswm nad oeddwn erioed wedi bod yno, ond wedi clywed ystori fy nhaid euthum cyn belled a'r pistyll un prynhawn poeth yn yr haf. Nid oedd lawer o ddŵr yn y ffrwd, dim ond rhyw linyn gloyw yn disgyn i'r pwll odditanodd a rhyw su fach isel a pharhaus, braidd yn drist, debyg i'r su a glywswn wrth Nant Rhyd yr Arian wrth ddyfod adreî wedi bod yn edrych am fy nhaid pan gladdwyd fy nain, a'i adael yntau yn y tŷ ei hun, neu'r su a glywais un noswaith wrth fynd heibio'r fynwent lle'r oedd bedd hogyn bach oedd yn chwarae gyda ni yn yr ysgol ychydig ddyddiau cyn hynny. Onid am y sŵn bach hwnnw, na chlywech mono ar ôl bod yno am dipyn, yr oedd y lle yn ddistaw iawn, fel pe buasai rywun wedi marw a'i gladdu yno. Yr oedd nodwyddau'r pîn fel carped tew ar lawr, a phob peth yn brydferth iawn, ond yn drist. Eto, 'roeddwn yn teimlo fel pe buaswn wedi bod yno rywdro o'r blaen, amser maith yn ôl. Yr oedd y lle'n gynefin ac eto'n ddieithr, fel pe buasech yn ceisio cofio rhywbeth o hyd, a hwnnw fel pe buasai'n dyfod ac wedyn yn cilio yn ei ôl yn sydyn, o hyd, o hyd, fel pe bai rywbeth pell yn digwydd yn ymyl dyn ac yntau heb allu ei weled na'i glywed...

Ryw hwyr yn nechrau'r Hydref, rhwng dau olau, fel y dywedem, ar ddôl fechan, dipyn is na'r llwybr yr oeddwn yn cerdded arno, clywais ryw sŵn tua gwaelod y ddôl, fel y tybiwn. Sŵn tebyg ydoedd ar y dechrau i sŵn lli o ddŵr yn rhedeg ar hyd gwely caregog. Yr oedd yno ffrwd felly ar waelod y ddôl, ond yr oedd honno ar y pryd wedi hen sychu, gan nad oedd glaw wedi bod ers cryn amser. Rhyw rydwst chwyrn ydoedd y sŵn erbyn hyn, fel pe buasai gannoedd o bobl yn sisial yn ddi-dor ar draws ei gilydd. Nid oedd yno ddim i'w weled yn y golau hwnnw. Codais garreg a'i thaflu tua'r lle yr oedd y sŵn. Clywais hi'n disgyn, a'r un funud, tybiais fod wyneb y ddaear yno yn neidio i'r awyr ac yn ehedeg ymaith, fel y clywsoch awel trwy goed. Euthum adref mewn syndod, canys yr oedd y peth yn rhyfeddod newydd. Cefais wybod gan fy nhad mai haid o adar drudwy oedd yno'n pigo rhyw hadau neu bryfed ac yn grydwst wrth wneud hynny.

Y mae ar gael Gywydd o waith Iolo Goch ar ffurf ymryson rhwng y bardd a'i dafod ef ei hun, a'r bardd yn edliw ei gampau drwg i'r tafod. Meddai, mewn un cwpled:—

"Dal yr wyd uwch dôl rodir
Drwy dy hun ddadl drudwy hir."


Ni allaswn i byth ddehongli'r cwpled hwnnw, fel y gwneuthum ym mhen blynyddoedd lawer, oni bai'r digwyddiad ar waelod y ddol fach, cyn i mi erioed glywed sôn am Iolo Goch, oedd wedi clywed yr un peth yntau. Dehonglais ambell gwpled arall o waith y beirdd Cymreig drwy gofio am rai o ryfeddodau'r Hen Gartref gynt. Yn wir, ychydig o bethau oedd mewn bywyd yn yr awyr agored nad oedd yr hen brydyddion hynny wedi sylwi arnynt yn fanwl iawn.

Yn y coed o bobtu y dysgais adnabod sŵn y gwynt meiriol a ddôi i roi terfyn ar heth hir o rew ac eira, a fyddai'n gwneud bywyd yn anghysurus. Wrth edrych yn ôl, ymddengys i mi fod pob gaeaf yn heth yr adeg honno. Byddai'r rhew a'r eira yn brydferth iawn-i edrych arnynt, ond blinech yn fuan ar eu tegwch, a byddai yntau'n edwino'n ebrwydd. Byddech yn gwrando bob dydd am sŵn y meiriolwynt. Doech i adnabod ei su leddf, garedig, a dysgech adnabod coeden yn y tywyllwch wrth y sŵn a wnâi'r meiriolwynt yn ei brigau, yn enwedig yn yr yw a'r ynn, y llarwydd a'r pîn, neu'r rhewynt creulon a ddôi i lawr drwy'r Coed Uchaf yn y Cwm. Clywech ei ru dwfn ym mhellter y coed, a'i wich droellog, chwipiog, pan neidiai i'r llannerch fwy agored, led cae bychan o'r coedydd gyda'r afon, fel pe buasai ef yn crino yn y llwyni eithin a'r celyn, a hyd yn oed yntau'n gorfod gweiddi gan boen wrth fynd trwy eu pigau, cyn cael gafael ar y Coed Isaf, yng nghyfeiriad y môr, a throi i arthio a rhuo eilwaith ym mrigau'r derw a'r gwern, a suo yn y ffynidwydd bon- goch oedd yno.

Hyd yn oed pan fyddai'r rhewynt yn anghysuro bywyd, byddai yn y Coed Uchaf gilfechydd lle byddai'r awyr yn dawel a chwithau'n teimlo'n gynnes unwaith eto, a'r hen weithiwr diwyd, Tomos Dafydd, wrthi ar ddyddiau'r heth yn cymysgu pastai-pridd talar a thail (neu dom) buarth-ar waelod "Cae'r Ceirch Bach," am fod yno gysgod da rhag y rhewynt, a'r adar drudwy, neu adar yr eira fel y gelwid hwy gan rai, yn heidio yno i chwilio am bryfyn ym mhen pellaf y domen, a bron-goch bach dof, cyfeillgar, o gwmpas traed dyn, ar yr un perwyl. Cofiaf fynd yno fy hun ryw brynhawn i geisio cael fy ngwres, drwy ymguro (curo'r breichiau y naill dros fon ysgwydd y llall), a cheibio bob yn ail, nes dôi'r gwaed cynnes i flaenau'r bysedd merwin, gan saethu i'r ffroenau a gwingo yn y glust. Yr oedd y ddaear fel y dur, a dim modd i aderyn bach gael pryfyn o'r pridd, oni bai fod yno rywun yn cloddio. Yr oedd yno un bron—goch wrth fy nhraed o hyd, a haid o adar to wedi dyfod o'r ydlan i chwilio am saig. Taflwn abwydyn i'r bron-goch, a chadw'r lleill draw er mwyn i'r bychan gwylaidd gael. chwarae teg, canys lladron bach hy yw'r adar to. Pan daflwn garreg atynt hwy, ymsaethent i'r awyr, fel darn of liain o flaen y gwynt, a disgyn rai llathenni draw, a dywedyd pethau cas amdanoch chwi a'r bron-goch, a wyddai'n burion nad oedd ef mewn perygl, ac na symudai. Y noswaith honno daeth eira trwm i lawr. Pan euthum heibio'r fan drannoeth, â thamaid-ganol-y-bore i Domos Dafydd, yr oedd y bron—goch bach wedi rhewi'n gorn yn ymyl y caib a'r rhaw a adewais yno'r diwrnod cynt. Ond nid oedd yno un aderyn to wedi trigo. Onid oedd yr ydlan a thrigfan dyn—eithaf brawd iddo ef—heb fod ymhell, a thyllau cynnes ganddo yntau yn y teisi gwair a gwellt a wnaeth ei frawd er ei fwyn, iddo gael lloches rhag yr hin? Cloddiais drwy'r eira i'r bastai a chleddais y bron-goch bach yno. "Be 'newch chi?" meddai Tomos Dafydd. Dywedais wrtho. "Bu yma drwy'r prynhawn wedi i chi fynd. Rhai bach annwyl ydyn nhw. Glywsoch chi'r stori sut y cafodd o fron goch?" "Naddo?" "Wel, pan oedden nhw'n croes-hoelio Iesu Grist, ac wedi codi'r groes a'r gwaed yn llifo dros 'i dalcan o, achos piga'r goron ddrain, dyma aderyn bach yn disgyn ar i ben o ac yn ceisio tynnu'r piga allan o'i gnawd o. Ac felly yr aeth bron yr aderyn bach yn goch gan i waed O." Rhwbiodd yr hen ŵr ei lygaid â'i figyrnau caled, a chymryd arno lenwi ei bibell. Hen ŵr bach caredig, a'i gof yn llawn o straeon am adar a phob math o greaduriaid a hen draddodiadau am Iesu Grist pan oedd yn hogyn bach, rhai ohonynt i'w cael, fel y gwn erbyn hyn, ym "Mabinogi Iesu Grist " yn Gymraeg. Pan adroddai rai o'r rheiny byddai'r Hen ŵr bob amser yn rhwbio'i lygaid â'i figyrnau ac yn cymryd arno lwytho'i bibell, ac yna ei dodi ym mhoced ei wasgod lewys.

Er oered fyddai'r rhew anghysurus, syndod fyddai gwaith y gof arian yn y coed tra byddai'r heth, yn enwedig yn yr afon—dioddefech annwyd mawr yn eich traed er mwyn cael golwg arno. Gadawai ar ei ôl bob math ridens ar flaenau'r drain a'r cawn, a'r rheiny'n dawnsio ac yn disgleinio yn yr haul pan dywynnai, a lluniau mil o bethau bach cywrain a phrydferth ar y rhew ar wyneb ambell lyn yn yr afon-lluniau rhedyn, coed pîn, ambell gamfa, mynyddoedd uchel a choed a'u brigiau'n gŵyro i lawr at y ddaear, fel ambarel ar hanner ei hagor. Cnau a mes arian gloyw yn dawnsio ar flaenau'r drain lle byddai'r dŵr eto'n rhedeg, a'r dŵr yn gwibio fel nadredd tan y rhew, gan wneud rhyw sŵn bach cwynfannus, fel pe buasai yntau'n ei chlywed yn oer ac yn tagu wrth geisio dianc i rywle dan gysgod torlan.

Pan ddôi awel wanwyn drwy'r coed o'r diwedd, doi'r gwehydd lliwiau yntau ryw noswaith a dechrau arni, ac ni fedrai neb gyfrif ei orchestion ef. Ond ni bûm byth yn y Coed hynny wedyn.

Lle felly oedd yr Hen Gartref.

II.

HEN GYFEILLION.

AM y rheswm nad oedd blant yn byw yn agos iawn atom, cŵn oedd fy nghyfeillion cynaraf. Ac fel y dywedodd rhywun, po fwyaf a wn innau am ddynion, gorau yn y byd gennyf gŵn. Nid wyf yn cofio Pero, a fu farw pan oeddwn yn fychan iawn, ond clywais gymaint o'i hanes fel y mae'n ddiogel gennyf ei fod ef yn gyfaill i mi. Pan fyddwn yn crio yn y crud, yn ôl tystiolaeth fy rhieni, os byddai Pero o fewn ergyd clyw, doi i'r tŷ ar garlam, rhôi gusan i mi a siglai'r crud â'i bawen.

Ychydig o gŵn a welais yn fy nydd na byddent yn gyfeillion i mi, ac y mae'n ddiau gennyf mai rhywbeth a wnaethwn fy hun fyddai reswm ambell gi a fyddai'n f'amau ar dro. Bûm yn crwydro rhosydd a choedydd gyda hwy, gwelais hwy'n gwneud pethau anhygoel, dysgais lawer oddiwrthynt. Buont anrhydeddus a ffyddlon. "Tangno" (neu "Tango ") oedd enw'r cyntaf yr wyf yn ei gofio. Etifeddodd hen enw ymhlith ei hynafiaid, ond odid. Tybid mai ystyr yr enw gynt oedd y byddai cnoad cŵn o'r enw hwnnw yn llosgi fel tân. Ni wn ai gwir hynny ai peidio. Ni'm brathodd Tango erioed. Llyfodd a gwellhaodd ambell ddolur arall i mi, heb i mi ofyn iddo.

Chwaraeai gyda mi drwy'r dydd, oni byddai ryw orchwyl arall yn galw amdano. Dysgais ef i chwarae mig ymguddio. Eisteddai tra byddwn i'n mynd. Pan awn o'r golwg a galw, dôi yntau ar ei union ar f'ôl a'i drwyn gyda'r ddaear, a neidiai a chyfarthai pan gâi hyd i mi, a châi gymaint o hwyl â phe buasai heb fy ngweld ers deuddydd. Yna cuddiwn fy nghap. Ai yntau ar ei ôl yn y fan a dôi ag ef yn ei geg yn union deg. Nid oeddwn yn deall eto pam y byddai'n mynd â'i drwyn gyda'r llawr, ond esboniodd Tomos Dafydd i mi. "Creadur rhyfedd ydi ci," meddai, "yn gweld â'i drwyn ac yn chwerthin â'i gynffon." Crwydrwn gyda Thango drwy'r Coed, a dôi yntau â chwningen i mi, neu lygoden, a'u gollwng wrth fy nhraed. Yr wyf yn siŵr ei fod wedi sylwi, er fy mod yn mynd â'r cwningod adref, na chymerwn i mo'r llygod, canys ni ddôi â hwy mor aml.

Un diwrnod, yr oeddym wedi mynd i'r ffridd am dro, ac yntau'n swlffa ac yn prowla ymhlith y twmpathau eithin. Sylwais ei fod yn gloff ac yn cerdded ar ei drithroed yn aml. Gelwais arno ac edrych ei bawen. Pigyn draenen ddu oedd wedi mynd i'w grafanc. "Waw!" meddai Tango wrth i mi geisio tynnu'r pigyn. Cefais ef allan yn y man, a llyfodd yntau ei droed. Pan gâi bigyn ar ôl hynny, dôi ataf a chodi ei bawen i mi, a dioddefai 'n ddistaw tra byddwn yn ei drin iddo. O! y ffydd fyddai ganddo ynof!

Talodd Tango'r pwyth i mi un diwrnod yn yr haf. Yr oeddwn wedi mynd i lawr at lan yr afon oedd yn rhedeg heibio'r tŷ, ac wedi sylwi bod y dŵr yno wedi cario pridd a gro ymaith nes bod lle gwag yn mynd i mewn i'r ddaear fel ogof, a gwraidd y coed a dyfai yno yn dorchau uwch ben a chydag ymyl yr agen. Ymwthiais i mewn i edrych pa beth oedd yno. Yr oedd hi'n dywyll yno, a neidiodd llygoden ddŵr heibio i mi gan ddisgyn i'r afon, nes bod y sŵn fel pe bai carreg yn disgyn i'r dŵr. Cefais fraw a chilio yn f'ôl yn sydyn. Bachodd fy nhroed yng ngwreiddiau'r coed ar yr ymyl, ac i lawr â mi nes bod fy mhen tan ddŵr yn y llyn islaw. Ni allwn gael fy nhraed yn rhydd na chael f'anadl. Yn sydyn, dyma gyfarthiad a sŵn Tango yn ymgladdu yn y llyn yn f'ymyl. Y funud nesaf disgynnais innau yn fy nghrynswth i'r llyn, a llusgodd Tango fi i'r lan. Ffroenodd o'm cwmpas a llyfodd f' wyneb. Daeth hynny â mi ataf fy hun. Medrais godi ar fy nhroed a chydio yng ngholer Tango. Tynnodd yntau fi i fyny i'r berllan. Cafodd Tango anwes mawr y diwrnod hwnnw gan bawb. Os byth yr awn yn agos i'r afon wedyn ag yntau gyda mi, byddai Tango rhyngof a'r ymyl ac yn fy ngwthio oddiwrthi ei orau glas. Wylais yn chwerw pan fu Tango farw. Tango!...

Bu i mi lawer o gyfeillion tebyg o dro i dro, Pero II, Sam, Twrc a Mac yn eu plith, pob un ohonynt yn greaduriaid ardderchog. Gyda hwy treuliais ddyddiau eang yn yr heulwen, yn rhydd megis na bûm byth mwy. Un haf poeth, yn ddiweddarach ar f'oes, pan oeddwn yn glaf ac yn gorfod bod allan tan yr awyr gymaint ag a allwn, gan feddwl yn hiraethus am y dyddiau eang gynt a'm hen gyfeillion, y cŵn, a meddwl fy mod innau, efallai, yn tynnu at y terfyn, cymerais yn fy mhen gysgu allan rhwng dwy fatingen mewn tas wellt gwenith yn yr ydlan ar fferm fy nhad, un noswaith fwll iawn. Nid yn yr Hen Gartref yr oeddwn bellach, ond yng nghyfnod yr Hen Gartref yr oeddwn yn byw ac yn bod y dyddiau hynny, a Thwrc oedd fy nghi-yn hytrach, myfi oedd ei ddyn ef ers tro.

Gyda'm bod wedi gwneud fy ngwâl yn gysurus a gorwedd rhwng y bating, dyma Dwrc ar ei hedlam yn disgyn yn f'ymyl. Safwyrodd o'm hamgylch, llyfodd fy llaw. Yna aeth a rhoes dri neu bedwar tro wrth fy nhraed, i wneud gwely iddo'i hun fel y byddai ei hynafiaid yn y cawn cyntefig. Yno gorweddodd. Rywbryd gefn nos fe'm deffrowyd gan chwyrnad isel yn f'ymyl. Cyfododd Twrc, gwrandawodd ennyd, yna neidiodd i lawr. Ni chlywn i un sŵn yn torri ar ddistawrwydd godidog y nos, dim awel yn siffrwd deilen. A'r sêr uwchben Aeth Twrc oddiamgylch yr ydlan ac i'r buarth. Clywn ei sŵn ambell waith. Yr oedd ef wedi clywed rhywbeth, ond ni chyfarthodd unwaith. Ym mhen rhyw ddeng munud, efallai, clywais ef yn neidio dros y llidiart o'r buarth i'r ydlan. Yna, neidiodd i ben yr hen ddarn tas. Daeth ataf. Llyfodd f'wyneb, cystal â dywedyd bod popeth yn iawn. Yna aeth a gorwedd wrth fy nhraed fel o'r blaen. Cysgodd a breuddwydiodd, canys clywn ef yn ymlid cwningen yn ei gwsg.

Teimlais fy mod wedi mynd yn f'ôl i'm mebyd gyda'm hen gyfeillion—ymhellach na hynny hyd yn oed, yn ôl at fy hynafiaid cyn cof, fy nghi a minnau, dan yr awyr, a'r nos yn garedig, a'r ffyddlonaf o bob creadur yno yn f'ymyl...

Felly y cysgem ein dau agos drwy'r haf gwresog hwnnw. Deffrown yn y bore, yn barod i godi rhag blaen, wedi gorffwyso megis na orffwysais mewn na thŷ na phabell erioed. Glas tyner yr wybren anfeidrol uwch eich pen, a'r sêr dinifer fel pwyntiau bach o aur ynghanol y glas. Dynion a'u rhwysg a'u rhodres, a'r ofn tragywydd sydd arnynt rhag ei gilydd, heb fod yn cyfrif dim pan fyddech felly, yn fodlon ar ba dynged bynnag a ddenfyn y Creawdr i chwi, am eich bod yn gwybod, yn credu ac yn cyfaddef mai "Efô a ŵyr, Efô a ŵyr, Efô." Ac Efô a wnaeth gwn yn gymdeithion i ddynion.

III.

HEN BENTREF.

