Neidio i'r cynnwys

Gwaith Ieuan Brydydd Hir (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Ieuan Brydydd Hir (testun cyfansawdd)

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith Ieuan Brydydd Hir (testun cyfansawdd)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfres y Fil
ar Wicipedia



GWAITH

IEUAN BRYDYDD HIR.




"Y mae Ieuan Fardd ac Offeiriad
yn awr yn weinidog Maesaleg:
ond nid oes yno yr un Ifor Hael."
—Iolo Morgannwg


1912.
Llanuwchllyn, AB OWEN.
Ar werth gan R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy.



Rhagymadrodd.

AR amser y cymerai llawer ddyddordeb yn llenyddiaeth Cymru y ganwyd Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) yn amaethdy y Gynhawdref, Lledrod, Ceredigion, Mai 20, 1731. Yr oedd i leuan athrylith bardd a chywreinrwydd hanes- ydd, a chafodd gyfrinach Edward Richard, y Morusiaid, Goronwy Owen, Gray, a'r Esgob Percy. Ond dilynwyd ef ar hyd ei oes gan dlodi, gan esgeulusdod esgyb Eingyl ei ddydd, a chan fleiddiaid didrugaredd oedd wedi fagu yn ei natur ei hun.

O ysgol Edward Richard aeth i Goleg Merton yn Rhydychen. Daeth oddiyno, heb radd, i fod yn wibiadur o gurad ar hyd ei oes drafferthus. Yn Nhrefriw daeth i adnabod David Jones a Siôn Powel, yn Llanfair Talhaiarn daeth i adnabod William Wynn. O'r diwedd daeth yn ol at ei deulu i'r Gynhawdref. Yr oedd yn dlawd iawn, a thybid unwaith iddo farw o newyn ar fynydd. Ond yn ei gartref y bu farw, yn Awst 1789; ac y mae ei fedd heb faen na chofnod arno ym mynwent Lledrod.

Ei uchelgais oedd rhoi i'r byd hen hanes a llenyddiaeth Cymru. Ond ni fedrodd wneud, yn ei Dissertatio, ond prin ddangos y ffordd.

D. Silvan Evans roddodd oleu dydd i'w lythyrau ym Mrython Tremadog; ac o'i lafur ef, fy hen athro hoff, yn bennaf, y cesglais y dalennau hyn.

OWEN EDWARDS.

Cynhwysiad


IEUAN BRYDYDD HIR.

LLYS IFOR HAEL.

LYS Ifor Hael![1] gwael yw'r gwedd,—yn garnau
Mewn gwerni mae'n gorwedd;
Drain ac ysgall mall a'i medd,
Mieri, lle bu mawredd.

Yno nid oes awenydd,—na beirddion,
Na byrddau llawenydd,
Nac aur yn ei magwyrydd,
Na mael, na gwr hael a'i rhydd.

I Dafydd[2] gelfydd ei gân,—oer ofid
Roi Ifor mewn graian:
Y llwybrau gynt lle bu'r gân
Yw lleoedd y ddylluan.

Er bri arglwyddi byr glod,—eu mawredd
A'u muriau sy'n darfod;
Lle rhyfedd i falchedd fod
Yw teiau yn y tywod.


O DDYFROEDD MOROEDD MAWRION.

DDYFROEDD moroedd mawrion—y daethum,
O deithiau mawr cigion,
O greigiau dyfnderau'r donn,
I'r lan, er taer elynion.

Drwy Ner, o'i fwynder, myfi—ag einioes
O ganol trueni,
O safn y bedd, ryfedd Ri,
Ei fawredd wy'n glodfori.

Y Diawl uffernawl ffyrnig—ei ruad,
Er awydd adwythig,
Ni all ddwyn, yn ei holl ddig,
Yn ei eneu un oenig.

Duw Waredwr, Tŵr tirion,—Duw cadarn
Ydyw Ceidwad gwirion;
Ni all diawliaid, lle delon',
Niwaid na brath dan eu bron.

Os Moesen lawen, a'i lu,—yn gynnes
A ganodd fawl Iesu;
Canaf fawl, rhyfeddawl fu
Ei rad yn fy ngwaredu.

Cenwch fawl, nefawl nifer,—angylion
Yng ngoleu'r uchelder;
Gwynion delynorion Ner,
Fil filoedd, ei fawl foler.


TEIFI RHWNG YSTRAD FFLUR A THREGARON

"O. Gymru lan ei gwaneg.
Hyfryd yw oll, hoew-fro deg!"


HIRAETH Y BARDD AM EI WLAD.

GWAMAL a fum heb gymar,
O ddechreu f'oes, ddu chwerw fâr;
Anwadal y newidiais
Gwlad fy maeth, fu glyd i'm ais;
Daethum i fro nid ethol
Y Sais, lle ffynnais yn ffol,
Ar newidiad, treigliad trist,
At ddynion uthron athrist;
Lle mae aml carl llymliw cas,
Carthglyd, lleuoglyd, llyglas;
A morwynion mor anwar,
Meddwon, cigyddion a'u câr.

Dyn ieuanc wyf dan awyr,
At Sais trafaeliais trwy fŷr,
I dir Cent, i awyr cas
Seisoniaid, diafliaid diflas.
Llwyr wae ddyn llariaidd enaid
A wertho wir dir ei daid,
I fyned, dynged anghall,
I fwrw ei oes i fro all:
Gwell yw byw a gallu bod
Dan wybr ein cydnabod,
Na gwag gerdded, o'm credir,
O nwyd taith, i newid tir:
Newid oedd annedwyddach
Na bro a oedd yn bur iach.
Newidiais, ar wan adeg,
Wlad lawn Geredigiawn deg;
Lle mae iechyd byd yn byw,
Diboen a gorhoen gwiw-ryw;
Gwlad Ddafydd (ganiedydd gwych)
Gwilym, hardd-wiw ei gwelych;

Lle mae dynion glewion glwys
Gwiwglod mewn gwlad ac eglwys;
A mwyn feinwar i'w harail,
Diniwed iawn dan y dail.
Anhebyg yn Neheubarth
Y fun wen ni fynnai warth,
I Seisnes, ddewines ddu,
O waed Lloegr wedi'i llygru.
Och im', fy ngwlad, dy adaw,
A fioi a throi yma a thraw!
Gwell oedd im' golli o dda
Damwain y bywyd yma,
Na myned at wŷr llediaith,
Lle nid yw llawen y daith.

O, Gymru lân ei gwaneg,
Hyfryd yw oll, hoew-fro deg!
Hyfryd, gwyn ei fyd a'i gwel,
Ac iachus yw ac uchel;
A'i pherthi yn llawn gwiail,
A gweunydd a dolydd dail;
Lle mae aml pant, mwyniant mau,
A glynnoedd a golannau;
Mynyddoedd a mwyneidd-weilch,
Fal mynnau uwch bannau beilch';
A'i dwr gloew fal dur y glaif,
O dywarchen y dyrchaif;
Afonydd yr haf yno,
Yn burlan ar raian ro,
A redant mewn ffloew rydau,
Mal pelydr mewn gwydr yn gwau.

Teifi lân, man y ganwyd
Dafydd y prydydd, pur wyd;

Dy lif, y loewaf afon,
Fal Dafydd y sydd yn son;
A'i wiw enwog awenydd
Fal di rhed filod yr hydd.
Gwyn fyd na fai gennyf fi
Awen Dafydd lan Deifi.
Molwn, eurwn wiw oror
Dy lyn, mwy na deu-lanw môr;
Cyff'lybwn, dyfalwn faint
A fwri o lifeiriant;
Dy locwder a bryderwn,
Dy ddyfnder, iselder swn;
Y mau ganiadau hoewdeg,
Fal di, afon Deifi deg,
Yn ddi-draul tra fal haul haf,
A beraint fyth yn buraf.

Gwae fi! nid oes gyfnod iach
Y lle'r wyf yn llwyr afiach,
Yn nhir Sais anrasusawl,
A geneu mwyn ganu mawl:
Gwae fardd! ni chwardd yma chwaith,
Ni lonna ei ael unwaith,
Wrth weled, heb ged, heb går,
Taiogion anlletygar,
Caetherog annhrugarog iawn,
Chwerw olwg ynt, a chreulawn;
Nid oes na moes yn eu mysg,
Wag eddyl, na gwiw addysg.
Cymro, oni bryno'n brid,
Ni wyr ef unrhyw ofid;
A gwir yw nas gŵyr y iach
Y gofid a gai afiach:
Felly finnau yn ieuanc,

Heb brofi'r byd, laes-bryd lanc,
O'm gwlad deg, fal lledfegyn,
At Sais ymdeithiais yn dynn.
Gofid yw im' gofio dydd
Y newidiad annedwydd;
Ac o achos fy nhrosi
Cul wyf o wr, coelia fi.
Os i dir Cymru gu gain
Dof eilwaith o'r wlad filain,
Iechyd a gaf a chadw gwyl
Yn glyd iawn i'n gwlad anwyl;
Lle gwelaf aml llu gwiwlan,
Llawn godwrf a chwrf a chân,
A thelyn o waith hoew-liw,
A chantorion gwychion gwiw;
A llaes wên, a llawenydd,
A chanu, difyrru dydd;
A lle gwelir gan hir-fardd
Dlos feinwen, hoew gangen hardd
Yr hon, eiliw hinon haf,
A'i gwiw-rudd teg a garaf;
Hithau a'm câr (feinwar fun)
Innau eilwaith, wen wiw-lun;
Ac yno'm mysg gwin a medd,
Lloegr daiog a'i llwgr duedd
A anghofiaf, dygnaf dir,
A'i dynion o waed anwir;
A rhoddaf, fal yr haeddent,
Wfft i Seison caethion Cent.

Sion Owen Delynor

MARWNAD SION OWEN.[3]

Trefriw, Tachwedd 24, 1759.

Anwyl Syr.[4]— E dderyw im', mal y gwelwch, wneuthur Marwnad i Sion Ywain, fy nghyfaill a'm brawd-fardd. Diau fod yn ddrwg gennych glywed y newydd, ond, chwedl y bardd, "Ewyllys Duw yw lles dyn."

Mi a newidiais rai pethau yn y Traethawd Lladin am y Beirdd Brutanaidd, ac yr wyf yn meddwl y bydd raid im' newidiaw rhywfaint yn ychwaneg cyn y byddo gymwys i'w argraffu; o herwydd na fynnwn i neb o blant Alis gael lle i feio arno, na'n Cymry Seisnigaidd ni ein hunain ychwaith, y rhai sydd, mal y gwyddoch, o'r ddau yn goecach.

Y mae gennyf ddau gywydd o waith Sion Ywain, ac ateb a ddanfonais innau i un o naddynt o'm priodwaith fy hun; eithr nid oes gennyf gopi cywir o un o naddynt; o herwydd mi a berais iddaw newidio rhai pethau ynddynt, ac ni chedwais yr un o'r diwygiadau. Y mae gan eich brawd yng Nghaer Gybi gopïau cywirach. Gwell iwch ddanfon ato ef. Ond os gwelwch yn dda, rhag iwch dybied mai diogi sydd arnaf, chwi a gewch y rhai sydd gennyf fi, ar flaen gair, fal y maent.

Nid ydych yn dywedyd yn wahanredol beth yr ydych ar fedr ei brintio. Byddai dda gennyf glywed, mal y cymhwyswyf fy nhraethawd yn well tuag at ei brintio o'u blaen ar ddull rhagymadrodd. Diau im' gymeryd poen wrthaw eisoes; ac mi a gymeraf fwy, os Duw a rydd im' iechyd. A ddanfonasoch at Mr. Wynn o Langynhafal? a pha ateb a gawsoch? Beth a ddywed Llewelyn am y printio yna? Gadewch im' gael ateb cyflawn yn eich llythyr nesaf, a chwi a foddhewch yn fawr Eich rhwymedicaf gyfaill a'ch gwasanaethwr, IEUAN FARDD.

NEWYDD ni a ddaeth,
Acherydd, a thrwch hiraeth;
Marw fu Sion (mawr fy syniad)
Owain ydoedd glain ein gwlad:
Bardd ieuanc, beraidd awen,
Coeth yn y Gymraeg hen.
Trist waith yw torri oes dyn
Enwog iawn yn eginyn.
Ei gof a bair im' ofal,
A gwaedd dost am guddio 'i dal.
Digrif-was aeth, dagrau sydd
I'n brodyr am wiw brydydd;
Galar mawr a gai lawr Mon,
A deu-gwrr Ceredigion,
A Chaer Ludd, chwerw fu y locs,
Ddyn anwyl, ddwyn ei einioes,
Nis oes gerdd, na dysg urddawl,
Na dawn i'n mysg yn dwyn mawl,
Ni wyddiad, gwiw-fad gyfoeth,
Hwn i'w ddydd yn gelfydd goeth.
Teilwng wrth ganu telyn
Oedd ei lais a'i ddwylaw yn'.

Pur ydyw'n iaith Prydain hen
Ei ber gywydd brig awen:
Ei ddadgan a'm diddanai
Mal cân adar mân ym Mai.
Y mae heddyw gwyw y gwŷdd,
Ac ir ddail a gwyrdd ddolydd;
A'r eos, mewn oer awel,
Yn brudd heb na chudd na chel;
A'r adar llafar eu llais
O'r gelli a rygollais.
Y mae ein iaith mwy yn wan,
Ac yn noeth; gwae ni weithian!
Ergyllaeth a ddaeth o ddwyn,
Bore ei ddydd, ein bardd addwyn.
Torrwyd blodeuyn tiriawn,
Aur ei wedd, yn iraidd iawn:
Duw a'i dug, a daed oedd,
Fry'n iefanc i fro nefoedd;
Caiff yno flodeuo'n deg,
A chynnyrch fyth ychwaneg;
Hoenus a fydd heb henaint,
A hardd, heb na gwŷn na haint.
Ni'w llwgr ystorm na gormes,
Neu darthau oer, neu dra thes,
Nac oerfel, nac awel gwynt,
Neu wlaw garw, neu li gerhynt,
Na chenllysg, derfysg dyrf-fawr,
Na'r cira mwy, na'r ia mawr;
Ni ddaw gwyd, ni ddwg adwyth,
Na phren, na blodau, na ffrwyth.
Od aeth ein bardd doeth o'n byd,
Diddan, i fro dedwyddyd,
Mae'n prydu mewn Paradwys,
Ym mysg beirddion gloewon glwys,

A'i delyn fyth yn dolef
Yn ber gyda nifer nef.
Torfoedd disgleir-bryd, dirfawr,
Ein Tad a'n Creawdwr mad mawr,
A ganant fyth â'u genau
Ei fawl, un ni thawl, ni thau;
Ac unllef â'r côr nefawl
Sion fardd a ddadsain ei fawl.
Swyddau y sy wiw addas
Yno a gaiff, enwog was;
A mawredd uwch bonedd byd
A'i freiniau dros fyrr ennyd.
O chafas dda urddas ddwyn,
Gyrraedd iddo gradd addwyn,
Ar foroedd, dyfnderoedd du,
Ar fil-long wrth ryfelu,
A budd, er dwyn trabludd trin
Yn freiniog dros ei frenin;
Mae ei radd, rhaid cyfaddef,
Fry yn uwch dan Frenin nef;
Gan ei fod mewn gwynfyd maith,
Ym mro nef, mawr iawn afiaith,
Yn llon syw, yn llawen sant,
Yn gwenu mewn gogoniant,
Mewn gorfoledd a heddwch
O'r byd, lle mae tristyd trwch.
O'i achos llawenychwn
Ddyrchafael o Dduw hael hwn,
I gu wlad y goleuder,
Gorwych sant, goruwch y ser.


William Wynn o Langynhafal
MARWNAD WILLIAM WYNN.[5]

Trefriw, April 23, 1760.

Dear Sir.[6] You would have heard from me ere now, but that I have been mostly from home since Easter. I have waited on Mr. Justice Barrington at Carnarvon with the Dissertation on the Bards, who approved of it. He has taken it and a copy of Nennius, both bound together, to London; so that I have it not in my power to send you a copy of it before next assizes, when I shall have both returned to me. He advises me by all means to translate more of the ancient Bards after the same manner I have done those odes I sent you, and make a small book of it by itself, which he says will sell well. He says that Mr. Gray, of Cambridge, admires Gwalchmai's Ode to Owen Gwynedd, and I think deservedly. He says that he will shew the Dissertation to Mr. Gray, to have his judgment of it, and to correct it where necessary: so that I hope it will be fit for the press when I have it. I approve of your choice in your intended book, and shall be very proud of doing everything ir my power to further it. But I think, with regard to the Dissertation, I had best follow Mr. Barrington's advice, who, together with his brothers, the captain and clergyman, have already been so much my benefactors, and have it still in their power to be so, that I cannot but do everything in my power to please them.

