Neidio i'r cynnwys

Ceris y Pwll (Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Ceris y Pwll

gan Owen Williamson

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Ceris y Pwll

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ceris y Pwll
ar Wicipedia





CERIS Y PWLL

CERIS Y PWLL

GAN

OWEN WILLIAMSON,

DWYRAN, MON.



CAERNARFON:

Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.),

SWYDDFA "CYMRU."

1908.

RHAGYMADRODD

Y mae'n hawdd rhannu nofelau'r byd yn ddau ddosbarth, — nofelau hanesyddol a nofelau ereill.

Y mae nofelau hanesyddol yn darlunio pethau ddigwyddodd cyn cof i'r awdwr; y mae nofelau ereill yn darlunio y pethau welodd yr awdwr ei hun.

Y nofelau ereill hyn yw y rhai mwyaf lliosog o lawer. Gall eu hadwr eu hysgrifennu heb efrydu ac heb ymdrech. Weithiau ceir hwy yn ddarluniadau byw o gymeriadau sydd wedi llenwi meddwl yr awdwr, megis yn Rhys Lewis Daniel Owen a Sioned Winnie Parry. Dro arall ceir hwy yn ddadleniadau o orthrwm neu gam; ac wedi i wlad eu darllen y mae'n barod i groesawu un a laddo'r gorthrwm ac a uniono'r cam. Little Dorrit Dickens roddodd ddiwedd i greulondeb cyfraith methdaliad; helpodd Pickwick Papers ddeddfau estyn yr etholfraint; galwodd Nicholas Nickeleby am ymyriad y Llywodraeth ag ysgolion: Oliver Twist oedd un o brif achosion gwella deddfau'r tlodion. A pha faint yw dyled y fam anffodus i Heart of Midlothian Syr Walter Scott, a dyled y caethwas i Gaban F'Ewythr Twm Harriett Beecher Stowe?

Ond er fod y nofelau hyn yn rhan o hanes, nid nofelau hanesyddol mohonynt. Ychydig iawn o nofelau hanesyddol sydd yn llenyddiaeth Cymru eto. Mae Cymru yn hoff o hanes, yn hoff iawn; nis gwn am wlad yn meddu cymaint o hynafiaethwyr, ac nis gwn am wlad lle mae'r werin yn talu cymaint o sylw i gromlech a charnedd, i gutiau Gwyddelod a ffyrdd Helen. Ond ychydig o nofelau sydd yn apelio at y teimlad hwn. Y rheswm yw, – manylrwydd yr ymchwiliad angenrheidiol; rhaid cael pob manylion yn gywir, nid yn unig am sefydliad a chymeriad ond am wisg a bwyd a botymau, – pethau y mae eu ffasiwn wedi newid lawer gwaith. Nis gellir rhoi pytatws ar fwrdd Gruffydd ab Cynan, nag oriawr i Owen Gwynedd, na phibellaid o dybaco i Guto'r Glyn, na chrinolin i Werfyl Fychan.

Yn y nofel sy'n dilyn y mae'r awdwr yn cymeryd cyfnod pell a niwlog iawn. Dengys amlinellau'r gwir trwy fanylion dychmygol. Dengys fel y cymysgwyd pobl Mon, ac fel y daeth dwy genedl a dwy grefydd a dwy iaith yn un. Ymdrinia â phroblem bwysicaf hanes bore. Dengys ddwy genedl yn ymgymysgu mewn heddwch, ac nid yn ymladd nes difodi un gan y llall. Ac, yn ddiameu, dyma'r gwir sy'n graddol ennill ei le: er na ddysgir ef eto ond mewn ambell un o'n hysgolion. Wrth ddarllen y nofel hon, ceir gwirionedd hanes ar lun dychymyg.

OWEN EDWARDS.
Llanuwchllyn, Medi 1, 1908.

CYNHWYSIAD



I. CYFNOD NIWLOG

NID oes gyfnod mwy pwysig yn hanes Prydain na'r pedair canrif gyntaf a nodir yn gyffredin gyda'r llythyrennau A.D.; ond nid oes adeg fwy tywyll neu fwy anhawdd treiddio i'w helyntion, sef casglu a gosod mewn trefn ddealladwy ddefnyddiau cymysg yr hanes a ddisgrifia y gwasanaeth pwysig y cymerwyd rhan ynddo gan y Goidel, y Brython, a'r trefnydd hynod a osododd i lawr yn Ewrob sylfeini y gwareiddiad a adnabyddir fel y Rhufeinig.

Wrth i ni gyfeirio at ran neilltuol o'n gwlad, – Gogledd Cymru, er enghraifft, – mae niwl yn gorchuddio y dyffrynnoedd, sef y gaenen isaf o'r hen boblogaeth; daw y parthau uwch yn fwy amlwg, ond hynod dywyll yr hud a'r lledrith sy'n gordoi pob man; yn y parthau uchaf y mae'r awyrgylch yn lled glir. Mae'r disgrifiad, feallai, yn gofyn eglurhad. Wrth y parthau isaf y golygir y genedl Goidelig: defnyddia y Brython arddull alegoraidd neu fabinogaidd wrth ddisgrifio; mae y Rhufeinddyn yn fwy eglur gyda'i hanes, oblegid nid yw efe yn gwisgo gwybodaeth â damhegion.

Nid oes gennym ni hanes Goidelig, namyn manion aneglur a adawyd ar ôl gan y Brython mewn cofnodau mabinogaidd ansicr yn eu cynhwysiad oblegid ei duedd i guddio yr hyn oedd anffafriol i'w ddysg ef, ac i ddefnyddio pob peth oedd ffafriol i'w olygiadau ef, o ba ffynhonnell bynnag y tynnai wybodaeth. Wrth gyfeirio at Brydain Rufeinig yr ydym ar dir sicrach. Yr unig gyfeiriad boreol sicr a phwysig a gawn ni at Fon yn yr hanes Rhufeinig yw yr hyn ddisgrifir fel Goresgyniad Mon yn y ganrif gyntaf gan Suetonius Paulinus, pryd y derbyniodd y Derwyddon, meddir, ergyd farwol a agorodd ddrysau Gogledd Cymru i drafnidiaeth â Rhufain. Cadarnheir hyn gan draddodiadau ynghylch cloddfeydd Rhufeinig Mynydd Parys, a rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig yn y parthau mwyaf dyrus o Ogledd Cymru.

Yn y cyfnodau dan sylw tybir i wareiddiad Rhufeinig effeithio yn fawr a llesol ar Gymru, er nad i'r un graddau ag a wnaeth yn y rhannau eraill o Rufain Brydeinig. Y cyfoeth mwnawl a demtiodd y Rhufeiniaid i dalu ymweliad mwy arosol â'r parth o'r Ymherodraeth a alwn ni yn Gymru, na'r ymgyrch y cyfeiriwyd ato uchod. Ni oresgynnwyd Cymru, mae’n debyg, yn yr ystyr ag y meddiannwyd hi yn fwy diweddar gan y Brythoniaid, y rhai a orfodwyd, feallai, gan yr Angliaid i adael Gogledd Lloegr ac ymfudo i Ogledd Cymru.

Yn yr hanes dilynol y mae a wnelom ni yn bennaf â Mon mewn cyfnod amhenodol na ellir yn hawdd ei gyfyngu tu fewn i gylch dyddiau neu amserau adnabyddus. Gan fod cyn lleied ymddiried yn cael ei roddi gan haneswyr i'r hanes henafol, a chan fod gwahanu hanes oddiwrth chwedloniaeth yn orchwyl dyrus, y mae yn anhawdd gwybod beth sydd ffaith a beth sydd ffug; ond y mae i ni ychydig bethau a'n cynorthwyant i ddarllen hanes Mon, a digwyddiadau y goresgyniad Brythonig dilynol i ymadawiad y Brythoniaid o Brydain, ynglŷn â'r rhai y cymerwyd rhan bwysig gan Geris y Pwll, Moel y Don, a'r rhai y ceisir eu disgrifio yn y penodau sydd yn dilyn.

II. BRAD CASWALLON

GADAWODD Ceris ei enw ar fôr-gilfach y Pwll, is law i'w hen breswylfod a elwid Llwyn y Moel, ond yn awr sydd fwy adnabyddus dan yr enw Plas Newydd.

Moel oedd gaethwas a gydnabyddai un arall fel ei arglwydd, neu ei bennaeth; a gwneid hynny yn amlwg trwy i'r gwas gael ei eillio. Ond yn achos yr arwr presennol, nid oedd efe Foel mewn gwirionedd, oblegid gwrthodai efe fel Goidel rhydd ymostwng i un Brython goresgynnol, a heriai bob ymosodwr ar ei hawliau i'w ddifeddiannu o'i etifeddiaeth. Yr oedd ei Lech a elwid Pwll Ceris yn ymyl y man mwyaf peryglus i'w fordwyo.

Ar yr adeg y dechreua y stori yr oedd Mon yn dra chynhyrfus oherwydd bradwriaeth Caswallon ap Bran tuag at Garadog ei frawd, yr hwn oedd gyfrannog ag ef yn llywodraeth Mon yn absenoldeb Bran ap Bile yn y Llys Gwyddelig. Yr oedd Caradog yn llywodraethu y rhan orllewinol o Fon, tra y cymerid gofal o'r gogledd a'r oror ddwyreiniol gan Gaswallon. Gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy ranbarth oedd fod rhanbarth Caswallon yn cynnwys poblogaeth gymysg o ddisgynyddion mwnwyr Mynydd Dyryslwyn, morwyr Am-loch, y Coriaid, a hen ymsefydlwyr gyda gwaed Rhufeinig yn eu gwythiennau. Gellir casglu nad oedd fawr o gydymdeimlad rhwng Goidelod rhan o'r ynys a'r boblogaeth ddisgrifiwyd. Dechreuodd Caswallon berffeithio ei gynlluniau drwy garcharu ei frawd Caradog, a thybir iddo ei lofruddio hefyd. Meddiannwyd felly yr holl ynys gan Gaswallon, ac yn ddilynol cyhoeddodd ei annibyniaeth, neu yn hytrach dygodd yr Ynys dan awdurdod y Brythoniaid oedd eisoes â'u pencadlys yn Neganwy, ger bwlch Llanrhos. Cynhyrfodd hyn y Goidelod ymhob man o Arfon a'r Eryri, ac ymhell i goedwigoedd Meirion hyd Aran Fawddwy, oblegid yr oedd amryw fannau mynyddig heb eu goresgyn eto, er fod y Brython wedi meddiannu y gwastadeddau a'r tiroedd breision; ac wrth wneyd hynny yr oeddynt wedi treiddio drwy randiroedd, yr hyn a wahanodd lawer o barthau Goidelig oddiwrth eu prif gadarnle yn Eryri.

Cyn i fradwriaeth Caswallon ddwyn oddi amgylch lwyddiant y goresgyniad Brythonig ym Mon, nid oedd neb wedi amheu dyfodiad y perygl o'r cyfeiriad y daeth. Y llecyn gwan yn yr amddiffyniad Goidelig oedd Bwlch y Ddeufaen a rannai Arllechwedd yn ddwy ranbarth. Rhan bwysig yn yr amddiffyniad Goidelig a ymddiriedasid i Geris oedd gwylio yr arfordir o Aber Gwyn Gregin i enau Conwy, gyda'i brif wylfan ar gyfer y Penmon Mawr. Ond fel y profwyd yn y canlyniad trechodd brad bob gwyliadwriaeth, a gorfu ar Fon Goidelig newid ei chynllun, a chasglu nerth o gyfeiriad newydd i geisio gwrthweithio llwyddiant annisgwyliadwy brad Caswallon.

III. Y WRACH DDU

TUA'R adeg yr oedd Ceris yn ymbaratoi ar gyfer gwrthwynebu y gadgyrch Frythonig ddisgwyliedig o gyfeiriad Deganwy heibio Gaer Rhun a thrwy Fwlch y Ddeufaen, daeth i Lwyn Ceris fenyw nodedig a thra afreolaidd yn ei hymweliadau, a'r hon a barai gryn gynnwrf ym mhob man lle deuai, nid oblegid un math o aflonyddwch a achosai, ond oherwydd dieithrwch ei symudiadau. Ni wyddai neb fawr o'i hanes, er fod ei chartref ymhob ardal yn achlysurol, oblegid dywedid ei bod yn ymweled a llawer o wledydd Goidelig a Gwyddelig. Sibrydid y gallai gyflawni llawer o bethau rhyfedd heblaw y rhodreswaith a briodolir gennym ni yn awr i'r crwydriaid a elwir y Sipsiwn. Dywedid hefyd ei bod mewn cymundeb â'r un drwg; feallai nad honnai hynny, oblegid tueddai yr ychydig ddywedai mewn ymddiddan achlysurol, a'r ychydig ymarferion o'i heiddo, i awgrymu mai rhyw fath o dderwyddiaeth, neu addoliad hynafiaid, a geisiai ddilyn. Ymwelai â chromlechau, creigiau, a llwyni coed, ond ni chai neb un math o gyfleustra i ymuno â hi yn ei hymarferion crefyddol tybiedig, oblegid osgoai bob cyfeiriad at ddyledswydd grefyddol. Yr oedd felly lawer o goelion a thybiau yn ei chylch — megis y gallai fod yn anweledig pan y mynnai, ac y gallai symud i ardaloedd pell mewn amser mor fyr ag a ddisgrifid gan yr hygoelus gydag enghreifftiau mwyaf rhyfeddol. Proffesai ei bod yn ymweled â'r Dwyrain ac â gorllewin Ewrob: ac yr oedd ei hymddangosiad personol mor ddieithr fel yr oedd y bobl gyffredin yn credu ei bod o deulu tywysogaidd rhyw wlad bell. Yr oedd ei phrydwedd yn dywyll, ei llygaid yn dduon a gloew fel ffrwyth y berthen, ac yn fflachio hyd yn oed yn y tywyllwch pan gynhyrfid hi, ac yr oedd ei gwallt gloew—ddu hirllaes a phrydferth yn deilwng o frenhines ddwyreiniol. Er hyn i gyd nid oedd barddoniaeth y werin yn ei dyrchafu yn uwch na'i galw yn Wrach Ddu.

Oherwydd rhesymau na chyffyrddir â hwy yn bresennol nid oedd neb yn gallu dylanwadu dim arni mewn un modd ond merch brydferth a chrefyddol Ceris y Pwll. Swynai Bera, y Wrach Ddu, bawb a'i cyfarfyddai ag ofn syfrdanol, tra y toddai dylanwad Dona ach Ceris yr holl hud dewiniol a amgylchai Bera nes ymddangos o honni yn ei phresenoldeb fel dynes gyffredin, neu fel mamaeth plentyn anwylgu ar yr hon y rhoddasai holl serch ei henaid. Wedi i Bera ymddangos yn Llwyn neu Bwll Ceris bu y cynnwrf arferol ymhlith y gwasanaethyddion, ac yr oedd amryw wahanol dybiau ynghylch natur ei hymweliad. Aeth hi yn gyntaf i ymgrymu yn y dull mwyaf dwyreiniol o flaen cromlech fawr ddwbl oedd yn agos, ac yna daeth i gyfeiriad y Llwyn. Erbyn hyn yr oedd ei hymweliad yn hysbys i Geris, yr hwn a frysiodd yn bryderus i ofyn i Bera yr achos o'i hymweliad; oblegid ers peth amser nid arferai hi ymweled a neb heb fod ganddi neges neilltuol.

"Wel, Bera," ebai Ceris, "beth a'th gynhyrfodd i ddod i'r Llwyn yr amser yma? A wyt ti'n dwyn newyddion da, ynte drwg dy ddarogan?"

"Daeth drwg o'r gogledd," oedd yr ateb, "enciliodd y da tua'r môr."

"Dywed dy neges ar frys," meddai Ceris, "a ydyw y Brython wedi croesi afon Gonwy?"

"Mae'r Brython â'i fwa yn ei gawell," ebai Bera, "cyllell y bradwr sydd wedi ei dadweinio."

"Hwda di, Bera," meddai Ceris, "paid di a thywyllu ymadrodd, trwy ei wisgo mewn damhegion. Paham y sonni am frad, a'r Brython yn aros yn ei babell a'i fwa yn ei gawell?"

"Yr haul a fachludodd a'r lleuad a dywyllodd," ebai Bera, "y Brython sy' ddiofal oherwydd i'r Goidel droi y Fflamddwyn yn erbyn ei frawd."

Troes Ceris yn sydyn a galwodd ar un o'r moelion, gan orchymyn, — "Dos a rhed i Lwyn Onn, a gofyn i'r Esgob Moelmud frysio yma." Yna troes at Bera, a dywedodd, —

"Daw'r Esgob yma, a gwae di os wyt yn twyllo."

"Dengys y ffrwyth natur y pren," atebai Bera, "a gwae y dyn nad adwaen ffug pan brofo."

"A glywaist ti," meddai Ceris, "pa bryd y dychwel Bran o'r Werddon?"

"A welaist ti seren yn esgyn wedi iddi ddisgyn? Y lleuad lywodraetha wedi machlud haul."

"Bera," ebai Ceris, gan droi ati, a'i hannerch yn ddifrifol, "Paid a dy gellwair. Nid wyf fi am oddef brudio yma. Goleuni ac nid tywyllwch sy'n gweddu'n oreu dan bob amgylchiad."

"Nid brudio na dewinio yr ydwyf, Ceris," atebodd hithau yn llawn mor ddifrifol; "os coleddir Caswallon yn awr, ni ddychwel Bran byth. A glywaist ti'r ddiareb — 'Traed wna draed gerdded?'"

IV. YR ESGOB MOELMUD

CYN i Geris allu ateb Bera ymddangosodd yr Esgob. Cydnabu bresenoldeb y Wrach Ddu, a throes at Geris fel un yn disgwyl am wybod y rheswm paham y cyrchwyd ef i wyddfod derwyddes mor nodedig yn ei gwrthwynebiad i gymdeithas crefyddwr. Cyfarchwyd ef gan Geris, yr hwn a frysiodd, fel ei arfer, at ei bwnc heb ymdroi.

"Anfonais atat, Moelmud," meddai, i ofyn i ti ddeongli daroganau Bera yma, rhag ofn fod ganddi neges bwysig i'w thraethu a minnau yn analluog i'w deongli. Mae wedi cyfeirio, 'rwy'n meddwl, at fradwriaeth Caswallon: ac, os wy'n deall, mae'n darogan na ddaw Bran yn ôl i Fon. Ni fuaswn yn anfon atat oni bai fod yr hyn mae hi yn ddweyd yn cyffwrdd â'r amheuon gyffyrddaist ti â hwy y dydd o'r blaen."

