Astudiaethau T Gwynn Jones (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Astudiaethau T Gwynn Jones (testun cyfansawdd)

gan Thomas Gwynn Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Astudiaethau T Gwynn Jones

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Gwynn Jones
ar Wicipedia





ASTUDIAETHAU

ASTUDIAETHAU

GAN

T. GWYNN JONES



WRECSAM

HUGHES A'I FAB

1936





Gwnaed ac argraffwyd yng Nghymru





RHAGAIR

DETHOLWYD yr ysgrifau hyn o blith rhai a argraffwyd o dro i dro yn Y Traethodydd, Y Deyrnas a'r Genedl Gymreig. Cyhoeddwyd rhai ohonynt hefyd yn llyfryn, tan y teitl Traethodau, yng Nghaernarfon yn 1910. Adolygwyd hwy ar gyfer yr argraffiad hwn.

T. G. J.

Rhagfyr 18, 1930.

CYNNWYS

DANTE

"O degli altri poeti onore e lume."

YN 1903 y cyhoeddwyd cyfieithiad Daniel Rees o'r Divina Commedia i'r Gymraeg, cyfieithiad ffyddlon a manwl, ffrwyth blynyddoedd o lafur ac ymroddiad mawr. Ychydig sôn a gaed am Dante yn Gymraeg cyn hynny. Ysgrifennodd R. H. Morgan res o erthyglau ar yr "Inferno," ac ymesgusododd ar y dechrau am "draethu ar bwnc fel Dante mewn cyhoeddiad sobr, difrifddwys fel Y Drysorfa."[1] Efallai mai tipyn o ysmaldod ysgolhaig ar gost ei gyfundeb sydd yn y geiriau a ddyfynnwyd. "Glasynys a Ioan Ddu," ebr Isaac Ffoulkes (Llyfrbryf), mewn nodiad yn Y Cymro, "oedd yr unig ddau fardd a adwaenais i fyddent yn ymwynfydu ar waith Dante. Medrai Ioan ddarnau meithion o gyfieithiad (Saesneg) Cary. . . Bwriadai Glasynys un tro ddysgu yr Italeg er mwyn medru darllen gwaith ei hoff awdur yn ei burdeb cynhenid. Mynnai ef mai gan Dante y cafodd Dafydd ap Gwilym ei arial awenyddol, fod y ddau yn gyfeillion, i'r bardd Italaidd dreulio ysbaid o'i alltudiaeth yn Nghymru, ac yn bennaf gyda'i gyfaill yn clera o'r naill fan i'r llall, tua Gwern-y-Clepa a Marchwiel, a Rhosyr ym Môn. Yr oedd hyn oll yn gwbl Lasynysaidd, er y tybiem ar y pryd y gwyddai yn amgen; beth bynnag, nid ymddangosai yn drallodedig pan ddangosais iddo mewn print fod y naill fardd wedi marw yn fuan ar ôl, os nid cyn geni y llall."

Efallai mai gan ei brysured yn dychmygu pethau fel hyn yr esgeulusodd Glasynys hyd yn oed ddarllen hanes Dante, a geir agos ym mhob cyfieithiad Saesneg o'r Commedia, heb sôn am ddysgu Eidaleg. Pa wedd bynnag, daeth cryn newid dros Gymru er y dyddiau diofal hynny a'u croesanaeth ddigrif; eto, hyd y gwn i, ni chafodd cyfieithiad Daniel Rees ryw lawer o sylw gan lenorion Cymreig. Dylanwadodd Milton yn fawr arnynt mewn rhyw ystyr lac. Y mae ei ôl ar Ddafydd Ionawr, a'i ddylanwad ar Wilym Hiraethog ac Eben Fardd. Daeth ei ôl yn amlycach fyth wedi cyhoeddi cyfieithiad I. D. Ffraid o'r Paradise Lost-buasai agos cyn hawsed i Gymro uniaith ddeall y gerdd Saesneg ei hun â deall cyfieithiad Pughe, wrth gwrs. Eto, rhetoreg Milton a'i wasgarwch amhendant a ddylanwadodd ar y beirdd Cymreig. Nid oedd, y mae'n ddiau, gymaint o siawns i fanyldeb Eidaliad a Chatholig, er maint ei ragoriaeth. Cyfyng, wrth gwrs, o anghenraid, oedd diddordeb llenyddol Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac ychydig o'i hysgolheigion a feddyliodd am ddefnyddio'r Gymraeg at un pwrpas ond trin pynciau diwinyddol, ac aeth y driniaeth honno'n fuan yn ddiffrwyth ddigon. Wrth sôn am athroniaeth gwlad Roeg, yn yr unig lyfr Cymraeg ar y pwnc, dywedodd Llugwy Owen-"Daeth lliaws mawr o bryd i bryd yn ôl i Gymru o ganol Groeg Rhydychen, ond ni wnaeth neb ohonynt ddim yn y cyfeiriad hwn o gwbl; tybed mai dynion meirw oedd eu hathrawon yn y Brifysgol: Sut arall y digwyddodd y ffaith nad anfonasant gymaint ag un yn ôl i'w wlad wedi ei fywhau i wneud cymwynas fel hyn i Gymru?"[2] Nid rhaid synnu cymaint hwyrach, na thalai'r Cymry lawer o sylw i lyfr ar athroniaeth y genedl wychaf yn hanes y byd, neu i'r gerdd odidocaf yn llenyddiaeth y byd, er eu cael (drwy lafur rhai na buont yn Rhydychen, ond a ddringodd ryw ffordd arall) yn eu hiaith eu hunain.

Tua chanol y ganrif ddiwethaf, yr oedd y traethodau, yr erthyglau a'r esboniadau ar y Divina Commedia mewn gwahanol ieithoedd yn agos i ddeuddeg cant a hanner o nifer.[3] Pa faint a gyhoeddwyd o hynny hyd yn awr, nis gwn, ond y maent yn lliaws, ac yn cynyddu beunydd. Y mae'n wir bod llawer o'r esboniadau a'r traethodau hyn yn trin manylion cymharol ddibwys, ond nid â'r plisgyn yn unig y mae myfyrwyr Dante yn ymwneud. Yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiwethaf, bu adnewyddu mawr ar astudio Dante yn yr ystyr orau, ac mewn oes fel hon y mae hynny'n beth nodadwy. Pa beth sydd yng ngwaith prifardd yr Oesau Canol yn tynnu sylw a myfyr meddylwyr oes nad yw, er a broffeso, yn derbyn onid ychydig o'r pethau yr oedd Dante yn eu credu?

Dywedodd rhywun, a dywediad gwych ydyw, "blodeuodd yr Oesau Canol, a Dante oedd y blodyn." Ond megis y bydd raid wrth dynerwch a gwres tymor a ddaw i beri blodeuo hedyn tymor a fu, felly yr oedd yn Dante ysbryd y deffro newydd yn gystal â ffrwyth yr hen ymdrech. Lle bo'r ddeubeth hynny bydd yr awen greu, ac nid medr y prydydd a dysg yr ysgolor yn unig. Dyna sut y mae dyfal astudio Dante yn addysg hael ynddo'i hun, am fod ei waith ef yn crynhoi ynddo'i hun hanes a thwf meddwl yr hen gyfnod ac yn rhoi bywyd ynddo ag ysbryd y cyfnod newydd.

Nod angen gwaith i foddio llawer o feirniaid ein dyddiau ni yw bod arno ddelw'r pryd a'r lle, ac yn wir y mae ar lawer o'r gweithiau sydd wrth eu bodd gymaint o ddelw heddiw fel na bydd neb yn debyg o'u darllen yfory. Nid dibwys i awdur roi delw ei oes a'i amgylchiadau ar ei waith, ac ni ddichon iddo chwaith beidio â gwneuthur hynny. Yn wir, ni roes neb fwy o ddelw ei gyfnod ar ei waith nag a roddes Dante. Bardd yr Oesau Canol ydoedd, crefydd yr Oesau Canol oedd ei grefydd, ffilosoffi'r ysgolheigion oedd yr eiddo yntau. Ni saif popeth a ddywedir yn gyffredin am y ffilosoffi honno, efallai, yn wyneb ymchwiliadau a syniadau diweddarach nag eiddo beirniaid tra phendant y ganrif ddiwethaf, ond addefer fod ynddi lawer o ryw gywrain ymresymu nad yw, er ei glyfred, yn argyhoeddi'r amheuaeth sydd, er gwell neu er gwaeth, wedi tyfu i mewn i raen meddyliau cyfnod y natur-wybodau manwl. Eto, ceir diwinyddiaeth a ffilosoffi'r ysgolheigion yng ngwaith Dante, yn rhan o'r adail megis, ac er hynny y mae i'r gerdd apêl nad oes i'r ddiwinyddiaeth a'r ffilosoffi noeth mono. Ys gwir na ddihangodd yntau rhag beirniadaeth. Y mae rhai yn bwrw arno am wneuthur Uffern yn lle mor dost, a thaerodd eraill mai diben ei gân oedd dial ar ei wrthwynebwyr drwy eu dodi yn y lleoedd gwaethaf yn Annwfn. Y chwerwder a gyfyd o'r ymryson rhwng balchter a mawredd sydd ym mhob llinell o'r gerdd, medd un beirniad Seisnig a ddyfynnir gan Mazzini yn ei ysgrif ar "Weithiau Lleiaf Dante." "Lleferydd llid personol, ysgeler hyd wrthuni, cynddeiriog wyllt," medd Walter Savage Landor. "Ym mha arddull, ynteu, y mae'r gerdd? Mewn arddull benchwiban" ("dans un goût bizarre"), medd Voltaire. Gellid, efallai, amddiffyn peth ar ergyd y beirniadaethau hyn, eto, ni byddai hynny yn setlo'r mater, mwy na phe honnid mai terfynol fel beirniadaeth ar yr awduron hynny fyddai dywedyd bod Landor yn aml yn wrthun a bod mesur da o benchwibandod yn Voltaire. Ni all fod amau na cheir ymhlith llenorion fath ar feddwl a fodlonai ei deimlad at ei elynion drwy ysgrifennu amdanynt a gwneuthur â hwy beth tebyg i'w dodi yn y lleoedd gwaethaf yn uffern-ffurf ar ddial sy'n gwreiddio, ond odid, yn y felltithgan gyntefig. Y mae personoliaeth dyn hefyd yn beth mor gymhleth fel mai anodd iawn i neb fod yn gwbl sicr am wraidd ei gymhellion ef ei hun, heb sôn am eiddo neb arall. Nid rhaid ychwaith, er mwyn edmygu ysblander Dante, ddim ymroi ati â holl arfogaeth rhetoreg i ddangos nad oedd un gwendid yn ei gymeriad, yn null y peth a elwir yn "werthfawrogiad llenyddol," peth ag ynddo fwy o fwrn nag o farn yn aml. Ond hyd yn oed a chyfaddef bod yn yr Uffern a ddychmygodd Dante wrthuni ac ysgelerder-anodd gwybod a ddisgwyliai'r beirniaid gael yno le gogoneddus a hyfryd iawn-y mae'r drefn sydd ar y lle yn awgrymu ffilosoffi ry fanwl i fod yn "gynddeiriog wyllt," a'r meddylwaith ei hun yn rhy ofalus ac union i fod yn eiddo gŵr penchwiban a dim ond hynny. A chyda golwg ar deimlad, fe ofynnodd hyd yn oed Byron-"Pwy ond Dante a allasai ddwyn dim tynerwch i uffern? A oes dim yn [uffern] Milton: Nac oes ddim. A chariad a gogoniant a mawredd yw nefoedd Dante." Diau nad oes ym Mhurdan nac ym Mharadwys Dante ddim tynerach na'i gydymdeimlad ef â Paolo a Francesca, ei ymddiddan a'i hen athro Brunetto Latini, neu ei ymddygiad at y truan di-enw yng nghoed yr hunan-leiddiaid. Eto, y mae ef yn diolch i Dduw am weled yr ellyllon yn rhwygo Filipo Argenti, ac fe wrthyd godi'r cen rhew oddi ar lygad un truan, er iddo addo gwneuthur hynny os dywedai'r collddyn ei enw wrtho. Yn wir, y mae chwerwder yn ei galon ef yn y Purdan, a chof ganddo ym Mharadwys am ffalsedd ei gyd-alltudion. Onid un rheswm am afael ei gerdd ar feddyliau dynion drwy'r canrifoedd yw'r dynoldeb hwn yn un peth? Onid rhyw fath ar gysur i ni, feidrolion cyffredin, wybod bod un o'r anfarwolion yn gyfrannog â ni yn rhai o weddau etifeddiaeth ein natur?

Deddf anesgor sydd yn uffern Dante, pa un bynnag ai fel cyfle ai fel cyflwr y meddyliai ef amdani. Nid eiddo ef yn arbennig yw deunydd y disgrifiad-nid yw hwnnw onid y llun yr oedd profiad dynion eisoes wedi ei fwrw megis ar len parhad.[4] Ceir y deunydd yn llenyddiaeth pob gwlad, Cymru hithau yn eu plith, y tywyllwch, y gwres a'r oerfel, "y llech las haearn a'r sarn saethau," "y pydew llenrew llawn rhych cyllestrig," y seirff a'r nadredd, "y pryfed caled coliawcwrych," "y llygod pen-garn a'r gylfinau carn," "y cythraul corniawg a'r cyrn llym sodlawg ar ei sodlau," y cŵn duon, "y rhost byrnig," a chant a mil o bethau erchyll. Y modd y trinodd ef y deunydd hwn yw arbenigrwydd Dante, y modd y deallodd y mân ddernynnau profiad, ffrwyth canrifoedd o draddodiad, gan eu cyfuno a'u cyfannu yn un synthesis. Ys gwir ei fod ef hyd yn oed yn mynd ymhellach pan fynno nag y caniatâi ei gredo iddo, megis trwy osod Cato yn borthor y Purdan a dodi Trajan a Ripheus ym Mharadwys. Bu feio arno, yn wir, am hynny, ac am "gymysgu pethau paganaidd a phethau Cristnogol," sef drwy wneuthur hen dduwiau Groeg yn benaethiaid yn Annwfn, a thrwy gyfarch Apolo ar ddechrau'r Paradiso, fel pe mail ef fuasai'r unig un a wnaeth beth o'r fath, hyd yn oed yn Eglwys Rufain. Eto, faint y gwahan iaeth sydd rhwng ysbryd y peth a wnaeth ef ag ysbryd yr un gymysgedd yng ngwaith Milton, dyweder, heb sôn am y " clasuryddion a fu'n diwygio'r emynau eglwysig ymhell ar ôl ei oes ef, gan ddodi "Apolo" yn lle "Duw" a "Pharnassus" yn lle "nefoedd."[5] Ni ddianc dyn rhag teimlo bod ystyr yng nghymysgedd Dante, a dim ond ystum yn y lleill. Am ei gyfarchiad ef i Apolo a'r Awenau, yr oedd dylanwad yr hen glasuron yn fawr arno, nid o angenrheidrwydd am ei fod ef yn derbyn eu syniadau-yr oedd y peth byw sydd yn yr hen chwedlau-gwirionedd y mae Emerson yn ei alw[6] yn rhan o "deyrnas dragywydd y bardd," chwedl Lamennais.[7] Ni ellir osgoi'r casgliad bod ei feddwl ef yn feddwl cyfosodus. Yr oedd ynddo, medd Labitte, "rymus undeb dychymyg ac ysbryd traddodiad, ffrwythlon gyfwrdd. barddoniaeth amseroedd a fu â barddoniaeth yr oesau newyddion."[8] Y mae Mazzini yn mynd ymhellach fyth. "Nid oedd Dante," medd ef, na Chatholig na Gwelff na Gibelin: Cristion ac Italiad ydoedd ef." Pa un bynnag, yr oedd Dante yn cydio dau gyfnod â'i gilydd. Anturus hefyd fyddai wadu gosodiad Mazzini. "Am y syniad oedd ganddo ar hyd ei oes," meddai, "y mae ei leferydd ffilosoffig i'w gael yn y Convito, y gwleidyddol yn y De Monarchia, y llenyddol yn y traethawd De Vulgari Eloquio, y gwleidyddol a'r crefyddol ynghyd yn y Commedia. Peth ar wahân yw'r Vita Nuova. Persawr ieuenctid cynnar Dante yw, y breuddwyd serch a rydd Duw i'w blant breiniol i'w dysgu i beidio byth ag anobeithio am fywyd, nac amau nac anghofio anfarwoldeb yr enaid."[9]

Anodd peidio â chredu gyda Mazzini bod cysylltiad rhwng y Vita Nuova a'r Commedia. Pa wedd bynnag a pha beth bynnag yw'r ddysgeidiaeth, y mae'r farddoniaeth yn clymu'r cwbl yn un campwaith. O'm rhan fy hun, y Purdan yw'r rhan orau gennyf o'r tair, am mai hi yw'r rhan fwyaf dynol. Gwae ac anobaith sydd yn Uffern, ac y mae hyd yn oed dynerwch a thosturi'r bardd yn dyfnhau'r argraff. Am ei Baradwys, y mae yn honno lawer o ffilosoffi'r ysgolheigion ac o alegori anodd i'w deall. Yn y Purdan y mae llawer gofid, ond y mae yno hefyd lennyrch hyfryd, peroriaeth fwyn, ymdrech wastadol am wellhad, gobaith parhaus. Yn ymdrech bywyd y mae'r swyn, y mae rhywbeth yn brudd mewn gorffen. Fe wnâi les hyd yn oed i'r sawl a fo sicraf o awdurdod ei feddwl ef ei hun ddarllen y Purgatorio o leiaf unwaith bob blwyddyn.

Y mae pob rhan o'r Commedia yn llawn o gyffelybiaethau barddonol prydferth, megis y disgrifiad o'r enaid yn dyfod o law Dduw fel geneth fach, "yn wylo ac yn chwerthin yn ei hafiaith"; cymharu torf o eneidiau yn y Purdan i yrr o ddefaid yn dyfod yn ofnog allan o gorlan, gan sefyll, llygadu a ffroeni, ac yna wneud y peth a wnêl y gyntaf; cyffelybiaethau lawer, o ddigwydd iadau cyffredin bywyd. Yn y Purdan eto y mae mwyaf o farddoniaeth Natur, lliwiau'r wawr a'r blodau a'r dail, cryndod tonnau'r môr, goleuni'r haul a'r sêr, y "bywyd araul" yr oedd cynifer o'r colledigion yn hiraethu amdano. O bopeth yn Natur, goleuni oedd hoffaf gan Dante, ac yn ei Baradwys, goleuni yw'r cwbl, yn y pwynt hwnnw. o wawl na ellid edrych arno yr oedd Duw—

Un punto vidi che raggiava lume
Acuto si, che il viso ch'egli affoca
Chiuder conviensi, per lo forte acume.

Sylwedydd craff ydoedd ef, meddyliwr manwl a dwfn. Un peth sydd na cheir yn ei gân ddisgrif iad manwl ohono, sef harddwch Beatrisia, eto y mae'r harddwch hwnnw yn llenwi pob cyfeiriad ati, weithiau yn ei gosgedd, weithiau yn ei gwallt, weithiau yn ei llygaid. Pan yw hi'n disgyn i'w gyfarfod yn y Purdan, y mae popeth o'i chwmpas yn hardd, lliw rhos a goleuni araul ar yr wybren, a hithau'n dyfod i lawr yng nghanol cwmwl o flodau. Yn ei ddyfnder y mae mawredd Dante, y mae'n eich argyhoeddi ei fod ef wedi teimlo'r pethau a ddisgrifia, nad oes dim yn ysbryd dyn nad yw ef yn ei chwilio. Y mae dwyster a chywirdeb ei gerdd cymaint a'i glwyster a'i chywreindeb.

Pa beth ynteu sy'n cyfrif am ddylanwad y gerdd, o oes i oes? Ei manyldeb, medd Macaulay; ei chywirdeb ebr Carlyle. Diau fod manyldeb a chywirdeb yn ddigon i gadw gwaith llenyddol yn fyw. Yn ein cyfnod ni, sonnir llawer am "gelfyddyd er mwyn celfyddyd," a bydd weith iau'n bechod sôn am ddysgeidiaeth gwaith llenyddol. Er hynny, myn llawer ofyn pa beth yw dysgeidiaeth Dante. Deil ysgrifennydd Americanaidd, C. A. Dinsmore, mai dysgeidiaeth yr Inferno yw bod pechod yn ffaith a'i fod yn dwyn ei benyd arno'i hun lle bynnag y bo, canys cysgodau eu pechodau sy'n cosbi'r colledigion yn uffern. Nid oes yno edifeirwch, canys collwyd dawn y deall, ac nid oes borthor wrth y porth i rwystro dianc oddi yno. Dysgeidiaeth y Purgatorio yw mai drwy gyffes, edifeirwch ac iawn y mae i ddyn ei ryddhau ei hun oddi wrth ei bechod, canys profiad yw'r Purdan, nid lle. Yn y Paradiso y mae'r bardd yn dysgu pa beth yw twf bywyd Cristion, gan ei gyffelybu i esgyn o seren i seren, nes cyrraedd y gwynfyd pennaf, sef gweled Duw. A gwerth y ddysgeidiaeth i'n cyfnod ni, ebr Mr. Dinsmore, yw bod Dante, yn groes i hen ddramadyddion Groeg, yn groes i Shakespeare, yn groes i Tennyson, yn dysgu bod dyn, drwy ei ewyllys rydd, yn feistr ar ei dynged.[10]

Yn ei lythyr at ei gyfaill a'i noddwr, Can Grande, wrth gyflwyno'r Paradiso iddo, dywedodd Dante ei hun pa beth oedd ei amcan. "Y mae amcan y cwbl a'r rhannau ar wahân," meddai, "yn ddwbl, un nes ac un pellach; ond os chwiliwn y mater yn fanwl, gallwn yn gryno ddywedyd mai amcan y cwbl a'r rhannau gwahân yw dwyn y rhai sy'n byw yn y bywyd hwn allan o gyflwr trueni a'u tywys i gyflwr dedwyddwch." Dyna beth a ddywedodd ef ei hun, ac ni wn i nad gorau i ni ei gymryd ar ei air. Nid yw o lawer o bwys, efallai, pa un ai merch o gig a gwaed oedd Beatrisia, ai ffilosoffi neu ddatguddiad dwyfol, fel y myn rhai. Os cymerwn mai rhyw symbol yn unig yw hi yn y gerdd, yr ydys yn ddiau yn torri'r cysylltiad rhwng y Commedia a'r Vita Nuova, un o'r pethau prydferthaf yn llenyddiaeth y serch rhamantus. Ar ddiwedd y Vita Nuova, dywed y bardd:

A gwelais weledigaeth dra rhyfeddol, ac ynddi bethau a barodd i mi benderfynu na ddywedwn i ddim yn rhagor am yr un fendigaid hon hyd oni ddeuai'r amser pryd y gallwn draethu'n deilyngach amdani. Ac i'r diben hwnnw yr wyf yn llafurio hyd y gallaf, megis y gŵyr hithau'n dda.

Ni all nad dyma wreiddyn y Commedia. Ni all ychwaith na ddatblygodd y gwreiddyn hwnnw. Dyna, ond odid, a feddyliai'r awdur wrth sôn am amcan dwbl, un nes ac un pellach, a'r ddau hynny'n tyfu'n un. Odid nad yr amcan nesaf oedd dywedyd am Beatrisia beth nas dywedwyd erioed am arall—"spero di dire di lei quelle che mai non fu detto d'alcuna," yng ngeiriau'r bardd ei hun. Dyma beth tebyg iawn i dra—dyrchafu rhyw wedd ar anwes y serch cwrtais. Aeth yr amcan yn ddihangfa i'r bardd rhag anffodion a gofidiau ei fywyd helbulus, ac wrth hynny fe ddaeth yr amcan pellach hefyd. Eto fe gyfiawnhawyd. gobaith y bardd—fe ddywedodd am Beatrisia beth nas dywedwyd erioed am arall, hyd yn oed os aeth hi cyn y diwedd yn ffilosoffi neu ddatgudd iad dwyfol. Y mae hi, lle bynnag y sonnir amdani, megis ffigur ar wastad uwch na'r bardd, weithiau yn wir, yn nesaf peth i ryw amgyffrediad di—gorff. Os gellir deall dechreuad y Vita Nuova yn llythrennol—ac ni wedd un ystyr arall arno— nid oedd ef ond naw mlwydd oed pan welodd hi gyntaf, a hithau ychydig gydag wyth, ac fe'i carodd hi yn y fan. Yr oedd hi felly yn ferch a garwyd yn gynnar iawn, ac a gollwyd, canys priodwyd hi ag arall, a bu farw yn bedair ar hugain oed. O hynny, ideoli'r ferch fach honno ar hyd bywyd o siomiant, unigrwydd a myfyrdod, nid rhaid ond deall hynny i ddeall y gyfrinach— onid hi yw'r eneth fach y cyffelybir iddi yr enaid pan ddêl gyntaf o law ei grewr?—

Esce di mano a lui, che la vagheggia
prima che sia, a guisa di fanciulla
che piangendo e ridendo pargoleggia,
l'anima semplicetta, che sa nulla,
salvo che, mossa da lieto fattore,
volentier torna a ciò che la trastulla.

Tywyllwch sydd yn nechrau'r gerdd, goleuni yn ei diwedd. A feddo brofiad o'r ddihangfa o dywyllwch i oleuni, a medr i'w adrodd yn ddilys ac yn ddilin, ni all na bydd byw ei waith, canys yn fuan neu hwyr fe'i caiff pob dyn ystyriol ef ei hun wedi colli'r union lwybr yn y coed tywyll, a hir ac anodd fydd yr ymchwil amdano a chyrraedd i oleuni. A pho cymhlethaf y cymeriad, hwyaf ac anhawsaf yn y byd. Y mae astudio Dante yn uno dyn â'r canrifoedd, yn ei ddysgu i adnabod y pethau sy dragywydd.

(1902).

DON QUIJOTE

DEUTHUM i wybod gyntaf am y Don Quijote yn y dyddiau rhamantus hynny—a ddarfu cyn ebrwydded!—pan fyddem ninnau yn ein tro yn chwilio am yr anturiaethau oedd yn ein cyrraedd. Peth a ddôi rywdro, efallai, oedd myned i wledydd pell, ond yr oedd llenyddiaeth yn ein dwyn i wledydd ac i oesau pell, a hyd hynny nid yn gymaint yn faes turio ag yn faes anturio.

Ymhlith llyfrau fy nhaid yr oedd twr o rai a ddaethai o lyfrgell un o'i gyfeillion, ysgwier o Gymro, hen ŵr bonheddig, mi glywais fy mam yn dywedyd, a fyddai'n barod i wylo os dywedai neb wrtho fod rhyw anffawd yn debyg o ddigwydd i'r Gymraeg. Ymhlith y llyfrau hynny yr oedd nifer o rai Ffrangeg, cyfrol neu ddwy o waith yn dwyn y teitl "L'Hermite de la Chausée d'Antin, ou Observations sur les Moeurs et les Usages Parisiens au Commencement du xix siècle"; rhai cyfrolau o waith arall: "Correspondance de Mlle. Suzette-Césarine d'Arly," Paris, 1814; a gramadeg Ysbaeneg, yn Saesneg, gan y Don Felipe Fernandez, y seithfed argraffiad, a brintiwyd yn Llundain yn 1818. Diddorol gwybod bellach beth a fyddai yn llyfrgell ysgwier o Gymro yn agos i gan mlynedd yn ôl. Tebyg gennyf i'm. taid eu prynu ymhlith llyfrau eraill, o barch i'w hen gyfaill, pan werthid ei eiddo ar ôl ei farwol aeth, canys, er iddo ddysgu darllen a siarad Saesneg yn ddyn canol oed, ni wyddai fy nhaid ddim Ffrangeg nac Ysbaeneg. Ffawd dda i mi oedd gael y llyfrau Ffrangeg a'r gramadeg Ysbaeneg ymhlith yr ychydig o'i lyfrau yntau a ddaeth i'm rhan, er i'r copi o waith Talhaiarn, a gafodd gan yr awdur ei hun, fynd ar goll pan werthid ei eiddo yntau, yng nghwrs amgylchiadau.

Fel y bydd hogyn yn gwneuthur pethau, dysgais innau ddarllen Ysbaeneg oddi wrth ramadeg y Don Felipe, i ryw raddau. Ar dudalennau 157-159 o'r argraffiad hwnnw y mae "Descrip cion de la espantable aventura de los Molinos de Vento," allan o nofel Cervantes, "Don Quijote." Darganfyddiad. Deuthum yn ddiweddarach ar draws cyfieithiad Saesneg Jervis, a chopi arall Ysbaeneg wedi hynny. Ni wn i bellach, pe'm blingid, fel y dywedasai Talhaiarn, nad felly y dysgir pethau, wedi'r cwbl! Bid a fo, felly y deuthum i wybod am un o'r chwedlau gorau yn y byd i gyd, a dyddiau rhyfeddod oedd y dyddiau hynny.