SAFAI'R Hen Bentref, canolfan darn prydferth o wlad goediog, ar waelod ac ochrau cwm bychan, yn lledu tua'r môr, ryw chwarter milltir oddiwrth y traeth. Rhedai afon fechan drwy ganol y pentref, a chodai'r tir o bobtu iddi, braidd yn serth ar un ochr, o Lawr y Pentref i Ben y Bryn. Ar yr ochr arall yr oedd y codiad yn fwy graddol, a gerddi bychain yn cyrraedd at Lawr y Pentref. Ni wn i ba nifer o drigolion a allai fod yno pan oeddwn i'n hogyn, dim ond ychydig gannoedd ar y gorau, gweithwyr gan mwyaf, a nifer da o grefftwyr, amryw gryddion a theilwriaid, gof neu ddau, seiri coed a maen, gwniad- wragedd, fel y byddem yn eu galw, a merched yn gweu hosanau. Yr oedd yno dair neu bedair o siopau gweddol helaeth yn gwerthu bwydydd, brethynau, llieiniau a phethau felly, a rhai mân siopau lle byddai'r plant yn prynu cyfleth cartref a melysion eraill, pan ddôi ceiniog o rywle.

Yr enwocaf o'r siopau oedd siop Bryn y Gwynt, a chedwid hi gan ddyn clyfar o brydydd, er nad oedd ganddo ffug enw, hyd yr wyf yn cofio. Ceid yno bethau newydd a hen, a thuedd gyson at fod ar y blaen gyda phethau newyddion—cloch a ganai pan agorech y drws, clorian fel blwch, yn gweithio o'r golwg, tafolau pres arni, a'r pwysau o'r un defnydd, yn gorwedd ar ei gilydd fel pyramid bach, a'r pres yn disgleirio yn yr haul. Pan ddaeth y ddyfais hon yno gyntaf, byddai pobl, na byddent yn delio yn y siop yn gyffredin, yn mynd i mewn ar ryw esgus prynu rhywbeth er mwyn ei gweled. Mewn un ffenestr ceid dangosiad da o ddillad parod o Loegr, a wnâi i chwi feddwl bod yr hogiau druain a'u gwisgai ar y Sul yn edrych fel pe baent ddarpar swyddogion ym myddin Prwsia, yn ôl y lluniau a welem weithiau o'r swyddogion hynny yr adeg honno—cotiau yn cyrraedd at y wasg, band i'w cau'n dynn am y canol, a rhyw ddau fotwm rhwng y band a gwaelod y goler helaeth. Gwnaent i chwi feddwl am gacwn brithion. Byddai llawer gwell golwg ar yr hogiau yn eu gwisg gyffredin bob dydd—clos rhesog yn cyrraedd at y pen glin, a chôt a gwasgod felfed. Yr oedd yno hefyd ddwy neu dair o dafarnau, y "Red Lion " y gelwid un. Enwau Cymraeg oedd ar y lleill, ond yr "Hot-él" ar gwr y pentref, ar gyfer y bobl fwyaf cefnog a'r " petha ha' 'ma," fel y gelwid y dieithriaid oedd eisoes wedi dechrau dyfod yno i "rodio," neu fwrw gwyliau yn yr haf. O Loegr y dôi'r rheiny gan mwyaf, a byddigions" y gelwid hwy gan y rhai fyddai'n ennill ceiniog ar eu cost, er fy mod yn cofio un hen ŵr a fyddai'n gweithio ar fferm fy nhad, yn dywedyd nad boneddigion monynt hwy, ond rhai'n cymryd arnynt eu bod yn perthyn i'r dosbarth hwnnw—iddo ef, nid oedd neb llai nag ysgwier gwlad a fedrai siarad Cymraeg yn ŵr bonheddig. Yr oedd hefyd eglwys blwyf a dau gapel yn y pentref. Cymry oedd y rhan fwyaf o lawer o'r trigolion, a Chymraeg oedd eu hiaith, hyd yn oed os byddai enwau rhai ohonynt yn awgrymu mai dyfodiaid oeddynt. Nid wyf yn cofio odid estron yno heb ddim Cymraeg ganddo, dim ond hen gwpl bach o Indiaid Cochion, meddent hwy eu hunain, a ddaeth ar draws gwlad yno o rywle ac a fu byw yno am ysbaid, o leiaf. Edwin oedd ei enw ef, a byddai rhai pobl yn sôn am y cwpl fel " Edwin ac Angelina." Nid wyf yn sicr nad fy nhad, a fyddai'n hoff iawn o waith Oliver Goldsmith, a fu gyfrifol am hynny. Dôi Sipsiwn heibio hefyd ar dro, a rhoes fy nhad gennad iddynt wersyllu ar ddarn diffaith o gornel cae. Ar ôl deall eu bod yn medru Cymraeg, collais bob ofn rhagddynt, ac awn i'w gwersyll. Yno y cefais ryw syniad am ryddid fel dull o fyw, nid peth i sôn amdano heb gredu nemor ynddo. Ni wyddwn ddim o hanes y bobl ddiddorol hyn ar y pryd, ond dysgais rai geiriau a arferent wrth siarad â'i gilydd, a gofidiais, ym mhen blynyddoedd am ein bod ni wedi ymadael o'r Hen Gartref i ardal na welid ynddi Sipsiwn onid ar ddamwain ar y ffordd fawr a minnau drwy hynny wedi colli'r cyfle i ddysgu Romani. Cwtogai'r brodorion lawer ar eu geiriau, yn enwedig enwau tai a chaeau, megis Pen Trisa (Pentref Isaf), Pen Trucha (Pentref Uchaf), Gwredydd (Gwaun yr Ehedydd), Sdwgan (Maes Cadwgan), a'r cyffelyb. Yr oedd yn eglur mai Pen y Bryn oedd y rhan hynaf o'r Pentref, canys yr oedd yno hen dai bychain, eu parwydydd wedi eu gwyn—galchu a thoau gwellt arnynt. Y tu cefn iddynt byddai gerddi bychain taclus a choed afalau, Eirin Mair a ffrwythau eraill ynddynt. Byddent yn lanwaith iawn. Golchid carreg y drws bob bore, a thra byddai'r garreg eto'n wleb, gwneid math o dres gadwynog gyda'i hymyl â darn o galch, a ddôi'n wyn fel y byddai hithau'n sychu. Gyda'r pared oddi allan ac ar estyll y ffenestri, byddai cerrig gwynion o lan y môr wedi eu gosod. Oddimewn byddai dodrefn da yn gyffredin, gwaith hen grefftwyr yr ardal gynt. Cedwid hwy'n lân iawn, a byddai'r llawr llechi gleision oddi tanynt ac o'u cwmpas wedi ei dduo, neu ei "flacledio" yn loywddu. Cof da am yr hen wragedd bodlon, caredig a fyddai'n trigo yno, ac a rôi afal, pan fyddai'r ffrwyth yn aeddfedu, i'r hogiau, rhag eu gosod mewn temtasiwn ar amser felly.

Y pryd hwnnw hefyd, cedwid moch mewn cutiau. ym mhen draw gerddi o'r fath, a byddai'r arogleuon ar brydiau braidd yn anhyfryd, yn enwedig i rywun yn byw ar fferm neu fwthyn yn y wlad, lle byddai "cae moch yn rhoi mwy o "libart "i'r anifail a'r tomennydd. Ceid dŵr glân o ffynnon ar war y ceunant yn uwch i fyny, a gwelid rhes o ferched yn ei gario bob bore mewn ystenau ar eu pennau, a phleth o liain odditanynt i gadw'r llestri'n wastad. Nid rhyfedd bod y merched hynny'n sythion a chryfion. Ar ddydd Llun gwelech ferched yn golchi dillad yn yr afon, yr ochr uchaf i'r pentref, a'u dodi ar y mân lwyni gyda'i glan i sychu. Byddai gwedd gymdeithasol i'r gorchwyl hwnnw.

Dau ddrwg ar yr afon oedd y byddai gormod o lestri toredig, hen esgidiau a phethau tebyg, a rhy ychydig o ddwfr ynddi ar dywydd poeth yn yr haf, a gormod o ddwfr ar dywydd gwlyb iawn, pan lifai dros ei glannau ac i mewn i'r tai yn ymyl y bont oedd yn cario'r ffordd fawr dros yr afon a'r cwm. Un prynhawn Sadwrn ym mis Awst, pan dorrodd cwmwl, meddid, yn rhywle draw y tu uchaf i'r pentref, boddwyd gwaelod y pentref gan y llif. Daeth y dwfr a choed yn eu corffolaeth i lawr, gan gau bwa'r bont yn y gwaelod, a llyniodd y dwfr yno nes bod y trigolion yn ofni mai torri fyddai hanes y bont, a boddi'r tai oedd yr ochr isaf iddi, rhwng y pentref a'r môr. Daliodd y bont er hynny, ond aeth y llif â pharwydydd tai is i lawr ymaith i'w ganlyn, nes bod lloriau'r llofftydd wedi plygu a gollwng gwelâu a dodrefn i'r dwfr, a hwnnw wedi eu cludo i'r môr, ond ni chollodd neb ei fywyd yn yr helynt honno, hyd yr wyf yn cofio.

Efallai mai prinder y cyfenw (snâm) yn y gymdeithas honno oedd achos y llysenwau (blasenwau, glasenwau) a dulliau eraill oedd gan y bobl i gael gradd o sicrwydd pwy oedd pwy mewn siarad cyffredin yn eu plith. Os byddai mam go feistrolgar, neu ag enw bedydd mwy neu lai anghyffredin arni, wrth ei henw hi y gelwid hyd yn oed ei meibion, ac weithiau ei gŵr hefyd. Er enghraifft Wil Alis, Wil Gwen, Dei Mri (Maria), Dic Bitha (Tabitha). Dull arall oedd galw un wrth enw ei gartref—Wil Tan y Wal, Dic Pen Dyffryn, Huw Cae Eithin. Hwyrach mai'r llysenw noeth a geid amlaf. Byddai rhywbeth personol yn y rhai hyn, rhyw nodwedd gorfforol neu ddiffyg, hyd yn oed anaf—Sachgwd (hen wr byr, llydan), Chwarter i dri (un a'i ddeudroed yn troi allan fwy na'r cyffredin), Dafydd Lalw (hen greadur diniwed a diffyg ar ei leferydd), Dei Step yn Uwch (hogyn y dywedodd ei fam wrth rywun fod ei mab hi " step yn uwch" na hogiau eraill), Sopson (hogyn na fedrai ddywedyd sosbon), Fforffad (ei air fyddai bod popeth anghyffredin yn fforffad), Brefo (=ebr efô, un a ddywedai hynny bob yn ail gair), Bwrlichwgan (= chwrligwgan, cam—leolwr sain), Nadd Lleidar (a aeth yn enw ar ddyn a dripiodd ar ei dafod ryw dro wrth geisio dywedyd ei fod "wrthi fel lladd neidr").

Ceid llawer o draddodiadau a choelion ym mhlith y bobl. Yn y ddeunawfed ganrif, pan ffynnai cred mewn rheibio a dadreïbio yn gyffredin iawn ym mhobman, trigai dewin enwog heb fod ymhell o'r pentref, ac adroddid llawer o straeon am ei gastïau hyd yn oed pan oeddwn i'n hogyn. Yr oedd hen ffynnon enwog yn agos i dŷ'r dewin, a dôi pobl yno ato i gael gwybod a fyddai rhywun wedi eu rheibio. Dywedai yntau fod llythrennau eu henwau yn y ffynnon a thelid iddo ef am eu tynnu allan, meddid. Nid oedd y ffynnon yn gweithio yn f'amser i, wrth gwrs, ond y mae'n debyg ei bod hi i'w gweled y pryd hwnnw. Prin yr oedd neb, mi dybiaf, yn credu yn y rheibio a'r dadreïbio erbyn hynny, ond byddai rhieni yn bwgwth danfon y dewin ar ôl eu plant oni byddent yn blant da.

Adroddid yr ystraeon cyffredin hefyd am y Tylwyth Teg, bwganod ac ysbrydion, a dïau bod rhai pobl yn hanner credu'r rheiny o hyd. Nid wyf yn cofio clywed neb yn dywedyd ei fod wedi gweled y Tylwyth Teg yno, ond clywais am lawer oedd wedi gweled bwganod neu ysbrydion. Ar y ffordd fawr heibio fy nghartref yr oedd tri neu bedwar o leoedd â bwganod ynddynt yn ôl y sôn a byddai ar ferched gweini ofn mynd heibio'r mannau hynny yn y nos. Lleoedd oeddynt yng nghysgod coed. neu yn ymyl rhyw hen furddyn. Sonnid bod arian wedi eu cuddio yn agos i le a elwid Rhyd yr Arian rai milltiroedd o'r pentref, a dywedid y dôi mellt a tharanau os âi rhywun i chwilio am y trysor. Cof gennyf fynd yn un o hanner dwsin o hogiau, ar fore haf, i chwilio am yr arian cudd, ond cyn i ni fynd ymhell, daeth sŵn taranau yn y pellter. Gwrandawsom ennyd yng nghysgod hen furddun. Gwaethygu yr oedd y sŵn. Barn yr arweinydd oedd mai gwell i ni droi yn ein holau, ac felly y bu. Dywedai plant hefyd fod hen ddynion bychain i'w gweld yn y nos o gwmpas tŷ hen gymeriad od, a chŵn cymaint â mulod yn y cae yn ymyl y tŷ. Dysgid ni nad oedd dim gwir mewn ystraeon felly, ac nid wyf yn cofio amser pryd y byddai arnaf eu hofn. Credu yr wyf fod cyfnod cred gyffredin mewn pethau o'r fath wedi darfod yn yr ardal, ond yr oedd cred yn yr arwyddion tywydd yn ddiau yn parhau o hyd. Cof gennyf glywed fy mam yn dywedyd wrth gymdoges ryw ddiwrnod fod ei morwyn wedi mynd i" ollwng gwaed." Ni wyddwn beth yn y byd oedd ystyr hynny, ond yn ddiweddarach deuthum i wybod bod hen syniadau am feddyginiaethau yn beth digon cyffredin, megis swyno dafadennau oddiar ddwylo neu rannau eraill o'r corff, eu rhwbio â malwen a dodi'r falwen wedyn ar bigyn draenen ddu; rhwbio'r dafadennau â darn o donnen cig moch ac yna claddu'r donnen mewn tomen dail; neu eu golchi â dŵr glaw wedi sefyll mewn ceubren derw, a gadael iddynt sychu ohonynt eu hunain. Fel y byddai farw'r falwen ar y pigyn draenen, fel y bwyteid y donnen gan bryfetach yn y domen, ac fel y sychai'r dŵr o'r ceubren ar y dwylo, diflannai'r dafadennau, meddid, a cheid digon o bobl ddeallus i dystio bod hynny'n wir. Dywedodd meddyg wrthyf yn ddiweddar iawn am wraig a aeth ato ef a'i dwylo wedi eu gorchuddio â mân ddafadennau. Dywedodd yntau wrthi na ellid eu trin bob yn un, ag yno gynifer ohonynt, ond y trefnai ef i droi golau arbennig arnynt. Aeth i'w gwleed ym mhen rhyw wythnos neu bythefnos. Ac yr oedd y dafadennau oll wedi clirio! Byddai hen wragedd, yn enwedig, yn troi ceiniog o wneud trwyth ac eli o ddail a llysiau at bob math o anhwylderau, a phobl yn dywedyd ar eu gair hwythau y byddai'r drwyth neu'r eli yn well nag un moddion meddyg a gaech byth yn unman. Cof gennyf y byddai gweithwyr yn clymu darn o edau wlân am yr arddwrn pan fyddent wedi niweidio'r gewynnau drwy godi pwysau neu rywbeth felly, ond ni chlywais sôn yno, hyd yr wyf yn cofio, am driniaeth yr edau wlân at wella clefyd y galon neu'r clefyd melyn. Credid fod ambell un yn gallu gwella'r " Tân Iddew" a'r "Eryr " drwy chwythu arnynt. Yr esboniad ar y ddawn honno oedd bod rhai o hynafiaid y personau hynny wedi bod yn bwyta cig eryr gynt. Gwisgai llawer o ferched ac nid ychydig o feibion fodrwyau bychain yn eu clustiau, gan ddywedyd, o leiaf, fod hynny'n beth da at y golwg. Byddai hefyd bethau i'w cario er mwyn lwc neu rhag anlwc. Efallai, yn wir, fod y syniad am addurn yn cyfrif am y pethau hyn yn hytrach na'r syniad am swyn. Cof gennyf hefyd sylwi ar fwy nag un hen ŵr a fyddai, pan eisteddent yn y capel, yn tynnu llaw ar draws y talcen ac yna o'r talcen i lawr ar hyd yr wyneb, gweddill diymwybod arwydd y Grog, ond odid.

Am ddifyrrwch cymdeithasol, ychydig a geid ohono, ar wahan i gynnull ynghyd yn nhai ei gilydd gyda'r nos i drin y byd, fel y dywedid, adrodd ystraeon a chanu. Esgyrn ystraeon, yn hytrach nag ystraeon a ffurf osodedig arnynt a geid yn yr ardal, fel bron ym mhobman arall yng Nghymru erbyn hynny. Am y canu, er nad oedd y corau a'r cystadlu a ddaeth wedyn yn gyffredin drwy'r wlad tua'r adeg honno, eto wedi dechrau yno, byddai cantorion â lleisiau da yn gyffredin iawn, a chyd-ganu yn aml, ambell un â llais bas neu denor da yn gymeradwy iawn. Cenid baledi, cerddi, tonau cynulleidfaol ac ambell hen gainc werin a genid yn y tafarnau cyn dyfod y diwygiadau dirwest, yn ddiau. Dyma bennill o hen gerdd yfed nas clywais yn unman arall:—

Am ddifyrrwch cyhoeddus, byddai darlithiau yn dra chyffredin, yn enwedig darlithiau â digon o fân ystraeon digrif ynddynt am ryw hen gymeriadau neu am wledydd tramor, yn arbennig os byddai gan y darlithwyr wisgoedd ac arfau i'w dodi am ac yn llaw un o'r brodyr i'w dangos. yn ystod y ddarlith. Dôi taflwr llais neu ddau, o Gymry glân, heibio ar dro, er mawr ddifyrrwch i bawb, hen ac ieuainc. Ceid cyfarfodydd cystadleuol hefyd tua'r Nadolig a'r Calan, a byddai canu carolau a gwasanaeth pylgain yn yr eglwysi. Ai'r plant yn dyrrau i "hel clennig," ond ystyriai'r ffermwyr a phobl gyfrifol felly nad gweddus. fyddai hynny i'w plant hwy, er tipyn o siom i'r plant eu hunain, nad oeddynt eto mewn "oed cyfrifol." Bûm gyda thwr o blant un waith ar y perwyl hwnnw. Gefais ddwy geiniog a dau afal coch melys iawn, a cherydd ar ôl cyrraedd adref. Nid euthum byth wedyn, canys nid oedd wiw torri ar draws arferion y dosbarth. Digon i ni fyddai cael estyn ceiniog i bob un o'r eirchiaid a ddôi heibio ddydd Calan Ionawr, dysgu haelioni ac urddas traddodiad, a gwisgo'n dillad ail-orau ar ddiwrnod gwaith.