My business of late has been altogether to collect materials for notes to illustrate Nennius the most ancient British historian extant but Gildas. This is a work disagreeable enough, for I must read the most barbarous jargon of the monks; in short, everything that tends to give light to our author.

I have, as you see, wrote something like an Elegy to my dear deceased friend, Mr. W. Wynn; but as I have other irons in the fire, you cannot expect so good poems from me as when I dedicated myself entirely to the Muse.n I dedicated myself entirely to the Muse.

Let me hear from you at your leisure

I am, yours sincerely,

EVAN EVANS.



MARWNAD Y PARCHEDIG WILLIAM WYNN.

Person Llangynhafal, yn Nyffryn Clwyd, a Manhafon, yn Swydd Drefaldwyn; Bardd a Chymreigydd godidog, a chyfaill cu i mi.

Y MAE hiraeth i'm hoeri,
A mawr nych yn fy mron i;
Marw fu William, mawr f'alaeth,
A phrudd yw'r deurudd, od aeth!
Och, mor freued fu'r edau!
Diweddiad tant fu'r dydd tau.
Doe'r oeddud, wr dewr addwyn,
Llon i'n mysg, llawen a mwyn;
A gorwedd yr wyd heddyw
Yn fud; ni'th wel neb yn fyw.
Tristach yw Cymru trosti,
Y bardd doeth, o'th briddo di;

Gordduwyd gerddi Awen
Gau arch am eu parch a'u pen:
Ac mae'r iaith, Gymro ethol,
A'n dysg, yn myned yn d'ol.
Minnau a'm bron y mewn braw,
Da gyfaill, wrth dy gofiaw,
Yn gostwng dan flin gystudd,
A dagrau hallt hyd y grudd.
Ni chaf weithian ddiddanwch
Yn y byd, ond tristyd trwch.
Mewn gwres y bum gynnes gynt,
Yn hwylio llawen helynt;
Yr awron, fal yr Yri,
Mae naws oer i'm mynwes i.
Od aeth Wynn, doeth ei anian,
1 orffwys i'r gwys, â'r gân;
Ni chaf wên na llawenydd,
Na chân faws; ochain a fydd.
Af, fal Merddin Ddewinwr,
I goed, lle ni'm cenfydd gwr;
Ac yno mi a gwynaf
O hyd, tra bo hirddydd haf:
A'r waedd fawr a roddaf fi
A dyrr galonnau'r deri;
Ac o'r gur garw a gânt
Y creigiau cau a rwygant:
Y llef a ddyrchaif yn llwyr
Oer ruad hyd yr awyr:
Ni bu er No neb rhyw nad
Mor erwin ac mor irad;
Er pan foddodd, daliodd Duw
Annuwiolion yn niluw.
Mae gorchudd a'n cudd rhag haul
Glaerwyn a'i byst gloew araul;

Tywyllwch tew yw allan,
A chlog o gaddug achlân;
A ninnau'n drist a distaw,
Ac yn brudd mewn eigion braw,
Oer dynged, dan dudded du,
Filoedd yn ymbalfalu.
Colled afrifed fawr oedd,
Alarus i laweroedd.
Ei blant a gwynant ganwaith,
Chwerw yw y modd, a chur maith.
Duw Dad, mor amddifad ynt!
Dyro nawdd dirion iddynt.
Ei blwyf sy'n dwyn gofid blin
A garw am athraw gwerin;
Eu bugail aeth, heb gael oes,
Wr anwyl, i'r hir einioes;
I gael gan Ior hael ei ran
Fythol yn y nef weithian,
Mewn gwynfyd hyfryd a hedd
(Gwiw yw'r fael), a gorfoledd,
Ym mhlith saint, mewn braint a bri,
Glanwych, yng ngwlad goleuni,
Ac angylion gloewon glwys
Puredig fro Paradwys.
Moli'r Ion mewn gogoniant
Yw swydd a berthyn i sant;
Ei wych swydd yn dragwyddawl
Yn eu mysg yw canu mawl.
Gwyn ei fyd! hoff fywyd fydd,
A gai awen dragywydd.
Gwedi darfod in' rodiaw
O'r byd trwch i'r bywyd draw,
Duw nef a'n dyco hefyd,
Yno fyth, o hyn o fyd.

D. Jones o Drefriw
DEWI FARDD.

Trefriw, Ion. 14, 1761.

Anwyl Gyfaill,[7]— Myfi a ysgrifenais lythyr atoch es yng lythyr atoch es dyddiau yng nghylch llyfrau Dewi Fardd, ac ni chefais i nac yntau yr un ateb gennych. Dyma fi yn dyfod unwaith drachefn i'ch blino. Ertolwg, byddwch mor fwyn, er trugaredd, a golygu gronyn tuag at werthu ei lyfrau, o herwydd dyma ef dan gwynfan yn deisyf arnaf ysgrifennu atoch. Pur helbulus yw Dewi, druan, â gwraig a rhawd o blant bychain ganddo, sef chwech neu saith. Y mae yn achwyn bod arno ddyled, ac eisieu modd i dalu ei ardreth; ac am hynny y mae yn gobeithio yr ystyriwch wrtho. Dyma fi, yn ol fy addewid, yn ysgrifennu atoch, ac nid oes gennyf ddim ychwaneg i'w wneuthur.

Myfi a fum yng Ngloddaith, ac a welais y llyfrgrawn yno. Y mae yno lawer iawn o waith y beirdd diweddar, ond ychydig o waith y cynfeirdd. Y pethau mwyaf hynod oedd dau gopi o Frut y Breninoedd wedi eu hysgrifennu ar femrwn es pedwar cant o flynyddoedd o leiaf. Fo fu Syr Roesser mor fwyn a rhoi im' fenthyg y ddau uchod, ac y mae gennyf un arall gorhenaidd a fenthyciais o Lannerch. Y mae i'm bryd, os Duw a rydd im' iechyd (o herwydd afiachus iawn a fum y gauaf hwn) ddadysgrifennu un o naddynt; a diau yw, pei cawswn well iechyd, y buaswn fwy bywiog yng nghylch gorffenu y Traethawd Lladin yng nghylch y Beirdd, ac ereill weithiau yr wyf wedi cynhullaw defnyddiau atynt. Ond y mae dolur anfad yn fy mhen yn fy llwyr ddihoeni, ac yn fy ngwneuthur yn gwbl anaddas i gymeryd y fath orchwyl yn Ilaw. Gobeithio nad ydych ddig wrthyf am beidio o honof ddanfon iwch y Traethawd uchod fal yr oeddwn yn arfaethu, o herwydd yr wyf yn gwybod ac yn gweled ei fod yn ammherffaith. Mi a allaf, wrth aros a chymeryd amynedd, daro wrth ddefnyddiau i'w orphen; ac os gwnaf, fo gaiff weled goleuni; ac onid e, fo gaiff fyned i dir anghof, lle y mae pob peth tan haul yn myned.

Mi a darewais yn ddiweddar wrth ddarn o waith Sion Dafydd Rhys, y Gramadegydd, yn ei law ei hun. Ateb ydyw i ragymadrodd Kyffin, a drodd lyfr Esgob Juell yn erbyn y Pabyddion o Ladin i Gymraeg, yn yr hwn ragymadrodd y mae Kyffin yn goganu'r iaith Gymraeg a'i haddysg a'i beirdd ond gwych yw gweled yr hen gorff yn cymeryd y pastwn yn llaw, ac yn ei gystwyo mal ag y dylai. Gresyn ei fod yn ammherffaith, sef heb y dechreuad. Y copi cyntaf a ysgrifennodd ydyw, ac y mae wedi ei interlinio, a llawer gwedi ei groesi allan a'i newid, a darnau o bapurau wedi eu pinio wrth gorff y dalennau yma ac acw. Y mae i'm bryd ddadysgrifennu hwn hefyd.

Nid oes gennyf ddim rhyfedd arall i'w ysgrifennu atoch; ac yn wir, pe cawswn iechyd, myfi a fuaswn yn cadw close correspondence â chwi a'ch brodyr; ond o herwydd fy mod, gobeithio er daioni im', yn cael fy nghospi yn y byd hwn, ni allaf gyrraedd cymaint o dded- wyddwch a diddanwch ag a ellych chwi a'ch llythyrau roddi im'. Ond y mae yn rhaid imi foddloni fal ag yr wyf, ac addef gyda'r bardd mai

Ewyllys Duw yw lles dyn.

Ond rhag ofn i chwi debygu i mi anghofio mai ysgrifennu llythyr ac nid pregeth yr oeddwn, mi a derfynaf, ac a'ch gorchymynaf i nawdd y Goruchaf.

Yr eiddoch yn garedig,

EVAN EVANS.

AWEN IEUAN.

Llanfair Talhaiarn, Medi 4, 1762.

Anwyl Gyfaill.[8]—Cefais eich llythyr ddydd Sul diwethaf, a dyma finnau yn danfon ateb iddo cyn diwedd yr wythnos, ac eilun o gywydd i'w ganlyn. Diau yw nad oes gennyf flas nac awch yn y byd i ganu; ond, i ufuddhau i'r Llywydd, mi frasneddais rywbeth, herwydd fy mod yn rhwymedig iddo. Dywedwch wrtho fod yr Awen gennyf ar drengu, ac nad oes yng ngallu physigwriaeth ei hadfywio. Ac, mal y mae'r byd yn myned yr awron, ni waeth fod gan ddyn wilog arall na hithau. Yr oedd, gwir yw, yn llances landeg bropr pan y cefais i hi gyntaf; ond beth a dâl hynny? Yr oedd ei chynhysgaeth i gyd am dani, ac ni feddai geiniog yn ei phwrs. Nid oedd neb o'r gwŷr mawr yn ei pherchi, a braidd nad oeddwn fy hun yn cael anair o'i phlegid; ac am hynny mi ddywedaf am dani yn lle marwnad, fal y dywed Dryden:

"Here lies Awen, here let her lie;
She is at rest, and so am I."

EVAN EVANS


CYWYDD I GROESAWU GENEDIGAETH TYWYSOG CYMRU.[9]

Y RYWIOG gerddgar Awen,
Berw-ddawn hardd y beirddion hen,
Chwareu gainc a chywir gân
O brydyddiaeth brau diddan;
Taro â dwylo'r delyn
Yn glau, dadseinied pob glyn;
Pair i holl Gymru ruo
Y braint a gafodd ein bro,
Eni iddi hi a'i hiaith
Bor teilwng biau'r talaith.
Maban a haeddai glân glod,
A henyw o waed hynod;
Mab Sior, brenin goror gain,
Paradwys, Ynys Prydain;
A'i gynnes frenines hoew,
Siarlot â'r fynwes eur-loew.
Milwr fydd essillydd Sior
I ymwan mewn hawddamor;
Ar Ffranc y gwna ddifancoll,
Dydd a ddaw, a diwedd oll.



MIN AFON ELWY.
Ger Llanfair Talhaearn, lle y canodd Ieuan lawer.



Croeso, Dywysog grasawl!
Dy feirdd a ganant dy fawl;
Dy nerth yn destun a wnant,
Dy glod dros fyd a gludant.
Mae Cymru 'n gwenu ar g'oedd,
Yn llawen, a'i holl luoedd,
Gael iddi amgeleddwr,
A theg amddiffyn, a thŵr.
Y beirdd fil, o beraidd fant,
I'th gynnyrch fyth a ganant;
Pob telynior, cerddor coeth,
A boen ci fysedd beunoeth,
Wrth ddadgan, hoian yw'r hawl,
Ei gerdd it', D'wysog urddawl.
Pob dadgeiniad gwlad mewn gwledd
A gân yn Ne a Gwynedd,
Mewn maswedd a chyfeddach,
A hoen a wna hen yn iach!
A llon a fydd pob bron brudd,
A gosteg ddaw ar gystudd;
A'r deyrnas oll a'r drwn sydd
Yn llawn o bob llawenydd.
Gwledda maent arglwyddi mawr,
Damwain y cyfryw dymawr;
Groeso i hwn mewn gras a hedd
Arbennig a ry'r bonedd:
Mae pob gradd yn cyfaddef
Y da a wnaeth Duw Ion nef,
Rhoddi mab o wreiddiau Mon
I'r gwr a biau'r goron;
Etifedd (da fo'r tyfiad)
Por dewr i ddirprwyo 'i dad.
Deued ein ner diwyd ni
Un rinwedd a'i rieni;

A chalon ddiocheliad
A chwydd pan gyffwrdd â châd;
Ail Arthur waew dur dorri,
Ddyledawg, ruddfawg ri,
Y gwawr wrth Faddon fawr fu
Ym mynydd yn ymwanu;
Pan fu dial ar alon,
A Sais yn isel ei son.

Cynnydd, Dywysog ceinwych,
A dedwydd beunydd y bych;
Mewn campau a doniau da
I anrhydedd iawn rhodia.
Hyfforddiad dy dad odiaeth
A'th fam (godidog yw'th faeth!)
A'th arwain, fy nghoeth eryr,
Mewn bri i ragori gwŷr.

Pan el Sior, ein hior, mewn hedd,
Wiw deyrn, yn y diwedd,
Ar ddir hynt o'r ddaiar hon
I gyrraedd nefol goron,
Aed y mab ffynadwy mawr
I Brydain yn Briodawr.


WEDI MEDDWI A SOBRI.

CYDWYBOD meddwdod nis myn—ond amhwyll
Ar domen y gelyn;
Gorffwyllo, dawnsio mae dyn,
A'r diawl yn canu'r delyn.


ROBERT DAVIES, Y LLANNERCH.

Llanvair Talhaiarn, Tach. 26, 1763.

Anwyl Gyfaill.[10] Llyma fi o'r diwedd gwedi derbyn clamp o lythyr oddiwrth yr Ygnad Barrington. Y mae wedi cytuno drosof ag un Mr. Dodsley, o Pall Mall, yng nghylch argraffu fy llyfr, ac fo addawodd fynnu iddo wŷr i ddiwallu'r wasg yn y Lladin, y Seisoneg, a'r Cymraeg; o herwyda hynny yr wyf yn hyderu yn fawr arnoch chwi yn y gwaith o ran y Gymraeg. Os daw allan yn ddiwall oddi wrth y cyssodyddion, e fydd (a Duw yn y blaen) yn beth clod i'n gwlad a'n hiaith. E ddeisy fodd yr Ygnad ysgrifenu o honof atoch yn y perwyl yma allan o law. Mi a dderbyn- iais ei lythyr o'r 23 o'r mis hwn heddyw. Y mae yn meddwl yr a'r llyfr i'r wasg allan o law. Gadewch im', da chwithau, gael clywed mor fynych ag y bo modd yng nghylch ei helynt. Y mae gennych chwi Hirlas Owain, yr hwn yr wyf yn deisyf arnoch ei draddodi i Mr. Dodsley mor gynted ag y galloch.

Myfi a gefais golled afrifed yn ddiweddar am Mr. Davies o Lannerch. Dyma i chwi ei farwnad. Os yw Llangwm am brintio ei ail lyfr, dodwch hi iddo. Mi a roddais y cwbl a feddwn mewn Barddas o'm gwaith fy hun iddo, yn ol eich arch, pan oedd yn myned â'i Ddiddanwch o gylch.

Yr eiddoch yn ddiffuant,

EVAN EVANS.

CYWYDD MARWNAD

Yr urddasol Bendefig, Robert Davies, Yswain, Llannerch, yn Sir Fflint.

Κλαίωμεν, ὃ γὰρ γέρας ἐστὶ θανόντων.[11]
HOMER, I. xxiii. 9.

AM wr a aeth, mae oer wedd
A mawr gwyn yn mro Gwynedd,
A galar prudd ac wylo,
Wrth weled trymed fu'r tro:
Nid oes grudd na chystuddiwyd,
Mor arw yw'r gloes ym mro Glwyd;
Torwyd ac anafwyd ni,
Gwae ein gwlad gan galedi.
Marw Robert (mawr yw'r ebwch)
Dafis, llyna'r trym-gis trwch,
Mae o'r herwydd mawr hiraeth,
Merwindod, y sigdod saeth;
Ac anferth yw y cwynfan
Am wr glwys a Chymro glân.
Od aeth Llannerch heb berchen,
Gwae ei bod yn wag o ben!
Collodd frig Pendefigion,
Neuadd hael yr annedd hon;
Pan aeth (ffoedigaeth ffawd)
Yn hesp hon o'i hosp hynawd.
Y locw afon, wrth lifo,
A wnaeth yn fras ein noeth fro;
I'n hoes ni fu loes mor flin,
Gau ei ffrwd fawr gyffredin.

Tlodion deu-cant o wledydd
A gyrchai i'w dai bob dydd;
Uchel y maent yn ochain,
A'u cur a rwyg y mur main!