Ni adawodd amgylchiadau i mi ddarllen onid hanes y Don o weithiau lluosog Cervantes, ond nid hawdd amau'r rhai a ŵyr pan ddywedant mai dyna'r pennaf o'i weithiau. Digwyddodd i Cervantes yr un anffawd ag a ddigwyddodd i awdur pob gwaith mawr-daeth yr esbonwyr ar ei draws. Esboniwyd mai diwygiwr cymdeithasol ydoedd ef; ei fod yn pregethu goruchwyliaeth newydd mewn gwleidyddiaeth a chrefydd; ei fod yn pregethu purdeb dan glog donioldeb; bod ganddo neges gudd nad adnabu awdurdodau ei oes a'i wlad; ei fod yn ddiwinydd mawr, a'i fod yn weriniaethwr. Fel y digwydd i esbonwyr yn gyffredin, nid oedd odid neb ond hwy eu hunain yn credu eu hesboniadau. Un peth sydd yn sicr ac yn ddigon yw bod Cervantes yn llenor ac yn gelfydd. Y mae'r rhamant yn ei hegluro'i hun i'w darllenwyr drwodd a thro, ac nid oes ynddi-onid a ddysgo dyn oddi wrthi, fel y dysg oddi wrth fywyd ei hun-neges yn y byd amgen na'r hyn a ddododd yr awdur ei hun mewn geiriau plaen, yn ei ragymadrodd, yng ngenau cyfaill dychmygol a'i tynnodd o'r benbleth yr oedd ef ynddi sut i gael anerchiadau barddonol i'w gosod ar ddechrau'r llyfr, sut i gael dyfyniadau dysgedig i'w dodi yng nghorff y llyfr, ac ar y diwedd res o awduron yr "ymgynghorwyd â hwy." Dyma eiriau'r "cyfaill" ar neges y llyfr:

A chan na chynnwys eich gwaith fwy na dinistrio'r awdurdod a'r derbyniad y sydd yn y byd ac ymhlith y cyffredin i'r llyfrau marchogwriaeth, nid rhaid i chwi fenthyca ymadroddion ffilosoffyddion, adnodau o'r Ysgrythur Lân, chwedlau'r beirdd, areithiau'r areithyddion na gwyrthiau'r saint. Perwch hefyd, yn narllen eich historia, fod i'r trist deimlo ar ei galon chwerthin, i'r llawen fwy o lawenydd, i'r syml beidio â blino, i'r call edmygu'r ddyfais, i'r difrif beidio â'i dibrisio, ac na omeddo'r doeth ei chymeradwyo.

Pa beth fwy a fynnai'r esbonwyr am amcan a neges dyn? Cymerer Cervantes ar ei air. Cyflawnodd bob un o'r amcanion uchod, beth bynnag. Nid dibwys, gan ei fod ef yn sôn am "ddinistrio awdurdod a derbyniad y llyfrau marchogwriaeth" yw cofio natur a maint dylanwad y llyfrau hynny yn Ysbaen yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Oherwydd yr hir ymladd â'r Mwriaid, bu'r Marchog Crwydrad fyw'n hwy yn Ysbaen nag yn unman arall yn Ewrop, ac yr oedd ef yn llawer mwy o ddifrif nag y bu yn Ffrainc a Phrydain. Yr oedd ei elynion o dras a chrefydd wahanol iddo; yr oedd swyn rhamant yn ei orchestion, a bendith Dduw arnynt yr un pryd. Yr oedd y Marchog Crwydrad yn fawr ei fri yn Ysbaen yn y bymthegfed ganrif, yn chwilio am orchestion i'w gwneud ac yn herio ac yn ymladd â'r sawl na chydnabyddai fod ei riain ef yn degach na holl rianedd y byd. Tyfodd o'r arferion hyn lenyddiaeth doreithiog, ond ei bod wedi colli swyn yr hen ramantau cynnar, am ei bod wedi colli eu symledd a'u syndod. Syndod yw enaid rhamant. Lle y mae'r chwedlau Arthuraidd cynaraf heddiw yn fyw, y mae gwaith dynwaredwyr diweddarach. wedi marw. Rhydd Cervantes ei hun beth canmoliaeth i ramant "Amadis de Gaul," fel "yr orau o'r holl lyfrau o'r rhyw yma a gyfansoddwyd." Am y rhai a'i dilynodd, mynnai ef eu bwrw i'r tân bron i gyd-o leiaf, felly y dywed yr offeiriaid wrth fynd drwy lyfrgell y Don. Rhai gwrthun a salw oeddynt, meddai ef, a'u dylanwad ar foes a chwaeth yn ddrwg iawn. Eto, dyma'r llyfrau yr oedd pawb yn eu darllen ac yn byw ac yn ymddiddan yn ôl eu hesiamplau. Torri crib y chwedlau hyn, ynteu, oedd un o amcanion Cervantes, a gwnaeth hynny mor llwyr fel nad ysgrifennwyd un llyfr marchogwriaeth newydd yn Ysbaen ar ôl 1605, ac na chyhoeddwyd un o'r hen rai.

Gwnaeth hyn drwy adrodd hanes y Don Quijote (seinier, Don Cichôte). Gŵr bonheddig gwledig oedd Alonzo Quijano, wedi darllen y llyfrau marchogwriaeth nes iddynt godi i'w ben. Yn ei wallgof, gwnaeth ddiofryd y codai urdd y marchogion crwydrad i fri ac arfer drachefn. Cymerth enw newydd iddo'i hun, nid amgen "Don Quijote de la Mancha." Glanhaodd hen arfau ei hendaid, a rhoes enw newydd i'w hen geffyl, sef "Rocinante" (rocin—ceffylyn tenau gwachul; ante—cyn neu gyntaf, enw yn dangos. mai rocin a fu cynt, ac mai ef bellach oedd y blaenaf o holl rocinos y byd). Gan na thalai Marchog Crwydrad heb riain i'w charu, dewisodd y Don eneth wledig o'r ardal, un y bu ef yn ei charu heb yn wybod iddi, i fod yn arglwyddes iddo yntau, a chan mai yn Toboso y ganed hi, galwodd hithau "Dulcinea del Toboso." Y mae rhywfaint o'r Don hyd yn oed yn y callaf ohonom, pe'i gwypem!

Ar fore yng Ngorffennaf, dyma'r Don yn cychwyn ar ei grwydr. Teithio drwy wres digon poeth i doddi ei ymennydd, pe buasai ganddo beth." Dyfod at dafarn tua'r hwyr, yn flin a newynog. Tafarn? Na, castell mawr, i'r Don. Yno, ymddwyn a llefaru yn gymwys yn ôl defod y marchogion yn y llyfrau. Cofiodd yn ystod y dydd nad urddwyd ef yn farchog. Ni allai ond marchog arall wneuthur hynny. O'r gorau. Onid marchog oedd y tafarnwr, yn byw yn y castell mawr? Mynnu o'r Don gan hwnnw ei urddo. Tipyn o gnaf oedd y tafarnwr—ie, wrth gwrs, marchog oedd ef, a urddwyd gan un arall yn ei dro. Felly, urddo'r Don o ddireidi, a dywedyd wrtho fod eto un peth ar ôl-nid oedd ganddo Yswain i'w ganlyn. Rhyfedd fu gan y Don anghofio peth mor anhepgor, ac wedi amryw helyntion digrif yn y dafarn ac ar y ffordd, adref ag ef, a llogi gwladwr o'r ardal, Sancho Panza wrth ei enw, yn yswain iddo. Er bod lle i gasglu oddi wrth y disgrifiad nad oedd Sancho yn ŵr golygus, y mae ef yn sicr yn llawenydd tros byth.

Wedi cael yr yswain, er gwaethaf y ferch oedd yn cadw ei dŷ, ei nith a'i gyfeillion yr offeiriad a'r barbwr, cychwynnodd y Don eilwaith ar ei grwydr ben bore, a Sancho i'w ganlyn. O hynny allan cyferfydd y Don â'r anturiau digrifaf a gyfarfu marchog crwydrad erioed, megis ymosod ar felin wynt gan gredu mai cawr ydoedd; rhuthro ar ddwy yrr o ddefaid gan dyngu mai dwy fyddin anferth oeddynt; ymosod ar deithwyr ar y ffordd, gan eu cyhuddo o bob math o drosedd; dwyn dysgl bres oddi ar farbwr pentref gan daeru mai helm Mambrino (arwr un o'r rhamantau) ydoedd; gollwng yn rhydd haid o ladron oddi ar y swyddogion oedd yn eu dwyn i garchar. Un o'r anturiau digrifaf yn rhan gyntaf y rhamant, onid yn y llyfr i gyd, yw Cyfranc y Melinau Gwynt, ac ni ellir mewn ysgrif fer roi gwell syniad am y gwaith, efallai, na thrwy gyfieithu'r hanes yn lled lawn. Gwasanaethed hyn o gynnig hyd oni chaffer ei well: {{quote| Ar hyn, gwelsant ddeg ar hugain neu ddeugain o felinau gwynt sydd yn y fro honno. Cyn gynted ag y canfu'r Don hwy, meddai ef wrth gludwr ei darian:

"Y mae ffortun yn trefnu pethau yn amgenach i ni nag y gallem ei ddymuno, oherwydd gwêl acw, gyfaill Sancho Panza, dacw ddeg ar hugain neu dipyn rhagor o gewri anferth, a meddwl yr wyf am ymladd â hwy, a dwyn oddi arnynt eu bywydau i gyd. Ac â'r ysbail a gawn, dechreuwn ymgyfoethogi, canys rhyfel da yw hwn, a mawr wasanaeth i Dduw yw symud y fath hil ddrygionus oddi ar wyneb daear."

"Pa gewri?" ebr Sancho.

"Y rhai a weli draw," medd ei gyfaill, "a'r breichiau hirion, canys y mae i rai ohonynt freichiau dwy lêg (dos leguas) o hyd."

"Gweled eich mawredd," medd Sancho, "nad cewri mo'r pethau a welir yn y fan acw, ond melinau gwynt; a'r pethau sy'n edrych fel breichiau, esgyll ydynt, a'r rheiny, wrth i'r gwynt eu troi, sy'n gyrru maen y felin."

"Hawdd gweled," meddai'r Don, "na wyddost ti nemor am anturiau fel hyn! Cewri ydynt, ac od oes arnat ofn, cilia draw, a gweddïa tra bwyf innau mewn ffyrnig ac anghyfartal gyfranc â hwy."

A chan ddywedyd hyn, ysbarduno ei farch Rocinante a wnaeth ef, heb wrando ar grïau Sancho,pan oedd hwnnw eilwaith yn dywedyd wrtho mai melinau gwynt ac nid cewri oedd y pethau yr âi ef i ymosod arnynt. Ond cyn sicred oedd ef mai cewri oeddynt fel na chlywodd lefau ei yswain Sancho, ac na welodd ychwaith pa beth oeddynt er agosed atynt ydoedd. Myned a wnaeth gan ddywedyd â llef uchel: "Na ffowch, y creaduriaid salw, canys un marchog sydd yn dyfod i'ch erbyn!"

Cododd ar hynny chwa o wynt, a dechrau ymsymud o'r esgyll mawrion, ac wrth weled hynny, meddai'r Don Quijote: "Pe symudech fwy o freichiau na'r cawr Briareus, mi baraf i chwi orfod talu!"

A chan ddywedyd hynny, ac ymgymeradwyo â'i holl galon i'w arglwyddes Dulcinea, a chrefu arni yn y fath berygl ei swcro, yng nghysgod ei fwcled, a'i baladr yn ei le, cyrchu a wnaeth â holl nerth carlam Rocinante, ac ymosod ar y felin gyntaf rhagddo. A phan oedd ef yn gwanu'r asgell â'i baladr, fe'i troes y gwynt hithau mor chwyrn nes hollti'r paladr yn ddellt, a chodi gyda'r asgell farch a marchog, a'u rholio'n ddrwg iawn eu sut ar y maes.

Cyn gynted ag y gallai ei asyn redeg, prysurodd Sancho i'w swcro, a phan ddaeth ato, cafodd na allai symud, gan mor dost fu ei gwymp ef a Rocinante.

"Duw fo'm gwarchod!" ebr Sancho, "oni pherais i'ch mawredd edrych pa beth yr oeddych yn ei wneud, ac nad oedd yma ond melinau gwynt ? Ac ni phallai neb wybod hynny chwaith, ond a fynnai beidio!"

"Taw dithau, gyfaill Sancho," meddai'r Don Quijote, "canys bydd troeon rhyfel, yn fwy nadim arall, yn agored i newid parhaus. Credu'r wyf, a gwir yw hynny hefyd, mai'r dewin Freston, hwnnw a'm hysbeiliodd eisoes o'm cell a'm llyfrau, a droes y cewri hyn yn felinau, er mwyn dwyn oddi arnaf y glod o'u trechu-cymaint yw ei elyniaeth ataf. Ond gwnaed ei waethaf, ni thâl ei ddrwg swynion ond ychydig rhag grym fy nghleddyf i!'

"Duw a roddo mai felly y bo, yn ôl ei allu!" meddai Sancho, gan ei gynorthwyo i godi a'i ddodi ar gefn Rocinante, oedd eisoes wedi hanner rhoi ei ysgwydd o'i lle.

Diwedd y rhan gyntaf o'r llyfr yw bod yr offeiriad a'r barbwr yn dyfod, wedi ymddieithro, ac yn dal y Don yn ei gwsg, ei ddodi mewn cawell a'i ddwyn adref, yn gadarn yn ei gred bod ei elynion, y dewiniaid, wedi dodi hud arno. Gobaith ei gyfeillion oedd y buasai ef yn dyfod i'w bwyll ar ôl ei gael adref, ond gobaith ofer fu.

Yn yr ail llyfr ceir hanes trydydd cynnig y Don. Cychwynnodd a Sancho i'w ganlyn fel o'r blaen, ac y maent yn cyfarfod â lliaws o helyntion tebyg i rai'r cynnig cyntaf a'r ail. Y mae'r awdur erbyn hyn yn manteisio ar gyhoeddiad y rhan gyntaf o'r llyfr drwy ddangos bod pobl yn gwybod hanes y Don, a thrwy hynny yn darparu pethau rhyfedd ac ofnadwy i'w dwyllo, er mwyn difyrrwch. Cyrhaedda'r ddau i gastell rhyw Ddug goludog, ac yno y mae'r Don yn gwneud gwrhydri anhygoel yn ei feddwl ei hun, er mawr ddi- fyrrwch i bawb arall. Yno hefyd gwneir Sancho yn llywodraethwr ar ynys ddychmygol Barataria- yr oedd ei feistr wedi addo iddo ar y dechrau y caffai swydd urddasol felly wedi iddo yntau orfod ar ei elynion. Y mae barnedigaethau Sancho yn ystod y deng niwrnod y bu yn y swydd honno yn rhyfeddol o ddoeth. Wedi llawer cyfranc, y diwedd yw bod Sanson Carasco, ysgolor o ardal y Don, wedi ymddieithro fel marchog, yn dyfod ac yn herio'r Don i ymladd, yn ei orchfygu, ac yn rhoi arno, yn ôl yr amodau, fyned adref ac ym wrthod am flwyddyn â dwyn arfau, gan obeithio y deuai felly i'w synhwyrau. Ufuddha'r Don yn drist i'r amodau, ond wedi cyrraedd adref, y mae'n clafychu ac yn marw, ond nid cyn gweled ei ffolineb a melltithio'r llyfrau marchogwriaeth yn eu crynswth.

Dyna rediad y chwedl. Galwodd Heine hi "y gogan mwyaf yn y byd ar frwdfrydedd Yr oedd Cervantes yn oganwr heb ei ail. Nid ysgrifennwyd erioed ddim mwy miniog, ond odid, na'i ragymadrodd i'r rhan gyntaf o'r llyfr. Cymer arno ei fod wedi anobeithio cyhoeddi'r gwaith, o ddiffyg anerchiadau gan wŷr enwog i'w rhoi ar y dechrau, dyfyniadau dysgedig, a rhes o awduron ar y diwedd. Dywedodd ei benbleth wrth gyfaill, fel y crybwyllwyd eisoes. Dyma gyngor y "cyfaill":

Am nodi ar yr ymylau ym mha lyfrau a chan ba awduron y cawsoch yr ymadroddion a'r dywed— iadau a ddodasoch yn yr hanes, nid oes ond dwyn i mewn yn gymwys bethau a wypoch ar eich cof, neu o leiaf bethau na chostio ond ychydig drafferth i chwi ddyfod o hyd iddynt, megis, pan sonioch am ryddid a chaethiwed, dodi: Non bene pro toto libertas venditur auro, ac ar yr ymyl nodi Horas, neu bwy bynnag a'i dywedodd. Os trin y boch am gryfder angau, dodwch yno—

Pallida mors æquo pulsat pede
Pauperum tabernas, regumque turres.

Os am garu gelynion yn ôl gorchymyn Duw, ewch at yr Ysgrythur Lân, lle gellwch ei gael ag ychydig chwilio, a dodi geiriau Duw ei hun: "Ego autem dico vobis diligite inimicos vestros." Os trin y boch am feddyliau drwg, ewch at yr Efengyl: "De corde exeunt cogitationes malæ." Os am anwadalwch cyfeillion, dyry Cato ei bennill:

Donec eris felix, multos numerabis amicos,
Tempora si fuerint nubila, solus eris.

A rhwng y darnau Lladin hyn ac eraill tebyg, odid na chyfrifir chwi yn ramadegwr. Dyma ni yn awr yn dyfod at y rhestr o'r awduron Hawdd iawn gwella hynny, canys nid oes i chwi ddim arall i'w wneud ond chwilio am lyfr yn eu cynnwys oll o'r dechrau i'r diwedd (desde la A hasta lo Z).. Pe bai'n gelwydd golau, oherwydd lleied angen a fyddai arnoch eu chwilio, nid yw bwys yn y byd; dichon y bydd rhywun mor syml a chredu ddarfod i chwi eu chwilio i gyd yn eich hanes syml a chywir. A phe na wasanaethai ddim arall, o leiaf fe wasanaetha'r rhes hir o awduron. i roi rhyw awdurdod i'r llyfr. A rhagor, pwy a ymrydd i brofi a ddarfu i chwi eu canlyn pryd na chaffo ddim am hynny?

Dyma ddinoethi crach ddysgeidiaeth yr oes (a phob oes, o ran hynny), ac nid rhyfedd dynnu o'r awdur lawer yn ei ben. Y mae rhagymadrodd yr ail rhan, a darnau eraill ohoni cyn llymed a'r uchod neu lymach, ond er y cwbl nid oes wenwyn yn Cervantes. Os ei waith ef yw'r "dychan mwyaf ar frwdfrydedd dyn," da oedd ei sgrifennu. Hen gamgymeriad yw meddwl na ddichon neb ddychanu heb falais a surni. Y mae cydymdeimlad Cervantes â phob math o ddynion mor eang, a'i ddoniolwch mor siriol a rhadlon fel nad oes ynddo le i wenwyn. Er mai goganu'r llyfrau marchogwriaeth oedd un o'i amcanion, tyfodd y gwaith yn fwy na hynny dan ei ddwylaw. Onid yw ef yn caru ei gymeriadau, y Don, Sancho, yr offeiriad, y barbwr, Carasco a'r Dug a'r Dduges, a hyd yn oed y rhai sy'n sefyll dros ddosbarthiadau neilltuol, megis y tafarnwyr, y gweision a'r gyrwyr mulod? Ni buasai hyd yn oed y Don yn wrthun pe na bai'n rhywbeth mwy na delw bren i'w tharo i lawr. Hwyrach fod ei urddas yn chwithig yn aml, a'i areithiau, pan fo'n siarad yn gall ar brydiau, yn ddigon cyffredin, er maint y dotiai Sancho atynt, ond nid yw ei garedigrwydd na'i ddiniweidrwydd byth yn pallu. Beth bynnag oedd yr amcan ar y dechrau, tyfodd y Don yn gymeriad byw. Aeth gwybodaeth eang a phrofiad amrywiol Cervantes ei hun i'w lunio yn gymeriad nad ydys, er maint ei wallgof, yn ei gasáu na'i ddirmygu ddim, hyd yn oed oni bôm yn tosturio rhyw lawer ato, oddieithr pan ddygo ei bendro arno driniaeth arwach na'r cyffredin. Yr ydym yn ei dderbyn fel y mae, yn chwerthin am ei ben, yn synnu ato, ac yn rhyw deimlo'n garedig at wendidau meibion dynion wedi'r cwbl. Am Sancho, y mae ef yn enghraifft o'i ddosbarth, ac eto yn un ar ei ben ei hun. Er aruthred ei anwybodaeth a'i ofergoeledd, y mae ei gyfrwystra a'i bertrwydd yn ei wneud yn gydymaith o'r diddanaf. Y gwir yw bod ei ddiarhebion afrifed yn peri i'w ymddiddanion yn aml edrych yn bertach nag y buasai dyn yn disgwyl. Gwir fod Sancho, os yr un, yn bertach yn yr ail rhan o'r chwedl nag yn y gyntaf, ond nid yw hynny nac anghyson nac annaturiol, canys Sancho yw Sancho o'r dechrau i'r diwedd. Y mae Sancho mor anhepgor i'r ystori ag yw'r Don ei hun. Ym medrus gyferbyniad y naill a'r llall y mae un o ragoriaethau crefft yr awdur. Nid yw Cervantes heb ei feiau a'i anghysonderau, y mae'n ddiau. Mewn un lle, y mae lleidr yn dwyn mul Sancho; ar yr un tudalen, dywedir ei fod ef ar gefn y mul fel arfer; rhyw ugain tudalen ymhellach ymlaen, y mae Sancho yn cwyno ei golled drachefn. Ceir yn y chwedl ragor o bethau tebyg, ond pwy a ddywed nad gogan ar y rhamantau yw hynny? Hyd yn oed os nad e, "aliquando bonus dormitat Homerus," chwedl Sanson Carasco wrth sôn am yr anghysonderau hyn. Ers tri chan mlynedd, difyrrodd "Don Quijote" filoedd o ddarllenwyr ym mhob gwlad, a dysgodd iddynt lawer heblaw hynny. Pe ganesid yr awdur ryw gan mlynedd yn gynt ac iddo ysgrifennu ystori gyfartal ei rhagoriaeth, y mae'n lled debyg y buasai gennym gyfieithiad Cymraeg ohoni, mewn llawysgrif yn rhywle. Wedi dyfod ein rhyddhad a'n dyrchafiad mawr, tua'r adeg y ganed Cervantes, nid oedd angen i ni mwy ddysgu ond un iaith estron, na gwybod dim am glasuron y byd. Yr ydym bellach yn dirywio tipyn ac yn dysgu chwerthin unwaith eto. Efallai y cawn hanes y Don yn Gymraeg cyn bo hir!

(1905).

UHLAND

UN wedd ar ramantusaeth y ddeunawfed ganrif fel cyfnod yng ngorllewin Ewrop oedd blino ar ddefod a disgyblaeth y clasuron, neu ar ddefodoldeb diffrwyth dynwaredwyr y clasuron, efallai. Wedi bod beirdd ac eraill yn Lloegr yn sôn am y "barbarous Gothic" cyhyd, daeth tro ar fyd. Dyer, peintiwr a bardd o Gymro a ganai yn Saesneg, oedd un o'r rhai blaenaf i gyfnerthu'r atro neu'r datro. Yn y tiriogaethau Celtig, yr oedd diddordeb yn yr hen amser wedi parhau er yn gynnar, heb i un ffasiwn newydd wanychu rhyw lawer arno-ceir ef yn helaeth yn y chwedlau a'r cerddi Osianaidd yn Iwerddon, a'r oldroad hwn, yn wir, sydd wrth wraidd mudiadau cenedlaethol pob tiriogaeth orchfygedig a lywodr aethir drwy orthrech, ac nid yw rhamantusaeth, hwyrach, ond buddugoliaeth y gorchfygedig, mewn rhyw wedd neu gilydd.

Ymhlith Celtiaid cyfarwydd â'r Saesneg fe gymysgodd yr hen ddiddordeb yn yr amser gynt â'r osgo newydd a ddaeth yn Lloegr, a daeth yr elfen Geltig hithau i mewn i'r peth yn y wlad honno hefyd. Felly y cafodd gwaith Macpherson groeso, ac yr aeth dynion, megis yr aeth Macpherson. ei hun, a rhai o'i feirniaid Seisnig a Chymreig, ar deithiau i chwilio am hen lawysgrifau a hynafiaethau (y mae lle i ofni, yn wir, mai un o'r beiau mwyaf ar Macpherson oedd iddo gael hyd i ddeunydd cymaint gwell, beth bynnag am hŷn, nag a gafodd y lleill!) Aeth yr ysfa yn gymaint o ffasiwn nes bod gwŷr bonheddig yn llogi crefftwyr i adeiladu "adfeilion" yn eu gerddi a'u parciau ac i blannu coed ar ddull arbennig o gwmpas eu tai, er mwyn peri i'r wlad edrych yn wledig a rhamantus. Cymerth dyn fel yr Esgob Percy ddiddordeb mewn hen faledi, gan eu casglu (a thrwsio tipyn arnynt hefyd, o ran hynny). Yr oedd gradd o'r un dylanwad ar ddiddordeb hynafiaethol y Morysiaid, Ieuan Brydydd Hir a Iolo Morganwg, er bod elfennau eraill yn y diddordeb hwnnw hefyd. Yr oedd Iolo yn sicr mai dyled y chwilotwyr oedd copïo pethau'n ffyddlon air am air fel y caent hyd iddynt, ac nid ffugio pethau fel y gwnâi Macpherson—sylw diddorol odiaeth, erbyn hyn. Enghraifft ychydig diweddarach a pheth o ôl y gymhleth Gymreig arni, ond odid, yw "Barzaz Breiz" Villemarqué yn Llydaw.

Aeth dylanwad Macpherson, o leiaf, i'r Cyfandir, gan gymysgu, y mae'n ddiau, â thueddiadau'r cyfnod i'r un cyfeiriad yno, ac arwain i ddatblygiad y cerddi gwerinddull (os ceir llunio term cyfleus am gerddi wedi eu seilio ar hen chwedlau gwlad a'u cyfansoddi yn ôl dull y cerddi gwerin, neu fel datblygiadau ar oddeuon y tybid eu cael mewn cerddi felly). Y mae hanes cyfodiad, ymlediad a dadfeiliad y peth yn hanes hir a diddorol dros ben. Rhydd hanes a gweithiau Uhland yn arbennig oleuni ar yr ymweithiad yn yr Almaen. Ganed ef (1787) mewn cyfnod pryd yr oedd i ramantusaeth apêl gref at lawer o bobl. "Brodor oedd," medd un o'i fywgraffyddion, "o ardal brydferth; gwelir yma glogwyni coediog, adfeilion cestyll llawn diddordeb hanesyddol, ac acw drumau llwydoer yn gloywi yng ngoleuni machlud haul. Nid pell iawn oedd adfeilion cestyll Hohenzollern a Hohenstauffen, lle bu brenhinoedd grymus yn byw. Tueddai popeth at ddeffro'r elfen ramantus yn natur y bachgen." Dyna a geir yn ei gerddi, cestyll rhamantus a thristwch a dirgelwch coedydd mawrion o'u cwmpas; nodau cyfeiliorn clychau eglwys bell; llewych haul yr hwyr ar fynyddoedd, ceyrydd, cymylau a dyfroedd, marchogion a'u gwrhydri a'u gofid. Yr oedd hen lyfrau a chroniglau lawer yn nhŷ ei daid, a thyfodd ynddo yntau hoffter at hanes gweithredoedd marchogion ac arwyr oesau cynt. Daeth yn fedrus ar dynnu lluniau a gwneud cerddi Lladin yn hogyn yn yr ysgol, a gwnaeth lawer o ganiadau Lladin ac Almaeneg yn y cyfnod hwnnw, ond nid yr hen glasuron a ddug ei fryd. Ystori ag ynddi apêl at waed dyn ei hun yw gwreiddyn rhamant, honno sy'n troi golygfa hardd neu hyfryd i'r golwg yn "olygfa ramantus," a chrynswth o elfennau'r apêl honno yw rhamantusaeth. Clywodd Uhland ryw athro dysgedig yn darlithio, gan gymharu'r Odyssey, gweithiau "Osian" Macpherson a cherdd Ladin, gwaith rhyw fynach di-enw yn rhywle o'r wythfed i'r ddegfed ganrif, yn adrodd hanes Walthar o Aquitain, a gymerwyd yn wystl gan Attila ac a ddihangodd adref wedi hynny drwy anturiaethau lawer. Deffroes hynny ynddo gariad mawr at hen lenyddiaeth o'r fath yma. "Mor hapus fyddwn," medd ef ei hun, "pan allwn gario 'Saxo Grammaticus,' yng nghyfieithiad Müller, neu yr 'Heldensage' adref gyda mi. O'r olaf y cefais fy hoffter at yr hen chwedlau gogleddig. O'r 'Heldensage' y cymerais bwnc cerdd 'y Brenin Dall."" Hanesydd a bardd Danaidd o'r ddeu ddegfed ganrif oedd Saxo Grammaticus, a gasglodd draddodiadau'r Daniaid yn llyfr, a elwid "Gesta Danorum" neu "Historia Danica."