Ni byddai marchnad na ffeiriau yn y pentref, ond byddai dydd Sadwrn yn ddiwrnod negesa pobl o'r wlad, a'r siopau'n brysurach nag arfer yn y prynhawn a chyda'r hwyr. Nid oeddis eto wedi dechrau goleuo'r ystrydoedd wedi iddi dywyllu. Byddai diwrnod Cerdded y Clwb yn rhyw hanner gŵyl. Dôi'r Clwb yn y bore, a band mewn dillad unsut amdanynt a brêd melyn arnynt ac ar y capiau bach crynion a wisgai'r bechgyn, braidd ar ochr y pen a charrai o ledr tenau gloywddu am yr ên i'w cadw yn eu lle. Ymdeithient ar hyd prif heol y pentref, tan ganu eu cyrn pres, a symudiadau curwr y drwm mawr a'r drwm bach yn rhyfeddod i'w gweld. Merched a phlant bach yn eu breichiau yn sefyll yn y drysau i'w gweled, bechgyn a genethod yn eu canlyn yn llinyn, a Gŵyr Harlech" neu'r "Conquering Hero" yn peri i'r hogiau feddwl am y dydd y byddai ganddynt hwythau gyrn pres a dillad fel dillad sowldiwr. Ciniawai'r Clwb yn y "Red Lion" a chwaraeai'r band yn yr heol o flaen y tŷ hyd nes bod y cinio'n barod. Yn y prynhawn byddai gorymdaith arall cyn chwalu o aelodau'r Clwb. Clywid am un band yn dychwelyd un tro, ar ôl cinio da a llawen, i'r lle y byddid yn gwahanu. Yr oedd y ffordd yn fforchi dipyn o'r pentref. Aeth y tabyrddwr yn ei flaen i'r chwith a'r band i'r dde. Yn y man daeth rhywun i gyfarfod â'r tabyrddwr, a gweiddi arno, Hai! mae'r band ar y ffordd arall!" "Waeth gen i," meddai dyn y drwm, gan ddal ati â'i holl egni, " rwy'n medru' Gwŷr Harlech cyn geni'r un ohonyn nhw!"

Dyma'r unig gerddoriaeth offerynnol a glywid yn y pentref yn y dyddiau hynny, onid y chwibanogl, yr ysturmant (giwgaw mewn rhannau o Gymru) a'r consartina. Cymerai ambell Syrcws fantais ar achlysur o dro i dro i fwrw diwrnod yn y pentref ar y ffordd i un o'r trefi mwy, a byddai'n eu canlyn rai â "stondingau " ganddynt, yn gwerthu mân bethau, a dynion yn "llyncu- procer," cnoi carth gan chwythu colofnau o fwg o'u safnau a thynnu allan ohonynt rubanau papur o bob lliw. Yntau'r "band undyn," consertina rhwng ei ddwylo, drwm ar ei gefn, a weithiai â'i droed, clychau ar ei helm a'r cwbl yn myned yn rhyfeddol; ac ambell faledwr of Gymro hen ffasiwn yn canu cerddi o'i waith ei hun neu eraill. Yno y gwelais Abel Jones, "Bardd Crwst," am y tro cyntaf. Dyn dros ei ganol oed, efallai, heb fod yn dal ac yn hytrach yn dew. Wyneb llyfn ac esgus o farf felynwen, blewyn neu ddau yma ac acw, megis. Spectol â gwydrau crynion. Het ffelt galed, ddu, wedi dechrau troi'n wyrdd, ag iddi gorun go uchel, yn tueddu at fynd yn bigfain. Tolc ynddi ar un ochr. Gwasgod lewys, braidd yn llac amdano. Côt yn cyrraedd dipyn yn is na'r wasgod, honno hefyd yn llac a phocedau anferth o bobtu, lle cariai eu gerddi, wedi ei printio yn Llanrwst neu Gonwy. Cerddai'n araf tan ganu "Yr eneth gadd ei gwrthod," dyweder, a gwerthu'r baledi yr un pryd. Byddai'r gymysgedd rhwng geiriau'r gerdd a sylwadau'r Baledwr yn ddigrif:—

"Ar la-a-n hen a-a-afon Ddyrdwy ddofn
(ceiniog, diolch),
Eisteddai glân for- (ie, ceiniog, diolch) wynig,
Gan ddistaw si-i-sial (ceiniog, diolch) wrthi'i hun
Gadawyd fi-i-i (ceiniog) yn unig."

Ac felly ymlaen. Diau y byddai tipyn o yfed yn ystod y dydd, a chan y byddai yno bobl o wahanol leoedd oddiallan, codai rhyw hen gynnen ambell waith, a byddai ffrae ac ymladd, a'r sôn i'w glywed drannoeth bod hogiau'r lle a'r lle wedi ei "chael hi nes oeddan nhw'n waed rael," gan hogiau plwyf arall. Ambell waith codai cynnen newydd o'r hen un, a deunydd helynt arall pan ddôi cyfle. Ffynnai hen gampau cryfder, ymaflyd codwm, taflu maen neu drosol am y pellaf, nyddu gwydden, plygu pedol yn eu plith. Gosodid y trosol ar ei hyd ar lawr. Safai'r taflwr yn ei ymyl. Plygai heb blygu gar. Cydiai tua chanol y trosol a'i godi hyd braich a'i ddal uwch ei ben a'i drwyn ymlaen. Yna ysgói ddwywaith neu dair heb symud o'i fan a bwrw'r trosol yn ei flaen nes byddai'n ymblannu yn y ddaear rai llathenni oddiwrtho. At "nyddu gwddan," fel y dywedid, torrid nifer o wŷdd neu wiail, cyn ffyrfed â bawd dyn, yn barod. Cymerai'r nyddwr un ohonynt, dodai ei bôn tan ei droed, yna cydio ynddi â'i ddwy law a'i throi nes ei hysigo ar ei hyd. Wedyn dodai gwlwm arni, bwriai hi ar lawr a cherddai o'r neilltu a'i ben yn yr awyr fel concwerwr, gan rwbio'i ddwylo yn ei gilydd. At blygu pedol cesglid twr o hen bedolau ceffylau, wedi treulio tipyn, a'r gamp fyddai sythu un ohonynt. Os torrai un yn rhwydd, byddai raid ailgynnig ar un arall. Gwelais ambell un a dorrai ddwy neu dair pedol yn ddeudarn ac a orffennai drwy sythu un heb ei thorri. Campau eraill fyddai neidio â phawl a choetio. Hen bedol ceffyl fyddai'r goeten, y rhan amlaf, a gwelais rai a'i bwriai am y nod pren yn y ddaear y naill tro ar ôl y llall heb fethu unwaith. Gallai rhai bechgyn godi dau hanner canpwys, un ymhob llaw, oddiar y ddaear heb blygu gar, eu codi a'u dal allan o hyd braich, eu siglo'n ôl a blaen a'u bwrw gyda'i gilydd gryn bellter ymlaen. Byddai sôn am ambell un wedi ysigo'i gefn wrth godi pwysau am y trymaf, neu godi dau hobed o wenith mewn-sach oddiar lawr ar ei ysgwydd a'i gario i fyny'r grisiau. Yr oedd y campau hyn yn ddiau yn hen rai. Ni byddai cicio'r bêi droed ond chwarae mwy neu lai wrth ddamwain a heb reol bendant, ymhlith hogiau, hyd yr wyf yn cofio.

Byddai gweithwyr yn fedrus iawn â'u dwylo. Heb erfyn onid cyllell boced a thwca cam, gwnaent flychau. tybaco o gyrn gwartheg iddynt eu hunain a gwadnau clocsiau o goed gwern i'w plant at y gaeaf, a byddai gwneud ffyn, llwyau pren, basgedi a chewyll yn ddifyrrwch cyffredin gan lawer ar hirnos gaeaf. Byddai dull gwneud y cawell yn gywrain. Cesglid yr ais a'r gwiail yn barod, yr ais o bren cyll yn gyffredin, a'r gwiail plethu o helyg neu fedw. Pan wneid cawell yn y tŷ, byddai raid cael astell go gref o goedyn a thyllau drwyddi, yn gylch crwn. ar y canol, neu'n ddwy res union gyda'r ymyl a'r ddau dalcen yn grwm, yn ôl ffurf y cawell a ddewisid. Gosodid yr ais yn y tyllau a phlethu'r gwiail rhyngddynt, oddiwrth yr astell i fyny. Pan gyrhaeddid y dyfnder a fynnid, plygid yr ais i mewn at ei gilydd i wneud gwaelod y cawell. Weithiau, er mwyn addurn, cymysgid y gwiail, llain o helyg a bedw bob yn ail. Ar ôl gorffen y cawell, tynnid ef oddiar yr astell, a phlethu gwiail tipyn ffyrfach am yr ymyl a naddu a phlygu blaenau'r ais i lawr rhwng y lleill am y bleth ymyl i'w chadw hithau yn ei lle a chwplau'r llestr. Weithiau, gwneid y cawell yn yr awyr agored, heb un astell, drwy wthio'r ais i'r ddaear. Át ddodi pethau ynddynt i'w cario ar gefn mul, un o bobtu, y gwneid y cewyll hyn y rhan amlaf. Gwneid basgedi bychain crynion o wiail bedw, at ddal pethau yn y tŷ, megis wyau ieir, afalau neu edafedd a thaclau gwnio neu weu. Caledai rhisglyn y gwiail bedw, a byddai lliw gloywgoch teg ar y basgedi bychain hynny pan fyddent wedi sychu. Gwneid basgedi neges a dolen iddynt hefyd o wiail bedw.

Wrth sôn am fedw, daw i'm cof y dôi ambell hen ŵr heibio ar dro i werthu gwialennau bedw at gadw trefn ar blant yn y dyddiau hynny. Odid dŷ na welid ynddo wialen fedw yn crogi wrth hoel uwch ben y lle tân, a byddai hen gân a elwid "Gwialen fedw fy mam" i'w chlywed yn aml. Ni welais moni mewn argraff nac ysgrifen erioed, ac nid arhosodd ar y cof onid yn unig ddarn o'r byrdwn. Dyma fo:-

Rhywun mewn oed fyddai'n canu'r penillion, a'r plant yn cael hwyl fawr ar y byrdwn.

Gweai'r merched hosanau i'w gwisgo gan y teulu ac i'w gwerthu i eraill. Cof gennyf am un hen wraig a fyddai'n gweu drwy gydol y dydd yn y gornel wrth y tân, a Beibl agored o'i blaen. Ni wn i ba sawl gwaith yr oedd hi, meddai, wedi darllen y llyfr hwnnw drwyddo a gweu hosanau i weision ffermwyr ar yr un pryd. Ac yr oedd hi'n iach ac yn hapus yn ei henaint, heb grychyn ar ei grudd. Byddai'n arfer gan deuluoedd ddanfon eu merched at ryw "wniadrag " neu gilydd i ddysgu torri deunydd, gwnio a gwneud dillad isaf iddynt eu hunain ac eraill. Ni welais neb yn nyddu yn f'amser i, er y gwelech hen droellau mewn llawer tŷ.

Yn y cynhaeaf gwair ac ŷd ac wrth godi a phlannu tatws, cymerai'r merched a'r plant ran. Yr wyf yn cofio un wraig drigain oed o leiaf, a fyddai yn y fedel gyda'i gŵr, oedd ben medelwr, wrthi drwy'r dydd yn medi gwenith â'r cryman taro, nid â'r sicl, oedd eisoes wedi mynd o arfer. "Ysbaena" oedd ein gair ni yr adeg honno am dorri gwenith â'r cryman taro, ond byddai sôn am ddyrn-fedi" â'r sicl, cryman blaenfain a phlygiad go gaead ynddo a mân ddannedd ar du'r min at dorri'r gwellt bob yn ddyrnaid drwy dynnu, nid taro; gorchwyl caled, blin, er nad oedd yr ysbaena nemor ysgafnach i'r cefn ychwaith.

Felly yr âi gwaith blwyddyn ymlaen ymhlith gweithwyr. Bychan fyddai'r cyflog, ond câi'r gweithwyr le i blannu tatws am ddim gan y ffermwyr, a llaeth enwyn heb ddim ond gyrru i'w ymofyn. Cofiaf un dyn dall a ddôi o'r pentref i'm cartref bob diwrnod corddi i gyrchu llaeth. Dôi ar hyd llwybrau a chroesai un bont bren dros afon, heb un tramgwydd. Sonnid am y neb na wnâi gymwynasau fel hyn ag eraill fel "hen gribin" gan ei gymdogion. Er mai caled oedd byd y gweithwyr hyn, yr oeddynt fel dosbarth yn iach a chryfion, a magent deuluoedd lluosog o fechgyn a merched fel hwythau, drwy ddiwydrwydd a chynildeb. Byddent, fel dosbarth, yn ddigrif a bodlon, ac yn byw'n hŷn, mi gredaf, na'r crefftwyr a'r "creigwyr" fyddai'n gweithio mewn chwarel gyfagos, ac a fyddai'n heneiddio a musgrellu'n gynnar. Y cryd cymalau fyddai'n poeni mwyaf ar y gweithwyr tir, pan aent i dipyn o oed. Byddai bron bob gweithiwr yn perthyn i Glwb Cleifion a Chlwb Claddu, ond ni chymerent yn garedig at y cwmnïau "Siwrio Bywyd," yn enwedig bywydau plant. Cofiaf ddyn fyddai'n mynd o gwmpas dros un o'r cwmnïau hynny. "Yr Hen Siwrin " y byddai pawb yn ei alw. Un taer ydoedd, mae'n debyg, wedi dysgu llawer o ddiarhebion at wasanaethu fel cynghorion bobl ddiddarbod. Byddai'n ceisio dangos i bobl gymaint o fantais iddynt fyddai insiwrio'u plant a chael tipyn o arian petasai ddigwydd i rai ohonynt feirw.

"Yr hen dderyn corff ganddo," meddai mam hanner dwsin o blant wrth fy mam un tro. "'Does dim llonydd i'w gael ganddo, eisia na fasan ni'n siwrio'r plant, yn enwedig Dafydd bach, yr unig un gwanllyd o'r chwech. Fel tasa ryw fam yn mynd i siwrio bywyd un bach cwla fel yfô, gan ddisgwyl y bydda fo farw cyn hir! Fasa waeth gen i siwrio un o'r lleill na pheidio-fydd byth ddim o'i le arnyn nhw. Ond Dafydd bach druan, byth a beunydd yn cwyno-ond fasa'r peth 'r un ffunud â phe tae arnoch chi eisia'i gladdu o er mwyn cael tipyn o arian? Na, meistras, mi ddeudis wrth y llymgi am gymryd gofal na ddengys o mo'i hen big deryn corff yn y tŷ acw byth eto! A wyddoch chi be ddeudodd y blerwm? Wel,' medda fo, arnoch chi y bydd y bai os digwyddith rhywbeth iddo fo.' Ia'n wir i chi!"

Yr wyf wedi sylweddoli erbyn hyn mai plant a hen bobl fydd pennaf ceidwaid hen draddodiadau ac arferion mewn cymdeithas, a bod yn y naill dosbarth a'r llall lawer o "gymeriadau," fel y byddwn yn dywedyd. Yn neupen oes clywech ystraeon a gwelech arferion fyddai'n llawer prinnach ymhlith y canol oed. Soniwyd eisoes am y campau cryfder ymhlith y llanciau. Yn rhyfedd ddigon, ni cheid cymaint o hen chwaraeon Cymreig ym mysg y plant. Enwau Saesneg wedi eu Cymreigio fyddai ar lawer ohonynt, megis trymbol, trabol weithiau, gan blant o'r tu allan, o'r Saesneg throwball, ond odid; chwipio top, chwarae marbles; enwau ar wahanol fathau o'r marblis, megis to, un fawr at daro o bell; ali, un lai, at "figyrnu" rhwng ewin bawd a chymal bys. Ceid ali wen, ali goch ac ali wydr, gwythiennau cochion drwy'r gwyn yn yr ali goch, ac amryw liwiau'n bleth megis y tu mewn i'r un wydr. Byddai gwerth cyfnewid ar y marblis hyn, ali goch, er enghraifft, yn werth pedair marblen blaen. Coblo y gelwid chwarae â chnau cyffylog, neu hyd yn oed gnau cyll weithiau, twll drwy ganol y gneuen a charrai neu linyn drwyddo, dal a tharo bob yn ail, a'r gamp fyddai torri o'r naill hogyn gneuen neu goblar y llall. Crasem y cnau cyffylog yn araf i'w caledu, a daliai ambell un i guro drwy'r tymor. Bu gennyf un wedi torri yn ei hanner, ond bu'n ddigon caled i barhau dau dymor. Gallaf ei gweled, megis o flaen fy llygaid hyd heddiw. Pan fyddem wrthi "o ddifrif," nid "o fregedd," enillodd honno lawer o bethau i mi.

Byddai'r chwaraeon yn newid i ganlyn y tymor, neidio (naid hir, naid uchel, naid stond, sef o'ch sefyll), hwb-cam-a-naid (neid, yn wir, a ddywedem ni, nid naid); chwarae mochyn coed (leap frog), y rhai hyn oll ac eraill yn y gaeaf, pan fyddai'r tywydd yn oer. At y gwanwyn, pan sychai'r ffyrdd, chwipio top, chwarae marblis; yn yr haf, taflu pêl i gap, mwgwd dall, mig ymguddio, cisin ring (felly y seinid, ond clywid yr enw "dal-a-chusan " hefyd yn y wlad), hyn yn enwedig ym mis Mai, darn o hen chwarae, ond odid; cic-ston (cicio carreg o sgwâr i sgwâr heb gyffwrdd llinell, chwarae merched yn bennaf; sgipio (genethod), dawnsio (cymysg) symud a chroesi tan freichiau, darn syml o ryw hen ddawns, mi gredaf.

IV.

YR YSGOL.

YSGOL EGLWYSIG yn y wlad oedd y gyntaf y bûm ynddi. Ymladd noeth oedd yn digwydd fynychaf yno, canys dôi bechgyn o ddau neu dri phlwyf iddi. Byddai yno hogiau cryfion, tua deunaw oed, wedi dyfod i "ddysgu tipyn o Saesneg." Prin y dysgid dim yno, canys nid oedd. yno ronyn o ddisgyblaeth. Ni chosbid neb am siarad Cymraeg yno, am y rheswm, yn ddiamau, na feiddiai'r athro ei hun ddim cynnig gwneud y fath beth tra byddai'r bechgyn cryfion yno-un bach go eiddil ydoedd ef, a thipyn o brydydd Cymraeg hefyd.

Deuai'r plant â thamaid canol dydd i'w canlyn, a bwytaent hynny fyddai'n weddill ar y ffordd adref. Cof gennyf am ddau frawd yn bwyta bara wedi hen sychu. Cymerodd yr hynaf un darn a rhoes ddau i'r ieuengaf. Penderfynodd hwnnw na allai ef byth gnoi cymaint o beth mor ddiflas.

Fedra i ddim bwyta'r ddau," meddai, "cymer di hwn."

"Na," meddai'r hynaf, "ddeuda i iti be 'nei di. Cymer un ym mhob llaw a thamed bob yn ail. Fydd yna ddim gormod iti felly."

Gwnaeth y bychan felly a daeth drwyddi'n llwyddiannus. Ni allaf gofio dim arall a barodd i mi chwerthin tra bûm yn yr ysgol honno, ond ni bu hynny ddim yn hir. Rhoeswn fy nghas arni o'r dechrau. Nodid hi gan deulu wedi gwneud arian rywsut, a dysgid y plant i gapio a gostwng garrau iddynt. Gwnaent hynny'n ufudd ac yn ddistaw, ond ymhlith ei gilydd byddent greulon at rai gweiniaid, a llysenwent rai â rhyw anaf arnynt, rhai na fedrent ymdaro drostynt eu hunain. Yr oedd yno un eneth fechan o gorff, rhyw dipyn o gloffni arni a'i llygaid yn weiniaid. Byddai ganddynt lysenw cas arni, tynnent ei gwallt ac ni chadwai neb chwarae teg iddi, ond dau fab i weithiwr y byddwn i'n cael fy nghinio yn eu cartref. Dyn da iawn oedd tad y ddau hynny ac yr oedd ei natur yn ei feibion, dau ddiniwed ddigon, ond dewr yn y bôn. Un tro cafodd y ddau frawd a minnau gurfa go dost am gadw chwarae teg i'r fechan pan oedd yn crio'n arw am rywbeth a wnaethid iddi. Caseais y lle yn aruthr, a byddai'r ddau frawd a minnau'n "chwara triwal" yn aml yn lle mynd' yno. Ni wn i ddim beth oedd yn cyfrif am arferion y plant hynny, onid diffyg disgyblaeth gan na rhieni nac athrawon.

