Cofiant Dafydd Rolant, Pennal (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cofiant Dafydd Rolant, Pennal (testun cyfansawdd)

gan Robert Owen, Pennal

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant Dafydd Rolant, Pennal

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

COFIANT

DAFYDD ROLANT,

PENNAL

GAN Y

PARCH. ROBERT OWEN, M.A.,

PENNAL.

——————♦———————

DOLGELLAU:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN E. W. EVANS, SMITHFIELD LANE.

1896.

RHAGYMADRODD

AMLYGWYD dymuniad, yn fuan ar ol marwolaeth Mr. David Rowland, am i Gofiant gael ei ysgrifenu iddo. A chwestiwn a ofynid yn fynych, o hyny hyd yn awr ydoedd, “Pa bryd y mae Cofiant Dafydd Rolant yn dyfod allan?," Yn awr dyma'r cwestiwn wedi ei ateb, ni bydd eisiau i neb ei ofyn mwy.

Ysgrifenwyd ychydig am y gwrthddrych o'r blaen, i'r Goleuad a'r Drysorfa, a'r Cylchgronau eraill, ond bydd yr hanes hwn, sydd yn llawer helaethach, yn fwy hylaw wedi ei gasglu ynghyd yn llyfr.

Cyflwynir i'r darllenydd, yn y tudalenau hyn, fywgraffiad gwr oedd yn adnabyddus iawn yn ei oes, gwladwr da, llawn o rinweddau goreu y natur ddynol, o synwyr cyffredin cryf, ffraethineb, naturioldeb, craffder, cymwynasgarwch, yn nghyda phob rhinwedd a chlod. Ysgrifenwyd hanes dynion hynod oeddynt yn fwy nag ef mewn un ffordd, ond anaml y cedwir mewn coffadwriaeth neb, yn ol ei amgylchiadau, a wnaeth fwy o ddaioni trwodd a thro.

Nid gwaith hawdd oedd ei osod allan y peth oedd, gan ei fod gymaint ar ei ben ei hun.

Yn Nghymdeithasfa y Bala, pan oedd y brodyr yn ymddiddan a'u gilydd am yr haint oedd wedi tori allan ar y pytatws, cymhellodd y Parch, Henry Rees, y llywydd ar y pryd, yr Hynod William Ellis, Maentwrog, i ddweyd gair. Cyfododd yntau ar ei draed, a dywedai ar lawr y capel yn debyg i hyn,— "Y mae rhai yn barnu mai rhyw blaned sydd wedi dyfod yn rhy agos i'r ddaear, ac wedi drygu y llysienyn hwn, sydd yn rhan fawr o gynhaliaeth dyn. Os dyna ydyw yr achos, nis gallem ni yma wneyd dim byd yn well heddyw na threfnu i gyfarfodydd gweddio gael eu cynal trwy y wlad i gyd, i ofyn i'r Hwn sydd yn gallu galw y ser wrth eu henwau, i roddi Ei fys arni. Mi fydd yn gynhwrf anghyffredin yn y nefoedd, pan y bydd plant Duw mewn rhyw gyfyngder mawr ar y ddaear, &c." Ni bu braidd erioed y fath effeithiau ag oedd yn dilyn y sylwadau hyn, ac wrth weled y fath gynhwrf ar y llawr, gofynai y rhai oedd yn y gallery yn methu ei glywed, i'r llywydd ei ail—adrodd. "Fedrai ddim," ebe Mr. Rees, "a phe buasech chwithau yn fy lle i, nis, gallasech chwithau ychwaith ei ail-adrodd."

Nis gellir ychwaith ail-adrodd David Rowland yn hollol fel efe ei hun, oblegid ei fod mor hynod, ac mor wahanol i bob dyn arall. Hyderir, fodd bynag, y caiff y darllenydd lawer o ddifyrwch, a llawer o adeiladaeth wrth ddarllen ei hanes.

R. OWEN.

Pennal, Mai 28ain, 1896.

CYNWYSIAD.

Desgrifiad o ardal Pennal—Y teulu yn adnabyddus cyn cof —Cof-golofn Dafydd Rolant—Ei Adroddiad ei hun am ei haniad—Dr. Pugh y Cunger—Dylanwad dywedyd tesni— Hugh Rolant yn heliwr Achau—Ffraethineb ei Atebion— Ei sylw pan ddewiswyd ei fab yn flaenor—Hugh Rolant yn dyfod yn Ddirwestwr—Ei brofiad fel Dirwestwr, a'i Araeth ar Ddirwest—Hugh Rolant yn ymladdwr Ceiliogod—Darluniad Dafydd Rolant o "Gocyn Ceiliogod"—Spardynau y Ceiliogod

Amser a lle ei enedigaeth—Ei alwedigaeth—Lewis William, Ysgolfeistr yr Ysgolion Rhad Cylchynol—Dilyn ei alwedigaeth yn ol dull yr oes—Y bai yn cael ei roi ar y teilwriaid—Yr hwch fagu yn y ty—Tro yn yr uwd—Y teilwriaid yn bobl barablus—Yn dechreu cadw siop—Achos crefydd yn Mhennal yn more ei oes—Enill gwobr yn yr Ysgol Sul—Yn llechu yn ngweithdy Arthur Evan y blaenor ar fellt a tharanau.


Yr hyn a barodd iddo fod yn Fethodist—William Rowland ei Ewythr—Diwygiad 1819—Gorfoledd yn nhy Peter Jones a Sian William—Y Diwygiad Dirwestol yn 1836— Sign y Black Crow yn cael ei thynu i lawr—Hanes D. Rolant yn d'od yn Ddirwestwr—Llythyr y Parch. D. Cadvan Jones—Yn dyfod i'r Seiat yn 1838—Yn talu y casgliad misol cyntaf Yn cyfodi'r allor deuluaidd—Yn llafurio am wybodaeth—Yn cael ei ddewis yn flaenor yn 1850.

Yn frodor o'r brodorion—Y rheswm am ei boblogrwydd— Darluniad y Parch. John Owen, y Wyddgrug, o hono— Ei fedr i ddesgrifio cymeriadau—Arthur Evan yn cyfarfod temtasiwn ar y Sul—Ei gynghorion mewn priodas— Y ddau flaenor yn dadleu dros godi yn y casgliad at y Weinidogaeth—Yn tynu trowsus Mr. Davies yr offeiriad allan—Cranogwen yn gwneuthur tro chwareus—Ei sylw wrth Mr. Holland, A.S., amser etholiad—Ei ddameg wrth areithio adeg etholiad 1885—Y fainc yn tori tra yn siarad yn yr Ysgoldy—Ei Araeth fawr amser sefydlu y Bwrdd Ysgol yn 1874—Ei ffraethineb ef a ffraethineb y Parch Richard Humphreys—Sylw y Proffeswr Henry Rogers am dano

Rhagluniaeth yn clirio y ffordd iddo briodi—Yn dyfod a gwraig i Bennal—Teulu Mary Rowland—Y lle y cyfarfyddasant gyntaf—Y Rhagbarotoad—Ymgynghori â'r teulu—Y trafaeliwr yn dyfod heibio—Sylw Mr. Humphreys a Mr. Thruston—Bys bach y cloc o'i le—Beth fydd swper y pregethwr—Galw arno o'r ardd—Yn cymeryd meddyginiaeth y naill yn lle y llall—Yn barod i briodi yn gynt y tro nesaf—Ar lan y môr yn y Borth—Yn anghytuno oherwydd myned i goncert yn Llandrindod—Dull y ddau o gario busnes ymlaen—Darluniad y Parch. Griffith Williams o garedigrwydd y ddau—Y ty yn llawn o fis Mai i fis Medi—Cân Dafydd a Mari, gan R. J. Derfel

Anfon llythyr i Lundain—Sylw Dr. Lewis Edwards am y Parch. Richard Humphreys—Ei hawl i'r teitl o fod yn athrylithgar—Yn rhagori fel adroddwr Hanesion—Ei gyffelybiaeth am y Parch. Foulk Evans—Y Parch J.Foulkes-Jones, B.A., yn debyg i Iesu Grist—Cyngor i ymwelwyr rhag myn'd at droed y ceffyl yn rhy fuan—Cerdded "part' o ddau blwy' cyn brecwast—Dau gapel yn un yn y mil blynyddoedd—Colli coron wrth enill haner coron—Blaenoriaid yn ready made—Hen Gymro gwledig yn ymweled a Llundain—Pedwar ugain ond un o gynygion i briodi—Chwilio am y bedwaredd wraig—Dewis y crogbren o flaen priodi—'Barr Toss'—Siarad ymysg y rhyw deg—Gwrthod y gwir, a chredu yr hyn nad yw wir—Stay long—Pridd y Puritaniaid—Y cyfiawn yn gofalu am ei anifail—Reducio yn lle introducio—Dymuno i'r gwr fod yn ever-green—Dyn siaradus yn dafod y corff—Y danedd yn y bocet—Byth yn rhy uchel i siarad—Dwy wraig dalentog yn siarad—Un weithred yn effeithio ar y wyneb—Yn llawdrwm ar gybyddion—Dim posib cneifio y llew— Digon o ddawn i gadw seiat—Gormod o rubanau—Tebyg i Mr. Gladstone—Ymchwydd dynion bychain—Mewn Cyfarfod Misol yn Mhennal—Yn rhoddi cyngor i Flaenoriaid yn siarad yn well heb barotoi.

Dychwelyd yn ol i'r ty y ganwyd ef ynddo—Hanes preswylwyr Llwynteg—Cychwyn ar ymweliad—Cafarfod â hen gyfaill—Byw yn retired am bedair blynedd ar ddeg—Desgrifiad o Llwynteg—Yn mwynhau bywyd—Byw ar yr adlodd—Darllen yn ffynhonell ei gysuron—Bachgen yn ceisio symud balk ffawydd—Llythyr o Rydychain—Treulio Sabboth yn Mhennal—Tebyg i Gladstone ynte Gladstone yn debyg iddo ef—Yr un oed a'r Corff—Yn siarad am y ddwy Drysorfa.

Bob amser yn gweled hollt yn y cwmwl—Penderfynu peidio ymladd a'r byd ar wastad ei gefn—Yn rhoddi tystiolaeth mewn Llys Barn—Y mil blynyddoedd yn ymyl—Llwdwn dafad yn trigo ar y mynydd—Gwr tangnefeddus—Cymhariaeth allan o hanes y Parch. John Evans, New Inn— Yn cael derbyniad siriol ar ymweliad i'r Eglwysi—Myn'd i'r dref i ymofyn goods—Yn byw i gyfeiriad codiad haul— Myn'd adref flwyddyn y Trydydd Jubili—Oes hir wedi ei threulio yn y modd goreu

Credu llawer yn Rhagluniaeth a'r Efengyl—Ei grefyddoldeb —Y perygl o fod yn ffurfiol gyda chrefydd—Ardderchowgrwydd geiriau'r Beibl—Ei brofiad mewn Cyfarfod Misol—Ei sylwadau mewn Cyfarfod Eglwysig yn Mhennal yn 1891—Ei Esboniad ar Salm lxxix. 16.—Parodrwydd i gydsynio â'r brodyr yn y Cyfarfod Misol—Tystiolaeth un o deulu Talgarth Hall—Tystiolaeth y Parch. J. Foulkes-Jones, B.A.—Nodiadau gan Ysgrifenwyr eraill—Parch. R. J. Williams—Parch. David Roberts—Parch. David Edwards—Parch. E. V. Humphreys—Parch. W. Williams, Dinas Mawddwy—Mrs. Green—Parch. J. Owen, Wyddgrug—Parch. T. J. Wheldon, B.A.—Parch. W. Williams, Talysarn—Parch. D. Jones, Garegddu—Parch. Hugh Ellis, Maentwrog—Mr. John Edwards, Pendleton—Parch. John Williams, B.A.—Parch. G. Ellis, M.A.—Mr. Robert Jones, Bethesda—Mr. John Jones, Moss Side, Mr. David Jones, Caernarfon—Parch. John Williams, Aberystwyth—Llythyr oddiwrth y Gymdeithasfa—Cyfarwyddid i lanc ieuanc o fugail—Cynghorion i wasanaethyddion—Gofalu am y trallodedig–Ei haelioni—Rhoddi parch i ddyn—Profiad ar wely angau—Fel blaenor eglwysig—Dilyn moddion gras–Cynulleidfa fawr yn ei dynu allan—Dyn gyda'i bethau—Fel siaradwr cyhoeddus—Ei sylwadau am Dr. Charles—Am Dr. Edwards—Diolchgarwch mewn Cymanfa

Yr hyn a ysgrifenodd dyn yn cadw ei goffadwriaeth yn hwy heb fyned ar goll—Diwedd dyddiau y Parch. Richard Humphreys—Ei sylwadau am y Parch. J. Foulkes—Jones, B.A.—Araeth yn Nghynadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol.

Symud i wlad well—Tori yr Enaint wrth adael y byd—Ei sylwadau pan y cyrhaeddodd 80 oed—Dyddiau ei bererindod yn tynu at y terfyn—Y Cyfarfod Misol olaf—Y Cyfarfod Cyhoeddus olaf yn Mhennal—Thomas Roberts, hen ddrifer John Elias—Yn ewyllysio gweled John Elias yn gyntaf wedi myn'd i'r nefoedd—Mwy o'i gyfeillion yn y nefoedd–Myfyrdodau am grefydd—Clause yn y weithred Dyn wedi ei greu ar gyfer byd arall—Capel haiarn Henry Rees—Marwolaeth sydyn Dr. Hughes—Dafydd Rolant yn myn'd i'r nefoedd yn ei gwmni—Dim eisiau newid y doctor—Byw yr un fath pe cawsai ail gynyg—Y bachgen yn foddlon ac anfoddlon iddo fyned i'r nefoedd—Y Penteulu yn holwyddori y plant—Y dyn goreu fu yn Mhennal erioed–Yn agoshau i'r Orphwysfa–Ei angladd—Pob peth yn dda.

COFIANT DAFYDD ROLANT

——————♦——————

PENOD I.

EI DEULU.

Desgrifiad o ardal Pennal—Y teulu yn adnabyddus cyn cof —Cof—golofn Dafydd Rolant—Ei Adroddiad ei hun am ei haniad Dr. Pugh y Cunger—Dylanwad dywedyd tesni—Hugh Rolant yn heliwr Achau—Ffraethineb ei Atebion—Ei sylw pan ddewiswyd ei fab yn flaenor—Hugh Rolant yn dyfod yn Ddirwestwr—Ei brofiad fel Dirwestwr, a'i Araeth ar Ddirwest—Hugh Rolant yn ymladdwr Ceiliogod—Darluniad Dafydd Rolant o "Gocyn ceiliogod"—Spardynau y Ceiliogod.

 AN yn sefyll yn nrws ty Llwynteg, cartref gwrthddrych y Cofiant hwn, gwelir ar un olwg dair o Siroedd Cymru, Meirionydd, Aberteifi, a Threfaldwyn. Cyferfydd y tair sir wrth ymyl Glandyfi Junction, dwy filldir o bellder o bentref Pennal. I bwy bynag nad yw yn gwybod eisoes, bydded hysbys mai ardal ydyw Pennal ar gwr eithaf Sir Feirionydd, yn wynebu y Deheudir. Os edrychir ar y llaw chwith o gerbydau y Rheilffordd, wrth deithio i fyny o Glandyfi at Machynlleth, ceir golwg ar gyrion yr ardal; ond mae y lle yn fwy o faintioli wedi dyfod iddo nag yr ymddengys oddidraw. Saif y pentref ar y gwastad, a'r bryniau llyfnion, moelion, yn ei haner amgylchu, ac yn ei gysgodi rhag gwynt y Gogledd a gwynt y Gorllewin. A thywyna yr haul, os bydd yn haul yn rhywle, ar wyneb yr ardal, haf a gauaf, o fore hyd nos. Cydnabyddir y gymydogaeth fel un o'r rhai prydferthaf, os nad y brydferthaf oll yn Sir Feirionydd. Arweinia y ffordd fawr yr hen turnpike road—rhwng Machynlleth ac Aberdyfi trwy ei chanol, Daw llanw y môr, ar hyd Afon Dyfi, o fewn llai na haner milldir i'r pentref, gan basio heibio i fyny tua Derwenlas, i gyfeiriad Machynlleth.

Heblaw bryniau, a dolydd, a choedwigoedd o gryn amrywiaeth sydd yn prydferthu y lle, mae yn yr ardal hefyd amryw o balasdai. Ar un ochr i'r pentref y mae Talgarth Hall, preswylfod y diweddar C. F. Thruston, Yswain, y gwr a gynygiai David Williams, Castell Deudraeth, i fod yn Aelod Seneddol dros y sir, pan ymgeisiodd y tro cyntaf, yn 1859. Ar yr ochr gyferbyniol i'r pentref y mae Pennal Tower. Perchenogir y palasdy hwn hefyd gan y Thrustons. Yma y treuliodd Proffeswr Henry Rogers, awdwr yr Eclipse of Faith, flynyddoedd olaf ei fywyd, ac yma y bu farw. Yma y dyddiwyd y llyfr olaf a ysgrifenodd—Super-Human Origin of the Bible, Pennal Tower, Rhagfyr, 1873.

Preswyliai teulu Cymreig yn y gymydogaeth, yr hwn a chwareuodd ran nid anenwog yn mhlith yr ardalwyr am, o leiaf, y ddwy ganrif ddiweddaf. Yr olaf, a'r hynotaf o'r teulu, a'r hwn a ddaeth i fwyaf o gyhoeddusrwydd ydoedd Dafydd Rolant. Dyna yr enw wrth ba un yr adnabyddid ef oreu gan ei gyd-oeswyr, am ba reswm y defnyddir y ffurf hwn o'r enw fynychaf yn y Cofiant am dano. Er rhoddi ychydig o syniad i'r darllenydd am dano ar y cychwyn, dechreuir gyda'r hyn y bydd bywgraffiadau yn gyffredin yn terfyno. Ar yr 21ain o Awst, 1895, gosodwyd ar ei fedd yn Mynwent Newydd Pennal, Gof-golofn brydferth, o farmor gwyn, un troedfedd ar ddeg o uchder. Ac mae yn gerfiedig ar y golofn y geiriau a ganlyn:

COFFADWRIAETH

AM

DAVID ROWLAND

Llwynteg, Plwy Pennal.

Ganwyd Mai 12, 1811.

Bu farw Tachwedd 7, 1893

Blaenor yn Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, Pennal, o

1850 i 1893.

——————

"Gwr da, duwiol, hynaws, haelionus, ffraeth, ffyddiog."

Preswyliai ei hynafiaid yn Mhennal er cyn côf, ac yr oeddynt yn bobl liosog a hynod, hil hepil. Enillasant hynodrwydd nid yn mhethau goreu y ddau fyd, fel y gwnaeth yr hwn yr ysgrifenir ei hanes yn y tudalenau hyn, ond pawb yn ol eu ffordd. Hynodrwydd yn nghyfri y byd presenol oedd yr eiddynt hwy. Rhydd Dafydd Rolant, mewn paragraph neu ddau a ysgrifenwyd ganddo rywbryd, gip-olwg ar ei haniad, yn ei ddull a'i eiriau ei hun.—

"F'y rhieni oeddynt Hugh Rowland, a Jane Davies ei wraig. Magwyd fy nhad yn y Felinganol, Pennal, a'm mam yn y Cwrt, pentref cyfagos—Joiners oedd teulu fy nhad, ac yn cadw melin. Bu y teulu yn y Felinganol am oesoedd (byddai fy nhad yn dweyd na allasai neb ddweyd yn amgen nad oeddynt yno er Adda). Yr oedd un peth wedi eu gwneuthur yn hynod gyhoeddus yn y wlad, sef eu bod yn Cock Masters, ymladdwyr ceiliogod. Mae yn dda genyf fod yr hen arfer greulon bron a darfod pan oeddwn i yn ienanc.

Merch i William Davies y gof, oedd fy mam. Hen frawd oedd ef, fel gofaint yn gyffredin, pur sychedig. Er hyny, yr oedd wedi dysgu hel tipyn o'r byd. Yr oedd ganddo ddigon o dir i gadw dwy fuwch, a pony, ac yr oedd wedi buildio pedwar o dai, a gefail gôf, ond ar brydles yr oeddynt. Wedi côf genyf fi y terfynodd y brydles, ac aethant oll yn eiddo y meistr tir. Heblaw hyny, yr oedd ganddo ychydig arian ar dir a môr, y rhai a gafodd ei blant ar ei ol.

Chwi welwch fy mod wedi hanu o dri dosbarth. Mae yn anhawdd cael y tri heb fod yn euog o'r hyn ddywed yr hen ddihareb, sef, 'Tri gôf du sychedig,' 'Tri gambler di-fost,' a 'Thri melinydd gonest.'"

Mae llyfr rhent y Felinganol wedi ei gadw er y flwyddyn 1729. Rowland David oedd y tenant y flwyddyn hono, a chan yr un tenant y telid y rhent am dros ddeng mlynedd ar hugain wedi hyny, a phedair punt y flwyddyn oedd y swm. Ni wyddis yr amser yr ymadawodd y teulu o'r Felinganol, ac ni byddai o unrhyw fantais i roddi ychwaneg o'u hanes yno, pe byddai hanes i'w gael. Modd bynag, yr oedd Hugh Rolant, tad gwrthddrych y Cofiant, yr hwn oedd yn ddilledydd wrth ei gelfyddid, yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif bresenol, yn byw yn Llwynteg, wrth ymyl y pentref. Ceir ychwaneg am Llwynteg eto yn mhellach yn mlaen.

Tua'r pryd hwn y ganwyd Dafydd Rolant yn y ty crybwylledig. Yr oedd y ty yr adeg hono yn cael ei ranu yn wahanol ystafelloedd, ac amryw deuluoedd yn byw ynddo, dan yr un tô. Un o'r rhai hyn oedd Dr. Pugh, gwr yn arfer dewiniaeth, "Cunger" (conjurer) proffesedig. Honai ei hun yn feddyg, ac oblegid hyny, meddai ddylanwad mawr ar ddosbarth lliosog o bobl y wlad. Gelwid ef wrth yr enw Dr. Pugh, ond nid oedd yn ddim amgen na quack doctor. Adnabyddid ef trwy y cylchoedd o amgylch fel cunger llwyddianus, a byddai cyrchu mawr ato am feddyginiaeth i'r corff a'r meddwl, ac ato ef yr elid am gyfarwyddid os byddai unrhyw anhwyldeb ar anifail, neu anhap wedi digwydd i eiddo a meddianau. Rhoddai yntau iddynt ryw bapuryn a llythyrenau arno fel moddion anffaeledig rhag pob anhwyldeb, a chlwy, ac anhap. Byddai ganddo nifer o bobl loerig ac anmhwyllus yn eu cadw o dan ei ofal, rhai yn ei dŷ ei hun, a rhai yn nhai y cymydogion. Adroddir am un oedd yn byw yn Cefnrhos, uwchlaw Aberdyfi, yn myn'd a'i fam ato, yr hon oedd yn ngafael rhyw afiechyd nad oedd yn gwella o hono, a dywedai y dyn wrth fyn'd a hi at y cunger,— "'Dydyw yr ysbryd drwg yn gwybod dim am dani, a chymer Duw mo honi; ac yr wyf yn myn'd a hi at Dr. Pugh, i Bennal, i edrych a all ef wneyd rhywbeth o honi." Deuent ato fel hyn o filldiroedd o ffordd. Ond cael eu twyllo yr oedd y bobl druain gan y quack doctor.

"O ble mae'r bobl yn d'od yma?" gofynai Hugh Rolant iddo un tro, "Wedi eu witchio y maent?"

"Huwcyn bach," ebe yntau, "nid oes dim o'r fath beth a witchio mewn bod."

"I beth ynte yr ydych yn eu twyllo?"

"Y nhw sydd yn dyfod ataf fi, y ffyliaid, fe ânt at ryw un arall os na rof fi beth iddynt."

Cafodd Hugh Rolant wybod llawer gan ei gymydog a breswyliai dan yr un tô ag ef, am y grefft o ddywedyd tesni (ffortiwn). Yr oedd y Dr. Pugh hwn yn elyniaethus iawn i grefydd, ac yn un o erlidwyr penaf y wlad.

Nid oedd Hugh Rolant yn credu mewn dywedyd tesni. Yn hytrach fel arall, wedi deall dirgelion y grefft, gyrwyd ef i'r eithafion pellaf oddiwrthi. Yr oedd cymdeithas Dr. Pugh, modd bynag, wedi ei wneuthur yn lled elyniaethus tuag at yr Ymneillduwyr. Eglwyswr oedd ef, ac felly y parhaodd hyd ddiwedd ei oes. Nid aeth ei hanes ef ddim yn angho, fel eiddo ei dadau a'i deidiau. Y mae lliaws o'r ardalwyr eto yn ei gofio, a chofiant ei ddywediadau parod a phert, a'i droion direidus, yn nghyda'i chwedlau difyr am bobl a phethau. Dywed amryw hefyd ei fod llawn mor alluog dyn a'i fab, Dafydd Rolant, a phe buasai wedi cymeryd y cyfeiriad a gymerodd ei fab, buasai yn debyg o ragori arno mewn ffraethineb a pharodrwydd ymadrodd. Adnabyddai ef drigolion y cyffiniau yn dda odiaeth, medrai adrodd hanes pawb, nid yn unig yn ei oes ei hun, ond yn yr oes, os nad yr oesau o flaen ei oes ei hun. Nid oedd mo'i debyg am wybod achau teuluoedd. Edrychid arno yn gymaint felly, nes yr oedd wedi myn'd yn ddihareb yn yr ardal am unrhyw un a fedrai olrhain cysylltiadau teuluol, ei fod cystal am hel achau â Hugh Rolant y teiliwr.

Dywedai Dafydd Rolant yn fynych am ei dad, mai un da iawn ydoedd am adrodd stori. Byddai llawer un yn ei gwmni yn dywedyd wrtho, "Adroddwch stori, Hugh Rolant." Ond ni wnai mo hyny pan ofynid felly iddo. Bydd stori, pan yr etyb y pwrpas, yn dyfod yn naturiol yn nghwrs yr ymddiddan. "Wedi dechreu eu dweyd," meddai Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, "byddant yn galw eu gilydd." Yr oedd gan Hugh Rolant stôr o ystraeon. Heblaw hyny, yr oedd yn un dan gamp fel adroddwr, ac yn adroddiad stori y mae llawer o'i hyawdledd yn gynwysedig. Elai beunydd yn rhinwedd ei alwedigaeth ar hyd tai y wlad i weithio, ac adroddodd ganoedd o straeon tra ar ben y bwrdd yn pwytho.

Peth arall a'i gwnaeth yn gofiadwy yn nghôf ei gyd-oeswyr oedd, ei ffraethineb, ynghyd a pharodrwydd a phertrwydd ei sylwadau. Pan oedd yr Hybarch Richard Humphreys yn byw yn y gymydogaeth treuliai lawer o amser yn nhy David Rowland, lle yr oedd yn hynod o gartrefol. Un boreu, eisteddai Hugh Rolant, yn hen wr wrth y tân, wedi gwisgo ei esgidiau, ond heb gau eu careiau; ac ebe Mr. Humphreys, yr hwn a eisteddai yr ochr arall i'r tân, "gaf fi gau creia y'ch sgidia chwi, Hugh Rolant?" "Os ydych yn deilwng," oedd yr ateb parod. "P'run bynag," atebai yntau, "mi wnaf fi hyny am y tro."

Nid oedd ymyrwyr, a phobl fyddent yn ei holi, o gwbl yn ei ffafr. Galwai William James, yr Ynys, yn fynych yn y ty, a byddai yno yn aml i dê prydnhawn Sabbothau, oherwydd fod yr Ynys yn mhell. Un pur arw am gwestiyno oedd ef, a rhyw Sul, ar ol tê, gan nesau at Hugh Rolant i'w gwestiyno, gofynai, "Beth sydd genych chwi i'w ddweyd heddyw, F'ewyrth Hugh?" Yr ateb oedd, "Mae'r adnod hono yn d'od i fy meddwl, 'Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog, rhag iddo flino arnat, a'th gasâu."

Yn hen gapel Pennal, yr oedd y sêt fawr, wrth y pulpud, lle yr eisteddai y blaenoriaid, mor gyfyng nad allai pedwar ddim sefyll ynddi heb daro penelin wrth benelin, nac eistedd heb rwbio eu penau gliniau yn eu gilydd. Y mae yr aderyn bach yn y cage yn cael llawer mwy o le nag a gawsai y blaenoriaid yn y sêt fawr hon. Arthur Evan oedd y prif flaenor, a sêt Arthur y gelwid hi. Pan ddewisodd yr eglwys David Rowland yn flaenor, ebe Hugh Rolant wrth ryw un o fechgyn yr ardal, "Glywaist ti fod Deio ni wedi cael myn'd i gratch Arthur.

Eglwyswr, fel y dywedwyd, oedd Hugh Rolant, ac arferai fynychu yr Eglwys gyda graddau o sêl. Yr oedd yn lled ddeallus yn yr Ysgrythyr; cadwai ddosbarth yn yr Ysgol Sul, a phan fyddai y clochydd yn sâl, darllenai y Llithoedd. Ond nid oedd dim a fynai â phobl y capelau. Byddai yn hoff o'i lasiad pan elai oddicartref ac i ffeiriau, er y cadwai yn weddol o fewn terfynau yn ei gartref a chyda'i oruchwylion. Modd bynag, pan ddaeth Dirwest gyntaf i'r wlad, ymunodd yntau gyda'r lliaws i signio yr ardystiad dirwestol, a mawr y syndod ei weled ef yn anad neb gyda'r dirwestwyr. Deuai gwr o'r enw Mr. Pritchard, o Ceniarth, i Bennal i areithio, â chedwid seiat brofiad gyda'r dirwestwyr, i roddi cyfle i bawb ddweyd en profiad, a phrofiad rhyfedd a geid gan lawer fuasent gynt yn feddwon cyhoeddus. Ar ol bod yn gofyn profiad hwn a'r llall yn y seiat, daeth Mr. Pritchard at Hugh Rolant i ofyn ei brofiad yntau.

"Wel," fe fuoch chwithau, Hugh Rolant, yn cael eich trin yn arw gan y ddiod?"

"Do."

"Fe fuoch chwithau yn feddw lawer gwaith?"

"Do, laweroedd o weithiau; ochr y ffos fu fy ngwely ddengwaith, a rhyw ddraenen yn hono fy ngobenydd. Nis gallaf gyffelybu teulu y dafarn i ddim gwell na fel y bydd y gwragedd gyda'r ieir. Pan fydd yr iar yn myn'd i ddodwy, mae gwraig y ty yn ei denu, yn tawlu tamaid o fara o'i blaen, nes ei chael i'r nyth i ddodwy. Gyda'i bod wedi dodwy, ac yn dechreu clochdan, 'blant,' ebe gwraig y ty, 'heliwch yr iar yma allan, yn lle ei bod yn clochdan ac yn gwneyd sŵn dros y ty— allan mae ei lle hi. Felly maent yn y dafarn, unwaith y cant arian dyn, allan a fo wed'yn."

Ond hynodrwydd mawr Hugh Rolant oedd ei fod yn ymladdwr ceiliogod di-ail. Adnabyddid ef yn mhell ac yn agos fel y blaenaf ŵr yn myd y chwareuwyr. Efe oedd pen-campwr yr holl wlad. Cadwai ffermdai y wlad bawb ei geiliog iddo, fel y cadwant fytheiad i'w meistr tir, a byddai yntau yn drillio y rhai hyn ar gyfer yr ymladdfeydd a gynhelid yn gyffredin yn y Gwanwyn. Mor ddwfn oedd ei ymlyniad wrth yr hen arferiad greulon, ac mor fanwl ei adnabyddiaeth o natur y creaduriaid pluog ymladdgar, fel y gallai wahaniaethu rhwng eu lleisiau pan glywai geiliogod cyrau pellaf yr ardal yn canu. A phan yn hen wr wrth ei ddwy ffon, edrychai ar dwr o gywion ieir yn yr ardd, a sibrydai wrtho ei hun, re'l game cock. Gwelodd David Rowland lawer o'r chwareuon hyn yn ei fachgendod, ac adroddai iddo fod unwaith pan yn laslanc yn cario dau geiliog ar ei gefn, dros y mynydd o Bennal i Abergynolwyn, lle yr oedd "cocyn ceiliogod" (cock match) enwog i gael ei gynal ar ddydd Llun y Pasg. Yr oedd Abergynolwyn yn ganolbwynt y wlad a elwir Rhwng y Ddwy Afon, i'r lle y cyrchai holl drigolion yr ardaloedd—tlodion a boneddigion—i weled yr ornest rhwng y creaduriaid direswm. "Yr wyf yn cofio yn dda," ebe D. Rowland, "weled o ben y mynydd y diwrnod hwnw, y llwybrau yn dduon o bobl o Fachynlleth a'r amgylchoedd, yn cyrchu i'r cock match." Yr oedd gan Hugh Rolant arfau pwrpasol, spardynau gyda phigau llymion o ddur, y rhai a rwymid am goesau y ceiliogod a osodid i ymladd. Cedwir y rhai hyn yn ofalus yn Llwynteg, fel hen relic o'r amser gynt.

Hyd ddiwedd chwarter cyntaf y ganrif bresenol, y chwareuon hyn fyddai prif gyrchle pobloedd y wlad. Ni byddai yr un dydd gwyl yn pasio, yn enwedig y Nadolig, a'r Groglith, a Llun y Pasg, heb fod Cocyn Ceiliogod naill ai yn Machynlleth, neu Benegoes, neu yr Eglwys Fach, neu Bennal, neu Abergynolwyn; a mawr y miri a'r mwrwst a'i dilynent. O'r diwedd, darfyddodd yr hen arferiad wrthun, yn debyg i ymadawiad y Gog ganol haf, nad oes neb ŵyr pryd y canodd ddiweddaf, na'r dydd o'r mis yr ymadawodd i'w gwlad ei hun.

Bu Hugh Rolant farw Tachwedd 15fed, 1859, yn 84 mlwydd oed. Ni bu ganddo o blant heblaw gwrthddrych y Cofiant, ond dwy ferch,—Mary, yr hon a fu farw yn ddibriod Awst 9fed, 1851; a Jane, yr hon a fu yn briod ddwywaith, ac a fu farw yn y Deheudir, tuag ugain mlynedd yn ol.

PENOD II.

BOREU OES.

CYNWYSIAD—Amser a lle ei enedigaeth—Ei alwedigaeth—Lewis William, Ysgolfeistr yr Ysgolion Rhad Cylchynol—Dilyn ei alwedigaeth yn ol dull yr oes—Y bai yn cael ei roi ar y teilwriaid—Yr hwch fagu yn y ty—Tro yn yr uwd—Y teilwriaid yn bobl barablus—Yn dechreu cadw siop—Achos crefydd yn Mhennal yn more ei oes—Enill gwobr yn yr Ysgol Sul—Yn llechu yn ngweithdy Arthur Evan y blaenor ar fellt a tharanau.

 AE pawb sydd yn hyddysg yn hanes y Methodistiaid yn gwybod mai yn y flwyddyn 1811 yr ordeiniwyd y gweinidogion cyntaf perthynol i'r Cyfundeb. A chyfrifa rhai ddechreuad oedran y Cyfundeb o'r amgylchiad pwysig hwuw, tra mewn gwirionedd yr oedd wedi cychwyn yn ei nerth bymtheng mlynedd a thri ugain yn flaenorol. Ar y 12fed dydd o fis Mai y flwyddyn hono y gwelodd Dafydd Rolant gyntaf oleuni dydd. Clywyd ef aml i waith mewn cwmni yn gwneuthur yn hysbys ei oedran ei hun ac oedran ei wraig, ar ddull damhegol. "Nid yw yn rhyfedd fy mod i yn selog (gyda chrefydd), yr wyf yr un oed a'r Methodistiaid, ganwyd fi y flwyddyn yr ordeiniwyd gweinidogion cyntaf y Methodistiaid—1811." Gwnaeth y sylw hwn rai gweithiau mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Mewn cylchoedd cartrefol, sylw chwareus arall o'i eiddo mewn cysylltiad a hyn ydoedd, "Am Mari yma, mae hi wedi ei geni ar flwyddyn Brwydr Fawr Waterloo,—nid yw yn rhyfedd fod tipyn o ryfel yn perthyn iddi hi."

Hwyrach fod ei dymer ysgafn a hafaidd i'w briodoli i'r ffaith ei fod wedi ei eni yn mis Mai. Heulwen haf, modd bynag, o ran ei dymer a'i ysbryd, a fu ei fywyd o ddydd ei eni hyd y dydd yr ymadawodd â'r byd. Symudodd gyda'i dad o Llwynteg—y ty lle ganwyd ef—pan yn 14eg oed i dy cyfagos, a bu yn trigianu mewn pedwar o dai yn y pentref, oll o fewn ergyd careg i'w gilydd. A dyna y cwbl o symudiadau ei fywyd. Dychwelodd yn ol i'w hen gartref cyntefig, gan dreulio yno y tair blynedd ar ddeg olaf mewn hapusrwydd mawr. A'r hyn sydd yn lled hynod ydyw, mai o'r anedd hon y ganwyd ef ynddi, yr aeth i'r nefoedd, ar y 7fed dydd o Dachwedd, 1893.

Nid llawer o helyntion bore ei fywyd sydd yn wybyddus, heblaw yr hanesion am dano yn gweithio ei grefft gyda'i dad. Disgynai rhai sylwadau o'i enau ef ei hun, mae'n wir, yn awr ac eilwaith, a daflent oleuni ar amgylchiadau teuluol, ac amgylchiadau y gymydogaeth flynyddoedd pell yn ol. Ysgrifenodd ychydig ychydig iawn hefyd—o ryw grybwyllion am dano ei hun, nid mewn dim trefn, ond blith drafflith, weithiau mewn hen lyfr siop, pryd arall ar ddalenau bychain gwasgaredig. Dywed yn un o'r papyrau hyn:—

"Dilledydd wrth ei alwedigaeth oedd fy nhad, a dygwyd finau i fyny yn yr un alwedigaeth. Bum 55 o flynyddoedd mewn cysylltiad a'r alwedigaeth, ac am dros 40 mlynedd o'r tymor yna yn cadw siop, draper a grocer, ac yn cadw dynion i wnio."

Genedigol o bentref bychan y Cwrt, o fewn llai na milldir i bentref Pennal, oedd ei fam. Jane Davies wrth ei henw morwynol, merch, fel y gwelwyd, i William Davies, y gôf. Yr oedd hi yn rhyw gymaint o berthynas i'r hynod Barchedig Lewis William, Llanfachreth. Crybwyllodd Dafydd Rolant lawer gwaith, ei fod yn cofio Lewis William yn dyfod i'w ty ar yr achlysur o farwolaeth ei fam, a phwys o ganwyllau yn ei law yn rhodd i'r teulu, pan nad oedd ef ei hun ond naw oed. Yr oedd Lewis William yn yr ardal ar y pryd yn cadw ysgol ddyddiol, un o'r Ysgolion Rhad Cylchynol a gychwynwyd gan Mr. Charles, o'r Bala. Bu ei fam farw fel y gwelir oddiwrth y gareg fedd yn hen Fynwent Pennal, Medi 18, 1820.

