Gwaith Dewi Wyn (testun cyfansawdd)
← | Gwaith Dewi Wyn (testun cyfansawdd) gan David Owen (Dewi Wyn o Eifion) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith Dewi Wyn |
Dewi Wyn
Dewi Wyn.
Llanuwchllyn:
Ab Owen.
ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR
CONWY.
Rhagymadrodd.
AM Ddewi Wyn y dwedodd Islwyn, —"Uchelfardd Eifion, genius mwyaf hil Gomer yn ol fy marn i." A dyma farn beirdd, o amser Dewi hyd heddyw bron.
Ganwyd Dafydd Owen (Dewi Wyn) yn y Gaerwen, amaethdy ym mhlwy Llanystumdwy, Eifionnydd, ym Mehefin, 1784; yno hefyd y bu farw, nawn Sul, Ionawr 17, 1841.
Tyddynwyr medrus a darbodus oedd Owen a Chathrin Dafydd, rhieni Dewi Wyn; a bachgen caruaidd, tyner, a diargyhoedd oedd ei frawd ieuengaf Owen. Cafodd Dewi ysgol dda,-gyda William Roberts yn Llangybi, gydag Isaac Morris yn Llanarmen, ac wedi hynny ym Mangor is Coed. Daeth adre i amaethu wedi gorffen ei ysgol, ond parhaodd yn efrydydd ar hyd ei oes, gan dalu sylw arbennig i rifyddiaeth, cerddoriaeth, a hanes. Ond barddoniaeth a'i denai fwyaf, a phenderfynodd yn fore mai "amaethon boddlon a bardd" fyddai ar hyd ei oes.
Aeth ei frawd Owen i Bwllheli i fasnachu, ond dechreuodd ei iechyd ballu. Oherwydd hyn daeth ei fam a Dewi ato i fyw tua 1827, ond gan ddal y Gaerwen o hyd. Yn 1837 bu yr hoff Owen farw, a dychwelodd Dewi i'r Gaerwen, i fyw yno hyd ddiwedd ei oes.
Cwyna Dewi ar fywyd llenyddol Lleyn ac Eifionnydd; ond yr oedd iddo gymdogion agos o'r un anian ag yntau, megis Rhobert ab Gwilym Ddu, J. R. Jones o Ramoth, Sion Wyn o Eifion, ac Eben Fardd.
Blynyddoedd ei nerth oedd 1805 hyd 1820, pymtheng mlynedd disglair rhwng un mlynedd ar hugain o godi ac un mlynedd ar hugain o fachlud. Yn 1805 daeth awdl "Molawd Ynys Prydain," yn 1811 awdl Arwyrain Amaethyddiaeth," yn 1819 awdl "Elusengarwch," ac yn 1820 awdl "Cyfarch y Gweithwyr."
Fflachiadau disglair, gwreichion byw, sy'n ein tynnu at Ddewi Wyn. Yr oedd i'w feddwl nerth angerddol; a chollodd lywodraeth ar y nerth hwnnw tua diwedd ei oes; gorthrymwyd ef, gorff ac enaid, gan fflangell ei athrylith ei hun.
Cyhoeddwyd gwaith Dewi Wyn, "Blodau Arfon," gan Edward Parry yng Nghaer yn 1842; cyhoeddwyd atodiad gan H. Humphreys yng Nghaernarfon, yn 1869, dan olygiaeth Cynddelw. A chasglodd Myrddin Fardd bob pill a rhigwm a hanes oedd yn weddill i'r Llenor yn 1896.
- Rhydychen.
- OWEN M. EDWARDS.
Cynhwysiad.
MOLAWD YNYS PRYDAIN. Awdl Molawd Ynys Prydain,
a'i Hamddiffyniad rhag cenedl estron. [Cyfansoddwyd ar destyn y Gwyneddigion, 1805.]
I. Prydain. Annerch yr Awen. Amrywiaeth,—dyffryn, mynydd,
gardd, ffrydlif, rhaeadr, afon. Anifeiliaid. Trigolion
II. Hen Brydain. Hu Gadarn, Derwyddon, athrawon, saint, diwygwyr. Y Beibl Cymraeg.
III. Amddiffynwyr Hen Brydain. Caswallon, Caradog, Buddug, Arthur, Llywelyn, Owen Glyn Dŵr.
IV. Ein Prydain ni. Ei nerth. Dysg a Gwybodau. Gwaith a masnach.
Haelioni Cymdeithasau Llundain.
V. Amddiffynwyr ein Prydain ni. Y Môr a'i wyr,—Nelson, Cornwallis. Llaw Duw.
Gweddi'r Bardd.
ARWYRAIN AMAETHYDDIAETH.
[Ar destyn Eisteddfod Porthmadog, 1811.]
Cyfarch yr Awen. Dyddiau'r Cread. Gardd Eden. Llafur
Adda. Y Diluw. Hen Genhedloedd Amaeth. Amaethyddiaeth yn
newid wyneb y ddaear. Ei llawforwynion,—Fferylliaeth,
Dyfais, Llongwriaeth. Hu Gadarn, Coll. Wyneb Cymru'n
newid,—plannu coed, sychu'r môr. Trem ar olud Cymru.
Gair dros yr Amaethwr. Mis Medi. Amaethyddiaeth a Rhyfel.
Bara y Bywyd.
AWDL ELUSENGARWCH.
[Ar destyn y Gwyneddigion, Eisteddfod Dinbych, Hydref 6, 1819.]
Gwrthddrychau Elusen. Duwies Elusengarwch. Haelioni
Duw yn esiampl i ni. Brawdoliaeth dyn. Fewythr Wiliam.
Gwaith Elusen. Elusen a degwm, Duw a'r gweddwon.
Dysgeidiaeth Crist. Y cybydd. Yr Eglwys fore. Elusen
Crist. Elusengarwch yn dod i Brydain, cariad
ati, ei hadnoddau, Duw'n drysorydd, Treth y Tlodion,
Sior III. Elusengarwch yn mynd o Brydain i'r Dwyrain yn
ol.—Cydymdeimlad â'r Gorthrymedig, y Feibl Gymdeithas, yr
Efengyl. Caethwasiaeth i ddarfod.-Wilberforce. Howard, Carey.
Anghyfiawnder i ddarfod. Cyni'r gweithiwr. Cyffes y Bardd
GRUFFYDD DAFYDD O FRYNENGAN
AWDL CYFARCH Y GWEITHWYR, Ionawr, 1820.
Plannu coed. Gwerth coed.
BEIRDD CYMRU
I. Cof Goronwy Owen.
II. Beddargraff Dafydd Ddu Eryri.
III. Cyfarch Eben Fardd.
IV. Wrth ddarllen Salmau Nicander.
ENGLYNION PONT MENAI.
TORRI SYLFAEN MORGLAWDD MADOG.
OES DYN AC ANGAU.
BREUDER OES DYN
Y BARDD EI HUN.
I. Portread.
II. Wrtho ei hun.
III. Deg ar hugain oed.
IV. Englyn at y meddyg.
V. Mewn afiechyd.
VI. Adolygu ei fywyd.
VII. Mewn gwell profiad 110
Y Darluniau.
DEWI WYN, O'r darlun ym "Mlodau Arfon," 1842.
"Dygaf brif enwau digardd,—
Amaethon boddlon, a bardd."
CARTREF DEWI WYN—.S. MAURICE JONES.
Y RHAEADR — O ddarlun o Raeadr Mynach gan y CAPTEN BATTY.
"O'r creigiau, mewn parthau pur.
Ymdreiglaw mae dw'r eglur.
Elfen deneu, ysplenydd,
Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd."
Y GAERWEN fel y mae—O wawl arlun gan JOHN THOMAS.
A'i ddyled, fel Addolydd,—i ei Naf
Wedi cynhaeaf wneyd can newydd."
Y GWEITHIWR—ARTHUR E. ELIAS.
"Noswylio yn iselaidd,
A'i fynwes yn bres oer braidd:
Ba helynt cael ei blant cu.
Oll agos a llewygu?"
FFORDD MAUGHAN—O wawl arlun gan JOHN THOMAS.
"A da'r cof wedi'r cyfan,
Maughan am goed, minnau am gân."
PONT MENAI—O ddarlun gan H. GASTINEAU.
BEDD DEWI WYN, ym mynwent Llangybi—O wawl arlun gan OWEN EDWARDS.
"Er uniawn rodiad ar nen anrhydedd,
Awen oreunaws—egni a rhinwedd;
O dan y gweryd ei hun y gorwedd
Ein Dewi enwog, hynodai Wynedd;
A'i ddawn mawr (pwv ddyn a'i medd-a gollwyd,
Y bardd a fwriwyd i bridd o'i fawredd."
—JOHN THOMAS.
Y RHAEADR.
"Uchel-gadr raeadr dŵr ewyn.-hydrwyllt,
Edrych arno'n disgyn;
Crochwaedd y rhedlif crychwyn.
Synnu, pensyfrdanu dyn.
DEWI WYN.
YNYS PRYDAIN.
AWDL MOLAWD YNYS PRYDAIN A'I HAMDDIFFYNIAD RHAG
CENEDL ESTRON.
I. PRYDAIN.
MERCH nef wen, mam llawenydd,
Goreura deg reitheg rydd;
Da i anian dy eni,
Dedwydd o'th herwydd aeth hi;
Fy nyweddi, fun wiwddoeth,
Rinweddol, urddasol, ddoeth.
Derch dy oslef bêr nefawl,—wawd astud,
Ar destun mynegawl;
Dwg allan, yn deg ollawl,
Wir ddieithr gerdd ddoeth i'r gwawl.
O! anfarwol awen firain,
Gwau a darwain aeg awdurol,
Gathl ragorol, goeth lwyr gywrain,
I wen Frydain wiw'n fwriadol.
Ar brif-ffordd, osgordd weisgi—mewn gwir-barch,
Mynn gerbyd, dos drwyddi,
Hyd ddyffryn glyn goleuni,
Cyn adrawdd ei hansawdd hi.
Prydu a wnaf, llwyraf lles,
Olrheiniaf lawer hanes,
Yn mhrif geirdd pen beirdd y byd
Caf wreiddyn cyfarwyddyd;
Destl ethol dystiolaethau,
Yn bur o hyd i barhau;
Dilys wybyddys yn bur,
Hen dreiglau, yn dra eglur,
Carneddau, ac enwau gant,
Nid distadl, iawn y tystiant.
Pe bai hanesion pob ynysoedd,
Au henwawg gyn-hoedlawg genhedloedd,
Oll gar bron yn fawrion niferoedd,
Llin Prydain iesin a'i dinasoedd,
Bro wen ei hanes, a'i brenhinoedd,
A ewyllysiwn drwy'r holl oesoedd.
Dadgan nos, dangos wna'r dydd,—waith enwog,
Holl ddoethineb Dofydd;
Prif folawd y Creawdydd,
Dan y rhod, Prydain a'i rhydd.
Afrifed yw dyledion—rhai aned
Yn yr ynys dirion,
Moli Ner, am le yn hon,
Yw galwad y trigolion.
Ym pa araith, wemp orawr,—a gynnwys
Dy ogoniant tramawr?
Pa iaith? pa gerdd, gwerdd ei gwawr,
A dderlun dy ddaearlawr?
Odiaeth amrywiaeth mawr iawn—o wlithog
Daleithiau tra ffrwythlawn;
Mamaeth pob toraeth tiriawn
O heiniar lliwgar yn llawn.
Bro hardd aroglber yw hi,—bro llawnion
Berllennydd a gerddi,
Dyffrynnau, bryniau llawn bri;
Addurnawl y wedd arni.
Ar y dyffrynnoedd hyfryd ffriw enwawg,
Glaswyrdd orchudd gwiw lysiau ardderchawg;
Pob ffrwythau melysion, aeron eurawg,
Cain yw cynnyrch y llennyrch meillionawg,
A'u dewis goed blodeuawg,-pêr rawn cair,
Oreuwawr ddisglair ar irwydd osglawg.
Uwch y gwaelodion, iach a goludawg,
Wele'r bryniau a'r creigiau cerygawg,
Echrys ac uthrol ochrau ysgythrawg,
A mannau crebach uwch meini cribawg,
Gar parthoedd ardaloedd deiliawg,—cymoedd,
Mawrion fynyddoedd, a galltoedd gelltawg.
Edrych ar un o'i odrau—i'w hir ben
Ban yn y cymylau,
Caddug llwyd a gwyd yn gau,
Wisg addas i'w ysgwyddau.
I ddiosg hwn, twn to ôd-daw'n awel
O deneu-wynt uchod:
Gwelir deng mil o filod
Arno 'n byw dan amryw nôd.
Yn anrheg wrth angenrhaid—cawn wisgoedd
Cynnes gan y defaid;
Llaes yw'r wisg, dyd llysiau raid
Deg hardd-wisg gwiw-blisg gweu-blaid.
O'r creigiau mawr caerogwyrth,
Lliosawg, poblawg eu pyrth,
Hybarch ydyw eu hebyrth—yn ddisglair,
Mwnai a gair, a main gwyrth.
Gwelir oddiar freich—hir fryn
Dewffrwyth amryliw 'r dyffryn,
Glaswellt, ardderchawg lysiau
Gloewon, perarogl ein pau;
Ar fronnydd y coedydd cain
Dilledir à dail llydain;
Gwiw ednaint ar wydd gwydnion,
A'u ffraeth brydyddiaeth bêr dôn,
Canmawl yn hyfrydawl frau,
Eurog engyl ar gangau,
Difyrru â'u llefau llon
Wybren nefawl, bro Neifion
Gerddi lle sang ar gangau—eirin pêr,
Aeron, pob afalau,
Dan gnwd o heirdd dewion gnau,
Ymyrrant wrth y muriau.
O'r creigiau, mewn parthau pur,
Ymdreiglaw mae dwr eglur,
Elfen deneu, ysplenydd,
Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd,
Rinweddol o lesol, lân,
Loew, oeraidd, o liw arian.
Uchel—gadr raeadr dŵr ewyn,—hydrwyllt,
Edrych arno'n disgyn,
Crochwaedd y rhedlif crychwyn,
Synnu, pensyfrdanu dyn.
O'i ffynhonnau golau gant,
Y ffrydiau hoff a redant,
Dylifedd yn dolefain,
Lle chwery pysg yn mysg main;
Yr afonydd drwy faenor
Yn dwys ymarllwys i'r môr;
Grisial ar y gro iesin,
Drych y ser:—dŵr iachus in'.
Pob pysg yn gymysg mewn gemau,—llanwant
Y llynnoedd a'r teiniau;
Eogiaid—pob rhyw heigiau,
Mawrion gyrff drwy 'r mŷr yn gwau.
O anifeiliaid sy 'n felys—luniaeth,
O, lawned yr ynys;
Saith ddeng muwch a ymddengys
Ar y ddôl draw ger llaw 'r llys.
Heb rus, hoewon ychen breision uchel,
Meirch chwai, gymaint a nemawr wych gamel,
A cheirw, a bychod, chwareu heb ochel
Y maent, a hyrddod, mintai i'w harddel;
Daw'r asyn llwyd—warr isel—i'w dychryn
A'i nad—lef, er ennyn dilofr annel.
Rhai milod ar y moelydd—wych yrroedd,
Moch hirion mewn meusydd;
Yr ŷch a'r march drwy barch hydd
A'r carw o fewn ceurydd;
Mor ystwyth, chwimwth, a chwai,
Llamant, chwareuant, wych ryw,
Crochfloeddiant, hwy ruant rai;
Gwyllt a gwâr a gâr ei gyw.
Glân heirdd ei thrigolion hi,
Yn ysgawn rodio 'n weisgi;
Llawen, a bachgen heb ofn
Niwed gan filyn eofn.
Mwyn awen i'r menywod,
O egni glâs a gân glod;
Gwridog a hawddgar ydynt,
O lun a gwedd Elen gynt;
Delwau o lendid Olwen,
Naturiol waed Trywyl wen.
Mun weisgi uwch main esgair,
Mewn tlysau golau a gair;
Gemawg wen, meddaidd enau,
Angyles, arglwyddes glau.
Tra enwog wladwyr, yn trin goludoedd,
Mor wychion ydynt, yn y marchnadoedd,
Blagurog a dewr fywiog dyrfaoedd
Yn syw dwyn ysgawn sidan wisgoedd;
Aml ddisglair ddiwair ddeuoedd—yn diflin
Hoew droediaw 'n iesin drwy y dinasoedd.
Gar dyfroedd hoff lifoedd fflwch,
Tan irwydd mewn tynerwch,
Yn gwau ceirdd ceir y beirddion,
Eres hil, yn yr oes hon.
Gloew asur iach bur uwch ben,
Llawn o adar, llîn Eden;
Awelon oerion araf
Drwy hon yn cerdded yr hâf;
Adferu 'r claf, llesg, afiach;
Bywiogi, sirioli 'r iach.,
Gwlawio defnynnau gloewawn,—ac wedi
Y cawodydd maethlawn,
O derydr haul nef diriawn
Daw 'r gwres i addfedu 'r grawn.
Yna llifeiria holl fawredd—melys
Yr ynys, a'i rhinwedd;
Blodau gwynion, meillion, medd,
Yd, a gwîn, pob digonedd.
Er dydd Coll,[1] ddigoll ei ddawn—gnawd i hon
Gnwd o heiniar ffrwythlawn;
Gwisgir y grwndir â grawn,
A'r irwydd â phêr aerawn.
Mi fum glaf mewn caethaf cur,
Anaele oedd fy nolur;
Gwaelaf ddrych, gan nych, gwan iawn
Dygwyd fi at Gadwgawn;
Yn fanwl y'm hanfonai,
Ar frys, er mawr chwys march chwai,
I'r ddedwydd bau, olau, iach,
Hen Walia, ple anwylach?
Iechyd a geis heb ochi,
O'i hâr hardd a'i hawyr hi:
Difyrrach i'm hadferyd,
Glân barth, nag elïon byd.
Hyfawl, hardd, dihafal hon,—gan enwog
Anianol gynyrchion;
Yn drafflith pob bendithion,
I'w thecâu o radau'r Iôn.
II. HEN BRYDAIN.
Da i hon oedd dyfodiad Hu—Gadarn,
A'i giwdawd addwyngu,
Mewn hedd i gyfaneddu,
Ddidrais lwyth, a dirus lu.
Ffraw bennaeth o Ddeffrobani,—neud dewr
Anturiodd y weilgi!
Chwimwth a'i leng uwch maith li
Chwai 'r hwyliodd uwch yr heli.
Yr helaeth dir rheolynt,—gwyr moesawl
A grymusion oeddynt,
Ac undeb cadarn arnynt,
Unawl gorff er Dyfnwal gynt.
Y gwyr da oll coffaer,
Wych saint, tra llewyrcha ser;
O iawn barch eu henwau byth
Yn ddilyth tragwyddoler.
Eu cais gynt, dda hynt, oedd hau
Had addysg yn eu dyddiau.
Celfydd er Coel a fu ddoeth:
Syw er Morddal, saer mawr-ddoeth
Yn annatodol y gwnaeth ein teidiau
Ar y tiredd y cestyll a'r tyrau;
Do'r magwyrydd a'r uchel-drem gaerau,
Hynod oludawg hen adeiladau.
Cywrain gerfiaw âg eirf minia wg,
Tyrau a llysedd tra lliosawg;
Gwneyd ein goror gannaid yn gaerawg,
Nes bai 'n eglur ynys binaglawg.
Ein hynafiaid o'u hanian wiw—faith,
Hynod eu craffter i wneyd crefft waith,
Elwig, wyrenig, loew gywreinwaith;
Ac ni welir ail eu cynilwaith.
Calondid uwch cul wendon—câs Madawg
Symudodd yn ddigllon,
I faith Americ o Fôn
Mordwyodd uwch mŷr duon.
Gorhoff, cyn taid Cristopher,
Hwylies hynt wrth haul a sêr,
Uniongyrch dewrgyrch deirgwaith
I for yr Atlantic faith.