Yr oedd dwy ysgol yn y pentref, fel y dywedwyd eisoes, a chyn hir danfonwyd fi i'r Ysgol Fwrdd yno. Y bore cyntaf yr euthum i'r ysgol honno, dodwyd fi i sefyll ar fy nhraed ar fainc am siarad Cymraeg, gyda chennad i fynd i lawr os achwynwn ar rywun arall a droseddai drwy wneud yr un peth. Yr oeddwn wedi fy nysgu erioed mai peth salw oedd achwyn ar eraill am beth a wnaech eich hun, ac er i mi glywed plant yn siarad Cymraeg tan eu llais ag eraill, ar y fainc y bûm drwy'r bore. Cyn ein gollwng allan ganol dydd, dyma'r Meistr yn dyfod a chansen yn ei law ac yn peri i mi ddal fy llaw allan. Fy awydd oedd gwrthod, ond deliais fy llaw, braidd yn ofnog. Heb fwriadu hynny, efallai, trawodd fi ar fön fy mawd a pheri loes i mi. Rhwng y loes a'r sarhaed, ofnaf i mi golli fy nhymer ac yn fy ngwylltineb anelais gic ato. Wrth ysgoi, maglodd yntau ar draws cadair ac aeth i lawr. Ni wn yn iawn ba amcan oedd gennyf wedyn, ond neidiais oddiar y fainc. Y tebyg yw ei fod ef wedi deall ei fod wedi achosi mwy o boen i mi nag oedd ddyledus. Ni chefais ragor o gosb, beth bynnag, y bore hwnnw. Pan euthum adref gyda'r hwyr dywedais nad awn i byth i'r ysgol honno wedyn. "Pam?" meddai fy nhad. Dywedais innau'r hanes, gan deimlo mai neidio o'r babell ffrio i'r tân fu'r newid ysgol. "O," meddai yntau, dyna'r cwbl. Ni wn yn iawn beth a ddigwyddodd, ond ni chosbwyd neb am siarad Cymraeg yno wedyn.

Nid oedd nemor ddisgyblaeth yn yr ysgol honno chwaith, ond pan fyddai'r Meistr i mewn. Pan fyddai ef allan—a byddai yn bur aml—byddai'n fedlam wyllt. Byddai un disgybl-athro yn gosod dau hogyn i ymladd, a byddai yno sŵn byddarol. Dôi'r Meistr i mewn yn ddiddisgwyl. Byddai'r hogyn fyddai'n gwylio wrth y ffenestr wedi esgeuluso'i ddyletswydd. Distawrwydd sydyn. Ai'r Meistr at ei ddesg, tynnai gansen arbennig allan. Dechreuai yn y pen nesaf i ddrws yr ysgol a rhôi gurfa i bob bachgen a geneth yn ddiwahaniaeth. Un tro, pan oedd ef wrthi yn y pen arall, a'r genethod i gyd yn crio, a hogyn go gryf yn gwrthod tynnu ei law o'i boced, dihangodd y rhan fwyaf o'r plant allan o'r ysgol. Yr oedd hynny yn yr haf, yn tynnu at amser y gwyliau. Pan agorwyd yr ysgol ar ôl y gwyliau, yr oedd yno Feistr newydd, dyn bach tawel ac eithaf caredig. Dysgem dipyn gyda hwnnw, ac aeth " chware triwel" yn beth prinnach. Yr oedd y Meistr newydd hyd yn oed yn medru gwneud dysgu yn beth gweddol ddifyr i ni, ac yr oedd y disgybl-athrawon wedi deall bod yr hen oruchwyliaeth yn darfod.

Eto, yr oedd hen arferion tylwythol yn aros ymhlith y plant o hyd, y tu allan i'r ysgol. Y ddadl rhwng capel ac eglwys, wrth gwrs, ond peth cymharol ddiweddar ac achlysurol oedd honno, gyferbyn â'r hen elyniaeth rhwng y naill blwyf neu bentref a'r llall. Pan ddôi "hogyn newydd" i'r ysgol byddai raid iddo dalu am ei eni lle'i ganed drwy ymladd â phen ymladdwyr yr ysgol, neu gymryd ei alw wrth enw oedd yn anghyfiawnder mawr â'r ci fel creadur. Gwelais lawer brwydr felly. Yn wir, bu raid i mi ymladd fy hun â hanner dwsin, o leiaf, o'r penaethiaid cyn cael fy nhraed tanaf. Yr oedd arnaf eu hofn, gwir yw, ond cymerais fy siawns, yn hytrach na chael yr enw a gawswn am wrthod. Wrth lwc, yr oedd gwas yng ngwasanaeth fy nhad wedi bod drwy'r driniaeth ei hun yn ei ddydd, ac wedi rhoi i mi gynghorion buddiol a charedig sut i "drin fy nyrna," wrth raid. "Os bydd raid i chi baffio," meddai, " tynnwch ddagra o'i lygid o â migwrn y bys canol, gwaedwch'i drwyn o, ac yno mi fydd popeth yn iawn, ond i chi gadw'ch pen yn oer."

Talodd cynghorion yr athro hwnnw i mi, a chefais lonydd wedyn, onid ar ryw ffrwgwd bersonol o dro i dro, heb fod a wnelai ddim â chymhleth y Ni a'r Nhw yn yr ystyr enwadol na phlwyfol. Nid wyf yn cofio chwaith i neb o'r penaethiaid geisio talu'r pwyth i mi ar ôl i mi fynd drwy brawf yr "hogyn newydd " yn weddol lwyddiannus. Nid oedd y plant yn yr ysgol hon, yn wir, mor greulon ag oeddynt yn y gyntaf, ac yr oeddwn innau'n adnabod mwy ohonynt, er mai "hogyn o'r wlad" oeddwn. Hyd yn oed pan fyddai raid ymladd, byddai'n rhaid cadw rhai rheolau. Ni châi dau fynd i ben un ar unwaith, ac ni chaniateid crimogi, er y torrid y rheolau ambell dro. Credu'r wyf bellach mai hen ffordd i ddieithryn gael ci le pan ddôi i'r hen gymdeithas gynt oedd wrth wraidd prawf yr hogyn newydd wedi'r cwbl.

Un haf, beth bynnag, bu brwydr fawr rhwng bechgyn y ddwy ysgol, heb un achos arbennig ar eu rhan hwy eu hunain, ond bod uchel awdurdodau milwrol y deyrnas, gan ofni mwy nag arfer, yn teimlo bod ysbryd rhyfelgar y bobl wedi mynd yn o isel, ac o'r herwydd wedi penderfynu danfon milwyr yn holl ogoniant gwisgoedd eu swydd ar ymdaith drwy ddarn gwlad i geisio gwella tipyn ar bethau, fel yn y dyddiau gynt a fu, cyn i boblach ddechrau sôn am bethau tu hwnt i'w cyfiawn derfynau. Ni wn i beth fu'r effaith ar bobl mewn oed, ond atebodd yr hogiau yn ebrwydd i'r apêl. Milwyr oeddynt i gyd, rhai wedi cael capiau bychain crynion am eu pennau a strapiau lledr am eu canolau, wedi gwneud cleddyfau pren i'w dwyn wrth eu cluniau a dysgu gweiddi'n groch, cerdded yn sythion, sefyll yn sydyn gan glecian traed yn erbyn ei gilydd a dodi llaw wrth gap yn odidog dros ben. Yr oeddym wedi gweled esgus ymladd ar barc coediog yn ymyl y pentref nesaf, ac nid oedd gamp na wyddai'r penaethiaid sut i'w gwneud ar faes y gad, disgyn ar lawr, codi eilwaith, rhedeg ymlaen, disgyn drachefn, codi ar ben glin a disgwyl y gelyn gyda bidog yn barod ar flaen. pob llafn o bren a wasanaethai fel gwn yn nydd y perygl cenedlaethol hwnnw.

Un diwrnod, fel yr oedd cwmni o'r milwyr yn gwylio ar ymyl y ceunant, darganfuwyd gelyn yn ymguddio mewn lle cadarn tan y ddaear. Rhai bychain o gorffolaeth oeddynt, yn gwisgo melyn a lleiniau duon ar ei draws, nid anhebyg i wisg cacwn brithion. Tyngodd y Capten yn enw rhai o'i dduwiau fod yn rhaid difa'r nythle hwnnw rhag blaen. Galwyd am fechgyn y "lliw glas" yn barod. at rwbio'r clwyfau â'r lliw hwnnw y byddai mamau'r milwyr yn ei ddefnyddio at sythu coleri'r bechgyn erbyn y Sul-bychan a wyddai'r mamau beth a ddaethai o'r "lliw glas" a fyddai'n barod ganddynt, wedi ei rwymo mewn darn o liain at wasanaeth diwrnod golchi!

Pan gafwyd pethau'n barod, galwodd y Capten yn groch am ymdaith yn chwyrn tuag ymguddfa'r gelyn tan y ddaear. Ac ymlaen â'r gad. Safwyd o flaen y clawdd lle'r oedd y gelyn hwnnw yn llochesu. Nid oedd dim i'w weled, ond gwyddai'r sgowtiaid lle'r oedd y twll. Cynhyrfodd y Capten. Tyngodd eilwaith yn enw un o'i dduwiau a cherddodd yn hy dros "dir neb" a'i wŷr yn ei ganlyn. Codwyd cri a dechreuodd y waldio (curo) yn y fan. Ni ddeuai sŵn y gelyn i'r clyw, ond deallwyd yn fuan fod y cnafon ymhell o flaen yr oes yn eu dyfais, ac mai yn yr awyr yr oeddynt hwy'n ymladd. Tyngodd y Capten eto yn greulon nad oedd waeth ganddo ef am un o'u dyfeisiau. Gyda hynny dyma waedd, a dau neu dri milwr yn rhwbio coes neu fraich ac yn llefain gan boen. "Lliw glas!" meddai'r Capten yn groch, a rhuthrodd y cymorth cyntaf at y clwyfedigion. Yr oedd yno yn fuan fwy o waith i'r cymorth glas nag yr oedd modd i'w roi, ond daliodd y Capten ati yn ffyrnig ar ochr y "clawdd gwernin," chwedl "y Gododdin" gynt, gan weiddi a waldio yn aruthr. Ond amlhau yr oedd y clwyfedigion fwyfwy. Yr oedd yno gannoedd o'r gelynion yn dylifo allan o'r twll, ac o'r diwedd, bu raid i'r Capten dewr ildio rhag cwmwl o'r gelyn oedd yn gwichian o gwmpas ei ben. Rhwbiai ei wyneb, ei ddwylo a'i goesau, a bu raid iddo gilio o'r diwedd o'r gad anghyfartal honno, wedi dangos dewrder mawr, yn ddiamau. Gyrrodd y gelyn cyfrwys ffo ar y dewrion hynny, ciliasant hwythau a'u migyrnau yn eu llygaid, y lliw glas wedi hen ddarfod, a'r gelyn fel cwmwl yn yr awyr ar eu holau, yn grwnan a gwichian yn flin uwch ben.

Felly y darfu'r cyrch anffodus hwnnw, a dechreuodd y rhyfel o ddifrif. Cymerwyd cyngor wedi hyn, a chytunwyd bod yn rhaid newid dulliau, ac ymladd mewn dulliau mwy dealladwy. Trefnwyd dwy fyddin o'r diwedd. Yr oedd un fyddin, bechgyn yr Ysgol Fwrdd, i ddisgyn o Ben y Bryn a chroesi Llawr y Pentref, a bechgyn yr Ysgol arall i'w hatal. Ganol dydd y byddai'r brwydro, a thrachefn yn yr hwyr, ond byddem ni, hogiau'r wlad, wedi mynd adref erbyn hynny, gan mwyaf. Parhaodd yr ymladd, mwy neu lai rheolaidd, am rai dyddiau, ond daliai'r fyddin oedd yn rhwystro'r gelyn rhag croesi'r afon ei thir yn gyndyn. Yr oedd ganddynt gysgod da ynghanol y llwyni drain ac eithin yr ochr draw. Codwyd cri yn fuan fod byddin yr amddiffyn yn torri rheolau rhyfel drwy ddefnyddio'r catapwlt ("sling" oedd enw'r erfyn peryglus hwnnw gennym ni yr adeg honno). Yr oedd amryw o'r fyddin ymosod wedi cael doluriau difrif drwy eu taro â cherrig. Yn ôl arfer gwledydd cyfrifol, mynnodd y fyddin ymosod hithau stoc o'r catapyltiau rhag blaen, ni wn i ddim ai gan y cwmni anturiaethus a wnaethai'r lleill ai peidio. Ond dal eu tir yr oedd ochr yr amddiffyn o hyd.

O'r diwedd, penderfynodd adran y wlad o'r fyddin ymosod fod yn rhaid rhoi terfyn ar beth o'r fath. Bachgen dyfeisgar oedd eu harweinydd hwy. Twmi Siencin oedd ei enw, un wedi ei eni yn rhywle ar y goror. Daeth ef a'i ddynion i'r ysgol yn llechwraidd un bore ag arfau newydd- ion o ddyfais eu pennaeth i'w canlyn, a'u cuddio cyn mynd i'r ysgol, yn Nant y Felin. Gwiail go hirion oeddynt, o feirch-fieri, y pigau wedi eu naddu ymaith oddiar y pen ffyrfaf a'u gadael ar y pen arall. Arfau go frau oeddynt, mae'n wir, ond bernid y gwnaent y gwaith os gellid unwaith groesi'r afon. "Mi fyddan nhw wedi torri, a rhedeg cyn y bydd y ffyn yma wedi torri," meddai'r Capten yn hyderus.

Llyncwyd y cinio heb ei gnoi y diwrnod hwnnw, a dechreuodd y gad yn gynnar, gan obeithio croesi'r afon cyn dyfod y lleill i'w lleoedd. Ond yr oedd eu sgowtiaid wedi deall mewn pryd fod rhywbeth newydd ar droed, a'r fyddin yn dylifo i'r maes tu hwnt i'r afon. Daeth catapyltiaid yr ymosod i lawr o Ben y Bryn ar redeg a dechrau bwrw'r cerrig i gysgodi gwŷr y gwiail pigog. Heb ofni'r cerrig, rhuthrodd y rheiny drwy'r afon-oedd bron yn sych ar y pryd-a chyn pen ychydig yr oeddynt. rhwng y llwyni, a'r erfyn newydd yn dechrau ar ei waith. Torrodd y gad ar y lleill, a ffoesant i ben y codiad tir yr ochr draw, enciliad digon llwyddiannus, ond ni chawsant amser i gadarnhau'r safle newydd. Yr oedd y dreinogion. yn dringo'r llechwedd rhwng y llwyni, a gorfu i'r lleill ffoi i lawr nes cyrraedd gwely'r afon ymhellach o'r pentref. Yna ymlaen â hwy ar hyd yr afon, fel yr oedd y cwm yn culhau, a'r ymlid yn dynn ar eu sodlau.

Ar ganol y rhawt hwn, canodd clychau'r ddwy ysgol yr oedd hi'n ddau o'r gloch. Cosbwyd pob milwr ym mhob un o'r ddwy ysgol y prynhawn enbyd hwnnw am fod hanner awr yn hwyr yn cyrraedd. Daethant yn chwŷs a pheth gwaed, heb sôn am gyflwr eu dillad, "pan oedd lawn o haul hirfryn a phant," chwedl y Tywysog Owen Cyfeiliog ar achlysur tebyg, ganrifoedd yn ôl. A hyd y clywodd neb, dyna ben gorchest gorymdaith yr uchel awdurdodau milwrol. Ni chlybuwyd bod neb o'r dewrion dibris hynny wedi ei addurno â rhuban na darn o fetel gloyw.

Dyma ddarn bach o "Ramant Addysg Cymru," fel y byddai gynt, pan drôi'r chwarae'n chwerw.

V.

O DDYDD I DDYDD.

SYML iawn fyddai bywyd y bobl hyn, mewn gwlad a phentref, o ddydd i ddydd, o dymor i dymor. Pobl yn byw ar drin y tir yn bennaf, wrth gwrs, crefftwyr ac eraill yn darparu rheidiau bywyd mewn cymdeithas seml ddigon. Byddai rhai dyddiau pwysicach na'i gilydd, ac ar y dyddiau hynny byddai pawb yn nes at ei gilydd, megis, yn cydnabod rhaid yr hil, ewyllys da a chydweithrediad. Plannu tatws, cneifio defaid, y cynhaeaf gwair ac ŷd, dyddiau aredig a hau, diwrnod dyrnu—byddai cyd—weithio a chytundeb anhepgor bywyd dynoliaeth i'w cael ar y dyddiau hyn. Iddynt hwy hefyd y perthynai'r dyddiau gŵyl a diwrnod cerdded y Clwb. Rhoddai'r ffermwyr, gan mwyaf, fel y crybwyllwyd eisoes, dir at blannu tatws i'w gweithwyr heb gydnabyddiaeth ond y tail oddiwrth gadw mochyn. Ni chodid tâl ychwaith am drin y tir nac am agor a chau'r rhesi â'r aradr. Dôi'r gwragedd a'r plant i osod y tatws yn y rhesi. Cydnabyddid hyn fel dyletswydd, ac ar amser codi tatws rhoddai'r gweithwyr a'u gwragedd a'u plant help i'r amaethwr fel dyletswydd. Amser cneifio defaid, byddai hefyd gydweithio rhwng yr amaethwyr a'i gilydd, dôi ambell wraig i gneifio a'r plant i ddal traed y defaid. Caent gnuf o wlân am y dydd yn gydnabyddiaeth, ac ymborth. Yr un modd yn y cynhaeaf gwair. Byddai hwnnw yn fy nghof cyntaf i yn waith llawer mwy trafferthus nag yw bellach. Lladd gwair â phladuriau. Y peth nesaf fyddai troi'r gwaneifiau â chribin law ar ôl iddynt gynhaeafu ar un tu, yna eu chwalu â'r bicfforch. Wedi hynny rhancio'r gwair a'i gribinio'n lân â'r gribin law, a phicfforch pan âi'n rhy drwm i'r gribin, a'i fydylu yn barod i'w gario. Gwelais wragedd a babanodd sugno ganddynt —wrthi gyda'r gwair ac yn dodi'r bychain i gysgu ar fôn mwdwl, dan ofal plant hŷn, a'r mamau'n mynd yn awr ac eilwaith i roi sugn i'r rhai bach. Daeth y gribin geffyl cyn hir, cribin â lled da ynddi, a dannedd hirion ar bob tu i echel, cribin i'w llusgo ar ei gwastad, a darn o goedyn fel hanner cylch ar ddeupen yr echel i'r gribin lithro arnynt. Dwy hegl o'r tu ôl fel y gellid gostwng blaen y dannedd at y ddaear i redeg tan y gwair, a dymchwel y gribin gan adael baich y dannedd blaen yn rhenc a bwrw'r dannedd ôl ymlaen i gasglu baich arall. Yr oedd hyn yn welliant mawr. Dyfais o'r Amerig oedd hon, a thynnodd sylw mawr pan ddaeth un gyntaf i'r ardal. Yna daeth chwalwr i'w dynnu gan geffyl, dannedd of haearn iddo, yn troi ar echel ac yn chwalu'r gwaneifiau. "Cythraul" y gelwid y peiriant hwnnw mewn rhai ardaloedd, gan mor beryglus oedd yr olwg ar ei ddannedd heyrn wrth droi'n chwyrn ar ei echel. Yn ddiweddarach, daeth y gribin geffyl â dannedd crwm at rencio, a lle i'r gyrrwr eistedd arni, gyrru'r ceffyl a gollwng y gwair yn rhenciau pan fyddai gan y dannedd ddigon o faich.