Angeu a wnaeth ing in' oll
O'i gyrchu, a gwaew archoll;
Dwyn hael, a gadael y gwan
I'w orweddfa i riddfan;
Bei dug, buasai byd iawn,
Ddeg i'w bedd o gybyddiawn;
A gadael un hael o'n hoes
Yn ddi ing i fyw ddeng-oes.
Mae rhai'n, rif y brain, i'n bro,
Och anwyr, yn iach heno!
Rhai ar led yn rhoi ar log,
Er ennill, wŷr arianog;
Cael ceiniog yn llog i'r llall;
Pentyru can-punt arall;
Ac ereill heb seguryd,
Crinaf wŷr, yn cronni yd;
Llorio er ennill arian,
Drud werthu, gwasgu dyn gwan;
Prynu, a gwenu i gael gwall,
Tiroedd à deu-cant arall;
Cael gwynfyd y byd o'i ben,
Tewychu cant o ychen.
Pob cybydd y sydd o son
I'w nodi yma'n cidion:
Eidion erioed yn ei ryw,
Ac eidion gorwag ydyw.
Och, fyned o'i wych faenol
Y gwr a aeth; gwae ar ei ol!
Goreu un gwr a aned,
Rhwydd i gant y rhoddai ged:
Gwedi hael ni cheir mael mwy
I dlawd a fo dyladwy.
Sylltau, coronau cryniawn
A gai wŷr angenog iawn:

Ceiniogau, dimeiau mân,
Yn eu taith, a gânt weithian.

Od aeth gwr odiaeth gariad,
A wnai wiw les yn ei wlad,
Rhad dyfo i'r etifedd,
I roi'n ei ol yr un wedd;
A Duw mawr, Blaenawr ei blaid,
A ranno nef i'r enaid!
Dyna fan diau na fydd,
Ni wiw gobaith, i gybydd.


MARWNAD WILLIAM MORUS.

Llanvair Talhaiarn, Jan. 31st, 1764
.

Dear Sir,[12]— I have not heard from you a long while, though I sent you some franks to write to me. Mr. Justice Barrington wrote me word that you were so good as to promise to inspect the press in the Welsh part of my book that is to be printed by Mr. Dodsley. He says that some of his learned friends are particularly pleased with Hirlas Owain Cyfeiliog, and an Elegy on a Young Lady of Merionethshire, in that collection. By this I conceive no small hopes of the book proving acceptable to men of taste and learning; and it will, if you take care of the Welsh part, as I make no doubt but you will, be some credit to our country.

I have seen Hugh Jones of Llangwm here in his way from Anglesey. He brought me the very melancholy news of your brother William's death. I had heard it before, but could not believe it, but find since it is but too true. He was a valuable man in every respect, and, what to himself was most valuable, a good Christian.

Duw ne'n dwyn y dynion da,
Y drwg aml a drig yma,


I have composed his elegy, and send it to you as a testimony of the regard I had for the worthy deceased. I promised to let Llangwm have it to print in his next book; but you must look after him; for I find his conceit and ignorance has contrived to commit some faults even under your inspection; e.g.

Brodir gwnawd ynddi brydydd;

which, I suppose, and am almost sure, should be gnawd. This is intolerable; and I dare say he committed the blunder after you had corrected it. I gave him all my poems to publish, excepting "Ateb y Golomen," which I thought you had. I have but a very bad copy of it, hardly legible to myself, wrote with a pencil. I must look over it and mould it off anew before it can be fit to be printed. Let me hear from you, as likewise how you approve of my book, and in what forwardness it is.

I am, yours sincerely,

EVAN EVANS.

CYWYDD
MARWNAD MR. WILLIAM MORYS,

O'r Dollfa, yng Nghaergybi ym Mon; Llysieuydd godidog a rhagorol
am ei Wybodaeth yn amryw Geinciau Philosophyddiaeth Anianiawl;
Celfydd yn Iaith yr hen Frytaniaid a'r Beirdd; a hynod am amryw
Gampau, Gorchestion, a Rhinweddau da ereill nad ydynt aml
yng Nghymru y to heddyw.

MAN drist ydyw Mon drosti,
Gan waew a haint gwan yw hi;
Mae'n brudd am wr mwyn o'i bro,
Marw William, mawr yw'r wylo.
Lle bu y gân a diddanwch
Y mae adfyd, tristyd trwch.
Lle bu wên a llawenydd,
Tostur yw'n dolur i'n dydd!
Os cyfarwydd Derwyddon
A fu wŷr mawr o fro Mon,
Celfydd ym mhob pwnc eilwaith
Ym Mon fu am awen faith:
Cynnull gwaith (canwyll y gân).
Y prydyddwyr per diddan:
Taliesin, Aneurin wawl,
A Merddin emau urddawl,
A Llywarch, benaig lluoedd,
Gelyn i Sais, glân was oedd.
Cai glod; adnabod a wnaeth
Yn gywraint physygwriaeth;
A meddyg, oreu moddion,
I dlawd oedd ; e dál Duw lon.
A chwiliai ef yn wych lân,
Berthynas barthau anian
(Ddawngar bryd), gan ddwyn ger bron
I'r goleu ei dirgelion;

Camu, llawenu yn llwybr
Linnæus, yn lân ewybr.
Llysiau a'u nodau, heb nam,
Eilwaith adwaeniad William.
Ni fu ail am ddail i'w ddydd,
I rannu eu carennydd
Yn hyffordd iawn, a'u heffaith
I ddyn; pand da oedd ei waith?
Blodau, heirdd deganau haf,
Fil a wyddiad, fal Addaf.
Trin gardd, wr tirion a gwyl,
A'i gwarchadw ei gu orchwyl;
A'i hoew ardd dirion, lon, lwys,
Oedd o brydwedd Baradwys;
Aili Eden loew ydoedd,
Mor lân, ac mor araul oedd!
Llawn o ros ac effros gwiw,
A'r lili wawr oleuliw;
A'r tiwlip ar eu tyle,
Mor wych eu llewych a'u lle!
Llawer ereill oreuraid,
Rhai gwynion, rhai cochion caid;
A'u lliw hefyd a'u lleufer
Glân syw, fal goleuni ser.
Er glaned, gwyched eu gwedd,
Edwant, deuant i'w diwedd:
A'r un modd o ran, meddyn',
I'r bedd o'r diwedd a'r dyn.
Nid oes na dynion, na dim,
Na ddiweddant yn ddiddim;
Y byd i gyd, a phob gwaith,
A'i anneddau a'n oddaith;
Y mawrion dirion dyrau
Fal breuddwydion gweigion gau!

Pan ddêl o'r maith uchelion,
A mawr nerth, ein mirain Ion,
I roi barn ar wŷr y byd,
A'u didol, a dywedyd:
"Deuwch, wŷr da a diwael,
Ar hynt i deyrnas Ior hael;
Yn ninas wen addas Ner,
Cain weision, y'ch cynhwyser":
Bydd William, wr dinam da,
Un o dorf y lân dyrfa,
Yn canu mawl rhadawl rhydd
Yn ddifyr i Dduw Ddofydd,
Ac i'r Oen hygar anian,
Ac i'r Yspryd gloew-bryd Glân.
Ei waith oedd, ar gyhoedd gynt,
Canu Salm, cynnes helynt;
Dysgu gogoneddu Ner
Yr oedd i luoedd lawer.
Ef aeth weithian, wr glân glwys,
A'i ber-odl i Baradwys.


CURAD LLANFAIR TALHAEARN.

Llanvair Talhaiarn, May 12th, 1764.

DEAR Sir,[13]— I have not heard from you for almost a twelvemonth, nor, indeed, from any of my countrymen. However, as I have so good an opportunity, I resolved to let you know there is such a one alive as wishes you and yours well. My sister, who is the bearer, came to pay me a visit afoot. I hear all my friends are well. But she could give me no account at all of you. I therefore desired her to call by you, as it is not out of her road; and I dare say she will be welcome upon her brother's account.

I have lost my best friend in this country, Mr. Davies of Llannerch; and continue still a curate in the same place, and am at present, I thank God, in good health. I have collected a great many materials by way of an apparatus of notes upon Nennius. I have at present a small book in the press at London, which I suppose is no news to you, as your brother is the corrector of the press in the Welsh part. Mr. Justice Barrington told me at Conway it would be out in a fortnight's time or there- abouts. Had I received the copies I am to have, I would have sent you one. However, I will take care to save one for you when they come to hand.

I am sorry my ill fate contrives matter in such a manner that I cannot be near you. I am sure it would give me heart to carry matters to greater perfection than I can in the dis- advantageous situation I am in, in this country, where I lost all friends that had the same taste with myself. I am afraid, if I continue here much longer, I shall commence a down- right savage, so few persons are there in this country that relish anything of learning, or are any way encouragers of it: and to complete my misfortune, our Bishops look upon me, I believe in my conscience, with an evil eye, because I dare have any affection for my country, language, and antiquities, which, in their opinion, had better been lost and forgotten, and which some of them have had the front to maintain in their sermons: so that, all things considered, I am encompassed with a multiplicity of discouraging circumstances. However, I have so much philosophy as will carry me through the whole.

When I hear what reception my present publication has from the public, I shall then set about Nennius in earnest, though you know better than anybody else that the task is very difficult. You could help me to a great many more materials which lie scattered in your Celtic Remains. I do not know how you have enjoyed your health since I saw you, and whether you still continue to enlarge that valuable work. Mr. Justice Barrington told me there is a French writer, one Mons. Bullet, that has wrote a Celtic Dictionary, which comes to six guineas. He has promised to send one to me with many books from the printer. He says that he has made great use of the Archeologia Britannica without acknowledging his obligations to the author. I conceive but a poor opinion of it at present, but will let you know when I receive it. It is upon the same plan with your Celtic Remains. What a pity it is that work is not published even as it is now. Lambert's book, you know, is much in the same way, not reduced to any alphabetical order.

I have had lately some of Llwyd of the Museum's letters to the very learned Mr. Davies of Llannerch, and inclosed I send a letter of Mr. Price of Llanvylling to Mr. Josiah Babington, schoolmaster of St. Asaph's. I thought it might be a curiosity to you. I shall take some other opportunity to send you transcripts of those of Llwyd. In one of Mr. Davies' common-place books now in my custody, I find the following curious anecdote, which I shall here transcribe for your sake.

April 13 '80. Mr. M. Lloyd told me that Bishop Usher said that when he was a young man he had seen an old book called Ecclesia Britannica Historia, auctore Tyssilio filio Brochmaeli (Brochwel Ysgithrog) regis Powisa. This book was then in the hands of Dr. Price, prebendary of Westminster; and Mr. Lloyd, upon enquiry, found Dr. Lewis of St. Cross had it afterwards; but being asked concerning it, said he lost it, by burying it in the war time; but Mr. Lloyd thinks that he sent it to Rome, having since heard he was turned Papist."

I still maintain correspondence with Mr. Percy, and find that the Northern Scalds had a kind of Cynghanedd, not unlike ours, in their poetry. I sent him Swrdwal's poem upon Our Lady, but my copy was very corrupt; and in return he sent me an abstract from Olaus Wormius' Literatura Runica.

I have no room to say more, but that
I am yours sincerely,
EVAN EVANS.

MARWNAD LEWIS MORRIS.

Llanvair Talhaiarn, June 28th, 1765.

WORTHY Sir,[14]—It was but a fortnight go that I heard the melancholy news of your brother's death, which you may be assured was very grievous to me on many accounts, as I have lost a very valuable friend as well as a curious correspondent, and an encourager of my researches into the history of Britain, and everything else that related to the honour of our country and the support of its language. I have, indeed, myself been so far out of order this last winter, by the gravel, and a grievous nervous headache and fever, that I was in doubt whether I should see another summer; but blessed be God, I am now pretty well recovered. I hope you enjoy perfect health, the greatest blessing, next God's grace, under heaven.

Inclosed I send an Elegy upon your brother, as a token of the great regard I had for him. This, as you will see by the motto, is the last piece of poetry I shall in all probability ever compose. My attention is at present fixed upon things of more serious nature, though at the same time, the history of our ancestors, and due regard to its Bards, shall never be out of date with me while I breathe; but I have no encouragers of these studies after your brother, and indeed, but very few competent judges of them. But when I seriously consider matters, I find there are things of far greater consequence, considering the small, short, and transitory enjoyments we poor mortals enjoy here below. In such a situation nothing can give a person any solid satisfaction, but a conscientious discharge of his duty. When I consider how things stand now in Wales, how poorly we are provided with religious books, and those we have at present almost all worn out with age, and no new ones succeeding, but some paltry translations, which a mere Welshman can make nothing of, I would fain if possible, notwithstanding the present discouragement from persons who ought to know and do better, undertake something for the instruction of our poor countrymen; some plain practical expositor of the New Testament translated, would, in my opinion, be of great service. I think I may, without vanity, claim so much ability as would carry me through such a task, so as to give general satisfaction, provided God gives me life and health. You, who have access to some of the chief promoters of the Society for Promoting Christian Knowledge, might, perhaps, upon application, get me proper encouragement, and they likewise, if so disposed, may best inform me what would be of most use, if what I proposed be not approved. I have had the correction of two translations lately: one was that of Kettlewell's Practical Believer; the other, entitled The Christian Instructed. Though I have taken great pains and altered abundance in their translations, I cannot say they are master pieces. A man must new-model the whole, like pulling down an old building, or an ill contrived new one, before anything of purpose can be done in such cases; but this was too much for me to do and for them to expect. I have spoke to you before about Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd. I wish that, or Dr. Davies' translation of Father Parsons' Resolution, were reprinted. They are excellent books, and very pure Welsh. Pray, are there any of Griffith Jones of Llan Ddyfwr's;; books still with the printer in London? Let me know who translated the pamphlet entitled A Serious Address to the Methodist. Let me have a long-winded epistle from you as soon as possible.

I am, yours sincerely,
EVAN EVANS.



CYWYDD MARWNAD
LEWYS MORYS, YSWAIN.

O Benbryn, yn swydd Geredigion; prif Hanesydd Brydain Fawr, o barthed ei Chymmrodorion, eu Henwau, eu Hachau, a'u Hansawdd; Amgeleddwr godidawgwiw yr hen Frytaniaith, a'i Beirdd; Prif Oruchwyliwr Mwngloddiau y Brenin o fewn Talaeth Gymru; Darluniwr celfyddgar Ebyr ein Gwlad, o For Udd i For Iwerddon; Philosophydd Anianol cywrein-ddoeth manyl-ddysg; mwy hynod am bob Dawn a Gorchest benigamp na neb o'i Gydwladwyr y to heddyw; teilwng o'i goffau gan bawb a garont eu Gwlad a'u Hiaith. Wedi ei gyflwyno gan yr Awdur i'r Anrhydeddus Benllywydd, a Llywydd Hybarch Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain, ac ereill ei Haelodau; er mwyn cwyno y Golled gyffredinawl a gafodd y Beirdd, a Hanesion ein Gwlad am dano.

Extremum hunc, Arethusa, mihi concede laborem.[15]—VIRG. Ecl. x.

GWAE heddyw a gyhoeddir,
Mor dost yw i Gymru dir,
Golli Lewys, gell Awen,
Dwyn ei pharch, ei dawn, a'i phen!
E dynwyd iaith dan y dwr
Gladdu ei hamgeleddwr:
Caled yw colli colofn,
Penciwdawd cerdd ddidlawd ddofn,
A fedrai yn wiw fydrawl
Holl gampau mesurau mawl.
Merddin neu Daliesin dysg,
Homer oedd â mawr addysg,
Am brydu, canu mewn côr,
Aneurin yn ei oror:
Bu gerddgar ddigymar gynt,
Apolo ym mhob helynt.
Mae 'i ddoniau a'i gampau i gyd
Yr awran mewn oer weryd;
A'i waith amherffaith, am hwn
I'n cenedl iawn y cwynwn:
Prudd yw ei grudd, pridd a gro,
Hanes holl Gymru heno!
Aeth weithian yn wan o wedd
Ein hynod hen Freninedd.
Pwy a ddadgan, darian dur,
Un o wyrthiau hen Arthur,
Neu Urien dien fal dâr,
Neu Faelgwn, gawr rhyfelgar,
Neu Gadwallon gwaed-ollwng,
Pen cadau, mal bleiddiau blwng.
Drwy ynni a drywenynt
Seison yn waew-gochion gynt?

Bellach fyth na chrybwyller
Na son am anian y ser;

Llewyrch nef a'i gynnefod,
Cylchau a rheolau'r rhod;
Na'r llwybr yr a haul wybren,
Llyw y dydd, na lleuad wen;
A gradd pob un o naddynt,
A'u harwydd a'u hyrwydd hynt.

