Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Joshua Thomas (testun cyfansawdd)

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith Joshua Thomas
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Joshua Thomas
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Hanes y Bedyddwyr
ar Wicipedia

ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR
CONWY

Gwaith
Joshua Thomas.

HANES
Y BEDYDDWYR.

Y RHAN GYNTAF,

Sef, hanes crefydd ymysg y Cymry
O'r Dechreu i 1777.



1907
AB OWEN, LLANUWCHLLYN.

JOSHUA THOMAS.

GANWYD Joshua Thomas yng Nghaio, Chwef. 22, 1719; bu farw yn Llanllieni (Leominster), Awst 25 1797

Yr oedd yn fab i Forgan Thomas o'r Ty Hen, Caio. Yn Ionawr 1746 priododd, ac ymsefydlodd yn y Gelli (Hay). Tra yno pregethai yng nghapel y Bedyddwyr ym Maes y Berllan.

Yn 1754 cawn ef yn fugail y Bedyddwyr yn Llanllieni (Leominstei). Cadwai ysgol yno hefyd. Ac yno y bu hyd ddydd ei farw.

Cyd-oesai a Gruffydd Jones Llanddowror, clywodd Daniel Rowland yn pregethu, a gwyliai'r Diwygiad Methodistaidd fel beirniad addfwyn. Ysgrifennodd hanes ei enwad yn fanwl a gofalus iawn, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr oedd ysfa lenyddol a chrefyddol yn ei deulu. Ei frawd Timothy oedd cyfieithydd "Y Wisg Wen Ddisglair," llyfr fu a dylanwad dwys er deffro ysbryd crefydd Cymru.

Y mae "Hanes y Bedyddwyr" yn llyfr safonol yn hanes yr enwad; y mae'n bwysig iawn eto i efrydydd hanes Cymru. Y rhan fwyaf gwerthfawr yw'r rhan sy'n trin y ganrif y gwyddai Joshua Thomas fwyaf am dani, sef y ganrif yn diweddu tua 1777.

Y mae llawer wedi ei chwilio ar hanes John Penry a'r Hen Ficer. Ond dengys Joshua Thomas gipolygon ar lawer o rai ereill,—Syr Thomas Middleton, yr Esgob Lloyd, Stephen Hughes, Thomas Gouge, ac yn enwedig ei arwr ef ei hun, sef Vavasour Powel. Nid oes neb wedi ei esgeuluso gymaint yn hanes Cymru a Vavasour Powel. Mwyn yw cael y darluniad ohono yn y gyfrol hon.


HANES Y BEDYDDWYR

Ysgrifennodd Joshua Thomas "Hanes y Bedyddwyr," ac y mae ynddo ragymadrodd a dwy ran. Yn y rhagymadrodd rhydd restr o'r llyfrau ddarllenodd ar hanes y Cymry; y mae'n amlwg iddo ddarllen pob peth oedd yn ei gyrraedd yn yr oes honno; ac yr oedd ei feddwl yn glir ac yn fanwl ac yn ysgolheigaidd. Yn y rhan gyntaf rhydd fraslun o hanes crefydd yng Nghymru, ac ni rydd i'r Bedyddwyr ond eu rhan gyfiawn o le. Yn yr ail ran rhydd hanes eglwysi unigol y Bedyddwyr; ac fel hanesydd ei enwad, yr ail ran yw'r rhan fwyaf gwerthfawr o'r llyfr.

Fel hanesydd crefydd Cymru y mae a fynnom ni ag ef, ac ni cheir yn y gyfrol hon ond rhan ganol "Hanes y Bedyddwyr,". sef y rhan sy'n ymdrin â. hanes crefydd Cymru'n gyffredinol. Y mae ei arddull yn brydferth ac yn felodaidd. Y mae'n ddisgybl teilwng i Theophilus Evans, yr hwn a edmygai'n fawr. Tan swyn "Drych y Prif Oesoedd" ysgrifenna'n oleu bob amser, a gwyra ambell dro oddiwrth yr hyn sydd hanesyddol wir. Y mae'r ysbryd hanesyddol yn gryf iawn ynddo. Nid yw'n fodlon i gredu dim ond ar sail awdurdod y cred ynddo. Os credodd ormod ar "Ddrych y Prif Oesoedd," chwiliodd fwy ar y gwirionedd na Ilawer o'i flaen. Yn hyn y mae'n esiampl werthfawr i rai'n byw mewn oes haws cael ysgriflyfrau a llyfrau.

Y mae ei ysbryd yn hynaws a boneddigaidd. Amcana at ddweyd y gwir mewn dull mor ddi-dramgwydd ag sydd bosibl. Ni cheisia roddi cymaint o glod i'w enwad ei hun ag a allasai wneyd. Wedi darllen ei lyfr, y mae arogl hyfryd yn aros yn y meddwl.

CYNHWYSIAD

At y Darllennydd, Rhag. 31, 1777

Ymgais gyntaf; y defnyddiau; "Methodistiaid" a "Methodists"; gochel tramgwydd.

I. DIBEN HANES

Esboniad ar Air Duw.

II. CYFNOD Y RHUFEINIAID, I—450

Prydain yn un o'r "ynysoedd pell"; dyfodiad yr efengyl; Lles ab Coel: erledigaeth Dioclesian a'r merthyron cyntaf; Cystenyn Fawr; Pelagius.

III. CYFNOD Y SAESON, 450—1520

Gildas; Dewi a'r Saint; dial Awstyn; Howel Dda; cofleidio Pabyddiaeth; bod heb Ysgrythyr.

IV. CYFNOD Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD, 1520 —1620

Y Diwygiad a'r Beibi; William Tyndal; Eglwys Loegr a'i merthyron; Testament Cymraeg 1567; y cyfieithwyr. William Salesbury. Richard Davies, Thomas Huet; Beibl 1588 a William Morgan; Whitgift; Gramadeg Gruffydd Roberts; "Egluryn Ffraethineb"; Dr. Davies o Fallwyd; Beibl yr Esgob Parry; Rowland Heylin a Syr William Middleton.

V. CYFNOD Y DIWYGIAD PURITANAIDD, 1620—1660

Yr Hen Ficer; llyfrau hanes Cymru; achos ymneillduo; Laud; John Penry (troir yn ol i ddweyd ei hanes); Wroth ac Erbury; Olchon a Llanfaches; Henry Jessey; Walter Cradock a Vavasour Powel; y Rhyfel Mawr; Major General Harrison; Pregethwyr y Chwildroad.

VI. CYFNOD YR ERLEDIGAETH, 1660—1700

Erledigaeth yr Adferiad; y Ddwy Fil; Vavasour Powel; Cân y Bedyddiwr; Iago'r Ail; Deddf Goddefiad 1609; yr Independiaid a'r Presbyteriaid; gwyr enwog y cyfnod; Beiblau; Thomas Gouge, Stephen Hughcs.

VII. CYFNOD GODDEFIAD, 1700—1730 ... 92 David Jones; argraffiadau'r Beibl; yr Ail-fedyddwyr; effaith y Goddefiad ar grefyddwyr; codi capelau: Moses Williams o Ddefynnog; Iago ab Dewi.

VIII. CYFNOD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD, 1730—1777

Cymru tua 1730; Gruffydd Jones a'i ysgolion; pregethu Howel Harris; Williams Pant y Celyn; Rowland Llangeitho. Peter Williams, a Howel Davies; y " Methodists ; y rhoddwyr Beiblau: "Beibl Peter Williams"; hanes y Beibl yng Nghymru; Abel Morgan.

IX. CYMRU YN 1777 Y gwanol sectau; safle'r Bedyddwyr; Beiblau. eglwysi, gwybodaeth, moesoldeb, goddefgarwch; addysg gweinidogion,—Coleg Caerfyrddin. Coleg y Fenni, Ysgol Bryste.

DIWEDDGLO.

AT Y DARLLENYDD

Y CYMRO MWYN; Os darlleni y dalennau canlynol yn yr un ysbryd yr ysgrifenwyd hwy, ni ferni di ddim o'r Awdwr yn galed iawn, pe digwyddai i ti ganfod rhai camsyniadau yn yr Hanes. Gwir diragrith yw, "Yr hyn a allodd hwn, efe a't gwnaeth."

Am y Rhan gyntaf; nid yw ond golwg gynnwys gyffredin ar hir amser, er mwyn i'm cyd wladwyr, yn hawdd, ddeall y modd rhyfedd yr ymddygodd y Duw tirion tuag at ein cenedl ni; o bosibl, tu hwnt i'r holl genhedloedd eraill trwy'r byd, yn achos eu heneidiau gwerthfawr: er iddynt fod mewn tywyllwch truenus dros hir oesoedd.[1]

Yn yr ail Ran, rhoddir Hanes y Bedyddwyr yn fwy neillduol. Gan nad amcanwyd y fath beth erioed o'r blaen, ar wn i, yng Nghymru, nid oes un darllenydd deallus a ddisgwyl i'r hanes fod yn gwbl berffaith. Pwy bynnag a ddangoso i mi gamsyniadau, ac a'u profo felly, gan eglur hysbysu yr hyn sydd gywir, byddaf dra diolchgar iddo; ac yn gwbl barod, gobeithio, naill ai i gyfaddef bai, neu i brofi'r gwirionedd.

Mae'n agos 30 o flynyddau er pan y soniwyd wrthyf am ysgrifennu hanes y Bedyddwyr yng Nghymru. Nid hir y bu'm wed'yn cyn dechreu ymholi, casglu, ac ysgrifennu ychydig. Bu y gorchwyl yn fy ngolwg, fwy neu lai, o hynny hyd yma. Cefais gynnorthwy amryw hen aelodau o'r Bedyddwyr, rhieni pa rai a fuasent yn dioddef llawer dros grefydd. Mae'r aelodau hynny wedi myned i orffwys ar ol eu tadau. Cefais hefyd gynorthwy gan amryw ag sydd eto ar dir y byw. Yr wyf yn mawr ddiolch iddynt oll am eu caredig barodrwydd i hynny.

Wrth ysgrifennu enwau ein cyd-wladwyr, ni ellais yn gwbl foddio fy hun. Bwriadais ar y cyntaf eu gosod oll yn Gymraeg, ond bernais y buasai Iago, Ioan, &c., yn edrych ac yn seinio yn chwithig i'r oes hon, er eu bod yn ysgrythyrol. Heblaw hynny, nid yw bosibl gosod yr ail enwau, sef Davies, Jones, &c., yn Gymraeg gywir heb eu troi tu hwnt i ddeall llawer. O herwydd y pethau hyn, a bod y Cymry, gan mwyaf yn awr, yn ysgrifennu eu henwau yn Saesneg, mi a'u canlynais, ac a osodais y rhan fwyaf o'r enwau yn ol trefn y Saeson a'r Cymry presennol. Odid na bydd rhai yn beio ar hynny, ond ysgatfydd, buasai mwy yn beio ar y ffordd arall. Gwell fuasai gennyf fi eu bod yn Gymraeg ddigymysg. Ond mae'n cenedl ni wedi gwyro, dryllio, a llarpio eu henwau, a threfn yr hen Frutaniaid yn ddireswm, er pan ddarfu iddynt ymheddychu â'r Saeson, sef ys rhwng dau a thri chan' mlynedd. Amcanwyd difetha'r iaith Gymraeg hefyd yr amser hynny ac wedyn.

Mi arferais y geiriau Presbyteriaid, Independiaid, Methodists, ac weithiau Calfinistiaid ac Arminiaid, yn unig mewn ffordd o wahaniaeth, pan y byddai achos: ond nid yn y mesur lleiaf, mewn ffordd o amharch neu ddiystyrwch. Mi a ddechreuais arfer y gair Methodistiaid, gan ei fod ryw faint yn fwy Cymreigaidd; ond meddyliais y gallai rhai anwybodus dramgwyddo wrth y sain hynny, am ba achos aferais y gair Methodists. Fy amcan yw bod yn ddidramgwydd, neu o leiaf, yn ddiachos tramgwydd, ac yn garedig i bawb.

Byddai dda iawn gennyf pe byddai'n brodyr, yr Ymneillduwyr eraill, yn casglu ac yn argraffu eu hanes hwythau ymhlith y Cymry o'r dechreuad. Os gallwn i fod o unrhyw gynorthwy, byddwn yn barod iawn i hynny.

Pe byddai rai o'r brodyr, y Methodists (neu eraill) o Eglwys Loegr, hefyd yn rhoi hanes byr o wyr duwiol yr Eglwys honno ymhlith y Cymry, ac o'r hen Frutaniaid duwiol, gannoedd o flynyddau cyn son am Eglwys Grisnogol ymhlith y Saeson, ac yn neillduol, o'r diwygiad diweddar trwy'r Methodists,[2] o'u dechreuad hwy hyd yma, gallai fod yn dra defnyddiol. Byddai da iawn gennyf fi weled hanesion helaeth o ddaioni Duw i'r Cymry bob amser.

Er nad ydym oll yn gallu hollol gytuno ymhob peth mewn crefydd, eto dymunwn i ni allu ymddwyn tuag at ein gilydd fel brodyr yn Iesu Grist. Nid yw amharchu ein gilydd yn un rhan o grefydd efengylaidd.

JOSHUA THOMAS.
Llanllieni
31 o Ragfyr, 1777.

HANES CREFYDD CYMRU.

I. DIBEN HANES.

Annog i holi

PLENTYN. Fy nhad, pe gwypwn y gallech, yn ddigolled, arbed awr neu ddwy oddi wrth bethau mwy buddiol, byddai dda iawn gennyf gael atebiad i rai gofyniadau sydd ar fy meddwl.

Tad. Fy mhlentyn anwyl, yr wyf yn edrych ar hyfforddi fy mhlant yn un o'r pethau mwyaf buddiol: gan hynny, od yw dy ofynion am bethau llesiol, troaf heibio bob peth, er dy ateb yn oreu ag y medraf.

P. Diolch yn fawr i chwi am eich parodrwydd. Os gwelwch fy ngofynion yn ffol, byddwch mor fwyn a dangos i mi eu bod felly.

T. Er fod yn weddus i blant fod yn ddiolchgar i'w rhieni. eto dyledswydd plant yw gofyn, a dyledswydd rhieni yw eu hateb a'u hyfforddi. Mae gorchymyn Duw am hynny.[3] Ac arfer yr[4] hen dduwiolion oedd hyfforddi eu plant.

Hanes yn fuddiol.

P. A ydych chwi yn barnu fod hanesion yn fuddiol, neu ynte yn bethau ofer?

T. Nid buddiol yw hen chwedlau ofer, disylwedd, a disail. Eto mae hanesion o bethau naturiol yn fuddiol yn eu lle. Ond y mae hanes Eglwys Dduw yn dra buddiol yn gyffredin.

P. Beth yr ydych chwi yn ei feddwl wrth Eglwys Dduw?

T. Yr holl dduwiolion o ddechreu i ddiwedd y byd.

Hanes yw'r Ysgrythyr.

P. Pa les yw hanes yr Eglwys? Beth waeth i ni beth a fu cyn ein hamser ni?

T. Hanes yr Eglwys yw rhan fawr, os nid y rhan fwyaf, o'r Ysgrythyr. Yno y gwelwn gyfyngderau a gwaredigaethau'r saint, a mawr ofal Duw tuag atynt, ei gariad iddynt, a'i ffyddlondeb i'w eglwys dros bedair mil o flynyddoedd, a chwaneg. Dynion sanctaidd Duw, sef proffwydi, apostolion, ac eraill, a gynhyrfwyd gan yr Yspryd Glân i lefaru wrth yr Eglwys, ac i ysgrifenu ei hanes yn yr amser a aeth heibio, yn gystal ag i broffwydo am dani yn yr amser i ddyfod.[5] Yr holl hanes a 'sgrifenodd Moses ac eraill, er addysg i ni y maent[6]. Nid yw bosibl deall a gweled proffwydoliaethau ac addewidion yn cael eu cyflawni ond trwy hanesion.

Hanes yr Eglwys yn esboniad ar yr Ysgrythyr.

P. Mae'n debyg fod hanes yr Eglwys yn fuddiol i amryw bethau; eto onid oes digon o'r hanes hyn yn yr Ysgrythyr heb ysgrifenu ychwaneg?

T. Mae llawer proffwydoliaeth yn y Gair, y rhai a gyflawnwyd wedi dyddiau'r apostolion ac eraill eto i'w cyflawni, ac ni ellir eu deall heb hanes yr Egiwys. Pe buasem ni heb ddim hanes wedi'r oes apostolaidd, ni allasem ni wybod dim am yr holl erledigaethau chwerwon, a'r gwaredigaethau rhyfedd a gafodd yr Eglwys, ys agos i ddwy fil o flynyddau. Ni allasem ni ddim gwybod pa mor dda a ffyddlon y bu Duw i'w bobl, a channoedd o bethau eraill.

Y Cymry'n rhan o'r Eglwys.

P. Weithian i ddyfod yn nes adref; a ydyw'r Cymry yn rhan o'r Eglwys?

T. Ydyw'r duwiolion oll o bob llwyth, iaith,

a chenedl.[7]

II. CYFNOD Y RHUFEINIAID.
1—450.

P. A oes son am y Cymry yn yr Ysgrythyr?

T. Mae'r dysgedigion yn barnu fod y Cymry wedi cael eu henw felly oddiwrth fab hynaf Japheth, yr hwn oedd fab hynaf Noë.

P. Atolwg, beth oedd enw y mab hwnnw?

T. Gomer, fel y gweli yn Gen. x. 2.

Pwy sy'n dweyd Gomer.

P. Pwy ydyw rhai o'r dysgedigion sydd yn barnu felly?

T. Mi a enwaf dri o lawer, sef Dr. Gill, Mr Arthur Bedford, a Mr. Theophilus Evans. Y maent hwy, yn eu llyfrau isod,[8] yn enwi amryw yn ychwaneg. Mae'r awdwyr hyn yn dangos pa fodd y daethant o wlad i'r llall ac o enw i gilydd, nes dyfod o dŵr Babel i'r ynys hon, ac yma cadw enw Gomer yn fwy naturiol y dydd heddyw nag un rhan arall o'i hiliogaeth dan haul.

Un or "ynysoedd pell."

P. A oes son yn y Gair am ynys Brydain?

T. Mae yno sôn yn fynych am yr ynysoedd, megis yn Psal. lxxii. 10 a'r xcvii. 1. Ac wrth ystyried cynnifer o dduwiolion a fu yma, ni welaf fì achos i ameu nad oedd yr ynys hon ymhlith y rhai mae'r addewidion yn perthyn iddynt yn Esa. xlii. 4. a'r li. 5. Ac yr wyf yn neillduol hyderus, mai Cymraeg yw un o'r iaithoedd a ddeuent i weled gogoniant yr Arglwydd; mai Cymry yw un o'r holl genedloedd a gesglid at Iesu Grist trwy'r efengyl; ac mai Prydain yw un o'r ynysoedd pell, yn ol yr addewid yn Esa lxvi. 18, 19.

A. A oedd y Beibl a gwir grefydd yma ymhlith ein cenedl ni yn yr hen amser gynt?

T. I genedl Israel y rhoddes Duw ei air i'w gadw hyd ddyfodiad Crist, fel y gwelir yn Rhuf. iii. 2 a'r ix. 4. Yr oedd ein cenedl ni, fel yr holl genhedloedd eraill, heb air Duw yr amser hynny.mlynedd ar hugain wedi croesholiad Crist, ac o [9]

Pryd y daeth yr Efengyl?

P. A wyr neb pa hyd y bu cyn i'r efengyl ddyfod i n gwlad ni, ar ôl amser ein Harglwydd Iesu?

T. Wrth fyned i ogoniant, un o'r geiriau diweddaf a ddywedodd ein Harglwydd bendigedig wrth ei apostolion oedd gorchymyn iddynt fyned i'r holl fyd, pregethu'r efengyl i bob creadur, a dysgu'r holl genhedloedd,[10] gan ddywedyd,—"Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig; eithr y neb ni chredo a gondemnir." Ar hyn aeth y gyfraith allan o Sion, a gair yr Arglwydd o Jerusalem, yn ol y proffwydi,[11] canys ar fyrr, aeth cenhadon yr Arglwydd yn rhwydd trwy'r gwledydd, ac nid hir y bu'r efengyl dlws nes cyrhaeddyd ein hynafiaid ni, yn ynys Brydain, yn ol yr addewidion a'r proffwydoliaethau y grybwyllwyd yn barod. Rhai a ddywedant bregethu'r efengyl yma cyn pen ugain mlynedd wedi dydd y pentecost yn Act. ii. 1, &c. Ond y mae haneswyr yn gyffredin yn cytuno fod yr efengyl yma yn y fìwyddyn 63. Yr oedd hynny lai na deng gylch yr un nifer o flynyddoedd cyn cael o Ioan y weledigaeth hynod honno yn Dad. i. 9, &c. Yr ydys yn barnu mai o gylch y flwyddyn 63 y daeth Paul yn garcharor i Rufain.[12]

Joseph o Arimathea.

P. A oes gwybodaeth pwy a bregethodd yr efengyl yma gyntaf?

T, Nid yw haneswyr yn cytuno yn hyn. Rhai a ddywedant fod Paul yma yn pregethu, rhai a ddywedant fod Petr, ac eraill o'r apostolion; eithr y farn fwyaf cyffredin y w mai Joseph o Arimathea, sef y gwr urddasol a gladdodd ein Harglwydd Iesu, oedd yr hwn a seiniodd udgorn mawr yr efengyl yma gyntaf oll. Nid oes achos i ni ymbalfalu llawer am hyn. Digon yw i'r newyddion da o lawenydd mawr mor gynnar gyrhaeddyd ein gwlad ni, yr hon oedd eithaf byd i'r oes honno, er fod gwledydd ehang heb glywed yr efengyl eto.

Ymweliad Julius Cesar.

P. Pa ffordd adrefnodd rhagluniaeth i'r Gair ddyfod yma mor gynted, pan yr oedd y wlad mor bell, ac yn cael ei hamgylchu gan y môr?

T. Mae amcanion drwg dynion yn cael eu troi i ganlyniadau da yn fynych, megis gwerthu Joseph i'r Aifft. Felly o gylch hanner can' mlynedd cyn geni Crist daeth Julius Cesar, ymerawdwr Rhufain. i ran fechan o'r ynys hon. sef Cent, ar lan môr Ffrainc. Er fod rhyfel gwaedlyd rhyngddo a'r hen Gymry, eto ymhen amser daethant yn fwy heddychol, ac agorodd hynny ffordd i amryw o'r Cymry fyned i Rufain ar amserau. Yr oedd y Rhufeiniaid yr un pryd yn llywodraethu gwlad Judea. Felly trefnodd hyn ffordd i bobl Israel a'r hen Frutaniaid ddyfod yn gydnabyddus â'u gilydd.

Cymry'r Ysgrythyr,

P. A oes enwau neb o'r Cymry yn yr Ysgrythyr?

T. Pan elai'r Cymry i blith y Rhufeiniaid yr oeddid yn newid eu henwau, am na allai ddieithriaid iawn ddywedyd eu henwau priodol, gan hynny anhawdd yw gwybod yn sicr pa un ai bod enwau rhai o'r wlad hon yn epistolau Paul ai peidio; oddieithr un wraig urddasol o'n gwlad ni. Mae'r dysgedig yn barnu mai Cymraes oedd hi.

P. Beth oedd enw honno? Mi a fernais nad oedd enw neb o'r Cymry yno.

T. Ei henw yn epistol Paul yw Claudia, yn ol Arfer y Rhufeiniaid.[13] Ei hcnw hi yma, meddant, oedd Gwladus Rufydd, ond yn Rhufain Claudia Ruffina. Dywedir mai ei gwr hi oedd Pudens, a enwir yn yr un lle, ac mai gwr mawr iawn ydoedd ef, ac un o'r saint o deulu Cesar.[14] Mae rhai yn dywedyd mai mab Pudens a Chlaudia oedd Linus; os felly hawdd yw barnu i'r Crisnogion enwog hyn wneyd eu rhan ar i'r Cymry gael yr efengyl.

Haneswyr y Cymy.

P. A oes llyfrau yn rhoi hanes am y pethau hyn oll?

T. Oes llawer, yn enwedig y rhai isod,[15] ac y mae'r awdwyr hynny yn sôn am hanes o hyn a roddir gan Clement, Origen, Theodoret, Tertulian, Eusebius, Jerom, Gildas, Nicephorus, Bede, Usher, Stillinfleet, Fuller, Rapin, Danvers, Calamy, Sir John Floyer, ac amryw eraill.

Ai Bedyddwyr?

P. Ai Bedyddwyr oedd y Crisnogion cyntaf o'r Cymry?

T. Diau mai'r un peth oeddent hwy a'r eglwys Gris'nogol ymhob man yn yr oes honno. Nid fy amcan yw dadlu yngylch Bedydd yn awr; ond gwyddis yn gyffredin fy mod i yn barnu mai Bedyddwyr oedd y Crisnogion oll yramser hynny, ac felly'r Cymry ymhlith y lleill.

Lles ab Cocl, Elwy a Mowddwy, Dyfan.

P. A barhaodd yr efengyl yn ein gwlad ni wedyn?

T. Parhaodd gannoedd o flynyddoedd. O gylch y flwyddyn 180, medd rhai, y bedyddiwyd y brenin Lles ab Coel yn y wlad hon; a dywedir mai efe oedd y brenin cyntaf a fedyddiwyd yn y byd. Geilw'r Rhufeiniaid y gwr hwn Lucius, a'r Cymry a'i galwant, am ei ddaioni, Y Lles a'r Lleufer mawr," sef "Lles a goleuni mawr." Danfonwyd dau wr i Rufain yn yr amser hynny i ymofyn am wyr i gynorthwyo yma i bregethu. Y ddau a ddanfonwyd yno a elwid yma Elwy a Mowddwy, ond gelwid hwy yn Rhufain Elvanus a Medwinus. Danfonwyd dau wr oddi yno i gynnorthwyo yma; gelwid y ddau wr hynny yno Faganus a Damianus, neu ryw beth fel hynny, ond galwa'r Cymry hwy Dyfan a Phagan. [16] Y Ddegfed Erledigaeth.

P. A fn dim erledigaeth am grefydd yma yr amseroedd hynny?

T. Bu deg o erledigaethau creulon ar y Crisnogion tra fu yr ymerawdwyr paganaidd yn llywodraethu yn Rhufain; ond trwy ddaioni Duw i'n tadau ni, a bod y wlad hon mor bell, ni ddaeth yma ond y ddegfed erledigaeth yn amser Diociesian, yr ymerawdwr, ychydig cyn y flwyddyn 300. Dywedir fod yr erledigaeth honno yn waedlyd iawn yma, ac mai Alban oedd y merthyr cyntaf ar dir Brydain Fawr. Ar ei ol ef Aaron a Julius, gwyr enwog o Gaerlleon ar Wysg. Bu yma ddifa ofnadwy ar Grisnogion a'u llyfrau yr amser hynny. Gorchymyn caeth Diolcesian oedd llwyr ddifetha a llosgi tai addoliad a llyfrau y Crisnogion, heb adael papuryn heb ei losgi ag oedd yn cynnwys athrawiaeth Crist ac yn rhoddi hanes o fywyd y prif Grisnogion. Ni adawyd fawr o ysgrifeniadau'r Cymry yr amser hynny. Rhai yn dywedyd ddifa'r cwbl, eraill yn meddwl i rai gael eu cadw yn rhyw leoedd.[17]

Cystenyn Fawr.

P. A ddifethwyd crefydd yn hollol o blith y Cymry yr amser hyn?

T. Na ddo; fe dosturiodd Duw wrth y Brutaniaid er hyn oll, ac o'u plith y cyfodwyd amddiffynwr hynod o wir grefydd, sef Cystenyn Fawr, yr hwn a elwid yn Rhufain Constantinus. Mab ydoedd ef i Elen, ferch Coel Godebog, Iarll Caerloew. Gwr o Rufain oedd ei dad; eithr dywedir eni y mab yn y wlad hon, lle bu ei dad a'i fam yn byw ennyd o amser. Dywedir ei fedyddio yntef ar broffes o'i ffydd.[18] Fel mai brenin o Gymru oedd y cyntaf o'r byd a fedyddiwyd, megis y tystia llawer; felly gwr o Gymru oedd yr ymerawdwr Crisnogol cyntaf yn y byd, a gwr enwog iawn oedd ef. Daeth tawelwch mawr oddiwrth erledigaeth trwy'r gwr hwnnw, yn holl rannau'r byd Crisnogol.

Pelagius.

P. Mawr oedd daioni Duw i'n tadau ni. A gawsant ddim gofid oddiwrth gyfeiliornadau mewn crefydd, fel rhannau eraill o'r byd?

T. Yr oeddent hwy yn cadw'r gwirionedd yn lew iawn tu hwnt i'r rhan fwyaf o broffeswyr. Ond cyfododd gwr yn eu plith yr hwn a fu niweidiol iawn, ei enw yma oedd Morgan, ond mewn gwledydd eraill Pelagius. Gwr o Wynedd ydoedd. Darfu i Mr. Simon Thomas, gwr o enedigaeth gerllaw'r Cilgwm yn Sir Aberteifi, argraffu hanes Pelagius, a'i farn, yn 1735. Mae "Drych y prif Oesoedd," a Saeson, Lladinwyr, a Groegiaid yn sôn am y gwr hwn, canys yr oedd yn adnabyddus trwy'r byd Crisnogol. Ei athrawiaeth oedd yr hyn a elwir, yn yr amser hyn, Arminiaeth, neu gyffelyb i hynny.

P. Pwy amser oedd hyn?

Garmon a Lupus.

T. Ychydig cyn y flwyddyn 400. Yr oedd y Crisnogion o'r blaen yn ddiweddar wedi cael blinder mawr oddiwrth un Arius, gwr o'r Aifft, yr hwn oedd yn gwadu duwdod Crist; ond ni wnaeth hwnnw ddim llawer o niwed yn y wlad hon. Eithr cawsant yma ofid a blinder trwy gyfeiliornadau Morgan. Gan hynny danfonwyd Garmon a Lupus, o Ffrainc, i gynorthwyo y

Brutaniaid, a'u cadarnhau yn y wir ffydd.