"Bera," ebai'r Esgob, gyda'r difrifoldeb arferol a nodweddai ei lais a'i edrychiad, "gwna iawn, ac addaw benyd am dy esgeulusdra gyda moddion Cristionogol, ac edifarha cyn dy esgymundod gan allu mwy nag awdurdod eglwysig. Hysbysa i ni yr oll a wyddost, oblegid y mae dy deithiau a'th gyfrwystra yn dy alluogi i ddewinio, fel tylwyth Scefa gynt; ond gwylia rhag cael dy rwygo gan y demon sy'n llygru dy fywyd â'i dderwyddiaeth a hud ei ddewiniaeth."

Ni fu geiriau yr Esgob heb eu heffaith ar Bera, oblegid troes ei harddull o lefaru i siarad eglur, heb ddameg na diareb. "Moelmud," meddai, " nid oes dwyll ar dy wefus, na rhagrith yn dy fywyd; am hynny dywedaf yn eglur—mae Caradog ar goll, a Chaswallon y bradwr yn casglu gwyr gwylltion mwnglawdd y gogledd i rwystro dychweliad Bran, ac i sefydlu awdurdod y Brython ym Mon, a lledaenu mynachaeth Frythonig dros y wlad i gyd.'"

"Syrthied dy eiriau i'r ddaear," meddai'r Esgob, " a safed mynachaeth seml y Goidel fel creigiau'r Eryri."

Wrth glywed dymuniadau yr Esgob yn cael eu traethu cynhyrfodd ysbryd Bera gymaint o'i mewn nes iddi godi dwylaw a gweiddi,—

"Taweled Dofydd bob storm a chynnwrf, a thafled derwyddiaeth ei mantell wen dros y byd (fel yr oedd gynt, cyn i ymryson a ffug losgi'r llwyni sanctaidd).

Ni chymerwyd sylw o ebychiad y Wrach Ddu, oblegid caled oedd yr ymadrodd i deimladau yr Esgob a Cheris. Troes Ceris at Bera, ac mewn dull tra chwyrn gorchymynnodd iddi fyned i'r gegin, a chymeryd gofal rhag tramgwyddo Dona.


V. DONA

ER mwyn i'r stori fod yn fwy dealladwy bydd yn rhaid egluro rhai pethau a ymddangosant fel yn cymylu yr hanes, a hynny a wneir fel bo'r cyfleustra.

Dona, fel y sylwyd, oedd ferch Ceris. Hi oedd unig blentyn ei mam, fel yr oedd ei mam yn unig blentyn ei mam hithau. Bu farw mam Dona yn fuan ar ôl ei geni. Bu farw hefyd daid a nain y ferch amddifad: ac felly yr oedd hi yn awr yn etifeddes dwy randir helaeth-un ar lan y Fenai, a'r llall yn ymylu ar Draeth Coch. Yr oedd yr etifeddes bellach ym mlodau ei dyddiau-yn dal a golygus ei pherson, ei phrydwedd yn oleu, ei gwallt yn grych ac yn eurliw, a'i llygaid gleision yn fywiog, llawn o arwyddion deall cryf; a charedigrwydd hudolus yn argraffedig yn ei holl edrychiad. Banon oedd heb un yn ail.

Bu ei thad yn dra selog yn ei dygiad i fyny, ac yn ei ofal i feithrin ei ferch yng nghrefydd seml y tadau Goidelig, ond yr oedd ei hannibyniaeth a'i rheswm goleuedig yn creu ynddi beth anfodlonrwydd yngwyneb y ffaith fod yr addoliad Goidelig mor oer a ffurfiol yn fynych. Yr oedd sibrydion wedi cynhyrfu llawer arni pan y disgrifid wrthi y bywiogrwydd crefyddol a'r sêl ddi-baid a nodweddai fangorau y Brythoniaid, yn enwedig Bangor Isgoed. Hiraethai am ymweled â rhyw fangor, er nad oedd yn ei meddwl awydd i ymadael o'i Chil grefyddol ei hun. Ond nid hynny oedd prif achos y cynnwrf meddyliol oedd wedi ei meddiannu. Ers amser maith yr oedd meudwyaid Brythonig wedi ymwthio i amryw gilfachau yn y mynyddoedd, ac yn ddiarwybod iddynt eu hunain ac eraill, yr oeddynt wedi peri llawer o gydymdeimlad rhwng y cynfrodorion Goidelig a'r goresgynwyr heddychol, y rhai, gan arferyd eu dysg a'u medrusrwydd, a sefydlasant ddosbeirth lle y dysgid Goidelod ieuainc mewn gwahanol ganghennau dysg a chelf. Y meudwyaid oedd athrawon cyntaf, neu flaenfyddin, yr adfywiad Brythonig cyntaf.

Yr oedd Maelog ab Emyr Llydaw wedi priodi Goideles o Fon, ac wedi ymsefydlu ar etifeddiaeth ei wraig. Iestyn ap Maelog a ddaeth i gydnabyddiaeth â Dona oherwydd ei chyfathrach a mam Iestyn. O'r gyfathrach a'r gydnabyddiaeth tarddodd cydymdeimlad cryf rhwng Dona ac Iestyn.

Wedi agor peth ar y ffordd a arweiniodd i gysylltiad agosach dygir i sylw pellach y Wrach Ddu oedd yn disgwyl cael myned i bresenoldeb Dona. Pan gymerwyd Bera i ystafell Dona, brysiodd ymlaen heb seremoni yn y byd, a chofleidiodd Dona gan ddefnyddio y geiriau mwyaf serchoglawn i ddisgrffio ei theimlad,-

"Mo choluman gheal " (Fy ngholomen wen), meddai; " A' Bhean mo ghaoil ar Móna tir: (Y Fun deg o Fon dir); AIo chridhc, m'anam; (Fy nghalon a fy enaid)."

"Taw, taw, Bera," meddai Dona: eistedd i lawr, a dywed dy hanes heb gyfeirio ataf fel pe bawn faban. Lle buost ti mor hir? Yr oeddym wedi dy golli; lle buost ti?" "Bum yn chwilio, ond heb gael. Mae'r llwyni yn darfod yn llwyr, a'r cromlechau yn esgeulusedig: y crugiau coffa heb enwau arnynt; a'r meini hirion yn syrthio i'r llawr." "Bera, Bera, 'rwy'n synnu wrth dy glywed yn udo fel ci wrth weld y lleuad. Pa bryd y meithrini reswm, ac yr ymddygi fel gwraig ddoeth? Anghofia'r pethau gynt, a chroesawa heddyw. Paham yr hiraethi am yr amhosibl, ac y gweiddi ar ôl yr hyn ni ddychwel?"

"Mae dydd y gofwy yn nesáu," oedd ateb ffyrnig Bera, " mae'r Cristionogion gledd ynghledd, Goidel a Brython yn difa cu gilydd fel dwy ddraig. Fe ddychwel' y Derwydd o'r gorllewin, a'r llwyni a dyfant eto."

"Nid oes sail i dy obaith, O Bera; daw'r derwydd yn ôl pan gyfyd yr haul yn y gorllewin, ac y machluda yn y dwyrain. Os oes anghydfod rhwng Goidel a Brython yn awr, daw unwr i wneyd un mawr o'r ddau."

"Mae Mon yn rhanedig," atobodd Bera, " o ble daw undeb?"

"Daw undeb gyda newydd-deb; un ddeddf a ladd, ac un arall sy'n bywhau. Mae'r hen yn marw i roi bywyd yn y newydd. Bu mynachaeth Goidelig yn angau i dderwyddiaeth; ond fe gynydda Cristionogaeth bur fwyfwy yn y goddefiad sydd yn bywhau."

"Mae rhywun heblaw dy dad wedi dysgu goddefiad i ti," ebai Bera, wedi iddi anghofio ei hun. " Gwylia rhag iddo dy weled di yn Frythones. Mae'r bobl gymysg yn amlhau." Ni chynhyrfwyd mo Dona: ond yr oedd Bera yn amlwg lidiog, a chydag ymdrech y gallodd barhau yn ymddiddan mewn cyfeiriad arall.

"A fuost ti yn y Werddon, Bera?" gofynnai Dona; " a oes yno dderwyddon yn aros o hyd?"

"Nid oes yno dderwyddon, ond mae yno ddigon o dderwyddiaeth dan gudd; a'r beirdd yno fel yma yn galw ar yr hen dduwiau, ac yn tyngu i'w henwau yn llithrig a barddonol." "Mae yn anodd lladd hen arferion," ebai Dona.

"Ydyw, mor anodd a lladd derwyddiaeth," atebodd Bera.

VI. PENBLETH YR ESGOB

NID oes angen am adroddiad yma o'r ymddiddan fu rhwng yr Esgob a Cheris, oblegid ceir eglurhad wrth i ni ddisgrifio yr hyn ddilynodd eu hymgynghoriad. Aeth Ceris ymlaen gyda'i ddarpariadau gyda mwy o ddifrifoldeb a sêl nag o'r blaen, ac aeth yr Esgob Moelmud tua Llwyn Onn gan benderfynu ar unwaith fyned i Gil yr Esgob Dyfnan, lle yr hyderai gael mwy o hysbysrwydd ynghylch symudiadau cyflym Caswallon, yr hwn ni adawodd amser i amryw o benaethiaid yr Ynys addfedu eu penderfyniadau eu hunain, ond syrthio bron yn ddiarwybod iddynt eu hunain i ddilyn cynlluniau unbenaethol y trawsfeddiannwr.

Hysbyswyd Moelmud yn yr holl gyfrinion gan Ddyfnan, yr hwn fuasai ar ymweliad â Chyfarwydd yn ei Lech. Yr oedd y Sarff—fel y disgrifid y pennaeth cyfrwys hwnnw—wedi ei ddal yn ei hen gyfrwystra gan un mwy cyfrwys nag ef ei hun; neu yr oedd yn gweled mai wrth ddilyn Caswallon y cadwai ei ben, ac yn ol pob tebyg ychwanegu at ei ddylanwad ei hun ar draul rhai penaethiaid a geisiasant wrthsefyll Caswallon yn ardaloedd Medd a mannau eraill yng nghylchoedd Am-loch. Clywodd Moelmud sibrydion am ysgarmesau gwaedlyd yn Rhyd y Galanas, Bryn y Cyrch, Cerrig y Llefain, a mannau eraill. Aeth yr Esgob Moelmud i Glorach ac mor agos ag y gallai i Dre'r Beirdd ynghyfeiriad Maen Addwyn. Yr oedd llethrau'r mynydd yn y cyfeiriad hwnnw yn orchuddiedig gan wersylloedd pleidwyr Caswallon, y rhai, meddid, oeddynt ar ymosod ar Benmon Llugwy. Yr oedd tramoriaid y Dafarn Eithaf hefyd, â'u bryd ar ymbaratoi i ymsymud yn y cyfeiriad o'r hwn y gellid bwgwth hyd yn oed Llwyn a Phwll Ceris.

Cafodd Moelmud lawer o wybodaeth, ond ychydig gysur. Yr oedd congl orllewinol Mon yn Goidelaidd i'r carn, ac nid oedd amheuaeth ynghylch pleidgarwch Goidelod glannau y Fenai i'r rhai yr oedd Arfon ac Eryri yn gadarnleoedd anorchfygadwy. Ond sut yr oedd modd cylymu y llwythau hynny ynghyd i geisio codi mur yn erbyn y rhyferthwy Brythonig a fygythiai Fon i gyd? Y cwestiwn yna oedd yn llenwi meddwl Esgob Llwyn Onn ar hyd ffordd ei ddychweliad i fin y Fenai. Beth fyddai canlyniad ymgyrch Caswallon? A oedd poblogaeth gymysg gogledd Mon am drechu y Goidelod a'u gwneyd yn werin i'r Brythoniaid gorchfygol? Pa effaith gai y goresgyniad Brythonaidd posibl ar grefydd Goidelod Mon? Yr oedd atebion wedi eu rhoi eisoes i rai cwestiynau yn y mân oresgyniadau oedd yn prysur Frythoneiddio holl wlad gogledd Mon, ac, wele, y don yn codi o gyfeiriad annisgwyliadwy, ac yn bygwth parthau eraill dros y Fenai a dybid oedd yn noddfa ddiogel o'r tu ol i gaerfeydd mynyddig Arfon a'r Eryri, gyda Mor y Werydd yn cadw drws cefn agored.

Nid oedd Moelmud erioed wedi teithio ymhell o ororau Mon, oblegid yr oedd efe yn ymbleseru mwy gyda'i lyfrau a'i ddyledswyddau crefyddol, yn hytrach nag yng nghynllunio mesurau ymosodol neu amddiffynnol o natur y rhai angenrheidiol i sefyllfa bresennol y wlad. Er ei fod wedi cychwyn oddi cartref yn y bore i archwilio sefyllfa ac amgylchiadau oedd yn cynhyrfu rhan bwysig o'r Ynys, ac wedi casglu peth gwybodaeth, eto yr oedd yn awr yn dychwelyd heb un gannwyll i oleuo fel cynhorthwy i Geris i gynllunio gwrthwynebiad i ymosodiad Caswallon ar ryddid Goidelod Mon. Yr oedd Ceris yn cerdded wrth ei ochr ers rhai munudau cyn iddo ddeffro o'i fyfyrdod i bresenoldeb ei gymydog.

VII. MELLDITHION BERA

"HA, Bera," ebai Ceris ar ei ddychweliad o hebrwng Moelmud i'w daith, " gobeithio nad wyt ti ddim wedi swyno Dona â'th dderwyddiaeth gyfareddol. Ond o ran hynny y mae hi wedi ci selio yn rhy ddwfn yn y wir grefydd gan Moelmud, i dy hud di beth bynnag ei llygad-dynnu."

"Yr hen a ŵyr a'r ieuanc a dybia, oedd ateb parod Bera, "pwy a'th osododd di yn frawdwr i benderfynu pwy sydd ddall a phwy sy'n gweled? Beth bynnag ddywedir ynghylch crefyddau, fy nghrefydd i yw'r henaf."

"le," meddai Ceris, "ond mae'r Gair yn dweyd wrthym fod yr hen bethau wedi mynd heibio, a bod pob peth yn cael ei wneyd o'r newydd." "Os yw dy resymeg di yn iawn, Ceris, mae tymor dy fynachaeth dithau ar ben, oblegid y mae'r meudwyaid yn parotoi y wlad i dderbyn mynachaeth newydd y Brython."

"Ni pherswadir fi byth i ymostwng dan iau y Brython na'i fynachaeth; gwell fyddai gennyf fi fynd i'r Werddon at dy deulu di i ddysgu sut i gasglu ffugrawn y deri efo derwydd beiswen â'i gryman aur."

"Tolbheum! Tolbheum!" (cabledd, cabledd), gwaeddai Bera, gyda'i dwylaw i fyny fel un hollol ddychrynedig, heb allu dweyd un gair yn ychwaneg.

"Fy nhad! fy nhad," protestiai Dona, "yr oedd ein cyndadau yn addoli fel ninnau yn eu dull eu hunain." "Cogio mae Bera," ebai Ceris ci thad, " gwyddost ti hynny." Ar ol dwedyd hynny troes at Bera, gan ofyn iddi,—

"Beth wyt ti am wneyd, Bera, yngwyneb gwrthryfel Caswallon? Os medri di rywbeth, yrŵan y mae i ti ddangos derwyddiaeth neu ddemonaeth, neu beth bynnag y gelwi di goelgrefydd farw'r hen bobl."

"Dos di a Moelmud i Lech y Cyfarwydd i edrych beth ddywed y Sarff wrthych," ebai Bera.

"Pam,—beth y sonni di am y Cyfarwydd? A welaist ti o? Na, i ba beth yr awn ato fo?"

"Mae'r Sarff," ebe Bera, " wedi ei swyno gan Gaswallon, ni wrendy rin neb arall."

"Yr wyt yn adrodd dychymyg, neu yr wyt yn rhoi dy enau at wasanaeth yr un drwg," atebodd Ceris yn ddigllon, gan fyned allan.

"Bera," ebai Dona, " paid temtio fy nhad. Mae yn bryderus iawn. Os gwyddost ti rywbeth, neu os medri, helpa di ni ar adeg fel hyn: os—os ydym yn peidio cyfeiliorni wrth apelio atat."

Taenodd gwen ddieithr a rhyfedd dros wyneb y Wrach Ddu, ac ar ol peth ymdrech meddwl a anffurfiodd ei gwedd, atebodd, - "Shatan dhu (Satan ddu), mi regaf Gaswallon er fy mwyn fy hun. Af i ben y Wyddfa, a galwaf ar Idris a Rhita Gawr i goitio, a bydd cerrig y chwareu yn chwiban dros y Glyder a'r Tryfan, ac yn neidio dros y Fenai nes syfrdanu goblynnod Mynydd Dyryslwyn. Galwaf ar Afanc is Ogwen, Sinnach Coch y Gwrhyd, a Chidwm y Mynyddfawr; a chasglaf ynghyd Williaid y Fawddwy a'r Aran, a chreaf ddychryn ymhlith holl Frythoniaid y bröydd, fel y byddo i wich y Carlwni o Ddinas Emrys droi wynebau yn dduon."

"Bera, Bera, paid a rhegi. Gweddïa Dduw-y Duw Mawr, a Christ y Gwaredwr. Efe oedd Duw ein tadau, beth bynnag oedd ei enw cyn ei ddatguddio i ni yn y Mab. Byddi di yn ei alw yn Ddofydd; gweddïa arno; ysgatfydd Efe a ddofa y ddynoliaeth wyllt sy'n dy yrru di yn wallgof."

Heb ddweyd un gair ymhellach aeth Bera ymaith, ac nis gwelwyd hi gan Dona na neb ym Mon, hyd nes y torrodd yr ystorm allan, ond nid gyda'r canlyniadau a ddisgwylid gan Bera.

Pan ddychwelodd Ceris i'r Llwyn, cafodd Dona yn synfyfyriol heb ond ychydig awydd i ymddiddan gyda'i thad, yr hwn a ofynnodd iddi pa le yr oedd Bera. Hysbysodd Dona ef o'r holl ymddiddan fu rhyngddi a Bera; ac o ymadawiad sydyn honno heb gynnyg gair o eglurhad.

"Y greadures wallgof," ebai Ceris, "i ble'r aeth hi, tybed?"