Pwy a wybydd, pa obaith,
Duw Ion a'i wyrth mawrion maith,
O ddyn hyd at bryfyn brau,
A'u rhyw hynod, a'u rhiniau,
O goedydd mawrfrig adail
Hyd lysiau mân deiau dail?

Duw a roes, a da ei rodd,
Medrus gymen ymadrodd;
Cafodd, a da fu'r cyfoeth,
Sylwedd o ddysg Selyf Ddoeth.

Cynnes oedd ei amcanion,
Mor frwd ei ddiamhur fron,
I Gymru, rhag i amraint
A malais Sais, megys haint,
Ddwyn, a mynych y cwynwn,
Ein bri, a'n sori â'u swn.
Torrodd eu dannedd taerion,
Difyr erioed, da fu'r fron.

I Gamden y rhoes sen sur,
A'i Frydain, ofer awdur;
Sef, y dangoses hefyd,
O'i fawr bwyll, ei fai i'r byd.

Darfu cynnydd dydd canu,
Och! feirdd, eich harddwch a fu
Heddyw nid oes ddyn hoew-ddawn;
Pwy a gais ddysg ym mysg mawn?

Du yw gwlad Cymru, a dall,
Yr awran ni cheir arall.
Ni welir yno eilwaith
Un gwr mor enwog ei waith.
Oer wyler am a aderyw,
Gwae mor oer i Gymru yw!
Ni chanaf fi na chân fwyn,
Nod uchel, onid achwyn:
Ac ni chân, drwg yw'r waneg,
Un bardd da yn beraidd deg,
Neu eos bert hynaws big,
Nac adar yn y goeawig:
Bydd cân gan ddylluanod;
Gwae i'r Cymry felly fod!

Carolau, rhigymau gant,
O oer ddaawrdd a udant:
Cywydd o geinciau Awen,
Gwywodd eu hoen fal gwŷdd hen;
Ni chlywir i'n tir hynt iawn,
Na doniau ym mysg dyniawn;
Gan i Lewis gain lywydd
Ddarfod, gwae ddyfod ei ddydd!
Hir a fydd a rhyfeddod
A glwys y cenir dy glod:
Ni ddaw, tra byddo Awen,
Na doniau, na llyfrau llên,
Cymro iawn, cymar ei waith;
Teilwng i'n bro, it' eilwaith.

YR ESGYB EINGL.

Llanfair Talhaiarn, Mehefin 23, 1766.

ANWYL Gyfaill,[16]—Myfi a dderbyniais yr eiddoch o ddiwedd mis Mai o'r drydedd eisteddiad, ac y mae yn dda iawn gennyf glywed eich bod yn fyw, ac yn ddrwg gennyf nad ydych yn mwynhau eich cyflawn iechyd: o herwydd nad adwaen i yr un Cymro a wnaeth fwy o les i'w wlad a'i iaith nog a wnaethoch chwi, er amser euraid y Frenhines Elsbeth; pryd yr oedd gennym Esgyb o'n cenedl ein hunain a fawrygent yr iaith a'i beirdd, ac a ysgrifenent lyfrau ynddi er mawrlles eneidiau gwŷr eu gwlad. Pan (Duw a edrycho arnom!) nad oes gennym y to yma ddim ond rhyw wanccwn diffaith, tan eilun bugeiliaid ysprydol, y rhai sydd yn ceisio ein difuddio o ganwyllbren gair Duw yn ein hiaith ein hunain; er bod hynny yn wrthwyneb i gyfreithiau ac ystatut y deyrnas. Da y proffwydodd Merddin Wyllt am danynt:

Oian a borchellan bydan a fydd
Mor druan ei ddyfod ag ef ddyfydd, &c.
Escyb anghyfieith diffeith diffydd.

Os byw fydd rhai, ef a gaiff y gwarthus ymddygiad yma ei lym argyhoeddi, a'i ymliw er mefl iddynt yng ngwydd y byd. Digon gair i gall. Myfi a glywaf fod gwŷr Mon am ddeol y Sais brych a dderchafwyd i fod yn Berson Trefdraeth i'w wlad ei hun, a'u bod wedi ei droi allan o'r Ysgol y Beaumares eisoes, o herwydd ei fod yn wr priawd, yr hyn sydd wrthwyneb i ewyllys y sawl a'i cynnysgaeddodd gyntaf; ac myfi a glywais hefyd fod John Thomas, usher Bangor, fy nghyfaillt, yn ymwneuthur am yr ysgol; a phoed gwir a fo'r chwedl, a llwyddiant iddo, er mefl i'r Esgob a Suddas. Am danom ni yn yr Esgobawd yma y mae'r Escob yn cael gwneuthur a fynno yn ddiwarafun; sef y mae, megys Pab arall, wedi derchafu tri neu bedwar o neiaint i'r lleoedd goreu, lle yr oedd Cymry cynhenid gynt yn gweinyddu, ac ni chaiff y curadiaid danynt ddarllen mo'r Gymraeg: ac myfi a glywais hefyd ddywedyd yn ddiweddar fod dau Sais arall yn Sir Drefaldwyn, mewn dwy eglwys a elwir Castell ac Aber Hafesb, yn darllen Seisoneg yn gyfan gyfrdo drwy gydol y flwyddyn, er nad oes mo hanner y plwyfolion yn deall nac yn dirnad dim ag a draethir ganddynt. Duw a ddelo ag amseroedd gwell, ac a atalio ar eu rhwysg, rhag iddynt andwyo eneidiau dynion dros fyth!

Y mae'r Ymwahanyddion o'r achos yma yn taenu yn frith ac yn aml dros holl wyneb Cymru. Ac y mae'r Methodistiaid wedi cynnyddu yn ddirfawr yn ddiweddar yn Neheudir Cymru, ac yn y wlad hon hefyd, yn gyfagos i'r Personiaid Eingl uchod.

Gwedi darfod y gwres angerddol ag y mae'r Poethyddion hyn yn feddiannol o hono yr awron, y mae arnaf ofn yr a corff crefydd yn gelain oer o'r diwedd, er yr holl grio, a'r gwaeddi, a'r crochlefain, ie, a'r bonllefain sydd i'w mysg yr awron. Gresyn yw fod yr annhrefn yma wedi tyfu oddi wrth y gwŷr eglwysig eu hunain, y rhai, lawer o naddynt, ni fedrant na darllen na phregethu, chwaithach iawn ysgrifenu yr iaith y maent yn cael eu bywiolaeth oddi wrthi. Y mae arnaf ofn fod Rhagluniaeth y Goruchaf wedi arfaethu yr Ymwahanyddion i fod unwaith eto yn fflangell i'n Heglwys, o herwydd yr anfad lygredigaethau yma o eiddo'r gwŷr llên yn ein mysg (os iawn eu galw felly), megys ag y buont o'r blaen.

Myfi a drof weithian oddi wrth y testun pruddaidd hwnyma at rywbeth mwy diddan. Da iawn gennyf eich bod o ddifrif yn myned yng nghylch gorchwyl mor llesawl i'n gwlad ag argraffu y Llyfr Gweddi Gyffredin mawr i'r eglwysydd. Y mae dirfawr eisiau o hono mewn llawer eglwys yng Nghymru. Duw a roddo iwch iechyd i weled ei orffen, ie, a'r Biblau mawr hefyd, o herwydd y mae'r rhei'ny yn amherffaith ac yn ddrylliog mewn amryw lannau. Da iawn hefyd a fyddai pei gellych ail gyhoeddi Llyfr y Resolution, a'r Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd.

Ni feddyliais i erioed fod y carnlleidr o Langwm cynddrwg, er i mi fynegi i'ch deu-frawd fwy nog unwaith nad ymddiriedent ormod iddo, o herwydd nad oes iddo mo'r gair da gan y sawl a'i hadwaen yn dda. Myfi a roddais iddo fy holl waith fy hun mewn prydyddiaeth Gymraeg, er mwyn eu hargraffu, es mwy no dwy flynedd, ac ni chlywais oddi wrtho o'r dydd hwnnw hyd heddyw, ac ni waeth gennyf a glywyf oddi wrtho ef na'i fath fyth.

Y mae Nennius yn aros yn yr un gywair a dylif ag yr oedd gennyf. Nid oes gennyf ddim i wneuthur ond cyfleu y nodau pan elwyf yng nghylch y gwaith o ddifrif. Myfi a fum y gauaf diweddaf yn dra afiachus gan y tostedd, a'r gwaew yn y pen, ac onid e, e fuasai wedi ei ddadysgrifenu cyn no hyn.

Am drefnu fy llyfr arall i'w ail brintio, hynny ni wnaf fi fyth, o herwydd i'r Seison anafu'r llall yn yr enwau Cymreig mor gywilyddus yn yr argraffiad cyntaf. Am waith awduraidd Taliesin, Llywarch Hen, Aneurin Wawdrydd, a'u cydoesiaid, nid oes neb a fedr eu deongl yn ein dyddiau ni. Y mae iaith y prydyddion a gyfieithais i yn ddigon dyrys, mal y gwyddoch.

Y mae yn dda gennyf glywed fod Mona Antiqua Restaurata yn cael ei dadeni drwy law mor gelfydd ag eiddo'r Dr. Owain. A oes modd i gael un o naddynt heb arian ac heb werth? Nid oes yma ddim mwnai i'w gael gan guredyn llymrig. Gresyn na byddai modd i drefnu Geiriadur y Dr. Davies, a'r Celtic Remains o eiddo'ch brawd, a'u rhoi i'r wasg. Myfi a welais rai mân draethodau ganddo wedi eu gorffen yn berffeith-gwbl, sef Amddiffyniad Hanes Tyssilio yn erbyn Milton, Camden, Nicolson, ac ereill. A ddaeth y rheiny i'ch llaw? Myfi a welais waith Mr. Pennant : gorchestol iawn ydyw. Newidiwch y llinell ganlynol ym Marwnad eich brawd Lewis yn y wedd hon:

Yn lleMor frwd oedd ei ammur fron.
DarllenwchMor frwd ei ddiainmur fron.


Y mae yn ddrwg iawn gennyf dros gyfieithwr Kettlewell, o herwydd myfi ac yntau a gymer- asom boen fawr i'w daclu i'r wasg. Efe a'i ysgrifenodd deirgwaith drosodd. Ac y mae iddo ugain punt am ei gyfieithu, a adawyd gan wr boneddig yn ei lythyr cymyn. Gwnewch eich goreu, da chwithau, o'i blaid. Gadewch im gael clywed oddi wrthych, nid ym mhen dwy flynedd neu ddau fis, ond ym mhen y pymthegnos o leiaf, o bydd modd. Duw a'ch gwarchadwo chwi a'r eiddoch.

Eich ffyddlonaf a'ch caredicaf gyfaillt,
EVAN EVANS.


TAITH YN SIR ABERTEIFI.

Gynhawdref, Tachwedd 29, 1766.

ANWYL Gyfaillt,[17]—Y mae yn fadws im weithian gydnabod o honof dderbyn y llythyrau cywraint a addawsoch es mis a chwaneg; a diolch yn fawr iwch am y gymwynas.

Myfi a fum, wedi ymadael â chwi, yn crwydro yma a thraw, ac nid oes gennyf ddim well i'ch diddanu yr awron na hanes o'm hymdaith. Wele, ynte, ni gychwynwn. Yn gyntaf, myfi a osodais allan o'r Gynhawdref yng nghylch hanner dydd, ac gyrhaeddais waelod Ceredigion, ac a letyais gyda châr im' yng Nghrug Eryr, y man y mae Lewis Glyn Cothi

TREGARON A THEIFI.


yn ei feddwl, pan ddywed am ei berchenog:

Ef yw'r gwr goreu o Grug Eryr

Oddi yno mi aethum drannoeth i ymweled â chyd-golegydd im'; ond, fal yr oedd mwyaf yr anffawd, nid oedd mo hono gartref; ac onid e, ysgatfydd, nad aethwn ddim pellach. Oddi yno, ym mhen dau ddiwrnod, mi a gychwynais tua thref Aber Teifi, man na buaswn erioed o'r blaen. Oddi yno mi a gymerais hynt i eithaf Dyfed, i dref Hwylffordd, lle y gwelais lawer o anrhyfeddodau; sef, hen leoedd y darllenaswn am danynt ym Mrut y Tywysogion, a'r Beirdd; ac ym mysg ereill, Castell Llan Huadain, hen waith gorchestol. Mi aethum oddi yno i Lacharn at Mrs. Bevan, yr hon a'm anrhegodd â holl waith printiedig Mr. Gruffudd Jones. Oddi yno myfi a gyfeiriais tua Chaer Fawr Fyrddin, ar oddeu argraffu Cydfod yr Ysgrythyrau Santaidd; ond methu arnaf gytuno â Mr. Ross, o herwydd nad allwn glywed ar fy nghalon ymddiried i neb am ddiwallu'r wasg, oddigerth fy mod i fy hunan yn gyfagos i fwrw golwg arno. Diau mai argraffydd da ydyw, ac y mae llawer o lyfrau wedi dyfod allan o'i wasg, ac yn gywirach nag yr oeddwn i yn meddwl, ac iaith rhai o honynt yn buraidd ddigymysg. Y mae yn myned yng nghylch printio'r Bibl Cysegrlan â Nodau arno, yr hwn sydd i ddyfod allan bob wythnos, yr un wedd a chyda chwi yn Llundain. Myfi a welais y proposals. Un o'r Methodyddion yw'r gwr sydd wedi cymeryd y gorchwyl gorchestol hwn yn llaw; ei enw, Peter Williams. Ond yw hyn yn gywilydd wyneb i'n gwŷr llên ni o Eglwys Loegr! Y mae Rhagluniaeth Duw ym mhob oes yn cyfodi rhai dynion da. Ni waeth pa enw yn y byd a fo arnynt. Oddi wrth ei ffrwyth yr adnabyddir y pren. Y mae yn dra hynod fod yr ychydig lyfrau Cymreig ag sydd argraffedig, wedi cael eu trefnu a'u lluniaethu, gan mwyaf, gan Ymwahanyddion, ac nad oes ond ychydig nifer wedi eu cyfansoddi gan ein hyffeiriaid ni es mwy na chan mlynedd; a'r rheiny, ysywaeth, yn waethaf o'r cwbl o ran iaith a defnydd. Y mae St. Paul yn dywedyd mai "yr hyn a hauo dyn, hynny hefyd a fêéd efe." Ni ddichon fod ond cnwd sal oddi wrth y cynhaeaf ysprydol pan fo'r gweithwyr mor segur ac ysmala, heb ddwyn dim o bwys y dydd a'r gwres, a'r Esgyb Eingl wedi myned yn fleiddiau rheibus. Duw yn Ei iawn bryd yn ddiau a ofala am Ei eglwys.

I ddyfod unwaith eto o'r tro yma i'r ffordd fawr a'r daith a adawsom ar ol heb ei gorffen; myfi a duthiais o Gaer Fyrddin i Lan Egwad, i weled Cymro cywraint y clywswn lawer o son am dano es cryn ddeng mlynedd o'r blaen, ond na chawswn mo'r odfa hyd yn hyn i ddyfod i'w gyfyl. Dafydd Rhisiart yw ei enw: curad Llan Egwad ydyw; a gwr priod o berchen gwraig a phlant. Y mae, debygwn, dan ddeugain oed. Y mae ganddo gasgliad gwych o'r hen feirdd, ac amryw bethau gorchestol ereill, na welais i erioed o'r blaen mewn un man arall. Y mae, heb law hyn oll, yn ysgolhaig godidog, er na throediodd erioed un o'r ddwy Brifysgol. Os byddwn byw, mi ac yntau, nyni a gynullwn yr hyn a fo gwiw y parthau yma o Gymru. Myfi a nodais, pan oeddwn yno, y pethau mwyaf cywraint, ac y mae yn addaw eu dadysgrifenu. Chwi a gewch glywed ychwaneg am danom, os byw ac iach fyddwch chwi a ninnau.

Unwaith eto at y daith. Mi a ddychwelais o Lan Egwad i Gaer Fyrddin, ac oddi yno y bore drannoeth i Gynwyl Elfed, ac i Ben y Beili yng ngwaelod Ceredigion: methu fyth à gweled fy hen gyfaillt. Oddi yno mi a gychwynais yn drymluog ddigon, ac a ddaethum i Fabwys, ac y syrthiais yn glaf o gryd engiriawl; a chwedi ymiachau unwaith, dygaswn, mi a ail glefychais o fewn y pymthengnos yma. Ond, i Dduw y bo'r diolch, yr wyf unwaith eto ar wellåd: ond y mae fyth ryw bigyn blin yn fy ystlys. Yr wyf yn cyrchu beunydd i lyfrgell Ystrad Meurig, ac yn astudio Plato fawr, a hen gyrff ereill o dir Groeg a'r Eidal. Cymdeithion mwynion iawn ydynt. Ni chefais i mo'm llyfrau o'r gogledd eto; ond y mae'r clochydd, fy hen gyfaill ffyddlon yno, yn mynegi eu bod yn ddigon diogel. Mae yn fy mryd gychwyn tuag at yno o hyn i Galanmai, neu ddanfon rhywun i'w cyrchu, heb ado migwrn odd yno. Y mae hiraeth arnaf eisoes am eu cymdeithas, ond nid oes modd i ddanfon hyd hynny.