III. CYFNOD Y SAESON
450—1520

Saeson, clefydau, &c.

P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi hyn?

T. Er fod gweinidogion enwog yn eu plith yn yr amseroedd hyn, sef o'r flwyddyn 400 hyd 600, eto dirywio mewn crefydd yr oedd llawer o honynt, ac amryw fath o farnedigaethau oedd yn dyfod arnynt. Daeth y Saeson i'r wlad, bu clefydau yn eu plith, ac amryw bethau.

Gildas

P. Beth oedd enwau gweinidogion mwyaf hynod y Cymry yn yr amseroedd hynny?

T. Yr oedd Gildas yn enwog iawn, ac yn fawr ei sel yn erbyn llygredigaeth yr oes. Mae rhan o'i lyfrau ef eto ar glawr yn Lladin. Dywedir mai dyna'r llyfrau hynaf o waith Cymro ag sydd yn y byd 'nawr. Ysgrifennodd ef ychydig wedi'r flwyddyn 500.

P. Pa weinidogion hefyd oedd yn yr amser hynny? Dyfrig, Dewi, Dunawd, &c.

T. Gwr enwog iawn oedd Dyfrig, yr hwn a elwir Daubricius ymhlith y Rhufeiniaid ac eraill. Dewi hefyd, a Dynawt, Teilo Fawr, Padarn, Pawlin, Daniel a llawer eraill. Yn yr amser hyn yr oedd Taliesyn ben beirdd hefyd yn byw.

Awstyn Fynach

P. Pa fodd yr oedd y Cymry ynghylch bedydd yn yr amser hyn?

T. Yr oedd bedydd plant wedi dyfod i'r eglwys yn hir cyn hyn, ond dywedir fod y Brutaniaid yn dal yr athrawiaeth a dderbyniasant oddiwrth yr Apostolion. Yr oedd Pabyddiaeth wedi tyfu yn Rhufain. Pan y daeth Awstyn Fynach i droi y Saeson o fod yn baganiaid i fod yn Bapistiaid, mynnai ef i'r Cymry droi yn Bapistiaid hefyd. Ond hen Grisnogion deallus dewrion oeddent hwy, ac nid paganiaid anwybodus. Eto, er mwyn gwneyd cytundeb mewn crefydd rhwng y Cymry a'r Saeson, cynhaliwyd cymanfa fawr i'r diben hwnnw, tua chydiad sir Henffordd a sir Gaerwrangon, yn y maes, dan dderwen fawr gaeadfrig, yr hon a elwid wedi hynny Derwen awstyn; ond tebygol ei bod wedi ei thorri lawr cyn ein hainser ni. Yina'r oedd nifer fawr o weinidogion a bonedd Cymru. Er mwyn tynnu dibên byr ar yr yinddadleu, gosododd Awstyn dri phwnc a flaen y Cymry, gan addo y byddai pob peth yn heddychol os cytunent ar hynny. Un o'r tri peth oedd iddynt fedyddio eu plant.

Bedydd yn Eglwys y Cymry ac yn Eglwys Rufain.

P. P'un oedd Awstyn ai ewyllysio i'r Cymry fedyddio eu plant, neu ynteu eu bedyddio yn ôl trefn eglwys Rhufain, yr hon oedd mor llygredig?

T. Mae y sawl sydd dros fedydd plant yn dywedyd mai ceisio yr oedd ef gan ein tadau i fedyddio yn ôl trefn Rhufain.

P. Beth oedd trefn Rhufain yr amser hynny?

T. Tebygol mai trochiad oedd yr arfier, canys dywedir fod miloedd o'r Saeson yn cael eu bedyddio yn yr afonydd Gwâl, Swini, &c. Ond y mae Fuller a Fabian yn dywedyd y mynnai Awstyn i'r Cymry fedyddio eu plant. Y neb a fo am weled ychwaneg o r pethau hyn, darllened y llyfrau isod,[19] dangosir yno am lawer o awdwyr eraill ar y pethau hyn. Ond tybygol trwy'r cyfan i'n hynafiaid ddal yr ordinhad hon yn ol Gair Duw dros chwech neu saith gant o flynyddoedd. Canys dywedir mai eu hateb i Awstyn oedd y cadwent yr ordinhad hon a phethau eraill, fel ac y derbyniasent hwy er yr oes apostolaidd. Nid fy amcan i yw ymddadlu. Barna di ac eraill yn ol cydwybod.

Dial Awstyn.

P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi pallu cytuno ag Awstin?

T. Blin iawn a fu arnynt, druain, a gofidus. Cynhyrfodd Awstyn y Saeson i ddyfod yn erbyn y Cymry a dial arnynt, a dywedir iddynt ladd o gylch deuddeg cant o weinidogion a gwyr duwiol ar un waith, heb law llawer eraill. Gwelir hyn yn y llyfrau a nodwyd olaf. Mae Dr. Godwin, gynt esgob Llandaf, yn dywedyd am y pethau hyn hefyd.[20] "Llyncu'r llyffant yn lan."

P. Beth a wnaethant yn achos crefydd wedi y gofidiau blin hyn?

T. Dywed " Drych y Piif Oesoedd,' [21] i'r Brutaniaid sefyll o leiaf gant a hanner o flynyddoedd ar ol hyn oll yn wrolwych dros y wir ffydd, heb ymlygru â sored Pabyddiaeth; ond iddynt o'r diwedd, trwy gael eu perswadio yn raddol, lyncu'r llyffant yn lan, sef derbyn Pabyddiaeth yn hollol, yn y flwyddyn 763. Wrth hyn yr ymddengys i'r hen Gymry ddal yr efengyl dros saith can mlynedd, heb gael eu llwyr orchfygu gan goel grefydd Rhufain. Yr oedd ardaloedd mawrion a gwledydd ehang wedi mawr lygru ymhell cyn hynny.

Hywel Dda, Gerald Gymro, llyfrau diweddar.

P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi derbyn Pabyddiaeth?

T. Blin iawn o ran eu sefyllfa wledig, rhyfel a'r Saeson, a rhyfel yn eu plith eu hunain. Ond am grefydd, yr oeddent mewn ystyr yn agos i adael hynny heibio; oddieithr ychydig o Babyddiaeth. Eto byddai ambell wr rhagorol yn eu plith ar brydiau. Gwr enwog iawn oedd Howel Dda, yr hwn a fu dra defnyddiol yn y wlad o gylch y flwyddyn 940.[22] Gwr o Sir Benfro o enedigaeth oedd Giraldus. Yr ydoedd ef yn ddysgedig, wedi gweled a chlywed llawer, fel y dywed Dr. Godwin,[23] ac y dengys ei lyfrau. Bu ef farw, medd Dr. Godwin, yn y flwyddyn 1198. Am grefydd y Brutaniaid wedi derbyn Pabyddiaeth. gweler hanes byr yn y llyfrau Cymraeg canlynol, "Drych y Prif Oesoedd," tu dal. 272, &c, "Hanes y Byd a'r Amseroedd," o waith Mr.Simon Thomas, a enwyd yn barod, yr ail argraffiad, tu dal. 149, &c. " Hanes y Ffydd hefyd, heb law hanesion eraill.

Dianwadalwch y Cymry.

Nid pobl benysgafn, droedig, hawdd eu cylch arwain at bob awel dysgeidiaeth yw'r Cymry: eithr yn gyffredin, dynion dyfnion gafaelus ydynt, anhawdd ganddynt adael yn ebrwydd yr hyn a dderbyniont yn gyffredin i'w plith, pa un ai cain neu gymwys a fyddo. Felly megis y cadwasant athrawiaeth yr efengyl mor lew cyhyd, wedi llygru lleoedd eraill: o'r tu arall, wedi derbyn Pabyddiaeth, anhawdd iawn oedd ganddynt ymadael â hi.

Pobl heb Ysgrythyr.

P. A oedd yr Ysgrythyr ganddynt pryd hynny?

T. Och ! och ! nag oedd. Un o gaeth gyfreithiau'r Papistiaid oedd, na byddai'r Ysgrythyr gan neb ond yn y iaith Ladin. Felly'r oedd lluoedd o'r Cymry, druain heb wybod gair ar lyfr, nag un Beibl Cymraeg yn y byd, mae'n debyg. Yroedd ambell un duwiol a dysgedig yn eu plith yn galaru gweled eu cyflwr, ond heb allu ei wella.

Seren foreu'r Diwygiad.

P. Beth a ddaeth o'r wlad yn ol hyn?

T. Amcanodd ambell wr hynod mewn duwioldeb ddiwygio o Babyddiaeth mewn un wlad a'r llall. Bu amcan glew tuag at hyn gan Mr. John Wicliff o Lutterworth yn Lloegr, o gylch 1371. Er ei fod ef o ddefnydd mawr ymhlith y Saeson a thu hwnt i'r mor, eto nid wyf fi yn deall i'w athrawiaeth gael dim effaith ar y Cymry. Eithr o gylch 1517 safodd Luther, tu draw i'r mor, i fyny yn erbyn Pabyddiaeth yn wrol; a bendithiodd Duw ei waith. O'r amser hynny allan y cadarnhawyd yr hyn a elwir y Diwygiad

IV. CYFNOD Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD.

1520-1620.

Y Diwygiad.

P. Beth a feddylir wrth y Diwygiad?

T. Y Diwygiad a wnaed mewn crefydd oddi wrth lygredigaeth Pabyddiaeth, trwy weinidogaeth Luther a llawer eraill.

Dechreu cyfieithu'r Beibl.

P. Pa fodd yr oedd hi ar y Cymry yn yr amser hyn?

T. Yn fuan wedi dechreu'r son am lwyddiant Luther, darfu i ryw un, neu ychwaneg, ddechreu cyfieithu gair Duw i'r Gymraeg, a myned mor belled a diwedd Deuteronomi. Ond mae'n debyg na feiddiwyd myned â'r gwaith ymhellach, ac i hynny gael ei ddifetha.

P. Pwy amser oedd hynny?

T. Mae Dr. Richard Davies, esgob Tŷ Ddewi, mewn llythyr o flaen y Testament Cymraeg yn 1567, yn dywedyd ei fod ef yn cofio iddo weled pum' llythyr Moses yn Gymraeg, pan oedd ef yn llanc, yn nhŷ gwr bonheddig o garwr iddo ef. Wrth yr hyn a ddywed Dr. Llewelyn, tybygid fod y cyfieithiad hwn o gylch 1520, neu ymhen ychydig amser wedi hynny.

William Tyndal.

P. Pwy a allai amcanu cymwynas mor fawr i'r Cymry mor fore?

T. Mae Dr. Llewelyn[24] yn enwi Mr. William Tyndal, ac yn nodi ei eni ar gyffiniau Cymru, ond ni wyr ef ddim pa un ai efe neu arall a wnaeth y gwaith uchod. Hyn sydd sicr, mae Mr. Fox yn dyweyd am Tyndal ei fod o gyffiniau Cymru, ond iddo fyw ennyd o'i amser yn sir Gaerloew. Sicr yw mai Tyndal a drodd y Beibl i'r Saesneg, a gorfod arno fyned dros y môr o achos hynny, ac o'r diwedd cael ei losgi gan y Papistiaid am ei waith yn 1536. Mae'n bosibl y gallai efe fod a llaw yn y gwaith i ddechreu troi gair Duw i iaith ei gydwladwyr a'i genedl ei hun.

Y Protestaniaid.

P. A wyddoch beth oedd dechreu ac ystyr y gair Protestaniaid?

T. Wrth weled llwyddiant Luther, yr oedd y Pab a'i weision yn fawr am ei ddifetha ef: ond gan fod cynnifer wedi profi budd trwy ei athrawiaeth, darfu i o gylch deuddeg o dywysogion yr Ellmyn, neu Germani, gytuno â'u gilydd i sefyll o ran Luther, ac yn erbyn Pabyddiaeth; ac ysgrifennu'r cytundeb a'i alw protest, sef cyd-dystiolaeth yn erbyn Pabyddiaeth. O hynny allan galwyd y rhai a ymadawsant âg Eglwys Rufain, er mwyn cydwybod, yn "Brotestaniaid ac yn ddiwygwyr." Bu hyn o gylch 1530.

Eglwys Loegr.

P. Mae rhai yn meddwl mai aelodau o Eglwys Loegr yn unig a elwir Protestaniaid.

T. Nid yw'r cyfryw ddim yn ystyried mor ieuanc yw Eglwys Loegr.

P. Tybygid fod rhai yn meddwl fod yr eglwys honno yn agos er amser y diluw.

T. Mae llawer o ddynion yn ddigon anwybodus. Ond o gylch y flwyddyn 1534 y cyfarfu'r Parliament yn yr hwn y gwnaed ac y sefydlwyd Eglwys Loegr wrth gyfraith y tir. Felly darfu iddynt gytuno â'r Protestaniaid dros y môr, ac o hynny allan galwyd trigolion y deyrnas hon yn ddiwygwyr, yn Brotestaniaid, ac yn Eglwys Loegr. Felly gallwn ddywedyd fod Eglwys Loegr y flwyddyn hon, sef 1777, yn 243 oed.

P. Beth oedd wedi dyfod o'r Cymry erbyn hyn?

T. Ychydig cyn hyn yr oedd yr hir ryfel rhyngddynt a'r Saeson wedi darfod, ac yr oeddent oll dan yr un gyfraith, megis y maent yn awr. Felly yn ol y gyfraith uchod yr oeddent oll yn cael eu cyfrif yn Eglwys Loegr.

Cyfieithu rhan o'r Beibl i'r Gymraeg yn 1551.

P. Pa bryd y cafodd ein gwlad ni Air Duw yn ei hiaith eu hunain ?

T. Buont yn hir hebddo, er yr amcan da a grybwyllwyd. Yr oedd ein tadau erbyn hyn wedi hir ymgynefino a Phabyddiaeth a grefydd fel nad oedd ynddynt fawr duedd i'w gadael. A'r rhan fwyaf o honynt heb fedru darllen. Cyfieithwyd ac argraffwyd rhyw rannau o Air Duw i'w ddarllen yn Gymraeg yn amser gwasanaeth Eglwys Loegr yn 1551.[25] Ond daeth erlid blin trwy'r deyrnas gan y Papistiaid ar Eglwys Loegr ar fyrr wedi hyn, a charcharwyd a llosgwyd amryw o'i blaenoriaid a'r bobl cyffredin; sef yn amser Mary waedlyd.

Y Merthyron Farrar a White.

P. A ddioddefodd y Cymry yn yr amser hynny ?

T. Nid llawer, canys Papistiaid oeddent hwy gan mwyaf yn eu calonnau, ac nid oeddent hwy ddim am wrthwynebu yn eu bywyd.[26] Nid wyf fi yn cofio fod Mr. Fox yn sôn ond am ddau a ddioddefodd yng Nghymru yn yr amser hynny. Un oedd Dr. Robert Farrar, esgob Tŷ Ddewi, yr hwn a losgwyd yn nhref Caerfyrddin; a'r llall oedd Rawlins White, fel y mae ef yn ei alw, o sir Forganwg, gerllaw Caerdydd. Am dano ef— dywedir na fedrai ef ddarllen, ond iddo roi ei fab yn yr ysgol i ddysgu yn bwrpasol, fel y gallai ddarllen y Gair iddo ef, ac felly y bu. Cymerwyd yr hen wr i fyny, er nad oedd ond pysgotwr, fel y disgyblion gynt; efe a ddioddefodd yn wrol dros ei Arglwydd, ac a gafodd ei losgi yn achos crefydd. Mae Mr. Fox yn rhoi hanes da rhagorol am y gwr hwn.

Gorchymyn cyfieithu'r Beibl, 1563.

Pa bryd y cafodd y Cymry ychwaneg o'r Gair yn eu hiaith eu hunain?

T. Bu farw y frenhines Mary yn 1558, yna darfu'r erledigaeth gydâ hi; a daeth ei chwaer Elizabeth i'r goron. Yr oedd hi yn erbyn Pabyddiaeth gymaint ag yr oedd y llall dros hynny. Yn 1563 gwnaed Act o Barliament i gyfieithu'r holl Ysgrythyr i'r Gymraeg, a holl wasanaeth Eglwys Lloegr, ac i esgobion Llanelwy, Bangor, Tŷ Ddewi, Llandaf, a Henffordd olygu'r gwaith, a'r cyfan i fod yn barod yn y llannoedd ddechreu Mawrth, 1566, a bod un Beibl ymhob eglwys, plwyf, a chapel trwy Gymru i'w darllen yn amser gwasanaeth. A hyd nes deuai hyn i ben, mae'r Act yn trefnu i weinidogion Eglwys Loegr ddarllen yn y llannoedd ryw rannau o'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r bobl yn Gymraeg, yn ol cyfarwyddyd yr esgobion a nodwyd. Rhaid fod y wlad yn anwybodus iawn dan y fath amgylchiadau a hyn.

Oedi.

P. A ddaeth y Beibl Cymraeg allan yn ol yr Act?


T. Na ddo. Ac nid rhyfedd; nid yw'r Act yn nodi pwy oedd i wneyd y gwaith, na phwy oedd i ddwyn y draul. Erbyn hynny nid oedd argoel yr elai gwaith mcr fawr yn y blaen mewn mor lleied o amser, heb neb yn cael eu trefnu i'w wneyd, na neb yn addo dwyn y draul.

Y Testament Cymraeg, 1567.

P. Beth fu'r canlyniad?

T. Yn 1567 daeth allan y Testament Newydd yn Gymraeg, yn llyfr trefnus, pedwar plyg, yn cynnwys 399 o ddalennau, a llythrennau duon, wedi ei rannu yn llyfrau a phenodau fel yn awr, ond nid yn adnodau, oddieithr ychydig tua'r diwedd. Mae ynddo ystyr pob pennod, ac agoriad ar eiriau dyfnion yn ymyl y ddalen.

Y Cyfieithwyr.—William Salesbury, Richard Davies, Thomas Huet.

P. Pwy ai cyfieithiodd ef?

T. Gwnaed y rhan fwyaf o'r gwaith da hwnnw gan Mr. William Salesbury, gwr rhagorol yn ei ddydd, ac a fu ymdrechiadol iawn dros y Cymry. Efe oedd wedi cyfieithu yr hyn a argraffwyd yn 1551. Gwr dysgedig a duwiol ydoedd, [27] ond nid gweinidog. Cyfieithwyd yr ail epistol at Timotheus a'r un at yr Hebreaid, ac epistolau lago a Phedr, gan Dr. Richard Davies, esgob Tŷ Ddewi, yr hwn a enwyd yn barod. Cyfieithwyd y Dadguddiad gan T. H. C. M. Yr ydys yn meddwl mai Mr. Thomas Huet oedd y gwr da hwnnw. Argraffwyd hwn yn Llundain gan Henry Denham, ar draul Humphrey Toy. Mae calendar o'i flaen ef, a llythyr Saesneg o gyflwyniad gan Mr. William Salesbury at y frenhines Elizabeth. Yno mae'r gwr da yn dangos mor llawn o anwybodaeth oedd ei gyd-wladwyr, ac o eilunaddoliaeth; yn lle addoli'r Duw byw, yn addoli delwau o goed a maen, clychau ac esgyrn, &c., yr amser a aethai heibio, ac mor dda oedd y frenhines am adael iddynt gael Gair Duw i'w plith: ac y mae'n nodi mor ddymunol a fyddai cael y rhan arall o hono, sef yr Hen Destament, ac y gellid wedyn ddywedyd am y Cymry,—"Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddant ym mhro a chysgod angeu y cyfododd goleuni. Gwyn fyd y bobl y mae felly iddynt ; ïe, gwyn fyd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt." Llythyr serchog ystyriol ydyw. Mae yno lythyr arall yn Gymraeg gan yr esgob at ei gydwladwyr.

William Morgan a Beibl 1588.

P. Pa fodd y gwnaed am gael y rhan arall o'r Gair i'r Cymry?

T. Y Cymro enwog nesaf a fu mor ymdrechiadol i gael Gair Duw i blith ei genedl oedd William Morgan, ficer Llanrhaiadr-ym-Mochnant, yn sir Dinbych, yr hwn a wnaed yn esgob Llandaf yn 1595, a symudwyd i Lanelwy yn 1601, ac i le gwell yn 1604. Dyma'r gwr a fu a'r llaw bennaf i ddwyn allan yr holl Ysgrythyr yn Gymraeg, a'r Apocrypha hefyd. Diwygiodd ef y cyfieithiad a'r argraffiad o'r blaen o'r Testament Newydd, ac argraffwyd y cyfan yn un llyfr yn 1588. Llyfr dau blyg ydoedd, neu'ni hytrach un plyg, a llythyrennau duon, ac ystyr y bennod, wedi ei rannu yn adnodau trwyddo, ac ambell Ysgrythyr ar ymyl y ddalen. Mae o'i flaen lythyr Lladin oddiwrth y Dr. Morgan at y frenhines Elizabeth.

Gwaith da.

P. Pa fodd yr aeth y Dr. Morgan ynghyd âr gwaith da?

T. Mae Dr. Llewelyn yn nodi, oddiar lythyr Dr. Morgan at y frenhines, fod yn dra thebygol i'r gwr mwyn gymeryd y gwaith yn llaw o ewyllys da, ac o'i wir fodd ei hun; felly o gariad at Dduw ac eneidiau dynion. Rhyfedd mor dda oedd ei waith!

Y Cynorthwywyr —Yr Archesgob Whitgift, &c.

P. Pwy fu yn ei gynorthwyo yn y gwaith hwn?

T. Yn ei lythyr at y frenhines y mae'n cydnabod cymwynasgarwch Dr. Whitgift, archesgob Caergaint, esgobion Bangor a Llanelwy (Dr Hughes a Dr. Ballot, fel tybir), Dr. Gab. Goodman,[28] Dr. David Powell, Mr Edmund Prys, archddiacon Meirionydd, yr hwn a drodd y Salmau ar gân, y rhai sydd yn niwedd y Beibl Cymraeg hyd heddyw. Hefyd, bu Mr. Robert Vaughan a Dr. John Davies yn cynorthwyo. Tybygol fod y tri chyfieithwr a enwyd uchod wedi marw pan ysgrifenodd Dr. Morgan y llythyr, gan nad yw ef yn eu henwi hwy; ond odid na buont hwy yn gynorthwy cyn eu marw.

Beibl y llannau'n unig.

P. Trugaredd fawr oedd cael y Gair. Ond a argraffwyd digon i'r wlad?

T. Na ddo, na'r ugeinfed ran. Nid oeddent ond Beiblau mawrion i'r llannoedd a'r lleoedd addoliad cyhoeddus. Yr ydys yn barnu fod yn agos mil o'r cyfryw leoedd addoliad yng Nghymru, yn ôl trefn Eglwys Lloegr. iddynt argraffu mil o Feiblau yr amser hynny.

Gramadeg Cymraeg ac Egluryn Ffraethineb.

P. Beth oedd y wlad yn wneyd am Air Duw i'w ddarllen?

T. Yr oedd yr holl wlad yn anwybodus iawn, a chorff cyffredin y bobl heb fedru darllen. yr oedd rhai yn myfyrio pa fodd i ddwyn y bobl i ddarllen yn ddeallus eu iaith eu hunain. diben hynny argraffwyd Gramadeg Cymraeg gan Dr. Griffith Roberts, a Retoreg Gymraeg gan Mr. Harry Perry, yr hwn a eilw ef "Eglyrun Ffraethineb." Yn nechen y llyfr hwn y mae deuddeg, neu 'chwaneg, o wyr enwog yn gosod allan ei glod mewn ffordd o ganmoliaeth; rhai o honynt yn sgrifennu yn Lladin, rhai yn Saesneg, a rhai yn Gymraeg. Ond y mae'n debyg fod yr esgob cymwynasgar, sef Dr. Morgan, yn meddwl argraffu y Testament Newydd i'r bobl gyffredin, canys efe a'i diwygiodd yn y cyfeithiad drachefn, ac yr oedd yn barod i'w argraffu yn 1604, pan y bu'r gwr da farw.

P. A argraffwyd hwnnw i'r bobl?

T Ni ellais i gael dim gwybodaeth am hynny. [29] Dr Richard Parry

P. Beth a wnaed yn ôl hynny?

T. Bu dau wr hynod, deallus a dysgedig, yn ofalus iawn yn diwygio ac yn gwella'r cyfieithiad oll, set Dr. Richard Parry[30] a Dr. John Davies. Ar ol ei fanol ddiwygio gan y gwyr enwog hyn, argraffwyd y Beibl drachefn, fel o'r blaen, yn llyfr mawr trefnus, a llythrennau duon, fel y llall, a mwy o Ysgrythyrau yn ymyl y ddalen na'r un o'r blaen. Mae llythyr Lladin o flaen hwn "at y Drindod sanctaidd ac at y brenin James gan yr esgob Parry yn 1620."

P. Pwy oedd wedi gosod y gwyr hyn ar waith?

T. Tybygol eu bod wedi ei wneyd o'u gwir ewyllys da, canys y mae llythyr yr esgob yn nodi fod yr argraffiad cyntaf wedi treulio, fel yr oedd y rhan fwyaf o'r eglwysi naill ai heb un Beibl neu rai wedi mawr dreulio, heb neb, ar wyddai'r esgob, gymaint ag yn meddwl am ail- argraffiad.

Dr. John Davies.

P. Pwy oedd Dr. John Davies a enwasoch?

T. Cymro rhagorol a llafurus iawn ydoedd ef. Efe a argraffodd Ramadeg Lladin a Chymraeg yn 1621. Yn ei ragymadrodd mae'n dywedyd iddo, dros 30 o flynyddau, dreulio llawer o'i amser i fyfyrio ar iaith ei wlad ei hun, a'i fod yn cynorthwyo yn y ddau argraffiad Cymraeg o'r Beibl. Gwr cyfarwydd iawn ydoedd yn hanesion, arferion, a diarhebion ei wlad, a hyddysg iawn yn y Groeg a'r Hebraeg.

P. Mae'n debyg fod y wlad, fel o'r blaen, heb y Beibl, ond yn yr eglwysi.

T. Oeddent. Er mwyn yr eglwysi yr oedd yr argraffiad hwn fel y llall.

P. Beth a wnaed yn ôl hynny?

Gogoniant y Beibl Cymraeg.

T. O ran y cyfieithiad ni wnaed dim llawer o gyfnewidiad wedi'r argraffiad yn 1620. Am y cyfieithiad neu'r diwygiad hwnnw, yr hwn sydd gennym hyd heddyw, un da rhagorol ydyw. Yr oedd y gwr hynod a enwyd mor ddysgedig yn yr Hebraeg a'r Groeg fel, o bosibl, nad oes un cyfieithiad o'r Ysgrythyr yn y byd yn well na'r un Cymraeg, ond y mae llawer yn waeth nag ef; er ei fod yn hir cyn dyfod, eto efe a wnaed yn dda o'r diwedd.[31] Dylai'r gwyr ardderchog a lafuriasant gymaint wrtho, ar eu traul eu hunnan, oddieithr rhyw ychydig o wyr da oedd gyda hwy yn cynorthwyo, fod mewn coffadwriaeth dra- gwyddol ymhlith y Cymry.[32].

Beibl 1630.

P. Pa bryd y daeth y Beibl allan i'r bobl gyffredin?

T. Yn y flwyddyn 1630; ychydig wedi can' mlynedd ar ôl dechreu'r Diwygiad; can' mlynedd ar ôl dechreu'r gair Protestaniaid, ac yn agos can' mlynedd wedi dechreu Eglwys Loegr.

Rowland Heylin a Syr Thomas Middleton.

P. Ar draul pwy y daeth hwnnw allan?

T. Ar draul dau wr enwog o hiliogaeth y Cymry, y rhai oeddent y pryd hynny yn henuriaid. yn ninas Llundain; sef Mr. Rowland Heylin a Syr Thomas Middleton, o enedigaeth o Gastell y Wayn, yn sir Dinbych, rhwng Croesoswallt a Wrexham, a rhyw rai eraill yn eu cynorthwyo. Am yr olaf y mae Mr. Stephen Hughes yn dywedyd yn ei lythyr o flaen "Llyfr y Ficar," a argraffwyd yn 1672, mai Sir T. Middleton "yn anad neb arall, a ddangosodd y drugaredd hyn gyntaf i'n gwlad ni, sef i fod mewn traul i argraffu'r Beibl yn llyfr bychan er cyffredin bobl, er ei fod ef o'r blaen yn llyfr mawr yn yr eglwysydd." Ebe efe ymhellach yno—

Yr wyf fi'n dymuno o'm calon ar Dduw am i bob bendith ysbrydol a chorfforol ddesgyn o'r Nef ar bob un o eppil Sir Thomas Middleton, yng Ngwynedd, neu yn un lle arall. Rhodded Duw iddynt fendithion aneirif; fel tywod y môr, fel glaswellt y ddaiar, ac fel sêr y nefoedd: a dyweded pob un yng Nghymru ag sydd yn caru Duw ac yn hiraethu am iechydwriaeth eneidiau pobl yno, Amen, ac Amen; poed felly b'o, Arglwydd grasol, bendithia eppil Sir Thomas Middleton, a bydded ei enw ef dros byth yn anrhydeddus. Mae teulu anrhydeddus y gŵr haelionus yn byw hyd yn hyn yng Nghastell y Wayn.

P. Pa le y cawsoch chwi y rhan arall o'r hanesion hyn?

T. Y rhan fwyaf o'r hanes am gyfieithad ac argraffiad y Beiblau a gefais o lyfr Seisnaeg ein cydwladwr cymwynasgar Dr. Thomas Llewelyn, yr hwn a enwyd o'r blaen. Mae yn y llyfr hwnnw ychwaneg o hanes, nid yw hyn ond casgliad byrr o'r hyn sydd yno.

V. CYFNOD Y DIWYGIAD PURITANAIDD.

1620-1660.

P A oedd derbyniad awyddus i Air Duw y pryd hyn gan y Cymry?