Yn y cynhaeaf ŷd, medel a fyddai'n torri'r gwenith â chrymanau, ambell wraig yn y fedel yn ysbaena'r gwenith, sef ei dorri â chrymanau taro, gwaith caled iawn, er nad cyn galeted â'r "dyrn-fedi" a'r sicl, cryman lled geg-gaead, blaen-fain, a dannedd mân ar du'r min arno, cryman tynnu, at dorri'r ŷd yn ddyrneidiau. Gwaith tâl fyddai'r medi, wrth gwrs, ond dôi'r merched i rwymo'r ysgubau weithiau a'r plant bob amser i loffa. Syn fyddai gan y bobl yr wyf yn sôn amdanynt pe gwelent y peiriannau heddiw yn medi ac yn rhwymo'r ysgubau. Ysgafnhawyd a rhwyddhawyd llawer ar y gwaith drwy'r dyfeisiau hyn ac eraill, ond aeth nifer y dwylo a fyddai'n rhaid gynt yn llai, a chollwyd yr hen gydweithrediad a'r wedd gymdeithasol a fyddai arno unwaith.

Ar ddiwrnod dyrnu, byddai cydweithrediad rhwng ffermwyr. Byddai raid cael mwy o ddynion at y gorchwyl y pryd hwnnw nag erbyn hyn, dyn i gario dŵr i'r "injian," un arall i borthi'r dyrnwr, y ddau hyn wrth eu swydd yn "canlyn yr injian," yna dynion i fatingo a rhwymo'r gwellt, taswr a rhai i godi'r bating i'r das. Dynion i gario'r grawn i'r llofft ŷd, neu'r " granar," a mân swyddi eraill, megis cario manus a gwneud rhaffau i'w dodi dros y teisi gwellt. Byddai'r cinio dyrnu hefyd. yn achlysur tipyn o gystadleuaeth ymhlith y merched, a help i'w gael er hynny o ffermydd eraill neu gan wragedd a merched gweithwyr. Digwyddai llawer o ddifyrrwch a digrifwch yn ystod y dydd, canys byddai'r gymdeithas honno'n hoff dros ben o ryw fân gastiau diniwed, ac adrodd ystraeon am y dyrnu yma ac acw, yng nghwrs blynyddoedd. Cof gennyf am un gŵr bach go ffrom, a gredai mai ei fraint ef oedd gwneud y das wellt ym mhob dyrnu ar hyd y tymor. "Corbad" y gelwid ef, am mai dyna'i air mawr am bawb na wnâi bopeth fel y byddai ef yn peri. Cnôi dybaco cryf, a'i geg fel pe buasai wedi ei gwneud o bwrpas i ddywedyd "Corbad" rhwng ei ddannedd megis, yr un gair yn yr iaith a gynhwysai holl ddirmyg y gŵr cyfarwydd at bob creadur anfedrus neu dafodrydd. Un tro yr oedd "Corbad" yn cau pen tas wellt haidd yn fy nghartref, a phentwr o gôl haidd ar un ochr iddi. Pan oedd " Corbad" wrthi yn ei gwman yn gosod y wanaf wellt gwenith ar ben y das, dyma'r rhaffwr, dyn bach digrif, llawen, a barf gringoch o liw blew llwynog ar ei gernau a'i ên, dyn a ddywedai rywbeth hollol ddiniwed, gan wneud llygad bach a throi cornel ei geg i lawr-dyma hwnnw yn taflu rhaff wedi ei dirwyn yn gron fel "cabetsen," i fyny i ben y das gan weiddi yn gwbl ddiniwed ei dôn "Rhaff, Joseph Ellis." Yr oedd y rhaffwr hefyd yn anelwr tan gamp, a dyma'r rhaff yn taro "Corbad" ar fôn ei gluniau ac yntau'n diflannu ar ei ben i lawr i'r pentwr côl haidd yr ochr arall i'r das, fel nad oedd olwg amdano pan redodd eraill i edrych pa beth a ddaethai ohono. Pan gafwyd ef allan, yr oedd golwg fel draenog arno, yn gôl haidd o'i ben i'w draed. Joseph Ellis!" meddai'r rhaffwr, gan droi llygad bach at y lleill a chamu ei geg, "ddyn glân, mae'n ddrwg genni—'d oeddwn i'n gweld monoch chi yn ych cwman fel ceiliog ar ben y das!" "Corbad!" meddai Corbad, gan boeri saeth o sudd tybaco a chôl haidd o'i safn ac edrych fel mellt a tharanau. Chwarae teg iddo hefyd, dringodd yn ei ôl i ben y das a gorffennodd osod y wanaf, ond yr oedd yn ysgrwtian ac ymgrafu, a bu raid iddo fynd adref cyn nos am na fedrai oddef pigiadau'r côl haidd ddim yn hwy.

Byddai rhyw gast o'r fath bron yn sicr o ddigwydd ym mhob man ddiwrnod dyrnu, a Jac Bryn Coch, pen chwedleuwr yr ardal, wrthi rhwng y castiau yn chwedleua ar ei orau. Un tro, yr oedd pla o lygod mawr yn y mydylau ŷd, a phawb yn barod ar gyfer yr helfa pan ddechreuent ddianc allan o ddifrif fel byddai'r mwdwl yn tynnu tua'r gwaelod. Gosodwyd sachau gyda gwrych yr ydlan i'w cadw rhag dianc a'u bywyd ganddynt, a chaed y cŵn yno, Pero II yn un ohonynt, llygotwr enwog oedd o. Jac Bryn Coch oedd ar ben y mwdwl yn taflu'r ysgubau ar ben y dyrnwr. Tynnodd y to yn hamddenol, a gwelodd fod "ffliw" drwy ganol y mwdwl, wedi ei gwneud wrth gario'r ŷd drwy osod batingen ar ei phen yn y gwaelod a'i thynnu i fyny o hacen i haen wrth fydylu, hyd i'r brig, at sychu'r mwdwl pan fyddai'r tywydd braidd yn wlyb adeg cynhaeafa.

"Diawch!" meddai Jac, "bu agos i mi fynd i lawr, fel Wil Eirias yn y Nant Isa ers talwm. Lle ofnadwy am lygod ffreinig oedd y Nant hefyd yr amser hwnnw. Wil oedd ar ben y cocyn yn tynnu'r to. Dyma'r cŵn yn dechra ymladd yn y buarth, a phawb yn rhedag i edrych beth oedd yr helynt. Dim byd, fel arfer. Wedi tawelu'r cŵn, ffwrdd â ni i ddechra dyrnu. 'Doedd Wil Eirias ddim yno, a gyrrwyd finna yn'i le, gan feddwl na fydda Wil ddim yn hir hefo'r peth oedd ar droed ganddo. Yno y bûm i, beth bynnag, a phawb ohonom yn methu â dallt beth oedd wedi digwydd i Wil. Wela'r oeddan ni'n tynnu at waelod y cocyn, a helynt y llygod ffreinig yn dechra mynd yn wyllt. Y cŵn yn cyfarth, dynion yn gweiddi, ac fel y mae'n ddrwg genni ddeud, yn gorfod rhegi'r hogiau bach-'roedd yno lond tý ohonyn nhw yn y Nant yr adeg honno, i gyd yn fân, cwta flwyddyn rhwng pob un-am eu bod nhw yn digwydd bod ar y ffordd bob cynnig pan fyddai llygoden ar ddiengyd. Wela, dyma fi'n codi'r ysgub ola oddiar stôl y mwdwl, ac ar fy llw, 'doedd yno ddim ond het a sgidia, a chyllall boced Wil Eirias druan. Mi gafodd y rheiny gladdedigaeth barchus iawn, ond y gyllall. Ac mi fedrodd pawb ohonom. gerddad adra'n sythion a didramgwydd ar y diwadd, y tro hwnnw. Fi gafodd'i gyllall bocad o, fel'i hen gyfaill o, gan y weddw drallodus. Dyma hi. Mae blynyddoedd. maith er hynny bellach. Mi fu raid i mi gael dau lafn newydd iddi hi ac un carn, ond hen gyllall iawn ydi hen gyllall Wil Eirias eto."

Yr oedd dawn y cyfarwydd gan Jac Bryn Coch, os bu gan rywun erioed. Sychodd ei lygaid yn llawes ei grys wrth gofio ci hen gyfaill, ac ocheneidiodd yn drwm. Byddai "cymortha" hefyd amser aredig, yn yr hydref at wenith gaeaf ac yn y gwanwyn at geirch a haidd, neu farlys. Pan ddigwyddai ryw anffawd. i ffermwr, megis colli ceffyl, arddai ei gymdogion ei dir llafur iddo, peth a wnaent hefyd, yn wir, i rywun fyddai ar ôl gyda'r gwaith, beth bynnag fyddai'r achos. Yr oedd yr hen gymdeithas honno'n maddau mân wendidau yn rhwydd—gweddillion hen draddodiad pobl yn gwneud bywoliaeth yn hytrach na bod yn "effeithiol," mae'n siŵr.

Ychydig wyliau cyhoeddus a gedwid yn yr ardal— cymerai pawb ei ryddid pan allai ei gael. "'Rwyt ti'n ennill mwy nag yr ydw i," meddai fy mrawd wrthyf ryw dro, "ond 'does neb ar y ddaear, cofia di, feder ddwedyd wrthyf na chawn i ddim mynd i'r lle mynnwy pan fynnwy. Dyna fraint bod yn saer clobos, 'machgen i!" Gwir. "Rhoi diwrnod i'r brenin" y gelwid segura neu ei chymryd yn ysgafn am ddiwrnod. "Mynd i rodio" fyddai'r term am gymryd seibiant oddicartref, neu fynd i weld tipyn ar y byd, pan ellid fforddio hynny. Byddai mynd i ymweled â pherthynasau neu hen gyfeillion ar ddydd neu ddyddiau rhyddion yn beth cyffredin, a cherddid ymhell ar y perwyl hwnnw, neu farchogaeth os byddai ceffyl i'w gael. Byddai ymlyniad wrth deulu yn gryf yn yr ardal, a dôi perthynasau o bell ffordd i edrych am eu ceraint. Cofiaf y dôi dau gefnder i'm tad o gryn bellter ar droed neu ar farch, heb rybudd yn y byd, i'm cartref i. Gwasanaethai un march rhwng y ddau. Cychwynai un ar gefn y march a'r llall ar ei draed. Wedi teithio rhyw ddwy filltir, rhwymai'r marchog ei geffyl wrth bost llidiart ar ochr y ffordd a cherddai yn ei flaen. Pan gyrhaeddai'r cerddwr at y march, i'r cyfrwy ag yntau a marchogaeth nes dal y cyntaf. Ac felly ymlaen hyd ben y daith o ugain neu ddeng milltir ar hugain. Byddai cerddwyr adnabyddus, na byddai cerdded deugain milltir mewn diwrnod yn ddim ganddynt.

Sonnid am y Nadolig fel "Y Gwyliau," ond mewn gwirionedd, byddai Calan Gaeaf a Chalan Ionawr yn llawer mwy o ŵyl na'r Nadolig, am ryw reswm. Ar Galan Gaeaf (a elwid "Glan Gaeaf" yn gyffredin ar leferydd), byddai coelcerthi a llawer o hen chwaraeon a hen goelion, wedi colli llawer o'u hystyr a'u grym, yn gyffredin iawn. Yr un modd ar Galan Ionawr, ond hawdd gweled mai ynglŷn â Chalan Gaeaf, dechrau'r flwyddyn yn ôl hen galendr y Celtiaid, yr oedd mwyaf o hen draddodiadau ac arferion wedi aros. Darn-gedwid y rhai pennaf o'r Gwyliau Eglwysig, megis y Pasg a'r Sulgwyn, yn gyffredin, a chlywid sôn, a dim ond sôn, am "wyl mabsant" ("glabsant" a ddywedid ar leferydd cyffredin). Ar rai o'r gwyliau hyn, "Gwyl Domos" er enghraifft, âi tlodion a hen bobl i gael elusennau a adawsid iddynt o ewyllys da rhywrai gynt. Byddai dydd gŵyl hefyd ar Galan Mai ("Clamai" ar leferydd), amser cyflogi, ond nid wyf yn cofio gweled Dawnsio Haf, fel y ceid mewn rhai ardaloedd heb fod ymhell. Byddai tipyn o firi ar ddiwedd y cynhaeaf ŷd, yma ac acw, ond diflannu yr oedd yr hen arferion hyn o flaen y duedd gref i gyfrif pethau o'r fath yn ofergoelion. Cymerid eu lle i raddau gan gyfarfodydd pregethu a chystadleuaethau eraill, megis rhai llenyddol a cherddorol. Tua diwedd y cynhaeaf ŷd, byddai diwrnod neu ddarn diwrnod at gneua," neu hel cnau cyll. Byddai digonedd o gnau cyll ar dir fy nhad ac eraill o'r cymdogion, ac yr wyf yn cofio meibion a merched a phlant yn dyfod i gneua, cydau lliain ganddynt i ddal y cnau. Os byddai'r cnau wedi aeddfedu, dirisglent yn rhwydd, fel y byddai llond y cydau o gnau gwisgi yn doreth da. Byddai'n gystadleuaeth rhyngddynt pwy a fyddai wedi cael mwyaf o "glyma tair," sef tair cneuen wedi tyfu i'w gilydd yn un cwlwm. Dywedid fod cael cwlwm tair yn arwydd lwc dda am y flwyddyn. Cedwid y rheiny wrth gneua mewn poced, fel y byddai'n hawdd eu cyfrif ar y diwedd. Dywedodd un cyfaill, iau na mi, a aned ac a faged mewn ardal arall ymhell o'm hardal i, wrthyf dro'n ôl ei fod ef wedi cario yn ei logell am flynyddoedd lawer gwlwm tair a gafodd ef wrth gneua yn ei ieuenctid. Yr oedd hyn hefyd yn hen arferiad, canys byddai'r beirdd ganrifoedd yn ôl yn sôn am y cneua. Yn fy hen ardal i, cedwid y cnau yn hendwr, i'w bwyta ar ôl cinio yn ystod y gaeaf. Cesglid cnau castan hefyd ar gyfer difyrrwch Calan Gaeaf, a chnau cyffylog at "goblo" gan y plant. Tua'r un amser, byddai hen wragedd yn casglu llysiau a gwreiddiach at wneud trwyth ac eli ar gyfer anhwylder a doluriau, hyn oll yn hen arfer, fel y dengys traethodau ar feddyginiaeth mewn llawysgrifau Cymraeg.

VI.

CREFYDD.

HYD yr wyf yn cofio, byddai cymdogaeth weddol dda rhwng yr Ymneilltuwyr a'i gilydd yn gyffredin, er na byddent yn cytuno gan bwy yr oedd y gweddïwyr a'r pregethwyr gorau, a bod pobl y naill enwad yn sôn amdanynt eu hunain bob amser fel "Ni" a'r lleill fel "Nhw." Adroddent ryw hen rigymau digrif am ei gilydd, yn enwedig y plant. Dyma ddarnau a arhosodd yn y cof:—

"Baptys y dŵr
Yn meddwl yn siŵr
'Deith neb i'r nefoedd
Ond y nhw."

"Methodistiaid, pobol gas,
Mynd i'r capel heb ddim gras,
Gosod seti i'r bobol fawr,
Pobol dlodion, eista ar lawr."

"Sentars sychion, be na bw,
Neb yn gwybod ond y nhw;
Ffraeo â'i gilydd ac â phawb,
Byd o'i go rhwng brawd a brawd."

"Wesle wyllt
Ar ben y gwrych
Yn watshio mellt a thrana."

"Eglwys Loegar, uwch na neb
Lediaith neis a phletio ceg;
Person plwy a Sgwiar sgwat,
Gnewch y tro os tynnwch gap."

Rhwng difrif a chwarae, mi gredaf, yr adroddid pethau fel hyn gan yr Ymneilltuwyr am ei gilydd, oni bai ryw helynt waeth nag arfer. Yr wyf yn cofio'r sôn a fu pan ddaeth hen ŵr boneddig o'r gorau fu 'rioed yn weinidog i'r Bedyddwyr yn yr ardal, ac y cafwyd lle iddo. aros dros dro yn fy nghartref, hyd oni cheid tŷ cymwys iddo. Tybiai pobl, rhai oedd, y mae'n sicr, yn cofio mwy o anghytundeb nag oedd i'w gael bellach, fod yn rhyfedd bod fy nhad, ag yntau'n Fethodist, mor gyfeillgar â hynny, a bod yr hen wr bonheddig mor rhydd. Cof da am yr hen ŵr caredig, na bu ei ryddach erioed. Cefais amryw lyfrau ganddo, a hoffwn gael mynd gyda'm tad i'w ystafell, pan fyddai fy mam heb fod yn y tŷ gyda'r nos, i glywed yr ymddiddan rhwng y ddau. Yno hefyd y gwelais Bedr Hir gyntaf, a hen ŵr barfog a ddaethai i edrych am yr hen weinidog. Deuthum i wybod wedyn mai Cynddelw oedd hwnnw.

Go ddrwg fyddai hi y pryd hwnnw rhwng Capel ac Eglwys, yn enwedig ar adeg "lecsiwn" a phethau felly. Cof gennyf glywed fy nhad—wedi i mi gyrraedd "oedran cyfrifol"—yn dywedyd ei fod yn mynd adref o gyfarfod gweddi un noswaith, yn y gwyll, pryd yr aeth ar draws rhywun oedd ar ei hyd ar lawr wrth lidiard cae yn perthyn i offeiriad y plwyf. Erbyn edrych, pwy oedd yno ond gŵr o weithiwr, gwrandawr cyson gydag un o'r enwadau. Wedi meddwi yr oedd, druan, dyna ei wendid ar dro, ac wedi syrthio a chysgu ar lawr wrth y llidiard. Cododd fy nhad ef ar ei draed, a dywedyd wrtho fod yn ddrwg ganddo ei weled felly.

O, Mister Jones, chi sydd 'na," meddai yntau. Wel, ie, ddylaswn i ddim bod fel hyn, mae'n wir. A chysgu wrth lidiard yr hen berson 'na, o bob man yn y byd, ontê! Mi fydda i yn gweld yr Hollalluog yn gall ac yn dda iawn wrth ddynion fel yr ydan ni, ontê, ond fedra i ddim dallt, welwch chi, pam y mae o'n diodda rhyw hen stiwardiaid fel 'na o tano chwaith!"

Y cof cyntaf sy gennyf am y Capel yw mynd yno gyda'm tad, ambell nos Sul, ac eistedd yn y Sêt Fawr gydag ef, pan na byddai neb arall o'r cartref yn digwydd bod yn y Capel. Nid oes gennyf ddim cof am bregethau o'r cyfnod hwnnw, ond y byddwn yn synnu pam yr oedd raid i ambell un weiddi mor uchel yma ac acw ar ei bregeth. Cofiaf wynebau'r hen bobl fyddai 'n eistedd yn y seddau blaen hyd heddiw, wynebau wedi eu rhychu gan amser a chaledwaith, eto'n dirion a bodlon i gyd ond un hen wraig fechan, druan ei golwg, a fyddai'n mynd yn llai o hyd wrth i rywun edrych arni. A chwithau'n mynd fel pe baech yn mynd ymhell oddiwrthi, ac yn rhwbio'ch llygaid er mwyn bod yn siŵr mai hi, nid chwi, oedd yn mynd yn bellach bellach nes . . .

