Nansi'r Dditectif (testun cyfansawdd)
← | Nansi'r Dditectif (testun cyfansawdd) gan Owain Llew Rowlands |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Nansi'r Dditectif |
NANSI'R
DDITECTIF
"Gwelodd ddrws agored ac i mewn
a hi â'i gwynt yn ei dwrn."
Gweler tudalen 26
NANSI'R DDITECTIF
GAN
O. LLEW. ROWLANDS
A
W. T. WILLIAMS
BUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERNARFON, 1935
Y Darluniau gan W. T. WILLIAMS
(Awdur Dail Difyr)
LIVERPOOL
YNG NGWASG Y BRYTHON
HUGH EVANS A'I FEIBION, CYF., STANLEY ROAD
MCMXXXVI
Ystori gyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol
Caernarfon, 1935, ydyw hon. Yn ei beirniadaeth arni
anogodd Moelona ni i'w chyhoeddi. Felly cyflwynwn
hi i blant ysgolion Cymru yn y gobaith y cânt yr un
mwynhad wrth ei darllen ag a gawsom ni wrth ei
llunio.
Dyffryn Nantlle,1936.
O.LL.R.W.T.W.
CYNNWYS
I. YR EWYLLYS—
II. WYNEB YN WYNEB
III. MEWN STORM
IV. STORI DDIDDOROL
V. Y DDWY CHWAER ETO
VI. CYFARFYDDIAD ANGHYSURUS
VII. YMCHWILIADAU NANSI
VIII. DIWRNOD DIGON DI-HWYL
IX. NEWYDDION PWYSIG
X. DADLENIAD ABIGAIL
XI. YMWELED Â'R MORUSIAID
XII. AR OL Y CLOC
XIII. MEWN PERYGL
XIV. YNG NGAFAEL LLADRON
XV. YMWARED
XVI. Y DYDDLYFR
XVII. CHWILIO AM YR EWYLLYS —
XVIII. YR ERGYD DERFYNOL
XIX. GWOBR
NANSI'R DDITECTIF
PENNOD I
YR EWYLLYS
"MI fuasai'n gywilydd pe bai'r holl arian yn mynd i ddwylo teulu William Morus. Mi fyddant yn uwch eu pennau nag erioed."
Newydd gyrraedd adref o un o gyfarfodydd yr Urdd yr oedd Nansi, geneth hoffus un ar bymtheg oed. Merch ydoedd i Mr. Edward Puw, un o gyfreithwyr enwocaf a mwyaf poblogaidd Trefaes.
"Beth ddywedsoch chi Nansi? Beth sydd am y Morusiaid?"
"Doeddych chwi yn gwrando dim," ebe Nansi, "dim o gwbl. Dweud yr oeddwn nad yw'n deg i holl arian Joseff Dafis fynd i ddwylo'r Morusiaid ffroenuchel yna. Oes dim posib gwneud rhywbeth i atal y fath beth?"
Edrychodd Edward Puw yn syn ar ei ferch a chan dynnu ei sbectol ymaith oddi ar ei drwyn, atebodd,
"Mae arnaf ofn nad oes posib gwneud dim, Nansi. Ewyllys yw ewyllys, mi wyddost yn eithaf da."
"Ond y mae'n edrych yn beth annheg iawn, fod yr holl eiddo yn disgyn i'w meddiant. Ac yn enwedig pan gofiwch eu hymddygiad tuagat Joseff Dafis."
"Wel," ebe'i thad, gyda'i wên araf feddylgar, "fedr yr un ohonom gyhuddo'r Morusiaid o fod yn rhy garedig erioed. Er hynny, fe roisant gartref i Joseff Dafis.
"Do, ac mi ŵyr pawb pam. Cynllunio yr oeddynt iddo adael ei arian i gyd iddynt. Mae'n amlwg i'w cynllwyn lwyddo hefyd. Cafodd yr hen ŵr barch tywysogaidd nes iddo wneud ei ewyllys yn eu ffafr, ond wedyn, derbyniodd bob sarhad ganddynt."
"Does neb yn hoffi'r Morusiaid yn fawr yn Nhrefaes, yn nag oes?" atebai Mr. Puw yn sychlyd.
"Pwy fedrai eu hoffi nhad? Mi wyddoch sut mae William Morus wedi gwneud arian trwy fanteisio ar brisiau uchel yn ystod y Rhyfel Mawr tra'r oedd eraill yn ymladd trosto. Dynes ffroenuchel yw ei wraig hefyd. Y mae Gwen a Phegi, ei ddwy ferch, yn yr ysgol efo mi, a fedr yr un o'r genethod eu goddef, mwy na minnau. Os daw mwy o arian i'w rhan hwy, ni bydd Trefaes yn ddigon mawr i'w dal."
Ni ddywedai Nansi yr un gair yn ormod am y Morusiaid. Dyna farn gyffredinol rhan fwyaf o bobl Trefaes, ac yr oedd eu hymddygiad tuagat Joseff Dafis yn destun siarad yn y dref.
Nis adnabu Nansi Joseff Dafis erioed yn dda iawn, er iddi ei gyfarfod laweroedd o weithiau ar y stryd. Ei syniad amdano ydoedd mai creadur od rhyfedd oedd. Bu farw ei wraig yn ystod y ffliw mawr a ysgubodd dros y wlad ar ddiwedd y rhyfel, ac o'r pryd hynny, cymerodd Joseff Dafis ei gartref gyda gwahanol berthynasau iddo. Ar y cychwyn ni chymerodd y Morusiaid fawr ddiddordeb yn yr hen ŵr, a gorfu iddo aros gyda pherthynasau na allent fforddio i'w gadw. Mawrygai yr hen ŵr eu caredigrwydd, a haerai y mynnai wneud ei ewyllys yn eu ffafr. Nid oedd William Morus a'i wraig yn barod i gymryd unrhyw drugaredd arno.
Ond rhyw dair blynedd cyn ei farw, daeth cyfnewidiad dros y Morusiaid. Crefasant ar i Joseff Dafis ddod i aros atynt hwy, ac o'r diwedd, cytunodd yntau. Cyn hir clywyd bod y Morusiaid wedi ei berswadio i wneuthur ei ewyllys yn eu ffafr.
Fel yr elai'r amser heibio, trodd y Morusiaid yn angharedig tuag at Joseff, tra y daliai yntau mewn iechyd pur dda. Parhai i drigo gyda hwynt, er yr hoffai yn awr ac eilwaith ymweled â hen ffrindiau. Sibrydid yn aml y bwriadai newid yr ewyllys olaf, gan adael dim i'r Morusiaid.
"Nhad, beth oedd Joseff Dafis yn geisio'i ddweud wrth y meddyg cyn iddo farw? gofynnai Nansi, ymhen y rhawg, "ai rhywbeth am ei ewyllys?" Yr oedd pawb yn Nhrefaes yn gwybod yn dda fel yr oedd Joseff wedi ceisio mynegi rhyw gyfrinach wrth y meddyg ychydig funudau cyn marw.
"Pur debyg, Nansi. Efallai y bwriadai adael ei eiddo i berthynasau mwy anghenus. Ond beth bynnag oedd arno eisiau ddweud, collodd ei gyfle."
"Ond feallai ei fod wedi gwneud ewyllys felly a'i fod am adael i'r meddyg wybod amdani."
"Gallasai hynny fod, wrth gwrs. Dyn rhyfedd iawn oedd yr hen Joseff."
"Efallai iddo guddio'r ewyllys yn rhywle, ac iddo geisio dweud ymha le yr oedd," awgrymai Nansi'n ystyriol.
"Os gwnaeth ewyllys felly ofnaf na wêl byth olau dydd. Fe ofala'r Morusiaid am hynny."
"Beth sydd yn eich meddwl, nhad?"
"Wel, mae'r eiddo'n fawr, Nansi, ac nid yw'r Morusiaid am i neb weld ceiniog ohono. Fy marn bersonol yw y gofalant hwy na ddaw ail ewyllys byth i'r amlwg.
"A ydych yn meddwl y dinistriant hi pe caent hyd i un?"
"Wel, Nansi, nid wyf am wneuthur cyhuddiadau, ond gwn mai gŵr cyfrwys ydyw William Morus, ac nid yw yn hynod am ei onestrwydd chwaith."
"Oni ellir gwrthbrofi'r ewyllys bresennol?"
"Prin. Nid wyf wedi ystyried y mater, ond hyd y gwelaf y mae gan y Morusiaid bob hawl cyfreithiol i'r ffortiwn. Fe gostiai lawer i geisio gwrthbrofi'r ewyllys, ac hyd y gwn, pobl dlawd yw'r perthynasau eraill. Y maent wedi rhoi cais i mewn, yn honni bod ewyllys ddiweddarach wedi ei gwneud yn eu ffafr hwy, ond y mae'n amheus gennyf a â'r mater ymhellach."
"Ond nid yw'r Morusiaid yn haeddu'r ffortiwn, nhad. Nid yw peth fel yna'n deg.
"Na nid oes tegwch ynddo. Ond y mae'n gyfreithiol, ac ofnaf na ellir gwneuthur dim i gael cyfiawnder i'r perthynasau tlawd yna. Yr oedd dwy eneth tua Mur y Maen, ac yr oedd Joseff yn bur hoff ohonynt. Dylasent fod hwy wedi cael rhywbeth ar ei ôl, ac y mae amryw o berthynasau eraill ddylai gael rhan o'r ffortiwn."
Bu Nansi'n ddistaw yn hir iawn ar ôl hyn, yn troi'r mater yn ei meddwl. Yr oedd ganddi feddwl craff, tebyg i'w thad. Dywedai ef yn aml fod ganddi feddwl fel ditectif, yn hoffi mynd ar ôl pethau, yn enwedig os byddai rhyw ddirgelwch o'u cwmpas.
Yr oedd Nansi'n amddifad o fam, ac felly yr oedd hi a'i thad yn hoff iawn o'i gilydd. Ymfalchïai ei thad iddo ei dysgu i feddwl drosti ei hun, a meddwl yn glir. Gwyddai yn dda y gallai ymddiried yn Nansi, ac oherwydd hynny dywedai lawer wrthi am yr achosion dyrys a diddorol a ddeuai i'w ran, fel twrne, i'w datrys.
Fwy nag unwaith bu Nansi'n bresennol gyda'i thad pan ddaeth rhai o uchel swyddogion yr heddlu i'r swyddfa i ymofyn ei gyngor. Unwaith cafodd fod yno pan ddaeth ditectif enwog i ymweled â'i thad ar fusnes pwysig. Diwrnodiau mawr oedd y rhai hyn i Nansi. Er hyn i gyd, nid geneth wedi ei sbwylio ydoedd: hoffid hi gan bawb, a dygai ei natur fwyn lu o gyfeillion iddi. Yr oedd colli ei mam a byw gymaint yng nghwmni ei thad wedi ei dysgu i ddibynnu arni ei hunan. Penderfynodd drefnu ei bywyd yn y modd y tybiai hi y dymunai ei mam iddi wneud, ac yr oedd cofio rhai o gynghorion ei mam iddi yn help i wneuthur hynny. Oherwydd hyn gwelid hi yn gyson yng nghyfarfodydd y capel, a deuai ei meddwl chwim, craff, o fantais iddi yn nadleuon yr Ysgol Sul. Yr oedd yn aelod ffyddlon o'r Urdd ers blynyddoedd, ac wedi dwyn anrhydedd fwy nag unwaith o'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Mabolgampau i Adran Trefaes.
Casbeth ganddi ydoedd anhegwch o unrhyw fath, ac ni allai oddef gweled y gwan yn dioddef. Yr oedd swyn neilltuol iddi, fel i bob geneth tuag un ar bymtheg oed, yn y gair "dirgelwch," ac ni byddai byth yn fodlon pan ddeuai ar draws rhyw ddirgelwch heb geisio ei ddatrys.
Efallai mai'r pethau hyn a barai fod achos Joseff Dafis yn ennyn ei diddordeb. Credai'n sicr fod rhywbeth cudd tu ôl i ewyllys yr hen ŵr, a theimlai, hefyd, fod rhai o'r perthynasau tlawd fu'n garedig wrtho yn cael cam. "Ydych chi'n meddwl fod Joseff Dafis wedi gwneud ail-ewyllys?" gofynnodd yn sydyn.
"Wir, Nansi, 'rwyt yn fy nghroesholi fel twrne,' atebai ei thad, yn amlwg yn mwynhau ei hun. "I ddweud y gwir, wn i ddim a wnaeth o ewyllys arall ai peidio. Y cwbl a wn i yw,—ond efallai na ddylwn ei grybwyll gan nad wyf yn rhy sicr."
"Ewch ymlaen," gorchmynnai Nansi'n ddiamynedd, "fy mhryfocio yr ydych.
"Na, ni ddymunwn eich plagio," atebai ei thad, "ond cof gennyf tua blwyddyn neu well yn ôl fod yn dod allan o Fanc y Maes pan aeth Joseff Dafis i mewn gyda Tomos Walters, y cyfreithiwr."
"Efo pwy? Efo'r twrne hwnnw sy'n gwneud dim ond paratoi ewyllysiau i bobl?"
"Ie, ac yr oeddynt yn dyfod i mewn i'r banc efo'i gilydd. Nid oedd gennyf yr un bwriad i wrando ar eu sgwrs, ond deallais mai trafod rhyw ewyllys yr oeddynt, a threfnu i Joseff Dafis alw yn swyddfa Mr. Walters drannoeth."
"Edrych yn debyg bod Joseff Dafis wedi bwriadu gwneud ewyllys arall, oni wna?"
"Dyna dybiwn innau ar y pryd."
"Rhyw flwyddyn yn ôl yr oedd hi? Dwy flynedd ar ôl i Joseff Dafis wneud ei ewyllys yn ffafr y Morusiaid, yntê?"
"Ie, pur debyg i'r hen Joseff fwriadu newid ei ewyllys. Synnwn i ddim na fwriadai adael y Morusiaid allan ohoni, ond wn i ddim."
"Wel, nhad, mae Mr. Tomos Walters yn hen gyfaill i chwi?"
"Ydyw, er yr amser y buom yn y coleg gyda'n gilydd."
"Yna, pam na ofynnwch iddo ddarfu iddo dynnu allan ewyllys i Joseff Dafis yr adeg honno?"
"Wel, prin y medraf wneud hynny, Nansi. Ni fydd pobl yn ein galwedigaeth ni yn bradychu cyfrinachau. Efallai y dywed wrthyf am edrych ar ôl fy musnes fy hun."
"Mi wyddoch yn dda na wna Mr. Walters hynny. Gwyddoch y gellwch fentro gofyn iddo."
"Wel, cawn weld. Wna i ddim addo mynd ato yn un swydd i ofyn iddo. Ond pam y cymerwch y fath ddiddordeb yn y mater, Nansi?"
"Wn i ddim yn iawn, ond fedra i yn fy myw weld nad oes rhywbeth yn rhyfedd yn yr achos. Mi ddylai rhywun estyn help i'r perthynasau tlawd yna, er mwyn iddynt gael chwarae teg.
"Mae arnaf ofn dy fod yn tynnu ar ôl dy dad. Dywed wrthyf, pa ddirgelwch a weli di ynglŷn â'r peth?"
"Os oes ewyllys ar goll, onid yw hynny'n ddigon o ddirgelwch i rywun?"
"Ydyw, wrth gwrs, os oes ewyllys ar goll. Ond y mae'n bosibl i Joseff Dafis fod wedi ysgrifennu ewyllys, ac wedi newid ei feddwl drachefn a thrachefn, ac wedi eu dinistrio. Gwnai yr hen ŵr bethau pur ryfedd weithiau."
"Beth bynnag, mi hoffwn wybod mwy am y mater. Wnewch chi siarad â Mr. Walters, nhad?"
"Yr wyt yn bur daer, fel arfer, Nansi," a gwenai Mr. Puw. "Tybed fyddai yn well i mi ei wahodd i ginio yfory?"
"O, gwnewch, wir," ebe Nansi'n eiddgar, "dyna gyfle rhagorol i ganfod beth ŵyr ef am yr ewyllys.'
"Olreit, fe geisiaf wneud hynny, ond peidiwch chi â disgwyl gormod." Edrychodd Edward Puw ar ei oriawr. "Wir, mae hi bron yn ddeg o'r gloch, Nansi. Dyma ni wedi trafod yr hen Joseff Dafis a'i ewyllys am awr gron. Gwely piau hi'n awr. Anghofiwch y Morusiaid a chysgwch.
"Gwnaf," ebe Nansi, braidd yn ddifater. "Peidiwch chi ag anghofio gwahodd Mr. Walters yfory."
Bu Edward Puw yn eistedd yn hir wrth y tân ar ôl i Nansi fynd i'w gwely.
O'r diwedd safodd ar ei draed.
"Synnwn i ddim nad yw Nansi wedi taro ar rywbeth od iawn," meddai'n ddistaw wrtho'i hun, wrth droi am y grisiau a throi'r golau trydan i ffwrdd, "Efallai na ddylwn ei hannog i ymyryd a'r peth, ond rhaid i mi gofio y mae'r achos yn un teilwng iawn."
PENNOD II
WYNEB YN WYNEB
PEIDIWCH anghofio pwy sydd i ginio gyda chwi heddiw, atgoffai Nansi wrth y bwrdd brecwast bore trannoeth.
"Fe'i galwaf ar y teliffon pan gyrhaeddaf fy swyddfa," atebai Mr. Puw, "ond cofiwch, peidiwch disgwyl gormod oddi wrth yr ymweliad."
"Wna i ddim, 'nhad," chwarddai Nansi, "ond os clywaf air am ewyllys goll, bydd yn fwy na digon gennyf." "Beth ydych am wneud heddiw tra byddaf yn y swyddfa, Nansi?"
"Dim neilltuol iawn heddiw. Mae gennyf dipyn o waith siopio. Byddaf yn mynd i wersyll yr Urdd yn Awst. Rhaid i mi baratoi ar gyfer hynny. Pnawn, 'rwy'n mynd i barti un o enethod fy nosbarth."
"Felly, 'rydych yn rhy brysur i ddod i ginio efo mi?" "O, nhad, a chwithau yn gwybod fy mod bron marw eisiau i chwi fy ngwahôdd," ebe Nansi. "Yr wyf mor awyddus i wybod rhywbeth ynghylch yr ewyllys yna."
"Olreit, os bydd gennych amser, dowch i'r swyddfa erbyn hanner awr wedi hanner dydd. Efallai na fedr Mr. Walters ddyfod; ond os medr, fe geisiwn gael allan rywbeth ynglŷn â Joseff Dafis. Nid oes raid i mi ddweud wrthych am beidio dangos eich bod yn orawyddus."
Cewch chwi siarad y cwbl, nhad. Cadwaf innau fy nghlustiau yn agored."
"Byddaf yn eich disgwyl erbyn hanner awr wedi hanner dydd, ynteu."
Gwthiodd Mr. Puw ei gadair yn ôl ac edrychodd ar ei oriawr. "Rhaid i mi frysio neu byddaf yn hwyr yn y swyddfa."
Ar ôl i'w thad adael y tŷ gorffennodd Nansi Puw ei brecwast, ac yna aeth i'r gegin at Hannah, y forwyn, i drefnu gwaith y dydd. Er mai un ar bymtheg oedd Nansi, yr oedd yn bur fedrus, a llwyddai hi a Hannah i gyd-dynnu yn ardderchog i edrych ar ôl y tŷ. Ar ôl marw ei mam flwyddyn cyn hynny penderfynodd Nansi edrych ar ôl y cartref gyda Hannah Parri, y forwyn fu gyda hwy fel teulu ers llawer blwyddyn.
Yr oedd Nansi yn boblogaidd yn yr ysgol, a chanddi ddigon o ffrindiau. Dywedai pobl Trefaes amdani bod iddi'r gallu o gymryd bywyd o ddifrif heb fod yn ddifrifol ei hunan.
Ffrind gorau Nansi yn yr ysgol oedd Eurona Lloyd. Y ddwy eneth fwyaf atgas ganddi yn y lle oedd Gwen a Phegi Morus. Beth bynnag ddigwyddai o'i le yn y dosbarth, ceisiai'r ddwy chwaer feio Nansi. Un dydd collwyd ffon hoci ar y cae chwarae. Yn ôl eu harfer, ceisiai'r ddwy chwaer feio Nansi. Ond yn ffodus, yr oedd rhai o gyfeillion Nansi wedi canfod Pegi yn cipio'r ffon i fyny a'i thaflu dros y gwrych. Daeth Rona ac un neu ddwy arall o gyfeillesau Nansi i ateb dros ei gonestrwydd at yr athrawes. Byth ar ôl hynny yr oedd yn gas gan y chwiorydd Nansi.
"Ni fyddaf yn ôl i ginio heddiw," ebe Nansi wrth Hannah. "Mae popeth yn barod ar gyfer swper heno, pan ddaw nhad adref."
Ymhen y stryd bu Nansi'n disgwyl ennyd am y 'bus,, ac yna ni bu'n hir cyn cyrraedd strydoedd prysur y dref. Aeth ar ei hunion i un o'r masnachdai mawrion a phrynodd amryw fân bethau ar y llawr isaf. Yna aeth i'r lifft ac esgynnodd i'r llawr cyntaf lle y gwerthid dilladau merched, gan feddwl prynu ffrog newydd ac un neu ddau o bethau eraill a dybiai yn angenrheidiol gogyfer â gwersyll yr Urdd. Pur brysur oedd hi yn y rhan honno o'r siop, a rhaid oedd iddi ddisgwyl ei thro. Eisteddodd i lawr yn hamddenol. Cyn hir tynnwyd ei sylw at ddwy eneth debyg iddi ei hun yn disgwyl eu tro, ond nid mor amyneddgar â hi. Gwelodd ar unwaith mai Gwen a Phegi Morus oeddynt.
Ymgecru yr oeddynt â'r gŵr oedd yn gyfrifol am y rhan honno o'r siop, ac ni fedrai Nansi beidio clywed eu geiriau.
"Dyma ni wedi bod yn disgwyl yma am dros ddeng munud,” meddai Gwen yn haerllug. "Anfonwch rywun i'n gwasanaethu ar unwaith, os gwelwch yn dda."
"Ofnaf na fedraf wenud hynny, madam," meddai'r gŵr, yn ofidus, "y mae eraill yma o'ch blaen."
"Wyddoch chwi pwy ydym ni?" gofynnai Gwen drachefn, yn goeglyd.
"Gwn, madam," ebe'r gŵr yn wylaidd, a sŵn blinderus yn ei lais,
"Anfonaf eneth atoch os arhoswch am funud neu ddau."
"Nid ydym yn arfer disgwyl wrth neb," oedd atebiad sych Pegi.
"Mae yn ddrwg gennyf," meddai'r gŵr drachefn, "ond rheol y siop hon yw i bob cwsmer aros ei dro."
Ffromodd Gwen. Fflachiai ei llygaid yn wyllt. Gwisgai ddillad drudfawr, ond nid oedd dim yn ddeniadol ynddi. Yr oedd mor dal fel bron y gellid dweud ei bod yn "denau." Wrth edrych arni'n awr, wedi colli ei thymer, gellid dweud gyda sicrwydd ei bod yn hyll.
Ar y llaw arall, yr oedd Pegi, eilun y teulu, yn dlws o un safbwynt, ond teimlai Nansi Puw nad oedd cryfder cymeriad yn ei hwyneb. Gellid dweud ar unwaith mai ychydig o benderfyniad oedd ganddi. Siaradai yn wahanol i'r genethod eraill, gyda rhyw lediaith Seisnigaidd dianghenraid oedd yn boenus a chwerthinllyd. Yr oedd Pegi fel blodeuyn o dŷ gwydr, ac uchelgais Mrs. Morus oedd iddi briodi rhywun cyfoethog rhyw ddiwrnod.
Yr oedd y ddwy yn hŷn na Nansi, er eu bod yn yr un dosbarth yn yr ysgol. Nid oedd gronyn o ddysgu ynddynt. Yr oeddynt uwchlaw dysgu oddi wrth neb, ac am eu bod mor ffroenuchel nid oedd iddynt ffrindiau.
Yn awr, wrth iddynt droi a'i gweled am y tro cyntaf, amneidiodd Nansi arnynt. Cydnabu Pegi'r amnaid, ond ni ddywedodd air. Ni chymerodd Gwen yr un sylw o'r cyfarchiad.
"Y snobiaid," ebe Nansi rhwng ei dannedd, “y tro nesaf ni chymeraf arnaf eu gweld.
Ar hynny dyna eneth yn prysuro at y ddwy chwaer. Edrychai Nansi arnynt gyda diddordeb yn gafael yn y naill ddilledyn ar ôl y llall. Yr oedd yn amlwg nad oedd dim a'u boddhâi, gan y taflent o'r neilltu ddillad prydferth a drudfawr bron heb edrych arnynt. Yr oedd rhyw fai ar bopeth ganddynt.
"Dyma i chwi ffrog hardd," ebe'r eneth gwrtais, gan ddangos dilledyn ystyriai Nansi yn rhyfeddol o brydferth, "newydd gyrraedd o Baris y bore yma.”
Cipiodd Gwen y ffrog yn ddiamynedd o'i dwylo. Edrychodd ar y dilledyn yn ddifater am ennyd, a thaflodd ef ar y gadair wrth ei hochr. Llithrodd y ffrog sidan yn swp i'r llawr, ac er braw i'r eneth, rhoddodd Pegi ei throed arni.
Trodd Nansi ymaith rhag gweled mwy, ac edrychodd ar amryw o bethau diddorol o'i chwmpas.
Daeth yn ôl ymhen ysbaid, a gwelodd Gwen a Phegi yn gadael y masnachdy heb brynu'r un nwydd, ac wrth fyned heibio i Nansi prin yr edrychent arni.
"Nid yw fawr ryfedd fod pobl yn dweud pethau cas amdanynt," ebe Nansi wrthi ei hun.
Torrwyd ar draws ei meddyliau gan eneth yn dod i'w gwasanaethu. Yr un eneth a fu gyda'r chwiorydd.
Ni fu Nansi'n hir cyn dewis ffrog,—un sidan las,—yr un lliw a'i llygaid. Aeth drwodd i ystafell i'w rhoi amdani.
"Y mae'n bleser dangos rhywbeth i chwi, Miss Puw," ebe'r eneth pan oeddynt eu hunain, "ond am y ddwy Miss Morus, mae'n gas gennyf weld eu hwynebau yn y lle. Y maent mor afresymol. Nid ydynt yn boblogaidd iawn."
"Nac ydynt," ebe Nansi. Credant fod eu gair yn ddeddf i bawb arall."
"Hm," ebe'r eneth, "ofnaf y byddant yn waeth os cânt eiddo Joseff Dafis i gyd." Gostyngodd ei llais. "Nid oes dim wedi ei setlo eto, ond y maent yn sicr yn eu meddwl eu hun eu bod i gael y cwbl ar ei ôl." Rhoddodd ei genau wrth glust Nansi: "Clywais Miss Gwen yn dweud wrth ei chwaer, 'O, bydd gennym ddigon i brynu'r holl siop os mynnwn, wedi i'r twrneiod orffen ffraeo.' Ond fy nghred i yw bod y Morusiaid yn bryderus rhag ofn i rywun ddod ag ewyllys arall i'r golwg fydd yn gadael dim iddynt hwy.'
Yr oedd Nansi yn rhy gall o lawer i gyfnewid clebar efo'r eneth. Yr oedd ei thad wedi ei dysgu i wylio ei thafod. Ond yr oedd hysbysrwydd yr eneth o ddiddordeb iddi. Casglodd ar unwaith fod pryder y Morusiaid yn profi y credent bod ewyllys arall.
Ar ôl trefnu i anfon ei negesau adref, gwelodd Nansi ei bod wedi troi hanner dydd.
"Rhaid imi frysio neu byddaf yn rhy hwyr i fynd gyda'm tad," meddyliai wrth adael y siop.
Cyrhaeddodd swyddfa'i thad i'r funud, a chafodd ef ar fin cychwyn allan i gyfarfod Mr. Walters. Yr oedd Mr. Puw wedi trefnu popeth yn ei ffordd ofalus ei hun.
Nid oedd ond gwaith ychydig funudau o'r swyddfa i Westy Gwalia. Tu fewn i'r porth gwelent Mr. Walters yn eu haros. Cyflwynodd Mr. Puw ei ferch iddo, ac aethant drwodd i'r ystafell fwyta'n ddiymdroi, at fwrdd oedd wedi ei arlwy ar eu cyfair.
Ar y cychwyn troai'r sgwrs o gwmpas llu o wahanol bethau, ac fel yr äi'r cinio ymlaen soniai'r ddau dwrne am ddyddiau'r coleg ac am wahanol faterion ynglŷn â'u galwedigaeth. Ofnai Nansi na ddeuai Joseff Dafis a'i eiddo byth yn destun yr ymddiddan, a hithau yn disgwyl mor bryderus amdano.
Yna, wrth yfed coffi ar ôl y cinio, trodd Edward Puw yr ymgom yn fedrus iawn at rai o'r achosion rhyfedd oedd wedi disgyn i'w ran i'w datrys o dro i dro.
"Gyda llaw, ni chlywais erioed y manylion am eiddo Joseff Dafis. Beth sy'n digwydd i'r Morusiaid? A ydyw yn wir fod y perthynasau eraill yn ceisio torri'r ewyllys?"
Am eiliad petrusodd Mr. Walters. Ni ddywedodd air, a suddodd gobaith Nansi. Ond petruster am foment yn unig ydoedd.