T. Yr oedd llawer iawn o honynt eto heb fedru darllen.

Yr Hen Ficer.

P. A oedd gweinidogion duwiol yn eu plith i bregethu iddynt?

T. Nid oedd ond ychydig iawn, eto yr oedd rhai. Yr amser hyn yr oedd y gwr enwog hwnnw, Mr. Rees Prichard, yn Ficar Llanddyfri, yr hwn a 'sgrifennodd y llyfr a elwir "Llyfr y Ficar." Y gân gyntaf yn hwnnw yw," Cyngor i wrando pregethiad yr efengyl, ac i chwilio'r Ysgrythyrau." Yno cawn y geiriau hyn:—

"Mae'r Beibl bach yn nawr yn gysson,
Yn iaith dy fam i'w gael er corn:
Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw,
Mae'n well na thref dy dad i'th gadw.

"Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Gwell na'r badell fawr na'r crochan;
Gwell dodrefnyn yn dy lety,
Yw'r Beibl bach na dim a feddi.

"Gan i Dduw roi inni'r Cymru,
Ei Air sanctaidd i'n gwir ddysgu;
Moeswch inni fawr a bychain,
Gwympo i ddysgu hwn a'i ddarllain.

"Na adwn fynd y gwaith yn ofer,
A fu'n gostfawr i wyr Lloeger,
Rhag na fedrom wneuthur cyfri
Ddydd y farn am gyfryw wrthni,

Pob merch tincer gyd â'r Saeson
Fedr ddarllain llyfrau mawrion,
Ni wyr merched llawer Scwier
Gyd â ninnau ddarllain Pader."

"Gwr'adwydd tost fydd i'r Brutaniaid,
Eu bod mewn crefydd mor ddieithriad,
Ac na wyr y ganfed ddarllain,
Llyfr Duw'n eu hiaith eu hunain."

Mae'r gwr duwiol trwy'r holl gân hon, yn dangos mor werthfawr yw Gair Duw, ac yn taer ddymuno ar y bobl i ddysgu ei ddarllen. Ond y mae'r gân nesaf yn dangos mor dra anfoesol yr oedd y Cymry, yr offeiriaid ac eraill, yr amser hynny. Mae'n y llyfr hwnnw ddwy gân arall, sef "Mene tecel tref Llanddyfri," ac "Achwyn Eglwyswr," yn dangos mor annuwiol oedd y bobl trwy'r wlad, er maint ymdrech y gwr da dros eu heneidiau. Mae fe'n dywedyd yno fel hyn:—

Gwae fy nghalon drom gan hynny, Na buasai Duw'n gwyllysu, Fy rhoi'n fugail ar dda gwylltion, Cyn rhoi'm siars y cyfryw ddynion."

"Diboeth." Sieffre o Fynwy.

P. Rhyfedd fel y bu ar y Cymry! A oes dim llyfrau yn rhoi hanesion o hen bethau ymhlith ein cydwladwyr gynt, heblaw y rhai a enwasoch?

T. Mae'r llyfr a elwir Drych y Prif Oesoedd " yn dywedyd fod dynion dysgedig ymhlith y Cymry cyn erioed iddynt glywed yr efengyl, ac wedi ei derbyn i'w plith; ond difrodwyd eu llyfrau yn ofnadwy yn amser yr erledigaeth echryslon dan Dioclesian, fel y nodwyd. Mae gwaith Gildas, fel y crybwyllwyd, yn dangos fel yr oeddent wedi mawr lygru o gylch y flwyddyn 500, &c. Mae Drych y Prif Oesoedd" yn dywedyd i wr a elwid Twrog ysgrifennu Hanes Eglwysig" o gylch y flwyddyn 600, a'i fod yng nghadw yn Eglwys Gelynnog, yn Arfon, a maen du arno yn lle cloriau, a bod y llyfr yn cael ei alw "Diboeth," gan iddo ddianc y tân pan losgodd yr eglwys, ac yn nodi i Dr. Thomas Williams ddywedyd iddo ef weled y llyfr yn 1594. Ond mae yn debyg ei fod wedi ei golli. Nodir yn yr un lle fod Tyssilio wedi ysgrifennu hanes yr Eglwys o gylch yr un amser a Thwrog, mae rhyw bethau yn myned ar ei enw ef eto, ond y mae'n debyg nad oes dim sicrwydd mai ei waith ef ydyw.[33] Am hanes gwledig Cymru, tybygol mai'r goreu yw gwaith Jeffrey ab Arthur, a gwaith Caradog o Lancarfan; dywedir i'r ddau gael eu 'sgrifennu yn gyntaf yn Gymraeg, ond cyfieithwyd y cyntaf i'r Lladin gan Jeffrey, a'r llall i'r Saesneg gan Mr. Humphrey Lloyd, yr hwn a fu farw cyn ei argraffu; ond cymerodd Dr. David Powel, am yr hwn y soniwyd o'r blaen, y gwaith yn llaw ac argraffodd ef. Gelwir hwn yn gyffredin "Powel's Chronicle," argraffwyd ef o newydd gan W. Wynne, A. M. yn 1702. Mae yno ragymadrodd helaeth yn dywedyd mwy am y pethau hyn. Hefyd mae Edward Lloyd, A. M., wedi rhoi enwau rhai cannoedd o lyfrau Cymraeg a welsai ef yn 'sgrifennedig; mae'n dywedyd lle'r oedd y rhan fwyaf o honynt, ac yn nodi eu bod gan fwyaf wedi eu 'sgrifennu ar ol y flwyddyn 1000. Prydyddiaeth yw llawer o honynt, a rhai am grefydd. Enw ei lyfr sydd isod,[34] argraffwyd ef yn 1707. Bu ef lafurus iawn. Bu farw yn 1709.<ref>Gwr bonheddig o dref Dinbych oedd Mr. Humphrey Lloyd. Bu farw yn 1570. Sir Henry Sidney a annogodd Dr. D. Powel i gymeryd gwaith Mr. Humphrey Lloyd yn llaw, er mwyn ei wneyd yn gyhoeddus. Felly argraffwyd ef yn 1584. Diwygiwyd y gwaith ar ol yr hyn a wnaeth Mr. Wynne yn 1702; ac argraffwyd ef mor ddiweddar a 1774.(Noortbouck's "Historical and Classical Dict. on the letter L.") Gwr o sir y Awythig, gerllaw Croesoswallt, oedd Mr. Edward Lloyd. Er fod rhai trwy gamsynnied, yn dywedyd mai gwr o sir Gaerfyrddin ydoedd. Mae hanes neillduol am dano wedi ei argraffu y flwyddyn hon, 1777. Yno danghosir mor llafurus y bu. Darfu ei einioes cyn argraffu yr hyn oedd wedi ei gasglu oll. Bu farw yn 49 oed!(Mr. N. Owen's "British Remains," p. 131, &c)<ref>

Elisabeth a'r Ymneillduwyr.

P. A oedd dim Bedyddwyr nag Ymneillduwyr. eraill ymhlith y Cymry yr holl amser hyn?

T. Yr oedd y brenin Harri'r Seithfed o waedoliaeth y Cymry, ac felly yn ganlynol ei fab, Harri'r Wythfed, a'i ferch yntef, y frenhines Elizabeth. Trwy y rhai hyn y daeth y Cymry i gael heddwch, ac i fod dan yr un breintiau a chyfreithiau â'r Saeson. Yr oedd Elizabeth yn groes iawn i neb ymneilltuo oddiwrth Eglwys Loegr. Ni fynnai'r Cymry anfoddloni eu cares goronog, yr hon oedd wedi caniatau iddynt amryw freintiau, ond nid oedd corff y wlad yn ymorol fawr ynghylch crefydd eto, fel y nodwyd.

Achos ymneillduo.

P. Beth oedd yr achos ymneillduo oddi wrth Eglwys Loegr ar y cyntaf?

T. O achos cyfeiliornadau a drygioni Eglwys Rufain y darfu i'r Diwygwyr ymneilltuo oddi wrthi hi, felly Eglwys Loegr ymhlith ereill. amser y brenin Edward y Chweched yr oedd y diwygiad yn myned yn y blaen, ond bu ef farw yn 1553, yna darfu'r Diwygiad, canys yr oedd ei chwaer Mary yn Bapistes greulon, fel y nodwyd. Pan ddaeth ei chwaer arall Elizabeth i'r goron, nid oedd hi ddim yn foddlon, rhwng unpeth a'r llall, i fyned â'r Diwygiad ond ychydig neu ddim ymhellach nag y gadawyd ef ar farwolaeth Edward. Eithr yr oedd llawer o wyr duwiol a dysgedig yn barnu y dylid diwygio addoliad Duw yn ôl yr Ysgrythyr; eithr wrth weled nad oedd gobaith am y fath ddiwygiad, dechreuasant neillduo, mewn lleoedd dirgel, ar eu pennau eu hunain, i addoli Duw yn ol ei Air, hyd y gallent ei ddeall. Yr oedd rhai o honynt am ddiwygio mewn Bedydd fel pethau eraill; ond eu herlid a gafodd pawb o'r sawl na chytunent âg Eglwys Loegr. Ac o blegid eu bod am burach Diwygiad, galwyd hwy "Puritaniaid." Bu llawer o erlid ar y Puritaniaid yn Lloegr yr amseroedd hyn, ond yr oedd y Cymry heb Air Duw yn eu plith oddi— eithr y Beiblau yn yr eglwysi.

John Penry.

O amgylch y flwyddyn 1586, yr oedd gwr enwog o Gymru yn weinidog, yr hwn a elwid John ab Henry, neu yn ol arfer y Saeson, John Penry, M.A. Dywedir mai gwr o sir Frycheiniog oedd ef. Mae Mr Neale, yn "Hanes y Puritaniaid," yn rhoi gair da iawn iddo, am ei dduwioldeb a'i ddawn yn y weinidogaeth; ac yn nodi ei fod yn bregethwr canmoladwy yn y ddwy brif-ysgol, sef Rhydychen a Chaergrawnt. Dywed ei fod yn fawr ei sel dros ei gyd-wladwyr y Cymry, ac mai efe (yn ol ei dystiolaeth ei hun) oedd y cyntaf a bregethodd yr Efengyl yn gyhoeddus i'r hen Frutaniaid. Argraffodd ddau lyfr o'u plaid, y rhai a enwir isod[35] yn 1588, yn dangos truenus gyflwr y Cymry o eisiau moddion grâs. Y flwyddyn honno yr argraffwyd y Beibl yn Gymraeg gyntaf i'r llannoedd. Yr oedd yn y deyrnas elyniaeth mawr i wr oedd mor gyhoeddus ei sel dros grefydd, yn enwedig gan nad oedd ymhob peth yn cytuno â defodau Eglwys Loegr. O'r diwedd rhoddwyd ef i farwolaeth yn 1593, yn wr ieuanc 34 oed. Bu farw yn gysurus. Nid yw hyn ond rhan o'r ganmoliaeth a rydd Mr. Neale i'r gwr da hwn. Nid yw ef yn son gair mai un o'r Bedyddwyr oedd Mr. Penry, ond yn unig ei gyfrif yn wr rhagorol o'r Puritaniaid. Buasai'n ffyddlondeb, pe dywedasai wrth ei ddarllennydd, fod y Cymro llafurus hwn yn cael ei gyfrif yn un o'r Ailfedyddwyr; yn enwedig gan fod gwr o Eglwys Loegr,[36] 20 mlynedd o'r blaen, wedi cyhoeddi trwy'r wlad mai blaenor yr Ailfedyddwyr oedd Mr. Penry yn ei amser.[37] Tybygid i Mr. Neale gymeryd ei hanes am y gwr hwn o waith Mr. Wood hefyd, canys y mae sylwedd yr hyn a nodir uchod yng ngwaith yr olaf. Dywed ef fod Mr. Penry yn fwy ei ddysg na chyffredin, yn cael ei gyfrif yn bregethwr adeiladol, ac yn wr da; wedi cael ei ddygiad i fyny yn y ddwy brif ysgol, ac yn pregethu yn y ddau le gyda derbyniad. Ond dywed ei fod yn groes i Eglwys Loegr tu hwnt i bawb a fu trwy holl deyrnasiad hir y frenhines Elizabeth. Efe a ysgrifennodd lawer o lyfrau yn erbyn ysbryd erledigaethus yr oes honno; a chafodd lawer ateb gwradwyddus gan ddysgedig ac annysgedig. Am greulondeb y gyfraith yr amser hyn yn erbyn y Puritaniaid, gweler y lleoedd isod,[38] a haneswyr ereill. Mae Bennet a Rapin yno yn enwi Mr. Penry ac eraill. Yn y llyfr cyntaf o'r ddau a enwyd mae'n dangos mor dra angenrheidiol yr oedd diwygiad mewn crefydd ymhlith y Cymry; ac yn yr ail y mae'n annog ei gydwladwyr, uchel ac isel, i ymdrechu cael pregethiad yr Efengyl yn eu plith. Tebygol mai trwy'r gwr hwn y daeth y Cymry i ddeall gyntaf am fedydd y crediniol, wedi'r diwygiad o Babyddiaeth. Nid oedd eto ond ychydig ddiwygiad yn ein gwlad ni. Er ei fod yn bosibl i Mr. Penry fedyddio rhai o'r Cymry, eto yr wyf fi yn meddwl nad ymgorffolodd un eglwys reolaidd yn eu plith dros o gylch 40 mlynedd wedi ei farw ef. Mae'r haneswyr sydd yn erlid y Puritaniaid yn mawr amharchu Mr. Penry, er eu bod yn cydnabod ei fawr ddysg a'i ddawn. Mae'r haneswyr sydd dros y Puritaniaid yn rhoi clod mawr iddo, ond amryw yn celu ei fod dros fedydd y crediniol. Dywedir ei fod yn mawr dosturio wrth wlad ei enedigaeth, gan ofidio eu bod yn y fath dywyllwch ac anwybodaeth, of eisiau rhai i bregethu'r efengyl iddynt.

Wroth a Llanfaches.

P. Pwy a neillduodd gyntaf o'r Cymry oddi wrth Eglwys Loegr?

T. Yr hanes a gefais mai Mr. Wroth, gweinidog Llanfaches, yn sir Fynwy, ydoedd y cyntaf.

Dawns a galar.

P. A oedd ganddo ef ryw achos penodol i neillduo?

T. Yr hanes sydd fel y canlyn am dano. oedd Mr. Wroth, fel llawer ereill o'r Cymry, yn mawr hoffi cerddoriaeth. Yr oedd gwr bonheddig gerllaw a chanddo ryw achos mewn cyfraith i'w drin yn Llundain. Yr oedd Mr. Wroth ac yntef yn gyfeillgar iawn. Aeth y gwr mawr i Lundain ynghylch y gyfraith, a daeth hanes i Lanfaches ei fod wedi ennill y dydd, yr hyn a barodd orfoledd nid bychan gartref. Prynnodd y gweinidog offeryn cerdd[39] newydd i gael llawn orfoledd a gwledda, pan ddelai'r cymydog adref. Yr oedd yr amser wedi ei bennu, a pharatoad mawr yn y teulu, a'r ficar yn trefnu ei offer er mwyn iddo fod yn ben-cerddor y nos honno. Ond tra'r oeddynt yn disgwyl y gwr bonheddig adref, daeth yr hanes ei fod wedi marw. Felly trodd y gorfoledd mawr yn alarnad chwerw-dost. Wrth weled y llefain, yr wylo, a'r galar, dywedir i'r ficar syrthio ar ei liniau, a thaer weddio ar Dduw fendithio y tro rhyfedd hwnnw iddynt oll, a chysuro'r weddw drist a'r amddifaid galarus. Yr ydys yn meddwl, mai hwn oedd y tro cyntaf y gweddiasai ef erioed o'i galon, gan mai gwr ysgafn yn ei fywyd ydoedd o'r blaen. Ond dy- wedir ei fod yn daer iawn y pryd hynny am fendith ar y rhagluniaeth, er eu dwyn i ystyried gwagedd y byd hwn, pwys tragwyddoldeb, breuolder bywyd, &c.

Y dwys fyfyriwr.

P. Beth a ddaeth or ficar wedyn?

T. Roedd o hyn allan yn wr sylweddol ; dwys-fyfyriodd ar Air Duw, pregethodd fel un ag awdurdod ganddo; yr oedd am egoneddu Duw, dyrchafu Crist, ac achub eneidiau gwerthfawr. Gwnaeth swn mawr ar hyd y wlad, a chafodd llawer eu hargyhoeddi.

P. A oedd neb yn y wlad ond Mr. Wroth yn pregethu fel hyn?

William Erbury.

T. Oedd, Mr. William Erbury, ond ni allais ddeall pa le 'roedd ef yn weinidog.

P. Pa amser oedd hyn?

T. Cefais yr hanes ynghylch Mr. Wroth mewn ysgrifen yn sir Fynwy. Ond nid oedd yno ddim o hanes y flwyddyn; eithr yr wyf fi'n barnu ei fod ef wedi dechreu pregethu yn y modd yma ar fyrr wedi 1620, neu o hynny i 1630.

Laud a'r erlid.

P. Pa fodd yr oedd y bobl yn eu dioddef yn gyffredin?

T. Yr oeddynt hwy yn argyhoeddi mor llym, ac yn dangos natur gwir grefydd, fel yr oedd ficeriaid, y gwyr mawr, a llawer ereill, yn anfoddlon iawn iddynt. Yr oedd Laud, archesgob Caergaint, yn erlidiwr creulon yn Lloegr yr amser hyn. Gan fod cymaint llid i'r ddau dyst yma, gwysiwyd hwy i Lundain, i ateb o flaen y frawdle, yno rhoed barn arnynt fel Penrhwygwyr yr Eglwys yng Nghymru. Bu hyn yn 1633, a thrachefn yn 1635.[40] Mae'n debyg troi Mr. Wroth a Mr Erbury allan o'u heglwysi yr amser hyn. Ond pregethu yr oeddent hwy lle gallent. Erbyn hyn yr oedd y Beibl gan y bobl i'w ddarllen, ac yr oedd rhai o honynt yn gallu chwilio yr Ysgrythyrau.

Erbury'n Fedyddiwr.

P. A oedd y gwyr hyn dros fedydd y crediniol neu fedydd plant?

T. Ni chlywais i ddim Ilai nad oedd Mr. Wroth dros fedydd plant, mae Mr. Baxter yn cyfrif Mr. Erbury ymhlith y Bedyddwyr,[41] nid oes achos i amheu na wyddai ef. Mae rhai o lythyrau Mr. Erbury at Mr. Morgan Lloyd, ac un o honynt at Eglwysi y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru, i'w gweled yn llyfr Mr. Thomas Meredydd, a argraffwyd yn 1770. Mae Dr. Walker (o waith Wood's Ath. vol. ii. P. 103.) yn cyfrif Mr. Erbury yn un o'r pennaf o bregethwyr teithiol Cymru.[42]

Olchon y gynulleidfa gyntaf.

P. Pa bryd y corffolwyd y gynulleidfa gyntaf o Ymneillduwyr yng Nghymru?

T. Hyd y gellais i gasglu, ar fanol chwilio, y gyntaf oedd yn, neu gerllaw Olchon, ar gyrrau sir Henffordd, sir Fonwy, a sir Frecheiniog. A Bedyddwyr digymysg oedd y rhai'n, ac y mae yn bosibl iawn iddynt gael eu casglu a'u trefnu yn Eglwys gan Mr. Erbury, er na sefydlodd ef ddim gyd â hwy, ond pregethu ar hyd y wlad lle cai alwad ac odfa.

Y profion.

P. A oes dim lle i brofi pa amser y bu hyn?

T. Mae Mr. David Rees, yr hwn oedd o Gymru, yn dywedyd y gallai ef brofi yn eglur yn 1734 i'r Bedyddwyr gyfodi yn Lloegr a Chymru o gylch yr un amser. Yr oedd ef wedi cymeryd ei hanes o lyfr Mr. Neal, yr hwn oedd wedi dywedyd mai yn 1640 yr ymgorffolodd yr Eglwys gyntaf o Fedyddwyr yn Lloegr, ac mai Mr. Henry Jessey oedd ei gweinidog.[43] Er fod Mr. Rees wedi ysgrifennu o gylch 20 mlynedd ar ol Mr. Neal, eto yr oedd ef heb gael y pethau hyn i'r gwraidd; canys y mae'n dywedyd yno, "Od oedd un camsynnied yng nghyfrif Mr Neal, y byddai da ganddo ei wybod, ac y byddai diolchgar am hynny." Eglur yw, na wyddai Mr. Neal, na Mr. Rees, yn hollol, pa bryd y corffolwyd. yr Eglwys gyntaf o'r Bedyddwyr yn Lloegr wedi'r diwygiad. Ond o gylch pedair blynedd wedyn, cafwyd gwell gwybodaeth o hyn gan Mr. Crosby; [44] sef i'r eglwys gyntaf o'r Bedyddwyr yn Lloegr gael ei chorffoli yn Llundain, y 12fed o Fedi, 1633, ac mai Mr. Spilsbury oedd ei gweinidog. Ac i'r eglwys nesaf ymgorffoli yn 1639. Yr oedd ef wedi cael yr hanes hyn o ysgrifeniadau yr eglwys, o waith law Mr. William Kiffin, yr hwn oedd weinidog y Bedyddwyr. O'r blaen, yr oedd y Puritaniaid, y Bedyddwyr, ac eraill, yn yr un cymundeb. Yr oedd yr Independiaid a'r Bedyddwyr wedi ymgorffoli yn Eglwys yn 1616. Hon oedd yr eglwys drefnus cyntaf o honynt. Mae hanes dechreuad Eglwys Olchon wedi myned ar goll.

Ond yr wyf fi'n barnu oddi wrth amryw amgylchiadau, i Olchon ymgorffoli o amgylch 1633. Yn hynny mi a dybygwn fod Mr. Rees yn barnu yn gymwys i'r Bedyddwyr ymgorffoli o gylch yr un amser yng Nghymru a Lloegr, er nad oedd ef yn gwybod yr amser yn gywir.

P. A oedd Eglwys Loegr ddim yn bedyddio plant trwy drochiad y pryd hynny?

T. Tybygid eu bod, wrth hyn; mae trefn bedydd yn gorchymyn trochi y plentyn yn ddiesgeulus ac yn ddarbodus, os hysbysid i'r gweinidog y gallai y plentyn ddioddef hynny yn dda. Mae Ficar Llanddyfri yn ei agoriad ar gatecism Eglwys Loegr, yn dywedyd fel hyn :

Holiad-Beth ydyw nod gweledig
A'r arwydd digon tebyg.
Yn y Bedydd o'r tu faes.
Yn selu'r gras arbennig.

Ateb-Y dwr yn y Bedyddfan,
Lle trochir y dyn bychan
Yn enw'r Tad a'r Mab dri phryd,
A'r sanctaidd Ysbryd purlan.

Gwr o Eglwys Loegr oedd Syr John Floyer, yr hwn a 'sgrifennodd o gylch 1700. Mae fe yn nodi i'r Cymry adael trochiad yn y Bedydd yn ddiweddar, ac i rai canol oedran ddywedyd wrtho ef, eu bod yn cofio yr arfer o drochiad. Ebe fe ymhellach—

"Rhoddais yn awr y dystiolaeth a ellais gael mewn llyfrau Saesneg, i brofi yr arfer wastadol o drochiad, o'r amser y dechreuwyd bedyddio y Brutaniaid a'r Saeson hyd ddyddiau'r Brenin James (yr hwn a ddechreuodd deyrnasu yn 1603. ac a ddiweddodd yn 1625) pan ddechreuodd pobl rwgnach yn erbyn pob hen ddefod; a thrwy hoffi rhywbeth newydd, tynerwch rhieni, a chymeryd arnynt fod yn fwy gweddaidd, rhoddasant heibio drochiad, yr hyn ni wnaed erioed trwy un weithred yn Eglwys Loegr, eithr y mae trefn ein heglwys ni, mewn bedydd yn gorchymyn byth i drochi yn ddiesgeulus a darbodus."

Dywed hefyd,

"Yr wyf yn clywed fod rhai o'r Cymry'n trochi hyd yn hyn.[45]

Llanfaches.

P. Pa bryd y corffolwyd yr eglwys nesaf o Ymneilltuwyr yng Nghymru?

T. Mae hanes eglur o hyn wedi ei hachub yn Hanes Bywyd Mr. Henry Jessey.[46] Yno dywedir i Mr. Jessey gael ei anfon gan y gynulleidfa ym mis Tachwedd 1639, i gynnorthwyo hên Mr. Wroth, Mr. Cradock, ac eraill, i gasglu a threfnu Eglwys yn Llanfaches yn sir Fynwy, yn Neheubarth Cymru, yr hon wedi hynny ydoedd, fel Antiochia, yn Fam-eglwys, yn y wlad genhedlig honno, yr hon a fu hynod iawn o ran ei swyddogion, ei haelodau, ei threfn a'i doniau. Gan fod Mr. Wroth yn cael ei alw yn hen wr, yr wyf yn meddwl y gallai fod o gylch, neu yn agos 20 mlynedd yn pregethu wedi gadael ffordd Eglwys Loegr, cyn corffoli yr eglwys hon.

Henry Jessey.

P. Gan mai Mr. Henry Jessey oedd yma yn blaenori, byddai dda gennyf wybod ychydig o hanes y gwr hwnnw.

T. Gwr enwog iawn ydoedd ef o ran dysg, dawn, a gras. Yn 1637 dewiswyd ef yn fugail ar eglwys yr Independiaid yn Llundain, oddiwrth yr ymneillduasai y Bedyddwyr bedair blynedd o'r blaen, mewn cariad a thrwy gydsyniad o'r ddau tu. A'r gynulleidfa honno ai danfonodd i gynorthwyo yn Llanfaches, fel y nodwyd. Yr oedd amryw o'i eglwys ei hun yn cael eu hargyhoeddi o fedydd y crediniol, ac yn myned ymaith o bryd i'r llall. Eto caredig iawn oedd ef tuag atynt, a than argyhoeddiadau ei hun yn lled fynych. O'r diwedd gorfu arno, mewn cydwybod, drochi'r plant yn lle eu taenellu wrth eu bedyddio. Wedi llawer o fyfyrio, gweddio, ac ymddiddan â'r duwiolion dysgedig, bedyddiwyd ef gan Mr. Hanserd Knollys, yn 1645. Ond efe arhosodd yn ei le yn weinidog fel o'r blaen, a'r gynulleidfa wedy'n yn gymysg, rhai yn Independiaid a rhai yn Fedyddwyr. Mae Dr. Calamy yn rhoi gair rhagorol i Mr. Jessey; ond nid yw efe ddim yn dywedyd mai un o'r Bedyddwyr oedd efe. Eithr y mae Mr. Palmer yn ddiweddar wedi dywedyd yn ffyddlon beth oedd Mr. Jessey. Am ryfedd glod y gwr hwn, gweler y llyfrau isod.[47] Yma gwelwn mai Bedyddwyr ac Independiaid oedd dechreu yr Ymneillduwyr yng Nghymru.

Llanfaches ac Olchon.

P. Od oedd Llanfaches yn fam-eglwys, fel y soniwyd, pa fodd yr ydych chwi yn barnu mai Olchon oedd yr hynaf?

T. Nid wyf fi ddim sicr o hynny, ond oddiar amryw amgylchiadau yr wyf yn meddwl hynny. Eithr yr oedd eglwys Olchon mor fechan nad oeddid yn dal fawr sylw arni ymhell, ac y mae Olchon yn Lloegr hefyd, gan ei bod mewn cwr o sir Henfordd, er mai Cymry oedd ac yw'r bobl. Mae gennyf fi yr hanes hyn o waith Mr. Vavasour Powel, yr hwn a wyddai am yr amser hynny, "Fod proffeswyr crefydd yn anaml iawn yng Nghymru, oddi eithr mewn rhai conglau o ddwy neu dair sir, o gylch 1641. Ac ynghylch yr amser hynny y casglwyd yr eglwys gyntaf, os nid yr unig un, trwy holl Gymru." Yn y blaen dywed ymhellach, Yn nechreu y rhyfel, (1641) nid oedd ond un neu ddwy gynulleidfa wedi eu casglu trwy holl Gymru."[48] Yma nodir fod Olchon ar gonglau neu gyrrau tair sir, y rhai a enwyd yn barod; hynny yw, yr oedd y bobl yn byw, rai yn yr un sir, a rhai yn y llall. Ond y mae Llanfaches tua chanol sir Fonwy, onid wyf fi'n camsyniad. Eto yr oedd Olchon mor fach eu nifer, ac heb un gweinidog o Rydychen ond un o'u plith eu hunain, fel na wyddai Mr. Powel yn iawn pa un oedd oreu eu galw'n eglwys neu beidio. Ni wnai ef yn y ddau le a grybwyllwyd na'i gosod yn y rhif yn hollol, na'i gadael yn ol. Er fod hyn yn dangos i ni o leiaf, fod Olchon y pryd hynny yn eglwys, eto nid yw yn brawf eglur ei bod neu nad oedd wedi ymgorffoli yn 1633. Barned y darllennydd am hyn, fel y gwelo yn dda. Sicr yw fod mwy o son am Lanfaches, gan fod yn perthyn iddi gynifer o wyr a gafodd eu dysg yn Rhydychen, a'r fath wr o Lundain yn eu cynorthwyo i ymgorffoli, yn ol trefn yr efengyl.

P. Darfu i chwi enwi Mr. Walter Cradock a Mr. Vavasour Powel; byddai da gennyf wybod beth oeddent hwy.

Walter Cradock a Vavasour Powell.