Buasai'n well gennyf eistedd yn sêt y teulu, canys yr oedd ffenestr am y llwybr â hi, ffenestr a'r darn isaf ohoni wedi ei farugo, fel na welech ddim yn eglur drwy'r darn. hwnnw. Edrychais lawer ar y ffenestr er hynny, ac yr wyf yn ei chofio oblegid un peth. Yr oedd coeden oddi— allan yn lledagos ati, a byddwn yn sylwi ar ei changhennau'n plygu ac yn sythu pan fyddai'r gwynt yn chwythu. Pan oeddwn beth yn hŷn, darllenais ddarnau o waith Thomas Edwards o'r Nant, ac yn eu plith ei ddisgrifiad o ddyn, "wrth naturieth" wedi troi'n druenus— "A'i feddydliau'n anwadal, yn falch ac yn wawdus, yn ymlid fel canghennau pren ar wynt, Rhyw helynt afreolus." Cofiais am y goeden a welwn drwy'r ffenestr farrug honno gynt. Nid anghofiais byth mo'r peth na'r pennill. A lwyr ddeallwn ni byth gymhariaethau prydydd godidog fel Thomas Edwards oni welsom ninnau rywdro y peth a welodd yntau? Nid oes gennyf gymaint o gof am yr Ysgol Sul yn fy mlynyddoedd cyntaf, canys yr oeddwn wedi dysgu darllen Cymraeg a Saesneg syml gan fy mam cyn y bernid fy mod yn abl i gerdded yn ôl a blaen ar bob tywydd. Eto, cof da am rai o'r hen gymeriadau syml fyddai'n athrawon arnom yn ddiweddarach. Gweithwyr canol oedd a hŷn na hynny, a fyddai wrthi'n galed ar hyd yr wythnos, ac yna'n cerdded ddwywaith neu dair ar y Sul, rai ohonynt gymaint â milltir neu ddwy bob ffordd, i'r capel yn ffyddlon. Cofiaf am un yn enwedig fyddai'n mynd i bob cyfarfod, ar Sul a noson waith. Rhaid mai dyn gweddol ifanc ydoedd. Dyn glandeg, wedi ymwisgo'n dda bob amser. Llygaid glas loyw, gwên ar ei wyneb a gair caredig wrth blant, heb fyth fethu, gŵr a garai pawb. Darllenai bennod o'r Ysgrythur ar osteg yn effeithiol a gweddïai à llais tyner, llais canwr da. Nid dywedyd pethau ar ei gyfer am yr Hollalluog wrth yr Hollalluog y byddai ef, ond cyfaddef, gofyn a diolch—gallai hyd yn oed hogyn chwannog i "wlana," fel y byddem yn dywedyd am rai absennol eu meddwl, ddeall hynny, a gwrando arno. Gwelais ef lawer tro, ar ôl diwrnod o waith, yn cerdded ar frys mawr, wedi glanhau a phorthi ei wedd, i gyrraedd y capel erbyn hanner awr wedi saith. Byddai ei wyneb yn chwŷs diferol. Unwaith, yn yr hydref, a hithau wedi oeri'n gynnar, cafodd oerfel trwm a drwg ar yr ysgyfaint. Ni chafodd feddyg mewn pryd, a rhegodd hwnnw pan welodd ef o'r diwedd am na buasai rhywun wedi danfon amdano ef yn gynt. Bu'r truan farw cyn hir, a galarodd darn gwlad ar ei ôl. Byddai pobl yn dywedyd iddo adael y rhan fwyaf o'r arian a gynilodd i'r Capel, a'r gweddill i'w feistr, gŵr "garw amdani," fel y dywedai ei gymdogion, canys nid oedd gan y gwas, mae'n debyg, berthynas yn y byd. Un o bell ydoedd. Ni wyddai neb ddim o'i hanes, ond dywedai'r wraig a olchai ei ddillad a'u trwsio iddo ei fod yn ŵr bonheddig ag ôl "dygiad da i fyny" arno. Ni ddaeth ei gyfrinach byth allan, hyd y gwn i.

Cofiaf rai geiriau a glywid ynglŷn â'r Capel a'i drefniadau, ond am fynd o gwmpas gyda'r blwch i gasglu yn y gwasanaeth, "ceinioca" fyddai'r gair. "Taro'r dôn a ddywedid am ddechrau'r canu, ac "eilio" y byddai'r merched a ganai alto a'r meibion a ganai denor neu fas. Byddai llyfr tonau Ieuan Gwyllt gan rai, dim ond llyfr emynau yn unig gan y rhan fwyaf, a rhai heb gymaint â hynny. Byddai ambell bregethwr yn "ledio" emyn bob yn ail dwy linell neu dair, yn ôl y mesur, peth oedd, mae'n debyg, yn arfer mewn rhai lleoedd er yr amser pan nad oedd llyfrau emynau yn gyffredin. "Rhybedio y gelwid ail ganu pennill neu ddarn pennill. Hyd yn oed yn yr adeg yr wyf yn sôn amdani, tybid mai mewn eglwysi go gefnog a balch y ceid "harmonia." Ambell dro, byddai Sul heb bregethwr ar ei gyfer, a gelwid y cyfarfod gweddi a fyddai yn lle pregeth yn "gyfarfod pen glin," mewn ymddiddan cyffredin. Byddai'r plant mwyaf bob amser yn "deud adnod" yn y Seiat nos Sul. Unwaith yr oedd hogyn bach yn y sêt gyda'i fam, nid ar y llawr gyda'r lleill, a gofynnodd y pregethwr gan estyn bys ato yntau "Sut y mae'ch adnod chitha, 'mychan i?" "Mae hi'n dda iawn, diolch i chi," oedd yr ateb. Cai ambell un hwyl ar holi'r plant ar yr adnodau a ddywedent, a byddai'r atebion weithiau'n ei ddodi yntau mewn penbleth. Un tro, dywedodd hogyn adnod ag enw Pilat ynddi. 'Ie," meddai'r pregethwr, "beth oedd Pilat?" Meddyliodd yr hogyn am eiliad, yna atebodd yn hyderus: "Dyn mewn siaced beilat cloth a botyma melyn." "Wel, efallai wir!" meddai'r holwr. Galwodd am adnod y nesaf ac ni holodd ragor. Byddem yn y dyddiau hynny yn canu tonau o "Sŵn y Jiwbili," casgliad bychan of Ganeuon Sanci-Mwdi," fel y galwai'r plant hwy, yn wir, aeth "Sanci-Mwdi" yn derm am ryw fath o ganu hwyliog heb ryw lawer o "ddyfn" ynddo. Y tro cyntaf yr aethom i ddysgu cân fach a'r byrdwn yn dechrau â'r llinell "Deliwch afael, medd yr Iesu," gofynnodd un hogyn bach i'r arweinydd, "Fydda Fo'n tawlu afal iddyn nhw?" Ond dyna ddigon o gip ar rai o anawsterau hogiau bach, gynt.

Nid oedd weinidog i'r eglwys yr adeg honno, a'r blaenoriaid, bob un yn ei dro, fyddai'n" cadw Seiat" ac yn arwain y cyfarfodydd gweddi. "Gwrando profiadau" y gelwid gwaith pennaf y Seiat. Ar dro yn yr haf yr awn i yno, ac nid oeddwn ond ifanc pan adawsom yr ardal, ond cofiaf y byddai'r plant yn dywedyd adnodau ar y dechrau, testunau'r pregethau a gafwyd y Sul cynt yn gyffredin, a rhai o'r plant hynaf wedi codi "pennau 'r" bregeth. Yna, âi blaenor i ofyn am rywbeth a allai fod ar feddyliau'r bobl mewn oed. Hen bobl fyddai barotaf i ateb. Byddai'r ymddiddan y tu hwnt i'n dirnadaeth ni'r plant, wrth gwrs. Eto, byddai ambell un o'r hen bobl weithiau'n dywedyd peth a lynai ym meddwl hogyn na byddai ganddo ddim i'w wneud ond breuddwydio'n effro bob yn ail â gwrando. Cefais yr argraff droeon fod rhywbeth arbennig yn perthyn i'r hen bobl hynny. Ag edrych yn ôl ar y cyfnod bellach, yr oedd ynddo yn ddiau fywyd fel pe buasai'n perthyn i fyd nad yw mwy, bywyd pobl fach syml, oedd yn eu holi eu hunain yn fanwl a pharhaus, bywyd oedd yn ddisgyblaeth gyson, yn peri i ddyn feddwl am yr oesau y bydd llenorion Ffrengig yn sôn amdanynt, gyda rhyw hiraeth hanner trist ar eu holau, ac yn eu galw yn oesau ffydd," amseroedd wedi mynd am byth, o fyd mor wallgof â hwn... Dafydd Abwt, hen ŵr bach diniwed, y byddai'r hogiau yn ei wylltio, nid yn gymaint er mwyn ei glywed yn rhegi ag er mwyn ei glywed yn edifarhau yn y fan, gan ddywedyd tan ei lais, "Duw faddeuo i mi ddeud y fath beth hefyd, hogia bach!" A byddai hyd yn oed yr " hogia bach, ar ôl eu cyfarch mor dirion, rywsut yn colli eu direidi yn sydyn... "Pe byddent ynfydion ni chyfeiliornant." Oedd ryw ffael ar ddyddiau'r ffydd, o'u cymharu â dyddiau'r "ffaith" a'r "gwrando i mewn," f'arglwyddi?

At y pethau hyn, byddai'r cyfarfodydd canu, y cyfarfodydd darllen a'r cyfarfodydd cystadleuol yn agor rhai ffenestri rhyngom a'r byd, heb beri i mi deimlo mai gwaith ysgol oedd peri i ni golli'n hanibyniaeth a chredu na wnaeth ein pobl ni ein hunain erioed ddim gwerth sôn amdano mewn lle felly. Dynion bach cyffredin oedd ein hathrawon, y mae'n ddigon tebyg, a'u gwybodaeth yn o gyfyng, fel eiddo pawb ohonom, efallai. Credent mewn sol-ffa a llaw fer a phethau rhesymol a hwylus felly. Dysgodd un ohonynt ynghanol ei oed gyfaddasiad R. H. Morgan o law-fer Pitman yn "Nhrysorfa'r Plant" —gormod o dasg i mi tua'r un adeg. Dadleuent â'i gilydd ar a oedd yr enaid yn anfarwol ai peidio, neu a fyddai'n mudo o gorff i gorff pan fyddai un corff farw, neu ai mwnci oedd tad y dyn, a phethau tebyg. Caent fwynhad o'u bywyd, wrth ddysgu plant, am ddim.

VII.

PRYDYDDION.

BYDDAI traddodiad llenyddol yn yr ardal, yn mynd yn ôl rai canrifoedd, fel y deuthum i wybod wedyn. Clywid ystraeon am rai prydyddion gynt, a adroddid yn yr ardal o hyd. Yr oedd un ohonynt, a elwid Owen, yn mynd ar hyd y ffordd un diwrnod, a gwelai brydydd arall wrthi'n chwŷs mawr yn medi haidd. Dringodd Owen i ben y clawdd a gwaeddodd:—

"Siôn Parri'i hun sy'n pori haidd."

Ac heb godi ei ben atebodd y llall:—

"Tyrd tithau yma, Owen gry'
I dynnu o'r gwraidd."

Yr oedd chwaer i Siôn Parri a natur prydyddu ynddi. Un tro yr oeddis wrthi'n corlannu defaid a'r prydydd yn lled ddiamcan gyda'r gwaith, fel y tybiai'r chwaer. Meddai hi:—

"Sa 'n nes, Siôn ni,
Yn y boncan, yr hen benci!"

Dro arall aeth y prydydd i edrych am ei chwaer i'w thŷ hi ei hun. Aeth hithau ag ef i'r parlwr, lle'r oedd tân, yn gystal ag yn y gegin. Meddai'r prydydd:—

O, dau dân sy'n dy dŷ di."

Meddai hithau yn y fan:—

"Un yn ddigon i ddau ddiogi."

Yr oedd Siôn Parri, yn wir, yn brydydd medrus dros ben yn ei ddydd (tua dechrau'r ganrif ddiwethaf), fel y dengys ei "Fyfyrdod mewn Mynwent," a gyhoeddwyd yn Nhrefriw yn 1814.

Clywais lawer o sôn gan fy nhad o dro i dro am brydydd gwlad a elwid Ifan Hobwrn, oddiwrth enw ei gartref, mi gredaf. Gwnâi gerddi digrif ar ryw droeon trwstan a ddigwyddai yn yr ardal nesaf, lle'r oedd fy nhad yn byw'r pryd hynny a'r prydydd yn ei wasanaeth. Byddai ar bobl ofn Ifan oblegid ei gerddi, fel y digwyddai gynt. Ryw dro, dygwyd ysbawd dafad o gerbyd rhyw gigydd. Yr oeddis yn amau pwy aeth â'r ysbawd, er nad oedd digon o sicrwydd i roi cyfraith arno chwaith. Cyn pen ychydig ddyddiau yr oedd y prydydd wedi gwneud cerdd ar yr amgylchiad, a honno ar gerdded fel tân gwyllt. Dyma'r unig bennill yr wyf yn ei gofio, a'r dôn— tôn Seisnig, mi gredaf, fel y byddai fy nhad yn ei ganu ambell waith wrth ddywedyd yr hanes:—

Byddid yn canu'r gerdd yn y tafarnau gyda hwyl fawr, a phawb a'i wydryn yn ei law, gan ei godi at ei wefusau gyda chodiad lleisiau'r tenoriaid ar ddiwedd y llinell olaf o'r byrdwn. Gwelais y prydydd unwaith. Aeth fy nhad a mi i'w ganlyn i edrych amdano. Gweithiai mewn gwaith nwy. Wedi cael te aethom gydag ef i weld y gwaith, a gwelsom ef yn taflu glo i'r tanau. Dyn cadarn, dwylath o hyd, wyneb coch, llawen, a chwarddwr calonnog. Yr oedd yn noeth o'r wasg i fyny. Agorodd ddrws y ffwrn a thaflu glo i mewn iddi. Disgynnai llwch y glo drosto nes ei fod fel dyn du. Eiliad na byddai'n ddyn gwyn eilwaith, gan y chwŷs a lifai drosto. Truan oedd gweld ei fath, un a fu gynt fyw'n rhydd yn yr haul. Gofynnodd fy nhad iddo a wnâi ambell gerdd bellach. "Na," meddai gan chwerthin, "dim cerddi yn yr uffern yma!"

Byddai diddordeb mewn englyna yn beth cyffredin ymhlith pobl o hyd, a gwobr am englyn bob amser yn y y cyfarfodydd cystadleuol a gynhelid tua'r Nadolig a'r Calan. Ryw brynhawn braf yn yr hydref, daeth dyn bach trwsiadus i holi am fy nhad, gan ddywedyd wrtho ei fod wedi gwneud englyn i'r "Mynydd," ar gyfer rhyw gystadleuaeth, ac y byddai'n ddiolchgar iawn pe cawsai farn fy nhad arno. Yr oedd y gynghanedd wedi dechrau cymryd gafael ynof innau erbyn hyn, ac yr oeddwn yn ceisio dysgu'r rheolau o Ramadeg Bardd Nantglyn, oedd gan fy nhad er pan oedd ef yn ddisgybl i Risiart Ddu of Wynedd yn ei lencyndod yn Nyffryn Clwyd. (Ni rôi fy nhad nemor gymorth i mi, canys yr oedd ar y pryd tan ddylanwad y beirniaid a ddywedai mai ar y Gynghanedd yr oedd y bai am na chododd yr un bardd mawr erioed yng Nghymru). Felly, gwrandewais ar yr ymddiddan rhwng y ddau, gan gymryd arnaf wylio'r adar to oedd yn ffraco â glas bach y wal yn y domen ger llaw. Adroddodd y prydydd ei englyn, a safodd y ddwy linell olaf ohono yn fy nghof hyd heddiw. Dyma hwy:—

"Gwir enwog gadair anian
Yw glol y mynydd glân."

Gwyddwn fod popeth bron yn enwog" yn y dyddiau hynny, ond nid oeddwn yn sicr beth oedd ystyr "glol." Ond yr oedd tyddyn heb fod ymhell a elwid "Pen y Glol," a meddyliais mai copa bryn neu fynydd oedd glol." Dywedodd fy nhad wrtho fod gwall yn y llinell gyntaf o'r ddwy a bod yr ail yn rhy fer. Rhyngddynt, trwsiwyd y ddwy, ac wedi i'r gŵr bach gael pryd o fwyd, yn ôl hen arfer Gymreig y cyfnod lleteigar hwnnw yn yr holl ffermdai, onid lle byddai ambell "hengribin" yn byw, cychwynodd y prydydd yn ei ôl, fel dyn wedi gwneud ei ddyletswydd. Pan gyrhaeddai adref, byddai wedi cerdded pedair milltir ar deg, er mwyn cael barn ar ei englyn. Dyn bach gwylaidd a chwrtais ydoedd, ac yr oeddwn yn gobeithio y cai'r wobr, o ryw hanner coron, am ei ymdrech. Ni welais mono byth mwy, na chlywed gair o'i hanes, ond gwelaf ef o flaen fy llygaid, yn neidio dros y gamfa yn hoyw ac yn cyrchu'r llwybr ar draws darn o wlad o'r prydferthaf fu erioed, un o ddosbarth yr hen brydyddion gynt, a gymerai drafferth er mwyn un ddisgyblaeth odidog a barchai rhai ohonynt, fel eu hynafiaid...

Perthynai'r prydyddion gwlad i bob dosbarth, ffermwyr, crefftwyr ac ambell was fferm yn eu plith, wedi etifeddu darn o hen draddodiad. Byddai fy mam yn sôn am un gwas fferm, a elwid "Bob y Prydydd," a drôi ambell geiniog oddiwrth grefft y prydydd hefyd. Yr oedd arno unwaith, eisiau codiad yn ei gyflog, ac nid bodlon mo'r meistr. Wrth ddyfod adref o'r ffair un noswaith, digwyddodd damwain i'r meistr. Syrthiodd i ffos y clawdd a chysgodd yno. Aeth y prydydd ato a dywedyd bod "y bechgyn y bechgyn yn crefu arno wneud cerdd. amgylchiad" honedig, ond ei fod ef yn meddwl na buasai'n iawn iddo wneud hynny heb wybod a oedd

ar yr yr ystori'n wir ai peidio. "Na," meddai'r meistr, "dim gair o wir ynddi, 'machgen i." "O," meddai'r gwas, mae'n dda gen i wybod hynny," a chychwynodd "Hwda," meddai'r meistr, "gofynnaist am godiad yn dy gyflog, on'd do?" "Do, syr," meddai'r prydydd. "Wela," meddai'r meistr, "'r ydw i wedi bod yn meddwl. am y peth wedyn, ac am nad oeddat ti'n barod i gredu pob stori gelwydd, mi gei, 'ngwas i."

VIII.

FFERMWYR.