"Ni dducpwyd yr achos i mi," ebe Mr. Walters yn dawel, "ond rhaid cyfaddef imi ei ddilyn yn fanwl gan fod imi ddiddordeb arbennig yn Joseff Dafis. Fel y saif yr ewyllys bresennol, credaf yn gryf nas gellir ei gwrthbrofi."
"Felly, caiff y Morusiaid yr eiddo i gyd?" awgrymai Mr. Puw.
"Cânt, yn siwr, os na ddaw ewyllys arall i'r golwg." "Ewyllys arall?" gofynnai Mr. Puw, yn ddiniwed. "Credwch felly i Joseff Dafis wneud ewyllys arall?"
Arhosodd Mr. Walters am ychydig cyn ateb, fel pe'n methu penderfynu a ddylai ddweud yr hyn a wyddai. Yna, wedi taflu golwg dros ei ysgwydd i edrych a oedd rhywun yn agos iddynt, closiodd ei gadair at y bwrdd, ac meddai mewn tôn isel, "Fuaswn i ddim yn hoffi i air o hyn fynd ymhellach."
"Gellwch ymddiried yn hollol yn Nansi, na ddywed hi air wrth neb," ebe Mr. Puw, yn deall beth redai drwy feddwl y cyfreithiwr.
"Yna gallaf ddweud cymaint â hyn. Synnwn i ddim pe deuai ewyllys arall i'r amlwg. Ni bu'r Morusiaid yn rhy garedig wrth Joseff Dafis, ar ôl iddo wneud ei ewyllys yn eu ffafr. Rhyw flwyddyn yn ôl daeth Joseff i'm swyddfa, ac yr oedd yn selog am wneud ewyllys newydd. Awgrymai ei fod yn bwriadu torri'r Morusiaid allan ohoni heb yr un ddimai. Yr oedd am ysgrifennu'r ewyllys ei hun, a gofynnai amryw gwestiynau imi. Dywedais wrtho sut i fynd o'i chwmpas. Wrth ymadael â'r swyddfa addawodd ddod â'r ewyllys i mi i'w harchwilio wedi iddo ei hysgrifennu."
"Felly, gwelsoch chwi'r ewyllys newydd?" gofynnai Mr. Puw mewn syndod. Gafaelai Nansi'n dynn ym mreichiau ei chadair.
"Yn rhyfedd iawn, naddo. Ni ddaeth Joseff Dafis yn ôl. Ni allaf ddweud a wnaeth ef ewyllys arall ai peidio."
"Ac os gwnaeth un arall pur debyg na byddai'n hollol gyfreithiol?"
"Pur debyg. Peth anodd yw gwneud ewyllys na ellir ei thorri rywfodd neu'i gilydd. Ond, cofiwch hyn: yr oedd Joseff Dafis yn ŵr gofalus a gochelgar iawn."
"Er hynny, gallasai'r camgymeriad lleiaf roddi eu cyfle i'r Morusiaid ddwyn y mater i'r llys?"
"Gallasai. Gŵyr pawb bod y Morusiaid am gadw'r ffortiwn, doed a ddelo. Y mae ganddynt arian, chwi wyddoch. Dëellaf fod y perthynasau eraill wedi rhoi eu hawl i mewn, ond nid oes prawf fod ewyllys arall yn bod, ac heb arian ni allant obeithio ymladd yn erbyn y Morusiaid."
Yn ystod yr ymddiddan cadwodd Nansi yn berffaith ddistaw, ond ni chollodd yr un sill. Cynhyrfid hi drwyddi gan sylwadau Mr. Walters, ond yr oedd yn ofalus iawn i gadw ei theimladau iddi ei hun, a gwrandawai ar yr oll gan ymddangos yn hollol ddifater.
Ymhen ysbaid galwodd Mr. Puw am y bil, a thalodd ef. Ymwahanodd y cwmni bychan wrth ddrws y gwesty.
"Wel, Nansi, gefaist ti'r hyn oeddit eisiau?" gofynnai ei thad yn gellweirus, wedi i Mr. Walters eu gadael.
"O, nhad," atebai Nansi'n gynhyrfus, "yn union fel y tybiwn, fe wnaeth Joseff Dafis ewyllys arall."
"Peidiwch bod yn rhy sicr," cynghorai ei thad. "Efallai na wnaeth yr hen ŵr ewyllys arall o gwbl, neu, os gwnaeth un, fe'i dinistriodd."
"Eitha posibl, wrth gwrs, ond nid oedd yn hoffi'r Morusiaid, a'm teimlad i yw iddo guddio'r ewyllys yn rhywle. O, na fedrem ddod o hyd iddi!"
"Buasai mor hawdd a chael hyd i nodwydd mewn tas wair," atebai Mr. Puw. "Pe bawn i chwi, Nansi, ni fuaswn yn pendroni ynghylch y peth."
"Ni allaf beidio â phendroni heb sicrwydd im i fy hun nad oes ewyllys arall ar gael," atebai Nansi'n ystyfnig. "Rhowch ychydig amser i mi a mi a'ch synnaf i gyd."
Ond yn y 'bus, wrth fynd adref, ni theimlai mor sicr ohoni ei hun. Deuai amheuon i'w meddwl. Gwelai anhawsterau'r dasg oedd o'i blaen. Yr oedd yn benderfynol canfod ewyllys Joseff Dafis, ond nid oedd ganddi yr un syniad yn y byd mawr sut i ddechrau ar y gwaith.
"Ceffyl da yw 'wyllys," meddai Nansi wrthi ei hun drachefn a thrachefn. "Mae'r hen ddihareb yn hollol wir. Os gwnaeth yr hen Joseff ewyllys arall, ac os ydyw ar gael yn rhywle af ar ei thrywydd. Ac os caf hyd iddi gobeithiaf nad yn ffafr y Morusiaid y bydd."
PENNOD III
MEWN STORM
NANSI, os nad ydych yn brysur, fuasech chwi'n mynd ar neges i mi?" gofynnai Edward Puw un bore wrth y bwrdd brecwast.
"Ar unwaith, nhad," atebai Nansi. "Beth yw y neges?"
"Mae gennyf bapurau pwysig i'w hanfon i Mr. John Stephens, Penyberem, cyn hanner dydd. Buaswn yn mynd yno fy hunan, ond mae gennyf lawer iawn o waith o'm blaen heddiw.'
"Byddaf yn falch o'r cyfle, nhad. Ni fyddaf fawr o dro yn mynd hefo'r 'bus. Gallaf gerdded adref oddi yno; nid yw ond pedair milltir."
"Bydd yn gaffaeliad mawr i mi, Nansi, ac fe arbed lawer o'r amser prysur sydd o'm blaen."
Yr oedd yr eneth beunydd yn barod i roi hynny o gynorthwy a fedrai i'w thad, ac yr oedd yn awyddus iawn i gario allan ei orchmynion yn llwyr.
Edrychodd Mr. Puw allan drwy'r ffenestr. "Y mae'n ddiwrnod braf iawn, ond mae'r cymylau acw yn bygwth glaw cyn nos."
Byddai'n well i mi, felly, gychwyn, cyn gynted ag y gallaf. P'le mae'r papurau?"
"Yn y swyddfa. Awn i lawr gyda'n gilydd."
Ar y ffordd i lawr i'r swyddfa gofynnodd ei thad i Nansi, "Chlywais i mohonot yn sôn am fusnes Joseff Dafis yn ddiweddar yma. Wyt ti wedi anghofio amdano bellach?"
"Na, nid yw'r mater wedi mynd o'm cof, ond ychydig iawn o gynnydd a wneuthum hyd yma; ofnaf mai ditectif go wael ydwyf."
"Paid digaloni, Nansi; nid yw mor hawdd ag y tybiem.' "Nid wyf am ildio, nhad. Efallai y dof ar draws rhywbeth un o'r dyddiau nesaf yma."
Wedi iddynt gyrraedd y swyddfa rhoddodd ei thad amlen seiliedig hir yn ei llaw: "Rhowch hwn i Mr. Stephens; gwyddoch lle i'w gael."
Ni bu Nansi'n hir cyn cael 'bus. Wrth deithio yn y modur esmwyth mwynhai'r olygfa brydferth. Dolydd gwyrddion a choedydd deiliog, caeau yn llawn grawn yn dechrau aeddfedu. Tywynnai'r haul a disgleiriai'n danbaid ar y ffordd, ond draw, ar y gorwel, casglai cymylau duon, bygythiol. Er hynny credai Nansi fod glaw yn annhebyg am ysbaid.
Yr oedd wedi un ar ddeg o'r gloch pan gyrhaeddodd Nansi Benyberem. Yr oedd ychydig o waith cerdded o'r 'bus, i swyddfa Mr. Stephens. Cafodd Nansi ef i mewn a rhoddodd iddo yr amlen oddi wrth ei thad.
"Diolch yn fawr i chwi, Nansi," meddai Mr. Stephens, "ac yn awr gaf fi wahôdd merch fy hen gyfaill i ginio gyda mi. Byddaf yn barod ymhen ychydig funudau."
Gan nad oedd dim neilltuol yn galw amdani, derbyniodd Nansi'r gwahoddiad ar unwaith.
Ar ôl cinio mynegodd Nansi ei bwriad i gerdded adref ar hyd yr hen ffordd o Benyberem i Drefaes. "Cymer fwy amser nag ar hyd y ffordd newydd, ond gobeithio y deil y glaw i ffwrdd," meddai.
"Wna hi ddim glawio heddiw," ebe Mr. Stephens, yn obeithiol, "fe gilia'r cwmwl du acw yn y man."
Hen ffordd adeiladwyd gan y Rhufeiniaid oedd hon, yn dirwyn drwy'r bryniau. Rhedai drwy goed tewfrig allan o Benyberem, ac yn fuan äi ar dro tua'r mynydd. Synnai Nansi mor dywyll ydoedd wedi gadael y coed. Nid oedd olwg o dŷ yn unman, a gwyddai Nansi'n dda nad oedd yr un o fewn tri chwarter milltir. Cyflymodd ei cherddediad wrth weld yr awyr mor ddu. Yr oedd rhyw reddf yn dweud wrthi fod storm gerllaw. Yr oedd yr awyrgylch mor drymaidd, a phopeth mor ddistaw. Yn sydyn, dyna fflach mellten, a tharan fygythiol wrth ei sawdl.
"Yn awr amdani," meddai Nansi, gan syllu'n syth o'i blaen drwy'r gwyll. "Mae'r storm yn bur agos."
Gwelai'r colofnau glaw yn cyflymu tuag ati. Daeth i dro sydyn yn y ffordd, a gwelai adeilad draw. Dechreuodd redeg am ei hoedl, a thorrodd y glaw yn genlli'. Llwyddodd i gyrraedd at yr adeilad. Gwelodd ddrws agored, ac i mewn a hi â'i gwynt yn ei dwrn. Safodd wrth gil y drws â'i chalon yn curo.
"I'r dim," meddai llais mwyn o'i hôl.
Nid oedd Nansi wedi sylweddoli y gallasai neb arall fod yn y lle, a throdd mewn braw. Gwelai eneth tua'r un oedran â'i hunan. Fel y siaradai'r eneth boddwyd ei geiriau gan sŵn byddarol taran arall, a griddfannodd y gwynt drwy ddrysau'r ysgubor.
"O," meddai Nansi'n bryderus, "maddeuwch i mi am ruthro i mewn fel hyn.
"Can croeso," ebe'r llais mwyn drachefn, "nid oes gennym fawr fwy na chysgod i gynnig i chwi."
Nid oedd yn hawdd gweled dim yn eglur yn yr ysgubor, ond syllodd Nansi ar y siaradwr. Yr oedd y llais yn llawn o sŵn diwylliant, ond sylwai fod dillad yr eneth yn ddigon cyffredin. Yr oedd yn naturiol i Nansi ddisgwyl gweled merch ffermwr cyffredin, ond rhywfodd nid oedd yr eneth hon yn ffitio'r darlun.
"Mae'n edrych yn debyg fel pe baem am storm iawn y tro hwn," meddai'r eneth â gwên dirion ar ei hwyneb, 'ofnaf bydd raid i chwi aros yma am ysbaid."
"Nid yw hynny wahaniaeth o gwbl," ebe Nansi, "os caf ymochel rhag y glaw. A ydyw rhyw wahaniaeth i mi aros hyd nes y cilia'r ystorm?"
"Dim o gwbl," ebe'r eneth ar unwaith. "Chredech chwi ddim mor falch ydym o gael ymwelwyr. Anaml iawn y caiff Besi a minnau y fraint o siarad â genethod cyffelyb i ni ein hunain. A wythnos heibio weithiau heb i ni weld neb ond y llythyrgludydd."
Anghofiodd Nansi yr ystorm. Cododd geiriau'r eneth ei hawch am rywbeth â sawyr dirgelwch arno. Ar unwaith deffrôdd ei diddordeb yn yr eneth â'r llais mwyn, a dyfalai y rheswm am ei hunigrwydd.
"Diolch yn fawr i chwi am eich caredigrwydd," ebe Nansi, gyda gwên gyfeillgar, "efallai, wedi'r cwbl, bod y storm wedi gwneud cymwynas â ni'n dwy, drwy ddod â ni at ein gilydd fel hyn."
Prin y breuddwydiai Nansi mor wir oedd ei geiriau.
PENNOD IV
STORI DDIDDOROL
"GWAETHYGU mae'r storm," ebe'r eneth. Aeth Nansi ar ei hôl at ddrws y sgubor, ac edrychodd allan ar y ddrycin. Dylifai'r glaw yn genlli', ac fel safai'r ddwy eneth yng nghysgod y drws, chwythai'r gwynt llaith i'w hwynebau.
"Gadewch i ni fynd yn ôl i le sych," meddai Nansi, dan chwerthin.
"Y mae'n oeri hefyd," ychwanegai'r eneth. "Gwn beth wnawn. Dowch i'r tŷ gyda mi. Bydd yn ddifyrrach o lawer yno. Mae'n siwr y pery'r storm am awr neu fwy na hynny."
"Na, nid wyf am achosi trafferth i chwi."
"Dim trafferth o gwbl. Faddeua Besi byth i mi os nad af â chwi i'r tŷ." Trodd at Nansi: "Anghofiais ddweud wrthych fy enw: Glenys Roberts ydwyf fi."
"Nansi Puw ydwyf finnau."
"Nid Nansi Puw, merch y cyfreithiwr o Drefaes?"
"Ie," ebe Nansi, a chryn syndod yn ei llais, "a ydych chwi'n adnabod fy nhad?"
"Na, ond gŵyr pawb yn iawn amdano ef," atebai'r eneth, gan dynnu ei chôt, "Rhowch hon trosoch."
"Yn wir, ni chymeraf eich cot," atebai Nansi. "Beth wnewch chwi eich hun am rywbeth drosoch rhag y glaw?" "Byddaf fi yn iawn gyda'r hen got yma sydd tu ôl i'r drws."
Gan brotestio rhoddodd Nansi'r got amdani a Russian boots am ei thraed. Edrychodd y ddwy eneth ar y naill a'r llall, a dechreuasant chwerthin yn galonnog. Caeasant ddrws yr ysgubor yn ofalus.
"Yn awr amdani: rhedwn nerth ein traed," meddai Glenys.
Ymaith â hwynt i ganol y glaw. Dyna fflach a tharan ddigon i'w dychryn, a'r awyr lawer yn oerach erbyn hyn.
"Daw cenllysg os oera lawer mwy," ebe Glenys, fel y cyrhaeddent ddrws y tŷ.
Tynasant eu hesgidiau a daethant i'r gegin gynnes, glyd, a daeth geneth ychydig yn hŷn na hwy atynt oddi wrth y tân.
"Besi, dyma ymwelydd â ni," ebe Glenys. "Miss Puw, dyma fy chwaer. Hi sy'n cadw'r teulu i fynd."
Ysgydwodd Besi law â Nansi'n galonnog, gan wenu'n garedig, geneth dal, olygus, gwallt du a llygaid tywyll. Casglai Nansi ei bod rhyw bedair blynedd yn hŷn na'i chwaer, Glenys. Wyneb caredig, llawn difrifwch, fel pe buasai wedi derbyn cyfrifoldeb pan yn ieuanc iawn.
Swynwyd Nansi gan groeso parod y chwiorydd, a theimlai yn hollol gartrefol yn eu cwmni ar unwaith.
"Yr ydych yn garedig iawn yn fy nerbyn fel hyn."
"Pleser yw i ni," ebe Besi; "anaml iawn y cawn y cyfle i weld genethod o'n hoed ni yma heb i ni fynd i Benyberem, ac anfynych iawn bydd hynny'n digwydd. Yr ydym yn falch iawn o'ch cael gyda ni am ychydig, Miss Puw."
"Nansi fydd pawb arall yn fy ngalw. Wnewch chwithau'r un modd?"
Yn fuan iawn yr oedd y tair geneth yn chwerthin ac yn siarad â'i gilydd fel hen gyfeillion. Gwyddai Nansi y byddai yn sicr o hoffi'r chwiorydd, ac yr oedd yn amlwg yr hoffent hwythau ei chwmni hithau.
Cyn hir tynnodd Besi gacen o'r popty.
"Mae hon yn barod," meddai, fel y tynnai'r gyllell yn lân ohoni, "nid oes eisiau ei gwylied ymhellach, felly awn i'r ystafell arall. Cewch brofi'r gacen cyn mynd adref, Nansi."
"Mae cacennau Besi'n werth eu bwyta," ebe Glenys. "Cogyddes wael iawn ydwyf fi. Gwell gennyf fod allan."
Aeth y tair drwodd i'r ystafell arall.
"Nid ydym am ddymuno drwg i chwi, Nansi," chwarddai Besi, "ond, yn wir, nid yw gwahaniaeth gennyf fi a Glenys pa mor hir y pery'r storm."
"Na finnau chwaith, os gallaf gyrraedd adref cyn y nos," atebai Nansi.
Er bod yr ystafell yn gynnes a chlyd, ychydig o ddodrefn oedd ynddi. Gorchuddid y llawr â matiau o waith llaw. Yr oedd yno soffa ac ychydig gadeiriau, bwrdd digon cyffredin a lle tân hen ffasiwn. Gwelodd Nansi bod y chwiorydd wedi ceisio gwneud eu cartref mor gysurus ag y medrent, er fod ôl tlodi ar y lle.
"A ydyw yn bosibl eich bod yn byw yma ar eich pennau eich hunain?" gofynnai Nansi.
"Y mae Besi a minnau wedi byw yma er pan fu farw ein tad, ddwy flynedd yn ôl. Bu mam farw ychydig cyn hynny," atebai Glenys, yn dawel.
"Sut yn y byd y medrwch gario ymlaen mewn fferm fel hon ar eich pennau eich hunain?"
"Nid yw'r fferm yn fawr iawn erbyn hyn," ebe Besi, "dim ond ychydig aceri."
"Mae Besi yn cael helpu gwniadwraig o Benyberem pan fydd gan honno ormod o waith, ac yr wyf finnau yn magu ieir," ebe Glenys.
"Ieir?" gofynnai Nansi. "Ydyw pethau felly yn talu?"
"Wel, dibynna hynny ar lawer o bethau. Nid yw'r farchnad cystal eleni ag arfer, ac y mae prisiau wyau yn isel. Ond yr wyf yn hoffi gweithio. Rhown rhywbeth yn y byd am stoc o White Leghorns.'
"Allan y mynn Glenys fod," ebe Besi. "Byddwn yn rhannu'r gwaith. Edrychaf fi ar ôl y tŷ; ond gwell ganddi hi wneud y gwaith y tu allan."
"Llwyddwn yn eithaf yn yr haf," ychwanegai Glenys, "a daw deupen llinyn ynghŷd yn weddol dda. Cawn lysiau o'r ardd a ffrwythau oddi ar y coed,-digon ar gyfair ein anghenion ein hunain. Ond caled iawn yw'r gaeaf. Wn i ddim sut y gwnawn y flwyddyn hon."
"Wedi llwyddo yr ydym hyd yn hyn," ebe Besi'n wrol, "ac fe wnawn yr un fath eleni eto.
Cododd o'i chadair, a chan droi at Nansi, meddai,
"Mae'n siwr nad oes unrhyw ddiddordeb i chwi yn ein helyntion ni. Mae'n wir ein bod yn dlawd, ond gallwn er hynny gynnig cwpanaid o dê i un ddieithr. Esgusodwch fi am funud neu ddau. Af i wneud un."
Bu bron i Nansi wrthod, ond llwyddodd i frathu ei thafod yn ddigon buan pan ddeallodd fod balchter yn perthyn i'r genethod, ac y buasai gwrthod eu caredigrwydd yn brifo eu teimladau.
"Hoffwn yn arw fedru eu helpu," meddyliai Nansi. "Efallai y gallaf berswadio Besi i weithio ar ffrog i mi."
Yn fuan daeth Besi i mewn â hambwrdd yn ei llaw, a lliain glân, gwyn fel eira, yn orchudd arno. Tywalltai dê ag urddas, fel pe'n ei dywallt i frenhines. Yr oedd cacen ar yr hambwrdd hefyd.
"Fûm i erioed yn bwyta gwell cacen," ebe Nansi toc, gan wenu'n galonnog.
"Byddai f'ewythr Joseff yn dweud nad oedd hafal i Besi am wneud cacen," meddai Glenys.
Yr oedd Nansi'n glust i gyd pan glywodd y gair Joseff. Tybed mai Joseff Dafis ydoedd? Pur annhebyg. Ac eto, cofiai i'w thad ddweud wrthi ychydig ddyddiau cynt bod dwy eneth tua Mur y Maen ddylasai fod yn ei ewyllys, ac nid oedd Mur y Maen ymhell o'r lle hwn. "Y mae'n werth gwneud ymholiad, beth bynnag,' meddyliai Nansi wrthi ei hun.
"Felly bu farw eich ewythr?" gofynnai, yn llawn cydymdeimlad.
"Nid oedd Joseff Dafis yn ewythr i ni mewn gwirionedd," ebe Besi, "ond hoffem ef yn fawr, ac edrychem arno bob amser fel perthynas i ni. Yr oedd yn byw wrth ein hymyl, pan oedd nhad a mam yn fyw.'
Aeth teimladau Besi'n drech na hi, a pharhaodd Glenys gyda'r hanes.
"Un o'r dynion anwylaf a welsoch erioed ydoedd.
Tybiai rhai mai un od a rhyfedd ydoedd, ond nid oedd ond eisiau cynefino â'i ffordd i weld sut un ydoedd. Bu'n dda iawn wrthym ni, a derbyniasom lawer o garedigrwydd oddi ar ei law. Buom yn gymdogion am flynyddoedd nes aeth i fyw at y Morusiaid yn Nhrefaes. Ar ôl hynny cyfnewidiodd pethau."
"Ond ni chartrefodd erioed yn iawn gyda'r Morusiaid," ychwanegai Besi. "Yr oeddynt yn angharedig wrtho, a byddai'n aml yn dianc yma'n llechwraidd am ychydig o gysur, oni fyddai, Glenys?"
"Byddai. Ac yn aml dywedai ein bod fel plant iddo. Ni byddai ball ar ei anrhegion inni; ond hoffem ef yn bennaf er ei fwyn ei hun,—nid er mwyn ei arian. Llawer gwaith y dywedodd y gofalai ef amdanom wedi marw ein rhieni. Cofiaf yn dda y tro olaf y gwelsom ef yn fyw. Dywedodd y byddai'n sicr o gofio amdanom yn ei ewyllys."
"Yr wyf yn siwr ei fod o ddifrif hefyd," meddai Besi, "ond ofnaf na chafodd gyfle i drefnu ei bethau felly. Y Morusiaid gafodd y cwbl ar ei ôl, a waeth i ni heb boeni ynghylch ei addewidion bellach." Ond ychwanegodd yn chwyrn, braidd: "Ond methaf yn lân â gweld ei bod yn deg i'r Morusiaid yna fyned â'r oll o'r eiddo a hwythau wedi gwneud cyn lleied iddo."
"Efallai y crybwyllir chwi yn yr ewyllys nas gellir ei chael," awgrymai Nansi'n ddistaw.
Edrychodd Besi a Glenys ar ei gilydd yn awgrymiadol. "Yn union beth dybiem ninnau," ebe Glenys. "Tybed ydyw'n bosibl gwneud rhywbeth yn y mater? Beth feddyliwch chwi, Nansi?"
"Wel," atebai Nansi'n ofalus, "dylasai'r Morusiaid wneuthur rhywbeth i chwi, o leiaf."
"Y Morusiaid?" chwarddai Glenys yn wawdlyd. "Ni fuasent hwy yn estyn ceiniog o'r eiddo i ni byth."
Am ysbaid bu'r tair yn trafod yn fywiog yr hen Joseff Dafis a'i ffyrdd digrif. Amlwg i Nansi bod y chwiorydd yn hoff iawn ohono.
Mor ddiddorol oedd y sgwrs fel na sylwodd y genethod fod y storm wedi tawelu. Pelydryn o heulwen drwy'r ffenestr a dynnodd eu sylw fod Natur eilwaith yn gwenu o'r tuallan. Cododd Nansi i fynd.
"Y mae eich stori wedi fy niddori yn fawr," meddai wrth y genethod, "feallai y medr fy nhad wneud rhywbeth drosoch."
"O, nid oeddym yn meddwl gofyn cymorth," ebe Besi. "Nis gwn sut y bu i ni ddweud cymaint wrthych."
"Yr wyf yn falch iawn i chwi wneud hynny, ac os medraf yr wyf am eich helpu. Os gofyn fy nhad i chwi ddod i'w swyddfa yn Nhrefaes, a ddeuwch chwi?"
"Wel, deuwn, mi dybiaf," addawai Besi, yn araf, "ond yr ydym wedi dweud y cwbl wrthych am yr ewyllys."
"Y mae fy nhad yn rhyfeddol am gael hyd i bethau," ebe Nansi.
"Y mae eich tad yn garedig yn meddwl amdanom o gwbl," ebe Glenys. "Byddem yn dra diolchgar pe bai bosibl iddo wneud rhywbeth o'n plaid. Ni ddymunem yr un ddimai nad yw iawn i ni ei chael; ond edrych yn debyg iawn y dylem fod wedi cael rhywbeth."
"Peidiwch gobeithio gormod hyd nes y siaradaf â'm tad," cynghorai Nansi, wrth fynd am y drws. "Beth bynnag a ellir, gellwch fod yn sicr y gwneir ef."PENNOD V
Y DDWY CHWAER ETO
ER fod y glaw wedi peidio yr oedd golwg ofnadwy ar y ffordd ar ôl y storm.
"Buasem yn falch pe arhosech hyd yfory," meddai Besi. "Mae'r ffordd yn ddrwg iawn i chwi ei cherdded." "Nid oes ond ychydig dros ddwy filltir eto," atebai Nansi. "Byddaf adref cyn iddi dywyllu. Mi ddymunwn dalu i chwi am eich trafferth."
"Ni fuaswn yn breuddwydio am dderbyn dim gennych," ebe Besi'n bendant. "Ar ein hochr ni y mae'r diolch."
"Hwyl iawn oedd i chwi fod yma," ychwanegai Glenys.
O'r diwedd, ar ôl diolch i'r chwiorydd am eu caredigrwydd, ffarweliodd Nansi â hwy. Gwyliodd Besi a Glenys hi yn cerdded ar hyd y ffordd hyd nes aeth o'r golwg.
Cerddai Nansi'n gyflym, a buan iawn y daeth i olwg Trefaes. Penderfynodd alw yn swyddfa ei thad ar unwaith i adrodd ei helyntion wrtho. Fel yr elai i mewn i'w ystafell cododd ei thad o'i gadair i'w chyfarfod.
"Yr wyf yn falch o'ch gweld yn ôl yn ddiogel, Nansi," meddai. "Yr oeddwn wedi dechrau pryderu yn eich cylch. Phoniais i'r tŷ i edrych a oeddych wedi cyrraedd."
"Bûm yn brysur, 'nhad," atebai Nansi'n bwysig, ac ar unwaith dechreuodd adrodd i'w thad sut y cyfarfu â'r ddwy chwaer yn y tŷ unig, a'r hyn ganfu am ewyllys Joseff Dafis.
"Y mae Besi a Glenys cyn dloted â llygod eglwys, ac yn rhy falch i gyfaddef hynny," ebe Nansi, wrth orffen yr hanes. "Gresyn na fedrem wneuthur rhywbeth i'w helpu. Haeddasant ran o ffortiwn Joseff Dafis, ond ni welant yr un ffyrling os na chymer rhywun ddiddordeb yn eu hachos.
"Yn ôl yr hyn a ddywedwch, y mae bron yn sicr, erbyn hyn, i Joseff wneud ewyllys yn eu ffafr," ebe Edward Puw, yn feddylgar. "Ni hoffais i erioed William Morris, a rhaid i mi gyfaddef na phoenid fi lawer pe gwelwn ef yn gorfod rhoddi yr arian i fyny. Byddaf yn falch o weld y ddwy chwaer yma i mi eu holi. Beth am eu gwahodd yma un diwrnod er mwyn i mi eu cyfarfod?"
"Yr oeddwn yn gobeithio y dywedech hynny."
"Dywedwch na ŵyr y genethod beth ddaeth o'r ewyllys?"
"Welsant hwy erioed mohoni."
"Efallai wrth siarad â hwynt y deuwn ar draws rhywbeth a'n cynorthwya."
"Fe'u gwahoddwn hwy yma yfory os dymunwch," ebe Nansi yn eiddgar. "Yr ydych chwi mor fedrus yn gofyn cwestiwn, a gwn y gwna'r genethod bopeth yn eu gallu i helpu."