VIII. CYNGOR YR ESGOB

GWR astud oedd Moelmud yr Esgob,—gwr araf ond sicr yn ei gasgliadau. Yr oedd arferion a swyddogaeth Ceris yn gofyn iddo fod yn gyflym yn ei feddwl a'i symudiadau. Fel y dynesai yr hwyr arddangosai Ceris beth anesmwythdra oherwydd distawrwydd Moelmud yn ei ddwfn fyfyrdod. Nid oedd pesychiad na thwrf traed Ceris yn effeithio dim i dynnu Moelmud oddiar lwybr ei fyfyrdod a ddechreuasai ei ddilyn wedi iddo unwaith gael gafael ar ben y llinyn oedd debyg i'w arwain at ei nod.

Fel y neshaodd at Lwyn ei gymydog dechreuodd ei wedd newid, a thaenodd gwên o foddhad dros ei wynepryd, ac yn fuan ymryddhaodd oddiwrth faich ei ysbryd, yr hyn a arwyddoceid gan yr uchenaid a ollyngodd, yr adeg y canfu ei gyfaill wrth ei ochr.

"A wyt ti yma, Ceris? Mae'n dda gennyf dy weled yma heb i mi orfod mynd ymhellach, oblegid mae'n bryd i mi fod yn fy nghell."

"Beth fu canlyniad dy ymchwil, Moelmud? Ai heddychol dy ddychweliad?"

"Na," ebai Moelmud, "mae y rhwyd wedi ei thaenu yn fforddiol iawn: ac nid ynfyd Caswallon, er fod ei yriad yn gyflym."

"Beth a weli di? A oes oleuni?"

"Ychydig, ychydig iawn. Os diwedda Caswallon fel y mae'n dechreu, bydd Mon yn cydnabod penarglwyddiaeth y Goidel-Frython yn dra buan. Er fod ychydig wedi ceisio gwrthsefyll Caswallon, ac wedi ymladd yn lew yn amddiffyn eu haelwydydd, yn enwedig rhwng Mynydd Dyryslwyn a'r môr, eto gellir dweyd fod yr ymostyngiad yn gyffredinol."

"Ond, aros di, Moelmud, mae yna ddarn go lew o Fon heb ei thrwytho gan ddieithriaid fu bob amser yn ffynhonnell anghysur i'r hen frodorion; ac heblaw hynny mae Arfon a'r Eryri yn gadarnle oesol i'r rhai ymladdant dros eu hannibyniaeth."

Atebodd Moelmud,—"Yr wyf fi, Ceris, wedi myfyrio llawer ar ein sefyllfa, cyn i Gaswallon fradychu yr ymddiried oedd gennym ynddo, a bob amser deuwn i'r un penderfyniad ag y daethum iddo brydnawn heddyw-sef y bydd raid i ni, yn hwyr neu hwyrach, ymostwng i'r Brython. Mae ymddygiad Caswallon wedi dwyn yr anocheladwy ugeiniau o flynyddoedd yn nes atom. Dyna hanner Mon bron yn Frythonaidd mewn undydd unnos. Yr unig beth o bwys a arafai olwynion cerbyd Caswallon fyddai goresgyniad Mon gan Wyddyl o'r Werddon dan arweiniad Bran: ond nid yw y gyfathrach rhwng Bran a'i fab ynghyfraith yn ymddangos i mi yn dueddol i arwain i ymgyngreiriad safadwy iawn. Tra bydd drws ein cymundeb â'r Werddon yn agored gallwn lawenhau, ond cyn gynted ag y gall Caswallon daflu ei esgid dros Gulfor Glasinwen bydd haul annibyniaeth Mon wedi machlud."

"Gallwn ni yn Mon wneyd rhywbeth," atebodd Ceris, " daw cochion yr Eryri trwy y bylchau fel gwenyn a byddant fraich i feib Mon."

"Taw son am fylchau, nid oes namyn un bwlch trwy'r hwn y mae'n bosibl i gynhorthwy i Fon fod yn effeithiol, a hynny ddim ond dros amser byr. Gorfydd i ti arfer dy ddoethineb, a defnyddio dy nerth i wylio symudiadau y Brython sydd a'u bryd ar ruthro i lannau y Fenai drwy Fwlch y Ddeufaen. Bydd digon o waith i'r Afanc wylio Bwlch y Tryfan. Bydd gorfod i Gidwm y Mynyddfawr aros adref i edrych ar ol ei fylchau rhag i feibion Dunodig ac Ardudwy ddifrodi tir Machno a Dolwyddelan, a goresgyn Lleyn. Felly nid oes yn aros ond Serigi o Ddinas Emrys."

"Ni freuddwydiais i fod y perygl mor fawr," ebai Ceris, " wrth dy wrando di gallwn feddwl fod y diwedd wrth ein drysau. A ydyw yn bosibl i'r Brythoniaid ymuno fel un gwr, a gwneyd un ymosodiad mawr gorlethol arnom?"

"Dyna'r posibilrwydd sydd yn ein bwgwth. Nid yw Caswallon er ei holl lwyddiant i gyd ond un ran fechan o'r perygl. Gwn y gwnaf dy synnu pe bawn, fel un sy'n caru heddwch o flaen galanastra rhyfel, dy gynghori i arfer dy ddylanwad i geisio cadoediad, os try Caswallon ei fryd tuag yma, fel mae'n sicr bellach o wneyd, er mwyn i ni wybod ar ba delerau y cawn ni feddiannu ein hetifeddiaeth a'n breintiau Goidelìg yn y dyfodol."

"Yr ydwyf oedd ateb Ceris, "yn meddwl fy mod yn gweld y perygl o fod yn orhyderus. Os ceisiwn gau un drws, mae perygl i ni anghofio drws arall. Nid doeth bob amser fydd tynnu un mur i lawr i gael cerrig i godi mur arall. Beth yw dy gyngor di dan yr amgylchiadau?"

"Ein nerth yn bresenol yw aros yn llonydd. ' Safwn ac edrychwn ar iachawdwriaeth yr Arglwydd,' oedd cyngor Moses gynt. Disgwyliwn fel rhai yn ofni mewn hyder yn y gallu uchaf. Mae'n ddyledswydd arnom ymbarotoi, ond y drws arall sy'n arwain i ddiogelwch amlaf. Byddwn barod i wneyd ein dyledswydd. Byddwn barod hefyd i wrando beth ddywed yr Arglwydd wrthym. Duw a'th fendithio, Duw a agoro ein deall, ac a'n bendithio â doethineb."


IX. ADDEWID IESTYN

MAE'N bryd dychwelyd at gymeriadau eraill, hanes y rhai, er nad mor bwysig ag hanes y personau a enwyd, sydd er hynny'n angenrheidiol i daflu goleuni i gyrrau pwysig, fydd ddyddorol hefyd i rai na allant ddilyn, neu gael cyfleustra i ddarllen llyfrau yr hen hanes, a deall achosion ac effeithiau y chwyldroad a ddechreuodd y cyfnewidiadau a greodd Fon newydd o ddefnyddiau cymysg.

Dygwyd eisoes ger bron y darllenydd yr arwres, yr hon er na ellir ei dyrchafu i sedd Buddug, eto yn ei chylch cymhariaethol fychan fu yn foddion i liniaru llawer ar ymrysonau crefyddol oedd yn dechreu cynhyrfu Mon yng ngwawrddydd Cristionogaeth mewn gwahanol ffurfiau eglwysig. Yr oedd Mynachaeth seml y tadau Goidelig wedi treiddio i orllewinbarth pellaf yr Ynys, ond, fel yr awgrymwyd, yr oedd blaenfyddin yr eglwys neu y fynachaeth Frythonig, mewn ffurf feudwyaidd, wedi dechreu lefeinio y toes, ac wedi llenwi rhai â chywreinrwydd ynghylch trefniadau ac arferion newyddion, fel y disgrifid defodau yr Eglwys Dywysogaethol Frythonig a'i harferion crefyddol. Un o'r pethau hynny oedd arfer y cylchoedd cerddorol mawreddog a ddilynid ym Mangor Isgoed: ond nid oedd hynny ond megis sibrwd pell o'i gymharu ag effaith dyfodiad y cenhadon Brythonig, gan y rhai y dygwyd crefyddwyr Goidelig Mon wyneb yn wyneb ag adfywiad crefyddol a barodd gyfnewidiad mawr yng Nghymru.

Fel y crybwyllwyd, yr oedd y dreftadaeth a etifeddodd Dona ar ôl ei mam yn terfynu ar etifeddiaeth y llanc Iestyn a enwyd o'r blaen, a naturiol oedd iddo ef a Dona ddyfod i gydnabyddiaeth agos, yn enwedig oherwydd i Geris fel gwyliwr y goror, a'r dyledswyddau ynglŷn â hynny, fod dan orfodaeth i osod etifeddiaeth Dona dan ofal ac arolygiaeth Iestyn.

Er nad oedd y ddau ieuanc wedi bod yn ddigon agos i'w gilydd i wybod ond ychydig ynghylch y gwahaniaeth oedd rhwng eu harferion crefyddol, eto, fel y mae haearn yn hogi haearn, yr oedd y naill trwy reddf cydymdeimlad yn gallu amddiffyn y llall, pa bryd bynnag y deuai y trydydd i feirniadu ac ymosod.

Hefyd yr oedd eu tueddiadau yn gydnaws, ac oherwydd hynny edrychai y naill fel y llall at ddydd eu cyfarfyddiad gyda disgwyliad hyfryd; ond beth bynnag oedd yn achosi y dyddordeb cynyddol rhyngddynt nid oedd un o'r ddau yn awyddus i ymarfer cymaint o gywreinrwydd fel ag i ewyllysio agor y blwch oedd a'i gynhwysiad mor beraroglaidd iddynt. O du Iestyn nid oedd ei sefyllfa ef yn gyfryw fel y gallai obeithio na disgwyl i foneddiges o radd Dona ymostwng i fod yn ddim amgen nag yn etifeddes oedd yn rhwym yn unig i gydnabod Iestyn fel goruchwyliwr ei hetifeddiaeth. Yr oedd yn ffyddlon yn ei swydd ac yn cydnabod ei ymrwymiad.

Yr oedd achos eu cyfarfyddiad presennol yn wahanol iawn i bob achos arall, oblegid yr oedd y wlad yn gynhyrfus, a sibrydion fel fflamau tân yn llyfu sofl a chrinllyd wellt. Yr oedd peryglon bygythiol fel mellt yn rhuthro drwy'r ffurfafen oedd megis ar ymollwng yn nhwrf y taranau a gynhyrfai yr Ynys.

Mae'n wir nad oedd neb o deulu y Llwyn yn llewygu gan ofn. Yr oedd yr Esgob a Cheris wedi trefnu tŷ eu cymdeithas oreu y gallent, ac yn barod i wynebu yr amgylchiadau. Yr oedd Dona yn ymollwng yn dawel ar allu a doethineb ei thad a'i chynghorwr ysbrydol: ac o'r tu ôl i'r cwbl yr oedd presenoldeb ei chyfaill ieuanc yn rhoi hyder anesboniadwy yn ei chalon, oblegid yr oedd rhywbeth cryfach na ffydd yn nylanwad y Goidel-Frython gyda phobl gymysg gogledd Mon, yn peri iddi, yn gyffelybiaethol, ei gofleidio yn ei mynwes.

"Mae'n dda gen' i dy weled," oedd croesawiad cynnes Ceris; " mae rhywbeth yn sisial ynof y dylem fel cyfeillion, ar adeg fel y presennol, nerthu ein gilydd trwy wneyd pob peth allom i gysuro ein gilydd. Nid wyf fi yn amheu gonestrwydd neb, er fod brad yn creu siomedigaeth, ym mynwes llawer un. Sut bynnag y bydd i bethau droi allan, yr wyf yn ymddiried ynot ti am ddiogelwch personol Dona fy merch, beth bynnag ddaw o'n heiddo, os bydd i Ragluniaeth weled yn dda fy nghymeryd oddiwrthi. Nid wyf yn gofyn i ti ei hamddiffyn—gwn y gwnei."

"Gwnaf, Ceris," meddai, gyda'i waed yn cochi ei wyneb, "gwnaf gyda phob diferyn o fy ngwaed." Neidiodd Dona ar ei thraed, ac yn ddiarwybod iddi ei hun, cofleidiodd Iestyn, tra'r oedd Ceris yntau yn gwthio ei law i law ei gyfaill: ac felly seliwyd cyfamod rhwng y tri na thorrwyd mo honno.


X MEUDWY YNYS LANACH[2]

WEDI'R arddangosiad a ddisgrifiwyd uchod, trodd Ceris ab Iestyn a gofynnodd am wybodaeth ynghylch helyntion oedd yn cynhyrfu yr Ynys yn y pellder; " oblegid," meddai, " yr wyf wedi fy nghloi yma i wylied symudiadau Brythoniaid Deganwy a Llanrhos. Buaswn wedi morio i Aml-och a Phorth Llechog, os nad ymhellach, oni bai y perygl a nodais. Beth ddywed Maelog dy dad?"

Rhoes Iestyn eglurhad fel hyn,—"Mae fy nhad mor bryderus ag wyt tithau, oblegid mae'n ofni rhysedd Caswallon gartref, a rhuthr i Fon dros Gonwy gan Frythoniaid o'r dwyrain. Yr ydym yn gobeithio yr ymdawela pethau, ac y bydd i Goidelod gorllewin Mon ddyfod i gyd-ddealltwriaeth â Chaswallon heb atafaelu etifeddiaeth neb, ond iddynt gydnabod arglwyddiaeth Caswallon, ac ychydig gyfnewidiadau ddeillia o hynny. Os derbynnir telerau Caswallon gan y Goidelod, ac os peidia Goidelod Eryri ruthro o'r mynyddoedd ac ymosod ar Gaswallon oblegid ei frad, ac i ysbeilio, y mae gobaith y cawn heddwch; ond os digwydd yr hyn a ofnir gan lawer bydd yn ymladdfa waedlyd rhwng arfoddogion o bob tu. Dyna sylwedd darogan glywodd fy nhad yn nhueddau Mathafarn Eithaf, ar y ffordd i lwyni a llechau prif ganlynwyr Caswallon."

Ychydig hwyrach yn y dydd daeth yr Esgob Moelmud i Lwyn Ceris. Yr oedd y morwr yn arolygu darpariadau ar gyfer ymweliad a Phenmon. Aeth Moelmud i gyfeiriad y Pwll, lle yr oedd y lanfa yn agos: ac er mwyn cael ymddiddan yn gyfrmaehol gyda Cheris, aeth i'r llong gydag ef, ac ar fordaith i'r man nodwyd.

Wrth fyned heibio i Ynys Lanach (Ynys Seiriol) canfuant ddieithrddyn yng ngwisg meudwy ar lan yr ynys yn dwyn baich o friwydd i gyfeiriad agorfa yn y graig gerllaw, a ddisgrifid gan un o'r morwyr fel ogof fechan lle y gallai un wneyd llety a chysgod rhag ystorm. Nid oedd y morwr wedi bod yn ymddiddan a'r meudwy, ond clywsai ei fod yn fonheddwr wedi ymneillduo o bob cymdeithas gyhoeddus i ymroddi i fyfyrdod a gweddi, ac i gyfrannu gwybodaeth a chyfarwyddyd i rai ymofynnent ag ef, yn enwedig y drylliedig o ysbryd, ac ymofynwyr am y gwirionedd.

"Moelmud," ebai Ceris, "beth yw dy feddwl di o'r meudwyaid hyn? Mae'n ymddangos i mi fod mynachaeth fel hyn yn wahanol iawn i'r hyn ddysgai Brychan a'i ddisgyblion. Yr oedd ef yn arwain a dysgu yr holl frawdoliaeth. Cyn ei amser ef yr oedd y Goidelod fel rhai yn palfalu ar bared, a phob un yn gwneyd yr hyn oedd dda yn ei olwg ei hun. Ond dysgodd Brychan y bobl i addoli,-i alw ar enw yr Arglwydd yn finteioedd neu gynulleidfaoedd. Wn i ddim i beth y mae crefydd feudwyol yn dda. Mi glywais rywun yn adrodd beth ddywedodd gwr da a wrthwynebai feudwyaeth am na allai meudwy gyfrannu bendith i neb oherwydd nad oedd ganddo neb i dderbyn bendith, tra'r ymneilltuai i anialwch anhrigianol."

Atebiad Moelmud oedd,—"Mae'n bosibl i feudwyaeth syrthio i gamgymeriad ac ymneilltuo yn hollol, heb gymdeithasu â neb o gwbl. Crefydd ddiffrwyth yw crefydd felly. Ond yr wyf fi yn deall mai pobl â neges grefyddol ganddynt yw y meudwyaid Brythonig hyn. Mae'n wir eu bod yn ymneilltuo o'r byd, fel y dywedir, ond mae y gwir feudwy crefyddol â'i neges yn y byd o hyd, hynny yw, y mae yn myned o amgylch gan wneuthur daioni. Ac fel y darllenir yn y memrwn, yr oedd Ioan yn feudwy hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel. Mae'r Brython yn ei le, ac mae'r Goidel yn ei le hefyd. Nid yw'r praidd sydd dan fy ngofal i yn gwybod fawr am fy nyledswyddau meudwyaidd i. Yr wyf yn ceisio eu dysgu a'u harwain yn eu defosiynau, a gwyn fyd pe gallwn eu dysgu a'u hegwyddori ymhob cangen o ddysg. Mae'r Brython yn gweled yr angenrheidrwydd, ac fel yr wyf yn deall, y mae'n trefnu moddion ar gyfer yr angen, gan barotoi gwyr fel gweinidogion i ddefosiwn ac addoliad; a gwyr astud i gyfrannu addysg i'r bobl."

"Yn ol dy syniad di, gan hynny," meddai Ceris, mae cynnydd mewn un cyfeiriad yn galw am gynnydd arall cyfatebol, fel y bo i'r holl gorff gynhyddu yn ei holl rannau yn o gymaint. Mae rhywbeth, yr wy'n gweld, yn y gair—'Awn rhagom' yn tybied nad ydyw heddyw i fod fel doe, nac yforu fel heddyw."