FFERMYDD heb fod yn rhai mawr iawn oedd yn yr ardal, a thenantiaid oedd y ffermwyr bron i gyd, mi gredaf. Gweithient i gyd yn ddigon caled hefyd, a diau nad peth hawdd bob amser fyddai cael y rhent at ei gilydd mewn pryd. Digon traws fyddai'r meistradoedd tir, a thrawsach fyth y corachod estron a ddewisent yn stiwardiaid. Yr oedd hen draddodiad dosbarth yn gryf ymhlith y ffermwyr, amryw ohonynt o deuluoedd a fu'n berchenogion eu ffermydd eu hunain gynt. Weithiau, ffaelai ffermwr yn ei amgylchiadau, ac ni byddai ddim y gallai ei wneud ond mynd i fyw i fwthyn, neu dŷ mewn rhes "dan yr un to" ag eraill fel y dywedid, anffawd fawr, a mynd i weithio ar y tir am gyflog. Yn gyffredin, cydnabyddid ei ddosbarth er hynny. Cofiaf un felly fyddai'n gweithio yn fy nghartref fy hun. Câi fwyta wrth yr un bwrdd â'm tad a'm mam, a dysgid ninnau'r plant i gydnabod ei blant yntau. Eto, ni byddai un osgo uwchraddol yn y bobl hyn tuag at eu gweithwyr na'u cymdogion. Peth dieithr, yn wir, oedd rhyw arwahander felly yn y gymdeithas honno. Ffynnai cryn lawer o gydweithrediad rhwng y ffermwyr â'i gilydd. Fel y dywedwyd yma eisoes, cynorthwyent ei gilydd gyda rhai gorchwylion, a phan gâi un ohonynt golledion, byddai'r cymdogion oll yn cymortha," fel y dywedid. Cof gennyf am un cymydog i ni a gollodd ddau geffyl un tymor, adeg trin tir at hau yd gwanwyn. Un bore, heb ei fod ef yn gwybod dim am y peth, yr oedd chwech o weddoedd yn un o'i gaeau ac wedi ei droi i gyd cyn y nos. Yr un modd trowyd caeau eraill iddo gan yr un cymdogion. Pan gollai tyddynnwr fuwch neu lo, rhoddai cymydog lo neu ddeunydd buwch iddo, fel dyletswydd. Tebyg mai gweddillion hen ddefod gynt oedd pethau fel hyn, canys hwyrfrydig iawn fyddai'r ffermwyr fel dosbarth i gydweithredu drwy gyd-brynu neu gyd-werthu pethau, neu sefyll gyda'i gilydd i amddiffyn un o'u dosbarth rhag cam oddiar law meistr tir neu stiward. Clywid, yn wir, am ambell un yn cymryd fferm "wrth ben" un arall, pan fyddai hwnnw wedi rhoi rhybudd i ymadael am fod y rhent yn rhy uchel, neu am na châi drwsio tŷ neu feudy gan y meistr tir fel y gellid byw'n weddol gysurus neu gadw anifeiliaid ynddynt. Eto, byddai cydwybod y ffermwyr fel dosbarth yn erbyn y gŵr a gymerai dir tros ben un arall. Pan ddigwyddai hynny, byddai'r sawl a'i gwnâi yn un nad ymwnâi'r cymdogion nemor ddim ag ef am flynyddoedd.

Cof gennyf am ystori fyddai gan fy nhaid am reibiwr felly yn ei ieuenctid ef. Fferm go helaeth ganddo, ac ni chollai gyfle i gydio maes wrth faes. "Hen gribin " oedd ei wraig hefyd, y ddau wedi priodi dipyn ymlaen ar eu hoes, ac heb ddim plant. Bu hi farw gan ei adael ei hun. Tyddynnwr bychan oedd ei gymydog nesaf a chanddo ferch a honno'n gwasanaethu yn y gymdogaeth, merch ieuengach na'r ffermwr, un gref o gorff, a golygus. Cyn hir, aeth y ferch honno i gadw ei dŷ. Bu hi yno'n gwasanaethu am rai blynyddoedd ac yr oedd hi'n gynnil a gofalus. Yr oedd sôn ar led yn yr ardal na byddai hi'n cael cyflog sefydlog ganddo, ond gadael faint bynnag fyddai'n ddyledus iddi yn ei law ef, i ddodwy, fel y dywedid, yn ei wasanaeth ef, yn y dybiaeth y byddai hi yn y man yn wraig y tŷ. Go ansicr fyddai amgylchiadau ei thad, a rhoi'r gŵr cefnog fenthyg arian iddo pan fyddai rhent yn ddyledus ag yntau heb ddigon ar gyfer y galw. Felly yr aeth pethau ymlaen am ysbaid. O'r diwedd aeth pethau o ddrwg i waeth ar y tyddynnwr bach. Ni allai na thalu ei rent na thalu ei ddyled i'w gymydog cefnog. Pan soniai hi wrth ei meistr am helynt ei thad, dywedai'r meistr wrthi am beidio â phoeni, y byddai popeth yn iawn yn y man. Credai hithau hynny, a gadawai ei chyflog heb ei godi. O'r diwedd, daeth y sôn fod y tyddynnwr wedi cael rhybudd i ymadael o'i dyddyn, am ei fod ymhell ar ôl gyda'i rent, a bod ei gymydog wedi cymryd ei dir tros ei ben. Clywodd y ferch y sôn o'r diwedd. Aeth adref a chafodd wybod gan ei thad mai felly yr oedd. Collodd ei thymer. Aeth yn ei hôl. Dywedodd ei meddwl wrth ei meistr, a hawliodd ei chyflog. Edliwiodd yntau iddi na ofynnodd ef erioed iddi adael ei chyflog yn ei law ef, a'i bod hi yn disgwyl y buasai ef yn ei phriodi, a mwy na hynny, ei fod ef wedi rhoi'n fenthyg i'w thad eisoes fwy na'r cyflog oedd yn ddyledus iddi hi ar hyd y blynyddoedd. Os nad oedd hi'n fodlon ar bethau fel yr oeddynt, mai gwell iddi oedd. Aeth gwaed y ymadael o'i wasanaeth ef pan fynnai ferch i'w phen. Cydiodd yn y ffermwr, cododd ef yn ei breichiau, cariodd ef at ymyl craig ar gwr isaf y buarth a bwriodd ef drosodd nes oedd yn rholio i waelod llain. o dir ochrog oedd yno. Aeth i'r tŷ, paciodd hynny o ddillad oedd ganddi ac aeth ymaith heb gymaint ag edrych ar ei hôl. Pan gaed hyd i'r ffermwr yn y gwaelod ar ei hyd ar lawr, yr oedd wedi torri ei ddwy fraich. Gwerthwyd eiddo'r tyddynnwr ac aeth ef a'i ferch o'r ardal. Ni bu sôn am roi cyfraith arni hi am a wnaeth. Aeth y tyddyn i feddiant y gŵr cefnog. Ond o'r diwrnod allan, aeth pethau yn ei erbyn. Pan fu farw ymhen rhai blynyddoedd, nid oedd ond gwerth ei stoc ar ei ôl, "wedi'r holl gribinio," chwedl fy nhaid, "wedi colli parch pawb."

Er eu bod yn gweithio'n galed iawn, gwŷr hamddenol fyddai'r ffermwyr, yn enwedig ddiwrnod ffair neu farchnad. Cymerent ddarn diwrnod cyfan i werthu buwch yn y ffair. Dôi porthmyn trwsiadus o'r gororau i'r ffeiriau'r pryd hwnnw, yn gwisgo dillad brethyn, côt weddol laes a throad go bŵl ar ei godre y tu blaen, pocedi go helaeth o bobtu, esgus pocedi yn y gynffon a dau fotwm uwch ben; llodryn yn culhau at i lawr nes mynd yn weddol dyn o'r pen glin at y meilwng, esgidiau wedi eu duo'n loyw. Ffon ysgafn yn y llaw, hetiau ffelt, rywbeth rhwng het sidan a het gron, honno weithiau'n llwyd wen, am y pen. Byddent yn medru tipyn o Gymraeg mwy neu lai chwithig, digon i brynu anifail, a chael tipyn o hwyl ar fargeinio. Dôi un ohonynt at fuwch ac edrych arni a'i theimlo, gan roi naid fedrus o'r neilltu pan fyddai raid iddi hithau wneud rhyw wasanaeth naturiol drosti ei hun.

"'M, chi pia'r hen fodryb?" meddai'r porthmon.

"Ia," meddai'r ffermwr gwledig, yn ddigon sobr, pan ddigwyddai fod yn ffraeth, "'r own i'n meddwl ych bod chi'n edrach yn o debyg i fab iddi."

"Diaw' " atebai'r porthmon, "rhaid 'i bod hi wedi bod yn byw'n o fain ers pymtheg blwyddyn, pan welis i hi o'r blaen! Faint amdani hi heddiw?

"Hyn a hyn," meddai'r ffermwr, "mae gwell cas arni na phan brynis i hi gynoch chi ddwy flynadd yn ol." Ac felly ymlaen am ysbaid, yn dal her ar ei gilydd. O'r diwedd, M," meddai'r porthmon gan daro ei goes â'i ffon a throi ymaith.

Neb yn gofyn pris y fuwch am awr wedyn, a'r ffermwr yn dechrau edrych yn ddigalon. Prisiau'n gostwng a'r galw yn llai nag oedd fis yn ôl. O'r diwedd, dôi'r porthmon heibio eilwaith. Edrychai ar y fuwch, codai ei ysgwyddau, a gofynnai yn sychlyd, "Faint erbyn hyn?" Daliai'r ffermwr at ei bris. Glaswenai'r porthmon, ond edrychai ar ei oriawr, heb feddwl bod y ffermwr yn deall peth felly mewn ffair yn burion. Dadl fach arall, heb fod lawn mor ffraeth â'r gyntaf. Yna cynigiai'r porthmon bris, gan edrych ar yr hen fodryb," cystal â chydnabod fod arno ei blys at ei bwrpas. Dôi'r ffermwr i lawr bunt neu ddwy. Dim llwyddiant. Ai'r porthmon ymaith eilwaith. Gadawai'r ffermwr y fuwch dan ofal y gwas bach a rhôi dro drwy'r ffair. Dôi yn ei ôl yn fwy digalon ei olwg nag o'r blaen. Aros tipyn wedyn. Yntau'n edrych ar ei oriawr. Rhaid i'r "hen fodryb" fynd i rywle neu adref cyn hir, yr oedd yn amlwg. Disgynnai llygad y porthmon arni am y trydydd tro. Byddai ei lais yn is dipyn.

"Hyn a hyn," meddai gan ddal ei law allan.

"A chweugen o rodd, ynta," meddai'r ffermwr yntau, â'i lais yn is.

"O'r gora," meddai'r porthmon, gan edrych ar ei oriawr eilwaith. Estynnai ei law allan. Estynnai'r ffermwr ei law yr un fath a thrawai law'r porthmon yn ffyrnig. Gwelais fwy nag un porthmon yn rhoi ysgytiad i'w law a'i rhoi yn ei logell ar ôl y cyfarchiad hwn â llaw haearn y ffermwr. Edrychai'r ffermwr ac yntau fel dau elyn, ond âi'r ddau gyda'i gilydd i'r dafarn nesaf, gan orchymyn i'r gwas bach fynd â'r fuwch i fuarth y dafarn rhag blaen. Ac felly ar ôl dwyawr neu dair o fargeinio y gwerthid yn "hen fodryb."

Byddai llawer o'r arferion cymdeithasol yn awgrymu hen draddodiadau Cymreig. "Diwrnod galw" fyddai'r dydd y dôi cymdogesau neu hen gyfoedion i edrych am fy mam, neu yr âi hi i edrych amdanynt hwy. Byddai te mewn hen "lestri c'heni," a gedwid yn ofalus mewn cwpwrdd cornel, ar y diwrnod hwnnw, llestri â llun blodyn mewn aur ar ochr y cwpan a chanol y sawser, rhai wedi bod yn y teulu er amser Nain, ond bod morynion diofal wedi torri rhai o'r set, "fel y bydd raid iddynt gael gwneud!" Byddai'n rhaid i hogyn bach fod yn boenus o lonydd ac yn annaturiol o dda. Er bod fy man yn un lawen wrth natur a braidd yn ffraeth ei gair, go gwynfannus fyddai'r ymddiddan bron bob amser ar achlysur felly, sôn am drwbl ac afiechyd hon a'r llall, neu am ferch rhyw hen gydnabod wedi priodi yn is na'i stad, felly beth oedd i'w ddisgwyl ond trwbl? Ar dro byddai sôn fod merch un arall wedi "priodi'n dda" dros ben, hynny yw, yn uwch na'i stad, efallai. Trwbl fyddai weithiau ar ôl y fargen honno hefyd. Dywedid yn aml yn ystod yr ymddiddan mai "dyna fel y mae hi yn yr hen fyd yma."

Byddai'n well gennyf hirnos gaeaf, pan ddôi cyfeillion fy nhad heibio. Cymdogion go agos fyddent yn gyffredin. Doent i mewn o un i un, tua'r un amser bob tro, un gŵr mewn tipyn o oed. Dôi ef i mewn yn gyson, nid drwy'r cyntedd fel y lleill, ond drwy'r gegin gefn, neu'r "briws" fel y gelwid. Cilagorai'r drws oddi yno i'r gegin fawr, a gofynnai llais "Oes yma bechaduriaid heno?" "Oes, oes, dowch i mewn," fyddai'r ateb, a dôi'r hen ŵr i mewn. Ni wyddwn yn y byd, ac ni wn eto, pam y dôi ef drwy'r drws cefn ac nid fel y lleill, na pham ychwaith y gofynnai am " bechaduriaid." Golwg mor rhadlon a llawen arno ef ei hun bob amser fel y byddwn yn meddwl weithiau mai dynion llawen felly fyddai pechaduriaid. Caem gryn dipyn o ganu—yr oedd dysgu darllen sol-ffa yn gyffredin yn y cyfnod hwnnw—ac adrodd ystraeon. Ymhlith pethau eraill cenid cân hwyliog iawn, "Ffynnon Cae Coch," sef Ffynnon enwog Drefriw. Dwy linell yn unig a ddaw i'r cof ohoni, ac ni chyfyd gweddill y gainc ychwaith o'r dyfnder—ni fedraf yn fy myw gael diwedd arni! Dyma'r ddwy linell nas llyncodd ebargofiant:—

Cerddi eraill a genid oedd "Ffon y Plismon," gwaith Eben Fardd, mi gredaf; "Cymru fy ngwlad, hen gartref y Brython" (y gerddoriaeth, onid y geiriau hefyd, gan J. D. Jones, gŵr y bu fy nhad yn ei ysgol yn Rhuthin); un "dôn gron" nad cof gennyf mo'i henw; amryw hen geinciau Cymreig, a "Chân y Crud," ar eiriau gan "Llystyn," os wyf yn cofio'n iawn, cân a'm gyrrai i'n drist dros ben, pan genid am yr hen grud wedi ei adael o'r diwedd:—

"A mynd i ganol crwybyr cop
Mewn cell yn nhop y tŷ."

Ar gainc leddf "Toriad y Dydd," y cenid y gân, a byddai dagrau'n dyfod i'm llygaid er gwaethaf traddodiad pan glywn denor lleddf fy nhad yn canu'r geiriau uchod ar y nodau:—

Byddai canu "Cymru fy ngwlad" hefyd yn fy nhristâu dros fesur, pan feddyliwn am y Brythoniaid wedi colli'r gogoniant a fu... Byddai'n dda gennyf pan ddeuai tro un o gerddi digrif Talhaiarn i godi tipyn ar galon drist. hogyn bach, ac yr wyf heno â'm gwallt yn wyn, ar ôl gofyn iddynt roi taw (am byth, os mynnant) ar leisiau aflafar sentimentaliaid y radio, yn gwrando ar lais bas cadarn hen ŵr y drws cefn, cyfaill "pechaduriaid," a thenor hoyw fy nhad...

Byddai'r chwedlau gwlad, megis y rhai a adroddid am Siôn Swch, ffŵl a gedwid gan ryw hen ŵr bonheddig oedd yn byw rywdro heb fod ymhell o'r ardal, meddid, yn ddifyr odiaeth, ac yn dal yn eu blas er eu clywed lawer gwaith.

Nid wyf yn amau dim bellach nad darn o draddodiad. y "Noswaith Lawen" gynt oedd hwn, wedi aros ymhlith trigolion yr ardal gwbl Gymreig honno hyd chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Syndod a llawenydd gan y gymdeithas honno fyddai glywed fod eto "Nosweithiau llawen" bellach yng Ngarthewin eto.

IX.

GWEISION FFERMYDD.

Dosbarth diddorol iawn oedd y gweision, y soniwyd eisoes am rai o'u campau, digon diddorol, efallai, i sôn amdanynt ar eu pennau eu hunain yma. Caled oedd eu bywyd. Cysgent yn aml mewn llofftydd uwch ben yr ystablau, ac ni welid monynt yn y tai onid amser pryd bwyd. Mewn ambell fferm caent eistedd wrth dân y gegin neu'r gegin gefn yn yr hwyr, os mynnent, a phan fyddai un doniol, cymerai ran yn y difyrrwch hirnos. gaeaf-cant neu adrodd ystori neu ofyn dychmygion.

Ambell waith, dôi chwiw dros rai ohonynt i wneud castiau yn ystod y nos, pethau cymharol ddiniwed fel mynd i gnocio ar y merched gweini, a phethau eraill a ystyrrid yn waeth, megis clymu drysau'r tai oddiallan fel na ellid eu hagor oddimewn; codi llidiardau oddiar eu bachau a'u gadael i sefyll yn erbyn y pyst. Cofiaf am un hogyn bach a dorrodd ei fraich drwy i lidiart. felly syrthio odditano; gollwng anifeiliaid allan o gaeau, neu stwffio coflaid o wair i ambell gorn simnai. Byddent hefyd weithiau yn herw-hela ("portshio" fyddai'r gair cyffredin), a digwyddai ysgarmes rhyngddynt o dro i dro a'r ciperiaid. Adroddid am nifer a aeth ryw noswaith i hela, wedi duo'u hwynebau, neu wisgo mygydau. Gadawsant i'r cipar ddal un ohonynt, yna yn sydyn dyma eraill yn rhuthro at y ddau, yn dal y cipar drwy orthrech ac yn gwthio pawl hir a chryf drwy un llawes, ar draws ei gefn ac allan drwy'r llawes arall, a chlymu ei arddyrnau'n dyn â llinyn, fel na fedrai ei gael ei hun o'r ddalfa honno. Bu raid iddo fynd orau y gallai i chwilio am ryw gymorth a bu'r bechgyn dyfeisgar wrthi'n ddygyn cyn bod neb ar eu holau.

Ar droeon y digwyddai'r castiau gwaethaf, drwy ryw anfodlonrwydd naturiol ar oriau digysur yr hwyr, efallai, neu awydd i ddangos dirmyg at anystyriaeth ambell "hen gribin" gwaeth na'i gilydd, neu ryw fath o wrthryfel anfedrus yn erbyn gwendidau gwaethaf y drefn gymdeithasol a adawai un dosbarth ieuanc heb un ddarpariaeth ar gyfer rhywfaint o gysur, heb sôn am ddifyrrwch neu ddiddordeb gwedi oriau gwaith. Ond, at ei gilydd, syndod fel y gallai'r dosbarth digyfle hwn ddioddef pethau ac ymddwyn cystal ag y gwnaent. Byddai tafarnau i'w cael yn y pentrefi, wrth gwrs, ond ni byddai sôn am lawer o ofera ymhlith y dosbarth hwn, dim cymaint ag ymhlith crefftwyr a chwarelwyr. Bach oedd eu cyflog a hir eu horiau gwaith. Gallent ddarllen Cymraeg, diolch i'r Ysgol Sul, ond prin oedd llyfrau cymwys ar eu cyfer, neu le cymwys i'w darllen pe buasai rai. Cymerent ddiddordeb mawr yn eu gweddoedd—sonnid am rai fyddai'n torri twll drwy lawr llofft yr ŷd a dodi ynddo beg i'w dynnu a'i roi, er mwyn cael ceirch drwyddo o'r pentwr fyddai ar lawr y llofft i'w roi heb yn wybod i neb i'r ceffylau fyddai tan eu gofal. A phan fyddai "dangos neu ffair geffylau, neu ryw achlysur cyhoeddus, megis "trip Ysgol Sul," byddai addurno mawr ar y ceffylau. Cenglau'n disgleinio gan sêr o bres, mwng a chynffon wedi eu plethu a'u haddurno â rhubanau cochion, gwyrddion a melynion, a gwellt gwenith yn y clymau, yn fforchogi'n ysnodennau, ar ddelw gwreichion sêr. Ac yn amlach na pheidio, y gwas fyddai piau'r holl addurniadau. Rhan o'i grefft ef fyddai trwsio'r wedd, a byddai wrthi, hwyrach, trwy'r nos gyda'r gorchwyl hwnnw. A'r unig dál a gâi oedd bodloni ei elfen grefft. Swllt neu ddau ar dro, efallai, gan ambell feistr haelach na'i gilydd. 'Rwy'n cofio'r funud yma weld "trip Ysgol Sul" yn dychwelyd adref gyda'r nos. Gwagen yn llawn o ferched a phlant, yn eu dillad gorau. Merched bach mewn gwyn neu las gwan, ac ysnodennau o goch neu las ar lewys cwta, mynwes a het wellt. Bechgyn mewn brethyn cartref lliw cawn crin, a chapiau pig. Dau geffyl yn tynnu'r wagen, yn gloywi gan bres a rhubanau a'r gwas yn cerdded yn eu hochr, yn ei ddillad Sul; coler wedi ei sythu am ei wddf, ac arddyrnau ei "grys main " wedi eu sythu yr un modd ac yn cyrraedd at ei figyrnau. Chwip ag amgyrn pres am ei choes yn ei law. Golwg sobr arno, yn cerdded â'i ddwy fraich i lawr gyda'i ystlysau; a'i ben, pan drôi yn y goler newydd, yn troi'n ofalus iawn, am fod y goler yn crafu gwddw cynefin â symud yn rhydd.

