Neidio i'r cynnwys

Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg (Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg

gan Owen Morgan Edwards

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg
ar Wicipedia
Wikiquote
Wikiquote
Mae dyfyniadau sy'n berthnasol i:
Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg
ar Wiciddyfynnu.
Llun wynebddalen


CLYCH ADGOF.


PENODAU YN HANES FY


ADDYSG.
gan
OWEN EDWARDS.


Darluniau gan S. MAURICE JONES.


"Mae clychau arian yn y gwynt
Yn galw, galw'n ol."


CAERNARFON:
Cwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.),
Swyddfa "Cymru."


1906.
National Library of Scotland B 12 JA 1981

RHAGYMADRODD.


ADGOFION munudau segur iawn yw y llyfr hwn. Nid oes yr un rheswm, ag y gwn i am dano, am ei gyhoeddi. Ni rof y bai ar neb arall; nid oes neb wedi fy annog i wneyd hyn. Nid oes gennyf un lle i dybio fod y cyhoedd yn dyheu am dano; ac nid wyf yn tybio fod eisiau i mi roi awgrym caredig i'r neb sydd yn meddwl ei gael am anfon ei enw ar unwaith, rhag na fydd un copi yn aros. Gall pawb gymeryd ei amser, ni chynhyrfir y wlad i ymwylltio am y llyfr hwn.

Nid oes dim newydd ynddo. Beth bynnag ddywedir, y mae wedi ei ddweyd o'r blaen; beth bynnag bregethir neu a awgrymir, y mae wedi ei gyhoeddi o'r blaen,— ond a barnu oddiwrth ei effaith, ychydig oedd yn gwrando. Os cwyna y cyhoedd ei fod yn ddifywyd, gallaf ddweyd fel Oliver Goldsmith,— "Ti roddaist dderbyniad peth difywyd i'r llyfrau o'r blaen."

Nid oes dim am bobl bwysig ynddo. Gwyr rhai i mi fwynhau cymdeithas pobl enwog, nid oherwydd dim teilyngdod ar fy rhan fy hun; ond nid oes yma ddim am danynt hwy. Os disgwyli, ddarllennydd dieithr, gael gwybod beth a fwytaent ac â pha beth yr ymddilladent, beth feddylient o'u gilydd ac ohonynt eu hunain, mewn pa bethau yr oeddynt yn arwrol ac mewn pa bethau yn gyffredin, — ni chei ond siom wrth droi dalennau'r llyfr hwn. Nid oes yma ddim ar bwnc chwerw'r dydd. Yr wyf, er yn fachgen, yn un o argyhoeddiadau cryfion; a rhoddwyd fi mewn ysgol lle dysgid fi fod fy nghrefydd yn heresi a'm barn wleidyddol yn frad. Bu o fewn y dim i mi gashau'r Beibl, a meddwl fod pob crefydd yn rhagrith. Dyna'r perygl y bum i ynddo oherwydd fod rhai yn tybied y dylid gwasgu crefydd, eu dull hwy, ar bob plentyn ysgol. Bum droion mewn cyfwng lle tybiwn fod yn rhaid i mi aberthu naill ai fy awydd am wybod neu fy null o feddwl am bethau ysbrydol. Yr wyf wedi teimlo'n rhy ddwys ar y mater i ddweyd dim am dano mewn llyfr ysgafn fel hwn. Ond gan fy mod yn crynhoi'r gwir a'r difrif i'm tipyn rhagymadrodd, y mae arnaf awydd dweyd fod plentyn yn teimlo argyhoeddiadau crefyddol yn fore, bron heb yn wybod iddo ; mai gyrru'r haearn i'w enaid yw dysgu credo iddo, er mwyn boddhau cydwybod rhywun ei fod yn cael neu'n gorfod derbyn athrawiaeth iach, os bydd hynny yn erbyn unrhyw beth sy'n anwyl iddo; ac mai casineb a dirmyg ga sect yn dâl am geisio proselytio plentyn dan rith ei addysgu.

Wedi i'r gwair goludog gael ei gludo oddiar y gweirgloddiau, tyf clychau'r gog yn ddiddefnydd o ambell dwrr o gerrig. Y mae lle i bopeth, hwyrach hyd yn oed i'r llyfr hwn.

OWEN EDWARDS.

CYNHWYSIAD.

Rhagymadrodd

YSGOL Y Llan.

I. Cartref, a chymdeithion cyntaf. Yr Ysgol Sul; y llythrennau; profedigaeth. Paham na anfonwch y bachgen i'r ysgol? Ysgol y Llan; yr athrawes; dysgu i mi fihafio; tocyn am fy ngwddf: cashau gwybodaeth.


II. Cam y diniwed; ysbryd Chwyldroad.


III. Dihoeni; crwydro ar oriau'r ysgol; twymyn; hedd y mynyddoedd; yr athraw newydd; adfyfyrion


Hen Fethodist.

Hen gloc du hir fy nghartref; ei fuchedd, ei daith wyllt. Ardal heddychlon a theulu mwyn ; hen lety proffwydi. Pregethwyr y Deheudir, — Thomas Richards Abergwaun, Thomas John Cilgeran, Ebenezer Richards Tŵr Gwyn. John Evans New Inn yn stopio'r cloc. Sefyll, a mynd o chwith.


Llyfr y Seiat.

Lle'r seiat yn hanes Cymru. Un seiat, a'i chofnodydd. 1739—1791, cyfnod yr efengylwyr. Howel Harris a Daniel Rowland. 1791—1804, cyfnod y crwydro, yr emynnau'n gweddnewid. Trallodion y pregethwr Ifan Ffowc a'r gweddiwr Niclas Wmffre. 1804—1872, cyfnod yr hen gapel. Y blaenoriaid, yr athrawon. Yr Hen Barch. Y pregethwyr. Cyngor yr hen ymladdwr. Llais y werin. Rhoi'r tariannau i lawr.


Fy Nhad.

Noson marw fy nhad. Bywyd dedwydd. Plant direidus. Cyfarfod Ebenezer Morris. Yr hedd a'r dymhestl.


Y Bala.

Lle tawel a phur. Y ffyrdd ato. Green y Bala a'r hen sasiynau. Y Stryd Fawr. Michael D. Jones. Dr. Hughes. Cofgolofn Charles. Llyn Tegid. "Cloch y Bala." Llanecil. Bodiwan. Ffarwel.


Aberystwyth.

Culni cred. Rhodfa'r .Alòr. Tralia'r Deheuwr. Crwth y Sosin. Silvan Evans a'r Dosparth Cymraeg-. Athrawon campus.


Rhydychen.

Uchelgais eithafol a balchder, — meddwl am "basio'r Fach. Rhydychen, Coleg Balliol, bechgyn, a brain. Jowett. Brecwest, a dŵr oer beirniadaeth. "He found the young ass, and sat upon him." Brad y Fach. Bendith bywyd cof gwan.


Dyrniad o Beiswyn.

Dadblygu a disgyblu. Cydymdeimlo a dirmygu. Ysmalio, — y da a'r drwg. Y cospwr a'r dysgwr. Urddas ac ymddiheurad. Gofal am yr olaf.


CLYCH ADGOF


YSGOL Y LLAN Rhan I


CYN mynd i'r ysgol nid oedd blentyn hapusach na mi yn unlle ar fryniau a mynyddoedd Cymru. Gwyddwn ym mhle y tyfai pob math o flodau, gwyddwn lle'r oedd ugeiniau o adar yn nythu, gwyddwn am bob carreg wen dywynnai mewn aber ac afon. Nid heb ymdrech a thrafferth y cefais y wybodaeth hon, — yr wyf yn cofio fy hun ar fy mhedwar yn y mynydd, wedi'm gadael yno tra triniai fy nhad y mawn, yn ymestyn at goes blodyn y dydd; yr wyf yn cofio fy hun wedi'm caethiwo yn fy nghader fach, ac yn cychwyn, a honno ar fy nghefn, tua'r graian mân oedd yng ngwaelod y ffynnon. Bum yn gwylio'r ehedydd yn ymgolli o'm golwg yn yr awyr; bum yn gwylio'r lleuad yn codi dros y bryn, ac yn gwaeddi arni, mewn ofn, ar bwy'r oedd yn sbio; bum yn gwylio'r eira'n pluo, gan dybied mai gwenyn wedi cael dillad newyddion welwn; ac yr wyf yn cofio'm dychryn wrth glywed rhu disymwth gwynt meiriol, a chreciadau brawychus y rhew yn yr afon.

Doi cymydog ar ei dro, ac ambell rodiadur, i'm cartref ar hirnos gaeaf, i ymgomio wrth y tân mawn yn yr hen dy clyd; a byddai gweled fy ngwyneb bychan llwyd chwilfrydig i yn gwneyd iddynt ddechre adrodd eu hystraeon. Gwyddwn hanes degau o ysbrydion wrth eu henwau, ond mai enw'r adroddwr fyddai f'enw i ar yr ysbryd. Gwyddwn pwy oedd yn medru witsio hefyd, a byddwn yn gochel cyffiniau eu caeau pan yn chwilio am flodau newyddion neu nythod adar.

Eis i'r Ysgol Sul yn fore iawn. Yr wyf yn cofio myned y tro cyntaf yn dda, ar fore braf ym mis Mehefin. Yr oedd yr hen deiliwr wedi bod ar ei draed ymron dan hanner nos i wneyd fy nillad newyddion; nid ar ei draed ychwaith, o ran hynny, ond ar y bwrdd. Yr oedd y gôt a'r trowsus yn barod, ond nid oedd bosibl gwneyd y wasgod mewn pryd. A bu cynhadledd uwch ben y dillad a'r tocion a minnau. Ni wnai'r hen wasgod, yr oedd yn amlwg, gyda'r dillad newyddion ; oherwydd yr oedd amser nythod adar newydd fynd drosodd, ac yr oedd y wasgod wedi bod drwy filldiroedd o wrychoedd. Yr oedd pawb mewn penbleth; ni fynnai neb fy siomi, a minne wedi meddwl cymaint am gael mynd i'r ysgol, ac eto gwelid mai i hynny yr oedd yn rhaid iddi ddod. " Wel, fy nyn dewr i," ebe'r hen deiliwr, "dydi dy wasgod di ddim yn barod, beth wnei di?"

"Mynd i'r ysgol heb yr un," meddwn innau, heb y petrusder lleiaf. "Mae'r bachgen wedi taro'r hoel ar ei phen," ebai yntau, "mae hi'n ddigon braf, cauwch i gôt o'n dynn, a gadewch iddo fynd heb yr un wasgod."

A hynny benderfynwyd. Cychwynnodd y teiliwr adre dros y mynydd, a gadawodd ei ystyllen a'i fflat ar ol, — yn ernes y doi fore dydd Llun i orffen y wasgod.

Yr oeddwn i wedi codi o flaen yr ehedydd bore drannoeth. Ac o'r diwedd daeth amser cychwyn. Cauwyd fy nghot yn ofalus, ac nid oedd berygl i'r botymau newydd ddatod. Rhoddwyd fi ar fainc, yn nosbarth hen wr gydag amryw o'r un oed a phrofìad a mi fy hun. Ar lyfr yr oeddym i edrych, ond blin iawn oedd edrych ar y llyfr o hyd, a gwelais bron bopeth oedd yn digwydd yn yr ysgol. Y mae'r olygfa'n fyw o fy mlaen y funud hon. Y mae dwndwr yr ysgol, lleisiau llawer yn esbonio'r Beibl, yn fy nghlustiau. Dacw'r hen bobl, gydag aml ben gwyn yn crynnu, a phawb bron a'i spectol,— oll erbyn hyn yn y fynwent ger llaw. Dacw'r "dynion," — dynion cydnerth, yn llawn ynni wrth ddadlau a'u gilydd, — erbyn hyn wedi eu torri i lawr, neu'n hen wyr yn yr ysgol fel y gwelais eu tadau. Dacw hog-lanciau, erbyn hyn wedi hen gynefino â throion bywyd ; a dyma ninnau'r plant, ar chwal, erbyn heddyw, ym mhob man. A dacw ddosbarthiadau'r merched, — anesboniadwy iawn i mi oedd merched, rhai na fedrai ddringo'r coed, nac agor cyllell, na lluchio cerrig ond â'u llaw chwith.

Yr A B oedd fy ngwers i y bore hwnnw, ac erbyn dweyd yr holl lythrennau ar ol yr hen athraw, yr oeddwn yn meddwl na welais ddim byd rhyfeddach erioed. Yr oeddwn yn methu dirnad sut yr oedd y plant ereill yn adnabod pob llythyren wrth ei henw; yr oedd yn haws lawer "adnabod ol traed adar. Pan adewais yr ysgol, yr oedd A ar ewin un fawd imi, a B ar ewin y fawd arall; a'm tasg am yr wythnos oedd cofio'r ddwy lythyren hyn. Yr oedd gen i ystraeon mwy difyr na'r A a'r B, ond rhoid taw arnaf mewn munud pan soniwn am flodau drain neu nyth dryw. Daeth diwedd yr ysgol, ac er fy llawenydd dyma hwy'n dechre canu pennill fedrwn, yn araf araf fel swn y gwynt. Yr oedd golwg henaidd arnaf finnau'n treio canu, er mawr ddifyrrwch i'm cyfoedion, —


"Dewch hen ac ieuanc dewch,
At Iesu, mae'n llawn bryd;
Rhyfedd amynedd Duw
Ddisgwyliodd wrthym cyd;
Aeth yn brydnawn, mae yn hwyrhau,
Mae drws trugaredd heb ei gau."

Hyd yn hyn yr oeddwn wedi bod yn weddol ddi-brofedigaeth. Ond wrth fynd adre, cofiais am fy nillad newyddion, a betiais a bachgen pengoch fod gennyf fwy o fotymau nag ef, — hen lafn cyllell yn erbyn reel wedi ei gwneyd yn dop sgwrs oedd y fet. Yr oeddwn wedi cyfri holl fotymau fy nillad newyddion, a'r botwm oedd ar fy nghap, ond yr oeddwn ddau fotwni ar ol. "Dangos fotyme dy wasgod," ebe un o'r bechgyn. Yr oedd dau fotwm ar fy nghrys; a mentrais ddangos nad oedd gennyf wasgod, er mwyn cael cyfrif y rheini. Ond ni fedrai yr un o honom gau'r gôt yn ei hol. Dywedais yr hanes yn onest wedi mynd adre, a chefais fy chwipio, am falchder, ac am fetio ar ddydd Sul. Ar ddiwrnod gwaith nid wyf yn cofio i mi fod yn segur erioed cyn mynd i'r ysgol. Pan na fyddwn yn gwneyd da, byddwn wrthi â'm holl egni'n gwneyd drwg. Er hyn yr oedd awydd adeiladu yn gryfach ynnof nag awydd dinistrio. Y mae'n wir fy mod wedi gosod dannedd ogau yn y gwair yn ystod un oedd wedi fy nghuro; ac y mae'n wir fy mod wedi gosod penweig cochion ar dannau adawsai ysgogyn o glarc yn yr afon; medrwn hefyd ddynwared lleisiau llawer o ferched y fro. Ond gwell oedd gennyf fod ar fy mhen fy hun, yn cynllunio, ac yn gweithio fy nghynlluniau allan. Medru codi pont a medru codi ty oedd fy hoff freuddwyd. Bum am wibdaith droion yn edrych ar hynny o bontydd oedd yn fy nghyrraedd, a darganfyddais o'r diwedd pa fodd yr adeiladwyd hwy, a phaham y safent. Codais ugeiniau o bontydd dros fân aberoedd, pontydd bychain o gerrig mân y gallai gwartheg gerdded drostynt yn hawdd. Weithiau gwnawn bont lydan dros aber, ac ar honno codwn dy bychan fyddai'n ddiddos drwy'r gaeaf, — gyda charped o dywyrch trum esmwyth sych ar ei lawr. Wrth weled fy muriau, dywedai pawb y gwnawn saer maen dan gamp, a chwilid fy achau'n fanwl, i weled i bwy y tebygais. Pan fethid cael neb wedi arfer adeiladu ymysg fy hynafiaid, ond pawb wedi tynnu i lawr, ysgydwai pobl eu pennau, a dywedent na safai fy muriau'n hir.

Er hynny credai pawb y down yn ddyn enwog, os anfonid fi i'r ysgol. Dyna oedd cwestiwn pawb, — "Sut na anfonech y bachgen yma i'r ysgol?" Yr oeddynt yn credu mewn ysgol, a druan o honynt. Ond, o'r diwedd, pan oeddwn rhwng naw a deg oed, penderfynwyd mai i'r ysgol yr oedd yn rhaid i mi fynd. Ac yno, er mawr alar a cholled i mi, y gorfod i mi droi fy wyneb.


Yr oedd yr ysgol yn y Llan, rai milldiroedd o'r fan lle 'roeddwn yn byw. Yr oedd yn eiddo i'r tirfeddiannwr yr oedd ymron yr holl fro yn perthyn iddo ; ac yr oedd ei wraig, boneddiges dal urddasol, yn cymeryd dyddordeb mawr yn addysg yr ardal. Yr adeg yr es i i'r ysgol gyntaf, yr oedd yno ysgolfeistres. Awd a fi i'r ty; yr oedd yr ysgol wedi dechre, ac nid oedd blentyn yn y golwg ar y Llan. Daeth yr ysgolfeistres atom, — dynes fechan, a llygaid treiddgar, ac yn dal ei dwylaw o'i blaen y naill ar y llall. Siaradai dipyn o Gymraeg lledieithog. iaith y werin: Saesneg. mae'n amlwg, oedd ei hiaith hi, — iaith y bobl fonheddig, iaith y bobl ddieithr oedd yn lletya yn y Plâs, a iaith y person o sir Aberteifi. Ni fedrai wenu ond wrth siarad Saesneg. Sur iawn oedd ei gwep wrth orfod diraddio ei hun trwy siarad Cymraeg; o ran hynny, surni welais i ar ei gwedd erioed, ond pan wisgai ei gwyneb teneu â gwên i gyfarfod y foneddiges hael oedd yn talu ei chyflog iddi. Ni wrandewais i ar ei geiriau, ac nid oeddwn yn hoffii ei gwyneb, meddyliwn am drwyn llwynoges welais yn f'ymyl unwaith wedi nos.

"Fy machgen i," ebai fy mam, " dyma dy feistres newydd. Edrych arni, tyn big dy gap o dy geg, mae hi'n mynd i ddysgu pob peth i ti. Ysgwyd law a hi."

Estynnodd ei llaw ataf, gyda gwên wan yn marw ar ei gwyneb, — "gwnawn," meddai, "mi dysgwn ni pob peth sydd isio i gwbod iddo; mi dysgwn ni o sut i bihafio."

Nid dysgu sut i fihafio oedd arnaf fi eisiau, ond dysgu sut i wneyd pont a sut i wneyd capel. Daeth awydd mawr drosof am fynd adre gyda fy mam; ond ar ol yr ysgolfeistres y gorfod i mi fynd. Agorwyd drws yr ysgol; clywn ddadwrdd rhyfedd, a gewelwn blant wedi eu pacio'n dyn wrth eu gilydd ar lawer o feinciau. Yr oedd dau le agored ar lawr yr ysgol, a gwelwn ddau ar eu traed, un ymhob llecyn agored. Deallais wedyn mai is-athraw ac is-athrawes oeddynt. Aeth yr ysgolfeistres a fi at un o honynt, ond nid wyf yn cofìo ond "niw boi " o'r hyn ddywedai. Yr oeddwn yn medru darllen Cymraeg yn bur dda erbyn hyn, a rhoddwyd fì mewn dosbarth plant yn dechreu darllen Saesneg. Un o lyfrau'r S.P.C.K. oedd y llyfr darllen, ac y mae'n gas gennyf y llythrennau byth, oherwydd y creulondeb ddioddefais wrth geisio dysgu o'r llyfr hwnnw. Llanc diddan oedd yr athraw, a bu'n garedig iawn wrthyf, ond wedi gwers y darllen aeth i'w le at ddisgyblion ereill. Buan yr aeth y gair fod un newydd, a gwirion hefyd, wedi dod i'r ysgol. Yr oedd llygaid amryw o blant creulon arnaf, — gwn am danynt i gyd, plant cegog o'r pentref oedd y rhan fwyaf, — nid ydynt uwch bawd sawdl byth. Yr oedd yr athraw wedi dweyd wrthyf yn ddistaw am beidio siarad gair o Gymraeg ; ond yr oedd y bechgyn drwg hynny'n gwneyd popeth fedrent i wneyd i mi waeddi, ac o'r diwedd llwyddasant. Collais fy nhymer, a dechreuais ddweyd fy meddwl wrth y chwilgi bradwrus ddyfeisiai sut i'm poenydio. Gydag i mi ddweyd fy Nghymraeg cryf, chwarddodd pawb, a rhoddwyd llinyn am fy ngwddf, a thocyn pren trwm wrtho. Ni wyddwn ar wyneb y ddaear beth oedd, yr oeddwn wedi gweled tocyn cyffelyb am wddf ci i'w rwystro i redeg ar ol defaid. Tybed ai i'm rhwystro adre y rhowd y tocyn hwnnw am fy ngwddf i? O'r diwedd daeth canol dydd, awr y gollwng. Daeth yr ysgolfeistres yno a gwialen yn ei llaw. Gofynnodd ryw gwestiwn, a chyfeiriodd pob plentyn gwasaidd ei fys ataf fi. Daeth rhyw beth tebyg i wên dros ei gwyneb pan welodd y tocyn am fy ngwddf i. Dywedodd ryw rigwm hir wrthyf na fedrwn ddeall gair o hono, danghosodd y wialen imi, ond ni chyffyrddodd â mi. Tynnwyd y tocyn i ffwrdd, a deallais wedi hynny mai am siarad Cymraeg y rhoddid ef am wddf.

Bu'r tocyn hwnnw am fy ngwddf gannoedd o weithiau wedi hynny. Dyma fel y gwneid, — 'pan glywid plentyn yn dweyd gair o Gymraeg, yr oeddis i ddweyd wrth yr athraw, yna rhoddid y tocyn am wddf y siaradwr; ac yr oedd i fod am ei wddf hyd nes y clywai'r hwn a'i gwisgai rywun arall yn siarad Cymraeg, pryd y symudid ef at hwnnw druan. Ar ddiwedd yr ysgol yr oedd yr hwn fyddai yn ei wisgo i gael gwialenodiad ar draws ei law. Bob dydd byddai'r tocyn, fel pe yn ei bwysau ei hun, o bob cwr o'r ysgol, yn dod am fy ngwddf i. Y mae hyn yn gysur i mi hyd heddyw, — ni cheisiais erioed gael llonydd gan y tocyn trwy ei drosglwyddo i un arall. Ni wyddwn ddim am egwyddor y peth, ond yr oedd fy natur yn gwrthryfela yn erbyn y dull melldigedig hwn o ddinistrio sylfeini cymeriad plentyn. Dysgu plentyn i wylio plentyn llai'n siarad iaith ei fam, er mwyn trosglwyddo'r gosb arno ef! Na, nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, dioddefais wialenodiad bob dydd fel y doi diwedd yr ysgol.

Erbyn heddyw y mae llawer o'r rhai fu'n cyd-ddysgu â mi, — yn fechgyn ac yn ferched, — wedi marw. Bu rhai farw wedi dioddef a nychu gartref, bu rhai farw mewn gwledydd pell. Plant tyner a charedig oedd y rhain, plant yr oedd cosb un arall yn peri mwy o boen iddynt nag iddo ef. Ac ehedodd llawer o honynt ymaith cyn gwybod am ddim ond diniweidrwydd a chydymdeimlad. Bum yn meddwl lawer tro, — beth pe buaswn wedi tynnu'r tocyn oddi am fy ngwddf, ac wedi ei roddi am wddf un o'r rhain? Bum yn diolch ar fy ngliniau i Dduw lawer adeg ei fod wedi cadw'r chwerwder hwnnw o fy mywyd.