"Dyna lawer mewn ychydig eiriau. Mae y bwyd i fod o'r un natur o hyd o ran diben, ond fod yna wahaniaeth yn ei ymddangosiad, a'r dull o'i barotoi. Mae yna adfywiad crefyddol yng ngwaith y Brythoniaid selog a gweithgar hyn yn gadael eu gwlad, gan aberthu cysuron teuluaidd a chymdeithasol i ddyfod yma fel cenhadon addysg i gyflawni gwaith sy'n cael ei adael heb ei wneuthur gennym ni oherwydd rhesymau neillduol. Mae rhyw reddf oruchel yn ein gyrru i ddringo i gyfeiriad perffeithrwydd crefyddol, yn gyffelyb i'r reddf is sy'n ein cynhyrfu i chwilio ac i geisio gwybodaeth a gwelliant. Gan hynny, os yw gwaith y cenhadon hyn yn gwella a dyrchafu y Brythoniaid fel cenedl, ninnau a ddylem eu hedmygu a dilyn eu hesiampl hwy trwy fabwysiadu eu cynlluniau, neu eu dynwared yn deilwng yn ein ymdrechion i ddyrchafu ein cenedl ninnau. Mae Caswallon wedi dechreu gwaith na welir terfyn arno yn fuan, os byth: a dylem ninnau ymbarotoi i gyfarfod yr anocheladwy. Mae meudwy Ynys Lanach, pwy bynnag ydyw, fel meudwyaid y Tir Sanctaidd gynt, yn sicr o hau had a ddwg ffrwyth yn fuan, oblegid y mae'r ymfudiaeth wyllt o wlad bell yr Angliaid i ddietifeddu y Brythoniaid o'u tir yn y Gogledd yn rhwym o effeithio ar ein gwlad fechan ni; ac oni chanfyddi fel y mae uchelgais Caswallon yn debyg o'i wneyd yn ddynwaredwr yr estroniaid ac yn groesawydd i'r symudiadau gwladol newyddion, fel y gallo gael y newydd-ddyfodiaid yn gynorthwywyr iddo yn erbyn Goidelod yr Eryri, y rhai, creu holl ymdrechion, ni allant fod ond yn anghysur i ni rhwng Caswallon a hwythau? Ac i ddweyd yn eglur, gwell i ni ymheddychu â Chaswallon a cheisio y telerau ysgafnaf, na bod rhwng dau yn ymryson. Gan dy fod ar ryw neges yn y parth hwn, ac ar fin glanio, mi a gadwaf yr hyn fwriedais draethu hyd ein dychweliad i'r Llwyn."

"Ni fyddaf ymarhous," ebai Ceris, oblegid nid oes arnaf ond eisiau gwybod canlyniad neges Esgob Cil Mon yn Ninaethwy."

XI. SON AM RYFEL

YN nechreu y bennod o'r blaen gadawyd Dona gyda'i chyfaill Iestyn yn y Llwyn hyd oni ddychwelai Ceris o Gil Penmon. Er nad ydyw neges cariad i'w rhoi o'r neilldu fel ail beth, eto mae gofynion i'w hateb a allant ein gorfodi i aberthu anwyliaid, er mwyn anrhydedd uwch. Nid chwedl serch yn unig sydd gennym i'w hadrodd, ond hanes chwyldroad mawr ym Môn yn y cynfyd pell yn ôl. Hanes brwydrau a chreulonderau yw hanes ymfudiadau a chwyldroadau yr hen oesau, a rhai diweddar. Hawdd gennym godi dwylaw mewn dychryn wrth ddarllen hanes goresgyniad gwlad Canan gan yr Israeliaid, a goresgyniadau ar ol hynny yn dwyn cysylltiad â thir Israel; ac ar yr un pryd, ymhen tair mil o flynyddoedd ar ol hynny, yng nghyfnod y grefydd a'r gwareiddiad Cristionogol, yr ydym yn barod i ddawnsio a churo dwylaw wrth ddarllen hanes unplyg yn ein newyddiaduron o ddigwyddiadau cochion a duon,—trueni y gorchfygedig, a gogoniant tybiedig, ond siomedig ynglŷn â phob galanastra rhyfel gwareiddiad gamarweiniol.

Yr ydym ni yn gobeithio nad oedd goresgyniad Môn gan y Brythoniaid yn gyffelyb i rai mwy diweddar. Mae'r hen hanes yn unochrog iawn, ac wedi ei gyfansoddi mewn arddull chwedlonol anhawdd yn aml i'w deongli, oblegid y ffigyrau tywyll ddefnyddir yn y disgrifiadau, oherwydd yr awydd, a'r diben fe allai, i ddarnguddio ffeithiau i gamarwain, er mwyn dyrchafu plaid neilltuol mewn Eglwys neu Wladwriaeth.

A fu ymladd rhwng Brython a Goidel yng ngoresgyniad Môn? Do, yn ddiddadl: oblegid amhosibl fuasai goresgyn heb ddifeddiannu wrth feddiannu; ac mae traddodiadau gogledd Môn yn cyfeirio at frwydrau, enwau y rhai a ddynodant ddwy genedl. Ac ymhellach, mae cymaint rheswm dros wrthod hanes croesi y Fenai gan y Rhufeiniaid, ag sydd dros wrthod credu fod yna blaid a orchfygwyd ym Môn gan Gaswallon, yr hwn, yn ol hen hanes, a ddinystriodd y gallu Goidelig a arweinid gan Lerigi. Feallai mai mabinogi, neu legend yw y stori, ond nid yw amheuaeth o'r ffaith yn gyfystyr ag amheuaeth ynglŷn â gwerth yr adroddiad fel hanes.

Hefyd, y mae dadl ynglŷn â'r cwestiwn-Pwy oedd y Goidelod a orchfygwyd gan Frythoniaid Môn? Dywed rhai mai Gwyddyl o'r Werddon oeddynt, a yrasant ryw Frythoniaid oddiyma i wneyd lle i'r Gwyddyl goresgynnol. Mae rhestr enwau brenhinoedd Gwyddelig tybiedig Gwynedd (os cywir fel rhestr Wyddelig) yn ein taflu mor bell yn ol, fel y mae'n amhosibl derbyn yr haeriad mai ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain y daeth y Gwyddyl yma; ac nid yw yn debyg y buasai y Rhufeiniaid fuont mewn meddiant o Ucheldiroedd Arfon yn goddef i wlad fras fel Môn gael ei goresgyn gan Wyddyl o'r Werddon.

Ac nid goresgyniad bychan lleol oedd presenoldeb y Gwyddyl tybiedig yng Nghymru, oblegid y mae hanes adfywiad crefyddol neu eglwysig Dewi Sant yn profi fod crefydd Goidelig Cymru yn allu esgobol gydag eglwysi esgobol, er nad o'r un drefn a'r eglwysi Brythonig, fel y profa hanes cynhadledd fawr Llanddewi Brefi.

Ymhellach, paham y mae Cymry goleuedig yn mynnu cysylltu coedwigwyr cochion Eryri a gwylliaid cochion Mawddwy, â Gwyddyl o'r Werddon, pan nad oes unrhyw rwystr ar ffordd credu mai gweddillion y Goidelod gorchfygedig oeddynt, wedi medru amddiffyn eu hannibyniaeth ym mynyddoedd a choedwigoedd Gwynedd?

Mae cwestiwn y berthynas rhwng Cymraeg Gwynedd a'r gwreiddiau Goidelig yn gymysgedig â geiriau Brythonig yr iaith yn hawddach i'w synied a'i ddeall os derbynnir y ddadl mai Goidelod brodorol, o'r un cyff Celtig a'r Gwyddyl, oedd preswylwyr Môn cyn i Gaswallon arwain yn y goresgyniad Brythonig. Nid yw ymffrost "gwyr mawr Môn " yn eu gwaed Brythonig, a distawrwydd y werin ym Môn ers canrifoedd ynghylch eu tarddiad cenedlaethol yn profi dim, ond ei bod yn ddigon naturiol i blant y gorchfygedig, yn enwedig ar ol iddynt golli eu hen iaith, anghofio ceudod y ffos o'r hon y cloddiwyd hwy, neu y graig o'r hon y naddwyd hwy, fel y profa ymddygiad plant ymsefydlwyr Cymreig yn Lloegr, a disgynyddion Prydeinwyr yn America. Yr un ddeddf oedd yn ffurfio cenedl newydd ym Môn yng nghanrifoedd cyntaf' Cristionogaeth ag sydd hefyd yn awr yn cymysgu ieithoedd a chenhedloedd mewn gwahanol wledydd a chyfandiroedd. Cyfeiriwyd fel hyn at ddigwyddiadau mawrion sydd yn creu yn barhaus ryw ddarpariad i ddwyn oddiamgylch ryw berffeithrwydd cynyddol, os oes peth felly yn bod, annealladwy yn awr ond yng ngoleuni cannwyll fechan sydd yn taflu goleuni i'r deall trwy resymeg cyfatebiaeth. Mae y nôd anfeidrol yn annirnadwy i ni. Nid ydym yn ymwybodol o ddim ond ein bod yn symud.

Cylchoedd bychain oedd y rhai y troai Dona ac Iestyn ynddynt, ond crwn yw y cylch faint bynnag fyddo'i fesur. Ac mor sicr ag mai deddf sefydlog, yr hon na allwn ni ei newid, sydd yn ffurfio y cylchoedd, mor sicr a hynny yw fod y trefniant yn llaw Trefnydd Doeth a Hollalluog. Nid cwestiynau cyffelyb i'r rhai hyn oedd yn cynhyrfu ymchwiliad ym meddyliau y ddau ieuanc ar hyn o bryd. Yr oedd y ddau yn newyddian yn y byd yr agorwyd ei ddrws iddynt mor ddamweiniol gan yr amgylchiadau oedd yn cynhyrfu Môn. Y peth mawr yr hiraethent am dano oedd y sicrwydd i'w sefydlu yn eu cylch. Ond er gwrando llawer, a chael eu swyno gan furmuron amrywiol eto yr oedd llawer dydd a'r haul yn machludo heb roi ond ychydig o olau eglur.

Yr oedd Maelog yn ddiorffwys yn ei ymdrechion i gael gwybod beth oedd y symudiad nesaf yn debyg o fod. Yr oedd ansicrwydd fel cwmwl du yn hofran uwchben heb dorri allan yn ystorm, ac heb chwalu.

Ond o'r diwedd daeth y newydd fod Caswallon ar fedr cyhoeddi cynhadledd yng Nghlorach, ar y ffordd sy'n rhannu Môn yn ddwy ran anghyfartal gyda llinell o'r gogledd i'r de. Yr oedd gorllewin Môn eto heb benderfynu pa fodd i weithredu yng ngwyneb y ffaith gynhyrfiol oedd wedi eu hamddifadu o'u harweinydd cyfreithlon: a chan nad oedd ganddynt neb i'w gyhoeddi yn olynydd iddo yr oeddynt yn parhau ym mhenbleth ansicrwydd.

Yn dra sydyn, dechreuodd cwmwl duach na'r un a'i rhagflaenodd ymgasglu uwchben y Wyddfa, yn y ffurf o sibrydion fod llwythau cynhyrfus yr Eryri yn ymbarotoi i wrthwynebu Caswallon, ac i adsefydlu yr hen gynghrair a gylymai y llwythau Goidelig ynghyd, ym mynyddoedd Arfon a'r Eryri, ac yng ngwastadedd Ynys Môn.

XII. FFYDD AC OFN

PAN gafodd yr Esgob Moelmud y cyfleustra priodol, dechreuodd ei ymddidan neillduol gyda Cheris drwy ofyn iddo yn ddistaw, ac mewn dull gochelgar, pa bryd y gwelsai, neu y clywsai rywbeth, ynghylch Bera, y Wrach Ddu. Wedi bod yn hwyrfrydig i gredu yr hyn a glywsai, yr oedd rhyw hysbysrwydd a gawsai wedi ei argyhoeddi fod rhyw anesmwythdra mewn rhai parthau o gongl ddeheuol Môn, yn enwedig oddeutu y ffordd sydd yn arwain o Abermenai i Din Goidel gyferbyn a Dulyn yn y Werddon.

"Mae'r ddewines anesmwyth," ebai yr Esgob, "y Wrach Ddu o Endor, fel yr wyf yn deall, yn mynd o amgylch, o gromlech i grug, i aflonyddu ar y meirw, a thrwy ei swynion a'i hudoliaeth yn ceisio cynhyrfu galluoedd y tywyllwch i amddifadu Goidelod Môn o'u gallu i ddefnyddio eu rheswm, a chwilio Gair Duw, sydd megis mur o dân yn amgylchynu yr ynys, ac yn ogoniant yn ei chysegroedd; ac felly yn peryglu heddwch y wlad, a gosod brawd yn erbyn brawd i ymladd. A glywaist ti fod y coelcerth yn barod, ond fod y tân heb ei gynneu?"

"Y nefoedd fo'n gwarchodlu!" gwaeddai Ceris. " Beth ydyw cynnwrf fel hyn? Lle mae'r hwch ddu gwta? A welaist ti hi? Beth fedrwn ni wneyd? Nid ydwyf fi yn ofni ei chonsuriaeth; ond mae ei hudoliaeth yn gryf pan gyll pobl eu pennau a grwrando ei daroganau."

"Paid dithau, Ceris, ag ymollwng, rhag ofn i ti golli ymddiried yn y Gallu uchaf. Saf yn ddyn, a gosod dy wyneb fel pres yn erbyn derwyddiaeth sy'n llygad—dynnu. Mae'n rhaid i ni osod rhyw atalfa ar Bera, neu ei gyrru i'w gwlad ei hun."

"Ond, beth fedrwn ni wneyd os ydyw hi mewn gwirionedd yn gallu lledrithio, hudo, swyno, a bwrw derwyddiaeth fel sachlen ddu dros lygaid pobl. Paham, tybed, y mae hi yn cadw draw oddi yma, oblegid byddai'r hudoles (O! gwareder ni) yn galw yma ac yn cael croesaw, er y gwyddem ei bod yn rhyfygu'n annuwiol gyda'i hystumiau o flaen cromlech fy hynafiaid."

"A ymwelodd hi â thi yn ddiweddar?" gofynnai'r Esgob.

"Naddo, ar ol i mi ddweyd yn arw wrthi, am yr hyn y ceryddwyd fi gan Dona; oblegid sylwodd ar wyneb erchyll Bera cyn iddi ymadael oddi yma. Ni welwyd mohoni yma byth ond hynny."

"Mae'n bosibl iddi ymweled â'r gromlech yn ddiarwybod i ti. Ond nid yw hynny yn sicr. Mae'n sicr beth bynnag i rai ei gweled ger Crug y Fraint, ac wedi hynny yn agos i Gromlech Bodofwyr. Gwelwyd hi hefyd mewn amryw fannau ar finion y Fraint ger Bod Druidan, Tre'r Dryw, a Bryn y Bŵyn."

"Dylem fod ar wyliadwriaeth: ond yr wyf fi yn rhwym i'r ddyledswydd o wylied y Fenai."

Ar ol yr ymddiddan yma eto ni ddaethpwyd i un penderfyniad mwy nag o'r blaen. Nid oedd angen i Geris ymofyn â Dona nac â Iestyn ynghylch Bera, oblegid gwyddai na fuasai yr un o'r ddau yn ddistaw pe buasai rhyw symudiad neilltuol o eiddo y widdan gyfrwys ar adeg bwysig fel y bresennol yn wybyddus iddynt.

Y noson honno tynnwyd sylw Ceris at y ddau brif gi yn y fuarth fawr—Morgan a Chesair,-y rhai a arddangosent arwyddion eu bod ar wyliadwriaeth barhaus. Er chwilio holl amgylchoedd y Llwyn a'r borthfa, nid oedd dim neilltuol i'w glywed na'i weled, eto yr oedd y cŵn a'u clustiau yn cyflym symud yn ol ac ymlaen, a'u llygaid fel yn fflachio tân; ond y rhyfeddod yn nhyb pawb o ddilynwyr Ceris oedd yr ansicrwydd parhaus a ddangosid gan y cŵn, fel pe yn methu penderfynu o ba gyfeiriad y deuai y sŵn tybiedig a'u cynhyrfai. Er galw arnynt nid oeddynt fel arfer yn barod i gychwyn ar ymchwil: ond amlygent arwyddion o anallu, yn awr ac eilwaith, drwy ollwng allan ryw swn cwynfanus, rhwng udo a chyfarth, oedd yn peri i rai osod eu dwylaw ar eu clustiau.

Nid oedd Ceris yn dangos ofn yn y dull cyffredin o arwain y gwasanaethyddion i'r tŷ, ond yn hytrach ceisiai guddio ei deimladau mewnol gyda chyfres o eirchion a gorchymynion oedd mor anhawdd ufuddhau iddynt a phe buasent mewn iaith ddieithr. Wedi dangos ychydig dymer fygythiol, gorchymynnodd Ceris i bawb ymneilltuo, a gadael llonydd i'r cŵn. Ar ol iddo yntau fyned i'r tŷ ynghwmni Dona, edrychai yn syn ac amhenderfynol Ni roddai atebion boddhaol i ofynion ei ferch, ond edrychai i gyfeiriad y drws. Yna symudodd at y drws ac agorodd y ddôr. Dilynwyd ef gan Dona, ac aeth y ddau, heb yngan gair, a cherddasant i gyfeiriad y ddinas oedd ar lan gyferbyniol y Fenai.

XIII. YMOSTWNG I GASWALLON

PAN ymgynullodd Gogleddwyr Môn, o dan arweiniad Caswallon, wrth Ffynnon Clorach, yr oedd yno liaws yn ei gyfarfod o bob rhan o'r ynys, yn disgwyl am ymddangosiad y blaenor llwyddiannus oedd eisoes wedi creu argraff ffafriol iawn mewn amryw fannau. Cyrhaeddodd llawer o benaethiaid llwythau yn hwyrach yn y dydd oherwydd pellter y ffordd i le y cyfarfyddiad. Yr oedd llawer o ymholi ynghylch rhagolygon Caswallon ym mharthau mwyaf Goidelig o'r ynys, megis y gogledd-orllewin, y gorllewin, a glannau y Fenai. Yr un ateb oedd gan bawb. Nid oedd yno neb yn barod i godi gwrthwynebiad i gynlluniau Caswallon, yr hwn ym mlaen llaw a wnaethai yn hysbys nad oedd efe am ymyrryd dim â neb, nag eiddo undyn, os cydnabyddid ef fel pen llywydd yr ynys.

Yr oedd pob manylion i'w trefnu a'u cadarnhau yn ffurfiol yn y gynhadledd ohiriedig nesaf. Ond cyn ymwahanu galwyd enwau yr holl benaethiaid ffafriol i heddwch a chytundeb, a- rhoddwyd saith niwrnod o seibiant cyn rhoi neb ar ei lw o -ffyddlondeb i Gaswallon, er mwyn i rai oedd absennol y pryd hwnnw ddyfod i'r gynhadledd ohiriedig i roi eu cydsyniad yn bersonol, neu anfon eu rhesymau mewn ysgrif ardystiedig. Arddangosid llawenydd cyffredinol drwy bob rhan o'r gwersyll mawr a amgylchai babell Caswallon. Un yn unig oedd yn gwisgo gorchudd tristwch dros ei wynepryd. Safai Moelmud, Esgob Cil Llwyn Onn, yn synfyfyriol, ond gan ei fod bob amser o ymddangosiad myfyrgar a thawel, nid oedd neb wedi sylwi ar ei ymddangosiad prudd, nac ar hyd yn oed absenoldeb gwr mor gyhoeddus a Cheris y Llwyn, arolygydd porthladd y Pwll. Fel yr oedd brwdfrydedd yn oeri, a'r amgylchiadau yn dyfod yn fwy dealladwy, daeth absenoldeb Ceris yn bwnc pwysig, a phryder a fantellodd dros yr holl wersyll; ac ofnid y buasai ymgyrch Frythonaidd dros y Fenai yn peri cynnwrf ym Môn, lle yr oedd, yn ôl pob ymddangosiad, y Goidelod yn ymostwng i dderbyn yr iau o law Caswallon.