Ail Nefydd hylaw nofiwr—ar wyneb
Yr ewynog ddyfndwr;
Rhwygai 'r donn ar gaerau dŵr
Cawr o fonedd Corfinwr.
Hoew Brydeiniaid ewybr eu doniau,
Hoffi pêr fiwsig, a phob prif foesau;
Golygus giwdawd gloew eu gwisgiadau;
Hen wyr diarchar yn eu haurdorchau,
A'u gleiniog droiog fodrwyau—mawrion
Ein tir, a'n Derwyddon tra hynod raddau.
E fu Drywon à gleiniog fodrwyau,
Gwyr dysgedig ag euraid wisgiadau;
Bore astudient, wiw barhaus deidiau,
Yn y toreithiog anturiaethau;
Gwiw eu hurddedig gyrhaeddiadau:
Deall p'le y nadir, dull planedau;
Am sêr gwibiedig mwys ragwybodau;
Lled ragwelediad o'r holl dreigliadau.
Trwy ddeall llachar treiddiai Llechau
Drwy fro anian a'i dirfawr rinau;
Iddo ymrithiodd amrywiaethau
Meirw a bywion amryw bauau,
A phraw' didwyll amgyffrediadau
I'w law fanwl,—teimlo 'r elfennau,
Gwalchmai, Rhiwallon, hyfedr ddoniau
Twymn y trwythent mewn naturiaethau.
A chlau wybodau i'w ben—o leiniawg
Olwynion yr wybren,
Gwyn ab Nudd gwynebai nen,
A'i fyfyr drwy'r ffurfafen.
Hen Idris a fu 'n edrych—ar wyneb
Serenawg yr entrych;
Deallai drefn, dull, a drych,
Y lluon glân eu llewych.
Arwyddion lladmeryddiaeth—adwaenid
Gan eu doniau helaeth;
Eu dawn uwch ben i nen aeth,
Doniau goruwch dewiniaeth.
Gosod deddfau, cyfreithiau i Frython,
Yn wiw wrth reol a wnai 'r athrawon;
Ar goedd eu brenhinoedd barnu 'n union,
Gynt mor enwog oeddynt yn Mryn Gwyddon;
Ar orsedd oleuwedd lon—areithio:
Ow in' droi heibio un o'u diarhebion.
Caboli 'r iaith â'u cwbl rîn,
Helaethu a harddu hon;
Diod bêr, a mêr, i'r mîn,
Loew gref frwd ni lygra fron.
E fu yn harddu 'r fan hon
Ei thrioedd a'i hathrawon;
Adwaenynt, profynt bob rhan
O rinwedd amryw anian.
Eilyddion gorfoleddawl,
A chlau dafodau o fawl;
Iawn wyddynt awenyddiaeth
Cadeirfeirdd a phrif—feirdd ffraeth;
Pur o ddysg Perri a ddaeth—cyflawnddysg
Gwyrth addysg areithyddiaeth.
Daeth i'n mysg dda fawrddysg y ddau Ferddin,
Yn gynarawl, a'r enwog Aneurin,
Dillyn a didwyll yn ei Ododin:
Gwawdiaith eiliasant gyda Thaliesin;
A'u miwail geirdd mal y gwîn—Dafydd mwy
Enwer, a Gronwy yn un o'r grawnwin.
Drwy ddawn ffroch adroddion ffraeth,
Er dydd Catwg ddiwg ddoeth;
O ddysg hen Gambold e ddaeth
Lythyreg gall, lithrig, goeth.
O ddilwgr grefyddolion,—cêd iawnddoeth,
Caed ynddi enwogion;
Llawn o addysg llenyddion,
Tra hen saint yr ynys hon.
Gwlad rydd i grefydd y Grog,—er Lleirwg,
Wr llariaidd eneiniog;
Yn rhestr y saint, braint ein bro,
Ceir enwau gwyr coronog.
Tros eu ffydd gref goddefynt
Lid creulon gwyr geirwon gynt:
Blin ormes Dioclesian,
Chwerw echrys, cai 'r ynys ran;
Rhufeinwr hagr hyf ennyd
Arteithiai, dirboenai'r byd.
Baeddwyd, Och! Gan Babyddion—yn Is Coed
Ddysgedig enwogion;
Diodde 'n brudd eirf llofruddion,
Santaidd weis hwynt i Dduw Iôn.
Ond llu o Gymru a gaid
Yn ddilwgr eon ddeiliaid:
Tarawsant gâd y treiswyr,
Bob gradd, gan eu lladd yn llwyr.
Er cael y gwawl a'r gair coeth
I'w gafael, nefawl gyfoeth,
Nifwl dros ein henafiaid,
Nos erchell ar gell a gaid.
D'ai chwil—lŷs diochelyd,
Anghenfil, bwystfil y byd,
Dan yr orthrom freichdrom fryd—erlidiawg
Ferhoedlawg Fari Waedlyd.
Dau Iago 'n llarpio mewn llid;
Dau Siarlys fu'n dwys erlid,
Cymylau ar gyrrau 'r gwawl,
Ar guddio 'r Haul tragwyddawl.
Dyma ryddid am roddi—i'r ynys
Wawr anwyl goleuni
Loer newidiawl wen;—wedi
Da lan haul i'w dilyn hi.
Darfu, Prydain gain, dy gur,—dadebra,
Dy wybren sydd eglur;
Gwel rosyn goleu 'r asur,
Nefawl fflam yn ufel fflur.
Duw a gyfododd, diau gofiadon,
In', y Diwygwyr, ei weinidogion,
Wrth air Ridley a'i wir athrawiaeth radlon,
Cranmer eilwaith, y crynnai marwolion:
Hwy arddent, arloesent, wrawl weision,
Ein bro oer anwyl, hen bererinion:
I'r fro bu 'r ysgall, a'r efrau breisgion,
Y ceir gwinllannoedd caerog yn llawnion.
Y lle unwaith bu dylluanod,
Wele, mae yno golomennod;
Yn lle rheibiawg ryfelawg filod,
Didwyll eglwys, diadell wiwglod,
Dyroes ergydion, dirus rwygiadau,
Yn yr uffernawl, angiriawl gaerau,
Drwy Harri frenin, â'i lîn o lwynau
Syr Owain Tudur, oeswr o'n teidiau.
Trwy'r deyrnas, o ras, wiw rodd,
Rhyddid wridawg, hardd droediodd;
Efengyl, anwyl, union,
Yn llaw, yn neheulaw hon:
Drwy William, da reolaeth,
I'r ynys dilys y daeth.
Gwydden frigawg, nerthawg nodd,
Mawladwy yr ymledodd
O'n bro dros lyrau yn brid,
Cyrhaeddodd ceinciau rhyddid.
Siriol arlwyddes eirian,—goronawg,
I'r ynys yn gyfran,
Hyd ennyd marwnad anian,
Boed onid el byd yn dân.
Rhynges bodd i'r Iôn roddi
Haul nef i'n goleuo ni;
Ei ddoeth Air coeth, athraw cain,
Yn ein hen—iaith wiw 'n hunain.
Rhodded areithwyr hyddysg
Egni dawn yn eigion dysg.
Er cof fyth o'r cyfieithwyr,
Sal'sbury, a Pharry, hoff wyr;
Hoff enw'r golygwr glân,
Mawryger Wiliam Morgan.
III.—AMDDIFFYNWYR YR HEN BRYDAIN.
A geir adrodd gwrhydri
Ein gwychion henafion ni?
Hwynthwy a ddiffynnynt hon,
Weis dewraf, ynys dirion.
Brodyr iawn ddewrion mewn brwydrau'n ddirus,
Cyd-redeg, heb atreg, yn ddibetrus,
I ladd arfogawl luoedd rhyfygus,
A'u trywanu mewn modd truenus.
Dilwgr waelod yn dal gwroliaeth,
Megys Eidiol gyflymgais odiaeth;
Llymion eryron oll mewn aerwriaeth,
Teirw 'n hwylio, anturio 'n helaeth,
Llarpio, rhwygo rhywogaeth—plant estron,
Baeddu gâlon mewn buddugoliaeth.
Er gwyr arfawg, tariannawg, terwynion,
Ni rusent, ymroddent: O, mor ryddion!
Wynebent, anturient: onid dewrion,
Drywanu milwyr â'u dyrnau moelion?
Llwyr ofer i Humber hyll
Gyrchu yn arfawg erchyll;
Er chwai-gyrch ei farchogion,
Todd lli deifr Abi ei fron.
Y Prydeiniaid tanbaid, dewr,
I'w rhwygo, a'u llarpio 'n llwyr;
Gloewent, defnyddient yn awr
Gleddyfau a dartau dur.
Dyffestin mewn trîn hynt drom
Is cadr Efrog drylliog drem,
Maluriai Ffrainc, milwyr ffrom,
A'u difa drwy laddfa lem.
A phlaid ein henafiaid, hoew iawn nwyfiant,
Enwog wiw genedl yn ei gogoniant,
Ynfyd oedd ceisio lluddio ei llwyddiant;
Rhufeiniaid, gormesiaid, ymgrymasant,
Yn gwbl rif rhag Beli 'r ânt—dros fagwyr,
Eirw gerth aerwyr er eu gorthoriant.
Pau Prydain llawn pob rhadau—derchafed
Drwy 'i chyfoeth a'i breiniau
I nen;—ond drwy gynnen gau,
Addfedodd i ofidiau.
Gwae wired yw y gair doeth,
Y daw gofid o gyfoeth.
I atal llesmair calon,—y gwinoedd,
Rhowch i'm genau weithion,
Tra bwy 'n adrawdd ansawdd hon,
Tan helbul gwlad hen Albion.
Daeth Rhufeinwyr, gormeswyr grymusion;
Rhifai Iwl Caisar ryfelawg weision,
Liosog lu enwog, dilesg elynion,
A'u cais hollawl yn erbyn Caswallon:
Saethu er brathu'r Brython,—yn gelfydd,
Mal rhyw gawodydd eu haml ergydion.
A chref faniar goruwch y Rhufeiniaid,
Er eu dinistr, chwai a fu'r Prydeiniaid,
Nes trywanu y creulawn estroniaid;
Tra anhoff i'w dewrion troi'n ffoaduriaid.
Afarwy fradwy frodor, Gwawdd
Iwl, traws feddwl, tros fôr;
Herwr ffrom, o'i ddwy siom syn,
Ymliwiai, malai ewyn;
A'i fywyd o byd i'w bau
Dychwelodd; do, i'w chiliau;
A'i ryfyg yn arafu,
Gaisar fawr digysur fu.
Mor enwog ydych, hen Gymry 'n gadau,
Cywir i'ch brenin ceir eich bronnau;
A'ch gorwibiedig fachawg gerbydau,
Moch y chwilfriwiwyd, rhwystrwyd eu rhestrau,
Llwyr rwygwyd eu llurygau;—arfogol
Luon addurnol, wele hwy 'n ddarnau.
Syllu yn wrol Caswallon eurwedd
Y bu 'r clau wyneb ar y celanedd;
Enwog ryfelwyr, d'ai mewn gorfoledd
Yn oll o'i wersyll i'w freiniawl orsedd.
Anghydfod, hell dyngedfen,
Naws o wae i'r i'r Ynys wen!
Y Gaerwen
Brad marwol ysbryd Meirig,
Gwawdd gâlon dewrion a dig.
Plocyn y gelyn a gaid,—a Gloew,
Uwch glewion Rufeiniaid,
A'u mwythion Fehemothiaid:
Rhag y rhain, Ow! plygai 'n plaid.
Cŵyn i filwyr Cynfelyn,—o'u gostwng
Dan gysteg llu 'r gelyn;
Ar wasgar er goresgyn,
Eu rhwysg ataliwyd ar hyn.
Cardawg alluawg, digoll, eon,
Gwrolwych ef, a'r dewrwych frodorion,
Orhyfion luedd, a'u heirf yn loewon,
Blaenor ydoedd mewn trinoedd terwynion;
Rhag ei air gwelwai 'r gâlon;—eryr craff,
Er gwneyd llwyr wastraff ar gnawd llu 'r estron.
Dirus wyr grymus ar grwydr—ormeilwyr,
Malodd hwynt fal glas-wydr;
Ymlidiodd wyr mawladwy,
Drwy egni braich drugain brwydr.
Aregwedd dromwedd ei drych,—o'i dichell
Bradychodd y dewrwych;
Wrth gofio hon, bron ci brych,
Ar nadredd yr wy 'n edrych.
Holl ryfelwyr, baeddwyr byd,
Pellenig, grwydredig draed,
Ein hoff fro gain wen ei phryd,
Drwy drin groch fu 'n goch o'u gwaed.
Tiriodd y gwylliaid dewrion,
Yn llu mawr, i ennill Môn;
Eu cyllyll a'u picellau,
A'u gwaewffyn,Och! goffhau.
Dagrau hyd ruddiau Derwyddon,—briw dwfn
A'u brodyr yn feirwon,
O afrad rhuthr y frwydr hon,
Gwae oer ofid gwyryfon.
Hen Dderwydd llesg yn ddirym,
Saeth ddi nawdd yw adrawdd im,
Ymfwriai mewn myfyrion,
Yn ddwys â phwys ar ei ffon;
Ow! a deigr hallt y gŵr hen
I'w ruddiau dan dderw wydden;
Gan ludded caled, wr cu,
Y gwasgwyd ef i gysgu.
Tybiai 'n rhwydd weld Derwyddon
O'i amgylch yn llwyd—gylch llon;
Wrth eddyl areithyddiaeth
Deffroed gân ei dafod ffraeth;
O ethryb cael siom, athrist
Ymrôdd, e drengodd yn drist.
Gwae Arfon, a'i hydron hi,
Mewn galar trwm yn gwelwi;
Llesmeiriawg, frwynawg fronnau,
Trais tost oedd yn eu tristhau;
Eryri 'n well yr awrhon
I'w brodawr na maenawr Môn.
A Môn dan wastraff min dinistrwyr,
Tarawai Buddug etwa 'r baeddwyr;
Haedd ganmoliaeth: O, egni milwyr
Llas y gâlon, lliosawg wylwyr.
Da deg Fuddug, odidog o foddau;
Eurawg felynwallt, modrwyawg flaenau,
Yn llaes a guddiodd ei holl ysgwyddau;
Goraddurnol wddf ac arddyrnau,
Hir-gariodd, hoew-wraig orau,—mewn lliwgar
Orloew dabar, wiw wrol dybiau.
O mor gu gwbl lu gwiw blaid
Yn brîd iawn o Brydeiniaid;
Er digwydd ei haflwydd hi,
Tueddes graig at doddi;
Cyd gwynodd, gwaeddodd y gwynt,
Afonydd a gwynfanynt;
Da oedd un alarnad ddwys,
Cerdd Teifi yn cwrdd Tafwys;
Si ereill yn cysuraw
Trist feirddion pendrymion draw.
Is Sefer, echrys ofid,
Rhwyg llwyr ymgrymu rhag llid;
Mawrhydri 'r ymerodraeth
Dileu 'n gwyr, i'n dal yn gaeth.
Wedi bod mewn trallod trwm,
Yn wrthddrych creulawn orthrwm,
Tynnwyd, dirymwyd yr iau,
Datodwyd, do, y tidau.
Ond wedi 'r rhyddhad odiaeth,
I'w gollwng o'r cyfwng caeth;
Deuai i Frydain, i'w difrodi,
Germaniaid, a gwylliaid o Gelli,
Gwyddyl, Brithwyr, ymdyrwyr di ri',
Hil hen grwydriaid gelynawg Rodri.
Dacw erlynwyr, dig greulonwaith,
Yr aneddau a'r tyrau 'n oddaith;
Ie 'r dinasedd ar dân noswaith,
Gan fflamau brwd olau bu 'r dalaith.
Y beirddion gweinion dan gur,
Heb destun na b'ai dostur;
Arwyddfeirdd yn cyd riddfan,
O frwyn dwys, a'u llyfrau 'n dân.
O brinder nifer, bu 'r dewr henafiaid
A braw o berygl o flaen barbariaid,
Anffawd aruthr, yn ffoaduriaid;
O warth rhag rhydraws ruthrau crwydriaid
Mewn og'fau neu gloerau galarynt,
Y beichiogion yn welwon wylynt,
Mewn cilfachau 'n mhlith main clafychynt;
Ar weis gwrol yno 'r esgorynt,
Y rhai 'n gadau dewrion a godynt,
Yn ngwaed trechwyr eirf angau trochynt.
At wyr Ogygia troi gwegil—Brithwyr,
Ar ôl Brython eiddil;
Clybu Rufain, hoewgain hil,
Eu du gwynion di gynnil.
Danfon cwyn, mewn brwyn a braw,
Trallodaidd at wŷr Llydaw.
Gwawdd cadawg eiddig gedyrn,
Gwarth hyll, a orug Gwrtheyrn;
A'i fab chwai, gwae fi, bu chwyrn,
Gwallgofus, fradwrus deyrn.
Ond dacw ben llawenydd:
Gwrthefyr ar fyrr a fydd;
Ac Emrys, enwawg Gymraw,
Yn dal drwg hell genedl draw;
Ac Uthr, iawn aruthr y nod,
Trwy derfysg, tri diorfod;
Ond llâs hwynt, nid o wall saeth,
Er dewred, drwy fradwriaeth.
Os yw gyfyng is gofwy—ar Brydain,
Wedi 'r brad ofnadwy;
O'r wlad hardd i'w herlid hwy
Cawn Arthur i'n cynorthwy.
Llu 'r Sais, bid yn llwyr y son,
A fedodd yn arfodion;
Y cefnfor, trwm ruo 'r oedd,
Achwyn o ddwyn byddinoedd;
Ail diddim ar led oeddynt;
Sofl, neu gawn, us o flaen gwynt;
Clodfawr, â'i gledd Caledfwlch,
Gwnai 'r brenin drwy 'r fyddin fwlch.
Pery yn hir ei glir glod;
Madru wna enw Medrod.
Ei lon olygon di lid,
Glain neu berl goloewa 'n bod:
Dychryn i'r gelyn a'i gad,
Tân rhuddgoch croch dros ben cred.
Llywelyn ddiball eilwaith,
Caffai rwysg; coffheir ei waith;
Ar for a thir hir barhau,
Heb ludded, llew 'n lladd bleiddiau:
Gan hil y Cymry dilyth
Bydd caniad ei farwnad fyth.
Ein gwrol enwog aerwr,
Un glân deg Owain Glyn Dwr;
Owain er Prydain wr prif,
O'r dewrion aerwyr dirif;
Bu 'r dewraf o'r brodorion
Gynt a fu o Gaint i Fon.
O na buasai yn bwysig—i'n dwyn
Oddi dan iau Seisnig,
Gan Owain, ar ddamwain ddig,
Lu odiaeth Maxen Wledig.
Hen wrolion gwychion gant,
Mawryger hil Gomer gynt;
Trwst bys gwyn ar dynn aur dant,
Yw coffhau eu henwau hwynt.
Colli Lloegr wlad glodadwy,
Och o'r modd, o'u hanfodd hwy.
Nid cais na malais milwyr,—nid arfau,
Neu derfysg ymdreiswyr;
Diochel waith bradychwyr
Oll oedd yr achos yn llwyr.
Dan Iorwerth ddidynerwch—wylofus
Gyflafan a thristwch;
Anhoff lid i'r beirddion fflwch,
O'u gwrol dueddgarwch.
Beirdd a bôn ffyddlon yn ffoi,
Gan anheddwch drwch di drai,
Min y cledd awchlym yn cloi
Grymusion, wrolion rai.
Gan fraw, a cholli 'r awen,
Caid bardd nas codai ei ben;
Dan gur ffoadur ydoedd—
A gwae fi, y gaeaf oedd.
D'ai 'r eos gyd a'r wyalch,
Canai bwnc, o enau balch;
O'i hun yn gytun d'ai 'r gog
Er dyddanu 'r diddonicg;
Tri thant crwth, traethynt eu croew
Dri mein-lais yn dra mwyn-loew;
I'r mud ben d'ai 'r awen rydd;
Bu dirion yn bedwerydd
Main y graig wen, gymen gôr,
Llon gyd—dôn gar llaw 'n gwatwor.