"Y peth yr oedd cerddi clasurol," medd Uhland yn un o'i lythyrau, "er gwaethaf dyfal ddarllen, yn methu a'i roddi i mi, am eu bod yn rhy glir, yn rhy orffenedig; y peth yr oeddwn yn methu â'i gael mewn barddoniaeth fwy diweddar, a'i holl addurn hyawdl, fe'i cefais yma. Yr oedd lluniau byw a ffurfiau, a thu draw iddynt bellter dwfn, yn synnu ac yn swyno'r dychymyg."

Y mae cerdd "Y Brenin Dall" cystal enghraifft ag a ellir ei chael o'i gerddi yn y cyfnod hwn, a rhydd i ni syniad da am grefft y gerdd werinddull hefyd. Seiliwyd hi ar chwedl am y brenin Danaidd Wermund. Pan oedd Wermund yn hen ac yn ddall, heriwyd ef gan frenin y Sacsoniaid i roi ei deyrnas iddo ef, gan na allai ef mwy edrych ar ei hôl ei hun; neu ynteu yn niffyg hynny ganiatáu i'w fab ymladd â mab y brenin Sacson amdani. Cynigiodd Wermund ymladd ei hun â'r Sacson, ond ni fynnai hwnnw ymryson â gelyn dall. Mynnai'r cenhadon ar hynny fod i'r ddau fab ymladd. Yr oedd i Wermund fab a'i enw Uffo, yn freisgach a chryfach na neb cyfoed. ag ef, ond ystyrid mai prin o ddeall ac ysbryd ydoedd. Pa un bynnag, cynigiodd Uffo ymladd â mab y brenin Sacson ac a'r glewaf y gallai hwnnw ei ddwyn i'w ganlyn hefyd. Llawenychodd yr hen frenin yn fawr glywed hyn, ac ni allai gredu mai ei fab ef ydoedd nes ei deimlo â'i ddwylaw. Yn ôl hen arfer, dewiswyd ynys yn afon Eider fel lle'r ymryson. Yr oedd "Skrep," cleddyf enwog na safai dim rhagddo, wedi ei gladdu yn y ddaear, am na allai'r brenin ei ymddiried i'w fab ac am nas rhoddai i arall. Cyrchwyd y llafn weithian a'i roddi i'r twysog. Safodd y bobl ar lan yr afon, ond safodd y Brenin Dall ar ben y bont, yn barod i'w fwrw ei hun i'r dwfr os trechid ei fab. Sylwer ar fanylion teimladus yr amgylchiadau. Y diwedd, fel y gellid disgwyl, yw bod Uffo yn lladd y ddau elyn—dyna'r gwahaniaeth rhwng anwes y cyfnod hwnnw ag eiddo'n cyfnod ni, er enghraifft, pryd y byddem debycach o roi'r fuddugoliaeth i'r treisiwr, a dyfnhau effaith ein crefft drwy deimlo bod rhywbeth yn arwraidd ynom fel dynion yn wyneb anesgorwch ein tynged, bron fel y bydd y dyn mewn claddedigaeth, a ddangoso ryw gadernid uwchraddol, megis. Ond dyma sut y trinodd Uhland y deunydd, gan ei ramantuso yn null ei gyfnod yntau. Rhwng y ddau yn rhywle, hwyrach, y down ninnau'r dynion cyffredin â'n hanwes ein hunain yn ein tro. Ni ddaw'r cyfieithiad, wrth gwrs, ddim yn agos at y gerdd gysefin:

Paham y mae'r gogleddig lu
Yn sefyll ar y lan?
A'r brenin dall a phenwyn fry,
Beth fynnai yn y fan?
Mewn chwerw ing resynus,
A'i bwys ar ben ei ffon,

Fe eilw nes yw'r ynys
Yn datsain dros y don.

"O'th ogof, dreisiwr," meddai ef,
"Rhyddha fy merch i mi!
Ei thelyn hi a'i pheraidd lef
Oedd braint fy henaint i;
O'r ddawns ar lan flodeuog
Drwy drais y dygaist hi;
I ti mae gwarthrudd euog
A phlygu 'mhen 'rwyf i."

Ar hyn y treisiwr yntau'n hy
O'i ogof allan daeth,
A chwyfio'i gawraidd gleddyf fry
A tharo'i darian wnaeth;
"Mae iti lu o wylwyr,
Pam y'th adawant di?
Onid oes un o'th filwyr
A ymladd erddi hi?"

A mud yw'r llu ac ni ddaw un
Ymlaen ohonyn' hwy;
Medd yntau'r Brenin Dall ei hun.
Ai unig ydwyf mwy?"
Ond ar ei fraich mae gafael
Ei fab ieuengaf ef:
"Gad imi yr ymrafael,
Y mae fy mraich yn gref!"

"O fab! mae'r gelyn megis cawr,
Nid oes a'i ceidw draw!
Ond ynot ti mae mêr y dewr,
Mi wn wrth bwys dy law;

Dwg im' hen gledd y teulu-
Pen moliant beirdd di-rif,
A llyncer fi os ffaeli,
Hen llwyd o dan y llif!"

Ust! sua'r dyfroedd draw a ylch
Y cwch yn ewyn gwyn,
A gwrendy 'r Brenin Dall; o'i gylch
Mae pawb yn tewi'n syn;
A chlywir acw dincian
Y dur ar darian lefn,
Rhyfelgri groch a rhincian
Ac atsain gwag drachefn.

Rhwng ofn a gobaith, cyfyd cri
Yr henwr: "Beth y sy?
Fy nghledd, ei dinc a adwaen i,
O rym ei fath ni fu."
"Fe gwympodd yr ysbeilydd.
A gwobrwy gwaed a gadd;
Hawddamor, fab di-eilydd
O rym a breiniol radd!"

Distawrwydd eto ar bob tu,
A gwrendy'r henwr syn:
"Pa beth yw'r siffrwd draw a'r su
A glywaf dros y llyn?"
"Dy fab a'i gledd a'i darian
Sy weithian dros y lli
Yn nesu at y marian,
A'th ferch ben-felen di!"

"Hawddamor!" medd y Brenin Dall
O ben y clogwyn mawr,

"Fy henaint, llawenhau a all
A'm bedd fydd gwiw yn awr;
I mi fy nghywir gleddyf,
Fy mab, a ddygi di,
A'm merch, cei mewn tangneddyf
Ganu fy marwnad i!"

Tebyg yw "Die Sterbenden Helden," cerdd arall a wnaeth y bardd yn ei ieuenctid dan ddylanwad Saxo Grammaticus. Yn honno y mae tad a mab yn marw ar faes brwydr. Cwyna'r mab ei gipio ymaith oddi wrth ei gariad a'i gerddau, ond dywed y tad wrtho y caiff ei dderbyn i deml Odin, lle rhydd ei gariad eto iddo'r cawg aur yn y wledd. Yr un teimlad sydd yn y cerddi hyn ag a gawn yn "Osian" Macpherson, ac apêl rhamant bore oes dyn sydd ynddynt, y mae'n ddiau, apêl sy'n pylu gyda blynyddoedd o ddidwyllad dyn i raddau mawr, efallai, ond nad annaturiol moni i'r rhai a all, chwedl Lessing, droi oddi wrth heddiw a'i oddef ac yfory a'i farw at ddoe a'i ddiniweidrwydd!

Er mwyn dilyn ei hoffter, astudiodd Uhland Ffrangeg, Saesneg ac Ysbaeneg, a chwiliodd yn ddyfal am hen gerddi cenedlaethol, er mwyn deall pa leferydd a roddid i fywyd gwerin y gwledydd ynddynt. Ceir yr un elfen yn ei gerddi natur. Ysgrifennodd rai dramâu, ond y delyneg a'r faled oedd ei gyfryngau naturiol ef. Gyda'i ddysg a'i flynyddoedd, cynhyddodd ei fedr, y mae'n ddiau, fel y dywed y beirniaid, ond ceir y syndod a'r peth anghyffwrdd yn ei waith o hyd. Un o'i faledau gorau yw "Harald." Seiliwyd hi ar chwedl a geir mewn hen faled Ysgotaidd, a bwriadwyd iddi fod yn rhan o ddrama nas gorffennwyd:

Marchogaeth draw ar flaen ei gad
O Harallt bennaeth hy,
A hwylio o'r llu wrth olau'r lloer
Drwy ganol coedwig ddu.

Yn uchel chwyfiant yn y gwynt
Faneri llawer cad,
A chanant lawer rhyfel gerdd
Yn uchel dros y wlad.

Pa ruthro a llithro drwy y llwyn ?
Drwy'r coed ba symud sy?
Pa beth yn ewyn dwfr y nant
A syrth o'r cwmwl fry?

Pa daflu blodau o bob tu ?
Pa ganu o ryfedd rin?
A phwy a naid ar gefnau'r meirch,
A ddawns drwy rengau'r drin?

Pa fannu mwyn, pa finio mêl,
Pa beth sy'n dal pob un ?
Yn taflu'r marchog, dwyn y cledd,
Heb ado hedd na hun?

Llu mân y Tylwyth Teg yw'r rhain,
Ni thycia ymladd drud;
Mae'r milwyr eisoes wedi mynd,
Maent oll yng ngwlad yr hud.

Nid ery ond y rhi ar ôl,
Sef Harallt bennaeth pur;
Ac ef o'i ben i wadn ei droed
Mewn gwisg o galed ddur.

Ei lewion oll, cymerir hwy,
Mae'u harfau ar y llawr,
A'u meirch yn weilydd drwy y coed
Yn crwydro'n wyllt yn awr.

O le i le yn drist ei fryd
A Harallt bennaeth hy,
Yn unig wrth oleuni'r lloer
Ar hyd y goedwig ddu.

Gwêl ffrwd o'r graig yn llifo'n glir,
O'r cyfrwy naid y gŵr,
A thynnu'r helm oddi am ei ben
I yfed diod ddŵr.

Ond cyn bod torri ei syched ef,
Diffygia droed a llaw,
Rhaid iddo eistedd wrth y graig,
A thrymgwsg drosto a ddaw.

A huno ers llawer canmlwydd hir
Mae e ar odre'r allt,
A'i ben yn gorffwys ar ei fron,
Yn wyn ei farf a'i wallt.

Pan fo daranau croch a mellt
Yn crynu'r goedwig ddu,
Palfalu am ei gledd drwy'i hun
Y bydd y pennaeth hy.

Cyfieithwyd "Das Schloss am Meere" o'r eiddo i'r Gymraeg fwy nag unwaith eisoes, ac eraill o'i delynegion hefyd, ac ni buont heb ddylanwadu, gyda thelynegion beirdd eraill o'r Almaen, Heine yn enwedig, ar delynegion Cymraeg y ganrif hon. Peth diddorol iawn i ddarllenwyr Cymraeg hefyd yw sylwi bod ganddo'n fynych gynghanedd a alwem ni yn gywir wrth ein rheolau ein hunain, megis y llinellau a ganlyn o gerdd "Harallt," er enghraifft:

Durch einen wilden Wald
(Drwy ryw goedwig wyllt).

Was kost so sanft, und küsst so süss
(Pa beth sy'n cyffwrdd mor esmwyth ac yn cusanu mor felys).

Wohl durch den weiten Wald
(Ar hyd y goedwig lydan).

Gellid yn hawdd bigo llawer o enghreifftiau tebyg o'i waith, a rhagor fyth heb ateb yn llwyr i'r rheolau Cymraeg.

(1905).

TENNYSON

NI bu gyfnod mwy diddorol yn hanes barddoniaeth Saesneg, hwyrach, na'r cyfnod y mae "Oes Victoria" yn enw digon cyfleus arno. Yn y cyfnod hwnnw y llonyddodd cyffro ac y dyfnhaodd rhediad rhai o syniadau'r cyfnod o'i flaen, cyfnod cynhyrfus a disglair Shelley a Byron, Wordsworth a Coleridge. Cyfnod tymhestlog oedd hwnnw, ac ysbrydión ystormus oedd ei feirdd gorau. Pan aeth y dymestl heibio, cododd to o feirdd llai tanbaid a dynion mwy cyffredin. Ac eto yng ngwaith gorau'r beirdd hynny, ceir meddwl newydd, a chip olwg ar bethau y bydd y gwybodau manwl yn eu dysgu fel gwirioneddau cyn bo hir, efallai; canys bydd greddf y bardd, ar brydiau, yn gweled pethau nas cenfydd gwybodaeth fanwl am oes, neu oesau, ar ei ôl.

All we have willed or hoped or dreamed of good shall exist;
Not its semblance, but itself; no beauty, nor good, nor power,
Whose voice has gone forth, but each survives for the melodist
When eternity affirms the conception of an hour.

Felly y canodd Browning, y mwyaf ei ffydd o'r holl feirdd, ac onid rhaid eisoes gydnabod bod llawer peth yn bosibl na buasai gwybodaeth oes Browning yn ei gydnabod? Cymerer rhai o syniadau'n cyfnod ni am fater a meddwl yn enghraifft o'r hyn y cyfeirir ato. "When eternity affirms the conception of an hour." Hynny yw, pan welom yn eglurach ac yn ein hymyl, megis, beth a welodd y bardd ymhell, megis wrth olau mellten. Yn wir, gellid ysgrifennu traethiad diddorol ar y gosodiad nad oes yn amhosibl ddim y gallo meddwl dyn ei ddychmygu.

Un o feirdd mwyaf "Oes Victoria," onid y pennaf ohonynt, oedd Tennyson. Ganed ef yn y flwyddyn deunaw cant a naw. Offeiriad oedd ei dad, a merch i offeiriad oedd ei fam. Dechreuodd fynd i'r ysgol yn saith oed, ond cymerth ei dad ef dan ei addysg ei hun cyn hir. Yna danfonwyd ef i Gaer Grawnt, lle bu am ysbaid, ond ymadawodd heb ei raddio, pedfai hynny rywbeth. Bu'n ymladd â thlodi am rai blynyddoedd wedyn, ond o'r diwedd, yn bennaf drwy ymdrech Carlyle, cafodd bensiwn o ddau gant o bunnau yn y flwyddyn; dechreuodd ei weithiau dalu iddo, ac ar ôl hynny gwnaed ef yn fardd y Goron, a chafodd fyd eithaf esmwyth a dibryder hyd y diwedd. Y mae'n debyg na bu erioed yn dlawd iawn, fel y cyfrifid tlodi ymhlith beirdd, ac am hynny, na wybu anobaith gymaint â llawer un. Ol bywyd gwastad a gweddol ddibryder sydd ar ei weithiau, ac ymdrechion yr ysbryd yn hytrach na thrafferthion yr ystumog, oedd ei ymdrechion ef—mwy o ofn marw nag o ofn methu byw.

Dechreuodd ganu yn ieuanc—rhwng pedair ar ddeg a phymtheg oed—a phan oedd yn ddwy ar bymtheg, cyhoeddwyd "Poems by Two Brothers," ganddo ef a'i frawd, Charles. Yng Nghaer Grawnt, cafodd gymeradwyaeth ei gyd ysgolheigion fel bardd, ac enillodd wobr am gerdd pan oedd yn ugain oed. Cyn iddo adael Caer Grawnt, cyhoeddwyd ei "Poems, chiefly Lyrical." Derbyniad cymysg a gafodd ei waith, ond yr oedd y rhan fwyaf o'r beirniaid yn ei ganmol, rhai ohonynt yn ei ganmol yn uchel iawn. Cyhoedd odd ei weithiau yn lled gyson ar ôl hynny. Ymhlith y rhai mwyaf gellir nodi "The Palace of Art," "The Princess," "In Memoriam," "Maud," "Idylls of the King," "Enoch Arden," ac amryw fugeilgerddi a chwaraegerddi. Cafodd ei weithiau dderbyniad croesawus, at ei gilydd, ac ystyrid ef yn ddiau yn ben bardd ei oes.

Fel y dywedwyd, cafodd fywyd lled wastad, ac y mae ôl hynny ar ei waith. Dilynodd gyfnod tymhestlog ond disglair, fel y soniwyd eisoes, a pharodd y dylanwadau a wnaeth Shelley a Byron yn ddiwygwyr tanbaid ei fod yntau'n Rhyddfrydwr cymedrol. Ond ni chwbl ryddhawyd ef tra bu fyw rhag dylanwad awyr glerigol ei gartref, neu yn hytrach, rhag y dylanwadau cymdeithasol oedd yn yr awyr honno. Digon rhyfedd bod Southey a Wordsworth yn Geidwadwyr er eu bod o darddiad gwerinol; bod Tennyson yn Rhyddfrydwr cymedrol, er ei fod o ddosbarth lled geidwadol, a bod yn rhaid cael pendefigion fel Byron a Shelley i fod yn yr eithaf arall. Gellir casglu na ddihangodd Tennyson yn llwyr rhag swyn y syniadau chwildroadol a daniodd ddychymyg Byron a Shelley yn y cyfnod o'i flaen. Aeth am dro i'r Pyrenees tua'r flwyddyn 1831, a chyfarfu yno â'r ffoaduriaid a ruthrodd yn erbyn llywodraeth Ysbaen dan arweiniad Torrigo, ac a laddwyd agos bob un pan laniasant ym Malaga ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Ond os oedd ganddo gydymdeimlad â'r chwil drowyr oddi cartref, yr oedd ganddo gryn barch i awdurdod a threfn yn ei wlad ei hun, ac y mae ôl y wers honno, a ddysgwyd mor dda i Saeson erioed—y wers ar ddyletswydd pobl gyffredin i barchu'r mawrion a bodloni ar eu gweithredoedd—ar ei waith yntau, hyd yn oed er bod ei duedd at fath o ryddfrydiaeth gymedrol yn ddigon eglur hefyd. Mewn cân a ysgrifennodd i gyfeilles, dywedodd:

In rick-fire days,
When Dives loathed the times, and paced his land
In fear of worse,
And sanguine Lazarus felt vacant hand.
Fill with his purse;
For lowly minds were madden'd to the height
By tonguester tricks,
And once I well remember that red night
When thirty ricks,
All flaming, made an English homestead Hell—
These hands of mine
Have helped to pass a bucket from the well
Along the line.

Dyma lun a ddengys na wnaed Tennyson i gyfranogi mewn chwyldroadau; yr oedd gweled ychydig deisi ar dân yn ddigon o fraw iddo, ac ni welai lawer oddi tan y cwbl ond y "tonguester tricks"—castiau cynhyrfwyr. Ceir yr un teimlad yn "Locksley Hall" a "Maud"; ac yn y gerdd "Love thou thy Land," ceir y llinellau a ganlyn:

But pamper not a hasty time,
Nor feed with crude imaginings
The herd, wild hearts and feeble wings,
That every sophister can lime.

Ym mhob cyfeiriad o'i eiddo at Ffrainc, dengys fod ganddo ofn pob symudiad egniol mewn gwleidyddiaeth. Yn wir, y mae arwr "Locksley Hall" yn debyg o fod yn bortreiad da o Tennyson ei hun—dyn a chanddo ryw awydd am grwydro a gwneud rhywbeth, am fywyd egniol, ond yn rhy hoff o gwmffwrdd â sicrwydd ei ddosbarth, heb ddigon o dân i'w gario yn groes i'w fudd, ac am hynny yn ei dawelu ei hun drwy sôn am y "tonguester tricks" a'r "crude imaginings," fel y bydd pobl o'r un dosbarth yn gyffredin.

Fel y gallesid disgwyl, yn wyneb hyn, yr oedd gan yr amser a fu, traddodiad a rhamant, swyn mawr iddo. Dylanwadodd yr ysbryd a elwir yn "ysbryd clasurol" yn fawr arno. Medrai ymdaflu yn dda i syniad ei oes am feddwl y Groegiaid. Yn ei "Ulysses," y mae ysbryd y bywyd egniol. Cymerer y llinellau hyn, lle ceir ysbryd antur ac annibyniaeth:

Death closes all: but something ere the end,
Some work of noble note may yet be done,
Not unbecoming men that strove with gods.

Gwych oedd dynion a wynebai'r duwiau gynt, ond Duw a'n helpo rhag y dynionach-"the herd"-a fynnai ymryson â'u meistriaid am dipyn o degwch, yn hytrach na disgwyl yn ufudd wrthynt am grystyn yn awr ac yn y man. Yn yr ysbryd hwn, medrai Tennyson ganmol rhyfel a masnach fel pethau at wareiddio dynion. Eb efô:

These two crowned twins,
Commerce and conquest, shower the fiery grain
Of freedom broadcast over all that orbs
Between the Northern and the Southern morn.

Ac ym "Maud," y mae'r arwr yn cael gwellhad rhag drygau cymdeithas a'i wallgofrwydd ef ei hun, drwy fynd i ryfel. Y mae rhyfel yn beth da-yn rhywle arall, a chwildroad yn beth drygionus-gartref. Eto, fel cerdd, y mae "Ulysses" yn dodi Tennyson yn llawer uwch nag y dyd ei gerddi ar bynciau ei oes ei hun ef. Dwg ni yn ôl

Far on the ringing plains windy Troy,

a medr ein hatgoffa am eiriau beirdd Groeg ei hun. Y mae grym hefyd yn ei linellau syml:

It may be we shall touch the happy isles,
And see the great Achilles whom we knew,
Though much is taken, much abides; and tho'
We are not now that strength which in old days
Moved earth and heaven; that which we are, we are;
One equal temper of heroic hearts,
Made weak by time and fate, but strong in will
To strive, to seek, to find, and not to yield.

Onid dyna feistrolaeth ardderchog ar wir gamp yr elfen Anglo-Sacson yn Saesneg, ei geiriau byrion syml: Yn ei gerddi rhamantus, ni bydd ef mor llwyddiannus, oddi eithr yn rhai o'r telynegion. Yr oedd ganddo ddull arbennig ac effeithiol i godi golygfa o flaen y meddwl a dodi arni hud yr amser a fu. Ceir enghraifft ragorol o hynny yn "The Lady of Shalott":

Willows whiten, aspens quiver,
Little breezes dusk and shiver
Thro' the wave that runs for ever
Flowing down to Camelot.
Four gray walls and four gray towers
Overlook a space of flowers,
And the silent isle embowers
The Lady of Shalott.

Yr oedd ganddo ffordd dda at wneud ei ddisgrif iadau. Mewn llythyr a ddyfynnir yn ei Gofiant, dywedir:

There was a period in my life when, as an artist,—Turner, for instance,—takes rough sketches of landscapes, etc., in order to work them eventually into some great picture, so I was in the habit of chronicling, in four or five words or more, whatever might strike me as picturesque in Nature. I never put these down, and many and many a line has gone away on the north wind, but some remain.

Talodd hyn yn dda iddo, canys y mae camp ar ei ddisgrifiadau, a manyldeb effeithiol. Gellid codi lliaws o enghreifftiau, ond y mae a ganlyn, o'r "Lotus Eaters," yn sampl teg o'i fedr yn y peth hwn:

A land of streams! some like a downward smoke,
Slow—dropping veils of thinnest lawn, did go;
And some thro' wavering lights of foam below.
They saw the gleaming river seaward flow
From the inner land; far off, three mountain tops,
Three silent pinnacles of aged snow,
Stood sunset flush'd; and dew'd with showery drops,
Up—clomb the shadowy pine above the woven copse.

Yn y disgrifiadau hyn, a llyfnder ei gerdd, y mae rhagoriaeth y bardd, ond o ran ysbryd, pobl canol oes Victoria yw ei bobl, hyd yn oed pan gano ef yr hen ramantau, megis yn ystori ymadawiad Arthur. Yn y gerdd honno, y mae ei fedr disgrifio yn llenwi llinellau ystwyth, megis y rhai hyn:

So saying, from the ruin'd shrine he stept
And in the moon athwart the place of tombs,
Where lay the mighty bones of ancient men,
Old Knights, and over them the sea—wind sang
Shrill, chill, with flakes of foam. He stepping down.
By zig-zag paths, and juts of pointed rock,
Came on the shining levels of the lake.

Er bod tuedd yn yr ansoddair i ddyfod yn gyson o flaen pob enw, y mae ef yn dewis ei eiriau yn fanwl ac yn gweu'r gerdd yn fedrus, ond y mae araith Arthur yn rhy hir, a rhy debyg i fritho syniadau oes y bardd ei hun â geiriau ychydig yn fwy hen ffasiwn.

Cerdd go gymysg yw "Maud" yn adrodd am gariad a chas gŵr bonheddig wedi colli ei arian- a'i synhwyrau-ac yn barod i weld bai ar bawb a phopeth o'r herwydd, ystori garu, dipyn yn wyllt ac amhosibl. Y mae ynddi rai telynegion ardderchog, ac y mae ei mydryddiaeth yn gampus drwyddi. Anffawd oedd gladdu'r telynegion yng nghanol y fath enghraifft o'r "tonguester tricks er gogoniant milwriaeth. Gwan yw ei chlo, hyd yn oed fel ystori, ond wedi i ddyn o'i gof ladd brawd ei gariad, nid annaturiol iddo fynd i ladd dynion eraill mewn rhyfel a galw hynny'n was anaeth i Dduw a dyn. Gwaith lled gyffelyb yw "The Princess," sy'n dechrau mor debyg i nofel ffasiynol:

Sir Walter Vivian all a summer day
Gave his broad lawns until the set of sun
Up to the people; thither flock'd at noon
His tenants; wife and child, and thither half
The neighbouring borough with their Institute
Of which he was the patron. I was there
From college, visiting the son, the son
A Walter too,-with others of our set,
Five others; we were seven at Vivian-place.

Dyna ni-broad lawns, people, tenants, Institute, patron, college, visiting, the son, our set, Vivian-place, dyna'r dosbarth a'r cyfnod a'r mân siarad; yr ydym yn teimlo bod gan adroddwr yr hanes syniad dyledus am yr anrhydedd a roed arno. Efallai, wedi'r cwbl, mai dyma'r brydyddiaeth, neu'r frydyddiaeth, a dalodd i Tennyson yn ei oes. Ond wrth lwc, gwnaeth Tennyson lawer gwell gwaith. Os canodd i ferched ieuainc ag enwau neis ac ysgwieriaid ag wynebau'n rhythu fel cerrig nes gorgoneiddio pobl, canodd hefyd i feirdd a meddylwyr, ac nid oes reswm tros gredu na wyddai yntau'r gwahaniaeth hefyd. Dywed rhai mai chydig o'i delynegion yn unig a ddarllenir bellach. Ni synnwn i ddim, canys y mae'n gofyn tipyn o ddeall i ddarllen ei waith mwyaf—y gerdd a alwyd ganddo ef "In Memoriam." Anturiais eisoes ddywedyd mai ymdrech yr ysbryd yn wyneb tynged dyn oedd ymdrech wirioneddol Tennyson, ac yn yr "In Memoriam" y ceir hanes yr ymdrech honno. Yno y mae ef o ddifrif, a dyna'r gerdd o'r eiddo a adawodd fwyaf o'i hôl ar ei ddarllenwyr meddylgar, yr unig ddarllenwyr gwerth eu cael, wedi'r cwbl. Bu farw ei gyfaill, Hallam, yn 1833, ac ar ei ôl ef y canodd Tennyson y gerdd. Bu flynyddoedd wrthi, a rhoes ei orau ynddi. Dyna'r rheswm, efallai, paham y mae'n well gan rai o'r beirniaid ei delynegion ysgafnaf.

Wedi cyfnod egniol Shelley a Byron, Wordsworth a Coleridge, nid oedd ond naturiol ddyfod cyfnod tawel. Methodd amcanion uchel, a daeth digalondid. Ond yr oedd symudiadau eraill yn codi, yr hawl am ddiwygiadau gwleid yddol, y "Reform Bills," ac effaith y pethau yr oedd gwybodaeth yn dyfod o hyd iddynt. Ofn odd rhai fod y bobl—the herd—am drechu eu hen feistriaid, ac eraill fod y gwybodau am ladd yr hen grefydd. Ni allodd Tennyson gyd—gerdded a'r awydd ehangaf am ryddid gwladol, ond aeth ymhellach ar ryddid llwybr y meddwl yn yr ystyr grefyddol neu ysbrydol. Amcanodd drin rhai o bynciau gwleidyddol yr oes, megis yn "The Princess," cerdd ar bwnc hawliau'r merched, ond hanner difrif hanner digrif yw ei ddull, ac yn awyr ac amgylchiadau'r Oesau Canol y dewisodd ef drin ei fater. Ond yn yr "In Memoriam," gafaelodd yn un o bynciau ei oes, neu yn hytrach yn y meddwl dyfnaf oedd gan ei oes am gariad, Duw, ac anfarwoldeb. Ceir yn y gerdd odidog hon olwg ar bynciau gwybod a chrefydd fel yr oeddynt yn effeithio ar feddyliau dynion tua chanol y ganrif. Gwelwn fod y bardd yn derbyn y syniad cyffredin bellach am ffurfiad daear a dyn:

The solid earth whereon we tread
In tracts of fluent heat began
And grew to seeming random forms
The seeming prey of cyclic storms
Till at the last arose the man.