Dilyn ei alwedigaeth gyda'i dad y bu Dafydd Rolant trwy ystod blynyddoedd boreuddydd ei oes, Nid oedd pris yn cael ei roddi ar ysgol ddyddiol i blant y dyddiau hyny, ac anfynych yr oedd ysgolion i'w cael. Yr oedd yr Ysgol Rad Gylchynol wedi bod yn yr ardal rai gweithiau cyn marwolaeth ei fam, ond yr oedd ef yn rhy ieuanc i fyned iddi, ac nid oes hanes am dani yn cael ei chynal yma ar ol hyny. Byddai ysgol yn cael ei chynal ar brydiau yn Eglwys y Plwyf. Nid oedd yr un adeilad pwrpasol i gadw ysgol ddyddiol yn yr ardal, hyd nes yr adeiladwyd yr Ysgoldy Brytanaidd, yn y flwyddyn 1848, ar y lle y saif Ysgoldy prydferth y Bwrdd yn awr. Hyny o ysgol a gafodd gwrthddrych y Cofiant hwn, yr ysgol a gedwid yn Eglwys y Plwyf yn unig ydoedd. Yn ol meithder yr amser y bu yn dilyn ei alwedigaeth, yr hyn a rydd ef ei hun, rhaid ei fod wedi troi allan i ddechreu gweithio gyda'i dad pan oedd oddeutu 14eg oed. Yr arferiad gyffredinol y blynyddoedd gynt ydoedd, i bawb o'u galwedigaeth hwy, fyned i dai y plwyfolion i weithio y dillad a bwrcasid gan y teuluoedd. Ni freuddwydiai neb am gael dillad ready made, ac nid oedd yn unol âg arfer gwlad i neb fyned i siop y dilledydd i gael ei fesur am wisg newydd, ond byddai raid i'r dilledydd, os byddai eisiau dillad newyddion yn unrhyw dy, pell neu agos, fyned yno gyda'i linyn mesur, a'r sisswrn, a'r haiarn pressio. Ddydd ar ol dydd trwy hirfaith flynyddoedd, gwelwyd Hugh Rolant, y dilledydd, a'i ufudd fab, Deio, fel y galwai ei dad ef, yn cychwyn ben bore, weithiau filldiroedd o bellder, ac yn dychwelyd adref yn hwyr y nos, nid yn unig wedi gweithio diwrnod da o waith, ond wedi clywed ac adrodd llawer yn ystod y dydd o hanesion y cymydogion, a chwrs y byd yn gyffredinol. Gwyddent hanes helyntion holl deuluoedd y plwyf, o genhedlaeth i genhedlaeth. Elent lawer o ffordd i weithio hefyd tuallan i'w plwy eu hunain, i Blwy Towyn, a Phlwy Tal-y-llyn, i fyny trwy Gorris, a chyrion uwchaf Aberllyfeni. Y tebyg ydyw mai ychydig o ddillad newyddion fyddai pobl yn gael yr oes hono, oblegid Hugh Rolant oedd dewis weithiwr y teuluoedd o amgylch ogylch y wlad, ac nid oedd nifer y gweithwyr ganddo ef ond ychydig. Yn yr ysgol foreuol hon, gan dreulio ei ddyddiau yn dilyn ei alwedigaeth ar hyd tai y wlad, y trysorodd Dafydd Rolant i'w gof y stor ddhbysbydd o chwedlau a hanesion, y rhai y byddai yn eu hadrodd mor fynych ac mor ddeheuig.

Digwyddiad pwysig mewn blwyddyn fyddai dyfodiad y gwneuthurwyr dillad i'r ty i weithio. Byddai disgwyliad am danynt er's wythnosau, a pharotoi nid bychan ar eu cyfer. Nid disgwyliad am y dillad newyddion oedd yr unig beth pwysig, ond disgwyliad am y bobl ddieithr i ben y bwrdd i wnio am wythnos. Byddai y tai yn cael eu tlodi am gryn dair wythnos trwy eu dyfodiad, a rhoddid y bai am y tlodi ar y teilwriaid. Cymerai hyny le, meddai un o honynt, fel y canlyn:—

Yn ol arferiad y wlad, elai gwragedd gweithwyr, a phobl dlodion i'r ffermdai i brynu ymenyn a llaeth. Wedi myn'd at y ty, gofynid a oedd yno ymenyn a llaeth i'w gael. "Nac oes yma ddim yn ddigon siwr," fyddai yr ateb, "yr ydym yn disgwyl y tlwriaid yma yr wythnos nesaf." Wedi myn'd at y ty yr wythnos ganlynol, yr ateb a geid, "Does yma ddim yn siwr, mae'r tlwriaid yma yr wythnos yma." Gwneid yr un cais yr wythnos ddilynol drachefn, a'r ateb yr wythnos hono fyddai, " 'Does genym ddim i'w spario, mae'r tlwriaid wedi bod yma yr wythnos dwaetha." Felly, tlodai y teilwriaid y tai y byddent yn gweithio ynddynt am dair wythnos gyfan. Byddent o angenrheidrwydd, wrth fyned gymaint o amgylch gyda'u goruchwylion, yn gorfod gweithio mewn llawer math o le. Y tai yn fychain a gwael. A digwyddai llawer tro rhyfedd yn fynych. Digwyddodd tro rhyfedd felly mewn ty haner y ffordd o Bennal i Fachynlleth, a elwid Penybwlch, ar ben Bwlch Pennal, yn ngolwg Pennal a Machynlleth yn mron ar unwaith. Perthynai y ty i Ystad Plas Machynlleth, a gosodid ychydig o dir gydag ef, lle i gadw rhyw nifer bychan o greaduriaid. Y ty erbyn hyn er's llawer blwyddyn wedi ei dynu i lawr, heb ddim o hono yn aros ond y sylfaeni. Yr oedd ynddo ffenestri bychain, fawr fwy na throedfedd ysgwâr, a phethau eraill yn gyfatebol fychain. Ar rhyw ddiwrnod teg o haf yr oedd Hugh Rolant a Dafydd Rolant yn gweithio yn y ty hwn. Eisteddai yr olaf ar ryw ddodrefnyn wrth ymyl ffenestr fechan a phedwar paen bychain iddi, er mwyn cael cymaint o oleuni i weithio ag a allai. Eisteddai ei dad ar ben bwrdd yn agos i'r drws, er mwyn iddo yntau gael ychydig ychwaneg o oleuni y ffordd hono, gan adael y drws o hyd yn agored. Cyn pryd cinio, daeth hen hwch fagu i roi tro trwy y ty, ac yn ei ffwdan tawlodd gwraig y ty ddwfr poeth o'r crochan, lle y berwai y tatws ar y tân, ar gefn yr hwch fagu, ac mewn eiliad rhoddodd hono sponc, a rhuthrodd allan trwy y drws, o dan y bwrdd lle yr oedd Hugh Rolant yn gwnio, gan gario y bwrdd a'i lwyth allan o'r ty yn ddigon pell. Faint bynag fu maint yr anffawd, dymchwelwyd y bwrdd a'i lwyth yn glir yn yr awyr agored, a chwarddai y llanc oedd yn gweithio wrth y ffenestr nes oedd ei ochrau yn siglo, fel y chwarddodd laweroedd o weithiau wedi hyny wrth adrodd yr hanes.

Adroddir yr hanesyn canlynol gan un o hen bobl y wlad, ac y mae yn ddigon tebyg o fod yn wir. Gweithiai y ddau gyda'u gilydd, fel arfer, ar ben y bwrdd mewn ffermdy pur fawr yn Mhlwy Towyn. Yr oedd yn brydnhawn teg o haf y tro hwn. Gyda'r nos, yr oedd y merchaid fel y byddant y pryd hwnw o'r dydd, yn llawn prysurdeb a thrafferthion, yn godro, yn rhoi llaeth i'r lloi, ac yn bwydo'r moch. Yr oedd y crochan mawr ar y tân, a'r uwd yn berwi ynddo at swper. Wedi bod allan gyda'r creaduriaid, daeth y wraig ar ei haldiad i'r ty, rhoddodd dro yn yr uwd gan roddi dyrnaid o halen yn y crochan, ac allan a hi drachefn. Ar ei hol yn mhen tipyn, daeth y ferch i'r ty, rhoddodd hithan dro yn yr uwd a dyrnaid o halen ynddo, ac allan a hi. Yn mhen ysbaid, daeth y forwyn i'r ty, ac aeth hithau trwy yr un oruchwyliaeth, gan gipio dyrnaid o halen a rhoddi tro yn yr uwd. Wedi i hon droi ei chefn, ebe Hugh Rolant, "Deio, mae pawb yn rhoddi tro yn yr uwd, dos i lawr, a dyro dro ynddo, a gwna yr un fath a'r lleill." Aeth yntau i lawr, ac aeth trwy yr un oruchwyliaeth ag a welsai y tair merch yn ei wneuthur o'i flaen. Amser swper a ddaeth, a diangenrhaid yw dywedyd nad aeth yr uwd yn ddim llai y noson hono, oherwydd ei halltrwydd.

Helyntion bore oes oedd y pethau hyn, a llawer o bethau cyffelyb a gymerent le yn fynych, ar lawr gwlad, ac yn mhlith trigolion gwledig y cymoedd, driugain a deg o flynyddau yn ol. Dosbarth o bobl barablus oedd y rhai o'r un alwedigaeth a'r tad a'r mab yr ydys yn son am danynt. Medrent siarad a gweithio ar yr un pryd, ac er amser yr athronydd Bacon, fe wyr pawb mai siarad a wna ddyn parod. Ac nid oedd neb yna yr holl wlad yn fwy llithrig a pharod eu hymadrodd na Hugh. Rolant a Dafydd Rolant.

Yn mhen amser dechreuasant gadw siop yn y pentref. Bechan mewn cymhariaeth oedd hono yn y dechreu, ond cynyddodd fel y cerddodd yr amser ymlaen. O'r Drefnewydd y cyflenwid y wlad a nwyddau y pryd hwnw. Mynych y clywid D. Rowland yn son am ei siwrneion i'r Drefnewydd i brynu nwyddau i'r siop. Cerddodd yn ol a blaen o Bennal yno—yr oedd yn ysgafn ei droed, ac yn ystwyth o gorff—ar ei draed laweroedd o weithiau, bedair milldir a thriugain o bellder, rhwng myn'd a d'od. Ar ol dechreu masnachu, cerddai ef wedy'n trwy y cymydogaethau, gan ddilyn ei alwedigaeth fel o'r blaen, a gadawai ei chwaer i ofalu am yr amgylchiadau gartref.

Cafodd gwrthddrych y Cofiant, yn y modd hwn, yn nhymor bore oes, ei arfer i ddiwydrwydd dyfal. Ni wyddai ddim beth oedd segura.

Cafodd ei gadw hefyd yn nglyn a'i waith beunyddiol rhag myn'd i ofera ac i ddilyn lliaws i wneuthur drwg. Ni chafodd, mae'n wir, ond y nesaf peth i ddim o fanteision crefyddol. Bu farw ei fam, fel y crybwyllwyd, pan oedd yn naw oed. Yr oedd ei dad yn llawdrwm ar grefyddwyr, ac o duedd i erlid yr Ymneillduwyr. Nid oedd yr achos Methodistaidd yn Mhennal ond bychan a llwydaidd, yn nhymor bore ei oes. Bychan iawn oedd nifer y Wesleaid. Yr oedd yr Annibynwyr yn lliosocach. Cawsant hwy y blaen ar yr Enwadau eraill mewn sefydlu achos. Yr oedd Mr. Davies yr offeiriad yn boblogaidd, ac yn ystod ei dymor ef yn Mhennal ymgasglai y bobl i'r Eglwys Sefydledig i wrando. Yr oedd yno sel a gweithgarwch gyda'r Ysgol Sul. Yr oedd Mr. Davies yr offeiriad yn enedigol o dref y Bala, lle y cychwynodd ac y blodeuodd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn Nghymru. Cynygiodd Feibl yn rhodd i bawb o'r ieuenctyd fyddent wedi dilyn yr Ysgol Sul yn yr Eglwys yn ddi-goll am flwyddyn. Ymhlith nifer o ieuenctyd yr ardal, enillodd Dafydd Rolant Feibl yn wobr am ddilyn yr Ysgol yn yr Eglwys heb golli yr un tro am flwyddyn gyfan. Elai i wrando ar y Sul, weithiau i'r Eglwys, ac weithiau i'r capel, er fod ei duedd er yn blentyn at bobl y capel.

Ni chafodd, modd bynag, ddim manteision i fyw yn grefyddol yn ei gartref, oddieithr dylanwad ewythr iddo, ac un o'i chwiorydd. Un a gywion yr estrys yr ystyriai efe ei hun, ac yr oedd yn agos i ddeg ar hugain oed cyn i ddim byd neillduol gymeryd lle yn ei hanes crefyddol.

Ond yr oedd, er hyny, ryw dynerwch a thuedd grefyddol yn ei natur er yn blentyn. Adroddai ef ei hun yn fynych yn ystod ei fywyd yr hanesyn canlynol. Yr oedd yn Mhennal, yn perthyn i'r Methodistiaid, hen flaenor nodedig o dduwiol, Arthur Evan, y Crydd. Nid oedd gan neb yr un amheuaeth am grefydd Arthur Evan. Yr oedd ei grefydd mor amlwg fel yr oedd y plant yn ei gweled, ac yn teimlo ei dylanwad. Ar ystorm o fellt a tharanau—yr oedd arno ofn y mellt a'r taranau—rhedai Dafydd Rolant, pan yn blentyn pur ieuanc, i'r gweithdy at Arthur Evan i lechu yn ystod y storom, a theimlai yn hollol dawel a diogel wrth ochr yr hen sant, nes i'r ystorom fyned heibio. Y mae enw yr hen flaenor hwn wrth Weithred Gyfansoddiadol y Cyfundeb, wedi ei sillebu ganddo ef ei hun yn ol tafodiaith yr ardal—Arthir Evans, Pennal, County of Merioneth, Shoe Maker.

PENOD III.—YN YMUNO A'R METHODISTIAID.

CYNWYSIAD—Yr hyn a barodd iddo fod yn Fethodist—William Rowland ei Ewythr—Diwygiad 1819—gorfoledd yn nhy Peter Jones a Sian William—Y Diwygiad Dirwestol yn 1836— Sign y Black Crow yn cael ei thynu i lawr—Hanes D. Rolant yn d'od yn Ddirwestwr—Llythyr y Parch. D. Cadvan Jones—Yn dyfod i'r Seiat yn 1838—Yn talu y casgliad misol cyntaf Yn cyfodi'r allor deuluaidd—Yn llafurio am wybodaeth—Yn cael ei ddewis yn flaenor yn 1850.

 ANWYD a magwyd fi." ebe ef ei hun, "mewn ty pryd yr oedd ewythr i mi yn un o ddynion ieuainc y Diwygiad 1819. Yr oeddwn i yr adeg ryfedd hono tua naw oed, ac i fy ewythr, a'm dwy chwaer, yr wyf yn ddyledus am fy mod yn Fethodist. Eglwyswr oedd fy nhad, selog a lled ddeallus, a thalentog iawn i siarad, ac o duedd erlidgar. Canoedd o weithiau y clywais ddadleu brwd rhwng fy nhad a fy ewythr. Ond yr oedd fy nghydwybod wedi ei henill o du fy ewythr, a diolch am hyny. Yr wyf yn cofio yn dda fel y byddai fy nhad yn defnyddio geiriau yr Epistolau am y gau-athrawon, ac yn eu cymhwyso at y Methodistiaid."

Yr ewythr y cyfeirir ato oedd William Rowland, brawd i'w dad, yr hwn fel yr ymddengys oedd gryn dipyn yn ieuengach na'i dad. Yr oedd y ddau o'r un alwedigaeth. Preswyliai y ddau yn yr un ty, a gweithient gyda'u gilydd ar hyd tai y wlad. A chlywai Dafydd Rolant y dadleuon ar faterion crefyddol pan yn gweithio yn y tai gyda hwynt, yn gystal ag yn ei gartref. Daeth William Rowland yn ddyn rhagorol o dda. Symudodd i fyw i'r Deheudir, a bu yn flaenor defnyddiol yn y Blaenau.

Y Diwygiad y crybwyllir am dano yn y paragraff uchod oedd Diwygiad Beddgelert. Rhyfedd y cyfnewidiad a barodd y Diwygiad hwnw trwy holl siroedd Cymru. Treblodd nifer yr aelodau eglwysig trwy y wlad. Ar ei ol, daeth cyfnod euraidd yr Ysgol Sabbothol, a'i goleuni hi, yn nghyda'r ffaith i nifer y crefyddwyr amlhau, a fu yn foddion i wasgaru adar y tywyllwch, ac i beri marwolaeth hen ofergoelion ac arferion annuwiol y trigolion. Nid oedd nifer y crefyddwyr yn Mhennal ond bychan iawn yn flaenorol i'r Diwygiad hwn. Nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel. Mewn ty bychan yn nghanol y pentra—dan yr un tô a'r hen Bost Office, wrth ymyl porth y Fynwent, yr addolent, a byddai oferwyr, a segurwyr, a rhai Eglwyswyr selog, yn ymgasglu yn fintai o amgylch porth y Fynwent, i ddisgwyl y Methodistiaid allan o'r moddion a gedwid yn y ty hwn, er mwyn cael cyfle i'w gwatwar a'u gwawdio. Ond gorchfygwyd yr ardal gan grefydd y Diwygiad. Cryfhaodd y crefyddwyr, ac yn fuan wedi hyn yr adeiladwyd y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn Mhennal. Dengys y rhybudd canlynol oddiwrth Arthur Evan, y blaenor, i Cadben Thruston, perchenog Ystad Talgarth Hall, y dyddiad yr oeddynt yn ymadael o'r ty yr arferent ymgynull, i fyned i'r capel cyntaf i addoli:—

"To Captain Thruston.

"At the Expiration of my present year's holding, I shall quit and deliver up to you the possession of that house or tenement now used as a chapel, situate in the Village of Pennal, in the County of Merioneth, which I now hold under you. As witness my hand this 22nd day of September, 1820.——A. E."

Cafodd William Rowland, a rhai o ieuenctyd eraill Pennal, eu trwytho yn drwyadl yn y Diwygiad mawr y blynyddoedd hyn. Cerddodd y tan trwy wlad a thref, ac ychwanegwyd beunydd at rif y crefyddwyr. Felly yn yr ardal hon. Ail enynwyd hefyd sel yr hen grefyddwyr, a chryfhawyd eu ffydd yn fawr. Byddai llawer o orfoleddu a neidio yn y Diwygiad hwn. Nid oedd Peter Jones yn flaenor yn Mhennal, ond bu ef, a Sian William, ei wraig, yn golofnau o tan yr achos. Bu gorfoledd mawr un tro yn eu ty, yn amser Diwygiad Beddgelert, a chan fod y tân ar lawr, yr oedd gwreichion o'r tân naturiol wedi eu lluchio ar hyd y ty, oherwydd fod y gorfoleddwyr yn neidio mor afreolus, hyd nes y dygwyd y ty a'r preswylwyr i ymylon dinystr. Mawr oedd gofal Sian William gyda'r merched a'r gwragedd, ar ol i'r gorfoledd fyned heibio, yn rhoddi eu hetiau a'u gwisgoedd yn eu lle, ac felly yn mlaen. Cymerai y chwaer hon lawer o boen i wneuthur y pregethwyr yn gysurus; pan y troent i'w thy (yr oedd yn byw yn agos i'r capel) ar ol y dychwelent o Maethlon y Sabbath, ni chaent fyned i'r capel at yr hwyr heb iddi hi dynu pob ysbotyn o lwch a baw oddiar eu hesgidiau. Byddai Peter Jones a Sian William ar flaenau eu traed ar ben y drws, y noson y byddai y blaenoriaid gyda'u gilydd yn gwneuthur cyfrifon y capel ar ddiwedd y flwyddyn, yn disgwyl clywed am lwyddiant yr achos, gan fawr obeithio eu bod wedi cael dau pen y llinyn yn nghyd.

Yr oedd William Rowland, yr Ewythr, yn un o'r rhai oedd yn gorfoleddu ac yn neidio yn y Diwygiad. Yr oedd gwrthddrych y Cofiant hwn yn llygad-dyst o'r pethau hyn. Ac er ei fod yn rhy ieuanc ei hun i ymwneyd a phethau crefydd, diameu ddarfod i awelon y Diwygiad, ynghyd, a'r dadleuon ar bynciau crefydd rhwng ei dad a'i Ewythr, a duwioldeb Peter Jones a Sian William, ac Arthur Evan, y Crydd, y rhai a breswylient gerllaw ty ei dad, adael argraff ddaionus ar ei feddwl. a thueddai yr awyrgylch y troai ynddi y pryd hwn, yn y gwrthwyneb i'r hyn a welsai yn nyddiau ei febyd, i beri iddo ogwyddo at grefydd y capel.

Aeth cyfnod o amser heibio ar ol hyn, hyd nes yn nghwrs y blynyddoedd y daeth diwygiad arall, yr hwn a barodd chwyldroad trwyadl yn yr ardal, yn gystal ag yn y wlad yn gyffredinol—y Diwygiad Dirwestol. Daeth hwn yma o gymydogaethau eraill, sef o Gorris a Machynlleth. Cymerodd Corris dân yn un o'r manau cyntaf yn Nghymru, a thân poeth a dorodd allan yno. Daeth y tân o Gorris i lawr i Fachynlleth, a cherddodd trwy yr ardaloedd cylchynol, nes goddeithio pob cwr o'r wlad gyda chyflymdra digyffelyb. Buasai yn anhawdd credu y fath oruchafiaeth lwyr a gafodd y diwygiad hwn ar feddwdod y wlad, oni bai fod y ffeithiau wedi eu cofnodi, a'r ffigyrau am y nifer a ardystiodd Ddirwest wedi eu hargraffu ar y pryd. Yn y Diwygiad Dirwestol gan y Parch. Dr. John Thomas, Liverpool, dywedir fod 492 wedi ardystio Dirwest yn Mhennal, erbyn mis Ebrill, 1837, ac yn Pantperthog yn yr un plwyf, 121,—rhwng y ddau le, 613. Nis gallai yr holl boblogaeth yr adeg hon fod ond ychydig iawn yn fwy na hyn. Dywed hen bobl hynaf yr ardal, fod gwaith Dr. Charles yn llosgi alcohol yn un o'r pethau cryfaf i argyhoeddi y bobl o'r niweidiau sydd yn y ddiod feddwol. Yr oedd dwy dafarn yn Mhennal cyn hyn. Enw un o honynt oedd Black Crow, ar sign yr hon yr oedd llun brân ddu, a chedwid y dafarn gan wr blaenllaw perthynol i enwad yr Annibynwyr. Yr oedd y sel ddirwestol, modd bynag, mor boeth, fel erbyn rhyw fore yr oedd sign y Frân Ddu wedi ei thynu i lawr yn ddiarwybod i bawb, ac ni welwyd mor frân ddu hono byth mwy, ac ni fu ond un dafarn yn Mhennal o'r pryd hwnw hyd y dydd heddyw.

Yn ystod saldra diweddaf David Rowland cafwyd yr hanesyn canlynol ganddo mewn rhan yn ddamweiniol. Yr oedd ysgrifenydd yr hanes hwn yn darllen llythyr iddo tra yr oedd yn ei wely. Llythyr ydoedd oddiwrth y Parch, D. Cadvan Jones, Caerfyrddin. Dyma fel y darllena rhanau o'r llythyr:—

"Pan yr oeddwn yn dilyn fy ngalwedigaeth yn Machynlleth, yn llencyn ieuanc iawn, yr oedd y doniol-ffraeth John Lewis, Felingerig, o fythol goffadwriaeth, wedi ei lyncu i fyny a'i drwytho mewn sel ddirwestol, ac wedi casglu o'i gwmpas gylch o wyr ieuainc, y rhai oeddynt o dan ddisgyblaeth ganddo, ac at ei wasanaeth ar ymweliadau â gwahanol leoedd yn y cylch. Coffa da am y noson ryfedd yn Mhennal, pan dorwyd y Parch. J. Foulkes Jones, B.A., a minau i mewn ganddo y tro cyntaf i ni ein dau siarad yn gyhoeddus. Y mae adgofion byw ar gof a chadw o'r noson hono ar fy nheimlad, ac erys byth. Yr oeddym ein dau yn hwyrfrydig iawn i fyned, ac ni buasem mae'n debyg, yn meddwl myned onibai cwmni yr hen dad doniol a digrif, ysbrydiaeth yr hwn oedd yn ddigon i eneinio ysbryd y mwyaf dideimlad. Yr oedd y noson yn oer, gwlyb, ac anfanteisiol, ond yr oedd y ddau brentis wrth siarad â'u gilydd yn rhyw led dybied iddynt fyned trwy eu gorchwyl heb beri llawer o boen i'r hen flaenor, a chaed prawf o hyny trwy iddo geisio ein gwasanaeth yn aml wed'yn. Bernir na byddai y nodyn bychan hwn yn annerbyniol genych, gan mai yn eich pentref chwi, yn hen 'Gapel y Sentars,' yr agorodd yr anwyl Mr. J. Foulkes—Jones ei enau mewn ffordd gyhoeddus y tro cyntaf erioed."[1]

Wedi darllen y llythyr uchod yn ei glywedigaeth, ebe David Rowland, "Dirwest a'm hachubodd inau. Yr oeddwn yn dechreu myn'd yr un ffordd a bechgyn ieuainc gwyllt y wlad y pryd hwnw. Yr oedd amryw o gefnderwyr i mi yn Machynlleth yna, a byddent yn fy hudo inau. Yr oeddwn yn rhy ffeind fy natur—yn eu tretio hwy â diod. Un tro, yr oedd bechgyn y dref, Huwcyn Arthur yn un o honynt, yn pasio trwy Bennal, wedi bod yn danfon dillad yn y Gogarth (yr oedd genyf feddwl mawr o fechgyn y dref), aethum a hwy i'r dafarn, ac 'rwy'n cofio yn dda fod genyf dri swllt yn fy mhoced, a gweriais hwy bob dimai, trwy roi diod iddynt.

"Yr oedd Dr. Edwards, y Bala, yn areithio ar ddirwest yn Machynlleth tua'r pryd hwnw. Ac 'rwy'n cofio'n dda, fy mod yn gweithio yn Pant Perthog, ac yn dweyd ar fy eistedd wrth weithio, gan daro fy nwrn ar y bwrdd, 'Nid wyf yn gweled fod gan Dduw na dyn ddim yn fy erbyn trwy yfed ambell i lasiad, os byddaf yn gymedrol! Wir, wn i ddim,' ebe William Hughes, Pant Perthog, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc yr adeg hon, yr oedd Mr. Edwards, y Bala, yn dweyd wrth areithio, yn y dref yna (Machynlleth), fod goleuni newydd wedi dyfod 'rwan ar ddirwest, a bod yfed un glasiad bellach yn bechod yn erbyn Duw.' Mi credais o. Yr oedd genyf gymaint o feddwl o Mr. Edwards, ei fod y fath ddyn cywir a da—mi credais o; ac mi signiais Ddirwest, ac ni thorais byth mo'r ardystiad."

Ni wyddis yn sicr pa flwyddyn, na pha ddydd o'r mis y darfu iddo ardystio. Ac nid ydyw hyny o fawr o bwys. Mae y ffaith iddo wneuthur hyny yn ddigon pendant, ac y mae y dull y gwnaeth yn debyg iawn iddo ef ei hun. Mae yn lled sicr i hyn gymeryd lle yn mhoethder y diwygiad dirwestol, oblegid ardystiodd ei dad y pryd hwnw, a'r meddwon penaf, a bron holl drigolion yr ardal, a byddai yntau gyda llawer o foddhad trwy ei oes yn adrodd am orchestion y Gymdeithas Ddirwestol ar ei dyfodiad cyntaf i'r wlad. Mae yn bur sicr hefyd ddarfod i'w sel gyda dirwest barotoi y ffordd iddo ddyfod at grefydd.

Yn y flwyddyn 1838, yr oedd y Parchn. Ebenezer Davies, Llanerchymedd, ac Owen Rowland, o Sir Fon, ar daith trwy y wlad i bregethu, ac ar y 14eg o fis Rhagfyr, yr oeddynt yn cadw odfa ganol dydd ddydd gwaith yn Mhennal, ac yn cynal seiat ar ol yr odfa, a'r diwrnod hwnw y cyflwynodd David Rowland ei hun yn aelod o eglwys Dduw gyda'r Methodistiaid. Aeth Owen Rowland ato yn y seiat, gan ei holi am y ddeddf, a Sinai, a'i tharanau, ond ni theimlai fawr o ollyngdod i'w feddwl trwy y dull hwnw o ymddiddan. Ar ei ol, aeth Ebenezer Davies, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc hynaws, ato, a gofynai iddo a wyddai of rywbeth am diriondeb yr Arglwydd, ac am ei dosturi, a'i drugaredd faddeuol yn Nghrist. "Hwn yw fy noctor i," meddai yntau wrtho ei hun. Tyner oedd ei natur ef bob amser, ac yr oedd Ebenezer Davies, trwy dynerwch, wedi taro ar y ffordd i fyned at ei deimlad.

Pan y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod, yr oedd wedi bod yn y seiat chwe mis. Y noswaith y derbyniwyd ef yn gyflawn aeth at y blaenoriaid o hono ei hun, heb i neb grybwyll dim wrtho, a rhoddodd chwe' swllt, sef swllt y mis, yn y casgliad misol, tuag at gynal y weinidogaeth.

"Y mae Dafydd Rolant wedi dyfod atom ni i'r capel, ac yr ydym yn disgwyl y gwaniff o ddyn da i ni," ebe Peter Jones, wrth ŵr blaenllaw yn yr ardal, perthynol i enwad arall. Gwiriwyd proffwydoliaeth yr hen Gristion, oblegid gwr rhagorol a ddaeth o'r dydd cyntaf yr ymunodd â'r Methodistiaid. Rhoddodd esiampl dda i broffeswyr ieuainc trwy gyfranu at y weinidogaeth cyn bod yn gyflawn aelod; ac yr oedd swllt y mis yr amser hwnw yn swm haelionus. Nid oedd yn cael heddwch i'w feddwl heb gynal dyledswydd deuluaidd yn y teulu. Torodd trwodd i wneuthur hyn eto o hono ei hun, yn ngwyneb cryn dipyn o anhawaderau, o leiaf, heb gael dim cefnogaeth, a rhyw fore dywedodd, "Oni fyddai yn well i ni ddarllen ychydig o adnodau gyda'n gilydd?" A chymerodd y Beibl, a darllenodd. Yn mhen peth amser dywedodd drachefn, "Oni fyddai yn well i ni fyned ychydig ar ein gliniau?" A phob yn dipyn gorchfygodd bob rhwystrau a roddid ar ei ffordd. Gwnaeth ddefnydd da o'i amser, y blynyddoedd cyntaf wedi iddo ddyfod at grefydd, i drysori i'w feddwl wybodaeth o bethau crefydd. Ysgrifenai yn ei ddull ei hun, y tymor hwn yn lled gyson, ranau helaeth o bregethau a wrandawai, gartref ac oddicartref, y rhai sydd yn awr i'w gweled mewn hen lyfrau ar ei ol. Darllenodd Lyfr Gurnal, "Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth," a meistrolodd ef yn dda. Byddai ganddo sylwadau o Gurnal i'w hadrodd yn y cyfarfod eglwysig hyd ddiwedd ei oes. Pob llyfr o gyffelyb natur y deuai o hyd iddo, ni throai mo hono o'r neilldu nes ei ddarllen drwyddo, ac felly cyfoethogodd ei feddwl yn fawr â'r hyn oedd bur ac adeiladol. Hyn, yn nghyda'r duedd reddfol oedd ynddo i sylwi ar bobl a phethau, a'i gwnaeth yn ŵr parod ei sylw pan y gelwid arno i siarad ar fyr rybudd.

Yn mis Chwefror, 1850, ar y 26ain o'r mis, pan oedd yn ddeuddeg oed o broffeswr, a dwy fynedd cyn priodi, derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, fel blaenor yn eglwys Pennal. Yn ei gartref ei hun, yn Mhennal, y cynhelid y Cyfarfod Misol hwnw, ac yn yr un cyfarfod derbyniwyd dau flaenor eraill gydag ef, sef Richard Hughes, a Lewis William, Aberdyfi. Y tri erbyn hyn wedi ymuno â'r dyrfa ddedwydd, fry yn y nefoedd. Bu ef yn gwasanaethu swydd blaenor dros dair

blynedd a deugain a haner.

PENOD IV.—YN MYSG ARDALWYR PENNAL.

CYNWYSIAD—Yn frodor o'r brodorion—Y rheswm am ei boblogrwydd— Darluniad y Parch. John Owen, y Wyddgrug, o hono— Ei fedr i ddesgrifio cymeriadau—Arthur Evan yn cyfarfod temtasiwn ar y Sul—Ei gynghorion mewn priodas—Y ddau flaenor yn dadleu dros godi yn y casgliad at y Weinidogaeth—Yn tynu trowsus Mr. Davies yr offeiriad allan—Cranogwen yn gwneuthur tro chwareus—Ei sylw wrth Mr. Holland, A.S., amser etholiad—Ei ddameg wrth areithio adeg etholiad 1885—Y fainc yn tori tra yn siarad yn yr Ysgoldy—Ei Araeth fawr amser sefydlu y Bwrdd Ysgol yn 1874—Ei ffraethineb of a ffraethineb y Parch Richard Humphreys—Sylw y Proffeswr Henry Rogers am dano

 N ei ardal ei hun yr oedd yn fwyaf adnabyddus, ac yn fwyaf poblogaidd, er na welwyd odid neb yn ei oes yn fwy poblogaidd yn mhob cylch y troai ynddo—yn mhell ac yn agos. Yr oedd yn un o frodorion y lle, ac yn frodor o'r brodorion. Dygwyd ef i fyny yn swn traddodiadau hynafiaid y gymydogaeth. Ni bu yn byw erioed y tu allan i'r pentref. Dygodd ei alwedigaeth ef i gysylltiad agos â'r trigolion, o bob gradd, tlawd a chyfoethog, da a drwg. Adnabyddai y bobl oll, deallai eu hanes i'r gorphenol pell, a gwelai â'i lygaid eu dull o fyw a bod. Yn gymharol ddiweddar ar ei oes, daeth fel masnachwr i wybod yn bur dda am ffordd y wlad i ymwneyd a'r byd. Er na chafodd addysg foreuol, yn yr ystyr yr edrychir ar addysg yn yr oes hon, cafodd fwy o fanteision na llawer i ddyfod yn gydnabyddus â chwrs cyffredin bywyd yn mysg dynolryw. A byddai yn hawdd gweled, bob amser, y wedd hon ar ei wybodaeth ac ar ei ddull o ymadroddi.

Yr oedd wrth natur yn 'garedig a chymwynasgar, o dymer hoew ac ysgafn. Y ddeddf fawr sydd yn llywodraethu y byd naturiol, sef deddf at-dyniad, oedd deddf ei natur ef. Ni welwyd un amser yr elfen gymdeithasgar yn gryfach yn neb. Tyfodd i fyny gyda phobl ei oes, a phobl ei ardal, a defnyddio geiriau yr Ysgrythyr, gan "gadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd." Gwnaeth gyfeillion o'r dosbarth dysgedig, yn gystal a'r bobl gyffredin. Yr oedd fel y dywedwyd, yn anarferol o boblogaidd yn mhob cylch. Yr oedd felly gyda'r plant, a'r hen bobl, a'r hen wragedd, a'r cymydogion, a'r boneddigion oedd yn byw yn yr ardal. Byddai ganddo air siriol i'w ddweyd wrth bawb. Fel rheol, cyfodai bawb i fyny gyda'i ddywediadau parod a digrifol. Gwnaeth gymwynasau dirif i'w gymydogion yn ei oes. Ato ef yr elai y bobl i ymgynghori ar faterion cyffredin bywyd. Ato ef yr elai yr hen wragedd, a'r anllythrenog, i ysgrifenu eu llythyrau drostynt at eu perthynasau. Os byddai rhywrai yn glaf, neu mewn tlodi, efe fyddai y cyntaf i weinyddu cysur i'r cyfryw. Os gelwid ar y gweinidog i dy i fedyddio, pryd y byddai hir afiechyd yn atal y teulu i'r capel, gelwid arno yatau i'w ganlyn. A phan y cymerai priodas le yn y gymydogaeth, odid fawr na fyddai Dafydd Rolant, naill ai yn bresenol yn y seremoni, neu yn y wledd gartref. Mor gartrefol fyddai gyda phob gradd o bobl. Yn niwedd ei oes, pan yn y sêt fawr yn galw ar y brodyr i gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi, ei ddull aml fyddai yn debyg i hyn "Hwn a hwn, dowch ymlaen i roi penill allan, dowch John bach, neu Tomos bach, neu Richard bach."

Y Parch. John Owen, yn awr o'r Wyddgrug, yr hwn o'i febyd oedd yn gydnabyddus iawn ag ef, a goleddai y syniadau uwchaf am dano fel un o'r dynion goreu yn yr holl wledydd. Yn fuan ar ol ei ymadawiad a'r byd, rhydd ef ddesgrifiad naturiol a chywir o hono yn y geiriau canlynol:—

"Yr oedd ganddo natur ddynol lydan—un o'r rhai lletaf yn y wlad. Anfynych y gwelwyd un wedi ei gau o fewn cylch mor fychan yn meddu cydymdeimlad mor eang. Yn nglyn â hyn, neu hwyrach yn cyfodi o hyn, yr oedd ynddo allu arbenig i adnabod cymeriadau, ac i'w desgrifio—to hit them off—fel y dywed y Saeson. Dangosai gymeriadau, ie, eglurai egwyddorion drwy hanesynau yn ddibaid. Yr oedd ganddo stôr o ystoriau, ond nid adroddai yr un o honynt heb fod iddi bwynt ymarferol. Yr oedd trwy fyned allan i weithio i dai y cylch, ynghyd a thrwy y cyfleusdra a gafodd yn ddiweddarach fel masnachwr, wedi casglu gwybodaeth helaeth am y natur ddynol, a medrai wneyd defnydd debeuig o'r wybodaeth hono pan y mynai. Pe buasid wedi casglu ei ddywediadau, o bryd i bryd, cawsem lawer iawn o ddoethineb bywyd cyffredin. Ein cred yw, pe buasai Mr. Rowland wedi cael manteision addysg yn ieuanc, ac wedi cael mwy o hamdden, y gallasai fod wedi cynyrchu desgrifiadau o gymeriadau nid anheilwng I'w gosod ochr yn ochr â'r 'Dreflan.'

"Wele ychydig engreifftiau. Teithiai unwaith yn y tren i Gyfarfod Misol, ac yr oedd yn ei hwyliau goreu. Yr oedd cael myned i gymdeithas ei frodyr yn wledd o'r fath a garai. Cymerai ofal geneth lled ieuanc. Wel, meddai, yr wyf fi wedi dal y ferch ieuauc hon yn lled fore, pan y byddai yn dyfod i'r siop yn blentyn. Ac meddai drachefn, dim ond i siopwr ofalu (yr oedd siopwr yn un o'r rhai a wnelai i fyny y cwmni) am fod yn ffrindiau a'r plant, a'r gweision, a'r morwynion, y mae yn sicr o gael gafael ar eu rhieni a'u meistriaid. Ni byddem ni byth yn gadael i blentyn dd'od i'r siop heb roi rhywbeth iddo, pe byddai ond un sweet. Os gwneir hyn bydd y plant yn sicr o dd'od i'r siop. Os gwelai un plentyn un arall, gofynai, 'I ble yr ei di? I siop Dafydd Rolant i ymofyn canwyll ddimai. Gad i mi fyn'd?' ac felly yr oedd yn enill y da-da. Aeth ymlaen felly am gryn amser yn athrawiaethu ar y pwysigrwydd i siopwr gadw ei gwsmeriad mewn tymer dda. Ni ddylai siopwr, meddai, son llawer am ei gydwybod yn y siop. 'Na fydd rhy gyfiawn, paham y'th ddyfethit dy hun?' Cymhwysai yr adnod at y masnachwr, trwy ddweyd, fod dynion yn reddfol yn ameu y dyn sydd yn son byth a hefyd ei fod yn gyfiawn, yn onest, ac yn gydwybodol."