Er llid, er gofid, mor gu—er Tydain,
Mae'r teidiau yn prydu,
O wir reddf cynneddf canu,
Gwiw ddawn hed Gwyddon a Hu.
Yn mhob oes a gwiw-foes gant
Caid priffeirdd, wyr heirdd ar hynt;
Celfydd er Plennydd yw 'r plant,
Mal Alon a Gwron gynt.
Er tân flamawg deirt anhoff lymion,
A heigr ruthriadau gwŷr athrodion,
Y lleill â'u miniawg gyllyll meinion,
Uthr y bradwriaeth i'r brodorion;
Er cael adfyd, gan waedlyd genhedloedd,
Drwy greulon ymryson amryw oesoedd;
Wele o'r genedl lawer o gannoedd,
Ddianaf ddynion, heddyw 'n fyddinoedd.
Er i'r Sais mewn trais ein trin,
A dwyn ein gwlad, brathiad bron,
Cymraeg wir hen—aeg o'i rhin,
Ein gwir hawl pob gair o hon.
Ai er ei mwyn, eiriau mêl,
O'n ciwdawd hen cadwed hîl?
Tra rhed gwaed nac aed dan gel;
Parcher hon gan feirddion fil.
Bras Walia a breswyliwn;—ein helaeth
Aeg odiaeth a gadwn;
Ein Ner bythol a folwn,
Trwy hedd o fewn y tir hwn.
IV. EIN PRYDAIN NI.
Brenin Prydain, gain gynnor,
Pen llywiawdr, ymerawdr môr;
Ei goron yn blaguro
Ar ei ben yn hir y bo.
Siors addfwyn is ei orseddfainc—cydwedd
Yw tair ciwdawd Prydain;
Cadwyn sy 'n ffrwyn yn safn Ffrainc:
Gwae i'r Twrc er y teir-cainc.
Brawdgarwch, ysbryd gwrawl—yn gyswllt
I'w gosawd yn unawl,
Cadarn deyrnas urddasawl
Ynt yn hon, un fraint, un hawl.
Byddinoedd, lluoedd, ar eu llwon
Milwyr, enwog wylwyr un galon;
Rhag gormeswyr, dig aerwyr geirwon,
Galanastra, gelyn neu estron.
Blodau brithion, neu ser cochion,
Braw gelynion, brig—lu enwawg;
Meirch, marchogion, chwai grymusion,
A greddf eon, gwawr ruddfâawg;
Pob graddolion, dan eirf gloewon,
Is llywyddion, weis llueddawg;
Pob cerddorion, a'u lleis mwynion,
Oll ymuno 'n gorff llumanawg.
Mab erlid yn ymbarlu—â Phrydain
Hoff wridawg dan wenu,
Dewr megis yn dirmygu
Ei nifer lawn a'i fawr lu.
Weithiau nesu, wyth wae 'n ei woseb,
Am ein cusanu mewn casineb;
Ar randir ei erwindeb—ninnau,
O'n peiriannau 'n poeri i w wyneb.
Trefn natur, mesur moesawl,—wych hoewfraint,
Ei chyfraith freninawl,
Dwyn yr iau, dyner reawl,
A wna 'r byd yn fyd o fawl.
Prydain, neud mirain y modd—llaw freiniol,
Llyfr anian egorodd,
I'r holl ynys darllennodd;
Bu'r araeth bêr wrth ei bodd.
Mor hafaidd ym, er rhyfel,—pe ba'i modd,
Pob math yn ddiogel;
Tal d'wysog, tylawd isel;
Pob rhyw radd yn gydradd gwel.
Trefna Sior, a'i gynghoriaid, —seneddwyr,
Sy'n addas flaenoriaid,
Rhoi glywiau a rhaglawiaid,
Swyddogion, gwbl eon blaid.
Harddach, rhagorach i gyd
Heddyw, gwir yw, nag erioed;
Hawddamor tra byddo'r byd
I Frydain Fawr bob awr boed.
Diysgog bid ei dysg a'i gwybodau,
Prawfo'i holl wiw-fraint, pwy rif ei llyfrau?
A'i goleuaf ddidawl gelfyddydau,
Creiff, wyrenig, gywir offerynau;
Arbed lludded drwy allweddau—gwyrthiawg,
Wych a mygedawg ddychmygiadau.
Y bryniau diau dyall
Dirgel-iaith berffaith, ddi ball.
Banerawg bennau oerion—llawn geiriau,
Ond eu tafodau ydynt fudion;
Etwa nhwy waeddant y newyddion
Mor uchel nes el yn son-goffrydiawl
Am eu hydreiddiawl ymadroddion.
Gwisg orfoneddig ysgrifenyddwaith,
Tŵr gwlad yr addysg, trigle adroddwaith:
Y gwiwdeg lenni a gwawd, a glanwaith
Llwythir â geiriau llithrig araith.
Ar deneuwen len cyflwynaw—mynag
Manwl lafar distaw,
Aeg lâd i'r llygad o'r llaw,
I'r un byddar yn buddiaw.
Pob dinas yn urddasawl
Gan sain clych mynych eu mawl;
Yr organ a'i harwrgerdd,
Mân dannau yn cydwau cerdd;
Try 'r tabwrdd, agwrdd ogylch
A'i gref gainc, ag eirf o'i gylch;
Yr udgorn ar barodgais
A dery glir droawg lais;
Gawrio yn groch, ffroch, a ffraeth,
Yn wrol mewn blaenoriaeth.
Pob offer cerddbêr er cynt,
Er dydd Cellan a'i aur dant;
Gwau pob llais a'u hadlais hwynt,
Dan fys, ac wrth felys fant.
Dirus uwch rhawd dyfnderoedd
Aml ddrylliawg, gyflegrawg floedd,
Tyrfau mal taranau 'r wybr,
Rhŵth ruad, â rhuthr ewybr.
Gwreichion fflamau goruchel,
Mŵg yn dyrch a gyrch heb gêl
Yr un modd ag uwch goddaith
I'r wybren fry, bro wen fraith.
Ffyrdd Masnach.
Yn wirfoddol un a orfyddai
Am iesin wychder y masnachdai;
Uwch Tyrus eurdeg eich trysordai;
Pwy a wêl ostwng eich palasdai?
Marchogiawn hoff iawn ffyniant,—eu haeledd
Yn helaeth amlygant;
Ar gadair ddisglair ydd ânt,
Ar lawr heol aur hauant.
Amryw negesyddion, mor enwog eu swyddau;
Gwyr cywir heb oedion yn gyrru cerbydau;
Ar brif-ffyrdd ein bro, gorodidog rediadau.
Trafaelio trwy'r ynys a'u twrf fal taranau.
Amryw o fonedd yn rhannu, mor fwynion,
O'u da oludoedd i wael dylodion;
Neud derchasant hwy oreu achosion,
Hau'r Gwir a'i daenu drwy gariad union:
Henffych i'ch ceinwych amcanion;—dan grêd,
Yn llwyr, O deued yr holl wyr duon.
Caer Ludd frig eurawg, dyrawg, dirion,
Acw mae'r gwiwddoeth Gymraegyddion,
Ar gynnydd hygar Gwyneddigion,
Gorddysgedig o urddas Gwydion,
A'u cyrhaeddiad enwog, gwyr rhyddion,
Tu hwnt treiddiad hynod Derwyddon.
Gwyneddig awenyddion—heb wyrni
Y barnant orchestion;
Os heb y Gymdeithas hon
Nid arab Llundain dirion.
Yn mysg ereill mewn moesgarwch, —rhandir
Tiriondeb a heddwch,
Ail ei phrid hoff lendid fflwch
I rosyn mewn dyryswch.
V.—AMDDIFFYNWYR EIN PRYDAIN NI.
Paradwys wemp, prid y son;—Eden deg,
Yn dwyn dail, a meillion;
O amgylch ogylch eigion
Y môr hallt yw muriau hon.
Y diddwl wyliedyddion,—rhag ystryw,
A gwastraff gelynion,
Gorchwimwth hyd ystwyth donn,
Gan frigawg nofio'r eigion.
Yn llengoedd y gollyngant—eu bolltau,
I bellder y treiddiant;
Llongau estron gwychion gant
Yn 'sgyrion a wasgarant.
Y cestyll mawrion ein gâlon gwyliant,
O ddautu'r ynys gwrdd y taranant,
Gorhydr, brigerau drwy wybr a gariant;
Un o'u banierau er neb ni wyrant.
Trwy lynges estron yn hyfion nofiant
Cynyrchion Prydain, dda gain ddigoniant,
Tros y gloew—fôr o'i goror a gariant,
Goruwch yr ewyn yn groch hwy ruant;
A'u dieithr fasnach deuant—i'r ynys,
O dda ewyllys hwy a ddiwallant.
Cyffyriau trysorau tra syw ariant,
Goludedd ddigon i'n gwlad a ddygant,
Mor hoew uwch eigion y marchogant,
Drwy amryw duedd daear mordwyant,
Ei chanol amgylchynant,—ardderchog
Hanesion enwog toreithiog traethant.
Gwae'r holl bysg lle terfysg twrdd
Chwei-gyrch y mor-feirch agwrdd,
Llestri Sior a'i drysorau
A'u ffyrdd drwy'r môr gwyrdd yn gwau;
I drin ei lynges pan draidd
Cryn Europ, cair yn waraidd.
Americ a ymwyra—o gyffro
Gwae Affric ac Asia,
Os mawr-air byd llesmeiria,
A goreu dim o'i gair da.
Duw 'n geidwad in' a gododd
Nelson fyg, Cornwallis un fodd;
Yr enwog offerynau,
Dychryn i bob gelyn gau;
Gorwyllt eu byllt, grill di baid,
Taranant rhwng estroniaid;
Ymrwyga y môr ogylch,
Golwne ein gâlon o'u cylch.
Oes hir eiddunir i'r ddau,
Meini mawrion mewn muriau;
Rheolydd yr awelon
A'u cadwo tra tyrfo tonn;
Hwynt a'u hepil yn ddilyth,
Llwyddiant di ball iddynt byth.
Môr-aerwyr,—pen morwyr myg,
Cynllun er y cynllun Cook,—
Aruthr yw eu rhuthr er Hawke,
Dirus y blaid er oes Blake.
Cyrraedd ogylch caer ddigoll,
Yn llaw Duw mae 'n lluedd oll.
Gwarcheidwaid goruwch edyn,
Fwltur y wane fol taer wŷn;
Trugaredd trwy ei goror,
O ras ac ymaros Ior.
Mor weddus am hir oddef,
Yw inni ei ofni Ef,
Rhag i'r wialen gael cennad
I droi yn gledd drwy ein gwlad,
A cherydd ein Tad cadarn
O chwith droi 'n felldith drwy farn.
Anufudd fu'r henafiaid;
Ond pa fwy'r gofwy a gaid?
Ail y gosp ar Israel gynt,
Aml hagr-wae pan ymlygrynt.
Dilêer balchder y bôn,
Godineb, pob drwg dynion;
Is Sior y dêl trais i'r dim,
Pob gau i'w ddyddiau 'n ddiddim;
Cyfiawnder a thynerwch,
I droi llid i'w dyrrau llwch;
Bucheddol fo'r trigolion,
Yn ol gwiw reol gair Iôn:
Ceisio'r Oen, cashau'r einioes;
O iawn gred cyd ddwyn ei groes.
Bid yn goron gogoniant,
Yn ein plith, nyni a'n plant;
A boed gwedd ei wyneb yn
Hyd wyliau canu'r delyn,
Hen Brydain yn baradwys,
Bryd cain, heb aredig cwys;
Pur seibiant parhaus sabbath—
Ni fu yn Nghanan y fath.
Gweddi'r Bardd.
Heb Brydain gywrain i'w gylch,
Heb degwch yw'r byd ogylch;
Yr Ynys Wen dirionaf,
Cadwed dy nodded di, Nâf;
Treiglau hynod Rhagluniaeth
Yn dy law sydd; dilys saeth;
Arhôed hon er daioni
Yn gaergylch o'i hamgylch hi,
Rhag pob gelyn, dyn na diawl,
Gweis tarianog estronawl,
Na bradwr o fewn Brydain,
Trwy'r tir, na boed tra rhed Tain.
Rhad hyd farn, Rhydid a fo,
I'n goror yn blaguro;
A gweler heddwch gwiwlon
Yn oes haul i'r ynys hon;
Curo pob cleddyf cywrain
Yn sŵch! Clyw'r engyl y sain.
Llwyr gliriaw ffordd yr awen,
Y tir â mawl toir. Amen.
ARWYRAIN AMAETHYDDIAETH.
"A'r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a'i gosododd ef yn ngardd
Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi."—MOSES
Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y
Brenin yn byw."—SOLOMON
Ni chydfydd Awenydd wâr,
A dynion dybryd anwar:
Dygymydd Duw ag Emyn,
O Awen dda a wna ddyn,
Cân ddifai i rai a roes
Ennill tragwyddol einioes."
—GORONWY
ARO AWEN, drylen draeth,
Trwy wyddiant Daearyddiaeth;
O am ddawn i ffreuaw 'n ffraeth—gyfansawdd,
A dull i adrawdd Diwylliodraeth.
Daear afluniaidd a gwag.
Efryd ar drin daear deg,
Hynafiaeth hon i ofeg;
Diweddar cadd o'r dyddim,
Ei chreu, a'i dechreu o'r dim:
Yr ail dydd, pa ddefnydd yw?
Adail anorffen ydyw:
Ni wêl un angel, na neb,
Un eginyn o'i gwyneb;
Rhyfedd iawn!
Rhyfedd an nhrefn,
Edrych mal tŷ heb ddodrefn;
Byd fu oll yspaid felly,
Heb na phren, dyn byw, na phry'.
Y ddaear fu'n aflun noeth,
O dirioned oedd drannoeth!
Yn drafflith i'r gwlith, mor glau,
Ganwyd afrif eginau!
Lliosog caid llysiau cu,
Coed heirddion yn cyd darddu;
Myrddiwn a mwy o irddail,
Daear oedd yn dwrr o ddail.
Pob lliw a rhith dewfrith dw'
Oedd bêr newydd eu bwrw;
Llygaid seraff cannaid cu,
Syw ar hon yn serenu!
Ebrwydd dw' o bridd daear,
Cyn bod gwaith, gwrtaith, nac âr;
Rhyngodd bodd i'r gair BYDDED
Amlhau perlysiau ar led,
Aneirif brennau araul,
Cyn bod trefn y rhod na'r haul.
Y pedwerydd dydd doddyw,
Haul, lloer, sêr, llu awyr syw,
Pwysiau cwmpas awyr,
Di rif i'w gweled yr hwyr:
Goruwch daear lachar lu,
Un ogylch ni wna wgu;
Anfon iddi 'n feunyddiawl,
Groesaw gwych eu gwres a'u gwawl.
Cysgodau y prennau prid,
Un foddion a ganfyddid,
A'r afalau, crwybrau crog,
Aur ddysglau ar wydd osglog.
A'r Naf alwodd yr anifeiliaid,
Rhai gwâr a dewrion; pob rhyw gre'duriaid,
Wrth eu rhywogaeth; odiaeth ehediaid,
Llu miwail ysgawn; a'r holl ymlusgiaid,
A da iawn a diniwaid—oll oeddynt,
Di boen y dygynt hadau bendigaid.
Yna'r Duw uniawn er daioni,
Adda a luniawdd, o'i haelioni,
Ar ei lun ei hun yn lân heini;
Yma y rhoed ef mewn mawrhydi
Yn flaenrhed i'w rhifedi,—megidydd,
Neu areilydd i'w hiawn reoli.
A'r Iôn a blannodd o brennau bloenawl,
Yn nwyrain Eden, ardd orhynodawl,
I ddwyn aeron, neu addon rhinweddawl;
Heb ddim ffrwythau, na hadau niweidiawl;
Dygodd yr enwedigawl—ddyn yno,
I lafurio'r Baradwys lifeiriawl.
Pob rhyw fywiolion, dofion y dyfynt,
I'w wydd ar frys, dan wŷs y dynesynt;
Acw yn wiriawn, y cyniweirynt;
Hynod mor addwyn o dymer oeddynt;
Addaf rôi enwau iddynt—priodawl,
Yn wahanawli bob un o honynt.
Y dyn gwridawg, dien greadur,
A'i wraig a gawsai er gwiw gysur,
Yn byw yn Eden, yn benadur,
Aml yw ei ofal am ei lafur;
I bob rhan o'r berllan bur,—y rhodiant,
Arab olygant ar y blagur.
Heirdd afallenau'r ardd feillionog,
Yn dwyn tlysau ydynt liosog,
A'r addfed ffrwyth, crwmlwyth crog—yn gniwiau,
Ar ganghennau y delwau deiliog.
Telediw yw ffriw y ffrwyth,
Gan berlau boglynau gwlith,
Aroglber felusber lwyth;
Mêl pur ar y blagur blith.
Gwypai, deallai y diwyllydd,
Amser addon, addfedion fwydydd;
Ac ar iawn gynnull grawn y gwinwydd.
Meithrin hadau hoff rithau'r ffrwythydd,
A'i ddyled fal Addolydd—i ei Naf,
Wedi cynhaeaf wneyd cân newydd.
Addaf mewn dedwyddyd,—ai ni roddodd
Nêr iddo seguryd?
Wi! Ai garddwr wy'n gwrddyd,
Yn Eden yn berchen byd?
Dynoliaeth Eden wiwlon,—delw Duw
Wele dan ei choron,
Ni bu ry hardd mewn bri hon
I weithiaw fel Amaethon.
Llywiawdwr pob llu ydyw,
Gwr dros ei Greawdwr yw;
Ba aflwydd, f'Arglwydd, a fu,
I'r dewr swyddwr droseddu?
Gyrrwyd o'r ardd ragorol,
Gan Dduw nef, ac ni dd'ai'n ol.
Gwinwydd fyddent yn gwenu,
Yn gwywo 'u dail gan ŵg du;
Ednod nef cydlef eu cân,
Ar irwydd yn rhyw eran;
Ar bur wawr yr wybr eres,
Pa ryw ddull prudd a lliw prês?
Yma anian am ennyd,
Aeth i argyllaeth i gyd.
Brychodd hoff gynnyrch y llennyrch llawnion,
Ebrwydded darfu pob irwydd tirfion;
Ad-dyfodd llysiau a sawriau surion,
Yr ysgall ydynt,—pob rhyw hesg llwydion,
Lle yr oedd balm a phren almon—edrych
Meryw a bresych, a mwyar breision.
Dwyn dail marwol danadl a mieri,
Pob grawn gwylltion yn drawsion, a d'rysi;
Yn lle balalwyf, mewn lle bu lili,
Abrwysgl anial wigau, a brysglwyni,
O fewn y rhain fwy na rhi'—wiberod,
Pob rhyw wylltfilod hynod i'w henwi.
Lliaws cain hynaws cyn hyn, —o dda
A roed i Adda ar ei dyddyn,
Yma wele pob milyn—a aeth
I ddynoliaeth heddyw yn elyn.
A gwŷn newyn, gan awydd,
Rheibiant a rhwygant yn rhydd;
Yn lle llysiau blodau blydd,—goddifa,
Llewa eu gwala oll o'u gilydd.
Adda yn udd aneiddil,
A fu yn maethu pob mil;
Wedi hyn o gnawd ei hil,—aml yma,
Bu westfa pob bwystfil.
Ond er cynddrwg y gwg oll,
Wedi'r anffawd ar un ffull,
Nid aeth dyn gwedyn yn goll,
O nawdd Ion:—ar newydd ddull.