Gyda'r gred hon, y mae'n ddigon tebyg, y daeth ei amheuon a'i oriau tywyllion, am y rhai y canodd yn ddwys ac yn gywir:

You say, but with no touch of scorn,
Sweet-hearted, you, whose light blue eyes
Are tender over drowning flies,
You tell me, doubt is Devil-born.

I know not. one indeed I knew
In many a subtle question versed,
Who touched a jarring lyre at first,
But ever strove to make it true.

Perplext in faith, but pure in deeds,
At last he beat his music out,
There lives more faith in honest doubt,
Believe me, than in half the creeds.

Rhed yr ymdrech fawr hon drwy'r gerdd—Pa beth sydd wir? Pa beth a ddaw o ddyn? Ai marw fydd cariad, ac ofer? Ni allai'r bardd ddim credu hynny:

Still onward winds the dreary way,
I with it; for I long to prove
No lapse of moons can canker Love,
Whatever fickle tongues may say.

I hold it true, whate'er befall,
I feel it, when I sorrow most,
"Tis better to have loved and lost
Than never to have loved at all.


Drwy ei amheuon i gyd, ni all y bardd beidio â chredu y bydd cariad fyw byth, a bod i holl ddigwyddiadau'r byd ryw amcan pell. Anodd dyfod o hyd i ddim sicrwydd:

I stretch lame hands of faith, and grope,
And gather dust and chaff, and call
To what I feel is Lord of all,
And faintly trust the larger hope.

Drwy bob ymchwil ac ystyriaeth, i'r un fan y daw o hyd, ac ni osodwyd erioed mo'r teimladau hyn yn odidocach mewn geiriau na chanddo ef. Hwyrach nad oedd ganddo ar ei orau ddim ond gobaith, ond yr oedd yn obaith dyrchafedig:

Thou wilt not leave us in the dust;
Thou madest man, he knows not why;
He thinks he was not made to die;
And thou hast made him; thou art just.

Our little systems have their day,
They have their day and cease to be,
They are but broken lights of thee,
And thou, O Lord, art more than they

... That God, which ever lives and loves,
One God, one law, one element,
And one far-off divine event,
To which the whole creation moves.


Dyna'n fyr rediad y gerdd. Y mae'n llawn o'r ymdrech rhwng gobaith ac anobaith, ond y mae gobaith ar y cyfan yn trechu, nid gobaith hygoelus ac anwybodus, ond gobaith wedi trechu amheuon a gofid, ac yn canu cân brudd ond urddasol. Bychan, efallai, yw'r pellter rhwng ei obaith ag amheuaeth wedi'r cwbl, canys gallodd y Cymro Clough, a roddes ei leferydd mwyaf didwyll i amheuaeth deall y ganrif, gyrraedd yn agos iawn i'r un fan ag yntau:

To finger idly some old Gordian knot,
Unskilled to sunder, and too weak to cleave,
And with much toil attain to half believe.

Bydd rhai beirniaid hwylus, nad ymddengys fod yn beth anodd o gwbl ganddynt dderbyn tyst iolaethau traddodiadol agored i bob math ar ansicrwydd, yn galw peth fel hyn yn rhyw anwes arwynebol, gan ei droi o'r neilltu drwy chwerthin am ei ben, ond fe saif llinellau Tennyson yn dragywydd:

There lives more faith in honest doubt,
Believe me, than in half the creeds.

Ac eto, ar y cyfan, y mae Tennyson ar du gobaith uchaf ei oes, a phob oes, o ran hynny. Y gwir yw bod dyn yn ei amryw foddau yn ddigon anghyson ag ef ei hun. Mewn bywyd, ni cheir pobl sy'n meddwl ac yn gweithredu bob amser yn gwbl gyson. Ac y mae'r beirdd, hwyrach, yn anghysonach na'r cyffredin, a'u moddau mor aml fel y mae'n anodd dyfod o hyd i'r agwedd ar eu meddyliau y gellid ei hystyried y fwyaf parhaus. Cafodd cerdd Tennyson afael ar lawer, a dyfynnwyd mwy ohoni nag o un darn arall o'i waith. Ymhlith dynion meddylgar bydd yr "In Memoriam" fyw yn hir, canys rhydd gysur i lawer un, ac nid rhyw degan yw.

Daw'r adeg, ond odid, pryd y cyfrifir Tennyson yn fardd mwy nag y cyfrifir heddiw. Yr oedd yn feistr ar eiriau—canodd yn llyfn ac yn felys mewn iaith sydd yn gwneud hynny yn beth anodd; yr oedd amrywiaeth yn ei bynciau a'i fesurau, ac ar ei orau yr oedd yn feddyliwr cywir, dwfn a chlir. I ddarllenwyr Cymreig, diddorol yw gwybod ei fod unwaith wedi astudio tipyn ar y Gymraeg, ac y mae yma ac acw yn ei waith rywbeth nid annhebyg i egwyddor cynghanedd Gymraeg.

(1909).

EIN CYMDOGION A NINNAU

PETH digon diddorol, a digon digrif yn aml, yw syniadau gwahanol genhedloedd am ei gilydd, fel y ceir hwy yn eu llenyddiaeth. Gofyn nodd Dic Huws, Cefn Llanfair, gwas meirch i'r frenhines Elsbeth, i gyfaill o Gymro a phrydydd:

A ŵyr mil, er eu malais
Dan eu swydd, ai dyn yw Sais?

Atebodd y llall, "ar ddwfn ystyried," chwedl Ellis Wynne:

Dyn yw Sais, ond edn sosi,
Ac nid gwell cyfell na'r ci!

Tipyn yn annheg at y Sais a'r ci, wrth gwrs, ond dim llawer gwaeth na llawer o bethau a ddywedir mewn llenyddiaeth gwbl ddifrifol gan rai o un wlad am rai o wlad arall.

Bu tri chyfnod ar berthynas Cymru a Lloegr yn yr ystyr hon-cyfnod y Cymro Gwyllt (coffeir amdano hyd heddiw yn enw y traen cyflym o Gaergybi i Lundain); cyfnod y Cymro Digrif a chyfnod y Cymro Gwneud. Ni cheir cymaint o adlais y cyfnod cyntaf mewn llenyddiaeth Saesneg, yn ystyr gyffredin y gair. Nid cwbl ddigrif chwaith bob amser fyddai Cymro'r ail cyfnod— daeth yn gryn ddyn, er enghraifft, am dipyn yn amser y Tuduriaid, ond y mae er hynny ryw ias o ddigrifwch ynddo fel yr ymddengys ar y llwyfan Seisnig. Yn lle bod yn ddim ond gwyllt a throednoeth, aeth yn ddigrifwyllt. Nid yw'r cyfnod wedi cwbl ddarfod eto—collodd lawer o'i ffasiwn er pan gredodd y mân ysgwieriaid eu bod wedi etifeddu diwylliant Seisnig, gan ddigio wrth eu gwlad eu hunain a mynd i fyw i Gaerfaddon neu rywle felly. Ond rhyw fath ar ddatblygiad o'r wedd hon ar yr ail cyfnod yw'r trydydd. Gŵr yw'r Cymro Gwneud nad ofnir mwy, na pherchir yn arbennig iawn, na hoffir yn drwyadl, ond a noddir, megis, ac a ystyrrir yn rhyw greadur mwy neu lai diddorol a chymharol ddiniwed. Peth digon ansicr yw pa un ai ei wneud ei hun ai gwneud eraill y mae—tipyn o'r naill a'r llall, efallai! Daethpwyd o hyd iddo gan ddosbarth o nofelyddion ac ysgrifenwyr wedi eu swyno gan y ddychymyg am felancoli'r Celt, dychymyg a wnaeth hafog ar Wyddyl a Chymry, ac a'u troes o fod yn bobl wylltion neu ddigrif i fod yn greaduriaid breuddwydiol, meddal, ac yn eu llygaid ryw oleuni dieithr, nesaf peth i'r llewych a fydd yng ngolwg ambell un o'i gof. Bu'r nofelyddion wrthi mor ddygn yn dysgu ambell air Cymraeg, yn hel y "local colour," ac yna yn ein disgrifio, fel yr aeth llawer ohonom ni ein hunain i led gredu eu bod yn eu lle, ac i geisio edrych ac ymddwyn fel y dylasem rhag ofn i ni fod yn annheilwng o'r cymeriad newydd a ddychmygodd ein cyfeillion galluog i ni. Y mae rhyw arwyddion bod y cyfnod hwn yn mynd heibio, a bod un arall, cyfnod y Cymro drwg-ei-nerfau, ar ddechrau, ond rhaid aros am ysbaid cyn y ceir digon o ddeunydd at astudio hwnnw. Un gwahaniaeth rhwng y cyfnod hwn a'r lleill yw nad Saeson yn gymaint a Chymry sy'n ei gychwyn. Ni ellir gweled bai arnynt, efallai, am ddechrau yn y gwaelod.

Nid peth ofer ar awr segur, efallai, fyddai bwrw bras olwg ar yr hyn oedd Cymru a'i phobl i'r beirdd Seisnig gynt, o ddyddiau Chaucer i lawr hyd y ddeunawfed ganrif. Ni soniwn am Gymry Shakespeare, gan fod cynifer wedi traethu ar y pwnc hwnnw eisoes. Gellir dywedyd wrth fynd heibio, megis, mai digrif yw agos bob cymeriad Cymreig yn chwaraeon Shakespeare, Decker a Jonson, yn enwedig Decker. Y mae Syr "Owen ap Meredith" a "Gwenthyan" yn "Patient Grisill" ganddo ef, yn ddigrif tros ben, er bod yn wir na byddent hwy, nac odid un o'r stage Welshmen yn y ddrama Saesneg gynt, lawn mor ddigrif oni bai am eu hiaith. Clywai'r dramadyddion Gymry wrth siarad Saesneg yn seinio dwy d a ddêl ynghyd heb lafariad rhyng ddynt, neu d ac h, fel t, a'r un modd yn caledu'r seiniau b, g, yn yr un cyfuniadau, fel y gwneir hyd heddiw yn Gymraeg mewn rhai tafodieithoedd, ac y parheir i wneuthur yn ôl rheolau cynghanedd. Yr oedd hynny'n ddigrif gan y Saeson—mor ddigrif ag a fydd gan Gymro glywed Sais yn dywedyd "Thlangothlen" a phethau tebyg—ac yna, wrth geisio defnyddio'r peth fel moddion digrifwch ar y llwyfan, aethant i galedu b, d, g lle na chaledai'r Cymry monynt byth. Pe troid y peth a ddywed y cymeriadau hyn yn y chwaraeon i Saesneg y cymeriadau Seisnig, ni byddai mor ddigrif o lawer; am hynny, fel y mae'n anhepgor, tipyn o anwybodaeth ac anghynefindra, o'r ddau tu, yw sail cymaint a hyn o'r digrifwch. Wrth gwrs, Cymry gwyllt oedd y stage Welshmen yn y cyfnod hwn, ac y mae rhywbeth yn ddigon digrif yn eu tanbeidrwydd, yn enwedig pan orfydd iddo fod yn rhyw ddiniweidrwydd hefyd, megis yn hanes Syr Owen ap Meredith a "Gwenthyan." Byddai raid wrth ddogn drychinebus o ddi frifwch i beri i ddyn ddigio with greadigaethau Shakespeare neu Decker—mewn ffordd, byddent yn ddigrifach yng ngolwg Cymro nag yng ngolwg neb arall. Er bod Chaucer yn byw'n agos i'r pryd yr oedd y Cymry a'r Saeson yn rhyfela â'i gilydd, ni cheir adlais yr ymladd yn ei gerddi ef. Gŵr mwyn, diddan, oedd Chaucer, yn canu chwedlau digrif i blesio pobl fawr, ac ymddengys mai beirdd a Christnogion oedd y Cymry iddo ef. Yn "The Frankeleines Prologue," dywed:

These olde gentil Bretons in hir dayes
Of diverse aventures maden layes,
Rimayed in hir firste Breton tonge,
Which layes with hire instruments they songe,
Or elles redden hem for hir plesance;
And on of hem have I in remembrance,
Which I shall sayn with good while as I can.

Adlais y rhamant Arthuraidd yw hwn, ac nid oes ynddo ddim ôl cydnabyddiaeth bersonol. Tebyg yw'r cyfeiriadau yn "The Man of Lawes Tale," lle daw'r Cymro i'r golwg fel Cristion yng nghanol paganiaid, ac y sonnir am ei wlad fel noddfa Cristnogaeth (pethau y bydd yr awdurdodau ar "Neges Cymru i'r Byd" yn eu cyhoeddi gyda difrifwch mawr o hyd):

In all that land [Lloegr] no Cristen durste route,
All Cristen folk ben fled fro that countree
Thurgh Payenes, that conquerden all aboute
The plages of the north by land and see.
To Wales fled the Christianitee
Of olde Bretons dwelling in this ile;
Ther was hir refuge for the mene while.


But yet n'ere Cristen Bretons so exiled
That ther n'ere som which in hir privitee
Honoured Crist, and Heathen folk begiled,
And neigh the castle swich ther dwelten three;
That on of hem was blind, and might not see,
But it were with thilke eyen of his minde,
With which men mowen see when they ben blinde.

A Breton book, written with evangiles,
Was set, and on this book he swore anon.

Diau mai gwlad rhamant yw hon. Yr oedd hi fwy fyth felly i Spenser. Ar ôl disgrifio'r marchog yn y Seithfed Caniad o Lyfr Cyntaf ei "Faery Queene," dywed ef nad oedd gyffelyb i'w darian, canys Merddin a'i gwnaeth:

Ne let it seeme that credence this exceedes;
For he that made the same was knowne right well
To have done much more admirable deedes,
It Merlin was, which whylome did excell
All living wightes in might of magic spell;
Both shield and sword and armour, all he wrought
For this younge prince, when first to armes he
fell;
But when he dyde, the Faery Queene it brought
To Faerie Lond, where yet it may be seen if sought

Yng Nghymru yn arbennig y dodai Spenser ei ramant, ac yr oedd Aran a Dyfrdwy yn gysegredig iddo. Yn y nawfed caniad o'r Llyfr Cyntaf, dywedir am "Old Timon":

His dwelling is low in a valley greene,
Under the foot of Rauran mossy hore,
From whence the river Dee, as silver cleene,
His tombling billowes rolls with gentle rore;
There all my daies he trained me up in vertuous lore.

Mewn man arall, cyfeiria at ddwyfoldeb Dyfrdwy a pherlau Conwy:

And following Dee, which Britons long ygone,
Did call divine, that doth by Chester tend,
And Conway, which out of his stream doth send
Plenty of pearles to decke his dames withal.

Y mae cyfeiriadau tebyg at afon Ddyfrdwy yn bethau cyffredin gan y beirdd, megis hwnnw gan Langhorne yn "The Garden Rose and the Wild Rose":

As Dee, whose current, free from stain,
Glides fair o'er Merioneth's plain,
By mountains forc'd his way to steer,
Along the lake of Pimble meer,
Darts swiftly through the stagnant mass,
His waters trembling as they pass,
And leads his lucid waves below,
Unmix'd unsullied as they flow.

Prin y mae'n ddiogel casglu oddi wrth gyfeiriadau fel hyn fod hyd yn oed Spenser yn gynefin â Dyfrdwy nac Arfon, na bod Langhorne wedi gweled Llyn Tegid, ond yr oedd yn wiw gan Spenser yn enwedig osod yr hud a'r ddewiniaeth yn rhywle yn y wlad honno:

Thether the great magician Merlin came,
As was his use, oft-times to visit mee;
For he had charge my discipline to frame,
And tutor's nourriture to over-see.
Him oft and oft I askt in privity,
Of what loins and what lignage I did spring?
Whose aunswere bad me still assured bee,
That I was sonne and heir unto a king,
As Time in her just term the truth to light should bring.

"Well worthy Impe," said then the lady gent,
"And pupil fit for such a tutor's hand;
But what adventure, or what high intent,
Hath brought you hither into Fairy Land,
Aread, Prince Arthure, crowne of martial band."
"Full hard it is," quoth he, "to read aright
The course of heavenly cause, or understand
The secret meaning of the' eternal might,
That rules mens waies, and rules the thoughts of living wight."

Yn y gerdd hon, gwelwn Arthur, "the flowre of grace and nobilesse," a wnaeth fawr ddirmyg ar farchogion pagan, ac a laddodd fil o Sarasiniaid, a chawn hanes y cledd a wnaeth Merddin, ac a alwyd "Morddur" am na thorrai ac na phlygai byth:

Ne ever will it break ne ever bend,
Wherefore Morddure it rightfully is hight.

Arthur y rhamantau yw hwn, wrth gwrs, ac er na chanodd beirdd y Saeson lawer amdano rhwng Spenser a Tennyson, rhaid cydnabod ei fod ef yn llawer mwy o ffugr yn Saesneg nac yn Gymraeg. Y mae gan Warton gerdd, "The Grave of King Arthur," wedi ei seilio ar yr hen draddodiad am gaffael hyd i gorff Arthur yn Glastonbury, lle'i dygwyd, ebr y bardd yng ngherdd Warton, o faes Camlan, ac y claddwyd ef yn

Joseph's towered fane,
In the fair Vale of Avalon

Yn gymysg â'r rhamant Arthuraidd cawn gan Spenser yr hanes dychmygol am Brutus yn dyfod trosodd i wlad lawn o gewri erchyll, yn eu trechu ac yn rhannu'r wlad rhwng ei feibion:

And Camber did possess the western quart,
Which Severne now from Logris doth depart.

Sonnir am "Caerleill," "Cairleon," "Bladud," Cairbadon," "Cundah" a "Morgan," wrth enw yr hwn y galwyd Morgannwg, a'r fel y bu ddiwedd ar feibion Brutus drwy ymbleidio ac ymladd. Dilynir yr ystori fel yr edrydd Sieffre o Fynwy hi, drwy'r ymdrech â'r Rhufeiniaid hyd ddyfodiad y Saeson, ac yna ymlaen â'r rhamant drachefn. Sonnir am yr "ysgwyd wyrdd" a'r "ysgwyd goch":

How oft that day did fair Brunehildis see
The greene shield dyde in dolorous vermell,
That not scuith guirith it mote seeme to bee
But rather y scuith gogh, signe of sad crueltee.

Yn ei "Eclogues," y mae gan Spenser un ag ynddi gymeriad Cymreig a elwir "Diggon Davie." Yn argraffiad Anderson (1792) o'i weithiau, ceir y rhagymadrodd a ganlyn i'r gerdd honno:

Diggon Davie, a shepherd, complains to his friend Hobbinol of the poverty to which he was reduced by travelling into a far country in hopes of greater gain, and describes the deceitful and profligate lives of the shepherds he had seen, and the wretched condition of their flocks. The author has chosen to write it in older language than the rest, and with a sprinkling of the Welsh dialect. It is probable he had some private reasons for it, and that under the fictitious names were represented real persons.

Geiriau'r golygydd yw'r rhai hyn. Diau fod i'r ymddiddan ryw ystyr hanesyddol, a diddorol fyddai allu ei esbonio. Ond nid oes ynddo ddim "sprinkling of the Welsh dialect." Y mae iaith Diggon Davie" yn fwy henaidd, ag ynddi ar dro fath ar gynghanedd yn null y Saeson, dyna'r unig wahaniaeth rhyngddi ag iaith y "bugeiliaid" eraill. Yr unig eiriau Cymraeg yng ngwaith Spenser, hyd y sylwais i, yw'r termau "ysgwyd werdd" ac "ysgwyd goch," oddieithr enwau priod. Sylwer hefyd fod rhyw y gair ysgwyd yn gywir ganddo yn y naill derm (yscuith gogh) ac yn anghywir yn y llall (scuith guirith). Ond nid oedd ef yn anwybodus am hanes y wlad. Yr oedd yn byw yn oes Elsbeth, a chafodd ganddi dair mil o aceri o dir lladrad yn sir Cork. Rhan o'r tâl am hwnnw, y mae'n ddiau, oedd ei ganmoliaeth i Gymru. Yn y Trydydd Caniad o'i Drydydd Llyfr, canodd glod y Cymry yn eu rhyfeloedd â'r Saeson, a gwnaeth ddefnydd o ystraeon y Brudiau am lwyddiant teulu Tudur:

Ne shall the Saxons selves all peaceably
Enjoy the crowne, which they from Britons wonne
First ill, and after ruled wickedly;
For ere two hundred yeares be full outronne,
There shall a Raven, far from rising sunne,
With his wide wings upon them fiercely fly,
And bid his faithlesse chickens overronne
The fruitful plaines, and with fell cruelty,
In their avenge, tread down the victors surquery.

Though when the terme is full accomplished,
There shall a spark of fire, which hath long while,
Bene in his ashes raked up and hid,
Bee freshly kindled in the fruitful ile

Of Mona, where it lurked in exile,
Which shall breake forth into bright-burning flame,
And reach into the house that beares the stile
Of royall maiesty and soveraine name;
So shall the Briton blood their crowne againe reclaime.

Thenceforth eternall union shall be made
Betweene the nations different afore,
And sacred peace shall lovingly persuade
The warlike mindes to learne her goodly lore,
And civile armes to exercise no more;
Then shall a royall Virgin raine, which shall
Stretch her white rod over the Belgicke shore,
And the great castle smite so sore withall,
That it shall make him shake and shortly learn to fall.

Proffwydoliaeth Merddin yw hon, ond bod Spenser yn gwybod yn dda sut i'w defnyddio. Amser gwych i ryw fath ar Gymry oedd oes y Tuduriaid. Dengys cywyddau'r beirdd Cymreig fod dychmygion Sieffre o Fynwy wedi eu derbyn ganddynt, ac mai eu rhwymyn pennaf oedd y dyb mai disgynyddion Brutus oeddynt hwy. Ar y llaw arall, dengys gweithiau'r beirdd Seisnig mai dyna'r gred oedd yn talu yn Lloegr hefyd, ar y pryd.

Yng ngweithiau Drayton eto, rhoir i'r Cymry gymeriad uchel fel gwŷr bonheddig ac ymladdwyr. Yn ei gerdd fywiog "The Battle of Agincourt," wrth ddisgrifio'r fyddin Brydeinig oedd yno, nid anghofia yntau ofynion y cyfnod:

Thus as themselves the Englishmen had shew'd
Under the ensign of each sev'ral shire,
The native Welch, who no less honour ow'd
To their own King, nor yet less valiant were,
In one strong reg'ment had themselves bestow'd,
And of the rest resumed had the rear;
To their own quarter marching as the rest,
As neatly arm'd, and bravely as the best.

Yna rhydd ddisgrifiad o filwyr y Siroedd Cymreig yn ymdaith, a pha beth oedd eu baneri. Gwŷr Penfro, "those men of South Wales of the mixed blood," oedd ar y blaen, ac ar eu baner lun cwch ac arglwyddes yn ei rwyfo. Yna, gwŷr Caer fyrddin, ac ar eu lluman lun Myrddin yn pwyntio at seren. Castell oedd arwydd gwŷr Morgannwg, a thair coron oedd nod Mynwy. Am wŷr Mynwy, dywed y bardd beth tebyg iawn i'r hyn a ddywedodd Islwyn gymaint o amser ar ei ôl:

The men of Monmouth (for the ancient love
To that dear country neighbouring them so nigh).

Ffordd dda o gydnabod pethau! Yna daw'r siroedd eraill a'r arwyddion isod ar eu baneri: Brycheiniog, pabell ryfel; Maesyfed, mynydd serth ag arno fugail yn cadw ei braidd; Ceredigion, morforwyn yn eistedd ar graig; Meirionnydd, tair gafr ar ddawns; Dinbych, Neifion ag iddo baladr tair fforch; Fflint, morwyn yn ei gwisg haf, yn dwyn ysgub a sicl. Ac am Sir Gaernarfon dywedir:

With a warlike pace
Those of Caernarvon (not the least in speed,
Tho' marching last in the main army's face)
Three golden eagles in their ensign brought,
Under which oft brave Owen Gwyneth fought.

Yn hanes y frwydr, rhoddir lle amlwg i orchestion Syr Dafydd Gam-byddaf yn teimlo fy hun fod rhyw ias o chwerthin yng nghlodforedd y bardd, a bydd fy nghydymdeimlad ag ef hefyd, a dywedyd y gwir:

The Duke Nevers now, in this sad retreat,
By David Gam and Morisby pursu'd,
(Who thoroughly chaf'd near melted into sweat
And with French blood their pole-axes imbru'd)
They seize upon him following the defeat,
Amongst the faint and fearful multitude;
When a contention fell between them twain,
To whom the Duke should rightfully pertain.
"I must confess thou hadst him first in chase,
(Quoth Morisby) but left'st him in the throng,
Then I put on." Quoth Gam: "Hast thou the face,
Insulting knight, to offer me this wrong?"

Quoth Morisby: "Who shall decide the case ?
Let him confess to whom he doth belong."
"Let him " quoth Gam, "but if't be not to me,
For any right you have, he may go free."

With that couragious Morisby grew hot;
"Were not," said he, "his ransom worth a pin,
Now by these arms I wear, thou get'st him not;
Or if thou do'st, thou shalt him hardly win."
Gam, whose Welsh blood could hardly brook this blot,
To bend his axe upon him doth begin;
He is at him, till the lord Beaumont came,
Their rash attempt and wisely thus doth blame

Dywed Beaumont wrth y ddau eu bod yn per yglu'r dydd, ac y caent dorri eu dadl ar ddiwedd y frwydr. Parha'r ymladd, a down ar draws Dafydd Gam eilwaith. Yr oedd yn rhaid medd iannu lle peryglus-" an aged rampier with huge ruins heapt." Dywed Woodhouse fod hynny'n waith peryglus, ac na welai ef neb a feiddiai gynnig arno. Yr oedd y Cam yn clywed. Fel hyn y dywed y bardd-gallai fod hyd yn oed yn cyfieithu ymorchest y prydyddion Cymreig eu hunain:

Which Gam o'erhearing, being near at hand,
"Not dare!" quoth he, and angerly doth frown;
"I tell thee, Woodhouse, some in presence stand,
Dare prop the sun if it were falling down,
Dare grasp the bolt from thunder in his hand,

And through a cannon leap into a town;
I tell thee, a resolved man may do

Things that thy thoughts yet never mounted to." Yna y mae Woodhouse yn herio'r Cam i fynd gydag ef i feddiannu'r adfail. Ni fynnai yntau ddim gwell. Galwant eu gwŷr ac ant. Ymladdant yn ddewr, yn ôl tystiolaeth y bardd:

Till valiant Gam sore wounded, drawn aside
By his own soldiers, shortly after dy'd.

Anodd peidio â chofio am y peth a ddywedodd Alexander Fawr wrth ei wŷr llys pan dyngodd rhyw Geltiaid eu ffyddlondeb iddo mewn geiriau nid annhebyg i eiddo'r Cam:

Onid ffrostus y Celtiaid!

Tra bom yng nghanol dynion parod i gynnal yr haul a dwyn bollt y daran, ni waeth i ni sôn am gerdd danbaid Chatterton, "The Battle of Hastings." Nid rhaid dywedyd yma mai gwaith Chatterton ei hun yw'r gerdd honno, ac nid hen gerdd, fel y ceisiodd ef gan bobl gredu, am ryw reswm rhyfedd ac anhysbys. Ni buasai raid iddo, canys yr oedd yn well bardd na chnwd canrif o feirdd y bugeiliaid, y Chloes a'r Amyntas a'r Strephons, etc., etc. Dyma dipyn o'r hanes fel y dychmygodd Chatterton:

Howel ap Jevah came from Matraval
Where he by chaunce han slain a noble's sonne
And now was come to fyghte at Harold's call,
And in the battel he much goode han done;
Unto Kyng Harold he fought mickle near,
For he was yeoman of the bodie guard;
And with a target and a fyghting spear,
He of his boddie han kepte watch and ward,
True as a shadowe to a substant thynge,
So true he guarded Harold his good Kynge.

But when Egelred tumbled to the grounde,
He from Kynge Harold quickly did advaunce,
And stroke de Tracie thilke a crewel wounde,
Hys harte and lever came out on the launce.
And then retreated for to guard hys Kynge,
On dented launce he bore the harte awaie;
An arrow came from Auffroie Griel's strynge,
Into hys heele betwixt hys yron staie;
The grey-goose pynyon, that thereon was sett,
Eftsoons with smokyng crymson bloud was wett.
Hys bloud at this was waxen flaminge hotte,
Without adoe he turned once agayne,
And hytt de Griel thilke a blowe, God wote,
Maugre hys helme, he splete hys head in twayne.
****
And like a useless weede amonge the haie,
Amonge the sleine warriours Griel laie.

Disgrifir y frwydr fel hyn, mewn llinellau ystwyth a chyffelybiaethau beiddgar, rai ohonynt wedi eu benthyca, y mae'n wir, o'r clasuron, a chyn hir, down at farwolaeth Howel ap Jevah:

As some tall oke, hewn from the mountayne hed,
Falls to the pleine, so fell the warriour ded.