Trodd Mr. Puw at ei ddesc ac astudiodd yr almanac am eiliad.
"Dyna ni ynteu," meddai, "ond gwell fyddai i ni eu gweld am dri o'r gloch y dydd ar ôl yfory. Gwn y byddaf yn rhydd yr awr honno.
Yr oedd Nansi'n awr ar ben ei digon.
"Gwyddwn yn iawn y ceisiwch eu helpu, nhad," meddai, "ac yn awr, gan eich bod wedi addaw, af adref i chwi gael mynd ymlaen gyda'ch gwaith."
Yr oedd diddordeb Nansi ym musnes Joseff Dafis wedi ei ail ennyn ar ôl cyfarfod â'r genethod, ac yn awr yr oedd yn awyddus iawn am eu gweled drachefn.
Pan ddaeth y diwrnod iddynt ddyfod, edrychai Nansi ar y cloc, yn dyfalu a ddeuai'r genethod ai peidio. Yr oedd wedi anfon atynt, a hwythau wedi addaw dyfod, ond yr oedd Nansi braidd yn anesmwyth, yn enwedig pan nesai tri o'r gloch, a hwythau heb gyrraedd.
"Wn i ddim pam na ddeuant," gofidiai.
Prin oedd y geiriau o'i genau na chanodd cloch drws y ffrynt.
"Dyna'r genethod!" meddai, gan lamu at y drws.
Besi a Glenys oeddynt, a chroesawodd Nansi hwynt yn llawen. Aeth â hwynt drwodd i ystafell ei thad, ac yn fuan dechreuasant siarad yn hollol gartrefol.
"Dywedwch wrthyf am Joseff Dafis," awgrymai Edward Puw. "Deallaf ei fod yn hen ŵr od iawn."
"Oedd, yr oedd yn un rhyfedd iawn," dechreuai Glenys ar unwaith. "Gwelais ef unwaith yn chwilio am ei spectol a hwythau ar ei drwyn."
"A oedd yn hoff o guddio pethau?" holai Mr. Puw.
"Fu erioed ei fath am wneuthur hynny," chwarddai yr eneth. "Yr oedd beunydd yn rhoi pethau mewn 'lle diogel,' chwedl yntau. Yr oedd y lle mor ddiogel fel na fedrai byth gael hyd iddo drachefn."
"Ddywedodd ef rywdro rywbeth barai i chwi gredu y gallasai fod wedi cuddio ei ewyllys?"
Ysgydwodd Glenys ei phen.
"Ni fedraf fi gofio
"Wel, do, fe wnaeth," ebe Besi ar ei thraws. "Un dydd pan oedd yn ein tŷ ni dechreuodd siarad am y Morusiaid, a'r ffordd y ceisient gael ei arian."
"Cânt eu siomi pan welant fy mod wedi gwneud ewyllys arall," meddai, gan chwerthin fel y gwnai ef. "Nid wyf am eu rhoi yn llaw unrhyw dwrne y tro hwn. Rhoddaf hi mewn lle y gwn y bydd yn ddiogel."
"O, ie, yr wyf finnau'n cofio yn awr," ategai Glenys. "A oedd Joseff Dafis yn byw gyda'r Morusiaid pan ddywedodd hyn wrthych?" gofynnai Mr. Puw yn gyflym.
"Oedd," ebe Besi.
"A ydyw'n bosibl iddo fod wedi cuddio'r ewyllys yn y tŷ?"
"Yn nhŷ'r Morusiaid?" gofynnai Besi. "Nis gwn am hynny, ond gallaswn dybio hynny wrth i chwi ofyn."
Edrychodd Nansi a'i thad ar ei gilydd; yr un peth ym meddwl y ddau. Efallai i'r Morusiaid ganfod yr ewyllys a'u bod wedi ei dinistrio.
Gofynnodd Edward Puw amryw o gwestiynau ymhellach. Er mor awyddus oedd y genethod i helpu, ychydig o oleuni a allent daflu ymhellach ar fater yr ewyllys goll. Cawsant dê gyda'i gilydd, a diolchasant i Mr. Puw am ei ddiddordeb yn eu helyntion. Codasant i fyned.
"Os gallaf eich helpu mewn unrhyw fodd, gwnaf hynny," ebe Mr. Puw wrth y chwiorydd, wrth eu hebrwng i'r drws, "ac wrth gwrs ni raid i chwi bryderu am dâl am fy ngwasanaeth. Ond heb yr ewyllys, amhosibl fydd gwneuthur dim.
Ar ôl i'r genethod ymadael trodd Nansi lygaid ymofyngar ar ei thad.
"Genethod dymunol iawn," ebe ef. "Haeddant bob cynorthwy."
"Felly, bwriedwch roddi eich cynorthwy iddynt?" gofynnai Nansi'n eiddgar.
"Ofnaf na fedraf wneud fawr iawn." Yr oedd golwg gofidus yn llygaid Mr. Puw. "Pur debyg bod yr ewyllys ar goll am byth. Ni synnwn ronyn pe bai wedi ei dinistrio."
"Gan y Morusiaid?"
"Ie."
"Bûm innau'n meddwl yr un peth," ebe Nansi. "Dyna allasech ddisgwyl pe cawsent yr ewyllys i'w dwylo. Pobl hollol ddiegwyddor ydynt yn ôl popeth glywir amdanynt."
"Wrth gwrs, Nansi, rhaid i ni fod yn wyliadwrus beth a ddywedwn. Un peth yw amau, ond peth arall yw profi bod y Morusiaid wedi gwneud i ffwrdd â'r ewyllys. Credaf y buasai'n annoeth crybwyll hynny wrth y chwiorydd. Haeddant ran o'r eiddo'n ddiamau. Ond mae'n anobeithiol iawn iddynt gael eu cyfran heb i'r ewyllys newydd ddod i olau dydd.'
"Y mae'n debyg eich bod yn iawn," meddai Nansi'n gyndyn.
Ni bu sôn rhyngddynt am y peth am beth amser ar ôl hyn, ond nid oedd Nansi wedi anghofio'r chwiorydd. Daliai i obeithio y deuai rhywbeth fyddai'n foddion i ddwyn iddynt eu rhan o'r eiddo.
"Os yw'r ewyllys wedi ei dinistrio, nid oes dim dycia i'w helpu," meddai wrthi ei hun yn boenus, "ond hyd yn oed pe bawn yn sicr o hynny, ni allaf ildio. Ac hyd byddaf yn sicr ni roddaf i fyny ychwaith." Sythodd yn benderfynol gan ddywedyd: "Mi fynnaf gael allan beth ddaeth o'r ewyllys rywfodd neu gilydd."
PENNOD VI
CYFARFYDDIAD ANGHYSURUS
ER holl benderfyniad Nansi, llithrai'r dyddiau heibio heb lygedyn o oleuni iddi ar dynged ewyllys Joseff Dafis. Methai yn lân â chael allan a oedd y Morusiaid wedi cael gafael ar yr ewyllys a'i peidio. Er na soniai air wrth ei thad, gwyddai ef yn dda ei bod yn pryderu.
"Yr ydych yn poeni ynghylch y chwiorydd," meddai wrthi un diwrnod. "Ofnaf eich bod yn cymryd eu helbulon yn ormod o ddifrif. Nid oes dim fedrwch ei wneud ynglŷn â'r ewyllys. Felly, y peth gorau ydyw anghofio amdani. Ychydig iawn ydych wedi bod allan o'r tŷ er pan fu'r chwiorydd yma. Ewch i siopa, neu ewch am dro i symud tipyn ar eich meddwl."
"Ydwyf, yr wyf wedi bod yn meddwl llawer am Besi a Glenys," cyfaddefai Nansi. "Yr oeddwn mor sicr y gallem wneud rhywbeth yn eu ffordd."
"Rhowch orffwys i'ch meddwl ac efallai cewch weledigaeth well," anogai ei thad, yn garedig.
Ar ôl cinio aeth Nansi am dro i'r dref. Yr oedd y tŷ ychydig o bellter oddi wrth Trefaes, a cherddai Nansi'n gyflym mewn ymdrech i chwalu'r cymylau oddi ar ei meddwl. Treuliodd ychydig amser yn edrych ffenestri'r siopau. Aeth i mewn i un masnachdy a cherddodd o gwmpas i edrych beth allai brynu. Yn sydyn canfu ei hun yn dilyn dwy eneth, ac adwaenodd hwy ar unwaith. Arafodd ei cham.
"Gwen a Phegi Morus. Nid oes arnaf eisiau eu gweld hwy. Af i lawr yr ochr arall rhag i mi orfod eu cyfarfod wyneb yn wyneb."
Ond ni chafodd siawns i wneud fel y bwriadai. Gwelodd Gwen yn taro yn erbyn y cownter wrth fynd heibio iddo. Tynnodd ei llawes fâs fawr yn deilchion i'r llawr er mawr fraw i Nansi a phawb arall o gwmpas y llecyn hwnnw.
Edrychodd Gwen ar y darnau hyd y llawr. Cododd gwridi'w hwyneb. Yna gydag osgo falch cerddodd ymlaen. "Esgusodwch fi, miss, rhaid i mi ofyn i chwi dalu am y cawg addurn yna," ebe'r eneth ifanc ofalai am yr adran honno o'r siop, yn foesgar.
Trodd Gwen yn chwyrn a syllodd yn wawdlyd arni. "Talu amdano?" llefai, "nid myfi a'i torrodd."'
"Ond gwelais chwi yn ei daro i lawr oddi ar y cownter," atebai'r eneth yn ddyryslyd.
Erbyn hyn yr oedd gofalwr y siop wedi cyrraedd, ac amryw o gwsmeriaid wedi tyrru o gwmpas. Nesaodd Nansi hefyd yn anymwthgar i'r fan.
"Dywed yr eneth ddigywilydd hon mai myfi dorrodd y cwpan," bloeddiai Gwen yn sarrug a'i hwyneb llidiog wrth wyneb y gofalwr, "nid oeddwn yn agos i'r cownter ar y pryd. A minnau'n ei gweled â'm llygaid fy hun yn ei tharo i lawr. Onid felly yr oedd, Pegi?"
Cadarnhaodd Pegi yr anwiredd creulon yn ddibetrus. Edrychodd y gofalwr yn amheus o'r chwiorydd at yr eneth, ac ar y chwiorydd drachefn. Yr oedd yr eneth ifanc druan heb air i'w ddweud. Yr oedd y cyhuddiad mor annisgwyliadwy.
Gwelodd y gofalwr mai camgymeriad difrifol fyddai beio cwsmeriaid da ar gam, ac am hynny tueddai'n llwfr i adael y bai orffwys ar yr eneth. Plygodd i lawr i archwilio'r darnau.
"Rhaid i rywun dalu am y golled hon," eb ef yn chwyrn, "yr oedd yn ddernyn gwerthfawr."
"Gedwch i'r eneth dalu amdano o'i phoced ei hun," atebai Gwen, mor chwyrn ag yntau. "Hi fu ddigon bler i'w daro i lawr, a hi ddylai dalu amdano."
Yr oedd yr eneth yn fud. Yr oedd wedi cynhyrfu gormod i ddweud yr un gair i amddiffyn ei hun. Gwelodd Nansi fod y gofalwr yn petruso rhwng dau feddwl. Teimlai ei fod ar dynnu'r cyhuddiad yn erbyn Gwen yn ôl, a'i fod ar fin ymddihaeru iddi. Gwthiodd Nansi'n mlaen i ganol y dyrfa.
"Disgwyliai Nansi'n ddistaw tu ôl i'r gwrych."
Gweler tudalen 44
"Yr ydych yn camgymryd, Miss Morus," meddai'n dawel, gan edrych yn syth i lygaid Gwen, "gwn i sicrwydd nad yr eneth a dorrodd y cwpan, canys gwelais y ddamwain fy hunan."
"Pwy hawl sydd gennych chwi i ymyrryd?" gofynnai Gwen yn ffromllyd, "nid yw ddim o'ch busnes chwi."
"Efallai nad ydyw, ond ni allaf edrych arnoch yn cyhuddo'r eneth ddiniwed hon o'r hyn nas gwnaeth.
"A welsoch chwi'r peth yn digwydd?" gofynnai'r gofalwr.
"Do," ebe Nansi'n bendant. "Fel yr elai Miss Morus heibio'r cownter, cydiodd ei llawes yn y llestr."
"Anwiredd noeth," meddai Gwen yn ddirmygus, "ond yr wyf wedi blino ar yr ymdaeru yma. Beth oedd pris y peth?"
Tynnodd y gofalwr daflen o'i boced. "Tair punt," meddai.
"Beth?" gwaeddai Gwen, ei llais erbyn hyn i'w glywed ym mhob rhan o'r masnachdy, "ni chewch byth deirpunt gennyf am hen declyn fel yna. Ni thalaf fi mohonynt." "Nid dernyn cyffredin mohono, miss, ac ofnaf y bydd raid i mi bwyso arnoch i dalu y pris ofynnir amdano."
"A wyddoch chwi pwy ydwyf?" gofynnai Gwen yn ffroenuchel.
"Mae'n debyg nad oes neb yn y dref heb adnabod Mr. William Morus," ebe'r gofalwr yn lluddedig.
"Y mae fy nhad yn berchen
"Nid yw yn berchen y siop hon," ebe'r gŵr ar ei thraws, wedi colli ei amynedd erbyn hyn. "Os na thelwch am y fâs, bydd yn rhaid imi alw'r awdurdodau i mewn."
"Ni feiddiech," ebe Gwen yn fygythiol, "ni chefais i erioed y fath sarhad.'
Ar hyn sibrydodd Pegi rywbeth yng nghlust ei chwaer. Lliniarodd llais Gwen.
"Dyna fe," meddai, "talaf am y dernyn, ond gellwch fentro y clywch ychwaneg am hyn." Yna trodd yn ffyrnig ar Nansi, "Nid wyf wedi gorffen gyda chwithau ychwaith. Cewch chwithau ddioddef."
Ni atebodd Nansi yr un gair. Er fod ei gwaed yn berwi, llwyddodd i wenu'n hamddenol, a ffyrnigai hyn y ddwy chwaer fwy na dim. Talodd Gwen y teirpunt a cherddasant allan o'r siop.
Byrlymiai'r dagrau i lygaid geneth y siop. Gafaelai'n dynn yn llaw Nansi gan ddiolch iddi.
"Ni fedraf byth ddiolch i chwi," meddai, mewn llais crynedig. "Ni fuasai neb arall wedi sefyll trosof fel yna. Buaswn yn sicr o golli fy lle onibai amdanoch chwi."
"Na hidiwch yn awr," atebai Nansi, "mae'r cwbl trosodd yn awr. Gwelais Gwen Morus yn taro'r peth i lawr, ac yr oedd yn rhaid i mi ddod ymlaen i gadw chwarae teg i chwi.'
"Ofnaf y gwnewch elynion i chwi eich hun wrth fy amddiffyn," ebe'r eneth."
"Peidiwch poeni am hynny. Ni fu'r ddwy chwaer erioed yn gyfeillion mawr i mi.'
"Efallai hynny. Ond welsoch chwi wyneb yr hynaf o'r ddwy? Gellwch fentro y ceisiant eu gorau i dalu yn ôl i chwi ryw ffordd neu'i gilydd."
"Gadewch iddynt geisio," gwenai Nansi, "os bydd hynny rywfaint o gysur iddynt. Mae genethod yr ysgol wedi hen arfer â'u bygythion, a phrin neb yn cymryd yr un sylw ohonynt.
Ni feddyliodd Nansi lawer am y peth, ond gan fod llawer o'r dyrfa yn y siop yn dal i syllu arni, a hynny'n annymunol ganddi, prysurodd allan o'r siop, a phenderfynodd yr elai adref drwy'r parc.
"Mae fy ngwaed yn berwi bob tro y meddyliaf am y Morusiaid yna yn cael arian Joseff Dafis," meddai wrthi ei hun, "yn enwedig pan gofiaf cymaint yw angen Besi a Glenys. Yr oedd ymddygiad Gwen at eneth y siop yn warthus."
Croesodd Nansi'r parc yn gyflym. Arhosodd ennyd wrth y llyn ac o edrych ar hyd y llwybr gwelai Gwen a Phegi yn eistedd ar un o seddi'r parc mewn ymddiddan difrif. Eisteddai'r ddwy wyneb yn wyneb, yn amlwg wedi anghofio pawb a phopeth. Dywedai rhywbeth wrth Nansi mai hi oedd testun y sgwrs. Os oedd am ddilyn ei llwybr byddai yn rhaid iddi basio heibio iddynt. "Os gwelant fi mae'n debyg y byddaf mewn helbul â hwy," meddyliai Nansi. "Gwn yn eithaf da na allaf gadw fy nhymer. Gwell fyddai i mi fynd dros y gwrych yn y fan yma, a cherdded ar hyd-ddo, a chroesi drosto drachefn y tuhwnt iddynt.'
Yr oedd Gwen a Phegi mor ddwfn yn eu hymddiddan fel na sylwasant ar Nansi o gwbl. Gan chwerthin ynddi ei hunan, neidiodd Nansi dros y gwrych, a cherddodd tu ôl iddo cyn ddistawed â llygoden. Y peth diwethaf ym meddwl Nansi oedd gwrando ar sgwrs y chwiorydd. Cerddai mor ddistaw er hynny fel y daeth eu geiriau yn eglur hollol i'w chlustiau. Dau air yn unig oedd yn ddigon i'w throi yn ddelw. Safai fel pe wedi ei pharlysu. Y ddau air a glywsai oedd "Joseff" ac "ewyllys."
"Ho," ebe hi, "siarad am yr ewyllys aie? Efallai y clywaf yn awr rywbeth am yr ewyllys goll a'r hyn ddigwyddodd iddi.'
Ni fuasai Nansi'n breuddwydio am wneud y fath beth â neb arall. Ond y tro hwn teimlai fod ei chydwybod yn berffaith glir. Cripiodd yn wyliadwrus yn nes i odre'r gwrych i wrando am ychwaneg. Yr oedd y gwrych yn drwchus, a thrwy wyro i lawr, medrai glywed geiriau'r ddwy chwaer yn eglur, tra parhâi hi yn anweledig iddynt hwy.
Curai ei chalon yn gynhyrfus. O na chlywai rywbeth i brofi fod y Morusiaid wedi amddifadu Besi a Glenys o ran o ffortiwn Joseff Dafis.
PENNOD VII
YMCHWILIADAU NANSI.
TRA disgwyliai Nansi yn ddistaw tu ôl i'r gwrych heb feiddio anadlu bron, rhag i neb ei chlywed, dechreuodd Gwen siarad.
"Wel, os digwydd bod ewyllys arall, gallai fod ar ben arnom," meddai'n sur.
"Nid wyf yn credu i'r hen ddyn annifyr wneud ewyllys arall o gwbl," ebe'i chwaer mewn llais isel.
"Mae'n amlwg fod Nansi Puw yn meddwl hynny, neu ni fuasai'n cymryd y fath ddiddordeb yn y ddwy chwaer yna o Fur y Maen. Yr oeddynt yn ei chartref ar ymweliad y dydd o'r blaen. Gwelais hwy yn mynd i mewn, pan oeddwn yn digwydd mynd heibio. O, fel yr wyf yn casau yr eneth yna. Pe bai ei thad yn dechrau cymryd diddordeb yn y peth gallasai ddod o hyd i ewyllys arall."
"Peidiwch bod mor ddigalon, Gwen," ebe Pegi, "pe bai ewyllys arall yn dod i'r golwg gellwch fentro yr edrychai nhad ar ei hôl yn bur ofalus."
"A ydych yn meddwl y
?" "Na hidiwch beth feddyliaf," awgrymai Gwen, "ni fuasai nhad a mam mor ffôl a gadael i'r fath arian lithro drwy eu dwylo.""Peth arall. Ni piau'r arian," ychwanegai Pegi. "Arnom ni y bu Joseff Dafis yn byw.
"Ie, ac nid yw ei holl ffortiwn yn hanner digon am ddioddef hen ddyn cyn rhyfedded ag ef am dair blynedd," ebe Gwen. "Er hynny, nid wyf yn hoffi llawer ar y ffordd y mae Nansi Puw wedi gwneud ffrindiau gyda Besi a Glenys Roberts. Mae ganddi erioed ryw reddf at gael ei hun i fusnes pobl eraill na wnelo hi ddim â hwy.'
"Twt, ba waeth amdani," ysgyrnygai Pegi, rhwng ei dannedd, "gedwch iddi ddod o hyd i beth a fynno. Cawsom yr eiddo yn berffaith deg, a nyni a'i piau."
Peidiodd yr ymddiddan yn ddirybudd. Clustfeiniai Nansi a chlywai'r ddwy chwaer yn codi oddi ar y sedd, ac yn troedio'r llwybr o'r parc. Arhosodd Nansi lle'r oedd hyd nes i sŵn eu camrau ddistewi. Yna daeth allan o'i chuddfan.
"Efallai bod siawns dod o hyd i'r ewyllys goll er gwaethaf popeth," rhesymai Nansi, wrth eistedd ar y sedd adawyd gan Gwen a Phegi.
Yr oedd Nansi'n sicr ei hunan er y dechrau bod yr hen Joseff Dafis wedi gwneuthur ewyllys arall. Ond ar ôl gweled y genethod o Fur y Maen, teimlai fel ei thad, fod y Morusiaid wedi cael gafael arni, ac wedi ei dinistrio. Parai hyn iddi ddigalonni.
Eithr yn awr wele'r wybodaeth enillodd wrth iddi wrando ar ymddiddan Gwen a Phegi yn peri iddi ailobeithio yn gryf. Deallai oddi wrth Gwen a Phegi nad oedd y Morusiaid wedi canfod yr ewyllys arall, hyd yn hyn, os gwnaed hi gan Joseff Dafis.
"Ni allent ei dinistrio beth bynnag, os na chawsant afael arni," ebe wrthi ei hun. "Ond y mae un peth yn amlwg. Ni chaiff byth weld golau dydd os y syrth i ddwylo'r Morusiaid. Yn ôl yr hyn ddywedodd Gwen, mae yn amlwg eu bod yn dechrau anesmwytho. Maent yn dod i sylweddoli nad yw eu sefyllfa yn ddiogel iawn. Os wyf am ddarganfod yr ewyllys rhaid imi ymroi ati ar unwaith cyn iddynt gael y blaen arnaf."
Fel y soniwyd eisoes yr oedd Nansi'n hoff o ryw ddirgelwch. Yr oedd greddf ei thad yn gryf ynddi a phan oedd achos teilwng tu ôl i'w ddatrys, apeliai yn fwy byth ati. Dywedai Edward Puw lawer tro fod yn llawer gwell ganddo yr ochr dditectif i'w waith nag ochr y llys. Gwyddai Nansi yn dda na allai ei thad, ar ei orau, roddi llawer o'i amser i fater yr ewyllys. Yr oedd yn rhy brysur o lawer fel yr oedd. Os oedd y chwiorydd i'w helpu o gwbl, hi ei hun fyddai raid gwneud y gwaith.
Ystyriodd Nansi'r mater drwyddo draw yn ei meddwl. Trodd bob ffaith trosodd a throsodd. Ond i'r un fan y deuai bob tro. Yr oedd un ddolen yn y gadwyn yngholl. Yr oedd rhywbeth bach wedi dianc o'i chof. Eisteddodd yn hir mewn myfyr dwfn yn ceisio dyfalu beth ydoedd, ac o'r diwedd safodd yn sydyn ar ei thraed. "Lle bûm i mor hir heb feddwl amdano? Nid y ddwy chwaer yw yr unig berthynasau ddylai fod yn etifeddion i'r eiddo. Yr oedd nifer o rai eraill ar wahân i'r genethod, a ddywedai nhad oedd wedi anfon apêl i'r llys. Pwy ydynt tybed? Pe cawn siarad â hwy, efallai y cawn ychwaneg o oleuni ar y mater.
Yr oedd yn sicr yn ei meddwl ei hun ei bod wedi taro'r hoelen ar ei phen ac ymaith â hi nerth ei thraed am swyddfa ei thad. Yr oedd rhywun gydag ef pan gyrhaeddodd Nansi, ond ni bu'n hir cyn cael mynediad i mewn ato, i'w ystafell breifat.
"Wel, Nans, beth sydd yn bod?" gofynnai ei thad, "pa newydd sydd gennych yn awr?"
Gwelodd ar unwaith fod ganddi ryw wybodaeth newydd i'w roddi iddo. Yr oedd ei hwyneb yn wridog a'i llygaid yn dawnsio gan lawenydd.
"Nhad," meddai, "yr wyf wedi darganfod rhywbeth pwysig iawn, ac y mae arnaf eisiau gwybodaeth gennych.'
"Yr wyf yma at eich gwasanaeth, miss," ebe'i thad yn gellweirus, "ond pa wybodaeth sydd gennych eisiau gennyf fi? Os mai rhywbeth ynghylch Joseff Dafis a'i ewyllys, ni allaf ddweud mwy na'r hyn ddywedais eisoes.
Adroddodd Nansi wrtho ei hanturiaethau yn ystod y prynhawn, yn y siop ac yn y parc wedi hynny. Gwrandawodd Mr. Puw arni gyda diddordeb hyd y diwedd.
"Ac yn awr beth fynnwch gennyf fi?" gofynnai.
"Meddyliais pe bawn yn mynd at y perthynasau eraill y gallwn gael hyd i rywbeth i'n helpu i ddatrys y dirgelwch."
"Syniad rhagorol iawn Nansi."
"Ond nis gwn pwy ydynt na beth yw eu henwau," ebe Nansi. "Dyna paham y deuthum yma atoch chwi."
"Fe hoffwn eich helpu," meddai Mr. Puw, "ond ofnaf yn fawr na fedraf wneud hynny.
Syrthiodd wyneb Nansi a throdd at y drws yn siomedig.
"Hanner munud," galwai ei thad, fel yr elai Nansi allan, "ni allaf roddi eu henwau i chwi, ond gwn ymha le maent i'w cael."
"Ymhle?"
"Yn y llys, wrth gwrs. Byddant i'w cael yno gan iddynt apelio yn erbyn yr ewyllys." Edrychodd ar ei oriawr. "Y mae'n rhy hwyr i ni fynd yno heddiw. Mae'r lle wedi cau.'
"Dyna resyn a minnau mor awyddus i wybod," meddai Nansi. "Efallai y bydd un diwrnod yn costio'n ddrud inni. Efallai mai mewn un diwrnod y caiff y Morusiaid afael yn yr ewyllys goll o'n blaen.
Ar amrant goleuodd ei hwyneb drachefn fel pe bai wedi cofio am rywbeth newydd eto. Af ar y 'bus cyntaf ac af i weld Besi a Glenys ym Mur y Maen. Llamodd am y drws.
"Hanner munud," llefai ei thad. "A ydych yn sylweddoli Nansi beth ydych yn ei wneud?"
"Pam? Beth ydych yn ei feddwl?"
"Hyn. Nid yw gwaith ditectif y gwaith diogelaf i'w wneuthur. Gwn yn dda am William Morus—dyn annymunol iawn i'w groesi. Os llwyddwch i ganfod rhywbeth all fod o gynorthwy i Besi a Glenys, rhaid i chwi'r un pryd dynnu'r Morusiaid yn eich pen.
"Nid oes arnaf eu hofn," fy nhad.
"Rhagorol," meddai Mr. Puw, "yr oeddwn yn gobeithio y dywedech hynny. Da gennyf eich bod yn teimlo mor sicr o'ch pethau, ond nid oeddwn am adael i chwi fynd allan i ddechrau ymladd heb gyfri'r gost ac adnabod eich gelyn."
"Allan i ymladd?" gofynnai Nansi mewn syndod.
"O, ie," ebe'i thad, "ac ymladd brwnt iawn hefyd. Rhaid i chwi beidio meddwl y rhydd y Morusiaid yr eiddo i fyny heb ymdrech galed. Nid ydynt o'r teip i ildio yn rhwydd i neb. Nid yw wahaniaeth ganddynt chwaith pa arfau ddewisant. Byddant yn barod i wneuthur rhywbeth rhag colli yr ystad. Ond os bydd raid, deuaf finnau i'r frwydr. Gresyn na buasai gennyf amser i'ch helpu i ddarganfod yr ewyllys."
"Ac os caf hyd iddi?"
"Hei lwc, AF finnau â'r mater i'r llys."
"O diolch yn fawr, nhad; nid oes neb fel chwi yn y byd crwn." Wrth gerdded at y drws meddai, "Efallai na byddaf yn ôl am oriau. Teimlaf rywfodd y deuaf ar draws rhywbeth pwysig heddiw. Af ar ei ôl, doed a ddelo."
Ac ymaith â Nansi i'r stryd.
PENNOD VIII
DIWRNOD DIGON DI-HWYL
LLWYDDODD Nansi i ddal 'bus yn cyfeirio at Fur y Maen. Gallasai gerdded yn hwylus o'r fan honno (eglwys, gwesty ac un neu ddau o dai oedd yno), i gartref y ddwy chwaer.
"Gobeithio na chaf wlaw fel y tro o'r blaen," meddyliai wrth deithio ar y 'bus.
Ni bu'n hir cyn cyrraedd Mur y Maen. Disgynnodd o'r ''bus, ac ymlaen â hi heibio talcen yr eglwys i fyny'r bryn. Cyn hir daeth i olwg y ffermdy. Gwelai ef yn well y tro hwn, ac o gyfeiriad gwahanol. Meddyliai iddi ei weled yn fwy o adfail nag o'r blaen. Nid oedd ôl paent arno ac edrychai fel pe bron mynd â'i ben iddo. Gwelai'r ysgubor lle cafodd loches, a methai ddeall sut yn y byd y daliodd bwysau storm erioed.