Dacw Addaf, gyntaf gwr,
Yn fore yn llafurwr;
Deol surwellt y felldith,
Cloddio a cheibio sy chwith;
Ei wisg datoda 'n esgud,
I'w law mae arf a darf dud;
Mewn bwriad mynnu bara,
Yn lluniaeth, o doraeth da;
Dacw'r chwys, megys gwlith mân,
Ar ei brudd ddwyrudd eirian;
Duw Ior nef o'i dirion nawdd,
Ei orchwyl a gynhyrchawdd;
Gwelaf ar y ddaear ddu,
Meillion gwynion yn gwenu;
A blodau almonau mad,
Pob brig ar defig dyfiad.
Ar hyn pob edyn o'i big,
Sy 'n trydar swn troedig,
Rhyw ddeg can mil o'r sil sydd
Organau ar y gwinwydd;
Gan eu bywiog serchog sain
Llyma f' ednyw yn llemain.
Ydd Ior a wareiddiodd i ryw raddau,
Rai cre'duriaid o'r euraid ryw orau;
Neud rhoi rheol, i'w nawter, a'u rhywiau,
I ddyn yn weision addwyn eu nawsiau,
Dacw y milod, ewigod, camelau,
Y meirch a'r ychen mawrwych o'r achau;
Biw, behemothiaid, bob mathau—'n llonydd,
Hyd y maesydd diniwaid eu moesau.
Rhai mwy difiawg efrawg ac afrwydd,
Wedi'r newidiad i'r annedwydd,
Ddiffaith goll gyfraith, a gwallgofrwydd
Er eu dyhired, mwy'r deheurwydd,
A'r grym yn gyflym i'w gwydd—sydd gennym
I ffrwyno awgrym eu ffyrnigrwydd.
Y cynddiluwiaid cain dda lewyrch,
Ar winllanoedd y rhai'n a'u llennyrch,
Ewybr y caent wobr eu cyrch,—grawn a medd
Bu digonedd o bob adgynnyrch.
Llacw hiroesawl, dra gwrawl gawri,
Hoew cyfodant, i hau ac i fedi,
Planynt, cain adeilynt cyn y dyli';
Ond Ow i'r genedl fyw mewn drygioni!
Pob llygredd, drawsedd di ri'—Duw ddigiawdd,
A rhybuddiawdd y rhoi ddwr i'w boddi.
Y prif gyffrolif ffreulyd,
Dad—drodd, cybolodd y byd;
Y cwbl aeth yn draeth di drefn,
Ar ei ddodrefn, oer ddedryd.
Trem newydd;—trwm i Noah,
Lle ceid pob fflwch degwch da;
Nid oes heddyw ddim byw'n bod,
Trwb waelod ond trybola.
Gwasgaredig ysgrudoedd,
Pwdrgnawd; pob drewdawd budr oedd;
Dim glaswellt ar bellt y byd,
I gyd annhebyg ydoedd.
Prysura Noah o newydd—allan
I ddiwylliaw'r meusydd,
Mwch y dyrch cynnyrch gwinwydd,
A bara i'w fwyta fydd.
Wel yn wir er boddi'r byd,
Ni foddodd y gelfyddyd,
Ardderchogion gyffion gynt,
Amaethyddion mwyth oeddynt;
Cain seddau cynoesyddion
Caf wychr hwy cyfochr a hon.
Hoffai yr hen Achenedd,
Hon uwchlaw bwa na chledd;
Dua Sinar a Haran,
Yn fwy fwy o fan i fan;
Apis fu'n dewis ei dir,
Yn meusydd ffrwythlon Misir.
Tra thelediw a diwyd,
Llwyddiant a gawsant i gyd;
Amledd, digonedd a gaid,
Doraeth, a chreaduriaid;
Y ddaear ddu a'i llu llwyd,
Yn firain a adferwyd.
Bu yr hen weision bore yn Asia,
Hynod dreiglyddion trin tir a gwledda;
Bu cu'r mannoedd,—Diarbec, Armenia,
Gilead, Saron, gwaelod Asyria.
Wele ogylch y byd i'w olygu,
A'i bauau meithion heb eu hamaethu,
Dacw'r hen Gelliaid cywrain a'u gallu,
Rhufeiniaid, Groegiaid, yn digaregu;
Chwysant, blinant, wrth blannu—pob cyrion,
Hyd for Gwerddon mae dyfrhau ac arddu.
Llafurwyr mwya; pybyr meib Babel,
Ymdaenasant i Midia yn isel;
Cadd Heber wastadedd, tuedd tawel,
Mannoedd iachus a mynyddau uchel,
O wlith mân, O lwythau mêl,—ddanteithion,
Sy uwch Hermon, Libanus, a Charmel!
Trwy holl Asia, tyrau a llysedd,
Pob dôl addien, yn Eden adwedd,
Dyrchwyd Eidal, benial ei banedd,
Paradwys Ewrop brydus aurwedd;
A Phrydain gywrain deg wedd,—bob goror,
I'r rhain yn eisor, hen iawn oesedd.
Ymdeithiasant, treuliasant arloesi,
O bau Ararat heibio i'r Eryri;
Dacw lîn Madawg hylaw yn medi,
Llawr ydd Americ lle'r oedd mwyari,
Mesurant diroedd Missouri:—pwy ddyrch,
I roi ail gynnyrch i'r Alegani?
Deuai'n gynharol dan Agenoria,
Tlysau ac aeron mwynion Pomona,
Nefol ddanteithion, breision Ambrosia,
Ni bu cynhilwch yn Bacchanalia,
Bacchus, Ceres dduwies dda,—i'w mygredd,
Bu wiw orfoledd yn Ambarvalia.
Trwy wraidd orchwyl, neud tra ardderchog
Mae'r newidiadau mawrion odidog;
Troi diffaeth ffiniau yn barthau berthog;
Yn lle clogyrnau creigiau cerygog,
Dwyn seddau cywrain, dinasoedd caerog,
Tyrau, adeiladau tra dyledog;
Praff yw'r ddylanwad, prif ffyrdd olwynog:
Troi y gwaelodion, a'r tir goleidiog,
Yn feusydd, a pherthlenydd ffrwythlonog;
Dwyn hafaidd lwythau trwythau toreithiog,
Cau'r anialwch cornelog,—yn froydd;
Dwyn gwneyd gwledydd dan gnydau goludog,
Gwrteithio a threulio o athrylith,
Eneinio clwyfau rhyfolltau'r felldith:
Cawn ail gynnyrch, gwin, olew, a gwenith,
Pob grawn addfed, agored, digyrith;
A pherlysiau blodau blith;—daear gron,
Meillion o'i dwyfron, a mill yn dewfrith.
Gardd Babel uchel lachar,—y triniad
Tirionaf o'r ddaear,
Canan a'i llifon cynnar,
Mêl a llaeth helaeth o'i hâr.
Draw mor brid amldra mawr brew,
Dwg aloes, ŷd, ac olew;
lë'r pabi a'r pubyr,
Casia, y manna, a myrr:
Mawr-wyrth orebyrth Arabia,—a phêr
Gyffyrion dwy India:
Y gensen a'r ddeilen dda,
Hwn sy bur yn Siberia;
Cheir braidd mo'i wraidd am ruddaur;
Be' sy' well na 'i bwys o aur?
Llawn yw'r ddaear o'i lliwgar elleigiau,
O gŵyr, o felwn, ac aur—afalau;
Gwiw aeron, enaint, ïe, gronynau;
Myrtwydd, pêr resinwydd, pob rhosynau.
Y môl iach nôdd, mêl a chnau,—meddygol
I bob angeuol wahanol heiniau.
Llyma brif ddoniau Prifon,
Dawn aruwch doniau yr Iôn;
Pen gorchwyl pob hoengyrchion,—eu duwies,
A eu hunbenes hen a'u banon.
Amaeth yn nghwmniaeth
Naf Hyd ei ddydd ydoedd Addaf,
Rhifant yn arddwr hefyd,
Cain ei fab yn y cyn fyd;
Noah tad y byd newydd,
Amaeth oedd ef, mwyth i'w ddydd:
Selyf, Uzzia eilwaith,
Hoff gynt oedd ganddynt eu gwaith;
E fu i'r rhain, ddirfawr ri,
Winllannoedd a pherllenni;
Ow! nad yw'n awr in' dan nyf,
Lysieulen oleu Selyf.
Ofer dwyn hanner henwau—'r llafurwyr,
Holl fawrion bendodau;
Heb hon ni chawsai doniau,
Na byd ond byr hyd barhau.
Peryfiad pob prif waith,—canol y pwynt,
Yn cynnal pob mawrwaith;
Por a phaladr praff eilwaith,
Olwyn i gychwyn pob gwaith.
Yr holl swyddau ereill suddent,
Y gwybodau gwiw a beidient,
Olli angof ymollyngent,
Heb Amaethad bawb y methent.
Fferylliaeth, Dyfais, Llongwriaeth.
Y bedysawd, ei haddawd a'i heiddi;
Priod aelod o hon pob rhyw deli;
Mirain weinyddion, morwynion iddi;
Y gweithiau hynod yw ei gwytheni,
Carenydd yn coroni,—ei harddwch;
Uchafu i thegwch a'i chyfoethogi.
Ychain a meirch chwai i'n mysg,
Yr arddwr, porthwr a'u pêsg;
Drwy Fferylliaeth y daeth dysg,
I arbed lludded dyn llesg.
Fwyned y ceir elfennau,
Yn weithwyr pybyr i'n pau;
Un i yrru un arall,
A'r naill yn dirwyn y llall;
Dŵr a gwynt i droi a gwau
Olwynion a melinau;
Ategir hwynt i'w gwarhau,
A rhoir offer a rhaffau,
Tynnant codant mwy cedyrn,
Naw mwy rhyw chwai na meirch chwyrn;
Ac wythwell maent yn gweithiaw,
Prysurach llyfnach na llaw;—gweis diflin,
I drin eithin, dyrnu, a nithiaw.
Drwy holl angorawl draul Llongwriaeth,
Dewr ei mawrhydri am Herodraeth;
Yn drymion enydau yr
Amaeth,—o'r tir,
Uwch dŵr a gludir wech dreigladaeth.
Diamgen helynt, mae gynaliaeth,
Byd da'n hilio, bywyd dynoliaeth;
Ieuaint a henaint, di wahaniaeth,
Dir a ddiwellir drwy ddiwylliaeth;
Huliodd ein byrddau'n helaeth,—mor faethlon
Yw ei chynhyrchion, iach i'n harchwaeth.
Yn Mrydain firain yn forau,
Bu'r amaethwyr bêr eu moethau,
Cyn dylwythog genedlaethau,
O Omer oeddynt, mawr raddau.
Hu Gadarn, udd y giwdawd,
A'u dug yn ddi ffug i ffawd;
Prydain oll i'w arfolli,
Amor hawdd, i'w wahawdd, wi!
Gwenodd, ymgynhesodd hi,
Oblegid ei phoblogi;
Oll ar waith diwyllio'r wig
Yn Mrydain mae aredig;
Caffael pêr frasder ar frys
O flaenion y Fêl Ynys;
Canol haf eu cyn wyl hen,
Oedd eu cred yn nawdd C'ridwen.
Ymlid a wnaed pob milod niweidiol,
Pryfaid ffyrnig, gwenwynig anianol;
Magu'n lliosog, rhai amgen llesol,
Dof a noddi pob rhyw defnyddiol.
Llwynau fu eirwon oll yn fwyari,
Yn ddaear lysiawl, newydd arloesi;
Tarddai'n hawddgar yr heiniar o honi;
Eden ffriwlas, gwiw urddas ei gerddi,
Bwriai llawnion berllenni—felysion
Felynion aeron, 'falau'n aneiri'.
Troi tud corsog, oer, brwynog, a'r bryniau,
A phlanwydd tirfion, yn wychron ochrau;
Dreiniog, rygog, hen grugau,—i ddwyn ffrwyth,
Bwrw rhywiawg-lwyth o ber-aroglau.
Diwylliaeth yn mynd wellwell,
Gwerthfawr heiniar cynnar Coll;
Pob aeron, meillion, a mill,
Yn llwyn o'r naill ben i'r llall.
Tirion famaeth, d'ai bradwriaeth,
Hyf luyddiaeth i'w haflwyddaw;
Gan ryfelaeth, cadd gwybodaeth,
Amaethyddiaeth, ei maith huddaw.
Drachefn da'r drefn, wedi'r drwg,
Daeth diwylliaeth o d'w'llwg;
Bugail, anifail un wedd,
Ymborthant, ac mae berthedd.
Pawb yma sy'n wychion, pob masnachaeth,
Bydol lywiawdwyr, pob adeiladaeth,
Ynt heirdd oll trwy ddiwylliaeth;—i'n dyddiau,
Yn ei cherbydau, nycha'r wybodaeth.
Teyrnas cymdeithas doethion,—a'u conedd:
Yw cynnyrch amaethon;
Dugiaid a dyledogion,
Oll yw heirdd gyn-llywiau hon.
A'u gwiwglod briod wobrwyau,
Iawn y gweithiant anogaethau,
Bywiog reddyf, yn mhob graddau,
I ymgyrraedd am y gorau.
Ymryson am goron magwraeth,
Cnydau daear-gnau, ydau odiaeth;
Tra mawrygu trem a rhywogaeth,
Moddion da i wella diwylliaeth.
Cydoeswyr in' caed eisiwys
Drwy'n gwlad a deffroad ffrwys;
Argauir pob tir teryll
Teg arddir y gwaendir gwyllt;
Pob bre, pob ceimle cwmlyd,
A wnair i ddwyn gwair ac yd;
Cyn hir ni welir un wîg,
Na thudoedd anrheithiedig:
Holir lle'r oedd gwagdir gwyw,
Ai gardd wen Eden ydyw?
O for i for bob gorawr,
Dros Ferwyn, a'r Moelwyn mawr,
Pob tudwedd Gwynedd fal gwawr
Ymylau Clwyd a Maelawr;
Goruchel ochrau'r Gwrychyn,—Eryri,
A'r Aran uwch Penllyn;
Holl olwg Carn Llywelyn
A ddaw'n dir hardd iawn drwy hyn.
Rhy eirw i gwlltyr yw rhai gelltydd,
I'w pilio, yno y dygir planwydd,
A brigog, cadeiriog y cwyd irwydd;
A derw y dyfn—naint, orau defnydd,
A thrwy hyn dau fwy a fydd,—i'w cysgod,
Afrifed filod hyfref hyd foelydd.
Poed o Fôn, yn dirion y deri,
Da lwynau tewion hyd lan Tywi;
Ac o Dafwysc i Deifi,—ar wylltbeirth,
Hyd oleu beneirth gwlad Albani.
Plannu, ac nid prynnu pren,
Ymddiried mwy i dderwen;
Na foed i goed nac ydau,
Angen yn un pen o'n pau;
Na bo rhaid yn ebyr hon,
Prynnu gan forwyr prinion.
Mwy weithion yw Amaethwyr,
A ddaeth, ymyrraeth â mŷr;
Amrysawn, troi'r môr isod
Yn dir yn awr, ydyw'r nôd;
Rhwng Eifion a Meirion mae
Rhagorgamp fur ac argae;
Yma parwyd campwri,
Gwyrth Cymro yn llocio lli',
Y dernyn gwaith cadarnaf,
I neb ei ddechreu ond Nâf.
Ar fyrder triner y Traeth,
Ef a wnaer yn faenoraeth;
Yr aradr a'i goreuro,
Uwch Clwyd offrwm bwyd y bo;
Lle'r a'i'r morllo a'r eog,
Ysgrafed, rhwyged yr ôg.
Poed medelwyr, lloffwyr llon,
Maeronwyr a'u morwynion;
Yno boed mân-goed, fil myrdd,
A rhai preiffion gar prif-ffyrdd.
Lle bu dyfrlli' boed afrllad,
Y diliau mêl, a dail mâd;
Yno y rhodio'n rhedwyllt,
Yn lle môr-feirch meirch a myllt;
Cain bo ychain a buchod,
Mal Eden bo nen y nôd.
Poed y ddawn yn gyflawnach,
Yma er budd mawr a bach:
Deg o fath Madawg a fo,
A phraff waith i'w pherffeithio;
Yna gwelir yn dir da,
Gwyndud mor hardd ag India.
Trwy for Gwalia, tro i fwrw golwg,
Tros grib Pumlummon, hen ym'lon amlwg,
Ni welir dim anialwg,—diffeithwedd,
Hyd o fro Gwynedd i wlad Forgannwg.
Edrych o gopa Idris,
Ar wedd gwâr Wynedd gor îs;
Ac o nen Banuwchdeni,
Gwlad Ddehau a'i hochrau hi:
Tremio y treulio a'r trin,
O Gonwy i Frogynin;
Ac hyd ystlys Ynys Wen,
O Gaerefrog i'r Hafren;
Mor hardd y gwnaeth Amaethad,
Bob bryn a glyn yn ein gwlad!
Hynod yn briod i'n bro,
Yw ei moddion am eiddo;
O lîn, gwlân, halen a glo,—yn helaeth
Doraeth i'w cludeirio.
Rhydd hon i'w meibion ei maeth,— o'i bronnau,
Y bêr anwyl famaeth;
Gwinoedd yn llynnoedd a llaeth,
Llifeiriant er llafuriaeth.
Ei chroth chwiliant, gorwygant greigiau,
Effro ddiwyllir ei phriddellau;
Trysorion ei thynion wythenau,
Main o goluddion ei mŵn—gloddiau;
Da ledir ei delidau,—gwefr cadarn,
Y pres a'r haearn, parhaus rywiau.
Rhyfedd anrhydedd pob angenrheidiau,
Defnyddion di brinion da beiriannau;
Pob gwisgoedd cywrain, a glain foglynau;
Yr ariant a'r bliant, eryb liwiau;
Er ei gynnyrch i'r genau—yn helaeth
Y caiff yr amaeth o'r cu offrymau.
Cry' cair rhinwedd y cerrig gorwynion:
Golosgir, cerrir ar hyd pob cyrion;
Crugo yn gymysg, cregyn a gwmon,
Prynu a gwerthu pob rhyw hen garthion,
Lludw a marliau llwydion,—prif faethau,
Er dwyn pob cnydau'n llwynau mwy llawnion.
Trin cloron gleision eu gwlŷdd,
Gyrru mwswg o'r meusydd;
Hau erfin a'u trin, nid trwm,
Digoll, heb doll na degwm;
Gorfod a gwy wo erfin,
Ni all rhew, hyll waew'r hin.
O weundir cynhyrchir cnau,
I'r amaeth, gwerthfawr emau;
Bwrw yn lle brwyn a llaid,
Afalau'r anifeiliaid.
Amaethiad da dyma dir,
Hau meillion mwy a ellir:
Lle bu gawn, a phlu gweunydd,
Daw dail, a llygaid y dydd.
Er cael dan aradr ac ôg,
Burŷd o dud gwlybyrog,
Cloddio a rhwygo rhigol,
Arwain dŵr o waen a dôl;
A diodi'r sychdir sâl,
O'r llynnoedd a'r lle anial;
Ail yn Eidal neu Eden,
Neu ail swydd y Nilus hen.
Yn Mrydain, er mor odiaeth,—O gresyn!
Yn groes i wybodaeth,
Ni wadaf, gwelaf er gwaeth,
Radd o wall ar ddiwylliaeth.
Naw heb ddim, hyn heb ddameg,
Gan un lawn ddigawn i ddeg;
Hyd heddyw nid yw hyn deg,—cyfranner,
Na chwyner ychwaneg.
Chwi ail seddawgwyr, uchel swyddogion,
Rhai dilafur, mewn hyfryd welyfon,
Da yw 'ch esmwythyd o chwys amaethon;
Ar y gwleddoedd cofiwch ei ryglyddon,
O fonedd, byddwch fwynion—ymddygiad,
Parch o wir gariad pur rhowch i'r gwron.
Dwyrewch, sylwch ar chwys ei aeliau,
O loewed ei ddurfing wladaidd arfau,
Ardwytho 'i anadl, brydio 'i wythenau
I chwi gael llon newyddion neuaddau,
Pob amheuthyn, pob moethau—da beunydd,
Iach i'ch yw'r bwydydd, meirch, a cherbydau.