Wrth weled hyn, medd y bardd, dyma Gymro arall, "Mervyn ap Teudor," a ganlynasai Howel o gariad ato, yn rhuthro ar y gelynion "fel blaidd mynydd." Disgrifir ei wisg a'i olwg a'i aruthr ffyrnigrwydd:

His sworde was shorte and broade, and mickle keene,
And no man's bone could stande to stoppe its waie;
The Norman's harte in partes two cutt cleane,
He clos'd his eyne, and clos'd his eyne for aie.

Ymesyd Mervyn ar elyn arall:

With thilk a furie on him he dyd falle,
Into his neck he ranne the swerde and hylte;
As mighty lyghtenynge often has been founde
To drive an oke into unfallow'd grounde.

And with the swerde, that in his neck yet stoke,
The Norman fell unto the bloudie grounde,
And with the fall ap Tewdore's swerde he broke,
And bloude afresh came trickling from the wounde.

Naid cryn ugain o'r gelynion ar ap Tudur, a rhaid iddo yntau ymladd â'i ddwylaw moelion. Try helm y Sier de Lacque y tu blaen yn ôl, ac ymeifl mewn Norman arall gerfydd ei wddf, ond:

Then manie Norman knyghtes their arrowes drewe,
That enter'd into Mervyn's harte, God wote.
In dying panges he gryp'd his throte more strong,
And from their sockets started out his eyes,
And from his mouthe came out his blameless tonge;
And both in peine and anguish eftsoon dies,
As some rude rocke torne from his bed of claie,
Stretch'd onn the pleyne the brave ap Tewdore laie.

Er mor waedlyd yw'r busnes, rhaid cydnabod fod Chatterton yn medru ei grefft, a bod cynddaredd ap Tudur yn fyw tan ei law. Ceir cyfeiriadau eraill at y Cymry rhyfelgar gan Drayton yn "The Barons Wars" ac yn y "Polyolbion." Nid haws eu dofi na dofi'r anifeiliaid gwylltaf yn y wlad, meddai. Ond ymddengys eu bod yn gowrtwyr medrus ar dro hefyd. Yn ei "Heroic Epistles," ceir un epistol oddi wrth y Frenhines Catrin at Owain Tudur, ac ateb ganddo yntau iddi hithau. Wrth gynnig ei serch i Owain, y mae Catrin yn canmol tras a gwrhydri ei hynafiaid ef; dywed ei fod yn hardd a grasus, a Chymraeg a'i chytseiniaid cras yn seinio mor llyfn ag Eidaleg ar ei wefus! Rhaid maddau i'r bardd, wrth gwrs, am dybio bod yn y Gymraeg lai o lafariaid nag yn y Saesneg, heb sôn gair am rai mudion! Yn ei ateb, nid yw Owain Tudur ar ôl am weniaith nac am syniad teilwng am ei fawredd ef ei hun. Oni phroffwyd asai Myrddin y cymysgai arwydd y Tuduriaid a'r fleur-de-lis, a'r genhinen â'r rhosyn? Yng Nghymru, canai beirdd ei achau, o Gadwaladr ac Einion, o Dewdwr a Llywelyn, fel nad rhaid iddo wneuthur esgus dros ei dras, a fu'n ymladd â Saeson, Norwyaid, Swedeniaid a Mwscofiaid, a gadwodd eu hiaith er gwaethaf popeth, ac a barhai hyd y dydd hwnnw yr unig rai o weddillion Troea.

Yn y "Polyolbion," dengys Drayton gryn wybodaeth am Gymru, am ei hanes a hyd yn oed am ddaear y wlad. Yn ei anerchiad "To my friends the Cambro-Britons" ynglŷn â'r gerdd, dywed ei fod yn caru Cymru'n fawr, ac yn ei gerdd yn rhoddi'r rhannau o Siroedd Gloucester, Worcester a Salop y sydd ar du'r gorllewin i afon Hafren "within their ancient mother, Wales; in which, if I have not done her right, the want is in my ability, not in my love." Sonia hefyd am "the learned Humphrey Floyd," a "Mr. John Williams, his Majesty's goldsmith, that true lover of his country, as of all ancient and noble things,"—yr oeddynt yn annwyl gyfeillion iddo. Byddai mynd yn fanwl drwy'r gerdd hir hon yn ormod. gwaith mewn un ysgrif. Digoned dywedyd bod yr Awen yn mynd ar daith drwy Gymru a Lloegr, a'r afonydd a'r mynyddoedd yn canu clodydd ac yn adrodd hanes y gwledydd a'r bobl. Dyma gyfarchiad y bardd i Gymru, yn agos i'r dechrau:

Then most renowned Wales, thou famous ancient place,
Which still hast been the nurse of all the British race,
Since nature thee denies that purple-cluster'd vine,
Which other temples chafes with fragrant sparkling wine;
And being now in hand to write thy glorious praise,
Fill me a bowl of meath, my working spirit to raise;
And e'er seven books have end, I'll strike so high a string,
Thy Bards shall stand amaz'd with wonder, whilst I sing;
That Taliessen, once which made the rivers dance,
And in his rapture raised the mountains from their trance,
Shall tremble at my verse, rebounding from the skies,
Which like an earthquake shakes the tomb wherein he lies.

Pe clywsai Taliesin y gân, efallai y troesai yn ei fedd, yn wir, canys anodd fyddai i brydydd mor gymysglyd ac annealladwy ddychmygu am y fath beth a rhetoreg Drayton, er a ddywedodd am ei gampau rhyfeddol ef ei hun, heb sôn gair am y pethau a ddywedodd ei esbonwyr amdano! Rhydd Drayton enwau'r afonydd, gydag ychydig gyfeiriadau byrion at eu hanes, yna daw at y beirdd. Yn gyffredin, rhyw fod hanner lledrith yn y niwl, megis, oedd y bardd Cymreig i'r poetau Seisnig, yn perthyn yn agos i'r "Derwydd." Gallech fod yn lled sicr na welsant un erioed, mwy nag y gwelsant "Dderwydd," neu un o'r bugeiliaid clasurol hynny y byddent eu hunain yn canu cymaint iddynt. Ped adnabuasent fardd o Gymro, synasent, ond odid, mai ffermwr cyffredin ydoedd, fel Tudur Penllyn; gof, fel Ieuan Brydydd Hir (hynaf), neu fwtler, fel Hywel ap Dafydd, heb na golwg freuddwydiol na melancoli ar ei gyfer, a heb fod ei wallt na'i farf ddim hwy nag eiddo dynion cyffredin eraill. Yn ei gerdd ar "The Institution of the Order of the Garter," dwg West feirdd a derwyddon i mewn. Dywed eu bod wedi ymwisgo

. . . in long flowing sky-colour'd robes spangled with stars, with garlands of oaken bough upon their heads, and golden harps in their hands, made like the Welch or old British harp.

Y mae'r beirdd a'r derwyddon hyn yn canu ganddo, ac yna y mae "The Genius of England" yn eu hateb, gan eu galw yn "hen ffilosoffyddion Prydain," a dywedyd eu bod fyth yn hofran o gwmpas eu hen gartrefi, yn enwedig ym Môn:

In sacred shades,
Chiefly where Breint and Meinai wash'd the oaks,
Of ancient Mona, their academies

And schools of sage and moral discipline
They held; and to the neighb'ring Britons round,
From their rever'd tribunals, holy mounts,
Dispens'd at once their oracles and laws.

Yn ateb, cân y beirdd eilwaith, gan ddywedyd mai anrhydedd uchaf y brenin Edward yw ei fod yn cymryd lle Arthur, ac yn edfryd ei enw ef a'i farchogion:

In visionary fables lost.

Diau! Cyfeiriad tebyg sydd gan Collins yntau yn ei gerdd, "Liberty," at y derwyddon, ac y mae Penrose, yn ei gân i'r Delyn, ar ôl sôn am Ossian, yn dywedyd:

Thine, too, Cadwallo! whom to save
In vain the heavenly science su'd,
Starts from Arvon's rocky grave
With bloody streams embru'd.
Bound in brotherhood of woe,
The Druid choir unites, their tears harmonious flow.

Yn ei gerdd "To the People of England," y mae Whitehead yn galw ar yr "Awen Brydeinig":

And thou genuine British muse,
Nurs'd amid the druids old
Where Deva's wizard waters roll'd,
Thou that bear'st the golden key
To unlock eternity,
Summon thy poetic guard.


Nid ymddengys fod yr "Awen Brydeinig" wedi gwrando ar y weddi-nid agorodd hi mo ddrysau tragwyddoldeb, beth bynnag, y tro hwn. Diau mai Cymro oedd Lloyd, bardd meddw a fu farw yn ieuanc yn Llundain. Amdano ef dywed Wilkes:

His peculiar excellence was the dressing up an old thought in a new, neat and trim manner. He was content to scamper round the foot of Parnassus on his little Welch poney, which seems never to have tired.

Y mae tipyn o ôl eiddigedd neu deimlad personol, efallai, yn ei gerdd i'r "Poetry Professors," pan ddywed, wrth ganu am enedigaeth Tywysog Cymru:

While some, as patriot love prevails,
To compliment a Prince of Wales,
Salute a royal babe in Welch
And send forth gutturals like a belch.

Dichon mai am Oronwy Owain yr oedd bardd y merlyn mynydd yn meddwl. Y mae rhywbeth yn ddigon clyfar yn ei ddychan yn aml, er nad yw ar ei orau pan fynno ddangos mor ddilys oedd ei Seisnigrwydd:

Say, shall not then the heav'n-born muses too Variety pursue?
Shall not applauding critics hail the vogue?
Whether the muse the style of Cambria's sons,

Or the rude gabble of the Huns,
Or the broader dialect
Of Caledonia she affect,
Or take, Hibernia, thy still ranker brogue?
Accoutred thus, th' advent'rous youth
Seeks not the level lawn, or velvet mead,
Fast by whose side clear streams meand'ring creep;
But urges on amain the fiery steed
Up Snowdon's shaggy side, or Cambrian rock uncouth.
Where the venerable herd
Of goats with long and sapient beard,
And wanton kidlings their blithe revels keep.
Now up the mountain see him strain,
Now down the vale he's tost;
Now flashes on the sight again,
Now in the palpable obscure quite lost.

See, see, he soars! with mighty wings out spread,
And long resounding mane,
The courser quits the plain,
Aloft in air, see, see him bear
The bard who shrouds
His lyric glory in the clouds,
Too fond to strike the stars with lofty head,
He topples headlong from the giddy height,
Deep in the Cambrian gulf immerg'd in endless night.

Go lew'r merlyn mynydd! Ysgrifennodd Hughes hefyd "Ode for Two Voices' (set to music by Dr. Pepusch) for the birthday of the Princess of Wales, 1715, and performed at the anniversary meeting of the Society of Ancient Britons, established in honour of Her Royal Highness's Birthday and of the Principality of Wales." Yn y gerdd hon y mae "Fame and Cambria" yn canu bob yn ail, a dyma enghraifft o'u cân:

Hail, Cambria! long to fame well known,
Thy patron saint looks smiling down,
Well pleas'd to see
This day, prolific of renown,
Increas'd in honours to himself and thee.

Prolific yw'r union air. Gan Browne yn "Britannia's Pastorals," ceir math ar amddi ffyniad i'r beirdd Cymreig, fel goleuadau digon buddiol-canhwyllau brwyn, efallai:

The British bards were not then long time mute,
But to their sweet harps sung their famous Brute;
Striving in spite of all the mists of eld
To have his story more authentic held,
Why should we envy them those wreaths of fame?

Rather afford them all the worth we may,
For what to give them adds to our ray.
And, Britons, think not that your glories fall,
Derived from a mean original;
Since lights that may have pow'r to check the dark
Can have their lustre from the smallest spark.

Y mae un o "fugeiliaid mwyn" y bardd hwn hefyd yn canu i Ddyfrdwy fel hyn:

Never more let holy Dee
O'er other rivers brave,
Or boast how (in his jollity)
Kings row'd upon his wave;
But silent be, and ever know,
That Neptune for my fare would row

Nid rhaid yma sôn am gerdd Gray i'r "Bardd," gan ei bod yn ddigon hysbys, ac wedi ei chyfieithu unwaith neu ddwy i'r Gymraeg. Buasai'n syndod gan brydyddion Cymreig y cyfnodau hyn weled y lluniau a dynnai eu cyd-brydyddion Seisnig ohonynt, y mae'n ddiau. Drayton a wyddai fwyaf amdanynt, drwy ei gyfeillion "Humphrey Floyd" a John Williams, hwyrach. Wrth ganu am y beirdd, dywed am rai:

That at the Stethva oft obtain'd a victor's praise,
Had won the silver harp, and worn Apollo's bays;
Whose verses they deduc'd from those first golden times
Of sundry sorts of feet, and sundry suits of rhimes.
In Englins some there were, that on their subject strain,
Some makers that again affect the loftier vein,
Rehearse their high conceits in Cowiths; othersome
In Owdells theirs express, as matters hap to come;
So varying still their moods, observing yet in all
Their quantities, their rests, their ceasures metrical;
For to that sacred skill they most themselves apply,
Addicted from their births so much to poesy,

That in the mountain those who scarce had seen a book,
Most skilfully will make, as though from art they took.

Y mae ôl Humphrey Floyd a John Williams ar wybodaeth Drayton. Teithio drwy Gymru y mae'r bardd yn ystod saith neu wyth ganiad cyntaf y gerdd. Dyry'r Cymry a'r Saeson i gystadlu a'i gilydd i bwy y perthyn "Lundy," y naill ochr a'r llall yn canu eu gorchestion, ac afon Hafren yn torri'r ddadl drwy ddywedyd bod Lundy yn perthyn i'r naill yn gystal â'r llall- enghraifft deg o ddull y Tuduriaid. Dyma fel y dywed Hafren wrth roi ei barn:

That when the Norman line in strength shall lastly fail,
(Fate limiting the time) the ancient Briton race
Shall come again to sit upon the sovereign place.
A branch sprung out of Brute, th' imperial top shall get,
Which grafted in the stock of great Plantagenet,
The stem shall strongly wax, as still the trunk doth wither;
That power which bare it thence again shall bring it thither
By Tudor, with fair winds from Little Britain driven,
To whom the goodly bay of Milford shall be given;
And how Llewellin's line in him should doubly thrive.

Why strive ye then for that, in little time that shall
(As you are all made one) be one unto you all?
Then take my final doom, pronounced lastly, this:
That Lundy like ally'd to Wales and England is.

Yna, teithia'r bardd ymlaen; edrydd afon Deifi hanes Merddin, a chanmola afon Gwy, hithau, y Brythoniaid fel ymladdwyr, gwlatgarwyr a beirdd;

Nor could the Saxon swords (which many a ling'ring year
Them sadly did afflict, and shut the Britons here
'Twixt Severn and this sea) our mighty minds deject,
But that even they which fain'st our weakness would detect,
Were forced to confess, our wildest beasts that breed,
Upon our mighty wastes, or on our mountains feed,
Were far more sooner tamed than here our Welshmen were;
Besides, in all the world, no nation is so dear
As they unto our own; that here within this isle,
Or else in foreign parts, yea, forced to exile,
The noble Briton still his countryman relieves;
A patriot, and so true, that it to death him grieves
To hear his Wales disgrac'd; and on the Saxon swords
Oft hazardeth his life, ere with reproachful words
His language or his leek he'll stand to hear abus'd.
Besides, the Briton is so naturally infus'd
With true poetic rage, that in their measures, art
Doth rather seem precise, than comely; in each part
Their metre most exact, in verse of the hardest kind,
And to some rhiming be so wondrously inclin'd,

Those numbers they will hit, out of their genuine vein
Which many wise and learn'd can hardly e'er attain.

Anodd gwybod pa mor aml yr oedd Drayton a'i dafod yn ei foch wrth draethu'r pethau clod forus hyn, ond yn ddiau yr oedd y "noble Britons" a'u deallai wrth eu bodd yn eu gwrando! Buasai'n ddiddorol canlyn y bardd drwy'r Siroedd, ond digoned rhoddi disgrifiad gwynt y Gogledd o Ddyffryn Clwyd:

Dear Clwyd, th' abundant sweets that from thy bosom flow,
When with my active wings into the air I throw,
Those hills whose hoary heads seem in the clouds to dwell,
Of age'd become young, enamour'd with the smell
Of th' odoriferous flowers in thy most precious lap;
Within whose velvet leaves, when I myself enwrap,
They suffocate with scents; that (from my native kind)
I seem some slow perfume, and not the swiftest wind.
With joy, my Dyffryn Clwyd, I see thee bravely spread,
Surveying every part from foot up to thy head;
Thy full and youthful breasts, which in their meadowy pride,
Are brancht with rivery veins, meander-like that glide.


Efallai fod gwaed Cymreig yn John Philips, awdur" The Splendid Shilling." Pa un bynnag, gŵr o'r goror ydoedd. Dywed Smart yn "The Hop Garden" mai Pumlumon oedd Parnassus Philips, ac y mae Philips ei hun yn ei gerdd faith, "Cider," yn sôn am Benmaen Mawr a Phumlumon, ac yn canu mawl y Siluriaid:

In ancient days,
The Roman legions and great Cæsar found
Our fathers no mean foes; and Cressy's plains,
And Agincourt, deep ting'd with blood, confess
What the Silures vigour unwithstood
Could do in rigid fight.

Yn y "Splendid Shilling," lle cafodd Goronwy Owain y syniad, efallai, am" Gwydd y Nennawr," rhydd Philips gip olwg ar ddosbarth diddorol o Gymry, sef y rhai a fyddai'n mynd i'r marchnad oedd ar y gororau gynt. Canu mawl y swllt y mae Philips, a dywedyd ei helynt am fod ei sylltau ef mor brinion. Disgrifia ef ei hun yn mynd adref i'r nennawr-y "garret vile"-ac yno yn mygu cetyn du cwta:

Not blacker tube, nor of a shorter size,
Smokes Cambro-Briton (vers'd in pedigree,
Sprung from Cadwallador and Arthur, Kings,
Full famous in romantic tale) when he
O'er many a craggy hill and barren cliff,
Upon a cargo of famed Cestrian cheese,

High over-shadowing rides, with a design
To vend his wares, or at the Arvonian mart,
Or Maridunum, or the ancient town.
Yclep'd Brechinia, or where Vaga's stream
Encircles Ariconium, fruitful soil!
Where flow nectareous wines, that well may vie
With Massic, Setin or renown'd Falern.

Yr oedd balchter yn eu hachau a'u teuluoedd yn wendid yn y Cymry gynt, fel y mae eto. Fel y cawsom Gymro ar ben ei lwyth caws, yng ngherdd Philips, yn ddisgynnydd brenhinoedd, felly y cawn ddau, a elwir "Madoc" a" David ap Howell" yn "The Consuliad," un o gerddi politicaidd Chatterton. Y maent hwythau yn wŷr o dras brenhinol, ac yn wyllt a balch iawn. Tebyg mai at ryw etholiad lleol y cyfeirir, ond nid wyf i eto wedi cael allan pwy oedd "Madoc" nac "ap Howell," na pha beth yw ystyr y gerdd. Anaml y ceir Cymry'r beirdd Seisnig yn y cyfnodau hyn yn gymeriadau cwbl atgas neu ddrygionus. Yn ei gerdd hir "Syr Martyn," y mae Mickle yn dywedyd hanes ysgwier heb fod o'r moes gorau, ac ymddengys mai Cymro oedd hwnnw. Aeth Syr Martyn i garu'r llaethferch, ac achosodd hynny a phethau eraill gryn helyntion nad oes amser i'w dilyn yma, ond yr oedd y balchter achau ynddo yntau, neu o leiaf yn ei fodryb. Amdani hi dywedir:

For sooth to tell, her liefest hearts delight
Was still to count her princely pedigree,
Through barons bold all up to Cadwall hight
Thence up to Trojan Brute ysprung of Venus bright.

Y mae lle i ofni, yn wir, mai go ddibris o'i waed oedd Syr Martyn. Felly o leiaf y tybiai'r hen fodryb, a phoenai beunydd—

To think what well she knew would shortly be
Cadwallin's bloud debas'd in Kathrins line.

Ac o boeni am hyn bu farw yr hen fodryb o'r diwedd. Mynnu ei ffordd a wnaeth Martyn, a dyfod i drwbl yn y diwedd. Cyffredin yw barddoniaeth y gerdd, ond wrth ddisgrifio dych weliad ei arwr, ceir gan y bardd rai llinellau lled darawiadol i olygfa Gymreig:

And bright behind the Cambrian mountains hore
Flames red the beam; while on the distant east
Led by her starre, the horned moone looks o'er
The bending forest, and with rays increast
Ascends; while trembling on the dappled west,
The purple radiance shifts and dies away;
The willows with a deeper green imprest
Nod o'er the brooks; the brooks with gleamy ray
Glide on, and holy peace assumes her woodland sway.

And now, as slowly sauntering up the dale,
He homeward wends, in heavie musefull stowre,
The smooth deceiver 'gan his heart assail;

His heart soon felt the fascinating powre;
Old Cambria's genius markt the fatal houre,
And tore the girlond from her sea-greene hair;
The conscious oakes above him rustling lowre,
And through the branches sighs the gloomy air,
As when indignant Jove rejects the flamen's prayer.

Y peth a dery ddyn wedi darllen deunydd fel hyn yw bod y beirdd Seisnig, hyd yn oed er gwaethaf amheuaeth dyn eu bod weithiau o fregedd, wedi ideoli mwy ar Gymru o lawer nag a wnaeth y beirdd Cymreig, a'u bod a'u cymryd at ei gilydd yn dirionach at y Cymry nag y bu'r beirdd Cymreig tuag at y Saeson.

(1910.)

O'R NEILLTU

FLYNYDDOEDD yn ôl, wrth grwydro yma ac acw i chwilio am iechyd, deuthum yn nes at Natur nag y byddwn hyd yn oed pan oeddwn hogyn yn y coed neu ar y rhos o fore hyd nos. Gwelais beth na chawswn ei weled ers blynyddoedd—haf, hydref, gaeaf a gwanwyn ar y mynydd ac yn y coedydd, ac ni chyfrifaswn mai ofer fy hoedl pe cawswn ei threulio hyd yr awr olaf heb wneuthur dim ond gwylio heulwen a chwmwl, niwl a glaw, a dyfod i adnabod mwsogl a rhedyn, blodau a choed, gwybed ac adar, a'r mân anifeiliaid gwylltion sydd eto heb eu difa o'r wlad. Ni byddai ar ddyn eisiau darllen yn ystod dyddiau eang felly. Digon fyddai sylwi a synfyfyrio. Diwrnod gwresog ym Mehefin, wedi hir sychdwr, yng nghanol unigedd ardderchog Mynydd Hiraethog. Popeth yn swrth. Distawrwydd wedi mynd yn ddistawach. Lliw copr ar y ffurfafen. Un gerwyn aruthr a'i hwyneb i waered, ac ôl myrthylio arni yma ac acw, megis ar lestri metel gyrr cyfnod celfyddyd oesau cynt. Y copr tua'r de-orllewin yn dulasu, fel clais ar groen gwritgoch. Sydyn ru dwfn yn y pellter, yna grydwst adar mynydd yn cyfodi'n ebrwydd ac yn rhedeg yn rhes o nodau meinion nes darfod mewn dim, megis pe tarawsai rhywun ddwrn anfeidrol ar grasdannau telyn anferth ac yna redeg ei fysedd yn ysgafn a chwim ar hyd y cildannau i'r uchaf oll. Yna llwnc hir ddistawrwydd . . . A fyddai dyn yn wlyb hyd at ei groen cyn cyrraedd diddosrwydd, dyn nad gwiw iddo gael annwyd? Pa waeth? Pe daethai diwedd y byd, pa waeth . . . o chai dyn glywed peth o'i sŵn, ei gerddoriaeth ysblennydd, a gweled pe dim ond ei wreichion, cyn mynd?

Dro arall, gorwedd yn y grug. Cysgu. Breuddwydio breuddwyd cymysg. Rhyw fywyd pell yn ôl, allan ar fynydd gwyllt, rhyw ffurfiau aneglur yn y tawch. Deffro a chlywed su drist yr awel drwy frigau'r grug. Cyffroi gwaed yr hynafiaid—pwy ŵyr pa hyd y bu'n huno?—yr hynafiaid a fu'n byw ac yn marw ar leoedd felly oesau'n ôl. Pwy a boenai am na masnach na thref na llyfr ? Llwynog yn sefyll a'i ffroen i'r awyr ar y drum draw. Cudyll coch yn hofran fry yn yr awyr, yn llonyddu ar ei adanedd eiliad, yna'n disgyn i'r ddaear fel ergyd. Un ysgrech fain, diwedd tragoedia fach . . gwyddwn am un arall y dymunwn ei bod mor fer pan ddôi'r amser.

Ond rhyfedd yw effaith arferiad. Ar aelwyd ffermdy hen gyda'r hwyr, doi llyfr i'r llaw, braidd fel petai'r llaw yn ei geisio ohoni ei hun. "Ossian" Macpherson. Cofio'r hyfrydwch a gafwyd yn hogyn wrth ei ddarllen, cyn clywed bod dim i gywilyddio o'i blegid mewn bodloni chwaeth gymharol syml, fel eiddo hogyn. Darllen, gyda pheth rhagfarn braidd yn uwchraddol, efallai, a dal ati er hynny. Rhyw feddwl mai'r cysgu yn y grug, a mwynder hanner trist Mynydd Hiraethog fu'r drwg bod un a ddysgwyd i fod yn feirniadol yn cael blas eto ar beth a'i plesiai gynt. Bid fel y bo am hynny. Yn yr awyr agored yr oedd awdur y cerddi'n byw, pa un bynnag ai Osian yn y drydedd ganrif ai Macpherson yn y ddeunawfed ydoedd, ac nid oes reswm pam na allai'r awyr agored fod yn iachus i lenyddiaeth a beirniadaeth wedi bod ormod dan do, yn gystal ag i ddyn yn yr un cyflwr.

Fel y gellir dywedyd am agos bob un o'r rhai y cyhuddir hwy o ffugio llenyddiaeth, gellir dywedyd am Macpherson y buasai'n llawn mwy o glod iddo fod wedi gwneud y cerddi na bod wedi eu trosi i'r Saesneg. O'm rhan fy hun, nid amau gennyf nad oedd gan Macpherson yn ei feddiant ryw hen gerddi, a gafodd ar lafar gwlad, fel y dywed ei hun, ac yn wir, cyhoeddwyd rhai o'r cerddi cysefin honedig ac eraill tebyg flynyddoedd yn ôl, er na roes hynny derfyn ar y ddadl. Hyd yn oed os darfu iddo yntau eu trwsio wrth eu trosi, fe wnâi eraill yn ei gyfnod beth tebyg, ac anodd gwybod paham y dylid beio mwy arno ef nag ar y lleill. Fe wyddis bellach fod yn Iwerddon a'r Alban ddigonedd o hen gerddi ac ystraeon ar dafod leferydd hyd y dydd hwn, ac nid yn oes Macpherson ei hun y dechreuwyd eu priodoli i Osian chwaith. Ond nid wrth y tân yng nghanol fy llyfrau yr oeddwn y pryd hwnnw, yn araf ddarllen yr Wyddeleg wrth oleuni lamp, ond ar ben mynydd yng nghanol grug a rhedyn, a'r "gwynt yn fy ngwallt," a'm bwriad oedd sôn, nid am farn goleuni lamp, ond am fardd goleuni haul.

Pobl yn byw allan yw arwyr y cerddi, beth bynnag—cysgant allan y nos, er enghraifft, peth nad yw mor farbaraidd bellach ag ydoedd yn y ddeunawfed ganrif, a pheth, o ran hynny, y gallai'r dibrofiad roi cynnig arno cyn ei gondemnio. Gyda phobl felly, bydd dyn yn anghofio swyddfa neu siop, ffordd haearn a char motor, het silc a chôt laes, a moddion a dulliau tebyg at wneud arian, i rywun arall os nad iddo ef ei hun. Bydd dyn yn blino weithiau hwyrach ar ymffrost rhai o'u hareithiau, er nad cymaint o lawer ag ar ymffrost yr areithiau y bydd pobl yn gofyn i chwi bob dydd a fyddwch wedi eu darllen. Pan fo'r penaethiaid yn herio'i gilydd i ymladd, byddant yn dra bostfawr yn aml, ond fe fyddant yn ymladd ac yn ymddwyn yn hael at y gorchfygedig. Y mae rhywbeth yn syml a dihoced yn hanes Colmar, un o benaethiaid Cuthullin, yn ofni pan oedd un tro yn ei gwch ar y môr mewn ystorm, ac yn glanio yn ei ofn, yna'n gwrido oblegid yr ofn ac yn mynd yn ei ôl a threchu "mab y gwynt." Anodd peidio â chydymdeimlo â Fingal hefyd pan ddywed wrth "ysbryd Loda," un o dduwiau Llychlyn, am aros. yn ei feysydd hyfryd ei hun ac anghofio am Fingal, yn gymaint ag na fynnai'r arwr aflonyddu arno ef. Wrth sôn am "y cyntaf o'i deulu yn Albion," dywed Duth-maruno:

His race came forth, in their years; they came forth to war, but they always fell. The wound of my fathers is mine. (Cath-Loda).