Yr oedd yr Esgob Moelmud yn fuan ynghanol llawer o'r penaethiaid oedd yn adnabyddus iddo, a llawer oedd yn ofni bradwriaeth ac ymgodiad Goidelig oherwydd ansicrwydd y sefyllfa, oblegid yr oedd rhai a wrthwynebasent Gaswallon yn y gogledd o'r ynys, yn deuluaidd gysylltiol â theuluoedd yn y gorllewin. Er pob ymofyn ac ymholiad ni allai neb roi y mymryn lleiaf o eglurhad. Yr oedd yr Esgob Moelmud yn sicrhau pawb nad oedd un sail i amheu gair a gonestrwydd Ceris, yr hwn, ychydig oriau cyn i'r Esgob glywed am ei ddiflaniad, a ymunasai ag ef yn y datganiad o benderfyniad i aros yn llonydd hyd onid aflonyddid arno fel gwyliwr goror ddwyreiniol yr ynys.

Dygai Iestyn, a'i dad Maelog, dystiolaethau i'r un perwyl, a chan nad amheuid ffyddlondeb Ceris i'w gyd-ynyswyr, a'i alwedigaeth gyhoeddus, ni allai neb roddi barn foddhaol ar y mater dyrus. Ni chaed un math o oleuni er i'r Esgob ac Iestyn ymweled â'r mannau tebycaf i gael hysbysrwydd ynghylch Ceris a Dona. Lle bynnag yr elent, yr oedd pawb am y cyntaf i ofyn hysbysrwydd, ond ni ellid boddloni neb gydag atebion neu ddyfaliadau. Un peth yn unig a dybid ei fod yn gywir, sef fod Ceris a Dona yn cael eu symud gan un bwriad, ond yr oedd tywyllwch caddugol yn cuddio y bwriad hwnnw oddiwrth ddirnadaeth y doethaf a'r mwyaf craff o'r dyfalwyr.

Penderfynodd yr Esgob (wedi iddo ymgynghori ag Iestyn), fyned i Gil Dwynwen, gyda dim ond ychydig iawn o obaith y cai un math o eglurhad ar ddigwyddiad mor ddyrus: oblegid er y gallasai Dona ymweled â Chil mor enwog, eto yr oedd ymddygiad dieithr Ceris yn anesboniadwy, gan y gwyddai'r Esgob na fuasai ei gyfaill yn symud o gartref ar adeg mor gynhyrfus heb y rheswm cryfaf dros wneud hynny, heblaw gwneyd felly heb ymgynghori ag ef. Troes Moelmud yn gyntaf i ymweled âg Esgob Cil Ceinwen, ond nid oedd neb yn y parth hwnnw wedi clywed dim ynghylch yr helynt, heblaw yr hyn oedd wybyddus eisoes. Wedi iddo gyrraedd Cil Dwynwen ar fin y môr, clywodd yno fod peth anesmwythdra yn y llechweddau mynyddig uwch Dinlle: oblegid ofnid fod Goidelod yr Eryri yn ymbaratoi ymosod ar Gaswallon: ond ni wyddai gwyr Dinlle, Dinas y Prif, na Dinorthwy, ond ychydig iawn o sicrwydd ynghylch y sibrydion. Yr oedd un hysbysrwydd a barodd beth anesmwythdra i Moelmud. Clywodd fod Bera y widdan yn brysur iawn yn ei hymweliadau o fan i fan yn yr holl ardaloedd hyd Ddinas y Ceiri; ac ymhellach na hynny hefyd, hyd derfynau gwledydd Brythoniaid Dunodig ac Ardudwy. Aeth yr Esgob ymlaen i gyfeiriad Caer Helen. Yn ymyl y ddinas honno cyfarfu â gwladwr, ac o'i flaen yr oedd gyrr o wartheg duon, y rhai, meddai y gyrrwr, a brynasai yn y bwlch, ychydig yn uwch i fyny na Chastell Cidwm. Yr oedd gwyliadwriaeth fanwl wedi ei rhoi ar y porthmon yn y bwlch, yr hyn a barodd iddo ryfeddu llawer: oblegid ni chyfarfuasai y cyffelyb o'r blaen. Yr oedd gwladwyr Troed y Wyddfa yn dawedog ac yn anewyllysgar i ymuno mewn un math o ymddiddan yn cyfeirio at y cyfnewidiad yn sefyllfa pethau yn y Bwlch. Un peth a glywsai cyn cyrraedd yr hen gaerfa Rufeinig Segontium, oedd fod llawer yn disgwyl i symudiad pwysig gymeryd lle yn fuan.

Croesodd yr Esgob i Fôn yn un o ysgraffau Aber Menai, gan lanio yn agos i'r Foel. Dychwelodd i Lwyn Onn heb ymaros, oblegid yr oedd yn hwyrhau pan groesodd y Fenai. Ar hyd y ffordd drwy Dre'r Beirdd myfyriai lawer ar yr hyn glywsai mewn perthynas i'r Wrach Ddu, er mai ei brif neges y diwrnod hwnnw oedd gwneyd ymchwiliad i achos diflaniad sydyn Ceris a Dona o'r Llwyn ger y Pwll.

XIV. Y CILIAU

YN y penodau o'r blaen cyfeiriwyd yn fyrr at achosion pwysig i wahanol ddigwyddiadau amgylchynol i, ac ynglŷn â'r prif bersonau yn yr hanes, ac awgrymwyd pethau pwysig fuont yn anuniongyrchol yn dwyn effeithiau fel ffrwyth heddychol i liniaru llawer ar y croes-deimladau ac anghydweliadau tarddedig o'r berthynas oedd rhwng y goresgynwyr a'r goresgynedig yn ein gwlad fechan ni yn y cyfnod y cyfeirir ato yn yr ystori.

Yn y lle cyntaf, cyfeirir yn helaethach eto at yr ail genhadaeth fawr Gristionogol a effeithiodd gymaint ar foesoldeb a chynnydd gwybodaeth yn holl Lannau yr Ynysoedd Prydeinig. Yn y genhadaeth gyntaf yr oedd y Cil-dŷwyr (Culdees) yn cymeryd y rhan bwysicaf yn lledaeniad crefydd. Yn yr hanes chwedlonol Brythonig disgrifir y cenhadon hynny fel plant neu ddisgyblion Brychan Brycheiniog, y rhai, mae'n debyg oeddynt sefydlwyr cyntaf y Ciliau, neu gysegroedd, a adeiladwyd mewn lleoedd tawel a nodedig ffafriol i fywyd eglwysig y Cildŷwyr, y rhai a ymgasglent o bosibl yn deuluoedd crefyddol o amgylch eu cysegrfeydd, heb ddilyn rheolau caeth bywyd monachaidd a ddilynwyd, ac a ddilynir gan grefyddwyr neilltuol oesoedd diweddarach. Yr oedd y ciliau y cyfeirir atynt yn gyffredin ar lan y môr, mewn cilfachau neilltuedig yn aml. Fe allai y cymerid mantais o longau a morwriaeth i ddal cymundeb rhwng cil a chil a gydnabyddent awdurdod yr un abad neu dad eglwysig. Nid addysg yn ei ystyr helaethaf a gyfrennid yn y ciliau cyntaf, ond ymgynnull yn bennaf wnâi y cynulleidfaoedd hynny o dan arweiniad y tadau Goidelig mewn ymarferiadau crefyddol, neu wasanaethau, cyffelyb o ran diben i addoldai cyffredin presennol.

Yr ail ddosbarth y cyfeirir atynt oeddynt dadau Brythonig a arferent eu dulliau eu hunain o addoli. Yn ddiweddarach nag adeg y Ciliau y cyfeiriwyd atynt, ymddangosodd y ddau ddosbarth, yn gyntaf, gweinidogion neu fugeiliaid y cynulleidfaoedd, a arweinient yn yr addoliad lleol: yn ail, athrawon y sefydliadau addysgol. Ni chyfeirir yma o gwbl at y

Monachdai, fychain a mawrion, a adeiladwyd yn y canoloesoedd yn yr adfywiadau estronol-Seisnig, Normanaidd, a Lladinaidd. Yn yr adfywiad yna y daeth i fri amryw sefydliadau Brythonig gyda'u harferion dieithr yng Nghymru. Dilynol i'r adfywiadau hyn bu cenadaethau Rhufeinig o dan awdurdod ganolig Rhufain pryd yr ymlusgodd llygredd i mewn i'r eglwysi Goidelig, Brythonig, a Seisnig, pryd yr hauwyd hadau ymrysonau, ac yr aeth o'r golwg bron yr arferion boreuol. Ond cyn i'r effeithiau pabaidd ymddangos, bu crefydd Frythonig yn ddylanwadol iawn ym Mon pryd yr ymddangosodd Cybi a Seiriol fel goruchwylwyr addysg grefyddol yr ynys. Oddiwrth gyfeiriadau hanesiol, neu a gyfrifir gan rai fel hanes, cesglir fod yng Nghymru ddau bobl, neu ddwy genedl-y Goidelod a'r Brythoniaid -yn cyd-breswylio, ond am ysbaid yn gwrthod ymgynnull i gyd-addoli. Heblaw gwrthod cyd-addoli oherwydd egwyddor, yr oedd hefyd y rhwystr dwyieithog yn peri anhwylusdod y pryd hynny, fel y gwna yn awr.

Ceisir egluro y pethau hyn, nid i geisio argyhoeddi yn grefyddol, ond er mwyn ymdrechu i daflu peth goleuni ar gwestiynau a ymddangosant yn ddyrus. Mae y cwestiwn crefyddol yn cael ei egluro mewn rhan helaeth yn hanes ymdrechion Dewi Sant i ddwyn cydgordiad crefyddol rhwng y Goidelod a'r Brythoniaid yng Nghymru, yr hyn a gwblhawyd yn heddychol yng Nghynhadledd Llanddewi Brefi. Mae Cymru gyfan yn parhau i ganoneiddio Dewi fel ei nawddsant. Os cymhwysir yr hanes uchod at ddigwyddiadau cyffelyb ym Mon gellir tybio fod yna ryw effaith larieiddiol yn ein gwlad a rwystrodd i chwyldroad Caswallon dorri allan yn rhyfel gartrefol ddifrifol. Yn yr hanes tywyll ac unochrog a geir o ddigwyddiadau ym Mon yn y cyfnod hwnnw, deallwn fod yna beth ymladd wedi cymeryd lle, fel y dywedwyd, yng ngogledd yr ynys: a chesglir fod yna ryw faint o ymryson hefyd am beth amser rhwng y blaid oruchaf ym Mon â byddin o Goidelod o goedwigoedd a mynyddoedd yr Eryri dan arweiniad rhyw bennaeth Goidelig a elwir Serigi, o Ddinas Emrys, lle bu gynt, yn ôl chwedloniaeth, ymryson rhwng cewri a dewiniaid, yng nghyfnod tra thywyll y traddodiadau. Dygwyd i mewn i'r stori bresennol hanes Bera y Widdan, neu y Wrach Ddu, yr hon broffesai ryw fath o dderwyddiaeth lygredig, yr hon er nad oedd iddi ddilynwyr proffesedig, eto, fel ei thras bob amser, a allai trwy hudoliaeth, ac feallai rhyw gymaint o allu dewiniol, greu offerynnau o'r werin anwybodus a galluoedd ereill, i daflu y wlad i ddyryswch er mwyn dwyn oddiamgylch amcanion y ddynes gyfrwys.

Sylwyd o'r blaen ar ei hymffrost a'i darogan o lwyddiant yn erbyn Caswallon, yr hwn yn ei thyb hi oedd y blaenaf i syrthio yng nghwymp y blaid Frythonig. Gan ei bod yn ceisio defnyddio y Goidel i'w phwrpas ei hun nid amlygai beth fydd ai tynged ei chynorthwywyr os llwyddai hi yn ei hamcanion. Er i Bera ymweled â mynyddoedd a choedwigoedd, y rhai oeddynt eto ym meddiant y Goidelod, o'i Eryri i wyllt-leoedd Mawddwy, ni amlygwyd llawer o barodrwydd ar ran y mynyddwyr gwylltion i anturio i Fon bell er mwyn cosbi un bradwr tybiedig o blith llawer o Goidelod oeddynt wedi ymgydnabyddu digon a'r Brythoniaid i'w rhwystro i ymgodymu â gallu oedd mor hynod yn y medr o gyfaddasu ei hun i bob amgylchiad, ac mor lwyddiannus yn eu hymdrechion. Yr oedd y tawl-fwrdd (chess-board) yn dangos deheurwydd gyda'u chwareu goresgyn gwledydd, ac yr oedd cu sefyllfaoedd ymhob man yn gyfryw fel na allai hyd yn oed llwythau dewraf yr Eryri symud ymhell o gadarnleoedd mwyaf nerthol y byd heb osod eu hunain yn y perygl o gael eu llethu.

Ond yr oedd un perygl bob amser yn ymferwi ac yn bwgwth rhedeg dros y terfynau. Cyfeirir yn awr at boblogaeth yr Eryri oedd yn graddol gynyddu tu fewn i'r muriau uchel naturiol oedd yn gwasgu llawer o deuluoedd i ychydig o le. Ac mewn gwlad fynyddig oedd yn dibynnu ar yr ychydig ddefaid mynyddig a gwartheg duon bychain fel eu prif gynhaliaeth, yr oedd y berthynas rhwng gwyr amgauedig y mynyddoedd a'u cymydogion a breswylient lechweddau breision y tu allan, yn aml yn cael ei roddi ar brawf fel yr oedd amynedd gwyr y parthau olaf a ddesgrifiwyd yn fynych yn methu dal pwys y brofedigaeth, nes torri allan mewn ymrysonau rhyngddynt ag ysbeilwyr oeddynt un ai yn rhy chwannog i roi gwaith i'w dilynwyr, neu dan orfod i barotoi ymborth iddynt o dda rhai mwy ffortunus. Yr unig gynghreirwyr gafodd Bera i gytuno-i'w chynorthwyo yn ei hymgyrch beryglus oedd ychydig dylwythau a breswylient y parthau mwyaf noethlwm, a'r nentydd rhamantus a ddyfrheir gan afonydd gorwylltion tir Machno a Dolwyddelan. Wrth gwrs yr oedd yn rhaid cael cydsyniad, a chafwyd peth cydweithrediad hefyd, y penaethiaid a hawlient yr awdurdod i agor neu gau bylchau yr Eryri yn y cyfeiriad o'r hwn y bwriadai yr ysbeilwyr ymosod. Yr oedd ar y pryd dri phennaeth o'r nodwedd ddisgrifiwyd, y rhai addawsant gydsynio ynghynllun Bera. Prif fwriad y cydweithredwyr hynny oedd cymeryd esgus o ddilyn Bera yn ei hymgyrch yn erbyn Caswallon, er mwyn yr ysbail a obeithid ei chasglu gan yr ymosodwyr. Y tri arweinwyr Goidelig hynny oeddynt Serigi o Ddinas Emrys, Cidwm Mynyddfawr, a Sinnach Pen y Gwrhyd, ger Bwlch y Wyddfa.

CYNHADLEDD FFYNNON CLORACH

PAN wawriodd y dydd apwyntiedig i Gaswallon i gyfarfod ei ddeiliaid wrth Ffynnon Clorach, daeth ynghyd holl benaethiaid yr Ynys i glywed y 'penderfyniadau y cytunwyd arnynt gan Gaswallon a'i gynghorwyr i ddwyn yr holl ddeiliaid dan iau y Tywysog newydd, yr hwn a addawai lywodraethu Mon ar yr un cynllun ag y llywodraethid tywysogaethau ereill yn y Cyngrair Brythonig.

Gan fod yr etifeddiaethau Goidelig o'r blaen yn mwynhau mwy o ryddid hunanlywodraeth nag a addawid iddynt yn y cynllun newydd, bu hynny yn achos peth dadleu rhwng plaid y gorllewin a phlaid gymysg y gogledd a'r dwyrain; ond gan y gwelai y blaid flaenaf fod y Tywysog yn ffafrio y blaid arall, penderfynwyd yng ngwyneb yr anocheladwy, derbyn telerau Caswallon a thyngu llw o ffyddlondeb iddo.

Mewn perthynas i'r cwestiwn crefyddol oedd yn llawer llai dyrus y pryd hwnnw nag ydyw yn awr, penderfynwyd gadael i'r ddau bobl oedd yn wahanedig yn unig oblegid gwahaniaeth iaith a ffurf lywodraeth eglwysig, ddilyn eu trefn eu hunain, am y rheswm y byddai yn ddoethach gadael i'r esgobion Goidelig lywodraethu eu praidd eu hunain yn ol eu cynllun syml oedd ddealladwy i'r Goidelod. Yr oedd y Brythoniaid yn dilyn trefn fwy tywysogol,—is-esgobion, neu offeiriaid, yn cydnabod prif esgob fel arolygydd yr esgobion plwyfol.

Dylid cyfeirio yn neillduol yn y fan yma at adran arbennig yn y cyhoeddiad tywysogol, sef yr adran yn yr hon y rhoddid dyfarniad yn erbyn penaethiaid a wrthwynebasent Caswallon, a'r rhai na ddaethant i ymostwng yn ffurfiol, ac oblegid eu habsenoldeb a gyfrifid yn wrthwynebwyr ystyfnig. Cyhoeddwyd y rhai hyn yn Foelion, hynny yw, yn gaethion heb freintiau gwŷr rhyddion. Ymhlith y rhai hynny enwyd Ceris y Moel, ac fel y cyfryw dietifeddwyd ef a'i ferch Dona. Cyn i Moelmud gael amser i roddi ei brotest yn erbyn y dyfarniad, ac erfyn am oediad hyd oni chlywid amddiffyniad Ceris o'i enau ef ei hun, canfyddwyd cynnwrf yn y gwersyll oherwydd ymddangosiad rhedegydd swyddogol gyda neges bwysig. Wedi ymgynghoriad byr rhwng y Tywysog a'i brif swyddwyr, cyhoeddwyd fod perygl, sef bod y gelyn wedi glanio yn Abermenai-y brif adran yn y lanfa orllewinol ger Tal y Foel, a'r ail yn y lanfa ddwyreiniol o'r tu hwnt i'r Foel. Yr oedd, meddid, y ddwy adran wedi meddiannu rhydau Malldraeth, a chroesi i'r ochr arall yn finteioedd yn frysiog fel pe buasent ar fedr ymwthio tua'r gorllewin i gadw yn agored cymundeb â'r Werddon.