T. Dywedir eni Mr. Walter Cradock mewn lle a elwir Trefela, ym mhlwyf Llangwm, yn agos i Lanfaches: ei fod yn etifedd cyfrifol yn y wlad, ond iddo gael ei ddwyn i fyny yn Rhydychen, mae'n debyg, mewn bwriad i fod yn weinidog yn Eglwys Loegr. Pan oedd cymaint o son am Mr. Wroth trwy'r gymydogaeth aeth yntef i'w wrando, a chafodd ei ddwysbigo, a throdd allan yn weinidog enwog iawn, ac a ymdrechodd lawer i danu gwybodaeth ymhlith y Cymry. Gwr o sir Faesyfed o enedigaeth oedd Mr. Vavasour Powel, yr hwn hefyd a gafodd ei ddysg yn Rhydychen; ac oedd wedi dechreu darllen gwasanaeth yn y llan cyn iddo weled ei drueni trwy bechod, ac adnabod gras Duw mewn gwirionedd. Bu gweinidogaeth Mr. Cradock yn fuddiol iawn iddo ef.[49] Mae bywyd Mr. Powel wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg yn ddiweddar; gan hynny nid oes achos dy weyd llawer yma am dano. Trwy fawr ymdrech y ddau wr ragorol hyn a Mr. Erbury yr aeth pregethiad yr efengyl trwy Gymru yn gyffredin. Er fod gwyr enwog o Eglwys Loegr wedi bod mor egniol i gael Gair Duw i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain, fel y dangoswyd, eto'r oedd yr ambell bregethwr duwiol oedd yn eu plith yn y llan yn gorfod cadw yn ei eglwys ei hun: ac eto nid oedd ond ychydig grefydd ymhlith y bobl. Eithr pan ddechreuodd Mr. Wroth a Mr. Erbury fod yn fwy gwresog na chyffredin yn eu gweinidogaeth, cawsant eu herlid yn fuan, a'u troi allan o'r llannoedd, fel y nodwyd; ond pregethu ar hyd y wlad yr oeddent hwy er hyn oll. Pan gafodd Mr. Cradock a Mr. Powel eu galw i'r gwaith, aethant hwy yn fwy hyf dros y wlad, gan bregethu lle gallent, yn y llannoedd, yn y tai, yn y marchnadoedd, yn y coedydd, ar y mynyddoedd, &c.

P. Dywedasoch fod y ddau wr cyntaf, un dros fedydd plant a'r llall dros fedydd y crediniol; beth oedd y ddau olaf, a fu mor enwog?

T. Yr oedd y rhain yr un modd, Mr. Cradock yn Independiad a Mr. Powel dros fedydd y crediniol. Yr oedd y ddau hyn yn pregethu ar hyd y wlad ryw amser cyn 1640.

Diffyg crefydd.

P. Mae'n debyg, wrth yr hyn a nodasoch, nad oedd fawr grefydd ymlith y Cymry eto mewn gwirionedd.

T. Nag oedd; canys dywed Mr. Powel i erfyniad gael ei anfon at y brenin o gylch 1641, yn gosod allan yn ostyngedig ac yn wirioneddol o flaen y brenin a'r parliament, gan lawer o wyr cyfrifol, mai, ar fanwl chwilio, prin yr oedd. cynnifer o bregethwyr cydwybodol arhosol yng Nghymru ag oedd o siroedd ynddi. A'r ychydig oedd, naill ai wedi cael eu distewi, neu eu mawr erlid; a bod proffeswyr crefydd hefyd yn anaml iawn, oddieithr mewn rhai conglau o ddwy neu dair sir. Ond torrodd allan y rhyfel (rhwng y Brenin a'r Parliament) fel na chafodd Cymru ddim cynnorthwy; eithr yn y gwrthwyneb gorfu ar y pregethwyr a'r proffeswyr, er anamled oedd- ynt, adael y wlad trwy greulondeb yr erledig- aeth. Codwyd eu da a'u dodrefn gan y gwrth wynebwyr, a bu gyfyng iawn ar eu gwragedd a'u plant.[50]

Y Rhyfel Mawr, 1642-1648.

P. Pa hyd y parhaodd yr amser gofidus hynny?

T. Pahaodd y rhyfel nes oedd tua 1648. A bu yn ofidus iawn yn y wlad.

P. A oedd dim pregethu ar hyd y wlad yn amser y rhyfel hynny?

T. Oedd ar brydiau gan y gwyr a enwyd, ond yr oeddynt yn gorfod bod yn fwy dirgel, ac yn ddioddef llawer er hynny.[51]

P. A oedd dim pregethwyr eraill wedi codi?

T. Oedd, Mr. W. Thomas, yn Llanfeches, am yr hwn y sonir yn Llantrisaint; Mr. Jenkin Jones, am yr hwn a sonir yn Olchon, ac Abertawe; Mr. Hugh Evans. am yr hwn y sonir yn y Dolau; a Mr. Morgan Lloyd, am yr hwn y sonir yn Wrex- ham. Yr oedd y tri blaenaf yn Fedyddwyr, nid wyf ddim yn sicr pa un ai bod yr olaf neu beidio, yr wyf fi yn meddwl nad oedd.

Ansicrwydd hanes yr eglwysi. P. Pa bryd y corffolwyd ychwaneg o eglwysi cynulleidfaol?

T. Nid wyf fi ddim yn sicr pa bryd y corffolwyd y rhai nesaf.

P. Yr oedd y pregethwyr, rhai yn Independiaid a rhai yn Fedyddwyr, pa fodd yr oedd yr eglwysi neu'r cynulleidfaoedd?

T. Yr oedd Llanfeches yn gymysg, ac yr oedd y gweinidogion a enwyd oll, hyd ac yr wyf fi'n deall, dros gymundeb cymysg, oddieithr Mr. Hugh Evans. Nid wyf fi'n deall fod na'i bobl ef nag Olchon erioed yn gymysg, ond yn Fedyddwyr oll.

Y Bedyddwyr a'r Ymneillduwyr.

P. Pa hyd y parhaodd eraill yn gymysg?

T. Bu rhai yn gymysg yn hir iawn. Mae chydig o gymysg yn Wrexham, y Drefnewydd, Llanbryn-mair, a'r Fenni, hyd heddyw. Ond yr oedd gwr enwog o'r Bedyddwyr gerllaw Abertawe, sef Mr. John Miles, yr hwn oedd yn gweled anghysondeb y fath gymundeb, felly neillduodd eraill ar fyrr.

Cymru wedi'r rhyfel.

P. Pa fodd y bu ar Gymru wedi 1648?

T. Mae Mr. Vavasour Powel yn dywedyd, wedi i'r wlad lonyddu rhyw faint yn ol y rhyfel, i'r ychydig lafurwyr a droasid allan o'r winllan gael eu hannog i ddychwelyd, ac i Dduw fendithio eu llafur er troedigaeth llawer o eneidiau: a rhoi lle i obeithio fod mwy o'r defaid cyfrgolledig ar fynyddau Cymru i gael eu dwyn adref i gorlan Crist. Eto yr oedd mawr wrthwynebiad, trwy'r bugeiliaid segur (sef y ficeriaid a'r cyfryw), y rhai oedd am eu porthi eu hunain, hyd oni wnaed gweithred senedd (Act of Parliament) o'r enw isod,[52] er tanu'r efengyl trwy Gymru, ym mis Chwefror, 1649. Trwy'r gyfraith hon trowyd allan o'r llannoedd lawer o weinidogion Eglwys Loegr, o herwydd anwybodaeth, drwg fuchedd, &c.[53]

T Troir offeiriaid allan.

P. Oni wnaeth bwrw'r offeiriaid fel hyn o'u lleoedd lawer o gynnwrf yn y wlad?

T. Do, lawer iawn. Dywedwyd i weinidogion Eglwys Loegr gael eu troi allan oll trwy Gymru, a gadael y wlad heb weinidogion.

P. Beth oedd y gwirionedd yn hyn?

T. Mae Mr. Powel yn dywedyd fod 11 neu 12 heb eu troi allan yn y sir yr oedd ef yn byw ynddi, sef sir Drefaldwyn, ac felly ymhob sir, fwy neu lai ac na wyddai ef am neb a drowyd allan, od oedd ynddynt gymwysiadau gwîr weinidogion neu eu bod yn debyg i wneyd daioni, ac iddynt gael ymddwyn tuag atynt mor dyner a hynny.[53]

Y Bedyddwyr yn llywodraethu.

P. Pwy oedd yn llywodraethu yr amser hyn, Bedyddwyr neu eraill?

T. Presbyteriaid, ac Independiaid rai. Bedyddwyr plant, gan mwyaf, oedd yn gwneyd cyfreithiau yn Llundain, ond Mr. Powel a Bedyddwyr eraill oedd fwyaf egniol ym mhlith y Cymry.

P. Pa fodd y gwyddoch chwi hynny?

T. Ysgrifennodd rhai o Eglwys Loegr lyfrau yn ei erbyn, un o honynt a elwid "Llef wbwb y wlad,"[54] ac achwynwyd arno yn dra chreulon fel un yn yspeilio'r wlad, &c.

Examen Vavasoris.

P. A wnaeth Mr. Powel ddim ateb i'r pethau hyn, er mwyn crefydd?

T. Do, efe argraffodd lyfr, i amddiftyn ei hun, ac i brofi mor ddieuog ydoedd o'r holl anwiredd a godwyd arno. Enw y llyfr a welir isod,[55] daeth allan yn 1653-

Llaw haearn Harrison, Major General Cromwell yng Nghymru.

P. A oedd neb ond Eglwys Loegr yn achwyn arno?

T. Darfu i Dr. Calamy ddywedyd am yr amser hynny, o waith Mr. Baxter, i Harrison, trwy awdurdod, ar unwaith roi lawr (sef, rhoi allan o'r llannoedd) holl weinidogion y plwyfau trwy Gymru, am fod y rhan fwyaf o honynt yn anwybodus, ac o ddrwg fuchedd; a gosod fyny ychydig o bregethwyr teithiol yn eu lle. Yna ebe 'fe,—

Dyma'r cyflwr y dygodd yr Ailfedyddwyr a rhwygwyr eraill, yr holl dir iddo. A'r diben o hyn oll, oedd rhag i'r bobl gael eu temtio i feddwl fod eglwys y plwyf yn wir eglwys; a bedydd plant yn wir fedydd, neu eu bod eu hunain yn wir gris'nogion. Ond rhaid oedd eu hargyhoeddi, fod yn gofyn eu gwneyd yn gris'nogion ac yn eglwysi yn ffordd yr Ailfedyddwyr a rhwygwyr eraill.[56]

Mae Dr. Walker yn ei nodiadau ar Dr. Calamy yn dal sylw hefyd i'r Ailfedyddwyr roi lawr holl weinidogion y plwyfau trwy Gymru.[57]

Calamy a Walker.

P. A wnaeth Dr. Calamy un ateb i Dr. Walker?

T. Do, ac y mae yno yn adrodd amddiffyniad Mr. Powel; ond nid yw ef ddim yno yn cyfaddef iddo ef ei hun wneyd cam â'r Bedyddwyr yn yr hyn a 'sgrifenasai ef o'r blaen; eto y mae'n achwyn ar Dr. Walker am ddwyn llawer o wag chwedlau, o'r llyfr "Llef wbwb,'"ar Mr. Powel; heb ddal sylw yn y mesur lleiaf fod atebion wedi cael eu gwneyd i'r chwedlau hynny;[58] er hynny yr oedd Dr. Calamy yn euog o'r un bai, canys yr oedd Mr. Powel wedi ateb ymhell cyn iddo yntef 'sgrifennu.

P. A ddiwygiodd Mr. Palmer ddim ar hyn?

T. Mae'n debyg na ddigwyddodd dim iddo ganfod, na meddwl am hyn, canys yn ei argraffiad cyntaf o waith Dr. Calamy, mae'n dywedyd, yr ôl ei awdwr, i weinidogion y plwyfau gael eu rhoi lawr oll. Ond fe adawodd yn ol yr hyn a ddywedir uchod am yr Ailfedyddwyr[59]Mae fe'n rhoi gair da iawn i Mr. V. Powel, o waith Mr. Neal.[60]

Y Troi Allan.

P. Beth mae Mr. Powel ei hun yn dywedyd am y pethau hyn?

T. O ran y gweinidogion, nodwyd mewn rhan yn barod; ond heb law y rhai a adawyd yn eu lle heb eu troi allan, y mae'n dywedyd, i'r rhai a drowyd allan, gael pregethu ar brydiau; ac iddynt arfer pob moddion cyfreithlon i gael pregethwyr duwiol i Gymru; iddynt anfon amryw weithiau i Rydychen, Caergrawnt,[61] Llundain, a'r lleoedd yr oeddent fwyaf tebyg i gael cynorthwy; a thrwy hynny iddynt gael llawer, ond nid cynnifer ag ewyllysient, gan na allent bregethu yn Gymraeg. [62]

Pregethwyr 1648-1660.

P. Pa sawl allai fod o weinidogion yng Nghymru yr amser hyn?

T. Mae Dr. Calamy ei hun yn dywedyd fel hyn, Er yr holl achwyn am drefniad pethau yng Nghymru o 1648 hyd 1660, eto mae Whitlock enwog yn dywedyd (Memoirs, P. 518) fod yn y tair sir ar ddêg o Gymru 150 o bregethwyr da, fis Medi 1652, a'r rhan fwyaf o honynt yn pregethu 4 neu 5 waith yn yr wythnos."[63] Yr oedd cyflwr Cymru y pryd hyn lawer yn well nag o gylch 1641, pan mai prin yr oedd cynifer o bregethwyr ag oedd o siroedd yng Nghymru.

Addysg Pregethwyr.

P. A oedd pregethwyr yr amser hyn wedi bod oll yn rhyw brif ysgol?

T. Yr oedd llawer o honynt wedi bod; ond gan na ellid cael digon o rai duwiol dysgedig, trefnwyd i chwilio allan am wyr duwiol, y rhai yr oedd ganddynt ddawn i'r weinidogaeth, er na byddent yn dra dysgedig. Trefnwyd rhai trwy'r deyrnas, i wrando dynion ieuainc yn pregethu, galwyd y rhai'n Triers, sef Profwyr. Yr oedd dynion eraill ar hyd y wlad a elwid Commissioners. Wedi cytunai'r Profwyr fod gwr yn gymwys i'r weinidogaeth, rhoddent orchymyn i'r Commissioners roddi awdurdod i'r cyfryw i fyned allan i'r weinidogaeth, a chael cynhaliaeth yn y gwaith. Er mwyn i'r oes hon, a'r rhai a ddel, weled trefn yr amser hynny, gosodaf yma yr awdurdod gwladaidd a roddid i weinidog. Gweler hi isod." [64]

Y Profwyr.

Yr oedd pum gweinidog i farnu dawn y gwr, ac os byddai gymeradwy, rhoddid gorchymyn ysgrif- enedig i'r Commissioners ei awdurdodi i waith y weinidogaeth. Gwyr cyfrifol o'r wlad oedd y Commissioners, byddai pump o honynt yn rhoi eu dwylaw wrth yr awdurdod, ac yn gorchymyn i Drysorwr y Sir dalu y gweinidog y swm a enwent hwy. Dywed Dr. Walker, fod Mr. Powel, wrth ei enw, yn yr Act honno, yn un o'r Commissioners, ac yn bregethwr teithiol trwy Gymru; a bod Mr. Jenkin Jones, wrth ei enw, yn un o'r Profwyr yn yr Act. [65]

Act Vavasour Powel.

P.

Pa fodd y gallwyd cael y fath Act er mwyn y Cymry yn unig?

T. Mae Dr. Walker yn dywedyd mai trwy Mr. V. Powel yn bennaf y cafwyd hi.[66]

Prynnu Beiblau wedi troi'r ficeriaid allan.

P. Pa fodd yr oeddent yn gwneyd am Feiblau yr amser hyn?

T. Pan y trowyd cynnifer o'r ficeriaid allan o'r Llannoedd, yr oedd achwyn mawr gan lawer fod y bobl yn cael eu gadael i droi yn Ailfedyddwyr, yn Babtistiaid, yn ddigred, &c. Ac y mae Dr. Calamy yn cadw'r achwyn yn y blaen hir flynyddau wedi hynny, lle mae'n dywedyd i'r holl ficeriaid gael eu troi allan trwy Gymru.

Ond y mae hyd yn oed Dr. Walker, yr hwn oedd wr o Eglwys Loegr, yn cyfaddef fod 127 o'r hen weinidogion wedi eu gadael yn eu lleoedd yn Neheubarth Cymru yn unig.[67] Ond mewn ateb i'r achwyniadau uchod, heb law'r hyn a nodwyd o'r blaen, mae Mr. Powel yn dywedyd, er profi pa fath ddiwygiad oedd yn y wlad, fod rhan fawr o'r argraffiad gynt o'r Beibl Cymraeg wedi ei brynnu, ac yn ol hynny, dau argraffiad yn ychwaneg, sef un o'r Testament Newydd, a'r llall o'r holl Feibl, ac o'r rhai'n ei fod yn credu fod o leiaf bump neu chwech mil wedi eu gwerthu. Wrth hyn, ebe fe, y gwelir fod crefydd yn cynyddu. Ac er fod y bobl mor ddigrefydd trwy Gymru yn 1641, mae'n nodi fod yno o gylch 1660, uwch law ugain o gynulleidfaoedd wedi eu casglu, a bod yn rhai o honynt 200 o aelodau, eraill 300, ac yn rhai 4 neu 500 o aelodau.[68]

Culni Charles Edwards.

P. Pwy gynorthwyodd i argraffu y Beibl bryd hynny?

T. Mae Dr. Llewelyn yn nodi i'r argraffiad hwn ddyfod allan yn 1654, a bod Mr. Charles Edwards, yn "Hanes y Ffydd," yn dywedyd mai chwe' mil oedd o rifedi yn yr argraffiad, ond nad yw Mr. Edwards yn son un gair, trwy bwy y daeth hwn allan.[69] Nid oedd Mr. Edwards ddim am roi gair da i Mr. V. Powel ac eraill o'r amser hyn, ond nid wyf fi yn ameu nad Mr. Powel a fu flaenaf yn y gwaith hwnnw, fel pethau eraill, dros y Cymry yn y blynyddau hynny. Yr wyf yn credu fod Mr. Cradock ac eraill yn cynorthwyo. Eto yr oedd yr argrafflad hwn yn wallus ac yn feius iawn, fel y nodir yn y blaen.

Clod Vavasour Powel.

P. Mae'n debyg fod Mr. Powel yn ddefnyddiol iawn i Gymru.

T. Yr wyf fi yn meddwl na bu un dyn erioed yn fwy defnyddiol i'r Cymry yn achos eu heneidiau, er fod llawer eraill wedi bod yn dra defnyddiol. [70]

P. Mae'n debyg nad oedd fawr o duedd i brynnu'r Beibl a ddaeth allan yn 1630, nes daeth Mr. Powel ac eraill o'i frodyr i bregethu ar hyd y wlad.

T. Mae hynny yn eglur, ac yn dangos hefyd mor anuwiol ac anwybodus oedd y wlad, pan yr oedd mor ddifeiblau o'r blaen, ac nad oedd ei bris yn awr ond coron arian, fel y noda'r Ficar.

Bedyddwyr ac Independiaid.

P. A oedd llawer o Fedyddwyr yng Nghymru. yr amser hyn?

T. Oedd llawer iawn, ond yr oedd yr Independiaid a'r Bedyddwyr yn gymysg mewn cymundeb mewn llawer lle.

Tro ar yr olwyn.

P. Pa hyd y parhaodd pethau fel hyn?

T. Nid hir, canys yn 1660 ymddangosodd troell arall yn nhrefn rhagluniaeth.

VI. CYFNOD YR ERLEDIGAETH,
1660-1700.

Yr Erledigaeth.

P. Beth oedd hynny?

T. Yr oedd erledigaeth wedi bod, yn fwy neu lai, ar yr Ymneillduwyr, y Bedyddwyr ac eraill, o'r dechreu, neu'n fuan ar ol y Diwygiad. Yn 1641 torrodd rhyfel rhwng y brenin Charles a'r Parliament. Gorchfygwyd y brenin, yn 1648. Bu farw Cromwel yn 1658. Ymhen ychydig wedyn daeth mab y brenin yn ol. Yr oedd ef wedi gorfod ffoi dros y mor wedi marw ei dad. Y 29 o Fai 1660 dychwelodd mab y brenin, sef Charles yr Ail, i dir Lloegr. Gelwir y dydd hwnnw yr Adferiad,[71] am adferu'r brenin i'w deyrnas. Yr oeddid wedi rhoi heibio drefn addoliad Eglwys Loegr ar ol 1648 gan mwyaf; ac nid oeddid dim yn arfer Llyfr y Weddi Gyffredin yn yr addoliad ond gan rai. Eithr yr oedd y pregethwyr yn yr eglwysi, a'r bobl hefyd, yn addoli yn lled debyg i'r modd y maent yn awr yn y tai cyrddau. Pan ddychwelodd y brenin, adnewyddwyd yr erledigaeth, canys trowyd y gweinidogion o'r llannoedd, a dychwelwyd i'w lle y ficeriaid a droasid allan yn 1649, &c., sef y rhai oedd yn fyw o honynt. A daeth erlid mawr ar bawb na chydffurfient ag Eglwys Loegr mewn addoliad.

Tystiolaeth Vavasour Powel.

P. A ellwch roi hanes byr pa fodd y bu yn yr amser hyn? T. Yr oedd Mr. V. Powel yn fyw, yn dioddef, ac yn adnabod Cymru yn dda yr amser hynny; ac efe a ysgrifennodd yr hanes canlynol yn 1661, gan hynny nid wyf fi yn ameu ei gwirionedd. Mae fe'n nodi wneyd cam ag amryw ugeiniau yng Nghymru ym mis Mai a Mehefin, 1660. Yr oedd hyn yn union ar ol dyfod y brenin i dîr. A'r cam oedd, eu rhoi i garchar a'u cadw yno yn ddiachos, ond yn unig dangos y gallai yr erlidwyr wneyd yr hyn a fynnent.

Wedi hyn, ebe Mr. Powel, bu gorthrymder tra blin, yn enwedig yn rhai siroedd, lle y llysgwyd rhai dynion gwirionaid a heddychol allan o'u gwelyau, heh berchi na rhyw nag oed, ond eu gyrru, rai o honynt, ar eu traed ugain o filltiroedd i'r carchar; ac yn gorfod arnynt, yngwres yr hâf, gyd redeg A meirch y milwyr,[72] nes pothellu eu tracd, a hwythau yn barod i gwympo; eto eu ffonnodio a'u curo yn y blaen yr oeddid. Eraill yn sir Feirionydd, megis pe buasent anifeiliaid, a yrrwyd i ffaldau neu bitffalau'r plwyfau, lle cedwid hwy amryw oriau, a'u gelynion yn y cyfamser yn yfed cwrw yn y tafarn; ac yn peri i'r bobl ddiniwaid dalu drostynt hwy, heb gael dim i'w yfed eu hunain. Wedi hynny eu dwyn i lan y môr, a'u gadael hwy yno yn y nos, mewn enbeidrwydd i gael eu llyncu fyny gan y môr, ac yn dywedyd yn gableddus, mai ci ag oedd gyda hwy oedd yr ysbryd a'u harweiniodd hwy y ffordd honno. Eraill a roddwyd i garchar, fel y gwelai'r erlidwyr yn dda, ac a gadwyd yno amryw fisoedd ; ac er hynny cymerwyd a gwerthwyd eu da a'u defaid, uwchlaw chwech cant o rif. Eraill. pan y gelwyd hwy ir Eisteddleoedd Cwarterol,[73] yn gorfod cerdded mewn cadwyni (heirn ond odid) yn erbyn y gyfraith. Eraill wedi cyfarfod yn Ilonydd, fel y gwnaethent dros amryw flynyddoedd i addoli Duw, ac adeiladu eu gilydd, a fwriwyd i garchar. heb gymmaint a'u holi, na dangos achos pa ham, yn groes i gyfreithiau y wlad hon a gwledydd eraill. Yr oedd llid had y sarph gymaint yn erbyn had y wraig, er i'r brenin weled yn dda ganiatau rhydd-did Crisnogol dros ryw amser, trwy ei gyhoeddiad ei hun;[74] eto y sabboth cyntaf wedi derbyn cyhoeddiad y brenin, darfu i swyddogion un dref lusgo a thynnu i'r dafarn ar eu hol wragedd tlodion, y rhai oeddent yn gwrando gair Duw, a chadwasant hwy yno hyd wedi nos, a hyd nes gorfu arnynt dalu am eu cwrw hwy.[75]

Tachwedd 5ed, 1688.

Yna cawsant fyned ymaith, mae'n debyg.

Dyma ran o'r hanes galarus y mae fe'n ei roddi o dan ei law ei hun. Eto, nid oedd hyn oll ond dechreuad gofidiau ar y Bedyddwyr yn neillduol, a llawer eraill hefyd, trwy Gymru. Os gwnaed hyn oll, a llawer ychwaneg, mewn un flwyddyn, ac ychydig yn rhagor, pa faint a fu eu dioddefiadau dros chwe mlynedd ar hugain yn ol hynny? sef hyd oni ddaeth y rhyddid dymunol trwy ddyfod y brenin William i mewn, yr hwn a ddaeth i dir Lloegr y pumed o Dachwedd, 1688, dydd o ymddangosiad daioni Duw, yr hwn a ddylai gael ei gofio, gyda diolchgarwch o'r galon, gan bob dyn duwiol trwy'r deyrnas. Rhoddais yma yr hanes byr hwn o ddioddefiadau y dyddiau hynny, am ei bod yn hanes gwirioneddol, wedi ei argraffu yn y dyddiau hynny, gan wr geirwir, yr hwn oedd yn adnabod cyflwr Cymru, mae'n bosibl gymaint, os nid yn well, na neb y pryd hwnnw; er ei fod ef ei hun yn gyfrannog o'r dioddefiadau. Felly yr wyf yn edrych ar ei dystiolaeth ef fel hyn, yn well na llawer o'r hyn ydym yn glywed trwy draddodiad ys pump neu chwe' ugain mlynedd.

Cân y Bedyddiwr.

Digwyddodd i mi yn ddiweddar gael cân, yr hon a wnaeth un o'r Bedyddwyr (fel y dywedwyd wrthyf fi) cyn dyfod y brenin William i'r deyrnas.

Gan fod hon yn rhoi hanes cynnwys cyffredin trwy amser yr erledigaeth honno, yr wyf yn ei weled yn drueni ei cholli, ac yr wyf yn barnu y fan hon mor berthynol iddi ag unlle. Y mae fel y canlyn:

Brotestaniaid mwyn diniwaid,
Gwyr cywirgred iach eu ffydd;
Dewch yn ddifri' a'ch holl egni
I glodfori Duw bob dydd.
Haleliwia y Goruwcha
Lywodraetha dda'r a nef;
Byth mae'n rasol wrth ei bobl,
Mawl tragwyddol iddo ef.

Duw'r diddanwch, rhoddwr heddwch,
Pob dedwyddwch dawn a gras,
Doeth anfeidrol, anfesurol,
Pwy all chwilio'i waith i maes?
Mewn cyfyngder rhydd ehangder,
Cymru a Lloegr wyddant hyn.
Pwy ys dyddiau a debyg'sai
Y gwared'sai fe ni'n llyn?

Cydystyriwch a chanfyddwch
Y llonyddwch weithian sydd
Yn y gwledydd, a'r llawenydd,
Boed ar gynydd fwy-fwy fydd;
Pob rhyw ddoniau a rhinweddau
Fo'n blaguro yn ein plith;
Brydain lydan, o hyn allan
Dyfo i'r lan dan nefol wlith.

Y Duw tirion eto a ddichon
O'r tywyllwch sy'n y tir.
Ddwyn goleuni llawn i'n llonni,
Wedi'n profi noswaith hir.
Y cymylau oedd ys dyddiau
Uwch ein pennau'n peri braw,
Ffwrdd a yrrir o'n teg wybr
Gan ei hollalluog law,

Brenin Iago. Duw a'i cadwo,
Fydd offeryn dan Dduw nef,
Yn rhoi rhydd-did hoffaidd hyfryd
Trwy gyhoeddiad gadarn gref

I'w ei ddeiliad sydd wirioniaid
Heb feddyliau drwg o'u bodd,
I neb dynion fach neu fawrion,
Ond eu llwyddiant ymhob modd.

Eto, creulon ddig swyddogion,
Ddalient ddynion mawr cu bri,
I'w carcharu'n ddi-dosturi,
Mynych gwnnu dwbl ffi,
Fe gai fyrddwr, lleidr, bradwr,
Fwy o ffafwr yn eu gwydd
Na rhyw Gristion diddrwg, ffyddlon;
Mor anghyfiawn oedd eu swydd!

Rhai ni feiddient fynd i'r farchnad,
Er mawr alwad iddynt fyn'd,
Na ba'i ceispwl[76] wrth eu sowdl
I roi trwbl yn ddiffrynd.
Rhaid gwobrwyo'r gwyr a'u boddio
Cyn cael myn'd o'u dwylo'n rhydd;
Gwancus, chwannog, llym i'r geiniog;
Gwilio'r sglyfaith nos a dydd.

Rhoi ein henwau i mewn ar lyfrau,
Yn eu cwrtiau'n llawer man;
Llys cabidwl[77] waeth na'r cwbl,
Yn cyhoeddi'n llwyr i'r llan
Esgymundod fawr ddisberod,
Lawer pryd heb wybod
P'am, Eisieu'u porthi a'u digoni
Byth ag arian; dyna gam.

Wedi yno esgymuno,
Delai rhuo writ i maes,
I law'r sirif arfog heinif,
Hwnnw'n herlid nid yn llaes,
Y gwirioniaid yn dra diraid
Os eu dala, mynd i'r jail
Creulon ddiodde' hir amserau;
Dim na thalai gynnig bail

Afresymmol oedd y bobl
Gyffredinol, fel o'u pwyll,
Yn cyhuddo pawb, heb geisio,
Hawdd gweld yno lid a thwyll,

Malais dirgel lechai'n ddiogel
Dan fradychus gesail rhai;
Hwy ddymunen' o genfigen
Bigo'n coden heb ddim llai.

Hwbwb! hobob! llys yr Esgob
A fu dop-dop â ni'n hir;
Mae'n hwy'r wan yn lled egwan,
Cerddent allan oll o'r tir.
Ymaith fradwyr a goganwyr,
Ffyrnig dreiswyr chwerwon chwyrn;
Does mo'ch ofn arnaf weithian,
Torrwyd llawer ar eich cyrn.