Atolwg, beth yr ydych yn arfaethu ei wneuthur o drysorau mawrwyrthiog eich brawd? Ymwrolwch ac ymorolwch, da chwithau, er eu tragwyddoli mewn print.

Y mae gennyf yr awron dair Eglwys i'w wasanaethu, a Chapel Ieuan yn Ystrad Meurig Atolwg, beth yr ydych yn arfaethu ei wneuthur o drysorau mawrwyrthiog eich brawd? Ymwrolwch ac ymorolwch, da chwithau, er eu tragwyddoli mewn print.

Y mae gennyf yr awron dair Eglwys i'w wasanaethu, a Chapel Ieuan yn Ystrad Meurig o honynt. Felly ni lyfasaf fyned ym mhell oddi cartref.

Ni welais mo Mr. Paynter wedi'r diwrnod hwnnw y cymerais fy nghennad oddi wrthych chwi yn y Dafarn Newydd; ond y mae yn fy mryd ymweled ag ef rywbryd tu yma i'r Nadolig. Drwg iawn y newydd oddi wrth Oronwy, druan! Gresyn oedd!

Gadewch im' gael hir llythyr oddi wrthych, a pheidiwch talu drwg am ddrwg; sef gohirio ysgrifenu, fal y gwnaethum i. Cofiwch am roi hir enghraff o gyfieithiad Milton mewn mydr penrydd o eiddo Mr. Williams. Y mae Mr. Richard o Ystrad Meurig yn cofio ei wasanaeth yn garedig atoch.

Eich ffyddlon rwymedig gyfaill,
EVAN EVANS.

CYFLOG SAL IAWN.

Cynhawdref, February 4th, 1767.

ANWYL Gyfaillt,[18]—E ddygwyddawdd im' fyned i Aber Ystwyth ar neges ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, ac yn ebrwydd mi a ddanfonais i'r Post Office i edrych a oedd yno yr un llythyr im'; a mawr oedd fy llawenydd pan welais yr eiddoch o'r degfed o Ionawr: ond dirfawr oedd fy syndod pan ddarllenais ddarfod i chwi ddanfon llythyr arall, ni wŷs pa bryd o'r blaen, ac un arall o eiddo y mwynwr hwnnw a'r anwyl gyfaill, Mr. Llwyd o Gowden, yn ei fol. Diau yw na dderbyniais i mo honynt, ac yr wyf yn bruddaidd iawn o'r achos. Diam- heu mai ei gam lwybreiddio a wnaethoch, ac anghofio ysgrifenu per Montgomery arno. Yr wyf yn cymeryd gofal dichlyn bob wythnos i ddanfon i Aber Ystwyth am lythyrau bob dydd Llun, sef y diwrnod marchnad yno. Felly y mae yn rhaid iddynt fyned i Aber Teifi, neu ryw le anghysbell arall, lle nid oes modd i ddanfon am danynt.

Da chwithau, danfonwch yn ddiatreg at Mr. Llwyd, a dywedwch wrtho y drygddamwain; ac fy mod yn dirfawr ddiolch iddo am ei ewyllys da; ac y buaswn i yn cymeryd y guradiaeth, ac y cymeraf fi hi eto os nad ydyw ry ddiweddar. Nid wyf yn cael oddi wrth y tair Eglwys yr wyf yn eu gwasanaethu yma ond cyflog sal iawn, sef dwy bunt ar hugain yn y flwyddyn; ac oni bai fy mod yn byw gyda'm ceraint, ac yn cael fy mwyd a'm golchiad am ddim, ni buaswn byth byw. Ac am hynny, yr wyf yn llwyr fwriadu ymadaw oddi yma yng nghylch Calan Mai o bellaf. Da chwithau, ymorolwch, chwi ac yntau, am le arall i mi erbyn hynny, os yw hwn yna wedi ei golli. Ni wn i pa beth ar y ddaiar i'w ddywedyd am y rhodd yna drwy lythyr cymun yr ydych yn ei grybwyll am dano. Y mae yn debyg fod amlygrwydd yng nghylch y peth yn y llythyrau a aethant ar ddifancoll. Y mae yr awron yn edrych fal ped fai freuddwyd, a da iawn fyddai ped gwir fai. Da chwithau, gwnewch y goreu a alloch o'm plaid. Ni wn i ddim pa beth arall a ddywedaf, o herwydd fy mod yn llwyr yn y tywyll o blegid y peth. Nes elin nag arddwrn," eb yr hen ddiareb. Chwi a welwch fy mod yn llawn o honof fy hunan a'm pethau, o flaen meddwl na chydgam am neb arall na'u heiddo, ie, fy nghymhwynaswyr pennaf. Dyma ffordd y byd helbulus, trafferthus, gofidus hwn yma. Gwyn ei fyd a fai ddiangol o hono mewn llawenydd byd gwell, lle mae ein hanwyliaid o bryd i bryd yn prysuro o'n blaen; a lle, gobeithio, yr awn ninnau ar fyrder ar eu hol.

Y mae yn y wlad hwn ddwndwr mawr yng nghylch crefydd, megys ped fai'r trigolion amgenach dynion nag mewn mannau ereill; ond o ran eu ffrwythau y maent, y rhan fwyaf, yn diflannu yn fwg, ac y maent, braidd, waeth eu cynheddfau nag ereill; ac yr wyf fi yn ofni, mewn amser, na bydd yma grefydd yn y byd. Ac o daw Biblau Seisnig i'r Eglwysydd, mal y mae'r Esgyb Eingl yn bwriadu, ef a â yr ychydig oleuni sydd gennym yn dywyllwch. Y mae llawer yn Esgobawd Elwy, heb law y gwr a henwasoch, wedi taflu'r Biblau Cymreig allan eisoes, ac y mae yno lawer o Seison cynhenid bob Sul, yn enwedig mewn lle a elwir Aber Hafesb, yn sir Drefaldwyn, lle y mae'r gynhulleidfa i gyd yn Gymry, mal y mynegodd cyfaillt cywraint o'r wlad honno yr haf diweddaf i mi; ac yr oedd y plwyfolion, druain, yn edrych ar hynny megys yn fraint. Dyna falldod Seisnigaidd heb ei elfydd! Beth yw hyn ond dwyn drachefn gaddug pabyddaidd ar y wlad? Duw a edrycho arnom, ac a ddelo â gwell amser!

Mawr ddiolch iwch am y Miltwn Cymreig. Nid da y cydwedda y mydr yna â'n hiaith ni. Y mae mesur y Gododin yn llawer gwell, megys y tystia y llinell hon a llawer ereill ynddo:

Twrf tân a tharan a rhyferthi.

Myfi a fum sal y rhan fwyaf o'm hamser, er pan y'm gwelsoch, o'r cryd, yr hwn a ddychwelodd arnaf chwegwaith weithian: ac am hynny, ni bu dim hoen nac awenydd gennyf mewn llyfrau na dim arall. Gobeithio fy mod wedi ei gorthrechu bellach, ac y bydd tymor y flwyddyn o'm plaid.

Ni chefais mo'm llyfrau eto o Wynedd, er fy mod yn mawr hiraethu am danynt; o herwydd yr oedd dynion y wlad yma yn gofyn pris afresymol am eu nol fyrddydd gauaf, nid llai na thri guinea; ond y maent yn ddigon diogel yno mewn cadwedigaeth cyfaill ffyddlon. Os ymadawaf oddi yma ddechreu'r haf, ni wiw danfon am danynt oll, ond danfon am danynt lle y sefydlwyf. Fy afiechyd a lesteiriodd im' ddanfon at Mr. Richards o Lan Egwad. Y mae gormod o Eglwysydd ar fy llaw, onid e mi a awn ac a aroswn yno dros fis i ddadysgrifenu y pethau mwyaf cywraint.

Da gennyf glywed eich bod ar fedr cymhwyso gwaith eich brodyr i'r wasg. Da iawn y gwnewch er lles eich gwlad a'ch iaith. Am y Bibl Cymraeg â Nodau, y mae arnaf ofn na ddaw byth allan, ac nad ydyw'r dyn ychwaith ag sydd yn cymeryd y gorchwyl yn llaw gymhwys i'r gwaith. Ei enw yw Peter Williams; un o'r Methodyddion ydyw. Ni fedr ddim iaith iawn, na'i hysgrifenu chwaith, megys y mae rhai llyfrau a ysgrifenodd yn tystio. Y mae Bugeilgerdd Mr. Richards o Ystrad Meurig wedi ei hanafu gan yr argraffydd, a gresyn oedd, o herwydd gwaith godidog ydyw ar y mydr hwnnw. Ni chefais hamdden eto i orffen Ymddiddan Lucian.

Ertolwg, gadewch im' gael hir llythyr oddi wrthych gyntaf ag y bo modd. Ysgrifenwch hefyd yn ebrwydd at Mr. Llwyd o Gowden, a dywedwch wrtho mal y mae pethau yn sefyll; sef fy anffawd i eisieu ei lythyr a'r eiddo chwithau. Mynegwch iddo na bydd dim llonyddwch i'm meddwl nes clywed oddi wrtho. Yr wyf yn mawr ddiolch iddo ef a chwithau am eich caredigrwydd tuag ataf. Duw a dalo iwch am eich cymwynasgarwch!

Y mae fy chwarter cyntaf yn terfynu y pymthegfed dydd o'r mis hwn. Yr wyf yn bwriadu aros yma un chwarter ychwaneg, i gael ychydig arian i ymdeithio yn fy mhoced; ac onid ef, mi a drown fy nghefn y bore fory. Y mae fy hen gyfeillion ffyddlon gynt gwedi marw yma, bawb o naddynt ; ac am hynny, ni welaf fi ddim gobaith o wellâu fy hunan, ped aroswn yma ddwy flynedd neu dair ychwaneg, ond yn unig colli fy amser gwerth- fawr heb wneuthur fawr o les im' fy hun nac ereill.

Y mae yn bryd weithian tynnu at derfyn; ac am hynny, mi a gymeraf fy nghenad oddi wrthych y tro yma rhag eich goflino.

Yr eiddoch yn garedicaf tra bo,
EVAN EVANS.

YSTRAD MEURIG.
Ysgol Edward Richard yn agosaf atom.
"Myfi a fyfyriais yn ddifesur yn ieuanc yn yr Ystrad draw."

P.S. Direct to me thus:

'To...... ........at Gynhawdref in Lledrod Parish, near Ffos y Bleiddiaid, Cardiganshire, S. Wales. To be left at the Postoffice, Aberystwyth."

MELLDITHIO'R SAESON.

Newick, Gorffennaf 9, 1767.

ANWYL Gyfaillt,[19]—E fydd, agatfydd, yn rhyfeddod gennych glywed oddí wrthym o'r man yma. Bydded hyspys iwch, gan hynny, im' ymadaw o'r Pwll Dwr (Appledore), o herwydd nad oes y dydd heddyw, a'r a wn i, y fath giwed uffernol yn trigo ar glawr y ddaiar ag ydynt y bobl sydd yn y Persondy yno. Ac o ran y wlad oddi amgylch, nid Ilawer gwell ei hansawdd, o herwydd y lle mwyaf afiachus ydyw ag sydd yn Lloegr, o herwydd mai darn o Gors Romney ydyw. Am hyn myfi a ymroais i ymadaw â'r fangre felltdigedig, ac a aethum at fy mhatron i roddi'r lle i fyny a hwnnw, yn ddiau, a ymddygodd tuag ataf yn ddigon dreng. Ac fo ddywawd y brithyll yno i mi, iddo beri ysgrifenu atoch, i mi fenthycio ceffyl, ac felly ymadaw â'r wlad. Ac yn ddiau fo daenodd ei ddeiliad y gair ar hyd y wlad, er fod y ceffyl gartref ym mhen ychydig oriau ar ol fy addewid i'r taiog; ond yr oedd ef wedi myned i'w wely, ac ni fynnai mo'm clywed i, er im' alw yn y Persondy cyn deg o'r gloch. Mewn gair, ni welais i ddim mo'r fath fileindra na chieidd-dra mewn un man erioed. Ond bendigaid fo Ei enw, y mae Duw yn cadw'r gwirion ym mhob man.

Gwedi ymadaw, yr oedd yr arian gwedi darfod gennyf. Yn y cyfyngdra hyn, e ddigwyddodd im' glywed fod Cymro yn gurad yn y gymydogaeth; ac at hwnnw yr aethum yn ddigon prudd fy nghalon, gan adrodd fy nghwyn, fal ag yr oedd pob peth; ac yno yr arosais bedwar diwrnod, â chroesaw mawr iawn. Enw y lle Headcorn; enw y Cymro cymwynasgar, David Evans, o swydd Gaer Fyrddin. Y gwrda hwn a'm cynghorodd i fyned yn ddiatreg â llythyr oddi wrtho ef at un Mr. Williams, o Hayton, yn agos i Lewes, yr hwn a allai fy nghyfarwyddo i gael curadiaeth. Ac felly myfi a gychwynais i'r daith, ac a ddaethum i nol crys neu ddau ac hosanau, i Appledore. Am y god groen, e orfu arnaf ei gadaw yno, à llawer o ryw ddillatach ynddi. Myfi a gyfeiriais tua Rye, i edrych a oedd y boxes wedi dyfod yno, fel yr oeddwn wedi ysgrifenu atoch gyda Mr. Wiliam Stock oddi yno. Myfi a ddeisyfais ar Mr. Troughton ysgrifenu atoch am eu cadw yna nes y caech glywed oddi wrthym drachefn. Myfi a ddeisyfais arno hefyd wrthwynebu y chwedl dybryd celwyddog yng nghylch y ceffyl. Gobeithio i'r llythyr hwnnw ddyfod i'ch llaw mewn iawn bryd ac amser; ac fod y boxes yna eto. Y mae arnaf fi eiseu fy nillad yn angerddol; o herwydd, i Dduw mawr y bo'r diolch, llyma fi unwaith eto gwedi cael curadiaeth esmwyth mewn gwlad iachus, gyda gwr mwyn rhadlon, yn Sussecs, o fewn wyth milltir i Lewes, ac o fewn tair a deugain i Lundain, ac, meddynt wrthym i yma, o fewn deuddeg at fy nghyfaillt caredig Mr. William Llwyd o Gowden. Y mae llawer iawn o Gymry yn guradiaid yn y wlad yma, a rhai henafwyr yn perchenogi personoliaethau da. Y mae yn ddrwg gan fy nghalon i Mr. William Llwyd a chwithau a Mr. Troughton gymeryd cymaint o boen i'm dwyn i'r fath anfad le, ac at y fath Pharisead anhrugarog â'r Bicar yno. Ni arosodd yno un curad sefydledig er ys mwy nog ugain mlwydd. Yr oedd ef yn newid ei gurad agos bob blwyddyn, a'r cyfryw ag a arosynt yno a oeddynt yn cael eu traflyncu gan ei ddeiliad yno gan beri iddynt dalu yn afresymol am eu golchiad, ac am drin bwyd iddynt. Mewn gair, y mae y cyfryw ogan i bob un o'r ddau, ag i'm cyfaill David Evans ddywedyd wrthyf, na ellid fy nanfon i waeth lle ond at y diefyl i annwn.

Wele, llyna i chwi hanes y twrstan o'r twrstaneiddiaf. Yr oeddwn yn bwriadu yr wythnos yma ymweled â Mr. Llwyd, ond y mae'r hin mor dymhestlog, na fedraf ddangos fy mhig allan. Ond gobeithio yr hinona hi yr wythnos nesaf, ac yno, a Duw yn y blaen, myfi a âf i ymweled âg ef; o herwydd fod arnaf eisiau fy nillad a'r hen bregethau Seisneg yna. Byddwch mor fwyn a'u danfon hwynt wedi eu llwybreiddio yn y modd hyn ataf:

"For the Revd. Mr. Baynes, at Newick in Sussex—to be sent to Catherine Wheel in the Borough, to go by Mr. Hall and Nutty the Carrier. N.B. The waggon sets out on Tuesday morning only, about eleven o'clock." Er mwyn Duw, gadewch im' glywed oddi wrthych yn ddiatreg. Y mae'r post yn dyfod yma bob dydd o'r wythnos ond dydd Llun o Lundain. Llwybreiddiwch eich llythyr yn y modd yma:

"To the Revd. Mr. Evans, at Newick in Sussex, by the East Grinstead bag."