I gyfarfod y symudiad hwnnw, anfonwyd adran i feddiannu yr ysgraffau a groesent i Roscolyn o wahanol gyfeiriadau: a threfnwyd i adrannau gyfarfod ac ymosod yn ddiymaros ar y goresgynwyr mynyddig. Bu mân ysgarmesoedd cyn i'r dieithriaid gael eu gyrru yn ôl ar y brif sefyllfa a gymerasent i fyny yng Ngherrig y Gwyddel. Un ymladdfa bwysig gymerodd le, ac yn honno y lladdwyd Serigi ac y gorchfygwyd ei ddilynwyr. Bu y mynyddwyr ysgafndroed yn fwy llwyddiannus yn eu henciliad; oblegid nid oedd ganddynt gludgelfi i'w rhwystro, na llawer o ddarpariaeth gan y Monwyson i'w hymlid. Nid yw y traddodiad na'r hanes yn ddigon helaeth a manwl i ni ddeall holl amgylchiadau y goresgyniad a'r gorchfygiad dilynol; ond mae'n amlwg na effeithiwyd ond ychydig ar y prif symudiad ddiweddodd mor hapus yn yr holl ganlyniadau o honno. Argraffodd llwyddiant Caswallon yn arosol ar breswylwyr yr Ynys, yn Goidelod a Brythoniaid, fel y siaredir hyd heddyw am oresgyniad Mon fel pe buasai wedi ei achosi gan Wyddelod a ymsefydlasant yn Arfon a'r Eryri ryw gyfnod dilynol i ymadawiad y Rhufeiniaid. Penderfynir y cwestiwn dyrus gan y gwŷr sicr o bob tu, os yw hynny yn bosibl. Hyn sydd sicr, fod olion "cytiau Gwyddelod" tybiedig, os nad Goidelod, i'w canfod mewn amryw fannau o'r Ynys, yr hyn sy'n myned ymhell, i brofi nad ydyw Cymry Mon o ddisgyniad Brythonig mor bur ag y tybir gan rai. Awgrymir yma eto fod olion Goidelig ymhob rhan o Gymru, yn enwedig ym mynyddoedd y Gogledd, yn hollol wrthwynebol i'r syniad mai olion goresgyniadau lleol o'r Werddon ydynt. Nid yw y disgrifiad "yr hen Wyddelod" yn profi dim yn gryfach na bod cyd-gymysgu ieithoedd a gwaed, dilynol i'r goresgyniad Brythonig cyffredinol yng Nghymru, wedi bod mor drwyadl nes yr anghofiwyd y Goidel a'r Brython yn y Cymro a'r Gymraeg. Saeson yw brodorion 'presennol Lloegr er fod mwy o'r Brython yn y defnydd nag o'r Sais yn gyntefig. Yn yr un modd y mae plant Cymry ynghwahanol barthau o Brydain a gwledydd eraill, yn wirfoddol neu fel arall, wedi iddynt anghofio eu tarddiad Cymreig, yn gosod eu hunain allan fel Saeson. Felly yn gyffelybol, aeth Goidelod Mon yn Gymry. Ac os na chamgymerir yn fawr, aeth Goidelod Cochion Mawddwy, a'u disgynyddion yn Gymry o'r Cymry. Onid cyffelyb dynged hefyd a syrthiodd i ran coedwigwyr cochion yr Eryri o'r un cyff Goidelig wedi eu gorchfygiad gan daid Syr John Wynn o Wydir?

XVI. HYNT YR ESGOB

MAE'N bryd bellach edrych i hanes Bera a'i symudiadau, gan mai hi oedd prif gynllunydd y goresgyniad neu ymgyrch Goidelod Eryri i Fon. Cafodd yr Esgob Moelmud o'r diwedd gipolwg ar y Widdan, neu ychydig o'i hanes pan oedd ei fryd a'i ddyledswydd wedi ei rwymo i ofalu am waith arall. Fel yr oedd yr Esgob yn ceisio lliniaru doluriau clwyfedigion ar faes y rhyfel ar ôl brwydr Din Dryfael daeth i gyffyrddiad â Goidel clwyfedig, yr hwn oedd fwy deallus na'r cyffredin o breswylwyr gwylltion un o'r ardaloedd mwyaf anhygyrch yn Nolwyddelan. Anfuddiol fyddai manylu ar hanes y bugail o lechwedd Moel Siabod ymhellach na'i ddefnyddio fel cynhorthwy i bwrpas mwy pwysig. Ymddengys iddo fel amryw eraill, gael ei gamarwain yn hollol ynglŷn â'r hyn gymerasai le ym Mon. Tybiai gwyr Eryri ei bod yn ddyledswydd iddynt fyned i amddiffyn eu brodyr Goidelig ym Mon rhag canlyniadau echrys gorthrwm Caswallon (fel y disgrifid hwy gan Bera), ac yn eu chwilfrydedd ymunodd y Goidel yn yr ymgyrch. Wedi peth ymddiddan ynghylch anffawd bersonol a chyflwr presennol y Goidel troes yr Esgob at sefyllfa pethau, a rhagolygon gwyr Eryri yn eu cyflwr cyfyng ac amgylchynedig gan fynyddoedd. Atebodd y bugail yn debyg i hyn,—"Yr wyf yn cydnabod fy mod wedi fy nghamarwain gan Bera, ac yr wyf yn barod i wneyd yr iawn gofyngedig gan y Tywysog, gyda chyfaddefiad o'm hynfydrwydd a'm dallineb yn syrthio i'r fagl heb roi ystyriaeth mwy pwysig i haeriadau un y gwyddwn nad oedd yn deilwng o un math o ymddiried. Ond gan i mi ymuno yn yr hau, dylwn fedi o'r cynnyrch."

"Na," ebai'r Esgob," yr wyf yn hyderus y bydd i mi gydag ategion dylanwad gwyr teilwng, gael ffafr yn golwg y Tywysog, fel y bydd iddo edrych yn dosturiol ar dy sefyllfa, a rhoddi i ti ollyngdod; oblegid ni ddeillia lles o ddial, yn enwedig ar ôl i dy ymdrech di ac eraill droi allan yn aflwyddiant hollol fel nad oes berygl y syrth y mwyaf anturiaethus o honnoch i'r un amryfusedd drachefn."

"Yr wyf yn sicr," oedd ateb y Goidel, "y bydd fy nghymydogion a'm ceraint yn ddoethach a mwy gwyliadwrus nag erioed. Yr wyf wedi clywed fod Serigi wedi cyfarfod ei dynged yn nechreu y frwydr. Yr oedd —ei allu yn fwy o werth na chant o wyr. Ni chyfyd ei gyffelyb yn fuan eto yn Eryri."

"A oedd efe yn ddylanwadol iawn?" gofynnai yr Esgob.

"Oedd," atebai y Goidel," ganddo ef yr oedd agoriadau y bylchau. Ond paham y gwrandawodd ar Bera, ni wn i. Efallai mai ei dwyllo gafodd yntau gan yr ysbrydion sydd yn barod i ruthro i bob ymgyrch er mwyn ysbail."

"A oes llawer o gyfryw rai yn Eryri?"

"Oes," ebai y Goidel, "a'r rhai hynny sy'n dwyn arnom atdaliad prysur bob amser ar ôl iddynt ruthro y bylchau i wastadeddau y Brython. Ond y rhai heddychol fydd yn gorfod talu y ddirwy i'r Brython, o'r deadellau nesaf i law."

"A wyt ti yn ddiogel yn dy ddosbarth?" gofynnai'r Esgob.

"Ydwyf," ebai y Goidel, " oblegid yr wyf ar yr ochr iawn i Foel Siabod. Gwilliaid o dros y Foel fydd yn fy mlino i."

"Beth fydd dy foddion pan fyddi fwyaf llwyddiannus?"

"Pum cant o ddefaid," ebai'r Goidel, "a chant o wartheg o bob math."

"Ac yr wyt yn priodoli dy anffawd bresennol i Bera?" meddai'r Esgob, "mae'n rhaid fod ganddi ddylanwad mawr yn dy fro."

"Oes," atebai y Goidel, "ddylanwad o ryw fath: dylanwadodd arnaf fi ac eraill fel yr eglurais i ti. Ond mae ganddi ddylanwad mwy pwysig o lawer, oblegid cymer arni frudio a rhagfynegi llwyddiant ymgyrchoedd yr ysbeilgar. A rhyw fodd y mae yr hyn gynghora yn troi allan yn rhyw fath o lwyddiant bron bob amser. Y mae dirgelwch ynglŷn â phob symudiad o'i heiddo. Nid ei hanogaeth bersonol hi a'm dygodd i yma, ond yr alwad gyffredinol i gynorthwyo gwyr Mon."

"Ymha le y tybi di y mae Bera yrŵan?" gofynnai'r Esgob.

"Gwelais hi wedi ymwisgo fel merch Andras, gyda'i gwallt du hir a thrwchus yn chwifio yn y gwynt, a phicell yn ei llaw, yn pwyntio tua Mon. Ni ddeallwn beth ddywedai ond yr oedd yr olwg arni yn fy llenwi â dychryn. A ddaeth hi i Fon, nis gwn, oblegid yr oeddym ar frys i ymosod arnoch."

"A fyddai yn bosibl i mi ddyfod i gyffyrddiad â Bera pe deuwn gyda thi dros Foel Siabod?" gofynnai'r Esgob. "Oblegid os enillaf dy ryddid i ti, ac os gelli fy arwain yn ddiogel i Ddolwyddelan mae rhywbeth yn peri i mi feddwl y gwyr Bera rywfaint ynghylch absenoldeb cyfeillion i mi o Fon, y rhai fuasent yma oni bai rhyw achos adnabyddus yn unig iddi hi, fel 'rwy'n tybied."

"Er na fûm i erioed yn ymddiddan a'r wraig," meddai'r Goidel, "eto yr wyf yn gwybod digon i'm boddloni a'm sicrhau ei bod yn beryglus; ac nid oes dim yn peri i mi amheu yn fwy na'r sisial parhaus ynghylch ei symudiadau dieithr mewn rhan neillduol o goedwig ddyrus sy'n amgylchynu lle a elwir Carreg yr Alltrem-lle na feiddia y gwilliad mwyaf anturiaethus a rhyfygus fyned yn agos iddo, oherwydd rhesymau (os rhesymau hefyd) sydd arferol o achosi dychrynfeydd anesgrifìadwy i'r rhai sydd yn gwybod y daroganau, ac yn ofni syrthio i beryglon na wyr neb eu natur, na'r ffordd i'w hosgoi."

"Mae fy nghywreinrwydd," meddai'r Esgob, "wedi ennyn ynof yr awydd cryfaf i ymweled â ffau y wraig gyfrwys; ond nis gwn y ffordd, neu y modd, i cyrraedd fy amcan."

Ni fyddai'n ddiogel ar hyn o bryd," ebai'r Goidel, "i neb dieithr anturio ymhell i un o'r Bylchau, oblegid, os yw fy nhyb yn gywir, mae Cidwm a Sinnach wedi dianc yn ol i'w cestyll yn y llwyni dirgel. Yr unig rai a feiddiant nesáu i'r bylchau ydynt y rhai sy'n cyfnewid nwyddau gyda'r bugeiliaid, neu sy'n anfon eu praidd i'r iseldiroedd i fwrw'r gaeaf."

"Os gallaf gael gollyngdod i ti," atebai'r Esgob, "a elli di ar ol dy ddychweliad anfon rhyw hysbysrwydd i mi ynghylch tad a merch sydd wedi gadael Mon yn y modd mwyaf anesboniadwy, ac oherwydd rhesymau na wyr neb o'u cydnabod y deongliad iddynt?"

"Byddai'n hawdd i mi er gwaethaf anorfod i ti, agor y ffordd hyd yn oed i ogof Bera, oblegid gwn am ' ŵr hysbys ' -nef a faddeuo i mi-a all herio duwiau Bera, pe meiddia hi frudio neu ddewinio yn ei erbyn, neu wrthod hysbysrwydd iddo. Ni wna'r ddiod gwsg unrhyw effaith arno."

XVII. DWY GENEDL

GADEWIR allan lawer o bethau amherthynasol o'r hanes, gan gyffwrdd yn unig ag anhebgorion. Dilynir yr Esgob yn ei deithiau a'i ymdrechion i ddilyn ei orchwyl fel Cristion, cymwynaswr, a chymydog i Geris a Dona.

Nid yw distawrwydd yn profi fod Iestyn a'i dad Maelog yn ddifraw, neu heb ddangos ymdrech i dreiddio i ddirgelwch sefyllfa anesboniadwy gwr cyhoeddus fel Ceris. Nid oedd un hysbysrwydd na goleuni tebygol i'w gael o unman. Dyna y rheswm na cheisiwyd dilyn hanes pob ymchwiliad i gyfeiriadau na choronwyd ag hysbysrwydd boddhaol. Trwy ddilyn yr Esgob y cafwyd yr ychydig oleuni ansicr, ond awgrymiadol, a roes amnaid i feddwl y gwr hwnnw fod a wnelai Bera ag absenoldeb Ceris a Dona.

Wedi ymgynghoriad rhwng yr Esgob a Iestyn penderfynwyd gosod yr holl amgylchiadau a'r amheuon ger bron y Tywysog, yr hwn roes bob anogaeth a chynhorthwy i geisio gwybodaeth a arweiniai i ddarganfyddiad agoriad i'r dirgelwch, a chaniatawyd maddeuant a gollyngdod i'r bugail a roes hysbysrwydd tebygol i arwain i lwyddiant yr ymchwiliad. Rhoddwyd pob rhwyddineb a chynorthwy i'r Goidel i groesi y Fenai yn Nhal y Foel, a gorchymynnwyd rhoddi clud iddo i fan lle gallai gael help a'i dygai i Ddolwyddelan. Tra bydd y Goidel ar ei daith i odrau Moel Siabod cymerir mantais yma ar yr oediad ynghwrs yr ystori i ddisgrifio ychydig yn gyffredinol ddigwyddiadau a ddilynasant y tawelwch a roes seibiant i'r llywodraeth i ddwyn oddiamgylch gyfnewidiadau angenrheidiol i gyfarfod y gofynion newydd godasant o'r chwyldroad. Rhanwyd yr Ynys i dri chantref. Cynhwysai cantref ddau gwmwd; a chwmwd a wneid i fyny o nifer o etifeddiaethau. Ni wyddis pa gyfnewidiadau yn y dull o lywodraethu Mon a wnaed yn oes Caswallon. Mae'n debyg mai math o batriarchaeth, neu lywodraeth dylwythol, oedd y ffurf yma cyn myned o'r Ynys dan lywodraeth Tywysog. Cesglir mai cyfeiriad at gyfnewidiad yn y ffurflywodraeth eglwysig o'r dylwythol i'r dywysogol sydd yn hanes gweithrediadau eglwysig a derfynasant yng Nghynadledd Llanddewi Brefi dan gyfarwyddyd Dewi Sant. Mewn oesoedd diweddar deallwn mi tylwythol oedd llywodraeth y Celtiaid yn Ucheldiroedd Ysgotland cyn chwyldroadau yno yn 1715 a 1745. Mae'n debyg na achoswyd cyfnewidiadau eglwysig ym Mon hyd nes i'r iaith gyffredin i'r Brython a'r Goidel gael ei ffurfio fel y gallai y ddau bobl ymuno yn y Gymraeg. Nid yw'n hysbys pa bryd gyntaf y daeth yn bosibl i'r genedl ymdoddedig ymuno mewn addoliad cyffredin. Mae'n sicr na symudodd Mon o'r dylwythol i'r dywysogol, mwy nag y ganwyd cenedl, mewn un dydd. Mae y gwirionedd yma mewn rhan yn cael ei gadarnhau yn hanes Doli Pentraeth o Gernyw, yr olaf i ddweyd ei phader yn yr iaith oedd wedi marw i ddefnydd ymarferol. Yr oedd llawer Doli gyffelyb ym Mon yn niwedd yr hen oruchwyliaeth pryd y cytunodd y Brythoniaid a'r Goidelod i ymuno yn un eglwys. A thebyg hefyd i lawer o'r hen gildŷwyr (culdees) ymlynu wrth eu hen ddisgyblaeth a threfn eglwysig er iddynt golli eu hiaith. Felly y bu yn y Werddon beth bynnag, oblegid dywed Giraldus Cambrensis (A.D. 1185), —"Yng Ngogledd Munster mae llyn yn cynnwys dwy ynys: yn y fwyaf mae eglwysi o'r hen fonachaeth, ac yn y leiaf gapel lle mae ychydig foneich a elwir Culdees yn defosiynol wasanaethu Duw. Yn nheyrnasiad y brenin Dafydd o Scotland tua 1130, deallwn fod y Culdees, mewn congl o'u heglwys eu hunain, yr hon oedd fechan iawn, yn arferol o arferyd eu trefn eglwysig eu hunain. Oni ellir esbonio cyfeiriadau at S.S. Padrig a Ffraid yn yr hanes, neu chwedloniaeth, sy'n priodoli cysylltiad rhyngddynt a'r grefydd Goidelig ym Mon; oherwydd y mae Llanbadrig a Chapel S. Ffreath yn Rhoscolyn yn awgrymu rhyw genhadaeth Goidelig ym Mon, fel pe buasai yr Eglwys yn y Werddon wedi tosturio wrth gildŷwyr ein hynys ac anfon cenhadon a fedrent siarad yr iaith oedd ar ddarfod yma? Ac hefyd, pe bai ryddid i newyddian geisio egluro dyryswch, onid ydyw y plwyfi mawrion gyda'r plwyfi bychain cysylltiol, fel un fywoliaeth eglwysig, yn awgrymu fod y ddau blwyf unwaith yn gwneyd i fyny un etifeddiaeth o dan un pennaeth gwladol, yr hwn, ar ol iddo adeiladu tŷ ac eglwys iddo ei hun, a ddarparodd gyfleusterau i'w denantiaid Goidelig ar wahân os byddent ymhell oddiwrth yr Eglwys Frythonig: neu os fel arall y byddai y meistr a'r tenantiaid yn fwy cryno yn yr etifeddiaeth, ceid mewn amser y ddau ddosbarth yn ymuno yn yr un adeilad i gynnal un gwasanaeth i Frython a'r llall i'r Goidel, hynny yw, tra buont yn ddwyieithog.