Dyna'n union fel y buon
Ddyddiau lawer dan eu gwg.
Braidd'r edryched arnom hefyd,
Ond fel rhyw weithredwyr drwg;
Er na allen' mewn iaith gymmen,
Er cenfigen, malais, llid,
Ro'i drwg destyn yn ein herbyn,
Mewn un modd o flaen y byd.

Fe gai feddwon, ofer ddynion.
Dorri'r Sabboth yn ddiwardd,
Tyngu, rhegu, campio meddwi;
A oedd hynny'n weithred hardd
Os b'ai rhyw ddyn, gwir gredadyn
Yn ymofyn â gair Duw.
Oni ddeuai i'r llan y Suliau
Cospid hwnnw hyd y byw.

Pob Dissenter, mewn addfwynder,
A chyfiawnder, ofnwch Dduw;
Cydwybodol a sancteiddiol
Gwir grefyddol byddwch fyw;
Yn eich proffes, byddwch gynnes,
Nid yn ddiwres ar y daith,
'Mrowch i weithio'r dydd heb flino,
Cewch eich gwobrwyo'n ol eich gwaith.

Gwiliwch beunydd, herddwch grefydd,
Cedwch at orseddfainc gras;
Taer ymbiliwch ar Dduw'r heddwch
I'ch bendithio o hyn i maes,

A rhoi rhydd-did helaeth hyfryd
I'r efengyl trwy'r holl fyd;
Deu'd Iddewon yn Grisnogion,
A'r paganiaid bawb i gyd.

Ceisiwn undeb a ffyddlondeb
Ymhlith pobl Dduw o hyd
Cyffrowch beunydd bawb'ch gilydd
Mewn gwir grefydd o un fryd;
Lle bo sobrwydd ac onestrwydd,
Gostyngeiddrwydd cariad rhad,
A chywirdeb heb ddau wyneb,
Mae Duwioldeb yn ddifrad.

Pob cenhedlaeth a chymdogaeth
Sydd yn ofni Duw yn wir,
Ac sy'n gwneuthur yn ddirwystr
Bob cyfiawnder yn y tir;
Dyna'r bobl sy dderbyniol
Yn dragwyddol gyda'r Ion,
Ffydd heb weithred wna ond niwed
Ni thal byth am dani son.

Synnwch farnu nebo ddeutu,
Am nad ynt o'ch meddwl chwi;
Barnu'n chud sydd beth enbyd,
A ffol hefyd, coaliwch fi.
Y Duw cyfion farna'r galon,
Ac a adwaen eiddo ei hun;
Fe a'u geilw wrth eu henw,
Ac a'u cadw bob yr un.

Weinidogion, ddysgedigion
Eglwys Loegr, byddwch fwyn;
Na wasgerwch y praidd gwirion
Byddwch dirion wrth yr wyn.
O dilynwch dduwiol heddwch,
Na ddigaswch wrthym ni;
Mae'ch cyflyrau'n ddigon difai,
Mae'ch degymmau gennych chwi.

Chwithau'n ddiflin y cyffredin,
Sy'n ein herbyn, ac o'u plaid,
Byddwch araf, mi ddymunaf,
Peidiwch ddigio, beth fydd raid

Gwell fod pobl gydwybodol,
O bob enw trwy y wlad.
A ddymunant i chwi lwyddiant,
Yn cael rhydd-did cyflawn rhâd.

Duw r'o ffyniant a gogoniant
Byth i'n brenin Iago'r Ail,
Caiff Neillduwyr trwyddo heddwch
A diogelwch rhag y Jail.
Tra llwyddiannus a diddanus
Fo'i deyrnasiad ef o hyd:
Pob daioni fo'n coroni
Brydain fawr hyd ddiwedd byd."


Clod Iago'r Ail.

Enw awdwr y gân hon oedd Richard Pugh; wrth ei gelfyddyd yr oedd yn saer ac yn felinydd, yn aelod yn y cymundeb cymysg yn Nhredwstan. Yr oedd yn byw y rhan olaf o'i amser ger llaw Castell Madog. Bydd rhai, o bosibl, yn rhyfeddu ei fod yn sôn fel y mae am Iago'r Ail. Yr achos oedd hyn. Yn 1687 darfu i'r brenin hwnnw gyhoeddi rhydd-did cydwybod mewn crefydd i'w holl ddeiliaid trwy'r deyrnas. Ei amcan ef trwy hynny oedd rhoi rhydd-did i'r Papistiaid; ond nid oedd dim o bawb trwy'r wlad yn gwybod hynny. Os ystyriwn i mor flin eu cyflwr yr oedd llawer iawn o'r blaen, nid yw ryfedd fod rhydd-did yn felus, a'u bod yn ddiolchgar am dano. Darfu i amryw, sef Ymneillduwyr ac eraill, trwy'r deyrnas, anfon eu diolch yn ysgrifenedig i'r brenin am eu rhydddid a'u llonyddwch.[78] Yr amser hynny y gwnaed y gân hon. A'r flwyddyn ar ôl hynny y daeth y brenin William i dir Lloegr, yr hwn a barodd roddi rhydd-did i'r Ymneillduwyr trwy gyfraith y tir. Nid oedd dim o'r rhyddhad y flwyddyn o'r blaen trwy'r gyfraith, ond yn unig trwy ewyllys y brenin. Wedi hyn cafwyd tangnefedd trwy'r deyrnas.

Yn ol i ddyddiau'r erledigaeth.

P. Pa fodd y bu yn amser Charles yr Ail, wedi'r dechreu a soniwyd?

T. Parhau yn erlid ac yn carcharu yr oeddid. Ond am fod llawer eto yn y llannoedd o weinidogion nad oeddent, mewn cydwybod, yn gallu cytuno â defodau Eglwys Loegr mewn addoliad, gwnaed cyfraith i rwymo pob gweinidog i gydffurfio â'r Eglwys honno, yn ei holl addoliad, neu i droi allan o'r weinidogaeth yno. Yr oedd y gyfraith i ddechreu bod mewn grym y 24ain o Awst, 1662.

Troir Ddwy Fil allan.

P. Beth fu y canlyniad o hyn?

T. Trowyd allan o'r llannodd o gylch dwy fil, trwy Loegr a Chymru, am na chydffurfient; ac yr oedd llawer o honynt yn wyr enwog iawn o ran dysg a duwioldeb. Parodd hyn ofid nid bychan i'r gweinidogion a'u pobl, a mawr oedd y galar.

Beth a ddaeth o'r gweinidogion hynny?

T. Pregethodd y rhan fwyaf o honynt ar hyd tai lle gallent, ond byddid yn eu herlid ac yn eu carcharu, yn codi eu meddiannau ac yn eu mawr flino.

P A 'sgrifenwyd dim hanes o'r gweinidogion hyn?

T. Darfu i Dr. Calamy gasglu llawer iawn o'u hanes, mewn pedwar llyfr lled fawr, ac yn 1775 argraffwyd y cyfan yn ddau lyfr, ac yn fwy trefnus, gan Mr. Samuel Palmer, ger llaw Llundain.

Bywyd Vavasour Powel.

P. Ond beth a ddaeth o Mr. Vavasour Powel?

T. Fel yr wyf yn barnu iddo ef ymdrechu tu hwnt i bawb dros eneidiau Cymry, felly yr wyf yn meddwl iddo gael ei garcharu gan y Cymry yn fwy na neb arall. Mae'n dywedyd ei hun ei fod mewn 13 o garcharau. Efe a garcharwyd ar fyrr wedi'r brenin ddychwelyd yn 1660, a bu'n yn garcharor hyd oni ryddhawyd ef trwy angeu y 27ain o Hydref, 1670, yr hyn oedd yr unfed-flwyddyn-ar-ddeg o'i garchariad diweddaf. Buasai yn y carchar ar brydiau o gylch deng mlynedd-ar-hugain. Y pryd cyntaf y carchar wyd ef oedd yn sir Frecheiniog, lle y daliwyd et a 50 neu 60 o'i wrandawyr, o gylch deg o'r gloch o'r nos, ynghylch 1640. Felly yng Nghymru y carcharwyd ef gyntaf, ac yn sir Forganwg y carcharwyd ef ddiweddaf, er iddo, trwy'r gyf raith, gael ei symud yn garcharor oddi yno i Lundain, lle y gorffennodd ei holl filwriaeth.[79] Efe a garcharwyd hefyd yn sir Faesyfed ac yn sir Drefaldwyn, a lleoedd eraill trwy Gymru a Lloegr.

Llythyr olaf Vavasour Powel.

Yn ei glefyd diweddaf efe a 'sgrifennodd o Lundain at un o'i anwyl gyfeillion yng Nghymru, ac a ddywedodd wrtho ei fod yn bosibl mai hwnnw oedd y llythyr diweddaf a gelai oddiwrtho ef. Ac felly bu. Yn ei glefyd diweddaf mynych weddiai dros bobl Duw, ac yn neillduol dros y Cymry.[80] Bu'n glaf o gylch mis, ac yn fawr ei orfoledd, yn golygu gogoniant tragwyddol ger llaw. Mawr yr annogai y duwiolion at gariad ac undeb. Ar ol ei farwolaeth gwnaed llawer o ganiadau galarnad ar ei ol. Mae deuddeg o honynt yn niwedd llyfr ei fywyd, yno gelwir ef yn broffwyd ac apostol y Cymry. Yn yr ysgrifen ar garreg ei fedd dywedir ei fod yn ddysgawdwr llwyddiannus i'r oes a aeth heibio; yn dyst ffyddlon yn yr oes bresennol, ac yn batrwm dewisol i'r oesoedd i ddyfod. Gan fod hanes ei fywyd yn Gymraeg, nid oes achos helaethu yma. Mae'r pethau hyn oll yno, a llawer yn ychwaneg.

Cân Benjamin Francis.

Pan ddarllennodd Mr. B. Francis lyfr hanes bywyd Mr. Vavasour Powel, yn 1754, gwnaeth iddo y gân ganlynol:

Wrth ddarllen hynod hanes
Gwr hoff a harddai 'i gyffes
Mor fuddiol, mi ryfeddais;
Daeth gwres i'm mynwes oer.
Cyhoeddafi chwi'n uchel,
Ei enw pêr oedd Powel:
Boed côf o'r enwog angel
Tra paro'r haul a'r lloer.

Gweinidog gwerthfawr ydoedd,
Yn fore fe lefarodd;
A pheraidd iawn y parodd,
Disgleiriodd hyd y bedd.

Mawr ddoniau a dderbyniodd;
Cyfiawnder Crist a'i llanwodd,
Anwylaf ddelw'r nefoedd
Lewyrchodd ar ei wedd.

Fe ddarfu'r ganwyll gynnar
Ni chynwyd eto'i chymar;
O gwelir achos galar
Trwy rannau'r ddaear hon.
Ond cyn ei llwyr ddiffoddi,
Daeth gwrychion byw oddiwrthi;
Parhau hyd hyn mae'r rheini
Yn llawn o oleuni llon.

Yn hyfryd ddeutu Hafren,
Mewn amryw fannau ym Mrudain, T
rwy bell ardaloedd llydain
Fe seiniai'r 'Fengyl gu.
Ca's amryw o blaenhigion,
Teg, hoff, blodeuog, ffrwythlon,
Eu plannu ym mryn Seion,
Trwy ei ymdrechion hy'.

Dioddefodd hir flynyddau,
Mewn amryw oer garcharau
Dros ei Dduw, a'i wirioneddau,
Yn ddiau merthyr oedd.
Ond gwelwn Joseph gwiwlan,
Yn awr mewn gwisgoedd sidan,
Yn arglwydd talaeth lydan,
A'i enw glân ar g'oedd.

Gwyn fyd ei enaid hwylus,
Fe aeth o'r byd helbulus
At Dduw i foli'n felus,
I'r llys tu fewn i'r llen;
A chreithiau'r holl archollion
A ga's o law 'i elynion,
Yn awr fel perlau gloewon.
Trwy'r goron fu ar ei ben.

Mae'r seren fu trwy'r siroedd
Yn llon oleuo lluoedd,
Yn awr fel haul y nefoedd;
Gadawodd gylchau'n byd.

Ond er i'r hynod huno,
Mae'i waith e' eto'n ddeffro,
Canlynwn e'n glau yno,
Gan rodio'n hardd o hyd.

Mae'n awr yn seraff sanctaidd
Ymhlith y llu nefolaidd,
Gan foli, mewn gorfoledd,
O flaen yr orsedd wen.
Yn gwisgo'r eurin goron,
Ynghyd a'i gyd-ferthyron,
A'i holl gu hoff gyfeillion,
Yn llon o fewn i'r llen.

Mae'i gorff e' nawr yn gorwedd
Ys pedair ugain mlynedd,
A thair,[81] mewn priddlyd annedd
Fel enaint peraidd maith;
Ond gyd â'r wawr cyfodir
E' i eistedd, mewn rhyw ystyr,
I farnu ei euog farnwyr,
Yn gywir 'nôl eu gwaith.

Elias, gwelai'th gerbyd
Yn dod i'th godi i'r gwynfyd;
Deu'd arna'i ddau parth d'sbryd
Troi yn yr adfyd du.
Rhaid i mi ymadael,
Nes bloeddio'r nerthol angel;
Hapusrwydd i ti, Powel;
O fewn i'r demyl fry.


Yr Independiaid a'r Presbyteriaid.

P. Pa fodd y bu ar Gymru wedi marw y gwr rhagorol hwn?

T. Yr oedd ef wedi marw, mewn rhyw ystyr i Gymru, dros ddeng mlynedd cyn ymadael â'r byd; canys yr oedd ef yn y carchar, fel y nodwyd. Yr oedd amryw gydag ef, o Fedyddwyr ac Independiaid, wedi bod yn dra defnyddiol i wlad eu genedigaeth, ond efe oedd yn blaenori tra cafodd ei rydd-did. Er ei fod wedi ei wneyd mor ddefnyddiol i laweroedd, eto yr oedd iddo wrthwynebwyr gelynol lawer. Wedi ei farw ef, ac i Mr. John Miles fyned i America, daeth tro yr Independiaid a'r Presbyteriaid i flaenori, er gwneyd daioni mawr i Gymru yn achos eu heneidiau anfarwol.

Y Presbyteriaid.

P. Mae'n debyg mai'r Bedyddwyr a'r Independiaid a ddechreuodd, yng Nghymru, neillduo oddiwrth Eglwys Loegr.

T. Ie, yn ddiameu, yn ol dim a ddeallais i. Ond yn raddol daeth yr Ymneillduwyr nad oedd dros fedydd y crediniol i gael eu galw yn Bresbyteriaid fwyaf oll, ac yn gyffredin; er fod rhai Independiaid yn y wlad fynychaf.

Y rhai mwyaf hynod.

P. Beth oedd enwau y rhai fu fwyaf hynod o'r gwyr da hyn yr amser hwnnw?

T. Nodwyd yn barod am Mr. Wroth a Mr. Cradock, gwyr enwog ac egniol y fuant hwy dros eu gwlad, ond mae'n debyg eu bod wedi marw cyn yr erledigaeth a ddechreuodd yn 1660. Y rhai mwyaf enwog trwy'r erledigaeth oedd Mr. S. Hughes, yr hwn a drowyd allan o eglwys Meidryn, yn sir Gaerfyrddin; Mr. Samuel Jones o Frynllywarch, yn sir Forganwg; Mr Rees Prydderch, ger llaw Llanddyfri, awdwr y llyfr a elwir "Gemau Doethineb"; a Mr. Marmaduke Matthews o Abertawe oedd wr enwog. Gwr o waedoliaeth y Cymry oedd Mr. Philip Henry. E daid, neu ei dad y cu, oedd Mr. Henry Williams yn byw mewn lle a elwir Briton Ferry, rhwng Abertawe a Chastellnedd, felly galwyd y mab John Henry, yn ôl arfer y Cymry. Ei fab yntef oedd Mr. Philip Henry, yr hwn a anwyd yn Llundain, ond trefnodd rhagluniaeth iddo ef fod yn y weinidogaeth mewn cwr o sir Fflint.[82] Bu ef a'i fab, Mr. Matthew Henry, yn ddefnyddiol iawn, ac yn wyr enwog yn sir y Mwythig, sir Gaerlleon, sir Fflint, sir Dinbych, &c. Ond yr wyf yn meddwl nad oedd un o'r ddau hyn yn deall Cymraeg. Mr. Hugh Owen a fu wr rhagorol yn sir Feirionydd a sir Drefaldwyn, &c. Gwr o waedoliaeth y Cymry hefyd oedd Dr. John Owen, yr hwn a fu mor rhagorol yn ei amser. Dywedir ei fod ef o deulu Llywelyn. ap Gwrgan, tywysog Morganwg. ond yng Ngwynedd yr oedd teulu'r Doctor yn byw. Ei dad, Mr. Henry Owen, ydoedd weinidog o Eglwys Loegr, ac a symudodd i fyw i sir Rhydychen.[83] Felly nid oedd Dr. Owen ddim yn deall Cymraeg, mae'n debyg. Ond y mae ysgrifeniadau neu lyfrau Dr. Owen a Mr. Matthew Henry wedi bod yn ddefnyddiol iawn trwy'r deyrnas a gwledydd ereill. Yr oedd amryw heblaw y rhai hyn o wyr duwiol yng Nghymru yn pregethu, ac yn dioddef yn yr erledigaeth, ond fy amcan i yn bennaf yw son ychydig am Mr. Stephen Hughes, yr hwn a enwyd gyntaf.

Beiblau.

P. Pa fodd yr oedd y Cymry am Feiblau yr amser blin hyn?

T. Llwm iawn oedd arnynt, fel y gwelwn yn llythyr Mr. S. Hughes yn nechreu llyfr y Ficar, yr hwn a argraffodd ef yn 1672. Trwy'r llythyr y mae fe'n cyflwyno'r llyfr i'r parchedig Ddr. William Thomas, Deon Caerwrangon, Mr. Hugh Edwards o Langadog, yn sir Gaerfyrddin, Mr. David Thomas o Fargam, Mr. Samuel Jones, o Langynwyd (sef Mr Samuel Jones o Frynllywa ch a enwyd uchod), a Mr. W. Lloyd[84] o St Petrox, sir Benfro, oll yn weinidogion. Yno y maen nodi fod y gwyr da hyn wedi bod yn gymwyna sgar iawn i'r Cymry yn achos eu heneidiau, a bod y wlad yu rhwymedig iddynt hwy, a boneddigion a gweinidogion ereill, am y cymhorth a roddasant iddo ef i argraffu y Testament Newydd y flwyddyn honno, a llyfrau Cymraeg ereill. Mae fe yno yn dangos ymhellach fod awydd yn llaweroedd o'r Cymry i brynnu Beiblau, ond nad oeddent i'w cael am arian. Mae fe'n dywedyd fod o gylch 50 o Feiblau Cymraeg yn Llundain y pryd hynny, (ac yn 1674, o gylch ugain[85] ) o herwydd paham y mae Mr. Hughes yn taer ddymuno ar y gwyr a enwyd i wneyd eu goreu i gael y Beibl wedi ei argraffu drachefn i'r Cymry. Mae fe yno yn prudd achwyn am y mawr wallau a fuasai wrth argraffu amryw lyfrau Cymraeg, o eisieu gofal a ffyddlondeb, ac heblaw hynny, beiau anafus ym Meiblau'r Llannoedd a'r Beiblau bychain, a'r Testament a argraffwyd yn 1647. Mae fe'n dangos amryw leoedd lle y gadawyd allan eiriau cyfain, ac amryw eiriau mewn rhai lleoedd. Amserwyd y llythyr hwn y 20 O Fawrth, 1671. Yn ei Ragymadrodd i'r llyfr hwnnw, mae Mr. Hughes yn nodi yr argreffid ar fyr, "Yr ymarfer o Dduwioldeb"; "Y Llwybr hyffordd i'r nefoedd"; "Agoriad byr ar weddi yr Arglwydd," &c.

Beibl 1678

P. A argraffwyd y Beibl yn ol ei ddymuniad ef?

T. Do, ac fe ddaeth allan yn 1678. Yr oedd Mr. S. Hughes yn un, os nid yn bennaf, yn gofalu am yr argraffwasg, a dywedir fod yr argraffiad hwnnw yn well nag un o'r blaen[86]

Thomas Gouge.

P. Pwy oedd yn cynorthwy i ddwyn y draul y tro hyn?

T. Yr oedd gwr da yn Llundain, yr hwn y fu garedig iawn i'r Cymry yr amser hynny, sef Mr. Thomas Gouge. Byddai yn dyfod yn fynych i Gymru ei hun. Yr oedd ei haelioni yn anghyffredin; cynorthwyai'r gweinidogion dan eu herledigaethau. Dywedir iddo osod tri neu bedwar cant o ysgolion fyny yn y wlad, a gofalu ei hun am dalu am ddysg cantoedd. Fe ofalodd yn bennaf, mae'n debyg, ond trwy gymorth erail hefyd, i ddwyn traul argraffiad y Beibl y tro hwnnw. Argraffwyd wyth mil o Feiblau, a rhoddwyd mil o hynny yn rhad i'r tlodion, a threfnwyd i'r lleill gael eu gwerthu am 4s. y llyfr. Mae hanes wedi ei gadw gan Dr. Calamy, o gyfrif haelioni Mr. Gouge i'r Cymry mewn un flwyddyn, neu yn hytrach naw mis, sef o 24 o Fehefin, 1674, i'r 25 o Fawrth, 1675, fel y canlyn:

1. Gosodwyd 812 o blant tlodion yn yr ysgol i ddysgu darllen Saesneg, mewn un ar ddeg a deugain o drefi pennaf Cymru, heb law ychwaneg na 500 a osodwyd mewn ysgol y flwyddyn ddiweddaf, trwy haelioni eraill.

2. Prynnwyd a chyfrannwyd 32 o Feiblau Cymraeg, yr hyn oedd y cwbl ag ellid gael yng Nghymru ac yn Llundain.

3. Rhoddwyd 240 o Destamentau Cymraeg i'r tlodion ag allent eu darllen.

4. Rhoddwyd 500 yn yr un modd o'r llyfr a elwir, "Holl Ddyledswydd Dyn."

Nodir yno i'r pethau hyn gynhyrfu eraill o'r Cymry, i osod y tlodion yn yr ysgol. Heblaw ei haelioni ei hun, yr oedd Mr. Gouge yn cymell llawer eraill i gynorthwyo'r Cymry.

P. Gwr rhagorol iawn oedd hwn i'r Cymry.

T. Ie, rhoddir ychwaneg o'i hanes a'i glod yn y llyfrau isod.[87]

P. Onid oedd pawb trwy Gymru yn parchu y gwr hwn, gan nad oedd yn terfynu ei haelioni i rai o'i farn ei hun, ond yn gwneyd daioni i bawb hyd y gallai?

T. Yr oedd Mr. Gouge am wneyd y daioni allai i eneidiau dynion, ac ni chlywais i lai nad oedd y Cymry, o bob barn, yn cael eu rhan o'i haelioni ef. Eto ynghylch ugain mlynedd wedi marw Mr. Gouge, mae gwr yn dangos ei anfoddlonrwydd i Dr. Tillotson am ganmol cymaint ar Mr. Gouge yn y bregeth a nodwyd, gan roi ar ddeall mai ffrwyth pennaf llafur y gwr da yng Nghymru oedd amlhau'r Presbyteriaid, y rhai nid oedd ond ychydig o honynt yn y wlad o'r blaen.[88] Mae hyn yn gymwys, fel yr oedd Dr. Calamy, am amser Mr. Vavasour Powel, mai troi'r dynion yn Ailfedyddwyr oedd yr amcan.[89] Nid da yw beio dynion defnyddiol fel hyn. Naturiol ddigon a rhesymol yw i ddynion y rhai a fyddo Duw yn eu mawr arddel, gael llawer o ganlynwyr; ac ond odid y maent hefyd yn cael llawer o elynion.

Stephen Hughes.

P. Mae'n debyg fod Mr. Hughes a Mr. Gouge yn ddefnyddiol iawn i ddwyn y Cymry i ddarllen, ac i gael llyfrau iddynt.

T. Dywedir i Mr. Hughes argraffu gerllaw ugain o lyfrau Cymraeg, a'r rhan fwyaf o honynt wedi eu cyfieithu o'r Saesneg.[90]. Yr oedd y ddau wr hyn yn dra haelionus eu hunain ac yn annog llawer ar ereill. Dywedir i Mr. Gouge farw yn 1681; ond i Mr. Hughes fyw i weled eisiau Beiblau drachefn, ac iddo barotoi tuag at gael argraffiad arall, ond iddo farw o gylch 1687, cyn gorffen y gwaith hwnnw.[91]

VIII. CYFNOD GODDEFIAD.
1688-1730.

David Jones, Llandysilio.

P. Beth a ddaeth o'r Beibl wedi marw Mr. Hughes?

T. Dywedir i Mr. David Jones, yr hwn a fwriasid allan o eglwys Llandyssilio yn nechreu'r erledigaeth, gymeryd gofal mawr a llafur i argraffu'r Beibl, ac iddo danu deng mil o honynt ar hyd y wlad. Argraffodd ef amryw ereill o lyfrau Cymraeg, a gwnaeth lawer o ddaioni, a chafodd gynorthwy i ddwyn y draul gan lawer o weinidogion ac ereill o Loegr, gan mwyaf o Lundain."[92]

Argraffiadau'r Beibl.

P. Pa flwyddyn y daeth yr argraffiad hwn allan?

T. Yn 1690.[93] Cyn hyn, ddwy neu dair blynedd, yr oedd rhydd-did wedi dyfod oddiwrth. yr erledigaeth, trwy ddyfodiad y brenin William fel y nodwyd. Felly mewn 60 mlynedd bu pedwar argraffiad o'r Beibl Cymraeg cyffredin i'r bobl, heblaw Beiblau mawrion yr eglwysi. Y cyntaf yn 1630; yr ail yn 1654; y trydydd yn 1678; a'r olaf yn 1690; heblaw'r Testament Newydd, yr hwn a argraffwyd amryw weithiau. Yn awr, hawdd yw gweled fod gweinidogion ac eraill o Eglwys Loegr wedi bod yn egniol iawn i ddwyn Gair Duw i'r Cymry, yn eu hiaith eu hunain; a rhoddi o honynt i'w cydwladwyr gyf ieithiad da a ffyddlon, a'i argraffu hefyd. Wedi hynny, i'r Independiaid a'r Bedyddwyr fod yn ddefnyddiol iawn i bregethu'r efengyl yn Gymraeg, ac i Dduw eu harddel yn neillduol er troedigaeth eneidiau; a hwy, mewn ystyriaeth, a ddechreuodd agoryd llygaid y Cymry i ystyried eu cyflwr ysbrydol; ond wedi hyn bu'r Presbyteriaid yn dra defnyddiol i ddwyn ein cydwladwyr i ddarllen Gair Duw. Independiaid a Bedyddwyr oedd yr Ymneillduwyr cyntaf o Gymru, ond yr wyf yn cyfri mai Presbyteriaid y gelwid Mr. Stephen Hughes, Mr. Thomas Gouge a Mr. David Jones.

Yr Ailfedyddwyr.

P. Mae llawer yn tybied mai dynion diweddar iawn yw y rhai a elwir Ailfedyddwyr.

T. Nid yw hynny ddim ond eisieu gwybod gwell.

P. Paham y mae un farn yn erlid y llall gymaint?

T. Eisiau mwy o wybodaeth o Iesu Grist, bywyd crefydd, a'u calonau eu hunain. Hwy a ddylent barchu eu gilydd, gweddio dros eu gilydd; ac ymdrechu bod yn ddefnyddiol yn eu dydd, fel y bu eu tadau gynt, dyna'r ffordd iddynt gytuno a harddu'r efengyl.

Yr Eglwys wedi Goddefiad.

P. Pa fodd y bu yn yr Eglwys wedi dyfod rhydd-did cydwybod?

T. Yr oedd proffeswyr crefydd yng Nghymru yn gyffredin yn ddwy ran, sef Eglwys Lloegr a'r Ymneillduwyr; a'r olaf yn ddwy drachefn, sef un o honynt dros fedydd plant, y rhai a elwir yn gyffredin, Presbyteriaid; a'r llall dros fedydd y crediniol; byddai Bedyddwyr plant yn galw y rhai'n Ailfedyddwyr, ond yr oeddent yn galw eu hunain Bedyddwyr.

Tafodau Dadleugar.

P. Pa fodd yr oedd y tair plaid hyn yn ymddwyn tuag at eu gilydd wedi cael rhydd-did cydwybod, i addoli Duw yn ol eu goleuni?

T. Nid gwych iawn, o ran tymherau eu ysbrydoedd, yn enwedig rhai o honynt; ond yr oedd rhai o bob barn yn well nag ereill. Ni bu dim erledigaethau mawr, ond byddai gormod o erledigaeth tafod, a dadlu.

Hereticiaid colledig.

P. Beth oedd y dadlau mwyaf rhyngddynt?

T. Ni byddai rhai o Eglwys Loegr yn cyfrif y sawl ni ddeuent i'r llan ond ychydig, neu ddim, well na. hereticiaid colledig; a rhai o'r Ymneillduwyr, o'r tu arall edrych yn ddigon cul arnynt hwythau. Ond goreu yw claddu'r pethau hyn mewn distawrwydd. Anwybodaeth a llygredigaeth oedd llawer o hono, o'r ddeutu. Bu dadlu hefyd am fedydd, a bu dadlu hefyd am athrawiaethau. Ymhlith yr Ymneillduwyr yr oedd y ddau ddadl diweddaf, gan mwyaf. Yr oedd Eglwys Loegr yn gadael y pethau hyn yn llonydd yn y cyffredin.

Dwy Ganrif.

P. Yr oedd y Cymry erbyn diwedd yr oes ddiweddaf wedi diwygio llawer, a rhan fawr o honynt yn gallu darllen, a chanddynt lawer o Feiblau a llyfrau da ereill.[94] A oedd tai cyrddau eto gan yr Ymneillduwyr?