Na ddeliwch ddim sylw ar yr hyn a ddamweiniodd yng Nghaint, ac na choffewch enw neb, ond yn gyffredinol, fod yn ddrwg gennych i mi gael fy nanfon i'r cyfryw le afiachus nad wyddoch chwi na Mr. Llwyd ddim oddi wrtho, ond a oeddid yn ysgrifenu atoch. Ysgrifenwch ataf yn Seisoneg, yn y cyfryw wedd ag y gallwyf ei ddangos i Mr. Baynes. Myfi a anghofiais ddwyn gennyf bapurau y testimonial o'r wlad; ac am hynny fo fydd yn rhywfaint o fodlondeb ganddo glywed y gair goreu. Pa beth bynnag yr wyf yn ei haeddu, i. Dduw mawr y bo'r diolch, yr wyf yn gywir ac yn onest; a'r bai mwyaf sydd arnaf, a bai ac anaf erchyll ydyw, yfed gormodedd. Ond y mae yn fy mryd, trwy ras Duw, dorri y ddrwg arfer hon yn llwyr; ac yno, mefl i Suddas a'i weision!

Myfi a anghofiais, braidd, ddywedyd wrthych orfod arnaf adaw Lewis Glyn Cothi a Dafydd ap Gwilym yn Rye. Gan na wn i pa bryd y gallaf ymdeithio mor belled, o herwydd y mae dros ddeugain milltir o ffordd oddi yma, ac o herwydd na wyddwn pa beth i'w wneuthur yn y cyfryw gyfyngdra, myfi a huriais lanc er swllt yn Appledore i'w dwyn hyd yn Rye, lle y maent yn ddiogel yng nghadwedigaeth Cymro yno. Myfi a roddais orchymyn iddo eu danfon naill ai i mi neu chwi, fel y byddai mwyaf cyfaddas. Myfi a roddais iddo gyfarwyddyd pa fodd i'w danfon atoch, ond i chwi ddanfon llinell neu ddwy ato ar y perwyl hwnnw. Y modd y danfonwch ato sydd fal y canlyn:

"TO Mr. William Prosser, Saddler, in the Market Street, Rye, Sussex."

Myfi a berais iddo gymeryd gofal am y boxes mau, o delynt yno. Gobeithio nad aethant, o herwydd nid oes modd ar y ddaiar i'w cludo yma. Ac felly os aethant, y mae yn rhaid eu cael yn ol mor ebrwydd ag y bo modd, a'u danfon yma.

Chwi a welwch gymaint o flinderau a barasant yr Esgyb Eingl im' trwy beri im' ymadaw â'm gwlad. Mi a chwenychwn, pan gaffoch odfa, gaffael hir llythyr oddi wrthych, a pha beth yw eich tyb chwi yng nghylch y traethawd a ysgrifenais i yn ei gylch. Nid wyf yr awron yn disgwyl ond by: lythyr Seisoneg oddi wrthych, o herwydd yr wyf ar bigau drain o eisieu fy nillad a'r hen bregethau Seisnig. Am fy llyfrau, nid oes arnaf frys yn y byd am danynt. Gadewch im' glywed oudi wrthych gynted ag y bo modd.

Yr eiddoch yn ffyddlon hyd y ffun ddiweddaf,
EVAN EVANS.

CURADIAETH ESMWYTH.

Newick, Gorffennaf, 22, 1767.

Anwyl Gyfaill,[20]—Myfia a dderbyniais y gist â'r dillad, ac yr wyf yn mawr ddiolch i chwi a'ch gwreigdda am y boen a gymerasoch o'm plaid i a hwythau; a diau yw fod y gŵn yn ddrwg ei waneg pan ddaeth yna, a'r gasog hefyd. Bendith Dduw i'r dwylo a'u dygodd unwaith etwa i'w llun a'u lliw cynefin; a gobeithio y bydd y gwisgwr yntau yn addasach i'w gwisgo. Diolch hefyd am y gwregys a'r bandiau, eiddo'r Dr. Scot. Anghof a brys fy mrawd wrth ddyfod o'r Gogledd a barodd adael fy sash fy hunan ar ol. Mi a ysgrifenais i Lanfair Talhaiarn am dani, ac a berais ei danfon gyda rhywun onest i Lundain, a'i thraddodi yn eich dwylo chwi; o herwydd y mae o leiaf yn werth chweugain o arian; ac o iawn foddion a gwneuthuriad. Yr wyf yn gobeithio derbyn llythyr oddi yno cyn pen tair wythnos. Mi a erchais ei ysgrifenu mewn caead atoch chwi, o herwydd na fynnwn iddynt wybod fy nhrigfan, rhag ofn cael fy syfrdanu â llythyrau yng nghylch rhyw fân ddyledion sydd arnaf yno, ac felly gyrru traul arnaf heb ddim budd na ched iddynt hwythau. Hen wr godidog ydyw'r clochydd yno. Anaml iawn y ceir yng Nghymru bersoniaid o'i fath. Y mae yn deall Lladin a Hebraeg, Seisoneg a Chymraeg, yn odiaeth. Y mae yn deall yr hen feirdd yn lew Liawn. Fe ddywawd wrthym i iddo ddanfon i chwi gopi o Gyfraith Hywel Dda ar hen femrwn gydag un Robert Llwyd oedd yna y pryd hwnnw yn brentis apothecari. Y mae ganddo lawer iawn o lyfrau Cymraeg, ond nid llawer o FSS. Ganddo ef y mae'r Almaen- acau Cymraeg a soniais wrthych o'u plegid. Os mynnwch, mi a ddanfonaf ato am danynt. Yn ddiau y mae ynddynt bethau hynod a gwerthfawr; ac myfi a wn na nacâ ef mo honynt, o herwydd yr oedd yn fy hoffi, er fy holl feiau, yn ddirfawr, ac mi wn y gwnai un peth a'r a geisiwn a fai resymawl, yn ddiatreg, o cheisiwn. Cristion da ydyw, a gwybodol mewn llawer o gelfyddydau cywrain. Nid wyf yn cofio i mi son am dano wrthych erioed o'r blaen. Myfi a berais iddo ysgrifenu llinell neu ddwy atoch chwi yn y caead.

Myfi a fum yr wythnos ddiweddaf gyda Mr. Lloyd o Gowden, yr hwn, gwedi rhoi imi bregeth, a'm croesawodd dros wythnos. Yn ddiau, nid allaf byth dalu y rhwymedigaeth sydd arnaf i'r mwynwr hwnnw, mwy nog i chwithau. Gresyn na bai yn deall mydrau Cymreig cystal ag y mae y rhai Groeg a Lladin; diau na byddai na Gronwy na neb well nog e. Nid oes yma air o druth na gweniaith, ond yr union wir. A pheth sydd fwy eto, nid oes un gwyd na drwg arfer wedi greddfu ynddo. Anaml iawn y mae'r fath ddynion y to heddyw. Myfi a grybwyllais wrtho yng nghylch y traethawd yna o blaid yr Esgyb Eingl. Os ewch yno i ymweled ag ef, mae, fal y dygwch ef yno, i'w geryddu ganddo; o herwydd nad adwaen i neb a feidr yn well, na neb chwaith y meiddiwn ddadguddio y cyfryw gyfrinach iddo, ond y gwr o'r Swydd Lyngesawl, a'm hathro haeddbarch o Ystrad Meurig. Myfi a ysgrifenais hir llythyr at y gwr hwnnw yn ddiweddar, ac a ddeisyfais arno ddanfon Testimonium o dan llaw y gwŷr llên o wlad Ceredigiawn, i'w ddanfon at Esgob Dewi i ddodi ei law wrtho. Nid oes yr awron ddim llawer o achos am y fath beth, ond goreu ei gael, o herwydd y mae yn ffurf ganddynt. Myfi a ysgrifenais hefyd lythyr yn ddiweddar at y Parchedig Mr. Thomas Percy, Caplan Duc Northumberland, i'm hesgusodi fy hun na ddaethum i'w weled yn ol fy addewid. Ý mae yna lawer o'i lythyrau ataf fi. Y mae yn gohebu â mi es chwe mlynedd; a diau dyn godidog ydyw. Myfi a grybwyllais am eich brawd Lewis yn fynych wrtho, ac myfi a fynegais yng nghylch y Celtic Remains wrtho. Os daw yna, gobeithio y byddwch mor fwyn a'u dangos iddo. Nid oes nemor o'i elfydd y dydd heddyw. Y mae yn gyfaill anwyl i Mr. Johnson, awdwr y Rambler, large folio English Dictionary, &c.

Am fy llyfrau sydd yn eich cadwraeth chwi, myfi a adawaf y cwbl yna hyd Wyl Fihangel. Ac od oes yna ddim a dâl ei ddarllen neu ei ddadysgrifenu, y mae iwch gyflawn groesaw hyd yr amser hwnnw. Ymgeleddwch, da chwithau, ychydig o'r papurau rhyddion yna, yn enwedig llythyrau eich brawd Lewis at Athro Ystrad Meurig. Da iawn fyddai pei cawn yr atebion sydd ym Mhenbryn o eiddo

YR WYN AETH I FRWYNO.

"Pob un a grwydro a geir adre."


Mr. Richard: ac yno fo fyddai yn llyfr diddan, amgenach, yn fy marn i, no llythyrau Pope a Swift, ac ereill wŷr penigamp a ysgrifenasant yn ddiweddar. Ymorolwch, da chwithau, am danynt.

Nid oes gennyf ddim yr awron i'w wneuthur ond ysgrifenu a phregethu Seisoneg, a darllen llyfrau dewinaeth (divinity) ac felly yn lle Ieuan Fardd, mi af yn Ieuan Ddewin. Ef allai y deuaf i ymweled â chwi dros ddiwrnod ym mhen mis. Ac y mae yna lawer o hen gyfeillion, ysgolheigion Ystrad Meurig, sydd arnaf flys eu gweled. A glywch chwi? Mi a anghofiais o braidd ofyn iwch pa beth yr ych yn arfaethu wneuthur o'r Fugeilgerdd yna? Yr oedd y Tew o Ystrad yn meddwl y rhoddech hi yn y wasg; ac os felly fydd, na anghofiwch gydnabod mai ef yw'r cyntaf a ysgrifenodd fugeilgerdd yn Gymraeg; ac onid ef, fo ddigia, ac ni chymyd byth â chwi no minnau. Mi feddyliais am hyn es dyddiau, ond mi a anghofiais ysgrifenu atoch. Y mae ef wedi newid y ddeu-fraich ddiweddaf o'r trydedd pennill yn y wedd yma. Yn lle—

O'r wyn aeth i Frwyno, d' oes un nad oes yno,
Pob un a grwydro a geir adre.

darllenwch—

Mamogion bron Brwyno, er iddynt hir grwydro,
Don' eto i'w llwyr odro i'r llawr adre.

Am Dafydd ap Gwilym a Lewis Glyn Cothi, da iawn fu'r helynt eu dwyn o'r Pwll Dwr. Y maent yn ddigon diogel iwch. Danfonwch am danynt pan fynnoch. Llyna iwch bapuryn yn dangos gyda phwy i ddanfon am danynt, os mynnwch eu cludo dros fôr. Yr wyf yn meddwl nad oes na cherbyd na men yn myned yno o Lundain. Gadewch im' glywed pan ddelont yna, o herwydd fo fydd yn esmwythter gennyf eu dyfod yn ol yn ddifai ddianaf. Yr oeddynt yn ormod baich i mi eu cludo ar fy nghefn, er fod yn ddrwg gan fy nghalon orfod arnaf adael y ddau hen gorff mwyn ar fy ol. Ond pan ddigwyddo llongddrylliad, chwi wyddoch mai hunan-geidwadaeth yw'r egwyddor pennaf. E orfu arnaf, fal pob moriwr arall, gardota ar hyd y ffordd yma, o herwydd a dderyw im' pan oedd drymaf y dymhestl, daflu yr aur a'r arian dros y bwrdd; ac yna, wedi ychydig ddyddiau, y bu tawelwch mawr. Wele, wele! Gobeithio Duw nad af fi, tra bwyf ar y ddaiaren, i'r cyfryw daith drachefn.

Yr wyf yr awron, clod i'r Goruchaf, yn mwynhau fy iechyd yn odiaeth, ac yr wyf mewn gwlad iachus, gyda gwr mwyn, rhadlon, boneddigaidd. Yr wyf yn ciniawa gydag ef bob dydd, ond yn lletya allan. Yr wyf yn talu chwe swllt yr wythnos am fy nghinio, a hanner coron am fy llety, ac yng nghylch chwe-cheiniog am fy ngolchiad. Y gyflog ydyw deugain punt yn y flwyddyn. Nid yw ond curadiaeth esmwyth a phlwyf bychan. Nid oes i'w wneuthur ddyddiau'r wythnos. Nid allaswn fyth ddygwydd wrth guradiaeth well.

Am y Petr Wiliams yna sydd yn argraffu y Bibl yng Nghaerfyrddin, nid yw, meddynt i mi yng Ngheredigion, ond ysgolhaig sal, a phur anghyfarwydd yn y Gymraeg. Un o gynghorwyr neu ddysgawdwyr y Methodistion ydyw. E ddywedwyd wrthym i nad oedd y gwaith ddim yn myned yn y blaen, o herwydd eu bod yn barnu nad oedd ef ddim gymhwys i'r gorchwyl. Dyna'r cwbl a wn i am dano.

Dyma'r papur ym mron darfod. Duw a'ch cadwo ac a'ch bendithio chwi a'ch tylwyth! Yr eiddoch yn ffyddlonaf,

EVAN EVANS.

P.S. Gwiliwch na sonioch wrth neb yng Nghymru am hanes y Pwll Dwr, ac onid ef ni bydd diwedd byth ar bregethu, yr hyn a ddylai fod fal physigwriaeth arall............

PENHILLION Y TELYNOR.

Newick, Gorffennaf, 29, 1767.

ANWYL Gyfaill,[21]—E ddywawd Mr Llwyd o Gowden i Barri y Telynior grefu ychydig o benhillion Cymraeg ganddo ef, a chyfieithiad Seisnig o naddynt, o ba benhillion y rhoddwys i mi gopi pan fum yn ymweled âg ef, megys y gallwn innau elfyddu rhyw beth, o deuai chwimp o'r fath honno i'm pen; ac ddoe brydnawn, gwedi blino rhodio'r meus- ydd, mi a gyfansoddais y penhillion canlynol. Ni wn i gyweddant â'r mesur ai peidio, o herwydd nad wyf yn deall miwsig. Pa fodd bynnag, chwi sydd, agatfydd, well barnydd, mewn miwsigyddiaeth, a ellwch, os rhynga bodd iwch, eu danfon at Barri, i edrych a ellir eu cymhwyso i'r delyn. Y mae'r testun, hyd ag yr wyf fi yn deall, wedi ei gyfaddasu i flas Penllywydd y deyrnas; ac o ran fod y telynior yn ddyn dawnus o Gymru, gresyn na chai ef ganu ambell bennill Cymraeg i Dywysog Cymru, o'r hyn leiaf dan ystlys y rhai Seisnig. Nid wyf fi ond anghyfarwydd yn y fath yma o brydyddiaeth, ac felly, os methais, rhaid cymeryd yr ewyllys yn lle'r gallu.

Yr eiddoch yn ffyddlon,
EVAN EVANS.

Byddai yn dda gennyf glywed, pan ddych- welo'r ddau wr boneddig gan Dafydd ap Gwilym a'r Cadben Lewis o Lyn Cothi o Rye. Fy ngwasanaeth atynt.

CANIAD AR ENEDIGAETH SIOR,
TYWYSOG CYMRU.

Ar y dôn a elwir "Y Cyntaf o Awst."

MOESWCH, feirdd, mewn cywrain gân
(Ond diddan yw i'n dyddiau?)
Roi geiriau glwys o gywir glod
At hynod lais y tannau,
I ganmol Llywydd nef a llawr
Am roi Tywysog, enwog wawr,
Er llawenydd, ddedwydd awr,
A dirfawr lwysfawr leisiau.


Dyma ddydd i'ch llawenhau;
A'ch genau rhowch yn gynnar
Ei haeddawl glod i Frenin nef,
A bid eich llef yn llafar;
Am fendithion, moddion mad,
Dro iawn a glwys i dir ein gwlad,
A roes yr Arglwydd rhwydd yn rhad,
Yn ddiwad ar y ddaiar.

Am eni Tywysog Cymru gain,
Etifedd Frydain frodir,
Gan bawb a garo'r uniawn ffydd
Y dydd a anrhydeddir.
Am hynny unwch bob yn gôr,
O fawr i fach, o fôr i fôr,
I foli'n rhwydd ein Harglwydd Ior,
O fewn yr oror eirwir.