"Pe bai gan Besi a Glenys arian, fe wnaent y lle yn daclus a thwt," meddai wrth nesáu at y tŷ.
Rhedai ieir a chywion dan ei thraed fel y croesai'r buarth. Aeth at ddrws y gegin a churodd. Ni chafodd ateb. Aeth heibio i'r talcen a churodd drachefn ar ddrws y ffrynt.
Chwiliodd o gwmpas y tŷ ond nid oedd golwg o'r ddwy chwaer yn unman. Trodd i gychwyn adref a theimlai braidd yn ddigalon. Yr oedd ei thaith yn ofer wedi'r cwbl, a'i gobaith hithau mor gryf cyn iddi gychwyn o swyddfa ei thad.
"Rhwystrau o bob cyfeiriad," meddai wrthi ei hun wrth fynd yn ôl am y ffordd, "dim ond anhawsterau o hyd i'w hwynebu."
"Helo, helo!" gwaeddai llais o draw.
Cyrhaeddodd y llais Nansi a hithau wedi myned drwy'r llidiart i'r ffordd. Trodd, a gwelodd y chwiorydd yn rhedeg tuag ati o gyfeiriad yr ysgubor. Glenys redodd gyntaf.
"Gwelsom chwi fel yr oeddych yn mynd oddi wrth y drws," ebe hi â'i gwynt yn ei dwrn, "ni fynnem er dim beidio bod yma i'ch croesawu."
"Buom yn hel mafon yn y coed," ychwanegai Besi, oedd erbyn hyn wedi cyrraedd, a daliai lestr yn llawn o fafon coch yn ei llaw.
"Ond edrychwch ar ein breichiau yn gripiadau i gyd," chwarddai Glenys, gan edrych ar ôl y mieri.
"Dowch i mewn i'r tŷ ac mi gawn y mafon i dê. Maent yn flasus iawn gyda siwgr a hufen."
"Ofnaf na fedraf aros i dê," atebai Nansi. "Deuthum i siarad â chwi am yr ewyllys."
"A oes newyddion da inni?" gofynnai Glenys yn obeithiol, "a ydym am gael peth o'r eiddo?"
"Nis gwn hynny eto," cyfaddefai Nansi, "hyd yma nid wyf wedi canfod dim newydd am yr ewyllys.'
Syrthiodd wynepryd Glenys, ond ceisiodd ei gorau guddio ei siom.
"Y mae arnom gymaint o angen arian," meddai. "Nid yw Besi wedi cael dillad newydd ers tair blynedd. Hi wna ein dillad o hen bethau yn y tŷ yma."
"Nid oeddym yn disgwyl gormod am arian ein 'hewythr' chwi wyddoch," ebe Besi'n frysiog, "nid oeddym yn berthynasau chwi gofiwch."
"Wel, prin yr oedd y Morusiaid ychwaith," ebe Glenys. "Cefndyr pell iawn oeddynt."
"Medrwn fyw yn iawn heb yr arian," meddai Besi yn dawel. "Yr ydym wedi llwyddo hebddynt yn iawn hyd yn hyn. Bydd popeth yn rhagorol gyda ni pan gaf fi ddigon o waith gwnïo.'
"Ie, ond i'r siop y mae pawb yn mynd i brynu dillad yn awr," ebe Glenys.
"Nid un o'r rhai hynny wyf fi," ebe Nansi, "gwell gennyf fi waith cartref o lawer. Wnewch chwi wnio i mi, Besi? Dyna oedd rhan o fy neges yma heddiw."
Goleuodd llygaid Besi â llawenydd. "Wnaf fi?" meddai, "yr wyf yn ddiolchgar am bob mymryn o waith.
"Nid wyf wedi bod yn ffodus iawn yn ystod y tri mis diwethaf yma. Nid wyf yn pryderu cymaint amdanaf fy hun, ond am Glen" a'i llais yn torri, "addewais i mam yr edrychwn ar ei hôl. Yr wyf yn mynd i boeni pan fethaf gadw fy addewid olaf iddi hi."
Rhedodd Glenys at ei chwaer a rhoddodd ei dwylo am ei gwddf yn gariadus.
"O Besi," meddai yn edifeiriol, "ddylaswn i ddim fod wedi dweud yr un gair am ein hangen."
"Ond dyna'r gwir."
"O, mi ddeuwn ymlaen yn iawn, Besi annwyl. Pe bai arian fy ieir i yn dod yn gyflymach. O, pam na fedr iâr ddodwy mwy nag un wy yn y dydd."
Gwenodd Besi ar ddigrifwch Glenys, ac i dorri ar yr awyrgylch bruddaidd, meddai Nansi,
"Prynnaf ddefnydd yn barod i chwi, a deuaf ag ef yma y tro nesaf gyda mi."
Nid oedd angen dilledyn arni, ond methai ganfod unrhyw ffordd arall i helpu'r genethod heb frifo eu teimladau. Gwyddai eu bod yn rhy falch i dderbyn swm o arian, heb gyfle i wneuthur rhywbeth amdano.
"Yn awr, yr wyf am ofyn ychydig yn ychwaneg o gwestiynau am Joseff Dafis," meddai Nansi wrthynt. "Yn gyntaf, a fyddai yn ymweled â rhai o'r perthynasau eraill heblaw y Morusiaid?"
"O byddai," atebai Glenys yn eiddgar. "Ymwelai ag amryw eraill yn aml."
"Cyn iddo fynd i fyw at y Morusiaid ymwelai â hwynt oll yn eu tro," ychwanegai Besi.
"A fedrwch chwi roddi enwau'r lleill i mi?"
"Wel, arhoswch funud. Dyna ei ddwy gyfnither, y ddwy Miss Harris. Hen ferched hynod garedig. Buont hwy yn rhyfeddol o ofalus o Joseff Dafis tra bu gyda hwynt. Ym Mhenyberem y maent hwy yn byw."
"Yna mae dau nai i Joseff Dafis," ebe Glenys, "yn byw mewn fferm i fyny ar y mynydd rhwng yma a Phenyberem. Enw'r fferm yw Dolgau. Yr oedd pawb yn credu y caent hwy ran o'r eiddo beth bynnag."
"Gallaf alw yn y ddau le felly ar un siwrnai," ebe Nansi. "Pe cychwynnwn yn awr, gallaswn ymweld â hwy, a chael y 'bus adref o Benyberem. Af yn awr, a gobeithio ar ôl siarad â'r perthynasau hyn y caf oleuni pellach ar bethau."
"Ofnaf mae pur anobeithiol ydyw arnom," meddai Besi, "mae'r Morusiaid yn rhy alluog i enethod fel ni."
"Yr unig beth sydd arnom eisiau, Besi, ydyw yr ewyllys. Unwaith y cawn honno, gall y Morusiaid ganu ffarwel i'r cwbl sydd ganddynt."
"O Besi, anghofiaist ddweud wrth Nansi am Abigail Owen," ebe Glenys, "ni fuasai'n syndod i mi na ŵyr hi fwy na fawr neb am yr ewyllys.
"Eithaf gwir," ebe Besi, "yr oeddwn innau wedi anghofio amdani am y funud. Dylech alw i'w gweld hi, Nansi. Hi ofalodd am fy ewythr pan oedd yn wael iawn. Teimlai yr hen Joseff yn ddyledus iddi, a chlywais ef â'm clustiau fy hun yn dweud na byddai byth yn edifar ganddi."
"Buasai hyd yn oed ugain punt yn ffortiwn iddi hi," ebe Glenys. "Mae yn awr yn hen a methiantus. Y mae'n siwr ei bod dros ei deg a thri ugain, ac nid oes ganddi neb i ofalu amdani."
"Ymhle mai hi yn byw?" gofynnai Nansi.
"Yr ochr arall i Benyberem, yn nes i'r mynydd mewn bwthyn digon diaddurn. Rhaid i chwi ymholi yn y ffermdai cyfagos pan ewch yno. Nid yw yn hawdd dywedyd wrthych yn union ymha le y mae.
"Tan y Bwlch yw enw'r lle," ychwanegai Glenys.
"Mae'n amhosibl imi fynd i'r tri lle heddiw, ebe Nansi. "Ceisiaf gael cyfle i fyned yno yr wythnos nesaf." Ffarweliodd Nansi a'r genethod yn frysiog. Danfonodd y ddwy chwaer hi i'r ffordd. Cyflymodd ei cherddediad i geisio cyflawni ei bwriad cyn gynted ag y gallai.
"Nis gwn beth wnaf os methaf â helpu'r genethod yna yn awr, " meddai wrthi ei hun wrth frysio ymlaen. Disgynnai'r ffordd yn raddol am y dref a gallai gerdded yn gyflymach oherwydd hynny. Wedi iddi gerdded rhyw dri chwarter milltir cyferfu ddyn ar y ffordd a holodd ef am Ddolgau, cartref y ddau nai. Cafodd gyfarwyddyd i droi ar y dde ychydig ymhellach ymlaen. Cyrhaeddodd y fferm yn ddiogel. Daeth gŵr at y drws mewn ateb i'w chnoc, ac wedi deall mai William Ifans ydoedd, eglurodd Nansi ei neges. Pur gyndyn oedd y gŵr i ddweud dim ar y dechrau, ond pan fodlonodd ei hun nad oedd Nansi o blaid y Morusiaid, gwahoddodd hi i'r tŷ, ac agorodd ei galon iddi ynghylch Joseff Dafis. Dywedodd yr oll a wyddai am yr ewyllys.
"Y mae fy mrawd a minnau wedi dod â'r mater i sylw awdurdodau'r llys," eglurai. "Yr ydym bron yn sicr bod ewyllys arall wedi ei gwneuthur, gan y dywedai f'ewythr Joseff bob amser y bwriadai adael rhywbeth inni ar ei ôl."
"A welsoch chwi yr ewyllys rywdro?" gofynnai Nansi'n obeithiol.
Ysgydwodd y ffermwr ei ben. "Na, nid oes gan fy mrawd na minnau ddim i brofi iddo wneuthur ewyllys arall. Ond gwyddom yn eithaf da, tuhwnt i bob amheuaeth, nad oedd yn dda ganddo'r Morusiaid. Teimlai ef bob amser mai eu rheswm dros ei groesawu ydoedd eu hawydd am feddiannu ei arian. Nid oedd eu croeso iddo ond ffug a gwyddai yr hen frawd hynny'n dda. Credaf ei fod yn hollol yn ei le yn dal y syniad hwn amdanynt. Yr oedd y peth yn amlwg i bob un ohonom."
"Efallai iddo esgeuluso gwneuthur ewyllys arall, neu iddo fethu â chario ei fwriad allan oherwydd iddo ei gymryd yn wael."
"Peidiwch petruso ynghylch hynny, Miss Puw. Nid oeddych yn adnabod f'ewythr. Nid dyn i fethu gwneud yr hyn a ddymunai ydoedd Joseff Dafis. Yr oedd yn un o'r rhai rhyfeddaf fyw mewn pethau bychain, ond yr oedd yn dra gofalus gyda materion pwysig. Mae'n haws o lawer gennyf fi i gredu iddo wneud ei ewyllys a'i chuddio mewn man diogel wedi iddo ei gwneud.'
"A oes gennych ryw syniad ymha le y gallasai fod wedi ei chuddio?"
"Dim o gwbl. Buasai'n dda gan fy nghalon pe gwypwn. Mae fy mrawd a minnau yn hollol barod i gynnig gwobr sylweddol i bwy bynnag a'i darganfyddo.
Gofynnodd Nansi amryw o gwestiynau eraill ond nid oedd y ffermwr yn alluog i roddi unrhyw wybodaeth o fudd iddi. Yn siomedig o'r braidd, trodd Nansi ei chamrau i gyfeiriad Penyberem. "Nid oes dim lwc imi heddiw," meddai wrthi ei hun, fel y dynesai at y dref. "Gobeithio y byddaf yn fwy llwyddiannus yn y lle nesaf yma."
Ar ôl cyrraedd Penyberem holodd Nansi ei ffordd i dŷ'r ddwy hen ferch. Cafodd eu bod yn trigo yng nghwr pellaf y dref. Cartref pur syml oedd ganddynt, ac ôl gofal cariadus arno. Ni ellir dweud fod golwg dlawd arno, ond prin iawn oedd y dodrefn oddi mewn.
Cafodd fod y merched gartref a derbyniodd bob croeso ganddynt. Treuliodd awr gron yn eu cwmni bron heb yn wybod iddi. Ond er holi a chwestiyno, methodd yn lân â chael a dybiai fyddai o gynorthwy iddi i ddarganfod yr ewyllys goll.
Credai'r ddwy, fel y lleill, y bwriadai Joseff Dafis gadw'r Morusiaid allan o'r ewyllys. Yr oeddynt yn sicr yn eu meddwl hefyd y deuent hwy i mewn am gyfran o'r eiddo, gan iddo addo mor fynych na byddent byth mewn angen wedi iddo ef eu gadael. Weithiau tybient mai chwarae un o'i driciau cellweirus â hwynt ydoedd, ond ni allant goelio y gallai fod mor greulon â hynny, a hwythau wedi bod mor garedig tuag ato ac mor ofalus ohono. Yr oedd yn hawdd ganddynt gredu ei fod wedi gwneuthur ei ewyllys, a'i fod wedi ei chuddio yn rhywle'n ddiogel. Yr oedd y ddwy hen ferch mor syml eu cymeriadau ac mor onest yn mynegi eu meddyliau fel y tynnodd ein ditectif ryw gymaint o gysur oddi wrthynt. Yr oedd o leiaf, yn berffaith sicr ei hun, fod ewyllys arall yn rhywle. Ond ymhle? Ni allai'r ddwy hen ferch ddweud unpeth i'w chynorthwyo yn ei hymchwil amdani.
"Paham nad ewch at Abigail Owen," awgrymai Ann o'r diwedd, yn eiddgar i helpu Nansi. "Gofalodd Abigail am Joseff Dafis yn ei waeledd unwaith. Yr oedd yn meddwl y byd ohoni. Deallai hi ei ffyrdd yn well na neb arall. Os oes rhywun o'r perthynasau all eich helpu, Abigail ydyw honno."
Methaf weld pa les fydd i'r foneddiges yma fynd at Abigail. Mae hi wedi mynd i oed yn awr a'i chof yn bur wallus," meddai ei chwaer.
Rhaid oedd i Nansi eu gadael a rhedeg nerth ei thraed i Benyberem i ddal ei 'bus. Yr oedd yn bur flinedig a newynog. "Hyd yma dyna ddiwrnod wedi ei wastraffu," meddai. "Nid wyf ronyn nes i ddarganfod yr ewyllys. Yr unig beth wyf yn sicr ohono yw fod ewyllys yn rhywle. Gallaf yn hawdd gredu fy nhad yn awr mai dyfalbarhad yn unig all ddatrys y dirgelwch.
Yr oedd wedi ymweled a pherthynasau Joseff Dafis i gyd yn awr oddigerth Abigail Owen. Ac yn ôl tystiolaeth un o'r ddwy chwaer amheuai a oedd yn werth iddi wario'r amser i ymweled â'r hen wraig. Yn wir, fel y rhedai drwy ddigwyddiadau a dywediadau y dydd yn ei meddwl, tyrrai'r amheuon i'w dyrysu. Rywfodd teimlai fod popeth yn ei herbyn. Yr oedd mor obeithiol pan gychwynnodd allan o swyddfa ei thad ychydig oriau ynghynt.
Daliodd ei 'bus yn ddidrafferth er ei bod mor flinedig, a suddodd i'r glustog esmwyth gydag ochenaid o ollyngdod, na byddai raid iddi gerdded yr holl ffordd i Drefaes. Yr oedd ar fin dod i'r penderfyniad i roi'r ymdrech i fyny. Ond yn ei meddwl gwelai eto frwydr ddewr Besi a Glenys i ennill eu tamaid yn yr hen ffermdy bregus. Gwelai'r wên hoffus ar wyneb Besi pan syllai'n ystyriol ar ei chwaer. Ac yn sydyn daeth i'w chof yr hanesyn difyr arferai ei mam adrodd wrthi am Robert Bruce a'r pryf copyn yn yr ogof, Pan oedd hi mor barod i ddigalonni. "Mae gennyf un gobaith bach eto," meddai, "af i weld yr hen Abigail Owen yfory eto, doed a ddelo."
PENNOD IX
NEWYDDION PWYSIG
"MAE'n rhaid mai hwn yw'r lle."
Yr oedd Nansi wedi dod i Benyberem gyda'r 'bus, ac wedi cyrraedd Tanybwlch. Bwthyn bychan digon diaddurn ydoedd, tebyg i ugeiniau o fythynod eraill ar lethrau bryniau Cymru. Yr oedd y muriau wedi eu gwyngalchu rhyw dro ond wedi eu diwyno gan y tywydd ers talm. Yr oedd yr ardd o flaen y tŷ wedi tyfu'n chwyn, a'r gwrych o'i chwmpas heb ei dwtio ers amser maith. Yr oedd y drws a'r ffenestri pydredig heb adnabod paent ers blynyddoedd.
"Nid yw'n edrych yn debyg bod neb yn byw yma, ac eto, mae'n rhaid mai hwn ydyw cartref Abigail Owen, ebe Nansi wrth ddilyn y llwybr gwyllt drwy'r ardd at y drws. "Os na chaf rywbeth i'm helpu yma, waeth i mi roi'r ymdrech i fyny.'
Curodd y drws. Arhosodd am ychydig a churodd drachefn. Yr oedd ar fin curo'r drydedd waith pan feddyliodd iddi glywed ryw symudiad tu fewn i'r tŷ. Onibai ei bod yn naturiol ddewr buasai wedi gadael y bwthyn unig a dychwelyd i'r dref. Ond nid llwfryn oedd Nansi. Curodd drachefn ar y drws, ac o'r diwedd clywai lais pell yn galw,
"Pwy sydd yna? Os mai crwydryn sydd yna, nid oes gennyf ddim i chwi. Os mai gwerthu yr ydych nid oes arnaf eisiau dim."
"Nid pedlar na chrwydryn sydd yma," ebe Nansi. "A gaf fi ddyfod i mewn. Geneth ieuanc ydwyf eisiau eich gweld."
Bu distawrwydd am ysbaid, ac yna atebodd y llais crynedig, "Ni fedraf agor y drws. Yr wyf wedi fy anafu ac ni allaf gerdded."
Arhosodd Nansi am ennyd a cheisiodd y drws. Nid oedd wedi ei gloi ac agorodd ef. Petrusodd ar y rhiniog am foment ac yna cerddodd i mewn. Y cyntaf peth y disgynnodd ei llygaid arno yn y gwyll oedd truanes yn gorwedd yn swp ar soffa. Llamodd cydymdeimlad parod Nansi i'w chalon ar unwaith. Yma yr oedd Abigail Owen, mewn hen siôl garpiog, a'i hwyneb curedig yn llawn poen. Trodd yr hen wraig ddau lygad pŵl ar yr eneth fel yr agoshai ati. Safodd Nansi uwch ei phen am ennyd.
"Nansi Puw ydwyf fi, ac yr wyf wedi dyfod i'ch helpu Miss Owen," meddai'n dyner.
Trodd Abigail yn boenus ar y soffa i'w gweled yn well, a daeth rhyw syndod plentynaidd i'w hwyneb.
"Wedi dyfod i fy helpu?" meddai, "ni feddyliais i erioed y deuai neb i ymholi am yr hen Abigail byth mwy."
"Arhoswch chwi am funud," meddai Nansi'n siriol. "Gadewch i mi'n gyntaf drefnu'r clustogau yna yn fwy esmwyth i chwi."
Symudodd Nansi yr hen wraig. Gwnaeth y gorau o'r gorchuddiau sâl oedd ar y soffa, a gosododd hi i orwedd lawer yn esmwythach nag yr oedd cynt.
"A fu'r meddyg yma yn eich gweld?" gofynnai Nansi. "Fu neb yma. Fu neb yn agos ataf," ebe Abigail gan ochneidio, "gorweddwn yma yn dyfalu pa bryd y deuai'r diwedd arnaf." Bu'r hen wraig yn cwynfan wrthi ei hun am ychydig. "Rwy'n mynd i oed," meddai, "ac ni byddaf byw yn hir eto
"Na, na," ebe Nansi, mor siriol ag y medrai, wrth weld bod yr hen wraig yn torri ei chalon, "Byddwch fyw flynyddoedd eto. Fedrwch chwi gerdded rhywfaint? A ydych chwi wedi torri eich clun?"
"Gallaf gerdded ychydig, ond nid heb boen dirfawr." "Felly nid yw eich clun wedi torri," ebe Nansi gyda gollyngdod. "Beth am eich ffêr. Nid oes gennych gadach arno. Gadewch i mi roi un i chwi."
"Y mae cadach gwyn yn y cwpwrdd yna," ebe Abigail wrthi, gan bwyntio i gornel yr ystafell.
"Ofnaf y bydd raid i chwi gael rhywbeth mwy na chadach; os yr ydych wedi ysigo eich ffêr dylid gofalu amdano yn briodol. Dylech gael meddyg ato a dweud y gwir."
"Nis gallaf fforddio meddyg," ebe'r hen wraig.
"Peidiwch poeni am hynny," ebe Nansi, "talaf fi am feddyg i chwi."
Ysgydwodd Abigail ei phen yn ystyfnig. "Na, diolch yn fawr i chwi, nid wyf yn barod i dderbyn cardod gan neb."
"Wel, os na fynnwch weled y meddyg, rhaid i mi fynd i lawr i'r dref i chwilio am ychydig bethau. Ond yn gyntaf, efallai y byddai'n well imi wneud cwpanaid o dê i chwi."
"Nid oes deilen o dê yn y tŷ," ebe Abigail.
"Felly af i mofyn peth. Beth arall sydd eisiau?"
"Popeth bron, ond nid oes gennyf y moddion i dalu amdanynt. Beth pe cawn dê a thorth o fara. Byddai hynny'n ddigon. Mae yna ychydig o bres yn y cwpan glas acw yn y cwpwrdd. Dyna hynny sydd gennyf.
"Byddaf yn ôl toc," ebe Nansi. Edrychodd o'i chwmpas i geisio cael syniad beth oedd angenrheidiol. Wrth chwilota yn y cwpwrdd gwelai bob llestr yn wâg oddi gerth ychydig siwgr a blawd. Nid oedd dim i'w fwyta yn y tŷ, dim tân, na dim cysur. Ychydig sylltau yn unig oedd yn y cwpan, a hynny oedd gan Abigail yn y byd mae'n debyg. Llithrodd Nansi allan yn ddistaw heb gyffwrdd â'r arian. Yr oedd wedi sylwi ar siop ar ei thaith o'r dref—siop wlad yn gwerthu popeth bron—rhyw hanner milltir i lawr y ffordd. Wedi cyrraedd yno prynodd ddigon o bopeth dybiai yn angenrheidiol i gyfarfod ag anghenion Abigail. Gresynnai na bai modd iddi gael meddyg at yr hen wraig, ond ofnai ei balchter. Cafodd hefyd yn y siop gorn o rwymyn a phiol o Olew Morris Evans at ffêr yr hen wraig. Yna prysurodd yn ôl at y bwthyn.
Mor fuan ag y gallai, gwnaeth dân a rhoddodd decellaid o ddwr arno. Aeth ati wedyn i baratoi bwyd, a gwnaeth Abigail yn gyfforddus. Molchodd hi yn lân a gofidiai ei gweld mor ddiymgeledd. Rhoddodd olew ar y mân ddoluriau oedd yn y golwg, ac wedi iro'r ffêr yn drwyadl, rhoddodd y rhwymyn yn dynn amdano.
"Yr wyf yn teimlo yn llawer iawn gwell yn barod," ebe Abigail yn llawn diolch. "Ni wn beth a wnawn onibai i chwi ddod pan ddaethoch."
Wrth fwynhau ychydig luniaeth dechreuodd Nansi adrodd ychydig o'i hanes wrth Abigail. Llonnodd llygaid yr hen wraig wrth siarad.
"Nid pawb fuasai'n helpu hen wraig dlawd fel myfi," meddai, "pe buasai Joseff Dafis yn fyw, buasai yn wahanol iawn arnaf."
"A oedd y Joseff Dafis yma yn garedig wrthych?" gofynnai Nansi. Nid oedd am amlygu gwir amcan ei hymweliad os gallai osgoi hynny. Credai, a gobeithiai y medrai gael yr hen wraig i siarad am Joseff Dafis heb godi gobeithion yn ei chalon, na sylweddolid byth o bosibl.
"Yr oedd Joseff yn selog am gofio amdanaf bob amser," ychwanegai Abigail. "Y mae'n rhaid ei fod wedi gadael peth imi yn ei ewyllys. Dywedodd ddegau o weithiau tra bu'n wael a minnau'n gofalu amdano, 'Cofiaf amdanat yn fy ewyllys, Abigail. Ni bydd byth yn edifar gennyt edrych ar fy ôl fel hyn'."
"Ac yna gadawodd y cwbl i'r Morusiaid," ebe Nansi, mewn ymdrech i gael yr hen wraig i barhau ei sgwrs.
"Yn ôl yr ewyllys gyntaf oedd hynny," ebe Abigail, "ond gwnaeth Joseff ewyllys arall ar ôl honno, beth bynnag ddaeth ohoni."
"A ydych yn berffaith sicr fod yna ewyllys arall?" gofynnai Nansi, braidd yn or-eiddgar, a gwelai fod llygaid Abigail arni ar unwaith.
'Wrth gwrs yr wyf yn sicr; cyn sicred a fy mod yn gorwedd yma'n awr. Oni welais hi â'm llygaid fy hun?" "Beth?" ochai Nansi, "gwelsoch yr ewyllys eich hun?"
Amneidiodd yr hen wraig ar i Nansi ddynesu ati. "Nid oes dim sicrach. Cofiwch ni welais beth oedd yn yr ewyllys. Un dydd daeth Joseff i mewn, ac eisteddodd yn y gadair siglo yna, a sylwais ar unwaith ei fod yn gynhyrfus. Yr oedd ganddo ddarn o bapur yn ei law. Abigail,' meddai, 'yr wyf wedi gwneud fy ewyllys. Yr wyf wedi twyllo'r twrneiod yna i gyd.' Dywedodd fel yr oedd wedi ei hysgrifennu ei hunan."
"Pa bryd oedd hyn?" gofynnai Nansi.
Arhoswch funud," atebai Abigail yn ystyriol, "nis gallaf gofio'r dyddiad yn hollol. Tua blwyddyn yn ôl, gallaswn gredu. Wrth ddangos yr ewyllys i mi yr oedd yn hawdd gweld y tybiai ei fod wedi gwneud gorchest fawr. Dywedodd yn eglur ei fod wedi darparu gogyfer â mi ynddi. "Wel, Joseff,' meddwn innau wrtho, 'a ydych yn sicr ei bod yn gyfreithiol?' 'Wrth gwrs, mae hi'n gyfreithiol,' meddai yntau, 'dywedodd twrne pur bwysig wrthyf ei bod yn hollol iawn ond cael tystion ohoni'.'
"Pwy ydoedd y tystion?" gofynnai Nansi, "a wyddoch chwi pwy oeddynt?"
"Na, ni ofynnais iddo, ac ni ddywedodd yntau wrthyf. Aeth allan o'r tŷ yma gan fwmian wrtho'i hun a chwerthin am ben rhywbeth oedd yn ei feddwl."
"Onid oes gennych ryw synied beth ddaeth o'r ewyllys?" holai Nansi'n obeithiol.
Gallaswn dybio iddo i chuddio yn rhywle. Cofiaf iddo ddweud rhywbeth am ei rhoi 'lle na chaiff neb mohoni ond drwy awdurdod cyfreithiol.' Ond yn wir, nid oes gennyf syniad yn y byd ymha le y gallai fod yn awr. Efallai iddo ei rhoi i ryw gyfreithiwr.
"Ai dyna'r oll a ddywedodd?" gofynnai Nansi'n dosturiol.
"Choeliaf fi byth na ddywedodd rywbeth arall, rhywbeth am yr hyn fwriadai wneud â'r ewyllys, ond ni fedraf yn fy myw gofio beth ydoedd."
"Teimlai Nansi bod datrys y broblem yn ymyl, ac ar yr un pryd yr oedd cyn belled ag erioed. Yn ddios yr oedd cyfrinach yr ewyllys gan Abigail Owen, ond ynghlô yn ei hymenydd. Efallai na fedrid byth ddatod y clo. Efallai na fedrai yr hen wraig byth gofio beth ddywedodd Joseff Dafis am yr ewyllys, oddi gerth i rywbeth anarferol gynhyrfu ei chof.
"Ceisiwch gofio,"crefai Nansi'n daer.
Yr oedd yn amlwg mor ymdrechgar ydoedd yr hen wraig i geisio cofio. Ond yr oll gafodd Nansi ydoedd ei gweld yn syrthio'n ôl ar y clustogau wedi llwyr ddiffygio. Yr oedd ei llygaid ynghau.
A'r foment honno, trawodd y cloc un,—dau,—tri. Ac ar y trydydd sŵn o'r hen gloc agorodd Abigail ei llygaid yn gynhyrfus, a daeth rhyw wedd ddieithr dros ei hwyneb. Am ennyd syllodd yn syth o'i blaen. Yna trodd i edrych ar y cloc ac ni thynnodd ei llygaid oddi arno.