Brawddeg o'r dernyn hwn ("they came forth to war but they always fell") yw'r unig frawddeg o "Osian" yr wyf yn cofio gweled ei dyfynnu, a dyfynnir hithau y rhan amlaf yn anghywir ac heb wybod ei chysylltiadau. Dro arall, ni rydd y bardd araith yng ngenau ei arwr o gwbl, ond gadael i'w ddistawrwydd a'i weithredoedd ddangos ystâd ei feddwl. Gwelwn y gwŷr arfog yn gorwedd dan eu harfau yn y grug, a chlywn y gwynt yn suo yn eu gwallt, ac ysbrydion y lladdedigion yn nofio ar y cymylau ac yn gwibio yng ngolau'r tân yn y gwersyll. Pan gwympo rhyfelwr, atynt hwy yr â i ddilyn eu hen gampau gynt, "hela baeddod o darth ym môn y gwynt." Nid yw eu gweithredoedd lawn mor ffyrnig â'r rhai y sydd, er enghraifft, yn y Volsunga Saga a'r hen lên ogleddig, er bod Ogar, un o ryfelwyr Osian, yn "boddi ei ddagr naw gwaith yn ystlys Dula," ac Osian yntau, ar ôl torri pen Cormac yn ei ysgwyd bum waith gerfydd y gwallt. Ymladdai Culgorm a Suran-dronlo, gwanodd y naill y llall, syrthiasant yn erbyn craig, y naill yn gafael yng ngwallt y llall. Disgynnai dŵr o'r graig ar eu tariannau, gan gymysgu â'r gwaed. Yn eu gwleddau, cofiant am henaint a llawenydd a fu. Ei gŵynion ar ôl ei ieuenctid yw rhai o'r pethau prydferthaf a dadogir ar Osian. Dywed yn un ohonynt:

Our youth is like the dream of the hunter on the hill of heath. He sleeps in the mild beams of the sun; he awakes amidst a storm; the red lightning flies around; trees shake their heads to the wind. He looks back with joy on the day of the sun and the pleasant dreams of his rest. When shall Osian's youth return? (The War of Inis-Thona.)

Mynnai pob pennaeth hefyd fod ei glod fyw ar ei ôl, yng ngherddi'r beirdd ac yng ngherrig y bedd. Wrth alaru am ei fab Ryno, dywed Fingal y byddai yntau wedi mynd yn fuan; ni chlywid ei lais ac ni welid ôl ei draed; ond dywed y beirdd am enw Fingal; edrydd y meini amdanaf i." Yn y gerdd "Colna-Dona," ceir hanes Osian ac eraill yn mynd i godi meini er cof am un o fuddugoliaethau Fingal, ac y mae'r bardd yn cyfarch y garreg, gan ofyn iddi ddywedyd yr hanes "wrth y gweiniaid, wedi pallu hiliogaeth Selma." Oni ofynnai rhywun wrth weled y meini "Piau y bedd?" fel y gofynnid yng Nghymru gynt?

Un o'r pethau mwyaf nodedig yn y cerddi hyn yw'r fel y mae'r bardd ag ychydig frawddegau byrion cryno yn codi o flaen y meddwl lun byw o'r hyn y bo'n ei ddisgrifio. Weithiau ag un gyffelybiaeth, caiff effaith nas cai'r disgrifiad manylaf. Byddin yn cyfodi "megis y cyfyd haid o adar môr, pan fwrio'r don hwy oddi ar y traeth." Rhuthr byddin yn rhes ar res, fel "ehediad cysgodau duon yr hydref dros fryniau gwelltog." Dwy fyddin yn cyfarfod fel ystormydd yr hydref, yn cymysgu fel ffrydiau ar y gwastadedd, a'r frwydr yn ymdywallt ymlaen "fel niwl a fo'n rholio ar hyd y cwm pan lamo'r ystorm i heulwen ddistaw'r nef." Gwŷr Cuthullin ar ôl eu trechu mewn brwydr, "fel llwyn a'r fflam wedi rhuthro drwyddo a gwyntoedd y nos ystormus yn ei gyrru; yn bell, yn wyw a du y safant, heb ddeilen yn ysgwyd yn y gwynt."

Dichon, wrth gwrs, nad yw'r cerddi mor hen ag y mynnai rhai, ond pwy bynnag a'u canodd, yr oedd yn gynefin â Natur wyllt. Ni allasai beirdd y cerddi meirwon i'r bugeiliaid a'r bugeilesau a'r enwau Groeg a Lladin fyth mo'u canu. Ni welodd y rhai hynny Natur ei hun, a digon ganddynt ail adrodd pethau a ddywed y beirdd clasurol amdani. Prydyddiaeth felly oedd prydiaeth Saesneg oes Macpherson, ac y mae ei gerddi cynnar yntau cyn syched â dim ohoni. Ond am awdur y cerddi hyn, nid ail llaw oedd ei wybod aeth ef am bethau naturiol, a cheir yn ei ddisgrifiadau a'i gyffelybiaethau fanyldeb a chraffter un a welodd ac a wyliodd. Sŵn byddin fel twrf llifogydd: "Cyffelyb eu sŵn i'r ffrydiau fil a gyferfydd yn nyffryn Cona, a hwy, wedi noswaith dymhestlog, yn troelli eu dyfroedd duon dan oleuni gwelw y lloer." Efallai fod ôl taclu ar ystori Agandecca, merch brenin Llychlyn, a laddwyd gan ei thad ei hun am rybuddio Fingal rhag brad y brenin, ac nid oes dim arbennig iawn mewn dywedyd ei bod hi cyn wynned â'r eira, ond pan ddywed y bardd—"Ymollyngodd hithau i lawr fel torch o eira, a lithro oddi ar greigiau Ronan, pan fo distaw'r coed a dyfnhau o'r atsain yn y glyn," dyna beth a welwyd ac a glybuwyd, ac a gofir. Disgrifio gelyn yn dyfod fel tonnau— penagored yn ddiau yw hynny, ond "fel tonnau yn y niwl, pan weler eu brigau ewynnog ar brydiau dros y tawch a fo'n nofio'n isel," dyna fanyldeb. Cof gennyf wylio'r tonnau drwy dawch felly yn torri ar y creigiau ger Aberystwyth, golygfa nad anghofir. Llais y ferch a foddwyd yng ngolwg ei thad yn "darfod fel awel yr hwyr yng nghrawcwellt y creigiau"-sŵn trist hiraethus nad â'n angof gan neb a'i clybu erioed. Cwyn Vinvela, a dorrodd ei chalon ar ôl ei chariad, "fel yr awel yn hesg y llyn."

Nid yw'r cerddi heb gymariaethau tebyg i rail beirdd eraill, a chyhuddwyd Macpherson o ddwyn llawer o'r cyffelybiaethau gorau oddi ar rywrai neu gilydd. Er enghraifft:

The light of song rises in Ossian's soul. It is like the field when darkness covers the hills and the shadow grows on the plain of the sun.

Dygwyd y gyffelybiaeth hon, ebr un beirniad o linell Vergil:

Majoresque cadunt altis de montibus umbræ.

Tybed a fuasai raid i awdur cynifer o gyffelybiaethau a nod mor bersonol arnynt fenthyca llygaid arall i ganfod peth mor gyffredin? Buasai mwy o lewych ar ei gyhuddo o ddwyn cyffelybiaeth fel hon:

She came on his troubled soul, like a beam to the dark-heaving ocean, when it bursts from a cloud and brightens the foamy side of a wave. (Colna-dona.)

Oni chanodd prydydd o Gymro, ganrifau cyn oes Macpherson?—

Gwery fanon fanwl gwâr feddwl faith
Gorne gwawr fore ar för diffaith.

Ond hwyrach mai oddi ar Gynddelw y dug Osian hi! Gwae feirdd gorau'r byd, namyn y cynaraf ohonynt, pwy bynnag ydoedd, petai peth fel hyn feirniadaeth. Efallai mai'r peth prydferthaf yn y cerddi yw cyfarchiad y bardd i'r haul:

Hast thou left thy blue course in heaven, golden-haired son of the sky? The west has opened its gates; the bed of thy repose is there. The waves come to behold thy beauty. They lift their trembling heads. They see thee lovely in thy sleep; they shrink away with fear. Rest in thy shadowy cave, O sun! let thy return be in joy. (Carric-thura.)

Dyma'r ffurf Wyddeleg a gyhoeddwyd ar gynnwys y darn uchod:

An d' fhag thu gorm astar nan speur,
A mhic gun beud is or-bhuidh ciabh?
Tha dorsa na h-oidhche dhuit fein,
Agus pailliun do chlos san Iar.

Thig na tonna m'an cuairt gu mall,
Choimhead an fhir a's gloine gruaidh;
A' togail fo eagal an ceann,
Ri d' fhaicinn co aillidh a' d' shuain,
Theich iadsan gun tuar o' d' thaobh.

Gabhsa codal ann a d'uaimh,
A ghrian, is pill an tus le h-aoibhneas.[11]

Sef yw hynny agos yn llythrennol yn Gymraeg:

A adewaist ti las daith yr wybren,
O fab di-fai a'r gwallt melyn aur?
Eiddot dy hun yw drysau'r nos,
A phabell dy orffwys yn y gorllewin
Daw'r tonnau o'th amgylch yn araf,
I'th wylio, ŵr y gruddiau gloywon;
Gan godi eu pennau mewn ofn
O'th weled mor deg yn dy hun,
Ffoant heb liw o'th gyfyl.

Cwsg yna yn dy ogof,
O haul, a dychwel eto â llawenydd.

Gwelir fod y cyfieithiad Saesneg yn ddigon agos. Ni ddichon yr Wyddeleg, wrth gwrs, fod mor gynnar â'r adeg y dywedir fod Osian yn byw-o'r Saesneg neu'r Ffrangeg y cafwyd y gair pailliun, a diweddar yw'r ffurfiau i gyd. Nid ymddengys i mi fod y mesur yn fesur Gwyddeleg cynnar, ac awgryma'r odlau (gruaidh, suain, uaimb; taobh, aoibhneas) yn y ddau raniad olaf, bod rhywbeth ar ôl-llinellau efallai ar goll. Y tebyg yw, fel yr awgrymwyd eisoes, mai rhyw ddarnau cerddi fel hyn, a briodolai traddodiad i Osian, oedd gwreiddyn gwaith Macpherson.

Cafodd y gwaith, pa wedd bynnag, dderbyniad rhyfeddol ar y Cyfandir ac yn Lloegr hefyd, a dylanwadodd lawer ar lenyddiaeth y cyfnod, yn Lloegr, yr Almaen a Ffrainc. Yn ddiweddarach, daeth yn ffasiwn sôn amdano fel rhyw ystum, rhyw atro anweslyd at bethau a fu. Diau fod yr elfen honno ynddo hefyd. Nid dyma'r unig enghraifft yn y byd o'r atro hwnnw, ac yr oedd yn sicr yn gynarach yng Ngwyddeleg Iwerddon a'r Alban nag oes Macpherson, ac yn Gymraeg hefyd, o ran hynny, yn enwedig y gŵyn ar ôl ieuenctid. Ond un gamp a fedrodd Macpherson, o leiaf-dwyn i mewn i'r Saesneg arddull newydd ag arni fwy o bryd a gwedd nag oedd ar eiddo nemor un o'i feirniaid, a tharo ffansi'r gwledydd nes bod nid ychydig o ddynwared arno. Pan ddaeth Pan ddaeth beirniadaeth hanesyddol, a deall na ellid derbyn y gwaith fel eiddo bardd o'r drydedd ganrif, collodd "Osian" y bri oedd iddo unwaith, ac ychydig, ond odid, fydd yn ei ddarllen bellach. Eto, mewn neilltuedd gorfod, yng nghanol rhosydd, creigiau, cymoedd a choedydd, a llwyr ddiflastod ar gyfnod sy'n llawn mor anweslyd ag un y gwn i amdano, yn ei ffordd ei hun, fe'i cefais ef yn gydymaith nid anniddorol, a ddysgodd i mi nid ychydig o bethau, gwybod, yn eu plith, nad oes beroriaeth a ddwg i ddyn gymaint o feddyliau â sŵn y gwynt ym mrigau'r grug, na bodlonrwydd mwy mewn rhai amgylchiadau na byw ambell awr fel petai dyn yn hŷn na'i hynafiaid ef ei hun.

(1906.)

"Y DEML GLADD"

UN o'r meddylwyr mwyaf nodedig sy'n ysgrifennu yn y Ffrangeg yn ein hoes ni, yn ddiamau, yw Maurice Maeterlinck, ac y mae dywedyd hynny amdano yr un peth a dywedyd ei fod yn un o feddylwyr mwyaf nodedig y byd. Dywedodd rhai beirniaid, Tolstoi yn eu mysg, ei fod yn dywyll ac anodd i'w ddeall, ac y mae hynny yn wir am lawer o'i gerddi a rhai o'i ddramâu, megis "Pelleas et Melisande" a "Les Aveugles," cyn belled o leiaf ag y mae gweled eu pwrpas yn mynd. Gellir darllen "Pelleas et Melisande" lawer gwaith trosodd heb ddeall ei hystyr—dyna, beth bynnag, fy mhrofiad i—ac eto, ni wn i am ddim mor fedrus a gafaelgar â rhai rhannau o'r ddrama honno. Pe bernid ef wrth y gweithiau hynny yn unig, nid annheg fyddai dywedyd ei fod yn grefftwr medrus yn hytrach nag yn feddyliwr clir; ei fod yn gwybod i'r dim sut i gynhyrchu'r teimlad a fynno yn y sawl fo'n ei ddarllen, a hynny yn y dull symlaf yn aml, yn hytrach na'i fod yn gwneuthur i bopeth wasanaethu un diben deallus a chlir yn ei waith. Ond yn ei weithiau diweddarach, "Le Temple Enseveli" a "La Vie des Abeilles," y mae ef wedi llwyr newid, nid yn unig o ran dull, ond hefyd o ran agwedd, os nad wyf i yn ei gam ddeall, ac y mae'r llyfr a eilw ef "Y Deml Gladd" ("Le Temple Enseveli") yn sicr yn waith lle y mae'r meddwl dynol yn aml i'w gael ar ei orau a'i gliriaf. Yn yr ysgrif hon, ceisir rhoi crynodeb o gynnwys y llyfr, nid am fod yr ysgrifennydd yn derbyn nac yn gwrthod ei ddysgeidiaeth, ond am ei fod yn ffrwyth meddwl grymus a chlir, ac ysbryd na byddai dyniolaeth ar ei cholled, beth bynnag, pe meithrinid rhagor arno. Rhennir y llyfr yn chwe rhan, dan y pennau a ganlyn: Cyfiawnder, Twf Dirgelwch, Teyrnasiad Mater, Y Gorffennol, Ffawd, Y Dyfodol. Amcan yr awdur, a siarad yn gyffredinol, yw cael allan pa beth sydd wybyddadwy i ddyn o'r hyn y sydd, ar un olwg, o leiaf, yn edrych fel pe bai'n ddirgelwch anwybyddadwy. A yw ef yn ei ymgais yn mynd yn rhy bell neu ynteu'n methu â myned yn ddigon pell, barned y darllenydd drosto'i hun.

Nid wyf i yn deall bod yr awdur yn gwadu Bod Duw, er ei fod yn gwrthod llawer o'r syniadau yr ydys yn gyffredin yn eu coleddu am Dduw. Wrth drin ar Gyfiawnder, dywed ei fod yn ysgrifennu i rai nad ydynt yn credu ym mod un barnwr hollalluog a di—ffael, yn gwylio ein meddyliau, ein teimladau a'n gweithredoedd; yn cynnal uniondeb yn y byd hwn ac yn ei gwpláu yn rhywle arall. Ond, onid oes farnwr, a oes ynteu gyfiawnder amgen nag a luniodd dynion, nid yn unig drwy gyfreithiau a llysoedd, eithr hefyd yn eu holl ymwneud â'i gilydd? Yn ei ymchwil, y mae ef yn cael bod cyfiawnder nad oes dianc rhagddo, bod y cyfiawnder hwnnw yn cau am holl fywyd dyn, a bod yn teyrnasu yn ei ganol yntau ddeall nad yw'n ei dwyllo ei hun ac nas twyllir chwaith. Deil fod cyfiawnder anianol a chyfiawnder ysbrydol yn cynnwys pob ffurf ar gyfiawnder sydd yn ymddangos i ni fel pe'n bod heddiw, uwchlaw cyfiawnder cymdeithasol, ond nad oes dim cyfiawnder anianol yn tarddu o achosion moesol i'w gael yn ein byd ni. Nid yw'r ddaear na'r nefoedd, meddai, natur na mater na'r ether, nac un nerth neu rym a adwaenom ni, yn ymboeni ynghylch cyfiawnder, ac nid oes iddynt y berthynas leiaf â'n moes, â'n meddyliau nac â'n bwriadau ni. Rhwng y byd oddi allan a'n gweithredoedd ni, nid oes onid perthynas syml achos ac effaith, peth nad oes ynddo o angenrheidrwydd ddim moes o gwbl. Er enghraifft, pe neidiai dyn i'r dwfr i achub dyn arall rhag boddi, neu pe syrthiai i'r dwfr wrth geisio boddi dyn arall, yr unpeth yn union fyddai effaith yr oeri a'r annwyd. Eto, nid yw etifeddiant yn cosbi odid ddim onid meddwdod ac anniweirdeb, ac ni bydd byth yn gwahaniaethu rhwng achosion y pethau hynny. Gallai tad fod wedi cyflawni mil o droseddau atgas, wedi llofruddio, bradychu, gwneud cam â'r diniwed ac ysbeilio'r tlawd, heb i'r troseddau hyn adael yr ôl lleiaf ar gyfansoddiad ei blant. Digon i'r tad fod wedi ymgadw rhag gwneud dim a allai effeithio ar ei iechyd. Nid yw etifeddiant moesol ychwaith ond ffurf ysbrydol y llall, ac y mae'r naill mor ddidaro a dall a'r llall. Eto, yn gyffredin, rhwng yr achos a'r effaith, rhwng deddf parhad yr hil a ffrwyth ei gweithrediad, fe fydd digon o gyfatebiaeth i beri i ni synio bod cyfiawnder mewn pethau allanol. Byddwn ninnau, fel ein hynafiaid gynt, yn dehongli'n syniadau yn ôl ein hewyllys, ond nid mor fanwl a chywir â hwy. Pan fo tebyg y bydd drygioni'n wasanaethgar i ni, byddwn yn galw amdano, yn enw y to a ddaw, yn enw dynoliaeth, yn enw ein gwlad; ond pan ddigwydd i ni anffawd fawr, ni welwn ni na chyfiawnder na duwiau yn unman. Y mae oddi mewn i ni ysbryd nad yw'n pwyso onid y bwriadau; oddi allan i ni, gallu nad yw'n pwyso onid y ffeithiau y sydd. Nid rhesymol i ni synnu na chymer y môr sylw yn y byd o ystâd enaid y dyn fo'n aberth iddo, a ninnau a chennym enaid, organ cyfiawnder yn arbennig, heb gymryd un sylw o ddiniweidrwydd miliynau o greaduriaid sy'n ebyrth i ni. Cyn cwyno yn erbyn difaterwch natur a cheisio ynddi degwch na pherthyn iddi, doeth fyddai i ni yn ein cylch ein hunain ymosod ar ddrwg a geir yno; a phan na chaffer ef mwy yno, odid nad ymddengys i ni fod swm yr anghyfiawnderau damwain ddwy ran o dair yn llai.

Yna, ymholir ym mha le y gorwedd dirgelwch Cyfiawnder. Ystyrrid gynt mai yn llaw'r duwiau, a thrachefn fod y duwiau ynddo yntau. Dodwyd ef ym mhob man ond mewn dyn, a phan oeddym bron a chredu nad ydoedd mwyach, dyna ef i'r golwg o waelod ein calon. Felly, medd ef, gyda llawer dirgelwch; nyni yw eu noddfa olaf a'u gwir drigfa, "ynom ni y dont o hyd i'r aelwyd a adawsant i grwydro'r gofod yn afiaith cyntaf eu hieuenctid." Bai arnom yw priodoli bwriadau moesol i natur, ac ymddwyn oblegid ofn cosb neu obaith gwobr; eto nid yw hynny'r un peth â dywedyd nad oes wobr i'r da na chosb i'r drwg- diamau fod gwobr a chosb, ond mai nid o'r lle y tybiwn ni y dont. Nyni sy'n dodi cyfiawnder yn natur. Ni bydd cyfiawnder nac anghyfiawnder ein bwriad ni yn dylanwadu dim ar agwedd natur tuag atom, ond bydd i hynny ddylanwad, a dylanwad terfynol bron bob amser ar ein hagwedd ni tuag at natur. Dyn, mewn gwirionedd, sy'n cosbi dyn, a chyfiawnder dyn sydd yn dial. Bydd gweithred anghyfiawn yn peri i ddyn golli ei ymddiried ynddo'i hun, ac ar ôl llawer gweithred anghyfiawn, bydd y gorffennol yn ein digalonni yn lle ein cynnal. Ni all dyn fyw nac ymddwyn onid mewn cyfiawnder, am hynny y cosbir ein anghyfiawnder; a phan ddêl awr y cosbi, bydd popeth yn ymddangos yn gyfiawn ac yn ein herbyn, er na bo dim felly ynddo'i hun, ond mai nyni, er ein gwaethaf, sy'n parhau'n gyfiawn hyd yn oed yn yr anghyfiawnder ei hun.

Gwelir oddi wrth yr ymresymiad hwn fod yr awdur yn mynd yn groes i'r rhai sy'n rhoi dyn yn rhan, hyd yn oed os y rhan bennaf, o natur, ond y mae ganddo lawer i'w ddywedyd drosto'i hun ar y pen hwnnw hefyd. Gan mai'r cwbl a wyddom ni am natur yw'r hyn y mae hi yn ei wneuthur a'r modd y gwna; gan na wyddom ni mo'i diben hi nac ychwaith a oes iddi gydwybod, nid gwiw i ni ddywedyd yn bendant nad oes iddi foes. Os gwrando ar natur yn unig a wnawn, yna trechaf treisied, gwannaf gwaedded yw'n hunig reol ni, ac y mae'r rhai sy'n dal damcaniaeth datblygiad, er na feiddiont addef hynny, yn seilio eu moes, mewn gwirionedd, ar gyfiawnder natur. Erbyn heddiw, yn wir, dyna'r syniad sydd oddi tan ein holl fywyd, onid yn unig fywyd y teulu— yno yn unig, i'r rhan fwyaf o ddynion, y mae ychydig o wir gyfiawnder, caredigrwydd a serch yn rheoli. Ond gan na ŵyr dyn ba beth yw diben natur, deil Maeterlinck nad oes gennym hawl i'w dynwared, mwy nag y byddai gennym hawl i ddynwared un a wnâi beth a fyddai ddrwg neu greulon yn ein golwg, a ninnau heb wybod y rhesymau, dwfn ac iachus, efallai, a fyddai tan y peth hwnnw. Efallai fod natur, yn ystod canrifau, yn gwneud cam y bydd ganddi ganrifau i'w unioni; ond nid oes i ni, nad ydym yn byw ond ychydig ddyddiau, megis, ddim rheswm dros efelychu'r peth na allwn ei weled yn ei grynswth na'i ddilyn na'i ddeall. Ac onid yw natur yn gyfiawn, y mae hi yn gyson. Pe mynnem ninnau fod yn anghyfiawn, byddai'n dra anodd i ni fod, am y byddai raid i ni fel hithau fod yn gyson; ac yn ei berthynas â'n meddyliau, ein teimladau, ein nwydau a'n bwriadau ni, pa wahaniaeth sydd rhwng cysondeb a chyfiawnder?

Gadawn, medd yr awdur, i rym deyrnasu yn y byd oddi allan, a thegwch yn ein calon ninnau. Wrth astudio ein cariad at gyfiawnder a gwirionedd, efallai y down i ddeall pa beth ydyw'r nwyd honno. Pa un bynnag, byddwn yn sicr—a dyna'r peth pwysicaf o ddysgu sut i'w meithrin a'i phuro.

Eto, gwaith anodd iawn fydd hynny, gan nad yw'n moes ni heddiw yn abl i chwanegu nemor ddim at hen foes y Dwyrain, a feithrinwyd, yntau, wedi'r cwbl yng nghanol trais ac anghyfiawnder erchyll. Pan fo dyn gyfiawnaf at ei berthynasau, ei gyfeillion, ei gymdogion a'i weinidogion, y gwêl ei fod anghyfiawnaf at bawb eraill. Ni wyddom ni ddim eto sut i fod yn gyfiawnach at eraill, o leiaf, ni wyddom sut i fod felly heb ymwadiadau na wnaent nemor les am na allent fod yn unfryd, ac am y byddent yn debyg o fynd yn groes i ddeddfau dyfnaf natur, deddfau sy'n gwrthod ymwadiad ym mhob ffurf ond cariad y fam. Dyna gyfrinach dynol ryw, a bydd honno yn ei datguddio'i hun o dro i dro ym munudau gwir beryglus ei hanes. Hwyrach bod yr awr yn dynesu iddi lefaru o'r newydd.

Dyma, hyd y gwelaf i, beth tebyg i'r "datguddiad" y bydd diwinyddion diweddar yn sôn am dano, ond na fyn Maeterlinck ei ddisgwyl o'r un lle. Araf iawn, medd ef, ac annhebyg iawn i syniadau'r bod unigol yw syniadau'r hil, a chwestiwn difrif yw a ellir drwy ryw ymdrech gyflymu awr neu droi mymryn ar benderfyniadau'r lliaws mawr di-enw sydd o gam i gam yn cyrchu at ryw ddiben nas gwelir. I ni yn y cyfnod hwn, dylai geiriau fel y rhai a ganlyn, a gyhoeddwyd flynyddoedd cyn y Rhyfel Mawr, fod megis geiriau proffwyd:

Ennyd beryclaf dynoliaeth oedd pan dreisiai a phan laddai'r tylwythau cyntefig ei gilydd, pan oedd dial yn cynhyrchu dial a dial am ddial drachefn. Eto, ymhlith pob pobloedd farbaraidd, gyda bod. arfau'r llwyth yn dyfod mewn gwirionedd yn beryglus, gwelid dialedd yn arafu'n sydyn o flaen arfer nodedig a elwid yn bris gwaed.

Cyfeirir yma at y peth a elwid "galanas" yn y Cyfreithiau Cymreig. Tyb Maeterlinck mai un o syniadau'r hil yw hwn, am y buasai'n wrthwynebus ac atgas hyd yn oed gan y doethion. unigol. Greddf y lliaws ydoedd, medd ef, yn ei hamddiffyn ei hun rhag syniadau rhy bersonol, rhy ddynol i ddygymod â thelerau bywyd ar y ddaear. Dyma eto eiriau gwerth eu hystyried yn ddwfn:

Hyd oni chaffo'r hil y ffordd angenrheidiol i helaethu cyfiawnder eto-ac fe'i caiff yn ddi-boen pan fo'r perygl fwyaf, onid ydyw hi wedi ei gael. ac eisoes yn newid rhan o'n diben heb yn wybod i ni-a chan weithio oddi allan fel pe bai iechydwriaeth ein brodyr yn dibynnu ar ein hymdrech ni, y mae i ninnau, megis yr hen ddoethion gynt, gennad i fynd ar dro i mewn i ni ein hunain; ac oni chaffom berffaith dawelwch, odid na chawn obaith annileadwy, canys, er gwaethaf popeth, y mae'n sicr fod yng ngwaelod bywyd moesol pob un ohonom ddelw y cyfiawnder anweledig a di-lwgr a geisiasom yn ofer yn y nef, yn y byd, ac yn nynoliaeth. Dyna lle y mae'r cwlwm deallus rhwng achos ac effaith. Cyfiawnder yw gradd flaenaf y dirgelwch, a phan ufuddhaom iddo ef, gallwn fyned rhagom, yn rhyddach ein hysbryd a thawelach ein calon, i chwilio cyfrinach y dirgelwch ei hun.