Y mae llawer o'm hen gyd-ysgolheigion yn fyw, ac yn llwyddo. Ond byddaf yn clywed ambell dro am brofedigaeth lem yn cyfarfod ambell un o honynt. A'r adeg honno, medraf ymgysuro wrth feddwl na fum i yn foddion cosbi yr un o honynt erioed am siarad Cymraeg. Y mae'r bachgen oedd yn is-athraw pan welais i'r ysgol gyntaf yn amaethwr cyfrifol, ac nid ydyw'r blynyddoedd wedi dwyn ymaith y chwerthin chwareus o'i lygaid. Y mae'r eneth hithau'n wraig amaethwr, a'i meddwl yn ehedeg weithiau oddiwrth ei miloedd defaid sy'n pori ar y Berwyn, yn ehedeg yn ol i hen ysgol y Llan.


Nis gwn ym mha le mae'r athrawes, ac ni wa«th gennyf. Nid oes gennyf ond adgof gwan am dani, ni feiddiais edrych arni erioed ond yn llechwraidd. Y mae'n debyg iddi adael ein gwlad fynyddig ni ar y cyfle cyntaf, a symud i ryw ysgol fechan mewn pentref Seisnig. Ni fynnwn wneyd anghyfìawnder à'i chymeriad. Efallai, pe yr adwaenaswn hi yn ei thy, wedi oriau'r ysgol, ei bod yn wraig dyner-galon, ac yn pryderu llawer am danom. Hwyrach mai ar ei chredo yr oedd y bai, ac nid arni hi. Yn ol credo llawer athraw yr adeg honno, ei brif waith oedd dysgu Saesneg i'r plant. A'r ffordd oreu, fe dybid, i gyrraedd yr amcan hwnnw, oedd ymwadu â'r Gymraeg yn gyfan-gwbl, a rhwystro plant siarad dim ond yr ychydig Saesneg fedrent gofio o lyfrau neu ymadroddion rhywun cyfarwydd â Saesneg. Tybid yn y wlad nas gallai ysgolfeistr siarad Cymraeg, tybid mai sarhad arno oedd tybied hynny. Bum yn meddwl lawer tro wedyn mai dan deimlad cryf o ddyledswydd y rhoddai ysgolfeistri y tocyn am wddf plant. Tybient, hwyrach, fod yn gyfreithlawn iddynt wneyd plentyn yn fradwr, os medrent trwy hynny ddysgu Saesneg iddo. Mor bell ag yr oeddwn i'n mynd, methodd yr oruchwyliaeth. Gwnaeth i mi gashau llyfrau ac ysgol, a chasliau gwybodaeth ei hun; gwnaeth i mi anufuddhau i'm rhieni am y tro cyntaf erioed, trwy ymguddio mewn coedwigoedd rhag mynd i'r ysgol; gwnaeth flynyddoedd ddylasent fod yn flynyddoedd dedwyddaf fy mywyd,— blynyddoedd agor y meddwl a dangos rhyfeddodau iddo, — gwnaeth y blynyddoedd hyn i mi yn chwerwaf rhai.

Hen gyfundrefn felldigedig, diolchaf wrth gofio fod gobaith i mi weled amser y caf ddawnsio ar dy fedd. Nid ar yr ysgol-feistres yr oedd y bai, ond ar y gyfundrefn. Merthyr oedd hi, fel y finnau. Yr oeddwn yn medru iaith, ond ni chymerwyd honno'n foddion i'm haddysgu. Yr oeddwn i'n siarad un iaith, a'm hathrawes yn siarad iaith arall, — ac ni ddysgais ddim. Oni bai am yr Ysgol Sul Gymraeg, buaswn heddyw yn anllythrennog, yn gorfod dibynnu ar arall am y newyddion am iachawdwriaeth. Bum yn dysgu llawer iaith ar ol hynny, eithr ni fu neb mor ynfyd a cheisio dysgu yr un i mi ond trwy gyfrwng iaith a wyddwn yn barod. Yn Gymraeg y medrir dysgu plentyn o Gymro feddwl, a thrwy'r Gymraeg y medrir dysgu iaith arall iddo. Un bore yn yr wythnos gawn i o Ysgol Sul, a chwe diwrnod o ysgol Saesneg. Fy mhrofiad yn awr ydyw, — yr wyf yn ddyledus am bob peth i'r Ysgol Sul; i'r ysgol Saesneg, nes y daeth Cymro i'm dysgu yn Gymraeg, nid wyf yn ddyledus am ddim. Ond, — fy stori.

Medrais fynd i dy perthynas i mi i gael tamaid; yr oedd y plant yn rhy brysur i'm hatal, pawb yn llawn eisiau bwyd. Ond pan ddois at y porth tuag un, yr oedd y swn wedi mynd fod bachgen od wedi dod i'r ysgol, — bachgen yn medru peth enbyd o ystraeon o bob math. Daliwyd fi gan y beciigyn mwyaf, a gosodwyd fi ar ben carreg, a than boen curfa gorfod i mi ddechreu ar f'ystraeon.

II

Toc, er mawr lawenydd i mi, canodd y gloch. Rhedodd pawb i'r ysgol, a dois innau i lawr o ben fy mhulpud carreg, a rhedais ar eu hol. Wedi mynd i mewn, canfyddais yn union mai ofer oedd fy llawenydd, ac y buasai'n well i mi fod ar ben y garreg nag yn yr ysgol. Ffigiwr amhriodol hwyrach fuasai dweyd mai o'r badell ffrio i'r tân y dois, ond teimlwn mai rhywbeth felly oedd y cyfnewidiad. Gwell i mi, wedi'r cwbl, oedd trugaredd prin ac amynedd byr fy nghyd-ysgolheigion nag anghyfiawnder yr ysgoifeistres.

Yr oedd rhywun direidus wedi rhoi pin a'i ben i fyny ar y fainc, yn y lle y disgwylid i mi eistedd ar fy nyfodiad i'r ysgol. Tybiai'r plant, mae'n ddiau, y dylaswn anfarwoli'm dyfodiad i'r ysgol trwy lamu oddiar y fainc, a rhoi bloedd erchyll, heb un rheswm canfydadwy am y fath hyawdledd. Ond fel y digwyddodd y peth, nid ar flaen y pin yr eisteddais. Byddai'r person yn eistedd yn y lle y rhoddasid y pin ambell i dro, wedi i'r plant fynd allan, ar ei ymweliadau â'r ysgol i edrych y registers. Daeth i'r ysgol y diwrnod hwnnw, yr oedd yn ffyddlon iawn, fel y dylai gwarcheidwad ysgol fod. A eisteddodd yn ei le arferol, nis gwn.

Ffordd bynnag, pan ddaethom i mewn, galwyd am ddistawrwydd. Daeth distawrwydd fel y distawrwydd glywir o flaen ystorm o fellt a tharanau. Ni fum mewn lle mor ddistaw erioed. Gwyddwn mai peth rhyfedd oedd distawrwydd fel hyn, ni fuaswn yn coelio y medrai cynifer o blant llawn bywyd a direidi fod mor ddistaw. Yr oeddynt fel llygod. Safai'r ysgolfeistres wrth y ddesc, ac yr oedd y wialen yn ei llaw. Deallais wedyn mai pregeth draddodai ar ddyledswydd plant tuag at weinidogion cyfreithlawn yr efengyl, sef eu parchu a'u gwasanaethu ym mha le bynnag yr elem. Ond nid oeddwn i'n deall yr un gair. Yn unig gwelwn ol gwaith ar y wialen, yr oedd y brigau mân wedi cwbl ddirisglo, — a meddyliwn fod hyn yn arwydd ddrwg. Yr oedd pregeth yr ysgolfeistres yn bur hir. Ehedodd fy meddwl innau at y caeau gwair, at y cerrig mân ar lan yr afon, ac at fy nghi y gwyddwn ei fod yn fy nisgwyl trwy'r dydd. Daeth yr hen dy i'm cof; gwelwn y mŵg yn esgyn o'r corn simdde rhwng y coed, oherwydd yr oedd yn tynnu at amser te; yr oedd mor ddistaw fel y dychmygwn glywed y dwr yn disgyn dros y graig dan y ty. Gwelodd y bachgen osododd y pin yr olwg freuddwydiol oedd arnaf, a gwelodd y wialen. Ni fu'n hir yn gorffen ei gynllun. Yr oedd pregeth yr ysgolfeistres yn tynnu at y terfyn, ac yr oedd yntau mewn perygl. Byr iawn oedd y pen olaf, a chlywais un gair ddeallais, sef pin. Wrth glywed y gair, troais yn sydyn i edrych ar yr ysgol feistres. Yr oedd ei llygad arnaf, ond ni wyddwn pam. Gofynnwyd cwestiwn, a bu distawrwydd perffaith am eiliad. Yna daeth llais y bachgen hwnnw, yn cyhoeddi mewn ateb i'r cwestiwn, — "Ab Owen." Wrth glywed f'enw, troais yn anesmwyth yng nghyfeiriad y wialen. Er fy mod yn anwybodus ac yn hollol ddiniwed, yr oedd rhyw feddwl ynnof y byddai'r wialen honno a minnau'n agosach at ein gilydd cyn hir. Ni fedrwn achub fy ngham, oherwydd condemniwyd fi yn Saesneg, ac ni wyddwn amcan paham yr oedd y wialen i ddisgyn arnaf hyd nes yr oedd yn rhy hwyr i apelio at neb. Ni waeth i mi heb ddesgrifio'r gosb, — hwyrach fod rhai'n darllen y llinellau hyn heb fod gyrraedd cosb gyffelyb, — ond gallaf ddweyd hyn, y buasai'n llawer gwell i mi fod wedi eistedd ar y pin, a chael fy nghosbi am gadw swn. Yr oedd gan yr ysgolfeistres feddwl uchel o lywodraethwyr yr ysgol, yn enwedig o'r person, — os oeddwn i fesur ei pharch oddiwrth ei sel i gosbi.


Trwy weddill y prydnawn bum yn wylo ac yn ochain ac yn cynllunio bradwriaeth. Nid ydyw cosb yn gwneyd neb yn well. Y mae'n debyg fod rhyw gymaint o'r bwystfìl mewn plentyn, a dadblygodd y wialen lawer arno ynnof fi y prydnawn hwnnw. Mwyn i mi fuasai cael gosod pinnau dan filoedd o bobl, er nad oedd y syniad erioed wedi cael lle yn fy meddwl o'r blaen. Esboniasid i mi gan yr ysgolfeistres tra'r oedd y wialen uwch fy mhen, mewn Cymraeg lledieithog, paham yr oedd y gosb i ddisgyn arnaf. Meddyliwn innau yr hoffwn roi pin yng nghader y tafarnwr mawr y tybiwn mai efe oedd brenin y pentref, a phin yn set y pregethwr yn y pulpud, a phin yn seddau yr holl wŷr y clywais fy nhad yn eu darlunio'n eistedd yn y Senedd.


Pan ddaeth hanner awr wedi tri, — awr gollwng, — ymadewais a'r ysgol dan gredu yr edrychid arnaf fel bachgen drwg. Teimlwn fel Ismael, fod llaw pawb yn fy erbyn, a'm llaw innau yn erbyn pawb. Byth er hynny y mae gennyf ryw fath o gydymdeimlad â gwrthryfelwr a chwyldrowr. Pan ddarllennais Goll Gwynfa, lawer blwyddyn wedyn, cydymdeimlwn â Satan er fy ngwaethaf. Pan ddarllennais ei ddrama oreu gwelais fod Shakespeare yn rhoi ei holl athrylith ar waith i gondemnio Macbeth; edmygais innau Facbeth, er ei waethaf. A phan ddarllennais lyfr Iago'r Cyntaf yn erbyn ysmygu, ysmygais unig sigaret fy mywyd fel protest yn ei erbyn.

Ysgol y Llan Rhan III

Y mae llawer un yn medru edrych yn ol ar ddyddiau ei ysgol fel dyddiau dedwyddaf ei fywyd. Ni fedraf fi wneyd hyn. Y mae llawer un yn gwybod mai ei athraw cyntaf roddodd iddo y trysorau gwerthfawrocaf fedd, — cred mewn gonestrwydd ac yn Rhagluniaeth, cred mai lle heulog ydyw'r byd i rywun fo a'i fywyd yn iawn, cariad at ei gyd-ddyn a pharch tuag at wŷr i'r rhai y mae parch yn ddyledus. Ni chefais i y pethau hyn, — y pethau gefais i oedd teimlad fy mod dan gyfraith haiarnaidd nas gallwn ei deall, a fod yn rhaid dweyd celwydd cyn y medrwn achub fy ngham. Ni ddeallais f'athrawes erioed, oherwydd ni siaradai air fedrwn ddeall. Buasai'n fendith anrhaethol i mi pe na welswn yr ysgol erioed.


Ond, i fynd ymlaen gyda'm hanes, yr oedd dydd i ddydd yn ychwanegu blinder i mi yn yr ysgol. Nid oedd y llyfrau a roddid o'm blaen ond tywyllwch di-obaith i mi, ac yr oedd yr esboniadau gynhygid arnynt yn dywyllach fyth. Collais fy hoen, ac nid oedd blentyn anedwyddach yn y fro honno i gyd. Blinodd y rhai hoffai wrando f'ystraeon arnaf. Gadawyd fi at drugaredd rhai eiddigus o'm doniau prin, a churid fi'n ddi-drugaredd hyd nes y dysgais ymladd. Yr wyf yn cofio darganfod fod ysbryd llofrudd ynnof ryw dro, pan yn anelu carreg at ben bachgen oedd wedi gwneyd i mi golli'm tymer. Pan dan ofal fy nhad, a than ei addysg, — er lleied oedd cylch ei ddarllen, — yr oeddwn yn hapus, a'm henaid yn heddychlon. Ond magwyd ysbryd drwg ynnof yn yr ysgol; ac, ar adegau, y mae yn fy mhoeni byth. Pan fo plentyn yn awyddus am ddysgu, ond heb y gallu i ddeall ei athraw'n siarad Saesneg, fy ngweddi ydyw ar iddo gael ei wared oddi wrth y teimlad ei fod dan deyrnasiad anghyfiawnder a chreulondeb. Pan fydd wedi anghofio'r wialen, edrych ar bawb fydd yn siarad Saesneg fel ei elyn naturiol byth.


Yr wyf yn cofio'r ysgol honno'n dda, — y paent melyn-wyrdd oedd ar ei muriau, y llechau cerrig oerion, y llawr coed treuliedig, y wialen ar y ddesc, y darnau bychain o wydr oedd yn y ffenestri, a'r cloc yr oedd diogi wedi ymglymu am ei fysedd.


Cyn hir aeth yr ysgol yn anioddefol i mi. Collwn fy nghysgu'r nos wrth feddwl am dani ; ac, o'r diwedd, er ymdrech galed, teimlais na fedrwn fynd iddi mwy.


Ryw fore, mi a'i cofiaf byth, ymguddiais mewn gwrych o ddrain, — ac yr oedd arogl blodau'r drain yn fil mwy dymunol nag arogl paent melyn-wyrdd, — hyd nes oedd y plentyn olaf wedi mynd i'r ysgol. mor dawel a hyfryd oedd pob man wedi i'r plentyn olaf fynd i'r ysgol !


Crwydrais lawer, pan ddylaswn fod yn yr ysgol, ar hyd yr ardal. Yr wyf yn cofio llawer peth rhyfedd welais ac a glywais, yn yr oriau crwydr hyn, ymysg gweision ffermwyr. Un tro dois i ystabl ffermdy heb fod ymhell o'r ysgol ar adeg seremoni ryfedd. Yr oedd y gwas, gŵr cadarn cydnerth, yn bedyddio'r ceffylau trwy wneyd llun y groes ar eu talcennau. Gorfod i mi fod yn ddistaw iawn tra bo'r seremoni'n mynd ymlaen. Yna gofynnodd i mi a welais fedyddio ceffylau o'r blaen. Dywedais na wyddwn i fod neb ond plant yn cael eu bedyddio. Dywedodd yntau mai ceffylau drwg iawn fydd ceffylau heb eu bedyddio. Gyda

hynny daeth plentyn bach tlws o rywle ar ei rawd tua'r ystâbl. "Weli di glust hon?" meddai, gan ddangos clust greithiog dan gudynau gwallt. "Ceffyl heb ei fedyddio gydiodd ynddi, wel di, â'i ddannedd, ac mi dorrodd ddarn o'i chlust. Os doi di byth yn wagnar, cofìa di fedyddio dy geffylau, neu mi dron' y drol, neu mi dorran' ddarn o dy glust ti." Yr oedd y gwas hwnnw'n credu mewn bedyddio ceffylau, ond nid wyf yn sicr a oedd yn teimlo fod rhyw lawer o rin yn y bedydd gafodd ei hun. A llawer chwedl ofergoelus glywais, — cefais gipdrem i fywyd nas gwyddwn ddim am dano o'r blaen.

Nid dyddiau dreuliwyd yn hollol ofer oedd y dyddiau y bum yn crwydro yn lle mynd i'r ysgol. Dysgais garu prydferthwch natur â chariad angerddol. Bum yn gwylio'r cymylau oddiar ael llawer bryn serth, bum yn synnu at gylchdroion esmwyth y genllif goch wrth edrych arni oddiar gopa craig, darganfyddais nad oedd dyfnder coedwig yn lle unig, dysgais garu miwsig rhaiadrau, — yr oeddwn yn berffaith ddedwydd tan ddoi'r ysgol i'm cof, a than gofiwn mai mewn anufudd-dod i'm rhieni yr oeddwn yn byw. Ond yr oedd bywyd fel hyn yn rhy hapus i bara'n hir; o'r diwedd dywedodd rhywun wrth fy mam fy mod ymhell o'r llan, mewn cwm anghysbell, yn ystod oriau'r ysgol. Dechreuwyd chwilio, a buan y daeth fy holl fai i'r golwg. Yr oeddwn mewn ofn mawr, ac mewn cywilydd mawr. Ond y dychryn mwyaf, wedi diodde'r gosb, oedd meddwl am fynd i'r ysgol yn fy ol.


Yr oedd hen wr gwargam, a llygaid bychain treiddgar ganddo, wedi dweyd wrthyf am wledydd pell. Nid wyf yn meddwl iddo fod erioed o'r ardal, ond soniai beunydd am "awel lem Siberia" ac am "awel falmaidd y de" fel pe buasai'n berffaith gyfarwydd â hwy. Dywedodd hanes y môr wrthyf, ac fel yr oedd rhai'n mynd mewn llongau i wledydd pell, i gyrchu eurafalau a lemonau a phob rhyw hyfrydwch. Penderfynais innau, rhag myned i'r ysgol, ddianc i'r môr. Yr oedd yn well gennyf awel falmaidd y de nag awel lem Siberia; a thybiwn fod yr awel falmaidd tua chyfeiriad codiad haul, — meddyliwn fy mod wedi ei theimlo rai troion pan fyddai'r awyr yn gloewi yn y bore, a cherbyd tân yr haul yn dod dros y mynyddoedd. Codais yn fore, yn yr haf oedd hi, a chychwynnais. Ond daeth lludded mawr drosof, a newyn. Nid oedd y môr yn y golwg o'r mynydd uchaf. Ni welwn ond mynyddoedd heb derfyn arnynt.

Tiroais adre'n ol. Nid oedd dim o'm blaen ond anobaith a'r ysgol. Erbyn cyrraedd adre, yr oeddwn yn wael. Bum mewn twymyn, ac araf iawn y bum yn gwella. Erbyn i mi ail ddechreu mynd ir ysgol, yr oedd athraw newvdd wedi dod.

Yr oedd lliw'r dail yn dechre troi, tua di- wedd Medi, pan ddaeth yr athraw newydd. Yr oeddwn wedi cael bod gartref trwy'r haf, oherwydd y gwaeledd a ddaethai i'm rhan o fynd i'r ysgol. A haf dedwydd oedd hwnnw. Gyda'r defaid yn y mynydd y treuliais y rhan fwyaf o hono. Y mae ein " rhydit "* (*Rhydd-did, rhyddid. Gelwir ef hefyd yn " libart," liberty.) ni ar fron y mynydd mawr, ac y mae afon yn murmur yn ddedwydd wrth lithro dros gerrig gleision a graian glân gyda'i odreu. Y mae ei dwfr mor dryloew fel y medrwn wylio symudiadau'r brithylliaid prydferth oedd yn chware o'i fewn. Y peth cyntaf ddarganfyddais oedd nad oedd yno ysgol i'r brithylliai"d bach ; a dyna'r paham, mi dybiwn, fod eu cynffonnau'n chware mor hoew yn y dŵr. Ar ochr y mynydd yr oedd rhedyn Mair a grug, — gwn eu bod yno eto, er na welais i eu lliwiau gogoned'dus o wyrdd a choch er ys blynyddoedd, oddigerth mewn dychymyg. Yr oedd yno randiroedd eang o fynydd glaswelltog hefyd, ac ni ddaeth o Frussels erioed garped mor esmwyth dan droed a'r mynydd hwnnw yn sychder yr haf. Llawer tro, ar wastadeddau sychion gwledydd pell, y bum yn hiraethu am ddyfroedd grisiaiaidd ffynnon sy'n tarddu dan garreg ar y mynydd hwn. Yn ei gwrr yr oedd pantle cygodol, a sicrha bugeiliaid mai hen gladdfa oedd. Symudwn, bron yn ddiarwybod imi, gyda'r nos, i gwrr arall y rhandir, er fod yno gylchau Tylwyth Teg. Pan ddechreuai cys- godau'r myny'ddoedd ymestyn dros gwm ar ol cwm, nes o'r diwedd yr ymledent dros fy nefaid innau hefyd, trown i lawr ar hyd dyffryn y nant tua'm cartre. A bore drannoeth, pan fyddai'r haul yn sychu'r gwlith oddiar flodau'r grug, mwyn oedd gorwedd ar y mynydd i weled yr ehedydd bach yn codi o uchder i uchder, nes y byddai'n yspotyn du bron rhy fach i'w weled yn yr ucheldiroedd glas, a'i gân yn aros yng nghlust dychymyg o hyd. le, dyddiau dedwydd oedd y dyddiau hynny, pan oedd awel gynnes esmwyth yn anadlu dros y dolydd gweiriog a thros y mynyddoedd iach. Ac i wneyd fy llawenydd yn berffaith, clywais fod yr ysgolfeistres yn mynd i ffwrdd, i le gwell. Ond och! nid oedd diwedd i fod ar yr ysgol, er i'r ysgolfeistres fynd i ffwrdd. Yr oedd un arall i ddod yn ei lle. A chlywais newydd wnaeth i'm calon suddo o'm mewn. Wrth. fy ngweled yn rhedeg yn llawen gyda'm ci ryw ddiwrnod, treiodd hen wr pigog o ben ucha'r cwm ddinistrio fy llawenydd trwy ddweyd, — "Mae'r gaea'n dod, 'ngwas i, mi cei di hi'n iawn, 'roedd Sion Siop yn deyd wrtha i mai dyn ydi'r scwlmusus newydd." A meddyliais innau ar unwaith, os medrai dynes fechan deneu lainio mor echrydus, beth fedrai dyn mawr cryf wneyd.