PENNOD X
DADLENIAD ABIGAIL
PAN beidiodd y cloc daro symudodd gwefusau Abigail. Nesaodd Nansi Puw ati rhag ofn iddi golli yr un gair. Gwelodd fod y cloc wedi deffro lleoedd cudd meddwl yr hen wraig, a chredai y caffai glywed o'r diwedd rywbeth a gafael arno.
"Y cloc," sibrydai Abigail, mor ddistaw fel mai prin y gallai Nansi adnabod y geiriau. "Dyna fe, y cloc.'
"Beth am y cloc?" gofynnai Nansi, a'i gwefusau wrth glust Abigail. "Ai mewn cloc y cuddiodd Joseff Dafis yr ewyllys?"
"Na," meddai Abigail, a'i llais erbyn hyn yn gryfach. "Meddyliais am foment fy mod wedi ei gael, ond llithrodd o'm cof eto. Cofiaf iddo ddweud rhywbeth am gloc ond nid dyna oedd."
Daliai Abigail i syllu ar y cloc o hyd, a Nansi gyda hi. Methai hi ddeall y cysylltiad rhwng y cloc a'r ewyllys goll. Yn sydyn eisteddodd yr hen wraig i fyny. "Dyna; daeth yn ôl i mi fel saeth. Ar ôl yr holl fisoedd
.""Dywedwch wrthyf," gorchmynnai Nansi'n dawel. Yr oedd ei hangerdd am i'r hen wraig siarad bron a'i gorchfygu, ond ofnai ei chynhyrfu rhag iddi anghofio drachefn.
"Dyddlyfr," ebe Abigail yn llawen, fel pe bai baich oddi ar ei hysgwyddau, "rhywbeth am ddyddlyfr."
"Ie, ond beth ddywedodd am ddyddlyfr?" anogai Nansi.
"Cofiaf yn dda yn awr. Ysgrifennodd Joseff ei ewyllys yn ei ddyddlyfr. Un diwrnod dywedodd, 'Abigail, pan fyddaf farw, gwylia rhag ofn na ddaw fy ewyllys i'r amlwg. Os na ddaw i'r golwg mae popeth yn ei chylch tufewn i'r llyfr bach hwn'."
"Beth ddaeth o'r dyddlyfr, Miss Owen?"
"Ni allaf gofio. Cuddiodd Joseff ef yn rhywle." "Rhwystrau eto." Heb yn wybod iddi ei hun tynnwyd llygaid Nansi at y cloc. Pa gysylltiad allai fod rhyngddo â'r ewyllys? Yn sicr yr oedd rhyw gysylltiad rhyngddynt neu paham y cynhyrfid gymaint ar Abigail pan oedd y cloc yn taro tri. Čododd Nansi yn ddiarwybod iddi ei hun bron, ac aeth at yr hen gloc yn y gornel. Agorodd y drws ac edrychodd y tu mewn iddo. Yr oedd fel pob hen gloc mawr arall ac ni chanfyddai Nansi unrhyw beth anghyffredin ynddo.
"Ymhle yr oedd Joseff Dafis yn byw y pryd hynny?" gofynnai Nansi.
"Gyda'r Morusiaid. Yr oedd wedi bod yn aros gydag amryw berthynasau yn awr ac eilwaith, ond sefydlodd gyda'r Morusiaid o'r diwedd, ac aeth â'i ddodrefn gydag ef."
"A oedd yna hen gloc teuluaidd ymysg ei ddodrefn tybed?"
"Oedd bid siwr. Hen gloc wyth niwrnod a gwell gwaith arno na'r cyffredin. Wyneb hardd a llun llew ar y rhan uchaf. Symudai llygaid y llew gyda'r pendil bob tro."
"Beth ddaeth o'r cloc?"
"Aeth i dŷ'r Morusiaid fel popeth arall. Hwy gafodd y cwbl."
Yr oedd ar flaen tafod Nansi i ddweud wrth yr hen wraig mai'r peth tebycaf oedd mai yn yr hen gloc yr oedd Joseff wedi cuddio'i ddyddlyfr, ond peidiodd rhag ei chynhyrfu a chodi ei gobeithion yn ormodol.
"Gwell fyddai imi beidio dweud hyd nes byddaf yn sicrach o fy mhethau," meddai wrthi ei hun.
Gofynnodd Nansi amryw o gwestiynau pellach i Abigail, ond yr oedd yn amlwg mai ychydig iawn o wybodaeth ychwanegol oedd i'w gael oddi wrthi.
O'r diwedd cododd Nansi i fynd, ac addawodd alw heibio ymhen diwrnod neu ddau. Yr oedd hefyd am drefnu i rywun o'r cymdogion nesaf i gadw llygaid ar Abigail, ond gwyddai mai ffolineb fyddai dywedyd hyn wrthi. Gwaeth yr hen wraig mor gysurus ag oedd bosibl. Rhoddodd bopeth yn hwylus o fewn ei chyrraedd. Cerddodd yn ysgafndroed i Benyberem, ac wedi iddi gael cwpanaid o dê tra'n aros am y 'bus, aeth adref â'i chalon yn ysgafnach na bu ers dyddiau.
"Ni ddywedaf air am hyn wrth Besi a Glenys, hyd nes caf wybod mwy," penderfynai Nansi.
Yn y 'bus ar ei ffordd adref trodd drosodd a throsodd yn ei meddwl holl ffeithiau'r achos. Yr oedd yn awr yn berffaith sicr o un peth. Nid oedd gronyn o amheuaeth nad oedd yr ewyllys wedi ei gwneuthur. Yn ôl Abigail yr oedd wedi ei rhoddi mewn lle diogel ac yr oedd manylion am y lle hwnnw yn sicr yn y dyddlyfr. Yr oedd Joseff hefyd yn ddiddadl wedi dweud wrth Abigail ymha le yr oedd y dyddlyfr i'w gael, ond yr oedd yr hen wraig wedi anghofio beth ddywedodd wrthi. "Yng nghloc y teulu y cuddiodd Joseff Dafis y dyddlyfr," rhesymai Nansi, "neu paham y soniodd Abigail amdano o gwbl?"
Ond er y wybodaeth newydd oedd ganddi yn awr, nid oedd ei llwybr lawer rhwyddach. Y cwestiwn yn awr oedd sut i fynd ymlaen ymhellach. Y cam nesaf wrth gwrs oedd chwilio'r cloc, ond haws dweud na gwneud. Os yn nhŷ'r Morusiaid yr oedd y cloc o hyd, yr oedd ei archwilio allan o'r cwestiwn, yn arbennig wedi'r anghydfod diwethaf â Gwen a Phegi. Nid oedd yn annhebygol chwaith nad oedd y Morusiaid wedi cael gafael ar y dyddlyfr yn barod, ac os felly gellid ffarwelio ag unrhyw obaith i ddod o hyd iddo. Ie, ond pe buasai'r Morusiaid wedi dod o hyd iddo, ni fuasent yn pryderu ynghylch yr ewyllys. Na, os rhywbeth yr oedd yr hen Joseff wedi cuddio'r dyddlyfr yn y cloc yn y fath fodd fel na allent ddod o hyd iddo, heb wybod yn union yn lle i chwilio amdano.
"Y mae'r dyddlyfr yn y cloc o hyd," meddai Nansi dan ei dannedd, "ac arnaf fi mae'r cyfrifoldeb i ddod ag ef i'r golwg."
Ond sut i fynd i dŷ'r Morusiaid; dyna'r broblem? "Prin y medraf ddringo drwy'r ffenestr," gwenai Nansi, "er y buaswn wrth fy modd yn gwneud hynny. Os talaf ymweliad â hwy byddant yn sicr o fy amau. Ni fûm yno ers blynyddoedd, a gŵyr Gwen yn rhy dda fod gennyf ddiddordeb yn yr ewyllys. Rhaid imi gael esgus cryf iawn i alw yno heb orfod deffro eu amheuon." Daeth Nansi i ben ei siwrnai heb yn wybod iddi. Cychwynnodd adref â'i gwynt yn ei dwrn. Ond nid oedd wedi cerdded canllath pan ddaeth llais o'i hôl,
"Helo, Nansi." Eurona Lloyd oedd yno'n galw arni. "Lle'r ydych yn cadw'n awr, Nansi? Ni welais mohonoch ers dyddiau lawer."
"Bûm yn hynod brysur, Rona," ebe Nansi'n siriol. Yr oedd yn falch iawn o weled ei ffrind, a theimlai heddiw yn falchach o'i gweld nag erioed. "Dowch adref gyda mi. Gwnawn i fyny am yr amser gollasom. Mae arnaf eisiau siarad a siarad â chwi."
"Mae'n ddrwg gennyf, Nansi, ond ni allaf ddod gyda chwi heddiw. Yr wyf yn ceisio gwerthu'r tocynau yma at gyfarfod côr yr Urdd ym mis Medi. A ydych chwi wedi gwerthu y rhai gawsoch chwi?"
"Yr wyf wedi gwerthu fy rhai i ers tro," atebai Nansi, "ond mae arnom eisiau tri i'n tŷ ni eto. Dau hanner coron i nhad a minnau ac un swllt i Hannah."
Yr oedd côr adran fawr Trefaes wedi ennill yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn honno ac yn cynnal cyngerdd am noson ym Medi, a'r elw yn mynd i ysbyty'r dref.
"Mae'n dda gennyf gael eu gwerthu," meddai Rona, "hoffwn yn fawr gael ymadael â hwynt cyn mynd i wersyll yr Urdd ddydd Sadwrn nesaf.'
Yn ei diddordeb a'i phenbleth ynghylch yr ewyllys yr oedd y gwersyll wedi diflannu'n hollol o gof Nansi. Yn awr sylweddolodd mor agos oedd yr amser.
"Faint o docynau sydd gennych heb eu gwerthu, Rona?" gofynnai.
"Pedwar hanner coron, ac ni allaf yn fy myw ymadael â hwynt."
"Rhowch hwy i mi, Rona. Fe'u gwerthaf yn eich lle."
"Peidiwch cyboli, Nansi. Nid oeddwn yn meddwl i chwi wneud hynny. Peth arall, yr ydych chwi wedi gwneud eich rhan. Nid ydych erioed o ddifrif."
"Ni fûm erioed yn fwy difrif," ebe Nansi.
"Wel, dyma hwy ynteu," ebe Rona, "ond cofiwch na fydd yn waith hawdd i chwi eu gwerthu. Mae'r genethod wedi bod ym mhob twll a chongl a phawb yn Nhrefaes wedi cael tocyn bron."
"Waeth am hynny," atebai Nansi, gan wenu i lygaid Rona. "Mae gennyf syniad gwych yn fy mhen. Caf fwynhad wrth geisio eu gwerthu."
"Wel, geneth ryfedd iawn ydych," meddai Rona. "Yr ydych yn cael y syniadau rhyfeddaf i'ch pen o hyd."
"Rona, efallai na ddeuaf i'r gwersyll hyd ddydd Llun. Peidiwch chwi ag aros wrthyf. Ewch gyda'r lleill ddydd Sadwrn."
"O'r gore. Pob hwyl gyda'r tocynau, Nansi. Cawn wythnos braf wedi i chwi ddod i'r gwersyll."
Ar ôl i Rona fynd, cerddodd Nansi yn araf mewn myfyr syn. Edrychai ar y tocynau yn ei llaw, a methai beidio chwerthin yn uchel.
"Rona druan," meddai, "pe gwyddai'r cwbl. Ceisiaf werthu'r tocynau iddi ond lladdaf ddau dderyn ag un ergyd. O'r diwedd dyma fi esgus rhagorol i alw'n nhŷ'r Morusiaid."
PENNOD XI
YMWELED A'R MORUSIAID
GWYDDAI Nansi'n bur dda nad oedd yn debygol fod tocynau gan y Morusiaid. Nid oedd Gwen na Phegi yn aelodau o gangen yr Urdd. Yr oeddynt yn "rhy fawr" i beth felly, a mwy nag unwaith clywodd Nansi y ddwy yn honni mai Nonsense oedd 'this Urdd business.' Ni siaradent byth Gymraeg â'i gilydd, a phan fyddai yn orfod arnynt ei siarad yr oeddynt yn lletchwith ac yn llediaith i gyd.
Prynhawn trannoeth tua thri o'r gloch, curodd Nansi'n wrol wrth ddrws cartref y Morusiaid. Trigent mewn tŷ helaeth ar gwr uchaf Trefaes. Safai'r tŷ yn urddasol ar ei ben ei hun, fel pe'n herio neb i ddod ato. Yr oedd gerddi yn llawn blodau o'i gwmpas ag ôl digon o foddion ym meddiant y sawl oedd yn byw ynddo. Yr hyn oedd fwyaf tarawiadol ynddo oedd y bwriad amlwg i'w wneuthur mor rwysgfawr ag oedd modd. Teimlai Nansi ei fod yn galw pawb i edrych arno.
Wrth guro'r drws, teimlai Nansi y gallai'r munudau nesaf fod yn rhai pur annifyr iddi, a sythodd yn ei hesgidiau i wynebu'r prawf.
"Rhaid i mi fod yn ofalus neu chaf fi wybod dim am y cloc," meddai wrthi ei hun mewn cyfyng-gyngor.
Ar hynny dyma'r forwyn i'r drws. Disgwyliodd i Nansi amlygu ei neges.
"Wnewch chwi ddweud wrth Mrs. Morus, os gwelwch yn dda, fy mod yn galw i werthu tocynau ar gyfer cyfarfod i'r ysbyty.'
Ni wahoddwyd hi i mewn gan y forwyn a gorfu iddi aros ar y rhiniog hyd nes daeth yr eneth yn ôl.
"Dowch i mewn, miss, os gwelwch yn dda," ebe'r forwyn, ac wrth ei dilyn ni allai Nansi lai na gwenu wrth feddwl mai ffug oedd yr ymweliad i gyd.
Yr oedd yr ystafell yr arweiniwyd Nansi iddi gan y forwyn yn peri diflastod iddi. Yr oedd rhyw ormodedd o bopeth ynddi, a dim byd yn syml a phrydferth. Rhywfodd edrychai popeth o'i le ynddi er fod ol arian ym mhob twll a chongl ynddi. Nid oedd y darluniau olew ar y muriau yn fuddiol i ystafell mor fechan. Yr oedd nifer o lin-ysgythriadau gwerthfawr ynghudd yn y rhan dywyllaf ohoni. Yr oedd amrywiaeth yng nghyfnod y dodrefn er yr ymddangosai mor ddrudfawr.
Ond nid yn null Mrs. Morrus o ddodrefnu yr oedd diddordeb Nansi. Cyn gynted ag yr aeth y forwyn allan o'r ystafell, edrychodd o'i chwmpas yn chwim. Ar unwaith disgynnodd ei llygaid ar gloc hardd yn y gongl chwith i'r tân. Cloc wyth niwrnod, canolfaint ffasiwn newydd.
"Nid hwnyna yw cloc Joseff Dafis," meddai Nansi wrthi ei hun.
Yr oedd ar fin mynd ato i'w weled yn well, pan glywodd sŵn traed, ac mewn amrant yr oedd Nansi yn eistedd yn hamddenol yn y gadair nesaf ati.
Daeth Mrs. Morus i mewn yn fawreddog a phwysig, ac wedi edrych arni am foment yn oeraidd, meddai,
"Wel, beth sydd arnoch eisiau?"
"Yr wyf yn gwerthu
"Nid oes arnaf eisiau yr un," ebe Mrs. Morus ar ei thraws, "ni fedraf daflu arian i bawb ddaw heibio'r tŷ yma i fegera."
Gwridodd Nansi pan deimlodd y saeth yng ngeiriau Mrs. Morus. "Nid begera ydwyf," meddai yn stiff. "Efallai na ddeallasoch pwy ydwyf. Fy enw yw Nansi Puw, merch Mr. Edward Puw.'
Daeth cyfnewidiad dros wyneb Mrs. Morus ar unwaith. Gwyddai yn dda y caffai Nansi a'i thad groeso ar aelwydydd Trefaes, na chaffai hi na'i theulu byth fynediad iddynt. "Ni ddeallais pwy oeddych, Miss Puw. Beth ydych yn ei werthu?"
Eglurodd Nansi ei neges wrthi.
"Wel, nis gwn yn iawn beth i'w ddweud," atebai Mrs. Morus. Ar un llaw nid oedd arni eisiau gwrthod merch y dyn mwyaf dylanwadol yn Nhrefaes, ac ar y llaw arall nid oedd ganddi ronyn i'w ddweud wrth Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd Mrs. Morus yn enghraifft odidog o'r crach-fonedd. Arian oedd ei pheth ac addolai aur pa le bynnag y gwelai ef. Er fod y teulu'n gefnog gwyddai pawb mor grintach ydoedd Mrs. Morus ac mor amharod i helpu neb ond ei hun.
"Faint ydyw'r tocynau, Miss Puw?"
"Hanner coron yr un, Mrs. Morus."
"Hanner coron am glywed rhyw gôr o blant yn canu. Ni chlywais i'r fath beth erioed," protestiai Mrs. Morus. "Fe gofiwch mai at yr ysbyty yr â'r elw. Mae at achos teilwng iawn."
Cyn i Mrs. Morus ateb daeth Gwen a Phegi i mewn i'r ystafell. "Yn awr amdani," meddai Nansi wrthi ei hun. Heb sylwi ar Nansi cwynent yn uchel wrth ymddiosg ynghylch rhywbeth. Pan welsant Nansi yn eistedd yn dawel o flaen Mrs. Morus, ni fedrent yngan gair a safasant yn fud gan syllu arni'n syn.
"Y mae Miss Puw yn gwerthu tocynau at rhyw gyngerdd," eglurai Mrs. Morus iddynt.
"Cyngerdd plant yr Urdd," ychwanegai Nansi'n hamddenol, "yr elw at yr ysbyty.'
"Tocynau wir," ebe Gwen yn ffiaidd, "gadewch iddynt mam. Nid oedd wedi anghofio'r tro diwethaf y gwelodd Nansi, a dyma gyfle i dalu un pwyth bach yn ôl.
"Ond Gwen," ebe Mrs. Morus, "rhaid inni brynu tocynau neu beth feddylia pobl Trefaes ohonom?"
"Peidiwch bod yn ffôl, mam," atebai Gwen. "Peidiwch â gwastraffu arian ar yr Urdd lol yna. Awn ni ddim i'r cyngerdd beth bynnag, ac yr wyf yn siwr na ddaw nhad ychwaith."
"O'r gore," ebe Mrs. Morus. "Os mai felly y bydd, ni bydd angen tocynau arnom.
Cododd Nansi ar ei thraed yn gyndyn. Gwelai fod y merched yn bwrpasol anfoesgar tuag ati ac yr oedd ei gwaed yn berwi yn ei gwythiennau. Ond daliai i gofio beth oedd gwir amcan ei hymweliad.
Fel y troai i adael yr ystafell gwelai fod Mr. Morus wedi cyrraedd y tŷ. Yr oedd wedi dyfod i mewn mor ddistaw fel na welodd neb ef yn dod i'r ystafell. Clywodd beth o'r sgwrs heb i neb ei weled.
"Hanner munud, Miss Puw," meddai, "sawl tocyn sydd gennych?"
"Pedwar, Mr. Morus," meddai Nansi yn foesgar, a'i llygaid yn agor â syndod.
"Rhowch hwy i mi," atebai yntau gan estyn allan ei law amdanynt. "Hanner coron yr un, onide? Dyma nodyn punt amdanynt. Nid oes eisiau newid ohono. Rhowch yr oll at yr ysbyty."
"William," ebe Mrs. Morus mewn syfrdandod, "beth ddaeth dros eich pen? Papur punt?"
"Oni fedrwch weld ymhellach na'ch trwyn?" atebai ei gŵr, "yr ydych beunydd yn ymboeni ynghylch troi ymysg pobl orau Trefaes. Bydd ein henwau yn y "Trefaes Chronicle" am hyn.'
Eisteddodd i lawr mewn cadair esmwyth gan groesi ei goesau, a phigodd bapur newydd o'r rhestl wrth ei ochr. Ni chymerai unrhyw sylw o neb arall yn yr ystafell. Gwyddai Mrs. Morus o brofiad nad oedd wiw ymresymu'n mhellach, a theimlai Nansi fod ei hymweliad hithau yn awr yn hollol ar ben.
"Diolch yn fawr i chwi," meddai, ac ni allai yn ei byw beidio rhoi tinc o falais yn ei llais. "Rhaid i minnau fynd yn awr; faint o'r gloch yw hi tybed?"
"Dyna gloc o'ch blaen," ebe Gwen yn swta. Hawdd gweld ei bod hithau'n berwi.
"Wel, ie'n wir," ebe Nansi. Edrychodd ar y cloc fel pe heb ei weld erioed o'r blaen. "Ai cloc Joseff Dafis ydyw?" gofynnai'n ddiniwed. "Nid oes dim yn y byd mor ddiddorol i mi â hen ddodrefn."
"Na, choelia'i fawr. Costiodd hwn lawer mwy na'r cloc adawodd Joseff Dafis i ni," ebe Mrs. Morus yn fawreddog, tra syllai Gwen ar Nansi'n ddrwgdybus.
"Hm," ebe Nansi, "ond mae'n siwr fod yr hen gloc gennych yn rhywle. Mae mor anodd cael ymadael â hen bethau fel yna onid ydyw?"
"Nid mor anodd," meddai Gwen, "yr oedd gan Joseff Dafis lawer o hen gelfi diwerth. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn hollol anfuddiol ymysg y dodrefn modern yma sydd gennym ni."
"Yr oedd rhai o'i bethau yn gwneud yn iawn yn yr hafoty hwnnw sydd gennym ar lan Llyn y Fedwen," ebe Pegi. "Mae yr hen gloc yno yn awr.'
Llamodd calon Nansi. Yn ddiarwybod iddi ei hun yr oedd Pegi wedi rhoddi iddi yr hyn oll oedd arni eisiau. Coronwyd ei hymweliad â'r llwyddiant mwyaf allai ddisgwyl. Diolchodd yn gynnes i'r Morusiaid am garedigrwydd na fwriadwyd iddi ei gael ac aeth ymaith yn ddiymdroi.
Wrth fynd drwy'r ardd flodeuog, gwenai Nansi yn ei llawes, a dawnsiai ei llygaid gan lawenydd. "Mae'r ddau aderyn yn ddiogel, Rona. Tybia'r Morusiaid eu bod yn glyfar, ond ni synnwn lawer iawn nad dyna'r tocynau drutaf a brynasant erioed."
Yr oedd dyn trwm yr olwg arno yn cerdded i fyny at y tŷ a'i gap wedi
ei dynnu i lawr dros ei lygaid.
Gweler tudalen 83
PENNOD XII
AR OL Y CLOC
AR y ffordd adref y sylweddolodd Nansi'n hollol yr hyn amlygodd Pegi iddi. Yr oedd y cloc yn y byngalo ar lan Llyn y Fedwen. Yr oedd gan amryw o drigolion Trefaes hafotai ar lan y llyn. Aent yno dros bob gŵyl bron, yn enwedig y Pasg a'r Sulgwyn, a thros wyliau'r haf. Synnai Nansi erbyn iddi feddwl na bai'r Morusiaid yno hefyd. "Efallai mai yr ewyllys sydd yn eu poeni. Efallai na theimlant yn ddiogel heb ryw sicrwydd amdani."
Ond yr hyn a barai gysur i Nansi oedd y ffaith fod gwersyll yr Urdd eleni hefyd ar lan Llyn y Fedwen. Yr oedd Syr William Elffin yn garedig wedi rhoddi ei ganiatâd i wersyllu yn ei barc, ymhen uchaf y llyn, a llai na phedair milltir oddi yno, yn y pen isaf yr oedd y drefedigaeth fechan o hafotai.
Nid oedd Nansi erioed wedi bod yn y llecyn o'r blaen. Gwell bob amser fyddai ganddi hi a'i thad dreulio eu gwyliau ar lan y môr. Ni wyddai pa un o'r hafotai berthynai i'r Morusiaid, ond gwyddai'n dda y gallai yn hawdd ddod o hyd iddo, a hithau yn gwersyllu mor agos. Ac unwaith y canfyddai'r bwthyn, yr oedd yn benderfynol y gwelsai'r cloc.
Nid oedd awydd yn Nansi rywfodd i ddweud dim am y cloc wrth ei thad. Yr oedd am wneud yn sicr o bopeth i ddechrau ac am beri syndod iddo ar y diwedd os y gallai. Nid oedd raid iddi wrth esgus am fynd i Lyn y Fedwen. Gan mai dydd Iau ydoedd, yr oedd yn hwylus iddi i drefnu i fyned gyda'r genethod y Sadwrn dilynol.
Y noson honno, wrth y bwrdd swper, ebe Nansi,
"Nhad, byddaf yn mynd i wersyll yr Urdd ddydd Sadwrn. Bydd arnaf eisiau siopa ychydig yfory." Dyna ffordd Nansi o ddweud wrth ei thad fod arni angen pres.
"Mae'n dda gennyf eich bod yn mynd. Nid ydych wedi ymddangos yn rhy dda yn ddiweddar, a bydd awyr iach y bryniau yn lles i chwi."
Bore drannoeth aeth Nansi i orffen ei siopa. Prynnodd ddefnydd er mwyn mynd ag ef i Besi a Glenys fel yr addawodd. Aeth yno atynt yn y prynhawn. Cafodd y ddwy i mewn ac mewn penbleth amlwg. Yr oedd Glenys mewn profedigaeth. Yr oedd rhywbeth yn difa ei chywion ieir. Ac ar ben y cwbl yr oedd gwaith gwnïo i Besi yn brin.
"O na bai f'ewythr Joseff wedi cofio amdanom,' gofidiai Besi, "a glywsoch chwi rywbeth ymhellach am yr ewyllys, Nansi?"
"Dim gwerth ei adrodd," atebai Nansi, gan droi y cwestiwn o'r neilltu, "ond yr wyf yn dal i obeithio."
"Byddaf yn meddwl weithiau nad yw'n werth inni obeithio," meddai Glenys.
Trodd Nansi'r stori. "Deuthum â'r defnydd i chwi ei wneud yn ffrog imi," meddai.
"O diolch i chwi," meddai Besi yn llawen, "yr wyf mor falch o gael rhywbeth i'w wneud.
"Hoffwn gael talu yn awr," ychwanegai Nansi, "yr wyf yn mynd i wersyll yr Urdd yfory, ac efallai na chaf gyfle i alw am ysbaid eto."
"Dim talu nes gorffen y gwaith," atebai Besi'n benderfynol.
Nansi ddigalon oedd yn troi yn ôl i Drefaes. "O na chawn afael ar y dyddlyfr yn yr hen gloc," meddai. Cododd ei chalon wrth feddwl am trannoeth.
Deg o enethod Trefaes oedd yn mynd i wersyll yr Urdd y tro hwn. Aent gyda 'bus a golygai daith o ryw bymtheg milltir i groesffordd Pen y Llyn. Yr oedd gwaith milltir o gerdded i'r gwersyll ar ôl hynny. Ni fu erioed ddeg geneth hapusach yn cychwyn i unlle, ac yn sŵn yr holi a'r ateb a'r chwerthin a'r hwyl buan iawn y daethant i groesffordd Pen y Llyn. Gadawsant y modur yn llawen a chyn hir daethant i olwg y gwersyll. Gwelent rhwng y coed uchel resi o bebyll gwynion, a thu hwnt iddynt y llyn fel ysmotyn glas yn y pellter.
Wedi cyrraedd y gwersyll a setlo i lawr, cafodd Nansi a Rona gyfle am yr ymddiddan oedd y ddwy yn edrych ymlaen ato. Soniodd Nansi fel yr oedd wedi gwerthu tocynau Rona i'r Morusiaid, a rhoddodd y papur punt yn ei llaw.
"Bobl annwyl, beth ddaeth drosto?" ebe Rona.
"Rhyw deimlad y carai ddangos ei hun a chael ei enw yn y newyddiadur," atebai Nansi'n sychlyd.
Yr oedd bwyd rhagorol yn y gwersyll fel arfer, a phan ddaeth yn amser cinio canfu Nansi bod min ar ei harchwaeth. Er hynny ni ymunodd â'r genethod y prynhawn hwnnw. Arhosodd yn ei phabell i gael heddwch i ystyried dros bethau.
Yr oedd Syr Elffin wedi gadael ei gwch ar lan y llyn at wasanaeth y genethod yn y gwersyll. Ar ôl cinio daeth y syniad i ben rhai ohonynt i fanteisio ar y cynnig, a threfnwyd mordaith fechan ar y llyn. Nid oedd gan Nansi yr un awydd i fyned gyda hwy. Teimlai y gwnâi cysgu fwy o les iddi.
Daeth Rona o rywle. "Nansi," meddai, "mae arnom flys mynd ar y cwch am dro cyn swper. Gwnewch eich hun yn barod i ddod gyda ni."
"Nid oes arnaf awydd dod, Ron, os esgusodwch fi heddiw."
"Nansi annwyl, beth sydd arnoch? Yn siwr nid ydych am golli cyfle i weld rhai o bobl Trefaes yn yr hafotai yna sydd ym mhen isaf y llyn.'
"Hafotai?" ebe Nansi. Gloywodd ei llygaid wrth gofio fod arni eisiau gwybod pa un oedd byngalo'r Morusiaid, a dyma gyfle rhagorol.
"Byddaf gyda chwi mewn dau funud, Ron," meddai yn frysiog. Yr oedd ei blinder wedi diflannu.
Chwech o enethod oedd yn y cwch a chymerwyd y rhwyfau gan ddwy ohonynt.