Dywedir uchod fod ganddo allu anarferol i ddesgrifio cymeriadau. Medrai wneyd hyn mewn ffordd hollol o'r eiddo ei hun. Gydag un gair, neu un frawddeg, tynai ddarlun o ambell i gymeriad, nas gellid byth ei anghofio. Arferai yn fynych ddweyd, "Gochelwch y dyn na fyddo yn hoff o blant." Yr oedd ef yn hynod o fedrus i dynu sylw, ac i argraffu gwirioneddau ar feddyliau plant Pennal. Bu tô ar ol tô o blant y pentref yn edrych i fyny ato fel eu tad; meddylient mai efe oedd pia pob peth, nid yn unig yn y siop a'r capel, ond ymhob man o dan deyrnasiad y Frenhines Victoria.

Cofiai yn dda am droion hynod yr ardalwyr, ac adroddai hwy gyda medrusrwydd digymhar. Arthur Evan, y crydd, a gyfrifid y mwyaf crefyddol yn mhlith hen bobl yr ardal. Yr oedd Arthur Evan yn flaenor yn nghapel y Methodistiaid, a deuai i fyny â chysegredigrwydd ei swydd yn ngolwg pawb, o ran crefyddoldeb ac ymarweddiad. Ond digwyddodd i demtasiwn oddiweddyd Arthur Evan ar y Sul unwaith. Yr oedd ganddo fab o'r un alwedigaeth ag ef ei hun, yn byw yn yr un ty, ac yn grefftwr da, o'r enw Edward. Ar ryw ddydd Sul daeth un o fechgyn gwyllt a digrefydd y gymydogaeth i'r ty i dalu am ei esgidiau. "Yr ydwyf yn myn'd i ffwrdd i Ferthyr bore fory, Arthur Evan," meddai, "ac fe ddois yma i dalu i chwi am fy sgidiau cyn myn'd," ac estynai yr arian ar ei law. Edrychai yr hen wr ar yr arian, a rhag ofn yn ddiameu na chai olwg arnynt byth ond hyny, meddai wrth ei fab Edward, "Derbyn di nhw Ned."

Fel y dywedwyd o'r blaen, pan y cymerai priodas le yn yr ardal byddai ef yn bur siwr o fod yn un o'r gwahoddedigion, o leiaf yn y wledd gartref. Un o'r cynghorion a roddai yn gyffredin iawn ar y cyfryw achlysuron i'r wraig ieuanc ydoedd yr hyn a ganlyn: "Peidiwch a holi llawer o gwestiynau i'r gwr yn rhy fuan wedi iddo ddyfod adref o'i daith. Bydd dyn yn flinedig newydd ddychwelyd o daith, ac hwyrach y bydd rhywbeth wedi blino ei feddwl, ac os ewch i'w gwestiyno yn ormod yn rhy fuan, digon tebyg na chewch chwi fawr ddim ganddo. Ond estynwch slippers iddo i ddechreu, gwnewch dân siriol, rhoddwch y tecell ar y tân, a heliwch y llestri tê, ac wedi iddo ddiflino a chael cwpanad o dê, gellwch holi faint a fynoch arno, ac fewch ateb i bob cwestiwn."

Tra yr oedd Mr. Humphreys yn byw yn Ngwerniago, yn yr ardal hon, yn niwedd ei oes, y daeth dau o flaenoriaid yr eglwys, Dafydd Rolant a William James, yr Ynys, adref o Gyfarfod Misol Dolgellau, ac y buont yn traethu yn frwd yn yr eglwys o blaid codi yn y casgliad at y weinidogaeth. Dyna y mater y bu sylw arbenig arno yn y Cyfarfod Misol hwnw. Yr oedd William James yn llawn tân, yn dadleu dros ddiwygiad yn y peth y teimlai yr oedd yr eglwys yn ddiffygiol ynddo. Mr. Humphreys yn ofni iddo yru yn rhy chwyrn a ddywedai, "Gently William, gently William." Siaradai Dafydd Rolant yn ei ddull arbenig ei hun, yn bur selog,—"Nid yw yn beth anrhydeddus ynom adael i weinidogion yr efengyl fod ar eu gora glâs yn byw. Mae gweinidog a dillad gwael, tlodaidd am dano yn beth annheilwng yn yr oes yma. Mi fyddai yn leicio gweled pregethwr yn gwisgo yn deilwng o'i swydd; yn lle bod mewn dillad llwydaidd, llwm, gyda gwisg raenus, coat ddu, dda, am dano, a golwg smart arno yn esgyn i fyny i'r pulpud." "Ie, ynte Dafydd," ebe Mr. Humphreys, yr hwn a eisteddai wrth y pulpud o'r tu ol iddo, "Suit ddu, spon, yr un fath a Joseph Tomos!"

Gweithiau Mr. David Rowland ddillad i Mr. Davies, yr Offeiriad. Mab oedd Mr. Davies i Mr. Gabriel Davies, y Bala, a brawd i Mr. John Davies, Fronheulog, Llandderfel, dau o flaenoriaid enwog, yn Nwyrain Meirionydd, yn eu dydd. Mr. Davies oedd Rector Plwyf Pennal am flynyddau lawer. Lletyai yn Aberdyfi, a deuai i fyny i Bennal i fyned trwy y gwasanaeth. Yr oedd yn gerddwr di-ail. Cerddai fel yr Asahel hwnw yn yr Ysgrythyr, yr hwn oedd "mor fuan ar ei draed ag un o'r iyrchod sydd yn y maes." Yr oedd hefyd yn ddarllenwr dan gamp. Darllenai y Beibl a'r Llithoedd nes gwefreiddio y gwrandawyr, a gwnai iddynt wylo wrth ei wrando. Bu rhyw gymaint o amhariaeth ar ei feddwl dros ryw dymor, ond gwellhaodd cyn diwedd ei oes. Yr oedd D. Rowland wedi bod yn gwneuthur suit o ddillad duon iddo. A rhyw ddiwrnod, daeth Mr. Davies i fyny o Aberdyfi; ac yn y Ty Brix, yr unig dy tafarn yn y pentref, newidiodd ei drowsus, a rhoddodd yr un newydd i'r llanc a weithiai yn y siop, a dywedodd, "Hwda, dos a hwn i dy feistr, a dywed wrtho fod eisieu ei dynu allan." Wedi myn'd ag ef i'r ystafell weithio, estynodd y meistr y llinyn mesur, ac fe welai fod y gwneuthuriad yn ateb i drwch y blewyn i'r mesur, a deallodd mai yn meddwl Mr. Davies yr oedd y coll ac nid yn y dilledyn. Yn mhen tua dwy awr, dywedai D. Rolant wrth y llanc, "Evan, dos tu allan i'r ffenestr yma, a thyn y trowsus allan drwyddi, dos ag ef i Mr. Davies, a dywed wrtho ei fod wedi ei dynu allan." Aeth yntau yn ol y cyfarwyddid. Gwisgodd Mr. Davies y trowsus, ac meddai, "Mae yn ffitio 'rwan i'r dim. Pa'm na fuasent yn ei wneyd fel hyn y tro cyntaf?" Rhoddodd chwe' cheiniog i'r llanc am ei wasanaeth. Un o lawer o droion direidus yr hwn yr ydym yn ysgrifenu am dano oedd y tro hwn.

Gwnaethpwyd tro chwareus âg yntau unwaith yn hollol ddamweiniol. Cafwyd cryn ddigrifwch pan oedd Miss Cranogwen Rees yo darlithio y tro cyntaf yn Mhennal. Yr oedd y dyrfa yn anarferol o liosog, y bobl wedi ymgasglu o'r cymydogaethau cylchynol, a hen gapel y Methodistiaid, bob cwr o hono, yn llawn at yr ymyl Yr oedd bron bawb yn ddieithr ar y pryd i'r hon oedd yn myned i ddarlithio. Llywyddid gan y diweddar Mr. David Davies, Corris. Eisteddai David Rowland, yn y lle mwyaf amlwg ar y stage, gan wrando â'i ddwy glust a'i ddau lygaid. Daeth i ran Cranogwen, wrth siarad, i gyfeirio at hanesyn, yr hwn a ddechreuai fel hyn, "Yr un fath a'r teiliwr hwnw." Dechreuodd y gynulleidfa a chwerthin yn aflywodraethus a dibaid. "Nis gwn yn y byd am be' 'rych yn chwerthin," ebe y foneddiges athrylithgar, Atebodd y Cadeirydd hi,-"Mae o yn eich ymyl, Ma'm," "Ho," ebe hithau ar un ergyd, "Nid y teiliwr hwn wy'n feddwl, ond y teiliwr hwnw." Mawr oedd boddhad y dyrfa pan y gwnaed y sylw parod a medrus hwn.

Mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ac yn enwedig ar adeg Etholiad, gelwid ar Dafydd Rolant bob amser i siarad, ac er na byddai yn gwefreiddio y gynulleidfa a'i ymresymiadau a'i hyawdledd, byddai yn wastad yn bur siwr o wneuthur home stroke cyn yr eisteddai i lawr. Cynhelid cyfarfod yn yr ardal unwaith ar amser etholiad, pan oedd Mr. Holland yn ymgeisydd, ac yr oedd y boneddwr ei hun yn bresenol. Ebe D. Rolant wrth siarad, gan droi at Mr. Holland, "Liberals ydan ni i gyd, Syr, yn Mhennal yma. Defaid gwynion ydi'r defaid sydd ar hyd y bryniau yma. Mae'n wir fod yma ambell ddafad ddu yn eu plith nhw. Felly, defaid gwynion ydan ninau i gyd, ond fod yma ambell i ddafad ddu yn ein plith ni." Siaradau yn fynych ar ddamhegion. Damhegion hefyd a awchlymai y gwirionedd, ac a'i gwnelai o'i enau ef yn llawer mwy grymus. Clywyd ef yn gwneuthur y sylw yn gyhoeddus, "Byddaf fi yn dueddol iawn, fel y gwyddoch chwi, i ddweyd fy meddwl trwy gyffelybiaeth." Siaradai mewn cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal adeg Etholiad Seneddol 1885, pryd yr oedd tri ymgeisydd ar y maes, a Sir Feirionydd mewn perygl o golli y frwydr, trwy i'r ymgeisydd Ceidwadol slipio i mewn rhwng y ddau ymgeisydd Rhyddfrydol. Yr oedd mewn cywair mwy cwynfanus wrth ddechreu siarad y tro hwnw nag y byddai arfer. Ond toc, dyma ei ddameg allan. "Mae'n ddrwg gen i," meddai, fod y sir yn cael ei disturbio gymaint." A throai yn bur hir o gwmpas y gair disturbio. "Mae'n ddrwg gen i fod yr hen sir anwyl yn cael ei disturbio gymaint. Mi welais beth tebyg unwaith yn fy oes, mewn ffair yn Machynlleth yna, er's llawer blwyddyn. Yr oedd yno lot o fustych yn cael en cadw ar ochr y stryd, i ddisgwyl cael eu gwerthu, ac fe dorodd un o honynt allan oddiwrth y lleill, ac fe ddechreuodd a rhedeg trwy y ffair, a'r bobol yn gwaeddi ac yn rhedeg oddiar ei ffordd, ac yntau yn rhedeg yn wylltach. Ac i ble yr aeth o yn y diwedd, ond trwy ryw ffenestr fawr, ac i lawr i ganol llestri priddion, ac ni chlywsoch chwi a'ch clustiau ffasiwn swn oedd yno rhwng y bustach a'r llestri priddion."

Yr oedd ganddo yn ei feddwl un yn cynrychioli y bustach, a rhyw bobl yn rhywle yn y sir yn cynrychioli y llestri priddion, Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgoldy y Bwrdd un tro, galwyd arno i fyny i'r platform i siarad. Yr oedd yr Ysgoldy yn llawn o wrandawyr, y bobl wedi eu pacio yn mhob cwr. Tra yr oedd wrthi yn siarad, torodd y fainc yn ymyl y platform, a syrthiodd y rhai a eisteddent arni i lawr, gan beri tipyn o gynwrf yn y gynulleidfa. Safai yntau yn hamddenol nes i bethau ddyfod i'w lle, a dywedai mewn tôn haner chwareus, "Peidiwch chwi yn y cyrion pellaf yna a dychrynu dim, ni bu yma ddim byd o bwys, tori wnaeth y fainc y fan yma, gan ollwng y bobl i lawr. O ran hyny, fel hyn y gwelais i hi lawer gwaith, lle byddai pregethwr mawr yn rhywle yn siarad."

Bu David Rowland yn dal cysylltiad fel manager a'r Ysgol Ddyddiol Frytanaidd yn Mhennal bron o'r cychwyn cyntaf. Ar yr 17eg o Rhagfyr, 1874, trosglwyddwyd yr ysgol hon i Fwrdd Ysgol Towyn a Phennal, sef amser ffurfiad cyntaf y Bwrdd. Cafwyd cryn lawer o wrthwynebiad yn y ddau blwyf i'r symudiad.

Noson a hir gofir oedd y noson y cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn hen Ysgoldy Brytanaidd Pennal, i'r diben o egluro y Ddeddf Addysg, ac i ofyn barn y plwyfolion o berthynes i ffurfio y Bwrdd. Ni bu yr un cyfarfod mor gynhyrfus yn yr ardal yn ystod deng mlynedd ar hugain o amser. Yr oedd y ffermwyr oll, ac yn ol dywediad y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, y cybyddion i gyd yn bresenol yn y cyfarfod hwnw. Llywydd y cyfarfod oedd C. F. Thruston; Ysw., Talgarth Hall. Efe oedd prif gefnogydd yr Ysgol Frytanaidd ac Ysgol y Bwrdd tra fu byw. Gwrthwynebai rhyw nifer o bobl yr ardal y symudiad gyda'r Bwrdd Ysgol, am eu bod yn credu fod gormod o addysg yn andwyo y wlad—yn anghymwyso y plant i fod yn weision a morwynion. Ond y bwgan mawr yn erbyn y symudiad oedd y dreth, yr hon a ofnai y ffermwyr fel rhai yn ofni gwr a chledda. Yr oedd rhyw haner dwsin o'r dosbarth hwn yn tyrfu yn y cyfarfod o'r dechreu i'r diwedd. Ac wrth eu clywed yn terfysgu, gofynai y Cadeirydd, "What do they say?" Atebwyd ef mai dadleu yr oeddynt dros yr Egwyddor Wirfoddol. "Dros yr Egwyddor Wirfoddol yn wir," meddai yntau, "Mae yr Ysgol Frytanaidd wedi bod yma er's dros bum mlynedd ar hugain, ac ni roddodd yr un o honynt swllt erioed at ei chario ymlaen—rhai braf ydynt hwy i ddadleu dros yr Egwyddor Wirfoddoll" Nid oedd dim taw, modd bynag, ar dafodau rhai o'r dynion terfysglyd hyn, yr oeddynt yn tyrfu a baldorddi yn ddibaid. "David," ebe'r llywydd, gan gyfeirio ei sylw at un o'r siaradwyr, " tell that man something, that he may be silent." Cyfododd Dafydd Rolant i fyny, ac meddai, "Yr ydych yn camgymeryd yn fawr, B—— bach, peth iawn ydi y plan yma mae y Llywodraeth wedi ei gymeryd i ddyfod ag addysg i'r wlad, ac fe fyddwch chwi yn siwr o'i leicio fo yn mhen tipyn. 'Rwy'n cofio yn dda glywed am geffyl wedi rhisio wrth weled rhyw dwmpath llwyd ar y ffordd; yr oedd o yn strancio ac yn gwylltio rhag dyfod yn agos at y twmpath llwyd. O'r diwedd, fe lwyddwyd i lonyddu yr anifail, a beth oedd yno ar y ffordd ond twr o wair, ac erbyn d'od ato, yr oedd y ceffyl yn ei fwyta yn braf. Fe ddowch chwithau mor hoff o'r plan yma sydd gan y Llywodr aeth, nes y byddwch yn barod i'w fwyta." "Dafydd Rolant,” ebe ei wrthwynebydd, "ydach chi ddim yn gwybod mai un stenyn (ysgadenyn —— herring) a dorodd asgwrn cefn y ceffyl!" Y mae camrau breision wedi eu cymeryd gydag addysg y gymydogaeth er y pryd hwnw.

Yn yr hyn a ysgrifenwyd o'r blaen am yr hanes hwn, cyfeiriwyd fwy nag unwaith at ddyfodiad yr Hybarch Richard Humphreys i fyw i gymydogaeth Pennal. Daeth yma trwy gysylltiad a'i ail briodas, yn Mehefin , 1858, ac yma yr arosodd am y pum mlynedd dilynol, hyd ei farwolaeth. Yr oedd y gwr hwn yn llon'd gwlad o ddoethineb ynddo ei hun. Yr oedd David Rowland ac yntau, nid yn unig yn gyfeillion pur, ond yn edmygwyr mawr, y naill o'r llall. Rhedai eu talentau yn union yr un cyfeiriad, treulient lawer o amser gyda'u gilydd, a byddent fel yr hen feirdd gynt, beunydd yn ateb y naill y llall gyda'u ffraethineb pert a pharod. Bu dyfod i gyffyrddiad â'r gallu athrylithgar mawr oedd yn Mr. Humphreys yn foddion i dynu allan y dalent oedd yn wreiddiol yn D. Rolant. Ymeangodd ei wybodaeth yn y cylch Methodistaidd, a daeth yn fwy cydnabyddus y pryd hwnw a rheolau a threfniadau y Cyfundeb. Daeth ef ei hun hefyd, o hyny allan, yn fwy adnabyddus a chyhoeddus yn y sir. Creodd yr amgylchiad hwn gyfnod newydd yn ei fywyd. Coffäi hyd ddiwedd ei oes mor aml, a chyda'r un parchusrwydd, am ddywediadau Mr. Humphreys ag y gwnai am ddywediadau Gurnal.

Ymhen blynyddoedd lawer daeth gwr enwog arall i breswylio i'r gymydogaeth, y Proffeswr Henry Rogers, awdwr yr Eclipse of Faith, a'r Super-human Origin of the Bible, un o athrawon cyntaf Dr. R. W. Dale, yn Ngholeg Spring Hill, Birmingham, ac amddiffynydd penaf y ffydd yn Lloegr, ganol y ganrif bresenol. Daeth y gwr hwn yn fuan yn gydnabyddus â David Rowland, a ffurfiodd ei farn am dano. Gwnelai y Proffeswr sylwadau yn ei balasdy, yn Pennal Tower, yn ngwydd yr ysgrifenydd, am hwn a'r llall o drigolion yr ardal, ac meddai am David Rowland, "He is the Patriarch of the Village."— Efe ydyw patriarch y pentref.

Edrychai ieuenctyd a hynafgwyr y gymydogaeth i fyny ato fel eu cynghorwr. Aeth trwy y byd gan enill edmygedd pob gradd o bobl, tlawd a chyfoethog, dysgedig ac annysgedig. Chwareuodd ei ran yn dda, a threuliodd oes gyfan yn mysg ardalwyr Pennal, fel brenin yn mysg llu.

PENOD V.—DAFYDD ROLANT A MARI ROLANT.

CYNWYSIAD.—Rhagluniaeth yn clirio y ffordd iddo briodi—Yn dyfod a gwraig i Bennal—Teulu Mary Rowland—Y lle y cyfarfyddasant gyntaf—Y Rhagbarotoad—Ymgynghori â'r teulu—Y trafaeliwr yn dyfod heibio—Sylw Mr. Humphreys a Mr. Thruston—Bys bach y cloc o'i le—Beth fydd swper y pregethwr—Galw arno o'r ardd—Yn cymeryd meddyginiaeth y naill yn lle y llall—Yn barod i briodi yn gynt y tro nesaf—Ar lan y môr yn y Borth—Yn anghytuno oherwydd myned i goncert yn Llandrindod— Dull y ddau o gario busnes ymlaen—Darluniad y Parch. Griffith Williams o garedigrwydd y ddau—Y ty yn llawn o fis Mai i fis Medi—Cân Dafydd a Mari, gan R. J. Derfel

 MSER cofiadwy yn oes Dafydd Rolant oedd yr amser y daeth yn wr priod. Ni byddai hanes ei fywyd yn haner cyflawn heb grybwyllion gweddol helaeth am yr amgylchiad oll-bwysig hwn. Crybwyllion am y pryd a'r modd y cymerodd yr undeb le, yn gystal ag am ddyddiau bywyd y ddau o hyny allan.

Arhosodd un o'i ddwy chwaer—Mary, i'r hon yr oedd ganddo barch mawr gartref i edrych ar ol y ty a'r siop i'w thad a'i brawd, tra yr elent hwy allan i weithio. Felly y buont flynyddau lawer—hwy eu dau, a hithau yn gofalu am eu cartref Wedi i'r hen wr heneiddio, yr oedd bywoliaeth y teulu i fesur mawr yn dibynu ar y mab. Bu hyn yn rhwystr iddo i wneuthur cartref iddo ei hun, fel yr arferai ddweyd, hyd nes yr oedd yn llawn deugain mlwydd oed, pryd y mae synwyr a doethineb dyn yn y man goreu. Yr oedd merch ieuanc, modd bynag, yn aros yn y Fronfelen, palasdy wrth ymyl pentref Corris, yr hon yr oedd ef wedi ei gweled er's deunaw mlynedd, ac yr oedd wedi meddwl am dani yn wraig er's deunaw mlynedd. Pan y cliriodd Rhagluniaeth y ffordd, hyny ydyw, yn mhen rhyw nifer o fisoedd wedi marw y chwaer a gadwai y ty, ac a ofalai am gartref ei dad ac yntau, sef yn mis Mai, 1852, daeth ef a'r ferch ieuanc hon yn wraig iddo ei hun i Bennal, ac wedi cyraedd y ty, dywedai wrth ei dad, "Dyma Mari, nhad." "Ho," ebe yr hen wr Hugh Rolant,—"Let Mary live long." Mis Mai eto y dechreuodd y cyfnod hwn ar ei oes, a pharhaodd heulwen Mai i dywynu ar babell y ddau trwy ystod hir eu bywyd.

Genedigol o Ddolgellau ydoedd Mary Edwards—dyna oedd ei henw cyn priodi—a dilynai grefydd er pan yn bymtheg oed. Gadawodd gartref yn bur ieuanc. Bu yn aros i ddechreu yn Machynlleth, dros dymor byr, ac wedi hyny, fel y dywedwyd am ddeunaw mlynedd yn y Fronfelen, gerllaw Corris. Y meddyg adnabyddus, Dr. Evans, a breswyliai yn y Fronfelen yr holl flynyddau hyn. Chwiorydd iddi hi oeddynt Miss Ann Edwards, Bont Fawr, a Mrs. Robert Pugh, Plascoch, Dolgellau, a Mrs. Evan Owen, Braichcoch, Corris, y rhai sydd wedi gadael y fuchedd hon. Brawd iddi hi oedd y diweddar John Edwards, Corris, yr hwn a fu yn wr amlwg a blaenllaw gyda chrefydd, yn mysg Cyfundeb y Wesleyaid, am oes faith. Chwaer iddi hi ydyw Mrs. Griffith Ellis, sydd yn byw yn awr yn Bro Aran, Dolgellau. Y teulu oll yn barchus a chrefyddol, ac yn nodedig am eu caredigrwydd.

Parhaodd undeb agos rhwng Pennal a Dolgellau, byth er amser y briodas hon, bedair blynedd a deugain yn ol. Yn mis Mai, 1885, yr oedd Cynhadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn Nolgellau. Ar ei diwedd, galwyd ar David Rowland i dalu diolch i'r ladies am eu ffyddlondeb yn darparu lluniaeth, ac yn ymdrafferthu ar hyd y dydd, gyda lliaws mawr o gynrychiolwyr a dieithriaid. "Yr ydw i," meddai, "yn hoff iawn o bobl Dolgellau. Mae yma quality da ynoch chwi i gyd. Yn Nolgellau y cefais i wraig; a phe digwyddai i mi fod mewn angen am un eto, yma y denwn i chwilio am dani."

Er mwyn rhoddi yr hanes gywired y gellir, defnyddir yn lled fynych ei eiriau a'i ymadroddion ef ei hun. Mynych y clywyd ef yn adrodd y troion hynod ynglyn a'i fynediad i'r stad briodasol. Yn nhy nain y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, Ellin Humphreys, Penybont, Corris, y gwelodd y ddau eu gilydd y tro cyntaf. Aeth blynyddau lawer heibio heb i ddim gymeryd lle ond cyfarfyddiad yn awr a phryd arall yn ddamweiniol. Pan y gofynid iddo paham y gadawodd i dymor mor faith a deunaw mlynedd fyned heibio heb ddwyn y mater i derfyniad, ac hyd yn nod heb gymeryd yr un cam o gwbl tuag at i hyny gymeryd lle—heb ofyn unwaith yr un cwestiwn iddi hi—ei ateb bob amser fyddai, y buasai wrth wneuthur felly yu chwalu cartref ei dad a'i chwaer, ac yn hytrach na gwneuthur hyny gwell oedd ganddo ymddiried yn nhrefn Rhagluniaeth. Agorodd Rhagluniaeth y drws, modd bynag, iddo ddyfod a gwraig i'w gartref. Gyda bod hyn yn cymeryd lle, anfonodd lythyr i Fronfelen, a dywedai ynddo, fod y llythyr yn dyfod ar yr un neges a gwas Abraham, gyda'r gwahaniaeth fod y neges yn eisieu iddo ef ei hun, ac nid i fab ei feistr. Wyth milldir oedd y pellder o Bennal i Fronfelen, ac nid oedd hyny ond ychydig o ffordd iddo ef, yn ol a blaen, am yr ychydig fisoedd y bu yr ohebiaeth yn cael ei chario ymlaen. Clywai y cloc yn taro yn y Fronfelen ar un o'r ymweliadau hyn, ac meddai, "Dear me, ydi'ch cloc chwi yma ddim yn myn'd yn ffestach na chlociau cyffredin?"

Aml i dro y dywedodd, "Pe buaswn i yn gweled gwagen a llwyth o goed yn pasio trwy Bennal, a phe buaswn yn gwybod fod y coed hyny yn dyfod o goed Fronfelen, buaswn yn para i edrych ar y llwyth yn myn'd i lawr tuag Aberdyfi, nes y buasai wedi myned o'r golwg." "True to Nature," ddywedasai Will Bryan, pe clywsai Dafydd Rolant yn gwneyd y sylw hwn. Mater pwysig ydyw y mater o ymgynghori â'r teulu. Aeth Mary Edwards i Ddolgellau gyda'r amcan hwn. Mae yn fwy anhawdd, medda nhw, wneuthur cytundeb â'r teulu na gwneuthur cytundeb a'r ferch ei hun. Llawer undeb gwir a ataliwyd, a llawer priodas ddedwydd a ddyryswyd, pan ddygwyd yr achos o flaen Papa a Mamma, ac ewythr a modryb. Mewn llawer teulu, o ddyddiau Adda ac Efa hyd y dydd heddyw, wrth eistedd mewn cyngor ar y mater hwn, gyrwyd Rhagluniaeth allan dros y drws, gan fentro'r byd, a'i ffawd, a'i siawns, hebddi.

Galwyd y teulu ynghyd yn Nolgellau i ymgynghori, a mawr oedd yr holi a'r cwestiyno, ynghylch y darpar ŵr—pwy oedd o, sut un oedd o, beth oedd ei amgylchiadau o. Yr oedd yno Ewythr yn y cynghor, pur wybodus a hir ei ben; ac meddai yr Ewythr, "Fe all o fod yn eitha dyn, o ran hyny, ond myn di wybod gynddo fo, Mari, a ydi o mewn dyled." A chytunasant oll fod iddi bwyso arno am atebiad i'r cwestiwn hwn.

Y tro cyntaf yr aeth David Rowland i Fronfelen ar ol hyn, adroddodd hi wrtho yr hanes am yr ymgynghoriad yn Nolgellau, ac meddai, "Y maent wedi fy rhoddi fi dan fy siars i ofyn i chwi, a ydych mewn dyled. Mae'n gas genyf ofyn hefyd." Chwerthin, a chymeryd y peth yn chwareus a wnaeth ef ar y pryd. Ac wedi myned adref i Bennal, ysgrifenodd lythyr ati, yn yr hwn y dywedai, "Yr wyf wedi meddwl llawer am yr hyn a ofynasoch i mi, sef, a ydwyf mewn dyled. Yr ydw i mewn dyled fawr, ond mae genyf Feichia iawn, fe dâl Ef y cwbl drosof, y mae wedi dweyd hyny." Deallodd hi ei feddwl yn y ddameg hon, ac ni fu dim gofyn cwestiynau mwy.

Cyfarfu y teulu o Ddolgellau unwaith yn rhagor i ymgynghori, a'r tro hwn yn Nhyrnpac Cefneclodd, yn agos i haner y ffordd rhwng Corris a Dolgellau; a'r prydnhawn hwn cynhaliwyd gwledd o de pwysig yn Cefneclodd ar yr achlysur, Digwyddodd rhyw gymaint o ddamwain hefyd i'r anifail a gludai y parti i fyny o Ddolgellau. Ebe Dafydd Rolant wrth adrodd hanes yr amgylchiadau hyn, "Ni welsoch chwi 'rioed ffasiwn Court Martial oedd yno."

Ymhen diwrnod neu ddau wedi iddynt setlo i lawr yn Mhennal, dywedodd wrth ei wraig am iddi ddal ei ffedog, a thywalltodd lon'd ei ddau ddwrn o aur iddi. "Wel, wir," ebe hithau wrthi ei hun, "'does yma ddim lle llwm iawn." "I be 'rydach chi yn cadw cymaint o arian yn y ty?" Ond cyn pen ychydig ddyddiau, daeth y trafaeliwr heibio, ac aeth a'r aur gydag ef yn ei logell ei hun. Ychydig a wyddai hi fod yr arian wedi eu casglu a'u cadw erbyn dyfodiad y gwr rheibus hwnw.

Yn awr dechreuant fyw eu hoes gyda'u gilydd. Peth lled anhawdd yn yr amgylchiad hwn ydyw ysgrifenu hanes y penteulu, heb ddweyd llawer am y wraig hefyd. Yn un y buont yn eu bywyd; yn un y maent yn nghof eu holl gydnabod; ac yn un y gellir, trwy chware teg, adrodd hanes eu pererindod. Pwy sydd yn cofio am Dafydd Rolant, heb gofio hefyd am Mari Rolant? Pwy fu yn ei gymdeithas ef, y deugain mlynedd olaf o'i fywyd, am awr o amser, heb ei glywed yn son am Mari? Ni bu dau erioed yn fwy o help, y naill i'r llall, i fyned trwy y byd.

Deuai yr Hybarch Richard Humphreys i'w ty un diwrnod, pan oedd yn byw yn yr ardal, a dywedai, "Wyddoch chwi beth oeddwn yn wneyd wrth ddyfod at y ty yma heddyw? Ceisio penderfynu, pa un oreu ydi Dafydd i Mari, ynte Mari i Dafydd." Pan yn cadw y siop yn eu ty eu hunain, arferai y ddau fod un o bob tu i'r counter, ac meddai ef wrth unrhyw un a ddeuai i mewn, "Os oes arnoch eisiau rhywbeth i'w fwyta, ewch at Mari; os oes arnoch eisiau rhywbeth i'w wisgo, dowch at Dafydd," Pan fyddai y siop yn llawn o gwsmeriaid, yn enwedig ar nos Sadyrnau, byddai ef yn sicr o ddweyd rhyw bethau i roddi pawb yn y lle mewn tymer dda, ac felly yn ddigon boddlawn i ddisgwyl eu tro am eu neges. "Mae yn haws i mi werthu yn rhad na neb yn y wlad," dywedai. "Y mae tri pheth yn peri iddi fod felly, 'does gen' i ddim rhent i'w thalu; 'does gen' i ddim plant i'w magu; 'does gen' i ddim gwraig anodd ei chadw." Dro arall, pan fyddai mewn prysurdeb wedi methu gyda rhyw bethau bach, dywedai, "O, nid yw hyn fawr o bwys, gyda phethau bach y byddaf fi yn methu; y pethau mawr a wnes i 'rioed, yr oeddynt i gyd yn iawn. Mi briodais yn iawn, beth bynag!" Gwnelai hyn bawb yn y siop yn llawen, a'r wraig, yr hon oedd yr ochr arall i'r counter, yn cael ei boddhau gan y sylw, a atebai, "Ond ydi Dafydd yn ddigri."

Mewn Cyfarfodydd Cyhoeddus a gynhelid yn yr ardal, yn y cyffredin, llywyddid gan y boneddwr a breswyliai yn Talgarth Hall, gerllaw pentref Pennal, C. F. Thruston, Ysw. Gelwid Dafydd Rolant bob amser i'r platform i siarad, ac mor sicr a hyny, byddai ef yn siwr o ddweyd rhywbeth yn ystod ei araeth am Mari. "There," ebe Mr. Thruston, y llywydd, "David is in his element when he begins to speak of Mary."

Gellid adrodd nifer hirfaith o hanesion, a digwyddiadau, a dywediadau, er dangos fel yr oedd pob un o'r ddau yn ffitio ei le, a'r modd y byddent yn rhoddi difyrwch yn eu cartref, yn gystal ag yn mysg dieithriaid. Ond rhaid cadw o fewn terfynau yn y benod hon, rhag y byddis yn gorfod cyfyngu ar ranau eraill o'r Cofiant. Yr oedd ef yn hynod o barod i wneuthur cymwynasau i'r cymydogion, ac yn neillduol gyda phob peth y capel a'r achos. Yr un pryd, perthynai iddo lawer o ddiofalwch, ac yn ddigon aml gadawai waith ar y canol, neu ynte gwnelai ef o chwith. Yr oedd un bore Sul yn myn'd i'r capel i osod y cloc yn ei le, gan y gwyddis ei fod wedi sefyll yr wythnos flaenorol. Daeth i'r ty yn ol o'r capel, a dywedai, "Mae'r cloc wedi ei roi i'r dim yn ei le; mae hi o fewn chwe' munyd i ddeg y 'rwan." Erbyn i'r pregethwr fyn'd i'r capel ac edrych ar y cloc, yr oedd o fewn munyd neu ddau i naw o'r gloch, er mai deg oedd y gwir amser. Pryd cinio, gofynodd y wraig iddo, pa'm na fuasai y cloc yn ei le ac yntau wedi bod yn y capel yn ei osod yn ei le. "Wel," meddai, "Mi roddais y bys mawr yn ei le. Mae'n debyg mai gadael y bys bach a wnes heb ei roi yn ei le. O ran hyny, yr oedd yn ddigon tebyg yn y capel fel y mai hi yn y ty yma yn amal iawn—y bys mawr yn ei le, a'r bys bach o'i le."

Mynych yr adroddai wrth y pregethwyr, gyda llawer o ddifyrwch, ei fod ef wedi cael cast ar Mari. Pan byddai y pregethwyr yn aros yn eu ty, arferai hi ofyn iddynt beth a gymerent i swper. Ac ar y mater hwn yr oedd ef yn ddamweiniol wedi cael cast ynddi. "Bydd Mari," meddai, "yn gofyn yn ofalus iawn i'r pregethwyr beth gymerant i swper, ond bydd yn dweyd rhywheth bach wrth gwt hyny. Fel hyn y bydd yn gwneyd. Te ydi'r favourite yma pryd swper. Bydd hi yn parotoi yn ofalus iawn ar gyfer y pregethwr, a bydd yn gofyn iddo wrth fyn'd i barotoi, beth gymerwch chwi i swper—tê ynte coffee?—tê m'ranta', cyn i'r pregethwr gael amser i ateb."

Mae yn eithaf gwybyddus fod y naill a'r llall yn dra medrus mewn siarad, ond pob un yn ei ffordd ei hun. "Fydd neb yn ffeindio dim pall ar Mari mewn siarad," meddai. "Pan fydd yma rywun dieithr yn y ty ar ymweliad weithiau, mi fyddaf fi yn myn'd allan, ac yn dweyd wrthynt, rydw i yn myn'd allan i roi tro i'r ardd; os bydd Mari wedi myn'd heb ddim i'w ddweyd, dowch i alw arnaf fi.' Ond welais i neb erioed eto wedi dyfod i alw arnaf."

Y mae un ffaith yn eu hanes yn profi yn ddigon sicr, eu bod yn un ymhob ystyr. Bu tipyn o saldra ar y ddau ar unwaith un tro. Nid oedd hwnw yn saldra pwysig, mae'n wir, nac o hir barhad. Ond yr oedd y ddau yn analluog i ddilyn eu goruchwylion, a'r meddyg wedi ei alw atynt. Rhoddodd y meddyg botelaid o feddyginiaeth i bob un, a'u henwau ar y poteli. Ymhen diwrnod neu ddau, aeth y naill i gymeryd o botelaid y llall, a'r canlyniad oedd, i'r ddau wella rhag blaen.

Laweroedd o weithiau clywyd ef yn dweyd fel hyn,—"Y mae dosbarth o athronwyr yn dweyd, fod rhyw gyfnod i ddyfod ar y byd yma yn mhell, bell, draw, y bydd pawb yn dyfod yn ol eto i fyw ar y ddaear yma. Os bydd hyny yn bod, mi 'rydw i yn sicr mai Mari a briodaf fi, ac mi priodaf hi yn gynt y tro nesaf." Droion eraill dywedai, "Mae yn biti fod Mari yn myn'd yn hen. Mi fuaswaiyn rhoi mil o bunau pe buasai bosibl ei chael yn ifanc eto, dros i mi fyn'd allan i werthu matches i gasglu yr arian."

Yr oedd pregethwr gyda'r ddau i swper un nos Sadwrn. Gyda'u bod wedi dechreu swpera, troes ef at y pregethwr mewn ffordd ddefosiynol iawn, a gofynai, "A oes son fod y siwgr yn codi y ffordd acw y dyddiau hyn?" Atebodd y pregethwr ei fod wedi clywed hyny. "Mae son ffordd yma hefyd," ebe yntau, "ac y mae Mari wedi eu coelio nhw." "Wedi cael rhy fychan o siwgr yn ei dê y mae o," ebe Mrs. Rowland, ac fe rois dri lwmp i chwi hefyd, Dafydd." "Wel ie, ond sut rai oeddynt. Nid yw tri pisin tair ddim ond naw ceiniog." Estynodd hi ychwaneg iddo, gyda'r sylw, "Ond ydi Dafydd yn ddigri."

Bu y ddau gyda'u gilydd un haf yn treulio wythnos ar lan y mor yn y Borth, ger Aberystwyth. Er nad ydyw y Borth ymhell o Bennal, yr oedd y lle yn bur ddieithr iddynt hwy— pobl y lle yn ddieithr, a'r ymwelwyr yn ddieithr. Tra yr oeddynt yno, ar ryw fin nos teg, eisteddai y ddau ar un o'r meinciau yn y Station. Yr oedd gyda hwy ddwy wraig o Lanidloes, ac un o'u cymydogion o Bennal. Nid oeddynt hwy yn adnabod y gwragedd o Lanidloes, na'r gwragedd yn eu hadnabod hwythau. Yr oedd yno hefyd eneth ieuanc yn y cwmni. Siaradai y gwragedd yn fan ac yn fuan gyda'n gilydd Chwareuai Dafydd Rolant gyda'r eneth fach. Toc, aeth y chwareu yn rhywbeth mwy; dechreuodd yr eneth a gwneuthur swn crio.