Bum yn dyfalu llawer ffasiwn un oedd yr athraw newydd, breuddwydiwn am dano bob nos. O'r diwedd tynnais ddarlun o hono i mi fy hun, ac nis gallwn gael llonydd gan y darlun a greais, — dyn mawr tal oedd, a chadach du ar draws un llygad, a llais bas aflafar, a choes bren. Ond ni fedrwn gael sicrwydd i'm meddwl fy hun pa un ai ruler ynte gwialen fedw fyddai'n tynnu'r llwch o ysgwyddau'm cot. Un peth ni ddaeth yn agos i'm meddwl, — y syniad fod yn bosibl i ysgolfeistr fy neall yn siarad. Daeth bore mynd i'r ysgol. Cynghorodd fy mam fi y noson cynt i ufuddhau i'r athraw ym mhob peth. Addewais innau wneyd hyn, os medrwn, trwy ryw foddion, ddeall beth oedd yn ddweyd. Rhoddodd fy mam gynghorion ereill i mi hefyd, yn y wedd yma, — " Cofia di fod yn ffeind wrth blant ereill, yn enwedig wrth rai llai na thydi dy hun. Ond 'dydi ddim iws i ti adael i neb dynnu dy Iygaid. Os cei di gam, rhaid i ti chware dy bai't. Ac os doi di i gwyno ata i fod rhyw fachgen wedi dy guro di, cofia hyn, — mi gei gweir arall gen inne am adael iddo fo. Treia ddysgu, gael i ti leicio'r ysgol." Cychwynnais i'r ysgol yn ddewrach na Ilawer tro, wedi penderfynu "chware fy mhart."


Yr oeddwn wrth yr ysgol mewn pryd, a phan agorwyd y drws am naw i'r funud, ymwthiais i mewn gyda'r plant ereill, a gadewais i ffawd fy rhoddi i eistedd yn ol ei hewyllys hi. Gwelais cyn hir fod ffawd wedi fy rhoddi i eistedd yn y gornel bellaf oddiwrth y tân, a daeth mwy o rym nag erioed i eiriau fy mam fod yn rhaid i mi chware fy mhart fy hun. Ond dacw'r athraw newydd. Prin y medrwn gredu mai efe oedd, yr oedd mor anhebyg i ysgolfeistr fy mreuddwydion. Gŵr byrr tew oedd, a siriol iawn yr olwg. Yr oedd rhywbeth yn ei wyneb yn gwneyd i mi feddwl nad oedd hwn, beth bynnag, am geisio mwynhad drwy wneyd y plant mor anghysurus ag y medrai. Yr oedd gennyf syniad fod pob athraw'n cuddio gwialen fedw y tu ol i'w gefn, ond yr oedd rhywbeth yn ddeniadol yng ngolwg hwn. A sylweddolais, er llawenydd angerddol i mi, fod yn bosibl i fachgen ysgol hoffi ei athraw. Troais fy llygaid at y cwpwrdd lle y cedwid y botel inc fawr a'r wialen fedw ar ei ben. Gwelais fod y wialen yno o hyd. Yr oeddwn wedi gobeithio yr ai'r ysgolfeistres a'i gwialen gyda hi, oherwydd y mae hen wialen fedw'n brifo mwy na gwialen fedw newydd. Pan fydd y dail heb lwyr ddod i ffwrdd oddiwrth y wialen, nid yw y loes yn gymaint ; hen wialen fain, wedi gwneyd llawer o waith, ydyw'r beryclaf.


Rhoddwyd fì yn y dosbarth isaf; ac yr oedd lle y dosbarth hwnnw am y fainc a lle'r dosbarth uchaf. Yn y dosbarth uchaf yr oedd geneth o'r un oed a minnau, — y mae merched yn dysgu'n gynt o lawer na bechgyn rywsut. A chyn diwedd ysgol y bore dechreuasom ysgwrsio. Yr oedd hi wedi gorffen ei gwaith ; a minne, druan, heb ddechre. Rhoddodd help i mi dorri rhyw luniau llythyrennau ar fy llech. Benthyg oedd y llech, ac nid oedd gennyf bensel garreg. Rhoddodd yr eneth fenthyg ei phensel hi i mi, ac yr oedd yn gynnes o'i llaw, ac yn ysgrifennu'n esmwyth iawn. Ond gwelais na fynnai'r bensel wneyd rhyfeddodau gyda'm bysedd i fel y gwnai gyda'i bysedd hi. Gwell na'r ysgrifennu oedd yr ysgwrs a gawsom am yr athraw newydd. Yr oedd yr eneth yn gwybod ei hanes i gyd, oherwydd yr oedd wedi bod yn ei chartref. Un o sir Aberteifì oedd, meddle hi. Nid oedd gen i yr un syniad am sir Aberteifi yr adeg honno ond ei bod yn rhywle yng nghanol Lloegr, oherwydd Saesneg oedd iaith y person, ac o'r sir honno yr oedd ef yn digwydd dod. Ond dywedai'm cydymaith fod yr athraw'n medru Cymraeg, "ond i fod o'n Gymraeg go od." "A'i wraig o hefyd," meddai, "piti garw na ddoi hi i'r ysgol, welest ti erioed un mor ffeind." Yr oedd yr athraw a'i wraig wedi dweyd tipyn o'u hanes. " Roedden nhw yn yr ysgol hefo'u gilydd, ac yn gariadau yr amser hwnnw," ebe'r eneth, gan gyfeirio at hanes y bydd merched bach yn cymeryd mwy o ddyddordeb ynddo na bechgyn bach. Gofynnais yn bryderus a oedd gan yr athraw blant, a da iawn oedd gennyf glywed nad oedd ganddo yr un. Tybiwn mai tynged anedwydd oedd un plant athraw, — bod gydag ef ddydd a nos !


Erbyn hyn, prin y rhaid i mi ddweyd, y mae fy meddwl wedi newid am sir Aberteifì ac am blant ysgolfeistr. Pe bawn yn llywodraethu ysgol ac yn dewis athraw, dewiswn un gyda gwraig a phlant. Y syndod i mi ydyw pa ham y mae athrawon di-briod yn medru deall plant cystal. Ond yr wyf yn sicr o hyn, na wyddant ond elfennau eu celfyddyd hyd nes y bont wedi ymdrafferthu gyda'u plant eu hun. Y mae cyd- ymdeimlad a gwybodaeth, — rhai gwerthfawrocach na thrysorau pennaf ysgol a choleg, — yn dod yn feddiant i'r athraw ; ac y mae pob enaid bach sydd dan ei ofal yn ymddangos yn gan mil gwerthfawrocach nag erioed o'r blaen.


Y prydnawn buom yn dysgu darllen, trwy ddweyd geiriau ar ol bachgen ddaeth i'n dysgu. O x; ox; o n on; a t at, — mi dybiaf glywed ugain o leisiau'n swnio yn fy nghlustiau y funud hon. Mor wahanol yw'r lleisiau heddyw! Y mae dau'n cyhoeddi'r efengyl, y mae un yn melldithio Duw a dynion, y mae mwy nag un wedi tewi am byth. Ni wyddem, wrth gwrs, beth oeddym yn ddweyd. "Dysgu allan " fel parot oedd unig ystyr y gair dysgu; nid oedd deall a dysgu meddwl yn rhan o addysg y dyddiau hynny o gwbl. Ein dysgu i wneyd swn heb feddwl iddo, a'n dysgu i siarad heb ddeall, — dyna'r dysgu gawsom ni.

Wrth fynd adre'r prydnawn gwelais wraig yr athraw. Un hardd radlon oedd; a dechreuodd siarad à ni. Gofynnodd i mi a fedrwn "ddala iar bach yr haf." Ni wyddwn mai gloyn byw oedd yn feddwl, onide gallaswn ddweyd hanes bywyd degau o honynt wrthi. Holodd ni a oedd "pysgod yn yr afon, ac a oedd yn hawdd eu dal. Gwnaeth hyn fi'n ddistaw, yr oedd y pysgod yn gyfeillion i mi, ac ofnwn y medrai'r ysgolfeistr eu dal. Ond hoffwn y wên oedd ar wynebi y wraig a'i hiaith, — yr oedd mor anhebyg i'r hon a'n gadawsai. Synnem ei chlywed yn siarad Gymraeg, a hanner ofnem y cai "slap" ar ei llaw wedi mynd adre. Teimlwn yn falch iawn ar ddiwedd y diwrnod hwnnw. Diwrnod cyfan yn yr ysgol heb gurfa! Ni feddyliais erioed o'r blaen fod hyn yn bosibl. Nid oedd dim arswyd yn fy meddwl wrth feddwl am ysgol trannoeth. Rhedwn yn llawen gyda'm ci ar draws y caeau adlodd gwyrddion, i deimlo fy mod yn rhydd. A theimlwn fy mod wedi dysgu o x, ox. Gwyddwn lle'r oedd cerrig gleision hirion yng ngwely'r afon yn y mynydd. Eis yno i'w ceisio. Naddais un o honynt yn bensel feddal bigfain, torrais dwll yn ei bon," a rhoddais ruban melyn drwyddo, i'w hongian am fy ngwddf. Tybiais, hefyd, y gallwn fod o ryw ddiddanwch i'm cyd-ysgolheigion. Gwneis ddau bâr o "glecars " newydd, sef cerrig caledion i'w rhoddi rhwng fy mysedd. Medrwn chwareu y rhain er difyrrwch i mi fy hun, a dychmygwn weled yr holl blant yn gwrando arnaf mewn edmygedd. Y mae blynyddoedd lawer er pan ysgiifennais yr adgofion tila hyn. Y mae'm hathrawes gyntaf yn ei bedd. Wedi dyddiau f'ysgol deallaised bod yn wraig dyner-galon a'i chariad at blant yn fawr. Ond yr oedd yn gaeth i gyfundrefn greulon ; a dysgai ni fel y dysgesid hithau druan. Ond, i mi blentyn, yr oedd hi a'r gyfundrefn yn un.


Os anghofìaf fy nghas at yr athrawes, ni anghofiaf byth fy nghariad at yr athraw a'i dilynodd. Yr oedd yntau yn hualau yr un gyfundrefn ddrwg, ond meiddiodd ef gredu mewn dull gwell. Er mai Saesneg oedd iaith yr ysgol, rhoddai fenthyg llyfrau Cymraeg i ni, — llyfrau llwydaidd yr olwg, ond llawn hanes arwyr a gwledydd, — i'w darllen fin nos. Cododd ynnom awydd angerddol am wybodaeth. Hudai ni i ddarllen ac i ddysgu. Deuai i'n cartrefì, a siaradai Gymraeg. Ac am ei wraig, aem ati i ddangos pob llyfr newydd; a byddai'n llawen gyda ni.


Aeth yr athraw o'r ardal wedi i mi adael yr ysgol, i ysgol arall mewn sir gyfagos. Cyn hir wedyn cymerodd urddau yn Eglwys Loegr. Bum yn ei wrando'n pregethu mewn hen eglwys adfeiliedig ar lan y môr, a dyna'r bregeth fwyaf hyawdl glywais mewn eglwys erioed.


Y mae yntau heddyw yn ei fedd. Huned yn dawel yn naear sir Aberteifi, ei sir enedigol. Bydd byw yn serch pob un o'i ddisgyblion. Lu o blant dedwydd, parablus, — ym mha le yr ydych i gyd? Os derllyn yr un ohonoch y llinellau hyn, derbyniwch gofion un sy'n aml yn meddwl am danoch. Tybed a ydych, fel y finnau, yn cael cysur a nerth wrth alw'r hen ddyddiau weithiau'n ol? Os felly, nid yn ofer y canaf glych hen adgofion.

HEN FETHODIST


Like a monk, who, under his cIoak,
Crosses himself, and sighs, alas!
With sorrowful voice to all who pass, —
For ever — never!
Never— for ever?
Longfellow. The Old Clock on the Stairs.


MEWN cornel o'r bwthyn lle'm ganwyd saif hen gloc. Tybiais lawer tro, os cawn ddigon o ysgol i fedru ysgrifennu rhywbeth, yr ysgrifennwn hanes yr hen gloc. Na ddychrynned y darllenydd; nid wyf yn myned i adrodd fy hanes fy hun. Y mae amryw gyfrinion rhwng yr hen gloc a minne, er pan fum yn syllu gyntaf ar ei wyneb melyn o'm hen gryd derw; ond, pe'r hoffai rhywun wybod y rheini, y mae'n debycach o gael gwybod gan yr hen gloc na chan i. Na, bydded y darllennydd yn esmwyth, nid oes arnaf eisio gwthio fy hun i'w sylw; fy unig amcan ydyw cyflwyno'm cydnabod, y cloc patriarchaidd hwnnw, iddo.


Pe cawn siarad ar ddameg, dywedwn i'r cloc gael bore oes gwyllt a dibris. Nid wyf yn siwr a oedd mewn teulu crefyddol pan ddechreuodd dician yn 1778; os oedd, rhaid mai teulu o Anibynwyr oedd y teulu hwnnw. Yr oedd y Crynwyr wedi darfod yn y wlad dan bwys erledigaeth, ac nid oedd ond beddau glaswelltog, heb garreg ac heb enw, i gadw traddodiadau am eu dioddef yn fyw yng nghof y rhai ofnus ai heibio'r fynwent wedi nos. Yr oedd yr achos Methodistaidd heb ddechre, er fod Howel Harris wedi pregethu'n nerthol yn y fro, a Daniel Rowland wedi ysgwyd llwch eglwys y llan oddi wrth ei draed. Anaml iawn y ceid gwasanaeth yn yr eglwys ac nid oedd yr offeiriad erioed wedi deffro deall na chydwybod ei blwyfolion ofergoelus a meddw. Oni buasai am yr Anibynwyr, — hen ddisgyblion Morgan Llwyd o Wynedd, — ni chawsid neb â buchedd fwy rheolaidd, beth bynnag am ddeall a chydwybod, na buchedd y cloc newydd diciai yn 1778.


Ond buchedd ddeddfol oedd buchedd felly, nid buchedd ag ol grâs arni. A pha fodd y gall buchedd cloc fod fel arall. a pha synwyr sydd mewn son am rodiad cloc? Nid oes ynddo ef bechod gwreiddiol, onide ni fedrai ddechre tician. Nid yw pechod doe yn effeithio dim ar ei yfory ef, aiff cystal yfory pa un bynnag ai sefyll ai mynd wna heddyw, ac y mae'n llawn mor debyg o rydu wrth fynd ag wrth sefyll. Nis gwyr ef am demtasiynau. oni bai i dynfaen ddigwydd bod yn agos at ei bendil. Nid ydyw rhagrith yn bechod arno ef; rhaid iddo wisgo ei grefydd i gyd ar ei wyneb, onide ofer hollol fyddai ei waith.


Ac eto cafodd y cloc hwn ieuenctid gwyllt. Prin yr oedd wedi dechre ar ei waith, yn nhy deuddyn newydd briodi, pan dorrodd cwmwl ar y mynydd uwchben. Y mae ol y cwmwl yn torri i'w weld eto ar y mynydd, ond nid oes gymaint ag ol y ty lle ticiai'r cloc newydd. Ysgubwyd y ty ymaith gan y llifeiriant ofnadwy, a chollwyd y cloc o'r wlad. Ond wedi llawer o ddyddiau, gwelwyd ef yn nofio ar wyneb Llyn Tegid. Yr oedd ei wyneb wedi ei anafu, fel hen ymladdwr wedi ffair; yr oedd ei olwynion wedi rhydu yn y dŵr, fel cyneddfau gŵr a hir lymeitio; ond yr oedd defnydd da ynddo wrth natur, — derw o'r iachaf a phres o'r puraf, — a gwelwyd fod gobaith iddo, er gwyllted fu ei yrfa ac er mor agos i'w ddinistr y bu.


Rhoddwyd ef mewn cartref newydd, gyda phobl o fuchedd weddus, dwys eu teimlad, mwyn eu natur, a hoff iawn o ganu. Bu'n tician yno am lawn ugain mlynedd, gan ennill parch trwy reoleidd-dra di ball ei waith, cyn i'w gartref ddod yn gartref Methodistiaeth yn y fro honno. Yr oedd y cloc wedi pasio drws Pen y Geulan ar ei ffordd i Lyn Tegid yn amser y "Llif Mawr". Safodd y ty yr adeg honno, er fod y cenllif wedi ysgubo dros holl waelod y dyffryn o'i flaen. A byth ar ol adeg y rhyferthwy, newidiodd yr afon ei gwely, a chymerodd Iwybr newydd rhyw led cae oddiwrth Ben y Geulan, fel pe buasai arni gywilydd o'r difrod wnaethai yn nydd ei chynddaredd gwallgof. Felly hefyd y gwelais wr fuasai feddw'n gwneyd pan yn cyfarfod ei weinidog,— cerddai yr ochr arall i'r heol, yn ddistaw, a'i ben i lawr. Erbyn heddyw y mae hen wely'r afon wedi ei droi'n ffordd, rhed hithau draw yn ddistaw, fel pe mewn cywilydd byth am y dydd y bu hi a'r cloc yn rhuthro am y cyntaf tua'r llyn. Rhwng y ffordd â Phen y Geulan y mae aber dryloew, — "ffos y felin," — yn dwndwr yn hapus o flaen y ty, fel y bu'r afon gynt.


Yn y dyddiau hynny yr oedd ysbryd y Diwygiad Methodistaidd yn ymsymud dros Gymru; gwelid yn weddaidd ar y mynyddoedd draed rhai yn efengylu, yn cyhoeddi iachawdwraeth; a'r pryd hwnnw dechreuodd Gymru ymysgwyd o'r llwch, a gwisgo gwisgoedd ei gogoniant. Bu Rowland Llangeitho a Williams Pantycelyn farw cyn i bregethwyr y Diwygiad a'r hen gloc ddod i gwmni eu gilydd; ond rhwng dydd ei wylltineb a'r dydd yr ymunodd ei deulu â'r Methodistiaid, clywyd llais aml un fu'n gwrando wedyn ar bregeth ddifrif ddwys yr hen gloc,— yn 1780 dechreuodd Dafydd Cadwaladr bregethu, ym 1781 ganwyd Ebenezer Richards Tregaron, yn 1783 ymsefydlodd Thomas Charles yn y Bala, yn 1787 dechreuodd Robert Roberts Clynog bregethu, a dechreuodd Ebenezer Morris yn 1788. Yn 1789 ymunodd Simon Llwyd â'r Methodistiaid, a thraethai ef ar yr un testun a'r cloc, — sef amseryddiaeth.


Heblaw'r cloc, yr oedd teulu Pen y Geulan yn saith, — gŵr a gwraig, dwy ferch, a thri mab. O'r rhai hyn nid oes ond mab, yr ieuengaf o'r teulu, yn aros yng nghwmni'r cloc, ac y mae ef yn fab penwyn pedwar ugain mlwydd. Lawer noson gaeaf, wrth dân mawn a goleu cannwyll frwyn, pan ruai'r gwynt dros y mynyddoedd mawr, buom yn gwrando ar ymddiddan yr hen wr a thician yr hen gloc. A rhyw ychydig o'r pethau glywais yr adeg honno wyf yn adrodd yn awr.


"Blant, yr hen gloc yma ydi'r Methodist hynaf yn y wlad. Mi gadd dro yn amser y Lli Mawr, ac y mae rhyw lun ar i grefydd byth er hynny. Yn tydi o'n debig i hen grefyddwr? Mae o'n dal ac yn ddu, ac yn edrych yn ddifri arnom ni. Does dim byd feder 'neyd i'r hen gloc wenu. Yn diar i mi, mi fu mewn cwmpeini enwog, ychydig iawn o honom ni gadd fanteision yr hen gloc. 'Roedd.o'n cael y fraint o sefyll wrth ben gwely'r pregethwr yn siambar Pen y Geulan. Mi fu cannoedd, os nad miloedd, o bregethwyr yn gwrando arno. Y mae yma ar y ffordd rhwng De a Gogledd, wyddoch, ac mi fydde'r pregethwyr i gyd yn croesi Bwlch y Groes. O flaen Sasiwn y Bala, mi fydde llond Cae'r Gors o gyffyle pregethwyr."


"Nhad, 'r oedd cadw cymaint o bregethwyr yn ddigon i dorri neb. Peth rhyfedd fod yr hen gloc wedi_aros yn dy feddiant."


"Y bachgen ynfyd, 'dwyt ti'n gwybod dim am ffordd y byd na ffordd Rhaglunieth chwaith. A welest ti blant rhai wasanaethodd yr Arglwydd yn cardota eu bara? Dos i Gae'r Gors yr amser fynnoch ti ar y flwyddyn. ac mi gweli o'n wyrdd, a dene'r unig gae yn Llanuwchllyn sy'n wyrdd ha a gaea. 'Roedd bendith hyd yn oed hefo chyffyle'r hen bregethwyr. Tase'r hen gloc acw'n medru deyd rhyw stori ond ei stori ei hun, mi ddeude am lawer bendith heblaw bendith ar gae."


"Ie, nhad, mi fydd bendith arnom ni tra byddi di byw, a thra ticio'r hen gloc. Wyt ti'n cofìo rhai o'r hen bregethwyr?"


"Ydyw, 'n dyn i. Mi fydda'n clywed y cloc yn tician yn fy nghwsg, ac mi fydd i swn o'n dwad â'r hen bregethwyr yn dyrfa o fy mlaen i. Neithiwr ola'n y byd mi freuddwydies 'mod i'n gweld Tomos Richards Aber Gwaun yn dwad at Ben y Cleulan oddiwrth Dy'n y Pwll, yn edrych yn well a harddach nag erioed. Diar mi, Ilawer peth rhyfedd weles i dan weinidogaeth Tomos Richards Aber Gwaun. 'Roedd genno fo lais fel udgorn. Mi glywes yr hen Stifin yn deyd i bod nhw'n l ladd m awn unwaith yn y Gors Lwyd, a'u bod nhw'n clywed i lais o'n pregethu yn hen gapel y Pandy. 'Rydw i'n cofio'r bregeth honno, dene'r testun, — ' Y neb y syrthio y maen hwn arno.' 'Roedd hi'n ganol yr odfa pan es i yno, — nos ffair llan'r ha oedd hi. Yr oedd y capel yn ferw trwyddo, a gorfoleddu mawr, a'r bobol yn neidio fel ceiliogod

wedi torri 'i penne, a'r hen Aber Gwaun yn i cateceisio nhw, — 'Bobol, shwd fu hi yn y ffair heddi?' O'r diwedd aeth y bobol i waeddi gormod, ac ebe'r pregethwr, — ' Bobol, mae hi'n rhy boefth i fewn, ni drown i fâs.' Mi agorodd rhywun y ffenest, a dacw ynte'n pregethu i'r bobl oedd allan, a'r gorfoleddwrs yn gorfoleddu y tu mewn."


"Fu Ebenezer Richards yn cysgu yn swn yr hen gloc?"


"Do lawer gwaith. Y fo bedyddiodd fi. Mi fydde'n dwad bob amser o flaen Sasiwn y Bala. Dene'r un a'r golwg mwya bonheddig o honyn nhw i gyd. 'Rydw i'n i gofio fo'n rhyfedd iawn ar ddyledswydd un bore. Yr oedd Ifan Rhys hefo fo, y canwr mwyna glywes i erioed. Y bora hwnnw 'roedd Ifan Rhys yn ledio'r canu ar ddyledswydd, a Marged a Chatrin a ninne'n canu hefo fo, —


Bydd pawb o'r brodyr yno'n un
Heb neb yn tynnu'n groes.


'Roedd yr hen Stifin tu hwnt i'r bwrdd, a fu ond y dmi iddo fo dowlu 'i glocs, a gorfoleddu ar ganol y llawr."


"Fuo Thomas John ym Mhen y Geulan?"