COFIO'R ESGYB EINGL.

Newick, Awst 29, 1767.

ANWYL Gyfaill[22]—llyma ateb i lythyr yr hen Glochydd mwyn. Yr wyf yn erfyn arnoch fod mor fwyn a'i ddanfon iddo, â chaead yn ei gylch. Da iawn yw gennyf glywed oddi wrthych. Yr oeddwn yn dirfawr ofni, gan eich bod cyhyd yn dawedog, i ryw drymder ddigwydd i chwi. Llawenydd iwch o'ch maban! Bid ail i Wilym Cybi ei ewythr. Mi a fum yn ymweled â'r Llwyd o'r Coed Yn yng Nghaint (a elwch chwi Ffau'r Fuwch)

ddechreu'r mis hwn. Yr oedd y pryd hwnnw yn iach lawen, ac fo addawodd ddyfod i ymweled à mi ryw bryd cyn Gwyl Fihangel.

Oran fy mod, a Duw yn y blaen, yn bwriadu sefydlu yn y wlad hon weithian, byddai dda gennyf ddanfon o honoch y ddau flwch lyfrau yma ataf. Diau yw mai rhy flaenllym yw'r traethawd yn erbyn yr Esgyb Eingyl; a bychan fyddai ganddynt fy nhorri yn ddeuddarn, ne fy malu yn chwilfriw. Ond mewn achos mor iawn, yr wyf yn meddwl y meiddiwn ofyn y gwaethaf a ddichon gallu dynawl ei wneuthur. A phed fawn i ddioddef ar yr achos, llyma fy nhestun "Nac ofnwch y rhai a ddichon ladd y corff, a chanddynt ddim ychwaneg i'w wneuthur, ond ofnwch yr Hwn a ddichon ladd yr enaid a'r corff yn uffern: ie meddaf, Hwnnw a ofnwch." Mi a fynnwn yn ddiau fod rhywbeth o'r fath yna wedi ei argraffu, ond nid mor flaenllym ag yw hwn yna. Y mae un Richardson wedi cyhoeddi llyfr o blaid y Gwyddelod, ag sydd yn cael yr un cam â ninnau, ag sydd wiw ei ddarllen a'i ystyried; ond ni welais i mo hono nes gorffen y traethawd_yna. Ertolwg, ymorolwch am dano ym mysg y llyfrwyr yna. Y mae o'r hyn lleiaf yn fy nhraethawd ddefnyddiau da tuag at y diben, ond bod gormod o fustl ynddo. Y mae gennyf fi ryw bapurun bychan wedi ei ysgrifenu yn ddiweddar, ag sydd yn coegi yr Esgyb Eingi yn fwy eto no'r traethawd. Y mae wedi ei ysgrifenu yn Lladin, a llyma ei deitl: "Llythyr y Parchedig Dad Ioan Elphin, Cennad Apostolaidd Cymdeithas Iesu at y Cymry Pabaidd, at y Sancteiddiaf Arglwydd Clement y Pedwerydd ar ddeg, Pab Rhufain; ym mha un y mae yn mynegi yn helaeth yng nghylch Helynt Crefydd yn y wlad honno, ac yn dangos y modd i gynnal a chynhorthwyo cyflwr alaethus y Gymdeithas honno, ag sydd yr awron ar fethu yn ardaloedd Eglwys Rhufain."

Y mae Ioan Elphin yn dywedyd y gwna'r Iesuitiaid burion offeiriaid yng Nghymru, o ran eu bod o'r un gynneddf a champau da a'r Esgyb Eingl. Y mae hwn yn finiog gethin; ond nid a e ddim o law'r awdwr oddigerth atoch chwi, pan gaffwyf gyfle, mewn gwisg Gymraeg; oddi wrth yr hon ni ŵyr yr Esgyb uchod ddim.

Y mae yn rhyfedd gennyf, a chwithau mor agos i Rye, nad aethoch a'r llyfrau gennych. Nid yw, am a wn i, ddim pellach no chwe milltir o Romney. Mynnwch ryw law sicr i'w cludo oddi yno. Myfi a logaf geffyl, os gwelwch chwi yn dda, i'w nol; ond hi fydd yn dreulfawr; o ran y mae oddi yma yno fwy no thri ugain milltir; ond dewisach gennyf fi golli dau guinea na chlywed colli D. ap Gwilym a Lewis Glyn Cothi. Ond os cewch chwi rywun a ellir ymddiried iddo, nid rhaid im' fyned i'r draul. Gadewch im' wybod eich meddwl, o herwydd, os dywedwch y gair myfi a af.

Buasai hoff iawn gennyf eich gweled yn Newick. Mi a fum es pymthengnos yn ym- drochi yn y môr yn lle a elwir Seaford, lle yr oeddwn yn cael digon o gimychod am rôt y pwys, a gwely da'r nos a pharlwr gwych y dydd, am chwecheiniog, lle yr oedd ereill yn talu yn Brighthelmstone ddau swllt y nos o leiaf, ac nid oes wybod pa faint am fwyd. Os digwydd i chwi a minnau fod yn y byd yr haf nesaf, o bydd gennych chwant i ymolchi yn y môr, nid oes fodd cael lle mor rhad, na gwlad mor iachus, na chyfle gwell i ymolchi. Chwi a welwch im' ysgrifenu at Robert Thomas yng nghylch yr Almanacau: o gwyddoch chwi pa fodd i'w cludo atoch, ysgrifenwch air at yr hen wr mwyn; bydd dda ganddo glywed oddi wrthych. A dywedwch im' hyn eto: A ydyw iawn i mi ysgrifenu llythyrau fal hyn tan gaead? Os nad ydyw, myfi a beidiaf ar yr amnaid cyntaf.

O bydd gwiw gennych chwi a ellwch gadw y Traethawd yng nghylch yr Esgyb Eingl yn eich meddiant: ond am y llyfrau ereill a'r MSS., y mae arnaf led flys i'w caffael yma. Am y cyfrwy, cedwch ef yna, nes caffoch eich talu am yr arian a roisoch allan o'm plaid i. Llyma'r cyfarwydd i ddanfon y blychau:

To the Revd. Mr. Evan Evans, at Newick, Sussex, to be left at Mr. Burtenshaw, at the King's Head, upon Chailly Common. To be sent to Mr. Thompson, at the White Hart in the Borough, to go by Mr. Rickman the carrier from Lewes. The waggon sets out early on Thursdays."

Ac felly rhaid eu danfon yno y diwrnod o'r blaen. Mynnwch receipt am danynt, a danfonwch i mi, mal y gwnaethoch am fy nillad. Mi a gefais gynnyg ar guradiaeth gan Mr. Thomas Percy, Caplan Duc Northumberland; ond o ran fy mod yn fodlon i'm lle yma, ni ymadawaf ddim. Myfi a ddeisyfais arno fynnu cennad i mi weled MSS. yr hen larll Macclesfield sydd, meddynt i mi, yng nghadwraeth yr Iarlles weddw ei wraig. Y mae yn dywedyd y gwna ei oreu. Moeswch gael clywed rhywfaint o helynt yr larlles, pa le y mae hi yn byw, a pha le y mae ei llyfrgell ganthi. Y mae yn addo fy nwyn yn gydnabyddus â Syr Watkin Wms. Wynn, who is," (meddai ef) "disposed to give you a very favourable reception."

Mi fyddaf fi yn disgwyl fod y blychau yma cyn pen wythnos. Gadewch im' gael llythyr oddi wrthych chwithau hefyd, mal y gallwyf wybod a ydynt yn dyfod ai peidio, ai pa un y chwennychoch eu cadw yn hwy, ai nad ydych.

Yr eiddoch yn ddiffuant,
EVAN EVANS.

MARWNAD SION POWEL.

Newick, Medi 9ed, 1767.

ANWYL Gyfaillt,[23]—Llyna i chwi Farwnad Sion Powel Fardd, wedi cael y newydd alaethus o'i farwolaeth. Mi a ysgrifenais lythyr, a chopi o honi, at y Llwyd o'r Coed Yn yng Nghaint. Ertolwg, perwch i Lewis Morris ieuanc ysgrifenu copi o honi

i'r Clochydd o Lanfair Talhaiarn; a byddwch mor fwyn ag ysgrifenu llinell ato. Y mae yn fawr gennyf yru'r hen wr truan mewn traul. Mi a fum yr wythnos ddiweddaf ugain milltir yn ymweled â'm cyfenw o Geredigiawn, ond yr oedd wedi myned ddeugain milltir yn mhellach i gyfnewid a'i feistr dros ychydig amser. Yr oeddwn yn gobeithio, wedi dyfod adref, fod y blychau a'r llyfrau wedi dyfod, ond dim mo'r fath beth. Dyna wythnos digon croes. Danfonwch air im' pa bryd yr ych yn meddwl eu cychwyn oddi yna.

Yr eiddoch mewn brys tra fo,
EVAN EVANS.



CYWYDD MARWNAD SION POWEL,

O Lansannan, yn Swydd Ddinbych, Bardd a Christion da.

PRUDD yw wyneb Barddoniaeth,
Mae'r gerdd a'r Gymraeg waeth;
Marw o Sion, mawr was hynod,
Ap Hywel glân; pwy ail glod?
E aeth i gyd waith y gân
Yn sothach neu us weithian;
A'r gwr a aeth i'r gweryd
A wnai'r gerdd yn aur i gyd:
Ef a lifai fel afon
Ei Awen frwd yn ei fron;
A dawn-gamp, priod angerdd
Y beirdd gynt a'r beraidd gerdd.
Aeth Sion i Sion fel sant
I ganu iawn ogoniant
I Dduw Ion, ac i'w ddinas,
I rym Messiah a'i ras.

Wedi treiddiaw yn llawen
Trwy ffrwd o dir Pharaoh hen,
Iawn gân Foesen a geni
A chân yr Oen, wych iawn Ri.
Mae llawen lef yn nefoedd
Dy ddwyn, rhag mor ddedwydd oedd,
Er y ddraig, a'r mawr eigion,
I weled tir y wlad hon:
Dirfawr yw eu gawr ar g'oedd,
Twrf mawr goruwch twrf moroedd;
Uwch cu cân no tharanau,
A thorf ydyw hon na thau;
A gwaeddant yn dragwyddawl,
Myrdd myrdd yn dadganu mawl,
'Clod, clod, a thafod a thant,
A gwiw gynnydd gogoniant,
I'r Oen, am ei ddirfawr rad,
A'i ragorawl wir gariad,
A'n prynodd trwy ddioddef,
Wyn Ior, er ein dwyn i nef.
Drwyddo Ef, da wir Ddofydd,
Hoff Ion, Tywysog ein ffydd,
Ni a gawsom iawn gysur,
Y gamp, wedi dirfawr gur;
A dyfod o'r trallod trwch
I lawn addas lonyddwch.
Clodfored, moled pob min
Ein henwog freiniog Frenin,
Prif Arglwydd yr arglwyddi,
Pen Teyrnedd, O ryfedd Ri!
Mae Ei ras yn teyrnasu
Ar lawr mewn daiarol lu;
Ac yn nef yn gynnifer
Ei saint a'r aneirif ser!'


Ninnau, mewn tonnau mae'n taith,
O olwg y tir eilwaith;
Yn ofni'r môr, goror gau,
Garw eigion, a'r oer greigiau;
Rhag i'r donn, pan ferwo'n wyllt fôr,
Yn ein hing, ddwyn ein hangor;
A'r gwynt, er ein dirfawr gwyn,
Ein gyrru i for-gerwyn:
Yno, wrth fordwyo'r donn,
Ymrwygo o'r môr eigion,
A'n gwthio i suddo'n syn
(Ni rydd nawdd) i'r anoddyn;
A dryllio'n drwch y cwch cau
Yn gregyn wrth for-greigiau;
A'n llyw, gan yr hagr wall hwn,
Ar donn o waelod annwn;
Eisieu rheol ser awyr,
A'r maen wrth dramwyo'r mŷr.
Tithau, yn anneddau nef,
Wedi gortrech, wyd gartref,
Mewn diogel dawelwch,
A phlas ein Penadur fflwch;
A chywydd newydd a wnai
Yn deilwng i'r a'i dylai:
Ni cheni di, 'n wych hoenwawr,
Ddim mwy onid i Dduw mawr.
Gwedi darfod trallod draw
O'r diwedd, a mordwyaw,
Ein hael Ner a'n hwylio ni
Olynol i'w oleuni,
I eilio, bawb yn wiwlan,
Ei fawl mewn tragwyddawl gân.

CYFRINACH.

Newick, Medi 28, 1767.

ANWYL Gyfaillt,[24]—Llyma fi yn danfon yn yr amser penodol am fy llyfrau, ac yn deisyf arnoch eu danfon yn ol y cyfarwyddyd a roddais iwch, modd y gallwyf eu cael yn ddiogel. Ysgrifenwch linell neu ddwy ataf y dydd y cychwynont, a receipt oddi wrth y warehouse keeper. Myfi a gefais lythyr yn ddiweddar oddi wrth Mr. Lloyd o'r Goeden. E ddywawd fod ei fab wedi cael cennad gan Dr. Humphrey Owen, Penial Coleg yr Iesu yn Rhydychen, i ddadysgrifenu copi o waith Gildas Nennius, yr hwn gymhwynas a addawsai y Doctor i mi es dwy flynedd aeth heibio ; ond ni chefais neb a gymerai'r boen arno, nac y llyfaswn ymddiried iddo am y fath orchwyl, nes caffael Bill Llwyd, yr hwn sydd yn ddiau yn llencyn gobeithlon iawn. Y mae gennyf finnau yma lawer o nodau wedi eu casglu yma a thraw o lyfrau argraffedig a gwaith llaw. Ond y mae'r cwbl yn rhy fychan oni cheir benthyg y Celtic Remains a'r llyfryn Indexes yna, a chopi printiedig y Dr. Gale, ie, a'r Nodau ar Dyssilio hefyd, os oes modd i'w cael. Chwi a welwch gymaint yr oedd eich brawd yn fy nirio i gymeryd y gorchwyl hwn yn llaw oddi wrth ei lythyrau ataf a'm hen feistr o Ystrad Meurig. Yn ddiau nid anturiaf fi mo hono heb y cynorthwyon uchod. A chan eich bod chwi mor brysur yn eich Swydd Lyngesawl yna, ni waeth eu bod yma nac yna. Ni adwaen i neb a fedr wneuthur defnydd o honynt oddigerth Sion Thomas, Athraw Ysgol y Beaumaris; ond y mae gan hwnnw ei wala wyn (chwedl gwŷr Dyfed) i'w wneuthur, os gwna gyfiawnder i'w ysgolheigion. Gwell yw gan hynny, meddaf fi, eu danfon yma, cyn eu danfon i'r British Museum, neu, o ddamwain, i le gwaeth, lle na bydd modd byth i mi ddyfod o hyd iddynt. Y mae'r einioes yn frau, ni wys pa'r awr, pa'r ennyd y gelwir am danom o'r byd hwn; ac am hynny goreu yw cyweirio'r gwair tra fo'r haul ysplennydd yn tywynu. Yr ydych chwithau, y mae arnaf ofn, yn meddwl fyth am y Pwll Dwr, ac yn ofni eu colli; ond yr wyf fi yn meddwl y gellwch fod yn ddigon esmwyth yng nghylch hynny, os gellwch chwi rwydd ymadaw â hwynt. Hwy a gânt, o'r hyn lleiaf, yr un ffawd a helynt à'm llyfrau fy hun. Gobeithio ddyfod o'r ddau lyfr o Rye i'ch dwylo. Hen wr sad gonest yw'r Prosser, ac myfi fuaswn yn ymddiried iddo o herwydd ei eirda gan ei gymydogion am oll a feddwn, ac onid e myfi a fuaswn, er cymaint y lludded, yn eu cludo gennyf i ryw le diwall. Ni ymddygodd un dyn erioed mor giaidd annhrug- arog wrthym a'r llyffant du dafadenog o Granbrook. Wfft i'r anghenfil!