Y gŵr esgyrnawl mewn gwres ac oerni,
Trabludd flin ddwy hin yn ei ddihoeni;
Gyrru troellawg, orfannawg garfenni,
Trwy iâ neu gesair y trin ei gwysi;
Gwella annghyflwr yr arddwr urddawl,
Gwedi goluddio'r gawod ogleddawl,
Dawns yr uchedydd, doniau serchiadawl;
Una'r amaeth, buroriaeth arwrawl,
Yna dyfyra dau fawl,—y geilwad,
Dwyrea i siarad yn dra siriawl.
Pob moddion ddigon a ddwg,
Mathau o wrteithiau teg;
Gwneuthur i haidd, gwenith, rhŷg,
Dir da drwy'r aradr a'r ôg;
Tyfu'n braff tew fon a brig,
Cloron a meip, clau rawn mâg,
Iawn ddirnad rhîn hîn i hau,
Yd, a gwair, a'r hâd gorau;
Eu tarddiad ar dyfiad îr,
A fwydir gan gafodau.
Goloewon yw gwelyau,—y garddwr,
Fe gerdd yn mysg llysiau;
A sawyr ber bwysiau,
Hafaidd o hyd i'w foddhau.
Ganddo noddir, achlesir, gwych lysiau,
Rhag rhuthrau rhwysgawl, marwawl dymhorau;
Dialoedd hinoedd gaeafaidd heiniau;
Y grawn olewaidd ag eirian liwiau,
Naturiol yn edrych, trwy lain wydrau;
Arno y gwenant, dirion eginau,
Siriol wridog, resenog rosynau;
Prid yw y rheol, priodi rhywiau;
I'w gain fyg firain fagfâu,—cethleddawg,
Y mae pompionawg, ampwy impynau.
Meithrin pob ffrwythydd, diodwydd didawl,
Cair meddeiddwin a phoethwin effeithiawl,
Afaleulyn, dwys dillyn dysdyllawl:
Sudd melys ffigys da i'r diffygiawl.
Wedi Ebrill waith dybryd;—Mai hafaidd,
A Mehefin hyfryd,
Yr amaeth a rodia'r hyd
Ei dyddyn mewn dedwyddyd.
Mis Medi o'r maes mudir
Effeithiau gwrteithiau'r tir;
Pand ytyw'r mis dewisaf,
Drwy borth hwn daw'r ebyrth haf;
Coron blwyddyn dirion deg,
O'i deuddeg y dedwyddaf.
Yna trafod tylodion,—ddiwrnodau
I ddyrneidio'r lloffion;
I'r plantos yn llios llon,
Ymddengys tywys tewion.
Ein hadar dofion wedi er difiant,
Hyd y caeau, ydlanau dilynant,
At yr Amaethon y taer ymwthiant;
Y cŵn mewn cûr o'i lafur a lyfant;
A'r moch yn groch hagr wichiant, —rhaid estyn
Yr hyn a berthyn i'r rhain o borthiant.
Pob bueich gwael legeich i'w golygu,
Un modd bonedd arno'n ymddibynnu,
Gwyr mawr oddiarnodd grym i'w orddyrnu,
Rhai bychain isod, trwy bych yn ysu;
Yr Amaethon galon gu,—glan wyneb,
Pybyraidd i ateb pawb o'r ddeutu,
Heidiau crwydrawg gwasgarawg segurwyr,
Y rhai lledrithiog, a'r llywodraethwyr,
Galw i feddwl bob rhyw gelfyddwyr,
A'u moesau yn wychion—y masnachwyr;
Ie,'r llenorion, a'r lluon aerwyr,
A rhifo a alwyd yn rhyfelwyr,
Holl fawrwaith y llafurwyr,—sydd ddiball,
Er rhoi bywyd diwall i'r bwytawyr.
Amaethon boddlon, yn bur,—a'i ddwylaw
Yn ddilesg mewn llafur:
Gresyn fod gormod o'i gur;
Er dwyn saig i'r dyn segur.
Mae bwytawyr, meib tewion,—yn trwytho
Eu trythyll goluddion;
Golwythaw eu boliau glythion,
Byw o'r brasaf, heibio'r briwsion,
Gormodedd gwrw a mwydion,
Gosiglant megys Eglon;—eu hangau
Ddaw o'u moethau, eiddo Amaethon.
Estyn buchedd oes dyn bychan,
Trwy fwyn gariad dra fo'n geran;
Y diwylliwr diwyd allan,
Draw sy bybyr dros y baban.
O daw galon eon mewn awydd,
Gwyr bygylog o gwrr bwygilydd,
Pwy chwimach fywiocach fydd ?—pwy ddewrach,
Na grymusach, na gwyr y meusydd?
Ond pob mwynder a weler i Walia,
Bendithion fil ar epil Europa.
Aed mwy wythwaith o'r byd i amaetha,
Llawer rhyw filwaith llai i ryfela;
Hoff disgwyl dyddgwyl mawr da,—o degwch,
Heddyw, llonyddwch i holl lîn Adda.
Trwsia mwy o erydr tros y moroedd,
Trwy hen Asia pob twrr o ynysoedd;
Pair borth i bob rhyw barthoedd,—eu gwala,
Digon o fara dwg i'w niferoedd.
I dorri tiroedd yr hen Dartaria,
Lle mae'r dynion yn hyll ymrodiena,
Am eu cynaliaeth, fal mae ci'n hela;
Neu chwannog chwai lwynog yn chwilena;
Ow! y rhai'n druan, O mor dra—dwfyn
Yn mhob anoddyn yw meibion Adda.
Aed i wiw ddiffrwyth, dueddau Affrig;
Annhymorawl gyffiniau Amerig;
Mewn anialwch a mannau anelwig,
Mae Paradwys a Themp i'w haredig:
Yno fal trawsfilod trig—dynoliaeth,
Heb iawn wybodaeth, byw yn wibiedig.
I'r rhai a faethir mewn rhyw fythod,
Heb west felus, mwy na bwystfilod,
Da fydd tremio yn dyfod,—i'w byrddau,
Y bara gorau, bîr a gwirod.
Drwy gyrrau daear, aed i'r gwyr duon,
Undeb, doethineb, gwybodaeth union;
A gwiw bib addysg, pob gwybodyddion,
Fwyfwy golau, yn mhethau Amaethon.
A bi yn brysur, i'r gloewddur gleddau,
Cywrain sy awchus, eu curo'n sychau;
A gwaewffyn mwyn i'n goffhau—cyn hir,
Heb lid a yrrir, ïe,'n bladuriau.
Er mawrhydri pob rhyw ymerodraeth,
Y bu wyr dewrion, am eu bradwriaeth,
Gorthrechiant a llwyddiant eu lluyddiaeth;
Ar fyrr e yrrir arfau aerwriaeth,
Offrymir yn offer Amaeth,—ffrystio,
Amen, Duw wnelo er mwyn dynoliaeth.
Yr hafddydd sydd yn neshau,
Blaen nawdd y Fil blynyddau;
Cenawon yn cynniwair,
Yn mysg ŵyn, drwy'r maes a gair:
Y panther a'r teiger tew,
Llawn gwarder, llon, ac irdew;
Ydd Awen ni wna'n ddiau,
A gân i hon ond gwanhau;
Arwyrain i orwireb,
Wychraidd nôd, ni chyrraedd neb:
Rhy danbaid i'r llygaid llwch,
Ydyw'r gwawl a'r dirgelwch;
Gadael hon i gyd lenwi,
Dawn awdwyr ei hoeswyr hi.
Oferwr ni lafuria,—a'i ddwylaw;
Ni ddyly chwaith fwyta;
Os yw gwr yn segura,
Ni fydd o un defnydd da.
Er llafur prysur, bob pryd,—myfyriwn
Am fara y bywyd;
Bo llafur diball hefyd,
Iawn am hwn ynnom o hyd.
Dwy ddawn oeddynt gyflawn gynt,
Yn Eden yr hanodynt;
Prifon da Adda oeddynt,
Ac i'w hâd ef cyhyd ynt.
Minau'n arab, o'm maboed,
Rhwng y ddwy yr wy' erioed.
Dygaf brif-enwau digardd,
Amaethon boddlon a Bardd.
Mynnai awen am ennyd,
Fy nghael i'w gafael i gyd:
Eithr mwy rhwng y ddwy ydd âf,
Hyd y bedd, a da byddaf:
Ar alwad yna'r elwy'
I fro mawl heb lafur mwy.
AWDL ELUSENGARWCH.
"Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd."—SALM xli. 1."
Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rho di echwyn i'r Arglwydd; a'i rodd a dâl efe iddo drachefn."—DIAR. xix. 17.
"Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith. dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef; a thyred, canlyn fi."—MAT. xix. 21.
Crefydd bur, a dihalogedig ger bron Duw a'r Tad, yw hyn; Ymweled â'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd."—IAGO i. 27.
Farnydd, darllennydd dewr llon,—ymholydd
Am helynt Prydyddion;
Edrych y gerdd, hir-gerdd hon,
Gwanafau GWYN O EIFION.
Y Gwaith.
GEIRIAU Elusengarwch;
Pob paladr yn ffladr a fflwch,
Mae plyfyn i'm palf yn awr,
Cof-adail fawr cyfodwch.
Trem ar wrthrychau Elusen.
Gwel yma, O golomen,—cain feindŵr,
Cwynfandy yr angen;
Golwg iawn, amlwg, o'i nen,
Ar lysoedd yr Elusen.
Gwel dylodion, a gwael adeiladau;
Gwragedd, plant, a thrichant o wrth'rychau;
Amddifaid, gweddwon, wareiddion ruddiau;
Un a dyn bychan yn dwyn ei beichiau:
Dyn feichiog, lwydion fochau,—mewn angen
Gweled Elusen dan gelyd loesau.
Lluoedd ar luoedd ar welyau,
Rhwng cilddaint echrys-haint a chroesau;
Holl awch dannedd y lluchedenau;
Chwerw ffrewyll, fflengyll, a phla angau;
Gan anghenion, cwynion yn cynnau;
Elusen deimla 'u heisiau,—a'i chynnes,
Garuaidd fynwes, eu griddfannau.
Tarddiad Angen ac Elusen.
Pechodau, a chwymp chwai Eden—a'u dug
I dagwm yr angen:
Yn rhodd anfonodd Nef wen,
O law Iesu Elusen.
Elusengarwch.
Disgynnodd Duwies gwiwnef,
I'n daear ni, do, o'r nef:
Llysoedd brenhinoedd heini
Islaw ei holl sylw hi.
Chwyddai serch y
Dduwies hon At aelwydydd tylodion;
Agor o'i thrysor wrth raid,
A'i rannu i drueiniaid.
Ni lysir, gan Elusen,
Un cnawd, yn ieuanc na hen:
Edwyn eisiau dyn isel,
Yn hen a gwan, hon a'u gwêl:
A gnawd i hon gwneyd, o hyd,
Hen elyn ei hanwylyd;
Dau anwylyn dynoliaeth,
Brawdyn a gelyn, nid gwaeth.
Haelioni Duw.
Haelionus i'w elynion
Euog a drwg, ydyw'r Iôn:
Bod, einioes, pob daioni,
A roes Nêr, o'i ras, ini:
Pob peth yn ddifeth, hyfwyn;
Rhoi ei un Mab er ein mwyn:
A mwy braint, y Mab a roes,
Do, in' ei waed a'i einioes.
Rhown i Dduw.
Ninnau, na fyddwn anhael,
O'i eiddo 'i hun i Dduw hael
Mor hawdd, yma yw rhoddi,
Rhoddion Iôn yw'r eiddaw ni.
Yn awr, ai rhoi mawr im' yw?
Na, dylêd, neu dâl ydyw.
Plant Duw
Dadleudy i dylodion,
Ei dŷ sydd, pwy dawai sôn?
A rodder i'w rai eiddil,
Llesg, mân, lliosoga mil;
Ei blant Ef, a'i bobl ynt hwy;
Dibrin rhydd eu Tad wobrwy.
Pan yw blew gwallt pen ei blant—o dan rif,
Da in' roi eu porthiant;
Eu galw, cyn hir, gwir, a gânt,
I giniaw y gogoniant.
Delw Duw ar dylawd wr.
Gweld brawd ar ddelw 'Nghreawdwr,
A delw Duw ar dylawd ŵr;
A chofio 'nhlawd Iachawdwr,
Fu un dydd yn gofyn dŵr,
A enynna, yn uniawn,
Fy nhymer dyner a'm dawn.
Hanner yr eiddof, yn awr, a roddwn;
Ac heb ail wrtheb, y cwbl a werthwn,
I roi yn hael er enw Hwn:—teyrnasoedd,
Llawnder y bydoedd oll, nid arbedwn.
Rhoi o hyd yw 'mryd a 'mraint;—daioni
Yw nad wn ogymaint;
Dwyn iawn serch dynion a saint,
Dan deimlad cariad ceraint.
Brodyr o'r un bru.
Mewn ystyr, brodyr o un bru ydym;
Ar y cyntaf, yn Addaf, un oeddym:
Ni, i gyd oll, un gwaed ym,—yn ddiddadl,
Un cnawd ac anadl, ac un Duw gennym.
Yn amodau hunanymwadiad,
Caed amod amlwg cydymdeimlad:
Cyrraedd deheulaw cariad—i bob dyn,
Pe b'ai yn elyn:—pawb un alwad;
Pe'r Tyrciaid, pe'r Awstriaid, pob rhyw estron,
Pe b'ai wael alltud o blith pobl wylltion;
Arddel pob Gwyddel a gwiddon,—cofiwch,
Er bod dyngarwch, trwy'r byd, dan goron.
Porthaf bobl o bob parthau,—a byddaf
Yn porthi nesaf perthynasau;
Rhoi i'r rhai bach, ar air byrr,
Cu frodyr eu cyfreidiau.
Ystyriaf, teimlaf at ham—hen wraig glaf,
Hen wr cloff, ysgwyddgam;
Helynt gwrach legach, lawgam,
Mal ethryb modryb a mam.
Fewythr Wiliam.
Fy nwr hallt yn ddafnau rhed,
Uthr weled fewythr Wiliam;
Mamau, hen neiniau anwyl,
I'r drysau, mewn eisiau'n wyl;
O'r hen wr, mor druan yw!
Fy hen daid, fy nhad ydyw:
Troednoeth, a phen-noeth, a'i ffon,
A'i gydau dan fargodion.
Gwgan oedd, nid gwag o nerth,
Ac arno wir ddelw Gwrnerth;
O gynheddfau gweinyddfawr,
Cyrus, Ahasferus fawr.
Be'n eistedd yn Senedd Sior;
Ef i'w chanol f'ai 'i chynor:
Ac i'w deyrnben, cadarnbwynt
Y lluniai hi'n well na hwynt.
Nid oes yn nau Dŷ y Senedd—ei well;
Ow! O! mae'n beth rhyfedd
Na wnaed hwn yn ynad hedd;
Neu frenin o fawr rinwedd.
Ond yn lle hyn, adyn noeth,
Dan benllwydni, byw'n llednoeth:
Syndod, rhyw Alecsander
Mawr fel hyn; Ow! mor aflêr!
Ac yn lle nodwisg o gynlluniadau,
Eurwisg, sidanwisg, ac ysnodenau;
Urddedig arwyddiadau—coneddus;
Dyma'nhad Brutus a dim ond bratiau.
Nid oedd byddinoedd ei ddoniau —helaeth,
Nemor wasanaeth mewn ymrysonau;
Ond erydr a phladuriau,—oedd destyn
Ei ddawn; ac wedyn i ddwyn y cydau!
Tlodion Gwynedd.
Henaint a ieuaint teg wedd,
O ganol Llwythau Gwynedd;
Rhai'n hannu o frenhinoedd;
Am gardawd o flawd rhont floedd.
Tlodi rhianedd.
Rhianedd, rhai o honynt—lun boddiawl;
Delw ein Buddug arnynt;
Ac Elen deg, addien gynt
Lueddog, a hîl iddynt.
Tlodi plant.
Rhosynau blodau o blant—yn edrych
Yn odrist, ar ddiflant;
Eu rhinweddau, gorau, gant,
A hwy'n ieuainc, hen wywant.
Gwel lwyd-foch ag ol adfyd;—ac arwydd
Mai curio mae'r ysbryd;
Gwanychu, dygngnoi iechyd;
A dwyn gwedd y dyn i gyd.
Prinder a phob rhyw wendid,—a'u malant
Rhwng ymylau gofid;
Gorthrymder, llymder, a llid,
Ac anhunedd cynhenid.
Cydymdeimlad Elusen.
Hwy wyneblwydant yn eu blodau:
Gnawd i'r anwydog wneyd oernadau;
Gwel Elusen, ac a glyw leisiau,
Eu hoch'neidion a'u tuchaniadau:
Er achub ei gwrth'rychau,—goebrwydd
Y gyrr ei dedwydd, anwyl gardodau.
Arddengys ei bys bob eisiau;—estyn
Ei llaw, i'r adyn, ei holl wir reidiau.
Ei threfniadau, wrth reolau;
Yn ei cheisiau, iawn achosion:
Cyfraniadau, wrth fesurau,
O'i delidau, i dylodion.
Sefydliadau Elusen.
Saif hyd wledydd ei hen sefydliadau;
Manteision di brinion, hyd wybrenau:
Ac nid yw pob gwiwras Gymdeithasau,
O'r Fam a'r Fanon hon ond canghennau:
Golygir y prif golegau—mal hen
Erddi Elusen o iraidd lysiau. Elusengarwch.
Athrawon Elusen.
Mae'n addas im' unwedd son,
Athrawon gwiw a thrywel;
Mae Pindar a meib Handel,—wrth natur,
Gwerth Newton a Herschel;
Mae Olen a Galen, gwêl,
Yn y drysau'n dra isel.
Rhai o ddefnydd rhyw Ddyfnwal;—ein Tydain,
A'n Tewdwr dihafal;
Lluyddwyr, rhyfelwyr fal
Caradog, a'r cawr Idwal.
Yr un o fil, o'r rhain f'o
Yn ei choleg yn chwilio,
Acw â yn falch cyn ei fedd,
I wasanaeth y Senedd;
Ar ei thraul, mawr a thrylen,
Megys gwr llys a gwr llên;
Y sy'n awr o'i oes yn ol,
Athraw fydd, doeth ryfeddol.
Dyfynydd, beirniedydd noeth;
Chwalddart treithiau uchelddoeth:
Oni bo 'i ddoethineb ef
Uwch ben Sulien a Selef;
Gwel ffaeledd Gil a Ffwler;
I wŷr mal hwynt rhoi aml herr.
Bydd miloedd, oesoedd isod,
Yn tynnu at ei iawn nôd.
Ys iawnddoeth Elusenddysg—i'w choleg;
Uchelion wyr mawrddysg;
A thra ynddynt athronddysg,
G'ronw Môn gair yn eu mysg.
Pobl druon, lwydion, ddi oludoedd;
Eithr ydynt mewn ffydd a gweithredoedd,
Yn cludog, gyfoethog fythoedd;
Cyn hir, eneinir hwy'n frenhinoedd;
Tro nesaf, ca'nt deyrnasoedd—i'w mwynhau;
Heb naws o eisiau:—byw'n oesoesoedd.
Lot a roddodd lety, o'r eiddo,
I engyl nef; haddef yw iddo:
Mwy'r fraint a'r haeddiant i a'i rhoddo,
I'w brenhinoedd, heb arian, heno.
Cardotyn, bid cariad ato;—weithion,
Mynnodd y breision ym yn ddibrisio;
Cardotyn fydd, cred eto,—yn nheyrnas
Duw, a deg dinas odidog dano.
Rhoi bwyd sy' well na'r bydoedd—i fagu
Pendefigion nefoedd:
Groesawu gwyr sy' ar goedd,
Fry'n eu henwau'n frenhinoedd.
Elusen a Degwm.