"Diar do, droion. Un hyll iawn oedd Tomos John — dyn tal esgyrnog, hirdrwyn, hirglust, aelie trymion, a gwyneb wedi rychu gen y frech wen. Ond yn y pulpud 'roedd o'n mynd yn hardd dan ych llygied chwi. Mi fydde Tomos Llwyd yn deyd mai angel oedd o, ac nid dyn. 'Roedd genno fo ddarn yn i bregeth am gloc. "Beth ydi uffern, bobol,' medde fo, 'ond cloc a'i fysedd wedi sefyll ar hanner nos, ac yn tician Byth! Byth. Mi fu llawer pregethwr nerthol arall yng nghwmni'r hen gloc yma. Mi welwyd Dafydd Morus a Robert Roberts Caernarfon, y ddau ysgydwodd Gymru wedi dyddie Harris, yn cyfarfod yn ei wydd. Rydwi 'n cofio John Jones Blaenannerch yn dwad i'r Gogledd am y tro cynta. Y swper mawr oedd i destun o, gŵr y ty wedi digio, ac y mae i lais, mwyn treiddgar o'n gwaeddi Stepwch i Galfaria yn fy nghlustie i o hyd. 'Rydwi 'n cofio William Morris Cilgeran lawer tro. Pwt o ddyn sionc penfelyn oedd o, a gwyneb crwn glân. 'Roedd i lais o'n fwyn a melus, ond yn codi at ddiwedd y bregeth, ac yn dychrynnu'r caleta a'r mwya di daro. Mi wnaeth o i wawdwyr ddwad i'r seiat; a beirdd hefyd.


Rwyt ti'n cofio yn dda ffasiwn olwg oedd arnynt. Yr oedden nhw'n bur anhebyg yn i hymddangosiad i bregethwyr yr oes yma, on'd 'toedden nhw?"


"Oedden. Clôs pen glin oedd gennyn nhw i gyd, a sane bach naw botwm; ac yr oedd gen rai esgidie topie melynion. Mi fydde Cadwaladr Owen yn grand iawn, mewn clôs penglin o frethyn melyn, a sane bach o'r un lliw. Ond clôs du fydde gen Ebenezer Richards, a sane duon. 'Roedd llawer iawn o'r hen bregethwyr yn dda allan, neu fedrasen nhw ddim fforddio dillad mor gostus. Rydw i'n cofio cyfaill John Llwyd Abergele 'n cwyno i fod wedi rhoi deg swllt a'r hugain am i esgidie topie cochion. Ac medda John Llwyd wrtho,— 'Diolchwch nad ydech chi ddim yn neidar gantroed.' Ond yr oedd rhywbeth yn darawiadol yng ngwynebe'r hen bregethwyr hefyd. Dyn slender tene oedd Evan Harries, a'i lygied yn gneyd i chwi ddisgwyl am ryw air ffraeth o hyd. Dyn llwyd oedd Daniel Jones o Landegai, a gwyneb hardd glân, a spectol. Dyn hardd iawn oedd Dafydd Roberts Bontfaen, un o'r dynion hardda mewn gwlad. Gwyneb tew mawr pygddu oedd gwyneb William Havard; dyn coch oedd Rhys Phylip, ac un doniol. Pryd tywyll oedd gen John Jones Blaenannerch, a gwallt llaes, y fo oedd y mwya poblogaidd yn y Deheudir i gyd yn i ddydd."


"Am bregethwyr y Deheudir yr wyt ti 'n son o hyd; fu rhad o brgethwyr mawr y Gogledd yng nghwmni'r hen gloc?"


"A deyd y gwir, 'roedd yn well gen i bregethwyr y Deheudir, yr oedd i dawn nhw'n felusach. Ond mi fu'r hen gloc yma'n tician wrth ben llawer o bregethwyr mawr y Gogledd. Mi fu John Elias yma lawer gwaith, mi fu John Jones Talysarn yn canu "Tragwyddoldeb mawr yw d'enw" pan oedd pawb yn cysgu ond y cloc ac ynte, mi fu Dafydd Jones yma hefyd, a Chadwaladr Owen, a Michael Roberts. Mi fu pregethwyr y sir yma hefyd, Enoc Ifan, —


"Ffasiwn un oedd Enoc Ifan?"


"Pwt o ddyn byr, du du, yn dwad i'w gyhoeddiad yn hwyr bob amser, wedi bod yn chwilio'r gwrychoedd am nythod adar bach. 'Doedd o ddim yn ddirwestwr. Mi fydde mam yn darllaw ar gyfer y pregethwyr ; ond yn amser y dirwest mawr, mi fydde'n gofyn cyn dwad a'r cwrw i'r bwrdd. Ac ebe Enoc Ifan,— ' Pam rhaid cosbi'r ceffyl llonydd am fod y drwg yn mynd dros y clawdd ?' Mi gadd Enoc Ifan geffyl gwyllt unwaith yn fenthyg i fynd i'w daith fore Sul, ac mi rhedodd y ceffyl o. 'Roedd yr hen Brice y Rhiwlas yn i gyfarfod o, — 'roedd o'n medru Cymraeg. ' Lle'r ydech chwi'n mynd heddyw, Enoc Ifan?' ' Wn i ar y ddaear," ebe Enoc, dan dynnu hynny fedre fo yn y ffrwyn, a'i holl fryd ar y ceffyl anhyweth, "gofynnwch iddo fo."


" Oedd Enoc Ifan yn bregethwr da?"


"Roedd o'n ddarllennwr da iawn, ond 'doedd o fawr o bregethwr. 'Rydw i'n cofio disgwyl mawr am John Jones Talysarn ryw fore Sul o Fowddu; 'roedd Sion Ifan wedi mynd i ben Bwlch y Groes i'w gyfarfod o. O'r diwedd mi ddoth at y capel, ac yr oedd Enoc Ifan i ddechre'r odfa o'i flaen o, yn fyr fyr. Mi gymerodd Enoc Ifan i amser i ddechre, ac wedyn, yn lle mynd i lawr o'r pulpud, gael i John Jones godi, mi gododd i lygied ar y bobol, ac ebe fo, — "Mi wela fwy o honoch chwi nag y fydd yn dwad i ngwrando i, 'rydw i'n meddwl y pregetha i dipyn bach i chwi." Ac mi bregethodd am hir."


"Ffei hono, 'does na chwaeth na theimlad mewn pregethwr wna dro felly. Mae'n debyg fod Enoc Ifan yn gwybod nad oedd o ddim yn gymeradwy, ac wedi mynd i hidio dim beth oedd pobol yn feddwl o hono. "


"Fachgen. rwyt ti'n camgymeryd. Paid a barnu'n galed, mae'r natur ddynol yn llawer gwell nag y medri di i gweld hi. Dyn llawn o deimlad oedd Enoc Ifan ac os esgeulusid o, mi fydde'n teimlo i'r byw. 'Roedd o ar i wely marw, os ydw i'n cofio'n iawn, ar adeg Sasiwn y Bala. Ychydig o'r pregethwyr a'r blaenoried oedd yn mynd i edrych am dano, — llai nag oedd o'n ddisgwyl. "Wel, wel," medde ynte, "mi fedran 'neyd yn Sasiwn y Bala hebdda i; ond fedran nhw ddim gneyd hebddai yn y Nefoedd." Ac ni fedren nhw ddim gneyd yn y Nefoedd heb Enoc Ifan chwaith." "Prun o blant Pen y Geulan rodd wy drwg i'r hen Charles Jones Llanarmon?"


"Taw. Mi fu'r hen gloc yma'n tician i Forgan Howel, ac Evan Evans Nant y Glôg, ac Ebenezer Morris, a Richard Dafis o Gaio, a'r hen Hughes Lerpwl, a lluoedd o honyn nhw."


"Yn tydi o'n beth rhyfedd ein bod yn medru dioddef swn y pendil. Y mae yr un fath o hyd, — tip, tip, buase dyn yn meddwl mai poen anioddefol fuase gwrando ar beth mor undonog. Ond y mae'r glust yn rhoi rhyw amrywiaeth a rhythm i'r swn, onide buase stori'r hen gloc yn anioddefol."


"Dene wyt ti'n ddysgu yn yr ysgol? Mae rhyw wirionedd yn y peth wyt ti'n ddeyd. Buase llawer o honom yn anioddefol i'n gilydd oni bai ein bod yn rhoi rhythm dychmygol i stori llawer un. Ond nid pob pregethwr fedre ddiodde stori'r hen gloc ychwaith. 'Roedd o'n gydymaith diddan i John Jones Talysarn a Thomos John wedi i bawb arall droi 'i cefne arnyn nhw. Ond mi fydde John Evans New Inn yn codi o'i wely, ac yn cydio yn i bendil o, — a bydde'r hen gloc yn ddistaw y noson y bydde John Evans yn cysgu ym Mhen y Geulan."


Erbyn hyn, y mae henaint wedi effeithio ar yr hen gloc hefyd. Safodd ryw noson, er nad oedd yr un John Evans New Inn wedd cydio yn ei bendil ac yr oedd mor ddistaw a'r llu o lefarwyr sydd wedi tewi yng Nglyn Distawrwydd. Yr ydym oll wedi dysgu edrych ar y cloc fel bod byw, fel un o honom ninnau, a thybiem mai o fwriad y safodd. Tybiem nad oedd yn hoffì dull yr amseroedd newyddion; daw ceidwadaeth gyda henaint bob amser. Ar ei gyfer saif rhyw ddandi o gloc bach newydd spon. Prin y mae ei baent newydd aroglus wedi sychu, ac y mae ei got yn edrych yn ffasiynol iawn rhagor cot ddu yr hen gloc. Y mae'r cloc bach yn tician yn fuan fuan, fel pe buasai rywun llawn ffwdan bob amser ar golli'r tren; y mae ticiadau'r hen gloc yn amfaidd a phwyllog, fel pe buasai amser i bob peth. Wrth glywed y ddau gloc yn tician trwy eu gilydd, — llais pwyllog yr hen a llais cyflym y newydd, — meddyliem eu bod yn ffraeo o hyd.


Ac o'r diwedd rhoddodd yr hen gloc y ddadl i fyny, a safodd. Ceisiwyd meddyg clociau gore'r wlad ato, a rhoddodd hwnnw ei holl ddyfais ar waith i wneyd i'r hen bererin methiantus fynd. Ac o'r diwedd, er llawenydd i ni, clywyd y ticiau trymion, — rhai fel pe'n llawn ddieithrwch amser,— drachefn. Prin y tybiem y medrai cwrs amser ddirwyn ymlaen heb neb i'w wylio ond yr ysgogyn cloc bach. Rhowd bysedd yr hen gloc ar yr un fan a bysedd y cloc bach, sef ar hanner dydd ; a chyd- gychwynasant.


Pan aeth yn hir brydnawn, er syndod i ni, nid oedd y clociau'n gytun. Yr oedd bysedd yr hen gloc yn mynd o chwith. Yr oedd yn gwrthod mynd ymlaen i'r dyfodol, ceisiai fynd yn ol at Ebenezer Morris a Thomas John a John Elias a John Jones Talysarn. Yr oedd ein parch mor fawr i'r hen Fethodist fel y tybiem, am eiliad ein dychryn, fod Amser wedi troi'n ol gydag ef, a fod gweddi'r bardd wedi ei gwrando, —

Gerbyd chwim Amser, tro'n ol ar dy hynt,
Gad im fod ennyd yn blentyn fel cynt.

Na, wedi colli arno ei hun 'r oedd yr hen gloc, — fel y clywais am hen flaenor o'r fro yma yn ceisio siarad Saesneg ar ei wely marw.

Gwell sefyll na throi'n ol. Ac erbyn hyn mae'r hen gloc wedi sefyll. Dywed rhai fod Methodistiaeth wedi sefyll hefyd, ac yn edrych yn hiraethlawn yn ol; fod cyffro a theimladau byw y Diwygiad yn gweithio eu nherth allan, a fod adeg gorffwys yn dod. Na ato Duw i hynny fod, — peth prudd yw gweld hen bendil neu hen ddiwygiad wedi sefyll. Ni safant, hwy yw dechreu tragwyddoldeb. "Pendil yw tragwyddoldeb," ebe Jacques Bridaine, "yn ailadrodd, yn nistawrwydd beddau, Am byth! Byth — Byth! Am byth!" Bydd llais tragwyddoldeb yn llawnach na hynny, ni ddistewir tant y diwygiadau byth, —

Mae'r Iawn a dalwyd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr fydd tragwyddoldeb llawn
I ddweyd yn iawn am dano.


r

LLYFR Y SEIAT.

" Tariannau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn"
— Can y Caniadau, iv. 4.


I HANESYDD cyfnodau a ddaw, bydd y seiat, nid yn unig yn un o sefydliadau mwyaf dyddorol y ganrif hon, ond yn un o'i sefydliadau mwyaf pwysig hefyd. Ynddi y ffurfiwyd cymeriadau goreu Cymru, ac nid ydyw ei nerth eto wedi dechreu pallu. Ynddi y dysgodd llawer un sy'n rheoli ei ardal, nid yn unig fyw mewn dull rydd awdurdod i'w eiriau, ond hefyd ofalu am "wedd allanol yr achos," — gofalu am gyfarfodydd, am arian, am fusnes ymhob gwedd, gyda ffyddlondeb a manylder a hunan-aberth. Ac fel y mae llywodraeth y wlad yn dod yn fwy gwerinol, y mae dylanwadau'r seiat yn dod yn fwy amlwg. Cafodd y Saeson lawer mwy o fanteision i ddysgu gwersi llywodraeth leol na'r Cymry, a thybir fod ganddynt gyfaddasder neillduol at drefnu a rheoli, — tra mai athrylith wyllt a gwrthryfelgar ydyw athrylith y Celt. Wrth weled y gwaith mawr wna Cynghorau Sir Cymru, gyda medr a than ymdeimlad o gyfrifoldeb, gofynnir pa le a pha bryd y dysgodd y Celt reol, pa le a pha bryd y daeth pwyll arafaidd yn eiddo iddo. Ac atebir, heb gyfeiliorni, mai yn y seiat.


Nid anyddorol, hwyrach, fydd trem ar hanes un seiat. Y mae llyfr seiat, wedi ei gadw'n fanwl ac wedi ei ysgrifennu'n brydferth, o fy mlaen. Yr wyf yn cofio'r gŵr a'i hysgrifen- nodd, — gŵr glandeg a thywysogaidd yr olwg arno. Yr oedd yn dir-feddiannwr yn ei ardal, ac felly'n fwy anibynnol na'i gyd-grefyddwyr, y rhai oedd braidd i gyd yn denantiaid i dir-feddianwyr oedd yn coleddu efengyl arall, — tir-feddianwyr edrychai ar y seiat fel melldith i'r wlad, oddigerth pan fyddai eisiau cyfarfod gweddi i rwystro'r gwair bydru ar gynhaeaf gwlyb, neu i rwystro'r adlodd losgi'n golsyn gan angerdd gormod gwres. Yr wyf yn cofio un peth am yr ysgrifennwr hwnnw, — byddai arno awydd parhaus am olchi ei ddwylaw. Byddai pasio dwfr meddal cynnes, heb roddi ei ddwylaw ynddo, yn ormod o demtasiwn iddo. Yr oedd arno awydd cadw pob peth yn lan. Llawer gwaith y bum yn mynd a'i lythyrau i'r post, gyda chyngor yn fy nghlustiau, — "Os bydd arnat eisiau ysgrifennu llythyr, cadw ef yn berffaith lân, fydd yr un duwiol yn rhoi bysedd budron hyd ddim." Digon prin y niedrid ymddiried y llythyrau i'm bysedd i heb ddeilen bob ochr i'w hamddiffyn; a byth er hynny, y mae gweled ol fy mys ar unrhyw beth yn gwneyd i mi holi fy hun a ydyw'm cymeriad yn peidio gadael ystaen ar y bywydau ieuainc yr wyf yn dod i gyffyrddiad â hwy.


Hwyrach, ddarllennydd, iti glywed son am blwyf ym mysg plwyfydd Cymru o'r enw Llanuwchllyn. Nid yw hynny yma nac acw, o ran hynny; ond am seiat y lle mynyddig hwnnw yr wyf yn mynd i son. Ni ddywedaf ddim am y lle, ac am y bobl ni ddywedaf ond ychydig, — sef eu bod yn gorfod gweithio'n galed am eu tamaid, a'u bod yn fwy crefyddol ac yn hoffach o feddwl na thrigolion llawer ll y gallaswn ei enwi. Ond y mae'r lle'n ddigon tebyg i leoedd ereill fel y gallwn gymeryd ei seiat yn engraifft o filoedd o seiadau trwy Gymru. Daeth Howel Harris i Lanuwchllyn yn 1739, a phregethodd i dyrfa oedd yn awyddu am glywed yr efengyl. Nid tyrfa o wŷr bwystfilaidd, yn cael eu harwain gan offeiriad penboeth neu yswain meddw, a gafodd Howel Harris yma, ond pobl garedig a syml. Ni erlidiwyd neb am grefydd yn Llanuwchllyn erioed. Yr oedd yr ardal wedi ei braenaru'n dda cyn i Howel Harris ddod i hau yr had. Yr oedd Rowland Fychan wedi cyfieithu llyfrau duwiol, ac wedi dweyd am faddeuant a hirymaros. Yr oedd Gwerfyl Fychan, — y brydyddes fasweddol y dywedir ei bod yn huno yn yr un fynwenit ag Ann Griffiths, — wedi gadael cywyddau i Dduw a Christ ar lafar gwlad. Yr oedd Morgan Llwyd o Wynedd wedi pregethu yma, ac wedi gadael eglwys Anibynnol flodeuodd trwy aeaf caled hyd nes y gwelodd wanwyn yn nyddiau George Lewis a Michael Jones. Yr oedd y Crynwyr wedi dioddef yma hefyd. Danghosir y fan y pregethent, y mannau y trowd hwy o'u cartrefi, y mannau y gwerthwyd eu heiddo, a'r fynwent werdd neillduedig lle y gorweddant ar y fron uwchlaw Llyn Tegid. A phan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd, yr oedd Llanuwchllyn ar lwybr y pregethwyr oedd yn teithio o Dde i Ogledd, ac o Ogledd i Dde. Ychydig o leoedd fu dan ddylanwad grymusach a thynerach, ac y mae'r Llyfr Seiat hwn yn goflyfr am gymeriadau prydferth, yn codi adgofion fel y deheu-wynt yn anadlu dros ardd y brenin i wasgaru ei pher-aroglau.


I. 1739 — 1791. Dyma gyfnod y pregethu achlysurol. Yn 1739 gwelwyd gŵr ieuanc pump ar hugain oed yn sefyll ar ganol y Llan i bregethu i rai cannoedd am drugaredd Duw. Yr oedd acen y De, acen sir Firycheiniog ar dafod Howel Harris, ond nid oedd hynny'n rhwystr i'r rhwyddineb melus a gafodd. Y flwyddyn wedyn daeth offeiriad ieuanc o sir Aberteifi dan argyhoeddiad dwfn, i bregethu i eglwys y llan. Dywedais na erlidiwyd neb am grefydd gan bobl Llanuwchllyn; dylwn ddweyd i Ddaniel Rowland gael ei erlid yn eglwys y lle. Tra'r oedd y gŵr ieuanc yn darllen am felldith yr annuwiol yr oedd hen wraig yn canu'r gloch, rhag i neb ei glywed, a gofynnodd rhywun yn ddigllawn iddo, pan yn darllen, a oedd Stephen Glan Llyn yn felldigedig. Bu diwygwyr y De'n pregethu am hanner can mlynadd ar eu tro cyn i'r seiat Fethodistaidd gyntaf ymffurfio; cyn hynny yr oedd Howel Harris a DanieÌ Rowland a Williams Pant y Celyn yn eu bedd.


II. 1791—1804. Dyma'r cyfnod crwydrol, pan oedd y seiat ieuanc yn crwydro o fan i fan. Nis gwn a ydyw hynny'n rhyw argoel, — y mae bron bob man y bu erbyn heddyw'n garnedd o adfeilion neu'n llannerch werdd. Ar y cychwyn nid oedd ond diadell fechan o bump, — Richard Prichard o'r Graienyn draw, Edward Rowland o Fadog ar lan y llyn, Elizabeth Edward o Ryd Fudr ar ochr y ffordd Rufeinig ar y fron fry, Robert Tomos o Goedladur ddigysgod, ac Owen Edward o Ben y Geulan ar lawr y dyffryn. Ond buan y cynyddasant, gan ddewis tri blaenor, — Edward Rowland, Owen Edward, a Thomas Ffowc o Gaer Gai.


Nid rhyw eang iawn oedd eu gwybodaeth, na manwl. Adroddir am un hen wraig yn mynd i ben y Bryn Derw, yn y dyddiau hynny, ac yn codi ei dwylaw mewn syndod wrth weled Llanuwchllyn a'r mynyddoedd, ac yn dweyd, — " Arglwydd anwyl, mae dy fyd di'n fawr !" Gweddiai hen frawd syml am i'r holl fyd gael ei achub, "o Gaergybi i Gaer Dydd." A dywedir am hen bererin sydd newydd huno ei fod wedi gweddio dros bentref bychan bychan, — " O Arglwydd, achub heno filoedd yn y pentref hwn." Ond er mor afreolaidd oedd ehediadau eu dychymyg, dygwyd hwy i gymundeb â byd tragwyddol, enillasant feddylgarwch, a'r dedwyddwch aruchel nad ydyw i'w gael ond ym myd y meddwl. Yr oedd Rhagluniaeth wedi eu breintio a chwaeth wnai iddynt garu'r tlws a'r cain, er nad oedd wedi rhoddi llawer o fanteision addysg yn eu cyrraedd. Os amheua neb geinder eu chwaeth darllenned eu penillion telyn. Yr oedd ganddynt leisiau mwynion, a chanent addoliad byw. Nid oedd llawer o bryd- yddiaeth yn eu hemynnau, — rhyw gerdd ddigon gwladaidd, heb fawr ddychymyg, a ganent, —

"Daw dydd o brysur bwyso
Ar bawb sydd ar y llawr,
Rhaid rhoddi cyfrif manol,
Ger bron y frawdle fawr;
Bydd yno bawb yn sobor,
Ger bron y Barnwr gwiw,
Fe gaiff pob dyn ei bwyso,
Yng nghlorian gyfiawn Duw."

Yn yr emyn hwn y mae gwirionedd rhyddiaith, ac apeliai'n gryf at yr amaethwyr oedd yn pwyso eu hanifeiliaid yn bryderus yn y Bala. Byddai ambell emyn arall yn gofyn am dipyn ychwaneg o ddychymyg, —

Mewn breuddwyd gwelais ysgol gref,
Cyrhaeddai o'r ddaer i entrych nef;
Angylion arni hyd entrych nen,
Jehofah ei hunan ar ei phen."

Ond er gwaeled eu hemynnau cyntaf, yr oedd greddf brydyddol o'r iawn ryw yn y crefyddwyr hyn; a buan y deallasant fod bywyd a gwirionedd yn emynnau amaethwr Pant y Celyn yn sir Gaer Fyrddin, ac ym merch Dolwar Fach yn sir Drefaldwyn. Yn union wedi dechreu'r ganrif hon, yr oeddynt yn canu, —

"Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed."