Fel y symudai'r cwch i ganol y llyn, credai Nansi na welodd erioed olygfa mor hardd. Machludai'r haul yn goch o'u golwg a thaflai ei belydrau olaf ar yr awyr uwch eu pennau a'r dŵr oddi tanynt. Edrychai ffenestri'r tai ar y lan yn dân coch. Pan oedd ar ymgolli yn hyfrytwch yr olygfa dygwyd hi'n ôl wrth gofio ei hamcan.
"Y mae gan deulu Gwen a Phegi Morus dŷ yma yn rhywle, onid oes?" gofynnai'n ddistaw i Rona.
"Oes, draw yr ochr arall. Awn heibio iddo yn y man," atebai hithau.
"Tybed a ydynt yno yn awr?"
"Na, nid ydynt wedi dod yma eleni am ryw reswm neu'i gilydd. Ond y mae rhywun yn edrych ar ei ôl iddynt.
Daliai Nansi i gwestiyno. "A ydyw yn anodd cyrraedd ato?" gofynnai drachefn.
"Nac ydyw. Mae'n hawdd i'w gyrraedd gyda'r cwch, ond y mae ffordd go faith wrth amgylchu'r llyn ar y lan."
Yr oedd gofyniadau Nansi yn dechrau deffro diddordeb Rona. "Paham eich bod mor awyddus i wybod cymaint am y Morusiaid, Nansi?" meddai. "Holasoch lawer arnaf y dydd o'r blaen hefyd."
"O," meddai Nansi'n gyflym, "nid oeddwn yn holi am ddim yn neilltuol. Gwyddoch nad ydynt yn rhyw gyfeillion mawr iawn i mi."
Ymhen ychydig daeth y cwch yn nes i lan y llyn. "Dacw hafoty'r Morusiaid, Nansi," ebe Rona, gan gyfeirio ei bys at adeilad sylweddol a safai heb fod ymhell o fin y dŵr.
Trodd Nansi i edrych arno yn iawn. Syllodd arno yn hir fel y gallai fod yn sicr o'i gofio pan fyddai eisiau. Rhoddodd ef yn ddiogel yn ei meddwl ar gyfer y dyfodol.
PENNOD XIII
MEWN PERYGL
WRTH ddychwelyd yn y cwch penderfynodd Nansi ynddi ei hun y dychwelai i hafoty'r Morusiaid trannoeth wrthi ei hunan. Yr oedd perygl iddynt ddyfod yno cyn iddi gael cyfle i ymweled â'r byngalo yn eu habsenoldeb. Cyn mynd i orffwys y noson honno dan gynfas dywedodd fwy nag unwaith mor flinedig yr oedd, a chymaint angen gorffwys a llonyddwch oedd arni. Ond yr oedd yn trefnu pethau heb gymryd cyfrif o Rona. Deffrôdd trannoeth a llond ei ffroenau o arogl pinwydd hyfryd yn gymysg ag arogl y borefwyd yn y gwersyll. Teimlai'n hynod fywiog wedi cysgu noson yn y babell. Ni wyddai Nansi ei bod yn cael profiad miloedd o filwyr yn y Rhyfel Mawr nad oes cwsg tebyg i gwsg dan gynfas.
Wedi bwyta'n sylweddol bu raid i Nansi gydymffurfio â threfniadau'r gwersyll. Er fod popeth mor rwydd a didrafferth ynddo gwelodd yn fuan fod yn rhaid syrthio i mewn â phob cynllun er budd pawb yn y gwersyll. Rhoddodd i fyny'r syniad o ymweled â hafoty'r Morusiaid ar unwaith. Gwelai ei bod yn anobeithiol os oedd am gymryd ei rhan fel aelod o'r gwersyll. Yr oedd rhywbeth i'w wneud a rhywle i fynd iddo drwy'r dydd. Erbyn nos yr oedd Nansi mor lluddedig fel mai prin y gallai gadw ei llygaid yn agored ac yr oedd yn falch iawn o weld ei gwely;
"Yfory," meddai cyn syrthio i drwmgwsg, "rhaid i mi gael cyfle i ymweled â byngalo'r Morusiaid."
Bore trannoeth, "trefn y dydd" oedd testun ymddiddan y bwrdd brecwast ar ei hyd. "Yr ydym i ddringo Moel y Fedwen heddiw," meddai Rona wrth Nansi, "a ydych yn barod i'r dasg?"
"Yn wir, Rona, carwn yn arw gael llonydd heddiw," atebai Nansi, "nid wyf yn teimlo yn dda iawn. Pe cawn orffwys ychydig credaf y buaswn lawer iawn yn well."
"Gresyn garw," ebe Rona, "gwn beth wnaf. Arhosaf yma gyda chwi.'
Yr oedd atebiad Rona yn hollol nodweddiadol ohoni. Pan oedd cyfeillgarwch yn y cwestiwn, rhoddai Rona bob amser ei chyfeilles yn gyntaf a hi ei hun yn ail.
"Dim o'r fath beth," meddai Nansi fel ergyd. "Ewch chwi gyda'r fintai. Byddaf fi yn hollol hapus yng nghyffiniau'r gwersyll am heddiw.
"Ie," ebe Rona, "ond nid wyf yn hoffi eich gweled chwi yn aros yn y
"Byddaf fi yn hollol iawn, Rona," meddai Nansi, "os teimlaf yn well bydd yn hawdd iawn imi fynd ar y cwch ar y llyn am ychydig."
"Byddwch yn ofalus, Nansi. Cofiwch nad yw yn hawdd i un ei rwyfo.
"Cymeraf bob gofal, Rona. Ond, o ran hynny, efallai nad af o gwbl. Mae'n dibynnu yn union sut y teimlaf." Prin y gallai Nansi guddio ei hawydd i gael y genethod oddi ar y ffordd. Cymaint oedd ei phryder i adael y gwersyll fel y teimlai bron fod pob geneth am yr arafaf i gychwyn ar y dringo. O'r diwedd dyna'r fintai yn cychwyn.
"Edrychwch ar ôl eich hun," gwaeddai Rona dros ei hysgwydd fel y symudai'r genethod gyda'i gilydd o'r gwersyll.
Cyn gynted ag yr oeddynt o'r golwg, prysurodd Nansi i lawr at lan y llyn i'r fan lle rhwymid y cwch. Yr oedd yn gyfarwydd â rhwyfo. Yr oedd wedi dysgu trin cwch yn ystod ei gwyliau haf gyda'i thad y flwyddyn cynt. Bob tro yr elai i Gaerangor manteisiai ar y cyfle i fynd ar y môr mewn cwch rhwyfo. Ond nid oedd erioed wedi gorfod ymddiried ynddi ei hun gyda chwch rhwyfo ar lyn o'r blaen. Eisteddodd yn ofalus yng nghanol y cwch, a chan drefnu ei rhwyfau yn barod i'w dwylo, gwthiodd ef i'r dwfn. Gafaelodd yn y rhwyfau a dechreuodd dynnu'n araf am ganol y llyn. Yr oedd y llyn fel gwydr ac nid oedd gwmwl yn yr awyr. Nid oedd y rhwyfo ond fel pob rhwyfo arall. Anelodd yn syth am yr hafotai ymhen isaf y llyn.
"Gobeithio fod y gofalwr o gwmpas ac y caf siawns i edrych dros y byngalo," meddyliai.
Ond nid oedd Nansi i gyrraedd y lan draw y dydd hwnnw. Nid cynt oedd y geiriau o'i genau nag y collodd rwyf, a llithrodd y cwch yn gyflym oddi wrtho yn ei bwysau. Prin y medrai Nansi sylweddoli beth oedd wedi digwydd am ennyd.
"Beth a wnaf yn awr?" meddai yn uchel.
Yr oedd yn llithro'n araf yn nes i ganol y llyn, ymhellach ymhellach o'r gwersyll bob eiliad. Gwelai ei rhwyf ychydig o'i hôl. Ceisiodd ei gyrraedd â'r rhwyf arall. Cododd ar ei thraed a bu bron iddi a dymchwel y cwch a disgyn i'r dyfroedd.
Nid oedd yn anghyfarwydd a "scwlio," a cheisiodd wneud hynny â'r rhwyf oedd ganddi o starn y cwch. Ond buan iawn y daeth i ganfod mai ychydig o gynnydd wnai'r llestr y ffordd honno. "Nid oes dim i'w wneud ond gadael i'r cwch ddod i dir," meddai. "Gallaf ei rwymo a cherdded yn ôl i'r gwersyll.
Erbyn hyn yr oedd y cwch, drwy ryw ffrwd yn y llyn, gyferbyn â hafoty'r Morusiaid. Yr oedd yr adeilad wedi ei argraffu ei hun ar feddwl Nansi fel nad oedd yn bosibl iddi ei anghofio. Gwelai nad oedd mwg yn y simnau a theimlai'n ddig wrthi ei hun am fod mor ddiofal gyda'r rhwyf. Cofiodd am yr hen linell, "Rwy'n agos iawn ac eto 'mhell," ac ni allai lai na gwenu.
Daeth y syniad i nofio i'r lan iddi, ond nid oedd yn hoffi'r syniad o gerdded yn ôl i'r gwersyll yn ei dillad glybion, er dichon na welid hi gan neb. Yr oedd y cwch wedi arafu ei symudiad cryn lawer erbyn hyn, ac yr oedd awel ysgafn o ben isaf y llyn yn dechrau ei glosio i fyny'r dyffryn. Teimlai Nansi yn bur oer a digalon.
Edrychodd ar ei horiawr. Cafodd fraw pan ganfu iddi fod ar y dŵr am deirawr. Ni welai neb i weiddi arno a theimlai awydd cryf am fwyd.
"Dyma'r tro olaf i mi fentro mewn cwch ar fy mhen fy hun," ebe Nansi, "bydd yn amhosibl imi gael cyfle i alw yn y byngalo ar ôl heddiw. Nid oes dim allaf wneud ond hel esgus i fynd adre'n ôl ymhen diwrnod neu ddau. Digon o waith y daw'r Morusiaid yma cyn y Sadwrn. Nid oes ôl paratoi yma beth bynnag.
Tra'n synfyfyrio fel hyn trodd i edrych tua'r lan arall. Ac o graffu ar y dŵr gwelodd fod y rhwyf wedi dynesu cryn lawer ati. Yr oedd yr awel yn erbyn y llif ac yn gwthio'r cwch yn araf i fyny'r llyn.
"Pe medrwn gadw'r cwch yn ei unfan am ychydig deuai y rhwyf heibio iddo, ac yn ddigon agos imi afael ynddo.
Drwy ymdrech â'r rhwyf oedd yn aros iddi, llwyddodd Nansi i gadw'r cwch yn weddol lonydd. Ymhen ysbaid bu yn alluog i ymafael yn y rhwyf achosodd gymaint o bryder iddi.
"Mae'n rhy hwyr i fynd i unlle ond yn ôl i'r gwersyll," meddai. Rhwyfodd yn ofalus ar draws y llyn. Cymerodd ofal neilltuol na chollai mo'i rhwyf drachefn. Wrth rwymo'r cwch yn ei angorfa gwelodd y genethod yn dychwelyd i'r gwersyll o'u dringfa yn edrych yn lluddedig. "Buoch yn ddoeth iawn i beidio dod gyda ni," ebe Rona. "Yr ydym oll wedi blino'n enbyd." Ataliodd ei chyfarchiad yn sydyn. "Beth fuoch chwi'n ei wneud â chwi eich hun?" meddai, "mae golwg arnoch fel pe baech wedi bod drwy ddrain."
Adroddodd Nansi am ei hanffawd wrthi, heb amlygu dim o wir amcan y fordaith. Chwarddodd pawb yn galonnog a Nansi gyda hwynt fel yr adroddai ei helyntion. Ond er cymryd y peth mor ysgafn yr oedd Nansi yn wir siomedig i'w hymdrech fod mor aflwyddiannus.
Dyma ddiwrnod arall wedi ei wastraffu. Tybed a lwyddai i weled tu fewn i'r hafoty rhyw dro? Hyd yn hyn yr oedd rhwystrau wedi ei lluddias.
PENNOD XIV
YNG NGAFAEL LLADRON
YR oedd Nansi yn dechrau poeni ynghylch pethau. Methai'n lân â chael esgus digonol i fyned o'r gwersyll. Am ddeuddydd ar ôl anffawd y cwch ymrodd i weithrediadau'r gwersyll, er ceisio lleddfu ei phryder, a disgwyl yr un pryd y caffai oleuni ar bethau. Er ei holl flinder methai â chysgu wrth feddwl am y cynllun hwn a'r cynllun arall. Erbyn bore'r trydydd dydd, rhwng egnion y dydd a choll cwsg y nos edrychai Nansi yn bur wahanol i'w chyflwr arferol.
"O, Nansi," ebe Rona'n bryderus, "yr ydych yn edrych fel lliain, mae eich wyneb mor llwyd.'
"Wir," atebai Nansi, "ofnaf y bydd raid i mi ddychwelyd adref. Ni allaf byth ddal wythnos arall yma.
Ar ôl borefwyd teimlai ychydig yn fwy bywiog ei hysbryd, ond credai y byddai ganddi reswm digonol yn awr i ymadael. Aeth Rona gyda hi at Miss Richards. Yr oedd gwedd gwelw Nansi yn ddigon i'r arweinyddes weled mai gartref oedd ei lle. Trefnwyd felly iddi ymadael ar unwaith, ac yr oedd Rona i'w hebrwng i Benllyn.
Tra'r oedd hyn wrth fodd calon Nansi nid oedd yn hollol fodlon. Gofidiai orfod twyllo yr arweinyddes a'i ffrind pennaf. Gofynnodd iddi ei hun yn onest drwy pa ffordd y gorweddai ei dyletswydd, pa un ai glynu wrth y gwersyll yntau gadael i Besi a Glenys, Abigail a'r hen lanciau gymryd eu siawns.
Ffarweliodd Nansi a Rona wrth y 'bus. Bu bron i Nansi ddweud y cwbl wrth ei ffrind, ond rywfodd deuai cyngor ei mam yn fyw i'w chof. "Cei rywbeth am ei chau ond ni chei ddim am ei hagor."
Yr oedd wedi cynllunio popeth yn ei meddwl. Byddai'r 'bus yn mynd heibio pen arall y llyn o fewn rhyw filltir a hanner. Penderfynodd Nansi adael y 'bus yn y lle agosaf a cherdded i fyny yn ôl at yr hafotai.
Daeth y cerdded â'r gwrid yn ôl i'w gruddiau. Er y teimlai braidd yn euog o dwyllo ei chyfeillion yn y gwersyll ni allai lai na chwerthin, yn foddhaus am lwyddiant ei chynllun. Yr oedd wedi llwyddo i adael y gwersyll heb ddeffro yr un amheuaeth ynghylch ei pherwyl.
Fel y nesai at y byngalo, cyflymai curiad ei chalon wrth feddwl ei bod ar fin cael gweled y cloc. Teimlai'n sicr, unwaith y caffai ato, na fyddai fawr drafferth iddi gael gafael ar y dyddlyfr. Pasiodd amryw hafotai, rhai â phobl ynddynt ac eraill ynghau.
"Gobeithio y gwelaf y gŵr sy'n edrych ar ôl y lle," meddyliai Nansi.
Yr oedd erbyn hyn wedi cyrraedd hyd at yr hafoty. Sylwai fod y drws yn agored ac amlwg fod rhywun o'i gwmpas. "Un ai maent wedi cyrraedd yma neu mae rhywun wrthi'n paratoi ar eu cyfer," meddai wrth ei hun.
Nesaodd yn ochelgar a chyrhaeddodd y drws heb ganfod neb. Curodd, ond ni chafodd ateb. Mentrodd i mewn i'r ystafell gyntaf yn ddiwahodd. Yr oedd popeth mewn anhrefn, y dodrefn yn blith drafflith. Dyfalai Nansi beth allasai hyn fod. Edrychai'r lle yn debycach i fel pe bai rhywun yn mudo oddi yno nag i le yn cael ei baratoi ar gyfer ymwelwyr.
"Tybed mai lladron sydd yma, liw dydd fel hyn? Tybed imi eu dychryn ymaith am eiliad neu ddau?"
Yr oedd wedi darllen fwy nag unwaith am achosion o ladrad o hafotai fel hyn yn absenoldeb y meddianwyr, ac am foment safodd Nansi â rhyw ias oer o ofn yn rhedeg drosti. Tybed a oedd llygad lleidr arni y funud hon o gongl yr ystafell? Tybed ei fod yn paratoi i neidio arni o'i guddfan? Arswydai Nansi wrth feddwl beth allsai ddigwydd iddi.
Ond daeth ei gwroldeb naturiol i'w chymorth eto. Yr oedd popeth mor ddistaw. Bu bron iddi a rhoddi i mewn i'w hofnau a rhuthro'n bendramwnwgl allan o'r bwthyn. Adfeddiannodd ei hun, ac yn araf enillodd ei nerf yn ôl.
Sylweddolodd fod y lle wedi ei ddodrefnu'n well na'r cyffredin. Nid dodrefn tlawd oedd yno. Yr oedd yno helfa ardderchog i ladron. Dechreuodd Nansi symud o gwmpas. Tybed oedd y cloc yno o hyd?
Nid cynt y daeth y cloc i'w meddwl nag y gwelodd ef. Yr oedd yn union fel y disgrifid ef gan Abigail Owen. Ond yr oedd llygaid y llew yn llonydd. Nid oedd y cloc yn mynd.
Aeth ato i'w archwilio. Agorodd ei ddrws a theimlodd tufewn i'w gâs. Nid oedd olwg o'r dyddlyfr. Ai tybed fod rhywun arall wedi clywed amdano, ac mai hyn oedd yr eglurhad am yr anhrefn? Neu tybed a oedd y dyddlyfr wedi ei golli wrth symud y cloc? Cofiai fod yn rhaid tynnu cloc wyth niwrnod oddi wrth ei gilydd cyn y gellid ei symud fel rheol. Hawdd felly fuasai i'r llyfr syrthio allan heb i neb sylwi.
Safodd Nansi'n syn yn edrych ar y cloc a'i siom bron a'i llethu. Yr oedd ei dagrau ar fin treiglo i lawr ei gruddiau.
"Gresyn na fedret siarad," meddai wrtho'n uchel.
Atseiniodd sŵn ei llais drwy'r tŷ gwag mor uchel fel y neidiodd Nansi yn ei hesgidiau. Daeth ias newydd drosti unwaith yn rhagor, ac ni allai gael ymwared â'r meddwl nad oedd rhywun yn ei gwylio.
"Nid oes yma ddim i'w ofni," meddai i gysuro ei hun drachefn.
Edrychodd o amgylch yn fwy gofalus. Methai beidio casglu nad lladrad fu yn y bwthyn. Os felly gorau po gyntaf iddi hithau ymadael. Rhoddodd un tro o gwmpas yr ystafell cyn mynd allan. Wrth fynd heibio'r ffenestr at y drws daeth ei chalon i'w gwddf mewn braw. oedd dyn trwm yr olwg arno yn cerdded i fyny at y tŷ a'i gap wedi ei dynnu i lawr dros ei lygaid. Dywedai rhywbeth wrth Nansi nad y gofalwr ydoedd ac yn ddiymdroi chwiliodd am le i ymguddio. Ehedodd i un o'r ystafelloedd cysgu. A chyn gynted ag y gwnaeth hynny sylweddolodd ei bod yn gwneuthur peth ffôl. Nid oedd dihangfa iddi oddi yno ond drwy'r drws ac yr oedd fel llygoden mewn trap.
Yr oedd yn rhy ddiweddar i ddychwelyd i'r ystafell fyw a cheisio ymguddio yno, gan fod y dieithryn erbyn hyn ar ei gwarthaf. Yr oedd wedi dod i mewn i'r tŷ. Cymerodd llygaid Nansi yr holl ystafell wely i mewn ar un edrychiad. Gwelai gwpwrdd yn y mur. Agorodd ei ddrws yn frysiog a rhoddodd ochenaid o ollyngdod pan ganfu ei fod yn wâg, ac fod ynddo ddigon o le iddi ymguddio. Neidiodd i mewn iddo a chauodd y drws yn ddistaw arni ei hun, gan adael agen denau iddi gael awyr a gweld ychydig o'r ystafell. Yr oedd y drws yn union o flaen yr agen.
Daeth y dyn i mewn i'r ystafell wely ar ei union. Am foment ofnai Nansi ei fod wedi ei gweled. Suddodd ei chalon wrth ei weled yn sefyll yn y drws. Yn ddiarwybod iddo yr oedd Nansi yn edrych yn syth i'w lygaid. Ond toc crwydrai ei lygaid o gylch yr ystafell, a chan na edrychai ar unrhyw beth yn fwy manwl na'i gilydd curai calon Nansi'n esmwythach.
Yr
Nid lle cyfforddus oedd y cwpwrdd fel cuddfan. oedd yn dywyll a llaith ac yn llawn hoelion. Yr oedd arogl llwydni anhyfryd ynddo, ac yr oedd rhuthr Nansi wedi deffro'r llwch trwchus. Teimlai angen anioddefol i disian.
"Os tisiaf, mae ar ben arnaf," ebe wrthi ei hun, fe wyddant nad cath sydd yma.
Teimlodd o'i chwmpas â'i llaw yn y tywyllwch. Daeth i gyffyrddiad â hoelen. Ymhellach ymlaen disgynnodd ei llaw ar rywbeth llyfn blewog a bu bron iddi a rhoddi ysgrech. Magodd ddigon o wroldeb i afael ynddo drachefn ac yr oedd yn ddiolchgar na ddarfu iddi weiddi, pan ganfu mai hen ffyr ydoedd.
"Yn bryfed i gyd, mae'n siwr," meddai, "yr wyf yn sicr o disian yn y munud."
Daliodd ei llaw ar ei genau a disgwyliai'n bryderus am y ffrwydriad. Ac yn sydyn daeth i'w chof gyngor un o'r genethod yn yr ysgol rhag tisian. Pwysodd â'i bys ar ei gwefl uchaf pan oedd ar fin tisian ac yn araf ciliodd yr awydd.
Meiddiodd Nansi gymryd cip arall drwy gil y drws, a chynhyddwyd ei phenbleth fod dau ddyn arall wedi ymuno â'r cyntaf. Ni hoffai Nansi olwg yr un o'r tri. Wynebau hagr oedd iddynt oll. Yr oedd yn amlwg mai'r cyntaf oedd yr arweinydd arnynt.
"Dipyn yn gyflym o'i chwmpas," clywai Nansi ef yn eglur. "Y mae amryw o bethau gwerthfawr allwn droi yn arian yma eto. Ewch â'r canhwyllbrennau pres yna, a'r darluniau yna ar y mur i'r modur ar darawiad."
Yr oedd yn amlwg na weithiai'r ddau ddyn yn ddigon cyflym.
"Os mewn cymaint brys," meddai un ohonynt yn swta, "paham na fuasech yn dyfod â'r modur yn nes i'r tŷ?"
"Ie," ebe'r ail, "yn lle bod rhywun yn ein gweled o'r ffordd."
Gwyliai Nansi hwynt yn amyneddgar yn symud popeth o werth o'r ystafell. Nid oedd wiw iddi symud na llaw na throed. O'r diwedd nid oedd dim o werth yn aros.
Trodd yr arweinydd i ddilyn ei gymdeithion. Ond ar y rhiniog trodd drachefn i gael cip olaf ar yr ystafell rhag ofn fod rhywbeth o werth wedi ei adael. A'r foment honno daeth eisiau tisian ar Nansi drachefn. Yr oedd yn rhy ddiweddar yn pwyso ei bys ar ei gwefl, a bu bron iddi a syrthio allan o'r cwpwrdd. Rhoddodd y fath glec fel y neidiodd y dyn fel pe wedi ei saethu.
Ar amrantiad yr oedd y lleidr wrth ddrws y cwpwrdd, a thynnodd ef yn llydan agored. Neidiodd yn ôl wrth weled Nansi, ond y foment nesaf yr oedd wedi cydio ynddi ac wedi ei llusgo allan i'r ystafell.
"Yn wir," meddai yn wawdlyd, pan welodd mai geneth ieuanc ydoedd. "Pa fusnes sydd gennych chwi yn y cwpwrdd yna?"
"Chwilio am ofalwr y tŷ hwn oeddwn," atebai Nansi'n grynedig.
"Chwilio am y gofalwr mewn lle fel yna?" Codai wyneb bygythiol y lleidr ofn ar Nansi.
"Clywais sŵn rhywun yn dyfod," meddai yn gloff, "ac yr oedd arnaf gymaint o ofn fel yr euthum i'r cwpwrdd i ymguddio.
"Wel, ni fuoch chwi erioed mor anffodus, fy ngeneth i," meddai'r gŵr yn frochus. "Beth glywsoch chwi o'r cwpwrdd yna?" Cyn iddi ateb, ychwanegai'n chwyrn, "Dyma'r tro olaf y rhowch chwi eich bys ym mrwes neb."
Gwyddai Nansi nad bygythio'n ofer oedd yr adyn. Yr oedd ei olwg yn ddigon iddi. Wrth sylweddoli ei pherygl taniodd ei hysbryd i wynebu'r gwaethaf. Ymwrolodd ac atebodd,
"Ni chlywais fawr ddim, ond gwelais ddigon i wybod mai lleidr drwg ydych, ac os caf y cyfle gellwch fentro y bydd yr heddlu yn gwybod yr oll a fedraf ddweud wrthynt."
"Ie, os ceir cyfle, fy ngeneth i, os ceir cyfle," a chwarddodd y lleidr yn frwnt wrtho'i hun. "Efallai y caret yr un fraint â'r gofalwr ffôl?"
"Beth a wnaethoch â'r gofalwr?" gofynnai Nansi yn ddewr.
"Cei wybod rhyw dro, hwyrach." Daliai'r dyn yn dynn yn ei harddyrnau. Er troi a throsi ni allai Nansi ymysgwyd yn rhydd oddi wrtho.
"Waeth i ti heb a gwingo," meddai, ac am foment trodd ei wyneb hagr oddi wrthi at y drws. Gwnaeth Nansi un ymdrech fawr i dorri'n rhydd. Am eiliad llaciodd ei afael a rhuthrodd Nansi am y drws. Ond yr oedd ei hymdrech yn ofer. Gyda gwaedd a naid gafaelodd y dyn ynddi drachefn a daliodd hi'n dynn yn erbyn y mur.
"Felly," ysgyrnygai, "rhoddaf di mewn lle na elli gripio."
Llusgodd hi yn ôl i'r cwpwrdd. Bwriodd hi i mewn, a chauodd y drws yn glep arni. Clywai Nansi'r allwedd yn troi yn y clo.
"Cei aros yna i lwgu, fy merch, cyn yr egyr neb iti," ebe'r adyn brwnt yn sarrug.
Clywai Nansi sŵn ei draed yn gadael y tŷ a distawrwydd llethol yn disgyn arno unwaith yn rhagor.
PENNOD XV
YMWARED
FEL y ciliai sŵn traed y lleidr daeth ofn a dychryn dros Nansi druan. Daeth iddi fod y lleidr wedi bod cystal â'i air. Yr oedd ynghlô yn y cwpwrdd ac yr oedd ymwared yn annhebygol iawn. Bellach nid oedd ganddi ond edrych ymlaen at lwgu'n raddol.
Yr oedd wedi cynhyrfu gormod yn yr ysgarmes â'r lleidr i fedru meddwl yn glir iawn. Curai'n orffwyllog ar y drws â'i dyrnau cyn iddi sylweddoli nad oedd hynny ond ffolineb.
"Help, help," gwaeddai â'i holl egni. Daeth rhyw don o wallgofrwydd anobaith drosti a rhoddodd ffordd i'w theimladau. Nid oedd ryfedd i Nansi dorri i lawr am unwaith. Yr oedd ei threialon wedi ei threchu am ychydig. O'r diwedd, wedi llwyr ddiffygio, llithrodd yn swp cyn nesed i'r llawr ag y caniatai maint cyfyng y cwpwrdd iddi.
"Efallai y daw'r dynion yn ôl, ac y gollyngant fi allan," meddai'n obeithiol. "Ni wnant byth adael i mi yma i lwgu." Ond hyd yn oed pan oedd meddyliau fel hyn yn deffro ei gobaith clywai sŵn modur yn cychwyn, a gwyddai nad oedd obaith iddi o'r cyfeiriad hwnnw. Yr oedd y lladron creulon wedi ei gadael i'w ffawd.
Yr oedd y tŷ yn ddistaw fel y bedd. Er nad oedd gan Nansi obaith o gwbl fod neb yn agos i'r bwthyn, daliodd i waeddi am gynorthwy. Yr unig ateb oedd atsain ei llais ei hun yng ngwacter y tŷ.
"O, na bawn wedi dweud wrth Rona lle yr oeddwn yn mynd," gofidiai'n ddigalon." Cred hi fy mod gartref erbyn hyn. Cred fy nhad fy mod yn ddiogel yn y gwersyll am wythnos ymhellach. Nid oes neb a feddylia fod dim o'i le ynglŷn â mi."
Yr oedd pethau rhyfedd yn rhedeg drwy ei meddwl. Beth ddaeth o'r gofalwr? Awgrymai'r lleidr fod rhyw beth ofnadwy wedi digwydd iddo, a gallasai Nansi'n hawdd gredu hynny.
Ail ddechreuodd ddyrnu ar y drws. Ceisiodd ei wthio â'i chorff. Yr oedd ei migyrnau yn gwaedu a'i chorff yn gleisiau duon.