T. Nid oes ond ychydig iawn yng Nghymru yn deall nac yn gwybod y gwahaniaeth mawr yn achos crefydd ymhlith ein tadau rhwng y flwyddyn 1600, a'r flwyddyn 1700; er fod blinder mawr ac erledigaeth yn y wlad yn y can mlynedd hynny, eto, yr oes oreu ydoedd ag a welasai y Cymry ys mwy na mil o flynyddau o'r blaen.

Codi capelydd.

P. Tybiais fod llawer yn cyfrif yr oes ddiweddaf yn ofidus iawn.

P. Felly yr oedd, a'i chymharu a'r amser wedi 1700, ond nid a'i chymharu a'r oesoedd o'r blaen. Am dai cyrddau, nid oedd ond ychydig, os oedd un, yng Nghymru cyn dyfod y rhydd-did yn 1688. Byddent o'r blaen yn cyfarfod mewn tai annedd, a lle gallent; ond wedi hynny dechreuwyd adeiladu tai addoliad, eithr wedi 1700 yr adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai cyrddau trwy Gymru.

Sior y Cyntaf.

P. A fu dim son am gyfyngu y rhydd-did wedi 1688.

T. Byddai son a bygwth gan ddrwg ewyllyswyr ar brydiau, ond yr argoel mwyaf cymylog a fu yn 1714. Yr oeddid yn bygwth yr Ymneillduwyr yn chwerw yr amser hynny. Ond rhagflaenodd Duw hynny, yn ei fawr drugaredd, trwy farwolaeth y frenhines Ann, a dyfodiad George y cyntaf i'r deyrn-gadair. Cafwyd llonydd rhagorol o'r pryd hwnnw hyd heddyw.

Moses Williams.

P. Pa bryd yr argraffwyd y Beibl nesaf yn yr oes hon, sef wedi 1700?

T. Ar fyrr wedi dyfodiad y brenin George, aeth gwr cymwynasgar o Eglwys Loegr ynghyd a'r Beibl i'w barotoi tuag at ei argraffu drachefn, sef Mr. Moses Williams, Ficar y Ddyfynnog, yn sir Frecheiniog, gwr dysgedig ydoedd, ac yn deall Cymraeg yn dda.

P. Beth a wnaeth ef o barotoad ar y Beibl i'w argraffu?

Beibl Moses Williams.

T. Yr oedd y Beibl o'r blaen wedi ei argraffu gan mwyaf trwy ofal yr Ynineillduwyr, oddieithr y rhai oedd i'r llannoedd; gan hynny nid oedd ynddynt ond Gair Duw, ystyr y bennod, ysgrythyrau ac agoriad ambell air ar ymyl y ddalen, a'r Psalmau cân. Ond darfu i'r gwr hwn o Eglwys Loegr roi oes y byd ar ben y ddalen, dosbarthu y Psalmau yn foreuol a phrydnhawnol weddi, a'r amser priodol i ddarllen amryw rannau, yn ol trefn gwasanaeth Eglwys Loegr, yr oedd y Llyfr Gweddi Gyffredin yno a Chanonau Eglwys Loegr. Yr oedd yr Apocrypha yn yr argraffiad hwn hefyd; a mynegai'r Beibl, amryw dablau, hymnau a gweddiau yn y diwedd: a diwygiad ysbeliad yr iaith hefyd.

Mynegai'r Beibl.

P. Pa le y cafwyd mynegai'r Beibl?

T. Dywedir mai Archesgob Usher a'i casglodd ynghyd o hanesion eraill, ac i'r Esgob Lloyd, yr hwn a enwyd o'r blaen, dalfyrru hwnnw a'i drefnu er mwyn ei roi yn y Beibl Saesneg, ac iddo gael ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Mr. S. Williams.[95] Mae hefyd yn y Beibl hwn ychwaneg o ysgrythyrau ar ymyl y ddalen. O herwydd y pethau hyn gelwid ef yn gyffredin "Beibl Moses Williams."

S. P. C. K.

P. Pa bryd, a pha fodd y dygwyd hwn trwy'r argraffwasg?

T. Mae cymdeithas o wyr cyfoethogion a haelionus yn Llundain dan yr enw isod.[96] Mae'n debyg mai ar eu traul hwy yn bennaf y bu'r argraffiad hwn, a ddaeth allan yn 1718,[97] a Mr. Morris Williams yn gofalu am yr argraffwasg.

Cofrestr Moses Williams.

P A fu Mr. Morris Williams yn ddefnyddiol i Gymru heb law hyn?

T. Nodwyd yn barod y gwaith mawr a gymerodd ef i gasglu ac argraffu y "Gofrestr," am yr hon y soniwyd mor fynych o'r blaen. Wrth ddarllen y Gofrestr honno yr wyf yn rhyfeddu gynnifer o lyfrau Cymraeg a argraffwyd o ddechreu 1700 hyd ddiwedd 1716. Mae hanes yno am ynghylch 60 o lyfrau, yn hynny o amser, a llawer o honynt wedi eu cyfieithu o'r Saesneg. Cyfieithodd Mr. Moses Williams 4 neu 5 llyfr.

Y Cyfieithwyr, Iago ab Dewi.

Cyfieithodd Mr. Sam. Williams, person Llangynllo, yn sir Aberteifi, rai llyfrau; Mr. Thomas Williams, eglwyswr, Dinbych, oedd gyfieithwr arall. Heb law y gwyr hyn ac amryw eraill, yr oedd cyfieithwr hynod yr amser hynny, yr hwn a elwid Iago ab Dewi. Clywais air da iddo yn y gwaith hynny; ond ni wn i pwy ydoedd, na pha le yr oedd yn byw; nid yw'r Gofrestr yn rhoi dim. o'i hanes, ond cyfieithodd ef amryw lyfrau da. Nodir yno i dri ar ddeg o wahanol lyfrau gael eu hargraffu yn y flwyddyn 1716. Odid nad rhai bychain oeddent gan mwyaf.

P. Pa flwyddyn yr argraffwyd y Beibl nesaf?

T. Yn 1727. Ond yr oedd hwn heb nag ystyr y bennod, na'r ysgrythyrau ar ymyl y ddalen: am hynny nid oedd ein cydwladwyr foddlon iddo, gan eu bod wedi ymarferyd a'r pethau hyn o'r dechreuad.

IX. CYFNOD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.
1730-1777.

Cymru tua 1730.

P. Pa wyneb oedd ar grefydd yng Nghymru yr amser hyn?

T. Yr oedd trwy'r wlad lawer o wybodaeth, a llawer o wyr duwiol, ond yr oedd llawer iawn o anwybodaeth hefyd, llawer eto heb fedru darllen, a llawer o hen chwedlau pabaidd ymhlith yr hen bobl. Yr wyf i'n cofio yn ddigon da y geiriau canlynol a'u cyffelyb,—"Croes Duw," "Duw a Mair," &c. Yr oedd y cyfryw rai ag oedd yn arfer yr ymadroddion hyn yn galw eu hunain yn Eglwys Loegr yn gyffredin, ac yr oedd llawer iawn o honynt trwy Gymru a'r ieuenctyd yn canlyn dawnsio, wylnosa, a llawer o gampau a drygioni.

Griffith Jones, Llanddowror.

P. A oedd neb gwyr enwog am dduwioldeb yr amser hyn o Eglwys Loegr, ymhlith y Cymry, canys y mae yn debyg mai yno yr oedd yr anwybodaeth mwyaf?

T. Diau mai yno'r oedd yr anwybodaeth mwyaf, ac yn ganlynol anuwioldeb, tyngu, rhegu, &c. Y gwr mwyaf hynod am dduwioldeb, ar wn i, yn Eglwys Loegr yr amser hynny yng Nghymru, oedd y parchedig Mr. Griffith Jones o Landdowrwr yn sir Gaerfyrddin. Byddai ef yn pregethu yn y llannoedd ar hyd y wlad ar brydiau, a byddai lluoedd yn ei wrando yn gyffredin. Heb law ei weinidogaeth, bu ef yn ddefnyddiol iawn i'r Cymry. Trwy gynorthwy ei gymydoges urddasol, Madam Beavan, ac amryw o rai haelionus eraill, darfu i Mr. Griffith Jones osod fyny ysgolion Cymraeg trwy'r wlad, er mwyn i'r tlodion gael odfa i ddysgu darllen iaith eu mamau.

Yr Ysgolion Cylchynol.

P. Pa bryd y dechreuwyd yr ysgolion elusengar hyn?

T. Tybygol mai o gylch 1737.[98] Dywed Dr. Llewelyn, yn y lle a nodwyd olaf, o'i lyfr a enwir isod, i uwch law un ugain ar ddeg o flloedd o ddynion gael eu dysgu yn yr ysgolion hynny, mae'n debyg cyn 1768; canys yr oeddent yn cael eu cadw yn y blaen wedi marw Mr. Jones, fel y nodir yno.

Bu farw y gwr enwog hwn yn 1761. Mae Mr. W. Williams, yn ei farwnad am dano, yn ei alw yn seren oleu, ac yn dywedyd,—" Hon ei hunan a ddisgleiriodd."[99] Nodir yno am yr ysgolion, eu bod uwch law tair mil o rifedi, ac uwch law chwech ugain mil o ysgolheigion wedi bod ynddynt. Wrth yr hanes uchod, yr oedd o gylch can mil yn ychwaneg wedi bod yn yr ysgolion o 1761 hyd 1768.

Diwygiad tua 1736.

P. Mae rhai yn son am ddiwygiad mawr yng Nghymru o gylch 1736; tybygol mai amgylch yr amser hynny y dechreuwyd yr ysgolion.

Mae son am ddiwygiad yng Nghymru a Lloegr yn yr amser hynny; ond y mae rhai yn ei ddyrchafu ormod, a rhai yn ei ddiystyrru ormod.

Dyrchafu gormod.

P. Pwy sydd yn ei ddyrchafu ormod?

T. Y rhai sydd yn meddwl nad oedd fawr neu ddim crefydd o'r blaen ymhlith y Cymry. Os dewisant farnu mai Mr. Griffith Jones ei hunan oedd yn wir grefyddol yn Eglwys Loegr; eto yr oedd llawer o wenidogion, ac eraill o ddynion duwiol enwog yng Nghymru, o'r Bedyddwyr ac Ymneillduwyr eraill, gant o flynyddau cyn hynny, rai o honynt, ac wedi bod yn orchestol iawn a defnyddiol. Yr oedd amryw o wyr rhagorol yn eu plith o gylch 1736, ac eraill wedi meirw yn ddiweddar.

Diystyrru gormod.

P. Pwy ydyw y rhai sydd yn diystyrru'r diwygiad hwn ormod?

T. Rhai nad ydynt yn edrych arno ddim ond rhyw benboethder ac anrhefn. Felly mae'r naill yn edrych arno yn rhy berffaith, a'r llall megis dim, neu waeth na hynny.

Barn yr Awdwr.

P. Beth ydych chwi yn feddwl yw'r gwirionedd?

T. Yr wyf yn meddwl i ddiwygiad mawr dorri allan yn Eglwys Loegr o gylch 1736, a dechreu cyn hynny yn Lloegr a Chymru; ond am yr olaf yr wyf fi yn son yn fwyaf neillduol.[100]

Howel Harris.

P. Pa fodd y dechreuodd ef yr amser hynny, heb law yr hyn oedd o'r blaen?

T. Nid sicr iawn wyf fi o ran y flwyddyn, ond o gylch y blynyddau hynny, dechreuodd Mr. Howell Harris fyned allan yn sir Frecheiniog, i gynghori'r cymydogion yn achos eu heneidiau, efe a gynhyddodd mewn dawn a deall, ac aeth allan i siroedd ereill. Yr oedd llawer iawn o ieuenctyd Cymru, ac eraill, yn gwbl ddigrefydd, yn arfer cyfarfod i ddawnsio, meddwi, a difyrru eu hunain, a'u gilydd, â rhyw ddrygioni. Yr oedd y cyfryw rai gan mwyaf oll yn cyfrif eu hunain o Eglwys Loegr. Pan ddaeth Mr. Harris o gylch y wlad, taranu yn ofnadwy yr oedd yn erbyn tyngwyr, rhegwyr, meddwon, ymladdwyr, celwyddwyr, torwyr y Sabboth, a gwrychioni tân uffern, mewn ystyriaeth, yn eu plith. Byddai ef yn cynghori mewn tai, ac yn y meusydd, ni fyddai waeth ganddo ef pa le, os cai bobl i wrando; fel y buasai Mr. Walter Cradock, Mr. Vavasour Powel, ac eraill ar hyd Cymru, o gylch can mlynedd o'r blaen. Ond yr oedd hyn yn beth newydd iawn yn ein dyddiau ni; gan hynny casglodd llawer iawn i wrando; ac o gylch yr

Daniel Rowland.

un amser, neu yn fuan wedyn dechreuodd Mr. Daniel Rowland, gweinidog o Eglwys Loegr yn sir Aberteifi, bregethu mewn ffordd anghyffredin iawn yn Eglwys Loegr. Yr wyf yn cofio i mi ei glywed o gylch 1737, yn sir Gaerfyrddin. Yr oedd yno liaws yn gwrando, ac mi glywais rai o'r Ymneillduwyr yn son am y bregeth wrth ddychwelyd adref; yr wyf yn cofio mai rhan o'r ymadrodd oedd hyn, "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr ond Mr. Griffith Jones.

Williams Pantycelyn, Peter Williams, Howel Davies.

Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni ymhlith pobl yr Eglwys." Ar fyrr daeth allan Mr. William Williams a Mr. Peter Williams, yn sir Gaerfyrddin, a Mr. Howel Davies, yn sir Benfro y rhai hyn oll yn weinidogion Eglwys Loegr, ac amryw ereill o honynt ar hyd Cymru. Yr oedd Mr. Harris o'r Eglwys honno, ond nid wedi cael ei ddwyn i fynu i'r weinidogaeth. Felly Cynghorwr yr oeddid yn ei alw ef. Aethant yn y blaen trwy'r holl wlad, a chododd llawer iawn o gynghorwyr o amryw raddau, sef rhai yn fwy enwog, ac eraill yn llefaru ychydig wrth angen, felly cynhyrfwyd y wlad. Gadawodd y bobl eu difyrrwch pechadurus, a dechreusant son am grefydd, ac ymgasglu ynghyd yn gymdeithasau crefyddol. Felly bu diwygiad mawr yn y wlad. O hynny hyd yn hyn, mae gwybodaeth o Dduw wedi ymdaenu yn rhyfedd trwy Gymru, canys yr oedd lluoedd o'r bobl o'r blaen, nad oeddent yn myned yn agos i dŷ cwrdd, nag ond anfynych i un eglwys; eto aent i wrando fel hyn. i'r teiau, a'r prif ffyrdd, a'r caeau.

Erlid a barnu'n galed.

P. A oeddent ddim yn cael eu herlid am y pethau hyn?

T. Yr oedd llawer o erlid tafod arnynt, ac ar brydiau byddent yn cael eu mawr amharchu. Nid oedd disgwyl eu bod hwythau yn rhydd oddiwrth amherffeithrwydd amryw ffyrdd. Ond fy niben i yw rhoi eu hanes yn gyffredin. Mi ddymunwn pe baent yn ysgrifennu eu hanes eu hunain, yn fyrr, ac eto yn lled neillduol, mewn ysbryd addfwyn a chariadus. Hyn a fu un gwendid yn eu plith o'u dechreu yn agos, sef barnu yn galed iawn ar bawb ond eu hunain. Parodd hyn i lawer ddywedyd yn waeth am danynt hwy; eithr y mae yn eu plith lawer o ddynion duwiol addfwyn. Felly ar y cyfan, diwygiad yn ddiau a fu, er fod rhai yn y wlad yn ei alw yn ddirywiad. Eto, sicr yw, fod eisiau ychwaneg o ddiwygiad yn eu plith hwy ac ereill. "Methodists."

P. A oes un enw neillduol ar y Diwygwyr diweddar hyn?

T. Oes, eu henw cyffredin yw "Methodists." Dywedir i'r gair hwn ddechreu yn Rhydychen, lle y dechreuodd y diwygiad, ac i'r bobl yno alw yr ymofyniad newydd yma am grefydd, "New Method," hynny yw, dull neu ffordd newydd. Ac oddiar hyn tanodd yr enw "Methodist" trwy Loegr a Chymru.

Beth ydynt?

P. Pa un ai Eglwys Loegr ydynt neu Ymneillduwyr?

T. Nid hawdd yw ateb hyn. Nid ydynt yn hollol o'r eglwys honno, nac eto yn cwbl neillduo. Mae rhai o honynt yn canlyn holl ddefodau Eglwys Loegr, a rhai yn addoli fel yr Ymneillduwyr. Maent wedi adeiladu llawer o dai cyrddau ar hyd Cymru. Nid wyf fi yn dewis dywedyd dim ychwaneg am danynt. Os dywedais un peth allan o le, o gamsynied y bu, ac nid o fwriad na diben; canys ni fynnwn roi drygair i neb ag sydd am ganlyn Crist yn ffyddlon. Mae rhai yn canmol y Methodists ormod, a rhai yn eu cablu ormod.[101]

Prinder Beiblau.

P. Pa fodd yr oedd y wlad am Feiblau yr amser hyn?

T. Daeth prinder mawr yn fuan, canys o gylch 1741, gorfyddai rhoi ugain swllt am Feibl, ac yn fynych ni ellid cael un am arian. Yn 1746, daeth allan argraffiad helaeth o'r Beibl,[102] ond gan fod yr ysgolion Cymraeg yn ymdanu dan ofal Mr. Griffith Jones, a phregethiad yr efengyl gymaint gan y Methodist ac eraill, darfu'r argraffiad hwnnw yn fuan iawn; gan hynny daeth y Beibl allan drachefn yn 1752. Yr oedd yn y ddau argraffiad ddeng mil ar hugain o Feiblau. Dywedir i'r Gymdeithas haelionus a enwyd yn Llundain roddi tuag atynt chwe mil o bunnau trwy gynorthwy haelioni eraill mewn gwlad a thref. Daeth y ddau argraffiad hyn allan dan Richard Morris.

ofal Mr. Richard Morris, gwr bonheddig o Gymru, sydd yn byw yn Llundain. Gwr deallus a hyfforddus iawn ydyw yn iaith а hanesion Cymru.[103] Yr oedd Mr. Griffith Jones yn annogaethol iawn yn y ddau argaffiad hyn, ac i gyfrannu y Beiblau ar hyd y wlad. Darfu hefyd i'r

Dr. Joseph Stennett.

diweddar Dr. Joseph Stennett roi cynorthwy tuag at yr argraffiad yn 1746, er mwyn i'r Bedyddwyr gael rhai o honynt, canys yr oeddent mewn mawr ddiffyg. Rhoddes ef hefyd Feiblau i'r tai cyrddau yn gyffredin ymhlith y Bedyddwyr trwy Gymru, ac enw'r tŷ cwrdd mewn llythrennau euraidd ar glawr y Beibl a berthynai i'r lle. Mae amryw o honynt eto yn y wlad.[104]

Beibl Gymdeithas Llundain.

P. Oni argraffwyd y Beibl wedi hynny?

T. Do; daeth argraffiad helaeth allan yn 1769. Ar draul y Gymdeithas urddasol a enwyd, yn Llundain, y bu hyn gan mwyaf. Eu bwriad pennaf hwy oedd cyflawni diffygion Eglwys Loegr. Ond yma darfu i'n cydwladwr caredig, Dr. T. Llewelyn, afaelu mewn odfa i wneyd cymwynas i'r Cymry. Wedi iddo ymddiddan â rhai o'r gwyr boneddigion, cafodd gan y Gymdeithas fod mor fwyn ag argraffu rhai miloedd yn ychwaneg na'u hamcan ar y cyntaf, er mwyn cyflawni diffygion yr Ymneillduwyr hefyd. Felly yr oedd yr argraffiad ynghylch 2,000 o lyfrau.[105]

Beibl Peter Williams, 1770.

Trwy annogaeth Dr. Llewelyn, cynorthwyodd amryw eraill yn yr argraffiad hwn.[106] Ar yr un amser yr oedd y Beibl Cymraeg yn cael ei argraffu yng Nghaerfyrddin, ac esboniad, neu sylwadau byr ar bob pennod, gan Mr. Peter Williams, gweinidog o Eglwys Loegr, yr hwn a enwyd yn barod. Daeth hwn allan yn 1770. Yr ydys yn barnu mai hwn oedd yr esboniad Cymraeg cyntaf ag amcanwyd ar yr Ysgrythyr, erioed. A sicr yw mai hwn yw'r Beibl Cymraeg cyntaf a argraffwyd erioed yng Nghymru. Bu Mr. Peter Williams ofalus ac egniol iawn i ddwyn y gorchwyl trwm hwn i ben. Argraffodd wyth mil o honynt, ac erbyn rhwymo'r llyfr yr oedd yn sefyll ger llaw punt i'r prynwr, bob ffordd, ac eto mae newid fawr arno. Trugaredd fawr oedd i'r un gwr gael bywyd, iechyd, a rhwyddineb i weled y gwaith wedi ei orffen. Gan fod y llyfr mor gyffredin trwy'r wlad, nid oes achos nodi mor gyflawn ydyw bob ffordd. Rhoddes Richard Morris, Esq., yr hwn a fu mor ddefnyddiol, yn gofalu am yr argraffwasg yn y 1746 a 1752, ddau fap i harddu Beibl Mr. Peter Williams. Felly trwy fawr ddaioni Duw mae Cymru yn llawnach o air yr Arglwydd er 1770 nag y bu erioed o'r blaen. Ni bu gyffelyb y fath gyflawnder o'r Ysgrythyr ymhlith y Cymry er dechreu'r byd." [107]

Beibl yr Eglwys Brydeinig.

P. Pa fodd y gwyddoch nad oedd mor gyflawn yn yr oesoedd cyntaf cyn dyfod yr erledigaeth, a chyn dyfod y Saeson i'r wlad.

T. Hawdd iawn yw casglu nad allai fod mor gyflawn yr amser hynny, canys nid oedd ond ysgrifenlaw i'w gael, ac ni wyddom ni pa hyd y buont heb gael y Beibl yn ysgrifenedig yn Gymraeg, canys er fod llawer o'r Cymry mor gynnar yn Grisnogion, eto yr oedd llawer o honynt yn parhau yn baganiaid hyd nes bedyddio y brenin Lles ab Coel o gylch y flwyddyn 160, medd rhai, neu 180 medd eraill, pa fodd bynnag y bu wedyn. Dywedir fod yr enwog Beda, yn un o groniclau Lloegr, yn dangos fod yr Hen Destament a'r Newydd gan y Brutaniaid yn amser y brenin hwnw[108] Dywedir hefyd i'n cydwladwr urddasol, Cystenyn Fawr, beri ysgrifennu'r Beibl a'i ddanfon i bob teyrnas o'i ymerodraeth, ac odid nad oedd yn gofalu am wlad ei enedigaeth.[109] Ond er hyn oll odid fod yn yr holl ynys y pryd hynny un Beibl am ddeg mil ac sydd yn awr ymhlith y cyffredin bobl yng Nghymru yn unig.[110]

Hanes Argraffu.

P. Ai peth diweddar gan hynny yw argraffu?

T. Ie, diweddar iawn. O gylch 1450 yr argraffwyd y llyfr cyntaf yn y byd, meddant, yn Germany. Danfonodd Harry'r Chweched, yr hwn oedd frenin yn Lloegr yr amser hynny, wyr dros y môr i ddysgu preintio, ac yn ôl y flwyddyn 1460[111] y dechreuwyd argraffu yn Lloegr. Mor fawr a fu'r fendith hynny i'r wlad hon! Gymry! Cymry! ystyriwch eich breintiau presennol!

Cydgordiad y Beibl.

P. Pa fodd y bu y Cymry o ran Cydgordiad[112] i'r Beibl Cymraeg?

T. Yr wyf fi yn meddwl nad oedd un Cymraeg yn y byd dros gan' mlynedd wedi iddynt gael y Beibl yn gyffredin yn y wlad, sef hyd 1730.

P. Pa fodd y cawsant un yr amser hynny? T. Trwy lafur a mawr ofal un o'r Bedyddwyr, sef Mr. Abel Morgan. Mae hanes yng Nhofrestr Mr. Moses Williams am lyfr a elwid "Cordiad yr Ysgrythyrau," a argraffwyd yn 1653. Mae'n bosibl mai Cydgordiad oedd hwnnw. Llyfr bychan ydoedd. Wedi dyfod allan Feibl Caerfyrddin yn 1770, darfu i Mr. Peter Williams ddechreu ar Gydgordiad, yr hwn a eilw ef "Mynegydd Ysgrythyrol." Felly daeth hwnnw. allan yn 1773. Yn hyn hefyd y mae Cymry wedi eu cyfoethogi ymhell tu hwnt i'r tadau gynt.


VI

X. CYMRU YN 1777.

P. A ydyw'r Cymry yn gyffredin yn gariadus tuag at eu gilydd?

T. Dymunol iawn pe byddent yn well nag y maent; ond y maent lawer yn well nag y buant.

P. Onid yw'r naill yn arfer dirmygu'r llall, a'u llysenwi ac felly difrio eu gilydd? Byddai dda gennyf i chwi ddangos dechreu ac ystyr y gwahanol enwau cyffredin yn y wlad, ac mewn rhai llyfrau.

Crefyddwyr 1777

T. Mi amcanaf wneyd hynny cyn rhoi fyny

1 PROTESTANIAID; dywedais yr achos o'r enw, ac ystyr y gair, dechreuwyd ef o gylch 1530, neu flwyddyn neu ddwy yn gynt, medd rhai. Protestaniaid yw Eglwys Loegr a'r Ymneillduwyr oll.

EGLWYS LOEGR; dechreuwyd a sefydlwyd hi trwy gyfraith y tir, o gylch 1534, fel y nodwyd. Cyfrifwyd Cymru yn yr Eglwys hon, am ei bod y pryd hynny dan yr un gyfraith a Lloegr, ond bu llawer iawn o'r Cymry yn Babtistiaid yn hir amser wedi hynny.

3. PURITANIAID; enw o ddirmyg oedd hwn, a roddai Eglwys Loegr ar y rhai na allent gytuno a'i defodau mewn addoliad. Mynnai llawer yn y wlad i'r trigolion yn gyffredin fod yn burach yn eu haddoliad oddiwrth Babyddiaeth; ac yn fwy yn ol y Gair; am hynny mewn ffordd o wawd, galwyd y rheini, Puritaniaid neu Purwyr. Yr oedd y Bedyddwyr, y Presbyteriaid, a'r Independiaid, yn myned dan yr enw hwn fel eu gilydd, yn amser y Frenhines Elizabeth ac yn y blaen.

4. YMNEILLDUWYR; yr un pobl oedd ac ydyw y rhai hyn a'r Puritaniaid. ond bod yr olaf yn ddifenwad: a'r llall, yr enw oeddent yn roddi arnynt eu hunain. Mae rhai dynion anwybodus nad ydynt ddim fodlon cyfrif y Bedyddwyr yn Ymneillduwyr neu Dissenters; ac felly y mae rhai anwybodus yn Eglwys Loegr yn anfodlon cyfrif neb o'r Ymneillduwyr yn Brotestaniaid. Ystyr y gair Ymneillduwr yw, eu bod yn neillduo neu yn gwahanu yn eu barn oddiwrth Eglwys Loegr mewn addoliad.

5. PRESBYTERIAID; ystyr y gair yw Henuriaeth, 1 Tim. iv. 14. Wedi hir ddioddef erledigaeth, darfu i rai o'r Ymneillduwyr ymgorffoli yn eglwysi yn ol y Gair, yn oreu ag y gallent gytuno. Ond nid oeddent oll o'r un farn. Yr oedd y Presbyteriaid yn barnu y dylai yr eglwysi gael eu llywodraethu gan yr henuriaid, sef y gweinidogion, ac y gallai amryw henuriaid. ymgynghori a'u gilydd pa fodd i lywodraethu eu heglwysi.

6. INDEPENDIAID; ystyr y gair yw, un yn sefyll arno ei hun, a'i ddiben yma yw hyn. Mae'r bobl hyn yn barnu, fod gan Eglwys awdurdod ynddi ei hun yn ol y Gair, i wneyd yn eu plith eu hunain yr hyn oll a berthyn iddynt fel eglwys; ac nad oes gan un gweinidog arall ddim i wneyd a hwy fel Eglwys. Felly darfu iddynt hwy ymneillduo oddiwrth y Presbyteriaid o gylch 1616. Yr oedd y Bedyddwyr gan mwyaf o'r un farn a'r Independiaid, ac felly yn yr un cymundeb ar y cyntaf, ond yr oeddent yn gwahanu mewn Bedydd.

T. BEDYDDWYR; ystyr y gair yw, rhai yn bedyddio, neu yn arddel Bedydd. Mae rhai yn eu galw Ailfedyddwyr.

P. Pa un o'r ddau enw sydd gywir?

T. Am y rhai sy'n barnu yn eu cydwybodau, fod taenelliad babanod yn wir Fedydd ysgrythyrol, rhaid fy mod i yn Ailfedyddiwr, yn eu barn hwy; canys fe'm taenellwyd yn faban, ac mi a fedyddiwyd mewn oedran. Ond er hyn, nid wyf fi'n barnu i mi gael fy medyddio ond un waith; gan hynny, yr wyf yn cyfrif mai llysenw yw Ailfedydd.

P. Onid yw eich galw chwi yn Fedyddwyr yn cyfrif y lleill yn ddifedydd oll?

T. Mae felly, a hawdd yw deall fy mod i yn meddwl hynny. Pe bawn i yn credu fod eu bedydd hwy yn iawn, mi a fyddwn Ailfedyddiwr yn fy marn fy hun a thrwy ymarferiad. Ond nid wyf ddim yn meddwl fod eraill yn cyfrif eu hunain yn ddifedydd.