Nid oeddynt heb eu hanawsderau ychwaith. Llawer o dywydd welodd Ifan Ffowc, hen gynghorwr ffyddlon yn eu mysg. Llawer ystryw fu gan y diafol i rwystro i Ifan Ffowc wneyd daioni. Cododd ddannodd enbyd arno unwaith ar ddydd gwaith, gyda golwg ar y Sul a'r bregeth ar ei gyfer. Aeth Ifan Ffowc i'r Bala ar nawn Sadwrn, wedi nos ingol, i dynnu'r dant. Cerddai adre'n llawen gyda glan Llyn Tegid, wedi cael gwared hollol o'i boen. Yr oedd heb gysgu er ys nosweithiau, yr oedd awel braf y nos yn dwyn cwsg melus i'w amrantau; aeth dros y clawdd, a gosododd ei hun dan dderwen ar lan y llyn i gysgu, am ennyd. Pan ddeffrodd Ifan Ffowc, gwelodd fod y diafol wedi ennill y dydd ar ol y cwbl, — yr oedd haul nos Sul yn suddo o'i olwg dros y mynydd yr ochr arall i'r llyn. Dioddefodd Ifan Ffowc dipyn o erIid oddiwrth ei wraig hefyd, yr hon a ofnai y collai ei waith pannu oherwydd ei grefydd.


Nid rhai wedi colli golwg ar eu gwaith yn y byd hwn oedd pobl y seiat, — nid oedd eu gonestach yn y plwy, na gweithwyr caletach. Yr oeddynt yn barod i ddioddef o achos cydwybod pan fyddai eisiau, ond ni ruthrent i wyneb treialon er hynny. Ambell adeg, danghosent ddoethineb a gochelgarwch mawr. Un tro. gwelwyd y gochelgarwch hwn yn ymylu ar y digrifol. Yr oedd cyfarfod gweddi mewn ty annedd o'r enw Pig y Swch, ac yr oedd un brawd, mewn gweddi hwyliog, wedi gyrru ar y diafol heb fesur. Ar ei ol, galwyd ar grydd bychan bywiog o'r enw Niclas Wmffre. Ac ebe hwnnw, —

"O Arglwydd mawr, dyro ddoethineb i ni, trwy dy ras. Gwna ni'n ochelgar beth a ddywedom. A gwared ni rhag ymosod gormod ar y gelyn ddyn, rhag ofn iddo fo'n cael ni eto, a deyd, wrth ein fflangellu ni, — ' Ydech chi'n cofio, lads, fel yr oeddech chwi'n gyrru arna i ym Mhig y Swch."

Os oedd llawer o honynt yn gall fel y sarff, yr oeddynt yn ddiniwed fel y golomen. Tyfodd cryfder eu meddwl a phurdeb eu bywyd ynghyd.

III. 1804—1872. Dyma gyfnod yr hen gapel. Nid oedd tir i'w gael yn agos i'r llan; mwy nag oedd yr amser yr oedd yr Anibynwyr yn codi eu capel hwy. Clywais hen flaenor yn dweyd hanes codi'r capel mewn Cyfarfod Misol. Nid oedd yn un y gallesid meddwl y medrai adrodd hanes yr achos yn hawdd, — yr oedd atal dweyd arno, ac yr oedd ynddo duedd gref at wylo. "Yr oedd yn anodd iawn i ni gael lle i godi capel," meddai. "Yr oedd y tir-feddianwyr i gyd yn meddwl mai dinistrio'r byd oedd ein hamcan. Ond mi roddodd John Jones Plas Deon dir i ni. 'Rydw i'n cofio John Jones. Nid oedd ond un sêt yn y capel. A John Jones oedd yn honno. Wrth edrych ar John Jones y byddem ni'r plant yn gwybod fath bregethwr fyddai yn y pulpud. Os byddai'r pregethwr yn un sal, pesychai ac edrychai ar ei het. Ond os byddai'n un da, mi griai John Jones; a hen g-griwr iawn oedd o hefyd." Erbyn cyrraedd i'r fan yma yr oedd adgofion bore ei oes wedi gwneyd i'r hen bererin wylo'n lle siarad; a rhyw frawd llai gwlithog orfod orffen yr hanes.

Ie, un sêt oedd yn yr hen gapel. Meinciau oedd eisteddleoedd pawb ond teulu John Jones. Ac fel eglwys y plwyf, brwyn oedd y llawr. Dywedodd meddyg Americanaidd wrthyf fi unwaith ei fod ef yn methu dirnad paham yr oedd mor ychydig o afiechydon ymysg pobl sydd yn byw yn wastad ar lawr cerrig neu briddfeini; nid oes dim yn iach, ebe ef, ond llawr brwyn neu lawr coed. Safai y capel ar lan llyn y ffatri, — yr unig lyn o ddwfr tawel yn y plwy i gyd. Yr oedd ei dalcen i'r tywydd, — i'r gwynt ystormus ruthrai dros y Garneddwen o'r môr, ond yr oedd coed o'i flaen, yn taflu eu cysgodion trosto yng ngwres yr haf. Ar lawer bore Saboth bum yn edrych arno odditan dwmpath o ddrain blodeuog, heibio i olwyn ddŵr y ffatri gerllaw. Nid oedd dim hynotach ynddo, i estron, na'r tai gerllaw; nid oedd iddo ddim tegwch adeiladwaith, — ond mor bwysig ydyw'r hen gapel i fywydau y rhai a fu ynddo. Ynddo cafodd dynion ddysg pan nad oedd ysgol o fewn eu cyrraedd; ynddo cawsant ddiwylliant pan nad oedd cyfarfod llenyddol na phapur newydd o fewn y fro; cawsant barch i awdurdod a deddf pan nad oedd fawr yn y deddfau eu hunain i hawlio ufudd-dod iddynt. Wrth edrych ar y capel heibio i'r olwyn ddŵr, ni welwn ddim o'r mynyddoedd gogoneddus sy'n edrych i lawr ar y capel, ni welwn ond y rhosydd sy'n esgyn yn raddol i ben y Garneddwen, mynydd mor isel fel y medrwyd rhoddi ffordd haiarn ar ei war.


Cyn codi'r capel cyntaf yn 1804, yr oedd Jones o Ramoth wedi gadael y Bryn Melyn yn y mynyddoedd unig draw, yr oedd Ellis Evans wedi gadael ei fwthyn ar y Garneddwen, yr oadd Dr. Lewis yn tynnu tyrfaoedd i'r Hen Gapel yr ochr draw i'r plwy. Ac mewn tŷ to Brwyn, gyda ffenestri mor fychain fel mai prin y medrai dryw bach fynd drwyddynt, yr oedd Robert William, gweinidog dyfodol diadell y Gapel Newydd, yn faban dwyflwydd oed.


Yn 1807 dechreuwyd cadw Ysgol Sul. Yr oedd rhai o'r hen frodyr yn teimlo'n bur amheus o honi, gan mai prin y tybient fod ysgol yn addoliad; ond rhoddodd pregeth John Elias ar Green y Bala ben ai' eu hamheuon. Thomas Ffowc, Owen Edward, Ifan Tomos o'r Ceunant, a Simon Jones y Lôn oedd yr athrawon cyntaf. Gof oedd Simon Jones, ac yn ei efail wedi hyn yr oedd dau wr ieuanc o allu anghyffredin, — ei fab fu farw yn yr Amerig, a'r un adwaenid wedi hynny fel Ap Vychan.


Erbyn 1844 y mae'r eglwys fechan wedi cynyddu, ac y mae'r seiat wedi dod yn allu yn y wlad. Yr oedd pwyllgor o ffermwyr cyfrifol yr ardal yn gofalu am bob trefniadau, yr oedd dirwest mewn bri, gofelid am addysg y plant, a thelid i bregethwyr teithiol rywfaint rhwng swllt ac wyth swllt yr un. Yn ystod un flwyddyn, bu cant a dau ar hugain bregethwyr, o bob cwr yng Nghymru, yn annerch y gynulleidfa; ac y mae'n amlwg fod blaenoriaid y seiat mor bryderus ac mor ofalus a Gweinyddiaeth boliticaidd pan na fyddo ei mwyafrif ond y nesaf peth i ddim.


Ond rhaid i ni brysuro. Y mae'r llyfr seiat sydd o'm blaen yn dechreu yn 1856, ac yn adrodd hanes y crefyddwyr hyd 1870. Yn y flwyddyn honno yr oedd pedwar o flaenoriaid a gweinidog. Dafydd Rhobert o'r Garth Isaf, Owen William o'r Rhyd Fudr, Edward Edwards o Ben y Geulan, a John Jones o Blas Deon oedd y blaenoriaid. Gŵr galluog a pharod i waith oedd Dafydd Rhobert, gyda threm ddireidus yn ei Iygaid. Athraw yr A B C oedd Owen William, bum yn eistedd ar ei lin i ddysgu'r llythyrennau 'oedd wedi ysgrifennu ar ewinedd fy mysedd. Byddai'n cymeryd tybaco nid ychydig, ac yr wyf yn clywed arogl tybaco ar yr A B C byth. Yr oedd ganddo feddwl mawr o'i swydd, ac ni fynnai son am ymostwng i'r rhai gwrthryfelgar. Pan fyddai y lleiII yn bygwth ymddiswyddo, atebai ef yn dawel, — "Wel, ie, ond pwy fedra nhw gael i wneyd y gwaith yn well? Mwya'n y byd dreia nhw dynnu ei got oddiam Owen, tynna yn y byd y lapiff Owen hi am dano." Bu'r hen Gristion gloew farw wedi ymgysuro wrth feddwl ei fod wedi cychwyn miloedd o blant i'w Beibl ac at Grist. Athraw a melinydd oedd Edward Edwards, — gŵr golygus, hawdd ganddo chwerthin a wylo, wedi cael mwy o fanteision addysg na'r cyffredin, ac un di-guro gyda phlant. John Jones oedd ysgrifennydd y llyfr hwn.

Amaethwr oedd Robert William, y gweinidog. Nid oedd yn cael cyflog, a gweithiodd yn galed am lawer iawn o flynyddoedd. Hen lanc tal, gyda thrwyn Rhufeinig a llygaid duon treiddgar, oedd. Yr oedd ei fywyd heb ystaen arno, ac yr oedd ei air yn gryfach na byddin. Safodd fel y dur yn erbyn pob pechod ac yn erbyn pob anghyfiawnder; ac os dywedai rhywun nad oedd yr "Hen Barch " yn berffaith, nis gallai fanylu a dweyd ym mha le yr oedd y coll.



Cyn marw, yr oedd yr hen bregethwr ffyddlon wedi cael help bugail yn gwybod digon i addysgu bechgyn y dyddiau hyn, ac ni chlywais neb yn dweyd am dano ef ei hun ei fod wedi mynd yn hen ffasiwn. Pryderodd lawer am yr ieuainc, a cheisiodd sefyll rhyngddynt a'r gelyn ddyn. Er eu mwyn hwy, anodd oedd ymadael, ond gwyddai fod y breichiau tragwyddol odditanynt pan yn colli amddiffyniad egwan ei fraich ef, —

"Tra yn gorwedd yn y beddrod,
Fe addfeda'r meusydd yd;
Ac fe gesglir dy gynhaeaf
Erbyn delo'th Iwch ynghyd."
Heb gyflog y gweithiodd. Ac un o anhawsderau blaenoriaid y ddiadell fechan oedd dysgu eu brodyr i gyfrannu. Cyn hir iawn daeth y rhan fwyaf i demilo y pleser sydd mewn rhoi'n wirfoddol, a daeth eu dyddordeb yn y capel yn ddau-ddyblyg. Er mai wrth eu diwrnod gwaith yr oedd llawer o honynt, yn ennill eithaf swllt yn y dydd i gadw teulu, yr oeddynt yn cyfrannu sofren yr un ar gyfartaledd at godi coleg y Bala.


Ymysg y pregethwyr ddoi i'w dysgu amlaf yr oedd Dr. Parry, un oedd yn meddu athrylith i ddysgu'n ddeniadol ac yn glir; Cadwaladr Owen a'i ddawn felus; John Davies Nerquis, yn dangos pethau rhyfedd o Ddiarhebion Solomon a Chân y Caniadau; William Prydderch a Ffowc Ifan, yr efengyl a'r ddeddf; a llawer mab athrylith wyllt,— Dafydd Dafis Cowarch, Dafydd Rolant, a Robert Tomos Llidiardau. Yn ei dro, doi hen of hefyd, un o'r fro hon, o'r enw Tomos Dafis, ond yr oedd wedi taflu i fyw i Felinbyrhedyn. Pur ddigrif oedd, ac yr oedd ei gydmariaethau cartrefol yn darawiadol iawn. Pan ddaeth un tro, yr oedd gŵr ieuanc o'r ardal yn dechreu pregethu. Gŵr ieuanc gordduwiol oedd hwnnw, un eiddil coesfain breichfain, wedi dysgu'r Beibl allan ac adrodd salmau ar hyd ei oes. Daeth yr hen of ato, cymerodd ef o'r neilldu, ac ebe ef, gyda phwyslais pwysig ar ei eiriau, —


" Fy machgen i, yr wyt ti ar gychwyn ar waith mawr, ac y mae gen i gyngor iti."


" Oes, Tomos Dafis," ebe'r bachgen, gan droi llygad glâs fel llygad sant arno, "byddaf yn ddiolchgar iawn am gyngor ar yr argyfwng pwysig hwn yn fy mywyd." "Oes, fy machgen anwyl i; yr ydwi'n teimlo drosot ti i waelod fy nghalon, mi fum i'n dechre pregethu fy hun."


Yr oedd y llygaid gleision yn agor yn lletach, a neshaodd yr hen bregethwr at yr ymgeisydd, a chydag agwedd o berffaith ymddiried, hanner sibrydodd wrth y bachgen duwiol hwnnw, gyda phwyslais bywyd, — "Fy machgen i, paid byth a phaffio."


Rhyfedd mor fawr ydyw edmygedd y gwan a'r di-ffurf tuag at brydferthwch a chryfder mewn un arall. Er mor annisgwyliadwy oedd cyngor yr hen bregethwr ac er mor chwithig, nid fel sen nac fel ffolineb y cymerodd y gŵr ieuanc eiddil duwiol ef. Breuddwydiodd am ennyd fod ganddo nerth corff, a gallesid ei weld, wrth fyned adref hyd ddôl unig, yn taflu dwrn gwyn bach ar led-tro i wyneb gelyn dychmygol. Nid oedd wedi meddwl am gyflawni gwrhydri fel hyn erioed tan glywodd gyngor yr hen bregethwr. Y mae'n anodd iawn hyd yn oed i'r seiat ddwyn neb oddiar yr hen deulu dynol.


Ymladdwr oedd y pregethwr cyn dod i'r seiat, a phaffio oedd ei demtasiwn ef. Pe buasai'r gŵr ieuanc wedi troi heibio'r odyn y noson honno, wedi'r seiat, gallasai weled yr hen of gyda chymdeithion bore oes yn mynd dros ei helyntion. Adroddai ei hanes yn mynd i bregethu ar fore Sul i Lanfachreth, a phwy ddaeth i'w gyfarfod ar y Garneddwen ond ei brif wrth- ymladdwr yn nyddiau'r cnawd. " Aeth yn fatel yn y fan," — ebe'r pregethwr gydag ochenaid, — ac ychwanegodd gydag acen debyg iawn i acen llawenydd, — " yr oedden ni'n dau'n waed yr ael cyn pen deng munud, a chyn pen hanner awr yr oedd o yn ffos y clawdd." "Ddoth llawer i'r seiat yn Llanfachreth y Sul hwnnw, Twm?" gofynnai'r odynwr yn ddireidus.


Cyfaddefodd y gof ei fod wedi anghofio popeth ond ei fuddugoliaeth. Gwelais yr hen ymladdwr wedi hynny ar heol Machynlleth. Yr oedd dau gi'n ymladd, ac ar flaen y dorf, yn hysio ei oreu, yr oedd yr hen frawd, yn ei siwt bregethu, a'i wallt yn y gwynt. Yr oedd yr hen ddyn yn gryf ynddo hyd y diwedd.


Nid pregethwyr od oedd y rhai mwyaf derbyniol er hynny. Byddai'r capel yn orlawn pan ddoi John Jones Talysarn. Daeth John Jones unwaith ar Sul Enoc Ifan. Anfonwyd Enoc Ifan i'r pulpud i ddechreu'r odfa iddo. Wedi gweddio, cododd Enoc Ifan ei lygaid a dywedodd, — " Y mae yma fwy o honoch chwi nag y fydd yn fy ngwrando i. Rhag ofn na chaf fi l byth gyfleustra eto, mi bregetha i dipyn i chwi."Ac er mor anfoddog yr edrychai'r gynulleidfa, pregethodd Enoc Ifan cyhyd ag y gallai iddynt.


Dywedodd brenin unwaith, mewn dull rhy arw i mi fedru ail adrodd ei ddywediad, nas gall brenhiniaeth a phresbyteriaeth gyd-fyw. Yr oedd digon o deimlad gweriniaeth yn y seti ol, a dyma ddernyn o'r llyfr sy'n arwydd ystorm a chwyldroad, —


"Gwnaed sylw maith a difrifol ar y dull presennol o gadw cyfarfodydd eglwysig-. Ofnid fod y dull presennol o'u cadw yn achos i amryw absenoli eu hunaiu oddiwrthynt. Sylwyd fod gormod o ymholi ynghylch profiad, pryd y dylesid cyfrannu gwybodaeth. Sylwyd fod llawer o'r ieuenetid sydd wedi eu derbyn yn ddiffygiol iawn mewn gwybodaeth ysgrythyrol, a fod yma ddiffyg ymgais at eu goleuo. "Fod y swyddwyr eglwysig i raddau mawr yn esgeuluso gwneyd eu rhan yn nygiad y Society ymlaen, a bod hynny yn rhoi effaith ac argraff ddrwg ar yr holl frawdoliaeth. Sylwyd eu bod yn effro a gofalus am bethau allanol yr eglwys, ond yn dra diffygiol yn y rhannau mwy ysbrydol. Gwnaeth rhai o'r swyddwyr ychydig o amddiffyniad iddynt eu hunain; ond y penderfyniad y daethpwyd iddo oedd hyn, — Fod y sylw i gael ei ddwyn ger bron committee 'r eglwys y tro cyntaf y cyfarfydda, a Robert Williams ein gweinidog yn bresennol, a dau gynhygiad i gael eu rhoddi ger bron. 1. Fod y swyddogíon i ymgymeryd ag ychwaneg o'r gwaith nag y maent yn bresennol, sef ymddiddan a'r rhai o'r dosbarth ieuengaf yn y societies, traethu ambell dro ar ryw fater penodol, ynghyda chadw rhyw foddion gyda'r dosbarth ieuengaf.


"Sylwyd fod achos crefydd yn myned yn is yn ein plith."


Ond ni welais yr anghydfocl lleiaf yn yr eglwys fechan erioed.


Yr oedd gofal y brodyr am eu gilydd yn amlwg, cesglid i'r tlodion yn ol y dull apostolaidd. A gofelid am roddi papur i rai fyddai'n myned i ffwrdd, — i Loegr, i'r Amerig, ac i bob rhan o'r byd, — gan eu cyflwyno i'w cyd-grefyddwyr yn yr ardal honno. Aeth llawer i ffwrdd i wasanaethu neu i'r ysgol " ar brawf," rhai i'r Deheudir, rhai i'r Amerig, rhai i'r bedd.


Ond trwy'r llyfr, rhestr y rhai fu farw ydyw y peth mwyaf tarawiadol. Ar ol pob enw, rhoddir crynhodeb byr o'i fywyd, — a hynny ar adeg pan na chofid ei feiau mwyach. Agorwyd y fynwent yn 1859, — blwyddyn y Diwygiad, pan ddaeth "David Morgan a'i gyfaill Evan Phillips" drwy'r wlad. Y gyntaf gladdwyd yn y fynwent newydd oedd gwraig Ifan Dafydd o'r Plas, a Robert William oedd yn gweinyddu ar lan y bedd cyntaf. Ymhen tipyn claddwyd Sian Tomos y Ceunant, yn 94 mlwydd oed; derbyniasid hi'n aelod ym Mhen y Stryd pan yn un ar hugain oed, a bu'n aelod o'r seiat heb gerydd ar hyd ei hoes grefyddol hirfaith. Ar ei hol hi aeth Evan Lewis, tailiwr. "Yr oedd y brawd hwn yn hynod am ei ffyddlondeb yn ei holl gysylltiadau crefyddol, yn enwedig gyda'r canu a'r Ysgol Sabbothol, i'r hon yr oedd yn ysgrifennydd gofalus hyd ei fedd." Yr wyf yn ei gofio'n dda, tailiwr teithiol oedd, yn crwydro o fwrdd i fwrdd. Ni fedrwn adael cornel y bwrdd tra byddai'n son am y palmwydd a'r coronau sydd yn y nefoedd. Gwn iddo, mewn tlodi dygn, fagu'r plant caredicaf yn yr ardal. ond nis gwn heddyw o bedwar cwr y byd ym mha le y maent. Dyma wr ieuanc yn marw, a'i faban deg diwrnod oed yn cael ei gladdu ar ei ol. Dyma wr arall yn gorfod gadael priod a phump o blant bach heb eu magu, — y mae'r croniclydd yn meddwl am "y ffordd yn y môr " wrth adrodd ei hanes, — a chyn hir dyma ei hen fam yn dymuno ei chladdu wrth ei ochr, er ei bod yn aelod selog gydag enwad arall. Yn angau ni wahanwyd hwy. "Wrth ochr ei frawd," "ym medd ei mham," — ebe'r llyfr o hyd. Yr wyf yn cofio geneth ieuanc brydferth yn cyflawni hunanladdiad, nid oes ar gyfer ei henw yma ond — " Cafwyd wedi boddi." Dyma blentyn mwyn deg oed, dymuniad llygad ei dad; dyma enw geneth glywais yn canu "O fryniau Caersalem" fel angyles ar ei gwely angau, dyma hen wr "wedi cadw y ffydd," dyma fab y croniclydd fu farw dan dybio ei fod yn yr Ysgol Sul yn dysgu plant. Dyma enw Ann Wmffre, gwraig Niclas, hen grefyddwr hynod. "Niclas Wniffres," ebe Dr. Edwards, ar ddiwedd cyfarfod ysgolion hir, "ewch i weddi am funud." Disgynnodd Niclas ar ei liniau ar darawiad amrant, — " Munud sydd gennom ni, Arglwydd mawr, mi elli di ein hachub ni oll mewn munud. Gwna hynny er mwyn Iesu Grist, Amen."


Yr oedd Niclas, er diniweitied oedd, yn bur ochelgar. Rhoddai ei gadach poced ar lawr cyn mynd ar ei liniau, rhag ofn nad oedd glanhawr y capel yn Gristion. Ond, er ei ochelgarwch, doi i brofedigaeth weithiau. Pan yn arwain cyfarfod gweddi ym Mhig y Swch unwaith trodd gynffon ei got bigfain at y tân mawn croesawus, a chymerodd ei got dân. Ond daeth Niclas o honi"n ddihangol. Oni bai am barodrwydd meddwl buasai wedi dwyn ei hun i warth o flaen ei frodyr a'i chwiorydd unwaith. Gododd yn sydyn oddiar ei liniau mewn cyfarfod gweddi cenhadol a hitiodd ei ben yn erbyn gwaelod y canhwyllbren crog. "Dyw!" ebe'r hen ddyn o fewn Niclas, dros y lle. Ond meddiannodd ei hun, ac ychwanegodd, — "Duw deyrnaso dros yr holl ddaear."


