Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Cynhwysiad
← Rhagymadrodd | Hanes Cymru Cyf I gan Owen Morgan Edwards |
Amseroedd → |
CYNHWYSIAD
PENNOD I CYMRU Daear Cymru. Mynyddoedd wedi eu hamgylchu gan wastadedd a mor, cadarnle anibyniaeth a chartref ymraniad. Prif deuluoedd y mynyddoedd,-Eryri, y Berwyn, Plumlumon, y Mynydd Du.
PENNOD II Y CENHEDLOEDD CRWYDR
Pobl Cymru, ddaeth yma'n don ar ol ton,
- I. Iberiaid. Pobl fyrion pryd du o'r de. Eu nodweddion. Hwy yw prif elfen y genedl eto.
- II. Celtiaid (Brythoniaid a Gwyddyl). Pobl dal bryd goleu, o ganolbarth Ewrob. Eu hiaith hwy yw'r iaith Gymraeg.
- III. Rhufeiniaid, yn rheolwyr, milwyr, a marsiandwyr.
- IV. Teutoniaid (Saeson, Eingl, &c.). Llwythau ddaeth o wastadeddau genau'r Rhein o 450 ymlaen.
- V. Pobl gymysg-
- (a) Cenhedloedd duon, o benrhynnoedd y gogledd, -1081.
- (b) Normaniaid, Ffemingiaid, Llydawiaid, &c., 1063—1272.
- (C) Dyfodiaid ereill,-milwyr, gweithwyr, &c., —hyd heddyw.
Gwaith Rhufain-Atal y crwydro a rhoi trefn undeb ar y byd. Darganfod Prydain gan y Groegwr Pytheas. Ymweliad Cesar, 55 C.C. Tua chan mlynedd wedyn, yn 43, y mae'r Rhufeiniaid yn penderfynu gwneyd Prydain yn rhan o'u hym- herodraeth.
43-78. Y goncwest. Aulus Plautius, Ostorius Scapula, a'i frwydr fawr a Charadog ; Aulus Didius a Veranius a'r Silur- iaid ; Suetonins Paulinus yn difodi cartref derwyddon yn ynys Mon, ac yn llethu gwrthryfel Buddug: Julius Frontinus yn gorchfygu'r Siluriaid.
78—120. Y Rhufeneiddio. Daeth Agricola yn 78, i orffen gorchfygu ac i reoli'r wlad mewn trefn a heddwch. Gwneyd ffyrdd, adeiladu tai a dinasoedd, codi mwn.
120—250. Amddiffyn rhag y gelynion oedd yn torri i'r ymherodraeth. Codi'r muriau. Hadrian a Severus.
250-450. Y gwrthryfela. Arweinwyr uchelgeisiol yn ymgodi'i deyrnasu. Ymadawiad y llengoedd. Y barbariaid yn cau o gwmpas Prydain.
PENNOD IV Y SAESON Prydain wedi ei rhannu yn ddwy gan y Rhufeiniaid,-talaeth wastad y de-ddwyrain a thalaeth fynyddig y gorllewin a'r gogledd. Ymosod ar y ddwy tua 450; y Saeson a'r Eingl yn ymosod ar y traeth, a'r Pictiaid ar y mur.
Darluniad Tacitus o'r Eingl a'r Saeson yn eu cartrefi.
Concwest Prydain. 450-516. Concwest y tu de i'r Tafwys gan y Jutes (Caint), y South Saxons, a'r West Saxons (Gwent). Eu gyrru yn eu holau ym Mrwydr Mynydd Baddon: wedi hyn y mae trymder y rhyfel hyd draeth y dwyrain, o'r Tafwys i'r Forth, hyd 577. Yn 577 ail gychwynnodd y West Saxons dan Ceawlin, ac estynnodd buddugoliaeth Deorham eu terfynau i for yr Hafren. Yn 613 daeth yr Eingl dan Aethel frith o'r gogledd, ac estynnodd buddugoliaeth Caer eu terfynau i'r mor ar draeth Dyffryn Maelor. Erbyn 613 y mae'r barbariaid wedi gorlifo'r gwastadedd ac wedi amgylchu Cymru.
Y mae'r traddodiadau am yr ymladd rhwng Cymry'r dalaeth orllewinol a'r barbariaid (Pictiaid, Eingl, a Saeson) wedi casglu oddiamgylch Arthur. Pwysigrwydd y mur; unbennaeth yr ynys yn eiddo i'w amddiffynnydd. Yr Angl a'r Sais yn graddol hawlio bod yn breiwalda, dux Britanniarum, neu Wledig.
Y traddodiadau am yr hen dduwiau a'r hen arwyr; Rhonabwy yn eu gweled yn ymdeithio yn ei freuddwyd hyd ddyffryn Hafren; son yng nghaneuon Llyfr Du Caerfyrddia a Llyfr Coch Hergest am y mur ac am feddau'r dewrion.