Pa faint bynnag o amser gymerwyd i uno Brython a Goidel ym Mon, ymuno a wnaethant: ond mae hanes yr undeb boreuol hwnnw wedi ei weu gan Frythoniaid oedd dan y drydedd fynachaeth, sef y Rufeinig, neu'r dramoraidd, y rhai trwy ymdrechion y Mynaich a than gyfarwyddyd y Pab, a lyncasant yr Eglwys Frythonig bron yn llwyr trwy osod Esgobyddiaeth Brydeinig yr eglwysi cadeiriol a Phabyddiaeth yr Abattai a'r Mynachdai yn benben mewn ymrysonau crefyddol a derfynodd mewn rhan yn ninystr a dadwaddoliad yr olaf.

XVIII. Y GWR HYSBYS

PAN gyrhaeddodd Goidel Moel Siabod i'w lwyn yn Nolwyddelan, wrth yr enw yma yr adnabyddir ef bellach, gwnaeth yr ymchwiliad a allai i ddirgelwch absenoldeb Ceris a Dona. Nid oedd amheuaeth yn neb nad oedd Bera ynghylch rhyw waith dieithr ynghymydogaeth Carreg Alltrem, ond ni feiddiai neb roi eu hunain yn ffordd y Widdan, rhag i'w chilwg beri anffawd i'r cywrain ei dueddiad. Ond nid oedd y Goidel cyfeillgar am roi ei ymdrechion heibio ar frys. Aeth i Gil Machno lle y gallai gael mwy o hysbysrwydd, oherwydd nad oedd Bera mor boblogaidd y ffordd honno. Aeth ymhellach dros y mynydd i gyfeiriad Cernioge lle'r arferai y gwr hysbys, y cyfeiriwyd ato, gyfarfod rhai o gyffelyb gelfyddyd ag yntau. Digwyddodd y gwr hysbys fod yn y lle, ac wedi i'r Goidel ac yntau ddyfod i gyd—ddealltwriaeth gyflawn, cododd y gwr hysbys ei law, ac mewn dull coeg-ddifrifol, gydag un llygad ynghauad, dywedodd, — "Yn enw'r Andras o Dryfan, mam Afanc y Llyn, bydd raid i'r Widdan roi i fyny ei hysglyfaeth, neu gollyngaf gwn Annwn i'w chyfarth a'i blino nes yr ymlidir hi i Abred a'r gogledd, fel na welir hi byth yngwlad y Goidel."

"Taw a rhegi," ebai'r Goidel mewn dychryn, "ni ddeuthum â gwobr dewiniaeth yn fy llaw. Gwna'n hysbys yr hyn wyddost, a dywed, os medri, ple mae y rhai gipiwyd o'u cartref, fel y cyflawnwyf fy neges."

"Tynnaf allan heno Bera'r Widdan, a gwae hi os na rydd hysbysrwydd. I ble y dygaf y deiliaid, oblegid deiliaid a dwyllir gan Bera?"

"I rywle ond i Eryri. Mae gwyr Dinas Emrys yn llidiog iawn."

"Gyrraf Bera ymaith dros ennyd; a dall yr aderyn ni ddiango o gawell agored. Daw ymwared o Fwlch Llanrhos."

"A allaf fi anfon i Fon, a oes sicrwydd y cyflawnir y neges?"

"A oes sicrwydd," meddai'r gwr hysbys, " y cyfyd yr haul yforu? Oes, yr un sicrwydd ag y bydd y ffoaduriaid dros afon Gonwy i Fon."

Ar ôl yr ymgom yna teimlai y Goidel yn hyderus y cyflawnai y "gwr hysbys"

ei waith ryw ffordd neu gilydd: ond nid oedd ei galon heb ei daro, oblegid dieithr iddo oedd y gorchwyl amheus. Anfonodd negesydd i gwr eithaf Llyn Cawellyn, yr hwn a drosglwyddodd yr hysbysrwydd i frodor o Gaer Seiont; ac ymhen ychydig ddyddiau yr oedd Iestyn ar y ffordd i Greuddyn, lle y gobeithiai weled cyfaill a fasnachai gyda gŵr ger y lle y croesid i wlad y Brython. Pe manylid ar yr holl helynt ni fyddai diwedd i'r syndod. Ni ellir chwaith gyda'r defnyddiau darniog wrth law roi hanes anturiaethau Ceris a Dona, oblegid ni allent ddweyd ond ychydig 'iawn ynghylch digwyddiad dilynol i'r helynt ynglŷn â'r cwn, y noson y collwyd golwg ar Ceris a Dona, a rhwng hynny a'r pryd y cafwyd y ddau ar y ffordd rhwng Llanrhos a Chonwy. Yr oedd y llawenydd rhwng y cyfeillion coll a'r hwn a'u canfu yn nesáu at lan Conwy yn syn a difrifol eu hymddangosiad, yn anhawdd ei ddisgrifio, ac yn tynnu sylw'r holl edrychwyr. Yr oedd y tri wedi eu syfrdanu, ac yn ymddwyn fel rhai anghofus o'u sefyllfa mewn lle dieithr a chymysg breswylwyr. Ymddyrysai Ceris a Dona gyda chwestiynau, a gofynnai Iestyn a hwythau yr un cwestiynau i'w gilydd, am fod y ddwyblaid yn ddieithr i'r achos o'u symudiad sydyn o Fon 'i Eryri, ac oddiyno i wlad y Brython. Yr oeddynt mewn syfrdandod parhaus. Ni wyddent ddim ond eu bod yn ymwybodol o bresenoldeb Bera yn awr ac eilwaith: ond pa bryd, neu pa le, ni allent ddweyd. Yr oedd pob peth mor anghysylltiol a dyrys fel na allent gyfrif yr oll ond megis breuddwyd na ellid cael un math o ddeongliad iddo.

Mawr oedd y llawenydd yn y Llwyn. Daeth ymwelwyr o bob congl o'r Ynys i ymholi ac i longyfarch y dychweledigion, ac i geisio hysbysrwydd ynghylch y digwyddiad rhyfedd, na allai neb, hyd yn oed y prif bersonau, roddi un math o oleuni arno i foddlonrwydd. Mae y cwestiynau ynglŷn â hanes Bera heb eu hateb eto i foddlonrwydd.

Mae mesmeriaeth heb ei lawn esbonio. Nid yw dewiniaeth a swyngyfaredd yn ganghennau gwybodaeth wedi eu meistroli. Mae'n bosibl fod rhai gwybodaethau wedi colli yn chwyldroadau crefyddol y byd. Heblaw hyn, nid oedd, ac nid oes, eglurhad ar ganghennau sy'n cael eu gwawdio a'u hanwybyddu oherwydd sefyllfa isel dilynwyr dewiniaeth, swynyddiaeth, a chyfaredd o bob math. Mae niwl yn gorchuddio pethau a gysylltir â galluoedd y tywyllwch. Mae meddyginiaeth, a chymysgedd o lawer o elfennau, wedi bod feallai yn offerynnau er drwg: a llawer o dywyllwch wedi bod ynglyn â phethau daionus, megys fferylliaeth, yn cael eu camddefnyddio, nes peri i lawer gashau daioni oblegid ei ddefnyddio er drwg. Ac i derfynu gyda phynciau dyrus na ellir yn foddhaol eu hegluro, cyfeirir ymhellach at Bera, yr hon oedd hysbys yn nyrys alluoedd y greddfau sy'n galluogi creaduriaid y deyrnas anifeilaidd i gyflawni eu pwrpas yn y sefyllfa y gosodwyd hwy ynddi gyda medrusrwydd mwy rhyfeddol na'r gallu enillir trwy brofiad a dysg. Mae personau tebyg i Bera, ac astudwyr natur, ac wedi cadw heb eu colli fwy o'r galluoedd greddfol na oddefir i'r cyffredin, wedi bod bob amser yn alluog a dylanwadoli effeithio ar y byd cymdeithasol fel pe byddent o rywogaeth wahanol i'w cymdeithion. Nid yw y dynion doethaf a'r mwyaf craff wedi gallu treiddio yn ddigon dwfn i alluoedd natur, heb son am y galluoedd uwch a briodolir i reswm a dirgelion enaid. Nid yw dyn eto wedi cael cyflawn oleuni i'r byd mewnol dyrys rhwng dwy sefyllfa oedd adnabyddus gynt i weledyddion. Mae llawer iawn o bethau na allwn ni yn ein sefyllfa bresennol roi cyfrif am danynt, a phan y tybir fod agoriad wedi ei ddarganfod i agor dyryswch, y mae dyryswch mwy yn dod i'r golwg, ac yn gyrru yr ymofynnydd i gychwyn gyrfa ymchwiliadol newydd o safbwynt arall.

XIX. ING MEDDWL CERIS

YMHLTTH yr holl liaws ymwelwyr a ddaethant i Lwyn Ceris i ymweled ac i borthi cywreinrwydd, nid oedd neb yn cymeryd y fath ddyddordeb ag a gymerai'r Esgob Moelmud. Yr oedd wedi myfyrio llawer i geisio dad-ddyrysu'r dirgelwch oedd ynglŷn ag absenoldeb Ceris a Dona. Yn awr ar ôl dychweliad y ddau i Fon mewn dull mor ddieithr, ac heb un math o eglurhad oddiwrth y "gwr hysbys" na Bera, yr oedd y darganfyddiad mor anhawdd i'w ddeongli ag oedd yr achos o'r absenoldeb o'r blaen. Diben Bera yn hudo neu orfodi Ceris a Dona, os hi achosodd hynny gymeryd lle, oedd un o'r cwestiynau y ceisiai'r Esgob eu hateb. Y cwestiwn arall oedd,-pa fodd y gwnaed hynny? Yr oedd y ddau ofyniad yn llawn mor ddyrys i Ceris a Dona ag oeddynt i'r Esgob, yr hwn a gymerasai y fath drafferth ynglŷn â'r ymchwiliad. Nid oedd Ceris a Dona hyd hynny wedi gallu casglu digon o ymadferthiad i'w galluogi i ymresymu, na rhoi un help i eraill i ddyfod i gasgliad boddhaol.

Gan fod yr Esgob heb brawf fod Bera, os hi oedd achos y dirgelwch, wedi ceisio niweidio, na pheryglu bywyd: nac ychwaith geisio un math o fudd o'r weithred ddieithr, casglodd yr Esgob mai un achos oedd ceisio helpu yr ymgyrch o Eryri trwy symud Ceris o warchodaeth ei ran o'r Ynys oedd dan ei ofal, ac felly gorfodi Caswallon i wanhau ei sefyllfa mewn lle a allasai ddyrysu ei brif amcan yn torri cysylltiad gwŷr Eryri a'r briffordd i'r Werddon. Ond gan i gynllun Bera fethu mewn mwy nag un cyfeiriad yr oedd yr ymgyrch fechan i Fon yn hollol annigonol i gyfarfod â gofynion mannau eraill.

"Dyna'r esboniad mwyaf rhesymol yn fy nhyb i," meddai'r Esgob, ac i ddiben Bera yn taflu drws Arllechwedd yn agored i ymosodiad ar Fon o gyfeiriad Conwy. Ond pa fodd y gwnaeth hynny, neu pa fodd y gallodd dy symud di o'r ffordd, nid oes gennyf eglurhad boddhaol i mi fy hun, heb son am argyhoeddi eraill."

"Oni elli di feddwl fod rhyw gysylltiad rhwng Bera â'r un Drwg?"

O, gallaf, mae gan dywysog llywodraeth yr awyr lawer o offerynnau yn ei law, a llawer o fyddinoedd—llengoedd o honynt—i geisio rhwystro Duw yn ei amcanion."

"Mae hynny yn ddigon eglur," ebai Ceris, "oblegid beth yw y cyfeiriadau mynych at y drygau ysbrydol, ysbrydion aflan, dewiniaid, a phethau ofnadwy eraill, os nad oes yna alluoedd drwg heblaw dynion ar waith o'n hamgylch yn feunyddiol."

"Gresyn fod lle i feddwl, ac i gredu, fod dynion yn meddu rheswm, yn syrthio mor ddwfn i lygredigaeth moesol fel ag i ymwerthu i gaethiwed a bod yn offerynnau yn llaw yr un drwg i'w dinystr, a hynny i foddio nwydau drwg, ac i ymffrostio mewn gallu melltigedig, megis swynyddiaeth, consuriaeth, dewiniaeth, ac aflonyddu y meirw."

"A 'wyt ti yn dysgu," ebai Ceris, "fod yn bosibl i un fel Bera fy symud i oddiyma i 'wlad Brython Llanrhos, ac oddiyno yma, yn ôl ei mympwy?"

"Os wyt ti yn gwybod cyfrinion dy hanes dy hun a'th symudiadau diweddar y rhai sy'n dywyll i ni, yna yr wyt yn ymuno ym mradwriaeth Bera; ond os na wyddost, y mae dy anwybodaeth yn ateb dy gwestiwn ac yn profi fod rhyw allu anesboniadwy, os nad yn gysylltiol â Bera, wedi bod yn dy yrru di o amgylch fel ysgall gan wynt."

"Gwarchod ni," meddai Ceris, "peth ofnadwy yw meddwl fy mod i heb ewyllysio yn syrthio i afael olwyn ewyllys un arall. A yw hynny yn bosibl?"

"Ydyw," meddai'r Esgob, " os na wyliwn ni rhag profedigaeth." "A wyt ti yn dweyd fy mod i, mi a Dona, 'wedi bod yn llaw Bera fel pe buasem Morgan a Chesair, a myned o amgylch i leoedd na wyr neb ond y widdan i ble?"

"Ydwyf, yr wyf yn gwybod fod yna alluoedd dirgel a da yn ein llywio i borthladd tawel, tra mae yna alluoedd tra gwahanol, gyda chydsyniad ewyllys gyfeiliornus, yn gyrru y llong i greigiau danheddog a llongddrylliad. Mae yna amrywiol gyfeiriadau yn y cyfrolau at rai yn meddu ewyllys gryfach nag eraill, a thrwy hynny yn gallu dylanwadu ar eraill, a gwneyd offerynnau o honynt, er da neu er drwg. Nid wyf fi mewn sefyllfa i esbonio pethau fel hyn yn athronyddol, ymhellach na cheisio trwy fy esiampl a fy addysg ddylanwadu er da. Dysgir ni yn yr grifau i beidio bod yn rhy gywrain gyda gwybodaeth ddrwg a pheryglus, a thrwy hynny fwyta o'r pren na ddylem gyffwrdd ag ef, sef y pren gwybodaeth sy'n agor llygaid i weithredoedd drwg. Mae arnaf ofn fod Bera yn gwybod gormod o lawer. Pa fodd y cyrhaeddodd y fath wybodaeth nis gwn i. Y Nef a'n gwaredo rhag phob hudoliaeth o ba natur bynnag, ac a nertho ein ewyllys ni i fod fel ewyllys ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd."

"Amen," oedd cydsyniad difrifol Oeris. "Ond pa fodd y syrthiais i yn aberth i ystryw'r Wrach ddu ' Yr wyf yn methu dwyn i gof unrhyw drosedd difrifol a gyflawnais fel y syrthiwn i'r fath berygl. Mae'n rhaid bod fy mhechod yn fawr iawn!"

"Mawr neu fychan, Ceris; nid tydi a minnau sydd i farnu gradd pechod. Gallwn ddweyd yn ddiogel, ' Duw ei Hun sydd Farnwr.' Gallasai yr hyn a wnaethost fod yn fychan yngolwg dyn hyd nes i'r holl ganlyniadau ddod i'r amlwg. Dwg i gof, os gelli, y weithred neu dy ymddygiad, cyn i ti golli dy ymwybodolrwydd. Gwreichionen fechan wedi ei chyfnerthu ag anadliad a dyr allan yn goelcerth."

"O fy nghyfaill," ebai Ceris, " yr wyf yn awr yn cofio fy amryfusedd. Collais fy nhymer, a dangosais hynny yn fy ymddygiad tuag at fy ngweision, wrth y rhai y bum yn chwyrn heb achos, a'r rhai a yrrais -i'r tŷ gyda geiriau nad oeddynt weddus ar adeg mor ddifrifol, pan y dylaswn arwain mewn gweddi a defosiwn addas i'r amgylchiad."

"Oni ddylem fod yn ofalus," meddai'r Esgob, "i ymddwyn yn weddaidd ar bob achlysur, a gweddïo ' Nac arwain ni i brofedigaeth'?"

PENNOD XX. Y MOEL

YMHA ystyr bynnag y mae i ni gymeryd hanes Mon gan yr hen awduron,-pa un ai fel hanes rhyddieithol heb addurn barddoniaeth yn amgylchynu mynegiad eglur o ffeithiau, ynte fel disgrifiad mabinogaidd, neu ddamhegol, mae yn ddigon dealladwy fod y dylanwad Brythonig wedi tywynnu yn foreu ar Fon-mor bell yn ôl fel nad oes ond ychydig iawn o sicrwydd hanes yn blethedig a'r addurn i'w gael mewn perthynas i'r goresgyniad, gwir neu dybiedig, olion yr hyn fel y tybir yw Cytiau'r Gwyddelod, a dylanwad y Gaelaeg ar flaguriad a thyfiant y Gymraeg. Os cymerir yr hanes megis mewn gwisg fabinogaidd, gan ystyried yr enwau Caradog a Chaswallon fel pe yn cynrychioli yr hen a'r newydd, gwelwn i amgylchiadau beri i Bran y Goidel, neu y Goidelig, fyned trosodd i'r Werddon, a gadael y ddau ddylanwad yn gydgyfrannog, hyd nes i Gaswallon ladd Caradog, a meddiannu yr holl ddylanwad yn yr ynys, a throi pob peth i agwedd Frythonig, fel y môr yn ymgodi dros Gymru gyfan, gan adael yn unig dros ennyd bennau mynyddoedd Eryri a Meirionnydd heb eu gorchuddio.

Sut bynnag y bu, marw fu raid i Garadog, a theyrnasodd Caswallon yn ei le dros Fon i gyd. Fel llywydd doeth rhannodd yr ynys, fel y sylwyd, i ddosbarthiadau, gyda llysoedd ym mhob dosbarth, ac uchel lys yn Aberffraw.