"Peidiwch Dafydd," ebe Mrs. Rowland, "peidiwch; gadewch lonydd i'r eneth fach." "O, gadewch iddo," ebe y gwragedd dieithr, "Wedi cael tropyn y mae o." "Dafydd wedi cael tropyn!" ebe Mrs. Rowland, gyda chryn dipyn o ysbrydiaeth, "Dafydd wedi cael tropyn! Naddo, chafodd Dafydd erioed dropyn, ond tropyn o dê." Ni ddangosodd neb un amser, fwy o anwybodaeth na'r gwragedd hyny o Lanidloes, pwy bynag oeddynt. Arferent bob haf er's llawer o flynyddoedd ymweled a Llandrindod. Un yn aros gartref i ofalu am y siop, tra buont yn cario y business ymlaen, ac yn myned yno pan ddychwelai y llall adref, ond y ddau gyda'u gilydd bob amser ar ol rhoddi y fasnach i fyny. Da y gwyr yr ymwelwyr a fynychent Landrindod am y difyrwch a'r mwynhad a gaent tra byddent hwy yno. Darfu i'r ddau ffurfio cyfeillgarwch â llu mawr o gyfeillion trwy eu hymweliadau, o dro i dro, a Llandrindod. Arferai ef gyda'i ddoniau parablus ddifyru y cwmpeini yno mewn llawer ffordd. Yr haf diweddaf y bu y ddau yno, sef yn mis Awst, 1893, aeth D. Rolant trwy un o'i branciau mwyaf chwareus, yr hyn a dynodd sylw ymwelwyr y tai agosaf, yn gystal a'r rhai oedd yn y ty lle yr arosent. Un noswaith cynhelid concert cyhoeddus yn y lle, ac yr oedd Mrs. Rowland yn awyddus i fyned iddo gyda rhai gwragedd eraill. Ceisiai Dafydd Rolant ei pherswadio i beidio, a dywedai nad oedd yn beth gweddus iddi hi oedd mewn oedran i fyned i le felly; ac ychwanegai, rhwng difri a chwareu, na chai ddim dyfod i'w ganlyn ef os elai i ddilyn cyfarfodydd o'r fath. Ond penderfynu myn'd a wnaeth y gwragedd. Dychwelodd Mrs. Rowland, modd bynag, yn lled fuan, wedi cael llwyr ddigon ar y cyfarfod. Ar ol pryd swper y noson hono, slipiodd Dafydd Rolant yn ddistaw bach, wrtho ei hun, i'w ystafell wely, a chlodd y drws. Erbyn i'r wraig fyn'd i fyny, nid oedd dim caniatad i agor y drws. Dywedai yr hwn oedd o'r tu mewn, nad oedd yn beth gweddus i un yn dilyn concerts a chyfarfodydd amheus ei ganlyn ef. Ac nid oedd wiw curo, a chrefu am gael myu'd i mewn, o'r tu allan y bu raid iddi aros am ysbaid o amser. Tra 'roedd y curo oddiallan yn myn'd ymlaen, a'r ateb oddimewn yn gwrthod, ymgasglai yr ymwelwyr yn y ty, a'r tai agosaf, i edrych beth oedd yn bod. O'r diwedd, dywedai hi, "Dafydd bach, wnes i 'rioed mo hyn â chwi." Aeth y gair hwn, meddai ef, at ei galon, ac ar hyny agorodd y drws.

Heb ymhelaethu gyda hanesion o'r fath, mae y pethau a ddywedwyd yn dangos yn eglur fod ddau yn gymwys iawn i dreulio eu hoes gyda'u gilydd. Ni fu cyfryngiad Rhagluniaeth nemawr erioed, mae'n debyg, yn amlycach nag yn ffurfiad yr undeb rhyngddynt. Y mae Mrs. Rowland yn aros hyd yr awr hon, onide gallesid dweyd ychwaneg am dani. Ond mae yn bur sicr na ddaethai ef y peth y daeth onibai hi. Eto, byddai ef arferol a dweyd, mai deugain gwialenod ond un a fyddai y gosb am bob trosedd o bob natur a maint. Ni bu dau erioed gyda'u gilydd mor gymwys i gario ymlaen fasnach. Yr oedd y ddau wedi deall yr egwyddor o gymeryd a rhoi yn drwyadl. Ac y mae hyn yn dra angenrheidiol er llwyddiaut wrth drin y byd. Medrai y naill fel y llall ddenu pobl; a gwnelai y naill fel y liall hefyd gymwynasau fwy na mwy, hyd at anghysur a cholled iddynt eu hunain ar y pryd, er mwyn y fantais a gyrhaeddid yn y pen draw. Yn eu caredigrwydd i achos crefydd, ac i weision yr Arglwydd, yr oeddynt yn hollol unol. Mae yr hyn a wnaeth y ddau yn yr ystyr hwn tu hwnt i bob cyfrif. Credent eu dau fod eu haelioni a'u gwasanaethgarwch gydag achos y Gwaredwr, yn enwedig eu caredigrwydd tnag at weision yr Arglwydd, wedi bod yn elfen arbenig tuag at iddynt lwyddo mewn pethau tymhorol.

"Cofus genyf," ebe y diweddar Barch. Griffith William, Talsarnau, yn ei Gofiant i'r Parch. Richard Humphreys, "fy mod yn myned un bore Sabboth, o Gwerniago i Bennal, a Mr. Humphreys yn dyfod gyda mi, ac yn ol ei arfer trodd i mewn at David a Mary Rowland; ac ar ei fynediad i'r ty, dyma y ddau ar eu traed yn barod i weini arno; a thra yr oedd un yn datod ei gôt fawr, yr oedd y llall yn dad fotymu ei overalls; ac ar ol iddo eistedd, dywedais, Y mae y cyfeillion hyn yn ymddangos yn hynod o'r caredig i chwi, Mr. Humphreys.' ' Ydynt,' ebe yntau, fel hyn y maent er pan wyf yn y gymydogaeth, a byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau, am ba hyd y bydd i'w caredigrwydd barhau.' Ond nid oedd un perygl iddo ddarfod, gan fod y ddau yn cael y fath fwynhad yn ei groesawu."

Gofynodd Mr, Humphreys un diwrnod wedi dyfod i'r ty, "Sut mas eich temper heddyw, Mari bach?"

"Gwelais hi yn well lawer gwaith," ebe Dafydd.

"Dim anair am Mair i mi,"

ebe yntau.

Bu eu ty dros ddeugain mlynedd o amser yn llety croesawgar i weinidogion y Gair ac i fforddolion. Llety llon a llawen y cafodd nifer mawr ef, o'r rhai sydd wedi croesi at y mwyarif, ac hefyd o'r rhai sydd yn aros byd yr awr hon. Y blynyddoedd diweddaf, wedi iddynt ymneillduo i fyw i Llwynteg, byddai eu ty o fis Mai i fis Medi, yn fynych yn haner llawn o ymwelwyr, sef perthynasau a ffryndiau. Lletyai gweinidog yno dros y Sabboth y tymor hwn unwaith, pryd yr oedd yno amryw o ymwelwyr, a gwnaeth y gweinidog y sylw wrth D. Rolant, "Dear me, mae y ty yma yn llawn iawn; ydych chwi yn cadw Hotel yma?" "Nac ydym ni," atebai yntau, "nac ydym ni; rhad rhoddion sydd yma." "O," meddai y gweinidog drachefn, "'Sicr drugareddau Dafydd' sydd yma felly." "Ie," oedd yr ateb parod, "ond fod eisiau rhoddi chwanegiad at yr adnod 'Sicr drugareddau Dafydd,' A MARI."

Terfynwn y benod hon, trwy gyflwyno y Gân boblogaidd a gyfansoddodd Mr. R. J. Derfel, i'r ddau, yn ogos i ddeugain mlynedd yn ol. Ryw ddiwrnod, tua'r flwyddyn 1860, daeth gwraig o'r pentref i'r siop, a dywedai, "Mari Rolant, mae nhw wedi eich rhoddi chwi a Dafydd Rolant yn y Papyr Newydd; mae rhyw gân ynddo heddyw am danoch eich dau; dyna fel y mae pobol, os bydd rhyw rai yn d'od dipyn ymlaen yn y byd, rhaid iddynt gael estyn bys atynt yn union deg." Wedi clywed hyn, yr oedd Mrs. Rowland mewn trallod dwfn oherwydd fod rhyw un wed cymeryd yn ei ben eu rhoddi yn y papyr newydd. Nid oedd Dafydd Rolant gartref ar y pryd, ac nis gwyddai hi yn y byd beth i'w wneyd. Ond cyn yr hwyr y diwrnod hwnw, daeth Mr. Humphreys heibio o rywle i'r ty, ac ymarllwysodd Mrs. Rowland ei thrallod iddo ef. "Beth a wnawn ni, Mr. Humphreys! Mae nhw wedi ein rhoi ni yn y Papyr Newydd, a 'dydi Dafydd ddim gartra." Gofynodd Mr. Humphreys am gael gweled beth oedd wedi ymddangos yn y papyr, ac erbyn hyn efe a ddywedodd, "Raid i chwi ddim teimlo dim am yr hyn maent wedi ei wneyd, compliment o'r fath oreu i chwi yw hyn." Bu gair Mr. Humphreys yn ddigon ar unwaith i dawelu pobpeth. Daeth y gân yn boblogaidd yn y ty. Mynych yr adroddai y penteulu hi yn nghlywedigaeth dieithriaid o ymwelwyr fyddent yno, gan roddi pwyslais o'i eiddo ei hun ar aml i air ynddi, yn enwedig ar y llinell yn y penill olaf,—"Mae gwynfyd yn nghyraedd pob dyn yn y byd." Yr oedd Mr. R. J. Derfel y blynyddoedd hyny yn trafaelio dros firm o Manchester, a thrwy hyn yr oedd yn gydnabyddus iawn a Mr. a Mrs. David Rowland. Ymddangosodd y gân hon drachefn yn Nghaneuon Min y Ffordd, un o Weithiau Barddonol Mr. R. J. Derfel.

DAFYDD A MARY.

(Cyflwynedig i Mr. a Mrs. Rowland, Pennal.)

Mae Dafydd a Mary yn ŵr ac yn wraig,
Maent wedi priodi er's tro;
Mae Dafydd fel gwr mor sefydlog a'r graig,
A Mary'n wraig oreu'n y fro.
Mae Mary yn caru Dafydd,
A Dafydd yn caru Mary;
A thrwy ein bro glau, ni welir byth ddau
Dedwyddach na Dafydd a Mary.

Mae Dafydd yn weithgar a medrus fel dyn,
Er nad yw yn llawer o 'sglaig,
Ac nid oes drwy'r pentref na'r ddinas yr un
Rhagorach na Mary fel gwraig;
Mae Mary yn helpio Dafydd,
A Dafydd yn helpio Mary;
A thrwy yr holl dir ni welir yn hir
Ddau dwtiach na Dafydd a Mary.

Mae Dafydd yn dyner a serchog bob pryd,
A Mary yn gariad diball;
Mae pelydr o serch yn eu llygaid o hyd
Yn fflachio y naill at y llall;
Mae Mary yn canmol Dafydd,
A Dafydd yn canmol Mary;
A byw yn ddiloes, heb gweryl na chroes,
Dan ganmol wna Dafydd a Mary.

Mae Dafydd yn llawen a digrif dros ben,
A Mary yn ysgafn ei bron;
Mae sain eu caniadau yn esgyn i'r nen
Bob awr ar y diwrnod o'r bron;
Chwibianu a chanu wna Dafydd,
A chwerthin a chanu wna Mary;
A thrwy eu hoes bron, chwareugar a llon!
A dedwydd yw Dafydd a Mary.


Mae gwynfyd yn nghyraedd pob dyn yn y byd
A geisio yn gywir ei gael;
Does neb yn rhy isel i enill ei bryd,
Na bwthyn rhy gyfyng a gwael.
Chwibenwch a chanwch fel Dafydd,
Canmolwch a charwch fel Mary;
A byddwch i gyd yn ddedwydd eich byd,
Ac anwyl fel Dafydd a Mary.

R. J. DERFEL.


PENOD VI.—DYWEDIADAU FFRAETH, A HANESION HYNOD.

CYNWYSIAD—Anfon llythyr i Lundain—Sylw Dr. Lewis Edwards am y Parch. Richard Humphreys—Ei hawl i'r teitl o fod yn athrylithgar—Yn rhagori fel adroddwr Hanesion—Ei gyffelybiaeth am y Parch. Foulk Evans—Y Parch J. Foulkes—Jones, B.A., yn debyg i Iesu Grist—Cyngor i ymwelwyr rhag myn'd at droed y ceffyl yn rhy fuan—Cerdded 'part' o ddau blwy' cyn brecwast—Dau gapel yn un yn y mil blynyddoedd—Colli coron wrth enill haner coron—Blaenoriaid yn ready made—Hen Gymro gwledig yn ymweled a Llundain—Pedwar ugain ond un o gynygion i briodi—Chwilio am y bedwaredd wraig—Dewis y crogbren o flaen priodi—'Barr Toss'—Siarad ymysg y rhyw deg—Gwrthod y gwir, a chredu yr hyn nad yw wir—'Stay long'—Pridd y Puritaniaid—Y cyfiawn yn gofalu am ei anifail—'Reducio' yn yn 'ever-green'—Dyn siaradus yn dafod y corff—Y danedd yn y bocet—Byth yn rhy uchel i siarad—Dwy wraig dalentog yn siarad—Un weithred yn effeithio ar y wyneb—Yn llawdrwm ar gybyddion—Dim posib cneifio y llew—Digon o ddawn i gadw seiat—Gormod o rubanau—Tebyg i Mr. Gladstone—Ymchwydd dynion bychain—Mewn Cyfarfod Misol yn Mhennal—Yn rhoddi cyngor i Flaenoriaid—Yn siarad yn well heb barotoi.

 YN ffraeth oedd gwrthddrych y Cofiant hwn. Wrth hyny golygir, yn ei gysylltiad ag ef, ei fod yn llithrig ei ymadrodd, parod ei sylw, cyrhaeddgar ei atebion. A'i ffraethineb mor naturiol a'r dwr yn rhedeg. Nid oedd yn rhagori mewn cynllunio a threfnu; yn hytrach, ceid ef yn ddigon mynych yn y pellder gwrthgyferbyniol i drefn. Ymhen tua pythefnos wedi i ysgrifenydd yr hanes hwn ddyfod i aros i Bennal, galwyd arno ar ryw achlysur i Lundain, ac i aros yno dair wythnos. Derbyniodd lythyr oddiwrtho, tra yn aros yno, heb yr un enw o gwbl o'r tuallan i'r llythyr. Rhif y ty, enw yr heol, a Llundain—dyna yr unig gyfarwyddid a gafodd y llythyr-gludydd y tro hwnw. Er hyny, cyrhaeddodd y llythyr ei wir berchenog yn nghanol Llundain. Wedi cyraedd adref i Bennal, gofynodd i'r ysgrifenydd ar ei ben ei hun, "Ai fel a'r fel yr oedd wedi anfon y llythyr í Lundain?" "Ie," oedd yr ateb, "fel ar fel." "Er mwyn pob peth," meddai, "peidiwch dweyd wrth Mari." Yr oedd ei ffordd o feddwl, a'i ddull o ymadroddi, modd bynag, bob amser yn gymeradwy, gan ei fod mor wreiddiol, a naturiol, a hollol ar ei ben ei hun.

Dywedai Dr. Lewis Edwards, y Bala, am yr Hybarch Richard Humphreys, nad oedd Dr. Chalmers na Franklin yn rhagori arno, "mewn gallu i wneyd sylwadau, a thynu addysgiadau buddiol oddiwrth bethau cyffredin." Mewn gallu i wneuthur sylwadau, a hyny oddiwrth bethau cyffredin, y rhagorai Dafydd Rolant. Meddai ynatau ar athrylith ddiamheuol. Medrai ddweyd pethau cyffredin mewn ffordd na fedrai neb arall eu dweyd. Mewn pertrwydd a ffraethineb yr oedd yn ddigymar, a chwareuai yr elfen ddigrifol yn ei natur mor naturiol ag y chwareua y pysgodyn yn y môr. Siaradai yn fynych ar ddull damhegol, a byddai yn sicr o gael sylw, ac yn lled sicr hefyd o daro ar ben yr hoel, pa un bynag ai yn y cylch cymdeithasol yn mysg ei gymydogion, ai mewn cyfarfodydd cyhoeddus, y digwyddai iddo fod yn siarad. Mewn dwyn allan wirionedd o bethau cyffredin, ar ddull gwreiddiol, hollol o'i eiddo ei hun, saif yn sicr yn rhestr dynion athrylithgar.

Nid yn unig dysgai wirionedd trwy ddameg ac alegori; yr oedd yn hoff iawn hefyd o adrodd hanesion, er cyraedd yr un nôd. Adroddai hanesynau yn ddibaid. Yr oedd mil o'r rhai hyn yn ei gof, fel tarianau Dafydd frenin yn y Tŵr. Adroddodd lawer o honynt drosodd a throsodd, mae'n wir, yn ei oes, ond byddai ambell un newydd yn dyfod allan o'r tŵr hyd y diwedd. Yn bur agos i ddiwedd ei oes, adroddai mewn cyfarfod cyhoeddus hanesyn tarawiadol iawn i egluro y mater yr oedd yn siarad arno. Dywedwyd wrtho na chlywyd mo hono yn adrodd yr hanesyn hwnw o'r blaen, a gofynwyd iddo yn mha le yr oedd wedi ei gael. Ei unig ateb oedd, "Enough of old store in Wynstay." Trysorodd yr hanesion i'w gof, cadwodd hwy yn ei gof, a'r syndod oedd y medrai eu cael ar y funyd i ateb y pwrpas fyddai ganddo mewn golwg. Byddai llawer o olion bore oes i'w canfod yn yr hanesynau a adroddid ganddo. Trwy adrodd ystori, modd bynag, y cyrhaeddai ef ei uchelbwynt wrth siarad, pa le bynag y siaradai, a pha beth bynag fyddai y mater. Ac yn hynyma nid oedd mo'i fath. Nis gellir ei gyffelybu am adrodd stori i ddim yn well nag i ddyn yn bwrw maen i lawr y goriwaered. Byddai yn sicr o allu rhoddi tro i'r maen ar i lawr, a byddai mor sicr a hyny o'i anfon i ben ei siwrna.

Y mae eisoes amryw o'i ddywediadau a'i hanesion wedi eu crybwyll. Amcenir rhoddi amryw o honynt eto yn y benod hon. Byddai yr hen bregethwr sylweddol a gafaelgar, y Parch. Foulk Evans, Machynlleth, yn pregethu yn fynych ya Mhennal. Ceid ganddo ef asgwrn i'w gnoi yn mhob pregeth. Un tipyn yn oeraidd ydoedd hefyd yn ei ffordd. Wrth ysgwyd llaw, estyn ei ddau fys a waai ef, ac nid ei law. Ar ddiwedd cyfarfod pregethu rywbryd yn Mhennal, cychwynai Foulk Evans adref i Machynlleth, ar ol swper, yr hwn a gafwyd yn nhy David a Mary Rowland, a chan estyn ei ddau fys (yn ol ei arfer) i bawb wrth ffarwelio, meddai, "'Rwy'n meddwl yn siwr ein bod yn dyfod yn fwy cynhesol wrth rwbio fel hyn yn ein gilydd." "Wyddoch chwi i beth y byddaf fi yn eich cyffelybu chwi, Mr. Evans?" ebe Dafydd Rolant, "I sheets oerion wrth fyn'd i'r gwely maent yn oerion anferth wrth fyn'd iddynt; ond wedi bod ynddynt am dipyn o amser, nid oes dim byd sydd gynhesach na nhw."

"Wel, Dafydd, Dafydd," ebe yr hen bregethwr, "nid oes neb tebyg i chwi."

Traddodai y Parch. Dr. Harries Jones, Trefecca, ddarlith un noson waith yn Mhennal. Testyn y ddarlith oedd, "Hanes Crist." Ar gais y cyfeillion yn Mhennal, yr oedd y Parch. J. Foulkes—Jones, B.A., wedi dyfod o Machynlleth i fod yn gadeirydd y cyfarfod. Ac wrth wneuthur sylwadau ar y diwedd, dywedai David Rowland,—"Y mae pob peth yn ffitio i'r dim yma heno. Cawsom ddarlith dda iawn ar hanes Iesu Grist, y dyn mwyaf a'r dyn goreu fu yn y byd erioed; a chawsom i lenwi y gadair ac i lywyddu y cyfarfod, y dyn tebycaf i Iesu Grist o bawb a welais i erioed."

Ar darawiad y funyd fel hyn y ceid yn fynych y sylwadau goreu ganddo.

Pan oedd ef a'i briod yn preswylio yn eu ty eu hunain, yr ochr Orllewinol i'r pentref, gwelid trwy ffenestr y gegin i ganol y pentref. Ceir golwg trwy yr un ffenestr hefyd ar Efail gôf, ac ar y gôf yn gweithio ei grefft. Yr oedd ymwelwyr a'r eglwysi—gweinidog a blaenor o Ffestiniog—ar ymweliad unwaith ag eglwysi y dosbarth hwn, yn ol penodiad y Cyfarfod Misol. Wedi gorphen eu gwaith yn eglwysi Corris, daethant i Bennal. Ac ar ol eistedd i lawr yn y ty, a chael ychydig o hamdden, meddai Dafydd Rolant wrthynt, "Ydych chwi eich dau yn ei medru hi gyda'r gwaith o ymweled ag eglwysi y wlad? Mi fyddaf fi yn gweled trwy y ffenestr yma y gôf yn pedoli'r ceffylau. Mae'r gôf yn ei medru hi gyda'r ceffylau a'r pedoli. Mae o yn taro ei law i ddechreu ar gefn y ceffyl, prattio tipyn arno, ac wedi hyny tyna hi i lawr yn ara bach ar hyd ei goes o, a phob yn dipyn fe ddaw o at droed y ceffyl. Pe . buasai yn myn'd at ei droed o ar unwaith, hwyrach mai cic a gawsai gan y ceffyl. Ydych chwi yn ei medru hi gyda'r eglwysi yma? Ydych chwi yn peidio myn'd at droed y ceffyl yn rhy fuan?"

Mae y ty a'r siop lle y preswylient gynt yn Mhlwyf Towyn, yn union ar y terfyn, yr afon rhwng y ddau blwy yn rhedeg heibio talcen y ty, a'r bont sy'n ei chroesi wrth ymyl drws y ffrynt. Wedi croesi y bont yr ydys ar unwaith yn Mhlwyf Pennal. Llawer gwaith y croesodd ef y bont yn y bore cyn brecwast, a dywedai gyda sirioldeb wedi d'od yn ol i'r ty, "'Rydw i wedi cerdded part o ddau blwy' heddyw'n barod." West End y galwai ef y lle pan oedd yno'n byw. Yn awr, trwy arfer y pentrefwyr, gelwir y lle yn Siop y Bont.

Mae y ty hwn yn ffrynt darn helaeth o'r pentref, yn wynebu ar gapeli hardd y Methodistiaid a'r Annibynwyr. Oddiar bont y pentref ymddengys y ddau gapel hyn mor agos fel y gellid tybio eu bod bron ochr yn ochr a'u gilydd. Cynhelid yma Gyfarfod Misol unwaith gan y Methodistiaid—y Cyfarfod Misol olaf i'r Parch. David Davies, Abermaw, fod ynddo yn y lle. Gan fod y Methodistiaid yn gwneuthur rhyw gyfnewidiad yn eu capel, ac wedi methu ei orphen mewn pryd, trwy garedigrwydd enwad yr Annibynwyr, cynhaliwyd holl gyfarfodydd y Cyfarfod Misol yn eu capel hwy. Pregethai y Parch. David Davies, yn olaf y noson olaf, yn nodedig o afaelgar, oddiar y geiriau, "Pa beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe." Yr oedd ef a Dafydd Rolant wedi cytuno â'u gilydd i dala diolch i gyfeillion caredig yr Annibynwyr am fenthyg eu capel Meddai Mr. Davies ar dop ei lais, gyda bod y weddi drosodd, "Wel, dowch Mr. Rowland, diolchwch am y capel yma."

Cyfododd yntau ar ei draed, ac fel hyn y dywedai,-"Yr ydan ni yn ffrinda mawr yn Mhennal yma bob amser. Pan oeddym ni yn byw yn y siop acw, ar gyfer y capel yma, fe fyddai pobl ddieithr a ddelent i'r pentra yn troi atom ni, ac yn dweyd, 'dear me, 'rydach chwi yn Mhennal yma wedi gwneyd eich capeli yn agos iawn at eu gilydd.' Ydym, meddwn ineu, yr ydym wedi eu gwneyd mor agos at eu gilydd ag y gallem, er mwyn i ni fod yn un pan y daw y mil blynyddoedd." Yr oedd hyn ynddo ei hun yn ddigon o ddiolch, oblegid rhoddwyd pawb ar unwaith yn y dymer oreu oedd yn bosibl.

Yn Llandrindod un haf yr oedd yno, cynhelid math o gyfarfod cystadleuol Cymreig yn y lle. Yr ymwelwyr wedi ei drefnu yn eu plith eu hunain. Yn y cyfarfod yr oedd araeth ddifyfyr yn un o'r testynau, a haner coron o wobr i'r goreu. Eisteddai Dafydd Rolant yn nghanol y gynulleidfa, a thra cymhellid ymgeiswyr i dd'od ymlaen i areithio, ceisiai un o'i gyfeillion a eisteddai yn ei ymyl ei berswadio ef yn ddistaw i ymgeisio gan ddywedyd, "Ewch ymlaen Dafydd Rolant, yr ydych chwi yn siwr o enill—y mae haner coron o wobr." "Na," meddai yntau, gan ysgwyd ei ben, "na, mae gen i goron, 'daf fi ddim i golli hono wrth geisio enill haner coron."

Ymgeisiodd ryw dro drachefn yno ar ysgrifenu llythyr serch, a'i osod ef ag un arall yn gyfartal a wnaed y tro hwnw.

Yr oedd ef a gweinidog penodedig gan y Cyfarfod Misol, ar ymweliad unwaith ag eglwys Towyn, er cynorthwyo mewn dewis blaenoriaid. Yr oedd Mr. Thomas Jones—un o flaenoriaid rhagoraf Gorllewin Meirionydd—wedi symud o Foel Friog, Corris, lle 'roedd yn flaenor blaenllaw, i breswylio yn Caethle, Towyn, rhyw ddwy flynedd yn flaenorol, ac wedi ei ddewis ar ei ddyfodiad i'r lle yn un o flaenoriaid eglwys Towyn. Symudodd Mr. Griffith Jones, Gwyddelfynydd, un arall o brif flaenoriaid y Sir, i breswylio i Ty Mawr, Towyn. A neges y ddau genad dros y Cyfarfod Misol oedd edrych i reoleiddiad ei ddewisiad ef gan yr eglwys yno. Wrth draddodi ei anerchiad yn y dechreu yn y cyfarfod eglwysig, dywedai Dafydd Rolant, "Yr ydych chwi yn lwcus iawn yn Nhowyn yma, yr ydych yn cael eich blaenoriaid yn ready made—West of England hefyd."

Arferai adrodd gyda'i ddawn dihafal hanes hen Gymro gwledig yn myn'd i Lundain i edrych am ei ferch. Yr oedd golwg hynod o wladaidd a Chymroaidd ar yr hen ŵr—dillad llwydion o frethyn cartref, clôs pen glin, a'i ddiwyg oll yn ei osod allan fel un o ganol un o gymoedd Cymru. Aeth ei ferch i'w gyfarfod ar ei ddyfodiad i Lundain. Yr oedd hi yn ei weled yn rhy Gymroaidd a gwladaidd ei wisg i'w chanlyn hi yn y fath le a Llundain, ac aeth ag ef i ryw fasnachdy i gael suit o ddillad newyddion. A thra 'roedd y ddau yn myn'd gyda'u gilydd ar hyd y strydoedd i chwilio am y lle pwrpasol i gael y dillad, daethant heibio i siop fawr a gwydrau mawrion yn ei ffenestri, a gwelai yr hen ŵr adlewyrchiad o hono ei hun yn y ffenestr. Safodd ar gyfer y ffenestr, gan ddywedyd wrth ei ferch, "Giaist i, dyma hen Gymro tebyg iawn i mi, gad i mi fyn'd i ysgwyd llaw â fo," ac estynai ei law ato. "O," meddai, "mae mwy o faners ynw i o lawer na hwn. Yr ydw i yn estyn fy llaw dde iddo fo, ac yntau yn estyn ei law chwith ataf finau."

Byddai ganddo stôr dda o helyntion carwriaethol i'w hadrodd, pan welai ei gyfle. Nid oes dim byd yn cymeryd yn well gyda'r natur ddynol, yn enwedig gyda phobl ieuainc. Gweithiai ef a'i dad, Hugh Rolant, un tro yn nhy un o'r chwiorydd nad oedd erioed wedi priodi, ac yr oedd wedi cyrhaedd oedran pur fawr. Meddai Hugh Rolant wrthi un diwrnod, "Mi gawsoch chwithau hon a hon, gynygion ar briodi rai gweithiau yn eich oes?"

"Do," oedd yr ateb, "do, mwyn dyn, lawer iawn o gynygion—'rydw'n siwr, pe bawn i yn eu cyfri nhw, eu bod yn bedwar igian ond un."

Yr oedd hen frawd o gwr Sir Drefaldwyn, o'r enw Rhysyn y Clogsiwr, wedi bod yn briod dair gwaith, ac yr oedd yn chwilio am y bedwaredd. Honai ei fod yn rhyw berthynas pell i wr Dolgelynan, ffermdy yn Mhlwyf Pennal, ar lan Afon Dyfi. Galwai Rhysyn of "fy nghâr." Daeth Rhysyn i Ddolgelynan un diwrnod, a gofynai i'r gwr, a oedd ganddo ddim hanes gwraig iddo. "Oes," meddai, "mae un yn Nhai Newyddion, Pennal, o'r enw Betty, Cwmffernol. Dos i Gelligraian, at Shion Llwyd, fe wnaiff ef ddangos y ty i ti." Aeth yntau yn ol y cyfarwyddid, a chafodd gan Shion Llwyd gyda pharodrwydd ddyfod i ddangos y ty iddo, yr hwn a lechai ei hun o'r tu ol i'r gwrych, i edrych beth ddeuai o'r anturiaeth. Ni fu yno ond ychydig funydau nes iddo weled trwy y gwrych Rhysyn yn cael ei fwrw allan o'r ty, a'r ysgubell fedw wlyb ar ei war, a'r drws yn cael ei gau yn glep ar ei ol. Wedi myn'd yn ol at ei gymwynaswr, ebe Rhysyn, "I be 'roedd fy nghâr o Ddolglynan yn fy ngyru fi at hona? 'Does ar hona ddim eisio gŵr."

Hanesyn yr adroddodd lawer arno mewn rhyw fath o gwmpeini ydoedd, am y dyn yn dewis cael ei yru i'r crogbren yn hytrach na phriodi. "Yr oedd," meddai, "er's llawer o oesau yn ol, gyfraith ryfedd iawn yn perthyn i'r wlad hon; pan fyddai dyn wedi ei draddodi i'r crogbren, os deuai ryw ferch ymlaen i'w briodi, cai ei arbed a'i ollwng yn rhydd. Cymerodd amgylchiad felly le yn Llundain unwaith. Yr oedd dyn wedi ei gael yn euog, ac wedi ei draddodi i ddioddef cosp eithaf y gyfraith. A thra'r oedd yn cael ei yru mewn cerbyd ar hyd strydoedd Llundain, deuai y bobl allan o'u tai' a gofidient yn fawr na buasai rhywun yn cymeryd trugaredd ar y dyn. O'r diwedd, cyn cyraedd pen y siwrna, dyma ryw ferch yn dyfod 'ymlaen i gynyg ei hun iddo. Gwnaeth y driver y peth yn hysbys i'r dyn, ac arafodd y cerbyd. Gadewch i mi ei gweled,' ebe'r dyn. Ac wedi iddo gael hyny, dyna ddywedodd, Long nose, sharp eyes, drive on coachman."

Adnabyddir y stori ganlynol wrth yr enw "Barr Toss." Yr oedd eglwys unwaith wedi bod mewn gohebiaeth â dyn ieuanc gyda golwg ar ei gael yn weinidog; y drafodaeth wedi ei chario ymlaen yn lled bell; y cenhadon o'r Cyfarfod Misol wedi bod yn cymeryd llais yr eglwys, a'r llais yn unol dros ei gael. Yn y cyfwng hwn, daeth galwad i'r dyn ieuanc o eglwys arall, a thueddai yntau erbyn hyn, oherwydd rhyw resymau, i dderbyn yr ail alwad.

Clywodd Dafydd Rolant am yr hanes, a daeth a'i gyffelybiaeth allan i'w egluro. "'Rwy'n cofio'n dda," meddai, "er's llawer blwyddyn yn ol, yr oedd gan ddyn yn Mhennal yma ddwy gariad yn Abergynolwyn, ac ar ben y mynydd rhwng yma ac Abergynolwyn y byddai yn penderfynu at p'run o'r ddwy yr a'i. A'i ffordd o benderfynu ar ben y mynydd fyddai gosod ei ffon ar phen, ac yn ol y cyfeiriad y syrthiai y ffon y cymerai yntau ei daith i fyned at wrthddrych ei serch. Un tro, modd bynag, nid oedd y ffon wedi syrthio yn hollol unol â'i deimlad. Cyfododd hi i fyny drachefn, gosododd hi ar ei phen yr ail waith, a chan roddi ychydig o osgo ynddi tuag at breswylfod yr hon a hoffai yn nyfnder ei deimlad dywedai, "Barr Toss."

Arferai adrodd am gyfarfyddiad, flynyddau pell yn ol, amryw o'r rhyw deg yn y pentref, y rhai oeddynt wedi cyraedd ymlaen mewn dyddiau. Pwnc yr ymddiddan yn eu plith ydoedd y mater o briodi. A digwyddai i ryw un digon direidus o'r rhyw arall fod yn gwrando y siarad rhyngddynt, heb yn. wybod iddynt hwy. A daeth yr hanes allan trwy hwnw. "Welais i riodsiwn beth," meddai y naill wrth y llall, "na bai rhyw un yn dyfod bellach. Hwyrach, pan ddaw gwr Dolglynan yn overseer, y gall ef gael rhyw un i ninau."

Yr oedd ganddo hanesyn da iawn, amcan yr hwn ydoedd dangos mor hwyrfrydig ydyw rhai pobl i dderbyn y gwir, ac o'r tu arall, mor chwanog ydynt i gredu yr hyn nad yw wir. Adroddid yr hanes mewn ffordd o ymddiddan rhwng bachgen ieuanc o forwr a'r hen wraig ei nain.

"Dywed i mi, fy machgen i," ebe yr hen wraig, "beth oedd y peth rhyfedda welaist ti yn dy deithiau ar hyd y moroedd yna?"

"Wel," atebai y bachgen, "y peth rhyfedda welais i ar y môr, oedd gweled pysgod yn ehedeg."

"Gweled pysgod yn hedeg? Naddo erioed. Choeliaf fi ddim peth fel yna, dywed rywbeth sy'n debyg o fod yn wir."

"Wel ynte, mi welais beth arall rhyfedd iawn. Pan oeddym yn croesi y Mor Coch unwaith fe ddarfu i ni fwrw angor, ac wrth godi yr angor i fyny fe ddaeth olwyn fawr gyda'r angor, a beth oedd hi ond un o olwynion cerbydau Pharaoh."

Dyna rywbeth tebyg i wir," meddai yr hen wraig, "mi goeliaf fi hynyna."

Yr oedd ei wraig ef ei hun yn un mor hynod o garedig, a chroesawgar, a siaradus, pan fyddai rhywun dieithr wedi talu ymweliad â'r teulu, byddai y sgwrs yn para yn bur hir, a gwaith anhawdd fyddai ymadael. Ebe Dafydd Rolant ar adegau felly, "Y mae lle yn Sir Drefaldwyn o'r enw Stay Little, ond stay long ydi hi yma."

Mewn ymddiddan yn y teulu, tra 'roedd gweinidog dieithr yn bresenol, adroddid hanesyn gan Mrs. Rowland, ac yn ei hadroddiad amgylchynai hi gryn lawer ar y cyrion, gan fod yn bur fanwl ar hyd yr amgylchoedd; ac yr oedd yn amlwg fod Dafydd Rolant yn lled anesmwyth eisiau iddi gyraedd y pwynt. O'r diwedd, methodd a dal yn hwy, ataliodd Mrs. Rowland dan wenu, a dywedodd, "Y mae Mari yn wraig ragorol iawn, ond mae hi yn bur debyg i'r Puritaniaid; y mae'n rhaid myn'd trwy lawer iawn o bridd cyn y dowch chwi at y perl."

Cychwynai ysgrifenydd yr hanes hwn un diwrnod i Gyfarfod Misol Machynlleth. Yr oedd hyn prydnawn cyntaf y Cyfarfod Misol, bwriadai yntau fyned yno bore dranoeth. Ar y pryd y cychwynai, gwelai Dafydd Rolant yn yr ardd, yn ymgeleddu llety y mochyn, a dywedai wrtho, os clywai rywrai yn holi am dano, y dywedai wrth bawb yn mha le yr oeddis wedi ei weled ddiweddaf. Ebe yntau rhag y blaen, "Y cyfiawn fydd ofalus am fywyd ei anifail."

Byddai ar hyd ei oes yn hoff o rai geiriau Saesoneg. Deallai lyfr Saesoneg yn weddol; medrai gario ymlaen drafodaeth yn yr iaith Saesoneg, ac weithiau gwnelai ddefnydd prydferth o ambell i air Saesoneg. Ond llofruddio yr iaith y byddai wrth ei siarad hi. Ni byddai gwneuthur camgymeriad mewn gair neu frawddeg ychwaith, yn peri blinder o gwbl iddo ef; yn hytrach fel arall, rhoddai ambell i gamgymeriad a wnelai ddifyrwch mawr iddo. Felly yn arbenig pan y gwnaeth gamgymeriad rhwng y gair introducio a'r gair reducio. Yr oedd gwr ieuanc dymunol ac addawol yn dyfod yn ysgolfeistr i'r British School yn yr ardal, ar derfyn ei efrydiaeth yn Ngholeg Normalaidd Bangor. Yr oedd y pryd hwnw yn llai na'r size cyffredin mewn taldra corfforol. Gan ei fod yn hollol ddieithr, daeth i'w le newydd rhyw dridiau cyn dechreu yr ysgol ddiwedd holidays y Nadolig. Aeth David Rowland ag ef i Talgarth Hall, i'w introdusio i Mr. Thruston—y boneddwr hwnw oedd cadeirydd ac ysgrifenydd managers y British School—ac wedi dweyd eu neges yn dyfod i'r palas, ebe David Rowland, "I brought him here, Sir, to reduce him to you." "Well, indeed, David," ebe y boneddwr, "he is little enough now, I don't know what he will be when you reduce him." Yr oedd Mr. Thruston ac yntau yn gydnabyddus iawn o'u mebyd, a deallodd y boneddwr ar unwaith mai camgymeriad oedd y gair.

Galwodd merch ieuanc yn Llwynteg un diwrnod, yr hon oedd yn dra chydnabyddus â Mr. a Mrs. David Rowland, gyda'i darpar wr—Mr. Green, boneddwr o Lundain. Wedi gwneuthur sylwadau cartrefol ar briodi, a sut i fyw ar ol priodi, ac felly yn y blaen, dywedai David Rowland wrth y gwr ieuanc cyn ymadael, "Yr wyf fi yn eich hoffi yn fawr iawn, Syr, 'rydwyf yn hoffi eich enw—Mr. Green; 'rydwyf yn gobeithio yn fawr mai ever-green fyddwch chwi."