Eto, fel dosbarth, byddai'r llanciau hyn dipyn yn falch, yn eu gwisg orau. Dillad o frethyn cartref; het ffelt galed a phluen baun neu dair neu bedair o blu pioden y coed, wedi eu gosod yn ofalus ar un ochr i'r het. Os gwelid llanc yn gwisgo'i het braidd ar ochr ei ben, ystyrrid ei fod ef yn "un garw." Gwisgid coleri wedi eu sythu, yn gyffredin, a "c'hêt," oni byddai "crys main," gan y rhai balchaf, sef darn o liain wedi ei sythu i'w ddodi dros du blaen y crys, yn agorfa'r wasgod. Anaml y gwelid un yn gwisgo cuffs, ond cofiaf yn dda glywed un yn disgrifio un arall â chanddo rai.

"Coler hyd at 'i glustia," meddai, "fel na fedra fo droi'i ben mwy na llygoden mewn trap. Cyps yn cyrradd at 'i winadd. A hogla sment, ddigon i daro dyn i lawr ddecllath oddiwrtho."

Byddai "oel gwallt" yn dra chymeradwy ganddynt hefyd. Gwisgai rhai fodrwy arian am y bys bach, ac ystyrrid oriawr a chadwyn yn addurn mawr, a phin gadach ar lun pedol ceffyl yr un modd. Cyfrifid lwmp o oriawr, a elwid "llygad myharen," yn un dda iawn. Y tu mewn i wasg y llodryn y byddai poced yr oriawr mewn dillad gwaith, a byddai'r osgo wrth godi gwaelod y wasgod i fyny, gafael yn y gadwyn a thynnu'r oriawr allan, yn galw llawn cymaint o sylw ati ei hun â'r osgo heddiw, pan fo'r oriawr a wisgir ar yr arddwrn yn newydd iawn. Byddai cyllyll "Joseph Rogers" mewn bri mawr yn eu plith.

Byddai'r rhan fwyaf o'r bechgyn yn "iwsio baco." Cnoi "baco main" fyddai fwyaf cyffredin ym mysg y gweision, mygu pibellau yn amlach ymhlith y gweithwyr hŷn. "Cetyn" y gelwid pib fer; "pibell" oedd enw un hir, o glai. Byddai medru poeri dafn o sudd y tybaco. i ganol tân neu i lygad ci neu gath, o gryn bellter, yn arwydd o glyfrwch. Gwelech lanc yn sefyll ar ddiwrnod ffair go oer wrth gornel ystrŷd; coler ei gôt wedi ei chodi, ei ddwylo ym mhocedi ei lodryn; un goes yn syth a rhyw blygiad yn y llall; yntau'n cnoi baco ac yn edrych fel pe na buasai'n gweld dim. Dôi ci heibio ac edrych arno. Ni welech mo'r llanc yn gwneud dim, ond cyfarthai'r ci fel pe buasai rhywbeth wedi digwydd. Safai'r llanc yn gwbl lonydd, fel delw. Daliai'r ci i gyfarth. Yn sydyn, clywech wawch, gwelech y ci yn neidio i'r awyr ac yn rhedeg ymaith, gan sefyll yn awr ac eilwaith i geisio tynnu rhywbeth o'i lygad drwy rwbio'i bawen yn ei erbyn. A daliai'r llanc i edrych fel sant o hyd.

Cerddi neu faledi fyddai llenyddiaeth y dosbarth. Siom fyddai dyfod adref o ffair heb gerdd newydd. Mewn twll ym mhared ystabl y cedwid y cerddi yn aml. Ambell un yn eu pwytho wrth ei gilydd yn ofalus, fel llyfr. Ymhlith y rhai mwyaf cymeradwy a gofiaf yr oedd cerdd "Y Blotyn Du," "Yr Eneth gadd ei gwrthod," "Hen Ffon fy Nain" a'r "Bwthyn Bach to gwellt." Anaml cael llanc na fedrai ganu'r rheiny.

Balchter mawr arall ymhlith y llanciau oedd aredig. Pan fyddai cae tirglas i'w drin, byddai raid bod pob cwys cyn unioned â'r saeth, heb fod ynddi na tholc na thoriad, a phe ceid carreg, a daflai'r aradr o'r gwys, byddai raid ei llusgo yn ei hôl, a thrwsio a llyfnhau'r balc â rhaw fechan a gedwid o bwrpas at hynny ar y tu mewn i'r ystyllen bridd. Byddai raid i'r gwys orwedd ar ei hochr yn gymwys, fel y gwelid y rhigol rhwng cŵys a chŵys o dalar i dalar yn un llinell gwbl union. Yr oedd drumio'r cefn, neu'r grwn, fel y byddai'n crymu'n grwn o rych i rych, yn gamp fawr. A phan fyddai'r cae wedi ei orffen, byddai golwg ardderchog arno. Llyfnid y cwbl cyn hir, a gwnaethai âr llai perffaith y tro lawn cystal, efallai. Ond pa waeth fod yr og yn fuan yn chwalu'r cwysau'n llwch? Crefftwr oedd yr arddwr, a'i fryd ef oedd bodloni nwyd y crefftwr am berffeithrwydd, pe llyfnid yr âr drannoeth.

Ceid yr un grefftwriaeth ymhlith y gweithwyr, rhai hŷn, wedi bod yn eu tro yn canlyn y wedd. Hwy fyddai'n torri gwrychoedd, yn cau a chloddio, ac yn toi teisi gwair ac ŷd. Byddai eu harfau, y "cryman cam," neu'r bilwg," a'u rhawiau—rhofiau, fel y seinid gan rai—cyn loywed â'r gwydr, yn enwedig pan fyddai gystadlu. Awch fel ellyn ar gryman a rhaw, at ddarn-dorri a phlygu cainc, ac at gael tyweirch i'w gosod ar ei gilydd yn y clawdd fel y byddai'r asiad rhwng dwy res yn gwbl union a chywir. Am gywirdeb llaw a llygad, ni welais odid ddim erioed a gurai waith yr hen gloddwyr hynny. Byddai gwneud tas o wair neu yd yn gryn gamp, a'i thaclu a'i thoi y gn gamp fwy byth. Os tas wair fyddai, rhaid ei "thynnu" i ddechrau, sef tynnu ei hochrau a'i thalcennau, fel y taflai dros ei throed, ac y byddai crymedd cymesur ynddi o'i bôn i'w brig. Cymerai hynny ddyddiau gyda thas fawr, gwaith glân, difyr. Ac wedi gorffen hwnnw, a "chau'r pen" yn iawn, byddai'r das a'i hystlysau mor union â'r saeth hithau, ac heb flewyn o'i le i dorri ar gywirdeb ei llinellau. Yna, dodid gwanaf ar hyd y pen, o frwyn neu wellt gwenith, wedi eu tynnu nes eu bod yn unfrig, unfon. Gwneid "rhaffau traws" a "rhaffau cerdded" o lafrwyn neu o wair hir, llathraidd ni ddaethai'r "cortyn coch" yn gyffredin yn yr ardal honno eto. Byddai'r "rhaffau traws," lle byddai crefftwr iawn wrthi, wedi eu nyddu o dair cainc weddol fain. Toid bob yn wanaf, a byddai raid bod pob gwelltyn yn ei le, a'r to yn ddigon tew i wneuthur bondo a daflai'r dwfr i lawr heb gyffwrdd ag ochr y das. Byddai'r tair rhaff gerdded" ar hyd y pen beth yn ffyrfach na'r lleill, yn is i lawr ar y to, a'r isaf ohonynt, ar odre'r to, yr un modd yn ffyrfach. Rhaid fyddai dwyn y to dros y talcen, a'i grymu i mewn ar ei odre oni byddai'n gymwys fel pedol ceffyl. Tynheid pob rhaff wrth fynd ymlaen, a'i gosod yn gadarn à "phinnau to," rhai ohonynt wedi gwasanaethu am flynyddoedd lawer, wedi eu gwneud gan mwyaf o bren cyll, a'r rhisglyn wedi caledu a gloywi, a'u blaenau cyn feined â blaen saeth. Weithiau, rhedid y rhaff gerdded isaf ar draws y talcen o ochr i ochr, fel addurn ychwanegol, ac ni thalai fod un o binnau'r rhaffau traws y gronyn lleiaf yn uwch nac is na'r lleill. Byddai raid cael gwellaif â min arno i dorri godre'r to yn wastad, heb y tolc lleiaf yn y bondo o ben i ben. Cofiaf am ddau hen ŵr yn fy nghartref yn gorffen toi tas wair go helaeth, ac wrthi'n gwastatau'r bondo, un gyda'r gwellaif a'r llall yn rhedeg llygad ar ei hyd. "Wel' di," meddai'r olaf, mae un gwelltyn yn y trydydd cyfwng acw ryw wythfed o fodfedd yn is na'r lleill."

Os tas ŷd fyddai'r das, rhaid ei "gwthio" â rhaw, i gael yr ystlysau a'r talcennau'n wastad, ac yna cymerid pladur i'w "stricio" a chael y gwellt i gyd yn gwbl unfon. Yna toi, fel y toid y gwair. Byddai balchter crefft yn hyn oll, a lle byddai un y cydnabyddid ei fod yn ben crefftwr, cerddai eraill o bell i weld ei waith. A dyna fyddai ei dâl yntau.

X

UN O'R RHAI FU.

... Ni wn i faint o'r hen arferion y sonnir amdanynt yma sy'n aros yn yr hen ardal erbyn hyn. Nid llawer, mi dybiwn, canys daeth y lli Seisnig yno, oedd yn dechrau dyfod hyd yn oed yr adeg honno. Efallai fod y wlad rywbeth yn debyg o hyd, ond prin yr adwaenai neb o'r hen drigolion yr hen bentref bellach. Ni chlywais blant. yn chwarae yn Gymraeg yn yr heolydd pan fûm уno ddiwethaf, wedi mynd ar dro i weld y "lle bûm yn gware gynt." Ystrydoedd newyddion, tai newyddion, cryn dref yno bellach, lle nad oedd onid hen bentref Cymreig gynt. Diau fod yno Gymry lawer yno'n byw o hyd, ac yn eu plith lawer o Gymry da. Ond daeth rhyw chwithdod trosof, hen glwyf fy hynafiaid, yr hiraeth am a fu.

"D'awch, syr."
"D'awch, syr."

Hen ŵr oedd yno. Corff cadarn. Wyneb coch a barf o doriad hen ffasiwn dan ei ên o glust i glust. Llygaid. byw, lleddf. Edrychai'n graff arnaf.

"A ddylwn i fod yn ych nabod chi?" meddai.

Na," meddwn, "go brin. Bûm yma yn yr ysgol. yn hogyn."

"Meddwl yr oeddwn i," meddai yntau, gan ddal i graffu arnaf o hyd, "ych bod yn debyg iawn i rywun a adwaenwn gynt, er na fedra i gofio pwy."

Aeth yr ymddiddan ymlaen. Cofiai'r hen ŵr fy nhad yn dda.

"Y mae'r hen dai to gwellt fyddai yma gynt wedi mynd i gyd," meddwn. Efallai fod rhywbeth yn fy llais yn awgrymu mwy nag a ddywedais.

Ydyn," meddai. Goleuodd ei lygaid ennyd a thristau drachefn. "Ydyn. Mae popeth wedi newid yn arw.

"Er gwell, 'rwy'n gobeithio?" meddwn.

Wela, ia, hwyrach, mewn rhai petha," meddai.

"Ond wn i ddim chwaith, ac ystyriad pob peth."

"Beth sy'n peri i chi amau am y newid?" meddwn.

"Wela," meddai, "Mae'r hen dai wedi mynd, fel yr oeddach chi'n deud. Mae'r tai yma sydd yn eu lle nhw yn llawer mwy, mae'n wir, ac yn llawer mwy rhodreslyd, ond 'does dim cymaint o le ynddyn nhw chwaith i'r trigolion, drwy'r flwyddyn, felly, ag oedd yn yr hen dai. Heddiw, mae'n nhw'n cysgu yn y gegin neu ar lawr, er mwyn gwneud lle i'r petha ha 'ma. Basa'n o chwith gan yr hen bobol feddwl am gysgu a bwyta ar yr un bwrdd. Ac am olwg y tai—wela, ond ydi'r rhein mor gynddeiriog o newydd, rywsut—maen' nhw fel pe baen' nhw'n rhegi'r wlad o'u cwmpas, ac yn rhoi ar ddallt i chi'i bod hi'n rhy wledig o'r hannar. A'r hen enwa, wedi mynd i gyd. Ac yn eu lle rhyw fastardiaid o enwa sy'n merwino clustia dyn, yn enwedig pan fo Cymry'n methu swnio un darn a Saeson yn methu swnio'r llall."

"Y mae hynny'n wir," meddwn, "ond y mae'r ystrydoedd yn lletach a llawer a'r tai yn edrych yn dda, a'r gerddi blodau yma o'u cwmpas."

"Ydyn," meddai, "'does dim yn erbyn y bloda a'r gerddi. Bydda yma erddi da gynt a'r rheiny wedi eu trin i ryw bwrpas, 'ran hynny. Mae strydoedd lletach a'r heiny wedi eu goleuo gyda'r nos, yn iawn, wrth reswm. Ydw i ddim yn erbyn cyfleustera rhesymol. Ond 'does yma mo'r gymdogaeth a'r wyllys da fydda yma gynt. Ar ôl petha felly y bydda i'n gweld collad. Rhyw le tros dro sydd yma 'rwan, nid cartra, rhyw betha estron, heb ddim gwreiddia yn y tir, heb fod yn tyfu o hanas y wlad. Pan oeddwn i'n ifanc, bydda pawb yn gymdogion yma, a chanddyn nhw draddodiada, fel yr oeddan nhw'n deall'i gilydd yn o lew. Erbyn hyn, dosbarthiada ydyn nhw, nid un bobol na chymdogion chwaith."

"Ydi hi wedi mynd felly yma?" meddwn.

"Wela," meddai'r hen ŵr, "mae'n debyg fy mod i'n hen ffasiwn, ond fydd pobol y tŷ nesa ddim yn siarad â chi fel cymdogion rwan, os na byddwch chi o'r un dosbarth â nhwytha. Hyd yn oed lle bôn' nhw o'r un genedl â'i gilydd, cyn bellad ag y gŵyr neb, fydd ganddyn nhw nemor i'w ddeud wrth'i gilydd os na byddan nhw o'r un dosbarth. Caech Sul tawal yma ers talwm, ond 'does wahaniaeth bellach rhwng y Sul a rhyw ddiwrnod arall. Synnwn i ddim na fydd gynnoch chi ryw frithgo am yr hwyl fydda ers talwm, pan fydda cymdogion yn mynd i helpio'i gilydd yn heidia, fel y dyla cymdogion fod yn barod i wneud bob amsar. Fyddan' nhw gynt ddim yn byw yn eu cregin fel malwod, fel yr ydan ni heddiw, nes yn bod ni wedi mynd heb ddim i'w ddeud wrth neb, fel pe baen' ni wedi sorri wrth bob dyn am byth. 'Does dim cymdeithas mewn peth felly, a 'does fodd i ddynion fyw yn debyg i ddim heb gymdeithas, na heb deimlo bod ganddyn nhw ryw ran yn y gymdeithas honno, a rhywbeth y dylan nhw fod yn barod bob amsar i'w wneud er ei mwyn hi hefyd. Fydd yr hyna fo ohonom ddim byw yn rhyw hir iawn ar y ddaear yma, ynghanol'i gyd-ddynion, ac os gneith o hynny heb ddim byd i'w glymu fo â'i dada, na dim i beri iddo fod yn un â'i gymdogion, pan fyddan nhw yn ddigri a difri, pan fydd hi'n dywydd teg arnyn nhw, a phan fydd hi'n ddrycin yn enwedig, fydd i'r dyn hwnnw fawr o siawns, hyd y medra i feddwl, am fyd ar ôl hwn â dim llun arno, beth bynnag."

Gwyddwn fy mod wedi bod yn gwrando ar ffilosoffi bywyd hen Gymro o'r cyfnod pryd yr oedd gennym ninnau, er gwaethaf ein rhaniadau, rywbeth a'n cadwai'n un bobl eto, heb ein diwreiddio. Ysgydwasom ddwylo a thynnais fy het iddo wrth gerdded ymaith, braidd yn drist, megis yr oedd yntau. Dacw fo yn mynd, yn tynnu ei het eto ac yn troi o'r golwg am gornel ystryd.

A euthum innau'n hen, finnau? ...

T. GWYNN JONES, M.A., D.Litt., C.B.E.

NID oes angen cyflwyno'r Dr. Gwynn Jones i ddarllenwyr Cymru. Gŵyr pawb am ramant ei yrfa—gyrfa a gychwynwyd yn swyddfa'r Faner yn nyddiau Thomas Gee; syfrdanu Cymru a'i awdl Ymadawiad Arthur yn 1902; yna ymuno â staff y Llyfrgell Genedlaethol; i'r Brifysgol wedyn, i Gadair Llenyddiaeth adran Gymraeg Coleg Aberystwyth. Y mae'n awdur nifer helaeth o lyfrau, yn nofel, dramâu, cofiannau a barddoniaeth na ellir dechrau eu henwi. Y flwyddyn hon gwneir Tysteb Genedlaethol iddo a fydd yn rhyw arwydd o werthfawrogiad y genedl o'i gyfraniad amhrisiadwy i'w bywyd a'i llenyddiaeth.

LLYFRAU'R DRYW

LLANDEBIE

1. DEG PREGETH——Deg Pregethwr
2. CATIAU CWTA——Sarnicol
3. 1940——W. Ambrose Bebb
4. DARLUN A CHAN——Nantlais
5. GYDA'R GLANNAU——E. Tegla Davies
6. STORIAU GWALLTER MAP——R. T Jenkins
7. HEN DDWYLO——E. Llwyd Williams
8. SGWEIER HAFILA——T. Hughes Jones.
9. Y BARADWYS BELL——W. Ambrose Bebb
10. ANESMWYTH HOEN——Kate Bosse Griffiths
11. JONES Y PLISMAN——John Aelod Jones
12. HWIANGERDDI'R WLAD——Eluned Bebb
13. STORIAU O'R RWSEG T. Hudson—Williams
14. CERRIG MILLTIR——Thomas Jones
15. CERDDI'R HOGIAU——W. D. Williams
16. CYFRINACH YR OGOF——T. Glyndwr Jones
17. 1941——W. Ambrose Bebb
18. ADFEILION——Alwyn D. Rees
19. DAVID LLOYD GEORGE——E. Morgan Humphreys
20. DECHRAU'R DAITH——E. Tegla Davies
21. CWLWM Y DIALYDD!——G. E. Breeze
22. TUA'R CYFNOS——E. Llwyd Williams
23. CAP Y CYTHRAUL——J. R. Lloyd—Hughes
24. BRITHGOFION——T. Gwynn Jones


Mynnwch y Gyfres yn Gyflawn

SWLLT A THAIR Y GYFROL

Ar Werth ymhobman

Nodiadau[golygu]


Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.