Gwaith Maelgwn Gwynedd oedd (1) symud cartref y Gwledig oddiwrth fur y Gogledd i Wynedd; (2) gorffen darostwng pob cenedl, yn Wyddyl a dyfodiaid, yng Nghymru; (3) gorffen darostwng derwyddiaeth i Gristionogaeth. Cunedda Wledig a'i achau, rhoddi Rhufeiniaid a hen dduwiau yn hynafiaid iddo. Maelgwn Gwynedd,-darluniad Gildas o hono tua 550. Gwr adawodd ei fynachlog a'i weddi, mewn amseroedd enbyd, i reoli ei wlad a braich gref a gwialen haearn. Maelgwn yn unben,-ei gader edyn. Ei lynges, a'r morladron. Ei deyrnasiad ar dywysogion a saint, a'u grwgnach. Y Cenhadwr Cristionogol yn dilyn ei fyddinoedd a'i longau. Yblander a grym a phechod ei fab Rhun.
Prif dywysogion y Cymry, yr Eingl, a'r Saeson, o ymadawiad y Rhufeiniaid hvd 613, blwyddyn brwydr Caer. Pwysigrwydd Caer,—yn uno de a gogledd, dwyrain a gorllewin. Safodd hyd nes yr oedd y dinasoedd Rhufeinig ereill i gyd wedi cwympo. Ymdrech Ceawlin a'r Saeson i'w chyrraedd yn 584. Ymgyrch yr Eingl ac Aethelfrith yn 613. Cyflafan y mynachod, gorchfygu'r fyddin Gymreig, cymeryd y ddinas. Effeithiau brwydr Caer.
Yr ymdrech rhwng y Cymry a'r Eingl am y gogledd, y mur, a'r unbennaeth. Cadwallon ac Edwin. Buddugoliaeth Cadwallon trwy gyngrhair a Phenda, hen frenin paganaidd Mers. Brwydr Croesoswallt. Cwymp Cadwallon. Marw Cadwaladr. Diffyg undeb a brenhinoedd gweiniaid yng Nghymru; brenhinoedd cedyrn yn Lloegr.
Cartref a chymeriad y cenhedloedd duon. Yn anrheithio Cymru'n druan yn adeg Cynan Tindaethwy, 815—840. Rhodri Mawr yn codi yn eu herbyn ; ac yn llwyddo, er gorfod ffoi un. waith o'u blaenau. Anhawsterau mawrion Rhodri Mawr. Brwydr Dydd Sul, a chwymp Rhodri. Ei feibion a'i wyrion. Hywel Dda a'i gyfraith. Anghyfraith, ac ofn fod diwedd y byd gerllaw.
Ymrafael ac ymladd ymysg y tywysogion. Llywelyn ab Seisyll yn dechreu rhoi trefn ar Gymru. Brwydr Aber Gwili. Llwyddiant Llywelyn. Trallodion newydd gyda'i farw; ei fab Gruffydd ar ffo. 1038. Gruffydd ab Llywelyn yn dod yn ol. Brwydrau Rhyd y Groes a Phen Cader. Wedi uno Cymru, trodd Gruffydd yn erbyn Lloegr. Yn ymuno ag Aelfgar, iarll y Mers. Brwydr Henffordd. Yn 1062 dechreua'r ymdrech rhwng Gruffydd a Harold, iarll Wessex. Dau gynllun Harold. Bradychu Gruffydd, 1063.
PENNOD XI YR HEN GREFYDD Darluniadau Iwl Cesar. Y derwyddon, eu lle a'u gwaith, a'u breintiau, yr archdderwydd. Trawsfudiad eneidiau. Pobl grefyddol. Yr aberthau, adeg byw ac adeg marw. Olion yr hen aberthu.
Ai peth Iberaidd oedd derwyddiaeth? Y gromlech. Y bedd a'r ty. Da a drwg derwyddiaeth.
Yr hen dduwiau,-Lludd Llaw Arian, Myrdain, Llyr, Elen Luyddawg; Mâth, Gwydion ab Don, Ceridwen, Dwynwen, &c.; Ellyll, Naf, Angeu, Tegid, &c.
Cartrefi'r hen grefydd, -Yr Allor Goch, Gorsedd Arberth, Cader Idris, Ffynnon Gybi, Ffynnon Gwenffrewi.
Dechreu hanes eglwys y Cymry. Cyfnod y tyfu, 200-300, yng ngoleu tanau'r erlid. Cyfnod y trefnu, 300—400 ; esgobion Prydeinig yng Nghynghorau Arles a Nicea; tystiolaeth y Tadau; Padrig. Cyfnod yr heresiau, 400—500; Pelagius ac Awstin; brwydr Haleliwia; llif y barbariaid yn gwahanu Eglwys y Cyfandir ac Eglwys yr Ynys. Cyfnod y Saint, 500—500; Dyfrig, Deiniol, Cyndeyrn, Cybi, Teilo, &c.; y deyrnas a'r esgobaeth.
Eglwys y Cymry ac Eglwys y Saeson wyneb yo wyneb; Awstin Fynach, Gregori, Derwen Awstin.
Mynyddoedd yn aros; y coed a'r llysiau newydd. Yr arth, y blaidd, yr afanc, yr eryr; yr anifeiliaid dor; traddodiad am foch a gwenyn.
Tonnau o genhedloedd yn troi'n haenau cymdeithas ; gwaed cymysg Iaith ac enw. Y taeog a'r teuluog. Cyfraith a llys- enwau. Ty a theulu.
NODION.-Hen raniadau Cymru, 14; Ffynhonellau hanes, 22, 38, 85; y goncwest Seisnig, 41, 46; 125, 6.