Yr oedd ef a'r Hybarch. Richard Humphreys yn siarad â'u gilydd rywbryd, am ryw ddyn mewn rhyw fan. Yr oedd y dyn yn aelod crefyddol, ond yr oedd yn wr hynod o siaradus; siaradai lawer mwy na'i ran ar bob mater. Rhoddai ei fys yn mrowes pawb, byddai yn uchel ei gloch ynglŷn â phob amgylchiad, a chyfodai yr ordd fawr i guro pawb a phob peth, heb ddim awdurdod yn perthyn i'w ordd fawr ef. "Mae hwn a hwn yn aelod o'r corff, onid ydyw Mr. Humphreys?" ebe Dafydd Rolant. "Ydyw, mae'n debyg ei fod o," ebe yr heu batriarch. "Pa aelod o'r corff ydych yn feddwl ydi o, Mr. Humphreys?"

"Ei dafod o," oedd yr ateb ffraeth."

Ymwelydd mynych â Llwynteg, yn mlynyddoedd olaf ei oes, ydoedd y diweddar Barch. Edward Price, Bangor Birmingham a Llanwyddelen cyn hyny. Da y gwyr pawb a adwaenent y gwr hwnw, mai nid yn fynych y cyfarfyddid â neb llawnach o ffraethineb. A phan y delo dau ffraeth at eu gilydd, nid gwaith anhawdd ydyw taro tân. Yr oedd gan Mr. Price yn niwedd ei oes set o ddanedd prydferth, ac yr oedd ef a Dafydd Rolant wedi bod yn siarad â'u gilydd yn eu cylch amryw weithiau. Daeth Mr. Price i Llwynteg hebddynt un diwrnod, a phwy oedd yn agor y drws iddo y diwrnod hwnw ond gwr y ty ei hun. Ac wedi ei wahodd i mewn, a bron cyn iddo gael amser i eistedd i lawr, gofynai Dafydd Rolant iddo, "Mr. Price, lle mae eich danedd chwi?" Yr unig ateb swta a roddwyd oedd, "Mae nhw yn y mhocet i."

Un o'r lliaws y darfu Mr. a Mrs. David Rowland ffurfio cydnabyddiaeth â hwy yn Llandrindod oedd J. W. Stephens, Ysw., Y.H., Llechryd. Daeth Mr. Stephens i Bennal, i edrych amdanynt ar ddiwedd un haf, pryd yr oedd yn aros yn Penrhyn dyfi, gerllaw Machynlleth. Daeth Mr. Meredith, y Penrhyn, gydag ef i Bennal. A thra yr oedd y ddau yn agor gate y ffrynt, gwelent Dafydd Rolant ar ben coeden yn yr ardd, yn hel eirin. Croesasant ar eu hunion ato, heb droi i'r ty. Ac ebe fe wrthynt cyn symud o'i le, "Sut yr ydach chwi, Mr. Meredith? Sut yr ydach chwi, Mr. Stephens bach? Yn wirionedd ina, welais i rodsiwn beth; or uchled 'rydw i wedi myn'd, 'dydw i ddim yn rhy uchel eto i siarad â dynion fel chwi."

Gyda llawer o afiaeth un diwrnod desgrifiai ddwy wraig dalentog yn siarad. Deuai y naill gyffelybiaeth ar ol y llall at ei wasanaeth ar y funyd, yn y desgrifiad hwn. Tranoeth dydd Nadolig 1887, yr oedd gwraig siriol a siaradus yn Llwynteg i dê. Yr oedd pregethwr yn aros yn y ty, mewn ystafell arall. Clywai y pregethwr swn y siarad, ac adnabyddai y lleisiau, ond dim ychwaneg. Gyda gwyll y nos, sef rhwng tywyll a goleu, aeth y pregethwr i'r gegin. Yr oedd y wraig ddieithr erbyn hyn wedi ymadael, Eisteddai Dafydd Rolant ar ei ledorwedd ar y bwrdd, ac eisteddai gwraig y ty yn y gadair siglo o flaen y tan. Meddai y pregethwr, "Yr oeddwn yn clywed llawer iawn o siarad yn y ty; a fu yma lawer o bobl ddieithr?"

"Pobol ddieithr?" ebe Dafydd Rolant; "fu yma ddim ond un! Ni chlywsoch chwi ffasiwn siarad a'ch clustia 'rioed! Ond yr oedd ganddi glochydd iawn yn Mari yma. 'Rwy'n cofio'n dda clywed am ryw fachgen mawr oedd yn Cwmffernol. 'Roedd y bachgen wedi ei fagu mewn Cwm unig, 'rioed wedi bod oddi yno, nac wedi gwel'd fawr neb ond y clochydd—byddai hwnw yn myn'd yno weithiau, ac yn cael ei alw 'Fewyrth Shon' Ond rywbryd cafodd y bachgen ddillad nwddion, ac aeth gyda'i fam i'r Eglwys ar y Sul. Wedi myn'd adre, adroddai yn ei wiriondeb y pethau a welodd ac a glywodd yn yr Eglwys. 'Yr oedd yno,' meddai 'ryw ddyn tal, mewn gwisg wen at ei draed, yn ffraeo ffraeo, ffraeo, o hyd. Ond 'roedd fewyrth Shon y clochydd yn ei ateb o yn iawn.' Felly, 'roedd Mari yma yn glochydd iawn iddi hi."

"Beth oedd y pwnc oedd ganddynt?" gofynai y pregethwr. "Pwnc?" meddai, "Y peth tebyca' welsoch chwi 'rioed i Almanac Caergybi." Ac aeth i drôr y bwrdd i geisio yr Almanac, ac agorodd ef. "Dyma fo'r pwnc," meddai.

Heddyw,—Tywydd teg.
Heddyw,—Brwydr Waterloo.
Heddyw,—Tywysog Cymru yn priodi.
Heddyw,—Gwynt a gwlaw yma a thraw.

Peth fel yna oedd ganddynt yn ei siarad."

Ymddengys y byddai y chwedl ganlynol yn cael ei chredu gan hen bobl yr ardal. Unwaith yn unig y clywodd yr ysgrifenydd ef yn ei hadrodd, a hyny yn ystod ei saldra diweddaf. Adroddai hi mewn llais clir, uchel, meistrolgar, fel un wedi ymberffeithio yn y gelfyddyd o adrodd chwedl. Ei hystyr ydyw, dangos fel y mae un weithred yn nechreu oes dyn yn effeithio ar yr oes i gyd. Yr oedd un o hen frodorion y gymydogaeth a chyfaill mawr iddo ef yn bresenol yn yr ystafell pan yr adroddai y chwedl. Aethant yn hamddenol dros lawer o helyntion yr amser gynt, a daethant ar draws Arthur Evan, y crydd. "Yr oedd Arthur yn fwy crefyddol na'r hen bobl i gyd," meddai, "nid oedd gan neb ddim doubt am grefydd Arthur Evan. Ond yr oedd rhywbeth yn surllyd iawn yn ei olwg hefyd—yr oedd ei drwyn yn gam." A phwynt y stori oedd, dangos paham yr aeth i edrych mor surllyd ar hyd ei oes.

"Plentyn heb ddim cartref oedd Arthur," meddai, "a gosodwyd ef i'w fagu gan y plwy gyda rhyw haner Saesnes, oedd yn byw mewn ty o'r enw Bettws, yn agos i bentref y Cwrt. Nid oedd y bachgen yn prifio fel bechgyn eraill. Cynghorodd rhywrai y Saesnes i wneuthur llymru iddo, a rhoddi lwmp o ymenyn ynddo. Rhoddodd hithau fowliad o hwn o flaen y plentyn, ond nis gallai y plentyn mo'i fwyta. Dywedai y Saesnes yn dra awdurdodol uwch ei ben, bwyta fo, Arthur.' Ac ychwanegai yr un gorchymyn drachefn a thrachefn uwch ei ben, gydag ychwaneg o dra awdurdod y naill dro ar ol y llall, 'bwyta fo, Arthur—bwyta fo, Arthur, pe bae ti'n i chwydu o i fyny again." "A hyn," meddai, "fu yn achos i drwyn Arthur Evan fyn'd yn gam."

Arferai a bod yn llym a llawdrwm ar gybyddion. Credai nad oes yr un pechod yn gwreiddio yn ddyfnach yn natur dyn fel y mae yn heneiddio na hwn. Dywedai iddo glywed am gybydd yn gafaelyd yn dýn yn ei arian pan ar drancedigaeth. Cadwai ei bwrs a'i arian gydag ef yn ei wely. Pan oedd yn ymyl marw, ymaflai y neb oedd yn ei wylio yn y pwrs rhag i'r arian golli. Cydiai y dyn yn dynach ynddo, a dywedai,— "Ar ol fy nydd i—Ar ol fy nydd i." "Mae rhai," meddai wrth areithio ar y Genhadaeth mewn Cyfarfod Misol, "yn magu cybyddion bach, yn dysgu y plant i gadw, cadw y cwbl. Yr wyf yn cofio un hen gybydd yn Mhennal acw, clywais ei gyfoedion yn dweyd, pan oedd yn blentyn, wedi iddo gael ceiniog, y byddai yn rhoddi pitch ar bocet ei wascot, rhag ei cholli. Daeth y cybydd pena yn y wlad, yr oedd wedi ei ddysgu i hyny er yn blentyn."

Mewn Cyfarfod Ysgolion yn y Dosbarth, yr oedd yn areithio ar y pwysigrwydd o addysgu plant yn briodol wrth eu cychwyn. "Y mae meddwl gan blentyn," meddai, "rhoddwch chware teg iddo. Fe all plant wneyd llawer iawn o bethau, a dweyd llawer iawn o bethau yn llawn o feddwl. Y mae meddwl gan blentyn." A throai gryn lawer o gwmpas yr ymadrodd, fod meddwl gan blentyn ond iddo gael ei dynu allan. "'Rwy'n cofio'n dda fy mod yn holi y plant unwaith am y creaduriaid direswm—y ddafad, a'r llew, ac felly yn y blaen. A'r plant yn ateb fod y Brenin Mawr wedi rhoddi y gwlan ar gefn y ddafad, a'r blew ar gefn y llew. Pa'm, meddwn inau, na buasai y Brenin Mawr wedi rhoddi y gwlan ar gefn y llew! Ebe rhyw blentyn o ganol y plant rhag y blaen, 'Fuasai ddim posib ei gneifio fo. Y mae meddwl gan blentyn, rhoddwch chware teg iddo."

Cyd-gerddai flynyddoedd pell yn ol, yn un o dri, i Sassiwn Dolgellau. Y ddau a gerddent gydag ef oeddynt, Mri. William Hughes, Pant Perthog, a John Davies, Erglodd. Yr oedd John Davies y pryd hwow yn llanc ieuanc, gryn lawer yn ieuengach na'r ddau arall. Yr oedd yn byw yr adeg hono yn y Cae Du, yn agos i Fachynlleth, cyn i'r teulu symud i breswylio i Erglodd, yn Sir Aberteifi. Pethau crefydd oedd testyn ymddiddan y tri ar hyd y ffordd, yn yr hyn y cymerai John Davies lawn cymaint o ran a'r ddau arall. Ac meddai Dafydd Rolant wrth William Hughes am John Davies, wrth ei glywed yn siarad mor rhydd a chrefyddol, "Gobeithio y caiff y llanc yma lawer o ras, y mae ganddo ddigon o ddawn i gadw seiat y munyd yma." Daeth John Davies wedi hyny yn ddyn gweithgar gyda chrefydd, bu yn flaenor defnyddiol yn Taliesin a Thalybont, ac yn wr o amlygrwydd mawr o fewn cylch Cyfafod Misol Gogledd Aberteifi.

Dro arall, cyd-gerddai Dafydd Rolant â William Hughes, i ffair Machynlleth, a daeth merch ieuanc o hyd iddynt ar y ffordd, yn gwisgo het coryn hir am ei phen (yn ol y ffasiwn y pryd hwnw,) ac yn llawn o rubanau. Ac wrth iddi eu pasio ymlaen tua'r ffair, gwnaeth Dafydd Rolant un o'r sylwadau cyrhaeddgar yr arferai eu gwneuthur yn ei chlyw, "Pity garw," meddai, "na welai y lodas hon pa nifer o rubanau sy'n hardd." Byddai ganddo sylwadau tebyg i hyn yn wastadol mewn cwmpeini.

Arferai llyfrwerthydd, adnabyddus yn y parth hwn o'r wlad (Mr. Richard Jones, Aberangell), alw yn fynych yn ei dŷ, a'i ddywediad wrtho ar bron bob ymweliad fyddai yr adnod yn Llyfr y Prophwyd Daniel, "Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir."

TEBYG I MR. GLADSTONE

Yr oedd llawer o debygrwydd yn ei wynebpryd i Mr. Gladstone, gymaint felly fel y tybiodd dieithriaid laweroedd o weithiau, ar yr olwg gyntaf, mai Mr. Gladstone oeddynt yn ei weled. Ac nid oedd ond rhyw flwyddyn a haner o wahaniaeth oedran rhyngddynt. Ymffrostia llawer yn y ffaith eu bod yr un oedran a Mr. Gladstone. Ond yr oedd bod yn debyg iddo o ran pryd a gwedd heblaw hyny, yn rhywbeth gwerth gwneuthur sylw o hono. Dywedwyd hyny am dano ef laweroedd o weithiau. Ac ar ei ymweliadau â Llandrindod, byddai yn ddywediad aml fod Mr. Gladstone wedi cyraedd yno. Yn ffurf y pen, ac ochr y wyneb, yr oedd y tebygrwydd rhyngddynt amlycaf. Yn lled ddiweddar ar ei oes yr oedd gweinidog dieithr o Sir Gaerfyrddin yn Mhennal yn pregethu ar noson waith, ac yn y prydnawn, ar ol tê, aeth D. Rolant i'r ty lle y lletyai, i edrych am dano. Yr oedd y ddau yn hollol ddieithr y naill i'r llall. Wedi ei gael wrtho ei hun yn y parlwr, ac yn mhen enyd ar ol cyfarch gwell y naill i'r llall, ebe y gwr dieithr, "Mi feddyliais yn siwr wrth eich gweled yn dyfod trwy y drws yna, mai Mr. Gladstone oedd yn dyfod i mewn." "O," atebai yntau, "Y mae llawer iawn wedi camgymeryd yr un fath a chwi. Ond y peth tebycaf ynof fi i Mr. Gladstone ydyw, na byddaf ddim yn ymfalchio dim pan glywaf rai fel chwi yo dywedyd hyny."

YMCHWYDD DYNION BYCHAIN

Cynhelid cyfarfod cyhoeddus yn Brynarfor Hall, Towyn, rywbryd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1883, i gyflwyno testimonial er anrhydeddu y Parch. Principal T. F. Roberts, Aberystwyth, yr hwn oedd y pryd hwnw newydd ei benodi yn Broffeswr ya Ngholeg Caerdydd. Yr oedd lliaws o ddieithriaid yn bresenol, ac ymhlith y rhai fu'n anerch y cyfarfod, siaradai David Rowland. Cyfodwyd rhan o'i anerchiad of i'r Drysorfa am fis Mawrth, 1884, o dan y titl sydd uwchben y paragraph hwn. Wele yn canlyn yr hyn a ddyfynwyd i'r Drysorfa:—

"Mewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd yn Nhowyn, i gyflwyno tyateb o werth i Mr. T. F. Roberts, B.A. (genedigol yn Aberdyfi, ac a fu yn efrydydd yn Ngholeg Aberystwyth, a Choleg St. Ioan, Rhydychain,) galwyd ar Mr. David Rowland, Pennal, blaenor adnabyddus gyda'r Methodistiaid, i anerch y cyfarfod. Yn mysg pethau eraill, dywedai, 'Da iawn genyf weled fod Mr. Roberts, yn dal y codiad. Nid yw dynion bach yn gallu dal ond ychydig iawn; dynion bach fydd yn meddwi. Dywedir y beirdd mawr, fel Eben Fardd ac eraill, y gallai dyn fod yn eu cymdeithas hwy am amser maith heb wybod eu bod yn feirdd. Rhywbeth yn debyg ydyw gyda dynion iach. Nid yw dyn iach yn meddwl am ei gorff, nac yn siarad dim am dano; ond am ddynion afiach, cwyno a son rhywbeth am eu cyrff a wnant hwy yn barhaus. Felly gyda dynion mawr a bach. Pan y mae rhyw fachgen wedi enill gwobr yn Eisteddfod Abergynolwyn—nage cyfarfod llenyddol, onidê? am wneyd penillion neu englynion, ac yn dyfod i lawr i Dowyn ddiwrnod y ffair, y mae o yn cerdded i fyny ac i lawr yr heol gan feddwl fod pawb yn dweyd wrth iddo basio, Dyna'r bachgen a enillodd haner coron yn Abergynolwyn!' Ond nid un felly ydyw Mr. Roberts,"

MEWN CYFARFOD MISOL YN MHENNAL.

Mewn Cyfarfod Misol a gynhelid yn Mhennal rai blynyddau yn ol, yr oeddis yn y boreu, y dydd cyntaf, wedi bod yn gwneuthur coffa am dri o flaenoriaid oedd wedi myn'd i'r nefoedd. Ac yn y prydnawn gofynid am brofiadau crefyddol blaenoriaid y lle, a David Rolant, fel y blaenor hynaf, a alwyd i adrodd yn gyntaf. "Wn i ddim yn iawn," meddai, "beth i'w ddweyd. Yr oeddwn yn meddwl yn y boreu, wrth eich clywed yn gwneyd coffhad am yr hen frodyr sydd wedi myn'd, os caf ina' y fraint i fod yn ffyddlon gyda'r gwaith i'r diwedd, y byddwch yn dweyd rhywbeth am dana' ina'. Ac yr oeddwn yn ceisio cysidro beth fydd genych i'w ddweyd am danaf." "Ie," meddai y Parch. Samuel Owen, yr hwn a'i holai, " yr oedd genych ryw guess hefyd." "Nac oedd gen i, o ran hyny; ond mi fuaswn yn leicio i bethau fod yn ffairiol." Mae y rhai oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwnw yn cofio yn dda, fod y brodyr yn cael gwaith mawr i gadw eu hunain rhag syrthio oddiar eu heisteddleoedd, gan faint y chwerthin oedd yn y lle tra 'roedd y sylwadau hyn yn cael eu gwneuthur. Ond pan ddaeth yr amser i wneuthur coffhad am dano ef yn Nghyfarfod Misol Gorphwysfa, Rhagfyr, 1893, ac yn Nghymdeithasfa Aberdyfi, y mis blaenorol, yr oedd arogl esmwyth ar bob peth a ddywedid am dano.

YN RHODDI CYNGHOR I FLAENORIAID

Ya Nghyfarfod Misol Towyn, Hydref, 1891, galwyd arno yn ddirybudd i roddi cynghor i flaenoriaid newyddion a dderbynid ar y pryd. "Byddwch yn flaen-oriaid," meddai, "ac nid yn ol-oriaid. Byddai Mr. Humphreys yn arfer dweyd, fod rhai yn flaenoriaid na byddant byth yn blaenori, ac eraill yn blaenori er na fyddant ddim yn flaenoriaid. A byddai yn well ganddo ef y rhai fyddent yn blaenori, er nad oeddynt yn flaenoriaid, na'r blaenoriaid (wrth eu swydd) na fyddant byth yn blaenori. Peidiwch a myn'd i stewardio gormod yn rhy fuan hefyd. Mae rhai yn myn'd yn llon'd eu dillad, ac yn llon'd y sêt fawr rhag blaen wedi cael yr enw o swyddogion. Pobl arw am awdurdodi ydyw y stewardiaid yma. Pobl fach fydd yn awdurdodi. Yr oedd steward unwaith yn pasio heibio i ddynion oedd yn arloesi tir yn agos i'r ffordd yr elai heibio. Meddylai y gallai awdurdodi yn y fan hono—pwy ond y fo! Meddai wrth y dynion, "I ba beth yr ydych yn arloesi tir gwael fel hwn? Wnaiff dim byd dyfu y fan yma." "Mi wyddom ni," meddai y dynion wrtho, "am rywbeth wnaiff dyfu ymhob man." "Beth ydyw hwnw?" gofynai y steward. "Hadau stewardiaid!" oedd yr ateb. "Peidiwch chwi a myn'd i stewardio gormod yn rhy fuan."

Gwel pawb ar unwaith yr addysg sydd yn y cynghor hwn. Bu yn traddodi cynghor i flaenoriaid trwy benodiad y Cyfarfod Misol, adeg arall, yn Ffestiniog. Yr oedd ganddo yr un gwirionedd i'w ddysgu yno, trwy hanesyn gwahanol, ond ni bu mor lwyddianus i anfon y gwirionedd adref y tro hwnw. Ond pan y galwyd arno yn sydyn i roddi cynghor i flaenoriaid yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, flynyddau yn faenorol, gwnaeth havoc o honi mewn munyd neu ddau y tro hwnw. Gwiria hyn y dywediad am dano, y siaradai yn fwy dylanwadol pan y byddai heb barotoi dim ar gyfer yr amgylchiad.

PENOD VII.

YN RHODDI I FYNY EI FASNACH

CYNWYSTAD.—Dychwelyd yn ol i'r ty y ganwyd ef ynddo—Hanes preswylwyr Llwynteg—Cychwyn ar ymweliad—Cyfarfod â hen gyfaill—Byw yn retired am bedair blynedd ar ddeg—Desgrifiad o Llwynteg—Yn mwynhau bywyd—Byw ar yr adlodd—Darllen yn ffynhonell ei gysuron—Bachgen yn ceisio symud 'balk' fawydd—Llythyr o Rydychain—Treulio Sabboth yn Mhnnal—Tebyg i Gladstone ynte Gladstone yn debyg iddo ef—Yr un oed a'r Corff—Yn siarad am y ddwy 'Drysorfa'.

 EDI bod yn ddiwyd gyda'r byd, a chasglu digon o hono iddo ef a'i briod fyw, ymneillduodd oddiwrth ei fasnach, Galanganaf yn y flwyddyn 1880, pan oedd o fewn haner blwydd i ddeg a thriugain oed, a dychwelodd yn ol i'r ty, a elwir yn awr Llwynteg, i dreulio gweddill ei oes ynddo. Fe gofir fod sylw wedi ei wneuthur yn nechreu y Cofiant, mai yn y ty hwn y ganwyd ef, ac mai yma y treuliodd y pedair blynedd ar ddeg cyntaf o'i oes. Yr oedd y pryd hwnw amryw deuluoedd yn byw yn y ty, o dan yr un tô. Erbyn iddo ef ddychwelyd iddo yn niwedd ei oes, yr oedd y ty, a'r ardd, a'r ffrynt, wedi myned trwy lawer o adgyweiriadau a gwelliantau, a'r lle, er's llawer o amser, wedi ei wneuthur yn breswylfod i un teulu yn unig.

Bu amryw bersonau adnabyddus yn byw yn y ty hwn. Yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu yr un bresenol, Dr. Pugh, yr erlidiwr, haner brawd i un o hen bregethwyr Methodistaidd cyntaf y wlad, sef y Parch. William Pugh, y Llechwedd, Abergynolwyn. Yma y diweddodd Mr. Richard Owen, gynt o'r Ceiswyn, a'i briod eu hoes. Am dymor ar eu hol, eu plant hefyd, sef Mr. Richard Owen, Masnachydd Coed, yn awr o Noulyn, Machynlleth, a'i ddwy chwaer a fuont yn byw yma. Ac ar ol iddynt hwy ymadael, yma y bu Mrs. Humphreys, gweddw y Parch. Richard Humphreys, yn treulio blynyddoedd olaf ei hoes. Oddiyma yr ymbriododd ei mherch, Miss Humphreys, a'r Parch. William Thomas, Dyffryn, wedi hyny o Bwllheli, yn awr o Lanrwst.

CYCHWYN AR YMWELIAD

Pan yr ymneillduodd oddiwrth ofalon y byd, ac y symudodd i fyw i Llwynteg, ar ddechreu y gauaf crybwylledig, teimlai mor hoew a llawen â'r aderyn bach wedi ei ollwng allan o'r cage. Ar ol bod yn ddiwyd trwy ddyddiau yr wythnos, yn symud y dodrefn, a'u gosod yn eu lle, a gorphen trefnu amgylchiadau y siop gyda'i olynydd (neb ond hwy eu dau yo gosod pris ar yr eiddo,) aeth ar ei union, ar brydnawn Sadwrn, cyn cysgu noswaith yn ei dy newydd, i ymweled â'r eglwysi yn Nosbarth Ffestiniog, trwy benodiad y Cyfarfod Misol, gan ganu yn llon wrth gychwyn i'w daith, eiriau y penill y bu yn eu canu lawer nos Sadwrn yn flaenorol:—

"Gadawn y byd ar ol,
Y byd y cawsom wae,
Y byd ag sydd bob dydd
Yn ceisio'n llwfrhau;
Ni welwn wlad uwch ser nef
Sydd fil o weithiau'n well nag ef."

Arhosai y nos Sadwrn hwnw, a thros y Sabboth, yn nhy y diweddar Mr. John Richard, Siop Isaf, Maentwrog. Yr oedd gymaint yn ei elfen gydag achos crefydd yn yr eglwysi, fel nad oedd y cyfnewidiadau a gymerasant le yn ei gartref yn myn'd ag ond ychydig iawn yn gymhariaethol o'i feddwl.

CYFARFOD A HEN GYFAILL

Ymhen ychydig wedi hyn, cyfarfyddodd ar Stryd Machynlleth â hen gyfaill iddo, o'r dref hono, o'r un grefft ag ef ei hun. Aeth yn ymgom rhwng y ddau am helyntion y byd a'i gyfnewidiadau. "Sut y fu hyn?" ebe ei hen gyfaill, "i chwi fyn'd gymaint o y mlaen I, i allu hyfforddio rhoddi y byd heibio, ac ymneillduo fel hyn oddiwrth bob gofalon?" "Gwell gwraig gefais I," oedd ateb Dafydd Rolant. "Gwell gwraig nag a gefais I Gwell gwraig na Jini?" ebe ei gyfaill. Naddo erioed; 'does yr un wraig well na Jini yn yr holl fyd!" A dyna lle y bu y ddau ar stryd Machynlleth, un yn canmol Jini, a'r llall yn canmol Mari,

YMWELIAD Y PARCH, GRIFFITH ELLIS, M.A.

Galwodd y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, yn Llwynteg, yn fuan wedi iddynt symud yno i fyw. Parhaodd undeb agos rhwng y gŵr parchedig a theulu Llwynteg, ar gyfrif eu cyfeillgarwch neillduol hwy â'i dad a'i fam, a'i nain ef. Gwnai yntau, yn ystod yr ymweliad hwn, y sylw wrth ŵr y ty fod Rhagluniaeth wedi ei ffafrio yn fawr iawn, trwy ei ddyrchafu ef a'i briod uwchlaw gofalon a phryder y byd, a gofynai iddo, "Sut yr ydych yn leicio byw mewn tawelwch a diofalwch, ac yn y fath hapusrwydd a hyn?" "O, yn reit dda," atebai, "fe fu'm i yn byw yn y fan yma o'r blaen am bedair blynedd ar ddeg, yn retired, heb wneyd dim byd at fy nghadw; nid yw fawr ddim byd i mi, o ran hyny; ond mae yn rhywbeth i Mari yma.'

DESGRIFIAD O LLWYNTEG

Saif Llwynteg ar gwr y pentref, allan o hono, ac yn agos hefyd. Wyneba y ty i'r Dê. Yn y gauaf a'r gwanwyn, tywyna yr haul i mewn trwy y ffenestri i'r ystafelloedd, ac yn yr haf cwyd yr haul yn ddigon uchel, fel na bydd ei wres yn taro ond ar y tu allan yn unig. Mae y ffrynt o flaen y ty yn lle agored, wedi ei amgylchu â choed afalau, laurels, ac ever-greens, ac yn yr haf addurnir y lle gyda llawer o amrywiaeth o flodau a rhosynau. Ar y llaw aswy, yn ymyl, y mae gardd helaeth a thoreithiog. Prynwyd y lle yn ddiweddar gan Mrs. Rowland, yn feddiant iddi ei hun. Mae y darlun o'r ty sydd i'w weled ynglyn â'r benod hon wedi ei wneuthur oddiwrth photo a dynwyd tua'r flwyddyn 1890, gan Mr. John Thomas, Liverpool.

FFYNHONELL EI GYSURON.

Tynodd David Rowland, yn mlynyddoedd olaf ei oes, lawer o ddifyrwch a chysuron iddo ei hun o'r lle hwn. Gwnaeth ei ragflaenwyr a fu yn byw yn y ty amryw welliantau ynddo. Gwnaeth yntau lawer o welliantau drachefn. Treuliodd y tair blynedd ar ddeg olaf yma yn nodedig o ddedwydd, ni fu neb erioed yn fwy boddlongar, ac yn mwynhau bywyd yn fwy trwyadl. Proffwydai rhai y byddai ei gysuron wedi darfod pan roddai i fyny waith a gofalon y byd—nas gallai un fel efe, oedd wedi arfer â diwydrwydd ar hyd ei oes ddim dygymod â bywyd o lonyddwch a thawelwch. Ond nid oedd y rhithyn lleiaf o sail i'r cyfryw broffwydoliaeth. Erioed ni welwyd neb yn fwy yn ei elfen, mor gynted ag y daeth yn rhydd oddiwrth y byd. Medrai ddifyru ei hun trwy amrywiol ffyrdd. Ymyfrydai mewn gwneuthur cymwynasau i'w gymydogion. Elai, fel rheol, i roddi tro trwy y pentref bob dydd, a byddai ganddo air siriol i'w ddweyd wrth bawb a gyfarfyddai, siaradai am yr hen amser gyda phobl mewn oed, a rhoddai gynghorion parod i'r rhai ieuainc. Troai i mewn un diwrnod i dy chwaer oedranus, yr hon a gwynai wrtho ei bod yn methu dyfod i'r moddion. "Wel, hon a hon bach," meddai yntau, "nid oes genych chwi a minau ddim i'w wneyd bellach ond byw ar yr adlodd."

Ymyfrydai mewn gweithio yn yr ardd, a mwynhai brydferthwch natur, a gwaith y Creawdwr Mawr; a llawenhai o eigion ei galon wrth ddarllen a chlywed am weithredoedd da yn cael eu gwneuthur yn unrhyw gwr o'r ddaear.

Darllenai lawer hefyd y tymor hwn o'i fywyd. Ac o'r ffynhonell hon derbyniodd gysuron difesur yn niwedd ei oes. Arferai ddarllen trwy ystod ei fywyd, pharhaodd y duedd hon i gryfhau yaddo hyd ddiwedd ei ddyddiau. Darllenai i bwrpas hefyd; llyfrau a sylwedd a gwerth ynddynt. Ni byddai yn cwyno ar ei gof ychwaith, fel y gwna llawer o bobl wedi cyraedd i gryn oedran. Y rheswm am hyn yn ddiameu ydoedd, ei fod wedi darllen, a thrwy hyny roddi gwaith gwastadol i'r cof. Felly nid elai yr hyn a ddarllenai yn ofer. Dywedai yn aml, pe na buasai wedi arfer cael pleser mewn darllen, y buasai yn greadur annedwydd iawn. Tynai ddarlun dychmygol o hono ei hun fel un wedi cyraedd hen ddyddiau heb arfer a darllen dim yn ei fywyd. Darlun tywyll iawn oedd. Dychmygai weled ei hun yn hen wr, yn eistedd yn nghongl yr aelwyd, a'i ben o byd yn y tan, heb gael pleser mewn dim ond gwrando chwedlau. Yn lle hyny, ni bu yr un haner diwrnod yn segur. Darllenai bob peth a ddeuai i'r ty, pob papyr newydd y deuai o hyd iddo, a thrwy hyny byddai ganddo wybodaeth gweddol dda bob amser am y byd. Darllenai bron yr oll o'r Cyfnodolion Cymreig. Ac yn fynych iawn deuai llyfr newydd i'r ty, a byddai yn sicr o'i ddarllen drwyddo cyn pen ychydig iawn o amser. Dywedai y byddai yn arfer darllen y Drysorfa yr un fath â'r Beibl Hebraeg, gan ddechreu yn y diwedd, gyda'r hanesion cenhadol. Medrai roddi barn pur gywir ar bob peth a ddarllenai. Yr oedd gweinidog, o gryn enwogrwydd yn y pulpud, unwaith wedi ysgrifenu ysgrif i'r Drysorfa, ar bwnc lled ddieithr a dyrus i'r Cymry, ond nid oedd wedi llwyddo i roddi ond y nesaf peth i ddim goleuni ar y pwnc. Beirniadaeth Dafydd Rolant ar waith y gwr mewn un frawddeg ydoedd hyn,—"Tebyg iawn 'rydw i yn ei wel'd o i ryw fachgen yn ceisio symud balk ffawydd—y cwbl mae yn ei wneyd ydyw, ysgwyd tipyn ar un pen iddo." Yr oedd ef, modd bynag, yn ddarllenwr cyson, ac o hyny cafodd lawer o hyfrydwch a budd yn niwedd ei oes.

SABBOTH YN MHENNAL

Gan y Parch. T. C. Williams, Gwalchmai.

Mewn llythyr o Rydychain, yr hwn a ymddangosodd yn y Goleuad, Rhagfyr 1af, 1893, rhydd y Parch. T. Charles Williams, Gwalchmai, hanes dyddorol am Sabboth a dreuliodd yn Mhennal. Gan fod y darluniad a geir am Llwynteg, a'r teulu, mor gywir a phwrpasol, rhoddir ef i mewn yma yn llawn:—

"Chwith, a chwith iawn hefyd i mi oedd clywed am farwolaeth y patriarch o Bennal,—un o'r rhai galluocaf a mwyaf gwreiddiol o leygwyr y Cyfundeb. Unwaith erioed y daethum i i gyffyrddiad ag ef. Aethum i daith Pennal ryw Sabboth yn niwedd y flwyddyn 1892, o un pwrpas er mwyn ei weled ef a'i wraig. Yr oeddwn wedi fy nghyfarwyddo ganddo i dd'od yno o Fachynlleth nos Sadwrn; ond gan ei bod yn noson ystormus, nid aethum yn mhellach na Phenrhyn Dyfi hyd foreu Sul. Yr oedd hyny wedi rhoi mantais iddo i roi dangosiad teg o'r elfen chwareus oedd mor amlwg yn ei gymeriad. Ymddengys fod Mrs. Rowland yn fawr ei phryder am fy mod heb gyraedd, yn llwyr gredu fy mod wedi colli y ffordd yn y tywyllwch, neu fod rhyw ddinystr anaele wedi fy ngoddiweddyd. Gwyddai yntau hyny, ac aeth allan tua deg o'r gloch mor ddistaw ag y gallai, ac yna aeth o gylch y ty, ac i ddrws y ffrynt, gan guro yn dra awdurdodol. Diflanodd gofalon Mrs. Rowland ar unwaith, ac wedi taro rhywbeth yn frysiog ar y bwrdd, aeth i'r drws i groesawu y pregethwr, ond wedi myned yno, nid oedd yno ond Dafydd, ys dywedai hithau,—yn chwerthin yn galonog.

"Pan yr adroddai y stori dranoeth ar giniaw gyda hwyl, dywedais wrtho fod Mr. Gladstone ac yntau yn bur debyg i'w gilydd yn ffurf eu penau. (Mae'n ddiau fod llawer heblaw fi wedi sylwi ar y ffaith hon). Eitha gwir,' meddai, ond mae'r awdurdodau yn methu penderfynu pa un ai fi sydd yn debyg i Gladstone ai Gladstone sydd yn debyg i mi.'

"Adroddai i mi lawer o bethau dyddorol am deilyngdod anghymarol ei wraig, ei deall cryf, a'i gwybodaeth helaeth, ac ychwanegai gyda gwên awgrymiadol, 'ei hamynedd mawr.' Aeth dros hanes ei ddyfodiad at grefydd yn ddyn ieuanc pan oedd y diweddar Barch. Ebenezer Davies ar daith trwy y wlad. Yr oedd ganddo ystór lawn o hanesion am yr hen bregethwyr, ac nid anghofiai bwysleisio ar y ffaith ei fod ef yr un oed a'r Corff, ac yn ei adnabod yn dda. Nis gallwn lai na synu at ieuengrwydd ei ysbryd. 'Byddaf yn methu deall,' meddai, 'pa'm mae rhai pobl dda y dyddiau hyn yn byw yn y gorphenol. Yr oedd hwnw yn dda, ac yn dda iawn, ond er hyny, ymlaen mae'r pethau goreu yn y byd hwn a'r byd a ddaw.—

'Ymlaen mae'r wobr, ymlaen mae'r goron,
Ymlaen mae Mhriod hawddgar glân.'

"Yr oedd yn siarad am y ddwy Drysorfa yn y capel nos Sul. Ni bydd byth anghydwelediad," meddai, 'rhyngof fi a'r wraig acw; ond pan ddaw y Drysorfa i fewn, mae'n rhaid addef y bydd acw rywbeth pur debyg i hyny. Bydd hi yn gafael mewn un pen, a minau yn y pen arall, a'i thori hi y buasem ni, onibai i'r boneddigeiddrwydd sydd yn fy nodweddu i yn fy arwain i roi'r flaenoriaeth bob amser iddi hi; ac mi ellwch gredu fod llyfr ag yr ydan ni mor awyddus am ei ddarllen yn werth i chwithau ei gael.' Buasai yn dda genyf allu galw i gof lu o sylwadau craff wnaed ganddo yn ystod y dydd ar wahanol faterion, ond yr wyf yn ofni nas gallaf. Y mae adgofion y Sabboth dyddorol hwnw, fodd bynag, yn peri i mi gydsynio yn frwdfrydig â'r awgrymiad yn eich colofnau yr wythnos o'r blaen, y dylai Cofiant cyflawn gael ei ysgrifenu

am dano, a hyny yn fuan."

PENOD VIII.

OCHR OLEU BYWYD,

Cynwysiad—Bob amser yn gweled hollt yn y cwmwl—Penderfynu peidio ymladd a'r byd ar wastad ei gefn—Yn rhoddi tystiolaeth mewn Llys Barn—Y mil blynyddoedd yn ymyl—Llwdwn dafad yn trigo ar y mynydd—Gwr tangnefeddus—Cymbariaeth allan o hanes y Parch. John Evans, New Inn— Yn cael derbyniad siriol ar ymweliad i'r Eglwysi—Myn'd i'r dref i ymofyn goods—Yn byw i gyfeiriad codiad haul— Myn'd adref flwyddyn y Trydydd Jubili—Oes hir wedi ei threulio yn y modd goreu.

 DDIWRTH yr hanes a geir yn niwedd y benod o'r blaen, a'r hanes cyffredinol yn y penodau blaenorol, gwelir mai dyn o dymer hoew, ysgafn, oedd gwrthddrych y Cofiant. Yn ei amser goreu, safai mor syth a ffon dderwen, a cherddai mor heini a'r biogen. Ac fel y dyn oddi. allan, felly y dyn oddimewn. Ei syniad ef oedd fod dyn wedi ei greu i edrych i fyny ac i fod yn llawen. Y dyn nad yw yn bwyta ei fwyd yn llawen, meddai ef, bydd y dyn hwow yn debyg iawn o fagu diffyg treuliad. Yn wahanol i ddynion hynod yn gyffredin, ni cheid mo hono bron byth yn y gors anobaith, ond os digwyddai iddo ar ddamwain fyned iddi, byddai yn bur sicr o ddyfod allan o'r gors ar yr ochr dde. Faint bynag mor dywyll ac mor ddu fyddai y cwmwl, pryd y methai pawb eraill a chanfod yr un llewyrch o oleuai, gwelai ef bob amser hollt yn y cwmwl. Ac yn hyn yr oedd yn hynod o hapus iddo ei hun.