Tawelodd am ysbaid eto. Dechreuodd feddwl. Ni fu erioed mor agos i wylo'n ddilywodraeth. "Rhaid imi ddal arnaf fy hun," meddai, "ni wna dagrau fy helpu. Mae rhyw ffordd allan oddi yma a fy ngwaith i yw ei ganfod." Yn raddol yr oedd Nansi yn dyfod ati ei hun. Daeth syniad newydd i'w meddwl. Dechreuodd deimlo â'i dwylo yn y cwpwrdd fel o'r blaen. Tynnodd amryw o ddilladau am ei phen, nes creu llwch annioddefol. Teimlai'n enbyd oddi wrth y gwres yn y cwpwrdd. Yn sydyn, wrth ymysgwyd, trawodd ei phen mewn rhywbeth caled. Teimlodd amdano â'i llaw a thybiodd mai darn o bren fel ffon braff ydoedd yn gafael ynddo. Ar hwn mae'n debyg y crogid y dillad.
"Pe cawn hwn yn rhydd, efallai y medrwn wneud defnydd ohono," meddai Nansi'n obeithiol, "y mae'n teimlo'n gryf a phwrpasol."
Rhoddodd Nansi ei holl bwysau arno, ac wedi ymdrech galed daeth un pen yn rhydd. Gwaith hawdd wedi hynny oedd rhyddhau y pen arall ac yn fuan yr oedd y pastwn yn ei llaw.
Ceisiodd ei ddefnyddio fel trosol, drwy ei wthio rhwng gwaelod y drws a llawr y cwpwrdd. Oherwydd y lle cyfyng cafodd gryn drafferth i gael ei throsol i waelod y cwpwrdd i ddechrau. Gwelodd wrth iddi bwyso â'i thraed ar waelod y drws, y gallai gael trwyn y trosol oddi tano.
"Yn awr amdani," meddai Nansi wrthi ei hun. oedd ei gwroldeb yn cryfhau bob munud, ond teimlai'n rhyfeddol o gysglyd a diymadferth. Yr oedd yn demtasiwn gref iddi gau ei llygaid a chysgu a theimlai ei hun yn llithro'n braf i ryw wlad ddieithr hyfryd. Nid oedd Nansi wedi sylweddoli ei pherygl mwyaf. Nid llwgu oedd yn ei bwgwth yn awr ond mygu yn awyrgylch afiach y cwpwrdd.
Daeth y sylweddoliad iddi fel saeth. Ymdrechodd i daflu'r hunlle oddi arni. Gwnaeth un ymdrech neilltuol i godi pen rhydd y trosol a dygodd y glec sydyn ei synhwyrau yn ôl iddi. Yr oedd y drws ar fin ildio.
A'r nesaf peth a glywodd oedd sŵn traed gwyllt. Rhuthrodd rhywun i'r ystafell a hyrddiodd ei hun ar ddrws y cwpwrdd o'r tuallan. Yr oedd Nansi wedi ei syfrdanu. Ai un o'r lladron oedd wedi dychwelyd i sicrhau nad oedd dianc iddi? Trodd y syniad heibio. Yr oedd y lladron yn rhy gyfrwys i wneuthur hynny. Nid oedd yn debygol y dychwelent i beryglu eu rhyddid eu hunain. Mwy na hynny yr oedd wedi clywed sŵn eu modur yn ymadael. Gollyngodd Nansi'r trosol a churodd yn wyllt â'i dyrnau ar y drws.
"Pwy sydd yna?" gofynnai llais cryf o'r tu allan.
"Agorwch y drws, yr wyf bron mygu yma," atebai Nansi.
"Hanner munud imi gael yr allwedd," meddai'r llais.
Clywodd Nansi'r allwedd yn crafu yn nhwll y clo. Rhoddodd dro. A chyn i neb agor y drws iddi yr oedd Nansi wedi hyrddio ei hun allan o'i charchar.
Gwyddai ar unwaith, heb iddo ddywedyd yr un gair, mai Tom Ifans, y gofalwr, oedd yn ei hwynebu ar lawr yr ystafell. Un edrychiad oedd yn ddigon iddi wybod ei fod dan ddylanwad diod feddwol. Yr oedd yn amlwg ar fin dod ato'i hun, a syllai arni'n hurt.
"O ba le y daethoch chwi?" meddai'n syn. "Beth sydd wedi digwydd yn y tŷ yma?"
"Y cwbl fedraf fi ddweud wrthych yw fod lladron wedi bod yma, ac wedi ysbeilio popeth o werth," atebai Nansi. "Mae'n amlwg nad oeddych chwi ynghylch eich dyletswydd," ychwanegai yn llym.
"Wel, miss, peidiwch bod yn galed wrthyf," ebe yntau, "hyd nes y clywch fy stori. Y bore, daeth rhyw ŵr heibio, a dechreuodd fy holi ynglŷn â'r hafotai yma. Gofynnai a oedd rhai ar werth neu ar osod. Dywedais innau fod hwn ar osod beth bynnag, gan nad oedd Mrs. Morus a'r teulu yn bwriadu dod yma eleni, ac wedi dweud wrthyf am gael tenant iddo os medrwn. Hoffai'r lle yn fawr ac wrth fynd oddi yma, meddai, 'Mae gennyf fodur yn y ffordd. Deuwch gyda mi cyn belled a Thafarn y Gors. Euthum innau ddigon difeddwl, gan mai anaml iawn y caf gyfle i weld neb yma i gael ymgom a gwydryn. Wedi inni gyrraedd y dafarn, rhyw—ddwy filltir o ffordd oddi yma y mae,—galwodd am ddiod. Yfais un gwydryn ac ni chofiaf ddim amdanaf fy hun wedi hynny. Rhyw dri chwarter awr yn ôl deffroais, ac amheuais fod rhywbeth o'i le. Mae'n rhaid fod y cnaf wedi rhoddi rhywbeth yn fy niod i'm gwneud i gysgu. Rhedais yr holl ffordd yn ôl yma, a dyma fi."
"Dyna'r felltith y ddiod yna," ebe Nansi, "ond nid oes amser i siarad am hynny yn awr. Rhaid i chwi geisio cael y lladron i'r ddalfa. Ewch i wneud eich hunan yn barod, a meddyliwch am ryw ffordd i hysbysu plismon.
Aeth Tom Ifans allan â'i ben i lawr. Teimlai Nansi mai dyma ei chyfle olaf i gael gafael ar y dyddlyfr. Aeth at yr hen gloc unwaith yn rhagor. Yr oedd wedi anghofio ei helbulon cyn gynted ag y cofiodd am y dyddlyfr. Agorodd y drws ac edrychodd drachefn i mewn i'r cas. Teimlodd â'i llaw hyd ei ochrau. Oedd, yr oedd hoelen a bach a allasai fod wedi dal y dyddlyfr ar y tu fewn i'r ochr chwith. Methai yn lân a deall beth allasai fod wedi digwydd iddo. Ai tybed ei fod wedi disgyn i lawr yn y fan a'r lle? Ni allai gyffwrdd â'r llawr o'r tu fewn. Yr oedd yn bosibl fod y llyfr yn y fan honno. Ond sut y caffai olau i weled. Yr oedd ei chorff bron yn gwbl tu fewn i'r cloc erbyn hyn. Estynnodd yn is ac yn is. Beth oedd hwnyna? Teimlai â blaenau ei bysedd rywbeth tebyg i fach arall yn is i lawr na'r cyntaf. Gwthiodd Nansi ei chorff i mewn ymhellach eto. Cafodd fantais o hanner modfedd i ymestyn. Teimlai ei bysedd linyn yn crogi oddi ar y bach. Gafaelodd ynddo. Yr oedd rhyw bwysau wrtho. Tynnodd Nansi ef i fyny fel pe bai'n tynnu pysgodyn o ddŵr. Gwingodd ei hun allan o'r hen gloc â'r llinyn yn dynn yn ei llaw. Ac yng nghynffon y llinyn yr oedd llyfryn bychan. Trodd y tudalennau. "O'r diwedd," meddai yn uchel a'i chalon yn curo fel morthwyl. Ie, dyddlyfr Joseff Dafis ydoedd, yn union fel y dywedodd Abigail Owen amdano. Ni fuasai neb wedi ei ddarganfod heb wybod ymha le i chwilio amdano. Hawdd gweled nad dyddlyfr cyffredin mohono. Yr oedd cyfeiriadau at bethau ynddo am gyfnod o amryw flynyddoedd.
"Rhaid cuddio hwn yn ofalus, hyd nes y caf gyfle i'w chwilio yn drwyadl mewn lle diogel," ebe Nansi. "Bydd Tom Ifans yn ôl yn union."
Ar y gair cyrhaeddodd Tom, ac yr oedd Nansi'n falch fod ei hymchwil ar ben cyn iddo ddod ar ei thraws. "Yr wyf wedi cael modur," meddai, "i fyned i lawr i Sarnefydd, ac yno cawn hysbysu'r heddlu.
Aethant allan cyn gynted ag y gallent ac i'r modur â hwy. Modur un o'r cymdogion o'r hafotai ydoedd ac yn digwydd bod ar ei ffordd i Sarnefydd pan ataliwyd ef gan Tom.
Er nad oedd y siwrnai yn hir, ac er y gwyddai Nansi fod y dyddlyfr yn berffaith ddiogel yn ei gwisg, ni allai beidio â theimlo â'i llaw amdano bob yn ail munud.
Wrth fynd i lawr heol y dref, gwelai fodur yn sefyll ar ochr yr heol, a digwyddodd i'w llygaid ddisgyn ar ddyn yn sefyll gerllaw iddo yn ysmygu'n hamddenol. "Y lleidr," meddai Nansi'n sydyn a dirybudd. Heb yn wybod iddi yr oedd ei llais yn uchel.
"Ymhle?" gofynnai'r cymydog.
"Wrth y modur ar y chwith yna," meddai Nansi yn wyllt. "Rhowch eich pennau i lawr," ebe'r gŵr caredig, "a chofiwch rif y modur. Byddwn yng ngorsaf yr heddlu cyn pen dau funud."
Prin yr oedd wedi llefaru nad oedd yn bracio'i fodur o flaen gorsaf yr heddlu. Wedi dweud eu stori yn frysiog daeth rhingyll a dau swyddog allan gyda hwynt. Aethant i fyny'r heol yn ôl. Safai'r modur yn yr un man o flaen gwesty. Cyn cyrraedd ato disgynnodd yr heddlu o'r modur. Yr oedd y tri lleidr wrthi'n dod allan o'r gwesty. Tra yr oeddynt yn brysur yn cychwyn y modur llithrodd y tri swyddog i fyny atynt yn ddi-stwr gan erchi iddynt aros. Cymaint oedd eu syndod fel na feddyliasant am ddianc. Yn wir yr oedd dihangfa yn amhosibl erbyn iddynt sylweddoli pwy oedd y tri a'u cyfarchant. Gorfu i'r tri fynd ar eu hunion i'r orsaf. Yno gofynnodd y rhingyll i Nansi, "Ai dyma'r dynion a welsoch yn yr hafoty?"
"Ie," ebe Nansi, "a dyma'r dyn a'm clôdd yn y cwpwrdd." "A dyna'r dyn a'm perswadiodd innau i yfed," ychwanegai Tom Ifans yn ddiwahôdd.
Yr oedd tystiolaeth Nansi a Tom, ynghyda'r moduraid o nwyddau ddygwyd o'r byngalo yn ddigon i'r heddlu fwrw'r tri lleidr i'r ddalfa.
"Maent yn sicr o garchar am hyn," ebe'r swyddog. "A ydych chwi yn barod i roddi tystiolaeth yn eu herbyn?"
"Ydwyf," ebe Nansi, "os yw hynny yn angenrheidiol."
"Gadewch i mi gael eich enw a'ch cyfeiriad, ynteu, os gwelwch yn dda," ebe'r swyddog. Pan welodd manylion a ysgrifennwyd i lawr gan Nansi ar ffurflen, edrychodd y swyddog arni gyda diddordeb newydd.
"Nansi Puw, Trefaes," meddai, "Ai chwi yw merch Mr. Edward Puw?"
"Ie," atebai Nansi.
"Wel," meddai'r swyddog, "yr ydych yn dechrau dilyn ôl troed eich tad yn gynnar iawn."
"Damwain oedd imi fynd i'r bwthyn," meddai Nansi. "Ie. Ond nid pob geneth fuasai'n cadw ei phen, fel y gwnaethoch chwi."
"Buasai unrhyw un o'r genethod o'r gwersyll yn gwneud yr un peth," ebe Nansi, erbyn hyn yn dechrau teimlo'n anghyfforddus dan glod y swyddog.
"Os nad wyf yn camgymryd," canlynai yntau, "mae y tri hyn yn hen ddwylo. Yr ydym yn eu hamau ers peth amser, ond yn methu'n lân â'u cyhuddo ac i ni gael sicrwydd y ceid hwy yn euog. Ond y maent yn y rhwyd yn ddiogel yn awr, diolch i chwi. Dylai perchennog y byngalo yna roddi gwobr sylweddol i chwi am fod yn foddion adfer ei eiddo iddo.
"Nid oes arnaf eisiau yr un wobr gan Mr. Morus," ebe Nansi, "gwell gennyf i chwi beidio sôn am un."
"Nid yw hynny yn gwneud i ffwrdd â'r ffaith yr haeddwch un, atebai'r swyddog. "Soniaf wrth Mrs. Morus am y peth cyn gynted ag y gwelaf hi."
"A ydych chwi'n teimlo'n ddiolchgar imi?" gofynnai Nansi yn sydyn.
"Nis gallaf ddweud pa mor ddiolchgar y bydd yr holl heddlu yn y sir i chwi," atebai yntau, "mae y rhain wedi ein poeni am flynyddoedd."
"Yna, cewch ddiolch i mi drwy addo na soniwch am fy enw wrth Mrs. Morus," ebe Nansi.
"Os felly y teimlwch, Miss Puw, yr wyf fi'n berffaith fodlon. Ni soniaf air amdanoch wrthi."
Yr oedd gan Nansi ddigon o reswm dros geisio cadw ei henw allan o'r achos.
PENNOD XVI
Y DYDDLYFR
YDYCH am fyned adref i Drefaes heno?" gofynnai'r cymydog i Nansi wedi iddynt ddod allan o orsaf yr heddlu.
"Ydwyf yn wir, os yn bosibl," atebai Nansi.
"Wel, y mae gennyf fi fusnes i'w wneud yno, ac os ydych yn barod mae croeso i chwi ddod gyda mi. Ond ofnaf y bydd raid i chwi ddod ar unwaith."
"Yr wyf yn barod y funud yma," ebe Nansi'n ddiolchgar, "gorau po gyntaf gennyf weled Trefaes."
Ymhen yr hanner awr yr oeddynt wedi cyrraedd Trefaes. Rhoddodd y gŵr caredig Nansi i lawr yng nghanol y dref. Ceisiodd ganddo iddo ddod adref gyda hi, i'w thad ddiolch iddo, ond crefodd arni i'w esgusodi am y tro. Ar ôl diolch iddo am ei garedigrwydd mawr iddi, cychwynodd Nansi am adref ar ei phen ei hun.
Teimlai ei bod yn methu'n lân a chyrraedd adref yn ddigon buan. Yr oedd y dyddlyfr fel yn llosgi yn ei gwisg. Pan aeth i'r tŷ, cyferfu Hannah hi, a mawr oedd syndod y forwyn wrth weled ei meistres ieuanc gartref mor fuan o'r gwersyll. Cafodd nad oedd ei thad wedi cyrraedd adref o'r swyddfa. Huliodd Hannah'r bwrdd ar unwaith. Yr oedd Nansi bron diffygio gan eisiau bwyd, ond yr oedd wedi bod yn rhy gynhyrfus hyd yn hyn i sylwi ar hynny.
"Wel, dyma gyfle i chwilio'r dyddlyfr," meddai gan wneud ei hun yn gyfforddus yn y gadair freichiau yn y gegin, tra prysurai Hannah gyda'i pharatoadau.
"Yn awr, beth ddaeth o'r ewyllys tybed? Gobeithio bod rhywbeth ar gyfer Besi a Glenys ac Abigail Owen.'
Trodd dudalen ar ôl tudalen, a dechreuodd braidd ddigalonni wrth weld dim ond rhesi a rhesi o ffigurau. Yr oedd llawer o ryw fanion ynghylch arian yma ac acw yn y llyfr, ond dim am yr ewyllys hyd a welai. Ond o'r diwedd gwelodd y geiriau, "Fy Ewyllys," a dechreuodd ei chalon guro'n gyflym.
"O'r diwedd," gwaeddai'n llawen, gan neidio ar ei thraed, er braw i Hannah, "Dyma fi wedi ei gael o'r diwedd."
Ar y ddalen yn ysgrifen grynedig Joseff Dafis, darllennodd Nansi y geiriau canlynol:
Y MAE FY EWYLLYS I'W CHAEL MEWN BOCS, YM MANC
Y MAES, PENYBEREM, YN ENW JOSIAH HARRIS, RHIF 148.
Hawdd gweled yn ôl lliw yr inc nad oedd yr ysgrif yn hen iawn.
"Dyna ddigon o brawf fod yr ewyllys yn bod," ebe Nansi yn uchel, "yr wyf yn siwr nad y Morusiaid gaiff y cwbl yn hon."
Aeth ymlaen i archwilio'r dyddlyfr yn fanylach, ond ni chanfu ddim ymhellach ynglŷn â'r ewyllys.
"Nid yw fawr ryfedd na ddaeth yr ewyllys i'r golwg," meddyliai Nansi. "Pwy fuasai yn breuddwydio am chwilio bocs yn y banc yn enw Josiah Harris? Bu bron iawn i'r hen Joseff a gorchfygu ei amcan ei hun y tro yma.
Torrwyd ar ei myfyr gan i'w thad ddod i mewn i'r gegin. Rhedodd Nansi i'w gyfarfod.
"Helo, Nans," cyfarchai hi mewn syndod, "pe gwyddwn eich bod yma buaswn adref ers meityn. Ond beth barodd i chwi ddyfod yn ôl o'r gwersyll? Onid oeddych wedi trefnu i aros yno yn hwy?"
"Wel," atebai Nansi, gan geisio cuddio ei brwdfrydedd, "y mae gennyf ddigon o reswm."
Cyn i'w thad fedru tynnu ei gôt a'i het, dechreuodd Nansi ar ei stori, ac adroddodd bopeth yn fanwl a gorffen drwy ddangos y dyddlyfr iddo yn fuddugoliaethus.
"Wel, Nansi," meddai Mr. Puw, mewn syndod, "chwi yw'r ditectif gorau welais erioed."
"Cael hwyl am fy mhen yr ydych," ebe Nansi, ond gwridai ei hwyneb â phleser dan ganmoliaeth ei thad.
"Na, nid hwyl ydyw i mi, Nansi," meddai ei thad o ddifrif, "yr wyf yn teimlo'n falch ohonoch. Ni fuaswn wedi llwyddo cystal fy hunan. Dipyn o fenter oedd wynebu'r lladron, ond gan eich bod adref yn ddiogel unwaith eto mae popeth yn dda."
"Nid yw'r Morusiaid yn mynd i ddiolch llawer i mi pan welant beth a wneuthum.'
"Prin. Efallai y cyhuddant chwi o dorri i'w hafoty a lladrata o'r cloc, er bod y tŷ yn agored pan aethoch yno. Ond efallai y medrwn gadw'r wybodaeth yna oddi wrthynt, ac os llwyddwn i wneud hynny ni chânt byth wybod sut y cafwyd yr ewyllys."
Cymerodd Edward Puw y dyddlyfr yn ei law ac edrychodd drwyddo gyda diddordeb mawr. Deallai fwy ar ei gyfrinion na wnai Nansi.
"Y mae ffortiwn Joseff Dafis yn werth ei chael, yn ôl a welaf oddi wrth y ffigurau," meddai.
"Gobeithio na wêl y Morusiaid yr un ddimai goch ohoni," ebe Nansi. Ni allai anghofio y cam a wnaed â'r gweddill o'r perthynasau.
"Mae'n debyg mai felly y bydd," atebai ei thad. "Ond ni ellir bod yn sicr heb weled yr ewyllys. Os nad wyf yn camgymryd yn fawr, bydd canfod yr ewyllys ddiwethaf yn taro'r Morusiaid yn drwm iawn ar amser anffodus iawn."
"Beth ydych yn feddwl, fy nhad?"
"Wel, clywais yn gyfrinachol, fod William Morus wedi colli cryn lawer o'i arian yn ddiweddar. Mentrodd yn ormodol a chafodd fenthyg arian o'r banc ar sail ei fod yn disgwyl arian Joseff Dafis. Y mae yn dibynnu ar yr arian i'w dynnu allan o le cyfyng. Dyna paham y mae wrthi â'i holl egni yn ceisio gyrru pethau ymlaen i setlo yr ewyllys sydd ganddo."
Dwysbigodd cydwybod Nansi hi am foment. Yr oedd yn rhy galon dyner i edrych ar neb yn cwympo heb dosturio wrthynt. Ond cofiai yr un pryd mai ychydig, os dim, cydymdeimlad a ddangoswyd gan y Morusiaid at rai llai ffodus na hwy, a hwythau ar ben eu digon.
"Yn awr, Nansi, y cam nesaf yw cael gafael ar yr ewyllys cyn i gynnwys y dyddlyfr yma ddod i glustiau William Morus."
"Dyma lle y deuwch chwi i mewn, nhad," ebe Nansi. "Nis gwn i ond y peth lleiaf am ochr gyfreithiol y busnes.
"Gwyddoch yn dda fy mod yn barod i helpu. Yn gyntaf oll, rhaid i ni gael yr ewyllys i'n dwylo."
"Ie, felly awn i Benyberem bore yfory. Awn i ariandy'r Maes. Gofynnwn am yr ewyllys, a dyna ni," ebe Nansi'n siriol.
Chwarddodd Mr. Puw at eiddgarwch ei ferch. "Na," meddai, "nid yw lawn mor rwydd a hynyna chwaith. Dichon iawn y bydd raid i ni gael caniatâd swyddogol i agor bocs Joseff Dafis."
"O," ebe Nansi, "ni chofiais am hynny. Ond yr ydych chwi yn siwr o gael yr awdurdod hwnnw."
"Wel, y mae'n bosibl y gallaf. Bydd yn hawdd i mi ddweud mai gweithredu dros Besi a Glenys y byddaf. Bydd yn berffaith iawn imi ddweud hynny gan imi addo eu cynorthwyo."
"Yr wyf yn siwr y daw popeth fel y gobeithiwn," meddai Nansi'n frwdfrydig, "caiff y perthynasau tlawd yr arian, a bydd y Morusiaid heb ddim. Caiff Abigail Owen bob cymorth meddygol posibl, a bydd digon i Besi a Glen a'r lleill tra byddant byw.
"Peidiwch gobeithio gormod," cynghorai ei thad, "gall rhywbeth nas gwyddom amdano ddod i chwalu ein gobeithion. Mae'n bosibl na bydd yr ewyllys yn y bocs wedi'r cyfan. Ni wyddom ychwaith sut y rhannodd Joseff Dafis ei arian ynddi. Credaf mai'r peth gorau yw i chwi beidio sôn gair wrth y genethod hyd nes byddwn yn hollol sicr o'n pethau.
"O'r gore, nhad," ebe Nansi, wrth droi am y grisiau "yr wyf fi yn teimlo'n ffyddiog iawn mai fel y tybiwn y bydd yr ewyllys. Yr wyf yn dyheu am weled beth sydd ynddi."
Hanner ffordd i fyny'r grisiau, trodd yn ôl i nôl y dyddlyfr oddi ar y bwrdd.
"Ar ôl bod drwy gymaint i gael gafael ar hwn, gwell peidio ei adael ymhell iawn oddi wrthyf. Cysgaf yn well â hwn tan y gobennydd heno."
PENNOD XVII
CHWILIO AM YR EWYLLYS
PAN ddeffrodd Nansi Puw drannoeth llifai'r heulwen i'w hystafell. Edrychodd ar y cloc a chafodd fraw pan ganfu ei bod wedi naw o'r gloch. Yr oedd wedi llwyr ddiffygio cyn mynd i'w gwely ar ôl ei holl anturiaethau.
"Sut y medrwn gysgu'n hwyr ar fore fel hwn?" gofynnai wrthi ei hun.
Rhoddodd ei llaw dan y gobennydd y peth cyntaf, a thynnodd ddyddlyfr Joseff Dafis allan. Edrychodd arno'n foddhaol.
"Caiff Gwen a Pegi dipyn o syndod," meddai, gan hanner chwerthin ynddi ei hunan.
Gwisgodd yn gyflym a phrysurodd i lawr y grisiau. Gwelodd fod ei thad wedi brecwesta ac wedi gadael y tŷ am y swyddfa.
"Ys gwn i a ydyw fy nhad wedi anghofio?" meddyliai. "Mae eich tad eisiau i chwi fynd i lawr i'r swyddfa ar ei ôl, Miss Nansi, ar ôl i chwi gael eich brecwast. Y mae eisiau i chwi fynd â rhyw lyfr gyda chwi."
"O'r gore, Hannah," ebe Nansi a phrysurodd gyda'i brecwast.
Cyn pen yr awr yr oedd Nansi yn swyddfa ei thad ac aeth ar ei hunion i mewn i'w hystafell breifat.
"Mae'n ddrwg gennyf gysgu'n hwyr, nhad," meddai. "Mae'n rhaid fy mod yn lluddedig neithiwr. A ydych yn fy nisgwyl ers meityn?"
"Dim o gwbl," atebai ei thad. "Dywedais i wrth Hannah am beidio galw arnoch nes i chwi ddeffro eich hun. Pa un bynnag ni fuasem yn gallu agor y bocs heb awdurdod cyfreithiol."
"A gawsoch chwi hynny?"
"Do, a hynny heb y drafferth ddisgwyliwn."
"Deuais â'r dyddlyfr gyda mi. Dywedodd Hannah fod arnoch ei eisiau."
"Oedd, tybiais y buaswn ei eisiau i gael yr awdurdod i agor y bocs, ond llwyddais hebddo. Felly, fe'i rhown yn ddiogel yn y safe yma."
"Pa bryd y cychwynnwn am Benyberem?"
"Yn awr, ar unwaith. Yr wyf wedi llogi modur. A chyda llaw, Nansi, bûm yn meddwl ar fy ffordd i lawr i'r swyddfa y bore yma, ei bod yn hen bryd i ni gael cerbyd ein hunain. Os llwyddwn gyda'r ewyllys yma, prynaf fodur i ni ein hunain. A ydych wedi cael eich un ar bymtheg oed eto?
"Do, nhad," ebe Nansi a'i llygaid yn dawnsio.
"Felly bydd popeth yn iawn. Yr ydych yn ddigon hen i yrru'r cerbyd i mi."
"O nhad, mi fyddai hynny'n rhagorol," ebe Nansi. "Nid oes gan yr un eneth yn y byd crwn yma dad fel myfi."
Wedi iddo adael cyfarwyddiadau i'r swyddfa beth i'w wneud yn ei absenoldeb, aeth Mr. Puw allan gyda Nansi. Yr oedd y modur yn disgwyl wrthynt. Cyn hir yr oeddynt ar eu ffordd i Benyberem. Tynnodd y modur i fyny o flaen Banc y Maes.
I fewn yn yr ariandy, cyflwynodd Mr. Puw ei gerdyn, a gofynnodd am weled y rheolwr. Aethpwyd â hwy at y gŵr hwnnw i'w ystafell breifat ar unwaith. Gŵr canol oed, pryd tywyll ydoedd, a chododd i'w cyfarch fel yr elent i mewn.
Wedi'r cyflwyno arferol eglurodd Mr. Puw eu neges. Ond cyn iddo orffen torrodd y rheolwr ar ei draws mewn modd moesgar.
"Ofnaf yn wir eich bod wedi camgymryd," meddai. "Fu gennym ni yma erioed gysylltiadau â gŵr o'r enw Joseff Dafis."
"Efallai nad wrth yr enw hwnnw yr adweinid ef gennych chwi. Yr oedd cist iddo yma dan yr enw Josiah Harris."
"Josiah Harris?" ebe'r rheolwr yn feddylgar, "yr ydym wedi chwilio llawer am un yn dwyn yr enw hwnnw. Nid yw wedi bod yma ers tro, ac yntau cynt yn ofalus iawn o dalu'r rhent am y gist. Arhoswch funud; cawn weld."
Canodd gloch a daeth clerc i mewn. Rhoddodd y rheolwr gyfarwyddiadau iddo. Ymhen ychydig dychwelodd y clerc a dalen o bapur yn ei law.
Edrychodd y rheolwr i fyny oddi wrth y papur. "Yn ôl hwn, yr oedd Josiah Harris yn rhentu cist 148 gennym, ond nid oes dimai o'r rhent wedi ei thalu ers dros flwyddyn. Dyma ei enw wrth hwn, Josiah Harris."
Edrychodd Mr. Puw a Nansi ar y ddalen, a gwelsant ar unwaith mai llawysgrif Joseff Dafis oedd arni—yr un llawysgrif grynedig oedd ar y dyddlyfr.
"Mae'n debyg mai yr un oedd Joseff Dafis a Josiah Harris, ond mae'n ddrwg gennyf na allaf roddi caniatâd i chwi i agor y gist," ebe'r rheolwr.
"Mae'r awdurdod gennyf yn barod," atebai Mr. Puw yn dawel. "Cefais ef gan y llys bore heddiw."
Nid oedd dull y rheolwr wedi bod yn anghwrtais o gwbl, ond newidiodd ei dôn pan glywodd Mr. Puw yn siarad ag awdurdod y tu ôl iddo.