Darbodaeth Awdur bydoedd,
Wrth ei air a'i gyfraith oedd:
Ordinhad, ni roed o nef,
Fwy diddadl i fyd addef.
Pennod heb raid esponiaw;
Amlwg ar bob llwg a llaw.
Hen Feibl, a hwn o'i faboed,
Sydd dros yr achos, erioed;
Yr Iubili ar ei blaid;
A degwm, dâl bendigaid;
Tâl ydoedd i'r tylodion;
A thâl at wasanaeth Iôn.
Duw a'r gweddwon.
Ys dyunwyd ei hachos daionus,
A'r dwyfawl, gynaddawl gogoneddus;
Am hyn rhaid addef mai anrhydeddus,
Yw gwneuthur Elusen i'r anghenus:
Y GWEITHIWR.
"Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar et ewin."
Hynod mor anghydmharus—cymdeithion,
Duw mawr a gweddwon llwydion, trallodus.
Ni ddichon y ddau achos,
O barth anwyl berthynas,
Wahanu byth; ni bu os;
Pâr ydynt mewn priodas.
Ysgrifen Moesen.
Israel a gadd brif addysg,
Ysgrifen Moesen i'w mysg;
Duwiolion pob ardaloedd,
Eu bri, a'u crefydd bur oedd:
Siob, wr gwiw a syberw gêd,—a chwiliai
Gwynion na wyddai, a gwnai nodded.
Dysgeidiaeth Crist.
IESU, pan ymddangosodd,—wir Athro;
Ei hethryb cyfnerthodd:
Efengyl ni chyfyngodd
Ar hon, mewn un rhan na modd.
Nid lloffion, nid cyrion cae;
Maes y rhan a mesur hwy:
Nid wrth lên Moesen y mae;
Cariad Samariad sy mwy.
Iawn y dysg in, "Dos a gwerth—a feddych:
Dod wirfoddol aberth,
I'r tylawd un gnawd, gwan nerth,—newynog,
Anwydog, ofnog, hen, digyfnerth.
Ac o cheri Iesu Grist fel Cristion,
Amlyga dy gariad i'r tlawd gwirion:
Edrych am anwyl gadw ei orch'mynion;
O gwnei ryw giniaw, gwna i rai gweinion;
Ac nid rhai goludog, cyfoethogion:
Nid cyfarch a gwneyd cofion; ond gweithred:
Rhoi tirion nodded i'r truain weddwon,
"Ac wrth weithredu'n ddi goll,
Na udgana; dyma'r dull;
Boed na wypo byd, nepell;
Ie, naill law a wnel llall."
Yn y dirgel, gwêl Duw'r gwaith,—lle byddo,
A mawr ei foddio mae'r ufuddwaith.
Cardodau y credadyn,
A'i arlwy hael ar ol hyn,
I'w ddilyn a ddaw ailwaith.
Nid iaspis, aur, a grisial;
Ni bu ariant na beryl,
A ro'er i'r tlawd, dydd brawd dâl,
Ei ddangos i ŵydd engyl.
Crist pan ddél, arddel, mewn urddas,—y gwaith,
Ar goedd y tair teyrnas:
Ac am weini cymwynas,
Bydd mawr wobrwy, drwy râd ras.
Gwobr Elusen.
Tlodion y'nt deulu da Nâf,
Llios o'i frodyr lleiaf:
A weinyddo un nodded,
I'r rhai'n a ga' orhoen gêd:
Yn y ne', dyle dilyth,
Mamon yn gyfeillion fyth.
Cânt ogoniant digynnen,
Teyrnas, gwych balas, uwch ben;
Y'ngwawl anfeidrawl nef wen;—coronau,
Gemau a thlysau o waith Elusen.
Y rhai yn awr a heuant—eu maesydd,
Dim eisiau ni welant;
Os i'r bedd, ar ddiwedd ânt,
I fedi adgyfodant;
Myned i fyd y mwyniant,
Y' myd y nef medi wnant.
Byw a Marw'r Cybydd.
Ond garw, Ow! mor welw awr marwolaeth,
Ydyw y sennwr diwasanaeth,
A roes ei ariant ar usuriaeth;
A gado'r tlawd i gydiaeth—mewn trychni,
A dir galedi ei dreigladaeth.
Yn ei liain main, mynnai
Fyw'n foethwych, dan fynych fai:
Llidiodd wrth bob llwydaidd ddyn,
Yn ei ddrysau'n ddi resyn;
I ddwyn dim oedd yn ei dai,
Ni thyciai gair na thocyn:
Rhoi i'w gwn, ar ei giniaw;
Ond dal y trist ddyn tlawd draw.
Ymhyllai, dwrdiai bob dydd,
Cernodiai eu cornwydydd;
Dydd y farn gadarn, ar goedd;
Eithradwy y gweithredoedd;
Duw a rydd ei dir a'i waith,
A'i hen eiddo yn oddaith;
A bydd yr hen gybydd gau,
Yn eu canol yn cynnau;
Ei dda, am fyth, i ddim fydd,
Ond i'w enaid yn danwydd.
Nis gwnaed gwisg i'w enaid gau,
Na 'i gorff llwm, ond gwaew'r fflamau.
Ni cha' yntef yn grefwr,
Byth yn ei safn ddafn o ddŵr,
I oeri tafod eirias;
Dloted fydd y cybydd câs.
Crist a'r Cybydd.
Crist ni fyn ei ddilyn, na 'i addoli,
O fydol annyn f'o di haelioni;
Gwel adyn dan galedi,—a'i dda maith
I'w dynn goffr; ymaith âi dan gyffromi.
Yr Eglwys Fore.
Blodeuog bobl Iudea,
Oblegid erlid, eu da
Cyffredin, coffhair, ydoedd;
Oll eiddynt, rhyngddynt yr oedd.
Annhrefn y swydd hylwydd hon,
Ataliai'r apostolion;
A'u gofal er cynnal, caid,
Gwragedd gweddwon y Groegiaid.
Casglu a threfnu, wrth raid,—eglwysig
Elusen i'r gweiniaid;
Tyst hoff in' gynt, Stephan gaid,
Deg gynor diaconiaid.
Pa sut, eilwaith, mae'r apostolion,
Ag eirch eu miniawg orchymynion?
Yn ol y rheol bur hon,—hyd heddyw,
Cyfartal ydyw cofio'r tlodion.
I'w plith rhoi Paul athrawus
Dragwyddol reol ddi rus.
Cardotai'r cywir Ditus,—trysorydd
Oedd, a chasgliedydd i'w hachos clodus;
Bu'r mâd Ganwriad, yn wir,
Was cywir, a Zaccheus.
Dacw'r anwylyd Cornelius— drugarog:
A'i feddwl enwog, ufudd, haelionus;
Swniodd ei Eluseni,
Hyd nef, y'nghlustiau'n Duw ni.
Os cair, funudyn, eu 'sgrifeniadau;
O mal y soniant am Elusenau;
A thaerion yw'r llythyrau,—heb ffuant,
O un rhyw siomiant yn y rhesymau.
Elusen anfeidrol Crist.
Ys Crist, yn drist, dan boen drom,
Fu o'i rad ras farw drosom;
Gwael na roem, o galon rydd,
Ein golud dros ein gilydd.
Gwiliwn ddrwg galon ddi ras,
Annuwiol Annanias.
Elusen yn teithio o'r Dwyrain.
Ei gwybodaeth helaeth oedd,
Acw yn Asia'r cynoesoedd;
I Frydain, o'r Dwyrain, daeth,
Ar ei thro, yr athrawiaeth.
Cyrraedd Prydain.
Ac yn ein Prydain wen, gain, ogoned,
Gwladychodd, hydreiddiodd, a chadd drwydded;
O drysor llawn, drws ar led—oddeutu,
Lle i wasgaru a llys agored.
Cyn cred, ddeheued oedd hon;
O'i thu'r oedd doeth Dderwyddon;
Ond, er dawed cred, cair hi
Trwy'r Gair yn tra rhagori.
Cydsynio caed y Senedd,
I'w choroni hi mewn hedd;
A chai le yn uchel lŷs
Brenhinoedd bore'n hynys;
A'i baniar uwch Unbenaeth
Holl lys yr Ynys fawr aeth.
Ein gorhaelion fawrion annifeiriawl;
Mordaf a Nudd, hen Gymry defnyddiawl,
A'n Rhydderch yn orhaeddawl—o'u coffhau;
Cu iawn yw henwau'r fath wyr cynhwynawl.
Cariad Prydain at Elusen.
Moliannwyd, am haelioni,
Ein tad Naf, a'n teidiau ni;
Dyngarwyr dynion gorhael;
Cofier hyn, ac Ifor Hael.
O bydded i bawb addef,
Filoedd o'i hefelydd ef.
Mawr yw meib Cymru, a'i Môn;
Mwy na Rhydderch mewn rhoddion:
Lliosawg bob lle, eisoes,
Yw mawrion haelion ein hoes:
Dyma wyrda, had Mordaf;
Heidio o ne' mae had Nâf.
Ys cryf fu Selyf a Siob,
Mae'n awr wŷr mwy yn Ewrob.
Rhannu'n awr, yn aneirif,
Mae cynrain y Brydain brif:
Talent ar dalent yw'r dylif;—ffyrling,
Hadling ar hadling yr ehedlif.
Dyngar, Elusengar swydd;
Gwiwddrych boneddigeiddrwydd.
Yn yr Ynys wen, ariannog,
Hael, gywreiniawl a gorenwog,
Tai Elusen y'nt liosog;
Onid ydynt iawn odidog?
Didrai rhy' rywrai arian,—ddigonedd
I gynnal y cyfan:
Di gyrrith fendith i'r fan
Lle deillio, o hyd, allan.
Adnoddau Elusen.
Syndod, bob Elusendai!—
Ba fath draul, ac heb fyth drai!
I'r rhai'n, ba seilfain, be sydd?
Neud y mwnai'n domenydd.
Prif fwn—glawdd cudd, hawdd cadd hi,
Cyfnerthydd, neud cefn wrthi;
Gwythen oedd, gwaith iawn addef,
A'i phen anorffen yn nef,
Ar draul hon, rhodio ar led,
Ac arddelwi gorddyled;
A dreuliaw daearolion,
Ni leiha gornelau hon:
Ni dderfydd nawdd ei harfoll,
Pyrsau Duw; pa arswyd oll?
Pres fwnai Paris Fynydd,—aur Periw
Eu parhad a dderfydd:
Rhad hon, heb unon, beunydd,
Duw'n Drysorydd.
Yn fwy fwy o nef a fydd,
Daioni a dywenydd,
Ail i'r haul a'i oleu rhydd:
Y Duw da fu'n gwneyd y dydd,
A'r twrr ser, yw'r Trysorydd;
Efe a lywia'n ddi lŷs,
Ei waith oll, wrth ei 'wyllys;
Mewn munud, man y mynnawdd,
Y dŵr yn win a droi'n hawdd.
Trumau Ewrob, creig bro brid
Eryr, gwnai'n fyrierid;
A'r clai'n fwnai neu fânaur,
Ail i Beriw lwybrau aur.
Anian fawr a wna'n forwyn,
Ednod a physg dysg i'w dwyn.
Pïydd aur ac epaod,
Ac oll a fu, ac eill fod;
Y ddaear yw eiddo'r Iôn:
Holl nwyfau, a llu Neifion;
Lloer, a'i nwyfau, llu'r nefoedd,
Eiddo y cwbl, ddaw ac oedd.
Ei radau ymddiriedodd,
Dan eu rhif, Duw in' a'u rhodd;
Nid ein heiddo ni ydynt,
Ei eiddo Ef heddyw y'nt;
O'i drysawr gwerthfawr ar g'oedd
Torrwn eisiau teyrnasoedd.
Na chynilwch, anwylyd;
Tâl Duw gôst y tlawd i gyd.
Treth deg Elusen.
Ni bu annoeth Unbennau—ein Hynys;
Ni honnwyd gwrthddeddfau:
Rhoed i'r hyn y perthyn, pau
Prydain, a'i darpariadau,
Telaid hawl y tlawd yw hon;
A threthir ei thir weithon;
E dretha'n Llywodraethydd
Bob cwys o'n Paradwys rydd.
Elusen Sior y Trydydd.
Rhaith Duw Ior a'n Sior ni sydd—yn union
Un goelion a'u gilydd;—
O blaid y tlawd, a ffawd ffydd,
Y troedia Sior y Trydydd.
CROESFFORDD MAUGHAN.
Y Sior uchelwaed sy' or'chwyliwr
Ei dylodion, a'u da lywiawdwr;
Ymgeledd gorsedd y gŵr—i'w faon,
Wna glod i goron ein gwladgarwr.
Ie, 'i dylodion, ei deulu ydynt;
Parodd eu harddel, dirprwyodd erddynt;
Boneddion bawb o naddynt;— cyfreithwyr
Rhôi, a'n seneddwyr yn weision iddynt,
Gweddi dros Sior a'i deulu.
Ein cynor Sior, ar ei sedd,
Adfero Duw ei fawredd
I'w iechyd, a'i fywyd f'o
Ddyddiau hedd i'w ddyhuddo;
A'i had a f'o hyd y farn,
I'n ciwdawd yn ben cadarn:
A chorff y wlad yn wychr, fflwch,—dan dirion
Loew, iesin goron Elusengarwch.
Nid degwm, ond digon.
O'r degfed bu gêd pob gwan,
Ac anghenog, y'Nghanan:
Ond gwyddys, i'n Hynys hon,
Mai nid degwm, ond digon.
Rhoir digon i weinion wŷr;
(Mae'r degwm i'r diogwyr?)
Rhyw deyrnged ddi rifedi;
Cyhyd a'r rhaid codir hi,
Dreth ddinac; diwrthwyneb
Aerdreth, o flaen ardreth neb. "
Ai hwy" ('n fwyn, un ofynnai,) "
Yw arglwyddi'r tir a'r tai?"
O!'n awr, dedwyddach i ni,
A chwe rhwyddach yw rhoddi:
Hau'n helaeth, helaeth â hi;
Gwyn-fyd yn nef gawn fedi:
Rhoddi wna drysori sail,
A chodi goruwch adail.
Rhyw ddyn a wasgarodd dda,
Gai 'chwaneg, o echwyna.
Pa fraint sy cymaint, os caf,
Roi echwyn i'r Goruchaf?
Ac heblaw hynny, y cwbl a henwyd,
Pa faint o ariaint eto a yrrwyd
O Frydain, pan ddifrodwyd—taleithiau?
Am Elusenau hon aml y soniwyd.
Prydain a'r gorthrymedig.
Pan fu goruthrau, taranau trinoedd,
Yn taro'n isel iawn y teyrnasoedd
A draws-feddiannid gan drais-fyddinoedd,
Mawr, O!'r dolur gai amryw ardaloedd.
Draen du i lawer dirion deuluoedd;
Troi'n ffoaduriaid, drwy anffawd yrroedd,
O'u cyfaneddau acw i fynyddoedd;
Aberthai Brydain lydain oludoedd,
Blaendorrai eu blinderoedd:—bendithion
Y truenusion ddont arni oesoedd.
Caethiwed, llaw galed, lle y gwelai;
Gerwin lymder, croch oerder carchardai;
Yn dosturus, arwylus eiriolai,
Ar ran y dinerth, er nad adwaenai:
Casglodd, anfonodd fwnai—i'w gwared;
Hoew law—agored, a hael y gyrrai.
Ac os cwn, neu faeddod cas, canfyddai,
Yn darnio y ddafad wirion, ddifai;
Gan ei brydwaed, ei gwyneb a wridiai:
Ein hen Brydain i'w hwynebau rhedai;
A chwbl allodd achubai,—gwobrwyon
Gan is-raddolion, gwn nas arddelwai.
Gwlad Elusen.
Prydain sydd, parhaed yn son,
Yn meddu dawn a moddion;
A'i hofn, a'i pharch, fwy na phob
Lle arall yn holl Ewrob:
Ei chyfoeth mawr, a'i chofion,
Yn ddi ri' sydd yr oes hon;
Deall y byd oll o'i ben,
Gwel dlysau gwlad Elusen.
Y Feibl Gymdeithas.
Yr oes hon, er ys ennyd,
Cair hi'n berl coronau byd:
Er ei gwawrddydd o rydd ras;
Dwthwn y Feibl Gymdeithas,
Elusen Elusenau,
Beth am hon byth i'w mwyhau?
O rhyfedd, yr Iehofah,
Rhoi 'i hun i ddyn yn rhan dda;
Hynod ddarbod; e dderbyn.
Yntau o gardodau dyn.
Hynod iawn y daioni,
Yr Ior nef, rhoi 'i Air i ni;
Mwy rhyfedd, Duw mawr, hefyd,
A'i Lyfr bach ar blwyfau'r byd.
Elusen yn teithio'n ol i'r Dwyrain.
Od aeth y fendith hyd eithaf India,
O'i da ewyllys hi a'u diwalla;
Llwybr i'w chyniwair lle bu arch Noah,
Aed o'r Ararat i dir Aurora;
O'r Ynys, moried i'r hen Samaria;
Dychwel hi'n dawel i hen Iudea;
Ys llafur hon nis llwfrha;—adnebydd
Y cu leferydd ochrau Calfaria;
Cyn hir pregethir ar ben Golgotha,
Neu, mewn mawr awydd, yn mhen Moriah,
Yr Olew-wydd, a mynydd Amana;
Daw'r amser da'r adfer Duw ryw oedfa,—
Pwy? Hen eglwysydd penigol Asia:
Cenhadon can' eu hwda—o fyned;
Neud drws agored, nid rhyw segura.
Hwt, y Bwystfil, gau Broffwyd heb westfa;
Neb, neb o'u deiliaid na bo'n Abdalah.
Cwymp Babel uchel dan bla,—yn ei hawr;
Wele oleuwawr! Wi! Haleluiah!
Ansawdd oer Ynysoedd Iâ—cynhesed,
Eich tir, O caned, a choed Hercynia.
Oian, ho, hoian, ha, ha;—crechwenir
Yn nef, ban gwelir gan feibion Gwalia,
Dawn Dduw'n dwyn newyddion da—i'w hoff dir
Hermon a Senir, Amen, Hosannah.
Daw'r genedl adre' i Ganan;—daw ail
Adeiliaw coed Liban;
Daw mil myrdd o demlau mân,—mewn purdeb
O odre Horeb, draw, i Haran:
Ac hefyd, y byd cyfan,—a fynn hi,
Yn glau, goroni; ac ail greu anian.
Hynt Elusen.
Cyn hir, gwreiddir gwir addysg
Iesu mawr, a'i ras, y'mysg
Paganiaid y pegynau,
Lle bydd eglwysydd, yn glau;
Crist'nogion ffrwythlon a phrif
Henuriaid yn aneirif.
Da dwg addoldai digoll,
O'r Indus i'r Andes holl;
O'r Mynydd Gwyn i'r Minho,
Caspin, Appenin, y Po;
Tai mawl, o faint temlau fo
O'r Ganges fawr i Gongo.
Wele'r gwyllt addolwyr gau,
O'r miloedd, ar ymylau
Ganges; b'o hanes pau hon,
Fwy enwog nag fu Ainon;
Heb warth mwy aberthu myrdd,
I fawr gerhynt dwfr gorwyrdd.
Nid boddi enaid byddant;
Byd ddaw'n well, bedyddio wnant;
Un buch a'r Eunuch yr ant;—i Grist mwy,
O fodd hwy ufuddhant.
Urdduniant yr Iorddonen
Fo 'u deddf hwy, fedyddfa hen;
Lle bu yn malu miloedd,
Olwyn y certh eilun c'oedd,
Ni fydd draw, man fu ddi drefn,
Ar fyrr, unrhyw fawr annrhefn,
Na gaulun i'w ogelyd,
O begwn i begwn byd.
Cytun fydd Catai hen, faith,
A Chafres, dan ei chyfraith.
Cenhadon acw yn hudaw
At Grist, y byd trist, boed draw.
Cofiant o lwyddiant di lys,
Eluseni'r las Ynys.