Maddeuer i mi am adael llyfr y seiat am funud, — y mae hanes byr am lawer bywyd prydferth ynddo. Ond rhaid i mi ymatal. Tua diwedd y Ilyfr y mae cofnodiad mewn llaw arall am farw'r croniclydd. "Bu yn ddiacon yn yr eglwys am ddeugain mlynedd, a gwerthfawrogid ei gyngor mewn materion bydol a chrefyddol. Bu yn ddefnyddiol iawn am dymor hir, ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth i burdeb ei gymeriad. Cafodd yr eglwys golled ddirfawr yn ei farwolaeth. Ni chafodd ond cystudd byr, a bu farw'n hynod dawel." Wrth adael llyfr y seiat hwn, nis gallaf lai na theimlo fod llawer bywyd arwraidd ymysg trigolion dinod ardaloedd mynyddig. Y mae yma ddegau o ddynion wedi gweithio'n galed ar hyd eu bywyd, — rhai o honynt wedi dioddef, oll wedi aberthu oherwydd dyledswydd neu gariad, — ac yr oeddynt yn fwy na choncwerwyr pan roddasant eu tariannau i lawr. Dyma fugail wedi torri ei galon, ac ni fynnai ei gi adael ei fedd. Dyma eneth ieuanc wedi disgyn i'r bedd pan oedd llygaid gwlad ar ei phrydferthwch. Dyma hen wr y bu ei weddiau fel gwlaw graslon ar galonnau diffrwyth lawer tro. Dyma un fu'n ddedwydd, ac a gollodd fwynder ei fywyd i gyd. Dyma Gromwell y seiat, gŵr yn cynllunio'n glir ac yn gweithio'n galed, gŵr yr oedd ei eiriau'n ddeffroad bywyd i bob bachgen ieuanc dan ei ofal. Ac y mae ei set yntau'n wag. Dyma un y medrai plant ddeall ei weddiau, dyma un diflino gyda'r Ysgol Sul. Y mae llu o honynt, pob un erbyn heddyw wedi rhoddi ei darian o'r neilldu. Y mae rhyw brudd-der melus mewn edrych ar hen dariannau, gyda tholciau brwydr ynddynt, yn rhes mewn eglwys neu deml. Yn llyfr y seiat y mae tariannau fil rhai fu'n ymladd yn erbyn gelynion Cymru, — yn erbyn anfoesoldeb ac anghrefydd, — ac wrth feddwl am eu gwaith hawdd ydyw dweyd eu bod oll yn estylch y cedyrn.


Pan yn mynd drwy'r hen ardal y tro diweddaf, gwelais gapel newydd mewn lle mwy amlwg. Ac y mae y seiat, erbyn hyn, wedi ei thrawsblannu yno.

FY NHAD.


DDOE, wrth grwydro hyd Iwybrau fy mebyd, dois bron heb yn wybod i mi at hen fwthyn fy nhad. Na, nid yw yr hen fwthyn yno, — er fod y pistyll mor loew ag erioed, a'r masarn a'r derw cawraidd eto'n cysgodi'r lle. Y mae'r mynydd mawr, welwn o ffenestr fy ystafell wely, yr un hefyd, gyda'i fil o ddefaid mân; a thybiwn glywed, yn nwndwr yr afon islaw, leisiau mwynion sydd wedi tewi er ys llawer blwyddyn faith.


Daeth noson marw fy nhad i'm cof fel pe buasai neithiwr. Torrodd y noson honno fy nghysylltiad i a Llan y Mynydd; ac nis gwn beth sydd wedi fy nhynnu i'r hen fro yn ol. Cofiwn am y noson ystormus yn y gwanwyn, pan ocheneidiai'r gwynt wrth guro ei adenydd nerthol yn erbyn bronnau'r mynyddoedd, a phan oedd pob afon a nant yn llawn o ddwfr ffroch- wyllt at ei hymylon. Y noson honno, mewn tangnefedd na fedd y nefoedd ei dynerach, y ffarweliais â fy nhad. Nid oedd fy nhad yn wr blaenllaw gyda dim. Nid un o feibion yr argyhoeddiadau cryfion oedd ef, ac ni yswyd ei fywyd gan uchelgais y byd hwn. Pe dywedwn ei fod yn hoffach o'r seiat nag o gyfarfod cyfeillion difyr, pe dywedwn ei fod yn hoffach o weddio ar Dduw nag o ganu mawl pob peth tlws a wnaeth, — pe dywedwn y pethau hyn, dywedwn fwy na'r gwir. Ond yr oedd yn hapus iawn, yn ei fyw ac yn ei farw. Ymhyfrydai yn nhlysni creadigaeth Duw. Rhodiai'r caeau gyda'r gwanwyn, a dygai flodeuyn cyntaf ei ryw i ni, — llygad y dydd, clust yr arth, dôr y fagl, cynffon y gath, blodau'r taranau, y goesgoch, hosan Siwsan, clychau'r gog, anemoni'r coed, blodyn cof, — a phob blodyn dyfai hyd lechweddau a gweirgloddiau ein cartref mynyddig. Gwelai ffurfiau prydferth a lliwiau gogoneddus yn y cymylau, a llawer noson haf ein plentyndod dreuliasom gydag ef i weled y rhyfeddodau hynny. Byddai wrth ei fodd o flaen tân coed ar hirnos gaeaf, gwelai'r gwreichion yn ymffurfio'n bob llun, a danghosai ryfeddodau i ni yn y rheiny. A holl lu y nefoedd ar noson rewllyd, — hyfrydwch Pleiades a rhwymau Orion, Mazzaroth ac Arcturus, a'i feibion, — ymgollai mewn mwynhad pan gymerai fi ar ei fraich, yn blentyn pedair oed, i ddangos i mi amrywiaeth diderfyn yr ehangder mawr.


Treuliai lawer o'r haf i'm dysgu, yn ei ffordd ei hun. Cymerai fi i'r mynydd ar brydnawnau heulog cyn i mi fedru dechreu cerdded, a dysgai fi i wneyd cyfeillion o'r llygad y dydd ac o'r fantell Fair wenai o'm cwmpas. Pan ddechreuais gerdded, ai a mi i ben y mynyddoedd, a danghosai gyrrau ardaloedd ereill i mi, gan ddweyd beth oedd yn tyfu yno a phwy oedd yn byw yno, a pha rai enwog, yn enwedig pregethwyr, a fagesid yno. Cadwodd ireidd-dra ei blentyndod drwy ei fywyd, yr oedd pob peth yn llawn rhyfeddod iddo.


Yr oedd yn hoff o bob peth byw. Yr oedd ganddo gân, ac enwau yr holl adar wedi eu gwau ynddi. Gwyliai'r defaid a'r cwn a'r gwartheg fel pe buasent yn meddu enaid a meddwl, a gwelai rywbeth tarawiadol yn eu bywyd o hyd.


Ni chlywais ef erioed yn ameu amcan neb, nac yn dweyd gair angharedig am neb yn y byd.


Digiai wrth un am enllibio neu ddweyd geiriau di-chwaeth, ond ni ddywedodd air erioed i friwio teimlad neb. Ni chlywais air drwg na dichwaeth o'i enau. Gallwn ddweyd am dano ar lan ei fedd, fel y dywedai Ap Vychan am ei fam, — "Dyma un na chlywodd ei blant erioed air drwg oddiar ei wefusau."


Hwyrach y meddyli yn dy ddiniweidrwydd, ddarllennydd mwyn, mai rhyw angylion bach o blant oedd fy mrodyr a minnau, ac mai hawdd i fy nhad oedd cadw ei dymer wrth ein magu. Ond, os tybi hyn, syrthi i gamgymeriad. Yr wyf yn cofio fod fy nhad unwaith wedi ei wahodd i briodas, ac wedi prynnu het befar uchel loew ar gyfer y dydd. Y noson cyn y briodas medrodd fy mrawd a minnau gael gafael yn yr het newydd, ac aethom a hi allan i'r caeau i wneyd arbrawfion arni. Eisteddasom gefn-gefn ar ei phen, a'n traed ar ei chantal. Codasom ein traed ein dau ar unwaith, a gollyngodd yr het danom. Yr oedd fel conrertina. A chyn ei dychwelyd i'w chas, yr oedd dau borchell bach, — un du ac un gwyn, — wedi bod yn trwsio tipyn ar ei ohantal yn ol eu mympwy eu hunain. Ond, wedi eiliad o gythrwfl meddwl, cafodd fy nhad gymaint o fwynhad a ninnau a'r ddau fochyn bach. Dro arall, pan oedd wedi lledu ei line bysgota ar y llawr, ac wedi ei dad-ddyrysu'n llwyddiannus iawn, gollyngasom ddwy gath ddu i redeg trwy droion y line. Ni ddywedodd nhad ddim ond mai dyna'r ddau blentyn rhyfeddaf a welodd efe erioed, a'r ddwy gath ddu waethaf.

Hunodd ar fin ei bedwar ugain oed, yr olaf o deulu hoff o grefydd a mwynder a chân. Ei alawon di-rif, ei ystoriau diddan, ei ddywediadau pert, — y mae y rhai hyn yn fy nghof; ond, er chwilio'r pedwar ugain mlynedd yn fanwl, ni fedraf weled un gair celwyddog nac un gair amheus.

Ei noson olaf sydd yn fy nghof heno. Yr oeddwn gydag ef; a wynebai dragwyddoldeb mor fwyn ac mor ddibryder ag y gwynebodd holl droion y byd hwn. Ei hoff bobl oedd yr hen bregethwyr, yn enwedig pregethwyr y Deheudir. Yn ei gartref ef yr arhosent; cofiai wedd a geiriau pob un ohonynt, er na welsai hwy er yr amser y cymerid ef yn blentyn ar eu glin. Tybiwn ei fod. yn ei funudau olaf, yn cydio yn y byd hwn; ond fod yr hen bregethwyr yn ei gyfarfod. Anghofiodd lle yr oedd wrth groesi terfyn deufyd. Capelau'r byd hwn. pregethwyr y byd a ddaw, — treiai edrych yn ol ac ymlaen ar unwaith. Yr oedd yng nghyfarfodydd gweddi ei ieuenctyd, mewn hen gapel llwyd sydd wedi diflannu erbyn hyn. Daeth goleu newydd i'w lygaid, ac ebe ef, —

" Ydi'r bobol i gyd wedi dwad i'r capel ?"
" Na, nid i gyd."
" Wel dos, mewn munud, i ddeyd wrthyn nhw am ddwad. Dacw Ebenezer Morris." Hunodd yn dawel, fel y syrth plentyn i gysgu. Gwelais fod angeu yno, ond fel gwas Brenin Heddwch. Ni ddychrynnodd fy nhad, ac ni ddychrynnodd finnau. Ond gwnaeth yr hen gartref yn oer pan roddodd derfyn i fywyd di-wenwyn yr ysbryd addfwyn hwnnw.

Troais i edrych trwy'r ffenestr. Yr oedd y bore'n llwyd dorri, ac yr oedd rhyferthwy ystorom yn cuddio'r mynyddoedd mawr. Lluchid y cymylau yn ddarnau yn erbyn y creigiau gan y gwynt, a rhuthrai aberoedd gwylltion ewynog hyd y llethrau serth ar fy nghyfer. Gwyrai'r coed mewn ofn o flaen ysbryd yr ystorm; ac fel y cryfhai'r wawr, danghosai'r dydd agwedd newydd ar ryfel yr elfennau. Mynych, pan yn blentyn, y bum yn syllu ar ruthr yr ystormydd oddiar fraich fy nhad. Ond dyma ddydd wedi torri y rhaid i mi edrych arnynt fy hun.

"Ni wna dim i ddyn deimlo nas gall wneyd heb Dduw," ysgrifennodd cyfaill ataf, "fel colli tad. "Er cymaint o wirioneddau tarawiadol ddywedodd y cyfaill hwnnw yn ei oes, ni ddywedodd ddim byd mwy gwir na hyn.

Y BALA.

Y BALA.


"A THITHAU Bethlehem, tir Juda, nid -lleiaf wyt ymhlith tywysogion Juda," — am lawer lle bychan, ar ryw gyfrif neu gilydd, medrir dweyd y geiriau hyn. Tybir yn aml mai lliosogrwydd ei threfydd mawrion yw cyfoeth gwlad, lle mae peiriannau yn fwy pwysig nag eneidiau; ond gwir olud gwlad yw y lleoedd bychain fu'n gartref ei dysgawdwyr ac yn fagwrle ei meddwl. Nid oes yn y Bala weithfeydd na masnach brysur, nid oes fŵg rhyngddi a'r nefoedd ac nid oes na huddugl na pharddu ar ei heolydd. Ni chodwyd cri am dorri'r coed cysgodol sy'n tyfu ar ei heolydd er mwyn i olwynion masnach brysuro drwyddi. Nid oes weithfeydd i lenwi'r aberoedd â duwch ac â gwenwyn, y mae'r Tryweryn a'r Ddyfrdwy fel y grisial, a Llyn Tegid fel môr o wydr. Ond nid ydyw'r Bala yn anenwog er hynny. Draw, ar fin y llyn, dan yw sy'n dduon ac yn dawel fel y nos, gorwedd llu o gedyrn. Yn eu mysg y mae Simon Llwyd, Charles o'r Bala, Tegidon, Dr. Edwards, Dr. Parry, a Ioan Pedr.

Pan ddaw'r ymdeithydd i fyny tua'r Bala o ddyffryn Edeyrnion, daw gan dybied, y mae'n debyg, na fedr byth weled lle mor dlws a'r Llangollen y mae newydd adael ar ei ol. Ond gwêl fod rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, ac nid yr un yw prydferthwch ardaloedd y Bala a phrydferthwch y cymoedd sydd o amgylch Llangollen. Y mae'r golygfeydd hyn yn fwy mynyddig, ac y mae'r lliwiau'n wannach, — ond nid yn llai prydferth er hynny. Y mae pob peth yn wylltach, a disgwyliwn glywed y gorncohwiglen uwch ein pen, ac nid eos mewn llwyn gerllaw.

Ddarllennydd, a ddoi di am dro i'r Bala ? Medraf dy sicrhau na fydd yn edifar gennyt, er nad oes iti ond un dydd gwyl yn y flwyddyn, os wyt y peth yr wyf fi wedi arfer meddwl dy fod. Y mae llawer ffordd i fynd i'r Bala, — i lawr o Ddolgellau gyda minion y llyn, dros yr Arennig unig ac i lawr gydag afon Tryweryn, dros y mynydd o sir Drefaldwyn a thrwy Aberhirnant ramantus, neu i fyny ar hyd dyffryn y Ddyfrdwy. Gelli gael tren bob ffordd ond trwy Aberhirnant.

Gwell i ni ddod i fyny dyffryn y Ddyfrdwy hwyrach; a dywed ein bod yn cyflymu heibio i Grogen cyn wyth o'r gloch ar fore haf. Dyma ddyffryn gweddol eang o'n blaen, ac ar yr olwg gyntaf y mae'n anodd dweyd pa un ai dôl ai rhosdir ydyw. Dacw bantle ar ein chwith, dy- wed traddodiad mai dyna gartref olaf Llywarch Hen, a "Phabell Llywarch Hen" y gelwir y llecyn ar lafar gwlad. Dros y Ddyfrdwy sy'n ymddolennu'n araf drwy'r dyffryn gwastad. dacw dŵr ysgwar eglwys Lanfor. Acw, medd traddodiad eto, y claddwyd Llywarch Hen. Dyma ni'n prysuro i fyny hyd lan yr afon, a'r gwastadedd ar ein de. Gwelwn mai dolydd gweiriog ydyw, llawn o feillion, ond dengys yr hesg sy'n tyfu gyda'i ymylon fod yr afon yn codi dros rannau o hono ambell dro.

Saif y tren ar gwrr y gwastadedd. Gwelwn binaclau'r Bala, — ac y mae yno ddau binacl neu dri, — draw wrth draed y bryniau sy'n ymgodi, fel caer uwch gaer, tua chrib las yr Arennig. O'r gyffordd, ail gychwynnwn tua'r dref, yn nhren Ffestiniog. Ar y chwith wrth fyned dyna olygfa wna i ni deimlo ar unwaith fod digon o fwynhad o'n blaenau yn y wlad dawel hon, oherwydd wele lyn Tegid, a'r Aran yn edrych ar ei llun ynddo.

Cyn i ni gael ond cipolwg ar yr olygfa y mae'r tren wedi cyrraedd gorsaf flodeuog, ac wedi sefyll. Ddarllennydd, yr ydym ar "Green y Bala." Y mae gorsaf ffordd haearn wedi ei gosod arni heddyw. Beth ydyw cysegredigrwydd adgofon hanes i gwmni ffordd haearn? Mwyn iddynt hwy fuasai cymeryd cerrig cestyll y canol-oesoedd i wneyd pontydd, — ni fu ond ychydig rhyngddynt a dinistrio Castell Conwy i wneyd arglawdd neu bont. Mwyn iddynt hwy fuasai toddi hen arfau haearn amgueddfeydd y byd, a'u gwneyd yn beiriant i gludo pleserwyr i'w gwyliau Nadolig. Ie, ni synnwn pe cynhygient fod esgyrn y saint i'w gwneyd yn chwi- banoglau i'r gyriedyddion.

Ond nid yw y Green yn orsaf i gyd. Y mae llain o dir rhyngddi a'r Tryweryn sy'n murmur yn ddedwydd wrth ddawnsio dros gerrig crynion glân ar ei ffordd i'r Ddyfrdwy. A'r ochr arall, rhyngddi a'r dre, erys y llecyn lle cynhelid sasiynau enwog y Bala yn y dyddiau fu. Y mae prydferthwch yn perthyn i'r Green ar wahan i'r adgofìon sydd ynglyn a hi. Y mae'r Domen, — beddrod aruthrol neu wylfa, — yn edrychi lawr arni; y mae bryniau prydferth fel pe heb dynnu eu trem oddiarni byth er pan glywid sain gorfoledd oddiwrth ei thyrfaoedd; a thros ei gwyneb gwyrdd gwelir Llyn Tegid, weithiau'n las a thawel, dro arall yn donnau brigwyn carlamus.

Beth amser yn ol, danghosodd cyfaill i mi ddarlun o sasiwn ar y Green; nis gwn gwaith pwy oedd, ond dywedid ar ei waelod y cyhoeddid ef yn 1820 gan S. Evans, Llansantffraid. Nid ydyw yn rhoi syniad rhy gywir am y sasiynau, fel y gwelais i hwy. Y mae'n anodd meddwl fod cymaint o segurwyr difraw ar ymylon y dorf tra y mae John Elias neu John Jones Talysarn neu William Roberts Amlwch neu John Evans Llwynffortun neu Ebenezer Morris Tŵr Gwyn yn y pulpud.

Y mae Huw Alyfyr wedi tynnu cywirach darlun yn ei gân, —

"Fel aeddfed faes o liaidd
Ymdonnai'r dyrfa,
-Mewn dwyfol nefolaidd
Ar Green y Bala;
Fel trwy addolgar reddf,
Pan chwythai corwynt deddf,
Neu'r awel dyner leddf
O ben Calfaria."


Llawer tro y bu awel yn gwasgaru peraroglau o ardd yr Anwylyd dros eneidiau deffroedig ar y llecyn hwn, fel y mae awel hafaidd dyner yn crwydi'o o gymoedd yr Aran dros y llyn heddyw; ac y mae llawer hen bererin yn barod i gredu mai, o holl lecynnau Cymru, "yr olaf roir i'r tân fydd Green y Bala."

Ond y mae awyr adfywiol y bore'n rhoi awydd crwydro ynnom, a cherddwn yn gyflym tua'r dre. Yr adeilad cyntaf y down ato ydyw'r Ysgol Ramadegol. Y mae hon yn llechu dan gysgod y Domen, ac "Ysgol Ty tan Domen" y gelwir hi gan hen bobl. Y mae'n adeilad bychan destlus, a golwg ysgol arni. Dacw'r cyntedd o'i blaen, a'r coed fu'n cysgodi llawer cenhedlaeth efrydwyr gramadeg Lladin, a'r gloch. Dacw'r arwydd-air, hefyd, wedi ei dorri mewn carreg felen, — "Heb Dduw, heb ddim." Ysgol rad oedd, i fechgyn tlodion; ond erbyn hyn nid oes addysg rad ynddi, ac y mae ei breintiau erbyn heddyw o gyrraedd plentyn y gweithiwr.[1] Nis gwn beth oedd y Domen uchel sydd wrth gefn yr ysgol, — y mae bron yn sicr mai gwaith celfyddydol ydyw. O'i phen ceir golygfa brydferth iawn, ond anaml y gwelir y trefwyr yn dringo ei hochrau. Bu'n rhydd; mewn hen ddarluniadau o'r Bala, cawn wŷr a gwragedd yn gwau ar nawnddydd haf ar ei hochrau ac ar ei phen; erbyn hyn y mae wedi ei chau, a'i hochrau wedi eu harddurno â choed byth-wyrdd. Wedi gadael yr ysgol dyma " Stryd Fawr " y Bala yn ymagor o'n blaenau, Ar y chwith y mae pen y stryd gefn, ac ar y dde y mae'r ffordd yn arwain at y ddau goleg. Gwelwn goleg y Methodistiaid, adeilad hardd ar fryn; ac y mae coleg yr Anibynwyr am y ffordd ag ef, ond nid yn y golwg.[2] Y mae enwau ereill ar y stryd- oedd erbyn hyn, "High Street" byth a hefyd ; ond nid oes i'r enwau Saesneg le ond ar bren ac ar bapur, ar filiau ac ar adroddiadau cymdeithasau dyngarol. "Y Stryd Fawr," "y Groes," a'r "Stryd Fach" yw'r enwau arferedig. A buasid yn disgwyl gweled enwau Cymraeg ar ystrydoedd y Bala, yn anad un man. Nid oes rhyw lawer o bobl ar y stryd. Y mae'r bore tlws yn ymloewi o hyd, ond y mae'n amlwg mai lle tawel iawn ydyw'r Bala, ond ar ddiwrnod sasiwn. Ar yr ystryd dacw un gŵr yn dod. Y mae ffon yn ei law, ac y mae'n pwyso arni, er mai prin y gellir tybio ei fod yn gloff. Y mae het lwyd uchel, a golwg fonheddig arni, ar ei ben; y mae lliw goleu prydferth ar ei ddiliad, dillad wedi eu lliwio yn yr hen fíasiwn â çhen cerrig; ac y mae'n gwisgo clos pen glin, sanau bach, ac esgidiau isel.

" Helo, dyma un o hen wŷr bonheddig hen Gymru."

" Ie, yn sicr. A gwyn fyd na chaem ychwaneg o wŷr bonheddig tebyg iddo."

" Clywais ddweyd eich bod chwi'n credu mewn boneddigion. Ond gwerinwr, cofiwch, wyf fi."

"Gwerinwr wyf finnau, i'r carn. Ond 'pe caem foneddigion fel hyn, boneddigion fel llawer hen foneddwr yn y dyddiau fu, credwn ynddynt. Clywais un o dirfeddianwyr mwyaf yr Iwerddon yn dweyd yn ddiweddar na chredai un gair ddywedai ei Wyddelod wrtho. Nid wyf yn credu fod gan hwnnw hawl i fyw ar draul y wlad nad yw'n gwneyd dim ond ei sarhau. Ond dacw i chwi hen fonheddwr y mae'r Beibl yn rheol ei fywyd, ac un sy'n credu yn nyfodol gwerin Cymru."

" A fyddai'n well i ni dreio tynnu ysgwrs ag ef?"

Yr oeddwn wedi clywed Anibynnwr Cyfansoddiad Newydd yn dweyd am ymgom a gafodd unwaith ag ef yn y tren. Yr oedd y gŵr hwnnw'n teithio tua'r Bala, a dyma'r holl ysgwrs a fu rhyngddo â gŵr dieithr iddo a eistedd ai ar ei gyfer, —

" Pwy ddrwg mae Michael yn wneyd yrwan?"

" Y fi yw Michael,'nawr."