"Mae hynny'n beth gwahanol," meddai. "A gaf ei weled, os gwelwch yn dda?"
Tynnodd Mr. Puw yr awdurdod o'i boced ac estynnodd ef i'r boneddwr. Ar ôl ei archwilio'n fanwl trodd ef yn ôl.
"A ydyw yn foddhaol gennych?" gofynnai Mr. Puw. "Ydyw yn hollol felly. Mae croeso i chwi agor y bocs. Wrth gwrs gwnewch gytuno i'w agor ym mhresenoldeb un o swyddogion yr ariandy?"
"Rhaid i mi ofyn am allwedd i chwi," meddai Mr. Puw. "Nid yw yr allwedd a berthynai i Joseff Harris gennym."
Petrusodd y rheolwr am foment, ac yna, "Dilynwch fi," meddai.
Aethant i ran arall o'r ariandy at ddrws ystafell fechan a dorau heiyrn cedyrn arni. Yr oedd yn llawn o gistiau bychain, wedi eu dodi'n rhesi ar ei gilydd, ac ar dalcen pob cist yr oedd rhif wedi ei baentio'n wyn.
Rhoddodd y rheolwr allwedd bychan yn y ddôr.
Dilynasant ef i mewn i'r ystafell. Tynnodd y blwch a'r rhif 148 allan a rhoddodd ef yn nwylo Mr. Puw. Aethant allan o'r ystafell ac yn ôl drachefn i swyddfa breifat y rheolwr. Yn eu disgwyl yno yr oedd clerc a dolen o allweddau bychain gloyw yn ei law. Daliodd allan yr allweddau i Mr. Puw, ac meddai, "Gellwch agor y blwch â rhif 148."
Dewisodd Mr. Puw yr allwedd.. Rhoddodd ef yn y clo. Wedi rhoi tro arno, cododd y caead yn araf. Nid oedd ond darn o bapur yn y gist, ac am foment tybiai Nansi fod Joseff wedi eu twyllo oll wedi'r cwbl.
Cymaint oedd ei phryder fel na allai oddef peidio cipio'r papur o'r gist cyn i'w thad gael cyfle. Ond cofiodd ei hun ar unwaith a dododd y papur yn ei law.
"Mae'n rhaid mai hon yw'r ewyllys," meddai.
"Ie, dyma hi o'r diwedd," ebe'i thad, a rhoddodd Nansi ochenaid o ollyngdod.
"Ai dyna'i ewyllys olaf?" gofynnai'r rheolwr gyda diddordeb.
"Ie, ac er mwyn i ni wneud popeth yn rheolaidd a diogel, a fuasech mor garedig ag arwyddo bob tudalen â llythrennau cyntaf eich enw. Gwnâf finnau yr un peth. Gallwn wedyn ei hadnabod ar unrhyw achlysur yn y dyfodol."
"Gwnaf ar unwaith," meddai'r gŵr.
Diolchodd Mr. Puw yn gynnes i reolwr yr ariandy am ei gymorth a'i garedigrwydd ac ymadawodd Nansi ac yntau â'r banc. Gwenai'r ddau ar ei gilydd wrth ddychwelyd i Drefaes yn y modur. Ni soniasant air am yr ewyllys hyd nes cyrraedd diogelwch ystafell breifat Mr. Puw yn y swyddfa.
"Wel, go dda, ynte Nansi?"
"Ie, nhad, ond darllenwch yr ewyllys. Ni fedraf oddef yn hwy."
Taenodd Mr. Puw y papur o'i flaen ar y ddesg. Syllai Nansi arno yn syn. Yr oedd yn ddigon anodd deall yr ysgrifen ac yn anos fyth deall y termau cyfreithiol.
"Gwaith anodd fydd astudio hon," meddai.
"Ie," ebe ei thad, "ond nid gwaith amhosibl." Trodd y ddalen trosodd. "O, gwelaf mai Dr. Powell oedd un o'r tystion a'i harwyddodd. Nid yw fawr ryfedd na ddaeth yr ewyllys i'r amlwg. Bu ef farw tua'r un adeg â Joseff ei hun. Chlywais i erioed sôn am y tyst arall yma, John Pitars."
"Waeth gennyf fi pwy oedd y tystion," ebe Nansi'n ddiamynedd. "A yw Besi a Glenys ac Abigail yn cael rhywbeth ynddi? Fedraf fi ddim gwneud na phen na chynffon ohoni?"
"Mae eu henwau yma, beth bynnag," atebai ei thad, ac aeth gobeithion Nansi i fyny i'r entrychion eto.
"O, diolch byth," meddai, "gaf fi gopi o'r ewyllys wedi ei deipio?"
"Rhaid imi ei hastudio'n ofalus i ddechrau," atebai Mr. Puw. "Rhaid i chwi gofio mai Joseff ei hun a'i gwnaeth, a rhaid inni fod yn berffaith sicr ei bod yn gyfreithiol."
"A ydych yn ofni nad ydyw yn gyfreithiol?" gofynnai Nansi mewn petruster.
"Nis gallaf fod yn siwr," ebe ei thad. "Ar un olwg frysiog methaf weld enwau'r Morusiaid."
"Nhad, syniad rhagorol fyddai cael cyfarfod o'r holl berthynasau i ddarllen yr ewyllys iddynt. Mi hoffwn fod yno i weled wynebau'r Morusiaid."
"Fe geisiaf drefnu hynny," ebe Mr. Puw, "a cheisiaf drefnu i chwithau fod yno yr un pryd. Yn awr, Miss Puw, ymaith â chwi, er mwyn i mi gael cyfle i ddehongli'r ewyllys."
PENNOD XVIII
YR ERGYD DERFYNOL
"NHAD, y mae bron yn ddau o'r gloch. Dylai'r perthynasau fod yma ymhen ychydig funudau. Yr wyf fi ar bigau'r drain."
Gwenodd Edward Puw ar ei ferch, wrth edrych arni'n rhedeg yma ac acw yn gosod ac ail osod y cadeiriau yn eu lleoedd.
"Nansi, yr ydych yn fwy cynhyrfus na phe baech yn cael ffortiwn eich hunan.
"Ofnaf fy mod," addefai Nansi, "ac yn enwedig am fy mod yn cael aros i glywed darllen yr ewyllys. Oni fydd pawb wedi synnu. A'r Morusiaid? A ydych yn meddwl y deuant hwy?"
"Deuant os nad wyf yn camsynied yn fawr iawn. A gellwch fentro y deuant a chyfreithiwr gyda hwynt. Cyn gynted ag y clywsant am yr ewyllys yma dechreuasant boeni. Pe baent wedi trin yr hen Joseff yn iawn, ni fuasai raid iddynt boeni dim."
A ydych chwi'n sicr fod ein hewyllys ni yn berffaith gyfreithiol yn awr, nhad?" gofynnai Nansi'n bryderus.
"Wrth gwrs, fedraf fi ddim bod yn sicr. Ni fedr neb fod yn sicr o beth fel hyn ond yn y llys. Ond euthum drwyddi'n ofalus, a methaf yn lân â gweld y gall neb ei thorri."
Yr oedd Mr. Puw wedi astudio'r ewyllys yn drwyadl iawn. Heb yngan gair wrth neb o'r tuallan yr oedd wedi gwahodd y perthynasau at ei gilydd. Yr oedd Abigail Owen yn wael yn ei gwely, ond , ond yr oedd yr oll o'r perthynasau eraill wedi addo dod. Yr oedd Besi a Glenys hefyd ymysg y gwahoddedigion er nad oeddynt berthynasau i Joseff Dafis.
"Gresyn na bai Abigail Owen yn alluog i ddyfod," ebe Nansi, "ond diolch ei bod yn gwella."
"Fyddwch chwi fawr o dro a mynd â'r newyddion iddi wedi i ni ddarllen yr ewyllys," meddai Mr. Puw. "Bydd pawb wedi rhyfeddu," ychwanegai, "ac i Nansi Puw, merch Edward Puw, y mae'r diolch am waith teilwng a gonest."
Yr oedd gruddiau Nansi yn llawn gwrid hapusrwydd wrth gymeradwyaeth ei thad. "Wn i ddim sut i aros i weld gorffen y gwaith," meddai'n gynhyrfus.
"Gwnewch eich hun yn barod, Nansi," ebe'i thad, "nid llwybr mêl fydd i ni prynhawn heddiw; byddwn yn siwr o funudau anodd gyda'r Morusiaid."
"Byddwn, mae'n siwr. Ni fuasai yr un ohonom yn medru colli ffortiwn heb deimlo. Ond dyma Besi a Glenys wedi cyrraedd yn barod. Yr wyf bron marw eisiau dweud y newydd wrthynt, ond gwell fyddai imi aros."
Croesawodd Nansi'r genethod yn gynnes a rhoddodd hwynt i eistedd yn gyfforddus.
"A yw yn wir fod ewyllys wedi ei chanfod?" gofynnai Glenys yn eiddgar.
"Nid oes raid i chwi na Besi boeni dim," ebe Nansi. Ofnai y torrai ei phenderfyniad pe parhai i siarad â hwy yn hir.
Nid cynt oedd y genethod yn eistedd yn gyfforddus na chanodd y gloch. Y ddwy Miss Harris oedd yno y tro hwn, yn eu gynnau sidan du. Ychydig wedi hynny cyrhaeddodd William a Lewis Ifans, dau nai Joseff Dafis.
"Y mae pawb yma'n awr oddigerth y Morusiaid,' ebe Mr. Puw, "gwell aros ychydig i edrych a ddeuant.'
Nid oedd angen aros cyhyd. Ar hynny canodd y gloch. Aeth Nansi i ateb y drws, a daeth pedwar aelod teulu'r Morusiaid i mewn, yn bur chwyddedig a phwysig. Dilynwyd hwy, fel y proffwydodd Edward Puw, gan gyfreithiwr.
"Paham y galwyd ni yma?" cyfarthai Mrs. Morus ar unwaith gan anelu ei chwestiwn at Mr. Puw, a diystyrru pawb arall yn yr ystafell. "A ydych yn ddigon haerllug i honni fod ewyllys arall ar ôl Joseff Dafis?"
"Felly mae yn ymddangos, Mrs. Morus," atebai Mr. Puw yn gwrtais.
"Lol i gyd, mae'r peth yn wrthun," ebe Mrs. Morus, a'i llais yn codi. "Gwyddoch yn dda, fe wnaeth Joseff Dafis un ewyllys, a gadawodd ei eiddo i gyd i ni wrth gwrs."
Ni ddywedodd William Morus yr un gair. Yr oedd yn ddigon ganddo wylio a gwrando. Eisteddodd yn anniddig wrth ochr y cyfreithiwr oedd gydag ef.
"A fyddwch cystal a chymryd cadair, Mrs. Morus?" gofynnai Mr. Puw, "ac fe ddarllennaf yr ewyllys."
Yr oedd Mrs. Morus yn bur anystwyth yn derbyn ei wahoddiad.
"Fel y gwyddoch i gyd erbyn hyn," dechreuodd Mr. Puw, "cafwyd ail ewyllys o eiddo Joseff Dafis yn Ariandy'r Maes, ym Mhenyberem. Ewyllys braidd yn faith ydyw, ac felly bodlonaf ar ddarllen y rhannau hynny sydd a wnelo â'r sawl sydd yma'n gwrando. Darllennaf y rhannau a wnelont â rhannu'r eiddo yn unig."
Cymerodd Mr. Puw yr ewyllys yn ei law, ac ymhen ychydig dechreuodd ddarllen mewn llais clir.
"Dyma fy ewyllys a'm testament olaf i, Joseff Dafis, Trefaes, sy'n dileu pob ewyllys arall o'm heiddo. Yr wyf yn gadael fy eiddo fel y canlyn:
"I'm ffrindiau a'm cymdogion annwyl, Besi a Glenys Roberts, pum cant o bunnau yr un.
"Fedraf fi ddim credu'r peth," meddai Glenys ddiniwed dros yr ystafell.
"Fedraf finnau ddim deall ychwaith," ebe Mrs. Morus yn ffromllyd.
"I Abigail Owen, am ei charedigrwydd mawr tuag ataf yn fy ngwaeledd, pum cant o bunnau."
Besi dorrodd i mewn ar y darllen y tro hwn, "O yr wyf yn falch," meddai yn llawen.
Methodd Nansi â dal hefyd, ac meddai, "Caiff Miss Owen bob chware teg yn awr.
"Yr hen wraig yn cael pumcant," llefai Gwen o'r diwedd. Yr oedd Nansi wedi synnu iddi gadw'n ddistaw cyhyd. "Beth wnaeth Abigail Owen i gael pumcant? Ni wnaeth ronyn iddo erioed a ninnau wedi ei gadw mor ofalus am flynyddoedd."
Parhaodd Mr. Puw gyda'i ddarlleniad, "I'm neiaint, William a Lewis Ifans, dau gant a hanner o bunnau yr un."
"Nid oeddym yn disgwyl gymaint â hynny," ebe Lewis yn swta, ond â golwg foddhaol iawn ar ei wyneb.
"I'm cyfnitherod Ann a Margaret Harris, dau gant o bunnau yr un."
"Pwy fuasai'n meddwl y fath beth?" ebe Ann Harris, gan afael yn dynn yn llaw ei chwaer, a'r ddwy yn gwenu i wynebau ei gilydd yn llawen.'
Onid oes sôn amdanom ni?" gofynnai Mrs. Morus yn ddiamynedd ar draws y llawenhau cyffredinol.
Gwenodd Mr. Puw. "Oes, y mae són amdanoch yn yr ewyllys, Mrs. Morus," meddai, ac eisteddodd y Morusiaid yn fwy cyfforddus i wrando'r genadwri. "Gadawaf fy nodrefn sy'n awr dan ofal Mr. William Morus, i Besi a Glenys Roberts yn gyfartal rhyngddynt."
Aeth rhyw si drwy'r ystafell. Hanner gododd Mrs. Morus oddi ar ei chadair.
"Y fath anfri," meddai'n groch, "a yw Joseff Dafis mor ddigywilydd ag awgrymu imi ladrata ei ddodrefn?" "Nid fy lle i ydyw dweud beth oedd yn ei feddwl pan ysgrifennodd yr ewyllys, Mrs. Morus," meddai Mr. Puw gan wenu.
"Mr. Puw," meddai Besi'n dawel. "Mae gan Glenys a minnau ddigon heb y dodrefn."
"Oes yn siwr," ategai Glenys, "ni fynnem fynd a dodrefn Mrs. Morus oddi arni."
Plygodd Mr. Puw y papur yn araf a dododd ef yn ei ddesg yn bwyllog. Yr oedd yn amlwg ei fod yn disgwyl am rywbeth neu'i gilydd. Trodd at y perthynasau ac meddai, "Dyna'r cwbl o bwysigrwydd i chwi yma heddiw sydd yn yr ewyllys, oddi gerth cyfeiriad beth i'w wneuthur a'r gweddill sy'n aros. Ar ôl setlo ei ddyledion personol a'r trethi ar yr ystad, bydd rhyw ganpunt yn weddill. Gedy y rhain i fudiadau dyngarol yn Nhrefaes yn symiau mân o ddeg ac ugain punt yr un.
"Felly," ebe Mr. William Morus, yn siarad am y tro cyntaf, a thynnodd y cryndod yn ei lais bob llygaid arno, "ni adawodd yr un ddimai i ni."
"Ofnaf mai felly y mae," ebe Mr. Puw, mewn llais isel. "Ond nid felly y mae i fod," meddai yntau drachefn. "Prin y deallwch yr amgylchiadau. Mae yn rhaid i mi gael arian.
"Mae yn ddrwg gennyf, Mr. Morus," atebai Mr. Puw, "ond fel yna yn union y mae'r ewyllys. Nid myfi a'i gwnaeth, ac ni allaf eich helpu."
"Brâd!" llefai Gwen, a throdd ei hwyneb fflamgoch at Nansi. "Bu gennych chwi ran yn y gwaith hwn?"
"Do, gwneuthum lawer ynddo," ebe Nansi'n ddiymdroi.
"Fe dorrwn yr ewyllys. Fe'i gwrthbrofwn," ebe Mrs. Morus. Yr oedd ei llais fel corwynt yn yr ystafell fechan a safai ar ei thraed a'i dwyfraich ar led.
"Fel y mynnoch, madam," ebe Mr. Puw yn dawel, "ond os cymerwch fy marn i, gwastraff ar amser ac arian fydd dwyn yr ewyllys i'r llys. Gofynnwch i'ch cyfreithiwr eich hun beth yw ei farn.'
"Mr. Puw sydd yn iawn," meddai'r cyfreithiwr heb i neb ofyn iddo. "Nid oes yr un amheuaeth nad ydyw yn hollol iawn."
"Ho, felly," ebe Mrs. Morus, erbyn hyn yn hollol ddilywodraeth. "Dyna eich barn chwi aie? Os dyna hynny a wyddoch am y ddeddf, nid oes angen eich gwasanaeth arnom. Gwell inni gyfreithiwr arall, mi dybiaf, ac wedi i ni gael un a ŵyr fwy na chwi, fe ymladdwn yr ewyllys yna i'r eithaf."
Cododd a cherddodd yn rhwysgfawr o'r ystafell. Dilynwyd hi gan Mr. Morus â'i ben i lawr. Ond codai Gwen a Phegi eu trwynau wrth ddilyn eu rhieni.
Cyn gynted ag y cauodd y drws ar eu holau, cododd y cyfreithiwr ar ei draed, ac meddai,
"Nid wyf yn credu y poenaf lawer dros golli fy nghwsmeriaid, Mr. Puw." Agorodd y drws a cherddodd allan.
Ac mewn moment yr oedd pawb oedd yn weddill yn yr ystafell wrthi gymaint a allent yn siarad ar draws ei gilydd.
"O, Nansi, prin y medraf goelio fod y peth yn wir," meddai Glenys, "golyga'r arian gymaint i Besi a minnau. Ac i chwi mae'r ddyled i gyd. I chwi mai i ni ddiolch am yr oll. Ond nid ydych eto wedi dweud wrthym sut y cawsoch afael ar yr ewyllys."
Daeth cytgan o erfyn am y stori oddi wrth y gweddill. "Dywedwch wrthym sut y cawsoch yr ewyllys, Nansi." Ac wrth iddynt bwyso cymaint arni, adroddodd Nansi ei hanes. Yr oeddynt yn gwrando'n astud, ac yn arbennig tra'r adroddai Nansi ei hanes yn nwylo'r lladron ger Llyn y Fedwen.
"Fedrwn ni byth ddiolch digon i chwi," ebe Besi. Ac yn ei dull meddylgar trodd at y lleill, "Wedi inni drefnu popeth fe geisiwn ddangos ein gwerthfawrogiad."
Dryswyd Nansi gan dro'r sgwrs i'r cyfeiriad hwn. Y peth diwethaf a ddisgwyliai oedd sôn am wobr iddi hi. Nid oedd y syniad o wobr wedi dod iddi o gwbl. Yn ffodus iddi trodd Mr. Puw y sgwrs i gyfeiriad arall.
"Cofiwch," meddai, "na rydd y Morusiaid yr eiddo i fyny heb ymdrechu'n galed i'w gadw."
"Mae ein hymddiried yn gwbl ynoch chwi," ebe Lewis Ifans yn ffyddiog.
"Gwnaf fy ngorau," ebe Mr. Puw, a gwên ar ei wyneb.
Wedi mynegu eu diolch trosodd a throsodd i Nansi a Mr. Puw am yr hyn a wnaethant trostynt, ymadawodd y perthynasau yn llawen. Y genethod oedd y rhai olaf i fynd.
Ymhen ysbaid o dawelwch wedi'r ffarwelio â'r naill a'r llall yn brysur gyda'i feddwl ei hun, trodd Mr. Puw at Nansi ac meddai,
"Beth amdani yn awr, Nansi? Beth feddyliwch chwi o'r mater?"
"A welsoch chwi olwg rhyfeddach ar wynebau neb ag a welsoch ar wynebau'r Morusiaid pan ddaethant i ddeall nad oedd dim iddynt?"
"Mae eu dyddiau wedi eu rhifo, Nansi. Ni chodant eu pennau yn hir iawn yn Nhrefaes eto."
"Nhad, yr oeddwn biti braidd dros William Morus. Mae yn rhaid ei fod mewn dyfroedd dyfnion. A welsoch chwi fel y gadawodd yr ystafell yma? Yr oedd fel dyn wedi derbyn ergyd farwol. Yr wyf yn ddiolchgar bod Besi a Glenys yn ddiogel yn awr.
"Yr wyf finnau yn falch iawn hefyd. Genethod hoffus iawn ydyw'r ddwy. Mae'n siwr y byddant am eich anrhegu am a wnaethoch."
"Synnwn i ddim. Wrth gwrs, ni chymeraf arian ganddynt. Ond os cynigiant anrheg imi gwn yn dda beth a ddewisaf."
"Beth fydd hwnnw?"
"Rhaid i chwi aros a gweled," ebe Nansi'n ysgafn, "nid ydynt wedi cynnig dim i mi eto."
Chwarddodd yn galonnog, a chyn i'w thad ofyn ychwaneg iddi yr oedd allan o'r ystafell.
PENNOD XIX
GWOBR
CLYWSOCH chwi am y Morusiaid?" gofynnai Mr. Puw i Nansi rai wythnosau ar ôl darllen yr ewyllys.
"Na, beth amdanynt?" ebe Nansi.
"Y maent yn fethdalwyr. Collodd William Morus lawer o arian oedd wedi godi ar sail ei ddisgwyliadau oddi wrth ewyllys Joseff Dafis."
"A ydyw hynny'n golygu y bydd raid iddynt werthu popeth a gadael y tŷ a'r cwbl?" gofynnai Nansi.
"Popeth," ebe Mr. Puw, "a gadael eu cartref fydd yr ergyd galetaf iddynt mi ofnaf."
"Gobeithio na wnant chwaneg o helynt ynglŷn â'r ewyllys. Maent wedi codi digon o gynnwrf yn barod, a hynny i ddim pwrpas," ebe Nansi.
Nid oedd y Morusiaid wedi ildio'r ystad heb ymdrech galed. Honnent mai ffug oedd yr ewyllys ddarganfu Nansi. Buont mor ddiegwyddor yn eu honiadau fel y collasant bob cydymdeimlad ac yr oedd pawb yn falch pan ddeallasant fod y perthynasau o'r diwedd wedi derbyn cyfiawnder yn y llys. Bu llawenydd mawr pan dderbyniwyd eu hetifeddiaeth gan y perthynasau. Bu Nansi yn talu ymweliad ag Abigail, a llonnodd ei chalon wrth weld y gwahaniaeth a wnaeth yr arian i'r hen wraig unig. Yr oedd nyrs gyda hi bob dydd yn awr, ac yn fuan iawn yr oedd ar ei ffordd i fwynhau henaint tawel a hapus.
"Yr wyf am ymweled â Besi a Glenys heddiw. Cefais lythyr oddi wrthynt ddoe yn gofyn i mi fyned yno. Deallaf oddi wrth eu llythyr fod ganddynt rywbeth pwysig i'w ddweud wrthyf."
"Efallai eu bod am gynnig gwobr i chwi am ganfod yr ewyllys," awgrymai Mr. Puw.
"Wel, ni ddywedasant ddim am hynny ers tro bellach."
Ar ôl cinio cychwynnodd Nansi ar ei thaith. Fel y neshai at y ffermdy synnai at y gwahaniaeth yn y lle. Yr oedd y tŷ wedi ei baentio'n dlws, y buarth yn lân a threfnus, a'r ardd wedi ei thwtio ac yn llawn blodau. Draw yn y cae yr oedd cytiau ieir newydd sbon, a nifer fawr o ieir a chywion yn pigo o'u cwmpas.
"Croeso i'r fferm ieir," gwaeddai Glenys, fel y rhedai at y llidiart i groesawu Nansi.
"Welais i erioed gynifer o ieir yn fy mywyd," ebe Nansi, wrth ysgwyd llaw â hi.
"Leghorns bob un ohonynt hefyd," atebai Glenys â balchter yn ei llais.
Erbyn hyn yr oedd Besi wedi ymuno â hwynt yn ei ffordd ddirodres ei hun.
"Y mae Glen wrth ei bodd y dyddiau yma," meddai. "Dim ond ieir o'r fath orau o hyn allan iddi hi."
"Rhaid i chwi ddyfod o gwmpas y lle gyda mi i weld popeth," ebe Glenys yn frwdfrydig. Treuliodd Nansi awr ddifyr yn edrych ar hyn ac ar y llall ar y fferm. Nid oedd yn deall llawer am ieir ond yr oedd brwdfrydedd Glenys a Besi yn deffro ei diddordeb ynddynt.
"Rhaid i mi beidio ymdroi," meddai gan edrych ar ei horiawr.
"Nid ydych yn meddwl mynd yn awr?" gofynnai Glenys. "Dywedwch chwi wrthi, Besi, rhag ofn iddi fynd."
"Gofynasom i chwi ddod yma heddiw am reswm neilltuol," ebe Besi'n bwyllog. "Yr ydym wedi meddwl llawer iawn am yr hyn a wnaethoch i ni, ac nid ydym wedi diolch hanner digon i chwi. Buom yn siarad ag eraill, a theimlant hwythau yr un fath â ninnau. Yr ydym yn unfarn y buasai gwobr fechan
.""Nid oes arnaf eisiau gwobr," torrai Nansi ar ei thraws. "Cefais i fy ngwobr wrth helpu, a chefais lawer iawn o bleser yn y gwaith."
"Ie, Nansi; gwyddom yn eithaf da nad er mwyn gwobr yr oeddych yn ymdrechu. Ond meddyliwch amdanom ni. Os nad ydych yn barod i'n gadael i ddangos gymaint a garwn arnoch bydd yn siomiant mawr i ni."
"Mewn un ffordd yn unig y cewch ddiolch imi, os mynnwch," ebe Nansi. "Os yr ydych yn benderfynol o roddi rhywbeth i mi, a wyddoch beth hoffwn gael?"
"Beth", meddai Besi a Glenys gyda'i gilydd yn eiddgar.
"Cloc Joseff Dafis," ebe Nansi'n syml. "Carwn gael yr hen gloc i mi fy hun yn gyfangwbl."
"Ai dyna'r oll?" gofynnai Besi'n siomedig drachefn. "Buasem yn falch o roi cant o glociau i chwi pe dymunech hwy."
"Gwna un cloc y tro yn gampus, Besi annwyl," ebe Nansi, "dim ond i'r un hwnnw fod yn gloc Joseff Dafis."
"Beth sydd ar eich pen chwi, Nansi," gofynnai Glenys yn ddifrifol, "nid yw yr hen gloc yn cadw amser heb sốn am ddim arall. Ond os mai dyna eich dymuniad,—bydd y cloc yn eich meddiant yfory."
Trannoeth safai Nansi yn edrych yn syn ar hen gloc Joseff Dafis. Ni fedrai egluro i neb y swyn oedd ynddo iddi hi. Gwyddai er hynny y trysorai drwy ei hoes ef uwchlaw popeth oedd yn ei meddiant. Dygai atgofion poenus, ond dygai yr un pryd atgofion melysaf ei bywyd. Torrwyd ar ei myfyr gan ddyfodiad ei thad i'r ystafell. "A welsoch chwi fy ngwobr, nhad?" gofynnai. Ni atebodd ei thad hi.
"Dowch at y ffenestr am funud, Nansi," meddai. Croesodd Nansi ato, a safodd y ddau fraich ym mraich wrth y ffenestr. Edrychasant allan i'r ffordd.
"Dacw'r modur addewais brynu os llwyddem i ddatrys dirgelwch y cloc," meddai.
Ni cheisiodd Nansi ateb. Yr oedd ei chalon yn rhy lawn.
DIWEDD
Y TYLWYTH TEG
Gan HUGH EVANS
AWDUR "CWM EITHIN"
Darluniau artistig gan T. J. BOND
Cyfrol gwbl wahanol i bob llyfr Cymraeg arall, o ran ei chynnwys, ei chynllun, ei diwyg a'i darluniau
Barn yr Athro W. J. Gruffydd:
"Dyma gasgliad campus o hanes y Tylwyth Teg wedi ei hel at ei gilydd â gofal manwl ac â pharch anghyffredin at y gwrthrych. Anodd iawn yw peidio â gor-ganmol gwaith Hugh Evans,—mae mor ysgolheigaidd, ac eto mor feistraidd o syml; mae'r Gymraeg yn ei llawn ddisgleirdeb yma. . . Bydd plant yn darllen y llyfr hwn, fel na all neb ond plant, a mwynheir ef gan wŷr a gwragedd mewn oed gyda'r un awch. Ond, heblaw hynny, ni all yr un ysgolhaig wneuthur hebddo, pan fynno wybod am y deyrnas fawr hon sydd ar ein ffiniau, y cymdogion bychain sydd yn byw wrth ein drysau. Unwaith eto, nid oes gennyf ond gresynu bod swildod ac amgylchiadau'r byd wedi cadw Hugh Evans rhag dechrau ysgrifennu hanner can mlynedd yn gynt, ond er iddo aros cyhyd, gwnaeth ei le yn sicr ymysg ysgrifenwyr mawr rhyddiaith Gymraeg."
Maintioli, 8 x 7". Rhwymwyd mewn lliain gwyrdd hardd
Pris 3/6
Argraffiad Prin o drigain copi—Dau Gini
HUGH EVANS A'I FEIBION, CYF.,
GWASG Y BRYTHON
356—360 STANLEY RD., LIVERPOOL 20
Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.