Y rhawg cofir rhoi cyfoeth,
Ac aur nef i Negro noeth.
Y Gaethfasnach erchyll
Nid tywys Indiaid duon—mwy'n orthrwm,
Yn wrth'rych torr calon;
Ond, er lles i'n brodyr llon,
Rhoi addysg i'r gwyr rhyddion.
Yn flin fal anifeiliaid,—yn gaethion,
Y gweithiai trueiniaid;
Eu llafur oedd bur ddi baid,
Goris tynbwys gwres tanbaid.
Ow! dyn, bryfyn brau, afiach,
Yn dwyn ei bwn, adyn bach;
Rhag ei weled rhed yr haul,
Wres araul, yn brysurach.
Ar ladron dynion nid oes
Gywilydd weld eu gwaewloes.
Gwrthuni gwerthu einioes,
Trwy ben Elusen a'n loes:
Fyth na fid y fath an foes
Ar Ewrob, a'i gwyr eirioes,
A dwyn gwiw eneidiau'n gaeth,
Drwy ofnadwy drefnidiaeth;
A dynoliaeth dan wylo,
A gwedd wael, yn gwaeddi
Oh! Fferdinand cyffroed yn awr,
A Lewis ar oleuwawr;
Na b'o yn hwy unben hyll
Gelli, a'i ddaint yn gyllyll.
Wilberforce a Howard.
Dros bedeiroes, bid araith
Wilberforce, oleubraff iaith,
I'r byd yn brif ysgrifen;
Hardd amgylcher llawer llen:
Drwy holl Ewrob yn mhob man,
Llinellau, o hyn allan;
Geiriau ei bwnc gorwiw, bid
Arwyddair i wir Ryddid.
Un gair, yn ddisglair, neu ddau,
Fo'n arwydd ar fanerau;
Ar ffyd, neu gerbyd pob gwr
A'r sy'n eiddo'r Seneddwr
Yn Senedd Hispaen swnio,
A phregeth ddi feth a f'o:
Llwybrau brâd, lle bu'r iau brês,
Ac artaith lladdfeydd Cortes;
Haelwyr da fal Howard, fo
Lwyddiannus, filoedd, yno,
Unawl, ac un hawl, cyn hir,
Caf India a'n Cyfandir;
Ac nid erlid cnawd, arlwy,
A dwyn y meib duon, mwy;
Elusen yn gowenu,
O gariad ar Negro du.
Cyfiawnder i India.
Dan with hon, dynoliaeth dda,
Cyfiawnder caf i India;
I'w thref, Yspyty ac Athrofa—bydd,
Erbyn a'u gilydd yn nhir Benguela.
Dwyn i fod ddefod ddifai,—nefolaidd,
Eglwysi Indiaidd ac elusendai;
I'r enwir a'r anwar rai,—dysg urddas
Hen wersi Gildas yn yr ysgoldai.
Gwiblwythi'r coed-dir, Catai,—bro'r Ganges,
Andes, y Gafres yn dysgu Efrai:
Y fwyn Efengyl, heb fai,
Trwy wir grefft yr argraffdai;
Mewn llyfr, a dim mwy na llai,—argraffir,
Cyn hir, yn Senir, ac yn'r hen Sinai:
O! gwyn fyd! O gwae na f'ai—heb gerflun,
Na delw neu eilun hyd lannau Ulai.
Cyfieithwyr Beiblau.
Ymdrwsio mae dros y mŷr,
Acw i faethu cyfieithwyr;
Mwy boed nawdd meib duon wyr,—plant gwylltion
Fu'n byw yn noethion fo'n benieithwyr.
Meib i Garey 'mhob gorawr,
Canwyf mwy, cynhaeaf mawr.
Elusen a'r Pagan.
Ynfydion dan ofidiau,—gwirioniaid
Gorynys y Dehau;
O chaiff aur a chyffyriau,
Nis meth hon eu hesmwythau.
Dwyn nwyd-wyllt waew-eneidiau—cythreulig,
Rai gwallcof loerig i well cyflyrau:
O gariad, gwneyd ei gorau,—na bo'n gaeth
Neb, yn ysglyfaeth i'w boenus glwyfau.
Y gorddeirch ydynt ei gwir ddyrchedig;
Hwynt fynn nodi ei chyntaf—anedig:
Gwena a gwrida'n garedig—arnynt;
A denfyn iddynt yn ofoneddig.
Diwalla, dyhudda hon
Alltudion trallodedig.
Prydain fu'n peri adwyth
I deulu pell, dâl y pwyth;
Elw trais yn ol eto rhydd
I'r byd ar ei bedwerydd,
Drwy estyn dros y donn draw—bob moddion,
O'i gwiwfawr roddion i'w gyfarwyddaw.
Seneddwyr Prydain ac Elusen.
Yma i'r Senedd, wiw ymrysonau,
Y cair rhyddfreinwyr cywir ddwyfronnau;
Dyngarwyr, gwladgarwyr o glod gorau;
Gwerin bleidwyr dan goron a blodau;
Dros y tlawd, didlawd eu dadlau:—gwarant
In' y try llwyddiant eu haur—allweddau. Elusengarwch.
Ac os oedd dda gosod gwiw swyddgeiswyr,
Yn newydd, orchwylus, gynddrychiolwyr;
Ni a'u disgwyliwn, onid oes gwaelwyr,
Ein gweinidogion gwiw, a'n diwygwyr:
Nid i ddifa'n dioddefwyr—tlodion,
Na dal yn gaethion dwylo ein gweithwyr.
Dadl Masnach Rydd.
Symudwch y dreth sy'n dyfetha;
Un glo'n aberoedd, un gwlan a bara;
Ac un halen, rho'wch ar y cwn hela,
Neu ar deulu Endor, a dail India:
Neu wnewch yn unionach na hyn yna.
Alban, Lloegr, clybwn oll, â—chwerw iawn floedd;
Llais ein cenedloedd oll sy'n cynadla.
Trethydd yd, nid rhith o dda,—dilewch
Olwg, O gwyliwch lewygu Gwalia!
Arlwy na b'o mwy yn mhob man,—rhwng holl
Ringylliaid pedryfan;
Gridyllio'r gair du allan,
Lloegr gôch yn llewygu'r gwan.
Y ddwyradd Senedd wiwrif,—iawn syniont
Hyn o senn o ddifrif.
Tai disgraid, at Ŷd-ysgrif,
A fo'n peryfon a'n prif.
Na foed gormod baich.
Nid bod blwyddyn a blwyddyn yn bloddest;
A cheisio gwleddoedd o'u chwys, a gloddest;
Ond arwain barn mewn dirwest,—o bobtu;
Yna llewyrchu wna llai o orchest.
Na bo unpeth yn benpwn;
Llwyth rhy fawr, rhag llethu'r fenn:
Gyrrwr teg, ar riwiau'r tynn,
Ni yrr ei wêf yn rhy wan.
Ys cymwys y nodais y camsyniadau;
Deued adgodiad, a diwygiadau;
Bywyd tylodion heb ataliadau;
Ac na bo ochain gan waew eu beichiau;
Uchel dwyll, a chaled iau,—gan druain,
Mwy; ac y' Mrydain dim camhaeriadau.
Anghyfiawnder, mam Gwrthryfel.
Gwir athrofa gwrthryfel
Yw'r frysgyll daer, fraisg lle dêl;
Ni ddaw i'n blingaw ni blaid,
Yn Mrydain o Nimrodiaid;
Yn ysgol hedd nis gwel hi
Un Gwrtheyrn, na gwarth arni.
Ond hwy a ledant i'w hewaint tlodion,
Eu calonnau a'u dorau, yn dirion;
Ystyriant eu heisiau taerion;—cofiant
Mor dda a fyddant mewn myrdd o foddion.
Y tir amaethant, gwnant bob trymweithiau;
Ein tir diffynnant trwy waed a phoenau;
Cyrn ein teyrnas, gwaisg urddas, gosgorddau,
Yn gwrthdrin gâlon, greulon, hagr aeliau;
Morwyr, moraerwyr, grym i'w mawreiau,
I drosi llynges hyd wersyll angau:
Dwyn pwys Celfyddyd ein pau;—ac hebddynt.
I ba blwy'r hèlynt bobl y rheolau?
Ein boneddion, byw'n haeddawl—y byddont,
Er budd cyffredinawl;
Ac er mwyn cyweirio 'u mawl
Yn Iforiaid anfarwawl.
Cyni'r Gweithiwr.
Yn ymyl barn, aml y bu
Drudaniaeth yn dirdynnu:
Gwaethu cyflog y gweithiwr;
Arno bu curo bob cwrr.
Mae y gwr yn ymguraw,
A'i dylwyth yn wyth neu naw:
Dan oer hin yn dwyn y rhaw,—mewn trymwaith;
Bu ganwaith heb giniaw.
Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar ei ewin;
A llwm yw ei gotwm, gwel,
Durfing i'w waed yw oerfel.
Noswylio yn iselaidd,
A'i fynwes yn brês oer, braidd.
Ba helynt cael ei blant cu,
Oll, agos a llewygu?
Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rho'i angen un rhwng y naw.
Edrych yn y drych hwn dro,
Gyrr galon graig i wylo:
Pob cell a llogell egyr,
A chloiau dorau a dyrr.
Rhoddaf iddynt o'm da.
Af yn awr, os erys fy nhrysorau,
Yn y tryfesur torraf eu heisiau:
Ys y'nt weithion yn noethion dan aethau;
Ydd hil haelionus a ddel o'u lwynau,
Ond odid, dan wendidau,—nad f wyrion,
A berth ddanteithion a borthant hwythau.
Pwy wyr pa ddamchwa a ddymchwel—'y mwrdd?
A'm hurddau goruchel,—
Chwith, ni wy's dim chwaith, nes dêl
Mawr drysawr Duw i'r isel.
Llawer man lleiheir mwnai;
Rhyw ail drefn i'r awel droi:
Daoedd, a thiroedd, a thai,
Iechyd a pharch wedi ffoi.
Ni threngaf, er rhuthr angen,—dan ofal
Duw nef, ac nid amgen;
Caf fwynhau, caf fyw yn hen,
Ryw ail oes ar Elusen.
Gweithiaf, ac enillaf arian.
Ond gweithiaf yn ddyfal a gofalus;
Enillaf arian, yn ddyn llafurus;
Fy alaf arbedaf yn ddarbodus;
Nid i'w claddu yn do cywilyddus,
I rydu; na 'u treulio yn afradus;
Ond rhannu i'r truenus,—a'u llonni,
O'm holl ddaioni, a 'myw llwyddiannus:
Lle i roi arian.
Rhoi'nghynnydd i'r anghenog,
Arian-lle da i roi'n llog:
Mechnïydd, dyledydd di lŷth,
Llaw gaf fyth hollgyfoethog.
Rhyw hogiau, a rhai egwan,—yw'r pyrsau;
Ie,'r gôd orau i gadw arian.
Tlotyn, angel yn canlyn.
Ys oedd minteioedd tewion,—i'r drysau,
Ar draws, o dylodion;
Bendithir, cyn hir, gan Ion,
Tai'r gwragedd trugarogion.
Credu ateb cardotyn—gwan, distadl,
Gan dystion sy'n canlyn;
Nabod iaith wyneb y dyn,
Tecach na llawer tocyn.
Digon o dystion distaw—yw'r corpws,
A'r carpiau am danaw;
Tru yw dull hwn, troed a llaw,
R wy'n gweled, bron ag wylaw.
Daw atoch hen gardotyn,—rhai i'engaidd;
Rhyw angel yn canlyn;
Gwel yn deg, drwy galon dyn,
Ba groesaw ga' feib gresyn.
Pawb i'w le, Elusen at eisiau.
Rhai beilchion, breisgion ein bro,
Caerbaddon ceir i'w boddio;
Ac wedy'n, gwenyn yn gwau,
Carant, cofleidiant flodau;
Sais ei bwnc; a Swiss i'w bau;
Elusen lle gwel eisiau.
Gwaith Elusen.
Melysu mae Elusen,
Y bustl, a'r huddugl, o'i ben:
Gyrr chwerwder o garchardai;
Newyn y lleidr a wna'n llai.
Nid bai a noda â'i bys;
Ond angen hi a'i dengys.
Natur Elusen.
Gwreichionen, haden yw hi
O ras Ion a'i resyni.
Henffych well iddi.
Aed ogylch, a diwygio,
Diwallu byd oll y b'o:
Teyrnasoedd truenusion,
Draws a hyd, a drwsio hon;
Gwellhau pob llwythau i'w plith:
Hyd Banda aed ei bendith.
Anrhydedd y Gogledd gweld
Ei phrif-ffyrdd drwy'r Dophraffeld.
O'r Appenin i'r pinwydd,
O dywyn i benrhyn bydd;
Pob pant, bryn, nant, pob rhyw nen,
Oll lle dringo lleidr angen;
Draw rhaeadru drwy'r hydred,
Mwynder hon, fal Moendor, rhed;
O'i golud, byth, gwlaw di baid,
Mae digon i'r Madogiaid.
Llwyddiannus ca' Elusen
Wynfyd ar y byd o'i ben.
Oi, Oi fydd yr oroian;
Natur, o gylch, un tro gân;
Brau ddwsmel beraidd, esmwyth,
Rhyw bibell aur i bob llwyth.
Drwy bau deg cred, a'r byd crwn,—ei llwybrau,
Ar heirdd orlennau'r hir ddarluniwn;
Diwedd ei hawdl, y dydd hwn,—mewn saffir,
Ag aur o Ophir, a argraffwn.
GRUFFYDD DAFYDD O FRYN ENGAN.
NODEDIG o ddawn nid ydoedd,—er hyn
Rhannai fara'r nefoedd,
O'i law aur i laweroedd, —
Offeryn Duw, a'i ffrynd, oedd.
CYFARCH Y GWEITHWYR
With fyned heibio, y Sadwrn olaf o Ionawr 1820. Planwyr
coed Syr Thomas Mostyn, perchennog y Gaerwen,
oeddynt. Maughan oedd y goruchwyliwr.
WEL iechyd, iechyd ichwi—y gweithwyr;
Pob gwythen ar egni;
Milain hwrdd-y'mlaen a hi,
Mae'n rhy'wyr y' min rhewi.
Ho, mae cant am y cyntaf;—am y pen
Y mae pawb, mi welaf;
Gwa'wdd yn ol, a gwaeddi wnaf,
Mwy gwrol am y goraf.
Daw,'r truain, ich' draed rhawiau;— da paloch;
Daw polion i minnau;
Na fo'n bod, yn Eifion bau,
Eisieu mawrion swmerau.
Nid hel brwyn ond hwylbrennau—y byddant,
Er budd i lyngesau;
Gwae y lleidr—byd yn gwellhau,
Grug a brwyn yn grogbrennau.
Gwyr nerthol a wnaen' gryn wyrthiau;—palent
Nes pylu'r holl arfau;
Ennill arian holl Ewrob,
A phlannu pob affliw o'n pau.
Ban chwysoch, ben a choesau,—da palwch;
Daw pelydr melinau:
A thyf o bridd eithaf brau,
Er eich mwyn, arch i minnau.
Rhyw wych grydau, eirch credir,
O'u ceinciau'n hawdd, cawn cyn hir;
Newid ar ddeunydd noeau,
A thanwydd o'r bregwydd brau.
Ac wedi rhoi'r coed ar werth,
Gofynnir rhyw gyfanwerth;
Gwel Rhifydd gymynydd mawr,
Wrth y droedfedd, werth drudfawr,
Rhagor mawr i'r gwr a'u medd,
Ar y grug ddygai'r gwragedd.
Creu a wnewch i'n Caerwen ni,
Cysgod rhag dyrnod oerni;
Cysgodion lle cwsg adar,
Tŷ'r edn gwyllt, a'r eidion gwâr:
Ac is gwiwdeg gysgawdwydd,
Eidionau'n porfâu a fydd.
Cau cloddiau, amlhau, mal hyn,
Y gwrysgoedd i'w goresgyn;
Y fath ddrain a feithrinir,
Fu gynt yn fwganod tir;
Synai hen oesau yn ol
Fynd eithin mor fendithiol.
Defaid, gwartheg, ac egin,
Ca'nt les rhag gwres ac oer hin;
Wyn a lloiau yn lliaws,
Amgen hwynt, magu yn haws.
Amlhau buchesau a chaws;
Mwy ddengwaith yn ymddangaws:
A ffyniant, prifiant y praidd.
Lle porant y mill peraidd.
Ys degwm sy daeogaidd,
Yn gwywo'r yd yn y gwraidd,
Cnau'r ddaear liwgar ar led,
Ei chnwd rhydd, —a chant drwydded.
Y dwfr fu'n codi efrau—i gerdded
I dir rhy galed, hyd rigolau;
Yn ddof y rhed, dan ddyfrhau—y sych-wraidd;
Dwg wair gwlyddaidd hyd y gweirgloddiau.
Ys byr-frwyn, llafrwyn yn llu,
Neu gyrs oedd yn gorseddu;
Pabwyr gleis, pob oerweig wlydd,
Hesg lwyni, a siglenydd.
Pe ba'i grug pybyr eu gwraidd,
Byr galed—wellt brig—lwydaidd,
O unrhyw do yn rhy dynn,
Garw wasgawd yn goresgyn;
Dyfrio'n dda, ac yna cair
Rhyw well gwair na'r droell goryn.
Ys Pedr, oedd hyfedr, wnai dda—dielfydd,
I oerion rosydd yr hen Rwssia;
Pwy draw a fu er Pedr Fawr—yn ail Maughan?
Ni ŵyr hanesion yr un eisawr.
Amaethad yma weithon,
Ddieithr beth a ddaeth o'r bôn;
Mawr fendith mwy ar fawndir,
Cnwd da cynhyrcha cyn hir.
Llygra cawn; yn lle grug hyll,
Dwyn cywarch lond ein cewyll;
Certwyni'n cario 'u tunell;
Ni raid mynd i rodio y'mhell.
Ni ymholwn am hwyliau,
Draws y byd, o Rwssia bau;
A throi a wnawn, uthr i ni,
I drin llin a'i droi'n llenni,
Darbodus, haelionus law,
Da reolaeth i dreuliaw;
Rhwydd yw pawb yn rhoddi punt,
Mae'n debyg, er mwyn dwybunt:
Ar un pen yn rhannu punt,
Mewn deuben mynnu dwybunt;—
Pwyntio'n well, rhoi punt a wnaeth
Ennill talent lled helaeth.
Dyma gynllun cyfuniawn,
Selef yr oes, law fawr iawn.
Irdwf ar hyd y fro hon,
Ail i binwydd Lebanon:
Mal Liban a Basan bydd,
Drych wiwdrefn, derw a chedrwydd;
Ein Eifionnydd newydd ni,—a'i lloerawg
Ymylau'n goediawg mal Engedi.
Ein Rhos fawr yn rhesi fil
Heb ddim elfydd; bydd milfil.
O goed, aml mân-goed, mil myrdd—addfeinion,
Ac ereill praffion gar llaw prif ffyrdd.
Pen y gamp i hon a gwyd,—lle weithian
Y llunir gwinllan well na'r Ganllwyd.
Plannu ac nid prynnu pren,
Ymddiried, mwy, i dderwen.
Nythed brain, a thoed y brig,
Dail a mes, deulu miwsig;
Goglais â'u meinlais mwynlef,
Y'nghlyw'n ail angylion nef:
Pyncio, bob edn, yn llednais,
Ryw bwyslais, arab oslef.
Gwaed y bardd, fe gwyd ei ben,
Cyffroant, caiff yr Awen.
O aed i'r moelydd i doi'r ymylau,
I odreu'n bronnydd i drin ei brennau;
Coroni pob cwrr o'n pau;—gwŷdd tewfrig
A wna'n foneddig ein hen fynyddau.
Gwinllanoedd o gynlluniau—gardd Eden,
Ar dir y Gaerwen, o'r derw gorau.