P. Pa fodd y gellir galw dynion, mewn ffordd o wahaniaeth yn ddidramgwydd?

T. Yr wyf fi yn galw fy mrodyr a'm cymydogion o wahanol farn, Bedyddwyr Plant, er peidio a'u tramgwyddo; ac am fy mod yn barnu eu bod hwy yn meddwl fod taenelliad yn fedydd, er nad wyf fi yn credu ei fod felly. Minnau a fynnwn iddynt hwythau ein galw ni Bedyddwyr, am ein bod ni yn credu felly; neu ynteu galwent ni Bedyddwyr y crediniol; gallant fod yn ddigon rhydd i hynny, a chadw Bedydd plant hefyd. Ond os dewis neb ein galw Ailfedyddwyr, ac na orwedd un gair arall mor esmwyth ar eu tafod, elent yn y blaen; os niwed sydd ynddo, iddynt hwy y mae, yn fwy nag i ni. Eto, ystyrient, fod gennym yn gwbl yr un sylfaen i'w galw hwy yn ddifedydd. Ond dylem oll ymddwyn, hyd y gallom, yn ddiachos tramgwydd.

Beiblau ac Eglwysi 1777.

P. Bydd da gennyf os rhoddwch eich meddwl am gyflwr Cymru yn awr.

T. Mi nodais yn barod, fod gair Duw yn y wlad er 1769 a 1770, yn amlach o lawer nag y bu erioed o'r blaen ymhlith y Cymry. Yr wyf yn hollol feddwl na bu erioed ymhlith ein cenedl ni gynifer o bobl dduwiol o Eglwys Loegr, weinidogion ac eraill, er pan y dechreuwyd hi o gylch 1534. Ni bu ymhlith y Cymry gynifer o eglwysi o Fedyddwyr ys mil o flynyddau, beth bynnag oedd o'r blaen. Yr wyf fi yn meddwl hefyd fod Ymneillduwyr eraill mor amled, neu yn amlach nag erioed yn y wlad, er eu bod wedi mawr leihau ys 60 mlynedd ar gyffiniau Lloegr. Mae ganddynt hwy aelodau a thai cyrddau yn y tair sir ar ddeg o Gymru. Mae rhai siroedd heb ddim Bedyddwyr ynddynt wedi ymgorffoli yn eglwysi, er fod eu gweinidogion, yn ddiweddar, yn pregethu ar brydiau yn y siroedd hynny.

Gwybodaeth a moesoldeb.

Yr wyf yn meddwl hefyd na bu erioed, ymhlith y Cymry yn gyffredin, gymaint gwybodaeth o Dduw, a chymaint o foesoldeb yn eu plith; er fod gormod eto yn parhau o anfoesoldeb. Yr wyf yn barnu eu bod yn deall mwy o Saesnaeg yn y wlad nag erioed; eto mae'r Gymraeg wedi diwygio llawer arni wedi 1700, a llawer o lyfrau wedi eu hargraffu yng Nghymru, o bryd i'r llall: ac yn ddiweddar mae argraffwasg da yng Nghaerfyrddin, a rhai mewn amryw leoedd eraill yng Nghymru. Yr wyf fi'n tybied fod llai o ragfarn rhwng gwahanol bobl nag a fu ys cannoedd o flynyddau. Er nad yw yr Ymneillduwyr yn pregethu yn y llannoedd, eto maent yn myned yno i wrando yn fynych; a rhai o weinidogion Eglwys Loegr yn pregethu yn y Tai Cyrddau. Cywiro Peter Williams.

P. Dywedasoch i'r Cymry dderbyn Pabyddiaeth yn hollol yn y flwyddyn 763. Ond y mae Mr. Peter Williams yn ei lythyr o flaen y Beibl, a argraffwyd yng Nghaerfyrddin, yn dywedyd i wir grefydd gael ei maentumio gan y Cymry hyd 1115, ac nad ymostyngasant i'r Pab hyd y flwyddyn honno. Pa fodd y cydsaif y pethau hyn?

T. Nid wyf fi yn ameu na ddarfu i Mr. Peter Williams ddarllen, neu glywed, nen gasglu felly. Ni wn i am un ffordd arall i farnu am yr amseroedd gynt. Nid yw Mr. Williams ddim yn dywedyd ar ba awdurdod y mae'n seilio yr hyn sydd yn ei lythyr. Mae Mr. Thomas Williams, ein cydwladwr, yn dywedyd i Cadwalader Fendigaid, brenin diweddaf y Cymry, fyned i Rufain er mwyn byw yn grefyddol, a marw yno.[113] Mae Caradoc o Lancarfan, neu un o'i ddiwygwyr, yn cytuno â hyn, o ran y sylwedd; ac yn dywedyd i Cadwalader gael ei dderbyn yn garedig gan y Pab, ac wedi byw yno wyth mlynedd, iddo farw yno yn 688[114] . Wrth hyn ymddengys fod yr hen Gymry yn gyfeillgar ag Eglwys Rufain cyn y flwyddyn 700. Cymerodd Mr. Theophilus Evans lawer o boen a gofal i chwilio hanesion y Brutaniaid, fel y noda yn ei lythyr o flaen ail argraffiad "Drych y Prif Oesoedd." Mae fe yno yn dywedyd i Babyddiaeth ennill ar ein cydwladwyr, of fesur cam a cham, ac o'r diwedd iddynt lyncu y llyffant yn lân yn 763.[115] Mae fe yn nodi ei fod wedi cael yr hanes o waith Mr. Humphrey Lloyd. Mae gwaith Mr. Lloyd gennyf fi, ac mae'r hanes yno ag sy'n "Nrych y Prif Oesoedd," ond ei fod yn dywedyd 762 ac nid 763[116] Mae Mr. Evans yno yn nodi ymhellach i'r Cymry yn ddiddadl ymroddi yn gwbl i Babyddiaeth tua'r flwyddyn 1000, neu'n gynt. Mae Mr. S. Thomas yn nodi nad ellir dywedyd yn sicr pa bryd yr ymddarostyngodd y Cymry i'r Pab, ond ei fod yn debyg mai o gylch y flwyddyn 1000 y bu hyn. Mae fe yn dal sylw hefyd fod hanes i eglwysi Cymru gytuno i fod dan olygiad Archesgob Caergaint[117] yn 1115.[118] Yma mae Mr. Thomas yn cytuno â Mr. Williams o ran amser, ond nid am y lle. Mae Mr. Thomas yn dywedyd Canterbury, a Mr. Williams yn dywedyn Caergrawnt.[119] Yr wyf yn meddwl iddo ef neu'r argraffydd fod yn wallus yma. Diau gennyf fi mai Caergaint a ddylasai fod. Canys nid wyf yn cofio i mi glywaid erioed am Archesgob Caergrawnt. Ond hawdd iawn oedd i'r fath wall ddigwydd. Ar y cyfan, yr wyf fi yn meddwl hyn, wrth yr hanes a rydd Dr. Godwin, Esgob Llandaf, am Lawrence, Archesgob Caergaint yn y flwyddyn 611, &c., tybygid i'r Cymry dyneru llawer tuag at Babyddiaeth yn yr amser hynny. Mae Dr. Godwin yn dywedyd ymhellach i holl Frydain gydffurfio ag Eglwys Rufain yn amser Theodore, Archesgob Caergaint, yr hwn a fu farw yn 690.[120] Yn ei amser ef yr aeth Cadwalader i Rufain fel y nodwyd.[121] Oddiwrth y pethau hyn gellir casglu i'r Cymry yn raddol droi yn Babistiaid, a'u bod yn gwbl felly cyn y flwyddyn Soo, a rhyfedd oedd iddynt ddal allan cyhyd. Ond y mae'n debyg nad oes dim hanes ysgrifenedig am ddarostyngiad y Cymry i Archesgob Caergaint cyn 1115. Eto mae Mr. H. Lloyd, yn y lle a nodwyd, yn dywedyd yn 1568, ei fod ef yn cofio iddo ddarllen fod un Elbod yn Archesgob Gwynedd, ac iddo gael ei ddyrchafu i'r anrhydedd hynny gan Esgob Rhufain; ac mai efe oedd y cyntaf a gymododd y Cymry ag Eglwys Rufain, 762. Yr wyf fi yn barnu fod y Cymry yn Bapistiaid yn hîr cyn iddynt ymddarostwng i Archesgob Caergaint, gan fod y gelyniaeth mor fawr rhwng y Cymry a'r Saeson.

Addysg Gweinidogion yn 1777

P. Pa drefn a gymerodd yr Ymneillduwyr yng Nghymru tuag at roi dysg i'w gweinidogion o'r dechreuad hyd yma?

T. Ymdanodd yr Ymneillduwyr, fel y nodwyd, ar hyd y wlad, trwy lafurus weinidogaeth gwyr a ddugwyd i fyny yn Rhydychen, mewn bwriad i fod yn weinidogion Eglwys Loegr. Dangoswyd yn barod fel yr oeddid yn gwneyd o gylch 1653. Wedi dyfod yr erledigaeth yn 1660, &c., yr oedd amryw o'r gweinidogion a drowyd allan o'r llannoedd yn ysgolheigion da, ac eraill o honynt yn weinidogion doniol duwiol, heb gael llawer o ddysg mewn ysgolion. Tra parhaodd yr erledigaeth, yr oedd rhai yn anfon eu plant i'r ysgolion lle y gallent ar hyd y wlad, a rhai yn cael eu danfon i Loegr. Yr oedd rhai o'r gweinidogion a droasid o'r eglwysi yn cadw ysgolion yn yr un lle a'r llall. Byddai rhai dynion ieuainc gobeithiol yn myned atynt hwy. Yr oedd Mr. Samuel Jones o Fryn Llywarch, ymhlwyf Llangynwyd, yn sîr Forganwg, yn cadw ysgol. Efe a ddysgodd amryw, a hefyd Mr. James Owens, yn y Mwythig.[122] A Mr. Rees Prydderch hefyd.[123] Mr. Richard Frankland oedd wr enwog yn Lloegr.[124] Yr oedd Mr. Reynald Wilson hefyd yn cadw ysgol yn sîr Drefaldwyn. Ond wedi dyfod heddwch, a marw y gwyr da hyn, neu rai o honynt, gosododd Mr. William Evans brifysgol i fyny yng Nghaerfyrddin. Coleg Caerfyrddin.

Nid wyf fi sicr pa flwyddyn y dechreuodd, ond yr wyf yn meddwl i'r ysgol gael ei gosod i fyny yno. ar farwolaeth Mr. James Owen, yr hyn a fu yn y flwyddyn 1706, fel y dywed Dr. Calamy, yn y lle a enwyd uchod. Os ni ddechreuwyd ysgol Caerfyrddin yr amser hynny, nid hir y bu cyn dechreu wedi hynny. Ar ôl marw Mr. W. Evans, dewiswyd Mr. Thomas Perrot i fod yn athraw y brif ysgol yng Nghaerfyrddin. Dywedir i Mr. Thomas Perrot, o New market, yn sîr Fflint, gael ei ordeinio yn Knutsford, yn sir Gaerlleon, yn 1706. Yr oedd dau eraill yn cael eu hordeinio gydag ef. Mr. Mathew Henry oedd yn derbyn eu cyffes ffydd. Yr oedd o gylch 18 o weinidogion yn bresennol ar yr achos. Yr wyf yn meddwl mai'r gwr hwnnw fu yn Nghaerfyrddin."[125] Mae'r ysgol

Coleg y Fenni.

yn cael ei chadw yno hyd yn hyn. O achos rhyw anghydfod, gosododd yr Independiaid brif ysgol i fyny yn y Fenni, am nad oeddent yn cytuno â phob peth yn ysgol Caerfyrddin. Yr athraw cyntaf yn y Fenni oedd Mr. D. Jardine, gwr o Ddinbych, o gylch y flwyddyn 1754. Wedi ei farw ef dewiswyd ei gynnorthwywr, Mr. Davies, i fod yn athraw yr ysgol. Mae efe yno yn awr. Aeth amryw o weinidogion duwiol, doniol, a defnyddiol, allan o'r ysgol hon, rhai i Gymru, ac eraill i Loegr. Mae ysgol Caerfyrddin yn myned, gan mwyaf, dan yr enw Presbyteriaid; a'r un yn y Fenni dan yr enw Independiaid.

Trefn Addysg y Bedyddwyr.

P. Pa fodd y mae'r Bedyddwyr, yn fwy neillduol, yn gwneyd am ddysg i'w gweinidogion?

T. Y drefn fwyaf cyffredinol yn eu plith yng Nghymru yw hyn: pan fyddo argoel gobeithiol fod doniau gweinidogaethol yn rhai o'u haelodau ieuainc, neu rai mwy oedrannus, y maent yn annog y cyfryw i arfer eu dawn yn yr eglwys. Wedi bod fel hyn ar brofiad ryw amser, os byddir yn barnu eu bod yn debyg i fod yn ddefnyddiol, y maent yn rhoi galwad iddynt i bregethu. rhai hyn yn digwydd bod o amryw amgylchiadau; rhai o honynt wedi cael dysg o'r blaen mewn ysgolion cyffredin y wlad, heb ddim golwg tuag at y weinidogaeth; eraill heb gael ond ychydig o ddysg. Barn gyffredin y Bedyddwyr yng Nghymru yw mai rhodd Duw yn unig yw gras a dawn gweinidogaethol: ac mai fel yr oedd Duw, yn amser yr apostolion, yn galw rhai dysgedig a rhai heb lawer o ddysg i waith y weinidogaeth, felly mae'n gweled y dda gwneyd hyd heddyw. Bydd rhai o honynt yn myned i'r ysgol, er mwyn dysgu ychwaneg, wedi dechreu pregethu; ac eraill dan amgylchiadau nad allant fyned; a rhai nad ydynt yn dewis myned. Bu yng Nghymru lawer o weinidogion enwog, heb fod erioed mewn prif ysgol, wedi dechreu pregethu, megis Lewis Thomas o'r Mwr, gerllaw Abertawe; Mr. Morgan Jones, a'i fab, Mr. Griffith Jones, Mr. Samuel John, Mr. Morgan Griffiths, Mr. John Jenkins, Mr. Thomas Mathias, Mr. Enoch Francis, Mr. Henry Gregory, Mr. David Thomas o Gilfowyr, &c. O honynt yr oedd rhai yn ddysgedig, a rhai heb lawer o ddysg mewn ysgolion.

Athrofa Bryste.

Yn 1720 darfu i Mr. Bernard Foskett, bugail Eglwys y Bedyddwyr yn Broadmead, Brysto, gymeryd gwr ieuane gobeithiol o Gymru, i'w hyfforddi yn yr hyn oedd fuddiol tuag at y weinidogaeth. Enw'r gwr ieuanc oedd Thomas Rogers, o Bontypwl, yn sîr Fonwy; ac ar fyrr wedi hynny daeth gwr ieuanc arall ato, i'r un diben, sef Mr. John Phillips, o Rydwilim. Parhaodd y gwr parchedig hwnnw tra fu byw i hyfforddi gwyr ieuanc, o Gymru a Lloegr, mewn dysgeidiaeth fuddiol i'r weinidogaeth. Bu Mr. Hugh Evans, M. A., yn cynorthwyo Mr. Foskett yn y gwaith da hwn lawer o flynyddau. Ac y mae ef a'i fab, Mr. Caleb Evans, M.A., yn parhau yn y llafurus waith hyd heddyw. Mae amryw o Gymru wedi bod yno, a rhai o honynt wedi dychwelyd i'w gwlad eu hunain, ac eraill wedi myned at eglwysi amddifaid yn Lloegr, neu i'r Iwerddon.

Diolch y Plentyn.

P. Mawr ddiolch i chwi am yr hanes oll. Byddai dda gennyf pe gallech roddi ychydig o hanes eglwysi y Bedyddwyr yn neillduol.

T. Bodlon iawn wyf fi; ond mae gormod o waith ar hyn o bryd. Mi amcanaf roi hanes neillduol pob eglwys o honynt ar ei phen ei hun, o'r dechreuad hyd yr amser hyn, a rhoddi'r cyfan yn y drefn oreu ag allwyf. Yna cei di ac eraill ei weled, ac odfa i'w ystyried. Gweled Duw yn dda wneyd hyn o ymddiddan byrr yn fuddiol i lawer iawn o'n cydwladwyr, fel y rhyfeddont fawr ddaioni Duw i'n cenedl ni dros gynnifer o oesoedd, er amser yr Apostolion; ac yn enwedig yn yr oes hon, uwch law'r holl amseroedd o'r blaen.

CYFRES Y FIL.

Y mae y cyfrolau canlynol wedi eu cyhoeddi.

Cyfrol 1991.
DAFYDD AP GWILYM.

Cyfrolau 1902.
GORONWY OWEN. Cyf. I.
CEIRIOG.
GORONWY OWEN. Cyf. II.
HUW MORUS.

Cyfrolau 19o3.
BEIRDD Y RERWYN.
AP VYCHAN.
ISLWYN.

Cyfrolau 1904.
OWEN GRUFFYDD.
ROBERT OWEN,
EDWARD MORUS.

Cyfrolau 1905.
JOHN THOMAS.
GLAN Y GORS.
GWILYM MARLES.
ANN GRIFFITHS.

Cyfrolau 1906.
EBEN FARDD
SAMUEL ROBERTS (S.R.).
DEWI WYN.

Cyfrolau 1907
JOSHUA THOMAS.

Eraill i ddilyn


Pris 1/6 yr un 1/1½ i danysgrifwyr
I'w caelc oddiwrth R. E. Jones a'ii Frodyr, Conwy.
Anfoner enwau tanysgrifwyr i R. E. Jones ai Frodyr.
Conwy. Gellir cael yr olgyfrolaus, neu ddechreu gyda'r gyfrol hon


Cyfrolau Defnyddiol.

Yr wyt, er ys amryw flynyddoedd, yn paratoi pum llyfr o gynhorthwy i'r efrydydd a'r llenor Cymreig. Nid ydynt yn rhan o Gyfres y Fil, ond gwerthir hwy i'r Fil am yr un pris a'u cyfrolau hwy. Y maent yn unffurf a chyfrolau'r Fil.

Yn Barod.

I. GEIRIADUR CYMRAEG.

Seiliedig ar waith y Dr. John Davies o Fallwyd a Thomas Jones.

Amcan y gwaith hwn yw rhoddi cymorth parod a bylaw i rai ddarllen a deall llenyddiaeth Gymreig. Ceir ynddo hen eiriau na cheir yn y geiriaduron cyffredin. Tybir mai ar gynllun y geiriadur hwn y ceir, ryw dro, Eiriadur Cymraeg perffaith.

I ddilyn ar fyrder.

II. GEIRIADUR BYWGRAFFYDDOL.

Yn cynnwys erthygl ferr gynhwysfawr ar bob Cymro enwog.

III. HANES CYMRU.

Yn cynnwys cipolwg clir ar rediad hanes Cymru.

IV. HANES LLENYDDIAETH CYMRU. Yn cynnwys cipolwg clir ar ddadblygiad meddwl Cymru.

V. ATLAS CYMRU

Cyfrol fechan ddestlus o fapiau a phlaniau i esbonio hanes Cymru.

VI. DAEAREG A DAEARYDDIAETH CYMRU.

Pris 1/6 yr un, 1/1 i'r Fil.

I'w cael, pan yn barod, oddiwrth R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy.

Llyfrau Newyddion.

Cyhoeddedig gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.).

Caernarfon.

Nid yw y llyfrau hyn yn gyfres er eu bod oll bron o'r un plyg a maint.

LLIAN, 112 TUDALEN, DARLUNIAU.

PRIS, SWLLT YR UN.

YN BAROD.

I.

GAN OWEN EDWARDS.

II

WEDI EU CASGLU GAN GARNEDDOG.

Penhillion y Diwygiadau, tân oddiar yr allor.
yn llawn ysbryd ac athrylith.

III.

GAN RICHARD MORGAN.

1.-Coch y Berllan.
2. Priodas y Blodau.
3: Nyth Aderyn Du.
Y Gyfrol Gyntaf.
4. Bore Teg.
5.-Carwriaeth y Coed.
6.-Crafanc yr Arth:
7. Telor yr Helyg.

Gan EIFION WYN.