Tuedd wastadol ei oes oedd edrych ar ochr oleu bywyd. Cymeryd pob peth yn hamddenol. Tuedd wreiddiol ei natur ydoedd y ffordd hon. Yr oedd hefyd wedi sylwi fod llawer o bobl y byd yn tynu mwy na fyddai raid o helbulon arnynt eu hunain, yn gweled bwganod lle na bo bwganod, ac yn rhygnu eu penau wrth anhawsderau amseroedd draw

"Y rhai o bosibl byth ni ddaw."

Cymerasai ef wers oddiwrth hyn er yn fore ar ei fywyd. Mynych y clywyd ef yn dweyd, ei fod wedi penderfynu yn nechreu ei oes na wnai ef ddim ymladd a'r byd ar wastad ei gefn yn ei wely y nos, yr amser sydd wedi ei drefnu i ddyn orphwys a chysgu. Digon oedd ganddo ymladd a'r byd ar ei draed, liw dydd.

Diamheu iddo gadw yn weddol dda at y penderfyniad uchod trwy gydol ei fywyd. Nid oedd yn llawer o ymladdwr â'r byd ychwaith ar ei draed. Yn hytrach nag ymladd â'r tonau, gwyro ei ben i lawr y byddai, a gadael i'r tonau fyned drosto; felly aeth trwy y byd heb i'r tonau wneuthur llawer o niwed iddo. Perthynai iddo gryn fesur o ddiniweidrwydd yn nghanol llawer o gyfrwystra. Bu unwaith mewn llys gwladol, yn rhoddi ei dystiolaeth yn erbyn cael trwydded i gadw tafarn. Y prif bwynt yn erbyn cadw y dafarn ymlaen ydoedd, heblaw ei bod yn llithio llawer o ieuenctyd i ymyfed, nad oedd dim o'i heisiau, fod nifer y tai a nifer y trigolion yn llai, a masnach yr ardal wedi lleihau. Ar y pethau hyn yr adeiladid yr ymresymid dros ei diddymu. Pan ddechreuodd y cyfreithiwr gwrthwynebol groesholi Dafydd Rolant gofynai, "Er's pa bryd yr ydych chwi yn byw yn Mhennal, Mr. Rowland! "Er erioed." "Fe welsoch chwi lawer o dai newyddion yn cael eu hadeiladu acw?" "Do, lawer iawn." Tynai ei atebion i lawr rym a nerth yr ymresymiad yr ochr yr oedd ef ei hun o'i phlaid. Pryd y gallasai yn hawdd ateb, a chadw yn hollol at

—————————————

—————————————

y gwir, ei fod wedi gweled nifer mwy o dai yn cael eu tynu i lawr, ac yn myn'd yn furddynod, a dim pobl mwyach yn byw ynddynt.

Modd bynag, un o'r pethau a'i gwnelai ef yn aelod gwerthfawr mewn cymdeithas ydoedd, y byddai yn edrych bob amser ar y wedd oleu i bob peth. Canol haf fyddai hi gydag ef yn nghanol gauaf, a phan y byddai dywyllaf yn ngolwg pawb arall, dywedai ef fod y mil blynyddoedd yn ymyl. Yr oedd ynddo gymhwysder eithriadol i ymlid ymaith bob tuedd felancolaidd, a phrudd-der, a thristwch.

Bu yn golygu unwaith ar ei oes y buasai yn colli tipyn o arian (er na ddigwyddodd hyny ddim iddo), a chwynai rhywrai yn fawr iddo o'r herwydd. "O," meddai yntau, "'dydyw hyn yn ddim byd ond fel pe bai llwdwn dafad yn trigo ar y mynydd."

Un elfen amlwg yn nghymeriad Dafydd Rolant ydoedd, ei fod yn ŵr tangnefeddus iawn. "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol, yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti," oedd testyn y bregeth trwy yr hon y dygwyd ef at grefydd. Yr oedd ei feddylfryd yntau ar Dduw, ac fe'i cadwyd yn wastadol mewn tangnefedd heddychol. Pan yn sirioli y tân ar yr aelwyd, mynych y dywedai, "Un da iawa ydw i am wneyd i'r tân gyneu, ac mi fedraf ddiffodd tân hefyd." Ac felly y medrai. "Un o heddychol ffyddloniaid Israel" ydoedd.

Un medrus iawn ydoedd hefyd am ddyfod allan o anhawsderau, ac i roddi gwynt yn hwyliau ei gwch ei hun, pryd na fedrai eraill ddim hyd yn nod yru y cwch i'r dwfr. Er engraifft: Yr oedd unwaith, gyda brawd arall, ar ymweliad â'r eglwysi yn Nosbarth Corris. Ar y nosweithiau yr oeddynt yno digwyddai fod y Parch. Richard Owen, y Diwygiwr, yn pregethu yn Nolgellau, pryd yr oedd y gwr hwnw yn anterth ei nerth a'i boblogrwydd. Erbyn i'r ymwelwyr fyned i'r Cyfarfod Eglwysig yn Nghorris, yr oedd naill haner y bobl wedi. myned i Ddolgellau, lle yr oedd tyrfaoedd yn ymgasglu i'r cyfarfodydd diwygiadol. Ebe Dafydd Rolant, wrth ddechreu siarad yn y seiat y noson hono, "Mae gweled y capel yma mor wag yn dwyn i'm côf i hanes John Evans, New Inn. Pan oedd John yn fachgen yn yr ysgol byddai yn pregethu i'r meinciau gweigion. Ryw ddiwrnod, daeth ei feistr i'r ystafell tra 'roedd John ar ganol pregethu felly i'r meinciau, ac meddai y meistr, John, John, lle mae'r gwrandawyr?' 'I don't know, my dear Sir,' oedd yr ateb, 'ond iddynt hwy mae y golled." Er mor fychan oedd y cynulliad yn Nghorris y noson hono, rhoddodd y sylw hwn bawb yn y lle mewn tymer dda ar ddechreu y cyfarfod, fel yr aeth pob peth ymlaen yn ysgafn o hyny i'r diwedd.

Dro arall, yr oedd ef a'r Parch. William Jones, Penrhyndeudraeth, Liverpool yn awr, wedi bod yn ymweled a rhan arall o'r sir, ac yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, rhoddent adroddiad o'u hymweliad. Pan gyfododd Dafydd Rolant i fyny i adrodd ei ran ef, dywedai, "Cawsom groesaw mawr iawn ymhob man lle buom; yr oedd pawb yn ein derbyn yn odds o siriol, ac yn dweyd wrthym am frysio yno wed'yn. Gallwn feddwl mai ni ein dau maent am gael i ymweled yn y manau lle buom, y tro nesaf."

Bu adeg arall, gydag un o'r gweinidogion, yn ymweled ag eglwysi Dosbarth Ffestiniog. Yn y Penrhyn y cynhelid y Cyfarfod Misol lle rhoddent adroddiad y tro hwnw. Yr oedd un o eglwysi Ffestiniog y flwyddyn hono, a'r blynyddoedd cynt, wedi llenwi y Sabbothau â gweinidogion o siroedd eraill, gan esgeuluso gweinidogion eu sir eu hunain yn ormodol. Yn ei adroddiad yn y Cyfarfod Misol, cymerodd Dafydd Rolant ei ddameg i gyraedd hyd adref yr eglwys oedd yn euog o'r trosedd, gan ymgadw hefyd rhag enwi yr eglwys. "Rydw i wedi bod yn cadw siop yn y wlad," meddai, "a gwelais trwy y blynyddoedd ryw sort o bobol y byddai raid iddynt gael myned i'r dref i brynu dillad,—wnai goods y wlad mo'r tro, byddai raid iddynt gael myned i'r dref i 'mofyn goods. Pobol yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl oedd y rheini, ac mae rhai o'r un sort a nhw i'w cael o hyd. Rhaid iddynt gael myn'd i'r dref i 'mofyn goods, a chystal goods bob tipyn yn y wlad,—yr un peth yn union ydyw, wedi dyfod o'r un Warehouse o Manchester. Ond maent hwy yn meddwl eu bod yn well am eu bod wedi eu prynu yn y dref. Maent yn meddwl en hunain yn odds o wybodus, a goods y wlad wedi dyfod o'r un lle o Mancheeter a goods y dref.

Beth ydi myn'd i siroedd eraill i 'mofyn pregethwyr? Yr un peth ydyw a myn'd i'r dref i 'mofyn goods, a chystal goods bob tamad yn eu sir eu hunain. Gadael pobol dda yn eu hymyl, a myn'd i siroedd eraill i 'mofyn pregethwyr! Myn'd i'r dre' i 'mofyn goods ydi peth felly!" Cyfodai ei lais fel cloch pan y nesai at ddiwedd y gyffelybiaeth hon.

Beth bynag fyddai yr amgylchiadau, yn rhywle i gyfeiriad codiad haul y trigianai efe. Pa un bynag ai yn siarad mewn cynulliad cyhoeddus, neu yn y cyfarfodydd cartrefol, neu mewn ymddiddan ymhlith cyfeillion, neu mewn saldra a chladdedigaeth pobl dduwiol, gwelai ef oleuni, ac yn ei ddull ysgafn o osod pethau allan, tynai eraill i weled goleuni. "Llawenhewch," meddai wrth rai o'i gyfeillion pan oedd saldra yn y ty, gan adrodd geiriau yr Apostol Paul wrth y Philippiaid, "llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol"—encore—"a thrachefn meddaf, Llawenhewch." Ni chyfansoddodd Williams, Pantycelyn, ddim barddoniaeth erioed yn siwtio Dafydd Rolant yn well na'r ddwy linell ganlynol,—

"Gwawrddydd, gwawrddydd yw fy mywyd,
Gwel'd y wawrddydd 'rwyf yn iach."

Fel cadarnhad o syniad y wlad, ac o'r hyn a ddywedir yma am dano, gwnaeth un o weinidogion y sir, y Parch. D. Hoskins, M.A., y sylw cywir canlynol, yn yr Anerchiad gydag Ystadegau y Cyfarfod Misol, ar ddiwedd y flwyddyn 1893,—"Yn ystod y flwyddyn—blwyddyn Trydydd Jubili y Cyfundeb—y collwyd Mr. David Rowland, Pennal, yr hwn, a chyfrif fel y mae rhai yn cyfrif oed y Cyfundeb, oedd yr un oedran â'r Methodistiaid —gŵr yn byw heb fachlud haul un amser—gŵr a phob gwynfyd yn y bumed o Mathew wedi ei ysgrifenu ar ei wynebpryd. Ganwyd ef yn un o flynyddoedd pwysicaf y Corff, a chafodd fyned adref yn sŵn y Jubili, a'r haulwen ar ei gymeriad ac ar ei wyneb heb ei symud ymaith na'i chymylu."

Gan faint ei sirioldeb a'i dymer dda gwnaeth ei fywyd ar ei hyd yn heulwen haf. Gofalai bob amser roddi y clod i Dduw am fendithion tymhorol ac ysbrydol. Trwy ystod misoedd y gwanwyn a dechreu haf, gwaith yr adar ydyw pyncio canu ar frig y coed, o fore hyd nos, fel pe byddant a'u holl allu yn clodfori y Creawdwr. Rhagorai gwrthddrych y Cofiant hwn ar adar y nefoedd, yn gymaint ag y byddai ef wedi ei feddianu yn llwyr ag ysbryd i ganu a molianu y Creawdwr Mawr y gauaf fel yr haf. Gyda'r fath barch y siaradai am Dduw, a'i waith, a'i dŷ, a'i drefn! Dyma un a dreuliodd dros bedwar ugain mlynedd yn y byd, gan wneuthur y goreu o bob peth yn ei gyraedd yr holl amser y bu ynddo. Yn y modd hwn gwiriodd yn llythrenol y geiriau a ddywedodd y bardd yn ei gân ragorol am dano:—

"Mae gwynfyd yn nghyraedd pob dyn yn y byd,
A geisio yn gywir ei gael,"


PENOD IX

EI WASANAETH YN NGLYN A CHREFYDD.

CYNWYSIAD—Credu llawer yn Rhagluniaeth a'r Efengyl—Ei grefyddoldeb—Y perygl o fod yn ffurfiol gyda chrefydd—Ardderchowgrwydd geiriau'r Beibl—Ei brofiad mewn Cyfarfod Misol—Ei sylwadau mewn Cyfarfod Eglwysig yn Mhennal yn 1891 Ei Esboniad ar Salm lxxix. 16.—Parodrwydd i gydsynio â'r brodyr yn y Cyfarfod Misol—Tystiolaeth un o deulu Talgarth Hall—Tystiolaeth y Parch. J. Foulkes—Jones, B.A.—Nodiadau gan Ysgrifenwyr eraill—Parch. R. J. Williams—Parch. David Roberts—Parch. David Edwards—Parch. E. V. Humphreys—Parch. W. Williams, Dinas Mawddwy—Mrs. Green—Parch. J. Owen, Wyddgrug—Parch. T. J. Wheldon, B.A.—Parch. W. Williams, Talysarn—Parch. D. Jones, Garegddu—Parch. Hugh Ellis, Maentwrog—Mr. John Edwards, Pendleton—Parch. John Williams, B.A.—Parch. G. Ellis, M.A.—Mr. Robert Jones, Bethesda—Mr. John Jones, Moss Side, Mr. David Jones, Caernarfon—Parch. John Williams, Aberystwyth—Llythyr oddiwrth y Gymdeithasfa—Cyfarwyddid i lanc ieuanc o fugail—Cynghorion i wasanaethyddion—Gofalu am y trallodedig–Ei haelioni—Rhoddi parch i ddyn—Profiad ar wely angau—Fel blaenor eglwysig—Dilyn moddion gras–Cynulleidfa fawr yn ei dynu allan—Dyn gyda'i bethau—Fel siaradwr cyhoeddus—Ei sylwadau am Dr. Charles—Am Dr. Edwards—Diolchgarwch mewn Cymanfa

 N y benod flaenorol rhoddwyd desgrifiad o hono yn edrych bob amser ar ochr oleu bywyd, yn cymeryd y wedd oreu, ysgafnaf, ar bob peth y byd hwn. Yr oedd ganddo ffydd gref ar wahan i bob ystyriaeth o grefydd,— ffydd mewn dynion, mewn rhagluniaeth. Credai yn nghanol tywyllwch ac anhawaderau y denai goleuni yn y man. Nid oedd ef o'r un dosbarth a'r cyfreithiwr hwnw, a gymerai holl ddynion y byd yn lladron, nes profi eu bod yn onest; i'r gwrthwyneb, er y gwyddai ef yn dda am dwyll ac anonestrwydd y byd, credai fod pawb yn onest, hyd nes profi eu bod yn anonest. A chymerai yn wastad yr un olwg ar bethau a Mr. Micawber yn y Novel, yr hwn a ddywedai yn wyneb ei holl anhawsderau, ac yn nghanol pa drallodion bynag y byddai ynddynt, "I am still expecting something will turn up,"—yr ydwyf o hyd yn gobeithio y try pethau allan yn well. Y mae dynion tebyg i hyn, heblaw bod yn hapus iawn iddynt eu hunain, yn rhoddi llawer o help i ymlid ymaith y tywyllwch oddiwrth eu cymydogion.

Ond pa faint mwy gwerthfawr ydyw ffydd gyda phethau y deyrnas yr hon nid yw o'r byd hwni Onid yw y dyn sydd yn credu llawer, yn debycach o fyned i mewn i'r bywyd, na'r hwn y mae ei ffydd yn gyfyng? Ac onid y dyn sydd yn llawn o ffydd, yw y mwyaf defnyddiol i gario gwaith y deyrnas ymlaen? Gŵr ffyddiog oedd yr hwn yr adroddir ei hanes yma. Yr oedd y wedd hon ar ei fywyd yn ei wneuthur yn dra gwasanaethgar i achos crefydd yn y byd.

Un o'r pethau amlycaf a chryfaf yn ei gymeriad ydoedd crefyddoldeb. Er ei fod yn hynod o chwareus a digrifol yn ei holl gysylltiadau, teuluol a chymdeithasol, eto yr oedd yn wr o berchen crefydd ddiambeuol. Crefydd yn gyntaf fu ei arwydd— air trwy ei oes. Yr oedd crefydd yn reddf lywodraethol yn ei natur trwy bob cyfnod ar ei fywyd. Mae hyn i'w weled ynddo yn blentyn ieuanc, pan y rhedai i weithdy Arthur Evan, y blaenor duwiol, am ddiogelwch rhag y mellt a'r taranau; pan yn gwneuthur proffes gyntaf o grefydd; pan yn cyfodi allor deuluaidd yn y teulu yn ngwyneb anhawaderau; pan yn ardystio dirwest, trwy glywed am araeth ddirwestol: Dr. Edwards, y Bala; pan yn parotoi at briodi, ac yn trefnu y gwahoddedigion, dywedai wrth ei ddarpar gwraig ei fod am wahodd Iesu Grist i'r briodas. Ac y mae lliaws ei gydnabod yn gwybod am y rhan ddiweddaf o'i oes, mai ei grefydd oedd yr elfen amlycaf ynddo, a'i bod fel ail natur yn myn'd yn gryfach, gryfach i'r diwedd. Mor bell oedd oddiwrth bob ffug a phob rhith duwioldeb, ac mor llawen fyddai pan y clywai am unrhyw lwyddiant ar deyrnas y Cyfryngwr. Crefydd oedd wrth wraidd ei holl weithredoedd, ac yn gosod gwerth ar ei holl wasanaeth.

Hawdd y gellir dwyn engreifftiau, er dangos fod ei holl natur a'i holl fywyd wedi eu lefeinio gan grefydd. Mewn cyfarfod eglwysig wythnosol yn Mhennal, yn mis Tachwedd, 1891, mater yr ymdrafodaeth oedd, "Y perygl o fod yn ffurfiol gyda chrefydd." Yn nghwrs yr ymddiddan, ebe fe, "'Rwy'n cofio'n dda, yn ystod yr haner blwyddyn cyntaf wedi i mi ddyfod at grefydd, i mi daro ar hen lyfr o waith Baxter, mewn ffair yn Machynlleth yna, ac wedi i mi ei agor, yr hyn a welais gyntaf ynddo oedd, 'Rhybudd i ochel ffurfioldeb gyda chrefydd.' Mi cofiais o byth, ac fe wnaeth y sylw hwaw lawer o les i mi."

Yn yr un cyfarfod eglwysig, adroddai fel yr oedd y dyddiau hyny wedi cael llawer o hyfrydwch iddo ei hun, wrth. ddarllen y benod olaf o'r Epistol at y Philippiaid. "Dear me," meddai, "mae geiriau y Beibl yma yn ardderchog iawn. Fy mrodyr anwyl a hoff, fy llawenydd a'm coron.'" Ac yr oedd ar hyd un diwrnod yn ail adrodd ac yn dysgu allan yr adnod, "Pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau byaag sydd gyfiawn, pa bethau bynag sydd bur, pa bethan bynag sydd hawddgar, pa bethau bynag sydd gymeradwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn." Ac ar ol myned i'r gwely y nos clywyd ef yn profi ei hun, i edrych a fedrai adrodd y rhinweddau a nodid yn yr adnod, yn eu trefn.

Yn un o'r Cyfarfodydd Misol yn Mhennal y cyfeiriwyd atynt eisoes, adroddai ei brofiad crefyddol gyda'r blaenoriaid eraill. "Yr wyf yn gweled fy hun," meddai, "gyda chrefydd erbyn hyn, yn debyg iawn fel y byddwn gyda fy nhad yn dechreu gwnio, pan yn brentis. Wedi gwnio darnau mawr byddai llawer o waith datod ar fy ol, byddai fy nhad yn datod hylltod o fy ngwaith, weithiau yn datod y cwbl fyddwn wedi wnio. Yr ydwyf yr un fath yn union yn awr gyda chrefydd, yn cael llawer iawn o waith datod—datod hylltod—nes y byddaf yn meddwl weithiau y bydd raid i mi ddatod y cwbl."

Yn yr un Cyfarfod Misol hefyd dywedai, ei fod ef ei hun, a'r siop, a'r cwbl i gyd a feddai, yn gysegredig i'r Arglwydd. Gwnaeth sylwadau cofiadwy ar ddiwedd cyfarfod eglwysig yn Mhennal, Chwefror 26, 1891. Y drafodaeth yn y seiat hono oedd, pregethau y Sabboth blaenorol gan y Parch, Robert Jones, Darowen. Ar y diwedd siaradai David Rowland am oddeutu pedwar munyd yn debyg i hyn, "Byddaf fi bob amser yn cael rhyw ollyngdod i fy meddwl, wrth gofio fod Crist wedi cael ei osod yn iawn; Duw ei hun wedi osod. Mae o yn sicr o fod yn ei le felly. O! y mae rhywbeth noble yn hyn, y Duw Mawr wedi ei osod, wedi ei osod yn sylfaen i bechadur i bwyso arni. Mae yn reit sicr o fod yn ei le. Mi glywais yr hen bregethwr Isaac James, wrth weddio mewn Sassiwn yn Machynlleth yma, er's llawer blwyddyn yn ol, yn dweyd fel hyn,—

"Dyma ni yn dyfod atat ti, Arglwydd, yn bechaduriaid mawr, dyledog. Yr wyt Ti wedi gosod dy Fab yn Iawn, ac wedi gorchymyn i ni bwyso arno. Dyma ni yn gwneyd hyny; dyma ni yn rhoi ein hauain iddo; dyma ni yn pwyso arno— rhyngot Ti ag E' bellach.'"

Un noson seiat rhoddai esboniad ar yr adnod, Salm lxxix. 16, "Yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant." "Yr wyf wedi cael esboniad newydd," meddai, "ar y geiriau hyn, a fy esboniad i fy hun ydyw. Yr oeddwn yn ei ddweyd wrth Mr. Parry yma (un o'i gyd-flaenoriaid, yr hwn ar y pryd a eisteddai wrth ei ochr) ryw ddiwrnod. Yr esboniad ydyw, y bydd y saint yn ymfalchio, yn ymffrostio yn ei gyfiawader Ef. Pan mae'r plant wedi cael dillad nwddion maent mor falched, pwy ond y nhw. Gwelais yr hogyn lawer gwaith, er na byddai ond rhyw gog bach, wedi rhoi ei suit newydd am dano, yn ymsythu, ac yn dweyd ynddo ei hun, 'pwy ond y fi! Gwisg newydd y saint ydyw cyfiawnder. Mor falch ydynt o'u gwisg newydd. Yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.'"

Llawer o sylwadau gwreiddiol, gwerthfawr, cyffelyb i'r rhai a grybwyllwyd, a wnaeth o dro i dro yn y cyfarfod eglwysig cartrefol, y thai, pe buasid wedi ei rhoddi lawr ar y pryd fel y dywedodd ef hwynt, a fuasent yn drysor gwerthfawr. Yn y seiat ar ol y Cyfarfod Misol byddai yn ei elfen yn adrodd yr hanes am dano, neu yn gwrando yr adroddiad, os na byddai ef ei hun wedi bod ynddo. Ni cheid neb byth parotach i gydsynio â phob peth y cytunid arno gan y brodyr yn y Cyfarfod Misol, ac yn y Gymdeithasfa. Ni byddai ei adroddiad ef ychwaith o aml i gyfarfod y byddai wedi bod ynddo yn cyfateb i'w sel, ac weithiau troai y cyfarfodydd hyn y cymerai ef ran ynddynt allan yn ddigon fflat. Ond os byddai ei natur yn ysgafn, a'i ysbryd wedi ei danio, dyna'r pryd y ceid y perlau. Mae yr engreifftiau a nodwyd, fodd bynag, yn dangos fod ei feddwl yn wastadol gyda phethau crefydd, a'i fod o wasanaeth mawr i'r achos crefyddol yn yr holl gylchoedd y troai ynddynt. Yr oedd pawb yn ei oes, ac y mae pawb sydd yn ei gofio, yn unfryd-unfarn am grefydd a duwioldeb David Rowland. Ni choleddai neb y rhithyn lleiaf o amheuaeth yn nghylch ei uniondeb ymhob ystyr. Un o foneddigesau Talgarth Hall a ysgrifenai o wlad bell ymhen tua blwyddyn ar ei ol ei farw, ac a ddywedai, ei bod yn cofio yn dda am y parch a ddangosid iddo yn y palasdy (Talgarth Hall), ac am y siarad uchel a glywsai hi a'r plant eraill yno am dano bob amser gan eu rhieni. Un o'r geiriau olaf a ddywedodd y Parch. J. Foulkes—Jones, B.A., Machynlleth, wrtho, oedd ei sicrhau ei fod ar y ffordd i'r nefoedd. Dywed ef ei hun yn ei nodiadau er coffadwriaeth am y gwr anwyl hwnw, "Y tro diweddaf i mi ymweled ag ef (Mawrth 8fed, 1880), dywedai y byddai gartref yn fuan. 'Yr ydych chwithau,' meddai wrthyf, 'yn meddwl dyfod i'r nefoedd yn fuan—yr ydych ar y ffordd, ac mi ddwedaf wrthynt pan af yno eich bod yn dyfod.'"

Derbyniodd Mrs. Rowland ugeiniau o lythyrau ar ol ei ymadawiad, o bob parth o Gymru, a gwledydd eraill hefyd. Ac er mwyn rhoddi barn eraill am dano fel dyn, cyfaill, a Christion, ac fel un a fu o wasanaeth mawr i grefydd, rhoddwn rai dyfyniadau allan o'r lliaws llythyrau.

—————————————

NODIADAU GAN YSGRIFENWYR ERAILL

—————————————

I.

Y Parch. R. J. Williams, Blaenau Ffestiniog

BYDD yn chwith iawn ar ei ol ymhob cylch y byddai yn troi ynddo yn y Cyfarfod Misol, yn y cylch adref, ac yn neillduol ar yr aelwyd. Bydd ya fwy anhawdd pregethu yn Mhennal o lawer wedi ei golli. Yr oedd ei sirioldeb a'i Amen cynes yn gymhorth mawr iawn, ac yn enwedig ei ysbryd rhagorol. Ni wn am neb yn mwynhau llawenydd a dedwyddwch crefydd yn fwy nag yr oedd ef yr ochr yma. Ond pa faint mwy y mae yn ei fwynhau heddyw yr ochr draw!

II.

Y Parch. David Roberts, Rhiw.

Y mae yn chwith genyf feddwl na chaf ei gyfarfod mwy yn y fuchedd hon, na chlywed ei anerchiadau llawn o natur dda, synwyr ac arabedd. Dyn ar flaen ei oes oedd Mr. Rowland, ac mae yn anhawdd hebgor rhai felly. Ond felly y mae Pen yr eglwys yn gweled yn oreu, a'n dyledswydd ni ydyw ymostwng. Gobeithiaf y bydd i'r Ysbryd Glan ddwyn ar gôf i chwi eiriau yr hwn "a demtiwyd ymhob peth yr un ffunud a ninau," a'r Hwn oblegid hyny sydd yn medru cydymdeimlo a diddanu.

III.

Y Parch. David Edwards, gweinidog yr Annibynwyr, yn Pilton Green, ger Abertawe.

Wrth eistedd i lawr i ysgrifenu ychydig linellau, daw i'm côf lawer o'i ddywediadau ffraeth a'i gynghorion da. Yr oedd mwy o wreiddioldeb ac arbenigrwydd yn perthyn iddo ef na llu mawr o bobl. Safai yn hynod yn nghanol cymdeithas, a chariai ddylanwad da ar feddwl ei gyfeillion a'i gydnabod. Y mae heddyw, "wedi marw yn llefaru eto." Medrai gadw cwmni yn ddedwydd heb adael argraff ysgafn ar neb. Cefais lawer o fwynhad yn ei gyfeillach, ond ni theimlais erioed yn waeth yn ei gwmni. Cefais ynddo y cyfaill siriol a'r Cristion dedwydd. Yr oedd yn cydgyfarfod ynddo y gochelgar a'r agored ymron i berffeithrwydd. Crefydd oedd sail ei nodweddion, a choron gogoniant ei fywyd. Rhedai yr elfen hon fel edau trwy ei holl fodolaeth. Yr oedd dirgelwch yr Arglwydd gydag ef; dyma luniai ei holl fywyd, a lefeiniai ei feddyliau, ac a barai i'r daearol blyga i'r ysbrydol. Yr oedd yn ddiysgog ac amhlygedig ymhob egwyddor a dyledswydd, oblegid fel cedrwydden ragorol yr oedd ei wraidd; nid yn y gweryd arwynebol, ond yn y graig odditanodd. Troai yn naturiol yn ei gylch daearol, am fod ei galon yn y nefoedd, a'i enaid wedi angori o'r tu fewn i'r llen. Yr oedd bob amser yn barod i weini i eraill, oherwydd ei fod yn caru dilyn llwybrau yr Iesu, yr hwn a ddaeth i'r byd, nid i'w wasanaethu, ond i wasanaethu.

——————

IV.

Y Parch. E. Vaughan Humphreys, Abermaw.

Un o rai rhagorol y ddaear oedd Mr. Rowland. Mor foneddigaidd ei ysbryd, ac mor siriol a phert yn ei ymadroddion! Pwy all beidio bod a hiraeth am ei gwmni? Llawer cyngor da a gefais i ac eraill o hen students Pennal ganddo.

——————

V.

Y Parch. William Williams, Dinasmawddwy.

Y mae ya chwith iawn genyf feddwl am Bennal hebddo ef. Byddai ei gwmni bob amser ya sirioli a lleshau fy ysbryd. Os byddwn weithiau yn dyfod yna yn lled brudd ac isel fy meddwl, byddwn yn d'od yn ol yn llawen a siriol. Nis gwn am neb yn gallu byw crefydd, a'i dangos yn ateb i eiriau Solomon yn well nag ef, "Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch." Crefydd oedd ei hyfrydwch penaf, a byddai pob peth a ddywedai ac a wnai yn tueddu i ddyrchafu crefydd Crist. Mae Pennal yn wag iawn rywfodd hebddo ef; mae un o'r goleuadau wedi machludo. Ni byddwn byth yn meddwl am Bennal heb feddwl am David Rowland, ac mae'n debyg nas gallaf feddwl am y lle eto ychwaith.

——————

VI.

Mrs. Green, 7, Winchesley Road, Hampstead, Llundain.

Gyda gofid a hiraeth dwys y clywais am farwolaeth fy anwyl hen ffrynd, Mr. Rowland, a dymunaf anfon yr ychydig eiriau hyn i'ch sicrhau o'm cydymdeimlad llwyraf. Yr wyf wedi meddwl llawer am danoch, a cheisio gweddio trosoch am i Dduw pob diddanwch fod yn agos iawn atoch yn eich unigedd. Y mae yn syn iawn genyf feddwl ei fod wedi myned. Yr oedd genyf serch mawr bob amser tuag atoch eich dau—yn wir ychydig iawn oedd mor anwyl genyf—quite yn yr inner circle fel y dywedwn. Un o'r pethau cyntaf wyf yn gofio oedd cael myned i Gyfarfod Misol Pennal, at Mr. a Mrs. Rowland, ac yn addaw bod yn eneth fach iddynt ar ol d'od o'r ysgol.

——————

VII,

Y Parch. John Owen, Wyddgrug.

Derbyniais y newydd trist am farwolaeth Mr. David Rowland boreu heddyw, a choeliwch fi (llythyr at yr ysgrifenydd). yr oedd clywed hyn yn loes i'm calon. Nid wyf yn credu y byddwn yn meddwl nac yn son cymaint am yr un blaenor ag ef. Rywfodd neu gilydd yr oedd wedi gadael argraff ddofn ar fy meddwl, nid yn unig fel gŵr duwiol diamhenol, ond fel un o'r blaenoriaid mwyaf dyddorol ac athrylithgar y daeth i'm rhan ei adnabod erioed. Yr oeddwn yn hoff o gael dyfod i Bennal i'w weled. Edrychwn ymlaen at hyn fel gwledd, a chwith iawn fydd gweled Pennal hebddo. Ei ysbryd hynaws, ei eiriau ffraeth, ac fel yr oedd crefydd wedi prydferthu ei natur! Gwn eich bod yn teimlo yn drist ar ei ol. Yn enwedig ei anwyl briod, yr hon oedd wedi ei chysylltu yn meddyliau pawb o honom â chymeriad ein hanwyl hen gyfaill. Nid dau ond un oeddynt yn syniad pawb o honom. Y mae yn llawer o beth meddwl nad oes yna yr un gradd o ing, nac ofn yn ei galar. Tywyna gobaith yr efengyl trwy y dagrau. Nid yn unig, yr ydych yn gwybod ei fod wedi myned i'r nefoedd, ond y mae adnabod rhai fel Mr. Rowland yn help i ni gredu fod nefoedd, ac yn rhyw awgrymu fath le sydd yno. O! mor wir foneddigaidd, mor dyner o bregethwyr ieuainc, mor arbenig rhai o'i sylwadau! Yn wir, gallwn wylo gyda y rhai sydd yn wylo heddyw wrth feddwl am dano.

——————

VIII.

Y Parch. T. J. Wheldon. B.A., Bangor.

Yr wyf yn teimlo yn drist iawn glywed am ymadawiad fy hen gyfaill anwyl a hoff. Yr oeddwn yn edrych ymlaen i gael ei gwrdd yn Aberdyfi, yn adeg y Gymanfa, ac yn wir yr oeddwn yn cynllunio pa fodd i gael graddau helaethach o'i gwmni os gellid, pe buasai raid i mi dd'od i Bennal.

Y mae fy hiraeth yn fawr wrth feddwl na chaf weled ei wyneb ef mwy, a chlywed ei ffraethder, a'i natur dda, ei sylwadau craff; ie, a chael dyrnod ganddo trwm yn ei dro, ac yn cael ei ddwyn allan o'i drysorau mor llawen ag anrheg. Byddwn ddiolchgar i Grewr dyn, pe gwnai ychwaneg yn mould Mr. Rowland. Y mae llawer iawn o rai sal o honom yn y byd, ac ychydig iawn o wladwyr fel efe.

——————

IX.

Y Parch. W. Williams, Talysarn.

Y mae yn anhawdd iawn gallu cymodi â'r meddwl o golli cymeriad mor hawddgar a defnyddiol. Yr oedd yn un o'r ychydig gymeriadau ag y mae ei ymadawiad wedi gwneyd Meirionydd yn fwy gwag, ac yn llai swynol i mi. Prin y gallaf edrych ar Bennal yn Bennal mwyach, er fod i mi gyfeillion cywir yna. Dyma un oedd yn meddu hawddgarwch oedd yu gwefreiddio cylch ei gydnabod. Am dano ef ei hun, "Gwyn ei fyd." Yr wyf yn sicr ei fod yn mwynhau y nefoedd yn dda, yn ei mwynhau yn hollol fel efe ei hun. Ac un wedi ei ddonio i fwynhau pob peth ydoedd. Yr wyf yn credu ei fod yn magu ac yn meithrin y ddawn a ymddiriedwyd iddo, i fod yn allu i fwynhau. Byddwn yn edrych ar Dafydd Rolant fel un o'r ychydig gymeriadau duwiol buasent eu colled o'r byd hwn pe na buasai byd arall yn bod, a hyny gan gymaint oedd eu mwynhad o Dduw yn eu holl gysylltiadau. Ond beth am danynt yn mwynhau y nefoedd? Beth pe cawsai dd'od yn ol i Bennal, i adrodd a welodd, fel yr adroddai hanes ei deithiau yn Meirionydd, a thu allan i'r Sir?

X

Y Parch. David Jones, Garegddu.

Difyr iawn ydyw meddwl, os cawn fyned i'r nefoedd, y cawn ei gwmni ef yno. Yno yr aeth David Rowland, at Mr. Humphreys, a Mr. Morgan, a Mr. Williams, Aberdyfi, a nifer mawr o'i hen gyfeillion y cydgerddodd gyda hwynt i dy Dduw gyda hyfrydwch. Bydd Pennal yn lled wag hebddo, gŵr ag sydd wedi anfarwoli yr ardal yn ddigon sicr. Nis gellir meddwl am y pentref heb feddwl am dano ef. O! y mae yn chwith meddwl dyfod yna heb yr hen gyfaill diddan! Bydd gwobr y brawd yma yn fawr iawn. Mor hapus ac mor hyfryd y gwasanaethodd efe yr Arglwydd. Dyma oedd ei byfrydwch beunydd—ei unig ddedwyddwch ar y ddaear..

XI.

Y Parch. Hugh Ellis, Maentwrog.

Y mae ei ymadawiad yn golled fawr, nid yn unig i Bennal, ond i'r holl sir. Yr oedd gwres a goleuni yn perthyn i'w gymeriad. Ni welais neb mwy llawn o gydymdeimlad tuag at bob achos da—neb mwy eang ei galon, a mwy parod i gydfyned â symudiadan yr oes a'r Cyfundeb. Yr oedd ei bresenoldeb, a'i gymdeithas, a'i ffraethineb yn twymno pawb i dymer dda. Yr oedd gwres yn ei haelfrydedd, ac yn ei letygarwch, ac yn enwedig yn ei waith ysbrydol. Diau y goddefwch i mi ei ganmol fel hyn, oblegid yr oeddwn bob amser yn ei edmygu ac yn ei garu yn fawr, a byddaf yn cymeryd hamdden yn awr ac yn y man, byth er pan y gadewais Beanal, i feddwl am ei ragoriaethau. Bydd ei ddywadiadau gynghorion yn fy nghalonogi yn aml. Nid oes neb y byddaf yn cofio mwy o'i sylwadau na'r eiddo ein parchus gyfaill a thad.

Er mai amser byr y cefais aros yna, eto cefais lawer o'i gymdeithas, a theimlais lawer o'i wres. Ac nid gwres yn unig a berthynai iddo, ond goleuni hefyd. Cysegrai bob peth a feddai i oleuo eraill. Yr oedd ganddo stôr helaeth o wybodaeth, cof cryf i'w thrysori, a medr arbenig i'w gosodi allan i'r fantais oreu, ond yr hyn a goronai y cyfan oedd ei ymgysegriad hollol i ddyrchafu crefydd a'i Dduw. Fel ei Waredwr, gallwn ddweyd am dano fod ei "fywyd yn oleuni dynion." Gallwn ni bellach fentro ei ganmol, oblegid y mae Duw erbyn hyn wedi ei ogoneddu. Y mae wedi cael ei gymeryd oddiwrth ei waith at ei wobr, wedi ei wneyd yn gymwys i fwynhau cymdeithas y saint yn y goleuni, a'r Anweledig, yr hwn yr oedd yn ei garu wedi dyfod yn Weledig.

XII

Mr. John Edwards, Pendleton, Manchester.

Diameu eich bod yn teimlo y byd wedi myn'd yn wag iawn i chwi ar ol colli priod mor anwyl a difyr—un mor hynod mewn llawer ystyr. Yr ydym ninau yn teimlo yn bur chwithig na chawn ei weled mwy ar y ddaear, ei wyneb siriol a'i ymddiddanion a'i ystoriau hapus. Yr oedd yn gwasgaru llawenydd lle bynag y byddai. Colled fawr i'r byd hwn, ond enill er byny iddo ef, a'r byd mawr ysbrydol. O mor ddedwydd ydyw arno ef erbyn hyn, cael gweled yr Hwn a garai mor fawr ac a wasanaethai mor ffyddlon, fel ag y mae, a bod hefyd yn debyg iddo. Yr oedd yn bleser i ni glywed iddo gael claddedigaeth mor hynod o barchus a lliosog. Nid oedd, fodd bynag, ond yr hyn y gallasem ddisgwyl, gan ei fod mor adnabyddus trwy dde a gogledd Cymru, a chymeriad mor uchel iddo, a lle mor gynes yn mynwes pawb a'i hadwaenai.

—————

XIII

Y Parch. John Williams, B.A., Dolgellau.