Yn yr ail rhan o'r llyfr y mae'r awdur yn olrhain twf ein syniadau am ddirgelwch. Ei ymresymiad yw mai ar amgyffrediad o'r byd, sef yr un peth ag amgyffrediad o'r anhysbys, y mae ein bywyd ni yn gorffwys, ac am hynny nad iawn i ni dderbyn y peth a rydd i ni fwyaf o fwynhad, eithr yn hytrach y peth fydd wiraf yn ein golwg. Y drwg mawr, sy'n dinistrio ein bywyd moesol ac yn bygwth uniondeb ein hysbryd a'n cymeriad, nid ein twyllo ein hunain drwy garu gwirionedd ansicr ydyw, ond dal yn ffyddlon i'r peth na bôm mwy yn ei lwyr gredu. Felly, ein dyled yw chwilio a deall, a meithrin dyheadau digon helaeth i gydfynd â phob ffaith ddi-wad. Nid drwg colli hen gred-daw un newydd yn ei lle, ac oni ddêl, gwell ei fod yn wag na bod ynddo ddim ond hanner cred. Nid gwaith ofer yw darparu lle i wirioneddau a ddaw, cadw trefn dda ar y nerthoedd a ddylai wasanaethu arnynt, a gwneud ynom ein hunain ddigon o ehangder. Er nad yw'n bywyd ni, os mynnir, yn ddim, nad yw'n bod ni na bod ein planed yn ddim ond damwain druenus yn hanes y bydoedd, gwir er hynny mai ein bywyd a'n planed ein hunain yw'r pethau pwysicaf, a hyd yn oed yr unig rai pwysig yn hanes y bydoedd. ini. Yr anhepgor i ni yw ymlynu wrth y gwir fo gwiraf o'r lle yr edrycho dyn arno.

Yma, daw'r awdur at gais dynion i esbonio ac esguso pethau iddynt eu hunain. Dibynnu ar Dynghedfen, medd ef, y mae'r beirdd sy'n disgrifio bywyd, gynt ac eto, am fod hynny yn gyrru pethau y byddai'n boenus eu hegluro ac yn anos fyth eu hesguso, yn ddigon pell i'r anweladwy neu'r annealladwy. Felly y ceisiwyd defnyddio malurion delw y dduwies ofnadwy a reolai yn nhragoedïau Aeschylus, Sophocles ac Euripides—yno y cafodd llawer bardd ddeunydd at lunio duwies newydd, fwy dynol, lai pendant, a haws amgyffred amdani. Ond myn Maeterlinck holi pam y dyd y bardd yn ei gerdd esboniad nas derbyniai mewn bywyd, a gwad y syniad cyffredin iawn fod dynion pan fônt mewn helbul yn gweled gwirioneddau nas gwelant ar oriau tawelach. Nid wyf yn sicr a yw ef yn rhoi digon o bwys ar ddisgyblaeth yr oriau helbulus a chysylltiad y ddisgyblaeth honno â'r oriau tawelach a fydd yn canlyn. Y mae ganddo bob hawl i ofyn "Pa foment y dylid ei dewis i roi ystyr i fywyd?" Nid annheg ychwaith yw ei ddywediad y bydd dehonglydd bywyd yn gyffredin yn dewis yr oriau trwblus, ond ychwanega ef:

Gan nad oes ganddo na'r amser na'r gallu i ddangos holl fân achosion syml anhapusrwydd dyn, gesyd yn eu lle un achos cyffredinol a dyrys; ac ym mha le y ceir hwnnw onid yn y geiriau y byddwn yn eu sibrwd pan fynnom ymostwng mewn distawrwydd-duwdod, rhagluniaeth, tynghedfen, cyfiawnder tywyll ac anhysbys. Onid yw'n bryd adolygu ein cyffelybiaethau a'n cymhariaethau, canys nid dibwys yw byw yng nghanol cyffelybiaethau gau, hyd yn oed pan wypom mai gau font. Diweddu a wnânt trwy gymryd lle'r syniadau y bônt yn sefyll drostynt. Nid yw angau i ni mwy yn gymaint o ddychryn ag ydoedd gynt, ond a yw ein moes yn is, yn llai pur a llai dwfn er pan yw'n fwy unplyg? A gollodd dynoliaeth un teimlad anhepgor wrth golli arswyd? Ac nid yr anhysbys yn natur sydd yn ein dychryn, nid dirgelwch ein byd ni, eithr dirgelwch y byd arall, dirgelwch moesol. Ni rydd daeargryn, er enghraifft, ofn ar ein hysbryd oni thybiom mai gweithred o farn neu gosb oruwchnaturiol fydd. Yr hyn sydd yn peri braw, amgen nag ofn rhag perygl agos ond naturiol, yw'r syniad tywyll am gyfiawnder, y cyfiawnder y mae etifeddiant yn sefyll drosto yn nramâu Ibsen, er enghraifft; mewn gair, ac er gwadu hynny, wyneb Duw sydd yn adymddangos, a hen fflam uffern sydd yn sio eto dan y maen y ceisiwyd ei selio arni. Ond nid yw'r ffurf newydd ar Dynghedfen mor dderbyniol â'r hen ffurf, oedd yn gyffredinol ac amhendant. Nid ydys na mawr nac aruchel am ein bod yn meddwl yn ddi-baid am y peth diadnabod a diderfyn, ac ni bydd y meddwl hwnnw yn wir iachus oddieithr pan fo'n dâl diddisgwyl i'r ysbryd a ymroes yn ffyddlon ac yn llwyr i astudio'r peth terfynedig a'r peth y gellir ei adnabod. O wneuthur hynny, fe welwn yn fuan fod gwahaniaeth nodedig rhwng y dirgelwch sy'n blaenori'r peth nas gwyddom â'r dirgelwch sy'n canlyn y peth y bôm wedi ei ddysgu.

Diau fod y meddylwaith yma yn ddwfn ac yn ddidwyll. Un pwynt yn unig sy betrus, os ydym yn iawn ddeall yr awdur, sef, a ellir dehongli bywyd" yn unig wrth ei oriau tawel, mwy nag wrth ei oriau trwblus?

Yn yr adran ar "Deyrnasiad mater," honna'r awdur fod popeth yn dangos i'r cyfiawn mai ehud fydd, oni bai gael ynddo ef ei hun gymeradwyaeth na ellir mo'i hesbonio, a thâl mor ddi-afael fel mai ofer ddigon yw pob cais o'r eiddom i ddisgrifio hyd yn oed ei fwynderau lleiaf ansicr. Ac eto, meddai, haws fyddai gennym golli cyfoeth, tawelwch, iechyd ei hun, a hyd yn oed flynyddoedd o'n heinioes, na cholli'r gynneddf i ganfod a mwynhau prydferthwch naturiol neu foesol. Fe wêl y darllenydd fod Maeterlinck yma yn dyfod y ddadl rhwng mater a rhywbeth arall, ac er ei fod ef yn ddiau yn cyffredinoli ar y mwyaf wrth sôn am y pwys a rydd rhai dynion ar "brydferthwch naturiol neu foesol"-y mae'n amheus iawn a aberthai "tywysogion diwydrwydd" yn ein gwlad ni geiniog o'u cyfoeth er mwyn un math ar brydferthwch-eto y mae ei feddyliau ar y pwnc yn llawn o bob ansawdd wych ar bwyll dyn. Disgrifia'r mwynhad anghyffwrdd hwnnw a ddaw, dywedwn, i rai dynion wrth ganfod prydferthwch naturiol neu foesol, fel rhyw gylchoedd neu loerennau[12] o oleuni, a thyb mai o gwmpas y lloerennau hynny yr ymgasgl bywyd dyn fwyfwy hyd ddiwedd amser. Gellid maddau i ni yn y cyfnod materol yr ydym yn byw ynddo am amau ffydd o'r fath, ond y mae ganddo ef lawer i'w ddywedyd trosto'i hun. Eddyf fod ein cyfnod ni yn edrych fel pe na bai'n caru dim ond mater, ond gan ei garu," meddai, " eto yn ei ddofi mor brysur fel pe mynnai ei feistroli a'i lwyr adnabod tuag at ryddhau'r dyfodol rhag yr ymchwil aflonydd am ddedwyddwch y mae'n beth naturiol gobeithio ei gael mewn mater, cyhyd ag y bôm heb dreulio ei holl adnoddau a dyfod o hyd i'w holl gyfrinachau."

Er maint y materoldeb hwn, tebyg gan Maeterlinck y daw ryw ddydd wrthdro tra difrif yn erbyn y nwyd am fwyniannau mater. Mynych y dywedir na ddaeth yr awr eto pryd y dichon dyn ganfod yn glir yr hyn a berthyn i'r corff ac i'r ysbryd, ond pa bryd y daw hi, medd yntau, "os myn y rhai y mae'n rhaid bod yr awr wedi taro iddynt ers amser hir, gymryd eu harwain yn newisiad eu dedwyddwch gan ragfarnau tywyll y lliaws?" Gellid gofyn pwy yw'r lliaws, efallai, gan gofio ddywedyd o'r awdur eisoes fod greddf yr hil weithiau'n achub yr hil rhag ei difodi. Ond efallai y dylid gwahaniaethu rhwng termau fel" greddf yr hil" a "rhagfarn y lliaws." Y mae gennym hawl, medd Maeterlinck, i bopeth a ddichon ffafrio a chynnal twf llawn ein cyrff, ond deil yntau, fel athrawon y crefyddau, y dylid pennu terfynau'r hawl honno mor fanwl ag ag y bo modd, am fod y cwbl a groeso'r terfynau hynny yn niweidio'r rhan arall o'n bod, sef yr ysbryd, y sydd fel blodyn y bo'r dail naill ai yn ei fagu neu yn ei fygu. Ar y pen hwn, diau mai ceisio crynhoi ei ddysgeidiaeth ef yn ei eiriau ei hun fyddai orau:

Ar ôl llwyr ymlynu wrth y corff i ddechrau, petrusodd bryd dynoliaeth yn hir rhwng mater a'r ysbryd, ond y mae bellach yn ymlynu fwyfwy wrth y deall. Ein dyled weithian yw bwrw ymaith bopeth na bo'n gwbl fanteisiol i gynnydd y rhan ysbrydol ohonom. Y mae'r pechod yn erbyn yr ysbryd, sef y pechod oedd gan yr Iesu mewn golwg, ac y bwriodd ef y fath anathemau arno, yn dyfod yn bechod difaddau. Ryw ddydd, fe ymgydwedda ein moes â diben tebygol ein rhyw, canys darostwng ei ddull o fyw i gwplau'r diben cyffredinol y barno ef ei fod wedi ei ymddiried iddo, yw unig wir foes unrhyw fod neu fath. Ni ddyliu ystyried y corff yn elyn marwol i'r ysbryd, fel yn yr athrawiaeth Gristnogol, ond dylid cyfyngu arno ac ymwrthod â llawer peth a fynnai; ac y mae hynny yn ddyled, nid ar y goreuon yn unig, ond ar bawb, canys y mae dynoliaeth yn un ac unfryd, a meddwl y lliaws mud yn effeithio ar feddwl a chymeriad y serydd, y fferyllydd, y ffilosoffydd a'r bardd. Y mae'r llafurwr a el i edrych ar fachlud haul, yn hytrach nag i yfed a therfysgu, yn rhoddi cynorthwy di-enw a diarwybod eithr nid dibwys i oruchafiaeth fflam fawr dynoliaeth. Ond gynifer peth sydd i'w wneud a'i ddysgu cyn yr ymgyfyd y fflam fawr honno yn glir ac yn sicr! Yn ein perthynas â mater, ni wyddom ni eto pa beth i'w wneud; ni wyddom sut y dylem ymborthi, ai llysiau ai cig y dylem eu bwyta, na pha swm o fwyd y dylem ei gymryd. Y mae ein deall yn gwyro ein greddf. Y mae effaith alcohol, er enghraifft, ar y lliaws, a thrwy hynny ar y goreuon, yn gymaint fel y mae bron yn amhosibl i syniad am ddedwyddwch mwy llwyr, mwy dwfn, mwy syml, mwy tangnefeddus, mwy difrif, mwy ysbrydol, a mwy dynol gael ei eni. I ba le yr â dynoliaeth? Er na wyddom, na chymerwn lai o bleser yn y daith. Diau y daw llafur yn llai caled a thrwm, a'r pwys yw gwybod sut i ddefnyddio hamdden. Yn y trefi mawr, y mae tridiau o segura yn llenwi'r clafdai â chleifion gwaeth eu sut na thri mis o lafur. Na chredwn mai ofer ein bywyd. Gan dwf coed a llysiau'r cyfnod cyntaf, ac anifeiliaid aruthr yr ail cyfnod, teneuwyd awyr y ddaear fel y gallai eu disgynyddion ei hanadlu. Ufuddhaodd y rhai hynny i drefn eu bywyd, gwnaethant y peth oedd ddyled arnynt. Ac amlwg ein bod ninnau, wrth dryloywi gronynnau o'r un mater hyd y radd sydd gymwys i feddwl dyn, yn pennu at y dyfodol rywbeth na bydd marw mwy.

Diau mai'r darn â mwyaf o liw barddoniaeth arno yn y llyfr i gyd yw'r darn ar y Gorffennol. Egyr yr awdur ei draethiad ar y pwnc â'r paragraff a ganlyn, sy deilwng o'i ddawn ysgrifennu ar ei gorau:

Y tu ôl i ni, ymlêd ein gorffennol yn un olwg hir. Huna yn y pellter, fel tref wedi ei gadael yn y niwl. Dacw rai pegynnau yn dangos ei therfynau ac yn edrych i lawr arni. Ymgyfyd rhai gweithredoedd pwysig yn gyffelyb i dyrau, rhai eto dan oleuni, eraill ar hanner adfeilio, ac yn goblygu o dipyn i beth dan bwys angof. Dacw goed yn dadddeilio, darnau muriau yn dadfeilio, a hydau hirion o gysgod yn mynd yn hwy, hwy. Y mae popeth yno fel pe'n farw, heb symudiad yn y byd, amgen na'r rhith fywiocáu fydd ar y lle gan araf ymddatodiad ein cof. Ar wahan i'r bywyd benthyg hwn, sy'n codi o dranc ein hatgofion ein hunain, y mae popeth yno fel pe'n gwbl ddi-symud, fyth yn ddi-newid, ac fel pe bai rhyngddo a'r presennol a'r dyfodol ryw afon na ddichon dim ei thramwy. Eto yn wir, y mae'r cwbl yn byw, a hynny i lawer ohonom yn fwy angerddol ac yn ddyfnach na'r presennol a'r dyfodol. Mewn gwirionedd, y dref farw hon yn fynych yw aelwyd brysuraf Bod; ac yn ôl yr ysbryd a'u dygo yno, tyn rhai eu holl oludoedd ohoni, treulia eraill hwy yno i gyd.

O'm rhan fy hun, rhaid i mi gyfaddef bod yn hoff gennyf yr amser a fu, yn rhy hoff, fe ddichon. Nid hyfryd i mi, pan ddarllenais y llyfr gyntaf, ymhell oddi cartref, oedd weled y Belgiad yn malu rhai o'm heilunod, ac eto, nid amau gennyf na wnaeth ei waith les i mi pan dybiwn nad oedd ddichon i mi fyw onid yn y gorffennol, pan oedd y presennol yn ddu a'r dyfodol wedi darfod.

Y mae'r syniadau sydd megis wedi tyfu ynom, medd Maeterlinck, yn peri i ni ystyried y gorffennol fel gallu mor bwysig a diysgog â Thynghedfen ei hun. Efô yw'r dynged sydd o'n hôl ac yn ein gwthio, fel y mae'r llall sydd o'n blaenau yn ein tynnu. Dichon dyn amau Tynghedfen, ond nid amau gan neb nerth y gorffennol. Eto, medd ef, nid oes dim yn ein gorffennol onid a roddwn ni ynddo ein hunain, ac y mae yntau yn newid yn barhaus i ganlyn ein presennol. Cymer yn ddioed ffurf y cawg y bydd ein meddwl ni heddiw yn ei gynnull ef ynddo. Yn ein cof y mae ef, ac nid oes dim yn newid cymaint na dim mor hawdd peri argraff arno â'r cof. Y peth sydd o bwys i ni yn y gorffennol yw'r effaith foesol a wneir arnom. gan y digwyddiadau a fu, ac nid effeithiant hwythau arnom ond hyd yr ymwrthodwn ninnau ag effeithio arnynt hwy. Nid ymeifl y gorffennol ond yn y sawl y bo'r bywyd moesol wedi sefyll ynddo, ac ni chymer ffurf arswydus ond ar ôl y safiad hwnnw. Ond bod yn feistr arno, fe a'n gwasanaetha; ond o bydd ef yn feistr arnom ni, fe a'n lladd. Dylai ein beiau yn y gorffennol ein

codi uwchlaw'r beiau y teimlom ein bod eto'n abl i'w cyflawni heddiw, ac fe'n gad ein troseddau pan deimlwn ni na allai un demtasiwn nac un gallu yn y byd ein gorfod i gyflawni eu tebyg mwy. Ni dderfydd eu heffeithiau, y mae'n ddiau, ond ni ddylent hwy gyfodi o'n blaenau onid pan dueddwn drachefn tua'r dibyn lle y maent hwy. Ni all na chyfyd llawer bai ryw ddydd i hawlio'r hyn sy ddyledus iddynt; ond ar ein cydwybod ni a'r farn a roddom arnom ein hunain o'u plegid, y dibynna pa un ai fel dialyddion bygythiol ai fel ymwelyddion da eu hewyllys y dont. Os fel yr olaf y dont, ni wnant ond tywallt i'n calonnau y meddyliau a'r gofid sy'n dyrchafu, yn puro ac yn cysuro. "Na chysgwn yn ein gorffennol," ebr yr awdur; "pan adawom iddo ef rwystro un weithred y mynnem ei gwneuthur, dyna'r pryd y dechreua ein marwolaeth, ac y cymer adeiladau'r dyfodol ffurf beddau."

Yn y rhan sydd ganddo ar Ffawd neu Lwc, sonia'r awdur am y lwc wastadol sydd i ambell rai a'r anlwc gyson sydd i eraill yn y byd. Diau fod rhan fawr o'r lwc a'r anlwc yn ddyledus i ddynion. eu hunain, ond deil ef fod rhan helaeth yn gyfryw fel na ellir eu priodoli onid i ewyllys rhyw allu, gallu a elwir yn gyffredin yn Ddamwain neu Dynghedfen ac enwau tebyg. Daw pethau tebyg i ran anifeiliaid, ond ni bydd neb yn meddwl am feio na duwiau na thynged am eu hanlwc hwy. Y mae ynom ni, oddi tan y bod sy'n ymwybod ag ef ei hun, fod arall dyfnach, sy'n treiddio'n ôl i orffennol nas cyrhaedda hanes, ac ymlaen i ddyfodol nas treulia miliynau o flynyddoedd. Nid hy, medd Maeterlinck, yw credu bod yr holl dduwiau yn ymguddio yno, ac y dont allan yn eu tro er rhoddi i'r peth enw a ffurf y gall ein dychymyg eu hamgyffred. Ac yn y bywyd hwn y dylid chwilio am esboniad ar ein lwc neu ein hanlwc.

Gwelir fod yr awdur yn ein harwain i le tywyll yn y fan hon, a gwell fydd rhoddi'n lled gyflawn y peth y mae ef yn ei ddywedyd am y reddf y mae'n tybio ei bod mewn dyn.

Y mae ynom, eb efô, fod, sef ein myfi gwirioneddol, ein myfi cyntafanedig, cyn cof, diderfyn, cyffredinol, ac anfarwol yn ôl pob tebyg. Nid yw ein deall, nad yw ond math o lewych ar wyneb yr eigion mewnol hwnnw, yn adnabod y bod hwnnw hyd yma ond yn amherffaith... Y mae'r bod hwnnw'n byw ar wastad arall ac mewn byd amgen na'n deall ni. Ni wyr ddim am amser na lle, y ddau fur arswydus a rhithiol y mae'n rhaid i'n rheswm ni redeg rhyngddynt tan boen ymgolli. Iddo ef, nid oes agos na phell, nac a fu nac a fydd, na gwrthwynebiad mater. Gŵyr bopeth a gall bopeth. . . . Bydd yn ymwneud â'r deall mewn dulliau tra amrywiol. Mewn rhai pobl, bydd mor ddwfn ynghladd fel nad yw'n ymhel ond â'r swyddogaethau anianol a pharhad yr hil. Mewn eraill, ymddengys fel pe bai bob amser yn effro. Ymgyfyd yn fynych nes bod ei rith-bresenoldeb yn cyffwrdd. â'r bywyd allanol ac ymwybodus; ar bob llaw bydd yn ymyrryd, yn rhag-weled, yn rhybuddio, yn penderfynu ac yn ymgymysgu yn y rhan fwyaf o ffeithiau pwysig gyrfa dyn. O ba le y mae'r gynneddf hon? Ni wyddys. Nid oes iddi ddeddfau sefydlog a sicr. Nid ydys, er enghraifft, yn canfod un berthynas gyson rhwng ei hymddygiadau hi a thwf y deall. Bydd yr ymddygiadau hynny yn canlyn rheolau na wyddom ni ddim amdanynt. Yn ystâd bresennol ein gwybodau, gallem dybio mai peth damweiniol hollol yw'r gynneddf. Gwelir hi yn hwnyma ac nid yn hwnacw, heb fod lle yn y byd i ddyfalu achos y gwahaniaeth hwnnw.

Gweithrediadau'r reddf hon, ebr Maeterlinck, sy'n esbonio lwc neu anlwc dyn. Saif yr anlwc o'n blaen, ond na wyddom ni mo hynny, gan mai mewn amser, y naill ar ôl y llall, yr ydym ni'n canfod pethau. Bydd y reddf hon yn rhybuddio'r rhai lwcus, ond bydd y rhai anlwcus yn mynd i gyfarfod â'u tynged. I brofi ei ddadl, rhydd yr awdur liaws o bethau hynod. Digoned nodi yma un peth a ddywed, sef bod bron bob trychineb mawr yn digwydd pryd na bo yng nghyfle'r dinistr ond rhyw hanner neu draean o'r bobl y gallesid. yn ôl y tebygolrwydd mwyaf rhesymol ddisgwyl eu bod yno ar y pryd.

Ond os oes lwc i ni, a yw hi'n ddigyfnewid ac yn ddi-wella? Dal yn rhyfeddol o gyson o hyd y bydd hi, medd Maeterlinck, ac iddo ef y mae hynny yn arwydd, onid yw'n brawf, mai nid oddi allan i ni wedi'r cwbl, ond mai ynom ni y mae hi'n teyrnasu, ac mai nyni sydd yn ei ffurfio a'i gwisgo â nerth cudd, na thardd ond ohonom ni ein hunain. Byddis yn sôn "bod y lwc yn troi." Onid greddf dyn fydd wedi deffro, neu ynteu wedi medru ymwneud â'r ewyllys a'r deall?

Teithiwn ynteu, medd efô, yn ddiflino ar hyd yr holl ffyrdd sy'n arwain o'n cydwybod i'n greddf. Drwy hynny fe wnawn fath o lwybr yn y ffyrdd mawr, di-dramwy hyd yma, sy'n mynd o'r hyn a welir i'r hyn nis gwelir, oddi wrth ddyn at Dduw, ac o'r un i'r cwbl oll. Ym mhen draw'r ffyrdd hynny yr ymgudd cyfrinach gyffredinol bywyd. Yn y cyfamser, derbyniwn y ddamcaniaeth a gyfnertho ein bywyd ni yn y bywyd cyffredinol sydd ag arno angen amdanom i dreiddio ei ddirgeleddau ei hun, canys ynom ni y mae ei gyfrinachau yn crisialu gyflymaf a gloywaf.

Nid yw syniadau'r awdur ar y Dyfodol, efallai, lawn mor rymus a'i syniadau dan y pennau eraill. Yn fyr, dywedyd y mae ei fod ar ryw ystyron yn beth annealladwy paham na wyddem pa beth a

ddaw, fel y gwyddom pa beth a fu. O safle ein dychymyg, nid oes reswm paham na welem y peth nad yw eto, gan fod yn rhaid bod y peth nad yw eto, mewn perthynas â ni, yn bod eisoes ac yn ymddangos yn rhywle.[13] Ynddo'i hun, y mae bron yn sicr nad yw Amser, er i ni ei rannu yn orffennol a dyfodol, ond un Presennol aruthr, tragywydd, sefydlog, lle y mae popeth a ddigwyddodd neu a ddigwydd yn digwydd yn ddigyfnewid, heb fod yfory, namyn yn ysbryd dyn, yn ymwahaniaethu oddi wrth ddoe neu heddiw. Y mae dyn erioed yn chwilio am agen yn y pared rhyngddo a'r dyfodol, ac nid yw Maeterlinck yn amau na bu weledyddion a phroffwydi â'u gïau yn gyfryw fel y gallai eu cydwybod a'u greddf gymuno â'i gilydd. Gan mor brin yw'r rheiny, cafwyd hyd, neu gredu ddarfod cael hyd i foddion cyfareddol i ddarllen y dyfodol. Barnai Maeterlinck nad oedd i'r wybodaeth honno mo'r glod a fu iddi unwaith erbyn yr adeg yr ysgrifennai ef ei lyfr- yr oedd y presennol a'r gorffennol yn ddigon i dorri ein syched am ryfeddodau. Eto, ni lwyr adewsid mo'r hen ddewiniaeth. Yna, dyry'r awdur hanes ei ymweliadau ef ei hun â rhai gweledyddion a dewiniaid yn Paris, un ferch ddeugain oed, a aeth i fath o lewyg, ac yna, â llais fel llais geneth fach—geneth fach a'i henw Julia, oedd yn llefaru drwyddi, meddai hi—a ddadlen nodd iddo bethau arbennig yn y dyfodol hyd fesur yn gywir. "Euthum i ymofyn yn gywir," medd ef, "heb gredu, ond yn barod i gredu, heb gymryd plaid a heb ddiystyrru ymlaen llaw, oherwydd, oni ddylid yn ddall addef un wyrth, y mae'n waeth ei dirmygu yn ddall, ac ym mhob cyfeiliornad cyndyn, ymgudd gwirionedd rhag orol i ddisgwyl awr ei eni." Ni chred ef fod "Julia" yn mynd y tu draw i'r peth a wyddai ef ei hun, ond ei bod yn darllen, nid yn gyflawn ac megis mewn llyfr cyffredinol, lle byddai popeth y byddai'n rhaid ei ddigwydd wedi ei sgrifennu i lawr, eithr drwyddo ef, yn ei reddf arbennig ef ei hun, ac na allai hi ond trosi yr hyn na allai ei reddf ef ei fynegi i'w feddwl.

Yr ydym, eb efô wrth derfynu, yn wyneb y dyfodol megis yn wyneb gorffennol wedi ei anghofio. Gallwn geisio ei atgofio. Awgryma rhai ffeithiau nad amhosibl mo hynny. Dylem geisio dyfeisio ffordd neu gael hyd eto i'r ffordd at y cof sydd o'n blaenau. Rhag crwydro ar hyd ffordd lle nad oes dim yn ein galw, digon dywedyd bod y dyfodol, fel popeth y sydd, yn debyg o fod yn fwy cytûn a mwy cyson na chysondeb ein dychymyg ni, ac na wyrai digwyddiad pethau fymryn o'n bod ni yn eu gwybod ymlaen llaw. At hynny, ni wypai neb mo'i ddyfodol na rhan ohono ond y rhai a fynnai'r boen o'i ddysgu, megis na ŵyr mo'r gorffennol nac un rhan o'u presennol eu hunain, ond y rhai â'r galon a'r deall i'w holi.

Dyna, hyd y gellais i ei roddi, grynhodeb o gynnwys un o'r llyfrau mwyaf nodedig a ddar llenais erioed. Ysgrifennwyd yr ysgrif hon gyntaf flynyddoedd cyn y Rhyfel Mawr, a chyn darllen o'r ysgrifennydd lawer o lyfrau a ddarllenodd wedyn. Erbyn hyn, ymddengys iddo ef mai ymhlith trigolion Fflandrys yn unig y gallai meddyliwr. fel Maeterlinck gyfodi. Y mae ôl y materoldeb a geir yng nghelfyddyd y bobl hynny, yng ngwaith eu peintwyr a'u beirdd-Verhaeren, er enghraifft— a'r ddisgyblaeth gyferbyniol ymhlith eu crefyddwyr (deubeth y digwyddodd i mi eu clywed yn gwrthdaro ac yn ymryson â'i gilydd yn ymddiddanion peintwyr, beirdd a cherddorion Belg yn ystod y rhyfel,)[14] i'w canfod yn eglur ym meddylwaith Maeterlinck. Er ymado â'i hen gredo, a llefaru ohono yn nhermau ffilosoffi na chydnebydd un cyfyngiad ar ei hymchwil i hanes tarddiad ac awdurdod syniadau dynion, nid dadleuwr pigog yw ef, ac y mae ôl y ddisgyblaeth Gatholig ar ei ddysgeidiaeth gyda golwg ar ymddygiad yn arbennig. Nid yw ei etheg ychwaith ymhell oddi wrth etheg Cristnogaeth ei hun, ac ni all dyn beidio â chofio hefyd am syniadau H. G. Wells yn Lloegr, a cheisio hyderu bod y synthesis newydd yn dyfod yn ei thro. Cyhoeddwyd llyfr Maeterlinck tua dechrau'r ganrif (y drydedd fil ar ddeg yn 1903). Nid oedd meddylwyr craffaf y Cyfandir heb wybod yr adeg honno nad hir y gellid gohirio'r trychineb a ddaeth yn 1914. Yn sicer, dyna bwynt pryd y cyrhaeddodd arfogaeth y cenhedloedd ystâd oedd yn peryglu parhad yr hil. Pa un bynnag ai lwc ai anlwc yn nhrefn pethau fyddai ddiflannu o hil mor agored i drychinebau o'r fath, ni ellir peidio â chyffelybu'r gydwybod newydd yn erbyn rhyfel, a sefydliad Cyngrair y Cenhedloedd, hyd yn oed fel y mae, i'r peth a ddywed Maeterlinck am darddiad yr arfer o dalu galanas ymhlith y llwythau cyntefig pan oedd dial yn peryglu parhad yr hil. Efallai mai'r unig beth sydd wedi gwella yw—ein harfau!