V. CERRIG y RHYD.
gan Winnie Parry.
Darluniadau o’r rhai sy'n camu cerrig' rhyd bywyd.

VI. CAPELULO.
Gan Elfyn.
Hanes hen gymeriad hynod.

Nodiadau

[golygu]
  1. Mae Dr. Stillingfleet. Rapin, a rhai awdwyr diweddar eraill yn Dewis barnu i'r Efcngyl gael ei phregethu i'r hen Cymry yn gyntaf gan yr Apostol Paul, neu un o r apostolion; ac nid gan Joseph o Arimathea. Os Dewis rhai eraill farnu yr un ffordd, bodlon wyf fi.
  2. Am y diwygiad hwnnw, y mae gweinidog duwiol deallus o Eglwys Loegr (Mr Newton), yn ei bregeth ar farwolaeth Mr Whiteficld. yn dywedyd fel y canlyn. Ei destyn oedd, "Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleu." Ioan v. 35. Wrth sôn am Mr Whitefield dywed, Cyfodwyd ef i lewyrchu mewn lle tywyll. Yr oedd crefydd yn isel iawn yn ein heglwys ni pan y dechreuodd ef ymddangos yn gyhoeddus. Y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, er y dichon fod yn wir tramgwyddus i rai. Cyn ei ymddangosiad ef. anfynych y clywyd son am athrawiaethu grâs o r pulpud, ac nid oedd ond ychydig wybodacth o fywyd a grym duwioldeb. Yr oedd llawer o'r rhai mwyaf ysprydol ymhlith yr Ymneillduwyr yn galaru wrth weled mawr adfeiliad yn ymdanu yn eu mysg hwythau." Yr wyf yn barnu mai hyn yw'r gwir, mewn byr eiriau, o ran crefydd trwy Loegr a Chymru cyn cyfodi'r Methodists. Sonir mwy am y diwygiad hwn yn tu dal. 51. &c. Ganwyd Mr. Whitcfield yn 1714. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng Nghaerloyw, lle ei enedigaeth, fis Mehefin, 1736 Bu farw vn America y 30 o Fedi, 1770. Dr. Gillies, Memoirs of Mr Whitefield, page 1, 9, 10, 269, 342.
  3. Exod. xiii. 8. 14. a'r xii 26, 27. Psal lxxviii 5. 6, 7.
  4. Gcn. xviii. 14. Psal. xliv. 1, a'r lxxviii. 3, 4. 2 Tim. i. 5 a'r ii 15
  5. 2 Ped. i. 20, 21.
  6. Psal. cii. 18. i Cor. x 6.
  7. Dat. v. 9 a'r vi
  8. Dr. Gill on Gen. x. 2, &c. Bedford's " Scripture Chronloogy," p. 194, &c. Drych y Prif Oesoedd." tu. dal. 7.
  9. Psal cxlvii. 19. 20. Eph. 11, 12.
  10. Mat. xxviii 19. Marc xvi. 15.
  11. Esa. ii. 3. Mic. iv. 2.
  12. Actau xxviii. 14, &c.
  13. 2 Tim. iv. 21
  14. Phil iv. 22.
  15. "Drych y Prif Oosoedd. " tu dal. 179. &c. Crosby's 'Hist. o'f the English Baptists," vol. 2 Prefacc. Fox's " Acts and Monmnents." p. 137. &c. Dr. Gill and Mr. Henry on 2 Tim. iv. 21. Godwin's Catalogue. &c. p. 1. &c.
  16. "Acts and Monumcnts, " p. 96. Crosby, vol. 2 Preface. Godwin p. 36. " Drych," &c., tu dal. 1S8, &'c.
  17. "Drych," &c., tu dal. 196, &c. "Prcface to the history of Wales, in 1702."
  18. Drych." &c., tu dal. 64, 203, &c. Ocs Lyfr o waith Mr. Thomas Williams "Acts and Mon." p. 140. Danrers on baptism, pp. 60, 61..
  19. "Acts and Mon." p. 149. &c. Preface to Crosby, 2 vol.
  20. Catalogue, p. 43, &c. ,Tu. dal. 267.
  21. "Drych." &c., tu dal. 249, &c.
  22. Darfu i Howel Dda ysgrifennu cyfreithiau i'w ddeiliaid, canys Tywysog mawr yng Nghymru ydoedd. Mae llawer o sôn am gyfreithiau Howel Dda ymhlith y dysgedigion hyd heddyw. Y maent eto i'w gweled, yn Gymraeg ac yn Lladin. Ynghylch 1717 darfu i Sais. enwog o ran dysg a deall, ddysgu yr iaith Gymraeg mor berffaith fel y darfu iddo gyfieithu Cyfraith Howel Dda o'r iaith wreiddiol. sef y Cymraeg, i'r Lladin.
    *Y gwr hwnnw oedd Dr. W. Wotton. yr hwn a fu farw cyn argraffu ei waith ei hun; ond wedi hynny daeth y llyfr allan yn drwsiadus a hardd. Tybygol fod y cyfreithiau hyn wedi eu troi i'r Lladin o'r blaen; ond yr oedd y gwr anghyffredin hwn am ddeall y gyfraith ei hun yn dda yn y iaith wreiddiol, er mwyn cael cyfieithiad cywir. Mae rhan fechan o'r cyfreithiau hyn yn "Nrych y Prif Oesoedd," yr ail argraffiad, dal. 136. &c. Mae Mr. Moses Williams yn rhoi gair rhyfedd i Dr Wotton, o ran ei ddeall yn y iaith Gymraeg.
    *Yn llythyr cyflwyniad ei Gofrestr, yn 1717.
    *History of Wales,"p. 42. &c. Dr. Llewelyn's " Historical Account of the British Versions and Editions of the Bible, p. 42. Mr. F. Walters's Dissertations on the Welsh Language." p. 56. 70.
  23. Catalogue, p. 512.
  24. "Historical Account," P. 2.
  25. Yn 1546 argraffwyd llyfr o'r cynhwysiad hyn,—"Yn y llyvyr hwnn y traethir Gwyddor Kymraeg. Kalandyr. Y gredo, neu bynkey y ffydd gatholig. Y pader neu weddi yr Arglwydd. Y deng air deddyf. Saith Rinwedd yr egglwys. Y Kampey averadwy, a'r Gwydieu gochladwy ae keingeu." Dyma'r modd y rhoddir cynhwysiad y llyfr hwn gan Mr. Moses Willams yn ei Gofrestr yn 1717. Yr wyf fi yn hollol farnu mai hwn oedd y llyfr Cymraeg cyntaf ag argraffwyd erioed: ys dau can' mlynedd ac un ar ddeg ar hugain i'r flwyddyn hon, 1777
    Ni ellais wybod pwy oedd awdwr y llyfr cyntaf hwn, ond y flwyddyn nesaf, sef 1547, argraffwyd Geir-lyfr Mr William Salesbury, fel y nodir yn y blaen. Pedair blynedd ar ol hynny, sef yn 1551, argraffwyd llyfr arall yn Gymraeg o'r cynhwysiad hyn, yn ol cofrestr Mr. Moses Williams, Kynniver Ilith a ban or ysgrythur ac a ddarlleir yr Eccleis pryd Commun, Sulieu, a'r Gwyliau trwy'r vlwyddyn: o Gambereiciat William Salesbury."
    Wrth hyn yr ymddengys nad oedd Mr. S. Thomas wedi cael cywir hanes pan y dywedodd i'r Beibl gael ei droi i'r Gymraeg yn amser Harry'r 8fed, yr hwn a fu farw yn 1547— Mae Mr. Peter Williams yn dywedyd, yn ei lythyr o flaen Beibl Caerfyrddin, i'r Salmau gael eu cyfieithu yn amser y brenin hwnnw. Os cyfieithwyd hwy mor gynnar, ni welaf fi argoel iddynt gael eu hargraffu cyn 1551. Mae'n debyg mai hyn oedd y llyfrau Cymraeg oll cyn yr erledigaeth a ddechreuodd yn 1553.
  26. Hanes y Byd a'r Amseroedd, tu dal. 219.
  27. Mae Cofrestr Mr. Moses Williams yn dywedyd am Mr. William Salesbury mai gwr bonheddig ydoedd yn byw yn y Cae-du, yn Llansannan, yn sir Dinbych. Rhyfedd yr ymdrechodd y gwr da hwn dros y Cymry, er mwyn torri gwawr yr efengyl yn eu plith. Efe oedd awdwr y llyfrau canlynol: "A Dictionary in Englyshe and Welshe moche necessary to all suche Welshmen as wil Spedly learne the Englyshe tongue, thought unto the Kynges majestie very mete to be sette forthe to the use of his Graces Subjectes in Wales: Whereunto is prefixed a little treatyse of the Englyshe pronnunciation of the Letters." Argraffwyd hwn yn 1547. a'r ail lyfr ydoedd a ddaeth allan er mwyn y Cymry, yn ol y Gofrestr. Gweler hefyd Ragymadrodd Geir-lyfr Mr. T. Jones yn 1688.
    Wrth yr hyn sydd yma, a'r hyn a nodwyd o'r blaen, gwelir fod llawer o wahaniaeth rhwng y Gymraeg a'r Saesnaeg yr amser hynny a'r amser hyn. Mi a gymerais y geiriau mor gywir ag a gellais o'r Gofrestr, er mwyn dangos i'r darllenydd y gwahaniaeth hynny. Bu Mr. William Salesbury yn llafurus dros ei gydwladwyr yn amser Harri yr Wythfed, ac yn amser Edward y chweched, ac efe a lechodd, er hynny, yn rhyw fodd tra y parhaodd yr erledigaeth gwaedlyd a thanllyd yn amser Mary. Ond wedi ei marw hi, a dyfod Elizabeth i'r deyrngadair, cymerodd y gwr rhagorol ei waith da yn llaw drachefn. Trefnodd yr esgobion ef i edrych at argraffiad y Testament Newydd, fel y bu ef mor ofalus i gyfieithu y rhan fwyaf o hono.
  28. Dywedir i Dr. Gab. Goodman gael ei eni yn nhref Ruthyn yn sir Dinbych, ac i'r Beibl gael ei gyfieithu ar ei draul ef. Mae'n debyg iddo ddwyn rhan ganmoladwy o'r draul. Noorthouck's Historical and Classical Dictionary."
  29. Yn ôl Cofrestr Mr. Moses Williams ni argraffwyd dim llyfrau Cymraeg ond y rhai canlynol cyn y flwyddyn 1600:- sef y tri yn 1546, 1547. a 1551, cynhwysiad pa rai a roddwyd yn barod. Y ddau olaf, os nid y tri hyn, gan Mr. William Salesbury. Yn y chwanegiad at y Gofrestr nodir i un gwr, sef William Salesbury, argraffu llyfr Saesneg yn 1550 er mwyn y Cymry o'r enw A brief and plain Introduction, teaching how to pronounce the Letters in the British Tongue." Argraffwyd tri llyfr yn ychwaneg yn 1567, sef y Testament Newydd, fel y nodwyd, y llyfr Gweddi Gyffredin, o gyfieithiad William Salesbury, a Gramadeg Dr. Griffith Roberts, a enwyd yn barod. Erbyn hyn yr oedd y Testament gan ein hynafiaid; ond nid oedd ganddynt eto un lyfr o eglurhad arno, yr ychydig lyfrau eraill oeddent tag at addoliad Eglwys Loegr, ac i ddysgu darllen. Ymhen deunaw mlynedd ar ôl hyn, sef yn 1585. daeth allan lyfr hyfforddus mewn crefydd, fel y tybid wrth yr enw, sef Y Drych Cristionogawl, yn yr hwn dichon pob Cristiawn ganfod gwreiddin a dechreuad pob daioni sprydawl, sef gwybod modd i wasanaethu Duw, drwy ei garu ai ofni yn fwy na dim, &c." Yn 1592, medd y Gofrestr, y daeth allan Lythyreg, neu Ramadeg y Meddyg enwog hwnnw, Dr. John David Rees. Llyfr i'r dysgedig oedd hwnnw, yn Gymraeg a Lladin. Daeth hwn allan, ebe Mr. John Rhydderch yn Rhagymadrodd ei Ramadeg Cymraeg," yn 1590. Yn 1593 daeth allan Ramadeg Cymraeg tra chiwrain tuag at Brydyddiaeth neu Farddoniaeth, o waith y Cadpen William Middleton. A'r un flwyddyn y daeth allan Retoreg Mr. H. Perry, a enwyd eisioes. Yn 1594 argraffwyd Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr," o gyfieithiad Mr. Cyffin. Mae'r gwr hwn yn ei lythyr at y darllennydd yn dangos paham nad oeddid wedi argraffu mwy o Gymraeg yn gynt; sef pan yr oeddid yn sôn, mewn eisteddfod, am breintio Cymraeg, i wr eglwysig o Gymru ddywedyd yn erbyn argraffu un math o lyfrau Cymraeg er mwyn i'r Cymry oll ddysgu Saesneg, a cholli'r yr hen iaith yn hollol. Ond, ebe Mr. Kyffin, A allai y diawl ei hun ddywedyd yn amgenach, neu yn waeth? Nid digon oedd ganddo ysbeilio'r cyffredin o'u da daearol, ond efe a fynnai gwbl anrheithio eu heneidiau hefyd. Ond gan fod llyfr gair Duw wedi ei Gymreigu a'i breintio, nid gwiw i neb o blant v diawl bellach geisio tywyllu goleuni Cymru, gwnelent eu gwaethaf."(Llythyr Mr. S. Hughes o flaen llyfr y Ficar yn 1672) Gwelwn mor fawr oedd sel y gwr cwmynasgar hwn dros y Cymry druain. Yr oeddid wedi argraffu'r Ysgrythyr chwech mlynedd o'r blaen, fel y nodwyd. Dyma gyfoeth y Cymro o ran llyfrau yr amser hynny, sef yn 1600. Anwybodus iawn oedd y bobl eto, er fod hyn yn ddechreu gobeithiol tuag at oleuo cenedl a fuasai cyhyd mewn dudew dywyllwch. Mae Mr William Salesbury, yn ei lythyr o flaen y Testament at y frenhines, yn dyweyd an y Cymry fod yn anhawdd iawn ganddynt gynt dderbyn y grefydd Babaidd; ond yn awr, ebe fe, wedi ymarfer cyhyd â hi, anhawdd eto ganddynt ei gadael, a derbyn efengyl Crist.
  30. Wedi marw Dr. Morgan yn 1604, gosodwyd Dr. Parry yn esgob yn Llanelwy yn ei le ef
  31. "Historical Account," P. 27.
  32. Ysgolhaig a phrydydd anghyffredin oedd Mr. Edmund Prys, yr hwn a drodd y Salmau ar gân, y rhai sydd er ys hir amser yn cael eu cyd-rwymo â'r Beibl. Dywed Mr. John Rhydderch y medrai y gwr hwnnw eiliaw a gwau prydyddiaeth mewn wyth iaith, eto ei fod yn cyfaddef fel hyn am iaith ei wlad ei hun:—
    "Ni phrofais dan ffurfafen
    Gwe mor gaeth a'r Gymraeg wen." (Rhagymadrodd ei Ramadeg Gymraeg)
  33. Mae Mr. E. Lloyd yn son am y ddau wr hyn, Twrog a Thysilio, ychydig yn wahanol oddi wrth Ddrych y Prif Oes— oedd." Mae fe hefyd yn sôn am Gofrestr o hen ysgrifenwyr Cymraeg, o waith Ilaw Mr. H. Salesbury. Mi a dybygwn i Mr. Edward Lloyd weled y Gofrestr honno ei hun. Odid na bu honno yn gynnorthwy iddo ef. Arch. Brit. P. 225.
  34. "Archæologia Britannica."
  35. Hanes y Ffydd," tu dal. 234. "Athen. Oxon." Voli. Fasti Col. 39. "A view of some parts of such public wants and disorders as are in the service of Gon, within her Majesty's country of Wales.—With an humble petition to the high court of Parliament for their speedy redress. Exhortation unto the governors and people of Wales, to labor earnestly to have the preaching of the Gospel planted among them.
  36. Mr Anthony Wood
  37. Y geiriau ydynt. A most notorious Anabaptist (of which party he was in his time, the Corypheus.")
  38. 35 Elizabeth c. 1. Neale's "History of the Puritans" vol. i. Bennett's 'Memorial of the Reformation," P. 75. Rapin, vol. i. P. 141. "Athen. Oxon." vol. i. Col. 258, &c.
  39. Violin.
  40. Mr. Neal's History of the Puritans," vol. ii. pp. 253, 275.
  41. "Plain Scripture Proof for Infant Baptism," P. 147.
  42. Sufferings of the Clergy," part i. p. 159
  43. Answ. to Walker on Baptism," pp. 184, 187
  44. History of the English Baptists," vol. i. pp. 147, &c.
  45. Treatise of Cold Bathing," 4th Edit. pp. 14, 61, 87.
  46. Mr Jessey's Life, p. 7, 10.
  47. Jessey's Life." Crosby, vol. i. p 307. Dr. Calamy's Continuation, p. 45, &c. "The Nonconformist's Memorial," vol. 1. p. 108.
  48. Brief Narrative of Wales's Condition," prefixt to "The Bird in the Cage. 1 Walter Cradock.
  49. Mr. Vavasour Powel's Life," pp. 3. 106.
  50. Brief Narrative.
  51. Bu Mr. Moses Williams, Ficar y Ddyfynnog, yn ymdrechiadol iawn yn ei amser dros Gymru, fel y nodir yn fwy neillduol yn y blaen. Darfu iddo gasglu, hyd y gallai, enwau yr holl lyfrau a argraffesid yn Gymraeg, neu'n perthyn i'r Gymraeg, o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1717. Ac yn y flwyddyn honno efe argraffodd Gofrestr o'r llyfrau oll, mor gywir ag y gallodd; yr amser, a'r lle yr argraffwyd. a phwy a 'sgrifenodd neu a gyfieithodd y rhan fwyaf o honynt, &c. Mae un copi o'r Gofrestr hon yn cael ei chadw yn ofalus gan y Cymro dwys a diledryw Richard Morris, Esq., yn Llundain. Mae fe wedi casglu a chwanegu amryw at y Gofrestr, ac yn son, wedi ei diwygio, am ei hargraffu o'r newydd. Mae holl Gymru yn rhwym i'r gwr bonheddig hwn, amryw ffyrdd, ys lawer o flynyddau. Felly'r wyf fi a'r darllenydd yn rhwym iddo am bob hanes ag sydd genym o'r Gofrestr. Canys trwy gyfryngdod mwyn ein cydwladwr, Dr. Llewelyn, caniataodd Mr. Morris i mi gael benthyg ei lyfr ef hyd y byddai achos.
    Yn ôl y Gofrestr ni argraffwyd ond ychydig o lyfrau yn Gymraeg dros 50 mlynedd nesaf ar ol 1600. Yn y flwyddyn honno [1600] daeth allan lyfr o'r enw hyn, Darmerth, neu arlwy i weddi a ddychymygwyd er mawr dderchafiad Duwioldeb, ac i chwanegu gwybodaeth ac awydd yr annysgedig ewyllysiwr i iawn wasanaethu'r gwir Dduw." Gelwir yr awdwr Robert Helland, gweinidog gair Duw, a Pherson Llan Ddeforawr, yn sir Gaerfyrddin. Dywedir yno i'r gwr hwn hefyd gyfieithu Agoriad byr ar weddi yr Arglwydd," o waith Mr. Perkins. Mi a debygwn mai gwr duwiol oedd Mr. Holland, pan yr oedd Cymru yn dywyll iawn. Yn 1603 argraffwyd y Salmau cân, o waith Mr. W. Midleton a Thomas Salesbury. Yn 1606 daeth allan y Llyfr Homiliau. Yn 1609 daeth allan Esboniad ar y Gredo, y Pader, y Deg Gorchymyn, &c., o gyfieithad Dr. Roger Smyth o dref Llan- elwy, ac yn 1615 daeth allan lyfr a elwid " Gorsedd y Byd," o gyfieithiad yr un gwr. Yn ôl y Gofrestr, neu'r diwygiad o honi, yn 1620 daeth allan yr Ymarfer o Dduwioldeb, ac yn 1631, lyfr a elwid Carwr y Cymry." Daeth hefyd allan Lyfr y Resolution" o gyfieithad Dr. John Davies, a'i Ramadeg a'i Airlyfr ef hefyd, yn Gymraeg a Lladin. Felly yn y 50 mlynedd hyn yr oedd y Beibl wedi ei argraffu o'r newydd i'r eglwysi yn 1620, a'r Beibl wedi dyfod allan i bobl y wlad yn 1630, ac o gylch deg neu ddeuddeg o lyfrau o bob math i'r Cymry a enwyd o'r blaen. Argraffwyd Llyfr y Ficar yn 1646, y Testament Newydd yn 1647, a'r Salmau cân yn 1648. Mae'n debyg mai hyn oedd y llyfrau Cymraeg a gafodd ein cydwladwyr gan mwyaf, yr hanner cyntaf i'r oes ddiweddaf. Mae Mr. E Lloyd yn dywedyd mai Mr. T. Williams oedd awdwr y Geirlyfr a osodwyd allan gan Dr. J. Davies. Edrych Arch. Brit. P. 225. Mae Drych y Prif Oesoedd," tu dal. 217, yn ei alw, Dr. Thomas Williams, ac yn nodi mai meddyg tra dysgedig ydoedd. Felly, tybygol, ei fod ef a Dr. John David Rees yn feddygon enwog, yn byw yr un amser. ac i'r naill ysgrifennu Gairlyfr Cymraeg a Lladin, a'r llall ei Ramadeg
  52. "An Act for the better Propagation of the Gospel in Wales."
  53. 53.0 53.1 Brief Narrative.
  54. "Hue and Cry."
  55. "Examen & Purgamen Vavasoris."
  56. "Baxter's Life abridg'd", pp. 67. (8.
  57. "Sufferings of the Clergy, part. i. p. 152."
  58. Continu. 2 vol. "Church and Dissenters compared," pp. 46, 47. in a Note.
  59. Continuation, vol. 1. P. 17.
  60. Vol. ii. P. 639.
  61. Cambridge.
  62. "Brief Narrative."
  63. Continuation, vol. ii. p. 849.
  64. By the Commission of the Propagation of the Gospel in Wales. Whereas five of the Ministers, in the Act of Parliament named, bearing date the 25th of February, 1649, and entitled. An act for the better Propagation of the Gospel in Wales" have, according to the tenors of the said act, ap- proved of Mr. Thomas Evans the younger, to be a person qualified for the work of the Ministry; and recommended him with their advice to us, that he be encouraged in the work of the Ministry: we do, according to an order to us directed by the Committee of five at Neath, therefore order, that Mr. John Pryce, Treasurer, shall forthwith pay unto the said Mr. Thomas Evans, the sum of £30 which we have thought fit to allow him toward his salary and encouragement in the work of the Ministry. And this our order, together with his aquittance, shall be a sufficient discharge for the said Treasurer. Dated under our hands the 16th of May, in the year of our Lord. 1653. John Williams, &c
  65. "Sufferings of the Clergy," part 1, P. 149.
  66. Page 148.
  67. Page 165.
  68. Brief Narrative.
  69. "Historical Account," P. 40. &c.
  70. Yng Nghofrestr Mr. Moses Williams nodir fod llyfr bychan Cymraeg o waith Mr. V. Powel wedi ei argraffu yn 1653. a'i argraffu drachefn yn 1677. Enw'r llyfr oedd Canwyll Crist."
  71. "Restoration."
  72. Troopers.
  73. Quarter Sessions.
  74. Proclamation.
  75. Brief Narrative.
  76. Catchpole.
  77. Consistory, sef cynghordy a chynghoriaid llys yr Esgob
  78. Crosby, vol. iii., P. 197. &c. B. Bennet's "Memorial of the Reformation," P. 327, &c.
  79. "His Life," pp. 188, 182, 126, 133, 189, 208.
  80. Yn y llythyr sydd o flaen y llyfr a elwir "Bird in the Cage," hawdd yw deall fod serch a chariad Mr. Vavasour Powel yn fawr iawn at y Cymry. Os caniata amser a lle, mae'n bosibl y cyfieithiaf y rhan fwyaf o'r llythyr hwnnw er mwyn ei argraffu tua diwedd y llyfr hwn.
  81. Yr oedd awdwr y gân yn barnu i Mr. Powel farw yn 1671. Mae'n debyg iddo, yn rhyw fodd, gamsyniad blwyddyn yma.
  82. "Mr. Phillip Henry's Life." P'. 3.
  83. "Dr. Owen's Life." printed in 1758.
  84. Bu gwr o'r enw hwn yn enwog iawn yn yr amser hynny. ac yn dra llafurus dros y Cymry mewn rhyw bethau, tua diwedd yr oes ddiweddaf. Dywedir ei eni ef ymhlith y Saeson. Mab ydoedd i weinidog o Eglwys Loegr. Odid nad Cymro oedd ei dad. Dewiswyd y mab yn bregethwr i'r brenin yn 1666. Efe a gymerodd y gradd o Athraw, neu Ddoctor Difinyddiaeth yn 1667; gwnaed ef yn Ddeon Bangor yn 1672: ac yn Esgob Llanelwy yn 1680. Yr oedd ef yn un o'r Esgobion a fu yn Nhwr Llundain yn garcharorion am aros i fyny dros rydd-did y wlad yn erbyn Pabyddiaeth yn 1687. Mae Mr. Thomas Jones yn dywedyd i ynghylch 3.000 o eiriau gael eu casglu trwy orchymyn yr esgob hwn, gan rai o weinidogion ei esgobaeth ef, mewn bwriad i'w gosod yn y Geirlyfr Cymraeg a Saesneg a ddaeth allan yn 1688. Ond daethant yn rhy ddiweddar i fod yn y llyfr hwnnw, fel y nodir yn y ddalen ddiweddaf o hono. Bu Dr. William Lloyd hefyd yn dra chynnorthwyol i ddwyn Beibl mawr y Llannoedd trwy'r argraff-wasg yn 1690, yn llyfr trefnus a hardd, o herwydd hynny gelwir ef weithiau Beibl yr Esgob Lloyd." Dywedir mai hwn yw'r argraffiad diweddaf o'r Beibl mawr Cymraeg, a bod Mynegai'r Beibl ynddo, ac amryw Ysgrythyrau ar ymyl y ddalen o gasgliad y gwr hwn. Yn Saisneg y casglodd ef Fynegai'r Beibl, cyfieithwyd hwy i'r Gymraeg, Yr oedd ef yn wr deallus yn hanesion y Brutaniaid, fel y dengys ei waith. Yn 1692 symudwyd ef i esgobaeth Litchfield a Coventry; ac oddiyno í Gaer-wrangon, lle bu ef farw yn 1717, yn 90 oed. Noorthouck's Historical and Classical Dictionary," on L, Dr. Llewelyn's "Historical Account,' pp. 35, 52.
  85. Historical Account, P. 42.
  86. Dr. Calamy on "The Ejected Ministers," P. 718.
  87. Ibid, P. 8, &c. "A Sermon on the death of Mr. T. Gouge, by Dr. Tillotson, afterward Archbishop of Canterbury. Dr. Llewelyn's Historical Account," P. 43, &c.
  88. History of Wales," by Wynne, P. 328.
  89. "On the Ejected Ministers," vol. 1, P. 68.
  90. "Ejected Ministers,"P. 718, &c
  91. "Historical Account," P, 47.
  92. Dr. Calamy on " Ejected Ministers," P. 720.
  93. "Historical Account, P. 47."
  94. Mae Cofrestr Mr. Moses Williams yn nodi fod yn agos i 60 o lyfrau Cymraeg wedi eu hargraffu yn yr hanner olaf i'r oes ddiweddaf heblaw amryw o'r rhai o'r blaen yn cael eu hargraffu o'r newydd. Yr oedd y llyfrau hyn gan mwyaf ynghylch crefydd a phethau buddiol. Yn y flwyddyn 1500 yr oedd Cymru yn dywyll iawn mewn pethau ysbrydol. Yn 1600 yr oedd Iesu Grist, y meddyg mawr, wedi edrych arnynt yn ei drugaredd a'i gariad, eithr nid oedd y dydd eto ond gwawrio arnynt hwy. Yn 1700, yr oedd gwerthfawr oleun wedi ymdaenu, eto llawer o dywyllwch yn parhau.
  95. Historical Account," P. 35. 52.
  96. The Society for promoting Christian Knowledge."
  97. Mi a debygwn i'r Beibl hwn ddyfod allan ar ddwy waith. Mae gennyf fi un o honynt, heb y Llyfr Gweddi Gyffredin, na'r Canonau, na'r Apocrypha, a dywedir i hwn ddyfod allan yn 1717. Ac y mae'r geiriau canlynol ar ei glawr, tu fewn,
    The gift of Caleb Avenant, Gent., late of Shelsley, in the County of Worcester, deceased." Mae Dr. Llewelyn yn nodi ("Historical Account," P. 54) i'r Gymdeithas ganiataui eraill roi arian tuag at y Beiblau, gan addo cynifer o lyfrau ag atebai i'w harian, ar bris penodol. Mae'n debyg i Ymneillduwyr haelionus roi arian i'r diben da hwn, ac iddynt ddewis cael eu Beiblau heb y Llyfr Gweddi Gyffredin a'i berthynasau, ac heb yr Apocrypha; o herwydd hyn mae'n debyg iddynt hwy gael eu Beiblau o flaen y lleill, ac mai hynny oedd yr achos i'r Beibl a sydd gennyf fi, ac eraill, ddyfod allan yn 1717. Edrych, hefyd, "Historical Account," pp. 52, 54
  98. Historical and Crit. Remarks," P. 2. "Welsh Piety for the year 1768."
  99. Yr oedd Mr. Griffith Jones yn bregethwr enwog o gylch 30 flynyddau cyn 1737. See his life in the Gospel Mag, fo July 1777
  100. Dichon rhai ddywedyd yma, yngeiriau gwr arall ar y cyffelyb achos, nad oedd er amser y diwygiad un lle yn rhagori ar Gymru o ran cadw yn fanol at ddefodau a gwasanaeth Eglwys Loegr, yn sylwedd a dull eu haddoliad ("History of Wales," printed in 1702, P. 328. ) cyn amser Mr. G. Jones, a'r rhai a'i canlynodd. Wedi ystyried ychydig o bethau amgylchiadol, hawdd iawn yw deall y geiriau hyn a'u cyffelyb. Nodwyd yn barod fod Mr. Moses Williams, ac amryw eraill o weinidogion Eglwys Loegr wedi bod yn ddiwid iawn i argraffu'r Beibl, i gyfieithu ac argraffu llawer o lyfrau da eraill wedi y flwyddyn 1700. Yr oedd y pethau hyn yn ddefnyddiol iawn yn eu lle; ond tybygid fod eisiau mwy o bregethu yn yr eglwys hon yr amser hynny. Er fod Gair Duw a llyfrau da eraill yn fuddiol iawn i'w darllen; eto yn gyffredin pregethiad bywiol yr efengyl sydd yn cael ei arddel er argyhoeddi, diwygio, ac achub dynion. Pregethwr anghyffredin yn Eglwys Loegr oedd Mr. G. Jones. Yr wyf fi'n gobeithio fod yno weinidogion duwiol eraill, yr amser hynny ac yn gynt. Ond hyn sydd sicr, anwybodaeth ac annuwioldeb mawr oedd ymhlith y cyffredin bobl. Ac os byddai un yn fwy gweddus na'r lleill, gelwid ef yn fuan yn Bresbyteriad, neu yn un o'r Ailfedydd. Ond wedi'r cyfan, os dichon neb brofi fod erioed ymhlith y Cymry o Eglwys Loegr weinidogion ac eraill, gymaint, neu fwy, o wir grefydd, addas foesoldeb, a grym duwioldeb, a mwy o ddeall, pregethu, a rhodio yn ôl erthyglau yr Eglwys honno, cyn amser Mr. G. Jones, nag a fu wedi hynny, bodlon iawn wyf fi. Nid wyf am wneyd cam a neb. Ac nid wyf yn dewis dywedyd y gwaethaf am neb. Mewn llawer o bethau yr ydym oll yn llithro.
  101. Mae awdwr diweddar o Eglwys Loegr yn rhoi'r hanes byr hyn am y Methodists. Mi a roddaf ei ddarluniad yn ei eiriau ei hun, heb eu cyfieithu: "They are a plain and enthusiastic people, who differ from the Church of England, only by a strict adherence to her articles; from which they plead, that the Church has herself departed in certain points." Noorthouck's Dictionary," on the word Methodists. Yr wyf yn edrych ar hyn yn ganmoliaeth iddynt yn hytrach nag achwyniad arnynt, yn enwedig ond gadael allan y gair "enthusiastic."
  102. Yr oedd yr argraffiad hwn, gan mwyaf, yn ôl trefn Beibl Mr. Moses Williams, ond ychwanegwyd at y Tablau yn y diwedd. Rhodded Tablau arian, pwysau a mesurau crybwylledig yn yr Ysgrythyr Lân gan Richard Morris, Esq.. golygwr yr argraffiad. Ychwanegwyd hefyd dair gweddi at y rhai o'r blaen. Yr oedd yr argraffiad yn 1752 yn gyffelyb i'r un yn 1746, a than ofal yr un golygwr.
  103. Historical Account," P.P. 53. 54
  104. Pan soniodd Dr. J. Stennett wrth rai o'r gymdeithas am roi arian gyda hwy tuag at ddwyn y draul er mwyn cael Beiblau i'r Bedyddwyr, yr oedd yr esgobion ac eraill yn barod iawn i dderbyn ei gynnyg; gan eu bod yn ofni y byddai'r baich yn rhy drwm iddynt hwy. Ond erbyn dyfod y Beibl allan o'r argraffwasg, yr oedd cymaint o ymofyn am Feiblau gan bobl Eglwys Loegr ymhlith y Cymry fel yr oedd yn anhawdd ganddynt adael y Doctor i gael cynifer ag oedd wedi cytuno am danynt. Dywedai'r esgobion wrtho,Ai cymwys yw i ni gynorthwyo eich pobl chwi, a gadael ein pobl ein hunain mewn diffyg?" Atebai yntef, Cymmwys i chwi wneyd cyfiawnder à mi cyn gwneyd elusen i'ch pobl eich hunain. Nid wyf fi yn ceisio ond cyfiawnder, yn ol eich cytundeb, &c." Felly caniatawyd iddo yr hyn a addawsid, ac yntet a dalodd am danynt. Dywedodd y Doctor y pethau hyn wrthyr fi yn 1751, ac iddo orfod ymresymu yn wrel ar gwyr mawrion cyn gallu cael ei ran, yn ol y cytundeb. Da iawn oedd gweled pobl yr Eglwys mor awyddus i gael y Beibl; ond cyfyng ydoedd ar yr Ymneillduwyr am Feiblau yr amser hynny. Bu Dr. Stennett yn llafurus iawn ac yn dra chariadus a haelionus i'r Bedyddwyr yng Nghymru y pryd hyn. Mae o'm blaen i nawr llythyr oddiwrtho yn 1751 yn rhoi hanes o'r Beiblau oedd wedi eu danfon i sir Fynwy a sir Forganwg. Yr oeddent bedwar ugain o nifer, ac o hynny yr oedd 15 at dai cyrddau, a'r lleill i dlodion yn y cynulleidfaoedd. Ac yn gyfatebol i hyn yr oedd wedi danfon i'r Bedyddwyr yn siroedd eraill Cymru. Nid oedd dim 15 0 dai cyrddau yn y ddwy sir: eithr tai annedd, lle byddid arferol o gyfarfod, oedd ynghylch hanner o honynt. Yr oedd enwau'r tai hynny ar y Beiblau perthynol iddynt, fel y lleill mewn llythrennau melynion ar y cloriau.
  105. "Historical yn Critical remarks." P. 4.
  106. Rhoddes Mrs. Marlow, o Lanllieni, 120 o Feiblau i'r Bedyddwyr o'r argraffiad hwn. Tuag at eu tai cyrddau yr oeddent yn fwya penodol.
  107. Mae'r Beibl a argraffwyd yn 1769 yn frasach ei lythyren na'r rhai o'r blaen; ac oblegid hynny yn fwy o faintoli. O herwydd hyn gadawyd allan y cwbl ag oedd yn y rhai o'r blaen, ond yn unig yr Ysgrythyr ac ystyr y bennod, a gosodwyd yr Ysgrythyrau oedd ar ymyl y ddalen o'r blaen, ar odreu'r y ddalen yn hwn. Nid oes ynddo ddim Psalmau cân. Heb law'r Ysgrythyr a'r sylwadau ym Meibl Mr. Peter Williams mae yn ei ddechreu ei lythyr ef at y darllenydd; yna un ddalen yn dangos swm yr Ysgrythyrau; yn nesaf, erthyglau crefydd Eglwys Loegr; rhai holiadau ac atebion mewn perthynas i'r athrawiaeth o Ragluniaethad: yna mynegai'r Beibl. Wedi hynny Llithiau, Calender, a Thabl y Llithiau, yn ôl trefn gwasanaeth Eglwys Lloegr. Tabl y Pasg, a Thabl y gwyliau symudol. Hyn oll yn y dechreu. Yn y diwedd mae'r Tablau oll ag sydd yn y Beibl 1746: a Tablau Oesoedd y byd wedi eu chwanegu, o waith Dr. Lightfoot. Y Salmau cân a'r Hymnau fel o'r blaen; eithr gadawyd y gweddiau yn y diwedd allan oll, ond yr un olaf.
  108. "Oes Lyfr," tu dal, 60.
  109. Tu dal. 65.
  110. Mae William Salesbury, yn ei lythyr at y frenhines, o flaen y Testament Newydd cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg yn 1567, yn nodi, er ei fod ef yn deall fod gwir grefydd wedi bod yn flodeuog ymhlith yr hên Gymry yn yr oesoedd gynt, eto nad oedd ef wedi gallu casglu eu bod erioed wedi cael Gair Duw mor gyflawn a chyffredin i'w plith ag yr oeddent pryd hynny er nad oedd ganddynt ond y Testament Newydd yn unig, a hwnnw yn anaml iawn o'i gymaru â thrigolion y wlad. Eto y mae'r gwr da yn moliannu Duw am y fraint honno; ac yn mawr ddiolch i'r Frenhines, drosto ei hun a miloedd o'i gydwladwyr, am iddi ganiatau iddynt gael cymaint o Air Duw yn iaith ei hunain. O'r Cymry presenol! gwelwch eich braint. Rhodded Duw i chwi helaethrwydd o râs, fel y llanwer Cymru o dduwioldeb a duwiolion.
  111. Bailey's Dictionary and other large Dictionaries on the word Printing. "Oes Lyfr," tu dal. 117.
  112. Concordance.
  113. "Oes Lyfr," tu dal. 81, 82.
  114. "History of Wales," P. 9. &c.
  115. "Drych y prif oesoedd, tu dal. " 267. &c.
  116. "Breviary of Britain," 67
  117. Canterbury
  118. "Hanes y byd a'r amseroedd," tu dal. 149, 202.
  119. Cambridge,
  120. Catalogue, pp. 49, 54.
  121. Dywedir i esgob a elwid Aldhelm gael ei drefnu mewn cymanfa i ysgrifennu yn erbyn y Brutaniaid, am nad oeddent yn cytuno â defodau crefyddol Eglwys Rufain. Wedi i'r gwr hwn ysgrifennu, dywedir i'w lyfr gael y fath effaith ar lawer o'r Brutaniaid fel y darfu iddynt gydffurfio â defodau y Rhufeiniaid. Mae'r hanes yn nodi i'r ysgrifennydd hwn farw ynghylch y flwyddyn 708.—"New History of England," 4th Edition 1753, P. 218.
  122. Ejected Ministers," P. 721.
  123. Ibid," P. 720.
  124. "Ibid," P. 284, &c.
  125. Mr. M. Henry's Life," P 193.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.