Un o rai rhagorol y ddaear mewn gwirionedd ydoedd ef. Yr oedd yn naturiol hawddgar, ac yr oedd crefydd wedi prydferthu ei natur a chyfuniad o rinweddau a'i gwnelai yn un o'r dynion harddaf ei gymeriad o fewn y Sir. Nis gall neb fesur eich colled chwi. Cewch ddiddanwch o gofio na wahenir mo honoch oddiwrtho yn hir—fod dydd i dd'od y cewch gyfarfod eto i gydfwynhau llawenydd yr Arglwydd a wasanaethwyd genych mor ffyddlon—a hyny heb byth ymado mwy. Ond nid colled priod yn unig ydyw y golled, y mae yn golled eglwys, yn golled sir gyfan yn wir, a chylch llawer eangach na hyny o gyfeillion anwyl iddo. Yr ydym oll wedi colli cyfaill, un a lonai ein hysbryd pa bryd bynag y caem fwynhau ei gymdeithas bur a melus. Os bu neb erioed yn dirf ac yn iraidd, yr oedd ef felly, ac yr oedd sylwi ar y mwynhad a roddai ei grefydd iddo yn codi awydd am un gyffelyb.

—————

XIV.

Anmhosibl ydyw i mi ddweyd y teimlad a lanwodd fy mynwes pan ddisgynodd fy llygaid ar y newydd prudd, fod fy hen gyfaill, eich anwyl briod Dafydd Rolant wedi myn'd adref. Gallaf ddweyd, fodd bynag, fy mod o'm calon yn cydymdeimlo â chwi yn eich galar trwm. Mae'n debyg na bu dau erioed mor wirioneddol un a chwi ill dau. Ond dyma y Chwalwr wedi dyfod i fyny, ac wedi ysgar rhyngoch am dymor. Yr wyf yn cofio Thomas Roberts yn wylnos fy ewythr Simon, yn dweyd wrth fy modryb Anne, "Dyma Siclag wedi myned ar dân gyda chwi, Anne; 'ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw.' Ymgysurwch chwithau ynddo ef." Nid oes genyf ddim gwell i'w anfon atoch heddyw, yn eich dwfn drallod, na chyngor Thomas Roberts, "Ymgysurwch yn yr Arglwydd eich Duw."

—————

XV.

Mr. Robert Jones, Bethesda, Blaenau Ffestiniog

Clywais yn awr farw yr anwyl a'r hynod Mr. David Rowland. Fe gafodd fraint nad wyr neb ei maint, cael myned at yr Iesu, yr Hwn yr oedd wedi arfer myned ato er's llawer blwyddyn. Gofid a galar wedi ffoi am byth. Ni chaiff ei flino gan un gelyn yn y cnawd nac allan o'r cnawd. Yr ydwyf yn teimlo fod y byd yma yn myned yn dlotach i mi bob blwyddyn. Mae y Cyfarfod Misol a'r Gymanfa yn cael eu tlodi yn fawr. Dynion a llawndra ynddynt yn colli. Fe deimlwch chwithau yn Llwynteg a'r eglwys yn Mhennal wagder mawr.

—————

XVI

Mr. John Jones, Moss Side, Manchester, yn awr o Gaergybi.

Gyda gofid dwys y derbyniais y newydd am farwolaeth yr anwyl a'r hoffus, Mr. Rowland * * * * Cafodd ei ddigoni â hir ddyddiau. Wel, yr wyf yn teimlo fod haner Pennal wedi myned.

XVII.

Mr. David Jones, Llys Arfon, Caernarfon.

Yn y Goleuad heddyw y gwelsom gyntaf am y brofedigaeth lem yr ydych ynddi, oherwydd colli eich anwyl Dafydd. Yr ymddiddan diweddaf fu rhyngom a'n diweddar weinidog, Dr. Hughes, oedd yn eich cylch chwi. Yr oedd yn dweyd gyda blas, ei fod wedi rhoddi ei gyhoeddiad yn Mhennal, nos Lun o flaen Sassiwn Aberdyfi, gan ddisgwyl llawer o fwynhad yn eich cwmni chwi eich dau. Ond erbyn heddyw ewyllys yr Arglwydd oedd cael y ddau adref i'r Gymanfa Fawr. Y fath newidiad mewn can lleied o amser! Mae y ddaear i ni ein dau (efe a'i briod) yn llawer iawn gwacach, a'r nefoedd yn llawer cyfoethocach wedi mynediad dau ŵr mor anwyl a serchog yno. Yr Arglwydd a fyddo eto gyda chwi yn gwneyd pob bwlch i fyny.

—————

XVIII.

Y Parch. John Williams, Aberystwyth

Yr wyf yn cael ychydig hamdden yn awr i ysgrifenu atoch ar ol colli eich anwylaf briod, a gallaf ddweyd yn onest fy hen gyfaill anwyl inau, yn wir, un o'r rhai anwylaf a feddwn ar lawr y ddaear hon. Yn mhellderoedd America, digwyddodd i'r Newyddiadur Cymreig, "y Drych," ddyfod i'm llaw, ac wrth fyned dros restr y marwolaethau tarawodd fy llygaid ar enw fy hen gyfaill anwyl yn eu mysg, a gallaf eich sterhau i'w weled roddi briw difrifol i fy meddwl, yn gymaint fel ag iddo dynu blas oddiar bob peth am amser, ie, bron ar fyw o gwbl yn y byd hwn, ac ar weled Pennal mwy. Er yr adeg y daethüm gyntaf yna, ryw ddeg mlynedd ar hugain yn ol, y mae presenoldeb fy hen gyfaill wedi ei gysylltu yn fy meddwl mor agos a'r lle, fel prin y gall fod i mi yr un fan mwy ag ydoedd o'r blaen. Chwith fydd dyfod yna a Mr. Rowland oddiyna.

Yr un mis ag y bu ef farw, gwnaethpwyd coffhad parchus am dano yn Nghymdeithasfa Aberdyfi, yr un pryd ag y gwnaethpwyd coffhad am y diweddar Barchedig Dr. Hughes, Caernarfon, a phasiwyd fod llythyr o gydymdeimlad i'w anfon dros y brodyr at Mrs. Rowland. Gwnaethpwyd coffhad helaeth hefyd yn Nghyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yr hwn a gynhaliwyd y mis dilynol, yn Gorphwysfa, Penrhyndeudraeth, a gorchymynwyd anfon llythyr cyffelyb oddiyno. Wele y llythyr a anfonwyd o'r Gymdeithasfa:—

Wyddgrug, Tachwedd 28ain, 1893.

Anwyl Mrs. Rowland,

Yn Nghymdeithasfa Aberdyfi a gynhaliwyd yr wythnos ddiweddaf, gwnaed coffhad parchus am eich anwyl briod, y diweddar Mr. D. Rowland, ac archwyd i mi ysgrifenu atoch, i ddatgan cydymdeimlad y Gymdeithasfa â chwi yn eich galar a'ch hiraeth. Yr oedd Mr. Rowland ar lawer cyfrif yn sefyll ar ei ben ei hun, ac yn un a hoffid yn fawr gan baw a'i hadwaenai. Cafodd oes faith, a chysegrodd hi i wasanaethu ei Arglwydd yn y cylch y galwyd ef iddo. Arferai letygarwch, yn yr hyn yr oeddych chwi yn dwyn yr iau gydag ef. Ac ni wnai wahaniaeth rhwng y gweision. Rhoddid yr un croesaw i bawb, bychan a mawr, yr ieuanc fel yr hen. Yr oedd yn fendith ac yn adnewyddiad i un gael bod yn ei gwmni. Yr oedd ynddo graffder a charedigrwydd hoenus wedi ymblethu yn eu gilydd i'w canfod yn ei gymeriad.
Da oedd genym glywed, pan y daeth y diwedd, fod pob braw wedi ei symud, a'i fod wedi cael mynediad tawel, llon i'w gartref nefol. O funyd dedwydd, ac O ddiwedd dedwydd hefyd! Ein gweddi a'n dymuniad ydyw ar i chwi yn mhrydnawnddydd eich bywyd gael mwynhau llawer o dangnefedd yr efengyl yn eich mynwes, A phan y daw y diwedd, rhodded yr Arglwydd i chwi gael mynediad helaeth i mewn i dragwyddol Deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist.
Caniatewch i mi yn bersonol ddatgan fy nghydymdeimlad mwyaf didwyll â chwi yn eich galar. Byddwn yo teimlo hoffder mawr at Mr. Rowland, a chwith iawn genyf feddwl na welaf ef mwy yn Mhennal.
Gyda chofion parchus,
atoch chwi a Mr. Owen,
Yr eiddoch yn gywir,
JOHN OWEN, YSG.

Mrs. Rowland,

Llwynteg,
Pennal.


Diameu y teimla y darlienydd yn ddiolchgar am y tystiolaethau uchod oddiwrth gynifer o wahanol bersonau, yn lle bod o hyd yn gwrando ar ysgrifenydd yr hanes yn adrodd y cwbl ei hun. Ychydig ydyw y dyfyniadau a roddwyd o lawer o lythyrau cyffelyb. Y mae y tystion sydd yma yn tystiolaethu fel llinellau hydred a lledred y ddaear, yn rhedeg yr un ffordd, yn cytuno yn eu tystiolaeth am ei gymeriad cyffredinol, ac oll yn unfryd-unfarn mai ei grefydd oedd ei ogoniant penaf. Am yr hyn a ddywedant oll yn eu llythyrau, gellir dweyd gyda'r rhwyddineb mwyaf o berthynas i bob un a lefarodd, y dystiolaeth hon sydd wir.

CYFARWYDDO PERERINION.

Pererin ardderchog ydoedd, yr hwn a wnaeth lawer yn ystod ei ymdaith trwy y byd, i helpu achos Duw a dyn yn ei flaen. Heblaw fod ei grefydd ef ei hun ymhell uwchlaw pob amheuaeth, yn nghyfrif duwiolion ac annuwiolion, gwnaeth lawer i gyfarwyddo llawer pererin arall yn ei ffordd tua'r nefoedd. Yr oedd ei ddull cartrefol, a'i agosrwydd at bawb—hen ac ieuanc, tlawd a chyfoethog, yn enill pawb i ymddiried ynddo. Gyda'i gynghorion addas i blant, rhoes gychwyniad i lawer o honynt i gerdded y ffordd dda. Dywedai wrth lanc ieuanc o fugail, a fugeiliai ddefaid ffermydd y gymydogaeth, flynyddau maith yn ol, "John bach, wyt ti yn meddwl y bydd rhai o glogwyni ochrau yr Esgair a Chaerbage acw yn dystion yn nydd y farn, eu bod wedi dy glywed di yn gweddio?" John Williams oedd y bugail hwn. Y mae yn awr yn flaenor, ac yn byw yn nhy capel Maethlon. "Nid oeddwn i erioed wedi meddwl am weddio," meddai John Williams, wrth adrodd yr hanes, "nac wedi meddwl dim beth oedd canlyniadau gweddio, a bu'm yn gwrthryfela am flynyddoedd wedi hyny. Ond ni chefais byth lonydd i fy meddwl ar ol dywediad Dafydd Rolant, nes i mi ddyfod at grefydd." Dywedai John Williams yr hanes hwn pan yr oedd yn cael ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Mhennal, Hydref 10fed, 1892.

YN OFALUS AM DDIEITHRIAID.

Bu lliaws mawr o fechgyn ieuainc a merched ieuainc yn wasanaethyddion yn ardal Pennal, o flwyddyn i flwyddyn. A'r hanes am danynt ydyw i Dafydd Rolant fod yn llwyddianus yn ei gynghorion personol a chyhoeddus iddynt—cynghorion a lynodd byth yn eu meddyliau. Y mae aml un o honynt yn wasgaredig ar hyd y byd heddyw, yn dwyn tystiolaeth groew i'r lles a dderbyniasant trwy ei gynghorion. Gwelwyd ef yn myned gryn bellder allan o'r ffordd, i rybuddio rhywrai oedd yn esgeuluso moddion gras. "Nis gallaf," meddai, "fod yn dawel heb wneyd fy nyledswydd tuag atynt. Os methaf a llwyddo boed hyny arnynt hwy." Gwelwyd ef hefyd un tro pau oedd gwraig yn yr ardal wedi dangos ysbryd anfoddog tuag ato, yn penderfynu anfon present iddi, "er mwyn," meddai, "ddyfod a'i hysbryd i'w le." A chan wneuthur felly, cyflawnai yr Ysgrythyr trwy "bentyru marwor tanllyd" ar ben ei wrthwynebydd.

CYDYMDEIMLAD A'R HELBULUS.

Yr oedd yn hynod iawn hefyd am ei gydymdeimlad â'r helbulus a'r trallodedig. Cydymdeimlad trwyadl, yn y pellder eithaf oddiwrth bob rhith ac ymddangosiad, Pell iawn fyddai bob amser oddiwrth bob peth ffuantus. Meddai fedrusrwydd tu hwnt i'r cyffredin i dywallt olew ar friwiau yr archolledig. Cofia llawer am ei gydymdeimlad yn mlynyddoedd olaf ei oes, a cheir rhai ag y mae y cydymdeimlad a ddangosodd tuag atynt dros ddeugain mlynedd yn ol, yn fyw iawn yn eu côf eto.

GWR HAELIONUS

Ynglyn a'r elfen o gydymdeimlad gwirioneddol a drigai yn nyfnder ei natur, neu yn hytrach feallai yn cyfodi o'r elfen hon, perthynai iddo ysbryd rhagorol arall, sef ei ysbryd haelionus. Llanwyd ei natur hyd yr ymylon gan garedigrwydd. Megis y dywedir am y rhai llednais, eu bod yn cael eu prydferthu ag iachawdwriaeth, prydferthwyd ei natur yntau 'r gallu i gydymdeimlo, ac a'r gallu i fod yn haelionus. Bu fyw ar hyd ei oes filldiroedd o ffordd oddiwrth genfigen; yn hytrach, llawenhai drwyddo pan y clywai am lwyddiant pob dyn byw, yn enwedig y rhai o deulu y ffydd. Ac nid ewyllysio yn unig i blant a phobl ieuainc fyn'd yn eu blaen, fel yr efengyl ar adenydd dwyfol wynt, y byddai ef, ond rhoddai beunydd help llaw iddynt i ddringo i fyny y bryn. Rhoddodd lawer o arian mewn ffordd ddirgelaidd i dlodion, i bersonau mewn cyfyngder, i bregethwyr ieuainc a hen hefyd. Anfonodd o'i logell ei hun aml waith y tâl Sabbothol i bregethwyr fyddent oherwydd afiechyd, wedi methu dyfod i'w taith Sabbothol i Bennal. Y mae llythyrau i'w cael yn y ty ar ei ol, oddiwrth bersonau a dderbyniasant y tal, yn diolch yn wresog am dano. Y mae ei haelioni tuag at y casgliadau Cyfundebol blynyddol yn wybyddus i lawer. Ond rhoddai ef o galon rwydd yr hyn ni wybyddai y llaw aswy, pa beth a wnelai y llaw ddeheu. Haelioni, zel, brwdfrydedd, a chrefyddoldeb, oeddynt yn ddiameu ei ragoriaethau penaf.

RHODDI PARCH I DDYN

Yr oedd yn genad dros y Cyfarfod Misol un adeg yn sefydlu gweinidog ar eglwys. Ymhlith pethau eraill, traethai ar y priodoldeb a'r pwysigrwydd fod pawb yn yr eglwys yn rhoddi parch i'r gweinidog. "Y mae y gweinidog," meddai, "yn teilyngu parch ar gyfrif ei swydd a'i waith. Gwnewch gyfrif mawr o hono, er mwyn ei waith." Hawdd iawn y gallasai ef siarad ar y mater hwn, a hawdd iawn oedd gwrando arno, oblegid gwyddai pawb a'i hadwaenai, nad oedd neb yn yr holl wlad parotach nag ef, i roddi parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, yn enwedig gweinidogion yr efengyl, y rhai a barchai ef a pharch mawr ar gyfrif eu gwaith. "Rhoddwch barch i'ch gweinidog," meddai. Ac ychwanegai, "Y mae pawb ond rhai hollol ddiwerth yn parchu dyn. Mae yr anifeiliaid uwchaf yn talu gwarogaeth i ddyn. Bob amser, cilia y ceffyl a'r fuwch oddiar lwybr dyn, iddo gael y ffordd yn rhydd. Ond nid felly y gwybedyn, Nid oes dim gwyleidd-dra na pharchedigaeth yn perthyn i hwnw. Yn lle cilio yn barchus o ffordd dyn, disgyna y gwybedyn yn ddigon digywilydd ar ei wyneb, i'w flino. Dynion diwerth iawn sydd yn peidio parchu dyn fel dyn. Rhoddwch barch iddo fel dyn, fe ddangoswch felly fod rhywbeth ynoch chwi eich hunain. Ond uwchlaw pob peth, rhoddwch barch iddo fel eich gweinidog, er mwyn ei waith."

PROFIAD AR WELY ANGAU

Yr oedd wedi bod un tro yn gwrando pregeth gan y Parch. Joseph Thomas, yn Nghyfarfod Misol Corris, ac wedi dyfod i'r ty lle y lletyai, soniodd ar unwaith am y bregeth, yn yr hon yr oedd sylwadau wedi eu gwneuthur o berthynas i brofiadau gwahanol ddynion duwiol ar wely angau. Ac meddai, "Yr wyf fi o'r farn na ddylid barnu ystâd crefydd dyn bob amser oddiwrth ei brofiad isel ar wely angau. Y mae gan natur yr afiechyd y bydd dyn ynddo ddylanwad mawr ar ei brofiad. Weithiau bydd yr afiechyd o natur bruddglwyfus, ac y mae gan y pruddglwy y fath ddylanwad ar ddyn, fel y mae yn edrych ar bob peth gydag ofn a phryder, ie, hyd yn nod ar y pethau ag yr oedd wedi arfer credu a gobeithio ynddynt am ei fywyd."

FEL BLAENOR EGLWYSIG

Yr oedd Dafydd Rolant yn meddu cymwysder neillduol i gymeryd rhan yn yr arweiniad, i gario achos crefydd ymlaen. Yr oedd ei gymeriad a'i ysbryd yn wastad mewn cydgordiad & phethau crefydd. Byddai bob amser yn barod, o ran dim a wnelai i'r gwrthwyneb, i ymgymeryd â dyledswyddau ysbrydol yr efengyl. Yr oedd mor barod ei ymadrodd, ac mor llawn o wybodaeth Feiblaidd a buddiol. Yr oedd y pellaf un oddiwrth fod ar ffordd neb, ac yr oedd yr hawsaf un i gyd-weithio ag ef. Gwir nad oedd yn gynlluniwr nac yn drefnwr, ond elai gyda'r golofn y funyd y gwelai y golofn yn symud. Yr oedd yn un o'r rhai goreu a adnabyddwyd erioed, yn ol dywediad y Parch. David Davies, Abermaw , i waeddi hwi gyda phob symudiad er lles yr eglwysi, ac er hyrwyddo teyrnas y Gwaredwr yn ei blaen . Elfen gref ynddo ydoedd, ei fod bob amser yn credu yn ei frodyr, yn enwedig arweinwyr y Cyfundeb. Y rhai y byddai yn methu cydfyn'd â hwy oeddynt cybyddion a chrefyddwyr crintachlyd, a dynion yn proffesu eu bod yn Fethodistiaid, ac yn arbenig blaenoriaid gyda'r Methodistiaid, ac eto am gario achos yr eglwysi ymlaen yn ol eu mympwy eu hunain, gan ddywedyd gyda phob peth a ddaw o'u blaen, "Y ni sydd yn gwybod, y ni sydd i lywodraethu, mae'r eglwys wedi ein dewis ni yn swyddogion, ac nid oes neb yn gwybod am ein hachos ni ond y ni, a hwythau wedi ymgyfamodi o'r cychwyn, ac wedi addaw yn y Cyfarfod Misol wrth gael eu derbyn yn aelodau o hono, i fyw yn ol rheolau a threfniadau y Methodistiaid, er gwell ac er gwaeth. Gwyddai ef fod y fath beth yn bod ag i ddau cant o wyr goreu y Cyfundeb wybod yn well am amgylchiadau yr eglwysi na haner dwsin mewn un eglwys, a chaniatau i'r haner dwsin fod yn bobl eithaf gwybodus. Credai yn ei frodyr, yn gystal ag y credai yn yr angenrheidrwydd i anturio llawer trwy ffydd gydag achos yr efengyl, a rhoddai ei holl wres a'i yni i yru pob peth yn ei flaen .

BLAENOR ANGHYHOEDD

Er hyny, blaenor anghyhoedd fu am y deg neu bymtheng mlynedd cyntaf. Hoffai dawelwch, ac nid oedd ynddo y radd leiaf o awydd i chwenychu y blaen. Gadawai i eraill flaenori, a gwnai yntau unrhyw waith a ddigwyddai ddyfod i'w ran . Yr oedd yn dueddol hyd ddiwedd ei oes i ollwng pethau o'i law i raddau gormodol, heb ystyried fod oedran a phwysau cymeriad yn gymwysder bob amser i arwain mewn cymdeithas. Yn amser y Diwygiad 1859, a'r amser y bu у Parch. Richard Humphreys yn preswylio yn Mhennal, y dechreuodd Dafydd Rolant ddyfod yn amlwg. Creodd y ddau amgylchiad hyn gyfnod newydd yn ei fywyd.

CYSONDEB YN MODDION GRAS

Rhagoriaeth fawr arall ynddo fel blaenor oedd, ei gydwybodolrwydd i fod yn gyson yn moddion gras. Mynychai bob moddion gyda chysondeb, heb fod yn ail i neb, oddiar deimlad o ddyledswydd, yn gystal ag oherwydd y mwynhad a gaffai yn ddynt. Byddai bob amser yn mhob moddion, haf a gauaf, Sul, gwyl a gwaith. Ychydig iawn o eithriadau a fu yn ei oes, os byddai rhyw foddion yn y capel, na byddai yn cau y siop, ac yn myned yno o ganol pob trafferthion. Gellir yn briodol ddweyd am dano, fel y dywedodd Glan Alun am Angel Jones, y Wyddgrug,—

" 'Roedd Angel i ni fel y coed
Yn rhan o'r Capel Mawr."

Yn ei ffyddlondeb i ddilyn moddion gras, rhoddodd esiampl i holl flaenoriaid a holl aelodau y Methodistiaid.

CYNULLEIDFA FAWR YN EI DYNU ALLAN I SIARAD,

Yr oedd yn ŵr a lanwodd le mawr yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd. Perthynai iddo lawer o allu fel siaradwr cyhoeddus. Gallu i drin dynion, ac i wneuthur sylwadau a gyrhaeddent hyd adref. Pan elwid arno i anerch cynulleidfa, byddai pawb yn glust i gyd, ac yn dra boddhaus yn gwrando. Yn wahanol i lawer o ddynion, cynulleidfa fawr a'i tynai ef allan i siarad oreu. Dywedid am Dr. Owen Thomas, nad oedd dim yn fwy boddhaus ganddo na thyrfa fawr o'i flaen. Siarad ai yn llawer grymusach i filoedd o bobl nag i ychydig ganoedd. Goreu po liosocaf y gynulleidfa i beri i Dafydd Rolant siarad yn effeithiol, yn enwedig os gelwid arno yn ddirybudd. Medrai gyda'r hwylusdod llwyraf wneuthur ei hun yn glywadwy i dyrfa fawr, a byddai presenoldeb llawer o bobl yn ei dynu allan i'r fantais oreu. Fel y dywedwyd, gadawai ef y trefniad au i rywrai eraill, ond pan gyfodai i fyny i siarad efe fyddai pia hi. Yn ystod y deng mlynedd ar hugain olaf o'i oes yr oedd yn dra adnabyddus yn nghylch y Cyfarfod Misol fel siaradwr.

POB DYN GYDA'I BETHAU.

Yn y seiat gyhoeddus, yn rhoddi cynghor i flaenoriaid , yn gwneuthur coffhad, yn dywedyd ar gasgliad—dyna'r manau y gwelid ef ar ei orau. Y mae un hanesyn am dano mewn Cyfarfod Misol, wedi ei gofnodi mewn lle arall, rhyw ddwy flynedd yn ol. Diwrnod cyntaf y Cyfarfod Misol hwnw, yr oedd wedi sylwi nad oedd un o flaenoriaid y lle yn cymeryd llawer o ran gyda'r brodyr eraill. Yn y seiat gyhoeddus bore dranoeth adroddai y blaenoriaid eu profiadau, ac yr oedd arogl esmwyth iawn ar y cyfarfod, yn enwedig pan adroddai y brawd crybwylledig ei brofiad. Yr oedd y brawd hwnw ar yr uchel fanau, a'i brofiad yn odiaethol o felus. Galwyd ar David Rowland i ddweyd gair yn y cyfarfod hwn. " Wel," meddai, " yroeddwn i yn edrych ar y brawd yna ddoe gyda'r blaenoriaid eraill, ac yn ceisio ffurfio barn am dano, fel y bydd dyn, ac nis gwyddwn yn iawn beth i feddwl o hono, yr oeddwn yn tybio mai un go dead oedd o; ond heddyw, wedi iddo ddod at ei bethau, mae o yn wych iawn, yn odds felly. Y mae o fel y blodeuyn yn ymagor o dan belydrau yr haul. Wedi i ddyn ddod at ei bethau, welwch chwi, mae rhywbeth ynddo wedi'r cwbl. "

EI DDULL O SIARAD YN GYHOEDDUS

Nid yw yn hawdd dweyd yn mha le yr oedd cuddiad ei gryfder fel siaradwr. Safai ar ei ben ei hun, ac nis gellir ei ddesgrifio gyda dim manylrwydd. Yn gyffredin , rhyw un meddwl fyddai ei areithiau , ac amcanai o'r dechreu i'r diwedd, weithio hwnw allan, a llwyddai y rhan fynychaf yn rhagorol i wneuthur hyny. Ei ddull, ei ysbryd, a'i wres oeddynt y prif factors yn ei lwyddiant fel siaradwr. Fel rheol, pan y codai ar ei draed, dechreuai siarad yn arafaidd; ymaflai âg un llaw yn ngholar ei gôt, a phob yn dipyn, tynai y llaw arall yn hamddenol trwy wallt ei ben. Gallai rhai na chlywsant ef erioed o'r blaen dybio na feddai fawr ddim i'w ddweyd. Ond troai yn hamddenol o gwmpas rhyw un gwirionedd yr amcanai ei argraffu ar feddwl y gynulleidfa; a phan y byddai y fellten ar ymdori, gollyngai ei law yn rhydd o golar ei gôt, ac fel pe bwriadai ei thaflu at y bobl, allan â'r sylw fel tân poeth ar lwyn o eithin sychion. Droion eraill, byddai yn ysgafn, a chwareus, a difyr, o ddechreu ei araeth i'w diwedd.

YN GWNEUTHUR COFFHAD AM DR. CHARLES , ABERDYFI, YN 1879.

Gwnaeth farciau uchel aml i waith wrth siarad mewn cynulliadau cyhoeddus. Soniwyd llawer am dano yn gwneuthur coffhad am Dr. Charles, Aberdyfi, yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, ac yn Nghymdeithasfa Caergybi, yn Ngwanwyn y flwyddyn yn 1879. Yr oedd ganddo gryn fantais i siarad yn y manau hyny, oblegid yn Mhennal y pregethodd Dr. Charles, y Sabboth olaf yn ei oes, a bu farw yn sydyn cyn y Sabbath dilynol. " Yr oeddwn yn gwybod yn dda," ebe David Rowland , "pan welsom Dr. Charles yn dyfod y boreu hwnw, y caem Sabboth da, ac ni chawsom ein siomi. " Ysgrifenwyd crynhodeb o'i anerchiad yn Nghymdeithasfa Caergybi ar y pryd, ac fel y canlyn y mae:—

"Y mae yn hawdd iawn i mi allu dwedyd am Dr. Charles yma, ac y mae yn beth mawr cael gwrthddrych fel hyn i allu dweud amdano. Pan y byddwn yn siarad am rai wedi ein gadael, ni ddaliant i son am danynt yn hir. Ond fe ddeil y gwrthddrych yma i droi o'i amgylch bob ochr. Gellir edrych bob ochr; ïe, a'i daro i edrych pa fath swn sydd ganddo, ac i gael gweled a yw yn eiddo iawn. Y mae ei ddysgeidiaeth yn hysbys i ni oll—fe greodd gyfnod newydd yn y wlad. Yr oedd un hen gadben o Aberdyfi yn dywedyd wrthyf ei fod yn myned yn blentyn yn ymyl Dr. Charles pan y byddent yn siarad am forwriaeth.

Gyda ni yn Pennal y pregethodd ei bregeth olaf. Fe ddaeth acw yn ffyddlawn o Aberdyfi, er ei bod yn fore oer, ond cafodd bob peth allasem wneyd iddo tuag at ei helpu. Disgynodd wrth y ty acw, a deallais ar ei ysbryd y funyd y gwelais ef ei fod yn yr ysbryd i bregethu efengyl y deyrnas. Deallais oddi wrth ei wyneb a'i ysbryd ei fod yn yr hwyl i bregethu. Yr oeddwn yn dywedyd wrthyf fy hun ei fod yn sicr o bregethu yn dda i ni, ac felly y bu. Ei destyn y boreu oedd, " Nac ofna, braidd bychan; canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas." A'r nos, " Ond tydi pan weddiech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel, a'th Dad yr hwn a wel yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg." A'r hyn oeddwn yn ddywedyd wrthyf fy hun yn nghongl y sêt fawr oedd, dyma'r dyn mwya cymwys i fyned i'r nefoedd a welais i erioed. Yr oeddwn yn meddwl am dano ar ol hyny, a dyma yr hyn oeddwn yn feddwl oedd efe wedi ei ddysgu, ymwadu âg annuwioldeb, ymwadu â chwantau bydol, wedi dysgu byw yn yr ysbryd yn iawn; ac ar ol dysgu hyn yn fanwl, fel y dywedai John Elias, ar ol dysgu y llyfr corn, y mae yn cael ei godi bob yn dipyn i'r Grammar—yn disgwyl am ymddangosiad y Duw Mawr. Mae llawer am fyned i'r Grammar heb ddysgu y llyfr corn— am esgyn cyn disgyn i ymwadu âg annuwioldeb. Mae yn bwysig iawn i'r pregethwyr fod yn ddynion duwiol. Nis gellwch bregethu yn dda heb i chwi allu gwneyd i bawb deimlo eich bod yn ddynion duwiol. Wel, 'does dim diwedd ar ddweyd am dano. Yr oedd mor nefolaidd fel yr ydym wedi clywed nas collasom ef—aeth i fyny. Fe slipiodd fel Enoc gynt, aeth i fyw mor agos at Dduw, fel y cymerodd Duw ef i fyny ato ei hun."

YN GWNEUTHUR COFFHAD AM DR. EDWARDS, Y BALA, YN 1887.

Yn Nghymdeithasfa Caernarfon, yn 1887, yr oedd yn un o'r rhai a siaradent pan yn gwneuthur coffhad am Dr. Edwards, y Bala. Eisteddai ar y llawr yn nghapel Moriah, yn agos i'r set fawr. Yr oedd un o flaenoriaid synhwyrol Dwyrain Meirionydd wedi bod yn llefaru o'i flaen, yr hwn a siaradai yn araf a lled drymaidd. Galwyd arno yntau yn nesaf ar ei ol. Cyfododd ar ei draed gan droi at y gynulleidfa, a siaradai mewn llais clir fel cloch:—

" Yr oedd Dr. Edwards yn byw yn lled bell oddiwrthym ni yn Mhennal," meddai " ond yr oeddym yn ei 'nabod yn reit dda. Anaml y byddem ni yn ei weld o acw, ond 'doedd dim posib peidio adnabod Mr. Edwards, yr oedd yn ddyn mor clever, mor noble. Ac yr oeddym yn byw yn yr un sir. Yr oedd yn cario dylanwad welwch chwi, ar bob cwr o Gymru. Yr oedd Mr. Edwards yn pregethu yn ei ymddangosiad allanol --yn ei berson hardd. Y tro cynta 'rioed i mi ei weled o, mi gofiais yr olwg arno byth. Yr oedd o yn eich codi chwi i fyny yn nes i'r nefoedd wrth edrych arno. Yr oedd o bob amser yn gosod mawredd ar y gwirionedd—yn odds felly.

" 'Rwy'n cofio'n dda ei glywed yn pregethu ar yr adnod ola yn y bymthegfed benod o'r Corinthiaid,—'Am hyny, fy mrodyr anwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.' 'Roeddwn i'n meddwl bob amser, cyn hyny, mai adnod i ddweyd ar gasgliad oedd hon, Ond dear me, fel yr oedd Mr. Edwards yn ei chymeryd i brofi athrawiaeth fawr yr adgyfodiad, ac fel yr oedd yn dangos y fath fawredd, a'r fath sicrwydd am yr Adgyfodiad. Byddwch sicr,' ' byddwch sicr,' sicr yn eich meddyliau y bydd i Dduw gyflawni ei air—y bydd iddo gyfodi y meirw fel y dywedodd. " A diymod.' 'Rwy'n cofio'n dda ei fod yn dweyd gair Saesneg yn y fan yma, " a chyfodai ei fraich yn hollol fel y gwpelai Dr. Edwards pan fyddai wedi ei gynhyrfu, a dywedodd y gair y tro hwnw mor dda a phe buasai yn Sais dan gamp,—" 'and unmoveable. Yr oeddwn i yn meddwl bob amser cyn hyny mai adnod i ddweyd ar gasgliad oedd hon, ond mi newidiais fy meddwl am dani byth wed’yn." A thra yr eisteddai i lawr, aeth si o gymeradwyaeth trwy'r holl gynulleidfa fawr yn Moriah.

YN TALU DIOLCHGARWCH MEWN CYMANFA YSGOLION

Llawer tro y clywodd ei gyfeillion yn Ngorllewin Meirionydd ef yn gwneuthur sylwadau brwdfrydig, nes gwefreiddio y cyfarfodydd o ben bwy gilydd. Ar ddiwedd Cymanfa Ysgolion yn Llanegryn, Llun y Sulgwyn, 1887, yr hon a gynhelid yn yr awyr agored—byddai y Gymanfa Ysgolion y blynyddoedd hyny yn rhy liosog i'r un capel allu ei chynal—talai ef ddiolchgarwch i bobl y lle am eu croesaw i'r Gymanfa, a chan gymeryd benthyg geiriau John Evans, New Inn, ar ddiwedd Cymdeithasfa yn L.lanymddyfri, dywedai, "Bydded bendith y nefoedd arnoch oll yn Llanegryn am eich croesaw i'r Gymanfa Ysgolion, hyd y bedwaredd-genhedlaeth-ar-ddeg-ar-hugain-ar-ol y-ganfed.

CYNWYSIAD. —Yr hyn a ysgrifenodd dyn yn cadw ei goffadwriaeth yn hwy heb fyned ar goll—Diwedd dyddiau y Parch. Richard Humphreys – Ei sylwadau am y Parch. J. Foulkes Jones, B.A.-- Araeth yn Nghynadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol.

 MCANWYD yn yr hanes blaenorol wneuthur y Cofiant mor debyg i'r gwrthddrych ag y gellid, yn yr hyn oedd, ac yn yr hyn a wnaeth, trwy ddefnyddio cynifer ag oedd modd o'i eiriau ef ei hun. Geiriau dyn ei hun a all ei osod allan i'r fantais oreu, yn hytrach na geiriau neb arall. Pan fyddo dyn wedi ysgrifenu llawer o'i feddwl, erys coffadwriaeth hwnw yn hwy heb fyned ar goll, ac adwaenir ef yn well ymhen amser a ddaw. Gwir mai yn ei ddull, ei ysbryd, a'i sel, yr oedd rhagoriaethau Dafydd Rolant yn gynwysedig; eto, gwelir graddau o'r dull, a theimlir graddau o'r ysbryd yn y geiriau sydd yn aros. Ag ystyried mor lleied ei fanteision, medrai osod ei feddwl i lawr yn hynod o drefnus. Yn y benod hon rhoddir ychydig engreifftiau o hono fel ysgrifenwr. Dywed y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, mai efe a gasglodd ynghyd y rhan fwyaf 0 hanes y Parch. Richard Humphreys, yn ystod y blynyddoedd y bu yn aros yn Mhennal, tuag at wneuthur y Cofiant am dano. Cyflwynir i'r darllenydd yn gyntaf y nodiadau a ysgrifenodd am ei hen gyfaill.

DIWEDD DYDDIAU Y PARCH. RICHARD HUMPHREYS.

Yr oedd gan Mr. Humphreys, bob amser, barch mawr i'r Sabboth, ac ni byddai byth yn hoffi gweled neb mewn dillad cyffredin ar ddydd yr Arglwydd. Byddai yn rhaid iddo gael ei ddillad goreu am dano bob Sabboth, yn ei lesgedd olaf, er nad oedd yn gallu myned o'r ty; a llawer gwaith y dywedodd Mrs. Humphreys wrtho, wedi ei wneyd ef i fyny, " Dyna chwi, Mr Humphreys, yn gymwys i gychwyn i Gymanfa."

Un tro gofynodd i mi ddarllen rhywbeth o ryw lyfr iddo, pan yr oedd yn ein ty ni ar y Sabboth, ac yn bur llesg. Darllenais inau bregeth o'r "Pregethwr" iddo, o waith Mr. Humphreys ei hun, ond heb ei hysbysu o hyny. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," oedd y testyn, ac ar ol ei darllen, gofynais,

"Wel, beth ydych yn ei feddwl o honi, Mr. Humphreys?"

"Wel," ebe yntau, "y mae yn dweyd pethau digon tebyg i'r hyn a fuaswn yn eu dywedyd fy hunan am lywodraeth y Duw Mawr."

Anfonodd am danaf i ddyfod i Werniago, a dywedodd wrthyf fod arno eisiau gofyn i mi a wnawn aros yno gyda hwy adeg ymadawiad yr enaid. A bum yno ddydd a nos am amryw ddyddiau.

Yr oeddwn yn teimlo yn mhresenoldeb Mr. Humphreys, fel Pedr gynt yn nghymdeithas ei Feistr mawr, ac yr oeddwn yn mwynhau llawer o'r un ysbryd ag yntau; a buaswn yn foddlawn i aros gydag ef lawer yn hwy pe buasai hyny yn angenrheidiol. Yr oedd yno rywbeth neillduol nas gallaf roddi cyfrif am, dano na'i ddesgrifio. Y mae arnaf gymaint o ofn marw a'r un dyn ar y ddaear, ond teimlwn ar adegau gydag ef na buasai waeth genyf farw na pheidio. Yr oedd yn hynod dawel a dirwgnach, a dywedais wrtho fy mod yn rhyfeddu ei weled mor hynaws a thirion, a hyny yn wyneb gwaeledd mor fawr.

"Yr wyf," ebe yntau, "wedi penderfynu, er pan yn ddyn ieuanc, os cawn i byth fyw i fyned yn hen wr, am fod yn hen ŵr hynaws."

Y tro diweddaf y bu yn ein ty ni, yr oedd Mary Rowland, fy ngwraig, yn ei gynorthwyo i ddiosg ei gôt, gael iddo fyned i orphwys; ac wrth ei weled mor wael, dywedodd wrtho,—

"Buasech yn ddedwydd iawn, Mr. Humphreys bach, pe buasech yn y nefoedd."

"Yn wir, Mary bach," meddai yntau, "Mae arnaf ofn y nefoedd; pe buasai rhyw le canol, hwnw fuasai yn fy ffitio i." Ond pan aeth Mary Rowland i edrych am dano ar ol hyny, dywedai, " Wel yr wyf yn gallu dweyd wrthych heddyw fy mod yn siwr o'r nefoedd."

Daeth hen chwaer arall i ofyn am dano, a gofynodd iddo pa fodd yr oedd yn teimlo.

Hapus iawn," meddai yntau, " mae fy holl ddymuniadau yn dderbyniadau heddyw." Dro arall pan y gofynem iddo pa fodd y byddai.