Ond dyma Fichael D. Jones, blaen-filwr y deffroad Cymreig yn ei holl agweddau, o fewn hyd ffon inni. Dechreuasom siarad ag ef, a chyn pen ychydig o funudau gwelsom fod ei grefydd a'i gariad at Gymru megis yn un. Holai ni beth oeddym yn wneyd dros Gymru gydag awch a phryder; ac wrth ein gadael gwnaeth inni addaw bod ym Modiwan rhwng hanner dydd ac un, gan fod arno eisiau siarad â ni. Symudasom ymlaen ar hyd yr heol, a safasom eto cyn hir i syllu ar y rhes o goed sy'n tyfu hyd ei hymyl, ymron o'r naill ben i'r llall. Hwy yw prydferthwch a neillduolrwydd tref y Bala. Ni fedd adeilad o un pwys na phrydferthwch yn ei phrif heol, — y mae ei Neuadd Drefol yn debycach i garchar nag i ddim arall. "Beth yw'r adeilad acw?" meddem wrth ddyn cloff gwallt-goch oedd yn ceisio gwerthu papur newydd dimai i ni. "Y Loc Yp," ebe yntau am brif adeilad y Bala. Gofynasom a oedd yno siop lyfrau. Danghosodd yntau un, ond teganau a photograffiau oedd y prif nwyddau yn y ffenestr. Gofynasom a oedd yno lyfrfa, ond ni wyddai dyn y papur newydd beth oedd hynny. Gofynasom wedyn a oedd yno gymdeithas lenyddol, gan ein bod wedi clywed llawer o son am lenorion y Bala, a dywedodd yntau fod cymdeithas wedi bod, ond ni wyddai ychwaneg am dani na fod ganddi ginio mawr y nos o flaen y Nadolig, a'i bod yn galw'r White Lion yn " Westy Brenhinol y Llew Gwyn."

Yn edrych arnom o ffenestr fawr ger llaw yr oedd gŵr tal, hawdd gwybod mai meddyg oedd, a hanner chwilfrydedd, hanner direidi yn ei lygaid. Yr oedd wedi fy adnabod i, — yr oedd wedi trafaelio llawer, — a chnociodd y ffenestr arnom. Daeth allan i'n cyfarfod, a bu yn gwmni diddan i ni at awr neu ddwy. Yr oedd ganddo ystôr ddiderfyn o ystraeon, oherwydd yr oedd ei brofiad yn eang, ac yr oedd ganddo lygad i ganfod y digrif a'r difyr. Danghosodd brif leoedd y Bala inni, ac yr oedd ystori yn dilyn bron bob lle. Dywedodd ein bod yn sefyll flaen hen siop ac argraffdy Saunderson, a chartref Siarl Wyn o Benllyn. Gwelsom gapel yr Anibynwyr ar ben ystryd groes, ac yna aethom ymlaen dan y coed at y Groes Fawr. Newydd adael hon troisom ar y chwith ar hyd yr Ystryd Fach. Toc daethom at ysgwar fechan. Ar y naill ochr gwelem gapel y Methodistiaid, a chofgolofn Charles o'r Bala o'i flaen. Yr oedd ychydig o blant yn chware ar y bore tlws o flaen y gofgolofn; a phan ddaethom atynt safasant i edrych arnom mor lonydd a'r plant bach cerfiedig oedd ar y gofgolofn. Dyma lecyn cysegredig yn hanes yr Ysgol Sul. Yr oedd gan y meddyg lawer ystori i'w dweyd am yr hen gapel a'i bregethwyr, ond prin yr oedd ei ddawn diddan'yn raeddu digon o swyn i dynnu fy meddwl oddiwrth y gwaith mawr wnaed yma dros Gymru drwy'r Ysgol Sul. Yn y cerfddarlun, — o waith Mynorydd, — saif Charles ar ei draed, a Beibl yn ei law. Nid cau ei ddwrn ar y Beibl a herio'r byd, fel cof-golofn Luther yn Worms, a wna; y mae'n debyg iawn i'r Diwygiad Cymreig, — yn dawel, yn addfwyn, yn cynnyg y Beibl fel balm i bob clwy. Ar waelod y golofn y mae darlun o Ysgol Sul Gymreig, a phob oed ynddi. Y mae'r llyn yn gorwedd heddyw heb gymaint a chrychni ar ei wyneb; y mae Allt Ty'n y Bryn, gyda'i rhodfeydd coediog, yn edrych i lawr yn dawel ar hen dref yr Ysgol Sul; y mae Charles a Dafydd Cadwalad yn gorwedd dan yr ywen yn Llanecil draw, — ond y mae'r Beibl yn gweithio'n rymus yng Nghymru o hyd. Y mae rhywbeth yn y Bala i'n hadgofio am y Beibl i ba le bynnag y trown. Yr oohr arall i'r ffordd, dacw Blas yn Dre, yng nghanol gerddi, gyda chae gwyrdd rhyngddo a'r llyn. Plas yn Dre oedd cartref Simon Lloyd, awdwr " Amseryddiaeth y Beibl."Wedi troi'n ol ar hyd y Stryd Bach a chyrraedd y Groes eilwaith, dyma ni wrth dŷ Charles o'r Bala. At hwn, lawer blwyddyn yn ol, y daeth geneth fach flinedig, ar fin yr hwyr, wedi cerdded bob cam o Lanfihangel y Pennant i chwilio am Feibl. Daw darlunydd, hwyrach, i'w dangos yn dod at ddrws gŵr y Beiblau yn blygeiniol, gyda hen bregethwr yn arweinydd iddi. Bu ei hawydd hi am Air y Bywyd yn foddion i gyflenwi awydd miloedd y tu allan i Gymru.

Gadawsom gysgod y coed, ac wedi pasio capel bychan y Bedyddwyr a'r hen "dyrpeg," dyma ni "yn y wlad" chwedl pobl y Bala. Yr adeilad diweddaf inni adael ar ein holau ydyw y Victoria Hall, a godwyd er cof am jubili'r frenhines, ac ni welwyd hagrach adeilad mewn gwlad mor dlos. Yna y mae ffordd union o'n blaenau, a choed hyd ei hymylon o hyd, yn ein harwain at y llyn. Gadawsom y meddyg diddan, wedi cael gwahoddiad i fwynhau cwpanaid o de. Fy nhemtasiwn i yw yfed gormod o de, ond bydd fy nghydwybod yn dawel iawn pan fydd meddyg wedi'm gwadd i brofi ffrwyth fy hoffaf ddail.

Gofynni imi, mae'n ddiameu, beth a wn o hanes y Bala. Ni wiw i mi ddweyd fawr o hanes ar ddydd gwyl. Ond gallaf ddweyd fod castell yn y dref unwaith. Y mae hanes ym Mrut y Tywysogion am gastell y Bala. Yr oedd Llywelyn ab lorwerth, un o'r tywysogion mwyaf welodd Cymru, yn graddol ddarostwng Cymru iddo. Yr oedd newydd ymheddychu â Gwenwynwyn tywysog Powys, yr hwn er ei fod yn garennydd i Lywelyn o waed, oedd elyn iddo oherwydd gweithredoedd. Yr oedd Elisi ab Madog wedi gwrthod dilyn Llywelyn yn erbyn Powys, gan ddewis yn hytrach ymuno â Gwenwynwyn. Pan wnawd heddwch, daeth dydd ei gyfrif. "Ac yn y diwedd y rhodded iddo, yn gardod ei ymborth, gastell a saith tref bychein gydag ef. Ac felly, gwedi goresgyn castell y Bala, yr ymchwelodd Llywelyn drachefn yn hyfryd."

Wedi gorchfygu Cymru yn 1282, yr oedd y Bala yn un o'r trefydd y cadarnhawyd ei breintiau gan frenhinoedd Lloegr, — yr oedd ganddi hawl, yn ol arfer y trefydd, i groesawu masnachwyr i'w ffeiriau, ac i gadw Iddewon draw o'i thai to brwyn. Yr adegau hynny yr oedd Syr Walter Manny'n hela'r ceirw hyd ael y Wenallt draw ac hyd ffriddoedd Cwmffynnon. Bu i'r dref faer hyd y ganrif ddiweddaf, pan gawn hanes am ddau'n ymryson am yr anrhydedd, — "dau faer drwg yn difa'r dre."

Ond ynglyn a hanes crefydd Cymru, nid ynglyn a hanes ei rhyfeloedd a'i masnach, y mae'r Bala'n enwocaf. Bu ei sasiynau yn foddion deffroad crefyddol trwy Ogledd Cymru; a bu yr Ysgol Sul berffeithiwyd ynddi yn foddion deffroad meddyliol ac yn sylfaen yr hyn a wnawd dros addysg byth er hynny.

Ond dyma ni wrth gwrr y llyn, ac un o olygfeydd prydferthaf Cymru o'n blaenau. Ym- estyn y llyn, a'i ddyfroedd gleision tawel yn adlewyrchu'r bryniau a'r penrhynnoedd coediog, am aml filldir at odrau'r mynyddoedd draw. Dacw'r Aran fawreddog, — pe buaswn bagan, hi fuaswn yn addoli, — a dacw Gader Idris yn edrych dros ei hysgwydd.

"Y mae dinas dan y llyn, onid oes ? Clywais son am gloch y Bala." Oes y mae dinas, ebe traddodiad, dan y llyn, a chlywir swn cloch y Bala ar ambell hirnawn haf yn dod i fyny'r trwy'r dyfroedd tawel. Mi a glywais y clychau fy hun. Dywedodd rhywun wrthyf mai bendith fyddai i'r hwn a'u clywai. Ac ar ryw ddiwrnod rhew yng nghanol y gaeaf, ar ddydd pen fy mlwydd, clywn swn mil o glyohau aur ac arian. Yr oeddwn yn dod ar hyd y ffordd sydd o'n blaenau'n awr, a thybiais mai dychymyg oedd. Sefais a gwrandewais. Yr oedd pob peth mor ddistaw fel y gallwn glywed dwndwr yr aberoedd bach yr ochr draw i'r llyn. Ac yn sicr, dyna swn clychau filoedd yn codi o'r llyn. Wedi sylwi a chlustfeinio, gwelais fod y swn yn dod ar ol pob awel o wynt. Tybed ai'r tonnau oedd yn canu'r clychau dan gynhyrfiad yr awel ysgafn ? Toc deallais y dirgelwch. Yr oedd miloedd o fân dipynau o rew wedi eu hel at eu gilydd gan y gwynt, wedi'r meiriol diweddaf, i gwrr y llyn; a phan ddeuai'r awel ysgafnaf, curai'r tipynau yn erbyn eu gilydd, gan wneyd swn fel mil o glychau. Nis gwn ai clywed swn tebyg wnaeth i rywrai gychwyn traddodiad fod clychau dinas foddwyd i'w clywed yn y llyn.

Wedi rhyw filldir o gerdded hyd lan y Ilyn, yr ydym yn cyrraedd pentref Llanycil. Nid oes yn y pentref i gyd erbyn hyn ond tri thy ac eglwys, wedi eu hadeiladu ar wastadedd bychan ffurfiwyd gan afonig wrth ddiwyd gario graian o'r mynyddoedd i'r llyn. Y mae'n sicr gennyf nad oes yng Nghymru fynwent mewn lle prydferthach. Y mae y llyn yn dod at ei mur, ond ni chlywais ei fod yn ei gynddaredd mwyaf wedi meiddio cyffwrdd â'r pridd cysegredig. Heibio i un cwrr rhed "Aber Gwenwynfeirch Gwyddno" gyda'i thraddodiadau paganaidd am Geridwen; a thraw dros y dwfr gwylia'r Aran lannerch y marw a'r fro sydd o'i chwmpas. Ond trown at y beddau. Dacw fedd Tegidon, draw dacw fedd Dafydd Cadwalad, dyma feddau'r Prysiaid a'u harwyddair mai hwy y pery clod na hoedl, a dyma faen cof am Siarl Wyn o Benllyn, — y bardd ieuanc roddwyd i huno ar lan y Mississippi. Wrth dalcen yr eglwys, y talcen nesaf i'r Bala, dan gysgod yr eglwys a'r yw, y mae gorffwysfan Llwydiaid Plas yn Dre. Yno hefyd y gorwedd Charles o'r Bala a Dr. Edwards. Gerllaw dyma fedd Dr. Parry, wedi mynd i mewn i "orffwysfa Duw." A dyma fedd Ioan Pedr, ger bedd ei dad. Y mae tawelwch y nefoedd dros y fro dlos, y mae pob peth mor ddistaw fel y gallwn ddychmygu clywed lleisiau'r byd a ddaw'n gwneyd y byd hwn yn berffaith ddedwydd. Y mae hanes bywyd syml llawer gwladwr ar y cerrig o'n cwmpas, un ddanghosodd trwy ei fywyd beth oedd effaith dysgeidiaeth yr athrawon a'r pregethwyr sydd heddyw mor fud ag yntau ar lan y llyn. Ni fum yn yr eglwys hon erioed heb benderfynu cael diwrnod cyfan i'w dreulio yn ei tawelwch hafaidd, gan dybied fod dwysder y fan fel cawod fendith i'r meddwl lluddedig a therfysglyd.

Ond y mae'r bore wedi mynd. Rhaid oedd i ni droi'n ol ar hyd glan y llyn tua'r dref a Bod Iwan. Wedi cyrraedd y fan lle gadawsom Fichael Jones, troisom o'r dref ar ein chwith, a cherddasom tua'r Coleg sydd wedi ei adeiladu ar fryn uwchlaw y dref. Wedi dringo peth ar ael y bryn, a gadael Coleg y Methodistiaid ar ein de, daethom at y llwybr sy'n arwain at Fod Iwan, a throisom at y ty. Y mae mewn lle tawel a hyfryd, a dwndwr dedwydd mil o wenyn yn crwydro dros y miloedd blodau. Gyda i mi fynd i mewn i'r neuadd, clywsom dinc ar y delyn, — y mae Bod Iwan yn gartref y delyn hefyd. Cawsom groesaw mawr, ac yr oedd yn rhaid i ni giniawa. A dweyd y gwir, yr oeddym wedi anghofio pobpeth am ginio tan y funud honno.

Dywed un o'r trioedd fod dau beth, er dryced ydynt, nas gellir gwneyd hebddynt, — brenin, offeiriad, a gwraig. Yr wyf yn ameu beth yw syniadau Mr. Jones am frenin ac offeiriad; gwn i sicrwydd beth yw ei syniadau am briodi, clywais ef yn dweyd droion mai un o roddion gwerthfawrocaf rhagluniaeth iddo ef ydyw ei wraig. Ac yn wir, gellir galw Bod Iwan yn "hafod y wraig lawen." Nid mewn dull amwys y dywed Mr. Jones ei feddwl am ei gas ddynion ac am ei gas bethau, — a mwyn ydyw clywed Mrs. Jones yn hanner gwrthwynebu, er ei bod hithau'n amlwg o'r un feddwl. Wedi cinio casglwyd y teulu ynghyd. Darllennodd y penteulu bennod, yna adroddodd pawb adnod, a holwyd pob un am ystyr ei adnod, ac yna gweddiwyd. Gwelais hyn yn cael ei wneyd droion yn y bore ac yn y nos, — yn aml mewn rhyw bum munud nas gellid gwneyd un defnydd arall o honynt, — ond ni welais y rhan oreu o'r diwrnod yn cael ei roddi i'r ddyledswydd deuluaidd o'r blaen.

Arweiniodd Mr. Jones ni i'w fyfyrgell. Nid yn y ty y mae, cerddasom iddi ar draws llecyn a'm hadgofiai am hoff bethau Sion Tudur,—

"Myfyr encilgoed,
Canmoliaeth cydwybod."

Wedi cyrraedd y fyfyrgell dechreuwyd troi a throsi llyfrau Cymraeg, a chawd ymgom am lenyddiaeth ein dydd. Soniwyd am y sothach di chwaeth a di ddiwylliad werthir yn siopau llyfrau ein gwlad, — esgymun bethau llenyddiaeth Lloegr, na ddarllennir y tu hwnt i glawdd Offa ond gan wehilion Philistaidd wrth gofio am eu cwrw. A gresynwyd wrth weled Cymry mor ddidaro ynghylch meddwl a llenyddiaeth eu gwlad eu hun. Gwelsom yn eglur fod Michael D. Jones yn credu'n gryf yn Rhagluniaeth ac yng ngwerin Cymru. Os daw ei obeithion oll i ben, bydd dydd disglaer yng Nghymru yn amser da Duw. Pan yn gadael Bod Iwan yr oeddym wedi penderfynu gwneyd a fedrem i wasanaethu ein gwlad a'i gwerin. Wrth fynd i lawr, daeth Mr. Jones gyda ni ran o'r ffordd, a throisom yn ol i edrych arno'n araf ddringo'r rhiw tuag adref.

Y mae'r meddyg yn ein disgwyl, a'r te. "Uwd a Rhodd Mam fydda i'n preiscribio iddo fo, welwch chwi," ebe'r meddyg am danaf fi. "Y mae wedi bod yn yr ysgol er's blynyddoedd, ond nid ydi o ddim wedi dysgu Rhodd Mam eto; y mae hwnnw'n deyd fod gan ddyn gorff, heblaw enaid. Ac nid ar de y medr y corff fyw." Daeth llu o ddifir hanesion, ac aeth yr amser yn chwim. Nid oedd wiw meddwl am fynd i rwyfo awr neu ddwy ar y llyn; y mae prysurdeb y dyddiau hyn yn gwneyd gorffwysdra'n beth sy'n perthyn i'r amser fu. Y mae a fynno amser anhyblyg y tren lawer â'r prysurdeb di-ddaioni hwn; yr oedd mab y frenhines yn ei golli'r diwrnod o'r blaen, ac yn gorfod ymdaro gore gallai mewn tren pysgod. Collais innau'r tren unwaith ar adeg bwysig, er nad wyf fab i frenhines, a gorfod i mi gyd-deithio â sach flawd, yr hon a'm gwnaeth mor wyn a phe buasai gwenwisg am danaf.

Gwaith anodd ydyw gadael y Bala bob amser; yr oedd yn anhawddach nag erioed ar ddiwedd y prydnawn hafaidd hwnnw. Gwyddwn am lawer aber ddedwydd, a chysgod dan goed cyll ir ar ei glan; gwyddwn lle'r oedd y corn carw'n tyfu ar lethrau'r bryniau uwchben y llyn a lle'r oedd mafon cochion ddigon yng nghysgod y gwrychoedd; adwaenwn lawer hen gymeriad fuasai yn adrodd darn o bregeth y Sul diweddaf ac ystori am y Tylwyth Teg bob yn ail. Ond dacw'r llyn yn colli o'r golwg, a'r Aran yn araf ddiflannu. A minne a orffennaf lle mae'r prydydd yn dechreu, trwy ddweyd, —

"Y Bala, Salem wen
Gad ira dy alw.
Boed bendith ar dy ben,
Ti haeddi'r enw."

ABERYSTWYTH.


OS oedd ambell efrydydd yn Aberystwyth a'i syniadau mor gul a mi, nid oedd yno yr un a'i anwybodaeth mor eang a dwfn. Tybiwn fod Tori yn agwedd anhygar ar yr un drwg, ac mai rhinwedd wedi cymeryd gwisg o gnawd oedd Rhyddfrydwr. Os credwn rywbeth yn fwy na hynny, dyma oedd, — mai y Methodistiaid Calfinaidd yw balen y ddaear, ac mai hwy oedd yr unig bobl y gellid dweyd am danynt i sicrwydd eu bod ar y llwybr cul i'r nef. Gwrandewch pa fodd yr ymdarewais ymysg pob math o fechgyn y taflwyd fi i'w canol.

Wedi'r arholiad, cefais fy hun yn crwydro'n rhydd ar Rodfa'r Môr, ar ddydd hyfryd ym Medi. Anghofiais am ennyd mai nid yng Ngogledd Cymru yr oeddwn, a theimlais mai dyma'r lle mwyaf gogoneddus a welais erioed. Cyfaddefais hyn, mewn hanner angof, wrth efrydydd o Randir Mwyn yr oeddwn newydd gael dadl dynn ag ef am ragoriaethau cymharol De a Gogledd. "Odi," meddai, " nid yn unig y mae Rhagluniaeth wedi bendithio'r Deheudir â golygfeydd harddach, ond hefyd â iaith fwy perffaith ac â merched mwy hardd." Er pryder yr arholiad, yr oeddwn yn barod wedi syrthio mewn cariad ag un o ferched llygatddu'r De, ac ni fedrwn ond ymboeni'n ddistaw wrth i'm cydymaith ymosod ar y Gogledd. Ond yr oedd yn Fethodist, a'i wyneb ar y wir weinidogaeth, ac yr oedd yn haws maddeu iddo.

Ond bu'n galetach arnaf na hyn. Rhaid i mi ddweyd wrthych imi syrthio, nid o'm bodd, ymysg Sosiniaid.[3] Yr oeddwn yn byw yn y coleg, ac yr oedd gennyf ystafell braf, yn edrych ar y castell ac ar y brif fynedfa i'r Coleg. Pan dalodd fy nghyfaill o'r De ei ymweliad cyntaf â mi, dechreuais ddangos iddo mor hyfryd oedd fy lle. Torrodd ar f'ysgwrs yn sydyn fel hyn, — " Gyfaill, 'rych chwi newydd ddod o'r Gogledd, ac yr ydych yn ffwl.'R ych chwi'n meddwl eich bod mewn lle hyfryd 'nawr; ond fase waeth i chwi fod wedi nythu ar ben llosgfynydd. Oni wyddoch chwi fod Sosin yn yr ystafell oddi tanoch? Daliwch chwi ar hyn, fydd eich mam ddim yn eich nabod pan ewch adre. Gan edrych arnaf yn dosturiol, fel pe buaswn yn hanner coll yn barod, gadawodd fi; ac yr oeddwn yn anedwydd iawn. Ond cyn hir, tra'n synfyfyrio ar gyflwr dybryd yr anuniongred, clywn seiniau nefolaidd yn esgyn o'r ystafell odditanaf. Yr oedd y Sosin yn canu " Toriad y Dydd " ar ei grwth. Dyma fy hoff alaw; a chyn hir gwelai'r Undodwr wyneb gwelw ymofyngar yn ei ddrws hanner agored. Yr oedd yn wr mwyn ryfeddol, a chanodd lawer alaw i mi. Dywedai ei fod yn dod o ardd Cymru; a phan fynwn i mai Dyffryn Clwyd oedd honno, atebodd gyda gwên benderfynol,— "Na, sir Benfro yw gardd Cymru. Cewch weld pan ddeuwch gyda mi yno."

Ni fuasai gennyf erioed fawr o amheuaeth am ben draw ffordd yr Undodwr, ond nid oeddwn wedi talu fawr o sylw i natur y lle. Ni ddywedasai fy nhad fawr am dano; ond llawer gwaith y arluniodd y lle yr oeddym ni Fethodistiaid yn cyrchu ato, — gwlad y delyn a'r palmydd, gwlad tragwyddol Doriad Dydd.

Ond yr oedd arnaf awydd yn awr am wybod am y lle arall hwnnw. Drannoeth eis i'r llyfrgell, i chwilio am lyfr ar y pwnc. Gwelais The Epic of Hades, gan Lewis Morris, llyfr newydd ei gyhoeddi. Clywswn lawer gwaith i Lewis Morris Mon i Feirion ganu'n fore; ond ni wyddwn o'r blaen ei fod yn awdurdod ar dduwinyddiaeth hefyd. Eis a'r llyfr i'm hystafell, ac ymgollais ynddo yn llwyr. Gallwn ddweyd am dano fel y dywedodd y chwarelwr am Shakespeare, — "Wyddwn i erioed fod dim cystal wedi ei ysgrifennu yn Saesneg." Ond nid oedd yn hollol,ar y pwnc.