Cnwd ail fu cyn y diluw,
Lle gynt oedd oll o gnwd Duw:—
Os planwyd coed ysplenydd,
Gan law Duw'n gynnil liw dydd,
(Ac ys Addaf, doethaf dyn,
Fu gwedyn yn fegidydd,)
Ei was sy'n awr, is y ne,
Dyn a ŵyr, yn dynwared.
I ni a'n plant daw'r fantais;
Tra b'o y byd, tyrr bob ais.
Pulpudau 'mhob plwy',—peidiwn
A chadw swn,—iechyd i Sais:
Dieithr Lyw fendithio'r wlad
Ymddifad, am ei ddyfais.
O'r coed Gopher cyd gaffom,
Mal No gwneyd arch, drwy barch b'om:
Arch o'n mês ar erchwyn môr,
Acw i'w dynged cwyd angor.
Uwch y mes hyn, chwe mis hir,
Meibion da Gwalia gwelir;
Cenhadon acw'n hedeg,
Dwyn gair Duw yn gywir deg.
Ai trwy hyn, eto, y rhaid
Diwygio y Madogiaid?
Hanbo i chwi henbych well,
Mae llin Cam oll yn cymell;
Troi'r hirnos o Batmos bell,
Dwyn byd oddi dan badell.
Pan delo pob hen dylwyth,
Diwygo llin y Deg Llwyth:
Gwna di ludd genhadau lwyth
Ishmael ac Esau'n esmwyth.
Gan hynny os felly fydd,
Rhaid trin mes,—rhaid rhoi'n meusydd.
Prinion iawn yw prennau'n wir,
Prinion a drud y prynnir;
P'ond di brin pan y ty' braff
Frenhinbren y fro'n henbraff.
Ergyd trwm ar goed tramor,
Dychryn maent hyd ochrau'n môr;
Prynnu y b'ont, prennau o bell,
Yn danwydd wrth y dunell.
Y derw i werth a dyrr wŷdd,
Gyrr helyg o'r heolydd;
I Halifax hel i ffordd
Y gweig ysgaw â gosgordd.
Cymyredd, ca' Amerig
Ddoeth, gall, oddeithio ei gwig.
Tynn cedrwydd at ein Cadres,
Rhyw gan' myrdd o'r egin mes:
Oni ddaw yn oddioed,
Naw cant i gymynu coed?
Gwel y derw a gludeiriant;
Tua'r môr yn llwyth trwm ânt.
Pedrol fen;—pa dreulio fydd—dyfeisiau
Amryw o fennau y'mro Eifionnydd.
Bro Eifionnydd, brif hanes,
Toir y môr a'n tir o'i mes;
Meib gwrol y'mhob goror,
A'u gwaliau mes, gwylio môr;
Mŵg a niwl o'u magnelau,
I ddychryn pob gelyn gau.
Camwri nis cymerwn
Ond trinwn ein tariannau.
Torri crib hir Twrc a'r Pab,
Bo'n arab ein banerau.
Mawr gerydd ar bob môr-gawri—diriaid,
Amerig wylliaid, lladron môr Gelli;
Crynnu a wnant; corniwn ni—ŵyr Fflanders;
Gwae aerwyr Algiers, ar gyrrau'r weilgi.
Ac ar y wendon, er ei gerwindeb,
Heriaw ac anturiaw, gwneyd diareb:
Nid rhaid i ni fynd dan draed neb—dynion,
Cefnu yn weinion, nac ofn un wyneb.
A'r gair mawr a gario Maughan;
Aed a'r gair da, a'r goron.
Y tŵ'n oes y to nesaf,
A'r amcan, cyfan y câf;
Tystio mai da iddo oedd
Gau degau o goedwigoedd.
Rhyw fro falch, ar fyrr, a fydd;
Pau'r llwyni a'r perllennydd:
Ei chlod fyth fwy na Chlwyd fawr;
Hefelydd hi i Faelawr.
Grymusder, ac aur Mostyn,
Ni fyrha, a'n fwy er hyn.
Llwydd hir eiddunir i dda
Syr Tomos; rhoed Duw, yma,
Hir oes, hedd, a'i ras iddo;
Gwych ei fyd, ac iach a fo.
Bendithion Ion y wiwnef,
Ar ei dir, a'i aerod ef;
O blaid ei ddeiliaid, llaw 'dd Ion;
A b'o woseb i'w weision.
O'i roddion gwiw a diwael,
Arch o'i goed a ercha' i gael.
A da'r cof, wedi'r cyfan,
Maughan am goed—minnau am gân.
BEIRDD CYMRU.
I. COF GORONWY OWEN.
CANAI awdlau cenedloedd,— ac iddo
Rhoed cywyddau'r nefoedd;
Angel i wneyd englyn oedd,
Mawr awdwr Cymru ydoedd.
II. BEDDARGRAFF DAFYDD DDU ERYRI.
(Bu farw Mawrth 30th, 1822).
O fedd oer ein Dafydd Ddu—henadur
A hynododd Gymru;
Ewythr i feirdd, athro fu,
Cefn wrthynt i'w cyfnerthu.
III. CYFARCH EBEN FARDD.
Pan enillodd "Dinistr Jerusalem" gader Powys, 1824.
Ebenezer, o bu'n isel,—a godwyd
I gader oruchel;
Uwch uwch ei rwysg, uchach yr êl,
Dringed i gadair angel.
IV. WRTH DDARLLEN SALMAU NICANDER.
Morus Wiliam yw'r Selef,—yr Heman,
A'r Homer digyfref;
Di feth un, dau o'i fath ef
A wnai Wynedd yn wiwnef.
Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus,
Sy'n un mawr ryfeddol;
Ni fydd ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol.
ENGLYNION PONT MENAI.
FAM Gymru bu o'r bôn—hen fythol
Hynafiaethau mawrion;
Pont Aethwy, y pwynt weithion,
Myrdd mwy na mawreddau Môn.
Uchelgaer uwch y weilgi,—gyrr y byd
Ei gerbydau drosti;
Chwithau holl longau y lli,
Ewch o dan ei chadwyni.
Gwel foddi'r saith Gelfyddyd—uthr foddi'r
Saith Ryfeddod hefyd:
Ac o'r iawn-falch gywreinfyd,
Pen y gamp yw hon i gyd.
Troi i'm myfyr, tramwyfa—o gwmpas
Hen gampwaith Pont Cina;
Cwympai'n ddim, camp hon oedd dda,
Pan welwyd camp hen Walia.
Pontydd byd, pwyntiodd eu bai,—nid ydynt,
(Nodedig Bont Catai,
Ryw hesgach llwyd, wrysg a chlai,)
Ond pwynt main at Bont Menai.
Cloddiwyd, gosodwyd ei sail—yn y dwfn,
Nad ofnir ei hadfail;
Crogedig gaerog adail,
Na roes yr Aifft engraifft ail.
Llaw Morddal, Tubal tybir—yn unaw
Ynys a Chyfandir;
Uno, dyasio dwy-sir,
Lle asient ein llesiant hir.
Nid gyrdd myrdd, nid gordd Morddal,—wnaent Ewrob,
Neu'n tyrau'n gyhafal;
Ni saif chwaith, uwch waith na gwal,
Gorff tebyg o grefft Tubal.
Ar lawr, rhowch yn awr Arch No,—uthr i bawb.
A Thŵr Babel wrtho;
Pump o faint un Pompey fo,
Chwe hynotach hon eto.
Bathwch yn un holl bethau—bynodion.
Hen awdwyr yr oesau;
Hynotach, ddirach o'r ddau,
Yw'r Bont hon ar bentanau.
Ban o agwedd benigamp—ucheled
Ei cholofn gadarn-gamp;
Dros forgainc, drws o fawrgamp,
Deuddwbl ydyw 'n gwbl dan gamp.
Amryw ganllath uwch y mô-—genlli,—ei hyd drudfawr;
Tair rhodfa sydd arni;
Tri deg llath, tra digio lli,
Yw 'r heolydd o'r heli.
Rhoir i wyr yr Awyren,—gynt rhedfal
Gan troedfedd yn wybren;
A'u rhawd yn uwch na rhod nen
Caerdroiau, lle crwydr Awen.
Daw agerddlong hyd y gwyrddli—môrfeirch.
Yn ymarfer dani,
Chwe phaun hardd uwch ei phen hi,
A'n mwyn deyrn yn mynd arni.
O daw i fwrw diferion,—dwy enfys
O dywynfa 'r hinon,
Paladr haul uwch pelydr hon,
A oreura yr awrhon.
PONT MENAI.
Am byst hon mae bost o hyd,—bost Ewrob
Ystyrrir hi hefyd;
Yn ben ar ben bannau 'r byd,
Maen clo fydd mewn celfyddyd.
Drych byd o Archwybodaeth,—anturnwyd
Ein teyrn a'n hunbennaeth;
A chofion o'u huwchafiaeth,
A dawn gwneyd y dyn a'i gwnaeth.
Oruwch cyrraedd rhawch cerhynt,—a chryfach
Na chrafanc y corwynt;
Ei thidau, mawrnerth ydynt,
Uwch nerth mawr gerth môr a gwynt.
Tra chynnwrf môr yn trochioni,—tra thonn
Trwy wythenau 'r weilgi,
Ni thyrr hwn ei thyrau hi
Tra 'r erys Tŵr Eryri."
Esgarir yn ysgyrion—cant Ewrob,
Cyn torro 'i gafaelion;
Yr ogof fawr ynghraig Fôn,
Gyferfydd ogof Arfon.
Awr o Fawrth, oer ryferthwy,—caf fynd o'n
Cyfandir i dramwy;
A theithiaf uwch Porthaethwy.
Safnau 'r môr nis ofnir mwy.
Ia yr awyr a'i rewiant—a chenllysg,
Ei chanllaw ni waethant;
Fflamfellt yn ei dellt nid ânt,
Dur ei thidau wrthodant.
Hanner y nos dos i daith,—mwyn yri,
Mewn awyren-fachdaith:
Nid cerhynt, na chorwynt chwaith,
O'th dramwy a'th dyrr ymaith.
Nid cwrwgl a nadai cerhynt,—ysgraff
A esgryn y corwynt;
Ei thidau nid carth ydynt,
Neu sofl a gwawn a syfl gwynt.
Dwy heol ydyw o haearn,—praffwaith,
Prif—ffordd hardd a chadarn;
Gwiw orsedd, ac awyr—sarn,
Safed fyth,—sef hyd y Farn.
TORRI SYLFAEN MORGLAWDD MADOG.
Breuddwyd gŵr llwyd oedd gar llaw.
NID hawdd gwneyd Môrglawdd mawrglod,—Duw unwaith
Ordeiniodd y tywod;
Hwn sydd, ac a fydd i fod,
Yn derfyn llanw di-orfod.
Mwy perwyl na champwri,—a gorchest,
Fydd gwarchae y weilgi;
Nid gwal a all atal lli
Y môr dwfn, mae rhaid ofni.
Daw dydd ysmaldod y donn,—dychwelyd,
A chwalu gwaith dynion,
I fwrw ei hallt lafoerion
Fel y gwnaeth yn Malldraeth Mon.
Er gwyr call, diball dybiau,—er cawri,
A'u cywrain fwriadau;
Llifiaint, er cymaint yw'r cau,
Dŵr a fynn ei derfynau.
OES DYN AC ANGAU.
YSTYRIWN einioes dyn, ein dichlyn daith,
A hyd y bywyd byrr, mewn myfyr maith;
Gaeaf-ddydd trymllyd yw, oer ydyw'r hin,
Ac nid oes munud byrr heb lafur blin.
Dir yw nad ydyw dyn ond gwyfyn gwael,
A'i ronyn amser drwg ar brysur draul;
Diflannu mae fel ôd, neu gysgod gau,
Fel lled-laith nifwl llwyd, a breuddwyd brau.
Mae dyn, lysieuyn sal, gwan, meddal, mad.
Fel brwynen grinwen grom, ar lom oer wlad;
Fel cawn, neu wawn, un wedd o lygredd lin,
Fel gwelltyn, gwlyddyn glas, fel cras sofl crin.
Ein hyder ar ein hoes na rown yn hwy,
Ond ías y gelyn mawr disgwyliwn mwy;
Pob oed a gwymp i'r bedd, pob gwedd i gyd,
Cadd llawer maban, do, y gro yn gryd.
Marwolaeth gaeth ei gwedd, i'r bedd oer bwys.
Mae'n casglu bonedd byd dan gysglyd gwys;
Pob enw, iaith, a gwaed, dan draed yn drwm,
Dwg bachau angau oer, i'w gloer dan glwm.
Nid ydyw'n arbed un anwylddyn iach,
Iawn glodfawr Gun na Glyw o unrhyw âch;
Brenhinoedd ac arglwyddi ceir i'w gloer,
Dwyn o yscarlad wisg is cwrlid oer.
Heb un disgwyliad, baidd i loewaidd lys.
Ddwyn pla neu haint, i ladd un radd ni rus;
Er corff lliw'r asur cain, rhos, eiry, calch,
Y bachgen addien ir, neu feinir falch.
Dyn syw fu'n denu serch, loew ferch. ael fain,
A delw glendid oedd, ar goedd, wawr gain;
Ow gau y deg ei dull dan dywyll do.
Dwy geulan dew a gudd ei grudd mewn gro.
Yr athro clodfawr, oedd ar goedd mor gu,
A drengodd, Ow, rhwng dwylaw'r angau du;
Trosglwyddo'r ysgolhaig a'i rwysg i lawr,
Mewn arch dan dywarch do, mae'n huno'n awr.
Daw'r aerwr, er peryglon lawer pryd,
O'r drin fawr adre'n fyw drwy bob rhyw byd;
Daw angau mewn llid traws i'r man lle trig,
Terfyna'r einioes ferr â'i ddager ddig.
Pa filwr balch ei ben, neu gadpen gwiw,
Aeth drwy farwolaeth drom yn ffrom ei ffriw?
Pa ieuanc was di-rus, os daw i'w rwyd,
Na chryn o'i draed i'w ben, fel aethnen lwyd?
Ni chair ar dir na môr, un doctor da,
I un mewn marwol ing, a'i bling o'i bla;
Ni wŷs na llŷs na llech yn drech na'i dranc,
Ni thorrai'r byd yn un ei wŷn a'i wanc.
Gan hynny, dyma'r ennyd imi roi
Fy mryd a'm bwriad dwys i ymbartoi;
Ar lwybr anfarwol wlad, cyn treiglad trwm,
Crist imi'n gyfaill hael mewn gaeaf llwm.
Efe a drechodd dras galanas lu,
Fe lamodd yn nghadwynau angau du;
Gan dynnu'r colyn cas, a'r glas hir gledd,
Oedd gan y garw aerwr hagr ei wedd.
Dwg lwch ei briod glau ryw forau fydd,
O'r dyffryn sy'n ei dal, i'r ardal rydd;
Heb ofni angau byth, a dilyth dôn,
I gyd-foliannu mwy y dwyfawl Ion.
Rhagfyr 11, 1805.
BREUDER OES DYN.
WRTH weled fyrred ydyw f'oes, ni phery feinioes fawr,
Ail gardd-lysieuyn gwyrddlas wyf, er maint fy nwyf yn awr;
Y boreu tyf o'i wraidd i'w frig, brydnawn gwywedig yw,
Yr oes orhwyaf is y rhod, ail diwrnod o law Duw.
Nid oes drwy'r byd mewn bywyd byrr, ddim cysur, f'enaid cu,
Heb wir adnabod brawd o'r nef fu'n dioddef angau du;
'Rwyf fi'n dibrisio'r bywyd brau wrth chwareu'r farwol chwyth,
Am fod i'w gael im fywyd gwell mewn nefawl babell byth.
Gan weled fyrred ydyw f'oes, mi goda'r groes drwy gred,
Dilynaf Grist tra byddaf byw, tragwyddol ydyw'r ged;
I hynny daliodd f'enaid i, gan lefain yn ddi-lyth
Am fynd i'r gwynfyd sy'n y gwawl, a'r bywyd nefawl byth.
Gwir ddawn a grym i ddwyn y groes bob dydd o'm hoes boed im,
Yn ail i darth, neu niwl y dydd. hi dderfydd yn ddi-ddim;
Pan bwy'n dibennu'r bywyd bach, a chanu'n iach i chwi,
I'r nef, deheulaw Duw ei hun fo'n derbyn f'enaid i.
Y BARDD EI HUN.
I.
WRTH EDRYCH AR EI BORTREAD.
DEWI Wyn wyf, dien wedd,
Ac o'ngenau cynghanedd;
Fy arwyddair fo Rhyddid
Pob gradd heb na lladd na llid:
Dawn byd a'i wyneb ydyw,—trybelid,
Ysgol Rhyddid yn disgleirio heddyw.
Trwydded i fyd, Rhyddid fo,—O Rhyddid!
Enynned Rhyddid yn enaid trwyddo.
II.
DEWI WRTHO EI HUN.
Yn myd Awen mae Dewi,—a'i enaid
O anian barddoni;
Pallai olud Pwllheli,
Neu fyd tlawd, fy atal i.
III.
OED Y BARDD.
Rhagor na deg ar hugain—yw mlwyddau
Aml heddyw 'r wy 'n ochain;
Er nad rhyw hen—oed yw 'r rhain,
Ond agos iawn yw deugain.
Be digwydd byw y deugain,—dyn gwannaidd,
Dan gwyno ac ochain,
Ac aml groes i feinioes fain,
Tra agos byddai trugain.
Onid drwg iawn y trugain ?—ychydig
Bach wedyn a arwain,
At y rhai mwyaf truain,
Ambell hen wr musgrell main.
Drygau y pedwar ugain,—anallael,
Na ellir braidd ubain;
Prif haint yr henaint yw 'r rhai 'n,
Gwachul a chull a chelain.
IV.
GORFFENAF 19, 1840.
Mor ferr yw 'm hanadl, mor fawr yw 'mhoenau,
Gan drydar nwydwyllt, gwŷn dirdyniadau,
Am ddolur fy meddyliau,—yn ddibaid,
Mae gwaew o enaid i'm gewynau.
V.
YN EI AFIECHYD.
Arteithiau, aethau weithion—golwythog,
A lethant fy nghalon;
Ymchwydda, ymrwyga mron,
Mewn gofid—ac mae'n gyfion.
Ymhob achos am bechu—rhyfygawl,
'R wyf agos a threngu;
Bydolrwydd, cnawdolrwydd du,
Daeth a melldith i'm halltu.
Och! i'm ofid! ofid! Och! am afael
Godrist galon ynghyffion anghaffael;
Dan gerydd, adyn gorwael, mewn pruddglwyf
Dyma lle 'r ydwyf, wedi'm llwyr adael.
Ys arweiniais ar unwaith—oes Esau,
A Belsassar ddiffaith;
Aci Demas cydymaith,—wyf hafal,
I Saul a Nabal, dan sêl anobaith.
VI.
ADOLYGU EI FYWYD.
Mawrth 11, 1840.
Wrth adolygu fy mywyd dywedais,—
Er traffith fendith fy unDuw,—ffafrau
Hoff hyfryd y gwir Dduw,
Arweiniais yn wr annuw
Fy holl daith dan felldith Duw.
VII.
MEWN GWELL PROFIAD.
Dybryd yw 'nghlefyd a 'nghlwyf,—gan waethu,
Er gwneuthur a allwyf;
Ymroi raid, marw yr wyf,
Marw raid, ymroi 'r ydwyf.
Drwy y cerydd, Duw 'r cariad,—er Iesu,
A roes y fath daliad:
Agor ddrws trugaredd rad,
Imi, Ddafydd amddifad.
Rhyfedd Dduw, rho faddeuant—im mewn cred,
Er mwyn Crist a'i haeddiant;
Gwna fin 'n dduwiol, siriol sant,
I gynnal pwys gogoniant.
BEDDAU DEWI WYN A'I FRAWD
Nodiadau
[golygu]- ↑ Efe a ddaeth a gwenith a haidd gyntaf i Frydain.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.