(1906.)

LLYFRAU IEUENCTID

OND odid nad y llyfrau pwysicaf i ddyn yw'r rhai a ddarllenodd yn hogyn, ac efallai mai gadael i'r hogyn ddyfod o hyd i'w lyfrau drwy ddamwain sydd orau. Anaml, o leiaf, y bydd y llyfrau fydd yn fy mhlesio i yn taro chwaeth fy mechgyn fel y buaswn yn disgwyl. Adwaen un hogyn a ddarllensai amryw lyfrau lawer gwaith trosodd cyn bod yn un ar ddeg oed. Darllenodd un o nofelau Maurice Hewlett wyth waith cyn ei fod yn ddeg, ac "Oliver Twist" Dickens bedair neu bum waith. Nid rhaid i neb bryderu am chwaeth lenyddol yr hogyn hwnnw. Gallai feirniadu ystori yn amgenach ac yn llawer gonestach nag ambell adolygwr wrth ei swydd.

Yr wyf yn meddwl mai ystori yn "Nhrysorfa'r Plant" oedd y peth cyntaf a ddarllenais fy hun. Yr oedd casgliad helaeth o rifynnau o'r cyhoeddiad hwnnw at fy ngalwad, a charwn fynd trwyddynt. Cof gennyf fyth am wên fy mam pan ofynnais iddi a oedd y "Drysorfa" am y flwyddyn un ar gael yn ein tŷ ni.

Nid wyf yn cofio enw fy stori gyntaf na nemor o'r digwyddiadau bellach, ond cofiaf fel y byddwn, ar ddiwrnod gwlyb, yn eistedd wrth ffenestr cegin helaeth hen blasty wedi ei droi'n ffermdy, ac yn darllen yr ystori honno, bob yn ail ag edrych ar y glaw yn mynd heibio fel cynfas drwy'r awyr of flaen y gwynt. Yn ddiweddarach beth, daeth hanes "Albert Maywood," cyfieithiad o ystori Americanaidd, allan yn y "Drysorfa," a hyfrydwch diderfyn o'i darllen. Yr oedd coed o bobtu i'n tŷ ni, yn ymestyn am rai milltiroedd. Yn y coed hynny y byddai anturiaethau Maywood i gyd, ond diddorol yw cofio fel y byddai'r meddwl yn dwyn i mewn i'r coed bethau nad oeddynt yno, megis craig uchel; neu yn helaethu darn bychan o dir ar lan afon yn daith diwrnod o faint. Synnais lawer tro wedyn fel y medrais wasgu'r ystori i ryw hanner milltir o goed.

Llyfr Saesneg, mi gredaf, oedd fy llyfr nesaf—dysgasai fy mam fi i ddarllen yr iaith honno yn lled ieuanc. Nid cof gennyf na theitl y llyfr nac enw ei awdur, ond ar ffurf llythyrau oddi wrth dad at ei fab yr oedd, yn adrodd hanes Lloegr, neu hanes ei brenhinoedd yn hytrach. Darllenais hwnnw lawer gwaith trosodd, ac yr wyf yn cofio'n dda synnu nad oedd fodd bod yn frenin heb dorri pen neu wenwyno rhywun arall o hyd. Tua'r un adeg, byddai'n hoff gennyf ddarllen llyfryn bach a elwid "Basgedaid o Flodau," ac yr wyf yn cofio rhai genethod a fyddai'n wylo wrth ddarllen hwnnw—bendith ar eu calonnau bach caredig!

Yr oedd gennyf lyfr Saesneg arall a ddarllenwn ar y Sul—er nad oedd Sul caeth yn ein tŷ ni—Uplands" oedd ei enw, hanes teulu wedi dyfod i lawr yn y byd a mynd i'r "wlad uchaf" i fyw. Ni welais byth mo'r llyfr wedyn. Awyr y llyfrau hyn, yn fwy na'u digwyddiadau, sydd wedi aros hyd heddiw. Gyda hwy y mae magasîn Saesneg, "The Prize" y gelwid. Yr oedd gennyf gyfrol ohono wedi ei rhwymo. Cof gennyf rai cerddi a lluniau ynddi eto—cân Wordsworth i'r Gôg, a chân arall, yn disgrifio dyn yn dyfod i'w hen gartref ar ôl bod i ffwrdd flynyddoedd:

He comes today to tread again
The unforgotten dells.

Y cam nesaf, feallai, oedd dyfod ar draws "Cymru" Owen Jones (Meudwy Môn), yn rhifynnau, ymhlith llyfrau fy nhad. Dichon mai dyma'r llyfr a gafodd fwyaf o ddylanwad arnafi o bob llyfr a ddarllenais erioed, er nad yw ond math o eiriadur a bod ei arddull yn bopeth ond Cymreig. Ei rinwedd oedd bod ynddo ystraeon am Gymru a'i thrigolion. Bu'r llyfr hwn yn gydymaith am flynyddoedd. Am ryw reswm cudd, glynodd pob darn o hen brydyddiaeth Gymraeg sydd ynddo yn y cof, pa un bynnag a ellir ei ddeall ai peidio. Yr oedd rhyw ysblander tynghedfennol o gwmpas y dyfyniadau hynny, megis y sydd mewn ystorm o fellt a tharanau. Nid oedd gan yr athro bach, digon diniwed, a'i dipyn Saesneg, ddim i'w ddysgu i hogyn, mwy! Hwyrach mai ei waith ef, ar orchymyn ei feistriaid, yn ein cosbi am siarad ein iaith ein hunain a roes gymaint o werth ar lyfr Owen Jones yn ei dro.

Un flwyddyn, mewn ysgol arall, lle nad oedd gosb am siarad Cymraeg, o leiaf, yr oedd yn rhaid i ni ddysgu can' llinell o brydyddiaeth Saesneg ar dafod leferydd. Darn o ganol "Lady of the Lake" Walter Scott oedd y darn dewis. Nid oedd dechrau na diwedd y gerdd yn y llyfr, ond cyn darllen y darn ddwywaith, nid oedd amheuaeth nad dyna'r brydyddiaeth orau a ddarllenswn i eto. Ni ddywedodd ein hathrawon—mwy na'r llyfr lle'r oedd y darn—ddim am Scott wrthym, na gair am ddechrau na diwedd y gerdd. Digon i ni adrodd y can' llinell, fel y gwnâi rhyw barrot. Daeth blys cael hyd i'r holl gerdd. Cefais wybod am lyfr bychan a'i glawr wedi ei liwio'n ddu ac yn goch, llyfr o waith Scott, ac yn cynnwys "The Lady of the Lake." Costiai ddeunaw ceiniog. Tolio pris y cinio bob dydd nes cael y deunaw ceiniog i'w brynu. Pan ddaeth yr arholwr ar ben y flwyddyn i wrando arnom yn adrodd rhyw gyfran o'r can' llinell, sylwais ei fod yn chwarae â chwilsyn oedd ar y ddesg y safai wrthi, a ninnau'n rhes, bob un yn adrodd yn ei dro. Dodai'r arholwr flaen y cwilsyn mewn inc coch a gwnâi farc ag ef ar wynebau rhai o'r plant. Pan ddaeth fy nhro, rhoes imi linell yn agos i'r dechrau, a gadael i mi fynd ymlaen hyd ddiwedd y darn. Gwelwn y cwilsyn yn dynesu at fy wyneb, ond tarewais ef o'i law a rhedais allan. Galwodd arnaf, yn ofer, a chlywais ef yn chwerthin wrth i mi fynd drwy'r drws. Yr wyf yn meddwl beth yn well ohono bellach, ond y pryd hwnnw, yr oeddwn yn meddwl ei fod yn hy, gyda'i inc coch, ac yn ddwl—gwrando ar hogyn yn adrodd can' llinell o ganol cerdd, ac yntau yn ei medru i gyd! Nid wyf yn sicr nad wyf o'r un farn hyd heddiw am y dylni. Ac ni waeth cyfaddef na pheidio fy mod, er gwaethaf yr holl feirniaid, yn dal i hoffi prydyddiaeth Scott. Gofidiwn gynt na buasai brydyddiaeth debyg yn Gymraeg. Gofidiaf hynny eto. Daeth Scotland felly yn wlad rhamant i mi, mewn modd na ddaethai Cymru eto, ac arweiniodd "Iarlles y Llyn" fi ar hyd llwybrau anghynefin. Dysgodd i mi o'r diwedd fiwsig ei hiaith ei hun, nad yw Scott ond adlais ohono. Ai damwain oedd rhoi'r can' llinell hynny o Scott i ni i'w dysgu ar dafod leferydd? Ni wn i ac ni waeth gennyf. Ond ni ddwg Pan-Eingl y byd mo'r etifeddiaeth mwy—ceir crwydro gydag Oisin a Fionn, Oscar a Chaoilte, i hela'r baeddod rhith ar hyd meysydd o gymylau a tharth, ac ni bydd hynny oferach na bod yn "ymarferol." Amlhaodd llyfrau yn gyflym ar ôl y cyfnod hwn. Yr oedd rhywfaint o'r peth a geid gan Scott i'w gael yn "Owen Puw" Pedr Hir a "Llywarch Hen" Taliesin Hiraethog, a chymerth "Drych y Prif Oesoedd" afael rhag blaen ar y diriogaeth lle teyrnasai Owen Jones cynt. Bu'r copi hwnnw o'r "Drych"—argraffiad Llanidloes yn fenthig gan fwy na dwsin o hogiau, ac y mae nodiadau tanbaid rhai ohonynt ar ymyl ei ddail hyd heddiw, a hwythau ar led y byd, neu wedi ei adael .. .

(1917.)

POPETH O'R NEWYDD?

EDRYDD y llyfr doethaf a sgrifennwyd erioed nad fod un gŵr doeth gynt wedi dywedyd oes dim newydd tan haul. Ganrifoedd lawer ar ei ôl, medd yr un Hen Lyfr, dywedodd gŵr doeth arall fod yr hen bethau oll wedi mynd heibio a phopeth wedi ei wneuthur o'r newydd. Llawer un heblaw'r Iddew gynt, a Thomas Williams yr emynwr o Forgannwg, fu'n hiraethu am allu ehedeg, ar adanedd y wawr neu ar ddwy adain colomen. Dychmygodd rhyw Wyddel anhysbys ganrifoedd yn ôl am long yn yr awyr yn aros uwchben ffair yn Iwerddon. Dywedodd brudiwr o Gymro am elyn yn dyfod mewn llongau dan y môr. Edrydd "Cyfranc Lludd a Llefelys" am bobl a glywai bopeth a ddywedid yn unman, od âi i afael y gwynt, hynny yw, i'r awyr.

Nid dychmygion moel mo'r pethau hyn erbyn heddiw. Yn ein cyfnod ni, fe ddaeth, a hynny gyda'i gilydd, nifer o bethau rhyfeddol, nes bod dynion heb fod eto'n hen yn cofio byd gwahanol iawn ac yn dywedyd yn fynych wneuthur popeth o'r newydd. Ac eto, dyn yw dyn, ac nid oes dim newydd tan haul.

Un o'r pethau pwysig a ddigwyddodd fu datblygiad rhyfeddol ar astudio'r Gwybodau naturiol. A bod yn gryno, y peth pwysicaf yn y datblygiad hwnnw fu darganfod sut i gynnull grym a'i gau mewn lle cyfyng, ei gadw yno megis yn ei gwsg, ei ddeffro'n sydyn nes ei fod yntau'n neidio allan. O hynny, y peth pennaf a enillwyd oedd medru symud pwysau yn gyflym o le i le, a holl ganlyniadau hynny. Yr un pryd, drwy ddirfawr lafur mewn lliaws o wybodau olrheiniwyd hanes datblygiad dyn o amseroedd cyn cof—ei grefft, o gam i gam; datblygiad ei arfau; ei grwydradau yn heidiau o le i le, i chwilio am fannau mwy ffafriol i fyw; anghenraid yn oruchaf hawl; ffyrnigrwydd a chreulondeb yn bennaf moddion; bod yn ddi-drugaredd a chalon-oer yn amod llwyddiant.

Ni allai cyd-drawiad y pethau hyn lai nag effeithio ar syniadau diweddar am fywyd, am wareiddiad, am lywodraeth a masnach yn enwedig. Ystyrier rhai o'r pethau a gyfrifir yn gynnyrch ac yn gyfrwng diwylliant a gwareiddiad, megis crefft y chwedleuwr, y cerddor, y prydydd, y lluniedydd, hyd yn oed y pensaer. Crynswth y pethau hynny sy'n ffurfio awyrgylch gyffredin cyfnod, bron yn ddiarwybod i'r cyfnod ei hun. Cymerer yn enwedig Gelfyddyd y Difyrwyr cymdeithasol mwyaf arbennig, y rhai fydd yn chwedleua, yn canu ac yn chwarae i ni—y pethau sy'n cyrraedd y nifer mwyaf o bobl, yn enwedig felly drwy'r cyfryngau newyddion.

Y mae'r ymchwil am ddeunydd a ffurfiau newyddion yn beth cyson mewn celfyddyd. Nid hir fu'r Chwedleuwyr hwythau cyn dyfod o hyd i'r deunydd newydd hwn oedd at eu llaw—posibilrwydd y peiriant, a'r dystiolaeth a gaed am fanylion datblygiad dyn. Gellid asio'r ddeubeth hyn â'i gilydd a gweithio'r syniad am anesgorwch. tynged dyn, a dirni noeth ei hanes cynnar yntau, i mewn i'r gwaith newydd.

Dechreuodd datblygiad y Chwedleuwr Gwyddorus, gŵr â chanddo ddigon o ryw fath o wybodaeth am y pethau hyn fel y medrai drin. ei ddeunydd yn weddol ddidramgwydd. Bu Goethe yn yr Almaen eisoes yn fath o gychwynnydd ar y llwybr hwn. Enghraifft gynnar o'r peth yn y deyrnas hon oedd "Frankenstein," nofel Mary Shelley. Gweithiodd Jules Verne ar yr un cynllun yn Ffrainc. Ond yn Lloegr, ym mherson H. G. Wells, y caed y meistr mawr. Fel chwedleuwr yn unig, saif ef ar ei ben ei hun, yn ei storiau The First Men in the Moon neu The Invisible Man, dyweder. Ond ganed Wells yn ffilosoffydd a diwygiwr, yn ŵr o feddwl anturus, yn gallu gosod pethau wrth ei gilydd, a chanfod ymhellach na'r cyffredin i'r dyfodol, fel y gwelwyd yn The Food of the Gods ac yn The War in the Air, heb sôn am ei lyfrau diweddarach, fel An Outline of History ac eraill. Yn y rhai hyn, y mae'r meddyliwr yn llyncu'r chwedleuwr, ac yntau fel pe bai eisoes yn sylweddoli rhai o effeithiau ei grefft gynnar ef ei hun.

Yna, daeth y ffilmennau, y lluniau byw, y rhai mud i ddechrau a'r rhai mwy neu lai aflafar wedyn, dyfeisiau rhyfeddol, a roddir gan mwyaf er hynny at amcanion lle'r afradlonir cost ar ddangos cymaint o gnawd ag a ellir a chyn lleied o feddwl ag a fynner.

Hyd yn oed wrth roi syniad am fywyd cyfnodau cyntefig, ceid awyrgylch o greulondeb ac anferthwch, hyd yn oed heb ei fwriadu, wrth gwrs, a phan ddygid y peth a elwir "diddordeb dynol" i mewn, ni byddai ond rhyw hoedenna awgrymus yn ddigon aml, wedi ei lusgo i mewn a'i fwriadu i roi awch ar sefyllfaoedd tebycach o ddiflasu nag o ddifyrru dynion cymedrol.

Aeth damcaniaethau'r rhai sy'n astudio ac yn ceisio mesur a phwyso gweithrediadau meddwl, neu feddylstadau, dyn hefyd yn ddeunydd i'r chwedleuwyr a'r dramadyddion. Daeth cnwd toreithiog o straeon, llawer ohonynt yn ddigon clyfar o ran dyfais a chyfansoddiad, ond nad ynt wedi'r cwbl ond astudio chwant tybiedig neu wynfyd dychmygol. Daeth pethau y bydd meddygon, ac eraill sy'n chwilio hanes y corff a'r meddwl dynol, yn eu hastudio, a hynny'n oer a di-nwyd, i fod yn ddeunydd rhamantau poethion a nwydus y chwedlyddion-ar-gyfer-y-farchnad—yr oedd cylchrediad y llyfr yn bwysicach na chylchrediad y gwaed.

At bwrpas fel hyn, ni thalai helyntion y dyn cyffredin ddim. Rhaid chwilota am bethau anghyffredin a gwrth-gyffredin. Ni allai dim fod yn ddiddorol onid rhysedd y ddeuryw, a greddfau didoriad ac annisgybledig. Ac yn wyneb y cwbl, rhyw agwedd yn awgrymu na waeth heb ymboeni-nad oes i ddyn lwybr onid dilyn ei reddfau, boent fel y bônt, oni fyn ef, drwy eu llethu, beri bod ei ddiwedd yn waeth na'i ddechreuad.

Ymwthiodd y pethau hyn hyd yn oed i farddoniaeth, eisoes cyn y Rhyfel Mawr-hawdd fyddai dangos tuedd rhai beirdd i chwilio am ryw athroniaeth a gyfiawnhai lywodraeth grym. didrugaredd ar y byd. Gwelai rhai ohonynt—Verhaeren, y bardd Belg, er enghraifft—ogoniant yn natblygiadau aruthr diwydiannau eu cyfnod, eu hoffer, eu peiriannau a'u llestri, eu brys diorffwys a'u cyflymder, eu sŵn, hyd yn oed—codai rhyw un gynghanedd o'u holl symudiadau, meddent hwy. Grym oedd y tu ôl i'r cwbl, grym oedd popeth, a llefai'r bardd fod grym yn beth santaidd. Gellid ym marddoniaeth y cyfnod olrhain tuedd fwyfwy at edrych ar orthrech fel peth gwych, at edmygu caledwch y Dyn Cyntefig, at edrych ar dosturi fel gwendid. Hawdd iawn oedd i'r peth hwn ddirywio'n ddim ond rhyw osgo, ceisio cael effaith drwy ddim ond rhaffu termau a geiriau cyfnod y peiriannau, fel y gwelir yn Gymraeg beunydd.

Y mae gwahaniaeth eglur rhwng y duedd hon at fawrygu Grym a Gorthrech â'r ddefod gynt i glodfori rhyfelwyr a'u gorchestion. Nid ymffrost hanner rhamantus yr hen wlatgarwch sydd yma mwy, ond effaith apêl aruthrwch y byd cyntefig at feddyliau mwy cyfundrefnus nag eiddo'r Chwedleuwyr fel dosbarth.

Dywed beirniaid credadwy y gellir olrhain dylanwadau tebyg—atgyfodiad y Dyn Cyntefig, megis—ar gelfyddydau eraill hefyd—cerddoriaeth, tynnu lluniau, neu beintio, cerfio ac adeiladu. Tystia athrawon ysgolion fod effaith y peth a elwir jazz i'w ganfod eisoes yn eglur ar symudiadau ac ysgogiadau diarwybod plant. Mynn eraill y bydd rhai o'r trefi mawr yn ddigon o ddychryn pan orffenno'r cerfwyr newydd eu haddurno â'r erthyl-ffurfiau a welir yn rhai ohonynt eisoes. Diau fod digon o angen am bentrefi a fo'n batrwm i eraill yn y wlad hon, ac na ellir dibrisio gwasanaethgarwch haearn-a-chwncrid at rai amcanion, ond gwelir yn fynych yn llinellau llawer o'r adeiladau hynny ryw unffurfiaeth ddigalon, rhyw wth gyntefig, rhyw symbyliad bygythiol, chwithig, sy'n peri i ddyn feddwl am deip newydd o slwm dyfodol, a chofio geiriau Dante:

Lasciate ogni speranza, voi ch'entrate."

(Gad obaith heibio oll pan ddelych yma.)

Ni ellir gwahanu'r pethau hyn oll ac eraill oddi wrth y datblygiadau a grybwyllwyd ar y dechrau. Ni ellid osgói'r newid safonau, ar ôl trechu pellter, goleuo nos y gorffennol, a dysgu'r Chwedleuwyr i swlffa ym meysydd gwybodau eto heb gwbl dyfu allan o gylch damcaniaeth a dadl.

Diau mai ar yr un neges yn union â'n tadau cyntefig yr ydym ninnau—ni newidiodd dim ond yr arfau. Ac eto, y mae Dedwyddyd mor bell ag erioed, er bod cyfleusterau pleser yn amlach nag erioed. Fel y dywedodd un o'n poetau wrthym, mewn Cymraeg odidog:

Ffulliwn hyd ddau begwn byd
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd,
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr


—yn ofer, canys nid yw Dedwyddyd yno. mae un amod allan o'r cyfrif, er bod greddf ddyfnaf dynoliaeth, fel y dywedodd Maeterlinck, weithiau'n ein gorfod i gymryd cam tuag ato- pan aeth arfau dynion gynt mor effeithiol yn eu tro nes peryglu parhad yr hil, daeth peth mor syml â thalu galanas yn ddefod yn lle'r dial gwaed.

O bryd i bryd yn llenyddiaeth yr oesau, ceir datblygiadau nid annhebyg i rai o'r pethau y buom. yn ceisio'u holrhain. Bu'r hiraethu am y "bywyd syml" ymhlith llenorion Groeg a Rhufain. Ceir edmygu barbariaid, fel y Scythiaid a'r Getiaid, gan brydydd pendefigaidd fel Horas ei hun, a chymell ei gyd-ddinasyddion i fwrw eu golud i'r môr er mwyn dianc rhag y dynged a'u bygythiai.

Dilys bod crwth neu delyn.
Yn ceisio dihuno dyn.

medd un arall o'n poetau Cymraeg gynt. Ac nid yw llenyddiaeth a chelfyddyd ein dyddiau ni heb rai lleisiau sy'n arwyddo bod blino ar gyfnod y brys a'r brawiau y tu mewn i bosibilrwydd pethau wedi'r cwbl. Ymddengys fod symledd a sylwedd y ddrama werin yn apelio o'r newydd at ddynion, yn Lloegr, yng Nghymru pan gaffo gyfle, yn Iwerddon, ar y cyfandir, yn enwedig yn Awstria a'r Almaen, lle y mae chwarae pethau fel gwaith Von Hofmannsthal a Max Mell yn gyffredin.

Gellir casglu hefyd oddi wrth lwyddiant teip o nofel, megis gwaith Priestley yn Lloegr, fod eto alw gobeithiol am ddiddanwch chwedleua am gymeriadau cyffredin sy'n ddiddorol er bod yn syml ac yn synhwyrol heb fod yn rhy synhwyrus, yn ddigon cymysg, os mynnir, i'n gadael heb lwyr anobeithio am ddyfodol ein dynoliaeth gyffredin, er gwaethaf ein holl wendidau.

Pa beth hefyd fydd effaith y gwrando distaw ar warder y gerddoriaeth uchaf, a glywir bellach. lle y mynner, pryd nas clywid gynt, yn ei chyflawnder ac â'r medr mwyaf, onid yn y trefi mwyaf yn unig? Y mae ewyllys, o leiaf, mewn gwrando distaw ar feistriaid y gelfyddyd fwyaf cymodlawn a ddatblygodd dyn.

Ac am y beirdd, o Francis Thompson at Masefield, ni all miloedd ddianc rhagddynt, mwy nag y gallent hwythau ddianc rhag Bytheuad y Nef neu'r Drugaredd a bery'n dragywydd. Neu feirdd o feddyliau syml, cywir, fel W. H. Davies a Huw Menai, os caf gydnabod dyled iddynt am gysur nas ceir ond gan gelfyddion sydd yn canfod prydferthwch a doethineb mewn pethau cyffredin, yn yr hen fyd anffodus hwn, hyd yn oed ymhlith dynion, er gwaethaf eu trueni a'u pechodau.

Yr ydym, yn ôl pob tebyg, ar derfyn un o gyfnodau mawr hanes dyn. Dywed Berdyaev, athronydd Rwsiaidd, fod y peth y buom ni yn ei alw yn Gyfnod Rhamantusaeth ar ben, a bod yn debyg y daw Oes Dywyll eto ar ei ôl. Nid annhebyg hynny, canys y mae cyfraith fel pe bai'n torri i lawr ym mhobman. Os gwir hynny, os daw Oes Dywyll eto, nid oes dywyll heb lawer o wybodaeth fydd hi, a mwy na hynny o fedr, a bydd y wybodaeth honno a'r medr hwnnw at alwad elfennau heb y peth a gyfrifwyd hyd yma, o leiaf, yn synnwyr moesol.

Nodwedd arbennig ar ein dyddiau ni ydyw bod cymaint o ddynion yn dywedyd wrthym beunydd mor arswydus fydd ein tynged, a hynny fel pe na bai i ddynoliaeth ddim i'w wneud ond mynd yn aberth i'w dyfeisiau hi ei hun, a'i difyrru ei hun yn y cyfamser drwy ddychmygu sut beth fydd y trychineb hwnnw pan ddêl. Wedi holl fuddugoliaethau deall a medr dyn, a ddinistrir ef o ddiffyg doethineb, ynteu a fyn greddf Dynoliaeth unwaith eto ei hachub hi, er gwaethaf ei gwybodaeth a'i medr, ei rheswm a'i dealltwriaeth, rhag y distryw a ddramadeiddir i ni fel pe baem ag un ochr i'n hymwybod yn chwarae'r dynged honno er mwyn syndod i nerfau drylliedig yr ochr arall: Fel plentyn wedi ffraeo â'i fam, yn dychmygu fel y byddai hi yn tosturio ato wedi ei farw, druan bach!

When knowledge has reached manhood but to see Wisdom still babbling in its infancy,

meddai Huw Menai am ein cyfnod ni. Diau. Eto, y mae'r bregliach yn rhywbeth. Nid hwyrach nad ein tasg ni fydd dysgu, drwy brofiad chwerwach nag erioed, efallai, mai pennaf peth yw Doethineb. Pan ddysgom hynny, yna y bydd wir y gair a lefarwyd—"Wele, gwnaethpwyd pob peth o'r newydd."

(1933.)


ARGRAFFWYD GAN
HUGHES A'I FAB
WRECSAM

Nodiadau[golygu]

  1. Drysorfa, 1895.
  2. Hanes Athroniaeth y Groegiaid... R. Llugwy Owen, Ph.D. (Tübingen)... Conwy, 1899.
  3. Bibliografia Dantesca. M. de Batines. 1845-6.
  4. Gweler Das mittelalterliche Gesicht der Göttlichen Komödie ... Rudolf Palgen. Heidelberg, 1935. Astudiaeth odidog ei dysg a'i manylder.
  5. Pange Lingua... A. G. 5 McDougal... Introduction by Adrian Fortesque, 1916.
  6. History, yn Complete Prose Works of Emerson. Llundain, 1900.
  7. Introduction sur la vie et les oeuvres de Dante. Paris, 1863.
  8. La Divine Comédie avant Dante. 1853.
  9. Erthygl ar " Weithiau Lleiaf Dante," mewn rhyw gasgliad llawn o ysgrifeniadau Mazzini.
  10. The Teachings of Dante. Charles Allen Dinsmore. 1901.
  11. An Original Collection of the Poems of Ossian, etc. Collected and edited by Hugh & John McCallum. Montrose. 1816.
  12. Lloeren yw gair rhannau o Sir Ddinbych am ryw gylch disglair neu olau—byddai lloeren olau yr un ystyr yn union â foyer de lumière gan Maeterlinck.
  13. Ar y pen hwn, gweler syniadau tebyg yn An Experiment with Time. J. W. Dunne. London, A. & C. Black. 1929.
  14. Nid anghofiaf byth un ymddiddan. Yr oedd yno bedwar neu bump ohonom, dau neu dri o Fflandrwys a dau Gymro. Yr oedd un o'r Fflandrwys yn adnabod Maeterlinck yn dda, a gofidiai ei fod ef wedi peidio â bod yn "bon croyant" fel y buasai gynt. Soniem am ddyletswydd dynion yn y dymestl gyntefig, yn y don aruthr honno o ofn a chynddaredd a ysgub- odd dros wledydd cyfain. Cododd pwnc materolaeth. Fflam- iodd llygaid un o'r Fflandrwys, un a fuasai'n ymladd ac a gawsai fwled drwy ei ysgyfaint. Meddai, gydag angerdd aruthrol: "O'm rhan i, mynnwn fod yn sant, yn sant, yn sant!" ("Moi, je veux être un saint, un saint, un saint!"). Ac nid oedd fodd ei amau ddim

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.