I Lys Aberffraw y galwyd Ceris i roi cyfrif cyhoedd am ei absenoldeb o'i orsaf ar adeg o argyfwng pwysig. Yr oedd pob amheuaeth o'i deyrngarwch a'i fwriad heddychol, erbyn hyn, wedi diflannu, a phrofion amlwg wedi eu cael nad oedd a wnelai ef ddim â'r ymgyrch Goidelig o Eryri i Fon. Tynnwyd yn ôl y cyhoeddiad' a'r rhybudd ynglŷn â throsedd tybiedig Ceris, a dyfarnwyd ei fod yn ymadael â'r Llys heb ddim amheuaeth yn tywyllu ei gymeriad. Ond er iddo felly gael ei gyhoeddi yn ŵr rhydd, gyda phob hawl ddiamheuol i'w etifeddiaeth a'i holl eiddo, galwyd ef yn Foel bob amser gan fonedd yr ynys, ac hyd yn oed gan y Tywysog, yn ei ddull chwareus pan gyfarfyddai â'r hen forlywydd. Galwyd ei le o hynny allan yn Llwyn y Moel, yn lle Llwyn Ceris, ac felly glynodd yr enw Goedelig wrth yr etifeddiaeth hyd y ddeunawfed ganrif, pryd yr ail-adeiladwyd y Llwyn, ac y galwyd yr adeilad urddasol yn Blas Newydd, anheddle teulu â'i glod mor uchel â Thwr Marquis.

Ar ôl y goresgyniad Brythonig nid oedd angen am Wyliwr y Fenai fel o'r blaen, oblegid unwyd Mon a pharthau eraill â'r hyn oedd yn cydnabod Tywysog Gwynedd megis Prif. Nid ymadawodd y reddf forwrol o ysbryd Ceris, ond efe a ddefnyddiodd ei longau i bwrpas mwy heddychol na'r un ddilynid ganddo o'r blaen. Diweddodd ei oes hir a defnyddiol fel morlywydd a masnachydd: ymenwogodd hefyd a chynyddodd ei gyfoeth yn ddirfawr trwy gyfnewid nwyddau ar raddfa helaeth ym mhorthladdoedd y Werddon. Efe hefyd wnaeth Am-loch yn enwog fel porthladd o'r hwn yr allforid mwn a gloddid o grombil cyfoethog Mynydd Parys, perchennog mwy diweddar yr hwn oedd ddisgynnydd o Ceris, Llwyn y Moel. Ymffrostiai Ceris yn ei enw a ddisgynasai iddo mewn dull mor ryfedd. Nid oedd long harddach, nac yn tynnu mwy o sylw yma borthladd bynnag y galwai, na llestr Ceris Llwyn y Moel. Ar ben blaen y llong cerfiasid, mewn llythyrenau Goidelig, ac yn iaith hen frodorion Mon, yr enw " Mayil an Ton," (Moel y Don), a bytholir enw y llywydd â'i long drwy iddo aros hyd heddyw fel enw y Borth gyfagos sy'n cysylltu Mon a phorth Felinheli, neu Porth Dinorwig.


XXI. DIWEDD A DECHREU

YN y cyfnod pwysig y cyfeirir ato bu adfywiad crefyddol nodedig iawn ym Mon, yn yr hwn yr ymunwyd' gan grefyddwyr enwog o'r ddau bobl oedd eto yn parhau ar wahân yn eu harferion crefyddol oblegid y rhwystr achosid gan wahaniaeth tafodieithoedd y trigolion.

Yr oedd yr hen adfywiad a briodolir yn bennaf gan rai haneswyr i Brychan Brycheiniog, fel y sylwyd o'r blaen, wedi achosi sefydlu ciliau, neu gysegroedd bychan ynglŷn ag etifeddiaeth pob tylwyth yn yr ynys. Ac heblaw y ciliau Goidelig, yr oedd cysegroedd Brythonig a elwid Llannau, neu fannau neillduedig i addoli. Yn yr adfywiad dan sylw, adnewyddwyd y ciliau Goidelig trwy gyfnewid yr hen giliau a blethasid o goed, ac a ddwbiasid â chlai, am adeiladau mwy arosol, ond syml a diaddurn, petryal neu ysgwâr, heb fod yn annhebyg i rai ysguboriau a welir eto.

Oddiwrth enwau llawer o'r ciliau Goidelig, a'r llannau Brythonig, cesglir fod y gwragedd crefyddol, fel arfer, yn cymeryd rhan flaenllaw yn adeiladu yr eglwysi hynny. Llanwyd Dona gan awydd mawr a difrifol i ail-adeiladu yr hen Gil oedd mor anwyl a chysegredig yng ngolwg ei mam grefyddol. Yr oedd y brofedigaeth fawr yr aethai Dona drwyddi mewn dull mor rhyfedd ac annisgrifiadwy, ac megis yn ddiarwybod iddi ei hun, wedi effeithio yn ddwys arni, ac wedi dyfnhau yr awydd ynddi oedd gyffredin mewn mannau eraill. Ei hoff bleser oedd myfyrio ar ei bwriad i adeiladu Cil (ni fynnai son am Lan, oblegid yr hen enw arferid gan ei mam) a'i holl ymddiddan bron oedd ynghylch y Cil newydd.

Dylid feallai cyfeirio yma at adfywiad a adnabyddir weithiau dan yr enw Adfywiad Meibion Caw. Nis gellir dilyn yr hanes gyda manyldra, ond trwy ymgydnabyddu ag enwau eglwysi ym Mon. Mae rhai yn gallu gwahaniaethu rhwng y ciliau Goidelig a'r llannau Brythonig: ond erbyn hyn y mae cil fel enw ar eglwys wedi ymadael o Fon, lle mae'r llannau yn y mwyafrif mawr yn enwau cyffredin.

Mewn cysylltiad ag adfywiad arall, ceir enwau Brythoniaid fuont gewri addysg yn yr ynys. Cyfeiriwyd eisoes at y Meudwy ymsefydlodd yn Ynys Lanach. Casglodd hwn ddisgyblion, neu wyr ieuainc fuont enwog fel hyrwyddwyr addysg ym Mon. Enw y Meudwy hwn,-tad neu sefydlydd ysgol, neu goleg,-oedd Seiriol. Cell arall addysg ym Mon oedd Cell Cybi. Y ddau hyn cydrhyngddynt fuont yn arolygu addysg yma flynyddau lawer cyn i'r un pabydd sangu daear Mon, a chyn i un o fonachlogydd pabaidd y canol oesoedd gael ei hadeiladu.

Mewn penodau blaenorol awgrymwyd fod cysylltiad agos rhwng Dona a Iestyn fel goruchwyliwr yr etifeddiaeth a berchenogasai hi yn ei hawlfraint ei hun. Crybwyllwyd y modd yr amlygasant eu serch i'w gilydd ym mhresenoldeb Ceris, yr hwn yntau a ddatganodd ei gydsyniad a'i gymeradwyaeth, gydag arddangosiad o lawenydd a serch dwfn. Tyfodd eu serch i fod yn gwlwm annatodol i'w sicrhau yn eu perthynas mwyaf agos, fel nad oedd dim yn eisiau ond eu cysylltu mewn glan briodas yn gyhoeddus ym mhresenoldeb eu ceraint a'u cymydogion.

Fore dydd cysegriad y Gil newydd oedd eisoes wedi ei henwi gyda chymeradwyaeth gyffredinol yn Gil Dona, priodwyd y ddeuddyn gan yr Esgob Moelmud, yr hwn yn ddifrifol ac yngwydd pawb oedd gyd-ddrychiol a'u cysylltodd yn ôl arfer a'r drefn Goidelig, heb rwysg nac arddangosiad, ond gweddi a bendith yn ddilynedig â datganiadau o ddymuniadau ac ewyllys da y gwyddfodolion. Y dydd canlynol oedd Ddydd Nadolig. Yn y Plygain cynhaliwyd gwasanaeth i groesawu yn grefyddol y Baban Iesu ar y dydd a gyfenwir fel ei ddydd genedigaeth yn Waredwr y byd.

Pan oedd y gwasanaeth ar fin terfynu ymddangosodd peth dybygid oedd gwmwl dudew o'r hwn yr arllwysodd trwm-wlaw a grynodd y muriau, yna fellten danbaid a wnaeth y nos am eiliad fel dydd, ac yna dwrf taran fel pe disgynasai y creigiau ger llaw i orchuddio y lle, ac yn ddilynol gorwynt a fygythiai fwrw y Gil yn bendramwnwgl dros y dibyn i'r dyfnder gerllaw. Ac yn fwy dychrynllyd na'r cyfan i gyd, clywid ysgrech annaearol a wnâi dwrf ofnadwy fel pe rhwygid y ffurfafen yn ddwy o'r entrych i'r gorwel: ac yna ddistawrwydd sydyn, ac megis ar foment ymddangosodd awyr las glir, a'r lleuad yn edrych fel pe buasai am ddiorseddu yr haul oddiar orsedd ei ogoniant,-mor ddisglair y gwenai yn y Ffurfafen.

Ar ôl i'r dymestl fyned heibio, ac i dawelwch deyrnasu, cododd yr Esgob ei ddwylaw a gwaeddodd,——"Y nefoedd a'n gwaredo o afaelion y Widdan a ymwelodd â Mon unwaith eto i ryw ddiben anesboniadwy i mi, os nad i'w bwrw fel Babilon i'r môr."

Wedi clywed hynny yr oedd amryw a adwaenent Bera yn barod i dystio fod rhywbeth yn yr ysgrech yn gwneyd iddynt feddwl am dani, er na fuasent yn dweyd dim oni bai i'r Esgob lefaru.

Yn y bore yr un dydd pan oedd rhyw bysgotwyr yn croesi y traeth, gwelsant bentwr mawr o wymon, ac wedi iddynt fyned yn agos, canfuant wyneb marw Bera y Widdan. Yr oedd wedi ei hamdoi yn hollol â gwisg oer lithrig o'r môr. Yr oedd yn hollol farw, gyda rhyw greiriau dieithr yn cael eu dal yn dynn yn ei llaw.

Pan gafwyd sicrwydd fod gyrfa aflonydd Bera wedi rhedeg i derfyniad, er mor ddychrynllyd ydoedd, taenodd rhyw esmwythdra cyffredinol dros y bröydd. Oherwydd yr oedd ei hymweliadau a'i harferion dieithr yn achosi pryder, ofn, a dychryn parhaus. Nid oedd neb yn fwy diolchgar na Dona y dydd dedwydd pan agorodd o'i blaen ddrws cyfnod hapusaf ei bywyd a ddechreuodd y Dydd Nadolig hwnnw.



CAERNARFON:
Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.)

Llyfrau Newyddion.
Cyhoeddedig gan Gwmni't Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.),
Caernarfon.
Nid yw y llyfrau hyn yn gyfres er eu bod oll o’r
un plyg a maint.

LLIAN, 112 TUDALEN, DARLUNIAU.

PRIS SWLLT YR UN.

YN BAROD.
I.

CLYCH ADGOF.
Penodau yn hanes fy addysg.
GAN OWEN EDWARDS.
5. —Y Bala.
6. —Aberystwyth.
7. —Rhydychen.
8. —Dyrnaid o Beiswyn.

1. —Ysgol y Llan
2. — Hen Fethodist.
3. —Llylr y Seiat.
4. —Fy Nhad.

II.

GWREICHION Y DIWYGIADAU.

WEDI EU CASGLU GAN GARNEDDOG.

Penhillion y Diwygiadau, tân oddiar yr allor,
yn llawn ysbryd ac athrylith.

TRO TRWY’R WIG.

GAN RICHARD MORGAN.
y Gyfrol Gyntaf.

1. —Coch y Berllan.
2. —Priodas y Blodau.
3. —Nyth Aderyn Du.
7.—Telor

4.—Bore Teg.
5.—Carwriaeth y Coed.
6.—Crafanc yr Arth.
yr Helyg.

IV.

CERRIG Y RHYD
Llyfr o hanes rhai'n camu cerrig rhyd bywyd
GAN WINNIE PARRY.

Cerrig y Rhyd. YCawrHwnw. Y Plas Gwydr Cwyn
y Rhosyn. Anwylaf. Uchelgaisy Plant. Y Goedwig Ddu.
Blodau Arian. Fy Ffrog Newydd. Y Marchog Glas. Hen
Ferch. Breuddwyd Nadolig. Huw. Esgidiau Nadolig. Y
Castell ger y Lli- Dros Foel y Don.
V.

CAPELULO.
GAN ELFYN.

Bore Oes ; Crwydro'i Byd : TroiAdre; Troi Dalen,
Sêl Tomos.,; Dysgu Darllen

“ Dydd
“ lan

Dydd
" : lau " ; Balchder a
Phwdin; Gwerthu Almanaciau
Almanaci.au a Cherddi
Cherddi ; Traethu ar
Briodas; Anerchiadau a Chynghorion ; Ar.u th Danllyd ;
Pregeth i Berson ; Cwestiynau’r C> frwys : I >.ifydd Evans y
Pandy : Cyfarfod Gwy thcrin . Yn y Cyfarfod Gwcddi ; Tagu
Prvdydd : Dywediadau ac Ymgomiau
Tomos ac I. DFfraid ; Y Gweinidog o’r De ; O Flaen yr “ Ustus " ; Rhyfel
â Satan ; Yn y Seiat; Galwad Adref.

VI.

TRO TRWY’R GOGLEDD.
GAN OWEN EDWARDS.

1. —Blaenau Ffestiniog.
2. —Y Perthi Llwydion.
3. —O gylch Carn Fadryn.
4. —Harlech.

5-—Ty’n y Groes.
6. —Llan ym Mawddwy.
7. — Pen y Bryn.
8. —Y Bryn Melyn.

VII.

ROBERT OWEN, APOSTOL LLAFUR.
GAN Y PARCH. RICHARD ROBERTS, B.A.

Y cartref yn y Drefnewydd.
Y Siop yn Llundain.
Manceinion, Lanark Newydd. Amseroedd Rhyfedd. Trueni’r
gweithiwr. Adain Sinith a Malthus. Ym Mharis a'r Ynys
Werdd. Ymroddi i wella cymdeithas. Ei syniadau.

VIII.

DAFYDD JONES O DREFRIW.
GAN Y PARCH. O. GAIANYDD WILLIAMS.

Y Llenor a'i ocs. Amcan a llc Dafydd Jones. Pwy
vdoedd. Byw><1 a Buchedd. Ei Farddoniaeth EiGrefydd.
Ei Lyfrau. Bwriadau Llenyddol. Fel casglwr hen ysgriflyfrau

IX.

TRO I’R DE.
GAN OWEN EDWARDS.

1. —Caer Lleon Fawr.
2. —Llanidloes.
3 —Llanfair Mnallt.
4-—Abertawe.
5. —Yr Hen Dy Gwyn.
6. —Llangeitho.


GWAITH HUGH JONES, MAESGLASAU.
DAU O'I LYFRAU,—SY’N BRINION IAWN ERBYN HYN.
I.
Cydymaith i r Hwsnion.” 1774.
II. —“ Hymnau Newyddion.” 1797.

XI.

TRWY INDIA’R GORLLEWIN.

GAN Y PARCH. D CUNLLO DAYIES.

Nodiadau o hanes taith trwy yr ynysoedd yng ngauaf
1903-04.

CERIS Y PWLL.

GAN O. WILLIAMSON.
Rhamant hanesyddol yn egluro cyfnod yr ymdrech rhwng Goidel a
Brython a ffurfiad y genedl Gymreig.

CLASURON CYMRU.
DAN' OLYGIAETH
OWEN M. EDWARDS, M.A.

GWELEDIGAETHAU Y BARDD CWSG.
Gan ELLIS WYNNE.

1. Gweledigaeth Cwrs y Byd. 2. Cerdd ar “ Gwel yr
Adeilad.” 3. Gweledigaeth Angau. 4. Cerdd ar “ Cadel
i Cerdd ar “ Trom
Tir.” 5. Gweledigaeth Uffern. 6.
Galon.
Y mae hwn wedi ei drefnu ar gyfer yr Ysgolion.

II.

DRYCH Y PRIF OESOEDD.
Gan THEOPHILUS EYANS.
1. Y Cymry.
2. Y Rhufeiniaid.
3. Y Brithwyr.
4. Y Saeson.

"Am ddyddordeb Drych y Prif Oesoedd nid oes ond
un farn. Y mae’r arddull naturiol a’r cydmariaethau
hapus ar unwaith yn ein denu i ddarllen ymlaen.”

III.

BYWYD IEUAN GWYNEDD.
Ganddo Ef ei Hun.

1. Ardal Mebyd. 2. Fy Mam. 3. Bore Oes. 4. Athrawon. 5. Cathlau Blinder. 6. Gwaith Bywyd.
“ Nid oes odid i fywyd, yn holl hanes bechgyn ieuainc
Cymru, mor llawn o wersi i wyr ieuainc yr oes hon a
Bywyd Ieuan Gwynedd. Yn ei egni dros Dduw a
Chymru. trwy dlodi ac afiechyd, a hiraeth a dioddef, y
mae yn fywyd na ddylai’r Cymry byth anghofio a<m dano.”
Wedi eu rhwymo mewn llian hardd, gyda darlun.
Pris Swllt yr un. Drwy y Post, Is. llc. Mewn cover
papyr, 6c.

HANES CYMRU.
GAN
OWEN M. EDWARDS, M.A.

Rhan I.—Hyd farwolaeth Gruffydd ab Llywelyn yn
1063. Cynwysiad: Cymru—Y Cenhedloedd Crwydr—Y
R h u f e i n i a i d —Y Sa e son—A r t h u r— M ael g wn G wy ne d d—
Brwydr Caer—Colli’r Gogledd—Y Cenhedloedd Duon—
Dau Frenin Galluog—Yr Hen Grefydd—Y Grefydd'
Newydd—Trem yn ol.
Rhan' II.—Hyd farwolaeth Gruffydd ab Cynan 1137.
Cynwysiad : Ymosodwr Newydd—Tri Chryf Arfog—
Dau Dywysog—Brycheiniog a Morganwg—Caethiwed
Gruffydd ab Cynan—Rhyfeloedd y Brenin Coch—Llethu’r
Norman a’r Cymro—Geni Gwladgarwch—Owen ab Cadwgan—Gruffydd ab Rhys—Eglwys Cymru—Diwedd y
ddau Ruffydd.

Wedi eu rhwymo mewn llian, gyda darluniau. Pris Is. 6c.
yr un. Drwy y Post, 1s. 8c.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Ynys Lenach: Y mae'n wall orgraff yn y llyfr.—O. E.
  2. Ynys Lenach: Y mae'n wall orgraff yn y llyfr.—O. E.