Yr ydych yn dywedyd yn un o'ch llythyrau y gallaf fod yn fardd ac yn ddewin hefyd. Gallaf, rywfath o honynt. Ond y mae'r fath ddewin ag wyf fi yn ei feddwl yn amgen peth, sef a ddylai wybod yr Hebraeg, y Syriaeg, a'r Chaldaeg, yr Arabiaith, ac iaith y Persiaid; mewn gair, ef a ddylai ddeall y Biblia Polyglotta eiddo Brian Walton. Heb law hyn, ´e ddylai ddarllen gwaith hen Dadau yr Eglwys, sef Origen, Basil, Ioan Aureneu, Eusebius, Clemens Alexandrinus, &c., yn y iaith Roeg, a Cyprian, Hieronymus neu Sieron, Emrys, Awstin, Tertullian, a chryn gant ychwaneg, yn Lladin. Mi a fyddaf weithiau am gychwyn yng nghylch y gorchwyl maith hwn, ond y mae'r olwg arno yn fy nigaloni, er fod amryw wedi ei amgylchu, y rhai sydd yn llewyrchu megys cynnifer o ser yn eu cenedlaethau. Y cyfryw oeddynt Ioseph Scaliger, Grotius, Selden, Usher, ac eraill. Weithiau ereill mi fyddaf am daclu ein hen waith ein hunain, pei cawn ganllawiau. Ond ni wiw disgwyl mo'r fath beth, ond bai i Syr Watcyn, neu ryw un o'i fath, fy nghynorthwyo; ond y mae gwŷr Cymru, mal y gwyddoch, wedi ymroi i fod yn Seison; am hynny y mae arnaf ofn wedi'r cwbl yr â'r din rhwng y ddwy ystôl i'r llawr. Pa fodd bynnag, ni fedraf fi ddim bod yn segur tra bwyf fi, ped fai ond darllen Don Quixot, ac ereill bethau gwasaw i ddifyrru'r amser; ond dewisach fyddai gennyf ei dreulio er lles i ereill a chysur im' fy hun pan elwyf oddi yma. Ewyllys Duw a wneler.

Byddai dda gennyf gael y Traethawd ar yr Esgyb Eingl adref, a barn Mr. Humphrey arno. O'm rhan fy hun, yr wyf yn meddwl y dylai fod yn haerllug ac yn groch i'w herbyn o herwydd byddair iawn yw'r Esgyb, a rhaid croch lefain i'w herbyn, os mynir iddynt glywed. Ni wnant ond tremygu a distadlu o chyferchir mal y gweddai i iawn esgyb, y peth nad ydynt hwy, na thebyg iddo. Er hyn i gyd, byddai dda gennyf glywed barn arafaidd y dysgedig arno, megys, od a fyth i'r wasg, y gallo beidio a gwneuthur niwaid o leiaf, oni wna ryw ddaioni. Ond am danaf fy hun, megis ag y dywedais uchod, ni newidiwn i mo'r mymryn lleiaf, ped fawn i farw fory nesaf, ac nid oes na chuchiau na chymwynasau a ddichon newid fy meddwl i yn eu cylch. Felly yn iach iddynt nes bont wŷr da!

A glywsoch chwi oddi wrth yr hen glochydd mwyn o Lanfair Talhaiarn eto? ac a oes gobaith gweled yr Almanacau? A ddanfon- asoch y Cywydd ato, sef Marwnad Sion Powel Fardd? Mi a brynais yn ddiweddar lyfr Tullius Cicero yng nghylch Dyledswyddau Dynion, sef yn Lladin "M. Tullii Ciceronis Officia," ym mha un y mae yr ymddiddanion sydd yn niwedd Gramadeg y Dr. Gruffudd Roberts. Os danfonwch eich Gramadeg chwi yma, mi a orffennaf yr hyn sydd ar goll. Yr wyf yn deall yr iaith Groeg a Lladin a'r Gymraeg o leiaf cystal a'r Doctor: gair mawr (chwedl Abad Dinas Basi wrth Dudur Aled) o eneu arall. Ond gwir yw hynny i gyd, a choeliwch fi. Ond, ysywaeth, y mae dolur yn fy mhen o'r achos es hir flynyddau, a dyma'r achos fy mod yn colli cymaint arnaf fy hun mewn diod. I Dduw mawr y bo'r diolch fod fy synwyrau gennyf yn sobr. Myfi a fyfyriais yn ddifesur yn ieuanc yn yr Ystrad draw, ac ni byddaf byth fal dyn arall o'r achos. Ni ŵyr llawer ffwl pengaled mo hynny ddim, ac ni chaf na nawdd na

CWM BERWYN.

"Mae'n bwrw yng Ngwmberwyn, a'r cysgod yn estyn."


Y ddiod 79 ched o digwydd im' dramgwyddo, mwy nog ereill. Ac am hynny rhaid diowryd y ddiod yn gwbl, megys ag y gwnaethym er pan ddaethym yma.

Yr wyf yn hoffi fy lle a'm meistr yma yn ddirfawr. Cristion da cydwybodol ydyw, hyd ag yr wyf fi yn canfod eto.

Yr eiddoch tra bo na migwrn nac asgwrn o
EVAN EVANS.


BOUNTY SYR WATCYN.

Aberystwyth yng Ngheredigiawn, Mai 8, 1779.

SYR,[25]—Myfi a dderbyniais eich llythyr o'r Sed o Ebrill yng Nghaer Fyrddin, ond nid oedd dim modd i'w ateb nes gorffen yr hyn yr oeddwn yn arfaethu ei wneuthur gyda'r Dr. Siencyn. Yr wyf wedi dyfod i'r dreflan hon; a chwedi gwastatau pethau o'm hamgylch, y mae yn iawn im' ateb i chwithau. Y mae Dewi Fardd y Blawd o Drefriw â'r proposals ganddo tuag at brintio y Diarhebion a darn o'r Trioedd â Nodau Mr. Fychan o Hengwrt es mwy na dwy flynedd. Ni wn i pa beth a dderyw i'r burgyn hwnnw, ai byw ai marw ydyw. Ni chlywais ddim oddi wrtho es talm. Gresyn na chaech hamdden i edrych pa anrhyfeddodau sydd yn y British Museum. Myfi a welais y dysgedig Mr. W. Jones yng Nghaerfyrddin. Gwr mwyn a rhadlon ydyw, ac fe rodd i mi ddirection i ysgrifenu ato.

Myfi a glywais fod llyfrau Mr. Edward Llwyd o'r Museum gan Mr. Pennant, gan y Parchedig Mr. Richard Thomas, Curad Rhuthin. Gobeithio y cawn lawer o hen goffeion yn ei lyfrau nesaf o'i deithiau trwy Gymru. Tra chywraint oedd y gwaith diweddaf: a gresyn, mal dywedwch chwithau, na bai yn deall iaith ei wlad yn well.

Ni welaf yr awron ddim modd i argraffu dim mewn Brutaniaith, o ran fod ein boneda mor annaturiol i'w gwlad a'u hiaith. Dyna Syr Watcyn wedi tynu oddi wrthyf ei SALARY neu ei BOUNTY. Y mae chwareyddion, miwsigyddion, a chwareuwyr hud a lledrith yn fwy dywenydd ganthaw na gwŷr o ddysg. Y mae yn rhaid i mi, gan hynny, edrych am ryw ffordd arall i gael bywiolaeth. Nid oes dim a fynwyf fi ag ef na'i fath tra byddwyf byw mwy. Y mae yn rhyfedd gennyf na byddai eich Cymmrodorion chwi, sydd wŷr o ddysg a moddion bydol, dipyn well eu cynheddfau, a'u cariad at eu gwlad, na goddef Geirlyfr Dr. Davies, a Celtic Remains Lewis Morris heb eu hargraffu. Pedwar cant o bunnau a len- wai'r wlad o lyfrau godidog; a pha faint mwy no hynny y mae dynion yn eu treulio ar eu melus chwantau, heb wneuthur gronyn o les i gorff nac i enaid, nac i'w gwlad, nac i'w hiaith?

Mi a ddeisyfais arnoch ysgrifenu specimen o gyfieithiad Seisnig Mr. Richard Thomas o waith Llywarch Hen. Os yw wedi ei iawn gyfieithu, e ddylid ei argraffu. Y mae gennyf fi ddadysgrifiadau o hen gopiau awduraidd o waith yr hen Fardd, ond y mae ynddo lawer o eiriau nad wyf fi yn eu deall; ac myfi a welais gymaint o henwaith ond odid ag a welodd R. Thomas, ac yr wyf yn meddwl fy mod yn deall yr iaith cystadl ag un Cymro pa bynnag yn yr oes hon.

Nid oes gennyf ddim i ddywedyd wrthych ychwaneg y tro hwn. Pei gallech fenthycio gwaith Dafydd ab Gwilym im' dros ychydig o amser, mi a fyddwn rwymedig iwch, a phe dadysgrifenech waith Lewis Glyn Cothi. Byddwch wych.

Yr eiddoch,
EVAN EVANS.

Direct me in Bridge Street, Aberystwyth, Cardiganshire, South Wales.

A VERY PHANTASTIC SIGHT.

Llan Rhystud, Nov. 24th, 1780.

DEAR Sir,[26]—I came here yesterday evening in hopes of receiving an answer to a letter I wrote to the Bishop of St. David from Lampeter last Monday sevennight; but have received none as yet. But the professions he made to me at Aber Gwylif make me hope that he will do something for me, particularly that he would apply for Brucer's Benefaction in my behalf. When I took my leave of him, he told me that he would write


word immediately to the Rev. Mr. Richard Lewis, who lives in the Palace at Aber Gwylif, what dependence I might have for relief from that quarter. Possibly he might have wrote to him ere now on that head. I desire, therefore, that on receipt of this you would write a line to Mr. Lewis, to know whether he has received any information on this matter. I do not know whether I have given you any direction how to write to me in case you received any letters addressed to me at the Post Office, or whether I desired my landlord at Carmarthen to forward them to you. However, I am now recovered from the flutter of spirits that untoward business of the dearly purchased manuscript put me in. I thought it advisable to write to you as soon as possible how to direct to me, so as the letters may be safely conveyed to my hands. For in my present situation, I ramble here and there among my old friends and acquaintance, till I can get some curacy to fix in. If, therefore, you have received, or shall receive any letters for me, be so kind as to inclose them in a cover with this direction: "To the Rev: Mr. Evan Evans, at the Rev. Mr. Isaac Williams, at Ystrad Teilo, in Llan Rhystud, Cardiganshire."

Perhaps you may be desirous to know in what plight I arrived in Cardiganshire, and what adventures I met with on the road. I shall give you a brief narrative of what was most remarkable. I betook myself directly from the jurisdiction of the Worshipful Mayor. of Carmarthen, and got to Aber Gwylif the first day; from thence I reached Rhyd Argaeau, where I met with the Rev. Mr. Morgan, a sensible clergyman, to whom I related my troubles, and who notwithstanding insisted on my writing something in poetry, to testify my having past there. To oblige him I wrote the following Breichiau Cywydd, suitable to my temper and circumstances:

"Fo fethodd, pylcdd y pen,
Dan rew mae'r dyner Awen.
Os rhydd Duw gwyn terfyn teg,
Ni chwynaf ddim ychwaneg.
Po gyfyngaf, trymaf tro,
Yr a'r gwan i oer gwyno,
Ehangaf, rhwyddaf er hyn,
Duw nef, od awn i'w ofyn."

All this poetry is nothing but a very pious Welsh proverb reduced to Cywydd metre. Po gyfyngaf yw gan ddyn, changaf yw gan Dduw. This I had found remarkably verified before I set out on my journey, of which you are well acquainted. The next day I set out in bad weather, and had very dirty roads to travel, and I was incommoded with the carriage of two handkerchiefs replenished with books and wearing apparel. To have seen me wading up to my ankles thus encumbered was a very phantastic sight, and to me very irksome; but, however, I put on resolution, and waded through thick and thin, till I reached the New Inn. Here, as Providence would have it, I met a man from the parish of Lledrod, who disencumbered me the inconvenient load of the handkerchiefs, and also of my great coat. I was next morning somewhat lighter both in body and mind, and reached Lampeter, where I preached on a text suitable to my condition: "It is good to me to be afflicted." Here I was informed of a remarkable robbery that had been committed on Friday night in a tailor's house of the sum of two hundred and eleven pounds, while the poor man and his family were hearing a sermon preached by the Rev. Mr. Perkins. This poor fellow's fate I thought remarkably hard, having lost his all in the compass of such short time. Man, say I, in the words of Holy Writ, is born to troubles, as the sparks fly upward. Here you have all that is interesting in my peregrination, and perhaps more than I ought to have wrote had I not time on my hands.

You will be so kind as to give my best respects to Mr. Gentleman and to Mr. Peter Williams, and all my good friends and benefactors at Rhyd y Gors and Carmarthen. They have a share in my prayers, which is all the retribution I am capable of making. I hope you have received the books from Mr. John Meredith. As to the box of clothes, I thought it best it should remain in his custody till I could be fixed in some place, and be able to send for it. I should be glad to receive a long-winded epistle from you, directed as above.

I am, with truth and sincerity, your affectionate friend and most obliged humble servant,

EVAN EVANS.

AWDL Y NEF.

ARWYRE, Awen, uwch yr Yri—fan,
Cais o fyd ymgodi;
Ehed, cei afrifed fri,
I loew—nef y goleuni.

Bro lwys, Paradwys ysprydawl,—llys Ior,
Lle seirian rhyfeddawl,
Lle mae llewych gwych a gwawl
Hyfrydwedd ein Naf rhadawl:

A main gwyrth i'w byrth a'i barthau—euraid,
Araul wiw drigfannau!
Llys diddan, gwiwlan, golau,
Caer Grisiant, meddiant Duw mau:

Lle mae saint cywraint yn cyweiriaw—cân,
Yn cannaid ddysgleiriaw;
A'r delyn aur i'w dwylaw,
Yn lleisio dros y llys draw:

Yn dadgan lwys-lan, loew oslef—peraidd.
I'r pur Oen fu'n dioddef;
A'r nawradd oll yn addef,
Gun teg, ei ogoniant Ef.

O! fywyd hyfryd mewn hoew—fro—gorhoen,
O gyrraedd pob cyffro;
Gwastad, heb dreiglad, heb dro,
Yw llawenydd oll yno.

Angylion gwynion mewn gogoniant,
Llys Ior, cain oror, cyniweiriant,
Lle uwch y lluwch y llewychant,
Llu glân, lle uwch tân y tywynant,
Uwch huan eirian, uwch ariant,—a ser,
A hug o leuer y goloewant.


Yng ngoror gwiw-nef y cartrefant,
Ebystl Iesu, byst dilysiant,
Ac wrth ei lwysaf orsedd safant,
A theyrnwiail a gyneiliant,
Hoew wedd, gwiw osgedd, gwisgant—goronau,
A gwiw heirdd ynau, ac urdduniant.

Merthyron, ddewr—llu'r ffydd ddiffuant,
Mewn gwawl cyhoeddawl y cyweddant,
A hoew, rhag ereill, y rhagorant,
Da weis eglurwedd, a disgleiriant,
Ac yno i'w dwylo daliant—balmwydd,
Yn llon ysplenydd, lle nis blinant.

Proffwydi diau a oleuant,
A Phadrieirch mewn ffawd arhoant,
A llawer, mal ser, yn moli'r Sant
(O enwau tra-gwiw !) yno trigant;
A dynion doethion a deithiant—ffordd gras,
Y cu fan addas cyfaneddant.

O Iesu Ddofydd! ddwys oddefiant,
Coeth Ior goleu-ddoeth, o'th ryglyddiant,
Y meirwon isod a gyfodant,
At Iesu gwyn hwynt-hwy esgynnant,
Gorfoledd a hedd, dyhuddiant a hoen,
Yno gyda'r Oen a gydrannant.

Pura fi, O Dduw! par faddeuant,
Gwedi oferedd, ac edifeiriant;
Maddeu arw feiau a ryfuant,
Gwydiau, anafau, ieu'nctyd, nwyfiant;
Gollyngdod pechod yw'r puchiant—mau,
A llys nef orau, lles nifeiriant.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ym Maesaleg. Mynwy.
  2. Dafydd ab Gwilym.
  3. Bardd a thelynor godidog, nai fab chwaer i Forusiaid Mon, fu farw ar y môr yng ngwasanaeth y brenin.
  4. Rhisiart Morys
  5. Bu farw Ion. 22, 1760,
  6. Rhisiart Morys.
  7. Rhisiart Morys.
  8. Mr. William Morris.
  9. Wedyn Sior IV. Ganwyd ef Awst 12, 1762.
  10. Mr. Rhisiart Morys.
  11. Yr ydym yn wylo, canys y mae yr hen ŵr yn mysg y meirw.
  12. Mr. Richard Morris.
  13. Mr. Lewis Morris.
  14. Mr. Richard Morris.
  15. Caniatâ i mi y llafur olaf hwn, Arethusa.
  16. Mr. Rhisiart Morys
  17. Mr. Rhisiart Morys
  18. Mr. Rhisiart Morys.
  19. Mr. Rhisiart Morys.
  20. Mr. Rhisiart Morys.
  21. Rhisiart Morys.
  22. Mr. Rhisiart Morys.
  23. Mr. Rhisiart Morys.
  24. Mr. Rhisiart Morys.
  25. Mr. Owen Jones.
  26. Y Parch Benjamin Davies, Rhyd y Gors, brawd Dafis, Castell Hywel.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.