"Da iawn, yr wyf yn gallu diolch heddyw," fyddai ei ateb yn aml. Nid anghofiaf byth yr agwedd addolgar fyddai arno; rhoddai ei ddwylaw ymhleth, a chyfodai hwy i fyny yn aml, a pharhaodd i wneyd hyny hyd nes aeth yn rhy wan i'w cynal. Bu'm lawer gwaith yn ei gynorthwyo i'w dal i fyny, fel Aaron a Hur gyda Moses, a byddwn yn dweyd wrtho y byddai i mi ei gynorthwyo hyd nes y byddai iddo orchfygu. O! y ddau lygad glân a wnaeth arnat y pryd hwnw. Yr ydych yn credu y byddwch yn orchfygwr, onid ydych, Mr. Humphreysl meddwn wrtho un diwrnod.

"O ydwyf yn sicr," oedd ei ateb.

Byddai yn ateb pob cwestiwn yn nghylch diogelwch ei gyflwr yn gryf a phenderfynol. Pan y gofynodd cyfaill iddo sut yr oedd un diwrnod, dywedai,— "Byddaf gydag Abraham, Isaac, a Jacob yn bur fuan bellach." Dywedai yn orfoleddus iawn un diwrnod,-

"Amser canu, diwrnod nithio,
Eto'n dawel heb ddim braw,
Y gwr sydd i mi yn ymguddfa
Sydd a'r wyntyll yn ei law."

Y dyddiau olaf aeth nad allem ei ddeall yn dweyd yr un gair. Darfu i'r jaw-bone ymryddhau, a thrwy hyny aeth ein cymdeithas ni ag ef yn llai. Nid oedd gan y teulu a minan ddim i'w wneyd bellach ond wylo uwch ei ben. Dywedodd Mrs. Humphreys wrtho—gan nad allai ddweyd dim byd wrthynt—A allai efe ddim gwneyd yr un arwydd arnynt fod pob peth yn dda, a'i fod yntau yn teimlo felly ar y pryd. Estynodd yntau ei lawer gwaned ydoedd—a throdd hi gylch ei ben fel bwa, ac yna disgynodd hi yn drwm ar y gwely i beidio a chyfodi mwy. Yr oedd y llefaru hwn trwy yr arwydd yma, yn annesgrifiadwy, ac nis gallaf ddarlunio ein teimladau ar y pryd. Yr oedd fel morwr wrth adael y tir yn gwneyd arwydd i'w gyfeillion fydd yn sefyll ar y lan. Felly ar y 15fed o Chwefror, yn y flwyddyn 1863, 'Cwympodd y gedrwydden,' ac agorwyd pyrth marwolaeth i Mr. Richard Humphreys i fyned trwyddynt i lawenydd ei Arglwydd. Yr unig wahaniaeth oedd rhyngddo wrth farw ag oedd byd ei oes ydoedd, fod ei hyder yn Nghrist wedi tyfu yn llawn sicrwydd. Bu farw yn y ddeuddegfed flwyddyn a thriugain o'i oedran. Er na chyrhaeddodd ddyddiau blynyddoedd einoes rhai o'i dadau, cafodd fyw digon i weled iachawdwriaeth Duw, ac i fod yn efferyn yn llaw ei Ysbryd i ddwyn eraill i'w gweled.--Allan o Gofiant y Parch. Richard Humphreys.

EI SYLWADAU AM Y PARCH. J. FOULKES-JONES, B.A., MACHYNLLETH

Yr oeddwn yn adwaen Mr. J. F. Jones er pan oedd yn blentyn, gan yr oedd yn meddwl nad oedd dim yn fwy gwerthfawr na marbles; ac yn lled ieuanc, daeth yntau i fy adwaen inau. Byddai yn dyfod i Bennal yn bur ieuanc, yn gwmpeini i'r diweddar Foulk Evans, fel y bachgen Samuel efo'r hen Eli, wrth ei alwad, ac i wneuthur unrhyw wasanaeth i'r hen batriarch. Heblaw yn Mhennal, bu lawer gwaith mewn ffermdy a elwir Tywyll Nodwydd, tua dwy filldir i'r bryniau, lle yr oedd yn byw un o'r hen bererinion fyddai yn myned o'r Cemmaes, Sir Drefaldwyn, i'r Bala, Sabboth yr ordinhad, ac yn dyfod adref yn brydlon i ddechreu ar ei waith boreu dydd Llun. Llawer o bleser a gafodd yr ieuanc J. F. Jones efo yr hen bererin, yr hwn oedd, erbyn hyn, yn analluog i gerdded. Byddai yn Tywyll Nodwydd bregethu ar droion, a swn gorfoledd i'w glywed yn y gongl lle yr eisteddai yr hen Gristion. Bu Mr. Jones yno lawer gwaith erioed, a byddai yr hen a'r ieuanc yn mwynhau eu gilydd yn hynod, yr hyn oedd yn arwydd dda am grefydd yr ieuanc.

Deuai Mr. Jones atom yn gyson, cyn ac wedi ei ordeinio, a rhoddai ei gyhoeddiad yn ddirodres, dan ddiolch am i ni ofyn iddo ddyfod. Bu yma yn fynych mewn angladdau a bedyddiadau. Byddai yn hynod o bwrpasol ac effeithiol wrth gychwyn i'r gladdfa; y mae yr adgof am lawer tro yn fyw iawn heddyw. Bu'm gydag ef mewn tai yn y wlad pan yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd, a byddwn yn teimlo ar y pryd fod yr ordinhad yn un o osodiad y nef, ac yn foddion gras. Pan yn cyflwyno y baban i'r Arglwydd, yr oeddem fel yn teimlo fod yr Arglwydd yn ei dderbyn.

Yr wyf yn teimlo wrth gynyg ar ysgrifenu ychydig am yr anwyl Mr. Foulkes- Jones, yn enwedig wrth geisio ei ddarlunio fel pe bawn yn ceisio darlunio rhywbeth prydferth, per ei arogl, megis y rhosyn; nis gallaf bron ond dweud—Yr oedd yn dlws, yn brydferth, a pher ei arogl. Byddai ei ddyfodiad atom i Bennal i weinidogaethu yn wledd cyn ei ddyfod bron. Yr oedd arogl y wledd yn codi eisiau bwyd. Caem y wledd hon ar y Sabboth, dair neu bedair gwaith bob blwyddyn. Ni chaem ein siomi yn ein disgwyliadau, oblegid yr oedd ei weinidogaeth yn flasusfwyd o'r fath a garem, bob amser. Yr oedd yn amlwg ei fod yn gwneuthur y goreu o'r hamdden dawel ar foreu Sabboth wrth dd'od yma, a bod ei feddwl gyda phethau mawr y diwrnod. Pan ddeuai i'r capel—yn loyw, ddisglaer, fel newydd ddyfod o'r mint—byddai ei ymddangosiad yn creu parchedigaeth ynom, ac yn foddion i'n dwyn yn fwy addolgar ac i barchu y dydd sanctaidd a'r ordinhadau. Byddai aelodau o bob enwad crefyddol yn teimlo felly, ac hyd yn nod rhai di grefydd yn teimlo graddau o'r un peth.

Ni theimlwn un amser yn fwy am fawr ddrwg pechod a graslonrwydd trefn Duw i achub nag wrth ei glywed ef. Yr oeddwn yn gwybod am dano er yn blentyn, ac am ei deulu crefyddol, a'i ddygiad i fyny da ymhob ystyr; gwyddwn na bu yn bechadur cyhoeddus, ond ei fod fel Timotheus wedi ei ddwyn i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Eto, wrth ei wrando gallasai yr anwybodus am dano feddwl ei fod wedi bod o fewn ychydig i bob drwg. Ond profi yr oedd hyn ei fod wedi ei wir argyhoeddi am dano ei hun gan Ysbryd Duw; ac yn wyneb ei gyflwr a'i drueni fel pechadur yr oedd yn mawrhau y Duw graslon am ei drefn ogoneddus o waredigaeth trwy Iesu Grist.

Yr oedd Mr. Jones fel pe yn byw efo Christ a'i apostolion, a'r gwragedd sanctaidd, ac yn parchu o'i galon bawb a ddangosent barch i Iesu Grist. Byddai ei ymddiddanion crefyddol a thosturiol am bawb, yn enwedig y cystuddiol a'r profedigaethus (cyn ei gystuddio ei hun) yn neillduol. Byddai yn holi yn fanwl am rai felly, a rhwng y moddion yn ymweled â hwy, a byddai ei bresenoldeb, ei gydymdeimlad, a'i gynghorion yn foddion gras iddynt. Cofus genyf fy mod gydag ef yn ym weled âg un, a braidd nad oedd y gwr hwnw, oherwydd natur ei afiechyd, yn dweyd yn galed am yr Arglwydd. Ond erfyniai Mr. Jones arno i ymatal, gan ddweyd—"Peidiwch myn'd ddim у ffordd yna, onidê, bydd raid i mi fyn'd allan, nis gallaf ei ddioddef."

Ni welais neb mwy ymostyngar dan law Duw nag ef yn ei gystudd hirfaith. Teimlai fod tragwyddoldeb yn wlad ryfedd a dieithr, ond er y cwbl ' mi wn hyn, meddai, ' y mae yn gartref fy Nhad.* * * * * Y tro diweddaf y bu'm yn ymweled âg ef, gofynodd i mi ei gofio yn garedig iawn at yr eglwys yn Mhennal, yr hyn a wnaed, a derbyniwyd y genadwri gyda theimlad dwys. A chyda theimlad cyffelyb y derbyniwyd ei lythyr rhyfedd a gwerthfawr atom fel eglwys, yr hwn a ddarllenwyd yn gyhoeddus ddwy waith.

Er ceisio dweyd am yr anwyl Mr. Jones, nid oes genyf ond terfynu yn nheimlad y disgybl am y peth hynod ar ddydd y Pentecost, gan ei alw y peth hwn, y dyn, y boneddwr, y gwein idog, y Cristion prydferth." — Allan o Gofiant y Parch. John Foulkes Jones, B.A.

ARAETH YN NGHYNADLEDD CANMLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL YN NOLGELLAU, MAI 22AIN, 1885.

(Traddododd Mr. David Rowland yr araeth hon yn olaf o'r siaradwyr yn Eisteddiad cyntaf y Gynhadledd, am ddeg o'r gloch.)

Yr wyf finau yn dymuno datgan fy nghydsyniad â phob peth sydd wedi ei ddweyd. Yr wyf yn debyg iawn i hen Aelod Seneddol yn agos i'ch tref chwi yma, Syr Robert Vaughan. Dywedir mai unwaith y siaradodd erioed yn y Senedd. Yr oedd yn clywed draught yn dyfod ato trwy y ffenestr oedd yn agored o'r tu ol iddo, a gofynodd i rywun ei chau (chwerthin.) Dyna'r unig dro y siaradodd yn y Senedd erioed. Ond yr oedd yn votio bob amser. Yr oedd yno ryw Pitt yn y Senedd, ac yr oedd ei fraich fel pe buasai wedi ei chlymu wrth fraich hwnw. Os byddai braich Pitt i fyny, fe fyddai ei fraich yntau i fyny. Felly yr wyf finau yn cydsynio â phob peth da a dylem ymegnio at wneyd y pethau yma hefyd. Mae eisiau i ni gael trefn ar bethau, fel yr oedd y brodyr yma yn dweyd, a 'does dim yn bosibl gweithio heb drefn. Y mae gan y masnachwyr eu trefniadau, ac y mae gan y wladwriaeth ei threfniadau. Ac y mae eisiau i ni weithio, oblegid mae ein hamser ni yn beryglus iawn. Mae yma dywyllwch eisiau ei symud. Gwaith yr un drwg ydyw cadw y tywyllwch ar feddwl y bobl, rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig. Nid yw efe yn credu mewn syrthio oddiwrth ras,—y mae yr un farn a'r Methodistiaid Calfinaidd ar y pwnc hwn,—a'i waith ef ydyw cadw y tywyllwch yma ar y wlad. Yr efengyl sydd yn gwneyd trefn ar y byd. Yr wyf yn cofio darllen yn nhraethawd y diweddar John Owen, Ty'nllwyn, mai lle mae'r efengyl wedi enill mwyaf o ddylanwad ar y wlad, yno y mae amaethyddiaeth uwchaf. Yr oedd ef yn dweyd mai yn Môn yr oedd amaethyddiaeth oreu, ac yn Môn yr oedd crefydd uwchaf. Yn Maesyfed yr oedd crefydd iselaf, ac yno yr oedd yr amaethwyr gwaelaf. Chwi wyddoch nad oes dim trefn ar wneyd peth heb drefn (chwerthin). Mae eisiau i ni wneyd pob peth gyda chrefydd fel pe byddai y llwyddiant oll yn dibynu ar ein trefniadau ni. Ond wedi gwneyd pob peth, dylem deimlo nad oes dim gwerth ar drefniadau ynddynt eu hunain. Bendithio trefn y mae yr Ysbryd Glan. Clywais am Ishmael Jones yn dyfod i bregethu i Dowyn, ac yn codi penau ar ei bregeth am y tro cyntaf. Yr oedd yr hen wr wedi clywed fod pregethwyr ieuainc yn dechreu codi penau, ac yr oedd yntau wedi penderfynu gwneyd yr un fath. Wedi dechreu pregethu, dywedai, "Mae pobl yn myned i son y dyddiau yma am wneyd pethau mewn trefn, ac yn dweyd, yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd. Yr wyf finau wedi penderfynu cymeryd y plan yna gyda chwithau heddyw. Yr wyf am godi penau, ond gyfeillion bach, gwell genyf eu colli nhw i gyd na cholli yr Ysbryd Glan. Felly y dylem ninau arfer moddion, ond gadael i Dduw weithio fel y myno Efe. "Bydded genych ffydd yn Nuw." Mae eisiau i ni gredu gwirioneddau mawr Duw. Fel y dywedodd Paul wrth geidwad y carchar, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu." Fel yr oedd Dafydd Dafis o Gowarch, yn dweyd, "Dyna y drecsiwn i ti." Pan y byddaf fi yn clywed am y llyfrau yma, ac amheuon dynion, fe fyddaf yn gallu dweyd fy mod yn gwybod am beth felly o'r blaen, oblegid y mae holl ddrygioni y byd yma yn nghalon dyn. Rhaid i ni beidio ameu addewidion Duw, a pheidio bod fel y bobl hyny y mae Zechariah yn sôn am danynt, yn ameu pob peth a ddywedai Duw wrthynt. Mae Duw yn gofyn iddynt gredu ei wirionedd Ef. Yr oeddwn wedi meddwl darllen i chwi ychydig o adnodau eto,— "Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: hen wyr a hen wragedd a drignnt eto yn heolydd Jerusalem, a phob gwr a'i ffon yn ei law, oherwydd amlder dyddiau,"—nid o falchder. Mae eisiau i ni gredu fel yr hen chwaer hono yn Merthyr Tydfil, Modryb Beti'r Methodist fyddent yn ei galw. Yr oedd rhyw ddyn yn methu deall pa fodd i gredu y byddai i'r planedau syrthio i'r ddaear fel ffigys, ac un o honynt yn llawer mwy na'r ddaear. "Pe buasai fy Nuw i yn dweyd y buasent yn myned i wniadur," meddai yr hen wraig, "fe fuaswn yn ei gredu." —Allan o Adroddiad Cynhadledd y Canmlwyddiant.

Mae yr enghreifftiau uchod yn ddangosiad o'i ddull ef o siarad ac ysgrifenu. Ac y maent yn werthfawr oblegid hyny, yn gystal ag ar gyfrif y personau a'r amgylchiadau y gwneir cyfeiriadau atynt.

PENOD XI.

PENOD OLAF EI FYWYD.

CYNWYSIAD.—Symud i wlad well— Tori yr Enaint with adael y byd — Ei sylwadau pan y cyrhaeddodd 80 oed —Dyddiau ei bererindod yn tynu at y terfyn — Y Cyfarfod Misol olaf — Y Cyfarfod Cyhoeddus olaf yn Mhennal — Thomas Roberts, hen ddrifer John Elias — Yn ewyllysio gweled John Elias yn gyntaf wedi mynd i'r nefoedd — Mwy o'i gyfeillion yn y nefoedd —Myfyrdodau am grefydd—Clause yn y Weithred—Dyn wedi ei greu ar gyfer byd arall—Capel haiarn Henry Rees—Marwolaeth sydyn Dr. Hughes—Dafydd Rolant yn myn'd i'r nefoedd yn ei gwmni—Dim eisiau newid y doctor—Byw yr un fath pe cawsai ail gynyg—Y bachgen yn foddlon ac anfoddlon iddo fyned i'r nefoedd—Y Penteulu yn holwyddori y plant—Y dyn goreu fu yn Mhennal erioed—Yn agoshau i'r Orphwysfa—Ei angladd—Pob peth yn dda.


 EDI adrodd hanes taith ei bererindod trwy y byd, y gorchwyl diweddaf ydyw rhoddi gwybodaeth i'r rhai a ddarllenant y tudalenau hyn, am y modd y croesodd i'r wlad sydd well. Er mor dda fu y byd hwn iddo, ac er cystled y darfu iddo ei fwynhau, i wlad well yr aeth, Gwnaeth y goreu o'r ddau fyd, a phan y derbyniodd notice to quit—rhybudd i ymadael o'r daearol dy, bu hyny yn unig er rhoddi mantais iddo gael promotion o dan yr un meistr—er ei gymhwyso yn hwylusach i symud i'r "ty nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd,"—ei symud i blith pendefigion pobl Dduw, lle mae llawenydd a digrifwch yn dragywydd, "

A llewyrch mwy tanbaid na'r haulwen,
Sef llewyrch o orsedd fy Nuw."

Y mae penod olaf ei fywyd mor llawn o ddyddordeb a dim sydd wedi ei adrodd am dano. A llawer o ddynion rhagorol y ddaear o'r byd heb i neb o'u cyd ddynion gael gwybod fawr ddim o hanes y symudiad diweddaf. Slipiant i'r Orphwysfa yn ddystaw, gan adael i'w bywyd dystiolaethu i ba wlad yr aethant. Er hyny, y mae argyhoeddiad yn meddwl pawb ddarfod iddynt etifeddu yr etifeddiaeth yn y goleuni. O'r tu arall, ceir ambell i rai, megis, Mr. Charles o'r Bala, Mr. Foulkes-Jones, Machynlleth, a Dr. Saunders, a roddasant dystiolaeth neillduol yn y diwedd mai i wlad yr addewid yr oeddynt yn myned, ac wrth groesi iddi torasant yr enaint gwerthfawr, yr hwn sydd o hyd yn parhau i berarogli yn y byd. Un o'r cyfryw rai oedd David Rowland. Gadawodd dystiolaeth yn niwedd ei ddyddiau, yn gystal ag ar hyd ei fywyd, ei fod yn un o blant Duw, a dywedodd amryw o bethau pan ar groesi i'w gartref fry, a gofir cyhyd ag y bydd y côf am dano yn aros ymysg ei gyd-ddynion.

Er ei fod yn tynu at bedwar ugain a thair mlwydd oed, yr oedd o ran ei ysbryd mor hoew a bachgen deng mlwydd. Ac ni buasid yn gwybod ei fod yn nesau at ddiwedd ei oes, oni bai fod y babell bridd yn dechreu adfeilio. Y flwyddyn y cyrhaeddodd ei 80ain, gwnaeth rai sylwadau tebyg iawn iddo ei hun. Yr oedd yn amlwg ei fod yn ol cyfarwyddyd y weddi Ysgrythyrol yn dysgu cyfrif ei ddyddiau. Un diwrnod yn ystod y flwyddyn y cyrhaeddodd 80 oed, clywyd ef yn dywedyd, "Dear me, yr ydwyf yn fab pedwar ugain mlwydd oed." Ddiwrnod arall dywedai, " 'Rwy'n meddwl yn sicr fod camgymeriad o ugain mlynedd wedi ei wneuthur yn rhywle yn fy oes i; 'rwy'n meddwl mai tri ugain ydwyf, ac nid pedwar ugain."

Yn ystod y flwyddyn neu ddwy olaf, dechreuodd ballu yn ei gerddediad. Ac yn ystod yr haf olaf, yr oedd ei gam yn myn'd yn fyrach, a dechreuai ei gyfeillion sibrwd y naill wrth y llall, fod dyddiau ei bererindod yn nesau at y terfyn. Y nos Sadwrn cyntaf o Hydref, 1893, cafodd bangfa o ddiffyg anadl, a syrthiodd rhai geiriau dros ei enau a awgryment ei fod ef ei hun yn tybio mai rhybudd iddo oedd hyn. Ond gwellhaodd ddigon i fyned i'r capel dranoeth, a bu yno Sabboth ymhen yr wythnos. Yr ail ddydd Llun yn Hydref, yn ol trefniad blaenorol, yr oedd i areithio yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, ar Drydydd Jubili y Cyfundeb. Ond nis gallodd fyned i'r cyfarfod hwnw, a theimlai yn ddwys o'r herwydd. Gwelai ei gyfeillion hefyd mai ychydig o or-lafur a allai fynd ag ef i ffordd.

Y Cyfarfod Misol olaf iddo fod ynddo ydoedd yn Aberllyfeni, yr ail wythnos yn mis Awst, 1893. Yr oedd yr hin yn anarferol o boeth, a chan y teimlai yn llesg a diffygiol, gofynodd i'r blaenor yr oedd gofal y trefniadau arno, a wnai ef ei drefnu i gael llety dros y nos yn rhywle yn lled agos. Trefnwyd ef i aros yn Plas, Aberllyfeni. Y bore canlynol datganai yn llawen iawn ei ddiolchgarwch i'r trefnwyr am lety mor gysurus, ac awgrymai mai efe oedd gwr mwyaf urddasol y Cyfarfod Misol hwnw, gan iddynt ei drefnu i fod yn y Plas. Mater ymdrafodaeth y seiat gyhoeddus ydoedd, "Moddion gras ac Ordinhadau yr Efengyl," a siaradodd yntau mor rhagorol ar y mater, fel y mae côf hyfryd am y cyfarfod yn aros eto. Y Cyfarfod Cyhoeddus cyffredinol olaf iddo fod ynddo yn Mhennal oedd, yr un a gynaliwyd yn Ysgoldy y Bwrdd, mewn perthynas i sefydliad yr Ysgol Ddyddiol Ymneillduol yn Aberdyfi. Cynhelid y cyfarfod tua dechreu Hydref. Ni chymer odd ef ran yn y cyfarfod hwn, oherwydd ei fod yn llesg, ac hefyd am nad oedd yn drethdalwr yn mhlwyf Towyn. Ond yr oedd mor bleidiol a neb i'r ysgol y bu Ymneillduwyr Aberdyfi mor ymdrechgar a llwyddianus yn ei sefydlu. Ni fu ond rhyw dair wythnos yn ei wely, ac heb fod yn y capel. Fel pawb, disgwyliai ar y cyntaf y cai wella. Ond ymhen ychydig ddyddiau daeth yn hollol ymostyngar i ewyllys ei Dad nefol, a dywedai wedi hyny mai unwaith yn unig y bu yn gweddio am gael mendio. Yr unig beth y teimlai betrusder yn ei gylch ydoedd dieithrwch y nefoedd. Yr oedd wedi meddwl llawer am ddywediad Thomas Roberts, hen ddriver John Elias, yr hwn a ddywedai ychydig cyn marw, mai Mr. Elias a hoffai ef weled gyntaf wedi myned i'r nefoedd, gan ei fod yn meddwl y byddai yn fwy hyf ar Mr. Elias nag ar yr Arglwydd Iesu. Mewn trefn i ddeall y cyfeiriad hwn, dylid hysbysu fod yr hen bererin hwn yn Gristion o radd uchel, ac mai yn ardal Pennal y diweddodd ei ddyddiau. Brodor o Landderfel, yn agos i'r Bala ydoedd. Bu yn was gyda Mr. Davies, Fronheulog, am 52 mlynedd. Deuai John Elias, o Fôn, prif bregethwr Cymru, yn fynych i aros i'r Fronheulog, a rhoddai Mr. Davies ei gerbyd iddo i deithio siroedd De a Gogledd Cymru, a Thomas Roberts fyddai yn gyru y cerbyd. Yr oedd ef yn was yn Fronheulog pan gyfarfyddodd Mr. Elias â'r ddamwain ar fore Sasiwn y Bala, ond ymffrostiai yr hen frawd mai nid efe oedd yn gyru y cerbyd y diwrnod hwnw. Efe fu yn ei anfon adrefi sir Fon wedi iddo wella. Pan y deuai Mr. Elias i Fronheulog byth wedi hyny, arferai anfon gair o'i flaen, " Anfonwch Tomos i'm cyfarfod gyda cheffyl llonydd," Ymffrostiai Thomas Roberts yn ei swydd o fod yn ddriver i John Elias. Yr oedd y gweinidog enwog a'r driver mor gyfeillgar a dau gyfaill, a chredai Thomas Roberts nad oedd neb tebyg i Mr. Elias yn yr holl fyd. Yn ol ei syniad ef ni bu dim ond dau yn y byd erioed yn fwy nag ef: Iesu Grist yn gyntaf; yr Apostol Paul yn ail, John Elias yn drydydd. Yn diwedd ei oes symudodd Thomas Roberts i fyw at ei ferch i Bennal, ac yma, fel y dywedwyd, y bu farw. Yn ystod ei afiechyd olaf, diwrnod neu ddau cyn ei farw, gofynodd gweinidog yr eglwys iddo, "Pwy leiciech chwi weled, Thomas Roberts, gyntaf wedi myned i'r nefoedd ? " " Mr. Elias," atebai, dan godi ei ddwylaw i fyny, ac ychwanegai, " 'Rwyf yn meddwl y byddwn yn fwy hyf arno ef nag ar yr Arglwydd Iesu. " " Yr ydwyf," ebe Dafydd Rolant, pan yn ei wely y pryd hwn, "wedi meddwl hylltod am ddywediad yr hen Domos—y mae llawer iawn ynddo."

Dywedodd aml i waith yn ei saldra, " Er fod ganddo lawer o gyfeillion anwyl iawn ar y ddaear, fod nifer mwy erbyn hyn o'i wir gyfeillion yn y nefoedd. "

Yr oedd ei feddwl, yn ystod y tair wythnos olaf, yn llawn iawn o fyfyrdodau am bethau crefydd. Yr oedd yr un fath ag yn ei fywyd, crefydd yn uwchaf, a'i bertrwydd digrifol yn dyfod i'r golwg yn awr ac yn y man. Yr oedd yn myfyrio yn wastadol am grefydd a'i phethau mawr, a chyffelybiaethau lawer yn meddianu ei ysbryd. Wedi bod yn myfyrio un noswaith am drefn fawr yr iachawdwriaeth, dywedal ei fod yn ei gweled hi yn ei ddychymyg fel trên mawr a hir. "Gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd," &c. " Yn yr Hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed Ef. " Dyna y first class. Mae y second class yn dyfod ar ol y pethau yna, —"A'u gweithred oedd sydd yn eu canlyn hwynt." Ddiwrnod arall, pan yr edrychai braidd yn brudd, cymhellid ef i bwyso ar yr addewidion. "Ydynt," meddai, "mae yr addewidion yn ddigon sicr. Dyna un peth sydd yn eu gwneyd yn sicr ydyw y Cyfamod; a'r llŵ hefyd— y Duw Mawr wedi myned ar ei lŵ. 'Doedd dim eisiau y llŵ, yr oedd y cyfamod yn ddigon. Rhyw clause a roddodd y Duw Mawr yn y weithred oedd y llŵ. Ar gyfer y diafol y gwnaeth y clause hwn; rhag i'r diafol geisio myned i fewn i chwalu y weithred, fe roddodd y clause yma i mewn ynddi." "Y breichiau tragwyddol odditanodd," hefyd. "'Rwy'n cofio'n dda," meddai, " glywed Evan Harries yn dweyd fel hyn,—Dyma i chwi freichiau, fe ddaw y rhai'n a'u cowlad adref i'r bywyd yn ddiogel.'"

"Os nad oes byd arall yn bod," meddai, ddiwrnod arall, "y mae yn edrych yn beth dibwrpas iawn i ddynion ddyfod i'r byd hwn. Welwch chwi," meddai, gan edrych o'i eistedd yn ei wely trwy y ffenestr ar y plant yn chware yn y pentref, "y plant acw yn chware—yn ymrwyfo—yn gwäu trwy eu gilydd trwy gydol y dydd. Rhoddi corff ac enaid i'r rhai acw, a'r cwbl yn darfod yn y byd hwn! Nis gall hyny ddim bod. Creu dynion i fyw yn y byd hwn am rhyw ddeugain mlynedd ar gyfartaledd, choelia i byth y buasai y Creawdwr mawr yn gwneyd hyn, heb fod rhyw ddiben pellach o'u creu. Paham y creaist holl blant dynion yn ofer?' Mi glywais Henry Rees, yn pregethu ar y geiriau yna. 'Rwy'n cofio'n dda fod ganddo gyffelybiaeth yn ei bregeth am Gapel Haiarn. Nid wyf yn gwybod pa un a ydyw y gymhariaeth i lawr yn y bregeth argraffedig a'i peidio. Yr oedd y capel wedi ei adeiladu yn y wlad yma ar gyfer rhyw wlad dramor, i'w ddefnyddio yno. Ar ol ei gwbl orphen rhoddwyd ef wrth ei gilydd, ac yr oedd yn edrych yn brydferth a hardd. Yn union deg, tynwyd ef oddi wrth ei gilydd bob yn ddarn, a synai pawb ei fod yn waith mor ofer, wedi gwneuthur y capel mor hardd, a'i dynu i lawr mor fuan! Ond yr oedd y dynion a'i hadeiladodd yn deall yn dda, ei fod i'w symud i wlad dramor, ac i'w roi wrth ei gilydd a'i gyfodi i fyny yno, ac i aros i fyny, yn lle i addoli Duw ynddo am flynyddau lawer. Yn y goleuni hwnw nid aeth y capel ddim yn ofer."

Dywedai y pethau uchod yn ei wely yn ystod y deunaw niwrnod olaf. Ac oddeutu canol y tymor hwn y cymerwyd y Parchedig Dr. Hughes, Caernarfon, i'r nefoedd gyda'r fath sydynrwydd. Ofnid y buasai clywed y newydd hwn yn peri tristwch iddo, oblegid yr oeddynt yn gyfeillion mawr, ac yr oedd newydd dderbyn llythyr oddiwrth Dr. Hughes, ychydig ddyddiau cyn myned i'w wely, yn yr hwn yr addawai ddyfod i Bennal i bregethu, ar noson waith, ganol mis Tachwedd, ar ei ffordd i Gymdeithasfa Aberdyfi. Mewn ffordd o dori y newydd trist hwn iddo, dywedwyd yn hamddenol fod rhyw rai o hyd yn myn'd i'r nefoedd, a bod y newydd wedi cyrhaedd am un ychwaneg wedi myn'd yno. "Oeddwn i yn ei 'nabod o?" gofynai. "Oeddych yn dda iawn—Dr. Hughes, Caernarfon!" "Dr. Hughes wedi marw!" meddai, "Dear, dear, dear; wel, mae'r byd yma yn llawer iawn gwacach, ac mae'r nefoedd yn llawer iawn llawnach. Y nefoedd pia hi; ïe, yn wirionedd ina', y nefoedd pia hi o ddigon!" Cyn i'r ymddiddan hwn ddarfod daeth Mrs. Rowland i mewn i'r ystafell, ac meddai ef wrthi, "Dyna un eto wedi myn'd; mae'n haws myn'd i ffwrdd, Mari; good news;" a throai wedi hyn at y pared. Tynai lawer o gysur o hyny i'r diwedd odiwrth y ffaith, nid yn unig ei fod yn cael myned i'r nefoedd at Dr. Hughes, ond ei fod yn cael myned yno megis yn ei gwmni. Dywedai wrth y wraig garedig oedd yn gwylio wrth erchwyn ei wely, " Pe buasech chwi yn newid dwy wlad; yn symud i America (yr oedd y wraig wedi bod yn America), ac yn cyfarfod yno â hen gyfeillion, a rhai oeddych yn eu hadnabod yn dda, oni fuasech yn llawen eu gweled!

Ond wrth fyn'd yno, erbyn cyrhaedd i Liverpool, pe buasech yn cyfarfod â hen ffrindiau ar y Landing Stage yn cychwyn i America, oni fuasech yn falch iawni o'u cwmpeini ar hyd y ffordd?" Yn debyg i hyn, teimlai yntau ei fod yn cael myned i'r nefoedd megis yn nghwmni Dr. Hughes. A chwmni iawn oeddynt i fyned gyda'u gilydd ar daith mor bell.

Congestion of the Lungs oedd ei afiechyd. Ni alwyd arno i ddioddef rhyw lawer, oddieithr pyliau o ddiffyg anadl ar brydiau. Wrth weled ei afiechyd yn myned yn 'fwy peryglus, galwyd ar Dr. Rowlands, Towyn, i eistedd mewn ymgynghoriad gyda Dr. Mathews, Machynlleth. Ar ol hyn, ymwelodd Mr. Rees Parry, Esgairweddan, un o'i gyd-flaenoriaid ag ef, wrth yr hwn y dywedai, "Y mae yma newid doctoriaid wedi bod, a newid meddyginiaeth hefyd. Ond nid wyf fi yn hidio fawr am hyny, mae gen i feddyginiaeth nad oes dim eisieu ei newid hi, a Doctor na fethodd o a gwella neb erioed."

Dywedai wrth un o'i gyfeillion un diwrnod, " Pe cawsai gynyg ar ail fyw ei oes yn y byd, mai yr un fath у buasai yn treulio ei fywyd."

Yn ystod ei afiechyd deuai llu mawr i edrych amdano, o bell ac o agos. Un diwrnod daeth bachgen bychan, yr hwn a fynychai y capel yn bur gyson—John Daniel Davies—at ei wely, ac meddai wrth y bachgen, "Wyt ti yn foddlon i mi gael myn'd i'r nefoedd, John Daniel?"' "Ydwyf—nac ydwyf." Yr oedd y bachgen yn ddigon boddlon, ond gyda iddo ddweyd y gair, tywynodd y syniad i'w feddwl ei fod am fyned i'r nefoedd y pryd hwnw, ac i hyny nid oedd yn foddlawn.

Yr oedd penteulu yn y pentref, yn fuan ar ol ei farwolaeth, yn holwyddori ei blant ei hun yn y ty gartref. Ymhlith y cwestiynau a ofynid, yr oedd yr un a ganlyn, "Pwy sydd yn y nefoedd?" Atebai y plant yn rhwydd—"Iesu Grist." "Nage," ebe un bychan o honynt, "nage, Dafydd Rolant sydd yno."

Ryw Sabboth y flwyddyn ddilynol i'w farwolaeth, yr oedd pregethwr oddirhwng y Ddwy Afon, yn Sir Aberteifi, ac mewn ymddiddan a hen Gristion cywir, yr hwn a adwaenai ardal Pennal er's degau o flynyddau, meddai yr hen Gristion, "Fe gladdsoch yr hen bererin!" "Do," oedd yr ateb. " Wel, fe gladdsoch y dyn goreu fu yn Mhennal erioed, 'does dim doubt am hyny."

Bu pob peth ynglŷn a'i fynediad trosodd i wlad yr addewid yn y modd mwyaf tawel a diofn. Dywedai wrth berthynas a ddaethai i edrych am dano, o fewn llai nag awr i'r munydau olaf, "Mae angau wedi dyfod, ond mae wedi dyfod heb ei golyn." Ni wiriwyd y geiriau hyny yn fwy yn hanes neb erioed nag yn ei hanes ef.-"Ni frysia yr hwn a gredo." Pennillion a roddodd lawer o gysur iddo yn ei gystudd oeddynt y rhai canlynol, ac wrth eu canu a'u myfyrio y cefnodd ar y byd hwn:—

Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th gynteddau ca'i dd'od,
Lle na fydd cyn'lleidfa yn ysgar,
Na diwedd i'r Sabboth yn bod ?
Dedwyddwch digymysg sydd yno,
Ni phrofwyd yn Eden mo'i ryw,
A llewyrch mwy tanbaid na'r haulwen,
Sef llewyrch o orsedd fy Nuw.

Mae yno gantorion ardderchog,
A'u Ceidwad yw sylwedd eu sain;
A'm brodyr sydd yma gant esgyn
Yn fuan i ganol y rhai'n ;
O ! Salem, fy nghartref anwylaf,
I'th fewn mae fy enaid a'm dd'od
Ac yno fy llafur a dderfydd
Mewn cân orfoleddus a chlod.

Canwyd y geiriau hyn yn ei angladd gyda nerth a theimlad anghyffredin.

Diwrnod mawr yn Mhennal oedd dydd ei gladdedigaeth, sef dydd Gwener, Tachwedd 10fed, 1893. Yr oedd wedi rhoddi gorchymyn penodol am gael ei gladdu o dan y drefn newydd. Nid peth bach oedd hyn yn Mhennal, oblegid ni chawsid neb o'i flaen ef yn ddigon gwrol i roddi y gorchymyn hwn, a lwyddid ryw fodd neu gilydd i ddychrynu y trigolion rhag gwneuthur defnydd o'u rhyddid, yr hwn sydd ganddynt byth er pan basiwyd Deddf Newydd y Claddedigaethau 1880. Cariwyd allan, fodd bynag, ei ddymuniad a'i orchymyn ef, a hyny yn hollol ddirwystr. Cyflawnwyd ei ddymuniad hefyd yn y trefniadau, er dangos ei anghymeradwyaeth i'r dull gwastraffus a chostus sydd yn y wlad gyda chladdedigaethau. Yr oedd torf fawr wedi ymgynull ynghyd, ac yr oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf parchus ac anrhydeddus a welwyd un amser. Gwasanaethwyd wrth y ty cyn cychwyn gan y Parchn. W. Davies, Llanegryn, a J. Davies, Bontddu. Wedi hyny cynhaliwyd gwasanaeth byr yn y capel, y man yr oedd ef wedi arfer addoli ynddo, lle na buwyd yn cynal gwasanaeth cyffelyb erioed o'r blaen, a siaradwyd yn fyr gan Mr. E. Griffith, Y.H.. Dolgellau, a'r Parchn. E. Roberts, Dyffryn, a G. Parry, D.D., Carno, Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hefyd gan y Parchn. E. W. James, y Borth; J. Evans, Llanfaircaereinion; ac E. J. Evans, Penrhyndeudraeth. Ac ar lan y bedd gweinyddwyd gan y Parchn. S. Owen, Tanygrisiau; a D. Evans, M.A., Abermaw. Heblaw y personau hyn a fu yn gweinyddu yn yr angladd, yr oedd nifer y gweinidogion a'r blaenoriaid o Orllewin Meirionydd, ac o'r cylchoedd y tu allan i'r sir yn dra lliosog.

Oherwydd dieithrwch y dull hwn o gladdu yn yr ardal, parchusrwydd y gynulleidfa, a threfnusrwydd a gweddusrwydd y gwasanaeth, gallwn yn hawdd ddychmygu—er mai claddedigaeth, a'i gladdedigaeth ef ei hun ydoedd—gallwn yn hawdd iawn ddychmygu gweled David Rowland yn dychwelyd yn ol i'w gartref yn Llwynteg, a'i glywed yn dywedyd y peth cyntaf ar ol cyraedd y ty—"Beautiful."
  1. Yr hyn a achlysurodd i Mr. Cadvan Jones ysgrifenu y llythyr hwn ydoedd, iddo daro yn ddamweiniol ar Gofiant Mr. Foulkes-Jones, tra yn aros yn y Borth, Sir Aberteifi, ac iddo gael hyfrydwch mawr iddo ei hun wrth ei ddarllen.