Tra'r oeddwn yn darllen yr Epic, ac yn graddol anghofio tynged fy nghyfaill newydd a'i grwth, dyma gnoc ar y drws. Daeth Prifathraw'r coleg i mewn. "Yr wyf wedi dod a Mr. Lewis Morris i weled eich ystafell," meddai. Yr oedd arnaf awydd angerddol am ofyn i awdwr y llyfr, — gwyddwn y rhaid ei fod wedi astudio daearyddiaeth y fro honno'n drylwyr, — beth oedd ei feddwl am y nos yr oedd yr Undodwr yn rhuthro iddi, er cystal y medrai chwareu "Toriad y Dydd." Ond tybiwn na buasai bardd mor fawr yn hoffi son am ei waith ei hun; a danghosais iddo y darluniau oedd gennyf ar fy muriau, — pob un wedi ei sicrhau wrth y mur a phedwar pin. Y diwedd fu cael ysgwrs ddifrifol â'r Undodwr am ei gredo. Trwy nerth ei resymau, ond yn bennaf oherwydd melusder seiniau ei grwth, profodd i mi ei fod yn fath o Gristion.

Treuliais lawer o'm hamser ar Rodfa'r Môr. Ar ol te gwelid yno hen berson tal yn cerdded yn ol a blaen; a medrais dynnu sgwrs â hwn hefyd. Nid heb beth ofn, oherwydd tybiwn mai gwaith person ar y Sul oedd melldithio dadgysylltwyr a bendithio'r stiward; ac mai ei waith yn yr wythnos oedd darganfod melldithion a bendithion newydd at ei ddau bwrpas. Ond ni soniai yr hen fab hwn am ddim felly. Yn hytrach soniai am bobl ereill, o brif baffiwr y dydd hyd i brif orthrymwr y byd. Yr oedd ei feddwl yn llawn o'r hyn sy'n darawiadol yn hanes y byd, a chanddo ef y clywais i am Hanes a Rhydychen.

Yr oeddwn yn awyddus iawn am wybod i ble'r elai'r athrawon ar y Sul, a holais lawer. Ceisiais wybod hefyd faint o honynt oedd yn ddirwestwyr, gan feddwl troi y rhai nad oeddynt i'm meddwl fy hun am ddiodydd meddwol, — sef mai y diafol a'u dyfeisiodd oll, yn fore yn hanes y byd, fel y byddai dyn syrthiedig yn ysglyfaeth sicr iddo. A mwyaf oedd amynedd a dioddefgarwch yr athrawon boneddigaidd hyn, cryfaf yn y byd oedd fy awydd innau am eu gwneyd mor rinweddol ag oeddynt ddysgedig.

Ryw dro, hwyrach, caf ysgrifennu hanes athrawon cyntaf Coleg Prifysgol Cymru.

Yr un fu a mwyaf o ddylanwad arnaf fi oedd Daniel Silvan Evans, yr athraw Cymraeg. Ychydig ddisgyblion oedd ganddo, gan nad oedd Cymraeg yn talu yn yr un arholiad yr adeg honno. Cyfarfyddem ef yn ei ystafell ei hun, a darlleneni ryw awdwr fel y Bardd Cwsg neu Theophilus Evans gyda'n gilydd o gylch ei fwrdd. Gwnaeth i ni gymeryd dyddordeb yng ngeiriau yr iaith Gymraeg, ac yn enwedig yn ei geiriau llafar a'i geiriau gwerin. Danghosodd i ni fod gogoniant lle y tybiasom nad oedd ond gerwindeb gwerinol o'r blaen. O dipyn i beth dechreuasom hoffi llenyddiaeth Gymreig; cawsom gipolwg yn awr ac yn y man ar ysplander ei chyfoeth. Yr hen athraw tal, llygadlon, difyr, — tawel fo ei hun yntau, wedi ei oes hir gyda geiriadur a gramadeg, yn hoffus dyffryn Dyfi.


Yr oedd Albanwr bychan, bywiog, ac athiylithgar yn darlithio i ni ar lenyddiaeth Seisnig; ac yr oedd yn un o'r athrawon mwyaf hoffus a gyfarfyddais erioed. Wrth gydmaru llenyddiaeth Gymreig a Llenyddiaeth Saesnig â'u gilydd yr oedd y ddwy yn dod yn fwy dyddorol, ac yn hawdd eu deall.

Yr oedd athraw arall, Almaenwr o genedl, yn darlithio ar lenyddiaeth Ffrengig, a gwnaeth oes a meddyliau cyfnod aur Ffrainc yn fyw iawn i ni. Ond rhaid i mi beidio dechreu enwi. Yn unig dywedaf fod coleg cenhedlaethol cyntaf Cymru wedi bod yn ffodus iawn yn ei athrawon. Yr oedd ganddynt gyfandiroedd newydd i'w dangos i ni; ac yr oedd arnom syched am wybodaeth.

Mae gennyf adgofion melus am Aberystwyth, — am lan y môr, am Goed y Cwm, am swn rhegen yr yd ddeuai gydag arogl bêr y gwair dros y dref i fy ffenestr yn nyfnder nos, pan oedd y Coleg yn cysgu a minnau'n ceisio ennill gwybodaeth. Ni chollais ddim o gred fy mebyd, ni chollais ddim ohoni eto; y mae digon o newydd-deb bythol ynddi i mi dreulio fy mywyd i weled agweddau newyddion arni. Ond deallais y gall gwyr o gredo arall feddu bywyd pur, a gwneyd gwaith arwrol, a gweled Duw.

Y mae hyn wedi llenwi'm bywyd a dedwyddwch, a'r byd yr wyf ynddo â daioni.

RHYDYCHEN.

NID anghofiaf fy siwrne i Rydychen byth. Nis gallaf feddwl am y colegau henafol hynny, a'u hathrawon difrif, heb gofio'r wers ddysgais mor dda yn eu mysg. Hen wir yw y wers honno, ceir hi ym mywyd brenhinoedd a gwladweinyddion yn ogystal ag yn fy mywyd distadl i, sef fod balchder yn dwyn cwymp.

Ni lethid fi gan wyleidd-dra pan benderfynais fynd gan belled a Rhydychen. Yr oedd fy mryd ar basio trwy'r arholiad a elwir Y Fach. Ac nid oeddwn am basio'r Fach yn y dull cyffredin. Yr oeddwn wedi dewis y chwareuon Groeg anhawddaf, a'r awdwr Lladin peryclaf; yr oeddwn wedi darllen digon o Gicero fel y medraswn roddi ambell awgrym iddo sut i berffeithio'i arddull, a chymaint o rif a mesur fel y gallaswn ddannod i Euclid mor ddidrefn oedd ei lyfrau. Yn ddiameu, gwnawn argraff ddofn ar feddyliau f'arholwyr.

Ni thery Rhydychen yr ymwelydd fawr ar y dechreu, — meusydd gwastad ac ystrydoedd newydd welais gyntaf. Ond pan ddeuais i gynteddau Balliol, — ei adeiladau henafol, ei goed, a'i lennyrch o laswellt gwyrdd, — buan y deallais fod gweled Rhydychen yn addysg. O'm ffenestr gwelwn y myfyrwyr yn darllen dan y coed, a'r brain yn fawr eu twrw uwch eu pennau. Eis allan, a chefais fy hun yn dadlueddu wrth deimlo y glaswellt esmwyth dan droed ac wrth anadlu'r awel hafaidd gynnes. Pan ddeuais yn ol cefais bapur ar fy mwrdd, ac arno mewn llaw fras anghelfydd, —

"The Master presents his compliments to Mr. Ab Owen, and wishes to have the honour of his company at breakfast tomorrow morning at 8.30."

Nid oedd y llaw yn debyg, feddyliwn, i law ysgolor Groeg enwog; ond yr oeddwn yn casglu llawysgrifau gwyr mawr, a rhoddais hon yn fy Meibl, i'w rhoddi gyda'm trysorau ereill pan awn adre.

Daeth y bore, a chlywn swn clychau afrifed, yn lle dislawrwydd dwys Sabbothol fy nghartref mynyddig. Prysurais i chwilio am dŷ y Master, a chefais fy hun yn unig yn yr ystafell hwyaf a welswn erioed. Nid oedd y Master wedi dod o'r capel eto, meddai ei was, a theimIwn mor grefyddol y rhaid ei fod. Toc dechreuodd amryw fechgyn lithro i'r ystafell. Edrychent yn swil, ac yn anhapus iawn. Ceisiais dynnu sgwrs gyfeillgar â rhai ohonynt, ond ni chefais fawr o dderbyniad. Wedi cynnyg ofer neu ddau, dechreuais ddyfalu pa fath ddyn fyddai Jowett pan ddeuai o'r capel, — tybed ai gŵr tal a barf hir a llais dwfn melodaidd, un wnai inni deimlo'n gartrefol ar unwaith, un a'n llenwai â brwdfrydedd am wybodaeth cyn i ni orffen e'in brecwest?

Dyma hen wr bach yn dod i mewn, a gwallt arianaidd teneu; rhwbiai ei ddwylaw yn anfoddog, a meddyliwn hwyrach iddo glywed pregeth sal yn y capel. Perodd i ni eistedd i lawr, mewn tri gair; a dechreuasom frecwesta mewn distawrwydd llethol. Eisteddwn i wrth ben y bwrdd, — nis gwn sut y daethum yno. — a buaswn yn dweyd gair pe medraswn ddal llygad rhywun yn edrych arnaf. Ond edrychai pawb ar y bwrdd, fel pe mewn ofn. Toc cododd y Master ei ben, edrychodd arnom yn flinedig, a dywedodd mewn llais main bach,

"Foneddigion, buasai'n dda gen i pe buase un o honoch yn mentro dweyd rhywbeth."

Yr oeddwn i'n awyddus iawn am ddweyd rhywbeth tarawiadol. Ond, taswn i'n crogi, fedrwn i feddwl am ddim. Aeth y distawrwydd yn ddistawach fyth, a thybiwn y byddai'n debycach i un o'r darluniau oedd ar y muriau ddweyd rhywbeth nag i un ohonom ni. Wedi aros hir a phoenus, dyma'r llais main yn torri'r distawrwydd eto,

" Foneddigion, nid yw yswildod yn bechod, ond y mae'n brofedigaeth fawr i'r neb a'i medd."

Nis gallwn oddef y distawrwydd yn hwy. Gwnes ymdrech i'w dorri, a meddwl anwylaidd gafodd lais, bron heb i mi wybod, —

" Master, onid ydych yn meddwl fod y Cymry yn genedl athrylithgar iawn?"


Edrychodd y bechgyn ereill arnaf gyda braw, a chyda pheth diolchgarwch. Yna clywsant y llais main didostur o'r pen arall i'r bwrdd, —

" Ydynt, ond y maent yn meddwl tipyn ohonynt eu hunain."


Synnwn am bwy Gymry yr oedd yn meddwl, a meddyliwn y gwnawn gynnyg arall, llai hunanol ei wedd. Yr oedd Ymreolaeth yn unig bwnc y dydd hwnnw, a thybiais y gwellhawn dipyn ar leidyddiaeth y Master, os oedd eisiau. Ac ebe fi, tra gwyliai'r lleill fi gyda chywreinrwydd rhai yn edrych ar ffosyl mewn amgueddfa, — "Master, onid ydych yn tybio fod yn bryd i'r Gwyddelod gael yr hyn ydynt yn ddymuno? "

"A fuoch chwi yn yr Iwerddon erriod?" ebe yntau.


"Naddo," meddwn innau, gan deimlo'n weddol sicr ei fod wedi darganfod na fum erioed o Gymru o'r blaen.

"Y mae gennych reswm da, felly," meddai, "dros ofyn eich cwestiwn yn y dull yna."


Ni theimlais fy hun erioed wedi fy llethu mor ddidrugaredd; tôn ei lais oedd greulon, ac nid ei eiriau. Dechreuodd fy ngwefusau grynnu, yr oedd Iwmp mawr yn fy ngwddf, ac am fy llygaid, — wrth gwrs yr oeddwn yn wirion iawn. Newidiodd dull Jowett mewn amrantiad. Collodd ei olwg ddidaro, ac yr oedd rhywbeth fel direidi llawen yn y llais bach pan ddywedodd, —

"Byddaf yn hoffi mynd i Gymru bob amser. Mae bardd neu ddau ymhob pentre bach yno, ac y mae hynny yn arwydd dda iawn am genedl. Yr oeddwn yng Nghymru y gwyliau diweddaf, a dywedai y westywraig fod boneddiges newydd adael y gwesty ac wedi eu ceryddu am na siaradent Gymraeg. Lady Charlotte Guest oedd honno. Yr oedd un o'm cyfeillion goreu, Rowland Williams, yn Gymro. A Chymro yw Lord Aberdare. Hwyrach na fedrwn ni ddim cytuno am y Gwyddelod, ond rhaid i chwi beidio digio wrthyf, yr wyf yn hoff o'r Cymry erioed."

Daeth fy holl hunanoldeb yn ol ar unwaith, a dywedais y gallwn dderbyn cerydd, fy mod yn ceryddu rhai fy hun weithiau, a fod dihareb Gymraeg yn dweyd na ddylai pobl sy'n cerdded yn droednoeth hau drain. Hoffodd y Master y ddiharieb, a dywedodd yn awchus, — "Mae honyna'n well na'r ddihareb Ysgotaidd am y ty gwydr. Dywedwch rai o'r lleill wrthyni."


Cyfieithias hynny o ddiarhebion oeddwn yn gofio, gan wneyd y camgymeriadau rhyfeddaf, oherwydd trwsgl iawn wyf yn fy Saesneg. Prin y medrai'r bechgyn ereill, er boneddigeiddied oeddynt, beidio chwerthin; ond coethai'r Master fy Saesneg, nes yr oedd yr hen ddiarhebion yn loew yn eu gwisg newydd. Rhyngom troisom enw'r alaw "Glan Meddwdod Mwyn" yn "Sweet Verge of Drunkenness." "Cyfieithiad da iawn," ebai," yr wyf yn cofio cydwladwr i chwi na fydd byth yn peidio condemnio y lan yna; yr ydych yn gwybod am Ruffydd Ellis, ond ydych?"

Wrth adael ystafell foreubryd y Master, teimlwn fod gan bob un o'r bechgyn hyn un cysur nas gallwn i ei hawlio. A dyma oedd, — teimlo mai nid efe oedd y ffwl mwyaf yn y brecwest y bore hwnnw. Nid oeddwn yn ddigon hunanol i fedru cuddio oddiwrthyf fy hun y ffaith fy mod wedi gwneyd asyn ohonof fy hun, a hynny ym mhresenoldeb Jowett.

"Hidiwch befo, meddwn wrthyf fy hun, gan geisio ennill hyder, " mi wnaf i fyny am hyn oll yn y Fach. Os na fedraf siarad, medraf ysgrifennu." Hiraethwn, bron, am drannoeth, a'r arholiad. Ymddangosais yn Ysgol yr Arholiadau'n brydlon; a throwd fi allan ar unwaith, gan nad oedd gennyf got ddu a chadach gwyn, yn ol deddf gaeth y Brifysgol. Cyfarwyddwyd fi i siop ddillad ar gyfer, lle y prynnais gadach gwyn ac y llogais got ddu. Yr oeddwn wedi colli botwm fy ngholer, ac yr oedd y got yn dynn iawn am f 'ysgwyddau. Ni fu dim rhyfedd yn ystod yr arhoiad. Ni ches gyfle i ymddisgleirio, ond ni freuddwydiais am drychineb.

Yr oedd gennyf ddiwrnod neu ddau i aros am y rhan dafod leferydd o'r arholiad. Un noson eis gyda chyfaill i un o gyfarfodydd Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Collais fy holl ofidiau yn y cyfarfod hwnnw, a theimlais fod yn werth i mi ddod i Rydychen, pe i ddim ond profi wladgarwch aelodau y gymdeithas hon. Prynnais ddarlun o'r aelodau, i'w gadw'n ofalus, fel y gwelai fy wyrion y gwyr enwog y cefais yr anrhydedd o fod unwaith yn eu mysg.

Daeth dydd tafod leferydd. Responsions yw enw yr arholiad; ond "Smalls," neu y " Fach," y gelwir hi'n gyffredin. Cefais fy hun am y bwrdd a thri arholwr, pob un yn edrych arnaf yn ddwys. Dechreuasant fy ymlid drwy droion diddiwedd yr afreolus ferfau Groeg. Buasai'n well gen i orfod rhedeg trwy yr afreolus enwau na'r berfau; ond nid myfi oedd i ddewis, ysywaeth, yn y Fach. Y mae'n ddiameu gennyf fod yr arholwyr wedi clywed ffurfiau na chlywsent erioed o'r blaen, y dydd hwnnw. Ymgynghorasant yn ddistaw, ac yna rhoisant fi wrth fwrdd, gan ofyn i mi droi darn o bapur newydd Saesneg i'r iaith Ladin. Nid oeddwn yn hollol sicr beth oedd hyn oll yn feddwl; ond meddyliais am arddull a miwsig, yn hytrach nag am ramadeg, wrth gyfieithu — gan ochel ffurfiau a moddau nad oeddwn wedi cael rhesymau digon cryfion dros gredu, hyd yn hyn, eu bod yn dda i ddim yn y byd. Dywedodd yr arholwyr, wedi darllen fy Lladin, na thrafferthent fi ymhellach. Tybiwn fod hyn yn arwyddocaol iawn. Dywedais wrth y clerc, yr hwn a ŵyr holl gyfrinion yr arholiadau, fy mod wedi pasio, ond nas gallwn ei hysbysu ar hynny o bryd gyda pha ryw ogoniant. "Os dowch yma am un o'r gloch," meddai, "cewch drwydded las, wedi ei harwyddo gan yr holl arholwyr." Tybiwn y byddai honno yn gymaint o drysor a llawysgrif Jowett. Ond, pan ddois yn ol un o'r gloch, nid oedd yno bapur glas i Audoenus filius Audoeni. Dywedais wrth y clerc fod rhyw gamgymeriad. Cyrhaeddai gwên fawr y clerc i flaen ei ddwy glust wrth ddweyd y gwneid camgymeriadau lawer yno bob dydd arholiad. "Dengys, syr," meddai, "nad ydych wedi pasio."

Rhuthrais ymaith o Rydychen, ac yn y daith dren hir cefais deimlo holl ingoedd balchder wedi ei glwyfo, a hunanoldeb wedi ei lethu. Rhoddais bob gobaith am anrhydedd fel ysgolhaig i fyny, a phenderfynais fod Rhagluniaeth wedi taro'r hoel ar ei phen wrth fy ngwneyd yn bugail defaid. Ond gwnaeth fy ymweliaid â Rhydychen fi'n fwy pwysig lawer na fy haeddiant yn fy ardal fynyddig. Mynnai rhai fy mod yn wr o radd; a phan fyddwn wedi gwneyd araeth fwy eithafol nag arfer yn Swper y Bugeiliaid, dywedai gŵr y Bryn fod holl awdurdod moesol Rhydychen y tu cefn imi.


Daeth dau israddolyn o Falliol heibio'm cartref, ymhen rhai blynyddoedd. Ymysg fy nhrysorau, danghosais iddynt lawysgrif Jowett. Wedi syllu arni, ac edrych ar eu gilydd, — "Brown," meddai Smith, "dylem ddweyd wrth Mr. Ab Owen mai nid llaw Jowett ydyw hon, ond llaw y llechgi hwnnw o was y negesydd." Dylwn fendithio Rhagluniaeth am roddi i mi gof mor wan. Mor druenus fuaswn fe medrwn gofio fy holl droion chwith. A phan ddaw adlais ambell adgof am y gorffennol, yr wyf yn cofio mor chydig am dano fel y gallaf fforddio chwerthin am fy mhen fy hun. Mae bywyd yn llawn o gamgymeriadau, — aml lwybr dyrus wedi ei gerdded yn ofer, cyfle ar ol cyfle wedi ei golli, gair heb ei ddweyd yn ei amser neu ei gam-ddweyd pan ddylesid bod yn ddistaw. Hyfryd yw meddwl nad oes ddychymyg yn y bedd, ac mai gogoniant yr Hollwybodol yw y

medr lwyr anghofio bai.

DYRNAID O BEISWYN.


WEDI ysgrifennu adgofion crwydr munudau gwan, y mae arnaf awydd taflu dyrnaid o beiswyn gyda'r gwynt. Nid grawnwin gesglais ar fy mywyd, nac afalau gerddi, ond y peiswyn ysgafnach nag us.

1. Dylai athraw ddysgu i'r bachgen, nid y peth y mae ef ei hun yn ddigwydd fedru, ond beth ddylai'r bachgen wybod. Am hynny rhaid i athraw ddysgu ei hun o hyd, — pan beidio dysgu ei hun ni fedr ddysgu arall. Dylai ddarganfod beth ennill ddyddordeb ei ddisgybl. Nid disgyblu, trwy blygu bachgen i hoffi'r cas, yw nod addysg; ond dadblygu meddwl, trwy faethu twf naturiol.

2. Y mae cydymdeimlad yn hanfodol angenrheidiol, gall athraw o gyrhaeddiadau bychain wneyd gwyrthiau trwy gydymdeimlad. Y mae dirmyg yn andwyol; cyll yr athraw galluocaf ei aniean pan ddisgyn at sen a gwawd.

3. Mae gallu i ysmalio yn nerth, ond rhaid iddo fod yn ddiwenwyn. Creulondeb yw'r ysmaldod bâr boen i blentyn tra'r lleill yn chwerthin. Os na theimla'r bachgen fod ei athraw'n foneddwr, nis gall ddysgu.

4. Yr athraw salaf fedr gosbi oreu, — gwna ambell un boenydio yn gelf gain. Anghelfydd iawn yw'r athraw da wrth geisio cosbi; a pho anghelfydded fo, mwyaf yn y byd fydd ei barch a'i ddylanwad. Coffa da am John Hughes Pont Robert yn rholio'r drwgweithredwr hyd lawr yr ysgol yn ei got fawr. 5. Nid yw'r athraw yn colli ei gymeriad, o angenrheidrwydd, pan gyll ei dymer. A'r mesur y mesuro y mesurir iddo yntau. Os yw'n wr maddeugar, maddeua'i ddisgyblion iddo yntau. Y mae lle mawr i athraw ym meddwl disgyblion sydd wedi cael y dedwyddwch o faddeu iddo. Y mae dylanwad anorchfygol yng ngwaith athraw da yn cydnabod ei fai.

6. Os deallo'r disgyblion fod ar eu hathraw awydd osgoi trafferth, ffarwel i'w ddefnyddiolioldeb. Nid oes neb yn rhy ddwl nac yn rhy ddiog i beidio teimlo os esgeulusir ef. Os rhaid esgeuluso rhywun, esgeuluser y cyflymaf a'r galluocaf; na wnaer cam â'r araf. Ar y ddafad lesg olaf y mae llygaid y bugail. Ni welais neb erioed na ddeffroai os gwelai fod ei athraw yn cymeryd trafferth gydag ef ac yn pryderu ar ei ran. Yr athraw sydd i fyw er mwyn ei ddigyblion, ac nid ei ddisgyblion er ei fwyn ef.


CAERNARFON :

CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMRAEG (CYF)

SWYDDFA "CYMRU."

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Y mae hyn llai gwir beth, ar ol Deddf Addysg; Ganolraddol.
  2. Erbyn hyn y mae ei athrawon wedi symud i'r bedd neu i Fangor.
  3. Undodiaid